English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 11 Mehefin 2002

Tuesday 11 June 2002

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 14:43

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Datganiad gan y Dirprwy LywyddStatement by the Deputy Presiding Officer
  2. 3Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  3. 4Datganiad BusnesBusiness Statement
  4. 4Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders 1 bleidlais1 vote
  5. 6Diwygio Rheolau SefydlogRevisions to Standing Orders 1 bleidlais1 vote
  6. 9Cymeradwyo Newid i Lwfans Aelodau er mwyn Gwella Diogelwch mewn Swyddfeydd RhanbartholApproval of Changes to Members’ Allowances to Increase Security in Constituency Offices 1 bleidlais1 vote
  7. 10Cwestiynau i Brif Weinidog CymruQuestions to the First Minister
    1. 10Cynnal Digwyddiadau RhyngwladolHosting International Events
    2. 14Datganoli i Ranbarthau LloegrDevolution to the English Regions
    3. 17Gosod Polisïau Trawsbynciol yn y Prif FfrwdMainstreaming Cross-cutting Policies
    4. 19Defnydd o Bwerau Harri VIIIUse of Henry VIII Powers
    5. 19Gwasanaethau Swyddfeydd Post yng NghymruPost Office Services in Wales
    6. 21Rhaglen Amcan 1Objective 1 Programme
    7. 22Newidiadau i Gyfrifoldebau GweinidogionChanges to Ministers’ Responsibilities
    8. 23Gwella Cysylltiadau â BusnesImproving Links with Business
    9. 24Polisïau IechydHealth Policies

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion2100DerbyniwydAdopted
Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders
Cynnig cyfansawdd NDM1073Composite motion NDM10732500DerbyniwydAdopted
Diwygio Rheolau SefydlogRevisions to Standing Orders
CynnigMotion2600DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Newid i Lwfans Aelodau er mwyn Gwella Diogelwch mewn Swyddfeydd RhanbartholApproval of Changes to Members’ Allowances to Increase Security in Constituency Offices
Cynnig NDM1065Motion NDM10653200DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Deputy Presiding Officer in the Chair.

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Statement by the Deputy Presiding Officer

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 3

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

The Presiding Officer is attending the Thanksgiving service at Bangor Cathedral today as part of the Queen’s Golden Jubilee celebrations. Thursday’s Plenary session will commence at 1.15 p.m. and a briefing on the Queen’s visit to the Assembly that day will be e-mailed to Members tomorrow morning.

Mae’r Llywydd yn mynychu’r gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Aur y Frenhines. Bydd Cyfarfod Llawn dydd Iau’n dechrau am 1.15 p.m. ac e-bostir manylion ymweliad y Frenhines â’r Cynulliad y diwrnod hwnnw i’r Aelodau fore Mercher.

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 3

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 3

I propose that

Cynigiaf fod

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business (continued) spoken in English p. 3

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 3

The First Minister is currently travelling from Cardiff International Airport, but should arrive in time for the last item of business. I informed the Business Committee of my intention to propose this procedural motion this morning.

Mae’r Prif Weinidog yn teithio o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar hyn o bryd, ond dylai gyrraedd mewn pryd ar gyfer yr eitem olaf o fusnes. Hysbysais y Pwyllgor Busnes am fy mwriad i gynnig y cynnig trefniadol hwn y bore yma.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 3

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

I call for a vote on the procedural motion, and remind Members that this motion will be carried if 10 Members do not vote against it.

Galwaf am bleidlais ar y cynnig trefniadol, ac atgoffaf yr Aelodau y bydd y cynnig hwn yn cael ei dderbyn oni phleidleisia 10 Aelod yn ei erbyn.

Cynnig trefniadol Carwyn Jones t. 3

Procedural motion Carwyn Jones p. 3

DerbyniwydAdopted O blaidFor 21 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (21)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Delyth Evans
  • Janice Gregory
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Datganiad Busnes

Business Statement

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 4

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 4

There are no changes to this week’s business as shown on the Chamberweb.

Nid oes dim newidiadau i fusnes yr wythnos hon fel y’i dangosir ar we’r Siambr.

This morning, the Business Committee discussed the draft business statement for the next three weeks, as shown on the Chamberweb under supporting documents. The Deputy Presiding Officer determined that, under Standing Order No. 22.5, the following items of legislation need not be referred to Subject Committees for extended consideration: the Non-Domestic Rating (Alteration of Lists and Appeals) (Amendments) (Wales) Regulations 2002; the Wildlife and Countryside (Sites of Special Scientific Interest, Appeals) (Wales) Regulations 2002; and the Plant Health (Amendment) (Wales) Order 2002.

Y bore yma, trafododd y Pwyllgor Busnes y datganiad busnes drafft am y tair wythnos nesaf, fel a ddangosir ar we’r Siambr dan y dogfennau ategol. Penderfynodd y Dirprwy Lywydd, dan Reol Sefydlog Rhif 22.5, nad oedd angen cyfeirio’r eitemau deddfwriaeth canlynol i Bwyllgorau Pwnc ar gyfer ystyriaeth estynedig: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002; Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002; a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002.

Derbyniwyd y datganiad busnes.

Business statement adopted.

Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo Gorchmynion

Composite Motion: Approval of Orders

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 4

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

Under Standing Order No. 22.25, this motion is not subject to debate.

Dan Reol Sefydlog Rhif 22.25, nid yw’r cynnig hwn yn destun dadl.

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 4

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 4

I propose that

Cynigiaf fod

DerbyniwydAdopted O blaidFor 25 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (25)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Delyth Evans
  • Janice Gregory
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Diwygio Rheolau Sefydlog

Revisions to Standing Orders

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 6

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 6

I propose that

Cynigiaf fod

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business (continued) spoken in English p. 6

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 6

After Standing Order No. 1.10 add:

Ar ôl Rheol Sefydlog Rhif 1.10 ychwanegu:

1.10A Any Member, other than a member of the Assembly Cabinet, may, at the request of the Presiding Officer or Deputy, when either is occupying the Chair, act as temporary chair of a Plenary meeting of the Assembly for not more than a quarter of an hour on any one occasion, but a temporary chair shall not exercise any of the powers of the Presiding Officer or Deputy except those necessary to maintain order in Plenary meetings.

1.10A Gall unrhyw Aelod, ac eithrio aelod o Gabinet y Cynulliad, ar gais y Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd pan fo’r naill neu’r llall yn y Gadair, ymddwyn fel cadeirydd dros dro mewn Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad am ddim mwy na chwarter awr ar unrhyw un achlysur, ond ni fydd cadeirydd dros dro yn arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Llywydd neu’r Dirprwy ac eithrio’r rheini sy’n angenrheidiol er mwyn cadw trefn yn y Cyfarfodydd Llawn.

Delete Standing Order No. 1.11 and replace with:

Dileu Rheol Sefydlog Rhif 1.11 a rhoi:

1.11 If both the Presiding Officer and Deputy are temporarily unable to serve (other than under the provisions of Standing Order No. 1.10A), the Clerk shall take the Chair solely in order to arrange for the election of a Member to fulfil the Presiding Officer’s responsibilities until either the Presiding Officer or Deputy becomes available.

1.11 Os na fydd y Llywydd na’r Dirprwy Lywydd ar gael am y tro i wasanaethu (ac eithrio o dan ddarpariaethau Rheol Sefydlog Rhif 1.10A), y Clerc fydd yn cymryd y Gadair a hynny dim ond er mwyn trefnu bod Aelod yn cael ei ethol i gyflawni dyletswyddau’r Llywydd nes bod un ai’r Llywydd neu’r Dirprwy ar gael.

Election of Committees

Ethol Pwyllgorau

After Standing Order No. 8.4 add:

Ar ôl Rheol Sefydlog Rhif 8.4 ychwanegu:

8.4A Where more than one motion under paragraph 8.4 is due to be considered at any sitting, the Presiding Officer may seek the Assembly’s permission to vote on all the motions together, and, if permission is granted, paragraphs 8.5 and 8.6 shall not apply and the motions shall be voted on together immediately without debate. The Assembly’s permission will be deemed not to have been granted if any Member signifies objection.

8.4A Pan fo mwy nag un cynnig o dan baragraff 8.4 i’w hystyried mewn unrhyw gyfarfod, gall y Llywydd ofyn am ganiatâd y Cynulliad i bleidleisio ar y cynigion i gyd gyda’i gilydd, ac os rhoddir caniatâd, ni fydd paragraffau 8.5 ac 8.6 yn berthnasol a phleidleisir ar y cynigion gyda’i gilydd yn syth, heb gynnal dadl. Ystyrir nad yw’r Cynulliad wedi rhoi’i ganiatâd os bydd un Aelod yn gwrthwynebu.

Motions in Plenary Referring to Subject Committee Reports

Cynigion mewn Cyfarfod Llawn sy’n Cyfeirio at Adroddiadau Pwyllgorau Pwnc

Delete the final sentence of Standing Order No. 6.5.

Dileu brawddeg olaf Rheol Sefydlog Rhif 6.5.

Add a new paragraph 6.13A:

Ychwanegu paragraff newydd 6.13A:

Where a motion proposes only that the Assembly take note of a report submitted by a Subject Committee, no amendment may be tabled to that motion.

Pan fo cynnig ond yn argymell bod y Cynulliad yn nodi adroddiad a gyflwynwyd gan Bwyllgor Pwnc, ni ellir cyflwyno newidiadau i’r cynnig hwnnw.

Title of First Minister, Minister, Business Minister and Finance Minister

Y Teitlau Prif Weinidog, Gweinidog, Trefnydd a Gweinidog Cyllid

1. In the ‘Interpretation’ provisions in the Standing Orders for the definition of:

1. Yn adran ‘Dehongli’ y Rheolau Sefydlog, ar gyfer y diffiniadau canlynol:

‘Assembly Business Secretary’, substitute:

yn lle ‘Trefnydd’, gosod

‘Business Minister’ means the member of the Assembly Cabinet designated in accordance with paragraph 2.5 to have particular responsibility for the management of the Assembly’s business;

ystyr ‘Trefnydd’ yw’r aelod o Gabinet y Cynulliad a ddynodir, yn unol â pharagraff 2.5, i arddel cyfrifoldeb penodol dros reoli busnes y Cynulliad;

‘Assembly Secretary’, substitute:

yn lle ‘Ysgrifennydd Cynulliad’, gosod

‘Minister’ means a member of the Assembly Cabinet (including the First Minister);

ystyr ‘Gweinidog’ yw aelod o Gabinet y Cynulliad (gan gynnwys y Prif Weinidog);

‘Assembly Secretary for Finance’, substitute:

yn lle ‘Ysgrifennydd Cyllid y Cynulliad’, gosod

‘Finance Minister’ means the member of the Assembly Cabinet designated in accordance with paragraph 2.5 to have particular responsibility for the Assembly’s finances; and

ystyr ‘Gweinidog Cyllid’ yw’r aelod o Gabinet y Cynulliad a ddynodir, yn unol â pharagraff 2.5, i arddel cyfrifoldeb penodol dros gyllid y Cynulliad; a

‘First Secretary’, substitute:

yn lle ‘Prif Ysgrifennydd’, gosod

‘First Minister’ means the Member elected under section 53(1) of the Act;

ystyr ‘Prif Weinidog’ yw’r Aelod a etholir o dan adran 53(1) o’r Ddeddf;

2. wherever the words:

2. pan fydd:

(a)’First Secretary’ occur in the Standing Orders, substitute the words ‘First Minister’.

(a)’Prif Ysgrifennydd’ yn ymddangos yn y Rheolau Sefydlog, gosod ‘Prif Weinidog’ yn ei le;

(b) ‘an Assembly Secretary’ or ‘Assembly Secretaries’ occur in the Standing Orders, substitute the words ‘a Minister’ or ‘Ministers’, as the case may be.

(b) ‘Ysgrifennydd Cynulliad’ neu ‘Ysgrifenyddion Cynulliad’ yn ymddangos yn y Rheolau Sefydlog, gosod ‘Gweinidog’ neu ‘Gweinidogion’ fel y bo’n briodol.

(c) ‘Assembly Business Secretary’ occur in the Standing Orders, substitute the words ‘Business Minister’.

(c) ‘Trefnydd’ yn ymddangos yn y Rheolau Sefydlog, gosod ‘Trefnydd’ yn ei le.

(d) ‘Assembly Secretary for Finance’ occur in the Standing Orders, substitute the words ‘Finance Minister’.

(d) ‘Ysgrifennydd Cyllid y Cynulliad’ yn ymddangos yn y Rheolau Sefydlog, gosod ‘y Gweinidog Cyllid’ yn ei le.

3. In the contents page of the Standing Orders, delete the words ‘First Secretary’ and insert the words ‘First Minister’. (NDM1074)

3. Yn nhudalen gynnwys y Rheolau Sefydlog, dileu ‘Prif Ysgrifennydd’ a gosod ‘Prif Weinidog’ yn ei le. (NDM1074)

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 8

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

A two-thirds majority vote in favour is required for this motion to be carried.

Mae angen i fwyafrif o ddau draean bleidleisio o blaid y cynnig hwn er mwyn iddo gael ei dderbyn.

Cynnig Carwyn Jones t. 8

Motion Carwyn Jones p. 8

DerbyniwydAdopted O blaidFor 26 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (26)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Delyth Evans
  • Janice Gregory
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cymeradwyo Newid i Lwfans Aelodau er mwyn Gwella Diogelwch mewn Swyddfeydd Rhanbarthol

Approval of Changes to Members’ Allowances to Increase Security in Constituency Offices

Janice Gregory spoken in English p. 9

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 9

I propose that

Cynigiaf fod

Janice Gregory (continued) spoken in English p. 9

Janice Gregory (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 9

I remind Members that a vote was taken on this matter last year. The decision to increase office cost allowances by £2,000 has been made to cover any additional expenditure on security. I will expand on that point for Members’ information. Additional cost allowances will only be made available on police advice and when the police has declared it necessary for constituency offices to have improved security to protect not only Members, staff and equipment, but also the general public.

Atgoffaf yr Aelodau y pleidleisiwyd ar y mater hwn y llynedd. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gynyddu o £2,000 lwfansau costau swyddfa er mwyn cwrdd ag unrhyw wariant ychwanegol ar ddiogelwch. Ymhelaethaf ar y pwynt hwnnw er gwybodaeth yr Aelodau. Dim ond ar gyngor yr heddlu y darperir lwfansau costau ychwanegol a lle bo’r heddlu wedi cyhoeddi bod angen i swyddfeydd etholaeth wella’u mesurau diogelwch i warchod nid yn unig Aelodau, staff ac offer, ond y cyhoedd yn gyffredinol hefyd.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 9

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

No other Member wishes to contribute. Therefore, I call for a vote. A two-thirds majority vote in favour is required for this motion to be carried.

Nid oes yr un Aelod arall yn dymuno cyfrannu. Galwaf am bleidlais felly. Mae angen i fwyafrif o ddau draean bleidleisio o blaid y cynnig hwn er mwyn iddo gael ei dderbyn.

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 9

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 9

I request that the division bell be rung.

Gofynnaf am i gloch y bleidlais gael ei chanu.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 10

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Do three Members support the request? I see that they do. Clerk, please ring the bell.

A oes tri Aelod yn cefnogi’r cais? Gwelaf fod. Glerc, canwch y gloch, os gwelwch yn dda.

Cynnig NDM1065 Janice Gregory t. 10

Motion NDM1065 Janice Gregory p. 10

DerbyniwydAdopted O blaidFor 32 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (32)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Rhodri Morgan
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Questions to the First Minister

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 10

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Question 1 (OAQ18234) has been withdrawn.

Mae cwestiwn 1 (OAQ18234) wedi’i dynnu yn ôl.

Cynnal Digwyddiadau Rhyngwladol

Hosting International Events

Q2 Janice Gregory spoken in English p. 10

C2 Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 10

Will the First Minister make a statement on the benefit to Wales of hosting international events? (OAQ18229)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fantais cynnal digwyddiadau rhyngwladol i Gymru? (OAQ18229)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

I thank the Deputy Presiding Officer and Assembly Members for their understanding regarding my delayed arrival at the Assembly as a result of attending the Jubilee celebration service at Bangor.

Diolchaf i’r Dirprwy Lywydd ac Aelodau’r Cynulliad am eu dealltwriaeth y byddwn yn hwyr yn cyrraedd y Cynulliad oherwydd imi fynychu gwasanaeth dathlu’r Jiwbilî ym Mangor.

Hosting international events is part of our strategy to raise Wales’s profile and to boost tourism and trade in Wales. Last week, three international events were held in Wales with which we had some connection, namely The Guardian Hay Festival, the amateur golf championship in Porthcawl, in which golfers from 26 countries competed although it was styled as a British amateur competition, and the Urdd Eisteddfod in Cardiff, which the European Commissioner for education and culture, Viviane Reding, attended. Two of those events had record attendance figures. Attendance at Hay was up to 70,000 from the previous highest figure of 55,000. The Urdd Eisteddfod had a record attendance of 117,000 during the week and a record day attendance on Tuesday, I believe, of 29,500. I do not have figures for the amateur golf championship at Porthcawl, but it was an extremely successful competition. International cultural, sporting, business and trade events can enhance Wales’s status on the world stage and generate social, economic and cultural benefits.

Mae cynnal digwyddiadau rhyngwladol yn rhan o’n strategaeth i godi proffil Cymru ac i hyrwyddo twristiaeth a masnach yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd tri digwyddiad rhyngwladol yng Nghymru yr oedd gennym ni ryw gysylltiad â hwy, sef Gŵyl y Gelli dan nawdd The Guardian, y bencampwriaeth golff amatur ym Mhorthcawl, lle bu golffwyr o 26 o wledydd yn cystadlu er mai cystadleuaeth amatur Brydeinig ydoedd mewn enw, ac Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd, a fynychwyd gan y Comisiynydd Ewropeaidd dros addysg a diwylliant, Viviane Reding. Cafodd dau o’r digwyddiadau hynny niferoedd uwch nag erioed o ymwelwyr. Cododd nifer mynychwyr y Gelli i 70,000 o’r ffigur uchaf blaenorol sef 55,000. Cafodd Eisteddfod yr Urdd ei hwythnos orau erioed gyda 117,000 o ymwelwyr, a’r nifer fwyaf erioed o ymwelwyr mewn dydd ar y dydd Mawrth, sef, fe gredaf, 29,500. Nid oes gennyf ffigurau ar gyfer y bencampwriaeth golff amatur ym Mhorthcawl, ond bu’n gystadleuaeth lwyddiannus dros ben. Gall digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, busnes a masnach rhyngwladol godi statws Cymru ar lwyfan y byd a rhoi manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Janice Gregory spoken in English p. 11

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 11

Wales—Cardiff in particular—has been successful in attracting high profile, prestigious international sporting and political events in recent years. That benefits Wales’s profile and its potential to attract further events, visitors and economic investment. What plans do you have to build upon recent successes, in particular for the benefit of areas outside south-east Wales that have not, so far, directly benefited as much as the economically underperforming areas in the Objective 1 areas?

Bu Cymru—a Chaerdydd yn arbennig—yn llwyddiannus o ran denu digwyddiadau gwleidyddol a chwaraeon rhyngwladol proffil uchel, mawr eu bri, yn y blynyddoedd diweddar. Mae hynny’n dda i broffil Cymru a’i photensial i ddenu mwy o ddigwyddiadau, ymwelwyr a buddsoddiad economaidd. Pa gynlluniau sydd gennych i adeiladu ar lwyddiannau diweddar, yn enwedig er lles ardaloedd y tu allan i dde-ddwyrain Cymru sydd heb, hyd yma, elwa’n uniongyrchol gymaint â’r ardaloedd sy’n tan-berfformio’n economaidd yn ardaloedd Amcan 1?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

There is no doubt that that is a difficult trick to perform, although only one of the events that I mentioned was held in Cardiff or south-east Wales. Porthcawl is in an Objective 1 area and, while Hay-on-Wye is not, it is a long way from Cardiff, although not as far as many Cardiffians appear to think. It is important to spread the benefits around Wales. Although the Network Q rally headquarters are in Cardiff, its organisers look for the toughest driving conditions in forests on hills and mountains that are a long way from Cardiff. Other events benefit from being held outside Cardiff, namely international sailing events such as the One Ton Cup, which is heavily supported by Gwynedd Council and receives some money indirectly, I believe, from the Welsh Development Agency and the Wales Tourist Board. We want to promote the whole of Wales, but it is easier to bring some events to Wales if they are held in Cardiff. If events such as the Ryder Cup were not held in Cardiff or Newport, they would probably not be held in Wales at all because the hotel capacity would not be available.

Heb os y mae hynny’n dric anodd i’w gyflawni, er mai dim ond un o’r digwyddiadau a grybwyllais a gynhaliwyd yng Nghaerdydd neu dde-ddwyrain Cymru. Mae Porthcawl mewn ardal Amcan 1, ac er nad yw hynny’n wir am y Gelli, y mae ymhell o Gaerdydd, er nad mor bell ag y mae llawer o bobl Caerdydd yn meddwl, mae’n debyg. Mae’n bwysig gwasgaru’r manteision o gwmpas Cymru. Er mai yng Nghaerdydd y mae pencadlys rali Network Q, bydd ei drefnwyr yn edrych am yr amodau gyrru anoddaf mewn fforestydd ar fryniau a mynyddoedd sydd ymhell o Gaerdydd. Mae digwyddiadau eraill ar eu hennill o gael eu cynnal y tu allan i Gaerdydd, sef digwyddiadau hwylio rhyngwladol fel y Cwpan Un Dunnell, a noddir yn hael gan Gyngor Gwynedd ac a gaiff rywfaint o arian yn anuniongyrchol, fe gredaf, oddi wrth Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Yr ydym yn awyddus i hyrwyddo Cymru gyfan, ond mae’n haws dod â rhai digwyddiadau i Gymru os cânt eu cynnal yng Nghaerdydd. Pe na chynhelid digwyddiadau fel Cwpan Ryder yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, mae’n debyg na ddeuent i Gymru o gwbl am na fyddai digon o leoedd aros ar gael mewn gwestai.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 12

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

One question and a supplementary question have been asked and already considerably more than three minutes have passed. We should, therefore, now move to the next tabled question. This is not how I believe questions should be dealt with. Four more Members wish to ask supplementary questions. Please ensure that the questions and answers are brief, so that everyone can contribute. I will extend the time for this question in the circumstances.

Gofynnwyd un cwestiwn a chwestiwn atodol ac eisoes mae llawer mwy na thri munud wedi mynd heibio. Dylem, felly, symud yn awr at y cwestiwn nesaf. Nid dyma sut y credaf fi y dylid delio â chwestiynau. Mae pedwar Aelod arall yn dymuno gofyn cwestiynau atodol. A wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod y cwestiynau a’r atebion yn fyr, fel y gall pawb gyfrannu? Yr wyf am ymestyn yr amser ar gyfer y cwestiwn hwn dan yr amgylchiadau.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 12

Datganaf fuddiant fel aelod o fwrdd rheolwyr cais dinas Caerdydd i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop 2008. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at lwyddiant diamod Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf yng Nghaerdydd. A yw’n cytuno bod y digwyddiad hwn ac eraill yn dangos bod Caerdydd yn gyrchfan hwylus a delfrydol ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cadarnhau y gall Caerdydd lwyddo yn ei chais i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop? A wnaiff ddatgan ei gefnogaeth i’r cais hwnnw?

I declare an interest as a member of the board of directors of Cardiff’s bid to become the Cultural Capital of Europe for 2008. The First Minister referred to the unqualified success of last week’s Urdd Eisteddfod in Cardiff. Does he agree that this event and others show that Cardiff is a convenient and ideal centre for national and international events and confirms the fact that Cardiff can succeed in its bid to become the Cultural Capital of Europe? Will he express his support for that bid?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 13

Yr wyf yn cefnogi’r cais hwnnw yn gryf ac yr wyf yn falch bod Rhodri Glyn yn ei gefnogi hefyd. Mae’n aelod blaenllaw o’r bwrdd sy’n trefnu’r cais. Mae Eisteddfod yr Urdd wedi llwyddo mewn dwy ffordd: gallai pobl o gefn gwlad Cymru fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r Eisteddfod, yr amgueddfa genedlaethol—sydd â mynediad am ddim—a’r siopau, a chafodd pobl Caerdydd na chawsant y cyfle efallai i gael blas ar y math hwn o ddiwylliant Cymreig a Chymraeg o’r blaen y cyfle i wneud hynny tra’n siopa neu fel rhan o ymweliad â chanol y ddinas. Dyna pam yr oedd yr Eisteddfod yn gymaint o lwyddiant.

I support that bid wholeheartedly and I am glad it has the support of Rhodri Glyn. He is a prominent member of the board organising the bid. The Urdd Eisteddfod succeeded in two ways. People from rural Wales could take advantage of the opportunity to visit the Eisteddfod, the national museum—where admission is free of charge—and the shops, and Cardiffians who may not have had the opportunity to experience this kind of Welsh culture before could do so while shopping or as part of a visit to the city centre. That is why the Eisteddfod was such a success.

Val Lloyd spoken in English p. 13

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 13

I agree with you, First Minister. However, do you agree that an integrated, multi-agency approach to organising events, and learning from past experience, could be used to benefit all of Wales in future?

Cytunaf â chi, Brif Weinidog. Fodd bynnag, a gytunwch y gellid defnyddio dull integredig, aml-asiantaethol i drefnu digwyddiadau, a dysgu o brofiad y gorffennol, er budd Cymru gyfan yn y dyfodol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

The market is competitive, so I agree with you. That is why I have asked the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language to work with the Minister for Economic Development to develop an events’ strategy that will set criteria to decide when to bid or when not to bid for funding events and to ensure that we maximise the all-Wales benefits of bringing events to Wales.

Mae’r farchnad yn gystadleuol, felly cytunaf â chi. Dyna pam y gofynnais i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg weithio gyda’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd i ddatblygu strategaeth ddigwyddiadau a fydd yn gosod meini prawf ar gyfer pa bryd i wneud cais am gyllid ar gyfer digwyddiadau, a pha bryd i beidio, ac i sicrhau y cawn y budd mwyaf i Gymru gyfan o ddod â digwyddiadau i Gymru.

Brian Gibbons spoken in English p. 13

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 13

There is a problem with certain team sports because Wales does not have an adequate range of top-class facilities to accommodate international team training. Do you agree that initiatives such as that at Llandarcy, in my constituency, to provide international facilities outside the Vale of Glamorgan would enhance our ability to attract international team sports?

Y mae problem gyda rhai chwaraeon tîm gan nad oes gan Gymru amrediad digonol o gyfleusterau o’r safon uchaf ar gyfer hyfforddi timau rhyngwladol. A gytunwch y byddai mentrau fel honno yn Llandarsi, yn f’etholaeth i, i ddarparu cyfleusterau rhyngwladol y tu allan i Fro Morgannwg yn gwella’n gallu i ddenu chwaraeon tîm rhyngwladol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

Please write to me and inform me of what they are. The key point is how extensive the hotel facilities are. To attract tourists and competitors, you must have hotel facilities. Even areas that are established resorts, such as Porthcawl, can struggle if you secure a major event such as the amateur golf championship. If we were to mount a bid to host the British Open at Porthcawl, hotel capacity would be a problem. Then there is the question of back-up facilities, to which I think you are referring in the case of Llandarcy. I would be grateful, therefore, for full information on the latest proposals for Llandarcy.

Ysgrifennwch ataf, os gwelwch yn dda, i ddweud wrthyf beth ydynt. Y pwynt allweddol yw pa mor helaeth yw’r cyfleusterau gwesty. Er mwyn denu ymwelwyr a chystadleuwyr, rhaid cael cyfleusterau gwesty. Gall hyd yn oed ardaloedd sydd wedi hen ennill eu plwyf fel trefi gwyliau, fel Porthcawl, gael trafferth os sicrheir digwyddiad mawr fel y bencampwriaeth golff amatur. Pe gwnaem gais i gynnal Cystadleuaeth Golff Agored Prydain, byddai cael digon o ystafelloedd gwesty yn broblem. Wedyn ceir cwestiwn y cyfleusterau wrth gefn, sef yr hyn y tybiaf yr ydych yn cyfeirio ato yn achos Llandarsi. Byddwn yn ddiolchgar, felly, am wybodaeth lawn ar y cynigion diweddaraf ar gyfer Llandarsi.

Lorraine Barrett spoken in English p. 14

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 14

Will you look at the ‘Spirit of Cardiff’ boat website? The boat is in the middle of its round-the-world challenge and is literally taking the name of Cardiff and Wales right around the world. We should all be proud of this, and I hope that you will be present to welcome it back next month.

A edrychwch chi ar wefan cwch ‘Spirit of Cardiff’? Mae’r cwch ar ganol ei fordaith o amgylch y byd ac mae’n llythrennol yn mynd ag enw Caerdydd a Chymru o gwmpas y byd. Dylem i gyd ymfalchïo yn hyn, a gobeithiaf y byddwch yn bresennol i’w groesawu’n ôl y mis nesaf.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I was present, with you and Alun Michael, when it was launched on its marathon journey around the world. Assuming that it continues to be as successful as it has been—despite some of the awful weather that has beset it—when it returns, it will have carried a good and positive message about Cardiff and Wales right round the world.

Yr oeddwn yn bresennol, gyda chi ac Alun Michael, pan gafodd ei lansio ar ei siwrnai hirfaith o amgylch y byd. Gan dybio y bydd yn parhau i fod mor llwyddiannus ag y bu hyd yma—er gwaethaf y tywydd ofnadwy a wynebodd ar brydiau—pan ddaw yn ôl, bydd wedi cario neges dda a phositif am Gaerdydd a Chymru yr holl ffordd o amgylch y byd.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 14

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I again appeal for short questions and short answers. Question 3 (OAQ18209) has been withdrawn.

Apeliaf eto am gwestiynau byr ac atebion byr. Tynnwyd cwestiwn 3 (OAQ18209) yn ôl.

Datganoli i Ranbarthau Lloegr

Devolution to the English Regions

Q4 Phil Williams spoken in English p. 14

C4 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 14

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State concerning the effect of devolution to the English regions on the National Assembly? (OAQ18231)

Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch effaith datganoli i ranbarthau Lloegr ar y Cynulliad Cenedlaethol? (OAQ18231)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I have regular discussions with the Secretary of State on a range of issues, including this one, which has come up particularly in the past three weeks following the publication of the White Paper. The key point is that a different model is being proposed for English regional devolution. The English regions are being offered a democratisation of the development agency function rather than the full range of functions that we have in Wales.

Caf drafodaethau rheolaidd gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ar nifer o faterion, gan gynnwys hwn, sydd wedi codi’n arbennig yn y tair wythnos diwethaf yn dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyn. Y pwynt allweddol yw y cynigir model gwahanol ar gyfer datganoli rhanbarthau Lloegr. Yr hyn a gynigir i ranbarthau Lloegr yw democrateiddio swyddogaeth awdurdod ddatblygu yn hytrach na’r amrediad llawn o swyddogaethau sydd gennym ni yng Nghymru.

Phil Williams spoken in English p. 15

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 15

As soon as elected assemblies can claim to speak for the regions of England, some, especially that for the north-east, will undoubtedly and justifiably demand a review of the regional distribution of government expenditure. What steps are you and the Secretary of State taking to ensure that the strong case for increased expenditure in Wales is presented early, often, and forcibly, so that the interests of the National Assembly are protected?

Cyn gynted ag y bydd cynulliadau etholedig yn gallu honni siarad dros ranbarthau Lloegr, bydd rhai, yn enwedig gogledd-ddwyrain Lloegr, yn ddi-os a chyda phob cyfiawnhad yn hawlio adolygiad o ddosbarthiad rhanbarthol gwariant y llywodraeth. Pa gamau yr ydych chi a’r Ysgrifennydd Gwladol yn eu cymryd i sicrhau y caiff yr achos cryf dros gynyddu gwariant yng Nghymru ei gyflwyno’n gynnar, yn aml, ac yn nerthol, fel y caiff fuddiannau’r Cynulliad Cenedlaethol eu gwarchod?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I met the leaders for the campaign for a northern assembly during their visit to Cardiff last Friday. I discussed that point with them. The key matter for them is to get the show on the road. It may start small: initial funding for the north-east, we are told, will be about £500 million. That is why I make the point that it would be the democratisation of the development agency function. It would be like having a democratically elected board of the Welsh Development Agency, and a few other functions. That is why we have 20 times the amount of funding. We have £10 billion in funding and the north-east region will have £500 million. It is not in the same ball game. However, it may raise the question of a review of the Barnett formula, to which I would not object.

Cyfarfûm ag arweinyddion yr ymgyrch dros gynulliad i ogledd Lloegr ar eu hymweliad â Chaerdydd ddydd Gwener diwethaf. Trafodais y pwynt hwnnw gyda hwy. Y mater allweddol iddynt hwy yw rhoi’r peth ar waith. Fe all ddechrau’n fach: bydd y cyllid cychwynnol i ogledd-ddwyrain Lloegr, dywedir wrthym, oddeutu £500 miliwn. Dyna pam y gwnaf y pwynt mai democrateiddio swyddogaeth awdurdod datblygu fyddai’n digwydd. Byddai fel cael bwrdd wedi’i ethol yn ddemocrataidd ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru, ynghyd ag ychydig o swyddogaethau eraill. Dyna pam y cawn ni 20 gwaith yn fwy o arian. Cawn ni gyllid o £10 biliwn a chaiff rhanbarth gogledd-ddwyrain Lloegr £500 miliwn. Nid oes dim cymhariaeth. Fodd bynnag, gallai godi cwestiwn ynghylch adolygu fformiwla Barnett, na fyddwn i’n wrthwynebus iddo.

Kirsty Williams spoken in English p. 15

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 15

The proposals in the Government White Paper will give the English devolved bodies the ability to raise their own revenue, as the Scottish Parliament already does. Do you not think it iniquitous that Wales is not able to do that through the National Assembly for Wales?

Bydd y cynigion ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth yn rhoi’r gallu i gyrff datganoledig Lloegr godi eu refeniw eu hunain, fel y gwna Senedd yr Alban eisoes. Oni chredwch ei bod yn anghyfiawn na all Cymru wneud hynny drwy’r Cynulliad Cenedlaethol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

It would not be the same arrangement as for the Scottish Parliament; it would not be a tax-raising power. It is no different from the Welsh Development Agency’s borrowing power, which has our approval, or a local authority’s power to precept. I am sure you would agree that if we had a choice between the £500 million offered to north-east England and our £10 billion, it would be much better to have the £10 billion.

Ni fyddai’r trefniant yr un fath ag i Senedd yr Alban; nid pŵer i godi treth fyddai. Nid yw’n ddim gwahanol i bŵer benthyca Awdurdod Datblygu Cymru, a gymeradwyir gennym ni, neu bŵer awdurdod lleol braeseptu. Yr wyf yn siŵr y cytunech pe caem ddewis rhwng y £500 miliwn a gynigir i ogledd-ddwyrain Lloegr a’n £10 biliwn ni, y byddai’n llawer gwell cael y £10 biliwn.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 16

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

Richard Williams—sorry, Edwards.

Richard Williams—mae’n ddrwg gennyf, Edwards.

Richard Edwards spoken in English p. 16

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 16

I am sorry if you have forgotten my name, Deputy Presiding Officer.

Mae’n ddrwg gennyf os ydych wedi anghofio f’enw, Ddirprwy Lywydd.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 16

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

Welcome back, Richard.

Croeso’n ôl, Richard.

Richard Edwards spoken in English p. 16

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 16

First Minister, leaving Barnett aside for a moment, will you join me in welcoming the prospect of devolution for the English regions, not least because it will help to dissipate the worst excesses of English nationalism and its mirror image, Scottish and Welsh nationalism?

Brif Weinidog, a gosod Barnett o’r neilltu am funud, a ymunwch â mi i groesawu’r posibilrwydd o ddatganoli i ranbarthau Lloegr, nid yn lleiaf oherwydd y bydd yn helpu i chwalu rhempdod gwaethaf cenedlaetholdeb Seisnig a’i hefaill, cenedlaetholdeb Albanaidd a Chymreig?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

I also welcome you back, Richard. [ASSEMBLY MEMBERS: ‘Hear, hear.’] It is good to see you here; you clearly have not lost your appetite for sharp questions. Ensuring that English regions can buy into regional devolution, if they wish, is a matter for people living in those regions. I am fairly confident that the regions furthest away from London—such as the north-east, probably Yorkshire and Humberside, and the north-west—will do so first. If the north-east leads the way, people in other regions will say that if it is good enough for the north-east, they want it too. Understanding that you need not be a nationalist to be a devolutionist may help, along the lines that you suggest.

Croesawaf finnau chi’n ôl, Richard. [AELODAU’R CYNULLIAD: ‘Clywch, clywch.’] Mae’n dda eich gweld chi yma; yn amlwg nid ydych wedi colli’ch awch am gwestiynau miniog. Mae sicrhau y gall rhanbarthau Lloegr ymgymryd â datganoli rhanbarthol, os mynnant, yn fater i bobl sy’n byw yn y rhanbarthau hynny. Yr wyf yn weddol hyderus mai’r rhanbarthau pellaf i ffwrdd o Lundain—fel gogledd-ddwyrain Lloegr, Swydd Efrog a Humberside, mae’n debyg, a’r gogledd-orllewin—fydd yn gwneud hynny gyntaf. Os arweinir y ffordd gan ogledd-ddwyrain Lloegr, bydd pobl mewn rhanbarthau eraill yn dweud os ydyw’n ddigon da i’r gogledd-ddwyrain, fod arnynt hwythau ei eisiau. Gall fod yn gymorth deall nad oes angen bod yn genedlaetholwr i fod yn ddatganolwr, yn y modd y bu ichi awgrymu.

Delyth Evans siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Delyth Evans spoken in Welsh p. 16

A gytunwch nad yw’n syndod bod rhanbarthau Lloegr yn awyddus i ddilyn ein hesiampl yng Nghymru, oherwydd llwyddiant polisïau’r Cynulliad, gan gynnwys teithio am ddim ar fysiau i bensiynwyr, polisïau blaengar ar gyfer pobl ifanc, a’n llwyddiannau wrth ddatblygu technoleg gwybodaeth?

Do you agree that it is not surprising that English regions are eager to follow our example in Wales, given the success of the Assembly’s policies, such as free bus travel for pensioners, progressive policies for young people, and our achievements in developing information technology?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 16

Dyna a ddywedodd y Prif Weinidog, Tony Blair, pan ddaeth i’r Cynulliad ym mis Tachwedd. Yr oedd yn hyderus fod Prydain yn barod i gymryd cam cyfansoddiadol arall, gan i ddatganoli weithio cystal yn yr Alban ac yng Nghymru. Yr oedd yn barod i ddweud wrth John Prescott—fel rhywun sydd wedi bod yn frwd o blaid datganoli yn Lloegr erioed—y gallai fwrw ymlaen. Ers hynny, gwelsom gyhoeddi’r Papur Gwyn.

That is what the Prime Minister, Tony Blair, said when he visited the Assembly in November. He was confident that Britain was ready to take another constitutional step, as devolution has worked so well in Scotland and Wales. He was ready to tell John Prescott—as someone who has always been an eager advocate of devolution in England—that he could go ahead. Since then, the White Paper has been published.

Gosod Polisïau Trawsbynciol yn y Prif Ffrwd

Mainstreaming Cross-cutting Policies

Q5 Helen Mary Jones spoken in English p. 17

C5 Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 17

How does the First Minister ensure that National Assembly cross-cutting policies are mainstreamed across policy delivery in Valleys communities? (OAQ18207)

Sut y mae’r Prif Weinidog yn sicrhau bod polisïau trawsbynciol y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu gosod yn y prif ffrwd ar draws cyflwyno polisïau yng nghymunedau’r Cymoedd? (OAQ18207)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

In Valleys communities, one key policy has been to try to reduce unemployment, which has decreased steadily over the past two or three years. We must also ensure that a wider choice of jobs is available. People should not assume that, at one time, the Valleys only had coal mines or manufacturing jobs, or that there will never be jobs in the service industries, as those will always be situated in the coastal areas of Cardiff, Swansea and Newport. The arrival of call centres—like One 2 One in Merthyr Tydfil, or Elev8 Solutions in Ammanford—has helped to diversify the choice of jobs available to people living in Valleys communities. That is in line with our policies on social inclusion and equal opportunities.

Un polisi allweddol yng nghymunedau’r Cymoedd fu ceisio lleihau diweithdra, sydd wedi gostwng yn raddol dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf. Rhaid inni sicrhau hefyd fod mwy o ddewis o swyddi ar gael. Ni ddylai pobl dybio mai dim ond pyllau glo neu weithgynhyrchu oedd yn y Cymoedd ar un adeg, na meddwl na cheir fyth swyddi yn y diwydiannau gwasanaeth, gan y caiff y rheini eu lleoli bob amser yn ardaloedd arfordirol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Mae dyfodiad canolfannau galwadau—fel One 2 One ym Merthyr Tudful neu Elev8 Solutions yn Rhydaman—wedi helpu i greu amrywiaeth yn y dewis o swyddi sydd ar gael i bobl sy’n byw yng nghymunedau’r Cymoedd. Mae hynny’n gyson â’n polisïau ar gynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal.

Helen Mary Jones spoken in English p. 17

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 17

Unemployment may be down, but economic inactivity is increasing; there is no cause for complacency. In light of that, do you accept that having a Minister with overall responsibility for co-ordinating policy across Valleys communities, similar to your responsibility for north Wales, might be an effective way of ensuring consistent policy delivery? In rejecting this sensible suggestion purely because it comes from Plaid Cymru—The Party of Wales, is your Government not demonstrating once again that it is much more interested in attacking and denigrating the opposition than in delivering for the people?

Efallai fod diweithdra wedi gostwng, ond mae anweithgarwch economaidd ar i fyny; nid oes dim rheswm i laesu dwylo. Yn wyneb hynny, a dderbyniwch efallai y byddai cael Gweinidog â chyfrifoldeb cyffredinol dros gydgysylltu polisi ar draws cymunedau’r Cymoedd, yn debyg i’ch cyfrifoldeb chi dros y Gogledd, yn ffordd effeithiol o sicrhau cysondeb wrth weithredu polisïau? Drwy wrthod yr awgrym synhwyrol hwn dim ond am mai Plaid Cymru—The Party of Wales a’i gwnaeth, onid yw eich Llywodraeth yn dangos unwaith eto fod ganddi lawer mwy o ddiddordeb mewn difrïo ac ymosod ar y gwrthbleidiau nag mewn gweithredu dros y bobl?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

That is complete nonsense, Helen Mary. Your question contains an element of the fantastic. Regarding the drop in unemployment, that is on both the claimant count and the labour force survey measure. Economic inactivity remains high in the Valleys. There is no reason to suppose that we are complacent, or that we believe that the Valleys are suddenly flowing with milk and honey—of course they are not. They are the areas of greatest deprivation in Wales. We will continue to target that deprivation and do all that we can to ensure that the Valleys play a full part in the Wales of the future, in health, education and employment.

Ffwlbri noeth yw hynny, Helen Mary. Mae eich cwestiwn yn cynnwys elfen o’r ffantastig. Cyfrifwyd y cwymp mewn diweithdra yn ôl nifer yr hawlwyr ac yn ôl mesur arolwg y llafurlu. Mae anweithgarwch economaidd yn dal i fod yn uchel yn y Cymoedd. Nid oes rheswm i dybio ein bod yn llaesu dwylo, nac y credwn fod y Cymoedd yn sydyn yn llifo o laeth a mêl—wrth gwrs, nid ydynt. Dyma’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddwn yn parhau i dargedu’r amddifadedd hwnnw ac yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y Cymoedd yn chwarae rhan lawn yng Nghymru’r dyfodol, ym meysydd iechyd, addysg a chyflogaeth.

Christine Chapman spoken in English p. 18

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 18

Do you agree that, in the past, the Valleys have been hardest hit by unsustainable policies? Do you also agree that we must learn the lessons of the past? We are doing this in the Cynon Valley by trying to clean up the site of the Phurnacite plant in Abercwmboi, which has blighted residents’ lives for a generation. Will you ensure that this remains a priority for the Assembly, so that an improved environment becomes a reality for my constituents?

A gytunwch y daeth yr ergydion mwyaf i’r Cymoedd yn y gorffennol gan bolisïau anghynaliadwy? A gytunwch hefyd fod yn rhaid inni ddysgu gwersi’r gorffennol? Yr ydym yn gwneud hyn yng Nghwm Cynon drwy geisio glanhau safle gwaith Phurnacite yn Abercwmboi, a fu’n falltod ar fywydau’r trigolion ers cenhedlaeth. A wnewch chi sicrhau y pery hyn yn flaenoriaeth i’r Cynulliad, fel y daw gwell amgylchedd yn realiti i f’etholwyr?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

Everyone who saw the Phurnacite plant in operation as they drove from Pontypridd and Abercynon through Mountain Ash to Aberdare knows that it was a vision of hell. It was meant to produce smokeless fuel for London, which can be easily believed as all the smoke was released in the Cynon Valley. The clean-up job will inevitably take a long time. In its natural state, the Cynon Valley was an extremely beautiful valley. It was completely despoiled when the Phurnacite plant was in operation. We all hope to see the Cynon Valley restored to its natural beauty, with the environment attracting new economic activity to the area, instead of being a disincentive.

Yr oedd unrhyw un a welai’r gwaith Phurnacite ar waith, wrth yrru o Bontypridd ac Abercynon drwy Aberpennar i Aberdâr, yn credu ei fod yn uffern ar y ddaear. Yr oedd i fod i gynhyrchu tanwydd di-fwg i Lundain, a hawdd credu hynny oherwydd gollyngwyd y mwg i gyd yng Nghwm Cynon. Mae’n anochel y bydd y gwaith glanhau yn cymryd amser maith. Yn ei gyflwr naturiol, yr oedd Cwm Cynon yn gwm prydferth iawn. Fe’i hanrheithiwyd yn llwyr pan oedd y gwaith Phurnacite ar waith. Ein gobaith ni i gyd yw gweld adfer Cwm Cynon i’w harddwch naturiol, a bod yr amgylchedd yn denu gweithgarwch economaidd newydd i’r ardal, yn hytrach na’i droi i ffwrdd.

Defnydd o Bwerau Harri VIII

Use of Henry VIII Powers

C6 Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Q6 Owen John Thomas spoken in Welsh p. 19

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddefnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o bwerau Harri VIII? (OAQ18210)

Will the First Minister make a statement on the use of Henry VIII powers by the National Assembly for Wales? (OAQ18210)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 19

Mae’n anodd traethu’n gyffredinol ar bwerau Harri VIII. Mae pa un ai a yw darn penodol o is-ddeddfwriaeth y Cynulliad yn golygu defnyddio pwerau Harri VIII yn dibynnu ar amodau’r Ddeddf sy’n cyflwyno’r pŵer ac ar bwrpas yr is-ddeddfwriaeth. Mae cannoedd o esiamplau o ddefnyddio pwerau Harri VIII yn ein pwerau, yn yr hyn a etifeddasom pan sefydlwyd y Cynulliad ac yn y Deddfau a luniwyd ers sefydlu’r Cynulliad dair blynedd yn ôl.

It is difficult to generalise about Henry VIII powers. Whether a particular piece of Assembly subordinate legislation relies on the use of Henry VIII powers will depend on the terms of the Act conferring the power, and on the purpose of the subordinate legislation. There are hundreds of examples of the use of Henry VIII powers in our powers, in what we inherited when the Assembly was established and in the Acts drawn up since the Assembly’s inception three years ago.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 19

Yn ystod trydydd darlleniad Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn San Steffan, dywedasoch y byddai’n rhaid aros am Lywodraeth Lafur er mwyn i Ddeddf iaith ddigonol gael ei chyflwyno. A wnewch chi drafod â Paul Murphy y posibilrwydd o roi i’r Cynulliad y pŵer i ddiwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 drwy Orchymyn, yn debyg i’r pŵer sydd gennym eisoes i ddiwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 drwy Orchymyn?

During the third reading of the Welsh Language Act 1993 in Westminster, you said that we would have to wait for a Labour Government before an adequate Welsh language Act could be introduced. Will you discuss with Paul Murphy the possibility of giving the Assembly the power to amend the Welsh Language Act 1993 by Order, similar to the power that we already possess to amend the Welsh Development Agency Act 1975 by Order?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 19

Yr ydym wedi dysgu yn y naw mlynedd ers 1993 ei bod yn llawer haws na’r disgwyl i berswadio’r sector preifat i wneud yr un defnydd o’r Gymraeg ag sy’n angenrheidiol yn y sector cyhoeddus. Dyna’r wers a ddysgasom a’r profiad a gawsom ers 1993. Nid oes pwrpas mynd yn ôl naw mlynedd, fel pe na bai’r cyfnod hwnnw wedi bod. Ni welaf yr angen.

During the nine years since 1993 we have learnt that it is much easier than expected to persuade the private sector to make the same use of the Welsh language as is mandatory in the public sector. That has been our experience and the lesson that we have learnt since 1993. There is no point in turning the clock back nine years, as if that period has not occurred. I do not see the need.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 19

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 19

Question 7 (OAQ18225) has been transferred for written answer.

Trosglwyddwyd cwestiwn 7 (OAQ18225) ar gyfer ateb ysgrifenedig.

Gwasanaethau Swyddfeydd Post yng Nghymru

Post Office Services in Wales

Q8 Brian Hancock spoken in English p. 19

C8 Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 19

What discussions has the First Minister had with Consignia, Postcomm and Postwatch with regards to the changes in post office services in Wales? (OAQ18232)

Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â Consignia, Postcomm a Postwatch o safbwynt y newidiadau i wasanaethau swyddfeydd post yng Nghymru? (OAQ18232)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I had discussions about the changes facing the postal service in Wales with senior managers at Consignia in January 2002 and with the chief executive of Postcomm in May. I have not had any discussions with Postwatch Wales to date.

Cefais drafodaethau ynglŷn â’r newidiadau sy’n wynebu’r gwasanaeth post yng Nghymru gydag uwch reolwyr Consignia yn Ionawr 2002 a chyda phrif weithredwr Postcomm ym Mai. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Postwatch Cymru hyd yma.

Brian Hancock spoken in English p. 20

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 20

Sub-post offices serve our communities, and, more often than not, the less well-off communities. When people pay their SWALEC electricity bills—a company which is now owned by the Scottish and Southern Energy Group—in these sub-post offices, they must pay a charge of £1.15 per transaction. How will you prevent this further punishment for less well-off communities?

Mae is-swyddfeydd post yn gwasanaethu ein cymunedau, ac, yn amlach na pheidio, y cymunedau llai cefnog. Pan fydd pobl yn talu eu biliau trydan i SWALEC—cwmni sydd bellach yn eiddo i Scottish and Southern Energy Group—yn yr is-swyddfeydd post hyn, codir tâl o £1.15 arnynt am bob trafodiad. Sut y gwnewch chi atal y gosb bellach hon ar gymunedau llai cefnog?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

The services provided in individual sub-post offices depend on the commercial transactions arranged with utility providers. It is probably the responsibility of the utility providers. I do not think that the Post Office wants to see this. If you write to me, I will take up this issue. It is regrettable that it is no longer as cheap to pay your electricity, gas, water or telephone bill at your local post office as it was in the days of the giro transaction, when there was no charge.

Mae’r gwasanaethau a ddarperir mewn is-swyddfeydd post unigol yn dibynnu ar y trafodion masnachol a drefnwyd gyda darparwyr y cyfleustodau. Cyfrifoldeb darparwyr y cyfleustod ydyw fwy na thebyg. Nid wyf yn meddwl bod ar Swyddfa’r Post eisiau gweld hyn. Os ysgrifennwch ataf, mi af ar ôl y mater hwn. Mae’n resyn nad yw mwyach cyn rhated i dalu’ch bil trydan, nwy, dŵr neu ffôn yn eich swyddfa bost leol ag ydoedd yn nyddiau’r trafodiad giro, pan na chodid tâl.

Peter Black spoken in English p. 20

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 20

Given the threat to many post offices around Wales, what progress has been made to improve the use of post offices for transactions that relate to local and national government, to help secure their future?

Yn wyneb y bygythiad i lawer o swyddfeydd post o gwmpas Cymru, pa gynnydd a wnaed i wella defnydd swyddfeydd post ar gyfer trafodion sy’n ymwneud â llywodraeth leol a chenedlaethol, er mwyn helpu i ddiogelu eu dyfodol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

The general aim is to replace the payment of benefits, as they are transferred to be paid directly into a bank account, thereby bypassing the post office. Many post offices will lose up to 80 per cent of their business if they are located in an area where there is a heavy dependency on benefits—for example, in an area where there are many pensioners, unemployed people, or people on special invalidity benefits, and so on. The general thrust of trying to find an alternative form of trade for such post offices is by making them general practices for government services, as you mentioned, and by introducing universal banking. Those are the two aims. We await the results of the Leicestershire experiment on government general practices before we decide whether we could introduce a similar measure in Welsh post offices.

Y nod cyffredinol yw disodli trefn talu budd-daliadau, drwy eu trosglwyddo i’w talu’n uniongyrchol i gyfrif banc, heb ddefnyddio swyddfa’r post felly. Bydd llawer o swyddfeydd post yn colli hyd at 80 y cant o’u busnes os ydynt mewn ardal lle mae dibyniaeth drom ar fudd-daliadau—er enghraifft, mewn ardal lle ceir llawer o bensiynwyr, pobl ddi-waith, neu bobl ar fudd-daliadau anabledd arbennig, ac ati. Amcan cyffredinol yr ymgais i gael ffurf arall ar fusnes i swyddfeydd post o’r fath yw eu gwneud yn ganolfannau cyffredinol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth, fel y crybwyllasoch, a thrwy gyflwyno bancio cyffredinol. Dyna’r ddau nod. Disgwyliwn am ganlyniadau arbrawf swydd Gaerlŷr ar ganolfannau gwasanaethau cyffredinol llywodraeth cyn penderfynu a allem ninnau gyflwyno rhywbeth tebyg yn swyddfeydd post Cymru.

Rhaglen Amcan 1

Objective 1 Programme

C9 Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Q9 Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 21

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar faint o swyddi ychwanegol sydd wedi cael eu creu o ganlyniad i raglen Amcan 1 yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhaglen? (OAQ18223)

Will the First Minister make a statement on the number of additional jobs that have been created by means of the Objective 1 programme during the first two years of the programme? (OAQ18223)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 21

Ni fydd y wybodaeth fonitro sy’n dangos cyfanswm nifer y swyddi newydd a grëwyd gan Amcan 1 ar gael tan yn hwyrach eleni. Er hynny, o’r wybodaeth sydd ar gael hyd at ddiwedd Mai, deallaf fod mwy na 14,000 o swyddi newydd yn yr arfaeth. Os ydych am gael gwybod faint o’r swyddi hynny sy’n wirioneddol ychwanegol, y cyfle cyntaf i weld hynny fydd gwerthusiad hanner tymor y rhaglen, y flwyddyn nesaf.

Monitoring data showing the gross number of new jobs created by Objective 1 will not be available until later this year. However, from the information available to the end of May, I understand that over 14,000 new jobs will be created. If you want to know how many of those jobs are truly additional, the first opportunity will be the mid-term evaluation of the programme next year.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 21

Yr wyf yn siŵr eich bod yn cytuno mai un wers i’w dysgu o Amcan 1 yn Iwerddon—ac yr ydym yn llongyfarch Iwerddon ar ei buddugoliaeth o dair gôl i ddim yng nghwpan bêl-droed y byd y prynhawn yma—oedd y modd y denwyd nifer sylweddol o swyddi o ansawdd i wahanol ranbarthau Iwerddon. A allwch chi sicrhau y bydd y swyddi newydd sy’n dod yn sgîl Amcan 1, yn cyrraedd yr ardaloedd lle mae mawr angen swyddi o ansawdd?

I am sure that you agree that one lesson to be learned from Objective 1 in Ireland—and we congratulate Ireland on its three goals to nil victory in the world cup this afternoon—was the way that a substantial number of quality jobs were attracted to various regions of Ireland. Can you ensure that the new jobs created in the wake of Objective 1 reach the areas where quality employment is greatly needed?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 21

Nid wyf yn siŵr ai dyna’r unig wers a ddysgwyd. Dyna un wers ond, yn ystod dwy neu dair blynedd gyntaf cyfnod Amcan 1, bu i Iwerddon sôn am ganolbwyntio ar gael swyddi o unrhyw fath, gan gynnwys swyddi gwella cyfleusterau cymunedol, megis glanhau hen gamlesi ac ati, i bobl a fu’n ddi-waith am fwy na 10 mlynedd. Dyna’r sylfaen gyntaf a osodwyd ar ddechrau cyfnod Amcan 1 yn 1992-93. Wedyn, adeiladwyd ar y sylfaen honno gyda’r swyddi o ansawdd y cyfeiriodd Dafydd atynt.

I am not sure that that was the only lesson learned. That was one lesson but, during the first two or three years of the Objective 1 period, Ireland also talked of concentrating on getting any sort of employment, including jobs improving local community amenities, such as cleaning up old canals and so on, for people who had been unemployed for more than 10 years. That was the initial foundation laid at the beginning of the Objective 1 period in 1992-93. The quality jobs to which Dafydd referred were then built on that foundation.

Brian Hancock spoken in English p. 22

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 22

News is breaking today in my constituency of Islwyn, that Thermomax Ltd is about to lose 90 employees, which is about half its workforce. Last year, the Deputy Minister for Economic Development, John Griffiths, presented the Queen’s Award for Export Achievement to that company, which works in solar energy innovation. It provides a vital service that has a global impact, and yet it cannot survive because of the strength of the pound. Two-thirds of its products are exported to Germany, where the economy is falling. What will you do to make the Bank of England change its policy so that highly innovative manufacturing industries in south Wales can survive in this climate?

Mae newyddion yn torri heddiw yn fy etholaeth i, Islwyn, y bydd Thermomax Cyf yn colli 90 o weithwyr, sef tua hanner ei weithlu. Y llynedd, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd, John Griffiths, Wobr y Frenhines am Allforio i’r cwmni hwnnw, sy’n gweithio ar gynlluniau ynni haul arloesol. Mae’n darparu gwasanaeth hanfodol ag iddo effaith fyd-eang, ac eto ni all ddal ei dir oherwydd cryfder y bunt. Caiff dwy ran o dair o’i gynnyrch ei allforio i’r Almaen, lle mae’r economi ar i lawr. Beth wnewch chi i wneud i Fanc Lloegr newid ei bolisi i sicrhau y gall diwydiannau cynhyrchu arloesol iawn yn y De oroesi yn yr hinsawdd hon?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 22

I will have to get more information on what has happened at Thermomax Ltd because the story has broken today and I do not have the details. I visited the company last year when it had about 90 employees. I understand that it has doubled its workforce since then, and I guess that that may have gone wrong and that the company is now returning to the numbers that it had when I visited it about a year ago. You are right that it exports heavily to Germany. I do not know whether the company’s problems are connected with the level of the pound and the euro. The level of the pound has reduced quite sharply over the past month; the level of the euro has risen, and that is expected to continue. I think that the euro has climbed from being worth about 58p or 59p in the pound to about 65p in the pound in the last month, which will be of great benefit to Welsh manufacturers who export to Germany and other eurozone countries.

Bydd yn rhaid imi gael mwy o wybodaeth ar yr hyn a ddigwyddodd yn Thermomax Cyf oherwydd daeth y stori allan heddiw ac nid yw’r manylion gennyf. Ymwelais â’r cwmni y llynedd pan oedd ganddo ryw 90 o weithwyr. Deallaf ei fod wedi dyblu ei weithlu ers hynny, ac yr wyf yn dyfalu efallai fod hynny wedi mynd o chwith a bod y cwmni’n awr yn dychwelyd at y niferoedd a oedd ganddo pan ymwelais i ag ef tua blwyddyn yn ôl. Yr ydych yn gywir ei fod yn allforio’n drwm i’r Almaen. Ni wn a yw problemau’r cwmni’n gysylltiedig â lefel y bunt a’r ewro. Mae lefel y bunt wedi gostwng yn eithaf sydyn yn y mis diwethaf; mae lefel yr ewro wedi codi, a disgwylir i hynny barhau. Credaf fod yr ewro wedi dringo o fod yn werth tua 58c neu 59c yn y bunt i ryw 65c yn y bunt yn y mis diwethaf, a fydd o fudd mawr i gynhyrchwyr yng Nghymru sy’n allforio i’r Almaen a gwledydd eraill yr ewro.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 22

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

Question 10 (OAQ18230) has been withdrawn and Question 11 (OAQ18208) has been transferred for written answer.

Mae cwestiwn 10 (OAQ18230) wedi’i dynnu’n ôl a throsglwyddwyd cwestiwn 11 (OAQ18208) ar gyfer ateb ysgrifenedig.

Newidiadau i Gyfrifoldebau Gweinidogion

Changes to Ministers’ Responsibilities

Q12 Pauline Jarman spoken in English p. 22

C12 Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 22

Will the First Minister make a statement on any changes he has recently made to the responsibilities of his Cabinet members? (OAQ18206)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar unrhyw newidiadau y mae wedi’u gwneud yn ddiweddar i gyfrifoldebau aelodau ei Gabinet? (OAQ18206)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

Since my statement on 26 February I have not made any changes to the responsibilities of Cabinet members.

Ers fy natganiad ar 26 Chwefror nid wyf wedi gwneud unrhyw newidiadau i gyfrifoldebau aelodau’r Cabinet.

Pauline Jarman spoken in English p. 23

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 23

Do you envisage any circumstances other than the death, resignation or retirement of any Cabinet members that would force you to reshuffle or consider reshuffling the Cabinet?

A ragwelwch unrhyw amgylchiadau, ar wahân i farwolaeth, ymddiswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelodau Cabinet, a fyddai’n eich gorfodi i aildrefnu neu ystyried aildrefnu’r Cabinet?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

You will be among the second to know, Pauline.

Byddwch chi ymhlith yr ail i gael gwybod, Pauline.

Gwella Cysylltiadau â Busnes

Improving Links with Business

Q13 Peter Black spoken in English p. 23

C13 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 23

How is the Assembly improving its links with business? (OAQ18212)

Sut y mae’r Cynulliad yn gwella ei gysylltiadau â busnes? (OAQ18212)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

The Business Partnership Council meets at least three times a year. The Assembly Government is also providing funds to the Wales Social Partners Unit Ltd to help social partners engage even more effectively with the Assembly and other public agencies in Wales. We have close links with various sector fora, namely the automotive forum, the aerospace forum and the electronics forum.

Bydd y Cyngor Partneriaeth Busnes yn cwrdd o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu cyllid hefyd i Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru Cyf i helpu partneriaid cymdeithasol i gysylltu’n fwy effeithiol fyth â’r Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae gennym gysylltiadau agos ag amryfal fforymau sector, sef y fforwm modurol, y fforwm aerofod a’r fforwm electroneg.

Peter Black spoken in English p. 23

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 23

I understand that Assembly investment grants have proved to be successful. What is being done to market this business-friendly innovation to encourage more businesses to take it up?

Deallaf fod grantiau buddsoddi’r Cynulliad wedi profi’n llwyddiannus. Beth a wneir i farchnata’r cynllun newydd hwn i helpu busnesau er mwyn annog mwy o fusnesau i ymuno ag ef?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

This is interesting. A new grant scheme that is introduced throughout Wales with minimum red tape in order to keep it simple will still have rules, because the scheme must comply with the European Commission’s state aid rules. If it did not comply, the commission would come down on you like a tonne of bricks and you would have to get people to repay the grants they received. All we have done to date is ensure that everyone is aware of the scheme; we have not consciously blitzed Wales with a major marketing programme. As you said, response has been good, and we will have to consider marketing when the initial phase comes to an end.

Mae hyn yn ddiddorol. Bydd cynllun grant newydd a gyflwynir ledled Cymru heb nemor ddim tâp coch er mwyn cadw pethau’n syml yn dal i fod yn destun rheolau, oherwydd rhaid i’r cynllun gydymffurfio â rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd ar gymorth gwladwriaethol. Pe na bai’n cydymffurfio, deuai’r comisiwn i lawr ar eich pennau fel tunnell o frics a byddai’n rhaid ichi fynnu bod pobl yn ad-dalu’r grantiau a roddwyd iddynt. Y cwbl yr ydym wedi’i wneud hyd yma yw sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r cynllun; nid ydym wedi mynd ati i bledu Cymru â rhaglen farchnata fawr. Fel y dywedasoch, bu’r ymateb yn dda, a bydd yn rhaid inni ystyried marchnata pan ddaw’r cam cyntaf i ben.

Janet Davies spoken in English p. 24

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

Does the First Minister agree with the senior Labour figure, Roger Warren Evans, that scrapping 22 local authorities would improve business links?

A yw’r Prif Weinidog yn cytuno ag un o hynafgwyr y blaid Lafur, Roger Warren Evans, y byddai diddymu 22 awdurdod lleol yn gwella cysylltiadau busnes?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 24

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 24

I know Roger Warren Evans well, and have done for some 30 years. However, I have not heard him say that, and I am not sure whether the abolition of local government is a course that would commend itself to the Welsh Assembly Government.

Yr wyf yn adnabod Roger Warren Evans yn dda, a hynny ers rhyw 30 mlynedd. Er hynny, nid wyf wedi ei glywed yn dweud hynny, ac nid wyf yn siŵr a yw diddymu llywodraeth leol yn rhywbeth a fyddai wrth fodd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 24

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

Question 14 (OAQ18233) has been withdrawn.

Mae cwestiwn 14 (OAQ18233) wedi ei dynnu’n ôl.

Polisïau Iechyd

Health Policies

C15 David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Q15 David Lloyd spoken in Welsh p. 24

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y mesurau y mae’r Cynulliad wedi’u cymryd i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa o’i bolisïau iechyd? (OAQ18205)

Will the First Minister make a statement on the measures the Assembly has taken to ensure its health policies benefit all of Wales? (OAQ18205)

Datganaf fy muddiant arferol fel meddyg teulu.

I declare my usual interest as a general practitioner.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 24

Yr wyf fi, fel yr wyf yn siŵr yr ydych chi, Dai, yn awyddus i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa ar ein polisïau iechyd, ac yr ydym wedi cymryd camau pwysig i’r perwyl hwnnw. Un enghraifft yw adolygiad Townsend o sut y caiff adnoddau eu clustnodi, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael cyfran deg o adnoddau yn unol ag anghenion eu hardaloedd. Enghraifft arall yw’r gronfa anghydraddoldebau iechyd, sydd yn ariannu prosiectau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

I am keen, as I am sure you are, Dai, to ensure that the whole of Wales benefits from our health policies, and we have taken important steps to that end. One such step is the Townsend review of resource distribution, to ensure that the people of Wales receive a fair share of resources based on the needs in their areas. Another example is the health inequalities fund, which provides funding for projects in Wales’s most deprived areas.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 24

David Lloyd spoken in Welsh p. 24

Beth y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud i wella cyllid y gwasanaeth ambiwlans er mwyn ei alluogi i gyrraedd ei dargedau ym mhob rhan o Gymru?

What plans does the First Minister have to improve the funding of the ambulance service to enable it to meet its targets in all parts of Wales?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 24

Mae rhai o ardaloedd Cymru mor wledig fel bod rhaid gosod targedau rhesymol sydd yn wahanol i dargedau ein hardaloedd trefol. Credaf fod pawb yn derbyn hynny, hyd yn oed pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig. Deallant yr egwyddor o osod targed gwahanol mewn ardal wledig eang â phoblogaeth fach i’r hyn a geir mewn ardal drefol. Wedi dweud hynny, yr ydym yn ariannu’r gwasanaeth ambiwlans mewn modd rhesymol ond, os oes gennych enghreifftiau o leoedd lle nad yw hynny’n digwydd, byddwn yn hapus i dderbyn llythyr gennych ar y pwnc.

Some parts of Wales are so rural that we must set reasonable targets that are different from those in urban areas. I believe that that is accepted by everyone, even by those who live in rural areas. They understand the principle of setting different targets in a vast, sparsely populated rural area from those in urban areas. Having said that, we are funding the ambulance service in a reasonable way but, if you have any any examples of areas where that is not happening, I would be happy to receive a letter from you on the subject.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 25

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

That brings today’s proceedings to a close.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 2.43 p.m.

The session ended at 2.43 p.m.