Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting
Dydd Mercher 8 Mawrth 2000
Wednesday 8 March 2000
CynnwysContents
- 3Datganiad gan y Dirprwy LywyddStatement by the Deputy Presiding Officer
- 3Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Addysg a PhlantQuestions to the Secretary for Education and Children
- 3Rhaglenni Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i YsgolionInformation and Communication Technology Programmes for Schools
- 5Sefydliadau AddysgolEducational Institutions
- 7Ysgolion Bach (Anawsterau)Small Schools (Difficulties)
- 9Cyllid Fesul Disgybl (Ysgolion Sir y Fflint)Per Pupil Funding (Schools in Flintshire)
- 11Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu GwledigQuestions to the Secretary for Agriculture and Rural Development
- 19Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000Approval of the Local Authorities (Capital Finance) (Rate of Discount for 2000/2001) (Wales) 2000 1 bleidlais1 vote
- 21Dadl i Nodi Diwrnod Rhyngwladol y MenywodDebate to Mark International Women’s Day 1 bleidlais1 vote
PleidleisiauVotes
| PleidlaisVote | O blaidFor | YmatalAbstain | Yn erbynAgainst | CanlyniadResult |
|---|---|---|---|---|
| Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000Approval of the Local Authorities (Capital Finance) (Rate of Discount for 2000/2001) (Wales) 2000 | ||||
| CynnigMotion | 37 | 0 | 0 | DerbyniwydAdopted |
| Dadl i Nodi Diwrnod Rhyngwladol y MenywodDebate to Mark International Women’s Day | ||||
| CynnigMotion | 41 | 0 | 0 | DerbyniwydAdopted |
TrafodionProceedings
Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
The Assembly met at 2 p.m. with the Deputy Presiding Officer in the Chair.
Datganiad gan y Dirprwy Lywydd
Statement by the Deputy Presiding Officer
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 3
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 3
Members will have noticed that the Chamber is colourful today. The banners for this afternoon were donated by Permanent Waves, a women and the arts organisation. They kindly left the banners with us after their meeting this morning to give us some colour and to enlighten our debate. I draw Members’ attention to the purple banner in the public gallery on which are the names of every woman Assembly Member. The banners are part of a millennium banner project on women in the twentieth century.
Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod y Siambr yn lliwgar heddiw. Rhoddwyd y baneri hyn inni y prynhawn yma gan Permanent Waves, mudiad menywod a’r celfyddydau. Yr oeddent yn ddigon caredig i roi benthyg y baneri inni ar ôl eu cyfarfod y bore yma i roi ychydig o liw inni ac i oleuo ein dadl. Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau’n arbennig at y faner borffor yn yr oriel gyhoeddus. Arni, gwelir enw pob menyw sydd yn Aelod Cynulliad. Mae’r baneri yn rhan o brosiect baner y mileniwm ar fenywod yn yr ugeinfed ganrif.
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Addysg a Phlant
Questions to the Secretary for Education and Children
Rhaglenni Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i Ysgolion
Information and Communication Technology Programmes for Schools
Sut y mae’r Ysgrifennydd Addysg a Phlant yn bwriadau sicrhau bod cynnwys rhaglenni technoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn gwbl briodol? (OAQ3938)
How does the Secretary for Education and Children ensure that information and communication technology programmes for schools have the most appropriate content? (OAQ3938)
Ymddiheuraf nad merch sydd yn gofyn y cwestiwn cyntaf. Serch hynny, yr ydym i gyd yn uniaethu â’r diwrnod.
I apologise that it is not a woman asking the first question. However, we all identify with this day.
Rosemary Butler The Secretary for Education and Children spoken in English p. 3
Rosemary Butler Yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant siaradwyd yn Saesneg t. 3
If I cannot have a woman asking the question, I cannot think of anybody I would prefer to you, Dafydd. I hope that that will be put on record.
Oni allaf gael menyw yn gofyn y cwestiwn, ni allaf feddwl am neb a fyddai’n well gennyf na chi Dafydd. Gobeithiaf y caiff hynny ei gofnodi.
I assure you that where materials are generated through the Assembly or through ACCAC, the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales, and its agents they will be relevant and appropriate to schools in Wales. We shall be monitoring the quality assurance of ICT training programmes funded through the New Opportunities Fund to ensure that they too are appropriate. More generally, schools will need to have policies and strategies in place to ensure that material on the internet is suitable and, equally important, to ensure that pupils are protected from inappropriate material.
Yr wyf yn eich sicrhau pan gaiff deunyddiau eu cynhyrchu drwy’r Cynulliad neu drwy ACCAC, Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, a’i gynrychiolwyr y bydd y deunyddiau’n berthnasol ac yn briodol i ysgolion Cymru. Byddwn yn monitro sicrwydd ansawdd rhaglenni hyfforddi TGCh a gyllidwyd drwy’r Gronfa Cyfleoedd Newydd i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn briodol. Yn fwy cyffredinol, bydd yn rhaid i ysgolion lunio polisïau a strategaethau i sicrhau bod deunydd ar y rhyngrwyd yn briodol, ac mae hi yr un mor bwysig sicrhau y caiff disgyblion eu gwarchod rhag deunydd amhriodol.
Yn sicr, byddwn eisiau gweld rhaglen ddatblygu yng Nghymru sydd yn berthnasol i Gymru. Bydd yr Ysgrifennydd yn ymwybodol bod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi cefnogi nifer helaeth o gyrff eraill yng Nghymru sydd yn teimlo bod angen system genedlaethol i Gymru er mwyn rhannu gwybodaeth am gynnwys y rhaglenni hyn ac am y modd y defnyddir hwy. Teimlir bod y rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd yn deillio o’r Adran Addysg a Chyflogaeth, a’u bod o bosibl yn briodol ar gyfer Lloegr ond nid ar gyfer Cymru, yn arbennig o safbwynt cynnwys yn yr iaith Gymraeg. A allwn gael sicrwydd y datblygir rhaglen sydd yn uniongyrchol berthnasol i’n profiad a’n hanghenion ni yng Nghymru?
I would certainly like to see a development programme in Wales that is relevant to Wales. The Secretary will be aware that the Association of Directors of Education Wales has supported a significant number of other bodies in Wales, which feel that a national system for Wales is needed in order to share information about the content and use of these programmes. It is felt that the programmes currently available emanate from the Department for Education and Employment, and that they are perhaps appropriate for England but not for Wales, especially with regard to Welsh language content. May we have an assurance that a programme will be developed that will be directly relevant to our experience and needs in Wales?
I have noticed that when I visit schools, particularly Welsh medium schools that do not have adequate Welsh medium provision in their software. I am also concerned that a lot of provision is American, so not only do they not have Welsh, but they do not even have proper English spellings. A lot of work on on-line material has already been done, mainly by local education authorities. The challenge is to make sure that all that is developed in Wales is available on VTC Cymru as soon as possible. ACCAC is already commissioning work and, wherever possible, it will commission more work. We need commercial companies to produce Welsh medium material. We will do everything possible to ensure that it is of high quality and is appropriate for Wales.
Yr wyf wedi sylwi ar hynny pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion, yn enwedig yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd heb ddigon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu meddalwedd. Yr wyf yn pryderu hefyd bod llawer o’r ddarpariaeth yn Americanaidd, felly ni cheir sillafu Cymraeg, na hyd yn oed sillafu Saesneg cywir ychwaith. Mae llawer o waith eisoes wedi ei wneud ar ddeunydd ar-lein, gan awdurdodau addysg lleol yn bennaf. Yr her yw sicrhau y bydd popeth a ddatblygir yng Nghymru ar gael ar VTC Cymru cyn gynted ag y bo modd. Mae ACCAC eisoes yn comisiynu gwaith a bydd yn comisiynu rhagor o waith lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Rhaid inni gael cwmnïau masnachol i gynhyrchu deunydd cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn gwneud pob dim sydd o fewn ein gallu i sicrhau ei fod o safon uchel ac yn briodol i Gymru.
What plans do you have to extend the provision of ICT education in schools so that pupils experience the commercial benefits of ICT and use that experience in the workforce later in life?
Pa gynlluniau sydd gennych i ymestyn y ddarpariaeth addysg TGCh mewn ysgolion fel y gall disgyblion gael blas ar fuddiannau masnachol TGCh a defnyddio’r profiad hwnnw yn y gweithlu yn hwyrach ymlaen yn ystod eu bywydau?
That is an interesting point. Many commercial and business developments are already taking place in schools. Many schools are developing small companies. I went to a primary school recently that had a company where the children designed their own T-shirts. They used their ICT equipment to manage budget lines, order equipment, and deliver supplies. We need to encourage the development of entrepreneurs in our schools and ICT is a way of doing this.
Mae hynny’n bwynt diddorol. Mae nifer o ddatblygiadau busnes a masnach eisoes yn digwydd mewn ysgolion. Mae nifer o ysgolion yn datblygu cwmnïau bach. Yn ddiweddar, bûm yn ymweld ag ysgol gynradd a oedd â chwmni lle yr oedd y plant yn dylunio eu crysau-T eu hunain. Yr oeddent yn defnyddio eu hoffer TGCh i reoli elfennau’r gyllideb, i archebu offer ac i ddanfon nwyddau. Rhaid inni annog datblygiad entrepreuneuriaid yn ein hysgolion ac mae TGCh yn ffordd o wneud hyn.
Sefydliadau Addysgol
Educational Institutions
Sut y mae Rosemary Butler am fynd i’r afael â’r angen am agwedd gydlynol gan sefydliadau yng Nghymru? (OAQ3935)
How will Rosemary Butler tackle the need for a co-ordinated approach by educational institutions in Wales? (OAQ3935)
I am satisfied that a co-ordinated approach already exists. The broad policy objectives for education are set out in the White Paper ‘Building Excellent Schools Together.’ The Assembly, particularly through its relevant Subject Committees, ensures that a coherent approach is taken to the implementation of this common agenda. All local authorities are required to provide annual education strategic plans that detail local arrangements for developing provision and delivering these objectives. We also put remit letters in place, with national organisations such as the Higher Education Funding Council, the Further Education Funding Council and ACCAC, to ensure that they contribute to the overall achievement of these key objectives and to ensure that a co-operative and complimentary approach exists.
Yr wyf yn fodlon bod agwedd gydlynol eisoes yn bodoli. Nodir yr amcanion polisi eang ar gyfer addysg yn y Papur Gwyn ‘Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda’n Gilydd’. Mae’r Cynulliad, yn enwedig drwy ei Bwyllgorau Pwnc perthnasol, yn sicrhau y mabwysiedir agwedd gydlynol wrth roi’r agenda gyffredinol hon ar waith. Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu cynlluniau addysg strategol blynyddol sydd yn rhoi manylion y trefniadau lleol ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth a chyflawni’r amcanion hyn. Yr ydym hefyd yn llunio llythyrau gorchwyl, ar y cyd â sefydliadau cenedlaethol megis y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, y Cyngor Cyllido Addysg Bellach ac ACCAC, i sicrhau eu bod yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol yr amcanion allweddol hyn a sicrhau bod agwedd gydweithredol a chyfannol yn bodoli.
Mae gennym nifer fawr o sefydliadau addysgol cenedlaethol yng Nghymru ac ymddengys rhai newydd bron bob dydd, fel y Cyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant a sefydlir maes o law a’r Cyngor Dysgu Cyffredinol. A yw’r Ysgrifennydd yn barod i gydnabod fod lle i sefydlu fforwm a fyddai’n cynnwys yr holl sefydliadau hyn fel y gallent drafod dyfodol addysg yng Nghymru mewn ffordd integredig?
We have many national educational institutions in Wales and new ones appear almost daily, such as the National Council for Education and Training that will soon be established and the General Teaching Council. Is the Secretary prepared to acknowledge that there is scope to establish a forum that would include all these institutions so that they could discuss the future of education in Wales in an integrated way?
I do not see any need to create another layer of administrative bureaucracy, which is what we have been talking about, when our existing structures provide high level co-operation between institutions and agencies. There are many examples of co-operative working between educational institutions throughout Wales. It is impossible to mention all of them. I understand that there are isolated incidents in the most efficient and well-regulated systems where communications break down. That does not automatically mean that the system is deficient and requires to be changed but that everyone involved must work harder to ensure that what exists works better. I do not see the need for another forum.
Nid wyf yn gweld unrhyw angen i sefydlu haen arall o fiwrocratiaeth weinyddol, sef yr hyn yr ydym wedi bod yn ei drafod, pan fo’n strwythurau presennol yn darparu lefel uchel o gydweithio rhwng sefydliadau ac asiantaethau. Mae llawer o enghreifftiau o gydweithio rhwng sefydliadau addysgol ledled Cymru. Mae’n amhosibl sôn amdanynt i gyd. Deallaf fod digwyddiadau ar wahân i’w gweld yn y systemau mwyaf effeithlon sydd yn cael eu rheoli’n dda, pan fo cysylltiadau’n methu. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y system yn wallus a bod angen ei newid ond bod rhaid i bawb sydd yn gysylltiedig weithio’n galetach i sicrhau bod yr hyn sydd yn bodoli yn gweithio’n well. Nid wyf yn gweld yr angen am fforwm arall.
In terms of co-ordinating ICT provision across Welsh schools, will you match the Prime Minister’s commitment to ensure that all schools are online by 2002?
Gyda golwg ar gydlynu darpariaeth TGCh ledled ysgolion Cymru, a wnewch chi ddilyn ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau y bydd pob ysgol ar y rhyngrwyd erbyn 2002?
We hope to achieve that, but our ICT policies are specific to Wales. We will ensure that what is best for Wales will be provided. I will make an announcement soon about next year’s tranche and how we will be delivering ICT to all schools in Wales.
Gobeithiwn gyflawni hynny, ond mae ein polisïau TGCh yn benodol i Gymru. Byddwn yn sicrhau y caiff yr hyn sydd orau i Gymru ei ddarparu. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ynghylch cyfran y flwyddyn nesaf a sut y byddwn yn cyflwyno TGCh i bob ysgol yng Nghymru.
Yn dilyn y pwynt am y fforwm a’r angen i gydlynu’r drafodaeth yng Nghymru, nid oes amheuaeth fod y sefyllfa’n gwella a bod pethau’n cael eu sefydlu o’r newydd. Mae hynny i’w groesawu. Fodd bynnag, teimlaf nad ydym yn buddsoddi digon o arian mewn gwaith ymchwil. Mae gennym sefydliadau, ond mae’n rhaid i ni edrych i’r dyfodol. Y cwestiwn yw a ydym yn buddsoddi digon mewn gwaith ymchwil a fydd yn ymateb i anghenion addysgol Cymru neu a ydym yn bodloni ar yr holl waith ymchwil a syniadau sydd yn dod o’r Adran Addysg a Chyflogaeth ac yn eu derbyn fel rhai ail-law yng Nghymru? A ydym am fynd ati o ddifrif mewn ffordd ddychmygus a gwreiddiol yng Nghymru i sicrhau bod digon o ymchwil i’r datblygiadau hyn?
Following the point about the forum and the need to co-ordinate the discussion in Wales, there is no doubt that the situation is improving and that things are being established from scratch. That is to be welcomed. However, I feel that we are not investing enough funding in research work. We have institutions but we must look to the future. The question is whether we are investing enough in research work which will respond to the educational needs of Wales or are we satisfied with all the research work and ideas that come from the Department for Education and Employment and accept them as second hand in Wales? Are we going to proceed in an imaginative and original way in Wales to ensure sufficient research into these developments?
Research is essential. We must look during budget time at what research we would like to undertake in the future and ensure that money is available in the budget. A lot of work is done with the DfEE. It has huge resources. We should use the best of what it provides and build on that. There is no point reinventing the wheel if much of the basic work has been done. We must ensure proper relevant research for Wales. Budget time is a time to look at where we want to go in two or three years’ time.
Mae ymchwil yn hanfodol. Yn ystod cyfnod y gyllideb, rhaid inni edrych pa ymchwil yr hoffem ei weld yn y dyfodol a sicrhau bod arian ar gael yn y gyllideb. Caiff llawer o waith ei wneud gyda’r Adran Addysg a Chyflogaeth. Mae ganddi adnoddau anferth. Dylem ddefnyddio’r gorau o’r hyn y mae’n ei ddarparu ac adeiladu ar hynny. Nid oes diben ailddyfeisio’r olwyn os yw llawer o’r gwaith sylfaenol eisoes wedi ei wneud. Rhaid inni sicrhau ymchwil berthnasol a phriodol ar gyfer Cymru. Dyma’r adeg iawn, sef adeg y gyllideb i edrych ble yr hoffem fynd ymhen dwy flynedd neu dair.
Ysgolion Bach (Anawsterau)
Small Schools (Difficulties)
Sut y mae Rosemary Butler yn bwriadu mynd i’r afael â’r anawsterau sydd yn wynebu ysgolion bach ar hyn o bryd? (OAQ3945)
How does Rosemary Butler plan to tackle the difficulties currently facing small schools? (OAQ3945)
The planning and supply of school places is the responsibility of local education authorities. It is entirely appropriate that the local authorities should deal with local issues such as the size and distribution of schools in their area. Each local education authority is required to prepare and adopt a school organisation plan that should address issues of supply and demand for school places within its area and set out conclusions about the need to add or remove places. Authorities are in the process of adopting their first plans.
Cyfrifoldeb yr awdurdodau addysg lleol yw cynllunio a chyflenwi lleoedd mewn ysgolion. Mae’n gwbl briodol y dylai’r awdurdodau lleol ddelio â materion lleol megis maint a dosbarthiad ysgolion yn eu hardal. Rhaid i bob awdurdod addysg lleol baratoi a mabwysiadu cynllun trefnu ysgol a ddylai fynd i’r afael â materion fel faint o leoedd sydd ar gael yn ysgolion eu hardal a faint o alw sydd amdanynt a gosod casgliadau ynghylch yr angen i ychwanegu lleoedd neu eu dileu. Mae’r awdurdodau wrthi’n mabwysiadu eu cynlluniau cyntaf.
Croesawaf y ddwy elfen yn yr ateb. Mae’n holl bwysig ein bod yn cydnabod mai awdurdodau addysg lleol sydd yn gyfrifol am y ddarpariaeth addysg o fewn eu hardaloedd ac y byddai ymyrraeth y Cynulliad ag achos ysgol unigol yn sefydlu cynsail beryglus. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi darpariaeth yr awdurdodau yn lleol. A yw Rosemary yn cytuno, pan mae’r awdurdod lleol yn darparu’r cynllun strategol hwn ynglŷn â chyflwyno addysg o fewn ardal yr awdurdod, mai addysgu plant ddylai fod yr ystyriaeth bennaf? Mae Plaid Cymru yn sylweddoli bod ysgolion bach cefn gwlad yn aml yn asgwrn cefn i’r gymuned a bod ffactorau cymdeithasol pwysig i’w hystyried. Mae’n rhaid cydnabod mai addysg y plentyn sydd yn dod yn gyntaf a bod yn rhaid i’r cynllun strategol hwn fynd law yn llaw â sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu i’w lawn botensial yn addysgol.
I welcome the two elements in the response. It is all-important that we recognise that local education authorities are responsible for the provision of education within their areas and that Assembly intervention in an individual school’s case would establish a dangerous precedent. It is important that we support the authorities’ provision locally. Does Rosemary agree that, when the local authority provides this strategic plan regarding education within that authority’s area, the prime consideration should be that of educating children? Plaid Cymru realises that small rural schools are often the backbone of the community and that there are important social factors to be considered. It must be recognised that the child’s education comes first and that this strategic plan must go hand in hand with ensuring that each child is afforded the opportunity to develop to its fullest educational potential.
It is important to remember the child in everything related to education. The circumstances of each small school vary, as does each authority’s approach to what is considered a small school. A blanket approach would not be appropriate; each school must be considered individually. Guidance to authorities outlines several issues that should be considered, and Rhodri Glyn mentioned some of those. Most important is the school’s ability to deliver the national curriculum and the standard of education that it provides. We must consider the quality of possible alternative provision. Other issues include the cost of keeping the school open, the impact of closure on parental choice and any effect on the viability of the local community. Those are included in the guidance notes.
Mae’n bwysig cofio’r plentyn ym mhob dim sydd yn ymwneud ag addysg. Mae amgylchiadau pob ysgol fach yn amrywio, yn yr un modd ag y mae agwedd pob awdurdod at yr hyn a ystyrir yn ysgol fach. Ni fyddai agwedd gyffredinol yn addas; rhaid ystyried pob ysgol fesul un. Mae’r cyfarwyddyd a roddir i awdurdodau’n amlinellu sawl mater y dylid ei ystyried, a soniodd Rhodri Glyn am ychydig o’r rheini. Y peth pwysicaf yw gallu’r ysgol i gyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol a safon yr addysg y mae’n ei darparu. Rhaid inni ystyried safon darpariaeth amgen bosibl. Mae materion eraill yn cynnwys cost cadw’r ysgol ar agor, effaith cau ar ddewis y rhieni ac unrhyw effaith ar hyfywedd y gymuned leol. Mae’r rheini wedi eu cynnwys yn y canllawiau.
While I accept the points made on the education of children being paramount, would the Secretary for Education and Children agree that it is pleasing that small schools can survive and prosper. I am thinking, in particular of Libanus school in Breconshire, which was given a fresh lease of life by Powys County Council’s recent decision. There are other small and excellent rural schools that are under threat, for example, in north Pembrokeshire, many of which are a Welsh language schools. Will Rosemary Butler consider the possibility of developing a fresh framework policy in which local authorities could operate with regard to provision of education in rural areas?
Tra’n derbyn y pwyntiau a wnaethpwyd mai addysg plant yw’r elfen bwysicaf, a fyddai’r Ysgrifennydd Addysg a Phlant yn cytuno ei bod yn hyfryd gweld bod ysgolion bach yn gallu goroesi a ffynnu. Yr wyf yn meddwl yn benodol am ysgol Libanus yn Sir Frycheiniog, a gafodd adfywiad gan benderfyniad diweddar Cyngor Sir Powys. Mae rhai ysgolion bach a gwledig gwych eraill sydd dan fygythiad, yng ngogledd Sir Benfro, er enghraifft, ac mae nifer ohonynt yn ysgolion Cymraeg. A wnaiff Rosemary Butler ystyried y posibilrwydd o ddatblygu polisi fframwaith o’r newydd ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu addysg mewn ardaloedd gwledig?
I am not sure about developing a fresh framework, but the Pre-16 Education Committee will consider the supply and demand for places in schools throughout Wales after Easter. It will be interesting to see where there are surplus places. As soon as we have the information we can reconsider that matter. The existing framework works well because it is up to the local authority to decide whether it closes a school. If there are any objections, they come before the Assembly for decision and that decision is then delegated to me. Therefore, there are safeguards to ensure that a school is not closed for the wrong reasons.
Nid wyf yn siŵr am ddatblygu fframwaith o’r newydd, ond bydd y Pwyllgor Addysg Cyn-16 yn ystyried y galw am leoliadau mewn ysgolion a faint ohonynt sydd ar gael ledled Cymru, ar ôl y Pasg. Bydd yn ddiddorol gweld lle bydd lleoedd dros ben. Cyn gynted ag y byddwn wedi cael yr wybodaeth hon gallwn ailystyried y mater hwnnw. Mae’r fframwaith presennol yn gweithio’n dda oherwydd mai’r awdurdod lleol sydd yn penderfynu a yw’n cau ysgol ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiadau, maent yn dod gerbron y Cynulliad am benderfyniad ac yna caiff y penderfyniad hwnnw ei drosglwyddo imi. Felly mae systemau ar waith i sicrhau na chaiff ysgol ei chau am y rhesymau anghywir.
Do you agree that many of the problems facing small schools are related to the lack of availability of resources in purchasing equipment? For example, in the constituency of Brecon and Radnor, the small school, Coelbren, has an annual resource budget of £1,500. It only has one computer, which is used for teaching pupils and all administrative tasks performed by the school secretary and head master. Despite an excellent inspection report, the report highlighted that difficulty. Given the school’s small resource budget, what assurances can you give small schools like Coelbren that they will be adequately resourced to provide the type of education that you have just mentioned?
A ydych chi’n cytuno bod nifer o’r problemau sydd yn wynebu ysgolion bach yn ymwneud â’r ffaith nad oes digon o adnoddau ar gael i brynu offer? Er enghraifft, yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, mae gan ysgol fechan Coelbren gyllideb adnoddau blynyddol o £1,500. Dim ond un cyfrifiadur sydd yno ac fe’i defnyddir ar gyfer dysgu’r disgyblion ynghyd â holl dasgau gweinyddol ysgrifenyddes a phrifathro’r ysgol. Er gwaethaf adroddiad arolwg gwych, yr oedd yr adroddiad yn tanlinellu’r anhawster hwnnw. Gyda golwg ar gyllideb adnoddau fechan yr ysgol, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ysgolion bach fel Coelbren y byddant yn derbyn digon o adnoddau i ddarparu’r math o addysg yr ydych newydd ei grybwyll?
Perhaps, when I am next in Powys, I can visit Coelbren. This year, the Assembly has put additional money into local education authorities to spend on education. There is a greater provision of resources year on year. I will soon make a decision on the new ICT strategy and how we can deliver ICT to every school in Wales. Hopefully Coelbren will benefit from our new policy of ensuring that the best possible equipment is available to every child in Wales.
Efallai y gallaf ymweld â Choelbren y tro nesaf y byddaf ym Mhowys. Eleni, mae’r Cynulliad wedi rhoi arian ychwanegol i awdurdodau addysg lleol i’w wario ar addysg. Mae darpariaeth yr adnoddau yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn fuan, byddaf yn gwneud penderfyniad ar y strategaeth TGCh newydd a sut y gallwn gyflwyno TGCh i bob ysgol yng Nghymru. Gobeithio y bydd Coelbren yn cael budd o’n polisi newydd o sicrhau bod yr offer gorau posibl ar gael i bob plentyn yng Nghymru.
Cyllid Fesul Disgybl (Ysgolion Sir y Fflint)
Per Pupil Funding (Schools in Flintshire)
Why does per pupil funding for schools in Flintshire fall below the average for Wales? (OAQ3921)
Pam mae’r cyllid fesul disgybl i ysgolion yn Sir y Fflint yn is na chyfartaledd Cymru? (OAQ3921)
Decisions about levels of funding made available to eduation and schools in Flinshire are a matter for the local authority to determine in the light of its perception of local needs and priorities.
Yr awdurdod lleol sydd yn penderfynu ar lefelau’r cyllid sydd ar gael i addysg ac ysgolion Sir y Fflint, mewn perthynas â’r hyn a ystyriant yn anghenion a blaenoriaethau lleol.
Is the Secretary aware that the shortage of funding—albeit the responsibility of the local authority—means that children in my constituency suffer shortage of textbooks and that it has been proven that if children are provided with a sufficient number of textbooks so that they do not have to share, their exam grades improve? Is there a way forward?
A yw’r Ysgrifennydd yn ymwybodol bod y prinder cyllid—er mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol ydyw—yn golygu bod plant yn fy etholaeth yn dioddef prinder gwerslyfrau a phrofwyd bod plant sydd â digon o werslyfrau, fel nad oes rhaid iddynt eu rhannu, yn cael gwell canlyniadau mewn arholiadau? A oes yna ffordd ymlaen?
It is up to the LEA to decide how much money it should spend. I hope that every school in Wales has textbooks and that needs to be addressed. The factors that authorities must consider in making provision for education vary from transport costs to pressure on other services. Flintshire’s per pupil provision for 1999-2000 is £2,576 per child compared with the Welsh average of £2,660.
Yr AALl sydd yn penderfynu faint o arian y dylai ei wario. Gobeithiaf fod gan bob ysgol yng Nghymru werslyfrau ac mae angen mynd i’r afael â hynny. Wrth lunio eu darpariaeth ar gyfer addysg, rhaid i awdurdodau ystyried ffactorau sydd yn amrywio o gostau trafnidiaeth i’r pwysau ar wasanaethau eraill. Darpariaeth Sir y Fflint ar gyfer pob disgybl yn 1999-2000 yw £2,576 y plentyn o’i gymharu â’r cyfartaledd dros Gymru sef £2,660.
As you are aware, Cardiff has lurked at the bottom of the education spending league table for a long time. It is currently third from the bottom. Are you aware of the ongoing concern and disappointment among teachers, headteachers and parents in Cardiff that again this year, despite promises made prior to the local elections last year, the Cardiff education budget will be increased by barely £4 per pupil over and above the amount of money by which the Assembly is increasing the budget. That means that Cardiff’s position in the spending league will remain virtually unchanged. What steps are you taking to ensure that Cardiff and other local education authorities in similar positions improve their overall position and genuinely passport through all the allocated funding?
Fel y gwyddoch, mae Caerdydd wedi llechu yng ngwaelod y tabl cynghrair gwario ar addysg am amser hir, Ar hyn o bryd mae’n drydydd o’r gwaelod. A ydych chi’n ymwybodol o’r pryder parhaus a’r siom ymysg athrawon, prifathrawon a rhieni Caerdydd y bydd cyllideb addysg Caerdydd yn codi prin £4 ar gyfer pob disgybl ar ben faint y mae’r Cynulliad yn codi’r gyllideb, a hynny unwaith eto eleni, er gwaethaf yr holl addewidion a wnaethpwyd yn yr etholiadau lleol y llynedd. Mae hynny’n golygu na fydd Caerdydd yn codi prin dim yn y gynghrair gwario. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau y bydd Caerydd ac awdurdodau addysg lleol eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg yn gwella eu safle cyffredinol a mynd drwy’r holl gyllid a ddyrannwyd o ddifrif?
As a Cardiff councillor you are very aware of the situation, even more so than I am. It is important that as much money as possible is spent on education. We do not direct exactly how much money should be spent on education but we do indicate money that we want spent on education, not only in Cardiff but throughout Wales. We have a range targets that we want to achieve, from reducing class sizes in infant schools through to GCSE and GCE levels. We will be monitoring that. If authorities are not achieving the targets, we need to ask why. That does not only include academic results. We need to ensure that the best quality of education is provided. We also have the annual education strategic plans that are presented to the Assembly and the Estyn inspections. I am sure that if there are failings or a fall in standards, Estyn will note them and highlight them to the Assembly.
Fel un o gynghorwyr Caerdydd yr ydych yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa, hyd yn oed yn fwy felly na mi. Mae’n bwysig y caiff cymaint o arian ag y bo modd ei wario ar addysg. Nid ni sydd yn penderfynu’n union faint o arian y dylid ei wario ar addysg ond yr ydym yn dynodi’r arian yr ydym eisiau ei wario ar addysg, nid yn unig yng Nghaerdydd ond ledled Cymru. Mae gennym ystod eang o dargedau yr ydym eisiau eu cyrraedd, o leihau maint dosbarthiadau ysgolion babanod i lefelau TGAU a TGA. Byddwn yn monitro hynny. Os nad yw’r awdurdodau’n cyrraedd y targedau, rhaid inni ofyn pam. Nid yw hynny’n golygu canlyniadau academaidd yn unig. Rhaid inni sicrhau y darperir addysg o’r safon uchaf. Mae’r cynlluniau addysg strategol blynyddol gennym hefyd a gyflwynir i’r Cynulliad ac arolygiadau Estyn. Yr wyf yn siŵr os bydd yna fethiannau neu ostyngiad yn y safonau, y bydd Estyn yn eu nodi ac yn tynnu sylw’r Cynulliad atynt.
Some people would argue that a standard level of funding for all schools in Wales would be unacceptable intervention in the work of democratically elected local authorities. Do you believe that there is a case for having a range of funding that would peg a minimum level of spending in schools?
Byddai rhai pobl yn dadlau bod lefel sylfaenol o gyllid ar gyfer pob ysgol yng Nghymru yn enghraifft o ymyrryd annerbyniol yng ngwaith awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd. A ydych chi’n credu bod achos i gael ystod o gyllido a fyddai’n nodi lefel sylfaenol o wario mewn ysgolion?
Formula funding is being considered. Peter Law and the Local Government and Environment Committee are looking at a new way of delivering money to local authorities next year. I am sure that they will take those kinds of issues on board.
Mae cyllido yn ôl fformwla yn cael ei ystyried. Mae Peter Law a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a’r Amgylchedd yn edrych ar ffyrdd newydd o gyflwyno arian i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf. Yr wyf yn siŵr y byddant yn ystyried y mathau hynny o faterion.
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig
Questions to the Secretary for Agriculture and Rural Development
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 11
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 11
I have withdrawn my question 1 to Christine Gwyther.
Yr wyf wedi tynnu fy nghwestiwn 1 i Christine Gwyther yn ôl.
Strategaeth Bysgota Gymreig
Welsh Fishing Strategy
Does the Secretary for Agriculture and Rural Development propose to advance a Welsh fishing strategy? (OAQ3922)
A yw’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn bwriadu bwrw ymlaen â strategaeth bysgota Gymreig? (OAQ3922)
Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 11
Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 11
We are about to undertake a fishery study with the aim of producing a strategy for development of the sea and inland fishing industries in Wales.
Yr ydym ar fin cynnal astudiaeth ar bysgota gyda’r nod o gynhyrchu strategaeth i ddatblygu’r diwydiant pysgota ar y môr ac yn afonydd a llynnoedd Cymru.
I welcome that reply as I represent a constituency that includes the port of Milford Haven. You will be aware that Pembrokeshire County Council employs the only dedicated fisheries officer in Welsh local government. He is working hard to promote a local fishing strategy for the county. For the first time, the national sea trout festival will be held during the Pembrokeshire fish week in July. Efforts are being made to get local fishermen to pull together and speak with one voice in working partnerships. The fishermen look to the Assembly to give them a steer. Will you ensure that concerns about the fragmented nature of the industry and about the raft of legal constraints and the shortage of fishery specific facilities and value-added enterprises are fully addressed in the review and, hopefully, in the resulting strategy?
Croesawaf yr ateb hwn gan fy mod yn cynrychioli etholaeth sydd yn cynnwys porthladd Aberdaugleddau. Byddwch yn ymwybodol bod Cyngor Sir Penfro yn cyflogi’r unig swyddog pysgodfeydd arbenigol mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n gweithio’n galed i hyrwyddo strategaeth bysgota leol ar gyfer y sir. Am y tro cyntaf, caiff gŵyl genedlaethol brithyll y môr ei chynnal yn ystod wythnos bysgod Sir Benfro ym mis Gorffennaf. Mae ymdrechion ar waith i geisio dod â physgotwyr lleol ynghyd i siarad ag un llais mewn partneriaethau gwaith. Mae’r pysgotwyr yn edrych i gyfeiriad y Cynulliad i’w llywio. A wnewch chi sicrhau y bydd yr adolygiad, a gobeithio y strategaeth a fydd yn dilyn, yn mynd i’r afael â’r pryderon ynghylch natur dameidiog y diwydiant, y pryderon ynghylch llu o gyfyngiadau cyfreithiol a’r prinder o gyfleusterau pysgodfeydd penodol a chynlluniau ychwanegu gwerth?
Well done for the plug about Pembrokeshire fish week. We will consider that in the Agriculture and Rural Development Committee, where Richard Edwards is the chief cheerleader for the fishing industry. Let me reassure people about our intention with this study, which is the first comprehensive study of the Welsh fishing industry. It will be carried out by independent consultants. That is important for the proponents of the fishing industry and the operators in that industry who, for a long time, have sometimes felt that their voice is not heard. This is a timely occasion for us in the Assembly to start listening to the voices of Welsh people in the fishing industry. Interestingly, especially for Richard, the study will help develop a fisheries strategy for the Objective 1 single programming document. That is important because there is no point having a strategy without having an end goal in sight. Our end goal must be to improve the economic wellbeing of those parts of Wales involved in the fishing industry. Pembrokeshire has its own economic problems and we hope that fishing will help to address some of them.
Da iawn chi am hyrwyddo wythnos bysgod Sir Benfro. Byddwn yn ystyried hynny yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Richard Edwards yw cefnogwr mwyaf brwd y diwydiant pysgota yn y Pwyllgor. Gadewch imi sicrhau pobl ynghylch ein bwriad gyda’r astudiaeth hon, sef yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o’r diwydiant pysgota yng Nghymru. Caiff ei chynnal gan ymgynghorwyr annibynnol. Mae hynny’n bwysig i bleidwyr y diwydiant pysgota a’r bobl sydd yn gweithio yn y diwydiant hwnnw sydd wedi teimlo ers cyfnod hir nad yw eu llais yn cael ei glywed weithiau. Mae hon yn adeg amserol inni yn y Cynulliad ddechrau gwrando ar leisiau pobl Cymru yn y diwydiant pysgota. Mae’n ddiddorol, yn enwedig i Richard, y bydd yr astudiaeth yn cynorthwyo i ddatblygu strategaeth bysgodfeydd ar gyfer dogfen raglennu sengl Amcan 1. Mae hynny’n bwysig oherwydd nad oes yna bwynt cael strategaeth os nad oes gennym nod i’w chyrraedd ar y diwedd. Rhaid i’n nod yn y pen draw olygu gwella cyflwr economaidd y rhannau hynny o Gymru sydd yn perthyn i’r diwydiant pysgota. Mae gan Sir Benfro ei broblemau economaidd ei hun a gobeithiwn y bydd pysgota yn gymorth i fynd i’r afael â rhai ohonynt.
During a recent visit to Milford Haven, I watched the auction of fish on the docks and noticed how few fish were for auction. I also noticed that the only boats were French, Belgian and Spanish. Following the reducton of Irish Sea fishing quotas, what can we do to encourage Welsh people to take part in this fishing industry?
Yn ystod ymweliad diweddar ag Aberdaugleddau yr oeddwn yn gwylio arwerthiant pysgod ar y dociau a sylwais cyn lleied o bysgod oedd i’w gwerthu. Sylwais hefyd mai cychod o Ffrainc, Gwlad Belg a Sbaen yn unig a oedd wedi angori yno. Yn dilyn lleihau cwotâu pysgota Môr Iwerddon, beth allwn ei wneud i annog pobl Cymru i gymryd rhan yn y diwydiant pysgota?
The internet auction facility is not used as much as it could be used. It is the only internet auction facility to sell fish in the whole of the UK. We in Wales should be proud that we have taken that first step forward. The auction has been operating for about two years, as I am sure you were told on your visit, and a lot more could be made of it. Assembly officials are working and talking with the Belgian company that operates the auction to try to get more interest and more buyers across the continent.
Ni ddefnyddir cyfleuster arwerthiant y rhyngrwyd gymaint ag y gellid ei ddefnyddio. Hwn yw’r unig gyfleuster arwerthiant pysgod ar y rhyngrwyd sydd ar gael ledled y DU. Dylem ni yng Nghymru fod yn falch ein bod wedi cymryd y cam cyntaf hwn ymlaen. Mae’r arwerthiant wedi bod yn gweithredu ers tua dwy flynedd, fel yr wyf yn siŵr y cawsoch wybod yn ystod eich ymweliad, a gellir gwneud llawer mwy o ddefnydd ohono. Mae swyddogion Cynulliad yn gweithio ac yn siarad gyda’r cwmni o Wlad Belg sydd yn cynnal yr arwerthiant i geisio hybu mwy o ddiddordeb ac i gael rhagor o brynwyr o phob cwr o’r cyfandir.
Iawndal Amaeth-Arianyddol
Agri-Monetary Compensation
When did Christine Gwyther last meet with the UK Agriculture Secretaryt to discuss agri-monetary compensation? (OAQ3980) [R]
Pryd y cyfarfu Christine Gwyther ddiwethaf ag Ysgrifennydd Amaethyddiaeth y DU i drafod iawndal amaeth-arianyddol? (OAQ3980) [R]
When I met Nick Brown on 22 November we discussed agri-monetary compensation at great length. Since then, my officials and I have been in regular contact with other UK agriculture departments on this matter.
Pan gyfarfûm â Nick Brown ar 22 Tachwedd cawsom drafodaeth hir a manwl ar iawndal amaeth-arianyddol. Ers hynny, mae fy swyddogion a minnau wedi bod mewn cysylltiad cyson ag adrannau amaethyddol eraill y DU ynghylch y mater hwn.
I am concerned that you have not met since December to discuss a fundamental issue on which so many hopes are hanging for an industry which is, as you know, in a critical state. More importantly, time is running out, not just for the industry, but to claim the compensation. Are you aware that April is the deadline? I do not know how you can justify this. How can you, as the Secretary for Agriculture and Rural Development, justify the inequitable treatment of Welsh farmers compared with European farmers?
Yr wyf yn poeni nad ydych wedi cyfarfod ag ef ers mis Rhagfyr i drafod mater holl bwysig sydd yn gwbl ganolog i gymaint o obeithion mewn diwydiant sydd, fel y gwyddoch, mewn cyflwr difrifol. Yn bwysicach na hynny, nid oes llawer o amser ar ôl, nid yn unig i’r diwydiant ond i hawlio’r iawndal. A ydych chi’n sylweddoli mai mis Ebrill yw’r terfyn amser? Nid wyf yn gwybod sut y gallwch gyfiawnhau hyn. Sut y gallwch chi, yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig gyfiawnhau’r ffordd annheg yr ymdrinnir â ffermwyr Cymru o’u cymharu â ffermwyr Ewrop?
We are all part of Europe and, as a Liberal Democrat, I thought that was something in which you believed. My last territorial meeting with Nick Brown was in November, not in December as you seemed to assume. In my short term of office, I have only missed one territorial meeting, which was during the week of the no-confidence vote in the Assembly. Had it not been for that vote, I would have been with Nick Brown in London. We meet unofficially at events, but the last official territorial meeting that I attended to discuss agri-monetary compensation was on 22 November. We talk on the telephone, my officials frequently go to London to discuss this and, importantly—because this is about the strength of devolution—I talk with other agriculture ministers in devolved bodies.
Yr ydym i gyd yn rhan o Ewrop ac, fel Democrat Rhyddfrydol, yr oeddwn yn meddwl eich bod yn credu yn hynny o beth. Ym mis Tachwedd yr oedd fy nghyfarfod tiriogaethol olaf gyda Nick Brown, nid ym mis Rhagfyr fel yr oeddech i bob golwg yn tybio. Yn fy nghyfnod byr yn y swydd hon, dim ond un cyfarfod tiriogaethol yr wyf wedi ei golli ac yr oedd hynny yn ystod wythnos y bleidlais o ddiffyg hyder y Cynulliad. Oni bai am y bleidlais honno byddwn wedi bod yn Llundain gyda Nick Brown. Yr ydym yn cyfarfod yn answyddogol mewn digwyddiadau, ond ar 22 Tachwedd yr oedd y cyfarfod tiriogaethol olaf a fynychais i drafod iawndal amaeth-arianyddol. Yr ydym yn siarad dros y ffôn, ac mae fy swyddogion yn mynd i Lundain yn aml i drafod hyn, a’r hyn sydd yn bwysig—gan ei fod yn dangos nerth datganoli—yw fy mod yn siarad â gweinidogion amaethyddiaeth eraill mewn cyrff a ddatganolwyd.
Given your oft-stated view to the farmers’ union on the importance of agri-monetary compensation, and given that the First Secretary believes that too, why have you not sought a meeting on this issue in addition to the territorial meetings that are scheduled? Why do you not arrange such a meeting by the April deadline—with Rhodri Morgan, since he is backing you—to ensure that we get this agri-monetary compensation that you tell the farmers that you want for them?
Gyda golwg ar eich barn a gyhoeddwch yn aml i undebau’r amaethwyr ar bwysigrwydd iawndal amaeth-arianyddol, a chan ystyried bod y Prif Ysgrifennydd yn credu hynny hefyd, pam nad ydych chi wedi trefnu cyfarfod ar y mater hwn yn ychwanegol i’r cyfarfodydd tiriogaethol a drefnwyd? Pam na threfnwch chi gyfarfod o’r fath cyn y terfyn amser ym mis Ebrill—gyda Rhodri Morgan gan ei fod yn eich cefnogi—i sicrhau ein bod yn cael yr iawndal amaeth-arianyddol hwn y dywedwch wrth ffermwyr eich bod eisiau ei gael ar eu cyfer?
I want to get this money for the farmers of Wales and the UK. As for a separate meeting, I assure you that Nick Brown is in no doubt as to the extent of my feelings on this matter. He has been charged—not just by me, but by the departments of the other territories involved, Northern Ireland and Scotland—to go to the Treasury on behalf of UK farmers. The deadline is fast approaching, but I have certainly not given up my challenge to Nick Brown to come forward with news.
Yr wyf eisiau cael yr arian hwn ar gyfer ffermwyr Cymru a’r DU. O ran cyfarfod ar wahân, yr wyf yn eich sicrhau nad oes gan Nick Brown unrhyw amheuaeth o gryfder fy nheimladau ar y mater hwn.Cafodd y cyfrifoldeb—nid gennyf fi yn unig, ond gan adrannau y tiriogaethau eraill sydd yn perthyn, Gogledd Iwerddon a’r Alban—o fynd i’r Trysorlys ar ran ffermwyr y DU. Mae’r terfyn amser ar ein gwarthaf ond nid wyf wedi rhoi’r ffidil yn y to o ran herio Nick Brown i ddod ymlaen a rhoi newyddion inni.
Do you agree with me—as the First Secretary did yesterday—that rural Wales faces a severe crisis and that sectors such as the milk sector, that has traditionally been successful, face severe problems, with several farmers facing the distinct possibility of bankruptcy? Do you agree that we should not only press for agri-monetary compensation, which is essential for farmers whose livelihoods have been affected by the strength of the pound, but that we should also be pressing to continue the present level of hill livestock compensatory allowance payments, as well as pressing for the abolition of dairy hygiene inspection charges in Wales? If we manage to put pressure on the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food and on Nick Brown to accept these measures, which have been agreed and supported unanimously by the Agriculture and Rural Development Committee, it will help the industry in its present crisis.
A ydych chi’n cytuno â mi—fel y gwnaeth y Prif Ysgrifennydd ddoe—bod cefn gwlad Cymru yn wynebu argyfwng difrifol a bod sectorau megis y sector llaeth, sydd wedi bod yn llwyddiannus yn draddodiadol, yn wynebu problemau difrifol, gyda nifer o ffermwyr yn wynebu’r posibilrwydd gwirioneddol o ddod yn fethdalwyr? A ydych chi’n cytuno, yn ogystal â phwyso am iawndal amaeth-arianyddol, sydd yn hanfodol i ffermwyr y mae cryfder y bunt wedi effeithio’n arw ar eu bywoliaeth, y dylem ni hefyd bwyso i barhau’r lefelau presennol o daliadau lwfans iawndal da byw tir uchel, ynghyd â phwyso i ddileu costau archwiliadau glanweithdra llaeth yng Nghymru? Os gallwn roi pwysau ar y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac ar Nick Brown i dderbyn y mesurau hyn y cytunwyd arnynt ac a gefnogwyd yn unfrydol gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, y bydd o gymorth i’r diwydiant yn ei argyfwng presennol.
It is important that we do not only ask for agri-monetary compensation, as that will have little benefit in its present form for the dairy industry. It is important that we consider other areas where we can assist. I want the HLCA payment level—now called Tir Mynydd in Wales—to stay at the same level as this year and last year because an increase of almost £15 million per annum came directly to Wales to help hard-pressed hill farmers. I do not want it to return to its base rate because that would be a sad day. I continue to keep up the pressure on Nick Brown, whether in person, by telephone, or in writing. That pressure is kept up on all these points.
Mae’n bwysig nad ydym yn gofyn am iawndal amaeth-arianyddol yn unig, gan mai ychydig o fudd a fyddai hwnnw yn ei gyflwr presennol i’r diwydiant llaeth. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried meysydd eraill lle gallwn gynorthwyo. Yr wyf eisiau i’r lefel taliad lwfans da byw tir uchel—a elwir yn Tir Mynydd yng Nghymru—aros ar yr un lefel ag eleni a’r llynedd oherwydd y cynnydd o bron i £15 miliwn y flwyddyn a ddaeth yn uniongyrchol i Gymru i gynorthwyo’r ffermwyr mynydd a oedd dan gryn bwysau. Nid wyf am iddi ddychwelyd i’w lefel sylfaenol gan y byddai hwnnw’n ddiwrnod trist. Yr wyf yn parhau i gadw’r pwysau ar Nick Brown, boed hynny’n bersonol, dros y ffôn, neu ar bapur. Yr wyf yn parhau i bwyso ar bob un o’r pwyntiau hyn.
On dairy hygiene charges, the Assembly has decided to make a Wales-only application to Brussels for permission to operate a scheme whereby we can refund the money for these charges. I have always said in Committee and in Plenary that I thought that it would be much easier to get that application passed if there was an English element to it, as Brussels could not then give us the usual glib statement about introducing state aid. I hope that that happens. It is not for Wales to say what happens in England just as it is not for England to say what happens in Wales, but it would make it easier for us.
Gyda golwg ar gostau glanweithdra llaeth, mae’r Cynulliad wedi penderfynu cyflwyno cais i Frwsel ar gyfer Cymru’n unig i gael caniatâd i roi cynllun ar waith lle gallwn ad-dalu’r arian ar gyfer y costau hyn. Yr wyf bob tro wedi dweud yn y Pwyllgor ac yn y Cyfarfodydd Llawn fy mod yn meddwl y byddai’n llawer haws i’r cais lwyddo petai elfen Seisnig iddo, gan na fyddai Brwsel yn gallu rhoi’r datganiad parod inni ynghylch cyflwyno cymorth gwladwriaethol. Gobeithiaf y bydd hynny’n digwydd. Nid Cymru sydd i ddweud beth sydd yn digwydd yn Lloegr, ac nid Lloegr sydd i ddweud beth sydd yn diwgydd yng Nghymru, ond byddai hynny’n gwneud bywyd yn haws inni.
Labelu Cynnyrch Cig
Labelling Meat Products
What representations has Christine Gwyther made to the European Union regarding the present negotiations on labelling meat products? (OAQ3993)
Pa sylwadau y mae Christine Gwyther wedi’u cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd ynghylch y negodiadau presennol ar labelu cynnyrch cig? (OAQ3993)
The Assembly is anxious that Welsh agricultural products and foodstuffs achieve accreditation under the EU scheme for protecting food names. Applications for protection of geographical indications designation have been submitted to the European Commission for Welsh lamb and beef. Assembly officials are ensuring that Wales’s interests on beef labelling are taken into account during present negotiations.
Mae’r Cynulliad yn poeni bod cynnyrch amaethyddol a bwydydd Cymru’n cael eu hachredu dan gynllun amddiffyn enwau bwydydd yr Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd ceisiadau ar gyfer amddiffyn dynodiadau daearyddol gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymru. Mae swyddogion Cynulliad yn sicrhau bod buddiannau Cymru o ran labelu cig eidion yn cael eu hystyried yn ystod y negodiadau presennol.
Unfortunately, it appears that Welsh representation regarding European labelling negotiation has been lacking in recent conferences. There is huge potential in adding value to our meat produce by branding it as Welsh. However, new proposals could mean that Welsh meat reared in Wales would not necessarily be labelled as Welsh if it were slaughtered elsewhere. We slaughter only 25,000 cattle a year, out of a population of 500,000 cattle in Wales. Will you give a commitment that you will prioritise your input into the labelling discussions? Will you also encourage improving slaughtering facilities in Wales, especially for the one planned for the Heads of the Valleys area, which will give a significant economic boost to those Valley communities?
Yn anffodus, mae’n ymddangos mai prin fu sylwadau Cymru ynglŷn â negodiadau labelu Ewrop mewn trafodaethau diweddar. Mae potensial anferth o ran ychwanegu gwerth i’n cynnyrch cig drwy nodi mai cig Cymru ydyw. Fodd bynnag, gallai cynigion newydd olygu na fyddai cig Cymreig a fagwyd yng Nghymru’n cael label Cymreig petai’n cael ei ladd yn rhywle arall. Dim ond 25,000 o wartheg yr ydym yn eu lladd bob blwyddyn ac mae 500,000 o wartheg yng Nghymru. A wnewch chi addo y byddwch yn blaenoriaethu’ch cyfraniad i’r trafodaethau labelu? A wnewch chi hefyd hyrwyddo gwella cyfleusterau lladd yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer yr un sydd wedi ei gynllunio ar gyfer ardal Blaenau’r Cymoedd a fydd yn rhoi hwb economaidd sylweddol i’r cymunedau hynny yn y Cymoedd?
I give my commitment to slaughtering facilities in Wales and to labelling. I have attended food fairs recently where Welsh labelling was selling not just Welsh food, but British food. That is because the Welsh dragon is a potent symbol and because we were able to label exported beef ‘made in Wales’ with ‘slaughtered in the UK’ in very small writing underneath. Therefore, the beef had the UK provenance, which the date based export scheme requires, and the Welsh branding that actually sells the product.
Rhoddaf fy ymrwymiad i gyfleusterau lladd yng Nghymru ac i labelu. Yr wyf wedi bod mewn ffeiriau bwyd yn ddiweddar lle yr oedd labeli Cymru’n gwerthu bwyd Prydeinig yn ogystal â bwyd Cymreig. Y rheswm am hynny yw bod y ddraig goch yn symbol nerthol ac oherwydd ein bod yn gallu labelu cig eidion a allforiwyd â ‘gwnaethpwyd yng Nghymru’ gyda ‘lladdwyd yn y DU’ mewn ysgrifen fân oddi tano. Felly yr oedd gan y cig eidion darddiad DU, sef yr hyn sydd ei angen ar y cynllun allforio ar sail dyddiad, a’r brand Cymreig sydd yn gwerthu’r cynnyrch mewn gwirionedd.
The enthusiasm for Welsh products at fairs is amazing and I have been very pleased by it. We need to reopen our export markets as much as possible, and labelling will help us to do that. However, we also need to ensure that people are buying Welsh products in this country. Labelling is important, because people can sometimes buy imported food that might not be of the quality they want, if they do not know what they are buying.
Mae’r brwdfrydedd dros gynnyrch Cymreig mewn ffeiriau yn anhygoel ac mae hyn wedi fy mhlesio yn arw. Rhaid inni ailagor ein marchnadoedd allforio cymaint ag y bo modd, a bydd labelu o gymorth inni yn hynny o beth. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni sicrhau hefyd bod pobl yn prynu cynnyrch Cymru yn y wlad hon. Mae labelu yn bwysig gan y gall pobl weithiau brynu bwyd a fewnforiwyd nad yw o’r safon y maent yn dymuno ei gael, os nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei brynu.
Given the damage and havoc wrought on the agricultural industry by European policies, it is crucial that you make clear to Europe the importance that we attach to being able to market Welsh food and meat abroad. Will you promise to take this up with Europe at every opportunity, and not to allow more glib statements to come out of Brussels?
Gyda golwg ar y difrod a’r hafoc sydd wedi dod i’r diwydiant amaethyddol yn sgîl polisïau Ewropeaidd, mae’n hanfodol eich bod yn egluro i Ewrop y pwysigrwydd a roddwn ar allu marchnata bwyd a chig Cymru dramor. A wnewch chi addo mynd ar drywydd hyn gydag Ewrop ar bob cyfle, a pheidio â gadael i Frwsel wneud rhagor o ddatganiadau parod?
It must be made clear to bureaucrats and politicians that our capability to export to Europe must be protected and enhanced. It is important for us to do that as politicians. It is encouraging that the Welsh Development Agency as an Assembly body, is working better on food promotion than they have done for many years. We must look carefully at where the money is being spent in case we want to re-prioritise, but important work is being done.
Rhaid egluro i fiwrocratiaid a gwleidyddion bod rhaid amddiffyn a chynyddu ein gallu i allforio i Ewrop. Mae’n bwysig inni wneud hynny fel gwleidyddion. Mae’n galonogol bod Awdurdod Datblygu Cymru fel un o gyrff y Cynulliad, yn gweithio’n well ar hyrwyddo bwyd nag y maent wedi ei wneud ers nifer o flynyddoedd. Rhaid inni edrych yn ofalus ar lle y caiff yr arian ei wario rhag ofn y byddwn eisiau ailflaenoriaethu, ond mae gwaith pwysig yn cael ei gyflawni.
Given that you have just stated the importance of helping consumers to identify British and Welsh products by clear labelling so that they can support home producers and rural communities if they so wish, are you disappointed that your Labour Government colleagues in Westminster refused last week to support a private members Bill, which would have established clear labelling?
Ag ystyried eich bod newydd ddatgan pwysigrwydd helpu defnyddwyr i adnabod cynnyrch Cymru a Phrydain drwy labelu clir fel y gallant gefnogi cynhyrchwyr cartref a chymunedau gwledig os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a ydych chi’n siomedig bod eich cydweithwyr yn y Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi gwrthod cefnogi Mesur aelodau preifat yr wythnos diwethaf a fyddai wedi sefydlu labelu clir?
We have to ensure that we are not being protectionists when we talk about labelling. The beef-labelling scheme, which will be run on a compulsory basis, will come into effect in November 2000. It is a pilot scheme and will run concurrently with the voluntary scheme operating at the moment. We want consumers to know exactly what they are eating, and that must be at the forefront of our work on labelling.
Rhaid inni sicrhau nad diffyndollwyr mohonom pan fyddwn yn sôn am labelu. Daw’r cynllun labelu cig eidion, a gaiff ei redeg ar sail orfodol, i rym ym mis Tachwedd 2000. Cynllun peilot ydyw a fydd yn rhedeg ar y cyd â’r cynllun gwirfoddol sydd ar waith ar hyn o bryd. Yr ydym am i ddefnyddwyr wybod yn union beth y maent yn ei fwyta, a rhaid i hynny fod yn flaenllaw yn ein gwaith ar labelu.
Iawndal Amaeth-arianyddol (Ad-daliad Fontainebleau)
Agri-monetary Compensation (Fontainebleau Rebate)
Sut y mae cytundeb ad-dalu Fontainebleau yn effeithio ar y swm sydd ar gael ar gyfer iawndal amaeth-ariannol? (OAQ3983)
How does the Fontainebleau rebate agreement affect the amount available for agri-monetary compensation? (OAQ3983)
The Fontainebleau agreement does not affect the amount available for compensation. It provides that the UK receives from Europe a rebate of two thirds of the difference between its gross contribution to and its receipts from the European Union. Any extra receipts from Europe, whether for agri-monetary compensation, or anything else, will reduce the rebate in the following year. In 1998-99, the rebate was worth some £2.5 billion to the UK.
Nid yw cytundeb Fontainebleau yn effeithio ar y swm sydd ar gael ar gyfer iawndal. Mae’n sicrhau bod y DU yn derbyn ad-daliad o ddwy ran o dair o’r gwahaniaeth rhwng ei gyfraniad crynswth i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn y mae’n ei dderbyn ganddi. Bydd unrhyw swm y bydd yn ei dderbyn gan Ewrop, boed hwnnw ar gyfer iawndal amaeth-arianyddol, neu unrhyw beth arall, yn lleihau ad-daliad y flwyddyn ganlynol. Yn 1998-99, yr oedd yr ad-daliad werth oddeutu £2.5 biliwn i’r DU.
A yw Christine Gwyther yn derbyn bod ad-daliadau dan Fontainebleau wedi arbed £30 biliwn i’r Trysorlys ers 1984, ac eto bod Llywodraeth Prydain yn anfodlon rhyddhau ceiniog o’r £362 miliwn o arian Ewropeaidd sydd ar gael fel iawndal am gryfder y bunt ar hyn o bryd pan fo amaethyddiaeth Cymru mewn argyfwng arswydus? Onid yw hyn yn enghraifft arall o Lywodraeth Prydain yn dargyfeirio arian Ewropeaidd a fwriadwyd i Gymru i’r Trysorlys er lles economi de-ddwyrain Lloegr? Os na lwydda gyda Nick Brown, a yw Christine Gwyther yn fodlon mynd i Frwsel yn uniongyrchol i drafod effaith Fontainebleau ar economi Cymru a phwyso am ei ddiddymu?
Does Christine Gwyther accept that the Fontainebleau rebates have saved the Treasury £30 billion since 1984, and yet the British Government is not prepared to release a penny of the £362 million of European funding available as compensation for the present strength of the pound when Wales’s agriculture is in a terrible crisis? Is this not another example of the British Government diverting money that is intended for Wales into the Treasury for the benefit of the economy of south-east England? If she does not succeed with Nick Brown, is Christine Gwyther willing to go to Brussels directly to discuss the effect of Fontainebleau on Wales’s economy and press for its abolition?
You have my assurance, that of the First Secretary and the previous First Secretary, that this Assembly supported agri-monetary compensation for British farmers. We cannot be protectionists and ask for it for Welsh farmers and not for the rest of the UK. In that way, it is not my job to go to Brussels and argue for agri-monetary compensation. It is a UK-wide scheme that Nick Brown must discuss with the Treasury. You will know, through the Fontainebleau agreement, that the Treasury would have to pay, not just the 50 per cent match funding that you would expect with that sort of EU funding, but an extra 71 pence in the pound. I am sure that the Treasury will bear that in mind when it makes its budget allocations.
Yr wyf fi, y Prif Ysgrifennydd a’r Prif Ysgrifennydd blaenorol yn eich sicrhau bod y Cynulliad wedi cefnogi iawndal amaeth-arianyddol ar gyfer ffermwyr gwledydd Prydain. Ni allwn fod yn ddiffyndollwyr a gofyn amdano i ffermwyr Cymru ac anwybyddu gweddill y DU. O ran hynny, nid fy ngwaith i yw mynd i Frwsel a dadlau dros iawndal amaeth-arianyddol. Mae’n gynllun ar gyfer y DU gyfan y mae’n rhaid i Nick Brown ei drafod gyda’r Trysorlys. Gwyddoch, drwy gytundeb Fontainebleau, y byddai’n rhaid i’r Trysorlys dalu, nid yn unig y 50 y cant o arian cyfatebol y byddech yn ei ddisgwyl gyda’r math hwn o gyllid Undeb Ewropeaidd, ond 71 ceiniog ychwanegol yn y bunt. Yr wyf yn siŵr y bydd y Trysorlys yn cadw hynny mewn cof pan fydd yn llunio ei ddyraniadau cyllideb.
Bearing in mind the catastrophic fall in farm incomes and the size of Gordon Brown’s war chest, does Christine Gwyther accept that the case for agri-monetary compensation is now unanswerable and that references to the Fontainebleau agreement are mere distractions from the real issue of the drop in farm incomes?
A chofio’r gostyngiad anferthol mewn incwm ffermydd a maint cist rhyfel Gordon Brown, a yw Christine Gwyther yn derbyn nad oes ateb bellach i’r achos am iawndal amaeth-arianyddol a bod cyfeirio at gytundeb Fontainebleau yn tynnu’r sylw i ffwrdd oddi wrth y mater gwirioneddol sef y gostyngiad mewn incwm ffermydd?
References to the Fontainebleau agreement are pertinent when you are talking about how much money will come from the Treasury for any scheme, whether it is agri-monetary compensation or anything else with a European dimension. Therefore, it is pertinent that I should refer to that. It does not detract from the fact that I believe that farmers should receive agri-monetary compensation. You have heard the First Secretary say the same. These discussions are being held in other territories around the UK, where I am sure that feelings are equally high.
Mae cyfeirio at gytundeb Fontainebleau yn berthnasol pan fyddwch yn sôn am faint o arian a ddaw o’r Trysorlys ar gyfer unrhyw gynllun, boed hwnnw’n iawndal amaeth-arianyddol neu’n unrhyw beth arall gyda dimensiwn Ewropeaidd. Felly, mae’n berthnasol imi gyfeirio at hynny. Nid yw’n tynnu sylw oddi wrth y ffaith fy mod yn credu y dylai ffermwyr dderbyn iawndal amaeth-arianyddol. Yr ydych wedi clywed y Prif Ysgrifennydd yn dweud yr un peth. Mae’r trafodaethau hyn i’w clywed mewn tiriogaethau eraill ledled y DU. Yr wyf yn siŵr bod teimladau yr un mor danbaid yno hefyd.
Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000
Approval of the Local Authorities (Capital Finance) (Rate of Discount for 2000/2001) (Wales) 2000
Peter Law The Secretary for Local Government and Housing spoken in English p. 19
Peter Law Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai siaradwyd yn Saesneg t. 19
I propose that
Cynigaf fod
Peter Law The Secretary for Local Government and Housing (continued) spoken in English p. 20
Peter Law Yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 20
As the first man to speak today, I want to say on behalf of the male gender how much we identify with our sisters on this joyous occasion, International Women’s Day, and I am delighted to see you in the Chair this afternoon, Deputy Presiding Officer.
Fel y dyn cyntaf i siarad heddiw, hoffwn ddweud ar ran y rhyw gwrywaidd gymaint yr ydym yn uniaethu â’n chwiorydd yn y digwyddiad llawen hwn, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac yr wyf wrth fy modd yn eich gweld yn y Gadair y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd.
I propose that the Assembly should agree to prescribe the rate of discount to be used by local authorities in Wales to calculate the cost of credit arrangements, such as leases for 2000-01. Section 49 (2) of the Local Government and Housing Act 1989 requires the Assembly to prescribe a rate of discount for each financial year. The rate of discount proposed for 2000-01 is 7.5 per cent and will take effect from 1 April, subject to your approval. The rate of discount chosen is based on the latest average rate for all local authorities’ outstanding borrowing in Wales and is intended to reflect the costs of borrowing as closely as possible so that authorities do not have the incentive to use credit arrangements in preference to borrowing. The rate prescribed affects the amount of capital resources used when a local authority enters into a credit arrangement. It does not affect the payments that the authority makes to other parties under a lease, and in that respect there are no financial implications for local authorities. This is the first year that the Assembly will prescribe a separate rate for Wales. In previous years the rate has been the same as that for England. The rate for the present year is 8.4 per cent. The Welsh Local Government Association has been consulted and is content with the proposals. I move that the Assembly approves the motion.
Cynigaf fod y Cynulliad yn cytuno i bennu cyfradd y gostyngiad a ddefnyddir gan awdurdodau lleol Cymru i gyfrifo costau cytundebau credyd megis prydlesi ar gyfer 2000-01. Mae Adran 49 (2) Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn mynnu bod y Cynulliad yn rhoi cyfradd ostyngiad ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Y gyfradd ostyngiad arfaethedig ar gyfer 2000-01 yw 7.5 y cant a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, yn amodol ar eich cymeradwyaeth. Caiff cyfradd y gostyngiad ei dewis ar sail y gyfradd gyfartalog ddiweddaraf ar gyfer dyledion benthyg pob awdurdod lleol yng Nghymru a bwriedir iddi adlewyrchu’r costau benthyg mor fanwl â phosibl fel nad oes gan yr awdurdodau’r cymhelliant i ddefnyddio cytundebau credyd yn hytrach na chael benthyg. Mae’r gyfradd a bennir yn effeithio ar faint o adnoddau cyfalaf a ddefnyddir pan fydd awdurdod lleol yn cytuno ar gytundeb credyd. Nid yw’n effeithio ar y taliadau y mae’r awdurdod yn eu gwneud i bartïon eraill dan brydles, ac mewn perthynas â hynny nid oes yna oblygiadau ariannol ar gyfer awdurdodau lleol. Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd y Cynulliad yn pennu cyfradd ar wahân i Gymru. Mewn blynyddoedd blaenorol yr oedd y gyfradd yr un fath â chyfradd Lloegr. Y gyfradd ar gyfer y flwyddyn hon yw 8.4 y cant. Ymgynghorwyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae’n fodlon gyda’r cynigion. Cynigaf fod y Cynulliad yn cytuno â’r cynnig.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig.
Motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
- Peter Black
- Nick Bourne
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Carwyn Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Peter Law
- David Lloyd
- John Marek
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Lynne Neagle
- Janet Ryder
- Karen Sinclair
- Gwenda Thomas
- Owen John Thomas
Dadl i Nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Debate to Mark International Women’s Day
Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 21
Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 21
I propose
Cynigiaf
Edwina Hart The Finance Secretary (continued) spoken in English p. 22
Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 22
It is fitting that we celebrate International Women’s Day by noting in the wording of this motion, the representation of women in the Assembly: yourself as Deputy Presiding Officer in the Chair today, the number of women in the Cabinet, the women who chair Committees and the number of women—with the exception of one party—who hold key positions within their respective parties.
Mae’n briodol ein bod yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy nodi yng ngeiriad y cynnig hwn, y gynrychiolaeth o fenywod a geir yn y Cynulliad: chi eich hun fel Dirprwy Lywydd yn y gadair heddiw, y nifer o fenywod sydd yn y Cabinet, y menywod sydd yn cadeirio Pwyllgorau a nifer y menywod—ac eithrio un blaid—sydd yn dal swyddi allweddol o fewn eu pleidiau.
Our statutory responsibility lays down our duty to ensure equality of opportunity for all people in Wales. Much has been achieved, but we will not be resting on our laurels because there is much left to do. While the Committee on Equality of Opportunity is the focal point of work, it does not have sole responsibility for the process. That work is the Assembly’s collective responsibility. We are undertaking a survey of our own organisation to examine the basis of our recruitment and promotion procedures. We must examine what impact our existing policies have on under-represented and disadvantaged groups of citizens in order to channel our efforts effectively.
Mae ein cyfrifoldeb statudol yn pennu ein dyletswydd i sicrhau cyfle cyfartal i bawb yng Nghymru. Cyflawnwyd llawer, ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein bri oherwydd bod yna lawer iawn i’w wneud o hyd. Er mai’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yw canolbwynt y gwaith, nid ef yw’r unig un sydd yn gyfrifol am y broses. Mae’r gwaith hwnnw yn gydgyfrifoldeb i’r Cynulliad. Yr ydym wrthi’n cynnal arolwg o’n sefydliad ein hunain i archwilio sail ein trefniadau recriwtio a dyrchafu. Rhaid inni archwilio i weld pa effaith y mae ein polisïau cyfredol yn ei chael ar y grwpiau o ddinasyddion sydd dan anfantais ac na chânt eu cynrychioli’n deg er mwyn sianelu ein hymdrechion yn effeithiol.
We cannot, as an Assembly, champion equality unless we mainstream the issue and ensure that it permeates all Assembly business. We know that equal opportunity afterthoughts, add-ons and fix-its are not enough. We must be committed to improving practices in areas where we have direct responsibility and promoting best practice where we do not. Questions must be asked of women and we must listen to their answers. The UK Cabinet Office’s series of conferences ‘Listening to Women’ was a step, albeit a small one, in the right direction. Women in rural areas were concerned about their lack of access to further education and training. This is particularly important given the problems facing the agriculture industry and the need for diversification within the rural economy. Black and ethnic minority women wanted to be recognised and valued for their contributions to society. It should be noted that their role models failed to receive any publicity. Pupils from a local school reminded us of the value of mixing with people from various cultural backgrounds. They also noted the gender stereotyping and segregation that still exists in Wales in academic subjects and in the job market. They were perplexed that, although girls achieve better exam results in school, the pay gap between men and women still exists in real terms, particularly if you look at Wales today.
Ni allwn, fel Cynulliad, hyrwyddo cydraddoldeb oni bai ein bod yn dwyn y mater i’r brif ffrwd ac yn sicrhau ei fod yn treiddio drwy holl fusnes y Cynulliad. Gwyddwn nad yw trin materion cyfle cyfartal fel ail-feddyliau, ychwanegiadau a phethau y gellir eu cywiro yn ddiweddarach yn ddigon. Rhaid inni ymrwymo i wella ymarferion mewn meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb uniongyrchol a hyrwyddo arfer gorau lle nad oes gennym gyfrifoldeb o’r fath. Rhaid inni holi menywod a gwrando ar eu hatebion. Yr oedd cyfres o gynadleddau ‘Gwrando ar Fenywod’ Swyddfa Cabinet y DU, er mor fach, yn gam yn y cyfeiriad iawn. Yr oedd menywod mewn ardaloedd gwledig yn pryderu am eu bod yn methu â chael gafael ar addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn hynod bwysig o gofio’r problemau sydd yn wynebu’r diwydiant amaethyddol a’r angen am arallgyfeirio o fewn yr economi wledig. Yr oedd menywod o leiafrifoedd ethnig a du eisiau cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am eu cyfraniadau i’r gymdeithas. Dylid nodi bod eu rôl-fodelau wedi methu â chael unrhyw gyhoeddusrwydd. Cawsom ein hatgoffa gan ddisgyblion o ysgol leol am werth cymysgu gyda phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol. Nodasant hefyd y didoli a’r stereoteipio ar sail rhyw sydd yn dal i fodoli yng Nghymru mewn pynciau academaidd ac yn y farchnad swyddi. Yr hyn a oedd yn achosi penbleth iddynt oedd y ffaith, er bod merched yn cael gwell canlyniadau arholiad yn yr ysgol, bod y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod yn dal i fodoli mewn termau gwirioneddol, yn enwedig os edrychwch ar Gymru heddiw.
Given the barriers that prevent access to disabled people, disabled women often feel that they have fallen off the face of the planet. They have been ghettoised by gender and disability. That is a key issue for us to tackle in Wales. You will not be surprised to learn that concerns were also expressed about rigid work patterns, affordable sustainable childcare and the burden on carers. We must accept that the majority of carers in Wales are women. We must also recognise that existing structures, practices and methods of operation are not gender neutral. Organisations where most of the top management are men—and that is true almost everywhere in Wales—are male centred. Work practices are designed for those without children or other care responsibilities, or for working men with supportive spouses. Women with care responsibilities are expected to fit into this status quo. Family-friendly ways of organising any business, government, public or private, benefit men, women and children. The benefits should stretch across the board.
O gofio’r rhwystrau sydd yn atal mynediad i bobl anabl, mae menywod anabl yn teimlo’n aml eu bod wedi syrthio oddi ar wyneb y blaned. Cânt eu neilltuo ar sail rhyw ac anabledd. Mae hwn yn un o’r materion allweddol y mae’n rhaid inni ddelio ag ef yng Nghymru. Ni chewch eich synnu ychwaith bod unigolion wedi mynegi pryder am batrymau gweithio caeth, gofal plant parhaol y gellir ei fforddio a’r baich ar ofalwyr. Rhaid inni dderbyn mai menywod yw mwyafrif y gofalwyr yng Nghymru. Rhaid inni hefyd gydnabod nad yw’r strwythurau, yr ymarferion a’r dulliau gweithredu cyfredol yn niwtral o safbwynt y rhywiau. Mae’r sefydliadau lle mae’r rhan fwyaf o’r prif reolwyr yn ddynion—ac mae hynny’n wir bron ym mhob man yng Nghymru—yn canolbwyntio ar ddynion. Cynllunnir yr ymarferion gwaith ar gyfer y rheini sydd heb blant na chyfrifoldebau gofal eraill, neu ar gyfer dynion sydd yn gweithio sydd â phartneriaid cefnogol. Disgwylir i fenywod sydd â chyfrifoldebau gofal addasu i’r status quo hwn. Mae dulliau teulu-gyfeillgar o drefnu unrhyw fusnes, llywodraeth, cyhoeddus neu breifat, yn fanteisiol i ddynion, menywod a phlant. Dylai’r manteision ymestyn i bawb.
It is interesting, if not totally surprising, to note some of the negative comments and press coverage given to the Assembly’s family-friendly working policies from some quarters of the press. However, as the Business Secretary pointed out, as soon as we start to discuss equal opportunities, we rarely see any members of the press.
Mae’n ddiddorol, os nad yn gwbl syfrdanol, nodi rhai o’r sylwadau a’r sylw negyddol a gafwyd i bolisïau gweithio teulu-gyfeillgar y Cynulliad gan rai rhannau o’r wasg. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Trefnydd, cyn gynted ag y dechreuwn drafod cyfle cyfartal, prin y gwelwn ni unrhyw aelodau o’r wasg.
Long hours do not always mean commitment. They can be the symptom of lack of resources, bad organisation or even fear about one’s position and about appearing to be doing the right thing. We must tackle the long hours culture. When talking of fear, I should mention that I have just received a copy of the Newport Women’s Aid annual report. The work carried out by women’s aid groups in establishing and running refuges for women and their children who suffer physical, sexual, emotional and mental abuse, is vital in society. The support and help offered to women of every class, race and religion by the Women’s Aid workers is laudable. However, the reason for their work is a shame and a reflection on our society today. Is it not awful that we deny the rights of women, and the dignity and respect they deserve as individuals, when domestic violence and abuse is such an issue?
Nid yw oriau maith bob amser yn golygu ymrwymiad. Gallant fod yn arwydd o ddiffyg adnoddau, trefnu gwael neu hyd oed ofn am ddiogelwch swydd ac am ymddangos fel eich bod yn gwneud y peth iawn. Rhaid inni fynd i’r afael â’r diwylliant oriau maith. Wrth siarad am ofn, dylwn grybwyll fy mod newydd dderbyn copi o adroddiad blynyddol Cymorth i Fenywod Casnewydd. Mae’r gwaith a wna grwpiau cymorth i fenywod yn sefydlu ac yn rhedeg llochesau i fenywod a’u plant sydd yn dioddef camdriniaeth gorfforol, rhywiol, emosiynol a meddyliol, yn holl bwysig i gymdeithas. Mae’r gefnogaeth a’r help y mae gweithwyr Cymorth i Fenywod yn eu cynnig i fenywod o bob dosbarth, hil a chrefydd yn glodfawr. Fodd bynnag, mae’r rheswm am eu gwaith yn gywilydd ac yn adlewyrchiad ar ein cymdeithas ni heddiw. Onid yw’n ofnadwy ein bod yn gwadu hawliau menywod, a’r urddas a’r parch y maent yn eu haeddu fel unigolion, gyda cham-drin a thrais yn y cartref yn fater mor amlwg?
The motion mentions the United Nation’s agenda for women, and I will mention the plight of women in third world developing countries. An article in Saturday’s The Guardian by Elaine Storkey of Tearfund, reminded us that whatever shortcomings we may experience as women in this country are slight in comparison to those of the third world. Grinding poverty offers no choice in lifestyle and subsistence living brings no money to pay for education. If education were freely provided, subsistence living means that there is no time to take advantage of it. Elaine Storkey explained that many of the fund programmes designed to help the developing countries have not worked in women’s interests. Men have been more likely to benefit from structural adjustment programmes because they spend more time—double that of women—producing marketable goods for export. When we buy our goods cheap, we should remember that someone else is paying the bill. In her final paragraph, Elaine Storkey stated that
Mae’r cynnig yn crybwyll agenda’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer menywod, a chrybwyllaf gyflwr menywod yng ngwledydd datblygol y trydydd byd. Cawsom ein hatgoffa yn rhifyn dydd Sadwrn o The Guardian, gan Elaine Storley o Tearfund, bod y diffygion yr ydym yn eu hwynebu fel menywod yn y wlad hon yn fach iawn o’u cymharu â’r rheini yn y trydydd byd. Nid yw tlodi gorthrymus yn cynnig unrhyw ddewis o safbwynt ffordd o fyw ac nid yw bod gyda phrin ddigon i fyw arno yn esgor ar unrhyw arian i dalu am addysg. Pe darparwyd addysg yn hael, golyga bywyd o’r fath na fyddai unrhyw amser i fanteisio ar hynny. Esboniodd Elaine Storkey nad yw llawer o’r rhaglenni arian a fwriadwyd i helpu’r gwledydd datblygol wedi gweithio er lles menywod. Mae dynion wedi bod yn fwy tebygol o elwa o raglenni addasiadau strwythurol gan eu bod yn treulio mwy o amser—dwywaith yn fwy na menywod—yn cynhyrchu nwyddau y gellir eu marchnata i’w hallforio. Pan brynwn ein nwyddau yn rhad, dylem gofio bod rhywun arall yn talu’r pris. Yn ei pharagraff olaf, dywedodd Elaine Storkey
‘When women work two-thirds of the world’s hours, receive one-tenth of the world’s income and own one-hundredth of the world’s property, we need the moral will to make a structural change’.
‘Tra bod menywod yn gweithio dwy ran o dair o oriau’r byd, yn derbyn un rhan o ddeg o incwm y byd ac yn berchen ar un rhan o gant o eiddo’r byd, mae arnom angen yr ewyllys foesol i wneud newid strwythurol’.
It is important, on International Women’s Day, that we look beyond the narrow confines of the Assembly and Wales, and to the wider world, which, as an internationalist and socialist, I feel duty bound to do and to try to instil change. Poverty is not the only barrier that prevents women from attaining an equal footing with men. There are certain societies that ban women from taking part in education, paid employment and participation in government and the electoral process. Those are places where women have no rights under the law as individual citizens.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae’n bwysig ein bod yn edrych tu hwnt i gyfyngiadau cul y Cynulliad a Chymru, ac ar y byd ehangach, ac fel rhyng-genedlaetholwraig a sosialydd, teimlaf ei bod hi’n rhwym arnaf i wneud a cheisio meithrin newid. Nid tlodi yw’r unig rwystr sydd yn atal menywod rhag bod yn gyfartal â dynion. Mae rhai cymdeithasau yn gwahardd menywod rhag cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth gyflogedig a rhag cyfranogi yn y llywodraeth a’r broses etholiadol. Dyma leoedd lle nad oes gan fenywod unrhyw hawliau yn gyfreithiol fel dinasyddion unigol.
I said at the start that women in this country have achieved much. We have, and we have the means to carry things forward in partnership with others. Our statutory duty is to the work of equality of opportunity in Wales, to which we are committed. However, our duty is not a straitjacket and we can raise our sights and work with others in this wide arena.
Dywedais ar y dechrau fod menywod yn y wlad hon wedi cyflawni llawer. Gwnaethom, ac mae gennym y modd i fwrw pethau ymlaen mewn partneriaeth gydag eraill. Ein dyletswydd statudol yw gwaith cyfle cyfartal yng Nghymru, gwaith yr ydym wedi ymrwymo iddo. Fodd bynnag, nid yw ein dyletswydd yn ein caethiwo a gallwn godi ein golygon a gweithio gydag eraill yn y maes eang hwn.
Boutros Boutros-Ghali said:
Dywedodd Boutros Boutros-Ghali:
‘Without progress in the situation of women, there can be no true social development. Human rights are not worthy of the name if they exclude the female half of humanity. The struggle for women’s equality is part of the struggle for a better world for all human beings, and all societies.’
‘Heb gynnydd yn sefyllfa menywod, ni ellir cael gwir ddatblygiad cymdeithasol. Nid yw hawliau dynol yn haeddu’r enw os ydynt yn eithrio hanner benywaidd y ddynoliaeth. Mae’r ymdrech dros gydraddoldeb menywod yn rhan o’r ymdrech am fyd gwell i bob bod dynol, ac i bob cymdeithas.’
Let us celebrate today the hard work and achievements of women to date, anticipate the achievements of tomorrow and, most of all, celebrate the sheer determination and perseverance of those women—our sisters across the world—yet to reap the benefits of equal rights.
Gadewch inni ddathlu heddiw waith caled a chyflawniadau menywod hyd yma, rhagweld cyflawniadau yfory ac, yn anad dim, ddathlu gwir benderfyniad a dyfalbarhad y menywod hyn—ein chwiorydd ym mhob cwr o’r byd—sydd eto i feithrin manteision hawliau cyfartal.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod arbennig inni i gyd, nid menywod yn unig. Dyna pam y penderfynais siarad heddiw. Datganaf hyn er bod y wasg wedi mynd ers tipyn. Gan ei bod hi’n ddiwrnod mor arbennig, mae hynny’n anffodus.
in Welsh International Women’s Day is a special day for us all, not just women. That is why I have decided to speak today. I state this although the press left a while ago. Given that it is such a special day, that is unfortunate.
Dim ond y dechreuad yw’r diwrnod hwn. Dathlwn yr hyn y mae menywod wedi llwyddo i’w gyfrannu ar ôl blynyddoedd o ddygn waith, ond mae tipyn o ffordd i fynd o hyd. Dyna’r pwynt pwysicaf. Mae rhagfarn strwythurol yn erbyn merched o hyd, fel y clywsom gan Edwina, ac y mae rhagfarnau ymhob man yn rhwystro menywod rhag cyflawni eu llawn botensial a chyrraedd y pen yn eu gyrfaoedd yn lle aros tua’r gwaelod. Mae’r rhagfarn strwythurol hwnnw’n parhau, ac y mae rhagfarnau personol hefyd yn parhau. Yr ydym, fel dynion, i’w beio am hynny gymaint ag unrhyw ffactor arall. Ni allwn roi’r bai ar strwythurau yn unig.
in Welsh This day is only the beginning. We celebrate what women have succeeded in contributing after years of hard work, but there is still a way to go. That is the most important point. There is still structural prejudice against women, as we heard from Edwina, and there are prejudices everywhere preventing women from achieving their full potential and reaching the top of their professions instead of staying around the bottom. That structural prejudice persists, as do personal prejudices. We, as men, are to blame for that as much as any other factor. We cannot place the blame on structures alone.
One main element that I will talk about is the macho culture or machismo that Edwina mentioned. By that I mean the way that you are supposed to get to the top by working 24 hours a day, forsaking all others, including your own family, and forsaking your own health in an aggressive drive to reach the top. That is seen as the only characteristic that will get you recognition and promotion.
yn Saesneg Un prif elfen y siaradaf amdani yw’r diwylliant macho neu machismo a grybwyllodd Edwina. Yr hyn a olygaf wrth hynny yw’r ffordd yr ydych i fod i gyrraedd y brig drwy weithio 24 awr y dydd, gan gefnu ar bob dim arall, gan gynnwys eich teulu, a chefnu ar eich iechyd eich hun mewn ymgyrch ymosodol i gyrraedd y brig. Credir mai dyma yw’r unig nodwedd sydd yn mynd i ennill cydnabyddiaeth a dyrchafiad ichi.
Late in the day in medicine we recognised how disruptive that was to men’s as well as women’s lives. A renowned surgeon of the Victorian era, James Barrie—I am sure that Brian Gibbons will remember him—was, on his deathbed, found to be a woman. Women have had a tremendous struggle to get into medical schools at all. My profession is at fault in that. Late in the day we are remedying it and these days more than half of medical graduates are women. We male general practitioners have spent years being on call, feeling that we had to work all day, then all night and the next day. We felt that we could not organise our lives any differently, then complained because we had the highest rate of alcoholism of any profession and among the highest rates of suicide, burnout and depression. However, we kept working those hours because to do differently was to be seen as a wimp and a somehow less than useful contributor to the medical profession.
yn Saesneg Yn hwyr yn y dydd ym myd meddyginiaeth bu inni gydnabod faint y mae hyn yn ei amharu ar fywydau dynion yn ogystal â menywod. Ag yntau ar ei wely angau,—yr wyf yn sicr y bydd Brian Gibbons yn ei gofio—canfuwyd mai menyw oedd y llawfeddyg o Oes Fictoria, James Barrie. Mae menywod wedi cael trafferthion dybryd i gael eu derbyn o gwbl i ysgolion meddygol. Mae fy mhroffesiwn i ar fai am hyn. Yn hwyr yn y dydd yr ydym yn unioni hyn a’r dyddiau hyn mae dros hanner y graddedigion meddygol yn fenywod. Yr ydym ni, feddygon teulu, wedi treulio blynyddoedd ar alwad, yn teimlo bod yn rhaid inni weithio drwy’r dydd, yna drwy’r nos a thrannoeth. Teimlasem na allem drefnu ein bywydau yn wahanol, ac yna arferem gwyno bod gennym y gyfradd uchaf o alcoholiaeth mewn unrhyw broffesiwn a bod y cyfraddau hunanladdiad, lludded ac iselder ysbryd ymysg y rhai uchaf. Fodd bynnag, dal ymlaen i weithio’r un oriau a wnaethom oherwydd, o wneud yn wahanol, caech eich ystyried yn llipryn a, rhywsut, yn gyfrannwr llai defnyddiol i’r proffesiwn meddygol.
In the last 10 years or so, there has been a huge influx of women GPs. They refused to work all day and night and all weekends and to be part of that impossible drive to reach the top. Their strength of purpose has allowed male GPs also to refuse to do so, without losing face. It was because of our fear of losing face that we used to regale each other with tales of how many visits we had made in the middle of the night, egging each other on to ever greater achievements in contributing to our alcoholism and burnout. It was so short-sighted.
yn Saesneg Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gwelwyd nifer fawr o fenywod yn dod yn feddygon teulu. Gwrthodasant hwy â gweithio bob dydd a nos a phob penwythnos a bod yn rhan o’r ymgyrch amhosibl hwn i gyrraedd y brig. Mae cadernid eu penderfyniad wedi caniatáu i ddynion sydd yn feddygon teulu wrthod gwneud hynny hefyd, heb golli parch. Ein hofn o golli parch oedd y rheswm pam yr arferem ddifyrru’n gilydd gyda straeon am faint o gleifion y bu’n rhaid ymweld â nhw ganol nos, gan annog ein gilydd i gyflawni mwy fyth a chyfrannu at ein halcoholiaeth a’n lludded. Yr oeddem mor ddall.
Over the last couple of years sensible promotion of flexible working habits has occurred. That is because there are so many women GPs committed to altering it, ensuring that it has changed for the benefit of both genders. We must get rid of this feeling of machismo from our whole working culture. It is destructive. It does not simply prevent women from achieving, it is also destructive for those who insist on taking that approach. It is destructive in terms of family relationships and health, often leading to burn-out and depression.
yn Saesneg Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gwelwyd gwaith hyrwyddo oriau hyblyg synhwyrol. Y rheswm am hyn yw am fod cymaint o fenywod sydd yn feddygon teulu wedi ymrwymo i newid pethau, gan sicrhau bod pethau’n newid er budd y ddau ryw. Rhaid inni gael gwared â’r teimladau machismo o’n diwylliant gweithio cyfan. Mae’n ddinistriol. Mae nid yn unig yn rhwystro menywod rhag llwyddo, mae hefyd yn ddinistriol i’r rheini sydd yn mynnu gweithredu yn y fath fodd. Mae’n ddinistriol o safbwynt y teulu a iechyd, gan arwain yn aml at ludded ac iselder ysbryd.
We have a new Wales and our challenge is to use every talent in it. In addition to those talents we must cherish our old human values such as respect, strength of diversity and compassion for one another regardless of who we are. That is a challenge. Building a nation on a new set of values. In this new Wales, I want my daughter to have the same opportunities as my sons. Is that so extreme?
yn Saesneg Mae gennym Gymru newydd a’n her yw defnyddio pob dawn oddi mewn iddi. Yn ychwanegol at y doniau hynny, rhaid inni goleddu ein hen werthoedd dynol megis parch, cryfder amrywiaeth a thrugaredd tuag at ein gilydd waeth pwy ydym ni. Dyna her. Adeiladu cenedl ar set newydd o werthoedd. Yn y Gymru newydd hon, yr wyf am i’m merch gael yr un cyfleoedd â’m meibion. A yw hynny mor eithafol?
Cefnogwch y cynnig.
in Welsh Support the motion.
As I address the Chamber, I am struck by the fact that the press gallery is empty. I preface my contribution by saying that we might have won part of the battle in the Assembly, but we have far more to accomplish with the media. I notice that the press gallery empties every time we discuss something that could be regarded as a family issue. I hope that somewhere out there one of them listens to me and takes this on board.
Wrth imi annerch y Siambr, caf fy nharo gan y ffaith bod oriel y wasg yn wag. Rhagarweiniaf fy nghyfraniad drwy ddweud, efallai ein bod wedi ennill rhan o’r frwydr yn y Cynulliad, ond mae gennym lawer mwy i’w gyflawni gyda’r cyfryngau. Yr wyf yn sylwi bod oriel y wasg yn gwagio bob tro y trafodwn rywbeth y gellid ei ystyried yn fater teuluol. Yr wyf yn gobeithio, allan yna, fod un ohonynt yn gwrando arnaf ac yn ystyried hyn.
I want to address two areas. First, to look at women as decision-makers, women setting the scene in many ways, and, secondly, to consider women in the home. Why does it matter that there is a fair representation of women in this Assembly and in every other legislature and on local councils? Because, without women taking part in decision-making, their views and needs are bound to be overlooked to a certain extent. It means that the life circumstances and perspective of 52 per cent of the population are inevitably ignored, played down or tackled inappropriately. This does not assume that all male politicians are chauvinist pigs, although sometimes those in the House of Commons may manage to give us that impression. It simply recognises that one sex, however sympathetic, cannot fully and fairly represent the interests of the other.
Hoffwn ddelio â dau faes. Yn gyntaf, hoffwn edrych ar fenywod fel unigolion sydd yn gwneud penderfyniadau, menywod yn pennu’r sefyllfa mewn sawl ffordd ac, yn ail, hoffwn ystyried menywod yn y cartref. Pam ei bod hi’n bwysig y ceir cynrychiolaeth deg o fenywod yn y Cynulliad hwn ac ym mhob deddfwrfa arall ac ar gynghorau lleol? O’r herwydd, os nad yw menywod yn cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, mae eu safbwyntiau a’u hanghenion yn sicr o gael eu hanwybyddu i ryw raddau. Golyga hyn ei bod hi’n anochel bod amgylchiadau byw a safbwynt 52 y cant o’r boblogaeth yn cael eu hanwybyddu, eu bychanu neu eu trin yn amhriodol. Nid yw hyn yn tybio bod pob gwleidydd o ddyn yn fochyn siofinaidd, er bod y rheini yn Nhŷ’r Cyffredin, ambell dro, yn llwyddo i roi inni’r argraff honno. Yr oll y mae’n ei wneud yw cydnabod na all un rhyw gynrychioli buddiannau’r llall yn deg nac yn llwyr, waeth ba mor gydymdeimladol ydyw.
I have been struck in the Assembly by the change in style of debate and the emphasis on family issues which has occurred. I believe it has happened because of the large number of women here to influence it. At least, I was struck by the change in style of debate until Alun Cairns spoke yesterday in what must be regarded as a last ditch attempt to turn the clock back to the good old days of Commons knockabout. In so doing, he managed to grab defeat for his motion from the jaws of victory.
Fe’m trawyd yn y Cynulliad gan y newid a ddigwyddodd yn arddull y ddadl a’r pwyslais a roddir ar faterion teuluol. Credaf fod hyn wedi digwydd oherwydd y nifer fawr o fenywod sydd yma i ddylanwadu ar hynny. O leiaf cefais fy nharo gan y newid yn arddull y ddadl nes i Alun Cairns siarad ddoe yn yr hyn y gellir ei ddisgrifio fel ymgais funud olaf i geisio troi’r cloc yn ôl i hen ddyddiau da perfformiadau swnllyd Tŷ’r Cyffredin. Drwy wneud hynny, llwyddodd i gipio gorchfygiad i’w gynnig o enau’r fuddugoliaeth.
We must not be complacent about any change that takes place here. The election of 24 women to this Assembly was one victory in a long crusade. As important as women in the Assembly, are women in decision-making positions of all types, such as in schools, universities, banks, industry, retailing, Assembly sponsored public bodies, hospitals and the voluntary sector. Wales lags behind the rest of the UK in most of these fields and the UK’s record is far from good. For example, in the national health service women comprise 49 per cent of managers in Wales, but 55 per cent in the UK. In education, women make up 46 per cent of primary heads, but only 11 per cent of secondary heads. That might not seem too bad for primary schools until you bear in mind that the overwhelming majority of teachers in primary schools are women. The comparable figures in England show that 55 per cent of primary heads and 23 per cent of secondary heads are women.
Rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon am unrhyw newid sydd yn digwydd yma. Yr oedd ethol 24 menyw i’r Cynulliad hwn yn un fuddugoliaeth mewn crwsâd maith. Mae menywod mewn safleoedd gwneud penderfyniadau o bob math, megis mewn ysgolion, prifysgolion, banciau, diwydiant, adwerthu, cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, ysbytai a’r sector gwirfoddol, yr un mor bwysig â menywod yn y Cynulliad. Mae Cymru yn syrthio ar ôl gweddill y DU yn y rhan fwyaf o’r meysydd hyn ac mae record y DU ymhell o fod yn dda. Er enghraifft, yn y gwasanaeth iechyd gwladol, menywod yw 49 y cant o’r rheolwyr yng Nghymru, ond mae’n 55 y cant yn y DU. Ym myd addysg, menywod yw 46 y cant o benaethiaid ysgolion cynradd, ond dim ond 11 y cant sydd yn benaethiaid ar ysgolion uwchradd. Efallai nad yw hynny’n ymddangos yn rhy ddrwg i ysgolion cynradd nes ichi gofio mai menywod yw’r mwyafrif helaeth o athrawon mewn ysgolion cynradd. Dengys y ffigurau cymharol yn Lloegr bod 55 y cant o benaethiaid cynradd a 23 y cant o benaethiaid uwchradd yn fenywod.
In local authorities, 42 out of 384 senior officers are women. In the old Welsh Office, 24 per cent of senior civil servants were women. In Assembly sponsored public bodies, only seven out of 46 chairs are women. The Assembly has the power to do something about this, directly or indirectly. We either run or fund all of these bodies. We must be conscious, when making policy, that we need to change the culture that assumes that we are looking for the right man for the job. Changing the culture is up to women as well as men. Women, due to their backgrounds, often expect and accept that men will dominate. To overcome this, we must look more fundamentally at the circumstances that women face in the home.
Mewn awdurdodau lleol, mae 42 o’r 384 o uwch swyddogion yn fenywod. Yn yr hen Swyddfa Gymreig, roedd 24 y cant o’r uwch weision sifil yn fenywod. Yn y cyrff a noddir gan y Cynulliad, saith yn unig o’r 46 cadeirydd sydd yn fenywod. Mae gan y Cynulliad y grym i wneud rhywbeth am hyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Nyni sydd un ai’n rhedeg neu’n cyllido’r cyrff hyn i gyd. Rhaid inni fod yn ymwybodol, wrth lunio polisïau, bod yn rhaid inni newid y diwylliant sydd yn tybio ein bod yn chwilio am y dyn iawn ar gyfer y swydd. Mae newid y diwylliant yn fater i fenywod yn ogystal â dynion. Mae menywod yn aml, oherwydd eu cefndir, yn disgwyl ac yn derbyn mai dynion a fydd yn ben. I oresgyn hyn, rhaid inni edrych yn fwy sylfaenol ar yr amgylchiadau y mae menywod yn eu hwynebu gartref.
I commend the work of many women’s organisations, from the Fawcett Society to the 300 Group and Women’s Aid, in leading campaigns on many women’s issues. I refer to the work of the Women’s National Commission in furthering the platform for action, signed in Beijing in 1995. The platform for action is a series of promises made by governments all over the world and it describes what women and governments must do to achieve true equality. To illustrate, I quote from the section on education:
Yr wyf yn cymeradwyo gwaith llawer o sefydliadau menywod, o Gymdeithas Fawcett i’r Grŵp 300 a Chymorth i Fenywod, am arwain ymgyrchoedd ar nifer o faterion menywod. Cyfeiriaf at waith Comisiwn Cenedlaethol y Menywod yn hyrwyddo’r platfform ar gyfer gweithredu, a lofnodwyd yn Beijing yn 1995. Mae’r platfform ar gyfer gweithredu yn gyfres o addewidion gan lywodraethau ym mhob cwr o’r byd a disgrifia’r hyn y mae’n rhaid i fenywod a llywodraethau ei wneud i sicrhau gwir gydraddoldeb. I esbonio, dyfynnaf o’r adran ar addysg:
‘Governments must ensure that women’s and children’s equality is respected in schools. They must give women access to higher education and lifetime learning, remove barriers to sex education, fund computer training for women…’.
‘Rhaid i Lywodraethau sicrhau y perchir cydraddoldeb menywod a phlant mewn ysgolion. Rhaid iddynt roi mynediad at addysg uwch a dysgu gydol oes i fenywod, chwalu’r rhwystrau at addysg ryw, noddi hyfforddiant cyfrifiadurol i fenywod…’.
Possibly most interestingly, it also refers to the need to:
Yn fwyaf diddorol, o bosibl, mae hefyd yn cyfeirio at yr angen i:
‘…teach boys to take care of their own domestic needs and to share responsibility for their household and the care of dependants’.
‘…ddysgu bechgyn i ofalu am eu hanghenion domestig eu hunain a rhannu’r cyfrifoldeb am eu cartrefi ac am ofalu am y rheini sydd yn dibynnu arnynt’.
This illustrates my point about preparing boys as well as girls for equality. However, for many women, daily life is one long scramble. We have half of equality—the difficult half. Women now make up a significant proportion of the workforce. Of those, 43 per cent are part-time workers, whereas only 10 per cent of male workers are part-time. As you all know, part-time workers earn 70 per cent of the average hourly rate for full-time workers. Women are concentrated in the low paid sectors. For example, the Fawcett Society has highlighted the issue of low pay in the private residential care sector and we all know of other sectors, for example catering. We must encourage employers to adopt the Equal Opportunities Commission’s code of practice on equal pay, which shows how to tackle pay inequalities.
Mae hyn yn esbonio fy mhwynt am baratoi bechgyn yn ogystal â merched ar gyfer cydraddoldeb. Fodd bynnag, i lawer o fenywod, mae bywyd bob dydd yn un ras faith. Mae gennym hanner cydraddoldeb—yr hanner anoddaf. Mae menywod bellach yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r gweithlu. O’r rheini, mae 43 y cant ohonynt yn weithwyr rhan-amser, tra mai dim ond 10 y cant o ddynion sydd yn weithwyr rhan-amser. Fel y gwyddoch i gyd, mae gweithwyr rhan-amser yn ennill 70 y cant o’r gyfradd awr gyfartalog ar gyfer gweithwyr amser llawn. Mae menywod wedi ymgasglu yn y sectorau cyflogau isel. Er enghraifft, tynnodd Cymdeithas Fawcett sylw at y mater o gyflogau isel yn y sector gofal preswyl preifat a gwyddom oll am sectorau eraill, arlwyo er enghraifft. Rhaid inni annog cyflogwyr i fabwysiadu cod ymarfer y Comisiwn Cyfle Cyfartal ar gyflogau cyfartal, sydd yn dangos sut i ddelio ag anghydraddoldebau cyflog.
When they have finished their part-time jobs at the end of the day, and often part-time jobs might be in the evening—very much at the end of the day in many cases—women face full household responsibilities, particularly the care of children. I was delighted that the Welsh Development Agency’s draft entrepreneurship action plan, made proposals for providing childcare facilities to help self-employed women. We had a long and useful debate in the Assembly about childcare some time ago, during which we all accepted that childcare must be accessible and affordable, which is easier said than done. The WDA has taken the discussion a step further. Also, women often shoulder the burden of caring for elderly and disabled relatives. The vast majority of carers of the elderly are women.
Ar ôl gorffen eu swyddi rhan-amser ar ddiwedd y dydd, ac yn aml, efallai mai gyda’r nos y ceir swyddi rhan-amser—ar ddiwedd y dydd go iawn mewn sawl achos—mae menywod yn wynebu cyfrifoldebau llawn yn y cartref, sef gofalu am blant yn arbennig. Yr oeddwn wrth fy modd fod cynllun gweithredu mentergarwch drafft Awdurdod Datblygu Cymru, yn gwneud cynigion ar gyfer cynnig cyfleusterau gofal plant i helpu menywod hunan-gyflogedig. Cawsom ddadl faith a defnyddiol yn y Cynulliad am ofal plant beth amser yn ôl, a derbyniodd pawb bryd hynny fod yn rhaid i unigolion allu cael gafael ar ofal plant a gallu ei fforddio, sydd yn haws ei ddweud na’i wneud. Mae’r WDA wedi mynd â’r drafodaeth gam ymhellach. Hefyd, mae menywod yn aml yn ysgwyddo’r baich o ofalu am berthnasau anabl ac oedrannus. Menywod yw mwyafrif helaeth y bobl sydd yn gofalu am yr henoed.
Women at home continue to be the subject of violence. Almost half of female murder victims are killed by partners or ex-partners, compared with only 6 per cent of male victims. In 1998-99, Welsh Women’s Aid answered over 12,000 phone calls from women and its refuges accommodated over 2,000 women and 3,000 children.
Mae menywod gartref yn dal i wynebu trais. Lleddir bron i hanner y menywod a lofruddir gan bartneriaid neu gyn-bartneriaid, o’i gymharu â dim ond 6 y cant o’r dynion a lofruddir. Yn 1998-99, atebodd Cymorth i Fenywod Cymru dros 12,000 o alwadau ffôn gan fenywod a bu i’w lochesau letya dros 2,000 o fenywod a 3,000 o blant.
The Liberal Democrats recently conducted a survey of voluntary groups including the Women’s Aid groups in Wales. Their message is clear and I would like people to note this today. This problem will not go away. Help will be needed for decades to come. The aid groups need continuity and certainty of funding. They need to be able to plan for the long term to do their work most effectively.
Yn ddiweddar, cynhaliodd y Democratiaid Rhyddfrydol arolwg o grwpiau gwirfoddol gan gynnwys grwpiau Cymorth i Fenywod yng Nghymru. Mae eu neges yn glir a hoffwn i bobl nodi hyn heddiw. Ni fydd y broblem hon yn diflannu. Bydd yn rhaid cael help am ddegawdau eto. Mae ar y grwpiau cymorth angen dilyniant a sicrwydd nawdd. Rhaid iddynt allu cynllunio ar gyfer y tymor hir er mwyn gwneud eu gwaith yn fwyaf effeithiol.
Finally, I want to address the problems faced by women from ethnic minorities and women with disabilities. They face what is called ‘double discrimination’. It is referred to in the motion. In my constituency casework—and I represent a constituency which has one of the largest populations of ethnic minorities in Wales—I have been asked for help on several occasions by ethnic minority women who face violence at home or the break up of a marriage. These problems are difficult enough for the majority of white women in Wales, but for ethnic minority women, there are complex additional problems. They face the difficulty of getting their families to accept or acknowledge their situation. They are often cut off from their extended family as a result. One woman described it to me as being the ‘ultimate shame’ in her community.
Yn olaf, hoffwn ddelio â phroblemau a wynebir gan fenywod o leiafrifoedd ethnig a menywod ag anableddau. Maent yn wynebu’r hyn a elwir yn ‘wahaniaethu dwbl’. Cyfeirir at hyn yn y cynnig. Yng ngwaith achos fy etholaeth—ac yr wyf yn cynrychioli etholaeth sydd ag un o’r poblogaethau mwyaf o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru—mae menywod o leiafrifoedd ethnig sydd yn wynebu trais gartref neu briodas yn chwalu wedi gofyn imi am gymorth lawer tro. Mae’r problemau hyn yn ddigon anodd i’r rhan fwyaf o fenywod gwyn yng Nghymru ond i fenywod o leiafrifoedd ethnig, ceir problemau ychwanegol dyrys. Wynebant yr anhawster o gael eu teuluoedd i dderbyn neu gydnabod eu sefyllfa. O ganlyniad maent, yn aml, yn cael eu hynysu oddi wrth eu teulu estynedig. Disgrifiodd un fenyw hyn fel y ‘gwarth mwyaf’ yn ei chymuned.
Organisations and structures are in place to help people but there are not enough of them and agencies often fail to tackle these problems appropriately. It is even more difficult to get some women to approach an agency at all. When dealing with discrimination against women and equality issues, we must not forget those that face double discrimination.
Mae sefydliadau a strwythurau ar waith i helpu pobl ond nid oes digon ohonynt ac mae asiantaethau yn aml yn methu â delio yn briodol â’r problemau hyn. Mae’n anos hyd yn oed i gael rhai menywod i gysylltu ag asiantaeth o gwbl. Wrth ddelio â gwahaniaethu yn erbyn menywod a materion cydraddoldeb, rhaid inni beidio ag anghofio y rheini sydd yn wynebu gwahaniaethu dwbl.
I notice that, so far in the debate, the Deputy Presiding Officer has called 50 per cent from each gender to speak. I am not sure if that equation will be followed for the rest of the debate, but that has been the case so far. The Assembly is debating an important matter today and I am grateful for the opportunity to contribute.
Yr wyf yn sylwi, hyd yma yn y ddadl, fod y Dirprwy Lywydd wedi galw 50 y cant o bob rhyw i siarad. Nid wyf yn sicr a ddilynir yr hafaliad hwnnw ar gyfer gweddill y ddadl, ond felly y bu hi hyd yn hyn. Mae’r Cynulliad yn trafod mater pwysig heddiw ac yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu.
I start with the Assembly’s structure. People sometimes bad-mouth devolution and the Assembly as if it has achieved little or nothing to date. I do not believe that it has achieved very little. It has achieved some things of real merit. While that should not be taken as an endorsement of the present administration, it shows that a different approach allows for certain problems to be tackled, such as appointing a Children’s Commissioner. I want to reiterate points about the Assembly’s structure so that it can be put on record that I support them.
Dechreuaf gyda strwythurau’r Cynulliad. Mae pobl, weithiau’n beirniadu datganoli a’r Cynulliad am nad yw wedi cyflawni unrhyw beth neu ond ychydig hyd yma. Ni chredaf ei fod wedi cyflawni ychydig iawn. Mae wedi cyflawni rhai pethau o wir deilyngdod. Tra na ddylid cymryd hynny fel cymeradwyaeth o’r weinyddiaeth bresennol, dengys bod dull gweithredu gwahanol yn caniatáu inni ddelio â phroblemau penodol, megis penodi Comisiynydd Plant. Hoffwn ategu pwyntiau am strwythur y Cynulliad er mwyn iddo gael ei gofnodi fy mod yn eu cefnogi.
Family-friendly working has been a terrific advance. Dai Lloyd made some eloquent remarks about those in the macho world who would prefer to come out of that jungle. Some women have been brave enough to say that this is not an appropriate way of working. Somebody mentioned, in a discussion last week, that there should not be bars in Westminster because legislators should not be drunk in charge of legislation. Legislators should not be tired, worn out and not at their best. We expect people to be at their best in all walks of life between the hours of 9 and 5.30 p.m. Family-friendly working has been a great advance and has opened up the possibility of membership of this institution to many people, and to those aspiring to membership in the future. Severe working practices, which often apply in the political field and in many walks of life where people are at a senior level of employment, undoubtedly put off many people.
Bu gweithio teulu-gyfeillgar yn gynnydd ardderchog. Gwnaeth Dai Lloyd rai sylwadau huawdl am y rheini yn y byd macho y byddai’n well ganddynt ddod allan o’r jyngl hwnnw. Bu rhai menywod yn ddigon dewr i ddweud nad yw hon yn ffordd briodol o weithio. Crybwyllodd rhywun, mewn trafodaeth yr wythnos diwethaf, na ddylid cael bariau yn San Steffan gan na ddylai deddfwyr sydd yn gyfrifol am ddeddfwriaeth fod yn feddw. Ni ddylai deddfwyr ychwaith fod yn flinedig, wedi ymlâdd ac nid ar eu gorau. Disgwyliwn i bobl fod ar eu gorau ym mhob gyrfa rhwng 9 a 5.30 p.m. Bu gweithio teulu-gyfeillgar yn gynnydd mawr ac mae wedi agor y posibilrwydd i lawer o bobl, ac i’r rheini sydd yn dyheu am fod yn Aelodau i’r dyfodol, fod yn Aelodau o’r sefydliad hwn. Nid oes amheuaeth bod ymarferion gweithio llym, sydd yn aml yn wir yn y maes gwleidyddol ac mewn sawl gyrfa lle mae pobl ar lefelau cyflogaeth uwch, yn gwneud i bobl ailfeddwl.
Twenty-four women Members were elected out of 60. I have no doubt that the balance will be fifty-fifty before long, probably at the next election.
Etholwyd pedair menyw ar hugain yn Aelodau allan o 60. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y cydbwysedd yn hanner-hanner cyn hir, erbyn yr etholiad nesaf mae’n debyg.
Sixty-forty.
Chwe deg-pedwar deg.
It may swing the other way, as Rosemary Butler indicated. Wales is sending a powerful message by having a majority of women in its Cabinet. It is wrong for political parties to denigrate opponents and downplay genuine achievements. The Cabinet membership is a great achievement and I am sure that it has made news across Europe and probably the rest of the world. That is to be welcomed.
Gallai siglo i’r cyfeiriad arall, fel y dywedodd Rosemary Butler. Mae Cymru’n anfon neges gref drwy fod â mwyafrif o fenywod yn ei Gabinet. Nid yw’n iawn i bleidiau gwleidyddol bardduo gwrthwynebwyr a bychanu cyflawniadau gwirioneddol. Mae aelodaeth y Cabinet yn gyflawniad mawr ac yr wyf yn sicr iddo fod yn y newyddion ledled Ewrop ac, o bosibl, drwy weddill y byd. Rhaid croesawu hynny.
I want to speak about participation because we do not only want to talk about politics, although I will concentrate on that. Participation is a general thing, in the way that employment has made participation in all sorts of things such as magistrate work, council work and work in the voluntary sector possible. We want as many women as possible to get involved in these spheres of life. Political parties have a duty to encourage women to become Members, to aspire to senior positions and get elected. I know that some parties face similar problems to the Conservatives’. There are many women members in the party but they are reluctant to hold office and to stand for election. This is not only about the level of participation—it is about going further than that to encourage people to take the next step and go for elected office. I am proud that the Conservative Party produced the UK’s first woman Prime Minister.
Hoffwn siarad am gyfranogi gan nad ydym eisiau siarad am wleidyddiaeth yn unig, er y canolbwyntiaf ar hynny. Mae cyfranogiad yn beth cyffredinol, yn yr ystyr bod cyflogaeth wedi gwneud cyfranogiad ym mhob math o bethau megis gwaith ynadon, gwaith cyngor a gwaith yn y sector gwirfoddol yn bosibl. Hoffem i gymaint â phosibl o fenywod ymwneud â’r cylchoedd bywyd hyn. Mae gan bleidiau gwleidyddol ddyletswydd i annog menywod i fod yn Aelodau, i ddyheu am swyddi uwch a chael eu hethol. Gwn fod rhai pleidiau yn wynebu problemau tebyg i’r Ceidwadwyr. Ceir llawer o aelodau sydd yn fenywod ond maent yn amharod i ddal swyddi a sefyll am etholiad. Mae hyn yn ymwneud â mwy na lefel cyfranogiad—mae’n ymwneud â mynd ymhellach na hynny i annog pobl i gymryd y cam nesaf ac ymgeisio am swydd etholedig. Yr wyf yn falch mai’r Blaid Geidwadol a gynhyrchodd Prif Weinidog benywaidd cyntaf y DU.
I will not make any remarks beyond that. This is the real world and the stuff of politics—you will not agree with everything that a woman politician says. We have that feather in our cap at least. There are deficiencies, however. It has not gone unobserved that the Conservative group is the only all-male group. I will make a dramatic commitment this afternoon and assure you that the number of Conservative women Assembly Members after the next Assembly election will increase by at least infinity.
Ni ddywedaf fwy na hynny. Y byd go iawn a deunydd gwleidyddol yw hwn—ni fyddwch yn cytuno gyda phopeth y bydd menyw o wleidydd yn ei ddweud. Mae’r bluen honno yn ein het o leiaf. Ceir diffygion, fodd bynnag. Mae pobl wedi sylwi mai’r grŵp Ceidwadol yw’r unig grŵp cwbl wrywaidd. Yr wyf am wneud ymrwymiad dramatig y prynhawn hwn gan eich sicrhau y bydd nifer y menywod Ceidwadol a fydd yn Aelodau o’r Cynulliad, ar ôl etholiad nesaf y Cynulliad yn cynyddu o nifer di-rif o leiaf.
Finally, I want to put on record that there is one institution where Britain has led the world in many ways, that of our monarchy. Since the early modern period and the reigns of Mary and Elizabeth, it has allowed women to succeed to the throne. That is not unique but it is unusual. Perhaps the greatest sovereigns have been women. Queen Victoria, or presently Her Majesty the Queen, are wonderful examples of what women achieve when given the opportunity. That group of women have had all sorts of skills from the highest political skills to the skill of representing the monarchy in a constitutional mode. I have placed a statement of opinion calling on Parliament consider the laws of succession. At the moment the eldest child does not succeed to the throne—the eldest male child does. We should reform this so that the eldest child, whether male or female, succeeds to the throne. This would be in keeping with our wider traditions. We could also make this reform without embarrassing the royal family or removing the succession rights of a male, who is currently first in line, to the throne. It would not affect the current succession. When, or if, William or Harry have children, the situation will become complicated because if they have girls first and then sons, the sons would be entitled to succeed before the girls. It would be difficult to reverse that situation without causing anxiety to the individuals involved. We could make that reform now. I urge you to sign my statement of opinion. I shall e-mail it this afternoon, so if you want to sign it, you will have the opportunity.
Yn olaf, hoffwn gofnodi bod un sefydliad lle mae Prydain wedi arwain y byd mewn sawl ffordd, sef ein brenhiniaeth. Ers y cyfnod modern cynnar a theyrnasiadau Mary ac Elisabeth, mae wedi caniatáu i fenywod esgyn i’r orsedd. Nid yw hynny’n unigryw ond mae’n anghyffredin. Efallai mai menywod oedd y teyrnaswyr gorau. Mae’r Frenhines Fictoria, neu Ei Mawrhydi’r Frenhines bresennol, yn enghreifftiau ardderchog o’r hyn y mae menywod yn ei gyflawni o gael y cyfle. Bu gan y grŵp hwnnw o fenywod bob math o sgiliau o’r sgiliau gwleidyddol gorau i’r sgil o gynrychioli’r frenhiniaeth mewn modd cyfansoddiadol. Yr wyf wedi gosod datganiad barn yn galw ar y Senedd i ystyried y gyfraith olynu. Ar hyn o bryd, nid y plentyn hynaf sydd yn esgyn i’r orsedd—ond yn hytrach y mab hynaf. Dylem ddiwygio hyn fel bod y plentyn hynaf, boed yn fab neu’n ferch, yn esgyn i’r orsedd. Byddai hyn yn cyd-fynd â’n traddodiadau ehangach. Gallem hefyd wneud y diwygiad hwn heb greu embaras i’r teulu brenhinol a heb gael gwared â hawliau olynu dyn, sydd yn nesaf i esgyn i’r orsedd ar hyn o bryd. Ni fyddai’n effeithio ar yr olyniaeth gyfredol. Unwaith y bydd, neu os bydd, William neu Harry yn cael plant, bydd y sefyllfa yn mynd yn gymhleth oherwydd os cânt ferched i ddechrau, ac yna meibion, byddai gan y meibion hawl i olynu o flaen y merched. Byddai’n anodd gwyrdroi’r sefyllfa honno heb achosi pryder i’r unigolion dan sylw. Gallem wneud y diwygiad hwnnw yn awr. Fe’ch anogaf i lofnodi fy natganiad barn. Byddaf yn ei e-bostio y prynhawn hwn, felly os ydych eisiau ei lofnodi, cewch gyfle i wneud hynny.
I will make a few remarks about employment. The world of work has mostly opened up to women although there are still significant difficulties and challenges, which have been mentioned. The glass ceiling is an obvious one. Jenny made some pertinent remarks by referring to relevant figures. The proportion of women obtaining senior posts is clearly below the 50 per cent that one would expect from the makeup of the general population.
Hoffwn wneud rai sylwadau am gyflogaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r byd gwaith bellach yn agored i fenywod er y ceir anawsterau a heriau sylweddol o hyd, a chrybwyllwyd y rhain eisoes. Mae’r nenfwd gwydr yn un amlwg. Gwnaeth Jenny rai sylwadau cymwys drwy gyfeirio at ffigurau perthnasol. Mae cyfran y menywod sydd yn cael swyddi uwch yn amlwg yn is na’r 50 y cant y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o gyfansoddiad y boblogaeth gyffredinol.
There are other factors, such as equal pay for like work—not always the same job, but similar jobs that receive very different rates of pay, such as gardeners and cleaners, and jobs done traditionally by men or women. They are often treated differently, yet are in a similar grade of employment. We should all sign up to the Equal Opportunities Commission’s campaign for equal pay. I am delighted that the campaign’s symbol is the pound sterling. Many of you will have noticed that several of my colleagues in the Conservative Party are wearing a pound sterling lapel badge to show their support for equal pay—other parties will no doubt follow suit.
Ceir ffactorau eraill, megis cyflogau cyfartal am yr un gwaith—nid bob amser yr un swydd, ond swyddi tebyg sydd yn talu cyflogau gwahanol iawn, megis garddwyr a glanhawyr, a swyddi a wnaethpwyd yn draddodiadol gan ddynion neu fenywod. Cânt eu trin yn wahanol yn aml, er eu bod mewn gradd cyflogaeth debyg. Dylem oll ymuno ag ymgyrch y Comisiwn Cyfle Cyfartal dros gyflogau cyfartal. Yr wyf wrth fy modd mai symbol yr ymgyrch yw’r bunt sterling. Mae’n siŵr bod llawer ohonoch wedi sylwi bod llawer o’m cydweithwyr yn y Blaid Geidwadol yn gwisgo bathodyn llabed o’r bunt sterling i ddangos eu cefnogaeth i gyflogau cyfartal—bydd pleidiau eraill, yn sicr, yn gwneud yr un peth.
On the national agenda for action, I remember the significant Beijing conference. I worked at the time for UNICEF and for the United Nations’ Association in Wales. I am delighted at the way that its programme is being updated to include some practical targets. I look forward to that document coming back to us in September and providing us with benchmarks to measure our progress on these issues.
Ynghylch yr agenda genedlaethol ar gyfer gweithredu, yr wyf yn cofio’r gynhadledd bwysig yn Beijing. Ar y pryd, gweithiwn i UNICEF ac i Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru. Yr wyf yn falch iawn o’r ffordd y caiff y rhaglen ei diweddaru i gynnwys rhai targedau ymarferol. Edrychaf ymlaen i’r ddogfen hon ddod yn ôl atom ym mis Medi a rhoi inni feincnodau er mwyn mesur ein cynnydd gyda’r materion hyn.
Reference has already been made to the position of carers in society. About two-thirds of carers are women. One thing that the Assembly has achieved is the carers strategy , which has had cross-party support. It represents the beginning of our relationship with carers and the support that we can offer them. We must remember the role of these important people, who provide so much care in the community.
Cyfeiriwyd eisoes at sefyllfa gofalwyr mewn cymdeithas. Menywod yw oddeutu dwy ran o dair o’r gofalwyr. Un peth a gyflawnwyd gan y Cynulliad yw strategaeth y gofalwyr, a gafodd gefnogaeth draws-bleidiol. Mae’n cynrychioli dechrau ein perthynas gyda gofalwyr a’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig iddynt. Rhaid inni gofio rôl y bobl bwysig hyn, sydd yn rhoi cymaint o ofal yn y gymuned.
I support Jenny’s remarks on equal opportunities policies. The Committee on Equality of Opportunity has started to consider Assembly sponsored public bodies. It is appropriate that we invite these bodies to come and talk about their equal opportunities policies and that we take evidence from them. That would send a powerful signal to those that are not up to scratch to see these bodies giving an account of their equal opportunities policies. It would raise standards and allow us to correct negligent situations. It is something practical for the Committee to do.
Cefnogaf sylwadau Jenny am bolisïau cyfle cyfartal. Mae’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal wedi dechrau ystyried y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Mae’n briodol ein bod yn gwahodd y cyrff hyn i ddod i siarad am eu polisïau cyfle cyfartal a’n bod yn cymryd tystiolaeth ganddynt. Byddai hynny’n anfon arwydd pwerus i’r rheini sydd yn brin o’r nod, sef gweld y cyrff hyn yn rhoi cyfrif am eu polisïau cyfle cyfartal. Byddai’n codi safonau ac yn caniatáu inni gywiro sefyllfaoedd esgeulus. Mae’n rhywbeth ymarferol i’r Pwyllgor ei wneud.
From my past involvement in the United Nations, I am delighted that this issue is so closely connected to the international community, to the work of the United Nations and, before that, the League of Nations. Since the early 1900s, before the First World War, visionaries have been involved in these issues, and it is appropriate for us to celebrate International Women’s Day. It is a spur to ensure that appropriate action is taken, not just here but around the world. Anyone who has travelled, as I have, to developing countries, knows the crucial role played by women in the community in ensuring basic health and education for the population. It is usually macho governments who squander money on arms, whereas the women involved get their priorities right.
Oherwydd fy ngwaith gyda’r Cenhedloedd Unedig yn y gorffennol, yr wyf yn falch iawn bod y mater hwn wedi’i gysylltu mor agos gyda’r gymuned ryngwladol, gyda gwaith y Cenhedloedd Unedig a, chyn hynny, gyda Chynghrair y Cenhedloedd. Ers dechrau’r 1900au, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae gweledyddion wedi bod yn ymwneud â’r materion hyn, ac mae’n briodol inni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’n sbardun i sicrhau y cymerir y camau priodol, nid yma yn unig, ond ym mhob cwr o’r byd. Bydd unrhyw un sydd, fel minnau, wedi teithio i wledydd datblygol, yn gwybod y rôl hanfodol y mae menywod yn ei chwarae yn y gymuned i sicrhau iechyd ac addysg sylfaenol i’r boblogaeth. Llywodraethau macho sydd, fel arfer, yn gwastraffu arian ar arfau, tra bod y menywod cysylltiedig yn pennu eu blaenoriaethau’n iawn.
It has been a great benefit—if I may finish on a chauvinist note—that men have been humanised in many ways. The male outlook at the turn of the century was so different from what it is now. That has been part of our liberation. I do not mean to make a glib comment because the oppression suffered by women is far greater than anything suffered by men living in a macho culture. We are progressing, and it will be a happier relationship for us all when women take their rightful place in society.
Bu’n fantais fawr—os caf ddiweddu ar nodyn siofinaidd—bod dynion wedi cael eu dynoli mewn sawl ffordd. Yr oedd safbwynt dynion ar droad y ganrif mor wahanol i’r hyn ydyw yn awr. Bu hynny’n rhan o’n rhyddhad. Nid sylw slic sydd gennyf oherwydd mae’r gorthrwm y mae menywod wedi’i ddioddef yn llawer gwaeth nag unrhyw beth y mae dynion sydd yn byw mewn diwylliant macho wedi’i ddioddef. Yr ydym yn symud ymlaen, a bydd y berthynas yn hapusach inni oll pan gymer menywod eu gwir le mewn cymdeithas.
I am pleased that we have decided to debate this issue in recognition of International Women’s Day—an event that continues to raise the profile of women in this country and marks the significance of women in society.
Yr wyf yn falch ein bod wedi penderfynu dadlau’r mater hwn i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—digwyddiad sydd yn dal i godi proffil menywod yn y wlad hon ac sydd yn nodi arwyddocâd menywod mewn cymdeithas.
As can be seen in the Assembly, we can be justifiably proud of the advances that we have made in women’s representation. The political scene in Wales has changed significantly since devolution, with a far greater representation of women than ever before. There has been something of a revolution in Welsh politics and I am confident that political life in Wales will never be the same again. The motion mentions the pleasure of the Assembly in its position as a leader among democratic political institutions in Europe for the representation of women. We know that only Sweden has a higher proportion of women in its Government.
Fel y gellir gweld yn y Cynulliad, gallwn fod yn haeddiannol falch o’r cynnydd a wnaethom i gynrychioli menywod. Mae’r byd gwleidyddol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol ers datganoli, gyda llawer mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli nag erioed o’r blaen. Gwelwyd rhyw fath o chwyldro yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yr wyf yn hyderus na fydd y bywyd gwleidyddol yng Nghymru fyth yr un fath eto. Mae’r cynnig yn crybwyll pleser y Cynulliad yn ei sefyllfa fel arweinydd ymhlith sefydliadau gwleidyddol democrataidd Ewrop am gynrychioli menywod. Gwyddom mai Sweden yn unig sydd â chyfradd fwy o fenywod yn ei Llywodraeth.
Much of this was the result of the Labour Party’s bold, brave and radical mechanism of twinning. It was controversial at the time but it managed to break the mould of the old-style politics that we have had in Wales for many years. This is a cause for celebration, as is the fact that the majority of the Cabinet Secretaries in the Assembly are women. This is all well and good, but I emphasise—and others have also made this point—that we must not get too complacent. As far as women in society are concerned, there is much more to be done.
Digwyddodd llawer o hyn yn sgîl peirianwaith gefeillio beiddgar, dewr a radical y Blaid Lafur. Yr oedd yn ddadleuol ar y pryd ond llwyddodd i dorri mowld y wleidyddiaeth hen ffasiwn a fu gennym yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Mae hwn yn achos dathlu, fel y mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o Ysgrifenyddion Cabinet y Cynulliad yn fenywod. Mae hyn oll yn burion, ond pwysleisiaf—ac mae eraill wedi gwneud y pwynt hwn hefyd—bod yn rhaid inni beidio â mynd yn rhy hunanfodlon, mae llawer mwy i’w wneud.
We have some way to go in Wales before we can see the advances that women deserve and that society requires. Many women have reached professional levels in their fields, which have previously been male domains. They include my colleague in the Assembly, Alison Halford, as well as the former director general of MI5 and even a woman Prime Minister, though I shall reserve judgement on the benefits of that person here in Wales. However, we have many challenges ahead in Wales and in the United Kingdom as a whole. For example, as we heard yesterday during questions to the First Secretary, we have some way to go in terms of the advancement of women in the workplace and in the economy of Wales.
Mae gennym gryn ffordd i fynd yng Nghymru cyn y gallwn weld y cynnydd y mae menywod yn ei haeddu ac y mae’r gymdeithas yn ei fynnu. Mae llawer o fenywod wedi cyrraedd lefelau proffesiynol yn eu meysydd, a fu’n diriogaethau gwrywaidd cyn hyn. Yn eu plith y mae fy nghydweithiwr yn y Cynulliad, Alison Halford, yn ogystal â chyn-gyfarwyddwr cyffredinol MI5 a hyd yn oed menyw yn Brif Weinidog, er y cadwaf fy marn am y manteision a gafodd Cymru gan y person hwnnw. Fodd bynnag, mae sawl her o’n blaenau yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Er enghraifft, fel y clywsom ddoe yn ystod y cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd, mae gennym gryn ffordd i fynd o ran hyrwyddo menywod yn y gweithle ac yn economi Cymru.
Some women Assembly Members may feel that the inequalities in being a woman have passed us by to a great extent. We are all earning good money and, hopefully, fulfilling our potential. With the advantage of family-friendly working practices, we can do that at home and at work and contribute to society in Wales. However, that is not the picture for the majority of women in Wales.
Efallai fod rhai menywod sydd yn Aelodau Cynulliad yn teimlo bod yr anghydraddoldebau o fod yn fenyw wedi mynd heibio inni i gryn raddau. Yr ydym oll yn ennill cyflogau da a, gobeithio, yn cyflawni ein potensial. Gyda mantais yr ymarferion gweithio teulu-gyfeillgar, gallwn wneud hynny gartref ac yn y gwaith a chyfrannu at gymdeithas yng Nghymru. Fodd bynnag, nid dyna’r darlun i fwyafrif y menywod yng Nghymru.
There are still many problems for women. The pay gap is still too wide. At present, women employees working full time earn, on average, only 84 per cent of the average hourly earnings of men. In addition, in the adult population in Wales, women’s individual income is, on average, only 58 per cent of men’s. The glass ceiling still exists. Women are noticeably absent from many top jobs in Wales. Women tend to predominate in lower skilled jobs, low- paid and part-time work, often for ‘pin-money.’ Men are still viewed as the main breadwinners, which is often not the case. Women—and Jenny Randerson has made this point—do well educationally but this does not always translate into better job opportunities.
Mae llawer o broblemau yn wynebu menywod o hyd. Mae’r bwlch cyflog yn dal yn llawer rhy eang. Ar hyn o bryd, mae gweithwragedd sydd yn gweithio amser llawn yn ennill, ar gyfartaledd, 84 y cant yn unig o enillion cyfartalog dynion yr awr. Hefyd, ymysg poblogaeth oedolion Cymru, 58 y cant yn unig o incwm dyn yw incwm personol menywod, ar gyfartaledd. Mae’r nenfwd gwydr yn dal i fodoli. Mae menywod yn dal yn amlwg absennol o lawer o’r swyddi uchaf yng Nghymru. Tuedda merched i fod yn ben ar swyddi sgiliau is, cyflogau is a gwaith rhan-amser, yn aml am ‘arian-poced’. Credir o hyd mai dynion yw’r prif enillwyr cyflog, ond nid yw hynny’n wir yn aml. Mae menywod—a gwnaeth Jenny Randerson y pwynt hwn—yn gwneud yn dda yn addysgiadol ond nid yw hyn bob amser yn trosi yn well cyfleoedd gwaith.
We must address the issue of women’s invisibility in many aspects of life. We have a battle to break down the gender bias in the wider areas of life in Wales today. We have an almost empty press gallery, so it is fitting that I should mention a few examples. In current affairs programmes on television, women become unimportant. They are spoken about instead of being the speakers. For every woman who speaks on a news programme, there are four men. Even more amazing was the media coverage of the 1997 General Election. That election returned 120 women MPs. However, for every female politician heard on the television news, we heard from 19 men. If their contribution was of the standard that we heard yesterday from a Conservative Member, then it would have been all the worse. Male secondary head teachers outnumber female head teachers. However, there are more female teachers in Wales. If you enter a police station, you are six times more likely to encounter a male rather than a female police officer. If you come into contact with the law, you are three times more likely to be represented by a male barrister than a woman barrister. If you go to hospital your consultant is four times more likely to be a man than a woman. I welcomed Dai Lloyd’s comments.
Rhaid inni ddelio ag anweledigrwydd menywod mewn sawl agwedd ar fywyd. Mae gennym frwydr i oresgyn y rhagfarn rhyw ym meysydd ehangach bywyd yng Nghymru heddiw. Mae oriel y wasg bron yn wag, felly da o beth fyddai crybwyll rhai enghreifftiau. Mewn rhaglenni materion cyfoes ar y teledu, mae menywod yn mynd yn ddibwys. Siaredir amdanynt yn hytrach na’u bod hwy yn siaradwyr. Am bob menyw sydd yn siarad ar raglen newyddion, ceir pedwar dyn. Yr oedd sylw’r wasg i Etholiad Cyffredinol 1997 yn fwy anhygoel hyd yn oed. Dyma etholiad lle etholwyd 120 o fenywod yn ASau. Fodd bynnag, am bob menyw o wleidydd a glywsom ar y teledu, clywsom 19 dyn. Os oedd eu cyfraniad o’r un safon â’r hyn a glywsom ddoe gan Aelod Ceidwadol, byddai hynny wedi bod yn waeth fyth. Mae penaethiaid ysgolion uwchradd gwrywaidd yn fwy niferus na phenaethiaid benywaidd. Ceir, fodd bynnag, fwy o athrawon benywaidd yng Nghymru. Os ewch i mewn i orsaf yr heddlu, yr ydych chwe gwaith yn fwy tebygol o siarad gyda phlismon gwrywaidd na benyw. Os dewch i gysylltiad â’r gyfraith, yr ydych dair gwaith yn fwy tebygol o gael eich cynrychioli gan ddyn o fargyfreithiwr na menyw. Os ewch i’r ysbyty mae eich ymgynghorydd bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddyn nag yn fenyw. Croesawaf sylwadau Dai Lloyd.
The old boy network still exists, very much so in Wales. Several years ago, in our medical schools, if you wanted promotion and wanted to join the surgical team, you had to play rugby. I hope that that is changing.
Mae’r rhwydwaith hen-ddisgyblion yn dal i fodoli, ac yn amlwg iawn felly yng Nghymru. Nifer o flynyddoedd yn ôl, yn ein hysgolion meddygol, os oeddech eisiau dyrchafiad ac eisiau ymuno â’r tîm llawfeddygol, yr oedd yn rhaid i chi chwarae rygbi. Gobeithio bod hynny’n newid.
Women’s voices are not heard in the places that shape attitudes and culture. Despite the laudable enshrining of the Assembly’s commitment to equality of opportunity, we still have much to do. The aims of International Women’s Day will help us to raise women’s profile. This is not about a continuing war between the sexes, although it is sometimes seen as such and matters can seem polarised. Men must share in this change—and I welcomed some of David’s comments on that—but it is vital for women, who constitute over 50 per cent of the population.
Ni chlywir lleisiau menywod yn y lleoedd sydd yn siapio agweddau a diwylliant. Er y symudiad clodfawr i ddiogelu ymrwymiad y Cynulliad i gyfle cyfartal, mae gennym lawer i’w wneud o hyd. Bydd nodau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein helpu i godi proffil menywod. Nid yw hyn yn golygu rhyfel parhaus rhwng y rhywiau, er y’i gwelir felly weithiau a gall materion ymddangos wedi’u pegynu. Rhaid i ddynion rannu yn y newid hwn—a chroesawais rai o sylwadau David ar hyn—ond mae hi’n holl bwysig i fenywod wneud, gan eu bod yn cyfrif am dros 50 y cant o’r boblogaeth.
Inequality is not easy for women. It may delay their promotions, destroy their working lives and keep them dependent on low wages. We must address these issues head on and continue to understand that, despite the progress that we have made, we still have some way to go in Wales. Women must reach their potential; the future of Wales needs their talents. We want women to continue to take their place in Welsh society, to continue to play a part in the corridors of power in Wales and the United Kingdom, to earn decent and comparable wages and to bring up their children with dignity.
Nid yw anghydraddoldeb yn hawdd i fenywod. Gallai arafu eu dyrchafiadau, dinistrio eu bywyd gwaith a’u cadw’n ddibynnol ar gyflogau isel. Rhaid inni ddelio â’r materion hyn yn uniongyrchol a dal i ddeall, er gwaethaf y cynnydd a wnaethom, fod gennym gryn ffordd i fynd eto yng Nghymru. Rhaid i fenywod gyrraedd eu potensial; mae ar ddyfodol Cymru angen eu doniau. Yr ydym am i fenywod ddal i gymryd eu lle yng nghymdeithas Cymru, dal i chwarae rhan yng nghoridorau grym Cymru a’r Deyrnas Unedig, ennill cyflogau teg a chyfartal a magu eu plant gydag urddas.
Finally, although women have come a long way, we still have a goal on the horizon: nothing more and nothing less than equality. We must not rest until that is achieved.
Yn olaf, er bod menywod wedi dod ymhell, mae gennym nod ar y gorwel o hyd: dim byd mwy a dim byd llai na chydraddoldeb. Rhaid inni beidio â gorffwys nes cyflawni hynny.
I am honoured to be one of the first 24 women to represent Wales in the Assembly and to speak in this debate. However, the fact that we must have this debate and International Women’s Day is an indictment of the history of this country, and perhaps the world, where men have dominated.
Anrhydedd o’r mwyaf gennyf yw bod yn un o’r 24 menyw gyntaf i gynrychioli Cymru yn y Cynulliad a siarad yn y ddadl hon. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod yn rhaid inni gael y ddadl hon a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyhuddiad o hanes y wlad hon, ac efallai’r byd, lle bu dynion yn tra-arglwyddiaethu.
We are lucky that 40 per cent of Assembly Members are women. However, only 10 per cent of Welsh representatives in the Houses of Parliament are women. That situation must be addressed, or readdressed. Throughout Britain, only 27 per cent of representatives at local council level are women. I am ashamed to say that on Ynys Môn, the female representation figure is as low as 5 per cent. We have a long way to go.
Yr ydym yn lwcus bod 40 y cant o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod. Fodd bynnag, 10 y cant yn unig o gynrychiolwyr Cymru yn y Senedd sydd yn fenywod. Rhaid delio, neu ailddelio â’r sefyllfa hon. Drwy Brydain, 27 y cant yn unig o’r cynrychiolwyr ar lefel cynghorau lleol sydd yn fenywod. Mae gennyf gywilydd dweud bod cynrychiolaeth y menywod yn ffigur mor isel â 5 y cant ar Ynys Môn. Mae gennym gryn ffordd i fynd.
The under-representation of women in politics is partly a product of the first-past-the-post system. I suppose that, as a Liberal Democrat, I would say that. That system encourages local parties to go for safe white male candidates. The system works against women and ethnic minorities. That is one of the reasons why the Liberal Democrats support voting reform.
Mae tan-gynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth yn digwydd oherwydd y system y cyntaf i’r felin. Mae’n debyg, fel aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, y buaswn yn dweud hynny. Mae’r system yn annog pleidiau lleol i ddewis dynion gwyn fel ymgeiswyr diogel. Mae’r system yn gweithio yn erbyn menywod a lleiafrifoedd ethnig. Dyna un o’r rhesymau pam bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi diwygio’r drefn bleidleisio.
As we have seen in Wales, an element of proportionality in the voting system leads to improved gender balance. The twinning system applied by the Labour Party has also helped to redress the balance. However, I am lucky to be a member of a party that did not need a twinning system. I was regarded as a person, and not as a woman. It would be marvellous if other parties adopted the practice of considering their candidates as people, rather than as women or men. Perhaps the Conservatives could learn that lesson.
Fel y gwelsom yng Nghymru, mae elfen o gyfranoldeb yn y system bleidleisio yn arwain at well cydbwysedd rhwng y rhywiau. Mae’r system gefeillio a ddefnyddiodd y Blaid Lafur hefyd wedi helpu i unioni’r cydbwysedd. Fodd bynnag, yr wyf fi’n lwcus o fod yn aelod o blaid nad oedd angen system gefeillio. Cefais fy ystyried yn berson, yn hytrach nag yn fenyw. Byddai’n ardderchog pe byddai pleidiau eraill yn mabwysiadu’r ymarfer o ystyried eu hymgeiswyr yn bobl, yn hytrach nac yn fenywod neu’n ddynion. Efallai y gallai’r Ceidwadwyr ddysgu’r wers honno.
One of the Assembly’s advantages is that we usually work normal working hours between 9 a.m. and 5.30 p.m., although we do extra work at home. We have rejected the blokey culture of the House of Commons. The House of Commons measures an MP’s staying power in terms of his ability to stay awake in the bar long enough to vote in the wee hours of the morning. Edwina and I have mentioned what I call ‘the being there’ culture and the long hours that some people are expected to work. The present culture of senior management supports what David Lloyd called the macho norm of long working hours. These are not only damaging to women as entrants into senior management, they have a horrendous effect on the family life of male managers. Research by the Equal Opportunities Commission last year showed that chief executives in Wales regularly work 10 to 12 hours a day and expect others to do so. We may argue that on some days we work 10 to 12 hours, but we do not have to be here physically to do so.
Un o fanteision y Cynulliad yw ein bod fel arfer yn gweithio oriau gwaith arferol rhwng 9 a.m. a 5.30 p.m., er ein bod yn gwneud gwaith ychwanegol gartref. Yr ydym wedi ymwrthod â diwylliant bachgennaidd Tŷ’r Cyffredin. Mesura Tŷ’r Cyffredin ddyfalbarhad ASau ar sail eu gallu i aros yn effro yn y bar yn ddigon hir i bleidleisio yn ystod oriau man y bore. Mae Edwina a minnau wedi crybwyll y diwylliant ‘bod yno’ a’r oriau maith y disgwylir i rai pobl eu gweithio. Mae’r diwylliant presennol o uwch reolwyr yn cefnogi’r hyn a alwodd David Lloyd yn norm macho yr oriau gweithio maith. Mae’r rhain, nid yn unig yn niweidiol i fenywod sydd yn camu i lefel uwch reolwyr, cânt effaith ddychrynllyd ar fywyd teuluol dynion sydd yn rheolwyr. Dangosodd ymchwil gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal y llynedd fod prif weithredwyr yng Nghymru yn gweithio rhwng 10 a 12 awr y dydd yn rheolaidd a’u bod yn disgwyl i eraill wneud yr un fath. Gallem ddadlau ein bod ninnau, ambell ddiwrnod, yn gweithio rhwng 10 a 12 awr, ond nid oes yn rhaid inni fod yma’n gorfforol i wneud hynny.
There needs to be either an examination of the possibilities of job sharing and part-time working for senior jobs or a complete re-examination of our culture. The glass ceiling does not exist only in the private sector. Research has been published today, 8 March, International Women’s Day, by Labour Research magazine, showing that although women now account for up to two-fifths of union members, there are no female general secretaries of unions with over 7,500 members.
Mae’n rhaid cael un ai archwiliad i’r posibilrwydd o rannu swyddi a gwaith rhan-amser ar gyfer uwch swyddi neu ail-archwiliad llwyr o’n diwylliant. Nid yw’r nenfwd gwydr yn bodoli yn y sector preifat. Cyhoeddwyd gwaith ymchwil heddiw, 8 Mawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan gylchgrawn Labour Research, a dengys er mai menywod yw hyd at ddwy ran o bump o’r aelodau undeb, nid oes yr un menyw yn ysgrifenydd cyffredinol ar undeb sydd â thros 7,500 o aelodau.
David Melding said that two-thirds of carers in Wales are women. A survey by Crossroads Wales found that 69 per cent of carers contacting them were women. As an Assembly we should press the Government to look again at the way it treats carers. We have a carers strategy but the Government still needs to do a lot of work. We owe a great debt to our carers. Many give up good jobs to become carers of elderly parents. Once the people they are caring for die, those people have to fight to get back into the workplace. We need to make the return to the workplace far easier. I will not be sexist—this is true for male as well as female carers. I urge the Government on International Women’s Day to treat our carers with the respect that they deserve.
Dywedodd David Melding mai menywod yw dwy ran o dair o’r gofalwyr yng Nghymru. Canfu arolwg gan Crossroads Cymru mai menywod oedd 69 y cant o’r gofalwyr a gysylltai â hwy. Fel Cynulliad dylem bwyso ar y Llywodraeth i ail-edrych ar y ffordd y mae’n trin gofalwyr. Mae gennym strategaeth i ofalwyr ond rhaid i’r llywodraeth wneud llawer iawn o waith o hyd. Mae gennym ddyled fawr i’n gofalwyr. Mae llawer yn rhoi’r gorau i swyddi da i ofalu am rieni oedrannus. Unwaith y bydd y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn marw, rhaid i’r bobl hyn ymladd i ddod yn ôl i’r gweithle. Rhaid inni ei gwneud hi’n haws i bobl ddychwelyd i’r gweithle. Ni fynnaf fod yn rhywiaethol—mae hyn yn wir am ddynion yn ogystal â menywod sydd yn ofalwyr. Anogaf y llywodraeth, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, i drin ein gofalwyr gyda’r parch yr haeddant.
I welcome the opportunity to contribute to this debate on International Women’s Day. I wish to focus my comments on the role of women in Welsh politics, in the hope and belief that their role will increase in the years ahead. That will not be before time. In the first meeting of the Committee on Equality of Opportunity, it was noted that the progressive gender ratios in this Assembly offered no grounds for complacency. You might think that that is an obvious point when those gender ratios are hardly reflected in other spheres of Welsh public life. However, it is not obvious. I made the point in that meeting that the gender makeup of this Assembly was, without question, largely a consequence of the Welsh Labour Party’s twinning policy.
Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar rôl menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru, yn y gobaith a’r gred y bydd eu rôl yn cynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Hen bryd hefyd. Yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, nodwyd nad oedd y cymarebau rhyw cynyddol yn rhoi unrhyw sail inni fod yn hunanfodlon. Efallai y credwch fod hwnnw’n bwynt amlwg pan na phrin adlewyrchir y cymarebau rhyw yng nghylchoedd eraill bywyd cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, nid yw’n amlwg. Gwneuthum y pwynt yn y cyfarfod hwnnw bod gwneuthuriad rhyw y Cynulliad hwn, heb os, wedi digwydd i raddau helaeth yn sgîl polisi gefeillio’r Blaid Lafur yng Nghymru.
I have kept quiet although several of your colleagues have said that. It needs to be stated for the record today that Plaid Cymru—The Party of Wales also took positive action measures. We did not twin but we put women at the top of all our regional lists. I accept Christine Humphreys’s point that it would be nice if we had not had to do so, but our contribution to the presence of women in this Chamber also needs to be recorded.
Yr wyf wedi cadw’n dawel er bod llawer o’ch cydweithwyr wedi dweud hyn. Rhaid nodi ar gyfer y cofnod heddiw bod Plaid Cymru hefyd wedi cymryd camau cadarnhaol. Ni wnaethom efeillio ond rhoesom fenywod ar frig ein holl restrau rhanbarthol. Derbyniaf bwynt Christine Humphreys y byddai’n braf pe na byddai’n rhaid bod wedi gwneud hyn, ond rhaid cofnodi hefyd ein cyfraniad ni i bresenoldeb menywod yn y Siambr hon.
I welcome any positive measure by Plaid Cymru—The Party of Wales. I will not go into ‘me-too’ism. Believe it or not, I am not making a party political point. However, only the Labour Party ensured that there was an equal number of male and female candidates for the Assembly elections. I need hardly say that the twinning policy proved controversial. Christine Chapman has already said that. It caused not a little dissension within Welsh Labour Party ranks. It would be idle to pretend otherwise. It was roundly condemned by all the other political parties and by our progressive and, it would appear, invisible media. I recall a particularly trenchant criticism in that beacon of Welsh enlightenment, The Western Mail, or The Western Femail as it is today on International Women’s Day.
Yr wyf yn croesawu unrhyw gam cadarnhaol gan Blaid Cymru. Nid wyf am ddechrau tueddiad ‘a-minnau-hefyd’. Credwch neu beidio, nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol-wleidyddol. Fodd bynnag, y Blaid Lafur oedd yr unig un i sicrhau bod cynifer o ymgeiswyr benywaidd a gwrywaidd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Prin bod yn rhaid imi ddweud fod y polisi gefeillio yn gam dadleuol. Dywedodd Christine Chapman hynny eisoes. Achosodd gryn dipyn o anghytgord ymhlith rhengoedd y Blaid Lafur. Ofer fyddai honni’n wahanol. Fe’i beirniadwyd gan yr holl bleidiau gwleidyddol eraill a chan ein pleidwyr ac, yr ymddengys, gan gyfryngau anweledig. Yr wyf yn cofio beirniadaeth hynod finiog yn y papur goleuedig arweiniol Cymraeg, The Western Mail, neu The Western Femail fel y’i gelwir heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
We had to confront allegations of unfairness and inequity which an independent observer, if such a being exists, might have considered bizarre given the hitherto grotesque under-representation of women in Welsh politics. Over 50 per cent of the population are women. Only 10 per cent of Welsh MPs are women—four female Welsh Members of Parliament out of 40. It is incredible and shocking that an all-time total of only seven women have represented Welsh Parliamentary seats at Westminster. We have 22 unitary local authorities in Wales, only two of which are led by women. That is two more than there were this time last year.
Bu’n rhaid inni wynebu cyhuddiadau o annhegwch ac anghyfiawnder, efallai y byddai arsyllydd annibynnol, os yw’r fath berson yn bod, yn credu bod hyn yn rhyfedd o gofio’r modd grotésg y mae menywod wedi cael eu tan-gynrychioli yng ngwleidyddiaeth Cymru hyd yma. Mae dros 50 y cant o’r boblogaeth yn fenywod. Dim ond 10 y cant yn unig o ASau Cymru sydd yn fenywod—pedair o fenywod sydd yn Aelodau Seneddol Cymreig allan o 40. Mae’n anhygoel ac yn warthus mai cyfanswm uchaf erioed o saith menyw sydd wedi cynrychioli seddau Seneddol Cymreig yn San Steffan. Mae gennym 22 o awdurdodau lleol unedol yng Nghymru, a dim ond dau o’r rheini sydd dan arweinyddiaeth menywod—sef dwy yn fwy nag a gafwyd yr adeg hon y llynedd.
The twinning mechanism was not easy and was far from perfect. It caused a lot of heartache and it took guts and steadfast application of principle to see it through. There are aspects of my own party’s internal arrangements in the last year or so of which I am less than proud, but the firm resolve shown on twinning is a source of great pride. There are many women Members in this Chamber. I admit that there is a woman-free zone to my right. I can almost say that it is also a Tory-free zone at the moment except for David Melding. I am not sure that I count David because I find myself agreeing with him so much he cannot possibly be a Tory. His colleagues must think that they are in the Cardiff and County Club.
Nid peth hawdd oedd y peirianwaith gefeillio ac yr oedd yn bell o fod yn berffaith. Achosodd lawer o dorcalon ac yr oedd yn gofyn am ddewrder ac ymroddiad egwyddorol cadarn i fwrw’r maen i’r wal. Ceir rhai agweddau ar drefniadau mewnol fy mhlaid fy hun yn ystod y flwyddyn diwethaf nad wyf yn falch ohonynt, ond mae’r penderfyniad cadarn a ddangoswyd ynghylch gefeillio yn ffynhonnell falchder bendant. Ceir llawer o Aelodau benywaidd yn y Siambr hon. Cyfaddefaf y ceir safle dim menywod ar fy llaw dde. Bron na allaf ddweud ei fod yn safle dim Tori hefyd ar hyn o bryd, heblaw am David Melding. Nid wyf yn sicr a wyf yn cyfrif David gan fy mod yn cytuno cymaint ag ef fel na all ef erioed fod yn Dori. Yr wyf yn sicr bod ei gydweithwyr yn meddwl eu bod yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.
Of the 28 Labour Assembly Members, 15 are women. That compares with only four out of 34 Welsh Labour MPs. A majority of Labour AMs are women. I am under no illusion that, without twinning, Westminster’s gender imbalance would have been replicated here. The majority of the Assembly Cabinet is female. If someone had predicted that a few years ago they would have been locked up and the key would have been thrown away. It would have been inconceivable. Why should it be so remarkable? The majority of the population is female. That achievement is extraordinary by international comparisons and it is unprecedented in Welsh and British politics. It would never have happened without twinning.
Mae pymtheg o’r 28 Aelod Cynulliad Llafur yn fenywod. Mae hyn yn cymharu gyda dim ond pedair allan o 34 ASau Llafur. Mae’r rhan fwyaf o ACau Llafur yn fenywod. Nid wyf yn fy nhwyllo fy hun y byddai anghydbwysedd rhyw San Steffan wedi cael ei ailadrodd yma heb y system gefeillio. Mae’r rhan fwyaf o Gabinet y Cynulliad yn fenywod. Pe byddai rhywun wedi rhagweld hyn ychydig flynyddoedd yn ôl byddent wedi cael eu cloi mewn cell a byddent wedi taflu’r allwedd. Byddai wedi bod yn anhygoel. Pam y dylai hyn fod mor rhyfeddol? Menywod yw’r mwyafrif o’r boblogaeth. Mae’r cyflawniad yn anghyffredin o’i gymharu’n rhyngwladol ac ni welwyd ei debyg o’r blaen yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain. Ni fyddai fyth wedi digwydd heb efeillio.
Twinning was a one-off emergency mechanism for kick-starting proper female representation in Welsh political life—kick being the operative word as many were dragged kicking and screaming into accepting its logic. The claim was made time and again that candidates must compete on merit and merit alone, implying that women cannot compete or there would be more than four female Welsh MPs. The challenge in our male-dominated political culture is to provide women with equal opportunity to compete on merit and to end the self-perpetuating cycle of low expectation among female politicians by creating a variety of role models. In the past there have been virtually none. David mentioned Margaret Thatcher. I will move swiftly on. Perhaps she is the reason why there are no women in your group, David.
Peirianwaith unwaith ac am byth oedd gefeillio i gicdanio cynrychiolaeth briodol i fenywod ym mywyd gwleidyddol Cymru—cic yw’r gair allweddol yma gan i lawer gael eu llusgo yn cicio a strancio i dderbyn ei resymeg. Hawliwyd, dro ar ôl tro, bod yn rhaid i ymgeiswyr gystadlu ar sail teilyngdod a theilyngdod yn unig, gan ensynio na allai menywod gystadlu neu byddai mwy na phedair menyw yn ASau Cymreig. Yr her yn ein diwylliant, lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu, yw rhoi cyfle cyfartal i fenywod i gystadlu ar sail teilyngdod a rhoi pen ar y cylch hunan-barhaus o ddisgwyliadau isel ymhlith menywod sydd yn wleidyddion drwy greu amrywiaeth o rôl-fodelau. Yn y gorffennol ni chafwyd yr un i bob pwrpas. Crybwyllodd David Margaret Thatcher. Symudaf ymlaen yn gyflym. Efallai mai hyhi yw’r rheswm pam na cheir unrhyw fenywod yn eich grŵp chi, David.
We now have a chance of creating a more representative political culture in Wales in which the majority of the population is not excluded because of gender. It will be an uphill struggle. In nearly every aspect of public life, women are still conspicuous by their low profile: in local government, Assembly sponsored public bodies, the civil service and so on. Perhaps this is not quite to the point of invisibility, but there remains a distinct lack of female presence. It cannot be right and it cannot be healthy. The Assembly has a vital role to play, driven by its equal opportunity duties, in redressing this imbalance.
Mae gennym yn awr gyfle i greu diwylliant gwleidyddol mwy cynrychioliadol yng Nghymru lle nad yw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn cael ei heithrio oherwydd rhyw. Bydd yn ymdrech galed. Bron ym mhob agwedd ar y bywyd cyhoeddus, mae menywod yn dal i gael eu gweld oherwydd eu proffil isel: mewn llywodraeth leol, cyrff a noddir gan y Cynulliad, y gwasanaeth sifil ac yn y blaen. Efallai nad ydynt yn gwbl anweledig, ond ceir diffyg presenoldeb amlwg ymhlith menywod o hyd. Ni all hyn fod yn iawn ac ni all fod yn iach. Mae gan y Cynulliad ran holl bwysig i’w chwarae, dan bwysau ei ddyletswyddau cyfle cyfartal, i unioni’r anghydbwysedd hwn.
The Assembly’s gender make-up is a crucial start. In this Chamber, I am aware of the palpable difference that a strong representation of women makes. It is the Assembly’s most distinctive feature. In due course, it will inform every aspect of Welsh life. A fairer representation of women in this institution makes it more representative of the society that we wish to serve, and therefore, better able to reflect the needs and aspirations of that society in our policy priorities. A new Wales, a democratic Wales, a Wales that is, above all, projected in the visible presence of women in positions of authority.
Mae gwneuthuriad rhyw y Cynulliad yn ddechrau hanfodol. Yn y Siambr hon, yr wyf yn ymwybodol o’r gwahaniaeth amlwg y mae cynrychiolaeth gref o fenywod yn ei wneud. Dyma nodwedd amlycaf y Cynulliad. Maes o law, bydd yn dylanwadu ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Mae cynrychiolaeth decach o fenywod yn y sefydliad hwn yn ei wneud yn fwy cynrychioliadol o’r gymdeithas yr hoffem ei gwasanaethu ac, felly, yr ydym mewn gwell sefyllfa i adlewyrchu anghenion a dyheadau’r gymdeithas honno yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Cymru newydd, Cymru ddemocrataidd, Cymru sydd, yn anad dim, yn cael ei chyflwyno ym mhresenoldeb amlwg menywod mewn swyddi o awdurdod.
As a man, I do not feel intimidated or disadvantaged by this. I welcome unreservedly that women are assuming their rightful place alongside men in the governance of our country. Long may it continue.
Fel dyn, nid wyf yn teimlo dan fygythiad na than anfantais oherwydd hyn. Croesawaf yn ddiamod bod menywod yn cymryd eu cyfiawn le ochr yn ochr â dynion i lywodraethu ein gwlad. Hir oes i hynny.
I want to discuss the oft-stated comment about our family-friendly working hours. As someone who travels from north Wales—and I am not alone in that—I can assure you that our working hours are not family-friendly. Those who do not travel from north Wales must remember that when they go home from work every night, at whatever time, and see their families.
Hoffwn drafod y sylwadau a glywir yn fynych am ein horiau gweithio teulu-gyfeillgar. Fel rhywun sydd yn teithio o ogledd Cymru—ac nid myfi yw’r unig un—gallaf eich sicrhau nad yw ein horiau gweithio yn deulu-gyfeillgar. Rhaid i’r rheini nad ydynt yn teithio o ogledd Cymru gofio hynny pan ânt adref o’r gwaith bob nos, pa bryd bynnag, a gweld eu teuluoedd.
I want to talk about ordinary women in Wales who are mothers of young children and are trying to hold down ordinary jobs that they must do to pay their household bills, not professional, high-earning jobs. I want to mention the practical problems that face those women, particularly those in rural areas. People who live in cities and large towns often do not see the real problems that women in rural areas face. The minimum wage has made an enormous difference to the lives of many women, especially in Wales, because they were paid far less in Wales than those in England. Not too long ago, I would see jobs advertised in job centres at £1.80 and £2.00 per hour and would raise Cain. They were displayed and that was reality for many women.
Hoffwn siarad am fenywod cyffredin yng Nghymru sydd yn famau i blant bach ac sydd yn ceisio cadw swyddi cyffredin y mae’n rhaid iddynt eu gwneud i dalu biliau’r aelwyd—nid swyddi proffesiynol, cyflogau mawr mohonynt. Hoffwn grybwyll y problemau ymarferol y mae’r menywod hyn yn eu hwynebu, yn enwedig y rheini sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig. Yn aml, nid yw pobl sydd yn byw mewn dinasoedd a threfi mawr yn gweld y gwir broblemau a wynebir gan fenywod mewn ardaloedd gwledig. Gwnaeth yr isafswm cyflog wahaniaeth aruthrol i fywydau llawer o fenywod, yn enwedig yng Nghymru, oherwydd talwyd llawer llai iddynt yng Nghymru nag yn Lloegr. Ychydig amser yn ôl, gwelwn swyddi yn cael eu hysbysebu mewn canolfannau gwaith am £1.80 a £2.00 yr awr a buaswn yn codi helynt. Yr oeddynt yno i’w gweld a dyna oedd y realiti i lawer o fenywod.
The minimum wage has made things much better—not good enough, but better. In order to empower women with young children to access work we must increase access to childcare. As mothers, and fathers in all fairness, will know, the easiest time during which to have children minded are when they are 0 to 5 years old, or until they enter school, because they go to one place and stay there until they are picked up. Childcare in Wales is patchy. It is available in urban areas and there is a lot of choice, but childcare is patchy in rural areas. Women often have to travel many miles to access their child carer before going to work. People do not realise that. It may be five or 10 miles to reach a child minder before going to work. That is a real problem, especially in winter.
Gwnaeth yr isafswm cyflog bethau’n llawer gwell—ddim yn ddigon da, ond yn well. Er mwyn galluogi menywod gyda phlant bach i gael gafael ar waith rhaid inni wella’r mynediad at ofal plant. Fel y gŵyr mamau, a thadau i fod yn deg, yr adeg hawsaf i gael rhywun i warchod eich plant yw pan maent rhwng 0 a 5 mlwydd oed, neu nes iddynt gychwyn yr ysgol, oherwydd ânt i un lle ac aros yno nes ichi eu casglu. Mae gofal plant yng Nghymru yn dameidiog. Mae ar gael mewn ardaloedd trefol a cheir llawer o ddewis, ond mae gofal plant yn dameidiog mewn ardaloedd gwledig. Yn aml, rhaid i fenywod deithio nifer o filltiroedd i gyrraedd at eu gwarchodwr plant cyn mynd i’r gwaith. Nid yw pobl yn sylweddoli hyn. Gallent orfod teithio pump neu 10 milltir i gyrraedd y gwarchodwr cyn mynd i’r gwaith. Mae hon yn broblem wirioneddol, yn enwedig yn y gaeaf.
I want to talk about after-school clubs. I am glad that Jane Hutt is here, because we should explore this issue and utilise our rural schools for childcare provision in urban areas and specifically in rural areas where there is a problem accessing childcare. After-school clubs are becoming more common in rural areas. At least three small rural schools in my area have applied for new opportunites funding. We would never have envisaged taking that up in the past, because there was no funding to do so.
Hoffwn siarad am glybiau ar ôl ysgol. Yr wyf yn falch bod Jane Hutt yma, oherwydd dylem archwilio’r mater hwn a defnyddio ein hysgolion gwledig ar gyfer darpariaeth gofal plant mewn ardaloedd trefol ac yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle ceir problemau i gael gafael ar ofal plant. Mae clybiau ar ôl ysgol yn dod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwledig. Mae o leiaf dair ysgol wledig bach yn fy ardal i wedi gwneud cais am arian cyfleoedd newydd. Ni fyddem fyth wedi rhagweld ymgymryd â hyn yn y gorffennol, gan nad oedd nawdd ar gael i wneud hynny.
Women do not only need breakfast and after-school clubs. Childcare is needed for 52 weeks of the year and the school year is 40 weeks. I may be a week out either way, but that is fairly accurate. Therefore, there is a gap of 12 weeks, which causes real problems for women.
Nid clybiau amser brecwast ac ar ôl ysgol yn unig y mae ar fenywod eu hangen. Rhaid cael gofal plant 52 wythnos y flwyddyn a 40 wythnos yw’r flwyddyn ysgol. Efallai fy mod wythnos ohoni ba bynnag ffordd, ond mae hyn yn eithaf cywir. Ceir, felly, fwlch o 12 wythnos, sydd yn achosi problemau gwirioneddol i fenywod.
We are all developing wonderful resource libraries in our offices and that is good, because it means that we do not have to tramp down to the library regularly. I am accumulating resources, which is wonderful. I found this document. It is a parent’s guide to services for children in Wrexham county borough. I was interested to read the section on after-school clubs. In the Wrexham area—bear in mind that I cover three counties, but I will specify Wrexham, because that is the area to which this material refers—there are currently 30 after-school clubs, which is superb. There are now six after-school clubs that work throughout school holidays. That is an enormous benefit to women. However, we have a long way to go if only six out of 30 clubs operate during the holidays. There is a long way to go before we can ensure that provision for people in all areas, especially in rural areas.
Yr ydym yn datblygu llyfrgelloedd adnoddau ardderchog yn ein swyddfeydd a da o beth yw hynny, oherwydd mae’n golygu nad oes raid inni lusgo i lawr i’r llyfrgell yn rheolaidd. Yr wyf yn cronni adnoddau, sydd yn ardderchog. Deuthum ar draws y ddogfen hon. Arweiniad i rieni ydyw i wasanaethau i blant ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Yr oedd gennyf ddiddordeb mewn darllen yr adran ar glybiau ar ôl ysgol. Yn ardal Wrecsam—cofiwch fy mod yn cwmpasu tair sir, ond dynodaf Wrecsam, gan mai dyna’r ardal y cyfeiria’r deunydd ati—ceir 30 o glybiau ar ôl ysgol ar hyn o bryd, mae hyn yn ardderchog. Yn awr ceir chwe chlwb ar ôl ysgol sydd yn gweithio drwy gydol gwyliau’r haf. Mae hyn yn fantais aruthrol i fenywod. Fodd bynnag, mae gennym gryn ffordd i fynd os mai chwech yn unig o’r 30 clwb sydd ar agor yn ystod y gwyliau. Mae cryn ffordd i fynd cyn y gallwn sicrhau’r ddarpariaeth honno i bobl ym mhob ardal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
It is worth highlighting what happens with after-school clubs. Currently, we allow people to access funds by making an application. In schools with children whose parents are professionals, they have the enthusiasm to apply for funding. We should be actively promoting, through parents’ groups and school governors, the availability of after-school clubs and promoting hand in hand 52 weeks a year childcare.
Mae’n werth tynnu sylw at yr hyn a ddigwyddodd gyda chlybiau ar ôl ysgol. Ar hyn o bryd, yr ydym yn caniatáu i bobl gael gafael ar nawdd drwy wneud cais. Mewn ysgolion â phlant sydd â rhieni proffesiynol, mae ganddynt y brwdfrydedd i ymgeisio am nawdd. Dylem hyrwyddo’n weithgar, drwy grwpiau rhieni a llywodraethwyr ysgol, y ffaith bod y clybiau ar ôl ysgol hyn ar gael a chan hybu law yn llaw ofal plant am 52 wythnos y flwyddyn.
I want to make a plea so that women can take their rightful place in society and access work in a way that men have always been able to take for granted. We need to be looking at a strategy in Wales where we drive forward after-school clubs that work through the holidays.
Yr wyf eisiau gwneud apêl fel y gall menywod gymryd eu cyfiawn le mewn cymdeithas a chael gafael ar waith mewn ffordd y mae dynion wastad wedi gallu ei chymryd yn ganiataol. Rhaid inni edrych ar strategaeth yng Nghymru lle’r ydym yn hybu clybiau ar ôl ysgol sydd yn gweithio drwy gydol y gwyliau.
My first contact with the Equal Opportunities Commission was shortly after I left university. I was 21 years old and looking for a job. I was unemployed for nine months and had to sign on. Even in those days, they made you look for a job when you were signing on or threatened to take away your unemployment benefit. The job centre phoned me and said that there was a job available as a clerk in a local garage. I thought, ‘Fair enough, I shall apply for this job’. I phoned the garage and said that I was interested and that the job centre had given me the name and number. I was told that was all very well but they wanted a woman.
Cefais fy nghyswllt cyntaf gyda’r Comisiwn Cyfle Cyfartal yn fuan ar ôl imi adael y brifysgol. Yr oeddwn yn 21 oed ac yn chwilio am swydd. Bûm yn ddi-waith am naw mis a bu’n rhaid imi gofrestru’n ddi-waith. Hyd yn oed y dyddiau hynny, gwnaent ichi chwilio am swydd pan yr oeddech yn cofrestru’n ddi-waith neu byddent yn bygwth dileu eich budd-dâl diweithdra. Ffoniodd y ganolfan waith a dweud bod swydd ar gael fel clerc mewn garej leol. Meddyliais, ‘Digon teg, ymgeisiaf am y swydd hon’. Ffoniais y garej gan ddweud fod gennyf ddiddordeb a bod y ganolfan waith wedi rhoi’r enw a’r rhif ffôn imi. Dywedwyd wrthyf fod popeth yn dda ond eu bod yn chwilio am fenyw.
I explored this further and talked to the job centre, and surmised that the reason they wanted a woman was because they felt they could pay her less, exploit her more and make her work longer hours than a man. Naturally, I complained to the Equal Opportunities Commission, because I was stroppy in those days as well. About nine months later the garage phoned me and offered me an interview, but I then had another job.
Archwiliais ymhellach i hyn a siarad gyda’r ganolfan waith, a thybiais mai’r rheswm pam eu bod eisiau menyw oedd oherwydd y teimlent y gallent dalu llai iddi, manteisio mwy arni a gwneud iddi weithio oriau hwy na dyn. Yn naturiol, cwynais i’r Comisiwn Cyfle Cyfartal, oherwydd yr oeddwn yn bengaled y dyddiau hynny hefyd. Oddeutu naw mis yn ddiweddarach ffoniodd y garej yn ôl a chynnig cyfweliad imi, ond erbyn hynny yr oedd gennyf swydd arall.
Problems existed in 1981 and those problems still exist today. It concerns attitude and how people look upon employment and employees. Many employers feel that they can get away with things with female employees that male employees would not tolerate. They also believe, quite wrongly, that male employees are the main breadwinners and therefore, deserve a bigger wage. It is not right. Male and female workers should be paid equally for doing the same job.
Ceid problemau yn 1981 ac mae’r problemau hynny yn dal i fodoli heddiw. Mae’n ymwneud ag agwedd a sut y mae pobl yn ystyried cyflogaeth a gweithwyr. Teimla llawer o gyflogwyr y cânt rwydd hynt i wneud pethau gyda menywod na fyddai dynion yn eu goddef. Credant hefyd, yn gwbl anghywir, mai dynion yw’r prif enillwyr cyflog a’u bod, felly, yn haeddu cyflog mwy. Nid yw hyn yn iawn. Dylid talu’r un cyflog i ddynion a menywod am wneud yr un gwaith.
Problems exist at the top and bottom of the workforce. Christine Humphreys has already mentioned that many senior managers work long hours and how damaging that can be to family life. That is true. It is certainly true that although we work family-friendly hours, the demands on our time outside of this Assembly are equally as demanding and damaging to family life as the demands placed on a senior manager or chief executive.
Mae problemau yn bodoli ar frig ac ar waelod y gweithlu. Crybwyllodd Christine Humphreys eisoes bod llawer o uwch reolwyr yn gweithio oriau maith a pha mor niweidiol y gall hynny fod i fywyd y teulu. Mae hynny’n wir. Mae’n bendant yn wir, er ein bod yn gweithio oriau teulu-gyfeillgar, mae’r gofynion sydd ar ein hamser y tu allan i’r Cynulliad hwn cyn drymed ac mor niweidiol i fywyd y teulu ag y mae’r gofynion a roddir ar uwch reolwyr neu brif weithredwyr.
Far more eloquent speakers on this subject have set out how we might tackle those inequalities. It seems that education is the key to changing the way that people think and react in certain situations, especially when they conduct job interviews or consider employing people in a particular position.
Mae siaradwyr llawer mwy huawdl ar y pwnc hwn wedi disgrifio sut y gallem fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Ymddengys mai addysg yw’r allwedd i newid ffordd pobl o feddwl ac o ymateb mewn sefyllfaoedd penodol, yn enwedig pan gynhaliant gyfweliadau swyddi neu phan ystyriant gyflogi pobl mewn swydd benodol.
We must consider how we educate children and the mindset that we convey to children at school, so that we can ensure that they see only people, not men and women as separate groups. Ultimately, the most prevalent and damaging form of discrimination is economic. If we achieve economic equality for all, regardless of gender or race, then we will have taken a significant stride forward. We have the example of the Assembly and the events of today, with a whole afternoon given to discussing these issues and The Western Femail coming through my door this morning instead of The Western Mail. We also have other events where we highlight these forms of discrimination and inequality. I hope that that will begin to change attitudes and teach people that they should not treat others differently because of their colour or gender, but should treat them equally at all times.
Rhaid inni ystyried sut yr ydym yn addysgu plant a’r cyfeiriad meddwl a gyflëir i blant yn yr ysgol, fel y gallwn sicrhau mai pobl yn unig a welant, nid dynion a menywod fel grwpiau ar wahân. Yn y pen draw, y ffurf fwyaf cyffredin a niweidiol ar wahaniaethu yw gwahaniaethu economaidd. Pe baem yn sicrhau cydraddoldeb economaidd i bawb, beth bynnag y bo’u rhyw neu’u hil, yna byddem wedi cymryd cam mawr ymlaen. Fel enghreifftiau mae gennym y Cynulliad a digwyddiadau heddiw, gyda phrynhawn cyfan wedi ei neilltuo i drafod y materion hyn a The Western Femail yn dod drwy’r drws y bore hwn yn hytrach na The Western Mail. Mae gennym hefyd ddigwyddiadau eraill lle tynnwn sylw at wahaniaethu ac anghydraddoldeb o’r math hwn. Yr wyf yn gobeithio y bydd hyn yn dechrau newid agweddau ac yn dysgu pobl na ddylent drin eraill yn wahanol oherwydd eu lliw neu’u rhyw, ond y dylid eu trin yn gyfartal bob amser.
I am grateful for the opportunity to take part in the first International Women’s Day debate in the Assembly. We have been concentrating on the roles that women undertake in our society today. I will give one practical example of what is happening outside of this Assembly building while we are discussing this issue. Those of you who know of my life before I became an Assembly Member will know that I have had considerable contact with the North Wales Fire Service, which was my employer for some 20 years. On International Women’s Day it is holding an open day in Anglesey to try to encourage women to become firefighters in its community fire stations. I would never have thought that that would happen. Those of you knew me before coming to the Assembly will know that I spent 20-odd years in a male-dominated trade union and fire service, trying to persuade those organisations that women firefighters existed and that women could put fires out in the same way as men. We made some headway, but never cracked the nut in north Wales, to the point that now we have heard that there are recruitment problems in north Wales with retained firefighters.
Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn nadl gyntaf Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Cynulliad. Yr ydym wedi canolbwyntio ar y rolau y mae menywod yn eu chwarae yn ein cymdeithas heddiw. Rhoddaf un enghraifft ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd y tu allan i adeilad y Cynulliad hwn tra’n bod yn trafod y mater. Bydd y rheini ohonoch, a ŵyr am fy mywyd cyn imi ddod yn Aelod o’r Cynulliad, yn gwybod fy mod wedi cael cryn dipyn o gysylltiad gyda Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru; sef fy nghyflogwr am oddeutu 20 mlynedd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod y mae’n cynnal dydd agored ar Ynys Môn i geisio annog menywod i fod yn ymladdwyr tân yn ei orsafoedd tân cymunedol. Ni fuaswn fyth yn meddwl y byddai hynny’n digwydd. Bydd y rheini ohonoch a oedd yn fy adnabod cyn dod i’r Cynulliad yn gwybod fy mod wedi treulio oddeutu 20 mlynedd mewn gwasanaeth tân ac undeb llafur, lle’r oedd dynion yn tra-arglwyddiaethu, yn ceisio darbwyllo’r sefydliadau hynny bod ymladdwyr tân benywaidd yn bodoli ac y gallai menywod ddiffodd tân fel y gallai dynion. Gwelwyd peth cynnydd, ond ni ddatryswyd y broblem yng ngogledd Cymru, i’r pwynt yn awr ein bod wedi clywed y ceir problemau recriwtio yng ngogledd Cymru gydag ymladdwyr tân sydd yn aros yn eu swyddi.
I do not know whether the fire service knew that it was International Women’s Day when it set the date for the event, but I will give it credit for it in order to be positive and to encourage it to hold such events again. As someone who has previously thrown many bricks at the fire service for its male domination, today I must give it a bouquet for taking positive action to encourage women into what has been traditionally seen as a male-dominated profession. I look forward to that initiative continuing, and to similar initiatives in other fire services and professions where women are sadly under-represented, and to the first woman chief fire officer in north Wales.
Ni wn a wyddai’r gwasanaeth tân ei bod hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod pan ddewisodd ddyddiad y digwyddiad, ond rhoddaf glod iddo er mwyn bod yn gadarnhaol a’i annog i gynnal digwyddiadau o’r fath eto. Fel rhywun sydd wedi taflu llawer o frics at y gwasanaeth tân am ei dra-arglwyddiaeth wryw, heddiw, rhaid imi roi iddo dusw o flodau am gymryd camau cadarnhaol i annog menywod i’r hyn a welwyd, yn draddodiadol, yn broffesiwn i ddynion yn bennaf. Edrychaf ymlaen at weld y cynllun hwn yn parhau ac at weld cynlluniau tebyg mewn proffesiynau a gwasanaethau tân eraill lle nad oes, yn anffodus, gynrychiolaeth deg o fenywod, ac i weld y prif swyddog tân benywaidd cyntaf yng ngogledd Cymru.
This is a good day to make a positive statement about being a woman in Wales in the new Assembly and at the dawning of the new millennium. Couple that with the concept of reaching out to women in other countries and you have a sense of international sisterhood. That women’s interests are not confined to women’s issues is an important point. Last Saturday, while our national team was battling on its international stage, I wondered how many of those sisters were, like me, totally left out of that experience, not having digital television or being a Sky subscriber. For many fans that meant missing the game altogether. Social exclusion spreads it net wide and catches more women than men. Women rugby fans were disproportionately left out of the game.
Mae heddiw yn ddiwrnod da i wneud datganiad cadarnhaol am fod yn fenyw yng Nghymru yn y Cynulliad newydd ac ar ddechrau mileniwm newydd. Cyplyswch hyn gyda’r cysyniad o ymestyn allan at fenywod mewn gwledydd eraill a chewch ymdeimlad o chwaeroliaeth ryngwladol. Mae’r ffaith nad yw diddordebau menywod wedi’u cyfyngu i faterion menywod yn fater pwysig. Ddydd Sadwrn diwethaf, tra bod ein tîm rhyngwladol yn brwydro ar ei lwyfan cenedlaethol, meddyliais faint o’r chwiorydd hynny a oedd, fel myfi, wedi’u heithrio’n llwyr o’r profiad hwnnw, heb deledu digidol a heb fod yn tanysgrifio i Sky. I lawer o’r dilynwyr golygai hyn eu bod yn methu’r gêm yn gyfan gwbl. Mae allgáu cymdeithasol yn taenu ei rwyd ym mhell ac yn dal mwy o fenywod nag o ddynion. Gadawyd menywod sydd yn ddilynwyr rygbi yn anghyfartal allan o’r gêm.
Discussion about gender inequality will often focus on the professional working woman who fails to fulfil her potential and hits the glass ceiling while her less able male colleagues are promoted. She is excluded from the Cardiff and County Club because she is a woman. However, I will consider the plight of ordinary women, who would not want to be a member of any club in Cardiff, no matter how lovely the artwork, and who face discrimination in their communities. Who would condemn that, I wonder? We should.
Bydd trafodaeth am anghydraddoldebau rhyw yn aml yn canolbwyntio ar fenyw broffesiynol sydd yn methu â chyflawni ei photensial ac sydd yn taro’r nenfwd gwydr tra dyrchefir ei chydweithwyr gwrywaidd llai eu gallu. Caiff ei hallgáu o Glwb Caerdydd a’r Sir gan ei bod yn fenyw. Fodd bynnag, hoffwn ystyried anawsterau menywod cyffredin, na fyddai eisiau bod yn aelod o unrhyw glwb yng Nghaerdydd, waeth ba mor hyfryd yw’r gwaith celf, ond sydd yn wynebu gwahaniaethu yn eu cymunedau. Pwy a fyddai’n condemnio hynny, tybed? Dylem ni wneud.
For example, a club close to where I live admits female members for 50 pence a year. Male membership is £3.50. Women do not get the impression that they are at an advantage because there are conditions attached to female membership. Women cannot vote, stand for committee membership, attend the AGM or sign in any guests and they are not affiliated to other clubs. That discriminates against women in their communities every day. Sorry, Val, but that is a Labour club. I know it is not part of the Labour Party, but this is common practice in social and working men’s clubs, as stated in The Western Mail today.
Er enghraifft, mae clwb ger fy nghartref yn derbyn aelodau benywaidd am 50 ceiniog y flwyddyn. Mae aelodaeth i ddynion yn £3.50. Nid yw menywod dan yr argraff eu bod yn cael unrhyw fantais oherwydd mae amodau ynghlwm wrth aelodaeth i fenywod. Ni chaiff menywod bleidleisio, sefyll i fod yn aelod o’r pwyllgor, mynd i’r cyfarfod cyffredinol blynyddol na llofnodi unrhyw westeion i mewn, ac nid ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw glybiau eraill. Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn menywod yn eu cymunedau bob dydd. Mae’n ddrwg gennyf Val, ond clwb Llafur yw hwn. Gwn nad yw’n rhan o’r Blaid Lafur, ond mae hyn yn ymarfer cyffredin mewn clybiau cymdeithasol a chlybiau dynion gwaith, fel a nodwyd yn The Western Mail heddiw.
To cheer Jocelyn up, I will tell her that the Penylan Social Club, which is the biggest social club in my constituency, yesterday voted to allow women in as full members.
I godi calon Jocelyn, dywedaf wrthi am Glwb Cymdeithasol Penylan, sef y clwb cymdeithasol mwyaf yn fy etholaeth; ddoe pleidleisiodd i ganiatáu i fenywod ddod i mewn fel aelodau llawn.
That is encouraging. We argue that a creche for visitors to the Assembly would be welcome. We often argue that the lack of availability of childcare affects women’s ability to work and escape the poverty that blights their lives. The idea of making childcare available at 5 o’clock in the morning or during a night shift is not a realistic one. Who wants to get their children out of bed at 4.30 a.m. so that they can get to the factory on time. I would not. For many Welsh women, getting out of the basement is a bigger issue than getting through the glass ceiling.
Mae hynny’n galonogol. Dadleuwn y byddai meithrinfa ar gyfer ymwelwyr i’r Cynulliad yn beth da. Dadleuwn yn aml bod diffyg cyfleusterau gofal plant yn effeithio ar allu menywod i weithio a dianc oddi wrth y tlodi sydd yn llenwi eu bywydau. Nid yw’r syniad o sicrhau bod gofal plant ar gael am 5 o’r gloch y bore neu yn ystod shifft nos yn syniad realistig iawn. Pwy sydd eisiau codi eu plant o’u gwelyau am 4.30 a.m. er mwyn cyrraedd y ffatri mewn pryd? Ni fuaswn i. I lawer o fenywod Cymru, mae codi allan o’r seler yn fater llawer mwy na mynd drwy’r nenfwd gwydr.
Having discussed the lot of ordinary women, I must admit that I have always enjoyed being one, especially now that I am 40 years old. I have been looking forward to this birthday for a long time. Being a woman of mature years helps one to be taken seriously so that brains get noticed before other features. Being taken seriously builds confidence. I do not mind admitting that only in recent years have I been able to develop the confidence to fulfil this role along with the realisation that there is little to lose if you take risks. You must try to succeed, even if there is no guarantee of success and you must accept the success when it comes—that is how men behave. I got my motivation from having a child with special educational needs. I was inspired by the woman who helped me to get the provision that he needed. I do not mind saying that Val Feld is so like her that my belief in sisterhood is now fully restored, although it was somewhat shaken by Ann Widdecombe’s recent visit to Newport. I am glad to see that she is not speaking for the Welsh Conservatives today because she blamed rising crime and drug abuse on single mothers. She said that their children had too many uncles—what she meant was that unmarried mothers had too many lovers. It is unhelpful to women to reinforce that old stereotype. I do not like to make personal comments, but I will make an exception in Miss Widdecombe’s case, because she is to the women’s movement what Dafydd Elis-Thomas is to Man at C&A—absolutely nothing.
Ar ôl trafod tynged menywod cyffredin, rhaid imi gyfaddef fy mod wastad wedi mwynhau bod yn un, yn enwedig yn awr fy mod yn 40 mlwydd oed. Bûm yn edrych ymlaen at y pen-blwydd hwn ers amser maith. Mae bod yn fenyw aeddfed o ran blynyddoedd yn helpu i bobl eich cymryd o ddifrif fel bod yr ymennydd yn cael sylw cyn nodweddion eraill. Mae cael eich cymryd o ddifrif yn magu hyder. Nid oes ots gennyf gyfaddef mai dim ond dros y blynyddoedd diwethaf yr wyf wedi gallu magu’r hyder i gyflawni’r rôl hon ynghyd â’r ddealltwriaeth mai ychydig sydd gennych i’w golli o gymryd risg. Rhaid ichi geisio llwyddo, hyd yn oed os nad oes sicrwydd y gwnewch lwyddo a rhaid ichi dderbyn y llwyddiant pan ddaw—dyna sut y mae dynion yn ymddwyn. Cefais fy nghymhelliant yn sgîl cael plentyn ag anghenion addysgol arbennig. Cefais fy ysbrydoli gan y fenyw a’m helpodd i gael y ddarpariaeth yr oedd arno ei hangen. Nid oes ots gennyf ddweud bod Val Feld mor debyg iddi fel bod fy nghred mewn chwaeroliaeth yn awr wedi’i adfer yn llwyr, er iddo gael ei ysgwyd braidd gan ymweliad Ann Widdecombe â Chasnewydd yn ddiweddar. Yr wyf yn falch o weld nad yw hi’n siarad ar ran Ceidwadwyr Cymru heddiw oherwydd beiai droseddau cynyddol a chamddefnyddio cyffuriau ar famau sengl. Dywedodd fod gan eu plant ormod o ewythrod—yr hyn a olygai oedd fod gan famau di-briod ormod o gariadon. Nid yw atgyfnerthu’r hen stereoteip hwn o unrhyw help i fenywod. Nid wyf yn hoffi gwneud sylwadau personol, ond gwnaf eithriad yn achos Miss Widdecombe, oherwydd ei bod hi i fudiad y menywod yr hyn yw Dafydd Elis-Thomas i ‘Man at C&A’—dim byd o gwbl.
Point of order. There is a Standing Order under section 7 that relates to abusive comments about Members. It also relates to using inappropriate language in this Chamber. The suggestion that an MP, Ann Widdecombe, is to the women’s movement what Lord Elis-Thomas is to C&A insults an MP and the Assembly’s Llywydd.
Pwynt o drefn. Ceir Rheol Sefydlog dan adran 7 sydd yn cyfeirio at sylwadau sarhaus am Aelodau. Mae’n cyfeirio hefyd at ddefnyddio iaith amhriodol yn y Siambr hon. Mae’r awgrym fod Aelod Seneddol, Ann Widdecombe, yr un i fudiad y menywod ag yw’r Arglwydd Elis-Thomas i C&A yn sen ar Aelod Seneddol ac ar Lywydd y Cynulliad.
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 52
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 52
Standing Order No. 7.2 forbids the use of language that the Presiding Officer or the person presiding considers to be disorderly or offensive to Members or language that might detract from the dignity of the Assembly. I do not accept that this matter is offensive to the dignity of Assembly Members.
Mae Rheol Sefydlog Rhif 7.2 yn gwahardd defnyddio iaith sydd ym marn y Llywydd neu’r sawl sydd yn llywyddu yn groes i’r drefn neu’n tramgwyddo Aelodau neu iaith a allai amharu ar urddas y Cynulliad. Nid wyf yn derbyn bod y mater hwn yn peri tramgwydd i urddas Aelodau’r Cynulliad.
Was David suggesting that Ann Widdecombe shops at C&A?
A oedd David yn awgrymu bod Ann Widdecombe yn siopa yn C&A?
Mention of Miss Widdecombe reminded me of three lone mothers who asked for my help last week. International Women’s Day will not mean much to them. I wonder how many women knew it was pancake day yesterday but do not know that it is International Women’s Day today. One lives in a first floor flat with her three daughters all under four years of age. She managed to get into arrears of rent because she has not paid her water rates, as councils often count that as rent. She cannot move until she finds £150. That is the rule and she is stuck with it. The flat is poorly maintained, damp and has condensation problems—the walls have that telltale black sooty mould that gets airborne and then breathed into little lungs. When her girls go to school, how will they compete when they have not even had a garden in which to kick a ball? They will have chest problems and their mother will be embarrassed every time a visitor calls.
Mae sôn am Miss Widdecombe yn fy atgoffa o dair mam sengl a ofynnodd am fy nghymorth yr wythnos diwethaf. Ni fydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn golygu llawer iddynt hwy. Ys gwn i faint o fenywod a wyddai ei bod yn ddiwrnod crempog ddoe ond na wyddant ei bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw. Mae un yn byw mewn fflat llawr cyntaf gyda’i thair merch, i gyd o dan bedair blwydd oed. Aeth i ddyled gyda’i rhent am nad yw wedi talu ei threth ddŵr, gan fod cynghorau’n cyfrif hynny fel rhent yn aml. Ni all symud nes y bydd wedi dod o hyd i £150. Dyna’r rheol ac nid oes dim y gall hi ei wneud. Mae’r fflat mewn cyflwr gwael, yn llaith ac â phroblemau anwedd—gwelir y llwydni du cyfarwydd hwnnw, tebyg i barddu, ar y waliau, sydd yn codi i’r awyr ac yn cael ei anadlu i mewn i ysgyfaint bach. Pan aiff ei merched i’r ysgol, sut y gallant gystadlu pan nad oes ganddynt ardd hyd yn oed i gicio pêl ynddi? Bydd ganddynt broblemau anadlu a bydd gan eu mam gywilydd bob tro y bydd ymwelydd yn galw.
The second is a divorced mother of four. She needs help because her youngest is now refusing to go to school. For years she had been told the child’s problems at school were caused by her missing her father. In reality, the girl turned out to be dyslexic, epileptic and suffering attention deficit disorder and she has now developed behavioural problems. The woman was not taken seriously.
Mam i bedair sydd wedi ysgaru yw’r ail. Mae angen help arni gan fod ei phlentyn ieuengaf bellach yn gwrthod mynd i’r ysgol. Am flynyddoedd, dywedwyd wrthi fod y plentyn yn cael problemau yn yr ysgol am ei bod yn gweld eisiau ei thad. Mewn gwirionedd, cafwyd bod y ferch yn ddyslecsig, epileptig ac yn dioddef o anhwylder diffyg canolbwyntio ac erbyn hyn mae wedi datblygu problemau ymddygiad. Ni chymerwyd y fenyw o ddifrif.
The last is a girl from my own village. She rents a house, has a young baby and supports herself by working as a barmaid. The heating system is inefficient and it costs about £50 a week to keep the house sufficiently warm. She cannot shop around for better accommodation. She does not earn enough, so she is stuck with it. The landlord cannot be compelled to invest in the property. She can pay up or be cold.
Merch o’m pentref i yw’r olaf. Mae’n rhentu tŷ, mae ganddi faban ifanc ac mae’n ei chynnal ei hun drwy weithio mewn bar. Mae’r system wresogi yn aneffeithiol ac mae’n costio tua £50 yr wythnos i gadw’r tŷ yn ddigon cynnes. Ni all fynd ati i chwilio am well cartref. Nid yw’n ennill digon, felly rhaid iddi ddygymod. Ni ellir gorfodi’r landlord i fuddsoddi yn yr eiddo. Gall un ai dalu neu fod yn oer.
All those women are struggling with their own problems in bringing up children. Will we be able to do something for those mothers? Lone motherhood is no more permanent than married bliss. Can we do something about the rules that keep families trapped in flats? Can we help women to be taken seriously? Can we be imaginative in the Assembly about poor housing stock?
Mae’r menywod hyn i gyd yn ymrafael â’u problemau’u hunain wrth fagu plant. A allwn ni wneud rhywbeth dros y mamau hyn? Nid yw bod yn fam sengl yn fwy parhaol mewn unrhyw ffordd na dedwyddwch priodasol. A allwn ni wneud rhywbeth am y rheolau sydd yn cadw teuluoedd yn gaeth mewn fflatiau? A allwn ni helpu menywod i gael eu cymryd o ddifrif? A allwn ni yn y Cynulliad ddefnyddio dychymyg wrth ymdrin â stoc tai gwael?
Next year we will have another debate and we will look back at the advancements of women in Wales. Perhaps we will have a creche in the Assembly. Perhaps the Cardiff and County Club will admit women or give back the paintings to the National Museums and Galleries of Wales. Maybe more women will head quangos and local authorities. What will be the difference for the three ordinary women I mentioned? Those women are looking to the Assembly for help. I hope that next year they will be able to join us in our celebration.
Y flwyddyn nesaf cawn ddadl arall a byddwn yn edrych yn ôl ar y ffordd y mae menywod wedi dod yn eu blaenau yng Nghymru. Efallai y bydd gennym greche yn y Cynulliad. Efallai y bydd Clwb Caerdydd a’r Sir yn derbyn menywod neu’n rhoi’r peintiadau’n ôl i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Efallai y bydd mwy o fenywod yn benaethiaid cwangos ac awdurdodau lleol. Pa wahaniaeth fydd yna i’r tair menyw gyffredin y soniais i amdanynt? Mae’r menywod hyn yn troi at y Cynulliad am help. Gobeithiaf y flwyddyn nesaf y byddant yn gallu ymuno â ni wrth inni ddathlu.
I am delighted that this debate is happening. This is a milestone for those of us who have worked over many years. It is great to see so many sisters along the front bench and in the great chair and so many women Members in the Assembly. It is good also to know that there are so many men sitting through this and supporting us on this crusade. I am a bit disappointed because I had to go out for a while for a chat with the lads from the Economic Development Committee. Alun Cairns was desperate that we were staying out so long because he did not want to miss the debate, but he must have been diverted by something or maybe he is swilling coffee as others have been previously accused of doing.
Yr wyf wrth fy modd fod y ddadl hon yn digwydd. Mae hon yn garreg filltir i’r rheini ohonom sydd wedi gweithio dros flynyddoedd lawer. Gwych yw gweld cynifer o chwiorydd yn eistedd ar y fainc flaen ac yn y gadair fawr a chynifer o fenywod yn Aelodau o’r Cynulliad. Da o beth hefyd yw gwybod bod cynifer o ddynion yn eistedd drwy hyn ac yn ein cefnogi ar y crwsâd hwn. Yr wyf ychydig yn siomedig oherwydd bu’n rhaid imi fynd allan am ychydig i siarad â’r hogiau o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd. Yr oedd Alun Cairns yn anesmwytho’n arw ein bod yn aros allan gyhyd gan nad oedd am fethu’r ddadl, ond mae’n rhaid bod rhywbeth wedi hawlio’i sylw neu efallai ei fod yn drachtio coffi fel y cyhuddwyd eraill o’i wneud yn flaenorol.
The changes that we have made are of enormous importance but I agree with Jocelyn that what matters is what we, as women, and the men that subscribe to the same values as us, do with the positions that we have. Having women involved in decision-making makes a difference in terms of the opportunities to make policies to change things for women who still spend much of their lives in poverty, manage two or three jobs and struggle with family crises and dramas. That happens not only in this country but across the world. The extent to which we can shift the culture of policy making and decision making and the extent to which we can bring in a wider range of experience and understanding and a broader sense of priorities will make the difference to whether the needs of those women, about whom you talked, Jocelyn, will be met, in one or two years’ time.
Mae’r newidiadau a wnaethpwyd gennym o bwys enfawr ond cytunaf gyda Jocelyn mai’r hyn sydd yn bwysig yw’r hyn a wnawn ni, fel menywod, a’r dynion sydd yn cefnogi’r un gwerthoedd â ni, â’r safleoedd yr ydym ynddynt. Mae cael menywod yn rhan o benderfyniadau yn gwneud gwahaniaeth o ran y cyfleoedd i lunio polisïau a fydd yn newid pethau i fenywod sydd yn dal i dreulio llawer o’u bywydau mewn tlodi, yn ceisio dal dwy neu dair swydd ac yn ymdopi ag argyfyngau a dramâu teuluol. Mae hynny’n digwydd nid yn unig yn y wlad hon ond ar draws y byd. I ba raddau y gallwn newid meddylfryd wrth lunio polisïau a phenderfyniadau ac i ba raddau y gallwn gyflwyno ystod ehangach o brofiad a dealltwriaeth, ac ymwybyddiaeth ehangach o flaenoriaethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth i a yw anghenion menywod y siaradoch amdanynt, Jocelyn, yn cael eu diwallu ymhen blwyddyn neu ddwy.
There is no question that the life experience of women is different to that of men. That has been my belief for years, which has been reinforced by my experience during the last nine months. It is not that women do not have many issues about which we feel equally passionate, but that we have different priorities, different expectations and different aspirations. Policy and decision making is not effective unless it takes account of all of those considerations. That is why I am on a personal crusade about the Cardiff and County Club. It was a place that sought out the men who made decisions in Wales, and behind closed doors enabled them to network, discuss, plan and develop their thinking. It is wrong and the process should be open.
Nid oes amheuaeth bod profiad menywod o fywyd yn wahanol i brofiad dynion. Credais hynny ers blynyddoedd, ac fe’i hatgyfnerthwyd gan fy mhrofiad dros y naw mis diwethaf. Nid nad oes gan fenywod lawer o bynciau y maent yn teimlo yr un mor gryf yn eu cylch mohono, ond fod gennym flaenoriaethau gwahanol, disgwyliadau gwahanol a dyheadau gwahanol. Nid yw llunio polisïau a gwneud penderfyniadau’n effeithiol onid yw’n rhoi sylw i’r holl ystyriaethau hyn. Dyna pam yr wyf ar grwsâd personol ynghylch Clwb Caerdydd a’r Sir. Yr oedd yn lle a âi ar drywydd y dynion a wnai’r penderfyniadau yng Nghymru, gan eu galluogi tu ôl i ddrysau caeëdig i rwydweithio, trafod, cynllunio a datblygu eu syniadaeth. Nid yw’n iawn a dylai’r broses fod yn agored.
We should tackle many issues, most of which have been mentioned. In education we have the new opportunities of the personal and social education curriculum, which Rosemary Butler will use to promote equality. We must tackle the issue of girls’ aspirations, which are still low and stereotyped. Childcare needs to be addressed, as does the tangible daily violence that women experience in their homes and on our streets. Low pay and poverty are problems that often lead to a situation where women do not have money to invest in pension schemes, which means that they spend their late years in considerable poverty. If we are to tackle these issues we must open out the decision-making process, which is what this clause in the Government of Wales Act 1998 will allow us to do. Edwina Hart, in her new role as Chair of the Committee on Equality of Opportunity will review progress, so that it can use the clause to get its teeth into driving equality forward and identifying where inequality exists.
Dylem fynd i’r afael â llu o faterion, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u crybwyll. Mewn addysg, mae gennym gyfleoedd newydd y cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol, y bydd Rosemary Butler yn ei ddefnyddio i hybu cydraddoldeb. Rhaid inni roi sylw i ddyheadau merched, sydd yn dal yn isel ac yn ystrydebol. Mae angen rhoi sylw i anghenion gofal plant, a hefyd y trais beunyddiol gwirioneddol a brofir gan fenywod yn eu cartrefi ac ar ein strydoedd. Mae cyflogau isel a thlodi yn broblemau sydd yn arwain yn aml at sefyllfa lle nad oes gan fenywod ddigon o arian i’w fuddsoddi mewn cynlluniau pensiwn, sydd yn golygu eu bod yn treulio blynyddoedd eu henaint mewn cryn dlodi. Os ydym i fynd i’r afael â’r materion hyn rhaid inni wneud y broses llunio penderfyniadau yn fwy agored, a bydd y cymal hwn yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 yn caniatáu inni wneud hynny. Bydd Edwina Hart, yn ei rôl newydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn cadw golwg ar sut mae pethau’n mynd, fel y gall ddefnyddio’r cymal i roi ei ddannedd yn y gwaith o yrru cydraddoldeb ymlaen a chanfod ymhle y mae anghydraddoldeb yn bodoli.
I have a joint document from the Assembly and the Welsh Local Government Association that consults on the collection of data, the management and improvement of statistics on local government services, and on activities in Wales and invites views on a series of proposals. We know that these services impact on a daily basis on women, and are the ones that will tell us whether we are achieving equality on the ground. Of the 11 members on the steering committee, I hardly need to tell you, there is only one woman. We cannot allow this to continue. We must root out such instances. This will not achieve the kind of balanced policy making that we need if we are to meet our overall objectives. It is difficult because this is how things have always happened. We must find ways of questioning and challenging more of these issues.
Mae gennyf ddogfen ar y cyd gan y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd yn ymgynghori ynghylch casglu data, rheoli a gwella’r ystadegau ar wasanaethau llywodraeth leol, ac ynghylch gweithgareddau yng Nghymru ac sydd yn gwahodd barn pobl ar gyfres o gynigion. Gwyddom fod y gwasanaethau hyn yn effeithio’n feunyddiol ar fenywod, ac mai’r rhain fydd yn dweud wrthym a ydym yn llwyddo i gael cydraddoldeb ymysg trwch y boblogaeth. O’r 11 aelod ar y pwyllgor llywio, prin fod angen imi ddweud wrthych, nad oes ond un menyw. Ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Rhaid inni gael gwared ag enghreifftiau o’r fath. Ni fydd hyn yn cyflawni’r math cytbwys o lunio polisïau sydd ei angen arnom os ydym i gyflawni ein hamcanion cyffredinol. Mae’n anodd oherwydd dyma sut y bu pethau erioed. Rhaid inni ganfod ffyrdd o gwestiynu a herio mwy o’r materion hyn.
It is time for the Assembly to reconsider public appointments. When Labour came into Government in 1997, an attempt was made to try to appoint women to these posts. The Assembly makes 569 public appointments a year. We have made big strides from the old days. I do not want to knock the Tories too much, but I know that in their latter years they started to become edgy on this. When the Tories left office women filled about 23 per cent of public appointments. However, there were no women chairs of any substantial public bodies. During this Labour Government’s first years in office the figure has risen to 35 per cent. Ron Davies’s target for the old Welsh Office to reach 36 per cent by 2002 is well on course.
Mae’n bryd i’r Cynulliad ailystyried penodiadau cyhoeddus. Pan ddaeth Llafur i Lywodraeth yn 1997, gwnaethpwyd ymdrech i geisio penodi menywod i’r swyddi hyn. Mae’r Cynulliad yn gwneud 569 o benodiadau cyhoeddus y flwyddyn. Yr ydym wedi cymryd camau breision ymlaen ers yr hen ddyddiau. Nid wyf am ladd gormod ar y Torïaid, ond gwn iddynt ddechrau mynd yn anesmwyth ynglŷn â hyn yn eu blynyddoedd olaf. Pan ddaeth cyfnod y Torïaid mewn grym i ben, yr oedd menywod mewn 23 y cant o benodiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, nid oedd menyw yn gadeirydd ar unrhyw gorff cyhoeddus o bwys. Yn ystod blynyddoedd cyntaf y Llywodraeth Lafur hon mewn grym, cododd y ffigur i 35 y cant. Mae targed Ron Davies i’r hen Swyddfa Gymreig o gyrraedd 36 y cant erbyn 2002 o fewn cyrraedd.
This is something for the Committee on Equality of Opportunity to address. The Cabinet Office has a target of a fifty-fifty equal representation of women and men in public bodies by 2002. Many European countries including Ireland and Italy have a policy of equal representation. It is not only about the principle of including women. It is about including women who have day to day experience of public policies. It is about including young women, older women, black women and also a wider variety of men. We can then improve our policy-making process.
Rhywbeth i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal fynd i’r afael ag ef yw hwn. Targed Swyddfa’r Cabinet yw cynrychiolaeth hafal o blith menywod a dynion ar gyrff cyhoeddus erbyn 2002. Mae gan lawer o wledydd Ewrop gan gynnwys Iwerddon a’r Eidal bolisi o gynrychiolaeth gydradd. Nid dim ond yr egwyddor o gynnwys menywod sydd dan sylw. Mae’n golygu cynnwys menywod sydd â phrofiad beunyddiol o bolisïau cyhoeddus. Mae’n golygu cynnwys menywod iau, menywod hŷn, menywod du a hefyd amrywiaeth ehangach o ddynion. Gallwn wedyn wella ein proses llunio penderfyniadau.
It is now time to look at local government during the interim between the next set of elections for local government. We have made progress but we must tackle the problem of the dramatic under-representation of women in local government. We have one of the only two women leaders in the Assembly. I believe that the figure has never been higher than three. That includes Sue Essex. I recall a proposal in the modernisation agenda some time ago for work on this. Men and women could collaborate cross-party to develop a programme to encourage local government and our political parties to have mechanisms that will ensure that when the next local government elections occur, we improve on the 24 per cent of women representing and running our local authorities. Fair representation makes a difference to the priorities, policies and seriousness needed to deal with issues such as childcare and violence against women.
Mae’n bryd yn awr inni edrych ar lywodraeth leol yn y cyfnod cyn y set nesaf o etholiadau llywodraeth leol. Mae pethau wedi gwella ond rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg cynrychiolaeth ddramatig o blith menywod mewn llywodraeth leol. O’r ddwy fenyw sydd yn arweinyddion mae un ohonynt yma yn y Cynulliad. Ni chredaf i’r nifer fod yn uwch na thair erioed. Mae hynny’n cynnwys Sue Essex. Yr wyf yn cofio cynnig o blaid gweithio ar hyn ar yr agenda foderneiddio beth amser yn ôl. Gallai dynion a menywod gydweithio ar draws y pleidiau i ddatblygu rhaglen i annog llywodraeth leol a’n pleidiau gwleidyddol i fod â pheirianweithiau a fydd yn sicrhau y byddwn yn gwella ar y 24 y cant o fenywod yn cynrychioli ac yn rhedeg ein hawdurdodau lleol pan gynhelir yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. Mae cynrychiolaeth deg yn gwneud gwahaniaeth i’r blaenoriaethau, y polisïau a’r difrifoldeb sydd ei angen i ddelio â materion fel gofal plant a thrais yn erbyn menywod.
It is also important in changing the culture of decision making, and the way in which we operate in the political sphere and on senior levels. It enables us to tackle some of the issues that Dai raised about long hours. It also enables us to tackle some of the issues about the macho, knockabout culture of politics. If we are to achieve a genuine equality, women should not and must not have to operate like men in order to succeed and get to the top. We must achieve a way of ensuring genuine fairness and inclusiveness by valuing and cherishing the differences and diversity between women and men and the people in our communities and yet building firmly on the principle of equality.
Mae’n bwysig hefyd o ran newid yr hinsawdd wrth wneud penderfyniadau, a’r ffordd yr ydym yn gweithredu, yn wleidyddol ac ar lefelau uchel. Mae’n ein galluogi i ymdrin â rhai o’r materion a godwyd gan Dai ynglŷn ag oriau hir. Mae’n ein galluogi hefyd i ddelio â rhai o’r ystyriaethau ynglŷn â diwylliant macho, garw gwleidyddiaeth. Os ydym i gael cydraddoldeb gwirioneddol, ni ddylai menywod orfod ymddwyn fel dynion i lwyddo a chyrraedd y brig, a rhaid iddynt beidio â gwneud hynny. Rhaid inni sefydlu ffordd o sicrhau tegwch a chynwysoldeb gwirioneddol drwy werthfawrogi a meithrin y gwahaniaethau a’r amrywiaeth rhwng menywod a dynion a’r bobl yn ein cymuned tra’n adeiladu’n gadarn ar egwyddor cydraddoldeb.
I am delighted to participate in this debate today. We must acknowledge that it is difficult to imagine this happening in many of the other political institutions that should represent us. We should take this as a sign that having a critical mass of women Members is already making a difference not only to this debate but to many aspects of our work. A number of speakers have also mentioned that it is worth remembering that this critical mass did not occur by accident. The two major political parties represented in this Chamber took controversial positive action to achieve this representation and I am proud of my party’s role in that. I say to Richard Edwards that Plaid Cymru has never condemned the Labour Party’s twinning process. If Richard is aware of any member of my party who has ever done that I would be grateful if he would give me a name, rank and number because as party equal opportunities director, I will have them disciplined.
Yr wyf wrth fy modd i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rhaid inni gydnabod ei bod yn anodd dychmygu hyn yn digwydd mewn llawer o’r sefydliadau gwleidyddol eraill a ddylai ein cynrychioli. Dylem dderbyn hyn fel arwydd bod cael màs critigol o fenywod yn Aelodau eisoes yn gwneud gwahaniaeth nid yn unig i’r ddadl hon ond i lawer o agweddau o’n gwaith. Mae nifer o siaradwyr wedi crybwyll hefyd ei bod yn werth cofio nad drwy ddamwain y cafwyd y màs critigol hwn. Cymerwyd camau cadarnhaol a dadleuol gan ddwy o’r prif bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Siambr hon i sicrhau’r gynrychiolaeth hon ac ymfalchïaf yn rôl fy mhlaid i yn hynny. Dywedaf wrth Richard Edwards nad yw Plaid Cymru erioed wedi condemnio proses gefeillio’r Blaid Lafur. Os yw Richard yn gwybod am unrhyw aelod o’m plaid sydd wedi gwneud hynny erioed byddwn yn ddiolchgar pe bai’n rhoi enw, safle a rhif imi oherwydd, fel cyfarwyddwr cyfle cyfartal y blaid, byddaf yn eu disgyblu.
Thank you for that information and for enlightening me, Helen Mary. However, at the time of the election, Plaid criticised Labour for its twinning policy.
Diolch ichi am yr wybodaeth ac am fy ngoleuo, Helen Mary. Fodd bynnag, adeg yr etholiad, beirniadwyd polisi gefeillio Llafur gan y Blaid.
Give me names, dates, publications and individuals, and I will sort them out.
Rhowch imi enwau, dyddiadau, cyhoeddiadau ac unigolion, a byddaf yn delio â hwy.
I will refer to my press file.
Byddaf yn edrych yn fy ffeil ar y wasg.
I bet you £5 for the Mozambique appeal that you cannot give me those details.
Fe fetiaf £5 i apêl Mozambique na allwch roi’r manylion hyn imi.
Do you accept the bet, Richard?
Ydych chi’n derbyn y fet, Richard?
Of course he does.
Wrth gwrs ei fod.
I had intended to use a large part of my speech as a celebration, because we should celebrate. I wanted to focus on the contribution of some of Welsh history’s prominent female figures, highlighting the roles of women such as Buddug—or Boudicca or Boadicea—who ditched her husband’s appeasement policy and almost succeeded in driving the Roman invaders out of Britain; Gwenllian, whose leadership in defence arguably held back the Norman advance in west Wales for 30 years and, more recently, Rebecca’s Daughters. Do we really believe the stories about boys in drag? I am convinced that there were women in those crowds. However, in celebrating, I am more and more drawn to highlight the extraordinary contributions of so many so-called ordinary women, many of whom I have known and worked with over the last 20 years. These women’s names have not always been recorded, but without them, the Welsh community would be much poorer.
Yr oeddwn wedi bwriadu defnyddio rhan helaeth o’m haraith i ddathlu, oherwydd dylem ddathlu. Yr oeddwn am ganolbwyntio ar gyfraniad rhai o ffigyrau benywaidd amlwg hanes Cymru, gan amlygu rôl menywod fel Buddug—neu Boudicca neu Boadicea—a roddodd heibio bolisi cymodi ei gŵr ac y bu bron iddi lwyddo i yrru’r goresgynwyr Rhufeinig o Brydain; Gwenllian, y gellid dadlau i’w harweinyddiaeth tra’n amddiffyn ddal y Normaniaid yn ôl o orllewin Cymru am 30 mlynedd ac, yn fwy diweddar, Ferched Rebecca. A ydym o ddifrif yn credu’r storïau am fechgyn mewn dillad merched? Yr wyf yn argyhoeddedig fod menywod yn y torfeydd hynny. Fodd bynnag, wrth ddathlu, caf fy nenu fwyfwy i dynnu sylw at gyfraniadau neilltuol cynifer o fenywod a elwir yn fenywod cyffredin. Yr wyf wedi adnabod ac wedi gweithio gyda llawer ohonynt dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nid yw enwau’r menywod hyn wedi’u cofnodi bob amser, ond hebddynt, byddai’r gymuned Gymreig yn llawer tlotach.
I begin with my Welsh grandmother, who, like hundreds of thousands of women in the dark days of the 1920s and 1930s, kept her family and community together against the odds. She stood at the back of the food queues in the 1926 strike because her husband was a union official and she did not want to be seen as privileged. She hid my Dad’s rugby boots so that he would work for his matriculation exam. He was not happy at the time but that won him a place at university. Like so many other women in those communities, my grandmother always worked tirelessly for others through the chapel and organisations such as the Women’s Co-operative Guild. Few such women at the time emerged into public life, but without them, their communities would have fallen apart.
Dechreuaf gyda’m mam-gu Gymraeg. Fel cannoedd o filoedd o fenywod yn nyddiau du’r 1920au a’r 1930au, cadwodd ei theulu a’r gymuned ynghyd er gwaethaf pob rhwystr. Safodd yng nghefn y ciw bwyd yn streic 1926 am fod ei gŵr yn swyddog undeb ac nad oedd am gael ei gweld fel rhywun breintiedig. Cuddiodd esgidiau rygbi fy nhad fel y byddai’n gweithio tuag at ei arholiad matric. Nid oedd ef yn hapus ar y pryd ond enillodd hynny le iddo yn y brifysgol. Fel cynifer o fenywod eraill yn y cymunedau hynny, gweithiai fy mam-gu yn ddiflino bob amser dros eraill drwy’r capel a chyrff fel Urdd Gydweithredol y Menywod. Prin oedd y menywod o’r fath a ddeuai i’r amlwg mewn bywyd cyhoeddus ar y pryd, ond hebddynt, byddai eu cymunedau wedi mynd ar chwâl.
We must also remember the women involved in the struggle to save and promote the Welsh language, from Cymdeithas yr Iaith Gymraeg campaigners, including many young women who were jailed for civil disobedience for the cause in which they believed, to the thousands of volunteers with organisations such as Mudiad Ysgolion Meithrin. They give years of their lives to sharing the treasure of the Welsh language and our culture with tens of thousands of children, many of whom are from non-Welsh speaking homes.
Rhaid inni hefyd gofio am y menywod a fu’n rhan o’r frwydr i achub a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys llawer o fenywod ifanc a garcharwyd am anufudd-dod sifil dros yr achos y credent ynddo, i’r miloedd o wirfoddolwyr gyda chyrff fel Mudiad Ysgolion Meithrin. Rhoddant flynyddoedd o’u bywydau i rannu trysor yr iaith Gymraeg a’n diwylliant gyda degau o filoedd o blant, llawer ohonynt yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
Are you aware that a female member of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg was one of the people who broke into the Conservative offices in Monmouth a decade or so ago, causing extreme distress to a woman who worked there? Since then, there has been no apology or renunciation of illegal actions by that group. Do you condemn its actions and recognise that it caused much distress to a female member of staff, who has never really recovered?
A ydych yn ymwybodol fod aelod benywaidd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o’r bobl a dorrodd i mewn i swyddfeydd y Ceidwadwyr ym Mynwy tua degawd yn ôl, gan achosi trallod mawr i fenyw a weithiai yno? Ers hynny, ni chafwyd ymddiheuriad gan y grŵp hwnnw ac nid yw wedi ymwrthod â gweithredu’n anghyfreithlon. A ydych yn condemnio’i weithredoedd ac yn cydnabod iddo achosi llawer o drallod i aelod benywaidd o’r staff, nad yw byth wedi dod dros y peth yn iawn?
I am sure that any member of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg would be sorry to hear that an individual was distressed by his or her actions. Nevertheless, at the time, members of that organisation felt that they had no alternative. Given the policies of successive governments, frankly, David, they had no alternative. Unfortunately, in struggle, sometimes people are hurt. However, we would never want individuals to be hurt.
Yr wyf yn siŵr y byddai’n ddrwg gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg glywed fod ei weithredoedd ef neu hi wedi achosi trallod i unigolyn. Serch hynny, ar y pryd, teimlai aelodau’r corff hwnnw nad oedd ganddynt ddewis arall. O gofio polisïau llywodraethau olynol, a bod yn onest, David, nid oedd ganddynt ddewis arall. Yn anffodus, mewn ymrafael, mae pobl weithiau’n cael eu brifo. Fodd bynnag, ni fyddem byth am i unigolion gael eu brifo.
I move from Mudiad Ysgolion Meithrin to the redoubtable ranks of Merched y Wawr. I would be in trouble if I did not mention members of that organisation. In the 1960s, the Welsh language was dying on its feet and those women made a huge contribution to its growing strength today.
Symudaf oddi wrth Mudiad Ysgolion Meithrin at rengoedd cadarn Merched y Wawr. Byddwn mewn trwbl pe na bawn yn sôn am aelodau’r corff hwnnw. Yn y 1960au, yr oedd yr iaith Gymraeg yn marw ar ei thraed a chyfrannodd y menywod yn aruthrol tuag at ei gryfder cynyddol heddiw.
In the 1980s, many of us learnt lessons that we will never forget, working in the miners’ strike, and the quarry strike a year later, alongside women who showed tremendous tenacity and courage in defending their families and communities. Although the miners’ strike was lost, the women remained undefeated. Many of them took the skills and the sense of power that they gained from their work during the strike into a range of community activities that regenerated those communities and, literally, kept some alive.
Yn y 1980au, dysgodd llawer ohonom wersi na wnawn fyth eu hanghofio, yn gweithio yn streic y glowyr, a streic y chwareli flwyddyn yn ddiweddarach, ochr yn ochr â menywod a ddangosodd gadernid a dewrder neilltuol yn amddiffyn eu teuluoedd a’u cymunedau. Er mai colli wnaeth streic y glowyr, ni threchwyd y menywod. Aeth llawer ohonynt â’r sgiliau a’r ymdeimlad o rym a gawsant o’u gwaith yn ystod y streic i mewn i ystod o weithgareddau cymunedol a adfywiodd y cymunedau hynny gan, yn llythrennol, gadw rhai ohonynt yn fyw.
There are so many other women that we could mention, for example those who walked from Wales to Greenham Common. Whatever anybody says—and I am not taking Tory interventions, so you need not rise, David—the cruise missiles are the only nuclear weapons that have been scrapped before they were obsolete. That was down to the women who campaigned. We could mention hundreds of thousands of others.
Mae cynifer o fenywod eraill y gallem sôn amdanynt, er enghraifft y rheini a gerddodd o Gymru i Gomin Greenham. Beth bynnag a ddywed unrhywun—ac nid wyf yn derbyn ymyriadau Torïaidd, felly peidiwch â chodi, David—taflegrau cruise yw’r unig arfau niwclear a roddwyd ar y domen cyn diwedd eu hoes. Y menywod a fu’n ymgyrchu oedd i gyfrif am hynny. Gallem sôn am gannoedd o filoedd o ferched eraill.
Women with whom I worked in my job in the Equal Opportunities Commission Wales play vital roles in a range of voluntary organisations, particularly black and ethnic minority women’s organisations, and in the public and private sectors. We could not cope without them. I am pleased to see colleagues from those days in the public gallery. As the motion states, the Assembly will continue to work in partnership with them.
Mae’r menywod y bûm yn gweithio gyda hwy yn fy swydd gyda Chomisiwn Cyfle Cyfartal Cymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig mewn amrywiaeth o gyrff gwirfoddol, yn enwedig cyrff menywod du a lleiafrifoedd ethnig, ac yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Ni allem ymdopi hebddynt. Yr wyf yn falch i weld cydweithwyr o’r dyddiau hynny yn yr oriel gyhoeddus. Fel y dywed y cynnig, bydd y Cynulliad yn parhau i weithio mewn partneriaeth â hwy.
On a personal note, I take this opportunity to thank the women who provided me with encouragement and support in my political life. I am sure that all women Members have one or two people who kept us going at a time when things were tough. I particularly want to mention Jocelyn Davies and Janet Davies. We have known each other and worked together for about 20 years and there have been times when I would never have stuck it out in any political party—not even Plaid Cymru–The Party of Wales—without Jocelyn and Janet. On another personal note, I mention Val Feld. Here is a woman, who, four years ago, took on somebody who she not only knew to be a single parent who had just given birth, but an active Welsh nationalist as well. I thank Val for the opportunities that she gave me and what she taught me while I was working at the Equal Opportunities Commission.
Ar nodyn personol, manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i’r menywod a roddodd imi anogaeth a chefnogaeth yn fy mywyd gwleidyddol. Yr wyf yn sicr bod gan aelodau sydd yn fenywod un neu ddau o bobl a’n cadwodd i fynd pan oedd pethau’n galed. Yr wyf am sôn yn arbennig am Jocelyn Davies a Janet Davies. Yr ydym wedi adnabod ein gilydd ac wedi gweithio gyda’n gilydd am tua 20 mlynedd a bu adegau pan na fyddwn byth wedi dal ati mewn unrhyw blaid wleidyddol—nid hyd yn oed Blaid Cymru—The Party of Wales—heb Jocelyn a Janet. Ar nodyn personol arall, cyfeiriaf at Val Feld. Dyma fenyw, bedair blynedd yn ôl, a gyflogodd rywun a oedd, fel y gwyddai, nid yn unig yn rhiant sengl a oedd newydd roi genedigaeth, ond a oedd hefyd yn genedlaetholwraig Gymreig frwd. Diolchaf i Val am y cyfleoedd a roddodd imi a’r hyn a ddysgodd imi tra’r oeddwn yn gweithio i’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
We have much to celebrate today, and I believe that it is right to highlight that. Before we can say that we have achieved anything like gender equality, however, there is much more that we need to do. The experience of ordinary women in their daily lives is still much too often one of struggle and discrimination, and what Jocelyn, Karen and others have said today must always be in our minds. Often, women cannot do paid work because there is no childcare that we can trust or that meets our family needs or in the language of our choice, or, above all, no childcare that we can afford. When we do work, it is too often part-time, low-paid and low-status, and we still too often suffer sexual harassment at work, and rape and violent abuse in our own home.
Mae gennym lawer i’w ddathlu heddiw, a chredaf y dylem dynnu sylw at hynny. Fodd bynnag, cyn y gallwn ddweud inni gyflawni dim byd tebyg i gydraddoldeb rhwng y ddau ryw, mae llawer mwy y mae angen inni ei wneud. Mae profiad menywod cyffredin yn eu bywydau bob bydd yn dal yn rhy aml i fod yn un o frwydr a gwahaniaethu ar gam, a rhaid inni gadw mewn cof bob amser yr hyn a ddywedwyd heddiw gan Jocelyn, Karen ac eraill. Yn aml, ni all menywod wneud gwaith cyflogedig gan nad oes gofal plant y gallwn ymddiried ynddo neu sydd yn diwallu ein hanghenion teuluol, neu nad yw yn yr iaith o’n dewis neu, uwchlaw popeth, na allwn ei fforddio. Pan fyddwn yn gweithio, yn rhy aml mae’n rhan-amser, am gyflog isel ac o statws isel, ac yr ydym yn dal i ddioddef aflonyddwch rhywiol yn y gwaith, a threisio a cham-drin treisiol yn ein cartrefi ein hunain.
By the Assembly’s International Women’s Day debate next year we must have done something about this, and I am confident that we will have done. Otherwise, there will be little point in there being so many women Members of this Chamber.
Erbyn dadl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Cynulliad y flwyddyn nesaf rhaid inni fod wedi gwneud rhywbeth am hyn, ac yr wyf yn hyderus y byddwn wedi gwneud hynny. Fel arall, ni fydd fawr o ddiben cael cynifer o fenywod yn Aelodau o’r Siambr hon.
I finish with some specific suggestions that, I hope, the Government of Wales can pick up on and respond to today. We should start with ourselves, the National Assembly for Wales. We have a good percentage of elected women and elected women in senior positions—I congratulate the women Cabinet Members on being in a majority. But what about our staff? Who do we employ to do what, and how much do we pay them? We need a full, proper audit of this. As other Members have mentioned, let us have childcare facilities here. That would not only help our staff and other working parents in this community to balance work and family life, but would also set an example. I hope that we can do that.
Gorffennaf gyda rhai awgrymiadau penodol y gall Llywodraeth Cymru gydio ynddynt, gobeithio, ac ymateb iddynt heddiw. Dylem ddechrau gyda ni’n hunain, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennym ganran dda o fenywod etholedig a menywod etholedig mewn swyddi uchel—llongyfarchaf Aelodau’r Cabinet sydd yn fenwyod ar fod mewn mwyafrif. Ond beth am ein staff? Pwy a ydym yn ei gyflogi i wneud beth, a faint a dalwn iddynt? Mae angen archwiliad llawn, dilys i hyn arnom. Fel y soniodd Aelodau eraill, gadewch inni gael cyfleusterau gofal plant yma. Byddai hynny nid yn unig yn helpu’n staff a rhieni eraill yn y gymuned hon sydd yn gweithio i gadw’r fantol rhwng gwaith a bywyd teuluol, ond byddai’n gosod esiampl hefyd. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny.
What about Assembly sponsored public bodies? They are huge employers across the country, especially of women. We should insist that they audit their staff and their services. Who do they employ to do what, and what are those people paid? What services do they provide, to whom do they provide them and where do they provide them? We should insist on equality action plans for each body. I cannot be the only person in this room who is tired of equal opportunities policies—it comes out of our ears in this country. We need action, not policy. We need basic, simple targets in those action plans, dealing with issues such as the number of childcare places available, reducing pay gaps, reducing job segregation and providing appropriate education and training opportunities. These are measurable differences and countable things that we can do. We must ensure that these action plans address not only gender, but also race, disability and other equality issues. They must particularly address the double discrimination faced by black and ethnic minority women and disabled women, referred to in today’s motion.
Beth am gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad? Maent yn gyflogwyr enfawr ar draws y wlad ac yn cyflogi menywod yn arbennig. Dylem fynnu eu bod yn cynnal archwiliad i’w staff a’u gwasanaethau. Pwy a gyflogir ganddynt i wneud beth, a faint a delir i’r bobl hynny? Pa wasanaethau a ddarperir, i bwy y’u darperir ac ym mhle y maent yn eu darparu? Dylem fynnu bod cynlluniau gweithredu cydraddoldeb i bob corff. Nid yw’n bosibl mai fi yw’r unig berson yn yr ystafell hon sydd wedi blino ar bolisïau cyfle cyfartal—maent yn dod allan o’n clustiau yn y wlad hon. Gweithredu sydd ei angen arnom, nid polisi. Mae angen targedau sylfaenol, syml arnom yn y cynlluniau gweithredu hynny, yn delio â materion fel nifer y lleoedd gofal plant sydd ar gael, lleihau’r bwlch rhwng cyflogau, gwahanu llai ar swyddi a chynnig cyfleoedd addysg a hyfforddiant priodol. Mae’r rhain yn wahaniaethau mesuradwy ac yn bethau y gallwn eu gwneud y mae modd eu cyfrif. Rhaid inni sicrhau bod y cynlluniau gweithredu hyn yn rhoi sylw nid yn unig i faterion gwryw/benyw, ond hefyd i hil, anabledd ac ystyriaethau cydraddoldeb eraill. Rhaid yn arbennig iddynt fynd i’r afael â’r cam-wahaniaethu dwbl a wynebir gan fenywod du, menywod o leiafrifoedd ethnig a menywod anabl, y cyfeirir ato yng nghynnig heddiw.
These actions would be just the start, but they would be a start. There are people out there who expect us to take visible action soon. I urge all Assembly colleagues to support this motion and, above all, to support the last part that commits us to some real action.
Cam cyntaf fyddai’r gweithredu yma, ond byddai’n ddechrau. Mae pobl ar y tu allan sydd yn disgwyl inni weithredu mewn modd gweladwy yn fuan. Anogaf fy holl gyd-Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn ac, yn bennaf oll, i gefnogi’r rhan olaf sydd yn ein rhwymo i weithredu.
Thank you for allowing me to speak at such short notice. It was not my intention to speak this afternoon, but having heard so many plaudits for so many women in Wales—sadly there are no female Conservative Assembly Members as yet, although I hope that that will change next time—I would like to pay my personal tribute to one of the greatest female politicians ever elected in this country. There was glaring inadequacy in some of the speeches. When we discussed elected women and those who had achieved great things, no mention was made of the first female British Prime Minister, Mrs Thatcher. Before Members try to shout me down, while they do not share—
Diolch ichi am ganiatáu imi siarad ar rybudd mor fyr. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad y prynhawn yma, ond wedi clywed cymaint o ganmol i gynifer o fenywod yng Nghymru—yn anffodus, nid oes unrhyw Aelodau Ceidwadol benywaidd o’r Cynulliad eto, er y gobeithiaf y bydd hynny’n newid y tro nesaf—hoffwn dalu fy nheyrnged bersonol i un o’r gwleidyddion benywaidd mwyaf i’w hethol erioed yn y wlad hon. Yr oedd diffyg amlwg yn rhai o’r areithiau. Wrth inni drafod menywod etholedig a’r rheini sydd wedi cyflawni pethau mawr, ni soniwyd am Brif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain, Mrs Thatcher. Cyn i’r Aelodau geisio gweiddi’n uwch na mi, er nad ydynt yn rhannu—
Had you been here throughout the afternoon, you would know that that good lady has been referred to several times. During your invaluable contribution, can you outline the steps that Mrs Thatcher took to enable other women to participate in the political process?
Pe baech chi wedi bod yma drwy’r prynhawn, byddech yn gwybod inni glywed sawl cyfeiriad at y foneddiges dan sylw. Yn ystod eich cyfraniad amhrisiadwy, a allwch chi amlinellu’r camau a gymerodd Mrs Thatcher i alluogi menywod eraill i gymryd rhan yn y broses wleidyddol?
I will do that. I have not been here throughout the debate because the BBC asked me to speak on this subject. I am not sure why they asked me, but I was happy to oblige.
Gwnaf hynny. Nid wyf wedi bod yma drwy gydol y ddadl oherwydd i’r BBC ofyn imi siarad ar y pwnc hwn. Nid wyf yn siŵr pam iddynt ofyn i mi, ond yr oeddwn yn barod i wneud.
Mrs Thatcher’s contribution in encouraging more women to be politicians and to be elected was to lead by example. She showed that there is no ceiling through which women cannot break. Becoming the leader of the Conservative Party, which is wrongly seen by many as a slightly old-fashioned party, and then becoming the first British female Prime Minister showed that there are no barriers that people cannot cross. It was not because of twinning systems or being imposed on anyone that Mrs Thatcher was able to get there. She did it on merit, and that is why she had the support of so many Conservatives for so long.
Cyfraniad Mrs Thatcher o ran annog mwy o fenywod i fod yn wleidyddion a chael eu hethol oedd arwain drwy esiampl. Dangosodd nad oes unrhyw nenfwd na all menywod dorri trwyddo. Drwy ddod yn arweinydd y Blaid Geidwadol, a ystyrir ar gam gan lawer yn blaid dipyn yn hen ffasiwn, ac yna ddod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain, dangosodd nad oes unrhyw rwystrau na all pobl eu croesi. Nid oherwydd systemau gefeillio nac am iddi gael ei gorfodi ar neb y llwyddodd Mrs Thatcher i gyrraedd yno. Fe’i gwnaeth ar ei haeddiant, a dyna pam y cafodd gefnogaeth cynifer o Geidwadwyr gyhyd.
In that case, why are there no women in the Tory group in the Assembly? Why does the Tory group in the House of Commons have the lowest percentage of women of all the parties, apart from the great ‘party of Wales’, which has never had a female MP? Is this because no women of ability are members of the Tory Party? What does that say about the Tory Party? What is happening to the women of ability?
Os felly, pam nad oes menywod yn y grŵp Torïaidd yn y Cynulliad? Pam mai’r grŵp Torïaidd sydd â’r ganran isaf o fenywod yn Nhŷ’r Cyffredin o’r holl bleidiau, ar wahân i’r ‘party of Wales’ bondigrybwyll, nad yw erioed wedi cael AS benyw? Ai am nad oes unrhyw fenywod galluog yn aelodau o’r Blaid Dorïaidd? Beth y mae hynny’n ei ddweud am y Blaid Dorïaidd? Beth sydd yn digwydd i’r menywod galluog?
That is a fair question. The Conservative Party has always operated a system that allows its ordinary card-carrying members to decide on its candidates. It is unfortunate that, in the run-up to the last election, the majority of winnable seats and places on the party lists were taken up by men. Those men, including myself, were placed there by the party’s rank and file members. There is an even balance of men and women in the Conservative Party. Women were voting for the candidates whose names were put onto the lists. I hope that more female Conservative candidates win seats at the next election. The lists will not matter as we will not rely on them next time. We will win seats outright throughout Wales.
Mae hynny’n gwestiwn teg. Mae’r Blaid Geidwadol wedi cynnal system erioed sydd yn galluogi’i haelodau cyffredin sydd â cherdyn i benderfynu ar yr ymgeiswyr. Mae’n anffodus, yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf, mai dynion a neilltuwyd i fwyafrif y seddau a’r llefydd ar restrau’r blaid y gellid eu hennill. Rhoddwyd y dynion hyn, gan fy nghynnwys i, yno gan aelodau cyffredin y blaid. Ceir nifer gyfartal o ddynion a menywod yn y Blaid Geidwadol. Yr oedd menywod yn pleidleisio dros yr ymgeiswyr y rhoddwyd eu henwau ar y rhestrau. Gobeithiaf y bydd mwy o ymgeiswyr Ceidwadol benywaidd yn ennill seddau yn yr etholiad newydd. Ni fydd y rhestrau’n bwysig gan na fyddwn yn dibynnu arnynt y tro nesaf. Byddwn yn ennill seddau’n glir ledled Cymru.
I was minded to pay this tribute, particularly because of Helen Mary’s comments about the Greenham Common women. I attended a state school in Newport in the 1980s when CND and the Greenham Common women were popularly viewed to be acting sensibly. I was unusual in that school as, unlike many of my teachers, I did not walk around with a CND badge and I did not believe in its activities.
Ysgogwyd fi i dalu’r deyrnged hon, yn enwedig oherwydd sylwadau Helen Mary am fenywod Comin Greenham. Yr oeddwn yn mynychu ysgol wladol yng Nghasnewydd yn y 1980au pan oedd dirnadaeth boblogaidd fod CND a menywod Comin Greenham yn ymddwyn yn synhwyrol. Yr oeddwn yn anarferol yn yr ysgol honno oherwydd, yn wahanol i lawer o’m hathrawon, ni cherddwn o gwmpas gyda bathodyn CND ac ni chredwn yn ei weithgareddau.
People from an older generation often tell me that they remember where they were when President Kennedy was assassinated. I will always remember seeing the Berlin wall being demolished. While I was in school in Bassaleg, Newport, some teachers led us to believe that the Berlin wall was in place to stop the West from getting in. We were told that Communism was not such a bad thing. Labour Party extremists encouraged and were apologists of the Communist regime. At that time, Mrs Thatcher was adamant—
Mae pobl o genhedlaeth hŷn yn dweud wrthyf yn aml eu bod yn cofio ble roeddynt pan lofruddiwyd yr Arlywydd Kennedy. Byddaf fi’n cofio gweld mur Berlin yn cael ei ddymchwel am byth. Tra’r oeddwn yn yr ysgol yn Bassaleg, Casnewydd, arweiniodd rhai o’r athrawon ni i gredu bod mur Berlin yno i atal y Gorllewin rhag mynd i mewn. Dywedwyd wrthym nad oedd Comiwnyddiaeth yn beth mor ddrwg â hynny. Yr oedd eithafwyr y Blaid Lafur o blaid y gyfundrefn Gomiwnyddol ac yn ei hamddiffyn. Ar y pryd, yr oedd Mrs Thatcher yn bendant—
Point of order. What does the fall of the Berlin wall have to do with International Women’s Day? We should be bound by being relevant to the debate.
Pwynt o drefn. Beth sydd gan gwymp mur Berlin i’w wneud â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Dylai bod yn berthnasol i’r ddadl rwymo pawb ohonom.
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 65
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65
I am sure that the Member will link his point to the debate.
Yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn cysylltu ei bwynt â’r ddadl.
Yes, I will. When the Greenham Common women were protesting, it was another woman of much greater political stature who had the guts and the courage to stand up and say that CND and the apologists for the Communist regime were wrong. It was because of her moral courage that the Berlin wall eventually collapsed and we saw the end of Communism.
Byddaf. Pan oedd menywod Comin Greenham yn protestio, menyw arall o faintioli llawer mwy yn wleidyddol oedd â’r rhuddin a’r dewrder i sefyll ar ei thraed a dweud bod CND a diffynwyr y gyfundrefn Gomiwnyddol yn anghywir. Oherwydd ei dewrder moesol hi y bu i fur Berlin ddymchwel maes o law ac y gwelwyd diwedd Comiwnyddiaeth.
I also remember the 1980s and Mrs Thatcher’s popularity. I travelled in eastern Europe during that decade, and if you thought Mrs Thatcher was popular amongst the rank and file of the electorate here, you should have gone to Poland or the Czech Republic. They would cheer her from the rooftops and say to visitors, ‘hold firm against what the Russians are doing’. David is right. It is Thatcher and Reagan who brought down the Berlin wall.
Yr wyf innau’n cofio’r 1980au a phoblogrwydd Mrs Thatcher. Bûm yn teithio yn nwyrain Ewrop yn ystod y degawd hwnnw, ac os tybiech chi fod Mrs Thatcher yn boblogaidd ymysg trwch yr etholwyr yma, dylech fod wedi mynd i Wlad Pwyl neu’r Weriniaeth Tsiec. Byddent yn bloeddio cymeradwyaeth iddi ac yn dweud wrth ymwelwyr, ‘daliwch eich tir yn erbyn yr hyn y mae’r Rwsiaid yn ei wneud’. Mae David yn iawn. Thatcher a Reagan a ddymchwelodd fur Berlin.
I thank David Melding for that and I hope other Members were taking note.
Diolchaf i David Melding am hynny a gobeithiaf fod yr Aelodau eraill yn cymryd sylw.
If Margaret Thatcher is so popular across the western world and is its saviour, why has the Conservative Party no Members of Parliament in Wales?
Os yw Margaret Thatcher mor boblogaidd ar draws y byd gorllewinol ac mai hi yw ei achubwr, pam nad oes gan y Blaid Geidwadol unrhyw Aelodau Seneddol yng Nghymru?
If I start asking that question, I will be in danger of going off the subject of International Women’s Day, which is my own personal tribute to Mrs Thatcher.
Os dechreuaf ofyn y cwestiwn hwnnw, byddaf mewn perygl o grwydro oddi ar bwnc Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sef fy nheyrnged bersonol i i Mrs Thatcher.
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 65
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65
Could the Member return to the subject of the debate?
A wna’r Aelod ddod yn ôl at bwnc y ddadl?
I think Val might dwell instead on why the Labour Party, which has dominated Wales for so long, has so few female Members of Parliament. After all, if a woman is elected to stand for Labour in most of the seats in Wales, she has a very good chance of being elected for that seat.
Credaf mai da o beth fyddai i Val bwyso a mesur pam fod gan y Blaid Lafur, a fu â goruchafiaeth yng Nghymru gyhyd, gyn lleied o Aelodau Seneddol benyw. Wedi’r cwbl, os etholir menyw i sefyll dros Lafur yn y rhan fwyaf o seddau yng Nghymru, mae ganddi obaith da iawn o gael ei hethol i’r sedd honno.
Alison Halford a gododd—
Alison Halford rose—
I want to give everyone a chance to speak so I will give way again, but I am drawing to a close.
Yr wyf am roi cyfle i bawb siarad felly ildiaf unwaith eto, ond yr wyf bron â gorffen.
It only gives you an opportunity to draw breath in order to continue this eulogy about Mrs Thatcher. Although she was a great woman in her time, and it would be wrong of us to take that from her although some of her policies and attitudes were deplorable, she did nothing for women. It is sad that some women in high places ignore and do nothing to promote women. Mrs Thatcher had no women in her Cabinet. I will tell you a little story although I will not hold it against her. In my darkest hour, when I had been illegally suspended and the whole of the Conservative Party and a Tory chief constable were out to get me, and I hope that does not sound paranoid, Mo Mowlam sent me a Christmas card signed by the majority of women parliamentarians. Guess whose signature was not on that most welcome card?
Nid yw ond yn rhoi cyfle ichi gael eich gwynt atoch er mwyn parhau â’ch molawd am Mrs Thatcher. Er ei bod hi’n fenyw fawr yn ei hamser, ac ni fyddai’n iawn inni dynnu hynny oddi wrthi er bod ganddi rai polisïau ac agweddau i resynu atynt, ni wnaeth ddim dros fenywod. Mae’n drist bod rhai menywod uchel eu statws yn anwybyddu menywod heb wneud dim i’w dyrchafu. Nid oedd gan Mrs Thatcher fenyw yn ei Chabinet. Dywedaf stori fach wrthych er na fyddaf yn ei dal yn ei herbyn. Yn fy awr dywyllaf, pan oeddwn wedi fy atal yn anghyfreithlon gyda’r holl Blaid Geidwadol a phrif gwnstabl Torïaidd am fy ngwaed, a gobeithio nad yw hynny’n swnio’n baranoiaidd, anfonodd Mo Mowlam gerdyn Nadolig ataf wedi’i lofnodi gan fwyafrif o’r aelodau seneddol benyw. Dyfalwch pa lofnod oedd heb ei gynnwys ar y cerdyn hwnnw a fu’n gymaint cysur imi?
I am aware that you were involved in a difficult situation relating to your career. I am not sure of the circumstances or the allegations. I have always found you a convivial person with whom to work and an intelligent member on the Committee on which we sit. I am not interested in what went on, and it would be unfair for me to comment on why Mrs Thatcher did not put her signature on that card. However, I am glad that you reminded me of Mo Mowlam because the other abiding memory I have of Mrs Thatcher is the courage she showed when the Brighton bomb exploded during the Conservative Party conference of 1983. That was the third conference I attended. I was not in Brighton the night the bomb exploded, but I was there the following day. The speech that Mrs Thatcher made that day is one that I will never forget, and it was probably one of the things that inspired me to take up a career in politics.
Yr wyf yn ymwybodol ichi fod mewn sefyllfa anodd ynglŷn â’ch gyrfa. Nid wyf yn siŵr o’r amgylchiadau na’r honiadau. Yr wyf wedi eich cael yn berson hwyliog i weithio gyda chi ac yn aelod deallus ar y Pwyllgor y gwasanaethwn arno. Nid oes gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddigwyddodd, a byddai’n annheg imi awgrymu pam nad oedd llofnod Mrs Thatcher ar y cerdyn hwnnw. Fodd bynnag, yr wyf yn falch ichi fy atgoffa am Mo Mowlam oherwydd y cof arall sydd yn aros gennyf am Mrs Thatcher yw’r dewrder a ddangosodd pan ffrwydrodd bom Brighton yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol yn 1983. Dyna’r drydedd gynhadledd y bûm iddi. Nid oeddwn yn Brighton y noson y ffrwydrodd y bom, ond yr oeddwn yno y diwrnod canlynol. Ni wnaf fyth anghofio’r araith a roddodd Mrs Thatcher y diwrnod hwnnw, ac mae’n debyg ei bod yn un o’r pethau a’m hysbrydolodd i ymgymryd â gyrfa mewn gwleidyddiaeth.
You mentioned that you remember where you were when particular historical events occurred. Do you remember where you were when the Belgrano was sunk?
Sonioch eich bod yn cofio ble’r oeddech pan ddigwyddodd rhai digwyddiadau hanesyddol. Ydych chi’n cofio ble’r oeddech pan suddwyd y Belgrano?
I do not because I was probably in school. I am not trying to run it down but the Labour Party supported the Falklands campaign, which was a campaign against a fascist regime. On my travels, since leaving school, I have met several Argentineans who were not overly impressed with British efforts during the Falklands war but who were pleased that we managed to get rid of that fascist regime as a result. I am sure that you would support me in saying that the present democracy in Argentina is far better than the fascist dictatorship that went before it.
Nac ydwyf oherwydd mae’n debyg fy mod yn yr ysgol. Nid wyf yn ceisio lladd arni ond cefnogodd y Blaid Lafur ymgyrch y Falklands, a oedd yn ymgyrch yn erbyn cyfundrefn ffasgaidd. Ar fy nheithiau, ers gadael yr ysgol, yr wyf wedi cwrdd â sawl Archentwr nad oeddent yn or-hapus ag ymdrechion Prydain yn ystod rhyfel y Falklands ond a oedd yn falch inni lwyddo i gael gwared â chyfundrefn ffasgaidd yn ei sgîl. Yr wyf yn siŵr y byddech yn fy nghefnogi wrth ddweud bod y ddemocratiaeth yn yr Ariannin yn awr yn llawer gwell na’r unbennaeth ffasgaidd a’i rhagflaenai.
Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 67
Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 67
I remind Members seeking to intervene and the Member speaking that this debate is about International Women’s Day. Can we focus the debate on that issue?
Hoffwn atgoffa Aelodau sydd am ymyrryd a’r Aelod sydd yn siarad mai dadl am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yw hon. A gawn ni ganolbwyntio ar hynny yn y ddadl?
I apologise but I was responding to the intervention. You may not like Mrs Thatcher and you may not agree with her political policies but she is a woman and she inspired many. She had guts, courage and determination and she achieved success through her own efforts and not through discussing International Women’s Day or anything else. She achieved that success because people were inspired to follow her, and I was one of those people.
Ymddiheuraf ond yr oeddwn yn ymateb i’r ymyriad. Efallai nad ydych yn hoffi Mrs Thatcher ac nad ydych yn cytuno â’i pholisïau gwleidyddol ond y mae’n fenyw a bu’n ysbrydoliaeth i lawer. Yr oedd ganddi ruddin, dewrder a phenderfyniad a chafodd lwyddiant drwy ei hymdrechion ei hun ac nid drwy drafod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod na dim byd arall. Cafodd y llwyddiant hwnnw am fod pobl wedi’u hysbrydoli i’w dilyn, ac yr oeddwn i’n un o’r bobl hynny.
It is a pleasure to respond to the majority of the positive contributions on International Women’s Day. It is important that I do not comment on the last speaker’s contribution, so I will concentrate on the positive elements raised by others. I will go through the speakers and finally summarise what I consider to be our position on this issue following today’s debate.
Mae’n bleser cael ymateb i’r rhan fwyaf o’r cyfraniadau cadarnhaol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’n bwysig imi beidio ag ymdrin â chyfraniad y siaradwr diwethaf, felly canolbwyntiaf ar yr elfennau cadarnhaol a godwyd gan eraill. Af drwy’r siaradwyr ac yna grynhoi ein safbwynt ni ar y mater hwn yn dilyn y ddadl heddiw.
Dr David Lloyd made a genuine contribution that outlined the realities of the world at work that he faced as a general practitioner—the problems in the profession and how things are changing. It was refreshing to be given that personal look at the world from which he had come and the one he has now entered. We can take examples from that. He made a positive point by saying that all talents should be recognised irrespective of gender, race or creed and that we should acknowledge that diversity.
Gwnaeth Dr David Lloyd gyfraniad diffuant a amlinellai realiti’r byd gwaith y mae ef yn ei wynebu fel meddyg teulu—y problemau yn y proffesiwn a’r ffordd y mae pethau’n newid. Yr oedd yn braf cael yr olwg bersonol honno ar y byd y daeth ef ohono a’r byd y mae wedi mynd iddo erbyn hyn. Gallwn gymryd esiamplau o hynny. Gwnaeth bwynt positif drwy ddweud y dylid cymeradwyo pob dawn heb ystyried rhyw, hil na chredo ac y dylem gydnabod yr amrywiaeth hwnnw.
Jenny Randerson concentrated on statistical analysis, which indicated the position of women within the Welsh workforce and outlined some of the key issues that we should consider. I was pleased to hear David Melding’s internationalist comments. In marking International Women’s Day, we should consider the contributions that women make across the world and the difficulties that they face in our country as well as others. David’s comments on the equal pay legislation were particularly valid. There is a myth that we have achieved equal pay, but we must still tackle this issue. I will comment in detail on David’s and Christine Humphreys’s points on the carers strategy later because the Assembly can do more to help support the UK Government’s policies in those areas. David also referred to the laws of succession and allowing Roman Catholics to ascend to the throne, which is also related to religious freedom.
Canolbwyntiodd Jenny Randerson ar ddadansoddiad ystadegol, a nodai sefyllfa menywod o fewn gweithlu Cymru ac amlinellodd rai o’r materion allweddol y dylem eu hystyried. Yr oeddwn yn falch o glywed sylwadau rhyngwladolaidd David Melding. Wrth nodi Diwrnod Cenedlaethol y Menywod, dylem ystyried y cyfraniadau a wneir gan fenywod ar draws y byd a’r anawsterau a wynebant yn ein gwlad ni yn ogystal â gwledydd eraill. Yr oedd sylwadau David ar y ddeddfwriaeth cyflogau cyfartal yn neilltuol o ddilys. Mae myth ein bod wedi sicrhau cyflog cyfartal, ond mae angen o hyd inni fynd i’r afael â’r mater hwn. Byddaf yn cyfeirio’n fanwl yn ddiweddarach at sylwadau David a Christine Humphreys ar y strategaeth i gynhalwyr oherwydd gall y Cynulliad wneud mwy i helpu i gefnogi polisïau Llywodraeth y DU yn y meysydd hynny. Cyfeiriodd David hefyd at y deddfau olyniaeth a chaniatáu i Babyddion esgyn i’r orsedd, sydd hefyd a wnelo â rhyddid crefyddol.
Christine Chapman referred to twinning in our party. This was a divisive issue, but it was also a positive signal that we wanted to redress the gender balance in Wales. She also mentioned the role of women in the economy and the bread and butter issues that we must address as an Assembly in terms of equality for women. Christine Humphreys mentioned the equality deficit in Government. We are all conscious of trying to balance the deficit within democratic structures in the Assembly, but we must also redress the balance outside the Assembly in local government and other institutions if we are to make Wales more representative of Welsh society.
Cyfeiriodd Christine Chapman at efeillio yn ein plaid ni. Yr oedd yn fater a achosodd rwygiadau, ond yr oedd hefyd yn arwydd positif ein bod am unioni’r fantol rhwng y ddau ryw yng Nghymru. Soniodd hefyd am rôl menywod yn yr economi a’r materion bara ac ymenyn y mae’n rhaid inni fel Cynulliad ymdrin â hwy o ran cydraddoldeb i fenywod. Soniodd Christine Humphreys am y diffyg cydraddoldeb yn y Llywodraeth. Yr ydym oll yn ymwybodol o geisio mantoli’r diffyg o fewn strwythurau democrataidd y Cynulliad, ond rhaid inni unioni’r fantol y tu allan i’r Cynulliad mewn llywodraeth leol a sefydliadau eraill os ydym i wneud Cymru yn fwy cynrychiadol o gymdeithas Cymru.
Richard Edwards commented on the Welsh political scene—what the Labour Party has already done, the work that remains to be done and the fact that we must ensure that the right balance of society is represented within Welsh political life. I was particularly taken by Karen Sinclair’s points about childcare. As a parent, I recognise the difficulties that ordinary parents have. Jocelyn Davies mentioned that we must be realistic about ordinary women. It is all very well when you earn an Assembly Member’s salary or equivalent—if you decide that you want to arrange childcare provision, you do so. How do women and families on low wages organise their childcare provision? How do they ensure affordability and standards of care? We must grapple with those real issues in terms of childcare. We should focus on how we can deliver in rural as well as urban areas. We should consider what better use we can make of joined-up government, involving schools and institutions to help us on childcare. There are good examples across Europe of governments that have looked at the childcare and education-linked agenda constructively. We could focus on that.
Cyfeiriodd Richard Edwards at fyd gwleidyddol Cymru—beth y mae’r Blaid Lafur wedi’i wneud yn barod, y gwaith sydd ar ôl i’w wneud a’r ffaith bod yn rhaid inni sicrhau y cynrychiolir cydbwysedd priodol cymdeithas ym mywyd gwleidyddol Cymru. Gwnaeth pwyntiau Karen Sinclair am ofal plant argraff arbennig arnaf. Fel rhiant, cydnabyddaf yr anawsterau sydd gan rieni cyffredin. Dywedodd Jocelyn Davies fod yn rhaid inni fod yn realistig am fenywod cyffredin. Mae’n ddigon hawdd pan fyddwch yn ennill cyflog Aelod Cynulliad neu swm cyfatebol—os penderfynwch eich bod am drefnu darpariaeth gofal plant, rydych yn gwneud hynny. Sut mae menywod a theuluoedd ar gyflogau isel yn trefnu eu darpariaeth gofal plant? Sut maent yn sicrhau gofal o safon y gallant ei fforddio? Rhaid inni ymaflyd yn y cwestiynau hyn o safbwynt gofal plant. Dylem ganolbwyntio ar sut y gallwn ddarparu mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â threfol. Dylem ystyried pa ddefnydd gwell y gallwn ei wneud o lywodraeth gydgysylltiedig, gan gynnwys ysgolion a sefydliadau i’n helpu gyda gofal plant. Ceir enghreifftiau da ar draws Ewrop o lywodraethau sydd wedi edrych yn adeiladol ar yr agenda gofal plant ac ystyriaethau’n ymwneud ag addysg. Gallem ganolbwyntio ar hynny.
I was interested in Peter Black’s employment history. Having known you for several years now, it is no surprise to me that you were bolshie when you finished your education and were looking for your first job. You were quite right about family-friendly policies being essential and that there are equality issues around employers’ expectations of employees and who they anticipate that they will employ. The mythology around work and job segregation still exists and was highlighted nicely by Ann Jones’s contribution on the fire services, and how few female role models there are in those services.
Yr oedd gennyf ddiddordeb yn hanes cyflogaeth Peter Black. Gan fy mod yn eich adnabod ers sawl blwyddyn, nid yw’n syndod imi eich bod yn bolshie pan oeddech yn gorffen eich addysg ac yn chwilio am eich swydd gyntaf. Yr oeddech yn gwbl gywir bod polisïau ystyriol o deuluoedd yn hanfodol a bod yna ystyriaethau cydraddoldeb ynglŷn â’r hyn y mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl gan eu gweithwyr a phwy y maent yn ei ragweld y byddant yn ei gyflogi. Mae’r mythau ynglŷn â gwaith a gwahanu swyddi yn dal i fodoli a thynnwyd sylw ato’n dwt gan gyfraniad Ann Jones am y gwasanaethau tân, a’r prinder modelau rôl benywaidd sydd yna yn y gwasanaethau hynny.
Jocelyn put forward real women’s issues and clubs. Her discussion put class before gender, which is an issue close to my heart. At the end of the day, we will not be judged on what we do for the professional chattering classes, but on what we do for the ordinary woman in Wales who is thinking ‘Not another day to get through, not another bill’. It is important that we consider that when we undertake our work.
Soniodd Jocelyn am faterion a chlybiau menywod go iawn. Rhoddodd ei thrafodaeth hi ddosbarth o flaen rhyw, mater sydd yn agos at fy nghalon i. Ar ddiwedd y dydd, nid ar yr hyn a wnawn dros y dosbarthiadau parablyd proffesiynol y cawn ein barnu, ond ar yr hyn a wnawn i’r fenyw gyffredin yng Nghymru sydd yn meddwl ‘Dim diwrnod arall i’w wynebu, dim bil arall’. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried hynny wrth ymgymryd â’n gwaith.
I am always interested in Val’s contributions on these issues. We have discussed many of these issues over the years, particularly public appointments. I feel strongly that more focus work must be done on this. The current system is nice for those people who have public appointments and take them up, but we are ignoring a vast pool of people. We ignore the potential of people who could be out there in the mainstream. We ignore their life experiences because we do not think that they are relevant. It is important that we assess what type of diversity and people we want in public appointments and that we consider how we structure public appointments and the work entailed.
Mae gennyf ddiddordeb bob amser yng nghyfraniadau Val ar y materion hyn. Yr ydym wedi trafod llawer o’r materion hyn dros y blynyddoedd, yn enwedig benodiadau cyhoeddus. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid gwneud mwy o waith ffocws ar hyn. Mae’r system gyfredol yn braf i’r bobl hynny sydd â phenodiadau cyhoeddus ac sydd yn ymgymryd â hwy, ond yr ydym yn anwybyddu cronfa enfawr o bobl. Yr ydym yn anwybyddu potensial pobl a allai fod allan yn y brif ffrwd. Anwybyddwn eu profiadau o fywyd gan nad ydym yn meddwl eu bod yn berthnasol. Mae’n bwysig ein bod yn asesu pa fath o amrywiaeth a phobl yr ydym am eu cael mewn penodiadau cyhoeddus ac yn ystyried sut y trefnir penodiadau cyhoeddus a’r gwaith sydd ynghlwm wrthynt.
I enjoyed Helen Mary’s contribution a great deal, especially when she talked about her family. Her experience mirrors that of many of us women with strong female figures in our families who struggled from poor working-class backgrounds and fought for their children to go to university and better themselves. We would all do well to emphasise that. Helen Mary also commented on historical figures in Wales. You see many women lurking at the back of the photographs. Times have changed and some of us are coming a bit more into the foreground. Helen Mary also raised some key issues about staff and childcare in the Assembly and Assembly sponsored public bodies, which I will address later.
Mwynheais gyfraniad Helen Mary yn fawr, yn enwedig pan oedd yn siarad am ei theulu. Mae ei phrofiad yn adlewyrchu profiad llawer ohonom ni fenywod sydd â ffigyrau benywaidd cryf yn ein teuluoedd a ymdrechodd o gefndiroedd dosbarth gweithiol tlawd gan ymladd i’w plant gael mynd i’r brifysgol a gwella eu hunain. Da o beth fyddai i bawb ohonom bwysleisio hynny. Soniodd Helen Mary hefyd am ffigyrau hanesyddol yng Nghymru. Gwelwch lawer o fenywod yn ystelcian yng nghefn y ffotograffau. Mae’r amser wedi newid ac mae rhai ohonom yn dod ychydig yn nes i’r tu blaen. Cododd Helen Mary rai materion allweddol hefyd am staff a gofal plant yn y Cynulliad ac mewn cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, a rhoddaf sylw i hynny’n ddiweddarach.
Many people mentioned the Beijing agenda. It means nothing to many of our constituents. We must make that global agenda relevant to them and show them what we can draw down from it, at a level that will improve their lives. I hope that we can begin to sell that agenda and the international commitment to dealing with issues that affect women. If we are to begin to deal with those issues, we must examine the invisibility of women in certain bodies and women’s roles and functions. In some sectors, women are invisible. We must begin to say to various professions and our partners, ‘Where are the women? Are they coming through your structures?’ and tell them what they should do.
Cyfeiriodd llawer o bobl at agenda Beijing. Nid yw’n golygu dim i lawer o’n hetholwyr. Rhaid inni wneud yr agenda fyd-eang honno’n berthnasol iddynt hwy a dangos iddynt sut y gallwn dynnu ohoni, ar lefel a fydd yn gwella’u bywydau. Gobeithiaf y gallwn ddechrau gwerthu’r agenda honno a’r ymrwymiad rhyngwladol i ddelio â materion sydd yn effeithio ar fenywod. Os ydym i ddechrau delio â’r materion hynny, rhaid inni ystyried mor anweladwy yw menywod mewn rhai cyrff, ac ystyried rolau a swyddogaethau menywod. Mewn rhai sectorau, mae menywod yn anweladwy. Rhaid inni ddechrau dweud wrth amryw broffesiynau a’n partneriaid, ‘Ym mhle mae’r menywod? A ydynt yn dod drwy eich strwythurau?’ a dweud wrthynt beth y dylent ei wneud.
Women like us also have a responsibility here. Alison Halford made that point. We must not pull the ladders up behind us. There has been a tendency, when women have clawed their way to the top via male agendas and values, for them to decide that they will play the game the same way. They do not regard other women as an asset but as a threat and they do what men do and pull the ladder up behind them. As politicians, we must be conscious that we do not have any truck with that. Our doors should always be open. We should always assist and show solidarity towards our sisters who want to be where we are. That is an important message.
Mae gan fenywod fel ni hefyd gyfrifoldeb yma. Gwnaeth Alison Halford y pwynt hwnnw. Rhaid inni beidio â thynnu’r ysgol ar ein hôl. Bu tuedd, pan fo menywod wedi crafangu’u ffordd i’r brig drwy agendâu a gwerthoedd gwryw, iddynt benderfynu chwarae’r gêm yr un ffordd. Nid ydynt yn edrych ar fenywod eraill fel ased ond fel bygythiad a gwnânt yr hyn a wna dynion a thynnu’r ysgol ar eu hôl. Fel gwleidyddion, rhaid inni fod yn ymwybodol na fyddwn yn dioddef hynny. Dylai ein drysau fod ar agor bob amser. Dylem bob amser gynorthwyo a dangos cydgefnogaeth i’n chwiorydd sydd am fod lle’r ydym ni. Mae honno’n neges bwysig.
When we are showing solidarity, it would be nice to have some media coverage. Some of you have referred to the media’s lack of interest today. In the main that is because there is nothing controversial in this debate. We all know why we wanted to go into politics: we wanted to change the world. We might not all want to change the world in the same way, but there are key issues on which we agree. We want to see women better represented and their role enhanced and we want the skills and diversity of everybody in society to be used to the utmost for the benefit of us all. That is important.
Pan fyddwn yn dangos cydgefnogaeth, braf fyddai cael sylw yn y cyfryngau. Cyfeiriodd rhai ohonoch at ddiffyg diddordeb y cyfryngau heddiw. Mae hynny yn bennaf am nad oes unrhywbeth dadleuol yn y ddadl hon. Gŵyr pawb ohonom pam yr oeddem am fynd i fyd gwleidyddiaeth: yr oeddem am newid y byd. Efallai nad yw pawb ohonom am newid y byd yn yr un ffordd, ond mae materion allweddol yr ydym yn cytuno arnynt. Yr ydym am weld menywod yn cael eu cynrychioli’n well a’u rôl wedi’i wella ac yr ydym am i sgiliau ac amrywiaeth pawb yn y gymdeithas gael eu defnyddio i’r eithaf er lles pawb ohonom. Mae hynny’n bwysig.
Several speakers discussed the issue of carers and the carers strategy. There is room for us to do further work on this. What has been done so far is good, but it is essential that we recognise the contribution of carers to society much more. It would be useful for the Assembly to focus on those issues far more and allocate more time for discussing them, to see if we can have a Welsh policy that develops our responsibility to carers and a greater understanding of their needs. I would be pleased if we also considered a childcare strategy in that way.
Ymdriniodd sawl siaradwr â phwnc cynhalwyr a’r strategaeth i gynhalwyr. Mae lle inni wneud gwaith pellach ar hyn. Mae’r hyn a wnaethpwyd hyd yma yn dda, ond mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod llawer mwy ar gyfraniad cynhalwyr i gymdeithas. Byddai’n fuddiol i’r Cynulliad ganolbwyntio llawer mwy ar y materion hynny a neilltuo mwy o amser i’w trafod, i weld a allwn gael polisi i Gymru sydd yn datblygu ein cyfrifoldeb at gynhalwyr a gwell dealltwriaeth o’u hanghenion. Byddwn hefyd yn falch pe baem yn ystyried strategaeth gofal plant yn yr un modd.
The current childcare strategy is fine, but its scope needs to be broader. We should consider Wales as a whole to see what parts we can incorporate into the strategy to achieve joined-up government. All Committees have a valuable role and function in contributing to that discussion.
Mae’r strategaeth gofal plant gyfredol yn iawn, ond mae angen i’w chwmpas fod yn ehangach. Dylem ystyried Cymru gyfan i weld pa rannau y gallwn eu hymgorffori yn y strategaeth i gyflawni llywodraeth gydgysylltiedig. Mae gan y Pwyllgorau i gyd rôl a swyddogaeth werthfawr yn cyfrannu at y drafodaeth honno.
There are many other issues to tackle. We must start to put our own house in order. The Committee on Equality of Opportunity is considering the equality audit. It is essential that after learning lessons from that we hold a full discussion, perhaps in the Chamber, on some of the issues that arise. We should be seen to be perfect. That is the only way to start to tackle Assembly sponsored public bodies and influence others. It is essential that, as Helen Mary Jones suggested, we start to talk to them and find out what they consider to be the issues on equality. If we take the lead by putting our own house in order we will make progress in that area.
Mae llawer o faterion eraill i fynd i’r afael â hwy. Rhaid inni ddechrau rhoi trefn ar ein tŷ ein hunain. Mae’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn ystyried yr archwiliad cydraddoldeb. Ar ôl dysgu gwersi o hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn cael trafodaeth lawn, yn y Siambr efallai, ar rai o’r materion sydd yn codi. Rhaid i bobl weld ein bod ni’n berffaith. Dyna’r unig ffordd o ddechrau mynd i’r afael â chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a dechrau dylanwadu ar eraill. Mae’n hanfodol, fel yr awgrymodd Helen Mary Jones, ein bod yn dechrau siarad â hwy a chanfod pa ystyriaethau yw’r rhai pwysig yn eu barn hwy o safbwynt cydraddoldeb. Os arweiniwn ni’r ffordd drwy roi trefn ar ein tŷ ein hunain, gallwn gamu ymlaen yn y maes hwnnw.
I am acutely aware that the role of the Committee on Equality of Opportunity is essential in this. We must start to fly. We must start to identify many issues that can make a difference to the people of Wales. We have had an excellent time with Jane Hutt as Chair, talking to people and having issues explained to us. The time has come to say that we have had enough explanations. Let us go and achieve something in key policy areas and try to build a consensus across the Chamber about what those key policy areas should be.
Yr wyf yn dra ymwybodol bod rôl y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn holl bwysig yn hyn. Rhaid inni ddechrau hedfan. Rhaid inni ddechrau nodi llawer o faterion a all wneud gwahaniaeth i bobl Cymru. Yr ydym wedi cael amser rhagorol gyda Jane Hutt yn y Gadair, yn siarad â phobl ac yn cael materion wedi’u hegluro inni. Daeth yr amser i ddweud ein bod wedi cael digon o esboniadau. Gadewch inni fynd a chyflawni rhywbeth mewn meysydd polisi allweddol a cheisio hybu consensws ar draws y Siambr ynglŷn â pha feysydd polisi allweddol y dylid eu dewis.
One of my key policy areas will be the implementation of the Macpherson report, but I know that I would like, if possible, to work in other areas such as public appointments. That is another area about which concerns were raised as to how we can portray a true representation of women.
Un o’m meysydd polisi allweddol i fydd rhoi adroddiad Macpherson ar waith, ond gwn yr hoffwn, pe bai’n bosibl, weithio mewn meysydd eraill fel penodiadau cyhoeddus. Mae hwnnw’n faes arall y codwyd pryderon yn ei gylch o ran sut y gallwn bortreadu cynrychiolaeth ddilys i fenywod.
Equality is about everyone realising his or her potential. Everybody has the right to be free and to fly and to achieve that potential. There are also gender issues, which we have discussed today. We have celebrated International Women’s Day and what that means. Ultimately, we must make a difference for ordinary women. That is our role and responsibility. If there are ordinary women in Wales or elsewhere we must make the difference. On this day, I want to say: Sisters, we must unite. We must do the best for ourselves because nobody else will help us.
Mae cydraddoldeb yn golygu bod pawb yn gwireddu ei botensial ef neu hi. Mae gan bawb yr hawl i fod yn rhydd ac i hedfan ac i gyflawni’r potensial hwnnw. Mae hefyd faterion rhyw, yr ydym wedi’u trafod heddiw. Yr ydym wedi dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a’r hyn y mae’n ei olygu. Yn y pen draw, rhaid inni wneud gwahaniaeth i fenywod cyffredin. Dyna ein rôl a’n cyfrifoldeb. Os oes menywod cyffredin yng Nghymru neu rywle arall rhaid inni wneud gwahaniaeth. Ar y diwrnod hwn, yr wyf am ddweud: Chwiorydd, rhaid inni uno. Rhaid inni wneud y gorau drosom ein hunain oherwydd ni wnaiff unrhywun arall ein helpu.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 41 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig.
Motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (41)
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Helen Mary Jones
- Peter Law
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Lynne Neagle
- Jenny Randerson
- Janet Ryder
- Karen Sinclair
- Gwenda Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
Daeth y cyfarfod i ben am 4.53 p.m.
The session ended at 4.53 p.m.