English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Iau 28 Chwefror 2002

Thursday 28 February 2002

DechreuoddMet 09:05 · Daeth i benRose 12:47

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r GymraegQuestions to the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language Ariannu Datblygiadau Chwaraeon Funding Sport Development
    1. 5Prosiect Rhwydwaith y BoblPeople’s Network Project
    2. 7Codi Proffil Artistiaid Cymru DramorRaising the Profile of Welsh Artists Abroad
    3. 9Hyrwyddo Chwaraeon ac Addysg Gorfforol mewn Ysgolion a Chymunedau LleolPromotion of Sport and Physical Education in Schools and Local Communities
    4. 11Defnyddio Talent ein GwladUsing Home-grown Talent
  2. 13Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y CynulliadQuestions to the Minister for Rural Affairs and Assembly Business
    1. 13Ffermwyr Rhan AmserFarmers Classed as Part-Time
    2. 14Ymchwiliad Gwersi i’w DysguLessons to be Learned Inquiry
    3. 16Achosion o Glefyd y Crafu mewn DefaidIncidence of Scrapie in Welsh Sheep
    4. 17Clwy’r Traed a’r GenauFoot and Mouth Disease
    5. 18Hyrwyddo Cynnyrch o Gymru mewn Marchnadoedd RhyngwladolPromotion of Welsh Produce in International Markets
    6. 20Ymchwiliad Senedd Ewrop i Glwy’r Traed a GenauEuropean Parliament’s Foot and Mouth Disease Inquiry
  3. 21Cwestiynau ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i’r Gweinidog dros Ddatblygu EconomaiddQuestions on Information and Communications Technology to the Minister for Economic Development
    1. 21Gwasanaeth Band LlydanBroadband Service
    2. 23Cyllid ar gyfer Technoleg GwybodaethFunding Allocated to Information Technology
    3. 25Twf TGCh o fewn Ardaloedd Amcan 1Growth of ICT in Objective 1 Areas
    4. 27Cadw Sgiliau TGCh ar Lefel UchelRetention of High Level ICT Skills
    5. 29Rhaniad DigidolDigital Divide
  4. 31Datganiad ar Adolygiad o Leoliad Swyddfeydd y CynulliadStatement on the Relocation Review
  5. 44Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 4) (Cymru) 2002Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 4) (Wales) 2002 1 bleidlais1 vote
  6. 51Canlyniad Ad-drefnu Cyngor Celfyddydau CymruThe Outcome of Restructuring the Arts Council of Wales 7 o bleidleisiau7 votes
  7. 77Pwynt o DrefnPoint of Order
  8. 78Y Strategaeth Ieithoedd Tramor Modern GenedlaetholThe National Modern Foreign Languages Strategy 3 o bleidleisiau3 votes
  9. 100Pwynt o DrefnPoint of Order
  10. 101Dadl FerShort Debate
    1. 101Ffermydd GwyntWindfarms

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 4) (Cymru) 2002Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 4) (Wales) 2002
Cynnig NDM970Motion NDM9704600DerbyniwydAdopted
Canlyniad Ad-drefnu Cyngor Celfyddydau CymruThe Outcome of Restructuring the Arts Council of Wales
Gwelliant 1Amendment 121026GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 271426GwrthodwydRejected
Gwelliant 3Amendment 371526GwrthodwydRejected
Gwelliant 4Amendment 422028GwrthodwydRejected
Gwelliant 5Amendment 522028GwrthodwydRejected
Gwelliant 6Amendment 621028GwrthodwydRejected
Cynnig NDM972Motion NDM9724503DerbyniwydAdopted
Y Strategaeth Ieithoedd Tramor Modern GenedlaetholThe National Modern Foreign Languages Strategy
Gwelliant 1Amendment 181228GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 281228GwrthodwydRejected
Cynnig NDM971Motion NDM9714800DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 9.05 a.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 9.05 a.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg

Questions to the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language Ariannu Datblygiadau Chwaraeon Funding Sport Development

Q1 Peter Black spoken in English p. 3

C1 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 3

What are the Minister’s priorities in funding sporting development in Wales? (OAQ15876)

Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ynghylch ariannu datblygiadau chwaraeon yng Nghymru? (OAQ15876)

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language spoken in English p. 3

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Saesneg t. 3

My priorities, as set out in the Assembly Government’s ‘Plan for Wales 2001’, are to increase participation and achieve excellence in sport at all ages, with particular emphasis on helping young people, and encouraging greater female participation in sport.

Fy mlaenoriaethau, fel y nodwyd yn y ‘Cynllun i Gymru 2001’ gan Lywodraeth y Cynulliad, yw cynyddu cyfranogiad a chyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon ym mhob oedran, gyda’r prif bwyslais ar helpu pobl ifanc, ac annog merched i gyfranogi mwy mewn chwaraeon.

Peter Black spoken in English p. 3

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 3

Given the slight improvement in the performance of the national rugby team, can we support the grass roots development of rugby across Wales to further improve performance in future internationals?

O gofio bod perfformiad y tîm rygbi cenedlaethol wedi gwella ychydig, a allwn ni gefnogi datblygu rygbi ar lawr gwlad ledled Cymru er mwyn gwella perfformiad mewn gemau rhyngwladol yn y dyfodol?

Jenny Randerson spoken in English p. 3

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 3

Without commenting on the performance of the national team, money for sport is channelled through the Sports Council for Wales. It supports the development of rugby in Wales through many different schemes, such as lottery funding, Community Chest and Sportsmatch. It also jointly funds, with the Welsh Rugby Union, an athlete career and education adviser, which links in lifestyle management training. Financial support is also provided for the development of women’s rugby football in Wales. I went to the last women’s international at Bridgend, which was an interesting and enjoyable experience.

Heb wneud sylwadau ar berfformiad y tîm cenedlaethol, caiff arian ar gyfer chwaraeon ei sianelu drwy Gyngor Chwaraeon Cymru. Bydd yn cefnogi datblygu rygbi yng Nghymru drwy sawl cynllun gwahanol, megis arian y loteri, Y Gist Gymunedol a Sportsmatch. Bydd hefyd, gydag Undeb Rygbi Cymru, yn cyd-ariannu ymgynghorydd gyrfa ac addysg i athletwyr, sy’n cynnwys hyfforddiant mewn rheoli ffordd o fyw. Darperir cymorth ariannol hefyd i ddatblygu rygbi merched yng Nghymru. Euthum i’r gêm rygbi ryngwladol ddiweddaraf i ferched ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn brofiad diddorol a difyr.

Glyn Davies spoken in English p. 3

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

Will you discuss the funding of the League of Wales with the Football Association of Wales to discover whether there is a role for the National Assembly in its development? Do you recognise that the collapse of the League of Wales would ensure that the poor results achieved by Wales over a long period—notwithstanding the Argentina game—will continue?

A drafodwch gyllido Cynghrair Cymru â Chymdeithas Pêl-droed Cymru i ddarganfod a oes swyddogaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y datblygiad hwnnw? A gydnabyddwch y byddai dymchwel Cynghrair Cymru yn sicrhau parhad y canlyniadau gwael y mae Cymru wedi eu cael dros gyfnod hir––heb gynnwys gêm yr Ariannin?

Jenny Randerson spoken in English p. 4

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 4

I recognise the seriousness of people’s concerns about all levels of football in Wales. Football development requires a new look, and for that reason, I set up the football forum, of which I know you are aware, Glyn. The forum is working constructively, and is about halfway through its work. It is chaired by the chair of the Sports Council for Wales, but includes representatives of all the main interested parties in Welsh football. I hope that there will be some wide-ranging recommendations for changing the funding. The issues that you raise are best dealt with in the light of the forum’s report, which I expect to be particularly relevant to this matter.

Cydnabyddaf ddifrifoldeb pryderon pobl ynglŷn â phêl-droed ar bob lefel yng Nghymru. Mae angen edrych o’r newydd ar ddatblygu pêl-droed, ac i’r perwyl hwnnw y sefydlais y fforwm pêl-droed, y gwn eich bod yn ymwybodol ohono, Glyn. Mae’r fforwm yn gweithio’n adeiladol, ac mae tua hanner ffordd drwy ei waith. Caiff ei gadeirio gan gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, ond mae’n cynnwys cynrychiolaeth o bob carfan sydd â diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru. Gobeithiaf y bydd argymhellion eang eu cwmpas ar gyfer newid y cyllido. Mae’n well mynd i’r afael â’r materion sydd gennych o dan sylw yng nghyd-destun adroddiad y fforwm, a disgwyliaf iddo fod yn berthnasol iawn i’r mater hwn.

Alun Pugh spoken in English p. 4

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 4

Outdoor adventure activities are great fun, but they are not without risks, as fatal accidents to scouts in Snowdonia and divers in the Dorothea quarry have shown. Will you ensure that funding is available to minimise the risks to participants in these activities?

Gall gweithgareddau awyr agored fod yn hwyl, ond mae risgiau yn gysylltiedig â hwy, fel yr amlygwyd gan ddamweiniau angheuol i sgowtiaid yn Eryri a phlymwyr yn chwarel Dorothea. A sicrhewch fod cyllid ar gael i leihau’r risg i’r bobl sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn?

Jenny Randerson spoken in English p. 4

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 4

I am grateful to you, Alun, for raising this issue some time ago in a short debate. Unfortunately, since then, the trail of accidents has continued. I am making rapid progress at present in setting up an outdoor activities forum, which will provide ongoing advice on risk issues, and I hope that it will lead to some wide ranging recommendations. I expect to make an announcement on that in the near future.

Yr wyf yn ddiolchgar i chi, Alun, am godi’r mater hwn beth amser yn ôl mewn dadl fer. Yn anffodus, ers hynny, mae’r damweiniau wedi parhau. Mae trefniadau yn mynd rhagddynt yn hwylus i sefydlu fforwm gweithgareddau awyr agored a fydd yn darparu cyngor parhaus ar faterion yn ymwneud â risg, a gobeithiaf y bydd yn arwain at argymhellion eang eu cwmpas. Gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hynny yn y man.

Owen John Thomas spoken in English p. 4

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 4

The Minister will be aware of the popularity of Welsh baseball among many of the men, women and schoolchildren of Cardiff and Newport, and of the minuscule funding it receives from the Sports Council for Wales. The Welsh Baseball Association is now 110 years old and is a distinctive and proud part of our rich cultural heritage. Will the Minister pledge to give serious consideration to increasing the funding for this special part of our sporting tradition?

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o boblogrwydd pêl-fas Cymru ymysg llawer o ddynion, merched a phlant ysgol ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, ac o’r cyllid pitw a dderbynia gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Mae Cymdeithas Pêl-Fas Cymru bellach yn 110 oed ac yn rhan amlwg a balch o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog. A wnaiff y Gweinidog addewid y bydd yn dwys ystyried cynyddu’r cyllid ar gyfer y rhan arbennig hon o’n traddodiad chwaraeon?

Jenny Randerson spoken in English p. 4

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 4

I will investigate the baseball situation in detail and write to you with the facts and figures.

Ymchwiliaf i sefyllfa pêl-fas yn fanwl ac ysgrifennaf atoch gyda’r ffeithiau a’r ffigurau.

John Griffiths spoken in English p. 5

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 5

Sport for all is the inclusive goal that we must achieve. Reaching our most disadvantaged communities is one of the most important and difficult aspects of that work. However, those communities would benefit disproportionately from the schemes that reach them. What further imaginative and effective developments will you introduce?

Chwaraeon i bawb yw’r nod holl gynhwysol sydd rhaid inni ei gyflawni. Un o agweddau pwysicaf ac anoddaf y gwaith hwnnw fydd cyrraedd ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, byddai’r cymunedau hynny yn elwa yn anghyfartal ar y cynlluniau sy’n eu cyrraedd. Pa ddatblygiadau creadigol ac effeithiol eraill a gyflwynwch?

Jenny Randerson spoken in English p. 5

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 5

I share your concerns about bringing sport to the most disadvantaged in our communities, particularly as there is such a strong link between social disadvantage and ill health. Sport is clearly a key issue in improving health. There are already a number of schemes such as Dragon Sports, Girls First and Clwb Cymru, which are operated by the Sports Council for Wales. They include social inclusion factors. In addition, the £48.5 million from the new opportunities fund will go to schools, and will take account of the areas of greater social deprivation. In the autumn, the Culture Committee will start a review of sport, and this is one issue that Committee members will be interested to consider, to see if we can achieve even more.

Rhannaf eich pryderon ynglŷn â chyflwyno chwaraeon i’r bobl mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau, yn arbennig o ystyried y cysylltiad agos sydd rhwng amddifadedd cymdeithasol ac iechyd gwael. Mae’n amlwg bod chwaraeon yn fater allweddol mewn gwella iechyd. Mae llawer o gynlluniau eisoes a weithredir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, megis Chwaraeon y Ddraig, Merched yn Gyntaf a Chlwb Cymru. Maent yn cynnwys ffactorau cynhwysiant cymdeithasol. Yn ogystal, bydd y £48.5 miliwn o’r gronfa cyfleoedd newydd yn mynd i ysgolion, gan ystyried yr ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol mwyaf. Yn yr hydref, bydd y Pwyllgor Diwylliant yn dechrau adolygiad chwaraeon, a dyma un mater a fydd o ddiddordeb i aelodau’r Pwyllgor i’w ystyried, i weld a allwn gyflawni hyd yn oed mwy.

Prosiect Rhwydwaith y Bobl

People’s Network Project

Q2 Christine Gwyther spoken in English p. 5

C2 Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 5

Will the Minister make a statement about the people’s network project? (OAQ15937)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch prosiect rhwydwaith y bobl? (OAQ15937)

Jenny Randerson spoken in English p. 5

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 5

We have provided £6.5 million through the new opportunities fund to implement the people’s information and communications technology network in Wales, and a further £870,000 to train library staff. The initiative will bring all public libraries online and provide assisted internet access and other ICT services for the public. The number of computer terminals in public libraries in Wales will rise from about 200 to some 2,000.

Rhoddwyd £6.5 miliwn gennym drwy’r gronfa cyfleoedd newydd i weithredu rhwydwaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i’r bobl yng Nghymru, yn ogystal â £870,000 yn ychwanegol i hyfforddi staff llyfrgell. Daw y fenter â’r holl lyfrgelloedd cyhoeddus ar-lein a bydd yn darparu mynediad â chymorth i’r rhyngrwyd a gwasanaethau TGCh eraill i’r cyhoedd. Bydd nifer y terfynellau cyfrifiadurol mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn cynyddu o tua 200 i oddeutu 2,000.

Christine Gwyther spoken in English p. 6

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 6

That is good news for Wales, and particularly so for rural Wales. I am concerned about limiting benefits to communities where the local library is only open for perhaps a couple of hours a day, as in my constituency. What mechanism will be used for measuring the success of the take-up? Do you have a view on advising local authorities to extend the opening hours of local libraries where the take-up has been more than marginal?

Mae hynny yn newyddion da i Gymru, ac yn arbennig i Gymru wledig. Yr wyf yn bryderus ynghylch cyfyngu ar y manteision mewn cymunedau lle mai dim ond am tua dwy awr y dydd y bydd y llyfrgell leol ar agor, fel sydd yn wir am fy etholaeth i. Pa beirianwaith a ddefnyddir i fesur y niferoedd o bobl a fydd yn eu defnyddio? A oes gennych farn ynglŷn â chynghori awdurdodau lleol i ymestyn oriau agor y llyfrgelloedd lleol lle y ceir tipyn o ddefnydd o hyn?

Jenny Randerson spoken in English p. 6

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 6

You raise some important points, Christine. We hope that the roll-out will be completed by the end of this year and, at that point, we can start monitoring the effectiveness and extent of usage of the facility. An important issue to bear in mind is that there will be no charge for these facilities in Wales, unlike the rest of the UK, where at least 10 per cent of them will be subject to charges by local authorities.

Yr ydych yn codi rhai pwyntiau pwysig, Christine. Gobeithiwn y bydd y gwaith o’i gyflwyno wedi dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac erbyn hynny, gallwn ddechrau monitro effeithiolrwydd a’r defnydd a wneir o’r adnodd. Mater pwysig i’w gadw mewn cof yw na chodir tâl am ddefnyddio’r adnoddau hyn yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, lle y bydd awdurdodau lleol yn codi tâl am o leiaf 10 y cant ohonynt.

In terms of rural areas and hours of opening, the new library standards introduced toward the end of last year relate to the opening hours of libraries. When monitoring the development and effectiveness of this initiative, I will bear in mind the issues that you raised on the opening hours of libraries in rural areas.

Yn nhermau ardaloedd gwledig ac oriau agor, mae’r safonau llyfrgelloedd newydd a gyflwynwyd ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf yn ymwneud ag oriau agor llyfrgelloedd. Wrth fonitro datblygiad ac effeithiolrwydd y fenter hon, byddaf yn cadw mewn cof y materion a godwyd gennych ynglŷn ag oriau agor llyfrgelloedd mewn ardaloedd gwledig.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 6

Yn eich adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant ddoe, gwnaethoch sôn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i fynd yn fyw gyda rhwydwaith y bobl. Hyderaf yr ymunwch â mi wrth longyfarch y cyngor. Gobeithiwn y bydd pob cyngor arall yn dilyn. Fe’ch anogaf, mewn perthynas ag ardaloedd gwledig, i fynd ymhellach na meddwl am lyfrgelloedd yn unig. Beth am ysgolion gwledig? Oni fedr yr ysgolion hynny ddatblygu yn ganolfannau gwybodaeth, gan roi cyfleoedd addysg gydol oes i bobl drwy sefydlu’r rhwydweithiau hyn yn yr ysgolion hynny?

In your report to the Culture Committee yesterday, you said that Rhondda Cynon Taff County Borough Council was the first authority in Wales to go live with the people’s network. I am sure that you join me in congratulating the council. We hope that all other councils will follow suit. I urge you, in terms of rural areas, to go further than thinking of libraries alone. What about rural schools? Could those schools not develop into information centres, affording lifelong learning opportunities for people through establishing these networks in those schools?

Jenny Randerson spoken in English p. 6

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 6

It is important to recognise that Rhondda Cynon Taff council was the first authority to get complete network coverage. Many other authorities are hot on its heels, which is why I can say with confidence that I expect the whole of Wales to have network coverage by the end of 2002.

Mae’n bwysig cydnabod mai cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod cyntaf i gwblhau cyrhaeddiad y rhwydwaith. Mae sawl awdurdod arall bron â chyrraedd y nod, a dyna pam y gallaf ddweud yn hyderus fy mod yn disgwyl y bydd cyrhaeddiad i’r rhwydwaith gan Gymru gyfan erbyn diwedd 2002.

On placing these facilities in other venues, several other projects and funds can be used for providing ICT in schools. Many schools already have facilities such as computer suites, which are open to members of the community, paid for through past and ongoing funding. This is designed for people who perhaps have not used their library before, and for those without online access at home. It is designed to modernise and update the image of libraries to make them resources for modern information, in the same way as they were resources for information through books in the early part of the last century. Modern libraries provide an all-round service.

Drwy roi’r adnoddau hyn mewn lleoliadau eraill, gellir defnyddio nifer o brosiectau a chronfeydd eraill i ddarparu TGCh mewn ysgolion. Mae gan lawer o ysgolion gyfleusterau megis ystafelloedd cyfrifiadurol eisoes, sydd ar agor i aelodau o’r gymuned, a gaiff eu hariannu drwy gyllid blaenorol a pharhaus. Cynllunnir hyn ar gyfer y bobl hynny nad ydynt wedi defnyddio’u llyfrgell cyn hyn, ac ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fynediad ar-lein gartref. Fe’i cynlluniwyd i foderneiddio a diweddaru delwedd llyfrgelloedd a’u gwneud yn adnodd ar gyfer gwybodaeth fodern, yn yr un modd ag yr oeddynt yn adnodd gwybodaeth drwy lyfrau yn ystod rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae llyfrgelloedd modern yn darparu gwasanaeth cyflawn.

Codi Proffil Artistiaid Cymru Dramor

Raising the Profile of Welsh Artists Abroad

C3 Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Q3 Ieuan Wyn Jones Leader of the Opposition spoken in Welsh p. 7

Ym mha ffordd y bydd strategaeth ddiwylliant y Gweinidog yn codi proffil artistiaid Cymru dramor? (OAQ15946)

How will the Minister’s culture strategy raise the profile of Welsh artists abroad? (OAQ15946)

Jenny Randerson spoken in English p. 7

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 7

‘Creative Future: Cymru Greadigol’ includes several actions that aim to raise the profile of Welsh artists abroad. For example, I have asked the Arts Council of Wales to review the funding policy for promoting festivals and major exhibitions internationally, in liaison with the Wales Tourist Board, the Welsh Development Agency, the National Museums and Galleries of Wales and the Welsh Local Government Association. I have also asked the arts council for proposals to strengthen Wales Arts International, which will enable it to better promote professional and contemporary Welsh artists abroad, highlighting the best from Wales across all art forms. The increase in the council’s budget will allow it to make significant headway on this.

Mae ‘Creative Future: Cymru Greadigol’ yn cynnwys sawl gweithgaredd sydd â’r nod o godi proffil artistiaid Cymru dramor. Er enghraifft, gofynnais i Gyngor Celfyddydau Cymru adolygu’r polisi ariannu ar gyfer hyrwyddo gwyliau ac arddangosfeydd mawr yn rhyngwladol, mewn cydweithrediad â Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gofynnais i gyngor y celfyddydau hefyd am argymhellion i gryfhau Celf Cymru Rhyngwladol, a fydd yn ei alluogi i hyrwyddo artistiaid proffesiynol a chyfoes Cymru dramor yn well, ac amlygu’r gorau o Gymru ar draws yr holl gelfyddydau. Bydd y cynnydd yng nghyllideb y cyngor yn ei alluogi i wneud cynnydd sylweddol yn hyn o beth.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 7

A ydych yn derbyn, yn ogystal â hyrwyddo diwylliant a chelfyddyd, y gallai artistiaid o Gymru, sydd naill ai yn byw yng Nghymru ac yn gweithio dramor neu yn byw dramor, godi proffil Cymru a gweithredu fel llysgenhadon ar ran y wlad? Mae’r Prif Weinidog wedi dweud sawl tro bod angen codi proffil Cymru yn nifer o wledydd y byd, er enghraifft yn Unol Daleithiau America. O gofio hynny, a ydych yn derbyn ei bod yn bwysig, wrth hyrwyddo artistiaid o’r fath, eu bod yn cael eu disgrifio fel artistiaid sydd yn hanu o Gymru neu yn byw yng Nghymru, ac y dylai’r cysylltiad Cymreig gael ei wneud bob amser?

Do you accept that, as well as promoting culture and art, artists from Wales, who either live in Wales and work abroad or who live abroad, could raise the profile of Wales and act as ambassadors for the country? The First Minister has said on more than one occasion that Wales’s profile needs to be enhanced in many parts of the world, for example in the United States of America. With that in mind, do you accept that it is important, in promoting such artists, that they are described as artists who come from Wales or who live in Wales, and that the Welsh connection should always be made?

Jenny Randerson spoken in English p. 8

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 8

I agree with you. The Welsh connection is important. I have been seeking, over the past year or so, to raise the profile of Wales abroad in terms of its culture. Our culture is distinctive in the UK in that it is bilingual. We have much to offer as a nation in cultural terms. Individual artists are key to that. The Assembly Government has been considering Wales’s profile abroad in all aspects. As you know, there is a Cabinet sub-committee that deals with this, and we have considered appropriate people who could be used as ambassadors abroad.

Cytunaf â chi. Mae’r cysylltiad Cymreig yn bwysig. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bûm yn ceisio codi proffil Cymru dramor yn nhermau ei diwylliant. Mae ein diwylliant yn neilltuol yn y DU gan ei fod yn ddwyieithog. Mae gennym, fel cenedl, lawer i’w gynnig o ran diwylliant. Mae artistiaid unigol yn allweddol i hynny. Bu Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried pob agwedd ar broffil Cymru dramor. Fel y gwyddoch, mae is-bwyllgor o’r Cabinet yn ymdrin â hyn, ac yr ydym wedi ystyried pobl addas y gellid eu defnyddio fel llysgenhadon dramor.

Jonathan Morgan spoken in English p. 8

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 8

The geography and landscape of Wales makes our nation an ideal location for film production. What are you doing to ensure that we market and promote Wales as a venue for film development and production, because this will enhance our artists’ and country’s profile internationally.

Mae daearyddiaeth a thirlun Cymru yn gwneud ein gwlad yn lleoliad delfrydol i gynhyrchu ffilmiau. Beth a wnewch chi i sicrhau ein bod yn marchnata a hyrwyddo Cymru fel lleoliad i ddatblygu a chynhyrchu ffilmiau, gan y bydd hyn yn hybu proffil rhyngwladol ein hartistiaid a’n gwlad?

Jenny Randerson spoken in English p. 8

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 8

I agree with you on the importance of film production. Work on the establishment of a film fund is ongoing and progress is being made. You will be aware of the details because I have spoken about this before. Work is also ongoing to ensure that the whole of Wales is covered by film commissions. The funding for film commissions was changed a few months ago because they were no longer eligible for European Union funding. Therefore we had to consider a new funding mechanism, which is largely based on local government areas and WDA funding. That work is progressing well.

Cytunaf â chi ynglŷn â phwysigrwydd cynhyrchu ffilmiau. Mae’r gwaith o sefydlu cronfa ffilm yn parhau ac yn datblygu. Byddwch yn ymwybodol o’r manylion gan fy mod wedi siarad am hyn eisoes. Mae’r gwaith o sicrhau y caiff Cymru gyfan ei chwmpasu gan gomisiynau ffilm hefyd yn parhau. Newidiwyd y cyllido ar gyfer comisiynau ffilm ychydig fisoedd yn ôl gan nad oeddynt bellach yn gymwys ar gyfer cyllid o’r Undeb Ewropeaidd. Felly yr oedd yn rhaid inni ystyried peirianwaith cyllido newydd, sy’n bennaf seiliedig ar ardaloedd llywodraeth leol a chyllido WDA. Mae’r gwaith hwnnw yn datblygu’n dda.

Hyrwyddo Chwaraeon ac Addysg Gorfforol mewn Ysgolion a Chymunedau Lleol

Promotion of Sport and Physical Education in Schools and Local Communities

Q4 Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 9

C4 Nick Bourne Arweinwydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

What is the Minister doing to promote sport and physical education in schools and local communities? (OAQ15929)

Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo chwaraeon ac addysg gorfforol mewn ysgolion a chymunedau lleol? (OAQ15929)

Jenny Randerson spoken in English p. 9

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 9

The Welsh Assembly Government recognises the important role sport and physical education play in providing opportunities for developing life skills. We are committed to improving the delivery of PE and sport in schools and local communities, and resources are available for the Sports Council for Wales to implement key recommendations set out in the ‘Action Plan for Wales’ drawn up by the physical education and school sport taskforce. This complements the £48 million that the new opportunities fund is providing in Wales for PE and school sport. It will develop school sports facilities and encourage community use of such facilities.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod swyddogaeth bwysig chwaraeon a chwarae drwy addysg gorfforol wrth gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau bywyd. Yr ydym yn ymrwymedig i wella darpariaeth addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau lleol, ac mae adnoddau ar gael i Gyngor Chwaraeon Cymru weithredu’r argymhellion allweddol a nodwyd yn y ‘Cynllun Gweithredu i Gymru’ a luniwyd gan y tasglu addysg gorfforol a chwaraeon ysgol. Mae hyn yn ategu’r £48 miliwn a ddarperir gan y gronfa cyfleoedd newydd i addysg gorfforol a chwaraeon ysgol yng Nghymru. Bydd yn datblygu adnoddau chwaraeon mewn ysgolion ac yn annog cymunedau i ddefnyddio’r adnoddau hynny.

Nick Bourne spoken in English p. 9

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 9

The Minister will be aware, from my correspondence with her, about the proposal to build on the Grange playing fields in Fishguard, which are used by a local school and the local community. They are used by the kind of people you mentioned earlier: young people, women and the whole local community. The Sports Council for Wales has registered objections and concerns about the proposal to build on the playing fields. Can you provide reassurance to the people of Fishguard and Pembrokeshire about the proposals relating to this land?

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o’m gohebiaeth â hi, o’r cynnig i adeiladu ar feysydd chwarae’r Grange yn Abergwaun, a gaiff eu defnyddio gan ysgol leol a’r gymuned leol. Cânt eu defnyddio gan y math o bobl y sonioch amdanynt eisoes: pobl ifanc, merched a’r holl gymuned leol. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cofnodi gwrthwynebiadau a phryderon am y cynnig i adeiladu ar y caeau chwarae. A allwch chi dawelu meddwl pobl Abergwaun a Sir Benfro ynglŷn â’r cynigion ar gyfer y tir hwn?

Jenny Randerson spoken in English p. 9

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 9

I always regret any proposals to build on school sporting facilities, because that would be going in the reverse direction from what we are hoping to develop. This is a cross-cutting issue because it relates more to Jane Davidson’s portfolio than to mine. However, it is significant that the sports council has objected to this. There are, of course, other agencies also involved.

Bydd bob amser yn ofid gennyf glywed am gynigion i adeiladu ar feysydd chwarae ysgolion, gan y byddai hynny yn mynd yn groes i’r hyn y gobeithiwn ei ddatblygu. Mae hyn yn fater trawsbynciol gan ei fod yn fwy perthnasol i bortffolio Jane Davidson na fy un i. Fodd bynnag, mae’n arwyddocaol fod y cyngor chwaraeon wedi gwrthwynebu hyn. Mae asiantaethau eraill, wrth gwrs, yn rhan o hyn.

Brian Gibbons spoken in English p. 10

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 10

What work are you undertaking to confirm that initiatives such as these are targeting socially excluded communities in Wales?

Pa waith a wnewch i gadarnhau bod mentrau fel hyn yn targedu cymunedau sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol yng Nghymru?

Jenny Randerson spoken in English p. 10

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 10

Sports council initiatives are continuously monitored. I meet the sports council regularly and officials meet its representatives even more frequently. The sports council is doing much to analyse the effectiveness of money spent on sport. It is producing a report on each of the 22 local authorities in Wales in great detail, giving a statistical analysis of effectiveness across gender, disability, and age. An interesting picture is emerging, showing considerable differences between local authorities.

Caiff mentrau’r cyngor chwaraeon eu monitro’n barhaus. Byddaf yn cwrdd â’r cyngor chwaraeon yn rheolaidd a bydd swyddogion yn cwrdd â’i gynrychiolwyr hyd yn oed yn fwy aml. Bydd y cyngor chwaraeon yn gwneud llawer i ddadansoddi effeithiolrwydd yr arian a gaiff ei wario ar chwaraeon. Mae’n cynhyrchu adroddiad manwl iawn ar bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gan roi dadansoddiad ystadegol o effeithiolrwydd yn ôl rhyw, anabledd ac oed. Mae llun diddorol yn dod i’r amlwg, sy’n dangos gwahaniaethau sylweddol rhwng awdurdodau lleol.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 10

Pwysaf arnoch, yng nghyd-destun eich cyfrifoldebau dros ddatblygu chwaraeon megis nofio tanddwr a phlymio, i edrych ymhellach ar y trychineb ym mhwll Dorothea yn Nyffryn Nantlle. Cafwyd pedair marwolaeth yno mewn pedwar mis. A wnewch ystyried a oes modd, wrth gydweithredu â chymdeithasau tanddwr Prydain, datblygu canolfan blymio ryngwladol o safon yno i hyfforddi plymwyr a’r rhai sy’n dysgu plymwyr eraill? Drwy hynny, byddem yn diogelu rhag damweiniau diangen a hefyd yn creu gwaith yn yr ardal.

I urge you, in the context of your responsibilities for developing sports such as diving and sub-aqua, to further examine the disaster at the Dorothea quarry in Dyffryn Nantlle. There have been four deaths there in four months. Will you consider, in conjunction with British sub-aqua associations, the option of developing a high-quality international diving centre there to train divers and those who train other divers? That would safeguard against unnecessary accidents and it would also create work in the area.

Jenny Randerson spoken in English p. 10

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 10

I share your extreme concern at the events at Dorothea quarry in recent months. As you know, from our meeting last week in Caernarfon, it raises complex issues. My answer must be guided by the fact that there is a police inquiry in progress, so I cannot touch upon some issues. However, in light of the ongoing problems at the quarry, I have initiated discussions with the sports council and the governing body of the sport concerned to consider the guidance, regulations and so on, and my officials are in discussion with the local authority.

Rhannaf eich pryderon difrifol am y digwyddiadau yn chwarel Dorothea yn ystod y misoedd diwethaf. Fel y gwyddoch yn dilyn ein cyfarfod yng Nghaernarfon yr wythnos diwethaf, mae’n codi materion cymhleth. Rhaid i’m hateb gael ei lywio gan y ffaith bod yr heddlu yn cynnal ymchwiliad, felly ni allaf drafod rhai materion. Fodd bynnag, wrth ystyried y problemau parhaus yn y chwarel, dechreuais drafodaethau â’r cyngor chwaraeon a chorff llywodraethol y chwaraeon dan sylw i ystyried yr arweiniad, rheoliadau ac yn y blaen, ac mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau â’r awdurdod lleol.

Defnyddio Talent ein Gwlad

Using Home-grown Talent

C5 Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Q5 Cynog Dafis spoken in Welsh p. 11

Ym mha ffordd y bydd y strategaeth ddiwylliant yn annog cyrff celfyddydau cenedlaethol i wneud gwell defnydd o dalent ein gwlad? (OAQ15891)

How will the culture strategy encourage our national arts bodies to make greater use of home-grown talent? (OAQ15891)

Jenny Randerson spoken in English p. 11

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 11

‘Creative Future: Cymru Greadigol’ addresses this issue head-on. The strategy sets out clearly the national remit companies’ involvement in supporting grass-roots development and their activities in education and community outreach. It also acknowledges that, in the past, underfunding and reliance on short-term lottery schemes meant that provision could be ad hoc. The strategy now contains action to remedy this situation through establishing agreements between the arts council and all the national remit companies about their outreach in schools and communities, as well as the extent of their touring central productions. That will be key to nurturing and developing home-grown talent.

Mae ‘Creative Future: Cymru Greadigol’ yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol. Mae’r strategaeth yn nodi’n glir beth yw cyfraniad y cwmnïau sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol wrth gefnogi datblygiadau ar lawr gwlad ac ymestyn eu gweithgareddau i addysg a chymunedau. Mae hefyd yn cydnabod bod tangyllido a dibyniaeth ar gynlluniau byrdymor y loteri yn y gorffennol wedi golygu mai ar hap y digwyddai’r ddarpariaeth. Mae’r strategaeth bellach yn cynnwys gweithgaredd i unioni’r sefyllfa hon drwy sefydlu cytundebau rhwng cyngor y celfyddydau a phob cwmni sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol o ran eu gwaith ymestyn i ysgolion a chymunedau, yn ogystal â graddau eu cynhyrchiadau teithiol canolog. Bydd hynny yn allweddol i feithrin a datblygu talent ein gwlad.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 11

Croesawaf yr ateb hwnnw yn gynnes. Yn gysylltiedig â hynny, mae ‘Diwylliant Cytûn’ yn pwysleisio’r angen i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y cwmnïau perfformio cenedlaethol—y gerddorfa, y cwmni opera, Diversions, ac yn y blaen—a’r cwmnïau cenedlaethol i bobl ifanc. Byddai hynny efallai yn creu modd i’n pobl ifanc gael gyrfa yn y celfyddydau yng Nghymru. Beth ydych yn ei wneud ynglŷn â hynny ac a oes strategaeth gadarn ar waith i sicrhau bod hynny’n digwydd?

I warmly welcome that answer. On a related issue, ‘A Culture in Common’ emphasises the need to strengthen the links between the national performance companies—the orchestra, the opera company, Diversions, and so on—and the national youth companies. That may afford our young people an opportunity to develop a career in the arts in Wales. What are you doing about that, and is there a robust strategy in place to ensure that that happens?

Jenny Randerson spoken in English p. 11

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 11

The arts council is carefully considering all aspects of the youth strategy. This issue will be a part of that. There is a varying picture regarding youth activities and our national remit companies. I am considering the youth organisations and the way in which they feed the national organisations. We have a strong base in national remit companies such as Clwyd Theatr Cymru: 80 per cent of this company’s actors are Welsh, and half of those are Welsh-speaking, therefore this national company has a strong national base. However, I agree that the picture is not uniformly good.

Mae cyngor y celfyddydau yn ystyried yn ofalus pob agwedd ar y strategaeth ieuenctid. Bydd y mater hwn yn rhan o hynny. Mae darlun amrywiol o weithgareddau ieuenctid a’n cwmnïau sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol. Yr wyf yn ystyried mudiadau ieuenctid a’r modd y maent yn bwydo’r mudiadau cenedlaethol. Mae gennym sail gryf mewn cwmnïau sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol megis Clwyd Theatr Cymru: mae 80 y cant o actorion y cwmni hwn yn dod o Gymru ac mae hanner y rheini yn siarad Cymraeg, felly mae sail genedlaethol gryf iawn i’r cwmni cenedlaethol hwn. Fodd bynnag, cytunaf nad yw’r darlun cyffredinol yn dda.

David Davies spoken in English p. 12

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

Do you agree that as well as harnessing our natural talents, we must also harness our naturally beautiful and diverse landscape? Will you commend the work of the South Wales Film Commission, which used the Monmouthshire landscape to film Arthur’s Dyke, the world premier of which will be held in Monmouth on 17 March? This will be the first time that a film has premiered in Monmouth, and possibly in the whole county.

Yn ogystal â defnyddio ein talentau naturiol, a gytunwch y dylem hefyd ddefnyddio ein tirlun naturiol hardd ac amrywiol? A gymeradwywch waith Comisiwn Ffilm De Cymru, a ddefnyddiodd tirlun Sir Fynwy i ffilmio Arthur’s Dyke, a gaiff ei dangos am y tro cyntaf yn Nhrefynwy ar 17 Mawrth? Dyma’r tro cyntaf i noson agoriadol ffilm gael ei chynnal yn Nhrefynwy, ac yn yr holl sir o bosibl.

Jenny Randerson spoken in English p. 12

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 12

Wales’s film commissions have been extremely productive in attracting films to Wales for production so that we can benefit from the many dozens of jobs that one film can create. They are also productive in showing the beauty of our landscape; sometimes they show less than beautiful landscapes, but that means that they show our culture in the round. The film commissions’ role is important.

Bu comisiynau ffilm Cymru yn weithgar iawn wrth ddenu cynhyrchwyr i gynhyrchu ffilmiau yng Nghymru, fel y gallwn elw o’r degau o swyddi y gall un ffilm eu creu. Maent hwythau hefyd yn weithgar wrth ddangos harddwch ein tirlun; weithiau byddant yn dangos tirluniau sydd ymhell o fod yn hardd, ond golyga hynny eu bod yn dangos ein diwylliant cyfan. Mae rôl y comisiynau ffilm yn bwysig.

Rosemary Butler spoken in English p. 12

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 12

Further to Cynog’s point on ensuring that we get high-quality artistic development throughout Wales, will you consider career development—particularly in the performing arts, and especially dance—so that once people are beyond the age where they can perform to the height of their ability, they can move easily into management? To do that we would need a national qualification in management and administration in arts, which we do not have at present. I spoke to Jane Davidson about this some time ago, and she was considering it. Will you talk to Jane to try to ensure that at least one of our universities develops this kind of course?

Ymhellach i bwynt Cynog ynglŷn â sicrhau datblygiad artistig o ansawdd uchel ledled Cymru, a ystyriwch ddatblygu gyrfa––yn arbennig mewn celfyddydau perfformio, a dawns yn benodol––fel y gall pobl symud yn rhwydd i reolaeth unwaith y byddant yn mynd yn hŷn na’r oedran pan fyddant yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu? I wneud hynny byddai angen cymhwyster cenedlaethol mewn rheoli a gweinyddu’r celfyddydau arnom, nad sydd gennym ar hyn o bryd. Siaradais â Jane Davidson am hyn beth amser yn ôl, ac yr oedd hi yn ei ystyried. A siaradwch â Jane i geisio sicrhau y bydd o leiaf un o’n prifysgolion yn datblygu’r math hwn o gwrs?

Jenny Randerson spoken in English p. 12

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 12

That is an important idea. ‘Creative Future: Cymru Greadigol’ includes a commitment to developing business skills and professionalism among Wales’s artists to ensure that they can have a rounded career. This is an important part of the jigsaw.

Mae hynny yn syniad pwysig. Mae ‘Creative Future: Cymru Greadigol’ yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu sgiliau busnes a phroffesiynoldeb ymysg artistiaid Cymru i sicrhau y gallant gael gyrfa lawn. Mae hyn yn rhan bwysig o’r holl ddarlun.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad

Questions to the Minister for Rural Affairs and Assembly Business

Ffermwyr Rhan Amser

Farmers Classed as Part-Time

Q1 Brian Gibbons spoken in English p. 13

C1 Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 13

What proportion of Welsh farmers are classed as part-time? (OAQ15916)

Pa gyfran o ffermwyr Cymru a ddosberthir fel ffermwyr rhan amser? (OAQ15916)

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 13

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 13

Information on the numbers of farmers in Wales is collected during the June agricultural census, but it is not possible to provide a figure for farmers alone, because the census form also asks for spouses to be included.

Caiff y wybodaeth am nifer y ffermwyr yng Nghymru ei chasglu yn ystod cyfrifiad amaeth mis Mehefin, ond nid yw’n bosibl darparu ffigur ar gyfer ffermwyr yn unig, gan fod ffurflen y cyfrifiad yn gofyn i gymar gael ei gynnwys/ei chynnwys hefyd.

Brian Gibbons spoken in English p. 13

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 13

Do you think that providing farming families with employment or farming opportunities that are not totally dependent on agriculture is a real solution to the appallingly low income levels of many farms across rural Wales?

A gredwch fod darparu cyflogaeth neu gyfleoedd ym myd ffermio nad ydynt yn hollol ddibynnol ar amaethyddiaeth yn ateb gwirioneddol i’r lefelau incwm trychinebus o isel sydd gan lawer o ffermydd ledled Cymru wledig?

Carwyn Jones spoken in English p. 13

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 13

The main thrust of ‘Farming for the Future’ has encouraged diversification, either on an agriculture basis, or with projects such as providing bed and breakfast accommodation, and developing pheasant shoots or woodlands projects. These can help to supplement farmers’ incomes and maximise the income from their farms. The structure that supports this is Farming Connect.

Mae prif amcan ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ wedi annog arallgyfeirio, naill ai ar sail amaethyddol, neu brosiectau megis darparu llety gwely a brecwast, a datblygu cyfleoedd saethu ffesantod neu brosiectau coedwigoedd. Gall y rhain fod o help i ychwanegu at incwm ffermwyr a sicrhau’r incwm gorau posibl o’u ffermydd. Y strwythur i gefnogi hyn yw Cyswllt Ffermio.

Glyn Davies spoken in English p. 13

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Now that you have become a part-time Minister for Rural Affairs, do you accept that part-time farming should be viewed positively, and that it underpins the rural economy and the Welsh language?

Gan eich bod bellach yn Weinidog rhan amser dros Faterion Gwledig, a dderbyniwch y dylid edrych yn gadarnhaol ar ffermio rhan amser, a’i fod yn ganolog i’r economi wledig a’r iaith Gymraeg?

Carwyn Jones spoken in English p. 13

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 13

I am grateful to Glyn for providing an example of diversification first-hand; he has more than one occupation, being a part-time farmer himself. It is important that part-time and full-time farmers are encouraged to be a part of Wales’s agriculture economy. I have always been a part-time Minister for Rural Affairs because ultimately I am the Assembly Member for Bridgend, and the good people of that constituency elect me.

Yr wyf yn ddiolchgar i Glyn am ddarparu enghraifft ymarferol o arallgyfeirio; mae ganddo fwy nag un alwedigaeth gan ei fod ef ei hun yn ffermwr rhan amser. Mae’n bwysig rhoi anogaeth i ffermwyr rhan amser a llawn amser i fod yn rhan o economi amaethyddol Cymru. Gweinidog rhan amser dros Faterion Gwledig y bûm erioed, gan mai Aelod y Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ydwyf yn y pen draw a thrigolion yr etholaeth honno sy’n fy ethol.

John Griffiths spoken in English p. 14

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 14

To the great credit of our UK Government, there will be a vote on banning hunting, probably before Easter this year. Do you agree that a ban on recreational fox hunting will allow farmers who currently participate to devote more time to their farms?

Er mawr glod i Lywodraeth y DU, cynhelir pleidlais ar wahardd hela, o bosibl cyn y Pasg eleni. A gytunwch y bydd gwahardd hela llwynogod o ran hamdden yn galluogi ffermwyr sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd i ymroi mwy o amser i’w ffermydd?

Carwyn Jones spoken in English p. 14

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 14

I was intrigued at how you managed to weave that into this question’s supplementary. We must wait to see what happens at Westminster. The argument has been rehearsed many times there and in the Assembly. In future, the Agriculture and Rural Development Committee intends to consider the effects of a ban on hunting on Wales. Until we have the results of that review, we must wait to see what happens.

Fe’m synnwyd gan y modd y llwyddoch i wau’r cwestiwn hwnnw i mewn i’r cwestiwn atodol hwn. Rhaid inni aros i weld beth fydd yn digwydd yn San Steffan. Trafodwyd y cwestiwn lawer gwaith yno ac yn y Cynulliad. Yn y dyfodol, bwriada’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ystyried effeithiau gwahardd hela ar Gymru. Nes y bydd gennym ganlyniadau’r adolygiad hwnnw, rhaid inni aros i weld beth fydd yn digwydd.

Jocelyn Davies spoken in English p. 14

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

As you said, Minister, the Government’s policy encourages diversification in agriculture, which will inevitably lead to part-time farming. Does that contradict, in principle, current planning policies that require full-time farming activity and full financial viability of farming ventures before permission is given for agricultural dwellings in rural Wales?

Fel y dywedasoch, Weinidog, mae polisi’r Llywodraeth yn hybu arallgyfeirio mewn amaethyddiaeth, a fydd yn sicr yn arwain at ffermio rhan amser. A yw hynny, mewn egwyddor, yn groes i’r polisïau cynllunio cyfredol sy’n gofyn am weithgaredd amaeth llawn amser a dichonoldeb ariannol llawn mentrau amaeth cyn y gellir rhoi caniatâd i anheddau amaethyddol yng Nghymru wledig?

Carwyn Jones spoken in English p. 14

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 14

We constantly review the difficulties that can be caused by planning regulations. There must be some kind of control because in some parts of Wales, if no control were exercised, there would be a great deal of unrestricted development. That happens in my part of the world. We will keep any difficulties under review and if they can be resolved, we will seek to do so.

Adolygir yr anawsterau y gellir eu creu gan reoliadau cynllunio yn barhaus. Rhaid cael rhyw fath o reolaeth, gan y byddai cryn dipyn o ddatblygu digyfyngiad yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru pe na bai rheolaeth. Mae hynny’n digwydd yn fy rhan i o’r byd. Byddwn yn adolygu unrhyw anawsterau ac os y gellir eu datrys, ceisiwn wneud hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 14

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

Question 2 (OAQ15918) has been withdrawn.

Tynnwyd cwestiwn 2 (OAQ15918) yn ôl.

Ymchwiliad Gwersi i’w Dysgu

Lessons to be Learned Inquiry

Q3 Peter Rogers spoken in English p. 14

C3 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 14

Will the Minister make a statement on discussions he has had with Dr Iain Anderson of the UK Government’s ‘lessons to be learned’ inquiry? (OAQ15925) [R]

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y trafodaethau y mae wedi’u cynnal gyda Dr Iain Anderson o ymchwiliad Llywodraeth y DU, ‘gwersi i’w dysgu’? (OAQ15925) [R]

Carwyn Jones spoken in English p. 15

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 15

I have had one meeting with Dr Anderson and the discussion was useful and constructive.

Cefais un cyfarfod â Dr Anderson a bu’r drafodaeth yn ddefnyddiol ac yn adeiladol.

Peter Rogers spoken in English p. 15

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 15

In yesterday’s Agriculture and Rural Development Committee on foot and mouth disease, you said that during the crisis you only disagreed with London once, over the splitting of Powys. Yet, I have heard you say in radio and television interviews that if you had been in overall charge, you would have ordered an immediate ban on movement to stop the spreading of the disease, among other things. Why should anyone believe this spin when you said nothing at the time? You did not press for a ban, and you agreed with everything that was said by the former Ministry of Agriculture, Fisheries and Food.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ddoe ar glwy’r traed a’r genau, dywedasoch ichi anghydweld â Llundain unwaith yn unig, dros wahanu Powys. Eto i gyd, fe’ch clywais yn dweud mewn cyfweliadau radio a theledu, pe baech wedi cael rheolaeth lawn, y byddech wedi gorchymyn gwaharddiad ar symud anifeiliaid ar unwaith er mwyn atal y clwyf rhag lledaenu, ymysg pethau eraill. Pam y dylai unrhyw un gredu’r sbin hwn pan na ddywedasoch ddim ar y pryd? Ni phwysoch am waharddiad, a gwnaethoch gytuno â’r cyfan a ddywedwyd gan y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gynt.

Carwyn Jones spoken in English p. 15

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 15

You obviously read that in The Western Mail, but you were present at the Committee yesterday and heard what was said. Delyth Evans asked me a question on whether, in retrospect, it would have been wise for the ban to have been imposed earlier and would I have done that if I had the powers. I said that, in retrospect—and I emphasise that—that was obviously right. However two points arise. First, I did not have the powers, and secondly, it is easy to look back with hindsight. It was suggested in the newspaper article that I would have imposed the ban immediately. In hindsight, it is right to say that the ban could have been imposed earlier. However, I emphasise the words ‘in hindsight’ and ‘in retrospect’.

Mae’n amlwg ichi ddarllen hynny yn The Western Mail, ond yr oeddech yn bresennol yn y Pwyllgor ddoe a chlywsoch beth a ddywedwyd. Gofynnodd Delyth Evans imi a fyddai, o edrych yn ôl, wedi bod yn ddoeth gosod gwaharddiad yn gynharach ac a fyddwn wedi gwneud hynny pe bai’r pwerau gennyf. Dywedais, o edrych yn ôl––a phwysleisiaf hynny––bod hynny yn amlwg yn gywir. Fodd bynnag, cwyd dau bwynt. Yn gyntaf, nid oedd gennyf y pwerau, ac yn ail, mae’n hawdd edrych yn ôl ag ôl-ddoethineb. Awgrymwyd yn yr erthygl papur newydd y byddwn wedi gosod gwaharddiad ar unwaith. Mewn ôl-ddoethineb, mae’n gywir dweud y gallai’r gwaharddiad fod wedi ei osod yn gynharach. Fodd bynnag, pwysleisiaf y geiriau ‘o edrych yn ôl’ ac ‘ôl-ddoethineb’.

Mick Bates spoken in English p. 15

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 15

Minister, we all want to learn lessons from this. One of the most important lessons is how to be prepared for another outbreak through a contingency plan. There has been some confusion about our role as a Welsh Assembly in the preparation of a contingency plan for a foot and mouth disease outbreak. Were you consulted about the contents of the contingency plan before this outbreak?

Weinidog, yr ydym oll am ddysgu gwersi o hyn. Un o’r gwersi pwysicaf yw sut i baratoi am achosion eraill o’r clwyf gyda chynllun wrth gefn. Bu peth dryswch ynglŷn â’n rôl fel Cynulliad Cymru wrth baratoi cynllun wrth gefn ar gyfer achosion newydd o glwy’r traed a’r genau. A ymgynghorwyd â chi ynglŷn â chynnwys y cynllun wrth gefn cyn i’r achosion hyn ddechrau?

Carwyn Jones spoken in English p. 16

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 16

No. The reason why neither the Assembly nor I were consulted was because the Assembly does not have a legal role. The contingency plan is drawn up by the State Veterinary Service. However, the contingency plans that are being drawn up for the future include an envisaged role for the Assembly in terms of operations on the ground, which I welcome.

Na wnaed. Y rheswm pam nad ymgynghorwyd â mi na’r Cynulliad oedd nad oes gan y Cynulliad swyddogaeth gyfreithiol. Caiff y cynllun wrth gefn ei lunio gan y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau wrth gefn a gaiff eu llunio ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rôl a ragwelir ar gyfer y Cynulliad o ran gweithredu ar lawr gwlad, a chroesawaf hynny.

Janet Ryder spoken in English p. 16

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 16

Do you agree therefore that we need a separate contingency plan in Wales to clarify lines of communication and management if we must face another such situation? People must know that a plan exists and that you, Minister, will be ensuring that it is followed.

A gytunwch, felly, ein bod angen cynllun wrth gefn ar wahân ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau bod y ffyrdd cyswllt a rheoli yn glir pe baem yn wynebu sefyllfa fel hon eto? Rhaid i bobl wybod bod cynllun ar gael, ac y byddwch chi, Weinidog, yn sicrhau y caiff ei ddilyn.

Carwyn Jones spoken in English p. 16

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 16

Before we have a separate contingency plan in Wales, we must have the powers to enforce such a plan, which we do not have at the moment. The Assembly’s unanimous view is that we should have those powers and they are being sought from the Department of Environment, Food and Rural Affairs at the moment. There is little point in having a contingency plan if the Assembly cannot enforce it. We have been pointing out that weakness since the end of last summer. However, it is important that we not only have specifically tailored Welsh measures, but also that we work closely with authorities in England and Scotland. We live on an island and the disease does not respect the political boundaries of the three countries. However, to repeat my earlier point, there are well-rehearsed arguments about the need to devolve more powers to this place.

Cyn inni gael cynllun wrth gefn ar wahân yng Nghymru, rhaid inni gael y pwerau i weithredu cynllun o’r fath, ac nid ydynt gennym ar hyn o bryd. Barn unfrydol y Cynulliad yw y dylem gael y pwerau hynny ac yr ydym yn eu ceisio gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar hyn o bryd. Ychydig iawn o bwrpas sydd i gael cynllun wrth gefn os na all y Cynulliad ei weithredu. Buom yn tynnu sylw at y gwendid hwnnw ers diwedd yr haf llynedd. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad mesurau wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer Cymru sydd gennym yn unig, ond ein bod hefyd yn cydweithio’n agos ag awdurdodau yn Lloegr a’r Alban. Yr ydym yn byw ar ynys ac nid yw’r clwyf yn parchu ffiniau gwleidyddol y tair gwlad. Fodd bynnag, i ailadrodd fy mhwynt blaenorol, mae’r dadleuon dros yr angen i ddatganoli mwy o bwerau i’r lle hwn yn ddadleuon a glywyd droeon.

Achosion o Glefyd y Crafu mewn Defaid

Incidence of Scrapie in Welsh Sheep

Q4 Karen Sinclair spoken in English p. 16

C4 Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 16

What measures is the Government taking to examine the incidence of scrapie in Welsh sheep? (OAQ15911)

Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i archwilio’r achosion o glefyd y crafu mewn defaid? (OAQ15911)

Carwyn Jones spoken in English p. 16

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 16

Under European Union legislation, testing for scrapie started on 21 January. A total of 60,000 animals will be tested at abattoirs and a further 6,000 of fallen stock will also be tested. The allocations for Wales are still being calculated. The sample size should result in a clearer idea of the true incidence of scrapie.

Yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, dechreuwyd profion am glefyd y crafu ar 21 Ionawr. Caiff cyfanswm o 600,000 o anifeiliaid eu profi mewn lladd-dai a phrofir 6,000 ychwanegol o anifeiliaid fferm sydd wedi marw. Mae’r dyraniadau ar gyfer Cymru yn dal i gael eu cyfrifo. Dylai maint y sampl roi gwell syniad o wir gyrhaeddiad clefyd y crafu.

Karen Sinclair spoken in English p. 17

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 17

How do we compare with the rest of the UK?

Sut y cymharwn ni â gweddill y DU?

Carwyn Jones spoken in English p. 17

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 17

We are aware that the genetic make-up of the majority of Welsh sheep potentially puts them more at risk of scrapie than other breeds. We have therefore given more money in Wales towards the eradication of scrapie, in addition to what is being done at a UK level. As we are aware of the increased genetic susceptibility, it is possible to draw the fact that scrapie may be present at a higher level than previously thought in the Welsh sheep flock. This test is designed to find out whether that is true.

Oherwydd eu gwneuthuriad genetaidd, yr ydym yn ymwybodol bod mwy o risg i’r mwyafrif o ddefaid Cymru ddatblygu clefyd y crafu na defaid eraill. Felly, yr ydym wedi rhoi mwy o arian i Gymru tuag at gael gwared â chlefyd y crafu, yn ychwanegol at yr hyn a wneir ar lefel y DU. Gan ein bod yn ymwybodol o’r tueddiadau genetaidd uwch, mae’n bosibl dod i’r casgliad y gall bod mwy o achosion o glefyd y crafu ym mhraidd defaid Cymru nag yr ystyriwyd yn flaenorol. Cynlluniwyd y prawf hwn i ganfod a oes gwirionedd yn hynny.

William Graham spoken in English p. 17

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will you consider proposals to allow commoners associations to oversee all member participation in the national scrapie plan?

A ystyriwch gynigion i ganiatáu cymdeithasau cominwyr i oruchwylio bod pob aelod yn cyfrannu at gynllun cenedlaethol clefyd y crafu?

Carwyn Jones spoken in English p. 17

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 17

I am willing to consider that. If it moves the scrapie plan forward, I will take it up.

Yr wyf yn fodlon ystyried hynny. Os yw’n symud cynllun clefyd y crafu yn ei flaen, byddaf yn ei dderbyn.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 17

Yr ydym oll yn croesawu’r cynllun ar gyfer clefyd y crafu a lansiwyd fis Gorffennaf diwethaf a’r cynllun cenedlaethol ar gyfer clefyd y crafu, sy’n rhoi cyfle i lawer mwy o ffermwyr ymuno. Fodd bynnag, ar dudalen 51 o ‘Ffermio i’r Dyfodol’, nodir y caiff gweithgor ar y cyd rhwng y Gweinidog a’r diwydiant ei sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon a chael gwared â chlefyd y crafu o Gymru. Beth sydd wedi digwydd i’r gweithgor hwnnw?

We all welcome the scrapie plan that was launched last July and the national scrapie plan, which gives many more farmers the opportunity to register. However, on page 51 of ‘Farming for the Future’, it is noted that a joint working group will be established consisting of the Minister and the industry to tackle this problem and to eradicate scrapie from Wales. What has happened to that working group?

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 17

Gwn y bydd y gweithgor yn cael ei sefydlu. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o’r union ddyddiad pan wneir hynny, ond gwn y caiff ei sefydlu yn y gwanwyn.

I know that the working group will be established. I will have to write to you to inform you of the exact date when that will be done, but I know that it will be established in the spring.

Clwy’r Traed a’r Genau

Foot and Mouth Disease

Q5 Peter Rogers spoken in English p. 17

C5 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the Minister make a statement on discussions he has had with Sir Brian Follett in relation to the Royal Society’s inquiry into foot and mouth disease? (OAQ15924) [R]

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y trafodaethau y mae wedi’u cynnal gyda Syr Brian Follett mewn perthynas ag ymchwiliad y Gymdeithas Frenhinol i glwy’r traed a’r genau? (OAQ15924) [R]

Carwyn Jones spoken in English p. 18

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 18

I have met once with Sir Brian Follett and the discussions were useful and constructive.

Cyfarfûm unwaith â Syr Brian Follett a bu’r trafodaethau’n ddefnyddiol ac yn adeiladol.

Peter Rogers spoken in English p. 18

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 18

You have maintained that the extent of the preventative cull in Anglesey was necessary, backing that assertion with the logic that you were right because it worked. Why did you support a course of action that resulted in Anglesey having the worst culling ratio of farms culled to laboratory-confirmed infected premises in England and Wales, and also in Holland, contrary to what we heard in Committee yesterday? Are you still confident that the numbers culled were necessary?

Yr ydych wedi parhau i fynnu bod graddau’r difa ataliol ar Ynys Môn yn angenrheidiol, gan gefnogi’r farn honno â’r rhesymeg eich bod yn iawn gan iddo weithio. Pam y gwnaethoch gefnogi gweithred a olygai mai Ynys Môn oedd â’r gymhareb waethaf o ran difa ar ffermydd o’i gymharu â’r nifer o ffermwydd y cadarnhawyd gan y labordy eu bod wedi’u heintio yng Nghymru a Lloegr, a hefyd yr Iseldiroedd, yn groes i’r hyn a glywsom yn y Pwyllgor ddoe? A ydych yn hyderus o hyd bod y niferoedd a laddwyd yn angenrheidiol?

Carwyn Jones spoken in English p. 18

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 18

Yes. As I said yesterday, I judge it by the results. The contiguous cull was implemented on Anglesey and the disease disappeared, as happened in north Powys and in the Brecon Beacons. It was implemented in Galloway, Scotland, which was an even more ruthless cull than that on Anglesey, and the disease disappeared. Wherever the contiguous cull was implemented—even in France—the disease disappeared. It is not the only way in which we could have dealt with the disease, but, ultimately, we must judge it by the results. Before the contiguous cull was implemented, the disease was spreading. That was true of Anglesey and the whole of Wales and Great Britain. As soon as the contiguous cull was implemented, as the Government’s chief scientific officer advised, the disease was brought to an end.

Ydwyf. Fel y dywedais ddoe, byddaf yn barnu oddi wrth y canlyniadau. Gweithredwyd y difa cyffiniol ar Ynys Môn a diflannodd y clwyf, fel y digwyddodd yng ngogledd Powys a Bannau Brycheiniog. Fe’i gweithredwyd yn Galloway, yr Alban, ac yr oedd y difa yno yn fwy didostur na hwnnw ar Ynys Môn hyd yn oed, a diflannodd y clwyf. Lle bynnag y gweithredwyd y difa ar ffermydd cyffiniol––hyd yn oed yn Ffrainc––diflannodd y clwyf. Nid dyma’r unig ffordd y byddem wedi gallu mynd i’r afael â’r clwyf, ond, yn y pen draw, rhaid inni farnu oddi wrth y canlyniadau. Cyn gweithredu’r difa cyffiniol, yr oedd y clwyf yn lledaenu. Yr oedd hyn yn wir yn Ynys Môn, a Chymru gyfan a Phrydain Fawr. Unwaith y gweithredwyd y difa cyffiniol, yn unol â chyngor prif swyddog gwyddonol y Llywodraeth, daethpwyd â’r clwyf i ben.

Hyrwyddo Cynnyrch o Gymru mewn Marchnadoedd Rhyngwladol

Promotion of Welsh Produce in International Markets

Q6 David Melding spoken in English p. 18

C6 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 18

Will the Minister make a statement on how this Assembly is promoting Welsh produce in international markets? (OAQ15920)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae’r Cynulliad hwn yn hyrwyddo cynnyrch o Gymru mewn marchnadoedd rhyngwladol? (OAQ15920)

Carwyn Jones spoken in English p. 18

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 18

The Assembly, the Welsh Development Agency’s food directorate and the agri-food partnership are working continuously to promote the agri-food strategy and Welsh produce. I will be in Brussels tomorrow, on St David’s Day, doing exactly that. The food directorate has direct responsibility for the development of the agri-food sector and the promotion of Welsh produce in the UK and internationally.

Mae’r Cynulliad, cyfarwyddiaeth bwyd Awdurdod Datblygu Cymru a’r bartneriaeth bwyd-amaeth yn gweithio’n barhaus i hyrwyddo’r strategaeth bwyd-amaeth a chynnyrch o Gymru. Byddaf ym Mrwsel yfory, ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn gwneud union hynny. Mae gan y gyfarwyddiaeth fwyd gyfrifoldeb uniongyrchol dros ddatblygu’r sector bwyd-amaeth a hyrwyddo cynnyrch o Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol.

David Melding spoken in English p. 19

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 19

You may have seen an excellent article in The Times recently on Welsh cheese. We must go further afield and promote Welsh cheese and other produce in international food fairs. Can you assure us that the strategy is in place to do this?

Efallai y byddwch wedi gweld erthygl ardderchog yn The Times yn ddiweddar ar gaws o Gymru. Rhaid inni fynd ymhellach a hyrwyddo caws o Gymru a chynnyrch eraill mewn ffeiriau bwyd rhyngwladol. A allwch ein sicrhau bod y strategaeth i wneud hynny yn bodoli?

Carwyn Jones spoken in English p. 19

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 19

It has already been done. I visited a food fair in Cologne last year, and in Paris in the previous year, where Welsh cheese was strongly represented. The Cheesemakers Association Wales, which mainly represents the smaller farmhouse cheesemakers of Wales, had a stall in those fairs. South Caernarfon Creameries also had a stall, as did other cheesemakers. An overwhelming response was received on both occasions. It is a tribute to what can be done with vision in Welsh food production; the number of Welsh farmhouse cheeses 15 years ago was probably in single figures, and we now have over 100 different types.

Gwnaed hynny eisoes. Ymwelais â ffair fwyd yng Nghwlen y llynedd, ac ym Mharis y flwyddyn flaenorol, lle yr oedd cynrychiolaeth gref o gawsiau o Gymru. Yr oedd gan Gymdeithas Gwneuthurwyr Caws Cymru, sy’n cynrychioli’r gwneuthurwyr caws o ffermdai llai yng Nghymru, safle yn y ffeiriau hynny. Yr oedd safle gan Hufenfa De Arfon hefyd, yn ogystal â gwneuthurwyr caws eraill. Cafwyd ymateb ysgubol ar y ddau achlysur. Mae’n deyrnged i’r hyn y gellir ei gyflawni gyda gweledigaeth o ran cynhyrchu bwyd o Gymru; mae’n bosibl mai mewn ffigurau sengl yr oedd y nifer o gynhyrchwyr caws ffermdai 15 mlynedd yn ôl, a bellach mae gennym dros 100 math gwahanol.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 19

Fel llywydd Hufenfa De Arfon, croesawaf gyfeiriad y Gweinidog ati. Yr wyf am bwyso arno ar fater arall, sef allforion cig oen. A yw’n derbyn bod lefel ac amrywiaeth allforion yn hanfodol er mwyn sefydlu prisiau gwell a chodi safon byw ffermwyr mynydd. Beth yw’r sefyllfa bellach o safbwynt allforio cig oen Cymru yn sgîl yr anawsterau a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf?

As the president of South Caernarfon Creameries, I welcome the Minister’s reference to the creameries. I wish to press him on another issue, namely lamb exports. Does he accept that the level and diversity of exports is crucial in order to maintain higher prices and to raise hill farmers’ standard of living? What is the situation now in terms of Welsh lamb exports following the difficulties experienced over the last few years?

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 19

Yr wyf yn siŵr, Dafydd, eich bod yn croesawu presenoldeb Hufenfa De Arfon mewn ffeiriau bwyd rhyngwladol. Y mae gan Gwmni Caws Eryri, sydd wedi ei leoli yn etholaeth Alun Pugh, bresenoldeb hefyd.

I am sure, Dafydd, that you welcome South Caernarfon Creameries’ presence at international food fairs. The Snowdonia Cheese Company, which is based in Alun Pugh’s constituency, also attends such fairs.

Mae allforio yn hanfodol ar hyn o bryd er mwyn i ffermwyr Cymru wneud bywoliaeth. Golyga unrhyw rwystr i’r farchnad allforio y bydd prisiau’n gostwng ac ni fydd ffermwyr yn gallu ennill bywoliaeth. Gwelwyd hynny y llynedd gan fod prisiau mor isel ym Mhrydain Fawr ac ni allai ffermwyr Cymru, yn enwedig ffermwyr mynydd, allforio. Ar hyn o bryd, y mae’r farchnad wedi ailagor ac mae’n tyfu. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod mynediad i’r farchnad honno yn cryfhau, a’n bod yn hybu a chefnogi cig oen Cymru mewn marchnadoedd newydd.

In farmers in Wales are to make a living, exports are essential at present. Any obstacle to that market means that prices will fall and farmers will not be able to make a living. That happened last year because prices were so low in Great Britain and farmers in Wales, particularly hill farmers, could not export. The market has now reopened and is growing. We must facilitate access to that market and promote and support Welsh lamb in new markets.

Yr wyf yn siŵr y codwyd amheuon yn sgîl y profion a gynhaliwyd yn Swydd Efrog ddoe ac echdoe ar gyfer clwy’r traed a’r genau. Mae’r newyddion o Swydd Efrog hyd yn hyn wedi bod yn dda. Felly, nid wyf yn pryderu ar hyn o bryd.

I am sure that the foot and mouth disease tests held in Yorkshire yesterday and the day before were a cause for concern. The news from Yorkshire has been good thus far. Therefore, I am not concerned at present.

Peter Rogers spoken in English p. 20

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 20

I welcome what you have said on exports. Will you also put pressure on Europe regarding exports to the continent prior to the foot and mouth disease outbreak and its ban on exports? A considerable number of lambs destroyed in Europe have not been paid for. Many Welsh producers are owed large amounts of money. Will you raise that issue on their behalf?

Croesawaf yr hyn a ddywedasoch ar allforion. A bwyswch hefyd ar Ewrop ynglŷn ag allforion i’r cyfandir cyn dechrau clwy’r traed a’r genau a’i waharddiad ar allforion? Ni thalwyd am nifer sylweddol o’r ŵyn a ddinistriwyd yn Ewrop. Mae swm mawr o arian yn ddyledus i lawer o gynhyrchwyr o Gymru. A godwch y mater hwnnw ar eu rhan?

Carwyn Jones spoken in English p. 20

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 20

You seem to be referring to a commercial contract, Peter. However, if you write to me—you may have done so already—I will investigate the matter.

Ymddengys eich bod yn cyfeirio at gontract masnachol, Peter. Fodd bynnag, os ysgrifennwch ataf––efallai eich bod wedi gwneud hynny eisoes––ymchwiliaf i’r mater.

Ymchwiliad Senedd Ewrop i Glwy’r Traed a Genau

European Parliament’s Foot and Mouth Disease Inquiry

C7 Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Q7 Elin Jones spoken in Welsh p. 20

A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i roi tystiolaeth i ymchwiliad Senedd Ewrop i glwy’r traed a’r genau? (OAQ15966)

Does the Minister have any plans to give evidence to the European Parliament’s foot and mouth disease inquiry? (OAQ15966)

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 20

Nid oes gennyf gynlluniau ar hyn o bryd. Mater i Senedd Ewrop yw dewis tystion ar gyfer yr ymchwiliad. Os caiff y Cynulliad ei ddewis, yna byddem yn ystyried y mater. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy’n arwain y Deyrnas Unedig ar y mater hwn.

I have no plans at present. Selecting witnesses for the inquiry is a matter for the European Parliament. If the Assembly is chosen, then we would consider the issue. The Department for Environment, Food and Rural Affairs is taking a lead on behalf of the United Kingdom on this issue.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Elin Jones spoken in Welsh p. 21

Fe’ch anogaf i gysylltu â phwyllgor yr ymchwiliad i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi tystiolaeth. Byddai eich profiad, a phrofiad eich adran o glwy’r traed a’r genau yn fuddiol i waith pwyllgor Senedd Ewrop o gofio bod polisi Ewropeaidd yn bwysig o ran rheoli clwy’r traed a’r genau, yn enwedig yng nghyd-destun brechu. A fyddech, felly, yn barod i wahodd y pwyllgor i ddod i Gymru i glywed tystiolaeth ffurfiol?

I urge you to contact the inquiry committee to ensure that the National Assembly gives evidence. Your experience, and your department’s experience of foot and mouth disease would be invaluable to the European Parliament committee given that European policy is important in controlling foot and mouth disease, particularly in the context of vaccination. Therefore, would you be willing to invite the committee to visit Wales to take formal evidence?

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 21

Ni wyddwn eto pa strwythur fydd gan yr ymchwiliad. Bydd y pwyllgor yn teithio drwy Ewrop gyfan. Byddai’n well i’r senedd gysylltu â’r Cynulliad yn ffurfiol ac i’r Cynulliad roi ateb. Ni fyddai’n briodol i’r Cynulliad gysylltu yn gyntaf gyda’r senedd. Os yw am gysylltu â ni, mae’r drws yn agored.

We do not yet know what structure this inquiry will take. The committee will travel throughout Europe. It would be better for the parliament to contact the Assembly formally and for the Assembly to respond. It would not be appropriate for the Assembly to contact the parliament first. If it wishes to contact us, the door is open.

Glyn Davies spoken in English p. 21

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 21

On a similar point, it is important that you meet with the inquiry committee. Will you support my request to the committee that it visits Wales and the areas where foot and mouth disease had most impact?

Ar bwynt tebyg, mae’n bwysig eich bod yn cwrdd â phwyllgor yr ymchwiliad. A gefnogwch fy nghais i’r pwyllgor iddo ymweld â Chymru a’r ardaloedd a ddioddefodd effeithiau clwy’r traed a’r genau waethaf?

Carwyn Jones spoken in English p. 21

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 21

It is a matter for the inquiry teams to decide what they do. At present, we are unsure what the inquiry’s structure will be. We do not know whom they wish to invite to give evidence. It is important, as far as the UK is concerned, that there is some co-ordination between the different UK bodies as to who gives evidence and who should take the lead on various matters. At present, there are no plans to give evidence. However, if the European Parliament wishes to contact the Assembly, the issue can be discussed.

Mater i dimau’r ymchwiliad yw penderfynu beth a wnânt. Ar hyn o bryd, nid ydym yn siŵr beth fydd strwythur yr ymchwiliad. Ni wyddom pwy y dymunant eu gwahodd i roi tystiolaeth. Mae’n bwysig, o ran y DU, bod cydweithredu rhwng cyrff gwahanol y DU ynglŷn â phwy fydd yn rhoi tystiolaeth a phwy fydd yn arwain ar faterion amrywiol. Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i roi tystiolaeth. Fodd bynnag, os yw Senedd Ewrop yn dymuno cysylltu â’r Cynulliad, gellir trafod y mater.

Cwestiynau ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd

Questions on Information and Communications Technology to the Minister for Economic Development

Gwasanaeth Band Llydan

Broadband Service

C1 Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Q1 Owen John Thomas spoken in Welsh p. 21

Pa gyfran o ardal Canol De Cymru sydd o fewn cyrraedd i wasanaeth band llydan? (OAQ15897)

What proportion of the South Wales Central area is within reach of a broadband service? (OAQ15897)

Andrew Davies The Minister for Economic Development spoken in English p. 22

Andrew Davies Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 22

Broadband connectivity is available to everyone in the South Wales Central area who wants it. Heavy users can get broadband via leased lines, but these can be expensive. Medium and light users can get it via asymmetric digital subscriber line or cable modem, where they are available. In Cardiff, over 70 per cent of the area is served by ADSL-enabled exchanges, and over 80 per cent of small and medium-sized businesses are in ADSL-enabled areas. However, ADSL is not currently available in Pontypridd, the Cynon Valley or the Rhondda. NTL cable modem availability covers almost 80 per cent of the Cardiff area, although in some parts availability is as high as 95 per cent. It covers 50 per cent of the Pontypridd area and 60 per cent of the Vale of Glamorgan. There is no availability in the Cynon or Rhondda Valleys.

Mae cysylltedd band llydan ar gael i bawb yn ardal Canol De Cymru sydd am ei gael. Gall defnyddwyr trwm gael band llydan drwy linellau a brydlesir, ond gall y rhain fod yn gostus. Gall defnyddwyr canolig ac ysgafn ei gael drwy linell danysgrifio ddigidol anghymesur neu fodem cebl, pan fyddant ar gael. Yng Nghaerdydd, gwasanaethir dros 70 y cant o’r ardal gan gyfnewidfeydd a alluogir drwy ADSL, ac mae dros 80 y cant o fusnesau bach a chanolig eu maint mewn ardaloedd a alluogir drwy ADSL. Fodd bynnag, nid yw ADSL ar gael ar hyn o bryd ym Mhontypridd, Cwm Cynon na’r Rhondda. Mae gwasanaeth modem cebl NTL ar gael ymron 80 y cant o ardal Caerdydd, er fod ei argaeledd mor uchel â 95 y cant mewn rhai rhannau. Mae ar gael yn 50 y cant o ardal Pontypridd a 60 y cant o Fro Morgannwg. Nid yw ar gael yng Nghwm Cynon na Chymoedd y Rhondda.

Owen John Thomas spoken in English p. 22

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 22

It seems that broadband services are largely concentrated in densely populated areas, and that the present technology will not enable it to reach most of the narrow Valley communities of South Wales Central. By what date is it anticipated that 90 per cent of the population of Rhondda Cynon Taff will be within reach of a broadband service?

Ymddengys fod gwasanaethau band llydan ar gael yn bennaf mewn ardaloedd dwys eu poblogaeth, ac na fydd y dechnoleg bresennol yn ei alluogi i gyrraedd y rhan fwyaf o gymunedau cul Cymoedd Canol De Cymru. Erbyn pryd y rhagwelir y bydd 90 y cant o boblogaeth Rhondda Cynon Taf o fewn cyrraedd i wasanaeth band llydan?

Andrew Davies spoken in English p. 22

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 22

As you know, last November, I announced, with the First Minister, the £33 million invested in the lifelong learning network throughout Wales. It will provide high bandwidth to every local authority in Wales. We are confident that the contracts for that will be signed soon. I cannot give you a date by which that facility and capacity will be available in each local authority area. However, I am meeting senior board members of the Welsh Development Agency to take forward the implementation plan of the Analysys report, and I hope to be able to make an announcement on this soon.

Fel y gwyddoch, fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais, ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, y £33 miliwn a fuddsoddir yn y rhwydwaith dysgu gydol oes ledled Cymru. Bydd yn darparu band llydan uchel i bob awdurdod yng Nghymru. Yr ydym yn hyderus y bydd y contractau ar gyfer hynny wedi eu llofnodi’n fuan. Ni allaf roi dyddiad ichi pan fydd y cyfleuster a’r capasiti ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol. Fodd bynnag, byddaf yn cyfarfod ag uwch aelodau o fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu yr adroddiad Analysys, a gobeithiaf allu gwneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan.

Alun Pugh spoken in English p. 22

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 22

Do you accept that the provision of broadband to Members’ offices would improve the efficiency of this place and lead to a much better understanding of the technology in the National Assembly?

A dderbyniwch y byddai darparu band llydan i swyddfeydd yr Aelodau yn gwella effeithiolrwydd y lle hwn ac yn arwain at ddealltwriaeth well o lawer o’r dechnoleg yn y Cynulliad Cenedlaethol?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Order. This question is not about the Assembly’s internal facilities. It is about broadband in South Wales Central. I appreciate that some Members have offices in South Wales Central.

Trefn. Nid yw’r cwestiwn hwn yn ymwneud â chyfleusterau mewnol y Cynulliad. Mae a wnelo â band llydan yng Nghanol De Cymru. Gwerthfawrogaf fod gan rai Aelodau swyddfeydd yng Nghanol De Cymru.

Andrew Davies spoken in English p. 23

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 23

I agree with Alun. I have asked officials to set up demonstrations of the uses of broadband. I hope to make an announcement fairly soon about that and about connectivity to Members’ offices, not just those in this building, but also those in their constituencies.

Cytunaf ag Alun. Yr wyf wedi gofyn i swyddogion drefnu arddangosiadau o ddefnyddiau band llydan. Gobeithiaf wneud cyhoeddiad yn weddol fuan ynghylch hynny ac ynghylch cysylltedd â swyddfeydd yr Aelodau, nid y rhai sydd yn yr adeilad hwn yn unig, ond eu swyddfeydd yn eu hetholaethau hefyd.

Jonathan Morgan spoken in English p. 23

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 23

In response to Owen John Thomas, you stated that broadband access was available across South Wales Central. However, you are wrong. This morning I received notification from Cardiff County Council that it cannot provide internet access in the small community library in Tongwynlais in the Cardiff North constituency because there are restrictions on how the new opportunities fund funding made available can be spent. Some small community libraries could lose out as a result of those restrictions. That library still does not have internet access via broadband, and is thus left in the slow lane when it comes to modern technologies. What can you do about it?

Mewn ymateb i Owen John Thomas, nodwyd gennych fod mynediad i fand llydan ar gael ledled Canol De Cymru. Fodd bynnag, yr ydych yn anghywir. Y bore yma cefais fy hysbysu gan Gyngor Sir Caerdydd na all ddarparu mynediad rhyngrwyd yn llyfrgell gymunedol fechan Tongwynlais yn etholaeth Gogledd Caerdydd gan fod cyfyngiadau ar y modd y gellir gwario arian y gronfa cyfleoedd newydd sydd ar gael. Gallai rhai llyfrgelloedd cymunedol bach fod ar eu colled o ganlyniad i’r cyfyngiadau hynny. Nid oes gan y llyfrgell honno fynediad i’r rhyngrwyd drwy fand llydan, ac felly fe’u gadewir ar ôl pan ddaw yn fater o dechnolegau modern. Beth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn?

Andrew Davies spoken in English p. 23

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 23

I will take that up with officials and find out what the problem is and whether it can be circumvented. The point I made about broadband availability was that it is available, but that access is expensive in many areas. It means having leased lines, which can be expensive, particularly for domestic users and for small companies, so it is an issue of price as well as accessibility.

Byddaf yn trafod hynny gyda’r swyddogion ac yn darganfod beth yw’r broblem ac a ellir ei goresgyn. Y pwynt a wneuthum ynglŷn ag argaeledd band llydan oedd ei fod ar gael, ond bod mynediad iddo yn gostus mewn sawl ardal. Golyga gael llinellau wedi eu prydlesu, a all fod yn gostus, yn arbennig i ddefnyddwyr cartref ac i gwmnïau bach, felly mae’n fater o bris yn ogystal ag argaeledd.

Cyllid ar gyfer Technoleg Gwybodaeth

Funding Allocated to Information Technology

Q2 Christine Gwyther spoken in English p. 23

C2 Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 23

Will the Minister make a statement about the amount of Assembly funding allocated to IT, with particular reference to the South West Wales region? (OAQ15905)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch faint o gyllid y Cynulliad sydd wedi ei glustnodi ar gyfer TG, gan gyfeirio’n arbennig at ardal De Orllewin Cymru? (OAQ15905)

Congratulations on your new appointment, Andrew.

Llongyfarchiadau ichi ar eich penodiad newydd, Andrew.

Andrew Davies spoken in English p. 24

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

Thank you for your best wishes. In last year’s budget we announced an additional £90 million to support activities related to information and communications technology throughout Wales. Each Minister has committed spending on ICT, but it is difficult to provide an authoritative figure on total ICT spend, because ICT features in so many projects and budgets. However, we estimate that we will spend over £160 million on schemes over the next three years. Many of these cover the whole of Wales, such as Farming Connect, with a £9 million spend, NHS ICT, with over £27 million, and education and training, with over £75 million. There are also the Objective 1 projects, such as Opportunity Wales, with £21 million. As you know, it has a Carmarthen office. However, I do not have specific figures for specific regions.

Diolch ichi am eich dymuniadau gorau. Yng nghyllideb y flwyddyn ddiwethaf cyhoeddasom £90 miliwn ychwanegol i gefnogi gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ledled Cymru. Mae pob Gweinidog wedi ymrwymo i wario ar TGCh, ond mae’n anodd darparu ffigur awdurdodol ar gyfanswm gwariant TGCh, gan fod TGCh yn ymddangos mewn cymaint o brosiectau a chyllidebau. Fodd bynnag, amcangyfrifwn y byddwn yn gwario dros £160 miliwn ar gynlluniau dros y tair blynedd nesaf. Bydd llawer o’r rhain yn cwmpasu Cymru gyfan, fel Cyswllt Ffermio, gyda gwariant o £9 miliwn, TGCh y GIG, gyda dros £27 miliwn, ac addysg a hyfforddiant, gyda dros £75 miliwn. Mae prosiectau Amcan 1 hefyd, fel Cyfle Cymru, gyda £21 miliwn. Fel y gwyddoch, mae ganddynt swyddfa yng Nghaerfyrddin. Fodd bynnag, nid oes gennyf ffigurau penodol ar gyfer rhanbarthau penodol.

Christine Gwyther spoken in English p. 24

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 24

We must be open to new ideas and be prepared to think laterally. Does your vision of a digital Wales include an assessment of the benefits of radio as a form of communication in rural areas, for instance, with perhaps a central computer in the village pub, garage or chapel serving as the internet service provider?

Rhaid inni fod yn agored i syniadau newydd a bod yn barod i feddwl yn ochrol. A yw eich gweledigaeth o Gymru ddigidol yn cynnwys asesiad o fanteision radio fel cyfrwng cyfathrebu mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, gyda chyfrifiadur canolog yn nhafarn y pentref, y garej neu’r capel o bosibl yn gwasanaethu fel darparwr gwasanaeth y rhyngrwyd?

Andrew Davies spoken in English p. 24

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

As Members will know, I have always said—and the ‘Cymru Ar-lein’ strategy makes this point, as does the analysis report—that we take a technology-neutral approach to the provision of broadband. That means that we will opt for the most cost-effective form of broadband technology and delivery. Many Members were present at Colonel Dave Hughes’s interesting and stimulating presentation a few weeks ago. He demonstrated the use of community-based wireless-delivered broadband, which he uses in Colorado, in the United States. I am confident that we could have a similar project in north Wales in the near future. I hope to make an announcement on that soon.

Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wyf bob amser wedi dweud—a gwna strategaeth ‘Cymru Ar-lein’ y pwynt hwn, fel y gwna’r adroddiad dadansoddi—ein bod yn mabwysiadu ymagwedd niwtral o ran technoleg tuag at ddarparu band llydan. Golyga hynny y byddwn yn dewis y math mwyaf cost effeithiol o dechnoleg band llydan a’r modd y’i cyflwynir. Yr oedd llawer o’r Aelodau yn bresennol yng nghyflwyniad diddorol ac ysgogol y Cyrnol Dave Hughes rai wythnosau yn ôl. Dangosodd y modd y gellir defnyddio gwasanaeth band llydan di-wifren yn y gymuned, sef yr hyn a ddefnyddia yng Ngholorado, yn yr Unol Daleithiau. Yr wyf yn hyderus y gallem gael prosiect tebyg yn y Gogledd yn y dyfodol agos. Gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hynny’n fuan.

Janet Davies spoken in English p. 25

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 25

Minister, you have already accepted that an ambitious roll-out programme of ADSL or telephone exchanges will be needed. Looking at the western valleys, and the upper Afan valley in particular, and with regard to possible economic development there, can you give priority to that area?

Weinidog, yr ydych eisoes wedi derbyn y bydd angen rhaglen cyflwyno ADSL neu gyfnewidfeydd ffôn uchelgeisiol. Gan edrych ar y cymoedd gorllewinol, a chwm Afan uchaf yn arbennig, ac o gofio’r gwaith datblygu economaidd posibl yno, a allwch roi blaenoriaeth i’r ardal honno?

Andrew Davies spoken in English p. 25

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 25

I represent an Objective 1 area myself, and it is crucial that our more deprived communities, such as the Valleys and my constituency in Swansea, have access to broadband. We are implementing the analysis report with the WDA and are confident about using Objective 1, priority 2, measure 1, as a source of funding for that and for broadband roll-out.

Cynrychiolaf ardal Amcan 1 fy hun, ac mae’n hollbwysig bod ein cymunedau mwy difreintiedig, fel y Cymoedd a’m hetholaeth yn Abertawe, yn cael mynediad i fand llydan. Gweithredwn yr adroddiad dadansoddi gyda’r WDA ac yr ydym yn hyderus ynglŷn â defnyddio Amcan 1, blaenoriaeth 2, mesur 1, fel ffynhonnell ariannu ar gyfer hynny ac ar gyfer cyflwyno band llydan.

Twf TGCh o fewn Ardaloedd Amcan 1

Growth of ICT in Objective 1 Areas

Q3 David Melding spoken in English p. 25

C3 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 25

Will the Minister make a statement on the growth of information and communications technology in Objective 1 areas? (OAQ15928)

A wnaiff y Trefnydd ddatganiad ar dwf technoleg gwybodaeth a chyfathrebu o fewn ardaloedd Amcan 1? (OAQ15928)

Andrew Davies spoken in English p. 25

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 25

The Department of Trade and Industry’s benchmarking study of 2001 indicated that businesses in Wales have progressed in their use and take up of ICT. For instance, the connectivity rate for the whole of Wales, as defined by the DTI, is now 80 per cent, compared to 69 per cent in the previous year. This study is the largest and most comprehensive study available but, unfortunately, it does not provide figures for Objective 1 areas as it was conducted on an all-Wales basis. The Welsh Assembly Government is working with partners such as the WDA to encourage more projects that could benefit from Objective 1 funding. We have already supported Objective 1 projects such as Opportunity Wales, which is a large-scale project designed to encourage thousands of businesses to recognise the economic and commercial benefits of engaging in e-commerce and to support them in that. We have also aided the ICT support network, which is available throughout Wales, and a range of local projects has been carried out with Assembly Government assistance.

Nododd astudiaeth feincnodi yr Adran Masnach a Diwydiant 2001 fod busnesau yng Nghymru wedi cynyddu eu defnydd a’u cyfradd dderbyn o TGCh. Er enghraifft, y gyfradd gysylltedd ar gyfer Cymru gyfan, fel y’i diffinnir gan yr Adran Masnach a Diwydiant, yw 80 y cant yn awr, o’i gymharu â 69 y cant y flwyddyn flaenorol. Hon yw’r astudiaeth fwyaf a mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ond yn anffodus, nid yw’n darparu ffigurau ar gyfer ardaloedd Amcan 1 gan iddi gael ei chynnal ar sail Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel y WDA i annog mwy o brosiectau a allai elwa ar arian Amcan 1. Yr ydym eisoes wedi cefnogi prosiectau Amcan 1 fel Cyfle Cymru, sy’n brosiect ar raddfa fawr a gynlluniwyd i annog miloedd o fusnesau i gydnabod manteision economaidd a masnachol ymwneud ag e-fasnach ac i’w cefnogi yn hynny o beth. Yr ydym hefyd wedi cynorthwyo’r rhwydwaith cymorth TGCh, sydd ar gael ledled Cymru, ac ystod o brosiectau lleol a gyflawnwyd gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad.

David Melding spoken in English p. 26

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 26

Do you agree that the success of this strategy depends on access and training, and that it is not just about encouraging businesses, but training people in the community who then go on to work in a range of enterprises? One way to do that would be to ensure that resources are provided to community centres, for instance. They are often key to and successful in getting local people to acquire new skills in ICT.

A gytunwch fod llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar fynediad a hyfforddiant, ac nad annog busnes yn unig y dylid ei wneud, ond hyfforddi pobl yn y gymuned sy’n mynd yn eu blaenau wedyn i weithio mewn ystod o fentrau? Un ffordd o wneud hynny fyddai sicrhau y darperir adnoddau i ganolfannau cymunedol, er enghraifft. Yn aml maent yn llwyddiannus ac yn allweddol wrth gael pobl leol i feithrin sgiliau newydd mewn TGCh.

Andrew Davies spoken in English p. 26

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

I could not agree more. I want to consider that in more detail. In the Townhill area of my constituency, which is one of the most deprived areas in Wales, is the Phoenix centre. It was opened by the Prime Minister almost a year ago and has seen 28,000 people go through its gates to use the library and the ICT facilities. I agree with you about the huge potential of community centres and I want to explore that.

Ni allwn gytuno mwy. Yr wyf am ystyried hynny yn fanylach. Yn ardal Townhill yn fy etholaeth i, sy’n un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae canolfan Phoenix. Fe’i hagorwyd gan y Prif Weinidog bron i flwyddyn yn ôl a gwelodd 28,000 o bobl yn mynd drwy ei gatiau i ddefnyddio’r llyfrgell a’r cyfleusterau TGCh. Cytunaf â chi ynglŷn â photensial anferth canolfannau cymunedol ac yr wyf am ymchwilio i hynny.

Rosemary Butler spoken in English p. 26

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 26

Minister, congratulations on your new post. It is vital that communities are allowed to develop their ICT skills. However, there must be a two-pronged attack on this and businesses in Wales must play their part. Do you agree that the conference that you attended this morning, at the Celtic Manor Hotel in my constituency, represents the way forward?

Weinidog, llongyfarchiadau ar eich swydd newydd. Mae’n holl bwysig bod cymunedau’n cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau TGCh. Fodd bynnag, rhaid cael ymosodiad deuddaint ar hyn a rhaid i fusnesau yng Nghymru chwarae eu rhan. A gytunwch fod y gynhadledd a fynychwyd gennych y bore yma, yng Ngwesty’r Celtic Manor yn fy etholaeth, yn cynrychioli’r ffordd ymlaen?

Andrew Davies spoken in English p. 26

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

Yes. I was not at the conference this morning, but I will be at the dinner this evening, and I chaired its awards panel. I welcome the ICT02 conference. We hope that it is successful. Along with the WDA, we are the major sponsors of the conference. The whole thrust of our work with small companies encourages them to take up the opportunities provided by the latest technology. I particularly applaud the work of Professor Tony Davies of the eCommerce Innovation Centre at Cardiff University. He is a world authority on the use of e-commerce by small companies, and is paving the way forward. We are using his work as a model of what can be done in Wales to make the most of new technology.

Gwnaf. Nid oeddwn yn y gynhadledd y bore yma, ond byddaf yn y cinio heno, a chadeiriais ei banel gwobrwyo. Croesawaf y gynhadledd TGCh02. Gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus. Ynghyd â’r WDA, ni yw prif noddwyr y gynhadledd. Mae pwyslais cyfan ein gwaith gyda chwmnïau bach yn eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn eu darparu. Cymeradwyaf yn benodol waith yr Athro Tony Davies o’r Ganolfan Arloesedd eFasnach ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigwr byd-eang ar ddefnyddio e-fasnach mewn cwmnïau bach, ac mae’n paratoi’r ffordd ymlaen. Defnyddiwn ei waith fel enghraifft o’r hyn y gellir ei wneud yng Nghymru i wneud y gorau o’r dechnoleg newydd.

Phil Williams spoken in English p. 27

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 27

If you include match funding, the total budget for ICT infrastructure in Objective 1 is about £50 million. Given the urgency of bridging the digital divide between Wales and the rest of the UK, why did the Government wait for almost two years before establishing a partnership to access Objective 1 funding for ICT infrastructure? Does this confirm the low priority given to IT, reflected by the budget for programmes like ‘Cymru Ar-lein’ and lifelong learning?

Os cynhwyswch arian cyfatebol, cyfanswm y gyllideb ar gyfer seilwaith TGCh yn Amcan 1 yw tua £50 miliwn. O gofio brys pontio’r rhaniad digidol rhwng Cymru a gweddill y DU, pam arhosodd y Llywodraeth bron ddwy flynedd cyn sefydlu partneriaeth i gael gafael ar arian Amcan 1 ar gyfer seilwaith TGCh? A yw hyn yn cadarnhau’r flaenoriaeth isel a roddir i TG, a adlewyrchir gan y gyllideb ar gyfer rhaglenni fel ‘Cymru Ar-lein’ a dysgu gydol oes?

Andrew Davies spoken in English p. 27

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 27

Your voice is in a worse state than mine. I wish you well.

Mae eich llais mewn cyflwr gwaeth na’m llais i. Gwellhad buan i chi.

Clearly, we need to take a strategic view on this issue, following the ‘Cymru Ar-lein’ proposals and priorities. The analysis report, which I have referred to frequently this morning and on previous occasions, is our strategy for rolling out broadband technology in Wales. The funds to which you referred under Objective 1, mainly under priority 2, measure 1—you are right about the total amount of money—should be used strategically. With the WDA’s assistance, that substantial amount of money will be used to roll-out broadband technology within the framework established by the analysis report.

Yn amlwg, mae angen i ni arddel barn strategol ar y mater hwn, gan ddilyn cynigion a blaenoriaethau ‘Cymru Ar-lein’. Yr adroddiad dadansoddi, y cyfeiriais ato yn aml y bore yma ac ar sawl achlysur, yw ein strategaeth ar gyfer cyflwyno technoleg band llydan yng Nghymru. Dylai’r arian y cyfeiriasoch ato o dan Amcan 1, yn bennaf o dan flaenoriaeth 2, mesur 1—yr ydych yn iawn ynglŷn â chyfanswm yr arian—gael ei ddefnyddio’n strategol. Gyda chymorth y WDA, defnyddir y swm mawr hwnnw o arian i gyflwyno technoleg band llydan o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan yr adroddiad dadansoddi.

Cadw Sgiliau TGCh ar Lefel Uchel

Retention of High Level ICT Skills

Q4 Karen Sinclair spoken in English p. 27

C4 Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 27

What progress, if any, has been made on developing mechanisms for the retention of high level ICT skills in Wales? (OAQ15900)

Pa gynnydd, os o gwbl, sydd wedi bod ar ddatblygu dulliau o gadw sgiliau TGCh ar lefel uchel yng Nghymru? (OAQ15900)

This has been asked many times in supplementary questions today.

Gofynnwyd hyn sawl gwaith mewn cwestiynau atodol heddiw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

Order. I would be grateful if Members did not add to the questions that have been tabled. It confuses the Presiding Officer, which is a serious offence.

Trefn. Byddwn yn ddiolchgar pe na bai’r Aelodau yn ychwanegu at y cwestiynau a gyflwynwyd. Mae’n drysu’r Llywydd, sydd yn drosedd ddifrifol.

Karen Sinclair spoken in English p. 27

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 27

I am sorry.

Mae’n ddrwg gennyf.

Andrew Davies spoken in English p. 27

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 27

I will try not to confuse you, Presiding Officer. As part of ‘Cymru Ar-lein’, an e-learning and ICT skills implementation group has been established. Its objectives include producing a strategic plan to develop and retain ICT skills in Wales. I am pleased that my colleague, Alun Pugh, the Deputy Minister for Education and Lifelong Learning, is taking a lead on that.

Ceisiaf beidio â’ch drysu chi, Lywydd. Fel rhan o ‘Cymru Ar-lein’, sefydlwyd grŵp gweithredu e-ddysgu a sgiliau TGCh. Ymhlith ei amcanion mae cynhyrchu cynllun strategol i ddatblygu a chadw sgiliau TGCh yng Nghymru. Yr wyf yn falch bod fy nghyd-Aelod, Alun Pugh, y Dirprwy Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn arwain y blaen ar hynny.

In collaboration with the Assembly Government, Education and Learning Wales will launch an e-placement pilot programme in Pembrokeshire later this year. This initiative places IT graduates within e-learning centres to enable the transfer of ICT skills and to promote their use within the community. ‘Cymru Ar-lein’ also encourages closer links between universities and industry, through projects and programmes such as Technium, and the centre for advanced software technology in Bangor which will improve the flow of high level ICT skills between universities and businesses in Wales. I attended the knowledge summit with the First Minister last week, where the importance of the connection between high level skills in universities and the knowledge economy was emphasised.

Mewn cydweithrediad â Llywodraeth y Cynulliad, bydd Dysgu ac Addysgu Cymru yn lansio rhaglen beilot e-leoli yn Sir Benfro yn ddiweddarach eleni. Mae’r fenter hon yn gosod graddedigion TG o fewn canolfannau e-ddysgu er mwyn galluogi i sgiliau TGCh gael eu trosglwyddo ac i hyrwyddo eu defnydd o fewn y gymuned. Mae ‘Cymru Ar-lein’ hefyd yn annog cysylltiadau agosach rhwng prifysgolion a diwydiant, drwy brosiectau a rhaglenni fel Technium, a’r ganolfan ar gyfer technoleg meddalwedd ddatblygedig ym Mangor a fydd yn gwella llif y lefel uchel o sgiliau TGCh rhwng prifysgolion a busnesau yng Nghymru. Mynychais yr uwch-gynhadledd ar wybodaeth gyda’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, lle y pwysleisir pwysigrwydd y cysylltiad rhwng sgiliau lefel uchel mewn prifysgolion a’r economi wybodaeth.

Karen Sinclair spoken in English p. 28

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 28

Do you agree that in order to develop high level ICT skills we must ensure that all communities across Wales have access to ICT? With that in mind, do you welcome the distinctive Welsh approach adopted by the Welsh Assembly Government to provide ICT for schools, museums, libraries, and other access points throughout Wales?

A gytunwch fod yn rhaid inni, er mwyn datblygu sgiliau TGCh lefel uchel, sicrhau bod pob cymuned ledled Cymru yn gallu cael gafael ar TGCh? Gyda hynny mewn cof, a groesawch yr ymagwedd benodol Gymreig a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at ddarparu TGCh i ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a phwyntiau mynediad eraill ledled Cymru?

Andrew Davies spoken in English p. 28

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 28

Yes. What we are doing in Wales is innovative and exciting. Once we have delivered the lifelong learning network to all schools in Wales, primary schools will have 2 megabyte connections, and secondary schools will have 8 megabyte connections. This will put Welsh schools—and education in Wales—ahead of the game compared with the rest of the UK. It is an exciting project, and it will ensure that our young people have the opportunity to make the most of the latest technology.

Gwnaf. Mae’r hyn a wnawn yng Nghymru yn arloesol ac yn gyffrous. Unwaith y byddwn wedi cyflwyno’r rhwydwaith dysgu gydol oes i bob ysgol yng Nghymru, bydd gan ysgolion cynradd gysylltiadau 2 fegabeit, a bydd gan ysgolion uwchradd gysylltiadau 8 megabeit. Bydd hyn yn rhoi ysgolion Cymru—ac addysg yng Nghymru—ar y blaen o’u cymharu â gweddill y DU. Mae’n brosiect cyffrous, a bydd yn sicrhau y caiff ein pobl ifanc y cyfle i wneud y gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf.

Alun Cairns spoken in English p. 29

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 29

Retention of ICT skills is important to the redevelopment of the economy. I was pleased to hear your response to Karen Sinclair’s question, when you said that all communities need to have access to ICT facilities through libraries, schools, and so on. What action is the Minister taking to ensure access for residents in Killay in Swansea West, whose library has burned down, leaving them without access?

Mae cadw sgiliau TGCh yn bwysig i ailddatblygiad yr economi. Yr oeddwn yn falch o glywed eich ymateb i gwestiwn Karen Sinclair, pan ddywedasoch fod angen i bob cymuned gael mynediad i gyfleusterau TGCh drwy lyfrgelloedd, ysgolion ac yn y blaen. Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau mynediad i drigolion yng Nghilâ yng Ngorllewin Abertawe, y llosgodd ei llyfrgell, gan eu gadael heb fynediad?

Andrew Davies spoken in English p. 29

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 29

Thank you for referring to my constituency. I have taken this matter up with my local authority to find out what facilities will be made available on a temporary basis for the people of Killay and other areas who want to use them. It is important to ensure that they have access to the facilities provided to all other public libraries in Wales through the new opportunities fund money that we have provided for free internet access in every public library in Wales.

Diolch ichi am gyfeirio at fy etholaeth. Yr wyf wedi trafod y mater hwn gyda’m hawdurdod lleol er mwyn gweld pa gyfleusterau fydd ar gael dros dro i bobl Cilâ ac i ardaloedd eraill a fydd am eu defnyddio. Mae’n bwysig sicrhau bod ganddynt fynediad i’r cyfleusterau a ddarperir i bob llyfrgell gyhoeddus arall yng Nghymru drwy arian y gronfa cyfleoedd newydd a ddarparwyd gennym ar gyfer mynediad am ddim i’r rhyngrwyd ym mhob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 29

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 29

Question 5 (OAQ15904) has been transferred for written answer.

Trosglwyddwyd cwestiwn 5 (OAQ15904) ar gyfer ateb ysgrifenedig.

Rhaniad Digidol

Digital Divide

Q6 John Griffiths spoken in English p. 29

C6 John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 29

Will the Minister make a statement on progress in tackling the ‘digital divide’ in Wales? (OAQ15899)

A wnaiff y Trefnydd ddatganiad ar y datblygiadau o ran mynd i’r afael â’r ‘rhaniad digidol’ yng Nghymru? (OAQ15899)

Andrew Davies spoken in English p. 29

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 29

Tackling social exclusion is an essential cross-cutting theme in ‘Cymru Ar-lein’ and for the Welsh Assembly Government. This commitment is also embedded in the Communities First guidance document and the single programming document for Objective 1. The digital divide occurs where people have limited access to ICT. ‘Cymru Ar-lein’ is tackling this—as I have already said several times this morning—by ensuring that every public library in Wales will offer free access to the internet. Also, all schools will be connected through the lifelong learning network to ensure that our children live in communities with direct access to broadband and ICT. The Communities First and e-communities programmes will also use those centres to bridge the digital divide.

Mae mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol yn thema drawsbynciol hanfodol yn ‘Cymru Ar-lein’ ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ymgorfforir yr ymrwymiad hwn hefyd yn nogfen ganllaw Rhoi Cymunedau’n Gyntaf a’r ddogfen raglennu sengl ar gyfer Amcan 1. Digwydd y rhaniad digidol pan fydd gan bobl fynediad cyfyngedig i TGCh. Mae ‘Cymru Ar-lein’ eisoes yn mynd i’r afael â hyn—fel y dywedais eisoes sawl gwaith y bore yma—drwy sicrhau y bydd pob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru yn cynnig mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Hefyd, bydd pob ysgol wedi ei chysylltu drwy’r rhwydwaith dysgu gydol oes er mwyn sicrhau bod ein plant yn byw mewn cymunedau sydd â mynediad uniongyrchol i fand llydan a TGCh. Bydd y rhaglenni Rhoi Cymunedau’n Gyntaf ac e-gymunedau yn defnyddio’r canolfannau hynny hefyd i bontio’r rhaniad digidol.

John Griffiths spoken in English p. 30

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 30

A number of points on this issue have already been raised in supplementaries this morning. Community groups, such as the one on the Ringland estate in my constituency, use the internet to promote their valuable work. However, they must meet the costs of the service themselves. Will you consider extending free public access to the internet to community resource and other centres?

Codwyd nifer o bwyntiau ar y mater hwn mewn eisoes cwestiynau atodol y bore yma. Defnyddia grwpiau cymunedol, fel yr un ar ystad Ringland yn fy etholaeth i, y rhyngrwyd i hyrwyddo eu gwaith gwerthfawr. Fodd bynnag, rhaid iddynt dalu costau’r gwasanaeth eu hunain. A ystyriwch ymestyn mynediad am ddim i’r rhyngrwyd i’r cyhoedd i adnoddau cymunedol a chanolfannau cymunedol eraill?

Andrew Davies spoken in English p. 30

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 30

I will consider that issue, which raises a similar point to that which Jonathan raised earlier. It is a serious proposal. From my experience of the Phoenix centre in Townhill I know that community centres have huge potential. I will consider this issue and ask officials to consider whether it could be done and what the budgetary implications would be. It is well worth considering.

Byddaf yn ystyried y mater hwnnw, sy’n codi pwynt tebyg i’r un a godwyd gan Jonathan yn gynharach. Mae’n gynnig difrifol. O’m profiad o ganolfan Phoenix yn Townhill, gwn fod gan ganolfannau cymunedol bosibiliadau mawr. Byddaf yn ystyried y mater hwn ac yn gofyn i swyddogion ystyried a ellid ei wneud a beth fyddai’r goblygiadau i’r gyllideb. Mae’n werth ei ystyried.

Janet Ryder spoken in English p. 30

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 30

According to a written answer in the House of Commons on 14 February, the gap between Wales and the UK in terms of the percentage of households with internet access has increased from 3 per cent in 1998-99 to 10 per cent in 2000-01, the latest date for which figures are available. Do you accept that, in addition to the digital divide between different social groups, a serious digital divide is also opening up between Wales and the rest of the UK?

Yn ôl ateb ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin ar 14 Chwefror, mae’r bwlch rhwng Cymru a’r DU o ran canran y cartrefi sydd â mynediad i’r rhyngrwyd wedi cynyddu o 3 y cant ym 1998-99 i 10 y cant yn 2000-01, y dyddiad diwethaf y mae ffigurau ar gael. A dderbyniwch fod rhaniad digidol difrifol yn agor hefyd rhwng Cymru a gweddill y DU, yn ogystal â’r rhaniad digidol rhwng gwahanol grwpiau cymdeithasol?

Andrew Davies spoken in English p. 30

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 30

I have always been upfront about the fact that there is a digital divide not only between social groups but also between Wales and other parts of the UK. It is related to prosperity, and unfortunately Wales is still one of the poorer parts of the UK. Internet access and ownership of personal computers are linked to people’s wealth and prosperity. That is why our economic development proposals through ‘A Winning Wales’, the Objective 1 programme, and all the other programmes that we are driving forward energetically, address social exclusion issues. In time that will also tackle the digital divide.

Bûm yn agored erioed ynglŷn â’r ffaith bod rhaniad digidol nid yn unig rhwng grwpiau cymdeithasol ond hefyd rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU. Mae’n gysylltiedig â ffyniant, ac yn anffodus Cymru yw un o rannau tlotaf y DU o hyd. Mae mynediad i’r rhyngrwyd a bod yn berchen ar gyfrifiadur personol yn gysylltiedig â chyfoeth a ffyniant pobl. Dyna pam mae ein cynigion datblygu economaidd drwy ‘Cymru’n Ennill’, rhaglen Amcan 1, a’r holl raglenni eraill a ddatblygwn yn egnïol, yn ymdrin â materion allgáu cymdeithasol. Ymhen amser byddwn yn mynd i’r afael â’r rhaniad digidol hefyd.

Datganiad ar Adolygiad o Leoliad Swyddfeydd y Cynulliad

Statement on the Relocation Review

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 31

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 31

Last October I announced that this location review would aim to increase the proportion of Assembly staff located outside Cardiff, while ensuring the effective and efficient delivery of Assembly business. Members will be aware that as the Assembly has taken on new functions it has developed a more diverse structure. By April this year when the eight regional and two local offices of the Care Standards Inspectorate for Wales open, over 1,000 Assembly Government staff will be based outside the capital. That compares with a figure of fewer than 600 inherited from the Welsh Office in 1999.

Fis Hydref diwethaf cyhoeddais y byddai’r adolygiad hwn o leoliad yn anelu at gynyddu cyfran staff y Cynulliad a leolir y tu allan i Gaerdydd, tra’n sicrhau y cyflwynir busnes y Cynulliad yn effeithiol ac effeithlon. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Cynulliad, wrth iddo ymgymryd â swyddogaethau newydd, wedi datblygu strwythur mwy amrywiol. Erbyn Ebrill eleni pan fydd wyth swyddfa ranbarthol a dwy swyddfa leol Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn agor, bydd mwy na 1,000 o staff Llywodraeth y Cynulliad wedi eu lleoli y tu allan i’r brifddinas. Mae hynny’n cymharu â ffigur o lai na 600 a etifeddwyd o’r Swyddfa Gymreig yn 1999.

It is only right that the direct benefits of having Assembly offices should be spread from Cardiff to other parts of Wales. These jobs can have an impact beyond the simple employee count, and there are areas of Wales where the need for that positive economic impact is much greater than in Cardiff. We also want our made-in-Wales policies to be made in the whole of Wales, not just one corner of it. Parts of the Assembly provide services to the public, to businesses, and to voluntary and other public bodies. Many of our service delivery functions are already located outside Cardiff, but there is still scope to bring more of these services closer to customers.

Mae ond yn iawn y dylid lledaenu’r manteision uniongyrchol sy’n deillio o ledaenu swyddfeydd y Cynulliad o Gaerdydd i rannau eraill o Gymru. Gall y swyddi hyn gael effaith y tu hwnt i’r cyfrif cyflogeion syml, ac mae ardaloedd o Gymru lle mae’r angen am yr effaith economaidd gadarnhaol honno yn fwy o lawer nag yng Nghaerdydd. Yr ydym hefyd am i’n polisïau a wnaed yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru gyfan, nid mewn cornel ohoni yn unig. Darpara rhannau o’r Cynulliad wasanaethau i’r cyhoedd, i fusnesau ac i gyrff gwirfoddol a chyhoeddus eraill. Mae llawer o’n swyddogaethau cyflwyno gwasanaethau eisoes wedi eu lleoli y tu allan i Gaerdydd, ond mae posibiliadau o hyd i ddod â mwy o’r gwasanaethau hyn yn agosach at gwsmeriaid.

As the review progressed, all Assembly staff were given the opportunity to contribute to it, at a series of 14 meetings held at all of our main offices throughout Wales. Over 400 people attended the meetings, which proved to be a productive source of views and ideas. I wrote to all local authorities when the review was launched last October. Many responded positively and follow-up meetings with them have either been held or are scheduled. There has also been correspondence with many others, and more information is being sent to all local authority chief executives this week. Discussions were held with several UK Government departments, the devolved administrations in Scotland and Northern Ireland, and Assembly sponsored public bodies.

Wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, rhoddwyd y cyfle i bob aelod o staff y Cynulliad gyfrannu ato, mewn cyfres o 14 o gyfarfodydd a gynhaliwyd ymhob un o’n prif swyddfeydd ledled Cymru. Mynychodd dros 400 o bobl y cyfarfodydd, a fu’n ffynhonnell gynhyrchiol o safbwyntiau a syniadau. Ysgrifennais at bob awdurdod lleol pan lansiwyd yr adolygiad fis Hydref diwethaf. Ymatebodd llawer yn gadarnhaol a chynhaliwyd cyfarfodydd dilynol gyda hwy eisoes neu trefnwyd iddynt gael eu cynnal. Bu llythyru hefyd gyda llawer o bobl eraill, ac mae mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon at brif weithredwyr pob awdurdod lleol yr wythnos hon. Cynhaliwyd trafodaethau gyda sawl adran o Lywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad.

We are encouraging ASPBs to reflect the Cabinet’s aim of greater decentralisation in their accommodation plans. We are seeking to identify how we can co-operate in delivering better public services in all Welsh regions through our ongoing discussions with UK Government offices in Wales and local authorities.

Yr ydym yn annog cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i adlewyrchu nod y Cabinet o ddatganoli mwy yn eu cynlluniau ar gyfer swyddfeydd. Yr ydym yn ceisio nodi sut y gallwn gydweithredu wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gwell ymhob ardal o Gymru drwy ein trafodaethau parhaus â swyddfeydd Llywodraeth y DU yng Nghymru ac awdurdodau lleol.

We are not at the point where we need to identify precise locations, but a property search has been commissioned to identify the availability of appropriate offices or development opportunities throughout Wales. The indications are that a good spread of options will be available to us in all regions.

Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen inni nodi union leoliadau, ond comisiynwyd chwiliad eiddo i nodi argaeledd swyddfeydd priodol neu gyfleoedd datblygu ledled Cymru. Yr arwyddion yw y bydd ystod dda o opsiynau ar gael i ni ymhob ardal.

I am confident that at least 400 of the jobs currently performed in Cardiff can be relocated elsewhere within the next five years. We expect all regions of Wales to benefit from our policy of decentralisation. I also expect an assumption that all new work coming to the Assembly in future should be based outside Cardiff, unless there are clear operational reasons otherwise. The relocation of work outside Cardiff should also result in lower accommodation costs in the long term. Cardiff office rents are typically half as much again as elsewhere in Wales. Over several years, these savings should mount up to help offset the one-off costs of the initial relocations.

Yr wyf yn hyderus y gall o leiaf 400 o’r swyddi a gyflawnir ar hyn o bryd yng Nghaerdydd gael eu hadleoli rywle arall o fewn y pum mlynedd nesaf. Disgwyliwn i bob ardal o Gymru elwa ar ein polisi datganoli. Disgwyliaf hefyd gymryd yn ganiataol y bydd yr holl waith newydd a ddaw i’r Cynulliad yn y dyfodol wedi ei leoli y tu allan i Gaerdydd, oni fydd rhesymau gweithredol clir fel arall. Dylai adleoli gwaith y tu allan i Gaerdydd arwain hefyd at gostau swyddfeydd is yn yr hirdymor. Mae rhenti swyddfeydd Caerdydd yn nodweddiadol yn hanner cymaint eto ag y maent mewn rhannau eraill o Gymru. Dros sawl blwyddyn, dylai’r cynilion hyn gronni i helpu i wrthbwyso costau unigol yr adleoliadau cychwynnol.

Some may feel that a target of relocating 400 jobs is too modest; others may feel that it will cause too much disruption to the Assembly’s business and staff. It is a practical aim that will allow for the necessary change to be implemented while maintaining the effective development, implementation and delivery of our policies and programmes. Through careful planning, we will also ensure that compulsory moving of staff and redundancies are minimised, and that the wishes of Assembly staff can be accommodated wherever possible. The review is being carried out in consultation with staff, with the close involvement of the trade unions throughout.

Efallai y teimla rhai fod targed o adleoli 400 swydd yn nifer rhy fach; bydd eraill efallai yn teimlo y bydd yn amharu gormod ar fusnes a staff y Cynulliad. Mae’n nod ymarferol a fydd yn caniatáu i’r newid angenrheidiol gael ei weithredu tra’n cynnal y gwaith o ddatblygu, gweithredu a chyflwyno ein polisïau a’n rhaglenni yn effeithiol. Drwy gynllunio gofalus, byddwn hefyd yn sicrhau bod symud staff a diswyddo staff yn orfodol yn cael ei gadw i’r isafswm, ac y gellir bodloni dymuniadau staff y Cynulliad lle bo hynny’n bosibl. Cynhelir yr adolygiad drwy ymgynghori â staff, gyda chysylltiad agos â’r undebau llafur drwy gydol y broses.

Some small but important steps towards greater decentralisation are already in hand. In my areas of responsibility, I am pleased to announce plans to establish the new Assembly Welsh procurement initiative team, involving nine posts, at a location near Swansea. We will also establish three small regional teams to implement the Communities First programme. These are to be located in Caernarfon, Carmarthen and the Valleys. These early moves are a clear signal of the Cabinet’s intention to decentralise the administration of Assembly functions as quickly as possible.

Mae rhai camau bach ond pwysig tuag at ddatganoli mwy eisoes ar waith. Yn fy maes cyfrifoldeb i, yr wyf yn falch o gyhoeddi cynlluniau i sefydlu tîm menter caffael newydd Cynulliad Cymru, sy’n golygu naw swydd, mewn lleoliad ger Abertawe. Byddwn hefyd yn sefydlu tri thîm rhanbarthol bach i weithredu rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Lleolir y rhain yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a’r Cymoedd. Mae’r symudiadau cynnar hyn yn arwydd clir o fwriad y Cabinet i ddatganoli’r gwaith o weinyddu swyddogaethau’r Cynulliad mor gyflym â phosibl.

The plans emerging from this review will not be the end of the process. As we continue to develop our use of up-to-date information and communication technologies, the scope for much greater flexibility in work patterns—including where jobs can be located—will increase further.

Nid diwedd y broses fydd y cynlluniau a ddaw i’r amlwg yn sgîl yr adolygiad hwn. Wrth inni barhau i ddatblygu ein defnydd o’r dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ddiweddaraf, bydd y posibiliadau ar gyfer mwy o hyblygrwydd o lawer mewn patrymau gwaith—gan gynnwys lle y gellir lleoli swyddi—yn cynyddu ymhellach.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 33

Diolchaf i’r Gweinidog am y datganiad, yr wyf yn siomedig nad oes mwy o wybodaeth bendant ar gael heddiw. Yr ydym wedi dilyn y trafodaethau dros fisoedd lawer bellach. Cymerwn fod y trafodaethau hynny wedi bod ar gig a gwaed y mater, ac nid am ymchwiliadau pellach yn unig.

I thank the Minister for the statement, but I am disappointed that more hard facts are not available today. We have followed the discussions over many months now. We take it that those discussions dealt with the nitty-gritty of the issue, and were not just about further consultations.

Mae’n dda y datganolwyd 400 o swyddi ers sefydlu’r Cynulliad. Fodd bynnag, a oes rhaid disgwyl pum mlynedd i ddatganoli 400 ychwanegol? Byddwn wedi disgwyl, pe bai’r ewyllys i wneud hynny yn bod, y dylai ddigwydd lawer yn gynt. Croesawaf y cyfeiriad at leoli rhai swyddi yng Nghaernarfon, Caerfyrddin, a’r Cymoedd ar gyfer y rhaglen gymunedol. Faint o swyddi fydd yn y lleoliadau hyn? A fedrwch roi unrhyw wybodaeth inni?

I welcome the fact that 400 jobs have been decentralised since the Assembly’s inception. However, must we wait five years to decentralise an additional 400? I would have thought that, if the will to make this happen existed, it would happen much sooner. I welcome the reference to locating some posts within the community programme in Caernarfon, Carmarthen and the Valleys. How many jobs will there be in these locations? Can you give us any information?

Wrth ystyried y mater hwn, a gaf sicrwydd gan y Gweinidog ei bod yn edrych nid yn unig ar y swyddi y mae’n bosibl eu datganoli yn y Cynulliad, ond yn yr holl gyrff sy’n atebol i’r Cynulliad? Tybiaf fod lle i ddisgwyl i adrannau’r Cynulliad megis amaeth—a oedd unwaith yn Aberystwyth ond a gafodd ei chanoli i Gaerdydd—gael eu datganoli o Gaerdydd. Gall gwasanaethau’r Cynulliad, megis gwasanaethau cyfieithu, wneud mwy y tu allan i Gaerdydd.

In considering this matter, can the Minister assure me that she is not only considering the Assembly jobs that can be devolved, but jobs in all the bodies accountable to the Assembly? I believe that it is reasonable to expect Assembly departments, such as agriculture—which was once based in Aberystwyth but was centralised to Cardiff—to be decentralised from Cardiff. Assembly services, such as translation, could do more outside Cardiff.

Mae’n siomedig bod yn rhaid, am resymau ymarferol, yn ôl yr ateb a gefais yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd, i swyddi sy’n gysylltiedig â datblygiadau diweddar megis y rhaglen INTERREG, sydd yn gwasanaethu gorllewin Cymru a dwyrain Iwerddon, fod yng Nghaerdydd. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr.

It is disappointing that, for practical reasons, according to the response that I received in the Economic Development Committee, jobs linked to recent developments such as the INTERREG programme, which services west Wales and the east of Ireland, have to be located in Cardiff. That does not make sense.

Onid oes modd i gyrff megis Bwrdd Croeso Cymru, sydd yn ymwneud i raddau helaeth ag ardaloedd y tu allan i Gaerdydd, ddatganoli llawer mwy o’i waith? Gallai Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wneud hynny, o ystyried lleoliadau cadarnleoedd yr iaith Gymraeg, a gall y WDA datganoli mwy nag y mae ar hyn o bryd. Pwysaf ar y Gweinidog, tra’n diolch iddi am yr ychydig a gyhoeddwyd heddiw, i yrru’r rhaglen hon ymlaen gyda llawer mwy o benderfyniad i sicrhau bod datganoli yn digwydd yn llawer cynharach, fel bo modd i ardaloedd y tu allan i Gaerdydd fod yn hyderus bod y Cynulliad yn ymwybodol o’u hanghenion.

Could bodies such as the Wales Tourist Board, which deals to a great extent with areas outside Cardiff, not decentralise much more of its work? The Welsh Language Board could also do so, bearing in mind the locations of the Welsh language strongholds, and the WDA could decentralise more than it does at present. I press the Minister, while thanking her for what has been announced today, to drive this programme forward with much more determination to ensure that decentralisation happens much sooner, so that areas outside Cardiff can be confident that the Assembly is aware of their needs.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 34

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 34

Cyn i’r Gweinidog ateb, dylem nodi nad yw’r gwasanaeth cyfieithu yn rhan o’i gyfrifoldebau.

Before the Minister replies, we should note that the translation service is not one of her responsibilities.

Edwina Hart spoken in English p. 34

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 34

I am determined to move this programme forward, but I must balance that against the needs of our staff, many of whom, along with their partners, currently live and work in Cardiff, and whose children go to school in Cardiff. It is a massive task to identify those individuals who may be prepared to go elsewhere in Wales, and Assembly staff and the trade unions must be confident that I will not, for example, send 500 jobs to Caernarfon. I must take a balanced approach, and ensure that I take the staff with me. It may seem to be slow progress, but the logistics are enormous in terms of discussions with local authorities, who are not always clear what space they own and where there is availability. We must discuss these issues with them and that requires further detailed work. We have not been slow; we have been responsible. When we first made this announcement, many National Assembly staff were uneasy and worried about what would happen to them. Therefore, I must maintain a balance, but I am determined that this issue should progress.

Yr wyf yn benderfynol o ddatblygu’r rhaglen hon, ond rhaid imi gydbwyso hynny yn erbyn anghenion ein staff, y mae llawer ohonynt, ynghyd â’u partneriaid, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ac y mae eu plant yn mynd i’r ysgol yng Nghaerdydd. Mae nodi’r unigolion hynny a allai fod yn barod i fynd i rywle arall yng Nghymru yn dasg enfawr a rhaid i staff y Cynulliad a’r undebau llafur fod yn hyderus nad anfonaf, er enghraifft, 500 o swyddi i Gaernarfon. Rhaid imi fabwysiadu ymagwedd gytbwys, a sicrhau fy mod yn mynd â’r staff gyda mi. Efallai ei fod yn ymddangos yn broses araf, ond mae’r logisteg yn enfawr o ran trafodaethau ag awdurdodau lleol, nad ydynt bob amser yn glir ynglŷn â’r lle sydd ganddynt a lle mae swyddfeydd ar gael. Rhaid inni drafod y materion hyn gyda hwy ac mae hynny’n golygu gwaith manwl pellach. Ni fuom yn araf; buom yn gyfrifol. Pan wnaethom y cyhoeddiad hwn yn gyntaf, yr oedd llawer o staff y Cynulliad Cenedlaethol yn anesmwyth ac yn pryderu am yr hyn a fyddai’n digwydd iddynt. Felly, rhaid imi gadw cydbwysedd, ond yr wyf yn benderfynol y dylid datblygu’r mater hwn.

The new Care Standards Inspectorate will establish eight regional and three local offices across Wales, from April 2002. That translates into 240 jobs located outside Cardiff. The Welsh European Funding Office established a fifth office in Carmarthen in November 2000, and it now has offices in Colwyn Bay, Machynlleth, I believe, the Cynon Valley, and Carmarthen, in addition to Cardiff. That is positive. Also, the NHS changes mean that there will be three new Assembly NHS Directorate regional offices. I have also announced my procurement team and the Communities First teams. I appreciate that the numbers are small, but it shows that the Assembly is prepared to move outside Cardiff. My Cabinet colleagues are engaging with Assembly sponsored bodies about whether, if there are changes in how they work, they can consider where they are located. This is an ongoing activity. Much work is being done to discover what other Government departments we can attract to Wales, Dafydd. We successfully located the Pensions Service in Swansea, but we must build on that and attract more jobs from central Government into other areas of Wales.

Bydd yr Arolygiaeth Safonau Gofal newydd yn sefydlu wyth swyddfa ranbarthol a thair swyddfa leol ledled Cymru, o Ebrill 2002. Mae hynny’n gyfystyr â 240 o swyddi wedi eu lleoli y tu allan i Gaerdydd. Sefydlodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru bumed swyddfa yng Nghaerfyrddin ym mis Tachwedd 2000, a bellach mae ganddi swyddfeydd ym Mae Colwyn, Machynlleth, fe gredaf, Cwm Cynon a Chaerfyrddin, yn ogystal â Chaerdydd. Mae hynny’n gadarnhaol. Hefyd, mae’r newidiadau yn y GIG yn golygu y bydd tair swyddfa ranbarthol newydd gan Gyfarwyddiaeth GIG y Cynulliad. Yr wyf hefyd wedi cyhoeddi fy nhîm caffael a’r timau Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Gwerthfawrogaf fod y niferoedd yn fach, ond dengys fod y Cynulliad yn barod i symud y tu allan i Gaerdydd. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn cysylltu â chyrff a noddir gan y Cynulliad i weld, os oes newidiadau yn y ffordd y gweithiant, a allant ystyried lle y’u lleolir. Mae hwn yn weithgaredd parhaus. Gwneir llawer o waith i ganfod pa adrannau eraill o’r Llywodraeth y gallwn eu denu i Gymru, Dafydd. Lleolwyd y Gwasanaeth Pensiynau yn llwyddiannus gennym yn Abertawe, ond rhaid inni adeiladu ar hynny a denu mwy o swyddi o Lywodraeth ganolog i ardaloedd eraill o Gymru.

I do not accept that we have been slow. I can understand that Members want progress, because I receive many letters from Members telling me about the merits of relocating to their various constituencies. However, we must balance the needs of our staff with the recognition that action needs to be taken. I know that the Minister for Rural Affairs and Assembly Business, in particular, has been concerned to ensure that the use of all the Agriculture Department’s offices is properly thought out, and we often talk about that issue.

Ni dderbyniaf inni fod yn araf. Gallaf ddeall bod yr Aelodau am weld cynnydd, oherwydd cefais lawer o lythyrau gan yr Aelodau yn dweud wrthyf am rinweddau adleoli i’w hetholaethau amrywiol. Fodd bynnag, rhaid inni gydbwyso anghenion ein staff â’r gydnabyddiaeth bod angen gweithredu. Gwn fod y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad, yn arbennig, wedi gofidio ynglŷn â sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i’r modd y defnyddir swyddfeydd yr Adran Amaethyddiaeth a siaradwn am y mater hwnnw yn aml.

Huw Lewis spoken in English p. 36

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 36

I thank you for this positive statement. You mention that the economic impact of such policies are crucial, and that that should be our primary motivation rather than having a cosmetic geographical spread of jobs. In that regard, the top 100 most deprived wards must be at the forefront of our minds. I recently inquired of Jon Shortridge how many Assembly offices are located in the top 100 most deprived wards. The answer is three. One of those three offices is this building, which is in the Butetown ward, ranked at no. 37. That was at the forefront of my mind, incidentally, when I voted in favour of the Wales Millennium Centre. This area is deprived. However, only two other small offices are located in the top 100 deprived wards: one in Porthfelyn, Anglesey and the other in Castleward, Swansea. Will you assure me that economic impact will be the primary motivation for relocations, given that there are no Assembly offices in the Valleys, for example, where three-quarters of the top 100 most deprived wards are located?

Diolch ichi am y datganiad cadarnhaol hwn. Soniasoch fod effaith economaidd polisïau o’r fath yn holl bwysig, a’n prif gymhelliant ddylai fod hynny yn hytrach nag ymarfer arwynebol i ddosbarthu swyddi yn ddaearyddol. Yn hynny o beth, rhaid i’r 100 ward mwyaf difreintiedig fod ar flaen ein meddyliau. Holais John Shortridge yn ddiweddar ynglŷn â faint o swyddfeydd y Cynulliad a leolir yn y 100 ward mwyaf difreintiedig. Yr ateb yw tair. Yr adeilad hwn yw un o’r tair swyddfa hynny, sydd yn ward Butetown, sef rhif 37 ar y rhestr. Yr oedd hynny ar flaen fy meddwl, gyda llaw, pan bleidleisiais o blaid Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r ardal hon yn un ddifreintiedig. Fodd bynnag, dim ond dwy swyddfa fach arall a leolir yn y 100 ward difreintiedig uchaf; un ym Mhorthfelyn, Ynys Môn a’r llall yn Castleward, Abertawe. A wnewch chi fy sicrhau mai’r effaith economaidd fydd y prif gymhelliant ar gyfer adleoliadau, o gofio nad oes unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad yn y Cymoedd, er enghraifft, lle y lleolir tri chwarter o’r 100 ward mwyaf difreintiedig?

Edwina Hart spoken in English p. 36

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 36

There is a balance to be struck. The primary motivation is economic and the First Minister, who has been involved in discussions and supports this plan, has said that we must consider the economic impact of where we locate staff and ASPBs, because it is central. We must also take into account our coverage of areas in Wales. It is important to our identity as the National Assembly for Wales that we are well represented across Wales. I take your points on board. I will consider the socially deprived areas and consider what accommodation we can move there. We are all aware of the benefits afforded by these jobs. Some of them will not necessarily be highly paid, but some will. That will have an impact on the local economy in terms of people using the shops and purchasing houses. In some cases, the fact that the children of staff will be going to school there will help to stop the fall in school rolls in some wards, and that is also important.

Mae angen taro cydbwysedd. Mae’r prif gymhelliant yn un economaidd a dywedodd y Prif Weinidog, a fu’n rhan o’r trafodaethau ac sy’n cefnogi’r cynllun hwn, fod yn rhaid inni ystyried yr effaith economaidd ar yr ardaloedd lle y lleolwn staff a chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, oherwydd mae hynny’n ganolog. Rhaid inni hefyd ystyried y sylw a roddwn i ardaloedd yng Nghymru. Mae’n bwysig i’n hunaniaeth fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ein bod wedi ein cynrychioli’n dda ledled Cymru. Ystyriaf eich pwyntiau. Ystyriaf yr ardaloedd cymdeithasol-ddifreintiedig ac ystyriaf pa swyddfeydd y gallwn eu symud yno. Yr ydym oll yn ymwybodol o’r manteision y mae’r swyddi hyn yn eu rhoi. Ni fydd rhai ohonynt o reidrwydd yn talu cyflogau uchel, ond fe fydd rhai eraill. Caiff hyn effaith ar yr economi leol o ran pobl yn defnyddio siopau a phrynu tai. Mewn rhai achosion, mae’r ffaith y bydd plant staff yn mynd i’r ysgol yno yn helpu i atal y gostyngiad yng nghofrestri ysgolion mewn rhai wardiau, ac mae hynny’n bwysig hefyd.

Nick Bourne spoken in English p. 37

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 37

I broadly welcome this statement. It must be right to devolve these jobs from the capital and I am glad that that is happening. However, some of the information that you provided stopped short of being useful. You mentioned that 1,000 jobs are currently located outside the capital. We need to know where they are. Clearly, they could be located just outside the capital. We need to know in what regions of Wales those jobs are. You may be able to give a broad idea of that now. What proportion are in mid-Wales, south-west Wales, north Wales, and the Valleys, as opposed to just outside Cardiff? You may need to give more detailed information on that in future. We would also welcome the devolution of ministerial posts to reflect the importance of life outside the capital, if you can impress that on the First Minister.

Croesawaf y datganiad hwn ar y cyfan. Mae’n rhaid ei fod yn iawn datganoli’r swyddi hyn o’r brifddinas ac yr wyf yn falch bod hynny’n digwydd. Fodd bynnag, nid oedd peth o’r wybodaeth a ddarparasoch yn ddefnyddiol. Soniasoch fod 1,000 o swyddi wedi eu lleoli ar hyn o bryd y tu allan i’r brifddinas. Mae angen inni wybod ble y maent. Yn amlwg, efallai mai ar gyrion y brifddinas y maent. Mae angen inni wybod ym mha ardaloedd o Gymru y mae’r swyddi hynny. Efallai y gallech roi syniad bras o hynny yn awr. Pa gyfran sydd yn y Canolbarth, y De-orllewin, y Gogledd, a’r Cymoedd, o’u cymharu â swyddi ar gyrion Caerdydd? Efallai y bydd angen ichi roi gwybodaeth fanylach am hynny yn y dyfodol. Byddem hefyd yn croesawu datganoli swyddi gweinidogol i adlewyrchu pwysigrwydd bywyd y tu allan i’r brifddinas, pe gallech bwysleisio hynny i’r Prif Weinidog.

On the staffing figures that you have set out to devolve over the next five years, can you give a broad indication as to in which regions of Wales those jobs will be located? Dafydd Wigley asked a question about the numbers of jobs in Caernarfon, Carmarthen, and the Valleys, which you did not answer. Where in the Valleys will those jobs be situated and at what date do you anticipate them being moved there? You mentioned those areas specifically, which is welcome but, picking up on Huw Lewis’s point, there are other areas and important centres that need these jobs and which have not been mentioned. We recognise that these jobs cannot always be based in the most deprived wards, but they should be near them, so that people from such wards can work in those offices. Can you comment about areas in north Wales such as Wrexham, Rhyl—which has the most deprived ward in Wales—Brecon, Aberystwyth and so on? Diversification from Cardiff to all of those areas is important.

O ran y ffigurau staffio a nodwyd gennych i’w datganoli dros y pum mlynedd nesaf, a allwch yn fras roi awgrym o ba ardaloedd o Gymru y caiff y swyddi hynny eu lleoli ynddynt? Gofynnodd Dafydd Wigley gwestiwn am nifer y swyddi yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a’r Cymoedd, nad atebasoch. Ble yn y Cymoedd y lleolir y swyddi hynny ac ar ba ddyddiad y rhagwelwch y cânt eu symud yno? Soniasoch am yr ardaloedd hynny’n benodol, sydd i’w groesawu ond, yn dilyn pwynt Huw Lewis, mae ardaloedd a chanolfannau pwysig eraill y mae angen y swyddi hyn arnynt ac nas crybwyllwyd. Cydnabyddwn na ellir lleoli’r swyddi hyn bob tro yn y wardiau mwyaf difreintiedig, ond dylent fod yn agos atynt, fel y gall pobl o wardiau o’r fath weithio yn y swyddfeydd hynny. A allwch roi sylw ar yr ardaloedd yn y Gogledd fel Wrecsam, y Rhyl—sydd â’r ward fwyaf difreintiedig yng Nghymru—Aberhonddu, Aberystwyth ac yn y blaen? Mae arallgyfeirio o Gaerdydd i’r holl ardaloedd hyn yn bwysig.

Edwina Hart spoken in English p. 37

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 37

I was not trying to be difficult about providing information; it has not yet been collated fully. If Members wish, I will provide them with details of staff members in each office location, indicate where I plan additional facilities, and provide a timetable for relocation. I will provide that to Members in the next two weeks. That may be helpful to give you a clear picture.

Nid oeddwn yn ceisio bod yn anhydrin ynglŷn â darparu gwybodaeth; nid yw wedi ei chasglu’n llawn eto. Os bydd yr Aelodau’n dymuno, rhoddaf fanylion yr aelodau staff ym mhob lleoliad swyddfa, gan nodi ble y bwriadaf ddarparu cyfleusterau ychwanegol, a darparu amserlen ar gyfer adleoli. Darparaf hynny i’r Aelodau yn ystod y pythefnos nesaf. Efallai y bydd hynny’n ddefnyddiol i roi darlun clir ichi.

On deprived wards, I concur that we may not be able to locate offices in those wards, but that they can be located close to them. We must consider sub-regional approaches in dealing with some of these issues. We must take into account the costs for the Assembly and the availability of other space. I am minded to look closely at whether offices can be shared with other government departments and with local government, and whether we can establish a government presence across the board in some areas. Co-locating services is ideal. When I consider some of the locations that we have across Wales, benefit agencies are close to other organisations, and people then become aware of the offices as the hub of government, whether that be central, Assembly, or local government. I will consider that issue.

O ran wardiau difreintiedig, deuaf i’r casgliad na fyddwn efallai yn gallu lleoli swyddfeydd yn y wardiau hynny, ond gellir eu lleoli yn agos atynt. Rhaid inni ystyried ymagweddau is-ranbarthol wrth ddelio â rhai o’r materion hyn. Rhaid inni ystyried y costau i’r Cynulliad ac argaeledd lleoedd gwag eraill. Bwriadaf edrych yn ofalus i weld a ellir rhannu swyddfeydd ag adrannau eraill y llywodraeth ac â llywodraeth leol, ac a allwn sefydlu presenoldeb y llywodraeth yn gyffredinol mewn rhai ardaloedd. Mae cyd-leoli gwasanaethau yn ddelfrydol. Pan ystyriaf rai o’r lleoliadau sydd gennym ledled Cymru, mae asiantaethau budd-daliadau yn agos at sefydliadau eraill, ac yna daw pobl yn ymwybodol o’r swyddfeydd fel canolbwynt llywodraeth ganolog, Llywodraeth y Cynulliad, neu lywodraeth leol. Rhoddaf ystyriaeth i hynny.

On staffing numbers, we are currently advertising positions for the Communities First team; it is a handful of jobs. When those positions are filled, I will place details of them in a schedule. If it is helpful to Members, I will update you regularly on it with a detailed figure.

O ran niferoedd staffio, yr ydym ar hyn o bryd yn hysbysebu am swyddi ar gyfer y tîm Rhoi Cymunedau’n Gyntaf; llond llaw o swyddi yw hyn. Pan gaiff y swyddi hyn eu llenwi, rhoddaf fanylion amdanynt mewn atodlen. Os bydd o gymorth i Aelodau, byddaf yn eich diweddaru’n gyson gyda ffigur manwl.

Alun Pugh spoken in English p. 38

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 38

The principle of moving Assembly operations out of Cardiff is welcome, Edwina, Tourism is the number one industry in my constituency and I see no reason why the headquarters of the Wales Tourist Board, for example, should not be in north Wales. Staff interests are important, and they should have the benefit of a clean environment and reasonably priced housing. I welcome your determination to keep this process going. Huw Lewis rightly draws attention to the top 100 list of deprived wards in Wales. The most deprived ward in the whole of Wales is adjacent to my constituency in north Wales.

Mae’r egwyddor o symud gweithrediadau’r Cynulliad allan o Gaerdydd yn un i’w chroesawu, Edwina. Twristiaeth yw’r prif ddiwydiant yn fy etholaeth ac ni welaf unrhyw reswm pam na all pencadlys Bwrdd Croeso Cymru, er enghraifft, fod yn y Gogledd. Mae buddiannau staff yn bwysig, a dylent elwa ar amgylchedd glân a thai rhesymol eu pris. Croesawaf eich penderfyniad i gadw’r broses hon i fynd. Mae Huw Lewis yn tynnu’n sylw at y rhestr o 100 ward mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae’n iawn gwneud hynny. Y ward fwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfan yw’r un nesaf at fy etholaeth yn y Gogledd.

Edwina Hart spoken in English p. 38

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 38

It is a question of keeping this going. We could all argue about the Wales Tourist Board’s location. I represent Gower, which is an area of outstanding natural beauty, so I could argue that it should be there. It is important to recognise that we want these bodies to move, but we must ensure that the staff are prepared to move with them, that the terms and conditions are correct for them, and that we do not upset all their arrangements. That is why it is such a long-term process. It is good that we have started on the process, but there is a great deal more work to be done. However, my Cabinet colleagues are aware of the issues regarding the location of Assembly sponsored public bodies and how we should perhaps move more of them from Cardiff.

Mater o gadw hyn i fynd ydyw. Gallai pob un ohonom ddadlau ynglŷn â lleoliad Bwrdd Croeso Cymru. Cynrychiolaf y Gŵyr, sydd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, felly gallem ddadlau y dylai fod yno. Mae’n bwysig cydnabod ein bod am i’r cyrff hyn symud, ond rhaid inni sicrhau bod y staff yn barod i symud gyda hwy, bod yr amodau a’r telerau yn iawn iddynt ac nad ydym yn amharu’n llwyr ar eu trefniadau. Dyna pam ei bod yn broses mor hirdymor. Mae’n dda ein bod wedi dechrau ar y broses ond mae llawer iawn o waith eto i’w wneud. Fodd bynnag, mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymwybodol o’r materion o ran lleoli cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a sut y dylem symud mwy ohonynt efallai o Gaerdydd.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 39

Elin Jones spoken in Welsh p. 39

Croesawaf egwyddor y datganiad hwn, ond fe’m siomwyd gyda’r amserlen. Gwnaethoch sôn gryn dipyn am chwilio am swyddfeydd addas gan awdurodau lleol ac yn y blaen. A oes strategaeth y tu ôl i’r datganiad hwn ynglŷn â pha adrannau sydd fwyaf perthnasol i wahanol ardaloedd? Yr wyf yn meddwl yn benodol am bencadlys yr Adran Amaethyddiaeth, sydd, ar hyn o bryd, yng nghanol dinas, yn hytrach nag yng nghefn gwlad, fel yn Aberystwyth, sef tref sydd yn cael ei chydnabod fel canolfan i weithgaredd a mudiadau gwledig. A oes strategaeth sydd yn cydweddu adrannau perthnasol gydag ardaloedd pendodol yng Nghymru?

I welcome the principle behind this statement, but I am disappointed with the timetable. You have spoken a great deal about finding appropriate offices within local authorities and so on. Is there a strategy behind this statement as to which departments are most relevant to different areas? I am thinking particularly of the Agriculture Department’s headquarters, which is currently in a city centre, rather than in a rural area, such as Aberystwyth, which is a town that is acknowledged as a centre for rural activities and associations. Is there is a strategy that matches relevant departments with specific areas in Wales?

Edwina Hart spoken in English p. 39

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 39

We are considering a strategy on how relevant departments can look at their responsibilities in Wales. We are also considering the issue of locating parts of Assembly departments across Wales. We have a detailed paper on specific sites and premises in Aberystwyth that has been sent in by Ceredigion County Council, and we are holding further discussions with the chief executive of the council because it has been helpful in developing ideas for us about possible relocations.

Yr ydym yn ystyried strategaeth ar sut y gall adrannau perthnasol edrych ar eu cyfrifoldebau yng Nghymru. Yr ydym hefyd yn ystyried mater lleoli rhannau o adrannau’r Cynulliad ledled Cymru. Mae gennym bapur manwl ar safleoedd ac eiddo penodol yn Aberystwyth a anfonwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, a chynhaliwn drafodaethau pellach gyda phrif weithredwr y cyngor oherwydd bu o gymorth wrth ddatblygu syniadau i ni ynglŷn ag adleoliadau posibl.

Peter Black spoken in English p. 39

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 39

I also welcome this statement and the work that is underway. Do you agree that it is important that we raise the profile of this work to counter impressions that the Assembly is Cardiff-centric—a view which is prevalent in many parts of Wales? In addition, initiatives such as the establishment of the Assembly Welsh procurement initiative team, which you announced as part of this statement, also need to have a high profile locally if we are to take this on board and ensure that people are fully aware of what the Assembly is doing to counter this view. It would also be helpful to have progress reports on this initiative to maintain momentum and to counter this alternative view of the Assembly. I welcome the ongoing work with ASPBs to encourage them to follow suit. Will you include monitoring and reporting on their progress in decentralising their jobs and locations in future statements to the Assembly?

Croesawaf y datganiad hwn hefyd a’r gwaith sydd ar y gweill. A gytunwch ei fod yn bwysig inni godi proffil y gwaith hwn i wrthsefyll yr argraffiadau bod y Cynulliad yn ganolog i Gaerdydd—barn sy’n amlwg mewn sawl rhan o Gymru? Yn ogystal, mae angen i fentrau megis sefydlu tîm menter caffael Cynulliad Cymru, a gyhoeddasoch fel rhan o’r datganiad hwn, gael proffil uchel yn lleol os ydym i weithredu ar hyn a sicrhau bod pobl yn llwyr ymwybodol o’r hyn a wna’r Cynulliad i wrthsefyll y farn hon. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cael adroddiadau cynnydd ar y fenter hon i gynnal momentwm a gwrthsefyll y farn amgen hon o’r Cynulliad. Croesawaf y gwaith parhaus gyda chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i’w hannog i ddilyn yr un esiampl. A wnewch chi gynnwys monitro a rhoi adroddiadau ar eu cynnydd wrth ddatganoli eu swyddi a’u lleoliadau mewn datganiadau i’r Cynulliad yn y dyfodol?

Edwina Hart spoken in English p. 40

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 40

In light of all the comments about ASPBs today, I will have further talks with my Cabinet colleagues about their discussions with the ASPBs for which they are responsible. I am sure that we can keep the Assembly updated on any changes in that agenda. I will be able to provide written details, or written statements, for Members in the future. I agree that when we move organisations, however small, there should be local publicity to ensure that people are aware of what the Assembly is doing. However, people must not expect too much from this. It is a slow process. If I was creating a new department with new employees, I could say, here is the ideal location; however, I am not doing that. I am talking about existing jobs. I must be able to give comfort to the employees of the National Assembly for Wales that even though we want to do this, it might take a long time, because I must be responsible for them and the welfare of their families.

Yng ngoleuni’r holl sylwadau am gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad heddiw, caf drafodaethau pellach â’m cyd-Aelodau yn y Cabinet am eu trafodaethau â’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad y maent yn gyfrifol amdanynt. Yr wyf yn siŵr y gallwn roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad am unrhyw newidiadau yn yr agenda honno. Byddaf yn gallu darparu manylion ysgrifenedig, neu ddatganiadau ysgrifenedig, i’r Aelodau yn y dyfodol. Cytunaf y dylid sicrhau cyhoeddusrwydd lleol, pan symudwn sefydliadau, waeth pa mor fach, er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r hyn a wna’r Cynulliad. Fodd bynnag, ni ddylai pobl ddisgwyl gormod o hyn. Mae’n broses araf. Pe bawn yn creu adran newydd gyda chyflogeion newydd, gallwn ddweud, dyma’r lleoliad delfrydol; fodd bynnag, nid wyf yn gwneud hynny. Yr wyf yn sôn am swyddi presennol. Rhaid imi allu cysuro cyflogeion Cynulliad Cenedlaethol Cymru y gall gymryd amser hir, er ein bod am wneud hyn, oherwydd rhaid imi fod yn gyfrifol amdanynt a lles eu teuluoedd.

Alun Cairns spoken in English p. 40

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 40

This statement is important in terms of developing the benefits of the Assembly throughout Wales. Do you accept that advances in ICT allow more services to be conducted in other parts of Wales? One aspect of community development which concerns me, particularly with regard to west and north-west Wales, is that the Assembly has sucked in an enormous amount of translation skills and talent to Cardiff to facilitate our services here. Modern technology such as ICT can allow for some of these services to be provided by translators working at home in other parts of Wales. They could translate for us without having to be based here.

Mae’r datganiad hwn yn bwysig o ran datblygu buddiannau’r Cynulliad ledled Cymru. A dderbyniwch fod datblygiadau mewn TGCh yn caniatáu i fwy o wasanaethau gael eu cynnal mewn rhannau eraill o Gymru? Un agwedd ar ddatblygu cymunedol sy’n achosi pryder imi, yn arbennig o ran y Gorllewin a’r Gogledd-orllewin, yw bod y Cynulliad wedi sugno nifer helaeth iawn o bobl â sgiliau cyfieithu a thalent i Gaerdydd i hwyluso ein gwasanaethau yma. Gall technoleg fodern fel TGCh ganiatáu i rai o’r gwasanaethau hyn gael eu darparu gan gyfieithwyr yn gweithio gartref mewn rhannau eraill o Gymru. Gallent gyfieithu i ni heb orfod cael eu lleoli yma.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 41

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 41

Order. The Minister is not responsible for the translation service; not at the moment, at least.

Trefn. Nid yw’r Gweinidog yn gyfrifol am y gwasanaeth cyfieithu; nid ar hyn o bryd, o leiaf.

Alun Cairns spoken in English p. 41

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 41

I apologise. However, the principle of my point is that skills can be used elsewhere in Wales through the development of ICT.

Ymddiheuraf. Fodd bynnag, egwyddor fy mhwynt yw y gellir defnyddio sgiliau mewn rhannau eraill o Gymru drwy ddatblygiad TGCh.

My second point relates to quangos. I appreciate that some of the quangos’ services can be carried out in other parts of Wales. However, do you agree that some quangos need a prime location in Cardiff? The Welsh Development Agency attracts inward investors from other parts of the world, including North America and Europe, and those investors need to see some of the more prosperous parts of Wales because of the importance that social infrastructure has in attracting inward investors.

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â chwangos. Gwerthfawrogaf y gellir cyflawni rhai o wasanaethau’r cwangos mewn rhannau eraill o Gymru. Fodd bynnag, a gytunwch fod angen i rai cwangos gael lleoliad amlwg yng Nghaerdydd? Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn denu mewnfuddsoddwyr o rannau eraill o’r byd, gan gynnwys Gogledd America ac Ewrop, ac mae angen i’r buddsoddwyr hyn weld rhai o rannau mwy ffyniannus Cymru oherwydd y pwysigrwydd sydd gan seilwaith cymdeithasol wrth ddenu mewnfuddsoddwyr.

Edwina Hart spoken in English p. 41

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 41

I concur with that. We must have an appropriate balance. As your background is in banking, you will be aware that the banks have nice suites of offices in the City of London while many other services are dealt with across the UK. We must remember that balance. That is why it is important that individual Cabinet Ministers consider the balance of the work of Assembly sponsored public bodies.

Cytunaf â hynny. Rhaid inni gael cydbwysedd priodol. Gan eich bod yn gyfarwydd â’r byd bancio, byddwch yn ymwybodol bod gan y banciau swyddfeydd braf iawn yn Ninas Llundain tra yr ymdrinnir â llawer o wasanaethau eraill ledled y DU. Rhaid inni gofio’r cydbwysedd hwnnw. Dyna pam ei bod yn bwysig bod Gweinidogion unigol y Cabinet yn ystyried cydbwysedd gwaith cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad.

On the wider point that you made, ICT is important for us. It allows functions to be undertaken elsewhere, and it can be used to improve the benefits of the National Assembly across Wales.

O ran y pwynt mwy cyffredinol a wnaethoch, mae TGCh yn bwysig i ni. Caniatâ i swyddogaethau gael eu cyflawni mewn mannau eraill, a gellir ei defnyddio i wella buddiannau’r Cynulliad Cenedlaethol ledled Cymru.

Brian Gibbons spoken in English p. 41

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 41

I am grateful for this statement, as I have addressed a series of questions on this issue to the First Minister over the last few months. Do you agree that there are two further advantages of decentralisation to socially and economically deprived communities, as Huw Lewis said? First, by locating jobs in such areas, you can tackle the poverty of aspiration which frequently exists in those communities. Secondly, do you think that there is a policy advantage in a number of our civil servants at least working, if not living, in these areas? Many of them have never visited these communities, and they would be shocked to see the conditions in which a large number of people in Wales live.

Yr wyf yn ddiolchgar am y datganiad hwn, gan fy mod wedi gofyn cyfres o gwestiynau ar y mater hwn i’r Prif Weinidog dros yr ychydig fisoedd diwethaf. A gytunwch fod datganoli yn dod â dwy fantais arall i gymunedau sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd, fel y dywedodd Huw Lewis? Yn gyntaf, drwy leoli swyddi mewn ardaloedd o’r fath, gallwch fynd i’r afael â’r diffyg uchelgais sy’n aml yn bodoli yn y cymunedau hynny. Yn ail, a gredwch fod cael nifer o’n gweision sifil o leiaf yn gweithio, os nad yn byw, yn yr ardaloedd hyn, yn fanteisiol o ran polisi? Nid yw llawer ohonynt erioed wedi ymweld â’r cymunedau hyn, a byddent yn synnu at amodau byw nifer fawr o bobl yng Nghymru.

Edwina Hart spoken in English p. 42

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 42

I agree with that philosophy. People sometimes make decisions—including politicians—to live in leafy suburbs, while they do not fully understand other parts of the community. It is important that people understand what type of social deprivation exists in Wales. You made that point well. The aspirational point is also important: because the National Assembly is located in the area and there are jobs available, people will think that they can be employed there and become part of all the discussions about democracy and policymaking in Wales. That is important. If we can get a presence in some of these areas and fly the Assembly flag, it will be good for the National Assembly and it will make a statement to the people of Wales that we mean business. It is not about centralisation in Cardiff; it is about the benefit of devolution going elsewhere. People talk about the devolution dividend, which is a meaningless expression. This is about the economic dividend which devolution can bring.

Cytunaf â’r athroniaeth honno. Mae pobl—gan gynnwys gwleidyddion—weithiau yn penderfynu byw mewn maestrefi braf, er nad ydynt yn llwyr ddeall rhannau eraill o’r gymuned. Mae’n bwysig bod pobl yn deall pa fath o amddifadedd cymdeithasol sy’n bodoli yng Nghymru. Gwnaethoch y pwynt hwnnw’n dda. Mae’r pwynt ynglŷn ag uchelgais yn bwysig hefyd: gan fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei leoli yn yr ardal a bod swyddi ar gael, bydd pobl yn credu y gallant gael gwaith yno a dod yn rhan o’r holl drafodaethau ar ddemocratiaeth a llunio polisi yng Nghymru. Mae hynny’n bwysig. Os gallwn gael presenoldeb mewn rhai o’r ardaloedd hyn a thynnu sylw at y Cynulliad, bydd o fudd i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn datgan i bobl Cymru ein bod o ddifrif. Nid yw a wnelo â chanoli yng Nghaerdydd; mae a wnelo â budd datganoli yn mynd i fannau eraill. Mae pobl yn sôn am y difidend datganoli, sydd yn ymadrodd diystyr. Mae hyn a wnelo â’r difidend economaidd a all ddod i’r amlwg yn sgîl datganoli.

Geraint Davies spoken in English p. 42

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 42

I welcome this report. However, I am concerned about the delay. Relocation of staff and diversification is not a luxury; it is an essential component of the sustainable development of Wales as a whole. You mentioned the delay, which has perhaps occurred because people have to move and that there are problems with families. There will be no initial need for people to move into many Valley areas, although I would like them to move eventually. This will give an added balance to travel; instead of everyone coming to Cardiff and going home at night, there will be a two-way movement of transport. That will be a good thing in itself. Do you agree that there should not be a delay in moving offices to the Valleys, because people can commute there?

Croesawaf yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, pryderaf am yr oedi. Nid yw adleoli staff ac arallgyfeirio yn ormodedd; mae’n rhan hanfodol o ddatblygu cynaliadwy Cymru yn gyffredinol. Bu ichi sôn am yr oedi, sydd wedi digwydd efallai am fod pobl yn gorfod symud a bod problemau gyda theuluoedd. Ar y cychwyn, ni fydd angen i bobl symud i lawer o ardaloedd y Cymoedd, er y byddwn yn hoffi iddynt symud yno yn y pen draw. Bydd hyn yn rhoi cydbwysedd ychwanegol i deithio; yn lle dod i Gaerdydd a mynd adref yn y nos, bydd trafnidiaeth yn mynd ddwy ffordd. Bydd hynny ynddo’i hun yn beth da. A gytunwch na ddylid oedi cyn symud swyddfeydd i’r Cymoedd, oherwydd gall pobl gymudo yno?

Edwina Hart spoken in English p. 43

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 43

I am surprised by the tone of your comments. There is not a delay. We are taking a strategic approach and trying to take people with us. Organising the logistics of thousands of staff having to consider other locations and discussing it with other organisations is an enormous task. It is a task that many Governments—both central and otherwise—have not started to tackle. However, we are prepared to tackle this issue and try to bring benefits to the whole of Wales. I will not take criticism about any delay. We are taking a responsible approach.

Mae tôn eich sylwadau yn fy synnu. Nid oes oedi. Mae gennym ymagwedd strategol a cheisiwn fynd â phobl gyda ni. Mae trefnu logisteg miloedd o aelodau staff yn gorfod ystyried lleoliadau eraill a thrafod hyn gyda sefydliadau eraill yn dasg enfawr. Mae’n dasg nad yw llawer o Lywodraethau—yn ganolog ac fel arall—wedi dechrau mynd i’r afael â hi. Fodd bynnag, yr ydym yn barod i fynd i’r afael â’r mater hwn a cheisio dod â buddiannau i Gymru gyfan. Ni dderbyniaf feirniadaeth am unrhyw oedi. Mae gennym ymagwedd gyfrifol.

It is easy for you to say that people can travel to the Valleys, but the world does not end in Cardiff and the Valleys. We must consider west, mid and north Wales in this policy. In considering taking developments out of Cardiff, I must think of the whole of Wales. We must also understand that, as employers, we have a responsibility to the staff. I will not start running any silly hares until I sort out where I want our offices to be located, when I want them to be located there, and whether I can have the appropriate staff there to ensure that that happens. That is one of my responsibilities. This location review has gone well so far because we have taken people with us. If you try to rush such matters, you end up unnecessarily upsetting many people, and do not ensure that the rest of Wales benefits.

Mae’n hawdd ichi ddweud y gall pobl deithio i’r Cymoedd, ond ni ddaw’r byd i ben yng Nghaerdydd a’r Cymoedd. Rhaid inni ystyried y Gorllewin, y Canolbarth a’r Gogledd yn y polisi hwn. Wrth ystyried mynd â datblygiadau allan o Gaerdydd, rhaid imi ystyried Cymru gyfan. Rhaid inni ddeall hefyd, fel cyflogwyr, fod gennym gyfrifoldeb tuag at y staff. Ni ddechreuaf godi sgwarnogod hyd nes y byddaf yn gosod trefn ar ble yr wyf am i’n swyddfeydd gael eu lleoli, pryd yr wyf am iddynt gael eu lleoli yno a sicrhau bod y staff priodol yno er mwyn i hynny digwydd. Dyna un o’m cyfrifoldebau. Mae’r adolygiad hwn o leoliad swyddfeydd wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn gan ein bod wedi mynd â phobl gyda ni. Os ceisiwch ruthro materion o’r fath, caiff llawer o bobl, yn y pen draw, eu cynhyrfu’n ddiangen, ac ni fyddwch yn sicrhau bod gweddill Cymru yn elwa ar hyn.

Peter Rogers spoken in English p. 43

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 43

I welcome the fact that we are considering this matter. You will be surprised to know that Anglesey has the joint highest unemployment rate in Wales. Stretching some of the Assembly’s facilities to north Wales would be a tremendous advantage. On a logistical point, due to north Wales’s location in relation to south Wales, people will have to come down to meetings in Cardiff or go up to meetings in north Wales. At present, our train services do not allow committee members from councils and other bodies to travel down to Cardiff to start meetings at 10 a.m.. If we are to get recognition, we must stretch these facilities to north Wales. It will make people in south Wales aware of our problems. We could therefore start to work as one big country.

Croesawaf y ffaith ein bod yn ystyried y mater hwn. Byddwch yn synnu i wybod bod Ynys Môn yn un o’r ddau le sydd â’r gyfradd ddiweithdra uchaf yng Nghymru. Byddai ymestyn rhai o gyfleusterau’r Cynulliad i’r Gogledd yn fantais aruthrol. O safbwynt logistaidd, oherwydd lleoliad y Gogledd mewn perthynas â’r De, bydd pobl yn gorfod dod i lawr i gyfarfodydd yng Nghaerdydd neu i fyny i gyfarfodydd yn y Gogledd. Ar hyn o bryd, nid yw ein gwasanaethau trenau yn caniatáu i aelodau pwyllgor, o gynghorau a chyrff eraill, deithio i Gaerdydd i ddechrau cyfarfodydd am 10 a.m.. Er mwyn cael cydnabyddiaeth, rhaid inni ymestyn y cyfleusterau hyn i’r Gogledd. Drwy hynny daw pobl yn y De yn ymwybodol o’n problemau. Gallem ddechrau gweithio felly fel un wlad fawr.

Edwina Hart spoken in English p. 44

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 44

We must work as one nation on these issues. Some of your points are valid, Peter. I am aware of the situation in Ynys Môn and I have had discussions with the local authority and its managing director. I am keen that Ynys Môn benefits from this review. My officials are taking this forward and are meeting a host of people who have put bids in and who want to discuss the policy and get greater clarity on it. I have indicated that I want another 400 jobs to be relocated from Cardiff, but I would be delighted if I could get more than that in the next five years. We are talking about a strategy that could take 10 years to develop, to which we must all remain committed. However, the Assembly has only existed for three years. In 15 years time, it would not be bad if you could look at the Assembly and see that jobs were spread across Wales and that the whole country was benefiting economically from that. That is more than Whitehall has done in hundreds of years.

Rhaid inni weithio fel un wlad ar y materion hyn. Mae rhai o’ch pwyntiau yn ddilys, Peter. Yr wyf yn ymwybodol o’r sefyllfa yn Ynys Môn a chefais drafodaethau gyda’r awdurdod lleol a’i gyfarwyddwr rheoli. Yr wyf yn awyddus bod Ynys Môn yn elwa ar yr adolygiad hwn. Mae fy swyddogion yn gweithio ar hyn ac yn cyfarfod â llu o bobl sydd wedi gwneud cynigion ac sydd am drafod y polisi a chael gwell eglurhad arno. Yr wyf wedi dweud fy mod am i 400 o swyddi eraill gael eu hadleoli o Gaerdydd, ond byddwn yn falch pe gallem gael mwy na hynny yn y pum mlynedd nesaf. Yr ydym yn sôn am strategaeth a allai gymryd 10 mlynedd i’w datblygu, a rhaid i bob un ohonom barhau yn ymrwymedig iddi. Fodd bynnag, dim ond ers tair blynedd y mae’r Cynulliad wedi bodoli. Ymhen 15 mlynedd, ni fyddai’n beth gwael pe gallech edrych ar y Cynulliad a gweld bod swyddi wedi eu taenu ledled y wlad a bod Cymru gyfan yn elwa’n economaidd ar hynny. Mae hynny’n fwy nag a wnaeth Whitehall mewn cannoedd o flynyddoedd.

Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 4) (Cymru) 2002

Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 4) (Wales) 2002

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learing spoken in English p. 44

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 44

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learing (continued) spoken in English p. 44

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 44

I am pleased to bring forward this special grant report today for approval by the Assembly. It will distribute an additional £5 million to local education authorities in Wales to meet the additional costs incurred in respect of the threshold pay award for the last financial year, 2000-01. It honours the commitment that we gave to local education authorities to meet the additional costs of threshold payments above the amount built in to the revenue settlement for that year. This requirement for additional funding is a direct result of the high proportion of eligible teachers in Wales who applied for, and met, the pay threshold assessment standards. I am delighted that nearly 14,500 teachers in Wales applied for the threshold assessment. More than 97 per cent were successful in demonstrating that they had met the threshold standards. That is an indication of the high standard of teaching that is being delivered in Wales.

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad grant arbennig hwn heddiw i’w gymeradwyo gan y Cynulliad. Bydd yn darparu £5 miliwn ychwanegol i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru i dalu’r costau ychwanegol a gafwyd oherwydd y dyfarniad cyflog trothwy ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2000-01. Mae’n cyflawni’r ymrwymiad a roesom i awdurdodau addysg lleol i dalu’r costau ychwanegol o ran taliadau trothwy sy’n uwch na’r swm a oedd yn rhan o’r setliad refeniw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’r angen am arian ychwanegol yn ganlyniad uniongyrchol y ganran uchel o athrawon cymwys yng Nghymru a wnaeth gais am, ac a gyrhaeddodd, safonau asesu’r cyflog trothwy. Mae’n bleser gennyf ddweud i bron 14,500 o athrawon yng Nghymru wneud cais am yr asesiad trothwy. Llwyddodd mwy na 97 y cant ddangos eu bod wedi cyrraedd safonau’r trothwy. Mae hynny’n arwydd o safon dda addysgu yng Nghymru.

An estimate of the funds needed to meet the cost of threshold payments was included in the revenue settlement for 2000-01, but this had to be done well before we knew what the outcome of the process would be. We could only therefore provide an estimate of the funding required, given the uncertainty at the time about the number of teachers who would choose to apply to be assessed and the proportion that would be successful. We made a commitment that we would provide specific top-up funding for the first two financial years of the new arrangement if the actual costs for teachers’ threshold pay proved to be higher than the sums identified within the settlement. As a consequence of the number meeting the required standards, a further £5.8 million is needed to meet the all-Wales costs. This grant fulfils that part of our commitment for the 2000-01 financial year. When the full cost of threshold payments for 2001-02 is known to local authorities later this year, I will carry out a similar exercise to establish whether a further special grant is required in respect of that year. I commend this report to Members.

Cynhwyswyd amcangyfrif o’r arian y byddai ei angen i dalu cost y taliadau trothwy yn y setliad refeniw ar gyfer 2000-01, ond yr oedd yn rhaid gwneud hyn ymhell cyn yr oeddem yn gwybod beth fyddai canlyniad y broses. Felly yr oeddem ond yn gallu rhoi amcangyfrif o’r arian y byddai ei angen, o ystyried yr ansicrwydd ar y pryd ynghylch nifer yr athrawon a fyddai’n gwneud cais i’w hasesu a’r gyfran a fyddai’n llwyddiannus. Gwnaethom ymrwymiad y byddem yn rhoi arian penodol ychwanegol ar gyfer dwy flynedd ariannol gyntaf y trefniant newydd pe byddai costau gwirioneddol cyflog trothwy athrawon yn uwch na’r symiau a nodwyd yn y setliad. O ganlyniad i’r nifer sy’n cyrraedd y safon angenrheidiol, bydd angen £5.8 miliwn pellach i dalu costau Cymru gyfan. Mae’r grant hwn yn cyflawni’r rhan honno o’n hymrwymiad ar gyfer blwyddyn ariannol 2000-01. Pan fydd awdurdodau lleol yn gwybod cost lawn y taliadau trothwy ar gyfer 2001-02 yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cynnal ymarfer tebyg i ganfod a oes angen grant arbennig pellach ar gyfer y flwyddyn honno. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn i’r Aelodau.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 45

Gareth Jones spoken in Welsh p. 45

Ar nodyn positif, croesawaf yr arian hwn. Canmolaf y Llywodraeth am ofyn i’r awdurdodau y tro hwn faint o arian y byddant ei angen ac am roi’r ymrwymiad hwnnw o ganlyniad. Mae wedi ymateb i anghenion. Yr wyf yn gobeithio y gallwn ddysgu o’r math hwn o ariannu ac ymestyn yr egwyddor i grantiau eraill megis grant i ostwng niferoedd y disgyblion mewn dosbarthiadau. Dylid datblygu polisi ariannol ar sail anghenion ysgolion Cymru.

On a positive note, I welcome this funding. I congratulate the Government for this time asking the authorities how much funding would be needed and for making that commitment as a result. It has responded to needs. I hope that we can learn from this type of funding and extend the principle to other grants such as a grant to reduce class sizes. Funding policy should be developed in response to the needs of schools in Wales.

Fodd bynnag, mae gennyf rai cwestiynau. Ym mis Ionawr, cyfeiriodd y Gweinidog at grant o £5.3 miliwn. Yn ôl fy symiau i, mae’r ffigur wedi gostwng tua £250,000. A wnewch chi egluro pam y cafwyd gostyngiad o’r fath?

However, I also have some questions. In January, the Minister referred to a grant of £5.3 million. According to my calculations, the figure has fallen by around £250,000. Will you explain why there has been a such a reduction?

Yn ail, a dderbyniodd y Gweinidog gŵynion gan awdurdodau sy’n poeni am ad-daliadau o’r fath, gan eu bod yn creu trafferthion? Yr oedd yn rhaid talu’r arian hwn i athrawon. Yr unig ffordd y gallai’r awdurdodau wneud hynny oedd drwy drosglwyddo arian o adrannau eraill megis adrannau priffyrdd neu wasanaethau cymdeithasol. Mae ad-daliadau o’r fath yn creu trafferthion i ysgolion ac awdurdodau, ac yn ei gwneud hi’n amhosibl iddynt geisio cynllunio’n strategol. A wnewch chi ymhelaethu ar unrhyw sylwadau neu gŵynion o’r fath gan awdurdodau a ddaeth i law?

Secondly, has the Minister received complaints from authorities concerned about this sort of retrospective payment, because it is causing problems? This money had to be paid to teachers. The only way that the authorities could do that was by transferring money from other departments such as highways or social services. Such retrospective payments cause problems for schools and authorities and make it impossible for them to plan strategically. Will you expand on any such comments or complaints that you have received from authorities?

Mick Bates spoken in English p. 46

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 46

Someone once said that teachers are people who start projects that they never see finished and who are never thanked until it is too late. Although there is an element of truth in that, Wales has a long history of valuing education and teachers generally. Do you agree, Minister, that there was chronic underinvestment in education over the last generation? Can we also establish a reasonable wage for this important job? The Liberal Democrat Party stated in its manifesto that performance-related pay should be scrapped—it is shallow, ill thought-out, divisive, and creates far more problems than it solves. A current example can be found in Swansea, where the council has already stated that there is £750,000 shortfall for threshold pay. It is telling schools that they must find the money out of their own budgets. This money is not sufficient in order to meet the threshold pay for successful applicants. Will you, furthermore, give a clear commitment that any other shortfall will be met in full for 2002-03?

Dywedodd rhywun rywdro fod athrawon yn bobl sy’n cychwyn ar brosiectau nad ydynt byth yn gweld wedi eu cwblhau a byth yn cael diolch tan ei bod yn rhy hwyr. Er bod elfen o wirionedd yn hynny, mae gan Gymru draddodiad hir o werthfawrogi addysg ac athrawon yn gyffredinol. A gytunwch, Weinidog, y bu tanfuddsoddi difrifol ym maes addysg dros y genhedlaeth ddiwethaf? A allwn hefyd sefydlu cyflog rhesymol ar gyfer y swydd bwysig hon? Nododd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei maniffesto y dylid diddymu tâl ar sail perfformiad—mae’n arwynebol, nid yw wedi ei ystyried yn ddigonol, mae’n peri rhaniadau, ac yn creu llawer mwy o broblemau nag y mae’n eu datrys. Gellir canfod enghraifft ohono yn Abertawe ar hyn o bryd, lle mae’r cyngor wedi nodi eisoes bod diffyg o £750,000 ar gyfer cyflog trothwy. Mae’n dweud wrth ysgolion bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i’r arian yn eu cyllidebau eu hunain. Nid yw’r arian hwn yn ddigonol er mwyn talu am gyflog trothwy i ymgeiswyr llwyddiannus. At hynny, a wnewch chi roi ymrwymiad clir y caiff unrhyw ddiffyg arall ei dalu yn llawn ar gyfer 2002-03?

Finally, I regretfully accept that this form of threshold payment is established. I look forward to the day, as most people I am sure would agree, when we strive to give teachers a good wage. In Scotland, where the Liberal Democrats are in power, we have given teachers a 21 per cent pay increase. Will the Minister ensure that a similar wage increase can be brought forward for teachers in Wales who thoroughly deserve it?

I gloi, rhaid imi, yn anffodus, dderbyn bod y math hwn o daliad trothwy wedi’i sefydlu. Edrychaf ymlaen at y dydd, fel yr wyf yn siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno, pan fyddwn yn ymdrechu i roi cyflog da i athrawon. Yn yr Alban, lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym, yr ydym wedi rhoi cynnydd o 21 y cant yng nghyflogau athrawon. A wnaiff y Gweinidog sicrhau y gellir cyflwyno cynnydd tebyg i athrawon yng Nghymru sy’n wirioneddol yn ei haeddu?

Jonathan Morgan spoken in English p. 47

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 47

The Welsh Conservative Party is happy to support the special grant report. Unlike other contributions today, which were baffling to say the least, we would support the continuation of performance-related pay. We had reservations about the scheme when it was introduced. However, now that the scheme is up and running, I agree with my colleague, Gareth Jones, that we need to ensure that this scheme works. It would not be useful to the profession if the Government of the day abolished such a scheme soon after its introduction. That in itself would result in tremendous upheaval. The current system has several flaws, for example, providing back payment to local authorities when the financial year is over and when they have incurred considerable expenditure.

Mae Plaid Geidwadol Cymru yn fwy na pharod i gefnogi’r adroddiad grant arbennig. Yn wahanol i unrhyw gyfraniadau eraill heddiw, a greodd benbleth a dweud y lleiaf, byddem yn cefnogi parhau â thâl ar sail perfformiad. Yr oedd gennym amheuon ynglŷn â’r cynllun pan gafodd ei gyflwyno. Fodd bynnag, gan fod y cynllun ar waith bellach, cytunaf â’m cyd-Aelod, Gareth Jones, fod angen inni sicrhau bod y cynllun hwn yn gweithio. Ni fyddai’n ddefnyddiol i’r proffesiwn pe bai Llywodraeth gyfredol yn gwaredu cynllun o’r fath yn gynnar ar ôl ei gyflwyno. Byddai hynny ynddo’i hun yn arwain at darfu mawr. Mae gan y system bresennol nifer o wendidau, er enghraifft, darparu ôl-daliadau i awdurdodau lleol pan fo’r flwyddyn ariannol ar ben ac ar ôl iddynt wario’n sylweddol.

I agree with Gareth Jones that, where local authorities in Wales have incurred £5 million expenditure and the cost of administering the threshold is in excess of that which was anticipated, that cost needs to be funded. I doubt whether local authorities have huge flexibility in their own budgets to find the collective amount of £5 million. It would be interesting to analyse the statistics to see where local authorities have had to rob one budget to put money into another, and to see where services may have suffered as a result. I do not like the system of providing money as back payment; it is a bad practice.

Cytunaf â Gareth Jones y dylid, lle mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwario £5 miliwn a bod y gost o weinyddu’r trothwy y tu hwnt i’r hyn a ragwelwyd, talu’r gost honno. Yr wyf yn amau a oes gan awdurdodau lleol ddigon o hyblygrwydd yn eu cyllidebau eu hunain er mwyn iddynt ddod o hyd i’r swm cyfan o £5 miliwn. Byddai’n ddiddorol dadansoddi’r ystadegau i weld lle mae awdurdodau lleol wedi gorfod dwyn o un gyllideb i roi arian i un arall, ac i weld lle, o bosibl, y mae gwasanaethau wedi dioddef o ganlyniad. Nid wyf yn hoffi’r syniad o roi arian fel ôl-daliad; mae’n arfer gwael.

The Minister said that around 90 per cent of those teachers who applied for the threshold qualified for the payments. I suspect that a similar percentage will probably qualify under the performance management framework in September 2002. It is only fair that headteachers and local authorities can see where the money is in order to pay for that performance management framework. There is currently a great deal of concern in the teaching profession and education sector about not knowing where the money is to pay for that. I am willing to bet my savings on the fact that where there is a large proportion of teachers who qualify for threshold payments—as they have done—the substantial majority of those teachers will qualify under the performance management framework. If they were good enough under the last assessment, they are bound to be good enough, more or less, a year later, under the next assessment. If they are not good enough for performance management in September, then something is wrong with the assessment process between the threshold and performance management. We need to establish where the money is so that local authorities can see how it is ring-fenced, because many schools, headteachers and local authorities are concerned that the money is not built into their budgets.

Dywedodd y Gweinidog bod oddeutu 90 y cant o’r athrawon hynny a wnaeth gais am y trothwy yn gymwys ar gyfer y taliadau. Credaf y bydd canran debyg yn gymwys o dan y fframwaith rheoli perfformiad ym mis Medi 2002. Mae ond yn deg bod penaethiaid ac awdurdodau lleol yn gallu gweld lle mae’r arian er mwyn talu am y fframwaith rheoli perfformiad hwnnw. Ar hyn o bryd mae cryn bryder ymhlith y proffesiwn dysgu a’r sector addysg am nad ydynt yn gwybod lle mae’r arian i dalu am hynny. Yr wyf yn barod i fentro fy nghynilion ar y ffaith, lle bo cyfran uchel o athrawon yn gymwys ar gyfer taliadau trothwy—fel y buont—bydd y mwyafrif helaeth o’r athrawon hynny yn gymwys o dan y fframwaith rheoli perfformiad. Os dywedodd eu bod yn ddigon da yn yr asesiad diwethaf, maent yn sicr o fod yn ddigon da, fwy neu lai, flwyddyn yn ddiweddarach, pan ddaw’r asesiad nesaf. Os nad ydynt yn ddigon da ar gyfer rheoli perfformiad ym mis Medi, yna mae rhywbeth o’i le ar y broses asesu rhwng y trothwy a’r rheoli perfformiad. Mae angen inni ganfod lle mae’r arian fel y gall awdurdodau lleol weld sut y caiff ei glustnodi, am fod nifer o ysgolion, penaethiaid ac awdurdodau lleol yn pryderu nad yw’r arian yn rhan o’u cyllidebau.

Brian Gibbons spoken in English p. 48

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 48

In the last months, the Minister has announced several good news stories to the Assembly on the progress of education in Wales. Will you consider giving a ‘whinge of the week’ award to the opposition parties, which always seem to find a dark lining to every silver cloud in the news that you announce?

Yn y misoedd diwethaf, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi newyddion da sawl gwaith i’r Cynulliad ar y cynnydd a wneir ym maes addysg yng Nghymru. A ystyriwch roi gwobr ‘cwyn yr wythnos’ i’r gwrthbleidiau, sydd bob tro fel pe baent yn pwysleisio ochr dywyll pob newyddion da a gyhoeddir gennych?

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 48

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 48

I thank Members for their contributions. I thank Gareth Jones, in particular, for noting that the actual amount—which is why there is a change to £5.08 million from what we estimated earlier in the year might be £5.3 million—is related to actual sums required by local authorities. The amount of money has changed because we discussed this with them. Today’s grant is the money that local authorities identified that they needed to provide threshold payments.

Diolchaf i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Diolchaf i Gareth Jones, yn arbennig, am nodi fod y swm gwirioneddol—sef pam bod newid i £5.08 miliwn o’r hyn a amcangyfrifwyd yn gynharach yn y flwyddyn a allai fod yn £5.3 miliwn—yn gysylltiedig â’r symiau gwirioneddol sydd eu hangen gan awdurdodau lleol. Mae’r swm wedi newid am ein bod wedi trafod hyn gyda hwy. Grant heddiw yw’r arian y mae awdurdodau lleol wedi ei nodi bod ei angen arnynt i wneud taliadau trothwy.

The only complaint that I received was one from the Member, who was acting under her normal function as leader of Rhondda Cynon Taff County Borough Council the last time we considered thresholds. You will recall that, due to industrial action taken by the National Union of Teachers, none of the payments for the financial year 2000-01 went out until September 2001. We had already put all the sums for threshold payments, apart from that money, into local authorities’ accounts. Therefore, they made interest on the money that they were given in March 2001. Given that it was a new system and we wanted to manage it fairly, it is also important to point out that the local authorities themselves asked the Assembly for retrospective payments for the first two years. The money was then incorporated into the pay settlement for this year.

Yr unig gŵyn a gefais oedd un gan yr Aelod, a oedd yn gweithredu o dan ei swyddogaeth arferol fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y tro diwethaf inni ystyried trothwyon. Byddwch yn cofio, oherwydd gweithredu diwydiannol gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, ni chafodd dim o’r taliadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2000-01 eu rhyddhau tan fis Medi 2001. Yr oeddem eisoes wedi rhoi’r holl symiau ar gyfer taliadau trothwy, ar wahân i’r arian hwnnw, yng nghyfrifon awdurdodau lleol. Felly, cawsant log ar yr arian a roddwyd iddynt ym mis Mawrth 2001. O ystyried ei bod yn system newydd a’n bod am ei rheoli’n deg, mae’n bwysig hefyd nodi bod yr awdurdodau lleol eu hunain wedi gofyn i’r Cynulliad am ôl-daliadau ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf. Yna, ymgorfforwyd yr arian yn y setliad ar gyfer y flwyddyn hon.

I agree with Mick on valuing teachers. It is important to say that all Members value teachers. We may have different views on how we take this forward, but I have been heartened by the support shown by all Members. There has been classic underinvestment, which is why I am delighted to be part of a Welsh Assembly Government that has seen 7 per cent growth in the local government settlement over the last two years. It is also worth reminding you that, no matter how many times you try to put the Scottish comparative experience into place, pay and conditions is a matter for the UK Government, not least because of the long, permeable border between England and Wales. We are not at the point where we should be considering different kinds of arrangements that might affect the ability of teachers from England and Wales to cross that border.

Cytunaf â sylwadau Mick ar werthfawrogi athrawon. Mae’n bwysig dweud bod pob Aelod yn gwerthfawrogi athrawon. Efallai fod gennym safbwyntiau gwahanol ar sut i weithredu ar hynny, ond yr oedd yn galonogol imi weld y gefnogaeth gan yr holl Aelodau. Bu tanfuddsoddi nodweddiadol a dyna pam mae’n bleser gennyf fod yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi gweld twf o 7 y cant yn y setliad llywodraeth lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal, mae’n werth eich atgoffa, waeth faint o weithiau y ceisiwch gymharu’r sefyllfa yng Nghymru â’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban, mae cyflog ac amodau yn fater i Lywodraeth y DU, yn bennaf am fod ffin hir, agored rhwng Cymru a Lloegr. Nid ydym mewn sefyllfa lle y dylem ystyried gwahanol fathau o drefniadau a allai effeithio ar allu athrawon o Gymru a Lloegr i groesi’r ffin honno.

Jonathan, I think that I have addressed the points on back payment. It is important to say that the performance management framework to be introduced in September is separate from the threshold payment. The School Teachers Review Body suggests that it will take about two years for teachers to move through the upper pay spine once they have point 1. The responsibility for determining who goes onto the upper pay spine lies with the schools themselves.

Jonathan, credaf fy mod wedi trafod y pwyntiau ar ôl-daliadau. Mae’n bwysig dweud bod y fframwaith rheoli perfformiad, i’w chyflwyno ym mis Medi, ar wahân i’r taliad trothwy. Mae Corff Adolygu Athrawon Ysgol yn awgrymu y bydd yn cymryd tua dwy flynedd i athrawon symud drwy’r band cyflog uchaf ar ôl iddynt gael pwynt 1. Yr ysgolion eu hunain sydd â’r cyfrifoldeb dros benderfynu pwy fydd yn rhan o’r band cyflog uchaf.

Peter Black spoken in English p. 49

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 49

This grant is welcome, however, will you confirm that there is a perception among local councils that the money for the next financial year will not be sufficient to meet the amount required for teachers’ performance pay? If that proves to be the case, will you give an undertaking that the Assembly will try to fund any shortfall?

Croesewir y grant hwn, fodd bynnag, a gadarnhewch fod canfyddiad ymysg cynghorau lleol na fydd yr arian ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol i dalu’r swm sydd ei angen ar gyfer taliadau ar sail perfformiad i athrawon? Os yw hyn yn wir, a rowch sicrwydd y bydd y Cynulliad yn ceisio ariannu unrhyw ddiffyg?

Jane Davidson spoken in English p. 50

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 50

There are two clear issues. The first is that we have put money for threshold pay this year into the settlement, but the issue of contention concerns movement onto the upper pay spine. It is up to schools to determine who moves onto the upper pay spine; they have the legislative responsibility to do that. My colleague, Edwina Hart, has already said that, if schools exercise their responsibilities properly and there is a shortfall, she will look at it. It is right that the Assembly Government does that because these are real amounts of money for real people. Therefore we always have to consider the situation after a process has been gone through. I commend the grant to the Assembly.

Mae dau fater clir yn hyn o beth. Y cyntaf yw ein bod wedi cynnwys arian ar gyfer cyflog trothwy yn y setliad eleni, ond mae’r ddadl yn ymwneud â symud ymlaen i’r band cyflog uchaf. Cyfrifoldeb ysgolion yw penderfynu pwy sy’n symud ymlaen i’r band cyflog uchaf; arnynt hwy y mae’r cyfrifoldeb deddfwriaethol dros wneud hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Edwina Hart, wedi dweud eisoes, os bydd ysgolion yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau yn gywir a bod diffyg, y bydd yn ystyried y mater. Mae’n briodol bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud hynny am fod y rhain yn symiau gwirioneddol o arian ar gyfer pobl wirioneddol. Felly rhaid inni bob tro ystyried y sefyllfa ar ôl mynd drwy broses. Cymeradwyaf y grant i’r Cynulliad.

Mick Bates spoken in English p. 50

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 50

I declare an interest, as my wife is a teacher.

Datganaf fuddiant, gan fod fy ngwraig yn athrawes.

Cynnig NDM970 Jane Davidson t. 50

Motion NDM970 Jane Davidson p. 50

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Canlyniad Ad-drefnu Cyngor Celfyddydau Cymru

The Outcome of Restructuring the Arts Council of Wales

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 51

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 51

Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 4, 5 a 6 yn enw Jocelyn Davies, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Jonathan Morgan.

I have selected amendments 1, 4, 5 and 6 in the name of Jocelyn Davies, and amendments 2 and 3 in the name of Jonathan Morgan.

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language spoken in English p. 51

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Saesneg t. 51

I propose that

Cynigiaf fod

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language (continued) spoken in English p. 52

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 52

I am pleased to propose this motion today because I am eager to share with the Assembly in Plenary the considerable progress made by the Arts Council of Wales in its restructuring. Today’s motion welcomes the progress made so far. Six amendments to the motion have been tabled. I will not support these amendments, on the basis that they seek to introduce courses of action that are already in the published and declared policies of the Assembly or the arts council, and are therefore superfluous.

Mae’n bleser gennyf gynnig y gwelliant hwn heddiw oherwydd fy mod yn awyddus i rannu gyda’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn y cynnydd sylweddol a wnaed gan Gyngor Celfyddydau Cymru wrth ailstrwythuro. Mae’r cynnig heddiw yn croesawu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Cyflwynwyd chwe gwelliant i’r cynnig heddiw. Ni chefnogaf y gwelliannau hyn am eu bod yn ceisio cyflwyno camau gweithredu sydd eisoes ym mholisïau cyhoeddedig a datganedig y Cynulliad neu gyngor y celfyddydau, ac felly maent yn ddiangen.

The council has come a long way in a short time since the recommendation of the review carried out by Richard Wallace that a root and branch change was needed. The result of this review was a recommendation to restructure, which would make it possible for the council to achieve several key aims. The council needed to improve its internal and external communication; strengthen its regional structure; develop its business function to ensure efficient and effective internal and external services; and increase its planning and research capacity to ensure a clear vision and objectives to meet the needs of the sector and the demands of the Assembly.

Mae’r cyngor wedi gwneud cynnydd mawr mewn amser byr ers argymhelliad yr adolygiad a gynhaliwyd gan Richard Wallace bod angen newid o’r brig i’r bôn. Canlyniad yr adolygiad hwn oedd yr argymhelliad i ailstrwythuro, a fyddai’n galluogi’r cyngor i gyflawni sawl amcan allweddol. Yr oedd angen i’r cyngor wella ei gyfathrebu mewnol ac allanol; cryfhau ei strwythur rhanbarthol; datblygu ei swyddogaeth fusnes i sicrhau gwasanaethau mewnol ac allanol effeithlon ac effeithiol; a chynyddu ei gapasiti cynllunio ac ymchwil i sicrhau gweledigaeth ac amcanion clir i ddiwallu anghenion y sector a gofynion y Cynulliad.

When I became Minister for Culture, Sport and the Welsh Language over a year ago, the council had already begun the review process and had engaged the services of the very experienced Professor Anthony Everitt and Anne Twine to advise on the restructuring process and formulate an action plan. I chaired a steering group to help guide the council through the process, in which we were immeasurably helped by Anthony Everitt and Elan Closs Stephens, and I thank them for their valuable work. Last summer, following receipt of the costed proposals, I agreed to the staffing and pay proposals as set out in the council’s plan. I am pleased to announce that most of the key elements of that plan have been implemented.

Pan ddeuthum yn Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg dros flwyddyn yn ôl, yr oedd y cyngor eisoes wedi dechrau’r broses adolygu ac yr oedd wedi trefnu gwasanaeth yr Athro Anthony Everitt ac Anne Twine sy’n brofiadol iawn i gynghori ar y broses ailstrwythuro a pharatoi cynllun gweithredu. Cadeiriais bwyllgor llywio i helpu i arwain y cyngor drwy’r broses, a chawsom gymorth anfesuradwy gan Anthony Everitt ac Elan Closs Stephens, a diolchaf iddynt am eu gwaith gwerthfawr. Yr haf diwethaf, ar ôl i’r cynigion wedi eu costio ddod i law cytunais â’r cynigion staffio a chyflog fel y’u cyflwynwyd yng nghynllun y cyngor. Yr wyf yn falch o allu cyhoeddi bod y rhan fwyaf o elfennau allweddol y cynllun hwnnw wedi cael eu gweithredu.

Restructuring is proceeding well. First, I re-appointed Sybil Crouch as chair for a year to see through the restructuring process, to which she has contributed greatly. I commend her effort and hard work. I am also pleased to note that Dewi Walters has been appointed as the council’s vice chair. The council’s new senior management team is in place. The new chief executive, Peter Tyndall, has been instrumental in gathering the momentum for this much-needed change in the council. As part of the streamlining, there has been a reduction in the number of full-time equivalent posts in the council from 84 to 80.5. Some posts have been regraded, some deleted and others created. The restructuring also entails the reallocation of staff to regional offices, and I will return to this point later. The revised staffing structure is almost in place, and this is before its original implementation date of 31 March. Only nine posts need to be filled, and the recruitment process for these is underway.

Mae’r ailstrwythuro’n mynd rhagddo’n dda. Yn gyntaf, ailbenodais Sybil Crouch yn gadeirydd am flwyddyn i ddwyn y broses ailstrwythuro rhagddi, proses y mae wedi cyfrannu ati’n fawr. Mae’n dda gennyf hefyd nodi bod Dewi Walters wedi cael ei benodi yn ddirprwy gadeirydd y cyngor. Mae uwch dîm rheoli newydd y cyngor bellach wedi ei sefydlu. Mae’r prif weithredwr newydd, Peter Tyndall, wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r momentwm ar gyfer y newid hwn i’r cyngor y mae angen mawr amdano. Fel rhan o’r ailwampio bu gostyngiad yn nifer y swyddi cyfartal ag amser llawn yn y cyngor o 84 i 80.5. Cafodd rhai swyddi eu hailraddio, rhai eu dileu ac eraill eu creu. Mae’r ailstrwythuro hefyd yn golygu adleoli staff i swyddfeydd rhanbarthol, a byddaf yn dychwelyd at y pwynt hwn yn ddiweddarach. Mae’r strwythur staffio diwygiedig bron yn barod, a hynny cyn 31 Mawrth, sef y dyddiad gwreiddiol ar gyfer ei roi ar waith. Dim ond naw swydd sydd angen eu llenwi, ac mae’r broses recriwtio ar gyfer y rheini wedi dechrau.

Not only is the council’s executive being restructured, the council itself and its committees are undergoing a change—they are also being streamlined. The council has 15 members currently, the terms of office of two of those members will come to an end in April. They will not be replaced, and the council will therefore become more streamlined with 13 members. I have also taken steps to ensure increased representation from north and mid Wales.

Yn ogystal ag ailstrwythuro gweithrediaeth y cyngor, mae’r cyngor ei hun a’i bwyllgorau yn cael eu newid—maent hwythau hefyd yn cael eu hailwampio. Mae 15 aelod o’r cyngor ar hyn o bryd, bydd tymor swydd dau o’r aelodau hynny yn dod i ben ym mis Ebrill. Ni chaiff neb ei benodi yn eu lle a thrwy hynny felly y caiff y cyngor ei ailwampio i fod â 13 aelod. Yr wyf hefyd wedi cymryd camau i sicrhau mwy o gynrychiolaeth o’r Gogledd a’r Canolbarth.

An important part of the process of change is a five-year arts development strategy. The council has held consultation meetings throughout Wales, using a series of reviews, at galleries, festivals, arts venues and umbrella bodies, as the basis of the consultation. The five-year strategy will be made up of individual action plans, outlining what needs to be done on specialist issues, such as visual arts and young people. Further consultation is proposed in March and April, before the final strategy is agreed by the summer. The council will shortly publish papers containing comments made at consultation meetings and its responses to them. This consultation has been open and inclusive.

Rhan bwysig o’r broses newid yw strategaeth bum mlynedd ar gyfer datblygu’r celfyddydau. Cynhaliodd y cyngor gyfarfodydd ymgynghori ar draws Cymru, gan ddefnyddio cyfres o adolygiadau, mewn orielau, gwyliau, lleoliadau’r celfyddydau a sefydliadau ymbarél, yn sylfaen i’r ymgynghori. Bydd y strategaeth bum mlynedd yn cynnwys cynlluniau gweithredu unigol, yn amlinellu yr hyn sydd angen ei wneud ar bynciau arbenigol megis y celfyddydau gweledol a phobl ifanc. Cynigir ymgynghori pellach ym Mawrth ac Ebrill, cyn cytuno ar y strategaeth derfynol erbyn yr haf. Bydd y cyngor yn fuan yn cyhoeddi papurau yn cynnwys sylwadau a wnaed mewn cyfarfodydd ymgynghori a’i ymateb iddynt. Bu’r ymgynghoriad hwn yn agored a chynhwysol.

The five-year plan will accord with my culture strategy ‘Creative Future: Cymru Greadigol’, along with my priorities for the budget, as outlined in the remit letter for 2002-03, which is available on the intranet and internet. The council will obviously be a contributor to the success of my strategy.

Bydd y cynllun pum mlynedd yn gweddu â’m strategaeth diwylliant ‘Creative Future: Cymru Greadigol’, ynghyd â’m blaenoriaethau i’r gyllideb, fel y’i hamlinellir yn llythyr cylch gwaith 2002–03, sydd i’w weld ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd. Bydd y cyngor yn amlwg yn cyfrannu at lwyddiant fy strategaeth.

One criticism levelled at the arts council in the Wallace report, was that it operated a large number of different grant schemes—both grant-in-aid funded and lottery funded schemes—which often made it difficult to achieve smooth administration, and complicated for arts organisations and individuals to apply. As part of its restructuring, the arts council will, from 1 April, integrate the two funding streams, replace the numerous schemes with fewer more broadly based and inclusive schemes, and establish a centralised grant processing and monitoring system. All these changes will streamline processes and procedures, and are aimed at improving the operation of the organisation.

Un feirniadaeth a anelir at gyngor y celfyddydau yn adroddiad Wallace, oedd ei fod yn gweithredu nifer fawr o wahanol gynlluniau grant—yn gynlluniau arian cymorth grant ac arian loteri—a oedd yn aml yn ei gwneud hi’n anodd i weinyddu’r grantiau’n llyfn, ac yr oedd yn gymhleth i gyrff celfyddydol ac unigolion wneud cais amdanynt. Fel rhan o’i ailstrwythuro bydd cyngor y celfyddydau o 1 Ebrill yn cyfuno’r ddwy ffrwd ariannu, yn cynnig llai o gynlluniau ond rhai mwy eang eu cwmpas a chynlluniau cynhwysol yn lle’r cynlluniau niferus, a sefydlu cyfundrefn i brosesu a monitro grantiau ganolog. Bydd y newidiadau hyn i gyd yn symleiddio prosesau a gweithdrefnau, ac maent wedi eu hanelu at wella’r ffordd y mae’r corff yn gweithredu.

New arrangements for monitoring, evaluation and review are being set in place by Deloitte and Touche, which has been engaged to review grant monitoring procedures. The council has made considerable progress in assessment, monitoring and evaluation, and therefore I cannot support Jocelyn Davies’s amendment 5.

Sefydlir trefniadau newydd ar gyfer monitro, gwerthuso ac adolygu gan Deloitte a Touche, a gyflogwyd i adolygu gweithdrefnau monitro’r grantiau. Gwnaeth y cyngor gryn gynnydd mewn asesu, monitro a gwerthuso ac felly ni allaf gefnogi gwelliant 5 Jocelyn Davies.

I will expand on my earlier reference to regional offices. One aim of the restructuring is to put in place a regional structure to deliver national aims. This will enable the council to have closer and more effective contact with its clients, and to be responsive to local as well as national needs. Decentralisation is a key element of restructuring, and discussions are continuing between my officials and the arts council about its proposals for premises. The proposals cover its request to open an additional regional office in south Wales, which is likely to be located in the Valleys. The proposals also include the provision of additional space for the regional office in Carmarthen, possible relocation of the council’s head office and a request to open a mid Wales field office, ensuring coverage for the whole of Wales. Since the beginning of February, the new south Wales office has been operating from within the council’s headquarters in Museum Place in Cardiff. This is an interim measure while the search goes on for affordable and cost-effective premises outside Cardiff. Relocation of the head office also depends on cost and, as I have said, alternatives are being considered.

Manylaf ar fy nghyfeiriad cynharach i’r swyddfeydd rhanbarthol. Un o amcanion yr ailstrwythuro yw sefydlu strwythur rhanbarthol i gyflwyno amcanion cenedlaethol. Bydd hyn yn galluogi’r cyngor i gael cyswllt agosach, mwy effeithiol â’i gleientau ac i ymateb i anghenion lleol yn ogystal â chenedlaethol. Mae datganoli yn elfen allweddol o ailstrwythuro, ac mae trafodaethau’n parhau rhwng fy swyddogion a chyngor y celfyddydau ynglŷn â’i gynigion am swyddfeydd. Mae’r cynigion yn ymwneud â’i gais i agor swyddfa ranbarthol ychwanegol yn y De a gaiff ei lleoli yn fwy na thebyg yn y Cymoedd. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys darparu lle ychwanegol i’r swyddfa ranbarthol yng Nghaerfyrddin, ad-leoli prif swyddfa’r cyngor o bosibl a chais i agor swyddfa maes yn y Canolbarth, gan sicrhau presenoldeb ledled Cymru. Ers dechrau Chwefror, mae swyddfa newydd y De wedi bod yn gweithredu ym mhencadlys y cyngor ym Mhlas yr Amgueddfa yng Nghaerdydd. Trefniant dros dro yw hyn tra bod y cyngor yn parhau i chwilio am swyddfa fforddadwy a chost effeithiol y tu allan i Gaerdydd. Bydd adleoli’r brif swyddfa yn dibynnu ar y gost ac, fel yr wyf wedi dweud, mae dewisiadau eraill yn cael eu hystyried.

Under the new structure, nationwide policy for each art form will be developed by senior art form officers working from the regional offices. Responsibility for dance and music will be based in the south Wales office; drama in north Wales; literature in the head office, and visual arts and crafts in mid and west Wales. In addition, each regional office is led by a local director, who is responsible for the work of the council in his or her region. As in any process of change, there are some who have expressed concerns. However, the new regional structure is now getting on its feet and I was pleased, when I visited north Wales recently, to meet the new north Wales director and her team at Colwyn Bay and discuss their enthusiastic plans for the future—

O dan y strwythur newydd, caiff y polisi cenedlaethol i bob un o’r ffurfiau celfyddyd eu datblygu gan uwch swyddogion ffurfiau celfyddyd yn gweithio yn y swyddfeydd rhanbarthol. Bydd y cyfrifoldeb am ddawns a cherddoriaeth yn cael ei leoli yn swyddfa’r De; drama yn y Gogledd, llenyddiaeth yn y brif swyddfa a’r celfyddydau gweledol a chrefftau yn y Canolbarth a’r Gorllewin. Yn ogystal, arweinir pob swyddfa ranbarthol gan gyfarwyddwr lleol, sy’n gyfrifol am waith y cyngor yn ei ardal ei hun. Fel sydd yn digwydd gydag unrhyw broses o newid, mae rhai wedi mynegi pryderon. Fodd bynnag mae’r strwythur newydd yn awr yn dechrau ymsefydlu ac yr oedd yn dda gennyf, pan ymwelais â’r Gogledd yn ddiweddar i gwrdd â’r cyfarwyddwr newydd a’i dîm ym Mae Colwyn a thrafod eu cynllunaiu brwdfrydig i’r dyfodol—

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 55

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 55

Datganaf fuddiant am i Elinor, fy ngwraig, fod yn aelod o gyngor y celfyddydau. Gofynnaf am eglurhad ar atebolrwydd y cyfarwyddwyr rhanbarthol. Yn ôl adroddiad Everitt, byddant yn atebol i’r dirprwy brif weithredwr sydd yn gofalu am gynllunio, ond yr oedd teimlad cryf y dylent fod yn atebol i’r prif weithredwr ei hun. Beth yw’r sefyllfa?

I declare an interest as my wife Elinor has been a member of the arts council. I would like an explanation of the regional directors’ accountabitility. According to the Everitt report, they would be accountable to the deputy chief executive who is responsible for planning, but there was a strong feeling that they should be accountable to the chief executive himself. What is the situation?

Jenny Randerson spoken in English p. 55

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 55

The intention is to implement the Everitt report’s purpose and aims. However, the roles of the deputy and the chief executive are clearly defined now. There is a clear line of accountability. I am content that the current situation is acceptable and effective. However, it is important that the matter be kept under constant review and we will take any similar points into account over the coming year.

Y bwriad yw gweithredu dibenion ac amcanion adroddiad Everitt. Fodd bynnag, mae rolau’r dirprwy a’r prif weithredwr wedi eu diffinio’n glir erbyn hyn. Mae llinell atebolrwydd glir. Yr wyf yn fodlon bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn dderbyniol ac yn effeithiol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y mater yn cael ei adolygu’n gyson a byddwn yn ystyried unrhyw bwyntiau tebyg yn ystod y flwyddyn nesaf.

Another important initiative that I can announce is the transfer of the arts council’s own collection of art, consisting of around 1,000 pieces, to 15 public institutions throughout Wales. ‘Creative Future’ recognises the importance of the visual arts and I am keen for as many people as possible to have the chance to view works of art. My aim is to make them more accessible to everyone. I will now correct the story is today’s The Western Mail, which suggests that these works will not be on public display. As in all such cases, some are not always suitable for public display, but others will go to colleges, hospitals and similar institutions. Those that will go the national museum or the national library will be properly conserved and, for the first time in a long while, will be available to people who wish to view them and displayed on a rotational basis.

Menter bwysig arall y gallaf ei chyhoeddi yw trosglwyddo casgliad celf cyngor y celfyddydau ei hun, sy’n cynnwys tua 1,000 o ddarnau, i 15 o sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru. Mae ‘Cymru Greadigol’ yn cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau gweledol ac yr wyf yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i weld y gweithiau celf. Fy nod yw ei gwneud yn haws i bobl eu gweld. Yn awr cywiraf y stori yn The Western Mail heddiw sy’n awgrymu na fydd y gweithiau hyn yn cael eu harddangos i’r cyhoedd. Fel gyda’r achosion hynny, mae rhai nad ydynt yn addas bob amser i gael eu harddangos i’r cyhoedd, ond bydd eraill yn mynd i golegau, ysbytai a sefydliadau tebyg. Bydd y rhai sy’n mynd i’r amgueddfa genedlaethol neu’r llyfrgell genedlaethol yn cael eu cadw’n gywir ac, am y tro cyntaf ers amser, a byddant ar gael i bobl sydd am eu gweld a byddant yn cael eu harddangos ar sail gylchdroadol.

Mick Bates spoken in English p. 56

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 56

I welcome your clarification on our art treasures being displayed around Wales. I also welcome your earlier announcement on an increased presence in mid Wales. Can you give us more information on that, particularly in terms of representation for mid Wales, because we have often felt neglected?

Croesawaf eich eglurhad o’r fenter i arddangos ein trysorau celf ar draws Cymru. Hefyd croesawaf eich cyhoeddiad cynharach ar bresenoldeb cryfach yn y Canolbarth. A allwch roi rhagor o wybodaeth inni am hynny, yn enwedig o ran cynrychiolaeth i’r Canolbarth, oherwydd y teimlwn yn aml inni gael ein hanwybyddu?

Jenny Randerson spoken in English p. 56

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 56

There are two aspects to that. I mentioned earlier that Dewi Walters, who is from Newtown, is now the council’s vice chair. There was no representation from mid Wales before last year. In addition, we are looking for a cost-effective field office in mid Wales. It will be used as a location on a part-time basis because we are aware that the mid and west Wales region is geographically enormous and that people on its eastern side find it difficult to get to Carmarthen.

Mae dwy agwedd ar hynny. Soniais yn gynharach mai Dewi Walters, sy’n hanu o’r Drenewydd, yw is-gadeirydd y cyngor bellach. Nid oedd cynrychiolaeth i’r Canolbarth cyn y llynedd. Hefyd, yr ydym yn chwilio am swyddfa maes gost effeithiol yn y Canolbarth. Bydd yn cael ei defnyddio ar sail ran amser oherwydd ein bod yn ymwybodol bod rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin yn ddaearyddol enfawr a bod pobl yn ei ochr ddwyreiniol yn ei chael hi’n anodd i gyrraedd Caerfyrddin.

Much has been done in a short time. At the end of the first year of operation, the council plans to review its progress. This will be the opportunity for people to contribute their views. In the light of this reaction, the council will decide to confirm or adjust the structure and the services that it provides. The restructuring has been broadly cost-neutral to date. With the agreement of the Minister for Finance, Local Government and Communities, I have allowed the council to increase its running costs by £50,000 next year to implement the staffing and pay proposals related to restructuring. However, this must be seen in the context of a 23 per cent increase in income for the arts council. I stress that the administration cost as a percentage of grant-in-aid has fallen from 11.4 per cent last financial year to less than 9 per cent for the coming financial year. I will keep the matter under review to ensure the right balance. It is clear from this that the arts budget increase will go to arts groups and beneficiaries and will not be lost in administration.

Gwnaed llawer mewn amser byr. Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei weithrediad, bwriada’r cyngor adolygu’r cynnydd a wnaed ganddo. Hwn fydd y cyfle i bobl roi ei barn. Yng ngoleuni’r ymateb hwn bydd y cyngor yn penderfynu cadarnhau neu addasu’r strwythur a’r gwasanaethau y mae’n eu rhoi. Bu’r ailstrwythuro hyd yn hyn at ei gilydd yn niwtral o ran cost. Gyda chytundeb y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau, caniateais i’r cyngor gynyddu ei gostau rhedeg gan £50,000 y flwyddyn nesaf er mwyn gweithredu’r cynigion staffio a chyflog sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro. Fodd bynnag rhaid gweld hyn yng nghyd-destun y ffaith bod incwm cyngor y celfyddydau wedi cynyddu 23 y cant. Pwysleisiaf fod costau gweinyddol fel canran o’r cymorth grant wedi gostwng 11.4 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i lai na 9 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddaf yn parhau i adolygu’r mater er mwyn sicrhau’r cydbwysedd cywir. Mae’n amlwg o hyn y bydd cynnydd cyllideb y celfyddydau yn mynd i grwpiau celfyddydau, a’r rhai sy’n cael arian ganddo, ac ni fydd yn mynd ar goll mewn gweinyddiaeth.

Finally, on cash for culture, you will already know of the excellent budget settlement. The Arts Council of Wales will receive an increase of nearly £3 million next year, on top of the £1.9 million increase already planned. That brings grant-in-aid from the Assembly to £20.8 million. It will enable—

Yn olaf, o ran arian ar gyfer diwylliant, gwyddoch eisoes am y setliad cyllidebol ardderchog. Caiff Cyngor Celfyddydau Cymru gynnydd o bron £3 miliwn y flwyddyn nesaf, ar ben y cynnydd o £1.9 miliwn sydd eisoes yn yr arfaeth. Daw hynny â’r cymorth grant o’r Cynulliad i £20.8 miliwn. Bydd yn galluogi—

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 57

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 57

Diolch am dderbyn ymyrraeth wrth sôn am y newyddion da am y cynnydd yn y gyllideb ddiwylliant. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi wrth groesawu’r buddsoddiad ychwanegol a gafwyd ddoe, drwy lansio’r gerddorfa siambr gyda £150,000 yn ychwanegol at y gyllideb honno? Yn anffodus, ceir sôn yn The Western Mail fod rhywrai yn anfodlon ar hynny. Gobeithiwn y byddai pawb sydd â diddordeb yn y celfyddydau yn croesawu’r arian ychwanegol hynny’n fawr.

Thank you for taking an intervention while discussing the good news about the increase in the culture budget. Will the Minister join me in welcoming the additional investment announced yesterday, with the launch of the chamber orchestra with £150,000 additional to that budget? Unfortunately, The Western Mail suggests that some people are displeased with that. I hope that everyone interested in the arts would greatly welcome that additional money.

Jenny Randerson spoken in English p. 57

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 57

The only correct statement in The Western Mail article is that money is going into chamber music. Everything else was wrong. That sum of £150,000 will not be going to one orchestra, as the article implies, but to a range of orchestras. It is important to bear in mind that the Arts Council of Wales is only one channel of money for the arts, and I am keen to see money delivered through a variety of channels.

Yr unig osodiad cywir yn yr erthygl yn The Western Mail yw bod arian yn cael ei roi i gerddoriaeth siambr. Yr oedd popeth arall yn anghywir. Ni fydd y swm hwnnw o £150,000 yn mynd i un gerddorfa, fel y mae’r erthygl yn ei awgrymu, ond i sawl cerddorfa. Mae’n bwysig cofio mai un sianel yn unig o arian i’r celfyddydau yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yr wyf yn awyddus i weld arian yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o sianelau.

I must wind up. This increase is most important. We are making a good start on rebuilding bridges and restoring the faith of the people whom the arts council serves. As I travel around Wales, I hear frequently that good working relationships are being developed. The new structure will enable the arts council to align its strategy to Assembly priorities, and to the needs of the public and the arts throughout Wales.

Rhaid imi ddirwyn i ben. Mae’r cynnydd hwn yn dra phwysig. Yr ydym yn gwneud dechrau da ar ailgodi pontydd ac adfer ffydd y bobl y mae cyngor y celfyddydau’n eu gwasanaethu. Wrth imi deithio ar draws Cymru, clywaf yn aml fod perthynas waith dda yn cael ei datblygu. Bydd y strwythur newydd yn galluogi cyngor y celfyddydau i lunio srategaeth sy’n gyson â pholisïau’r Cynulliad ac i anghenion y cyhoedd a’r celfyddydau ar draws Cymru.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 58

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Jocelyn Davies. Gwelliant 1: ychwanegu ar ddiwedd 1(ii):

I propose the following amendments in the name of Jocelyn Davies. Amendment 1: add at end of 1(ii):

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 58

Cynigiaf welliant 4. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 4. Add as a new point at end of the motion:

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 58

Cynnigiaf wellaint 5. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynning:

I propose amendment 5. Add as a new point at then end of the motion:

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 58

Cynigiaf welliant 6. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 6. Add as a new point at the end of the motion:

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 58

Croesawaf innau, hefyd, gwblhau prif ran yr ailstrwythuro, er ei bod wedi cymryd yn hwy nag a ddisgwylid gan nifer o bobl. Mae’r Gweinidog wedi ymdrin â llawer o’r deunydd y tu ôl i’n gwelliannau, ond eto, rhaid pwysleisio bod y rhain yn elfennau pwysig o’r anghenion a barodd i bobl ofyn am ailstrwythuro yn y lle cyntaf. Rhaid eu pwysleisio ar wahân.

I also welcome the completion of the main part of the restructuring, although it has taken longer than many people expected. The Minister has dealt with much of the material behind our amendments, yet I must emphasise that these are important elements of the needs that made people ask for restructuring in the first place. They must be emphasised separately.

Croesawaf y gydnabyddiaeth yn yr argymhellion i bwysigrwydd economaidd y diwylliannau creadigol a thwristiaeth ddiwylliannol yn gyffredinol.

I welcome the acknowledgement of the economic importance of creative cultures and cultural tourism generally, found in the recommendations.

Croesawaf y polisïau i ddatblygu yn y rhanbarthau a’r polisi o efeillio rhwng y bwrdd ac aelodau’r cyngor. Croesawaf ddosbarthu ein trysorau celf ledled Cymru—yr oedd yn hen bryd hefyd. Yr wyf wedi cefnogi hynny ers sawl blwyddyn. Nodaf ddylanwad amlwg athroniaeth a pholisïau Plaid Cymru ar y ddogfen. Diolch i gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 blaenorol am lawer o’r mewnbwn hwnnw. Nid wyf am efelychu Mr Black wrth hawlio clod am bethau fel hyn, ond mae mewnbwn y Blaid wedi bod yn sylweddol yma.

I welcome the policies to develop the regions and the policy of twinning between the board and council members. I welcome the distribution of our art treasures across Wales—it was about time. I have supported that for many years. I note the clear influence of Plaid Cymru’s philosophy and policies on the document. I thank the former Chair of the former Post-16 Education and Training Committee for much of that input. I will not emulate Mr Black by claiming praise for these matters, but Plaid Cymru’s input has been substantial.

Wedi hir aros, dyma gam hanesyddol, camp arall i’r Cynulliad Cenedlaethol ar sodlau’r newyddion da am Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae hyn yn flas o’r hyn y gallem ei gyflawni gyda senedd bwerus. Mae’n bwysig sicrhau mai dechreuad newydd ydyw, a newid y mae angen ei barhau. Mae angen cryfhau’r cynigion i bwysleisio sawl pwynt allweddol.

After a long wait, this is a historic step, another feat for the National Assembly, hot on the heels of the good news about the Wales Millennium Centre. This is a taste of what we could achieve with a powerful parliament. It is important to ensure that it is a new start, and a change that needs to be continued. The proposals need strengthening to emphasise several key points.

Yng ngwelliant 1, croesawaf y bwriad i sefydlu swyddfa ranbarthol yn y Cymoedd, ond dylem fod llawer yn fwy sicr na dweud ei bod yn debygol. Mae angen datblygiadau tebyg yn fawr ar y Cymoedd, a byddai sefydlu swyddfa fel hyn yno yn ychwanegu at y doniau o’r presennol a’r gorffennol a ddaeth o’r ardaloedd hyn. Meddylwich am y cyfraniad i gerddoriaeth, ffilm, drama a llenyddiaeth a wnaed gan Geraint Evans, Gwyneth Jones, Côr Meibion Treorci, Idris Davies, Jack Jones, Richard Burton a—heddiw—gan Stereophonics, Manic Street Preachers a Jason Howard. Byddai lleoli’r swyddfa honno yn y Cymoedd yn arwydd o ffydd a godai statws a phroffil y Cymoedd a sicrhau y gallem gadw pobl ifanc ddawnus yng Nghymru.

In amendment 1, I welcome the intention to establish a regional office in the Valleys, but we should be far more certain than saying that it is likely. There is a great need in the Valleys for such developments, and locating such an office building there would add to past and present talents from these areas. The contribution to music, film, drama and literature made by Geraint Evans, Gwyneth Jones, the Treorchy Male Choir, Idris Davies, Jack Jones, Richard Burton and—today—by the Stereophonics, Manic Street Preachers and Jason Howard. Locating that office in the Valleys would be a sign of faith that would raise the Valleys’ status and profile and ensure that we could keep talented young people in Wales.

O ran gwelliant 4, os bydd yr ailstrwythuro yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i gyngor y celfyddydau ddangos ei fod yn agored ac yn ymgynghori. Gallai wneud hynny drwy ddatblygu polisi i wella ei berthynas ag ymarferwyr a’r cyhoedd. Cafwyd cwynion ynghylch modus operandi cyngor y celfyddydau cyn yr ailstrwythuro ac ni ddylem ganiatáu iddo lithro yn ôl i’w hen arferion awdurdodus. Dyna pam yr ydym am bwysleisio hynny drwy’r gwelliant hwn. Mae eisiau cadw cysylltiad cryf rhwng yr ymarferwyr a chyngor y celfyddydau, drwy ymgynghori a chreu dealltwriaeth rhwng y cyfranogwyr i gyd. O fethu â gwneud hynny yn gyson, bydd yn adlewyrchu yn wael ar y Cynulliad Cenedlaethol a dylem felly sicrhau bod yr angen i fod yn agored ac i ymgynghori yn cael ei bwysleisio drwy gefnogi’r gwelliant hwn.

Regarding amendment 4, if the restructuring is to be a success, the arts council will have to demonstrate that it is open and that it consults. It could do that by developing a policy to improve its relationship with arts practitioners and the public. There were complaints about the arts council’s modus operandi before the restructuring and we should not allow it to slip back into its old authoritarian ways. That is why we want to emphasise that through this amendment. A strong link between the practitioners and the arts council needs to be maintained by consulting and creating an understanding between all the contributors. Failing to do that regulary would reflect badly on the National Assembly and we should therefore ensure that the need to be open and for consultation is emphasised by supporting this amendment.

Mae gwelliant 5 yn pwysleisio’r angen i Gyngor Celfyddydau Cymru sicrhau bod ei benderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud ar sail asesiad a gwerthusiad rheolaidd a gwrthrychol. Mae temtasiwn, wrth gyllido, i sicrhau bod yr un hen bobl yn cael yr arian dro ar ôl tro. Ceir rhwydwaith o bobl sy’n cael yr arian bob tro—

Amendment 5 emphasises the need for the Arts Council of Wales to ensure that its funding decisions are made on the basis of regular and objective assessment and evaluation. There is a temptation, when budgeting, to ensure that the same old faces get the money time after time. There is a network of people who always get the money—

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 60

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 60

Trefn. Mae eich pum munud wedi dod i ben.

Order. Your five minutes is up.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 60

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 60

Mae perygl y dyrenir yr arian heb ystyried ceisiadau newydd.

There is a danger that money is allocated without consideration being given to new applications.

Glyn Davies spoken in English p. 60

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 60

I propose the following amendments in the name of Jonathan Morgan. Amendment 2: add at the end of point 3:

Cynigiaf y gwellianau canlynol yn enw Jonathan Morgan. Gwelliant 2: ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:

Glyn Davies (continued) spoken in English p. 60

Glyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 60

I propose amendment 3. Add as a new point at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 3. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Glyn Davies (continued) spoken in English p. 61

Glyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 61

I speak with some sense of amusement and trepidation because the culture brief is still new to me. For me, the arts represent a new and exciting voyage of discovery, as they change from being an economic opportunity—as it was for me in the past—to being a cultural experience. In such a state of childlike wonderment, it is only right that I should tread with caution and perhaps that is why I will recommend to the Conservative group that we should support all the amendments, and support the motion, whether the amendments are successful or not.

Siaradaf gyda pheth teimlad o ddifyrrwch ac ofn am fod y brîff diwylliant yn dal yn newydd imi. I mi, cynigia’r celfyddydau brofiad newydd a chyffrous, wrth iddynt newid o fod yn gyfle economaidd—fel yr oedd i mi yn y gorffennol—i fod yn brofiad diwylliannol. A minnau’n rhyfeddu megis plentyn mae’n gwbl gywir y dylwn droedio’n ofalus ac efallai mai dyna pam yr argymellaf i’r grŵp Ceidwadol y dylem gefnogi pob un o’r gwelliannau, a chefnogi’r cynnig, pa un fydd y gwelliannau yn llwyddiannus ai peidio.

David Melding spoken in English p. 61

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 61

I am concerned to hear about my friend’s state of wonderment. I hope it will not extend to publishing poetry on his website.

Pryderaf wrth glywed fod fy nghyfaill yn rhyfeddu megis plentyn, gobeithiaf na fydd hynny yn ymestyn at gyhoeddi barddoniaeth ar ei wefan.

Glyn Davies spoken in English p. 61

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 61

I am, indeed, composing poetry for my website at the moment. I hope that it will be better than some poetry published in the past.

Yr wyf, yn wir, yn cyfansoddi barddoniaeth ar fy ngwefan yn awr. Gobeithiaf y bydd yn well na rhai cerddi a gyhoeddwyd yn y gorffennol.

The only amendment that I am unsure about is Jocelyn Davies’s amendment 1, which calls for a separate office to be located in the Valleys. We will not oppose it; we will support it, but I have a concern about cost and bureaucracy. However, we should harness the potential for culture to contribute to the regeneration of the south Wales valleys at every opportunity. I support the amendment as a statement of the importance of developing the arts in the deprived areas of Wales. I remember my first brush with the problems faced by the Valleys. I had a peripheral involvement when Peter Walker, then Secretary of State for Wales, announced a Valleys initiative in the late 1980s. I am not sure how successful that was, but ever since I have understood that we must take every sensible opportunity to support the regeneration of the Valleys. Whenever I hear Peter Law address this subject, as he often does, setting aside his ritualistic criticism of previous Conservative Governments—completely forgetting that Labour has been in power for five years—I agree with almost everything he says.

Yr unig welliant yr wyf yn ansicr yn ei gylch yw gwelliant 1 Jocelyn Davies, sy’n galw am sefydlu swyddfa ar wahân yn y Cymoedd. Ni fyddwn yn ei wrthwynebu; fe’i cefnogwn ond mae gennyf bryder am y gost a’r fiwrocratiaeth. Fodd bynnag, dylem fanteisio ar y cyfle i ddiwylliant gyfrannu at adfywio cymoedd y De ar bob cyfle. Cefnogaf y gwelliant fel datganiad o bwysigrwydd datblygu’r celfyddydau yn ardaloedd difreintiedig Cymru. Cofiaf y tro cyntaf imi ymwneud â’r problemau sy’n wynebu’r Cymoedd. Rhan ymylol oedd gennyf pan gyhoeddodd Peter Walker, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, fenter y Cymoedd ar ddiwedd yr 1980au. Nid wyf yn siŵr pa mor llwyddiannus y bu honno ond byth ers hynny yr ydwyf wedi deall bod yn rhaid inni ddal ar bob cyfle synhwyrol i gefnogi’r broses o adfywio’r Cymoedd. Pryd bynnag y clywaf Peter Law yn mynd i’r afael â’r pwnc hwn, fel y gwna yn aml, gan osod o’r neilltu ei arfer ddefodol o feirniadu Llywodraethau Ceidwadol blaenorol—gan anghofio’n llwyr fod Llafur wedi bod mewn grym am bum mlynedd—cytunaf â bron popeth a ddywed.

The arts budget must be fairly distributed across the whole of Wales. This is particularly important following the decision to go ahead with the Wales Millennium Centre, which involves a massive investment of National Assembly money. Our amendment 2 calls for the majority of the increase in the Arts Council of Wales’s budget to be passed on to arts groups and beneficiaries, instead of being spent on the arts council’s administration. We welcomed the increase in the Arts Council of Wales’s budget. However, whenever there is an increased availability of funds, there is a tendency to increase running costs. I heard what the Minister said but this amendment is important if we are to establish the importance of avoiding a growth in the running costs and the cost of bureaucracy. I am sorry that she will not support the amendment.

Rhaid i gyllideb y celfyddydau gael ei dosbarthu’n deg ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn sgîl y penderfyniad i fwrw ymlaen â Chanolfan Mileniwm Cymru, sy’n golygu buddsoddiad enfawr o arian y Cynulliad Cenedlaethol. Geilw ei gwelliant 2 am i’r rhan fwyaf o’r cynnydd yng nghyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru gael ei throsglwyddo i grwpiau celfyddydol a’r rhai sy’n cael arian ganddo, yn hytrach na’i wario ar weinyddiaeth cyngor y celfyddydau. Croesawyd y cynnydd yng nghyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru gennym. Fodd bynnag, pryd bynnag y bydd mwy o arian yn cael ei ddarparu, mae tuedd i gynyddu costau gweinyddu. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ond mae’r gwelliant hwn yn bwysig os ydym am osgoi cynnydd yn y costau rhedeg a chost biwrocratiaeth. Mae’n ddrwg gennyf na fydd yn cefnogi’r gwelliant.

Our amendment 3 recognises the need to increase arts organisations’ confidence in this this Assembly sponsored public body. They remain deeply sceptical about the Arts Council of Wales. This goes to the heart of why the arts council is being restructured. It had lost the confidence—

Mae ein gwelliant 3 yn cydnabod yr angen i gynyddu hyder cyrff celfyddydol yn y corff hwn a noddir gan y Cynulliad. Parhânt i fod yn bur amheus ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hyn wrth wraidd pam y mae’r cyngor yn cael ei ailstrwythuro. Collodd yr ymddiriedaeth—

Jonathan Morgan spoken in English p. 62

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 62

Do you agree that this debate is as much about the personalities in the arts council as it is about the arts council’s structure? The people who have run the arts council in the last few years have contributed to the loss of confidence among arts beneficiaries and groups throughout Wales in how they were dealt with.

A gytunwch fod y ddadl hon yn gymaint ynglŷn â phersonoliaethau yng nghyngor y celfyddydau ag y mae am strwythur y cyngor? Bu i’r bobl a fu’n rhedeg cyngor y celfyddydau dros y blynyddoedd diwethaf gyfrannu at golli hyder ymhlith y bobl a’r grwpiau ym myd y celfyddydau ar draws Cymru sy’n cael arian gan y cyngor yn y ffordd y cawsant eu trin.

Glyn Davies spoken in English p. 62

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 62

I agree, and it means that I no longer need to read the next two sentences of my notes.

Cytunaf, a golyga nad oes angen imi ddarllen dwy frawddeg nesaf fy nodiadau.

My final point involves the work of the Arts Council of Wales, in that it should begin to address the need for a national gallery. I read in today’s press—the Minister referred to this—about the decision to distribute the Welsh art collection all over Wales. I welcome that. There are questions about how successful this initiative will be. I do not always believe what I read in the press, but there is usually some substance to it. The case for a national gallery is irresistible, whether it is delivered forensically as it was in Phil Williams’s short debate recently or delivered more artistically by Sir Kyffin Williams. It is irresistible and we should move forward on it.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru, hynny yw, y dylai ddechrau mynd i’r afael â’r angen am oriel genedlaethol. Darllenaf yn y wasg heddiw—cyfeiriodd y Gweinidog at hyn—am y penderfyniad i ddosbarthu’r casgliad celf Cymreig ar draws Cymru gyfan. Croesawaf hynny. Mae cwestiynau i’w gofyn am ba mor llwyddiannus y bydd y fenter honno. Nid wyf bob amser yn credu’r hyn a ddarllenaf yn y wasg, ond mae fel arfer ryw wir ynddo. Mae’r achos dros oriel genedlaethol yn amhosibl i’w wrthwynebu, pa un ai a fydd yn cael ei gyflwyno mewn dull fforensig fel yn nadl fer Phil Williams yn ddiweddar neu yn fwy celfyddydol gan Syr Kyffin Williams. Mae’n amhosibl ei wrthwynebu a dylem fwrw ymlaen ag ef.

We all want a change in how the Arts Council of Wales is perceived. The Minister’s refusal to support the amendments suggests an air of complacency on some aspects of this. I hope that that is not true. I have heard her assertions today, but it would have been better had she supported us. I welcome, in general, all the changes that are taking place.

Yr ydym i gyd am weld newid yn y modd y caiff Cyngor Celfyddydau Cymru ei weld. Mae penderfyniad y Gweinidog i beidio â chefnogi’r gwelliannau yn awgrymu rhyw duedd at hunanfodlonrwydd ar rai agweddau ar hyn. Gobeithiaf nad yw hynny’n wir. Clywais ei haeriadau heddiw, ond byddai’n well pe bai wedi ein cefnogi. Yn gyffredinol, croesawaf y newidiadau sy’n digwydd.

Peter Law spoken in English p. 63

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 63

I am pleased to have the opportunity to speak for the ‘have nots’ in this debate. When we hear about an arts council strategy, many of us want to know what the arts council has been doing for the last few years. The Minister is well aware of my concerns. Coming from a place such as Blaenau Gwent, I am concerned that there should be recognition of the needs of people who are socially deprived and are searching for inclusion. I was delighted—and a little surprised—to hear Glyn Davies mention his sympathy for areas such as mine.

Mae’n dda gennyf gael y cyfle i siarad dros y gwrthodedig rai yn y ddadl hon. Pan glywn am strategaeth gan gyngor y celfyddydau, mae llawer ohonom am wybod beth y mae cyngor y celfyddydau wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r Gweinidog yn hen gyfarwydd â’m pryderon. Gan fy mod yn dod o le megis Blaenau Gwent, credaf yn gryf y dylid cydnabod anghenion pobl sydd yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac sy’n chwilio am gynhwysiant. Yr oeddwn wrth fy modd—ac wedi synnu braidd—clywed Glyn Davies yn sôn am ei gydymdeimlad at ardaloedd fel f’un i.

There is reference in the motion to the dispersal of offices. That is good. I was not able to speak on the earlier statement, which discussed dispersal of Assembly offices throughout Wales. Had I been able to do so, I would have spoken about the reasons why Blaenau Gwent and other areas should be included. If the arts council wants to make a contribution to these deprived areas and show some social justice—which it has not shown to date—it must consider setting up offices in the Valleys. We do not want tokenism such as that of Finance Wales, which says that it has a Valleys office in Trefforest. With respect to the Member who represents Pontypridd, I cannot see the join between Cardiff and Trefforest. That is not a Valleys office. We want people who are in the Valleys and in other parts of Wales. That must be considered in the future.

Mae cyfeiriad yn y cynnig at wasgaru swyddfeydd. Mae hynny’n beth da. Ni allais siarad ar y datganiad cynharach, a drafodai wasgaru swyddfeydd y Cynulliad ar draws Cymru. Pe bawn wedi gallu gwneud hynny, byddwn wedi siarad am y rhesymau pam y dylai Blaenau Gwent ac ardaloedd eraill gael eu cynnwys. Os yw cyngor y celfyddydau am wneud cyfraniad i’r ardaloedd difreintiedig hyn a dangos rhywfaint o gyfiawnder cymdeithasol—na ddangosodd hyd yn hyn—rhaid iddo ystyried sefydlu swyddfeydd yn y Cymoedd. Nid ydym am gael rhyw arwydd gwag megis un Cyllid Cymru, sy’n haeru bod ganddo swyddfa i’r Cymoedd yn Nhrefforest. Gyda phob parch i’r Aelod sy’n cynrychioli Pontypridd, ni allaf weld y ffin rhwng Caerdydd a Threfforest. Nid yw honno’n swyddfa yn y Cymoedd. Yr ydym am gael pobl sydd yn y Cymoedd ac mewn rhannau eraill o Gymru. Rhaid ystyried hynny yn y dyfodol.

What about these deprived areas? When is the arts council going to show some concern? It should be ashamed of itself. I heard today that Sybil Crouch is to be reappointed, which is sad news for some of us. She and Mr Tyndall should hang their heads in shame. If they want to come to see me in Blaenau Gwent, I will be pleased to hear them justify what they have done to date. It took four months for me, as an Assembly Member, to get a letter from Peter Tyndall, and it was not even signed by him when it arrived. That is the ‘it will do’ approach of the arts council to people outside Cardiff. It is time that people woke up to it. Everyone in the Chamber should be ashamed, particularly the chair of the Culture Committee.

Beth am yr ardaloedd difreintiedig hyn? Pryd mae cyngor y celfyddydau yn mynd i ddangos unrhyw bryder? Dylai fod â chywilydd. Clywais heddiw y bydd Sybil Crouch yn cael ei hailbenodi, sy’n newyddion trist i rai ohonom. Dylai hi a Mr Tyndall gywilyddio. Os carent ddod i’m gweld ym Mlaenau Gwent, bydd yn dda gennyf eu clywed yn cyfiawnhau’r hyn a wnaethant hyd yma. Cymerodd bedwar mis i mi, fel Aelod Cynulliad, i dderbyn llythyr oddi wrth Peter Tyndall, ac nid oedd wedi cael ei arwyddo ganddo, hyd yn oed, pan gyrhaeddodd. Dyna agwedd ‘fe wnaiff y tro’ cyngor y celfyddydau at bobl y tu allan i Gaerdydd. Mae’n bryd i bobl ddechrau sylweddoli hyn. Dylai pawb yn y Siambr gywilyddio, yn enwedig cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 64

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 64

Are you arguing that the arts council was more effective, transparent and accountable and in better contact with its clientele before the restructuring process?

A ddadleuwch fod cyngor y celfyddydau yn fwy effeithiol, tryloyw ac atebol ac mewn gwell cysylltiad â’i gleientiaid cyn y broses ailstrwythuro?

Peter Law spoken in English p. 64

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 64

No. I am arguing that the arts council, in its approach to deprived communities such as mine, has been abysmal in the past, and if it does not pull its socks up, it will be the same in the future. I have seen restructuring before and I have seen us stay in the same place. When we talk about what will be done in the future, we must look at contituencies such as mine and ask whether we are making a positive difference for those people. Will we take culture and art out to the people rather than keep it for the elite? That is the point.

Nac ydwyf. Fy nadl yw bod cyngor y celfyddydau, yn ei ymagwedd at y cymunedau difreintiedig megis f’un i, wedi bod yn druenus yn y gorffennol, ac os na wnaiff wella’i berfformiad, bydd yn union yr un fath yn y dyfodol. Gwelais ailstrwythuro yn y gorffennol ac yr wyf wedi’n gweld yn aros yn ein hunfan. Pan siaradwn am yr hyn a gaiff ei wneud yn y dyfodol, rhaid inni edrych ar etholaethau megis f’un i a gofyn a ydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r bobl hynny. A awn ni â diwylliant a chelfyddyd allan at y bobl yn hytrach na’i gadw i’r crachach? Dyna’r pwynt.

I will mention a few points about lottery funding. This week, in the neuadd, we saw a wonderful demonstration of the new opportunities fund, which is channelled through the arts council. The Minister was there, and I was proud that there were children from schools in Nant-y-glo and Tredegar in my constituency present to give a drama demonstration. Without the new opportunities fund out-of-hours schools programme, they would not have had the knowledge and the confidence to perform. That was achieved through the lottery funding in Blaenau Gwent, which I am pleased about. It was not achieved because the arts council did anything, other than to channel it in that way. The arts council should have done that years ago.

Nodaf rai pwyntiau am arian loteri. Yr wythnos hon, yn y neuadd, gwelsom brawf gwych o’r gronfa cyfleoedd newydd, a sianelir drwy gyngor y celfyddydau. Yr oedd y Gweinidog yno, ac yr oeddwn yn falch fod plant o ysgolion yn Nant-y-glo a Thredegar yn fy etholaeth yn bresennol i gyflwyno sioe ddrama. Heb raglen ar ôl oriau ysgol y gronfa cyfleoedd newydd, ni fyddai’r wybodaeth a’r hyder ganddynt i berfformio. Cyflawnwyd hynny drwy arian loteri ym Mlaenau Gwent, ac mae hynny’n fy mhlesio. Nis cyflawnwyd oherwydd bod cyngor y celfyddydau wedi gwneud unrhywbeth, heblaw am ei sianelu i’r cyfeiriad hwnnw. Dylai cyngor y celfyddydau fod wedi gwneud hynny flynyddoedd yn ôl.

When you consider the lottery awards for the whole of Wales, Cardiff receives nine times more in lottery money than Blaenau Gwent but its population is only three and a half times than in my area. In fairness, Cardiff has many things. Blaenau Gwent is still at the bottom end of the scale as far as distribution of lottery money is concerned—it is the second lowest recipient of lottery money after Merthyr Tydfil. People need to do something about that. Tredegar Town Band is the Welsh band champion and it is going to Europe in May. I see William Graham nodding—he needs to write a letter about it. It cannot get any support from the arts council to help it to go to Europe to compete in the champion of Europe band competition, and it is the only band going from Wales. However, if you want Cardiff to be Cultural Capital of Europe in 2008—which I fully support—you can have £53 million for a building across the road. That is wrong. That is the ‘it will do’ approach. If you are in the Valleys, it is ‘it will do.’ If you are down here, you can have millions. When a band from my constituency wants to proudly represent Wales in Brussels—it was in Marks and Spencer at Christmas raising money for the Tŷ Hafan hospice—it cannot get the support. The Arts Council of Wales should support it. Until we recognise these issues and until the arts council wakes up, people in deprived communities will not have justice. Let us not have warm words and sympathy; let us have action. That is what I ask of the Minister. On Tuesday, she saw what deprived communities can achieve with the help of the new opportunities fund. This is our chance to tell the arts council to get out there and do something for deprived people.

Pan ystyriwch y dyfarniadau loteri i Gymru gyfan, caiff Caerdydd naw gwaith yn fwy o arian loteri na Blaenau Gwent ond dim ond tair gwaith a hanner poblogaeth fy ardal i yw poblogaeth Caerdydd. Mewn tegwch, mae gan Gaerdydd lawer o bethau. Mae Blaenau Gwent ar waelod y raddfa o hyd o ran dosbarthiad arian loteri—Blaenau Gwent a gaiff y dosbarthiad isaf ond un ar ôl Merthyr Tudful. Dylai pobl wenud rhywbeth am hynny. Seindorf Tref Tredegar yw pencampwr seindorfeydd Cymru a bydd yn mynd i Ewrop ym mis Mai. Gwelaf William Graham yn cydsynio—mae angen iddo ysgrifennu llythyr am y peth. Nid yw’n gallu cael cefnogaeth gan gyngor y celfyddydau i’w helpu i fynd i Ewrop i gystadlu yng nghystadleuaeth pencampwr seindorfeydd Ewrop, ac ef yw’r unig seindorf sy’n mynd o Gymru. Fodd bynnag os ydych am i Gaerdydd fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008—a chefnogaf hynny’n llwyr—gallwch gael £53 miliwn ar gyfer adeilad ar draws y ffordd. Mae hynny’n anghywir. Dyna’r ymagwedd ‘fe wnaiff y tro’. Os ydych yn y Cymoedd, ‘fe wnaiff y tro’. Os ydych i lawr yma, gallwch gael miliynau. Pan fydd seindorf o’m hetholaeth i am gynrychioli Cymu gyda balchder ym Mrwsel—yr oedd yn Marks and Spencer adeg y Nadolig yn codi arian i hospis Tŷ Hafan—ni chaiff y gefnogaeth. Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru ei chefnogi. Hyd nes y cydnabyddwn y materion hyn ac hyd nes y bydd cyngor y celfyddydau yn sylweddoli hyn, ni fydd pobl yn y cymunedau difreintiedig yn cael cyfiawnder. Peidiwch â rhoi geiriau cynnes a chydymdeimlad inni, dewch inni gael gweithredu. Dyna a ofynnaf i’r Gweinidog. Ddydd Mawrth, gwelodd yr hyn a all cymunedau difreintiedig gyflawni gyda chymorth y gronfa cyfleoedd newydd. Dyma eich cyfle i ddweud wrth gyngor y celfyddydau i fynd ati a gwneud rhywbeth dros bobl ddifreintiedig.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 66

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 66

Yr wyf yn cydymdeimlo ac yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Peter. Ond gobeithiaf y gall ganfod ffordd i gydnabod bod pethau wedi gwella o ran y prosesau y mae cyngor y celfyddydau yn eu dilyn. Rhaid inni dderbyn bod yr ailstrwythuro wedi digwydd a bod pobl yn weithredol yn y celfyddydau ledled Cymru. Derbyniaf yr hyn y mae Peter yn ei ddweud am ystyried yr ardaloedd nad ydynt wedi cael y gefnogaeth yr oeddent yn ei haeddu yn y gorffennol. Mae diwylliant yn bodoli yn yr ardaloedd hyn. Efallai bod problem o fewn diwylliant cyngor y celfyddydau ac nad yw’r math o ddiwylliant sydd yn codi o’r gwreiddiau, y gymuned a’r bobl mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent wedi cael y gydnabyddiaeth a haedda gan y cyngor yn y gorffennol. Mawr obeithiaf na fydd hynny’n digwydd yn y dyfodol.

I sympathise and agree with much of what Peter said. However, I hope that he can find a way to accept that matters have improved with regard to the processes that the arts council follows. We must all accept that the restructuring has happened and that people are active in the arts throughout Wales. I accept what Peter says about looking at areas that have not been given the support that they deserved in the past. Culture exists in these areas. There may be a problem within the culture of the arts council and that the kind of culture that comes from the grass roots, the community and the people in areas such as Blaenau Gwent has not in the past been given the recognition that it deserved by the council. I hope that that will not happen in future.

Gallaf roi sicrwydd i Peter Law y bydd y Pwyllgor Diwylliant yn ystyried yn ofalus y math o gynlluniau a phrosiectau sydd yn cael eu derbyn a’u cefnogi gan gyngor y celfyddydau i sicrhau bod y math o weithgareddau celfyddydol y soniodd Peter amdanynt yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu i’r dyfodol. Yn ogystal, rhaid i ardaloedd fel Blaenau Gwent gael nid yn unig yr arian a’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu yn awr, ond hefyd cydnabyddiaeth am yr hyn y maent wedi’i golli yn y gorffennol.

I can give an assurance to Peter Law that the Culture Committee will consider carefully the kind of schemes and projects that are being supported and accepted by the arts council to ensure that the type of arts activities to which Peter referred are given the kind of support that they deserve in the future. In addition, areas such as Blaenau Gwent must be given not only the funding and recognition that they deserve now, but recognition for what they have missed out on in the past.

Pwysleisiaf fod y newidiadau hyn wedi bod yn eithriadol o bwysig. Yr oedd diffyg hygrededd yng nghyngor y celfyddydau, ac felly, yr oedd perygl bod stwythur ariannu’r celfyddydau yng Nghymru o dan gwmwl. Fodd bynnag, wedi gwrando ar y dystiolaeth y mae Peter Tyndall a Sybil Crouch wedi’i chyflwyno i’r Pwyllgor Diwylliant, credaf fod rhaid inni gydnabod y gwahaniaeth y mae Peter Tyndall wedi ei wneud ers iddo ddod yn brif weithredwr cyngor y celfyddydau. Gwelir gwahaniaeth sylfaenol yn y ffordd y gweinyddir y cyngor. Yr wyf yn argyhoeddedig y gwneir ymdrech wirioneddol i newid y diwylliant o fewn y cyngor. Serch hynny, mae’n rhaid inni gydnabod bod newid diwylliant sefydliad megis cyngor y celfyddydau yn eithriadol o anodd, ac nid ar chwarae bach y bydd hynny’n digwydd. Mae newidiadau o ran y strwythurau wedi digwydd ac mae’n rhaid inni sicrhau nad yw’r newidiadau hynny yn newidiadau cosmetig. Credaf fod tryloywder newydd, atebolrwydd newydd a pharodrwydd newydd yno i gynnal deialog gyda’r bobl sydd yn weithredol ym maes y celfyddydau, ond mae’n rhaid inni fod yn ofalus ac yn wyliadwrus wrth sicrhau nad yw’r newidiadau hynny yn gosmetig yn unig.

I emphasise that these changes have been extremely important. The arts council lacked credibility, and therefore, there was a danger that the structure for funding the arts in Wales would be under a cloud. However, having listened to the evidence presented to the Culture Committee by Peter Tyndall and Sybil Crouch, I believe that we must recognise the difference that Peter Tyndall has made since becoming chief executive of the arts council. A fundamental difference can be seen in the council’s administration. I am convinced that a real effort is being made to change the culture within the arts council. Despite this, we must recognise that changing the culture of an institution such as the arts council is exceptionally difficult, and it will not happen overnight. Structural changes have taken place and we must ensure that those changes are not cosmetic changes. I believe that there is a new transparency, accountability and readiness to engage in dialogue with arts practitioners, but we must be careful and vigilant to ensure that those changes are not just cosmetic.

Oherwydd hynny, yr wyf wedi fy siomi nad yw’r Gweinidog yn cefnogi ein gwelliannau. Mae Owen John Thomas wedi cyfeirio at welliannau 1 a 4 yn enw Jocelyn Davies, ond nid oedd digon o amser iddo gyfeirio at welliannau 5 a 6, felly, gwnaf hynny yn awr. Mae’r Gweinidog yn dweud wrthym fod cynnwys gwelliannau 5 a 6 ymhlyg yn y ddogfen. Erfyniaf ar y Gweinidog i ailystyried hyn. Nid ydynt yn amlwg yn y cynnig, ac y maent yn cadarnhau’r angen i gyngor y celfyddydau fod yn gwbl agored, atebol a thryloyw yn y ffordd y mae’n gweithredu, ac y maent hefyd yn pwysleisio’r angen i’r arian gael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl. Nid beirniadaeth yw hyn; yr ydym yn gosod yr egwyddorion yn glir. Credaf ei bod yn ofynnol ar y Cynulliad, ac ar y Gweinidog, i ddweud wrth gyngor y celfyddydau ein bod yn gwerthfawrogi’r camau y mae wedi’u cymryd, a’n bod yn falch ei fod wedi gwella’r strwythurau ac wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i Gymru’n Creu ac i adroddiad Wallace. Mae Owen John Thomas yn gywir i gyfeirio at rai o egwyddorion pwysig y ddogfen honno, sydd hefyd wedi’u hymgorffori yn y gwelliannau hyn. Er ein bod yn cydnabod hynny, parhawn i fod yn wyliadwrus, a byddwn yn sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru yn cael y sylw dyladwy gan y cyngor. Cydnabyddaf y cynnydd pwysig yn y cyllid i’r celfyddydau, ond mae llawer mwy i’w wneud eto.

Given that, I am disappointed that the Minister will not be supporting our amendments. Owen John Thomas has referred to amendments 1 and 4 in the name of Jocelyn Davies, but there was not enough time for him to refer to amendments 5 and 6, so I will do so now. The Minister tells us that the contents of amendments 5 and 6 are implicit in the document. I urge the Minister to reconsider this. They are not apparent in the motion, and they confirm the need for the arts council to be wholly open, accountable and transparent in the way it operates, and they also emphasise the need for money to be spent in the most effective way possible. This is not criticism; we are setting out the principles clearly. I believe that it is the Assembly’s and the Minister’s responsibility to tell the arts council that we appreciate the steps it has taken and that we are glad that it has improved its structures and has reacted in a positive way to Cymru’n Creu and to the Wallace report. Owen John Thomas is right to refer to some of the important principles of that document, which are also embodied in these amendments. Although we recognise this, we will remain vigilant, and we will ensure that the arts in Wales receive the attention they deserve from the council. I acknowledge the important increase in the budget for the arts, but much more needs to be done.

Peter Black spoken in English p. 67

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 67

I welcome this motion and the substantial work that has gone into the restructuring of the Arts Council of Wales, and the five-year arts development strategy which we look forward to seeing in the summer. This work was much needed. In the past, the Arts Council of Wales has struggled to get to grips with changing circumstances, and has made some unfortunate decisions—notably, the proposed drama strategy on which it was forced to do a u-turn. The Arts Council of Wales, to a certain extent, lost the confidence of arts organisations and the arts community, and this was acknowledged by the management review of the Arts Council of Wales in August 2000.

Croesawaf y cynnig hwn a’r gwaith sylweddol a wnaed i ailstrwythuro Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r strategaeth bum mlynedd i ddatblygu’r celfyddydau yr edrychwn ymlaen at ei gweld yn yr haf. Yr oedd gwir angen y gwaith hwn. Yn y gorffennol, yr oedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gorfod brwydro i feistroli amgylchiadau oedd yn newid, a gwnaeth rai penderfyniadau anffodus—yn benodol, y strategaeth ddrama arfaethedig y bu’n rhaid iddo wneud tro pedol arno. Collodd Cyngor Celfyddydau Cymru, i ryw raddau, hyder y cyrff celfyddydol a’r gymuned gelfyddydol, a chydnabuwyd hyn gan adolygiad rheoli Cyngor Celfyddydau Cymru yn Awst 2000.

There is a case for the abolition of the arts council, and the National Assembly taking on its responsibilities. That is why this restructuring is so important as, by streamlining its management structures, improving its strategic planning and decentralising many of its functions, it has one last chance to better meet Wales’s national and local cultural and artistic needs.

Mae dadl dros ddileu cyngor y celfyddydau ac i’r Cynulliad Cenedlaethol ymgymryd â’i gyfrifoldebau. Dyna pam y mae ailstrwythuro mor bwysig oherwydd, wrth symleiddio ei strwythurau rheoli, gwella ei gynllunio strategol a datganoli llawer o’i swyddogaethau, mae ganddo un cyfle olaf i ddiwallu anghenion diwylliannol ac artistig cenedlaethol a lleol Cymru’n well.

Decentralisation, in particular, is important, and I am pleased that the action plan makes it clear that this is a priority. We heard earlier how the Welsh Assembly Government is seeking to move staff and functions out of Cardiff, and it is important that Assembly sponsored public bodies should follow suit. That is why I support the recommendation that the offices in north, mid and west Wales should be maintained, and that an office be set up in south Wales, outside Cardiff. That these offices should be responsible for delivering five-year action plans, regional budgets and working relationships with local authorities will, in my view, help to make the arts council more transparent, and enable partnerships to be built with local councils and arts organisations that will be crucial in democratising this quango.

Mae datganoli, yn arbennig, yn bwysig, ac mae’n dda gennyf fod y cynllun gweithredu yn ei gwneud hi’n glir fod hyn yn flaenoriaeth. Clywsom yn gynharach sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio symud staff a swyddogaethau allan o Gaerdydd, ac mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn dilyn yr arweiniad. Dyna pam y cefnogaf yr argymhelliad y dylid cadw’r swyddfeydd yn y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin ac y dylid sefydlu swyddfa yn y De y tu allan i Gaerdydd. Yn fy marn i byddai i’r swyddfeydd hyn fod yn gyfrifol am gyflwyno cynlluniau gweithredu pum mlynedd, cyllidebau rhanbarthol a pherthynas waith gydag awdurdodau lleol, yn gymorth i wneud cyngor y celfyddydau yn fwy tryloyw, ac yn galluogi partneriaethau i gael eu datblygu gyda chynghorau lleol a chyrff celfyddydol a fydd yn hollbwysig wrth ddemocrateiddio’r cwango hwn.

Reducing bureaucracy and ensuring more money for arts organisations is also vital. That is why we must ensure that the delegation of responsibility for funding to national arts umbrella organisations works, but without any loss of accountability. That is a fine balancing act, which I hope the Minister will be able to achieve.

Mae lleihau biwrocratiaeth a sicrhau rhagor o arian i gyrff celfyddydol hefyd yn hollbwysig. Dyna pam y dylem wneud yn siŵr bod dirprwyo cyfrifoldeb am ariannu i gyrff celfyddydol cenedlaethol ymbarél yn gweithio ond heb i atebolrwydd gael ei golli. Mae hynny’n galw am gadw’r ddysgl yn wastad y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gallu ei gyflawni.

Finally, I welcome the Government’s 23 per cent increase in funding for the arts council in the next financial year. The promotion and development of arts in Wales is important. The culture of Wales forms part of our lifeblood, and its importance to communities throughout Wales cannot be underestimated. The fact that Wales spends more per capita on arts than England, Scotland and Northern Ireland, should be a matter of pride, and it carries with it social, economic and cultural benefits.

Yn olaf, croesawaf y cynnydd o 23 y cant gan y Llywodraeth yn yr arian i gyngor y celfyddydau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’n bwysig ein bod yn hyrwyddo ac yn datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae diwylliant Cymru yn rhan o’n henaid ac ni ellir gorbwysleisio ei bwysigrwydd i gymunedau ar draws Cymru. Dylid ymfalchïo yn y ffaith bod Cymru’n gwario rhagor yn ôl y pen o’r boblogaeth ar gelfyddyd na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a daw manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn sgîl hynny.

Lorraine Barrett spoken in English p. 69

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 69

To pick up on an issue raised by Peter Law, will the Minister comment—not necessarily today—on the number of bids for lottery funding from the Valleys and the percentage of those bids that are approved? Do we need to increase capacity to ensure that bids are received because, unless that happens, funding cannot be approved?

I ddychwelwyd at fater a godwyd gan Peter Law, a wnaiff y Gweinidog nodi—nid heddiw o angenrheidrwydd—nifer y ceisiadau am arian loteri a wneir o’r Cymoedd a’r canran o’r ceisiadau hynny a gymeradwywyd? A oes angen inni wella eu gallu i wneud ceisiadau i sicrhau eu bod yn dod i law oherwydd, os na ddigwydd hynny, ni ellir cymeradwyo arian?

I welcome the restructuring and hope that the arts council can now settle down and move forward positively. I declare an interest, in that my husband is applying for an arts council grant.

Croesawaf yr ailstrwythuro a gobeithiaf y gall cyngor y celfyddydau yn awr ymsefydlu a symud ymlaen yn gadarnhaol. Datganaf fuddiant, gan fod fy ngŵr yn gwneud cais am grant cyngor y celfyddydau.

I thank the Minister for clarifying The Western Mail article in terms of the funding for the new chamber orchestra. That clarification will be welcomed by other orchestras, such as the former Cardiff Bay Chamber Orchestra, renamed Sinfonia Cymru, which many Members saw perform last Sunday night. It is important that, as in the restructuring of the arts council and the Assembly’s ambition to spread its work across Wales, orchestras are encouraged throughout the country rather than being concentrated in one area.

Diolchaf i’r Gweinidog am egluro erthygl The Western Mail o ran ariannu’r gerddorfa siambr newydd. Bydd yr eglurhad hwnnw yn cael ei groesawu gan gerddorfeydd eraill, megis cyn-Gerddorfa Siambr Bae Caerdydd, a ailenwyd yn Sinffonia Cymru, y gwelodd llawer o’r Aelodau berfformiad ganddi nos Sul diwethaf. Mae’n bwysig, fel yn ailstrwythuro cyngor y celfyddydau ac uchelgais y Cynulliad i ymestyn ei waith ar draws Cymru, fod cerddorfeydd yn cael eu hannog ar draws y wlad yn hytrach na chael eu canoli mewn un ardal.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 69

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 69

Croesawaf y newidiadau, a da o beth yw gweld eu bod eisoes wedi arwain at fanteision. Serch hynny, mae angen inni wybod pa bryd y bydd y rhaglen lawn, a amlinellwyd yn yr adroddiadau, yn cael ei chyflawni. Croesawaf yn arbennig y datganoli i ranbarthau Cymru. Os yw hyn am olygu rhywbeth, rhaid i’r rhanbarthau gael cyllid hefyd, a hynny ar ffurf y gellir ei defnyddio yn rhydd er mwyn iddynt allu penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain; os cânt eu cyfyngu gan flaenoriaethau canolog, bydd unrhyw ryddid yn ddisylwedd. Mae’n bwysig bod cyfarwyddwyr rhanbarthol yn atebol i’r prif weithredwr, oherwydd nid oes gan y dirprwy brif weithredwr, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gyfrifoldeb dros gyllid, personél na thechnoleg gwybodaeth, sydd yn elfennau hanfodol o waith y rhanbarthau.

I welcome these changes and I am pleased to see that they have already led to certain benefits. However, we need to know when the full programme, as outlined in the reports, will be achieved. I particularly welcome the decentralisation to the regions of Wales. If this is to mean anything, funding must also be given to the regions, and in a way that can be used freely so that the regions can decide on their own priorities; if they are limited by central priorities, any freedom will be meaningless. It is important that regional directors are answerable to the chief executive because the deputy chief executive, as outlined in the report, is not responsible for finance, personnel or information technology, which are all key components of the regions’ operation.

Yr wyf yn pryderu braidd na fydd digon o gysylltiad rhwng cyngor y celfyddydau a darlledwyr. Mae’r cyswllt hwnnw yn hanfodol.

I am rather concerned that there will not be enough of a link between the arts council and broadcasters. That is a vital link.

O ran sylwadau Peter Law ar brif weithredwr y cyngor, credaf ei bod braidd yn afresymol i’w feirniadu ar hyn o bryd gan mai dim ond ers ychydig fisoedd y bu’n cyflawni’r swydd. Cytunaf â Peter ar yr angen i helpu’r rhai sy’n perfformio y tu allan i Gymru. Yr ydym i gyd yn gwybod am berfformwyr sy’n dymuno gweithio mewn mannau ar wahân i Gymru ond sy’n methu â chael yr adnoddau a fyddai’n eu galluogi i wneud hynny. Mae angen y cymorth hynny arnynt yn ddirfawr.

On Peter Law’s remarks about the council’s chief executive, it is somewhat unreasonable to criticise him at this time because he has only been in post for a few months. I agree with Peter about the need to help those who perform outside Wales. We all know of performers who would like to work in places apart from Wales but who cannot secure the resources to enable them to do that. There is a great need for such assistance.

Peter Law spoken in English p. 70

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 70

Do you think that it is reasonable to expect that an Assembly Member who wrote to the chief executive to ask for information and, after sending three reminder letters, did not receive a reply for four months, should have received a reply signed by the chief executive? Would it not have been reasonable to expect a reply directly from the chief executive rather than from someone who signed on his behalf?

A gredwch ei bod yn rhesymol i ddisgwyl i Aelod Cynulliad a ysgrifennodd at y prif weithredwr i ofyn am wybodaeth ac, ar ôl iddo anfon tri llythyr atgoffa, heb dderbyn ateb am bedwar mis, dderbyn ateb a arwyddwyd gan y prif weithredwr? Oni fyddai yn rhesymol disgwyl ateb yn uniongyrchol oddi wrth y prif weithredwr yn hytrach nag oddi wrth rywun a arwyddodd ar ei ran?

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 70

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 70

Byddwn yn pryderu fwy am gynnwys yr ateb nag am bwy lofnododd y llythyr.

I would be more concerned about the content of the answer than about who signed it.

Peter Law spoken in English p. 70

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 70

The content was nil.

Nid oedd dim yn y cynnwys.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 70

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 70

Felly yr hyn y dylech gwyno yn ei gylch yw’r cynnwys, ac nid pwy lofnododd y llythyr. Mae’n iawn i gwyno am y cynnwys, ond mae’n afresymol i ymosod ar brif weithredwr sydd wedi bod yn y swydd am gyn lleied o amser.

Therefore what you should be concerned about is the content, not who signed the letter. It is okay to complain about the content, but it is unreasonable to criticise a chief executive who has been in the post for such a short time.

Yn olaf, trof at gwestiwn ariannu ychwanegol ar gyfer cerddorfeydd siambr. Mae’r Gweinidog wedi dweud ei bod yn croesawu’r ffynonellau cyllid ychwanegol i gerddorfeydd ar wahân i gyllid oddi wrth gyngor y celfyddydau. Mae hynny’n iawn. Fodd bynnag, mae perygl y caiff strategaeth cyngor y celfyddydau ei thanseilio os oes ariannu sy’n annibynnol ar y cyngor yn newid patrwm darpariaeth gelfyddydol. Yn y cyd-destun hwnnw, hoffwn i’r Gweinidog esbonio pa ymgynghoriad a fu â chyngor y celfyddydau, ac â phwy o fewn y cyngor, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud ynglŷn â faint o arian ychwanegol a oedd yn mynd i ba gerddorfeydd.

Finally, I turn to the question of additional funding for chamber orchestras. The Minister has said that she welcomes the additional funding for orchestras, which is separate from the funding from the arts council. That is fine. However, there is a danger that the arts council’s strategy will be undermined if there is funding that is independent of the council that changes the pattern of cultural provision. In that context, I would like the Minister to explain what consultation took place with the arts council, and with whom within the council, before the decision was made on how much additional money would go to which orchestras.

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sports and the Welsh Language spoken in English p. 71

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Saesneg t. 71

I will do my best to answer as many points as possible. Owen John Thomas mentioned the timing and the delay of the restructuring. However, this is one month ahead of schedule. You do not understand how long it takes to reorganise a large body such as this. The Arts Council of Wales is looking for appropriate premises outside Cardiff and is working with local authorities to identify appropriate premises. That means that the south Wales office is likely to be in the Valleys, but I cannot give a definite commitment at present.

Gwnaf fy ngorau i ateb cynifer o bwyntiau â phosibl. Soniodd Owen John Thomas am yr oedi yn yr ailstrwythuro a’i amseriad. Fodd bynnag mae hyn fis ymlaen llaw i’r disgwyl. Nid ydych yn deall pa mor hir y mae’n cymryd i ad-drefnu corff mawr megis hwn. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am swyddfeydd addas y tu allan i Gaerdydd ac mae’n gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi swyddfeydd priodol. Golyga hyn y bydd swyddfa’r De yn debyg o fod yn y Cymoedd ond ni allaf roi ymrwymiad pendant ar hyn o bryd.

The motion refers to welcoming a restructuring plan that spells out the points made in the amendments. Among other things, it spells out openness, which is re-emphasised by the fact that reviews will be ongoing. We are determined that there will be no slipping back. Glyn Davies mentioned the economy and the arts. Economic opportunities through the arts are important and are greatly underemphasised historically. There is a consultation underway on the National Gallery, and I encourage you to put your points of view forward. There is a cap on the extra £50,000 for administration. Jonathan referred, importantly, to personnel issues. There is an important issue of morale and rebuilding morale in the arts council. On Peter Law’s points, you are out of touch with what is happening. In January, for example, the arts council gave £27,000 to a project in Tredegar—

Cyfeiria’r cynnig at groesawu’r cynllun i ailstrwythuro sy’n esbonio’r pwyntiau a wneir yn y gwelliannau. Ymhlith pethau eraill, mae’n esbonio tryloywder, sy’n cael ei bwysleisio gan y ffaith y bydd adolygiadau yn parhau. Yr ydym yn benderfynol o beidio â llithro nôl. Soniodd Glyn Davies am yr economi a’r celfyddydau. Mae cyfleoedd economaidd drwy’r celfyddydau yn bwysig ac yn hanesyddol cawsant eu tanbrisio’n fawr. Mae ymgynghori yn digwydd ar yr Oriel Genedlaethol ac anogaf chi i gynnig eich barn. Mae cap ar y £50,000 ychwanegol ar gyfer gweinyddiaeth. Cyfeiriodd Jonathan—ac mae hynny’n bwysig—at faterion staff. Mae mater pwysig ysbryd y staff ac ail adeiladu ysbryd yng nghyngor y celfyddydau. O ran pwyntiau Peter Law, nid ydych yn gwybod beth sy’n digwydd. Yn Ionawr, er enghraifft, rhoddodd cyngor y celfyddydau £27,000 i brosiect yn Nhredegar—

Peter Law a gododd—

Peter Law rose—

Jenny Randerson spoken in English p. 72

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 72

I am not taking an intervention, I am answering you. Four thousand pounds was given to a parish church council, £1,000 to St Mary’s Church in Wales primary school for a music workshop, £900 to Brynmawr town council partnership, and £500 to Abertillery’s amateur dramatic and music society. Tredegar is not being ignored by the arts council. If you want me to go on, the Welsh National Opera performed in Ebbw Vale’s Beaufort Theatre in December last year, and so on. Blaenau Gwent has a good level of cultural activity. However, there is a capacity building issue, to which Lorraine referred, and I am taking that seriously and looking at it. On Tredegar Town Band, about which John Griffiths contacted me some months ago because he has constituents in it, this is an anomaly that applies to all—

Nid wyf am dderbyn ymyriad, yr wyf yn eich ateb. Rhoddwyd 4,000 o bunnoedd i ysgol gynradd Eglwys Fair yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer gweithdy cerddoriaeth, £900 i bartneriaeth cyngor tref Brynmawr a £500 i gwmni drama a chymdeithas gerddoriaeth Abertyleri. Nid yw Tredegar yn cael ei hanwybyddu gan gyngor y celfyddydau. Os ydych am imi fynd ymlaen, perfformiodd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn Theatr Beaufort yng Nglynebwy ym mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf, ac yn y blaen. Mae gan Flaenau Gwent lefel dda o weithgaredd diwylliannol. Fodd bynnag y mae problem o ran y gallu i wneud ceisiadau y cyfeiriodd Lorraine ati, ac yr wyf yn rhoi sylw difrifol i hwnnw. Ar fater Seindorf Tref Tredegar, y bu i John Griffiths gysylltu â mi yn ei gylch rai misoedd yn ôl oherwydd bod ganddo etholwyr yn y seindorf, mae hynny’n sefyllfa sy’n berthnasol i bob—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 72

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72

Order. Before you take further interventions, I should warn you that you have exhausted Government time in this debate.

Trefn. Cyn ichi dderbyn ymyriadau pellach, dylwn eich rhybuddio eich bod wedi defnyddio amser y Llywodraeth i gyd yn y ddadl hon.

Jenny Randerson spoken in English p. 72

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 72

I am sorry?

Mae’n ddrwg gennyf?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 72

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72

You have exhausted the allocated time for the Government speaker in this debate.

Yr ydych wedi defnyddio’r amser a roddwyd i lefarydd y Llywodraeth yn y ddadl hon.

Jenny Randerson spoken in English p. 72

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 72

I am not allowed to take an intervention then?

Nid oes hawl gennyf felly i dderbyn ymyrraeth?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 72

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72

I do not think that you are allowed to say any more.

Ni chredaf fod hawl gennych i ddweud rhagor.

Jenny Randerson spoken in English p. 72

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 72

I will say one more sentence. I thank those who have understood that the arts council has been through a difficult time and that it is rebuilding and restructuring positively. We must look back in a year’s time and see whether it has worked.

Dywedaf un frawddeg arall. Diolchaf i’r rhai a ddeallodd fod cyngor y celfyddydau wedi bod drwy gyfnod anodd a’i fod yn ailadeiladu ac yn ailstrwythuro’n gadarnhaol. Bydd yn rhaid inni edrych yn ôl ymhen blwyddyn a gweld a fu iddo weithio.

Gwelliant 1 Owen John Thomas t. 72

Amendment 1 Owen John Thomas p. 72

GwrthodwydRejected O blaidFor 21 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 26

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (21)
  • Nick Bourne
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (26)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 2 Glyn Davies t. 73

Amendment 2 Glyn Davies p. 73

GwrthodwydRejected O blaidFor 7 YmatalAbstain 14 Yn erbynAgainst 26

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (7)
  • Nick Bourne
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (14)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (26)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 3 Glyn Davies t. 74

Amendment 3 Glyn Davies p. 74

GwrthodwydRejected O blaidFor 7 YmatalAbstain 15 Yn erbynAgainst 26

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (7)
  • Nick Bourne
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (26)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 4 Owen John Thomas t. 75

Amendment 4 Owen John Thomas p. 75

GwrthodwydRejected O blaidFor 22 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (22)
  • Nick Bourne
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 5 Owen John Thomas t. 75

Amendment 5 Owen John Thomas p. 75

GwrthodwydRejected O blaidFor 22 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (22)
  • Nick Bourne
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 6 Owen John Thomas t. 76

Amendment 6 Owen John Thomas p. 76

GwrthodwydRejected O blaidFor 21 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (21)
  • Nick Bourne
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Cynnig NDM972 Jenny Randerson t. 76

Motion NDM972 Jenny Randerson p. 76

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 3

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (3)
  • Sue Essex
  • Edwina Hart
  • Jenny Randerson

Pwynt o Drefn

Point of Order

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 77

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 77

Point of order. I voted incorrectly in the final vote. I should have voted for the motion. I would like the record to be amended.

Pwynt o drefn. Pleidleisiais yn anghywir yn y bleidlais ddiwethaf. Dylwn fod pleisleisio o blaid y cynnig. Hoffwn i’r cofnod gael ei ddiwygio.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

It is not possible to amend the record, but it can be noted on the record as a point of order.

Nid yw’n bosibl i gywiro’r cofnod, ond gellir ei nodi ar y cofnod fel pwynt o drefn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 11.40 a.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 11.40 a.m.

Y Strategaeth Ieithoedd Tramor Modern Genedlaethol

The National Modern Foreign Languages Strategy

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 78

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

We have limited time for this debate. After the Minister has proposed the amendment, I will limit speeches to three minutes. The Minister is taking less time than is allowed for her speech, and I call on Members to make succinct and short speeches on this important matter if at all possible. I have selected amendments 1 and 2 in the name of Jonathan Morgan.

Nid oes gennym lawer o amser ar gyfer y ddadl hon. Ar ôl i’r Gweinidog gynnig y gwelliant, cyfyngaf yr areithiau i dair munud. Mae’r Gweinidog yn cymryd llai o amser na’r hyn a ganiateir ar gyfer ei haraith, a galwaf ar yr Aelodau i wneud areithiau cryno a byr ar y mater pwysig hwn os yn bosibl. Dewisais welliannau 1 a 2 yn enw Jonathan Morgan.

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 78

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning (continued) spoken in English p. 78

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78

Wales needs to prepare more of its people to live and work in international contexts. Most of our companies need to trade in the global marketplace. More people should enjoy the personal fulfilment that comes from having a wider perspective. Being able to speak foreign languages is a launch pad to all that. The Assembly Government believes that language learning empowers individuals. It promotes cultural understanding and diversity, and helps build outward-looking businesses that create wealth.

Mae angen i Gymru baratoi mwy o’i phobl i fyw ac i weithio o fewn cyd-destunau rhyngwladol. Mae angen i’r rhan fwyaf o’n cwmnïau fasnachu yn y farchnad fyd-eang. Dylai mwy o bobl fwynhau’r cyflawniad personol a ddaw yn sgîl persbectif ehangach. Mae’r gallu i siarad ieithoedd tramor yn llwyfan i hynny oll. Cred Llywodraeth y Cynulliad fod dysgu iaith yn ymrymuso unigolion. Mae’n hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth, ac yn helpu i adeiladu busnesau sydd yn ehangu eu gorwelion sy’n creu cyfoeth.

No-one in this Chamber could rejoice in the fact that pupils’ attainment in foreign languages at key stage 3 is lower than in almost all other subjects. Only 40 per cent of our 16-year-olds sit a GCSE exam in a foreign language. The numbers taking A-levels in languages are also falling, and some language degree courses are contracting. Boys are under-represented in language learning. Also, companies surveyed by Future Skills Wales believed that there was little need for foreign language skills in their businesses.

Ni allai unrhyw un yn y Siambr hon ymfalchïo yn y ffaith bod cyrhaeddiad disgyblion mewn ieithoedd tramor yng nghyfnod allweddol 3 yn is nag ymron pob pwnc arall. Dim ond 40 y cant o’n disgyblion 16 oed sy’n sefyll arholiad TGAU mewn iaith dramor. Mae’r niferoedd sy’n sefyll arholiadau safon Uwch mewn ieithoedd hefyd yn gostwng, ac mae rhai cyrsiau gradd mewn ieithoedd yn lleihau. Caiff bechgyn eu tangynrychioli ym maes dysgu ieithoedd. Hefyd, yr oedd cwmnïau y cynhaliwyd arolwg ohonynt gan Sgiliau Dyfodol Cymru o’r farn nad oedd llawer o angen am sgiliau ieithoedd tramor yn eu busnesau.

I agree with the sentiments behind Jonathan Morgan’s amendments to this motion. Jonathan’s amendment 1 calls for urgent action to address the low take-up of foreign languages in Wales. The motion already notes that decline with concern. That is why we are setting out our strategy for modern foreign languages in Wales today. Jonathan’s amendment 2 refers to the importance of language learning to our competitiveness in Europe. I agree 100 per cent, which is why the strategy not only notes our concern but promotes action to take account of it. Our strategy is about enabling Wales to play its part on the European and world stage, and positioning Wales in an international context. I therefore ask Jonathan to consider withdrawing his amendments as they are addressed in the strategy—otherwise the Government will have to vote against them, as they add nothing to the strategy.

Cytunaf â’r feddylfryd sy’n sail i welliannau Jonathan Morgan i’r cynnig hwn. Mae gwelliant 1 Jonathan yn galw am weithredu brys i ymdrin â nifer isel y bobl sy’n dysgu ieithoedd tramor yng Nghymru. Mae’r cynnig eisoes yn datgan pryder o ran y gostyngiad hwnnw. Dyna pam ein bod yn cyflwyno ein strategaeth ar gyfer ieithoedd tramor modern yng Nghymru heddiw. Mae gwelliant 2 Jonathan yn cyfeirio at bwysigrwydd dysgu ieithoedd o ran ein gallu i gystadlu yn Ewrop. Cytunaf 100 y cant, a dyna pam fod y strategaeth nid yn unig yn nodi ein pryder ond yn hyrwyddo camau gweithredu i’w ystyried. Mae ein strategaeth yn ymwneud â galluogi Cymru i chwarae ei rhan ar lwyfan Ewrop a’r byd, a gosod Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Felly gofynnaf i Jonathan ystyried tynnu ei welliannau yn ôl oherwydd yr ymdrinnir â hwy yn y strategaeth—fel arall bydd yn rhaid i’r Llywodraeth bleidleisio yn eu herbyn, gan nad ydynt yn ychwanegu unrhyw beth i’r strategaeth.

We consulted on our draft strategy in 2001 by means of conferences and inviting written responses. The date was appropriate, as 2001 was the European year of languages. The year was marked by events in schools and colleges across Wales, and at European level led to a resolution in the Council of Ministers on the importance of linguistic diversity and language learning. 2001 was also the year in which the Government across the UK continued to digest the wake-up call sounded in 2000 by the Nuffield foundation in its report, ‘Languages: the Next Generation’. The response to our draft strategy was positive. Importantly, there was little support for making foreign language learning after the age of 14 compulsory. We are committed to flexibility at the age of 14 and beyond, so that students can choose from an increasingly wide array of learning options. We need to help foreign language learning compete effectively in that environment. That aim is at the heart of our strategy.

Ymgynghorwyd ar ein strategaeth ddrafft yn 2001 drwy gynnal cynadleddau a gwahodd ymatebion ysgrifenedig. Yr oedd y dyddiad yn briodol gan mai 2001 oedd y flwyddyn ieithoedd Ewropeaidd. Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd digwyddiadau mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac ar lefel Ewropeaidd arweiniodd at benderfyniad yng Nghyngor y Gweinidogion ar bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol a dysgu ieithoedd. Yr oedd 2001 hefyd yn flwyddyn lle y parhaodd y Llywodraeth ledled y DU i fynd i’r afael â’r rhybudd a gafwyd yn 2000 gan sefydliad Nuffield yn ei adroddiad, ‘Languages: the Next Generation’. Yr oedd yr ymateb i’n strategaeth ddrafft yn gadarnhaol. Yn bwysig, ni chafwyd llawer o gefnogaeth o ran ei gwneud yn orfodol i bobl ifanc ddysgu iaith dramor ar ôl 14 oed. Yr ydym yn ymrwymedig i hyblygrwydd yn 14 oed ac wedi hynny, er mwyn i fyfyrwyr allu dewis o amrywiaeth cynyddol eang o opsiynau dysgu. Mae angen inni helpu dysgu ieithoedd tramor i gystadlu’n effeithiol yn yr amgylchedd hwnnw. Mae’r nod honno wrth wraidd ein strategaeth.

The strategy is about supporting the teaching and learning of languages, and about helping learners achieve greater success, so that they see languages as more accessible and enjoyable. We need to promote language learning and the value of language skills more vigorously. Our strategy includes the establishment of CILT Cymru, a Welsh arm of the Centre for Information on Language Teaching and Research, which promotes language learning. CILT Cymru will pursue our objective of improving teaching and learning. For instance, it will provide in-service training for language teachers and good practice materials. It will also play a vigorous promotional role in order to raise the status of languages in education and training, and will be a unique support agency for a curriculum subject.

Mae’r strategaeth yn ymwneud â chefnogi’r broses o addysgu a dysgu ieithoedd, a helpu dysgwyr i fod yn fwy llwyddiannus, er mwyn iddynt ystyried bod ieithoedd yn fwy hygyrch ac yn fwy boddhaus. Mae angen inni fod yn fwy gweithgar wrth hyrwyddo dysgu ieithoedd a gwerth sgiliau ieithyddol. Mae ein strategaeth yn cynnwys sefydlu CILT Cymru, cangen Gymreig y Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth am Addysgu ac Ymchwil Ieithoedd, sy’n hyrwyddo dysgu ieithoedd. Bydd CILT Cymru yn mynd ar drywydd ein hamcan o wella addysgu a dysgu. Er enghraifft, bydd yn darparu hyfforddiant mewn swydd i athrawon iaith a deunyddiau arfer da. Bydd hefyd yn chwarae rôl hyrwyddo egnïol er mwyn codi statws ieithoedd ym maes addysg a hyfforddiant, a bydd yn asiantaeth cymorth unigryw i un o bynciau’r cwricwlwm.

We regard the number of young people studying foreign languages as an important strategic issue for the education service. Consultees have suggested that we should ask every local education authority to set a local target for the take-up of languages in its strategic plan on education. That suggestion is attractive, and we will consult local authorities on it. To accompany our strategy document, Estyn will issue comprehensive guidance to schools on how to achieve the best in modern languages. We plan to distribute the two documents jointly.

Ystyriwn nifer y bobl ifanc sy’n astudio ieithoedd tramor yn fater strategol pwysig ar gyfer y gwasanaeth addysg. Awgrymodd ymgynghoreion y dylem ofyn i bob awdurdod addysg lleol bennu targed lleol ar gyfer nifer y bobl ifanc sy’n dysgu ieithoedd yn ei gynllun strategol ar addysg. Mae’r awgrym hwnnw yn ddeniadol, a byddwn yn ymgynghori ag awdurdodau lleol yn ei gylch. I gyd-fynd â’n dogfen strategaeth, bydd Estyn yn cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar sut i gyflawni’r gorau mewn ieithoedd modern. Y bwriad yw dosbarthu’r ddwy ddogfen gyda’i gilydd.

The Nuffield report identified the teaching of Welsh as a success story, and recommended that modern foreign language learning should build on the success of bilingual education. The fact that we already require all children in Wales to learn a second language should give Welsh children a head start in learning other languages. We need to capitalise on bilingualism in order to promote trilingualism and multilingualism. Through our strategy, we will take action to create better links between the teaching of Welsh and English and the teaching of modern foreign languages. The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales and Estyn will develop guidance on a coherent, cross-subject approach to language learning. CILT Cymru will be active in helping modern foreign language departments and Welsh and English departments to work together. The Assembly Government will seek particular advice about the Welsh-medium schools sector, where the take-up of foreign languages is especially low.

Nododd adroddiad Nuffield addysgu Cymraeg fel enghraifft o lwyddiant, ac argymhellodd y dylai’r gwaith o ddysgu ieithoedd tramor modern adeiladu ar lwyddiant addysg ddwyieithog. Dylai’r ffaith ei bod eisoes yn ofynnol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu ail iaith roi mantais i blant yng Nghymru wrth ddysgu ieithoedd eraill. Mae angen inni fanteisio ar ddwyieithrwydd er mwyn hyrwyddo tairieithrwydd ac amlieithrwydd. Drwy ein strategaeth, byddwn yn cymryd camau i greu gwell cysylltiadau rhwng addysgu Cymraeg a Saesneg ac addysgu ieithoedd tramor modern. Bydd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ac Estyn yn datblygu canllawiau ar ymagwedd gydlynus, drawsbynciol tuag at ddysgu ieithoedd. Bydd gan CILT Cymru ran weithredol wrth helpu adrannau ieithoedd tramor modern ac adrannau Cymraeg a Saesneg i gydweithio. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio cyngor penodol am y sector ysgolion Cymraeg, lle mae nifer y bobl ifanc sy’n dysgu ieithoedd tramor yn arbennig o isel.

As we know that younger children learn languages more quickly, I am particularly keen to explore the potential for teaching modern foreign languages at key stage 2. Our strategy commits the Assembly Government to funding pilot schemes for foreign language learning at key stage 2 from 2003 onwards. It will be an exciting initiative. We will begin development work on these pilot schemes shortly, and will involve Estyn, ACCAC and CILT Cymru closely. Our strategy must not just be about the traditional European languages of French, German, Spanish and Italian. The number of people in Wales who are learning and gaining qualifications in community languages such as Urdu, Bengali, and Chinese is small. Some responses to our consultation asked to look at that more closely. We will therefore commission advice from CILT Cymru on community languages.

Gan y gwyddom fod plant iau yn dysgu ieithoedd yn gyflymach, yr wyf yn arbennig o awyddus i archwilio’r potensial ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern yng nghyfnod allweddol 2. Mae ein strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i ariannu cynlluniau peilot ar gyfer dysgu ieithoedd tramor yng nghyfnod allweddol 2 o 2003 ymlaen. Bydd yn fenter gyffrous. Bydd y gwaith datblygiadol yn dechrau ar y cynlluniau peilot hyn yn fuan, gan gynnwys Estyn, ACCAC a CILT Cymru yn agos. Ni all ein strategaeth ymwneud â’r ieithoedd Ewropeaidd traddodiadol sef Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg yn unig. Mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n dysgu ac yn ennill cymwysterau mewn ieithoedd cymunedol megis Wrdw, Bengali, a Thsieinëeg yn fach. Gofynnodd rhai ymatebion i’n hymgynghoriad inni ystyried hynny yn fanylach. Felly byddwn yn comisiynu cyngor gan CILT Cymru ar ieithoedd cymunedol.

Our strategy is also not just about school education. Developing high-level skills among our workforce in a variety of languages must be a lifelong learning objective. Our strategy sets out actions that both the National Council and the Higher Education Council of ELWa are committed to taking in support of our objectives. We are already making a distinctive start by including a modern language module in the Welsh baccalaureate, which will be a requirement for all baccalaureate students. For students who do not choose a main option in languages, the module will ensure that the idea and practice of language learning remains part of their post-16 experience. We are also pleased that the Languages National Training Organisation, which will soon be succeeded by a new languages sector skills council, is proceeding with plans to audit the modern foreign language needs of business and commerce. The audit will provide an evidence base and will complement WalesTrade International’s work in promoting language skills and services to business.

Nid yw ein strategaeth yn ymwneud yn unig ag addysg o fewn ysgolion ychwaith. Rhaid i ddatblygu sgiliau lefel uchel ymhlith ein gweithlu mewn amrywiaeth o ieithoedd fod yn amcan dysgu gydol oes. Noda ein strategaeth gamau gweithredu y mae’r Cyngor Cenedlaethol a Chyngor Addysg Uwch ELWa yn ymrwymedig i’w cymryd er mwyn cefnogi ein hamcanion. Yr ydym eisoes yn gwneud cychwyn pendant drwy gynnwys modiwl ieithoedd modern o fewn y fagloriaeth Gymreig, a fydd yn ofyniad i bob un o fyfyrwyr y fagloriaeth. Ar gyfer myfyrwyr na fyddant yn dewis prif opsiwn mewn ieithoedd, bydd y modiwl yn sicrhau bod y syniad a’r arfer o ddysgu ieithoedd yn parhau yn rhan o’u profiad ôl-16. Yr ydym hefyd yn falch bod y Sefydliad Hyfforddiant Ieithoedd Cenedlaethol, y daw cyngor sgiliau sector ieithoedd newydd i’w ddisodli yn fuan, yn symud ymlaen â chynlluniau i archwilio anghenion ieithoedd tramor modern busnes a masnach. Bydd yr archwiliad yn darparu sail tystiolaeth gan ategu gwaith MasnachCymru Rhyngwladol wrth hyrwyddo sgiliau a gwasanaethau iaith i fusnesau.

I know that many Members are concerned about the current decline in language learning. We share that concern. Our strategy sets out an achievable set of objectives for the Assembly Government and our partners. The Nuffield inquiry and the European year of languages has also created a new awareness of the current situation and has provided an impetus to progress matters.

Gwn fod llawer o’r Aelodau yn pryderu ynghylch y gostyngiad cyfredol o ran dysgu ieithoedd. Rhannwn y pryder hwnnw. Noda ein strategaeth gyfres gyflawnadwy o amcanion i Lywodraeth y Cynulliad a’n partneriaid. Mae ymchwiliad Nuffield a’r flwyddyn ieithoedd Ewropeaidd hefyd wedi creu ymwybyddiaeth newydd o’r sefyllfa gyfredol gan ddarparu’r ysgogiad i ddatblygu materion.

Jonathan Morgan spoken in English p. 82

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 82

I propose the following amendments. Amendment 1: add a new point at the end of the motion:

Cynigiaf y gwelliannau canlynol. Gwelliant 1: ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Jonathan Morgan (continued) spoken in English p. 82

Jonathan Morgan (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 82

I propose amendment 2. Add a new point at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 2. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Jonathan Morgan (continued) spoken in English p. 82

Jonathan Morgan (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 82

I propose these amendments, despite the Minister’s request that they be withdrawn, for the following reasons. Amendment 1 asks us to recognise that urgent action is needed to address the low take-up of foreign languages in Wales. It strengthens that part of the motion that states that we should support the actions proposed in the document. We must recognise that statistics show a rapid decline in language learning in recent years and provide evidence that we need to resolve this problem urgently. Amendment 1 is therefore valid; it strengthens the motion by stating that we need urgent action. The Assembly governs this nation and we should put on record our concern and state that we believe that urgent action is vital to solving this problem.

Cynigiaf y gwelliannau hyn, er gwaethaf cais y Gweinidog iddynt gael eu tynnu’n ôl, am y rhesymau canlynol. Mae gwelliant 1 yn gofyn inni gydnabod bod angen gweithredu ar frys i ymdrin â’r gyfradd isel sy’n dewis astudio ieithoedd tramor yng Nghymru. Mae’n atgyfnerthu’r rhan honno o’r cynnig sy’n datgan y dylem gefnogi’r camau gweithredu a gynigir yn y ddogfen. Rhaid inni gydnabod bod ystadegau yn dangos gostyngiad cyflym yn nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd dros y blynyddoedd diwethaf gan ddarparu tystiolaeth fod angen inni ddatrys y broblem hon ar frys. Felly mae gwelliant 1 yn ddilys; mae’n atgyfnerthu’r cynnig drwy ddatgan fod angen inni weithredu ar frys. Mae’r Cynulliad yn llywodraethu’r wlad hon a dylem gofnodi ein pryder gan ddatgan ein bod o’r farn bod gweithredu ar frys yn hanfodol er mwyn datrys y broblem hon.

Amendment 2 concerns the potential economic impact of this strategy. If we were to reverse the decline in the take-up of modern foreign languages, we would strengthen our ability to compete and provide a better footing for young people who wish to work in mainland Europe, as well as those who wish to work for companies situated in mainland Europe. There is an economic impact to this and, in the motion, we must recognise the problem and concern about our future competitiveness in Europe as a result of the decline in modern foreign language learning. Again, the Assembly should put our concern on record in the motion. It is all very well to say that it is included in the report, but these reports tend only to be read by the great and the good. For the people at home who witness these debates and who read the reports of them in newspapers, we should say with one voice that we want to improve our competitiveness in Europe. One way to do that would be to reverse this worrying decline in the take-up of modern foreign languages.

Mae gwelliant 2 yn ymwneud ag effaith economaidd bosibl y strategaeth hon. Pe baem yn gwrthdroi’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n astudio ieithoedd tramor modern, byddem yn atgyfnerthu ein gallu i gystadlu ac yn darparu gwell sylfaen i bobl ifanc sydd am weithio ar gyfandir Ewrop, yn ogystal â’r rheini sydd am weithio i gwmnïau sydd wedi’u lleoli ar gyfandir Ewrop. Mae i hyn effaith economaidd ac, yn y cynnig, rhaid inni gydnabod y broblem a’r pryder ynghylch ein gallu i gystadlu yn Ewrop yn y dyfodol o ganlyniad i’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd tramor modern. Unwaith eto, dylai’r Cynulliad gofnodi ein pryder yn y cynnig. Mae’n ddigon hawdd dweud ei fod wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, ond y duedd yw mai dim ond y mawrion sy’n darllen yr adroddiadau hyn. Ar gyfer y bobl gartref sy’n dystion i’r dadleuon hyn ac sy’n darllen adroddiadau amdanynt yn y papurau newydd, dylem ddatgan yn unfrydol ein bod am wella ein gallu cystadleuol yn Ewrop. Un ffordd o wneud hynny fyddai gwrth-droi’r gostyngiad hwn yn nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd tramor modern.

I agree with much of Minister’s speech. The problem can be tackled initially in early years provision. As we are a bilingual nation, through the use of Welsh-medium provision, children find it easier to learn languages—including languages other than Welsh—from an early age. A child’s ability to learn languages is greater than an adult’s—and I speak as someone who is attempting to learn Welsh now. It is not easy to learn a language later in life. It is easier for children to grasp the construction of and obtain a command of languages. That is the starting point for the strategy. We must examine how languages can be taught and the learning of languages encouraged from an early age.

Cytunaf â’r rhan fwyaf o araith y Gweinidog. Gellir mynd i’r afael â’r broblem i ddechrau o fewn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Gan ein bod yn genedl ddwyieithog, drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth Gymraeg, mae plant yn ei chael hi’n haws dysgu ieithoedd—gan gynnwys ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg—o oedran cynnar. Mae gallu plentyn i ddysgu ieithoedd yn well na gallu oedolyn—a siaradaf fel person sy’n ceisio dysgu’r Gymraeg yn awr. Nid yw’n hawdd dysgu iaith yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n haws i blant feistroli cystrawen ieithoedd ac ymdopi â hwy. Dyna fan cychwyn y strategaeth. Rhaid inni archwilio sut y gellir addysgu ieithoedd gan annog dysgu ieithoedd o oedran cynnar.

I agree with the report’s comments on the diversity of languages. Too much emphasis has been placed on French, particularly in secondary school education. That is why I proposed amendment 2. We have to consider how the learning of languages, such as German, Spanish, and Italian, as well as French, can be encouraged because of the nature of our European competitors. There are companies, with bases elsewhere in Europe, which could be situated in Wales. There is too much emphasis on French and we should be doing more to encourage the take-up of other languages.

Cytunaf â sylwadau’r adroddiad ar amrywiaeth ieithoedd. Rhoddwyd gormod o bwyslais ar Ffrangeg, yn arbennig mewn addysg ysgolion uwchradd. Dyna pam y cynigiais welliant 2. Rhaid inni ystyried sut y gellir annog dysgu ieithoedd, megis Almaeneg, Sbaeneg, ac Eidaleg, yn ogystal â Ffrangeg, oherwydd natur ein cystadleuwyr Ewropeaidd. Mae cwmnïau, gyda chanolfannau mewn mannau eraill yn Ewrop, y gellid eu lleoli yng Nghymru. Mae gormod o bwyslais ar Ffrangeg a dylem wneud mwy i annog pobl i ddysgu ieithoedd eraill.

The statistics on the take-up of languages by students between the ages of 14 and 19 reveal a worrying trend, as the Minister rightly said. In 2000, 39 per cent of 15-year-olds took a general certificate of secondary education in a modern foreign language. There has been a drop of around 20 per cent in the take-up of modern foreign languages at A-level since 1996. Page 14 of the report refers to the core provision of Welsh as a second language and states that:

Mae’r ystadegau o ran nifer y myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed sy’n dysgu ieithoedd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder, fel y dywedodd y Gweinidog. Yn 2000, safodd 39 y cant o ddisgyblion 15 oed dystysgrif gyffredinol addysg uwch mewn iaith dramor fodern. Bu gostyngiad o tua 20 y cant yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio ieithoedd tramor modern ar lefel safon Uwch ers 1996. Mae tudalen 14 yr adroddiad yn cyfeirio at ddarpariaeth graidd y Gymraeg fel ail iaith gan ddatgan:

‘some people take the view that the core provision for Welsh as a second language will give them sufficient experience of language learning.’

That suggests that, because they study Welsh as a core subject, students feel that that gives them sufficient language skills and they therefore do not need to study a modern foreign language. I would like to see the evidence for that. However, I do not necessarily agree with the premise. It may be the case that, because the teaching of Welsh at key stage 4 is complusory, many students feel that they do not want to learn another language. I wonder whether the compulsory teaching of Welsh at key stage 4 has damaged the learning of modern foreign languages. When considering that and the curriculum provision—

Mae hynny’n awgrymu, gan eu bod yn astudio Cymraeg fel pwnc craidd, bod myfyrwyr o’r farn ei fod yn rhoi digon o sgiliau ieithyddol iddynt ac felly nad oes angen iddynt astudio iaith dramor fodern. Hoffwn weld y dystiolaeth i ategu hynny. Fodd bynnag, nid wyf o reidrwydd yn cytuno â’r rhagosodiad. Mae’n bosibl bod llawer o fyfyrwyr o’r farn nad ydynt am ddysgu iaith arall am fod addysgu Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4 yn orfodol. Tybed a yw’r ffaith fod dysgu Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4 yn orfodol wedi effeithio’n andwyol ar ddysgu ieithoedd tramor modern. Wrth ystyried hynny a’r ddarpariaeth gwricwlaidd—

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 84

Gareth Jones spoken in Welsh p. 84

Yr ydych yn gwneud pwynt pwysig ynghylch dysgu’r Gymraeg yng nghyfnod allweddol 4. Fodd bynnag, y drafferth yw, o bosibl, nad yw’n cael ei dysgu mor effeithiol ag y dylai fod, oherwydd diffyg adnoddau. Dyna’r anhawster ac y mae’n glir bod yn rhaid i ni edrych ar y ddarpariaeth yn hytrach na cheisio creu dadl o blaid cael gwared â dysgu’r Gymraeg yn y cyfnod pwysig hwnnw.

You make an important point about the teaching of Welsh at key stage 4. However, the trouble is that it may not be taught as effectively as it should be, because of a lack of resources. That is the difficulty and it is clear that we should examine the provision rather than try to create an argument in favour of getting rid of the teaching of Welsh at that important stage.

Jonathan Morgan spoken in English p. 85

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 85

That is an important point. However, given how Welsh is taught today and the fact that there are not enough resources for Welsh-medium provision and Welsh-language training at an early age, many young people, unfortunately, treat Welsh as a foreign language. They are not used to it, do not use it and do not engage with people in their communities who can speak it. To them, the learning of Welsh is foreign. The fact that it is compulsory may affect whether or not they take up a European modern foreign language. We need to examine, in some detail, how the curriculum is taught. We know that the teaching of Welsh at key stage 4 may not be producing more Welsh speakers. Similarly, the teaching of modern foreign languages at key stage 4 may not be producing people who are conversant in French, German, and Spanish. In conclusion, there are several important points in this report that are worth considering. Increasing the take-up of modern foreign languages—

Mae hynny’n bwynt pwysig. Fodd bynnag, o gofio sut yr addysgir Cymraeg heddiw a’r ffaith nad oes digon o adnoddau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a hyfforddiant Cymraeg ar oedran cynnar, yn anffodus mae llawer o bobl ifanc yn trin y Gymraeg fel iaith dramor. Nid ydynt yn gyfarwydd â hi, nid ydynt yn ei defnyddio ac nid ydynt yn sgwrsio â phobl yn eu cymunedau a all ei siarad. Iddynt hwy, mae dysgu’r Gymraeg yn estron. Gallai’r ffaith ei bod yn orfodol effeithio ar eu dewis i astudio iaith dramor fodern Ewropeaidd ai peidio. Mae angen inni archwilio, yn fanwl, sut yr addysgir y cwricwlwm. Gwyddom nad yw addysgu Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4 o bosibl yn cynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg. Yn yr un modd, mae’n bosibl nad yw addysgu ieithoedd tramor modern yng nghyfnod allweddol 4 yn cynhyrchu pobl sy’n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg. I gloi, mae llawer o bwyntiau pwysig yn yr adroddiad hwn sy’n werth eu hystyried. Mae cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd tramor modern—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 85

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

Order. Jonathan you have now had six and a half minutes in which to speak. I will allow one more sentence.

Trefn. Jonathan yr ydych yn awr wedi bod yn siarad am chwe munud a hanner. Caniatâf un frawddeg arall.

Jonathan Morgan spoken in English p. 85

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 85

I will wind up with this point.

Dyma fydd fy mhwynt olaf.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 85

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

Wind up with a sentence, not a point.

A allech orffen gyda brawddeg, nid pwynt.

Jonathan Morgan spoken in English p. 85

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 85

The use of language assistants could be valuable in teaching of languages—modern foreign languages as well as Welsh—and in encouraging students to take them up in the future.

Gallai defnyddio cynorthwywyr iaith fod yn werthfawr wrth addysgu ieithoedd—ieithoedd tramor modern yn ogystal â Chymraeg—ac wrth annog myfyrwyr i’w hastudio yn y dyfodol.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 85

Gareth Jones spoken in Welsh p. 85

Mae’r cynnig yn ein gwahodd i nodi gyda phryder y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n dysgu ieithoedd tramor yng Nghymru. Yn wir, mae cynnwys y ddogfen yn peri pryder a syndod ynghylch sefyllfa sy’n gwaethygu yn ein hysgolion ac sydd angen gweithredu ar fyrder i’w hadfer.

The motion invites us to note with concern the decrease in the number of young people who are learning foreign languages in Wales. Indeed, the document’s content causes surprise and concern about the deteriorating situation in our schools, which, to be resolved, will require urgent action.

Fe’m hatgoffir bod y strategaeth ‘yn ymwneud â galluogi Cymru i chwarae ei rhan ar y llwyfan byd-eang.’ Mae’n datgan, ‘Drwy gynyddu ein gallu cenedlaethol mewn ieithoedd byddwn yn lleoli Cymru yn fwy cadarn byth o fewn cyd-destun rhyngwladol.’ Yr wyf yn falch fod cydnabyddiaeth o safle’r Saesneg a’r Gymraeg yn ein cyfundrefn addysg a hyfforddiant wedi ei sicrhau. Golyga hyn ein bod yn dechrau o bwynt cychwyn penodol Cymreig, hynny yw, fod dwyieithrwydd yn gryfder y dylem fanteisio arno wrth ddysgu ieithoedd eraill.

I am reminded that the strategy relates ‘to enabling Wales to play its part on the international stage.’ It states, ‘By increasing our national ability in languages, we will be positioning Wales even more firmly in an international context.’ I am glad that there is recognition that the position of English and Welsh in our education and training system has been secured. That means that we have started from a specifically Welsh starting point, namely that bilingualism is a strength that we should take advantage of when learning other languages.

Er hynny, rhaid cydnabod bod gennym ffordd sylweddol i fynd cyn y gallwn ddweud ein bod yn fodlon ar safon a chyflwr ein dwyieithrwydd heb sôn am fwrw ymlaen i wella ein cyrhaeddiad mewn ieithoedd modern. Efallai mai dyna yr oedd Jonathan yn cyfeirio ato.

However, we must recognise that we have a long way to go before we can say that we are entirely happy with the quality and condition of our bilingualism, let alone progressing to improve our attainment in foreign languages. Perhaps that was what Jonathan was referring to.

Rhaid inni, am resymau a amlinellir yn y strategaeth, fynd i’r afael â’r gwendid amlwg mewn dysgu ieithoedd modern. Mae’r disgrifiad o’r sefyllfa bresennol yng Nghymru yn dweud y cyfan. Nid ymhelaethaf ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog a Jonathan Morgan. Mae’n sefyllfa druenus, a dweud y lleiaf.

We must, for reasons outlined in the strategy, tackle the evident weakness in teaching modern languages. The description of the current situation in Wales says it all. I will not expand on what was said by the Minister and by Jonathan Morgan. It is a pitiful situation, to say the least.

Mae gweithredu ar fyrder yn un o brif negeseuon y strategaeth, a chytunaf â’r Gweinidog yn hyn o beth. Dyna pam na theimlwn fod gwelliannau Jonathan Morgan yn cyfoethogi nac yn ychwanegu at y strategaeth. Dim ond ailadrodd byrdwn y strategaeth a wnânt. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar y bygythiad i’n gallu i gystadlu yn Ewrop yn y dyfodol ac, o’r herwydd, mae’r ddau welliant yn ddiangen. Yr ydym wedi gwrando ar Jonathan; fodd bynnag, byddwn yn ymatal ar y ddau welliant.

Taking urgent action is one of the main messages of the strategy, and I agree with the Minister on that. That is why we do not feel that Jonathan Morgan’s amendments strengthen or add to the strategy. They only repeat the burden of the strategy. The strategy focuses on the threat to our ability to compete in Europe in future and, as a result, the two amendments are unnecessary. We have listened to Jonathan; however, we will abstain on both amendments.

Mae ceisio gwella’r sefyllfa yn her arbennig. Mae dylanwad y Saesneg yn rymus ac mae’n tanseilio ein hewyllys i ddysgu ieithoedd tramor. Mae’n hawdd holi beth yw’r pwynt. Mae’n syndod deall nad oes gan yr un awdurdod addysg lleol yng Nghymru ymgynghorydd ieithoedd tramor amser llawn ar hyn o bryd. Mae’r strategaeth yn gofyn inni gryfhau rhwydwaith yr ymgynghorwyr ieithoedd tramor, fel y gellir monitro adrannau ac fel bod athrawon ieithoedd yn cael adborth ar eu perfformiad a chanllawiau ar sut i wella. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn pwyso ar Estyn o safbwynt y rôl hon. Yr oeddwn yn siomedig, o ddarllen adroddiad Estyn ar gyfer eleni, mai prin yw’r cyfeiriadau at ddysgu ieithoedd modern yn ein hysgolion. Derbyniaf y gwneir cyhoeddiad arall i gyd-fynd â’r strategaeth hon.

Trying to improve the situation is a great challenge. The influence of the English language is strong and it undermines our desire to learn foreign languages. It is easy to ask whether there is any point. It is surprising to discover than no local education authority in Wales currently has a full-time foreign language adviser. The strategy requires us to strengthen the network of foreign language advisers, so that departments can be monitored and so that language teachers receive feedback on their performance and guidelines on how to improve. I hope that the Minister will put pressure on Estyn in terms of this role. I was disappointed, having read Estyn’s report for this year, that there was little reference to teaching modern languages in our schools. I accept that another announcement will be made to coincide with this strategy.

Nid yw amser yn caniatáu imi restu’r holl bethau da yn y strategaeth, megis sefydlu CILT Cymru, atgyfnerthu rôl ymgynghorwyr, cefnogi a threialu dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd a sicrhau bod pawb yn y sector uwchradd yn ymwybodol o’r hyn y mae disgyblion cynradd yn ei ddysgu. Mae nifer o bethau i’w canmol a’u croesawu. Yr wyf yn falch fod y strategaeth yn cydnabod rôl allweddol cynorthwywyr ieithoedd modern yn ein hysgolion ac y bydd mwy o gefnogaeth iddynt.

Time does not allow me to list all the good things in the strategy, such as the creation of CILT Cymru, strengthening the role of advisers, supporting and piloting the teaching of foreign languages in primary schools and ensuring that everyone in the secondary sector is aware of what primary pupils are learning. There are many things to be commended and welcomed. I am pleased that the strategy recognises the key role of modern language assistants in our schools and that they will receive more support.

Mae’r strategaeth yn llwyddo i dynnu sylw at sefyllfa annerbyniol ac yn cyflwyno syniadau newydd y dylem eu mabwysiadu ar fyrder. Fodd bynnag, peidied neb â thanamcangyfrif maint y sialens. Mae angen newid agweddau ac ennill meddyliau a chalonnau. Gwelwn o’r rhesymau a gyflwynir yn y strategaeth pam mae myfyrwyr yn cefnu ar ddysgu ieithoedd tramor. Ni allwn newid y sefyllfa dros nos.

The strategy succeeds in drawing attention to the unacceptable situation and introduces new ideas which we should urgently adopt. However, we should not underestimate the size of the challenge. We need to change attitudes and win over hearts and minds. We see from the reasons presented in the strategy why students turn their backs on learning foreign languages. We cannot change the situation overnight.

Er mwyn i’r strategaeth lwyddo, rhaid cael newidiadau a mwy o hyblygrwydd yn ein hysgolion. Nid amserlennu gwersi mewn blociau o awr yw’r trefniant gorau ar gyfer dysgu iaith dramor. Mae angen cysylltiad dyddiol i gynnal diddordeb a momentwm.

In order for the strategy to succeed, changes must be made and more flexibility is needed in our schools. Timetabling lessons in hour-long blocks is not the best way to learn a foreign language. Daily contact is needed to maintain interest and momentum.

Credaf fod y strategaeth yn ein harwain i’r cyfeiriad cywir. Dylem gofio bod gennym athrawon ac ysgolion sydd eisoes yn llwyddo, er yr holl anfanteision. Gallwn adeiladu ar hynny. Erfyniaf ar y Gweinidog i rymuso’r strategaeth drwy gynnwys maint y buddsoddiad ariannol a fydd ar gael i’n hysgolion a’n hawdurdodau addysg, yn gyfochrog ag amserlen. Os ydym eisiau gwrthdroi’r duedd anffodus ddiweddar yng Nghymru, rhaid creu strategaeth lawer manylach sy’n canolbwyntio’n fwy ar elfennau ariannol ac amseru, yn hytrach na’r strategaeth benagored hon.

I believe that the strategy leads us in the right direction. We should remember that we have teachers and schools that already succeed, despite all the disadvantages. We can build on that. I urge the Minister to strengthen the strategy by including the amount of financial investment that will be available to our schools and our education authorities, alongside a timetable. If we want to reverse the unfortunate recent tendency in Wales, we need a much more detailed strategy, which places more emphasis on financial elements and timetabling, rather than this open-ended strategy.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 88

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 88

I will not be calling any other speaker from the opposition, although there will be at least two speakers from every other party. That is why I allowed five minutes for Gareth Jones to speak. From now on, speeches will be limited to three minutes.

Ni fyddaf yn galw ar unrhyw siaradwr arall o’r wrthblaid, er y bydd o leiaf dau siaradwr o bob plaid arall. Dyna pam y caniateais bum munud i Gareth Jones siarad. O hyn ymlaen, cyfyngir yr areithiau i dri munud.

Mick Bates spoken in English p. 88

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 88

I am grateful to the Minister for presenting this welcome strategy and the proposed action. Wales has a long tradition of liberal internationalism, of which we can all be proud. Those values have guided us well in the past. In a global, integrated, knowledge-based economy, the people of Wales need to be armed with the skills to be able to participate fully. Wales is already a country of many languages, not just two. Our linguistic uniqueness in Britain gives us a head start over the Scots, the English and the Irish. In this global economy, we need an edge over our competitors. For too long, foreign languages in Wales have been neglected. Only 44 per cent of pupils aged 14 are reaching the expected level of attainment in a modern foreign language. In 2000, for example, only 72 people in Wales gained a qualification at GCSE or A-level in the four most spoken south Asian languages. Despite the Asian crisis that occurred a few years ago, the Asian tiger economies continue to be a significant and growing influence in the global economy. They have invested in Wales and provided jobs for many people, often from deprived communities. We must replicate such investments. An ability to speak the investors’ language will facilitate that process.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am gyflwyno’r strategaeth hon, a groesewir, a’r camau gweithredu arfaethedig. Mae gan Gymru draddodiad hir o ryngwladoldeb rhyddfrydol, y gallwn oll ymfalchïo ynddo. Bu’r gwerthoedd hynny yn ein tywys yn dda yn y gorffennol. Mewn economi integredig, fyd-eang yn seiliedig ar wybodaeth, mae angen sicrhau bod pobl Cymru yn meddu ar y sgiliau i allu cymryd rhan lawn. Mae Cymru eisoes yn wlad ac iddi lawer o ieithoedd, nid dwy yn unig. O ganlyniad i’n natur ieithyddol unigryw ym Mhrydain, mae gennym fantais dros bobl yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Yn yr economi fyd-eang hon, mae angen mantais arnom dros ein cystadleuwyr. Am ormod o amser, esgeuluswyd ieithoedd tramor yng Nghymru. Dim ond 44 y cant o ddisgyblion 14 oed sy’n cyrraedd y lefel cyrhaeddiad ddisgwyliedig mewn iaith dramor fodern. Yn 2000, er enghraifft, dim ond 72 o bobl yng Nghymru a enillodd gymhwyster ar lefel TGAU neu safon Uwch yn y pedair iaith de Asiaidd a siaredir fwyaf. Er gwaethaf yr argyfwng Asiaidd a welwyd ychydig flynyddoedd yn ôl, parhaodd economïau teigr Asia yn ddylanwad arwyddocaol a chynyddol yn yr economi fyd-eang. Maent wedi buddsoddi yng Nghymru gan ddarparu swyddi i lawer o bobl, yn aml o gymunedau difreintiedig. Rhaid inni ddynwared buddsoddiadau o’r fath. Bydd gallu i siarad iaith y buddsoddwyr yn hwyluso’r broses honno.

In these days of international conflict, understanding and appreciating other cultures and languages is vital. French and Spanish, for example, are widely spoken around the globe. Spanish is the second most spoken language in the world. Many people in Africa and the far east speak French, not English. The BBC’s motto is ‘Nation shall speak peace unto nation’. Our future generations will be entrusted with ensuring that the twenty-first century is less violent than the twentieth. In order for them to speak about peace to other cultures, they must be able to speak the language of those cultures, or at least one of them. The Liberal Democrats welcome the work of the Centre for Information on Language Teaching and Research Cymru and we look forward to strengthening the partnerships and building on the good practice that already exists.

Yn yr oes sydd ohoni o wrthdaro rhyngwladol, mae deall a gwerthfawrogi diwylliannau ac ieithoedd eraill yn hanfodol. Siaredir Ffrangeg a Sbaeneg, er enghraifft, yn helaeth ledled y byd. Sbaeneg yw’r iaith a siaredir fwyaf ond un yn y byd. Mae llawer o bobl yn Affrica a’r dwyrain pell yn siarad Ffrangeg, nid Saesneg. Arwyddair y BBC yw ‘Nation shall speak peace unto nation’. Byddwn yn ymddiried yng nghenedlaethau’r dyfodol i sicrhau bod yr unfed ganrif ar hugain yn llai treisgar na’r ugeinfed ganrif. Er mwyn iddynt sôn am heddwch wrth ddiwylliannau eraill, rhaid iddynt allu siarad iaith y diwylliannau hynny, neu o leiaf un ohonynt. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesawu gwaith y Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth am Addysgu ac Ymchwil Ieithoedd Cymru ac edrychwn ymlaen at atgyfnerthu’r partneriaethau ac adeiladu ar yr arferion da sy’n bodoli eisoes.

Language also extends the ability to think. Without language, there is no thought. Different languages allow people to express concepts in new ways. Studies show that multilingualism improves the usage of the mother tongue. I will move on now from the philosophical part of my speech.

Mae iaith hefyd yn ymestyn y gallu i feddwl. Heb iaith, ni cheir meddwl. Mae gwahanol ieithoedd yn caniatáu i bobl fynegi cysyniadau mewn ffyrdd newydd. Dengys astudiaethau fod amlieithrwydd yn gwella’r defnydd o’r famiaith. Symudaf ymlaen yn awr o ran athronyddol fy araith.

Foreign languages should be taught at key stages 1 and 2. However, it is equally important that students on non-specialist courses in higher education receive support to learn a foreign language. A chemist, as much as an artist, needs a foreign language. I am sure that the Minister will share my concern that the University of Wales, Bangor, is considering removing the support for non-specialist courses.

Dylid addysgu ieithoedd tramor yng nghyfnodau allweddol 1 a 2. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig i fyfyrwyr ar gyrsiau anarbenigol mewn addysg uwch dderbyn cymorth i ddysgu iaith dramor. Mae angen iaith dramor ar gemegydd i’r un graddau ag artist. Yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn rhannu fy mhryder bod Prifysgol Cymru, Bangor, yn ystyried diddymu’r cymorth a ddarperir i gyrsiau anarbenigol.

It seems common sense that we concentrate on learning another language as soon as we have mastered the skill of the first. This strategy will enrich Wales culturally, intellectually, politically, and economically. I urge the Assembly to support it.

Synnwyr cyffredin fyddai canolbwyntio ar ddysgu iaith arall cyn gynted ag y byddwn wedi meistroli sgil iaith gyntaf. Bydd y strategaeth hon yn cyfoethogi Cymru yn ddiwylliannol, yn ddeallusol, yn wleidyddol, ac yn economaidd. Erfyniaf ar y Cynulliad i’w chefnogi.

Gwenda Thomas siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 89

Gwenda Thomas spoken in Welsh and English p. 89

Croesawaf strategaeth iaith dramor fodern Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhannaf y pryder am y dirywiad diweddar yn y nifer sy’n dysgu iaith dramor, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Dywedodd y dramodydd Almaeneg, Goethe, na ŵyr y sawl nad ydynt yn gyfarwydd â ieithoedd tramor ddim am eu hieithoedd eu hunain.

in Welsh I welcome the Welsh Assembly Government’s modern foreign language strategy and share the concern about the recent drop in the number of people learning a foreign language, especially among young people. The German playwright, Goethe, said that those who are not familiar with foreign languages know nothing about their own languages.

Fe ddaeth adroddiad ymchwiliad iaith Nuffield, ‘Languages: The Next Generation’, i gasgliadau dychrynllyd. Yr oedd naw o bob 10 plentyn yn rhoi’r gorau i ddysgu ieithoedd yn 16 oed. Ceid diffyg athrawon ieithoedd cymwys hefyd. Cytunaf â honiad adroddiad Nuffield nad yw Saesneg yn ddigon. Er y gwneir tua 70 y cant o bob cyfathrebu rhwng sefydliadau Ewropeaidd a sefydliadau yng ngweddill y byd yn Saesneg, ni ddylem fod yn blasé wrth feddwl mai’r gallu i siarad Saesneg yn unig sydd arnom ei angen i lwyddo yn y byd. Yn groes i’r hyn a gredir, mae mwy o bobl yn awr yn defnyddio ieithoedd ar wahân i’r Saesneg wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Yn ôl fy ymchwil, cyn bo hir, bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn defnyddio Tsieinëeg.

in Welsh The Nuffield language inquiry report, ‘Languages: The Next Generation’, came to disturbing conclusions. Nine children out of 10 gave up learning languages at 16 years of age. There was also a lack of qualified language teachers. I agree with the Nuffield report’s claim that English is not enough. Although 70 per cent of all communications between European and worldwide organisations is in English, we should not be blasé and think that we need only to speak English to succeed in the world. Contrary to what is believed, when using the internet, more people now use languages other than English. According to my research, soon most internet users will soon be using Chinese.

Ers cyhoeddi adroddiad Nuffield, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ymhellach gyda gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch mewn ieithoedd tramor. Un broblem fyd-eang yw’r prinder cronig o athrawon ieithoedd. Nododd adroddiad Nuffield fod angen llawer mwy ohonynt yn y Deyrnas Unedig. Rhaid inni ganfod ffyrdd o gywiro’r prinder hwn.

in Welsh Since the publication of the Nuffield report, the situation has deteriorated further, with a reduction in the number of students sitting GCSE and A-level examinations in foreign languages. One worldwide problem is the chronic lack of language teachers. The Nuffield report noted that many more are needed in the UK. We must find ways to rectify that shortage.

The Assembly strategy document states that the Assembly Government wants to encourage and develop the learning of modern languages in Wales. Moreover, the strategy’s aim includes improving the take-up and standard of foreign language learning, particularly beyond the ages of 14 to 16. Many speakers have made that point this morning. Schools, pupils and parents need to increase their recognition of the importance of language learning.

yn Saesneg Noda dogfen strategaeth y Cynulliad fod Llywodraeth y Cynulliad am annog a datblygu dysgu ieithoedd modern yng Nghymru. At hynny, mae nod y strategaeth yn cynnwys cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu iaith dramor a safon eu dysgu, yn arbennig y tu hwnt i 14 i 16 oed. Pwysleisiwyd y pwynt hwnnw gan lawer o siaradwyr y bore yma. Mae angen i ysgolion, disgyblion a rhieni gynyddu eu cydnabyddiaeth o bwysigrwydd dysgu ieithoedd.

I welcome this strategy but we must begin in primary school. To postpone the understanding of foreign languages makes no sense. Once a child has learnt a second language, it carries on into the latter stages of learning. Despite the fact that the United Kingdom as a whole does not excel in learning languages, we in Wales have an advantage, as the Minister stated. We have a bilingual culture, which is unique to Wales. As the strategy document states, all our children have a head start when it comes to learning other languages because they grow up with, at least, some ability in a second language. I also welcome the Centre for Information on Language Teaching and Research’s plan to deliver a programme to support language learning in Wales. It aims to work in close partnership with all relevant agencies such as Education and Learning Wales, ACCAC and Estyn.

yn Saesneg Croesawaf y strategaeth hon ond rhaid inni ddechrau yn yr ysgol gynradd. Nid yw gohirio’r broses o ddeall ieithoedd tramor yn gwneud unrhyw synnwyr. Unwaith y bydd plentyn wedi dysgu ail iaith, mae’n parhau i’r camau olaf o ddysgu. Er gwaethaf y ffaith nad yw’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn rhagori wrth ddysgu ieithoedd, mae gennym fantais yma yng Nghymru, fel y dywedodd y Gweinidog. Mae gennym ddiwylliant dwyieithog, sy’n unigryw i Gymru. Fel y noda’r ddogfen strategaeth, mae gan bob un o’n plant fantais o ran dysgu ieithoedd eraill gan eu bod yn cael eu magu gydag o leiaf rhywfaint o allu mewn ail iaith. Croesawaf hefyd gynllun y Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Ieithoedd i gyflwyno rhaglen i gynorthwyo wrth ddysgu ieithoedd yng Nghymru. Mae’n bwriadu gweithio mewn partneriaeth agos gyda’r holl asiantaethau perthnasol megis Dysgu ac Addysgu Cymru, ACCAC ac Estyn.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 91

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 91

Order. Will you wind up please?

Trefn. A fyddech cystal â dirwyn i ben?

Gwenda Thomas spoken in English p. 91

Gwenda Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 91

On 16 January this year, the House of Lords held a debate on this subject and I will end by quoting from Baroness Hooper’s speech. She stated that:

Ar 16 Ionawr eleni, cynhaliodd Tŷ’r Arglwyddi ddadl ar y pwnc hwn a gorffennaf drwy ddyfynnu o araith y Farwnes Hooper. Datganodd:

‘It must be brought home to children that a knowledge of foreign languages does not come out of the atmosphere, as one’s mother tongue seems to do—it has to be learnt.’

The best place to start is in our primary schools.

Y lle gorau i ddechrau yw yn ein hysgolion cynradd.

Karen Sinclair spoken in English p. 91

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 91

It is particularly worrying that the number of pupils who learn a foreign language in the 14 to 19 age group has fallen dramatically. We need to examine why these figures are lower in Wales than in England. It may be a difficult question to explore but we must explore it. However, increasing the take up of modern foreign languages in schools is only part of the solution. I fully support the references made today to language learning at college, university, and in the workplace. I have been heavily involved in an exciting project, which has been co-ordinated by the European Centre for Traditional and Regional Cultures in Llangollen under the auspices of the Leonardo programme. The project, which aims to enhance employment prospects for young people in Wales, was excellent. The initial trip included 51 vocational trainees who studied and worked abroad under a 13-week placement programme in Spain, France and Germany. The organisers gave priority to a proportion of young people who were at risk of being socially excluded and also sought to obtain permission to include five people who where over the Leonardo programme age limit. Before leaving the UK, these participants attended a one-month preparatory course at Llysfasi. Match funding from the Assembly supported part of the project.

Mae’r ffaith fod nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn y grŵp oedran 14 i 19 wedi gostwng yn ddramatig yn peri pryder arbennig. Mae angen inni ystyried pam bod y ffigurau hyn yn is yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae’n bosibl y bydd yn gwestiwn anodd i’w archwilio ond rhaid inni ei archwilio. Fodd bynnag, dim ond rhan o’r ateb yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion. Cefnogaf yn llwyr y cyfeiriadau a wnaed heddiw at ddysgu ieithoedd yn y coleg, y brifysgol, ac yn y gweithle. Bûm yn cymryd rhan mewn prosiect cyffrous, a gydlynwyd gan y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Diwylliannau Traddodiadol a Rhanbarthol yn Llangollen o dan nawdd rhaglen Leonardo. Yr oedd y prosiect, sy’n anelu at wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc yng Nghymru, yn ardderchog. Yr oedd y daith gychwynnol yn cynnwys 51 o hyfforddeion galwedigaethol a astudiodd ac a weithiodd dramor o dan raglen lleoliadau 13-wythnos yn Sbaen, Ffrainc a’r Almaen. Rhoddodd y trefnwyr flaenoriaeth i gyfran o bobl ifanc a oedd mewn perygl o gael eu hallgáu yn gymdeithasol a cheisiodd hefyd gael caniatâd i gynnwys pum person oedd yn hŷn na therfyn oedran rhaglen Leonardo. Cyn gadael y DU, mynychodd y cyfranogwyr hyn gwrs paratoi mis o hyd yn Llysfasi. Cefnogwyd rhan o’r prosiect ag arian cyfatebol gan y Cynulliad.

I do not want to labour my way through this because I know that time is tight. However, there are real advantages from capitalising on the Leonardo programme and I would encourage Jane Davidson to ask people to bid in rather than wait for them to come in. We should not only be actively supporting Leonardo bids, but also promoting them so that as many young people as possible get the opportunity to experience other languages and cultures, which is so beneficial. I am pleased that Members have referred to language assistants, but I would prefer to see more assistants on the ground. I have a daughter who has spent time in France as a language assistant with students from all over Europe and Russia, and therefore I know the benefits for young people of having language students and assistants. Our schools should take this matter more seriously and should attract young assistants so that our students are given that cultural experience. We do not have enough language assistants, Jane, therefore we should promote the Leonardo programme.

Nid wyf am rygnu ymlaen gan fy mod yn gwybod bod amser yn brin. Fodd bynnag, mae manteision gwirioneddol i’w cael yn sgîl rhaglen Leonardo a hoffwn annog Jane Davidson i ofyn i bobl wneud cais yn hytrach nag aros iddynt ymuno. Dylem hyrwyddo ceisiadau Leonardo yn ogystal â’u cefnogi er mwyn i gymaint o bobl ifanc â phosibl gael y cyfle i brofi ieithoedd a diwylliannau eraill, sydd mor fuddiol. Yr oeddwn yn falch i’r Aelodau gyfeirio at gynorthwywyr iaith, ond byddai’n well gennyf weld mwy o gynorthwywyr ar lawr gwlad. Mae gennyf ferch a dreuliodd gyfnod yn Ffrainc fel cynorthwy-ydd iaith gyda myfyrwyr o bob rhan o Ewrop a Rwsia, ac felly gwn pa mor fuddiol yw myfyrwyr a chynorthwywyr iaith i bobl ifanc. Dylai ein hysgolion roi ystyriaeth fwy difrifol i’r mater hwn a dylent ddenu cynorthwywyr ifanc er mwyn rhoi’r profiad diwylliannol hwnnw i’n myfyrwyr. Nid oes gennym ddigon o gynorthwywyr iaith, Jane, felly dylem hyrwyddo rhaglen Leonardo.

David Davies spoken in Welsh and English p. 92

David Davies siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 92

I am delighted to have the opportunity to speak about this because I have a personal interest in learning languages. I will make two points. The first is that we have an enormous amount to learn from how adults are taught Welsh. I remember well my experience of learning French and German in school: it was a case of sitting behind a desk writing verbs. It puts many people off learning languages as adults. Contrast that with my experience of learning Welsh as an adult: the emphasis has been on the spoken word and allowing reading, writing and grammar to follow. The techniques used are highly innovative: videos of soap operas, games, arguments with Mike German in order to practice the negative, and a night out in a pub—although I am not suggesting that it would be useful for sixth formers to copy that. However, those techniques were developed to help people overcome their natural shyness when learning a second language. We should examine these techniques and seek to incorporate them in the teaching of languages.

yn Saesneg Mae’n bleser gennyf gael cyfle i siarad am y pwnc hwn gan fod gennyf ddiddordeb personol mewn dysgu ieithoedd. Gwnaf ddau bwynt. Y cyntaf yw bod gennym lawer i’w ddysgu o’r ffordd yr addysgir Cymraeg i oedolion. Gallaf gofio fy mhrofiad o ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol: achos o eistedd y tu ôl i ddesg yn ysgrifennu berfau. Golyga nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb mewn dysgu ieithoedd fel oedolion. Mae fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg fel oedolyn yn wrthgyferbyniad llwyr: bu’r pwyslais ar siarad Cymraeg gyda darllen, ysgrifennu a gramadeg yn dilyn. Mae’r technegau a ddefnyddir yn arloesol iawn: fideos o operâu sebon, gemau, dadlau gyda Mike German er mwyn ymarfer y negyddol, a noson allan mewn tafarn—er nad wyf yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol i fyfyrwyr chweched dosbarth efelychu hynny. Fodd bynnag, datblygwyd y technegau hynny i helpu pobl i oresgyn eu swildod naturiol wrth ddysgu ail iaith. Dylem archwilio’r technegau hyn a cheisio eu hymgorffori wrth addysgu ieithoedd.

My second point is that when we frame policies we should ask a basic question that is too often overlooked: at what point does knowledge of a language become useful? Is it at 100 words, at 1,000, at 5,000 or at fluency?

yn Saesneg Fy ail bwynt yw y dylem wrth fframio polisïau ofyn cwestiwn sylfaenol a ddiystyrir yn aml: ar ba adeg y daw gwybodaeth am iaith yn ddefnyddiol? Ai ar 100 o eiriau, ar 1,000, ar 5,000 neu pan fyddwch yn rhugl?

The answer varies, but in some cases, and at a basic level, it is possible to communicate with only 100 words. With 1,000 and knowledge of the verb structure and, perhaps, the tenses—just a basic knowledge—it is possible to have a fairly stilted but interesting conversation with people who cannot speak English. The grammar is not so important at that stage. According to the report, which I believe, teenagers do not see the point of learning foreign languages. Some of them do not feel that it has an employment value. However, I employed people and even the most basic knowledge of French and German was highly useful because it allowed them to communicate and express a few pleasantries with potential customers. Just that ability to speak about 1,000 words and some knowledge of tenses is useful.

yn Saesneg Mae’r ateb yn amrywio, ond mewn rhai achosion, ac ar lefel sylfaenol, mae’n bosibl cyfathrebu gyda dim ond 100 o eiriau. Gyda 1,000 a gwybodaeth am strwythur berfau ac, o bosibl, yr amseroedd—gwybodaeth sylfaenol yn unig—mae’n bosibl cael sgwrs gymharol dameidiog ond diddorol gyda phobl na allant siarad Saesneg. Nid yw’r ramadeg mor bwysig yn ystod y cam hwnnw. Yn ôl yr adroddiad, a gredaf, nid yw pobl ifanc yn eu harddegau yn gweld pwynt dysgu ieithoedd tramor. Mae rhai ohonynt o’r farn nad oes iddo werth cyflogaeth. Fodd bynnag, bûm innau’n cyflogi pobl ac yr oedd hyd yn oed y wybodaeth fwyaf sylfaenol o Ffrangeg ac Almaeneg yn ddefnyddiol iawn gan ei bod yn caniatáu iddynt gyfathrebu a mynegi ychydig gyfarchion â darpar gwsmeriaid. Mae’r gallu hwnnw i siarad tua 1,000 o eiriau a rhywfaint o wybodaeth am amser y ferf yn ddefnyddiol.

Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol o ran y Gymraeg. Gofynnaf y cwestiwn eto: ar ba bwynt mae gwybodaeth am iaith yn ddefnyddiol? Mae’n rhaid siarad Cymraeg i safon eithaf da cyn iddi fod yn ddefnyddiol oherwydd bod rhywun sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg. Mae’n demtasiwn newid i Saesneg. Credaf fod llawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig y tu allan i’r cyfryngau a gwleidyddiaeth, yn hapus i ddefnyddio’r Gymraeg â’u ffrindiau a’u teulu, ond nid ydynt mor gyfforddus wrth siarad â dysgwyr. Felly, er mwyn i’r Gymraeg fod yn ddefnyddiol, rhaid cyrraedd safon llawer yn well na’r safon lle bydd y Ffrangeg, yr Almaeneg, yr Hwngareg, ac ati, yn ddefynddiol.

in Welsh The situation is a little different as regards Welsh. I ask the question again: at what point is knowledge of a language useful? One must speak Welsh to quite a high standard before it becomes useful, because someone who speaks Welsh also speaks English. There is a temptation to switch to English. I believe that there are many Welsh speakers, especially outside the media and politics, who are happy to use Welsh with their friends and family, but who are not so comfortable talking to learners. Therefore, in order for Welsh to be useful, you must reach a standard that is much higher than the standard at which French, German, Hungarian, and so on, will be useful.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 93

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order. You need to wind up, David.

Trefn. Mae angen i chi ddirwyn i ben, David.

David Davies spoken in English p. 93

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 93

Our present policy turns out many people with a low standard of Welsh, so let us concentrate and tailor our policies to turn out people with a higher standard of Welsh. If it means fewer people, so be it. This is important and I am sorry that I must wind up. I feel for the Government; I have not spoken from a political standpoint, but from a personal standpoint. Put aside your political hatred of the Conservative Party and support my colleagues’ amendments. They are useful, and we can all work together to improve the standard of languages spoken in Wales.

Mae ein polisi presennol yn golygu bod llawer o bobl â safon isel o Gymraeg, felly gadewch inni ganolbwyntio a theilwra ein polisïau i er mwyn i bobl gael safon uwch o Gymraeg. Os bydd hynny’n golygu llai o bobl, rhaid derbyn hynny. Mae’n fater pwysig ac mae’n edifar gennyf fod yn rhaid imi ddirwyn i ben. Teimlaf dros y Llywodraeth; ni siaradais o safbwynt gwleidyddol, ond o safbwynt personol. Rhowch eich casineb gwleidyddol tuag at y Blaid Geidwadol i’r naill ochr a chefnogwch welliannau fy nghyd-Aelodau. Maent yn ddefnyddiol, a gallwn oll gydweithio i wella safon yr ieithoedd a siaredir yng Nghymru.

Delyth Evans: Je voulais vous adresser ce matin en français, mais, malheureusent—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 94

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 94

Order. Vous ne pouvez pas parler français ici—you are not allowed to speak French here.

Trefn. Vous ne pouvez pas parler français ici—ni chewch chi siarad Ffrangeg yma.

Delyth Evans siaradwyd yn Gymraeg t. 94

Delyth Evans spoken in Welsh p. 94

Yr oeddwn am siarad yn Ffrangeg yn y ddadl hon ond penderfynodd y Llywydd nad yw’n briodol imi wneud hynny, felly trof yn ôl i’m mamiaith. Yr oeddwn am ddweud—yn Ffrangeg—fod dysgu iaith estron yn yr ysgol wedi cyfoethogi fy mywyd. Yn gyntaf, rhoddodd imi fynediad i iaith arbennig o brydferth, ac i wlad a diwylliant arall. Mae wedi cyflwyno imi lenyddiaeth aruthrol o gyfoethog ac wedi fy helpu i fwynhau’r gwin gorau yn y byd. Felly mae dysgu iaith yn fwy na dysgu iaith yn unig; mae’n ymestyn eich dealltwriaeth ar bob math o lefelau eraill hefyd. Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae’n bwysig ehangu ein dealltwriaeth a’n goddefgarwch o ddiwylliannau gwahanol drwy ddysgu ieithoedd.

I wanted to speak in French in this debate but the Presiding Officer decided that it was not in order for me to do that, so I return to my mother tongue. I wanted to say—in French—that learning a foreign language at school had enriched my life. First, it gave me access to an especially beautiful language and to another country and culture. It has introduced me to an immensely rich literature and has helped me to enjoy the best wine in the world. Learning a language is, therefore, more than only learning a language; it also expands your understanding on all sorts of other levels. At the start of the twenty-first century, it is important to extend our understanding and tolerance of different cultures by learning languages.

Canolbwyntiaf ar bwysigrwydd cyflwyno ieithoedd eraill i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Pan oeddwn yn ifanc, yr oedd teulu arbennig yn byw drws nesaf inni. Yr oedd y fam yn Ffrances, y tad yn Sbaenwr a oedd yn alltud gwleidyddol o lywodraeth Franco yn Sbaen, ac yr oedd ganddynt fachgen bach tair oed. Yr oeddem yn byw mewn cymdeithas ddi-Gymraeg yng Nghaerdydd. Nid oedd y bachgen yn siarad gair o unrhyw iaith, ond pan ddechreuodd siarad yn dair oed, yr oedd yn rhugl mewn tair iaith—Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg. Mae plant yr oedran hwnnw mor agored i brofiadau newydd fel eu bod yn awchus i ddysgu ac i ymestyn eu hymennydd.

I will concentrate on the importance of introducing other languages to children during their early years. When I was young, a special family lived next door to us. The mother was French, the father was a Spaniard in political exile from the Franco regime, and they had a three-year-old boy. We lived in a non Welsh-speaking community in Cardiff. The boy did not speak a word of any language, but when he started talking at the age of three, he was fluent in three languages—French, Spanish, and English. Children of that age are so open to new experiences that they are eager to learn and stretch their minds.

Darllenais yn rhywle os na ddechreuwch ddefnyddio rhannau o’ch ymennydd erbyn cyrraedd saith oed, byddant yn dechrau cau. Mae Dai Lloyd, sy’n feddyg, yn amneidio bod gwirionedd yn hynny. Teimlaf, felly, y dylwn gyflwyno plant i ieithoedd estron cyn iddynt gyrraedd saith oed. Dylwn ddechrau siarad Ffrangeg, Sbaeneg, Siapaneg—neu ba iaith bynnag—â nhw yn gynt na hynny hyd yn oed.

I read somewhere that unless you start to use some parts of your brain by the time you are seven years’ old, they will start to shut down. Dai Lloyd, who is a doctor, is indicating that there is truth in that. Therefore, I feel that we should introduce foreign languages to children before they reach seven. We should start speaking French, Spanish, Japanese— or whatever language—with them even sooner than that.

Wedi dweud hynny, croesawaf y cynllun peilot hwn i gyflwyno ieithoedd modern mewn ysgolion cynradd, gan ei fod yn hanfodol ein bod yn rhoi mynediad i ieithoedd eraill i blant mor gynnar â hynny.

Having said that, I welcome this pilot to introduce modern languages in primary schools, as it is vital that we give children access to other languages as early as that.

Mae’r plant o gartrefi di-Gymraeg a welaf yn mynd i ysgolion cyfrwng-Cymraeg, yn gorffen eu blwyddyn gyntaf yn rhugl yn y Gymraeg. Mae hynny’n dystiolaeth o ba mor bwysig ydyw i ddysgu ieithoedd i blant mor ifanc â phosibl.

The children from non Welsh-speaking homes that I see attending Welsh-medium schools are fluent in Welsh at the end of their first year. That is proof of how important it is to teach languages to children as young as possible.

Mae Jack Laing, gweinidog addysg Ffrainc, wedi cyflwyno polisi o ddysgu un iaith estron i blant yn chwech oed, ac ail iaith estron yn 11 oed, gyda’r targed iddynt siarad tair iaith—Ffrangeg a dwy arall—erbyn iddynt gyrraedd 16 oed. Dyna’r ffordd y dylem symud ymlaen.

Jack Laing, the French education minister, has introduced a policy of teaching a first foreign language to children of six years of age, a second foreign language at 11 years, with the aim of speaking three languages—French and two others—by the time they turn 16. That is how we should move forward.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 95

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 95

Order. You must wind up, Delyth.

Trefn. Rhaid ichi ddirwyn i ben, Delyth.

Delyth Evans siaradwyd yn Gymraeg t. 95

Delyth Evans spoken in Welsh p. 95

Rhaid inni fod yn fentrus ac yn uchelgeisiol, gan fod manteision strategaeth o’r fath yn amlwg.

We must be innovative and ambitious, because the benefits of such a strategy are clear.

Eleanor Burnham spoken in English p. 95

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 95

We urgently need to create a language culture in Wales that is parallel in esteem to the science and technology culture at school level. That must mean collaboration between teaching English, Welsh, community and other foreign languages, both in the curriculum, planning, schemes of work and lesson plans so that what pupils learn in primary schools about English, Welsh and so on, can be built on systematically at secondary school level. Language teaching on a daily basis should be a joined-up effort that will serve all language learning. Like Mick Bates, I have heard about and deplore the axing of the language course modules for non-specialists at the University of Wales, Bangor. Last year, 300 students from every university department in Bangor registered for those courses, and I am sure that the Minister will agree that that goes against the grain of our aims.

Mae angen brys inni greu diwylliant ieithyddol yng Nghymru y rhoddir yr un parch iddo â’r diwylliant gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion. Rhaid i hynny olygu cydweithredu rhwng addysgu Saesneg, Cymraeg, ieithoedd cymunedol ac ieithoedd tramor eraill, yn y cwricwlwm, wrth gynllunio, mewn cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi fel y gellir adeiladu ar yr hyn a ddysga disgyblion mewn ysgolion cynradd am Saesneg, Cymraeg ac ati, yn systemataidd ar lefel ysgolion uwchradd. Dylai addysgu ieithoedd ar sail ddyddiol fod yn ymdrech gydlynus a fydd yn gwasanaethu pob math o ddysgu ieithoedd. Fel Mick Bates, clywais sôn y byddai’r modiwlau cyrsiau iaith anarbenigol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn cael eu diddymu a chredaf fod hynny’n gywilyddus. Y llynedd, cofrestrodd 300 o fyfyrwyr o bob adran o’r brifysgol ym Mangor ar gyfer y cyrsiau hynny, ac yr wyf yn siŵr y cytuna’r Gweinidog fod hynny’n groes i’n nodau.

Jonathan Morgan spoken in English p. 96

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 96

The Member may not be aware that the take-up of foreign language courses in higher education institutions in Wales has dropped by 45 per cent in the past four years.

Mae’n bosibl nad yw’r Aelod yn ymwybodol o’r ffaith bod nifer y bobl sy’n astudio cyrsiau ieithoedd tramor mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wedi gostwng 45 y cant yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Eleanor Burnham spoken in English p. 96

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 96

Internationally, our status is much enhanced by what Karen mentioned—language students. My daughter is currently in Vienna, and I met some of her colleagues last week. They are first class ambassadors for Wales and are raising the international profile of Wales greatly. We must support this Assembly language strategy.

Yn rhyngwladol, cyfoethogir ein statws yn fawr gan yr hyn y soniodd Karen amdano—myfyrwyr iaith. Mae fy merch yn Fienna ar hyn o bryd, a chyfarfûm â rhai o’i chyd-fyfyrwyr yr wythnos diwethaf. Maent yn llysgenhadon o’r radd flaenaf i Gymru ac yn llwyddo i godi proffil rhyngwladol Cymru yn sylweddol. Rhaid inni gefnogi’r strategaeth iaith hon gan y Cynulliad.

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 96

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 96

I thank everybody for their contributions to the debate. It is interesting that, generally, there is immense support for the strategy that we are taking forward. We believe—and I am grateful that our Plaid Cymru colleagues also believe—that the amendments are redundant because they are contained in the strategy. I can only assume that the strategy was not read before the amendments were tabled.

Diolchaf i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl. Mae’n ddiddorol bod cefnogaeth aruthrol yn gyffredinol i’r strategaeth yr ydym yn ei datblygu. Credwn—ac yr wyf yn ddiolchgar bod ein cyd-Aelodau o Blaid Cymru o’r un farn—nad oes gwerth i’r gwelliannau gan eu bod wedi’u cynnwys yn y strategaeth. Gallaf ond tybio na ddarllenwyd y strategaeth cyn i’r gwelliannau gael eu cyflwyno.

It would be a shame if we were not united on this today. I will respond to a couple of points, because everyone who has spoken has brought forward contributions that have somehow been addressed in the strategy. Gareth, this is the strategy and not the action plan. I am happy to work with partners and develop an action plan over the time and report to Committee, because we had a commitment to take urgent action, and that is why we are launching the strategy today. However, we will want to be clear with our partners about the timescale within which we expect them to do things.

Byddai’n drueni pe na byddem yn unfrydol ar y pwnc hwn heddiw. Ymatebaf i un neu ddau o bwyntiau, gan fod pawb a siaradodd wedi cyflwyno cyfraniadau yr ymdriniwyd â hwy eisoes yn y strategaeth. Gareth, y strategaeth yw hon ac nid y cynllun gweithredu. Yr wyf yn fwy na pharod gweithio gyda phartneriaid a datblygu cynllun gweithredu dros amser a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor, oherwydd yr ydym yn ymrwymedig i weithredu ar frys, a dyna pam yr ydym yn lansio’r strategaeth heddiw. Fodd bynnag, byddwn am fod yn glir gyda’n partneriaid am yr amserlen y byddwn yn disgwyl iddynt weithredu o’i mewn.

Secondly, in terms of Welsh as a compulsory language at key stage 4, the two-year language in action project that is partly funded by the Assembly, has been running across England and Wales and encouraging people to take up languages at key stage 4. We had briefly addressed the deficit that had been in place until 2000, but that does not demonstrate a correlation with the compulsory use of Welsh and the take-up of modern foreign languages. The point on effectiveness is crucial, and Susan Lewis’s report last week addressed the fact that we still need to seriously consider the effectiveness of the teaching of Welsh as a second language in our schools, and the Assembly Government is committed to doing that.

Yn ail, o ran Cymraeg fel iaith orfodol yng nghyfnod allweddol 4, bu’r prosiect dwy flynedd iaith ar waith a ariennir yn rhannol gan y Cynulliad yn rhedeg ledled Cymru a Lloegr gan annog pobl i ddysgu ieithoedd yng nghyfnod allweddol 4. Ymdriniwyd yn gryno â’r diffyg a oedd yn weithredol hyd at 2000, ond nid yw hynny’n dangos cydberthyniad â’r defnydd gorfodol o’r Gymraeg a nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd tramor modern. Mae’r pwynt ar effeithiolrwydd yn hanfodol, ac ymdriniodd adroddiad Susan Lewis yr wythnos diwethaf â’r ffaith bod angen inni roi ystyriaeth ddifrifol i effeithiolrwydd addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wneud hynny.

Members of the Liberal Democrat Group have noted that staff at the languages for non-specialists unit in the University of Wales, Bangor e-mailed Assembly Members about the fact that the work of their unit, which is staffed by part-time workers, will strengthen Bangor’s modern foreign language department. It is appropriate that universities should be able to make their own decisions about how best to deliver services. However, you will also note that in the strategy, we have particularly asked the Higher Education Funding Council for Wales, which is part of Education and Learning Wales, to do a strategic review with Higher Education Wales and the Centre for Information on Language Teaching and Research on the provision of modern foreign languages in Wales.

Nododd Aelodau Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol i staff yn yr uned ieithoedd ar gyfer pobl nad ydynt yn arbenigwyr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor anfon negeseuon e-bost at Aelodau’r Cynulliad ynghylch y ffaith y bydd gwaith eu huned, lle mae’r staff yn weithwyr rhan-amser, yn atgyfnerthu adran ieithoedd tramor modern Bangor. Mae’n briodol y dylai prifysgolion allu gwneud eu penderfyniadau eu hunain am y ffordd orau i gyflwyno gwasanaethau. Fodd bynnag, fe nodwch hefyd yn y strategaeth ein bod wedi gofyn yn benodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n rhan o Dysgu ac Addysgu Cymru, gynnal adolygiad strategol gydag Addysg Uwch Cymru a’r Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth am Addysgu ac Ymchwil Ieithoedd ar y ddarpariaeth ieithoedd tramor modern yng Nghymru.

Karen, the Centre for Information on Language Teaching and Research will have a strong role in promoting European programmes. I have advocated loudly the take-up of the Leonardo programme, and the Socrates programme, which includes the Erasmus and Comenius programmes, and I will continue to do so. I want to work with CILT about how we can promote that further.

Karen, bydd gan y Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth am Addysgu ac Ymchwil Ieithoedd rôl gadarn wrth hyrwyddo rhaglenni Ewropeaidd. Dadleuais yn gryf o blaid manteisio ar raglen Leonardo, a rhaglen Socrates, sy’n cynnwys rhaglenni Erasmus a Comenius, a pharhaf i wneud hynny. Yr wyf am weithio gyda’r Ganolfan ar gyfer Gwybodaeth am Addysgu ac Ymchwil Ieithoedd mewn perthynas â sut y gallwn hyrwyddo hynny ymhellach.

Delyth, we will be looking at a project in the former Mid Glamorgan area, which is covered by the Educational Support Inspection Service, where some 25 schools are participating, some with children younger than seven years, in learning Italian, funded by the Italian Government. It has been extremely positive. The children learn the language for half a day every week. We will consider other models, but our initial commitment is to have effective pilots, including new language assistants, at the age of seven in key stage 2, so that we can focus on how we drive this issue forward.

Delyth, byddwn yn edrych ar brosiect yn ardal yr hen Forgannwg Ganol, a gwmpesir gan y Gwasanaeth Arolygu Cymorth Addysgol, lle mae tua 25 o ysgolion yn cymryd rhan, rhai ohonynt â phlant o dan saith oed, mewn dysgu Eidaleg, wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Eidal. Bu’n gadarnhaol iawn. Mae’r plant yn dysgu’r iaith am hanner diwrnod bob wythnos. Byddwn yn ystyried modelau eraill, ond ein hymrwymiad cychwynnol yw sefydlu cynlluniau peilot effeithiol, gan gynnwys cynorthwywyr iaith newydd, yn saith oed yng nghyfnod allweddol 2, fel y gallwn ganolbwyntio ar sut i ddatblygu’r mater hwn.

I urge Members to reject the amendments, if our colleagues will not withdraw them, and support the strategy. It does everything that Members have asked for this afternoon. We are keen to move forward on the urgent actions, to improve our global competitiveness and to offer many more opportunities to learn languages in our schools.

Erfyniaf ar yr Aelodau i wrthod y gwelliannau, os na wnaiff ein cyd-Aelodau eu tynnu yn ôl, a chefnogi’r strategaeth. Gwna bopeth y mae’r Aelodau wedi gofyn amdano y prynhawn yma. Yr ydym yn awyddus i weithredu ar y camau brys, i wella ein gallu cystadleuol yn fyd-eang ac i gynnig llawer mwy o gyfleoedd i ddysgu ieithoedd yn ein hysgolion.

Gwelliant 1 Jonathan Morgan t. 98

Amendment 1 Jonathan Morgan p. 98

GwrthodwydRejected O blaidFor 8 YmatalAbstain 12 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (12)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

Gwelliant 2 Jonathan Morgan t. 99

Amendment 2 Jonathan Morgan p. 99

GwrthodwydRejected O blaidFor 8 YmatalAbstain 12 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (12)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

Cynnig NDM971 Jane Davidson t. 99

Motion NDM971 Jane Davidson p. 99

DerbyniwydAdopted O blaidFor 48 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (48)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Pwynt o Drefn

Point of Order

Jenny Randerson spoken in English p. 100

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 100

Point of order. My colleague and I voted incorrectly on the motion in the previous debate due to a momentary lapse of concentration.

Pwynt o drefn. Pleidleisiodd fy nghyd-Aelod a minnau yn anghywir ar y cynnig yn y ddadl flaenorol gan nad oeddem yn canolbwyntio’n iawn am eiliad.

Sue Essex spoken in English p. 101

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 101

I also voted incorrectly.

Pleidleisiais innau hefyd yn anghywir.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 101

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 101

That is noted.

Nodwyd hynny.

Dadl Fer

Short Debate

Ffermydd Gwynt

Windfarms

Nick Bourne spoken in English p. 101

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 101

I am allowing Phil Williams, Kirsty Williams and Alun Pugh to speak for a minute each.

Yr wyf yn caniatáu i Phil Williams, Kirsty Williams ac Alun Pugh i siarad am funud yr un.

I am pleased that, finally, the Assembly has the opportunity to debate windfarms. It is an important issue and many people across Wales cannot understand why it has not already been debated here given the prospective development at Cefn Croes. There has been an excellent debate on this issue this week. Where? Ironically, at Westminster in the House of Lords.

Yr wyf yn falch bod gan y Cynulliad, o’r diwedd, y cyfle i drafod ffermydd gwynt. Mae’n fater pwysig ac ni all llawer o bobl ledled Cymru ddeall pam nad yw wedi’i drafod yma eisoes o ystyried y datblygiad arfaethedig yng Nghefn Croes. Bu dadl ardderchog ar y mater hwn yr wythnos hon. Ble? Yn eironig, yn San Steffan yn Nhŷ’r Arglwyddi.

From a Welsh perspective, letters have gone to the Department of Trade and Industry in our name. There has been no public inquiry or vote in the body that is meant to represent the views of the people of Wales. There is talk of transferring powers relating to windfarms of 50 kilowatt and above and I am anxious to hear the Minister’s response as to when that will occur because, in the meantime, this small nation is to become home to the largest concentration of onshore wind turbines in Europe.

O safbwynt Cymreig, anfonwyd llythyrau i’r Adran Masnach a Diwydiant yn ein henw ni. Ni fu unrhyw ymchwiliad cyhoeddus na phleidlais yn y corff sydd i fod i gynrychioli safbwyntiau pobl Cymru. Mae sôn am drosglwyddo pwerau yn gysylltiedig â ffermydd gwynt o 50 cilowat ac uwch ac yr wyf yn awyddus i glywed ymateb y Gweinidog o ran pryd y bydd hynny’n digwydd oherwydd, yn y cyfamser, daw’r wlad fach hon yn gartref i’r casgliad mwyaf o dyrbinau gwynt ar y tir yn Ewrop.

The First Minister has previously stated that windfarms are all about planning. I think that they are far more about the environment, economic development, tourism and many other issues. My opposition to windfarms is general, and I will speak about Cefn Croes and Strata Florida, where, on the borders of Breconshire and Ceredigion, another large windfarm is proposed.

Mae Prif Weinidog Cymru cyn hyn wedi nodi mai’r brif ystyriaeth wrth sôn am ffermydd gwynt yw cynllunio. Credaf eu bod yn ymwneud llawer mwy â’r amgylchedd, datblygu economaidd, twristiaeth a nifer o faterion eraill. Mae fy ngwrthwynebiad i ffermydd gwynt yn gyffredinol, a siaradaf am Gefn Croes ac Ystrad-fflur, lle, ar ffiniau Sir Frycheiniog a Cheredigion, cynigir adeiladu fferm wynt fawr arall.

Cynog Dafis spoken in English p. 101

Cynog Dafis siaradwyd yn Saesneg t. 101

Will you give way?

A ildiwch?

Nick Bourne spoken in English p. 101

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 101

No, because Phil Williams will have a minute to speak on behalf of Plaid Cymru after my speech and I do not have time.

Na wnaf, oherwydd caiff Phil Williams funud i siarad ar ran Plaid Cymru ar ôl fy araith ac nid oes amser gennyf.

Wind energy is fundamentally an expensive piece of political correctness that only benefits the subsidised companies that are exploiting the Government’s desire to be seen as ‘green’. It is symbolism at the expense of our precious wilderness. I quote Jim Forbes, chief executive of Scottish and Southern Energy:

Yn y bôn, mae egni gwynt yn ddarn drud o gywirdeb gwleidyddol nad yw ond yn elwa’r cwmnïau sy’n derbyn cymhorthdal sy’n ymelwa ar ddymuniad y Llywodraeth i feddu ar ddelwedd ‘werdd’. Symbolaeth ydyw ar draul ein hardaloedd gwyllt gwerthfawr. Dyfynnaf Jim Forbes, prif weithredwr Scottish and Southern Energy:

‘If the subsidy was not there, you could not justify windfarms.’

‘Pe na bai’r cymhorthdal yn bodoli, ni allech gyfiawnhau ffermydd gwynt.’

Windfarms are grossly inefficient. The output and emission savings claimed by windfarm apologists are not true. To calculate the true output of a windfarm, you need to divide its rated capacity roughly by four because they have to be shut down in high winds. As a result, you need a backup, which comes from fossil fuels. All the talk of massive savings in carbon dioxide emissions is not true. Denmark, for example, needs that expensive backup. In addition—and Plaid Cymru seems to be unaware of this—Denmark will move away from windfarms because of the expense and need for expensive backup.

Mae ffermydd gwynt yn aneffeithlon iawn. Nid yw’r arbedion allbwn a gollyngiadau a honnir gan ddiffynwyr ffermydd gwynt yn wir. Er mwyn cyfrifo gwir allbwn fferm wynt, rhaid ichi rannu ei gapasiti graddedig yn fras â phedwar oherwydd rhaid eu cau mewn gwyntoedd uchel. O ganlyniad, mae angen ffynhonnell wrth gefn arnoch, sy’n dod o danwydd ffosil. Nid yw’r holl siarad am arbedion anferth mewn gollyngiadau carbon deuocsid yn wir. Er enghraifft, mae angen y ffynhonnell wrth gefn ddrud honno ar Ddenmarc. Yn ogystal—ac ymddengys nad yw Plaid Cymru yn ymwybodol o hyn—bydd Denmarc yn symud i ffwrdd o ffermydd gwynt oherwydd y gost a’r angen am ffynhonnell wrth gefn ddrud.

If all the windfarms in the world were situated in Great Britain, they would not produce one tenth of our energy needs. To generate 10 per cent of our electricity from wind power, we would need 30,000 turbine masts on our unspoilt hills. Such a thought is intolerable. We have recently witnessed Brian Wilson coming down from the Department of Trade and Industry to Carmarthen, not Cefn Croes, to announce that Wales is to have the largest onshore windfarm development in Europe. Had it been proposed for the South Downs or the Chilterns, it would not have been approved. It is disappointing that Plaid Cymru’s support for this Cefn Croes windfarm led to Ceredigion County Council—

Pe byddai holl ffermydd gwynt y byd wedi’u lleoli ym Mhrydain Fawr, ni fyddent yn cynhyrchu degfed rhan o’n hanghenion ynni. I gynhyrchu 10 y cant o’n trydan o ynni gwynt, byddai angen 30,000 o fastiau tyrbin arnom ar ein bryniau nas difethwyd. Mae syniad o’r fath yn annioddefol. Yn ddiweddar gwelsom Brian Wilson yn dod o’r Adran Masnach a Diwydiant i Gaerfyrddin, nid Cefn Croes, i gyhoeddi y bydd Cymru’n cael y datblygiad ffermydd gwynt ar y tir mwyaf yn Ewrop. Pe byddai wedi’i gynnig ar gyfer y Twyni Deheuol neu’r Chilterns, ni fyddai wedi’i gymeradwyo. Mae’n siomedig yr arweiniodd cefnogaeth Plaid Cymru i’r fferm wynt hon yng Nghefn Croes at Gyngor Sir Ceredigion—

Cynog Dafis spoken in English p. 102

Cynog Dafis siaradwyd yn Saesneg t. 102

Verify your claims.

Profwch eich honiadau.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 102

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 102

Order. Cynog, there is no provision for interventions until the Minister replies.

Trefn. Cynog, nid oes darpariaeth ar gyfer ymyriadau nes i’r Gweinidog ateb.

Nick Bourne spoken in English p. 103

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 103

Phil Williams will no doubt take up Plaid Cymru’s interests.

Nid oes dwywaith y bydd Phil Williams yn cyflwyno safbwyntiau Plaid Cymru.

Plaid Cymru has led Ceredigion County Council by the nose to support this proposal. Planning advice was against it, as Members for that area will know. The people of Brecon and Radnorshire had no say in it—although the development is situated on the border—because it is in Ceredigion. We have not had an opportunity to discuss it in the Assembly, which is greatly disappointing. I have already mentioned Denmark which, because of the expensive nature of the electricity costs, is moving away from the policy that we have here.

Mae Plaid Cymru wedi tywys Cyngor Sir Ceredigion gerfydd ei drwyn er mwyn cefnogi’r cynnig hwn. Yr oedd y cyngor cynllunio yn ei erbyn, fel y gŵyr Aelodau’r ardal honno. Nid oedd gan bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed lais yn hyn—er bod y datblygiad wedi’i leoli ar y ffin—gan ei bod yng Ngheredigion. Ni chawsom gyfle i’w drafod yn y Cynulliad, sy’n siomedig iawn. Yr wyf eisoes wedi sôn am Ddenmarc sydd, oherwydd natur ddrud y costau trydan, yn symud i ffwrdd o’r polisi sydd gennym yma.

Let us move away from the inefficiency argument, although it is important. People will, justifiably, ask where we will get the energy from. It is a fair question. We need to consider other sources, such as solar energy, which is a possibility in Wales. Despite it not being the sunniest of countries, that would be effective in Wales. I would welcome that being considered. If solar panels were mass-produced, their cost would be reduced. Research shows that that should be considered. However, let us move away from the energy efficiency arguments and consider the issue of the landscape and the damage to Welsh tourism. In Denmark—the country with the largest number of windfarms in Europe—there has been a 40 per cent reduction in visitors in windfarm areas. We can expect the same in Wales. There are people who say that windfarms are beautiful and tourist attractions. However, the evidence from other countries is to the contrary.

Gadewch inni symud i ffwrdd o’r ddadl ar aneffeithlonrwydd, er ei bod yn bwysig. Bydd pobl, yn gyfiawnadwy, yn gofyn o ble y cawn yr ynni. Mae’n gwestiwn teg. Rhaid inni ystyried ffynonellau eraill, megis ynni’r haul, sy’n bosibilrwydd yng Nghymru. Er nad yw’n un o’r gwledydd mwyaf heulog, byddai hynny’n effeithiol yng Nghymru. Byddwn yn croesawu ystyriaeth i hynny. Pe byddai panelau solar yn cael eu cynhyrchu ar raddfa eang, byddai eu costau yn lleihau. Dengys ymchwil y dylid ystyried hynny. Fodd bynnag, gadewch inni symud i ffwrdd o’r dadleuon ar effeithlonrwydd ynni ac ystyried mater y dirwedd a’r niwed i dwristiaeth yng Nghymru. Yn Nenmarc—y wlad â’r nifer uchaf o ffermydd gwynt yn Ewrop—bu gostyngiad o 40 y cant mewn ymwelwyr mewn ardaloedd ffermydd gwynt. Gallwn ddisgwyl yr un peth yng Nghymru. Ceir pobl sy’n dweud bod ffermydd gwynt yn hyfryd ac yn atyniadau twristiaid. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth o wledydd eraill yn gwrthddweud hyn.

Furthermore, windfarms are known to have a detrimental effect on bird life. Studies in California show that, on one windfarm, up to 300—[Laughter.] You may laugh, but if you want to decimate the kite population in mid Wales, go on record as saying that. Three hundred red-tail hawks and 60 golden eagles were killed at one windfarm in California. The Plaid Cymru Member for Mid and West Wales laughs at that. If he wants to question that fact, then let Phil Williams take it up later.

Ymhellach, gwyddys y caiff ffermydd gwynt effaith andwyol ar fywyd adar. Mae astudiaethau yn Nghaliffornia yn dangos, ar un fferm wynt, bod hyd at 300—[Chwerthin.] Gallwch chwerthin, ond os ydych am ddifrodi poblogaeth y barcud yn y Canolbarth, dywedwch hynny ar goedd. Lladdwyd 300 o hebogau cynffongoch a 60 o eryrod aur ar un fferm wynt yng Nghaliffornia. Mae Aelod Plaid Cymru ar gyfer y Canolbarth a’r Gorllewin yn chwerthin ar hynny. Os yw am gwestiynu’r ffaith honno, yna gadewch i Phil Williams godi’r mater nes ymlaen.

Turbines must be turned off when there are strong winds because there is a danger of parts flying off. That is widely accepted. It is a danger to livestock and people in the area, and would again affect tourism.

Rhaid diffodd tyrbinau pan fo gwyntoedd cryfion oherwydd bod perygl y bydd rhannau yn hedfan i ffwrdd. Caiff hynny ei dderbyn yn gyffredinol. Mae’n berygl i dda byw a phobl yn yr ardal, ac unwaith eto byddai’n effeithio ar dwristiaeth.

Therefore, I am arguing two points. My first point, which may have widespread support, is that the National Assembly should have power over all windfarms. That needs to happen soon, because, since the approval of Cefn Croes windfarm, the message has gone out to developers that all they need to do is to ensure that their windfarm is of sufficient size for the decision on its approval to be taken at Westminster and not in Wales. They will receive a more sympathetic hearing from Brian Wilson MP, who travels on a day return to Carmarthen or Cardiff to approve a development and then travels back to London, than from the Assembly. We want such decisions to be taken by the Assembly. I hope that there is widespread support for that in the Chamber. That power needs to be transferred quickly. I assume that the Minister for Economic Development will respond to this debate, and I hope that he will take up that point. It is important that, before a decision is taken on Abergwesyn, near Strata Florida, power is transferred to the Assembly so that we can determine that issue. A message has gone out that approvals are being determined in London on the basis of a different set of criteria from that that may be adopted in the Assembly.

Felly, yr wyf yn dadlau dau bwynt. Fy mhwynt cyntaf, y mae cefnogaeth gyffredinol iddo efallai, yw y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol fod â’r pŵer dros bob fferm wynt. Rhaid i hynny ddigwydd cyn hir, oherwydd, ers cymeradwyo fferm wynt Cefn Croes, y neges a roddwyd i ddatblygwyr yw mai’r unig beth sy’n rhaid iddynt ei wneud yw sicrhau bod eu fferm wynt o faint digonol fel y caiff y penderfyniad i’w chymeradwyo ei gymryd yn San Steffan ac nid yng Nghymru. Derbyniant wrandawiad mwy sympathetig gan Brian Wilson AS, sy’n teithio ar docyn dwyffordd undydd i Gaerfyrddin neu Gaerdydd i gymeradwyo datblygiad ac yna yn ôl i Lundain, na chan y Cynulliad. Yr ydym am i’r Cynulliad wneud penderfyniadau o’r fath. Gobeithiaf fod cefnogaeth gyffredinol i hynny yn y Siambr. Rhaid trosglwyddo’r pŵer hwnnw yn gyflym. Tybiaf y bydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd yn ymateb i’r ddadl hon, a gobeithiaf y bydd yn ystyried y pwynt hwnnw. Mae’n bwysig, cyn gwneud penderfyniad ar Abergwesyn, ger Ystrad-fflur, y trosglwyddir pŵer i’r Cynulliad fel y gallwn benderfynu ar y mater hwnnw. Mae neges ar led y penderfynir ar gymeradwyaethau yn Llundain ar sail set wahanol o feini prawf i’r hyn y gellir ei fabwysiadu yn y Cynulliad.

I am greatly saddened that the windfarm at Cefn Croes has been foisted upon us. I am disappointed in Plaid Cymru, whose members wring their hands about the closure of nuclear energy plants and job losses, but simultaneously support these large windfarms. It is disappointing that we will have this massive windfarm in mid Wales. It will seriously damage tourism there. If building it in England on the South Downs, in the Cotswolds or the Chilterns, were suggested, it would not happen. I am also disappointed in the Government of Wales, in that we have not had a public inquiry. We did not ask for it through the Government of Wales, although we could have done. We need to revisit the decision on Cefn Croes and ensure that the Assembly has a say on future windfarm developments, regardless of their size.

Yr wyf yn flin iawn i glywed bod y fferm wynt yng Nghefn Croes wedi ei gwthio arnom. Yr wyf wedi fy siomi ym Mhlaid Cymru, y mae ei haelodau yn anobeithio pan glywant am weithfeydd ynni niwclear yn cau a swyddi’n cael eu colli, ond ar yr un pryd yn cefnogi’r ffermydd gwynt mawr hyn. Mae’n siomedig y cawn y fferm wynt anferth hon yn y Canolbarth. Caiff effaith ddifrifol ar dwristiaeth yno. Pe awgrymir ei hadeiladu yn Lloegr neu ar y South Downs, yn y Cotswolds neu’r Chilterns, ni fyddai’n digwydd. Yr wyf hefyd wedi fy siomi yn Llywodraeth Cymru, yn yr ystyr na chawsom ymchwiliad cyhoeddus. Ni ofynasom amdano drwy Lywodraeth Cymru, er y gallem fod wedi gwneud. Mae angen inni aildrafod y penderfyniad ar Gefn Croes a sicrhau bod gan y Cynulliad lais o ran datblygiadau ffermydd gwynt yn y dyfodol, waeth beth yw eu maint.

Phil Williams spoken in English p. 105

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 105

I cannot correct all the misinformation in that speech in one minute. The only point that I agree with is that we should debate this issue in the Chamber. The Economic Development Committee has given the issue high priority in its present study.

Ni allaf unioni’r holl wybodaeth anghywir yn yr anerchiad hwnnw mewn munud. Yr unig bwynt yr wyf yn cytuno ag ef yw y dylem drafod y mater hwn yn y Siambr. Mae’r Pwyllgor Datblygu Economaidd wedi rhoi blaenoriaeth uchel i’r mater yn ei astudiaeth bresennol.

Wales currently generates less than its fair share of the UK total of renewable energy; it generates only 4 per cent. The Economic Development Committee has accepted a target of 4 terawatt hours by 2010. If you consider how that can be provided economically, around half should come from wind power. Therefore, we have a clear target. If that is accepted by the Assembly, Members must discuss sensibly and in a balanced way where the turbines should be built, how big they should be and who should own them. The Cambrian mountains combine maximum wind potential with the most acceptable visual impact. I have walked in the proposed area for a day without seeing a single person from horizon to horizon but seeing thousands of conifers. The visual impact has been hugely exaggerated. If the scheme is established, it will provide half of the Committee’s target for renewable energy. Therefore, it is not an unending process. We have always said that only around 15 per cent should come from wind parks. That was the mistake made in Denmark.

Ar hyn o bryd mae Cymru’n cynhyrchu llai na’i chyfran deg o gyfanswm ynni adnewyddol y DU; cynhyrcha 4 y cant yn unig. Mae’r Pwyllgor Datblygu Economaidd wedi derbyn targed o 4 awr terawat erbyn 2010. Os ystyriwch sut y gellir darparu hynny yn economaidd, dylai oddeutu hanner ddod o ynni gwynt. Felly, mae gennym darged clir. Os derbynnir hynny gan y Cynulliad, rhaid i’r Aelodau drafod yn synhwyrol ac mewn ffordd gytbwys lle y dylid adeiladu’r tyrbinau, pa mor fawr y dylent fod a phwy ddylai fod yn berchen arnynt. Mae mynyddoedd Cambria yn cyfuno uchafswm potensial gwynt â’r effaith weledol fwyaf derbyniol. Yr wyf wedi cerdded yn yr ardal arfaethedig am ddiwrnod heb weld un person o orwel i orwel ond gwelais filoedd o gonifferau. Gorliwiwyd yr effaith weledol yn fawr. Os caiff y cynllun ei sefydlu, bydd yn darparu hanner o darged y Pwyllgor ar gyfer ynni adnewyddol. Felly, nid yw’n broses ddiderfyn. Yr ydym bob tro wedi dweud mai dim ond oddeutu 15 y cant a ddylai ddod o barciau gwynt. Dyna oedd y camgymeriad a wnaethpwyd yn Nenmarc.

Finally, this project includes a large element of community ownership, which will bring about £1 million a year to rural areas of low income and depopulation. We must adopt a suitable, balanced and sensible approach and not reject these proposals out of hand. We must consider the most appropriate proposals. The one to which Nick referred is an entirely appropriate proposal, which must be welcomed.

Yn olaf, mae’r prosiect hwn yn cynnwys elfen fawr o berchenogaeth gymunedol, a ddaw ag oddeutu £1 filiwn y flwyddyn i ardaloedd gwledig ag incwm isel a diboblogi. Rhaid inni fabwysiadu ymagwedd addas, gytbwys a synhwyrol a pheidio â gwrthod y cynigion hyn ar unwaith. Rhaid inni ystyried y cynigion mwyaf priodol. Mae’r un y cyfeiriodd Nick ato yn gynnig cwbl briodol, a rhaid ei groesawu.

Kirsty Williams spoken in English p. 106

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 106

In rightly showing concern for the protection of our landscape, it is regrettable that Nick failed to take the strategic global view, and mention the effects of global warming on the future of the land that he seeks to protect. Global warming is a process that we ignore at our peril. We must all face its consequences. However, I agree with Nick that it is not tolerable for such decisions to be made without due regard of the views of local people and the National Assembly for Wales. We need an urgent transfer of powers to allow us to decide on windfarms of over 50 megawatts. That should be debated in this Chamber and be subject to the National Assembly for Wales’s good planning systems. I regret that the Welsh Assembly Government did not request a public inquiry into Cefn Croes and I trust that we in this Chamber will take a greater interest as to what might happen to the area around Strata Florida and Abergwesyn.

Wrth ddangos pryder priodol o ran diogelu ein tirwedd, mae’n anffodus bod Nick wedi methu ag arddel y safbwynt strategol byd-eang, a chrybwyll effeithiau cynhesu byd-eang ar ddyfodol y tir y mae’n ceisio’i ddiogelu. Mae cynhesu byd-eang yn broses a anwybyddwn ar berygl i ni ein hunain. Rhaid inni gyd wynebu ei oblygiadau. Fodd bynnag, cytunaf â Nick nad yw’n dderbyniol cymryd penderfyniadau o’r fath heb roi ystyriaeth briodol i safbwyntiau pobl leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae angen trosglwyddo pwerau ar frys i’n galluogi i wneud penderfyniadau ar ffermydd gwynt o dros 50 o megawatiau. Dylid dadlau hynny yn y Siambr hon a dylai fod yn amodol ar systemau cynllunio da Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gresynaf na wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gais am ymchwiliad cyhoeddus i Gefn Croes a hyderaf y byddwn ninnau yn y Siambr hon yn cymryd mwy o ddiddordeb yn yr hyn a allai ddigwydd i’r ardal o gwmpas Ystrad Fflur ac Abergwesyn.

Alun Pugh spoken in English p. 106

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 106

Windfarms are an important issue in my constituency, both onshore and offshore. I support the use of wind power as a positive alternative to the environmental damage caused by the burning of fossil fuel. The people of Ruthin are only too familiar with the consequences of the increased incidence of heavy rain. Nuclear power, of course, is even worse. Discharging a cocktail of toxic and radioactive waste into the Irish Sea might be acceptable to nuclear Nick, but it is not to me. Frankly, it is an international disgrace.

Mae ffermydd gwynt yn fater pwysig yn fy etholaeth, ar y tir ac oddi ar y tir. Cefnogaf y defnydd o ynni gwynt fel dewis amgen cadarnhaol i’r niwed i’r amgylchedd a achosir drwy losgi tanwydd ffosil. Mae pobl Rhuthun yn hen gyfarwydd â goblygiadau’r cynnydd mewn glaw trwm. Wrth gwrs, mae ynni niwclear hyd yn oed yn waeth. Efallai fod rhyddhau coctel o wastraff gwenwynig ac ymbelydrol ym Môr Iwerddon yn dderbyniol i Nick niwclear, ond nid yw i mi. A dweud y gwir, mae’n gywilydd rhyngwladol.

I state in the clearest possible terms that I support offshore wind power farms in locations such as the Abergele shelf, off the coast of my constituency, and onshore in locations such as Tir Mostyn, which, incidentally, received a clean bill of health by the Royal Society for the Protection of Birds. If a better alternative to wind power arises, decommissioning is simple; effectively only a large spanner is required. I wish that the decommissioning of Trawsfynydd and Wylfa nuclear power stations was just as simple.

Datganaf yn y termau cliriaf posibl fy mod yn cefnogi ffermydd gwynt oddi ar y tir mewn lleoliadau megis cefnen Abergele, oddi ar arfordir fy etholaeth, ac ar y tir mewn lleoliadau megis Tir Mostyn, sydd, gyda llaw, wedi derbyn canmoliaeth gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Os bydd dewis amgen gwell i ynni gwynt yn codi, mae digomisiynu yn syml; mewn gwirionedd yr unig beth sydd ei angen yw sbaner mawr. Trueni na fyddai digomisiynu pwerdai ynni niwclear Trawsfynydd a’r Wylfa mor syml.

Andrew Davies The Minister for Economic Development spoken in English p. 107

Andrew Davies Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 107

I thank Nick for raising this issue. I welcome the opportunity, as Minister for Economic Development, to respond to this short debate since this is a crucially important issue, as several Members have already pointed out. Of all the renewable energy technologies, wind power has become the most sensitive because of recent developments on onshore windfarms.

Diolchaf i Nick am godi’r mater hwn. Croesawaf y cyfle, fel y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, i ymateb i’r ddadl fer hon gan fod hwn yn fater hanfodol bwysig, fel mae sawl Aelod wedi pwysleisio eisoes. O’r holl dechnolegau ynni adnewyddol, ynni gwynt yw’r un a ddaeth yn fwyaf sensitif oherwydd datblygiadau diweddar ar ffermydd gwynt ar y tir.

I have listened carefully to the points and the arguments made today and I look forward to the Economic Development Committee’s review on energy. It is clear that there are strong views on all sides. The debate on windfarms has been ignited again recently by the Department of Trade and Industry’s decision on Cefn Croes. It also came about in light of the publication on 14 February of the Cabinet Office performance and innovation unit’s energy review. Some Members have already stated that this report recognises the threat of global warming and provides insights on ways of reducing carbon dioxide emissions. I stress from the outset that we do not envisage covering our unique and beloved landscape with hundreds of windfarms. However, global warming is serious and means that we must search for ways forward that meet our energy needs and fulfill our sustainable development duties.

Yr wyf wedi gwrando’n ofalus ar y pwyntiau a’r dadleuon a wnaethpwyd heddiw ac edrychaf ymlaen at adolygiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd ar ynni. Mae’n amlwg bod safbwyntiau cryf ar bob ochr. Taniwyd y ddadl ar ffermydd gwynt eto yn ddiweddar gan benderfyniad yr Adran Masnach a Diwydiant ar Gefn Croes. Yn ogystal, digwyddodd yng ngoleuni’r cyhoeddiad, ar 14 Chwefror, o adolygiad ynni Swyddfa’r Cabinet ar berfformiad ac arloesedd. Mae rhai Aelodau eisoes wedi datgan bod yr adroddiad hwn yn nodi bygythiad cynhesu byd-eang ac yn darparu cipolwg ar ffyrdd o leihau gollyngiadau carbon deuocsid. Pwysleisiaf o’r cychwyn nad ydym yn rhagweld gorchuddio ein tirwedd unigryw ac annwyl gyda channoedd o ffermydd gwynt. Fodd bynnag, mae cynhesu byd-eang yn ddifrifol ac yn golygu bod rhaid inni chwilio am ffyrdd ymlaen sy’n diwallu ein hanghenion ynni a chyflawni ein dyletswyddau o ran datblygu cynaliadwy.

Global warming will be one of the biggest challenges of this century. If carbon levels in the atmosphere continue to increase at their current rate, there will be a catastrophic environmental and economic effect on a global scale. The ravages of the industrial revolution will be a picnic in comparison. The Royal Commission on Environmental Pollution has already suggested that we must aim for a massive reduction of 60 per cent in emissions by 2050. A clean energy policy is a significant contributary factor to this. ‘A Winning Wales’, our economic development strategy, commits us to securing the strongest possible economic policies, while its guiding principle on clean energy is to stimulate economic development where it is economically attractive and environmentally acceptable.

Cynhesu byd-eang fydd un o heriau mwyaf y ganrif hon. Os bydd lefelau carbon yn yr atmosffer yn parhau i gynyddu ar eu cyfradd bresennol, bydd effaith drychinebus amgylcheddol ac economaidd ar raddfa fyd-eang. Mewn cymhariaeth, bydd difrod y chwyldro diwydiannol yn chwarae plant. Mae’r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol eisoes wedi awgrymu y dylem anelu at ostyngiad anferth o 60 y cant mewn gollyngiadau erbyn 2050. Mae polisi egni glân yn ffactor cyfrannol o bwys i hyn. Mae ‘Cymru’n Ennill’, ein strategaeth datblygu economaidd, yn ein hymrwymo i sicrhau’r polisïau economaidd cryfaf posibl, a’i hegwyddor arweiniol ar ynni glân yw ysgogi datblygu economaidd lle mae’n ddeniadol yn economaidd ac yn dderbyniol yn amgylcheddol.

We are already playing a significant role in renewable energy development. We currently have around 350 wind turbines on 13 major windfarms. These have a total, installed generating capacity of over 150 MW of electricity. However, we have the geography and the climate to do more. I want us to proceed sensitively with large on-shore development in the least problematic locations, preferably with strong community support. Wind energy development also has significant offshore potential. The availability of our natural resources means that there are opportunities, and we therefore want to take advantage of them. For offshore installations, we are working closely with the DTI to gain the best advantages for Wales. The potential is clearly there.

Yr ydym eisoes yn chwarae rôl sylweddol wrth ddatblygu egni adnewyddol. Ar hyn o bryd mae gennym oddeutu 350 o dyrbinau gwynt ar 13 o brif ffermydd gwynt. Mae gan y rhain gyfanswm capasiti cynhyrchu wedi ei osod o dros 150 MW o drydan. Fodd bynnag, mae gennym y ddaearyddiaeth a’r hinsawdd i wneud mwy. Yr wyf am inni fynd ati mewn modd sensitif i wneud datblygiadau mawr ar y tir yn y lleoliadau lleiaf problematig, yn ddelfrydol â chefnogaeth gymunedol gref. Yn ogystal, mae gan ddatblygu ynni gwynt botensial oddi ar y tir. Golyga argaeledd ein hadnoddau naturiol fod cyfleoedd ar gael, ac felly yr ydym am fanteisio arnynt. Ar gyfer gosodiadau oddi ar y tir, yr ydym yn gweithio’n agos gyda’r Adran Masnach a Diwydiant i sicrhau’r manteision gorau i Gymru. Mae’r potensial yn amlwg yno.

On the Cefn Croes proposal, I acknowledge the concerns that the Welsh Assembly Government did not ask the Secretary of State for Trade and Industry for a public inquiry. That has been raised and I must therefore comment. I emphasise that the decision on whether to hold a public inquiry is one that, in the absence of an objection from the local planning authority as a statutory consultee, is entrusted by Parliament to the Secretary of State for Trade and Industry alone. The person best placed to make the decision was the Secretary of State for Trade and Industry, who had all the relevant facts and policy considerations at her disposal. The Assembly Government responded to a formal DTI request for comments on the proposal. We provided the DTI—the decision-maker—with all the known material that was relevant to the decision without expressing a view on what the Minister’s decision should be. We specifically stated that the DTI needed to satisfy itself that all the information pertinent to the case had been collected, scrutinised and accorded appropriate weight in the decision-making process for the Minister to consider if this could be achieved without a local public inquiry, which is the accepted means of testing and collecting information comprehensively and transparently where the issues are more than purely local ones. The decision was, therefore, made by the UK Minister in the light of these comments. As there is no new evidence to bring the basis for her decision into question, the Welsh Assembly Government is not proposing to ask the Secretary of State for Trade and Industry for a public inquiry. It should be remembered that the local planning authorities have a key role in providing the local perspective on the consideration of any windfarm proposals in Wales that are in excess of 50 MW. As a statutory consultee, an authority has the power to force a public inquiry. In the case of Cefn Croes, the authority considered all these views and voted overwhelmingly in favour of the proposal.

Ar gynnig Cefn Croes, cydnabyddaf y pryderon na ofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant am ymchwiliad cyhoeddus. Codwyd hyn ac felly rhaid imi wneud sylwadau. Pwysleisiaf fod y penderfyniad ar ba un a ddylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus yn un sydd, yn absenoldeb gwrthwynebiad gan yr awdurdod cynllunio lleol fel ymgynghorai statudol, wedi ei ymddiried gan y Senedd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn unig. Y person gorau i gymryd y penderfyniad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, a feddai ar yr holl ffeithiau ac ystyriaethau polisi perthnasol. Ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad i gais ffurfiol gan yr Adran Masnach a Diwydiant am sylwadau ar y cynnig. Darparasom yr holl wybodaeth hysbys a oedd yn berthnasol i’r penderfyniad i’r Adran Masnach a Diwydiant—yr un sy’n gwneud penderfyniadau—heb fynegi barn ar yr hyn y dylai’r Gweinidog benderfynu arno. Nodom yn benodol fod angen i’r Adran Masnach a Diwydiant fodloni ei hun y casglwyd ac y craffwyd ar yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r achos ac y rhoddwyd y pwysl priodol arni yn y broses gwneud penderfyniadau i’r Gweinidog ystyried a ellid cyflawni hyn heb ymchwiliad cyhoeddus lleol, sef y dull arferol ar gyfer profi a chasglu gwybodaeth mewn ffordd gynhwysfawr a thryloyw lle mae’r materion yn fwy na rhai lleol yn unig. Felly, gwnaethpwyd y penderfyniad gan Weinidog y DU yng ngoleuni’r sylwadau hyn. Gan nad oes tystiolaeth newydd ar gyfer cwestiynu sail ei phenderfyniad, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant am ymchwiliad cyhoeddus. Dylid cofio bod gan yr awdurdodau cynllunio lleol rôl allweddol wrth ddarparu’r persbectif lleol wrth ystyried unrhyw gynigion am ffermydd gwynt yng Nghymru sydd yn fwy na 50 MW. Fel ymgynghorai statudol, mae gan awdurdod y pŵer i orfodi ymholiad lleol. Yn achos Cefn Croes, ystyriodd yr awdurdod yr holl safbwyntiau hyn a phleidleisiodd y mwyafrif o blaid y cynnig.

On the transfer of powers under sections 36 and 37 of the electricity legislation, it is clear that not only is a week a long time in politics, 36 hours is an even longer time. During questions to the First Minister on Tuesday, he was asked if he agreed that it would be morally reprehensible to ignore the wishes of the people by pushing for greater powers. Members may remember that that was asked by the Tory AM David Davies. Now the leader of the Tories is asking for a transfer of powers—something that the Tories have never been keen on before—with a pure remit to refuse applications upon transfer.

O ran trosglwyddo pwerau o dan adrannau 36 a 37 y ddeddfwriaeth drydan, mae’n amlwg, nid yn unig bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ond bod 36 awr yn amser hwy fyth. Yn ystod cwestiynau i Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth, gofynnwyd iddo a oedd yn cytuno na fyddai’n gywir yn foesol i anwybyddu dymuniadau’r bobl drwy wthio am bwerau cryfach. Efallai y bydd yr Aelodau’n cofio y gofynnwyd hynny iddo gan yr AC Torïaidd David Davies. Yn awr mae arweinydd y Torïaid yn gofyn am drosglwyddo pwerau—rhywbeth nad yw’r Torïaid erioed wedi bod yn awyddus i’w wneud cyn hyn—â chylch gwaith cadarn i wrthod ceisiadau pe bai pwerau’n cael eu trosglwyddo.

Nick Bourne spoken in English p. 109

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 109

I am grateful to the Minister for giving way and I welcome him as he replies for the first time in a debate as the Minister for Economic Development. However, does he accept that there is a clear distinction between David Davies’s remarks, in terms of legislative and tax-raising powers, and the transfer of functions, which has happened under successive Governments to the former Welsh Office and now to the National Assembly? The whole group is united on that, with the support of Iain Duncan Smith, our leader at Westminster.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ildio a chroesawaf ef wrth iddo ateb am y tro cyntaf mewn dadl fel y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd. Fodd bynnag, a dderbynia fod gwahaniaeth clir rhwng sylwadau David Davies, o ran pwerau deddfu a phwerau codi trethi, a throsglwyddo swyddogaethau, sydd wedi digwydd o dan Lywodraethau olynol i’r gyn Swyddfa Gymreig ac i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn? Mae’r grŵp cyfan wedi uno ar hynny, gyda chefnogaeth Iain Duncan Smith, ein harweinydd yn San Steffan.

Andrew Davies spoken in English p. 110

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 110

Does that also include agreeing with David Melding, that the Assembly should have greater powers? There is a major difference of opinion within the Tory group. There is a certain amount of opportunism in that you pick and choose. It is a ‘pick’n’mix’ approach as to which powers you do and do not want.

A yw hynny hefyd yn cynnwys cytuno â David Melding, y dylai’r Cynulliad feddu ar ragor o bwerau? Mae gwahaniaeth barn sylweddol o fewn y grŵp Torïaid. Yn ogystal mae rhywfaint o achub cyfle yn yr ystyr eich bod yn dewis a dethol. Mae’n ymagwedd dewis a dethol tuag at y pwerau yr ydych eu heisiau a’r rhai nad ydych eu heisiau.

Assembly Government officials met for initial discussions with their Department of Trade and Industry counterparts on 11 February. The First Minister also met Brian Wilson, the Minister of State for Industry, Energy and the Environment yesterday, which was a useful and workmanlike meeting. In time, the First Minister and I will comment on any progress made.

Cyfarfu swyddogion Llywodraeth y Cynulliad am drafodaethau cychwynnol â’u Swyddogion cyfatebol yn yr Adran Masnach a Diwydiant ar 11 Chwefror. Yn ogystal, cyfarfu Prif Weinidog Cymru â Brian Wilson, y Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant, Ynni a’r Amgylchedd ddoe, ac yr oedd hwn yn gyfarfod defnyddiol a chrefftus. Maes o law, gwnaf innau a Phrif Weinidog Cymru sylwadau ar unrhyw gynnydd a wnaethpwyd.

In conclusion, I wish to clarify that the Assembly Government is fully committed to seeing a renewable energy industry flourishing in Wales. There are opportunities; there is huge interest. Wales has the opportunity to be a global showcase for clean energy production, and in the long term to develop and generate a significant indigenous supply industry in new, renewable technologies. If we are to succeed, wind energy will inevitably have a significant part to play in this development.

I gloi, hoffwn egluro bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwbl ymrwymedig i weld diwydiant ynni adnewyddol yn ffynnu yng Nghymru. Mae cyfleoedd; mae diddordeb mawr iawn. Mae gan Gymru’r cyfle i fod yn fodel byd-eang ar gyfer cynhyrchu egni glân, ac yn yr hirdymor i ddatblygu a chynhyrchu diwydiant cyflenwi cynhenid sylweddol mewn technolegau newydd, adnewyddol. Er mwyn inni lwyddo bydd gan ynni gwynt, yn anochel, ran allweddol i’w chwarae yn y datblygiad hwn.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 110

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 110

That brings today’s proceedings to a close.

Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 12.47 p.m.

The session ended at 12.47 p.m.