English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 29 Mehefin 1999

Tuesday 29 June 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:41

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 2Datganiadau gan y LlywyddStatements by the Presiding Officer
  2. 2Ethol i’r Pwyllgor Safonau YmddygiadElection to the Committee on Standards of Conduct 1 bleidlais1 vote
  3. 3Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 3Tŷ CrucywelCrickhowell House
    2. 5Cyfrifon Dysgu UnigolIndividual Learning Accounts
    3. 6Moderneiddio a Diwygio Llywodraeth LeolModernisation and Reform of Local Government
    4. 8Rhaglen FfyrddRoads Programme
    5. 10Gwyddonwyr Labordai MeddygolMedical Laboratory Scientists
    6. 11Ffioedd Hyfforddi MyfyrwyrStudent Tuition Fees
  4. 13Datganiad BusnesBusiness Statement
  5. 14Datganiad ar Swyddogaethau DirprwyedigStatement on Delegated Functions
  6. 25Dadl ar Ddieithrwch CymdeithasolDebate on Social Exclusion 2 o bleidleisiau2 votes
  7. 76Dadl Fer ar Organebau Wedi’u Haddasu’n EnetigShort Debate on Genetically Modified Organisms 2 o bleidleisiau2 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Ethol i’r Pwyllgor Safonau YmddygiadElection to the Committee on Standards of Conduct
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Dadl ar Ddieithrwch CymdeithasolDebate on Social Exclusion
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsGwrthodwydRejected
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Dadl Fer ar Organebau Wedi’u Haddasu’n EnetigShort Debate on Genetically Modified Organisms
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
CynnigMotion31260DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda Llywydd y Cynulliad yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Datganiadau gan y Llywydd

Statements by the Presiding Officer

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 2

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 2

Mae gennyf ddatganiad ar y system bleidleisio. Yr wythnos diwethaf, cynghorais y Cynulliad fod gennym broblem gyda’r system bleidleisio electronig. Gwnaed adroddiad llawn i’r Rheolwyr Busnes yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes y bore hwn. Gwneir gwaith pellach ar y system yr wythnos hon. Byddaf felly yn parhau i ddefnyddio’r bleidlais galw cofrestr nes bydd y mater wedi’i ddatrys a nes y byddaf yn fodlon fod y system yn gweithio.

I have a statement to make on the voting system. Last week, I advised the Assembly that we had a problem with the electronic voting system. A full report was made to Business Managers in this morning’s Business Committee. Further work is being undertaken on the system this week. I shall therefore continue to use the roll call vote until this matter is resolved and until I am happy that the system is working.

Mae un mater technegol arall. Pan fydd Aelodau’n dymuno siarad, mae gofyn iddynt bwyso’r botwm o’u blaen yn ogystal â chodi eu llaw neu anfon e-bost i mi. Mae hynny yn sicrhau eich bod ar y rhestr fel y gellir galw’r meic a’r camera yn gyflym i gofnodi a darlledu materion. Felly, a wnewch chi bwyso’r botwm i wneud cais i siarad yn ogystal â gofyn imi drwy e-bost neu drwy godi llaw neu unrhyw ystum arall.

There is another technical matter. When Members wish to speak, they need to press the button in front of them as well as to raise their hand or send an e-mail to me. That ensures that you are on the list and that the microphone and camera are called quickly so that matters are recorded and broadcast. Therefore, please press the button to request to speak as well as asking me by e-mail, by raising your hand or by any other gesture.

Ethol i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Election to the Committee on Standards of Conduct

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 2

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 2

Members will know why we are doing this. There was an error last week in the election to the Committee on Standards of Conduct.

Bydd yr Aelodau’n gwybod pam yr ydym yn gwneud hyn. Yr oedd camgymeriad yr wythnos diwethaf yn yr etholiad i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

I propose that the Assembly, according to Standing Order No. 16.2 elects Gareth Jones to the Committee on Standards of Conduct instead of Geraint Davies.

Cynigiaf y bydd y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 16.2 yn ethol Gareth Jones i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Geraint Davies.

Cynnig Andrew Davies t. 2

Motion Andrew Davies p. 2

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Tŷ Crucywel

Crickhowell House

Q1 Nick Bourne spoken in English p. 3

C1 Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 3

What measures does the First Secretary propose to take to consult Assembly Members and members of the public regarding the future use of the former Crickhowell House as the home of the National Assembly? (OAQ231JS)

Pa gamau y mae’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu eu cymryd i ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ac aelodau o’r cyhoedd ynghylch y defnydd a wneir yn y dyfodol o’r adeilad a elwid gynt yn ‘Tŷ Crucywel’ fel cartref y Cynulliad Cenedlaethol? (OAQ231JS)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

Now that we have some experience of working in this temporary Chamber and in the offices which are to be our permanent home, I plan to review the accommodation arrangements and to hold discussions with the Presiding Officer and party leaders before bringing proposals to the Assembly. We have already spoken of our pleasure at the preparation of this building for us, and the great deal of hard work done by officials. I am convinced that in addition to the facilities we have in this building, we need a purpose-built Chamber with much better public access so that we can engage the people of Wales more fully in the Assembly’s work.

A ninnau bellach wedi cael rhywfaint o brofiad o weithio yn y Siambr dros-dro hon ac yn y swyddfeydd a fydd yn gartref parhaol i ni, yr wyf yn bwriadu adolygu’r trefniadau ynglŷn â lle a chynnal trafodaethau â’r Llywydd ac arweinyddion y pleidiau cyn dod â chynigion gerbron y Cynulliad. Yr ydym eisoes wedi sôn am ein boddhad ynghylch y modd y paratowyd yr adeilad hwn ar ein cyfer, a’r gwaith caled helaeth a wnaed gan swyddogion. Yr wyf yn argyhoeddedig bod arnom angen Siambr bwrpasol a llawer mwy hygyrch i’r cyhoedd, yn ogystal â’r cyfleusterau sydd gennym yn yr adeilad hwn, fel y gallwn gynnwys pobl Cymru yn llawnach yng ngwaith y Cynulliad.

Nick Bourne spoken in English p. 3

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 3

I would like to echo the tribute the First Secretary has paid to the hard work of officials. Given his commitment to best value as set out in his state of the nation address and Edwina Hart’s commitment last week to try to keep within budget on the capital and revenue costs of running the Assembly, would Alun Michael make a commitment to cap the figure in the White Paper ‘A Voice for Wales’ for the capital and revenue costs of the Assembly? Would he also say something about tendering for furnishings, carpets and so on in the new Assembly building?

Hoffwn ategu teyrnged y Prif Ysgrifennydd i waith caled y swyddogion. O wybod am ei ymrwymiad i werth gorau fel y nodwyd yn ei araith ar gyflwr y genedl ac ymrwymiad Edwina Hart yr wythnos diwethaf i geisio cadw o fewn y gyllideb o ran costau cyfalaf a refeniw rhedeg y Cynulliad, a fyddai Alun Michael yn fodlon ymrwymo i gapio’r ffigur yn y Papur Gwyn ‘Llais dros Gymru’ ar gyfer costau cyfalaf a refeniw y Cynulliad? A fyddai cystal hefyd â dweud rhywbeth ynghylch tendro am ddodrefn, carpedi ac yn y blaen i adeilad newydd y Cynulliad?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

It is our intention to do everything we can to stay within cost limits but as Nick Bourne knows, you have to be very careful in the control of any building project to achieve that objective. We need to ensure that we are clear in our requirements for best value and control the cost of any Assembly project. I am not sure that I can say anything about the tendering for specific items. That is governed by strict rules as well as by European requirements to ensure that tendering is carried out fairly.

Ein bwriad yw gwneud popeth a allwn i aros o fewn y terfynau ar gostau ond fel y gŵyr Nick Bourne, rhaid ichi fod yn ofalus iawn wrth reoli unrhyw brosiect adeiladu er mwyn cyrraedd y nod honno. Rhaid inni sicrhau ein bod yn glir ynghylch ein gofynion am werth gorau a rheoli cost unrhyw brosiect sydd gan y Cynulliad. Nid wyf yn sicr y gallaf ddweud dim am dendro am eitemau penodol. Fe reolir hynny gan reolau caeth yn ogystal â gofynion Ewropeaidd i sicrhau y bydd tendro yn cael ei gyflawni’n deg.

Phil Williams spoken in English p. 4

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 4

Is Alun Michael aware that many Members already feel that additional Committees are needed, yet recognise that this would impose an unacceptable and excessive load on the existing Members? Does he agree that there is a case for increasing the number of Members in the Assembly to bring it more in line with the Scottish Parliament and the Northern Ireland Assembly? Has provision for this been made here and in the new Assembly building?

A yw Alun Michael yn ymwybodol bod llawer o’r Aelodau yn teimlo eisoes fod angen Pwyllgorau ychwanegol, ond yn sylweddoli y byddai hynny’n gosod baich annerbyniol a gormodol ar yr Aelodau presennol? A yw’n cytuno bod dadl dros gynyddu nifer yr Aelodau yn y Cynulliad er mwyn ei wneud yn fwy cyson â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon? A wnaed darpariaeth ar gyfer hynny yn y fan hyn ac yn adeilad newydd y Cynulliad?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

I think that allowance for a larger number of Members is made in the original specification for the new Assembly building but there will be an opportunity for Members to make comments. I have sought to discuss progress so far with the party leaders and will arrange a briefing for them. A briefing, and a chance to see the work to date, will follow for all Members. Many of the points hinted at in your questions have been discussed in the past. I am sure we will have to refer to them but in the short term, there is plenty of work for the 60 of us to get on with before we try to jump ahead.

Yr wyf yn credu bod y fanyleb wreiddiol i adeilad newydd y Cynulliad yn darparu ar gyfer nifer fwy o Aelodau ond fe fydd cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau. Yr wyf wedi ceisio trafod y cynnydd hyd yn hyn gydag arweinyddion y pleidiau a byddaf yn trefnu cyfarfod briffio iddynt. Wedyn bydd cyfarfod briffio, a chyfle i weld y gwaith a wnaed hyd yn hyn, ar gyfer yr holl Aelodau. Mae llawer o’r pwyntiau a ledawgrymwyd yn eich cwestiynau wedi eu trafod yn y gorffennol. Yr wyf yn sicr y bydd rhaid inni gyfeirio atynt ond yn y tymor byr, mae digon o waith i’w gyflawni gan y 60 ohonom cyn ceisio llamu ymlaen.

Michael German spoken in English p. 4

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 4

Does Alun agree with me that full public debate is important and that any new building is viewed with scepticism until it is built? The experience of Wales’ win in the new millennium stadium has given rise to a new national pride. It is an additional attraction for visitors to Wales, meaning increased spending and more jobs. It is a focal point for people to see Wales in a new light. Should not this Assembly try to emulate the Welsh success last Saturday?

A yw Alun yn cytuno â mi ei bod yn bwysig cael trafodaeth gyhoeddus lawn ac yr edrychir yn amheus ar unrhyw adeilad newydd nes caiff ei godi? Mae’r profiad o weld Cymru’n ennill yn y stadiwm mileniwm newydd wedi ennyn ymdeimlad newydd o falchder yn y genedl. Mae’n atyniad ychwanegol i ymwelwyr i Gymru, sy’n golygu mwy o wario a mwy o swyddi. Mae’n ganolbwynt i bobl gael gweld Cymru mewn goleuni newydd. Oni ddylai’r Cynulliad hwn geisio efelychu llwyddiant Cymru ddydd Sadwrn diwethaf?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

I entirely agree. I have said from the beginning that we need to have confidence and accentuate the creative side of the Celtic nature rather than the depressive side that all too often prevails. Glanmor Griffiths and those who fought for the creation of a new stadium had every justification to feel proud and to feel that their critics had been given the most effective of ripostes. Those of us who were there felt that, when full, the stadium will be incredible with an atmosphere to rival anything in the world. We should emulate not just the brilliance of the structure but also the success of the team.

Yr wyf yn cyd-weld yn llwyr. Fe ddywedais o’r cychwyn fod angen inni fod yn hyderus a phwysleisio ochr greadigol y natur Geltaidd yn hytrach na’r ochr bruddglwyfus a welir yn rhy aml. Yr oedd gan Glanmor Griffiths a’r rhai a ymdrechodd i greu stadiwm newydd bob cyfiawnhad dros deimlo’n falch ac i deimlo bod eu beirniaid wedi derbyn yr ateb mwyaf effeithiol posibl. Yr oedd y rhai ohonom oedd yno yn teimlo y byddai’r stadiwm, pan fyddai’n llawn, yn anhygoel ac yn meddu ar awyrgylch a fyddai gystal â dim yn y byd. Dylem geisio efelychu nid yn unig wychder yr adeiladwaith ond llwyddiant y tîm hefyd.

Cyfrifon Dysgu Unigol

Individual Learning Accounts

Q2 Huw Lewis spoken in English p. 5

C2 Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 5

Can the First Secretary give an overview of progress on the development of individual learning accounts in Wales? (OAQ245JS)

A oes modd i’r Prif Ysgrifennydd roi gorolwg o’r cynnydd hyd yn hyn o ran datblygu cyfrifon dysgu unigol yng Nghymru? (OAQ245JS)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

The individual learning accounts are an important strand in our programme for a lifelong learning revolution. In April 1998 the well-titled Green Paper ‘Learning Is For Everyone’, set the context for individual learning accounts in Wales. Development projects in north and west Wales have started to explore different models for encouraging individuals to invest in their learning, and 925 accounts have been opened. This year 5,000 learning accounts will be made available across Wales, with a contribution of £150 each from Training and Enterprise Council reserves. Over the next two years a further 45,000 individual learning accounts will be made available on the same basis at a total cost of up to £7.5 million.

Mae’r cyfrifon dysgu unigol yn elfen bwysig yn ein rhaglen ar gyfer chwyldro mewn dysgu ar hyd oes. Yn Ebrill 1998 fe osodwyd y cyd-destun i gyfrifon dysgu unigol yng Nghymru yn y Papur Gwyrdd â’r teitl priodol ‘Rhywbeth i Bawb yw Dysgu’. Mae prosiectau datblygu yng ngogledd a gorllewin Cymru wedi dechrau ymchwilio i wahanol fodelau ar gyfer annog unigolion i fuddsoddi yn eu dysgu, ac mae 925 o gyfrifon wedi eu hagor. Eleni bydd 5,000 o gyfrifon dysgu ar gael drwy Gymru, gyda chyfraniad o £150 yr un o gronfeydd y Cyngor Hyfforddi a Menter. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd 45,000 o gyfrifon dysgu unigol ychwanegol ar gael ar yr un telerau am gyfanswm cost o hyd at £7.5 miliwn.

Huw Lewis spoken in English p. 5

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 5

The progress so far is welcome. The accounts have the potential to increase access to lifelong learning in Wales substantially. The programme is currently funded through the TEC reserves. Has the First Secretary considered the role of the private sector, employers and financial institutions in expanding this scheme further?

Mae’r cynnydd hyd yn hyn i’w groesawu. Mae potensial yn y cyfrifon i gynyddu’r mynediad at ddysgu ar hyd oes yng Nghymru yn sylweddol. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu ar hyn o bryd drwy gronfeydd y CHM. A yw’r Prif Ysgrifennydd wedi ystyried rôl y sector preifat, y cyflogwyr a’r sefydliadau ariannol wrth ehangu’r cynllun hwn ymhellach?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

That is a good point. Consultation is to take place with employers, financial institutions, the learning providers and other key interests to decide the way forward and how this fits into the UK-wide framework for learning accounts in 2000. This is a matter the Assembly’s Post-16 Education and Training Committee will wish to address in detail.

Mae hynny’n bwynt da. Mae ymgynghori i ddigwydd gyda chyflogwyr, sefydliadau ariannol, darparwyr y dysgu a buddiannau allweddol eraill er mwyn penderfynu’r ffordd ymlaen a’r modd y bydd hyn yn cydweddu â’r fframwaith ar draws y DU ar gyfer cyfrifon dysgu yn 2000. Mae hyn yn fater y bydd Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y Cynulliad yn dymuno ymdrin ag ef yn fanwl.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 6

Pa ddarpariaeth a wnaiff y Llywodraeth i sicrhau bod y bobl o’r grwpiau hynny sydd yn cael eu heithrio yn aml, megis pobl anabl, pobl o grwpiau ethnig a rhai menywod, yn cael mantais llawn o gyfleoedd addysg a hyfforddi trwy gyfrifon dysgu unigol? A all ddadansoddi’r ffigurau y mae newydd eu rhoi i ddangos faint o’r grwpiau hynny sydd wedi eu cynnwys?

What provision will the Government make to ensure that people from groups that are often excluded, such as the disabled, ethnic groups and some women, can take full advantage of education and training opportunities through individual learning accounts? Can he analyse the figures he has given to show how many of those groups are included?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 6

Mae’n bwynt da. Ar hyn o bryd, mae’r cyfrifon dysgu unigol ar gael i bawb ond mae yna syniad o dargedu’r cyfrifon, yn arbennig ar gyfer y rhai sydd â mwy o broblemau o ran cael mynediad i waith ac addysg, yn enwedig pobl anabl. Bydd yn bwysig datblygu’r syniad hwnnw.

That is a good point. At present, individual learning accounts are available for everyone but there is an idea to target the accounts, especially at those who have more problems getting access to employment and training, particularly disabled people. It will be important to develop that idea.

Moderneiddio a Diwygio Llywodraeth Leol

Modernisation and Reform of Local Government

Q3 Lynne Neagle spoken in English p. 6

C3 Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 6

What plans does the First Secretary have to co-ordinate the work of the National Assembly for Wales on the modernisation and reform of local government following the recent Welsh Office documents? (OAQ244JS)

Pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i gydlynu gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar foderneiddio a diwygio llywodraeth leol yn dilyn dogfennau diweddar y Swyddfa Gymreig? (OAQ244JS)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 6

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

It is important to keep up the momentum for modernisation of Welsh local government. The Partnership Council, which involves Assembly Members from all parties and local government representatives, is the main vehicle for driving forward this change. We must also support councils in their efforts to modernise at a local level. I am sure the Local Government, Environment, Planning, Housing and Transport Committee will consider aspects of the modernisation agenda in detail and push it forward.

Mae’n bwysig cynnal y momentwm ar gyfer moderneiddio llywodraeth leol yng Nghymru. Y Cyngor Partneriaeth, sy’n cynnwys Aelodau o’r Cynulliad o bob plaid a chynrychiolwyr o lywodraeth leol, yw’r prif gyfrwng i hybu’r newid hwn. Rhaid inni hefyd gefnogi cynghorau yn eu hymdrechion i foderneiddio ar lefel leol. Yr wyf yn sicr y bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, yr Amgylchedd, Cynllunio, Tai a Thrafnidiaeth yn rhoi ystyriaeth fanwl i agweddau ar yr agenda moderneiddio ac yn ei yrru ymlaen.

Lynne Neagle spoken in English p. 7

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 7

When does the First Secretary expect councils to be able to apply the statutory duty of best value and what discretion will the Assembly have over the way best value is applied in Wales?

Pa bryd y mae’r Prif Ysgrifennydd yn disgwyl y bydd cynghorau’n gallu cymhwyso’r ddyletswydd statudol o werth gorau a pha ryddid fydd gan y Cynulliad i benderfynu’r modd y cymhwysir gwerth gorau yng Nghymru?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

The target is to apply the new best value duty from 1 April 2000, which will involve an appropriate commencement order as soon as possible. The Assembly has discretion and control over the way best value regimes work in Wales and I have been very pleased with how positively local authorities have been willing to engage with this. I am also pleased that the Welsh Local Government Association has started to mature as an organisation and now plays a key role, which will be enhanced in its work with us through the Partnership Council.

Y nod yw cymhwyso’r ddyletswydd newydd ar werth gorau o 1 Ebrill 2000, a bydd hyn yn golygu rhoi gorchymyn dechrau priodol cyn gynted ag y bo modd. Mae gan y Cynulliad ryddid i weithredu a rheolaeth dros y modd y bydd cyfundrefnau gwerth gorau yn gweithio yng Nghymru ac yr wyf yn fodlon iawn ynghylch pa mor barod y bu’r awdurdodau lleol i chwarae eu rhan. Yr wyf hefyd yn falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dechrau aeddfedu fel corff a’i bod bellach yn chwarae rôl allweddol, a gaiff ei hybu yn ei gwaith gyda ni drwy’r Cyngor Partneriaeth.

Janet Davies spoken in English p. 7

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 7

What steps does the First Secretary propose to take to ensure that scrutiny Committees and Cabinet systems will be effective and have a right to access all information?

Pa gamau y mae’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y bydd y Pwyllgorau manylu a systemau’r Cabinet yn effeithiol ac yn cael hawl i weld yr holl wybodaeth?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

This will be part of the modernisation agenda. To an extent, it is local authorities’ responsibility to follow best practice guidance and the statutory requirements. There has to be a degree of give and take. We must use our partnership with the Audit Commission to take these matters forward. The Partnership Council, in which Assembly Members from all parties will participate, will be the driver.

Bydd hyn yn rhan o’r agenda ar gyfer moderneiddio. I ryw raddau, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw dilyn y cyfarwyddyd ar ymarfer gorau a’r gofynion statudol. Rhaid cael rhywfaint o gyfaddawdu. Rhaid inni ddefnyddio ein partneriaeth â’r Comisiwn Archwilio i ddatblygu’r materion hyn. Y Cyngor Partneriaeth, lle y bydd Aelodau o’r Cynulliad o bob plaid yn cymryd rhan, fydd yn gyrru hyn ymlaen.

Peter Black spoken in English p. 7

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 7

Does the First Secretary agree that the Assembly should not be too prescriptive and local government must find its own solutions to problems when the modernisation agenda is applied? Does he also agree that we should encourage local government to involve local people in the way it operates and that it should ensure that its new structures are open and accountable?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno na ddylai’r Cynulliad fod yn rhy orchmynnol a bod rhaid i lywodraeth leol ganfod ei hatebion ei hun i broblemau pan gymhwysir yr agenda ar gyfer moderneiddio? A yw hefyd yn cytuno y dylem annog llywodraeth leol i gynnwys pobl leol yn ei dull gweithredu ac y dylai sicrhau bod ei strwythurau newydd yn agored ac yn atebol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

Yes. There are sometimes tensions between the principles of openness and accountability and involving local people and local representatives in local decisions. From my time as a local councillor and local community worker, I have learnt, and strongly believe, that you should engage local people in decisions that affect them. This requires hard work from elected representatives, officials and those from voluntary organisations. However, it enables you to achieve far more than you would by simply dictating what should happen. I also believe that we should encourage local government to participate in devolution, which is what brought the Assembly into being, and what local government should promote it in its own area.

Ydwyf. Weithiau fe geir gwrthdynnu rhwng yr egwyddorion o fod yn agored ac yn atebol a chynnwys pobl leol a chynrychiolwyr lleol mewn penderfyniadau lleol. Yr wyf wedi dysgu, o’m cyfnod fel cynghorydd lleol a gweithiwr cymuned lleol, ac yn credu’n gryf, y dylech gynnwys pobl leol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae angen gwaith caled i gyflawni hynny gan gynrychiolwyr etholedig, swyddogion a rhai o fudiadau gwirfoddol. Fodd bynnag, mae’n eich galluogi i gyflawni llawer mwy nag y byddech drwy wneud dim ond gorchymyn beth a ddylai ddigwydd. Credaf hefyd y dylem annog llywodraeth leol i gymryd rhan mewn datganoli, sef yr hyn a ddaeth â’r Cynulliad i fodolaeth, a’r hyn y dylai llywodraeth leol ei hybu yn ei maes ei hun.

Carwyn Jones spoken in English p. 8

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 8

Most meetings take place during the day in local government, which makes it difficult for those in full-time employment to stand as councillors as they cannot get time off, especially if they do not work in the public sector. What plans does the First Secretary have to ensure and encourage a wider age group to stand for election and to assist those in full-time employment to do this?

Bydd y rhan fwyaf o gyfarfodydd mewn llywodraeth leol yn digwydd yn ystod y dydd, sy’n ei gwneud yn anodd i rai mewn gwaith llawn-amser sefyll fel cynghorwyr gan nad oes modd iddynt gael amser i ffwrdd, yn enwedig os nad ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i sicrhau ac i annog grŵp oedran ehangach i sefyll mewn etholiadau ac i helpu rhai mewn gwaith llawn-amser i wneud hynny?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 8

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

There have been times when all councils met during the evening or at night. I can remember sitting in Cardiff County Council chamber past midnight in some debates and I would not recommend that for the Assembly. Other groups, such as those with family responsibilities, are excluded from evening meetings. It has to be whatever suits the area. However, we should encourage the widest range of people to participate and contribute their talents to local government. The cabinet approach, which is moving into local government, may assist that. I think discussions in this Chamber, the Environment Committee and the Partnership Council may help to address these issues.

Cafwyd adegau pan fyddai pob cyngor yn cyfarfod gyda’r hwyr neu yn ystod y nos. Yr wyf yn cofio eistedd yn siambr Cyngor Sir Caerdydd ar ôl iddi droi hanner nos mewn rhai dadleuon ac ni fyddwn yn cymeradwyo hynny i’r Cynulliad. Mae grwpiau eraill, fel rhai â chyfrifoldebau teuluol, yn cael eu cau allan o gyfarfodydd gyda’r hwyr. Rhaid cael beth bynnag sy’n addas i’r ardal. Fodd bynnag, fe ddylem annog yr amrediad ehangaf o bobl i gymryd rhan a rhoi o’u doniau i lywodraeth leol. Efallai y bydd y dull cabinet, sy’n dechrau dod i lywodraeth leol, yn helpu hynny. Credaf y gallai trafodaethau yn y Siambr hon, Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Cyngor Partneriaeth fod o gymorth i ymdrin â’r materion hyn.

Rhaglen Ffyrdd

Roads Programme

C4 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Q4 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 8

A all y Prif Ysgrifennydd ddatgan y swm o arian sydd ar gael ar gyfer rhaglen ffyrdd yn y flwyddyn gyfredol a’r blynyddoedd sydd i ddilyn? (OAQ249VB)

Can the First Secretary state the amount of money available for the roads programme for the current year and for subsequent years? (OAQ249VB)

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 9

Yn ystod 1999-2000, darperir y rhaglen £101.9 miliwn ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd. Bydd £104.9 miliwn ar gael ar gyfer 2000, 2001 a 2002. Yn ychwanegol, ym 1999-2000, bydd grant trafnidiaeth o £25.3 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau ffyrdd. Mater i’r Cynulliad bydd y grant hwn yn y dyfodol.

During 1999-2000, the programme will provide £101.9 million for trunk roads and motorways. In 2000, 2001 and 2002, £104.9 million will be available. In addition to this, in 1999-2000, a transport grant of £25.3 million will be available to local authorities for road schemes. This grant will be a matter for the Assembly in future.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 9

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno â’r rhan fwyaf o’r pleidiau eraill fod angen cynllun trafnidiaeth integredig? Byddai hyn yn cynnwys rheilffyrdd a hefyd buddsoddiad mewn ffyrdd. Byddai’n caniatáu datblygu system ffyrdd ffigwr-wyth trwy Gymru yn cysylltu’r de â’r gogledd a’r dwyrain â’r gorllewin. Byddai hefyd o fantais i’r amgylchedd oherwydd gellid datblygu trafnidiaeth gyhoeddus a’i chyd-gysylltu ag amserlenni trenau.

Does the First Secretary agree with most of the other parties that we need an integrated transport scheme? This would include railways and investment in roads also and would allow the development of a figure eight road system in Wales that would join the north with the south and the east with the west. It would also be of benefit to the environment as we could develop public transport and co-ordinate that with train timetables.

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 9

Yr wyf yn cytuno y dylid parhau i ddatblygu cynlluniau integredig. Yr ydym wedi ceisio symud tuag at y ffordd yma o weithio dros y blynyddoedd diwethaf. Y broblem yw cael digon o arian i wneud popeth. Rhaid inni chwilio am ffyrdd o ddod â mwy o arian i mewn gan y bydd cymaint o bethau y bydd y Cynulliad am eu gwneud. Ni allwn wario mwy ar ffyrdd heb gymryd arian o leoedd eraill. Yr ydych yn iawn i ddweud fod rhaid gwneud mwy o ran cysylltu’r dwyrain a’r gorllewin, ond yr ydym yn dychwelyd at yr un gair: ‘blaenoriaethau, blaenoriaethau, blaenoriaethau’. Yr wyf yn cytuno ei bod yn anodd penderfynu ar y brif flaenoriaethau.

I agree that we should continue to develop integrated schemes. We have tried to move towards this way of working over recent years. The problem is getting enough money to do everything. We must look for ways of bringing more money in, as there are so many things the Assembly will want to do. We cannot spend more on roads without taking money from elsewhere. You are right to say that more needs to be done to link the east with the west, but we return to the same word: ‘priorities, priorities, priorities’. I agree that it is difficult to decide on the main priorities.

Jane Davidson spoken in English p. 9

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 9

Last year, the Welsh Office gave priority to 13 local schemes. The Church Village bypass in my constituency was among them. Eight priority schemes have been moved forward and five have been left behind. Will the First Secretary ensure that Assembly Members are aware of the prioritisation criteria, now that the prioritisation of local road schemes will be a matter for the Assembly? That would ensure that we do not end up with hugely increased housing development on roads that have previously been rejected as priorities, which would affect their future priority status.

Llynedd, rhoddodd y Swyddfa Gymreig flaenoriaeth i 13 cynllun lleol. Yr oedd ffordd osgoi Pentre’r Eglwys yn fy etholaeth yn un ohonynt. Mae wyth cynllun blaenoriaeth wedi eu symud ymlaen ac mae pump wedi eu gadael ar ôl. A fyddai’r Prif Ysgrifennydd gystal â sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn gwybod am y meini prawf ar gyfer blaenoriaeth, gan fod blaenoriaeth cynlluniau ffyrdd lleol yn fater i’r Cynulliad bellach? Byddai hynny’n sicrhau na fyddem yn cael cynnydd enfawr mewn datblygiadau tai ar ffyrdd y gwrthodwyd blaenoriaeth iddynt cynt, a fyddai’n effeithio ar eu statws blaenoriaeth yn y dyfodol.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

It is a sensible objective to co-ordinate planning at local authority and Assembly level. The figures show a consistent decline in expenditure on trunk roads and motorways. It is important to get the balance right as with the priorities we discussed a moment ago. The better the information at local and Assembly level, the more likely it is that we will make the right decisions. I accept that point.

Nod synhwyrol yw ceisio cydlynu cynllunio ar lefel yr awdurdod lleol ac ar lefel y Cynulliad. Mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad cyson yn y gwariant ar gefnffyrdd a thraffyrdd. Mae’n bwysig cael cydbwysedd iawn fel yn achos y blaenoriaethau a drafodwyd gennym eiliad yn ôl. Gorau po fwyaf o wybodaeth a gawn ar lefel leol ac yn y Cynulliad os ydym i wneud y penderfyniadau iawn. Yr wyf yn derbyn y pwynt hwnnw.

Gwyddonwyr Labordai Meddygol

Medical Laboratory Scientists

C5 David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Q5 David Lloyd spoken in Welsh p. 10

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn fodlon gwneud datganiad ynghylch unrhyw gynlluniau a fo ganddo i adolygu cyflogau ac amodau gwyddonwyr labordai meddygol yng Nghymru trwy gyfrwng corff adolygu cyflogau? (OAQ247VB)

Will the First Secretary make a statement about whether he has any plans to review the pay and conditions of medical laboratory scientists in Wales through the medium of a pay review body? (OAQ247VB)

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 10

Mae problemau â’r modd y cyflogir rhai pobl yn y gwasanaeth iechyd. Mae yna bobl â gwybodaeth arbenigol yn cael eu heithrio o system y cyrff adolygu cyflogau. Mae trafodaethau ar y gweill rhwng adrannau iechyd, undebau a staff y gwasanaeth iechyd er mwyn sefydlu corff adolygu a fydd yn cynnwys y bobl cyferiodd Dai Lloyd atynt.

There are problems with the way some people in the NHS are employed. People with specialist knowledge are being excluded from the pay review bodies system. Talks are currently being held between health departments, unions and NHS staff to try to establish a review body that will include the people that Dai Lloyd referred to.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 10

David Lloyd spoken in Welsh p. 10

Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y grwp hwn o bobl. Yr ydym yn anghofio amdanynt o hyd, ond mae pawb wedi gorfod aros am ganlyniad o’r ysbyty ryw bryd. Maent wedi eu heithrio ar hyn o bryd o’r ffordd y mae pobl eraill yn y gwasanaeth iechyd yn cael eu talu. Maent yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth. Byddwn yn ddiolchgar pe bai’r Cynulliad yn defnyddio ei ddylanwad i sicrhau eu bod yn ei chael.

I would like to emphasise the importance of this group of people. We always forget about them, but everybody has had to wait for a result from the hospital at some stage. They have been excluded from the way other people in the NHS are paid. They deserve more recognition. I would be grateful if the Assembly used its influence to ensure that they get it.

Alun Michael The First Secretary siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 10

Deallaf eich pwynt, ac yr wyf yn sicr fod pawb yn y Cynulliad yn cefnogi’r syniad o gael cytundeb a fyddai’n caniatáu i’r bobl hyn gael cydnabyddiaeth briodol bob blwyddyn.

I understand your point, and I am certain that everyone in the Assembly supports the idea of having an agreement that would allow these people to get proper recognition every year.

Kirsty Williams spoken in English p. 11

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 11

Does the First Secretary agree that we must ensure that all NHS staff are considered valid, whatever their contribution, and that we should recognise their professional skills? That does not appear to be the case with medical laboratory staff. Does he agree that not only should they be paid properly, but they should also play a part in the planning of the delivery of that service? Will he recognise calls from allied medical staff for positions on local health groups?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno bod rhaid inni sicrhau bod holl staff y gwasanaeth iechyd yn cael eu hystyried yn ddilys, beth bynnag fo’u cyfraniad, ac y dylem gydnabod eu medrau proffesiynol? Nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir yn achos staff labordai meddygol. A yw’n cytuno y dylid nid yn unig eu talu’n iawn, ond y dylent hefyd chwarae rhan wrth gynllunio dull cyflenwi’r gwasanaeth hwnnw? A yw’n fodlon cydnabod y galw oddi wrth staff sy’n gysylltiedig â meddygaeth am leoedd ar grwpiau iechyd lleol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

The NHS only operates effectively when it does so on a team basis. I have heard some of the most experienced surgeons state that they must operate in a team that includes the most unskilled workers. If they do not work as a team, they do not succeed in providing the necessary treatment. I accept that medical laboratory staff and many others with technical expertise are crucial to the NHS. Everything we are trying to do with the NHS includes moving away from competitive units to an integrated team at every level whether it is a between trusts or between different professions in the health service. That is the driving principle underpinning what we are trying to do with the health service.

Dim ond drwy weithio fel tîm y gall y gwasanaeth iechyd weithredu’n effeithiol. Clywais rai o’r llawfeddygon mwyaf profiadol yn dweud bod rhaid iddynt weithredu mewn tîm sy’n cynnwys y gweithwyr â’r lleiaf o fedrau. Os na fyddant yn gweithio fel tîm, ni fyddant yn llwyddo i ddarparu’r driniaeth angenrheidiol. Yr wyf yn derbyn bod staff labordai meddygol a llawer o rai eraill ag arbenigaeth dechnegol yn holl bwysig i’r gwasanaeth iechyd. Mae popeth yr ydym yn ceisio ei wneud gyda’r gwasanaeth iechyd yn cynnwys symud i ffwrdd oddi wrth unedau cystadleuol at dîm integreiddiedig ar bob lefel, boed hynny rhwng ymddiriedolaethau neu rhwng gwahanol broffesiynau yn y gwasanaeth iechyd. Dyna’r egwyddor hanfodol sy’n sylfaen i’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud gyda’r gwasanaeth iechyd.

Ffioedd Hyfforddi Myfyrwyr

Student Tuition Fees

Q6 Jonathan Morgan spoken in English p. 11

C6 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 11

Are there any plans to set up a committee of inquiry for Wales into the consequences of levying tuition fees on students, along the lines of the committee that has been set up in Scotland? (OAQ241VB)

A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu pwyllgor yng Nghymru i ymchwilio i ganlyniadau codi ffioedd hyfforddi ar fyfyrwyr, tebyg i’r hyn sydd wedi ei sefydlu yn yr Alban? (OAQ241VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

I have no plans to do so, because that function was not devolved to the National Assembly for Wales. We have a great deal of work to do within our areas of responsibility. I accept Assembly Members’ interest in this issue, but responsibility for tuition fee policy and student support for England and Wales rests with the Department for Education and Employment.

Nid oes gennyf fwriad i wneud hynny, oherwydd ni ddatganolwyd y swyddogaeth honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud o fewn y meysydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Yr wyf yn derbyn bod gan Aelodau’r Cynulliad ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae’r cyfrifoldeb dros y polisi ar ffioedd hyfforddi a chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr yn perthyn i’r Adran Addysg a Chyflogaeth.

Jonathan Morgan spoken in English p. 12

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 12

That does not address the concerns raised not least by the Association of University Teachers and the National Union of Students in Wales, but also our university admissions departments, who are very concerned about the damaging effect of tuition fees in Wales. It is only right and proper for the Assembly to consider this issue in the Post-16 Education and Training Committee or in an independent committee. There are deep concerns about it and we will not do the Assembly any credit if we totally ignore it.

Nid yw hynny’n ateb y pryderon a godwyd yn bennaf gan Gymdeithas Athrawon Prifysgol ac Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru, ond hefyd gan adrannau derbyn ein prifysgolion, sydd yn bryderus iawn ynghylch effaith niweidiol ffioedd hyfforddi yng Nghymru. Nid yw ond yn iawn a phriodol i’r Cynulliad ystyried y mater hwn yn y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 neu mewn pwyllgor annibynnol. Mae pryderon mawr yn ei gylch ac ni fyddwn yn dod ag unrhyw glod i’r Cynulliad os byddwn yn ei anwybyddu’n llwyr.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 12

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

I do not suggest that we totally ignore it. I gave you a straight answer—it is not the Assembly’s responsibility. There will be many people wanting to push the Assembly to take a view on all sorts of issues outside our responsibility. Before taking on new burdens we must be careful to demonstrate our capacity to deal confidently and efficiently with those things that are within our responsibilities. It is slightly odd that a member of a party that opposed this degree of devolution wants to go further and take on issues outside the Assembly’s responsibilities.

Nid wyf yn awgrymu y dylem ei anwybyddu’n llwyr. Rhoddais ateb syml i chi—nid cyfrifoldeb y Cynulliad ydyw. Fe fydd llawer o bobl sydd am bwyso ar y Cynulliad i gymryd safbwynt ar bob math o faterion sydd y tu hwnt i’n cyfrifoldeb. Cyn ymgymryd â beichiau newydd rhaid inni fod yn ofalus i ddangos ein bod yn gallu delio’n hyderus ac yn effeithlon â’r pethau hynny sydd o fewn ein cyfrifoldeb. Mae braidd yn rhyfedd bod aelod o blaid a wrthwynebodd y graddau hyn o ddatganoli yn dymuno mynd ymhellach a mynd i’r afael â materion sydd y tu hwnt i gyfrifoldeb y Cynulliad.

Lorraine Barrett spoken in English p. 12

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 12

What is your e-mail address Mr Presiding Officer? I cannot find it.

Beth yw’ch cyfeiriad e-bost, Mr Llywydd? Nid wyf yn gallu dod o hyd iddo.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 12

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

My e-mail address has not changed, it is Dafydd.Elis-Thomas@wales.gsi.gov.uk.

Nid yw fy nghyfeiriad e-bost wedi newid. Y cyfeiriad yw Dafydd.Elis-Thomas@wales.gsi.gov.uk.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies spoken in English p. 13

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

The motion to delegate the functions of the Health Act has been deferred to Wednesday 7 July as the Bill will not be presented for royal assent until tomorrow. Details of business for the next three weeks including supporting papers are on the Chamber website. I draw your attention to the following additional items of business agreed in Business Committee this morning.

Mae’r cynnig i ddirprwyo swyddogaethau’r Ddeddf Iechyd wedi ei ohirio tan ddydd Mercher 7 Gorffennaf gan na fydd y Mesur yn cael ei gyflwyno i dderbyn cydsyniad brenhinol tan yfory. Mae manylion y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf gan gynnwys y dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Siambr. Yr wyf yn tynnu’ch sylw at yr eitemau busnes ychwanegol canlynol a gytunwyd yn y Pwyllgor Busnes fore heddiw.

On Wednesday 7 July, there will be a motion to agree the Assembly’s proposed affiliation with the Commonwealth Parliamentary Association. There will also be a motion to confirm appointments to the Partnership Council.

Ddydd Mercher 7 Gorffennaf, bydd cynnig i gytuno ar y bwriad i’r Cynulliad ymgysylltu â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Bydd cynnig hefyd i gadarnhau penodiadau i’r Cyngor Partneriaeth.

On Wednesday 21 July, there will be a motion to note the memorandum of understanding and overarching concordats. I have made arrangements for copies of this statement to be on the internet and intranet.

Ddydd Mercher 21 Gorffennaf, bydd cynnig i nodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a’r concordatiau trosfwaol. Yr wyf wedi trefnu i gopïau o’r datganiad hwn fod ar y rhyngrwyd a’r fewnrwyd.

I can tell the Assembly and those who tabled a motion and Ieuan Wyn Jones who made separate representations on the Nant-y-gwyddon landfill site, that the First Secretary and I have asked officials to consider options for an inquiry. In doing so, we must give detailed consideration to the relevant legal policy issues. Officials are currently preparing a report outlining those issues, and as soon as it is prepared, I will make another statement to the Business Committee.

Gallaf ddweud wrth y Cynulliad a’r rhai a gyflwynodd gynnig a Ieuan Wyn Jones a gyflwynodd sylwadau ar wahân ynglŷn â safle tirlenwi Nant-y-gwyddon, bod y Prif Ysgrifennydd a minnau wedi gofyn i’r swyddogion ystyried y dewisiadau o ran cynnal ymchwiliad. Wrth wneud hynny, rhaid inni roi sylw manwl i’r materion perthnasol o ran polisi cyfreithiol. Mae’r swyddogion yn paratoi adroddiad ar hyn o bryd sy’n amlinellu’r materion hynny, a chyn gynted ag y bydd yn barod, byddaf yn rhoi datganiad arall i’r Pwyllgor Busnes.

The Secretary of State has received an appeal on the Nant-y-gwyddon landfill site. Responsibility for determining that will transfer to the Assembly on 1 July. In considering how to move forward we must ensure that an inquiry, if appropriate, does not impinge on the discharge of the Assembly’s appellate responsibilities.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi derbyn apêl ar safle tirlenwi Nant-y-gwyddon. Bydd y cyfrifoldeb dros benderfynu hynny yn cael ei drosglwyddo i’r Cynulliad ar 1 Gorffennaf. Wrth ystyried sut i symud ymlaen rhaid inni sicrhau na fydd ymchwiliad, os mai hynny sy’n briodol, yn gwrthdaro â gallu’r Cynulliad i gyflawni ei gyfrifoldebau apeliadol.

Derbyniwyd y Datganiad Busnes.

Business Statement adopted.

Datganiad ar Swyddogaethau Dirprwyedig

Statement on Delegated Functions

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

Two weeks ago, the Assembly formally delegated most of its functions to me as First Secretary. At that time, I readily accepted an amendment from John Marek requiring me to publish details of all the functions I proposed to delegate to Assembly Secretaries and those I propose to retain. I always intended to do that. A statement to explain how functions are delegated would help the Assembly and those of us who want it to succeed.

Bythefnos yn ôl, fe ddirprwyodd y Cynulliad y rhan fwyaf o’i swyddogaethau yn ffurfiol i mi fel y Prif Ysgrifennydd. Bryd hynny, fe dderbyniais â pharodrwydd welliant gan John Marek a fynnai y byddwn yn cyhoeddi manylion yr holl swyddogaethau y bwriadaf eu dirprwyo i Ysgrifenyddion y Cynulliad a’r rhai y bwriadaf eu cadw. Yr oedd hynny’n fwriad gennyf drwy’r amser. Byddai datganiad i egluro sut y dirprwyir y swyddogaethau o gymorth i’r Cynulliad ac i’r rhai ohonom sydd am ei weld yn llwyddo.

My colleagues and I want to ensure that we deliver what all political parties supported—a Cabinet that operates through collective responsibility and works as a team. It will be my responsibility to ensure that, retaining oversight of the Cabinet as a whole. Individual Assembly Secretaries will be responsible for policy development with an appropriate contribution from their Subject Committees. Implementation on those matters will fall within their portfolios. They will act in a manner that contributes to the effective functioning of the Cabinet and in accordance with its and the Assembly’s strategic priorities.

Mae fy nghyd-weithwyr a minnau am sicrhau ein bod yn cyflawni’r hyn yr oedd yr holl bleidiau gwleidyddol yn ei gefnogi—Cabinet sy’n gweithredu drwy gydgyfrifoldeb ac yn gweithio fel tîm. Fy nghyfrifoldeb i fydd sicrhau hynny, gan gadw goruchwyliaeth ar y Cabinet yn ei gyfanrwydd. Bydd Ysgrifenyddion Cynulliad unigol yn gyfrifol am ddatblygu polisïau gyda chyfraniad priodol gan eu Pwyllgorau Pwnc. Bydd gweithredu ar y materion hynny yn rhan o’u portffolios. Byddant yn gweithredu mewn modd sy’n cyfrannu at weithrediad effeithiol y Cabinet ac yn unol â’i flaenoriaethau strategol a rhai’r Cynulliad.

I will be responsible for a number of issues. First, constitutional matters including relations with the Secretary of State for Wales, the Joint Ministerial Council and the British-Irish Council. Second, I will lead on the work of the statutory partnerships, which are crucial to the Assembly, particularly the Partnership Council and relationships with the voluntary sector and business.

Byddaf yn gyfrifol am nifer o faterion. Yn gyntaf, materion cyfansoddiadol gan gynnwys cysylltiadau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cydbwyllgor y Gweinidogion a Chyngor Prydain-Iwerddon. Yn ail, arweiniaf yng ngwaith y partneriaethau statudol, sydd yn hanfodol i’r Cynulliad, yn enwedig y Cyngor Partneriaeth a’r cysylltiadau â’r sector gwirfoddol a busnes.

Third, on Europe, Rhodri Morgan leads on European economic issues but the overall co-ordination of European issues is my responsibility. Finally, there are cross-cutting issues and co-ordination of policy generally. I will return to that point later.

Yn drydydd, ar Ewrop, bydd Rhodri Morgan yn arwain ar faterion economaidd Ewropeaidd ond gennyf fi y bydd y cyfrifoldeb dros y cydlynu cyffredinol ar faterion Ewropeaidd. Yn olaf, mae yna faterion trawsffiniol a chydlynu polisi yn gyffredinol. Fe ddychwelaf at y pwynt hwnnw yn y man.

In the very early days of the Assembly, I outlined the areas of responsibility that I proposed to assign to each Assembly Secretary. This in turn has informed the developments of the Subject Committees. I have today placed on the intranet two documents outlining the role of each Assembly Secretary in more detail, developing the initial outline which I gave to the Assembly, as I promised.

Yn nyddiau cyntaf y Cynulliad, amlinellais y meysydd cyfrifoldeb y bwriadwn eu dyrannu i bob Ysgrifennydd Cynulliad. Mae hyn yn ei dro wedi goleuo datblygiad y Pwyllgorau Pwnc. Heddiw rhoddais ddwy ddogfen ar y fewnrwyd sy’n amlinellu rôl pob Ysgrifennydd Cynulliad yn fanylach, gan ddatblygu’r amlinelliad cychwynnol a roddais i’r Cynulliad, yn ôl f’addewid.

The first document explains in summary form the specific responsibilities of each portfolio and adds details of lead responsibilities for cross-cutting issues and statutory schemes. I attach particular importance to the last element. Whether in Cabinet, Committee or Plenary session, we must develop policy in an integrated way and avoid the departmental silos that formed the mentality of the past.

Mae’r ddogfen gyntaf yn egluro ar ffurf crynodeb gyfrifoldebau penodol pob portffolio ac yn ychwanegu manylion am gyfrifoldebau arwain ar gyfer materion trawsffiniol a chynlluniau statudol. Yr wyf yn rhoi pwys arbennig ar yr elfen olaf. Boed yn y Cabinet, mewn Pwyllgor neu Sesiwn llawn, rhaid inni ddatblygu polisi mewn modd integreiddiedig ac osgoi neilltuo materion i gwmpas adran benodol fel y gwnaed yn ôl yr hen ffordd o feddwl.

Responsibility for the cross-cutting themes will be exercised collectively by the Cabinet and, therefore, will not be delegated to individual Assembly Secretaries. However, for each of the themes we have identified, one Assembly Secretary should be tasked with acting as a champion within the Cabinet. Where I intend myself to play this role, an Assembly Secretary will share the lead with me. By assigning responsibilities to one member of the Cabinet, I aim to ensure that each theme is driven forward in a consistent way. I do not intend that other Cabinet Members and Committees should take no interest. The point of having statutory schemes and cross-cutting issues identified, is precisely the opposite of that.

Bydd y cyfrifoldeb dros y themâu trawsffiniol yn cael ei arfer ar y cyd gan y Cabinet ac ni fydd yn cael ei ddirprwyo, felly, i Ysgrifenyddion Cynulliad unigol. Fodd bynnag, ar gyfer pob un o’r themâu hyn, yr ydym wedi dynodi un Ysgrifennydd Cynulliad a ddylai gael y dasg o weithredu fel cefnogwr iddi yn y Cabinet. Pan fydd yn fwriad gennyf fi chwarae’r rôl hon, bydd Ysgrifennydd Cynulliad yn rhannu’r arweiniad â mi. Drwy ddyrannu cyfrifoldebau i un aelod o’r Cabinet, yr wyf yn bwriadu sicrhau y bydd pob thema yn cael ei hybu mewn modd cyson. Nid yw’n fwriad gennyf na ddylai Aelodau eraill o’r Cabinet a’r Pwyllgorau ymddiddori ynddi. Mae pwrpas dynodi cynlluniau statudol a materion trawsffiniol yn union i’r gwrthwyneb i hynny.

In respect of the three partnerships with local government, business and the voluntary sector, I will be supported in my lead role on local government by Peter Law; on business by Rhodri Morgan, and on the voluntary sector by Jane Hutt. Rhodri will also support me on the European dimension and the Committee on European Affairs will play a role in that. Jane Hutt will act as the champion of equal opportunities within the Cabinet, in line with her role as Chair of the Committee on Equality of Opportunity, supported by Edwina Hart.

Ynglŷn â’r tair partneriaeth gyda llywodraeth leol, busnes a’r sector gwirfoddol, byddaf yn cael cefnogaeth yn fy rôl arweiniol ar lywodraeth leol gan Peter Law; ar fusnes gan Rhodri Morgan, ac ar y sector gwirfoddol gan Jane Hutt. Bydd Rhodri hefyd yn fy nghefnogi yn y dimensiwn Ewropeaidd a bydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd yn chwarae rôl yn hynny. Bydd Jane Hutt yn gweithredu fel cefnogwr i gyfle cyfartal o fewn y Cabinet, yn unol â’i rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, gyda chefnogaeth Edwina Hart.

As for other cross-cutting themes, I have asked Christine Gwyther, supported by Peter Law, to take the lead on sustainable development; Rhodri Morgan on competitiveness; Rosemary Butler on children’s matters; and Edwina Hart, supported by Peter Law, on better government. The importance of these issues was illustrated by the way issues like better government came up in questions earlier on.

Ynglŷn â’r themâu trawsffiniol eraill, yr wyf wedi gofyn i Christine Gwyther arwain ar ddatblygu cynaliadwy, gyda chefnogaeth Peter Law; Rhodri Morgan ar gystadleuolrwydd; Rosemary Butler ar faterion plant; ac Edwina Hart, gyda chefnogaeth Peter Law, ar well llywodraeth. Dangoswyd pwysigrwydd y materion hyn yn y modd y cododd materion fel gwell llywodraeth yn y cwestiynau yn gynharach.

I will take the lead on social inclusion, supported by Jane Hutt; on crime reduction, supported by Peter Law; on the image and promotion of Wales, supported by Rhodri Morgan; and on Welsh culture and languages, as a cross-cutting issue, and on youth issues, supported by Tom Middlehurst.

Byddaf yn arwain ar gynhwysiant cymdeithasol, gyda chefnogaeth Jane Hutt; ar leihau troseddu, gyda chefnogaeth Peter Law; ar ddelwedd a hybu Cymru, gyda chefnogaeth Rhodri Morgan; ar ddiwylliant a ieithoedd Cymru, fel mater trawsffiniol ac ar faterion ieuenctid, gyda chefnogaeth Tom Middlehurst.

The remaining cross-cutting themes which the Cabinet have agreed we must take into account are closely allied with the specific portfolios of individual Assembly Secretaries and are referred to in the document.

Mae gweddill y themâu trawsffiniol y mae’r Cabinet wedi cytuno y dylem roi ystyriaeth iddynt yn ymgysylltu’n agos â phortffolios penodol Ysgrifenyddion Cynulliad penodol ac fe gyfeirir atynt yn y ddogfen.

I am conscious, as are the members of the Cabinet, that these cross-cutting themes make a formidable list. We must be realistic in recognising that we cannot address all of them within the next few weeks or even the next few months. However, we should also be ambitious because it is our capacity to make progress on these cross-cutting themes which will most obviously show whether the Assembly is really making a difference to the lives of men, women and families in Wales.

Yr wyf yn ymwybodol, fel y mae aelodau’r Cabinet, fod y themâu trawsffiniol hyn gyda’i gilydd yn rhestr aruthrol. Rhaid inni fod yn ymarferol wrth sylweddoli na allwn ymdrin â phob un ohonynt o fewn yr wythnosau nesaf hyn neu hyd yn oed y misoedd nesaf. Fodd bynnag, fe ddylem hefyd fod yn uchelgeisiol oherwydd ein gallu i symud ymlaen ar y themâu trawsffiniol hyn fydd yn dangos orau a yw’r Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau dynion, benywod a theuluoedd yng Nghymru.

The importance of cross-cutting issues is such that I hope and believe that the Assembly and its Subject Committees will reflect these in our work. The nature of the relationship between Assembly Secretaries and their Subject Committees, in respect of their role as champions within the Cabinet on specific themes, is one which will need to be agreed within the context of the Committee work programmes. The aim must be to ensure that the Subject Committees are kept informed of how the Cabinet is driving forward policy on each theme.

Cymaint yw pwysigrwydd materion trawsffiniol fel fy mod yn gobeithio ac yn credu y bydd y Cynulliad a’i Bwyllgorau Pwnc yn eu hadlewyrchu yn ein gwaith. Mae natur y berthynas rhwng yr Ysgrifenyddion Cynulliad a’u Pwyllgorau Pwnc, o ran eu rôl fel cefnogwyr o fewn y Cabinet i themâu penodol, yn fater y bydd raid ei gytuno o fewn cyd-destun rhaglenni gwaith y Pwyllgorau. Y nod fydd sicrhau bod y Pwyllgorau Pwnc yn cael gwybod drwy’r amser am y modd y mae’r Cabinet yn hybu polisi ar bob thema.

The second document that I have placed on the intranet contains full details of the delegation of functions from me to individual Assembly Secretaries. That is based on my powers in section 66(5) of the Government of Wales Act 1998 and it is necessary to effect Cabinet government. The document is based on the Transfer of Functions Order and on the Government of Wales Act 1998. As yet, no other legislation confers functions directly on the Assembly. However, I propose to delegate functions in new Acts which confer functions as they gain royal assent. The first such Act, which has just been referred to by the Business Secretary, is the Health Act, which gains royal assent tomorrow. Perhaps I can make it clear that I intend to delegate the functions in that to Jane Hutt.

Mae’r ail ddogfen a roddais ar y fewnrwyd yn cynnwys manylion llawn y swyddogaethau a ddirprwywyd gennyf fi i’r Ysgrifenyddion Cynulliad unigol. Mae hynny’n seiliedig ar fy mhwerau yn adran 66(5) Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac mae’n angenrheidiol er mwyn cyflawni llywodraeth drwy Gabinet. Mae’r ddogfen yn seiliedig ar y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau ac ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth arall sydd yn cyflwyno swyddogaethau’n uniongyrchol i’r Cynulliad. Fodd bynnag, bwriadaf ddirprwyo swyddogaethau mewn Deddfau newydd sy’n cyflwyno swyddogaethau wrth iddynt dderbyn cydsyniad brenhinol. Y Ddeddf gyntaf o’r fath, y mae’r Trefnydd newydd gyferio ati, yw’r Ddeddf Iechyd, a gaiff gydsyniad brenhinol yfory. Efallai y gallwn roi ar ddeall fy mod yn bwriadu dirprwyo’r swyddogaethau ynddi i Jane Hutt.

It has always been the case that civil servants have exercised certain functions on behalf of Ministers. Section 63 of the Government of Wales Act 1998 allows delegation of functions to Assembly officials. There are strong practical reasons for officials to deal directly with minor administrative matters and I propose to continue this practice where appropriate. The difference perhaps, is that it will be more clearly defined because the nature of the Assembly requires that it should be so.

Mae gweision sifil yn arfer rhai swyddogaethau ar ran Gweinidogion erioed. Mae adran 63 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn caniatáu dirprwyo swyddogaethau i swyddogion y Cynulliad. Mae rhesymau ymarferol cadarn dros ganiatáu i swyddogion ymdrin yn uniongyrchol â mân faterion gweinyddol a bwriadaf barhau â’r arfer hon lle y bo’n briodol. Y gwahaniaeth, efallai, yw y bydd wedi ei diffinio’n eglurach oherwydd mae natur y Cynulliad yn mynnu mai felly y dylai fod.

I hope that the approach I have outlined fully clarifies the role of the Cabinet and its members in relation to specific matters that are important to the work of the Assembly and will ensure that we change the lives of the people of Wales for the better, as well as discharging the duty which John’s amendment laid on me. More importantly, I believe that it provides for a policy-making process which allows all of us in the Assembly to tackle issues in an integrated and coherent way. We must have a coherent way of dealing with all those departmental responsibilities, whether for education, health or agriculture.

Gobeithio bod y dull gweithredu a amlinellais yn llwyr egluro rôl y Cabinet a’i aelodau mewn perthynas â materion penodol sydd yn bwysig i waith y Cynulliad ac y bydd yn sicrhau y byddwn yn newid bywydau pobl Cymru er gwell, yn ogystal â chyflawni’r ddyletswydd oedd arnaf o ganlyniad i welliant John. Yn bwysicach na hynny, credaf ei fod yn darparu ar gyfer proses llunio polisïau sy’n caniatáu i bawb ohonom yn y Cynulliad ymdrin â materion mewn modd integreiddiedig a chydlynol. Rhaid inni wrth ddull cydlynol o drafod yr holl gyfrifoldebau adrannol hynny, boed ar gyfer addysg, iechyd neu amaethyddiaeth.

In the past, people have missed the big picture by not having cross-cutting themes. We must ensure that both are explicit in the arrangements for Cabinet members’ responsibilities and that all Assembly Members have a say in the way they are performed through the Subject Committees. We can have a fully integrated Assembly which is capable of joined-up government and that would show the way to many other institutions. It will allow us to capitalise fully on the opportunity that devolution presents to us to make a meaningful difference to the quality of life of the people in Wales.

Yn y gorffennol, yr oedd pobl wedi methu gweld y darlun cyflawn am nad oedd ganddynt themâu trawsffiniol. Rhaid inni sicrhau bod y ddau yn amlwg yn y trefniadau ar gyfer cyfrifoldebau aelodau’r Cabinet a bod llais gan holl Aelodau’r Cynulliad yn y modd y cânt eu cyflawni drwy’r Pwyllgorau Pwnc. Gallwn gael Cynulliad cwbl integreiddiedig sy’n gallu cyflawni llywodraeth gyfunedig a byddai hynny’n dangos y ffordd i lawer o sefydliadau eraill. Bydd yn caniatáu inni fanteisio’n llawn ar y cyfle a roddir inni drwy ddatganoli i wneud gwahaniaeth ystyrlon yn ansawdd bywyd pobl yng Nghymru.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 18

Diolch yn fawr iawn i Alun Michael am y datganiad yna. Yn amlwg bydd angen ei astudio’n fanwl i weld yn union sut mae’r gwahanol elfennau yn cydweithio ac i weld hefyd a oes yna rhai elfennau heb eu cynnwys.

Thank you, Alun Michael, for that statement. We obviously need to study it carefully to see how the various elements co-operate and whether some elements have been ommitted.

Felly a fyddai’r Prif Ysgrifennydd yn y dyfodol yn dweud pan fo bwriad i wneud datganiadau o’r math hwn? A fyddai modd cael copi o flaen llaw er mwyn astudio’r materion hyn? A fydd cyfle i ailedrych ar hyn cyn gwyliau’r haf os gwelwn ar ôl astudio’n fanylach fod rhai elfennau heb eu cynnwys?

Therefore would the First Secretary in future say when statements of this sort are going to be made? Would it be possible to have a copy beforehand so that we can study these matters? Will we have the opportunity to look at this again before the summer recess if we notice after closer scrutiny that some elements have been ommitted?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 18

Ar f’ysgwyddau i y mae’r cyfrifoldeb i benderfynu pwy sydd yn cymryd pa gyfrifoldeb yn y Cabinet. Yn syth ar ôl gwneud y penderfyniadau hynny, fe gyflwynais i’r canlyniad i’r Cynulliad, ond derbyniaf y ffaith na welais i efallai bopeth y dylwn i fod wedi ei ystyried. Efallai y gwelwn yn ddiweddarach fod yna bethau nad ydynt yn gweithio’n berffaith ac yr wyf yn barod i dderbyn syniadau oddi wrth Dafydd Wigley neu Aelodau eraill o’r Cynulliad.

The responsibility is on my shoulders to decide who takes what responsibility in the Cabinet. Immediately after having made those decisions, I presented the outcome to the Assembly, but I am quite open-minded about whether I have seen everything that should be considered. There are possibly some things which we will later see not to be working properly and I am open to ideas from Dafydd Wigley or other Assembly Members.

Atebaf y cwestiwn ynglŷn â rhyddhau papurau cyn rhoi datganiadau. Fe allem fynd i’r cyfeiriad hwnnw ond efallai y byddai’n werthfawr esbonio’r camau a gymerwyd wrth ystyried y mater a rhoi cyfle yn y dyfodol i ddychwelyd at hyn. Nid yw’r drws wedi ei gau.

I will answer the question about issuing papers before making statements. We could move in that direction but perhaps I should explain how I had thought this through and give you an opportunity to come back to this in the future. The door has not been closed.

Rod Richards spoken in English p. 19

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 19

Mr Llywydd, I welcome the First Secretary’s decision to announce the delegated functions to his Cabinet; particularly as a Cabinet structure was a Conservative Party idea and we were able to persuade the other Opposition parties at Westminster, and indeed the Government, to have a Cabinet structure. I suppose from that point of view the Government is to be congratulated for listening to the Conservative Party.

Mr Llywydd, croesawaf benderfyniad y Prif Ysgrifennydd i gyhoeddi’r swyddogaethau y mae’n eu dirprwyo i’w Gabinet; yn enwedig gan mai syniad y Blaid Geidwadol oedd strwythur Cabinet ac yr oeddem ni wedi gallu perswadio pleidiau eraill yr Wrthblaid yn San Steffan, ac yn wir y Llywodraeth, i gael strwythur Cabinet. Fe dybiwn fod lle i longyfarch y Llywodraeth yn hynny o beth am wrando ar y Blaid Geidwadol.

When we envisaged a Cabinet, we hoped for a Cabinet of a high standard. In all seriousness, it has become apparent during the last six weeks that members of the Cabinet are reluctant to engage in debate. I know the Secretary of State believes in this word ‘inclusiveness’, which means taking common ownership of Government policy and its ensuing mistakes. But if this Chamber is to be a meaningful debating chamber, will he impress upon his Cabinet colleagues that they must engage in debate, allow Members to intervene and answer their questions?

Pan oeddem yn rhagweld Cabinet, yr oeddem yn gobeithio am Gabinet o safon uchel. A bod yn gwbl o ddifrif, fe ddaeth yn amlwg yn ystod y chwe wythnos diwethaf fod aelodau’r Cabinet yn amharod i gymryd rhan mewn dadleuon. Gwn fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn credu yn y gair ‘cynwysoldeb’, sy’n golygu ymgymryd â chydberchenogaeth ar bolisi’r Llywodraeth a’r camgymeriadau sy’n ei ddilyn. Ond os yw’r Siambr hon i fod yn siambr ddadlau ystyrlon, a yw’n fodlon rhoi ar ddeall i’w gyd-weithwyr yn y Cabinet bod rhaid iddynt gymryd rhan mewn dadleuon, a chaniatáu i Aelodau ymyrryd ac ateb eu cwestiynau?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 19

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 19

I am delighted to have a compliment even from Rod, because it sometimes feels as if I am being personally attacked. I am pleased he supports the way in which we are developing Cabinet Government. One of the things we have done is to be very open and that was why I was pleased with this statement today which provides more detail and explanation about the day to day workings that we hope to put in place. It certainly will not be perfect. However, it is open and transparent about who does what.

Yr wyf wrth fy modd o dderbyn canmoliaeth hyd yn oed gan Rod, oherwydd byddaf yn teimlo weithiau bod ymosodiad personol arnaf fi. Yr wyf yn falch ei fod yn cefnogi’r modd yr ydym yn datblygu Llywodraeth Gabinet. Un o’r pethau a wnaethom yw bod yn agored iawn a dyna pam yr oeddwn yn fodlon â’r datganiad hwn heddiw sydd yn rhoi mwy o fanylion ac eglurhad am y trefniadau gwaith beunyddiol yr ydym yn gobeithio eu sefydlu. Mae’n sicr na fydd yn berffaith. Fodd bynnag, mae’n agored ac yn dryloyw ynghylch pwy sy’n gwneud beth.

Members of my Cabinet have engaged positively and vigorously in debate. They have possibly done it so politely that Rod has not noticed. If they do not bruise and hurt you in the exchange that does not mean that they are not engaging in debate. You still miss the point about the nature of this Chamber and Assembly. Of course, there should be debate. However, that does not mean you have to say that the person on the other side of an argument is a complete fool; that he has got everything wrong and makes no contribution to good governance in Wales.

Mae aelodau fy Nghabinet wedi cymryd rhan gadarnhaol a chadarn mewn dadleuon. Efallai iddynt wneud hynny mewn modd mor gwrtais fel nad yw Rod wedi sylwi. Os na fydd rhywun yn eich brifo a’ch cleisio wrth groesi cleddyfau nid yw hynny’n golygu nad ydynt yn ceisio cymryd rhan mewn dadl. Yr ydych yn dal heb weld y pwynt ynghylch natur y Siambr hon a’r Cynulliad. Wrth gwrs, fe ddylid cael dadlau. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu bod rhaid ichi ddweud bod y sawl sydd ar ochr arall y ddadl yn dwpsyn; ei fod yn anghywir ym mhob dim a heb gyfrannu o gwbl at lywodraethu da yng Nghymru.

I am absolutely satisfied we have a Cabinet of the highest standard and am proud of the way in which every member of the Cabinet has buckled down to work. They are proving to be a tremendous team. The other 53 Members, or perhaps I should leave the Presiding Officer out and simply say that more than 50 Members will help the Cabinet to do a good job by making creative suggestions and challenging ideas all the time. That is what this place is for. I hope we will have good, constructive debate rather than merely the partisan knock-about that those of us who have come from Westminster were glad to leave behind.

Yr wyf yn gwbl sicr bod gennym Gabinet o’r safon uchaf ac yr wyf yn falch o’r ffordd y mae pob aelod o’r Cabinet wedi ymroi i’w waith. Maent yn profi’n dîm aruthrol. Bydd y 53 Aelod arall, neu efallai y dylwn hepgor y Llywydd a dweud yn syml y bydd mwy na 50 o Aelodau yn helpu’r Cabinet i wneud gwaith da drwy roi awgrymiadau creadigol a syniadau heriol drwy’r amser. Dyna bwrpas y lle hwn. Gobeithio y cawn ddadlau da, adeiladol yn hytrach na chael ond y colbio pleidiol yr oedd y rhai ohonom a ddaeth yma o San Steffan yn falch o’i adael ar ôl.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 20

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 20

Before I call Mike German, I would like to point out in relation to the earlier discussion that under Standing Order No. 7.5, intervention in this Chamber is for clarification only.

Cyn imi alw ar Mike German, hoffwn nodi mewn perthynas â’r drafodaeth gynharach nad yw Rheol Sefydlog Rhif. 7.5 yn caniatáu ymyrryd yn y Siambr hon ac eithrio er mwyn gofyn eglurhad.

Michael German spoken in English p. 20

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 20

I will be asking for clarification but first, I want to comment on the standard moan that Dafydd Wigley has just mentioned. I was a few minutes late coming in to hear the answer to the first question that the First Secretary was asked because I was trying to print a copy of these documents. It is very difficult to try to read, assimilate, devise questions about them and ask people for clarification without having read them in advance. I will do my best. My understanding is that your intention is that the Committees will follow the remit given to the relevant Assembly Secretary. For example, if the better government initiative applies to the finance function here, the Audit Committee will probably look at it, and Jane Hutt and the Health and Social Services Committee will consider equal opportunities.

Fe fyddaf yn gofyn am eglurhad ond yn gyntaf, yr wyf am roi sylw ar y gŵyn gyffredin y mae Dafydd Wigley wedi ei chrybwyll. Yr oeddwn ychydig funudau’n hwyr yn dod i mewn i glywed yr ateb i’r cwestiwn cyntaf a roddwyd i’r Prif Ysgrifennydd am fy mod yn ceisio argraffu copi o’r dogfennau hyn. Mae’n anodd iawn ceisio darllen, cymathu, llunio cwestiynau amdanynt a gofyn i bobl am eglurhad heb eu darllen ymlaen llaw. Fe wnaf fy ngorau. Deallaf mai’ch bwriad yw y bydd Pwyllgorau’n cadw at y cylch gorchwyl a roddwyd i’r Ysgrifennydd Cynulliad perthnasol. Er enghraifft, os yw’r cynllun ar gyfer gwell llywodraeth yn berthnasol i’r swyddogaeth ariannol yn y lle hwn, mae’n fwy na thebyg y bydd y Pwyllgor Archwilio yn ei ystyried, ac y bydd Jane Hutt a’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi sylw i gyfle cyfartal.

I have no problems with that, but we need to reconsider sustainable development. If you are saying in this debate that cross-cutting responsibility for sustainable development goes to Christine Gwyther, it means the Agriculture and Rural Development Committee will be the one which looks at sustainable development policy. You have invited support from Peter Law on that Committee but that Committee is not representative of the whole of Wales, whereas all the other Committees have a geographical spread which covers every aspect of Wales. The conference in Wales in March tried to make the point that this is a cross-cutting issue that needs to be addressed not only in the rural environment but in the urban environment. The danger, following your logic here, is that we are going to entrap sustainable development in the rural economy. Obviously that is a vital part of it but it is not the full picture.

Nid yw hynny’n peri unrhyw broblem i mi, ond mae angen inni ystyried datblygu cynaliadwy. Os ydych yn dweud yn y ddadl hon dod y cyfrifoldeb trawsffiniol dros ddatblygu cynaliadwy yn eiddo i Christine Gwyther, mae’n golygu mai’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig fydd yr un sy’n edrych ar y polisi datblygu cynaliadwy. Yr ydych wedi gofyn am gefnogaeth gan Peter Law ar y Pwyllgor hwnnw ond nid yw’r Pwyllgor hwnnw’n gynrychioladol o Gymru gyfan, tra bod cwmpas daearyddol yr holl Bwyllgorau eraill yn cynnwys pob agwedd ar Gymru. Ceisiwyd gwneud y pwynt hwn yn y gynhadledd yng Nghymru ym mis Mawrth fod hwn yn fater trawsffiniol y mae angen ei gyflawni nid yn unig yn yr amgylchedd gwledig ond yn yr amgylchedd trefol hefyd. Y perygl, gan ddilyn eich rhesymeg yn y fan hyn, yw y byddwn yn caethiwo datblygu cynaliadwy i’r economi gwledig. Mae’n amlwg ei fod yn rhan hanfodol ohono ond nid dyna’r darlun cyflawn.

The second issue arises from your statement. How do you deliver the cross-cutting themes through Committee discussions? How are these matters going to be driven through other Committees? For example, responsibility for Europe lies with you and Rhodri, yet it affects every Committee of this Assembly. What measures are you going to put in place to make sure we benchmark success, engage in meaningful debate and do not get entrapped in the same difficulties that we face with having vertical divisions between Committees?

Mae’r ail fater yn codi o’ch datganiad. Sut y byddwch yn cyflawni’r themâu trawsffiniol drwy drafodaethau Pwyllgor? Sut y mae’r materion hyn i’w hybu drwy Bwyllgorau eraill? Er enghraifft, mae’r cyfrifoldeb dros Ewrop yn eiddo i chi ac i Rhodri, ond mae’n effeithio ar bob Pwyllgor yn y Cynulliad hwn. Pa fesurau yr ydych am eu sefydlu er mwyn sicrhau y byddwn yn meincnodi llwyddiant, yn cymryd rhan mewn dadl ystyrlon ac yn peidio â chael ein dal gan yr un anawsterau a wynebwn wrth gael rhaniadau fertigol rhwng Pwyllgorau?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 21

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 21

That is very helpful because it goes to the heart of what I am trying to achieve. Firstly, the system of Committees mirroring or reflecting the role of each individual Cabinet member has been developing over a long period in the National Assembly Advisory Group and various other places. You could say that the responsibility is simply departmental. There needs to be some mechanism where the Assembly Secretary who is looking after the overall direction of policy, whether it is Europe or social exclusion, comes to the point of saying, ‘I have had a look, this is how we are doing as an Assembly’, to that Committee. Therefore there is a way of keeping all these things under review.

Mae hynny o gymorth mawr oherwydd mae’n mynd at wraidd yr hyn yr wyf yn ceisio ei gyflawni. Yn gyntaf, mae’r system o Bwyllgorau sy’n adlewyrchu rôl pob aelod unigol o’r Cabinet wedi ei datblygu dros gyfnod hir yng Ngrŵp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ac mewn sawl man arall. Fe allech ddweud bod y cyfrifoldeb yn un cwbl adrannol. Mae angen rhyw fath o fecanwaith lle y bydd yr Ysgrifennydd sy’n gofalu am y cyfeiriad polisi cyffredinol, boed ar Ewrop neu ddieithrwch cymdeithasol, yn cyrraedd y pwynt o ddweud, ‘Yr wyf wedi bwrw golwg ar hyn, dyma sut yr ydym yn gwneud fel Cynulliad’, wrth y Pwyllgor hwnnw. Felly, mae modd cadw pob un o’r pethau hyn dan sylw.

All Committees have a responsibility when it comes to cross-cutting issues. When you refer to sustainable development, it is not correct to suggest that Peter Law only has a subsidiary interest or that other Assembly Secretaries do not have an interest, or that Rhodri does not have a responsibility for industrial development in relation to sustainable development; he does. Christine, in this particular instance, will have a responsibility to keep a weather eye on the way the whole Assembly is dealing with these issues. Where the issue is sustainable development in relation to planning, development and local government issues, clearly Peter has a responsibility and his Committee would reflect that.

Mae cyfrifoldeb ar bob Pwyllgor wrth ystyried materion trawsffiniol. Pan fyddwch yn cyfeirio at ddatblygu cynaliadwy, nid yw’n gywir awgrymu mai ond Peter Law sydd â diddordeb atodol neu fod yr Ysgrifenyddion Cynulliad eraill heb ddiddordeb, neu nad oes gan Rhodri gyfrifoldeb dros ddatblygu diwydiannol mewn perthynas â datblygu cynaliadwy; mae ganddo. Yn yr achos penodol hwn, bydd gan Christine gyfrifoldeb dros wylio’r modd y bydd y Cynulliad cyfan yn ymdrin â’r materion hyn. Wrth ystyried datblygu cynaliadwy mewn perthynas â materion cynllunio, datblygu a llywodraeth leol, mae’n amlwg bod cyfrifoldeb ar Peter a byddai ei Bwyllgor yn adlewyrchu hynny.

Similarly, how do we deliver on these things? For instance, we will shortly debate social exclusion. The lead responsibility lies with Jane Hutt, the Secretary for Health and Social Services, and the social exclusion fund will be part of her responsibilities. However, social exclusion will not be the sole responsibility of Jane and that Committee. Each member of the Cabinet and the other Committees must consider how they can contribute to solving social exclusion. Her responsibility is to make sure we do not forget about it—that it is kept alive within the general working of the Assembly.

Yn yr un modd, sut y byddwn yn cyflawni’r pethau hyn? Er enghraifft, ymhen ychydig byddwn yn trafod dieithrwch cymdeithasol. Mae’r cyfrifoldeb arweiniol gan Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd y gronfa dieithrwch cymdeithasol yn rhan o’i chyfrifoldebau hi. Fodd bynnag, ni fydd dieithrwch cymdeithasol yn gyfrifoldeb llwyr i Jane a’r Pwyllgor hwnnw. Rhaid i bob aelod o’r Cabinet a’r Pwyllgorau eraill ystyried sut y gallant gyfrannu at ddatrys dieithrwch cymdeithasol. Ei chyfrifoldeb hi yw sicrhau na fyddwn yn anghofio amdano—hynny yw, ei gadw’n fyw o fewn gwaith cyffredinol y Cynulliad.

If we keep our mind on working as a team where we help each other to keep our priorities in perspective, I think it will work out. After a period, I am open to revisiting this and examining if it has worked. I believe we can be the first body in the world, which has attempted to combine departmental and cross-cutting issues in a system of accountability which involves the whole of the body and Cabinet. I am optimistic about this. However, we will have to wait and see.

Os canolbwyntiwn ar weithio fel tîm lle y gallwn helpu ein gilydd i gadw golwg cytbwys ar ein blaenoriaethau, yr wyf yn credu y bydd yn llwyddo. Yr wyf yn barod i ailystyried hyn ar ôl cyfnod a gweld a ydyw wedi gweithio. Credaf y gallem fod y cyntaf yn y byd fel corff a geisiodd gyfuno materion adrannol a thrawsffiniol mewn system o atebolrwydd sy’n cynnwys y cwbl o’r corff a’r Cabinet. Yr wyf yn obeithiol yn ei gylch. Fodd bynnag, bydd raid inni ddisgwyl i weld.

John Marek spoken in English p. 23

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 23

I thank Alun for providing this list. The Assembly needed it and we now have a comprehensive list of the powers we delegated some weeks ago. We now know exactly what we did when we passed that motion. It is always useful to have a comprehensive list. First, I would like to ask whether the list will be updated, as enactments continue to take place in the Westminster Parliament and over time?

Yr wyf yn diolch i Alun am ddarparu’r rhestr hon. Yr oedd ar y Cynulliad ei angen ac yn awr mae gennym restr gynhwysfawr o’r pwerau a ddirprwywyd gennym rai wythnosau’n ôl. Gwyddom yn union bellach beth a wnaethom yn y bleidlais honno. Mae bob amser yn fuddiol cael rhestr gynhwysfawr. Yn gyntaf, hoffwn ofyn a fydd y rhestr yn cael ei diweddaru, wrth i fesurau gael eu troi’n ddeddfau yn Senedd San Steffan a dros amser?

Secondly, I was pleased to hear that you would look at this list again. I suggest that the Assembly will want to make some appointments itself instead of leaving them delegated to the First Secretary. For example, the Assembly itself might want to make appointments to the chairmanship of the Welsh Development Agency or at least hold confirmatory hearings about them as opposed to leaving it to the normal system of appointments and the Code of Practice which we passed recently.

Yn ail, yr oeddwn yn falch o glywed y byddwch yn edrych ar y rhestr hon eto. Awgrymaf y bydd y Cynulliad yn dymuno gwneud rhai penodiadau ei hun yn lle eu gadael wedi eu dirprwyo i’r Prif Ysgrifennydd. Er enghraifft, gallai’r Cynulliad fod eisiau gwneud penodiadau i gadeiryddiaeth Awdurdod Datblygu Cymru neu o leiaf gynnal gwrandawiadau cadarnhau ynglŷn â hwy yn hytrach na’i adael i’r system penodiadau arferol a’r Cod Ymarfer a dderbyniwyd gennym yn ddiweddar.

Another example could be powers with regard to planning. Secretaries may have to decide whether a planning matter is determined by exchange of letters or by local public inquiry. It ought to be possible for the Assembly in a situation like that to say that this is an important matter and we wish it to be decided one way or the other. I cannot say at this stage. I have only seen this list today. It will probably take the summer just to go through this to see exactly what is going on and form one’s views.

Gallai’r pwerau cynllunio fod yn enghraifft arall. Efallai y byddai’n rhaid i Ysgrifenyddion benderfynu a yw mater cynllunio i’w benderfynu drwy gyfnewid llythyrau neu drwy ymchwiliad cyhoeddus lleol. Dylai fod modd i’r Cynulliad ddweud mewn sefyllfa felly fod hyn yn fater pwysig a’i fod yn ddymuniad gennym ei benderfynu y naill ffordd neu’r llall. Ni allaf ddweud ar hyn o bryd. Ni welais y rhestr hon tan heddiw. Mae’n fwy na thebyg y bydd angen treulio’r haf i gyd i fynd drwyddi a gweld beth yn union sy’n digwydd a ffurfio barn.

In relation to the second question Alun, are you, in principle, in favour of every Member of the Assembly just looking through this list and seeing whether it is right? We have Cabinet Government and powers need to be delegated but there could be some which the Assembly would like to keep for itself. Thirdly, and more important, how could they exercise a view in advance of any power being exercised? If we are going to be an inclusive Assembly, not only must those Secretaries to whom power is devolved exercise that power but we should know whenever possible that a power is to be exercised. It is obvious in cases like the budget, but there will be other examples where it is not obvious. What mechanisms can we establish to enable us to voice our opinions if necessary?

Ynglŷn â’r ail gwestiwn, Alun, a ydych, mewn egwyddor, yn derbyn y dylai pob Aelod o’r Cynulliad ddarllen drwy’r rhestr hon a gweld a yw’n iawn? Llywodraeth Gabinet sydd gennym ac mae angen dirprwyo pwerau ond efallai fod rhai y byddai’r Cynulliad am eu cadw iddo’i hun. Yn drydydd, ac yn bwysicaf, sut y gallent ffurfio barn cyn arfer unrhyw bŵer? Os ydym i fod yn Gynulliad cynhwysfawr, rhaid i’r Ysgrifenyddion hynny y dirprwywyd pŵer iddynt arfer y pŵer hwnnw ond fe ddylem wybod lle bynnag y bo modd fod y pŵer hwnnw i’w weithredu. Mae hyn yn amlwg mewn achosion fel y gyllideb, ond fe geir enghreifftiau eraill lle nad yw’n amlwg. Pa fecanweithiau y gallwn eu sefydlu fel y gallwn leisio barn os bydd angen?

Finally, all the powers are contained within various enactments. In reference to those, can you give sections as well as chapters? The civil service must know them, so it would be helpful if references could be re-annotated.

Yn olaf, mae’r holl bwerau wedi eu cynnwys o fewn gwahanol ddeddfau. Wrth gyfeirio at y rheini, a allech roi’r adrannau yn ogystal â’r penodau? Rhaid bod y gwasanaeth sifil yn gwybod beth ydynt, felly byddai’n fuddiol os gellid ailanodi’r cyfeiriadau.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 24

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

The source document for most of the information is the Transfer of Powers Order. Nothing on the powers of the Assembly is being brought forward for the first time. The Transfer of Powers Order was approved by both the House of Commons and the House of Lords and sets out clearly all the powers that will transfer to the Assembly and those that will be exercised jointly with other bodies, such as other Ministries. That was a tremendous exercise in itself because nobody had annotated everything for a Department of State like the Welsh Office. The fact that it was done was a job in itself, and so was the list of delegations that officials have been working on. A large number of decisions have to be delegated for the smooth running of the organisation.

Y ddogfen ffynhonnell i’r rhan fwyaf o’r wybodaeth yw’r Gorchymyn Trosglwyddo Pwerau. Nid oes dim am bwerau’r Cynulliad yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf. Fe gymeradwywyd y Gorchymyn Trosglwyddo Pwerau gan Dŷ’r Cyffredin a chan Dŷ’r Arglwyddi ac mae’n nodi’n eglur yr holl bwerau a gaiff eu trosglwyddo i’r Cynulliad a’r rhai a weithredir ar y cyd â chyrff eraill, fel Gweinyddiaethau eraill. Yr oedd hynny’n waith aruthrol ynddo’i hun oherwydd nid oedd neb erioed wedi anodi popeth ar gyfer Adran Wladol fel y Swyddfa Gymreig. Mae’r ffaith bod hynny wedi ei wneud yn gamp ynddo’i hun, fel yr oedd y rhestr o ddirprwyaethau y bu’r swyddogion yn gweithio arni. Dirprwywyd nifer fawr o benderfyniadau er mwyn rhedeg y drefniadaeth yn rhwydd.

If we were to give notice of every decision to be taken under every enactment, from the Tourism Sleeping Accommodation Price Display Order 1997, to the Industrial Organisation and Development Act 1947 and the Prevention of Damage by Pests Act 1949, there would be little time for the Assembly to address the real issues. The list will be updated as each new piece of legislation comes in. That will be made explicit to the Assembly as with the health legislation to which Andrew Davies referred.

Pe baem yn rhoi rhybudd am bob penderfyniad oedd i’w wneud o dan bob deddf, o Orchymyn Arddangos Prisiau Llety Cysgu mewn Twristiaeth 1997, i Ddeddf Datblygu a Threfnu Diwydiannau 1947 a Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949, ychydig iawn o amser fyddai gan y Cynulliad i ymdrin â’r materion gwirioneddol. Caiff y rhestr ei diweddaru fel y daw pob deddf newydd i rym. Rhoddir gwybod am hynny i’r Cynulliad fel y ddeddfwriaeth iechyd y cyfeiriodd Andrew Davies ati.

The appointments system will involve members of the Assembly Committees. Representatives of other parties will therefore be engaged in the appointments process. We must deal with the planning system, and we will propose a panel system that removes it from the hands of one individual.

Bydd y system benodiadau’n cynnwys aelodau o Bwyllgorau’r Cynulliad. Felly bydd cynrychiolwyr o bleidiau eraill yn cymryd rhan yn y broses benodi. Rhaid inni ymdrin â’r system gynllunio, a byddwn yn cynnig system banel a fydd yn ei symud o afael un unigolyn.

I hope that the points John raised will become clearer in time. I believe the system will work coherently. I am open to questions and suggestions on how to do things better. Some people do not realise that a lot of work was necessary to enable the Assembly to get on with its work from the 1 July without a mass of hiccups. However, that inevitably means that not everything is perfect from day one. I commend the Welsh Office officials who have undertaken a massive amount of detailed work for us to be at this point.

Gobeithio y daw’r pwyntiau a godwyd gan John yn eglurach ymhen amser. Credaf y bydd y system yn gweithio mewn modd cydlynol. Yr wyf yn barod i dderbyn cwestiynau ac awgrymiadau ynghylch sut i wneud pethau’n well. Nid yw rhai pobl yn sylweddoli bod llawer o waith yn angenrheidiol i alluogi’r Cynulliad i ddechrau ar ei waith o 1 Gorffennaf heb lu o fân drafferthion. Fodd bynnag, mae hynny’n golygu, wrth gwrs, na fydd popeth yn berffaith o’r diwrnod cyntaf. Yr wyf yn rhoi clod i swyddogion y Swyddfa Gymreig a ymgymerodd â swm enfawr o waith manwl er mwyn inni gyrraedd y pwynt hwn.

Dadl ar Ddieithrwch Cymdeithasol

Debate on Social Exclusion

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 25

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

I propose that the Assembly:

Yr wyf yn cynnig bod y Cynulliad:

Jenny Randerson spoken in English p. 26

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 26

Is it appropriate to raise a procedural matter at this point in the proceedings?

A yw’n briodol codi mater o drefn ar yr adeg hon yn y trafodion?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

Are you raising a point of order?

A ydych yn codi mater o drefn?

Jenny Randerson spoken in English p. 26

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 26

Yes. It relates to the notice we were given about this motion. I wish to use Standing Order No. 6.16 to refer this matter to the Business Committee, because the motion refers to papers that have been placed in the library. The motion was tabled late on Thursday in accordance with Standing Orders, but the papers were not in the library at that time and therefore not available within the timescale for complying with Standing Orders. These papers were available in photocopy form late Friday morning, but they are not papers that you can read in five minutes.

Ydwyf. Mae’n ymwneud â’r rhybudd a gawsom am y cynnig hwn. Dymunaf ddefnyddio Rheol Sefydlog Rhif 6.16 i gyfeirio’r mater hwn i’r Pwyllgor Busnes, oherwydd mae’r cynnig yn cyfeirio at ddogfennau a roddwyd yn y llyfrgell. Cyflwynwyd y cynnig yn hwyr ddydd Iau yn unol â’r Rheolau Sefydlog, ond nid oedd y dogfennau yn y llyfrgell bryd hynny ac felly nid oeddent ar gael o fewn y cyfnod i gydymffurfio â’r Rheolau Sefydlog. Yr oedd y dogfennau hyn ar gael ar ffurf llungopïau yn hwyr fore Gwener, ond nid ydynt yn ddogfennau y gallwch eu darllen mewn pum munud.

The motion is general, bland and has no punch. It is ineffective as it stands. We would have amended it but that was impossible within the timescale. Have Standing Orders been adhered to in this case?

Mae’r cynnig yn gyffredinol, yn ddi-ffrwt ac yn dila. Mae’n aneffeithiol fel y mae. Fe fuasem wedi cynnig gwelliant ond nid oedd modd gwneud hynny o fewn yr amser oedd ar gael. A gadwyd at y Rheolau Sefydlog yn yr achos hwn?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

I thought that the motion and relevant papers were tabled within the timescale. I will certainly investigate this. Are you moving a procedural motion under order No. 6.16 that this matter be referred to a Committee?

Yr oeddwn yn credu bod y cynnig a’r dogfennau perthnasol wedi eu cyflwyno’n unol â’r amserlen. Byddaf yn sicr o ymchwilio i hynny. A ydych yn rhoi cynnig trefniadol gerbron o dan Reol Rhif. 6.16 i’r mater hwn gael ei gyfeirio i Bwyllgor?

Jenny Randerson spoken in English p. 26

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 26

Yes. I would like it referred to Committee because I do not believe we can have a meaningful debate at this moment. It is a very important issue. I have a copy of a timed and dated e-mail from the library stating that the papers were not available. Therefore, the appropriate thing to do would be to refer the matter to the Business Committee and for us to discuss it properly sometime in the future.

Ydwyf. Hoffwn ei weld yn cael ei gyfeirio i Bwyllgor oherwydd ni chredaf fod modd inni gael dadl ystyrlon ar hyn o bryd. Mae’n fater pwysig iawn. Mae gennyf gopi o neges e-bost o’r llyfrgell ac arni amser a dyddiad yn datgan nad oedd y dogfennau ar gael. Y peth priodol, felly, fyddai cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Busnes ac inni ei drafod yn iawn rywdro yn y dyfodol.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 26

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

The inclusion of references to a number of documents was intended to assist the Assembly by making sure that Members were aware of those documents and the facts included in them, not because they are essential to today’s debate. Jenny is right to say that the resolution is in general terms. We wanted to promote debate on the topic of social exclusion and the promotion of social inclusion. It would be sad if Jenny’s motion was pushed to a vote, especially if that meant that the Assembly could not have its first debate on the problems of social exclusion and the need to promote social inclusion.

Cynhwyswyd cyfeiriadau at nifer o ddogfennau er mwyn helpu’r Aelodau drwy sicrhau bod yr Aelodau’n gwybod am y dogfennau hynny a’r ffeithiau a geir ynddynt, nid am eu bod yn hanfodol i’r ddadl heddiw. Mae Jenny’n iawn wrth ddweud bod y cynnig wedi ei eirio’n gyffredinol. Yr oeddem am hybu dadl ar bwnc dieithrwch cymdeithasol a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol. Byddai’n drist pe bai cynnig Jenny’n cael ei wthio i bleidlais, yn enwedig os byddai hynny’n golygu na allai’r Cynulliad gael ei dadl gyntaf ar broblemau dieithrwch cymdeithasol a’r angen i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

We will return to this subject on many occasions. The principle that social exclusion in Wales needs to be recognised and social inclusion needs to be promoted forms a general and important statement but not a bland one. We will deal with specific policies and other matters as they arise.

Deuwn yn ôl i’r pwnc hwn lawer gwaith. Mae’r egwyddor bod angen cydnabod dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol yn ddatganiad cyffredinol a phwysig, ond nid yw’n ddi-ffrwt. Byddwn yn delio â pholisïau penodol a materion eraill wrth iddynt godi.

The Assembly will inherit some of the documents as it takes up its full responsibilities, but they are not essential for this debate. We thought that it would be helpful in the resolution to flag up these source documents which will be important for the Assembly as time goes on.

Bydd y Cynulliad yn etifeddu rhai o’r dogfennau wrth iddo ymgymryd â’i gyfrifoldebau llawn, ond nid ydynt yn hanfodol i’r ddadl hon. Yr oeddem yn credu y byddai’n fuddiol yn y cynnig i dynnu sylw at y dogfennau ffynhonnell hyn a fydd yn bwysig i’r Cynulliad wrth i amser fynd ymlaen.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

I am grateful to the First Secretary.

Yr wyf yn diolch i’r Prif Ysgrifennydd.

Under Standing Order No. 6.17, I must ask whether there are 10 Members who support Jenny’s motion.

O dan Reol Sefydlog Rhif 6.17, rhaid imi ofyn a oes 10 Aelod sydd yn cefnogi cynnig Jenny.

I see that there are.

Fe welaf fod.

GwrthodwydRejected Drwy ddangos dwyloShow of hands

Gwrthodwyd y cynnig.

Motion rejected.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer not named in the Record spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd heb ei enwi yn y Cofnod siaradwyd yn Saesneg t. 27

Although the matter is not referred to a Committee, I will look into when the papers were made available as I indicated earlier.

Er na chyfeirir y mater i Bwyllgor, fe ymchwiliaf i ganfod pryd y cyflwynwyd y dogfennau fel y dywedais yn gynharach.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 27

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

I have a degree of sympathy for Assembly Members where the timing of papers is concerned. However, there has been immense pressure on Assembly officials, myself and my colleagues to ensure things are in place as quickly as possible. We will do all we can to get papers available earlier and to use the summer to get ahead of ourselves. That will be a new experience, which I look forward to. As to Committees, I am almost tempted to move a procedural motion myself, Mr Llywydd. You might not accept it but its effect would be to refer this resolution to all Committees. Social exclusion and the promotion of social inclusion are vital to the Assembly’s work and should be integrated into all its activities.

Yr wyf yn cydymdeimlo i ryw raddau ag Aelodau’r Cynulliad ynglŷn ag amseru dogfennau. Fodd bynnag, fe fu pwysau aruthrol ar swyddogion y Cynulliad, arnaf fi ac ar fy nghyd-weithwyr i sicrhau bod pethau yn eu lle cyn gynted ag y bo modd. Gwnawn bopeth a allwn i sicrhau bod dogfennau ar gael yn gynt ac i ddefnyddio’r haf i achub y blaen arnom ni’n hunain. Bydd hynny’n brofiad newydd, ac edrychaf ymlaen ato. Ynglŷn â Phwyllgorau, yr wyf fi bron â chael fy nhemtio i ddod â chynnig trefniadol gerbron, Mr Llywydd. Efallai na fyddech yn ei dderbyn ond ei ganlyniad fyddai cyfeirio’r cynnig i’r holl Bwyllgorau. Mae dieithrwch cymdeithasol a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol yn hanfodol i waith y Cynulliad a dylid eu hintegreiddio yn ei holl weithgareddau.

Too many people in Wales have to cope with social exclusion every day. They may be living in financial poverty but social exclusion goes further than material deprivation. It describes a way of life where there are few opportunities, services are difficult to access and people feel sidelined by mainstream society. Many lose hope. There is a complex series of problems at the heart of social exclusion: low income, unemployment, poor health, low educational attainment, poor skills, living in a poor physical environment, high levels of crime. These problems combine to produce and perpetuate exclusion. Cultural and racial background and age can also be important factors. These problems are frequently cyclic within communities and families, causing and reinforcing a sense of marginalisation. Recent studies in a range of policy areas confirmed that children brought up in poverty who are deprived of opportunity are more likely to be trapped in deprivation in their adult lives.

Mae gormod o lawer o bobl yng Nghymru yn gorfod ymdopi â dieithrwch cymdeithasol bob dydd. Fe allent fod yn byw mewn tlodi ariannol ond mae dieithrwch cymdeithasol yn mynd yn bellach nag amddifadedd materol. Mae’n disgrifio ffordd o fyw lle y mae’r cyfleoedd yn brin, gwasanaethau’n anodd eu cyrraedd a phobl yn teimlo eu bod wedi eu gwthio o’r neilltu gan brif ffrwd y gymdeithas. Bydd llawer yn anobeithio. Mae cyfres gymhleth o broblemau wrth wraidd dieithrwch cymdeithasol: incwm isel, diweithdra, iechyd gwael, cyraeddiadau addysgol isel, medrau gwael, byw mewn amgylchedd ffisegol gwael, lefelau troseddu uchel. Gyda’i gilydd mae’r problemau hyn yn creu ac yn parhau dieithrwch. Gall cefndir diwylliannol a hiliol ac oed fod yn ffactorau pwysig hefyd. Bydd y problemau hyn yn aml yn rhai cylchol o fewn cymunedau a theuluoedd, gan achosi ac atgyfnerthu ymdeimlad o fod ar yr ymylon. Mae astudiaethau diweddar ar nifer o feysydd polisi wedi cadarnhau bod plant a fegir mewn tlodi ac a amddifadir o gyfleoedd yn fwy tebygol o gael eu dal mewn amddifadedd wedi iddynt ddod i oed.

Although we recognise the signs of social exclusion, it can be a hard concept to measure. We can identify key problems that contribute to exclusion but turning them into a single social exclusion indicator would be difficult. We do not fully understand how the different levers work, or which plunge some people into exclusion and pull others out of it. As a youth worker, I saw young people transcend the most horrendous environments and backgrounds in which other people, even members of the same family, remained trapped. All of us have some experience of what social exclusion means for the people we serve. We have seen its effects in our constituencies. The document ‘Building an Inclusive Wales’ illustrates this. Here are a few examples from it.

Er ein bod yn adnabod arwyddion dieithrwch cymdeithasol, gall fod yn anodd ei fesur fel syniad. Gallwn ddynodi problemau allweddol sy’n cyfrannu at ddieithrwch ond anodd fyddai eu troi’n un dangosydd ar gyfer dieithrwch cymdeithasol. Nid ydym yn llwyr ddeall sut y mae’r gwahanol liferi’n gweithio, neu ba rai sy’n gollwng rhai pobl i ddieithrwch ac yn codi rhai ohono. Fel gweithiwr ieuenctid, gwelais bobl ifanc yn goresgyn yr amgylcheddau a’r cefndiroedd mwyaf erchyll lle’r oedd pobl eraill, hyd yn oed aelodau o’r un teulu, wedi eu dal o hyd. Mae gan bawb ohonom rywfaint o brofiad o’r hyn y mae dieithrwch cymdeithasol yn ei olygu i’r bobl a wasanaethwn. Gwelsom ei effeithiau yn ein hetholaethau. Mae’r ddogfen ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’ yn dangos hynny. Dyma rai enghreifftiau ohoni.

Average income in Wales is the lowest in Great Britain. Reliance on social security benefits is higher here. There is a higher rate of people who have no formal qualifications than in England, varying from one in seven in Monmouthshire and the Vale of Glamorgan to one in three in Blaenau Gwent and Merthyr Tydfil. In Cardiff one 15-year-old in 10 did not obtain a recognised academic qualification last year—five times as many as in Ceredigion. The reported rate of long-term illness in Wales is higher than in England. People in Merthyr Tydfil are 30 per cent more likely to die before they are 75 than those living elsewhere in Wales, and 50 per cent more likely to do so than people in Powys, Monmouthshire and Ceredigion. For many years, housing across all tenures has been in a worse condition in Wales than in England. A higher proportion of young people between 10 and 17 are found guilty in the courts or cautioned by the police in Wales.

Yr incwm cyfartalog yng Nghymru yw’r isaf ym Mhrydain Fawr. Yma y mae’r ddibyniaeth uchaf ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Ceir cyfradd uwch o bobl heb gymwysterau ffurfiol nag yn Lloegr, yn amrywio o un ym mhob saith yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg i un ym mhob tri ym Mlaenau Gwent ac ym Merthyr Tudful. Yr oedd un ym mhob pump o’r rhai 15 oed yng Nghaerdydd heb ennill cymhwyster academaidd cydnabyddedig llynedd—pum gwaith cymaint ag yng Ngheredigion. Yr oedd cyfradd y salwch hirsefydlog a hysbyswyd yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr. Mae pobl ym Merthyr Tudful yn 30 y cant yn fwy tebygol o farw cyn cyrraedd 75 oed na’r rhai sy’n byw mewn mannau eraill yng Nghymru, ac yn 50 y cant yn fwy tebygol i’w wneud hynny na phobl ym Mhowys, Sir Fynwy a Cheredigion. Mae cyflwr y tai ym mhob math o ddaliadaeth yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr ers blynyddoedd lawer. Bydd cyfran uwch o bobl ifanc rhwng 10 a 17 oed yn derbyn euogfarn yn y llysoedd neu rybudd gan yr heddlu yng Nghymru.

A new statistical report has been produced this week. It presents a more substantial picture of concentrations of various aspects of social and economic deprivation that betray social exclusion. It illustrates how they are often concentrated in the Valleys. However, it also shows how aspects of exclusion are manifested across Wales in pockets of urban deprivation, rural disadvantage and demographic variation. The report is only the start of further work, which I want us to take forward, to measure and map social exclusion to help us to see how the Assembly can overcome it.

Cynhyrchwyd adroddiad ystadegol newydd yr wythnos hon. Mae’n rhoi darlun llawnach o’r mannau lle y ceir crynhoad o’r gwahanol agweddau ar amddifadedd cymdeithasol ac economaidd sy’n amlygu dieithrwch cymdeithasol. Mae’n dangos y graddau y byddant yn crynhoi’n aml yn y Cymoedd. Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos sut y mae agweddau ar ddieithrwch i’w gweld ar draws Cymru mewn llecynnau o amddifadedd trefol, ardaloedd gwledig dan anfantais ac amrywiad demograffig. Nid yw’r adroddiad hwn ond yn ddechreuad i waith pellach yr wyf am inni ei ddatblygu, er mwyn mesur a mapio dieithrwch cymdeithasol i’n helpu i weld sut y gall y Cynulliad ei oresgyn.

Dafydd Wigley spoken in English p. 30

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 30

I listened to the categories and subsequent details you have outlined. Although you referred to long-term illness, you did not refer to one of the most serious categories that cause deprivation, which is disability. Was that a deliberate or an accidental omission? Is not the Government’s policy likely to worsen the deprivation of these people if £700 million a year is taken from disabled people as a result of implementing the Welfare Reform and Pensions Bill?

Fe wrandewais ar y categorïau a’r manylion a amlinellwyd gennych. Er ichi gyfeirio at salwch hirsefydlog, nid oeddech wedi cyfeirio unwaith at un o’r categorïau mwyaf difrifol sy’n achosi amddifadedd, sef anabledd. A oedd hynny’n fwriadol ynteu’n rhywbeth a adawyd allan yn ddamweiniol? Onid yw polisi’r Llywodraeth yn fwy tebygol o waethygu amddifadedd y bobl hyn os cymerir £700 miliwn y flwyddyn oddi wrth bobl anabl o ganlyniad i weithredu’r Mesur Diwygiad Lles a Phensiynau?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 30

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 30

I thought I had referred to disability, which is one of the great disadvantages in terms of equal opportunities. Disability excludes many people from being able to live a normal life, having jobs and many other things that are crucial to life. I accept the point. It is an issue with which I have been involved, as you have, Dafydd.

Yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi cyfeirio at anabledd, sydd yn un o’r anfanteision mwyaf o ran cyfle cyfartal. Mae anabledd yn rhwystro llawer o bobl rhag byw bywyd arferol, dal swyddi a llawer o bethau eraill sy’n hanfodol i fywyd. Yr wyf yn derbyn y pwynt. Mae’n fater y bûm yn gysylltiedig ag ef, fel chithau, Dafydd.

It is not the Government’s intention or purpose, and it will not be the outcome of its actions, to disadvantage people further. It is the Government’s aim to remove inequalities and give opportunities to disabled people, as well as to the others I referred to. The Cabinet’s values and priorities, which I presented to the Assembly on 15 June, gave a commitment to promote social inclusion and equality of opportunity as core values to build into the Assembly’s operation. It builds on the work we started in the Welsh Office and across Government, to help individuals and communities to turn their own lives around. We implemented a range of strategies and policies to raise standards across the board and address inequality. They are designed to reflect the interdependence of educational attainment, good health and economic prosperity in supporting social inclusion, which brings us back to the cross-cutting themes. They have set a direction for the major services and programmes that this Assembly will take over in the next few days.

Nid yw’n fwriad nac yn ddiben gan y Llywodraeth roi pobl dan anfantais bellach, ac nid dyna fydd canlyniad ei gweithredoedd. Nod y Llywodraeth yw dileu anghydraddoldeb a rhoi cyfleoedd i bobl anabl, yn ogystal â’r lleill y cyfeiriais atynt. Yr oedd gwerthoedd a blaenoriaethau’r Cabinet, a gyflwynais i’r Cynulliad ar 15 Mehefin, yn rhoi ymrwymiad i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal fel gwerthoedd craidd i’w cynnwys yng ngweithrediad y Cynulliad. Mae’n adeiladu ar sail y gwaith a ddechreuwyd gennym yn y Swyddfa Gymreig ac ar draws y Llywodraeth, i helpu unigolion a chymunedau i drawsnewid eu bywydau. Yr ydym wedi gweithredu amrediad o strategaethau a pholisïau i godi safonau’n gyffredinol ac i ddelio ag anghydraddoldeb. Eu nod yw adlewyrchu’r gyd-ddibyniaeth rhwng cyraeddiadau addysgol, iechyd da a ffyniant economaidd wrth gefnogi cynhwysiant cymdeithasol, sy’n dod â ni’n ôl at y themâu trawsffiniol. Maent wedi pennu cyfeiriad ar gyfer y gwasanaethau a’r rhaglenni mawr y bydd y Cynulliad hwn yn ymgymryd â hwy yn y dyddiau nesaf hyn.

The policies include ‘Better Health, Better Wales,’ which addressed the inequalities in health within Wales and the inequalities between Wales and the rest of Europe, and looked at what we need to do about their causes. The Building Excellent Schools Together and Learning Is For Everyone strategies aim to raise educational attainment across the range of ability and achievement, recognising the particular needs of the areas and pupils whose attainment is lowest. There is ‘Pathway to Prosperity’, which recognised that prosperity needs to be spread more uniformly across Wales and especially into west Wales and the Valleys, a priority we reflected as a Cabinet. There is also preparatory work to maximise the benefits from European funding and Objective 1 status and build inclusion into the most vulnerable communities of Wales. Housing programmes aim to address the housing needs of individuals and communities in the context of wider social problems. For example, at Gibbonsdown in Barry, the local authority and a housing association have provided homes on the site of poor quality, hard-to-let council flats. In Dolgellau and Bangor in Gwynedd, housing for vulnerable youngsters has been supported.

Ymhlith y polisïau y mae ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’ a roddodd sylw i anghydraddoldeb mewn iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill Ewrop, gan ystyried yr hyn y bydd raid inni ei wneud ynghylch achosion hynny. Mae strategaethau Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda’n Gilydd a Rhywbeth i Bawb yw Dysgu yn ceisio codi cyraeddiadau addysgol ar draws yr amrediad o allu a chyflawniad, gan gydnabod anghenion penodol yr ardaloedd a’r disgyblion â’r cyrhaeddiad isaf. Fe geir ‘Ffordd i Ffyniant’, sy’n cydnabod bod angen lledaenu ffyniant yn fwy cyson ar draws Cymru ac yn enwedig i orllewin Cymru a’r Cymoedd, blaenoriaeth yr oeddem yn ei hadlewyrchu fel Cabinet. Hefyd ceir gwaith paratoadol i amlhau’r manteision oddi wrth gyllid Ewropeaidd a statws Amcan 1 ac i gorffori cynhwysiant yn y cymunedau mwyaf bregus yng Nghymru. Mae’r rhaglenni tai’n ceisio ymdrin ag anghenion tai unigolion a chymunedau yng nghyd-destun problemau cymdeithasol ehangach. Er enghraifft, yn Gibbonsdown yn y Barri, mae’r awdurdod lleol a chymdeithas dai wedi darparu cartrefi ar safle fflatiau cyngor anodd eu gosod ac isel eu hansawdd. Yn Nolgellau ac ym Mangor yng Ngwynedd, rhoddwyd cymorth i dai ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed.

Our agenda complements the Government’s agenda for tackling crime and disorder, and youth offending in particular. It complements the work of the local crime and disorder partnerships and the youth offending teams. We are aware of the dangers of young people drifting into bad habits, anti-social behaviour and crime when they have no stake in society and no future prospects. However, if we engage youngsters and children in interesting, relevant activities in their communities and ensure that they have the appropriate environment and opportunities, they will be likely to fulfil their potential and less likely to start down the slippery slope of offending.

Mae ein hagenda yn ategu agenda’r Llywodraeth ar gyfer ymdrin â throseddu ac anhrefn, a throseddu ymysg pobl ifanc yn arbennig. Mae’n ategu gwaith y partneriaethau lleol ar droseddu ac anhrefn a’r timau troseddu ieuenctid. Yr ydym yn ymwybodol o’r perygl i bobl ifanc lithro i arferion drwg, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu pan na fydd ganddynt gyfran mewn cymdeithas ac unrhyw ragolygon ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, os cawn bobl ifanc a phlant i gymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol, perthnasol yn eu cymunedau a sicrhau bod ganddynt yr amgylchedd priodol a’r cyfleoedd, byddant yn debygol o gyflawni eu potensial a byddant yn llai tebygol o ddechrau llithro tuag at droseddu.

Too often we blame the younger generation for all that is wrong with society. Our challenge is to get them involved so they become part of the solution rather than the problem. An excellent example is the youth action groups established in a number of schools in England and Wales. For example, students at Dŵr-y-Felin comprehensive in Neath won a youth action group award for their work on tackling vandalism and bullying. A comprehensive school in Holyhead has carried anti-drugs messages into primary schools. In Wrexham, schools and youth groups are working with neighbourhood watch on an initiative to combat under-age drinking and crime and disorder issues relating to alcohol misuse. Given the chance and the encouragement, some of our young people are creative and successful.

Yn rhy aml byddwn yn rhoi’r bai ar y genhedlaeth iau am bopeth sydd o’i le yn ein cymdeithas. Y sialens i ni yw eu cael i gymryd rhan fel y gallant ddod yn rhan o’r ateb yn hytrach na’r broblem. Enghraifft ragorol o hynny yw’r grwpiau gweithredu ieuenctid a sefydlwyd mewn sawl ysgol yng Nghymru a Lloegr. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn ysgol gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell Nedd wedi ennill gwobr i grwpiau gweithredu ieuenctid am eu gwaith ar ymdrin â fandaliaeth a bwlio. Mae ysgol gyfun yng Nghaergybi wedi mynd â chenhadaeth yn erbyn cyffuriau i ysgolion cynradd. Yn Wrecsam, mae ysgolion a grwpiau ieuenctid yn gweithio gyda chynlluniau gwarchod cymdogaeth i wrthweithio yfed o dan oed a materion troseddu ac anhrefn sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. O gael y cyfle a’r anogaeth, mae rhai o’n pobl ifanc yn greadigol ac yn llwyddiannus.

These universal programmes are complemented by targeted programmes aimed at supporting vulnerable people or groups, especially children and young people. Sure Start is one example and our new social inclusion fund, with £48 million over three years, already supports a children and youth partnership fund to offer positive alternatives to crime for youngsters in our deprived communities as well as additional help for drug and alcohol treatment services and community volunteering. Another example we encourage is community-based action such as the establishment of Blaen y Maes community clothing shop as part of the communities for better health project, which aims to stimulate and support healthier communities across Wales by addressing local needs in partnership with local communities. This shop was developed in partnership with Cefn Coed hospital and the drop-in centre for young families. As well as providing affordable clothing for the community, the shop’s volunteers developed their own skills and it provides a meeting point as well as a source of income for the locality.

Ategwyd y rhaglenni cyffredinol hyn â rhaglenni pwrpasol er mwyn cefnogi pobl neu grwpiau sy’n agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae Cychwyn Cadarn yn un enghraifft ac mae ein cronfa cynhwysiant cymdeithasol newydd â £48 miliwn dros dair blynedd, eisoes yn cefnogi cronfa partneriaeth plant ac ieuenctid er mwyn cynnig dewisiadau cadarnhaol yn lle troseddu i bobl ifanc yn ein cymunedau difreintiedig yn ogystal â chymorth ychwanegol i wasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol a gwirfoddoli yn y gymuned. Enghraifft arall yr ydym yn ei hannog yw gweithredu yn y gymuned fel y siop ddillad gymunedol a sefydlwyd yn Blaen y Maes fel rhan o’r prosiect cymunedau dros iechyd gwell, sy’n ceisio symbylu a chefnogi cymunedau iach ar draws Cymru drwy roi sylw i anghenion lleol mewn partneriaeth â chymunedau lleol. Datblygwyd y siop mewn partneriaeth ag ysbyty Cefn Coed a’r ganolfan galw heibio i deuluoedd ifanc. Yn ogystal â darparu dillad fforddiadwy yn y gymuned, mae gwirfoddolwyr y siop wedi datblygu eu medrau eu hunain ac mae’n fan cyfarfod yn ogystal â bod yn ffynhonnell incwm i’r ardal.

The common thread running through our actions to date and plans for the future is the recognition that the people of Wales are central to its future success. They draw together the social and economic agendas of the Assembly because we will only spread prosperity successfully if we improve people’s capacity to contribute to the economy. Improving health, well-being and social participation depends on people feeling able to take control of their lives.

Yr elfen gyffredin yn ein gweithredoedd hyd yma a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yw cydnabyddiaeth bod pobl Cymru yn ganolog i’w llwyddiant yn y dyfodol. Maent yn cyfuno agendâu cymdeithasol ac economaidd y Cynulliad oherwydd yr unig fodd inni ledaenu ffyniant yn llwyddiannus yw gwella gallu pobl i gyfrannu at yr economi. Er mwyn gwella iechyd, lles a chyfranogiad cymdeithasol fydd rhaid i bobl deimlo eu bod yn gallu ymgymryd â rheolaeth dros eu bywydau.

Our commitment to empower and reconnect excluded people in Wales is at the centre of the People in Communities programme. It uses intensive community development work, long-term planning and joint working to bring new hope to people. In the longer term, it will promote sustainable economic and social regeneration. It operates in eight multi-deprived communities across Wales that are representative of the various cultural and geographical settings where social exclusion manifests itself. It will soon operate in an additional eight or more such communities.

Mae ein hymrwymiad i alluogi ac ailgysylltu â phobl a ddieithriwyd yng Nghymru yn ganolog i’r rhaglen Pobl mewn Cymunedau. Mae’n defnyddio gwaith datblygu cymunedol dwys, cynllunio tymor-hir a gweithio ar y cyd i ddod â gobaith newydd i bobl. Yn y tymor hwy, bydd yn hybu adfywio economaidd a chymdeithasol cynaliadwy. Mae’n gweithredu mewn wyth cymuned â llawer math o amddifadedd ar draws Cymru sydd yn nodweddiadol o’r gwahanol gefndiroedd diwylliannol a daearyddol lle y mae dieithrwch yn dod i’r amlwg. Cyn hir bydd yn gweithredu mewn wyth neu ragor o gymunedau eraill o’r fath.

The People in Communities programme is about listening to the people who live in these communities. Many of us have direct experience of working with people by supporting them at a high level in local authorities and the Assembly as they look for solutions to their problems. The programme is also a learning exercise for communities, local authorities and the Assembly about what works and why. What we learn from it will help us and our partners to dismantle the traditional policy silos.

Mae’r rhaglen Pobl mewn Cymunedau’n ymwneud â gwrando ar y bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn. Mae gan lawer ohonom brofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl drwy eu cefnogi ar lefel uchel mewn awdurdodau lleol ac yn y Cynulliad pan fyddant yn chwilio am atebion i’w problemau. Mae’r rhaglen hefyd yn ymarferiad dysgu i gymunedau, awdurdodau lleol a’r Cynulliad ynghylch yr hyn sy’n gweithio a pham. Bydd yr hyn a ddysgwn oddi wrtho yn ein helpu ni a’n partneriaid i ddatgymalu’r seilos polisïau traddodiadol.

It will also help tackle issues by working across functional boundaries. I want it to build upon the examples of good work that are already being carried out by local authorities, the voluntary sector and local community groups. Tomorrow’s debate on Assembly schemes will provide a further opportunity to consider how we can use schemes to underpin our commitment to promote inclusion through partnership working.

Bydd hefyd yn gymorth i ymdrin â materion drwy weithio ar draws ffiniau swyddogaethol. Yr wyf am adeiladu ar sail yr enghreifftiau o waith da sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, y sector annibynnol a grwpiau cymunedol lleol. Bydd y ddadl yfory ar gynlluniau’r Cynulliad yn rhoi cyfle pellach i ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r cynlluniau fel sylfaen i’n hymrwymiad i hyrwyddo cynhwysiant drwy weithio mewn partneriaeth.

‘Building an Inclusive Wales’ identified four priorities for Assembly action that I hope Members will endorse today. We will return to them as an Assembly and in Committees. First, it made a commitment to an annual report on social exclusion that would establish key indicators for the problem in Wales and use them to appraise progress across the Assembly’s areas of responsibility. Let us ensure that we can see whether the Assembly is making a difference.

Yr oedd ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’ wedi pennu pedair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu gan y Cynulliad a gobeithio y bydd yr Aelodau’n cadarnhau’r rhain heddiw. Fe ddeuwn yn ôl atynt fel Cynulliad ac mewn Pwyllgorau. Yn gyntaf, yr oedd ymrwymiad i gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ddieithrwch cymdeithasol a fyddai’n sefydlu dangosyddion allweddol i’r broblem yng Nghymru ac yn eu defnyddio i werthuso cynnydd ar draws meysydd cyfrifoldeb y Cynulliad. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gallu gweld a yw’r Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth.

Secondly, the Social Exclusion Network has to be revitalised and charged with reviewing key policy areas to see whether they are making a positive impact on excluded groups. Thirdly, it promised to adapt the champion approach to other appropriate policy areas: identifying an individual at a high level in a local authority or other responsible body to sponsor a local project and take the lead in disseminating lessons from it throughout the organisation.

Yn ail, bydd raid adfywio’r Rhwydwaith Dieithrwch Cymdeithasol a rhoi iddo’r cyfrifoldeb o adolygu meysydd polisi allweddol i ganfod a ydynt yn effeithio’n gadarnhaol ar grwpiau a ddieithriwyd. Yn drydydd, yr oedd addewid i ymestyn y dull ‘cefnogwr’ i feysydd polisi priodol eraill: dynodi unigolyn ar lefel uchel mewn awdurdod lleol neu gorff cyfrifol arall i noddi prosiect lleol ac i gymryd yr awenau wrth ledaenu’r gwersi a ddysgwyd oddi wrtho drwy’r gyfundrefn.

Finally, we pledged that we would promote effective joint working by streamlining planning requirements across a range of services, creating simple frameworks that avoid duplication and give appropriate local discretion on delivery mechanisms, backed up by support. Those of us who have worked at a local level know how difficult it is to get different departments—of the same organisation sometimes—to work together towards a common purpose. More detailed work is under way to deliver on these four commitments and we will bring forward further proposals to the Assembly in due course.

Yn olaf, rhoesom addewid y byddem yn hyrwyddo cydweithio effeithiol drwy symleiddio gofynion cynllunio ar draws amrediad o wasanaethau, creu fframweithiau syml sy’n osgoi dyblygu ac yn caniatáu rhyddid priodol yn lleol yn y mecanweithiau cyflenwi, gyda chefnogaeth. Bydd y rhai ohonom sydd wedi gweithio ar lefel leol yn gwybod pa mor anodd ydyw i gael gwahanol adrannau—yn yr un gyfundrefn weithiau—i gydweithio i gyrraedd nod gyffredin. Mae gwaith manylach mewn llaw i gyflawni’r pedwar ymrwymiad hwn a byddwn yn dod â chynigion pellach gerbron y Cynulliad maes o law.

I am pleased that we have found time to debate social exclusion so early in the life of the Assembly. It is one of the overarching themes that we need to address both through our consideration of the various constituent policy themes that will come before us and through the work of our Committees. In the past we have been trapped in the departmental silos of education, social services or health and missed the big picture.

Yr wyf yn falch ein bod wedi canfod amser i drafod dieithrwch cymdeithasol mor gynnar yn oes y Cynulliad. Mae’n un o’r themâu trosfwaol y bydd angen inni ymdrin â hi drwy ystyried y gwahanol themâu polisi sy’n rhan ohoni a ddaw ger ein bron a drwy waith ein Pwyllgorau. Yn y gorffennol, yr oeddem wedi ein dal yn seilos adrannaol addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd ac wedi methu gweld y darlun cyflawn.

I hope that the Assembly will not do that. We have the opportunity to add value to the search for solutions to social exclusion because we are a modern, flexible and democratic institution through which to direct that search. We are committed to building a new climate of inclusion, partnership and participation in this Assembly that will help us produce more than the sum of our constituent parts. That is what every Party and every Member has come here to do.

Gobeithio na fydd y Cynulliad yn gwneud hynny. Mae gennym gyfle i ychwanegu gwerth at yr ymchwil am atebion i ddieithrwch cymdeithasol am ein bod yn sefydliad modern, hyblyg a democrataidd y gallwn ei ddefnyddio fel cyfrwng i’r ymchwil honno. Yr ydym wedi ymrwymo i greu hinsawdd newydd o gynhwysiant, partneriaeth a chyfranogiad yn y Cynulliad hwn a fydd yn ein helpu i gynhyrchu mwy na chyfanswm y cyd-rannau. Dyna’r hyn y daeth pob Plaid a phob Aelod yma i’w gyflawni.

We will be able to ensure that strategies, objectives and targets are integrated, holistic and focus resources to tackle the problems of those most in need. Is that just an ideal? I believe we have to achieve that. We have to ensure that resource allocation and performance monitoring systems support these strategies. There is an old saying that what is not measured does not get done. We must put in place incentives for service providers to put in the extra effort needed to deliver outcomes that will improve the life chances of the worst off. We must offer support and expertise to find what works and then share the problems and successes across Wales. There are successes and we need to build upon them.

Byddwn yn gallu sicrhau bod strategaethau, amcanion a thargedau yn integreiddiedig, yn gyfannol ac yn canolbwyntio adnoddau er mwyn ymdrin â phroblemau’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Ai delfryd yn unig yw hynny? Credaf fod yn rhaid inni gyflawni hynny. Rhaid inni sicrhau bod y dyrannu ar adnoddau a systemau monitro perfformiad yn cefnogi’r strategaethau hyn. Ceir hen ddywediad sy’n dweud na chyflawnir yr hyn nas mesurir. Rhaid inni sefydlu anogaethau fel y gall darparwyr gwasanaethau gyfrannu’r ymdrech ychwanegol sy’n angenrheidiol i ddod â’r canlyniadau a fydd yn gwella cyfleoedd bywyd y rhai gwaethaf eu byd. Rhaid inni gynnig cefnogaeth ac arbenigaeth i weld beth sy’n gweithio ac wedyn rhannu’r problemau a’r llwyddiannau ag eraill ar draws Cymru. Fe gafwyd llwyddiannau a rhaid inni adeiladu arnynt.

We have two challenges ahead of us: creating a modern, dynamic economy and tackling social exclusion. Let us ensure that we succeed in both.

Mae gennym ddwy sialens o’n blaen: creu economi modern, dynamig a mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol. Gadewch inni sicrhau ein bod yn llwyddo yn y ddwy.

Helen Mary Jones spoken in English p. 35

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 35

On behalf of Plaid Cymru—the Party of Wales, I would like to say how pleased we are to see social exclusion on the Assembly’s agenda so soon. We are also pleased that Alun will take a lead on this issue. It is high on our agenda and is why Dafydd Wigley has chosen to create a specific shadow Cabinet portfolio dealing with social inclusion and equal opportunities.

Ar ran Plaid Cymru—the Party of Wales, hoffwn ddweud mor falch yr ydym o weld dieithrwch cymdeithasol ar agenda’r Cynulliad mor gynnar. Yr ydym hefyd yn falch y bydd Alun yn arwain ar y mater hwn. Mae’n uchel ar ein hagenda a dyna pam y mae Dafydd Wigley wedi dewis creu portffolio penodol yng Nghabinet yr wrthblaid i ymdrin â dieithrwch cymdeithasol a chyfle cyfartal.

We support the motion before the Assembly because we support the broad approach. However, we are concerned about a lack of detail and substance. There is confusion in the ‘Building an Inclusive Wales’ document. It refers to the British Government but also to the Welsh Office, something mysterious called ‘the department’ and the Assembly, as if they are all the same thing. They are not. We have a wonderful opportunity and a desperate need to develop a distinctive Welsh agenda.

Yr ydym yn cefnogi’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad am ein bod yn cefnogi’r ymagwedd gyffredinol. Fodd bynnag, yr ydym yn bryderus ynghylch y diffyg manyldeb a sylwedd. Mae dryswch yn y ddogfen ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’. Mae’n cyfeirio at y Llywodraeth Brydeinig ond hefyd at y Swyddfa Gymreig, rhywbeth rhyfedd a elwir ‘yr adran’ a’r Cynulliad, fel pe bai pob un yn golygu’r un peth. Nid ydynt. Mae gennym gyfle ardderchog ac angen dirfawr i greu agenda Cymreig neilltuol.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 36

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 36

I can help Helen Mary by saying that the department exists until Thursday.

Gallaf gynorthwyo Helen Mary drwy ddweud y bydd yr adran yn bodoli tan ddydd Iau.

Helen Mary Jones spoken in English p. 36

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 36

We shall all be very sorry to see it go.

Bydd pawb ohonom yn drist iawn o’i gweld yn mynd.

There is no need to rehearse the details of the pictures that have been presented by both Alun and the supporting documents. At times, the supporting documents confuse cause and effect. The cause is poverty. Bad health, bad housing and low educational achievement are the long-term effects of poverty. When we address these issues, it is crucial that we bear in mind the inequalities within communities as well as those between communities.

Nid oes angen ailadrodd manylion y darluniau a gyflwynwyd gan Alun a chan y dogfennau ategol. Ar brydiau, mae’r dogfennau ategol yn drysu rhwng achos ac effaith. Yr achos yw tlodi. Iechyd gwael, tai gwael a chyrhaeddiad addysgol isel yw effeithiau tymor-hir tlodi. Pan fyddwn yn ymdrin â’r materion hyn, mae’n holl bwysig inni gofio’r anghydraddoldebau o fewn cymunedau yn ogystal â’r rhai rhwng cymunedau.

Social exclusion is a nice 1990s term for poverty. Plaid Cymru Members will put up our hands to using the term ‘social inclusion’, which is a slightly wishy-washy term for fighting poverty and promoting social justice.

Mae dieithrwch cymdeithasol yn derm neis y 1990au am dlodi. Bydd Aelodau Plaid Cymru yn cyfaddef ein bod wedi defnydio’r term ‘cynhwysiant cymdeithasol’, sydd yn derm braidd yn lastwraidd am ymladd tlodi a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

That is the basic function of the Assembly. We welcome the extra resources in the social inclusion fund but they are not enough. I know from my own experience in youth and community work, that it is like putting a sticking plaster on a haemorrhage. We welcome the commitment to mainstreaming in ‘Building an Inclusive Wales’. That is positive and we particularly endorse Alun’s comments about what is not measured not getting done. We need more definite targets. The document mentions indicators and reports. What indicators? Who decides what they are? Who reports on them? We need to know this.

Dyna yw swyddogaeth sylfaenol y Cynulliad. Yr ydym yn croesawu’r adnoddau ychwanegol yn y gronfa cynhwysiant cymdeithasol ond nid ydynt yn ddigon. Gwn o’m profiad mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, ei bod fel rhoi plaster glynu ar waedlif. Yr ydym yn croesawu’r ymrwymiad i brif-ffrydio yn ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’. Mae hynny’n gadarnhaol ac yr ydym yn cefnogi’n arbennig sylw Alun nad yw pethau sydd heb eu mesur yn cael eu cyflawni. Mae arnom angen targedau mwy pendant. Mae’r ddogfen yn crybwyll dangosyddion ac adroddiadau. Pa ddangosyddion? Pwy sy’n penderfynu beth fyddant? Pwy fydd yn adrodd amdanynt? Rhaid inni gael gwybod hynny.

We welcome the commitment to partnership. Although it is clear that tackling poverty and social exclusion is not something the Government can do alone, it is equally clear that it cannot be done without the Government. It is crucial that the Assembly takes a lead on this matter.

Yr ydym yn croesawu’r ymrwymiad i bartneriaeth. Er ei bod yn amlwg nad yw ymladd tlodi a dieithrwch cymdeithasol yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun, mae’r un mor amlwg na ellir gwneud hynny heb y Llywodraeth. Mae’n holl bwysig i’r Cynulliad arwain ar y mater hwn.

We will work with the Government of Wales to put more flesh on the bones of these proposals. To that end, we have three proposals today. We hope that the Government of Wales will be willing to consider and respond to them. First, it is vital that the Assembly develops through the Economic Development Committee, a national labour market strategy that redefines the whole purpose of public economic intervention as the creation of sustainable employment in the communities that need jobs the most. We believe that this requires the establishment of a labour market research unit that is independent of existing agencies so that we know what skills and opportunities we have and what actions we need to take to match them and create more.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi mwy o gig ar esgyrn y cynigion hyn. I’r diben hwnnw, mae gennym dri chynnig heddiw. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i’w hystyried ac ymateb iddynt. Yn gyntaf, mae’n hanfodol bod y Cynulliad, drwy’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, yn datblygu strategaeth genedlaethol ar y farchnad lafur sy’n ailddiffinio holl bwrpas ymyrraeth economaidd gyhoeddus i olygu creu cyflogaeth gynaliadwy yn y cymunedau sydd â’r angen mwyaf am swyddi. Credwn fod hyn yn gofyn sefydlu uned ymchwil i’r farchnad lafur sy’n annibynnol ar yr asiantaethau presennol fel y cawn wybod pa fedrau a chyfleoedd sydd gennym a pha gamau y bydd raid inni eu cymryd i’w cyplysu ac i greu rhagor.

Secondly, it is crucial that the economic development agencies, the TECs, the Welsh Development Agency, Business Connect and so on have targets that show how their work and public funding will contribute to alleviating poverty and to including people in the labour market. There should be consequences, and perhaps sanctions, if those targets are not met without good reason.

Yn ail, mae’n holl bwysig bod yr asiantaethau datblygu economaidd, y CHMau, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyswllt Busnes ac yn y blaen yn cael targedau i ddangos sut y bydd eu gwaith ac arian cyhoeddus yn cyfrannu at liniaru tlodi ac at gynnwys pobl yn y farchnad lafur. Dylid cael canlyniadau, a sancsiynau efallai, os na chyrhaeddir y targedau hynny heb reswm da.

Thirdly, we propose that the Assembly considers establishing a national benefits uptake project for Wales in the short term. Our economic development work should tackle poverty in the long term. However, anybody who lives on benefits, or has done so in the past, knows that something needs to be done tomorrow to get more money into the pockets of our poorest families and pensioners.

Yn drydydd, yr ydym yn cynnig y dylai’r Cynulliad ystyried sefydlu prosiect derbyn budd-daliadau cenedlaethol i Gymru yn y tymor byr. Fe ddylai ein gwaith datblygu economaidd fynd i’r afael â thlodi yn y tymor hir. Fodd bynnag, fe ŵyr pawb sy’n byw ar fudd-daliadau, neu a wnaeth hynny yn y gorffennol, fod angen gwneud rhywbeth yfory er mwyn cael mwy o arian i bocedi ein teuluoedd a’n pensiynwyr tlotaf.

We were unable to get figures broken down for Wales on current uptake levels. We want the Assembly to consider producing those figures as a matter of urgency so that we know whether people are receiving the benefits to which they are entitled. The 1996 figure for the United Kingdom showed that 83 per cent of eligible families were receiving them. Therefore 17 per cent of families were not. The figure for pensioners is probably worse. Good local figures are available in some areas but we need a national Welsh picture.

Nid oeddem yn gallu cael dadansoddiad o’r ffigurau Cymreig am y lefelau derbyn cyfredol. Yr ydym am i’r Cynulliad ystyried cynhyrchu’r ffigurau hynny fel mater brys fel y cawn wybod a yw pobl yn cael y budd-daliadau y gallant eu hawlio. Yr oedd ffigur 1996 am y Deyrnas Unedig yn dangos bod 83 y cant o deuluoedd cymwys yn eu derbyn, felly nid oedd 17 y cant. Mae’r ffigur am bensiynwyr yn waeth, yn fwy na thebyg. Mae ffigurau lleol da ar gael mewn rhai ardaloedd ond mae arnom angen darlun cenedlaethol Cymreig.

The Assembly could work with local authorities, backing some of their positive anti-poverty strategies and welfare rights projects, and voluntary organisations to promote benefits uptake, especially among older people. That should be presented as taking up a right, an earned right for older people, not scrounging.

Gallai’r Cynulliad weithio gydag awdurdodau lleol, gan gefnogi rhai o’u strategaethau gwrthdlodi cadarnhaol a’u prosiectau hawliau lles, a mudiadau gwirfoddol i hybu derbyniad budd-daliadau, yn enwedig ymysg pobl hŷn. Dylid cyflwyno hynny fel arfer yr hawl, hawl a enillwyd yn achos pobl hŷn, nid begera.

In this context, I refer to the so-called benefit integrity project. Three or four families with disabled members come through my constituency surgery doors every week. These people are in great distress, definitely disabled and at risk of losing their benefits. This is common to other Members. I do not want to hold any of my Labour Party colleagues responsible for that, but I want to make the contrast.

Yn y cyd-destun hwn, cyfeiriaf at y prosiect cyfanrwydd budd-daliadau bondigrybwyll. Daw tri neu bedwar o deuluoedd ag aelodau anabl i’m cymhorthfa yn f’etholaeth bob wythnos. Mae’r bobl hyn mewn gofid mawr, yn sicr yn anabl ac mewn perygl o golli eu budd-daliadau. Mae hyn yn fater sy’n gyffredin i Aelodau eraill. Nid wyf am ddal unrhyw un o’m cyd-weithwyr yn y Blaid Lafur yn gyfrifol am hynny, ond yr wyf am ddangos y gwrthgyferbyniad.

As far as Plaid Cymru is concerned, fighting poverty and social alienation is the Assembly’s key task. That benefits everybody. Nobody wants to live in our deprived estates and communities and nobody wants to live next door to them either.

Yng ngolwg Plaid Cymru, ymladd tlodi a dieithrwch cymdeithasol yw tasg allweddol y Cynulliad. Bydd hynny er budd pawb. Nid oes neb am fyw ar ein stadau ac yn ein cymunedau difreintiedig ac nid oes neb am fyw y drws nesaf iddynt chwaith.

As I said, we will co-operate with the Government of Wales to that end and we know how much understanding and knowledge of these issues there is on the Government benches. We would welcome a response to the ideas that we have put forward today. However, we warn the Government that if we do not see definite targets and real progress soon, we will take the Government of Wales to task because the people of Wales will insist that we do.

Fel y dywedais, byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i’r diben hwnnw ac fe wyddom gymaint o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y materion hyn a geir ar feinciau’r Llywodraeth. Byddem yn falch o gael ymateb i’r syniadau a gyflwynwyd gennym heddiw. Fodd bynnag, yr ydym yn rhybuddio’r Llywodraeth, os na welwn dargedau pendant a chynnydd gwirioneddol cyn hir, y byddwn yn galw Llywodraeth Cymru i gyfrif oherwydd bydd pobl Cymru’n mynnu y byddwn yn gwneud hynny.

David Melding spoken in English p. 39

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 39

I clarify at the outset that the Conservative group will abstain on this motion. While we welcome the use of social inclusion as a concept with which to consider the range of public policies that we have heard this afternoon, the lack of detail in the motion prevents us from offering our support at this stage.

Dymunaf roi ar ddeall ar y dechrau y bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar y cynnig hwn. Er ein bod yn croesawu’r defnydd o gynhwysiant cymdeithasol fel syniad ar gyfer ystyried yr amrediad o bolisïau cyhoeddus a glywsom brynhawn heddiw, mae’r diffyg manyldeb yn y cynnig yn ein rhwystro rhag cynnig ein cefnogaeth ar hyn o bryd.

I also flag up the fact that inclusion or exclusion—whether you take a pessimistic or optimistic view—is not only about poverty. There are many other reasons why people feel excluded from wider society. We heard about disability. That is skewed towards people in poorer areas and people on relatively low incomes, but it affects a whole range of people. In my past work, it has been sobering to see how people, often from quite privileged backgrounds, react to suddenly being hit by something out of the blue, and how they have to deal with community care providers, the national health service and the like.

Yr wyf hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cynhwysiant neu ddieithrwch—os yw’ch barn yn besimistaidd ynteu’n optimistaidd—yn ymwneud â thlodi’n unig. Mae llawer o resymau eraill pam y mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu dieithrio o’r gymdeithas ehangach. Fe glywsom am anabledd. Yr oedd y cyfeiriad at bobl mewn ardaloedd tlotach a phobl ar incwm cymharol isel, ond mae’n effeithio ar bob math o bobl. Yn fy ngwaith yn y gorffennol, yr oedd yn sobreiddiol gweld sut y mae pobl, o gefndiroedd eithaf breintiedig yn aml, yn ymateb i ergyd sydyn ac annisgwyl, a sut y maent yn gorfod ymdrin â darparwyr gofal cymunedol, y gwasanaeth iechyd gwladol a’u tebyg.

It is not only about poverty. We could also talk about various faiths and belief systems. They can affect people, and the opportunities of people who hold certain beliefs. Past offenders often feel excluded from society, years after the offence that they committed has paled into insignificance. I could mention sexual preference, carers in society, people who suffer illness. We all suffer illness at some point. We do not know what will happen; anyone can suffer a serious illness.

Nid yw’n ymwneud â thlodi’n unig. Gallem hefyd sôn am wahanol grefyddau a systemau cred. Gallant effeithio ar bobl, a chyfleoedd pobl sy’n arddel credoau penodol. Bydd cyn-droseddwyr yn teimlo’n aml eu bod wedi eu dieithrio o gymdeithas, flynydoedd ar ôl i’r trosedd a gyflawnwyd ganddynt fynd yn angof. Gallwn grybwyll tueddiad rhywiol, gofalwyr yn y gymdeithas, pobl sy’n dioddef salwch. Bydd pawb ohonom yn dioddef salwch rywdro. Ni wyddom beth fydd yn digwydd; gall rhywun ddioddef salwch difrifol.

It is incumbent on us to reflect on these wide factors. This is a real social concern. A certain remark made by a former Prime Minister is often thrown back at the Conservative Party. However, I believe that the person and society are part of the same concept. Personhood cannot flourish except in the atmosphere of a thriving society. Those things go together inevitably; it is not coherent to seek to divide them.

Mae’n ddyletswydd arnom ystyried y ffactorau eang hyn. Mae yna bryder cymdeithasol gwirioneddol. Bydd un sylw a wnaed gan gyn-Brif Weinidog yn cael ei daflu’n ôl yn aml at y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag, credaf fod yr hunan a’r gymdeithas yn rhan o’r un syniad. Ni all hunaniaeth ffynnu heblaw yn awyrgylch cymdeithas ffyniannus. Mae’r pethau hynny yn cyd-fynd yn anorfod; nid yw’n ystyrlon ceisio eu gwahanu.

We must concentrate on improving public services. When the debate has a sharper edge, we will start to clarify this issue. However, I wish to flag up a couple of things by way of illustration. I refer to educational attainment. From my background and schooling, at Dŵr-y-Felin comprehensive school incidentally, I have learnt that the failure of some people to take full advantage of the educational opportunities before them can affect them throughout life. I meet many people, well into their 30s and contemplating a career change, who are reluctant to pursue formal qualifications because of experiences at school. Often, it is apparent to anyone who deals with them that they are more than capable of achieving educational qualifications.

Rhaid inni ganolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus. Pan fydd y ddadl yn fwy manwl, byddwn yn dechrau rhoi gwedd eglurach ar y mater hwn. Fodd bynnag, dymunaf dynnu sylw at un neu ddau o bethau er mwyn enghreifftio. Cyfeiriaf at gyrhaeddiad addysgol. Drwy fy nghefndir a’r addysg ysgol a dderbyniais, yn ysgol gyfun Dŵr-y-Felin fel y mae’n digwydd, yr wyf wedi dysgu bod methiant rhai pobl i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd addysg sydd ganddynt yn gallu effeithio arnynt ar hyd eu hoes. Byddaf yn cyfarfod â llawer, ymhell dros 30 oed ac yn ystyried newid gyrfa, sy’n amharod i geisio ennill cymwysterau ffurfiol oherwydd eu profiadau yn yr ysgol. Yn aml, bydd yn amlwg i rywun sy’n delio â hwy bod ganddynt hen ddigon o allu i ennill cymwysterau addysgol.

Some groups are particularly disadvantaged in the first place. The level of educational attainment among looked-after children is shocking. I am not making a political point; it has been a fact for decades. That matter needs to be addressed as does the support that children receive when they leave care and become young adults.

Mae rhai grwpiau dan anfantais arbennig i ddechrau. Mae lefel y cyrhaeddiad addysgol ymysg plant sy’n derbyn gofal yn ddychrynllyd. Nid gwneud pwynt gwleidyddol yr ydwyf; mae’n ffaith ers degawdau. Mae angen ymdrin â’r mater hwnnw yn ogystal â’r gefnogaeth y bydd plant yn ei derbyn pan fyddant yn ymadael â gofal ac yn dod yn oedolion ifanc.

On health, the length of waiting lists is a great factor. People who are waiting for treatment or firm diagnosis lack peace of mind and are often prevented from re-entering the workforce because the illness has not been treated properly.

Ynglŷn â iechyd, mae hyd y rhestrau aros yn ffactor mawr. Nid oes tawelwch meddwl i bobl sy’n disgwyl triniaeth neu ddiagnosis pendant ac fe’u rhwystrir yn aml rhag dod yn ôl i’r gweithlu am nad yw’r salwch wedi ei drin yn iawn.

On primary health, the Health and Social Services Committee heard last week about the difficulty in recruiting GPs in Valley communities. That can limit opportunity and it is of real concern. Preventive medicine empowers people: if you prevent them from getting ill, you do not have to face the trauma and expense of curing illness or offering a treatment that may be well short of a cure. It is difficult to measure the savings from preventing something. The acute sector tends to be measured and it is difficult to push resources there. This Government’s successes in that area will be welcomed warmly. I am committed to the concept of promoting well-being. That we should have a health service rather than an illness service is a trite phrase at one level but there is a truth there.

Ynglŷn â iechyd cynradd, fe glywodd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf am yr anhawster a geir wrth recriwtio meddygon teulu yng nghymunedau’r Cymoedd. Gall hynny gyfyngu ar y cyfleoedd ac mae’n peri pryder gwirioneddol. Mae meddygaeth ataliol yn galluogi pobl: os byddwch yn eu hatal rhag mynd yn sâl, nid oes raid ichi wynebu’r trawma a’r gost o wella salwch neu gynnig triniaeth a allai fod ymhell o fod yn ddatrysiad llawn. Anodd yw mesur yr arbedion a geir drwy atal rhywbeth. Mae yna duedd i fesur y sector aciwt ac mae’n anodd gwthio adnoddau yn y fan honno. Bydd croeso mawr i lwyddiant gan y Llywodraeth hon yn y maes hwnnw. Yr wyf wedi ymrwymo i’r syniad o hybu lles. Mae’r syniad y dylai fod gennym wasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch yn ystrydeb ar un lefel ond mae gwirionedd ynddi.

On housing, mistakes were made by well-intentioned people in the past. Nobody deliberately built estates so that they could not thrive as communities. However, they were built, often in exposed and vulnerable areas with great concentrations of people who did not form a balanced community. We are aware of the difficulty of getting primary health care teams into these estates. If we do not involve communities, we may well end up repeating past failures. Again, these were made under successive Administrations; this is not a simple partisan political point.

Ynglŷn â thai, fe wnaed camgymeriadau gan bobl da eu bwriad yn y gorffennol. Ni chodwyd stadau’n fwriadol fel na allent ffynnu fel cymunedau. Fodd bynnag, fe’u codwyd er hynny, ac yn aml mewn mannau amlwg ac agored i ddifrod gyda niferoedd mawr o bobl nad oeddent yn ffurfio cymuned gytbwys. Yr ydym yn ymwybodol o’r anhawster o gael timau gofal iechyd cynradd i’r stadau hyn. Os na sicrhawn fod cymunedau’n cymryd rhan, fe allem ailadrodd methiannau’r gorffennol yn y pen draw. Unwaith eto, fe wnaed hyn o dan un Llywodraeth ar ôl y llall; nid yw’n bwynt gwleidyddol pleidiol syml.

Social care is a major challenge and I look forward to the Government starting to tackle some of the issues arising from the Royal Commission, such as charges, support for carers and so on. We have a carers strategy, which I welcome warmly, but we still have to implement it and achieve the outcome and success that we want.

Mae gofal cymdeithasol yn sialens fawr ac edrychaf ymlaen at weld y Llywodraeth yn dechrau ymdrin â rhai o’r materion sy’n codi o’r Comisiwn Brenhinol, fel taliadau, cefnogaeth i ofalwyr ac yn y blaen. Mae gennym strategaeth i ofalwyr, ac yr wyf yn croesawu hynny’n fawr, ond yr ydym eto i’w gweithredu a chyflawni’r canlyniad a’r llwyddiant a ddymunwn.

Anyone who has worked with carers knows that there is a vast group of people who, until very recently, did not have the attention or support that they deserve. When you start to work with a group of such people, it is sobering to realise how some groups of people remain unsupported in the community. That damages their life opportunities.

Bydd pawb a weithiodd gyda gofalwyr yn gwybod bod yna grŵp anferth o bobl nad oeddent, hyd yn ddiweddar iawn, yn derbyn y sylw neu’r gefnogaeth y maent yn eu teilyngu. Pan ddechreuwch weithio gyda grŵp o bobl felly, mae’n eich sobreiddio pan sylweddolwch sut y mae rhai pobl heb gefnogaeth o hyd yn y gymuned. Mae hynny’n niweidio eu cyfleoedd mewn bywyd.

I welcome the emphasis on opportunity and independence. That is how to approach these challenges. If we do not get people to participate in these social interventions, they will not be effective. The lack of ownership that some people have felt of the solutions or grand plans imposed upon them and a lack of community involvement, alienate rather than include people in processes. We want consultation with communities improved, to involve the public in a vital way, rather than just to circulate documents to libraries. The importance of avoiding dependency should be reiterated time and time again because dependency takes away the spark of initiative that can give people confidence and empower them.

Croesawaf y pwyslais ar gyfle ac annibyniaeth. Dyna’r ffordd i ymdrin â’r sialensau hyn. Os na chawn bobl i gymryd rhan yn yr ymyriadau cymdeithasol hyn, ni fyddant yn effeithiol. Mae’r diffyg perchnogaeth a deimlwyd gan rai pobl ar yr atebion neu’r cynlluniau mawr a orfodwyd arnynt a’r diffyg cysylltiad â’r gymuned, yn fodd i ddieithrio pobl yn hytrach na’u cynnwys mewn prosesau. Yr ydym am weld gwelliant yn yr ymgynghori â chymunedau, gan roi lle hanfodol i’r cyhoedd, yn hytrach na gwneud dim ond cylchredeg dogfennau i lyfrgelloedd. Mae pwysigrwydd osgoi dibyniaeth yn bwynt y dylid ei ailadrodd dro ar ôl tro oherwydd mae dibyniaeth yn dwyn y llygedyn hwnnw o fenter a all roi hyder i bobl a’u galluogi.

I conclude with the economy and prosperity. No one wants Wales or Britain to fail or to become less economically successful. Many of the issues under discussion are related to poverty; there is no two ways about that. We have to consider poverty in a relative rather than an absolute way. It limits people and I know it is real from talking to people who are impoverished in various ways.

Terfynaf drwy sôn am yr economi a ffyniant. Nid oes neb am i Gymru na Phrydain fethu neu ddod yn llai llwyddiannus yn economaidd. Mae llawer o’r materion a drafodir yn ymwneud â thlodi; nid oes dwywaith am hynny. Rhaid inni ystyried tlodi mewn modd cymharol yn hytrach na modd absoliwt. Mae’n cyfyngu ar bobl ac fe wn ei fod yn beth real drwy siarad â phobl sydd yn dlawd mewn gwahanol ffyrdd.

A hard question we now face is what will happen to the Objective 1 moneys. Are they going to be matched with new money or are they just going to get matched by top-slicing from the existing budget? It is a hard issue, and we would be more sanguine about this debate if we had an answer to something so fundamental.

Un cwestiwn anodd a wynebwn yn awr yw beth fydd yn digwydd i arian Amcan 1. A fydd arian newydd i gyfateb iddo neu a wneir hynny drwy wneud dim ond cymryd tafell uchaf o’r gyllideb bresennol? Mae’n fater anodd, a byddem yn fwy brwd ynghylch y ddadl hon pe caem ateb i rywbeth mor sylfaenol â hynny.

The Government has done things that have excluded people, such as to increase the duty on petrol, which has had a dramatic effect on people on lower incomes, most of whom own a car or aspire to do so. It is difficult to live in our society without a car, especially if you have a family. Whether you are in or seeking employment, a car is often vital. Yet the average amount we spend on petrol has increased by £200—unrelated to income. It now costs you that much more because of the Government’s latest hike in petrol duty. Rural communities are particularly badly affected. If we are looking at indicators for social exclusion, rural communities suffer disproportionately.

Fe wnaeth y Llywodraeth bethau sydd wedi dieithrio pobl, fel cynnyddu’r dreth ar betrol, sydd wedi effeithio’n drawiadol ar bobl ag incwm isel, y rhan fwyaf ohonynt yn berchen ar gar neu’n gobeithio gwneud hynny. Mae’n anodd byw yn ein cymdeithas heb gar, yn enwedig os oes gennych deulu. Os ydych mewn gwaith, neu’n chwilio am waith, mae car yn hanfodol yn aml. Ond mae’r swm cyfartalog a wariwn ar betrol wedi cynyddu £200—heb gysylltiad ag incwm. Mae’n costio cymaint mwy ichi bellach oherwydd codiad diweddaraf y Llywodraeth yn y dreth ar betrol. Mae cymunedau gwledig wedi eu heffeithio’n arbennig o ddrwg. Os ydym yn ystyried dangosyddion ar gyfer dieithrwch cymdeithasol, mae cymunedau gwledig yn dioddef mewn modd anghyfartal.

The pensions tax introduced by this Government will have a massive effect on people’s pensions. It will have a disproportionate effect on those who have private pensions; it will not affect those in the public sector by anything like as much. Those who have a certain flexibility in their jobs, who are not in employment all the time, are moving around or in different careers, will suffer greatly because the rate of growth in their pension funds will now be taxed. That is effectively a 25 per cent tax on what you can build up in your pension. When people retire, that tax will affect their pension by tens of thousands of pounds. It is a colossal sum of money. It brings to the exchequer £5 billion each year; it is the equivalent of 2p or 3p on income tax. Such things do not sit well with the Government’s emphasis on social inclusion.

Bydd y dreth bensiynau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon yn effeithio’n fawr ar bensiynau pobl. Bydd yn effeithio mewn modd anghyfartal ar bobl sydd â phensiynau preifat; ni fydd yn effeithio hanner cymaint ar bobl yn y sector cyhoeddus. Bydd y sawl sydd yn weddol hyblyg o ran ei swydd, nad yw mewn cyflogaeth drwy’r amser neu sy’n symud o fan i fan neu i wahanol yrfa, yn dioddef yn fawr oherwydd y bydd treth yn awr ar gyfradd twf ei gronfeydd pensiwn. Mae hynny i bob pwrpas yn dreth o 25 y cant ar yr hyn y gall rhywun ei gronni yn ei bensiwn. Pan fydd pobl yn ymddeol, bydd y dreth honno yn cael effaith o ddegau o filoedd o bunnau ar eu pensiwn. Mae’n dod â £5 biliwn y flwyddyn i’r trysorlys; swm cywerth â 2c neu 3c ar y dreth incwm. Nid yw pethau fel hyn yn cyd-fynd yn dda â phwyslais y Llywodraeth ar gynhwysiant cymdeithasol.

The Assembly will be judged on whether it improves public services. I return to that because people will judge the Assembly a success in so far as it improves the quality of life. Social inclusion or social exclusion, however we want to term it, is a useful phrase but it is certainly not an outcome. It will take a lot of hard work to get a fully inclusive society, but we are committed to it.

Bydd y Cynulliad yn cael ei farnu ar ei allu i wella gwasanaethau cyhoeddus. Yr wyf yn dod yn ôl at hyn oherwydd bydd pobl yn barnu’r Cynulliad yn llwyddiant yn ôl y graddau y bydd yn gwella ansawdd bywyd. Mae cynhwysiant cymdeithasol neu ddieithrwch cymdeithasol, pa bynnag enw a roddwn arno, yn derm defnyddiol ond yn sicr nid yw’n ganlyniad. Bydd angen llawer o waith caled i sicrhau cymdeithas gwbl gynhwysol, ond yr ydym wedi ymrwymo i hynny’n bendant.

Christine Humphreys spoken in English p. 43

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 43

Before I make my main points, I raise my concerns regarding the production of the documents supporting this motion. It was difficult for those of us in north Wales who were relying on our laptops over the weekend to get details of this motion and the background documents, because the laptops were not linked up. It was difficult for me in any case.

Cyn imi wneud fy mhrif bwyntiau, codaf fy mhryderon ynghylch cynhyrchu’r dogfennau sy’n ategu’r cynnig hwn. Yr oedd y rhai ohonom yng ngogledd Cymru oedd yn dibynnu ar ein cyfrifiaduron pen-glin dros y penwythnos yn ei chael yn anodd i gael manylion y cynnig hwn a’r dogfennau cefndir, oherwydd nid oedd y cyfrifiaduron pen-glin wedi eu cysylltu. Yr oedd yn anodd i mi, beth bynnag.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

I do not want to get embroiled in a debate on order, but there were laptops operating at the weekend and if some were not, then that is a technical matter to be discussed.

Nid wyf am dynnu dadl am drefn yn fy mhen, ond yr oedd cyfrifiaduron pen-glin yn gweithio ar y penwythnos ac os oedd rhai nad oeddent yn gweithio, mae hynny’n fater technegol y bydd angen ei drafod.

Christine Humphreys spoken in English p. 44

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 44

Mine certainly was not.

Nid oedd f’un i’n gweithio, yn bendant.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 44

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 44

Well, mine was.

Wel, yr oedd f’un i.

Christine Humphreys spoken in English p. 44

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 44

Perhaps I did not press the right button.

Efallai nad oeddwn wedi pwyso’r botwm iawn.

I concur with what Jenny said earlier. The motion is very bland, but having said that, we feel that we have to support it. There is little in it about how we will move forward as an Assembly. There is much in the document about the evaluation of present schemes but few new initiatives, objectives and strategies that the Assembly itself might initiate. I accept that social exclusion has complex causes, and social inclusion needs complex solutions. Our greatest disappointment is that there are no new strategies in this document, to bring people like the partners that should be involved in moving us forward, together.

Yr wyf yn cyd-fynd â’r hyn a ddywedodd Jenny gynnau. Mae’r cynnig yn ddi-ffrwt iawn, ond wedi dweud hynny, yr ydym yn teimlo bod rhaid inni ei gefnogi. Ychydig sydd ynddo am y modd y byddwn yn symud ymlaen fel Cynulliad. Mae llawer iawn yn y ddogfen am werthuso’r cynlluniau presennol ond ychydig o gynlluniau, amcanion a strategaethau newydd y gallai’r Cynulliad ei hun eu sefydlu. Derbyniaf fod achosion cymhleth i ddieithrwch cymdeithasol, a bydd angen atebion cymhleth i ddelio â chynhwysiant cymdeithasol. Y siom fwyaf sydd gennym yw nad oes unrhyw strategaethau newydd yn y ddogfen hon, i gysylltu â’r partneriaid a ddylai gymryd rhan wrth fynd â ni ymlaen, gyda’n gilydd.

I refer Members to the excellent document that came today where I found a great deal of information—the Wales Council for Voluntary Action, or WCVA, briefing paper. It is clear from this document that the cycle of social exclusion is shaped by attitudes that are in turn shaped by lack of opportunity. We must address that more than anything. That lack is based on our economic weaknesses in Wales and I am sure that other Members will address the benefits of the money that is supposed to come under Objective 1. I am sure that other Members will deal with general terms, but I will concentrate on one issue that is a problem in Wales—the social exclusion of young women.

Yr wyf yn tynnu sylw’r Aelodau at y ddogfen ragorol a gyrhaeddodd heddiw lle y cefais lawer iawn o wybodaeth—dogfen briffio Cyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru neu CGGC. Mae’n amlwg yn y ddogfen hon bod y cylch dieithrwch cymdeithasol yn cael ei ffurfio gan ymagweddau sydd yn eu tro’n cael eu ffurfio gan ddiffyg cyfle. Rhaid inni roi sylw i hynny’n fwy na dim. Mae’r diffyg hwnnw’n seiliedig ar ein gwendidau economaidd yng Nghymru ac yr wyf yn sicr y bydd Aelodau eraill yn rhoi sylw i fanteision yr arian sydd i fod i ddod o dan Amcan 1. Yr wyf yn sicr y bydd Aelodau eraill yn trafod termau cyffredinol, ond hoffwn ganolbwyntio ar un mater sydd yn broblem yng Nghymru—dieithrwch cymdeithasol ymysg benywod ifanc.

Wales has one of the highest rates of teenage pregnancies in Western Europe. Young Welsh women are more likely to become pregnant than English women under the age of 19 and are less likely to terminate their pregnancies. As a result, the rate of live births to young women in Wales is 27 per cent higher than in England. Wales has also one of the highest rates of teenage pregnancies or live births in Europe—38 per thousand compared with four per thousand in Switzerland and six per thousand in Sweden. These countries may seem more sexually permissive than ours but perhaps their family structure is slightly more secure—we could debate that. Having so many teenage pregnancies affects the way women live.

Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o achosion o feichiogrwydd ymysg genethod yn eu harddegau yng Ngorllewin Ewrop. Mae benywod ifanc Cymru yn fwy tebygol o ddod yn feichiog na benywod yn Lloegr o dan 19 oed ac yn llai tebygol o derfynu eu beichiogrwydd. O ganlyniad i hynny, mae’r gyfradd o enedigaethau byw i fenywod ifanc yng Nghymru yn 27 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o feichiogrwydd neu enedigaethau byw yn yr arddegau yn Ewrop—38 y fil o gymharu â phedwar ym mhob mil yn y Swistir â chwech ym mhob mil yn Sweden. Fe allai’r gwledydd hyn ymddangos yn fwy oddefol yn rhywiol na’n gwlad ni ond efallai fod strwythur eu teuluoedd ychydig yn fwy cadarn—gallem drafod hynny. Mae cael cymaint o achosion o feichiogrwydd ymysg rhai yn eu harddegau yn effeithio ar ffordd o fyw benywod.

The 1997 Welsh household interview survey looked at gender patterns and concluded that women are over 10 times more likely than men to be lone parents. That in itself has an effect on women and socially excludes them. Women are more likely than men to live in rented rather than owner occupied accommodation. They are more likely to receive one-parent benefits—4.4 per cent compared with 0.3 per cent for men. They are more likely to receive family credit and are far more likely to receive income support. This leads to the social exclusion of young women who are sometimes trapped in poor conditions, isolated with young children. They are sometimes young mothers of low educational achievements, which perpetuates the cycle of social exclusion.

Yn yr arolwg cyfweliadau o gartrefi Cymru yn 1997 rhoddwyd ystyriaeth i batrymau rhyw a daethpwyd i’r casgliad bod benywod dros 10 gwaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn rhieni sengl. Mae hynny ynddo’i hun yn effeithio ar fenywod ac yn eu dieithrio’n gymdeithasol. Mae benywod yn fwy tebygol na dynion o fyw mewn llety ar rent na llety sydd yn eiddo iddynt. Maent yn fwy tebygol o dderbyn budd-daliadau un rhiant—4.4 y cant o gymharu â 0.3 y cant yn achos dynion. Maent yn fwy tebygol o dderbyn credyd teulu ac yn llawer mwy tebygol o dderbyn cymorth incwm. Mae hyn yn arwain at ddieithrwch cymdeithasol ymysg benywod ifanc sydd yn cael eu dal weithiau mewn amodau gwael, ar wahân gyda phlant ifanc. Mae rhai ohonynt yn famau ifanc â chyraeddiadau addysgol isel, gan barhau cylch dieithrwch cymdeithasol.

We have to ensure that our efforts to improve educational standards in schools do not move the emphasis away from health and sex education. Some of the most frightening figures I have seen recently are those on sexually transmitted diseases. Although Wales has a better rate than England, sexually transmitted diseases such as gonorrhoea and herpes simplex occur in Wales at double the European rate for all ages. However, just under a quarter of Welsh cases of such diseases are among our 16 to 19-year-olds.

Rhaid inni sicrhau nad yw ein hymdrechion i wella safonau addysgol mewn ysgolion yn symud y pwyslais oddi wrth iechyd ac addysg rhyw. Rhai o’r ffigurau a gododd y mwyaf o ofn arnaf yn ddiweddar yw rhai ar glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Er bod cyfradd Cymru’n well nag un Lloegr, mae clefydau a drosglwyddir yn rhywiol fel hadlif a herpes simplex yn digwydd yng Nghymru ar gyfradd sy’n ddwywaith cyfradd Ewrop ar gyfer pob oed. Fodd bynnag, mae ychydig llai na chwarter o glefydau o’r fath yng Nghymru yn digwydd ymysg rhai 16 i 19 oed.

The First Secretary referred earlier to the Building Excellent Schools Together document. I believe that it is okay but there is far too much about educational attainment and not enough about the consequences and reality of lifestyle decisions that our young people make. We need an effective health and sex education system and the Assembly can work on that. I welcome the First Secretary’s commitment to ensuring that Assembly Secretaries work together across subject areas. My plea is that the way in which sex education is taught in schools is examined in the Under-16 Education Committee and that there are recommendations made to improve upon the present situation. That would enable young women to take their full place in society and ensure that they make a commitment to it.

Cyfeiriodd y Prif Ysgrifennydd yn gynharach at ddogfen Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda’n Gilydd. Er ei bod yn iawn, mae llawer gormod am gyraeddiadau addysgol a dim digon am ganlyniadau a realiti’r penderfyniadau am eu ffordd o fyw a wneir gan ein pobl ifanc. Mae arnom angen system addysg iechyd ac addysg rhyw effeithiol a gall y Cynulliad weithio ar hynny. Croesawaf ymrwymiad y Prif Ysgrifennydd i sicrhau y bydd Ysgrifenyddion y Cynulliad yn cydweithio ar draws meysydd pwnc. Yr alwad sydd gennyf fi yw un am archwilio’r modd y dysgir addysg rhyw mewn ysgolion gan y Pwyllgor Addysg Cyn-16 a chael argymhellion i wella’r sefyllfa bresennol. Byddai hynny’n galluogi benywod ifanc i gymryd eu lle llawn yn y gymdeithas gan sicrhau eu bod yn gwneud ymrwymiad i hynny.

Jane Davidson spoken in English p. 46

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 46

I welcome two things that have come out of the Government today. The first is this publication that is extremely helpful publication in mapping social exclusion in Wales. Many of you know that I have spent the last ten years of my life looking at issues of social exclusion on an all-party basis. Often, we have not had the information on which to develop policy. It is enormously important that we have a comprehensive document such as this that enables us, as Assembly Members, to contribute towards the debate on this important and most fundamental issue—how the Assembly will work in Wales.

Yr wyf yn croesawu dau beth a ddaeth o’r Llywodraeth heddiw. Y cyntaf yw’r cyhoeddiad hwn sy’n ddefnyddiol iawn wrth fapio dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru. Fe ŵyr llawer ohonoch imi dreulio fy neng mlynedd diwethaf yn ystyried materion dieithrwch cymdeithasol ar gyfer pob plaid. Yn aml, nid oedd yr wybodaeth gennym a allai fod yn sylfaen i ddatblygu polisi. Mae’n bwysig tu hwnt bod gennym dogfen gynhwysfawr fel hon sy’n ein galluogi, fel Aelodau’r Cynulliad, i gyfrannu at y ddadl ar y mater hwn sydd yn bwysig iawn ac yn sylfaenol—sut y bydd y Cynulliad yn gweithio yng Nghymru.

I will use this report. There will be great use of statistics in the Chamber today—that is always the case in debates on social exclusion. However, we must remember that behind every single statistic there is a family. That family may have no car, no educational achievement and children who have left school without qualifications. That is the reality that we must tackle in Wales today. My constituency is in the Rhondda Cynon Taff council area. I will use examples of educational attainment in Rhondda Cynon Taff to pick up Christine’s challenge about putting forward a positive initiative, which I feel the Assembly could do, based on an initiative in my constituency to tackle these issues.

Byddaf yn defnyddio’r adroddiad hwn. Bydd llawer o ddefnydd o ystadegau yn y Siambr heddiw—mae hynny’n digwydd bob amser mewn dadleuon ar ddieithrwch cymdeithasol. Fodd bynnag, rhaid inni gofio bod teulu y tu ôl i bob ystadegyn unigol. Gallai’r teulu hwnnw fod heb gar, heb gyraeddiadau addysgol, efallai fod ynddo blant a ymadawodd â’r ysgol heb gymwysterau. Dyna’r realiti y bydd raid inni fynd i’r afael ag ef yng Nghymru heddiw. Mae f’etholaeth i yn ardal cyngor Rhondda Cynon Taf. Yr wyf am ddefnyddio enghreifftiau o gyrhaeddiad addysgol yn Rhondda Cynon Taf i ymateb i sialens Christine i gyflwyno cynllun cadarnhaol, y teimlaf y gallai’r Cynulliad ei weithredu, ar sail cynllun yn f’etholaeth i ymdrin â’r materion hyn.

In Rhondda Cynon Taff 53 per cent of 11-year-olds do not meet the standard educational assessment targets. Only 28 per cent of children in Rhondda Cynon Taff achieve GCSEs in core subjects. It is a fact that 6.6 per cent of 15-year-olds leave school without any qualifications. Rhondda Cynon Taff has the highest school exclusion figures in Wales. Twenty nine per cent of adults who live in that local authority area have no qualifications and 39 per cent have no car. David Melding said that the majority of people have a car. They do, but when you consider a level such as 39 per cent—and Rhondda Cynon Taff does not have the highest figure in Wales—we see that there are large numbers of people in Wales who cannot afford to use a car. In Rhondda Cynon Taff, 36 per cent of families have incomes of less than £10,000.

Yn Rhondda Cynon Taf nid yw 53 y cant o rai 11 oed yn cyrraedd y targedau asesiadau addysgol safonol. Dim ond 28 y cant o’r plant yn Rhondda Cynon Taf sy’n ennill TGAU mewn pynciau craidd. Mae’n ffaith bod 6.6 y cant o rai 15 oed yn ymadael â’r ysgol heb unrhyw gymwysterau. Yn Rhondda Cynon Taf y mae’r ffigurau uchaf am eithrio o ysgolion yng Nghymru. Mae 29 y cant o’r oedolion sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol heb unrhyw gymwysterau ac mae 39 y cant heb gar. Dywedodd David Melding fod y rhan fwyaf o bobl yn meddu ar gar. Mae hynny’n wir, ond pan ystyriwch lefel fel 39 y cant—ac nid y ffigur am Rondda Cynon Taf yw’r uchaf yng Nghymru—fe welwn fod nifer fawr o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu fforddio defnyddio car. Yn Rhondda Cynon Taf, mae gan 36 y cant o deuluoedd incwm sy’n is na £10,000.

That is a huge job for the Assembly to tackle and I am acutely conscious that at least two other local authorities could produce even more horrifying figures in the context of a social exclusion debate. It is crucially important that we bring all the service areas together and that is why I welcome this morning’s announcement of Cabinet responsibilities and how we link cross-cutting issues to make this agenda work.

Mae hynny’n dasg anferth i’r Cynulliad ac yr wyf yn boenus o ymwybodol bod o leiaf ddau awdurdod lleol arall a allai gynhyrchu ffigurau mwy arswydus byth yng nghyd-destun dadl ar ddieithrwch cymdeithasol. Mae’n holl bwysig inni ddod â’r holl feysydd gwasanaeth at ei gilydd a dyna pam yr wyf yn croesawu’r cyhoeddiad fore heddiw am gyfrifoldebau’r Cabinet a’r modd y byddwn yn cysylltu materion trawsffiniol i roi’r agenda hwn ar waith.

Economic development cannot proceed in deprived communities unless it is fully supported and integrated with educational, social and community development. A key area that we must consider is the use of further education colleges and higher education institutions. Both sets of institutions will have to leave their campuses if we are to give educational opportunities to people who would otherwise never enter college or university. We must overcome what we might describe as portal phobia—not being able to get people through the gates of the institutions because they do not believe that the institution has anything to offer them.

Ni all datblygu economaidd fynd rhagddo mewn cymunedau difreintiedig oni bai ei fod wedi ei gefnogi a’i integreiddio’n llwyr ag addysg a datblygu cymdeithasol a chymunedol. Un maes allweddol y bydd raid inni ei ystyried yw’r defnydd ar golegau addysg bellach ac addysg uwch. Bydd raid i’r ddau fath o sefydliad fynd o’u campysau os ydym i roi cyfleoedd addysgol i bobl na fyddai fel arall yn mynd i goleg neu brifysgol. Rhaid inni oresgyn yr hyn y gallem ei alw’n ‘portal phobia’—methu cael pobl drwy ddrysau’r sefydliadau am nad ydynt yn credu bod gan y sefydliad ddim i’w gynnig iddynt.

I wish to focus on an initiative that has been carried out by the University of Glamorgan with 50 schools in Wales, including five in Rhondda Cynon Taff and two in my constituency. I am pleased to say, on the basis of the evaluation carried out by the Welsh Development Agency, that it will be expanded across the whole of the Rhondda Cynon Taff area in September. The initiative must be supported strongly by all Assembly Members and replicated by other higher education and further education institutions in Wales.

Hoffwn ganolbwyntio ar gynllun sydd wedi ei weithredu gan Brifysgol Morgannwg gyda 50 o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys pump yn Rhondda Cynon Taf a dwy yn f’etholaeth i. Yr wyf yn falch o ddweud, ar sail y gwerthusiad a gyflawnwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru, y bydd yn cael ei ymestyn i bob rhan o ardal Rhondda Cynon Taf ym mis Medi. Rhaid i’r cynllun gael cefnogaeth gryf gan holl Aelodau’r Cynulliad a dylai gael ei ailadrodd gan sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach eraill yng Nghymru.

The initiative is a compact between the University of Glamorgan and the schools. Through the compact, the university guarantees a place on its higher education scheme to bona fide students from the school who fulfil the compact conditions. These conditions include academic criteria, a personal profile and a structural personal development programme. The important aspect of this compact is that it is not based solely on academic achievement, which is the normal way in which students enter university. For students in compact schools working with the university, the offer is four points below the normal A-level offer.

Mae’r cynllun yn gytundeb rhwng Prifysgol Morgannwg a’r ysgolion. Drwy’r cytundeb, bydd y brifysgol yn gwarantu lle yn ei gynllun addysg uwch i fyfyrwyr dilys o’r ysgol sy’n cyflawni amodau’r cytundeb. Mae’r amodau hyn yn cynnwys meini prawf academaidd, proffil personol a rhaglen datblygu personol strwythurol. Yr agwedd bwysig ar y cytundeb hwn yw nad yw’n seiliedig ar gyflawniad academaidd yn unig, sef y ffordd arferol i fyfyrwyr gael mynediad i brifysgol. Yn achos myfyrwyr mewn ysgolion o dan y cytundeb sy’n gweithio gyda’r brifysgol, mae’r cynnig yn bedwar pwynt yn is na’r cynnig lefel A arferol.

As I said, this approach has been evaluated by the WDA recently in the context of its commitment to attract and develop quality jobs and a highly skilled potential workforce. It is also committed to ensuring that students with strong ties in the area who are leaving higher education are much more likely to remain there for employment. That is an important resource when we consider the University of Glamorgan’s catchment and target area and the Assembly’s focus on tackling deprivation in the Valleys.

Fel y dywedais, mae’r dull gweithredu hwn wedi ei werthuso gan y WDA yn ddiweddar yng nghyd-destun ei ymrwymiad i ddenu a datblygu swyddi o ansawdd a gweithlu dichonol â medrau uchel. Mae wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod myfyrwyr â chysylltiadau cryf â’r ardal sydd yn ymadael ag addysg uwch yn fwy tebygol o lawer o aros yno i gael eu cyflogi. Mae hynny’n adnodd pwysig pan ystyriwn ddalgylch ac ardal darged Prifysgol Morgannwg a ffocws y Cynulliad ar fynd i’r afael ag amddifadedd yn y Cymoedd.

The compact approach has been important for the following reasons. As indicated by the statistics in the Welsh Office report, the area has traditionally provided a very low number of higher education students. We must ensure increased participation in higher education by lower socio-economic groups if we are to expand lifelong learning opportunities. To do so we must get over a major cultural challenge and provide the bridge to higher education for students who are capable of degree work but have not considered it because they are from families where further or higher education has never been an option.

Bu’r dull cytundeb yn bwysig am y rhesymau canlynol. Fel y dangoswyd yn yr ystadegau yn adroddiad y Swyddfa Gymreig, nifer isel iawn o fyfyrwyr addysg uwch a ddeuai o’r ardal yn draddodiadol. Rhaid inni sicrhau mwy o gyfranogiad mewn addysg uwch gan grwpiau cymdeithasol-economaidd is os ydym i ehangu cyfleoedd dysgu ar hyd oes. I wneud hynny, rhaid inni drechu sialens ddiwylliannol fawr a darparu’r bont at addysg uwch i fyfyrwyr sy’n gallu cyflawni gwaith ar lefel gradd ond sydd heb ystyried hynny am eu bod yn hanu o deuluoedd lle na fu addysg bellach ac uwch erioed yn ddewis.

The findings of the compact study are exciting. They have shown that in the Rhondda Cynon Taff target area, with all these negative aspects in terms of educational opportunity and social deprivation, there is an 8 per cent increase in university applications by pupils in compact schools. There is a 5 per cent increase in students attending university in Wales and a 50 per cent increase in students attending the University of Glamorgan, which runs the compact programme. There is a 10 per cent increase in the applications resulting in offers. On average, there is an increase of 1.5 A-level points per compact school pupil since participating in this compact. That indicates enormous willingness and commitment by staff and pupils to improve A-level results to encourage students into University with the idea of a guaranteed place. There was a 2 per cent increase in the number of compact school students who completed their first year successfully. As this scheme began only recently, we do not have an evaluation yet of the outcome in terms of the graduation of those students who came through the compact. However, I am sure you will agree that this compact gives us a positive way forward, and not just at the University of Glamorgan.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth ar y cytundeb yn gyffrous. Er gwaethaf yr holl agweddau negyddol hyn o ran cyfle addysgol ac amddifadedd cymdeithasol, maent yn dangos cynnydd o 8 y cant yn ardal darged Rhondda Cynon Taf yn nifer y ceisiadau i brifysgol gan ddisgyblion mewn ysgolion sy’n gweithredu’r cytundeb. Mae cynnydd o 5 y cant yn nifer y myfyrwyr sy’n mynychu prifysgolion yng Nghymru a chynnydd o 50 y cant yn nifer y myfyrwyr sy’n mynychu Prifysgol Morgannwg, sy’n gweithredu rhaglen y cytundeb. Gwelir cynnydd o 10 y cant yn nifer y ceisiadau sy’n arwain at gynigion. Ar gyfartaledd, mae cynnydd o 1.5 pwynt lefel A i bob disgybl mewn ysgol sydd o dan y cytundeb ers cymryd rhan yn y cytundeb hwn. Mae hynny’n dangos parodrwydd ac ymrwymiad enfawr gan y staff a’r disgyblion i wella canlyniadau lefel A er mwyn annog myfyrwyr i fynd i brifysgol gyda’r syniad o le gwarantedig. Yr oedd 2 y cant o gynnydd yn nifer y disgyblion o ysgolion y cytundeb a gwblhaodd eu blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus. Gan mai newydd ddechrau y mae’r cynllun, nid oes gennym werthusiad hyd yn hyn o’r canlyniad o ran graddau a enillir gan y myfyrwyr hynny a ddaeth drwy’r cytundeb. Fodd bynnag, yr wyf yn sicr y cytunwch fod y cytundeb hwn yn cynnig ffordd gadarnhaol ymlaen, ac nid ym Mhrifysgol Morgannwg yn unig.

We can take this idea and develop it in every further education college and higher education institution in Wales. It has had a positive effect on pupil interest, on academic achievement, on pupils’ chances of reaching university, on A-level performance and on the number of university students having links with the local community. Those students can then stay on and contribute to that community. I commend it as a positive mechanism to support social inclusion in Wales.

Gallwn gymryd y syniad hwn a’i ddatblygu ym mhob coleg addysg bellach a sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Cafodd effaith gadarnhaol ar ddiddordeb y disgyblion, ar gyflawniad academaidd, ar gyfleoedd disgyblion i gyrraedd prifysgol, ar berfformiad lefel A ac ar nifer y myfyrwyr prifysgol sydd â chysylltiadau â’r gymuned leol. Gall y myfyrwyr hynny aros ymlaen wedyn a chyfrannu at y gymuned honno. Yr wyf yn ei gymeradwyo fel mecanwaith cadarnhaol i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol yng Nghymru.

Jocelyn Davies spoken in English p. 50

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 50

For those who could get the document in time to read it, ‘Building an Inclusive Wales’ was a sobering read. As a representative of the south-east, the poverty statistics are especially worrying to me. Merthyr, Blaenau Gwent, Caerphilly and Torfaen receive mentions all too often. The levels of unemployment, economic inactivity and long-term sickness in Merthyr are frightening. They lead to a mortality rate 30 per cent higher than average. Half of the adults in Merthyr claim their health interferes with normal social activities and a staggering one third of households with children have no breadwinners.

I’r rhai hynny a fedrodd gael y ddogfen mewn pryd i’w darllen, yr oedd darllen ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’ yn brofiad sobreiddiol. Fel cynrychiolydd o’r de-ddwyrain, mae ystadegau am dlodi yn peri gofid arbennig i mi. Crybwyllir Merthyr, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen yn llawer rhy aml. Mae’r lefelau diweithdra, anweithgaredd economaidd a salwch tymor-hir ym Merthyr yn arswydus. Maent yn arwain at gyfradd marwolaeth sy’n 30 y cant yn uwch na’r cyfartaledd. Mae hanner yr oedolion ym Merthyr yn honni bod eu hiechyd yn amharu ar weithgareddau cymdeithasol arferol ac mae cyfran syfrdanol o un ym mhob tri o aelwydydd â phlant heb enillydd cyflog.

Blaenau Gwent is snapping on Merthyr’s heels in the poverty stakes. There is a geographic significance to these figures with pockets of communities being subjected to a grinding poverty that makes people old before their time. This is not just rhetoric for me. Not many here would enjoy living on welfare benefits, bringing up a child with learning difficulties with no partner, no job, without the car that we have heard is so important and with no television, no holidays, no plans and no dreams. In the winter months there was a constant choice between eating or heating. I lived that existence for about five years. We were not called the socially excluded then, we were the underclass. ‘Socially excluded’ may sound more pleasant, but the reality is the same.

Mae Blaenau Gwent yn dynn ar sodlau Merthyr yn y rhestr tlodi. Mae arwyddocâd daearyddol i’r ffigurau hyn gyda phocedi o gymunedau yn profi tlodi affwysol sy’n troi pobl yn hen cyn pryd. Mae hynny’n fwy na rhethreg yn f’achos i. Nid oes llawer yma a fyddai’n mwynhau byw ar fudd-daliadau lles, magu plentyn ag anawsterau dysgu heb gymar, heb swydd, heb y car y clywsom ei fod mor bwysig a heb deledu, heb wyliau a heb freuddwydion. Ym misoedd y gaeaf yr oedd angen dewis yn gyson rhwng bwyta a gwresogi. Bûm i’n byw felly am oddeutu pum mlynedd. Nid rhai a ddieithriwyd yn gymdeithasol oedd yr enw arnom bryd hynny, ni oedd yr isddosbarth. Efallai fod ‘dieithrwch cymdeithasol’ yn swnio’n fwy dymunol, ond yr un yw’r realiti.

I echo the comments Helen made and I look forward to the Assembly taking up some of her ideas. In addition, I hope that future financial settlements for the local authorities in the areas of greatest need reflect the huge task in front of them.

Ategaf sylwadau Helen ac edrychaf ymlaen at weld y Cynulliad yn mabwysiadu rhai o’i syniadau. Gobeithio hefyd y bydd y setliadau ariannol yn y dyfodol i awdurdodau lleol yn yr ardaloedd lle y mae’r angen mwyaf yn adlewyrchu’r dasg enfawr sydd o’u blaen.

Lorraine Barrett spoken in English p. 50

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 50

I would like to highlight two issues in my constituency that have an impact on social exclusion and on social inclusion. If you look at the statistics in the Welsh Office report you could be misled into thinking that the Vale of Glamorgan, which contains part of my constituency, Penarth, comes out quite well in the league table. However, part of that picture is distorted by the vagaries of the boundary of the Alexandra ward.

Hoffwn dynnu sylw at ddau fater yn f’etholaeth sydd yn effeithio ar ddieithrwch cymdeithasol ac ar gynhwysiant cymdeithasol. Os edrychwch ar yr ystadegau yn adroddiad y Swyddfa Gymreig fe allech gael eich camarwain i gredu bod Bro Morgannwg, sy’n cynnwys rhan o’m hetholaeth, Penarth, mewn safle eithaf da yn nhabl y gynghrair. Fodd bynnag, mae rhan o’r darlun hwnnw wedi ei ystumio gan fympwyon ffin ward Alexandra.

Prior to the 1974 local government reorganisation, the Alexandra ward had five elected members. It was huge. It comprises two separate areas with the more affluent lower Penarth distorting the socio-economic picture of the north end of the town, which used to be the docks. Alexandra ward loses out on grant-aid opportunities because it is seen as an affluent ward. The sooner it is divided into two, the sooner we can address social exclusion there. I would look to the First Secretary, if he was here, to put that right.

Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, yr oedd pum aelod etholedig yn ward Alexandra. Yr oedd yn anferth. Mae’n cynnwys dwy ardal wahanol a’r rhan isaf a mwy cefnog o Benarth yn ystumio’r darlun cymdeithasol-economaidd o ben gogleddol y dref, a arferai fod yn ddociau. Bydd ward Alexandra yn methu cyfleoedd i dderbyn cymorth grant am ei bod yn cael ei hystyried yn ward gefnog. Gorau po gyntaf y caiff ei rhannu’n ddwy, fel y gallwn ymdrin â’r dieithrwch cymdeithasol a geir yno. Byddwn yn disgwyl i’r Prif Ysgrifennydd, pe bai yma, gywiro hynny.

The second issue I would like to highlight is that of young people. Social exclusion often conjures up a vision of young people hanging around the streets being a nuisance, truanting from school and getting pregnant. That is a stereotypical vision but for many youngsters it is a reality. Penarth has suffered from a lack of youth provision over the past few years. This is mainly because both Penarth secondary schools chose to opt out and took grant-maintained status. The only youth centre in Penarth, which was on the campus of Stanwell school, was demolished. The young people of the town had nowhere to go. They were socially excluded.

Yr ail fater yr hoffwn dynnu sylw ato yw pobl ifanc. Mae dieithrwch cymdeithasol yn aml yn creu darlun o bobl ifanc yn sefyllian ar y strydoedd gan achosi niwsans, chwarae triwant o’r ysgol a mynd yn feichiog. Mae hynny’n ddarlun ystrydebol ond dyna’r gwirionedd i lawer o bobl ifanc. Mae Penarth wedi dioddef diffyg darpariaeth ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Y rheswm pennaf am hynny yw bod y ddwy ysgol uwchradd ym Mhenarth wedi dewis ymeithrio ac ymgymryd â statws grant cynnal. Yr oedd yr unig ganolfan ieuenctid ym Mhenarth ar gampws ysgol Stanwell, ac fe’i dymchwelwyd. Nid oedd gan bobl ifanc y dref unlle i fynd. Yr oeddent wedi eu dieithrio’n gymdeithasol.

However, a group of youngsters formed a youth forum and with the help of the local bobby and a youth worker they secured a lottery grant to develop the Penarth youth project or the PYP, as we call it. It comprises a youth information shop and a cafe. I became involved in setting up that project and I should declare an interest as a director of the PYP. The PYP provides help, advice and information on a range of issues such as drugs, sexual health awareness, homelessness and job and training opportunities.

Fodd bynnag, ffurfiwyd fforwm ieuenctid gan grŵp o bobl ifanc a chyda chymorth y plismon lleol a gweithiwr ieuenctid sicrhawyd grant o’r loteri i ddatblygu prosiect ieuenctid Penarth neu’r PYP, fel y byddwn ni’n ei alw. Mae’n cynnwys siop gwybodaeth i bobl ifanc a chaffi. Cymerais ran wrth sefydlu’r prosiect hwnnw ac fe ddylwn ddatgan diddordeb fel un o gyfarwyddwr y PYP. Mae’r PYP yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ar amrediad o faterion fel cyffuriau, gwybodaeth am iechyd rhyw, digartrefedd a chyfleoedd gwaith a hyfforddi.

The project works with a range of partners, including the health authorities, police, the local authority, the Wales Youth Agency, the National Children’s Home, and a company called Immtech, which provides training in music and recording skills. You can earn a national vocational qualification in deejaying. There is also a young parents group, which helps young mothers—perhaps we should include young dads—to provide the best opportunities for their babies to grow emotionally, physically and intellectually. It also enables the mothers to develop feelings of self-worth.

Mae’r prosiect yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid, yn cynnwys yr awdurdodau iechyd, yr heddlu, yr awdurdod lleol, Asiantaeth Ieuenctid Cymru, y Cartref Plant Cenedlaethol, a chwmni o’r enw Immtech, sy’n darparu hyfforddiant mewn cerddoriaeth a medrau recordio. Gellwch ennill cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol fel troellwr disgiau. Ceir grŵp rhieni ifanc hefyd, sy’n helpu mamau ifanc—efallai y dylem gynnwys tadau ifanc—i roi’r cyfleoedd gorau i’w babanod dyfu’n emosiynol, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Mae hefyd yn galluogi’r mamau i ddatblygu ymdeimlad o hunan-werth.

The young people involved in the PYP played a major role in setting it up and they now play a major role in running it. They will benefit enormously by feeling a part of their community instead of being targeted as nuisances. I only wish every town had a similar youth project. Then we would be some way to bridging the gap between social exclusion and social inclusion. I have more information if Members would like to find out how the project works.

Mae’r bobl ifanc sy’n gysylltiedig â PYP wedi chwarae rôl bwysig wrth ei sefydlu ac yn awr byddant yn chwarae rôl bwysig wrth ei redeg. Byddant yn elwa’n aruthrol drwy deimlo’n rhan o’u cymuned yn lle cael eu targedu fel niwsans. F’unig ddymuniad yw y gallai pob tref gael prosiect ieuenctid o’r fath. Wedyn byddem wedi mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at bontio’r agendor rhwng dieithrwch cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol. Mae gennyf ragor o wybodaeth os hoffai’r Aelodau gael gwybod sut y mae’r prosiect yn gweithio.

David Davies spoken in English p. 52

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 52

I am disappointed that there is no mention in this document of farmers, who are one of the poorest of the socio-economic groups in Wales at the moment. There seems to be no recognition by this Government of the hardships that farmers are suffering in Wales. If we are serious about tackling social exclusion, we need to talk about those who are suffering at the moment. I echo the concerns of many of my colleagues in the Liberal and Plaid Cymru Parties who mentioned the banality and generality of this debate. Of course we all want to end poverty. We would not go into politics if we did not want to end poverty. What this document does not mention are the specific ways by which we can help to end social exclusion.

Yr wyf yn siomedig nad oes dim sôn yn y ddogfen hon am ffermwyr, sydd yn un o’r grwpiau cymdeithasol-economaidd tlotaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Fe ymddengys nad oes unrhyw gydnabyddiaeth gan y Llywodraeth hon o’r caledi y mae ffermwyr yn ei brofi yng Nghymru. Os ydym o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol, mae angen inni siarad am y rhai sy’n dioddef yn awr. Ategaf bryderon llawer o’m cyd-aelodau yn y Blaid Ryddfrydol a Phlaid Cymru a soniodd am wamalrwydd a chyffredinolrwydd y ddadl hon. Wrth gwrs, yr ydym oll am roi terfyn ar dlodi. Ni fyddem wedi dechrau gwleidydda pe na baem am roi terfyn ar dlodi. Yr hyn na sonnir amdano yn y ddogfen hon yw dulliau penodol y gallwn eu defnyddio i helpu i roi pen ar ddieithrwch cymdeithasol.

I would like to throw out a few suggestions. In farming, we could lift the beef on the bone ban and provide proper funding for the Tir Gofal scheme. I noticed that the document mentions being open to new ideas. Why can we not look at ways to encourage people to use private health care? If that were done then there would be more money left for those who are unable to afford private health care and need to use the state provision. Similarly, we could encourage more people to use independent education. Once again, there would be more money left for those remaining in the state sector.

Fe hoffwn luchio ychydig o awgrymiadau. Ynglŷn â ffermio, gallem godi’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn a darparu cyllid iawn i’r cynllun Tir Gofal. Sylwais fod y ddogfen yn sôn am fod yn agored i syniadau newydd. Pam na allwn ystyried ffyrdd i annog pobl i ddefnyddio gofal iechyd preifat? O wneud hynny fe fyddai mwy o arian yn weddill i’r rhai na allant fforddio gofal iechyd preifat ac sydd ag angen defnyddio’r ddarpariaeth wladol. Yn yr un modd, gallem annog mwy o bobl i ddefnyddio addysg annibynnol. Unwaith eto, byddai mwy o arian yn weddill i’r rhai sy’n aros yn y sector gwladol.

Finally, I noticed that the document often mentions crime and law and order. There are far fewer police officers on the beat now than there were two years ago. Perhaps the Government would like to acknowledge that and say what they intend to do to put more police officers on the beat so that crime is reduced.

Yn olaf, sylwais fod y ddogfen yn sôn yn aml am droseddu a chyfraith a threfn. Mae llawer llai o heddlu ar eu rhawd bellach nag yr oedd ddwy flynedd yn ôl. Efallai y byddai’r Llywodraeth yn hoffi cydnabod hynny a dweud beth y maent yn bwriadu ei wneud i gael mwy o heddlu ar rawd fel y gellir lleihau troseddu.

I note that there will be an annual report with performance indicators. I would like to know who will be responsible for collating this. Can we assume that because the First Secretary proposed this motion, he will take responsibility for social exclusion in Wales? If that is so, I hope he will take full responsibility if we discover from the report that the indicators are worse.

Fe welaf y bydd adroddiad blynyddol gyda dangosyddion perfformiad. Hoffwn wybod pwy fydd yn gyfrifol am ei gasglu. A allwn gymryd, am mai’r Prif Ysgrifennydd a roddodd y cynnig gerbron, y bydd yn ymgymryd â chyfrifoldeb dros ddieithrwch cymdeithasol yng Nghymru? Os felly, gobeithio y bydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb yn llawn os gwelwn o’r adroddiad fod y dangosyddion yn waeth.

Janet Davies spoken in English p. 53

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

I welcome the motion, but I would like to see a firmer commitment to action. I had time last night to read the statistical report ‘Building an Inclusive Wales’ which says that social exclusion is more than poverty. However, we should not get carried away by that statement. The real basis of social exclusion is the lack of adequate financial security, the lack of the means to live a decent life. The term ‘social exclusion’ is a nasty expression. It has an inbuilt imperative to put people down. Equally ‘social inclusion’ sounds like something out of 1984; not the real 1984, although that was bad enough. That the jargon is unappealing does not alter the challenges for this Assembly in tackling poverty and deprivation.

Croesawaf y cynnig hwn, ond fe hoffwn weld ymrwymiad cadarnach i weithredu. Cefais amser neithiwr i ddarllen yr adroddiad ystadegol ‘Adeiladu Cymru Gynhwysol’ sy’n dweud bod dieithrwch cymdeithasol yn golygu mwy na thlodi. Fodd bynnag, ni ddylem golli’n pennau gyda’r datganiad hwnnw. Gwir sail dieithrwch cymdeithasol yw diffyg sicrwydd ariannol, diffyg moddion i fyw’n weddus. Mae’r term ‘dieithrwch cymdeithasol’ yn ymadrodd annifyr. Mae ynddo oblygiad sy’n sarhau pobl. Yn yr un modd mae ‘cynhwysiant cymdeithasol’ yn swnio fel rhywbeth o 1984; nid y wir 1984, er bod honno’n ddigon drwg. Nid yw’r ffaith bod y jargon yn annymunol yn newid y sialensau i’r Cynulliad wrth ymdrin â thlodi ac amddifadedd.

I live in a village in Rhondda Cynon Taff, which is officially classified as deprived. I do not have to go out and work with people who live in deproved communities. I see them every day. The problems that people encounter are down to a lack of money that can arise from a lack of skills, long term unemployment, learning difficulties, disability, inadequate pensions after a lifetime of work, the challenges of single parenthood, and even from being too proud to admit before review boards that they cannot do something. It is time that professionals learnt to pick up on people being too proud to admit their problems.

Yr wyf yn byw mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf, sydd wedi ei ddosbarthu’n swyddogol fel un difreintiedig. Nid oes raid imi fynd allan a gweithio gyda phobl sy’n byw mewn cymunedau defreintiedig. Yr wyf yn eu gweld bob dydd. Mae’r problemau a wynebir gan bobl yn ganlyniad i ddiffyg arian sy’n gallu bod yn ganlyniad i ddiffyg medrau, diweithdra tymor-hir, anawsterau dysgu, anabledd, pensiynau annigonol ar ôl oes o waith, sialensau bod yn rhiant sengl, a hyd yn oed bod yn rhy falch i gyfaddef o flaen byrddau adolygu na allant wneud rhywbeth. Mae’n bryd i weithwyr proffesiynol ddysgu gwybod pryd y mae pobl yn rhy falch i gyfaddef eu problemau.

Training can help some people but we need reasonably paid jobs after training. When I was leader of the now defunct Taff Ely Borough Council, we found that the most successful way to attract firms to the borough was through a skilled workforce who could adapt to different firms with minimum retraining. If single parents are to take advantage of this training and employment, they must have access to good quality, affordable childcare. It does not seem that good quality, affordable childcare is available for people on low incomes yet. The people I am most concerned about are those at the bottom of the heap: those with multiple disabilities, people who are left disabled from accidents, whether at work or not. These are people with learning difficulties and physical problems who lack the confidence to demand their rights. They are even excluded from community activities when those are set up because their faces do not fit. I am angry about this. Many people are having their already fragile lives destroyed by the benefits integrity project.

Mae hyfforddiant yn gallu helpu rhai pobl ond mae arnom angen swyddi â chyflog rhesymol ar ôl hyfforddiant. Pan oeddwn yn arweinydd ar Gyngor Bwrdeistref Taf Elái, sydd bellach wedi darfod, fe welsom mai’r ffordd fwyaf effeithiol i ddenu busnesau i’r bwrdeistref oedd gweithlu medrus oedd yn gallu ymaddasu i fusnesau gwahanol gydag ond ychydig o ailhyfforddi. Os yw rhieni sengl i fanteisio ar hyfforddiant a chyflogaeth o’r fath, rhaid iddynt gael mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd da. Nid yw’n ymddangos bod gofal plant fforddiadwy o ansawdd da ar gael hyd yn hyn i bobl ar incwm isel. Y bobl yr wyf fwyaf pryderus yn eu cylch yw’r rhai ar waelod y pentwr: rhai ag anableddau lluosog, pobl sydd yn anabl o ganlyniad i ddamweiniau, boed yn y gwaith neu’r tu allan. Pobl ag anawsterau a phroblemau corfforol yw’r rhain sydd heb hyder i fynnu eu hawliau. Maent hyd yn oed yn cael eu cau allan o weithgareddau cymunedol pan sefydlir hwy am nad yw eu hwynebau’n ffitio. Yr wyf yn ddig ynghylch hynny. Mae bywydau llawer o bobl, sydd eisoes yn fregus, yn cael eu dinistrio gan y prosiect cyfanrwydd budd-daliadau.

Many people will get a fair deal from this programme. A few will fool the review boards. However, most worrying are those who are being taken off benefit and left bewildered and dependent on other people. The Government has announced twice that this programme has finished but it is continuing. Last week there were people in my village who were called up for review. They were the people on lifelong invalidity benefit and the most severely disabled people in our communities. It is always those most in need and most helpless who get the worst deal. Development within a community is fundamental to tackling the challenges of that community. Local people are the best ones to meet local challenges. They need help to do so and local authorities are to be commended for strategies they are putting forward to help. I emphasise that it is the weakest, least confident members of the community who must be encouraged to take part and to benefit from these activities and programmes.

Bydd llawer o bobl yn cael bargen deg o’r rhaglen hon. Bydd ychydig yn twyllo’r byrddau adolygu. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri’r gofid mwyaf yw’r rhai y cymerir budd-daliadau oddi arnynt ac a adewir wedi eu drysu ac yn ddibynnol ar bobl eraill. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ddwywaith bod y rhaglen hon wedi gorffen ond mae’n dal i fynd ymlaen. Yr wythnos diwethaf yr oedd pobl yn fy mhentref i wedi eu galw i adolygiad. Yr oeddent yn bobl oedd yn derbyn budd-dal am anabledd gydol oes, sef y rhai â’r anabledd mwyaf difrifol yn ein cymunedau. Y rhai mwyaf anghenus a mwyaf diymgeledd sy’n cael y fargen waethaf bob tro. Mae datblygu o fewn cymuned yn hanfodol er mwyn ymdrin â sialensau’r gymuned honno. Y bobl leol yw’r rhai gorau i ymateb i sialensau lleol. Bydd arnynt angen cymorth i wneud hynny ac mae awdurdodau lleol i’w canmol am y strategaethau y maent yn eu cyflwyno i helpu. Yr wyf yn pwysleisio mai’r gwannaf a’r lleiaf hyderus yn y gymuned yw’r rhai y mae angen eu hannog i gymryd rhan ac i elwa ar y gweithgareddau a’r rhaglenni hyn.

You should remember that poverty is the basis of social inclusion. The weakest and most deprived always seem to miss out on help and lose out as a result of changes to benefits. A community is only as strong as its weakest members.

Dylech gofio mai tlodi yw sylfaen cynhwysiant cymdeithasol. Y gwannaf a’r mwyaf difreintiedig yw’r rhai a welir yn methu cymorth ac yn colli o ganlyniad i newidiadau mewn budd-daliadau. Nid yw cymuned ond cyn gryfed â’i haelodau gwannaf.

Karen Sinclair spoken in English p. 55

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 55

I am pleased about the commitment expressed by the speakers to working for social inclusion in Wales. Social exclusion can sometimes be made worse by local government decisions.

Yr wyf yn falch o glywed yr ymrwymiad a fynegwyd gan y siaradwyr i weithio dros gynhwysiant cymdeithasol yng Nghymru. Gellir gwaethygu dieithrwch cymdeithasol weithiau drwy benderfyniadau gan lywodraeth leol.

Within local government, expenditure and departmental purses are often fiercely guarded, which causes problems. In my constituency a young, physically disabled lady cannot get subsidised transport to a further education college because she is over 19. However, she can get subsidised transport to a day centre. As the Assembly endeavours to develop inclusive policies, we have to send out a clear message to local government that decisions taken by them must be mindful of achieving inclusiveness for everybody.

O fewn llywodraeth leol, bydd gwariant a phyrsiau adrannol yn cael eu gwarchod yn ffyrnig yn aml, ac mae hynny’n achosi problemau. Yn f’etholaeth i nid yw gwraig ifanc gorfforol anabl yn gallu cael cymhorthdal cludiant i deithio i goleg addysg bellach am ei bod dros 19 oed. Fodd bynnag, fe all gael cymhorthdal cludiant i fynd i ganolfan ddydd. Wrth i’r Cynulliad geisio datblygu polisïau cynhwysol, rhaid inni anfon neges eglur i lywodraeth leol fod rhaid iddynt roi sylw mewn penderfyniadau i sicrhau cynhwysiant i bawb.

Val Feld spoken in English p. 55

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 55

It is a step forwards that the Government of Wales brings this paper to us at this stage in the Assembly’s development. I do not understand the other parties’ disappointment over wanting more specific targets and programmes at this stage because this debate shows the enormous range of issues involved in tackling social inclusion. There are different priorities and experiences in different parts of Wales. However, what underpins this, and I support those who talk about the unfortunate language of social inclusion, is the knowledge that what we are talking about is the poverty and inequality that has existed in our country for many years. We have to change the situation. We will not change it by a number of simple steps but by looking across the range of different programmes that the Assembly develops: at policies, at opportunities for secondary legislation and at how we can use different areas to try to tackle this problem. It is going to take time for us to do that. I welcome Alun’s suggestion that this paper be referred to each of the Subject Committees. I hope they will be asked to come back with specific proposals and programmes.

Mae’n gam ymlaen i Lywodraeth Cymru ddod â’r ddogfen hon gerbron yn y cyfnod hwn yn natblygiad y Cynulliad. Nid wyf yn deall siom y pleidiau eraill ynghylch dymuno targedau a rhaglenni mwy penodol ar hyn o bryd oherwydd y mae’r ddadl hon yn dangos yr amrediad anferth o faterion sy’n gysylltiedig ag ymdrin â chynhwysiant cymdeithasol. Ceir gwahanol flaenoriaethau a phrofiadau mewn gwahanol rannau o Gymru. Fodd bynnag, yr hyn sy’n sylfaen i hyn, ac yr wyf yn cefnogi’r rhai sy’n sôn am iaith anffodus cynhwysiant cymdeithasol, yw’r wybodaeth mai’r hyn yr ydym yn ei drafod yw’r tlodi a’r anghydraddoldeb a fu yn ein gwlad ers blynyddoedd lawer. Rhaid inni newid y sefyllfa hon. Ni fyddwn yn ei newid fesul ychydig o gamau syml ond drwy edrych ar draws yr amrediad o wahanol raglenni y bydd y Cynulliad yn eu datblygu: ar y polisïau, y cyfleoedd ar gyfer deddfwriaeth eilaidd a’r ffyrdd y gallwn ddefnyddio gwahanol feysydd i geisio ymdrin â’r broblem hon. Fe gymer amser inni wneud hynny. Croesawaf yr awgrym gan Alun y dylid cyfeirio’r ddogfen hon i bob un o’r Pwyllgorau Pwnc. Gobeithiaf y gofynnir iddynt ddychwelyd â chynigion a rhaglenni penodol.

In developing this work, the other reason why it is important that we do not go for prescriptive remedies at this stage is because if we are to tackle this problem, it is important that we do not assume that we know best what people need. The Labour Party has a strong, honourable tradition of tackling inequality and poverty. However, we have fallen down in the past, particularly in local government, in our tendency to paternalism—to believe that we know best what the people and communities of Wales need. The programmes we have heard about today were successful because they listened to the needs of local people. Alun spoke about the projects in Blaen y Maes in my constituency, which is one of the most dismal, depressing estates in Wales, yet is full of courageous and determined people who overcome extraordinary odds to participate in community initiatives to try to improve their lives and surroundings. It is one of the places where the People in Communities programme, which is part of the social exclusion programme, is now developing. As someone who worked for many years with tenants associations and with homeless people, I urge you to listen to what people need. The paper under consideration talks about empowerment. Tackling social exclusion must be about empowering and giving real confidence to people who have otherwise been excluded from many areas of our society. The Welsh Council for Voluntary Action briefing paper that Christine referred to says clearly that top-down strategies are inappropriate and will not succeed. People who are socially excluded must, as a priority, be included in any action to tackle and solve their problems. We have to find ways of hearing what people need.

Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, y rheswm arall pam y mae’n bwysig na ddylem ddewis atebion gorchmynnol ar hyn o bryd yw os ydym i ymdrin â’r broblem hon, mae’n bwysig nad ydym yn rhagdybio mai ni a ŵyr orau am anghenion pobl. Mae gan y Blaid Lafur draddodiad cryf, anrhydeddus o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi. Fodd bynnag, yr ydym wedi methu yn y gorffennol, yn enwedig mewn llywodraeth leol, yn ein tueddiad at dadoldeb—y gred mai ni a ŵyr orau am anghenion pobl a chymunedau Cymru. Yr oedd y rhaglenni y clywsom amdanynt heddiw wedi llwyddo am eu bod wedi gwrando ar anghenion pobl leol. Soniodd Alun am y prosiectau ym Mlaen y Maes yn f’etholaeth i, sydd yn un o’r stadau mwyaf truenus a digalon yng Nghymru, ond sydd yn llawn pobl ddewr a phenderfynol a drechodd anfanteision eithriadol er mwyn cymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol i geisio gwella eu bywydau a’u hamgylchoedd. Mae’n un o’r mannau lle y mae’r rhaglen Pobl mewn Cymunedau, sy’n rhan o’r rhaglen cynhwysiant cymdeithasol, yn datblygu ar hyn o bryd. Fel un a weithiodd am flynyddoedd lawer â chymdeithasau tenantiaid a phobl ddigartref, yr wyf yn pwyso arnoch i wrando ar yr hyn y mae ar bobl ei angen. Mae’r ddogfen dan sylw yn sôn am alluogi. Mae ymdrin â dieithrwch cymdeithasol o reidrwydd yn golygu galluogi a rhoi hyder gwirioneddol i bobl sydd wedi eu cau allan fel arall o lawer maes yn ein cymdeithas. Mae dogfen briffio Cyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol, y cyfeiriodd Christine ati, yn dweud yn bendant bod strategaethau o’r-top-i’r-gwaelod yn amhriodol ac na fyddant yn llwyddo. Rhaid rhoi blaenoriaeth i gynnwys pobl a ddieithriwyd yn gymdeithasol mewn unrhyw gamau i ymdrin â’u problemau a’u datrys. Rhaid inni ganfod ffyrdd o glywed yr hyn y mae ar bobl ei angen.

I have spent many years of my life working with people who are homeless and I strongly commend a book produced by Swansea Cyrenians which I am involved in, called Music You Don’t Normally Hear. This is the story of homeless people. This is the day-to-day experience of people on our streets. The story of one of them is in our book. It is the story of a young man in his 30s, who to most of us would look like an old man, known as little Richie. He grew up in Clydach. At the age of 14 he lost his house, his parents were gone and he started sleeping rough in the woods around Clydach. He then moved to the centre of Swansea and started to sleep in High Street Station. In the story, 15 years passed until he found a friend, Rob. The two of them planned how they would improve their lives by moving to England, to pastures new, to seek their fortune as many Welsh people have done. However one day, he came back to the car park where they were staying, to find that Rob had died from an overdose.

Fe dreuliais flynyddoedd lawer yn gweithio gyda phobl sy’n ddigartref ac yr wyf yn mawr gymeradwyo llyfr a gynhyrchwyd gan Cyreniaid Abertawe, mudiad y mae gennyf gysylltiad ag ef, o’r enw Music You Don’t Normally Hear. Hanes pobl ddigartref yw hwn. Mae’n sôn am y profiad a gaiff pobl o ddydd i ddydd ar ein strydoedd. Mae hanes un ohonynt yn ein llyfr ni. Mae’n hanes dyn ifanc yn ei 30au, a ymddangosai i’r rhan fwyaf ohonom fel hen ŵr, ac fe’i gelwir yn little Richie. Fe’i magwyd yng Nghlydach. Yn 14 oed fe gollodd ei dŷ, yr oedd ei rieni wedi mynd a dechreuodd gysgu allan yn y coed o gwmpas Clydach. Wedyn symudodd i ganol Abertawe a dechrau cysgu yng ngorsaf High Street. Aeth 15 mlynedd heibio nes cafodd ffrind, sef Rob. Cynlluniodd y ddau sut y byddent yn gwella eu byd drwy symud i Loegr, i borfeydd brasach, i fentro eu lwc fel y gwnaeth llawer o Gymry. Fodd bynnag, un diwrnod fe ddaeth yn ôl i’r maes parcio lle’r oeddent yn aros, i gael bod Rob wedi marw o orddos.

In the last six weeks, three homeless people in Swansea have lost their lives because there were not the facilities to look after them. We have to listen to what those people need. I strongly urge that in approaching this work we take our time to consider what we think are the issues. We should listen to what the Welsh Tenants Federation, the homeless people, the men of youth organisations, the people in black and ethnic minority communities and disabled communities and the many people who wish to talk us, want. Our role is to be the catalyst, to help them develop projects that will make real differences to building their confidence, competence and ability to access the services that we ensure are provided.

Yn y chwe wythnos diwethaf, fe gollodd tri o bobl ddigartref yn Abertawe eu bywyd am nad oedd cyfleusterau i ofalu amdanynt. Mae angen inni wrando ar yr hyn y mae ar y bobl hynny ei angen. Yr wyf yn argymell yn gryf, wrth inni ystyried y gwaith hwn, y dylem bwyso a mesur yr hyn a welwn fel y materion sy’n galw am sylw. Dylem wrando ar yr hyn y mae ei angen ar Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, y bobl ddigartref, dynion y mudiadau ieuenctid, y bobl mewn cymunedau lleiafrifol ethnig a chymunedau’r anabl a’r llu o bobl sydd yn dymuno siarad â ni. Ein rôl yw bod yn gatalydd, i’w helpu i ddatblygu prosiectau a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth wrth gryfhau eu hyder, eu medrusrwydd a’u gallu i gael mynediad at y gwasanaethau y gofalwn ni am eu darparu.

Alongside that will be the important task of considering our policies and programmes and what impact they will have in the Committees. Then we can ensure that the steps we take free people from constraints, such as the housing benefit system, which traps people in our worst estates on benefits. We are finding ways of removing those barriers and as we develop the Objective 1 programme, considering how we can release and build the capacity and potential of communities and individuals within those communities. This could be the greatest journey for us as an Assembly, but we must take it step by step, taking different people and organisations with us, if we are to achieve real change and see the benefits of that.

Ochr yn ochr â hynny fydd y dasg bwysig o roi ystyriaeth i’n polisïau a’n rhaglenni a’r effaith a gânt yn y Pwyllgorau. Wedyn gallwn sicrhau bod y camau a gymerwn yn rhyddhau pobl o’r cyfyngiadau, fel y system budd-daliadau tai, sy’n dal pobl ar fudd-daliadau yn ein stadau gwaethaf. Yr ydym yn canfod ffyrdd i ddileu’r rhwystrau hynny ac, wrth inni ddatblygu rhaglen Amcan 1, i ystyried sut y gallwn ryddhau ac adeiladu gallu a photensial cymunedau ac unigolion yn y cymunedau hynny. Hon o bosibl fydd y daith fwyaf i ni fel Cynulliad, ond rhaid inni fynd fesul cam, gan ddod â gwahanol bobl a mudiadau gyda ni, os ydym i gyflawni gwir newid a gweld manteision hynny.

John Griffiths spoken in English p. 58

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 58

Social exclusion is a vital issue and the contributions that people have made reinforce that. Many people here will be concerned about it, not only for their own areas but for issues across Wales. There are pockets of disadvantaged communities within all the constituencies that we represent. We live, have lived and will live in times of massive socio-economic change, which often leaves communities floundering in its wake. It is difficult for any level of government to address those changes meaningfully. We have seen that in various Valleys communities and across Wales, when industrial change, for example, has left high unemployment and poverty in its wake. We are all conscious of the massive challenge that this issue presents for the Assembly. It is also interesting to think back to the referendum vote when Valleys communities such as Blaenau Gwent, the Rhondda and Merthyr voted so strongly ‘yes’, partly because they were voting for change. They wanted change and they look to the Assembly to deliver it. A big part of that delivery will be about addressing social inclusion. All of us have a big role to play, it is a gigantic path. It will take a multi-faceted view, to use the jargon, and all of us realise the enormity and seriousness of the challenge.

Mae diethrwch cymdeithasol yn fater hanfodol ac mae’r cyfraniadau a roddwyd yn cadarnhau hynny. Bydd llawer o bobl yma yn bryderus yn ei gylch, nid yn unig ar ran eu hardaloedd eu hunain ond o ran materion ar draws Cymru. Mae pocedi o gymunedau dan anfantais o fewn yr holl etholaethau a gynrychiolir gennym. Yr ydym yn byw ac fe fuom ac fe fyddwn yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol-economaidd enfawr, sydd yn aml yn gadael cymunedau yn stryffaglio ar ei ôl. Mae’n anodd i unrhyw lefel o lywodraeth roi sylw ystyrlon i’r newidiadau hynny. Fe welsom hynny, mewn amryw o gymunedau yn y Cymoedd ac ar draws Cymru, pan fydd newid diwydiannol, er enghraifft, wedi gadael diweithdra uchel a thlodi yn ei ôl. Yr ydym yn ymwybodol o’r sialens enfawr y mater hwn i’r Cynulliad. Mae hefyd yn ddiddorol cofio’r bleidlais yn y refferendwm, er enghraifft, pryd y pleidleisiodd rhai o gymunedau’r Cymoedd fel Blaenau Gwent, y Rhondda a Merthyr mor gryf o blaid, yn rhannol am eu bod yn pleidleisio dros newid. Yr oeddent am gael newid ac maent yn disgwyl i’r Cynulliad ddod â’r newid hwnnw. Rhan bwysig o gyflawni hynny fydd ymdrin â chynhwysiant cymdeithasol. Mae gan bob un ohonom ran fawr i’w chwarae, mae’n llwybr anferth. Bydd angen golwg amlweddog, a defnyddio’r jargon, ac mae pob un ohonom yn sylweddoli mor fawr a difrifol yw’r sialens.

What has been said reflects a strong political will in the Assembly to tackle the problems and meet the challenges. Obviously that will be extremely important and I hope that all of us take that political will into the Committees and into our general activity. We could all point to examples in our own constituencies of the challenges we face and responses to them. People have already done that. I would like to point briefly to some of the problems in Newport and some of the responses given, noting that a strategy that we will all take advantage of in the future is to build on best practice across Wales to meet the challenges.

Mae’r hyn a ddywedwyd yn dangos ewyllys wleidyddol gryf yn y Cynulliad i fynd i’r afael â’r problemau a wynebu’r sialensau. Mae’n amlwg y bydd hynny’n bwysig iawn a gobeithio y bydd pob un ohonom yn mynd â’r ewyllys wleidyddol i’r Pwyllgorau ac i’n gweithgaredd cyffredinol. Gallai pawb ohonom gyfeirio at enghreifftiau yn ein hetholaethau o’r sialensau a wynebwn ac atebion iddynt. Mae rhai eisoes wedi gwneud hynny. Hoffwn gyfeirio’n fyr at rai o’r problemau yng Nghasnewydd a rhai o’r atebion a roddwyd, gan nodi mai un strategaeth y byddwn oll yn manteisio arni yn y dyfodol yw adeiladu ar yr ymarfer gorau ar draws Cymru er mwyn ateb y sialensau.

In Newport, which some people misguidedly view as a relatively prosperous area in Wales due to economic developments that have taken place recently along the M4 corridor, there are disadvantaged communities, which are among the most disadvantaged in all of Wales. Newport has the fourth highest poverty rating of any of the 22 unitary authorities in Wales and objectively compiled indices led to that ranking and those figures. It also has one of the highest incidences of lone parent households and households with three or more children and no earners. It is amongst the highest in south-east Wales for health care demands, measured by demands on the local GP service. Newport has a significant ethnic minority population, which presents it with special challenges.

Yng Nghasnewydd, a ystyrir gan rai ar gam yn ardal gymharol ffyniannus yng Nghymru oherwydd rhai o’r datblygiadau economaidd a ddigwyddodd yn ddiweddar ar hyd coridor yr M4, fe geir ardaloedd difreintiedig, sydd ymysg y mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gan Gasnewydd y mae’r raddiad tlodi pedwerydd uchaf o blith y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru a mynegrifau a gasglwyd yn wrthrychol sydd wedi arwain at y safle hwnnw a’r ffigurau hynny. Yno hefyd y ceir un o’r cyfrannau uchaf o gartrefi un rhiant a chartrefi â thri neu ragor o blant a dim enillydd cyflog. Mae ymysg yr uchaf yn ne-ddwyrain Cymru o ran y galw am ofal iechyd, yn ôl nifer y galwadau ar y gwasanaethau meddygon teulu lleol. Mae gan Gasnewydd leiafrif ethnig sylweddol, sy’n cynnig sialensau arbennig.

In recent years, various projects in Newport have addressed these problems. One is the Community Development Neighbourhood Project, which has had notable success in various areas, reflecting some of the concerns voiced earlier. One has led to a greater take up of benefits, which is important as it brings money into the local economy, allowing it to grow. People on benefits tend to spend the money they receive in their local areas.

Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, mae amryw o brosiectau yng Nghasnewydd wedi ymdrin â’r problemau hyn. Un yw’r Prosiect Cymdogaeth Datblygu Cymunedol, a lwyddodd yn arbennig mewn gwahanol ardaloedd, gan adlewyrchu rhai o’r pryderon a fynegwyd yn gynharach. Arweiniodd un at fwy o dderbyniad o fudd-daliadau, sydd yn bwysig am ei fod yn dod ag arian i’r economi lleol, gan ganiatáu iddo dyfu. Mae rhai sy’n derbyn budd-daliadau yn tueddu gwario’r arian a dderbyniant yn eu hardal leol.

A credit union has been established which is important as it has led to less reliance on loan sharks. That again feeds into crime. If people are not desperate they are less likely to commit crime. That affects not only the local areas of social and economic disadvantage but the wider area as well. People fear crime, sometimes unrealistically, and anything that tackles socio-economic disadvantage lessens that fear, because despite what has been said over the years, people recognise that that and unemployment leads to crime.

Sefydlwyd undeb credyd sydd yn bwysig am ei fod wedi arwain at lai o ddibyniaeth ar usurwyr. Mae hynny eto’n gysylltiedig â throseddu. Os nad yw pobl wedi dod i ben eu tennyn maent yn llai tebygol o droseddu. Mae hyn yn effeithio nid yn unig ar ardaloedd cyfagos sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd ond ar ardaloedd ehangach hefyd. Mae ar bobl ofn torcyfraith, weithiau heb reswm, ac mae rhywbeth sy’n mynd i’r afael ag anfanteision cymdeithasol-economaidd yn lleihau’r ofn hwnnw, oherwydd er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd dros y blynyddoedd, mae pobl yn sylweddoli bod hynny a diweithdra, yn arwain at dorcyfraith.

People have referred to health and educational issues and much could be said about that. In Newport there have been effective outreach strategies that have led to a greater take-up of training and educational opportunities in the most deprived communities. The local authority is very proud of that and I hope it will happen across Wales. There is a now discredited idea that economic wealth trickles down to the most socio-economically deprived regions from wealthier ones. Happily, not many people would now subscribe to that idea. We all realise that effective action has to be taken.

Mae rhai wedi cyfeirio at faterion iechyd ac addysg a gellid dweud llawer am hynny. Yng Nghasnewydd cafwyd strategaethau gwaith allanol effeithiol a arweiniodd at fwy o dderbyniad o gyfleoedd hyddorddi ac addysg yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae’r awdurdod lleol yn ymfalchïo’n fawr yn hynny a gobeithio y bydd yn digwydd ar draws Cymru. Mae yna syniad, na roddir coel arno bellach, fod cyfoeth economaidd yn diferu i lawr at y rhanbarthau mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol-economaidd o’r rhai cyfoethocaf. Yn ffodus, nid oes llawer a fyddai’n cefnogi’r syniad hwnnw’n awr. Yr ydym oll yn sylweddoli bod rhaid cymryd camau effeithiol.

As mentioned earlier, an effective partnership has to be forged between local authorities, voluntary organisations, the Assembly, other tiers of Government and the private sector if we are to tackle these problems adequately. The voluntary sector will be particularly important and contact with it particularly significant. Approximately 23,000 voluntary and community organisations operate in Wales and some 1.9 million volunteers assist the voluntary effort each year. There is a widespread network of voluntary organisations in Wales that reaches all communities. Those organisations are particularly able to deal with economically disadvantaged and marginalised communities. The voluntary sector is an important resource of which I am sure the Assembly will want to make the greatest possible use.

Fel y soniwyd yn gynharach, rhaid ffurfio partneriaeth effeithiol rhwng awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol, y Cynulliad, haenau eraill o lywodraeth a’r sector preifat os ydym i ymdrin yn ddigonol â’r problemau hyn. Bydd y sector gwirfoddol yn arbennig o bwysig a’r cysylltiad ag ef yn arbennig o arwyddocaol. Mae tua 23,000 o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn gweithredu yng Nghymru a bydd oddeutu 1.9 miliwn o wirfoddolwyr yn helpu yn yr ymdrech wirfoddol bob blwyddyn. Ceir rhwydwaith eang o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n cyrraedd pob cymuned. Mae gan y mudiadau hynny allu arbennig i ddelio â chymunedau ymylol sydd dan anfantais economaidd. Mae’r sector gwirfoddol yn adnodd pwysig ac yr wyf yn sicr y bydd y Cynulliad am wneud y defnydd mwyaf posibl ohono.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 61

Elin Jones spoken in Welsh p. 61

Hoffwn gryfhau safbwynt gwledig y drafodaeth. Cyfeiriaf yn bennaf at y diffyg cydnabyddiaeth yn y dogfennau o’r ffactorau gwahanol ac ychwanegol sydd ar waith mewn ardal wledig.

I would like to strengthen the rural perspective of this discussion. I refer specifically to the lack of recognition in the documents of the different and additional factors that are at work in a rural area.

Mae angen ystadegau perthnasol i adlewyrchu rhai o’r ffactorau gwahanol. Mae’n bwysig bod pobl o ardaloedd gwledig yn cael eu cynnwys mewn cymdeithas. Mae dau ffactor pwysig i’w hystyried. Rhaid sicrhau bod gwasanaethau a swyddi ar gael a bod pobl yn gallu cyrraedd y gwasanaethau a’r swyddi hynny, yn enwedig pobl ifanc. Er enghraifft, mae angen cyrsiau hyfforddi i bobl ifanc a’r di-waith, a system trafnidiaeth cyhoeddus i alluogi pobl ifanc i gyrraedd y cyrsiau hynny. Hefyd, mae angen gwasanaeth ieuenctid digonol sydd yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc yng nghefn gwlad. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol mae rhai o’r cynghorau newydd mewn ardaloedd gwledig wedi bod yn araf i sefydlu gwasanaeth ieuenctid sydd yn agosáu at gwrdd ag anghenion pobl ifanc ddifreintiedig.

Relevant statistics are needed to reflect some of the different factors. It is important that people from rural areas are included in society. There are two important factors to consider. We must ensure that services and jobs are available and that people can reach those services and jobs, especially young people. For example, training courses are needed for young people and the unemployed, and also a public transport system to enable young people to reach those courses. An adequate youth service is also needed to meet the needs of young people in the countryside. Following the reorganisation of local government some of the new councils in rural areas have been slow to establish a youth service that goes anywhere near to meeting the needs of young disadvantaged people.

Ffactor pwysig mewn dieithrio cymdeithasol yng nghefn gwlad yw’r pellter oddi wrth wasanaethau. Yn y ddogfen yr unig ystadegyn sydd yn cyfeirio at bellter yw’r un ynglŷn â’r pellter oddi wrth ysbytai ac adrannau damweiniau. Fel person o Aberystwyth, ac yn sgîl y drafodaeth ynglŷn â gwasanaethau Ysbyty Bronglais, yr wyf yn falch bod yr ystadegyn ar bellter oddi wrth wasanaethau iechyd yn y ddogfen hon ond fel arfer mae diffyg ystadegau i gydnabod anghenion gwledig. Mae ystadegau yn y ddogfen ynglŷn â faint o bobl sydd yn berchen ar gar ond nid oes ystadegau ynghylch sawl bws sydd yn pasio o fewn millitr i gartref rhywun mewn wythnos.

An important factor in social exclusion in the countryside is distance from services. The only statistic in the document that refers to distance is on distance from hospitals and accident departments. As someone from Aberystwyth, and following the discussion about Bronglais hospital services, I am pleased to see that statistic on distance from health services included in this document but usually there is a lack of statistics that acknowledge rural needs. There are statistics in the document on how many people own a car but there are none on how many buses pass within a mile of somebody’s home in a week.

Mae’n bwysig inni gofio mai un o ymgorfforiadau dieithrio cymdeithasol mewn cymuned wledig yw dieithriad cyfangwbl o’r gymdeithas, sef bod pobl yn gadael ein cymunedau.

It is important for us to remember that one of the embodiments of social exclusion in a rural community is complete exclusion from the society, that is, that people leave our communities.

Christine Chapman spoken in English p. 62

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 62

It is fitting that on the day that Lord Rogers’ urban task force launches its report on urban renaissance, we are discussing the social inclusion agenda that the Assembly should adopt over the coming months. I find myself reiterating what I have said in previous weeks, and this testifies to the joined-up nature of policies in the Assembly, that words spoken today will mean nothing unless they are supported by strong and swift action. However, I welcome the proposals put forward.

Mae’n briodol, ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad tasglu trefol yr Arglwydd Rogers ar ddadeni’r trefi, ein bod yn trafod yr agenda cynhwysiant cymdeithasol y dylai’r Cynulliad ei fabwysiadu dros y misoedd i ddod. Caf fy mod yn ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn wythnosau blaenorol, ac mae hyn yn dyst o natur gyfunedig y polisïau yn y Cynulliad, na fydd y geiriau a lefarir heddiw yn golygu dim os na fydd gweithredu cadarn a chyflym yn gefn iddynt. Fodd bynnag, croesawaf y cynigion a gyflwynwyd.

Social exclusion is a major issue in Wales, not least in my constituency, Cynon Valley. Most people still remember the infamous Week In Week Out programme of several years ago, which did little for tourism in the upper half of the valley. It is often conveniently thought that social exclusion affects a minority but that is not the case in parts of west Wales and the Valleys, where the majority of the residents experience some form of social exclusion and inequality of opportunity. Brian Barry, in his paper for CASE, the Research Centre for Analysis of Social Exclusion, states that:

Mae dieithrwch cymdeithasol yn fater o bwys yng Nghymru, ac yn arbennig yn f’etholaeth i, Cwm Cynon. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dal i gofio’r rhaglen Week In Week Out warthus honno rai blynyddoedd yn ôl, na wnaeth ddim o gwbl dros dwristiaeth ym mhen uchaf y cwm. Fe geir cred gyfleus yn aml mai rhywbeth sy’n effeithio ar leiafrif yw dieithrwch cymdeithasol ond nid yw hynny’n wir mewn rhannau o orllewin Cymru a’r Cymoedd, lle y mae’r rhan fwyaf o’r trigolion yn profi rhyw ffurf ar ddieithrwch cymdeithasol ac anghydraddoldeb cyfle. Mae Brian Barry, yn ei ddogfen i CASE, y Ganolfan Ymchwil er Dadansoddi Dieithrwch Cymdeithasol, yn dweud bod:

‘social exclusion is … dangerous, simply because the processes that underlie social exclusion are frequently the same as those that lead to stigmatisation.’

‘dieithrwch cymdeithasol yn beryglus, a hynny’n syml am mai’r un yn aml yw’r prosesau sydd yn sail i ddieithrwch cymdeithasol a’r rhai sy’n arwain at warthnodi.’

The fact that I represent Cynon Valley makes it hard to keep my contribution short. I could expound at length on the massive social deprivation that exists in much of the valley, but that helps no one. I will give some facts, however. It is true, as The Observer stated in its editorial this weekend, that:

Mae’r ffaith fy mod yn cynrychioli Cwm Cynon yn ei gwneud yn anodd imi gadw fy nghyfraniad yn fyr. Gallwn draethu’n hir am yr amddifadedd cymdeithasol anferth a geir mewn llawer rhan o’r cwm, ond ni fyddai hynny o gymorth i neb. Fe roddaf rai ffeithiau, fodd bynnag. Mae’n wir, fel y dywedodd The Observer yn ei erthygl olygyddol y penwythnos hwn, fod:

‘inequality is impacting disastrously upon urban life in Britain.’

‘anghydraddoldeb yn cael effaith drychinebus ar fywyd trefol ym Mhrydain.’

The Assembly must address inequality in Wales quickly.

Rhaid i’r Cynulliad roi sylw buan i anghydraddoldeb yng Nghymru.

Three major factors have created social exclusion in much of the Valleys and west Wales: unemployment, low income and low educational attainment. These are very much interrelated. As Brian Barry stated in his CASE paper:

Tri ffactor mawr sydd wedi creu dieithrwch cymdeithasol mewn llawer rhan o’r Cymoedd a gorllewin Cymru: diweithdra, incwm isel a chyflawniad addysgol isel. Mae perthynas agos rhwng y rhain. Fel y dywedodd Brian Barry yn ei ddogfen i CASE:

‘social exclusion leads to unequal education and occupational opportunities.’

‘mae dieithrwch cymdeithasol yn arwain at gyfleoedd anghyfartal mewn addysg a galwedigaethau.’

I can bear witness to that. For many years I worked with unemployed young people. Brian Barry continues:

Fe fûm yn dyst i hynny. Am flynyddoedd lawer gweithiais gyda phobl ifanc ddi-waith. Â Brian Barry ymlaen:

‘Lack of job opportunities among the adults in an area tends to depress scholastic motivation and thus contributes to poor educational outcomes that condemn the next generation to extremely limited job opportunities in their turn.’

‘Mae diffyg cyfleoedd swyddi ymysg oedolion yn yr ardal yn tueddu i ostwng y cymhelliant addysgol ac mae felly’n cyfrannu at ganlyniadau addysgol gwael sy’n bwrw’r genhedlaeth nesaf i gyfleoedd swyddi cyfyngedig iawn yn eu tro.’

That is the heart of the matter. To reinvigorate our communities, we must begin to address social exclusion issues and attack this self-perpetuating vicious circle. This is seen in many parts of Wales, particularly the Valleys. The unemployment rate in May of this year in the Cynon Valley was 7.5 per cent, while in Cardiff North it was only 2.5 per cent and in Wales as a whole, 5.2 per cent. That is the second highest rate in Wales but, if you compare it to such places as Mole Valley, Wokingham and Surrey Heath, which have unemployment rates of less than 1 per cent, it is a different world.

Dyna wraidd y mater. Er mwyn adfywio ein cymunedau, rhaid inni ddechrau rhoi sylw i faterion dieithrwch cymdeithasol ac ymladd y cylch cythreulig hwn. Fe welir hyn mewn llawer rhan o Gymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Y gyfradd diweithdra ym mis Mai eleni yng Nghwm Cynon oedd 7.5 y cant, tra nad oedd ond 2.5 y cant yng Ngogledd Caerdydd ac yn 5.2 y cant yng Nghymru gyfan. Hon yw’r gyfradd ail uchaf yng Nghymru ond, os cymharwch hi â mannau fel Mole Valley, Wokingham a Surrey Heath, sydd â chyfraddau diwethdra o lai nag 1 y cant, mae hynny’n fyd gwahanol.

We in the Valleys must be allowed the same standard of living afforded to other parts of the United Kingdom. That is my main point. The problems of inequality in Wales, such as poor housing and poorly-maintained schools, have to be contended with by local councils. However, I will not lay the blame for these problems at the door of the council. After 18 years of chronic underfunding for local government, and a poorly thought out process of local government—

Rhaid i ni yn y Cymoedd gael hawl i’r un safon byw a roddir i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Dyna’r prif bwynt sydd gennyf. Rhaid i broblemau anghydraddoldeb yng Nghymru, fel tai gwael ac ysgolion sy’n adfeilio, gael eu hwynebu gan y cynghorau lleol. Fodd bynnag, ni roddaf y bai am y problemau hyn ar y cyngor. Ar ôl 18 mlynedd o danariannu difrifol i lywodraeth leol, a phroses llywodraeth leol ddryslyd—

David Davies spoken in English p. 64

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 64

Is it not true that many initiatives mentioned in the paper you are discussing, such as lottery funding, are only possible because of the previous Government? Is it not also true that some of these initiatives are funded by Europe? In 1983 your party wanted to pull out of the European Union and so you would not have been able to access that funding. Is it not rather surprising therefore that you blame the last Government for many problems which were brought about by later councils?

Onid yw’n wir bod llawer o’r cynlluniau a grybwyllir yn y ddogfen yr ydych yn ei thrafod, fel ariannu o’r loteri, ond yn bosibl oherwydd y Llywodraeth flaenorol? Onid yw hefyd yn wir bod rhai o’r cynlluniau hyn wedi eu hariannu gan Ewrop? Yn 1983 yr oedd eich plaid chi am dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd ac felly ni fyddech wedi gallu cael mynediad at y cyllid hwnnw. Felly onid yw’n syndod braidd eich bod yn beio’r Llywodraeth ddiwethaf am lawer o broblemau a achoswyd gan gynghorau’n ddiweddarach?

Christine Chapman spoken in English p. 64

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 64

Thank you for that contribution, but I still maintain that the poorly thought out process of local government reorganisation, which was foisted on Wales, not England, meant that local authorities had their hands tied when trying to deal with social exclusion and inequality problems. We must deal with this and we are slowly moving away from this culture. We must ensure that local authorities have the necessary tools, expertise and most importantly, money to enable them to address the root causes of social exclusion.

Diolch am y cyfraniad hwnnw, ond yr wyf yn dal i ddweud bod y broses ddryslyd o ad-drefnu llywodraeth leol, a orfodwyd ar Gymru, ac nid ar Loegr, yn golygu bod dwylo awdurdodau lleol wedi eu clymu wrth geisio mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol a phroblemau anghydraddoldeb. Rhaid inni ddelio â hynny ac yr ydym yn symud yn araf oddi wrth y diwylliant hwn. Rhaid inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr arfau, yr arbenigaeth ac, yn bwysicaf, yr arian angenrheidiol i’w galluogi i roi sylw i achosion gwaelodol dieithrwch cymdeithasol.

Since Labour took office, much good work has been initiated with the introduction of the working families tax credit and the Sure Start initiative. However, the process begins with jobs: good, sustainable jobs with sensible wages, which are guaranteed since we introduced the national minimum wage. I am pleased about that. We must continue this development by closely monitoring the key indicators of social exclusion. That will show us how we achieve our aims. We must ensure a joined-up approach to regenerating our communities. Jobs, educational attainment and income levels must be given priority. Poor housing, poor health and high levels of crime will begin to improve alongside the economic renewal.

Ers i Lafur ddod i rym, dechreuwyd llawer o waith da drwy gyflwyno’r credyd treth i deuluoedd mewn gwaith a’r cynllun Cychwyn Cadarn. Fodd bynnag, mae’r broses yn dechrau â swyddi: swyddi da, cynaliadwy â chyflogau synhwyrol, sydd wedi eu gwarantu ers inni gyflwyno’r cyflog isaf cenedlaethol. Yr wyf yn ymfalchïo yn hynny. Rhaid inni barhau â’r datblygiad hwn drwy fonitro dangosyddion allweddol dieithrwch cymdeithasol yn ofalus. Bydd hyn yn dangos inni sut yr ydym yn cyrraedd ein nodau. Rhaid inni sicrhau ymagwedd gyfunedig at adfywio ein cymunedau. Rhaid rhoi blaenoriaeth i swyddi, cyflawniad addysgol a lefelau incwm. Bydd tai gwael, iechyd gwael a lefelau troseddu uchel yn dechrau gwella ochr yn ochr â’r adfywiad economaidd.

How we include all members of society and ensure that they enjoy the benefits of living in a socially inclusive world will be our most important legacy. Unless we do that we will never gain the trust, respect and, more importantly, the credibility of Welsh people. This is fundamentally what the Assembly is about. I welcome this debate but I ask that we move quickly and boldly towards implementing the recommendations.

Y modd y byddwn yn cynnwys holl aelodau cymdeithas a sicrhau eu bod yn mwynhau byw mewn byd cymdeithasol gynhwysol fydd ein cymynrodd bwysicaf. Oni wnawn hynny ni fyddwn byth yn ennill ymddiriedaeth, parch ac, yn bwysicach, hygrededd ymysg pobl Cymru. Dyma yw pwrpas sylfaenol y Cynulliad. Croesawaf y ddadl hon ond yr wyf yn gofyn y dylem symud yn gyflym ac yn gadarn at weithredu’r argymhellion.

Mick Bates spoken in English p. 65

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 65

Most of us are here because of this debate. We all share the aim of increasing economic prosperity, improving quality of life, extending democratic accountability and delivering better services throughout Wales.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yma oherwydd y ddadl hon. Yr ydym oll yn rhannu’r nod o gynyddu ffyniant economaidd, gwella ansawdd bywyd, ymestyn atebolrwydd democrataidd a chyflenwi gwell gwasanaethau drwy Gymru.

In terms of the social economy, partnership is key in driving so many initiatives, but it must contain innovation. I recommend the work of all voluntary organisations which, through their independence and innovation, have done so much good work through partnerships.

O ran yr economi cymdeithasol, partneriaeth yw’r allwedd i hybu llawer iawn o gynlluniau, ond rhaid i hynny gynnwys arloesi. Yr wyf yn cymeradwyo gwaith yr holl fudiadau gwirfoddol sydd, drwy eu hannibyniaeth a’u harloesi, wedi cyflawni cymaint o waith da drwy bartneriaethau.

Funding is a problem for voluntary organisations. This document fails to address the need for continuity of funding. A minimum term of funding should be given to the many organisations that do so much to relieve social exclusion in all our communities. There must be a minimum term, even through the People in Communities programme, which is excellent. For many years, I worked in the voluntary sector and led community regeneration development projects. We spent so much time looking for funding. Continuity is critical. We lack many figures about rural life and we lack access to many things in rural areas. Young people lack access to information and there are problems with rural transport. These are not mentioned in this document. This must be addressed.

Mae ariannu’n broblem i fudiadau gwirfoddol. Nid yw’r ddogfen hon yn ymdrin â’r angen am barhad mewn ariannu. Dylid rhoi tymor ariannu lleiaf i’r llu o fudiadau sy’n gwneud cymaint i liniaru dieithrwch cymdeithasol ym mhob un o’n cymunedau. Rhaid cael tymor lleiaf, hyd yn oed yn y rhaglen Pobl mewn Cymunedau, sydd yn un ragorol. Bûm am flynyddoedd yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac arweiniais brosiectau datblygu adfywiad cymunedol. Byddem yn treulio llawer o’n hamser yn chwilio am arian. Mae parhad yn holl bwysig. Prin yw’r ffigurau sydd gennym am fywyd gwledig ac mae llawer o bethau na fyddwn yn cael mynediad atynt mewn ardaloedd gwledig. Nid yw pobl ifanc yn gallu cael mynediad at wybodaeth a cheir problemau gyda chludiant yng nghefn gwlad. Nid oes sôn am yr un o’r rhain yn y ddogfen hon. Rhaid ymdrin â hynny.

Our small market towns must also be addressed. I recommend the old innovative Development Board for Rural Wales’ market towns initiative. That assisted communities to take a holistic view of their development, which is essential and runs through the document.

Rhaid rhoi sylw hefyd i’n trefi marchnad bychain. Cymeradwyaf gynllun trefi marchnad yr hen Fwrdd Datblygu Cymru Wledig arloesol. Yr oedd hwn yn helpu cymunedau i gael golwg cyfannol ar eu datblygiad, sydd yn hanfodol ac yn elfen yn y ddogfen drwyddi.

Today, we have heard few statistics that deal with rural matters and mental health and this document fails to introduce any new ones. That is because its authors did not look hard enough. I recommend the work of the Institute of Rural Health. This organisation has conducted stress surveys with rural dwellers and looked at suicide rates in the agricultural industry. These issues must be addressed urgently.

Prin yw’r ystadegau a glywsom heddiw sy’n ymdrin â materion gwledig a iechyd meddwl ac nid yw’r ddogfen yn cyflwyno unrhyw rai newydd. Mae hynny am nad oedd awduron y ddogfen wedi chwilio ddigon. Cymeradwyaf waith y Sefydliad Iechyd Gwledig. Mae’r corff hwn wedi cynnal arolygon ar straen ymysg trigolion cefn gwlad ac wedi ystyried cyfraddau hunanladdiad yn y diwydiant amaethyddol. Rhaid rhoi sylw ar frys i’r materion hyn.

I am concerned about the urban and rural aspects of social inclusivity, which we are here to promote. However, there must be courage and targets in any document. The fine words expressed in this debate must be transformed into action to help our communities. I commend those two issues—continuity of funding for voluntary organisations and a close look at rural mental health.

Yr wyf yn bryderus ynghylch yr agweddau gwledig a threfol ar gynhwysiant cymdeithasol, yr ydym yma i’w hybu. Fodd bynnag, rhaid cael dewrder a thargedau mewn unrhyw ddogfen. Rhaid troi’r geiriau teg a fynegwyd yn y ddadl hon yn weithredu i helpu ein cymunedau. Yr wyf yn tynnu’ch sylw at y ddau fater hynny—parhad mewn ariannu i fudiadau gwirfoddol a golwg manwl ar iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

Sue Essex spoken in English p. 66

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 66

This paper exists to give the Assembly a starting point. Elin Jones’ and Mick Bates’ point about the lack of statistics for rural areas is particularly appropriate. There are also other statistics that must be included in the document. However, the criticism that the paper does not contain indicators and targets is not valid. Surely we are only at the starting block. It is inappropriate for us to discuss indicators today. Much of that work must be done by the relevant Committees.

Mae’r ddogfen hon yn bod er mwyn rhoi man cychwyn i’r Cynulliad. Mae pwynt Elin Jones a Mick Bates am ddiffyg ystadegau am ardaloedd gwledig yn arbennig o berthnasol. Mae llawer o ystadegau eraill hefyd y dylid eu cynnwys yn y ddogfen. Fodd bynnag, nid yw’r feirniadaeth nad yw’r ddogfen ynn cynnwys dangosyddion a thargedau yn ddilys. Yn y man cychwyn yr ydym o hyd. Nid yw’n briodol inni drafod dangosyddion heddiw. Rhaid i lawer o’r gwaith hwnnw gael ei gyflawni gan y Pwyllgorau perthnasol.

I would like two points considered. Christine mentioned the urban taskforce, which highlights locality issues. Much of the poverty in Wales reflects the locality problem and accessibility to services. Many of our sustainable development objectives are also met by improving people’s locality and their ability to respond. I hope that some of the report’s conclusions can be considered.

Hoffwn gael ystyriaeth i ddau bwynt. Cyfeiriodd Christine at y tasglu trefol, sy’n tynnu sylw at faterion lleoliad. Mae llawer o’r tlodi yng Nghymru’n adlewyrchu’r broblem lleoliad a hygyrchedd gwasanaethau. Bydd llawer o’n hamcanion o ran datblygu cynaliadwy hefyd yn cael eu cyflawni drwy wella lleoliad pobl a’u gallu i ymateb. Gobeithio y gellir rhoi ystyriaeth i rai o gasgliadau’r adroddiad.

The statistics that have been produced, as important as they are, do not go below ward level. I have spoken to statisticians and once you start to get below that, you can pick up where pockets of deprivation exist in a main area of affluence. Census information allows you to go down to electoral or even postal districts. With this information, you start to extract some of those important local differentiations. I think this is Lorraine’s point. Mapping on a ward level can camouflage local problems. I hope we can take this good work a stage further and work in partnership with local government and other agencies to get a refined, sophisticated view of what is happening on the ground.

Nid yw’r ystadegau a gynhyrchwyd, er eu pwysigrwydd, yn mynd yn is na lefel ward. Yr wyf wedi siarad ag ystadegwyr ac wedi ichi fynd o dan y lefel honno, fe allwch weld lle y mae’r pocedi o amddifadedd mewn prif ardal gyfoethog. Mae gwybodaeth o’r Cyfrifiad yn caniatáu ichi fynd i lawr at y rhanbarth etholiadol neu hyd yn oed yr ardal bost. O gael yr wybodaeth hon, gallwch ddechrau tynnu allan rhai o’r gwahaniaethau lleol pwysig hynny. Pwynt Lorraine yw hynny, yr wyf yn credu. Mae mapio ar lefel ward yn gallu cuddio problemau lleol. Gobeithiaf y gallwn fynd â’r gwaith da hwn gam ymhellach a gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac asiantaethau eraill i gael golwg manwl a soffistigedig ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

Huw Lewis spoken in English p. 67

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 67

I cannot resist referring to something that David Davies said earlier and before you ask, David, I will not give way as we are short of time. Next time I do my surgery in the Gurnos estate, I will advise the people there to join BUPA, send their kids to Eton and eat more beef. We will see if that cures the area’s multiple deprivation problems. Anyone who reads this document will have difficulty forming any other conclusion than that our problems are piled up. In extreme cases, these are geographically concentrated in the south Wales Valleys. On almost every page of the report my constituency, Merthyr Tydfil and Rhymney, is at the top or bottom of the social exclusion or inclusion register, depending on which way you look at it.

Ni allaf ymatal rhag cyfeirio at rywbeth a ddywedodd David Davies gynnau a chyn ichi ofyn, David, ni fyddaf yn ildio gan fod ein hamser yn brin. Y tro nesaf y byddaf yn fy nghymorthfa ar stad Gurnos, byddaf yn cynghori’r bobl yno i ymuno â BUPA, anfon eu plant i Eton a bwyta rhagor o gig eidion. Cawn weld wedyn a fydd hynny’n gwella problemau amddifadedd lluosog yr ardal. Bydd rhywun sy’n darllen y ddogfen hon yn ei chael yn anodd dod i unrhyw gasgliad arall heblaw bod ein problemau yn bentwr. Mewn achosion eithafol, maent wedi eu crynhoi’n ddaearyddol yng Nghymoedd de Cymru. Ar bron pob tudalen o’r adroddiad mae f’etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, ar ben neu ar waelod y rhestr dieithrwch neu gynhwysiant cymdeithasol, yn ôl eich safbwynt.

At the beginning of the debate, the First Secretary mentioned that the figures for the Valleys were perhaps to be expected and I fully understand what he means. However, people in the communities of the south Wales Valleys are tired of that expectation and of how it is perceived by those outside the area. We do not expect it to continue.

Ar ddechrau’r ddadl, fe ddywedodd y Prif Ysgrifennydd y byddai’r ffigurau am y Cymoedd yn ddisgwyliadwy efallai ac yr wyf yn llwyr ddeall beth y mae’n ei olygu. Fodd bynnag, mae pobl yn y cymunedau yng Nghymoedd de Cymru wedi blino ar y disgwyliad hwnnw a’r modd y’i gwelir gan y rhai y tu allan i’r ardal. Nid ydym yn disgwyl i hynny barhau.

There have been a lot of statistics this afternoon but it is worth mentioning those on my constituency. Merthyr Tydfil and Rhymney has the highest youth unemployment rate in Wales—16 per cent; its GDP is 64 per cent of the European average. (Objective 1 status is awarded on 10 per cent more than that); its long-term illness is the highest in Wales at 22 per cent.

Clywyd llawer o ystadegau brynhawn heddiw ond mae’n werth nodi’r rhai ar f’etholaeth i. Ym Merthyr Tudful a Rhymni y mae’r gyfradd diweithdra uchaf ymysg pobl ifanc yng Nghymru—16 y cant; mae ei Chynnyrch Mewnwladol Crynswth yn 64 y cant o’r cyfartaledd Ewropeaidd. (Rhoddir statws Amcan 1 ar 10 y cant yn uwch na hynny.) Y salwch tymor-hir yno yw’r uchaf yng Nghymru, sef 22 y cant.

We have already heard Jane Davidson’s frightening education figures for Rhondda Cynon Taff. I will not repeat Merthyr’s figures but they are worse in every case. I echo Lorraine Barrett’s words on the problems that arise from the statistics in these reports. The upper Rhymney Valley, which is a large chunk of my constituency, is actually part of Caerphilly County Borough Council. It appears as a different area in the statistics, and on the face of it, a more prosperous area. Caerphilly County Borough Council did its own study of these indicators, ward by ward, which showed that Rhymney Valley has even more severe problems of deprivation than the Merthyr Valley. A fact that stuck with me is that the majority of children in the upper Rhymney Valley have free school meals.

Yr ydym eisoes wedi clywed ffigurau arswydus am addysg yn Rhondda Cynon Taf gan Jane Davidson. Nid wyf am ailadrodd y ffigurau am Ferthyr ond maent yn waeth ym mhob achos. Ategaf eiriau Lorraine Barrett ynghylch y problemau sy’n codi o’r ystadegau yn yr adroddiadau hyn. Mae pen uchaf Cwm Rhymni, sydd yn ddarn helaeth o’m hetholaeth, yn rhan mewn gwirionedd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n ymddangos yn ardal gwbl wahanol yn yr ystadegau ac, ar yr wyneb, yn ardal fwy ffyniannus. Cyflawnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei astudiaeth ei hun o’r dangosyddion hyn, fesul ward, a dangosodd hynny fod problemau amddifadedd gwaeth yng Nghwm Rhymni nag yng Nghwm Merthyr. Un ffaith a wnaeth argraff arnaf oedd bod y rhan fwyaf o blant ym mhen uchaf Cwm Rhymni yn cael prydau ysgol am ddim.

Initiatives like the national minimum wage have meant a lot to people in my constituency, and I hope the New Deal will bring even more improvements. However, we are caught in a cycle of low aspiration, poor education, lack of opportunity and general poor health, which reflects on chances for employment and a life in society. People in my constituency and throughout the south Wales Valleys are tired of waiting for change. The Assembly must deliver change.

Mae cynlluniau fel y cyflog isaf cenedlaethol wedi golygu llawer i bobl yn f’etholaeth i, a gobeithio y bydd y Fargen Newydd yn dod â rhagor eto o welliannau. Fodd bynnag, yr ydym wedi ein dal mewn cylch o ddyheadau isel, addysg wael, diffyg cyfleoedd a iechyd gwael yn gyffredinol, sy’n effeithio ar y cyfle i gael swydd ac i fyw mewn cymdeithas. Mae pobl yn f’etholaeth i a drwy Gymoedd de Cymru wedi blino disgwyl am newid. Rhaid i’r Cynulliad ddod â newid.

As an Assembly, we will be working on many initiatives: Objective 1; increasing access to health care, particularly primary health care and preventive health care; deciding spending assessments for local authorities in areas of multiple depravation; access and spending on education and training. This document must figure in all our work. To ensure social justice, the Valleys—and on this year’s figures, Merthyr Tydfil and Rhymney—must be at the front of the queue.

Fel Cynulliad, byddwn yn gweithio gyda llawer o gynlluniau: Amcan 1; gwella mynediad i ofal iechyd, yn enwedig gofal iechyd cynradd a gofal iechyd ataliol; penderfynu ar asesiadau gwario i awdurdodau lleol mewn ardaloedd lle y ceir amddifadedd lluosog; mynediad a gwariant ar addysg a hyfforddi. Rhaid rhoi sylw i’r ddogfen hon yn ein gwaith drwyddo draw. Er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, rhaid i’r Cymoedd—ac yn ôl ffigurau eleni, Merthyr Tudful a Rhymni—dderbyn sylw gyntaf.

Carwyn Jones spoken in English p. 69

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 69

Today’s debate has shown why most of us entered politics. Over the years, we became fed up of seeing villages and housing estates decay, people demoralised and forgotten, and the hopes of the young smashed. Many of our poorest areas have the highest crime rates. It is a statistical fact that the poorer you are, the more likely you are to become a victim of crime.

Mae’r ddadl heddiw wedi dangos pam y mae’r rhan fwyaf ohonom mewn gwleidyddiaeth. Dros y blynyddoedd, cawsom lond bol ar weld pentrefi a stadau tai’n dirywio, pobl yn digalonni ac yn cael eu hesgeuluso, a dyheadau’r ifanc yn cael eu torri’n yfflon. Gan lawer o’r hardaloedd tlotaf y mae’r cyfraddau troseddu uchaf hefyd. Mae’n ffaith ystadegol mai’r bobl dlotaf yw’r rhai mwyaf tebygol o ddioddef oddi wrth dorcyfraith.

However, this document represents a fresh start. Many feared that the Assembly would become a strategy factory, churning out a lot of well-meaning documents without actually doing anything. This document shows that we are going to do something at last. We are going to begin the long task of trying to include people who for so long were left on the fringes and the scrap heap.

Fodd bynnag, mae’r ddogfen hon yn rhoi cychwyn newydd. Yr oedd llawer yn ofni y byddai’r Cynulliad yn ffatri strategaethau, yn cynhyrchu llawer o ddogfennau â bwriadau da ond heb gyflawni dim. Mae’r ddogfen hon yn dangos y byddwn yn gwneud rhywbeth o’r diwedd. Yr ydym am ddechrau ar y dasg hir o gynnwys pobl a adawyd ar yr ymylon ac ar y domen gyhyd.

Tales from elderly people in my constituency emphasise the change in society since the war. One of society’s greatest achievements after the Second World War was that beggars disappeared from the major city streets. Their reappearance in the eighties was a great disappointment and a sign of failure. Homeless people are the most excluded of all.

Mae hanesion gan bobl oedrannus yn f’etholaeth yn pwysleisio’r newid a fu mewn cymdeithas ers y rhyfel. Un o gyflawniadau mwyaf cymdeithas ar ôl yr Ail Ryfel Byd oedd bod cardotwyr wedi diflannu o brif strydoedd y ddinas. Yr oedd eu hailymddangosiad yn yr wythdegau’n siom fawr ac yn arwydd o fethiant. Pobl ddigartref yw’r rhai a ddieithriwyd fwyaf.

Therefore, when we put in place strategies and implement good schemes, we must provide people with support. I represented many during the 1990s who were ejected from psychiatric hospital only to end up in another large institution, namely prison. Because care in the community was under-funded and under-supported, they ended up in a place that was worse than where they had come from. We must help and support individuals as well as organisations. The challenge is enormous and it is not unique to Wales. However, at least we have made a start in this document. We have started the wheels at last, and we have begun excluding exclusion from society in Wales.

Felly, pan fyddwn yn sefydlu strategaethau ac yn gweithredu cynlluniau da, rhaid inni ddarparu cymorth i bobl. Cynrychiolais lawer o bobl yn ystod y 1990au oedd wedi eu gyrru o ysbyty seiciatryddol ond i fynd yn ôl i sefydliad mawr arall, sef y carchar. Am nad oedd digon o wariant a chefnogaeth i ofal yn y gymuned, yr oeddent yn cyrraedd rhywle yn y diwedd oedd yn waeth na’r lle y daethant ohono. Rhaid inni helpu a chefnogi unigolion yn ogystal â chyrff. Mae’r sialens yn un anferth ac nid yw’n unigryw i Gymru. Fodd bynnag, yr ydym o leiaf wedi dechrau gyda’r ddogfen hon. Yr ydym wedi dechrau rhoi’r olwynion i droi o’r diwedd, ac wedi dechrau dieithrio dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru.

Jane Hutt spoken in English p. 70

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 70

I thank everyone for their excellent contributions. I am moved and inspired, but also daunted by the task ahead of us. It was important that we had this debate today. It is a starting point for the Government in Wales. It is a framework, as Sue Essex said, for all our Government.

Diolchaf i bawb am eu cyfraniadau rhagorol. Cefais fy nghynhyrfu a’m hysbrydoli, ond fy mrawychu hefyd gan y dasg sydd o’n blaen. Mae’n bwysig ein bod wedi cael y ddadl hon heddiw. Mae’n fan cychwyn i Lywodraeth Cymru. Mae’n fframwaith, fel y dywedodd Sue Essex, ar gyfer y cwbl o’n Llywodraeth.

It is sobering to highlight again the poverty that leads to social exclusion. We have all learnt a great deal in this debate, and it will be important to me as Secretary for Health and Social Services, as Chair of the Equal Opportunities Committee and when championing social exclusion and health inequalities. Thank you for positive examples of how communities, local authorities, colleges and voluntary organisations are already creating ways of tackling poverty and social exclusion.

Peth sobreiddiol yw tynnu sylw eto at y tlodi sy’n arwain at ddieithrwch cymdeithasol. Yr ydym oll wedi dysgu llawer yn y ddadl hon, a bydd yn bwysig imi fel Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal a phan fyddaf yn ymgyrchu dros faterion dieithrwch cymdeithasol ac anghydraddoldeb mewn iechyd. Diolch am eich enghreifftiau cadarnhaol o’r modd y mae cymunedau, awdurdodau lleol, colegau a mudiadau gwirfoddol eisoes yn creu dulliau i fynd i’r afael â thlodi a dieithrwch cymdeithasol.

People in all their diversities in Wales should be able to reach their potential in education, in work and in the community, and be enabled to become active citizens and assist us in all our policy making. We must recognise that the most excluded people in Wales are often the most vulnerable and their voices are not heard. They are disenfranchised, often poor and face multiple disadvantages.

Dylai pobl yn eu holl amrywiaeth yng Nghymru gael cyflawni eu potensial mewn addysg, yn eu gwaith ac yn y gymuned, a chael eu galluogi i ddod yn ddinasyddion gweithgar a’n helpu wrth lunio ein holl bolisïau. Rhaid inni gydnabod mai’r bobl a ddieithriwyd fwyaf yng Nghymru yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn aml ac na chlywir eu lleisiau. Maent wedi eu difreinio, maent yn aml yn dlawd ac yn wynebu anfanteision lluosog.

We therefore have a huge task, and Val referred to it as a great journey. How can we get to grips with the poverty and the resulting social exclusion in Wales? As Jane Davidson said, we start with a good mapping exercise. It needs more work on it. We need to get down to the pockets of poverty in our communities which Helen and Sue Essex mentioned. We need to work on targets as well as indicators, and we should all be involved in developing them.

Mae gennym dasg anferth felly, a chyfeiriodd Val ati fel taith fawr. Sut y gallwn fynd i’r afael â’r tlodi a’r dieithrwch cymdeithasol sy’n dilyn yng Nghymru? Fel y dywedodd Jane Davidson, byddwn yn dechrau ag ymarfer mapio da. Mae angen rhagor o waith ar hynny. Rhaid inni gyrraedd at y pocedi o dlodi yn ein cymunedau a grybwyllwyd gan Helen a Sue Essex. Mae angen inni weithio ar dargedi yn ogystal â dangosyddion, a dylem oll gymryd rhan wrth eu datblygu.

An important message has been sent today. This Assembly can influence the detail. It can develop the targets, start addressing the plan for next year and consider how we will influence our policies and our committees, both the Regional Committees and the Subject Committees. It will test the cross-cutting ways we are trying to develop in our Government.

Mae neges bwysig wedi ei chyhoeddi heddiw. Gall y Cynulliad hwn ddylanwadu ar y manylion. Fe all ddatblygu’r targedau, dechrau rhoi sylw i’r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf ac ystyried sut y byddwn yn dylanwadu ar ein polisïau a’n pwyllgorau, y Pwyllgorau Rhanbarth a’r Pwyllgorau Pwnc. Bydd yn rhoi prawf ar y dulliau trawsffiniol yr ydym yn ceisio eu datblygu yn ein Llywodraeth.

Alun referred to some recent Government initiatives. The vulnerability of children is an issue. It is vital that we start with children because if we do not, we will condemn many to a life of abuse, poverty, deprivation and exclusion. A recent Treasury report identified six risk factors that adversely affect children’s educational attainment during their first ten years: living in a large family; having a poorly educated mother; living in overcrowded and poor housing; low birth weight and subsequent poor diet; a mother with poor mental health; and an out-of-work father.

Fe gyfeiriodd Alun at rai o gynlluniau diweddar y Llywodraeth. Mae hyglwyfedd plant yn un mater. Mae’n holl bwysig inni ddechrau gyda phlant oherwydd os na wnawn hynny, byddwn yn condemnio llawer i fywyd o gamdriniaeth, tlodi, amddifadedd a dieithrwch. Mewn adroddiad diweddar gan y Trysorlys nodwyd chwe ffactor risg sy’n effeithio er gwaeth ar gyflawniad addysgol plant yn ystod eu deng mlynedd cyntaf: byw mewn teulu mawr; bod â mam nad yw wedi ei haddysgu’n dda; byw mewn tai gorboblog a gwael; pwysau geni isel ac ymborth gwael wedi hynny; mam â iechyd meddwl gwael; a thad di-waith.

From that list, we see the direct relevance of providing effective public services. As David said, we must provide effective public services through social services, education and training, housing, health and economic regeneration and development, to tackle poverty and disadvantage. The former Chief Medical Officer of Health, Donald Acheson highlighted this in his report last year. To tackle ill-health caused by poverty, every part of our Government must be involved.

O’r rhestr honno, fe welwn fod darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yn uniongyrchol berthnasol. Fel y dywedodd David, rhaid inni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol drwy’r gwasanaethau cymdeithasol, addysg a hyfforddiant, tai, iechyd ac adfywiad a datblygu economaidd, er mwyn ymdrin â thlodi ac anfantais. Tynnwyd sylw at hyn gan y cyn Brif Swyddog Meddygol dros Iechyd, Donald Acheson, yn ei adroddiad y llynedd. Er mwyn ymdrin ag afiechyd a achosir gan dlodi, rhaid i bob rhan o’r Llywodraeth gyfrannu.

The same Treasury report showed that these risk factors matter. I refer now to educational attainment, which is perhaps the most important driver behind adults breaking out of the cycle of disadvantage for themselves and their children. They are trapped into low pay or no pay. The negative effects of poor educational attainment are compounded by having grown up in a family on low income, dependent on benefit. This is where Christine’s point about teenager mothers comes in. Thank you for drawing attention to that. Looking across the board, we have to consider every policy area of this Assembly. We will only succeed in our aim of improving attainment in education if all those involved in education give that aim the same priority. We must provide an even sharper focus on the needs of the most disaffected and disadvantaged pupils. That cannot just be a policy, it must be shared and acted upon by local education authorities and schools. We need to focus on the schools and pupils most in need of support and that will be an increasingly important part of the local education authorities’ schools improvement agenda in the education strategic plan.

Dangosodd yr un adroddiad o’r Trysorlys fod y ffactorau risg hyn yn bwysig. Cyfeiriaf yn awr at gyflawniad addysgol, sef y symbylydd pwysicaf efallai i oedolion ddianc o’r cylch o anfantais er eu mwyn eu hunain a’u plant. Maent wedi eu dal ar gyflog isel neu heb unrhyw gyflog. Ychwanegir at effeithiau negyddol cyflawniad addysgol gwael drwy fagwraeth mewn teulu ar incwm isel, sy’n dibynnu ar fudd-daliadau. Dyma lle y mae pwynt Christine am famau yn eu harddegau yn berthnasol. Diolch i chi am dynnu sylw at hynny. Wrth ystyried y materion i gyd, rhaid inni ystyried pob maes polisi sydd yn y Cynulliad hwn. Ni lwyddwn yn ein nod o wella cyflawniad addysgol os na fydd pawb sy’n gysylltiedig ag addysg yn rhoi’r un flaenoriaeth i’r nod honno. Rhaid inni ganolbwyntio’n fanylach byth ar anghenion y disgyblion mwyaf dieithriedig a difreintiedig. Ni all hynny fod yn bolisi yn unig, rhaid iddo gael ei rannu a bod yn destun gweithredu gan awdurdodau addysg lleol ac ysgolion. Mae angen inni ganolbwyntio ar yr ysgolion a’r disgyblion sydd â’r mwyaf o angen am gefnogaeth a bydd hynny’n rhan gynyddol bwysig o agenda’r awdurdodau addysg lleol ar gyfer gwella ysgolion yn y cynllun strategol ar addysg.

I will focus on the young people who are most in need. We are about to launch a consultation paper on education for children who are being looked after. That is an important point. To bring in employment and economic development, we find that child poverty is linked to households where the parent is not an earner. In Wales, 18 per cent of households with dependent children do not contain anyone earning any money. That figure increases to 60 per cent in some areas, compared with 16 per cent in England.

Fe ganolbwyntiaf ar y bobl ifanc sydd â’r angen mwyaf. Yr ydym ar fin lansio dogfen ymgynghorol ar addysg i blant sy’n derbyn gofal. Mae hynny’n bwynt pwysig. Gan grybwyll cyflogaeth a datblygu economaidd, fe welwn fod tlodi ymysg plant yn gysylltiedig â chartrefi lle nad yw’r rhiant yn ennill cyflog. Yng Nghymru, mae 18 y cant o gartrefi â phlant dibynnol heb enillydd cyflog. Mae’r ffigur hwnnw gymaint â 60 y cant mewn rhai ardaloedd, o gymharu â 16 y cant yn Lloegr.

Employment chances are fragile for young adults. Under 25s are still twice as likely to be out of work as adults, therefore skills development is vital. Mention has been made of the New Deal programme. We must ensure that young people benefit from that and find opportunities for sustainable jobs and improve their skills. We must also consider the New Deal for lone parents and disabled people and ensure that it helps to tackle the barriers and discrimination that have been mentioned. Dafydd Wigley referred to the barriers to disabled people.

Mae’r cyfleoedd cyflogaeth yn fregus i oedolion ifanc. Mae rhai dan 25 oed yn ddwywaith mwy tebygol o fod yn ddi-waith nag oedolion, felly mae datblygu medrau yn hanfodol. Fe soniwyd am raglen y Fargen Newydd. Rhaid inni sicrhau bod pobl ifanc yn elwa o hynny ac yn canfod cyfleoedd i gael swyddi cynaliadwy ac i wella eu medrau. Rhaid inni hefyd ystyried y Fargen Newydd i rieni sengl a phobl anabl a sicrhau ei bod yn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r gwahaniaethau a grybwyllwyd. Cyfeiriodd Dafydd Wigley at y rhwystrau i bobl anabl.

I will comment on the national childcare strategy because that will benefit children and support working parents by ensuring good quality, affordable childcare for children in the community. The provision of childcare is linked to social exclusion, the equal opportunities agenda and economic development. It is vital that we integrate equal opportunities into the European agenda—Europe will expect that in terms of our plans for European funding. We must recognise that all the areas we are concerned about—health, social policy and education—are vital to tackling social exclusion.

Rhoddaf sylw am y strategaeth gofal plant genedlaethol oherwydd bydd honno o fudd i blant a bydd yn cefnogi rhieni sy’n gweithio drwy sicrhau gofal plant fforddiadwy o ansawdd da i blant yn y gymuned. Mae darparu gofal plant yn gysylltiedig â dieithrwch cymdeithasol, yr agenda cyfle cyfartal a datblygu economaidd. Mae’n holl bwysig inni gymathu cyfle cyfartal â’r agenda Ewropeaidd—bydd Ewrop yn disgwyl hynny yn ein cynlluniau ar gyfer cyllid o Ewrop. Rhaid inni gydnabod bod yr holl feysydd sy’n peri pryder i ni—iechyd, polisi cymdeithasol ac addysg—yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol.

I am glad that the social policy portfolio covers the Sure Start programme highlighted in the document. This supports families with young children to improve their children’s health and opportunities.

Yr wyf yn falch bod y portffolio polisi cymdeithasol yn cynnwys y rhaglen Cychwyn Cadarn y tynnwyd sylw ati yn y ddogfen. Mae hon yn cynorthwyo teuluoedd â phlant ifanc i wella iechyd a chyfleoedd eu plant.

Helen Mary Jones spoken in English p. 73

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 73

I raised three specific items. Will you be able to provide us with some initial thoughts this afternoon?

Fe godais dair eitem benodol. A fydd modd ichi roi rhai sylwadau cychwynnol brynhawn heddiw?

Jane Hutt spoken in English p. 73

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 73

I have already mentioned that we have to develop targets as well as indicators and I will come on to your other points. It is important that we remember all the other groups in our communities who are excluded. We have not mentioned elderly people today. We have mentioned carers. As part of my portfolio, I will work with the Assembly to ensure that we extend the direct payments scheme to people over 65. That would give greater choice and independence. We have recently announced measures to support older people in the labour market. We must again recognise a group which is often excluded.

Yr wyf eisoes wedi crybwyll y bydd raid inni ddatblygu targedau yn ogystal â dangosyddion ac fe drafodaf eich pwyntiau eraill gyda hyn. Mae’n bwysig inni gofio’r holl grwpiau eraill yn ein cymunedau sydd wedi eu dieithrio. Nid ydym wedi crybwyll pobl oedrannus heddiw. Yr ydym wedi crybwyll gofalwyr. Fel rhan o’m portffolio, byddaf yn gweithio gyda’r Cynulliad i sicrhau y byddwn yn ymestyn y cynllun taliadau uniongyrchol i gynnwys pobl dros 65 oed. Byddai hynny’n rhoi mwy o ddewis ac annibyniaeth. Yn ddiweddar yr ydym wedi cyhoeddi mesurau i gefnogi pobl hŷn yn y farchnad lafur. Rhaid inni unwaith eto gydnabod bod yma grŵp sy’n cael ei ddieithrio’n aml.

Health is the passion that I have discussed in previous debates. I am glad that the agenda of health inequalities has again come to the forefront. We know that we must consider this agenda across every policy area and it comes through clearly on our map of statistics. My determination to put this at the forefront of the health agenda is linked to putting primary health care at the forefront, with ‘Better Health, Better Wales’, which is another document that we must live by and work on.

Iechyd yw’r diddordeb angerddol sydd gennyf a drafodais mewn dadleuon blaenorol. Yr wyf yn falch bod agenda anghydraddoldeb iechyd wedi mynnu sylw eto. Fe wyddom fod rhaid inni ystyried yr agenda hwn ar draws pob maes polisi ac fe ddaw i’r amlwg yn ein map ystadegau. Mae fy mhenderfyniad i roi hyn ar flaen yr agenda iechyd yn gysylltiedig â rhoi’r lle amlycaf i ofal iechyd cynradd, gyda ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’, sydd yn ddogfen arall y bydd raid inni ei dilyn a’i datblygu.

Housing has been mentioned. I am glad that Val Feld mentioned the tenants groups’ powerful participation in the estates of Wales. Communities are joining to form credit unions and set up childcare facilities and enterprise opportunities. A great deal of work is taking place to tackle poverty. It is vital that we make the connections with equal opportunities and discrimination and recognise the immense challenges of inequalities and deprivation. There has been little mention of discrimination, which is a vital part of exclusion, particularly for ethnic minorities, disabled people, women and other excluded groups. We will have a challenging task in the Equal Opportunities Committee, which is linked to social exclusion. We must monitor, evaluate and analyse our social exclusion agenda. I am sure that as a result of this debate that is what everybody will begin to do.

Fe soniwyd am dai. Yr wyf yn falch bod Val Feld wedi crybwyll cyfraniad grymus y grwpiau tenantiaid yn stadau tai Cymru. Mae cymunedau’n dod at ei gilydd i ffurfio undebau credyd a sefydlu cyfleusterau gofal plant a chyfleoedd menter. Mae llawer o waith yn cael ei gyflawni er mwyn ymladd tlodi. Mae’n holl bwysig inni gysylltu hyn â chyfle cyfartal a gwahaniaethu a chydnabod y sialensau enfawr o du anghydraddoldeb ac amddifadedd. Ychydig o sôn a gafwyd am wahaniaethu, sydd yn rhan hanfodol o ddieithrwch, yn enwedig yn achos lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, benywod a grwpiau eraill a dieithriwyd. Bydd gennym dasg i roi her i ni yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, sydd yn gysylltiedig â dieithrwch cymdeithasol. Rhaid inni fonitro, gwerthuso a dadansoddi ein hagenda dieithrwch cymdeithasol. Yr wyf yn sicr y bydd pawb yn dechrau gwneud hynny o ganlyniad i’r ddadl hon.

As Helen Mary said it is important that we encourage an uptake of benefits campaign in Wales. There are a lot of welfare rights campaigners in Wales who are doing a great job and bringing benefits to people. Many anti-poverty strategies in local authorities need to be revitalised and we need to analyse how they are contributing to tackling poverty. I have mentioned credit unions and the citizens advice bureaux, another part of the voluntary sector which needs support. Their work vital. We need to put communities to the forefront in Wales. This is the most critical measure, because tackling poverty is also about enfranchising people. It is about people who have solutions and we need to ensure that the Government supports those solutions, listens to them and resources them.

Fel y dywedodd Helen Mary, mae’n bwysig inni annog ymgyrch derbyn budd-daliadau yng Nghymru. Mae yna lawer o ymgyrchwyr hawliau lles yng Nghymru sydd yn gwneud gwaith ardderchog ac yn ychwanegu at les pobl. Mae angen adfywio llawer o’r strategaethau gwrthdlodi mewn awdurdodau lleol a rhaid inni ddadansoddi sut y maent yn cyfrannu at ymladd tlodi. Yr wyf wedi sôn am undebau credyd a’r swyddfeydd cynghori, rhan arall o’r sector gwirfoddol y mae arni angen cymorth. Mae eu gwaith yn holl bwysig. Mae angen inni roi’r lle amlycaf i gymunedau yng Nghymru. Dyma’r mesur mwyaf hanfodol, oherwydd mae ymdrin â thlodi hefyd yn gysylltiedig â rhyddfreinio pobl. Mae’n ymwneud â phobl sydd ag atebion ac mae angen inni sicrhau bod y Llywodraeth yn cefnogi’r atebion hynny, yn gwrando arnynt ac yn rhoi’r adnoddau ar eu cyfer.

My work in the voluntary sector shows that, through womens’ aid, the Tenants Participation Advisory Service and adult and community education, answers lie with people and communities; if we are prepared to listen, support and engage with people in finding in those solutions.

Mae fy ngwaith yn y sector gwirfoddol, drwy Gymorth I Ferched, y Gwasanaeth Ymgynghorol ar Gyfranogiad Tenantiaid ac addysg oedolion ac addysg yn y gymuned, wedi dangos bod yr atebion gan bobl a chymunedau; os ydym yn barod i wrando, cefnogi ac ymwneud â phobl wrth ganfod yr atebion hynny.

The most important thing is that the Assembly sets a new tone in government. It is not government for the people, it is government with the people and that is the most critical new way in which we are developing. It is not paternalistic; it is about participation. I asked Rhodri whether he had ever experienced a debate like this. When you think about it, this is the first debate in Wales, involving democratically elected people from the whole of Wales, to discuss poverty and inclusion and set a strong and powerful agenda. That is very significant. We thank the voluntary sector for giving us the briefing notes today. We thank the Welsh Office officials, who will be the Assembly officials from 1 July, for preparing statistics. We are going through a huge cultural change and recognising that tackling the poverty, injustice and inequality in Wales is, as Carwyn said, what all of us are here to do. It is a significant day for us.

Y peth pwysicaf yw i’r Cynulliad bennu cywair newydd mewn llywodraeth. Nid llywodraeth ar gyfer y bobl ydyw, ond llywodraeth gyda’r bobl a dyna’r dull newydd mwyaf hanfodol yr ydym yn ei ddatblygu. Nid yw’n dadol; mae’n ymwneud â chyfranogi. Fe ofynnais i Rhodri a oedd erioed wedi profi dadl fel hon. Wrth feddwl, hon yw’r ddadl gyntaf yng Nghymru, yn cynnwys pobl a etholwyd yn ddemocrataidd o bob rhan o Gymru, i drafod tlodi a chynhwysiant a phennu agenda bwerus a chryf. Mae hynny’n arwyddocaol iawn. Diolchwn i’r sector gwirfoddol am roi’r nodiadau briffio i ni heddiw. Diolchwn i’r swyddogion yn y Swyddfa Gymreig, a fydd yn swyddogion i’r Cynulliad o 1 Gorffennaf, am baratoi ystadegau. Yr ydym yn profi newid diwylliannol enfawr ac yn cydnabod mai ymladd tlodi, anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yng Nghymru, fel y dywedodd Carwyn, yw’r rheswm pam yr ydym oll yma. Mae’n ddiwrnod o bwys i ni.

I want to mention a couple of points that were raised about rural needs. I can tell David, Elin and Mick and all of you who have mentioned the rural communities, that this is about the diversity of Wales. It is about the fact that we have pockets of rural poverty and people who experience discrimination. We have to use the voluntary sector to turn energy and concern into a positive resource.

Yr wyf am grybwyll un neu ddau o bwyntiau a godwyd ynghylch anghenion gwledig. Gallaf ddweud wrth David, Elin a Mick a phawb ohonoch a grybwyllodd gymunedau gwledig, bod hyn yn ymwneud ag amrywiaeth Cymru. Mae’n ymwneud â’r ffaith bod gennym bocedi o dlodi yng nghefn gwlad a phobl sy’n dioddef oddi wrth wahaniaethu. Rhaid inni ddefnyddio’r sector gwirfoddol i droi egni a phryder yn adnodd cadarnhaol.

I will finish with a quote from the Cardiff and Vale Coalition of Disabled People. Last week Jenny Randerson, Sue Essex and I were at their annual general meeting. One of its documents said:

Terfynaf drwy ddyfynnu Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro. Yr wythnos diwethaf yr oedd Jenny Randerson, Sue Essex a minnau yn eu cyfarfod blynyddol cyffredinol. Yng ngeiriau un o’i dogfennau:

‘Joined-up governments and joined-up thinking is the big thing at the moment. Basically it is what disabled people and other groups have been calling for for years. Instead of compartmentalising services such as housing, health, social services etc, with the result that you get passed from pillar to post in total confusion as to who is responsible for what, they all work together with shared policies, procedures and budgets—clever innit?’

‘Llywodraethau cyfunedig a meddwl cyfunedig yw’r peth mawr ar hyn o bryd. Yn y bôn, dyna y mae pobl anabl a grwpiau eraill yn galw amdano ers blynyddoedd. Yn lle adrannu gwasanaethau fel tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a.y.b., fel eich bod yn cael eich gyrru rhwng y naill a’r llall heb ddeall o gwbl pwy sy’n gyfrifol am beth, byddant oll yn gweithio gyda’i gilydd gan ddilyn polisïau, gweithdrefnau a chyllidebau a rennir—clyfar, yntê?’

That is what the Welsh Assembly and the Government of Wales should be about.

Dyna a ddylai fod yn nod i Gynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru.

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Dadl Fer ar Organebau Wedi’u Haddasu’n Enetig

Short Debate on Genetically Modified Organisms

Nick Bourne spoken in English p. 76

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 76

Following Jocelyn Davies’ excellent example last week, I have agreed to give Rhodri Glyn Thomas and Mick Bates a minute at the end of my speech. Glyn Davies can have 30 seconds, in the certain knowledge that he will double the amount I give him.

Gan ddilyn esiampl ragorol Jocelyn Davies yr wythnos diwethaf, yr wyf wedi cytuno i roi munud yr un i Rhodri Glyn Thomas a Mick Bates ar ddiwedd f’araith. Caiff Glyn Davies 30 eiliad, gan wybod yn sicr y bydd yn dyblu’r amser a roddaf iddo.

I propose that

Yr wyf yn cynnig

Nick Bourne (continued) spoken in English p. 76

Nick Bourne (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 76

When I was successful in the ballot, I did not hesitate to choose this extremely important issue. It is one over which this Assembly has some power and it is a cause of great public concern and disquiet. Since I chose it there has been massive public interest. Many organisations and hordes of individuals have contacted me—all of whom support a moratorium and control. I thank them for their help and advice.

Pan lwyddais yn y bleidlais, ni phetrusais cyn dewis y mater tra phwysig hwn. Mae gan y Cynulliad rywfaint o bŵer dros y mater ac mae’n achosi llawer o bryder ac anesmwythyd ymysg y cyhoedd. Ers imi ei ddewis bu diddordeb enfawr ymysg y cyhoedd. Mae llawer o gyrff a llu o unigolion wedi cysylltu â mi—pob un ohonynt yn cefnogi moratoriwm a rheolaeth. Diolchaf iddynt am eu cymorth a’u cyngor.

I will press for Wales to become a GM free zone for a period. There should be no licensing of GM sites in Wales and Welsh produce should be labelled as GM free. There are commercial advantages to this. Public health must be paramount. Governments of all persuasions and all countries have a depressing record on the release of scientific data. Think of the BSE situation and the recent dioxin scare in Belgium. That is why we need a GM free period until we know it is safe. A three-year moratorium would be safe.

Byddaf yn pwyso am wneud Cymru’n ardal rydd oddi wrth addasiadau genetig. Ni ddylid trwyddedu unrhyw safleoedd ar gyfer cnydau wedi eu haddasu’n enetig yng Nghymru a dylid labelu cynnyrch Cymreig i nodi ei fod yn rhydd oddi wrth addasu genetig. Mae manteision masnachol dros wneud hynny. Rhaid i iechyd cyhoeddus fod yn brif ystyriaeth. Mae record ddigalon gan Lywodraethau o bob lliw a llun ym mhob gwlad ynghylch rhyddhau data gwyddonol. Meddyliwch am y sefyllfa BSE a’r bygythiad diocsin yng Ngwlad Belg yn ddiweddar. Dyna pam fod arnom angen cyfnod heb addasiadau genetig nes y gwyddom fod hynny’n ddiogel. Byddai gwaharddiad am dair blynedd yn ddiogel.

There is evidence that the Government is having meetings with commercial organisations involved in biotechnology. Friends of the Earth did an analysis of parliamentary questions to the Department of Trade and Industry and the Ministry of Agriculture. This revealed over 100 recent meetings with companies involved in the development of genetically modified products. That must give some cause for concern. There is no evidence that they are listening similarly to people who are urging a moratorium. Organisations and individuals who are urging delay and caution include Friends of the Earth, the Farmers Union of Wales, the Country Landowners Association, the British Medical Association, Christian Aid, the Royal Society for the Protection of Birds, the Government’s own scientific advisers, English Nature, the Select Committee on Science and Technology, the Prince of Wales and the Welsh Food Alliance.

Mae tystiolaeth bod y Llywodraeth yn cynnal cyfarfodydd gyda chyrff masnachol sy’n gysylltiedig â biotechnoleg. Gwnaed dadansoddiad gan Gyfeillion y Ddaear o gwestiynau seneddol i’r Adran Diwydiant a Masnach a’r Weinyddiaeth Amaeth. Dangosodd hyn fod 100 o gyfarfodydd wedi eu cynnal yn ddiweddar â chwmnïau sy’n ymwneud â datblygu cynnhyrchion a addaswyd yn enetig. Mae hyn yn sicr o beri pryder. Nid oes tystiolaeth eu bod yn gwrando yn yr un modd ar bobl sy’n pwyso am foratoriwm. Ymhlith y cyrff a’r unigolion sy’n pwyso am oedi a gofal y mae: Cyfeillion y Ddaear, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad, Cymdeithas Feddygol Prydain, Cymorth Cristnogol, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ymgynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth ei hun, English Nature, y Pwyllgor Dethol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, Tywysog Cymru a Chynghrair Bwyd Cymru.

The dangers of GM food are twofold. There is potential risk to human health. Experiments are not conclusive as to the safety or otherwise of GM food. There is also a danger to the environment and wildlife habitat. Even farm trials have their risks. Evidence shows cross-pollination from GM crops for up to six miles. The Soil Association has suggested that a safe buffer zone of this amount is necessary wherever there are trials. I believe it would be better if Wales were a GM free zone for three years.

Mae dau fath o berygl ynglŷn â bwyd a addaswyd yn enetig. Mae yna berygl dichonol i iechyd cyhoeddus. Nid yw canlyniadau’r arbrofion yn bendant ynghylch diogelwch neu ddiffyg diogelwch bwyd a addaswyd yn enetig. Mae perygl hefyd i’r amgylchedd a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae peryglon mewn treialon ar ffermydd hyd yn oed. Mae’r dystiolaeth yn dangos croesbeillio o gnydau a addaswyd yn enetig hyd at chwe milltir i ffwrdd. Mae’r Gymdeithas Bridd wedi awgrymu bod angen cylchfa ragod o’r maint hwnnw lle bynnag y ceir treialon. Credaf y byddai’n well pe bai Cymru’n ardal rydd oddi wrth gnydau a addaswyd yn enetig am dair blynedd.

Last week the First Secretary said in a response that there are no licences for GM trials and no applications for them in Wales. Although I have heard rumours that there are applications from the Monmouth area, I do not know how true those rumours are. The First Secretary also said that this is a delegated matter and the Assembly has secondary legislative powers within the EU in relation to the approval and labelling of GM foods. Legal advice suggests that we could do something about this. We should exercise this power in relation to the licensing, commercial exploitation and labelling of GM crops.

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Prif Ysgrifennydd mewn ateb nad oes unrhyw drwyddedau na cheisiadau ar gyfer treialon i gnydau a addaswyd yn enetig yng Nghymru. Er imi glywed sïon bod ceisiadau o ardal Trefynwy, ni wn pa mor wir ydynt. Dywedodd y Prif Ysgrifennydd hefyd fod hyn yn fater a ddirprwywyd a bod gan y Cynulliad bwerau deddfu eilaidd o fewn yr UE mewn perthynas â chymeradwyo a labelu bwyd a addaswyd yn enetig. Mae cyngor cyfreithiol yn awgrymu y gallem wneud rhywbeth yn ei gylch. Dylem arfer y pŵer hwn mewn perthynas â thrwyddedu, tyfu masnachol a labelu cnydau a addaswyd yn enetig.

There is confusion within the Government on this matter. Mr Blair has refused to place a moratorium on the commercial release of GM crops and many of his Ministers are enthusiastic proponents of GM technology. However, the Prime Minister has said that the jury is still out on the safety of GM foods and he is keeping an open mind. Michael Meacher meanwhile, has praised those focusing attention on the risks, whilst Dr Jack Cunningham, who is in charge of co-ordinating GM policy—almost a cause for concern in itself—does not seem to acknowledge that there is any risk. Surely a moratorium is sensible, given the doubts in the Government. We do not want to prevent the exploitation of GM crops and the sale of GM food forever, but we do want to be sure in Wales that we are aware of the health and environmental consequences before we go down that road.

Mae dryswch o fewn y Llywodraeth ar y mater hwn. Mae Mr Blair wedi gwrthod rhoi moratoriwm ar ryddhau cnydau a addaswyd yn enetig yn fasnachol ac mae llawer o’i Weinidogion yn frwd dros dechnoleg addasiadau genetig. Fodd bynnag, fe ddywedodd y Prif Weinidog na phenderfynwyd eto ynghylch diogelwch bwyd a addaswyd yn enetig a bod ei feddwl yn agored. Yn y cyfamser, mae Michael Meacher wedi canmol y rhai sy’n tynnu sylw at y peryglon, a’r Dr Jack Cunningham, sy’n gyfrifol am gydlynu’r polisi ar addasiadau genetig—sydd bron yn achos pryder ynddo’i hun—fe pe bai heb gydnabod bod unrhyw berygl. Onid peth doeth fyddai moratoriwm, yng ngolwg yr amheuon yn y Llywodraeth. Nid ydym am atal datblygu cnydau a addaswyd yn enetig a gwerthu bwyd a addaswyd yn enetig am byth, ond yr ydym am fod yn sicr yng Nghymru ein bod yn gwybod am y canlyniadau i iechyd a’r amgylchedd cyn inni ddilyn y llwybr hwnnw.

I know in advance that there will be all sorts of arguments why we can do nothing. There is, no doubt, such a civil service brief. I hesitate to say that we will probably get edited highlights from it shortly from the Secretary for Agriculture and Rural Development explaining why we are constrained from doing anything in the United Kingdom and Europe. We would do well to ignore that advice and strike an independent, self-confident line of our own. It was Aneurin Bevan who, when confronted with 10 reasons from his own civil servants why he could not pursue a course of action in relation to the national health service said:

Fe wn ymlaen llaw y bydd pob math o ddadleuon pam na allwn wneud dim. Mae’n sicr bod briff o’r fath o’r gwasanaeth sifil. Petrusaf cyn dweud y byddwn yn fwy na thebyg yn clywed rhannau ohono cyn hir gan yr Ysgrifennydd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn egluro pam yr ydym wedi’n rhwystro rhag gwneud dim yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Byddai’n fuddiol inni anwybyddu’r cyngor hwnnw a dilyn ein llwybr anibynnol, hyderus ein hunain. Fe ddywedodd Aneurin Bevan, pan ddangoswyd iddo 10 rheswm gan ei weision sifil ei hun pam na allai ddilyn cwrs gweithredu mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd gwladol:

‘If you are so bloody clever, go away and produce 10 answers to those objections’.

‘Os ydych mor ddiawledig o glyfar, ewch oddi yma a meddyliwch am 10 ateb i’r gwrthwynebiadau hynny’.

I hope Christine Gwyther will be as robust with her civil servants. She must also lobby in Europe for Wales. She needs to go to Europe with Dr Cunningham, I am afraid. France is demanding that the EU should ban all new GM crops. Greece, Italy, Denmark and Luxembourg all support this. I understand that Austria and Luxembourg have imposed a complete ban on GM crops. France and Greece have partial bans. If they can do that, surely we can.

Gobeithiaf y bydd Christine Gwyther mor gadarn gyda’i gweision sifil. Rhaid iddi lobïo yn Ewrop ar ran Cymru. Mae arnaf ofn y dylai fynd i Ewrop gyda’r Dr Cunningham. Mae Ffrainc yn mynnu y dylai’r UE wahardd pob cnwd newydd a addaswyd yn enetig. Mae Gwlad Groeg, yr Eidal, Denmarc a Lwcsembwrg oll yn cefnogi hynny. Deallaf fod Awstria a Lwcsembwrg wedi rhoi gwaharddiad llwyr ar gnydau a addaswyd yn enetig. Mae Ffrainc a Gwlad Groeg wedi gosod gwaharddiadau rhannol. Os gallant hwy wneud hynny, mae’n sicr y gallwn ni.

We must act on scientific evidence and for no other reason. If it is proven that GM food is safe over a period of time, that is different. In the meantime, there is an opportunity for Wales to strike out on our own for a GM free period for three years. We should be declared a GM free zone while trials proceed and have clear labelling on GM products imported into Wales. This will benefit Welsh farmers and Welsh consumers. It will benefit Wales. Following earlier comments about our rugby victory on Saturday, what better time, Christine, to do something bold, distinctive and Welsh?

Rhaid inni weithredu ar sail tystiolaeth wyddonol ac nid am unrhyw reswm arall. Os profir bod bwyd a addaswyd yn enetig yn ddiogel dros gyfnod o amser, mae hynny’n fater gwahanol. Yn y cyfamser, mae cyfle i ni yng Nghymru fentro drosom ein hunain i gael cyfnod o dair blynedd yn rhydd oddi wrth gnydau a addaswyd yn enetig. Dylid datgan ein bod yn ardal rydd rhag addasiadau genetig tra bydd y treialon yn mynd rhagddynt a chael labelu eglur ar gynhyrchion a addaswyd yn enetig a fewnforir i Gymru. Bydd hynny o fudd i ffermwyr Cymru a defnyddwyr Cymru. Bydd er budd Cymru. Gan ddilyn y sylwadau cynharach am ein buddudoliaeth mewn rygbi ddydd Sadwrn, pa adeg well, Christine, i wneud rhywbeth dewr, gwahanol a Chymreig?

We have had fairly negative attitudes on tuition fees so far and on beef on the bone. We have done nothing distinctive, so here is a chance. Christine, you said last week in answering a question about this:

Cawsom agweddau eithaf negyddol ynghylch ffioedd hyfforddi hyd yn hyn ac ar gig eidion ar yr asgwrn. Ni wnaethom ddim sy’n wahanol, felly dyma gyfle. Christine, fe ddywedsoch yr wythnos diwethaf wrth ateb cwestiwn am hyn:

‘The National Assembly is not a toothless monster.’

‘Nid anghenfil di-rym yw’r Cynulliad Cenedlaethol.’

If you refuse to act today, and the Welsh Government refuses to do anything, it will prove that the governing party is not a roaring tiger but more an ornamental hearthrug for the Prime Minister’s personal use. I hope Members will support this motion so that we can move to a moratorium for three years. It would be in the interests of Welsh consumers, Welsh farmers and Wales itself.

Os gwrthodwch weithredu heddiw, ac os bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwneud dim, bydd yn brawf nad teigr rhuadwy mo’r blaid lywodraethol ond ei bod yn debycach i fat addurniadol o flaen y tân at ddefnydd personol y Prif Weinidog. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig hwn fel y gallwn symud at foratoriwm am dair blynedd. Byddai hynny er budd defnyddwyr Cymru, ffermwyr Cymru a Chymru ei hun.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 80

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 80

Diolchaf i Nick am godi’r pwnc pwysig hwn ac am nodi rhai o oblygiadau bwydydd wedi’u haddasu’n enetig. Mae adroddiad gan Gymorth Cristnogol yn sôn am hunanladdiad y byd cyfan wrth ddilyn y llwybr hwnnw; y bygythiad i fywoliaeth miliynau o ffermwyr bychain drwy’r byd; gosod rheolaeth system fwyd y byd yn nwylo ychydig o gwmnïau mawr, a dileu hawl y defnyddiwr i ddewis yr hyn y mae’n ei fwyta.

I thank Nick for raising this important subject and for noting some of the implications of genetically modified foods. A Christian Aid report talks of the whole world committing suicide by following that path; the threat to the livelihood of millions of small farmers throughout the world; placing the management of the food system in the hands of a few large companies, and removing consumers’ right to choose what they eat.

Ddoe, cyhoeddodd Gene Watch ddatganiad yn dweud bod micro-organebau a addaswyd yn enetig eisoes yn llygru ein hafonydd a’n hamgylchedd wrth iddynt gael eu rhyddhau o ffatrïoedd a labordai sy’n cynhyrchu cyffuriau. Heddiw, mae’r Western Mail yn cynnwys erthygl sy’n honni y gallai cnydau wedi’u haddasu’n enetig, pe caniateid hwy, beryglu gwerth tir yng Nghymru.

Yesterday, Gene Watch issued a statement, which stated that genetically modified micro-organisms already pollute our rivers and our environment because they are released from factories and laboratories that manufacture drugs. Today’s Western Mail includes a report that claims that genetically modified crops, if allowed, could endanger the value of land in Wales.

Y mae’n bwysig ein bod ni yn gweithredu, ac yr oeddwn yn falch o glywed Nick yn dweud y dylem ni yng Nhymru weithredu’n annibynnol. Er hynny, pwysleisiaf y dylem gydweithio, a bod gan y Cynulliad gyfraniad i’w wneud yn Ewrop ac yng ngweddill Prydain drwy labelu bwyd, fel dywedodd Nick. Credaf y dylid hefyd labelu bwydlenni ym mwytai Cymru.

Therefore, it is important that we take action, and I was especially pleased to hear Nick say that we should act independently in Wales. However, I emphasise that we should co-operate and that the Assembly has a contribution to make in Europe and in the rest of Britain through food labelling, as Nick said. I believe that menus in Welsh restaurants should also be labelled.

Cytunaf â Nick fod angen cynlluniau cydsyniol i reoli’r cnydau sydd yn cael eu tyfu yng Nghymru a sicrhau moratoriwm—o ddewis, un o bum mlynedd, ond yr wyf yn fodlon derbyn tair blynedd.

Nick is also right to say that we need consensual plans to manage crops that are grown in Wales and to ensure a moratorium—preferably for five years, but I would accept three years.

Dylem ddefnyddio’r Asiantaeth Safonau Bwyd a sefydlir o ganlyniad i’r Mesur safonau bwyd sydd yn mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd. Bydd yr asiantaeth yn atebol i’r Cynulliad yn ogystal â’r Senedd. Y mae’r asiantaeth i fod i ddiogelu’r defnyddiwr rhag peryglon bwyd. Gadewch inni sicrhau bod y farn gyhoeddus gryf yng Nghymru yn cael gwrandawiad.

We should use the Food Standards Agency that will be established by the food standards Bill that is currently being discussed in Westminster. The agency will be accountable to the Assembly as well as to Parliament. It is intended to protect the consumer from food risks. Let us ensure that the strong public opinion in Wales is heard.

Derbyniais gerdyn y bore yma gan berson a oedd yn mynnu ein bod ni, fel ei chynrychiolwyr yn y Cynulliad, yn gweithredu ar frys i wahardd cnydau a bwydydd a addaswyd yn enetig yng Nghymru.

This morning I received a card from someone who insists that we, her representatives, in the Assembly, should act immediately to ban genetically modified crops and food in Wales.

Mick Bates spoken in English p. 81

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 81

The motion presents a great opportunity to promote Welsh food. It could show Wales is different and lead to a large market for Welsh produce. As Nick rightly said, the motion gives the Assembly an opportunity to show that it has an identity and to promote that Welsh identity. Being GM free as well as extensively organic would be one of Welsh food’s best selling points. Agriculture and horticulture are crying out for an image that will sell more produce. The motion will help to provide that.

Mae’r cynnig yn rhoi cyfle ardderchog i hybu bwyd Cymru. Fe allai ddangos bod Cymru’n wahanol ac arwain at greu marchnad fawr i gynnyrch Cymru. Yr oedd Nick yn gywir wrth ddweud bod y cynnig yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddangos bod ganddo hunaniaeth ac i hybu’r hunaniaeth Gymreig honno. Bod yn rhydd oddi wrth addasiadau genetig yn ogystal â bod yn organig i raddau helaeth fyddai un o’r pwyntiau gwerthu gorau i fwyd Cymru. Mae gwir angen delwedd ar amaethyddiaeth a garddwriaeth a fyddai’n gwerthu rhagor o gynnyrch. Bydd y cynnig yn helpu i roi hynny.

The Food Standards Agency will have power, and will have to assess risks and make recommendations that we can accept or reject.

Bydd pŵer gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a bydd rhaid iddi asesu risgiau a chyflwyno argymhellion y gallwn eu derbyn neu eu gwrthod.

The Liberal Democrats support the motion. We thank Nick for proposing it and hope that it can make our food industry more prosperous.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r cynnig. Diolchwn i Nick am ei gynnig a gobeithiwn y gall arwain at fwy o ffyniant yn ein diwydiant bwyd.

Glyn Davies spoken in English p. 81

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 81

As a grower of crops, albeit not genetically modified crops, I am very interested in this subject. I agree with everything that Nick has said. It is unrealistic to adopt a position of blanket opposition to GM foods. It is too late to do that because the genie is out of the bottle. However, I agree with Mick Bates that it would benefit Wales if the motion was accepted and I shall support it.

Fel un sy’n tyfu cnydau, er nad rhai a addaswyd yn enetig mohonynt, yr wyf yn ymddiddori’n fawr yn y pwnc hwn. Cytunaf â phopeth a ddywedodd Nick. Nid yw’n ymarferol ymgymryd â safbwynt o wrthod popeth sy’n ymwneud â bwydydd a addaswyd yn enetig. Mae’n rhy hwyr i hynny oherwydd mae’r ysbryd wedi dianc o’r botel. Fodd bynnag, fe gytunaf â Mick Bates y byddai er budd Cymru pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn a byddaf yn ei gefnogi.

We must exercise extreme caution and take maximum safety precautions as we proceed. If we do not move forward, the world will. It is irresponsible to allow the commercial release of crops until the relevant experiments have been completed. That has not yet happened. It is cavalier of the Government to ignore scientific advice from organisations such as English Nature. I do not want to make a partisan, political point, but the drive towards GM crops has as much to do with the Prime Minister’s relationship with the President of the United States as with the interests of the British people.

Rhaid inni fod yn eithriadol o ofalus a chymryd y rhagofalon diogelwch mwyaf llym wrth fynd ymlaen. Os na symudwn ni ymlaen, fe wna’r byd. Anghyfrifol yw caniatáu rhyddhau cnydau’n fasnachol cyn cwblhau’r arbrofion perthnasol. Ni ddigwyddodd hynny eto. Mae’n agwedd ddihidio ar ran y Llywodraeth i anwybyddu cyngor gwyddonol gan gyrff fel English Nature. Nid wyf am wneud pwynt gwleidyddol, pleidiol, ond mae’r ymwthiad at gnydau a addaswyd yn enetig yn ymwneud cymaint â pherthynas y Prif Weinidog ag Arlywydd yr Unol Daleithiau ag ydyw â buddiannau pobl Prydain.

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 82

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 82

Before I reply to the short debate, I echo Jane Hutt’s assertion that we had to hold the debate on social exclusion today. Today was important, and I thank those Members who did not vote against holding the debate. It was very grown up of them.

Cyn imi ymateb i’r ddadl fer, ategaf haeriad Jane Hutt bod rhaid inni gynnal y ddadl ar ddieithrwch cymdeithasol heddiw. Yr oedd heddiw’n bwysig, a diolchaf i’r Aelodau hynny nad oeddent wedi pleidleisio yn erbyn cynnal y ddadl. Yr oedd yn aeddfed iawn ar eu rhan.

David Davies spoken in English p. 82

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 82

Stick to the topic of the debate.

Cadwch at bwnc y ddadl.

Christine Gwyther spoken in English p. 82

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 82

If David Davies will wait a little—

Os bydd David Davies gystal ag aros ychydig—

David Davies spoken in English p. 82

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 82

Point of order. Standing Order No. 7.8 (iii) provides that a speaker who does not remain within the scope of the debate should be called to order. Christine Gwyther’s comments are outside the scope of the debate and I ask the Presiding Officer to call her to order.

Mater o drefn. Mae Rheol Sefydlog Rhif 7.8(iii) yn datgan y dylai siaradwr nad yw’n cadw o fewn cwmpas y ddadl gael ei alw i drefn. Mae sylwadau Christine Gwyther y tu allan i gwmpas y ddadl ac yr wyf yn gofyn i’r Llywydd ei galw i drefn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 82

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 82

David Davies, if I had called you to order during an earlier intervention, that would also have been in order.

David Davies, pe bawn i wedi’ch galw i drefn yn ystod ymyriad cynharach, fe fyddai hynny hefyd mewn trefn.

Christine Gwyther spoken in English p. 82

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 82

I thank you, Llywydd, but I tell David that I was in order because my comments were relevant to the short debate. A good diet and healthy food are fundamental rights in Wales and throughout the world. The GM debate has polarised views on what constitutes good, healthy food and I am glad that Nick Bourne raised the matter today. It is appropriate that we debate issues that are relevant to GM organisms and crops. There is justified public concern and I welcome the opportunity to respond to the motion and deal with some of the anxieties that have been expressed.

Diolch, Llywydd, ond fe ddywedaf wrth David fy mod mewn trefn am fod fy sylwadau’n berthnasol i’r ddadl fer. Mae ymborth da a bwyd iach yn hawliau sylfaenol yng Nghymru a thrwy’r byd. Mae’r ddadl ar addasiadau genetig wedi pegynu barn ar yr hyn sy’n gwneud bwyd da a iachus ac yr wyf yn falch bod Nick Bourne wedi codi’r mater heddiw. Mae’n briodol inni drafod materion sy’n berthnasol i organebau a chnydau a addaswyd yn enetig. Mae pryder dealladwy ymysg y cyhoedd a chroesawaf y cyfle i ymateb i’r cynnig ac i ymdrin â rhai o’r pryderon a fynegwyd.

Nick’s motion focuses on controlling GMOs and the commercial release of GM crops. In the past few weeks, Members have expressed their concerns about GMOs and the regulatory regime in questions to the First Secretary and to me.

Mae cynnig Nick yn canolbwyntio ar reoli organebau a addaswyd yn enetig a rhyddhau cnydau a addaswyd yn enetig yn fasnachol. Yn yr wythnosau diwethaf hyn, mae Aelodau wedi mynegi eu pryderon ynghylch organebau a addaswyd yn enetig a’r gyfundrefn reoli mewn cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd ac i mi.

Nick’s comment that the United Kingdom Government has had more than 100 meetings with firms about GM crops should not surprise. Such firms would have to submit to scrutiny, including meetings, if they wished even to discuss trialling GM crops. It might help the Assembly if I briefly considered the regulatory framework in three broad categories.

Ni ddylai sylw Nick bod Llywodaeth y Deyrnas Unedig wedi cynnal mwy na 100 o gyfarfodydd gyda chwmnïau ynghylch cnydau a addaswyd yn enetig beri syndod. Byddai’n rhaid i gwmnïau o’r fath gymryd eu harchwilio, gan gynnwys drwy gyfarfodydd, os oeddent yn dymuno hyd yn oed trafod treialon i gnydau a addaswyd yn enetig. Efallai y byddai o gymorth i’r Cynulliad pe bawn yn rhoi ystyriaeth fer i’r fframwaith rheoli mewn tri chategori bras.

The first tier applies to the development of a new GM crop and begins in the laboratory with the transfer of individual genes. Any laboratory that is involved in such work in the United Kingdom must be registered with the Health and Safety Executive. That means notifying the HSE of any work to be carried out—perhaps in one of the meetings to which Nick Bourne referred. Health and Safety Executive specialist inspectors regularly inspect laboratories that undertake such work to ensure compliance. The European regulations that control that work are being updated by drawing on the substantial experience that already exists.

Mae’r haen gyntaf yn ymwneud â datblygu cnwd newydd a addaswyd yn enetig ac mae’n dechrau yn y labordy drwy drosglwyddo genynnau unigol. Rhaid i unrhyw labordy sy’n ymwneud â gwaith o’r fath yn y Deyrnas Unedig gael ei gofrestru gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae hynny’n golygu hysbysu’r awdurdod am unrhyw waith sydd i’w gyflawni—efallai yn un o’r cyfarfodydd y cyfeiriodd Nick Bourne atynt. Bydd arolygwyr arbenigol o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal archwiliadau rheolaidd mewn labordai sy’n ymgymryd â gwaith o’r fath er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Mae’r rheoliadau Ewropeaidd sy’n rheoli’r gwaith hwnnw yn cael eu diweddaru drwy ddefnyddio’r profiad sylweddol a gafwyd eisoes.

Public concern is understandably greater when GM plants move out of the science laboratory and into the natural environment. Release for experimental purposes such as field trials requires the UK Government’s consent. The second tier of the regulatory framework requires applicants to submit a detailed dossier of supporting information on the nature of the modification to the plant, the plans for the field trial and how it will be monitored. The application must also be supported by a risk assessment that tackles potential harm, how it can be prevented or at least pose minimum risk. The application is initially reviewed by scientists in the biotechnology unit of the Department of the Environment, Transport and the Regions and the Advisory Committee on Releases to the Environment, which is an independent statutory body. It advises on each application. That advice will be available to the Assembly.

Mae’n ddealladwy fod y pryder ymysg y cyhoedd yn fwy pan fydd planhigion a addaswyd yn enetig yn dod o’r labordy gwyddonol ac i’r amgylchedd naturiol. Mae angen caniatâd gan Lywodraeth y DU i ryddhau i ddibenion arbrofol fel y treialon maes. Mae ail haen y fframwaith rheoli yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno ffeil o wybodaeth ategol fanwl ar natur yr addasiad i’r planhigyn, y cynlluniau ar gyfer y treial maes a sut y caiff ei fonitro. Rhaid i’r cais gael ei gefnogi ag asesiad risg sy’n trafod y difrod dichonol, sut y gellir ei atal neu o leiaf sicrhau ei fod yn peri’r risg lleiaf posibl. Bydd y cais yn cael ei adolygu’n gyntaf gan wyddonwyr yn uned biotechnoleg Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau a’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd, sydd yn gorff statudol annibynnol. Bydd yn rhoi cyngor ar bob cais. Bydd y cyngor hwnnw ar gael i’r Cynulliad.

The third main tier of the regulatory framework relates to the marketing and commercial release of GM crops, which requires EU agreement. Any person or company wishing to market or release GM crops on a commercial scale must submit an application with a detailed risk assessment to a member state, in this case, the UK.

Mae trydedd brif haen y fframwaith rheoli yn ymwneud â marchnata a rhyddhau cnydau a addaswyd yn enetig yn fasnachol, a rhaid cael cytundeb yr UE i hynny. Bydd unrhyw unigolyn neu gwmni sy’n dymuno marchnata neu ryddhau cnydau a addaswyd yn enetig ar raddfa fasnachol yn gorfod cyflwyno cais gydag asesiad risg manwl i aelod wladwriaeth, y DU yn yr achos hwn.

The relevant member state will conduct a thorough review, and if the crop poses negligible risk it is forwarded to the European Commission with a favourable opinion. That opinion is then forwarded to all member states for comment, with a final decision reached, if necessary, by qualified majority vote. Marketing consent is issued by the lead member state and is valid throughout the EU.

Bydd yr aelod wladwriaeth berthnasol yn cynnal adolygiad trwyadl, ac os yw’r cnwd yn golygu risg anwybyddadwy fe’i trosglwyddir i’r Comisiwn Ewropeaidd gan roi barn ffafriol. Anfonir y farn honno wedyn at yr holl aelod wladwriaethau i dderbyn sylw, a deuir i benderfyniad terfynol, os bydd angen, drwy bleidlais amodol gan fwyafrif. Rhoddir caniatâd i farchnata gan yr aelod wladwriaeth arweiniol a bydd yn ddilys drwy’r UE.

Within the UK, applications relating to the marketing or commercial release of GM crops, whether or not the UK is a lead member state, is reviewed by DETR scientists and forwarded to other relevant Government departments, conservation bodies and ACRE. If there is little or no risk, the UK will forward a favourable opinion to the European Commission.

O fewn y DU, bydd ceisiadau sy’n ymwneud â marchnata neu ryddhau cnydau a addaswyd yn enetig yn fasnachol, pa un a yw’r DU yn aelod wladwriaeth arweiniol ai peidio, yn cael eu hadolygu gan wyddonwyr y DETR a’u hanfon i adrannau perthnasol eraill yn y Llywodraeth, cyrff cadwraeth ac ACRE. Os nad oes ond ychydig neu ddim risg, bydd y DU yn anfon barn ffafriol i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Releases of GMOs are governed by the Environmental Protection Act 1990 and EU directives. The Secretary of State’s powers under this Act will transfer to the Assembly and must be exercised within the constraints of international obligations and with UK Ministers. The Assembly’s powers are not unfettered, and it would not be possible to impose a general moratorium on GM crops in Wales. So, it would be Welsh and bold but I am afraid it would not be legal.

Mae gollyngiadau o organebau a addaswyd yn enetig wedi eu rheoli gan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 a chyfarwyddebau’r UE. Bydd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf hon yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad a rhaid eu harfer o fewn cyfyngiadau rhwymedigaethau rhyngwladol a chyda Gweinidogion y DU. Nid yw pwerau’r Cynulliad yn ddilyffethair, ac ni fyddai modd gorfodi moratoriwm cyffredinol ar gnydau a addaswyd yn enetig yng Nghymru. Felly, fe fyddai’n Gymreig ac yn ddewr ond mae arnaf ofn na fyddai’n gyfreithlon.

We need control mechanisms to be rigorous and effective. They should also be transparent and meet public concerns. I hope Members will welcome the new measures announced by the UK Government and the Supply Chain Initiative on Modified Agricultural Crops, SCIMAC, on 21 May. The announcement followed a review of the regulatory framework, and reports from the UK Government’s Chief Medical Officer and Chief Scientific Officer together with public consultation.

Mae arnom angen mecanweithiau rheoli sydd yn gadarn ac yn effeithiol. Dylent hefyd fod yn dryloyw ac yn ateb pryderon y cyhoedd. Gobeithio y bydd yr Aelodau’n croesawu’r mesurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a’r Cynllun Cadwyn Gyflenwi ar Gnydau Amaethyddol Addasedig (SCIMAC) ar 21 Mai. Yr oedd y cyhoeddiad yn dilyn adolygiad o’r fframwaith rheoli, ac adroddiadau oddi wrth Brif Swyddog Meddygol a Phrif Swyddog Gwyddonol Llywodraeth y DU, ac ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 85

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 85

Nick and I put forward a series of proposals on how the Assembly could approach this issue, and you have dealt with having a moratorium. Will you now address the issue of labelling consent schemes using the Food Standards Agency and other powers, in co-operation with what happens in Europe, to do something about GM foods in Wales?

Rhoddwyd cyfres o gynigion gerbron gan Nick a minnau ynghylch y modd y gallai’r Cynulliad ymdrin â’r mater hwn, ac yr ydych wedi ymateb i’r pwynt ar y moratoriwm. A fyddech cystal yn awr ag ymateb i fater labelu cynlluniau cydsyniol gan ddefnyddio’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’r pwerau eraill, mewn cydweithrediad â’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop, i wneud rhywbeth ynghylch bwydydd a addaswyd yn enetig yng Nghymru?

Christine Gwyther spoken in English p. 85

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 85

I will address your concerns in a moment.

Byddaf yn ateb eich pryderon mewn eiliad.

The new measures’ objective was to take a broader view of the technology and make regulation more transparent. I am sure we would all welcome that.

Amcan y mesurau newydd oedd cymryd golwg ehangach ar y dechnoleg a gwneud rheoleiddio’n fwy tryloyw. Yr wyf yn sicr y byddem oll yn croesawu hynny.

Decisions were taken to establish two commissions: the Human Genetics Commission, to advise on applications of genetic technologies and their impact on humans; and the Agricultural and Environment Biotechnology Commission, to advise on all aspects of biotechnology except food, which will be within the remit of the Food Standards Agency. I hope that answers Rhodri’s question.

Penderfynwyd sefydlu dau gomisiwn: y Comisiwn Geneteg Ddynol, i roi cyngor ar gymhwyso technolegau genetig a’u heffaith ar fodau dynol; a’r Comisiwn Biotechnoleg Amaethyddol ac Amgylcheddol, i roi cyngor ar bob agwedd ar fiotechnoleg heblaw am fwyd, a fydd yn aros o fewn cylch gorchwyl yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Gobeithiaf fod hynny’n ateb cwestiwn Rhodri.

These two new advisory commissions will have wide-ranging remits, including strategic analysis of biotech developments. They will address broader issues such as ethical considerations on the acceptability of genetic modification, identifying gaps in the regulatory and advisory framework and building a wider picture from the lessons learnt from individual regulatory areas. They will complement the existing system of scientific committees, which will continue to assess new biotechnology products on a case-by-case basis, in line with international legislation and best practice.

Bydd cylchoedd gorchwyl eang gan y ddau gomisiwn ymgynghorol newydd hyn, yn cynnwys dadansoddi strategol ar ddatblygiadau mewn biotechnoleg. Byddant yn ymdrin â materion ehangach fel ystyriaethau moesegol ar dderbynioldeb addasiadau genetig, gan nodi bylchau yn y fframwaith rheoli ac ymgynghori a chreu darlun ehangach oddi wrth y gwersi a ddysgir mewn meysydd rheoleiddio unigol. Byddant yn ategu’r system bresennol o bwyllgorau gwyddonol, a fydd yn parhau i asesu cynhyrchion biotechnoleg newydd ar sail achosion unigol, yn unol â deddfwriaeth ryngwladol ac ymarfer gorau.

Mick Bates spoken in English p. 86

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 86

I just want to draw your attention to the fact that Jon Owen Jones, in answering a question in another place on 11 February, said that the Assembly would have powers over GM food.

Nid wyf ond am dynnu’ch sylw at y ffaith bod Jon Owen Jones, wrth ateb cwestiwn mewn lle arall ar 11 Chwefror, wedi dweud y byddai gan y Cynulliad bwerau dros fwyd a addaswyd yn enetig.

Christine Gwyther spoken in English p. 86

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 86

The new bodies I mentioned are being established to complement the role of the specialist committees like SCIMAC. They will not duplicate the functions of approving individual applications but their more strategic roles will include advising on a regulatory framework, which is the bigger picture. That framework includes several important points: tighter risk assessment on all GMO releases; a maximum time limit of 10 years on all consents to market GMOs; more comprehensive labelling, which Jon Owen Jones referred to—I will have to discuss that with him—and improved monitoring of releases, which again, could have been something he referred to. That approach can meet the needs of the people of Wales, through the controls we impose on the development, marketing and commercial release of GMOs. On the safety of GM foods, before they are approved for sale, they are assessed in accordance with EC novel food regulations. The GM foodstuff is compared with the food it replaced. That process is called substantial equivalence, and is endorsed by the World Health Organisation. Labelling of such food is an EU requirement.

Mae’r cyrff newydd a grybwyllais yn cael eu sefydlu i ategu rôl y pwyllgorau arbenigol fel SCIMAC. Ni fyddant yn dyblygu’r swyddogaeth o gymeradwyo ceisiadau unigol ond bydd y rolau mwy strategol sydd ganddynt yn cynnwys cynghori ar fframwaith rheoli, sef y darlun ehangach. Mae’r fframwaith hwnnw’n cynnwys sawl pwynt pwysig: asesiad risg llymach ar bob organeb a addaswyd yn enetig a gaiff ei rhyddhau; terfyn amser uchaf o 10 mlynedd ar bob caniatâd i farchnata organebau a addaswyd yn enetig; labelu mwy cynhwysfawr, y cyfeiriodd Jon Owen Jones ato—bydd raid imi drafod hynny gydag ef—a gwell monitro ar ryddhau a allai, unwaith eto, fod yn rhywbeth y cyfeiriodd ato. Mae’r dull gweithredu hwnnw’n golygu ateb anghenion pobl Cymru, drwy’r rheoliadau a osodwn ar ddatblygu, marchnata a rhyddhau organebau a addaswyd yn enetig yn fasnachol. Ynglŷn â diogelwch bwydydd a addaswyd yn enetig, cyn eu cymeradwyo i’w gwerthu, fe’u hasesir yn unol â rheoliadau bwydydd newydd y CE. Cymharir y bwyd a addaswyd yn enetig â’r bwyd a ddisodlodd. Gelwir y broses honno’n gyfwerthedd sylweddol, ac fe’i cymeradwyir gan Fudiad Iechyd y Byd. Mae labelu bwyd o’r fath yn ofyniad gan yr UE.

I talked about regulations, and much of the focus of public concern at the moment is based on the perceived risks of the unknown, and genetic modification is at the forefront of scientific development.

Yr wyf wedi sôn am reoliadau, ac mae llawer o bryder y cyhoedd ar hyn o bryd yn seiliedig ar y risgiau a welir mewn pethau dieithr, ac mae addasu genetig yn rheng flaen datblygu gwyddonol.

Alun Pugh spoken in English p. 87

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 87

You outlined in detail the strict environmental controls and labelling that I am sure everyone in this Chamber agrees, are necessary for GM products.

Yr ydych wedi amlinellu’n fanwl y rheolyddion amgylcheddol caeth a’r labelu sydd yn angenrheidiol, fel yr wyf yn sicr y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno, ar gyfer cynhyrchion a addaswyd yn enetig.

Do you accept that we must not turn our backs on what will be one of the key sciences of the twenty-first century? At the moment, scientists have just begun to understand the chemistry of DNA and the modification of DNA codes. If we reject this technology out of hand, we will send a message to the entire world that Wales is governed by prejudice because it does not allow an objective analysis of evidence. ‘GM free’ as a label on food is fine, but ‘no science please’ as a label on a nation is not.

A ydych yn derbyn na ddylem droi’n cefnau ar yr hyn a fydd yn un o wyddorau allweddol yr unfed ganrif ar hugain? Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr newydd ddechrau deall cemeg DNA a’r addasu ar godau DNA. Os ymwrthodwn â’r dechnoleg hon yn ddifeddwl, byddwn yn anfon neges i bedwar ban byd bod Cymru’n cael ei rheoli gan ragfarn am nad yw’n caniatáu dadansoddi tystiolaeth yn wrthrychol. Mae label sy’n dweud bod bwyd heb ei addasu’n enetig yn iawn, ond nid yw label sy’n dweud ‘dim gwyddoniaeth os gwelwch yn dda’ ar genedl yn dderbyniol.

Christine Gwyther spoken in English p. 87

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 87

Glyn Davies made that point and he was right to say that we must wait for the completion of scientific trials before we start drawing conclusions on GM food.

Fe wnaed y pwynt hwnnw gan Glyn Davies ac yr oedd yn iawn wrth ddweud bod rhaid inni ddisgwyl cwblhau’r profion gwyddonol cyn dechrau dod i gasgliadau ar fwydydd a addaswyd yn enetig.

I hope my comments were helpful. As we maximise the benefits of this new technology, it is vital that we have systems in place to ensure that we minimise risk to health. We must continue to scrutinise our processes. The closer the examination, the better. I understand concerns about GM foods, which is why I am grateful that Nick raised the issue.

Gobeithiaf fod fy sylwadau o gymorth. Wrth inni amlhau manteision y dechnoleg newydd, mae’n hanfodol bod gennym systemau i sicrhau’r risg lleiaf posibl i iechyd. Rhaid inni barhau i archwilio’n prosesau. Gorau po fanylaf fydd yr archwilio. Yr wyf yn deall y pryderon ynghylch bwydydd a addaswyd yn enetig, a dyna pam yr wyf yn ddiolchgar bod Nick wedi codi’r mater.

However, when we vote on this motion, I will have to abstain because the motion was unclear as to how far-reaching Wales’ influence should be—UK-wide, Europe, infinity and beyond? It was hard for me to know. I regret that I did not have the opportunity to table an amendment. I do not want my abstention to be misconstrued as lack of interest: this is a live issue, especially in my new role as sustainable development woman. I want to hear more about this from all parties, as it concerns every person in this Chamber. We need to keep talking.

Fodd bynnag, pan fyddwn yn pleidleisio ar y cynnig hwn, bydd raid i mi ymatal gan nad oedd y cynnig yn eglur ynghylch pa mor eang y dylai dylanwad Cymru fod—drwy’r DU, Ewrop, annherfynoldeb a’r tu hwnt? Yr oedd yn anodd imi wybod. Yr oedd yn ofid imi nad oedd gennyf gyfle i gyflwyno gwelliant. Nid wyf am weld camddehongli’r ffaith fy mod wedi ymatal fel diffyg diddordeb: mae hwn yn fater byw, yn enwedig yn fy rôl newydd fel y fenyw datblygu cynaliadwy. Yr wyf am glywed rhagor am hyn gan yr holl bleidiau, am ei bod yn berthnasol i bawb yn y Siambr hon. Rhaid inni barhau i drafod.

Cynnig Nick Bourne t. 88

Motion Nick Bourne p. 88

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 88

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 88

I think the motion is carried.

Credaf fod y cynnig wedi ei dderbyn.

Nick Bourne spoken in English p. 88

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 88

I ask for a recorded vote.

Yr wyf yn gofyn am bleidlais wedi ei chofnodi.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 88

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 88

I have a request for a recorded vote. In view of the technical difficulties referred to earlier, this vote will be undertaken by roll-call.

Mae gennyf gais am bleidlais wedi ei chofnodi. Yng ngolwg y trafferthion technegol y cyfeiriwyd atynt yn gynharach, fe gyflawnir y bleidlais hon drwy alw’r rhestr.

Cynnig Nick Bourne t. 89

Motion Nick Bourne p. 89

DerbyniwydAdopted O blaidFor 31 YmatalAbstain 26 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (31)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (26)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Nick Bourne spoken in English p. 89

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 89

Point of order. May I now confirm that that is the policy of the Assembly and ask Christine Gwyther to bring forward a bold, distinctive, Welsh and legal policy in line with it?

Mater o drefn. A allaf gadarnhau’n awr mai hynny yw polisi’r Cynulliad a gofyn i Christine Gwyther gyflwyno polisi dewr, gwahanol, Cymreig yn unol â hynny?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 89

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 89

That is not a point of order but since you have made a speech, I am going to give the First Secretary an opportunity to respond.

Nid mater o drefn yw hynny ond gan eich bod wedi gwneud araith, yr wyf am roi cyfle i’r Prif Ysgrifennydd ymateb.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 89

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 89

I am not sure whether there is a need to respond. We have a resolution that is of dubious meaning, as was indicated earlier. We are not afraid of proper debate and the Assembly’s opinion being taken into account. We understand the concerns about GM food. Christine Gwyther indicated that. Concerns about GM food will be taken into account when we deal with issues that are within the ambit of the Assembly’s authority.

Nid wyf yn sicr a oes angen ymateb. Mae gennym benderfyniad ac iddo ystyr amheus, fel y nodwyd yn gynharach. Nid oes arnom ofn dadlau priodol a chymryd i ystyriaeth farn y Cynulliad. Yr ydym yn deall y pryderon ynghylch bwyd a addaswyd yn enetig. Fe nododd Christine Gwyther hynny. Cymerir i ystyriaeth y pryderon am fwyd a addaswyd yn enetig pan drafodwn y materion sydd o fewn cwmpas awdurdod y Cynulliad.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 90

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 90

Our short debates are nothing if not exciting.

yn Saesneg Mae’r dadleuon byr yn bethau cyffrous tu hwnt.

Dyna ddiwedd y sesiwn. Diolch yn fawr.

in Welsh That is the end of the session. Thank you.

Daeth y sesiwn i ben am 5.41 p.m.

The session ended at 5.41 p.m.