English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 27 Mehefin 2000

Tuesday 27 June 2000

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:29

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Anerchiad gan Syr David Steel KBE, Llywydd Senedd yr AlbanAddress by Sir David Steel KBE, Presiding Officer of the Scottish Parliament
  2. 6Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 6Pecyn i Helpu Diwydiant Dillad Prydain (Cyfran Cymru)Package to Help Britain’s Clothing Industry (Wales’s Proportion)
    2. 9Cyflawni Targedau ‘Gwellcymru.com’ (Rôl y Sector Gwirfoddol)Achieving ‘Betterwales.com’ Targets (Role of the Voluntary Sector)
    3. 11Strategaeth i Gefnogi a Chynyddu Swyddi yng NghymruStrategy to Support and Increase Jobs in Wales
    4. 14Gwahardd Hela â Chŵn.Banning Hunting with Dogs
    5. 17Annog Tyfiant Economaidd a Datblygu Cymdeithasol (Gogledd Cymru)Encouraging Economic Growth and Social Development (North Wales)
    6. 20Ehangiad Tebygol yr Undeb EwropeaiddProbable Enlargement of the European Union
  3. 22Datganiad ar Amcan 1Statement on Objective 1
  4. 36Pwynt o DrefnPoint of Order
  5. 37Datganiad BusnesBusiness Statement
  6. 40Diwygio Rheolau Sefydlog Rhif 12 a 22Revision of Standing Orders No. 12 and 22 1 bleidlais1 vote
  7. 44Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Materion EwropeaiddThe Annual Report of the Committee on European Affairs 3 o bleidleisiau3 votes
  8. 76Dadl Plaid Leiafrifol (Y Blaid Geidwadol)Minority Party Debate (The Conservative Party) 2 o bleidleisiau2 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Diwygio Rheolau Sefydlog Rhif 12 a 22Revision of Standing Orders No. 12 and 22
CynnigMotion4000DerbyniwydAdopted
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Materion EwropeaiddThe Annual Report of the Committee on European Affairs
Gwelliant 1Amendment 15300DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 25300DerbyniwydAdopted
CynnigMotion5300DerbyniwydAdopted
Dadl Plaid Leiafrifol (Y Blaid Geidwadol)Minority Party Debate (The Conservative Party)
CynnigMotion41013DerbyniwydAdopted
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion28027DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Anerchiad gan Syr David Steel KBE, Llywydd Senedd yr Alban

Address by Sir David Steel KBE, Presiding Officer of the Scottish Parliament

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Mae’n bleser arbennig gennyf wahodd David Steel, Llywydd Senedd yr Alban, i annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

It gives me great pleasure to invite David Steel, Presiding Officer of the Scottish Parliament, to address the National Assembly for Wales.

Sir David Steel spoken in Welsh and English p. 3

Sir David Steel siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 3

Presiding Officer and Members of the Assembly—

yn Saesneg Lywydd ac Aelodau o’r Cynulliad—

Prynhawn da, mae’n bleser bod yma.

in Welsh Good afternoon, it is a pleasure to be here.

One of the most important things delivered by devolution was that Wales, Scotland and Northern Ireland have a chance to celebrate their own unique political and cultural history and identity. That is brought home by language. I hope you forgive my pronunciation.

yn Saesneg Un o’r pethau pwysicaf a gyflenwyd drwy ddatganoli oedd bod cyfle gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddathlu eu hanes a’u hunaniaeth wleidyddol a diwylliannol unigryw eu hunain. Mae iaith yn peri i rywun fod yn ymwybodol o hynny. Gobeithiaf y maddeuwch imi am fy ynganiad.

I am pleased to have the opportunity to address you in Cardiff in your own National Assembly and to bring you genuine and warm fraternal greetings from the Scottish Parliament. The Presiding Officer has allowed me five minutes, which is one minute more generous than I allow in the Scottish Parliament.

yn Saesneg Yr wyf yn falch o gael y cyfle i’ch annerch yng Nghaerdydd yn eich Cynulliad Cenedlaethol eich hun a dod â chyfarchion brawdgarol didwyll a chynnes i chi o Senedd yr Alban. Mae’r Llywydd wedi caniatáu pum munud i mi, sydd yn un funud yn fwy hael na’r hyn a ganiatâf fi yn Senedd yr Alban.

One year on, we have the opportunity to take stock of what has been an exiting and busy year. The fact that we have a Scottish Parliament, a National Assembly for Wales and, in particular, a Northern Ireland Assembly is a huge achievement. We now wait for the English to decide what they want in terms of devolution. We four peoples in these islands are different: we Scots keep the Sabbath and anything else on which we can lay our hands; you Welsh pray on your knees and prey on your neighbours; the Irish do not know what they want but they are prepared to die for it; and the English claim to be a self-made nation, thus relieving the Almighty of a terrible responsibility.

yn Saesneg Flwyddyn yn ddiweddarach, mae gennym gyfle i bwyso a mesur yr hyn a fu’n flwyddyn gyffrous a phrysur. Mae’r ffaith bod gennym Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn enwedig, Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gyflawniad anferth. Arhoswn yn awr i’r Saeson benderfynu ar yr hyn y dymunant hwy ei gael o ran datganoli. Yr ydym ni’r pedair o bobloedd yn yr ynysoedd hyn yn wahanol: yr ydym ni’r Albanwyr yn cadw’r Saboth ac unrhyw beth arall y gallwn roi ein dwylo arno; yr ydych chithau’r Cymry’n gweddïo ar eich gliniau ac yn ysbeilio’ch cymdogion; ni ŵyr y Gwyddelod ba beth a ddymunant ond maent yn barod i farw drosto; ac mae’r Saeson yn honni eu bod yn genedl hunanddyrchafedig, ac felly yn rhyddhau’r Goruchaf o gyfrifoldeb ofnadwy.

There have been many other reasons to be encouraged over the last 12 months. The Scottish Parliament, for example, has set about creating new and more effective legislation with vigour and energy in our Committees. The Committees have undertaken valuable work as inquirers and scrutineers. Communities throughout Scotland have a louder and more effective say in the decisions that affect them. That accessible, inclusive and transparent democracy is starting to get results, forcing some of devolution’s sterner critics to indulge in a measured rethink.

yn Saesneg Bu llawer o resymau eraill dros deimlo’n galonnog dros y 12 mis diwethaf. Mae Senedd yr Alban, er enghraifft, wedi dechrau creu deddfwriaeth newydd a mwy effeithiol gyda hoen ac egni yn ein Pwyllgorau. Mae’r Pwyllgorau wedi ymgymryd â gwaith gwerthfawr fel holwyr ac archwilwyr. Mae gan gymunedau ledled yr Alban lais cryfach a mwy effeithiol yn y penderfyniadau sydd yn effeithio arnynt. Mae’r ddemocratiaeth hygyrch, gynhwysol a thryloyw honno yn dechrau sicrhau canlyniadau, gan orfodi rhai o feirniaid llymach datganoli i ymroi i ailfeddwl yn ystyriol.

I have noticed developments regarding the Members of the Scottish Parliament. There is evidence that the quality and spontaneity of our debate in the Chamber is much improved compared with 12 months ago. I see genuine enthusiasm and common spirit emerging from our Committees, which consider subjects in a truly constructive manner. In Committee, our MSPs are noticeably less partisan in discussion than they were at the start, and the whips—our business managers—have a lighter touch than they do traditionally at Westminster. The voting patterns in our Committees are not always on party lines. Members come to their own decisions having heard the arguments, which bodes well for the future.

yn Saesneg Yr wyf wedi sylwi ar ddatblygiadau mewn perthynas ag Aelodau Senedd yr Alban. Mae tystiolaeth bod ansawdd a naturioldeb ein dadlau yn y Siambr yn well o lawer o’i gymharu â 12 mis yn ôl. Gwelaf frwdfrydedd didwyll ac ysbryd cyffredin yn codi o’n Pwyllgorau, sydd yn ystyried pynciau mewn modd gwirioneddol adeiladol. Yn y Pwyllgorau, gellir sylwi bod Aelodau Senedd yr Alban yn llai pleidiol mewn trafodaeth nag yr oeddent ar y dechrau, ac mae’r chwipiaid—ein rheolwyr busnes—yn ysgafnach eu cyffyrddiad nag y maent yn draddodiadol yn San Steffan. Nid yw’r patrymau pleidleisio yn ein Pwyllgorau bob amser yn dilyn safbwyntiau plaid. Daw Aelodau i’w penderfyniadau eu hunain ar ôl clywed y dadleuon, sydd yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

As Presiding Officer, part of my job is to represent the Parliament. I consider high on the list of priorities ensuring good communications between the democratic institutions of Scotland, Wales, Northern Ireland and Westminster. That is made easier by the fact that all the Presiding Officers—Dafydd Elis-Thomas, John Alderdice in Belfast and myself—sit in that most undemocratic of assemblies, the House of Lords.

yn Saesneg Fel Llywydd, rhan o’m gwaith yw cynrychioli’r Senedd. Ystyriaf fod sicrhau cyfathrebu da rhwng sefydliadau democrataidd yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a San Steffan yn uchel ar y rhestr o flaenoriaethau. Hwylusir hynny gan y ffaith bod yr holl Lywyddion—Dafydd Elis-Thomas, John Alderdice y Melfast a minnau—yn eistedd yn y cynulliad tra annemocrataidd hwnnw, Tŷ’r Arglwyddi.

We must learn from and draw on the experience of others. I am pleased that that is already happening. I note that our Subordinate Legislation Committee has links with your Assembly and with Westminster Committees. The Scottish Parliament’s European Committee has twice met with politicians and officials in the National Assembly for Wales. That constructive relationship must continue in the future and will, I am sure, continue to be mutually beneficial. We will become part of a wider family in the near future as talks have already begun on parliamentary links in the Council of the Isles.

yn Saesneg Rhaid inni ddysgu o brofiadau eraill ac elwa arnynt. Yr wyf yn falch bod hynny’n digwydd eisoes. Nodaf fod gan ein Pwyllgor Isddeddfwriaeth gysylltiadau â’ch Cynulliad chi a chyda Phwyllgorau yn San Steffan. Cyfarfu Pwyllgor Ewropeaidd Senedd yr Alban ddwywaith â gwleidyddion a swyddogion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i’r berthynas adeiladol honno barhau yn y dyfodol a bydd, yr wyf yn sicr, o les o’r ddeutu. Deuwn yn rhan o deulu ehangach yn y dyfodol agos gan fod trafodaethau wedi dechrau eisoes ar gysylltiadau seneddol yng Nghyngor yr Ynysoedd.

One year on from our foundation, I remain optimistic and encouraged. I am sure that, like the Scottish Parliament, the National Assembly for Wales will meet the opportunities that lie ahead with as much vigour and energy as has been shown over the last 12 months. On behalf of the Scottish Parliament, I wish you continued success in your work.

yn Saesneg Un flwyddyn ers ein sefydlu, teimlaf yn optimistaidd ac yn galonnog o hyd. Yr wyf yn sicr y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel Senedd yr Alban, yn achub ar y cyfleoedd sydd i ddod gyda chymaint o hoen ac egni ag a amlygwyd dros y 12 mis diwethaf. Ar ran Senedd yr Alban, dymunaf lwyddiant parhaus ichi yn eich gwaith.

Jane Davidson The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 5

Jane Davidson Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

Diolch yn fawr, Syr David. Ar ran Swyddfa’r Llywydd, hoffwn ddweud gymaint yr ydym yn croesawu eich ymweliad fel un sefydliad datganoledig yn ymweld â’r llall. Edrychwn ymlaen at nifer o ymweliadau rhwng yr Alban a Chymru yn y dyfodol.

As you said in your speech, the success of devolution is about communication. I, as Chair of the Business Committee, and other members of the Committee had an excellent visit to Scotland earlier in this session. We are eager to continue that kind of communication across devolved governments, assemblies and parliaments. That is as important for the future as the Assembly’s communication with Whitehall and Europe. It is incumbent on us all to make our institutions work. The exchange of information will be crucial in how we develop our devolved institutions. Members here share your views that the spirit of the new committee structure has changed the way politics operates. We have constructive debates in Committees and there is a good relationship between many of our Assembly Secretaries and the Committees in Plenary debates. The Presiding Officers’ roles are also important in respecting and representing the needs of all Members on equal terms and promoting participation. We have learnt from you and your excellent facility for information and visitors. We will open our own visitor and education centre in the autumn. We hope that you, other Members and your staff will pay further visits to see how we do that in Wales.

Thank you very much, Sir David. On behalf of the Office of the Presiding Officer, I would like to say how much we welcome your visit as one devolved institution visiting another. We look forward to many visits between Scotland and Wales in future. Fel y dywedasoch yn eich araith, mae llwyddiant datganoli’n ymwneud â chyfathrebu. Cefais i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, ac aelodau eraill y Pwyllgor ymweliad rhagorol â’r Alban yn gynharach yn y tymor hwn. Yr ydym yn awyddus i barhau’r math hwnnw o gyfathrebu ar draws llywodraethau, cynulliadau a seneddau datganoledig. Mae hynny gyn bwysiced ar gyfer y dyfodol ag yw cyfathrebu’r Cynulliad â Whitehall ac Ewrop. Mae dyletswydd arnom i gyd i beri i’n sefydliadau weithio. Bydd cyfnewid gwybodaeth yn holl bwysig yn y modd y datblygwn ein sefydliadau datganoledig. Mae’r Aelodau yma yn rhannu’ch barn bod ysbryd y strwythur pwyllgorau newydd wedi newid y modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithredu. Cawn ddadleuon adeiladol mewn Pwyllgorau ac mae perthynas dda rhwng llawer o’n Hysgrifenyddion Cynulliad a’r Pwyllgorau mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn. Mae rolau’r Llywyddion hefyd yn bwysig wrth barchu a chynrychioli anghenion yr holl Aelodau’n gyfartal ac wrth hybu cyfranogiad. Dysgasom oddi wrthych chi a’ch cyfleuster rhagorol ar gyfer gwybodaeth ac ymwelwyr. Byddwn yn agor ein canolfan ymwelwyr ac addysg ein hunain yn yr hydref. Gobeithiwn y byddwch chi, Aelodau eraill a’ch staff yn ymweld eto er mwyn gweld sut yr ydym yn gwneud hynny yng Nghymru.

I will finish on a personal note. The South Wales Echo saw fit to refer to the fact that you attended to the George Watson College. As the daughter of another Watsonian, I am delighted to welcome you to Wales.

Terfynaf ar nodyn personol. Gwelodd y South Wales Echo yn dda cyfeirio at y ffaith ichi fynychu Coleg George Watson. Fel merch i Watsoniad arall, yr wyf wrth fy modd yn eich croesawu i Gymru.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 6

Gan nad yw Cynog Dafis yn y Siambr i ofyn cwestiwn 1, caiff ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.

As Cynog Dafis is not in the Chamber to ask question 1, it will be transferred for written answer.

Pecyn i Helpu Diwydiant Dillad Prydain (Cyfran Cymru)

Package to Help Britain’s Clothing Industry (Wales’s Proportion)

Q2 Gwenda Thomas spoken in English p. 6

C2 Gwenda Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 6

What discussion has the First Secretary had with the Department of Trade and Industry on the distribution in Wales of a proportion of the £10 million package of measures, designed to help Britain’s clothing industry? (OAQ6007)

Pa drafodaethau a gafodd y Prif Ysgrifennydd â’r Adran Masnach a Diwydiant ar ddosbarthu yng Nghymru gyfran o’r pecyn o fesurau gwerth £10 miliwn, a fwriadwyd i helpu diwydiant dillad Prydain? (OAQ6007)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

The Department of Trade and Industry and the Department for Education and Employment are liaising to carry through the initiatives outlined in the 12-point action plan recently announced by Stephen Byers, the Secretary of State for Trade and Industry. It is a UK-wide initiative. How much any particular region benefits from it, be it Wales, Scotland or any English region, will depend on the take-up from the textile and clothing industry in that area. There was good news for the needle trades on Friday, and good news has been short recently. I am sure that Mick Bates is pleased that Laura Ashley will not close its factories in Carno and Newtown.

Mae’r Adran Masnach a Diwydiant a’r Adran Addysg a Chyflogaeth yn cysylltu i gyflawni’r mentrau a amlinellwyd yn y cynllun gweithredu 12 pwynt a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Stephen Byers, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant. Mae’n fenter ledled y DU. Bydd y maint y mae unrhyw ranbarth penodol yn elwa ohono, boed Cymru, yr Alban neu unrhyw ranbarth o Loegr, yn dibynnu ar y derbyniad gan y diwydiant gwehyddu a dillad yn yr ardal honno. Yr oedd newyddion da i’r crefftau nodwyddau ddydd Gwener, a bu newyddion da’n brin yn ddiweddar. Yr wyf yn sicr bod Mick Bates yn falch na fydd Laura Ashley yn cau ei ffatrïoedd yng Ngharno a’r Drenewydd.

Gwenda Thomas spoken in English p. 6

Gwenda Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 6

Three textile companies have ceased operating within the Neath and Port Talbot area. Neath and Port Talbot County Borough Council, in co-operative partnership with Powys County Council, the West Wales Training and Enterprise Council, the Welsh Development Agency and the employment services, has already offered help packages. They include recruitment and training support to redundant textile workers. What is in those new packages to benefit the Neath Port Talbot area, which has recently lost 650 jobs in this industry?

Mae tri chwmni gwehyddu wedi rhoi’r gorau i weithredu oddi mewn i ardal Castell-nedd a Phort Talbot. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, mewn partneriaeth gydweithredol â Chyngor Sir Powys, Cyngor Hyfforddi a Menter Gorllewin Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a’r gwasanaethau cyflogi, eisoes wedi cynnig pecynnau cymorth. Maent yn cynnwys cymorth recriwtio a hyfforddi i weithwyr gwehyddu di-waith. Beth sydd yn y pecynnau newydd hynny a fydd o les i ardal Castell-nedd Port Talbot a gollodd 650 o swyddi’n ddiweddar yn y diwydiant hwn?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

The full text of Stephen Byers’s announcement, including the 12-point action plan to start implementing the textile and clothing strategy group’s report, can be made available to Members on request. I will ensure that you get a copy. The critical point is how we ensure that new technology such as laser stitching as applied to the UK textile and clothing industry can enable that industry—with wages perhaps 10 times higher than those in North Africa—to compete with imports from that country or from the Far East.

Gellir darparu cyhoeddiad Stephen Byers yn llawn, gan gynnwys y cynllun gweithredu 12 pwynt i ddechrau gweithredu adroddiad y grŵp strategaeth gwehyddu a dillad, i’r Aelodau ar eu cais. Byddaf yn sicrhau y cewch gopi. Y pwynt holl bwysig yw sut yr ydym yn sicrhau y gall technoleg newydd fel pwytho laser fel y’i cymhwysir at y diwydiant gwehyddu a dillad yn y DU alluogi’r diwydiant hwnnw—gyda chyflogau sydd efallai’n 10 gwaith yn uwch na’r rhai yng Ngogledd Affrica—i gystadlu ag allforion o’r wlad honno neu o’r Dwyrain Pell.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 7

Nid oes yn rhaid imi atgoffa’r Prif Ysgrifennydd o effaith gwerth y bunt ar y diwydiant hwn fel ar gynifer o ddiwydiannau eraill. Bydd ef yn ymwybodol o’r swyddi yn y sector dillad a gollwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaernarfon, Machynlleth, Cwm Tawe a rhai o’r lleoliadau y cyfeiriodd atynt. Y golled ddiweddaraf yw 40 o swyddi yn ffatri Moffat ym Mlaenau Ffestiniog yn etholaeth y Llywydd. A wnaiff y Prif Ysgrifennydd bwyso ar yr Adran Masnach a Diwydiant a hefyd ar y gwasanaeth cyflogi i ddefnyddio rhan o’r £15 miliwn a neilltuwyd gan yr Adran Masnach a Diwydiant ar gyfer y sector dillad er mwyn helpu’r gweithwyr hyn i ddarganfod swyddi newydd yn eu cymunedau eu hunain?

I do not have to remind the First Secretary of the effect of the value of the pound on this industry as on so many other industries. He will be aware of the jobs in the clothing industry that have been lost over the last year in Caernarfon, Machynlleth, the Swansea Valley and some of the locations that he has just mentioned. The latest loss is 40 jobs in the Moffat factory in Blaenau Ffestiniog in the Presiding Officer’s constituency. Will the First Secretary bring pressure to bear on the Department of Trade and Industry and also on the employment service to use part of the £15 million that has been earmarked by the DTI for the textile industry to help these workers find new jobs in their own communities?

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 7

Mae’n anodd gwarantu y gallech ddod o hyd i swydd newydd i rywun sydd yn colli ei swydd, er enghraifft ym Mlaenau Ffestiniog, yn yr un dref neu gylch. Mae’n arbennig o anodd ar adeg pan fo llawer o newidiadau yn digwydd yn y byd diwydiannol. Os gallwn ddod o hyd i rywun arall i symud i mewn i ffatri, maent yn cael gweithlu a hyfforddwyd yn barod yn y fan a’r lle. Ambell waith gallwch wneud hynny yn enwedig os nad yw’r wasgfa o werth uchel y bunt mor bigog ag ydoedd oddeutu’r Nadolig.

It is difficult to guarantee that you could find new jobs for somebody who loses his or her job, for example in Blaenau Ffestiniog, in the same town or district. It is especially difficult at a time when many changes are taking place in the industrial world. If we can find somebody else to move into a factory, they get a trained workforce that is available on the spot. Sometimes you can do that especially if the pressure of the high value of the pound is not as sharp as it was around Christmas time.

Glyn Davies spoken in English p. 8

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 8

How would you advise a Welsh textile company to access this fund? What steps should it take? How would I advise Laura Ashley plc—which you mentioned and which has just announced that it is retaining its branch, probably against expectation—to access this fund to ensure that it is not only words?

Sut y byddech yn cynghori cwmni gwehyddu yng Nghymru i gael mynediad at y gronfa hon? Pa gamau y dylai eu cymryd? Sut y byddech yn cynghori Laura Ashley ccc—a grybwyllasoch ac sydd newydd gyhoeddi ei fod yn cadw ei gangen, yn groes i’r disgwyl yn ôl pob tebyg—i gael mynediad at y gronfa hon er mwyn sicrhau nad geiriau’n unig mohoni?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 8

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

I will send you a copy of the full text of the 12-point action plan. It is about trying to counteract the impact of high labour costs in a relatively high-wage area. By world standards, Wales is such an area, even though we are a low-wage area by west European standards. Our wages are 10 times higher than they are in Tunisia, Algeria or Morocco, which is the number one competitive area at the moment in terms of clothing and textiles. I shall ensure that the key points in the 12-point action plan are supplied to you, Glyn. It is not so necessary now for Laura Ashley as we thought it would be, but there is still a future to be won for many other firms if they can use the latest technology to counteract the cost of wage differential between us and the low-wage countries.

Byddaf yn anfon copi atoch o destun llawn y cynllun gweithredu 12 pwynt. Mae’n ymwneud â cheisio gwrthweithio effaith costau llafur uchel mewn ardal â chyflogau cymharol uchel. Yn ôl safonau byd-eang, mae Cymru’n ardal o’r fath, er ein bod yn ardal â chyflogau isel yn ôl safonau gorllewin Ewrop. Mae ein cyflogau 10 gwaith yn uwch na’r rhai yn Nhiwnisia, Algeria neu Foroco, sef yr ardal gystadleuol bwysicaf ar hyn o bryd o ran dillad a defnyddiau gweol. Byddaf yn sicrhau y rhoddir y pwyntiau allweddol yn y cynllun gweithredu 12 pwynt i chi, Glyn. Nid yw mor angenrheidiol yn awr i Laura Ashley ag y credem y byddai, ond mae dyfodol i’w ennill o hyd gan lawer o fusnesau eraill os gallant ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wrthweithio cost y gwahanrediad mewn cyflogau rhyngom ni a’r gwledydd isel eu cyflogau.

Peter Black spoken in English p. 8

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 8

It is to be welcomed that Laura Ashley is retaining these jobs, but it is sad that this is considered to be good news when we would much rather hear good news about the creation of new jobs rather than about the retention of existing jobs which are under threat. There is a problem in this sector in Wales. We have lost many jobs in the last few years. It is important that we seek to actively encourage the take-up of this fund. What is your department doing to actively encourage companies to take up this money from the DTI?

Dylid croesawu’r ffaith bod Laura Ashley yn cadw’r swyddi hyn, ond mae’n drist bod hyn yn cael ei ystyried yn newyddion da pan fyddai’n llawer gwell gennym glywed newyddion da am greu swyddi newydd yn hytrach nag am gadw swyddi presennol sydd o dan fygythiad. Mae problem yn y sector hwn yng Nghymru. Collasom lawer o swyddi yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae’n bwysig inni geisio mynd ati i annog derbyniad o’r gronfa hon. Beth y mae’ch adran yn ei wneud o ran gweithredu i annog cwmnïau i dderbyn yr arian hwn o’r Adran Masnach a Diwydiant?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 8

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

The issue of trying to promote firms’ willingness to look at the 12-point action plan to see to what extent it can assist their survival prospects in difficult global competitive circumstances is something the department is looking at now. I hope that this question and answer session today will have persuaded firms that may be in a state of despair or thinking of giving up that there can be a future in the needle trades despite the high labour cost problems in that sector of industry. As to whether the Laura Ashley retention of these 450 jobs in Carno and Newtown is good news, as I would see it, or not so good news, as Peter would see it, good news is always relative, especially for the Liberal Democrat Party.

Mae’r mater o geisio hybu parodrwydd busnesau i edrych ar y cynllun gweithredu 12 pwynt i weld i ba raddau y gall gynorthwyo eu rhagolygon am barhad mewn amgylchiadau cystadleuol byd-eang anodd yn rhywbeth y mae’r adran yn edrych arno’n awr. Gobeithiaf y bydd y sesiwn hawl ac ateb hwn heddiw wedi darbwyllo busnesau a allai fod mewn anobaith neu’n ystyried rhoi’r gorau iddi y gall fod dyfodol yn y masnachau nodwyddau er gwaethaf y problemau cost llafur uchel yn y sector hwnnw o ddiwydiant. Ynghylch a yw cadw’r 450 o swyddi hyn gan Laura Ashley yng Ngharno a’r Drenewydd yn newyddion da, fel y gwelwn i ef, neu’n newyddion nad yw gystal, fel y gwelai Peter ef: mae newyddion da bob amser yn gymharol, yn enwedig i Blaid y Democatiaid Rhyddfrydol.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 9

Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gan nad yw Jonathan Morgan yma i ofyn cwestiwn 4, caiff ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.

Question 3 has been withdrawn. As Jonathan Morgan is not here to ask question 4, it will be transferred for written answer.

Cyflawni Targedau ‘Gwellcymru.com’ (Rôl y Sector Gwirfoddol)

Achieving ‘Betterwales.com’ Targets (Role of the Voluntary Sector)

Q5 Janet Davies spoken in English p. 9

C5 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

What discussions has the First Secretary had with the voluntary sector regarding its role in achieving the ‘Betterwales.com’ targets? (OAQ5995)

Pa drafodaethau a gafodd y Prif Ysgrifennydd â’r sector gwirfoddol ynghylch ei rôl wrth gyflawni targedau ‘Gwellcymru.com’? (OAQ5995)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

I myself have not discussed ‘Betterwales.com’ with the voluntary sector but the issue has been discussed in the shadow voluntary sector partnership council on the basis of a paper tabled by the Wales Council for Voluntary Action.

Nid wyf fi fy hun wedi trafod ‘Gwellcymru.com’ gyda’r sector gwirfoddol ond trafodwyd y mater yn y cyngor partneriaeth sector gwirfoddol cysgodol ar sail papur a gyflwynwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Janet Davies spoken in English p. 9

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

The voluntary sector should be taken into partnership and should be able to share in decision-making, because otherwise there is a danger that people in the voluntary sector will feel that they are only being used as cheap labour. Are you involving them in budget discussions and, if so, how?

Dylid mynd i bartneriaeth gyda’r sector gwirfoddol a dylai allu cymryd rhan mewn penderfynu, oherwydd fel arall mae perygl y bydd pobl yn y sector gwirfoddol yn teimlo nad ydynt ond yn cael eu defnyddio fel llafur rhad. A ydych yn eu cynnwys mewn trafodaethau cyllideb ac, os felly, ym mha fodd?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

I can answer both questions positively. The voluntary sector and how it should be involved has come up in the business partnership council and in the shadow monitoring committee for Objective 1. Janet should not assume that the Wales Council for Voluntary Action or other bodies in the voluntary sector consider themselves cheap labour. They believe that they have a key role because the social economy can reach those parts of the economy that conventional private sector involvement cannot. Edwina Hart’s note on the budget for the new planning round that was recently circulated referred to the need for full involvement of the voluntary sector.

Gallaf ateb y ddau gwestiwn yn gadarnhaol. Mae’r sector gwirfoddol a’r modd y dylid ei gynnwys wedi codi yn y cyngor partneriaeth busnes ac yn y pwyllgor monitro cysgodol ar gyfer Amcan 1. Ni ddylai Janet ragdybio bod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru neu gyrff eraill yn y sector gwirfoddol yn eu hystyried eu hunain yn llafur rhad. Credant fod ganddynt rôl allweddol oherwydd gall yr economi gymdeithasol gyrraedd y rhannau hynny o’r economi na all cyfraniad sector preifat confensiynol mo’u cyrraedd. Cyfeiriodd nodyn Edwina Hart ar y gyllideb ar gyfer y cylch cynllunio newydd a gylchredwyd yn ddiweddar at yr angen am gysylltiad llawn â’r sector gwirfoddol.

David Melding spoken in English p. 10

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 10

Does the First Secretary agree that what the voluntary sector needs most is predictable finances, and that moving to a three-year budget round would greatly assist the sector across Wales?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno mai’r hyn y mae ar y sector gwirfoddol ei angen fwyaf yw cyllid rhagweladwy, ac y byddai symud at gylch cyllideb tair blynedd yn gymorth mawr i’r sector ledled Cymru?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

I agree because the voluntary sector funding collapses after a year or three to five years. Moving to a three-year budget round postpones the problem but does not remove it. It gives the voluntary sector and its schemes time to improve. It is one thing to prove that a principle can work through a voluntary sector experimental scheme but another to mainstream that by persuading central or local government to provide permanent funding. There is a wait of around three to six months when you are trying to mainstream a project. No matter how well it has done, it is still difficult to get a project translated into mainstream funding by the local council or by a department of the Assembly’s central Government role.

Cytunaf oherwydd mae’r cyllid sector gwirfoddol yn dymchwel ar ôl blwyddyn neu dair i bum mlynedd. Mae symud at gylch cyllideb tair blynedd yn gohirio’r broblem ond nid yw’n ei dileu. Mae’n rhoi amser i’r sector gwirfoddol a’i gynlluniau wella. Un peth yw profi y gall egwyddor weithio drwy gynllun arbrofol sector gwirfoddol ond peth arall yw ei roi yn y brif ffrwd drwy berswadio llywodraeth ganolog neu leol i ddarparu cyllid parhaol. Mae arhosiad o tua thri i chwe mis pan ydych yn ceisio rhoi prosiect yn y brif ffrwd. Ni waeth pa mor dda y gwnaeth, mae’n dal i fod yn anodd trosi prosiect fel ei fod yn derbyn arian prif ffrwd gan y cyngor lleol neu gan adran o rôl Llywodraeth ganolog y Cynulliad.

Mick Bates spoken in English p. 10

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 10

Does the First Secretary agree that it is also important to retain the expertise in the voluntary sector, particularly at a time when many of our citizens advice bureaux are under extreme funding pressures? What action have you taken to ensure that our citizens advice bureaux will receive adequate core funding to keep them in existence?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno ei bod hefyd yn bwysig cadw arbenigedd yn y sector gwirfoddol, yn enwedig ar adeg pan fo llawer o’n canolfannau cynghori o dan bwysau ariannu difrifol? Pa gamau a gymerasoch i sicrhau y bydd ein canolfannau cynghori’n derbyn cyllid craidd digonol i’w cadw mewn bod?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

That depends on the extent of ability to fund voluntary agencies that we delegate to local authorities. I am sorry to hear about the possible cutbacks in citizens advice bureaux funding. It was drawn to my attention on a recent visit to Gwynedd. I would be surprised if that area was the only one that had problems. Nevertheless, it is for local authorities to decide how much funding they allocate to the voluntary sector as a whole and which voluntary sector bodies they decide to fund. All of us would regard CAB as among the core voluntary sector bodies because it provides essential advice about accessing the other voluntary bodies as well as statutory agencies. I would be sorry if CAB was to lose out, but I will not remove the right from local authorities to decide the extent of their budget for voluntary bodies nor which bodies they should fund nor how they set their priorities.

Mae hynny’n dibynnu ar raddau’r gallu i ariannu asiantaethau gwirfoddol a ddirprwywn i awdurdodau lleol. Mae’n ddrwg gennyf glywed am doriadau posibl yn yr ariannu i ganolfannau cynghori. Tynnwyd fy sylw at hyn ar ymweliad diweddar â Gwynedd. Synnwn os yr ardal honno oedd yr unig un â phroblemau. Er hynny, lle’r awdurdodau lleol yw penderfynu faint o arian a ddyrannant i’r sector gwirfoddol yn ei gyfanrwydd a pha gyrff sector gwirfoddol y penderfynant eu hariannu. Byddai pawb ohonom yn ystyried bod y cynghorau cynghori ymysg y cyrff sector gwirfoddol craidd oherwydd maent yn darparu cyngor holl bwysig ynghylch mynd at gyrff gwirfoddol eraill yn ogystal ag asiantaethau statudol. Byddai’n ddrwg gennyf pe bai’r canolfannau cynghori ar eu colled, ond nid af â’r hawl oddi wrth awdurdodau lleol i benderfynu ar faint eu cyllideb i gyrff gwirfoddol neu ba gyrff y dylent eu hariannu neu sut y maent yn pennu eu blaenoriaethau.

Strategaeth i Gefnogi a Chynyddu Swyddi yng Nghymru

Strategy to Support and Increase Jobs in Wales

Q6 John Griffiths spoken in English p. 11

C6 John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 11

What discussions has the First Secretary had with his colleagues in Westminster on a strategy to support and increase jobs in Wales in our areas of traditional industrial strength? (OAQ5989)

Pa drafodaethau a gafodd y Prif Ysgrifennydd â’i gydweithwyr yn San Steffan ar strategaeth i gefnogi a chynyddu swyddi yng Nghymru yn yr ardaloedd lle y mae’r cryfder diwydiannol traddodiadol? (OAQ5989)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

This has come up in my discussions with the Secretary of State for Wales and the Secretary of State for Trade and Industry as well as other Government Ministers because it has been at the heart of the crisis in industry during the period of the peak values of the pound between Christmas and April 2000. It has eased off since then, although the pound is still higher than it should be under purchasing power parity. The issue affects parts of the country such as Wales, which have a high degree of dependency on high volume, low margin industries like steel and car components. Steel is of interest to John because Llanwern and other steel works in Newport play such a huge role in the economy of Newport, and Newport east in particular.

Mae hyn wedi codi yn fy nhrafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn ogystal â Gweinidogion Llywodraeth eraill oherwydd bu wrth graidd yr argyfwng mewn diwydiant yn ystod cyfnod gwerthoedd brig y bunt rhwng y Nadolig ac Ebrill 2000. Mae wedi lleddfu ers hynny, er bod y bunt yn dal i fod yn uwch nag y dylai fod o dan baredd pŵer prynu. Mae’r mater yn effeithio ar rannau o’r wlad fel Cymru sydd â lefel uchel o ddibyniaeth ar ddiwydiannau maint uchel, elw isel fel dur a chydrannau ceir. Mae dur o ddiddordeb i John am fod Llanwern a gweithfeydd dur eraill yng Nghasnewydd yn chwarae rhan mor enfawr yn economi Casnewydd, a dwyrain Casnewydd yn enwedig.

Ever-increasing environmental standards that are applied in western Europe sometimes produce environmental dumping when companies prefer to ship to eastern Europe where they may be less demanding. However, this issue is very much at the heart of our strategy because if we lose the smokestack industries in Wales, where there are more smokestack industries per square inch than in most other parts of western Europe, we know that our economy will encounter huge difficulties.

Mae’r safonau amgylcheddol cynyddol uwch a gymhwysir yng ngorllewin Ewrop weithiau’n creu gwaredu amgylcheddol pan y mae’n well gan gwmnïau gludo mewn llong i ddwyrain Ewrop lle y maent efallai’n llai llym. Fodd bynnag, mae’r mater hwn wrth graidd ein strategaeth i raddau helaeth iawn oherwydd os collwn y diwydiannau simnai mwg yng Nghymru, lle y mae mwy o ddiwydiannau simnai mwg y fodfedd sgwâr nag yn y rhan fwyaf o rannau eraill o orllewin Ewrop, gwyddom y bydd ein heconomi’n wynebu trafferthion enfawr.

John Griffiths spoken in English p. 12

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 12

Do you agree that, sometimes, overly simplistic distinctions are made between what are considered the new sunrise industries and the old industries in inevitable decline, when steel, for example—which as you say is of great concern to me—is full of highly skilled people? It is very high-tech. That is sometimes lost on people. They talk about traditional industries as something of the past, that we have to move on to new territory, when there is still a good story to be told about industries such as steel in Wales, and they still have a big role to play.

A gytunwch fod gwahaniaethu gor-syml weithiau rhwng yr hyn a ystyrir yn ddiwydiannau newydd y wawr a’r hen ddiwydiannau sydd yn dirywio’n anorfod, pan y mae dur, er enghraifft—sydd fel y dywedwch o ddiddordeb mawr i mi—yn llawn pobl dra medrus? Mae’n uwchdechnolegol iawn. Nid yw pobl yn sylweddoli hynny weithiau. Soniant am ddiwydiannau traddodiadol fel rhywbeth yn y gorffennol, gan ddweud ein bod wedi symud ymlaen i dir newydd, pan fo stori dda i’w hadrodd o hyd am ddiwydiannau fel dur yng Nghymru, ac mae ganddynt rôl fawr i’w chwarae o hyd.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

I certainly see a difference between the labour-intensive industries—such as electronic components or clothing, where it is difficult to compete with low wage cost countries, although some new technology enables you to do so—and the capital-intensive industries such as steel, where there is high productivity per person. It is pretty impressive. However, it is a low margin industry. It is difficult if you must export during periods when the pound is high. As you will have seen from Corus’s results, which were announced yesterday, it has lost £150 million. A great deal of that loss was probably from the British end because of the need to export to the continent, to euroland, at a time when the euro is very low and the pound is very high. You therefore export to maintain your market share, but you must export at the price that you can get. That price is set in deutschmarks, which are low. You are paying wages in pounds over here, but are only getting paid in deutschmarks over there, so you make a loss. That is basically what has happened to Corus. We hope that during the next 12 months, some of that currency problem will have unwound.

Yr wyf yn sicr yn gweld gwahaniaeth rhwng y diwydiannau llafurddwys—fel cydrannau electronig neu ddillad, lle y mae’n anodd cystadlu â gwledydd â chostau llafur isel, er bod rhai mathau o dechnoleg newydd yn eich galluogi i wneud hynny—a’r diwydiannau cyfalafddwys fel dur, lle y mae cynhyrchiant uchel y pen. Mae’n eithaf trawiadol. Fodd bynnag, mae’n ddiwydiant elw isel. Mae’n anodd os oes yn rhaid ichi allforio yn ystod cyfnodau pan fo’r bunt yn uchel. Fel y byddwch wedi gweld yng nghanlyniadau Corus, a gyhoeddwyd ddoe, mae wedi colli £150 miliwn. Yr oedd llawer iawn o’r golled honno o du Prydain yn ôl pob tebyg oherwydd yr angen i allforio i’r cyfandir, i’r ewro-dir, ar adeg pan y mae’r ewro’n isel iawn a’r bunt yn uchel iawn. Felly yr ydych yn allforio er mwyn cadw’ch cyfran o’r farchnad, ond rhaid ichi allforio ar y pris y gallwch ei sicrhau. Mae’r pris hwnnw wedi ei bennu yn ôl y deutschmark, sydd yn isel. Yr ydych yn talu cyflogau mewn punnoedd yma, ond yn cael eich talu mewn deutshmark yn unig draw yno, felly yr ydych yn gwneud colled. Hynny yn y bôn sydd wedi digwydd i Corus. Gobeithiwn y bydd rhywfaint o’r broblem arian honno wedi lliniaru yn ystod y 12 mis nesaf.

Helen Mary Jones spoken in English p. 12

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 12

The First Secretary will be aware that over the last few weeks we have lost 300 high quality industrial jobs in the Llanelli constituency. To press you further on some points on which you have touched, what are you doing to convince the UK Labour Government that the livelihoods and futures of industrial workers in Wales are at least as important as the profits of dot com companies in London? Specific things, for example, such as getting the Treasury to take a more sensible line about regional variations in tax incentives. The concern that we are all expressing today will be welcome to the people who lost their jobs at Camford—Thyssen Krupp Automotive—but it will not give them their jobs back.

Bydd y Prif Ysgrifennydd yn ymwybodol ein bod dros yr wythnosau diwethaf hyn wedi colli 300 o swyddi diwydiannol ansawdd uchel yn etholaeth Llanelli. Er mwyn pwyso arnoch ymhellach ar rai o’r pwyntiau y cyfeiriasoch atynt, beth yr ydych yn ei wneud i argyhoeddi Llywodraeth Lafur y DU bod bywoliaethau a dyfodol gweithwyr diwydiannol yng Nghymru gyn bwysiced o leiaf ag elw cwmnïau dot com yn Llundain? Pethau penodol, er enghraifft, fel darbwyllo’r Trysorlys i ymgymryd â safbwynt mwy synhwyrol ynghylch amrywiadau rhanbarthol mewn anogaethau treth. Bydd y pryder yr ydym oll yn ei fynegi heddiw yn cael ei groesawu gan y rhai a gollodd eu swyddi yn Camford—Thyssen Krupp Automotive—ond ni fydd yn rhoi eu swyddi’n ôl iddynt.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

I am aware of job losses in Llanelli, although I am not aware of 300. It would be useful if you supplied me with the details of the 300 job losses. On what exactly we are doing, I have made our feelings as an Assembly known to the Chancellor of the Exchequer by way of the letter to which I previously referred. He is aware that we have a special interest in the National Assembly for Wales because of our dependency on industry of the high volume, low margin kind, such as steel, car components—which is particularly concentrated in the Llanelli area—electronic components and so on. They have been under huge pressure. We do not have the alternatives of the dot com companies. There are a few of those companies in Wales, but fewer than in west London, for example. That does not mean that we do not want a bigger stake in the new economy, but we would not like to see us losing jobs in the old economy until we got the jobs in the new economy around.

Yr wyf yn ymwybodol o golledion swyddi yn Llanelli, er nad wyf yn ymwybodol o 300. Byddai’n ddefnyddiol pe rhoddech fanylion y 300 o golledion swyddi i mi. Ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud yn union, yr wyf wedi rhoi ar ddeall ein teimladau fel Cynulliad i Ganghellor y Trysorlys drwy’r llythyr y cyfeiriais ato ynghynt. Mae’n ymwybodol bod gennym ddiddordeb arbennig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru oherwydd ein dibyniaeth ar ddiwydiant o’r math swm uchel, elw isel, fel dur, cydrannau ceir—y ceir llawer iawn ohono yn ardal Llanelli—cydrannau electronig ac yn y blaen. Buont o dan bwysau aruthrol. Nid oes gennym ddewisiadau eraill fel y cwmnïau dot com. Mae ychydig o’r cwmnïau hynny yng Nghymru, ond llai nag sydd yng ngorllewin Llundain, er enghraifft. Ni olyga hynny na ddymunwn gael mwy o gyfran yn yr economi newydd, ond ni hoffem ein gweld yn colli swyddi yn yr hen economi hyd nes y caem y swyddi yn yr economi newydd.

Nick Bourne spoken in English p. 13

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 13

When do you intend to make an announcement about Broughton? Can you give an undertaking that you will do whatever is necessary to get those 1,400 jobs into Broughton in Wales, including giving that necessary assistance?

Pa bryd y bwriadwch wneud cyhoeddiad am Frychdyn? A wnewch ymrwymiad y byddwch yn gwneud beth bynnag sydd yn angenrheidiol i ddod â’r 1,400 o swyddi hynny i Frychdyn yng Nghymru, gan gynnwys rhoi’r cymorth angenrheidiol hwnnw?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

It is a fundamental principle that we can come to a decision as soon as the company is able to provide the same type of information on which we always insist for regional selective assistance cases. I mentioned earlier that the company and ourselves have a much better understanding than before following my latest meeting a week last Friday with BAE Systems, when it was still BAE Systems. Those assets are now effectively transferred into the Airbus integrated company as of last Friday. As at that last meeting the previous Friday with BAE Systems, I believe that they understood why it was necessary for us to apply the same standards to them as to every other company that has recived RSA. I understand why it is difficult for them to supply that information, but I believe that they understand that we cannot rip up the rule book just for BAE Systems when we have also turned down big companies with big projects—though not as big as BAE Systems —for RSA during the past 12 months.

Mae’n egwyddor sylfaenol y gallwn ddod i benderfyniad cyn gynted ag y mae’r cwmni’n gallu darparu’r math o wybodaeth y byddwn bob amser yn mynnu ei gael ar gyfer achosion cymorth rhanbarthol dewisol. Dywedais yn gynharach fod gan y cwmni a ninnau well dealltwriaeth o lawer na chynt ar ôl fy nghyfarfod diweddaraf wythnos i ddydd Gwener diwethaf â BAE Systems, pan oedd yn BAE Systems o hyd. Mae’r asedau hynny bellach wedi eu trosglwyddo i bob pwrpas i gwmni integredig Airbus ers dydd Gwener diwethaf. Yn yr un modd ag yn y cyfarfod diwethaf hwnnw y dydd Gwener blaenorol â BAE Systems, credaf ei fod yn deall pam yr oedd angen inni gymhwyso’r un safonau ato ef ag at bob cwmni arall a dderbyniodd gymorth rhanbarthol dewisol. Deallaf pam ei bod yn anodd iddynt gyflenwi’r wybodaeth honno, ond credaf eu bod yn deall na allwn rwygo’r llyfr rheolau dim ond er mwyn BAE Systems a ninnau hefyd wedi gwrthod cymorth rhanbarthol dewisol i gwmnïau mawr gyda phrosiectau mawr—er nad rhai cymaint ag un BAE Systems—yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gwahardd Hela â Chŵn

.Banning Hunting with Dogs

Q7 Glyn Davies spoken in English p. 14

C7 Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

2:20 p.m Q7 Glyn Davies: Does the First Secretary have any plans to meet the Home Secretary to discuss the involvement of the National Assembly in any decision to ban hunting with dogs? (OAQ6008)

A oes gan y Prif Ysgrifennydd unrhyw gynlluniau i gyfarfod â’r Ysgrifennydd Cartref i drafod rhan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw benderfyniad i wahardd hela â chŵn? (OAQ6008)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I am pleased, Glyn, that you want me to discuss a decision to ban hunting with dogs with the Home Secretary. On this matter Labour’s election manifesto states that we will provide a free vote at Westminster. I hope that this happens. Home Office matters are not devolved in Wales, but they are devolved in Scotland. The Burns report recommended against separate legislation in Wales. There would be overwhelming support in England and Wales for a foxhunting ban.

Yr wyf yn falch, Glyn, eich bod yn dymuno imi drafod penderfyniad i wahardd hela â chŵn â’r Ysgrifennydd Cartref. Ar y mater hwn dywed maniffesto etholiad Llafur y byddwn yn darparu pleidlais rydd yn San Steffan. Gobeithiaf y bydd hynny’n digwydd. Ni ddatganolwyd materion y Swyddfa Gartref i Gymru, ond maent wedi eu datganoli yn yr Alban. Argymhellodd adroddiad Burns yn erbyn deddfwriaeth ar wahân yng Nghymru. Byddai cefnogaeth lethol yng Nghymru a Lloegr dros wahardd hela llwynogod.

Glyn Davies spoken in English p. 14

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

I disagree with your last point. Do you agree that the National Assembly, the Westminster Government and the parties within them should openly discuss how we can bring meaningful discussion on Welsh issues to this Assembly, without becoming side-tracked by a divisive debate about primary law-making powers?

Anghytunaf â’ch pwynt diwethaf. A gytunwch y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth San Steffan a’r pleidiau oddi mewn iddynt drafod yn agored y modd y gallwn ddod â thrafodaeth ystyrlon ar faterion Cymreig i’r Cynulliad hwn, heb gael ein gyrru ar gyfeiliorn gan ddadl gynhennus ynghylch pwerau deddfu sylfaenol?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I do not know what you are trying to say. I agree with part of it: that as long as we agree that the principle of the issue about whether there should be a ban on hunting with dogs will be considered in Westminster on an England and Wales basis—I think that that is what you mean—we should not have primary legislative powers on this matter. The Assembly can then consider the details, such as whether there should be an opt out for flushing, lamping or other methods, which are not sports, but methods of vermin control.

Ni wn beth yr ydych yn ceisio ei ddweud. Cytunaf â rhan ohono: sef cyhyd ag y cytunwn y bydd egwyddor y mater ynghylch a ddylid gwahardd hela â chŵn yn cael ei hystyried yn San Steffan ar sail Cymru a Lloegr—credaf mai hynny a olygwch—na ddylem gael pwerau deddfwriaethol sylfaenol ar y mater hwn. Wedyn gall y Cynulliad ystyried y manylion, fel a ddylid cael y dewis o eithrio ar gyfer codi o ddeyerydd, lampio neu ddulliau eraill, nad ydynt yn ddifyrion, ond yn ddulliau o reoli plâu.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 15

Nid yw adroddiad Burns yn glir yn ei gyfeiriadau at ranbarthau. Gwlad yw Cymru, nid rhanbarth. Cyfeiriasoch yn gynharach at ran o’r wlad ac fe’i galwasoch yn Gymru. Gwlad yw Cymru. Mae gwladwriaeth hefyd. Mae terminoleg yn bwysig yn hyn o beth.

The Burns report is not clear in its references to regions. Wales is a country, not a region. You referred earlier to part of the country and called it Wales. Wales is a country. There is also a state. Terminology is important in this respect.

A gytunwch ag ateb yr Ysgrifennydd Cartref i gwestiwn Simon Thomas yn Nhŷ’r Cyffredin y gellid cael cymal yn y Mesur a fydd yn caniatáu i’r Cynulliad wneud penderfyniad ar y mater hwn yng Nghymru? A fyddech yn croesawu hynny?

Do you agree with the Home Secretary’s answer to Simon Thomas’s question in the House of Commons that a clause could be included in the Bill that would permit the Assembly to make a decision on this matter in Wales? Would you welcome that?

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 15

Wrth gwrs, ond ni roesoch ateb cyflawn yr Ysgrifennydd Cartref. Nid yw’r geiriau gennyf, ond dywedodd y bydd yn rhaid cael dadl gref er mwyn cyfiawnhau cael ateb gwahanol yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Mae hynny’n dilyn argymhellion adroddiad Burns, sydd yn dweud na fydd yn ddigonol i Gymru gael cyfundrefn wahanol o gymharu â Lloegr.

Of course, but you did not give the Home Secretary’s full answer. I do not have the wording, but he said that there would have to be a strong argument to justify having a different solution in Wales compared to England. That follows the recommendations in the Burns report, which says that it would not be sufficient for Wales to have a different system compared to England.

Richard Edwards spoken in English p. 15

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 15

Do you agree that this issue is not about devolution? It is about unnecessary cruelty to animals. There is nothing distinctively Welsh about cruelty to animals.

A gytunwch nad yw’r mater hwn yn ymwneud â datganoli? Mae’n ymwneud â chreulondeb diangen i anifeiliaid. Nid oes dim sydd yn arbennig o Gymreig ynghylch creulondeb i anifeiliaid.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

I agree. A moment ago I hoped that Glyn and I could skate on the same bit of ice, however thin it was, for at least a second or two. However, the Welsh issue, to which the Burns report refers as specifically Welsh with some elements relating to Cumbria, is that dogs are used in upland Wales as a method of pest control. This does not appear to involve animal welfare issues in flushing out foxes in order to shoot them with rifles. That does not have an animal welfare implication and it is not a sport. Therefore, it is not unnecessary cruelty, but a part of pest control. The Assembly could deal with that issue because it is a Welsh one, although it also relates to Cumbria and small areas of England. Richard Edwards is right. There should not be an opt-out for Wales on an issue such as banning foxhunting with dogs in England and Wales. There should be a free vote in Westminster, as promised in Labour’s manifesto.

Cytunaf. Eiliad yn ôl gobeithiais y gallai Glyn a minnau sglefrio ar yr un darn o rew, er ei deneued, am eiliad neu ddwy o leiaf. Fodd bynnag, y mater Cymreig, y mae adroddiad Burns yn cyfeirio ato fel un penodol Gymreig gyda rhai elfennau sydd yn ymwneud â Cumbria, yw y defnyddir cŵn ym mynydd-dir Cymru fel dull o reoli plâu. Nid ymddengys fod hyn yn ymwneud â materion lles anifeiliaid fel codi llwynogod o ddeyerydd er mwyn eu saethu â reifflau. Nid oes oblygiad yn hynny i les anifeiliaid ac nid yw’n ddifyrrwch. Felly, nid yw’n ddiangen o greulon, ond yn rhan o reoli plâu. Gallai’r Cynulliad ddelio â’r mater hwnnw oherwydd un Cymreig ydyw, er ei fod hefyd yn ymwneud â Cumbria ac ardaloedd bach o Loegr. Mae Richard Edwards yn iawn. Ni ddylai fod dewis i eithrio i Gymru ar fater fel gwahardd hela llwynogod â chŵn yng Nghymru a Lloegr. Dylid cael pleidlais rydd yn San Steffan, fel yr addawyd ym maniffesto Llafur.

David Davies spoken in English p. 16

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 16

If, as you say, this issue is about cruelty to animals, why is this Government not saying anything about shooting and positively ruling out a ban on fishing—a sport which is pursued by Mike Foster? Is it not the case that this is nothing to do with cruelty to animals, but an issue of political expediency for a Government that is losing votes all over rural and urban areas?

Os yw’r mater hwn, fel y dywedwch, yn ymwneud â chreulondeb i anifeiliaid, pam nad yw’r Llywodraeth hon yn dweud dim am saethu ac yn diystyru’n bendant waharddiad ar bysgota—diffyrrwch a ganlynir gan Mike Foster? Onid yw’n wir nad oes a wnelo hyn â chreulondeb i anifeiliaid, ond ei fod yn fater o gyfleuster gwleidyddol i Lywodraeth sydd yn colli pleidleisiau ledled ardaloedd gwledig a threfol?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

References to expediency by the Conservative Party on this matter are ludicrous. The party in which David Davies has been a leading advocate in saying no to devolution before and after devolution, is suddenly in favour of it because it thinks that it can attain a Welsh opt-out of a ban on foxhunting in England and Wales. There is no expediency. The Burns report is clear about animal welfare issues. Shooting foxes after flushing out or by lamping or other fox control methods are not animal welfare matters. That is what the Burns report says, as I understand. Hunting foxes with dogs raises serious animal welfare issues. That is why it involves animal welfare. I am sorry, David, but I fundamentally disagree with you, as I always thought I would.

Mae cyfeiriadau at gyfleuster gan y Blaid Geidwadol ar y mater hwn yn chwerthinllyd. Mae’r blaid y bu David Davies yn brif ddadleuwr ynddi wrth ddweud na wrth ddatganoli cyn ac ar ôl datganoli, o’i blaid yn sydyn am ei bod yn credu y gall sicrhau eithrio Cymru o waharddiad ar hela llwynogod yng Nghymru a Lloegr. Nid oes cyfleuster. Mae adroddiad Burns yn eglur ynghylch materion lles anifeiliaid. Nid yw saethu llwynogod ar ôl eu codi o ddeyerydd neu drwy lampio neu ddulliau rheoli llwynogod eraill yn faterion lles anifeiliaid. Dyna’r hyn a ddywed adroddiad Burns, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae hela llwynogod â chŵn yn codi materion lles anifeiliaid difrifol. Dyna pam y mae’n ymwneud â lles anifeiliaid. Mae’n ddrwg gennyf, David, ond anghytunaf yn sylfaenol â chi, fel y credwn drwy’r amser y byddwn.

Lorraine Barrett spoken in English p. 16

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 16

Following on from his last comment, I presume that the First Secretary agrees that Conservative Members of Parliament, particularly Nigel Evans, are somewhat embarrassed by the Conservative Assembly Members, as the Conservative MPs in Westminster do not want us to have any devolution, let alone give us more powers.

Gan ddilyn ei sylw diwethaf, cymeraf fod y Prif Ysgrifennydd yn cytuno bod Aelodau Seneddol Ceidwadol, yn enwedig Nigel Evans, wedi eu hannifyrru braidd gan yr Aelodau Cynulliad Ceidwadol, gan nad yw’r Aelodau Seneddol Ceidwadol yn San Steffan yn dymuno inni gael datganoli, heb sôn am roi mwy o bwerau i ni.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Perhaps this morning’s radio interview was a little early for Nigel Evans. I do not know what the explanation was. It certainly cut across what the party in Wales has been saying. I am not sure whether it will follow Nigel Evans’s lead, by saying that there should be no devolution on this matter to the Assembly, that it is an England and Wales matter that is determined by the Home Office and that Home Office matters have never been devolved to the Assembly. On the other hand, it may say, as a matter of convenience, that the Assembly should adopt devolution where it suits the Welsh Conservative Party, even though it was against devolution from the start.

Efallai fod y cyfweliad radio y bore yma braidd yn gynnar i Nigel Evans. Ni wn beth oedd yr eglurhad. Yr oedd yn sicr yn mynd yn groes i’r hyn a ddywedwyd gan y blaid yng Nghymru. Nid wyf yn sicr a fydd yn dilyn arweiniad Nigel Evans, drwy ddweud na ddylid cael datganoli ar y mater hwn i’r Cynulliad, ei fod yn fater i Gymru a Lloegr a benderfynir gan y Swyddfa Gartref ac na ddatganolwyd materion y Swyddfa Gartref erioed i’r Cynulliad. Ar y llaw arall, gallai ddweud, fel mater o gyfleuster, y dylai’r Cynulliad fabwysiadu datganoli lle y mae’n gyfleus i Blaid Geidwadol Cymru, er ei bod yn erbyn datganoli o’r dechrau.

Annog Tyfiant Economaidd a Datblygu Cymdeithasol (Gogledd Cymru)

Encouraging Economic Growth and Social Development (North Wales)

Q8 Peter Rogers spoken in English p. 17

C8 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the First Secretary make a statement with regard to the creation of a policy to encourage economic growth and social development in deprived areas of north Wales? (OAQ6027)

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ddatganiad mewn perthynas â chreu polisi i annog tyfiant economaidd a datblygu cymdeithasol yn ardaloedd difreintiedig gogledd Cymru? (OAQ6027)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

On the basis that deprivation is deprivation, whether it is found in north, mid or south Wales, it is a fundamental part of the Assembly’s corporate planning strategy. We believe that the whole of Wales benefits from Assembly policies that provide support to areas of social and economic need. The Assembly’s first strategic plan, ‘Betterwales.com’, sets out our plan to create fresh, made in Wales policies that tackle, among other things, the subject of social disadvantage and how we can create a better, stronger economy without leaving out anyone or any part of Wales.

Ar y sail mai amddifadedd yw amddifadedd, pa un a’i ceir ef yng ngogledd, canolbarth neu dde Cymru, mae’n rhan hanfodol o strategaeth cynllunio corfforaethol y Cynulliad. Credwn fod Cymru gyfan yn elwa o bolisïau Cynulliad sydd yn darparu cymorth i ardaloedd ag angen cymdeithasol ac economaidd. Mae cynllun strategol cyntaf y Cynulliad, ‘Gwellcymru.com’, yn cyflwyno ein cynllun i greu polisïau ffres, a wnaethpwyd yng Nghymru sydd yn mynd i’r afael, ymysg pethau eraill, â phwnc anfantais gymdeithasol a sut y gallwn greu economi gwell, cryfach heb adael allan neb nac unrhyw ran o Gymru.

Peter Rogers spoken in English p. 17

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 17

I know very well that you recognise the deprived area of Holyhead. Following the recently announced cuts to the WDA budget, the future is bleak for the new Holyhead marina, on which work is due to start tomorrow. The WDA cannot release the £80,000 until next April. With this in mind, when can we create policies to help these areas to further develop themselves?

Gwn o’r gorau eich bod yn cydnabod yr ardal ddifreintiedig o Gaergybi. Ar ôl y toriadau yng nghyllideb ADC a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r dyfodol yn dywyll ar gyfer marina newydd Caergybi, y mae gwaith i fod i ddechrau arno yfory. Ni all ADC ryddhau’r £80,000 tan Ebrill nesaf. Gan gofio hyn, pryd y gallwn greu polisïau i helpu’r ardaloedd hyn i’w datblygu eu hunain ymhellach?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

Policies and their detailed implementation is not always the same thing. We can set out a strategic vision but that does not mean that every single project gets approval at a specific date, rather than the same date the following year. I am not able to say today whether a marina in Holyhead should be in the priority or the budget ranking for the WDA, the Wales Tourist Board or the local council. I do not know. If Peter wants to write to me regarding the marina project in Holyhead, I would be pleased to consider it. I am sure that Ieuan Wyn Jones would agree with me that the north-western half of Anglesey is probably among the most deprived local economies in Wales. It is a tragedy that it is one of the most deprived areas of Wales because, only 90 minutes away across the Irish Sea, is the greater Dublin area, which is one of the world’s great boom areas.

Nid yr un peth bob amser yw polisïau a’r modd o’u rhoi ar waith yn fanwl. Gallwn gyflwyno gweledigaeth strategol ond ni olyga hynny fod pob un prosiect yn cael ei gymeradwyo ar ddyddiad penodol, yn hytrach na’r un dyddiad y flwyddyn ganlynol. Ni allaf ddweud heddiw a ddylai marina yng Nghaergybi fod yn y rhestr flaenoriaethau neu restr y gyllideb ar gyfer ADC, Bwrdd Croeso Cymru neu’r cyngor lleol. Ni wn. Os yw Peter yn dymuno ysgrifennu ataf ynghylch y prosiect marina yng Nghaergybi, byddwn yn falch o’i ystyried. Yr wyf yn sicr y cytunai Ieuan Wyn Jones â mi fod hanner gogledd-orllewinol Ynys Môn ymysg yr economïau lleol mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl pob tebyg. Mae’n drychineb ei bod yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oherwydd, dim ond 90 munud i ffwrdd dros Fôr Iwerddon, y mae ardal Dulyn fwyaf, sef un o ardaloedd cynnydd mawr y byd.

Peter Rogers spoken in English p. 18

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 18

The letter awaits you.

Mae’r llythyr yn eich aros.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 18

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

Order. I call Janet Ryder.

Trefn. Galwaf ar Janet Ryder.

Janet Ryder spoken in English p. 18

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 18

You have made allusions to the fact that, within north Wales, there is much difference between urban and rural areas—between east and west—as is mirrored throughout Wales. It is not a case of forming a policy that will only benefit north Wales. It is a case of getting the right policy from the Cabinet to benefit the whole of Wales. Everyone in Wales will then benefit. Do you agree that the recent cut in the WDA budget for north Wales will not be helpful in developing a good economic base there?

Cyfeiriasoch at y ffaith bod llawer o wahaniaeth, oddi mewn i ogledd Cymru, rhwng ardaloedd trefol a gwledig—rhwng y dwyrain a’r gorllewin—fel y gwelir ledled Cymru. Nid yw’n fater o lunio polisi na fydd ond o les i ogledd Cymru. Mae’n fater o gael y polisi iawn gan y Cabinet i fod o les i Gymru gyfan. Bydd pawb yng Nghymru’n elwa wedyn. A gytunwch na fydd y toriad diweddar yng nghyllideb ADC ar gyfer gogledd Cymru o gymorth wrth ddatblygu sylfaen economaidd dda yno?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

The first part of your question rang the right note as far as I am concerned. Rather than set out to divide individual parts of Wales from one another, we should have a policy that benefits the whole of Wales, but which pays particular attention to deprived areas. The more deprived you are, the more attention you deserve and should receive from the Assembly. It does not matter whether the area is in north, mid, south or west Wales. It is the deprivation rather than the geographic location that should determine the priority that an area gets. When we get the data indicating the most deprived wards in Wales, we should put those communities first. Those wards should get the additional attention, whether that be in skills training, the provision of public services such as schools and health services, or industrial priority. I am not sure about the second part of your question. However, I hope that we can unite on this and that when we know the deprivation figures, we can push forward on that basis. If that does not chime with what the Welsh Development Agency is doing in north Wales, then I will consider it, because we will then have the evidence. Evidence-based policy making, not policy making by hunch, must drive us forward.

Yr oedd rhan gyntaf eich cwestiwn yn taro’r nodyn iawn o’m rhan i. Yn hytrach na cheisio gwahanu rhannau unigol o Gymru oddi wrth ei gilydd, dylem gael polisi sydd o les i Gymru gyfan, ond sydd yn rhoi sylw arbennig i ardaloedd difreintiedig. Po fwyaf difreintiedig yr ydych, mwyaf y sylw a deilyngwch ac y dylech ei dderbyn gan y Cynulliad. Nid yw o bwys a yw’r ardal yng ngogledd, canolbarth, de neu orllewin Cymru. Yr amddifadedd yn hytrach na’r lleoliad daearyddol a ddylai benderfynu’r flaenoriaeth a gaiff ardal. Pan gawn y data sydd yn dangos y wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, dylem roi’r cymunedau hynny’n gyntaf. Dylai’r wardiau hynny gael y sylw ychwanegol, boed hynny mewn hyfforddi medrau, darparu gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion a gwasanaethau iechyd, neu flaenoriaeth ddiwydiannol. Nid wyf yn sicr ynghylch ail ran eich cwestiwn. Fodd bynnag, gobeithiaf y gallwn uno ar hyn ac y gallwn, pan wyddom y ffigurau amddifadedd, fwrw ymlaen ar y sail honno. Os nad yw hynny’n cyd-fynd â’r hyn y mae Awdurdod Datblygu Cymru yn ei wneud yng ngogledd Cymru, yna fe’i hystyriaf, oherwydd bydd y dystiolaeth gennym wedyn. Llunio polisi sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, nid llunio polisi drwy synhwyro, a ddylai ein gyrru ymlaen.

Ann Jones spoken in English p. 19

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 19

Do you agree that the fire service plays a vital role, not just in north Wales, but in Wales as a whole? Do you also agree that the current proposals in the Mott Macdonald report on the future of fire service control rooms will, by reducing them down to one, have a detrimental effect not just on north Wales because of the Welsh language issue, but on the whole of Wales, because the fire service is needed to ensure economic growth and we need to ensure that the fire service can respond quickly and efficiently in socially deprived areas?

A gytunwch fod y gwasanaeth tân yn chwarae rôl holl bwysig, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond yng Nghymru gyfan? A gytunwch hefyd y bydd y cynigion presennol yn adroddiad Mott Macdonald ar ddyfodol ystafelloedd rheoli gwasanaeth tân, drwy eu torri i un, yn cael effaith andwyol nid yn unig ar ogledd Cymru oherwydd mater yr iaith Gymraeg, ond ar Gymru gyfan, oherwydd mae angen y gwasanaeth tân er mwyn sicrhau twf economaidd ac mae angen inni sicrhau y gall y gwasanaeth tân ymateb yn gyflym ac yn effeithlon mewn ardaloedd sydd o dan anfantais gymdeithasol?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 19

You and I, Ann, both attended the meeting and presentation this morning in which the senior officers of the Fire Brigades’ Union made a powerful case against the Mott Macdonald report, which recommends merging the three fire control stations in Wales into one. I have not read the report given to us at that meeting, so I cannot answer the second part of your question. Again, this is not a devolved matter. It is a Home Office matter, although the Assembly can certainly debate it and take a view. We probably should try to find time to do that, although allocating time for debates is a matter for the Business Committee rather than for me.

Yr oeddech chi a minnau, Ann, yn bresennol yn y cyfarfod a’r cyflwyniad y bore yma lle y cyflwynodd uwch swyddogion Undeb y Brigadau Tân ddadl gref yn erbyn adroddiad Mott Macdonald, sydd yn argymell cyfuno’r tair gorsaf rheoli tân yng Nghymru yn un. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad a roddwyd i ni yn y cyfarfod hwnnw, felly ni allaf ateb ail ran eich cwestiwn. Unwaith eto, nid yw hyn yn fater a ddatganolwyd. Mae’n fater i’r Swyddfa Gartref, er y gall y Cynulliad yn sicr ei drafod a mynegi barn. Mae’n debyg y dylem geisio dod o hyd i amser i wneud hynny, er bod dyrannu amser ar gyfer dadleuon yn fater i’r Pwyllgor Busnes yn hytrach nag i mi.

Ehangiad Tebygol yr Undeb Ewropeaidd

Probable Enlargement of the European Union

Q9 Mick Bates spoken in English p. 20

C9 Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 20

Has the First Secretary had any discussion with Welsh firms interested in the probable enlargement of the European Union and will he make a statement? (OAQ6010)

A yw’r Prif Ysgrifennydd wedi cael trafodaethau â chwmnïau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ehangiad tebygol yr Undeb Ewropeaidd ac a wnaiff ddatganiad? (OAQ6010)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 20

I am grateful for that question. At the last meeting of the Wales Forum on European Affairs, a workshop was held on the potential for Welsh companies of the enlargement of the European Union and its implications for business, both in terms of the threat it may pose and the potential it may offer. The speaker was a senior official from the Cabinet Office with special responsibility for European enlargement. I am pleased to say that we invited 150 firms to attend that forum, and 90 attended. That is a good record and shows that people in Wales are alive to what will happen when Poland, Hungary, the Czech Republic, Slovakia and so on, come into the European Union at some stage over the next six or seven years.

Yr wyf yn ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw. Yng nghyfarfod diwethaf Fforwm Cymru ar Faterion Ewropeaidd, cynhaliwyd gweithdy ar y posibiliadau i gwmnïau yng Nghymru oherwydd ehangu’r Undeb Ewropeaidd a’i oblygiadau i fusnes, o ran y bygythiad y gallai ei olygu a’r potensial y gallai ei gynnig. Yr oedd y siaradwr yn uwch swyddog o Swyddfa’r Cabinet gyda chyfrifoldeb arbennig dros ehangiad Ewropeaidd. Yr wyf yn falch o ddweud inni wahodd 150 o fusnesau i’r fforwm hwnnw, a bod 90 yn bresennol. Mae hynny’n record dda ac yn dangos bod pobl Cymru yn effro i’r hyn a fydd yn digwydd pan ddaw Gwlad Pwyl, Hwngari, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia ac yn y blaen, i’r Undeb Ewropeaidd rywdro yn ystod y chwe neu saith mlynedd nesaf.

Mick Bates spoken in English p. 20

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 20

Thank you, First Secretary. Those countries that join the EU under the enlargement process will more than likely join the euro before the UK. When will your Government help firms export by joining the euro?

Diolch i chi, Brif Ysgrifennydd. Bydd y gwledydd hynny sydd yn ymuno â’r UE o dan y broses ehangu’n ymuno â’r ewro cyn y DU yn ôl pob tebyg. Pa bryd y bydd eich Llywodraeth chi’n helpu busnesau i allforio drwy ymuno â’r ewro?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 20

Enlargement has many meanings, I guess, Mick. It is true that psychologically speaking, new countries thinking of joining the European Union such as Estonia, Slovenia and Slovakia, want to show their European credentials to some extent. When they ask to become members of the European Union, they automatically assume that, if they can qualify in terms of the economic tests, they would wish to join the euro at the earliest date that they could, or would be allowed to join, by the existing 11—I think—members of euroland. The British attitude to the euro has been different and more cautious. We have been a member of the European Union since 1973 but so far we have not been able to make that commitment. However, there will be developments shortly after the next General Election, if, Mick, it goes the right way.

Mae llawer o ystyron i ehangu, yr wyf yn tybio, Mick. Mae’n wir, a siarad yn seicolegol, fod gwledydd newydd sydd yn ystyried ymuno â’r Undeb Ewropeaidd fel Estonia, Slofenia a Slofacia, yn dymuno dangos eu hunaniaeth Ewropeaidd i ryw raddau. Pan ofynnant am gael dod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, rhagdybiant yn awtomatig, os gallant gymhwyso o ran y profion economaidd, y byddent yn dymuno ymuno â’r ewro ar y dyddiad cyntaf y caent, neu y caniateid iddynt ymuno, gan yr 11 presennol—yr wyf yn credu—o drigolion gwlad yr ewro. Bu’r ymagwedd Brydeinig at yr ewro yn wahanol ac yn fwy gochelgar. Yr ydym yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ers 1973 ond hyd yn hyn ni allasom wneud yr ymrwymiad hwnnw. Fodd bynnag, bydd datblygiadau cyn hir ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf, Mick, os â’r ffordd iawn.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 21

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 21

While I welcome Rhodri’s comments about the links that have already been made with countries from central and eastern Europe that have applied for membership of the European Union, and the employment and investment opportunities that might arise from that, does he not share my concern that the lead department for investment in these countries remains the responsibility of the Department for Trade and Industry? It is important that the Assembly and the Welsh Development Agency provide sufficient information through the embassies in these countries, so that Wales is higher up on their agenda than at present.

Er fy mod yn croesawu sylwadau Rhodri am y cysylltiadau a grewyd eisoes â gwledydd yng nghanol a dwyrain Ewrop a ymgeisiodd am aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, a’r cyfleoedd gwaith a buddsoddi a allai godi o hynny, a yw’n rhannu fy mhryder bod yr adran arweiniol ar gyfer buddsoddi yn y gwledydd hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i’r Adran Masnach a Diwydiant? Mae’n bwysig i’r Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru ddarparu digon o wybodaeth drwy’r llysgenadaethau yn y gwledydd hynny, fel bod Cymru’n uwch ar eu hagenda nag ydyw ar hyn o bryd.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 21

I would go along with that, because I believe that we have a special role to play. To some extent, those countries of Eastern Europe are now in the same situation as Wales was when the United Kingdom joined the European Union on 1 January 1973. As a result, if you are a Foreign and Commonwealth Office official, you might not grasp what it is like to see mass closures in the steel and coal industry. However, we know what that is like and how you must try to effect your transformation and reinvent your economy, image and so on. We probably have much to teach the Foreign Office. I would not like to take over that role from the Foreign Office, but I think that it should consult us a great deal, along the lines that Ieuan suggests.

Byddwn yn cyd-fynd â hynny, oherwydd credaf fod gennym rôl arbennig i’w chwarae. I ryw raddau, mae’r gwledydd hynny yn nwyrain Ewrop yn yr un sefyllfa yn awr ag yr oedd Cymru pan ymunodd y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973. O ganlyniad, os ydych yn swyddog yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, mae’n bosibl na ddeallech y teimlad o weld cau torfol yn y diwydiant dur a glo. Fodd bynnag, gwyddom ni am y teimlad hwnnw a sut y mae’n rhaid ichi gyflawni’ch trawsnewidiad ac ailddyfeisio’ch economi, eich delwedd ac yn y blaen. Mae’n debyg bod gennym lawer i’w ddysgu i’r Swyddfa Dramor. Ni hoffwn gymryd y rôl honno drosodd oddi wrth y Swyddfa Dramor, ond credaf y dylai ymgynghori â ni’n helaeth, yn debyg i’r hyn a awgryma Ieuan.

Secondly, we should probably seek to form alliances with some of those areas of eastern Europe that will face similar problems of reconversion, as we did in the 1970s, 1980s and early 1990s, with the loss of jobs in steel and coal. We could have a direct know-how exchange with those areas of eastern Europe. Not only are we able to help them, but also consultancy companies might be able to transact business with those areas of eastern Europe.

Yn ail, mae’n debyg y dylem geisio ffurfio cynghreiriau â rhai o’r rhannau hynny o ddwyrain Ewrop a fydd yn wynebu problemau tebyg o aildrawsnewid, fel y gwnaethom ni yn y 1970au, y 1980au a dechrau’r 1990au, gan golli swyddi mewn dur a glo. Gallem gael cyfnewid uniongyrchol o fedrau â’r rhannau hynny o ddwyrain Ewrop. Nid yn unig yr ydym yn gallu eu helpu, ond mae’n bosibl hefyd y gallai cwmnïau ymgynghori wneud busnes â’r rhannau hynny o ddwyrain Ewrop.

Datganiad ar Amcan 1

Statement on Objective 1

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

I am delighted that the European Commission yesterday approved the single programming document for the Objective 1 programme in west Wales and the Valleys, which comprises two-thirds of Wales. Objective 1 status is a once-in-a-lifetime opportunity to transform that two-thirds of Wales that has been lagging behind into a growing and more dynamic economic region. This will improve the quality of life for the 1.8 or 1.9 million people who live in Wales’s less well-off areas, which are lagging 25 per cent or more behind the European average. Almost £1.2 billion of European Objective 1 money will be available to west Wales and the south Wales valleys over the next seven years.

Yr wyf wrth fy modd bod y Comisiwn Ewropeaidd ddoe wedi cymeradwyo’r ddogfen rhaglennu sengl ar gyfer y rhaglen Amcan 1 yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd yn cynnwys dwy ran o dair o Gymru. Mae statws Amcan 1 yn gyfle unwaith mewn oes i drawsnewid y ddwy ran o dair hynny o Gymru a fu’n llusgo ar ôl yn rhanbarth economaidd sydd yn tyfu ac sydd yn fwy dynamig. Bydd hyn yn gwella ansawdd bywyd i’r 1.8 neu 1.9 miliwn o bobl sydd yn byw yn ardaloedd llai cefnog Cymru, sydd yn llusgo 25 y cant neu fwy ar ôl y cyfartaledd Ewropeaidd. Bydd bron £1.2 biliwn o arian Amcan 1 Ewropeaidd ar gael i orllewin Cymru a chymoedd de Cymru dros y saith mlynedd nesaf.

The programme was put together by a wide-ranging partnership in Wales, in co-operation with the UK Government and the European Commission. It reflects the Commission’s confidence in our ability to deliver the much-needed economic growth for which west Wales and the Valleys have been crying out. It will enhance the competitiveness of the area, by modernising its industrial base, encouraging high-growth sectors, improving skills and promoting the information society. The success of Objective 1 depends on all of us working together and devising exciting new projects to achieve these aims.

Lluniwyd y rhaglen gan bartneriaeth eang yng Nghymru, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’n adlewyrchu hyder y Comisiwn yn ein gallu i gyflenwi’r twf economaidd mawr ei angen y mae gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi crefu amdano. Bydd yn hybu gallu’r ardal i gystadlu, drwy foderneiddio ei sylfaen ddiwydiannol, hybu sectorau twf uchel, gwella medrau a hyrwyddo’r gymdeithas wybodaeth. Mae llwyddiant Amcan 1 yn dibynnu arnom oll yn gweithio gyda’n gilydd a dyfeisio prosiectau newydd cyffrous i gyflawni’r amcanion hyn.

Economic growth will be led by the business sector in all its forms: indigenous and inward investor, mainstream private sector and social enterprises. Growth in small and medium sized enterprises will be a priority in Wales. Support for the home-grown sector of the economy will be a key element, especially as regards innovation and the knowledge-based economy. The programme will also promote the upgrading of skills to be ready for the knowledge-based economy, plus basic employability. It must support community economic regeneration, rural development and the sustainable use of natural resources. The regional economic policies of the past brought some jobs, but they failed to produce the workforce, the skills, the technology and the research and development that Wales needs to develop sustainable living standards and an economic dynamism that will take us forward to the new century.

Arweinir twf economaidd gan y sector busnes ym mhob un o’i ffurfiau: rhai cynhenid a mewnfuddsoddwyr, y sector prif ffrwd preifat a mentrau cymdeithasol. Bydd twf mewn busnesau bach a chanolig eu maint yn flaenoriaeth yng Nghymru. Bydd cymorth i sector cynhenid yr economi’n elfen allweddol, yn enwedig mewn perthynas ag arloesi a’r economi sydd yn seiliedig ar wybodaeth. Bydd y rhaglen hefyd yn hybu uwchraddio medrau i fod yn barod ar gyfer yr economi sydd yn seiliedig ar wybodaeth, ynghyd â chyflogadwyedd sylfaenol. Rhaid iddi gynorthwyo adfywio economaidd cymunedol, datblygu gwledig a’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol. Daeth polisïau economaidd rhanbarthol y gorffennol â rhai swyddi, ond methasant â chreu’r gweithlu, y medrau, y dechnoleg a’r ymchwil a datblygu y mae ar Gymru eu hangen er mwyn datblygu safonau byw cynaliadwy ac egni economaidd a fydd yn ein dwyn ymlaen i’r ganrif newydd.

The success of Ireland—transformed from a rural backwater 20 years ago into one of Europe’s fastest growing economies now—is one of the great Euro success stories that brings home to us all the benefits that Objective 1 funding, among other factors, can bring. It is now time to look forward and maximise the benefits available to Wales. I am confident that Objective 1 will go a long way towards helping to achieve the Assembly’s vision of a modern and dynamic Welsh economy, in which no part of Wales is left out, and which has the confidence to take on the world.

Llwyddiant Iwerddon—a drawsnewidiwyd o fod yn lle marwaidd gwledig 20 mlynedd yn ôl yn un o’r economïau sydd yn tyfu gyflymaf yn Ewrop yn awr—yw un o’r storïau llwyddiant Ewropeaidd mawr sydd yn ein gwneud ni oll yn ymwybodol o’r manteision y gall arian Amcan 1, ymysg ffactorau eraill, eu rhoi. Mae bellach yn bryd edrych ymlaen ac amlhau’r manteision sydd ar gael i Gymru. Yr wyf yn ffyddiog y bydd Amcan 1 yn mynd yn bell iawn tuag at helpu i gyflawni gweledigaeth y Cynulliad o economi Gymreig fodern a dynamig, lle na adewir allan yr un ardal o Gymru, ac sydd yn meddu ar yr hyder i herio’r byd.

Phil Williams spoken in English p. 23

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 23

Rhodri, we all share your delight and welcome this further important step in the approval of the Objective 1 single programming document. It is no secret that some of us were getting a little frustrated when we saw Objective 1 programmes approved and running in Finland, Austria, Portugal, Italy, Belgium, Sweden, Germany and Denmark. The prospect of getting our final approval on 20 July and joining them in this important work is exciting.

Rhodri, yr ydym oll yn rhannu’ch llawenydd ac yn croesawu’r cam pwysig pellach hwn wrth gymeradwyo dogfen rhaglennu sengl Amcan 1. Nid yw’n gyfrinach bod rhai ohonom yn dechrau teimlo braidd yn rhwystredig pan welsom raglenni Amcan 1 wedi eu cymeradwyo ac ar waith yn y Ffindir, Awstria, Portiwgal, yr Eidal, Gwlad Belg, Sweden, yr Almaen a Denmarc. Mae disgwyl cymeradwyaeth derfynol ar 20 Gorffennaf ac ymuno â hwy yn y gwaith pwysig hwn yn gyffrous.

That date just about gives us the chance to approve sufficient fast-track and first-round projects to meet our full financial commitments for 2000. I welcome your agreement, as Chair of the monitoring committee, to make flexible arrangements to ensure that, if there is a slippage of a few days, we will still be able to give approval for major fast-track projects before the summer break.

Mae’r dyddiad hwnnw yn rhoi cyfle inni o drwch blewyn i gymeradwyo digon o brosiectau dull carlam a chylch cyntaf i gyflawni ein holl ymrwymiadau ariannol am 2000. Croesawaf eich cydsyniad, fel Cadeirydd y pwyllgor monitro, i wneud trefniadau hyblyg er mwyn sicrhau, os oes llithriant o ychydig ddiwrnodau, y byddwn yn dal i allu cymeradwyo prosiectau dull carlam mawr cyn toriad yr haf.

However, everyone in Wales must realise that there is still much work to be done, especially by the officials, by the Welsh European Funding Office and by the monitoring committee. The programme complement, which will be the basic handbook of the programme, is still in draft form and it will be necessary to satisfy the Commission that we add realistic and attainable targets for each measure. We must clarify the relationship between the 10 strategic action plans that cover the whole of the Objective 1 region and the 15 local action plans. We must ensure that the procedures for accessing the funds are simple and transparent. We do have plans that have reached this stage of approval.

Fodd bynnag, rhaid i bawb yng Nghymru sylweddoli bod llawer o waith i’w wneud o hyd, yn enwedig gan y swyddogion, gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru a chan y pwyllgor monitro. Mae dogfen ategol y rhaglen, sef yr hyn a fydd yn llawlyfr sylfaenol i’r rhaglen, ar ffurf ddrafft o hyd a bydd angen bodloni’r Comisiwn ein bod yn ychwanegu targedau ymarferol a chyraeddadwy ar gyfer pob mesur. Rhaid inni egluro’r berthynas rhwng y 10 cynllun gweithredu strategol sydd yn cynnwys y cyfan o’r rhanbarth Amcan 1 a’r 15 cynllun gweithredu lleol. Rhaid inni sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad at yr arian yn syml ac yn dryloyw. Mae gennym gynlluniau sydd wedi cyrraedd y cam cymeradwyo hwn.

A lot of work needs to be completed but I promise Plaid Cymru’s full, excited and enthusiastic co-operation. We are waiting for one more decision to ensure that the full amount of European funds can be used to regenerate our economy, the terms of which the Assembly agreed unanimously: the full transfer of European funds in addition to the Barnett block and the necessary extra match funding. In the papers that we have both submitted to the Economic Development Committee, we are in broad agreement on the basic financial requirements of the full set of Objectives 1, 2 and 3 and the community initiatives. However, we have a difference of around £18 million per annum in our requirement for extra funding from the Treasury. I think that your officials’ estimate includes around £30 million a year for the European money, which will still be taken from our baseline budget. The one item of concern is that the level of match funding from this body will increase by around £50 million per year. Our delight would be unbounded if these two principles were recognised in the comprehensive spending review so that we could say to Wales that we now have the full opportunity at last to do what we have waited for so long: to bring new economic life.

Mae angen cwblhau llawer o waith ond addawaf gydweithrediad llawn, cynhyrfus a brwdfrydig gan Blaid Cymru. Yr ydym yn disgwyl un penderfyniad pellach er mwyn sicrhau y gellir defnyddio swm llawn yr arian Ewropeaidd i adfywio ein heconomi, y cytunodd y Cynulliad ar ei delerau’n unfrydol: trosglwyddo arian Ewropeaidd yn llawn ar ben bloc Barnett a’r arian cyfatebol ychwanegol angenrheidiol. Yn y papurau yr ydym ni ein dau wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, yr ydym yn cytuno’n fras ar ofynion ariannol sylfaenol y set lawn o Amcanion 1, 2 a 3 a’r mentrau cymunedol. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhyngom o tua £18 miliwn y flwyddyn yn ein hangen am gyllid ychwanegol o’r Trysorlys. Credaf fod amcangyfrif eich swyddogion yn cynnwys tua £30 miliwn y flwyddyn ar gyfer yr arian Ewropeaidd, a gymerir o hyd o’n cyllideb llinell sylfaen. Yr un eitem sydd yn peri pryder yw y bydd lefel yr arian cyfatebol o’r corff hwn yn cynyddu tua £50 miliwn y flwyddyn. Byddai ein llawenydd yn ddi-ben-draw pe cydnabyddid y ddwy egwyddor hyn yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fel y gallem ddweud wrth Gymru fod y cyfle llawn gennym yn awr o’r diwedd i wneud yr hyn y disgwylier mor hir amdano: dod â bywyd economaidd newydd.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 24

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

The European Commission endorsed the single programming document yesterday and Plaid Cymru has endorsed it today. I am pleased that you have followed its lead because the last time we debated this issue, Phil, you were not willing to endorse the document. You only wanted to note the document. However, I take more pleasure from one sinner who repenteth than from somebody who has been enthusiastic all along.

Cymeradwywyd y ddogfen raglennu sengl gan y Comisiwn Ewropeaidd ddoe ac mae Plaid Cymru wedi ei chymeradwyo heddiw. Yr wyf yn falch eich bod wedi dilyn ei arweiniad oherwydd y tro diwethaf inni drafod y mater hwn, Phil, nid oeddech yn barod i gymeradwyo’r ddogfen. Ni ddymunech ond nodi’r ddogfen. Fodd bynnag, ymhyfrydaf yn fwy mewn un pechadur sydd yn edifarhau nag mewn rhywun a fu’n frwdfrydig ers y dechrau.

You are right to say that this is not the end of the game. As of yesterday morning, before the Commission made its announcement, we had three hurdles to jump before we could spend money. Now we only have two hurdles to jump. The remaining two hurdles include the Chancellor’s comprehensive spending review announcement, which we assume will happen in the first half of July. Afterwards, I hope that Phil and I and the monitoring committee members will be in a position to change the shadow monitoring committee into a real monitoring committee, which can make real decisions so that there is a fast-track round in the final week of July.

Yr ydych yn iawn i ddweud nad hyn yw diwedd y gêm. Fore ddoe, cyn i’r Comisiwn wneud ei gyhoeddiad, yr oedd gennym dri rhwystr i’w neidio cyn y gallem wario arian. Bellach nid oes gennym ond dau rwystr i’w neidio. Mae’r ddau rwystr sydd ar ôl yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o wariant y Canghellor, a fydd yn digwydd, yr ydym yn tybio, yn hanner cyntaf Gorffennaf. Wedyn, gobeithiaf y bydd Phil a minnau a’r pwyllgor monitro mewn sefyllfa i droi’r pwyllgor monitro cysgodol yn bwyllgor monitro gwirioneddol, a gaiff wneud penderfyniadau gwirioneddol fel bod cylch dull carlam yn ystod wythnos olaf Gorffennaf.

In terms of calculating how much match funding is needed in the system to make a success of the programme, I do not want to get into the financial accounting technicalities of the difference between public expenditure cover and match funding. After all, what people refer to as match funding out there is known as public expenditure here. Also, real match funding is different to what people outside the Assembly and the press think it is. I do not want to get into all that today. The important issue is that we have the freedom of manoeuvre to make a success of this programme. All four parties in the Assembly wish to see it succeed. We need additional resources to do so. We all agree that we cannot do it within the Barnett formula. We hope that Treasury officials and in other places where these decisions are being made over the next few weeks are listening.

Ynghylch cyfrif faint o arian cyfatebol sydd yn angenrheidiol yn y system i wneud y rhaglen yn llwyddiant, ni ddymunaf fynd i fanylion technegol cyfrifo ariannol y gwahaniaeth rhwng arian gwariant cyhoeddus ac arian cyfatebol. Wedi’r cwbl, mae’r hyn y mae pobl yn cyfeirio ato fel arian cyfatebol allan yn y fan honno’n cael ei alw’n wariant cyhoeddus yma. Hefyd, mae arian cyfatebol gwirioneddol yn wahanol i’r hyn ydyw yng ngolwg pobl y tu allan i’r Cynulliad ac yn y wasg. Ni ddymunaf ymdrin â hynny i gyd heddiw. Y mater pwysig yw bod gennym y rhyddid i symud i wneud llwyddiant o’r rhaglen hon. Mae pob un o’r pedair plaid yn y Cynulliad yn dymuno ei gweld yn llwyddo. Mae arnom angen adnoddau ychwanegol i wneud hynny. Cytunwn na allwn ei wneud oddi mewn i fformwla Barnett. Gobeithiwn fod swyddogion y Trysorlys ac mewn mannau eraill lle y gwneir y penderfyniadau hyn dros yr wythnosau nesaf yn gwrando.

Alun Cairns spoken in English p. 25

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 25

I thank the First Secretary for his statement. Although I cannot offer the same level of delight as Phil Williams for Plaid Cymru, we are pleased that the single programming document was endorsed by the Commission yesterday. It is a significant step, although a number of significant steps are yet to be overcome. It is better late than never. We cannot forget that we are almost seven months into the period during which we should be spending the money rather than only agreeing the document with the European Commission. That highlights the difficult negotiations that have been held between Assembly officials and the Commission since last November. This will now focus the debate on the four remaining elements that the Assembly must address: match funding, the programme complement, implementation and operating aids.

Diolchaf i’r Prif Ysgrifennydd am ei ddatganiad. Er na allaf gynnig yr un lefel o lawenydd ag a wnaeth Phil Williams dros Blaid Cymru, yr ydym yn falch bod y ddogfen raglennu sengl wedi ei chadarnhau gan y Comisiwn ddoe. Mae’n gam pwysig, er bod nifer o gamau pwysig i’w goresgyn eto. Gwell hwyr na hwyrach. Ni allwn anghofio bod bron saith mis wedi mynd heibio o’r cyfnod pan ddylem fod yn gwario’r arian yn hytrach na dim ond cytuno ar y ddogfen gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae hynny’n tynnu sylw at y negodiadau anodd a gynhaliwyd rhwng swyddogion y Cynulliad a’r Comisiwn ers Tachwedd diwethaf. Bydd hyn yn canolbwyntio’r ddadl yn awr ar y pedair elfen sydd yn weddill y bydd yn rhaid i’r Cynulliad roi sylw iddynt: arian cyfatebol, dogfen ategol y rhaglen, gweithredu a chymhorthion gweithredu.

In terms of match funding, I am not confident that we are any further forward than when we had a change of First Secretary several months ago. Assuming that extra money will be available—I think that we need to make that assumption—I am interested to know how you and the Finance Secretary plan to present that after the end of the comprehensive spending review. Effective implementation is crucial. I was pleased to see that technical assistance will be offered to each partnership in order to involve the private and voluntary sectors. We need to further publicise the details about that so that all sectors of the economy can become involved. One draft of the programme complement has already been shared. However, I am sure that every member of the Economic Development Committee will agree that that was a starting point and that further development needs to be added.

Ynghylch arian cyfatebol, nid wyf yn ffyddiog ein bod wedi mynd dim ymhellach na phan gawsom newid Prif Ysgrifennydd rai misoedd yn ôl. Gan dybio y bydd arian ychwanegol ar gael—credaf fod angen inni dybio felly—mae o ddiddordeb imi wybod sut yr ydych chi a’r Ysgrifennydd Cyllid yn bwriadu cyflwyno hynny ar ôl diwedd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae gweithredu effeithiol yn holl bwysig. Yr oeddwn yn falch o weld y bydd cymorth technegol yn cael ei gynnig i bob partneriaeth er mwyn cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol. Mae angen inni roi cyhoeddusrwydd pellach i’r manylion am hynny fel y gall holl sectorau’r economi gymryd rhan. Mae un drafft o ddogfen ategol y rhaglen wedi ei rannu eisoes. Fodd bynnag, yr wyf yn sicr y bydd pob aelod o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd yn cytuno mai man cychwyn oedd hynny a bod angen ychwanegu datblygiad pellach.

My final point relates to operating aids. Although a representative from the Treasury attended the last meeting of the Economic Development Committee, it seems to me that there is some way to go in the negotiations with the Treasury in relation to operating aids. You mentioned the Irish economy in your statement, First Secretary. The reason why the Irish economy boomed to such an extent, or exploited Objective 1 to the same extent, was because corporation tax was also reduced to 10 per cent for some of the country’s smaller enterprises. Operating aids could offer fiscal measures, and I would be keen to find out what the latest developments are and your ultimate objectives in relation to that.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â chymhorthion gweithredu. Er i gynrychiolydd o’r Trysorlys fynychu cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Datblygu Economaidd, ymddengys i mi fod rhyw bellter i’w deithio yn y negodiadau â’r Trysorlys mewn perthynas â chymhorthion gweithredu. Soniasach am economi Iwerddon yn eich datganiad, Brif Ysgrifennydd. Y rheswm pam y ffynnodd economi Iwerddon i’r fath raddau, neu pam y bu iddo fanteisio ar Amcan 1 i’r un graddau, oedd am fod y dreth gorfforaeth wedi ei gostwng i 10 y cant ar gyfer rhai o fusnesau llai’r wlad. Gallai cymhorthion gweithredu gynnig mesurau cyllidol, ac yr wyf yn awyddus i ddarganfod beth yw’r datblygiadau diweddaraf a’ch amcanion sylfaenol mewn perthynas â hynny.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 26

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

Some sinners are still living in sin, but will probably repent eventually. On the issue of match funding, we intend to be as open as possible with the Assembly when the comprehensive spending review has been announced. That may not happen until after 12 July, which is the date of our last Plenary session. We would prefer it to be earlier than that to enable a full debate to take place in the Assembly. If it is not, we will have to find other ways of ensuring that the information is shared quickly. We would like information to reach potential applicants in the local and regional partnerships at the end of this week, now that we have the endorsement of the European Commission. The exact method by which we calculate match funding—the whole picture—is not of direct concern to the applicants. They are concerned whether they can receive match funding as individual bodies. We will try to ensure that the match funding that they believe that they need is available to them to help make a success of the programme. The programme’s success will comprise the individual successes of projects and how they add up to re-dynamise the economy of west Wales and the Valleys. I am glad that Alun Cairns shares our pleasure at the improved funding for technical assistance and making it retrospective for at least part of the way.

Mae rhai pechaduriaid yn dal i bechu, ond byddant yn edifarhau yn y pen draw yn ôl pob tebyg. Ar fater arian cyfatebol, bwriadwn fod mor agored â phosibl â’r Cynulliad pan y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi ei gyhoeddi. Mae’n bosibl na fydd hynny’n digwydd tan ar ôl 12 Gorffennaf, sef dyddiad ein Cyfarfod Llawn olaf. Byddai’n well gennym pe bai’n gynharach na hynny fel y gall dadl lawn ddigwydd yn y Cynulliad. Os na fydd, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ddulliau eraill o sicrhau y caiff yr wybodaeth ei rhannu’n gyflym. Byddem yn falch pe bai gwybodaeth yn cyrraedd ymgeiswyr posibl yn y partneriaethau lleol a rhanbarthol ddiwedd yr wythnos hon, a ninnau bellach wedi cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd. Nid yw’r union ddull a ddefnyddiwn i gyfrifo arian cyfatebol—y darlun cyflawn—o ddiddordeb uniongyrchol i’r ymgeiswyr. Maent yn bryderus ynghylch a allant dderbyn arian cyfatebol fel cyrff unigol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr arian cyfatebol y credant fod arnynt ei angen ar gael iddynt i helpu i wneud y rhaglen yn llwyddiant. Bydd llwyddiant y cynllun yn cynnwys llwyddiannau unigol y prosiectau a’r modd y maent gyda’i gilydd yn ailfywiogi economi gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Yr wyf yn falch bod Alun Cairns yn rhannu ein hyfrydwch yn y cyllid gwell ar gyfer cymorth technegol a’r ffaith y bydd wedi ei wneud yn ôl-weithredol o leiaf ran o’r ffordd.

Alun is right to say that the programme complement is still in draft form. However, he will be aware that the Commission official who was present at the last shadow monitoring committee did not see that as a problem for the fast-track round. We would hope to get the programme complement agreed in full before the first general round in September 2000. We do not accept that we have lost seven months. Neither do I accept Phil’s figures that numerous areas in Europe have received final approval. We are only aware of two parts of Europe of which that is true—eastern Finland and Burgenland. That is the information that I received just before lunch from officials, Phil. I see that you are shaking your head. I do not know from where you received your information. We are only aware of two areas that have received final approval.

Mae Alun yn iawn wrth ddweud bod dogfen ategol y rhaglen yn dal i fod ar ffurf ddrafft. Fodd bynnag, bydd yn ymwybodol nad oedd y swyddog o’r Comisiwn a oedd yn bresennol yn y pwyllgor monitro cysgodol diwethaf yn ystyried hynny’n broblem ar gyfer y cylch dull carlam. Byddem yn gobeithio cael cytundeb llawn ar ddogfen ategol y rhaglen cyn y cylch cyffredinol cyntaf ym Medi 2000. Ni dderbyniwn ein bod wedi colli saith mis. Ni dderbyniaf ffigurau Phil ychwaith fod nifer fawr o rannau o Ewrop wedi derbyn cymeradwyaeth derfynol. Ni wyddom ond am ddwy ran o Ewrop y mae hynny’n wir amdanynt—dwyrain y Ffindir a Burgenland. Dyna’r wybodaeth a dderbyniais yn union cyn cinio gan y swyddogion, Phil. Gwelaf eich bod yn ysgwyd eich pen. Ni wn o ble y cawsoch eich gwybodaeth. Ni wyddom ond am ddau ranbarth a dderbyniodd gymeradwyaeth derfynol.

The Treasury is very resistant to operating aids because of the dead weight issue. I think that we can press it on the issue of a preferential rate for research and development in small firms, as I said at a meeting of the Economic Development Committee. Whether we are successful or not depends on further negotiations with the Treasury.

Mae’r Trysorlys yn wrthwynebus iawn i gymhorthion gweithredu oherwydd y mater o bwysau marw. Credaf y gallwn bwyso arno ar fater cyfradd ffafriol ar gyfer ymchwil a datblygu mewn busnesau bach, fel y dywedais mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd. Mae pa un a lwyddwn ai peidio’n dibynnu ar negodiadau pellach gyda’r Trysorlys.

Michael German spoken in English p. 28

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 28

We do not need to be repenting sinners because we welcomed this document when it was sent to Brussels, and I am grateful that it has been presented. The Assembly spent six or seven months in ensuring that it was in a fit shape to be presented. The sinners can have their moment. However, this is only a staging post. The people who have said that today are right. There are several important parts to that staging post which relate to the next stage.

Nid oes angen i ni fod yn bechaduriaid edifeiriol oherwydd croesawasom y ddogfen hon pan anfonwyd hi i Frwsel, ac yr wyf yn ddiolchgar iddi gael ei chyflwyno. Treuliodd y Cynulliad chwe neu saith mis wrth sicrhau ei bod mewn cyflwr addas i’w chyflwyno. Caiff y pechaduriaid eu heiliad. Fodd bynnag, dim ond man aros yw hyn. Mae’r rhai a ddywedodd hynny’n gywir. Mae sawl rhan bwysig i’r man aros hwnnw sydd yn ymwneud â’r cam nesaf.

Match funding presents a big question. The comprehensive spending review will deliver funding from 1 April 2001. The consequence of that is that in the first year and a third of the European programme, we will have to use our existing resources. That is, of course, unless the First Secretary—and perhaps he can confirm whether or not he has done so—has asked the Chancellor for the extra money that we would have needed this year to be bunched up to 1 April 2001. That is why I cannot agree with all of Phil’s figures. The figures do not look at where that money is coming from in the first year and must be applied to the second year unless the comprehensive spending review gives us that money early. If it is to be given from 1 April 2001 onwards, we are clearly going to be taking money if we are intent on committing ourselves to the full expenditure in this first year. We will be committing money from existing budgets. I am sure the Finance Secretary will be pleased to tell us how much spare money—in the words of the First Secretary—is lying around the Assembly. It could be used to pick up the need that might exist in the first year because the comprehensive spending review would not tackle that subject. That is the first question. How do we avoid decommitment on that matter?

Mae arian cyfatebol yn codi cwestiwn mawr. Bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn darparu cyllid o 1 Ebrill 2001. Canlyniad hynny yw y bydd yn rhaid inni ddefnyddio ein hadnoddau presennol ym mlwyddyn a thraean cyntaf y rhaglen Ewropeaidd. Hynny yw, wrth gwrs, oni bai fod y Prif Ysgrifennydd—ac efallai y gall gadarnhau a wnaeth hyn ai peidio—wedi gofyn i’r Canghellor am yr arian ychwanegol y buasai arnom ei angen eleni i’w gronni hyd at 1 Ebrill 2001. Dyna pam na allaf gytuno â’r cwbl o ffigurau Phil. Nid yw’r ffigurau yn ystyried o ble y daw’r arian hwnnw yn y flwyddyn gyntaf a rhaid eu cymhwyso at yr ail flwyddyn oni bai fod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi’r arian hwnnw i ni’n fuan. Os ydyw i’w roi o 1 Ebrill 2001 ymlaen, mae’n amlwg y byddwn yn cymryd arian os ydym yn benderfynol o ymrwymo i’r gwariant llawn yn y flwyddyn gyntaf hon. Byddwn yn neilltuo arian o’r cyllidebau presennol. Yr wyf yn sicr y bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn falch o ddweud wrthym faint o arian dros ben—yng ngeiriau’r Prif Ysgrifennydd—sydd yn sefyll o gwmpas y Cynulliad. Gellid ei ddefnyddio i gwrdd â’r angen a allai fodoli yn y flwyddyn gyntaf am na fyddai’r adolygiad cynhwysfawr o wariant yn mynd i’r afael â’r pwnc hwnnw. Dyna’r cwestiwn cyntaf. Sut yr ydym yn osgoi dadymrwymo ar y mater hwnnw?

The second issue relates to operating aids. I am sorry that I have not been able to convince the Assembly of the need to use the corporation tax as a trigger for getting more economic development in Wales. There is no doubt that the Irish Ambassador and every Irish economic expert who was present at that session said that the trigger was not only the European money. It was also the ability to put in place a universal fiscal measure: the corporation tax. What we need to do is put our shoulder to the Treasury. We may have been giving in too softly. I wonder whether we have put the effort into the task of taking on the Treasury. I know that it is a big body but it would not be a case of David and Goliath. Should we not be more robust in our attack on the Treasury for these extra resources?

Mae’r ail fater yn ymwneud â chymhorthion gweithredu. Mae’n ddrwg gennyf na lwyddais i argyhoeddi’r Cynulliad o’r angen i ddefnyddio treth gorfforaeth fel modd i ddechrau cael mwy o ddatblygu economaidd yng Nghymru. Nid oes dwywaith bod Llysgennad Iwerddon a phob arbenigwr economaidd o Iwerddon a oedd yn bresennol yn y sesiwn honno wedi dweud nad yr arian Ewropeaidd oedd yr unig beth a’i cychwynnodd. Yn ogystal â hynny yr oedd y gallu i roi mesur cyllidol cyffredinol ar waith: y dreth gorfforaeth. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw pwyso ar y Trysorlys. Efallai inni ildio’n rhy rhwydd. Tybed a roesom ddigon i’r dasg o herio’r Trysorlys. Gwn ei fod yn gorff mawr ond ni fyddai’n enghraifft o Dafydd a Goliath. Oni ddylem fod yn gadarnach yn ein hymosodiad ar y Trysorlys i gael yr adnoddau ychwanegol hyn?

Third, do you agree that it is now time to draw in the debt owed to us by the Tories? We now know that not only did they hand back Welsh Office money to the Treasury, but that they also presided over figures that were incorrect and thus deprived Wales of being an Objective 1 region from 1994. A sum of £1 billion did not come to Wales because of their actions.

Yn drydydd, a gytunwch ei bod bellach yn bryd hawlio’r ddyled sydd ar y Torïaid i ni? Gwyddom bellach eu bod nid yn unig wedi rhoi arian y Swyddfa Gymreig yn ôl i’r Trysorlys, ond eu bod hefyd â gofal dros ffigurau a oedd yn anghywir ac a oedd drwy hynny wedi amddifadu Cymru rhag bod yn rhanbarth Amcan 1 ers 1994. Ni ddaeth swm o £1 biliwn i Gymru oherwydd eu gweithredoedd.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 29

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 29

That was a ringing declaration at the end. I will answer in reverse order. It is true that if John Redwood had used his customary incisiveness of mind in 1993-94—

Yr oedd hynny’n ddatganiad atseiniol ar y diwedd. Atebaf yn wrthol. Mae’n wir, pe bai John Redwood wedi arfer ei finiogrwydd meddwl arferol yn 1993-94—

Glyn Davies spoken in English p. 29

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 29

That is outrageous.

Mae hynny’n warthus.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 29

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 29

What is? That John Redwood has an incisive mind? I am appalled, Glyn.

Beth? Bod gan John Redwood feddwl miniog? Yr wyf wedi fy nychryn, Glyn.

The case could have been put for two-thirds of Wales getting Objective 1 back then. That is possible. I do not know exactly what the discussions inside the Welsh Office were because they only filter out to a degree via the European Commission and so forth. John Redwood obviously did not want to know because he did not want to get into any further relationship with Europe. That is not quite the same point as has been made by the Oxford economists. I do not know if there is a relationship between the two points. I only know what I knew as an opposition spokesman on Welsh affairs during that period. There were whispers emerging from the Welsh Office on how resistant John Redwood was on that point.

Gallesid bod wedi cyflwyno’r achos o blaid rhoi Amcan 1 i ddwy ran o dair o Gymru bryd hynny. Mae hynny’n bosibl. Ni wn beth yn union oedd y trafodaethau oddi mewn i’r Swyddfa Gymreig oherwydd nid ydynt ond yn treiddio allan i ryw raddau drwy’r Comisiwn Ewropeaidd ac yn y blaen. Mae’n amlwg na ddymunai John Redwood ymhel â hyn am na ddymunai fod yn rhan o unrhyw berthynas bellach ag Ewrop. Nid hynny yw’r un pwynt yn hollol ag a wnaethpwyd gan yr economegwyr yn Rhydychen. Ni wn a oes cysylltiad rhwng y ddau bwynt. Y cwbl a wn i yw’r hyn a wyddwn fel llefarydd yn yr wrthblaid ar faterion Cymreig yn y cyfnod hwnnw. Yr oedd sibrydion yn dod o’r Swyddfa Gymreig ynghylch pa mor wrthwynebol yr oedd John Redwood ar y pwynt hwnnw.

I move on to the second issue of taking on the Treasury on the operating aids issue and having a different rate of corporation tax in Wales or a different rate for small and medium-sized enterprises. Mike said that we should be more robust with the Treasury. One day, perhaps we will have a telegram from Gordon Brown to the Assembly saying, ‘Get your tanks off my lawn’. I do not know. One must work out which battles can be won and which are will-o’-the wisp and a waste of time. On a very modest scale on the research and development front, we could win that battle. To get a different level of corporation tax is a will-o’-the wisp. That is my judgement. I am interested to hear Mike’s views. They have been fully expressed in other avenues such as the Economic Development Committee. We must fight winnable battles where we may be able to persuade the Treasury. That is why I am still keen that we should push as hard as we can on the research and development front. That is where Wales is particularly weak in terms of the small and medium-sized enterprises.

Symudaf ymlaen at yr ail fater o herio’r Trysorlys ar fater y cymhorthion gweithredu a chael cyfradd wahanol o dreth gorfforaeth yng Nghymru neu gyfradd wahanol ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Dywedodd Mike y dylem fod yn llymach gyda’r Trysorlys. Rhyw ddiwrnod, efallai y derbyniwn delegram oddi wrth Gordon Brown at y Cynulliad yn dweud, ‘Symudwch eich tanciau oddi ar fy lawnt’. Ni wn. Rhaid i rywun ddod i ddeall pa frwydrau y gellir eu hennill a pha rai sydd yn rhithiau ac yn wastraff amser. Ar raddfa gymedrol iawn ar yr ochr ymchwil a datblygu, gallem ennill y frwydr hon. Mae cael gwahanol lefel o dreth gorfforaeth yn rhith. Dyna fy marn i. Mae o ddiddordeb imi glywed barn Mike. Fe’i mynegwyd yn llawn mewn mannau eraill fel y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Rhaid inni ymladd brwydrau y gellir eu hennill lle y gallai fod modd inni ddwyn perswâd ar y Trysorlys. Dyna pam yr wyf yn awyddus y dylem wthio mor galed ag y gallwn ar yr ochr ymchwil a datblygu. Dyna’r lle y mae Cymru’n arbennig o wan o ran busnesau bach a chanolig eu maint.

How much money is available in this year? We are now a quarter of the way into the first quarter. We are in the hands of officials. They advised us that £25 million should be adequate, in terms of the resources required this year. That was based on the fact that Merseyside and the Highlands and Islands spent nothing in their first year and we should be able to do better than that. However, we should not be unrealistic and invest large sums of money in a scheme that is expenditure driven and not commitment driven, as it was last time when Merseyside and the Highlands and Islands were included. However, for whatever reason, John Redwood or otherwise, we were excluded. We believe that £25 million is the right sum for expenditure, not commitments. Mike, you used the word ‘commitments’; it is important—and I cannot emphasise it too much—that this programme is driven by expenditure and not commitments.

Faint o arian sydd ar gael yn y flwyddyn hon? Aethom chwarter ffordd i’r chwarter cyntaf. Yr ydym yn nwylo’r swyddogion. Fe’n cyngorasant y dylai £25 miliwn fod yn ddigon, o ran yr adnoddau sydd yn angenrheidiol eleni. Yr oedd hynny’n seiliedig ar y ffaith na wariwyd dim gan Lannau Mersi ac Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban yn eu blwyddyn gyntaf ac y dylem allu gwneud yn well na hynny. Fodd bynnag, ni ddylem fod yn afrealistig a buddsoddi symiau mawr o arian mewn cynllun a yrrir gan wariant ac nid gan ymrwymiad, fel y gwnaethpwyd y tro diwethaf pan oedd Glannau Mersi ac Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban wedi eu cynnwys. Fodd bynnag, am ba reswm bynnag, John Redwood neu fel arall, fe’n gadawyd allan. Credwn mai £25 miliwn yw’r swm cywir ar gyfer gwariant, nid ymrwymiadau. Mike, defnyddiasoch y gair ‘ymrwymiadau’; mae’n bwysig—ac ni allaf bwysleisio hyn ormod—y caiff y rhaglen hon ei gyrru gan wariant ac nid gan ymrwymiadau.

You say that I said there was ‘spare money’. I actually said that there were ‘unspent balances’, which is a different matter. If the issue relates to how many ‘unspent balances’ you could reasonably assume to be available in the final two months of the Assembly’s financial year, then there are always unspent balances. If, some day, this Assembly or the Scottish Parliament or any Government department did not have unspent balances, it would be a wonderful feat. Even the Archangel Gabriel could probably not do it. If anyone achieved it that would be great, but we currently live with the fact that there are always unspent balances available. That is the source to which we would look if we find that £25 million is not enough.

Dywedwch imi ddweud bod ‘arian dros ben’. Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd bod ‘gweddillau heb eu gwario’, sydd yn fater gwahanol. Os yw’r mater yn ymwneud â nifer y ‘gweddillau heb eu gwario’ y gallech gymryd yn rhesymol eu bod ar gael yn nau fis olaf blwyddyn ariannol y Cynulliad, yna bydd gweddillau sydd heb eu gwario ar gael bob amser. Pe bai’r Cynulliad hwn neu Senedd yr Alban neu unrhyw adran Llywodraeth ryw ddiwrnod heb weddillau a oedd heb eu gwario, byddai’n gamp ryfeddol. Mae’n debyg na allai’r Archangel Gabriel wneud hynny hyd yn oed. Pe bai rhywun yn cyflawni hynny byddai’n wych, ond ar hyn o bryd yr ydym yn byw gyda’r ffaith bod gweddillau heb eu gwario ar gael bob amser. Dyna’r ffynhonnell yr edrychwn arni os cawn nad yw £25 miliwn yn ddigon.

Val Feld spoken in English p. 31

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 31

I am glad not to be passed over, because I wanted to share in the delight of my neighbour, Phil Williams, and in the slightly less muted, but nevertheless pleasure, of my new friend Alun Cairns. We are now very close. You should watch Alun Cairns.

Yr wyf yn falch na chefais fy anwybyddu, oherwydd dymunwn rannu yn llawenydd fy nghymydog, Phil Williams, ac ym mhleser ychydig yn llai tawedog, ond pleser er hynny, fy ffrind newydd Alun Cairns. Yr ydym yn agos iawn yn awr. Dylech gadw golwg ar Alun Cairns.

I take this opportunity to record, and ensure that we all remember, that many people have done a great deal of work to get us to this point. Partners in the voluntary, business and local government sectors have done much work. They developed this programme. A great deal of work has been done by our own officials, many of whom worked late into the night to complete this work and achieve Brussels’s approval. It is important that we, as Assembly Members, acknowledge that.

Achubaf ar y cyfle hwn i gofnodi, a sicrhau ein bod oll yn cofio, fod llawer o bobl wedi gwneud llawer iawn o waith i ddod â ni i’r pwynt hwn. Mae partneriaid yn y sectorau gwirfoddol, busnes a llywodraeth leol wedi gwneud llawer o waith. Hwy a ddatblygodd y rhaglen hon. Gwnaethpwyd llawer iawn o waith gan ein swyddogion ein hunain, y gweithiodd llawer ohonynt yn hwyr y nos i gwblhau’r gwaith hwn ac ennill cymeradwyaeth Brwsel. Mae’n bwysig ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad, yn cydnabod hynny.

It is also important that we acknowledge that whatever Phil says—and he has shown me the map that he says shows that other countries in Europe have been given approval—we are achieving approval at the same time as all the other UK regions. That is the most reasonable yardstick by which we should be judged. In terms of economic development opportunities, it is important that we are on a level playing field with the other parts of the United Kingdom.

Mae hefyd yn bwysig inni gydnabod, beth bynnag a ddywed Phil—ac mae wedi dangos y map i mi sydd, meddai ef, yn dangos y gwledydd eraill yn Ewrop y rhoddwyd cymeradwyaeth iddynt—ein bod yn ennill cymeradwyaeth yr un pryd â holl ranbarthau eraill y DU. Dyna’r ffon fesur fwyaf rhesymol y dylem ein barnu wrthi. O ran cyfleoedd datblygu economaidd, mae’n bwysig ein bod ar gae chwarae gwastad gyda rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Given that an enormous amount of work needs to be done speedily to ensure implementation—in terms of local and regional action plans, getting information out to large numbers of people, establishing the partnerships and putting the monitoring mechanism in place—I wondered whether or not we are in a position to call a truce, for at least three weeks until the CSR. This would allow our officials to continue with the task of trying to get this machine up and running, which we all so desperately need.

O ystyried bod angen gwneud swm aruthrol o waith yn gyflym er mwyn sicrhau gweithredu—o ran cynlluniau gweithredu lleol a rhanbarthol, anfon gwybodaeth at niferoedd mawr o bobl, sefydlu’r partneriaethau a sefydlu’r mecanwaith monitro—yr oeddwn yn meddwl tybed a ydym mewn sefyllfa i alw am gadoediad, am o leiaf dair wythnos tan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Byddai hyn yn caniatáu i’n swyddogion barhau â’r dasg o geisio rhoi’r peiriant hwn ar waith, sef yr hyn y mae ar bawb ohonom ei daer angen.

I hope that we can now turn our attention to other important programmes, such as Objectives 2 and 3, INTERREG and the community initiatives, which will be important in building relationships and links with other parts of Europe. They will also be important in working through what can be achieved on operating aids. Having sat through discussions with the Treasury last week, I agree with Rhodri that we need to identify what will be achievable, in terms of getting the kind of operating aids that will make the difference and provide the nuts and bolts and machines that will make this programme work.

Gobeithiaf y gallwn yn awr droi ein sylw at y rhaglenni pwysig eraill, fel Amcanion 2 a 3, INTERREG a’r mentrau cymunedol, a fydd yn bwysig wrth greu cydberthnasau a chysylltiadau â rhannau eraill o Ewrop. Byddant hefyd yn bwysig wrth weithio drwy’r hyn y gellir ei gyflawni ar gymhorthion gweithredu. Ar ôl eistedd drwy drafodaethau â’r Trysorlys yr wythnos diwethaf, cytunaf â Rhodri fod angen inni ddynodi’r hyn y gellir ei gyflawni, o ran cael y math o gymhorthion gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn darparu’r manylion a’r peiriannau a fydd yn peri i’r rhaglen hon weithio.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 32

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

I accept what you say. Objective 1 has developed an almost talismanic significance for people in Wales, who talk about it perhaps without understanding exactly what it means. It has led people to forget about Objectives 2 and 3, INTERREG, the URBAN initiative and other community initiatives, which are much smaller, but nevertheless are there and must be exploited. They must not be forgotten. I also agree that now that we have the European Commission’s endorsement, subject to the views of the four advisory committees, quality of projects takes over as the key point. When submitting work, people must ask themselves what contribution their project will make to transforming the economy of Wales’s lagging areas to redress the 25 per cent deficit between their area and the European average in terms of standards of living and economic development and growth. They must ask themselves whether it helps the transformation process, not whether or not they have a vested interest or can grab the money before somebody in the next valley. The key issue is a project’s impact on transforming the economy to bring it up to the European average. We must concentrate on that.

Derbyniaf yr hyn a ddywedwch. Mae Amcan 1 wedi datblygu arwyddocâd swynoglaidd bron i bobl Cymru, sydd yn sôn amdano heb efallai ddeall yn union beth y mae’n ei olygu. Parodd i bobl anghofio am Amcanion 2 a 3, INTERREG, y fenter URBAN a mentrau cymunedol eraill, sydd yn llai o lawer, ond sydd yno er hynny a rhaid eu defnyddio. Rhaid peidio â’u hanghofio. Cytunaf hefyd, a ninnau bellach wedi cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd, yn amodol ar farn y pedwar cyngor ymgynghorol, mai ansawdd prosiectau yw’r pwynt allweddol bellach. Wrth gyflwyno gwaith, rhaid i bobl ofyn iddynt eu hunain beth fydd eu prosiect yn ei gyfrannu at drawsffurfio economi ardaloedd ymlusgol Cymru er mwyn cywiro’r 25 y cant o ddiffyg rhwng eu hardal hwy a’r cyfartaledd Ewropeaidd o ran safonau byw a datblygu a thwf economaidd. Rhaid iddynt ofyn iddynt eu hunain a yw’n helpu’r broses trawsffurfio, nid a oes ganddynt fuddiant breintiedig neu a allant afael ar yr arian o flaen rhywun yn y cwm nesaf. Y mater allweddol yw effaith prosiect ar drawsffurfio’r economi er mwyn ei godi i’r cyfartaledd Ewropeaidd. Rhaid inni ganolbwyntio ar hynny.

I hope that, when the fast-track round is announced before the end of July and the first general round in September and for the next six or seven years, that people will have a better idea of what kind of projects we are talking about to help redress the deficit in the economy of west Wales and the Valleys. These areas have bedevilled and have dragged us back for so long since the collapse of the coal and steel industry, agriculture, slate quarrying and so on.

Gobeithiaf, pan gyhoeddir y cylch dull carlam cyn diwedd Gorffennaf a’r cylch cyffredinol cyntaf ym Medi ac yn y chwe neu saith mlynedd nesaf, y caiff pobl well syniad o’r math o brosiectau yr ydym yn sôn amdanynt er mwyn helpu cywiro’r diffyg yn economi gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r ardaloedd hyn wedi ein plagio a’n llusgo’n ôl am gyfnod mor hir ers cwymp y diwydiant glo a dur, amaethyddiaeth, y chwareli llechi ac yn y blaen.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 33

Heb gydnabod fy mod yn bechadur o unrhyw fath, croesawaf innau’r newyddion hyn. Gofynnaf i’r Prif Ysgrifennydd a oes sicrwydd bod yr wybodaeth a gesglir yn awr ynglŷn â lefel incwm y pen yng Nghymru yn gywir ac, os nad ydyw, a fydd yn edrych i mewn i beth y dylid ei wneud er mwyn cael sylfaen ystadegol gywir? A wnaiff roi sicrwydd y bydd canllawiau ar gael cyn diwedd mis Gorffennaf i gwmnïau sydd eisiau buddsoddi yn y rhaglenni hyn fel y gallant fwrw ymlaen â’r gwaith? Os na fyddwn wedi derbyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn i’r Cynulliad gau ar 14 Gorffennaf, a yw’n bosibl i ni eistedd am gyfnod wedi hynny er mwyn trafod y datganiad pwysig hwn cyn toriad yr haf?

Without acknowledging that I am a sinner of any kind, I also welcome this news. I would like to ask the First Secretary whether there is assurance that the information that is currently being collated regarding income per capita in Wales is correct and, if not, whether he will look into what needs to be done so that the statistical base is correct? Will he assure us that guidelines for companies that wish to invest in these programmes will be available before the end of July so that they can proceed with this work? If we will not have received the comprehensive spending review before the Assembly breaks on 14 July, is it possible for us to remain in session for a period after that to discuss this important statement before the summer recess?

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 33

O ran yr adroddiad ystadegau, er mwyn sicrhau nad yw’r un camsyniad wedi cael ei wneud eilwaith yn yr ystadegau ynglŷn â lefel incwm neu’r lefel incwm gymharol rhwng Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, yr wyf wedi gofyn am adroddiad dros dro ac y mae gennyf yma. Yr oeddwn yn bwriadu ei ddarllen yn ystod y ddadl nesaf gydag un llygad. Yr wyf wedi gofyn i weithlu gael ei sefydlu er mwyn sicrhau na fydd camsyniad o’r fath yn digwydd eto.

As for the statistical report, in order to ensure that the same mistake has not been made a second time in the statistics on the level of income or the comparative levels of income between Wales and other countries in the United Kingdom, I have asked for a temporary report and I have it here. I was intending to read it with one eye during the next debate. I have asked for working groups to be established to ensure that such a mistake will not be repeated.

O ran canllawiau, gobeithiwn lansio llyfrynnau a fydd yn cynnwys y canllawiau hyn erbyn diwedd yr wythnos hon fel bod gan gwmnïau, awdurdodau lleol, cyrff lleol neu gyrff gwirfoddol ddigon o amser i’w deall er mwyn rhoi’r manylion yn eu ceisiadau a rhoi’r siawns orau iddynt i ennill cefnogaeth o dan raglen Amcan 1.

As regards guidelines, we hope to launch booklets that will include these guidelines by the end of this week so that companies, local authorities, local bodies or voluntary bodies have enough time to absorb them so that they can include the details in their applications and afford themselves the best opportunity of receiving support under the Objective 1 programme.

Mae’r adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei wneud gan Gordon Brown yn hanner cyntaf mis Gorffennaf. Ni fyddwn yn gwrthwynebu i ailymgynnull y Cynulliad—nid mater i mi yw hyn ond i’r Llywydd a’r Pwyllgor Busnes—am drydedd wythnos ym mis Gorffennaf pe byddai’r adolygiad yn cael ei gyhoeddi yn Nhŷ’r Cyffredin yn rhy hwyr inni ei ystyried yn deg cyn 12 Gorffennaf.

The CSR is being undertaken by Gordon Brown during the first half of July. I would not be opposed to the reconvening of the Assembly—it is not a matter for me but for the Presiding Officer and the Business Committee—for a third week in July if this review were published in the House of Commons too late for us to consider it fairly before 12 July.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 34

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 34

Mater i chi yw gofyn i mi i ailymgynnull y Cynulliad o dan Reolau Sefydlog. Efallai y byddai o gymorth i’r Aelodau gael gwybod, pe byddech yn gofyn imi, y byddwn yn debygol o gytuno.

It is a matter for you to ask me to reconvene the Assembly under Standing Orders. Perhaps it would assist Members to know that if you were to ask me I would be likely to agree.

Nick Bourne spoken in English p. 34

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 34

Once again, not in the spirit of a sinner coming to repent, it has been obvious that the single programming document would finally clear. We are hardly off to a flying start but let us acknowledge that it is good news for Wales that it has now been approved. In relation to the exercise in attempted history from the leader of the Liberal Democrats—it was a bit 1066—I hope that you are able to give him a position in the Cabinet reshuffle. At least 80 per cent of his contributions flatter the Labour Party and all of them criticise the Conservative Party. It is high time that he was given a responsibility.

Unwaith eto, nid yn ysbryd pechadur sydd yn dod i edifarhau, bu’n amlwg y byddai’r ddogfen raglennu sengl yn mynd drwodd yn y diwedd. Prin ein bod wedi cychwyn ar garlam ond gadewch inni gydnabod ei fod yn newydd da i Gymru ei bod bellach wedi ei chymeradwyo. Mewn perthynas â’r ymgais ar hanes gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol—yr oedd braidd yn null 1066—gobeithiaf y gallwch roi lle iddo yn yr ad-drefniad o’r Cabinet. Mae o leiaf 80 y cant o’i gyfraniadau’n seboni’r Blaid Lafur ac mae pob un ohonynt yn beirniadu’r Blaid Geidwadol. Mae’n hen bryd rhoi cyfrifoldeb iddo.

As a matter of correction, I will say that had it not been for the local government reorganisation completed by the Conservatives, the Objective 1 area would not be as favourable as it is. [GROANS FROM ASSEMBLY MEMBERS.] I did not expect universal applause for that and certainly not from the two contestants for the Plaid Cymru leadership.

Fel mater o gywiriad, dywedaf na fyddai’r ardal Amcan 1 mor ffafriol ag ydyw oni bai am yr ad-drefnu ar lywodraeth leol a gwblhawyd gan y Ceidwadwyr. [OCHENEIDIAU ODDI WRTH AELODAU CYNULLIAD.] Ni ddisgwyliwn gymeradwyaeth gyffredinol i hynny ac yn sicr nid oddi wrth y ddau gystadleuydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

The comprehensive spending review is now the material issue, and the First Secretary will know better than anyone else of the likelihood of success. I associate myself with Dafydd Wigley’s comments that a recall of the Assembly would be appropriate if the CSR is announced outside the Assembly term. The CSR is of such major importance to Wales that we will need to return to debate it. When are you likely to know the date and what will the process be after that? Will you make a recommendation to the Presiding Officer that we be recalled if the CSR is announced outside the Assembly term?

Yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yw’r mater pwysig yn awr, a bydd y Prif Ysgrifennydd yn gwybod yn well na neb am y tebygolrwydd o lwyddiant. Ategaf sylwadau Dafydd Wigley y byddai’n briodol ailalw’r Cynulliad os cyhoeddir yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y tu allan i dymor y Cynulliad. Mae’r adolygiad cynhwysfawr o wariant o’r fath bwys i Gymru fel y bydd angen inni ddod yn ôl i’w drafod. Pa bryd yr ydych yn debygol o gael gwybod y dyddiad a beth fydd y broses ar ôl hynny? A wnewch argymhelliad i’r Llywydd y dylem gael ein hailalw os cyhoeddir yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y tu allan i dymor y Cynulliad?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 35

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 35

On the single programming document and the area chosen, I pay tribute to Ron Davies and Peter Hain and their previous ministers in the Welsh Office during 1997-99. It was their determination and the support of their statisticians that persuaded Eurostat to allow a change in the format of dividing Wales into two NUTS II areas, namely the three Glamorgans and Gwent in one area, and Powys, Clwyd and Gwynedd in the other. None could qualify but it allowed some flexibility to do it another way as soon as government reorganisation had taken place. However, that was not the only possibility and I still maintain that what I said about John Redwood remains true because that is my understanding of the situation in 1993-94, but we can pursue that at another time.

Ar y ddogfen rhaglennu sengl a’r ardal a ddewiswyd, talaf deyrnged i Ron Davies a Peter Hain a’u gweinidogion blaenorol yn y Swyddfa Gymreig yn ystod 1997-99. Eu penderfyniad hwy a chymorth eu hystadegwyr a ddarbwyllodd Eurostat i ganiatáu newid yn y fformat o rannu Cymru’n ddwy ardal NUTS II, sef y tair Morgannwg a Gwent mewn un ardal, a Phowys, Clwyd a Gwynedd yn y llall. Ni allai’r un ymgymhwyso ond caniataodd rywfaint o hyblygrwydd i’w wneud mewn modd arall gynted ag yr oedd yr ad-drefnu ar lywodraeth wedi digwydd. Fodd bynnag, nid hwnnw oedd yr unig bosibiliad a chredaf o hyd fod yr hyn a ddywedais am John Redwood yn parhau’n wir oherwydd hynny yw fy nealltwriaeth i o’r sefyllfa yn 1993-94, ond gallwn ddilyn hynny rywdro arall.

At this stage, I do not have any information on how much notice I will receive nor when the CSR announcement will be made nor indeed at what point the Government will make up its mind as to whether it will finally decide two days or a week in advance. However, the Assembly will be given a reasonable period of notice. I sense that most Members agree that it would be appropriate to recall the Assembly if the announcement was delayed until after 12 July. It is of sufficient key importance to Wales, because of our unique situation as a new Objective 1 area. We therefore face problems of accommodating that within our budget, unlike the Scottish Parliament, which has already received and lost Objective 1 funding. The Scottish Parliament has a reducing amount of transitional funding and, as a result, it is not asking for a recall because it knows that it will finish on 1 July before the CSR is announced. It is not a problem for them. There should be adequate time for debate here if the CSR is announced after 12 July. I will make arrangements with the Presiding Officer that there is a full opportunity to debate it during the following week if that is what transpires.

Ar hyn o bryd, nid oes gennyf unrhyw wybodaeth am faint o rybudd a dderbyniaf na pha bryd y gwneir cyhoeddiad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nac yn wir ar ba adeg y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ynghylch a fydd yn penderfynu’n derfynol ddeuddydd neu wythnos ymlaen llaw. Fodd bynnag, rhoddir cyfnod rhesymol o rybudd i’r Cynulliad. Synhwyraf fod y rhan fwyaf o’r Aelodau’n cytuno y byddai’n briodol ailalw’r Cynulliad os caiff y cyhoeddiad ei ohirio tan ar ôl 12 Gorffennaf. Mae o ddigon o bwys allweddol i Gymru, oherwydd ein sefyllfa unigryw fel ardal Amcan 1 newydd. Yr ydym felly’n wynebu problemau o gynnwys hynny oddi mewn i’n cyllideb, yn wahanol i Senedd yr Alban, sydd eisoes wedi derbyn a cholli arian Amcan 1. Mae gan Senedd yr Alban swm o arian trosiannol sydd yn lleihau ac, o ganlyniad, nid yw’n gofyn am gael ei hailalw oherwydd gŵyr y bydd yn gorffen ar 1 Gorffennaf cyn cyhoeddi’r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid yw’n broblem iddynt hwy. Dylai fod digon o amser ar gyfer trafodaeth yma os cyhoeddir yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ar ôl 12 Gorffennaf. Byddaf yn gwneud trefniadau gyda’r Llywydd fel bod cyfle llawn i’w drafod yn ystod yr wythnos ganlynol os hynny sydd yn digwydd.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Brian Hancock spoken in English p. 36

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 36

Will the First Secretary make a statement in tomorrow’s Plenary session on the position of post offices, as it is of great concern to all our communities? I understand that a similar statement will be made in the House of Commons tomorrow.

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yfory ar sefyllfa swyddfeydd post, gan ei fod yn destun pryder mawr ym mhob un o’n cymunedau? Deallaf y bydd datganiad tebyg yn cael ei wneud yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 36

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 36

I have asked Members, when raising a point of order, to indicate to which Standing Order they refer, as is the practice in some other parliaments, including the European Parliament. That facilitates ease of reply by the Presiding Officer. I assume that your point of order is under Standing Order No. 6.8, which concerns business without notice. I always encourage the Government of Wales to produce statements without notice whenever it wishes to do so at any stage during a Plenary session, rather than succumb to the temptation that I have witnessed in other Governments of making statements outwith the Parliament or Assembly. In fairness to the Government of Wales, it generally tries to produce statements here as soon as a statement has been made in Westminster. I am sure that the First Secretary heard what you said.

Yr wyf wedi gofyn i’r Aelodau nodi, wrth godi pwynt o drefn, at ba Reol Sefydlog y cyfeiriant, yn ôl yr arferiad mewn rhai seneddau eraill, gan gynnwys Senedd Ewrop. Mae hynny’n hwyluso ateb rhwydd gan y Llywydd. Cymeraf fod eich pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 6.8, sydd yn ymwneud â busnes heb rybudd. Yr wyf bob amser yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno datganiadau heb rybudd pa bryd bynnag y dymuna wneud hynny ar unrhyw adeg yn ystod Cyfarfod Llawn, yn hytrach nag ildio i’r temtasiwn y bûm yn dyst iddo mewn Llywodraethau eraill o wneud datganiadau y tu allan i’r Senedd neu’r Cynulliad. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae fel arfer yn ceisio cyflwyno datganiadau yma cyn gynted ag y gwnaethpwyd datganiad yn San Steffan. Yr wyf yn sicr i’r Prif Ysgrifennydd glywed yr hyn a ddywedasoch.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 36

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 36

Further to that point of order, all I know is what I have read in the press about post offices being given the opportunity to turn into banks to assist their ability to survive. However, beyond that I cannot say. We will take account of the point that Brian has made when we look at business and the possibility of emergency questions or statements tomorrow.

Ymhellach i’r pwynt o drefn hwnnw, y cwbl a wn i yw’r hyn a ddarllenais yn y wasg am swyddfeydd post yn cael cyfle i droi’n fanciau er mwyn cynorthwyo eu gallu i oroesi. Fodd bynnag, ni allaf ddweud dim mwy na hynny. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r pwynt a wnaeth Brian pan edrychwn ar y busnes a’r posibiliad o gwestiynau neu ddatganiadau brys yfory.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 37

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 37

This is the next three weeks Plenary business statement. First, I inform Members of changes made to this week’s business. There was to have been a motion today to consider the principle of the Air Quality (Wales) Regulations 2000, followed by a motion to approve these regulations. Unfortunately, due to a mistake, only the Order was laid last week. Neither the regulatory appraisal nor the report of the consultation exercise were tabled. In order to give Members an opportunity to consider these documents before debating the principle of the Order, I have decided to withdraw the Order today and will make arrangements for a revised motion to be laid later this afternoon with the regulatory appraisal and the report of the consultation exercise, for consideration in Plenary next Tuesday, July 4. I have done this with the full agreement of the Business Committee. I apologise if this has caused any inconvenience to Members.

Dyma ddatganiad busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer y tair wythnos nesaf. Yn gyntaf, hysbysaf yr Aelodau am newidiadau a wnaethpwyd i fusnes yr wythnos hon. Yr oedd cynnig i fod heddiw i ystyried egwyddor Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, a chynnig ar ei ôl i gymeradwyo’r rheoliadau hyn. Gwaetha’r modd, oherwydd camgymeriad, dim ond y Gorchymyn a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf. Nid oedd y gwerthusiad rheoleiddiol nac adroddiad yr ymgynghoriad wedi eu cyflwyno. Er mwyn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y dogfennau hyn cyn trafod egwyddor y Gorchymyn, penderfynais dynnu’r Gorchymyn yn ôl heddiw a byddaf yn gwneud trefniadau ar gyfer cyflwyno cynnig diwygiedig yn ddiweddarach y prynhawn yma gyda’r gwerthusiad rheoleiddiol ac adroddiad yr ymgynghoriad, i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf, 4 Gorffennaf. Gwneuthum hyn gyda chytundeb llawn y Pwyllgor Busnes. Ymddiheuraf os yw hyn wedi peri unrhyw anhwylustod i’r Aelodau.

Business on Tuesday 4 July will now also include the resolution to approve the Air Quality (Wales) Regulations 2000. There was also to have been a debate on the determination on Members’ fees and allowances which I have agreed to defer until the following Tuesday, 11 July in order for the Office of the Presiding Officer to fully consider the comments made by the party leaders on the proposed changes.

Bydd busnes dydd Mawrth 4 Gorffennaf hefyd yn cynnwys yn awr y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000. Yr oedd dadl i fod hefyd ar benderfynu ar ffioedd a lwfansau’r Aelodau y cytunais i’w gohirio hyd y dydd Mawrth canlynol, 11 Gorffennaf er mwyn i Swyddfa’r Llywydd ystyried yn llawn y sylwadau a wnaethpwyd gan arweinyddion y pleidiau ar y newidiadau arfaethedig.

Business on Wednesday 5 July is as I reported last week. In consultation with the Business Committee I have made changes to the business originally scheduled for 11 and 12 July to accommodate a debate on the comprehensive spending review, as was discussed earlier. On Tuesday 11 July there will be a resolution to approve five items of subordinate legislation, a debate on the Committee on Equality of Opportunity annual report, a debate on the local government standard spending assessment formula, a motion to adopt the local government scheme and a debate on the modernisation of local government. These last three items have been moved from Wednesday 12 July in order to accommodate the comprehensive spending review debate, as I mentioned earlier.

Mae busnes dydd Mercher 5 Gorffennaf fel yr adroddais yr wythnos diwethaf. Mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes gwneuthum newidiadau i’r busnes a amserlennwyd yn wreiddiol ar gyfer 11 a 12 Gorffennaf er mwyn cynnwys dadl ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, fel y trafodwyd yn gynharach. Ddydd Mawrth 11 Gorffennaf bydd cynnig i gymeradwyo pum eitem o isddeddfwriaeth, dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, a dadl ar fformwla asesiad gwario safonol llywodraeth leol, cynnig i dderbyn y cynllun llywodraeth leol a dadl ar foderneiddio llywodraeth leol. Symudwyd y tair eitem ddiwethaf hyn o ddydd Mercher 12 Gorffennaf er mwyn cynnwys y ddadl ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, fel y soniais yn gynharach.

Before I turn to the last week of my three-week Business Statement, I wish to announce the decision, which has cross-party agreement, to move the Wednesday afternoon Plenary session to Thursday mornings. This will take effect in the first week back from the summer constituency weeks on Thursday 14 September.

Cyn imi droi at wythnos olaf fy natganiad busnes tair wythnos, dymunaf gyhoeddi’r penderfyniad, y mae cytundeb arno ar draws y pleidiau, i symud y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mercher i fore Iau. Daw hyn i rym yn yr wythnos gyntaf ar ôl dychwelyd o wythnosau etholaeth yr haf ddydd Iau 14 Medi.

Business on Tuesday 12 September will include a debate on the sustainable development scheme and a revision to Standing Orders to establish a new House Committee. On Thursday 14 September there will be a debate on the strategy to promote health and wellbeing.

Bydd busnes dydd Mawrth 12 Medi yn cynnwys dadl ar y cynllun datblygu cynaliadwy a diwygiad i’r Rheolau Sefydlog er mwyn sefydlu Pwyllgor Tŷ newydd. Ddydd Iau 14 Medi bydd dadl ar y strategaeth i hybu iechyd a lles.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 38

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 38

Are there any objections to the Business Statement or comments on it?

A oes gwrthwynebiadau i’r datganiad busnes neu sylwadau arno?

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 38

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 38

In view of the fact that there have been exchanges in the Assembly on the possibility of a recall during constituency weeks, will you give an assurance that there would be full consultation with the parties on the date of that recall. If the comprehensive spending review is delayed beyond the debate on 12 July we must make sure that we find a date that is convenient to all parties.

Yng ngolwg y ffaith bod trafod wedi bod yn y Cynulliad ar y posibiliad o ailalw yn ystod wythnosau etholaeth, a wnewch chi roi sicrwydd y byddai ymgynghori llawn â’r pleidiau ar ddyddiad yr ailalw hwnnw. Os gohirir yr adolygiad cynhwysfawr o wariant tan ar ôl y ddadl ar 12 Gorffennaf rhaid inni sicrhau ein bod yn dod o hyd i ddyddiad sydd yn gyfleus i’r holl bleidiau.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 38

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 38

I will take comments from the four party groups before you can respond Andrew.

Derbyniaf sylwadau gan y pedwar grŵp plaid cyn y cewch ymateb, Andrew.

Alison Halford spoken in English p. 38

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 38

The decision to move Plenary sessions to Thursday mornings—which I must support from a whip point of view—will not be easy for north Wales Members. Although we are committed to serving the Assembly on the day set aside for the Assembly, it makes it very difficult and puts a huge strain on us to run our constituencies as our constituents would want.

Ni fydd y penderfyniad i symud y Cyfarfod Llawn i fore Iau—y mae’n rhaid imi ei gefnogi o safbwynt y chwip—yn un hawdd i Aelodau gogledd Cymru. Er ein bod wedi ymrwymo i wasanaethu’r Cynulliad ar y diwrnod a neilltuwyd ar gyfer y Cynulliad, mae’n ei gwneud yn anodd iawn ac yn rhoi straen aruthrol arnom wrth redeg ein hetholaethau fel y dymunai ein hetholwyr.

Peter Black spoken in English p. 38

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 38

I draw the attention of the Business Secretary to 12 July. Although it is important that we have a debate on the comprehensive spending review, I am concerned that we are squeezing a debate on the local government standard spending assessment formula and the motion of the local government scheme into a short period of time. Therefore, it is important that we have a proper debate on that and not try to do it in half an hour to an hour, which has happened with many other important debates in the past.

Tynnaf sylw’r Trefnydd at 12 Gorffennaf. Er ei bod yn bwysig inni gael dadl ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yr wyf yn bryderus ein bod yn gwasgu dadl ar fformwla asesiad gwario safonol llywodraeth leol ynghyd â’r cynnig ar y cynllun llywodraeth leol i ychydig o amser. Felly, mae’n bwysig inni gael dadl briodol ar hynny a pheidio â cheisio ei gwneud o fewn hanner awr i awr, sydd wedi digwydd yn achos llawer o ddadleuon pwysig eraill yn y gorffennol.

Peter Rogers spoken in English p. 39

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 39

I reiterate what Alison has said. Although we are trying to run a family-friendly Assembly, it affects us greatly when we finish at 5.30 p.m. That is not family-friendly, nor is having a Plenary on a Thursday. I am very much against a Thursday session.

Ategaf yr hyn a ddywedodd Alison. Er ein bod yn ceisio rhedeg Cynulliad sydd yn ffafriol i deuluoedd, mae’n effeithio’n fawr arnom pan ydym yn gorffen am 5.30 p.m. Nid yw hynny’n ffafriol i deuluoedd, ac nid yw cael Cyfarfod Llawn ar ddydd Iau ychwaith. Yr wyf yn gryf yn erbyn Cyfarfod Llawn ar ddydd Iau.

Andrew Davies spoken in English p. 39

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 39

First, I will respond to Ieuan. Arrangements to discuss the comprehensive spending review will be done in consultation with business managers and party leaders. We do not yet know the date of when the CSR will be announced. The timing of the debate will be dictated by the announcement. If it is necessary to come back after we have ended our session, that will be done in consultation with business managers and party leaders. I accept that there is also a need Peter, to look at the local government issue. It is one of the reasons why I tabled all the various items relating to local government in one Plenary session. I take your point. Part of the constraints with which we are faced in the timing of Assembly business is that if the Cabinet are asked to respond to urgent questions or to make statements, that inevitably eats into Plenary time. We are aware of the need to give adequate time for that important debate. We take your views on board.

Yn gyntaf, ymatebaf i Ieuan. Gwneir trefniadau i drafod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant drwy ymgynghori â rheolwyr busnes ac arweinyddion y pleidiau. Ni wyddom eto pa bryd y cyhoeddir dyddiad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Caiff amseriad y ddadl ei reoli gan y cyhoeddiad. Os oes angen dod yn ôl ar ôl inni orffen ein sesiwn, gwneir hynny drwy ymgynghori â rheolwyr busnes ac arweinyddion y pleidiau. Derbyniaf fod angen edrych ar y mater llywodraeth leol hefyd, Peter. Dyna un rheswm pam y cyflwynais y gwahanol eitemau sydd a wnelo â llywodraeth leol mewn un Cyfarfod Llawn. Derbyniaf eich pwynt. Rhan o’r cyfyngiadau sydd yn ein hwynebu wrth amseru busnes y Cynulliad yw os gofynnir i’r Cabinet ymateb i gwestiynau brys neu wneud datganiadau, mae hynny o reidrwydd yn mynd ag amser o’r Cyfarfod Llawn. Yr ydym yn ymwybodol bod angen rhoi digon o amser ar gyfer y ddadl bwysig honno. Rhown ystyriaeth i’ch barn.

On the issues that Alison and Peter raised, I acknowledge the difficulties of Members from north Wales. I asked in the Business Committee this morning that on Thursday afternoons, wherever possible we try to avoid any Assembly business that would mean that Members would have difficulty getting back to their constituencies in time. I have asked for the minutes of the Business Committee to be distributed, which you will be able to read in due course due to our commitment to openness and transparency. Therefore, you can check the wording on that.

Ar y materion a godwyd gan Alison a Peter, cydnabyddaf anawsterau Aelodau o ogledd Cymru. Gofynnais yn y Pwyllgor Busnes y bore yma y dylem, ar brynhawn Iau, geisio osgoi, lle bynnag y bo modd, unrhyw fusnes Cynulliad a olygai y byddai Aelodau’n ei chael yn anodd dychwelyd i’w hetholaethau mewn pryd. Gofynnais am ddosbarthu cofnodion y Pwyllgor Busnes, y byddwch yn gallu eu darllen maes o law o ganlyniad i’n hymrwymiad i weithredu agored a thryloywder. Felly, gallwch wirio’r geiriad ar hynny.

Diwygio Rheolau Sefydlog Rhif 12 a 22

Revision of Standing Orders No. 12 and 22

Andrew Davies spoken in English p. 40

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 40

I propose that

Cynigiaf fod

Andrew Davies (continued) spoken in English p. 40

Andrew Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 40

Add the following to the end of Standing Order No. 12.7:

Ychwanegu’r geiriau a ganlyn at ddiwedd Rheol Sefydlog Rhif 12.7:

Where a member of the Committee is so disqualified, the appropriate political group may nominate for temporary membership of the Committee another member of the group who is not, or was not at the relevant time, a member of the relevant subject committee and whose name has been notified in advance to the chair. The nominated representative may participate in the meeting of the committee in all respects as if he or she were a member of it. The nominated representative shall not be a member of the Assembly Cabinet. No member may represent more than one committee member at a meeting.

Lle datgymhwysir aelod o’r Pwyllgor fel hyn, caiff y grŵp gwleidyddol priodol enwebu am aelodaeth dros dro o’r Pwyllgor aelod arall o’r grŵp nad yw, neu nad oedd ar adeg berthnasol, yn aelod o’r pwyllgor pwnc perthnasol ac yr hysbyswyd ei enw ymlaen llaw i’r cadeirydd. Caiff y cynrychiolydd enwebedig gymryd rhan yng nghyfarfodydd y pwyllgor ym mhob ffordd fel petai ef neu hi’n aelod ohono. Ni chaiff y cynrychiolydd enwebedig fod yn aelod o Gabinet y Cynulliad. Ni chaiff unrhyw aelod gynrychioli mwy nag un pwyllgor mewn cyfarfod.

Revision 2

Diwygiad 2

Add a new paragraph 22.23A:

Ychwanegu paragraff newydd 22.23A:

22.23A i) An Assembly Secretary may, at least five days before it is due to be considered, propose a motion that one or more draft Orders (specified in the motion) be approved in accordance with paragraph 22.23A(iii) below, and the provisions of paragraphs 22.13 to 22.23 shall not apply. Where such a motion relates to more than one draft Order, it shall propose that they be approved together.

22.23A i) Caiff un o Ysgrifenyddion y Cynulliad gynnig cynnig, o leiaf pum niwrnod cyn y bwriedir ei ystyried, bod mwy nag un Gorchymyn drafft (a bennir yn y cynnig) yn cael eu cymeradwyo yn unol â pharagraff 22.23A(iii) isod, ac na fydd darpariaethau paragraffau 22.13 i 22.23 yn gymwys. Lle bydd cynnig o’r fath yn ymwneud â mwy nag un Gorchymyn drafft, bydd yn cynnig eu bod yn cael eu cymeradwyo gyda’i gilydd.

ii) At least 3 Members may, at least 3 working days before the motion is due to be considered, table a notice requiring one or more of the draft Orders to which the motion relates to be considered separately. When such a notice has been tabled, any draft Order to which the notice relates shall be considered in accordance with paragraphs 22.13 to 22.23.

ii) Caiff o leiaf 3 Aelod gyflwyno rhybudd, o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y bwriedir ystyried cynnig, sy’n gofyn bod un neu ragor o'r Gorchmynion drafft y mae'r cynnig yn ymwneud â hwy, yn cael eu hystyried ar wahân. Pan fydd hysbysiad o'r fath yn cael ei gyflwyno, bydd unrhyw Orchymyn drafft y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn cael ei ystyried yn unol â pharagraffau 22.13 i 22.23.

iii) When no such notice has been tabled or such notice does not relate to all the draft Orders specified in the motion, the motion shall be voted on immediately without debate and approval of the motion shall have the effect of approving all the draft Orders specified in the motion with the exception of any to which such a notice relates

iii) Pan na fydd hysbysiad o'r fath wedi'i gyflwyno, neu pan nad yw'r hysbysiad yn ymwneud â phob un o'r Gorchmynion drafft a bennir yn y cynnig, cynhelir pleidlais ar y cynnig ar unwaith, heb gynnal dadl, ac effaith cymeradwyo'r cynnig fydd cymeradwyo'r holl Orchmynion drafft a bennir yn y cynnig ac eithrio unrhyw rai a enwir mewn hysbysiad o'r fath

The report from the Business Committee, which is on the Chamberweb, forms the background to this debate. I hope that there is agreement as the Business Committee have recommended these proposed changes to Standing Orders.

Mae’r adroddiad o’r Pwyllgor Busnes, sydd ar we’r Siambr, yn rhoi’r cefndir i’r ddadl hon. Gobeithiaf y ceir cytundeb gan fod y Pwyllgor Busnes wedi argymell y newidiadau arfaethedig hyn i’r Rheolau Sefydlog.

The revision to Standing Order No. 12.7 is at the request of the Audit Committee and the Chair of that Committee. Currently, Standing Order No. 12.7 disqualifies members of the Audit Committee from participation in the Committee’s consideration of a report on an issue for which that Member serves or had served on the relevant Subject Committee. The proposed revision will make provision for disqualified members of the Audit Committee—disqualified only in the terms that I have outlined and nothing else—to be substituted by other Members of the same party with the exception of Assembly Secretaries. The change will enable the Audit Committee to fulfil its role more effectively by ensuring full cross-party representation.

Mae’r diwygiad i Reol Sefydlog Rhif 12.7 ar gais y Pwyllgor Archwilio a Chadeirydd y Pwyllgor hwnnw. Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog Rhif 12.7 yn datgymhwyso aelodau o’r Pwyllgor Archwilio rhag cymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor o adroddiad ar fater y mae’r Aelod hwnnw’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu drosto ar y Pwyllgor Pwnc perthnasol. Bydd y diwygiad arfaethedig yn darparu ar gyfer rhoi Aelodau eraill o’r un blaid heblaw am Ysgrifenyddion Cynulliad yn lle aelodau a ddatgymhwyswyd o’r Pwyllgor Archwilio—rhai a ddatgymhwyswyd ond yn y termau a ddisgrifiais a dim arall. Bydd y newid yn galluogi’r Pwyllgor Archwilio i gyflawni ei rôl yn fwy effeithiol drwy sicrhau cynrychiolaeth drawsbleidiol lawn.

The amendment to Standing Order No. 22 introduces a new accelerated procedure for approving Assembly subordinate legislation under part 1 of Standing Order No. 22. It will allow a number of draft Orders to be approved by the Assembly under a single composite motion that is not debatable. However—and this is where we feel there is a need to protect the interests of individual Members—the new Standing Order will allow the opportunity for at least three Members to table a notice requesting that a particular Order or Orders be removed from the motion and debated in the usual way.

Mae’r diwygiad i Reol Sefydlog Rhif 22 yn cyflwyno gweithrefn gyflymach newydd ar gyfer cymeradwyo is-ddeddfwriaeth y Cynulliad o dan ran 1 o Reol Sefydlog Rhif 22. Bydd yn caniatáu cymeradwyo nifer o Orchmynion drafft gan y Cynulliad o dan un cynnig cyfansawdd na ellir ei drafod. Fodd bynnag—ac yn y fan hon y teimlwn fod angen gwarchod buddiannau Aelodau unigol—bydd y Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu’r cyfle i o leiaf tri Aelod gyflwyno rhybudd yn gofyn am dynnu Gorchymyn neu Orchmynion penodol o’r cynnig a’u trafod yn y modd arferol.

Plenary sessions, as Peter Black mentioned, have been increasingly busy in recent months. This change will free up more time in Plenary to debate more contentious Orders, as well as broader policy subjects. I ask Members to support the motion.

Bu’r Cyfarfodydd Llawn, fel y dywedodd Peter Black, yn fwyfwy prysur yn y misoedd diwethaf hyn. Bydd y newid hwn yn rhyddhau mwy o amser yn y Cyfarfod Llawn i drafod Gorchmynion mwy dadleuol, yn ogystal â phynciau polisi ehangach. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig.

Janet Davies spoken in English p. 42

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 42

I thank the Business Committee for bringing forward the revision to Standing Order No. 12, which the Audit Committee requested. We found ourselves in a situation where possibly less than half the Committee would be qualified to take evidence at one session. That is not at all adequate. It arises because this Assembly, with 60 Members, does not always have enough Members to stretch to having different people on different Committees. That must be considered in the future. As well as the problem of the numbers of Members on the Committee, there is also another problem. The Liberal Democrats and the Conservatives only have one Member each on the Audit Committee. It could have been possible that both those groups were excluded from taking part in an evidence-taking session on a particular topic. Therefore, I hope that the Assembly supports this revision—it will make it much easier to work the Audit Committee.

Diolchaf i’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r diwygiad i Reol Sefydlog Rhif 12, y gofynnodd y Pwyllgor Archwilio amdano. Cawsom ein hunain mewn sefyllfa lle y byddai llai na hanner y pwyllgor o bosibl yn gymwys i dderbyn tystiolaeth mewn un sesiwn. Nid yw hynny’n ddigonol o gwbl. Mae’n codi am nad oes gan y Cynulliad hwn, â 60 o Aelodau, ddigon o Aelodau bob amser i sicrhau bod pobl wahanol ar wahanol Bwyllgorau. Rhaid ystyried hynny yn y dyfodol. Yn ogystal â phoblem nifer yr Aelodau ar y Pwyllgor, mae problem arall hefyd. Nid oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr ond un Aelod yr un ar y Pwyllgor Archwilio. Gallasai fod yn bosibl i’r ddau grŵp hyn gael eu cau allan rhag cymryd rhan mewn sesiwn derbyn tystiolaeth ar bwnc penodol. Felly, gobeithiaf fod y Cynulliad yn cefnogi’r diwygiad hwn—bydd yn ei gwneud yn haws o lawer gweithredu’r Pwyllgor Archwilio.

John Marek spoken in English p. 42

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 42

I support the revisions. However, revision 2, which simply makes a whole group of amendments not debatable might lead to a plethora of three Members tabling a notice on this Order and three different Members tabling a notice on a different Order, so that different Orders become debatable. I wonder whether there would have been a halfway house where the Orders could have been grouped together and perhaps five or 10 minutes at most taken for points of information, clarification and debate. I am not suggesting any changes, but if we find that we are not debating these things and that three Members must sign up in order for these things to be debated, and that that happens too often, then perhaps the Business Committee can reconsider this with a view to a compromise, which I am sure would be there.

Cefnogaf y diwygiadau. Fodd bynnag, gallai diwygiad 2, sydd yn syml yn peri na fyddai modd trafod grŵp cyfan o welliannau, arwain at ormodedd o drioedd o Aelodau’n cynnig rhybudd ar un Gorchymyn a thri Aelod gwahanol yn cyflwyno rhybudd ar Orchymyn gwahanol, fel bod gwahanol Orchmynion yn dod yn rhai y gellir eu trafod. Tybed a fuasai modd cael man canol lle y gellid grwpio’r Gorchmynion â’i gilydd ac efallai cymryd pum neu 10 munud ar y mwyaf ar gyfer pwyntiau o wybodaeth, egluro a dadlau. Nid wyf yn awgrymu unrhyw newidiadau, ond os cawn nad ydym yn trafod y pethau hyn a bod rhaid i dri Aelod arwyddo er mwyn i’r pethau hyn gael eu trafod, ac mae hynny’n digwydd yn rhy aml, yna efallai y gallai’r Pwyllgor Busnes ystyried hyn gan geisio cael cyfaddawd, y byddai modd ei gael yr wyf yn siŵr.

Alun Cairns spoken in English p. 43

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 43

I speak on the revision to Standing Order No. 12.7. As the Conservative Member on the Audit Committee, I thank the Audit Committee and the Business Committee for proposing the amendment. It will ensure the integrity and the impartiality of the Audit Committee. As the Committee will be debating some issues that have been contentious within the Assembly, it will ensure a fair balance.

Siaradaf ar y diwygiad i Reol Sefydlog Rhif 12.7. Fel yr Aelod Ceidwadol ar y Pwyllgor Archwilio, diolchaf i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Busnes am gynnig y diwygiad. Bydd yn sicrhau unplygrwydd a didueddrwydd y Pwyllgor Archwilio. Gan y bydd y Pwyllgor yn trafod rhai materion a fu’n ddadleuol oddi mewn i’r Cynulliad, bydd hyn yn sicrhau cydbwysedd teg.

Andrew Davies spoken in English p. 43

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 43

I understand John Marek’s concerns. However, we must bear in mind that the way that we deal with secondary legislation in this Assembly is probably the most transparent way that any legislature deals with these matters. There is ample provision within our procedures for individual Members to see the Orders, regulatory appraisal and other supporting documentations—explanatory memorandum—well in advance of any items coming to Plenary. We hope that there are sufficient safeguards to protect Members’ interests as well as political parties. We are aware of the issue, but we believe that there are existing safeguards in line to accommodate those concerns.

Deallaf bryderon John Marek. Fodd bynnag, rhaid inni gofio mai’r modd yr ymdriniwn â deddfwriaeth eilaidd yn y Cynulliad hwn yw’r modd mwyaf tryloyw y mae unrhyw ddeddfwrfa’n ymdrin â’r materion hyn yn ôl pob tebyg. Mae digon o ddarpariaeth yn ein gweithdrefnau i Aelodau unigol weld y Gorchmynion, y gwerthusiad rheoleiddiol a dogfennau ategol eraill—memorandwm eglurhaol—ymhell cyn i unrhyw eitemau ddod i’r Cyfarfod Llawn. Gobeithiwn fod amddiffyniadau digonol i warchod buddiannau’r Aelodau yn ogystal â’r pleidiau gwleidyddol. Yr ydym yn ymwybodol o’r mater, ond credwn fod amddiffyniadau ar waith eisoes i ymdrin â’r pryderon hynny.

Cynnig Andrew Davies t. 43

Motion Andrew Davies p. 43

DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Materion Ewropeaidd

The Annual Report of the Committee on European Affairs

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 44

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 44

I have selected amendment 1 in the name of Nick Bourne and amendment 2 in the name of Mick Bates.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Nick Bourne a gwelliant 2 yn enw Mick Bates.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 44

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 44

I propose that

Cynigiaf fod

Rhodri Morgan The First Secretary (continued) spoken in English p. 45

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 45

I welcome this debate and the constructive tone of many of the amendments from other parties. That indicates that there is much cross-party consensus on the Assembly’s evolving role in European affairs, as expressed by the Committee on European Affairs.

Croesawaf y ddadl hon a chywair adeiladol llawer o’r gwelliannau gan bleidiau eraill. Dengys hynny fod llawer o gonsensws trawsbleidiol ar rôl ddatblygol y Cynulliad mewn materion Ewropeaidd, fel y mynegwyd hynny drwy’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd.

As the Assembly is new, this is an opportunity for Wales, via the Assembly, to promote itself in Europe. However, we cannot do that unless we are well qualified to do so. We must have good channels of information and be well informed on matters relating to the European Commission and its workings, as it affects Wales in general and the Assembly’s ability to use its formal legislative powers and more informal powers to promote Wales’s interests in Europe.

Gan fod y Cynulliad yn newydd, mae hyn yn gyfle i Gymru, drwy’r Cynulliad, ei hyrwyddo ei hun yn Ewrop. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny oni bai fod gennym y cymwysterau iawn i wneud hynny. Rhaid inni gael sianeli gwybodaeth da a bod yn hyddysg mewn materion sydd yn ymwneud â’r Comisiwn Ewropeaidd a’i weithrediad, fel y mae’n effeithio ar Gymru’n gyffredinol ac ar allu’r Cynulliad i ddefnyddio ei bwerau deddfwriaethol ffurfiol a phwerau mwy anffurfiol i hybu buddiannau Cymru yn Ewrop.

Regardless of views on the euro and other such contentious matters to be determined at future dates, I do not believe that there is an Assembly Member who is so anti-European to believe that we can shut Europe out of our minds. Europe is undoubtedly important to Wales. We have had the opportunity, during the first 12 months, to ensure that Europe knows about us and that we understand better what Europe might be able to do for us. We have the opportunity to understand the contribution that we can make to the evolution of Europe, its institutions, its economy and its culture, and how we relate to it on the world stage. Europe is the natural next stage after Wales, the United Kingdom and the British-Irish Council. Beyond the shores of the British Isles, Wales takes its place in the world via Europe. One of the Assembly’s guiding principles is the commitment to develop the profile of Wales in Europe and internationally.

Beth bynnag am safbwyntiau ar yr ewro a materion dadleuol eraill o’r fath sydd i’w penderfynu yn y dyfodol, ni chredaf fod yr un Aelod o’r Cynulliad sydd mor wrth-Ewropeaidd â chredu y gallwn gau Ewrop o’n meddyliau. Nid oes dwywaith bod Ewrop yn bwysig i Gymru. Cawsom y cyfle, yn ystod y 12 mis cyntaf, i sicrhau bod Ewrop yn gwybod amdanom a’n bod yn deall yn well yr hyn y gallai Ewrop ei wneud drosom ni. Mae gennym gyfle i ddeall y cyfraniad y gallwn ei roi i ddatblygiad Ewrop, ei sefydliadau, ei heconomi a’i diwylliant, a’n cysylltiad â hi ar lwyfan y byd. Ewrop yw’r cam naturiol nesaf ar ôl Cymru, y Deyrnas Unedig a Chyngor Prydain-Iwerddon. Y tu hwnt i lannau Ynysoedd Prydain, mae’r byd yn gweld Cymru drwy Ewrop. Un o egwyddorion arweiniol y Cynulliad yw’r ymrwymiad i hybu delwedd Cymru yn Ewrop ac yn rhyngwladol.

The Committee on European Affairs was established on 1 July 1999. It was given a broad strategic role, which supports and complements Subject Committees’ work. It does not scrutinise European legislation, that is, directives and regulations. Subject Committees do that, where appropriate. We did not set out to have a European legislation scrutiny committee, and nobody should confuse the work of the Committee on European Affairs with a scrutiny committee of draft or actual legislation. That is not its job; its job is to ensure that everybody in Wales, inside and outside the Assembly, who needs to know about Europe can do so.

Sefydlwyd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ar 1 Gorffennaf 1999. Rhoddwyd rôl strategol eang iddo, sydd yn cefnogi ac yn cydategu gwaith y Pwyllgorau Pwnc. Nid yw’n archwilio deddfwriaeth Ewropeaidd, hynny yw, cyfarwyddebau a rheoliadau. Y Pwyllgorau Pwnc sydd yn gwneud hynny, lle y bo’n briodol. Nid sefydlu pwyllgor archwilio deddfwriaeth Ewropeaidd oedd ein bwriad, ac ni ddylai neb gymysgu rhwng gwaith y Pwyllgor Materion Ewropeaidd a phwyllgor archwilio ar ddeddfwriaeth ddrafft neu ddeddfwriaeth wirioneddol. Nid hynny yw ei waith; ei waith yw ateb angen pawb yng Nghymru, y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad, sydd yn dymuno gwybod am Ewrop.

We bring together a wide variety of interests from among Members of the European Parliament, the head of the European Commission, staff in Cardiff and so on. They gather together in the Committee on European Affairs with representatives of all four parties, to ensure that a network is established. That network means that everybody in Wales who needs information on Europe knows where and how to get it. They can also be sure that the contemporary issues of importance to Wales are discussed three or four times a year at the Committee on European Affairs meetings.

Yr ydym yn cyfuno amrywiaeth eang o fuddiannau o blith Aelodau Senedd Ewrop, pennaeth y Comisiwn Ewropeaidd, staff yng Nghaerdydd ac yn y blaen. Deuant at ei gilydd yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd gyda chynrychiolwyr o bob un o’r pedair plaid i sicrhau y sefydlir rhwydwaith. Mae’r rhwydwaith hwnnw’n golygu bod pawb yng Nghymru y mae arno angen gwybodaeth am Ewrop yn gwybod ymhle ac ym mha fodd i’w chael. Gallant sicrhau hefyd y caiff y materion cyfoes sydd o bwys i Gymru eu trafod dair neu bedair gwaith y flwyddyn yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd.

There is a free exchange of information between the Committee and Welsh representatives on the Economic and Social Committee—George Wright and Professor Rose D’Sa—and the Welsh representation on the Committee of the Regions. The head of the Wales European Centre, Jos Gallacher, has been routinely invited to attend meetings and report back to the Committee on European Affairs, and the head of the Assembly’s office in Brussels, Des Clifford—because he was appointed relatively recently—will be invited to do so.

Mae cyfnewid rhydd ar wybodaeth rhwng y Pwyllgor a chynrychiolwyr Cymru ar y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol—George Wright a’r Athro Rose D’Sa—a’r gynrychiolaeth o Gymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Estynnwyd gwahoddiad fel mater o drefn i bennaeth Canolfan Ewropeaidd Cymru, Jos Gallacher, i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd, a gwahoddir pennaeth swyddfa’r Cynulliad yn Mrwsel, Des Clifford—oherwydd fe’i penodwyd yn gymharol ddiweddar—i wneud hynny.

The Committee on European Affairs’ report, which is before us as a focus for the debate, is valuable. It emphasises—and this is the key issue about today’s debate—that Europe is not just about what you can get out of it. It is not just about structural funds or about Wales as a region with a standard of living and an economic development profile that is below average, and about thinking what money can we get out of Europe. That is not ignored, but that is not all that the relationship between Wales and Europe should be about. Therefore, the Committee on European Affairs provides us with a welcome opportunity to discuss other European issues and how to screw a bit more money out of various funds. We are interested in doing that but we have other ways of doing it. That is, in the Subject Committees, such as the Agriculture and Rural Development Committee or the Economic Development Committee, as regards structural funds.

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Ewropeaidd, sydd ger ein bron fel canolbwynt ar gyfer y ddadl, yn werthfawr. Mae’n pwysleisio—a dyma’r mater allweddol am y ddadl heddiw—nad yw Ewrop ond yn ymwneud â’r hyn y gallwch ei gael ohoni. Mae’n ymwneud â mwy na chronfeydd strwythurol neu Gymru fel rhanbarth sydd â safon byw a phroffil datblygu economaidd sydd yn is na’r cyfartaledd, a meddwl pa arian y gallwn ei gael o Ewrop. Nid anwybyddir hynny, ond nid hynny yw’r cwbl a ddylai fod o dan sylw yn y berthynas rhwng Cymru ac Ewrop. Felly, mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd yn rhoi cyfle derbyniol inni drafod materion Ewropeaidd eraill a sut i wasgu ychydig mwy o arian o wahanol gronfeydd. Yr ydym yn ymddiddori yn hynny ond mae gennym ddulliau eraill o’i wneud, sef yn y Pwyllgorau Pwnc, fel y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig neu’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, o ran cronfeydd strwythurol.

Glyn Davies spoken in English p. 47

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 47

I listened to what you said and I agree with everything. My one concern is about putting it into practice. The real concern is our limitation of only one visit to a foreign capital per year for Assembly Members. If we are to develop this relationship, Assembly Members should have more autonomy to go to Brussels as part of their business. I have found my visits there useful. I feel restricted by the current rules.

Gwrandewais ar yr hyn a ddywedasoch a chytunaf â phopeth. Yr unig bryder sydd gennyf yw ynglŷn â rhoi hyn ar waith. Y pryder gwirioneddol yw’r cyfyngiad sydd arnom o ddim ond un ymweliad â phrifddinas dramor y flwyddyn i Aelodau’r Cynulliad. Os ydym am ddatblygu’r berthynas hon, dylai Aelodau’r Cynulliad gael mwy o annibyniaeth i fynd i Frwsel fel rhan o’u busnes. Cefais fod fy ymweliadau yno’n ddefnyddiol. Teimlaf fod y rheolau cyfredol yn fy nghaethiwo.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 47

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 47

The rule is one visit to a capital of a European institution, namely, Brussels, Strasbourg or Luxembourg, and a further visit to a regional capital—

Y rheol yw un ymweliad â phrifddinas sefydliad Ewropeaidd, sef Brwsel, Strasbourg neu Lwcsembwrg, ac ymweliad pellach â phrifddinas ranbarthol—

Nick Bourne spoken in English p. 47

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 47

No it is not.

Nage.

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 47

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 47

I am not certain of the details, but I am right that it is one visit to a European institution or capital, which is permitted. It is not a matter for me. I agree that the offices of the Commission, the UK Permanent Representation, the Scottish representative and the Wales European Centre gave the Committee on European Affairs on its visit to Brussels some well put together briefings during an informative and heavy programme. I do not know if it should be two or three visits. It is a matter for the House Committee to decide in its rules, after 12 months’ experience, whether the limit of one visit should be increased to two or three. I do not want to discuss that today. I felt that the Committee’s visit was worthwhile.

Nid wyf yn sicr o’r manylion, ond yr wyf yn gywir wrth ddweud mai un ymweliad â sefydliad neu brifddinas Ewropeaidd a ganiateir. Nid yw’n fater i mi. Cytunaf fod y Comisiwn, Cynrychiolaeth Barhaol y DU, cynrychiolydd yr Alban a Chanolfan Ewropeaidd Cymru drwy eu gwaith wedi rhoi rhai cyfarfodydd briffio pwrpasol i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ar ei ymweliad â Brwsel yn ystod rhaglen drom a llawn gwybodaeth. Ni wn a ddylai fod yn ddau neu dri ymweliad. Mae’n fater i Bwyllgor y Tŷ i’w benderfynu yn ei reolau, ar ôl 12 mis o brofiad, a ddylid cynyddu’r cyfyngiad o un cyfweliad i ddau neu dri. Ni ddymunaf drafod hynny heddiw. Teimlais fod ymweliad y Pwyllgor yn fuddiol.

I will mention the developments of the past 12 months. The Assembly has opened a new representative office in the Wales European Centre in Brussels, on which our office can piggyback. WEC has existed for more than 10 years. We have chosen a different route to the Scottish Parliament. It has a separate Scottish representative office—ScotRep or JockRep as it is sometimes known, which is similar to the UK Permanent Representation’s name, UKREP, I am not sure whether our office will be called TaffRep. Our office is smaller and nests within WEC, with which it shares rental costs. Two of WEC’s staff, whom we seconded directly, have the advantages of diplomatic status, which does not apply to normal WEC staff. Therefore, they are able to go in and out of UKREP without let or hindrance because they have diplomatic passes. They are able to see, read and digest telegrams or reports between the Foreign Office, UK Government departments and Europe, as though they were diplomats. The Scottish Parliament has five staff in ScotRep who have diplomatic cover. It is right that we have two staff in the light of the difference between the Scottish and Welsh populations and the Scottish Parliament’s duties compared with ours. That can be reviewed if it proves inadequate in the future. Two staff is right for a start.

Soniaf am ddatblygiadau’r 12 mis diwethaf. Mae’r Cynulliad wedi agor swyddfa gynrychioladol newydd yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel, a fydd yn gefn i’n swyddfa ni. Mae Canolfan Ewropeaidd Cymru’n bod ers mwy na 10 mlynedd. Yr ydym wedi dewis llwybr gwahanol i un Senedd yr Alban. Mae ganddi swyddfa gynrychioladol Albanaidd ar wahân—ScotRep neu JockRep fel y’i gelwir weithiau, sydd yn debyg i enw Cynrychiolaeth Barhaol y DU, UKREP. Nid wyf yn sicr a elwir ein swyddfa ni yn TaffRep. Mae ein swyddfa ni’n llai ac yn gwneud ei nyth oddi mewn i Ganolfan Ewropeaidd Cymru, y mae’n rhannu costau rhent â hi. Mae dau o staff Canolfan Ewropeaidd Cymru, a secondiwyd gennym yn uniongrychol, yn meddu ar fanteision statws diplomyddol, nad yw’n berthnasol i staff arferol Canolfan Ewropeaidd Cymru. Felly, gallant fynd a dod o UKREP yn ddi-rwystr am fod ganddynt warantau diplomyddol. Gallant weld, darllen ac ystyried telegramau ac adroddiadau rhwng y Swyddfa Dramor, adrannau Llywodraeth y DU ac Ewrop, fel pe baent yn ddiplomyddion. Mae gan Senedd yr Alban bump o staff yn ScotRep sydd â chaniatâd diplomyddol. Mae’n iawn inni gael dau aelod staff yng ngoleuni’r gwahaniaeth rhwng poblogaethau’r Alban a Chymru a dyletswyddau Senedd yr Alban o’u cymharu â’n rhai ni. Gellir adolygu hynny os gwelir ei fod yn annigonol yn y dyfodol. Mae dau aelod staff yn iawn i ddechrau.

Des Clifford officially took up his post on 10 April and moved to Brussels on 15 May. Karen Birtwhistle started work on 1 June as his assistant and also has diplomatic cover from the Assembly. We have also made new arrangements for running WEC. We have three full members and three alternate members on WEC’s Board of Directors. That builds on the Team Wales approach, which has served us well in the past in promoting Wales and its interests in Europe. The Assembly will benefit from WEC’s activities in terms of policy monitoring, advocacy, lobbying, networking, getting information back and arranging study visits and seminars for people from elsewhere in Wales and Assembly Members.

Ymgymerodd Des Clifford â’i swydd yn swyddogol ar 10 Ebrill a symud i Frwsel ar 15 Mai. Dechreuodd Karen Birtwhistle ar ei gwaith ar 1 Mehefin fel ei gynorthwy-ydd ac mae ganddi hithau ganiatâd diplomyddol gan y Cynulliad. Gwnaethom drefniadau newydd ar gyfer rhedeg Canolfan Ewropeaidd Cymru. Mae gennym dri aelod llawn a thri aelod am yn ail ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Canolfan Ewropeaidd Cymru. Mae hynny’n datblygu dull Tîm Cymru o weithio, a’n gwasanaethodd yn dda yn y gorffennol wrth hybu Cymru a’i buddiannau yn Ewrop. Bydd y Cynulliad yn elwa o fentrau Canolfan Ewropeaidd Cymru o ran monitro polisi, adfocatiaeth, lobïo, rhwydweithio, cael gwybodaeth yn ôl a threfnu ymweliadau astudio a seminarau ar gyfer rhai o fannau eraill yng Nghymru ac Aelodau Cynulliad.

The Committee on European Affairs visited the premises on 2 and 3 March as part of a wider familiarisation visit. Some people have said that we do not benefit enough in terms of networking and inside knowledge of how the EU’s institutions work from secondments of civil servants to EU institutions. We are trying to promote this strategically by placing individuals in key European institutions. We have a target of ensuring that there are six secondments from the Assembly’s civil service every year by 2003. We intend to continue to second staff to the Assembly’s office in Brussels and the Wales European Centre. We are glad to consider WEC staff, given their inside knowledge, for vacancies in our civil service here.

Ymwelodd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd â’r adeilad ar 2 a 3 Mawrth fel rhan o ymweliad ymgynefino ehangach. Dywedodd rhai nad ydym yn elwa digon o ran rhwydweithio a gwybodaeth fewnol am y modd y mae sefydliadau’r UE yn gweithio o secondio gweision sifil i sefydliadau’r UE. Yr ydym yn ceisio hyrwyddo hyn yn strategol drwy roi unigolion mewn sefydliadau Ewropeaidd allweddol. Mae gennym darged o sicrhau bod chwe secondiad o wasanaeth sifil y Cynulliad bob blwyddyn erbyn 2003. Bwriadwn barhau i secondio staff i swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel a Chanolfan Ewropeaidd Cymru. Yr ydym yn falch o ystyried staff Canolfan Ewropeaidd Cymru, yng ngolwg eu gwybodaeth fewnol, ar gyfer swyddi gwag yn ein gwasanaeth sifil yma.

The links with the European Commission’s Representation in Wales are good. The Head of Representation, Catherine Eva, is routinely invited to the Committee on European Affairs. The Committee is actively considering Wales’s participation in the Economic and Social Committee and the other bodies. Some of the bodies are optional, including the Congress of Local and Regional Authorities of Europe, or CLRAE, of which Councillor Alan Lloyd of Swansea City and County Council is a Vice-President; the Assembly of the European Regions; and the Conference of the Peripheral Maritime Regions. We do not need to be members of these bodies. We can choose not to be. Membership of all three bodies would place an undue burden upon us.

Mae’r cysylltiadau â Chynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn dda. Gwahoddir Pennaeth y Gynrychiolaeth, Catherine Eva, i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd fel mater o drefn. Mae’r Pwyllgor wrthi’n ystyried rhan Cymru yn y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol a chyrff eraill. Mae rhai o’r cyrff yn ddewisol, gan gynnwys Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Ewrop, neu CLRAE, y mae’r Cynghorydd Alan Lloyd o Gyngor Dinas a Sir Abertawe yn Is-lywydd arni; Cynulliad Rhanbarthau Ewrop; a Chynhadledd y Rhanbarthau Arforol Ymylol. Nid oes angen inni fod yn aelodau o’r cyrff hyn. Gallwn ddewis peidio â bod. Byddai’n ormod o faich arnom pe baem yn aelod o bob un o’r tri chorff.

We need effective Welsh representation in as many EU institutions as possible. I communicated those views on behalf of the Committee on European Affairs after a meeting earlier this year. I have spoken to Keith Byers about it and written to the big UK departments to try to ensure that the Welsh view is not forgotten when they decide upon the UK view. We realise that we have not been represented at Council of Ministers meetings, apart from when Christine Gwyther attended on one occasion. I will see what we can do to step up the number of meetings that we attend. Our attendance will not be comparable with that of the Scottish Parliament because in areas like fishing, it has long been established by practice that goes back at least 10 years that the Scottish Parliament, or the Scottish Office as it was previously known, would frequently lead the UK delegation to represent both Scottish and non-Scottish interests within the UK. I do not expect to say in two years time that if Scotland is represented at 15 or 20 Council of Ministers meetings, we should be represented at half that number. It will not work like that but we can improve upon having one representative in 12 months. That is not enough for us to develop expertise in the workings of the Council of Ministers. I hope that the number will have increased significantly by the time this debate takes place in 12 months time.

Mae arnom angen cynrychiolaeth effeithiol o Gymru yng nghynifer ag y bo modd o sefydliadau’r UE. Cyfleais y farn honno ar ran y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ar ôl cyfarfod yn gynharach eleni. Yr wyf wedi siarad â Keith Byers am hynny ac wedi ysgrifennu at adrannau mawr y DU er mwyn ceisio sicrhau nad anghofir y safbwynt Cymreig pan benderfynant ar safbwynt y DU. Sylweddolwn na chawsom ein cynrychioli yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion, ac eithrio pan oedd Christine Gwyther yn bresennol ar un achlysur. Caf weld beth y gallwn ei wneud i gynyddu nifer y cyfarfodydd a fynychwn. Ni fydd ein presenoldeb yn debyg i Senedd yr Alban oherwydd, mewn meysydd fel pysgota, sefydlwyd drwy arfer, sydd yn mynd yn ôl o leiaf 10 mlynedd, mai Senedd yr Alban, neu Swyddfa’r Alban fel y’i gelwid o’r blaen, a fyddai’n aml yn arwain dirprwyaeth y DU i gynrychioli buddiannau’r Alban a rhai heblaw’r Alban oddi mewn i’r DU. Ni ddisgwyliaf ddweud ymhen dwy flynedd, os cynrychiolir yr Alban mewn 15 neu 20 o gyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion, y dylem gael ein cynrychioli yn hanner y nifer hwnnw. Ni fydd yn gweithio felly ond gallwn wneud yn well na chael un cynrychiolydd o fewn 12 mis. Nid yw hynny’n ddigon inni ddatblygu arbenigedd yng ngweithrediad Cyngor y Gweinidogion. Gobeithiaf y bydd y nifer hwnnw wedi cynyddu’n sylweddol erbyn yr adeg y cynhelir y ddadl hon ymhen 12 mis.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 50

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 50

You will remember the debate that we had in the House of Commons in Committee when these points were discussed. Members were informed that the devolution settlement contained an assurance of representation in the Council of Ministers, either taking the lead on certain discussions or being part of a delegation. Will Rhodri recognise that the Assembly will occasionally have a strong case to take a lead on certain discussions such as agricultural matters? I previously referred him to the debate on the amendment to the sheep regime. Will Rhodri recognise that if the case needs to be made, it needs to be made with vigour because the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food is not always the easiest to deal with in these matters?

Byddwch yn cofio’r ddadl a gawsom yn Nhŷ’r Cyffredin mewn Pwyllgor pan drafodwyd y pwyntiau hyn. Hysbyswyd yr aelodau fod y setliad datganoli yn cynnwys gwarant o gynrychiolaeth yng Nghyngor y Gweinidogion, gan un ai arwain ar rai trafodaethau neu fod yn rhan o ddirprwyaeth. A wnaiff Rhodri gydnabod y bydd gan y Cynulliad ddadl gref weithiau dros gymryd awenau rhai trafodaethau fel materion amaethyddol? Fe’i cyfeiriais o’r blaen at y ddadl ar y diwygiad i’r gyfundrefn defaid. A wnaiff Rhodri gydnabod, os oes angen cyflwyno’r achos, y bydd yn rhaid ei gyflwyno’n egnïol oherwydd nid y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw’r hawsaf i ymdrin â hi yn y materion hyn?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 50

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 50

I would be inclined to go along with that view. We should try to get sufficient notice of the subject matter and find out whether a Welsh ‘pwnc llosg’, or burning issue, is coming up. If there is, we should say that it is a specific Welsh interest and we would like to be present. If we are not leading the UK delegation, nevertheless we want to be present to ensure that Wales’s voice is heard. How often is that going to occur? I do not think that we want to be at every fourth meeting of the Council of Ministers. It is not about that. It is about picking and choosing meetings when there is a specific Welsh interest and getting sufficient notice if a specific Welsh interest is coming up. We could then argue for our attendance as part of the UK delegation. We do not yet have a system that guarantees that. I intend to make that the high priority for the second year of the Assembly’s existence.

Byddwn yn dueddol o gyd-fynd â’r farn honno. Dylem geisio cael digon o rybudd am y cynnwys a darganfod a oes pwnc llosg Cymreig ar y ffordd. Os oes, dylem ddweud ei fod yn fuddiant Cymreig penodol ac yr hoffem fod yn bresennol. Os nad ydym yn arwain dirprwyaeth y DU, er hynny, dymunwn fod yn bresennol i sicrhau y clywir llais Cymru. Pa mor aml y bydd hynny’n digwydd? Ni chredaf ein bod yn dymuno bod ym mhob cyfarfod o bob pedwar o Gyngor y Gweinidogion. Nid hynny sydd dan sylw. Mae’n ymwneud â dewis a dethol cyfarfodydd lle y ceir buddiant Cymreig penodol, ac â chael digon o rybudd os yw buddiant Cymreig penodol ar ei ffordd. Gallem ddadlau wedyn dros fod yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth y DU. Nid oes gennym system eto sydd yn gwarantu hynny. Bwriadaf wneud hynny’n flaenoriaeth bennaf ar gyfer yr ail flwyddyn o fodolaeth y Cynulliad.

Subject Committees should take full account of the European dimension of their work. That is the substitute for having a scrutiny committee on European legislation that is tied down to doing nothing but European legislation. I believe that the Scottish Parliament is at least attempting to do that but it is finding it an enormous burden. We do not do it that way. We expect officials to draw to the attention of any Subject Committee a matter of importance that is pending in European legislation if it is relevant to their particular Subject Committee interest.

Dylai Pwyllgorau Pwnc roi pob ystyriaeth i ddimensiwn Ewropeaidd eu gwaith. Mae hynny yn lle pwyllgor archwilio ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd sydd wedi ei gyfyngu at wneud dim ond deddfwriaeth Ewropeaidd. Credaf fod Senedd yr Alban o leiaf yn ceisio gwneud hynny ond mae’n ei gael yn faich aruthrol. Nid felly yr ydym ni yn gwneud. Disgwyliwn i’r swyddogion dynnu sylw unrhyw Bwyllgor Pwnc at fater o bwys sydd yn disgwyl mewn deddfwriaeth Ewropeaidd os yw’n berthnasol i’w diddordeb penodol fel Pwyllgor Pwnc.

There is also the issue of the Wales Forum on European Affairs. We do not want to be too exclusive as an Assembly. The Committee on European Affairs has a lot of Members who are not Assembly Members. There are Members of the European Parliament, members of the Economic and Social Committee and the Committee of the Regions. We have the Wales Forum on European Affairs, which has had two meetings, one addressed by Neil Kinnock in October 1999, and another one a month ago, in Cardiff, when Leon Brittan —I think that he is Lord Brittan now—the former Vice President of the European Commission, spoke about the euro and its implications for Wales. We plan more of these fora—one in north Wales this autumn and another in the spring in south Wales again. These might well focus on important outcomes of the Lisbon European Council and the implications for Wales of, for example, the e Europe initiative agreed at the Feira Summit in Portugal last week.

Hefyd mae mater Fforwm Cymru ar Faterion Ewropeaidd. Ni ddymunwn fod yn rhy gaeëdig fel Cynulliad. Mae gan y Pwyllgor Materion Ewropeaidd lawer o aelodau nad ydynt yn Aelodau Cynulliad. Mae aelodau o Senedd Ewrop, aelodau o’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae gennym Fforwm Cymru ar Faterion Ewropeaidd, a gafodd ddau gyfarfod, yr anerchwyd un ohonynt gan Neil Kinnock yn Hydref 1999, ac un fis yn ôl, yng Nghaerdydd, pan siaradodd Leon Brittan—credaf mai’r Arglwydd Brittan ydyw’n awr—cyn Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, am yr ewro a’i oblygiadau i Gymru. Bwriadwn gynnal rhagor o’r fforymau hyn—un yng ngogledd Cymru yr hydref yma ac un yn y gwanwyn yn ne Cymru eto. Mae’n bosibl iawn y gallai’r rhain ganolbwyntio ar ganlyniadau pwysig Cyngor Ewropeaidd Lisbon a’r goblygiadau i Gymru, er enghraifft, o’r fenter e Ewrop a gytunwyd yn Uwchgyfarfod Feira ym Mhortiwgal yr wythnos diwethaf.

You will also be aware, because of the obvious geographical interest, of INTERREG and the links between Wales and Ireland, which is another major area of Europe. Ireland is so close to us that we probably do not think of it as a part of Europe. We tend to think of it, because of old geography books, as part of the British Isles. However, it is part of Europe. Our relationship with Ireland is of huge importance to us because of our geographical and Celtic links and because it has taken such a healthy interest in the evolution of the new democracy, not only in Scotland and Wales but also in northern Ireland. The British-Irish Council, now that it is able to go ahead with the reinstatement of the Northern Ireland Assembly, will give us an additional angle to our European work, remembering that Ireland is part of this European work.

Byddwch hefyd yn ymwybodol, oherwydd y diddordeb daearyddol amlwg, o INTERREG a’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, sydd yn rhan bwysig arall o Ewrop. Mae Iwerddon mor agos atom fel nad ydym o bosibl yn ei hystyried yn rhan o Ewrop. Tueddwn i feddwl amdani, oherwydd hen lyfrau daearyddiaeth, fel rhan o Ynysoedd Prydain. Fodd bynnag, rhan o Ewrop ydyw. Mae ein perthynas ag Iwerddon o bwys aruthrol i ni oherwydd ein cysylltiadau daearyddol a Cheltaidd ac am ei bod wedi ymddiddori’n iach yn natblygiad y ddemocratiaeth newydd, nid yn unig yn yr Alban a Chymru ond hefyd yng Ngogledd Iwerddon. Bydd Cyngor Prydain-Iwerddon, ac yntau bellach yn gallu mynd rhagddo ar ôl ailsefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon, yn rhoi agwedd arall inni ar ein gwaith Ewropeaidd, gan gofio bod Iwerddon yn rhan o’r gwaith Ewropeaidd hwn.

Earlier in our proceedings today, we mentioned the enlargement of the European Union and the issues that arose during the recent consultation with business, which, I am glad to say, was attended by 90 out of the 150 members of the business community invited. The Committee has achieved a great deal in the short time that it has been in existence, and we are still refining and clarifying its role. I will be interested to hear the views expressed this afternoon.

Yn gynharach yn ein trafodion heddiw, soniasom am ehangu’r Undeb Ewropeaidd a’r materion a gododd yn ystod yr ymgynghori diweddar â busnes, lle y bu 90 o blith y 150 o aelodau o’r gymuned fusnes a wahoddwyd yn bresennol, mae’n dda gennyf ddweud. Mae’r Pwyllgor wedi cyflawni llawer iawn yn y cyfnod byr y bu mewn bodolaeth, ac yr ydym yn dal i fireinio a rhoi gwedd eglurach ar ei rôl. Bydd o ddiddordeb imi glywed y safbwyntiau a fynegir y prynhawn yma.

To mention the amendments briefly, we are happy to support Nick Bourne’s amendment 1, because it welcomes the fact that we have not tried to restrict the Assembly’s involvement in the Wales European Centre to members of the same party as the Executive. We are keen on a cross-party approach to Europe; that is right and healthy. We are therefore happy to support that amendment in the spirit in which it was tabled. The same is true for Mick Bates’s amendment 2 on Subject Committees keeping an eye on EU legislation. As we do not have a European scrutiny committee, only Subject Committees can do that job. We need to be aware of resource constraints, however; we cannot devote 10 civil servants per Subject Committee to keeping an eye on the massive amount of forthcoming European legislation. However, we support the spirit of that amendment. I hope that the remainder of the debate will also follow this constructive, cross-party, Team Wales approach.

I sôn yn fyr am y gwelliannau, yr ydym yn falch o gefnogi gwelliant 1 Nick Bourne, am ei fod yn croesawu’r ffaith nad ydym wedi ceisio cyfyngu rhan y Cynulliad yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru i aelodau o’r un blaid â’r Weithrediaeth. Yr ydym yn awyddus i arddel dull trawsbleidiol o ymwneud ag Ewrop; mae hynny’n briodol ac yn iach. Yr ydym yn falch felly o gefnogi’r gwelliant hwnnw yn yr ysbryd y’i cyflwynwyd. Mae hynny’n wir hefyd am welliant 2 Mick Bates ar Bwyllgorau Pwnc yn cadw golwg ar ddeddfwriaeth yr UE. Gan nad oes gennym bwyllgor archwilio Ewropeaidd, dim ond y Pwyllgorau Pwnc a all wneud y gwaith hwnnw. Mae angen inni fod yn ymwybodol o gyfyngiadau ar adnoddau, fodd bynnag; ni allwn neilltuo 10 gwas sifil i bob Pwyllgor Pwnc i gadw golwg ar y swm enfawr o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sydd i ddod. Fodd bynnag, cefnogwn ysbryd y gwelliant hwnnw. Gobeithiaf y bydd gweddill y ddadl hefyd yn dilyn y dull gweithredu Tîm Cymru, trawsbleidiol, adeiladol hwn.

Nick Bourne spoken in English p. 53

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 53

I propose amendment 1. At the end of point i, insert after ‘Wales European Centre’

Cynigiaf welliant 1. Ar ddiwedd pwynt i, ychwaneger ar ôl ‘â Chanolfan Ewropeaidd Cymru wedi’i dderbyn’:

Nick Bourne (continued) spoken in English p. 53

Nick Bourne (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 53

The work done in the Committee on European Affairs is central to what we do here. Whatever our substantive differences on European issues—and they are considerable; I would probably not be in broad agreement with the First Secretary on a range of such issues—I am at one with the him in believing that Europe is vital to the future of Wales and that we must be represented there. I, too, found the Committee’s visit to Brussels extremely useful and led a subsequent follow-up visit there of the Welsh Conservative group, which was also extremely useful. It convinced me—not that I needed convincing—of the importance of Europe and that we cannot stand aside. We must be present, lobbying for Wales, discovering what the issues are and what is coming up through the pipeline.

Mae’r gwaith a wneir yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd yn ganolog i’r hyn a wnawn yma. Beth bynnag yw ein gwahaniaethau hanfodol ar faterion Ewropeaidd—ac maent yn sylweddol; mae’n debyg na fyddwn yn lled gytûn â’r Prif Ysgrifennydd ar amrediad o faterion o’r fath—cytunaf ag ef wrth gredu bod Ewrop yn holl bwysig i ddyfodol Cymru a bod rhaid inni gael ein cynrychioli yno. Cefais innau fod ymweliad y Pwyllgor â Brwsel yn ddefnyddiol dros ben ac arweiniodd at ymweliad dilynol wedyn gan y grŵp Ceidwadol Cymreig, a oedd hefyd yn ddefnyddiol dros ben. Fe’m darbwyllodd—nid bod angen fy narbwyllo—o bwysigrwydd Ewrop ac na allwn sefyll o’r neilltu. Rhaid inni fod yn bresennol, yn lobïo dros Gymru, yn darganfod beth yw’r materion a beth sydd ar y gweill.

I am fully supportive of the Committee on European Affairs’ work. I associate myself with Glyn Davies’s comment, and also, by implication, those of the First Secretary and others, that we need to consider the rules in relation to overseas visits. At present, the rules permit one overseas visit—either to a European capital or to Brussels or Strasbourg. I believe that the rules will be amended to extend that. Brussels is a case apart. When we visit Brussels we do not visit it as a European capital, but as the seat of the European Parliament, the Commission and so on.

Yr wyf yn llwyr gefnogol i waith y Pwyllgor Materion Ewropeaidd. Ategaf sylw Glyn Davies, a hefyd, drwy oblygiad, rai’r Prif Ysgrifennydd ac eraill, fod angen inni ystyried y rheolau am ymweliadau tramor. Ar hyn o bryd, mae’r rheolau’n cytuno i un ymweliad tramor—un ai â phrifddinas Ewropeaidd neu â Brwsel neu Strasbourg. Credaf y caiff y rheolau eu diwygio i ymestyn hynny. Mae Brwsel yn achos arbennig. Pan ymwelwn â Brwsel nid ymwelwn â hi fel prifddinas Ewropeaidd, ond fel canolfan Senedd Ewrop, y Comisiwn ac yn y blaen.

I will not delay the Assembly further. I am sure that others wish to participate in this debate. However, I stress the importance of Europe and welcome the work that WEC is doing on a cross-party basis. It is vital to our work in the Assembly that its facilities and services are open to all Members. I hope that all Members will use them, because WEC provides an extensive service, not just for people visiting Brussels. However, if they are, then it does much useful work.

Ni chadwaf y Cynulliad yn hwy. Yr wyf yn sicr bod eraill yn dymuno cyfrannu at y ddadl hon. Fodd bynnag, tanlinellaf bwysigrwydd Ewrop a chroesawaf y gwaith y mae Canolfan Ewropeaidd Cymru yn ei wneud yn drawsbleidiol. Mae’n holl bwysig i’n gwaith yn y Cynulliad fod ei chyfleusterau a’i gwasanaethau ar gael i’r holl Aelodau. Gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau’n eu defnyddio, oherwydd bod Canolfan Ewropeaidd Cymru’n darparu gwasanaeth eang, nid yn unig i rai sydd yn ymweld â Brwsel. Fodd bynnag, os ydynt, yna mae’n gwneud llawer o waith defnyddiol.

Mick Bates spoken in English p. 54

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 54

I propose amendment 2. Add new clause at the end:

Cynigiaf welliant 2. Ychwaneger cymal newydd ar y diwedd:

Mick Bates (continued) spoken in English p. 54

Mick Bates (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 54

I declare an interest as a partner in a farming business. The Liberal Democrats are, on the whole, satisfied with the progress of the Committee on European Affairs. I must express a slight disappointment at the lack of urgency in providing a clear direction and the lack of action in the first year. We feel that it is vital to increase support to develop closer links in all aspects of Europe, whether they be in agriculture, in which I am particularly interested, or in any other Welsh interest.

Datganaf fuddiant fel partner mewn busnes ffermio. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon, ar y cyfan, ar gynnydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd. Rhaid imi ddatgan ychydig o siom ynghylch y diffyg brys wrth ddarparu cyfeiriad eglur a’r diffyg gweithredu yn y flwyddyn gyntaf. Teimlwn ei bod yn holl bwysig cynyddu cymorth er mwyn datblygu cysylltiadau agosach ym mhob agwedd ar Ewrop, boed hwy mewn amaethyddiaeth, sydd o ddiddordeb arbennig i mi, neu mewn unrhyw fuddiant Cymreig arall.

The Liberal Democrats strongly support the development of the Wales European Centre. However, we hope that the problems of disabled access to the building have been solved. The development of the Assembly’s presence in Brussels, officials with diplomatic status and the access to UKREP will be welcomed. We particularly support the secondments programme to the European Union institutions. The exchange of civil servants is vital in building networks that enable the Welsh interest to be taken into account. The target of six secondments per year by 2003 is reasonable, but we would like to see it increase.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gryf o blaid datblygu Canolfan Ewropeaidd Cymru. Fodd bynnag, gobeithiwn fod problemau mynediad yr anabl i’r adeilad wedi eu datrys. Croesewir datblygu presenoldeb y Cynulliad ym Mrwsel, swyddogion gyda statws diplomyddol a’r mynediad i UKREP. Cefnogwn yn arbennig y rhaglen secondiadau i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae cyfnewid gweision sifil yn holl bwysig wrth adeiladu rhwydweithiau sydd yn ei gwneud yn bosibl rhoi ystyriaeth i fuddiant Cymru. Mae’r targed o chwe secondiad y flwyddyn erbyn 2003 yn rhesymol, ond hoffem ei weld yn cynyddu.

The Liberal Democrats feel that every opportunity must be taken to increase exchanges at all levels and on all subjects in the Commission, particularly in the four motor regions. Developing expertise and links will benefit Wales’s position and status in Europe. Our visit to the Commission emphasised that, as did our visit to the Commission’s office in Cardiff.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo bod yn rhaid achub ar bob cyfle i gynyddu cyfnewidiadau ar bob lefel ac ar bob pwnc yn y Comisiwn, yn enwedig yn y pedwar rhanbarth sbardun. Bydd datblygu arbenigedd a chysylltiadau o fudd i sefyllfa a statws Cymru yn Ewrop. Yr oedd ein hymweliad â’r Comisiwn yn pwysleisio hynny, fel yr oedd ein hymweliad â swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

It is in the monitoring and general impact of European policies that the Assembly needs an improved process. We have an opportunity to develop distinct Welsh policies through the European process. However, we cannot do that unless our Committees have regular information about European legislation and regulations and an understanding of how other EU states interpret those regulations. Although there is a suggestion in paragraph 2.22 of the report that Committees should take a more active role and the report goes on to state that the Committee on European Affairs should bring relevant issues to the attention of the Subject Committees, amendment 2 would strengthen those aspirations and make them into positive actions.

Y gwaith o fonitro ac effaith gyffredinol polisïau Ewropeaidd yw’r mannau lle y mae ar y Cynulliad angen gwell proses. Mae gennym gyfle i ddatblygu polisïau Cymreig arbennig drwy’r broses Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny oni chaiff ein Pwyllgorau wybodaeth reolaidd am ddeddfwriaeth a rheoliadau Ewropeaidd a dealltwriaeth o’r modd y mae gwladwriaethau eraill yr UE yn dehongli’r rheoliadau hynny. Er bod awgrym ym mharagraff 2.22 o’r adroddiad y dylai Pwyllgorau ymgymryd â rôl fwy gweithredol a bod yr adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud y dylai’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ddod â materion perthnasol i sylw’r Pwyllgorau Pwnc, byddai gwelliant 2 yn cryfhau’r dyheadau hynny ac yn eu troi’n gamau cadarnhaol.

We do not currently have a support mechanism that enables our Subject Committees to receive details of EU policies. We need an official attached to each Committee to forward relevant information regarding the development of regulations and legislation. We must influence the Commission’s informal and formal processes.

Nid oes gennym fecanwaith cynnal ar hyn o bryd sydd yn galluogi ein Pwyllgorau Pwnc i dderbyn manylion o bolisïau’r UE. Mae arnom angen swyddog sydd yn gysylltiedig â phob Pwyllgor i anfon gwybodaeth berthnasol ynghylch datblygiad rheoliadau a deddfwriaeth. Rhaid inni ddylanwadu ar brosesau anffurfiol a ffurfiol y Comisiwn.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 55

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 55

I have a point of clarification. You referred to an attachment to each Committee. Do you want a civil servant attached to each Committee to administer this? Have you thought of all the implications of that, in terms of resources and so on?

Mae gennyf bwynt o eglurhad. Cyfeiriasoch at gysylltiad â phob Pwyllgor. A ydych yn dymuno cysylltu gwas sifil â phob Pwyllgor i weinyddu hyn? A ystyriasoch holl oblygiadau hynny, o ran adnoddau ac yn y blaen?

Mick Bates spoken in English p. 55

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 55

Thank you for picking that up, Rhodri. In order for this process to be complete, we need a dedicated official who would provide that information. Otherwise, as you read in the report, under paragraph 2.22 and later on, and as I have pointed out, you will find that it is only an aspiration. We must push for more action here to ensure that the information is forthcoming.

Diolch i chi am godi hynny, Rhodri. Er mwyn i’r broses hon fod yn gyflawn, mae arnom angen swyddog un pwrpas a ddarparai’r wybodaeth honno. Fel arall, fel y darllenasoch yn yr adroddiad, o dan baragraff 2.22 ac yn ddiweddarach, ac fel y nodais, cewch nad yw ond yn ddyhead. Rhaid inni bwyso am fwy o weithredu yma er mwyn sicrhau y daw gwybodaeth ymlaen.

Equally, we need knowledge of how other European states interpret and implement the same legislation. The debate about genetically modified organisms is a perfect example. Who here understands how Austria or Tuscany established a GM-free territory? Perhaps, on that issue, it comes down to the will of our administration in accepting the Assembly’s will. Agriculture has provided a multitude of instances where we need sound advice on European legislation. For example, who can provide a satisfactory answer as to why France can retain a ban on the sale of Welsh beef?

I’r un graddau, mae arnom angen gwybodaeth am y modd y mae gwladwriaethau Ewropeaidd eraill yn dehongli ac yn gweithredu’r un ddeddfwriaeth. Mae’r ddadl am organebau a addaswyd yn enetig yn enghraifft berffaith. Pwy sydd yma sydd yn deall sut y sefydlodd Awstria neu Dwsgani diriogaeth rydd rhag addasu genetig? Hanfod y mater hwnnw, efallai, yw ewyllys ein gweinyddiaeth wrth dderbyn ewyllys y Cynulliad. Mae amaethyddiaeth wedi rhoi llu o enghreifftiau lle y mae arnom angen cyngor cadarn ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Er enghraifft, pwy a all roi ateb boddhaol ynghylch pam y caiff Ffrainc gadw gwaharddiad ar werthu cig eidion o Gymru?

We need a process by which information is available to the relevant Subject Committees. The Agriculture and Rural Development Committee has, in its wisdom, already accepted a resolution similar to my amendment. I urge you, therefore, to accept this amendment to ensure that our committees, and Wales, are not disadvantaged by a lack of knowledge.

Mae arnom angen proses a fydd yn gyfrwng i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgorau Pwnc perthnasol. Mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yn ei ddoethineb, eisoes wedi derbyn cynnig sydd yn debyg i’m gwelliant i. Fe’ch anogaf, felly, i dderbyn y gwelliant hwn i sicrhau na roddir ein pwyllgorau, a Chymru, o dan anfantais drwy ddiffyg gwybodaeth.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 56

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 56

Er nad wyf yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd, yr wyf yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Yn ddiweddar ymunais â bwrdd Canolfan Ewropeaidd Cymru ac yr wyf yn datgan buddiant yn hynny o beth ar ddechrau’r ddadl. Yn fyr, ac yn yr ysbryd cynhwysol yr oedd Rhodri yn ei argymell, derbyniaf fod pethau da wedi digwydd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bellach, fel y clywsom, mae gan y Cynulliad swyddfa ym Mrwsel. Hefyd mae’r Cynulliad wedi ymuno â Chanolfan Ewropeaidd Cymru. Mae gennym aelodau seneddol yn Senedd Ewrop, aelodau ar Bwyllgor y Rhanbarthau, ac aelodau ar ECOSOC—y pwyllgor economaidd a chymdeithasol—ac felly mae rhwydwaith effeithiol o bobl o Gymru ar sawl corff yno. Mae’r syniad hwnnw o rwydweithio y cyfeiriodd Rhodri ato yn rhan bwysig o’n perthynas ag Ewrop.

Although I am not a member of the Committee on European Affairs, I am pleased to have the opportunity to contribute to this discussion. Recently I joined the board of the Wales European Centre and I declare an interest in that respect at the start of the debate. Briefly, and in the inclusive spirit Rhodri recommended, I accept that positive outcomes have occurred since the establishment of the National Assembly. As we have heard, the Assembly now has an office in Brussels. Also the Assembly has joined WEC. We have members of parliament in the European Parliament, members on the Committee of the Regions, and members on ECOSOC—the economic and social committee—and so there is an effective network of people from Wales in a number of institutions there. That idea of networking, to which Rhodri referred, is an important part of our relationship with Europe.

Fel plaid cefnogwn welliant Nick Bourne ynglŷn â phwysigrwydd Canolfan Ewropeaidd Cymru. Pwysleisiaf hefyd ei bod yn bwysig i Aelodau’r Cynulliad, pan fyddant yn ymweld â Brwsel i weld swyddogion y Comisiwn neu Aelodau Seneddol Ewropeaidd, sicrhau bob amser eu bod yn ymweld â’r ganolfan. Dylent wneud hynny nid i gael cwpanaid yn unig, ond hefyd er mwyn i’r wybodaeth a gânt o’r trafodaethau â swyddogion y Comisiwn fynd yn ôl i’r ganolfan fel y cawn ni yn y Cynulliad yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud ein gwaith. Felly anogaf unrhyw un sydd yn ymweld â Brwsel i fynd i’r ganolfan fel rhan o’u rhaglen.

As a party we support Nick Bourne’s amendment concerning the importance of WEC. I also emphasise that it is important that when Assembly Members visit Brussels to see the Commission’s officials or Members of the European Parliament they should always ensure that they visit the centre. They should not just go for a cuppa, but also so that the information that they receive from discussions with the Commission’s officials goes back to the centre so that we in the Assembly can obtain all the information we need to do our work. I therefore urge anyone who visits Brussels to visit the centre as part of their itinerary.

Cydnabyddwn y teimlad yng ngwelliant Mick Bates, a’i gefnogi yn yr ysbryd y mae ef wedi’i gyflwyno, ond mae gennyf innau, a’r grŵp hefyd, amheuon ynglŷn â’r union ffordd y mae’n awgrymu y dylem fynd ymlaen. Gofynnaf i Mick felly a yw’n derbyn y byddai modd i ni weld y gwelliant hwn yn gwthio’r drafodaeth yn ei blaen ynglŷn â beth yw’r ffordd orau o ymdrin â deddfwriaeth Ewropeaidd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod manylion yr hyn y mae’n ei ddweud yn dderbyniol, ond o leiaf ei fod yn agor y drafodaeth. Os derbynia ef yn yr ysbryd hwnnw, gallwn ei gefnogi.

We acknowledge the sentiment in Mick Bates’s amendment, and we support it in the spirit that it is presented, but I, and the group, have doubts about the exact way he suggests that we should proceed. I ask Mick therefore whether he accepts that it would be possible to see this amendment as driving the discussion forward as to what the best way of dealing with European legislation is. I am not convinced that the details of what he says are acceptable, but at least it opens up the discussion. If he accepts it in that spirit, we can support it.

Cyfeiriais sawl tro at y ffordd y dylem, fel Cynulliad, ystyried deddfwriaeth Ewropeaidd ac awgrymais i’r weinyddiaeth y dylai fod ffordd i ni achwilio’r ddeddfwriaeth honno. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Rhodri, ac ymddengys fod y weinyddiaeth yn gwrthod hynny fel ffordd o symud ymlaen. Derbyniaf y byddai llwyth o waith i’w wneud pe byddem yn cymryd y swyddogaeth honno yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd. Fodd bynnag, hoffwn fynd â hynny dipyn ymhellach a phwysleisio pa mor bwysig yw bod y Cynulliad yn cael swyddogaeth archwiliol. Pan ddeuthum yn gadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig—

I referred several times to the way we should, as an Assembly, consider European legislation and I suggested to the administration that there should be a way for us to scrutinise that legislation. I listened carefully to what Rhodri said, and it appears that the administration rejects that as a way of taking this forward. I accept that there would be a great deal of work to undertake if we were to assume that role in the Committee on European Affairs. However, I wish to follow this up a little further and emphasise how important it is that the Assembly assumes a scrutinising role. When I became the chairman of the Agriculture and Rural Development Committee—

Mick Bates spoken in English p. 57

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 57

I agree in principle because we both have the same sentiment: to provide a channel through which we can receive more information about the process, and also about the interpretation of the legislation by the state. As part of that process, I agree with your interpretation and accept your sentiments, but it is not the end of the process, we must make sure it continues.

Cytunaf mewn egwyddor am fod y ddau ohonom yn rhannu’r un teimlad: darparu cyfrwng y gallwn dderbyn mwy o wybodaeth drwyddo am y broses, a hefyd am y dehongliad o’r ddeddfwriaeth gan y wladwriaeth. Fel rhan o’r broses honno, cytunaf â’ch dehongliad a derbyniaf eich barn, ond nid hynny yw diwedd y broses, Rhaid inni sicrhau ei bod yn parhau.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 57

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 57

Thank you, Mick, that is very helpful to us as we move the debate forward. I stress how important it is that the Assembly undertakes this role of scrutiny of European legislation, despite the inevitable objections that we are overloading the Assembly with paperwork and the questions as to whether we will be able to do it properly. I acknowledge that there are concerns in Scotland about that. Nevertheless, when I became chair of the Agriculture and Rural Development Committee, its work during the first few months was to implement regulations and directives which had already been agreed in Brussels. What do we have now? Naturally, the farming unions in Wales are crying foul because they say that the proposals for Tir Mynydd are not acceptable and we need to change them. We must accept that Brussels gave the Assembly a fait accompli. There was no consultation with us before the regulations were finally agreed. The work of the Agriculture and Rural Development Committee and all the other Committees would have been better informed if we had been able to take part in the consultation process. We could then have pointed out to the European Commission the dangers of going down a particular path and how it would affect us. That is why it is so important that a case is made on behalf of the Assembly, to lead the debate on the proposals to change the sheep market regime. It is crucial that we play a leading role in that.

Diolch i chi, Mick, mae hynny o gymorth mawr inni wrth inni symud y ddadl ymlaen. Pwysleisiaf mor bwysig ydyw i’r Cynulliad ymgymryd â’r rôl hon o archwilio deddfwriaeth Ewropeaidd, er gwaethaf y gwrthwynebiadau anorfod ein bod yn gorlwytho’r Cynulliad â gwaith papur a’r cwestiynau ynghylch a fyddwn yn gallu ei wneud yn iawn. Derbyniaf fod pryderon yn yr Alban am hynny. Er hynny, pan ddeuthum yn gadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, ei waith yn ystod y misoedd cyntaf hynny oedd gweithredu rheoliadau a chyfarwyddebau y cytunwyd arnynt eisoes ym Mrwsel. Beth sydd gennym yn awr? Yn naturiol, mae’r undebau ffermio yng Nghymru’n cwyno am eu bod yn dweud nad yw’r cynigion ar gyfer Tir Mynydd yn dderbyniol a bod angen inni eu newid. Rhaid inni dderbyn bod Brwsel wedi rhoi fait accompli i’r Cynulliad. Nid ymgynghorwyd â ni cyn cytuno ar y rheoliadau’n derfynol. Byddai gwaith y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’r holl Bwyllgorau eraill yn fwy cytbwys pe baem wedi gallu cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Wedyn gallem fod wedi tynnu sylw’r Comisiwn Ewropeaidd at y peryglon o ddilyn llwybr penodol a sut yr effeithiai arnom. Dyna pam y mae mor bwysig cyflwyno achos ar ran y Cynulliad, er mwyn arwain y ddadl ar y cynigion i newid cyfundrefn y farchnad defaid. Mae’n holl bwysig inni chwarae rôl arweiniol yn hynny.

Plaid Cymru has not tabled a specific amendment because it did not want the Assembly’s hands to be tied, but I ask the Executive to carefully consider again the need for the Committee on European Affairs to play a scrutiny role. I also ask it to ensure that we play a leading role in discussions with the UK Government when matters affecting Wales have been decided in Europe.

Nid yw Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant penodol oherwydd ni ddymunai glymu dwylo’r Cynulliad, ond gofynnaf i’r Weithrediaeth ystyried yn ofalus eto yr angen i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd chwarae rôl archwilio. Gofynnaf hefyd iddi sicrhau ein bod yn chwarae rôl arweiniol mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU pan fo materion sydd yn effeithio ar Gymru wedi eu penderfynu yn Ewrop.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 58

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 58

I am in some difficulty, because no one is indicating a desire to speak except the Party of Wales Members.

Yr wyf mewn cyfyng-gyngor braidd, oherwydd nid oes neb wedi mynegi awydd i siarad ar wahân i Aelodau Plaid Cymru.

Phil Williams spoken in English p. 58

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 58

The purpose of a debate on a Committee report is to give Assembly Members a brief summary of the work carried out. The simplest way of compiling such a report is to tick boxes, but we are all aware that ticking boxes is an effective mode of self-deception. The Committee on European Affairs offers some warnings, especially from its first few meetings. In our meeting on 9 March, there were 10 items on the agenda, including international relations, the profile of Wales, INTERREG, the Commission’s forward work programme, administrative reform, the Portuguese Presidency, the inter-governmental conference, enlargement and plans for the European forum. That meant that we could tick several boxes on some of the important issues that we had discussed. However, when we looked in detail at the papers, each item started with a paragraph entitled ‘purpose’. To summarise them quickly, the first report was circulated for information and the second was to provide background. The third and fourth reports were to inform Committee members, the fifth, sixth and seventh were for the information of Committee members, the eighth was to provide Members with information, the ninth to present the Committee with a discussion paper and the tenth to inform Committee members of the plans.

Pwrpas dadl ar adroddiad Pwyllgor yw rhoi crynodeb byr i Aelodau’r Cynulliad o’r gwaith a gyflawnwyd. Y dull symlaf o lunio adroddiad o’r fath yw ticio blychau, ond yr ydym oll yn ymwybodol bod ticio blychau yn ddull effeithiol o hunan-dwyll. Mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd yn cynnig rhai rhybuddion, yn enwedig o’i gyfarfodydd cyntaf. Yn ein cyfarfod ar 9 Mawrth, yr oedd 10 eitem ar yr agenda, gan gynnwys cysylltiadau rhyngwladol, proffil Cymru, INTERREG, blaenraglen waith y Comisiwn, diwygio gweinyddol, Llywyddiaeth Portiwgal, y gynhadledd rynglywodraethol, ehangu a chynlluniau ar gyfer y fforwm Ewropeaidd. Golygai hynny y gallem dicio sawl blwch ar rai o’r materion pwysig a drafodasom. Fodd bynnag, pan edrychasom yn fanwl ar y papurau, yr oedd pob eitem yn dechrau â pharagraff o dan y teitl ‘pwrpas’. Er mwyn eu crynhoi’n gyflym, cylchredwyd yr adroddiad cyntaf er gwybodaeth ac yr oedd yr ail i ddarparu cefndir. Yr oedd y trydydd a’r pedwerydd adroddiad i hysbysu aelodau’r Pwyllgor, y pumed, y chweched a’r seithfed er gwybodaeth i aelodau’r Pwyllgor, a’r wythfed i roi gwybodaeth i’r Aelodau, y nawfed i gyflwyno papur trafod i’r Pwyllgor a’r degfed i hysbysu aelodau’r Pwyllgor am y cynlluniau.

We received a lot of valuable information, but we were not encouraged to make a single decision. It is ironic that with some of the information, which was important, it was also a case of ticking boxes. One report described how Wales was developing links with the four motor regions in Europe and with regions in Canada, Australia and Japan. It also referred to promotional events in South Africa, California and Brussels. This work is vital, but it transpired during the discussion that the total budget for the unit in the National Assembly responsible for this was only £400,000, and the whole burden fell on few staff. There was commendable co-operation with the agencies in making the maximum impact. However, the inescapable fact is that if we are serious about raising the profile of Wales, we must be prepared to allocate sufficient resources to make a real impact, otherwise we are simply ticking boxes.

Derbyniasom lawer o wybodaeth werthfawr, ond nid anogwyd ni i wneud yr un penderfyniad. Mae’n eironig, yn achos rhywfaint o’r wybodaeth, a oedd yn bwysig, ei bod hefyd yn enghraifft o dicio blychau. Disgrifiodd un adroddiad sut yr oedd Cymru’n datblygu cysylltiadau â’r pedwar rhanbarth ysgogol yn Ewrop a chyda rhanbarthau yng Nghanada, Awstralia a Siapan. Cyfeiriodd hefyd at ddigwyddiadau hyrwyddo yn Ne Affrica, Califfornia a Brwsel. Mae’r gwaith hwn yn holl bwysig, ond daeth yn amlwg yn ystod y drafodaeth mai ond £400,000 oedd cyfanswm y gyllideb ar gyfer yr uned yn y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn gyfrifol am hyn, a bod yr holl faich ar ychydig o staff. Yr oedd cydweithredu canmoladwy rhwng yr asiantaethau wrth sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Fodd bynnag, y ffaith na ellir ei hosgoi yw os ydym o ddifrif ynghylch hybu proffil Cymru, rhaid inni fod yn barod i ddyrannu digon o adnoddau i gael effaith wirioneddol, neu fel arall nid ydym ond yn ticio blychau.

To some extent, the same question of resources applies to our European office, our membership of the Wales European Centre and the arrangements to second Assembly staff to Brussels. I need hardly say that to the Party of Wales these steps are of prime importance. To us, a strong voice in Europe is far more than an election slogan. We used the word ‘embassy’ a year ago, and we always put it in inverted commas when it appeared in print. It was difficult to do that when we were speaking and we got into some trouble. We enthusiastically support the Assembly’s involvement with WEC and UKREP and we feel fortunate in having high quality staff serving us in Brussels. However, the operation is small and when we look at the wide range of other regions there is no doubt that the regions with long-established offices are the most effective. This was confirmed by Leon Brittan in a conversation about a year ago. For instance, Nordrhein-Westfalen in Germany has 18 members of staff and Cataluña has 15. We must anticipate that the resources we allocate to this part of our work grow to match the increasing importance of this work.

I ryw raddau, mae’r un cwestiwn o adnoddau’n berthnasol i’n swyddfa Ewropeaidd, ein haelodaeth o Ganolfan Ewropeaidd Cymru a’r trefniadau i secondio staff o’r Cynulliad i Frwsel. Prin bod angen imi ddweud bod y camau hyn o’r pwys mwyaf i Blaid Cymru. I ni, mae llais cryf yn Ewrop yn llawer mwy na slogan etholiad. Defnyddiasom y gair ‘llysgenhadaeth’ y llynedd, ac yr oeddem bob amser yn ei roi rhwng dyfynodau pan ymddangosai mewn print. Yr oedd yn anodd gwneud hynny pan oeddem yn siarad felly aethom i rywfaint o drafferth. Yr ydym yn cefnogi’n frwd gysylltiad y Cynulliad â Chanolfan Ewropeaidd Cymru ac UKREP a theimlwn yn ffodus bod gennym staff o ansawdd uchel yn ein gwasanaethu ym Mrwsel. Fodd bynnag, mae’r gweithrediad yn fach a phan edrychwn ar yr amrediad eang o ranbarthau eraill nid oes dwywaith mai’r rhanbarthau sydd â swyddfeydd sefydledig sydd yn fwyaf effeithiol. Cadarnhawyd hyn gan Leon Brittan mewn sgwrs tua blwyddyn yn ôl. Er enghraifft, mae gan Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen 18 o aelodau staff ac mae gan Gatalonia 15. Rhaid inni ddisgwyl y bydd yr adnoddau a ddyrannwn i’r rhan hon o’n gwaith yn tyfu i gyfateb i bwysigrwydd cynyddol y gwaith hwn.

David Davies spoken in English p. 60

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 60

I was particularly interested in Phil’s reference to the conversation with Leon Brittan in which he said that the Länder are the most effective. In a similar conversation with me, the reason he gave for the effectiveness of the Länder and of Germany in general is that they are never or very rarely critical of the performance of the European Commission. He went on to say that Britain’s negative attitude holds Britain back from getting the full benefits of European membership. Does Phil share my anxiety that simply voicing criticisms, in many cases genuine criticisms, of this institution can detract from Britain getting its fair share of funding from the European Commission? Does he share my concern that it is wrong that simply by speaking out about matters that we think are wrong, money is withheld from us that is rightfully ours?

Yr oedd gennyf ddiddordeb arbennig yng nghyfeiriad Phil at y sgwrs â Leon Brittan lle y dywedodd mai’r Länder yw’r rhai mwyaf effeithiol. Mewn sgwrs debyg â mi, y rheswm a roddodd am effeithiolrwydd y Länder a’r Almaen yn gyffredinol yw nad ydynt byth neu ond yn anaml iawn yn feirniadol o berfformiad y Comisiwn Ewropeaidd. Aeth ymlaen i ddweud bod ymagwedd negyddol Prydain yn dal Prydain yn ôl rhag cael holl fanteision ei haelodaeth o Ewrop. A yw Phil yn rhannu fy mhryder bod dim ond lleisio beirniadaeth ar y sefydliad hwn, beirniadaeth ddilys mewn llawer o achosion, yn gallu amharu ar allu Prydain i gael ei chyfran deg o arian o’r Comisiwn Ewropeaidd? A yw’n rhannu fy mhryder nad yw’n iawn, drwy ond codi llais ynghylch materion y credwn eu bod yn anghywir, fod arian y mae gennym hawl iddo yn cael ei gadw oddi wrthym?

Phil Williams spoken in English p. 60

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 60

The European Union is a genuine partnership and there must be dialogue and information flowing in all directions. I fear that, up until a year ago, we in Wales felt that we had no voice at all, and even now we feel that the voice is not strong enough. Germany and the European Union have benefited from the close relationship between the Länder and the European Commission in Brussels.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn bartneriaeth wirioneddol a rhaid cael deialog a gwybodaeth yn llifo ym mhob cyfeiriad. Ofnaf ein bod yng Nghymru, hyd at flwyddyn yn ôl, yn teimlo nad oedd gennym lais o gwbl, a hyd yn oed yn awr teimlwn nad yw’r llais yn ddigon cryf. Mae’r Almaen a’r Undeb Ewropeaidd wedi elwa o’r berthynas agos rhwng y Länder a’r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel.

We should anticipate a growth in the Committee’s work. Ieuan referred to the importance of European directives to the Assembly’s work. There is a suggestion that this should be the responsibility of Committees, but it is not always clear which Committee is the relevant one. The habitats and birds directives, for example, at one point threatened to block progress on Objective 1. Over Easter, I attended the Isle of Man conference of the Commonwealth Parliamentary Association’s regional meeting for the British Isles and the Mediterranean. One session was devoted to this topic. The delegates in general accepted the importance of proper scrutiny of European directives. Some of the small jurisdictions, like Gibraltar, found it a burden. The Isle of Man, with a similar population to Blaenau Gwent, is outside the EU but is much affected by EU directives. It seemed to take the job in its stride. The key seemed to be the ability to spot those directives of special importance rather than attempt a complete analysis of the whole volume of legislation as the House of Commons would do.

Dylem ddisgwyl cynnydd yng ngwaith y Pwyllgor. Cyfeiriodd Ieuan at bwysigrwydd cyfarwyddebau Ewropeaidd i waith y Cynulliad. Mae awgrym y dylai hyn fod yn gyfrifoldeb i Bwyllgorau, ond nid yw bob amser yn amlwg pa Bwyllgor yw’r un perthnasol. Er enghraifft, yr oedd y cyfarwyddebau cynefinoedd ac adar ar un adeg yn bygwth rhwystro cynnydd ar Amcan 1. Dros y Pasg, bûm yng nghynhadledd Ynys Manaw o gyfarfod rhanbarthol Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar gyfer Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir. Neilltuwyd un sesiwn i’r pwnc hwn. Yr oedd y cynrychiolwyr at ei gilydd yn derbyn pwysigrwydd archwilio priodol o gyfarwyddebau Ewropeaidd. Yr oedd rhai o’r awdurdodaethau bach, fel Gibraltar, yn ei gael yn faich. Mae Ynys Manaw, sydd â phoblogaeth debyg i Flaenau Gwent, y tu allan i’r UE ond mae cyfarwyddebau’r UE yn effeithio’n helaeth arni. Ymddangosai ei bod yn gwneud y gwaith yn ddidrafferth. Ymddengys mai’r allwedd oedd y gallu i sylwi ar y cyfarwyddebau hynny sydd o bwys arbennig yn hytrach na cheisio dadansoddi’r holl ddeddfwriaeth yn llwyr fel y gwnâi Tŷ’r Cyffredin.

I have one more suggestion. The role of overarching committees is sometimes restricted by the assumption that such a committee should not discuss matters that are the responsibility of a Subject Committee. Thus we were not able to discuss the progress of Objective 1. However, there is one aspect of the implementation of European structural funds that may provide another important role for the Committee on European Affairs, that is the co-ordination of the different structural plans that are at present the responsibility of different Subject Committees. In particular, the co-ordination of the rural development plan, which is the responsibility of the Agriculture and Rural Development Committee and the rural parts of Objective 1 and Objective 2, which are the responsibility of the Economic Development Committee. An overarching committee may have a valuable job to transcend the rather silo-like work of individual Committees. I anticipate a large increase in this Committee’s work, as indeed the National Assembly Advisory Group had anticipated. As this is the end of term report, I cannot resist finishing with this standby of generations of schoolmasters: A promising pupil but must work harder.

Mae un awgrym arall gennyf. Caiff rôl pwyllgorau cyffredinol ei chyfyngu weithiau gan y rhagdybiaeth na ddylai pwyllgor o’r fath drafod materion sydd yn gyfrifoldeb i Bwyllgor Pwnc. Felly nid oeddem yn gallu trafod cynnydd Amcan 1. Fodd bynnag, mae un agwedd ar weithredu cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a allai ddarparu rôl bwysig arall i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd, sef cydlynu’r gwahanol gynlluniau strwythurol sydd yn gyfrifoldeb ar hyn o bryd i wahanol Bwyllgorau Pwnc. Yn benodol, cydlynu’r cynllun datblygu gwledig, sydd yn gyfrifoldeb i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a rhannau amaethyddol Amcan 1 ac Amcan 2, sydd yn gyfrifoldeb i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd. Gallai pwyllgor cyffredinol wneud gwaith gwerthfawr er mwyn codi uwchlaw gwaith o natur seilo y Pwyllgorau unigol. Rhagwelaf gynnydd mawr yng ngwaith y Pwyllgor hwn fel, yn wir, y rhagwelasai Grŵp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol. Gan mai hwn yw’r adroddiad diwedd tymor, ni allaf ymwrthod â gorffen gyda’r ymadrodd parod hwn gan genedlaethau o ysgolfeistri: Disgybl addawol ond rhaid iddo weithio’n galetach.

Val Feld spoken in English p. 62

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 62

I am pleased that Phil has raised the question of resources. One of the key issues with which the Committee is struggling—and one with which we all struggle in how we deal with Europe—relates to resources in terms of money and time. If we are to find a way through this we must determine priorities. We have a remarkable degree of cross-party agreement in relation to our need to interact more actively and to be more on top of the issues coming from Europe. At the moment, we do not have agreement on how we find that time and those resources. Those of us on the Committee who have been discussing matters such as our links with the motor regions and our potential to build relations, not only in Europe, but in other parts of the world, were shocked to realise how small the amounts of available resources are for this work, in terms of staff time and money. If we are to do more we must find more money to put into it. If we are to do more scrutinising of European legislation in our Committees, we must find time to enable us to do that. We are all struggling to find the time in our Subject Committees to deal with the everyday issues. I recognise the need to be alert to European legislation, as it impacts on agriculture, economic development and other areas.

Yr wyf yn falch bod Phil wedi codi cwestiwn adnoddau. Mae un o’r materion allweddol y mae’r Pwyllgor yn ymgodymu ag ef—ac un y byddwn oll yn ymgodymu ag ef yn y modd yr ydym yn delio ag Ewrop—yn ymwneud ag adnoddau ar ffurf arian ac amser. Os ydym i ddarganfod ffordd drwy hyn rhaid inni bennu blaenoriaethau. Mae gennym raddau rhyfeddol o gytundeb trawsbleidiol mewn perthynas â’n hangen i ryngweithio’n fwy egnïol a bod â mwy o feistrolaeth ar y materion sydd yn dod o Ewrop. Ar hyn o bryd, nid oes gennym gytundeb ynghylch y modd y deuwn o hyd i’r amser hwnnw a’r adnoddau hynny. Cafodd rheiny ohonom ar y Pwyllgor a fu’n trafod materion fel ein cysylltiadau â’r rhanbarthau ysgogol a’n potensial i greu cysylltiadau, nid yn unig yn Ewrop, ond mewn rhannau eraill o’r byd, sioc o sylweddoli mor fach yw symiau’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn, o ran amser staff ac arian. Os ydym yn mynd rhagor rhaid inni ddod o hyd i fwy o arian i’w roi iddo. Os ydym yn mynd i archwilio deddfwriaeth Ewropeaidd fwy yn ein Pwyllgorau, rhaid inni ddod o hyd i amser i’n galluogi i wneud hynny. Yr ydym oll yn ymdrechu i ganfod yr amser yn ein Pwyllgorau Pwnc i ddelio â’r materion bob dydd. Cydnabyddaf yr angen i fod yn effro i ddeddfwriaeth Ewropeaidd, gan ei bod yn effeithio ar amaethyddiaeth, datblygu economaidd a meysydd eraill.

How can we achieve this? I suggest to the First Secretary that, in considering the way forward, he should consider whether, in the budget discussions for Subject Committees, the question of resources for work with Europe could be raised. There is £100,000 currently not allocated, but that will not go very far. We will need to consider whether resources can be made available through different budget headings. We could also consider further how we share resources with other organisations that have legitimate interests and day-to-day relations with Europe, such as the Welsh Development Agency, the Wales Tourist Board, the Environment Agency and other organisations. One of the things that I have plugged away at, and will continue to do so, is whether we cannot, through the Assembly sponsored public bodies and our universities, have more secondments into Europe from those organisations, not only from the Assembly, where we are short on people. Can we do more to help and facilitate the interaction between Wales and Europe through a range of different organisations, in terms of people going to Europe and of building links? This brings me back to my previous contribution about community initiatives, where money will come to Wales. That money will foster those kinds of relationships and build those links. We must ensure that we make the maximum use of the community initiative funds that we receive over the next few years.

Sut y gallwn gyflawni hyn? Awgrymaf i’r Prif Ysgrifennydd y dylai, wrth ystyried y ffordd ymlaen, ystyried a ellid codi cwestiwn adnoddau ar gyfer gwaith gydag Ewrop yn nhrafodaethau’r gyllideb ar gyfer Pwyllgorau Pwnc. Mae £100,000 ar hyn o bryd sydd heb ei ddyrannu, ond nid â hynny’n bell iawn. Bydd angen inni ystyried a ellir darparu adnoddau drwy wahanol benawdau cyllideb. Gallem hefyd ystyried ymhellach sut yr ydym yn rhannu adnoddau gyda chyrff eraill sydd â buddiannau dilys a chysylltiadau o ddydd i ddydd ag Ewrop, fel Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a chyrff eraill. Un o’r pethau yr wyf wedi dyfalbarhau ag ef, ac y byddaf yn parhau i wneud, yw a allwn, drwy’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a’n prifysgolion, gael mwy o secondiadau i Ewrop o’r cyrff hynny, nid yn unig o’r Cynulliad, lle’r ydym yn brin o bobl. A allwn wneud mwy i helpu a hwyluso’r rhyngweithio rhwng Cymru ac Ewrop drwy amrediad o wahanol gyrff, o ran pobl yn mynd allan i Ewrop ac yn creu cysylltiadau? Daw hyn â mi’n ôl at fy nghyfraniad blaenorol ynghylch mentrau cymunedol, lle y daw arian i Gymru. Bydd yr arian hwnnw’n meithrin y mathau hynny o berthnasau ac yn creu’r cysylltiadau hynny. Rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio’r arian mentrau cymunedol a dderbyniwn i’r eithaf dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

My final point asks whether, in the Committee, we can go beyond the representation that we currently have from MEPs and the Committee of the Regions. Could we bring in people such as councillor Alan Lloyd from Swansea, who travels around Europe and other parts of the world in local government circles? Can we consider using our Committee as a place to co-ordinate Welsh activity across Europe? Ieuan Wyn Jones and I last week attended our first meeting as members of the WEC board. It was clear that the Assembly has a key role to play with the Wales European Centre, which brings together all the key organisations in taking a strategic approach to the way in which we interact with Europe. A discussion was held about enlargement and it became clear that people were looking to the Assembly—I do not know if Ieuan agrees—to take a lead in helping them with that debate, in terms of its timetable and its integration into other work that we are undertaking. If we cannot find a great deal of extra cash and extra time in the Assembly—which we probably cannot—we can become more effective in the way in which we work and co-ordinate our activities with other organisations that are already operating across Europe. We can then build a broad team Wales approach.

Y pwynt olaf sydd gennyf yw holi a allwn, yn y Pwyllgor, fynd ymhellach na’r gynrychiolaeth sydd gennym ar hyn o bryd gan Aelodau o Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. A allem gynnwys rhai fel y cynghorydd Alan Lloyd o Abertawe, sydd yn teithio o gwmpas Ewrop a rhannau eraill o’r byd ym maes llywodraeth leol? A allwn ystyried defnyddio’n Pwyllgor fel lle i gydlynu gweithgaredd Cymreig ledled Ewrop? Yr wythnos diwethaf bu Ieuan Wyn Jones a minnau’n bresennol yn ein cyfarfod cyntaf fel aelodau o fwrdd Canolfan Ewropeaidd Cymru. Yr oedd yn amlwg bod rôl allweddol gan y Cynulliad i’w chwarae gyda Chanolfan Ewropeaidd Cymru, sydd yn dod â’r holl gyrff allweddol at ei gilydd wrth ymdrin yn strategol â’r modd yr ydym yn rhyngweithio ag Ewrop. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch ehangu a daeth yn amlwg bod pobl yn disgwyl i’r Cynulliad—ni wn a yw Ieuan yn cytuno—arwain wrth eu helpu gyda’r ddadl honno, o ran ei hamserlen a’r modd i’w hintegreiddio â gwaith arall yr ydym yn ymgymryd ag ef. Os na allwn ddod o hyd i lawer iawn o arian ychwanegol ac amser ychwanegol yn y Cynulliad—ac ni allwn yn ôl pob tebyg—gallwn ddod yn fwy effeithiol yn y modd yr ydym yn gweithio ac yn cydlynu ein gweithgareddau gyda chyrff eraill sydd eisoes yn gweithredu ledled Ewrop. Gallwn wedyn greu dull gweithredu tîm Cymru eang.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 64

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 64

Yr wyf am wneud cyfraniad byr. Credaf fod cydnabyddiaeth gyffredinol yn y drafodaeth hon, ac yn sicr yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd, ein bod fel Cynulliad eisiau ymwneud mwy ag Ewrop a bod yn fwy ymwybodol o’r cyd-destun Ewropeaidd. Y cwestiwn mawr yw sut yn union y mae gwneud hynny. Cynigiais yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd fod pob grŵp yn cyflwyno papur ar y modd y gwelant hwy’r Pwyllgor yn symud ymlaen i weithredu’n effeithiol. Bydd hynny, gobeithio, yn sicrhau bod y drafodaeth y prynhawn yma yn parhau.

I will make a small contribution. I believe that there is general acknowledgement in this discussion, and certainly in the Committee on European Affairs, that we as an Assembly want to do more with Europe and be more aware of the European context. The big question is how exactly to do that. I suggested in the Committee on European Affairs that every group should present a paper on how they see the Committee moving forward to operate effectively. That, I hope, will ensure that this afternoon’s discussion continues.

Wrth reswm, nid oes modd inni ddelio â 12,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Fodd bynnag, clywn yn barhaus yn y Siambr hon am yr angen am ateb Cymreig i broblemau Cymreig. Mae angen ateb Cymreig i’r modd y gall Cymru gael ei chynrychioli yn Ewrop. Cefnogaf awgrym Val Feld fod eisiau presenoldeb corfforol y Cynulliad yn y trafodaethau gydag Ewrop. Mae angen inni fod yno yn trafod ac yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd. Pan aeth y Pwyllgor yno, dywedodd y swyddogion wrthym fod dau beth yn holl bwysig.

Of course, we cannot deal with 12,000 pieces of European legislation. However, we continuously hear in this Chamber about the need for a Welsh answer to Welsh problems. A Welsh answer is needed as to how Wales can be represented in Europe. I support Val Feld’s suggestion that the Assembly’s physical presence is needed in the discussions with Europe. We need to be there discussing and aware of what is happening. When the Committee went there, officials told us that there were two vitally important issues.

Mae angen inni ganfod yn gyflym y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth sydd yn berthnasol i Gymru a sicrhau ein bod yn dylanwadu arnynt yn gynnar yn y broses. Rhaid inni gael proses sydd yn ein galluogi i wneud hynny. Os oes yn rhaid buddsoddi arian yn hynny, byddai’n fuddsoddiad gwerthfawr iawn i ddyfodol Cymru, yn enwedig ar ôl saith mlynedd o drafodaethau Amcan 1 heb sôn am yr angen i wneud hynny ym maes amaethyddiaeth.

We need to find out quickly the regulations and legislation that are relevant to Wales and ensure that we influence them early on in the process. We must have a process that allows us to do that. If we need to invest money in that, it would be a valuable investment for the future of Wales, especially after seven years of Objective 1 discussions without mentioning the need to do that in the agricultural field.

Alun Pugh spoken in English p. 64

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 64

There are three flags outside this building. We in Welsh Labour are the only major political party to be entirely comfortable with our Welsh, British and European identity.

Mae tair baner y tu allan i’r adeilad hwn. Nyni yn Llafur Cymru yw’r unig blaid wleidyddol fawr sydd yn gwbl gysurus â’n hunaniaeth Gymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd.

Michael German spoken in English p. 65

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 65

I beg to differ. You will recall that the Liberal Democrats are very comfortable with being in a proud and confident Wales, a proud and confident Britain and a proud and confident Europe.

Mae arnaf ofn na allaf gytuno. Byddwch yn cofio bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyfforddus iawn ynghylch bod mewn Cymru falch a hyderus, Prydain falch a hyderus ac Ewrop falch a hyderus.

Alun Pugh spoken in English p. 65

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 65

Yes. I chose my words with immense care. I said major political party. [Laughter.]

Byddaf. Dewisais fy ngeiriau’n ofalus dros ben. Plaid wleidyddol fawr a ddywedais. [Chwerthin.]

The European Union generally gets a bad press. Rather than get involved with some of the minutia of the detail, it is worth reflecting on the European Union’s huge contribution to the history of Europe in the twentieth century. In the first half of the twentieth century, we saw Europe tearing itself apart. Millions of people were killed and tens of millions of people displaced. My grandfather’s generation fought in the trenches in France. My father’s generation fought against the Nazis. The second half of the twentieth century has been entirely different. There has been slow, steady progress towards building a union that makes armed conflict unimaginable and builds prosperity, stability and human rights for all of its citizens. My daughter’s generation now see Europe not as a place of conflict but as a good place to work and a great place to play—an institution that gave her holiday pay for her part-time job.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cael sylw gwael ar y cyfan. Yn hytrach nag ymhél â rhai o’r mân fanylion, mae’n werth myfyrio ynghylch cyfraniad anferth yr Undeb Ewropeaidd i hanes Ewrop yn yr ugeinfed ganrif. Yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gwelsom Ewrop yn ei thynnu ei hun yn ddarnau. Lladdwyd miliynau o bobl a dadleolwyd degau o filynau o bobl. Ymladdodd cenhedlaeth fy nhaid yn y ffosydd yn Ffrainc. Ymladdodd cenhedlaeth fy nhad yn erbyn y Natsïaid. Bu ail hanner yr ugeinfed ganrif yn gwbl wahanol. Bu cynnydd araf, cyson tuag at adeiladu undeb sydd yn ei gwneud yn amhosibl dychmygu gwrthdaro arfog ac sydd yn adeiladu ffyniant, sefydlogrwydd a hawliau dynol ar gyfer ei holl ddinasyddion. Mae cenhedlaeth fy merch yn gweld Ewrop yn awr nid fel man lle y mae gwrthdaro ond fel lle da i weithio a lle gwych i chwarae—sefydliad a roddodd dâl gwyliau iddi am ei swydd ran amser.

There are countries such as Spain in the European Union. Welsh trade unionists fought and lost the battle to preserve democracy in that country. Thirty years ago, it still had a dodgy human rights record. Today, however, Spain is a model democracy and its human rights are guaranteed by its membership of the European Union. It is easy to see why there is a long queue of members wishing to join up. The Czech Republic was a fairly dodgy place on human rights not so long ago. It was not a clever place to be an active trade unionist. The European Union offers the Czech Republic the prospect of cementing those recent democratic gains into place and offers the prospect of increased prosperity for its nation. It is time to stop knocking the European Union, to grow up, to accept that the UK is a full member of the European Union for good and to get it into context. We must accept that there will be failures. However, the real triumph of the European Union is that it has been good for its citizens and good for business too.

Yn yr Undeb Ewropeaidd ceir gwledydd fel Sbaen. Bu i undebwyr llafur Cymru ymladd a cholli’r frwydr i gadw democratiaeth yn y wlad honno. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yr oedd ei hanes hawliau dynol yn amheus o hyd. Heddiw, fodd bynnag, mae Sbaen yn batrwm o ddemocratiaeth a gwarentir ei hawliau dynol drwy ei haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Hawdd gweld pam y mae rhes hir o aelodau’n dymuno ymuno. Yr oedd y Weriniaeth Tsiec yn lle eithaf amheus o ran hawliau dynol yn weddol ddiweddar. Nid oedd yn lle doeth i fod yn undebwr llafur gweithgar. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig y gobaith i’r Weriniaeth Tsiec o osod yr enillion democrataidd diweddar hynny’n gadarn yn eu lle ac yn cynnig y gobaith o ffyniant cynyddol i’w phobl. Mae’n bryd rhoi’r gorau i ladd ar yr Undeb Ewropeaidd, i fod yn aeddfed, i dderbyn fod y DU yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd am byth a’i roi yn ei gyd-destun. Rhaid inni dderbyn y bydd methiannau. Fodd bynnag, gwir fuddugoliaeth yr Undeb Ewropeaidd yw y bu o les i’w ddinasyddion ac o les i fusnes hefyd.

Jane Davidson spoken in English p. 66

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 66

I will make two brief points on how we influence Europe. As I said in my short ‘thank you’ to David Steel earlier, we have an entirely new relationship; one between the Assembly and Europe rather than one between the previous Welsh Office and Europe. We must take the greatest possible advantage of that. Recently, I attended a set of meetings in Brussels in my role as Deputy Presiding Officer. I came away with two abiding views as a result of those meetings, which included meeting the Wales European Centre’s staff, representatives of UKREP and representatives of regions that have their regional offices in Brussels. I wrote a report to the Business Committee on the basis of those meetings.

Gwnaf ddau bwynt byr ar y modd yr ydym yn dylanwadu ar Ewrop. Fel y dywedais yn fy ngair byr o ddiolch i David Steel yn gynharach, mae gennym berthynas gwbl newydd; un rhwng y Cynulliad ac Ewrop yn hytrach na’r un rhwng y gyn Swyddfa Gymreig ac Ewrop. Rhaid inni fanteisio i’r graddau mwyaf posibl ar hynny. Yn ddiweddar, mynychais set o gyfarfodydd ym Mrwsel yn fy rôl fel Dirprwy Lywydd. Deuthum oddi yno â dwy farn arhosol o ganlyniad i’r cyfarfodydd hynny, a oedd yn cynnwys cyfarfod staff Canolfan Ewropeaidd Cymru, cynrychiolwyr UKREP a chynrychiolwyr rhanbarthau sydd â’u swyddfeydd rhanbarthol ym Mrwsel. Ysgrifennais adroddiad i’r Pwyllgor Busnes ar sail y cyfarfodydd hynny.

Two issues arose from them. First, when we were talking about the development of European legislation, it was clear from the contact with officers of the Commission, WEC and UKREP, that legislation often begins—as it does in any civil service, whether European or British—with desk officers, who are asked to work up a proposition. It was felt to be crucial that we have people in Brussels who can relate to desk officers when they are doing that work, at the beginning of any proposal that might ultimately become a European regulation. That is where WEC’s role is so important. However, not just WEC’s role, but how the Assembly relates to WEC and how all its other members relate to it, is important in ensuring that Welsh views are put in at the earliest possible stage of any proposals which may come forward.

Cododd dau fater ohonynt. Yn gyntaf, pan oeddem yn sôn am ddatblygiad deddfwriaeth Ewropeaidd, yr oedd yn amlwg o’r cysylltiad â swyddogion o’r Comisiwn, Canolfan Ewropeaidd Cymru ac UKREP fod deddfwriaeth yn aml yn dechrau—fel y mae mewn unrhyw wasanaeth sifil, boed Ewropeaidd neu Brydeinig—gyda swyddogion desg, y gofynnir iddynt baratoi cynnig. Teimlid ei bod yn holl bwysig inni gael pobl ym Mrwsel sydd yn gallu ymwneud â swyddogion desg pan ydynt yn gwneud y gwaith hwnnw, ar ddechrau unrhyw gynnig a allai ddod yn rheoliad Ewropeaidd yn y pen draw. Dyna lle y mae rôl Canolfan Ewropeaidd Cymru mor bwysig. Fodd bynnag, nid rôl Canolfan Ewropeaidd Cymru’n unig, ond mae’r modd y mae’r Cynulliad yn ymwneud â Chanolfan Ewropeaidd Cymru a’r modd y mae ei holl aelodau eraill yn ymwneud â hi, yn bwysig wrth sicrhau y caiff barn o Gymru ei chynnwys yn y cam cynharaf posibl o unrhyw gynigion a allai gael eu cyflwyno.

That brings me to secondments. I was pleased to see the Assembly’s emphasis on considering this. I have always strongly supported secondments and not necessarily on a two-way basis. Secondments are not just opportunities for the individual, but major opportunities for the institution. In this case, the institution is Wales, not the National Assembly. We have a large range of Assembly sponsored public bodies. As Val said, we have many skills in Wales and could second those people to Europe. We must find the most opportunities to do that. This is not just about seconding our civil servants, but those who have skills and can promote Wales. Such secondments may require lateral thinking to make them work. For example, UKREP only takes secondments from the civil service. If, in the future, we want to consider ensuring that people with particular skills and a particular Welsh perspective, which we might want to support, have opportunities for such secondments, then we may need to consider a ‘double jump’ such as you get on a draughts or a chess board, and second someone into the Assembly first, so that he or she can then be seconded to a post of influence.

Daw hynny â mi at secondiadau. Yr oeddwn yn falch o weld pwyslais y Cynulliad ar ystyried hyn. Yr wyf yn gefnogol iawn erioed i secondiadau ac nid o reidrwydd ar sail ddwy ffordd. Nid cyfleoedd i’r unigolyn yn unig mo secondiadau, ond cyfleoedd mawr i’r sefydliad. Yn yr achos hwn, y sefydliad yw Cymru, nid y Cynulliad Cenedlaethol. Mae gennym amrediad mawr o gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Fel y dywedodd Val, mae gennym lawer o sgiliau yng Nghymru a gallem secondio’r bobl hynny i Ewrop. Rhaid inni ddarganfod y cyfleoedd mwyaf i wneud hynny. Nid secondio ein gweision sifil yn unig sydd dan sylw yma, ond y rhai sydd â sgiliau ac sydd yn gallu hyrwyddo Cymru. Efallai y bydd angen meddwl yn ochrol ynghylch secondiadau o’r fath er mwyn eu cael i weithio. Er enghraifft, nid yw UKREP ond yn derbyn secondiadau o’r gwasanaeth sifil. Os ydym, yn y dyfodol, yn dymuno ystyried sicrhau cyfleoedd am secondiadau o’r fath i bobl â sgiliau arbennig a safbwynt Cymreig arbennig, y gallem ddymuno ei gefnogi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni ystyried ‘naid ddwbl’ fel y cewch ar fwrdd drafftiau neu wyddbwyll, a secondio rhywun i’r Cynulliad yn gyntaf, fel y gellir secondio ef neu hi i swydd o ddylanwad.

The posts of influence will be important. What also came out of my visit was that, in the memorandum of understanding and the concordat with Whitehall, we have provision for Wales to lead on certain issues, where appropriate. There is specification about what such issues would be. We all understand that, for example, one would expect Wales to take the lead when we talk about minority languages. However, our ambitions can be set higher than that. We have the most representative Chamber—in the whole of the world, I understand, following the Commonwealth Parliamentary Association conference—in terms of equal opportunities. Given that, our Cabinet mix of five women and five men and our commitment to equal opportunities in our Standing Orders, then we have an extremely positive message to send from Wales to a European institution that is mainstreaming equal opportunities. I could see Wales playing a significant role in promoting that agenda in that institution. The mechanisms that we use to engage with each other in the Chamber would be a fantastic contribution to Europe’s consideration of a White Paper on communications and IT. We are far advanced of other local democracies in this, having had locally library link launches throughout Wales to extend it to the public as well. Once again, we have a positive message to send out. We should be in a position where UKREP talks to us about how we can properly represent Wales and show that devolution works, in the sense that we can achieve things that would be of benefit to other members in the UK and elsewhere in Europe.

Bydd y swyddi o ddylanwad yn bwysig. Y peth arall a gododd o’m hymweliad oedd bod gennym ddarpariaeth, yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a’r concordat â Whitehall, i Gymru arwain ar rai materion, lle y bo’n briodol. Mae dyfalu ynghylch beth fyddai’r materion hynny. Yr ydym oll yn deall, er enghraifft, y byddai rhywun yn disgwyl i Gymru arwain pan soniwn am ieithoedd lleiafrifol. Fodd bynnag, gallwn fod yn fwy uchelgeisiol na hynny. Gennym ni y mae’r Siambr fwyaf cynrychioladol—drwy’r byd, yr wyf yn deall, ar ôl cynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad—o ran cyfleoedd cyfartal. O dderbyn hynny, ein cymysgedd yn y Cabinet o bum benyw a phum dyn a’n hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal yn ein Rheolau Sefydlog, mae gennym neges gadarnhaol dros ben i’w lledaenu o Gymru i sefydliad Ewropeaidd sydd yn rhoi cyfleoedd cyfartal yn y brif ffrwd. Gallwn ddychmygu Cymru’n chwarae rôl o bwys wrth hybu’r agenda honno yn y sefydliad hwnnw. Byddai’r mecanweithiau a ddefnyddiwn i ymwneud â’n gilydd yn y Siambr yn gyfraniad gwych i ystyriaeth Ewrop o Bapur Gwyn ar gyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth. Yr ydym ymhell ar y blaen i ddemocratiaethau lleol eraill yn hyn o beth, ar ôl cael lansiadau cyswllt lleol mewn llyfrgelloedd ledled Cymru er mwyn ei ymestyn i’r cyhoedd hefyd. Unwaith eto, mae gennym neges gadarnhaol i’w lledaenu. Dylem fod mewn sefyllfa lle y mae UKREP yn siarad â ni ynghylch sut y gallwn gynrychioli Cymru’n briodol a dangos bod datganoli’n gweithio, yn yr ystyr y gallwn gyflawni pethau a fyddai o les i aelodau eraill yn y DU ac mewn mannau eraill yn Ewrop.

My last point relates to culture. When you consider our recent debate, started by Tom Middlehurst, on the film industry, an extraordinary number of people from Wales are involved in exciting culture-related industries across the world. A major message can be promoted. No other part of the UK can match us on such issues. We must start considering those kinds of opportunities. I am confident that the First Secretary already does so but, as an Assembly, we should start to consider our strengths and how we can positively convey that message in Europe so that we influence at desk officer level in WEC, UKREP and the Council of Ministers.

Mae’r pwynt olaf sydd gennyf yn ymwneud â diwylliant. Pan ystyriwch ein dadl ddiweddar, a ddechreuwyd gan Tom Middlehurst, ar y diwydiant ffilm, mae nifer ryfeddol o bobl o Gymru’n ymwneud â diwydiannau cyffrous sydd yn gysylltiedig â diwylliant ledled y byd. Gellir hyrwyddo neges o bwys. Ni all yr un rhan arall o’r DU gystadlu â ni ar faterion o’r fath. Rhaid inni ddechrau ystyried cyfleoedd o’r mathau hynny. Yr wyf yn sicr bod y Prif Ysgrifennydd yn gwneud hynny eisoes ond, fel Cynulliad, dylem ddechrau ystyried ein cryfderau a sut y gallwn gyfleu’r neges honno’n gadarnhaol yn Ewrop fel ein bod yn dylanwadu ar lefel y swyddogion desg, yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru, UKREP a Chyngor y Gweinidogion.

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 68

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh and English p. 68

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.

in Welsh I thank everyone who took part in this afternoon’s debate.

In summing up, the broad thrust of this afternoon’s debate plays back in some ways to the earlier statement and questions on Objective 1. That is, how we network to get the best deal possible and contribute where we have taken a lead or have something special to contribute. I consider the Irish Republic and what it has done since it entered the European Community at the same time as us, on 1 January 1973. It had a huge advantage from increases in milk prices. One day, farmers received 12p for a gallon of milk. The following day, they received 60p per gallon. Much extra bounce went into the Irish economy. Ireland also had the advantage of structural funds and Objective 1 funding, as we mentioned earlier.

yn Saesneg Wrth grynhoi, mae pwyslais cyffredinol y ddadl y prynhawn yma yn ailadrodd rhai o ystyron y datganiad a’r cwestiynau cynharach ar Amcan 1. Hynny yw, sut yr ydym yn rhwydweithio er mwyn cael y fargen orau posibl a chyfrannu lle’r ydym wedi arwain neu pan fo gennym rywbeth arbennig i’w gyfrannu. Ystyriaf Weriniaeth Iwerddon a’r hyn a wnaeth ers iddi ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd ar yr un diwrnod â ni, ar 1 Ionawr 1973. Cafodd fantais aruthrol o godiadau mewn prisiau llaeth. Un diwrnod, yr oedd ffermwyr yn derbyn 12c am alwyn o laeth. Drannoeth, yr oeddent yn derbyn 60c y galwyn. Cafodd economi Iwerddon hwb mawr ychwanegol. Hefyd cafodd Iwerddon y fantais o gronfeydd strwythurol ac arian Amcan 1, fel y dywedasom yn gynharach.

However, Ireland paid an enormous amount of attention to how to build up a cadre of people in Ireland, and from Ireland in Europe, who had the expertise on Europe and who networked furiously back and forth among each other to secure deals, such as that on reduced corporation tax. That could have been banned but, because Ireland had those networking strengths, it did not get banned. Ireland could put that together because it had that body of people. It managed to second people to Europe, who then returned to Ireland to the civil service, to its equivalent of the Confederation of British Industry, to the farmers’ unions and to the trade union movement. All of them could speak the same language and knew who they needed to ring and what their extension number was in the Commission civil service, the Parliament and so on to get a key decision made so that Ireland could get what it needed.

yn Saesneg Fodd bynnag, rhoddodd Iwerddon sylw mawr iawn i’r modd o greu cnewyllyn o bobl yn Iwerddon, ac o Iwerddon yn Ewrop, a chanddynt arbenigedd ar Ewrop ac a oedd yn rhwydweithio’n wyllt yn ôl ac ymlaen ymysg ei gilydd er mwyn sicrhau cytundebau, fel hwnnw ar dreth gorfforaeth is. Gallasai hynny fod wedi ei wahardd ond, am fod gan Iwerddon y cryfderau rhwydweithio hynny, ni chafodd ei wahardd. Gallai Iwerddon roi hynny wrth ei gilydd am fod ganddi’r corff hwnnw o bobl. Llwyddodd i secondio pobl i Ewrop, a ddaeth yn ôl wedyn i Iwerddon i’r gwasanaeth sifil, i’r hyn sydd yn cyfateb yno i Gyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain, i undebau’r ffermwyr ac i’r mudiad undebau llafur. Yr oedd pob un ohonynt yn medru’r un iaith a gwyddent pwy y dylent ei ffonio a beth oedd rhif ei estyniad yng ngwasanaeth sifil y Comisiwn, y Senedd ac ati er mwyn cael penderfyniad allweddol wedi ei wneud fel y gallai Iwerddon gael yr hyn yr oedd arni ei angen.

We could take a long time to develop that kind of expertise. However, I have no doubt that we must work on that. That is how you become a fully-fledged country that can take its place, not as a member state—we will not be a member state—but as a body of 3 million people that can punch its weight in Europe, can get what it wants from it and can make a contribution to the 300 million or 400 million citizens of Europe.

yn Saesneg Gallai gymryd cryn amser inni ddatblygu arbenigedd o’r fath. Fodd bynnag, yr wyf yn sicr bod yn rhaid inni weithio ar hynny. Dyna sut y gallwch ddod yn wlad gyflawn sydd yn gallu cymryd ei lle, nid fel aelod wladwriaeth—ni fyddwn yn aelod wladwriaeth—ond fel corff o 3 miliwn o bobl a all daflu ei bwysau yn Ewrop, a all gael yr hyn y mae’n ei ddymuno ganddi ac a all wneud cyfraniad i’r 300 miliwn neu 400 miliwn o ddinasyddion Ewrop.

Dafydd Wigley spoken in English p. 69

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 69

I noted the First Secretary’s comment that we would not be a member state. If Europe develops into a federal Europe over the coming decades and we have a united states of Europe, of which Catalonia and Bavaria may be member states, would he want us to be such a member, not a fringe on an offshore island?

Nodais sylw’r Prif Ysgrifennydd na fyddem yn aelod wladwriaeth. Os yw Ewrop yn datblygu’n Ewrop ffederal dros y degawdau sydd i ddod a ninnau ag unol daleithiau Ewrop, y gallai Catalonia a Bafaria fod yn aelod wladwriaethau ynddo, a ddymunai inni fod yn aelod o’r fath, nid yn ymyl ar ynys bell o’r lan?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 69

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 69

The Assembly can do much better than that without being a member state. The built-in Maastricht Treaty protection provides that, if more powers are transferred from a member state to the central bodies of Europe, as happened with Maastricht, the local ability to express views through local parliaments or assemblies must be reinforced. We should encourage having more ability to express what Wales needs within the European set-up. I am never certain of Plaid Cymru’s policy on this matter, but I will accept Dafydd’s definition of it until at least the end of July when there may be another definition, but I do not want to get into Plaid Cymru internal rivalries. However, the member state issue is a major jump that is not on the agenda. We can make enormous strides forward using the principle established in the Maastricht Treaty: transferring more powers to the centre and building in more protection at the regional or small nation level, as we have via the Assembly.

Gall y Cynulliad wneud yn llawer gwell na hynny heb fod yn aelod wladwriaeth. Mae’r amddiffyniad a gynhwyswyd yng Nghytundeb Maastricht yn rhagnodi, os trosglwyddir mwy o bwerau o aelod wladwriaeth i gyrff canolog Ewrop, fel a ddigwyddodd gyda Chytundeb Maastricht, y bydd yn rhaid atgyfnerthu’r gallu lleol i fynegi barn drwy seneddau neu gynulliadau lleol. Dylem annog cael mwy o allu i fynegi’r hyn y mae ar Gymru ei angen oddi mewn i’r gyfundrefn Ewropeaidd. Nid wyf byth yn sicr beth yw polisi Plaid Cymru ar y mater hwn, ond derbyniaf ddiffiniad Dafydd ohono hyd ddiwedd Gorffennaf o leiaf pan ellid cael diffiniad arall, ond ni ddymunaf ymhel ag ymrysonau mewnol Plaid Cymru. Fodd bynnag, mae mater aelod wladwriaeth yn naid fawr nad yw ar yr agenda. Gallwn wneud camau breision ymlaen gan ddefnyddio’r egwyddor a sefydlwyd yng Nghytundeb Maastricht: trosglwyddo mwy o bwerau i’r canol a chreu mwy o amddiffyniad ar lefel y rhanbarth neu’r genedl fach, fel y gwnaethom ni drwy’r Cynulliad.

I was pleased that at least one speaker, Alun Pugh, mentioned the European Union’s fundamental purpose. It is not about straightening cucumbers and bending bananas, but about trying to ensure that there is no reversion to the two World Wars of 1914-18 and 1939-45. To do that, trade barriers and suspicions must be reduced and a better understanding of our different cultures, ways of doing business and different languages must be developed to produce greater toleration. That is how to build a greater, more powerful trading block of different citizens who are all part of a new Europe and therefore better able to compete and not be out-competed by the United States of America—

Yr oeddwn yn falch bod o leiaf un siaradwr, Alun Pugh, wedi sôn am bwrpas sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw’n ymwneud â sythu cucumerau a phlygu bananas, ond â cheisio sicrhau nad oes troi’n ôl at y ddau Ryfel Byd yn 1914-18 a 1939-45. Er mwyn gwneud hynny, rhaid lleihau rhwystrau masnach ac amheuon, a datblygu gwell dealltwriaeth o’n gwahanol ddiwylliannau, ein dulliau o wneud busnes a’n gwahanol ieithoedd er mwyn creu mwy o oddefgarwch. Dyna’r modd i adeiladu bloc masnachu ehangach, mwy grymus o ddinasyddion gwahanol sydd oll yn rhan o Ewrop newydd ac yn fwy galluog felly i gystadlu ac i beidio â chael eu trechu gan Unol Daleithiau America—

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 70

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 70

Knowing of David Davies’s interest in Europe, I am happy to give way.

Gan wybod am ddiddordeb David Davies yn Ewrop, yr wyf yn falch o ildio.

David Davies spoken in English p. 70

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 70

Does the First Secretary agree that the people of Britain voted to join a common market, expecting it to be merely a trading union? Does he also agree that it would be reprehensible to try to establish a sort of federal state of Europe, which would go against the wishes of the British people?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno bod pobl Prydain wedi pleidleisio dros ymuno â marchnad gyffredin, gan ddisgwyl na fyddai ond yn undeb masnachu? A yw hefyd yn cytuno y byddai’n resynus ceisio sefydlu math o wladwriaeth ffederal Ewrop a âi’n groes i ddymuniadau pobl Prydain?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 70

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 70

The trading block issue is an important part of producing greater toleration between countries. David cannot say that a trading block—just a cold customs union—never has cultural or political consequences. We will have to see what the people of Britain say about that and whether they see mileposts beyond which they will never go. That may be an issue at the next general election, therefore I should not discuss it today. It would be a diversion.

Mae’r mater bloc masnachu yn rhan bwysig o greu mwy o oddefgarwch rhwng gwledydd. Ni all David ddweud na chaiff bloc masnachu—dim ond undeb tollau oeraidd—ganlyniadau diwylliannol neu wleidyddol o gwbl. Bydd yn rhaid inni weld beth a ddywed pobl Prydain am hynny ac a welant gerrig milltir na fyddant byth yn mynd heibio iddynt. Efallai y bydd hynny’n gwestiwn yn yr etholiad cyffredinol nesaf, felly ni ddylwn ei drafod heddiw. Byddai’n creu gwrthdyniad.

I want to mention Jane Davidson’s points about equal opportunities, the application of new technology to the way we carry out our business and the minority languages issue. Institutions of British Government in its different layers may ask us to make a special contribution about those issues at the relevant Council of Ministers meeting. They can also be economic issues, as with Scotland on aspects of fishing. Issues relevant to Wales could be steel, tinplate or sheep—any issue in which we have a larger interest than the normal 5 per cent in terms of population. In industries such as tinplate, we produce 100 per cent of the British output. We also produce 50 or 60 per cent of the output of industries such as steel, and we are big producers of sheep meat. We may be asked in time to lead a UK delegation on such issues.

Dymunaf sôn am bwyntiau Jane Davidson am gyfleoedd cyfartal, cymhwyso technoleg newydd at y modd y cyflawnwn ein busnes a’r mater ieithoedd lleiafrifol. Gallai sefydliadau Llywodraeth Prydain yn ei gwahanol haenau ofyn inni wneud cyfraniad arbennig ar y materion hynny yn y cyfarfod perthnasol o Gyngor y Gweinidogion. Gallant hefyd fod yn faterion economaidd, fel yn achos yr Alban ar agweddau ar bysgota. Gallai’r materion sydd yn berthnasol i Gymru fod yn ddur, tunplat neu ddefaid—unrhyw fater y mae gennym fwy o fuddiant ynddo na’r 5 y cant arferol o ran poblogaeth. Mewn diwydiannau fel tunplat, cynhyrchwn 100 y cant o gynnyrch Prydain. Yr ydym hefyd yn cynhyrchu 50 neu 60 y cant o gynnyrch diwydiannau fel dur, ac yr ydym yn gynhyrchwyr mawr o gig defaid. Efallai y gofynnir inni arwain dirprwyaeth o’r DU ar faterion o’r fath yn ein tro.

Jane Davidson’s points about equal opportunities are true. If asked which body of a parliamentary character has the strongest evidence of equal opportunities, you may well answer objectively that it is the Assembly. There is also the question of secondment via ASPBs—our quangos—and other bodies, such as local authorities. I would like to see the bigger local authorities, such as Cardiff City and County Council, the City and County of Swansea and Wrexham County Borough Council seconding people to Europe to build up their expertise. The issue that has vexed us most is whether we scrutinise or not. That is a major burden. We should look to have a triage system where we consider the legislation briefly and whether it is likely to be of interest, and then disregard nine-tenths of it because it is turgid and of no direct relevance to us, then try to scrutinise the one-tenth that might have an impact on Wales via the appropriate Subject Committee.

Mae pwyntiau Jane Davidson ynghylch cyfleoedd cyfartal yn wir. Os gofynnir ichi ba gorff o natur seneddol sydd â’r dystiolaeth gryfaf o gyfleoedd cyfartal, mae’n bosibl ichi ateb yn wrthrychol mai’r Cynulliad ydyw. Ceir hefyd y cwestiwn o secondio drwy gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad—ein cwangos—a chyrff eraill, fel awdurdodau lleol. Hoffwn weld yr awdurdodau lleol mwy, fel Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn secondio pobl i Ewrop i gryfhau eu harbenigedd. Y cwestiwn sydd wedi ein poeni fwyaf yw a ddylem archwilio ai peidio. Mae hynny’n faich mawr. Dylem anelu at gael system flaenoriaethu lle yr ydym yn ystyried y ddeddfwriaeth yn fyr ac a yw’n debygol o fod o ddiddordeb, ac wedyn yn diystyru naw rhan o ddeg ohoni am ei bod yn chwyddedig a heb fod yn uniongyrchol berthnasol i ni, wedyn yn ceisio archwilio’r un rhan o ddeg a allai effeithio ar Gymru drwy’r Pwyllgor Pwnc priodol.

I understand Phil’s point that there are not enough real things being done as distinct from swapping views at the early meetings. Although I was not present at the meeting on 8 June, my understanding is that that meeting was different and many matters were put up for decision, rather than simply being noted. Some issues will fall to the Committee on European Affairs, as a Standing Committee. For instance, it would be that Committee and not a Subject Committee of the Assembly that would discuss whether or how we should adopt the European Charter of Fundamental Rights. We do not want to duplicate work that is already done in the House of Commons.

Deallaf bwynt Phil na wneir digon o bethau gwirioneddol ar wahân i gyfnewid barn yn y cyfarfodydd cynnar. Er nad oeddwn yn bresennol yn y cyfarfod ar 8 Mehefin, yr hyn a ddeallaf fi yw bod y cyfarfod hwnnw’n wahanol a bod llawer o faterion wedi eu cyflwyno ar gyfer penderfyniad, yn hytrach na chael eu nodi’n unig. Bydd rhai materion yn gyfrifoldeb i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd, fel Pwyllgor Sefydlog. Er enghraifft, y Pwyllgor hwnnw ac nid un o Bwyllgorau Pwnc y Cynulliad a drafodai a ddylem neu sut y dylem fabwysiadu’r Siarter Hawliau Sylfaenol Ewropeaidd. Ni ddymunwn ddyblygu gwaith a wneir eisoes yn Nhŷ’r Cyffredin.

I want to respond to the points that have been made about the Länder governments in Germany. They have a formal written constitution. They have a place in the German constitution and are guaranteed seats. Although they sometimes do not enter the room of the Council of Ministers, they must be consulted. I think that there are 17 Länder in Germany since they have also taken over eastern Germany. They arrange that one or two of the Länder represent the 17 at meetings of the Council of Ministers. I do not know how the British constitution will cope with that in terms of Scotland, Wales and Northern Ireland. However, it is a matter for us to think seriously about.

Dymunaf ymateb i’r pwyntiau a wnaethpwyd am lywodraethau’r Länder yn yr Almaen. Mae ganddynt gyfansoddiad ysgrifenedig ffurfiol. Mae ganddynt le yng nghyfansoddiad yr Almaen a gwarentir seddau iddynt. Er na fyddant weithiau’n mynd i ystafell Cyngor y Gweinidogion, rhaid ymgynghori â hwy. Credaf fod 17 o Länder yn yr Almaen gan eu bod hefyd wedi cymryd dwyrain yr Almaen drosodd. Trefnant fod un neu ddau o’r Länder yn cynrychioli’r 17 yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion. Ni wn sut y bydd y cyfansoddiad Prydeinig yn dygymod â hynny o ran yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae’n fater inni ei ystyried o ddifrif.

We are not just talking about Objective 1, the structural funds or getting more money out of Europe. We are talking about important issues such as the impact of the euro on Wales if we join or if we do not join. We are talking about enlargement and how Tuscany and Austria are allegedly able to secure a GM-free role for themselves when Europe tells us that we cannot. We are interested in swapping information of this kind. That is why we are happy to support the amendments in the names of Nick Bourne and Mick Bates. I am grateful that we have had such a constructive debate this afternoon.

Nid ydym ond yn sôn am Amcan 1, y cronfeydd strwythurol neu gael mwy o arian o Ewrop. Yr ydym yn sôn am faterion pwysig fel effaith yr ewro ar Gymru os ymunwn neu os nad ymunwn. Yr ydym yn sôn am ehangu a gallu honedig Twsgani ac Awstria i sicrhau rôl rydd rhag addasu genetig pan ddywed Ewrop wrthym na allwn. Mae gennym ddiddordeb mewn cyfnewid gwybodaeth o’r math hwn. Dyna pam yr ydym yn falch o gefnogi’r gwelliannau yn enwau Nick Bourne a Mick Bates. Yr wyf yn ddiolchgar ein bod wedi cael dadl mor adeiladol y prynhawn yma.

Gwelliant 1 Nick Bourne t. 72

Amendment 1 Nick Bourne p. 72

DerbyniwydAdopted O blaidFor 53 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (53)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 2 Mick Bates t. 73

Amendment 2 Mick Bates p. 73

DerbyniwydAdopted O blaidFor 53 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (53)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 53 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (53)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dadl Plaid Leiafrifol (Y Blaid Geidwadol)

Minority Party Debate (The Conservative Party)

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 76

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 76

Before I call Peter Rogers to propose the motion for the Conservative group, 10 Members have indicated that they wish to contribute to the debate. Therefore, if all speakers remain within the standard five-minute time limit which is in our protocol you will all be accommodated.

Cyn imi alw ar Peter Rogers i gynnig y cynnig ar ran y grŵp Ceidwadol, mae 10 Aelod wedi nodi eu bod yn dymuno cyfrannu at y ddadl. Felly, os yw’r holl siaradwyr yn aros oddi mewn i’r terfyn amser pum munud arferol sydd yn ein protocol byddwch oll wedi’ch cynnwys.

I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies, amendment 2 in the name of Jenny Randerson, amendment 3 in the name of Andrew Davies and amendment 4 in the name of Mick Bates.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies, gwelliant 2 yn enw Jenny Randerson, gwelliant 3 yn enw Andrew Davies a gwelliant 4 yn enw Mick Bates.

Peter Rogers spoken in English p. 76

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 76

I propose that

Cynigiaf fod

Peter Rogers (continued) spoken in English p. 77

Peter Rogers (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 77

I am a farmer and have supported all the hunting rallies. The Welsh Conservative Party calls on the Assembly to support this motion. The Burns inquiry has produced a complete report on hunting with dogs. I know that most Members will not have read it from cover to cover. However, you need to read it if you want to understand the issues, which you will find as complex as the countryside itself.

Yr wyf yn ffermwr ac yr wyf wedi cefnogi’r holl ralïau hela. Mae Plaid Geidwadol Cymru yn galw ar y Cynulliad i gefnogi’r cynnig hwn. Mae ymchwiliad Burns wedi cynhyrchu adroddiad cyflawn ar hela â chŵn. Gwn na fydd y rhan fwyaf o’r Aelodau wedi ei ddarllen o glawr i glawr. Fodd bynnag, mae angen ichi ei ddarllen os mynnwch ddeall y materion, y byddwch yn eu cael mor gymhleth â chefn gwlad ei hun.

There is no comfort in the report for those who support a ban. We must realise that Wales is different because of its countryside and its terrain. Unlike England, 82 per cent of Wales’s land is defined as less favoured areas, which means that it is rugged land, impossible to tame and difficult to manage. For this reason it is always necessary to use dogs to control foxes. The Burns report rightly states that hunting foxes with dogs has an element of welfare compromise, but in the same breath it recognises that other methods of control, such as shooting, snaring, gassing and trapping, have an equal and, in evidenced cases, a higher risk of welfare compromise. It is interesting that the Burns report recognises that foxes are a serious threat to livestock in upland areas. I hope that Lorraine Barrett takes note of that because, in July 1999, she claimed in this Chamber that

Nid oes cysur yn yr adroddiad i’r rheini sydd o blaid gwaharddiad. Rhaid inni sylweddoli bod Cymru’n wahanol oherwydd ei chefn gwlad a’i thir. Yn wahanol i Loegr, mae 82 y cant o dir Cymru wedi ei ddiffinio’n ardaloedd llai ffafriol, sydd yn golygu ei fod yn dir garw, yn amhosibl ei ddofi ac yn anodd ei reoli. Oherwydd hynny rhaid defnyddio cŵn bob amser i reoli llwynogod. Dywed adroddiad Burns yn briodol fod elfen o berygl i les mewn hela llwynogod â chŵn, ond ar yr un gwynt mae’n cydnabod bod risg cyfartal, ac uwch mewn achosion profedig, o berygl i les o ddulliau rheoli eraill, fel saethu, maglu, gwenwyno â nwy a thrapio. Mae’n ddiddorol bod adroddiad Burns yn cydnabod bod llwynogod yn fygythiad difrifol i dda byw mewn ardaloedd mynyddig. Gobeithiaf y bydd Lorraine Barrett yn nodi hynny oherwydd, yng Ngorffennaf 1999, honnodd yn y Siambr hon fod

‘Lamb deaths caused by foxes are insignificant compared with deaths due to…malnutrition or hypothermia.’

‘Mae marwolaethau ŵyn a achoswyd gan lwynogod yn bitw o gymharu â marwolaethau oherwydd . . .diffyg maeth neu hypothermia.’

That statement was an insult to the integrity of farming people. It highlights the absolute ignorance of our way of life by the very party that is trying to legislate against it.

Yr oedd y datganiad hwnnw’n sarhad ar onestrwydd pobl sydd yn ffermio. Mae’n tynnu sylw at yr anwybodaeth lwyr ynghylch ein ffordd o fyw sydd gan yr union blaid sydd yn ceisio deddfu yn ei erbyn.

It is relevant that I am proposing this motion as I come from Ynys Môn, which was at one time fox free. The foxes probably came over with the railway bridge and they are now a pest for the farmers. There is no evidence that the fox has a predator and, therefore, it must be controlled by humans using dogs. According to the Burns report, a ban on hunting would impact on rural Wales in such a way that approximately 1,000 full-time jobs and a further 1,200 part-time jobs would be lost. This would take between seven to 10 years to offset in already deeply depressed rural areas. Do we, as an elected body, wish to burden this upon rural Wales? This is a significant threat to many livelihoods in Welsh rural areas, at a time when the National Assembly is attempting to repair a badly mauled agricultural community. It is a shame that the people who stand to lose the most are so frequently overlooked.

Mae’n berthnasol mai myfi sydd yn cynnig y cynnig hwn gan fy mod yn un o Fôn, a oedd ar un adeg yn rhydd rhag llwynogod. Daeth y llwynogod drosodd gyda phont y rheilffordd yn ôl pob tebyg ac maent bellach yn bla i ffermwyr. Nid oes tystiolaeth bod y llwynog yn ysglyfaeth i ddim arall ac, felly, rhaid ei reoli gan bobl yn defnyddio cŵn. Yn ôl adroddiad Burns, byddai gwahardd hela yn effeithio ar y Gymru wledig yn y fath fodd ag y collid tua 1,000 o swyddi llawn amser a 1,200 o swyddi rhan amser ar ben hynny. Cymerai rhwng saith a 10 mlynedd i wneud iawn am hynny mewn ardaloedd gwledig sydd eisoes yn ddirwasgedig iawn. A ydym ni, fel corff etholedig, yn dymuno rhoi’r baich hwn ar gefn gwlad Cymru? Mae hyn yn fygythiad sylweddol i lawer o fywiolaethau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, ar adeg pan y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio adfer cymuned amaethyddol a larpiwyd yn ddrwg. Mae’n drueni bod y rhai sydd mewn perygl o golli’r mwyaf yn cael eu hanwybyddu mor aml.

Employment is linked to the significance of hunting in Welsh rural life. Hunting with dogs is vital for the life of the countryside, simply because it brings people together. In rural areas, communities are formed differently to those in towns and cities. Farming does not encourage a huge amount of contact between farms and farmers; it is rare for social occasions to bring rural people together from far and wide. Can you think of any better training in community spirit for country people than to spend every Saturday during early winter controlling the foxes, which are the most serious natural enemy of the sheep farmer? These hunters are a mixture of all ages—a rare thing in these times. Members of groups work hard together and succeed together, through discipline: the handling of dogs, the training to respect guns, the friendship, the respect and, above all, the love for the countryside. Those are the factors that bond groups together.

Mae gwaith yn gysylltiedig â phwysigrwydd hela ym mywyd cefn gwlad Cymru. Mae hela â chŵn yn holl bwysig i fywyd cefn gwlad, dim ond am ei fod yn dod â phobl at ei gilydd. Mewn ardaloedd gwledig, ffurfir cymunedau’n wahanol i’r rhai mewn trefi a dinasoedd. Nid yw ffermio’n hybu llawer iawn o gysylltiadau rhwng ffermydd a ffermwyr; anaml y daw achlysuron cymdeithasol â phobl cefn gwlad at ei gilydd o bell ac agos. A allwch feddwl am well hyfforddiant mewn cymdogaeth dda i bobl cefn gwlad na threulio bob dydd Sadwrn yn ystod dechrau’r gaeaf yn rheoli’r llwynogod, sef gelyn naturiol mwyaf difrifol y ffermwr defaid? Mae’r helwyr hyn yn gymysgedd o bob oed—peth prin y dyddiau hyn. Mae aelodau grwpiau’n gweithio’n galed gyda’i gilydd ac yn llwyddo gyda’i gilydd, drwy ddisgyblaeth: trafod cŵn, yr hyfforddiant er mwyn parchu gynnau, y cyfeillgarwch, y parch ac, uwchlaw pob dim, cariad at gefn gwlad. Dyna’r ffactorau sydd yn clymu grwpiau â’i gilydd.

Foxes must be controlled to keep Welsh farming viable. Does anybody remember the plague that affected the rabbit population? That demonstrated that once we lose control of a species the results can be devastating. Does any politician have any right to interfere with this? Few politicians in London can claim to have a genuine understanding of the unique circumstances facing many Welsh farmers. It is vital for Wales that this rural lifestyle is respected and protected. I assure you that there will be a volatile reaction from the rural communities in Wales if we allow their future to be decided in London. Hunting is part of our heritage and it must be protected to safeguard Welsh farmers and country folk. Politics of envy and jealousy must never be allowed to interfere. I ask you to support the motion.

Rhaid rheoli llwynogod er mwyn i ffermio yng Nghymru barhau’n hyfyw. A oes rhywun yn cofio’r haint a effeithiodd ar y boblogaeth cwningod? Dangosodd hynny mai unwaith y collwn reolaeth dros rywogaeth y gall y canlyniadau fod yn drychinebus. A oes hawl gan unrhyw wleidydd i ymyrryd â hyn? Ychydig o wleidyddion yn Llundain a all honni bod ganddynt wir ddealltwriaeth o’r amgylchiadau unigryw sydd yn wynebu llawer o ffermwyr Cymru. Mae’n holl bwysig i Gymru y caiff y ffordd o fyw wledig hon ei pharchu a’i hamddiffyn. Yr wyf yn eich sicrhau y bydd ymateb ymflamychol gan y cymunedau gwledig yng Nghymru os caniatawn i’w dyfodol gael ei benderfynu yn Llundain. Mae hela’n rhan o’n treftadaeth a rhaid ei ddiogelu er mwyn gwarchod ffermwyr Cymru a phobl cefn gwlad. Ni ddylid byth caniatáu i wleidyddiaeth cenfigen ac eiddigedd ymyrryd. Gofynnaf ichi gefnogi’r cynnig.

Jocelyn Davies spoken in English p. 79

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 79

I propose amendment 1. Replace comma with full stop after ‘end’ and delete all subsequent wording.

Cynigiaf welliant 1. Rhodder atalnod llawn yn lle’r coma ar ôl ‘i’r perwyl hwn’, a dileu popeth sydd yn dilyn.

Jocelyn Davies (continued) spoken in English p. 79

Jocelyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 79

I also propose amendment 2 in the name of Jenny Randerson. Delete all after ‘to this end’.

Cynigiaf hefyd welliant 2 yn enw Jenny Randerson. Dileer popeth ar ôl ‘i’r perwyl hwn’.

Jocelyn Davies (continued) spoken in English p. 79

Jocelyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 79

I proposed amendments 1 and 2 together because they are identical.

Cynigiais welliannau 1 a 2 gyda’i gilydd am eu bod yr un fath.

Hunting with dogs legislation has become a big issue, partly because it is widely reputed to have been bought for £1 million by an interest group. It also symbolises the tensions in our rural communities, which see this as another attack on their way of life. These are enough reasons for this matter to be debated here as much as possible. With no overall majority, there cannot be buying of legislation in the Assembly and, as a result, the decision-making process is far more transparent and honest and more acceptable to our constituents. As a matter of principle, all new pieces of primary legislation should take account of the Assembly’s existence and respect our ability to have a mature discussion and produce solutions for matters of Welsh interest. This afternoon, I hope that we can focus on whether or not this matter can be decided here. I am sure that we will have more discussions at another time about the detail of hunting: vermin control, jobs and the fabric of rural life. That should be done at a more appropriate time.

Mae deddfwriaeth hela â chŵn wedi dod yn fater mawr, yn rhannol am fod sôn iddo gael ei brynu am £1 filiwn gan grŵp buddiant. Mae hefyd yn symbol o’r tensiynau yn ein cymunedau gwledig, sydd yn gweld hyn yn ymosodiad arall ar eu ffordd o fyw. Mae’r rhain yn rhesymau digonol dros drafod y mater hwn yma gymaint ag y bo modd. Gan nad oes gan neb fwyafrif dros bawb, nid oes modd prynu deddfwriaeth yn y Cynulliad ac, o ganlyniad, mae’r broses penderfynu yn llawer mwy tryloyw a gonest a mwy derbyniol i’n hetholwyr. Fel mater o egwyddor, dylai pob eitem newydd o ddeddfwriaeth sylfaenol gymryd bodolaeth y Cynulliad i ystyriaeth a pharchu ein gallu i gael trafodaeth aeddfed a llunio atebion ar gyfer materion o ddiddordeb i Gymru. Y prynhawn yma, gobeithiaf y gallwn ganolbwyntio ar drafod a oes modd penderfynu ar y mater hwn yma ai peidio. Yr wyf yn sicr y cawn ragor o drafodaethau rywdro arall am fanylion hela: rheoli plâu, swyddi a gwead bywyd gwledig. Dylid gwneud hynny ar adeg fwy priodol.

My amendment does not seek to take a stance on this issue but for the National Assembly to establish its right to make decisions such as this. For example, will the Bill take account of the specific needs of Wales as recognised in the Burns report? If not it will be a big disappointment, but it will come as no surprise because Bills before Parliament fail to recognise our needs and policies. In response to a question from Simon Thomas, the Plaid Cymru MP for Ceredigion about the real differences in hunting between England and Wales, Jack Straw said that the Bill could contain amendments that would enable the National Assembly to determine this matter and how it is approached in Wales. That approach would show at least an appreciation of devolution. I hope that I can assume that all Member present are now devolutionists.

Nid yw fy ngwelliant yn ceisio mynegi safbwynt ar y mater hwn ond yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol sefydlu ei hawl i wneud penderfyniadau fel hyn. Er enghraifft, a fydd y Mesur yn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol Cymru fel y’u cydnabyddir yn adroddiad Burns? Os na fydd, bydd yn siom fawr, ond ni fydd yn syndod oherwydd mae Mesurau gerbron y Senedd yn methu â chydnabod ein hanghenion a’n polisïau. Mewn ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas, AS Plaid Cymru dros Geredigion ynghylch y gwir wahaniaethau hela rhwng Cymru a Lloegr, dywedodd Jack Straw y gallai’r Mesur gynnwys diwygiadau a alluogai’r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu’r mater hwn a’r modd yr ymdrinnir ag ef yng Nghymru. Byddai’r dull gweithredu hwnnw o leiaf yn dangos gwerthfawrogiad o ddatganoli. Gobeithiaf y gallaf gymryd bod yr holl Aelodau sydd yn bresennol yn ddatganolwyr yn awr.

Looking at the Conservative motion, I see that even they have come around to the idea that we can best develop policy here by ensuring that primary legislation contains enabling clauses that give us discretion. I look forward to seeing the Conservative group tabling similar motions about health, education and local government in due course. That is where I part company with the Conservative group on its motion. It would be wrong for us to establish the principle of the Assembly debate on this issue and, at the same time, determine the outcome of a debate that we have not had.

Wrth edrych ar gynnig y Ceidwadwyr, gwelaf eu bod hwythau hyd yn oed wedi dod i dderbyn y syniad y gallwn ddatblygu polisi yma orau drwy sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys cymalau galluogi sydd yn rhoi rhyddid inni weithredu. Edrychaf ymlaen at weld y grŵp Ceidwadol yn cyflwyno cynigion tebyg ynghylch iechyd, addysg a llywodraeth leol maes o law. Dyna lle yr anghytunaf â’r grŵp Ceidwadol ar ei gynnig. Byddai’n anghywir inni sefydlu egwyddor y ddadl Cynulliad ar y mater hwn ac, ar yr un pryd, benderfynu canlyniad dadl nas cawsom.

I move on to a more personal note on how we may go about having that debate. We could think about the language that we use. This Bill is entitled Wild Animals (Hunting with Dogs) Bill. The more astute Members here will have noticed that the title fails to mention hounds, horses or foxes, for that matter. Hunting with dogs covers a wide remit. As a Valleys girl, I am familiar with people hunting with dogs. When I was a child, my father often went shooting. He was a good shot and we often ate rabbit, pheasant and even duck. To aid him, he had a dog. People in the Valleys still supplement their diet in this way although myxomatosis has reduced the rabbit population. That was introduced as a civilised solution but its victims starved to death by deformity and blindness.

Symudaf ymlaen at nodyn mwy personol ynghylch y modd y gallem fynd ynghylch cael y ddadl honno. Gallem feddwl ynghylch yr iaith a ddefnyddiwn. Teitl y Mesur hwn yw’r Mesur Anifeiliaid Gwyllt (Hela â Chŵn). Bydd yr Aelodau mwy craff yma wedi sylwi nad yw’r teitl yn sôn am fytheiaid, ceffylau neu lwynogod, o ran hynny. Mae hela â chŵn yn cynnwys cwmpas eang. Fel merch o’r Cymoedd, yr wyf yn gyfarwydd â phobl yn hela â chŵn. Pan oeddwn yn blentyn, âi fy nhad i hela’n aml. Yr oedd yn saethwr da a byddem yn aml yn bwyta cwningod, ffesantod a hyd yn oed hwyaid. I’w gynorthwyo, yr oedd ganddo gi. Mae pobl yn y Cymoedd yn dal i ychwanegu at eu hymborth fel hyn er bod mycsomatosis wedi lleihau’r nifer o gwningod. Cyflwynwyd hynny fel ateb gwaraidd ond bu farw’r rhai a ddioddefodd ganddo o newyn drwy anffurfiad a dallineb.

Hunting is part of the Valleys culture. Many people will be as offended as I am to find that some politicians describe hunting with dogs as uncivilised and barbaric. These sweeping generalisations and stereotyping will not be helpful in this debate. It prevents mature discussion because people feel threatened and defensive immediately. I noticed today when the First Secretary was asked about this legislation, he referred to the hunting of foxes with hounds as objectionable, but shooting was not. Therefore, why is this legislation not entitled hunting foxes on horseback with hounds? We should be clear about the exact agenda that is being pursued.

Mae hela’n rhan o ddiwylliant y Cymoedd. Bydd llawer o bobl wedi eu tramgwyddo fel minnau i ganfod fod rhai gwleidyddion yn disgrifio hela â chŵn fel peth anwaraidd a chreulon. Ni fydd y cyffredinoliadau ysgubol hyn a stereoteipio o’r fath yn gymorth yn y ddadl hon. Mae’n rhwystro trafodaeth aeddfed oherwydd mae pobl ar unwaith yn teimlo’n amddiffynnol ac o dan fygythiad. Sylwais heddiw pan holwyd y Prif Ysgrifennydd ynghylch y ddeddfwriaeth hon, iddo gyfeirio at hela llwynogod â bytheiaid fel peth annerbyniol, ond nid saethu. Felly, pam na elwir y ddeddfwriaeth hon yn hela llwynogod ar gefn ceffyl â bytheiaid? Dylem fod yn glir ynghylch yr union agenda a ddilynir.

I do not believe that I was raised by barbarians. My father is 75 and no longer goes shooting and the dog is dead. When he visits Cardiff, he is dismayed to find people begging and living on the streets, many of whom have mental health problems, and teenagers prostituting themselves because of lack of welfare benefits, all within a stone’s throw from this building. He wonders why millions of children in the UK are being raised in abject poverty in poor housing in deprived communities in one of the most affluent societies in the world and why Westminster is spending time on hunting. What you consider to be uncivilised is a matter of personal taste.

Ni chredaf imi gael fy magu gan farbariaid. Mae fy nhad yn 75 ac nid yw’n mynd i saethu bellach ac mae’r ci wedi marw. Pan y bydd yn ymweld â Chaerdydd, mae’n gresynu o weld pobl yn cardota ac yn byw ar y strydoedd, a phroblemau iechyd meddwl gan lawer ohonynt, a rhai yn eu harddegau’n puteinio oherwydd diffyg budd-daliadau lles, y cyfan oddi mewn i dafliad carreg o’r adeilad hwn. Mae’n meddwl tybed pam y mae miliynau o blant yn y DU yn cael eu magu mewn tlodi truenus mewn tai gwael mewn cymunedau difreintiedig yn un o’r cymdeithasau mwyaf cyfoethog yn y byd a pham y mae San Steffan yn treulio amser ar hela. Mae’r hyn a ystyriwch yn anwaraidd yn fater o chwaeth bersonol.

Value systems will play a major factor in how we approach this matter. I will try to respect views that I may not hold. It is possible to tolerate behaviour of which you may not approve.

Bydd systemau gwerthoedd yn chwarae eu rhan fel ffactor mawr yn y modd yr ymdriniwn â’r mater hwn. Byddaf yn ceisio parchu safbwyntiau nad wyf efallai’n eu harddel. Mae modd goddef ymddygiad nad ydych efallai’n ei gymeradwyo.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 82

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 82

Amendment 3 in the name of Andrew Davies has been withdrawn.

Mae gwelliant 3 yn enw Andrew Davies wedi ei dynnu’n ôl.

Mick Bates spoken in English p. 82

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 82

I propose amendment 4. Add at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 4. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig:

Mick Bates (continued) spoken in English p. 82

Mick Bates (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 82

I declare an interest as a partner in a farming business.

Datganaf fuddiant fel partner mewn busnes ffermio.

My aim, and that of many others, is to find an acceptable Welsh solution to the argument over hunting with dogs in Wales. To that end, the Liberal Democrats have a free vote on this issue. An acceptable solution depends on the establishment of an accountable body—an independent hunting authority that can be respected by all sides in this debate. That is preferable to a ban and to no change. An independent hunting authority, as exists in many other European countries, would have the power to enforce an agreed code of practice and license hunting. The authority, sometimes referred to as ‘offox’, would employ inspectors to drop in on any organisation, for example a hunt or a kennel to check procedures against the agreed code of practice, which will ensure consistent practice. That is why this amendment is fundamental to the retention of freedom with responsibility. The establishment of such an authority would be subject to full consultation with all organisations, thus ensuring inclusivity.

Fy nod i, a llawer un arall, yw dod o hyd i ateb Cymreig derbyniol i’r ddadl ynghylch hela â chŵn yng Nghymru. I’r perwyl hwnnw, mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol bleidlais rydd ar y mater hwn. Mae ateb derbyniol yn dibynnu ar sefydlu corff atebol—awdurdod hela annibynnol y gall pob ochr yn y ddadl hon ei barchu. Mae hynny’n fwy dymunol na gwaharddiad neu ddim newid. Byddai pŵer gan awdurdod hela annibynnol, fel a geir mewn llawer gwlad Ewropeaidd arall, i orfodi cod ymarfer cytunedig a thrwyddedu hela. Byddai’r awdurdod, a elwir weithiau’n ‘offox’, yn cyflogi arolygwyr i ymweld ag unrhyw sefydliad, er enghraifft helfa neu haid o gŵn i wirio gweithdrefnau yn ôl y cod ymarfer cytunedig, a fydd yn sicrhau arfer cyson. Dyna pam y mae’r gwelliant hwn yn hanfodol er mwyn cadw rhyddid gyda chyfrifoldeb. Byddai sefydlu awdurdod o’r fath yn agored i ymgynghori llawn â’r holl gyrff, gan sicrhau cynwysoldeb.

Today is not just about whether we can decide on hunting, but about the Assembly, in principle, having a voice on this issue. Many of us do not hunt; we have never hunted or had the desire to hunt. Today is about people’s freedom to choose how they live their lives. It is about tolerance of minorities. Sadly, those who live and work in the countryside are now a minority. Today is about listening to and respecting other people’s views, of which you may disapprove. It is about reading the Burns report, putting prejudice behind and the truth ahead.

Mae heddiw’n ymwneud nid yn unig â’r cwestiwn o’n gallu i benderfynu ar hela, ond â’r egwyddor y dylai’r Cynulliad fynegi barn ar y mater hwn. Mae llawer ohonom nad ydym yn hela; ni helasom erioed neu ni fu gennym awydd hela. Mae heddiw’n ymwneud â rhyddid pobl i ddewis sut y maent yn byw. Mae’n ymwneud â goddefgarwch tuag at leiafrifoedd. Gwaetha’r modd, mae’r rhai sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad yn awr yn lleiafrif. Mae heddiw’n ymwneud â gwrando a pharchu barn pobl eraill, nad ydych efallai’n ei chymeradwyo. Mae’n ymwneud â darllen adroddiad Burns, cefnu ar ragfarn a rhoi’r gwirionedd o’n blaen.

Liberty can be defined under many terms but centres on that fundamental issue—people’s right to choose how they live their lives. Such a libertarian view is the cornerstone of my belief. A ban on hunting may contravene the European Convention on Human Rights. Those who choose to hunt—whether on foot, on a horse or in the back of a landrover, sitting on a bank fishing, shooting a gun or flying a falcon—do so because they enjoy it. Who am I to stop them? Who am I to stop people enjoying flowers in their garden because, only minutes earlier, they may have spread chemicals to kill slugs?

Gellir diffinio rhyddid mewn nifer o ffyrdd ond mae’n troi o amgylch y mater sylfaenol hwnnw—hawl pobl i ddewis sut y maent yn byw eu bywydau. Safbwynt rhyddfrydol o’r fath yw conglfaen fy nghredo. Gallai gwaharddiad ar hela fod yn groes i’r Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r rhai sydd yn dewis hela—boed ar droed, ar gefn ceffyl neu yng nghefn landrofer, yn eistedd ar lan yn pysgota, yn tanio gwn neu’n hedfan hebog—yn gwneud hynny am eu bod yn ei fwynhau. Pwy ydwyf fi i’w rhwystro? Pwy ydwyf fi i rwystro pobl rhag mwynhau blodau yn eu gardd am eu bod efallai, ond munudau ynghynt, wedi taenu cemegolion i ladd malwod?

At the heart of this debate is the principle of land management. Those who understand the countryside, who have worked in the countryside and have the countryside at heart know what I mean. We must look at and listen to rural Wales, or take the opportunity to see it first hand. There are enough land-based organisations that are prepared to take people around those areas.

Wrth graidd y ddadl hon y mae egwyddor rheoli tir. Mae’r rhai sydd yn deall cefn gwlad, a weithiodd yng nghefn gwlad ac sydd â chefn gwlad yn agos at eu calon yn gwybod beth yr wyf yn ei olygu. Rhaid inni edrych ar y Gymru wledig a gwrando arni, neu achub ar y cyfle i’w gweld â’n llygaid ein hunain. Mae digon o fudiadau sydd yn ymwneud â’r tir sydd yn barod i fynd â phobl o gwmpas yr ardaloedd hynny.

Those who think that land management is cruel may be right. I have faced devastating decisions while farming. However, I must be persuaded that I am wrong with reasoned arguments. Do not err to pass laws to make those whom you have failed to convince into criminals. That is not democracy; that is dictatorship. It is disturbing that we have a Government that is prepared to progress on a matter that, as the Burns report recognised, will damage our nation. Under Section 121 of the Government of Wales Act 1998, we have a duty to sustainable development not sustainable destruction. The distress comes at a time when the rural economy is on its knees. There are many people in distress in rural Wales who are facing massive problems about loss of services and high fuel prices. I remember the faces of thousands of people who marched through the heart of Wales to bring a combined voice to this Assembly last November. They were real, honest people—the backbone of our Welsh countryside. These are the people closest to the countryside, who, on our behalf, conserve the countryside with their wisdom.

Mae’n bosibl bod y rhai sydd yn credu bod rheoli tir yn greulon yn gywir. Yr wyf wedi wynebu penderfyniadau distrywiol wrth ffermio. Fodd bynnag, rhaid imi gael fy narbwyllo fy mod yn anghywir â dadleuon rhesymedig. Peidiwch â chyfeiliorni drwy basio deddfau sydd yn troi’r rhai y methasoch â’u darbwyllo’n droseddwyr. Nid democratiaeth yw hynny; unbennaethnol ydyw. Mae’n peri gofid bod gennym Lywodraeth sydd yn barod i fynd ymlaen ar fater a fydd, fel y gwelodd adroddiad Burns, yn niweidio ein cenedl. O dan Adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae gennym ddyletswydd tuag at ddatblygu cynaliadwy nid dinistrio cynaliadwy. Daw’r gofid ar adeg pan y mae’r economi wledig ar ei gliniau. Mae llawer o bobl mewn gofid yng nghefn gwlad Cymru sydd yn wynebu problemau anferth ynghylch colli gwasanaethau a phrisiau tanwydd uchel. Cofiaf wynebau’r miloedd o bobl a orymdeithiodd drwy ganol Cymru er mwyn dod â llais unedig i’r Cynulliad hwn fis Tachwedd diwethaf. Yr oeddent yn bobl onest, go iawn—asgwrn cefn cefn gwlad Cymru. Dyma’r rhai sydd yn agosaf i gefn gwlad, sydd, ar ein rhan, yn gwarchod cefn gwlad drwy eu doethineb.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 84

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 84

Your five minutes is nearly up.

Mae’ch pum munud bron ar ben.

Mick Bates spoken in English p. 84

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 84

They tend the crops and animals. I trust that this elected body will chose carefully how it wants to see rural Wales prosper. I trust that we will make a balanced, unprejudiced and forward-looking judgement. To ban hunting because we object to people deriving enjoyment from catching or killing animals requires us also to ban shooting, fishing and angling in particular which is for fun and not for pest control. I urge you to support my amendment that will bring accountability through good practice.

Maent yn gofalu am gnydau ac anifeiliaid. Hyderaf y bydd y corff etholedig hwn yn dewis yn ofalus y modd y mae’n dymuno gweld y Gymru wledig yn ffynnu. Hyderaf y byddwn yn gwneud dyfarniad cytbwys, diragfarn a blaengar. Mae gwahardd hela am ein bod yn gwrthwynebu i bobl gael mwynhad o ddal neu ladd anifeiliaid yn ein gorfodi hefyd i wahardd saethu, pysgota a genweirio yn arbennig sydd er mwyn hwyl ac nid er mwyn rheoli plâu. Fe’ch anogaf i gefnogi fy ngwelliant a ddaw ag atebolrwydd drwy arfer da.

Peter Law spoken in English p. 84

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 84

As someone who has been opposed to hunting throughout my life apart from hunting one or two Tories, I find myself in an unusual position today. I know you have missed me. I have come from London. I would like to clarify the position with regard to Andrew Davies’s amendment, which I understand was previewed by the First Secretary at question time earlier this afternoon. The Labour Party position here and in Westminster is that the issue of a ban on hunting foxes with hounds is a matter that should be determined by a free vote in Westminster. That was a pledge contained in the Labour Party general election manifesto in 1997. That position remains unchanged. It is not an issue of devolution as some people wish to portray it for their own reasons. It is an issue of animal welfare and law and order and it is the Home Office’s responsibility. Those who seek to portray this as a matter to be determined by this Assembly do so for their own political reasons. There is a mistaken belief on the part of the Conservatives that they might be able to muster enough votes in the National Assembly to establish an opt-out from any ban legislated in Westminster.

Fel un a wrthwynebai hela ar hyd fy oes ar wahân i hela un neu ddau o Dorïaid, caf fy hun mewn sefyllfa anarferol heddiw. Gwn eich bod wedi fy ngholli. Deuthum o Lundain. Hoffwn egluro’r sefyllfa mewn perthynas â gwelliant Andrew Davies, y deallaf fod y Prif Ysgrifennydd wedi rhoi rhagolwg arno yn y sesiwn cwestiynau yn gynharach y prynhawn yma. Safbwynt y Blaid Lafur yma ac yn San Steffan yw bod mater y gwaharddiad ar hela llwynogod â bytheiaid yn un a ddylai gael ei benderfynu drwy bleidlais rydd yn San Steffan. Dyna oedd yr addewid a oedd ym maniffesto etholiad cyffredinol y Blaid Lafur yn 1997. Nid yw’r safbwynt hwnnw wedi newid. Nid yw’n fater o ddatganoli fel y mae rhai’n dymuno ei bortreadu am eu rhesymau eu hunain. Mae’n fater o les anifeiliaid a chyfraith a threfn ac mae’n gyfrifoldeb i’r Swyddfa Gartref. Mae’r rhai sydd yn ceisio portreadu’r mater hwn yn un sydd i’w benderfynu gan y Cynulliad hwn yn gwneud hynny am eu rhesymau gwleidyddol eu hunain. Mae cred gyfeiliornus gan y Ceidwadwyr y gallent fwstro digon o bleidleisiau yn y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu eithriad o unrhyw waharddiad a osodir drwy ddeddf yn San Steffan.

The amendment that we have tabled and sought to establish is that the National Assembly’s role in this matter is not to determine whether there should be a ban on hunting with dogs but that the National Assembly may have a role in determining the detail of how any ban would be enforced in Wales. I understand that the First Secretary referred to some of these issues earlier in his question time. I know that time is pressing so I will not take any more time in talking about the Burns report because—as Jocelyn Davies said—there is much to be discussed on another occasion here. Although these issues are relevant and should be debated in many ways, today’s debate is premature. The Burns report was published two weeks ago and the UK Government has not yet started drafting its consultation paper, its Bill or even what alternative options it will present. Mick Bates’s amendment is an example of this prematurity. It has been suggested by some that there should be a king of quango put in place to regulate fox hunting. Whatever one’s opinion on the subject, it is our view that Mick’s suggestion is premature prior to the drafting of the consultation paper for the Bill. Let me make it perfectly clear that there is no support from our side for the ban on fox hunting with dogs to be determined by the National Assembly. However, we recognise that the principle of banning hunting with dogs is a matter of conscience. Labour Members will therefore have a free vote on this matter this afternoon.

Y gwelliant a gyflwynasom ac y ceisiasom ei sefydlu yw nad rôl y Cynulliad Cenedlaethol yn y mater hwn yw penderfynu a ddylid cael gwaharddiad ar hela â chŵn ond y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol gael rôl wrth benderfynu ar fanylion y modd y byddid yn gorfodi unrhyw waharddiad yng Nghymru. Deallaf fod y Prif Ysgrifennydd wedi cyfeirio at rai o’r materion hyn yn gynharach yn ei sesiwn cwestiynau. Gwn fod amser yn brin felly ni threuliaf fwy o amser yn trafod adroddiad Burns oherwydd—fel y dywedodd Jocelyn Davies—mae llawer i’w drafod ar achlysur arall yma. Er bod y materion hyn yn berthnasol ac y dylid eu trafod mewn llawer o ffyrdd, mae’r ddadl heddiw yn gynamserol. Cyhoeddwyd adroddiad Burns bythefnos yn ôl ac nid yw Llywodraeth y DU wedi dechrau eto ar ddrafftio ei phapur ymgynghorol, ei Mesur a hyd yn oed pa ddewisiadau eraill y bydd yn eu cyflwyno. Mae gwelliant Mick Bates yn enghraifft o’r cynamseroldeb hwn. Awgrymwyd gan rai y dylid sefydlu brenin cwango i reoleiddio hela llwynogod. Beth bynnag fo barn rhywun ar y pwnc, ein barn ni yw bod awgrym Mick yn gynamserol cyn drafftio’r papur ymgynghorol ar gyfer y Mesur. Gadewch imi ei gwneud yn berffaith glir eglur nad oes cefnogaeth o’n hochr ni i’r penderfyniad ar y gwaharddiad ar hela llwynogod â chŵn gael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, cydnabyddwn fod egwyddor gwahardd hela â chŵn yn fater o gydwybod. Felly caiff Aelodau Llafur bleidlais rydd ar y mater hwn y prynhawn yma.

Mick Bates spoken in English p. 85

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 85

Would you accept a point of information?

A wnewch dderbyn pwynt o wybodaeth?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 85

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

There is no such thing.

Nid oes y fath beth.

Peter Law spoken in English p. 85

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 85

We also recognise that the drafting of this particular motion and the amendments associated with it have raised a number of different interpretations. To dispel any doubt as to our position on this issue, which I outlined earlier in relation to the decision being taken in Westminster, we have withdrawn this amendment.

Cydnabyddwn hefyd fod drafftio’r cynnig arbennig hwn a’r gwelliannau sydd yn gysylltiedig ag ef wedi codi nifer o wahanol ddehongliadau. Er mwyn chwalu unrhyw amheuaeth ynghylch ein safbwynt ar y mater hwn, a ddisgrifiais yn gynharach mewn perthynas â gwneud y penderfyniad yn San Steffan, yr ydym wedi tynnu’r gwelliant hwn yn ôl.

William Graham spoken in English p. 85

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 85

Wales has a rural landscape perhaps more attractive than any other. It is certainly far away the richest in life form of any countryside in Europe. That is not an accident. For centuries, our forefathers have practised genuine conservation before city-bred experts had even thought of the word. However, conservation is not the preservation of every single life. It is the guardianship of the hair trigger mechanism known as eco-balance, which in nature means not too many, not too few. Nature mostly takes care of the over population hazard—mice, voles and shrews die in the claws of hawks, kestrels and owls by day and by night. Humans have no choice but to classify certain breeds as vermin, for example, the wild rabbit and wood pigeon because they breed at such a fantastic rate that they cause immense damage among predators. The crow, jay and magpie prey on the eggs and chicks of songbirds.

Mae gan Gymru dirwedd gwledig sydd o bosibl yn harddach na’r un arall. Ef yn sicr yw’r cyfoethocaf o bell ffordd o ran ffurfiau bywyd o unrhyw gefn gwlad yn Ewrop. Nid damwain mo hynny. Ers canrifoedd, mae ein cyndadau wedi arfer cadwraeth wirioneddol cyn i arbenigwyr a fagwyd mewn dinasoedd hyd yn oed feddwl am y gair. Fodd bynnag, nid yw cadwraeth yn golygu diogelu pob bywyd unigol. Gwarchodaeth ydyw ar y mecanwaith clicied ysgafn a elwir yn ecogytbwysedd, sydd mewn natur yn golygu nid gormod, nid rhy ychydig. Mae natur yn bennaf yn gofalu am y perygl o orboblogi—mae llygod, llygod cwta a chwistlod yn marw yng nghrafangau hebogiaid, cudyllod a thylluanod ddydd a nos. Nid oes gan bobl ddewis ond dynodi rhai bridiau’n blâu, er enghraifft, cwningod gwyllt ac ysguthanod am eu bod yn amlhau ar raddfa mor anhygoel fel eu bod yn achosi difrod aruthrol ymysg ysglyfaethwyr. Mae brain, sgrechod y coed a phïod yn ysglyfaethu wyau a chywion adar cân.

Of all the apex predators in our countryside, only the fox has become deliberately glamourised as a cuddly, friendly, little brown dog. Alas, it is actually the biggest, fastest and strongest mass killer in the landscape. It is cunning, elusive and damaging to free-range hens and newborn lambs. It breeds at a ferocious rate. We must therefore consider a question that is neither emotional nor sentimental but environmental. Does man have the right to control and overhaul fox numbers in the countryside? The answer must clearly be yes. We must do this in the most selective and least inhumane way. There are perhaps six well-known ways, four of which are neither selective nor humane—gas, steel-jawed leg traps, wire neck nooses and poison are indiscriminate and lead to a long, lingering death. The remaining choices are the gun or the hound. Anyone who has used guns could not guarantee that either a shotgun or a rifle will kill cleanly. It will wound, but the stricken animal will still have the strength to dash away and die hours later in hideous agony.

O’r holl ysglyfaethwyr sydd ar y brig yng nghefn gwlad, dim ond y llwynog a brydferthwyd yn fwriadol fel petai’n gi brown, bach, cyfeillgar, anwesol. Gwaetha’r modd, ef mewn gwirionedd yw’r lladdwr torfol mwyaf, cyflymaf a chryfaf yn y tirwedd. Mae’n gyfrwys, yn ddi-ddal ac yn niweidiol i ieir rhydd ac ŵyn sydd newydd eu geni. Mae’n amlhau ar gyfradd wyllt. Rhaid inni felly ystyried mater nad yw’n emosiynol nac yn sentimental ond yn amgylcheddol. A oes gan ddyn hawl i reoli a newid niferoedd y llwynogod yng nghefn gwlad? Mae’n amlwg mai’r ateb yw oes. Rhaid inni wneud hyn yn y modd mwyaf dethol a lleiaf anwaraidd. Mae chwe dull adnabyddus o bosibl, y mae pedwar ohonynt nad ydynt yn ddethol ac yn waraidd—mae nwy, trapiau coes â safnau dur, maglau gwifren am y gwddf a gwenwyn yn anwahaniaethol ac yn arwain at farwolaeth hir, araf. Y dewisiadau sydd ar ôl yw’r gwn neu’r bytheiad. Ni allai rhywun a ddefnyddiodd wn warantu y bydd gwn peledi neu reiffl yn lladd yn lân. Bydd yn anafu, ond bydd yr anifail a fwriwyd yn dal i fod â’r nerth i ruthro oddi yno a marw oriau’n ddiweddarach mewn poen erchyll.

The hound has several advantages that man has never had. The fox is a night hunter. By day it lies deep in cover so that humans may never find it. The hound with his muzzle a thousand times more sensitive than our own nose can discern the hint of fox smell in the air and slowly move towards it. When this happens the fox on hearing the noise slips away, usually still invisible. The hound can follow the scent left in every footfall—we could never hope to do that. The hound can keep up, we cannot. That is why we need the horse. When we ask why the hound is selected rather than any of the other methods, it is because three quarters of foxes thus started from their earth manage to escape, not wounded but utterly unharmed. They are able to hunt, mate and breed again, and these are the best, the fit, the fast and the strong who ought to return to the gene pool and procreate for the next generation. We know that a high proportion of those who are taken down in a fox hunt are old, slow, weak or damaged or perhaps last spring’s youngsters, still unmated after the breeding season and thus superfluous.

Mae gan y bytheiad nifer o fanteision na fu gan ddyn erioed. Mae’r llwynog yn heliwr nos. Yn ystod y dydd mae’n gorwedd yn ddwfn yn y ddaear fel na chaiff dynion byth ddod o hyd iddo. Gall y bytheiad, a’i drwyn yn filwaith mwy sensitif na’n trwynau ni, ddirnad awgrym o aroglau llwynog yn yr aer a symud yn araf tuag ato. Pan ddigwydd hyn mae’r llwynog pan glyw’r sŵn yn sleifio oddi yno, heb ei weld o hyd fel arfer. Gall y bytheiad ddilyn yr aroglau a adewir ym mhob ôl troed—ni allem byth wneud hynny. Gall y bytheiad ddal i fyny, ni allwn ni. Dyna pam y mae arnom angen y ceffyl. Pan ofynnwn pam y dewisir y bytheiad yn hytrach nag unrhyw un o’r dulliau eraill, mae hynny am fod tri chwarter y llwynogod a godir felly o’u daearoedd yn llwyddo i ddianc, heb eu hanafu ond heb gael unrhyw niwed. Gallant hela, paru a bridio eto, a’r rhain yw’r rhai gorau, y rhai iach, y rhai cyflym a’r rhai cryf a ddylai fynd yn ôl i’r gronfa genynnau a chenhedlu ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Gwyddom fod cyfran uchel o’r rhai a gymerir mewn helfa lwynogod yn hen, yn araf, yn wan neu wedi eu niweidio neu efallai’n rhai ifanc o’r gwanwyn diwethaf, sydd heb baru eto ar ôl y tymor bridio ac felly’n ddiangen.

Nick Bourne spoken in English p. 87

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 87

Do you agree that some of the species about which you have been speaking, William, are important and unique to Wales—its landscape and some of these rural interests? Do you further agree—contrary to what Peter Law has suggested—that this motion is not put forward in the spirit that we know necessarily that a ban will be defeated here? Some of the assessments indicate quite the contrary, so this is not done cynically or hypocritically but because we believe that there is a specific Welsh interest in this issue. I happen to believe that a ban would probably not succeed here. I invite William to comment on that point.

A gytunwch fod rhai o’r rhywogaethau y buoch yn siarad amdanynt, William, yn bwysig ac yn unigryw i Gymru—ei thirwedd a rhai o’r buddiannau gwledig hyn? A gytunwch ymhellach, yn groes i’r hyn a awgrymodd Peter Law—na chyflwynwyd y cynnig hwn yn yr ysbryd ein bod yn gwybod y bydd gwaharddiad yn sicr o gael ei drechu yma? Mae rhai o’r asesiadau’n awgrymu i’r gwrthwyneb yn llwyr, felly ni wneir hyn yn sinigaidd neu’n rhagrithiol ond am y credwn fod buddiant Cymreig penodol yn y mater hwn. Digwyddaf gredu na fyddai gwaharddiad yn debygol o lwyddo yma. Gwahoddaf William i wneud sylw ar y pwynt hwnnw.

William Graham spoken in English p. 87

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 87

I wholly agree with Nick. It is important that this matter should be decided at a level where people who are directly involved can speak.

Cytunaf yn llwyr â Nick. Mae’n bwysig i’r mater hwn gael ei benderfynu ar lefel lle y mae rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol yn gallu siarad.

Cynog Dafis spoken in English p. 87

Cynog Dafis siaradwyd yn Saesneg t. 87

He is making a good speech. He is demonstrating quite clearly that the idea that the ban on fox hunting has anything to do with animal welfare is totally specious. Is it not the case that what we are trying to do here is regulate human behaviour and human ethics through legislation, and is that not pernicious?

Mae’n rhoi araith dda. Mae’n dangos yn gwbl eglur bod y syniad bod a wnelo’r gwaharddiad ar hela llwynogod â lles anifeiliaid yn gwbl dwyllodrus. Onid yw’n wir mai’r hyn y ceisiwn ei wneud yma yw rheoleiddio ymddygiad dynol a moeseg ddynol drwy ddeddfwriaeth, ac onid yw hynny’n niweidiol?

William Graham spoken in English p. 88

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 88

The second calumny often said about people who hunt foxes is that they do it because they enjoy killing for pleasure. That is not true. If this were the case, surely they would want to watch. The kill often takes place many miles away from where the majority of the hunt are. Many people hunt for a lifetime and never see a fox die. If pleasure were the point, why not hunt for 12 months a year? Why have a close season because, after all, the close season is a hallmark of conservation. The killing of the fox to eradicate vermin is an ecological necessity carried out as quickly as possible.

Yr ail enllib a fynegir yn aml am bobl sydd yn hela llwynogod yw eu bod yn gwneud hynny am eu bod yn mwynhau lladd er mwyn pleser. Nid yw hynny’n wir. Pe bai hyn yn wir, mae’n siŵr y byddent yn dymuno gwylio. Mae’r lladd yn aml yn digwydd filltiroedd lawer o’r man lle y mae’r rhan fwyaf o’r helwyr. Mae llawer o bobl yn hela ar hyd eu hoes heb weld llwynog yn marw. Os pleser oedd y pwrpas, oni ddylent hela am 12 mis y flwyddyn? Pam y dylid cael tymor gwaharddedig oherwydd, wedi’r cwbl, y tymor gwaharddedig yw nod amgen cadwraeth. Mae lladd llwynogod er mwyn dileu pla yn anghenraid ecolegol a gyflawnir mor gyflym ag y bo modd.

Ron Davies spoken in English p. 88

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 88

I compliment William on making the traditional case for hunting, which has been made many times. However, this afternoon, we are not debating hunting as a matter of principle because the Westminster Parliament will decide that, unless the Conservative Party now argues that the National Assembly for Wales should be given powers of primary legislation to discuss what were previously Home Office functions. That is the essence of our debate. William has made a powerful case and if he wants to assert it, he must clarify now whether he wants hunting with hounds to be resolved in the National Assembly or in Westminster. He is indicating in the nicest possible way that he wants it to be resolved at Westminster. That is fine, but I think that it puts his comments in their proper context.

Canmolaf William ar gyflwyno’r achos traddodiadol dros hela, a gyflwynwyd lawer gwaith. Fodd bynnag, y prynhawn yma, nid ydym yn trafod hela fel mater o egwyddor oherwydd Senedd San Steffan a fydd yn penderfynu hynny, oni bai fod y Blaid Geidwadol yn dadlau’n awr y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru dderbyn pwerau deddfu sylfaenol er mwyn trafod swyddogaethau a oedd cynt yn perthyn i’r Swyddfa Gartref. Dyna hanfod ein dadl. Mae William wedi cyflwyno achos pwerus ac os yw’n dymuno ei ddatgan, rhaid iddo egluro’n awr a yw’n dymuno i hela â bytheiaid gael ei benderfynu yn y Cynulliad Cenedlaethol neu yn San Steffan. Mae’n nodi yn y modd mwyaf rhadlon posibl ei fod yn dymuno iddo gael ei benderfynu yn San Steffan. Mae hynny’n iawn, ond credaf fod hynny’n rhoi ei sylwadau yn eu priod gyd-destun.

I say to Mick and Cynog that hunting is not a personal liberty issue. I fail to see how they can argue that because they both have a great deal of experience of how we have constrained human liberty when it comes to farm, domesticated, laboratory and pet animals as well as most wild animals. It has been accepted for 150 years that we regulate how people treat members of the animal kingdom, cruelly or otherwise. It so happens that our constitution has allowed those representatives with a vested interest to ensure that there are only a small number of quarry species to be exempted from that protection, which we have hitherto extended to all animals. If it is a question of asserting the rights of individuals to treat wild animals as they wish, will Mick and Cynog explain the difference between that and the issue that we debate today? Why do they not argue that we should remove constraints on badger baiting? Why do they not argue against reintroduction of otter hunting or bear baiting or dog fighting? Those were all traditional practices.

Dywedaf wrth Mick a Cynog nad yw hela’n fater o ryddid personol. Ni allaf weld sut y gallant ddadlau felly oherwydd mae gan y ddau ohonynt brofiad helaeth iawn o’r modd yr ydym wedi cyfyngu ar ryddid dynol yn achos anifeiliaid fferm, domestig, labordy ac anwes yn ogystal â’r rhan fwyaf o anifeiliaid gwyllt. Derbyniwyd ers 150 o flynyddoedd ein bod yn rheoleiddio’r modd y mae pobl yn trin aelodau o fyd yr anifeiliaid, yn greulon neu fel arall. Fel y mae’n digwydd, mae ein cyfansoddiad wedi caniatáu i’r cynrychiolwyr hynny sydd â buddiant breintiedig sicrhau mai ond nifer fach o rywogaethau ysglyfaeth sydd i’w heithrio o’r amddiffyniad hwnnw, a estynasom hyd yn hyn i gynnwys pob anifail. Os yw’n fater o fynnu hawliau unigolion i drin anifeiliaid gwyllt fel y dymunant, a wnaiff Mick a Cynog egluro’r gwahaniaeth rhwng hynny a’r mater a drafodwn heddiw? Pam na ddadleuant y dylem ddileu’r cyfyngiadau ar faetio moch daear? Pam na ddadleuant yn erbyn ailgyflwyno hela dyfrgwn neu faetio eirth neu ymladd â chŵn? Yr oedd pob un o’r rheini’n arferion traddodiadol.

Nick Bourne spoken in English p. 89

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 89

We are not looking at those issues in this debate. You could say why not ban fishing or many other sports. We should not enlarge the topic to go beyond what is before us.

Nid ydym yn edrych ar y materion hynny yn y ddadl hon. Gallech ofyn pam na ddylid gwahardd pysgota neu lawer o ddifyrion eraill. Ni ddylem ehangu’r pwnc a mynd ymhellach na’r hyn sydd o’n blaen.

Ron Davies spoken in English p. 89

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 89

Precisely so. If the argument is that we are infringing personal liberty, we must acknowledge the fact that we have restricted that personal liberty in the way that people deal with animals. If Nick says that we should draw a line between both arguments, I understand his position, but it would be difficult for him to sustain that for long.

Yn union felly. Os y ddadl ydyw ein bod yn amharu ar ryddid personol, rhaid inni gydnabod y ffaith ein bod wedi cyfyngu ar y rhyddid personol hwnnw yn y modd y mae pobl yn ymdrin ag anifeiliaid. Os dywed Nick y dylem dynnu llinell rhwng y ddwy ddadl, deallaf ei safbwynt, ond byddai’n anodd iddo ddal at hynny’n hir.

There are two issues in this debate. I listened with interest to the way that Jocelyn moved her amendment. It is not an issue, as she placed it, between the way hunting is practised in England and in Wales. The difference is between hunting and pest control. That is what we must discuss. Fox hunting, which is largely practised by people in red coats, namely the tally-ho brigade, is ritualised, organised, socialised and essentially about providing entertainment. I wish that hunting supporters would acknowledge that. It is not about pest control; it is about getting out into the countryside and having what they consider fun. Unfortunately, the fox does not see it that way.

Mae dau fater yn y ddadl hon. Gwrandewais â diddordeb ar y modd y cynigiodd Jocelyn ei gwelliant. Nid yw’n fater, fel y nododd hi, rhwng y modd yr arferir hela yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae’r gwahaniaeth rhwng hela a rheoli plâu. Dyna beth sydd yn rhaid inni ei drafod. Mae hela llwynogod, a arferir yn bennaf gan bobl mewn cotiau coch, sef y criw tali-ho, yn ddefodol, trefnedig, cymdeithasol ac yn ymwneud yn y bôn â darparu adloniant. Byddai’n dda gennyf pe bai cefnogwyr hela yn cydnabod hynny. Nid yw’n ymwneud â rheoli plâu; mae’n ymwneud â mynd allan i’r wlad a chael yr hyn a ystyriant yn hwyl. Gwaetha’r modd, nid yw’r llwynog yn ei gweld felly.

The fox is incidental to that enjoyment. There is no doubt that because hunting is practised to provide human entertainment, it inflicts unnecessary suffering on that animal. If you inflict unnecessary suffering on an animal, you are being cruel. That is the essence of the case for abolishing fox hunting. It is a moral issue. There are strong arguments, and those arguments have been accepted time and again when it came to regulating human conduct in relation to the protection of badgers, dogs, otters and bears and so on. We have accepted that argument and, because this is a moral issue, the Conservative Party must face the fact that if it is outlawed, we are creating a new criminal offence and, therefore, under our present devolution arrangement, that decision must be one for Parliament.

Mae’r llwynog yn rhan anorfod o’r mwynhad hwnnw. Nid oes dwywaith, gan fod hela yn cael ei arfer er mwyn darparu adloniant i bobl, ei fod yn achosi dioddefaint diangen i’r anifail hwnnw. Os achoswch ddioddefaint diangen i anifail, yr ydych yn greulon. Dyna hanfod y ddadl dros wahardd hela llwynogod. Mae’n fater moesol. Mae dadleuon cryf, a derbyniwyd y dadleuon hynny dro ar ôl tro pan ddaeth yn fater o reoleiddio ymddygiad dynol mewn perthynas â gwarchod moch daear, cŵn, dyfrgwn ac eirth ac yn y blaen. Yr ydym wedi derbyn y ddadl honno ac, am fod hyn yn fater moesol, rhaid i’r Blaid Geidwadol dderbyn, os caiff ei wahardd, ein bod yn creu tramgwydd troseddol newydd ac, felly, o dan ein trefniant datganoli presennol, rhaid i’r penderfyniad hwnnw fod yn un i’r Senedd.

Fox control is different. Fox hunting is not about fox control. If it were, they would not stop hunting at the time that the fox is most damaging as a predator. In Wales, that is in March and April during lambing season, when we are told that the foxes present a threat to new-born lambs. However, the hunts declare a close season and stop hunting during this time. Fox control is then done by other means, namely gun packs, lamping, snares and other horrible things that William mentioned, such as poisoning and gassing, both of which are illegal. That is what people do when they are concerned about controlling predators. The National Assembly has a role in this area. If we are concerned about fox control, we must consider local circumstances, land use, environment, density of the fox population, land husbandry and the way that land is used for game rearing or lambing and so on. All of those factors are relevant when is comes to deciding whether or not there should be fox control. In that sense, fox control is different. There is a highly contentious argument about whether you need fox control to protect lambs or game and there is a contentious argument about whether the methods of control that are practised are effective in controlling fox numbers. However, that is an entirely different argument.

Mae rheoli llwynogod yn wahanol. Nid yw hela llwynogod yn ymwneud â rheoli llwynogod. Pe bai, ni roddent y gorau i hela ar yr adeg pan yw mae’r llwynog yn fwyaf niweidiol fel ysglyfaethwr. Yng Nghymru, mae hynny ym Mawrth ac Ebrill yn ystod y tymor ŵyna, pan yw’r llwynogod, dywedir wrthym, yn creu bygythiad i ŵyn sydd newydd eu geni. Fodd bynnag, mae’r helfeydd yn datgan tymor gwaharddedig ac yn rhoi’r gorau i hela yn ystod yr amser hwn. Rheolir llwynogod wedyn drwy ddulliau eraill, sef criwiau saethu, lampio, maglau a phethau ofnadwy eraill a grybwyllodd William, fel gwenwyno a gwenwyno â nwy, sydd ill dau’n anghyfreithlon. Dyna’r hyn a wna pobl pan ydynt yn bryderus ynghylch rheoli ysglyfaethwyr. Mae rôl i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y maes hwn. Os ydym yn bryderus ynghylch rheoli llwynogod, rhaid inni ystyried amgylchiadau lleol, defnydd tir, yr amgylchedd, trwch y boblogaeth o lwynogod, hwsmonaeth tir a’r modd y defnyddir tir ar gyfer magu gêm neu ŵyna ac yn y blaen. Mae’r holl ffactorau hynny’n berthnasol pan ddaw’n fater o benderfynu a ddylid rheoli llwynogod ai peidio. Yn yr ystyr honno, mae rheoli llwynogod yn wahanol. Mae dadl gynhennus iawn ynghylch a oes angen ichi reoli llwynogod er mwyn gwarchod ŵyn neu gêm ac mae dadl gynhennus ynghylch a yw’r dulliau rheoli a arferir yn effeithiol wrth reoli nifer y llwynogod. Fodd bynnag, mae honno’n ddadl gwbl wahanol.

It seems to me perfectly sensible for us to argue that Parliament should be responsible for a general ban but that the National Assembly for Wales should be responsible for regulating control where necessary. For those reasons, I am delighted that we have a free vote on this matter. I strongly oppose the Conservative motion because it seeks to confuse hunting with control and it seeks to confuse Parliamentary responsibility with that of the National Assembly. Therefore, I support Jocelyn’s amendment 1 because it improves the motion but if it is adopted, I will oppose the Conservative motion.

Ymddengys i mi ei bod yn gwbl synhwyrol inni ddadlau y dylai’r Senedd fod yn gyfrifol am waharddiad cyffredinol ond y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn gyfrifol am reoleiddio rheolaeth lle y bo angen. Am y rhesymau hynny, yr wyf wrth fy modd bod gennym bleidlais rydd ar y mater hwn. Gwrthwynebaf y cynnig Ceidwadol yn gryf am ei fod yn ceisio cymysgu rhwng hela a rheoli ac yn ceisio cymysgu rhwng cyfrifoldeb y Senedd a chyfrifoldeb y Cynulliad Cenedlaethol. Felly, cefnogaf welliant 1 Jocelyn am ei fod yn gwella’r cynnig ond os derbynnir ef, byddaf yn gwrthwynebu’r cynnig Ceidwadol.

Glyn Davies spoken in English p. 91

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 91

My first memory of the fox was of seeing it in a distressed condition caught by the neck in a snare and being despatched by my uncle Wat. I was probably no more than five years old and I was accompanying him on his early morning round of gin traps and snares. That was the normal start to the day for every hill farmer 50 years ago and sometimes foxes were caught. In those days, rabbits were an important part of the British diet and of farm income. I would have been less than 10 years old when I graduated to having my own gin traps and snares. That is where my pocket money came from. It was horrendously cruel and the snare was every bit as cruel as the gin trap, which is now rightly banned.

Yr atgof cyntaf sydd gennyf o lwynog yw gweld un mewn cyflwr dioddefus wedi ei ddal gerfydd ei wddf mewn magl ac yn cael ei ladd gan fy ewythr Wat. Mae’n debyg nad oeddwn yn fwy na phum mlwydd oed ac yr oeddwn wedi mynd gydag ef ar ei rawd ddechrau’r bore i weld y trapiau a’r maglau. Dyna oedd y modd arferol o ddechrau’r diwrnod i bob ffermwr mynydd 50 mlynedd yn ôl ac weithiau delid llwynogod. Yn y dyddiau hynny, yr oedd cwningod yn rhan bwysig o’r diet Prydeinig ac o incwm ffermydd. Mae’n debyg fy mod yn llai na 10 mlwydd oed pan euthum ymlaen i gael fy nhrapiau a’m maglau fy hun. Drwy’r rhain y cawn fy arian poced. Yr oedd yn arswydus o greulon ac yr oedd y fagl mor greulon bob tamaid â’r trap, sydd bellach wedi ei wahardd yn briodol.

Until my early twenties, hunting was a major part of my life. I hunted every day with gun or rod. My favourite pastime was catching trout with a small home-made snare on the end of a whippy 15-foot hazel stick. However, I suddenly gave up and I have not killed a wild creature since because the idea of hunting the creatures with which we share this world and killing them for pleasure no longer gave me pleasure. When I took over the farm business from my father a few years later, I ended all hunting on my farm including any hunting of foxes. I was not popular with my neighbours because they were all sheep farmers. The fox was then and remains one of my favourite wild creatures, together with the buzzard and the curlew. It is still a thrill for me to see a fox today but only in the countryside, where it is a beautiful, cunning and ruthless killer. I have no time for the scraggy, urban scavenger that it could become if hunting ended.

Hyd at fy ugeiniau cynnar, yr oedd hela’n rhan bwysig o’m bywyd. Byddwn yn hela bob diwrnod â gwn neu enwair. Fy hoff ddifyrrwch oedd dal brithyllod â magl fach a wnaethpwyd gartref ar ben ffon ystwyth 15 troedfedd o bren cyll. Fodd bynnag, rhoddais y gorau i hynny’n ddisymwth ac ni leddais greadur gwyllt ers hynny am nad oedd y syniad o hela’r creaduriaid y rhannwn y byd hwn â hwy a’u lladd am bleser bellach yn rhoi pleser i mi. Pan gymerais fusnes y fferm drosodd oddi wrth fy nhad ychydig o flynyddoedd wedyn, rhoddais ddiwedd ar bob hela ar fy fferm gan gynnwys hela llwynogod. Nid oeddwn yn boblogaidd ymysg fy nghymdogion am eu bod yn ffermwyr defaid i gyd. Y llwynog oedd un o’m hoff greaduriaid gwyllt fel y mae’n awr, ynghyd â’r boda a’r gylfinir. Caf wefr o hyd o weld llwynog heddiw ond dim ond yng nghefn gwlad, lle y mae’n lladdwr hardd, cyfrwys a didostur. Nid oes gennyf feddwl o gwbl o’r sborionwr esgyrnog, trefol a allai ddod i fodolaeth pe bai hela’n gorffen.

There is nothing as evocative as an aroused fox screaming on a still winter’s evening as the mating season approaches. One of the highlights of spring for me was the presence of a wild fox in my garden stalking the Canada geese when they arrived for nesting. The point that I try to make with these brief personal reflections is that I speak as someone who knows the fox and has great respect and almost love for it in the countryside. This attitude has grown out of an affinity with the fox, from seeing it lying broken and helpless in a snare to watching the wily dog trying to make a meal of a Canada goose a few weeks ago.

Nid oes dim mor atgofus â llwynog effro yn sgrechian ar noson dawel o aeaf wrth i’r tymor paru agosáu. Un o uchafbwyntiau’r gwanwyn i mi oedd presenoldeb llwynog gwyllt yn fy ngardd yn dilyn y gwyddau Canada pan gyraeddasant er mwyn nythu. Y pwynt y ceisiaf ei wneud drwy’r myfyrion personol byr hyn yw fy mod yn siarad fel un sydd yn adnabod y llwynog ac sydd â pharch mawr a chariad bron tuag ato yng nghefn gwlad. Mae’r safbwynt hwn wedi datblygu o deimlo cysylltiad â’r llwynog, o’i weld yn gorwedd yn doredig ac yn ddiymadferth mewn magl hyd at weld y cenau cyfrwys yn ceisio gwneud pryd o ŵydd Canada ychydig wythnosau’n ôl.

Twenty years ago I realised that my decision to ban hunting on my land was a huge mistake. Like most businessmen I was driven by profit and, as soon as I stopped any hunting on my land, I also stopped any investment in maintaining the environment in which the creatures I had wanted to hunt could thrive. The biggest loser was, of course, the fox, the ultimate predator. All the owls, the raptors, the mice, the snakes, the beetles, the bees and the slugs disappeared as their cover disappeared.

Ugain mlynedd yn ôl sylweddolais fod fy mhenderfyniad i wahardd hela ar fy nhir yn gamgymeriad mawr. Fel y rhan fwyaf o ddynion busnes cawn fy nghymell gan elw, a chyn gynted ag yr ataliais bob hela ar fy nhir, rhoddais y gorau hefyd i unrhyw fuddsoddi er mwyn cynnal yr amgylchedd lle y gallai’r creaduriaid y dymunaswn eu hela ffynnu. Y collwr mwyaf, wrth gwrs, oedd y llwynog, yr ysglyfaethwr mwyaf. Diflannodd yr holl dylluanod, yr adar ysglyfaethus, y llygod, y nadredd, y chwilod, y gwenyn a’r malwod wrth i’w cuddfannau ddiflannu.

I asked my father-in-law—a true hunting countryman—to take over the farm shoot, organise hunting again and repair the damage that my emotional nonsense had caused. It is a mystery to me today how I, a born and bred countryman, could have allowed a personal dislike of killing wild creatures to make me forget that hunting and killing wild creatures produces the environment in which all wild creature can thrive.

Gofynnais i’m tad yng nghyfraith—gwladwr a heliwr i’r carn—gymryd drosodd y tir hela ar y fferm, trefnu hela eto ac atgyweirio’r difrod a achoswyd gan fy hurtrwydd emosiynol. Mae’n ddirgelwch imi heddiw sut y gallaswn i, un a aned ac a fagwyd yn y wlad, fod wedi caniatáu i atgasedd personol tuag at ladd creaduriaid gwyllt beri imi anghofio mai hela a lladd creaduriaid gwyllt sydd yn creu’r amgylchedd lle y gall yr holl greaduriaid gwyllt ffynnu.

I have great respect for the motives of individuals, like Ron Davies and Louise [sic] Barrett, who are opposed to fox hunting because it is cruel. That is the best of motives, and I share her concerns about animal welfare, but I fundamentally disagree with the conclusions. I ask everyone to look at what Lord Burns says, and what nearly every country person will tell you: of course hunting is cruel, but what really matters is that it is not as cruel as the alternative. We would see poisons, traps, shooting and maiming, and snares. Worst of all we would see the disappearance of the environment in which these wild creatures thrive.

Mae gennyf barch mawr tuag at gymhellion unigolion, fel Ron Davies a Louise [sic] Barrett, sydd yn gwrthwynebu hela llwynogod am ei fod yn greulon. Dyna’r cymhelliad gorau, a rhannaf ei phryderon ynghylch lles anifeiliaid, ond anghytunaf yn sylfaenol â’r casgliadau. Gofynnaf i bawb edrych ar yr hyn a ddywed yr Arglwydd Burns, a’r hyn a ddywed bron bob gwladwr wrthych: mae hela’n greulon, wrth gwrs, ond yr hyn sydd yn bwysig yw nad ydyw mor greulon â’r dewis arall. Gwelem wenwynau, trapiau, saethu ac anafu, a maglau. Yn waethaf oll gwelem ddiflaniad yr amgylchedd lle y mae’r creaduriaid gwyllt hyn yn ffynnu.

There are also those who want to ban fox hunting for the very worst of reasons: class envy. Occasionally we see that in the Assembly, but I do not want to comment on it because it disgusts me so much. In my view that will destroy this dreadful Labour Government.

Ceir rhai hefyd sydd yn dymuno gwahardd hela llwynogod am y rheswm gwaethaf posibl: cenfigen wrth ddosbarth. Gwelwn hynny weithiau yn y Cynulliad, ond ni ddymunaf wneud sylw amdano am fy mod yn ei ffieiddio. Yn fy marn i, bydd hynny’n dinistrio’r Llywodraeth Lafur arswydus hon.

I will never take pleasure from killing wild creatures again, but I know that country sports are responsible for a massive and growing part of the rural economy and it is a guarantee of the environment in which wild creatures can thrive. Hunting the fox is an important part of this. Once hunting foxes has gone it cannot be long until shooting and fishing follow, because there is no moral or intellectual difference between them.

Ni fyddaf byth yn cael pleser o ladd creaduriaid gwyllt eto, ond gwn fod difyrion cefn gwlad yn gyfrifol am ran enfawr a chynyddol o’r economi gwledig ac mae’n rhoi sicrwydd i’r amgylchedd lle y gall creaduriaid gwyllt ffynnu. Mae hela’r llwynog yn rhan bwysig o hyn. Ar ôl i hela llwynogod orffen ni fydd yn hir nes y bydd saethu a physgota’n ei ddilyn, oherwydd nid oes gwahaniaeth moesol neu ddeallusol rhyngddynt.

Many will argue that fox hunting must be retained for economic reasons, many that it must be retained for reasons of civil liberty, many for reasons of protecting livestock, many for reasons associated with social activity and rural tradition. To a greater or lesser extent, I agree with all these arguments. I find it beyond understanding that the urban sentimentality that we see so much of in Britain is intent on criminalising the traditional way of life of the countryside. Most of all I am against a ban on hunting with dogs because I understand and care about a successful future for the fox.

Bydd llawer yn dadlau bod yn rhaid cadw hela llwynogod am resymau economaidd, llawer yn dadlau bod rhaid ei gadw am resymau rhyddid sifil, llawer am resymau diogelu da byw, llawer am resymau sydd yn gysylltiedig â gweithgaredd cymdeithasol a thraddodiad gwledig. I raddau mwy neu lai, cytunaf â phob un o’r dadleuon hyn. Fe’i caf yn anhygoel bod y sentimentaleiddiwch trefol y gwelwn gymaint ohono ym Mhrydain yn benderfynol o wneud ffordd o fyw draddodiadol cefn gwlad yn drosedd. Yn fwy na dim yr wyf yn erbyn gwahardd hela â chŵn am fy mod yn deall ac yn pryderu ynghylch dyfodol llwyddiannus i’r llwynog.

Lorraine Barrett spoken in English p. 93

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 93

I congratulate Gerald, sorry Glyn—well, you called me Louise—on his presentation and I accept that everything he said was from the heart. I know also that he accepts that everything I say is from the heart.

Llongyfarchaf Gerald, mae’n ddrwg gennyf Glyn—wel, fe’m galwasoch i’n Louise—ar ei gyflwyniad a derbyniaf fod popeth a ddywedodd wedi dod o’r galon. Gwn hefyd ei fod yn derbyn bod popeth a ddywedaf fi’n dod o’r galon.

To Jocelyn I say that hunting was not a way of life in Ynys-hir where I was born and brought up. Perhaps you were in a different valley.

Dywedaf wrth Jocelyn nad oedd hela’n ffordd o fyw yn Ynys-hir lle y cefais fy ngeni a’m magu. Efallai eich bod mewn cwm gwahanol.

Although the wording of the Conservatives’ motion today is supposed to be about devolution, I see it as a devious plan to get an opt-out in Wales, or at least less robust legislation than would be the case in England. Cruelty knows no boundaries or borders and neither do the foxes or hounds. I will fight all the way to ensure that Wales becomes a country free from hunting with hounds, with no opt-outs or wobbly bits of legislation. As regards representing Wales, we have 40 Members of Parliament who can make the case to the Home Secretary, if that is their will.

Er bod geiriad cynnig y Ceidwadwyr heddiw i fod i ymwneud â datganoli, fe’i gwelaf yn gynllun cyfrwys i gael eithriad yng Nghymru, neu o leiaf ddeddfwriaeth lai cadarn nag a gaed yn Lloegr. Ni ŵyr creulondeb am ffiniau neu derfynau ac nid yw’r llwynogod a’r bytheiaid ychwaith. Byddaf yn ymladd bob cam o’r ffordd i sicrhau y bydd Cymru’n wlad sydd yn rhydd rhag hela â bytheiaid, heb unrhyw eithrio neu eitemau deddfwriaeth sigledig. O ran cynrychioli Cymru, mae gennym 40 o Aelodau Seneddol sydd yn gallu cyflwyno’r achos i’r Ysgrifennydd Cartref, os hynny yw eu dymuniad.

Jocelyn Davies reiterated the ramblings of William Hague about wasting time on hunting and that we should discuss health, housing and education. We discuss and care about all those issues but it does not mean that we cannot look after defenceless animals. Many people across Wales will be offended by those comments, because opinion polls consistently show that the majority of people in Wales want this cruel sport banned.

Ailadroddodd Jocelyn Davies falu awyr William Hague am wastraffu amser ar hela ac y dylem drafod iechyd, tai ac addysg. Yr ydym yn trafod ac yn poeni am yr holl faterion hynny ond ni olyga hynny na allwn ofalu am anifeiliaid diymadferth. Bydd llawer o bobl ledled Cymru yn cael eu tramgwyddo gan y sylwadau hynny, oherwydd mae arolygon barn yn dangos yn gyson fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dymuno i’r difyrrwch creulon hwn gael ei wahardd.

Kirsty Williams spoken in English p. 94

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 94

I am keen, as Ron Davies is, to be aware of what we are talking about. Banning hunting with hounds will stop more than the people in red coats on horses riding across the countryside. It will also stop, as Jocelyn said, people who wish to manage their rabbit population on their own farms and who do so with shotgun and with lurcher and terrier by their side. We need to make people aware that, when we talk about a ban on hunting with hounds, we are talking about a curtailment of all these activities. If you are just interested in stopping the redcoats on horses, at the same time you will stop many legitimate forms of land management by farmers throughout Wales. They will be criminalised along with the people on horses and the redcoats.

Yr wyf yn awyddus, fel y mae Ron Davies, i fod yn ymwybodol o’r hyn yr ydym yn sôn amdano. Bydd gwahardd hela â bytheiaid yn atal mwy na’r bobl mewn cotiau coch ar gefn ceffylau yn marchogaeth ar draws cefn gwlad. Fel y dywedodd Jocelyn, bydd hefyd yn atal pobl sydd yn dymuno rheoli eu poblogaeth o gwningod ar eu ffermydd ac sydd yn gwneud hynny â gwn peledi a chyda chi potsiwr neu ddaeargi wrth eu hochr. Mae angen inni roi ar ddeall i bobl ein bod, wrth sôn am wahardd hela â bytheiaid yn sôn am gyfyngu ar yr holl weithgareddau hyn. Os mai eich unig ddiddordeb yw atal y cotiau coch ar gefn ceffylau, ar yr un pryd byddwch yn atal llawer o ffurfiau dilys o reoli tir gan ffermwyr ledled Cymru. Fe’u gwneir yn droseddwyr yn yr un modd â’r bobl ar gefn ceffylau a’r cotiau coch.

We must be realistic about practicalities. If you can devise a better way of controlling the fox population in the Elan Valley or on Aberbranfawr in Breconshire, than doing so on horseback, given the nature of the terrain and the amount of land that you have to cover, please let me know. I do not see that there is a practical way of controlling pests in that domain apart from on horseback and with dogs, whether you use them to hunt and kill the fox or to flush it from the undergrowth and brush. I do not see another practical way of achieving pest control in those areas.

Rhaid inni fod yn realistig ynghylch pethau ymarferol. Os gallwch ddyfeisio ffordd well o reoli’r boblogaeth o lwynogod yng Nghwm Elan neu ar Aberbranfawr yn Sir Frycheiniog, na gwneud hynny ar gefn ceffyl, o ystyried natur y tir a maint y tir y mae’n rhaid ichi ei gynnwys, rhowch wybod i mi, os gwelwch yn dda. Ni welaf fod dull ymarferol o reoli plâu ar y tir hwnnw heblaw drwy wneud hynny ar gefn ceffyl a chyda chŵn, pa un a ddefnyddiwch hwy i hela a lladd y llwynog neu i’w godi o’r prysgwydd a’r llwyni. Ni welaf fod dull ymarferol arall o lwyddo i reoli plâu yn yr ardaloedd hynny.

On a second practical issue, how do you intend to implement this legislation, whether it is decided in Westminster or in Cardiff? Wherever it is decided, it needs to be implemented. Believe me, Dyfed-Powys Police has better things to do with its time than to look out for individuals with lurcher and terrier to heel, controlling the rabbit population on their farms.

Ar ail fater ymarferol, sut y bwriadwch weithredu’r ddeddfwriaeth hon, pa un a benderfynir hi yn San Steffan neu yng Nghaerdydd? Lle bynnag y’i penderfynir, mae angen ei gweithredu. Credwch fi, mae gan Heddlu Dyfed-Powys well bethau i’w gwneud â’i amser na chwilio am unigolion â chi potsiwr neu ddaeargi wrth eu sawdl, yn rheoli’r boblogaeth o gwningod ar eu ffermydd.

John Griffiths spoken in English p. 95

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 95

We should put this debate in context. This minority party debate says much about the Conservative Assembly Members. It is an obvious, crude, shabby attempt to use devolution for petty party political purposes and thus is typical, unfortunately, of how they conduct themselves. It is a cynical attempt to subvert the will of the Welsh people, urban and rural, of whom around 70 per cent are consistently in favour of a ban on recreational hunting with horses and hounds. The Tories think that they have a better chance of avoiding a ban in the Assembly than in Westminster. That is the reality. I hope that that expectation is misplaced.

Dylem roi’r ddadl hon yn ei chyd-destun. Mae’r ddadl plaid leiafrifol hon yn dweud llawer am yr Aelodau Cynulliad Ceidwadol. Mae’n ymgais amlwg, amrwd, salw i ddefnyddio datganoli i ddibenion gwleidyddiol pleidiol pitw ac mae felly’n nodweddiadol, yn anffodus o’u ffordd o ymddwyn. Mae’n ymgais sinigaidd i wyrdroi ewyllys pobl Cymru, yn y wlad a’r dref, y mae tua 70 y cant ohonynt yn gyson o blaid gwahardd hela adloniadol gyda cheffylau a bytheiaid. Mae’r Torïaid yn credu bod ganddynt well gobaith o osgoi gwaharddiad yn y Cynulliad nag yn San Steffan. Dyna’r gwir. Gobeithiaf fod y disgwyliad hwnnw’n gyfeiliornus.

Unfortunately for them, they appear not to have let their Westminster colleague—or perhaps I should say ex-colleague—Nigel Evans, in on the wheeze. I listened to him on the radio this morning. He obviously thought that they were serious about devolution and was quite alarmed, as no doubt he would be. By the way, he talked about Wales and the ‘rest of England’—I am not quite sure where that phrase came from. However, there is a communication problem between Nick and Nigel, which was apparent from listening to the radio this morning. They do not have their act together. That makes it obvious what a shabby business this minority party debate is, on a serious issue. [CONSERVATIVE ASSEMBLY MEMBERS: ‘Oh.’] They do not like to hear the truth, Llywydd, but it is the truth. That is why I hear so much protest from my right.

Yn anffodus iddynt hwy, ymddengys nad ydynt wedi rhoi gwybod i’w cydweithiwr yn San Steffan—neu efallai y dylwn ddweud cyn-gydweithiwr—Nigel Evans, am y ddichell. Gwrandewais arno ar y radio y bore yma. Yr oedd yn amlwg ei fod yn credu eu bod o ddifrif ynghylch datganoli ac yr oedd wedi dychryn braidd, fel y byddai’n sicr o wneud. Gyda llaw, soniai am Gymru a ‘gweddill Lloegr’—nid wyf yn sicr o ble y daeth yr ymadrodd hwnnw. Fodd bynnag, mae problem cyfathrebu rhwng Nick a Nigel, a oedd yn amlwg o wrando ar y radio y bore yma. Nid ydynt wedi rhoi trefn ar eu pethau. Mae hynny’n dangos mor salw yw busnes y ddadl plaid leiafrifol hon, ar fater difrifol. [AELODAU CEIDWADOL O’R CYNULLIAD: ‘O.’] Ni hoffant glywed y gwir, Lywydd, ond y gwir ydyw. Dyna pam y clywaf gymaint o brotestio ar yr ochr dde i mi.

The last three clauses of their motion show just how out of touch with reality and public opinion they are. They mention ‘vermin control’, when this is really about so-called sport. We all realise that the Conservatives are just trying to cloud the issue. We have learnt of hunts feeding young foxes to make sure that they have foxes to hunt. That has been documented recently and puts that into perspective. They say that this is supposedly about jobs, but the Burns report makes it clear that the number of jobs involved has always been grossly exaggerated and that there is scope for diversification. They also say that this is supposedly about ‘the fabric of rural life’. However, the majority of people in rural areas want a ban and believe that this barbarity has no place in the new millennium, that there is no place for hunting foxes to exhaustion and hounds ripping them apart and no place for barbarity in rural life. We should remember that barbarity towards animals has a general brutalising effect, which makes barbarity towards humans more likely. This is a moral matter. The moral case is crystal clear. As the vast majority of—

Mae tri chymal olaf eu cynnig yn dangos i ba raddau y maent wedi colli golwg ar realiti a’r farn gyhoeddus. Soniant am ‘reoli pla’, pan fo hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â difyrrwch honedig. Yr ydym oll yn sylweddoli nad yw’r Ceidwadwyr ond yn ceisio tywyllu cyngor. Cawsom wybod am helfeydd yn bwydo llwynogod ifanc i sicrhau bod ganddynt lwynogod i’w hela. Dogfennwyd hynny’n ddiweddar ac mae’n rhoi hynny yn ei wir oleuni. Honnant fod hyn yn ymwneud â swyddi, ond mae adroddiad Burns yn rhoi ar ddeall bod gorddweud dybryd erioed am y nifer o swyddi sydd yn gysylltiedig a bod cyfle i arallgyfeirio. Honnant hefyd fod hyn yn ymwneud â ‘brithwe bywyd cefn gwlad’. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl mewn ardaloedd gwledig o blaid gwaharddiad a chedant nad oes lle i’r creulondeb hwn yn y mileniwm newydd, nad oes lle i hela llwynogod nes eu bod yn diffygio a bytheiaid yn eu rhwygo’n ddarnau a dim lle i greulondeb ym mywyd cefn gwlad. Dylem gofio bod creulondeb tuag at anifeiliaid yn cael effaith bwystfileiddio gyffredinol, sydd yn peri bod creulondeb tuag at bobl yn fwy tebygol. Mae hyn yn fater moesol. Mae’r achos moesol yn berffaith glir. Fel y rhan fwyaf o—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 96

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 96

You have made a good argument for banning football completely because of the hooligans in Europe during Euro 2000.

Yr ydych wedi cyflwyno dadl dda dros wahardd pêl droed yn gyfan gwbl oherwydd yr hwliganiaid yn Ewrop yn ystod Ewro 2000.

John Griffiths spoken in English p. 96

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 96

There was a great need to control the actions of English so-called football supporters, which I would like to see happen. There is no analogy as far as fox hunting is concerned. It is a silly point.

Yr oedd mawr angen rheoli gweithredoedd cefnogwyr pêl droed honedig Lloegr, a hoffwn weld hynny’n digwydd. Nid oes tebygrwydd rhwng hynny a hela llwynogod. Mae’n bwynt gwirion.

I conclude by saying that it is a moral matter and the moral case is clear. The vast majority in town and country believe that that is the case. They want recreational hunting banned as quickly as possible. Morality demands no less.

Terfynaf drwy ddweud ei fod yn fater moesol ac mae’r achos moesol yn eglur. Mae’r mwyafrif helaeth yn y wlad a’r dref yn credu bod hynny’n wir. Maent o blaid gwahardd hela adloniadol mor fuan â phosibl. Mae moesoldeb yn mynnu dim llai na hynny.

David Davies spoken in Welsh and English p. 96

David Davies siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 96

I declare an interest as I am a proud follower of the Llangibby hunt in Monmouthshire. The Conservative Party proposed this motion because a ban on hunting would bring further devastation to the rural areas of Wales. That is why we brought this debate forward and why it is important that it is discussed in Wales. We had excellent interventions from my colleagues in the Conservative Party, from Cynog Dafis, Mick Bates and others. We also had poor speeches and interventions from other parts of the Assembly. I name no names.

yn Saesneg Datganaf fuddiant fel un sydd yn falch o ddilyn helfa Llangibby yn Sir Fynwy. Cynigiodd y Blaid Geidwadol y cynnig hwn am y byddai gwahardd hela yn dod â distryw pellach i ardaloedd gwledig Cymru. Dyna pam y cyflwynasom y ddadl hon a pham y mae’n bwysig ei thrafod yng Nghymru. Cawsom ymyriadau rhagorol gan fy nghyd-Aelodau yn y Blaid Geidwadol, gan Cynog Dafis, Mick Bates ac eraill. Cawsom hefyd areithiau ac ymyriadau gwael o rannau eraill o’r Cynulliad. Nid enwaf unrhyw un.

The one issue that Labour group Members—and I include Rhodri Morgan’s answers to earlier questions—are not prepared to deal with is why they are so determined to implement this ban. They try to tell us that it is a matter of animal welfare. We heard, in a good speech from William Graham, that animal welfare does not come into this. If we were talking about animal welfare, we would be discussing shooting. There is no mention of that, as William pointed out. An animal that has been shot can limp off with a pellet in its body to die a lingering death many hours or days later. There is no mention of shooting and there is no mention of angling either. If I were a fish, I would not want to be pulled out of the water, half suffocated, to have a fly ripped out of my mouth and then thrown back in, possibly with some sort of injury. But angling is not mentioned. On the contrary, Tony Blair has said that he has no plans to ban angling. Why is it different from hunting? There is no logical explanation for it if animal welfare is the issue. It is not because hunting is an inefficient method of pest control. Section 62 of the Burns report clearly states that hunting is the most efficient form of pest control in many parts of Wales, particularly in upland areas. It is more efficient than shooting and infinitely less cruel than many methods which William Graham mentioned, particularly snaring or shooting. The ban is not being implemented because hunting is an efficient means of pest control. It is the most efficient means of pest control and one of the most humane ways to kill a fox. Section 56 of the Burns report clearly states that a fox will always be dead within seconds of being cornered by a pack.

yn Saesneg Yr unig fater nad yw Aelodau’r grŵp Llafur—a chynhwysaf atebion Rhodri Morgan i gwestiynau cynharach—yn barod i ymdrin ag ef yw pam eu bod mor benderfynol o roi’r gwaharddiad hwn ar waith. Ceisiant ddweud wrthym ei fod yn fater o les anifeiliaid. Clywsom, mewn araith dda gan William Graham, nad yw lles anifeiliaid yn rhan o hyn. Pe baem yn sôn am les anifeiliaid, byddem yn trafod saethu. Nid oes sôn am hynny, fel y nododd William. Gall anifail a saethwyd hercian oddi yno â pheled yn ei gorff a marw’n araf oriau neu ddyddiau lawer yn ddiweddarach. Nid oes sôn am saethu ac nid oes sôn am enweirio ychwaith. Pe bawn yn bysgodyn, ni ddymunwn gael fy nhynnu o’r dŵr, fy hanner mygu, cael tynnu pluen o’m safn a’m taflu’n ôl, efallai â rhyw fath o anaf. Ond nid oes sôn am enweirio. I’r gwrthwyneb, dywedodd Tony Blair nad oes ganddo fwriad i wahardd genweirio. Pam y mae’n wahanol i hela? Nid oes eglurhad rhesymegol am hynny os mai lles anifeiliaid yw’r mater dan sylw. Nid ydyw am fod hela’n ddull aneffeithlon o reoli plâu. Dywed adran 62 o adroddiad Burns yn eglur mai hela yw’r ffurf fwyaf effeithlon o reoli plâu mewn llawer rhan o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd mynyddig. Mae’n fwy effeithlon na saethu ac yn llai creulon o lawer na llawer o’r dulliau a grybwyllodd William Graham, yn enwedig maglu neu saethu. Ni weithredir y gwaharddiad am ei fod hela’n ddull effeithlon o reoli plâu. Hwn yw’r dull mwyaf effeithlon o reoli plâu ac un o’r dulliau mwyaf gwaraidd o ladd llwynog. Dywed adran 56 o adroddiad Burns yn eglur y bydd llwynog bob amser yn marw o fewn eiliadau o gael ei gornelu gan haid o gŵn.

Why is the Labour Party so determined to implement this ban? Glyn Davies was right. This has much more to do with their pathetic efforts to start a class war. John Griffiths brought it into a debate the other day when he called for the abolition of private schools. That is what this is all about. Look at the history of what the Government has said about hunting. Before the general election, the Government wanted to implement a ban. It changed its mind after the general election because it did rather well and won a few rural seats, including Monmouthshire. The Countryside Alliance marched on London. The Government did not want to know about the ban then. The reality has dawned after what happened in Ceredigion and—dare I say it—in Monmouthshire in the last Assembly elections. The Labour Party has lost all support in those constituencies, because it has been one thing after another bringing devastation into rural communities. There are no votes left for it in those constituencies.

yn Saesneg Pam fod y Blaid Lafur mor benderfynol o roi’r gwaharddiad hwn ar waith? Yr oedd Glyn Davies yn gywir. Mae hyn yn ymwneud yn fwy â’i hymdrechion truenus i ddechrau rhyfel dosbarth. Fe’i cyflwynwyd mewn dadl gan John Griffiths y diwrnod o’r blaen pan alwodd am ddileu ysgolion preifat. Dyna bwrpas hyn. Edrychwch ar hanes yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth am hela. Cyn yr etholiad cyffredinol, yr oedd y Llywodraeth yn dymuno rhoi gwaharddiad ar waith. Ailfeddyliodd ar ôl yr etholiad cyffredinol am iddi wneud yn eithaf da ac ennill ychydig o seddi gwledig, gan gynnwys Sir Fynwy. Gorymdeithiodd y Gynghrair Cefn Gwlad hyd Lundain. Ni ddymunai’r Llywodraeth sôn am y gwaharddiad bryd hynny. Mae wedi deffro i realiti ar ôl yr hyn a ddigwyddodd yng Ngheredigion a—meiddiaf ddweud—yn Sir Fynwy yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Mae’r Blaid Lafur wedi colli pob cefnogaeth yn yr etholaethau hynny, oherwydd mae un peth ar ôl y llall wedi dod â distryw i gymunedau gwledig. Nid oes pleidleisiau ar ôl iddi yn yr etholaethau hynny.

Across the rest of the country, people have woken up to the fact that, as Jocelyn said, the Labour Government has not tackled the issues of law and order, education, health, transport and all the other issues about which it makes so many great promises. It has not tackled them and now it has decided to write off the rural areas completely and try to take people’s minds off its failures by bringing about a ban on hunting. It paints a picture of a furry four-legged beast being chased by toffs on horseback. That is the image that it wants to present and it is far from the reality.

yn Saesneg Ar draws gweddill y wlad, mae pobl wedi deffro i’r ffaith, fel y dywedodd Jocelyn, nad yw’r Llywodraeth Lafur wedi mynd i’r afael â materion cyfraith a threfn, addysg, iechyd, trafnidiaeth a’r holl faterion eraill y gwna gymaint o addewidion mawr yn eu cylch. Nid aeth i’r afael â hwy ac mae bellach wedi penderfynu diystyru ardaloedd gwledig yn llwyr a cheisio tynnu sylw pobl oddi wrth ei methiannau drwy weithredu gwaharddiad ar hela. Mae’n tynnu llun o greadur blewog ar bedair coes yn cael ei erlid gan grachach ar gefn ceffylau. Dyna’r ddelwedd y dymuna ei chyflwyno ac mae ymhell o’r gwirionedd.

Nid yw’r Llywodraeth hon yn poeni am y miloedd o swyddi yng nghymunedau cefn gwlad. Nid yw’n poeni am hawliau’r ffermwyr i ddelio â phlâu neu am les y llwynog. Nid yw’r Llywodraeth hon ond yn poeni am ennill yr etholiad nesaf.

in Welsh This Government is not concerned about the thousands of jobs in rural communities. It is not concerned about the rights of farmers in dealing with pests or about the welfare of the fox. This Government is only concerned about winning the next election.

It is a disgrace. We bring this motion before the Assembly and ask Members to support jobs in rural areas and the rural economy. We ask them to support the rights of farmers in dealing properly and efficiently with pests. We ask them to support the environment. Virgin countryside in upland areas and all the benefits that come from that, for example, have been mentioned.

yn Saesneg Mae’n warth. Cyflwynwn y cynnig hwn gerbron y Cynulliad a gofynnwn i’r Aelodau gefnogi swyddi mewn ardaloedd gwledig a’r economi wledig. Gofynnwn iddynt gefnogi hawliau ffermwyr wrth ddelio’n briodol ac yn effeithlon â phlâu. Gofynnwn iddynt gefnogi’r amgylchedd. Soniwyd, er enghraifft, am gefn gwlad gwyryfol mewn ardaloedd gwledig a’r holl fanteision a ddaw o hynny.

We ask people to support this motion, because it is the best thing that can be done for the welfare of the fox. That is why we ask you to support it. Show your courage.

yn Saesneg Gofynnwn i bobl gefnogi’r cynnig hwn, oherwydd dyna’r peth gorau y gellir ei wneud er lles y llwynog. Dyna pam y gofynnwn ichi ei gefnogi. Dangoswch eich dewrder.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 99

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 99

Gan fod gwelliannau 1 a 2 yr un fath, pleidleisiwn arnynt gyda’i gilydd.

We will vote on amendments 1 and 2 together because they are identical.

Cynnig Peter Rogers t. 99

Motion Peter Rogers p. 99

DerbyniwydAdopted O blaidFor 41 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 13

Derbyniwyd gwelliannau 1 a 2.

Amendments 1 and 2 adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (41)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (13)
  • Mick Bates
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Jane Davidson
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Val Feld
  • William Graham
  • David Melding
  • Lynne Neagle
  • Peter Rogers
  • Kirsty Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 99

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 99

Mae gwelliant 3 wedi ei dynnu yn ôl. Gan fod gwelliannau 1 a 2 wedi’u derbyn, mae gwelliant 4 yn syrthio. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amendment 3 has been withdrawn. As amendments 1 and 2 have been adopted, amendment 4 falls. Therefore, I call for a vote on the amended motion.

Cynnig wedi’i ddiwygio: Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth Ei Mawrhydi yn San Steffan ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu ar gwestiwn hela gyda chŵn yng Nghymru drwy lunio unrhyw Fesur i ddarparu dibenion is-ddeddfwriaethol i’r perwyl hwn.

Amended motion: the National Assembly for Wales calls upon the Government of Wales to request Her Majesty’s Government at Westminster to allow the National Assembly for Wales to decide on the question of hunting with dogs in Wales by framing any Bill to provide for secondary legislative purposes to this end.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 28 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 27

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (28)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (27)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 100

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 100

Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch yn fawr i’r Aelodau.

That is the end of today’s business. Thank you to Members.

Daeth y cyfarfod i ben am 5:29 p.m.

The session ended at 5:29 p.m.