English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Iau 30 Mai 2002

Thursday 30 May 2002

DechreuoddMet 09:05 · Daeth i benRose 11:40

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 4Ethol i’r Pwyllgor DeddfauElections to the Legislation Committee 1 bleidlais1 vote
  2. 4Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddatblygu EconomaiddQuestions to the Minister for Economic Development
    1. 5Ynni Gwynt ar y Môr (Arian Amcan 1)Offshore Wind Power (Objective 1 Funding)
    2. 6Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y Pen yng Nghymru a’r DUGross Domestic Product per head in Wales and UK
    3. 8Rôl Ynni Gwynt ar y MôrRole of Offshore Wind Power
    4. 10Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth LeolThe Welsh Development Agency and Local Government
    5. 12Arian Cyfatebol ar gyfer Cronfeydd StrwythurolMatch Funding for Structural Funds
    6. 13Anweithgarwch Economaidd yng NghymruEconomic Inactivity in Wales
    7. 14Buddsoddiad British Aerospace yn y CanolbarthBritish Aerospace Investment in Mid Wales
  3. 15Cwestiynau ar Gyllid i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a ChymunedauQuestions on Finance to the Minister for Finance, Local Government and Communities
    1. 15Mentrau Cyllid Preifat i Adeiladu Ysgolion NewyddPrivate Finance Initiatives to Build New Schools
    2. 17Adolygiad Cynhwysfawr o WariantComprehensive Spending Review
    3. 19Costau Newid Systemau AriannolCosts Incurred by Changing Monetary Systems
    4. 20Menter Gwerth Gorau (Arbedion a Chostau)Best Value Initiative (Savings and Costs)
    5. 21Ailddyrannu TanwariantReallocation of Underspends
    6. 22Newid y Modd yr Ariennir y CynulliadChanges in the Funding of the Assembly
    7. 23Dyrannu Arian yn UniongyrcholDirect Allocation of Funds
    8. 24Archwilio Grantiau’r CynulliadAuditing of Assembly Grants
  4. 24Datganiad ar Rôl Llyfrgelloedd ac Archifau wrth Hyrwyddo CynhwysiantCymdeithasol a Dysgu Gydol Oes Statement on the Role of Libraries and Archives in Promoting Social Inclusion and Lifelong Learning
  5. 35Datganiad ar Gydraddoldeb HiliolStatement on Race Equality
  6. 48Pwynt o DrefnPoint of Order
  7. 49Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  8. 50Cymeradwyo’r Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygio) (Rhif 2) 2002 a Gorchymyn Awdurdod Grawnfwydydd Cartref (Cyfradd Ardrethu) 2002Approval of the Plant Protection Products (Amendment) (No. 2) Regulations 2002 and the Home Grown Cereals Authority (Rate of Levy) Order 2002 1 bleidlais1 vote
  9. 51Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders 1 bleidlais1 vote
  10. 53Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2001Delegating the Functions of the Health and Social Care Act (Wales) 2001 1 bleidlais1 vote
  11. 57Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 7) (Cymru) 2002Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 7) (Wales) 2002 1 bleidlais1 vote
  12. 66Cymeradwyo’r Datganiad ar yr AmserlenApproval of the Periodic Timetable Statement 1 bleidlais1 vote
  13. 67Pwynt o DrefnPoint of Order
  14. 67Dadl FerShort Debate
    1. 67Gwnaed yng Nghymru—Cymunedau a Busnesau yn CydweithreduMade in Wales—Communities and Businesses in Co-operation

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Ethol i’r Pwyllgor DeddfauElections to the Legislation Committee
Cynnig NDM1066Motion NDM10662700DerbyniwydAdopted
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion3800DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo’r Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygio) (Rhif 2) 2002 a Gorchymyn Awdurdod Grawnfwydydd Cartref (Cyfradd Ardrethu) 2002Approval of the Plant Protection Products (Amendment) (No. 2) Regulations 2002 and the Home Grown Cereals Authority (Rate of Levy) Order 2002
Cynnig NNDM1072Motion NNDM10723900DerbyniwydAdopted
Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders
Cynnig cyfansawdd NDM1068Composite motion NDM10683700DerbyniwydAdopted
Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2001Delegating the Functions of the Health and Social Care Act (Wales) 2001
Cynnig NDM1069Motion NDM10693500DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 7) (Cymru) 2002Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 7) (Wales) 2002
Cynnig NDM1070Motion NDM10703700DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo’r Datganiad ar yr AmserlenApproval of the Periodic Timetable Statement
Cynnig NDM1067Motion NDM10673500DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 9.05 a.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 9.05 a.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Ethol i’r Pwyllgor Deddfau

Elections to the Legislation Committee

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in Welsh p. 4

Cynigiaf fod

I propose that

Cynnig NDM1066 Carwyn Jones t. 4

Motion NDM1066 Carwyn Jones p. 4

DerbyniwydAdopted O blaidFor 27 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (27)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Peter Law
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Janet Ryder
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd

Questions to the Minister for Economic Development

Ynni Gwynt ar y Môr (Arian Amcan 1)

Offshore Wind Power (Objective 1 Funding)

Q1 Ann Jones spoken in English p. 5

C1 Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 5

Will the Minister make a statement on the use of Objective 1 funding to promote the development of offshore wind power? (OAQ18043)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddefnyddio arian Amcan 1 i hyrwyddo datblygiad ynni gwynt ar y môr? (OAQ18043)

Andrew Davies The Minister for Economic Development spoken in English p. 5

Andrew Davies Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 5

The Objective 1 programme includes several measures for clean energy sector developments, including offshore wind. The programme will play an important role in maximising the benefits of renewable energy developments in Wales. To date, one of the three proposed offshore wind projects in Welsh waters has made a successful application for support through the Objective 1 programme.

Mae’r rhaglen Amcan 1 yn cynnwys sawl mesur ar gyfer datblygiadau yn y sector ynni glân, gan gynnwys gwynt ar y môr. Bydd y rhaglen yn chwarae rhan bwysig wrth amlhau manteision datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae un o’r tri phrosiect gwynt ar y môr arfaethedig yn nyfroedd Cymru wedi llwyddo yn ei gais am gymorth drwy’r rhaglen Amcan 1.

Ann Jones spoken in English p. 5

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 5

I welcome the fact that Objective 1 funding has been secured for a project off the north Wales coast. I am sure that you are aware that a section 36 Assembly endorsement is required by next month in order to qualify for further awards from the Department of Trade and Industry. I understand that the local authorities involved have already agreed to this. Can you assure me that the Assembly will give a positive response to allow Celtic Offshore Wind Ltd to draw down further funding from the DTI?

Croesawaf y ffaith bod arian Amcan 1 wedi’i sicrhau i brosiect oddi ar arfordir y Gogledd. Yr wyf yn sicr eich bod yn ymwybodol bod angen cymeradwyaeth gan y Cynulliad dan adran 36 erbyn y mis nesaf er mwyn iddo fod yn gymwys i dderbyn dyfarniadau pellach gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Deallaf fod yr awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig wedi cytuno ar hyn eisoes. A allwch fy sicrhau y bydd y Cynulliad yn ymateb yn gadarnhaol fel y gall Celtic Offshore Wind Cyf gymryd arian pellach gan yr Adran Masnach a Diwydiant?

Andrew Davies spoken in English p. 5

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 5

All offshore developers must go through the statutory consent process before proceeding with projects. No developer can shortcut this process. While I am sure that our formal response to the DTI will come before the end of June, I am aware that all windfarms currently being developed in the UK are experiencing difficulties in achieving consent under the Food and Environment Protection Act 1985 before the end of June. The DTI recognises this problem and my officials are in discussions with the DTI and the Department for Environment, Food and Rural Affairs on how best to resolve this. We strongly favour developing offshore wind energy, and see it as a major contributor to any future renewable energy targets we adopt in Wales.

Rhaid i’r holl ddatblygwyr ar y môr fynd drwy’r broses caniatâd statudol cyn symud ymlaen â’u prosiectau. Ni all yr un datblygwr osgoi’r broses hon. Er fy mod yn sicr y daw ein hymateb ffurfiol i’r Adran Masnach a Diwydiant cyn diwedd Mehefin, yr wyf yn ymwybodol bod yr holl ffermydd gwynt a ddatblygir ar hyn o bryd yn y DU yn profi anawsterau wrth sicrhau caniatâd dan Ddeddf Bwyd ac Amddiffyn yr Amgylchedd 1985 cyn diwedd Mehefin. Mae’r Adran Masnach a Diwydiant yn cydnabod y broblem hon ac mae fy swyddogion mewn trafodaethau â’r Adran Masnach a Diwydiant ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y modd gorau i ddatrys hyn. Yr ydym yn bleidiol iawn i ddatblygu ynni gwynt ar y môr, ac yn ei ystyried yn gyfraniad o bwys at unrhyw dargedau ynni adnewyddadwy a fabwysiadwn yn y dyfodol yng Nghymru.

Dafydd Wigley spoken in English p. 6

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 6

In order to ensure that we make rapid progress in taking up Objective 1 funding, we need to obtain this section 36 approval as quickly as possible. Is it true that the Countryside Council for Wales is responsible for causing this delay in getting Assembly approval? Is this part of a pattern?

Er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen yn gyflym wrth ddefnyddio arian Amcan 1, rhaid inni gael y gymeradwyaeth adran 36 hon cyn gynted â phosibl. A yw’n wir mai Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n gyfrifol am yr oedi hwn wrth gael cymeradwyaeth gan y Cynulliad? A yw hyn yn rhan o batrwm?

Andrew Davies spoken in English p. 6

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

I am not aware that there is an issue with CCW, but I will take up your point, Dafydd, and come back to you and colleagues on it.

Nid wyf yn ymwybodol bod mater yn codi ynghylch Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ond fe godaf eich pwynt, Dafydd, a deuaf yn ôl atoch chi a chyd-Aelodau ar hynny.

Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y Pen yng Nghymru a’r DU

Gross Domestic Product per head in Wales and UK

Q2 Phil Williams spoken in English p. 6

C2 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 6

Will the Minister make a statement on recent predictions by Cambridge Econometrics and Oxford Economic Forecasting Ltd that suggest that the gap in gross domestic product per head between Wales and the rest of the UK will continue to widen? (OAQ18112)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr hyn a gafodd ei ddarogan yn ddiweddar gan Cambridge Econometrics ac Oxford Economic Forecasting Cyf sy’n awgrymu y bydd y bwlch yn nghynnyrch mewnwladol crynswth y pen rhwng Cymru a gweddill y DU yn parhau i dyfu? (OAQ18112)

Andrew Davies spoken in English p. 6

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

As you know, and as I have said in the Economic Development Committee, forecasts must be treated with a great deal of caution. A more recent Business Strategies Ltd forecast suggests a significantly more optimistic outlook than either Cambridge Econometrics or Oxford Economic Forecasting Ltd.

Fel y gwyddoch, ac fel y dywedais yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd, rhaid trin rhagolygon yn ofalus iawn. Mae rhagolwg diweddarach gan Business Strategies Cyf yn awgrymu bod yr argoelion yn fwy gobeithiol o lawer na’r rhai a nodwyd gan Cambridge Econometrics ac Oxford Economic Forecasting Cyf.

Phil Williams spoken in English p. 6

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 6

In the Environment, Planning and Transport Committee meeting yesterday, officials confirmed that Cambridge Econometrics predictions were based on a detailed analysis of the latest work from every part of Wales. The predictions were confirmed by official figures showing that average wages in Wales have dropped from 87.6 per cent to 86 per cent of the UK average, and that the production index has dropped by 7.3 per cent in one year. Do you accept that the Government of Wales’s policies have failed to halt the widening gap in GDP?

Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth ddoe, cadarnhaodd swyddogion fod rhagolygon Cambridge Econometrics yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o’r gwaith diweddaraf o bob rhan o Gymru. Cadarnhawyd y rhagolygon gan ffigurau swyddogol a ddangosai fod y cyflogau cyfartalog yng Nghymru wedi disgyn o 87.6 y cant i 86 y cant o gyfartaledd y DU, a bod y mynegrif cynnyrch wedi disgyn 7.3 y cant mewn blwyddyn. A ydych yn derbyn bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu ag atal y bwlch cynyddol yn yr CMC?

Andrew Davies spoken in English p. 6

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

Not at all.

Dim o gwbl.

Phil Williams spoken in English p. 7

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 7

Come on.

Dewch ymlaen.

Andrew Davies spoken in English p. 7

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 7

The Assembly approved our national economic development strategy last December; we are barely six months into it. As I have said many times, given the problems in the world economy over the last year or so, the Welsh economy has performed well. It has proved to be resilient when you consider the problems of the manufacturing sector particularly, which the First Minister and I have been up-front about. The Welsh economy is much more diverse than it used to be when we relied on coal, steel and heavy industry. I am confident that the 10-year ‘A Winning Wales’ strategy, together with our other strategies—in training and education, Objective 1 and the other structural fund programmes—will have a significant long-term effect on the economy. It is far too soon to say that they have failed. That is Phil’s consistent position, but it is far too early to tell.

Cymeradwyodd y Cynulliad ein strategaeth datblygu economaidd genedlaethol fis Rhagfyr diwethaf; nid oes ond prin chwe mis ers inni ddechrau arni. Fel y dywedais lawer gwaith, o ystyried y problemau yn economi’r byd dros y flwyddyn ddiwethaf, fwy neu lai, mae economi Cymru wedi perfformio’n dda. Mae wedi profi’n wydn os ystyriwch y problemau yn y sector gweithgynhyrchu’n benodol, y bu Prif Weinidog Cymru a minnau’n agored yn eu cylch. Mae economi Cymru’n llawer mwy amrywiol nag yr arferai fod pan oeddem yn dibynnu ar lo, dur a diwydiannau trwm. Yr wyf yn ffyddiog y bydd strategaeth 10 mlynedd ‘Cymru’n Ennill’, ynghyd â’n strategaethau eraill—mewn hyfforddi ac addysg, Amcan 1 a’r rhaglenni cronfa strwythurol eraill—yn cael effaith dymor hir sylweddol ar yr economi. Mae’n rhy fuan o lawer i ddweud eu bod wedi methu. Dyna safbwynt Phil o hyd, ond mae’n rhy fuan o lawer i ddweud.

Alun Pugh spoken in English p. 7

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 7

GDP in the lower Conwy valley was threatened when the Dolgarrog aluminium works nearly ceased trading. Will you update the Assembly on the position?

Yr oedd CMC dyffryn Conwy isaf o dan fygythiad pan fu bron i waith alwminiwm Dolgarrog roi’r gorau i fasnachu. A wnewch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y sefyllfa?

Andrew Davies spoken in English p. 7

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 7

My officials, the Welsh Development Agency, the local authority, local Assembly Members and myself have done everything possible to safeguard the position of staff about to be made redundant by Alcoa. The management buy-out of the Dolgarrog plant has applied for regional selective assistance, and yesterday I approved an RSA grant of £3 million.

Mae fy swyddogion, Awdurdod Datblygu Cymru, yr awdurdod lleol, yr Aelodau Cynulliad lleol a minnau wedi gwneud popeth a oedd yn bosibl i ddiogelu sefyllfa’r staff a oedd ar fin cael eu diswyddo gan Alcoa. Mae’r rheolwyr sy’n prynu gwaith Dolgarrog wedi gwneud cais am gymorth rhanbarthol dewisol, a ddoe fe gymeradwyais grant cymorth rhanbarthol dewisol o £3 miliwn.

Alun Cairns spoken in English p. 7

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 7

Your replies to Phil Williams sought to put the most favourable gloss possible on pretty damning economic figures and predictions. When do you expect to turn those figures around?

Yn eich atebion i Phil Williams yr oeddech yn ceisio rhoi’r dehongliad mwyaf ffafriol posibl o ffigurau a rhagfynegiadau economaidd eithaf damniol. Pa bryd yr ydych yn disgwyl gweddnewid y ffigurau hynny?

Andrew Davies spoken in English p. 7

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 7

When I was a teenager, I knew of a guitarist whose name reflected the range of his repertoire—Johnny One Note. Alun Cairns merely repeats this negativity. I answered Phil Williams’s questions fully. The opposition must put an unfavourable gloss on the economic position of Wales.

Pan oeddwn yn fy arddegau, fe wyddwn am gitarydd yr oedd ei enw’n adlewyrchu amrywiaeth ei stôr o ganeuon—Johnny One Note. Y cwbl a wnaiff Alun Cairns yw ailadrodd y negyddoldeb hwn. Atebais gwestiynau Phil Williams yn llawn. Rhaid i’r wrthblaid roi dehongliad anffafriol o sefyllfa economaidd Cymru.

The Welsh economy has been remarkably resilient. We have the lowest unemployment for a generation, favourable macro-economic conditions in terms of the fiscal position, and the underlying economic position and forecast is good. Even Phil acknowledges that the differing economic predictions of various forecasting organisations and departments reflect that there will be economic growth throughout the UK. BSL forecasts that the GDP gap between Wales and the UK is likely to narrow.

Bu economi Cymru’n hynod o wydn. Mae gennym y diweithdra isaf ers cenhedlaeth, amodau macro-economaidd ffafriol o ran y sefyllfa gyllidol, ac mae’r sefyllfa a’r rhagolwg economaidd sylfaenol yn dda. Mae hyd yn oed Phil yn cydnabod bod gwahanol ragfynegiadau economaidd y gwahanol gyrff ac adrannau darogan yn adlewyrchu’r ffaith y bydd twf economaidd ledled y DU. Mae BSL yn darogan y bydd y bwlch CMC rhwng Cymru a’r DU yn debygol o leihau.

Rôl Ynni Gwynt ar y Môr

Role of Offshore Wind Power

Q3 Ann Jones spoken in English p. 8

C3 Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 8

Will the Minister make a statement on the role of offshore wind power in supplying Wales’s future energy needs? (OAQ18040)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar rôl ynni gwynt ar y môr o ran diwallu anghenion ynni Cymru yn y dyfodol? (OAQ18040)

Andrew Davies spoken in English p. 8

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 8

Offshore wind is seen as a vital part of the commitment of the Assembly Government and the UK Government to clean and renewable energy. Offshore wind is key to meeting UK renewable electricity targets for 2010, and in achieving any future renewable energy targets set by the Assembly Government. The conclusions of the Economic Development Committee’s review of energy will also contribute to the wider debate on the future energy mix. I am keen for us to take advantage of the opportunities that offshore schemes can bring, to establish Wales as a global showcase for clean energy developments.

Mae ynni gwynt ar y môr yn cael ei ystyried yn rhan hollbwysig o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU i ynni glân ac adnewyddadwy. Mae ynni gwynt ar y môr yn allweddol er mwyn cyrraedd targedau trydan adnewyddadwy’r DU ar gyfer 2010, ac wrth gyflawni unrhyw dargedau ynni adnewyddadwy a osodir gan Lywodraeth y Cynulliad yn y dyfodol. Bydd casgliadau adolygiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd o ynni yn cyfrannu hefyd at y ddadl ehangach ar y cymysgedd ynni yn y dyfodol. Yr wyf yn awyddus inni fanteisio ar y cyfleoedd y gall cynlluniau ar y môr eu cynnig, i sefydlu Cymru’n ffenestr siop fyd-eang i ddatblygiadau ynni glân.

Ann Jones spoken in English p. 8

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 8

Do you agree that offshore wind power represents an exciting opportunity for Wales to progress toward our renewable energy targets? I alluded in question 1 this morning to Rhyl Flats, as it is known, that may well be the first offshore wind farm to be built off the coast of Britain. What contribution do you expect offshore windpower to make to our future energy targets?

A ydych yn cytuno bod ynni gwynt ar y môr yn gyfle cyffrous i Gymru symud ymlaen tuag at ein targedau ynni adnewyddadwy? Cyfeiriais yng nghwestiwn 1 y bore yma at Feisleoedd y Rhyl, fel y’u gelwir, lle y mae’n ddigon posibl y codir y fferm wynt gyntaf ar y môr oddi ar arfordir Prydain. Pa gyfraniad yr ydych yn ei ddisgwyl gan ynni gwynt ar y môr i’n targedau ynni yn y dyfodol?

Andrew Davies spoken in English p. 8

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 8

It could make a significant contribution. In view of the threat posed by global warming, we must make a significant contribution in terms of clean energy generation. As it is probably less contentious in terms of visual impact and any potential impact on tourism, using offshore wind is less problematic in many ways than using onshore wind. Therefore it has a significant role to play.

Gallai gyfrannu’n sylweddol. Oherwydd y bygythiad oddi wrth y cynhesu byd-eang, rhaid inni wneud cyfraniad sylweddol o ran cynhyrchu ynni glân. Gan ei fod yn debygol o fod yn llai dadleuol o ran ei effaith weledol ac unrhyw effaith bosibl ar dwristiaeth, mae defnyddio gwynt ar y môr yn llai problemus ar lawer ystyr na defnyddio gwynt ar y tir. Felly, mae rôl bwysig iddo.

Janet Ryder spoken in English p. 9

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 9

Do you agree that the work of building wind turbines is becoming a major industry, especially in north Wales, where there is a great deal of expertise? However, the delay in the planning process is causing severe problems for companies such as DJ Construction Ltd in Colwyn Bay. The plans are being held up in the Assembly. Firms invest greatly in developing plans, but they are being held up for a year or two waiting for determination. What are you doing to help such companies?

A ydych yn cytuno bod adeiladu tyrbinau gwynt yn dod yn ddiwydiant o bwys, yn enwedig yn y Gogledd, lle ceir llawer iawn o arbenigedd? Fodd bynnag, mae’r oedi yn y broses gynllunio’n achosi problemau difrifol i gwmnïau fel DJ Construction Cyf ym Mae Colwyn. Mae’r cynlluniau’n cael eu dal yn ôl yn y Cynulliad. Mae busnesau’n buddsoddi llawer iawn wrth ddatblygu cynlluniau, ond maent yn cael eu dal yn ôl am flwyddyn neu ddwy wrth ddisgwyl penderfyniad. Beth yr ydych yn ei wneud i helpu cwmnïau o’r fath?

Andrew Davies spoken in English p. 9

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

If you write to me on that particular case, I will consider the problem and the cause of any delays—if there are any delays. If it is a local planning issue, it is a matter for the local authority. If there are wider issues that need to be addressed, I am happy to discuss those with you, to see what we can do to streamline the process.

Os gwnewch ysgrifennu ataf ynghylch yr achos penodol hwnnw, fe ystyriaf y broblem ac achos unrhyw oedi—os oes oedi. Os yw’n fater cynllunio lleol, mae’n fater i’r awdurdod lleol. Os oes materion ehangach y mae angen ymdrin â hwy, byddaf yn falch o’u trafod gyda chi, i weld beth y gallwn ei wneud i symleiddio’r broses.

William Graham spoken in English p. 9

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 9

Will you clarify the policy of the Welsh Assembly Government with regard to future wind power developments? Has that policy been adapted to accommodate the Minister of State for Industry, Energy and the Environment’s decision regarding Cefn Croes?

A wnewch egluro polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran datblygiadau ynni gwynt yn y dyfodol? A addaswyd y polisi hwnnw i’w gysoni â phenderfyniad y Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant, Ynni a’r Amgylchedd ynghylch Cefn Croes?

Andrew Davies spoken in English p. 9

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

Our policy is in the process of being formulated. It will largely await the outcome of the Economic Development Committee’s review of renewable energy. I have made it clear that it would be premature for me or the Assembly Government to make any decisions prior to the findings of that review.

Mae ein polisi ar ganol cael ei fformiwleiddio. Bydd yn aros i raddau helaeth am ganlyniad adolygiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd o ynni adnewyddadwy. Yr wyf wedi rhoi ar ddeall y byddai’n gynamserol i mi neu Lywodraeth y Cynulliad wneud unrhyw benderfyniadau cyn canfyddiadau’r adolygiad hwnnw.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 9

Mae cwestiwn 4 (OAQ18122) a chwestiwn 5 (OAQ18045) wedi’u trosglwyddo i’w hateb yn ysgrifenedig.

Question 4 (OAQ18122) and question 5 (OAQ18045) have been transferred for written answer.

Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Leol

The Welsh Development Agency and Local Government

Q6 Peter Black spoken in English p. 10

C6 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 10

Will the Minister make a statement on partnerships between the WDA and local government? (OAQ18036) [R]

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bartneriaethau rhwng Awdurdod Datblygu Cymru a llywodraeth leol? (OAQ18036) [R]

Q7 Peter Black spoken in English p. 10

C7 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 10

What discussions has the Minister had with local council leaders about the role that the WDA can play in economic regeneration in their areas? (OAQ18035) [R]

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag arweinwyr cynghorau lleol am y rôl y gall y WDA ei chwarae yn y broses o adfywio economïau eu hardaloedd? (OAQ18035) [R]

Andrew Davies spoken in English p. 10

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 10

The Welsh Development Agency is one of the Assembly Government’s key partners in delivering a prosperous and dynamic Welsh economy. Through its memorandum of understanding with the Welsh Local Government Association, the WDA recognises the central role that local government can play in increasing the prosperity of Wales. It also seeks to engage and work with local authorities wherever possible.

Awdurdod Datblygu Cymru yw un o bartneriaid allweddol Llywodraeth y Cynulliad wrth sicrhau economi Gymreig sy’n ffyniannus ac yn ddeinamig. Drwy ei femorandwm cyd-ddealltwriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’r WDA yn cydnabod y rôl ganolog y gall llywodraeth leol ei chwarae wrth gynyddu ffyniant Cymru. Mae hefyd yn ceisio cysylltu a gweithio gyda’r awdurdodau lleol lle bynnag y bo modd.

I have not yet had specific discussions with the leaders of local councils. However, the WDA, and the part it can play in delivering the aims of ‘A Winning Wales’, both nationally and locally, is a theme that runs through all my discussions with councillors and local authorities.

Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol eto ag arweinyddion cynghorau lleol. Fodd bynnag, mae’r WDA, a’r rhan y gall ei chwarae wrth gyflawni nodau ‘Cymru’n Ennill’, yn genedlaethol ac yn lleol, yn thema yn fy holl drafodaethau â chynghorwyr ac awdurdodau lleol.

Peter Black spoken in English p. 10

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 10

Given the importance of these partnerships for local regeneration, do you share my concern at the failure of Bridgend County Borough Council to conclude agreements with the WDA on the regeneration of Porthcawl and a business park at Island Farm? Will you consider intervening in this area to allay the real concern of local residents that they are losing out due to the breakdown of these agreements?

O ystyried pwysigrwydd y partneriaethau hyn i adfywio lleol, a ydych yn rhannu fy mhryder ynghylch methiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gwblhau cytundebau â’r WDA ar adfywio Porthcawl a pharc busnes yn Island Farm? A wnewch ystyried ymyrryd yn yr ardal hon i leddfu pryder gwirioneddol y trigolion lleol eu bod ar eu colled am fod y cytundebau hyn wedi methu?

Andrew Davies spoken in English p. 10

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 10

You have raised this issue of development in Porthcawl in questions on many occasions. There is a long history behind this matter. Perceptions vary considerably with regard to how this situation has arisen. As I have previously said, if I can play a role in helping to resolve any problems that might exist, I am happy to try to do so.

Yr ydych wedi codi’r mater hwn o ddatblygu ym Mhorthcawl mewn cwestiynau ar lawer achlysur. Mae hanes hir i’r mater hwn. Mae cryn wahaniaeth yn y canfyddiadau o’r modd y cododd y sefyllfa hon. Fel y dywedais o’r blaen, os gallaf chwarae rhan wrth helpu i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi, byddaf yn falch o geisio gwneud hynny.

Peter Black spoken in English p. 11

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 11

There is clearly great concern among local residents. Will you consider meeting with the local community councils and other groups who have concerns, to see what can be done to take this matter forward?

Mae’n amlwg bod pryder mawr ymysg y trigolion lleol. A wnewch ystyried cwrdd â’r cynghorau cymuned lleol a grwpiau eraill sydd â phryderon, i weld beth y gellir ei wneud i fwrw ymlaen â’r mater hwn?

Andrew Davies spoken in English p. 11

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

As I said, if I can help in any way, and if it is appropriate for me to do so, I will offer my assistance. However, this is a matter for the local authority. Discussions have been held on taking the matter forward; I would want to know the outcome of those discussions before I got involved in the process.

Fel y dywedais, os gallaf gynorthwyo mewn unrhyw fodd, ac os yw’n briodol imi wneud hynny, fe gynigiaf fy nghymorth. Fodd bynnag, mater i’r awdurdod lleol yw hwn. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch bwrw ymlaen â’r mater hwn; byddwn am wybod canlyniad y trafodaethau hynny cyn ymwneud â’r broses.

Peter Rogers spoken in English p. 11

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 11

Criticism has been levelled in the past at the WDA that it did not focus adequately on rural issues and economic development. Are you satisfied that the WDA is working effectively with councils in rural areas to promote regeneration following the foot and mouth disease crisis?

Mae’r WDA wedi’i feirniadu yn y gorffennol am beidio â chanolbwyntio’n ddigonol ar faterion gwledig a datblygu economaidd. A ydych yn fodlon bod y WDA yn gweithio’n effeithiol gyda’r cynghorau mewn ardaloedd gwledig i hyrwyddo adfywio ar ôl argyfwng clwy’r traed a’r genau?

Andrew Davies spoken in English p. 11

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

The WDA has undergone major restructuring over the last few years with the merger of three existing organisations. I am not aware of any concerns about the WDA failing in terms of community development in rural areas. If you have any concerns and specific examples, I will be more than happy to take them up.

Mae’r WDA wedi’i ailstrwythuro’n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf wrth gyfuno tri chorff a oedd eisoes yn bodoli. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bryderon bod y WDA yn methu o ran datblygu cymunedol mewn ardaloedd gwledig. Os oes gennych unrhyw bryderon ac enghreifftiau penodol, byddaf yn falch iawn o’u hystyried.

Pauline Jarman spoken in English p. 11

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 11

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council. The community regeneration Objective 1 fund is important to deprived communities, but it is often difficult for local authorities to provide match funding. The fund is currently significantly undersubscribed at only 40 per cent of its scheduled allocation. Will the Minister discuss with the WDA, and other relevant organisations, ways of increasing the allocation of community regeneration Objective 1 funds to reach its target?

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae cronfa adfywio cymunedol Amcan 1 yn bwysig i gymunedau difreintiedig, ond yn aml mae’r awdurdodau lleol yn ei chael yn anodd darparu arian cyfatebol. Mae nifer y ceisiadau ar gyfer arian o’r gronfa yn brin iawn ar hyn o bryd a dim ond 40 y cant o’r hyn a drefnwyd sydd wedi’i ddyrannu. A wnaiff y Gweinidog drafod gyda’r WDA, a chyrff perthnasol eraill, ddulliau o gynyddu’r dyraniad o arian adfywio cymunedol Amcan 1 i gyrraedd ei tharged?

Andrew Davies spoken in English p. 11

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

Not only have I been doing so, but also I will continue to discuss how we can ensure that we create the best opportunities from Objective 1 with the WDA, ministerial colleagues and the Wales European Funding Office. It is in all our interests, whatever part of Wales we represent, to make that a success. Where funds are undersubscribed, we need to do more collectively to ensure that good projects come forward to take advantage of those opportunities.

Nid yn unig y bûm yn gwneud hynny, ond byddaf hefyd yn parhau i drafod sut y gallwn sicrhau ein bod yn creu’r cyfleoedd gorau o Amcan 1 gyda’r WDA, fy nghyd-Weinidogion a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Mae sicrhau ei llwyddiant o fudd i bawb ohonom, ni waeth pa ran o Gymru a gynrychiolwn. Lle nad oes digon o geisiadau am yr arian, rhaid inni wneud mwy gyda’n gilydd i sicrhau bod prosiectau da’n dod ymlaen i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

Arian Cyfatebol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol

Match Funding for Structural Funds

Q8 Janet Davies spoken in English p. 12

C8 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

Will the Minister make a statement on the exact nature of adequate match funding for structural funds as outlined in the partnership agreement? (OAQ18104)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar union natur yr hyn a ystyrir yn arian cyfatebol digonol ar gyfer y cronfeydd strwythurol fel y’i hamlinellir yn y cytundeb partneriaeth? (OAQ18104)

Andrew Davies spoken in English p. 12

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

The provision of match funding for structural fund projects is a matter for each grant applicant. The Assembly Government is one source of match funding as are local authorities, Education and Learning Wales, Assembly sponsored public bodies, the voluntary sector, lottery funds and the private sector.

Mae darparu arian cyfatebol ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol yn fater i bob ymgeisydd am grant. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn un ffynhonnell arian cyfatebol, fel y mae awdurdodau lleol, Dysgu ac Addysgu Cymru, cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, y sector gwirfoddol, cronfeydd loteri a’r sector preifat.

Janet Davies spoken in English p. 12

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

Funding for most of those—apart from the lottery funds and the private sector—comes directly or indirectly from our budget. Will you press for this match funding to come from the Treasury and not from within our budget to the detriment of other departments and public bodies?

Daw’r arian ar gyfer y rhan fwyaf o’r rhai hynny—ar wahân i gronfeydd loteri a’r sector preifat—yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’n cyllideb ni. A wnewch bwyso dros gael yr arian cyfatebol hwn o’r Trysorlys ac nid o’n cyllideb ni er anfantais i adrannau a chyrff cyhoeddus eraill?

Andrew Davies spoken in English p. 12

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

This old chestnut has been knocked around in various Committee and Plenary meetings. There is no evidence of a shortage of match funding or that it is having a deleterious effect on other programmes delivered by the Assembly Government. Your party takes a different view, but our view is consistent and is borne out by the evidence, as Pauline Jarman just intimated.

Mae’r hen stori hon wedi’i thrafod mewn amryw o gyfarfodydd Pwyllgor a Chyfarfodydd Llawn. Nid oes tystiolaeth o brinder arian cyfatebol nac ei fod yn amharu ar raglenni eraill gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae barn eich plaid chi’n wahanol, ond mae ein barn ni’n gyson ac mae’r dystiolaeth yn ei chadarnhau, fel y mae Pauline Jarman newydd grybwyll.

Jonathan Morgan spoken in English p. 12

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 12

People watching this session will be astonished by your answer to Janet Davies. Do you agree that no money over and above the Barnett formula was allocated for match funding in the comprehensive spending review, therefore it must have come from existing Government department budgets and public service provision?

Bydd y rhai sy’n gwylio’r cyfarfod hwn yn synnu at eich ateb i Janet Davies. A ydych yn cytuno na ddyrannwyd arian yn ychwanegol i fformiwla Barnett ar gyfer arian cyfatebol yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac felly ei fod wedi dod o reidrwydd o gyllidebau presennol adrannau o’r Llywodraeth a’r ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus?

Andrew Davies spoken in English p. 13

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

The question asked whether there was match funding in the system for projects. I made it clear in my answer to Janet that it is a matter for applicants to identify match funding. As Pauline Jarman’s question indicated, in many cases the pots of money that are available are undersubscribed, therefore I do not agree with your contention that the system is underfunded or that there is not sufficient match funding in the system.

Y cwestiwn a ofynnwyd oedd a oedd arian cyfatebol yn y system ar gyfer prosiectau. Rhoddais ar ddeall yn fy ateb i Janet mai mater i’r ymgeiswyr yw canfod arian cyfatebol. Fel y dangosodd cwestiwn Pauline Jarman, mewn llawer o achosion nid oes digon yn manteisio ar y potiau o arian sydd ar gael, felly ni chytunaf â’ch haeriad bod y system wedi’i thanariannu neu nad oes digon o arian cyfatebol yn y system.

Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru

Economic Inactivity in Wales

Q9 Alun Cairns spoken in English p. 13

C9 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 13

Will the Minister make a statement on economic inactivity in Wales? (OAQ18042)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar anweithgarwch economaidd yng Nghymru? (OAQ18042)

Andrew Davies spoken in English p. 13

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

The latest labour market data for Wales between January and March 2002 shows that around 482,000 people are economically inactive. That represents 27.3 per cent of the working age population.

Mae’r data diweddaraf am y farchnad lafur ar gyfer Cymru rhwng Ionawr a Mawrth 2002 yn dangos bod tua 482,000 o bobl yn economaidd anweithredol. Mae hynny’n 27.3 y cant o’r boblogaeth o oed gweithio.

Alun Cairns spoken in English p. 13

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 13

In his response to my earlier question, the Minister claimed that I kept repeating the same argument, but is it not the reality that Wales is getting poorer in comparison to England? Inactivity rates are contributing to our low level of gross domestic product compared with England. I will repeat my question: when does he expect this to turn around?

Yn ei ymateb i’m cwestiwn cynharach, honnodd y Gweinidog fy mod yn dal i ailadrodd yr un ddadl, ond onid y gwir yw bod Cymru’n mynd yn dlotach o’i chymharu â Lloegr? Mae’r cyfraddau anweithgarwch yn cyfrannu at lefel isel ein cynnyrch mewnwladol crynswth o’i chymharu â Lloegr. Ailadroddaf fy nghwestiwn: pa bryd y mae’n disgwyl i hynny newid?

Andrew Davies spoken in English p. 13

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

The levels of economic inactivity are unacceptably high, which I have stated consistently in the Economic Development Committee, as Alun, being a member of that Committee, will know. However, these are deep-seated, long-term structural issues, which cannot be turned around in a short time. We have high levels of economic inactivity, particularly in the former coal mining areas and in many rural communities, because of long-term structural change in the Welsh economy. I will not refer to your party’s contribution in government from 1979 to 1997, which was a major reason why we have such high levels of economic inactivity. It is now the job of this Government, working with the Westminster Government, to address those deep-seated issues.

Mae’r lefelau o anweithgarwch economaidd yn annerbyniol o uchel, ac yr wyf wedi datgan hynny’n gyson yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd, fel y gŵyr Alun, gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor hwnnw. Fodd bynnag, materion strwythurol tymor hir, sylfaenol yw’r rhain, ac ni ellir eu newid mewn cyfnod byr. Mae gennym lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, yn enwedig yn y cyn ardaloedd cloddio glo ac mewn llawer o gymunedau gwledig, oherwydd newid strwythurol tymor hir yn economi Cymru. Ni chyfeiriaf at gyfraniad eich plaid chi pan oedd mewn llywodraeth o 1979 hyd 1997, sy’n un o’r prif resymau pam y mae gennym y fath lefelau uchel o anweithgarwch economaidd. Gwaith y Llywodraeth hon yn awr, gan weithio gyda Llywodraeth San Steffan, yw ymdrin â’r materion sylfaenol hynny.

Buddsoddiad British Aerospace yn y Canolbarth

British Aerospace Investment in Mid Wales

Q10 Mick Bates spoken in English p. 14

C10 Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 14

Will the Minister make a statement on British Aerospace investment in mid Wales? (OAQ18074)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fuddsoddiad British Aerospace yn y Canolbarth? (OAQ18074)

Andrew Davies spoken in English p. 14

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

The aerospace industry is of strategic importance to Wales and is a major contributor to the economy and to the quality of employment. It is good to see a number of companies in this sector in mid Wales. The Assembly Government launched Aerospace Wales on 26 March as a representative forum for the aerospace industry. I look forward to Aerospace Wales developing a strategy for the industry.

Mae’r diwydiant aerofod o bwys strategol i Gymru ac mae’n gyfrannwr pwysig i’r economi ac i ansawdd cyflogaeth. Mae’n dda gweld nifer o gwmnïau yn y sector hwn yn y Canolbarth. Lansiodd Llywodraeth y Cynulliad Aerofod Cymru ar 26 Mawrth yn fforwm cynrychioladol i’r diwydiant aerofod. Edrychaf ymlaen at weld Aerofod Cymru’n datblygu strategaeth i’r diwydiant.

Mick Bates spoken in English p. 14

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 14

I am pleased that there will be a strategy to develop the aerospace industry, because it provides well paid and high-quality jobs. However, the industry suffered a great slump after 11 September. What discussions have you had to ensure that defence expenditure on such items as the Eurofighter will maintain these quality jobs in mid Wales?

Yr wyf yn falch y bydd strategaeth i ddatblygu’r diwydiant aerofod, gan ei fod yn darparu swyddi o ansawdd da â thâl da. Fodd bynnag, profodd y diwydiant wasgfa fawr ar ôl 11 Medi. Pa drafodaethau a gawsoch i sicrhau bod y gwariant amddiffyn ar eitemau fel yr Eurofighter yn cynnal y swyddi o ansawdd da hyn yn y Canolbarth?

Andrew Davies spoken in English p. 14

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

I have not discussed that issue with the Westminster Government or the Ministry of Defence. However, I agree that the aerospace sector is important, particularly in north-east Wales and south-east Wales and around St Athan. The aerospace sector is crucial to the future of the Welsh economy. All indications are that the events of 11 September had an adverse, but short-term effect on the aerospace sector. The medium to long-term forecast is that it is still a growth sector. A vibrant aerospace sector in Wales is crucial, not only in increasing gross domestic product, but in providing well-paid quality jobs.

Nid wyf wedi trafod y mater hwnnw gyda Llywodraeth San Steffan na’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Fodd bynnag, cytunaf fod y sector aerofod yn bwysig, yn enwedig yn y Gogledd-ddwyrain a’r De-ddwyrain ac o gwmpas Sain Tathan. Mae’r sector aerofod yn hollbwysig i ddyfodol economi Cymru. Mae’r holl arwyddion yn awgrymu bod digwyddiadau 11 Medi wedi cael effaith niweidiol ond tymor byr ar y sector aerofod. Y rhagolygon tymor canolig i dymor hir yw ei fod yn sector twf o hyd. Mae’n hollbwysig cael sector aerofod bywiog yng Nghymru, nid yn unig o ran cynyddu’r cynnyrch mewnwladol crynswth, ond o ran darparu swyddi o ansawdd da â thâl da.

Glyn Davies siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Glyn Davies spoken in Welsh p. 14

A dderbyniwch bod economi’r Canolbarth yn dioddef oherwydd pwysau ar y diwydiannau cynhyrchu, twristiaeth ac amaethyddiaeth? Sut yr ydych am newid eich strategaethau a’ch polisïau i gydnabod hynny?

Do you accept that the mid Wales economy is suffering due to pressure on the manufacturing, tourism and agriculture industries? How will you adapt your strategies and policies to take account of that?

Andrew Davies spoken in English p. 15

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 15

You will not be surprised, Glyn, to hear me say that our strategies do not need to be changed. We must ensure that they are implemented effectively. Agriculture experienced short-term difficulties as a result of foot and mouth disease last year, but it has also seen long-term structural changes. Carwyn Jones and I are seeking to address that. Tourism had a bad year last year, but my discussions with organisations such as the Wye Valley Tourism Association and the Wales Association of Visitor Attractions indicate that tourism is picking up. The Wales Tourist Board’s forecasts suggest that 2002 promises to be a good year. I am not downplaying the short-term economic difficulties that various sectors have suffered, but to return to Phil Williams’s earlier question, forecasts indicate that the Welsh economy will grow, and some indicate that the gap between Wales and the rest of the UK will begin to close.

Ni fyddwch yn synnu, Glyn, o’m clywed yn dweud nad oes angen newid ein strategaethau. Rhaid inni sicrhau y cânt eu gweithredu’n effeithiol. Profodd amaethyddiaeth anawsterau tymor byr o ganlyniad i glwy’r traed a’r genau y llynedd, ond gwelodd newidiadau strwythurol tymor hir hefyd. Mae Carwyn Jones a minnau’n ceisio ymdrin â hynny. Yr oedd y llynedd yn flwyddyn wael i dwristiaeth, ond mae fy nhrafodaethau â chyrff fel Cymdeithas Dwristiaeth Dyffryn Gwy a Chymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru yn dangos bod twristiaeth yn ymadfer. Mae rhagolygon Bwrdd Croeso Cymru’n awgrymu bod 2002 yn argoeli’n dda. Nid wyf yn bychanu’r anawsterau economaidd tymor byr y mae gwahanol sectorau wedi’u profi ond, gan fynd yn ôl at gwestiwn cynharach Phil Williams, mae’r rhagolygon yn dangos y bydd economi Cymru’n tyfu, ac mae rhai’n awgrymu y bydd y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn dechrau cau.

Cwestiynau ar Gyllid i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Questions on Finance to the Minister for Finance, Local Government and Communities

Mentrau Cyllid Preifat i Adeiladu Ysgolion Newydd

Private Finance Initiatives to Build New Schools

Q1 Jonathan Morgan spoken in English p. 15

C1 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 15

Will the Minister make a statement on private finance initiatives used to build new schools in South Wales Central? (OAQ18070)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddefnyddio mentrau cyllid preifat i adeiladu ysgolion newydd yng Nghanol De Cymru? (OAQ18070)

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 15

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 15

My policies on using PFI for schools in Wales applies to the provision of new facilities in South Wales Central as it does to all parts of Wales.

Mae fy mholisïau ar ddefnyddio mentrau cyllid preifat ar gyfer ysgolion yng Nghymru’n berthnasol i ddarparu cyfleusterau newydd yng Nghanol De Cymru fel y mae i bob rhan o Gymru.

Jonathan Morgan spoken in English p. 15

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 15

When I visit schools in South Wales Central, which I represent, many of the headteachers and governors tell me that, while they recognise that a large amount of money is being set aside for school buildings, repairs and new build, the conventional theory is that there may not ever be sufficient public funds to keep schools satisfied in terms of maintenance and new build. Does the Government recognise that we must make greater use of private sector involvement to bring our schools into the twenty-first century?

Pan ymwelaf ag ysgolion yng Nghanol De Cymru, sef yr ardal yr wyf yn ei chynrychioli, mae llawer o’r penaethiaid a’r llywodraethwyr yn dweud wrthyf, er eu bod yn cydnabod bod swm mawr o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer adeiladau ysgol, atgyweiriadau ac adeiladu o’r newydd, mai’r farn gyffredin yw na fydd byth ddigon o arian cyhoeddus i ddiwallu’r ysgolion yn barhaus o ran cynnal a chadw ac adeiladu o’r newydd o bosibl. A yw’r Llywodraeth yn cydnabod bod rhaid inni ddefnyddio cyfraniad y sector preifat yn helaethach i ddwyn ein hysgolion i’r unfed ganrif ar hugain?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

As I indicated to you, I am discussing with the Welsh Local Government Association whether there will be a further bidding round on schemes. I am sure that schools would be included in that bidding round, if we decide to proceed in that manner. I am due to discuss this issue further with the WLGA in June.

Fel y gwneuthum eich hysbysu, yr wyf yn trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fydd cylch ymgeisio pellach ar gynlluniau. Yr wyf yn sicr y câi ysgolion eu cynnwys yn y cylch ymgeisio hwnnw, os penderfynwn fynd ymlaen yn y modd hwnnw. Byddaf yn trafod y mater hwn ymhellach gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym Mehefin.

Mick Bates spoken in English p. 16

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 16

I am sure that you would agree that the money that the partnership Government put into the budget to address the repair and refurbishment of schools after years of neglect is most welcome. Will you indicate how much of that money has been spent on that important work?

Yr wyf yn sicr y cytunech fod yr arian a roddodd y Llywodraeth bartneriaeth yn y gyllideb i ymdrin ag atgyweirio ac adnewyddu ysgolion ar ôl blynyddoedd o esgeulustod yn dra derbyniol. A wnewch nodi faint o’r arian hwnnw a wariwyd ar y gwaith pwysig hwnnw?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

I will ask my officials for details of the amount of funds that have been spent. However, I estimate that another £100 million a year is needed for the rest of the decade if the ‘Betterwales.com’ target of ensuring that all schools are in good physical condition by 2010 is to be achieved. Education, and the structure of school buildings, will remain a priority for this Labour-led administration.

Gofynnaf i’m swyddogion am fanylion am y symiau a wariwyd. Fodd bynnag, amcangyfrifaf fod angen £100 miliwn arall y flwyddyn am weddill y degawd os ydym am gyrraedd targed ‘Gwellcymru.com’ o sicrhau bod pob ysgol mewn cyflwr ffisegol da erbyn 2010. Bydd addysg, ac adeiladwaith adeiladau ysgol, yn parhau’n flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon, dan arweinyddiaeth Llafur.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 16

A ydych wedi cynnal arolwg i ddarganfod cost yr holl waith sydd angen ei wneud ar adeiladau ysgolion Cymru? Os felly, beth yw cost y modd traddodiadol o wneud y gwaith?

Have you conducted a survey to ascertain the cost of the work that needs to be done on school buildings in Wales? If so, what would those costs be if the traditional methods were employed?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

I have not undertaken a survey but, in light of your question, I will have further work done. If that comes to fruition in a way that is helpful, I will let you have the details.

Nid wyf wedi cynnal arolwg ond, yng ngolwg eich cwestiwn, paraf i ragor o waith gael ei wneud. Os bydd hynny’n dwyn ffrwyth mewn modd buddiol, fe roddaf y manylion ichi.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 16

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

Question 2 (OAQ18094) is withdrawn. Questions 3 and 7 have been grouped for answer.

Mae cwestiwn 2 (OAQ18094) wedi’i dynnu’n ôl. Bydd cwestiynau 3 a 7 yn cael eu hateb ynghyd.

Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Comprehensive Spending Review

Q3 Geraint Davies spoken in English p. 17

C3 Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the Minister make a statement on the next comprehensive spending review? (OAQ18098)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nesaf? (OAQ18098)

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

I have discussed the 2002 spending review with Cabinet members and the Secretary of State for Wales. I expect that the Chancellor of the Exchequer will announce the outcome of the spending review in July.

Yr wyf wedi trafod adolygiad o wariant 2002 gydag aelodau’r Cabinet ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Disgwyliaf y bydd Canghellor y Trysorlys yn cyhoeddi canlyniad yr adolygiad o wariant yng Ngorffennaf.

Geraint Davies spoken in English p. 17

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 17

In the lead up to the next CSR, will the Minister undertake to press the case for Wales receiving its full allocation of European structural funds on top of the Barnett formula? Will she also press for match funding to be provided by HM Treasury, not from the Assembly’s budgets for health, education and transport?

Yn y cyfnod cyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nesaf, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddadlau dros roi i Gymru ei dyraniad llawn o’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn ychwanegol i fformiwla Barnett? A wnaiff bwyso hefyd dros ddarparu arian cyfatebol gan Drysorlys Ei Mawrhydi, nid o gyllidebau’r Cynulliad ar gyfer iechyd, addysg a thrafnidiaeth?

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

This notion that we are taking money off other budgets is quite strange to me. I have made it clear before that I receive consequentials under the statement of funding policy, allocated according to how Barnett applies to Wales. That is the basis for making policy and priority decisions in the budget planning round. As I made clear in Plenary on 23 May, the necessary commitments on structural funds are included in the partnership agreement.

Yr wyf yn gweld y syniad ein bod yn mynd ag arian oddi ar gyllidebau eraill yn un eithaf rhyfedd. Yr wyf wedi egluro o’r blaen fy mod yn derbyn symiau canlyniadol dan y datganiad o bolisi ariannu, wedi’u dyrannu yn ôl y modd y cymhwysir fformiwla Barnett at Gymru. Ar y sail honno y gwneir y penderfyniadau ar bolisi a blaenoriaethau yn y cylch cynllunio cyllideb. Fel y rhoddais ar ddeall yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai, mae’r ymrwymiadau angenrheidiol ynghylch y cronfeydd strwythurol wedi’u cynnwys yn y cytundeb partneriaeth.

Q7 Eleanor Burnham spoken in English p. 17

C7 Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 17

What discussions has the Minister had regarding the next comprehensive spending review? (OAQ18097)

Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi eu cael ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nesaf? (OAQ18097)

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

I have quite extensive discussions with my colleagues about their aims and with the Secretary of State, as does the First Minister, about the administration’s priorities.

Caf drafodaethau eithaf helaeth â’m cyd-Aelodau am eu nodau a chyda’r Ysgrifennydd Gwladol, fel y caiff Prif Weinidog Cymru, am flaenoriaethau’r weinyddiaeth.

Eleanor Burnham spoken in English p. 17

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 17

There is much concern about the huge amount of investment still required in the health service, schools, housing and the transport infrastructure. Will you press the Chancellor to recognise these needs in Wales as part of the review of public spending?

Mae llawer o bryder ynghylch y buddsoddiad anferth sydd ei angen o hyd yn y gwasanaeth iechyd, mewn ysgolion, mewn tai ac yn y seilwaith trafnidiaeth. A wnewch bwyso ar y Canghellor i gydnabod yr anghenion hyn yng Nghymru fel rhan o’r adolygiad o wariant cyhoeddus?

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

The Chancellor is cognisant of the demands of those issues across the UK and we will have the necessary money in consequentials, through our agreement on the statement of funding policy.

Mae’r Canghellor yn ymwybodol o ofynion y materion hynny ledled y DU a chawn yr arian angenrheidiol yn y symiau canlyniadol, drwy ein cytundeb ar y datganiad o bolisi ariannu.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 18

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

Order. Normal practice with grouped questions is that one answer is given in reponse to both tabled questions and then both supplementaries are asked. However, it is not a problem.

Trefn. Yr arfer yn achos cwestiynau sydd wedi’u grwpio yw y rhoddir un ateb mewn ymateb i’r ddau gwestiwn a gyflwynwyd ac wedyn y gofynnir y ddau gwestiwn atodol. Fodd bynnag, nid yw’n peri problem.

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in English p. 18

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Saesneg t. 18

I listened with great care to your response to Geraint Davies’s question on the comprehensive spending review, particularly his request that we should ensure that there is full match funding in the next comprehensive spending review, in addition to the European component. However, do you not accept that, in the first CSR, there were two major constraints on your making decisions about policy priorities? First, there was no match funding, meaning that money had to be allocated from funds that would otherwise have gone to education and, secondly, the effect of the Barnett squeeze on health was that you found great difficulty in ensuring that spending was spread equally among all the policy portfolios. Do you not now accept that the Treasury’s figures indicate that Wales is spending less of its increase on education than England is? Will you ensure that, in the new comprehensive spending review, the shortfall resulting from the Barnett squeeze and match funding difficulties will not increase?

Gwrandewais yn astud iawn ar eich ymateb i gwestiwn Geraint Davies ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn enwedig ei gais y dylem sicrhau bod arian cyfatebol llawn yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nesaf, yn ychwanegol at yr elfen Ewropeaidd. Fodd bynnag, onid ydych yn derbyn bod dau gyfyngiad mawr yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant cyntaf ar eich gallu i wneud penderfyniadau am flaenoriaethau polisi? Yn gyntaf, nid oedd arian cyfatebol, a oedd yn golygu bod yn rhaid dyrannu arian o gyllid a fyddai wedi mynd fel arall at addysg ac, yn ail, effaith gwasgfa Barnett ar iechyd oedd eich bod yn ei chael yn anodd sicrhau bod y gwariant wedi’i daenu’n gyfartal rhwng yr holl bortffolios polisi. Oni dderbyniwch yn awr fod ffigurau’r Trysorlys yn dangos bod Cymru’n gwario llai o’i chynnydd ar addysg nag y mae Lloegr? A wnewch sicrhau, yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant nesaf, na fydd cynnydd yn y diffyg sy’n deillio o wasgfa Barnett a’r anawsterau o ran arian cyfatebol?

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

I am glad that Plaid Cymru—The Party of Wales takes such an interest in English expenditure. Following the last CSR, I did not have any problems in making budget arrangements, having the budget agreed by the National Assembly for Wales and determining the necessary priorities. You are probably whingeing about this today because we proved you wrong and secured the necessary funds in the last CSR.

Yr wyf yn falch bod Plaid Cymru—The Party of Wales yn ymddiddori cymaint mewn gwariant yn Lloegr. Ar ôl yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf, ni phrofais unrhyw anawsterau wrth wneud y trefniadau cyllideb, cael gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar y gyllideb a phennu’r blaenoriaethau angenrheidiol. Mae’n debyg eich bod yn cwyno am hyn heddiw am ein bod wedi’ch profi’n anghywir ac wedi sicrhau’r arian angenrheidiol yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf.

Peter Rogers spoken in English p. 19

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 19

Are you concerned that, despite a substantial increase of about 30 per cent in funding, the number of hospital treatments has only risen about 3 per cent? Why would the Chancellor fork out more money in the comprehensive spending review when you cannot efficiently use the money that you already have?

A yw’n destun pryder i chi fod nifer y triniaethau ysbyty ddim ond wedi codi tua 3 y cant, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn cyllid o tua 30 y cant? Pam y byddai’r Canghellor yn rhoi mwy o arian yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a chithau’n methu â defnyddio’r arian sydd gennych eisoes yn effeithlon?

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

We must recognise that how the national health service delivers services is complex. My colleague, Jane Hutt, has put enormous time, effort and resources into changing arrangements within the NHS so that we can prioritise treatment and ensure that we have the necessary balance across the health service and that money goes to the right places. I am sure that she will continue to do so and that the necessary provisions will be made for additional money for the NHS.

Rhaid inni gydnabod bod y modd y mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn darparu gwasanaethau’n gymhleth. Mae fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, wedi rhoi amser, ymdrech ac adnoddau aruthrol i newid y trefniadau yn y GIG fel y gallwn flaenoriaethu triniaethau a sicrhau’r cydbwysedd y mae arnom ei angen drwy’r gwasanaeth iechyd a gofalu bod yr arian yn mynd i’r mannau iawn. Yr wyf yn sicr y bydd yn parhau i wneud hynny ac y gwneir y darpariaethau angenrheidiol ar gyfer arian ychwanegol i’r GIG.

Costau Newid Systemau Ariannol

Costs Incurred by Changing Monetary Systems

Q4 William Graham spoken in English p. 19

C4 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 19

Will the Minister make a statement concerning the estimated costs that would be incurred by the National Assembly if required to change monetary systems? (OAQ18100)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gost dybiedig i’r Cynulliad Cenedlaethol pe byddai angen newid systemau arianyddol? (OAQ18100)

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

No estimate has been made of the cost to the public sector of a changeover, should the UK decide to join the euro.

Ni wnaed unrhyw amcangyfrif o’r gost i’r sector cyhoeddus o newid, pe byddai’r DU yn penderfynu ymuno â’r ewro.

William Graham spoken in English p. 19

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 19

It has been estimated that there has been an average price increase of 25 per cent throughout Europe, with increases of 40 per cent in some cases, as a result of the change to the single European currency. Differences between economic growth, inflation rates and employment will destroy the euro from within. Does the cost account for these factors and, if not, can you determine the overall figure?

Amcangyfrifwyd bod cynnydd mewn prisiau o 25 y cant ar gyfartaledd ledled Ewrop, gyda chodiadau o 40 y cant mewn rhai achosion, o ganlyniad i’r newid i’r arian Ewropeaidd sengl. Bydd y gwahaniaethau rhwng twf economaidd, cyfraddau chwyddiant a chyflogaeth yn dinistrio’r ewro o’r tu mewn. A ystyrir y ffactorau hyn yn y gost ac, os na, a allwch bennu’r ffigur cyffredinol?

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

I cannot determine the overall figure. There is anecdotal evidence of price increases across Europe. I will investigate whether there are any substantial reports on this and make them available to you.

Ni allaf bennu’r ffigur cyffredinol. Mae tystiolaeth anecdotaidd o godiadau mewn prisiau ledled Ewrop. Ymchwiliaf i ganfod a oes unrhyw adroddiadau sylweddol am hyn ac fe’u darparaf i chi.

Phil Williams spoken in English p. 20

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 20

Do you agree that, had we joined the euro at the beginning, at the proposed rate of 70p per euro, the Welsh steel industry would have been far more competitive, that Corus would have closed its Ijmuiden plant rather than its plants at Llanwern and Ebbw Vale, and that South Wales East, the region which William Graham and I represent, would be in a far better economic situation?

A ydych yn cytuno, pe byddem wedi ymuno â’r ewro ar y dechrau, ar y gyfradd arfaethedig o 70c yr ewro, y buasai diwydiant dur Cymru wedi bod yn llawer mwy cystadleuol, y byddai Corus wedi cau ei waith yn Ijmuiden yn hytrach na’i weithfeydd yn Llanwern a Glynebwy, ac y byddai Dwyrain De Cymru, y rhanbarth y mae William Graham a minnau’n ei gynrychioli, mewn sefyllfa economaidd well o lawer?

Edwina Hart spoken in English p. 20

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 20

The main steel union, the Iron and Steel Trades Confederation, feels strongly that, had we been a member of the euro, different decisions might have been made by Corus and we could have protected more jobs in Wales. I am keen that we hold a referendum on joining the euro in due course. As Members know, I am committed to joining the euro.

Mae’r prif undeb dur, Cydffederasiwn y Crefftau Haearn a Dur, yn teimlo’n gryf, pe buasem yn aelod o’r ewro, y gallai Corus fod wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ac y gallem fod wedi diogelu rhagor o swyddi yng Nghymru. Yr wyf yn awyddus inni gynnal refferendwm ar ymuno â’r ewro yn y man. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wyf yn ymrwymedig i ymuno â’r ewro.

Menter Gwerth Gorau (Arbedion a Chostau)

Best Value Initiative (Savings and Costs)

Q5 William Graham spoken in English p. 20

C5 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 20

Will the Minister make a statement concerning whether the savings gained from the Best Value initiative were greater than the costs to local authorities of the implementation and evaluation of the scheme? (OAQ18099)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar a fu’r arbedion a gafwyd o’r fenter Gwerth Gorau yn fwy na’r gost i awdurdodau lleol o weithredu a gwerthuso’r cynllun? (OAQ18099)

Edwina Hart spoken in English p. 20

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 20

Local authorities identified cost savings and improvements in quality as a result of their Best Value reviews, but we need to achieve a much better ratio between the improvements made and the cost of the process. That is why I have developed the Wales programme for improvement, in partnership with local government and its regulators.

Canfu awdurdodau lleol arbedion mewn costau a gwelliannau mewn ansawdd o ganlyniad i’w hadolygiadau Gwerth Gorau, ond rhaid inni sicrhau gwell cymhareb o lawer rhwng y gwelliannau a wneir a chost y broses. Dyna pam y datblygais raglen Cymru ar gyfer gwella, mewn partneriaeth â llywodraeth leol a’i rheoleiddwyr.

William Graham spoken in English p. 20

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 20

Can you identify the number of man-hours taken from service provision and applied in the evaluation of the Best Value scheme?

A allwch ddynodi’r nifer o oriau gwaith a gymerwyd oddi wrth ddarparu gwasanaethau i werthuso’r cynllun Gwerth Gorau?

Edwina Hart spoken in English p. 20

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 20

I do not think that that could be done centrally. Local authorities may have some idea on that. I will make inquiries and report back to the Local Government and Housing Committee.

Ni chredaf fod modd gwneud hynny’n ganolog. Efallai fod gan awdurdodau lleol ryw amcan am hynny. Gwnaf ymholiadau ac adroddaf yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Pauline Jarman spoken in English p. 21

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 21

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council. You will be aware of the vision of more effective procurement in Wales, as set out in ‘Better Value Wales’. How does this square with many local authorities’ desire to downsize contracts so that local suppliers, providing local produce and services and employing local people, can compete?

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Byddwch yn ymwybodol o’r weledigaeth o gaffael mwy effeithiol yng Nghymru, fel y’i nodir yn ‘Gwell Gwerth Cymru’. Sut y mae hyn yn cyd-fynd â’r awydd sydd gan lawer o awdurdodau lleol i leihau contractau, fel bod cyflenwyr lleol, sy’n darparu cynnyrch a gwasanaethau lleol ac yn cyflogi pobl leol, yn gallu cystadlu?

Edwina Hart spoken in English p. 21

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 21

The new procurement unit will deal with this matter. We have effective relationships with local government, via the WLGA, on many procurement issues, and the unit will focus on this key issue.

Bydd yr uned gaffael newydd yn ymdrin â’r mater hwn. Mae gennym gysylltiadau effeithiol â llywodraeth leol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar lawer o faterion caffael, a bydd yr uned yn canolbwyntio ar y mater allweddol hwn.

Ailddyrannu Tanwariant

Reallocation of Underspends

C6 Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Q6 Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 21

Faint o’r tanwario tybiedig ar gyfer 2001-02 sydd wedi ei ailddyrannu i brosiectau eraill nad oedd arian wedi’i neilltuo ar eu cyfer, yn ôl y cynlluniau gwariant presennol? (OAQ18050)

How much of the projected underspend for 2001-02 has so far been reallocated to other projects which had not, under existing expenditure plans, been allocated finance? (OAQ18050)

Edwina Hart spoken in English p. 21

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 21

The formal reallocation of resources available from the 2001-02 financial year will be made at the appropriate time, and will take account of any unforeseen demands and additional pressures arising during the current financial year.

Bydd yr adnoddau sydd ar gael o flwyddyn ariannol 2001-02 yn cael eu hailddyrannu’n ffurfiol ar yr adeg briodol, ac wrth wneud hynny fe ystyrir unrhyw anghenion annisgwyl a phwysau ychwanegol sy’n codi yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 21

A yw’r Gweinidog yn derbyn, er mwyn cadw tanwariant mor isel â phosibl, y dylem ailgyfeirio’r tanwariant tebygol i brosiectau gwario mor fuan â phosibl? A wnaiff ystyried ychwanegu £10 miliwn o danwariant 2001-02 at y gronfa homebuy, i helpu pobl leol i brynu cartrefi yng nghefn gwlad Cymru? Mae prisiau tai yn ei gwneud yn amhosibl i bobl leol brynu tai yno ar hyn o bryd.

Does the Minister accept that, in order to keep underspend to a minimum, we should redirect projected underspend to other projects as soon as possible? Will she consider redirecting £10 million of the 2001-02 underspend to the homebuy fund, to assist local people to buy homes in rural Wales? House prices currently make it impossible for local people to buy houses in these areas.

Edwina Hart spoken in English p. 21

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 21

I will assess the success of my rural homebuy scheme during the summer months and will report back. The latest estimate of underspend at the end of the last financial year is a carry-forward of around £41 million. I propose to consider additional budget pressures and unforeseen demands with my Cabinet colleagues during the review of the total Assembly expenditure in September. I will make decisions following that.

Byddaf yn asesu llwyddiant fy nghynllun prynu cartrefi gwledig yn ystod misoedd yr haf ac yn adrodd yn ôl. Yr amcangyfrif diweddaraf o’r tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yw tua £41 miliwn fel swm a gariwyd ymlaen. Bwriadaf ystyried pwysau cyllideb ychwanegol ac anghenion annisgwyl gyda’m cyd-aelodau yn y Cabinet yn ystod yr adolygiad o holl wariant y Cynulliad ym Medi. Gwnaf benderfyniadau ar ôl hynny.

Alun Cairns spoken in English p. 22

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 22

In view of last year’s major underspends, when will the Minister be able to make a statement on current spending plans, to ensure that the same situation does not recur?

Yng ngolwg y tanwario mawr y llynedd, pa bryd y bydd y Gweinidog yn gallu gwneud datganiad ar y cynlluniau gwario presennol, i sicrhau na fydd yr un sefyllfa’n codi eto?

Edwina Hart spoken in English p. 22

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 22

I would love to know where these ‘major underspends’ are, Alun; they do not feature in my vocabulary. We have done well in the initial underspend figures—it is around 1 per cent, or even less. The final validated figures will probably be available towards the end of June, and I will update the Assembly then.

Byddai’n dda gennyf gael gwybod beth yw’r ‘tanwario mawr’, Alun; nid yw’n rhan o’m geirfa i. Gwnaethom yn dda yn y ffigurau tanwariant cychwynnol—mae tua 1 y cant, neu’n llai hyd yn oed. Mae’n debyg y bydd y ffigurau terfynol wedi’u gwirio ar gael tua diwedd Mehefin, a rhoddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad bryd hynny.

Newid y Modd yr Ariennir y Cynulliad

Changes in the Funding of the Assembly

Q8 John Griffiths spoken in English p. 22

C8 John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 22

Will the Minister make a statement on possible changes in the funding of the National Assembly? (OAQ18093)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y newidiadau posibl i’r modd yr ariennir y Cynulliad Cenedlaethol? (OAQ18093)

Edwina Hart spoken in English p. 22

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 22

There are no proposals to change the way that the National Assembly is funded.

Nid oes unrhyw gynigion i newid y modd yr ariennir y Cynulliad Cenedlaethol.

John Griffiths spoken in English p. 22

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 22

Given that English regional assemblies are set to have revenue raising powers, possibly including preferential borrowing from the UK Treasury, do you believe that the National Assembly for Wales’s revenue raising ability needs fresh consideration?

O wybod bod bwriad i gynulliadau rhanbarthol Lloegr gael pwerau codi refeniw, gan gynnwys benthyca ffafriol o Drysorlys y DU o bosibl, a ydych yn credu bod angen ystyried gallu codi refeniw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o’r newydd?

Edwina Hart spoken in English p. 22

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 22

I will be interested to see how discussions on the nature of English devolution pan out. We do not want to consider regional devolution in the same way as we consider devolution to Wales, Scotland and Northern Ireland. We are a devolved nation and the arrangements applicable to English regions will not necessarily apply to us. We recognise that the UK Government has dealt with the north of Ireland somewhat differently, in terms of the peace dividend, and we must consider this in the round. Until you are certain of what the future holds, you should not unpick the relatively successful current arrangements.

Bydd o ddiddordeb imi weld sut y bydd y trafodaethau ar natur datganoli yn Lloegr yn datblygu. Nid ydym am ystyried datganoli rhanbarthol yn yr un modd ag yr ystyriwn ddatganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cenedl ddatganoledig ydym ac ni fydd y trefniadau sy’n berthnasol i ranbarthau Lloegr yn berthnasol i ni o reidrwydd. Cydnabyddwn fod Llywodraeth y DU wedi trin gogledd Iwerddon braidd yn wahanol, o ran y difidend heddwch, a rhaid inni ystyried bob agwedd ar hyn. Hyd nes y byddwch yn sicr o beth a geir yn y dyfodol, ni ddylech ddadwneud y trefniadau cymharol lwyddiannus a geir ar hyn o bryd.

Alun Cairns spoken in English p. 23

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 23

Does the Minister agree that the Barnett formula provides certainty and a guarantee of funding, giving the Assembly sufficient autonomy to set its own spending priorities? Does she also accept that there is more than a strong case for match funding over and above Barnett, in view of structural funds?

A yw’r Gweinidog yn cytuno bod fformiwla Barnett yn darparu sicrwydd a gwarant o gyllid, gan roi digon o ymreolaeth i’r Cynulliad bennu ei flaenoriaethau gwario ei hun? A yw hefyd yn derbyn bod dadl gref iawn dros arian cyfatebol ar ben fformiwla Barnett, yng nghyd-destun y cronfeydd strwythurol?

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

I agree that Barnett gives Wales stability. As I indicated last week, in terms of our discussions on the comprehensive spending review, the provisions of the partnership agreement will apply with regard to structural funds.

Cytunaf fod fformiwla Barnett yn rhoi sefydlogrwydd i Gymru. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, o ran ein trafodaethau ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, bydd darpariaethau’r cytundeb partneriaeth yn berthnasol i’r cronfeydd strwythurol.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 23

Tynnwyd cwestiwn 9 (OAQ18091) yn ôl.

Question 9 (OAQ18091) is withdrawn.

Dyrannu Arian yn Uniongyrchol

Direct Allocation of Funds

C10 Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Q10 Owen John Thomas spoken in Welsh p. 23

A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddyrannu arian yn uniongyrchol i brosiectau nad ydynt wedi’u harchwilio gan gyrff cyhoeddus perthnasol a noddir gan y Cynulliad? (OAQ18058)

Does the Minister have any plans to allocate funds directly to projects without prior scrutiny by the relevant Assembly sponsored public bodies? (OAQ18058)

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

I would normally expect funding to follow consultation with the relevant Assembly sponsored public bodies. However I cannot rule out that the Welsh Assembly Government may, in certain instances, decide on direct funding without such consultation, in order to further its published strategic priorities within the functions delegated by the Assembly.

Byddwn fel arfer yn disgwyl i gyllido ddilyn ymgynghori â’r cyrff cyhoeddus perthnasol a noddir gan y Cynulliad. Fodd bynnag, ni allaf ddiystyru’r posibiliad y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru benderfynu, mewn rhai achosion, ar gyllido uniongyrchol heb ymgynghori o’r fath, er mwyn hyrwyddo ei blaenoriaethau strategol cyhoeddedig o fewn y swyddogaethau a ddirprwywyd iddi gan y Cynulliad.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 23

Os digwydd hynny, a ydych yn bwriadu rhoi gwybod i’r Gweinidog perthnasol, fel y gall y Pwyllgor drafod y mater?

If such instances arise, do you intend to inform the relevant Minister, so that the Committee can discuss the matter?

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

The way that Ministers deal with their Committees is a matter for them. I always discuss funding with my Cabinet colleagues before making decisions.

Mae’r modd y mae Gweinidogion yn ymdrin â’u Pwyllgorau’n fater iddynt hwy. Byddaf bob amser yn trafod cyllid gyda’m cyd-aelodau yn y Cabinet cyn gwneud penderfyniadau.

Archwilio Grantiau’r Cynulliad

Auditing of Assembly Grants

Q11 Janet Davies spoken in English p. 24

C11 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

Will the Minister make a statement on how the use of National Assembly grants is audited? (OAQ18063)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y caiff y defnydd o grantiau’r Cynulliad Cenedlaethol ei archwilio? (OAQ18063)

Edwina Hart spoken in English p. 24

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 24

All National Assembly grants are subject to terms and conditions that should be fulfilled. Grant payments are subject to the grantee’s auditor certifying that the money was spent for the purposes for which it was granted. The National Assembly’s accounts are audited by the Auditor General for Wales and the Assembly monitors compliance with grant terms and conditions.

Mae holl grantiau’r Cynulliad Cenedlaethol ynghlwm wrth delerau ac amodau sydd i’w cyflawni. Gwneir taliadau grant ar yr amod bod archwilydd derbynnydd y grant yn ardystio bod yr arian wedi’i wario i’r dibenion y rhoddwyd ef ar eu cyfer. Archwilir cyfrifon y Cynulliad Cenedlaethol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac mae’r Cynulliad yn monitro’r cydymffurfiad â thelerau ac amodau grantiau.

Janet Davies spoken in English p. 24

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

Community regeneration grants create particular difficulties. Have you plans to audit them without the process being unnecessarily overbearing on small organisations?

Mae grantiau adfywio cymunedol yn creu anawsterau penodol. A oes gennych gynlluniau i’w harchwilio heb i’r broses bwyso’n ddiangen ar gyrff bach?

Edwina Hart spoken in English p. 24

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 24

I thank you for that point because I am mindful of the complaints made by small community councils about the onerous nature of some auditing processes. I have received expressions of concern, despite the fact that some arrangements have changed. In light of your comments, I will check whether we have had requests to conduct these processes differently. I do not want to make onerous demands in our dealings with the voluntary sector.

Diolchaf ichi am y pwynt hwnnw oherwydd yr wyf yn ymwybodol o’r cwynion a wneir gan gynghorau cymuned bach am natur lethol rhai o’r prosesau archwilio. Mae rhai wedi datgan pryder wrthyf, er bod rhai o’r trefniadau wedi newid. Yng ngolwg eich sylwadau, edrychaf i weld a ydym wedi derbyn ceisiadau i gynnal y prosesau hyn yn wahanol. Nid wyf am greu gofynion llethol yn ein hymwneud â’r sector gwirfoddol.

Datganiad ar Rôl Llyfrgelloedd ac Archifau wrth Hyrwyddo Cynhwysiant

Cymdeithasol a Dysgu Gydol Oes Statement on the Role of Libraries and Archives in Promoting Social Inclusion and Lifelong Learning

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language spoken in English p. 24

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Saesneg t. 24

This statement will update Members on the contribution that the library and archives sector in Wales makes in promoting social inclusion and lifelong learning, and particularly about two important publications that the sector has recently launched. The first is a booklet produced by the Society of Chief Librarians, which is aimed at politicians and highlights the services provided by public libraries and their contribution to Assembly priorities. The second is the Chartered Institute of Library and Information Professionals’ libraries and lifelong learning strategy, which underlines its commitment to working in all kinds of libraries to support and promote lifelong learning and sets out its priorities for the next two years. Members will receive copies shortly.

Bydd y datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gyfraniad y sector llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru at hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes, ac yn benodol am ddau gyhoeddiad pwysig a lansiwyd gan y sector hwn yn ddiweddar. Mae’r cyntaf yn llyfryn a gynhyrchwyd gan Gymdeithas y Prif Lyfrgellwyr, sydd wedi’i anelu at wleidyddion ac sy’n tynnu sylw at y gwasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd cyhoeddus a’u cyfraniad at flaenoriaethau’r Cynulliad. Yr ail yw strategaeth llyfrgelloedd a dysgu gydol oes Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth, sy’n pwysleisio ei ymrwymiad i weithio ym mhob math o lyfrgell i gynorthwyo a hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Bydd Aelodau’n derbyn copïau cyn hir.

Having achieved rapid progress on a variety of fronts, the library and archives sector represents a unique, universal resource, strongly positioned to work with the Assembly to improve the lives of people in Wales.

Ac yntau wedi sicrhau cynnydd buan mewn amryw o gyfeiriadau, mae’r sector llyfrgelloedd ac archifau’n adnodd cyffredinol unigryw sydd mewn sefyllfa dda i weithio gyda’r Cynulliad i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Libraries support economic, community and cultural vitality. They are one of the few services capable of providing lifelong learning opportunities, with projects ranging from outreach work, such as Bookstart, to Silver Surfers, which are the information and communications technology clubs for senior citizens. Local records offices play a crucial part in ensuring open local government and freedom of information, providing unique insights into personal and community history.

Mae llyfrgelloedd yn hybu bywiogrwydd economaidd, cymunedol a diwylliannol. Hwy yw un o’r ychydig wasanaethau sy’n gallu darparu cyfleoedd dysgu gydol oes, a chanddynt brosiectau sy’n amrywio o waith maes, fel Dechrau Da, i Silver Surfers, sef y clybiau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i hen bensiynwyr. Mae’r archifdai lleol yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau rhyddid gwybodaeth a bod llywodraeth leol yn agored, gan ddarparu cipolwg unigryw ar hanes pobl a chymunedau.

The National Library of Wales makes a specific contribution to learning, combining the functions of library, museum, academic institution, public record repository and learning centre. It is developing physical and virtual educational services, including a new visitor centre, to meet the needs of school and college students and lifelong learners and to encourage greater exploitation of the library’s collections by higher and further education institutions. The national library also plays a lead role in contributing to Cymru Ar-lein by developing cutting-edge technical skills, by developing an electronic linked directory of Welsh and Welsh-interest websites and by working with partners to promote cultural tourism.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cyfrannu’n benodol at ddysgu, gan gyfuno swyddogaethau llyfrgell, amgueddfa, sefydliad academaidd, cadwrfa cofnodion cyhoeddus a chanolfan dysgu. Mae’n datblygu gwasanaethau addysgol diriaethol a rhithwir, gan gynnwys canolfan ymwelwyr newydd, i ddiwallu anghenion myfyrwyr ysgol a choleg a dysgwyr gydol oes ac i hybu mwy o ddefnydd o gasgliadau’r llyfrgell gan sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae’r llyfrgell genedlaethol yn chwarae rhan flaenllaw hefyd wrth gyfrannu at Cymru Ar-lein drwy ddatblygu’r sgiliau technegol diweddaraf, drwy ddatblygu cyfarwyddiadur electronig o wefannau Cymreig a gwefannau o ddiddordeb Cymreig a thrwy weithio gyda’i phartneriaid i hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol.

Funding has been provided, through the new opportunities fund, to implement the People’s ICT Network. That will bring, as far as practicable, all public libraries online by the end of 2002 to provide internet access and other ICT services. Unlike some authorities in the UK, no Welsh authority plans to charge for the service. The people’s network is giving everyone in Wales the opportunity to become e-citizens, engaging interactively with government. Public libraries will also enjoy high-speed access to the internet as they will be part of the broadband lifelong learning network for Wales, along with schools and other ICT learning centres. The free ICT services on offer in public libraries are having a significant impact on the services available locally, especially in rural areas.

Mae arian wedi’i ddarparu, drwy’r gronfa cyfleoedd newydd, i roi Rhwydwaith TGCh y Bobl ar waith. Bydd hwnnw’n peri i’r holl lyfrgelloedd cyhoeddus fod ar-lein, hyd y bo’n ymarferol, erbyn diwedd 2002 i ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd a gwasanaethau TGCh eraill. Yn wahanol i rai awdurdodau yn y DU, nid oes un awdurdod yng Nghymru yn bwriadu codi tâl am y gwasanaeth hwn. Mae rhwydwaith y bobl yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru ddod yn e-ddinasyddion, gan ymwneud yn rhyngweithiol â llywodraeth. Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn cael mynediad cyflym i’r rhyngrwyd hefyd gan y byddant yn rhan o’r rhwydwaith dysgu gydol oes band llydan i Gymru, ynghyd ag ysgolion a chanolfannau dysgu TGCh eraill. Mae’r gwasanaethau TGCh am ddim a gynigir mewn llyfrgelloedd yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

The people’s network initiative is also increasing the amount of electronic material available in order for online access to be fully and creatively used. It is important that details of Welsh culture and society—past and present—and community information, is accessible electronically. That is important for social inclusion and lifelong learning and vital for cultural tourism, especially for attracting international visitors.

Mae menter rhwydwaith y bobl hefyd yn ychwanegu at y deunydd electronig sydd ar gael fel y gellir defnyddio’r mynediad arlein yn llawn ac yn greadigol. Mae’n bwysig bod manylion am ddiwylliant a chymdeithas Cymru—yn y presennol a’r gorffennol—a gwybodaeth gymunedol, yn electronig hygyrch. Mae hynny’n bwysig er mwyn cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes ac yn hanfodol ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol, yn enwedig er mwyn denu ymwelwyr rhyngwladol.

There are six major Welsh-based projects rooted in the library and archives sector. They include ‘Gathering the Jewels’, which is bringing together, in a single electronic site on the worldwide web, a huge collection of images and texts located physically in libraries, museums, galleries and record offices throughout Wales. These projects are acting as pathfinders, developing digitisation expertise and managing high quality bilingual electronic content. This improves Wales’s ICT skills base and, therefore, its economic advantage. It provides the basis for Assembly Government funded cultural digitisation projects, in particular Culture Cymru Online—an all-Wales network of ICT cultural services. The library and archives sector is playing a leading part in its development. The growing body of cultural electronic content will be available to all learners, and will be accessible in schools as part of the national grid for learning. It will reach communities all over Wales. A substantial part will continue to be produced and managed by the library and archives sector.

Mae chwe phrosiect mawr a leolir yng Nghymru â’u gwreiddiau yn y sector llyfrgelloedd ac archifau. Yn eu plith y mae ‘Casglu’r Tlysau’, sy’n cynnull, mewn un safle electronig ar y we fyd-eang, gasgliad anferth o ddelweddau a thestunau sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau ac archifdai ledled Cymru. Mae’r prosiectau hyn yn arloesi, wrth ddatblygu arbenigedd mewn digideiddio a rheoli cynnwys electronig dwyieithog o ansawdd da. Mae hyn yn gwella sgiliau TGCh Cymru a thrwy hynny ei mantais economaidd. Mae’n sail i brosiectau digideiddio diwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad, yn enwedig Diwylliant Cymru Ar-lein, sef rhwydwaith o wasanaethau diwylliannol TGCh i Gymru gyfan. Mae’r sector llyfrgelloedd ac archifau’n chwarae rhan flaenllaw yn ei ddatblygiad. Bydd y deunydd diwylliannol electronig sy’n parhau i gynyddu ar gael i bawb sy’n dysgu, a bydd ysgolion yn gallu ei ddefnyddio fel rhan o’r grid cenedlaethol ar gyfer dysgu. Bydd yn cyrraedd cymunedau ledled Cymru. Bydd rhan sylweddol ohoni’n parhau i gael ei chynhyrchu a’i rheoli gan y sector llyfrgelloedd ac archifau.

As well as making access to material easier by digitising content, the need exists for a comprehensive, searchable, online record of all library resources in Wales. Research is ongoing to identify relevant factors. The research encompasses the printed holdings of all public libraries and all libraries in higher and further education in Wales. This is the first attempt at a comprehensive survey of resource discovery across all library sectors in Wales and to recommend ways of realising the ultimate vision—an online system or systems that would allow all citizens, easily and at a glance, to discover library resources anywhere. The library sector in Wales is working innovatively to develop ways in which the different services they represent, such as higher and further education and public libraries, can be integrated to maximise access to learning for all. There are three established cross-sectoral library partnerships in Wales, namely Atlis in Swansea, Galw in Wrexham and Newlis in Newport, with others being developed. The fundamental aim is to empower learning communities of all types by marketing the concept of all libraries within a community as a single resource and providing access maps for learners to make full use of local resources in different types of libraries.

Yn ogystal â hwyluso mynediad at ddeunydd drwy ddigideiddio cynnwys, mae angen cofnod cynhwysfawr, chwiliadwy, ar-lein o’r holl adnoddau llyfrgellol yng Nghymru. Mae ymchwil yn mynd rhagddi i ganfod y ffactorau perthnasol. Mae’r ymchwil yn cwmpasu daliadau argraffedig holl lyfrgelloedd cyhoeddus a holl lyfrgelloedd sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru. Hon yw’r ymgais gyntaf i gynnal arolwg cynhwysfawr o’r adnoddau a ddarganfuwyd ym mhob sector llyfrgell yng Nghymru ac i argymell dulliau o wireddu’r weledigaeth derfynol—system neu systemau ar-lein a fyddai’n caniatáu i bob dinesydd ddarganfod adnoddau llyfrgell ledled y wlad yn rhwydd ac mewn amrantiad. Mae’r sector llyfrgelloedd yng Nghymru’n gweithio’n arloesol i ddatblygu dulliau o integreiddio’r gwahanol wasanaethau a gynrychiolant, megis addysg bellach ac uwch a llyfrgelloedd cyhoeddus, er mwyn amlhau’r mynediad at ddysgu i bawb. Mae tair partneriaeth lyfrgell draws-sectoraidd sefydledig yng Nghymru, sef Atlis yn Abertawe, Galw yn Wrecsam a Newlis yng Nghasnewydd, ac mae eraill yn cael eu datblygu. Y nod sylfaenol yw galluogi pob math o gymunedau sy’n dysgu drwy farchnata’r cysyniad bod yr holl lyfrgelloedd mewn cymuned yn un adnodd, a darparu mapiau mynediad fel y gall dysgwyr wneud defnydd llawn o’r adnoddau lleol mewn gwahanol fathau o lyfrgelloedd.

Members will know that last year I introduced the first standards and library plans for public libraries in Wales, which have equality of opportunity as an underlying theme, including providing services for the visually impaired. Libraries will therefore welcome the launch of the first ever catalogue of Welsh language Braille books. This is part of the Royal National Institute for the Blind’s right to read week and is funded by the Welsh Language Board. The evidence is that the standards are already encouraging local authorities to take a more strategic approach to their public libraries. I look forward to continuing to work with the sector in promoting social inclusion and lifelong learning, and continuing to update Members on new developments in the future, including the outcome of the consultation I launched last month on a strategic and advisory structure for museums, libraries and archives.

Fe ŵyr Aelodau fy mod y llynedd wedi cyflwyno’r safonau a chynlluniau llyfrgell cyntaf ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, sydd â chyfle cyfartal yn thema sylfaenol iddynt, gan gynnwys darparu gwasanaethau i bobl â nam ar eu golwg. Felly, bydd llyfrgelloedd yn croesawu’r catalog cyntaf erioed o lyfrau Braille Cymraeg. Mae hyn yn rhan o wythnos hawl i ddarllen Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion ac fe’i hariennir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ôl y dystiolaeth mae’r safonau eisoes yn cymell awdurdodau lleol i ymdrin yn fwy strategol â’u llyfrgelloedd cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r sector wrth hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dysgu gydol oes, a pharhau i roi gwybod i Aelodau am y datblygiadau newydd yn y dyfodol, gan gynnwys canlyniad yr ymgynghoriad a lansiais y mis diwethaf ar strwythur strategol a chynghorol i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 28

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 28

Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous. Mae archifau’n drysorfeydd cyffrous a diddorol. Maent yn llawn llawysgrifau, dogfennau a chofnodion gweinyddiaeth leol o bob math, gyda rhai’n mynd yn ôl ganrifoedd. Mae cyfle yn awr i hyrwyddo addysg gydol oes. Drwy wneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth, agorwn ddrysau archifdai i gynulleidfa ehangach o lawer na’r hen anoracs fel fi fu’n treulio amser maith mewn llyfrgelloedd yn astudio hanes lleol. Mae’n bwysig inni gynyddu ymwybyddiaeth pobl o’u hanes, yn arbennig hanes eu cymunedau, i greu ymdeimlad o berthynas rhyngddynt a’r ardal lle maent yn byw.

This is an exciting development. Archives contain a wealth of exciting and fascinating information. They are filled with manuscripts, documents as well as local administration records of all sorts, some stretching back for centuries. We now have an opportunity to promote lifelong learning. By making use of information technology, we are opening the doors of archives to a much wider audience than old anoraks like me who have spent many a long hour in libraries studying local history. It is important that we raise people’s awareness of their history, particularly the history of their communities, so that they have a sense of belonging to the area where they live.

Credaf fod cyfle gennym yn awr i greu canolfannau rhanbarthol—i ddatblygu’r syniad hwn. Mae diddordeb pobl mewn hanes lleol ac yn eu hachau yn cynyddu. Yr wyf yn meddwl yn arbennig am y Cymoedd, gan fod cannoedd o bobl wedi symud oddi yno i wahanol rannau o’r byd. Byddai canolfannau o’r fath yn denu twristiaid a datblygu diddordeb yn y materion hyn. Croesawaf y datblygiad i wella’r gwasanaeth llyfrgelloedd i’r deillion. Mae hynny’n bwysig. Clod yn unig sydd gennyf heddiw, byddwch yn falch o glywed, Weinidog. Dyma gyfle i ddatblygu hyn a chreu mwy o swyddi.

I believe that we now have an opportunity to create regional centres—to develop this idea. People’s interest in local history and in their ancestry is increasing. I am thinking in particular of the Valleys, which has seen hundreds of people move to different parts of the world. Centres such as these would attract tourists and generate interest in these areas. I welcome the developments in improving library services for blind people. That is important. You will be pleased to hear that I have nothing but praise today, Minister. There is an opportunity to develop this and create employment.

Jenny Randerson spoken in English p. 28

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 28

I welcome your emphasis on archive services; I am aware that it is the sector that is most frequently overlooked. As a historian, I particularly value what they have to offer. The concept of regional centres is interesting. There are two ways in which we can consider this particular issue. The development of virtual centres, such as online facilities, means that the information will be more easily available to people wherever they live. We all welcome that. On the other hand, we are keen to encourage people to come to Wales and to look at our heritage and at their own. There are a couple of interesting developments linked to that. I recall a recent visit to Wrexham museum, where access to its archives is available in the same building. People wander easily from one part of the museum to the other. When I visited the museum, I met someone who spends a great deal of time there researching the history of Wrexham Football Club. He has developed his interest into writing a book about it. Secondly, I was delighted recently to be involved in the opening of Ruthin jail —if a jail can be opened. It is a good example of a combination of an archive service—all the archives will be in the jail’s cells—a tourist attraction and a heritage facility. It is also a wonderful learning opportunity for children and for older people. I recommend that anybody visiting north Wales should visit Ruthin jail.

Croesawaf eich pwyslais ar wasanaethau archifau; yr wyf yn ymwybodol mai hwn yw’r sector a anghofir amlaf. Fel hanesydd, yr wyf yn tra gwerthfawrogi’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Mae’r cysyniad o ganolfannau rhanbarthol yn un diddorol. Gallwn ystyried y mater penodol hwn mewn dau fodd. Mae datblygu canolfannau rhithwir, megis cyfleusterau ar-lein, yn golygu y bydd yn haws cael gafael ar wybodaeth, ym mha le bynnag y mae pobl yn byw. Yr ydym i gyd yn croesawu hynny. Ar y llaw arall, yr ydym yn awyddus i annog pobl i ddod i Gymru ac edrych ar ein treftadaeth ni a’u treftadaeth hwy. Mae un neu ddau o ddatblygiadau diddorol yn gysylltiedig â hynny. Cofiaf ymweld yn ddiweddar ag amgueddfa Wrecsam, lle y gellir cael mynediad at ei harchifau yn yr un adeilad. Mae pobl yn cerdded yn rhwydd o un rhan o’r amgueddfa i’r llall. Pan ymwelais â’r amgueddfa, cyfarfûm â rhywun sy’n treulio llawer iawn o amser yno’n ymchwilio i hanes Clwb Pêl-droed Wrecsam. Trodd ei ddiddordeb yn lyfr am y clwb. Yn ail, yr oeddwn wrth fy modd yn ddiweddar o fod yn gysylltiedig ag agor carchar Rhuthun—os gellir agor carchar. Mae hyn yn enghraifft dda o gyfuniad o wasanaeth archifau—bydd yr holl archifau yng nghelloedd y carchar—atyniad twristaidd a chyfleuster treftadaeth. Mae hefyd yn gyfle dysgu gwych i blant a phobl hŷn. Yr wyf yn cynghori unrhyw un sy’n ymweld â’r Gogledd i ymweld â charchar Rhuthun.

Janice Gregory spoken in English p. 29

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 29

I agree with Owen that this is exciting. I do not wish to be the voice of doom and gloom, but I want to draw a local example to your attention, which I am sure is replicated throughout Wales. In the village where I live, we have a wonderful facility called the Pencoed Miners Welfare and Community Hall, which has been refurbished with public money, and which includes an ICT suite. I want to concentrate on ICT. The suite was provided for the community, but it is not able to provide internet access because it is cost prohibitive. Unlike the welfare hall, our wonderful library service in the village will now be able to provide free internet access. I want you to be aware that there is a downside to this, which I ask you to consider. Perhaps we could meet to discuss a way forward with regard to making a contribution to welfare halls and community centres, which already provide ICT access.

Cytunaf ag Owen fod hyn yn gyffrous. Ni ddymunaf fod yn un sy’n darogan gwae, ond yr wyf am dynnu eich sylw at enghraifft leol, a ailadroddir ledled Cymru yr wyf yn siŵr. Yn y pentref lle’r wyf yn byw, mae gennym gyfleuster gwych o’r enw Neuadd Les a Chymunedol Glowyr Pen-coed, a adnewyddwyd drwy ddefnyddio arian cyhoeddus, sy’n cynnwys ystafell TGCh. Yr wyf am ganolbwyntio ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Darparwyd yr ystafell ar gyfer y gymuned, ond nid yw’n gallu darparu mynediad i’r rhyngrwyd am fod y gost yn rhy fawr. Yn wahanol i’r neuadd les, gall ein gwasanaeth llyfrgell gwych sydd yn y pentref yn awr ddarparu mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Yr wyf am ichi fod yn ymwybodol bod ochr arall i hyn, a gofynnaf ichi ei hystyried. Efallai y gallem gwrdd i drafod ffordd ymlaen o ran cyfrannu at neuaddau lles a chanolfannau cymunedol, sydd eisoes yn darparu mynediad at TGCh.

Jenny Randerson spoken in English p. 29

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 29

I take your points seriously. One issue with which we must grapple in ICT initiatives is the speed of change. Initiatives set up as state of the art two or three years ago can be overtaken by the latest developments. One issue is the sustainability of keeping library and other centres, such as the one you mentioned, up to date. I would be happy to meet with you or, if you prefer, you could write to me, with regard to the issues that you have raised in light of the overall strategy.

Cymeraf eich pwyntiau o ddifrif. Un mater y mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef mewn mentrau TGCh yw cyflymder y newid. Mae mentrau a sefydlwyd ddwy neu dair blynedd yn ôl fel y rhai mwyaf modern ar y pryd yn gallu cael eu gadael ar ôl gan y datblygiadau diweddaraf. Un mater sy’n codi yw’r gallu i gadw llyfrgelloedd a chanolfannau eraill, fel yr un y cyfeisiasoch ati, yn gyfoes. Byddwn yn falch o gwrdd â chi neu, os byddai’n well gennych, gallech ysgrifennu ataf, ynghylch y materion yr ydych wedi’u codi yng ngolwg y strategaeth gyffredinol.

Jonathan Morgan spoken in English p. 30

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 30

We all recognise the valuable work of the library service in Wales, particularly small library services in villages and communities in smaller, rural areas. In your statement, you refer to libraries as one of the few services capable of providing lifelong learning opportunities. I hope that the Government will also consider a more flexible and imaginative use of school buildings as a community resource, because they too offer tremendous opportunities for providing the ICT assistance and online learning on which the Government is keen. While school buildings may be in use between 8.30 a.m. and 4.30 p.m., they offer tremendous opportunities, particularly in villages, in that regard.

Yr ydym i gyd yn cydnabod gwaith gwerthfawr y gwasanaeth llyfrgelloedd yng Nghymru, yn enwedig y gwasanaethau llyfrgell bychan mewn pentrefi a chymunedau mewn ardaloedd gwledig, llai. Yn eich datganiad, yr ydych yn cyfeirio at lyfrgelloedd fel un o’r ychydig wasanaethau a all ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes. Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried defnydd mwy hyblyg a dychmygus o adeiladau ysgol fel adnodd cymunedol, gan eu bod hwythau’n cynnig cyfleoedd aruthrol i ddarparu’r cymorth TGCh a’r dysgu ar-lein y mae’r Llywodraeth yn frwd drostynt. Er bod adeiladau ysgol ar ddefnydd rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m., maent yn cynnig cyfleoedd aruthrol, yn enwedig mewn pentrefi, yn hynny o beth.

To follow on from Janice Gregory’s remarks, in your statement you stated that, as far as practicable, all public libraries will be online by the end of 2002. I would like a progress report from the Government as to how many libraries are currently online, and whether you envisage reaching that target of all public libraries being online by the end of this calendar year. I do not think that this is the case so far. Several public libraries in Wales, particularly the smaller, community libraries, such as the one in my village of Tongwynlais, are small and are a limited resource. Tongwynlais library does not have access to the hardware, the software, or the lines needed to access the internet. There are deficiencies in the system and progress would be welcome.

Gan ddilyn sylwadau Janice Gregory, yn eich datganiad fe ddywedasoch y bydd yr holl lyfrgelloedd cyhoeddus ar-lein, hyd y bo’n ymarferol, erbyn diwedd 2002. Hoffwn gael adroddiad ar gynnydd gan y Llywodraeth ynghylch y nifer o lyfrgelloedd sydd ar-lein ar hyn o bryd, ac a ydych yn rhagweld cyrraedd y targed o gael yr holl lyfrgelloedd cyhoeddus ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ni chredaf ei bod felly hyd yn hyn. Mae nifer o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig y llyfrgelloedd cymunedol llai, fel yr un ym mhentref Tongwynlais lle’r wyf yn byw, yn fach ac yn adnodd cyfyngedig. Nid yw’r caledwedd a’r meddalwedd ar gael i lyfrgell Tongwynlais, na’r llinellau sydd eu hangen i gyrraedd y rhyngrwyd. Mae diffygion yn y system a byddai cynnydd i’w groesawu.

Finally, I welcome the Government’s work in ensuring that all learners in schools have internet access through the national grid for learning. I also welcome the fact that cultural electronic content will be available online. This stems from the Education and Lifelong Learning Committee’s work and its review into ICT in schools. Other UK nations, particularly Scotland, are way out in front on this work and, in many respects, we must play catch-up. I urge the Government to do as much as it can to ensure that we catch up with other nations to provide the sort of resources that the people of Wales need.

Yn olaf, croesawaf waith y Llywodraeth o ran sicrhau y caiff yr holl ddysgwyr mewn ysgolion fynediad i’r rhyngrwyd drwy’r grid cenedlaethol ar gyfer dysgu. Yr wyf hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd cynnwys diwylliannol electronig ar gael ar-lein. Mae hyn yn deillio o waith y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes a’r adolygiad o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu mewn ysgolion. Mae cenhedloedd eraill y DU, yn enwedig yr Alban, ymhell ar y blaen yn y gwaith hwn ac, ar lawer ystyr, rhaid inni geisio’u dal. Pwysaf ar y Llywodraeth i wneud cymaint ag y gall i sicrhau ein bod yn dal y cenhedloedd eraill i ddarparu’r math o adnoddau y mae ar bobl Cymru eu hangen.

Jenny Randerson spoken in English p. 31

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 31

On your last point, as a former member of the Education and Lifelong Learning Committee when you and Huw Lewis undertook the ICT review, I am aware of the issues that it raised and have borne that in mind ever since. The sort of good practice to which you refer with regard to the use of school buildings does exist—I am aware of several high schools in Cardiff where joint community use is made of the buildings. They offer an ICT-based facility and they are used by the community in the evening as community learning centres. That also happens in rural areas. The same concept lies behind the new opportunities fund money for school sports facilities; the money is linked to community use of those facilities, so the basic philosophy is the same.

Ynghylch eich pwynt olaf, fel un a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes pan wnaethoch chi a Huw Lewis yr adolygiad TGCh, yr wyf yn ymwybodol o’r materion a gododd ac yr wyf wedi cadw hynny mewn cof byth ers hynny. Mae’r math o arfer da y cyfeiriwch ato o ran y defnydd o adeiladau ysgol yn bodoli—gwn am sawl ysgol uwchradd yng Nghaerdydd lle y ceir defnydd cymunedol ar y cyd o’r adeiladau. Maent yn cynnig cyfleuster sy’n seiliedig ar TGCh ac fe’u defnyddir gan y gymuned gyda’r hwyr fel canolfannau dysgu cymunedol. Mae hynny’n digwydd mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yr un cysyniad sydd wrth wraidd arian y gronfa cyfleoedd newydd i gyfleusterau chwaraeon ysgol; mae’r arian yn gysylltiedig â’r defnydd cymunedol o’r cyfleusterau hynny, felly yr un yw’r athroniaeth sylfaenol.

I am happy to give people a progress report towards the end of the year. My statement deliberately states ‘as far as practicable’—with hundreds of library services there is no guarantee that we will manage to get all of them online by the end of the year. However, it is anticipated that the overwhelming majority will be online by then, and I will be unhappy with any library service that is not online. You mentioned Tongwynlais. I am aware of the problems there and we are working hard to overcome them.

Byddaf yn falch o roi adroddiad ar gynnydd tua diwedd y flwyddyn. Mae fy natganiad yn dweud yn fwriadol ‘hyd y bo’n ymarferol’—gan fod cannoedd o wasanaethau llyfrgell, nid oes sicrwydd y byddwn yn llwyddo i gael pob un ohonynt ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd y mwyafrif llethol ohonynt ar-lein erbyn hynny, a byddaf yn anfodlon ar unrhyw wasanaeth llyfrgell nad yw ar-lein. Cyfeiriasoch at Dongwynlais. Yr wyf yn ymwybodol o’r problemau yn y fan honno ac yr ydym yn gweithio’n galed i’w datrys.

Peter Black spoken in English p. 31

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 31

I welcome the statement. I hold most of my surgeries in public libraries, so I am aware of their important role in local communities. However, many libraries do not fulfil their potential. The introduction of ICT is transforming how libraries operate and is attracting new people to use them. Anyone who has visited the new library in the excellent Phoenix centre in Townhill, Swansea will appreciate how much libraries have developed in recent years.

Croesawaf y datganiad. Yr wyf yn cynnal y rhan fwyaf o’m cymorthfeydd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, felly yr wyf yn ymwybodol o’u rôl bwysig mewn cymunedau lleol. Er hynny, ceir llawer o lyfrgelloedd nad ydynt yn cyflawni’u potensial. Mae cyflwyno TGCh yn trawsffurfio’r modd y mae llyfrgelloedd yn gweithredu ac yn denu defnyddwyr newydd. Bydd unrhyw un a ymwelodd â’r llyfrgell newydd yng nghanolfan ragorol Phoenix yn Townhill, Abertawe yn sylweddoli cymaint y mae llyfrgelloedd wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf hyn.

The emphasis on ICT in your statement is welcome, as are initiatives such as the catalogue of Welsh language Braille books. They are important in opening libraries to new users. ICT has the potential to open new avenues of knowledge for people. One example is the growth of local history websites, many of them stimulated by access to ICT in libraries. They are often run by the silver surfers to whom you referred in your statement. I am aware of one based in Llansamlet library in Swansea. Every time I hold a surgery there, the local silver surfers are busy updating their local history website. Local history websites are becoming increasingly important in schools. I saw one being used in a primary school yesterday as part of a lesson.

Mae’r pwyslais ar TGCh yn eich datganiad i’w groesawu, fel y mae’r mentrau fel y catalog o lyfrau Braille Cymraeg. Maent yn bwysig o ran agor llyfrgelloedd i ddefnyddwyr newydd. Mae gan TGCh y potensial i agor llwybrau gwybodaeth newydd i bobl. Un enghraifft yw twf y gwefannau hanes lleol, y mae llawer ohonynt wedi’u symbylu gan y mynediad at TGCh mewn llyfrgelloedd. Fe’u gweithredir yn aml gan y silver surfers y cyfeiriasoch atynt yn eich datganiad. Gwn am un sydd wedi’i lleoli yn llyfrgell Llansamlet yn Abertawe. Bob tro yr wyf yn cynnal cymhorthfa yno, mae’r silver surfers lleol wrthi’n brysur yn diweddaru eu gwefan hanes lleol. Mae gwefannau hanes lleol yn dod yn fwyfwy pwysig mewn ysgolion. Gwelais un yn cael ei defnyddio mewn ysgol gynradd ddoe fel rhan o wers.

However, I am concerned about the distance that many local libraries still have to travel to achieve the new standards on ICT and accessibility and to overcome physical limitations. Local councils must spend many hundreds of thousands of pounds to achieve these standards. Can you identify any funding sources to help councils meet those costs?

Fodd bynnag, yr wyf yn bryderus bod llawer o lyfrgelloedd lleol yn bell iawn o hyd o gyrraedd y safonau newydd ar gyfer TGCh a hygyrchedd ac o oresgyn y cyfyngiadau ffisegol. Rhaid i gynghorau lleol wario cannoedd o filoedd o bunnoedd i gyrraedd y safonau hyn. A allwch nodi unrhyw ffynonellau ariannu i helpu’r cynghorau i dalu’r costau hynny?

Jenny Randerson spoken in English p. 32

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 32

I am delighted to hear of your effective use of public libraries. I occasionally hold surgeries in public libraries, and it is good as people can read books while they are waiting to talk to me. The growth of local history websites is important in terms of the link between the older generation and young people. They are also a valuable and easily accessible resource for schools.

Yr wyf wrth fy modd o glywed am eich defnydd effeithiol o lyfrgelloedd cyhoeddus. Yr wyf fi’n cynnal cymorthfeydd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus weithiau, ac mae hynny’n beth da gan fod modd i bobl ddarllen llyfrau wrth ddisgwyl i siarad â mi. Mae twf y gwefannau hanes lleol yn bwysig o ran y cysylltiad rhwng y genhedlaeth hŷn a phobl ifanc. Maent hefyd yn adnodd gwerthfawr a hawdd ei gyrraedd i ysgolion.

The library standards do not introduce a new statutory requirement, merely a clearer definition of what local authorities should already be doing. They have a statutory requirement to provide a library service. As this was not clearly defined previously, I regret to say that, during periods of financial stress over recent decades, it has been easy for local authorities to treat the library service as a Cinderella service. I hope that, over the set period of three years, local authorities can achieve the standard that they should have achieved from the beginning. The standards are based on the Best Value regime, which local authorities are geared up to achieving overall.

Nid yw’r safonau llyfrgell yn cyflwyno gofyniad statudol newydd, dim ond diffiniad eglurach o’r hyn y dylai’r awdurdodau lleol fod yn ei wneud eisoes. Mae gofyniad statudol iddynt ddarparu gwasanaeth llyfrgell. Gan nad oedd hyn wedi’i ddiffinio’n eglur o’r blaen, mae’n ofid imi ddweud iddi fod yn hawdd, yn ystod cyfnodau o bwysau ariannol dros y degawdau diwethaf hyn, i’r awdurdodau lleol drin y gwasanaeth llyfrgell fel gwasanaeth Sinderela. Gobeithiaf y bydd yr awdurdodau lleol, dros y cyfnod penodol o dair blynedd, yn gallu cyrraedd y safon y dylent fod wedi’i chyrraedd yn y dechrau. Mae’r safonau’n seiliedig ar y gyfundrefn Gwerth Gorau, y mae’r awdurdodau lleol wedi ymaddasu i’w chyflawni’n gyffredinol.

On specific pressures, the new opportunities fund money for ICT includes, for example, an element of finance for staff training. It is not just for the hardware. The money can be used to train staff, which is one element of pressure and capacity that we must consider. Other pressures such as disabled access must be considered in the overall picture of local authority buildings, as they are subject to local audit services and current legislation on disability rights. We must consider that libraries are not always housed in self-contained buildings; they are often part of other local authority services.

O ran y pwysau penodol, mae arian y gronfa cyfleoedd newydd i TGCh yn cynnwys, er enghraifft, elfen o gyllid ar gyfer hyfforddi staff. Nid yw ar gyfer caledwedd yn unig. Gellir defnyddio’r arian i hyfforddi staff, sy’n un elfen o’r pwysau a’r capasiti y mae’n rhaid inni’i hystyried. Rhaid ystyried pwysau eraill fel mynediad i’r anabl yn y darlun cyffredinol o adeiladau awdurdodau lleol, gan eu bod yn ddarostyngedig i’r gwasanaethau archwilio lleol a’r ddeddfwriaeth gyfredol ar hawliau anabledd. Rhaid inni gofio nad yw pob llyfrgell mewn adeilad hunangynhwysol; mae llawer ohonynt yn rhan o wasanaethau eraill awdurdod lleol.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 33

Croesawaf y datganiad. Sut yr ydych yn cydweithio gyda’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd ar dwristiaeth treftadaeth a’r posibilirwydd o ddatblygu olrhain achau? Byddai’r cydweithio hwnnw’n ddefnyddiol. O ran gweithgareddau mewn ysgolion a’r berthynas gyda’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, y bu ichi gyfeirio ati, nodaf y cynhelir adolygiad polisi gan y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar ysgol y dyfodol yn yr hydref ac y bydd defnyddio’r ysgol fel adnodd i’r gymdeithas yn gyffredinol yn rhan bwysig o’r adolygiad hwnnw. Awgrymaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r adran diwylliant a’r Gweinidog yn cyfrannu at yr adolygiad polisi i weld sut y gellid cydlynu’r datblygiadau y soniwyd amdanynt heddiw gyda’r syniad o ddatblygu’r ysgol fel adnodd cymunedol. Mae gwasanaethau llyfrgell yn rhan bwysig o hynny hefyd.

I welcome the statement. How are you working with the Minister for Economic Development on heritage tourism and the possibility of developing genealogy? Such a partnership would be useful. In terms of activities in schools and the relationship with the Minister for Education and Lifelong Learning, to which you referred, I note that the Education and Lifelong Learning Committee will conduct a policy review of the school of the future in the autumn and that using schools as a resource for society in general will be an important part of that review. I suggest that it would be useful if the culture department and the Minister were to contribute to that review to see how the developments mentioned today could be co-ordinated with the concept of developing schools as a community resource. Library services are also an important part of that.

Jenny Randerson spoken in English p. 33

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 33

Co-operation occurs in numerous ways. The Wales Tourist Board has been consulting on its cultural tourism strategy. It is a member of Cymru’n Creu, my cultural consortium, and has been involved in discussions on the development of cultural tourism.

Mae cydweithredu’n digwydd mewn sawl ffordd. Bu Bwrdd Croeso Cymru’n ymgynghori ar ei strategaeth twristiaeth ddiwylliannol. Mae’n aelod o Cymru’n Creu, fy nghonsortiwm diwylliannol, a bu’n ymwneud â thrafodaethau ar ddatblygu twristiaeth ddiwylliannol.

In terms of putting this information online, the Minister for Economic Development has established a working party, which is considering the development of ‘Cymru Ar-lein’. Andrew Green, the national library’s chief librarian is a member of that working party and is involved in developing the aspects of cultural tourism and heritage, which, as you said, are important.

O ran rhoi’r wybodaeth hon ar-lein, mae’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd wedi sefydlu gweithgor, sy’n ystyried datblygiad ‘Cymru Ar-lein’. Mae Andrew Green, prif lyfrgellydd y llyfrgell genedlaethol yn aelod o’r gweithgor hwnnw ac mae’n ymwneud â datblygu’r agweddau ar dwristiaeth ddiwylliannol a threftadaeth, sy’n bwysig, fel y dywedasoch.

I am sure that we would also wish to be involved in the review on the school of the future.

Yr wyf yn siŵr y byddem hefyd yn dymuno cymryd rhan yn yr adolygiad ar ysgol y dyfodol.

Brian Hancock spoken in English p. 34

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 34

You mentioned e-citizenship, with libraries and schools having free, high-speed access to the internet, which I welcome. Will you consider including sub-post offices, because they serve communities in rural and suburban areas where they do not perhaps have libraries?

Yr ydych wedi sôn am e-ddinasyddiaeth, a mynediad cyflym am ddim i’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd ac ysgolion, a chroesawaf hynny. A wnewch ystyried cynnwys is-swyddfeydd post, gan eu bod yn gwasanaethu cymunedau mewn ardaloedd gwledig a maestrefol nad oes ganddynt lyfrgelloedd o bosibl?

Jenny Randerson spoken in English p. 34

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 34

Learning centres and ICT centres are not concepts that are exclusive to libraries. Their location is flexible. It might be appropriate, Brian, if you wrote to the Minister with responsibility for communities with that idea.

Nid yw canolfannau dysgu a chanolfannau TGCh yn gysyniadau sy’n gyfyngedig i lyfrgelloedd. Mae eu lleoliad yn hyblyg. Gallai fod yn briodol, Brian, ichi ysgrifennu at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau ynghylch y syniad hwnnw.

Geraint Davies spoken in English p. 34

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 34

I know that you are interested in emigration research and its importance in developing tourism, as has been found in Ireland and Scotland. Given that most people who emigrate from Wales do so from the Valleys, we should have a specialist centre in those areas. Will you support such a venture?

Gwn eich bod yn ymddiddori mewn ymchwil ar allfudo a’i phwysigrwydd wrth ddatblygu twristiaeth, fel y canfuwyd yn Iwerddon a’r Alban. Gan fod y rhan fwyaf o bobl sy’n allfudo o Gymru yn mynd o’r Cymoedd, dylem gael canolfan arbenigol yn yr ardaloedd hynny. A wnewch gefnogi menter o’r fath?

Jenny Randerson spoken in English p. 34

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 34

I am familiar with this idea. The national library considered it when establishing its ‘Gathering the Jewels’ website, which was envisaged as the vehicle for that type of activity. It is considering this issue in its discussions.

Yr wyf yn gyfarwydd â’r syniad hwn. Fe’i hystyriwyd gan y llyfrgell genedlaethol wrth sefydlu ei gwefan ‘Casglu’r Tlysau’, y rhagwelwyd y byddai’n gyfrwng i weithgaredd o’r math hwnnw. Mae’n ystyried y mater hwn yn ei thrafodaethau.

Datganiad ar Gydraddoldeb Hiliol

Statement on Race Equality

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 35

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 35

In order to comply with the Race Relations (Amendment) Act 2000 and statutory guidance, we are publishing our first race equality scheme today, ahead of the deadline of 31 May. We have arranged a full Plenary debate on the scheme next month. We could not provide a full debate on this issue in the Committee on Equality of Opportunity or Plenary ahead of publication without putting compliance with the deadline at risk. I am grateful to the Committee in particular for recognising the pressures. I hope that the measures we have put in place, in particular the commitment to reviewing the scheme within 12 months, will go some way to ensuring that the scheme is subject to a full and early process of debate and improvement.

Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 a’r cyfarwyddyd statudol, yr ydym yn cyhoeddi ein cynllun cydraddoldeb hiliol cyntaf heddiw, cyn y dyddiad cwblhau ar 31 Mai. Yr ydym wedi trefnu dadl lawn ar y cynllun mewn Cyfarfod Llawn y mis nesaf. Ni allem ddarparu dadl lawn ar y mater hwn yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal neu’r Cyfarfod Llawn cyn cyhoeddi heb beryglu cydymffurfiad â’r dyddiad cwblhau. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Pwyllgor yn benodol am gydnabod y pwysau. Gobeithiaf y bydd y mesurau a roesom ar waith, yn enwedig yr ymrwymiad i adolygu’r cynllun o fewn 12 mis, yn cyfrannu rywfaint at sicrhau y caiff y cynllun ei drafod a’i wella drwy broses lawn a buan.

The Race Relations (Amendment) Act 2000 is a ground breaking and challenging piece of legislation, which for the first time places a positive duty on public authorities to promote race equality. The scheme sets out how we intend to fulfil our duties under the Act, which we will do as part of our wider commitment to promoting equality of opportunity for all.

Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 yn ddeddf arloesol ac ymestynnol sydd, am y tro cyntaf, yn rhoi dyletswydd gadarnhaol ar awdurdodau cyhoeddus i hybu cydraddoldeb hiliol. Mae’r cynllun yn nodi sut y bwriadwn gyflawni ein dyletswyddau dan y Ddeddf, a wnawn fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i hybu cyfle cyfartal i bawb.

The scheme has been drafted in the light of the draft code of practice from the Commission for Racial Equality, which should complete all the necessary parliamentary procedures this week to give it statutory force. Our scheme must show how we will promote race equality and undertake many specific duties in terms of our functions. I will deal with the detail of how we intend to address these later in the statement.

Mae’r cynllun wedi’i ddrafftio yng ngoleuni’r cod ymarfer drafft oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, sy’n debygol o gwblhau’i daith drwy’r holl weithdrefnau seneddol angenrheidiol yr wythnos hon fel y caiff rym statudol. Rhaid i’n cynllun ddangos sut y byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ac yn cyflawni llawer o ddyletswyddau penodol o ran ein swyddogaethau. Trafodaf yn fanwl y modd y bwriadwn ymdrin â’r rhain yn ddiweddarach yn y datganiad.

Producing a scheme for the Assembly is a complex undertaking because our range and number of functions is wide compared to most government departments. In some ways, our position is unique. We cover a large number of policy areas, using a wide variety of activities from policy development and funding to legislation and regulation. In addition, unlike the other devolved administrations, we encompass both the Welsh Assembly Government and the conduct of Assembly business. The Presiding Officer, as well as the First Minister, has rightly signed the scheme’s foreword. I am grateful to him for his support.

Mae cynhyrchu cynllun ar gyfer y Cynulliad yn ymgymeriad cymhleth am fod amrediad a nifer ein swyddogaethau’n eang o’u cymharu â’r rhan fwyaf o adrannau llywodraeth. Ar sawl cyfrif, mae ein sefyllfa’n unigryw. Yr ydym yn ymwneud â nifer fawr o feysydd polisi, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau o ddatblygu polisi ac ariannu i ddeddfu a rheoleiddio. Yn ogystal â hynny, yn wahanol i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, yr ydym yn cwmpasu Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynnal busnes y Cynulliad. Mae’r Llywydd, yn briodol, wedi llofnodi rhagair y cynllun, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru. Yr wyf yn ddiolchgar iddo am ei gefnogaeth.

The scheme builds on the extensive range of equal opportunities initiatives, which have been introduced with the support of the Committee on Equality of Opportunity. This has provided us with a good basis, but it is still only a beginning. The scheme is a living and evolving document that will need to be refined and strengthened. Over the next 12 months, we will undertake a full consultation with black and minority ethnic communities and continue discussions with the Commission for Racial Equality and the Committee on Equality of Opportunity about how we can improve the scheme. It will be translated into other languages and we will make full use of partners such as the All Wales Ethnic Minority Association, the Race Equality Councils and the Black Voluntary Sector Network to ensure an effective consultation process.

Mae’r cynllun yn adeiladu ar sail yr amrediad eang o fentrau cyfle cyfartal, a gyflwynwyd gyda chymorth y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Mae hyn wedi rhoi sylfaen dda i ni, ond nid ydyw ond yn fan cychwyn. Mae’r cynllun yn ddogfen sy’n byw ac yn datblygu y bydd angen ei mireinio a’i chryfhau. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn ymgynghori’n llawn â’r cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig ac yn parhau â’r trafodaethau â’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal ynghylch y modd y gallwn wella’r cynllun. Fe’i trosir i ieithoedd eraill a byddwn yn gwneud pob defnydd o’n partneriaid fel Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-gyfan, y Cynghorau Cydraddoldeb Hiliol a’r Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Du i sicrhau proses ymgynghori effeithiol.

The Commission for Racial Equality has given us valuable advice and encouragement for which we are grateful. The commission highlighted many areas in which the scheme’s text, which was seen by the Committee on Equality of Opportunity last week, needed to be strengthened. With its help, we have improved the content significantly. Members will have seen the letter circulated by the commission yesterday in which it states its confidence that the scheme will succeed in placing good race relations at the heart of the Assembly’s work.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol wedi rhoi cyngor ac anogaeth werthfawr i ni ac yr ydym yn ddiolchgar am hynny. Mae’r comisiwn wedi tynnu sylw at lawer o feysydd lle’r oedd angen cryfhau testun y cynllun, a welwyd gan y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yr wythnos diwethaf. Gyda’i gymorth ef, yr ydym wedi gwella’r cynnwys yn sylweddol. Bydd yr Aelodau wedi gweld y llythyr a gylchredwyd gan y comisiwn ddoe lle y mae’n datgan ei hyder y bydd y cynllun yn llwyddo i roi cysylltiadau hiliol da ar ganol gwaith y Cynulliad.

I will comment briefly on each question that the CRE, in its letter, has rightly reminded us that our scheme, like all schemes, needs to address under the code. Sections 3.2 and 3.3 of the scheme address how the Assembly will decide which of its functions and policies are relevant to the general duty and our intention to consult fully. We will undertake a major assessment programme for completion by April 2003.

Gwnaf sylw’n fyr ar bob cwestiwn y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol wedi ein hatgoffa’n briodol, yn ei lythyr, y dylai ein cynllun ni, fel pob cynllun, ymdrin ag ef dan y cod. Mae adrannau 3.2 a 3.3 o’r cynllun yn ymdrin â’r modd y bydd y Cynulliad yn penderfynu pa rai o’i swyddogaethau a’i bolisïau sy’n berthnasol i’r ddyletswydd gyffredinol ac i’n bwriad i ymgynghori’n llawn. Byddwn yn cynnal rhaglen asesu helaeth i’w chwblhau erbyn Ebrill 2003.

Sections 3.4 and 3.7 and annex 2 of the scheme address how the Assembly will assess and monitor its functions and policies, using its equality audit, integrated policy tool and evaluation procedure. We also need to improve our research and information base and we will produce an action plan accordingly. The recent report by our statistical directorate, ‘Equality of Opportunity—A Guide to Data Sources’ represents a valuable first step.

Mae adrannau 3.4 a 3.7 ac atodiad 2 i’r cynllun yn ymdrin â’r modd y bydd y Cynulliad yn asesu ac yn monitro’i swyddogaethau a’i bolisïau, gan ddefnyddio’i archwiliad cydraddoldeb, ei offeryn polisi integredig a’i weithdrefn werthuso. Rhaid inni hefyd wella ein sylfaen ymchwil a gwybodaeth a byddwn yn cynhyrchu cynllun gweithredu’n unol â hynny. Mae’r adroddiad diweddar gan ein cyfarwyddiaeth ystadegol, ‘Equality of Opportunity—A Guide to Data Sources’ yn gam cyntaf gwerthfawr.

Section 3.6 of the scheme sets out how we will deal with evidence that our policies and functions are not in line with the general duty. Our commitment is to take action where an adverse impact is found. Section 3.5 of the scheme addresses how we will consult and involve ethnic minorities. The Assembly has well developed consultation processes and our funding of AWEMA is aimed at facilitating our consultation with black and minority ethnic communities. Section 5.1 sets out the how we will handle complaints.

Mae adran 3.6 y cynllun yn nodi sut y byddwn yn ymdrin â thystiolaeth nad yw ein polisïau a’n swyddogaethau’n gyson â’r ddyletswydd gyffredinol. Yr ydym wedi ymrwymo i gymryd camau lle y darganfyddir effaith niweidiol. Mae adran 3.5 o’r cynllun yn ymdrin â’r modd y byddwn yn ymgynghori â lleiafrifoedd ethnig ac yn eu cynnwys. Mae gan y Cynulliad brosesau ymgynghori datblygedig a’n nod wrth ariannu Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-gyfan yw hwyluso ein hymgynghori â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig. Mae adran 5.1 yn nodi sut y byddwn yn trafod cwynion.

Section 3.8 addresses how we will publish results and the very important role of the annual equal opportunities report, while section 3.9 addresses access to information and services, including the role of equality audits, a commitment to regular review by the Equality Policy Unit and consultation with black and minority ethnic communities.

Mae adran 3.8 yn ymdrin â’r modd y byddwn yn cyhoeddi canlyniadau a rôl bwysig iawn yr adroddiad blynyddol ar gyfle cyfartal, tra bo adran 3.9 yn trafod mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, gan gynnwys rôl yr archwiliadau cydraddoldeb, ymrwymiad i adolygu rheolaidd gan yr Uned Polisi Cydraddoldeb ac ymgynghori â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

Section 4.6 and annex 3 of the scheme address the important issues of Assembly staff training and induction, the awareness programme training currently underway and the development of new training packages on the general duty.

Mae adran 4.6 ac atodiad 3 i’r cynllun yn ymdrin â’r materion pwysig ynghylch hyfforddi a sefydlu staff, yr hyfforddiant rhaglen ymwybyddiaeth sydd ar waith ar hyn o bryd a datblygu pecynnau hyfforddi ar y ddyletswydd gyffredinol.

As I said at the beginning of the statement, we will review the scheme within 12 months and I want the Committee on Equality of Opportunity to play a key role in that review. In addition, Members will be interested to know that I met with the CRE’s acting director in Wales this morning to consider how we can take these issues forward. I am pleased to advise Members that I will meet Gurbux Singh and the representatives of other parties this afternoon in order to take forward discussions on the issue.

Fel y dywedais ar ddechrau’r datganiad, byddwn yn adolygu’r cynllun o fewn 12 mis ac yr wyf am i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad hwnnw. Yn ogystal â hynny, bydd o ddiddordeb i’r Aelodau fy mod wedi cwrdd â chyfarwyddwr gweithredol y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru y bore yma i ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â’r materion hyn. Yr wyf yn falch o hysbysu’r Aelodau y byddaf yn cwrdd â Gurbux Singh a chynrychiolwyr y pleidiau eraill y prynhawn yma er mwyn parhau â’r trafodaethau ar y mater hwn.

The scheme sets out a substantial work programme for the next 12 months. We are committed to taking forward and improving this scheme to ensure that race equality is at the heart of our work and that we make real progress towards a tolerant society in which diversity is valued. I am sure that all Members will join me in welcoming this.

Mae’r cynllun yn nodi rhaglen waith sylweddol ar gyfer y 12 mis nesaf. Yr ydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r cynllun hwn a’i wella er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb hiliol ar ganol ein gwaith a’n bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at gymdeithas oddefgar lle y perchir amrywiaeth. Yr wyf yn sicr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi i groesawu hyn.

Helen Mary Jones spoken in English p. 38

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 38

Thank you, Minister, for your statement. It is vital that we get our race equality scheme right, not only because of our statutory duty to do so but also because promoting good relations across communities is probably one of the most important issues that faces the nation today.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n hollbwysig ein bod yn cael ein cynllun cydraddoldeb hiliol yn iawn, nid yn unig oherwydd ein dyletswydd statudol i wneud hynny ond hefyd am fod hyrwyddo cysylltiadau da cyd-rhwng cymunedau yn un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r genedl heddiw, yn ôl pob tebyg.

I agree with the Minister that it is regrettable that we are discussing this matter today by way of a statement rather than a full debate. My first question relates to the process of preparing the scheme. Does the Minister acknowledge the rush to complete this scheme promptly? Does she share my concern that the equality policy unit is still under-resourced to promote this agenda? If she does share my concern, will she commit to a Cabinet review of that situation and the issue of resources? We expect a lot from our equality staff, but there are not enough of them to deliver this effectively.

Cytunaf â’r Gweinidog ei bod yn destun gofid ein bod yn trafod y mater hwn heddiw drwy gyfrwng datganiad yn hytrach na dadl lawn. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â’r broses o baratoi’r cynllun. A yw’r Gweinidog yn cydnabod y brys i gwblhau’r cynllun hwn yn brydlon? A yw’n rhannu fy mhryder bod yr uned polisi cydraddoldeb heb ddigon o adnoddau o hyd i hyrwyddo’r agenda hon? Os ydyw’n rhannu fy mhryder, a wnaiff ymrwymo i adolygiad gan y Cabinet o’r sefyllfa honno a mater adnoddau? Yr ydym yn disgwyl llawer gan ein staff cydraddoldeb, ond nid oes digon ohonynt i gyflawni hyn yn effeithiol.

The strong legal basis for our scheme, and all race equality schemes in the Race Relations (Amendment) Act 2000, has been broadly welcomed. However, will the Minister acknowledge the concern that this strong legal emphasis on one aspect of equality may skew the equality focus in public bodies towards potentially addressing race issues at the expense of other equality issues? If you share that concern, how will you address it in our equality scheme and ensure that it is addressed by other public bodies in Wales?

Mae’r sail gyfreithiol gadarn i’n cynllun ni, ac i’r holl gynlluniau cydraddoldeb hiliol yn y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000, wedi’i chroesawu’n gyffredinol. Fodd bynnag, a wnaiff y Gweinidog gydnabod y pryder y gallai’r pwyslais cyfreithiol cryf hwn ar un agwedd ar gydraddoldeb ogwyddo’r sylw i gydraddoldeb mewn cyrff cyhoeddus at ymdrin â materion hil ar draul materion cydraddoldeb eraill o bosibl? Os ydych yn rhannu fy mhryder, sut y byddwch yn rhoi sylw i hyn yn ein cynllun cydraddoldeb ac yn sicrhau y caiff sylw gan gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru?

On the issue of consultation, I endorse the substantial progress made in broadening and making more effective the National Assembly’s consultation mechanisms with minority ethnic communities in Wales. However, do you agree that some issues are still to be addressed? It could be said that we tend to consult with perceived community leaders and community elders, and that we are not yet effectively involving younger people from minority communities, particularly women. Using the scheme, how will you address those issues of consultation?

Ynghylch mater ymgynghori, cymeradwyaf y cynnydd sylweddol a wnaed wrth ehangu a gwella peirianweithiau ymgynghori’r Cynulliad Cenedlaethol â chymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Er hynny, a ydych yn cytuno bod rhai materion y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd? Gellid dweud ein bod yn tueddu i ymgynghori â’r arweinyddion cymunedol a’r henuriaid cymunedol canfyddedig, ac nad ydym eto’n cysylltu’n effeithiol â phobl iau o gymunedau lleiafrifol, yn enwedig menywod. Wrth ddefnyddio’r cynllun, sut y byddwch yn ymdrin â’r materion ymgynghori hynny?

Finally, I welcome the commitment to involve the Committee in reviewing the scheme and the commitment to a full debate following the Whitsun recess. However, I want to hear more about the mechanisms that ensure that the Cabinet and individual Ministers review the scheme as it relates to their work. It is important that the Committee conducts a review, but is important that the Government does so also because the Committee can only make recommendations to Ministers. We must rely on you to actually carry that out.

Yn olaf, croesawaf yr ymrwymiad i gynnwys y Pwyllgor wrth adolygu’r cynllun a’r ymrwymiad i ddadl lawn ar ôl toriad y Sulgwyn. Fodd bynnag, yr wyf am glywed rhagor am y peirianweithiau sy’n sicrhau bod y Cabinet a’r Aelodau unigol yn adolygu’r cynllun o ran ei gysylltiad â’u gwaith. Mae’n bwysig bod y Pwyllgor yn cynnal adolygiad, ond mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn gwneud hynny hefyd gan nad yw’r Pwyllgor ond yn gallu rhoi argymhellion i Weinidogion. Rhaid inni ddibynnu arnoch chi i gyflawni hynny.

Edwina Hart spoken in English p. 39

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 39

I intend to present a paper to Cabinet to examine how Ministers can assist in the review of the scheme. I will do so prior to the Committee commencing its review, which will, hopefully, be in the autumn when we will have the results of the ongoing consultation process. That work must be started quite early so that we can assemble the various components.

Bwriadaf gyflwyno papur i’r Cabinet i ymchwilio i’r modd y gall Gweinidogion gynorthwyo wrth adolygu’r cynllun. Gwnaf hynny cyn i’r Pwyllgor gychwyn ei adolygiad, sef yn yr hydref, mi obeithiaf, pan fydd canlyniadau’r broses ymgynghori gyfredol gennym. Rhaid i’r gwaith hwnnw ddechrau’n eithaf buan fel y gallwn roi’r gwahanol elfennau at ei gilydd.

On consultation, there is much to do. You and I were at a meeting where we discussed these issues of how to reach younger people in communities and take their views on board. This morning, I discussed with the CRE how we could jointly organise some visits to some communities for me to hear at first hand some of the community issues and discuss with the community members what the Assembly could do.

Ynghylch ymgynghori, mae llawer i’w wneud. Buoch chi a minnau mewn cyfarfod lle y gwnaethom drafod y materion hyn sy’n ymwneud â’r modd i gyrraedd pobl iau mewn cymunedau ac ystyried eu safbwyntiau. Y bore yma, trafodais gyda’r Bwrdd Cydraddoldeb Hiliol sut y gallem gyd-drefnu ymweliadau â rhai cymunedau fel y gallwn glywed, o lygad y ffynnon, rai o’r materion cymunedol a thrafod gydag aelodau’r cymunedau beth y gallai’r Cynulliad ei wneud.

I agree that the legal basis for this is good. However, like you, I am concerned about the possible marginalisation of gender and disability issues if it skews too much in one direction. The Committee has discussed this before, and the advice that it has received is that, in the mainstreaming of equality issues, best practice on race should be across the board. We could deal with that issue in the Committee review.

Cytunaf fod sail gyfreithiol dda i hyn. Fodd bynnag, fel chithau, yr wyf yn bryderus ynghylch y posibiliad y bydd materion rhyw ac anabledd yn cael eu gwthio i’r ymylon os yw’n gogwyddo’n ormodol i un cyfeiriad. Mae’r Pwyllgor wedi trafod hyn o’r blaen, a’r cyngor a gafodd oedd y dylai’r arfer gorau ar hil gael ei weithredu’n gyffredinol, wrth roi materion cydraddoldeb yn y brif ffrwd. Gallem ddelio â’r mater hwnnw yn adolygiad y Pwyllgor.

On the statement, I apologise for the rush and the degree of work involved, but an excellent official advises me on the last stages of the scheme and I was pleased that the Permanent Secretary appointed somebody to deal with these issues. However, the capacity issue concerns me. The Committee is dealing with many equal opportunities such as contract compliance, risk schemes and a number of other matters. It is important that the Committee, the Cabinet, and I as Minister, in taking initiatives forward all receive proper service. I will inform the Permanent Secretary of your capacity concerns, Helen Mary, so that we will ensure that that particular unit is strengthened.

Ynghylch y datganiad, ymddiheuraf am y brys a maint y gwaith a oedd yn gysylltiedig, ond mae swyddog rhagorol yn fy nghynghori ar y camau olaf o’r cynllun ac fe’m plesiwyd gan waith yr Ysgrifennydd Parhaol, a benododd rywun i ymdrin â’r materion hyn. Fodd bynnag, mae’r mater capasiti yn peri pryder i mi. Mae’r Pwyllgor yn delio â llawer o gyfleoedd cyfartal fel cydymffurfio â chontractau, cynlluniau risg a sawl mater arall. Mae’n bwysig bod y Pwyllgor, y Cabinet, a minnau fel Gweinidog, wrth fwrw ymlaen â’r mentrau, i gyd yn cael gwasanaeth priodol. Byddaf yn hysbysu’r Ysgrifennydd Parhaol am eich pryderon ynghylch capasiti, Helen Mary, fel y byddwn yn sicrhau y bydd yr uned benodol honno’n gryfach.

Christine Chapman spoken in English p. 40

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 40

I welcome the Assembly’s commitment to this issue and the work of the Committee on Equality of Opportunity. As well as the need for political leadership in this matter, the power of the media also influences good race equality policies both positively and negatively. Despite good progress, in that more black and minority ethnic people are visible in the media than in the past when they merely worked in ancillary jobs, much more still needs to be addressed. Do you agree with a research study on a variety of network programmes a few years ago that stated that policies for increasing participation of black or Asian presenters in television are still uneven? The report stated that although Trevor Macdonald is black, all national weather forecasters, antique dealers, gardeners and game show hosts in television are white. If this the case, should we not put more pressure on the media to put its house in order?

Croesawaf ymrwymiad y Cynulliad i’r mater hwn a gwaith y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Yn ogystal â’r angen am arweinyddiaeth wleidyddol yn y mater hwn, mae pŵer y cyfryngau hefyd yn dylanwadu’n gadarnhaol ac yn negyddol ar bolisïau cydraddoldeb hiliol da. Er gwaethaf y cynnydd da, i’r graddau bod mwy o bobl ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig yn weladwy yn y cyfryngau nag yn y gorffennol pan nad oeddent ond yn gweithio mewn swyddi ategol, mae angen rhoi llawer mwy o sylw i hyn. A gytunwch â’r astudiaeth ymchwil ar amryw o raglenni’r rhwydwaith ychydig o flynyddoedd yn ôl a nododd fod y polisïau ar gyfer cynyddu cyfranogiad cyflwynwyr du neu Asiaidd ar y teledu’n anghyson o hyd? Nododd yr adroddiad, er bod Trevor Macdonald yn ddu, fod pob un o’r daroganwyr tywydd cenedlaethol, y masnachwyr hen bethau, y garddwyr a’r llywyddion rhaglenni gêm ar y teledu’n wyn. Os yw hynny’n wir, oni ddylem roi mwy o bwysau ar y cyfryngau i ddod i drefn?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 41

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 41

Order. The Minister’s portfolio does not include responsibility for the BBC.

Trefn. Nid yw portffolio’r Gweinidog yn cynnwys cyfrifoldeb dros y BBC.

Edwina Hart spoken in English p. 41

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 41

The Assembly has taken an excellent lead in how we have chosen to deal with these issues. If other organisations across Wales and elsewhere followed the positive example set by the Assembly’s parties in dealing with race relations and equality issues in general the world would be a better place, and people would start to take these issues more seriously.

Mae’r Cynulliad wedi rhoi arweiniad rhagorol o ran y modd yr ydym wedi dewis ymdrin â’r materion hyn. Pe byddai cyrff eraill ledled Cymru ac mewn mannau eraill yn dilyn yr esiampl gadarnhaol a osodwyd gan bleidiau’r Cynulliad wrth ddelio â chysylltiadau hiliol a materion cydraddoldeb yn gyffredinol byddai’r byd yn well lle, a byddai pobl yn ymddifrifoli ynghylch y materion hyn.

David Melding spoken in English p. 41

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 41

We have got into a slight administrative muddle, and you have been candid in acknowledging that. It would have been better to have a debate on the scheme before it was published. However, I commend you for the honest way in which you have held discussions with all political parties about these difficulties, and for not attempting to hide them or spin a story that somehow this delay was a triumph. You have said honestly that it has been regrettable.

Aethom i ryw fymryn o ddryswch gweinyddol, a buoch yn agored wrth gydnabod hynny. Buasai’n well cynnal dadl ar y cynllun cyn ei gyhoeddi. Fodd bynnag, fe’ch canmolaf ar eich dull gonest o gynnal trafodaethau â’r holl bleidiau gwleidyddol am yr anawsterau hyn, ac ar beidio â cheisio’u celu neu ddyfeisio stori i’r perwyl bod yr oedi hwn yn fuddugoliaeth mewn rhyw fodd. Yr ydych wedi dweud yn onest ei fod yn destun gofid.

The substantial issue is that the scheme is not a piece of legislation. If it were we would be in trouble, and the Assembly would have been denied its right to profoundly influence this matter. Can you assure us that, if the Assembly calls for and agrees upon any substantial changes following the debate on this evolving document, you will immediately effect them? Will you also assure us that, should the Committee on Equality of Opportunity make similar amendments, they too will be dealt with with due dispatch?

Y mater pwysig yw nad deddf yw’r cynllun hwn. Pe bai felly, byddem mewn trafferthion, a byddid wedi nacáu hawl y Cynulliad i ddylanwadu’n sylfaenol ar y mater hwn. A allwch roi sicrwydd i ni, os bydd y Cynulliad yn galw am ac yn cytuno ar unrhyw newidiadau sylweddol ar ôl y ddadl ar y ddogfen ddatblygol hon, y byddwch yn eu rhoi ar waith yn syth? A wnewch hefyd roi sicrwydd i ni, os bydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn gwneud newidiadau tebyg, y cânt hwythau eu trafod yn fuan fel y bo’n briodol?

Edwina Hart spoken in English p. 41

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 41

Thank you for your kind comments. We have such a unity on equality issues across the Assembly that it is appropriate that these discussions are subject to a transparent process. I thank the other political parties for how they have dealt with this matter.

Diolchaf i chi am eich sylwadau caredig. Mae gennym y fath undod ar faterion cydraddoldeb ar draws y Cynulliad fel ei bod yn briodol trin y trafodaethau hyn drwy broses dryloyw. Diolchaf i’r pleidiau gwleidyddol eraill am y modd y maent wedi delio â’r mater hwn.

As the scheme is an evolving process, it would be essential for any National Assembly recommendations to be dealt with along with those of the Committee on Equality of Opportunity in a whole package in the overall review of the scheme. It will be interesting to see what comes out of the first Assembly debate, and I hope that it will not be the last debate. It will be our first stab in June because once the Committee on Equality of Opportunity has had a chance to consider it, we will probably want a further debate before the anniversary of the scheme to include those changes. I can, therefore, give that commitment.

Gan fod y cynllun yn broses ddatblygol, byddai’n hollbwysig trafod unrhyw argymhellion gan y Cynulliad Cenedlaethol ochr yn ochr â rhai’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal mewn pecyn cyfan yn yr adolygiad cyffredinol o’r cynllun. Bydd yn ddiddorol gweld beth sy’n deillio o ddadl gyntaf y Cynulliad, a gobeithiaf nad honno fydd y ddadl olaf. Ein cynnig cyntaf arni fydd yr un ym mis Mehefin oherwydd unwaith y mae’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal wedi cael cyfle i’w ystyried, mae’n fwy na thebyg y byddwn am gael dadl bellach cyn pen blwyddyn gyntaf y cynllun er mwyn cynnwys y newidiadau hynny. Felly, gallaf roi’r ymrwymiad hwnnw.

Eleanor Burnham spoken in English p. 42

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 42

I also welcome this statement and thank you for how you have handled it. Mainstreaming all of the race equality issues is a revelation of devolution and of what we can do in Wales on such a fundamental issue. We know that racism is a cancer in our society, and Le Pen’s success in France, for instance, is worrying. It is important to be sensitive and vigilant. You may have already answered some of my questions, what has the Assembly—

Yr wyf finnau’n croesawu’r datganiad hwn a diolchaf i chi am y modd yr ydych wedi’i drafod. Mae rhoi’r holl faterion cydraddoldeb hiliol yn y brif ffrwd yn dangos beth yw datganoli a’r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ar fater mor sylfaenol. Gwyddom fod hiliaeth yn ganser yn ein cymdeithas, ac mae llwyddiant Le Pen yn Ffrainc, er enghraifft, yn peri pryder. Mae’n bwysig bod yn sensitif ac yn wyliadwrus. Efallai eich bod wedi ateb rhai o’m cwestiynau eisoes, beth y mae’r Cynulliad—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 42

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 42

Order. If the Minister has already answered the questions, they should not be asked again.

Trefn. Os yw’r Gweinidog wedi ateb y cwestiynau eisoes, ni ddylid eu gofyn eto.

Eleanor Burnham spoken in English p. 42

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 42

I am sure that the Minister will tell me if they have been answered; I may have missed them. What has the Assembly done to ensure equality of opportunity for staff, and do you believe that we have considered the Assembly sponsored public bodies in this? With what groups have you been working, other than the Commission for Racial Equality, to tackle racial equality in Wales?

Yr wyf yn sicr y dywed y Gweinidog wrthyf os atebwyd hwy; efallai fy mod wedi’u methu. Beth a wnaeth y Cynulliad i sicrhau cyfle cyfartal i’w staff, ac a gredwch ein bod wedi ystyried y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn hyn o beth? Gyda pha grwpiau y buoch yn gweithio, ar wahân i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, i ymdrin â chydraddoldeb hiliol yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 42

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 42

The Assembly deals with a wide range of organisations on race issues, including the All Wales Ethnic and Minority Association and the Commission for Racial Equality, and we also have links with the racial equality councils. Helen Mary Jones made the point that we need to widen that arena if we are to get discussion on how we address the policy agenda, and on this scheme in particular. Your point on Assembly sponsored public bodies was well made, and was also made at the Committee on Equality of Opportunity. When reviewing our scheme, we will also consider schemes emerging in the ASPBs to ensure that they are also of the highest standard, and that they are mainstreaming this agenda properly.

Mae’r Cynulliad yn delio ag amrediad eang o gyrff ar faterion hil, gan gynnwys Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-gyfan a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, ac mae gennym gysylltiadau hefyd â’r cynghorau cydraddoldeb hiliol. Nododd Helen Mary Jones fod angen inni ehangu’r maes hwnnw os ydym i ennyn trafodaeth ar y modd yr ydym yn ymdrin â’r agenda polisi, ac ar y cynllun hwn yn benodol. Gwnaethoch bwynt da am y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, ac fe’i gwnaed hefyd yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Wrth adolygu ein cynllun, byddwn hefyd yn ystyried y cynlluniau sy’n deillio o’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i sicrhau eu bod o’r safon orau, a’u bod yn rhoi’r agenda hon yn y brif ffrwd mewn modd priodol.

We have taken several issues on race across the piste within the National Assembly, and we are trying to put our own house in order, to ensure that people who apply for jobs here feel that they have promotion opportunities. In all honesty, we have not yet done our job correctly because we still need to achieve more so that people can be confident that we are doing things properly.

Yr ydym wedi mynd i’r afael â sawl mater sy’n ymwneud â hil ym mhob rhan o’r Cynulliad Cenedlaethol, ac yr ydym yn ceisio rhoi trefn ar ein pethau, i sicrhau bod y rhai sy’n ymgeisio am swyddi yma’n teimlo bod ganddynt gyfleoedd am ddyrchafiad. A bod yn berffaith onest, nid ydym wedi gwneud ein gwaith yn llawn gan fod angen inni gyflawni rhagor o hyd fel y gall pobl deimlo’n ffyddiog ein bod yn gwneud pethau’n iawn.

Janet Ryder spoken in English p. 43

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 43

How will the scheme promote race equality in rural areas, where race issues are often heightened by isolation? You will be aware of the North-Wales Race Equality Network’s good work and possibly, of the problems that it faces. How will this scheme help to secure resources for it so that it can develop and tackle these problems in the north?

Sut y bydd y cynllun yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn ardaloedd gwledig, lle y caiff materion hil eu dwysáu’n aml oherwydd arwahanrwydd? Byddwch yn ymwybodol o waith da Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru ac, o bosibl, o’r problemau y mae’n eu hwynebu. Sut y bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau adnoddau iddo fel y gall ddatblygu a mynd i’r afael â’r problemau hyn yn y Gogledd?

Edwina Hart spoken in English p. 43

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 43

This scheme is designed to comply with the Race Relations (Amendment) Act 2000. It is a Government scheme to deal with issues affecting Government and the Assembly as a whole. Some of the problems facing the race equality network in north Wales arise from difficulties in rural areas.

Dyfeisiwyd y cynllun hwn i gydymffurfio â’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000. Cynllun gan y Llywodraeth ydyw i ddelio â materion sy’n effeithio ar Lywodraeth ac ar y Cynulliad fel cyfangorff. Mae rhai o’r problemau sy’n wynebu’r rhwydwaith cydraddoldeb hiliol yn y Gogledd yn deillio o anawsterau mewn ardaloedd gwledig.

You will be aware that I have agreed to support the CRE and its race equality councils and networks in north Wales by arranging for a system of secondees or, in the case of north Wales, by providing resources so that it can employ an extra person to deal with issues that arise from the Race Relations (Amendment) Act 2000. I discussed this issue with the CRE this morning and I am happy to report on the discussion at the next meeting of the Committee on Equality of Opportunity. We must tackle racism in rural areas. I have suggested to the acting director of the CRE that we need to take these issues forward jointly. If Janet agrees, I will include her comments in my report to the next Committee meeting so that all parties can focus on this collectively.

Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi cytuno i gynorthwyo’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’i gynghorau a’i rwydweithiau cydraddoldeb hiliol yn y Gogledd drwy drefnu system o weithwyr ar secondiad neu, yn achos y Gogledd, drwy ddarparu adnoddau fel y gall gyflogi rhywun ychwanegol i ddelio â’r materion sy’n deillio o’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000. Trafodais y mater hwn gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol y bore yma a byddaf yn falch o roi adroddiad ar y drafodaeth yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Rhaid inni fynd i’r afael â hiliaeth mewn ardaloedd gwledig. Yr wyf wedi awgrymu i gyfarwyddwr gweithredol y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fod angen inni fwrw ymlaen â’r materion hyn ar y cyd. Os cytuna Janet, gwnaf gynnwys ei sylwadau yn fy adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor fel y gall yr holl bleidiau ganolbwyntio ar hyn gyda’i gilydd.

Lorraine Barrett spoken in English p. 44

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 44

Like everyone here, I welcome this scheme, which is overdue, as you acknowledged. You have already said that we have not yet done our job in terms of employing more black and ethnic minority people in the Assembly. However, it is early days and we are on course; I thank you for your efforts.

Fel pawb sydd yma, croesawaf y cynllun hwn, sy’n hir-ddisgwyliedig, fel y gwnaethoch gydnabod. Yr ydych wedi dweud eisoes na wnaethom ein gwaith eto o ran cyflogi rhagor o bobl ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig yn y Cynulliad. Fodd bynnag, mae’n fuan eto ac yr ydym ar y trywydd iawn; diolchaf i chi am eich ymdrechion.

I welcome the scheme’s commitment to addressing the gap in employing black and ethnic minorities. I want to reinforce the issue of consultation. Will you ensure that the consultation process involves schools and youth groups so that we get young people to think about applying for a career in the Assembly? We should consider targeting places like the South Cardiff Enterprise Centre. A high proportion of black and ethnic minority people access that service. The Assembly has already held career fairs there, which I welcome. I think we all look forward to working with you to implement this scheme.

Croesawaf yr ymrwymiad sydd yn y cynllun i roi sylw i’r bwlch o ran cyflogi lleiafrifoedd du ac ethnig. Yr wyf am roi pwys eto ar fater ymgynghori. A wnewch sicrhau bod y broses ymgynghori’n cynnwys ysgolion a grwpiau ieuenctid fel ein bod yn peri i bobl ifanc feddwl am ymgeisio am yrfa yn y Cynulliad? Dylem ystyried targedu lleoedd fel Canolfan Fenter De Caerdydd. Mae cyfran helaeth o bobl ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Mae’r Cynulliad wedi cynnal ffeiriau gyrfaoedd yno eisoes, ac yr wyf yn croesawu hynny. Credaf ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i roi’r cynllun hwn ar waith.

Edwina Hart spoken in English p. 44

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 44

Education is key to dealing with many racial issues in terms of general inclusiveness and equal opportunities, which we must consider carefully. There is room for more work on that.

Mae addysg yn allweddol wrth ddelio â llawer o faterion hiliol o ran cynwysoldeb cyffredinol a chyfle cyfartal, a rhaid inni ystyried hynny’n ofalus. Mae lle i wneud rhagor o waith ar hynny.

On employment, the Assembly was keen to be involved in the career fairs, but there are many other ways of making people feel that there is a career for them in the civil service irrespective of race, creed and so on. More work needs to be done to encourage diversity in the civil service at the senior as well as administrative level. That is crucial in terms of the policy-making agenda and making decisions about mainstreaming at the first stage of policy. Ministers may well pick up on these issues, but ultimately we need appropriate advice, therefore senior civil servants must also be aware of these issues.

Ynghylch cyflogaeth, yr oedd y Cynulliad yn awyddus i gymryd rhan yn y ffeiriau gyrfaoedd, ond mae llawer o ddulliau eraill o beri i bobl deimlo bod gyrfa ar eu cyfer yn y gwasanaeth sifil beth bynnag fo’u hil, eu cred ac yn y blaen. Rhaid gwneud rhagor o waith i hybu amrywiaeth yn y gwasanaeth sifil ar y lefel uwch yn ogystal â’r lefel weinyddol. Mae hynny’n hollbwysig o ran yr agenda llunio polisi a gwneud penderfyniadau ynghylch gosod yn y brif ffrwd ar y cam polisi cyntaf. Mae’n ddigon posibl y bydd y Gweinidogion yn dilyn y materion hyn, ond yn y pen draw mae arnom angen cyngor priodol, felly rhaid i’r uwch weision sifil fod yn ymwybodol o’r materion hyn hefyd.

Much has been done in terms of training and making civil servants aware of equal opportunities, but there is still more to do. The senior civil service needs more positive role models to help with the delivery of proper policy.

Gwnaed llawer o ran hyfforddi a pheri i weision sifil fod yn ymwybodol o gyfle cyfartal, ond mae rhagor i’w wneud eto. Mae ar y gwasanaeth sifil uwch angen rhagor o rôl-fodelau cadarnhaol i fod o gymorth wrth gyflawni polisi priodol.

Owen John Thomas spoken in English p. 45

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 45

On the links between the scheme and tackling unemployment among ethnic groups, can you explain how the race equality scheme will assist in ensuring that the Assembly Government’s economic development policy addresses the barriers faced by ethnic minority citizens in terms of gaining access to employment opportunities? For example, 95 per cent of the young male Somali population in Cardiff were reported as being unemployed just over 12 months ago.

Ynghylch y cysylltiadau rhwng y cynllun a mynd i’r afael â diweithdra ymysg grwpiau ethnig, a allwch egluro sut y bydd y cynllun cydraddoldeb hiliol yn helpu i sicrhau bod polisi datblygu economaidd Llywodraeth y Cynulliad yn ymdrin â’r rhwystrau y mae dinasyddion o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu o ran cael mynediad at gyfleoedd gwaith? Er enghraifft, adroddwyd bod 95 y cant o’r boblogaeth o ddynion Somali ifanc yng Nghaerdydd yn ddi-waith dim ond ychydig dros 12 mis yn ôl.

Edwina Hart spoken in English p. 45

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 45

This relates to my answer to Helen Mary’s question about Ministers’ responsibilities, not only in terms of the scheme but in terms of how they can widen this agenda and link it to policy developments in their portfolios. It is important that we recognise that this scheme is not in place merely to be compliant; it is a living document that we must work with. Its purpose is to ensure that all these issues are mainstreamed. When I present my paper to Ministers, I will concentrate on aspects of their portfolios, and ask them to consider how they deal with the real issues surrounding race and other equal opportunities within their portfolios.

Mae hyn yn berthnasol i’m hateb i gwestiwn Helen Mary am gyfrifoldebau Gweinidogion, nid yn unig o ran y cynllun ond o ran y modd y gallant ehangu’r agenda hon a’i chysylltu â datblygiadau polisi yn eu portffolios. Mae’n bwysig inni gydnabod nad yw’r cynllun hwn ar waith er mwyn cydymffurfio’n unig; mae’n ddogfen fyw y mae’n rhaid inni weithio â hi. Ei phwrpas yw sicrhau y caiff yr holl faterion hyn eu gosod yn y brif ffrwd. Pan gyflwynaf fy mhapur i’r Gweinidogion, fe ganolbwyntiaf ar agweddau ar eu portffolios, a gofyn iddynt ystyried sut y maent yn delio â’r materion gwirioneddol sy’n gysylltiedig â hil a chyfleoedd cyfartal eraill o fewn eu portffolios.

We must also recognise that mainstreaming is integral to the structural funds programme. Europe will examine it when it reviews our scheme at halfway point, so Ministers need to know what is happening.

Rhaid inni gydnabod hefyd fod gosod y materion hyn yn y brif ffrwd yn rhan annatod o raglen y cronfeydd strwythurol. Bydd Ewrop yn ymchwilio i hyn pan adolyga ein cynllun ar y pwynt hanner ffordd, felly rhaid i’r Gweinidogion wybod beth sy’n digwydd.

Brian Gibbons spoken in English p. 45

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 45

The document providing the legal background to this statement states that there is a duty to promote equality of opportunity. Throughout my political life, I have been in favour of integrated secular education. However, in the last six to nine months, I have begun to wonder, particularly in view of the growing Islamaphobia that even exists in so-called establishment circles. Have you received any representations concerning this scheme from groups in Wales to consider opportunities for more faith-based schools? As outlined in the statement, mainstream schools are failing in their task to promote racial equality, equality of opportunity and so on, particularly in view of the almost hysteria that surrounds asylum seekers and events following 11 September. It would be a sad indictment if people of Islamic backgrounds felt that their only refuge was to resort to faith schools as a means of promoting this scheme’s objectives. Unless we address these issues strongly and effectively, then we may have to consider that.

Mae’r ddogfen sy’n rhoi’r cefndir cyfreithiol i’r datganiad hwn yn datgan bod dyletswydd i hyrwyddo cyfle cyfartal. Ar hyd fy oes wleidyddol, bûm o blaid addysg seciwlar integredig. Fodd bynnag, yn y chwech i naw mis diwethaf, dechreuais bendroni ynghylch hynny, yn enwedig yng ngolwg yr Islamaffobia cynyddol sy’n bodoli hyd yn oed yng nghylchoedd y sefydliad, fel y’u gelwir. A ydych wedi cael unrhyw sylwadau ynghylch y cynllun hwn oddi wrth grwpiau yng Nghymru yn gofyn am ystyried cyfleoedd am ragor o ysgolion ffydd? Fel yr amlinellir yn y datganiad, mae ysgolion prif ffrwd yn methu yn eu gorchwyl o hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, cyfle cyfartal ac yn y blaen, yn enwedig yng ngolwg y lled hysteria sy’n ymwneud â cheiswyr lloches a’r digwyddiadau ar ôl 11 Medi. Byddai’n adlewyrchiad trist arnom pe byddai pobl o gefndir Islamaidd yn teimlo mai’r unig loches iddynt oedd troi at ysgolion ffydd fel modd i hyrwyddo amcanion y cynllun hwn. Os na fyddwn yn ymdrin â’r materion hyn yn gadarn ac yn effeithiol, mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni ystyried hynny.

Edwina Hart spoken in English p. 46

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 46

I have received no formal representations on this. You make a bold statement in saying that all schools are failing; I do not think that they are. Teachers have undertaken a tremendous amount of work on this agenda across schools. We need to see what is working, what is not and what more the Assembly can do.

Nid wyf wedi cael unrhyw sylwadau ffurfiol ar hyn. Yr ydych yn gwneud datganiad beiddgar wrth ddweud bod pob ysgol yn methu; ni chredaf hynny. Mae’r athrawon wedi ymgymryd â gwaith aruthrol ar yr agenda hon yn yr ysgolion. Rhaid inni weld beth sy’n gweithio, beth sy’n methu a beth y gall y Cynulliad ei wneud yn rhagor.

You also referred to the hysteria after 11 September, Islamaphobia and the recent issues surrounding asylum seekers. The media in Wales have taken a measured approach on asylum seekers, and have set an example to some media elements in the UK, which have taken a more hysterical approach. Many asylum seekers in Wales have simply integrated into communities; they have been accepted, their children have gone to the local schools, they have been dealt with by their GPs, and nothing has been said. That is proof that, generally, people are reasonable and accepting.

Gwnaethoch gyfeirio hefyd at yr hysteria ar ôl 11 Medi, Islamaffobia a’r materion sydd wedi codi’n ddiweddar ynghylch ceiswyr lloches. Mae’r cyfryngau yng Nghymru wedi ymdrin yn gytbwys â cheiswyr nodded, ac wedi gosod esiampl i rai o’r elfennau yn y cyfryngau yn y DU, sydd ag agwedd fwy hysterig. Mae llawer o geiswyr lloches yng Nghymru wedi integreiddio â chymunedau; maent wedi’u derbyn, mae eu plant wedi mynd i’r ysgolion lleol, maent wedi gweld eu meddygon teulu, ac ni ddywedwyd dim. Mae hynny’n brawf bod pobl, at ei gilydd, yn rhesymol ac yn oddefgar.

On faith schools, I was party to an interesting discussion yesterday—as was David Melding and Helen Mary Jones—on the issue of separate schools. We would have to consider that matter carefully. I am also in favour of secular education, but the wider issues expressed to us yesterday were about more than Islam. They did not want their children exposed to drugs, and were worried about teenage sex, and so on. All parents worry about those issues and the system that educates their children. The differences are not that great. Our duty is to try to improve the communities in which people live, to ensure that community schools are well resourced and to ensure general tolerance in society. It is a much wider issue.

Ynghylch ysgolion ffydd, bûm yn cymryd rhan ddoe mewn trafodaeth ddiddorol—fel y bu David Melding a Helen Mary Jones—ar fater ysgolion ar wahân. Byddai’n rhaid inni ystyried y mater hwnnw’n ofalus. Yr wyf finnau o blaid addysg seciwlar, ond yr oedd y materion ehangach a gyflewyd inni ddoe yn ymwneud â mwy nag Islam. Nid oeddent am i’w plant fod yn agored i gyffuriau, ac yr oeddent yn pryderu ynghylch rhyw yn yr arddegau, ac yn y blaen. Mae pob rhiant yn poeni am y materion hynny a’r system sy’n addysgu eu plant. Nid yw’r gwahaniaethau’n gymaint â hynny. Ein dyletswydd ni yw ceisio gwella’r cymunedau lle y mae pobl yn byw, sicrhau bod adnoddau da gan ysgolion cymunedol a sicrhau goddefgarwch cyffredinol mewn cymdeithas. Mae’n fater ehangach o lawer.

John Griffiths spoken in English p. 47

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 47

I congratulate Edwina on this scheme; the Commission for Racial Equality in Wales has welcomed it. Will you say something about other public authorities in Wales, including local authorities? As the Assembly is a strategic body in Wales, our race equality scheme will be a benchmark for other key public authorities. How will we communicate it to them? Others have mentioned employment, and local authorities are major employers in Wales. We want to ensure that they and other bodies employ a representative number of ethnic minorities. Will you be able to monitor progress in this way, Edwina, and communicate our scheme to these authorities?

Llongyfarchaf Edwina ar y cynllun hwn; mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru wedi’i groesawu. A wnewch ddweud rhywbeth am awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol? Gan fod y Cynulliad yn gorff strategol yng Nghymru, bydd ein cynllun cydraddoldeb hiliol yn feincnod i awdurdodau cyhoeddus allweddol eraill. Sut y byddwn yn ei gyfleu iddynt hwy? Mae eraill wedi sôn am gyflogaeth, ac mae’r awdurdodau lleol yn gyflogwyr o bwys yng Nghymru. Yr ydym am sicrhau eu bod hwy a’r cyrff eraill yn cyflogi nifer gynrychioladol o’r lleiafrifoedd ethnig. A fyddwch yn gallu monitro’r cynnydd felly, Edwina, a rhoi gwybod am ein cynllun i’r awdurdodau hynny?

Edwina Hart spoken in English p. 47

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 47

I chair a public sector equality group, which consists of people across the board from other public sector organisations, including the Welsh Local Government Association and the police on a quarterly basis. In our last meeting, we discussed what we were doing to implement the Race Relations (Amendment) Act 2000. Health and the police have progressed in certain fields and local authorities have taken advice through the equality policy unit. There is the necessary cross-fertilisation of information on this issue.

Yr wyf yn gadeirydd ar grŵp cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys rhai o’r cyrff sector cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r heddlu, ac yn cwrdd yn chwarterol. Yn ein cyfarfod diwethaf, gwnaethom drafod yr hyn yr oeddem yn ei wneud i weithredu’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000. Mae’r gwasanaeth iechyd a’r heddlu wedi gwneud cynnydd mewn rhai meysydd ac mae’r awdurdodau lleol wedi derbyn cyngor drwy’r uned polisi cydraddoldeb. Ceir y croesffrwythloni ar wybodaeth sydd ei angen ar y mater hwn.

I cannot accept your congratulations on the scheme because much work still needs to be done on it, and we must develop it further to get it right. We will not necessarily be a benchmark for anybody because our scheme is so different from others. Some people only have one purpose. If you are involved in health, your one purpose is health. There are several purposes in our scheme, and that is why it has been so complicated to get it together. However, I hope the spirit behind the scheme, and its implementation, will send a positive message to other bodies in Wales. I also want to learn from those other bodies. It is essential that we have a good discussion across Wales about where best practice is emerging and what people are doing. We must learn lessons from everyone.

Ni allaf dderbyn eich llongyfarchion ar y cynllun gan fod angen gwneud llawer o waith arno eto, a rhaid inni ei ddatblygu ymhellach i’w gael yn iawn. Ni fyddwn yn feincnod i neb o reidrwydd gan fod ein cynllun mor wahanol i rai eraill. Dim ond un pwrpas sydd gan rai pobl. Os ydych yn ymwneud ag iechyd, eich unig bwrpas yw iechyd. Mae sawl pwrpas yn ein cynllun ni, a dyna pam y bu ei lunio’n waith mor gymhleth. Fodd bynnag, gobeithiaf y bydd yr ysbryd sy’n sail i’r cynllun, a’i weithrediad, yn anfon neges gadarnhaol at gyrff eraill yng Nghymru. Yr wyf hefyd am ddysgu oddi wrth y cyrff eraill hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn cael trafodaeth dda ledled Cymru ynghylch lle y mae’r arferion gorau’n datblygu a beth y mae pobl yn ei wneud. Rhaid inni ddysgu gwersi gan bawb.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Brian Hancock spoken in English p. 48

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 48

Point of order. I raise this point of order under Standing Order No. 6.3. In questions to the Minister for Economic Development today, questions 6 and 7 were grouped. The Member was allowed two supplementary questions. However, only the standard three minutes were allowed. Will you allow additional time, particularly when prior notice is given of other Members with grouped questions?

Pwynt o drefn. Codaf y pwynt o drefn hwn dan Reol Sefydlog Rhif 6.3. Yn ystod cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd heddiw, fe grwpiwyd cwestiynau 6 a 7. Caniatawyd dau gwestiwn atodol i’r Aelod. Er hynny, dim ond y tair munud arferol a ganiatawyd. A wnewch ganiatáu amser ychwanegol, yn enwedig pan roddir rhybudd ymlaen llaw am Aelodau eraill sydd â chwestiynau a gafodd eu grwpio?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 48

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 48

I am grateful for that point of order because it enables me to expand upon the practice that I have adopted in relation to questions, particularly when they are grouped. The grouping of questions is at the Minister’s discretion, although Ministers always agree such groupings with the Chair. I am keen to encourage it, as it allows more rapid progress during questions. I was particularly anxious to make rapid progress today to get to question 10, because it is important for us to discuss as wide a variety of topics as possible, representing as many regions, voices and political groups as possible. Standing Order No. 6.30 is relevant here:

Yr wyf yn ddiolchgar am y pwynt o drefn hwnnw gan ei fod yn fy ngalluogi i ymhelaethu ar yr arfer a fabwysiedais o ran cwestiynau, yn enwedig pan ydynt wedi’u grwpio. Caiff cwestiynau eu grwpio’n ôl doethineb y Gweinidog, er bod Gweinidogion bob amser yn cytuno ar grwpio o’r fath gyda’r Cadeirydd. Yr wyf yn awyddus i gefnogi hynny, gan ei fod yn fodd i fynd drwy’r cwestiynau’n gynt. Yr oeddwn yn arbennig o awyddus i fynd drwyddynt yn gyflym heddiw er mwyn cyrraedd cwestiwn 10, gan ei bod yn bwysig inni drafod pynciau mor amrywiol â phosibl, sy’n cynrychioli cynifer o ranbarthau, lleisiau a grwpiau gwleidyddol ag y bo modd. Mae Rheol Sefydlog Rhif 6.30 yn berthnasol yn hyn o beth:

‘The Presiding Officer shall call the Member asking the question to ask a supplementary question, and may then call other Members to ask related supplementary oral questions.’

‘Bydd y Llywydd yn galw ar yr Aelod sy’n gofyn y cwestiwn i ofyn cwestiwn atodol, ac wedyn caiff alw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiynau llafar atodol cysylltiedig.’

Standing Orders are clear that calling Members at all times, apart from supplementary questions is at the discretion of the Presiding Officer. I use that discretion to allow for a variety of questions and balance. To return to Standing Order No. 6.30:

Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi’n glir mai yn ôl doethineb y Llywydd y gelwir ar yr Aelodau bob amser, ar wahân i’r cwestiynau atodol. Yr wyf yn arfer y rhyddid hwnnw i ganiatáu amrywiaeth o gwestiynau a chydbwysedd. Gan fynd yn ôl at Reol Sefydlog Rhif 6.30:

‘In calling Members to ask supplementary questions, the Presiding Officer should seek to balance the need to explore an issue thoroughly with the need for Assembly Ministers to answer as many tabled questions as possible. When the Presiding Officer considers that a matter raised in a question for oral answer has been sufficiently discussed, he or she shall call the next question.’

‘Wrth alw ar Aelodau i ofyn cwestiynau atodol, bydd y Llywydd yn ceisio pwyso’r angen i archwilio mater yn drylwyr â’r angen i Weinidogion y Cynulliad ateb cynifer o gwestiynau a gyflwynir â phosibl. Pan fydd y Llywydd o'r farn bod digon o drafod wedi bod ar y mater a godwyd mewn cwestiwn i’w ateb ar lafar, bydd ef neu hi yn galw’r cwestiwn nesaf.’

My discretion in this matter is not absolute, but is as next to absolute as Standing Orders apply. The intention of that is to allow for flexibility in progress through questions. As I said, I am particularly interested in the aerospace industry in mid Wales.

Nid yw fy rhyddid i weithredu yn y mater hwn yn absoliwt, ond mae mor agos ag y bo modd at fod yn absoliwt yn ôl gweithrediad y Rheolau Sefydlog. Amcan hynny yw caniatáu hyblygrwydd wrth fynd drwy’r cwestiynau. Fel y dywedais, yr wyf yn ymddiddori’n arbennig yn y diwydiant aerofod yn y Canolbarth.

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 49

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 49

I propose that

Cynigiaf fod

DerbyniwydAdopted O blaidFor 38 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (38)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Cymeradwyo’r Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygio) (Rhif 2) 2002 a Gorchymyn Awdurdod Grawnfwydydd Cartref (Cyfradd Ardrethu) 2002

Approval of the Plant Protection Products (Amendment) (No. 2) Regulations 2002 and the Home Grown Cereals Authority (Rate of Levy) Order 2002

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 50

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 50

I propose that

Cynigiaf fod

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 50

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 50

O dan Reol Sefydlog Rhif 22.25, ni chynhelir dadl ar y cynnig hwn.

Under Standing Order No. 22.25, this motion is not subject to debate.

Cynnig NNDM1072 Carwyn Jones t. 50

Motion NNDM1072 Carwyn Jones p. 50

DerbyniwydAdopted O blaidFor 39 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (39)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo Gorchmynion

Composite Motion: Approval of Orders

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 51

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 51

O dan Reol Sefydlog Rhif 22.25, ni chynhelir dadl ar y cynnig hwn.

Under Standing Order No. 22.25, this motion is not subject to debate.

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Gymraeg t. 51

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in Welsh p. 51

Cynigiaf fod

I propose that

DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2001

Delegating the Functions of the Health and Social Care Act (Wales) 2001

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 53

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 53

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 54

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 54

The purpose of this motion is to seek your agreement to the delegation of the functions contained in the Health and Social Care Act 2001 to the First Minister. This delegation will be made in the knowledge that those functions will be further delegated to the appropriate Assembly Minister and where necessary to officials.

Pwrpas y cynnig hwn yw ceisio cytundeb gennych i ddirprwyo’r swyddogaethau a geir yn y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 i Brif Weinidog Cymru. Caiff y swyddogaethau hyn eu dirprwyo gan ei wneud yn hysbys y byddant yn cael eu dirprwyo ymhellach i’r Gweinidog priodol yn y Cynulliad ac i swyddogion pan fo angen.

The purpose of the Act is to improve the performance of the NHS; to provide better protection for patients through a faster and more effective and fairer system for regulating primary care for practitioners; to provide better protection regarding the use of patient information; to strengthen the way that the public and patients are involved in how the NHS works; to modernise pharmacy and prescribing services, and to extend direct payments to social services users and provide a fairer system of funding for long-term care.

Pwrpas y Ddeddf hon yw gwella perfformiad y GIG; darparu gwell amddiffyniad i gleifion drwy system gyflymach, decach a mwy effeithiol ar gyfer rheoleiddio gofal sylfaenol i’r ymarferwyr; darparu gwell amddiffyniad o ran y defnydd o wybodaeth cleifion; atgyfnerthu’r modd y mae’r cyhoedd a chleifion yn ymwneud â dull gweithredu’r GIG; moderneiddio gwasanaethau fferylliaeth a rhagnodi, ac ymestyn taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a darparu system ariannu decach ar gyfer gofal tymor hir.

The Act confers a new statutory duty on the NHS trusts to involve patients and the public in the planning and decision-making process. It enables tighter control on the listing requirements of primary care practitioners. It also enables new powers for health authorities to refuse admission or give conditional listing to practitioners and to remove unsuitable practitioners. The Act enables the National Assembly and other NHS bodies to exercise income generation powers and it allows for piloting community-based local pharmaceutical services.

Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd statudol newydd i’r ymddiriedolaethau GIG i gynnwys cleifion a’r cyhoedd yn y broses cynllunio a phenderfynu. Mae’n hwyluso rheolaeth dynnach ar ofynion rhestru ymarferwyr gofal sylfaenol. Mae hefyd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau iechyd wrthod mynediad neu roi rhestriad amodol i ymarferwyr a dileu ymarferwyr anaddas. Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol a chyrff GIG eraill i arfer pwerau cynhyrchu incwm ac mae’n caniatáu rhagbrofi gwasanaethau fferyllol lleol yn y gymuned.

A range of new subordinate legislation is needed to implement these provisions, some of which will be introduced before the summer. This is the first step in tightening up primary care practitioner regulation and will enable the NHS in Wales to work in better and more innovative ways. I commend the motion.

Mae angen amrediad o is-ddeddfwriaeth newydd i roi’r darpariaethau hyn ar waith, a chyflwynir rhywfaint ohoni cyn yr haf. Dyma’r cam cyntaf wrth dynhau’r rheolaeth ar ymarferwyr gofal sylfaenol a bydd yn galluogi’r GIG yng Nghymru i weithio’n well ac yn fwy arloesol. Cymeradwyaf y cynnig.

David Lloyd spoken in English p. 55

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 55

I declare my usual interest as a general practitioner. This seems to be a technical delegation of functions, which we will support. However, will the Minister report on how the Government is vigorously pursuing the policy of free personal care for the elderly, which falls within the remit of this Health and Social Care Act? The importance of a pursuing this policy rigorously was stressed in an animated debate in this Chamber a few weeks ago. How does the Minister propose to take matters forward?

Datganaf fy muddiant arferol fel meddyg teulu. Mae’n ymddangos mai dirprwyaeth dechnegol o swyddogaethau yw hon, a byddwn yn ei chefnogi. Fodd bynnag, a wnaiff y Gweinidog adrodd ar sut y mae’r Llywodraeth yn dilyn yn egnïol y polisi o ofal personol am ddim i’r henoed, sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol hon? Pwysleisiwyd mor bwysig oedd dilyn y polisi hwn yn egnïol mewn dadl fywiog yn y Siambr hon ychydig wythnosau’n ôl. Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu bwrw ymlaen â’r materion hyn?

Kirsty Williams spoken in English p. 55

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 55

During the passage of this Bill through Parliament, the Liberal Democrats expressed some concerns. First, we raised a concern about the abolition of community health councils in England. I am pleased that we have secured an enhanced future for community health councils in Wales. I am grateful that we have achieved that in this devolved Government. However, Dai is right in saying that there are provisions under this Act for establishing free personal care for the elderly. The Welsh Assembly Government’s policy, after our debate on the older persons’ strategy, is clear on that issue.

Yn ystod hynt y Mesur hwn drwy’r Senedd, mynegwyd rhai pryderon gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn gyntaf, gwnaethom fynegi pryder ynghylch diddymu’r cynghorau iechyd cymuned yn Lloegr. Yr wyf yn falch ein bod wedi sicrhau gwell dyfodol i’r cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru. Yr wyf yn ddiolchgar ein bod wedi cyflawni hynny yn y Llywodraeth ddatganoledig hon. Fodd bynnag, mae Dai yn iawn wrth ddweud bod darpariaethau dan y Ddeddf hon i sefydlu gofal personol am ddim i’r henoed. Mae polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar ôl ein dadl ar y strategaeth i bobl hŷn, yn eglur ar y mater hwnnw.

Our second concern is that this Act gives wide-ranging powers to the Secretary of State for Wales and the Welsh Assembly Government as regards collecting and disseminating information on patients. This can be a sensitive area. It can cause a great worry for many patients in terms of how much access is allowed to confidential medical information and how that is disseminated. Will the Minister comment on how she intends to ensure that these concerns are addressed?

Yr ail bryder sydd gennym yw bod y Ddeddf hon yn rhoi pwerau eang i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran casglu a lledaenu gwybodaeth am gleifion. Gall hwn fod yn faes sensitif. Gall beri pryder mawr i lawer o gleifion o ran graddau’r mynediad a ganiateir at wybodaeth feddygol gyfrinachol a’r modd y caiff honno’i lledaenu. A wnaiff y Gweinidog sylw am y modd y mae’n bwriadu sicrhau y rhoddir sylw i’r pryderon hyn?

David Melding spoken in English p. 55

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 55

The Conservative group will support the delegation of powers. It is a technical matter. The Minister for Health and Social Services has recently been more vigorous in ensuring that the Health and Social Services Committee has an opportunity to scrutinise proposed subordinate legalisation in draft form in good time. That practice has not always been followed. Will the Minister assure the Assembly that draft regulations are debated in Plenary or in the Health Committee in plenty of time so that if the regulations are amended, the Executive cannot argue that they must be rushed through in their present form as originally drafted. Subordinate legislation should not be presented to us as some sort of trump to deny proper discussion. As Kirsty Williams, Chair of the Health and Social Services Committee, stated, many sensitive issues fall within this Act’s remit and we will have to deal with them in detail under the regulations. We must make plenty of time for discussion, when appropriate, in the Committee or Plenary’s timetables.

Bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi dirprwyo’r pwerau. Mater technegol ydyw. Bu’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn fwy egnïol yn ddiweddar wrth sicrhau bod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael cyfle i archwilio is-ddeddfwriaeth arfaethedig ar ffurf ddrafft mewn da bryd. Ni ddilynwyd yr arfer hwnnw bob amser. A wnaiff y Gweinidog sicrhau’r Cynulliad y caiff rheoliadau drafft eu trafod yn y Cyfarfod Llawn neu yn y Pwyllgor Iechyd yn ddigon buan fel na all y Weithrediaeth ddadlau, os newidir y rheoliadau, bod rhaid eu brysio drwodd ar eu ffurf bresennol fel y’u drafftiwyd yn wreiddiol. Ni ddylid cyflwyno is-ddeddfwriaeth i ni fel rhyw fath o gerdyn trwmp i nacáu trafodaeth briodol. Fel y dywedodd Kirsty Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae llawer o faterion sensitif o fewn cwmpas y Ddeddf hon a bydd yn rhaid inni ymdrin yn fanylach â hwy dan y rheoliadau. Rhaid inni ddarparu digon o amser ar gyfer trafodaeth, pan fo’n briodol, yn amserlenni’r Pwyllgor neu’r Cyfarfod Llawn.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 56

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 56

I am grateful for colleagues’ support and that there is no objection to this delegation of functions. It is a technical procedure. This is not an opportunity to debate free personal care, Dai. As Kirsty said, we did that a few weeks ago when our policy, which we are pursuing, was made clear. I also want to assure Kirsty that we are considering those sensitive issues on patient information. On David’s point, we want to ensure that as much debate as possible takes place on secondary legislation. We have procedures in place in the Health and Social Services Committee for that. We can also anticipate how to fit in time for discussion in Committee so that we are all engaged in taking that forward.

Yr wyf yn ddiolchgar am gefnogaeth fy nghyd-Aelodau ac am nad oes unrhyw wrthwynebiad i ddirprwyo’r swyddogaethau. Gweithdrefn dechnegol ydyw. Nid yw hyn yn gyfle i drafod gofal personol am ddim, Dai. Fel y dywedodd Kirsty, gwnaethom hynny ychydig wythnosau’n ôl pan roesom wybod am ein polisi, ac yr ydym yn dilyn hwnnw. Yr wyf hefyd am sicrhau Kirsty ein bod yn ystyried y materion sensitif hynny ynghylch gwybodaeth cleifion. Ynghylch pwynt David, yr ydym am sicrhau y bydd cymaint o drafod â phosibl ar is-ddeddfwriaeth. Mae gweithdrefnau ar waith gennym yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer hynny. Gallwn hefyd ragweld sut i gynnwys amser ar gyfer trafod yn y Pwyllgor fel bod rhan i bawb ohonom wrth fwrw ymlaen â hynny.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 35 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (35)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cymeradwyo Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 7) (Cymru) 2002

Approval of the Local Government Finance (Wales) Special Grant Report (No. 7) (Wales) 2002

Sue Essex The Minister for Environment spoken in English p. 57

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd siaradwyd yn Saesneg t. 57

I propose that

Cynigiaf fod

Sue Essex The Minister for Environment (continued) spoken in English p. 57

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 57

This motion invites you to approve payments to local authorities in this financial year to support local road maintenance projects and to fund a child pedestrian training co-ordinator in every local authority. The grant of £18 million will give extra support to local authorities to deliver improved local road maintenance, and the co-ordinators will help improve the safety of children on our roads. These payments to local authorities are classed as a special grant under the Local Government Finance Act 1998.

Mae’r cynnig hwn yn eich gwahodd i gymeradwyo taliadau i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon i gynnal prosiectau cynnal ffyrdd lleol ac i ariannu cydlynydd hyfforddi plant sy’n gerddwyr ym mhob awdurdod lleol. Bydd y grant o £18 miliwn yn rhoi cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol ddarparu gwell gwaith cynnal ar ffyrdd lleol, a bydd y cydlynwyr yn helpu i wella diogelwch plant ar ein ffyrdd. Mae’r taliadau hyn wedi’u dynodi’n grant arbennig o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998.

This grant is being made available to local authorities as the second instalment of a two year grant. Last year, the grant was nearly £7 million. It was warmly welcomed by local authorities and the public. I received some good feedback. It is an important boost to reduce the backlog of repairs on local roads. This extra funding will enable many local authorities to address longstanding problems. All the problems funded by this grant must be monitored and evaluated and the expenditure must be additional to what has already been planned. The local authorities must provide a report by next June detailing the schemes in their area, which have been secured with the grant. This report will help to inform future decisions.

Darperir y grant hwn i’r awdurdodau lleol fel yr ail randaliad o grant dwy flynedd. Y llynedd, yr oedd y grant ymron i £7 miliwn. Cafodd groeso cynnes gan yr awdurdodau lleol a’r cyhoedd. Cefais rywfaint o adborth da. Mae hyn yn hwb pwysig i leihau’r ôl-groniad o waith atgyweirio ar ffyrdd lleol. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn galluogi llawer o awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblemau sy’n bod ers tro. Rhaid i’r holl broblemau a ariennir drwy’r grant hwn gael eu monitro a’u gwerthuso a rhaid i’r gwariant fod yn ychwanegol at yr hyn a gynlluniwyd eisoes. Rhaid i’r awdurdodau lleol ddarparu adroddiad erbyn Mehefin nesaf sy’n nodi’r cynlluniau yn eu hardal a sicrhawyd drwy’r grant. Bydd yr adroddiad hwn o gymorth i oleuo penderfyniadau yn y dyfodol.

I consider the effective and efficient maintenance of the road network to be one of our most important priorities. That is why I asked for a report on the condition of the principal road network in Wales. The report indicated that the principal road network has deteriorated over the past five years to a point where, in 2001, nearly 20 per cent of the surveyed network has zero residual life and needs to be closely monitored. This special grant will help to reduce the backlog of repairs and thus reduce further deterioration and the need to carry out more expensive repairs.

Credaf mai cynnal y rhwydwaith ffyrdd yn effeithiol ac yn effeithlon yw un o’n blaenoriaethau pwysicaf. Dyna pam y gofynnais am adroddiad ar gyflwr y prif rwydwaith ffyrdd yng Nghymru. Dangosodd yr adroddiad fod y prif rwydwaith ffyrdd wedi dirywio dros y pum mlynedd diwethaf nes bod bywyd ymron i 20 y cant o fywyd y rhwydwaith a arolygwyd wedi dod i ben erbyn 2001 a bod angen ei fonitro’n fanwl. Bydd y grant arbennig hwn o gymorth i leihau’r ôl-groniad o waith atgyweirio a thrwy hynny leihau dirywio pellach a’r angen i wneud atgyweiriadau mwy helaeth.

The child pedestrian training co-ordinators will train and support parent volunteers who will take young schoolchildren out on the streets to teach them key road safety skills. As a parent, I recognise the importance of ensuring that children are aware of the potential dangers they face on our streets and know how to reduce the risk of being knocked down when crossing the road. It is important to make children aware of that at an early age.

Bydd y cydlynwyr hyfforddi cerddwyr o blant yn hyfforddi ac yn cynorthwyo gwirfoddolwyr o rieni a fydd yn mynd â phlant ysgol ifanc i’r strydoedd i ddysgu sgiliau diogelwch ffyrdd allweddol iddynt. Fel rhiant, sylweddolaf mor bwysig yw sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r peryglon posibl y maent yn eu hwynebu ar ein strydoedd ac yn gwybod sut i leihau’r risg o gael eu taro i lawr wrth groesi’r ffordd. Mae’n bwysig peri i blant fod yn ymwybodol o hynny’n gynnar yn eu hoes.

Prior to seeking the Assembly’s agreement to this special grant scheme and the means of allocating the grant, I consulted the Welsh Local Government Association. A range of formulae was considered for the dispersal of this budget, along with the information provided by all local authorities on needs that cannot be met from existing budgets. While no one formula was considered to deliver all the objectives, those objectives and the information supplied contributed to the overall assessment process. This mechanism produced the grant set out in annex A of the special grant report for each authority.

Cyn ceisio cytundeb gan y Cynulliad ar y cynllun grant arbennig hwn a’r dull o ddyrannu’r grant, ymgynghorais â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ystyriwyd amryw o fformiwlâu ar gyfer rhannu’r gyllideb hon, ynghyd â’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr holl awdurdodau lleol am anghenion na ellir eu diwallu o’u cyllidebau presennol. Er barnu nad oedd fformiwla benodol a gyflawnai’r holl amcanion, fe gyfrannodd yr amcanion hynny a’r wybodaeth a ddarparwyd at y broses asesu gyffredinol. Y peirianwaith hwn a gynhyrchodd y grant a nodir yn atodiad A i’r adroddiad grant arbennig ar gyfer pob awdurdod.

I know that Members will share my concern that we need to properly maintain the local highway network in view of the considerable capital investment made in creating it. The distribution of this money to local authorities will help us to achieve that objective. I urge Members to support the motion.

Gwn y bydd yr Aelodau’n rhannu’r pwys a roddaf ar yr angen i gynnal y rhwydwaith priffyrdd lleol yn briodol yng ngolwg y buddsoddiad cyfalaf sylweddol a gafwyd i’w greu. Bydd dosbarthu’r arian hwn i’r awdurdodau lleol yn ein helpu i gyflawni’r amcan hwnnw. Pwysaf ar yr Aelodau i gefnogi’r cynnig.

Janet Davies spoken in English p. 59

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

Plaid Cymru will support this motion. I wish to make a few comments on it. First, as the Minister mentioned, the finance will not be allocated according to a formula because it was not considered that one formula would deliver all the objectives. I am concerned therefore as to how openness, transparency and equity can be ensured and demonstrated in the allocation.

Bydd Plaid Cymru’n cefnogi’r cynnig hwn. Dymunaf wneud rhai sylwadau arno. Yn gyntaf, fel y dywedodd y Gweinidog, ni ddyrennir y cyllid yn ôl fformiwla gan y barnwyd nad oedd fformiwla benodol a gyflawnai’r holl amcanion. Yr wyf yn bryderus, felly, ynghylch y modd y gellir sicrhau a dangos gweithredu agored, tryloyw a theg wrth ei ddyrannu.

I welcome the allocation for child pedestrian co-ordinators, which is £30,000 for each unitary authority. I am sure that all Members agree on the importance of that in safeguarding children and ensuring that they take exercise by walking.

Croesawaf y dyraniad ar gyfer cydlynwyr cerddwyr o blant, sef £30,000 i bob awdurdod unedol. Yr wyf yn sicr bod yr holl Aelodau’n gytûn ar bwysigrwydd hynny o ran diogelu plant a sicrhau eu bod yn ymarfer drwy gerdded.

It is important to reduce the backlog of repairs. I am sure that all Members receive increasing numbers of complaints about potholes. We all notice how some roads seem to be wearing out. I will include a plug for a type of road that is not, by any means, a principal road—namely the country lane. The grass strips in the middle of country lanes are getting wider and higher. It is a vicious circle: because this problem is getting worse, fewer people use the roads, and therefore their condition deteriorates further. Is there an allocation for that type of road?

Mae’n bwysig lleihau’r ôl-groniad o waith atgyweirio. Yr wyf yn siŵr bod pob Aelod yn derbyn niferoedd cynyddol o gwynion am dyllau mewn ffyrdd. Yr ydym oll yn sylwi bod rhai ffyrdd yn ymddangos fel pe baent yn cael eu treulio’n ddim. Cyfeiriaf yn benodol at fath o ffordd nad ydyw’n brif ffordd o gwbl—sef y lôn wledig. Mae’r lleiniau o laswellt ar ganol lonydd gwledig yn mynd yn lletach ac yn uwch. Mae’n gylch cythreulig: am fod y broblem hon yn gwaethygu, mae llai’n defnyddio’r ffyrdd, ac felly mae eu cyflwr yn dirywio ymhellach. A oes dyraniad ar gyfer y math hwnnw o ffordd?

Statistics show that, in 2001, 19.7 per cent of the road network had zero residual life, compared to an annual target of 10 per cent. There is an increase in the amount of money for this budget line, but is the Minister confident that the funding is sufficient to achieve that 10 per cent target?

Mae’r ystadegau’n dangos bod bywyd 19.7 y cant o’r rhwydwaith ffyrdd yn 2001 wedi dod i ben, o’i gymharu â tharged blynyddol o 10 y cant. Mae cynnydd yn y swm o arian i’r llinell gyllideb hon, ond a yw’r Gweinidog yn ffyddiog bod digon o gyllid i gyflawni’r targed hwnnw o 10 y cant?

Alun Pugh spoken in English p. 60

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 60

I will support this motion; this special grant will help to improve road conditions in Wales. However, motorists are not the only road users in Wales—cyclists also use roads. Unfortunately, most of the UK’s 20 million bicycles lie rusting in garages, not because we are lazy, but because most of the Welsh public—understandably—does not fancy mixing it with a 28-tonne truck on a main road. If it is difficult for adults to do that; it is suicidal for children to do so. Will you reconsider engineering standards for cycle lanes and replace red paint with measures that offer real protection for cyclists? If we could increase exercise levels in Wales, our lamentable record on coronary heart disease would improve and, as a bonus, emissions of greenhouse gases would be reduced.

Cefnogaf y cynnig hwn; bydd y grant arbennig hwn yn gymorth i wella cyflwr ffyrdd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid modurwyr yw’r unig rai sy’n defnyddio ffyrdd yng Nghymru—mae beicwyr yn eu defnyddio hefyd. Gwaetha’r modd, mae’r rhan fwyaf o’r 20 miliwn o feiciau yn y DU yn sefyll ac yn rhydu mewn garejis, nid am ein bod yn ddiog, ond am nad yw’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru—yn naturiol—yn hoffi’r syniad o wynebu lorri 28 tunnell ar ffordd fawr. Os yw’n anodd i oedolion wneud hynny; mae’n berygl bywyd i blant ei wneud. A wnewch ailystyried y safonau peirianegol ar gyfer lonydd beicio a rhoi mesurau ar waith yn lle paent coch sy’n cynnig diogelwch gwirioneddol i feicwyr? Pe gallem gynyddu’r lefelau o ymarfer corff yng Nghymru, byddai ein record alaethus ar glefyd coronaidd y galon yn gwella ac, ar ben hynny, byddai’r gollyngiadau o nwyon tŷ gwydr yn lleihau.

William Graham spoken in English p. 60

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 60

The Welsh Conservative group supports the provision of this expenditure. We particularly welcome the money for child pedestrian training co-ordinators, which will further build on Assembly-funded work on safe routes to schools. However, this acknowledges that, as the Minister said, a significant backlog of repairs has built up over the last five years. That is why £18 million has to be provided to carry out urgent works on local roads. Many of the letters that Members receive relate to simple repairs to local roads, which are as important as the main routes.

Mae grŵp Ceidwadwyr Cymru o blaid darparu’r gwariant hwn. Yr ydym yn croesawu’n arbennig yr arian ar gyfer cydlynwyr hyfforddi plant sy’n gerddwyr, a fydd yn ychwanegu ymhellach at y gwaith a ariannwyd gan y Cynulliad ar lwybrau diogel i ysgolion. Fodd bynnag, mae hyn yn cydnabod, fel y dywedodd y Gweinidog, fod ôl-groniad o waith atgyweirio wedi ymgasglu dros y pum mlynedd diwethaf. Dyna pam y mae’n rhaid darparu £18 miliwn i wneud gwaith brys ar ffyrdd lleol. Mae llawer o’r llythyrau y mae’r Aelodau’n eu derbyn yn ymwneud â gwaith atgyweirio syml i ffyrdd lleol, sydd cyn bwysiced â’r prif lwybrau.

We are dismayed that transport organisations and user groups have not been included in these discussions. That is unwise. To undertake an effective road repair programme those views are vital, particularly with regard to the timing and nature of repairs. That would also have allowed opportunities to co-ordinate roadwork programmes for service utilities, particularly telecommunications, gas, electricity, water and sewerage. The only indication of consultation was that with the Welsh Local Government Association. It should have been wider. That said, I welcome the expenditure. Swansea does particularly well, with £1.25 million for the Swansea region. I am sure that that will enable people to attend orchestral events there.

Mae’n ofid mawr inni na chafodd y cyrff trafnidiaeth a’r grwpiau defnyddwyr eu cynnwys yn y trafodaethau hyn. Mae hynny’n annoeth. Er mwyn cynnal rhaglen atgyweirio ffyrdd effeithiol, mae’r safbwyntiau hynny’n hollbwysig, yn enwedig o ran amseriad a natur y gwaith atgyweirio. Byddai hynny hefyd wedi caniatáu cyfleoedd i gydlynu rhaglenni gwaith ffyrdd ar gyfer cyfleustodau gwasanaeth, yn enwedig telathrebu, nwy, trydan, dŵr a charthffosiaeth. Yr unig arwydd o ymgynghori oedd hynny â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dylasai wedi bod yn ehangach. Wedi dweud hynny, croesawaf y gwariant. Mae Abertawe’n gwneud yn arbennig o dda, gan fod £1.25 miliwn i ranbarth Abertawe. Yr wyf yn sicr y bydd hynny’n galluogi pobl i fynychu digwyddiadau cerddorfaol yn y fan honno.

Eleanor Burnham spoken in English p. 61

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 61

The Welsh Liberal Democrats also welcome this special grant, which is designed to help renew our transport infrastructure. As a result of chronic underspending for a whole generation, many Welsh roads badly need improving, including those in my constituency of North Wales. I also urge the Minister to improve cycling provision. Cycling is good for our health and wellbeing. The money is earmarked for road improvements, but allows local government some discretion. It is another small step towards building a transport system that is fit for Wales’s developing social and economic needs. We desperately need it and I commend this special grant report to Members.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn croesawu’r grant arbennig hwn, sydd â’r amcan o helpu i adnewyddu ein seilwaith trafnidiaeth. O ganlyniad i’r tanwario affwysol am genhedlaeth gyfan, mae mawr angen gwella nifer o ffyrdd Cymru, gan gynnwys y rhai yn fy etholaeth i, sef Gogledd Cymru. Yr wyf finnau’n pwyso ar y Gweinidog i wella’r ddarpariaeth beicio. Mae beicio o fudd i’n hiechyd a’n lles. Clustnodwyd yr arian ar gyfer gwelliannau i ffyrdd, ond caniateir rhywfaint o ryddid i weithredu i lywodraeth leol. Mae’n gam bach arall tuag at adeiladu system drafnidiaeth sy’n addas i anghenion cymdeithasol ac economaidd cynyddol Cymru. Mae ei angen yn daer arnom a chymeradwyaf yr adroddiad grant arbennig hwn i Aelodau.

Brian Gibbons spoken in English p. 61

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 61

Many of us entered politics to change the world and to tackle inequality and so on. However, the practical, day-to-day reality of politics is that people are probably more agitated about the pothole at the end of the street than what happens on the other side of the world. The state of our roads and the fact that people cannot use them safely, as Alun Pugh said, probably creates more angst and anger in our communities in Wales than any other issue. Therefore, this grant is welcome.

Aeth y rhan fwyaf ohonom yn wleidyddion er mwyn newid y byd a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn y blaen. Er hynny, realiti ymarferol gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd yw bod pobl yn cynhyrfu’n fwy, yn ôl pob tebyg, ynghylch y twll ym mhen y stryd nag am yr hyn sy’n digwydd ym mhen draw’r byd. Mae’n debyg bod cyflwr ein ffyrdd a’r ffaith na all pobl eu defnyddio’n ddiogel, fel y dywedodd Alun Pugh, yn creu mwy o bryder a dicter yn ein cymunedau yng Nghymru nag unrhyw fater arall. Felly, mae’r grant hwn i’w groesawu.

Can you clarify what kind of roads and schemes this money may be used for? You mentioned child safety. However, can this money also be used for other measures, such as traffic calming? In Neath Port Talbot there are almost 200 traffic calming schemes outstanding, and the demand for such measures is increasing exponentially. To follow on from Alun Pugh’s remarks, road safety also covers matters such as street lighting, kerb marking and the marking of bollards. Can this money be used to support such schemes?

A allwch egluro pa fath o ffyrdd a chynlluniau y gellid defnyddio’r arian hwn ar eu cyfer? Gwnaethoch sôn am ddiogelwch plant. Fodd bynnag, a ellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer mesurau eraill, fel tawelu traffig. Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae ymron i 200 o gynlluniau tawelu traffig yn disgwyl, ac mae’r galw am fesurau o’r fath yn cynyddu fwyfwy. Gan ddilyn sylwadau Alun Pugh, mae diogelwch ffyrdd hefyd yn cynnwys materion fel goleuadau stryd, marcio ymylon ffyrdd a marcio bolardiau. A oes modd defnyddio’r arian hwn i gynnal cynlluniau o’r fath?

Sue Essex The Minister for Environment spoken in English p. 62

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd siaradwyd yn Saesneg t. 62

I will respond to points in the order that they were raised. On Janet’s point on the formula, I will be happy to supply information on that. It is quite complicated. This was part and parcel, as I said in my opening speech, of considering resource renewal strategically. We have in the past perhaps not recognised what our capital resources are. We have done that for the trunk road system. We have adequately measured the state of our trunk roads and the resources that are needed to renew them and maintain them in a good state, as well as to improve them. Modern surfaces give better conditions and money to reduce noise, for instance, has been popular.

Ymatebaf i’r pwyntiau yn ôl y drefn y’u codwyd. Ynghylch pwynt Janet ar y fformiwla, byddaf yn falch o ddarparu gwybodaeth am hynny. Mae’n eithaf cymhleth. Yr oedd hyn yn rhan annatod, fel y dywedais yn fy araith agoriadol, o ystyried adnewyddu adnoddau’n strategol. Nid oeddem yn canfod beth oedd ein hadnoddau cyfalaf yn y gorffennol, o bosibl. Fe wnaethom hynny yn achos y system cefnffyrdd. Yr ydym wedi mesur cyflwr ein cefnffyrdd yn ddigonol a’r adnoddau sydd eu hangen i’w hadnewyddu a’u cadw mewn cyflwr da, yn ogystal â’u gwella. Mae arwynebau modern yn rhoi gwell amodau a bu’r arian i leihau sŵn, er enghraifft, yn boblogaidd.

We have told local government that we want it to consider the roads it is responsible for as well. As part of any exploration, the horrible truth is sometimes uncovered. The figures that we quoted ensure that we will face up to the reality and ensure that roads do not deteriorate to the stage where complete renewal, and thus great capital expenditure, is necessary. That is the basis of this. Ideally, the money should be used strategically. I would not call it pothole money, but we have allowed local authorities some discretion and provided them with guidance. I thank you for your speech, William and, as you mentioned Swansea, the centre of culture, I will cite the City and County of Swansea Council’s using the money for Fabian Way. That provides a significant improvement. It not only helps local people, but gives a better impression of the city for those driving into it. This money helps to cover such strategic spending.

Yr ydym wedi dweud wrth lywodraeth leol ein bod am iddi ystyried y ffyrdd y mae hi’n gyfrifol amdanynt hefyd. Mewn unrhyw ymchwiliad, fe ddadlennir y gwir ofnadwy weithiau. Mae’r ffigurau a ddyfynasom yn sicrhau y byddwn yn wynebu’r gwir ac yn sicrhau nad yw ffyrdd yn dirywio i’r graddau lle y mae angen eu hadnewyddu’n llwyr, gan greu’r angen am wariant cyfalaf mawr. Dyna’r sail i hyn. Gorau oll os defnyddir yr arian yn strategol. Ni fyddwn yn ei alw’n arian ar gyfer tyllau yn y ffyrdd, ond yr ydym wedi caniatáu rhywfaint o ryddid i weithredu i’r awdurdodau lleol ac wedi rhoi canllawiau iddynt. Diolch ichi am eich araith, William a, gan eich bod wedi crybwyll Abertawe, canolfan diwylliant, fe gyfeiriaf at ddefnydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe o’r arian ar gyfer Fabian Way. Mae hynny’n welliant mawr. Yn ogystal â helpu pobl leol, mae’n rhoi gwell argraff o’r ddinas i’r rhai sy’n gyrru drwyddi. Mae’r arian hwn yn helpu i dalu am wariant strategol o’r fath.

On Brian’s point on traffic calming, it has not been highlighted in this report. It would not necessarily be the main use of the money. The resurfacing of principal roads, the reconstruction of carriageways and lighting of principal routes for safety are more important components. In some cases, this includes the repaving of town centres, because that is a strategic renewal issue that local authorities’ budgets sometimes do not cover. I emphasise that this is additional money and all local authorities, through the revenue support grant, are expected to allocate money for repairs.

Ynghylch pwynt Brian ar dawelu traffig, ni thynnwyd sylw ato yn yr adroddiad hwn. Nid ar hynny y byddid yn defnyddio’r arian yn bennaf o reidrwydd. Mae rhoi wyneb newydd ar brif ffyrdd, ail-wneud lonydd cerbydau a goleuo’r prif lwybrau er mwyn diogelwch yn elfennau pwysicach. Mewn rhai achosion, mae hyn yn cynnwys ailbalmantu canol trefi, gan fod hynny’n fater adnewyddu strategol nad yw cyllidebau awdurdodau lleol yn ei gynnwys weithiau. Pwysleisiaf mai arian ychwanegol yw hwn a disgwylir i’r holl awdurdodau lleol ddyrannu arian ar gyfer gwaith atgyweirio drwy’r grant cynnal refeniw.

Brian Gibbons spoken in English p. 63

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 63

In my constituency work I have probably never had a representation about repaving town centre streets, whereas I have had literally hundreds of representations about issues such as traffic calming and so on. How are the priorities for these grants decided?

Yn fy ngwaith etholaeth i, mae’n debyg nad wyf erioed wedi cael sylwadau ynghylch ailbalmantu strydoedd canol tref, tra fy mod wedi cael cannoedd o sylwadau am faterion fel tawelu traffig ac yn y blaen. Sut y penderfynir y blaenoriaethau i’r grantiau hyn?

Sue Essex spoken in English p. 63

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 63

It is at the discretion of local authorities, but we have tried to make it clear that they should aim to achieve a strategic objective. That strategic objective may be reducing speeds or renewal. Rather than money being dispersed for the repair of a series of potholes, we hope that strategic objectives will be met. Some local authorities will have town centre renewal, which has a wide variety of benefits, as a strategic aim; for other authorities it could be lighting a section of carriageway with a poor safety record. I cannot answer for Neath Port Talbot; we will have to see what that authority proposes. What is important is that this is additional to the sums that local authorities should make available through revenue support grant for everyday, regular repairs. Occasionally, councils may decide not to focus on repairs, but will take a more strategic approach, which might include traffic calming measures. I do not want to give the impression that we disregard that possibility. We will wait and see what Neath Port Talbot proposes.

Mae’n fater i’w benderfynu gan yr awdurdodau lleol, ond yr ydym wedi ceisio rhoi ar ddeall y dylent geisio cyflawni amcan strategol. Efallai mai’r amcan strategol hwnnw fydd gostwng cyflymder neu adnewyddu. Yn hytrach na gwasgaru’r arian i atgyweirio cyfres o dyllau yn y ffordd, yr ydym yn gobeithio y cyflawnir amcanion strategol. Amcan strategol rhai awdurdodau lleol fydd adnewyddu canol trefi, sydd ag amrywiaeth eang o fanteision; yn achos awdurdodau eraill, eu hamcan strategol efallai fydd goleuo rhan o lôn gerbydau sydd â record ddiogelwch wael. Ni allaf ateb ar ran Castell-nedd Port Talbot; bydd yn rhaid inni weld beth fydd yr awdurdod hwnnw’n ei gynnig. Yr hyn sy’n bwysig yw bod hyn yn ychwanegol at y symiau y dylai’r awdurdodau lleol eu darparu drwy’r grant cynnal refeniw ar gyfer gwaith atgyweirio rheolaidd beunyddiol. Weithiau, gallai’r cynghorau benderfynu peidio â chanolbwyntio ar atgyweirio a dilyn dull gweithredu mwy strategol, a allai gynnwys mesurau tawelu traffig. Nid wyf am roi’r argraff ein bod yn diystyru’r posibiliad hwnnw. Byddwn yn aros i weld beth fydd Castell-nedd Port Talbot yn ei gynnig.

On Alun Pugh’s comments on cycleways, strategic improvements to road surfaces and carriageways can include the provision of cycleways. I have made it clear that I prefer separate cycleways because that improves safety. However, that is not possible in many cases. Often red lanes are provided by local authorities where they feel it is practical—

Ynghylch sylwadau Alun Pugh am ffyrdd beicio, gall gwelliannau strategol i wynebau ffyrdd a lonydd cerbydau gynnwys darparu ffyrdd beicio. Rhoddais ar ddeall ei bod yn well gennyf ffyrdd beicio ar wahân am fod hynny’n gwella diogelwch. Fodd bynnag, nid yw hynny’n bosibl mewn llawer o achosion. Yn aml fe ddarperir lonydd coch gan yr awdurdodau lleol pan deimlant ei bod yn ymarferol—

Brian Hancock spoken in English p. 64

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 64

When I visited Blaenavon recently, it was noticeable that the local authority had undertaken a strategic improvement and had replaced tarmac pavements with slab pavements, which restored character. Will you give local authorities guidance on such issues when this money is distributed, so that they proactively regenerate safe, paved areas?

Pan ymwelais â Blaenafon yn ddiweddar, yr oedd yn amlwg bod yr awdurdod lleol wedi ymgymryd â gwelliant strategol ac wedi gosod palmentydd slabiau yn lle’r palmentydd tarmac, ac yr oedd hynny’n adfer y cymeriad. A wnewch roi canllawiau i’r awdurdodau lleol ar faterion o’r fath pan ddosbarthir yr arian hwn, fel y gallant adfywio mannau palmantog diogel yn rhagweithiol?

Sue Essex spoken in English p. 64

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 64

It is up to the local authorities, but we want quality surfaces and we have seen that provided in Blaenavon. That has helped the regeneration of that area.

Mae hynny’n fater i’r awdurdodau lleol, ond yr ydym am gael wynebau o ansawdd da a gwelsom ddarparu hynny ym Mlaenafon. Mae hynny wedi helpu i adfywio’r ardal honno.

To return to Alun Pugh’s comments on bikes—

Gan ddychwelyd at sylwadau Alun Pugh am feiciau—

Alun Pugh spoken in English p. 64

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 64

Do you accept that the current red paint found on many cycle lanes on highways in Wales offer no protection to cyclists? Frequently they are parked upon. A kerb would greatly enhance cyclists’ safety.

A ydych yn derbyn nad yw’r paent coch a geir ar hyn o bryd ar lawer o lonydd beiciau ar briffyrdd yng Nghymru’n cynnig unrhyw ddiogelwch i feicwyr? Caiff cerbydau eu parcio arnynt yn aml. Byddai cwrbyn yn hwb mawr i ddiogelwch beicwyr.

Sue Essex spoken in English p. 64

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 64

I understand your concern about red cycleways. In most cases they are not ideal because there are safety concerns. However, often they are seen as safer than installing a kerb. I will discuss our guidance on that in detail with you, if you wish.

Deallaf eich pryder am ffyrdd beiciau coch. Yn y rhan fwyaf o achosion nid ydynt yn ddelfrydol am fod pryderon ynghylch diogelwch. Fodd bynnag, fe’u hystyrir yn fwy diogel yn aml na gosod cwrbyn. Fe drafodaf ein canllawiau ar hynny’n fanwl gyda chi, os dymunwch.

I thank Eleanor for her points, and I think I have covered all Members’ points, unless someone else wants to make a point.

Diolch i Eleanor am ei phwyntiau, a chredaf fy mod wedi ymdrin â holl bwyntiau’r Aelodau, oni bai fod rhywun arall yn dymuno gwneud pwynt.

Brian Hancock a gododd—

Brian Hancock rose—

Sue Essex spoken in English p. 64

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 64

I should not have said that; if someone is going to jump up at the end, we know it is Brian.

Ni ddylwn fod wedi dweud hynny; os bydd rhywun yn neidio ar ei draed ar y diwedd, fe wyddom mai Brian fydd hwnnw.

Brian Hancock spoken in English p. 64

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 64

This is important. Will this fund be used to improve some of the towpaths that surround our canals, particularly in my constituency—[Interruption.]

Mae hyn yn bwysig. A ddefnyddir y gronfa hon i wella rhai o’r llwybrau halio sydd oddeutu ein camlesi, yn enwedig yn fy etholaeth i—[Torri ar draws.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 65

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

Order. Canals are an important part of transport.

Trefn. Mae camlesi’n rhan bwysig o drafnidiaeth.

Sue Essex spoken in English p. 65

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 65

Canals are important, Brian, as you said in the Committee yesterday. Mick Bates and I will meet the British Waterways Board next week or the week after that and I will mention that issue.

Mae camlesi’n bwysig, Brian, fel y dywedasoch yn y Pwyllgor ddoe. Bydd Mick Bates a minnau’n cwrdd â Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain yr wythnos nesaf neu’r wythnos ar ôl hynny ac fe soniaf am y mater hwnnw.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Sue Essex
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cymeradwyo’r Datganiad ar yr Amserlen

Approval of the Periodic Timetable Statement

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Gymraeg t. 66

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in Welsh p. 66

Cynigiaf fod

I propose that

Cynnig NDM1067 Carwyn Jones t. 66

Motion NDM1067 Carwyn Jones p. 66

DerbyniwydAdopted O blaidFor 35 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (35)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Jocelyn Davies
  • Sue Essex
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Pwynt o Drefn

Point of Order

Brian Hancock spoken in English p. 67

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 67

I should have declared an interest, when I raised the question about canals earlier, as chairman of Islwyn Canal Association, the vice-president of the Monmouthshire, Brecon and Abergavenny Canal Trust and the current chair of the cross-party group on waterways.

Dylwn fod wedi datgan buddiant, pan godais y cwestiwn am gamlesi’n gynharach, fel cadeirydd Cymdeithas Camlesi Islwyn, is-lywydd Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy, Aberhonddu a’r Fenni a chadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar ddyfrffyrdd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 67

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 67

That is noted.

Nodwyd hynny.

Dadl Fer

Short Debate

Gwnaed yng Nghymru—Cymunedau a Busnesau yn Cydweithredu

Made in Wales—Communities and Businesses in Co-operation

Janice Gregory spoken in English p. 67

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 67

If time permits, Lorraine Barrett, Mike German and Alun Cairns wish to contribute. I declare an interest as a member of the Union of Shop, Distributive and Allied Workers and the Co-operative Party. My choice of topic for today’s debate was initially inspired by my involvement some time ago with the Georgia-Pacific paper mills in Llangynwyd in my constituency. At that time, the company was applying for regional selective assistance from the Assembly to secure jobs in the locality. The paper mills play a vital role in the local economy, providing hundreds of local people with skilled employment. These people depend on the paper mills for employment and the mills rely on local skilled labour. However, I had not previously realised—many local people would not realise this—that products manufactured at the mills are available to purchase in local supermarkets. For example, shoppers can buy toilet rolls made at the nearby paper mills in local supermarkets, as well as supermarkets throughout the UK. Yet there is no shelf-edge promotional material in shops to make shoppers aware of this fact. This may be only a small, simple example, but surely there are countless examples across Wales of local manufacturers whose products are on sale in retail outlets throughout Wales. Countless jobs and local people must depend on retailing those products successfully.

Os yw amser yn caniatáu, mae Lorraine Barrett, Mike German ac Alun Cairns yn dymuno cyfrannu. Datganaf fuddiant fel aelod o Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol a’r Blaid Gydweithredol. Ysbrydolwyd fy newis o bwnc ar gyfer y ddadl heddiw yn wreiddiol gan fy nghysylltiad beth amser yn ôl â melinau papur Georgia-Pacific yn Llangynwyd yn fy etholaeth. Bryd hynny, yr oedd y cwmni’n ymgeisio am gymorth rhanbarthol dewisol gan y Cynulliad i sicrhau swyddi yn yr ardal. Mae’r melinau papur yn chwarae rôl hollbwysig yn yr economi leol, gan ddarparu cyflogaeth mewn gwaith medrus i gannoedd o bobl leol. Mae’r bobl hyn yn dibynnu ar y melinau papur am gyflogaeth ac mae’r melinau’n dibynnu ar lafur medrus lleol. Fodd bynnag, nid oeddwn wedi sylweddoli o’r blaen—mae llawer o bobl leol na fyddent yn sylweddoli hyn—fod cynhyrchion a wnaed yn y melinau ar gael i’w prynu mewn archfarchnadoedd lleol. Er enghraifft, gall siopwyr brynu rholiau o bapur toiled a wnaed yn y melinau papur cyfagos mewn archfarchnadoedd lleol, yn ogystal ag archfarchnadoedd ledled y DU. Eto nid oes unrhyw ddeunydd hyrwyddo ar ymyl y silffoedd yn y siopau i hysbysu’r siopwyr am y ffaith hon. Efallai mai dim ond enghraifft fach syml yw hon, ond mae’n siŵr bod enghreifftiau di-rif ledled Cymru o weithgynhyrchwyr lleol y mae eu cynhyrchion ar werth mewn mannau adwerthu ledled Cymru. Mae swyddi a phobl leol ddi-rif yn gorfod dibynnu ar adwerthu’r cynhyrchion hynny’n llwyddiannus.

What can be done to address this issue? In Ireland, Irish-made products are promoted by the use of a shamrock symbol on shelves, and till receipts indicate which purchases are Irish-made. This is just one possibility that could be explored in Wales. I am sure that if local people were given the information, they would choose a locally made product if it were comparable in price and quality to similar products. In many cases, people will pay a little extra if they know that their money is helping to support home-grown industry.

Beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn? Yn Iwerddon, hyrwyddir cynhyrchion a wnaed yn Iwerddon drwy ddefnyddio symbol meillionen ar silffoedd, ac mae’r derbynebion tiliau’n dangos pa rai o’r pethau a brynwyd a wnaed yn Iwerddon. Nid yw hynny ond yn un posibiliad y gellid ymchwilio iddo yng Nghymru. Yr wyf yn sicr, os câi pobl leol yr wybodaeth, y byddent yn dewis cynnyrch a wnaed yn lleol os oedd yn debyg o ran pris ac ansawdd i gynhyrchion cyffelyb. Mewn sawl achos, bydd pobl yn talu ychydig yn rhagor os gwyddant fod eu harian yn helpu i gynnal diwydiant cynhenid.

This leads me to the wider issue of how businesses interact with their local communities. The relationship between a business—no matter how big or small—and its local community is crucial. Not only does the community depend on businesses for services and jobs; the businesses depend on the labour skills and, often, the custom of local people. People in areas such as the south Wales Valleys are all too aware of the need for businesses to be firmly rooted in their communities and to conduct their business in a sustainable and socially-responsible manner. These communities have previously been economically and socially dependent on single industries, and are still suffering after the demise of heavy industry.

Mae hyn yn fy arwain at fater ehangach y modd y mae busnesau’n rhyngweithio â’u cymunedau lleol. Mae’r berthynas rhwng busnes—ni waeth pa mor fawr neu fach ydyw—a’i gymuned leol yn hollbwysig. Nid yn unig y mae’r gymuned yn dibynnu ar fusnesau am wasanaethau a swyddi; mae’r busnesau’n dibynnu ar sgiliau llafur y bobl leol, a’u cwsmeriaeth hefyd, yn aml. Mae pobl mewn ardaloedd fel Cymoedd y De’n dra ymwybodol o’r angen i fusnesau ymwreiddio’n gadarn yn eu cymunedau a chynnal eu busnes mewn modd cynaliadwy a chymdeithasol gyfrifol. Bu’r cymunedau hyn yn economaidd ac yn gymdeithasol ddibynnol ar ddiwydiannau unigol o’r blaen, ac maent yn dal i ddioddef ar ôl tranc y diwydiannau trwm.

We have a great tradition of businesses working in co-operation with their local communities. At a time of increased awareness of the value of ethical business and corporate social responsibility, we have an ideal opportunity to build upon this heritage and to ensure that businesses act responsibly towards the wider society, and contribute to a sustainable economy and sustainable communities.

Mae gennym draddodiad gwych o fusnesau’n gweithio’n gydweithredol â’u cymunedau lleol. Ar adeg o ymwybyddiaeth gynyddol o werth busnes moesol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mae gennym gyfle delfrydol i adeiladu ar sail y dreftadaeth hon a sicrhau bod busnesau’n ymddwyn yn gyfrifol tuag at y gymdeithas ehangach, ac yn cyfrannu at economi gynaliadwy a chymunedau cynaliadwy.

I remember from my own childhood the important role that the co-operative movement played in the Valleys. Growing up in Treorchy, I remember with affection how the Co-op store dominated Bute Street, providing a service to local residents from the cradle to the grave. Likewise, there is a great co-operative tradition in the Ogmore constituency. In the Ogmore valley, for example, the Nantymoel Industrial Co-operative Society, established in 1885, grew to dominate the commercial and social landscape of the valley for almost a century. From its origins of one store constructed from zinc, the society expanded into 10 grocery shops, six butcher shops, four boot and shoe departments, a boot and shoe repair shop, four millinery and drapery departments, three men’s outfitting departments, two confectionery shops, a bakery, two furnishing departments, a dairy, a television repair shop, a builders’ yard, a funeral furnishing department and chapel of rest, a garage with a fleet of 22 vehicles, stables, two chemist shops and offices with banking facilities. The society’s dairy, located in Lewistown, was the first of its kind in the area, producing pasteurised milk collected from local farms and farms in the neighbouring Pencoed and Heol-y-cyw. The dairy also delivered crates of milk to all local schools so that every child up to a certain age had milk. This is a prime example of the interface between business and the community.

Cofiaf o adeg fy mhlentyndod y rôl bwysig a oedd gan y mudiad cydweithredol yn y Cymoedd. Mae gennyf atgofion annwyl, yn ystod fy mhlentyndod yn Nhreorci, o’r modd yr oedd siop y Co-op yn tra-arglwyddiaethu ar Bute Street, gan ddarparu gwasanaeth i’r trigolion lleol o’r crud i’r bedd. Yn yr un modd, mae traddodiad cydweithredol gwych yn etholaeth Ogwr. Yng nghwm Ogwr, er enghraifft, tyfodd Cymdeithas Gydweithredol Ddiwydiannol Nant-y-moel, a sefydlwyd yn 1885, nes ei bod yn tra-arglwyddiaethu ar dirlun masnachol a chymdeithasol y cwm am ymron i ganrif. O’i chychwyniad mewn un siop a wnaed o sinc, ehangodd y gymdeithas nes bod ganddi 10 siop fwyd, chwe siop cigydd, pedair adran esgidiau, siop trwsio esgidiau, pedair adran hetiau a defnyddiau, tair adran ddillad dynion, dwy siop melysion, siop fara, dwy adran ddodrefn, llaethdy, siop atgyweirio setiau teledu, iard adeiladwyr, adran ddodrefn angladd a chapel gorffwys, modurdy â fflyd o 22 o gerbydau, stablau, dwy siop fferyllydd a swyddfeydd â chyfleusterau bancio. Llaethdy’r gymdeithas, a oedd yn Lewistown, oedd y cyntaf o’i fath yn yr ardal, a chynhyrchai laeth pasteuredig a gesglid o ffermydd lleol a ffermydd ym Mhen-coed a Heol-y-cyw gerllaw. Byddai’r llaethdy hefyd yn dosbarthu cratiau o laeth i’r holl ysgolion lleol fel bod pob plentyn hyd at oedran penodol yn cael llaeth. Mae hon yn enghraifft ragorol o’r rhyngwyneb rhwng busnes a’r gymuned.

Unfortunately, competition from larger stores eventually brought an end to this co-operative society, and with the growth of big business, many of the traditional values were lost. However, the legacy of such co-operatives is strong, and we can learn from the values of co-operation and the need for local people and communities to share in the success of businesses. Some people would call this stakeholding; some would call it corporate social responsibility. Whatever we call it, it must cast aside any outdated big business profit-only mentality, and address the need to promote sustainable and empowered communities in a modern setting.

Gwaetha’r modd, yn y pen draw fe ddaeth y cystadlu gan y siopau mwy â’r gymdeithas gydweithredol hon i ben, a chyda thwf busnes mawr, fe gollwyd llawer o’r gwerthoedd traddodiadol. Er hynny, mae gwaddol cymdeithasau cydweithredol o’r fath yn amlwg, a gallwn ddysgu oddi wrth y gwerthoedd cydweithredol a’r angen i bobl leol a chymunedau gael cyfran yn llwyddiant busnesau. Byddai rhai’n galw hynny’n rhanddeiliadaeth; byddai rhai’n ei alw’n gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Beth bynnag yr ydym yn ei alw, rhaid iddo fwrw o’r neilltu unrhyw feddylfryd busnes mawr henffasiwn sy’n ystyried elw’n unig, a mynd i’r afael â’r angen i hybu cymunedau cynaliadwy a galluog mewn sefyllfa fodern.

Local small businesses can be stakeholders in this process. Larger supermarkets should follow the example of the paper mills and make more of an effort to produce their products locally. This would benefit all concerned, as local producers would have an outlet for their products, local jobs would be secured, supermarkets would be able to boast a wide range of home-grown and locally-made merchandise, and local shoppers could enjoy high quality, fair priced goods. The environmental and economical case for local sourcing is strong, and I commend those large stores already making a great effort to source goods locally and regionally.

Gall busnesau bach lleol fod yn rhanddeiliaid yn y broses hon. Dylai archfarchnadoedd mwy ddilyn esiampl y melinau papur a gwneud mwy o ymdrech i gynhyrchu eu cynhyrchion yn lleol. Byddai hynny o fantais i bawb sy’n gysylltiedig, gan y byddai man gwerthu gan gynhyrchwyr lleol i’w cynhyrchion, byddai swyddi lleol wedi’u sicrhau, gallai archfarchnadoedd ymffrostio ynghylch amrediad eang o nwyddau a gafodd eu tyfu a’u gwneud yn lleol, a gallai’r siopwyr lleol fwynhau nwyddau o ansawdd da am bris teg. Mae dadl amgylcheddol ac economaidd gryf dros gael nwyddau o ffynonellau lleol, a chanmolaf y siopau mawr hynny sydd eisoes yn gwneud ymdrech fawr i gael nwyddau o ffynonellau lleol a rhanbarthol.

Local sourcing must be supported by a promotional strategy that directly targets local shoppers. I also want to see larger businesses working in close partnership with the smaller producers from whom they source, helping and encouraging smaller businesses to work with them, and co-operating to ensure that both sides benefit. Local people and communities also have the potential to become stakeholders and, in this respect, I commend some of the imaginative regeneration initiatives that Tesco has undertaken. For example, when opening new stores in Leeds, Durham and Glasgow, it has worked in partnership with community groups to provide job skills training to local people, thus addressing barriers to employment, helping the long-term unemployed to get permanent jobs and regenerating derelict urban brownfield sites.

Rhaid hybu’r caffael o ffynonellau lleol drwy strategaeth hyrwyddo sy’n targedu siopwyr lleol yn uniongyrchol. Yr wyf hefyd am weld y busnesau mwy’n cydweithio’n agos â’r cynhyrchwyr llai y cânt eu cynnyrch ganddynt, gan helpu ac annog y busnesau llai i weithio gyda hwy, a chydweithredu i sicrhau bod y ddwy ochr ar eu hennill. Gallai pobl a chymunedau lleol ddod yn rhanddeiliaid hefyd ac, yn hyn o beth, canmolaf rai o’r mentrau adfywio llawn dychymyg a gynhaliwyd gan Tesco. Er enghraifft, pan agorodd siopau newydd yn Leeds, Durham a Glasgow, gweithiodd mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau swyddi i bobl leol, gan roi sylw drwy hynny i’r rhwystrau rhag cyflogaeth, helpu rhai a fu’n ddi-waith dros dymor hir i gael swyddi parhaol ac adfywio safleoedd tir llwyd trefol adfeiliedig.

Such cases, where the environment and the community are accorded their rightful importance, are prime examples of how a community can be empowered by a business that realises the importance of co-operation. There is potential for a community to be transformed—economically, through greater investment; environmentally, through the transformation of derelict land; and socially, with greater prosperity as a driving force for a more cohesive society.

Mae achosion o’r fath, lle y rhoddir pwys priodol ar yr amgylchedd a’r gymuned, yn enghreifftiau rhagorol o’r modd y gall cymuned gael ei nerthu gan fusnes sy’n sylweddoli bod cydweithredu’n bwysig. Mae potensial i gymuned gael ei thrawsnewid—yn economaidd, drwy fwy o fuddsoddi; yn amgylcheddol, drwy weddnewid tir diffaith; ac yn gymdeithasol, wrth i ffyniant cynyddol ysgogi cymdeithas fwy cydlynol.

The majority of people in Wales have known for a long time that the needs of businesses should not override the need for a socially just and sustainable society. Many businesses, large and small, realise the importance and the potential of this kind of approach.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru’n gwybod ers talwm na ddylai anghenion busnesau fod yn drech na’r angen am gymdeithas sy’n gyfiawn ac yn gynaliadwy. Mae llawer o fusnesau, rhai bach a mawr, yn sylweddoli pwysigrwydd a photensial dull gweithredu o’r fath.

It is clear from our history that we have a proud and skilled workforce, strong communities and a desire to get on in life and enjoy a decent standard of living. There is a challenge for us, therefore—a made in Wales challenge—to work in co-operation for the benefit of all, including businesspeople, workers, manufacturers, shoppers and, most importantly, our economy and our communities.

Mae’n amlwg o’n hanes fod gennym weithlu balch a medrus, cymunedau cryf ac awydd i fynd ymlaen mewn bywyd a mwynhau safon fyw weddus. Mae her i ni, felly—her a wnaed yng Nghymru—i weithio’n gydweithredol er budd pawb, gan gynnwys pobl busnes, gweithwyr, gweithgynhyrchwyr, siopwyr ac, yn bwysicaf oll, ein heconomi a’n cymunedau.

Lorraine Barrett spoken in English p. 71

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 71

I thank Janice for using this short debate to remind us what life was like in our communities when the co-operative society was thriving. I declare an interest as chair of the Assembly co-operative group and a member of the Co-operative Party. I thank Janice for giving a positive picture of her constituency and community. I remember my childhood in Ynyshir and Porth, where nearly every shop was a co-op, including the butcher’s, the grocer’s and the haberdashery. My Easter outfit was bought in the local co-op clothes shop every year. Communities and businesses worked together in those days, to each other’s benefit. In looking through old photographs of Penarth, I noticed that there were many local butchers and bakers selling home-produced goods. Life was different then. People did not have to drive to their nearest retail park to do their shopping.

Diolch i Janice am ddefnyddio’r ddadl fer hon i’n hatgoffa am natur y bywyd a oedd yn ein cymunedau pan oedd y gymdeithas gydweithredol yn ffynnu. Datganaf fuddiant fel cadeirydd grŵp cydweithredol y Cynulliad ac aelod o’r Blaid Gydweithredol. Diolch i Janice am roi darlun cadarnhaol o’i hetholaeth a’i chymuned. Cofiaf fy mhlentyndod yn Ynys-hir a’r Porth, lle’r oedd bron bob siop yn un gydweithredol, gan gynnwys siop y cigydd, y siop fwydydd a’r siop ddillad. Prynid fy nillad Pasg yn y siop ddillad gydweithredol leol bob blwyddyn. Yr oedd cymunedau a busnesau’n cydweithio bryd hynny, er budd ei gilydd. Wrth edrych drwy hen luniau o Benarth, sylwais fod llawer o gigyddion a phobyddion lleol a werthai nwyddau cartref. Yr oedd bywyd yn wahanol bryd hynny. Nid oedd pobl yn gorfod gyrru i’r parc adwerthu agosaf i siopa.

Today there is an increase in locally made craft and jewellery, but not so much in food and clothes—or, if they are available, we are not aware that they are local produce because, as Janice said, they may not be labelled as such. Producers have a responsibility to promote goods made in Wales, but we as purchasers also have a responsibility to buy them.

Ceir cynnydd heddiw yn y crefftau a’r gemwaith a wneir yn lleol, ond nid cymaint o ran bwyd a dillad—neu, os ydynt ar gael, nid ydym yn ymwybodol eu bod yn gynnyrch lleol gan nad ydynt wedi’u labelu felly, fel y dywedodd Janice. Mae cyfrifoldeb gan y cynhyrchwyr i hybu nwyddau a wneir yng Nghymru, ond mae cyfrifoldeb gennym ni fel prynwyr i’w prynu.

Alun Cairns spoken in English p. 71

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 71

I thank Janice Gregory for introducing this short debate. It was good to hear reference to paper mills. I experienced a similar incident recently in a Tesco store. Tesco has a strong reputation for promoting local, Welsh products. However, I recently found cause to complain to Tesco; the shelf space for Welsh products was inadequate for the demand, as one product was always out of stock. Customers have a great responsibility to complain to stores—Tesco, Sainsbury’s and so on—and service providers. We are exercising our right to spend our money, and we should let them know what we want. If we are not happy because insufficient space is provided for local products, it is up to us to express that to ensure that stores can react accordingly.

Diolch i Janice Gregory am gyflwyno’r ddadl fer hon. Yr oedd yn dda clywed y cyfeiriad at felinau papur. Profais ddigwyddiad tebyg yn ddiweddar mewn siop Tesco. Mae gan Tesco enw da am hybu cynnyrch lleol, Cymreig. Er hynny, cefais achos i gwyno wrth Tesco yn ddiweddar; yr oedd y lle ar y silffoedd i gynnyrch o Gymru’n annigonol i ateb y galw, gan fod un eitem nad oedd byth ar gael. Mae cyfrifoldeb mawr gan gwsmeriaid i gwyno wrth siopau—Tesco, Sainsbury’s ac ati—a darparwyr gwasanaethau. Yr ydym yn arfer ein hawl i wario ein harian, a dylem roi gwybod iddynt beth y mae arnom ei eisiau. Os ydym yn anfodlon am nad oes digon o le wedi’i ddarparu ar gyfer cynhyrchion lleol, rhaid inni ddweud hynny fel y gall y siopau ymateb yn briodol.

Michael German The Leader of the Welsh Liberal Democrat Group spoken in English p. 72

Michael German Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 72

I thank Janice for the opportunity to consider mutualisation and co-operatives. We often look back at the last century and consider what opportunities were available and how they were provided. However, there is also a significant approach to mutualisation in this century. It will need support, as it is relevant today. Part of the opportunity to bring communities and businesses together should be through mutual solutions to their problems. That contributes to economic development. It is not only about providing much needed services; it also involves giving people money in their pockets and providing greater economic opportunities locally. It is worthwhile remembering that mutual solutions include community enterprises and business co-operatives. There is a danger that both these approaches are pigeonholed into a social service, and not seen as mainstream drivers in the local economy. At times, this sector has been hidden from public view. When we buy flowers, I wonder how many of us realise that Interflora is one of the biggest co-operatives in the world, although we use it regularly. Best Western hotels is another example. Both companies are co-operatives, although that fact is probably hidden from view. These business co-operatives comprise ordinary mainstream businesses coming together to market their services in a mutual structure. Mutualisation builds social capital and also local economies and local wage levels.

Diolch i Janice am y cyfle i ystyried mentrau cydfuddiannol a chydweithredol. Yr ydym yn aml yn edrych yn ôl ar y ganrif ddiwethaf ac yn ystyried pa gyfleoedd a oedd ar gael a sut y’u darparwyd. Fodd bynnag, mae cryn ddynesu at fentrau cydfuddiannol yn y ganrif hon. Bydd yn rhaid rhoi cymorth i hynny, gan ei fod yn berthnasol heddiw. Rhan briodol o’r cyfle i ddod â chymunedau a busnesau at ei gilydd yw drwy gael atebion cydfuddiannol i broblemau’r naill a’r llall. Mae hynny’n cyfrannu at ddatblygu economaidd. Mae’n ymwneud â mwy na darparu gwasanaethau mawr eu hangen; mae hefyd yn golygu rhoi arian ym mhocedi pobl a darparu mwy o gyfleoedd economaidd yn lleol. Mae’n werth cofio bod atebion cydfuddiannol yn cynnwys mentrau cymunedol a busnesau cydweithredol. Mae perygl i’r ddau ddull gweithredu hyn gael eu neilltuo yn wasanaeth cymdeithasol, a pheidio â chael eu hystyried yn yrrwyr prif ffrwd yr economi leol. Ar brydiau, mae’r sector hwn wedi’i guddio o olwg y cyhoedd. Pan brynwn flodau, tybed faint ohonom sy’n sylweddoli mai Interflora yw un o’r busnesau cydweithredol mwyaf yn y byd, er ein bod yn ei ddefnyddio’n rheolaidd. Mae gwestai Best Western yn enghraifft arall. Mae’r ddau fusnes hyn yn gydweithredol, er bod y ffaith honno wedi’i chuddio o’r golwg yn ôl pob tebyg. Busnesau cyffredin prif ffrwd yw’r busnesau cydweithredol hyn, sy’n dod at ei gilydd i farchnata eu gwasanaethau mewn strwythur cydfuddiannol. Mae mentrau cydfuddiannol yn creu cyfalaf cymdeithasol yn ogystal ag economïau lleol a lefelau cyflog lleol.

Will the Minister, in his reply, deal with the urgent need to build upon these approaches? We must bring together the Assembly’s funding and financing approaches with mutualisation expertise, communities, and planners in the broadest sense. I hope that the Minister will also mention the community investment authority, which should play a large part in bringing these policies to fruition.

Wrth ymateb, a wnaiff y Gweinidog ymdrin â’r taer angen am ddatblygu’r dulliau gweithredu hyn? Rhaid inni gyfuno cyllid a dulliau ariannu’r Cynulliad ag arbenigedd mewn mentrau cydfuddiannol, cymunedau, a chynllunwyr yn yr ystyr ehangaf. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn sôn hefyd am yr awdurdod buddsoddi cymunedol, a ddylai chwarae rhan o bwys wrth wireddu’r polisïau hyn.

Andrew Davies The Minister for Economic Development spoken in English p. 73

Andrew Davies Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 73

I also thank Janice for raising this important issue; I agree entirely with her emphasis. The retail sector that Janice described—that of the early days of the co-operative movement in the late nineteenth and early twentieth century—has changed beyond all recognition, as has been said. Much has already been done to raise the profile of Welsh produce in Wales and the UK, and overseas. This is a united, Team Wales effort, involving all the key agencies—including the Welsh Assembly Government, the WDA, WalesTrade International, Food from Britain and Trade Partners UK—working together to get the best opportunities for Welsh goods.

Diolch i Janice am godi’r mater pwysig hwn; cytunaf yn llwyr â’i phwyslais. Mae’r sector adwerthu a ddisgrifiodd Janice—yr un a fu yn nyddiau cynnar y mudiad cydweithredol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif—wedi newid yn llwyr, fel y dywedwyd. Gwnaed llawer eisoes i hybu proffil cynnyrch o Gymru yng Nghymru, y DU a thramor. Dyma ymdrech unedig gan Dîm Cymru, sy’n cynnwys yr holl asiantaethau allweddol—gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y WDA, MasnachCymru Rhyngwladol, Bwyd o Brydain a Partneriaid Masnach y DU—sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r cyfleoedd gorau i nwyddau o Gymru.

Janice developed this debate from an earlier question that focused mainly on the food production and retail sector. As she indicated, she wants to widen this agenda, and I will cover that in my reply. However, I will concentrate initially on the food sector and industry, because there is a good story to be told. We need to apply the lessons that we have learned to other sectors.

Datblygodd Janice y ddadl hon o gwestiwn cynharach a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar y sector cynhyrchu ac adwerthu bwyd. Fel y nododd, mae’n dymuno ehangu’r agenda hon, ac ymdriniaf â hynny yn fy ymateb. Fodd bynnag, canolbwyntiaf i ddechrau ar y sector a’r diwydiant bwyd, am fod hanes gwerth ei adrodd amdano. Rhaid inni ddefnyddio’r gwersi a ddysgasom mewn sectorau eraill.

Wales’s agriculture and food production industry is undergoing a huge transformation, as are other sectors of the economy. The past 18 months or so have presented many challenges and left significant scars on the industry. However, with the right level of financial and other support we have had the opportunity to ensure that the agri-food sector emerges as a major force in the Welsh economy.

Mae amaethyddiaeth a diwydiant cynhyrchu bwyd Cymru yn trawsnewid yn aruthrol, fel y mae sectorau eraill o’r economi. Mae’r 18 mis diwethaf, fwy neu lai, wedi cynnig sawl her ac wedi gadael creithiau mawr ar y diwydiant. Fodd bynnag, gyda’r lefel briodol o gymorth ariannol a chymorth arall, cawsom gyfle i sicrhau bod y sector bwyd-amaeth yn datblygu’n rym o bwys yn economi Cymru.

No Government has all the answers, but to realise the full potential of the Welsh agri-food industry, we need a Team Wales approach, as in other areas. The Welsh Development Agency’s Food Directorate has direct responsibility for the agri-food sector in Wales, aided by the agri-food partnership, comprised of individuals from all sectors of the food industry and key public sector personnel. The aim of the partnership is to develop a strong food sector in Wales, based on high margin, high added value, quality Welsh produce.

Nid oes gan yr un Llywodraeth yr holl atebion, ond mae arnom angen dull gweithredu Tîm Cymru i gyflawni holl botensial diwydiant bwyd-amaeth Cymru, yn yr un modd ag mewn meysydd eraill. Mae gan Gyfarwyddiaeth Fwyd Awdurdod Datblygu Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol dros y sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda chymorth y bartneriaeth bwyd-amaeth, sy’n cynnwys unigolion o bob sector o’r diwydiant bwyd a staff allweddol o’r sector cyhoeddus. Nod y bartneriaeth yw datblygu sector bwyd cryf yng Nghymru, sy’n seiliedig ar gynnyrch Cymreig o ansawdd da gydag elw a chryn werth ychwanegol.

Brian Hancock spoken in English p. 74

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 74

In a Swansea hotel recently, I was served bottled Scottish water. What steps can you take to promote the taste of Wales initiative, so that products that are made in Wales, like bottled water, can compete? A hotel chain can buy Scottish water at such a low price that the local product cannot compete. To promote Welsh produce, we need to take further steps.

Mewn gwesty yn Abertawe’n ddiweddar, gweinwyd dŵr potel o’r Alban imi. Pa gamau y gallwch eu cymryd i hybu menter blas ar Gymru, fel bod cynhyrchion a wnaed yng Nghymru, fel dŵr potel, yn gallu cystadlu? Gall cadwyn o westai brynu dŵr o’r Alban am bris mor isel fel nad oes modd i’r cynnyrch lleol gystadlu. Er mwyn hybu cynnyrch Cymreig, rhaid inni gymryd camau pellach.

Andrew Davies spoken in English p. 74

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 74

I agree; I was just coming to that. We need to raise the profile of Welsh produce. We cannot rely on the high quality of a product; we must ensure that we brand and market it much more effectively. Where we can compete, we must ensure that we compete effectively.

Yr wyf yn cytuno; yr oeddwn ar fin dod at hynny. Rhaid inni hybu proffil cynnyrch o Gymru. Ni allwn ddibynnu ar ansawdd da’r cynnyrch; rhaid inni sicrhau ein bod yn ei frandio a’i farchnata’n llawer mwy effeithiol. Lle y gallwn gystadlu, rhaid sicrhau ein bod yn cystadlu’n effeithiol.

We want Welsh produce—food or otherwise—to be synonymous with high quality. To this end, an overall brand for Welsh food has been developed: ‘Wales—the True Taste’. It is currently being rolled out to the private sector, and an accreditation scheme is being prepared that will guarantee the quality of ‘true taste’ foods.

Yr ydym am i gynnyrch o Gymru—yn fwyd ac yn bethau eraill—fod yn gyfystyr ag ansawdd da. I’r perwyl hwnnw, datblygwyd brand cyffredinol i fwyd o Gymru: ‘Cymru—y Gwir Flas’. Mae’n cael ei roi ar waith ar hyn o bryd yn y sector preifat, ac mae cynllun achredu’n cael ei baratoi a fydd yn gwarantu ansawdd bwydydd ‘y gwir flas’.

Even quality produce will not sell itself. Agri-food sector partners are totally involved in pursuing activities with supermarkets and multiple retailers in Wales and the UK to promote and encourage the supply of Welsh produce and products. This work is paying dividends. Supermarkets source from large-scale producers for retail across Wales and the UK, as Janet pointed out, but they also source from small local suppliers on a stall-by-stall basis. Tesco stocks at least 430 Welsh product lines and Sainsbury’s stocks 300. Nearly £100 million of trade at Safeway is in local products, and Asda and Somerfield offer 350 Welsh product lines. Welsh product has a strong presence in Spar stores and the Co-op has also recently adapted its labelling policy to introduce 60 new Welsh product lines. The Co-op aims to put more Welsh product on the shelves of its 2,000 stores across the UK. It sources products worth £20 million annually in Wales and has met with Welsh producers to significantly increase that spend. A great deal has already been achieved, but there is still a way to go.

Ni fydd hyd yn oed cynnyrch o ansawdd da yn ei werthu ei hun. Mae partneriaid y sector bwyd-amaeth wedi llwyr ymroi i hyrwyddo gweithgareddau gydag archfarchnadoedd a nifer o adwerthwyr yng Nghymru a’r DU i’w hybu a’u hannog i gyflenwi cynnyrch a nwyddau o Gymru. Mae’r gwaith hwn yn talu ar ei ganfed. Mae archfarchnadoedd yn cael eu cynnyrch gan gynhyrchwyr mawr i’w hadwerthu ledled Cymru a’r DU, fel y nododd Janet, ond maent hefyd yn cael cynnyrch gan gyflenwyr lleol bach ar gyfer stondinau unigol mewn siopau. Mae Tesco yn gwerthu o leiaf 430 o gynhyrchion Cymreig ac mae Sainsbury’s yn gwerthu 300. Daw bron i £100 miliwn o fasnach Safeway o gynhyrchion lleol, ac mae Asda a Somerfield yn gwerthu 350 o gynhyrchion Cymreig. Mae cynnyrch o Gymru’n amlwg yn siopau Spar ac mae Co-op wedi addasu ei bolisi labelu’n ddiweddar i gynnwys 60 o gynhyrchion newydd o Gymru. Mae Co-op yn bwriadu rhoi rhagor o gynnyrch Cymreig ar silffoedd ei 2,000 o siopau ledled y DU. Mae’n cael cynhyrchion gwerth £20 miliwn bob blwyddyn o Gymru ac mae wedi cwrdd â chynhyrchwyr o Gymru er mwyn cynyddu’r gwariant hwnnw’n sylweddol. Cyflawnwyd llawer iawn eisoes, ond mae cryn ffordd o’n blaen eto.

The total value of sales of Welsh food and drink products continues to increase in the UK, mainly as a result of the Welsh Development Agency’s trade development activities, especially within the major multiples. Although developing the UK market is vitally important for Wales and Welsh producers it is only part of the picture. The promotion of Welsh food and drink at national and international exhibitions has significantly improved confidence in the sector. I am delighted that Wales will be the theme country in the Lorient Inter-Celtic Festival in August this year, and Welsh product, particularly food, will play a central part in the Welsh exhibition.

Mae cyfanswm gwerth y cynhyrchion bwyd a diod o Gymru a werthir yn y DU yn dal i gynyddu, yn bennaf o ganlyniad i weithgareddau datblygu masnachol Awdurdod Datblygu Cymru, yn enwedig ymysg yr adwerthwyr mawr. Er bod datblygu marchnad y DU yn hollbwysig i Gymru a’i chynhyrchwyr, nid yw ond yn rhan o’r darlun. Mae hyrwyddo bwyd a diod o Gymru mewn arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol wedi rhoi hwb sylweddol i hyder y sector. Yr wyf yn falch iawn mai Cymru fydd y wlad thema yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient ym mis Awst eleni, ac y bydd rhan ganolog i gynnyrch o Gymru, yn enwedig bwyd, yn arddangosfa Cymru.

The WDA’s Food Directorate works closely with major UK bodies such as Food from Britain and our export arm, WalesTrade International to ensure that Welsh food businesses that wish to extend their customer base are given every opportunity to do so. This approach is paying dividends as the total value of sales of Welsh food is increasing year on year, and more Welsh food businesses are getting involved with trade exhibitions, in the UK and overseas. I pay tribute to the work that my ministerial colleague, Carwyn Jones, has done in promoting Welsh produce and making our marketing and sales much more effective.

Mae Cyfarwyddiaeth Fwyd y WDA yn cydweithio’n agos â chyrff mawr yn y DU fel Bwyd o Brydain a’n cangen allforio, MasnachCymru Rhyngwladol er mwyn sicrhau bod busnesau bwyd yng Nghymru sy’n dymuno ehangu nifer eu cwsmeriaid yn cael pob cyfle i wneud hynny. Mae’r dull gweithredu hwn yn talu ar ei ganfed gan fod cyfanswm gwerth y bwyd o Gymru a werthir yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae mwy o fusnesau bwyd o Gymru’n cymryd rhan mewn arddangosfeydd masnach, yn y DU a thramor. Talaf deyrnged i’r gwaith a wnaeth fy nghyd-Weinidog, Carwyn Jones, wrth hyrwyddo cynnyrch o Gymru a pheri i’n marchnata a’n gwerthu fod yn fwy effeithiol o lawer.

As Janice already mentioned, it is not only food that is on the agenda as regards Wales. I could itemise a whole range of different products from different parts of Wales, which are sold in supermarkets and elsewhere, that are best in class and are of a very high-quality. All these products have at least one common element: they are made in Wales. We need to ensure that that message is relayed to the consumer. As I stated earlier, we have achieved a great deal, but there is more to do. I would welcome the opportunity to discuss with Janice and other colleagues how we can take this important agenda forward.

Fel y nododd Janice eisoes, nid bwyd yn unig sydd ar yr agenda gan Gymru. Gallwn restru amrywiaeth eang o wahanol gynhyrchion o wahanol rannau o Gymru, a werthir mewn archfarchnadoedd a mannau eraill, sy’n oreuon o’u math ac o ansawdd da dros ben. Mae o leiaf un elfen yn gyffredin i’r holl gynhyrchion hyn: fe’u gwnaed yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau y caiff y neges honno’i chyfleu i’r cwsmer. Fel y dywedais yn gynharach, yr ydym wedi cyflawni llawer, ond mae rhagor i’w wneud. Byddwn yn falch o gael y cyfle i drafod gyda Janice a chyd-Aelodau eraill sut y gallwn fwrw ymlaen â’r agenda bwysig hon.

I do not only want to concentrate on Wales and the UK. One of the Government’s major commitments is to raise Wales’s profile and its influence overseas. The Welsh Assembly Government is developing a project to create a brand for Wales. That is a complex issue. Consultants have been contracted to research current perceptions of Wales and to make recommendations based on their findings. The research not only examines how Wales is viewed by the rest of the UK and the world, but also, and crucially, by Welsh people. In developing a brand that will sell Wales to others, we will be able to raise confidence and awareness in Wales of what we have to offer. Developing this Wales brand will underpin the marketing efforts of other public bodies that promote Wales in the Welsh, national, UK and international arenas.

Nid wyf am ganolbwyntio ar Gymru a’r DU yn unig. Un o brif ymrwymiadau’r Llywodraeth yw hybu proffil Cymru a’i dylanwad dramor. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datblygu prosiect i greu brand ar gyfer Cymru. Mae hynny’n fater cymhleth. Comisiynwyd ymgynghorwyr i ymchwilio i’r delweddau presennol o Gymru ac i wneud argymhellion ar sail eu casgliadau. Mae’r ymchwil yn ystyried sut y caiff Cymru ei gweld gan weddill y DU a’r byd, a hefyd, yn bwysig iawn, gan bobl Cymru. Wrth ddatblygu brand a fydd yn gwerthu Cymru i eraill, byddwn yn gallu meithrin hyder ac ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Bydd y gwaith o ddatblygu’r brand hwn i Gymru’n sylfaen i ymdrechion marchnata cyrff cyhoeddus eraill sy’n hyrwyddo Cymru yng Nghymru, yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

As I said earlier, WalesTrade International is responsible for assisting Wales-based companies to develop their capabilities for international trade, and to identify business opportunities overseas. We provide Welsh companies with the opportunity to promote their products and services to potential partners through a subsidised trade mission and fairs programme—I mentioned the Inter-Celtic Festival earlier. This also provides the opportunity to promote Wales by using Wales branded pavilions at overseas trade fairs, and travelling as a Wales group on overseas visits. I am planning an extended visit to the United States of America in September to do that.

Fel y dywedais yn gynharach, MasnachCymru Rhyngwladol sy’n gyfrifol am gynorthwyo cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ddatblygu eu gallu i fasnachu’n rhyngwladol, ac i ganfod cyfleoedd busnes dramor. Yr ydym yn rhoi cyfle i gwmnïau o Gymru hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau ymysg partneriaid posibl drwy raglen gymorthdaledig o deithiau a ffeiriau masnach—soniais am yr Ŵyl Ryng-Geltaidd yn gynharach. Mae hyn yn cynnig cyfle hefyd i hyrwyddo Cymru drwy ddefnyddio pafiliynau â brand Cymru mewn ffeiriau masnach tramor, a theithio fel grŵp o Gymru ar deithiau tramor. Yr wyf yn cynllunio ymweliad estynedig ag Unol Daleithiau America ym mis Medi i wneud hynny.

Alun Cairns spoken in English p. 76

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 76

I am grateful for your comments on promoting Wales overseas through Welsh food and so on. Do you agree that the Millennium Stadium, which is recognised as a showcase for Wales and Cardiff, can also play a part, not only through local sourcing for the benefit of consumers in Wales, but also as an advertisement for Wales because it is broadcast all over the world?

Yr wyf yn ddiolchgar am eich sylwadau ar hyrwyddo Cymru dramor drwy fwyd o Gymru ac yn y blaen. A ydych hefyd yn cytuno y gall Stadiwm y Mileniwm, a gydnabyddir yn ffenestr siop i Gymru a Chaerdydd, chwarae rhan hefyd, nid yn unig drwy gael ei gynnyrch o ffynonellau lleol er budd defnyddwyr yng Nghymru, ond hefyd fel hysbyseb i Gymru gan ei fod yn cael ei ddarlledu ledled y byd?

Andrew Davies spoken in English p. 77

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 77

Yes. The Millennium Stadium has been one of the primary vehicles for promoting Wales and it is a tremendous advertisement. Whenever you listen to or watch games broadcast from there, commentators refer to it as a magnificent stadium and a great advertisement for Wales and Cardiff. We need more icons like the Millennium Stadium and the National Botanic Garden of Wales in Llanarthne in west Wales. They play a crucial role in raising Wales’s, unfortunately, low profile in many overseas markets.

Ydwyf. Bu Stadiwm y Mileniwm yn un o’r prif gyfryngau i hyrwyddo Cymru ac mae’n hysbyseb aruthrol. Pryd bynnag yr ydych yn gwylio neu’n gwrando ar gemau a ddarlledir oddi yno, mae’r sylwebyddion yn cyfeirio ato fel stadiwm gwych a hysbyseb ardderchog i Gymru a Chaerdydd. Mae arnom angen rhagor o eiconau fel Stadiwm y Mileniwm a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne yn y Gorllewin. Maent yn chwarae rôl hollbwysig wrth hybu’r proffil anffodus o isel sydd gan Gymru mewn llawer o farchnadoedd tramor.

We have much to do to raise this profile and promote our products, and this is being partly addressed through the Wales World Nation initiative, in which WalesTrade International is also playing a part. The good work that has already been done will mean little if we cannot get local produce available locally as well as nationally and internationally. We will perhaps only know when we have achieved our goals when one can walk into a local shop anywhere in Wales and get produce and products made in Wales.

Mae gennym lawer i’w wneud i hybu’r proffil hwn a hyrwyddo ein cynhyrchion, ac ymdrinnir â hyn yn rhannol drwy fenter Wales World Nation, y cymerir rhan ynddi hefyd gan MasnachCymru Rhyngwladol. Ni fydd y gwaith da a wnaed eisoes yn golygu fawr ddim os na allwn sicrhau bod cynnyrch lleol ar gael yn lleol yn ogystal â bod ar gael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Efallai na fyddwn ond yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nodau pan fydd rhywun yn gallu cerdded i siop leol rywle yng Nghymru a chael cynnyrch a nwyddau a wnaed yng Nghymru.

In order for that to happen we must ensure that the local shop and local communities survive, and a key part of one of our flagship policies, the Communities First programme, is to promote local community-based businesses. The private sector is involved in the programme, and we have provided funding to businesses in the community to create long-term, sustainable links between community initiatives in the Communities First areas and the private sector. The input of retail outlets and other private sector businesses and Communities First partnerships is key to successful community regeneration, as Janice indicated earlier. Those community-focused companies and organisations give great strength and vibrancy to the local community. Therefore, the Communities First programme is building the capacity of communities to respond to their own needs and be in a position to draw down other funds. Communities First is one of many catalysts for action.

Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid inni sicrhau bod siopau lleol a chymunedau lleol yn parhau, a rhan allweddol o un o’n prif bolisïau, y rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf, yw hyrwyddo busnesau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned leol. Mae’r sector preifat yn cymryd rhan yn y rhaglen hon, ac yr ydym wedi darparu arian i fusnesau yn y gymuned i greu cysylltiadau cynaliadwy tymor hir rhwng mentrau cymunedol yn ardaloedd Rhoi Cymunedau’n Gyntaf a’r sector preifat. Mae mewnbwn mannau adwerthu a busnesau sector preifat eraill a phartneriaethau Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn hollbwysig wrth adfywio cymunedau’n llwyddiannus, fel y nododd Janice yn gynharach. Mae’r cwmnïau a’r cyrff hynny sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cryfhau ac yn bywiogi’r gymuned leol yn fawr. Felly, mae’r rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn meithrin gallu cymunedau i ymateb i’w hanghenion eu hunain a bod mewn sefyllfa i ddefnyddio cyllid arall. Mae Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn un ymysg llawer o gatalyddion ar gyfer gweithredu.

The entrepreneurial action plan for Wales also recognises the key contribution that community and social entrepreneurship plays in developing the Welsh economy. On Mike German’s points, yesterday I met with representatives of the social economy network and the Wales Council for Voluntary Action to develop this principle of mutuality or mutual action. I am prioritising developing the social economy. We must develop it because its role is crucial in terms of helping to regenerate our more deprived communities in particular. Following on from my earlier answers, if we are to tackle the issues of economic inactivity, then the social economy has a huge role to play. Community businesses at all levels play a key role in helping to develop the market for ‘made in Wales’ products.

Mae’r cynllun gweithredu entrepreneuraidd i Gymru hefyd yn cydnabod y cyfraniad allweddol sydd gan entrepreneuriaeth gymunedol a chymdeithasol wrth ddatblygu economi Cymru. Ynghylch pwyntiau Mike German, ddoe cyfarfûm â chynrychiolwyr o’r rhwydwaith economi gymdeithasol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddatblygu egwyddor cydymddibyniaeth neu weithredu cydfuddiannol. Yr wyf yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r economi gymdeithasol. Rhaid inni ei datblygu gan fod ei rôl yn hollbwysig o ran helpu i adfywio ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn benodol. Gan ddilyn fy atebion cynharach, os ydym i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud ag anweithgarwch economaidd, mae rôl enfawr i’r economi gymdeithasol. Mae busnesau cymunedol ar bob lefel yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i ddatblygu’r farchnad i gynhyrchion ‘gwnaed yng Nghymru’.

For Wales and ‘made in Wales’ to be a success, we must continue to adopt policies across a range of portfolios that target a whole-chain approach. We need to support and nurture at all stages—from the entrepreneur who has the idea, through to the manufacturing process and on to marketing and retailing the produce across Wales, the UK and beyond. Much has been done, but much remains to be done. I would welcome Janice’s contribution to developing this crucial agenda along with further discussion on this topic.

Er mwyn llwyddiant Cymru a ‘gwnaed yng Nghymru’, rhaid inni barhau i fabwysiadu polisïau mewn amryw o bortffolios sy’n targedu dull gweithredu cadwyn gyfan. Rhaid inni gefnogi a meithrin ar bob cam—o’r entrepreneur a gafodd y syniad, hyd at y broses gweithgynhyrchu ac ymlaen at farchnata ac adwerthu’r cynnyrch ledled Cymru, y DU a’r tu hwnt. Mae llawer wedi’i gyflawni, ond mae llawer i’w wneud o hyd. Byddwn yn croesawu cyfraniad Janice at ddatblygu’r agenda hollbwysig hon ynghyd â thrafodaeth bellach ar y pwnc hwn.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 78

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 78

That brings our proceedings to a close. Diolch i Aelodau am eu cydweithrediad.

Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben. I thank Members for their co-operation.

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m.

The session ended at 11.40 a.m.