Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mercher 10 Tachwedd 1999

Wednesday 10 November 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:26

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Datganiad gan y LlywyddStatement by the Presiding Officer
  2. 3Ethol i’r Pwyllgor Cyfle CyfartalElection to the Committee on Equality of Opportunity 1 bleidlais1 vote
  3. 4Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Addysg a PhlantQuestions to the Secretary for Education and Children
    1. 4Adeiladau Ysgol Dros DroTemporary School Buildings
    2. 7Cymwysterau Safon UwchA-level Qualifications
    3. 11Rhestr Faith o Atgyweiriadau (Ysgolion yng Nghymru)Backlog of Repairs (Welsh Schools)
  4. 13Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu GwledigQuestions to the Secretary for Agriculture and Rural Development
    1. 13Cynllun Cymorth OrganigOrganic Aid Scheme
    2. 15Treialon ar Gnydau a Addaswyd yn EnetigGM Crop Trials
    3. 17Cyllid Amcan 1 a 2Objective 1 and 2 Funding
    4. 19Diwygiadau Cig Eidion Agenda 2000Agenda 2000 Beef Reforms
  5. 22Datganiad ar Adeiladu Gorsaf Bŵer yn RhosgochStatement on the Building of a Power Station at Rhosgoch
  6. 27Rheoliadau Plaleiddiaid CydgyfnerthedigConsolidated Pesticide Regulations 1 bleidlais1 vote
  7. 37Y Gyllideb RagarweiniolPreliminary Budget 5 o bleidleisiau5 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Ethol i’r Pwyllgor Cyfle CyfartalElection to the Committee on Equality of Opportunity
CynnigMotion4300DerbyniwydAdopted
Rheoliadau Plaleiddiaid CydgyfnerthedigConsolidated Pesticide Regulations
CynnigMotion4200DerbyniwydAdopted
Y Gyllideb RagarweiniolPreliminary Budget
Gwelliant 1Amendment 130230DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 230230DerbyniwydAdopted
Gwelliant 3Amendment 324290DerbyniwydAdopted
Gwelliant 4Amendment 430230DerbyniwydAdopted
CynnigMotion4508DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd

Statement by the Presiding Officer

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Yr wyf yn atgoffa Aelodau, yn dilyn ein diwygiad o’r Rheolau Sefydlog ddoe, y cofnodir ein holl bleidleisiau yn electronig. Yr ydym wedi gosod gerbon Aelodau fanylion a rhybuddion ynghylch y dulliau pleidleisio. Mae nodyn ar eich desgiau. Tynnaf eich sylw yn arbennig at yr angen i osod eich cardiau yn y blwch priodol pan ydych yn y Siambr. Yna cewch dic gwyrdd. Yr wyf hefyd yn pwysleisio, gan ein bod yn defnyddio cardiau i weithredu’r system, ei bod yn bwysig, pan fyddwch yn dymuno siarad, i bwyso’r botwm i ofyn am siarad, hyd yn oed os ydych wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw inni eich bod yn dymuno gwneud hynny. Bydd hynny’n sicrhau bod y system yn gweithio’n hawdd.

I remind Members, that, following our revision of the Standing Orders yesterday, all our votes are to be recorded electronically. We have placed before Members details and notices about the methods of voting. There is a note on your desks. I draw your attention especially to the need to place your card in the appropriate slot when you are in the Chamber. You will then get a green tick. I also emphasise, since we are using cards to operate the system, that it is important, when you wish to speak, that you push the button to ask to speak, even if you have given us notice beforehand that you wish to do so. That will ensure that the system works easily.

A wnewch chi hefyd sicrhau, pan fyddwch yn gadael y Siambr am unrhyw rheswm, eich bod yn tynnu eich cerdyn allan o’r blwch.

Will you also ensure, when you leave the Chamber for any reason, that you take your card out of the slot.

Ethol i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal

Election to the Committee on Equality of Opportunity

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Yn absenoldeb y Trefnydd gofynnaf i’r Ysgrifennydd Cyllid gynnig y cynnig yn ei enw.

In the absence of the Business Secretary I ask the Finance Secretary to propose the motion in his name.

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 3

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 3

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig Edwina Hart t. 3

Motion Edwina Hart p. 3

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Addysg a Phlant

Questions to the Secretary for Education and Children

Adeiladau Ysgol Dros Dro

Temporary School Buildings

Q1 Peter Black spoken in English p. 4

C1 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 4

How many schools in Wales have had temporary buildings for longer than 10 years? (OAQ1882VB)

Sawl ysgol yng Nghymru sydd ag adeiladau dros dro ers mwy na 10 mlynedd? (OAQ1882VB)

Rosemary Butler The Secretary for Education and Children spoken in English p. 4

Rosemary Butler Yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant siaradwyd yn Saesneg t. 4

This information is not collected centrally. Responsibility for the repair, maintenance and provision of school buildings rests with local authorities.

Ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu’n ganolog. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw atgyweirio, cynnal a darparu adeiladau ysgolion.

Peter Black spoken in English p. 4

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 4

If we are to tackle the maintenance of school buildings systematically, it is important that we start to collate information centrally. Do you accept that we must start doing that and start looking for additional sources of funding to tackle the huge backlog in school maintenance and repairs around Wales?

Os ydym am fynd i’r afael â chynnal adeiladau ysgol yn drefnus, mae’n bwysig inni ddechrau casglu gwybodaeth yn ganolog. A ydych chi’n derbyn fod yn rhaid inni ddechrau gwneud hynny a dechrau edrych am ffynonellau ariannu ychwanegol i fynd i’r afael â’r swm anferth o waith cynnal a thrwsio sydd yn aros i’w wneud mewn ysgolion o gwmpas Cymru?

Rosemary Butler spoken in English p. 5

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 5

The responsibility for the provision and maintenance of school buildings lies with the local authority. I have said on several occasions in this Chamber that I do not see why we should start bringing local government responsibility to Cardiff now that we are devolved from London. We should devolve as much as we possibly can. School maintenance is a local government responsibility and that is where it should rest. However, we should be aware of the trends and should intervene if local authorities do not deliver. In this case, it is their responsibility. It is unsatisfactory that schools should have to use temporary accommodation to meet permanent needs. Changing this situation requires a partnership with the local authorities and this is one of the key priorities of the authorities. Next year £69 million is included in the provisional budget for capital investment in schools, which includes grants for voluntary and aided schools. Provided that the local authorities stick to their priority to improve the poor state of school buildings, I expect to see a substantial inroad into the problem as a result of the funding the Assembly plans to provide.

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw darparu a chynnal adeiladau ysgolion. Yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr hon nad wyf yn gweld pam y dylem ddechrau dod â chyfrifoldeb llywodraeth leol i Gaerdydd a ninnau bellach wedi’n datganoli o Lundain. Dylem ddatganoli cymaint ag y gallwn. Cyfrifoldeb llywodraeth leol yw cynnal ysgolion a dyna lle y dylai aros. Fodd bynnag, dylem fod yn ymwybodol o’r tueddiadau, a dylem ymyrryd os nad yw awdurdodau lleol yn gwneud eu gwaith. Yn yr achos hwn, eu cyfrifoldeb hwy ydyw. Mae’n anfoddhaol bod ysgolion yn gorfod defnyddio ystafelloedd dros dro i ateb anghenion parhaol. I newid y sefyllfa hon, rhaid cael partneriaeth gyda’r awdurdodau lleol a dyma un o flaenoriaethau allweddol yr awdurdodau. Y flwyddyn nesaf mae £69 miliwn wedi’i gynnwys yn y gyllideb amodol ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion, gan gynnwys grantiau i ysgolion gwirfoddol a rhai a gaiff gymorth. Os glyna’r awdurdodau lleol at eu blaenoriaeth i wella cyflwr gwael adeiladau ysgolion, disgwyliaf weld cryn welliant yn y broblem o ganlyniad i’r arian y mae’r Cynulliad yn bwriadu’i ddarparu.

Janet Ryder spoken in English p. 5

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 5

This will sound parochial. In Ruthin, we have one of the best secondary schools in Wales, Ysgol Brynhyfryd. Every year the school achieves academic and sporting success and has an excellent reputation for music and drama. However, over the past two and a half years, the number of mobile classrooms at the school has increased from eight to 15, and another three mobile classrooms are needed for next year. It also has 15 temporary classrooms. The main school building, which was built for 500 pupils, now houses 1,100 and this figure is due to rise to 1,200 in September. You have been asked this before but I ask again if you will make time to come to see the special circumstances which pertain to this already excellent school, which could be much better if there were good physical surroundings in which pupils and staff could work? I ask you also to put pressure on Denbighshire County Council to publish a recently commissioned report into the state of their school buildings. That would be of great interest to the people of Denbighshire.

Bydd hyn yn swnio’n blwyfol. Yn Rhuthun, mae gennym un o’r ysgolion uwchradd gorau yng Nghymru, Ysgol Brynhyfryd. Bob blwyddyn bydd yr ysgol yn llwyddo yn academaidd ac ym maes chwaraeon, ac mae ganddi enw ardderchog am gerddoriaeth a drama. Fodd bynnag, yn y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mae nifer yr ystafelloedd dosbarth symudol yn yr ysgol wedi codi o wyth i 15, ac mae angen tair ystafell ddosbarth symudol arall ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae yno 15 ystafell ddosbarth dros dro hefyd. Mae prif adeilad yr ysgol, a adeiladwyd ar gyfer 500 o ddisgyblion, bellach yn dal 1,100 a disgwylir i’r ffigur godi i 1,200 ym mis Medi. Gofynnwyd hyn ichi o’r blaen, ond gofynnaf eto a wnewch chi ganfod amser i ddod i weld yr amgylchiadau arbennig sydd yn perthyn i’r ysgol hon, sydd eisoes yn wych ac a allai fod yn llawer gwell pe bai amgylchedd ffisegol da ar gyfer y disgyblion a’r staff? Gofynnaf ichi hefyd roi pwysau ar Gyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar ar gyflwr eu hadeiladau ysgol. Byddai hwnnw o ddiddordeb mawr i bobl Sir Ddinbych.

Rosemary Butler spoken in English p. 6

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 6

I am pleased that you are able to commend this comprehensive school so highly for providing a rounded academic, sporting and cultural education. The issue of school maintenance has been building up over a long period due to a continual squeeze on education budgets and a continual reduction in capital programmes. The Assembly has started to address this problem. I will visit the school when my diary permits but I have many commitments before then. I am getting out and about in Wales. I was in the Aberystwyth area on Thursday and Friday of last week and I will be in Welshpool next week. I will try to visit your school when I am in that area, which will hopefully be in the new year. As for local authorities publishing documents, I have no influence on that. It would be up to you to speak to your local councillors to persuade them to print that document. I am not aware of the document in any case.

Yr wyf yn falch eich bod yn gallu canmol yr ysgol gyfun hon mor uchel am ddarparu addysg academaidd, gorfforol a diwylliannol mor gyflawn. Mae cwestiwn cynnal ysgolion wedi bod yn codi stêm dros gyfnod hir oherwydd gwasgfa barhaus ar gyllidebau addysg a chwtogi parhaus ar raglenni cyfalaf. Mae’r Cynulliad wedi dechrau ymdrin â’r broblem hon. Ymwelaf â’r ysgol pan fydd fy nyddiadur yn caniatáu, ond mae gennyf sawl ymrwymiad cyn hynny. Yr wyf yn mynd o amgylch Cymru. Yr oeddwn yn ardal Aberystwyth ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos diwethaf a byddaf yn y Trallwng yr wythnos nesaf. Ceisiaf ymweld â’ch ysgol pan fyddaf yn yr ardal honno, sef yn y flwyddyn newydd, gobeithio. O ran dogfennau a gyhoeddir gan awdurdodau lleol, nid oes gennyf unrhyw ddylanwad dros hynny. Mater i chi fyddai siarad â’ch cynghorwyr lleol i’w perswadio i argraffu’r ddogfen honno. Nid wyf fi’n gwybod am y ddogfen, beth bynnag.

Peter Rogers spoken in English p. 6

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 6

I would also like to mention a school in my area. One current issue is the importance of sport in the curriculum. We have an excellent school in Ynys Môn, Ysgol David Hughes, which has a fine record in north Wales. It has 1,400 pupils. In every inspector’s report of the school there has been great criticism of the sports facilities, particularly the amount of tarmac in the school and the condition of the playing fields. I visited the school last week and I had to wear wellingtons to inspect the field. Where could we get the money for a sports hall or an all-weather surface and, also, to improve the grounds?

Hoffwn innau hefyd sôn am ysgol yn fy ardal. Pwnc trafod cyfredol yw pwysigrwydd chwaraeon yn y cwricwlwm. Mae gennym ysgol ardderchog yn Ynys Môn, Ysgol David Hughes, sydd ag enw da iawn yng ngogledd Cymru. Mae ganddi 1,400 o ddisgyblion. Ym mhob adroddiad arolygwr ar yr ysgol beirniadwyd y cyfleusterau chwaraeon yn llym, yn enwedig y ffaith fod cymaint o darmac yn yr ysgol a chyflwr y caeau chwarae. Ymwelais â’r ysgol yr wythnos diwethaf a bu’n rhaid imi wisgo esgidiau glaw i archwilio’r cae. O ba le y gallem ni gael yr arian i gael neuadd chwaraeon neu faes pob-tywydd ac, hefyd, i wella’r tiroedd?

Rosemary Butler spoken in English p. 7

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 7

I have heard of Ysgol David Hughes and it is an excellent school. However, I stress that capital investment in schools is the responsibility of the local education authorities and they must prioritise their investment. You need to continue to put pressure on your local elected members to ensure that. On sport in the curriculum, there has been a complete review of the curriculum, which is out for consultation. The beauty of this particular curriculum is that it will be the first curriculum for Wales developed in Wales by Welsh education professionals. It will be a superb curriculum to take us into the twenty-first century.

Yr wyf wedi clywed am Ysgol David Hughes ac mae’n ysgol ardderchog. Fodd bynnag, pwysleisiaf mai cyfrifoldeb yr awdurdodau addysg lleol yw buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion a rhaid iddynt flaenoriaethu eu buddsoddi. Mae angen ichi ddal i bwyso ar eich aelodau etholedig lleol i sicrhau hynny. O safbwynt chwaraeon yn y cwricwlwm, cafwyd adolygiad llawn o’r cwricwlwm, ac mae ymgynghori’n digwydd arno. Y peth da am y cwricwlwm arbennig hwn yw mai hwn fydd y cwricwlwm cyntaf i Gymru i gael ei ddatblygu yng Nghymru gan addysgwyr proffesiynol Cymreig. Bydd yn gwricwlwm gwych i fynd â ni i’r unfed ganrif ar hugain.

Cymwysterau Safon Uwch

A-level Qualifications

Q2 Carwyn Jones spoken in English p. 7

C2 Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 7

What plans are there to broaden A-level qualifications in Wales? (OAQ1899VB)

Pa gynlluniau sydd i ehangu cymwysterau safon Uwch yng Nghymru? (OAQ1899VB)

Q6 Nick Bourne spoken in English p. 7

C6 Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 7

Will Rosemary Butler make a statement about her intentions with regard to the future of A-levels in Wales? (OAQ1886VB)

A wnaiff Rosemary Butler ddatganiad ynghylch yr hyn y mae’n bwriadu ei wneud ynghylch dyfodol safon Uwch yng Nghymru? (OAQ1886VB)

Rosemary Butler spoken in English p. 7

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 7

I will answer question 2 with question 6. I thank you both for these questions because there is a lot of interest at the moment in the standard of qualifications in Wales. A-levels and their vocational equivalent will continue to play a central role in the education of learners over the age of 16. The reforms to the post-16 qualifications framework that we announced earlier this year are designed to maintain high standards, encourage young people to follow a broader programme of study and promote lifelong learning. Our proposals for reforming how post-16 education and training is delivered will further enhance the opportunities available to gain qualifications to the benefit of individual learners, employers and the Welsh economy.

Atebaf gwestiwn 2 gyda chwestiwn 6. Diolch ichi’ch dau am y cwestiynau hyn oherwydd mae llawer o ddiddordeb ar hyn o bryd yn safon cymwysterau yng Nghymru. Bydd cymwysterau safon Uwch a’u cyfwerth galwedigaethol yn parhau i chwarae rhan ganolog yn addysg dysgwyr dros 16 oed. Bwriad y diwygiadau i’r fframwaith cymwysterau ôl-16 a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni yw cynnal safonau uchel, annog pobl ifainc i ddilyn rhaglen ehangach o astudio a hyrwyddo dysgu gydol oes. Bydd ein cynigion ar gyfer diwygio’r ffordd y cyflwynir addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gwella ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i ennill cymwysterau er budd dysgwyr unigol, cyflogwyr a’r economi Gymreig.

Carwyn Jones spoken in English p. 7

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 7

One problem that we face is that A-levels are so highly regarded that vocational qualifications sometimes suffer in comparison. Some schools suggest to their students that it is better for them to take one A-level in the sixth form than to take a vocational qualification in a technical or tertiary college. That cannot be right. Are there any plans to give vocational qualifications the same status as academic qualifications?

Un broblem yr ydym yn ei hwynebu yw bod cymaint o fri ar safon Uwch fel bod cymwysterau galwedigaethol weithiau’n dioddef mewn cymhariaeth. Mae rhai ysgolion yn awgrymu i’w myfyrwyr ei bod yn well iddynt sefyll un arholiad safon Uwch yn y chweched dosbarth na gwneud cymhwyster galwedigaethol mewn coleg technegol neu drydyddol. Ni all hynny fod yn iawn. A oes unrhyw gynlluniau i roi i gymwysterau galwedigaethol yr un statws â chymwysterau academaidd?

Rosemary Butler spoken in English p. 8

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 8

You have recognised that our A-levels are regarded throughout the world as a high quality qualification. When Peter Hain announced his reforms last year, he reflected on the commitment to add breadth to post-16 studies. We want to upgrade vocational qualifications and to maintain standards. These reforms will also make advanced level study more accessible to adult learners. A-levels and vocational qualifications have a vital role to play in supporting the Welsh economy. The new key skills qualifications will also help to fill the skills gaps identified in the Future Skills Wales report. Our reforms build on the strength of existing qualifications to provide students with greater flexibility and the opportunity to tap into their talents more, so that they are more likely to reach their full potential. We need to stretch children academically. We have fallen behind on vocational education. The new report, which is released opposite the Education and Training Action Group report, addresses that. I agree that it is vital that we have people with vocational qualifications.

Yr ydych wedi cydnabod bod bri i’n cymwysterau safon Uwch dros y byd fel cymhwyster o ansawdd uchel. Pan gyhoeddodd Peter Hain ei ddiwygiadau y llynedd, siaradodd am yr ymrwymiad i ychwanegu lled at astudiaethau ôl-16. Mae arnom eisiau uwchraddio cymwysterau galwedigaethol a chynnal safonau. Bydd y diwygiadau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i oedolion astudio cyrsiau safon Uwch. Mae gan gymwysterau safon Uwch a galwedigaethol rôl allweddol i’w chwarae i gynnal yr economi Gymreig. Bydd y cymwysterau sgiliau allweddol newydd yn helpu hefyd i lenwi’r bylchau sgiliau a nodwyd yn yr adroddiad Sgiliau Cymru i’r Dyfodol. Mae ein diwygiadau yn adeiladu ar gryfder cymwysterau presennol i roi mwy o hyblygrwydd i fyfyrwyr a’r cyfle i fanteisio mwy ar eu doniau fel eu bod yn fwy tebygol o gyflawni’u llawn botensial. Mae angen inni ymestyn plant yn academaidd. Yr ydym ar ei hôl hi gydag addysg alwedigaethol. Mae’r adroddiad newydd, a ryddheir gyferbyn ag adroddiad y Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant, yn mynd i’r afael â hynny. Cytunaf ei bod yn holl bwysig ein bod yn cael pobl â chymwysterau galwedigaethol.

Nick Bourne spoken in English p. 8

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 8

The Post-16 Education and Training Committee has decided, with only the Conservatives voting against the decision, to move the funding of sixth forms away from local education authorities. This gives rise to concern about taking funding away from local control. In the light of this, could you address the fact that the A-level is a gold standard and, if we are going down the dangerous road of trying other qualifications in Wales, that they should be properly piloted before we launch them onto the market? We could be disadvantaging Welsh youngsters if the qualifications are not recognised within the UK or internationally.

Mae’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 wedi penderfynu, heb neb ond y Ceidwadwyr yn pleidleisio yn erbyn y penderfyniad, symud y cyfrifoldeb am ariannu dosbarthiadau chwech oddi wrth awdurdodau addysg lleol. Mae hyn yn peri pryder ynghylch dwyn cyllido allan o reolaeth leol. Yng ngoleuni hyn, a allech drafod y ffaith mai’r safon Uwch yw’r safon aur ac, os ydym am fynd i lawr ffordd beryglus rhoi cynnig ar gymwysterau eraill yng Nghymru, y dylent gael eu peilota’n iawn cyn inni eu lansio ar y farchnad? Gallem fod yn rhoi pobl ifainc Cymru dan anfantais os na chaiff y cymwysterau eu cydnabod o fewn y DU nac yn rhyngwladol.

Rosemary Butler spoken in English p. 9

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 9

I cannot comment on your first statement because I am not aware of that situation. As far as I am aware, only recommendations to this full body have been made and will be discussed further. I was not at the Post-16 Education and Training Committee meeting and I do not know what happened there.

Ni allaf roi sylw ar eich gosodiad cyntaf gan nad ydwyf yn ymwybodol o’r sefyllfa honno. Hyd y gwn i, dim ond argymhellion i’r corff llawn hwn sydd wedi’u gwneud a chânt eu trafod ymhellach. Nid oeddwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ac nid wyf yn gwybod beth a ddigwyddodd yno.

It is important that we ensure that our A-levels are protected and that any moves to change the formal qualification are well considered. It is important that we do not have change for change’s sake. The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales (ACCAC) was asked to work with the Institute of Welsh Affairs to consider which element of their proposals, which are being circulated, might be implemented to help with the reform of post-16 publications. However, we have no plans to replace the A-level.

Mae’n bwysig inni sicrhau y gwarchodir ein safon Uwch ac y rhoddir ystyriaeth lawn i unrhyw symudiadau i newid y cymhwyster ffurfiol. Mae’n bwysig nad ydym yn newid er mwyn newid. Gofynnwyd i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru weithio gyda’r Sefydliad Materion Cymreig i ystyried pa elfen o’u cynigion, sydd yn cael eu cylchredeg, y gellid ei gweithredu i helpu gyda diwygio cyhoeddiadau ôl-16. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddisodli’r safon Uwch.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 9

Mae’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 wedi derbyn llawer o dystiolaeth ynglŷn â barn pobl fod y safon Uwch yn gymhwyster hen ffasiwn, cul sydd yn gorfodi myfyrwyr i wneud dewisiadau yn rhy gynnar a bod angen fframwaith gymhwysterau tros-fwaol ar gyfer y cyfnod ôl-16, rhwng 16 a 19, sydd yn addas ar gyfer dysgu gydol oes. Byddai’r fframwaith yn rhoi cymhwyster ar wahanol lefelau wedi ei seilio ar gredydau a fyddai’n sicrhau cydraddoldeb rhwng yr elfennau academaidd a galwedigaethol. Cyfeiriodd Rosemary Butler at y Fagloriaeth. A yw hi’n cytuno bod y Fagloriaeth, fel y mae wedi ei llunio yn awr, yn cynnig fframwaith felly ac, yn ôl barn llawer, yn well mewn llawer ystyr na chyfaddawd Dearing? A yw hi’n cytuno, ac yr wyf yn cydweld â Nick Bourne yn y fan hon, y dylid cyllido cynllun peilot ar gost o £1 filiwn dros dair blynedd ar gyfer y Fagloriaeth i weld sut y byddai’n gweithio ac i sicrhau ei bod yn dderbyniol yng Nghymru a thu hwnt?

The Post-16 Education and Training Committee has received much evidence regarding people’s opinion that the A-level is an old-fashioned, narrow qualification that forces students to make choices too early and that we need an overarching qualification framework for the post-16 period, between 16 and 19, which will be appropriate for lifelong learning. The framework would offer a qualification on different levels based on credits that would ensure equality between the academic and vocational elements. Rosemary Butler referred to the Baccalaureate. Does she agree that the Baccalaureate, as it is formulated now, offers such a framework and, in many people’s view, is better in many ways than the Dearing compromise? Does she agree, and I agree with Nick Bourne here, that there should be a pilot scheme funded at £1 million over three years for the Baccalaureate to see how it would work and to ensure that it would be acceptable in Wales and beyond?

Rosemary Butler spoken in English p. 9

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 9

You have a deep interest and a breadth of knowledge on this subject. I asked ACCAC to look, with the Institute of Welsh Affairs, at some of the proposals that they are putting forward. My concern about the Welsh Baccalaureate is that it would be expensive to develop and to implement. It is also likely that there will be an expensive knock-on effect in higher education, which we need to consider. In taking the qualification agenda forward, we must ensure that our pupils’ achievements will be valued, whether they choose to work or to continue learning. We must ensure that A-levels and general national vocational qualifications, keep their hard-earned reputation for quality. I would want to consider carefully how the Welsh Baccalaureate or any other proposals sit alongside the Qualifying for Success reforms, which will be introduced in September. We need to test them fully. In advance of that work, it would be premature to make any decision on a possible pilot scheme associated with those proposals.

Mae gennych ddiddordeb dwfn a gwybodaeth helaeth ar y pwnc hwn. Gofynnais i ACCAC edrych, gyda’r Sefydliad Materion Cymreig, ar rai o’r cynigion y maent yn eu cyflwyno. Fy mhryder i ynghylch y Fagloriaeth Gymreig yw y byddai’n ddrud i’w datblygu a’i gweithredu. Mae’n debygol hefyd y byddai effaith ganlynol gostus mewn addysg uwch, y mae angen inni ei hystyried. Wrth symud yr agenda gymwysterau yn ei blaen, rhaid inni sicrhau y gwerthfawrogir cyflawniadau ein disgyblion, boed hwy’n dewis gweithio neu barhau i ddysgu. Rhaid inni sicrhau bod safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol cyffredinol yn cadw eu henw da am ansawdd, y bu iddynt weithio’n galed amdano. Byddai arnaf fi eisiau ystyried yn ofalus sut y byddai’r Fagloriaeth Gymreig neu unrhyw gynigion eraill yn cydeistedd â’r diwygiadau Cymhwyso i Lwyddo, a Do you accept that we must start doing that and start looking waith hwnnw, byddai’n gynamserol gwneud unrhyw benderfyniad ar gynllun peilot posibl yn gysylltiedig â’r cynigion hynny.

Alun Pugh spoken in English p. 10

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 10

As a recent A-level tutor, I am in no doubt about the rigour of A-levels. However, do you accept that many people in education and business doubt the fitness for purpose of A-levels as a foundation for higher education and as a preparation for employment?

Fel tiwtor safon Uwch diweddar, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl ynghylch llymder safon Uwch. Fodd bynnag, a ydych yn derbyn bod llawer o bobl mewn addysg a busnes yn amau addasrwydd safon Uwch i’w pwrpas fel sylfaen i addysg uwch ac fel paratoad ar gyfer cyflogaeth?

Rosemary Butler spoken in English p. 10

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 10

There are a number of people from different educational spheres looking at how we can improve on what we have. We must ensure that what we have in future will be as good, if not better, than what we have at the moment. My concern is that reforms that we have already introduced are only now going into the system. We must ensure that the broadening of the curriculum, ensuring that people get a broader education, is tested fully before we move forward. However, there is no reason why you should not have the discussion. I understand that you are having such discussions with a number of people from several disciplines and I am interested in the outcome of those discussions. However, we do not have enough evidence for change at the moment and we should not make changes just for the sake of change.

Mae nifer o bobl o wahanol gylchoedd addysgol yn edrych ar sut y gallwn wella ar yr hyn sydd gennym. Rhaid inni sicrhau y bydd yr hyn a fydd gennym yn y dyfodol gystal, os nad yn well, na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Fy mhryder yw mai dim ond yn awr y mae diwygiadau a gyflwynwyd gennym eisoes yn cyrraedd y system. Rhaid inni sicrhau fod lledu’r cwricwlwm, gan sicrhau y caiff pobl addysg ehangach, yn cael ei brofi’n llawn cyn symud ymlaen. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reswm pam na ddylech gael y drafodaeth. Yr wyf yn deall eich bod yn cael trafodaethau o’r fath gyda nifer o bobl o sawl disgyblaeth ac mae gennyf ddiddordeb yng nghanlyniad y trafodaethau hynny. Fodd bynnag, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth o blaid newid ar hyn o bryd ac ni ddylem wneud newidiadau dim ond er mwyn newid.

Kirsty Williams spoken in English p. 10

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 10

Are you aware, Rosemary, that there is concern and confusion among headteachers of Welsh schools who are uncertain about what regime they will have to deliver for their post-16 students due to changes to the post-16 framework? That uncertainty and confusion causes planning problems. For instance, if Brecon High School is asked to deliver five subjects at AS level to 16 to 17 year-olds, it will have to employ three extra teachers. The school needs to know as soon as possible whether they need to recruit and make budgetary allocations for extra staff to deliver any changes required. They have little time to do that now.

A ydych yn ymwybodol, Rosemary, fod pryder a dryswch ymhlith prifathrawon ysgolion yng Nghymru sydd yn ansicr ynghylch pa drefn y bydd yn rhaid iddynt ei darparu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 oherwydd newidiadau yn y fframwaith ôl-16? Mae’r ansicrwydd a’r dryswch hwnnw yn achosi problemau cynllunio. Er enghraifft, os gofynnir i Ysgol Uwchradd Aberhonddu gyflwyno pum pwnc ar lefel AS i fyfyrwyr 16 i 17 oed, bydd yn rhaid iddi gyflogi tri o athrawon ychwanegol. Mae ar yr ysgol angen gwybod cyn gynted ag y bo modd a oes angen iddynt recriwtio a darparu yn y gyllideb ar gyfer staff ychwanegol i gyflawni unrhyw newidiadau angenrheidiol. Nid oes ganddynt fawr o amser i wneud hynny yn awr.

Rosemary Butler spoken in English p. 11

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 11

I am sorry if you feel that there is confusion. I visit a lot of schools and I do not detect that confusion. People know what they will have to deliver for next September and how they will deliver it. How they will deliver rather than what they will deliver may be the issue in Brecon. Perhaps we could talk later and you can give me your information. I visit high schools and comprehensive schools and they are aware that these changes are coming. They know what they must do and are keen to get on with it.

Mae’n ddrwg gennyf os teimlwch fod yna ddryswch. Byddaf yn ymweld â llawer o ysgolion ac nid wyf wedi synhwyro’r dryswch hwnnw. Mae pobl yn gwybod beth y bydd yn rhaid iddynt ei ddarparu ar gyfer mis Medi nesaf a sut y maent am ei ddarparu. Efallai mai sut y byddant yn darparu yn hytrach na beth y byddant yn ei ddarparu yw’r testun yn Aberhonddu. Efallai y gallem gael sgwrs wedyn a gallwch chi roi eich gwybodaeth imi. Byddaf yn ymweld ag ysgolion uwchradd a chyfun ac maent yn gwybod fod y newidiadau hyn yn dod. Maent yn gwybod beth sydd yn rhaid iddynt ei wneud ac maent yn eiddgar i fynd ati.

Rhestr Faith o Atgyweiriadau (Ysgolion yng Nghymru)

Backlog of Repairs (Welsh Schools)

Q3 Geraint Davies spoken in English p. 11

C3 Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

What plans does Rosemary Butler have to deal with the backlog of repairs needed for Welsh schools? (OAQ1931JS)

Pa gynlluniau sydd gan Rosemary Butler i ddelio â’r rhestr faith o atgyweiriadau y mae angen eu gwneud i ysgolion yng Nghymru? (OAQ1931JS)

Rosemary Butler spoken in English p. 11

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 11

The responsibility for school repair and maintenance and for the provision of new school buildings in Wales rests with local authorities. The substantial resources for revenue and capital funding for education, contained in the provisional budget proposals for local authority funding, should enable local authorities to make inroads into the backlog of work.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a darparu adeiladau ysgol newydd yng Nghymru. Dylai’r adnoddau sylweddol ar gyfer arian refeniw a chyfalaf i addysg, a gynhwyswyd yn y cynigion cyllideb amodol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol, alluogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael â pheth o’r gwaith sydd yn aros i’w wneud.

Geraint Davies spoken in English p. 12

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

Does the Secretary agree that many schools in Wales are in a terrible condition and that there is a staggering £325 million backlog in repairs? If the Government’s priority is ‘education, education, education’, why can Rosemary Butler not use some of the £10,000 million that Gordon Brown has in his war chest for this important sector?

A yw’r Ysgrifennydd yn cytuno bod llawer o ysgolion yng Nghymru mewn cyflwr ofnadwy a bod gwerth y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud yn gyfanswm ysgytwol o £325 miliwn? Os mai ‘addysg, addysg, addysg’ yw blaenoriaeth y Llywodraeth, pam na all Rosemary Butler ddefnyddio peth o’r £10,000 miliwn sydd gan Gordon Brown yn ei gist ryfel ar gyfer y sector pwysig hwn?

Rosemary Butler spoken in English p. 12

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 12

I agree that schools are in a bad condition. Many schools are new or have been repaired and local authorities have been responsible in delivering good quality surroundings for their children. However, I have visited several schools that are not up to standard. That is wrong in this day and age. However, the education budget has been squeezed and capital programmes cut back for 18 years. That has now stopped. During the two years of Labour Government in Westminster, there has been a huge investment in education. We are committed to putting an additional £844 million into education over the next three years. We have begun well. Already, many more schools are being repaired and new schools have been agreed, particularly under the private finance initiative. For example, nine new schools will be built in Wales.

Cytunaf fod ysgolion mewn cyflwr gwael. Mae llawer o ysgolion yn newydd neu wedi’u hatgyweirio a bu awdurdodau lleol yn gyfrifol o ran darparu amgylchedd o ansawdd da i’w plant. Fodd bynnag, yr wyf wedi ymweld â sawl ysgol nad ydynt wedi cyrraedd y safon. Mae hynny’n gamwedd yn yr oes sydd ohoni. Fodd bynnag, cafodd y gyllideb addysg ei gwasgu a chafodd rhaglenni cyfalaf eu torri’n ôl am 18 mlynedd. Mae hynny wedi dod i ben yn awr. Yn ystod dwy flynedd y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, bu buddsoddiad enfawr mewn addysg. Yr ydym wedi ymrwymo i roi £844 miliwn ychwanegol i mewn i addysg dros y tair blynedd nesaf. Yr ydym wedi dechrau’n dda. Eisoes, mae llawer mwy o ysgolion yn cael eu hatgyweirio ac mae cytundeb i godi ysgolion newydd, yn enwedig dan y fenter cyllid preifat. Er enghraifft, caiff naw ysgol newydd eu hadeiladu yng Nghymru.

It is for local authorities to decide on their priorities. I would be interested to know the source of the figure of £325 million you mentioned. There are several figures available but your research may be more recent than that I have. I am concerned about school conditions. When you hear Edwina Hart’s budget, you will realise that we are doing what we can for education. I am delighted with the focus in Gordon Brown’s report yesterday on ensuring that schools are repaired. I look forward to seeing how much of that money we will receive in Wales. When we receive it, it will be spent on schools.

Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar eu blaenoriaethau. Hoffwn wybod beth yw ffynhonnell y ffigur o £325 miliwn a grybwyllwyd gennych. Mae nifer o ffigurau ar gael ond efallai bod eich ymchwil chi’n fwy diweddar na hwnnw sydd gennyf i. Yr wyf yn poeni am gyflwr ysgolion. Pan glywch gyllideb Edwina Hart, sylweddolwch ein bod yn gwneud hynny a allwn dros addysg. Yr wyf wrth fy modd gyda’r pwyslais yn adroddiad Gordon Brown ddoe ar sicrhau y caiff ysgolion eu hatgyweirio. Edrychaf ymlaen at weld faint o’r arian hwnnw a gawn ni yng Nghymru. Pan gawn yr arian, caiff ei wario ar ysgolion.

Jonathan Morgan spoken in English p. 12

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 12

Will the Secretary join me in condemning the failure of Cardiff City and County Council to provide a new school for the pupils of Trelái in my constituency? That was partly due to its failure and incompetence in dealing with the private finance initiative applications. Does she believe that it is feasible and right for young children to be taught in a school where pieces of ceiling, such as this one in my hand, regularly drop into their school hall? This piece weighs a considerable amount. If I had a four or five-year-old son or daughter and that collapsed into the school, I would not dare think what damage it could do. It is unacceptable. Will the Secretary condemn it?

A wnaiff yr Ysgrifennydd ymuno â mi i gondemnio methiant Cyngor Dinas a Sir Caerdydd i ddarparu ysgol newydd i ddisgyblion Trelái yn fy etholaeth? Yr oedd hynny’n rhannol oherwydd ei fethiant a’i anghymhwyster wrth ddelio â cheisiadau’r fenter cyllid preifat. A yw hi’n credu ei bod yn dderbyniol ac yn iawn i blant ifainc gael eu dysgu mewn ysgol lle mae darnau o’r nenfwd, fel hwn yn fy llaw, yn cwympo’n rheolaidd i neuadd eu hysgol? Mae’r darn hwn yn pwyso cryn dipyn. Pe bai gennyf fi fab neu ferch bedair neu bum mlwydd oed a bod hwn wedi cwympo yn yr ysgol, feiddiwn i ddim meddwl pa niwed y gallasai ei wneud. Mae’n annerbyniol. A wnaiff yr Ysgrifennydd ei gondemnio?

Rosemary Butler spoken in English p. 13

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 13

I am not in a position to condemn local authorities. They have made their decisions to spend their allocation of capital in whatever way they saw fit. However, I condemn the fact that a school is in that condition. I made a previous statement explaining that governors are responsible for the health and safety in schools. They need to act on that issue. Perhaps we can find out later from where that piece came? Was it from the ceiling?

Nid wyf mewn sefyllfa i gondemnio awdurdodau lleol. Maent wedi gwneud eu penderfyniadau i wario’u dyraniad cyfalaf ym mha fodd bynnag y gwelant yn briodol. Fodd bynnag, condemniaf y ffaith fod ysgol yn y cyflwr hwnnw. Gwneuthum ddatganiad o’r blaen yn egluro mai llywodraethwyr sydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch mewn ysgolion. Mae angen iddynt weithredu ar y mater hwnnw. Efallai y gallwn gael gwybod yn ddiweddarach o ble y daeth y darn hwnnw? Ai o’r nenfwd?

Jonathan Morgan spoken in English p. 13

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 13

It fell into the hall.

Cwympodd i mewn i’r neuadd.

Rosemary Butler spoken in English p. 13

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 13

When was this?

Pryd oedd hynny?

Jonathan Morgan spoken in English p. 13

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 13

It happened on Friday.

Digwyddodd ddydd Gwener.

Rosemary Butler spoken in English p. 13

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 13

Cardiff City and County Council needs to set its own priorities on this and you need to influence them. It is not a matter for the Assembly. Health and safety issues in schools are the responsibility of the governors and they need to address them.

Mae angen i Gyngor Dinas a Sir Caerdydd osod ei flaenoriaethau ei hun ar hyn ac mae angen i chi ddylanwadu arnynt. Nid mater i’r Cynulliad ydyw. Cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw iechyd a diogelwch mewn ysgolion ac mae angen iddynt ddelio â’r materion hyn.

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig

Questions to the Secretary for Agriculture and Rural Development

Cynllun Cymorth Organig

Organic Aid Scheme

Q1 Kirsty Williams spoken in English p. 13

C1 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 13

How many applications has the National Assembly received with regard to the organic aid scheme in Wales? (OAQ1927JS)

Faint o geisiadau sydd wedi dod i law’r Cynulliad Cenedlaethol o dan y cynllun cymorth organig yng Nghymru? (OAQ1927JS)

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 14

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 14

Members will know that there are several questions on the organic aid scheme and organic food on the list of questions for today. That shows that Assembly Members are either very keen on organic production or not keen on it at all. I am keen on organic production and I hope that the discussion we have on this proves that the Assembly is also keen on it. To date we have received 164 applications to join the organic aid scheme.

Bydd Aelodau’n gwybod bod llawer o gwestiynau ar y cynllun cymorth organig a bwyd organig ar y rhestr gwestiynau ar gyfer heddiw. Mae hynny’n dangos fod Aelodau’r Cynulliad naill ai’n frwd iawn dros gynhyrchu organig neu ddim yn frwd drosto o gwbl. Yr wyf i’n frwd dros gynhyrchu organig ac yr wyf yn gobeithio y bydd y drafodaeth a gawn ar hyn yn profi fod y Cynulliad yn frwd drosto hefyd. Hyd yma yr ydym wedi cael 164 o geisiadau am ymuno â’r cynllun cymorth organig.

Kirsty Williams spoken in English p. 14

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 14

How many of those 164 applications may fall foul of the technical hitch of the administration’s failure to ensure the smooth running of the scheme after 31 December? Are you aware of how much forward planning a farmer needs to do if he is to convert to organic status and that that planning cannot take place if he is unsure about whether the money will be available to deliver help to his business?

Faint o’r 164 o geisiadau hynny all ddioddef oherwydd yr anhap technegol, sef bod y gweinyddwyr wedi methu â sicrhau y bydd y cynllun yn rhedeg yn ddidramgwydd wedi 31 Rhagfyr? A ydych yn ymwybodol faint o gynllunio ymlaen llaw y mae angen i ffermwr ei wneud os ydyw am newid i statws organig ac na all y cynllunio hwnnw ddigwydd os yw’n ansicr a fydd yr arian ar gael i roi cymorth i’w fusnes?

Carwyn Jones spoken in English p. 14

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 14

May I make a point of order on sexist comments?

A gaf wneud pwynt o drefn ar sylwadau rhywiaethol?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 14

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I will take that after questions.

Cymeraf hwnnw ar ôl y cwestiynau.

Christine Gwyther spoken in English p. 14

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 14

To clarify, I have met several female farmers who are interested in organic production and I am sure that Kirsty has also done so. I assure you, Kirsty, that all of the 164 applicants will not fall foul of the difficulties that my department and the Countryside Council for Wales have faced in the administration of the Tir Gofal scheme, as a result of the European Commission’s decision to suspend the making of offers between January and July 2000. We will streamline applications and make sure that they can all be dealt with. We have to do that within the framework of our budget. We have £1 million to spend from 1 October 1999. At the moment applications total more than £2 million. To help overcome this I requested, not the permission, but the blessing of the Agriculture and Rural Development Committee last Wednesday that £350,000, earmarked for the calf processing scheme, could be put into that organic budget. I am pleased to say that the Committee, almost to a man, supported that.

I egluro, yr wyf wedi cyfarfod â sawl ffermwr benywaidd sydd â diddordeb mewn cynhyrchu organig ac yr wyf yn siŵr fod Kirsty wedi hefyd. Yr wyf yn eich sicrhau, Kirsty, na fydd y cyfan o’r 164 o ymgeiswyr yn dioddef oherwydd yr anawsterau a wynebodd fy adran i a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wrth weinyddu’r cynllun Tir Gofal, o ganlyniad i benderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd i ohirio gwneud cynigion rhwng Ionawr a Gorffennaf 2000. Byddwn yn symleiddio ceisiadau ac yn sicrhau y gellir delio â phob un. Rhaid inni wneud hynny o fewn fframwaith ein cyllideb. Mae gennym £1 filiwn i’w gwario o 1 Hydref 1999. Ar hyn o bryd mae cyfanswm y ceisiadau yn fwy na £2 filiwn. I helpu i oresgyn hyn, gofynnais nid am ganiatâd, ond am sêl bendith y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ddydd Mercher diwethaf i roi £350,000, a glustnodwyd ar gyfer y cynllun prosesu lloi, i mewn i’r gyllideb organig honno. Mae’n dda gennyf ddweud i’r Pwyllgor gefnogi hynny, bron hyd y gŵr olaf.

I have more good news. Nick Brown’s organic slush fund, as it is has been called, of £10 million has been announced and Wales will receive an allocation from that. I am not in a position to tell you exactly how much that sum will be but it will be a substantial amount. It will come to the Assembly through the Secretary of State for Wales and it will then be up to the Assembly to determine how it is spent. I would like to put my marker down, but I want that money to go into the organic budget.

Mae gennyf ragor o newyddion da. Cyhoeddwyd cronfa gil-dwrn organig Nick Brown, fel y’i galwyd, o £10 miliwn a bydd Cymru’n derbyn dyraniad o hynny. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud wrthych yn union faint fydd y swm hwnnw ond bydd yn swm sylweddol. Daw i’r Cynulliad drwy law Ysgrifennydd Gwladol Cymru a mater i’r Cynulliad wedyn fydd penderfynu sut y bydd yn cael ei wario. Hoffwn nodi fy awgrymiadau, ond mae arnaf eisiau i’r arian hwnnw fynd i mewn i’r gyllideb organig.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 15

Bydd Christine yn cofio bod y Cynulliad wedi mabwysiadu papur a oedd yn sôn am sicrhau bod 10 y cant o ffermydd yn trosglwyddo i gynhyrchu organig erbyn 2010. Bydd hefyd yn cofio bod y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn ei gyfarfod diwethaf wedi derbyn y ffigur hwnnw fel un i ymgyrraedd ato. A yw hi’n derbyn bod angen buddsoddi o leiaf £3 miliwn y flwyddyn yn y cynllun cymorth organig er mwyn sicrhau bod y nod hwnnw’n cael ei gyrraedd? A fydd hi hefyd yn brwydro am swm sylweddol o’r £10 miliwn a glustnodwyd gan Nick Brown ar gyfer cynhyrchu organig yng Nghymru?

Christine will remember that the Assembly adopted a paper which mentioned ensuring that 10 per cent of farms transfer to organic production by 2010. She will also remember that the Agriculture and Rural Development Committee in its last meeting accepted that figure as a target. Does she accept that there is a need to invest at least £3 million a year in the organic aid scheme to ensure that that aim is achieved? Will she also fight for a substantial amount of the £10 million earmarked by Nick Brown for organic production in Wales?

Christine Gwyther spoken in English p. 15

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 15

The answer to those questions is yes. It has been estimated that up to £3 million a year would be needed to convert Wales to 10 per cent organic food production. That is the aim. As with every aim, it is possibly set higher than we could ever attain. That does not mean that it is unrealistic. It is an aim to which I—and the Committee, I hope—aspire.

Ateb cadarnhaol sydd i’r cwestiynau hynny. Amcangyfrifwyd y byddai angen hyd at £3 miliwn y flwyddyn i drawsnewid Cymru fel bod 10 y cant o’n cynnyrch yn organig. Dyna’r nod. Fel gyda phob nod, o bosibl mae wedi’i osod yn uwch nag y gallem byth ei gyrraedd. Nid yw hynny’n golygu ei fod yn afrealistig. Mae’n nod yr wyf i—a’r Pwyllgor, gobeithio—yn anelu ato.

Treialon ar Gnydau a Addaswyd yn Enetig

GM Crop Trials

Q2 Jocelyn Davies spoken in English p. 16

C2 Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 16

Will Christine Gwyther respond to Friends of the Earth’s legal opinion regarding the Assembly’s authority over genetically modified crop trials in Wales? (OAQ1908JS)

A wnaiff Christine Gwyther ymateb i farn gyfreithiol Cyfeillion y Ddaear ynglŷn ag awdurdod y Cynulliad dros dreialon yng Nghymru ar gnydau a addaswyd yn enetig? (OAQ1908JS)

Christine Gwyther spoken in English p. 16

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 16

I attach the highest importance to ensuring that the appraisal and consent processes for authorising the release of genetically modified organisms provide proper protection for public health and the environment. As I have said before, the policy and legislative framework was agreed between member states of the European Union in the 1990 EC Directive on deliberate release into the environment of GMOs. I welcome the revisions to the environmental risk assessment that have been agreed between member states as the directive is revised. In particular, this will strengthen the consideration of biodiversity consequences. I shall reply to Friends of the Earth Cymru shortly. A copy of my reply will be placed in the Library and on the intranet.

Yr wyf yn rhoi’r pwys mwyaf ar sicrhau fod y prosesau gwerthuso a chydsynio ar gyfer awdurdodi rhyddhau organebau a addaswyd yn enetig yn rhoi gwarchodaeth briodol i iechyd y cyhoedd ac i’r amgylchedd. Fel y dywedais o’r blaen, cytunwyd ar y fframwaith polisi a deddfwriaeth rhwng aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yng Nghyfarwyddeb y CE ar ryddhau organebau a addaswyd yn enetig i’r amgylchedd yn fwriadol, a luniwyd yn 1990. Yr wyf yn croesawu’r diwygiadau i’r asesiad risg amgylcheddol y cytunwyd arnynt rhwng aelod-wladwriaethau wrth i’r gyfarwyddeb gael ei hadolygu. Yn enwedig, bydd hyn yn cryfhau’r ystyriaeth a roddir i ganlyniadau bioamrywiaethol. Byddaf yn anfon ateb i Gyfeillion y Ddaear cyn bo hir. Rhoddir copi o’m hateb yn y Llyfrgell ac ar y fewnrwyd.

Jocelyn Davies spoken in English p. 16

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 16

Do you recall the Assembly voting in favour of a motion calling for a moratorium to control GMOs and the commercial release of GM crops to be implemented in Wales? Can you assure us that the majority view of this Chamber is respected and that the full powers of the Assembly will be used to ensure that Wales remains GM-free in the future, irrespective of the UK Government position?

A ydych yn cofio i’r Cynulliad bleidleisio o blaid cynnig yn galw am weithredu moratoriwm yng Nghymru i reoli organebau a addaswyd yn enetig a rhyddhau cnydau a addaswyd yn enetig yn fasnachol? A allwch chi ein sicrhau ni y perchir barn y mwyafrif yn y Siambr hon ac y defnyddir pwerau llawn y Cynulliad i sicrhau bod Cymru’n parhau’n wlad rydd o fwyd a addaswyd yn enetig yn y dyfodol, beth bynnag fo safiad Llywodraeth y DU?

Christine Gwyther spoken in English p. 16

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 16

I can. We have to determine precisely what those powers are. I am sure that Members have been lobbied on this by Friends of the Earth Cymru. Friends of the Earth Cymru have met with me and have had talks with my officials on this subject. Friends of the Earth Cymru asked that the Assembly request the Advisory Committee on Releases to the Environment, who advise us on GMOs, to state whether it is of the view that there is sufficient information available to the Committee to enable us to advise with confidence that the release of the GMO in question is not capable of causing damage to the Welsh environment or to human health in Wales. That is a specifically worded directive. Our legal people have had a problem with that. They believe that it would be wrong to try to direct scientists, and that scientists would not be able to say categorically that anything, whether genetically modified or otherwise, is not capable of causing damage to the Welsh environment or to human health in Wales. If an application to release a GMO in Wales were received—and I stress that there are no applications at the moment—ACRE would have to carry out a risk assessment of that application. This will be set out in my reply to Friends of the Earth Cymru, which will be placed on the intranet. Perhaps we can come back to this issue in Committee. If Jocelyn wants to contribute to the discussion perhaps she can do so through the Plaid Cymru group. We will discuss the matter again but we cannot direct ACRE to give us advice and then put restraints on that advice.

Gallaf. Mae’n rhaid inni benderfynu beth yn union yw’r pwerau hynny. Yr wyf yn siŵr fod Aelodau wedi cael eu lobïo ar hyn gan Gyfeillion y Ddaear Cymru. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi cyfarfod gyda mi ac wedi siarad gyda’m swyddogion ar y pwnc hwn. Gofynnodd Cyfeillion y Ddaear Cymru i’r Cynulliad ofyn i’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd, sydd yn ein cynghori ni ar organebau a addaswyd yn enetig, i ddatgan a yw o’r farn bod digon o wybodaeth ar gael i’r Pwyllgor i’n galluogi ni i ddweud gyda hyder na all rhyddhau’r organeb a addaswyd yn enetig dan sylw achosi niwed i amgylchedd Cymru nac i iechyd dynol yng Nghymru. Mae hwnnw’n gyfarwyddyd wedi’i eirio’n benodol. Mae ein cyfreithwyr ni wedi cael trafferth gyda hynny. Maent yn credu y byddai’n anghywir ceisio cyfarwyddo gwyddonwyr, ac na fyddai gwyddonwyr yn gallu dweud yn bendant na allai unrhyw beth, boed wedi’i addasu’n enetig ai peidio, achosi niwed i amgylchedd Cymru nac i iechyd dynol yng Nghymru. Pe derbynnid cais i ryddhau organeb a addaswyd yn enetig yng Nghymru—ac yr wyf yn pwysleisio nad oes unrhyw geisiadau ar hyn o bryd—byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd gyflawni asesiad risg ar y cais hwnnw. Caiff hyn ei osod allan yn fy ymateb i Gyfeillion y Ddaear Cymru, a roddir ar y fewnrwyd. Efallai y gallwn ddod yn ôl at y mater hwn yn y Pwyllgor. Os hoffai Jocelyn gyfrannu at y drafodaeth efallai y gall hi wneud hynny drwy grŵp Plaid Cymru. Byddwn yn trafod y mater eto ond ni allwn gyfarwyddo’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd i roi cyngor inni ac wedyn gosod cyfyngiadau ar y cyngor hwnnw.

Cyllid Amcan 1 a 2

Objective 1 and 2 Funding

Q3 Mick Bates spoken in English p. 17

C3 Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 17

What steps are being taken to identify agriculture projects that could benefit from Objective 1 and 2 funding? (OAQ1929JS)

Pa gamau sydd ar droed i nodi prosiectau amaeth a allai elwa o arian Amcan 1 ac Amcan 2? (OAQ1929JS)

Christine Gwyther spoken in English p. 17

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 17

We are constantly on the look-out for good projects which meet the objectives of the agri-food strategy and can either utilise the remaining funding from the current European structural funds programmes or funding from the proposed structural funds programme for 2000-2006. Priority 5 of the single programming document for Objective 1 provides for a wide range of measures which will help agriculture, drawing on consultation with the industry.

Yr ydym yn chwilio o hyd am brosiectau da sydd yn ateb amcanion y strategaeth fwyd-amaeth ac sydd yn gallu defnyddio naill ai cyllid sydd ar ôl o raglenni cronfeydd strwythurol Ewrop cyfredol neu gyllid o’r rhaglen cronfeydd strwythurol arfaethedig ar gyfer 2000-2006. Mae Blaenoriaeth 5 y ddogfen raglennu sengl ar gyfer Amcan 1 yn darparu ar gyfer amrediad eang o fesurau a fydd o gymorth i amaethyddiaeth, a hynny ar sail ymgynghori â’r diwydiant.

While details of future measures are being developed and will be notified to Brussels as part of the programming complement document, the Assembly agriculture department will continue actively to promote Wales as a location for investment in value added processing and other measures to help the industry.

Tra bod manylion mesurau ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu ac yr hysbysir Brwsel amdanynt fel rhan o’r ddogfen ategiad rhaglennu, bydd adran amaeth y Cynulliad yn parhau i fynd ati yn weithredol i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer buddsoddi mewn prosesu ychwanegu gwerth a mesurau eraill i helpu’r diwydiant.

Mick Bates spoken in English p. 18

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 18

We are all aware of the changes that are taking place in the industry. I hoped that you might direct us to a vision of agriculture which could start, for example, with substantial funding for a Welsh mark so that we have a feature of marketing which would give everyone a focus. In view of the lack of direction, to which bodies or body should people turn for advice about European funding so that their projects can come to fruition? At the moment I see no one providing such advice. Where do people turn for advice about projects?

Yr ydym i gyd yn ymwybodol o’r newidiadau sydd yn digwydd yn y diwydiant. Yr oeddwn yn gobeithio y gallech ein cyfeirio at weledigaeth o amaethyddiaeth a allai ddechrau, er enghraifft, gyda chyllid sylweddol ar gyfer marc Cymreig fel bod gennym nodwedd farchnata a fyddai’n rhoi ffocws i bawb. Yn wyneb y diffyg cyfeiriad, at ba gyrff neu gorff y dylai pobl droi am gyngor am arian Ewropeaidd fel y gall eu prosiectau ddwyn ffrwyth? Ar hyn o bryd ni welaf neb yn darparu’r fath gyngor. I ble y bydd pobl yn troi am gyngor ynghylch prosiectau?

Christine Gwyther spoken in English p. 18

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 18

There are local action plans for Objective 1 and these should begin soon for Objective 2. It is incumbent on all local authorities to progress and facilitate those local action plans. That is a first point of contact. The Assembly agriculture department and the agri-food partnership are working progressively with the industry. There are many agencies that want to see rural Wales benefit not only from Objective 2 but also from Objective 1. There are funds set aside in our original single programming document and there is continued interest in this field. It is wrong to say that there is no vision or help out there. I am sure that the organisations with which you are in contact would not want to hear that either.

Mae cynlluniau gweithredu lleol ar gyfer Amcan 1 a dylent ddechrau’n fuan ar gyfer Amcan 2. Mae’n rheidrwydd ar bob awdurdod lleol i hyrwyddo a hwyluso’r cynlluniau gweithredu lleol hyn. Dyna fan cyswllt cyntaf. Mae adran amaeth y Cynulliad a’r bartneriaeth fwyd-amaeth yn gweithio’n flaengar gyda’r diwydiant. Mae llawer o asiantaethau sydd eisiau gweld cefn gwlad Cymru’n elwa nid yn unig o Amcan 2 ond o Amcan 1 hefyd. Mae arian wedi’i neilltuo yn ein dogfen raglennu sengl wreiddiol ac mae diddordeb yn parhau yn y maes hwn. Mae’n anghywir dweud nad oes unrhyw weledigaeth na chymorth ar gael. Yr wyf yn siŵr na fyddai’r cyrff yr ydych mewn cysylltiad â hwy eisiau clywed hynny ychwaith.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Elin Jones spoken in Welsh p. 18

Yn sgîl ailstrwythuro rhanbarthol Milk Marque, a yw’r Ysgrifennydd yn barod i annog asiantaethau megis Awdurdod Datblygu Cymru i drafod gyda Milk Marque a phroseswyr llaeth eraill y posiblilrwydd o ehangu’r gallu i brosesu llaeth yng ngorllewin Cymru a’r posiblilrwydd o ddefnyddio arian Amcan 1 i’r perwyl hwn?

As a result of the regional restructuring of Milk Marque, is the Secretary willing to encourage agencies such as the Welsh Development Agency to discuss with Milk Marque and other milk processors the possibility of expanding the ability to process milk in west Wales and the possibility of using Objective 1 money to that end?

Christine Gwyther spoken in English p. 18

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 18

We come from the same part of the world and this is also close to my heart. I have been in discussions with the Dairy Industry Federation and with some of their individual members and organisations, to promote the interest of processing in west Wales. Part of the money earmarked for the calf processing aid scheme will be used for a dairy prospectus. I hope that this will attract inward investment, and that could be helped by Objective 1 if it is the right sort of project. I am not in a position to comment on that at this stage. It would depend on the project and its viability. Part of the dairy action plan is to increase the use of milk in west Wales for products other than those for which it is currently used—higher value cheeses and yoghurts, for example. A variety of agencies, not least the Assembly, are working on this matter.

Deuwn o’r un rhan o’r byd ac mae hyn yn agos at fy nghalon innau hefyd. Yr wyf wedi bod mewn trafodaethau gyda Ffederasiwn y Diwydiant Llaeth a chyda rhai o’u haelodau a chyrff unigol, i hyrwyddo diddordeb mewn prosesu yng ngorllewin Cymru. Defnyddir rhan o’r arian a glustnodwyd ar gyfer y cynllun cymorth prosesu lloi ar gyfer prosbectws llaeth. Gobeithiaf y gwnaiff hyn ddenu mewnfuddsoddiad, a gallai Amcan 1 helpu hynny os ydyw’n brosiect o’r math iawn. Nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar hynny ar hyn o bryd. Byddai’n dibynnu ar y prosiect a pha mor ymarferol ydyw. Rhan o’r cynllun gweithredu ar laeth yw cynyddu’r defnydd o laeth yng ngorllewin Cymru ar gyfer cynhyrchion ar wahân i’r rhai y’i defnyddir ar eu cyfer ar hyn o bryd—cawsiau a iogyrtiau o werth uwch, er enghraifft. Mae nifer o wahanol asiantaethau, nid yn lleiaf y Cynulliad, yn gweithio ar y mater hwn.

Richard Edwards spoken in English p. 19

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 19

I also agree that processing and marketing projects, which add value to the rural economy, are obvious candidates for receiving structural funds. Are you therefore not disturbed by evidence that some local authorities may be discouraging potential projects by allegedly pursuing other agendas?

Yr wyf innau’n cytuno hefyd fod prosiectau prosesu a marchnata, sydd yn ychwanegu gwerth at yr economi wledig, yn ymgeiswyr amlwg i dderbyn arian strwythurol. Onid yw’n eich poeni felly fod tystiolaeth fod rhai awdurdodau lleol efallai’n peidio â chefnogi darpar brosiectau drwy ddilyn agendâu eraill, yn ôl yr honiadau?

Christine Gwyther spoken in English p. 19

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 19

That is for the Assembly to recognise because the Objective 1 programme is our flagship. It is possible that some local authorities are trying to earmark that money, which should be used for projects that will help create jobs, particularly in our rural areas, for their pet projects. We want to avoid that. If we do not get grassroots support for the Objective 1 programme, it will fail. We do not want decisions to be left to bureaucrats in local authorities. Those decisions should be made by the people. It is part of our job to make damn sure that that happens.

Mater i’r Cynulliad ei gydnabod yw hwnnw oherwydd y rhaglen Amcan 1 yw ein hased flaenaf. Mae’n bosibl fod rhai awdurdodau lleol yn ceisio clustnodi’r arian hwnnw a ddylai gael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a fydd yn helpu i greu gwaith, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig, ar gyfer eu prosiectau personol. Os na chawn gefnogaeth o’r gwraidd i’r rhaglen Amcan 1, bydd yn methu. Nid oes arnom eisiau i benderfyniadau gael eu gadael i fiwrocratiaid mewn awdurdodau lleol. Y bobl ddylai wneud y penderfyniadau hynny. Rhan o’n gwaith ni yw gwneud yn berffaith siŵr fod hynny’n digwydd.

Diwygiadau Cig Eidion Agenda 2000

Agenda 2000 Beef Reforms

Q4 Peter Rogers spoken in English p. 19

C4 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 19

What is being done to ensure that Welsh farmers are adequately prepared for the impact that the Agenda 2000 beef reforms will have on their businesses? (OAQ1897VB)

Beth sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn cael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer effaith diwygiadau cig eidion Agenda 2000 ar eu busnesau? (OAQ1897VB)

Christine Gwyther spoken in English p. 20

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 20

The Heads of Government March 1999 agreement on the common agricultural policy reform component of Agenda 2000 includes compulsory elements that will apply throughout the European Union and some discretionary elements on which member states can decide.

Mae cytundeb Mawrth 1999 gan Benaethiaid y Llywodraethau ar y gydran i ddiwygio’r polisi amaethyddiaeth cyffredin yn Agenda 2000 yn cynnwys elfennau gorfodol a fydd yn weithredol drwy’r Undeb Ewropeaidd a rhai elfennau dewisol y gall aelod-wladwriaethau benderfynu arnynt.

In May 1999, the Welsh Office agriculture department issued an initial consultation paper which set out the compulsory elements and invited comments on how the discretionary elements of Agenda 2000 in the beef sector should be taken forward in Wales. A leaflet summarising the outcome of the Agenda 2000 negotiations was made available to farmers at this year’s Royal Welsh Show. There were further consultations in August. Responses to the consultation exercise and the Agriculture and Rural Development Committee’s views are assisting my officials and I to ensure the best deal for Welsh beef farmers.

Ym mis Mai 1999, cyhoeddodd adran amaeth y Swyddfa Gymreig bapur ymgynghori cyntaf yn amlinellu’r elfennau gorfodol ac yn gwahodd sylwadau ar sut y dylid datblygu elfennau dewisol Agenda 2000 yn y sector cig eidion yng Nghymru. Cafodd taflen yn crynhoi canlyniad trafodaethau Agenda 2000 ei darparu i ffermwyr yn y Sioe Frenhinol eleni. Cafwyd ymgynghori pellach ym mis Awst. Mae’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghori a sylwadau’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn helpu’m swyddogion a mi i sicrhau’r fargen orau i ffermwyr cig eidion Cymru.

Peter Rogers spoken in English p. 20

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 20

Do you agree that the biggest help we can give beef farmers is labelling the meat with its country of origin? The pig industry has been devastated, particularly recently with all the Belgian pig meat that is imported into this country. If consumers knew from where the meat in supermarkets came, and that through buying Welsh or British beef they are buying meat that has been reared in the best conditions with the best animal welfare, that would give them the opportunity to be patriotic and look after our industry in the way that the French, the Germans and the Irish look after their industries.

A ydych yn cytuno mai’r cymorth mwyaf y gallwn ei roi i’n ffermwyr cig eidion yw labelu’r cig gyda’r wlad lle tarddodd? Mae’r diwydiant moch wedi dioddef yn enbyd, yn enwedig yn ddiweddar gyda’r holl gig moch o wlad Belg a fewnforir i’r wlad hon. Petai prynwyr yn gwybod o ble y daw’r cig yn yr archfarchnadoedd, a’u bod trwy brynu cig eidion Cymru neu Brydain yn prynu cig a fagwyd dan yr amodau gorau gan sicrhau lles gorau’r anifeiliaid, byddai hynny’n rhoi’r cyfle iddynt fod yn wladgarol ac edrych ar ôl ein diwydiant yn yr un modd ag y bydd y Ffrancwyr, yr Almaenwyr a’r Gwyddelod yn edrych ar ôl eu diwydiannau hwythau.

Christine Gwyther spoken in English p. 20

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 20

It is incumbent upon any regime to ensure that the househusband or housewife, who is out buying the weekly shop, knows what he or she is buying. That must be done within the European Union’s regulatory framework, but there are ways and means around that. For instance, last night several of us were at a freedom food reception in Cardiff. Freedom food is a means of labelling that enables the purchaser to know what he or she is buying and that the meat has been reared in a welfare-friendly way. I am pleased that you want to promote that. It would be easier for us to regulate labelling for Wales than elsewhere. If we are to do that, it is important that we make the most of our opportunities on mainland Europe by continuing the discussions that Nick Brown, the Minister of Agriculture, Fisheries and Food is having, to ensure that there is country of origin labelling throughout Europe. This will ensure that the most is made of Welsh beef’s very good reputation.

Mae’n rheidrwydd ar unrhyw drefn i sicrhau fod gŵr y tŷ neu’r wraig tŷ, sydd allan yn gwneud y siopa wythnosol, yn gwybod beth mae’n ei brynu. Rhaid gwneud hynny o fewn fframwaith rheoleiddiol yr Undeb Ewropeaidd, ond y mae ffyrdd o amgylch hynny. Er enghraifft, neithiwr yr oedd amryw ohonom mewn derbyniad bwyd rhyddid yng Nghaerdydd. Mae bwyd rhyddid yn fodd o labelu sydd yn galluogi’r prynwr i wybod beth y mae’n ei brynu a bod y cig wedi’i fagu mewn modd sydd yn gofalu am les yr anifail. Yr wyf yn falch eich bod eisiau hyrwyddo hynny. Byddai’n haws i ni reoleiddio labelu dros Gymru na mannau eraill. Os ydym am wneud hynny, mae’n bwysig inni fanteisio hyd yr eithaf ar ein cyfleoedd ar dir mawr Ewrop drwy barhau gyda’r trafodaethau y mae Nick Brown, y Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yn eu cael, i sicrhau y ceir labelu gwlad y tarddiad ledled Ewrop. Bydd hyn yn sicrhau y manteisir i’r eithaf ar enw da iawn cig eidion Cymru.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 21

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 21

I call Carwyn to make his point of order.

Galwaf ar Carwyn i wneud ei bwynt o drefn.

Carwyn Jones spoken in English p. 21

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 21

Under Standing Order No. 7.85 there is an onus on Members not to use discriminatory language. In her question to Christine on forward planning, Kirsty referred to farmers as ‘he’. I am sure that that was an omission on Kirsty’s part but, for those of us who wish to point out that equality of opportunity is as important in agriculture as in any other sphere of Welsh life, that should be corrected.

O dan Reol Sefydlog Rhif 7.85 mae pwysau ar Aelodau i beidio â defnyddio iaith wahaniaethol. Yn ei chwestiwn i Christine ar gynllunio ymlaen llaw, cyfeiriodd Kirsty at ffermwr yn wrywaidd. Yr wyf yn sicr mai gwall ar ran Kirsty oedd hynny, ond i’r rheini ohonom sydd eisiau nodi fod cyfle cyfartal mewn amaethyddiaeth cyn bwysiced ag mewn unrhyw faes arall ym mywyd Cymru, dylid ei gywiro.

Kirsty Williams spoken in English p. 21

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 21

I apologise for offending Carwyn’s sensitivities on this issue. No offence was meant by my referring to farmers as ‘he’. Women’s contribution to the agricultural industry is massive. If you knew much about it, Carwyn, you would know that many women keep family farms going by taking work outside the farm to provide the income that does not come through the farm.

Mae’n ddrwg gennyf am dramgwyddo teimladau Carwyn ar y mater hwn. Ni fwriadwyd unrhyw dramgwydd wrth imi gyfeirio at ffermwr yn wrywaidd. Mae cyfraniad merched i’r diwydiant amaethyddol yn aruthrol. Petaech yn gwybod llawer amdano, Carwyn, byddech yn gwybod fod llawer o wragedd yn cadw ffermydd teulu i fynd drwy gymryd gwaith y tu allan i’r fferm er mwyn darparu’r incwm nad yw’n dod drwy’r fferm.

Nick Bourne spoken in English p. 21

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 21

Further to that point of order, in the interests of equity and balance. Perhaps it escaped Carwyn that in her responses, Christine said that the Committee ‘almost to a man’ supported funds being transferred to the organic budget. If we are going to be condemnatory, we should be so in an even-handed way.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn, er mwyn tegwch a chydbwysedd. Efallai na sylwodd Carwyn i Christine ddweud yn ei hymatebion fod y Pwyllgor ‘bron hyd y gŵr olaf’ wedi cefnogi trosglwyddo arian i’r gyllideb organig. Os ydym am gollfarnu, dylem wneud hynny mewn modd cytbwys.

Christine Gwyther spoken in English p. 22

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 22

It was a man who did not want to put more money into the organic budget.

Gŵr oedd y sawl nad oedd eisiau rhoi mwy o arian i mewn i’r gyllideb organig.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 22

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

I detected a little irony in the way Christine spoke. It might have escaped some Members. This is a serious matter and we have a Protocol on Conduct in the Chamber that condemns discriminatory language and gives my office power to draw attention to it. As I stated on an earlier occasion, I have not done that rigorously and continuously because I do not want to treat this place like a classroom, although some media commentators describe it as such and describe me as a schoolmaster. We are not in that position and, therefore, it is important that we use self-discipline in these matters. I hope that Members will reflect on their form of discourse, perhaps over the coming weekend, so that we can ensure that, at all times, we are seen to be what we say we are—an equal opportunities organisation. [Interruption.] I hope that the head prefect is not playing up.

Synhwyrais ychydig o eironi yn y ffordd y siaradodd Christine. Efallai i rai Aelodau beidio â sylwi ar hynny. Mae hwn yn fater difrifol ac mae gennym Brotocol ar Ymddygiad yn y Siambr, sydd yn condemnio iaith wahaniaethol ac yn rhoi grym i’m swydd i dynnu sylw ati. Fel y dywedais ar achlysur blaenorol, nid wyf wedi gwneud hynny yn llym ac yn barhaus oherwydd nid oes arnaf eisiau trin y lle hwn fel ystafell ddosbarth, er bod rhai o sylwebyddion y cyfryngau’n ei ddisgrifio felly ac yn fy nisgrifio i fel ysgolfeistr. Nid felly y mae hi yma ac, felly, mae’n bwysig ein bod yn arfer hunan-ddisgyblaeth yn y materion hyn. Gobeithiaf y gwnaiff Aelodau fyfyrio ar eu ffordd o siarad, efallai dros y Sul sydd o’n blaenau, fel y gallwn sicrhau ein bod, bob amser, yn ymddangos i fod yr hyn yr honnwn—corff cyfle cyfartal. [Torri ar draws.] Gobeithiaf nad yw’r prif ddisgybl yn camymddwyn.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 22

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

I was just emphasising, sotto voce, the status as cultural icon that was conferred on you last night.

Dim ond pwysleisio oeddwn i, sotto voce, y statws fel eicon diwylliannol a roddwyd i chi neithiwr.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 22

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

I am grateful to the First Secretary for putting that on the record yet again. However, this is a serious matter and we must reflect on our way of referring to each other. We have come a long way from Westminster, but there is still further to go.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Ysgrifennydd am gofnodi hynny eto fyth. Fodd bynnag, mae hwn yn fater difrifol a rhaid inni fyfyrio ar y modd y cyfeiriwn at ein gilydd. Yr ydym wedi dod ffordd bell o San Steffan, ond mae pellter eto i fynd.

Datganiad ar Adeiladu Gorsaf Bŵer yn Rhosgoch

Statement on the Building of a Power Station at Rhosgoch

Rhodri Morgan The Secretary for Economic Development spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 22

I and the First Secretary regret the Secretary of State for Trade and Industry’s decision not to give consent for the building of a 560 megawatt power station at Rhosgoch on Anglesey. This was an exciting project with the potential to give a real economic boost to one of Wales’s most deprived areas. In the light of the Government’s current energy policy, Department of Trade and Industry Ministers have come to their decision based on the moratorium on new gas-fired power stations except in wholly exceptional environmental circumstances.

Yr wyf i a’r Prif Ysgrifennydd yn gresynu at benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwydiant a Masnach i beidio â rhoi cydsyniad i adeiladu gorsaf bŵer 560 megawat yn Rhosgoch ar Ynys Môn. Yr oedd hwn yn brosiect cyffrous gyda’r potensial i roi gwir hwb economaidd i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yng ngoleuni polisi ynni cyfredol y Llywodraeth, gwnaeth Gweinidogion yr Adran Diwydiant a Masnach eu penderfyniad ar sail y moratoriwm ar orsafoedd pŵer llosgi nwy newydd ac eithrio mewn amgylchiadau amgylcheddol cwbl eithriadol.

Despite media reports, this refusal of consent for Burlington Resources (Irish Sea) Limited to build a combined cycle gas-fired power station on Anglesey using sour gas from the Liverpool Bay gas field, does not affect the short to medium-term future of Anglesey Aluminium Metals Limited. The smelter is already well advanced in securing agreement on a favourable electricity supply from Wylfa nuclear power station until 2005. The First Secretary and I visited Anglesey Aluminium and Wylfa power station during the summer to discuss this matter. Therefore we appreciate fully the importance of a secure and favourably priced electricity supply for the aluminium plant and the likely future for Wylfa.

Er gwaethaf adroddiadau yn y cyfryngau, nid yw’r penderfyniad hwn i wrthod caniatâd i Burlington Resources (Irish Sea) Cyfyngedig adeiladu gorsaf bŵer llosgi nwy cylch cyfun ar Ynys Môn gan ddefnyddio nwy sur o faes nwy Bae Lerpwl, yn effeithio ar ddyfodol Alwminiwm Môn Cyfyngedig yn y tymor byr i ganolig. Mae’r smeltiwr eisoes wedi mynd tipyn o ffordd at sicrhau cytundeb ar gyflenwad trydan ffafriol gan orsaf bŵer niwclear yr Wylfa tan 2005. Aeth y Prif Ysgrifennydd a mi i Alwminiwm Môn ac i orsaf bŵer yr Wylfa yn ystod yr haf i drafod y mater hwn. Felly yr ydym yn llawn sylweddoli pwysigrwydd cyflenwad trydan sicr ac am bris ffafriol i’r gwaith alwminiwm, a dyfodol tebygol yr Wylfa.

We must now address what needs to be done to regenerate the deprived economy of north-west Anglesey and, in the medium to longer term, to provide a secure power supply on the island if a decision were made to close Wylfa power station around 2004. The fact that this project has failed to get the go ahead now does not mean that a gas-fired power station will never be built on the site.

Rhaid inni bellach fynd i’r afael â’r hyn sydd angen ei wneud i adfywio economi ddirwasgedig gogledd-orllewin Môn ac, yn y tymor canolig i hir, ddarparu cyflenwad pŵer sicr i’r ynys pe penderfynid cau gorsaf bŵer yr Wylfa tua 2004. Nid yw’r ffaith fod y prosiect hwn wedi methu â chael y golau gwyrdd yn awr yn golygu na chaiff gorsaf bŵer llosgi nwy fyth ei hadeiladu ar y safle.

A number of options provide a way forward. The First Secretary and I will meet key individuals and organisations with interests in Anglesey’s economy to explore what needs to be done in the short and long term to regenerate the island’s economy. We have a number of opportunities to stimulate economic development, in particular via the use of European regional development Objective 1 funding. The First Secretary and I will subsequently seek a meeting with Stephen Byers to discuss the options for the development of the Rhosgoch site and the use of the old Shell pipeline from Anglesey to Liverpool Bay. We will also discuss the future direction of the UK Government’s energy policy as it affects Wales.

Mae nifer o ddewisiadau ar gyfer ffordd ymlaen. Bydd y Prif Ysgrifennydd a mi’n cyfarfod ag unigolion a chyrff allweddol gyda diddordebau yn economi Ynys Môn i archwilio beth sydd angen ei wneud yn y tymor byr a hir i adfywio economi’r ynys. Mae gennym nifer o gyfleoedd i hybu datblygu economaidd, yn enwedig drwy ddefnyddio cyllid Amcan 1 datblygu rhanbarthau Ewrop. Bydd y Prif Ysgrifennydd a mi yn ceisio cyfarfod wedyn gyda Stephen Byers i drafod yr opsiynau ar gyfer datblygu safle Rhosgoch a defnyddio hen bibell Shell o Ynys Môn i Fae Lerpwl. Byddwn hefyd yn trafod cyfeiriad polisi ynni Llywodraeth y DU i’r dyfodol fel y mae’n effeithio ar Gymru.

Peter Rogers spoken in English p. 23

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 23

I welcome your statement, Rhodri, so soon after yesterday’s announcement. I welcome the fact that you acknowledge Ynys Môn as one of the deprived areas of Wales. We have the second highest unemployment figures in Wales, and yesterday’s news is a big body blow to our area. You rightly mentioned that Anglesey Aluminium’s short-term supply until 2005 will safeguard its jobs. The company has a wonderful record as one of the prime employers in the area. You must realise the confidence that this project had given to the rest of Anglesey. The deprived area of Amlwch awaited the development of a gas-fired power station following much talk of gas in the sea. The area wanted the spin-offs and jobs that would be created as a result. One major player in an area builds confidence and entices others to invest in that area. This is a body blow and I would like you to note the seriousness of the situation and make swift progress.

Yr wyf yn croesawu’ch datganiad, Rhodri, mor fuan ar ôl cyhoeddiad ddoe. Yr wyf yn croesawu’r ffaith eich bod yn cydnabod Ynys Môn fel un o ardaloedd difreintiedig Cymru. Mae gennym y ffigurau diweithdra uchaf ond un yng Nghymru, ac mae newyddion ddoe’n ergyd drom i’n hardal. Dywedasoch yn gywir y bydd cyflenwad tymor byr Alwminiwm Môn tan 2005 yn diogelu ei swyddi. Mae gan y cwmni record wych fel un o brif gyflogwyr yr ardal. Rhaid ichi sylweddoli’r hyder yr oedd y prosiect hwn wedi’i roi i weddill Ynys Môn. Yr oedd ardal ddifreintiedig Amlwch yn disgwyl am ddatblygiad gorsaf bŵer llosgi nwy ar ôl cymaint o sôn am nwy yn y môr. Yr oedd yr ardal eisiau’r manteision a’r swyddi a fyddai’n deillio o’r datblygiad. Mae cael un cwmni mawr mewn ardal yn adeiladu hyder ac yn denu eraill i fuddsoddi yn yr ardal honno. Mae hon yn ergyd drom a hoffwn i chi nodi difrifoldeb y sefyllfa a sicrhau cynnydd buan.

Rhodri Morgan spoken in English p. 24

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 24

I do not disagree with anything that you have said, Peter. Communities such as Holyhead, Amlwch and Cemaes Bay in the northern half of Anglesey depend on employment at Wylfa power station and Anglesey Aluminium. This situation must be a serious blow to them. It would have been far worse a year ago because at that time the prospect of a reasonably priced electricity supply for Anglesey Aluminium did not seem possible. That slot in the market was going to be filled by Burlington Resources and the competing project that subsequently dropped out. The threat is diminished partly by the fact that the contract for a reasonably priced electricity supply until 2005 to Anglesey Aluminium from British Nuclear Fuels plc and Wylfa, as one of its power stations, has almost been achieved. The refusal of consent is, therefore, not a threat to the viability of Anglesey Aluminium.

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth yr ydych wedi’i ddweud, Peter. Mae cymunedau fel Caergybi, Amlwch a Chemais yn hanner gogleddol Ynys Môn yn dibynnu ar gyflogaeth yn atomfa’r Wylfa ac Alwminiwm Môn. Rhaid bod y sefyllfa hon yn ergyd ddifrifol iddynt hwy. Byddai wedi bod yn llawer gwaeth flwyddyn yn ôl oherwydd bryd hynny nid oedd yn ymddangos yn bosibl y gellid cael cyflenwad trydan am bris rhesymol i Alwminiwm Môn. Yr oedd y bwlch hwnnw yn y farchnad yn mynd i gael ei lenwi gan Burlington Resources a’r prosiect a oedd yn cystadlu yn ei erbyn ac a gwympodd o’r neilltu wedyn. Mae’r bygythiad wedi’i liniaru yn rhannol gan y ffaith fod contract bron wedi’i sicrhau am gyflenwad trydan rhesymol ei bris tan 2005 i Alwminiwm Môn gan Danwydd Niwclear Prydain ccc a’r Wylfa, fel un o’i orsafoedd pŵer. Nid yw gwrthod caniatâd, felly, yn fygythiad i einioes Alwminiwm Môn.

However, I concur with your reference to a missed opportunity. Ensuring consent for the project would have been a boost, and the prospect of cheaper electricity would have helped to attract other firms to the area. Great Lakes Chemical Corporation at Amlwch, or Associated Octel as it is known by many of Anglesey’s older residents, would also have benefited from cheaper electricity and other firms might have been expected to move in as a result. That may still happen because an empty oil pipeline, which used to run eastwards towards Stanlow and which can now run westwards from the gas fields to the Rhosgoch site, is still available to carry the feed stock from the Liverpool Bay gas fields to the proposed gas-fired power station site. That can be reassessed once we have sufficiently proved the case to overcome the moratorium or when the moratorium is brought to an end.

Fodd bynnag, yr wyf yn cyd-fynd â’ch cyfeiriad at golli cyfle. Buasai sicrhau caniatâd i’r prosiect wedi bod yn hwb, a byddai’r posiblilrwydd o drydan rhatach wedi helpu i ddenu cwmnïau eraill i’r ardal. Byddai Great Lakes Chemical Corporation yn Amlwch, neu Associated Octel fel y’i hadwaenir gan lawer o drigolion hŷn Ynys Môn, hefyd wedi elwa ar drydan rhatach a gellid bod wedi disgwyl i gwmnïau eraill symud i mewn o ganlyniad. Gallai hynny ddigwydd o hyd gan fod pibell olew wag, a arferai redeg i’r dwyrain tuag at Stanlow ac a all yn awr redeg i’r gorllewin o’r meysydd nwy i safle Rhosgoch, yn dal ar gael i gario’r stoc crai o feysydd nwy Bae Lerpwl i safle’r orsaf bŵer llosgi nwy arfaethedig. Gellir ailasesu hynny unwaith y byddwn wedi profi’r achos yn ddigonol dros wrthdroi’r moratoriwm neu pan ddeuir â’r moratoriwm i ben.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 25

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 25

I thank Rhodri for his statement. However, does he understand the deep sense of frustration and disappointment in Anglesey resulting from Stephen Byers’s decision? It was an unexpected decision following indications of a robust project. The project had a good economic basis and a good combined heat and power component. Does he accept that people are frustrated at this decision? Does he also understand that they view it in the context of the decision made some months ago to allow the Baglan Bay project to go ahead? That scheme seemed, to all concerned, to be on four square with this application. Does Rhodri understand that there is anger because this project had given a substantial boost to a part of Anglesey which has suffered from high unemployment? Although Rhodri says that there is a short to medium-term contract to secure the future of Anglesey Aluminium, a 15-year contract is needed to secure its long-term viability. Will he pledge that he and the First Secretary will give full support to the local community as we rebuild a fragile economy and do everything we can to ensure that the Rhosgoch site develops as an energy park for north-west Wales?

Diolch i Rhodri am ei ddatganiad. Fodd bynnag, a ydyw’n deall y teimlad dwfn o rwystredigaeth a siom yn Ynys Môn yn sgîl penderfyniad Stephen Byers? Yr oedd yn benderfyniad annisgwyl yn dilyn arwyddion y ceid prosiect cryf. Yr oedd sail economaidd dda i’r prosiect a chydran wres a phŵer gyfun dda. A ydyw’n derbyn fod pobl yn rhwystredig gyda’r penderfyniad hwn? A ydyw’n deall hefyd eu bod yn ei weld yng nghyd-destun y penderfyniad a wnaethpwyd rai misoedd yn ôl i ganiatáu i brosiect Bae Baglan fynd yn ei flaen? Ymddangosai’r cynllun hwnnw i bawb a oedd yn ymwneud ag ef, yn gwbl gydradd â’r cais hwn. A yw Rhodri’n deall fod dicter oherwydd i’r prosiect hwn roi hwb sylweddol i ran o Ynys Môn a ddioddefodd o ddiweithdra uchel? Er bod Rhodri’n dweud fod contract tymor byr i ganolig i sicrhau dyfodol Alwminiwm Môn, mae angen contract 15-mlynedd i sicrhau ei hyfywdra tymor hir. A wnaiff Rhodri addo y gwnaiff ef a’r Prif Ysgrifennydd roi cefnogaeth lawn i’r gymuned leol wrth inni ailadeiladu economi fregus a gwneud popeth a allwn i sicrhau fod safle Rhosgoch yn datblygu’n barc ynni i ogledd-orllewin Cymru?

Rhodri Morgan spoken in English p. 25

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 25

I agree with most of what you said except, perhaps, for the direct comparison that you made between Baglan and Rhosgoch. I am not certain about that because I have not seen the figures. Perhaps it would be wise for me to restate that this is not a devolved issue. This remains plainly within the responsibility of the Department of Trade and Industry and, therefore, I have not seen the figures. What I know of the figures indicates that the hurdles that must be overcome for a lifting of the moratorium are high. Baglan managed to overcome those hurdles, but the Rhosgoch site did not. I agree that re-using an existing redundant oil pipeline gives it an added environmental benefit. The fact that it is sour gas, which would not go into the normal gas supply, is also an added environmental benefit. However, in terms of the exact amount of heat recovery that will go to Great Lakes Chemical Corporation, would that be the same as what is proposed to be achieved at Baglan? My understanding is that it would not. The project was almost there, but it could not overcome those hurdles. It is not a completely comparable case. I agree with Ieuan that the north-west half of Anglesey is undoubtedly among the most economically deprived areas of Wales, if not the most deprived area in Wales. We must all, therefore, bend our efforts to ensure that any viable project which receives the Government’s consent is given a fair chance to help regenerate and boost a deprived area.

Yr wyf yn cytuno â’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywedsoch, ac eithrio, efallai, am y gymhariaeth uniongyrchol a wnaethoch rhwng Baglan a Rhosgoch. Nid wyf yn sicr ynglŷn â hynny oherwydd nid wyf wedi gweld y ffigurau. Efallai y byddai’n ddoeth imi ailddatgan nad mater datganoledig yw hwn. Mae hyn yn aros yn glir o fewn cyfrifoldeb yr Adran Diwydiant a Masnach ac, felly, nid wyf wedi gweld y ffigurau. Mae’r hyn a wn am y ffigurau yn awgrymu bod y clwydi y mae’n rhaid eu goresgyn i godi’r moratoriwm yn uchel. Llwyddodd Baglan i oresgyn y rhwystrau hyn, ond ni lwyddodd safle Rhosgoch. Yr wyf yn cytuno fod ailddefnyddio pibell olew sydd yn segur ar hyn o bryd yn rhoi mantais amgylcheddol ychwanegol iddo. Mae’r ffaith mai nwy sur ydyw, na fyddai’n mynd i mewn i’r cyflenwad nwy arferol, yn fantais amgylcheddol ychwanegol hefyd. Fodd bynnag, yn nhermau’r union faint o adferiad gwres a aiff i’r Great Lakes Chemical Corporation, a fyddai hynny yr un fath â’r hyn y cynigir y gellir ei gyflawni ym Maglan? Fy nealltwriaeth i yw na fyddai. Yr oedd y prosiect ar fin dod i ben, ond ni allai oresgyn y rhwystrau hynny. Ni ellir cymharu’r achos yn llawn. Cytunaf gyda Ieuan fod hanner gogledd-orllewinol Ynys Môn heb os ymhlith ardaloedd mwyaf economaidd ddifreintiedig Cymru, os nad yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rhaid inni i gyd, felly, gyfeirio’n hymdrechion i sicrhau y rhoddir cyfle teg i unrhyw brosiect hyfyw a gaiff gydsyniad y Llywodraeth i helpu i adfywio a hybu ardal ddifreintiedig.

Alun Cairns spoken in English p. 26

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 26

I welcome many of your comments. However, it seems that this may yet be another example of double standards. The Baglan Bay energy plant was given the go-ahead a few weeks before the Assembly elections, and the Anglesey project has now been prevented in the comforting knowledge that the General Election is two years away and the Assembly elections are three and a half years away.

Croesawaf lawer o’ch sylwadau. Fodd bynnag, mae’n ymddangos y gallai hyn eto fod yn enghraifft arall o safonau dwbl. Rhoddwyd y golau gwyrdd i waith ynni Bae Baglan ychydig o wythnosau cyn etholiadau’r Cynulliad, ac mae prosiect Ynys Môn yn awr wedi’i rwystro yn y wybodaeth gysurlon fod yr Etholiad Cyffredinol ddwy flynedd i ffwrdd ac etholiadau’r Cynulliad dair blynedd a hanner i ffwrdd.

Rhodri Morgan spoken in English p. 26

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 26

It is sheer coincidence that I visited the Baglan energy park site this morning. I am reasonably well briefed on that. However, I am not so well briefed on the Rhosgoch site in terms of the actual energy recovery within it. I know the figures for Baglan and perhaps I should have mentioned them in my answer to the previous question. It is estimated that the energy efficiency of the Baglan power station will be 70 per cent. That is the heat loss or energy loss that occurs as the gas is converted into electricity, taking into account that it is a combined cycle and that it is combined heat and power. There is also the sale of the heat and certain other elements to the proposed industries in the energy park.

Cyd-ddigwyddiad pur yw fy mod wedi ymweld â safle parc ynni Baglan y bore yma. Yr wyf yn eithaf gwybodus am hwnnw. Fodd bynnag, nid wyf mor wybodus am safle Rhosgoch yn nhermau yr union adferiad ynni o fewn iddo. Yr wyf yn gwybod y ffigurau ar gyfer Baglan ac efallai y dylswn fod wedi eu crybwyll yn fy ateb i’r cwestiwn blaenorol. Amcangyfrifir y bydd effeithlonrwydd ynni gorsaf bŵer Baglan yn 70 y cant. Dyna’r golled wres neu’r golled ynni sydd yn digwydd wrth i’r nwy gael ei droi’n drydan, gan ystyried mai cylch cyfun ydyw a’i fod yn gyfuniad o wres a phŵer. Ceir hefyd werthu’r gwres a rhai elfennau eraill i’r diwydiannau arfaethedig yn y parc ynni.

The principle of that is that if the Rhosgoch development was able to reach 70 per cent one would expect it to get planning consent pari passu with Baglan. As I am not the Minister who took this decision—it was a Department of Trade and Industry decision—I cannot tell you at this stage whether the Rhosgoch site had a 70 per cent figure or higher. I imagine that it did not, but I cannot guarantee that. If we can get the information from the DTI, I will supply it to those who have raised these matters this afternoon.

Yr egwyddor y tu ôl i hynny yw pe gallai datblygiad Rhosgoch gyrraedd 70 y cant byddai disgwyl iddo gael caniatâd cynllunio pari passu â Baglan. Gan nad fi yw’r Gweinidog a wnaeth y penderfyniad hwn—penderfyniad yr Adran Diwydiant a Masnach ydoedd—ni allaf ddweud wrthych ar hyn o bryd a oedd ffigur safle Rhosgoch yn 70 y cant neu’n uwch. Yr wyf yn dychmygu nad oedd gyfuwch, ond ni allaf warantu hynny. Os gallwn gael gwybodaeth gan yr Adran Diwydiant a Masnach, fe’i rhoddaf i’r rhai a gododd y materion hyn y prynhawn yma.

Rheoliadau Plaleiddiaid Cydgyfnerthedig

Consolidated Pesticide Regulations

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 27

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 27

I propose that

Cynigiaf fod

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development (continued) spoken in English p. 27

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 27

In accordance with Standing Order No. 22.31, a Welsh translation will be available once these regulations have been made. They are being made under section 2(2) of the European Communities Act 1972 and section 16 of the Food and Environment Protection Act 1985. In the case of England and Wales, the power mentioned under section 2(2) of the European Communities Act is being exercised by the Minister of Agriculture, Fisheries and Food. The Assembly will shortly be designated to jointly exercise this function with the Minister, but the effect will remain unchanged. The Assembly must act jointly with the Minister of Agriculture, Fisheries and Food and the Secretary of State for Health in exercising the power to make regulations under section 16(2) of the Food and Environment Protection Act 1985.

Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 22.31, bydd cyfieithiad Cymraeg ar gael yn syth wedi i’r rheoliadau hyn gael eu gwneud. Fe’u gwneir dan adran 2(2) Deddf Cymunedau Ewrop 1972 ac adran 16 Deddf Gwarchod Bwyd a’r Amgylchedd 1985. Yn achos Lloegr a Chymru, arferir y grym a grybwyllir dan adran 2(2) Deddf Cymunedau Ewrop gan y Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Caiff y Cynulliad ei benodi cyn bo hir i weithredu’r swyddogaeth hon ar y cyd â’r Gweinidog, ond bydd yr effaith yn aros yr un fath. Rhaid i’r Cynulliad weithredu ar y cyd â’r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wrth arfer y grym i wneud rheoliadau dan adran 16(2) Deddf Gwarchod Bwyd a’r Amgylchedd 1985.

A maximum residue level is the maximum amount of a pesticide expected to be found in a product if the pesticide has been correctly applied to a crop. MRLs are always set at a lower level than that necessary for human health and safety purposes and are, therefore, cautious levels. Exceeding an MRL would not necessarily present a danger to health. Statutory MRLs benefit the consumer by providing a clear mechanism to ensure that pesticide residues are at safe levels and that the rules on pesticide approvals can be effectively and legally enforced.

Lefel uchaf gwaddodion yw’r lefel uchaf o blaleiddiad y disgwylir ei ganfod mewn cynnyrch os defnyddiwyd y plaleiddiad ar y cnwd yn gywir. Gosodir y lefel uchaf gwaddodion bob amser yn is na’r hyn sydd yn angenrheidiol i ddibenion iechyd a diogelwch dynol ac maent, felly, yn lefelau gofalus. Ni fyddai mynd dros y lefel o reidrwydd yn peryglu iechyd. Mae lefelau uchaf o waddodion statudol yn rhoi mantais i’r defnyddiwr drwy ddarparu peirianwaith clir i sicrhau fod gwaddodion plaleiddiaid ar lefelau diogel ac y gellir gorfodi’r rheolau ar gymeradwyo plaleiddiaid yn effeithiol a chyfreithiol.

The main purpose of these regulations is to consolidate the Pesticides (Maximum Residue Levels in Crops, Food and Feeding Stuffs) Regulations 1994 and the five subsequent amendments to those regulations. They establish maximum residue levels for pesticide residues in and on fruits and vegetables, cereals, foodstuffs of animal origin and processed and composite foodstuffs. Combining MRLs in a single regulation will make the rules more transparent and the legislation clearer and easier to use. Consultations are being carried out with a wide range of industry, consumer and other bodies and there is general support for the consolidation of these regulations.

Prif bwrpas y rheoliadau hyn yw cydgyfnerthu’r Rheoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf o Waddodion mewn Cnydau, Bwyd a Phorthiant) 1994 a’r pum gwelliant wedi hynny i’r rheoliadau hynny. Maent yn sefydlu lefelau uchaf o waddodion ar gyfer gwaddodion plaleiddiaid mewn ac ar ffrwythau a llysiau, grawnfwydydd, bwydydd sydd yn tarddu o anifeiliaid a bwydydd wedi’u prosesu a bwydydd cyfansawdd. Bydd cyfuno’r lefelau uchaf o waddodion mewn un rheoliad yn gwneud y rheolau’n gliriach a’r ddeddfwriaeth yn eglurach ac yn haws ei defnyddio. Mae ymgynghori’n digwydd gydag amrediad eang o gyrff diwydiant, defnyddwyr ac eraill ac mae cefnogaeth gyffredinol i gydgyfnerthu’r rheoliadau hyn.

These proposed regulations also introduce new MRLs for the active ingredient azoxystrobin, which are set out in the EC Directive 1999/71/EC. Azoxystrobin is a new fungicide approved for use in winter and spring wheat and barley. It is used to treat diseases such as powdery mildew and brown rust. The European Commission has directed member states to introduce the MRL for azoxystrobin by 31 January 2000. Failure to implement the MRL within this timescale will breach the UK’s Treaty of Rome obligations. As azoxystrobin is a new fungicide we must give that careful weight when discussing its MRL.

Mae’r rheoliadau arfaethedig hyn hefyd yn cyflwyno lefelau uchaf o waddodion newydd ar gyfer y cynhwysyn gweithredol azoxystrobin, a amlinellir yng Nghyfarwyddeb 1999/71/EC y CE. Ffwngleiddiad newydd yw azoxystrobin sydd wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio mewn gwenith a barlys gaeaf a gwanwyn. Fe’i defnyddir i drin clefydau fel llwydni blodiog a’r gawod goch. Cyfarwyddodd y Comisiwn Ewropeaidd yr aelod-wladwriaethau i gyflwyno’r lefel uchaf o waddodion newydd ar gyfer azoxystrobin erbyn 31 Ionawr 2000. Bydd methu â gweithredu’r lefel uchaf o waddodion o fewn yr amser hwn yn mynd yn groes i ddyletswyddau’r DU dan Gytundeb Rhufain. Gan mai ffwngleiddiad newydd yw azoxystrobin rhaid inni roi pwys arbennig i hynny wrth drafod ei lefel uchaf o waddodion.

The setting of maximum residue levels is an extension of the pesticide approval arrangements. It is a condition of EC plant protection products directives that new pesticide proposals should not be issued by member states unless the corresponding MRL has been established.

Mae pennu lefelau uchaf o waddodion yn estyniad i’r trefniadau cymeradwyo plaleiddiaid. Un o amodau cyfarwyddebau cynhyrchion gwarchod planhigion y Comisiwn Ewropeaidd yw na ddylai cynigion ar gyfer plaleiddiaid newydd gael eu cyhoeddi gan aelod-wladwriaethau hyd nes bo’r lefel uchaf o waddodion cyfatebol wedi’i sefydlu.

The regulations are enforced through a Government surveillance programme overseen by the Working Party on Pesticide Residues. The working party advises Government departments on the scope and nature of the monitoring work that should be undertaken. It considers the results of surveys of raw and processed foods, animal feeds, human tissue and studies of pesticide residues, their toxic derivatives in the total diet and in particular foodstuffs, to determine whether there is a risk from the pesticides concerned.

Sicrheir ufudd-dod i’r rheoliadau drwy raglen wyliadwriaeth gan y Llywodraeth a oruchwylir gan y Gweithgor ar Waddodion Plaleiddiaid. Bydd y gweithgor yn cynghori adrannau’r Llywodraeth ar faint a natur y gwaith monitro y dylid ei wneud. Mae’n ystyried canlyniadau arolygon o fwydydd amrwd ac wedi’u prosesu, porthiant anifeiliaid, meinwe ddynol ac astudiaethau o waddodion plaleiddiaid, y gwenwyn sydd yn deillio ohonynt yn y deiet llawn ac mewn rhai bwydydd arbennig, er mwyn penderfynu a oes risg gan y plaleiddiaid dan sylw.

The working party also reviews information relating to levels of the active ingredients of pesticides and biocides and their toxicological significance to humans, domestic animals and the environment. It then advises on its findings. The working party reports to the Advisory Committee on Pesticides and the Steering Group on Chemical Aspects of Food Surveillance.

Mae’r gweithgor hefyd yn adolygu gwybodaeth ynglŷn â lefelau cynhwysion gweithredol plaleiddiaid a bioleiddiaid a’u harwyddocâd gwenwynolegol i fodau dynol, anifeiliaid domestig a’r amgylchedd. Wedyn bydd yn cynghori ar sail ei ganfyddiadau. Bydd y gweithgor yn adrodd i’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Blaleiddiaid a’r Grŵp Llywio ar Agweddau Cemegol ar Wyliadwriaeth Bwyd.

The Advisory Committee on Pesticides advises the Assembly and the UK Government. It is an independent statutory body of scientific experts, who are of the highest calibre in their specialist disciplines. The committee advises the Assembly and Ministers on all matters that relate to the regulation and approval of pesticides and oversees and scrutinises the work done on this throughout the UK.

Mae’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Blaleiddiaid yn cynghori’r Cynulliad a Llywodraeth y DU. Mae’n gorff statudol annibynnol o arbenigwyr gwyddonol, sydd o’r safon uchaf yn eu disgyblaethau arbenigol. Mae’r pwyllgor yn cynghori’r Cynulliad a’r Gweinidogion ar bob mater sydd yn ymwneud â rheoleiddio a chymeradwyo plaleiddiaid ac yn goruchwylio ac yn archwilio’r gwaith a wneir ar hyn drwy’r DU gyfan.

The regulatory regime is robust throughout the UK. It is monitored carefully and enforced rigorously. The primary concern is for the safety of human health and the environment. Pesticides are not approved for use unless they are shown to be safe for people and the environment. Inevitably, there are misuses and abuses of pesticides. The maximum residue level system ensures that a cautious benchmark, which can be enforced and closely monitored throughout the food chain supply, is evident.

Mae’r drefn reoleiddio’n gryf ledled y DU. Caiff ei monitro’n ofalus a’i gweithredu’n llym. Y prif gonsyrn yw diogelwch iechyd cyhoeddus a’r amgylchedd. Ni chymeradwyir plaleiddiaid i’w defnyddio oni ddangosir eu bod yn ddiogel i bobl ac i’r amgylchedd. Yn anochel, ceir achosion o gamddefnyddio plaleiddiaid. Mae’r system lefelau gwaddodion uchaf yn sicrhau fod meincnod gofalus, y gellir ei orfodi a’i fonitro’n agos drwy’r gadwyn fwyd gyfan, yn weladwy.

The UK Government and we have made it clear that we will enforce this regime without fear or favour. We will continue to reveal the results of the surveillance programme and take action against anyone who is found growing or selling produce that contains residues above the approved levels.

Mae Llywodraeth y DU a ni wedi datgan yn glir y byddwn yn gorfodi’r drefn hon heb ofn na ffafr. Byddwn yn parhau i ddatgelu canlyniadau’r rhaglen wyliadwriaeth ac yn gweithredu yn erbyn unrhyw un a ganfyddir yn tyfu neu’n gwerthu cynnyrch sydd yn cynnwys gwaddodion uwchlaw’r lefelau a gymeradwywyd.

I emphasis the importance of the residues regime and its value to consumers. Most of this legislation is already in place. I want us to consolidate it today, to make the system clearer and easier to use. Therefore I commend this legislation for the Assembly’s approval. This may not be a sexy topic to discuss, but I want to hear what people think about it before I close, therefore I look forward to a healthy debate.

Yr wyf yn pwysleisio pwysigrwydd y drefn waddodion a’i gwerth i ddefnyddwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth hon yn ei lle’n barod. Mae arnaf fi eisiau inni ei chydgyfnerthu heddiw, i wneud y system yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Felly cymeradwyaf y ddeddfwriaeth hon i’r Cynulliad. Efallai nad yw hwn yn bwnc rhywiol i’w drafod, ond mae arnaf eisiau clywed beth mae pobl yn ei feddwl amdano cyn imi gau, felly edrychaf ymlaen at ddadl iach.

Peter Rogers spoken in English p. 30

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 30

The Conservatives support this motion, but I want to draw attention to a few points.

Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r cynnig hwn, ond hoffwn dynnu sylw at bwynt neu ddau.

Pesticides enable us to be amongst the best and most efficient agricultural producers in the world and thus to compete successfully in the world marketplace. The best way of lowering pesticide use is through education about farming practices such as the integrated crop management system. We need crop husbandry practices that conserve nutrients and reduce pest disease and weed attack. It is absurd that licenses for certain chemicals are withdrawn in this country, yet food is grown abroad using those same chemicals and imported back into this country. Supermarkets apply one set of standards to British farmers and another to their own profits. We need a level playing field for our farmers.

Mae plaleiddiaid yn ein galluogi i fod ymhlith y cynhyrchwyr amaethyddol gorau a mwyaf effeithlon yn y byd, ac felly i gystadlu’n llwyddiannus ym marchnad y byd. Y ffordd orau i leihau’r defnydd o blaleiddiaid yw drwy addysg am arferion ffermio fel y system reoli cnydau integredig. Mae arnom angen arferion hwsmonaeth cnydau sydd yn cadw maethynnau ac yn lleihau clefydau gan blaon ac ymosodiadau gan chwyn. Mae’n hurt fod trwyddedau ar gyfer rhai cemegau’n cael eu gwrthod yn y wlad hon, tra bod bwyd yn cael ei dyfu dramor gan ddefnyddio’r un cemegau hynny ac yn cael ei fewnforio i’r wlad hon. Mae uwchfarchnadoedd yn gosod un set o safonau i ffermwyr Prydain ac un arall i’w helw eu hunain. Mae arnom angen maes chwarae gwastad i’n ffermwyr.

There has been much media attention given to pesticide usage during the past year, whether for fruit and vegetables or in sheep dips. Farmers are not chemists. They hope the Government will licence those products, which they see fit. They use pesticides diligently in the belief that there will be no adverse affects to their health. That must continue. The key to a reduction of inputs of pesticides is to reduce the need for them. Technology such as expensive, high-tech spray equipment that delivers accurate pesticides as and where they are needed in the field, giving a worthwhile reduction in pesticides, plays an important part in this. Farmers prefer to use as few pesticides as possible. They want a balance between environmental issues and their own safety. The amount of pesticides used on sheep has declined significantly without benefit to the environment or to the animals. There is no doubt that some of the prices that have been charged for training to use sheep dips have had an effect there. The fact that the industry is consumer-led is fine, but that should not cause animals to suffer.

Bu llawer o sôn yn y cyfryngau am y defnydd o blaleiddiaid yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, boed ar gyfer ffrwythau a llysiau neu mewn trochdrwythi defaid. Nid fferyllwyr yw ffermwyr. Maent yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn trwyddedu’r cynhyrchion hynny sydd yn briodol yn eu barn hwy. Defnyddiant blaleiddiaid yn ffyddlon yn y gred na fydd unrhyw effeithiau andwyol i’w hiechyd. Rhaid i hynny barhau. Yr allwedd i leihau’r defnydd o blaleiddiaid yw lleihau’r angen amdanynt. Mae technoleg megis offer chwistrellu uwch-dechnolegol drud sydd yn dosbarthu plaleiddiaid cywir pryd a lle mae eu hangen yn y maes, gan roi lleihad buddiol mewn plaleiddiaid, yn chwarae rhan bwysig yn hyn. Mae’n well gan ffermwyr ddefnyddio cyn lleied o blaleiddiaid ag sydd yn bosibl. Maent eisiau cydbwysedd rhwng materion amgylcheddol a’u diogelwch eu hunain. Bu lleihad sylweddol yn y plaleiddiaid a ddefnyddir ar ddefaid, a hynny heb fudd i’r amgylchedd nac i’r anifeiliaid. Nid oes amheuaeth nad yw rhai o’r prisiau a godir am hyfforddi i ddefnyddio trochdrwythi defaid wedi cael effaith yna. Mae’n iawn i’r diwydiant gael ei arwain gan y defnyddiwr, ond ni ddylai hynny achosi i anifeiliaid ddioddef.

The bottom line is that we need a balance between human well-being and that of the environment. There is another concern that this could be a means to introduce a pesticide tax by the back door. Our farmers are in a desperate state and that is the last thing they need. The argument that a pesticide tax would benefit the environment is flawed because farmers would then look to cheaper and more damaging chemicals. Let us have common sense for our farmers for once.

Yn sylfaenol, mae arnom angen cydbwysedd rhwng lles pobl a lles yr amgylchedd. Mae pryder arall y gallai hyn fod yn fodd i gyflwyno treth ar blaleiddiaid drwy’r drws cefn. Mae ein ffermwyr mewn cyflwr enbydus a dyma’r peth olaf sydd ei angen arnynt. Mae’r ddadl y byddai treth plaleiddiaid o fudd i’r amgylchedd yn wallus oherwydd byddai mwy o ffermwyr wedyn yn edrych at gemegau rhatach a mwy niweidiol. Gadewch inni gael synnwyr cyffredin ar ran ein ffermwyr am unwaith.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 32

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 32

Mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu’r rheoliadau hyn. Yn gyffredinol yr ydym yn cydnabod yr angen am rai plaleiddiaid. Mae tri math gwahanol ohonynt. Defnyddir rhai plaleiddiaid ar ffrwythau a llysiau, rhai i reoli heintiau ar anifeiliaid megis defaid a rhai i ladd chwyn. Derbyniwn fod angen amrywiaeth o blaleiddiaid er mwyn i amaethwyr reoli eu cynnyrch yn effeithiol.

Plaid Cymru also welcomes these regulations. Generally, we recognise the need for some pesticides. There are three different types. Some pesticides are used on fruit and vegetables, some are used to control disease on animals such as sheep and some are used as weedkillers. We accept that there is a need for a variety of pesticides so that farmers can control their produce effectively.

Mae hi’n bwysig fod y cemegau yn ddiogel i’r rhai sydd yn eu defnyddio. Gwyddom, er enghraifft, am y camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol gyda throchdrwythi defaid organoffosffad. Rhaid i’r cemegau fod yn ddiogel i’r amgylchedd ac yn dderbyniol i’r defnyddiwr. Cytunwn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw arwain yn y mater hwn a sicrhau diogelwch. Rhannaf ofid Peter ynglŷn â’r posiblilrwydd o godi treth ar blaleiddiaid. Gall hyn fod yn faich ychwanegol ar ddiwydiant sydd eisoes o dan bwysau ariannol.

It is important that the chemicals are safe for those who use them. We know, for example, about the mistakes that have been made in the past regarding organophosphate sheep dips. The chemicals must be safe for the environment and acceptable to the consumer. We agree that it is the Government’s responsibility to take a lead on this matter and to assure safety. I share Peter’s concern about the possibility of raising a tax on pesticides. This could be an extra burden on an industry which is already under financial strain.

Yn gyffredinol, croesawn a chefnogwn yr argymhellion sydd yn y rheoliadau. Mae’n fater o gydbwyso rhwng galluogi’r ffermwr i barhau â’i waith neu â’i gwaith a sicrhau ein bod yn diogelu’r ffermwr, yr amgylchedd a’r defnyddiwr. Un ffordd o sicrhau llai o ddefnydd o blaleiddiaid yw cefnogi a hybu ffermio organig a throsglwyddo o ffermio traddodiadol i ffermio organig. Cefnogwn y rheoliadau.

Generally, we welcome and support the recommendations contained in the regulations. It is a matter of striking a balance between enabling the farmer to continue with his or her work and ensuring that we protect the farmer, the environment and the consumer. One way of securing reduced use of pesticides is to support and promote organic farming and transfer from traditional to organic farming. We support the regulations.

Mick Bates spoken in English p. 32

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 32

The consolidation of pesticide regulations should not to be confused with the control of agricultural pests in general. It is quite a day when 13,000 people turn up at the Assembly. I only hope that we have the courage to listen to them.

Ni ddylid cymysgu rhwng cydgyfnerthu rheoliadau plaleiddiaid a rheoli plaon amaethyddol yn gyffredinol. Mae’n dipyn o ddiwrnod pan fo 13,000 o bobl yn troi i fyny yn y Cynulliad. Dim ond gobeithio fod gennym y dewrder i wrando arnynt.

The Liberal Democrats broadly welcome measures that seek to reduce environmental change and risk to human health. Like the other parties, we welcome the consolidated pesticide regulations. The agricultural community trusts the Government to implement regulations that are for our benefit. Therefore, we hope that targets are correct and that the Government is fulfilling its role. Modern and more targeted application techniques and farm assurance schemes ensure a high responsibility in the application of pesticides in the agriculture industry. The industry funds many organisations that ensure that residue levels are within the legal limits. We must remember that farmers are not chemists. We need clear labelling for usage. Reference has been made to the use of organophosphates by farmers. There should be clear warnings and clear dilution rates on all chemicals. This is part of a process towards the harmonisation of maximum residue levels across Europe. As a party, we welcome moves that avoid barriers to community trade. I hope that the Government accepts this principle, particularly in view of the French attitude towards some of our products.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyffredinol yn croesawu camau sydd yn ceisio lleihau newidiadau i’r amgylchedd a risg i iechyd dynol. Fel y pleidiau eraill, croesawn y rheoliadau plaleiddiaid cydgyfnerthedig. Mae’r gymuned amaethyddol yn ymddiried yn y Llywodraeth i weithredu rheoliadau sydd er ein lles. Felly, gobeithiwn fod y targedau’n gywir a bod y Llywodraeth yn cyflawni’i rôl. Mae technegau chwistrellu modern a chywirach a chynlluniau sicrwydd ffermydd yn sicrhau lefel uchel o gyfrifoldeb wrth ddefnyddio plaleiddiaid yn y diwydiant amaeth. Mae’r diwydiant yn noddi sawl corff sydd yn sicrhau fod y lefelau gwaddodion o fewn y terfynau cyfreithiol. Rhaid inni gofio nad fferyllwyr yw ffermwyr. Mae angen labeli clir i ddefnyddwyr. Cyfeiriwyd at y defnydd o organoffosffadau gan ffermwyr. Dylai fod rhybuddion clir a mesuriadau gwanhau clir ar bob cemegyn. Mae hyn yn rhan o broses tuag at gysoni lefelau gwaddodion uchaf ar draws Ewrop. Fel plaid, croesawn symudiadau sydd yn osgoi rhwystrau i fasnach gymunedol. Gobeithio y gwnaiff y Llywodraeth dderbyn yr egwyddor hon, yn enwedig yn wyneb agwedd y Ffrancod at rai o’n cynhyrchion.

We share the concerns of the other political parties that this regulation may be used as a backdoor for taxation on pesticides. However, on the whole, we lend our support to this legislation. I would welcome equal attention being paid to the harm caused to farmers through organophosphates. This serious topic has long been overlooked and I would welcome further reports by the Health and Safety Executive to point out how much damage is done by allowing the use of such chemicals. The Government is escaping its responsibility. However, this is a responsible measure in terms of pesticide regulations.

Yr ydym yn rhannu pryderon y pleidiau gwleidyddol eraill y gellid defnyddio’r rheoliad hwn fel drws cefn i drethu plaleiddiaid. Fodd bynnag, ar y cyfan, cefnogwn y ddeddfwriaeth hon. Byddwn yn croesawu rhoi sylw cyfartal i’r niwed a achosir i ffermwyr drwy organoffosffadau. Cafodd y pwnc difrifol hwn ei ddiystyru’n rhy hir a byddwn yn croesawu adroddiadau pellach gan yr Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch i ddangos faint o niwed a wneir wrth ganiatáu defnyddio’r cyfryw gemegau. Mae’r Llywodraeth yn osgoi ei chyfrifoldeb. Fodd bynnag, mae hwn yn fesur cyfrifol yn nhermau rheoliadau plaleiddiaid.

John Griffiths spoken in English p. 33

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 33

Chris, could you pay attention to some of the general public’s concerns surrounding these matters? Every time there is publicity about residue levels, as happened with lettuces recently for example, many people feel at their wits’ end. They are advised to eat more fruit and vegetables to maintain a healthy diet and then they read such articles in the papers and become concerned that there is nothing that they can eat which is conducive to good health. People are concerned about these issues because they would like clear guidance about what is wise to eat. They are not able to shop or eat with confidence because of these concerns. They need reassurance about the enforcement of the regulations and to know that checks that are carried out as regularly and efficiently as they should be. Could you, Chris, at some stage report to the Assembly about this and offer such reassurance? As I said, people are at their wits’ end because of the scares that regularly appear in the media.

Chris, a allech chi dalu sylw i rai o bryderon y cyhoedd ynghylch y materion hyn? Bob tro y ceir cyhoeddusrwydd am lefelau gwaddodion, fel a ddigwyddodd gyda letys yn ddiweddar, er enghraifft, bydd llawer o bobl yn teimlo eu bod ar ben eu tennyn. Cynghorir hwy i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau i gadw deiet iach ac wedyn darllenant erthyglau fel hyn yn y papurau a dechreuant boeni nad oes dim y gallant ei fwyta i hybu iechyd da. Mae pobl yn bryderus am y materion hyn oherwydd yr hoffent gael arweiniad clir ynghylch beth sydd yn ddoeth i’w fwyta. Nid ydynt yn gallu siopa na bwyta â hyder oherwydd y pryderon hyn. Mae arnynt angen sicrwydd fod y rheoliadau’n cael eu gweithredu ac angen gwybod fod archwiliadau’n digwydd mor rheolaidd ac effeithlon ag y dylent. Allech chi, Chris, ryw bryd adrodd i’r Cynulliad am hyn a rhoi sicrwydd o’r fath? Fel y dywedais, mae pobl ar ben eu tennyn oherwydd y straeon dychryn sydd yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau.

Brian Hancock spoken in English p. 34

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 34

As a former Health and Safety Inspector and an adviser for health and safety and the environment, I was going to make a number of points which have already been raised. For the sake of the next debate I will be brief. One concern I have is the setting of limits at the limit of detection. The scientific world must address that. If we are looking for limits, we should be able to detect those limits. Having the limit at the level of detection alone means that the science is not quite correct yet. I can only echo all of the other comments.

Fel cyn Arolygydd Iechyd a Diogelwch a chynghorydd ar iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd, yr oeddwn yn mynd i wneud nifer o bwyntiau sydd eisoes wedi’u codi. Er mwyn y ddadl nesaf byddaf yn gryno. Un pryder sydd gennyf yw gosod terfynau ar y lefel canfod. Rhaid i’r byd gwyddonol fynd i’r afael â hynny. Os ydym yn edrych am derfynau, dylem allu canfod y terfynau hynny. Mae cael y terfyn ar y lefel canfod yn unig yn golygu nad yw’r wyddoniaeth yn berffaith gywir eto. Ni allaf ond adleisio’r holl sylwadau eraill.

Christine Gwyther spoken in English p. 34

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 34

I have listened carefully to the points made and I understand why, today, the points had to be brief. They are worthy and valuable points and I understand the concerns. Technology and training for our food producers is important. Organophosphates are damaging to the people who have to use them. Synthetic pyrethroids have been used in their place and they are a hundred times more damaging to river life than organophosphates. There is a great deal of work to be done; people must be educated and co-operation between agencies and the Environment Agency and the farming unions and the farmers is essential to ensure that synthetic pyrethroids are disposed of in a correct manner.

Yr wyf wedi gwrando’n ofalus ar y pwyntiau a wnaethpwyd ac yr wyf yn deall pam, heddiw, y bu’n rhaid i’r pwyntiau fod yn gryno. Maent yn bwyntiau teilwng a gwerthfawr ac yr wyf yn deall y pryderon. Mae technoleg a hyfforddiant i’n cynhyrchwyr bwyd yn bwysig. Mae organoffosffadau’n niweidiol i’r bobl sydd yn gorfod eu defnyddio. Defnyddiwyd pyrethroidau synthetig yn eu lle ac maent ganwaith yn fwy niweidiol i fywyd afon nag organoffosffadau. Mae llawer iawn o waith i’w wneud; rhaid addysgu pobl ac mae cydweithrediad rhwng asiantaethau ac Asiantaeth yr Amgylchedd ac undebau’r amaethwyr a’r ffermwyr yn hanfodol i sicrhau y caiff pyrethroidau synthetig eu gwaredu mewn modd cywir.

I believe Rhodri Glyn just wanted to let us know that he was not the man who voted against putting more money into the organic aid budget so I will put that on record. I will take note of your other points.

Yr wyf yn credu mai dim ond eisiau gadael inni wybod yr oedd Rhodri Glyn nad ef oedd y dyn a bleidleisiodd yn erbyn rhoi mwy o arian i mewn i’r gyllideb gymorth organig, felly mi gofnodaf hynny. Nodaf eich pwyntiau eraill.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 34

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 34

I never voted against that.

Ni wneuthum erioed bleidleisio yn erbyn hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 34

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 34

That is what she said, Rhodri.

Dyna beth a ddywedodd hi, Rhodri.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 35

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 35

I apologise.

Yr wyf yn ymddiheuro.

Christine Gwyther spoken in English p. 35

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 35

Do you mean you are sorry, Rhodri?

A ydych chi’n golygu ei bod yn ddrwg gennych, Rhodri?

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 35

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 35

I am glad I supported you.

Yr wyf yn falch imi eich cefnogi.

Christine Gwyther spoken in English p. 35

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 35

This is not a means of introducing the pesticide tax by the back door. My officials monitored Gordon Brown’s statement yesterday. There did not appear to be any mention of a pesticide tax within this coming year. What we are discussing today is not a back door means of introducing a tax. It is a way of consolidating existing legislation and making it easier to use. I totally agree with that.

Nid modd o gyflwyno’r dreth blaleiddiaid trwy’r drws cefn yw hyn. Archwiliodd fy swyddogion ddatganiad Gordon Brown ddoe. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw sôn am dreth blaleiddiaid o fewn y flwyddyn nesaf hon. Nid modd drws cefn o gyflwyno treth yw’r hyn sydd gennym dan sylw heddiw. Ffordd ydyw o gydgyfnerthu deddfwriaeth bresennol a’i gwneud yn haws ei defnyddio. Yr wyf yn cytuno’n llwyr â hynny.

Brian, you probably have more experience on this matter than I do. It would be useful for us to talk at some point. You are right to say that science can never solve everything. New things will always come up. I would appreciate a chat about this because I did not know that you had that particular expertise.

Brian, mae’n debyg fod gennych chi fwy o brofiad ar y mater hwn nag sydd gennyf fi. Byddai’n ddefnyddiol inni siarad ryw bryd. Yr ydych yn iawn i ddweud na all gwyddoniaeth byth ddatrys popeth. Bydd pethau newydd yn codi o hyd. Byddwn yn gwerthfawrogi sgwrs am hyn oherwydd ni wyddwn fod yr arbenigedd penodol hwnnw gennych chi.

There are worries about the use of pesticides. However, I want to reassure Assembly Members and the public about the strength of the regulatory regime. It is most important for us to ensure that we produce safe and wholesome food. Maximum residue levels are integral to that but they are only one part of a wider regulatory regime involving approval, surveillance and monitoring. We have to remember that pesticides can have a beneficial value in that they can increase food production, control diseases and pests. Part of the appeal of organic farming is that you can label your products ‘pesticide free’. The two things can co-exist.

Y mae pryderon ynghylch defnyddio plaleiddiaid. Fodd bynnag, hoffwn sicrhau Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd o gryfder y drefn reoleiddio. Mae’n holl bwysig inni sicrhau ein bod yn cynhyrchu bwyd diogel a maethlon. Mae lefelau gwaddodion uchaf yn annatod â hynny ond dim ond rhan ydynt o drefn reoleiddio ehangach sydd yn cynnwys cymeradwyo, gwyliadwriaeth ac arolygu. Rhaid inni gofio y gall plaleiddiaid gael gwerth llesol gan y gallant gynyddu’r bwyd a gynhyrchir, a rheoli clefydau a phlaon. Rhan o apêl ffermio organig yw y gallwch labelu’ch cynnyrch yn ‘rhydd o blaleiddiaid’. Gall y ddau beth gyd-fyw.

We have a duty to ensure that any associated regulation continues to be strong and rigorous. I should not speak for the UK Government but we would insist that that was the case. We must remember that any problems usually occur through misuse and abuse. Misuse is not always the user’s fault. We must ensure that labelling, instructions and training are of the highest quality and that instructions are followed to the letter. We will play our full part in this. The Assembly can act through awareness campaigns and through sharing information on good practices. I know that leaflets on these matters are sent to producers and farmers.

Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod unrhyw reoliad cysylltiedig yn parhau i fod yn gryf a chadarn. Ni ddylwn siarad ar ran Llywodraeth y DU ond byddem yn mynnu mai hynny sydd yn bodoli. Rhaid inni gofio fod unrhyw broblemau fel arfer yn digwydd oherwydd camddefnydd. Nid bai’r defnyddiwr yw hynny bob tro. Rhaid inni sicrhau bod labelu, cyfarwyddiadau a hyfforddiant o’r ansawdd gorau ac y dilynir cyfarwyddiadau i’r llythyren. Byddwn ni’n chwarae’n rhan lawn yn hyn. Gall y Cynulliad weithredu drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a thrwy rannu gwybodaeth am arferion da. Yr wyf yn gwybod yr anfonir taflenni ar y materion hyn at gynhyrchwyr a ffermwyr.

Most of the legislation that we are discussing already exists. We are trying to make the MRL regime clearer and easier to use. Maximum residue levels are part of the wider control arrangements, which are essential to ensure the continued safety of pesticides for people and the environment. It sounds like we are all unanimous. I hope we are when it comes to the vote.

Mae’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei thrafod yn bodoli eisoes.Yr ydym yn ceisio gwneud y drefn lefel gwaddodion uchaf yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Mae’r lefel gwaddodion uchaf yn rhan o’r trefniadau rheoli ehangach, sydd yn hanfodol i sicrhau diogelwch parhaus plaleiddiaid i bobl a’r amgylchedd. Mae’n swnio fel petai pawb yn unfrydol. Gobeithio y byddwn ni pan ddaw i’r bleidlais.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 36

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 36

Some of the Members who have left have left their cards in their machines. Could we assist our colleagues by removing the cards of those who are not in the Chamber? According to the revised Standing Orders, all votes are now electronic.

Mae rhai o’r Aelodau sydd wedi mynd allan wedi gadael eu cardiau yn eu peiriannau. Allem ni gynorthwyo’n cyd-Aelodau drwy dynnu cardiau’r rheini nad sydd yn y Siambr? Yn unol â’r Rheolau Sefydlog diwygiedig, mae pob pleidlais yn electronig yn awr.

We will now vote on the motion.

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig.

Cynnig Christine Gwyther t. 36

Motion Christine Gwyther p. 36

DerbyniwydAdopted O blaidFor 42 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (42)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Y Gyllideb Ragarweiniol

Preliminary Budget

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 37

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 37

I have selected amendment 1 in the name of Dafydd Wigley, amendment 2 in the name of Peter Black, amendment 3 in the name of Glyn Davies and amendment 4 in the names of Michael German and Nick Bourne.

Yr wyf wedi dewis gwelliant 1 yn enw Dafydd Wigley, gwelliant 2 yn enw Peter Black, gwelliant 3 yn enw Glyn Davies a gwelliant 4 yn enwau Michael German a Nick Bourne.

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 37

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 37

I propose that

Cynigiaf fod

Edwina Hart The Finance Secretary (continued) spoken in English p. 38

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 38

I am delighted to see such a large crowd outside in anticipation of my announcement. It was easier to get tickets for the Rugby World Cup than it is to get in here. Therefore the case for a new Chamber is made in terms of public space.

Yr wyf wrth fy modd o weld tyrfa mor fawr y tu allan yn aros am fy nghyhoeddiad. Yr oedd yn haws cael tocynnau i Gwpan Rygbi’r Byd nag ydyw i ddod i mewn i’r fan hon. Felly mae’r achos dros Siambr newydd wedi’i wneud o safbwynt lle i’r cyhoedd.

I have already dealt with some of the technical points arising from the notes that I sent out. I have had a number of questions from Members. I hope that they have all received the appropriate responses. I propose the budget on behalf of the Cabinet. In developing these proposals, we have considered the views of the Committees, the responses to the ‘A Better Wales’ consultation paper and the debate on the strategic plan on 20 October. I hope, therefore, that there is already a fair measure of consensus on our proposals.

Yr wyf eisoes wedi delio â rhai o’r pwyntiau technegol sydd yn codi o’r nodiadau a anfonais allan. Derbyniais nifer o gwestiynau gan Aelodau. Gobeithio eu bod i gyd wedi derbyn yr atebion priodol. Cynigiaf y gyllideb ar ran y Cabinet. Wrth ddatblygu’r cynigion hyn, yr ydym wedi ystyried barn y Pwyllgorau, yr ymatebion i’r papur ymgynghori ‘Gwell Cymru’ a’r ddadl ar y cynllun strategol ar 20 Hydref. Gobeithiaf, felly, fod yma eisoes gryn fesur o gonsensws ar ein cynigion.

After the debate today, each Assembly Secretary will consult his or her Subject Committee on the proposals and feed their views back to Cabinet. We will take these views into account in tabling the final budget in December, when the Assembly will be asked to agree the details to sub expenditure group level. That is when the figures in the budget will be fixed.

Ar ôl y ddadl heddiw, bydd pob Ysgrifennydd Cynulliad yn ymgynghori â’u Pwyllgor Pwnc ar y cynigion ac yn cyflwyno eu sylwadau’n ôl i’r Cabinet. Byddwn ni’n cymryd y sylwadau hyn i ystyriaeth wrth gyflwyno’r gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr, pryd y gofynnir i’r Cynulliad gytuno ar y manylion i lawr i lefel is-grŵp gwariant. Dyna pryd y gosodir y ffigurau yn y gyllideb.

It is important that we keep to this deadline so that health authorities, Assembly sponsored bodies and others can plan ahead for the coming financial year. Committees will then be asked to comment on the detailed allocations and the Assembly will be asked to ratify the detailed budget in February. The whole process is designed to be inclusive, and we want to encourage this. I was reminded yesterday by Ron Davies that the inclusive nature of this process was started by the Labour Government when it came into power and started to consult and open up the mystery of budgeting in Wales.

Y mae’n bwysig ein bod yn cadw at yr amserlen hon fel y gall awdurdodau iechyd, cyrff a noddir gan y Cynulliad ac eraill gynllunio ymlaen ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Wedyn gofynnir i Bwyllgorau roi sylwadau ar y dyraniadau manwl, a gofynnir i’r Cynulliad gadarnhau’r gyllideb fanwl ym mis Chwefror. Mae’r broses gyfan wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol, ac yr ydym yn awyddus i annog hyn. Atgoffwyd fi ddoe gan Ron Davies y dechreuwyd natur gynhwysol y broses hon gan y Llywodraeth Lafur pan ddaeth i rym a dechrau ymgynghori ac agor cyfrinachau cyllidebu yng Nghymru.

This is an entirely new and radical way of producing a budget. Instead of presenting you with a fait accompli, drawn up behind closed doors in utmost secrecy, as is the Westminster custom, here we have new politics in practice, a preliminary budget which is itself the product of thorough consultation, presented for detailed scrutiny and debate in committee, ultimately resulting in a final budget to which I hope the whole Assembly will sign up. This is a truly open and inclusive process on which I, as the first Finance Secretary of the Assembly, am proud to lead.

Mae hon yn ffordd hollol newydd a radical o lunio cyllideb. Yn hytrach na chyflwyno fait accompli ichi, wedi’i wneud y tu ôl i ddrysau caeëdig mewn cyfrinachedd llwyr, fel a wneir yn San Steffan, mae gennym wleidyddiaeth newydd ar waith, cyllideb ragarweiniol sydd ei hun yn gynnyrch ymgynghori trwyadl, a gyflwynir i’w harchwilio’n fanwl a’i thrafod mewn pwyllgorau, cyn ffurfio cyllideb derfynol y gobeithiaf y bydd y Cynulliad cyfan yn ei chefnogi. Dyma broses wirioneddol agored a chynhwysol yr wyf fi, fel Ysgrifennydd Cyllid cyntaf y Cynulliad, yn falch o’i harwain.

However, I emphasise from the outset that our proposals have been developed within a fixed sum of money, and while we welcome suggestions for improvement, the books have to balance. So colleagues will need to consider, as well as any new proposals, ways of funding them.

Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio o’r cychwyn cyntaf y datblygwyd ein cynigion o fewn swm penodol o arian, ac er ein bod yn croesawu awgrymiadau er gwella, mae’n rhaid mantoli’r llyfrau. Felly bydd angen i gyd-Aelodau ystyried, ynghyd ag unrhyw gynigion newydd, ffyrdd o’u hariannu.

It is important that financial allocations are driven by the Assembly’s overall values and priorities. We had an useful debate on those values and priorities on 20 October. The points raised during that discussion have been noted carefully and these will be reflected in the draft strategic plan, which we propose to issue for consultation before Christmas. The budget that I announce today takes a step towards the Assembly’s emerging priorities, but Members will appreciate that the room for manoeuvre is limited. We should have scope for more significant reallocations next year, following the spending review.

Mae’n bwysig bod dyraniadau ariannol yn cael eu gyrru gan werthoedd a blaenoriaethau cyffredinol y Cynulliad. Cawsom ddadl ddefnyddiol ar y gwerthoedd a’r blaenoriaethau hynny ar 20 Hydref. Mae’r pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth honno wedi’u nodi’n ofalus ac fe’u hadlewyrchir yn y cynllun strategol drafft, y gobeithiwn ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori cyn y Nadolig. Mae’r gyllideb yr wyf fi’n ei chyhoeddi heddiw yn cymryd cam tuag at y blaenoriaethau sydd yn codi gan y Cynulliad, ond rhaid i Aelodau sylweddoli mai ychydig o le sydd i symud. Dylem gael lle ar gyfer ailddyrannu mwy arwyddocaol y flwyddyn nesaf, ar ôl yr adolygiad gwario.

I need to say a few words about the spending review. The results of the first comprehensive spending review were announced in July 1998. It set three year plans for all Government departments for the period 1999-2000 to 2001-02. We do not have baselines for 2002-03 and beyond. For the purposes of the Assembly budget, we have rolled forward the 2001-02 figures to 2002-03. Some of the baselines include allocations which are not recurrent, so the 2002-03 figures need to be treated with caution.

Mae arnaf angen dweud gair neu ddau am yr adolygiad gwario. Cyhoeddwyd canlyniadau’r adolygiad gwario cynhwysfawr cyntaf ym mis Gorffennaf 1998. Gosododd gynlluniau tair blynedd i holl adrannau’r Llywodraeth ar gyfer y cyfnod 1999-2000 i 2001-02. Nid oes gennym linellau gwaelod ar gyfer 2002-03 a thu hwnt. I ddibenion cyllideb y Cynulliad, yr ydym wedi treiglo ffigurau 2001-02 ymlaen i 2002-03. Mae rhai o’r llinellau sylfaen yn cynnwys dyraniadau nad ydynt yn rhai rheolaidd, felly mae angen trin ffigurau 2002-03 â gofal.

The current timetable for the next spending review means that the results should be known by the middle of next year. The review will cover the period 2001-02 to 2003-04. We have already begun making representations to the Treasury on the spending review, including the key issue of structural funds, on which I will say more later. The allocations emerging from next year’s spending review will give us greater scope in next year’s budget round to reallocate spending to meet the Assembly’s priorities.

Mae’r amserlen gyfredol ar gyfer yr adolygiad gwario nesaf yn golygu y dylem wybod y canlyniadau erbyn canol y flwyddyn nesaf. Bydd yr adolygiad yn ymdrin â’r cyfnod 2001-02 i 2003-04. Yr ydym eisoes wedi dechrau gwneud sylwadau i’r Trysorlys ar yr adolygiad gwario, gan gynnwys cwestiwn allweddol y cronfeydd strwythurol, y dywedaf fwy amdanynt yn ddiweddarach. Bydd y dyraniadau a fydd yn codi o adolygiad gwario’r flwyddyn nesaf yn rhoi mwy o le inni yng nghylch cyllideb y flwyddyn nesaf i ailddyrannu gwariant i gwrdd â blaenoriaethau’r Cynulliad.

I emphasise that we have been given an excellent platform on which to build. The allocations which Alun Michael announced last December included record increases of £844 million for education and training, and over £1 billion for health over three years. We propose to add to these allocations in this year’s budget. It is essential, when considering these additions, that the significant increases already planned are fully taken into account.

Pwysleisiaf ein bod wedi cael llwyfan ardderchog i adeiladu arno. Yr oedd y dyraniadau a gyhoeddodd Alun Michael fis Rhagfyr diwethaf yn cynnwys codiadau uwch nag erioed o £844 miliwn ar gyfer addysg a hyfforddiant, a thros £1 biliwn ar gyfer iechyd dros dair blynedd. Cynigiwn ychwanegu at y dyraniadau hyn yng nghyllideb eleni. Mae’n hanfodol, wrth ystyried yr ychwanegiadau hyn, y dylid cofio am y codiadau sylweddol sydd eisoes wedi’u cynllunio.

In developing our proposals, we have made use of unallocated money from the capital modernisation fund, unspent carry-forward from previous years, savings in some programmes, and scope for sensible reordering of priorities between programmes. I turn to the specifics. First, health. The health and social services baseline increased by over £190 million this year and increases by a further £181 million next year. On top of this, I propose an extra £8 million this year to meet the unplanned cost of the early introduction of the meningitis vaccine. That will be funded out of the unspent carry-forward from previous years. I also propose an additional £12 million over the next two years for the health capital programme.

Wrth ddatblygu ein cynigion, yr ydym wedi defnyddio arian oedd heb ei ddyrannu o’r gronfa foderneiddio gyfalaf, arian heb ei wario i’w gario ymlaen o flynyddoedd blaenorol, arbedion mewn rhai rhaglenni, a lle i ad-drefnu blaenoriaethau mewn modd synhwyrol rhwng rhaglenni. Soniaf am y manylion penodol. Yn gyntaf, iechyd. Cynyddodd y llinell sylfaen ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fwy na £190 miliwn eleni a bydd yn cynyddu £181 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf. Yn ogystal, cynigiaf £8 miliwn ychwanegol eleni i gwrdd â chost annisgwyl cyflwyno brechiad llid yr ymennydd yn gynnar. Caiff hynny ei ariannu o’r hyn nas gwariwyd ac a gariwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol. Yr wyf hefyd yn cynnig £12 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y rhaglen cyfalaf iechyd.

I intend to make a special allocation of £2 million in 2000-01 for Invest to Save projects in health and social services. It is vital that we develop cost-effective health and social services. I hope these projects will lead to improvements which can be rolled out across the whole of Wales. I would want those projects to improve the effectiveness of joint working between health care and social services, to which Glyn Davies and others referred in the debate on the strategic plan.

Yr wyf yn bwriadu gwneud dyraniad arbennig o £2 filiwn yn 2000-01 ar gyfer prosiectau Buddsoddi i Gynilo ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol cost-effeithiol. Gobeithiaf y bydd y prosiectau hyn yn arwain at welliannau y gellir eu lledaenu dros Gymru gyfan. Hoffwn i’r prosiectau hynny wella effeithiolrwydd cydweithio rhwng gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, y cyfeiriodd Glyn Davies ac eraill ato yn y ddadl ar y cynllun strategol.

This new capital funding, plus an acceleration of the disposal of surplus sites, and the existing capital modernisation fund allocation, provides extra capital funding of £54 million to modernise the NHS. Within this, we will develop proposals for a coherent and effective programme of capital investment across the NHS. In total, this means a 7 per cent cash increase next year for the NHS.

Mae’r arian cyfalaf newydd hwn, ynghyd â chyflymu’r broses o werthu safleoedd sydd yn weddill i ofynion, a dyraniad y gronfa gyfalaf bresennol ar gyfer moderneiddio, yn darparu cyllid cyfalaf ychwanegol o £54 miliwn i foderneiddio’r NHS. O fewn hyn, byddwn yn datblygu cynigion ar gyfer rhaglen gydlynol ac effeithiol o fuddsoddi cyfalaf ar draws yr NHS. Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu cynnydd arian o 7 y cant y flwyddyn nesaf i’r NHS.

Social services is a key area. I have listened carefully to the Health and Social Services Committee’s views and the responses to consultation on ‘A Better Wales’ and recognise the need to give a higher priority to social services. In total, we are providing an extra £4.1 million for social services next year.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn faes allweddol. Yr wyf wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau ac ymatebion y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r ymgynghori ar ‘Gwell Cymru’ ac yr wyf yn cydnabod yr angen i roi mwy o flaenoriaeth i wasanaethau cymdeithasol. Yr ydym yn darparu cyfanswm o £4.1 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol y flwyddyn nesaf.

We are allocating £3 million from next year onwards to implement the national carers’ strategy in Wales, which I know is one of the Committee’s top priorities. That is directly relevant to our theme of social inclusion and will provide additional respite care. We are also allocating an extra £500,000 a year for children’s services. That will increase central support by 50 per cent to £1.5 million a year, and will assist authorities in their efforts to improve outcomes significantly for looked after children.

Yr ydym yn dyrannu £3 miliwn o’r flwyddyn nesaf ymlaen i weithredu’r strategaeth gofalwyr genedlaethol yng Nghymru, sydd, fe wn, yn un o brif flaenoriaethau y Pwyllgor. Mae hynny’n uniongyrchol berthnasol i’n thema o gynhwysiant cymdeithasol a bydd yn darparu gofal seibiant ychwanegol. Yr ydym hefyd yn dyrannu £500,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant. Bydd hynny’n cynyddu cefnogaeth ganolog 50 y cant i £1.5 miliwn y flwyddyn, ac yn cynorthwyo awdurdodau yn eu hymdrechion i wella’r canlyniadau’n sylweddol i blant y gofelir amdanynt.

The proposed idea of a children’s commissioner has been widely welcomed in and outside the Assembly and £100,000 a year is being made available for its development phases. The Committee will need to help us develop this initiative into a fully worked-up proposal.

Bu croeso cyffredinol i’r syniad arfaethedig o gael comisiynydd plant, a hynny o fewn ac oddi allan i’r Cynulliad, a darperir £100,000 y flwyddyn ar gyfer datblygu hyn. Bydd angen i’r Pwyllgor ein cynorthwyo i ddatblygu’r fenter hon yn gynnig wedi ei addasu’n llwyr.

We propose to invest £500,000 next year to meet the initial costs of setting up new regulatory arrangements for social care services and the care workforce. We are allocating a further £500,000 to these in the following year and we will examine the full funding implications for 2001 and 2002 and future years in consultation with the Committee.

Bwriadwn fuddsoddi £500,000 y flwyddyn nesaf i dalu costau cychwynnol sefydlu trefniadau rheoleiddio newydd i wasanaethau gofal cymdeithasol a’r gweithlu gofal. Yr ydym yn dyrannu £500,000 yn ychwanegol i’r rhain yn y flwyddyn ganlynol a byddwn yn archwilio’r goblygiadau ariannu llawn am 2001 a 2002 ac wedi hynny mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor.

We have listened carefully to the representations from the Committee and the voluntary sector and propose an extra £500,000 a year for the voluntary sector. That will be funded out of the carry-forward next year and thereafter by an allocation from the social inclusion fund. That is a significant step towards strengthening the voluntary sector in Wales and the Assembly’s partnership with it. In this context, we have agreed to establish a joint working group between the Assembly and the voluntary sector to look at strategic funding issues for the voluntary sector.

Yr ydym wedi gwrando’n ofalus ar y sylwadau gan y Pwyllgor a’r sector gwirfoddol a chynigiwn £500,000 y flwyddyn yn ychwanegol i’r sector gwirfoddol. Caiff hynny ei ariannu o’r swm a gludir ymlaen y flwyddyn nesaf ac wedi hynny drwy ddyraniad o’r gronfa ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol. Dyna gam arwyddocaol tuag at gryfhau’r sector gwirfoddol yng Nghymru a phartneriaeth y Cynulliad gydag ef. Yn y cyd-destun hwn, yr ydym wedi cytuno i sefydlu cyd-weithgor rhwng y Cynulliad a’r sector gwirfoddol i ystyried materion ariannu strategol ar gyfer y sector gwirfoddol.

On the mental handicap strategy, I am delighted that there will be a transfer of £1.6 million from health budgets to social services for resettlement programmes in order to progress the resettlement plans for 2000-01.

Ar y strategaeth iechyd meddwl, yr wyf wrth fy modd y trosglwyddir £1.6 miliwn o gyllidebau iechyd i wasanaethau cymdeithasol ar gyfer rhaglenni ailsefydlu er mwyn mynd ymlaen â’r cynlluniau ailsefydlu am 2000-01.

I know that support for equal opportunities is a high priority for many Assembly Members, and I wholeheartedly share that view. I therefore propose to allocate £100,000 to promote equality issues. This dedicated funding will be used to raise awareness of diversity within the national curriculum; to promote the interests of women in Wales, especially ethnic minority women; and to carry forward the recommendations of the Stephen Lawrence Inquiry, which the Committee on Equality of Opportunity discussed in their last meeting.

Yr wyf yn gwybod bod cefnogaeth i gyfle cyfartal yn flaenoriaeth uchel i lawer o Aelodau’r Cynulliad, ac yr wyf innau’n rhannu’r farn honno’n ddigymrodedd. Felly bwriadaf ddyrannu £100,000 i hyrwyddo materion cydraddoldeb. Defnyddir yr arian penodol hwn i godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth o fewn y cwricwlwm cenedlaethol; i hybu buddiannau menywod yng Nghymru, yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig; ac i ddwyn ymlaen argymhellion Ymchwiliad Stephen Lawrence, a drafodwyd gan y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn ei gyfarfod diwethaf.

On education and training, we are already committed to investing an extra £844 million. That gives clear evidence of our determination to drive up standards, expectations and attainment right across the board and transform the life chances of all people in Wales. It is vital that the extra funding that we provide is used wisely and to achieve tangible improvements in results year on year. We propose further allocations to enable schools to recover from the haemorrhage of resources that they have suffered in the past. We propose an extra £3.6 million for 2001-02 to meet our commitment to reduce infant class sizes to 30 or fewer pupils by September 2001.

Ar addysg a hyfforddiant, yr ydym eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £844 miliwn yn ychwanegol. Mae hynny’n rhoi tystiolaeth glir o’n penderfyniad i godi safonau, disgwyliadau a chyrhaeddiad yn gyffredinol a thrawsnewid cyfleodd bywyd pawb yng Nghymru. Mae’n holl bwysig y caiff yr arian ychwanegol a ddarparwn ei ddefnyddio’n ddoeth ac i sicrhau gwelliannau sylweddol yn y canlyniadau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cynigiwn ddyraniadau pellach i alluogi ysgolion i ddod dros y gwaedlif o adnoddau a ddioddefwyd ganddynt yn y gorffennol. Cynigiwn £3.6 miliwn yn ychwanegol am 2001-02 i gyflawni’n hymrwymiad i leihau maint dosbarthiadau babanod i 30 disgybl neu lai erbyn Medi 2001.

On top of the additional £70 million added to baselines through the local authority revenue support grant for this year, we propose to add a further £75 million next year. Discussions will take place with the Welsh Local Government Association on monitoring the use of these resources. We expect the bulk of them to go into schools’ delegated budgets. This extra spending excludes the additional provision that we are making to support the teaching profession and to introduce a new rewards structure in recognition of teachers’ contribution to raising standards in all our schools.

Ar ben y £70 miliwn ychwanegol a ychwanegwyd at linellau sylfaen drwy grant cymorth refeniw’r awdurdodau lleol am eleni, bwriadwn ychwanegu £75 miliwn arall y flwyddyn nesaf. Bydd trafodaethau’n digwydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch monitro defnydd yr adnoddau hyn. Yr ydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf ohonynt fynd i mewn i gyllidebau dirprwyedig ysgolion. Mae’r gwariant ychwanegol hwn ar wahân i’r ddarpariaeth ychwanegol yr ydym yn ei gwneud i gefnogi’r proffesiwn dysgu ac i gyflwyno strwythur gwobrwyo newydd i gydnabod cyfraniad athrawon at godi safonau yn ein holl ysgolion.

On capital spending in schools, we intend to make available some £69 million next year, inclusive of basic credit approvals to local authorities. Together with private finance initiative projects, this should enable authorities to make significant inroads into the backlog of work to improve the condition of school buildings, which is of concern to all of us, particularly the Pre-16 Education Committee, and many other people within and outside the Assembly.

Ar wariant cyfalaf mewn ysgolion, bwriadwn ddarparu rhyw £69 miliwn i fod ar gael y flwyddyn nesaf, yn cynnwys hawliau credyd sylfaenol i awdurdodau lleol. Ynghyd â phrosiectau menter cyllid preifat, dylai hyn alluogi awdurdodau i wneud argraff arwyddocaol ar y rhestr waith sydd yn aros i’w wneud i wella cyflwr adeiladau ysgol, sydd yn destun pryder inni i gyd, yn enwedig y Pwyllgor Addysg Cyn-16, a llawer o bobl eraill y tu mewn a’r tu allan i’r Cynulliad.

We also intend to raise investment in further education well above £200 million to over £213 million. Excluding income from tuition fees, investment in higher education will exceed £292 million. Taken together, that means that participation in further and higher education will increase by 4,000 to 137,000 students during next year alone.

Yr ydym hefyd yn bwriadu codi buddsoddiad mewn addysg bellach ymhell dros £200 miliwn i dros £213 miliwn. Heb gynnwys incwm o ffioedd hyfforddi, bydd buddsoddiad mewn addysg uwch yn fwy na £292 miliwn. O’u cymryd gyda’i gilydd, mae hynny’n golygu y bydd y niferoedd sydd yn cyfranogi mewn addysg bellach ac uwch yn codi 4,000 i 137,000 o fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn nesaf yn unig.

We must promote lifelong learning. Therefore, we are making provision for loans for part-time students in the higher education sector: £700,000 for next year and £1.5 million for the following years. That was a priority for the Committee and we will consider carefully the criteria for eligibility. On top of that, provision for training and enterprise, together with youth and adult guidance, will increase from £147 million to £154 million. We are all conscious of the need to improve the skills of the Welsh workforce. Funding is being made available to expand the modern apprenticeship programme over the next two years so that there will be 14,000 young people in training by April 2002. We have received an interesting proposal for a one-stop training and voluntary centre in Cardiff Bay. We are assessing the proposal carefully. If it proves to be worthwhile, we will make £400,000 available next year from the capital modernisation fund to support the project.

Rhaid inni hyrwyddo dysgu am oes. Felly, yr ydym yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr rhan-amser yn y sector addysg uwch: £700,000 ar gyfer y flwyddyn nesaf ac £1.5 miliwn ar gyfer y blynyddoedd wedi hynny. Yr oedd hynny’n flaenoriaeth i’r Pwyllgor a byddwn yn ystyried yn ofalus y meini prawf ar gyfer derbyn benthyciad. Ar ben hynny, bydd darpariaeth ar gyfer hyfforddi a menter, ynghyd ag arweiniad i ieuenctid ac oedolion, yn codi o £147 miliwn i £154 miliwn. Yr ydym i gyd yn ymwybodol o’r angen i wella sgiliau gweithlu Cymru. Darperir arian i ehangu’r rhaglen brentisiaethau modern dros y ddwy flynedd nesaf fel y bydd 14,000 o bobl ifainc mewn hyfforddiant erbyn mis Ebrill 2002. Yr ydym wedi derbyn cynnig diddorol am ganolfan hyfforddi a gwirfoddol mewn un ym Mae Caerdydd. Yr ydym yn asesu’r cynnig yn ofalus. Os yw’n addas, byddwn yn darparu £400,000 y flwyddyn nesaf o’r gronfa foderneiddio gyfalaf i gefnogi’r prosiect.

Mindful of advice, particularly from the Post-16 Education and Training Committee, and from those who responded to the consultation on ‘A Better Wales’, we have given close attention to ways of assisting our national cultural institutions to introduce measures to support social inclusion and creativity. We propose to provide the moneys needed to allow free entry for children to the national museums and galleries of Wales. We propose to set aside £1 million to assist the National Library of Wales at Aberystwyth to develop a visitor access project in conjunction with the Heritage Lottery Fund and private finance. This exciting project will create an auditorium and display facilities that will enhance educational, leisure and tourism facilities in the area. The Library’s president warmly welcomed that. We propose an extra £100,000 for the Arts Council of Wales and an additional £200,000 a year for the Welsh Language Board and its ‘mentrau iaith’ projects. Taken together, planned overall investment in the arts, sporting and cultural bodies next year rises to £54 million—an increase of nearly 12 per cent on the relevant budgets for this year.

Gan ddilyn cyngor, yn enwedig gan y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, a chan y rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar ‘Gwell Cymru’, yr ydym wedi rhoi sylw manwl i ffyrdd o gynorthwyo ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i gyflwyno mesurau i gefnogi cynhwysiad cymdeithasol a chreadigrwydd. Bwriadwn ddarparu’r arian angenrheidiol i ganiatáu mynediad am ddim i blant i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru. Bwriadwn neilltuo £1 filiwn i helpu’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddatblygu prosiect mynediad i ymwelwyr ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri a chyllid preifat. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn creu awditoriwm a chyfleusterau arddangos a fydd yn cyfoethogi cyfleusterau addysgol, hamdden a thwristiaeth yn yr ardal. Croesawyd hyn yn wresog gan lywydd y Llyfrgell. Bwriadwn gynnig £100,000 ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru a £200,000 y flwyddyn yn ychwanegol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a’i brosiectau mentrau iaith. Gyda’i gilydd, mae buddsoddiad cyffredinol cynlluniedig yn y celfyddydau a chyrff chwaraeon a diwylliannol y flwyddyn nesaf yn codi i £54 miliwn—cynnydd o bron 12 y cant ar y cyllidebau perthnasol am eleni.

I now turn to the important area of economic development. We have made excellent progress with the national strategy and the programming documents for Objectives 1 and 3. While it will take a few months to get approval from the European Commission for the programmes, it is essential that we start preparing schemes now that will capitalise on the opportunity available to us. We must create more and better quality jobs in Wales.

Troaf yn awr at faes pwysig datblygu economaidd. Yr ydym wedi cymryd camau breision gyda’r strategaeth genedlaethol a’r dogfennau rhaglennu ar gyfer Amcanion 1 a 3. Er y cymer ychydig fisoedd i gael cymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i’r rhaglenni, mae’n hanfodol ein bod yn dechrau paratoi cynlluniau yn awr a fydd yn elwa ar y cyfle sydd ar gael inni. Rhaid inni greu mwy o swyddi, a rhai o ansawdd gwell, yng Nghymru.

As an initial allocation, we therefore propose to set aside £5 million next year and £10 million for 2001-02 onwards out of the Pathway to Prosperity fund to help finance new economic development programmes, which will contribute to our ability to lever in European funding. Rhodri Morgan and the Committee will need to work up the schemes but I would expect to see an emphasis and support for small and medium sized enterprises and for innovation. I assure Members that we are committed to an enterprise and development fund and we are looking into the financing of it.

Fel dyraniad cychwynnol, felly, bwriadwn neilltuo £5 miliwn y flwyddyn nesaf a £10 miliwn ar gyfer 2001-02 ymlaen o gronfa Ffordd i Ffyniant i gynorthwyo i ariannu rhaglenni datblygu economaidd newydd, a fydd yn cyfrannu at ein gallu i gael cyllid Ewropeaidd. Bydd angen i Rhodri Morgan a’r Pwyllgor baratoi’r cynlluniau, ond byddwn yn disgwyl gweld pwyslais a chefnogaeth i fentrau bach a chanolig eu maint ac i fentrau arloesol. Yr wyf yn sicrhau’r Aelodau ein bod wedi ymrwymo i gronfa fenter a datblygu a’n bod yn ystyried y ffordd y caiff ei hariannu.

We are also aware of the needs of local authorities. Rhodri announced yesterday that we are restructuring the current cumbersome arrangements by bringing the existing Welsh capital challenge and local authority rural schemes to an end. We will replace them with a new local regeneration fund which local councils can use to tap European funds. As part of our ongoing commitment to the voluntary sector, we will be ring-fencing a share of this new fund for voluntary organisations. This money will be in addition to the allocations to voluntary projects made by local authorities under the successor arrangements to the strategic development scheme.

Yr ydym hefyd yn ymwybodol o anghenion awdurdodau lleol. Cyhoeddodd Rhodri ddoe ein bod yn ailstrwythuro’r trefniadau trwsgl presennol drwy ddod â chynlluniau her cyfalaf Cymru a chynlluniau gwledig awdurdodau lleol sydd yn bodoli ar hyn o bryd i ben. Yn eu lle byddwn yn sefydlu cronfa adfywio lleol newydd y gall cynghorau lleol ei defnyddio i sicrhau arian o Ewrop. Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i’r sector gwirfoddol, byddwn yn neilltuo cyfran o’r gronfa newydd hon ar gyfer cyrff gwirfoddol. Bydd yr arian hwn yn ychwanegol at y dyraniadau i brosiectau gwirfoddol a wneir gan awdurdodau lleol dan y trefniadau a gymerodd le’r cynllun datblygu strategol.

Also, in the context of Europe, we propose to allocate £400,000 to fund a number of European initiatives, including membership, if agreed, of the Wales European Centre. We are also providing £3 million to fund the organisation which will run the structural funds programmes.

Hefyd, yng nghyd-destun Ewrop, yr ydym yn bwriadu dyrannu £400,000 i dalu am nifer o fentrau Ewropeaidd, gan gynnwys aelodaeth, os cytunir, o Ganolfan Ewropeaidd Cymru. Yr ydym hefyd yn darparu £3 miliwn i ariannu’r corff a fydd yn rhedeg y rhaglenni cronfeydd strwythurol.

No consideration of economic development would be complete without reference to the structural funds. I hope we have demonstrated to the Economic Development Committee and others that we have sufficient money available from unspent carry-forward in previous years to meet public expenditure requirements next year. We therefore have £56 million in the tables to be drawn down for structural funds next year. I clarify that this includes the £35 million from uncommitted carry-forward and £21 million of ring-fenced European regional development fund carry-forward.

Ni fyddai unrhyw ystyriaeth o ddatblygu economaidd yn gyflawn heb gyfeirio at y cronfeydd strwythurol. Gobeithiaf ein bod wedi dangos i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd ac eraill fod gennym ddigon o arian ar gael o gyllid heb ei wario a gariwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol i gwrdd â gofynion gwariant cyhoeddus y flwyddyn nesaf. Felly mae gennym £56 miliwn yn y tablau i’w tynnu i lawr ar gyfer cronfeydd strwythurol y flwyddyn nesaf. Dylwn egluro bod hyn yn cynnwys y £35 miliwn o arian heb ei glymu a ddygwyd ymlaen a £21 miliwn o arian a neilltuwyd o gronfa ddatblygu rhanbarthau Ewrop a ddygwyd ymlaen.

Turning to the Welsh Development Agency, we recognise its importance in the economic development of Wales. We are also anxious to work with the WDA to refocus its efforts on west Wales and the Valleys. Although we propose to reduce its grant in aid by £3.5 million in 2000-01 and by £10 million in 2001-02, when allowance is made for its income from receipts the WDA will still have a gross programme of £163 million next year. Its spending power will be boosted by the phasing out of the sizeable provision it has had to make in recent years for the LG project, now the Hyundai Microelectronics Wales Limited project. The size of its programme will therefore be comparable to that in pre-LG days.

Gan droi at Awdurdod Datblygu Cymru, yr ydym yn cydnabod ei bwysigrwydd yn natblygiad economaidd Cymru. Yr ydym hefyd yn awyddus i weithio gyda’r Awdurdod Datblygu i ailffocysu ei ymdrechion ar orllewin Cymru a’r Cymoedd. Er ein bod yn bwriadu torri £3.5 miliwn ar ei gymhorthdal yn 2000-01 a £10 miliwn yn 2001-02, pan wneir lwfans am ei incwm o dderbyniadau bydd yr Awdurdod yn dal i fod â rhaglen gros o £163 miliwn y flwyddyn nesaf. Rhoddir hwb i’w allu i wario drwy ddileu yn raddol y ddarpariaeth sylweddol y bu’n rhaid iddo’i wneud mewn blynyddoedd diweddar ar gyfer prosiect LG, sef prosiect Microelectroneg Hyundai Cymru Cyfyngedig bellach. Felly bydd maint ei raglen i’w gymharu â’r hynny ydoedd yn y dyddiau cyn LG.

We also recognise the significant role played by the Wales Tourist Board in promoting Wales within the UK and overseas and acknowledge how important that will be to capitalise on Wales’s recent high profile events. We therefore propose to maintain its current budget to ensure that the emerging strategic priorities may be fully implemented.

Yr ydym hefyd yn cydnabod rôl arwyddocaol Bwrdd Croeso Cymru yn hyrwyddo Cymru o fewn y DU a thramor ac yn sylweddoli pa mor bwysig y bydd hynny er mwyn elwa ar ddigwyddiadau proffil-uchel diweddar yng Nghymru. Felly bwriadwn gynnal ei gyllideb gyfredol er mwyn sicrhau y gall y blaenoriaethau strategol a ddaw i’r golwg gael eu gweithredu’n llawn.

Finally, the First Secretary reported the future arrangements for Cardiff Bay on 20 October. With such a large and complex project, it is inevitable that there is some uncertainty about the final funding allocations. However, on current projections we are able to reduce the Cardiff Bay baseline by a further £6.5 million for next year. It may be necessary to revise these figures at a later date, but these are our best estimates.

Yn olaf, adroddodd y Prif Ysgrifennydd am y trefniadau ar gyfer dyfodol Bae Caerdydd ar 20 Hydref. Gyda phrosiect mor fawr a chymhleth, mae’n anochel fod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â’r dyraniadau ariannu terfynol. Fodd bynnag, ar ragamcanion cyfredol yr ydym yn gallu gostwng llinell sylfaen Bae Caerdydd £6.5 miliwn ymhellach am y flwyddyn nesaf. Efallai y bydd angen adolygu’r ffigurau hyn yn ddiweddarach, ond dyma’n hamcangyfrifon gorau.

On housing, we recognise the importance which the Subject Committee and Members generally attach to improving our housing stock. There have been many discussions and comments about this in this Chamber. The Welsh house condition survey in 1997-98 showed significant improvements in both the level of unfitness and the cost of repairs since 1993. Our priority is to focus resources on area renewal, particularly of deprived communities.

Ynghylch tai, yr ydym yn sylweddoli’r pwysigrwydd y mae’r Pwyllgor Pwnc a’r Aelodau yn ei roi yn gyffredinol i wella’n stoc dai. Bu sawl trafodaeth a sylw am hyn yn y Siambr hon. Dangosodd yr arolwg o gyflwr tai Cymru yn 1997-98 welliannau sylweddol yn lefel addasrwydd a chost atgyweiriadau ers 1993. Ein blaenoriaeth yw canolbwyntio adnoddau ar adnewyddu ardal, yn enwedig cymunedau difreintiedig.

The extent of the backlog of housing repairs faced by many local authorities for council housing can only be tackled realistically by assessing private funding. Transfer to community ownership is, I stress, a possible model. That would enable authorities to deal with the backlog of repair and modernisation work within a few years of transfer taking place. We urge local authorities and tenants to give community ownership serious consideration. We will look to working with councils and tenant groups to find ways of progressing that are acceptable to all parties. We recognise that there would be a cost to the Assembly in this, which is why we propose to protect the local authority capital baseline in this year’s budget.

Dim ond drwy asesu cyllid preifat y gellir yn realistig fynd i’r afael â’r atgyweiriadau tai cyngor sydd yn aros i’w gwneud gan lawer o awdurdodau lleol. Hoffwn bwysleisio fod trosglwyddo i feddiant cymunedol yn fodel posibl. Byddai hynny’n galluogi awdurdodau i ddelio â’r gwaith atgyweirio a moderneiddio sydd yn aros i’w wneud o fewn ychydig flynyddoedd i’r trosglwyddiad. Anogwn awdurdodau lleol a thenantiaid i roi ystyriaeth ddifrifol i feddiant cymunedol. Byddwn yn edrych tuag at weithio gyda chynghorau a grwpiau tenantiaid i ganfod ffyrdd ymlaen sydd yn dderbyniol gan bawb. Yr ydym yn cydnabod y byddai cost i’r Cynulliad ynghlwm wrth hyn, a dyna pam y bwriadwn warchod llinell sylfaen cyfalaf awdurdodau lleol yng nghyllideb eleni.

On social housing, many local authorities indicate a general trend to reduce demands for social housing. A social housing grant is being targeted towards deprived areas. A major shift in investment towards deprived communities will take time to achieve, which reduces the short-term pressures on the social housing grant programme. Against this background, we have reduced the social housing grant by £5 million. We also take the opportunity to transfer £1.5 million from this budget into funding for voluntary organisations to deal with rough sleeping; care and repair organisations to provide support for the elderly and disabled; and the sustainable communities programme for small-scale projects in deprived communities.

Ar gwestiwn tai cymdeithasol, mewn llawer o awdurdodau lleol gwelir tuedd gyffredinol i leihau’r galw am dai cymdeithasol. Caiff grant tai cymdeithasol ei dargedu at ardaloedd difreintiedig. Bydd symudiad mawr mewn buddsoddiad tuag at gymunedau difreintiedig yn cymryd amser i’w gyflawni, sydd yn lleihau’r pwysau byrdymor ar y rhaglen grantiau tai cymdeithasol. Wrth ystyried hyn, yr ydym wedi cwtogi £5 miliwn oddi ar y grant tai cymdeithasol. Yr ydym hefyd yn cymryd y cyfle i drosglwyddo £1.5 miliwn o’r gyllideb hon i ddarparu arian i gyrff gwirfoddol ddelio â chysgu ar y stryd; mudiadau gofal a thrwsio i roi cymorth i’r henoed a’r anabl; a’r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer prosiectau ar raddfa fechan mewn cymunedau difreintiedig.

In addition to this, we propose to use £5 million of the social inclusion fund from 2001-02 onwards for community purposes. This fits in well with the proposed refocusing of the housing capital programmes on deprived areas. It will create practical opportunities to tackle the underlying social and economic deficiencies in deprived areas alongside physical improvements to houses and the environment. We have a number of proposals in mind, which we should like to discuss further with the Environment and Local Government Committee and interested organisations.

Yn ogystal â hyn, bwriadwn ddefnyddio £5 miliwn o’r gronfa cynhwysiant cymdeithasol o 2001-02 ymlaen ar gyfer dibenion cymunedol. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda gyda’r bwriad i symud canolbwynt y rhaglenni cyfalaf tai i ardaloedd difreintiedig. Bydd yn creu cyfleoedd ymarferol i fynd i’r afael â’r diffygion cymdeithasol ac economaidd gwaelodol mewn ardaloedd difreintiedig ochr yn ochr â gwelliannau ffisegol i dai a’r amgylchedd. Mae gennym nifer o gynigion mewn golwg, yr hoffem eu trafod ymhellach gyda Phwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol a chyrff sydd â diddordeb.

On transport, we are committed to developing integrated transport, but also understand the need to continue to improve the basic road infrastructure. We propose an extra £3.4 million next year for the transport grant. This will be used for integrated transport projects and for safe routes to school projects. We also propose to invest an extra £8.4 million in the Central Government roads’ budget from 2001-02 onwards, of which £5 million will be made available from the Pathway to Prosperity fund. That will provide a welcome boost to the trunk roads programme, following years of decline under the Tory administration. A sum of £3.4 million will be used for the bus fuel duty rebate scheme.

Ar drafnidiaeth, yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu trafnidiaeth integredig, ond yr ydym hefyd yn deall yr angen i barhau i wella’r isadeiledd ffyrdd sylfaenol. Cynigiwn £3.4 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf ar gyfer y grant trafnidiaeth. Defnyddir hwn ar gyfer y prosiectiau trafnidiaeth integredig ac ar gyfer prosiectau ffyrdd diogel i’r ysgol. Yr ydym hefyd yn bwriadu buddsoddi £8.4 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb ffyrdd y Llywodraeth Ganolog o 2001-02 ymlaen, a bydd £5 miliwn ohono ar gael o’r gronfa Ffordd i Ffyniant. Bydd hynny’n rhoi hwb calonogol i’r rhaglen gefnffyrdd, ar ôl blynyddoedd o ddirywio dan weinyddiaeth y Torïaid. Defnyddir swm o £3.4 miliwn ar gyfer y cynllun ad-daliad treth tanwydd bysus.

I am also pleased to announce allocations to two projects that should help to develop an integrated transport in the longer term. First, we are providing £1.5 million over two years to the National Cycle Network for the development of 10 major, and a number of minor, trunk road crossing points throughout rural Wales. These will be used not only by cyclists but by walkers and the disabled. Secondly, we are proposing £600,000 to fund a pilot public transport smartcard scheme in south-east Wales. The scheme will enable passengers to interchange tickets between trains and buses and we hope that it will be implemented throughout the region. These measures underline our commitment to establishing a modern integrated transport system.

Yr wyf yn falch hefyd o gyhoeddi dyraniadau i ddau brosiect a ddylai helpu i ddatblygu trafnidiaeth integredig yn y tymor hwy. Yn gyntaf, yr ydym yn darparu £1.5 miliwn dros ddwy flynedd i’r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol i ddatblygu 10 o groesfannau ar brif gefnffyrdd, a nifer ar gefnffyrdd llai, ar hyd a lled y Gymru wledig. Defnyddir y rhain nid yn unig gan feicwyr ond gan gerddwyr a’r anabl. Yn ail, yr ydym yn cynnig £600,000 i dalu am gynllun peilot cerdyn cludiant cyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd y cynllun hwn yn galluogi pobl i gyfnewid tocynnau rhwng trenau a bysus a gobeithiwn y caiff ei weithredu drwy’r rhanbarth. Mae’r camau hyn yn tanlinellu’n hymroddiad i sefydlu system drafnidiaeth integredig fodern.

For local government, we provide an increase in revenue support well ahead of inflation. Overall, our plans allow councils to increase their spending by nearly 6 per cent. General capital funding, where councils set their own priorities, will form a greater proportion of total capital funding than in this year. We are funding several initiatives in local government. It is essential that we get the Best Value regime for local authorities off to the right start. We are therefore providing an additional £2.8 million to meet the cost of the Audit Commission’s Best Value inspections. We are also providing an extra £1 million annually to the Valuation Office Agency to fund the work on appeals against the 2000 valuation list. A sum of £200,000 is also being made available for the proposed standards commission.

Ar gyfer llywodraeth leol, darparwn gynnydd mewn cymorth refeniw ymhell o flaen chwyddiant. Yn gyffredinol, mae ein cynlluniau’n caniatáu i gynghorau gynyddu bron 6 y cant ar eu gwariant. Bydd cyllido cyfalaf cyffredinol, lle mae cynghorau’n pennu eu blaenoriaethau eu hunain, yn ffurfio cyfran fwy o’r cyfanswm cyllid cyfalaf nag eleni. Yr ydym yn ariannu sawl menter mewn llywodraeth leol. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau cychwyn cywir i’r drefn Gwerth Gorau i awdurdodau lleol. Yr ydym felly yn darparu £2.8 miliwn yn ychwanegol i dalu cost arolygon Gwerth Gorau y Comisiwn Archwilio. Yr ydym hefyd yn darparu £1 filiwn yn ychwanegol bob blwyddyn i’r Asiantaeth Swyddfeydd Prisio i ariannu’r gwaith ar apeliadau yn erbyn rhestr brisio 2000. Bydd swm o £200,000 ar gael hefyd ar gyfer y comisiwn safonau arfaethedig.

On agriculture, we are all acutely aware of the pressures facing the agricultural community and the need for the industry to be given the chance to develop a sustainable future within a modern rural economy. Ieuan Wyn Jones, as Chairman of the Agriculture and Rural Development Committee, has made his views known to me. It is clear the agricultural agenda needs to be moved forward. I therefore propose an extra £3.5 million next year and £3.9 million for 2001-02 onwards so that 600 farms can enter the Tir Gofal agri-environment scheme annually. Mick Bates has referred to the need to develop an identity for Welsh foods. We will provide an additional £1.3 million next year and £2 million for 2001-02 onwards for the agri-food strategy, giving additional funds for the processing and marketing and marketing development schemes, which I know are among the Agriculture and Rural Development Committee’s top priorities. There will be an extra £1.4 million next year and £900,000 the following year, to help farmers convert to organic production, where the market opportunities are clear. You heard Christine Gwyther’s announcement earlier regarding organic farming and the possible money from Nick Brown’s organic slush fund. In addition, there will be an extra £500,000 each year to help farmers adapt to new ways of working.

Ar amaethyddiaeth, yr ydym i gyd yn ymwybodol o’r pwysau sydd yn wynebu’r gymuned amaethyddol a’r angen i roi’r cyfle i’r diwydiant ddatblygu dyfodol cynaliadwy o fewn economi wledig fodern. Mae Ieuan Wyn Jones, fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, wedi cyflwyno ei sylwadau imi. Mae’n amlwg fod angen symud yr agenda amaethyddol ymlaen. Felly cynigiaf £3.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf a £3.9 miliwn ar gyfer 2001-02 ymlaen fel y gall 600 o ffermydd ddod i mewn i gynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal bob blwyddyn. Cyfeiriodd Mick Bates at yr angen i ddatblygu delwedd ar gyfer bwydydd Cymreig. Byddwn yn darparu £1.3 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf a £2 filiwn ar gyfer 2001-02 ymlaen i’r strategaeth fwyd amaeth, gan roi arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau prosesu a marchnata a chynlluniau datblygu marchnata, sydd mi wn yn uchel ym mlaenoriaethau’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Bydd £1.4 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf a £900,000 y flwyddyn wedyn i helpu ffermwyr i droi at gynhyrchu organig, lle mae cyfleoedd y farchnad yn glir. Clywsoch ddatganiad Christine Gwyther yn gynharach ynghylch ffermio organig a’r arian posibl gan gronfa gil-dwrn organig Nick Brown. Yn ogystal, bydd £500,000 ychwanegol bob blwyddyn i helpu ffermwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio.

I am aware that the Agriculture and Rural Development Committee has placed a priority on establishing schemes for new entrants to farming. We have thought carefully about this. It is a new idea and as yet there is little consensus within the industry whether such a scheme would help young farmers. Therefore, I am proposing £50,000 to fund a study into the appropriateness of a new entrants’ scheme and I would like Christine and the Agriculture and Rural Development Committee to work on this. I hope Members agree that this is the best way forward.

Yr wyf yn ymwybodol bod y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi rhoi blaenoriaeth i sefydlu cynlluniau ar gyfer newydd-ddyfodiaid i ffermio. Yr ydym wedi meddwl yn ofalus am hyn. Mae’n syniad newydd a hyd yma nid oes fawr o gonsensws o fewn y diwydiant ynghylch a fyddai cynllun o’r fath yn helpu ffermwyr ifanc. Felly, cynigiaf £50,000 i dalu am astudiaeth i briodoldeb cynllun newydd-ddyfodiaid a hoffwn i Christine a’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig weithio ar hyn. Gobeithiaf fod Aelodau’n cytuno mai dyma’r ffordd orau ymlaen.

I propose to provide £50,000 for a study of the environmental and economic effects of fishing policy, and to consider whether the administration of fisheries in Wales could be improved.

Bwriadaf ddarparu £50,000 ar gyfer astudiaeth o effeithiau amgylcheddol ac economaidd polisi pysgota, ac ystyried a ellid gwella gweinyddiad pysgodfeydd yng Nghymru.

I now turn to the environment. The Assembly has important responsibilities in terms of sustainable development. That was a clear priority in our debate on the strategic plan. Therefore, we propose £100,000 annually for the development of the Assembly’s sustainable development scheme. We appreciate the additional European environmental obligations being placed on the Environment Agency and we will allocate the agency an extra £500,000 annually. We propose an extra £500,000 for national parks to protect some of the main quality areas of the Welsh environment. In addition, we propose to give an extra £200,000 to the Countryside Council for Wales to reflect its increased workload due to the European Council’s habitats directive and new primary legislation.

Trof yn awr at yr amgylchedd. Mae gan y Cynulliad gyfrifoldebau pwysig yn nhermau datblygiad cynaliadwy. Yr oedd hynny’n flaenoriaeth glir yn ein dadl ar y cynllun strategol. Felly, yr ydym yn cynnig £100,000 yn flynyddol ar gyfer datblygu cynllun datblygiad cynaliadwy’r Cynulliad. Yr ydym yn gwerthfawrogi’r dyletswyddau amgylcheddol Ewropeaidd ychwanegol sydd yn cael eu gosod ar Asiantaeth yr Amgylchedd a byddwn yn dyrannu £500,000 y flwyddyn yn ychwanegol i’r asiantaeth. Yr ydym yn cynnig £500,000 ychwanegol ar gyfer parciau cenedlaethol i warchod rhai o brif ardaloedd ansawdd amgylchedd Cymru. At hynny, bwriadwn roi £200,000 ychwanegol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru i adlewyrchu ei faich gwaith ychwanegol oherwydd cyfarwyddeb cynefinoedd y Cyngor Ewropeaidd a deddfwriaeth sylfaenol newydd.

Excuse me. I must take a sip of water. It is Welsh Water.

Esgusodwch fi. Rhaid imi gymryd llymaid o ddŵr. Dŵr Cymru ydyw.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 51

Alun Michael Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 51

We cannot afford whisky.

Allwn ni ddim fforddio whisgi.

Nick Bourne spoken in English p. 51

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 51

There was a dash of laudanum.

Yr oedd tropyn o lodnwm.

Edwina Hart spoken in English p. 51

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 51

Finally, I will discuss value for money, a recurrent theme in our debate on the strategic plan. Given a fixed cash limit, we can only achieve many of our priorities by getting the best value out of every pound at our disposal. I outline today some of the value for money action points that will be included in the strategic plan under the heading ‘better, simpler government’. It is not yet a complete list. Officials are preparing a comprehensive agenda for action and a summary will be contained in the draft of the plan that I will publish on the internet before Christmas. However, I give an indication of the issues I expect to address.

Yn olaf, trafodaf werth am arian, thema sydd yn ailgodi o hyd yn ein dadl ar y cynllun strategol. O gael terfyn arian penodedig, yr unig ffordd y gallwn sicrhau llawer o’n blaenoriaethau yw drwy gael y gwerth gorau o bob punt sydd gennym i’w gwario. Amlinellaf heddiw rai o’r pwyntiau gweithredu gwerth am arian a gynhwysir yn y cynllun strategol dan y pennawd ‘gwell, symlach llywodraeth’. Nid yw’n rhestr gyflawn eto. Mae swyddogion yn paratoi agenda gynhwysfawr ar gyfer gweithredu a bydd crynodeb wedi’i chynnwys yn y cynllun drafft a gyhoeddir gennyf ar y rhyngrwyd cyn y Nadolig. Fodd bynnag, rhoddaf syniad o’r materion y disgwyliaf eu trafod.

As an Assembly, we have decided to introduce Best Value requirements for local authorities with effect from April 2000 and we are consulting on performance measurement. In the draft budget I have made provision for the additional cost of the audit of Best Value plans.

Fel Cynulliad, yr ydym wedi penderfynu cyflwyno gofynion Gwerth Gorau ar awdurdodau lleol i fod yn weithredol o fis Ebrill 2000 ac yr ydym yn ymgynghori ar fesur perfformiad. Yn y gyllideb ddrafft yr wyf wedi darparu ar gyfer cost ychwanegol archwilio cynlluniau Gwerth Gorau.

I want to concentrate now on three other areas: procurement; reviewing our Assembly sponsored public bodies and agencies; and modernising government. Of the £8 billion block grant, perhaps as much as £2 billion, or 25 per cent, is spent on procurement, either by the Assembly itself or by the bodies it funds—principally local government and health authorities. That is a huge investment and any drive to achieve value for money has to look long and hard at what improvements we can make in the way the public sector in Wales buys goods and services. I am considering the best way we can develop a national initiative to achieve better value and make the best use in the marketplace of the muscle that the public sector undoubtedly has in terms of its buying power. I hope to make an announcement on this in the next few weeks. Several committees have touched on procurement issues and I know that I have your support in pursuing this.

Hoffwn ganolbwyntio yn awr ar dri maes arall: prynu; adolygu’n cyrff ac asiantaethau cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad; a moderneiddio llywodraeth. O’r grant bloc £8 biliwn, caiff efallai gymaint â £2 biliwn, neu 25 y cant, ei wario ar brynu, un ai gan y Cynulliad ei hun neu gan y cyrff y mae’n eu noddi—sef yn bennaf llywodraeth leol ac awdurdodau iechyd. Mae hyn yn fuddsoddiad anferth a rhaid i unrhyw ymgyrch i sicrhau gwerth am arian edrych yn hir a chaled ar ba welliannau y gallwn eu gwneud yn y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn prynu nwyddau a gwasanaethau. Yr wyf yn ystyried y ffordd orau y gallwn ddatblygu cynllun cenedlaethol i sicrhau gwell gwerth a gwneud y defnydd gorau yn y farchnad o’r cryfder sydd gan y sector cyhoeddus yn ddiamau yn nhermau ei rym prynu. Gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hyn yn yr ychydig wythnosau nesaf. Mae sawl pwyllgor wedi cyfeirio at drefniadau prynu ac yr wyf yn gwybod y caf eich cefnogaeth wrth ddilyn y mater hwn.

We have inherited a practice of five yearly reviews of Assembly sponsored public bodies and executive agencies. The Assembly wants to work closely with these bodies but we also have to satisfy ourselves that they work efficiently and effectively. We will put in place shortly a formal requirement for these bodies to include in their plans evidence of how they intend to achieve best value from the resources available to them and what they have achieved to date. We shall also consult shortly on new arrangements for the five yearly reviews, which will test the rationale for each body and address their strategic effectiveness and efficiency. We have to apply in the Assembly itself the disciplines we impose on others.

Yr ydym wedi etifeddu arfer o adolygu cyrff cyhoeddus ac asiantaethau gweithredol a noddir gan y Cynulliad bob pum mlynedd. Mae’r Cynulliad eisiau gweithio’n agos gyda’r cyrff hyn, ond mae’n rhaid inni fodloni’n hunain hefyd eu bod yn gweithio’n effeithlon ac yn effeithiol. Cyn hir byddwn yn sefydlu gofyniad ffurfiol am i’r cyrff hyn gynnwys yn eu cynlluniau dystiolaeth o sut y bwriadant sicrhau gwerth gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt a beth y maent wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn ymgynghori cyn hir ar drefniadau newydd ar gyfer yr adolygiadau pum mlynedd, a fydd yn profi’r cyfiawnhad dros bob corff ac yn delio â’u heffeithiolrwydd a’u heffeithlondeb strategol. Rhaid i ni yn y Cynulliad ei hun arfer y disgyblaethau a osodwn ar eraill.

The Permanent Secretary is giving his leadership in planning how the Assembly can take a firm grasp of the modernising Government agenda, in a way in which we can gear our business appropriately. We also require that all Assembly programmes and policies are reviewed and scrutinised on a rolling programme. I want to see the number of different programmes and initiatives reduced, stronger links with objectives and a greater emphasis on the outcomes that result from our interventions. We must ensure that the money we invest delivers the desired results. We must also ensure that those we are trying to help are not surrounded by a bewildering array of grant schemes, initiatives and policies, all with their own rules and requirements.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn rhoi ei arweiniad o ran cynllunio sut y gall y Cynulliad gymryd gafael gadarn ar agenda moderneiddio Llywodraeth, mewn modd fel y gallwn osod ein busnes yn y gêr priodol. Yr ydym hefyd yn gofyn bod holl raglenni a pholisïau’r Cynulliad yn cael eu hadolygu a’u harchwilio ar raglen ledaenu. Yr wyf eisiau gweld lleihau’r nifer o wahanol raglenni a mentrau, cysylltiadau cryfach ag amcanion a mwy o bwyslais ar y canlyniadau sydd yn deillio o’n hymyriadau. Rhaid inni sicrhau bod yr arian a fuddsoddwn yn rhoi’r canlyniadau a ddymunwn. Rhaid inni sicrhau hefyd nad yw’r rhai yr ydym yn ceisio’u helpu yn eu cael eu hunain yng nghanol llu dryslyd o gynlluniau, mentrau a pholisïau grant, pob un gyda’i reolau a’i ofynion ei hun.

Taken together, this will amount to a substantial programme of action. In conclusion, I emphasise again that our budget priorities must be linked increasingly to the Assembly’s overall priorities. We have limited room for manoeuvre this year, but our proposals are a clear signal that we are determined to make policy drive the money, not the other way around.

Gyda’i gilydd, bydd hyn yn cyfuno i lunio rhaglen weithredu sylweddol. I gloi, pwysleisiaf eto fod yn rhaid i’n blaenoriaethau cyllideb fod yn fwyfwy cysylltiedig â blaenoriaethau cyffredinol y Cynulliad. Ychydig o le i symud sydd gennym eleni, ond mae’n cynigion yn arwydd clir ein bod yn benderfynol o wneud i’r polisi yrru’r arian, nid fel arall.

We cannot meet everyone’s aspirations, but we have tried to present a balanced package, which I would like the Assembly and its Committees to consider further. However, I remind you again that we are operating within a fixed sum. Therefore, if you have proposals to increase spending in one sector, we need to know in which other sectors you intend to reduce spending. With that challenge, I commend the preliminary draft budget to you.

Ni allwn ateb dyheadau pawb, ond yr ydym wedi ceisio cyflwyno pecyn cytbwys yr hoffwn i’r Cynulliad a’i Bwyllgorau ei ystyried ymhellach. Fodd bynnag, rhaid imi eich atgoffa eto ein bod yn gweithredu o fewn swm penodol. Felly, os oes gennych gynigion i gynyddu gwariant mewn un maes, mae angen inni wybod ym mha feysydd eraill y bwriadwch gwtogi gwariant. Gyda’r her honno, cyflwynaf y gyllideb ddrafft ragarweiniol i chi.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 53

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 53

Cynigiaf welliant 1.

I propose amendment 1.

Dafydd Wigley (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 53

Dafydd Wigley (continued) spoken in Welsh and English p. 53

Ar ddechrau’r llinell gyntaf, dileer ‘Bod y Cynulliad’ ac ychwaneger y canlynol

in Welsh After ‘Assembly’ in line 1 add

Ei bod yn ofid i’r Cynulliad nad yw’r gyllideb ddrafft yn gallu darparu arian ar gyfer rhai cynigion allweddol a argymhellwyd gan Bwyllgorau’r Cynulliad ac eraill; yn nodi bod ymdrechion i adfywio Cymru yn cael eu rhwystro gan ddiffygion fformwla Barnett, polisïau llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus, cyfraddau llog a chronfeydd strwythurol Ewrop; yn cydnabod y byddai gweithredu’r egwyddor ychwanegedd a darparu digon o arian cyfatebol yn helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn ac mae’n galw ar y Prif Ysgrifennydd i gyflwyno sylwadau i lywodraeth y DU i’r perwyl hwn, ac

in Welsh regrets that the draft budget fails to provide funding for certain key proposals recommended by Assembly Committees and others; notes that attempts to revitalise Wales are frustrated by the deficiencies of the Barnett formula, UK government policies on public expenditure, interest rates and the European structural funds; recognises that the implementation of the additionality principle and provision of adequate match funding would go some way towards counteracting those difficulties and calls upon the First Secretary to make representations to the UK Government in this regard, and

Yr wyf yn falch o’r cyfle i gynnig y gwelliant ac i gymryd rhan yn y ddadl hanesyddol hon. Dyma gyllideb gyntaf y Cynulliad newydd. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn cyflwyno’r gyllideb fy hun. Yr wyf yn falch o’r cyfle i wrando ar esboniad Edwina ac er bod tipyn o olion bysedd Llundain yn dal i fod ar y gyllideb, y mae’n agor drws i ddyfodol â phatrymau newydd.

in Welsh I am pleased to have the opportunity to propose this amendment and to participate in this historic debate. This is the new Assembly’s first budget. I would have been delighted to present the budget myself. I am pleased to have the opportunity to listen to Edwina’s explanation and although there remain quite a few traces of London’s fingerprints on the budget, it opens the door to a future with new patterns.

Diolchaf i Edwina am ei chwrteisi yn sicrhau bod y papurau ar gael i ni ddydd Iau. Gwn fod rhai cyfeillion wedi cael anawsterau, ond cawsom ni ym Mhlaid Cymru y papurau mewn da bryd. Mae hynny’n ei gwneud yn llawer haws cael cyfle i’w hastudio.

in Welsh I thank Edwina for her courtesy in ensuring that the papers were available to us on Thursday. I know that some colleagues have had difficulties, but we in Plaid Cymru received the papers in good time. That makes it much easier to have an opportunity to study them.

Diolchaf hefyd am y cyfle i gael trafodaeth ar y gyllideb, sydd yn ein helpu i ddeall ble yn union yr ydym yn anghytuno â’r Llywodraeth. Yn naturiol, y mae anghydweld mewn mannau. Byddai o gymorth, pan gloir y ddadl hon, pe ceid esboniad ynglŷn â phryd y mae’r broses gyllidol yn dod i ben. Cyfeiriodd Edwina at y ffaith y bydd ffigurau yn cael eu rhewi ym mis Rhagfyr. Bydd y broses, i bob pwrpas, yn terfynu bryd hynny. Felly, pam disgwyl tan fis Chwefror i gadarnhau’r ffigurau? Byddwn yn falch o glywed dehongliad o hyn.

in Welsh I am also grateful for the opportunity to have a debate on the budget, which helps us to understand where exactly we disagree with the Government. Naturally, there are disagreements in places. It would be helpful, at the close of this debate, to have an explanation of when the budgetary process ends. Edwina referred to the fact that figures will be frozen in December. The process will, to all purposes, end then. Therefore, why wait until February to confirm the figures? I would like to hear an interpretation of this.

Y mae gwendidau sylfaenol a chanolog yn y gyllideb hon, a dychwelaf atynt yn y man. Mae llawer o’r penawdau yn sylwadau Edwina yn rhai i’w croesawu. Fodd bynnag, fel sydd yn digwydd yn aml gyda phenawdau ar ddatblygiadau derbyniol, mae’r arian a fuddsoddir yn eithaf pitw. Serch hynny, y maent yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

in Welsh There are fundamental and central weaknesses in this budget, and I will return to those shortly. Many of the headings in Edwina’s comments are to be welcomed. However, as often happens with headings on acceptable developments, the money invested is relatively minute. However, they point in the right direction.

Yn gyntaf, gosodaf y gyllideb mewn cyd-destun. Dylai hynny fod yn rhan o’n trafodaethau wrth inni sefydlu’r traddodiad o ymwneud â chyllidebau. Mae’r gyllideb hon yn eithaf cyfyngedig. Nid oes gennym yr hawl i amrywio trethi nac i godi incwm. Mae gan y cyngor cymuned lleiaf yng Nghymru fwy o hawliau i amrywio refeniw na ni.

in Welsh First, I will set the budget in context. That should be part of our discussions as we establish a tradition of dealing with budgets. This is quite a limited budget. We do not have the right to vary taxes nor to raise income. The smallest community council in Wales has more rights to vary revenue than us.

Mae gennym swm eithaf sylweddol i’w wario. Pennwyd y swm i raddau helaeth gan fformwla Barnett, a sefydlwyd mor bell yn ôl â 1978. Yr wyf i a’r Llywydd yn cofio’r ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin. Rhybuddiwyd bryd hynny y byddai’r fformwla yn ddiffygiol. Dyna a welwn yn y sefyllfa heddiw.

in Welsh We have quite a substantial amount to spend. This sum was specified to a large degree by the Barnett formula which was set up as long ago as 1978. The Presiding Officer and I remember the debate in the House of Commons. Warnings were given then that the formula would be deficient. We see that in the situation today.

Defnyddiodd fformwla Barnett batrymau gwariant Cymru a Lloegr yn 1978 yn sail i batrymau gwariant byth oddi ar hynny. Maint y boblogaeth yw’r unig ffactor a amrywiodd. Fodd bynnag, mae ein codiad yn y grant bloc yn seiliedig ar y codiad yn y grant bloc Seisnig. Nid yw’n ddim mwy na dim llai. Nid oes gronyn o ystyriaeth wedi ei rhoi i’r newid yn amgylchiadau Cymru a Lloegr. Mae newidiadau mawr wedi digwydd yn ein hamgylchiadau ers 1978, yn y diwydiant glo, y diwydiant dur a’r diwydiant amaeth.

in Welsh The Barnett formula has used expenditure patterns in Wales and England in 1978 as a basis for expenditure patterns ever since. Population size is the only factor that has varied. However, our block grant increase is based on the increase in the English block grant. It is no more and no less. No consideration has been given to the changing circumstances of Wales and England. Substantial changes to our circumstances have occurred since 1978, in the coal, steel and agriculture industries.

Ystyriwch y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 1988, yr oedd cynnyrch mewnwladol crynswth y pen yng Nghymru yn 87 y cant o gyfanswm CMC y pen y DU. Erbyn heddiw, gostyngodd y ffigur i 82 y cant. Ni newidiwyd fformwla Barnett i gydnabod y newid mewn anghenion a oedd yn sicr o ddeillio o hyn. Yn yr Alban, cododd CMC y pen o 93 y cant yn 1988 i bron 100 y cant yn 1994 gyda bron yn union yr un canran. Mae’r Alban hefyd yn cael ei chyfran o arian yn seiliedig ar amgylchiadau 1978. Mae hyn yn anghyfiawn, annheg ac afreal. Cyfaddefodd yr Arglwydd Barnett ei hun fod angen ailedrych ar y fformwla. Gobeithiaf y cawn ni gyfle, Edwina, i edrych ar y fformwla i sicrhau cyllideb sydd yn ymateb i’n hamgylchiadau yng Nghymru mewn ffordd fwy realistig na chyllideb sydd yn dilyn patrwm 20 mlynedd yn ôl.

in Welsh Consider the past 10 years. In 1988 gross domestic product per capita in Wales was 87 per cent of the UK’s GDP per capita. By now, the figure has decreased to 82 per cent. The Barnett formula was not changed to recognise the changing needs that were sure to arise from this. GDP per capita has increased in Scotland from 93 per cent in 1988 to almost 100 per cent in 1994 with almost exactly the same percentage. Scotland also receives its share of money based on the circumstances of 1978. This is unjust, inequitable and unreal. Lord Barnett himself admitted that the formula should be reviewed. I hope that we have an opportunity, Edwina, to look at the formula in order to secure a budget that responds to our circumstances in Wales in a more realistic way than a budget that follows the pattern of 20 years ago.

Dylai lefel gwariant cyhoeddus ym Mhrydain hefyd fod yn ystyriaeth. Pe bai’r lefel honno yn ddigon uchel, efallai na fyddai gennym rai o’n pryderon presennol. Gwelwyd lleihad ar hyd y blynyddoedd yn lefel gwariant cyhoeddus fel rhan o gynnyrch mewnwladol crynswth y DU. Pan ddaeth y Torïaid i rym yn 1979 yr oedd gwariant cyhoeddus yn 43 y cant o gynnyrch mewnwladol crynswth Prydain. Yr oedd y ffigur yn 40 y cant o’r CMC pan ddaeth y Blaid Lafur i rym yn 1997 ac erbyn y llynedd yr oedd y ffigur wedi gostwng i 38.5 y cant o’r CMC. Mae Cymru yn dibynnu ar wariant cyhoeddus i raddau helaeth oherwydd cyflwr ei heconomi. Disgwyliem fwy o bwyslais ar wario cyhoeddus gan Lywodraeth Lafur.

in Welsh The level of public expenditure in Britain should also be a consideration. If that level were high enough, perhaps we would not have some of our current concerns. Over the years, we have seen a decrease in the level of public expenditure as part of the UK’s GDP. When the Tories came to power in 1979, public expenditure was 43 per cent of Britain’s GDP. The figure was 40 per cent of the GDP when the Labour Party came into office in 1997 and by last year the figure had decreased to 38.5 per cent of the GDP. Due to the state of its economy, Wales depends on public expenditure to a great extent. We expected a greater emphasis on public expenditure from a Labour Government.

Mae lefel y gwariant cyhoeddus yn diffinio ein cyllideb. Pe na bai gostyngiad wedi digwydd ers 1997 yng nghanran y CMC sydd yn mynd i’r sector cyhoeddus, byddai gennym £350 miliwn ychwanegol yn ein cyllideb i’w wario ar iechyd, addysg a thai. Edrychaf ar rai cyfeillion ar feinciau’r Blaid Lafur wrth feddwl am effaith polisïau Llafur Newydd Llundain.

in Welsh The level of public expenditure defines our budget. If there had not been a decrease since 1997 in the percentage of GDP that goes to the public sector, we would have an extra £350 million in our budget to spend on health, education and housing. I look to some of our friends on the Labour benches when I consider the effects of New Labour’s London policies.

Mae maint y deisen yn annigonol. Yr ydym yn cytuno ar hynny er y byddwn yn brwydro i gael y cynnydd yr hoffem ei weld. Cwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â’r modd y rhennir y deisen ac a yw hynny’n cael ei wneud yn foddhaol. Gwelsom gynnydd o tua 14.6 y cant yng ngwariant iechyd, o’i gymharu â chynnydd o 15.8 y cant yn ffigurau Prydain a gyhoeddodd Gordon Brown ddoe.

in Welsh The size of the cake is inadequate. We agree on that although we will fight for the increase that we would like to see. Questions also arise about the way the cake is shared and whether that is done in a satisfactory manner. We saw an increase of about 14.6 per cent in health expenditure, compared with an increase of 15.8 per cent in the figures for Britain announced by Gordon Brown yesterday.

Gallwn ofyn sut y daeth y Cabinet i rai o’r penderfyniadau ar y modd i rannu’r arian. Disgwyliem agwedd fwy cynhwysol a newydd. Efallai y gwelir hyn yn y broses a ddilyn. Fodd bynnag, anwybyddwyd llawer o argymhellion a gofynion y Pwyllgorau hyd yma. Croesawn yr hyn a ddywedodd Edwina am y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’r flaenoriaeth a roddwyd i gynllun i helpu pobl ifainc ddechrau gyrfa mewn ffermio. Byddai gweithredu cynllun o’r fath yn costio £3 miliwn y flwyddyn. Yr wyf yn falch o’r £50,000 a ddarparwyd i ariannu astudiaeth o’r cynllun ond hoffwn weld datblygu’r cynllun ei hun.

in Welsh We can ask how the Cabinet came to some of its decisions on how to share the money. We expected a newer, more inclusive attitude. Perhaps this will be seen in the process that follows. However, many of the Committees’ suggestions and requirements have so far been ignored. We welcome what Edwina has said about the Agriculture and Rural Development Committee and the priority given to a plan to help young people start a career in farming. Implementing such a scheme would cost £3 million a year. I welcome the £50,000 provided to fund a study of the scheme but I would like to see the development of the scheme itself.

Argymhellodd y Pwyllgor Datblygu Economaidd y dylid sefydlu banc datblygu. Symudwyd i’r cyfeiriad hwnnw ond ni chawsom ddatganiad ar fanc datblygu.

in Welsh The Economic Development Committee suggested establishing a development bank. We have moved in that direction but we have not had a statement on a development bank.

Poenaf am y lleihad yn y gyllideb ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru. Ar adeg pan ydym am weld yr economi yn cael ei hadfywio, ceir lleihad o £3.5 miliwn yn arian yr Awdurdod. Deallaf y cefndir yn deillio o LG-Hyundai ond yr oedd angen yr adnoddau ym mhob rhan o Gymru. Byddai’r adnoddau wedi gallu cael eu defnyddio.

in Welsh I am concerned about the reduction in the budget for the Welsh Development Agency. At a time when we want to see the economy regenerated, there is a reduction of £3.5 million in the Agency’s funding. I understand the background arising from LG-Hyundai but the resources were needed in every part of Wales. The resources could have been used.

Pwysodd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am brofion llygaid am ddim, ond nid yw hynny ar yr agenda. Pwysleisiodd Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yr angen i wella cyflwr tai, ond gwelwn leihad yn y gyllideb ar gyfer tai.

in Welsh The Health and Social Services Committee pressed for free eye tests, but that is not on the agenda. The Environment and Local Government Committee emphasised the need to improve the condition of houses, but we see a reduction in the budget for housing.

The biggest void in this budget is the failure to provide for the uptake of European structural funds, and you will not be surprised if I address that. Let us consider the facts. The European Objective 1 programme allocates some £187 million for the year 2000-01 for Wales. It depends on pound for pound match funding. Therefore, the total project spend could be as much as £380 million in that year. The Welsh Government has signed up to these figures by virtue of table 3.2 of the single programming document, which was presented to the Assembly and which, I assume, has been sent to Brussels. There was a figure for a national contribution of £152.8 million for the year 2000 to match £187 million of European Union funds and £52 million of private contribution. Why is not this £152 million shown in the budget? We need this money spent next year. It must not be allowed to spill over to some future indeterminate date.

yn Saesneg Y diffyg mwyaf yn y gyllideb hon yw’r methiant i ddarparu ar gyfer defnyddio cronfeydd strwythurol Ewrop, ac ni fyddwch yn synnu os trafodaf hynny. Gadewch inni ystyried y ffeithiau. Mae rhaglen Amcan 1 Ewrop yn dyrannu rhyw £187 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2000-01 i Gymru. Mae’n dibynnu ar arian cyfatebol punt am bunt. Felly, gallai’r cyfanswm a werir ar brosiectau fod gymaint â £380 miliwn yn y flwyddyn honno. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ffigurau hyn drwy rinwedd tabl 3.2 yn y ddogfen raglennu sengl, a gyflwynwyd i’r Cynulliad ac a anfonwyd, dybiaf i, i Frwsel. Yr oedd ffigur ar gyfer cyfraniad cenedlaethol o £152.8 miliwn am y flwyddyn 2000 i gyfateb i £187 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd a £52 miliwn o gyfraniadau preifat. Pam nad yw’r £152 miliwn hwn wedi’i ddangos yn y gyllideb? Mae angen gwario’r arian hwn y flwyddyn nesaf. Ni ellir caniatáu iddo lifo drosodd i ryw ddyddiad amhenodol yn y dyfodol.

Val Feld spoken in English p. 57

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 57

It might assist Dafydd to be aware that the spending on European money is split between commitment and actual spend. Your figures are correct in relation to commitment but we anticipate that the spend will be substantially less. In the first year of the Merseyside Objective 1 programme, no money was spent. That is not to say that we would wish to do the same, but that is the reality. European money is spent at the end of the project, rather than at the beginning. I wonder whether you have considered that, within this budget, there is substantial provision under education and training, agriculture and the national carers’ strategy. Those funds will be available for projects that fit neatly into the Objective 1 programme. I wonder whether you are thinking only in terms of the economic development budget? We must look beyond that.

Efallai y bydd o gymorth i Dafydd gael gwybod y caiff y gwariant ar arian Ewropeaidd ei rannu rhwng ymrwymiad a gwariant gwirioneddol. Mae’ch ffigurau’n gywir o ran ymrwymiad ond yr ydym yn rhagweld y bydd y gwariant gwirioneddol gryn dipyn yn llai. Ym mlwyddyn gyntaf rhaglen Amcan 1 Glannau Mersi, ni wariwyd dim arian. Nid yw hynny’n dweud y byddem ni am wneud yr un fath, ond dyna’r realiti. Caiff arian Ewropeaidd ei wario ar ddiwedd prosiect, yn hytrach nag ar ei ddechrau. Tybed a ydych wedi ystyried fod yna, o fewn y gyllideb hon, ddarpariaeth sylweddol dan addysg a hyfforddiant, amaethyddiaeth a’r strategaeth gofalwyr cenedlaethol. Bydd yr arian hwnnw ar gael ar gyfer prosiectau sydd yn ffitio’n dwt i’r rhaglen Amcan 1. Tybed ai meddwl yn nhermau’r gyllideb ddatblygu economaidd yn unig yr ydych chi? Rhaid inni edrych y tu hwnt i hynny.

Dafydd Wigley spoken in English p. 57

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 57

I am grateful for that intervention but, quite frankly, I do not need lessons on the difference between commitment and expenditure. I well understand that difference and I well understand that there are issues of cash flow. However, in table 3.2 there is no spill over to the years after the end of the programme. It is assumed here and in Brussels that that is the entirety of the programme. The presentation is different for Wales to that which has taken place for Merseyside, south Yorkshire and Cornwall, which provided full match funding figures. Therefore, there is a difference but there are many things that could, should and would be achieved during the coming year if there were a positive determination to ensure that that happened. I will return to that.

Yr wyf yn ddiolchgar am yr ymyriad hwnnw ond, â siarad yn blaen, nid oes arnaf angen gwersi ar y gwahaniaeth rhwng ymrwymiad a gwariant. Yr wyf yn deall y gwahaniaeth hwnnw’n iawn ac yn deall yn iawn fod yna gwestiynau llif arian. Fodd bynnag, yn nhabl 3.2 nid oes dim llifo drosodd i’r blynyddoedd ar ôl diwedd y rhaglen. Mae’n ymddangos yma ac ym Mrwsel mai dyna’r rhaglen yn ei chyfanrwydd. Mae’r cyflwyniad yn wahanol yng Nghymru i’r hyn a ddigwyddodd i Lannau Mersi, de Swydd Efrog a Chernyw, a ddarparodd ffigurau arian cyfatebol llawn. Felly, y mae gwahaniaeth ond y mae llawer o bethau y gellid, y dylid ac y byddid yn eu cyflawni yn ystod y flwyddyn i ddod pe bai penderfyniad cadarnhaol i sicrhau fod hynny’n digwydd. Deuaf yn ôl at hynny.

On training, there may be money in the budget that can trigger resources from Europe. I accept that and will be glad to see whether the entirety of the budget is transferred to the Assembly. At the moment it goes through the Department for Education and Employment in London. I will return to some of those aspects.

Ar hyfforddiant, efallai bod arian yn y gyllideb a all ddenu adnoddau o Ewrop. Derbyniaf hynny a byddaf yn falch o weld a gaiff y gyllideb yn ei chyfanrwydd ei throsglwyddo i’r Cynulliad. Ar hyn o bryd mae’n mynd drwy’r Adran Addysg a Chyflogaeth yn Llundain. Deuaf yn ôl at rai o’r agweddau hynny.

The spending should be additional, over and above what would otherwise have taken place. That is fundamental to our approach to Europe, and Europe’s approach to us. If we are to get this scheme to work, we must do that and it must be transparent. Val’s comments showed that there are items tucked away in various budget headings, which may or may not fit into the European funding programme. This budget document is not transparent.

Dylai’r gwariant fod yn ychwanegol, uwch law a thros ben yr hyn a fyddai wedi digwydd fel arall. Mae hynny’n sylfaenol i’n hymdriniaeth ni ag Ewrop, ac ymdriniaeth Ewrop â ni. Os ydym am gael y cynllun hwn i weithio, rhaid inni wneud hynny a rhaid iddo fod yn dryloyw. Dangosodd sylwadau Val fod yna eitemau yn llechu dan amryfal benawdau cyllideb, a all ffitio i mewn i raglen gyllido Ewrop neu beidio. Nid yw’r ddogfen gyllideb hon yn dryloyw.

We need transparency not only so that we can see exactly how the money adds up, but so that people in Europe and the Treasury can see where we have the shortfall. It is worth looking at the Welsh budget that was drawn up at the beginning of the year—the Government’s expenditure plans for 1999-2000. That was drawn up before we knew what the Objective 1 figures would be. The total expenditure for 2000-01 is shown in Annex 1A at £7,908 million. The current budget document shows that total at £7,909 million—just £1 million more—an increase of 0.03 per cent. In that budget there is no increase to deal with the Objective 1 programme. Not only is there no money for match funding, there is no budget line to allow the money from Europe to find its way into the projects that we need in Wales. That is a basic weakness. If the budgetary position has not moved one iota since that before we knew that we had achieved Objective 1 status, what benefit will we have from this European money? The reality is—

Mae angen tryloywder nid dim ond inni allu gweld yn union sut y mae’r arian yn adio i fyny, ond er mwyn i bobl yn Ewrop ac yn y Trysorlys allu gweld ym mhle y mae’r diffyg gennym. Mae’n werth edrych ar y gyllideb Gymreig a luniwyd ar ddechrau’r flwyddyn—cynlluniau gwariant y Llywodraeth am 1999-2000. Lluniwyd honno cyn inni wybod beth fyddai ffigurau Amcan 1. Dangosir cyfanswm y gwariant am 2000-01 yn Atodiad 1A yn £7,908 miliwn. Mae’r ddogfen gyllideb gyfredol yn dangos bod y cyfanswm hwnnw yn £7,909 miliwn—dim ond £1 filiwn yn fwy—sef cynnydd o 0.03 y cant. Yn y gyllideb honno nid oes dim cynnydd i ddelio â’r rhaglen Amcan 1. Nid yn unig nad oes dim arian ar gyfer ariannu cyfatebol, ond nid oes dim llinell gyllideb i ganiatáu i’r arian o Ewrop ganfod ei ffordd i mewn i’r prosiectau sydd eu hangen arnom yng Nghymru. Mae hynny’n wendid sylfaenol. Os nad yw’r safle cyllidebol wedi symud un iot ers yr hyn ydoedd cyn inni wybod ein bod wedi ennill statws Amcan 1, pa fudd a gawn ni o’r arian Ewropeaidd hwn? Y realiti yw—

Val Feld a gododd—

Val Feld rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 59

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 59

Order. Dafydd has already taken one intervention. Will you take another?

Trefn. Mae Dafydd wedi cymryd un ymyriad yn barod. Wnewch chi gymryd un arall?

Dafydd Wigley spoken in English p. 59

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 59

Yes. I feel generous.

Gwnaf. Yr wyf yn teimlo’n hael.

Val Feld spoken in English p. 59

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 59

I am a bit worried. Is Dafydd aware that until now we have always matched European money from our existing budget? That is how it has always worked. We will have the comprehensive spending review which will hopefully bring additional money and we will be batting for that. You talk as though we have always had new money to fund European regional development fund projects. We have never had it before.

Yr wyf yn poeni ychydig. A yw Dafydd yn ymwybodol ein bod hyd yma wedi darparu arian cyfatebol i arian Ewropeaidd o’n cyllideb gyfredol bob amser? Dyna sut y mae wedi gweithio erioed. Byddwn yn cael yr adolygiad gwariant cynhwysfawr a fydd, gobeithio, yn dod ag arian ychwanegol a byddwn yn batio dros hynny. Yr ydych chi’n siarad fel pe baem bob amser wedi bod ag arian newydd i dalu am brosiectau cronfa datblygu rhanbarthol Ewropeaidd. Ni fu gennym erioed o’r blaen.

Dafydd Wigley spoken in English p. 59

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 59

I am aware of that. I am grateful to you for underlining the weakness of the situation that we have inherited. We could live with that weakness to a greater or lesser extent given how the rules operated when money came into the UK as a whole and Wales’s proportion of that was relatively small. However, once the money coming into Wales is significant compared to the amount going to the three areas in England, the application of the Barnett rules, which determine this issue, makes a nonsense of the whole arithmetic with which we are dealing. It may be that in 2001-02 the review will be able to deal with that, but that means waiting for another year. Also, interestingly, the figures included in Edwina’s budget assume the same figures for that year; there is no increase.

Yr wyf yn ymwybodol o hynny. Diolch i chi am danlinellu gwendid y sefyllfa yr ydym wedi’i hetifeddu. Gallem fyw gyda’r gwendid hwnnw i raddau mwy neu lai yn wyneb y ffordd y gweithiai’r rheolau pan ddeuai’r arian i mewn i’r DU gyfan ac mai cyfran gymharol fach o hynny a ddeuai i Gymru. Fodd bynnag, unwaith y mae’r arian sydd yn dod i mewn i Gymru yn sylweddol o gymharu â’r swm sydd yn mynd i’r tair ardal yn Lloegr, mae gweithrediad rheolau Barnett, sydd yn penderfynu’r mater hwn, yn gwneud nonsens o’r holl rifyddeg yr ydym yn delio â hi. Efallai yn 2001-02 y bydd yr adolygiad yn gallu delio â hynny, ond mae hynny’n golygu aros am flwyddyn arall. Hefyd, yn ddiddorol, mae’r ffigurau a roddir yng nghyllideb Edwina’n rhagdybio’r un ffigurau ar gyfer y flwyddyn honno; nid oes dim cynnydd.

I understand the mechanics perfectly. We are locked into mechanisms that were drawn up before we gained Objective 1 status. That is why we need an additional budget line to deal with it. I think we are at one in this. We should agree across parties lines that in the interests of Wales and to get the money from Europe to which we are entitled and which we need in the Welsh economy, we must have a mechanism that delivers over and above the money that comes through the Barnett formula, as shown in previously established expenditure totals. The match funding must also be over and above it, so that education, health and other budget lines are not robbed. We must address this and we must agree on this as an Assembly, if we are to make the necessary inroads into the Treasury in London’s—

Yr wyf yn deall y mecanwaith yn iawn. Yr ydym yn gaeth mewn mecanwaith a luniwyd cyn inni ennill statws Amcan 1. Dyna pam y mae arnom angen llinell gyllideb ychwanegol i ddelio â hyn. Yr wyf yn credu ein bod yn gytûn ar hyn. Dylem gytuno ar draws y pleidiau, er lles Cymru ac er mwyn cael yr arian o Ewrop y mae gennym hawl iddo ac y mae arnom ei angen yn yr economi Cymreig, fod yn rhaid inni gael mecanwaith sydd yn darparu arian uwch law a thros ben yr arian a ddaw drwy fformwla Barnett, fel a ddangoswyd yn y cyfansymiau gwariant a sefydlwyd o’r blaen. Rhaid i’r arian cyfatebol hefyd fod yn ychwanegol ato, fel na chaiff arian ei ddwyn oddi wrth addysg, iechyd a llinellau cyllideb eraill. Rhaid inni fynd i’r afael â hyn a rhaid inni gytuno ar hyn fel Cynulliad, os ydym am gael y dylanwad angenrheidiol ar y Trysorlys yn Llundain—

Huw Lewis spoken in English p. 60

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 60

I appreciate that you understand the mechanics of the situation, but I am not sure if you understand the politics. [ASSEMBLY MEMBERS: ‘Oh’.] I will explain. Like many Assembly Members, I am busy in my constituency attempting to promote and engender enthusiasm in a local partnership to generate ideas for projects that could obtain European money next year. Every time opposition politicians peddle the line that Dafydd is peddling now, that partnership’s morale is stabbed in the back. The money is there for next year, we just need the morale, enthusiasm and ideas. I appeal to opposition politicians to stop peddling this line because it undermines everything we are planning for next year.

Yr wyf yn sylweddoli eich bod yn deall mecanwaith y sefyllfa, ond nid wyf yn siŵr a ydych yn deall gwleidyddiaeth y sefyllfa. [AELODAU’R CYNULLIAD: ‘O’.] Fe egluraf. Fel llawer o Aelodau’r Cynulliad, yr wyf yn brysur yn fy etholaeth yn ceisio hyrwyddo ac ennyn brwdfrydedd mewn partneriaeth leol i gynhyrchu syniadau ar gyfer prosiectau a allai gael arian Ewropeaidd y flwyddyn nesaf. Bob tro y bydd gwleidyddion y gwrthbleidiau’n pedlera’r lein y mae Dafydd yn ei phedlera’n awr, caiff morâl y bartneriaeth honno gyllell yn ei chefn. Mae’r arian yno ar gyfer y flwyddyn nesaf, dim ond bod angen y morâl, brwdfrydedd a syniadau. Apeliaf ar wleidyddion y gwrthbleidiau i roi’r gorau i bedlera’r lein hon oherwydd mae’n tanseilio popeth yr ydym yn ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dafydd Wigley spoken in English p. 60

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 60

I appeal to Members to stop preparing their excuses in advance of the failure of the scheme. We are determined to get that money for the very reason that the money is needed in Merthyr Tydfil, as it is in Caernarfon and in every part of Wales. It is needed in this coming financial year, not sometime in the never-never running through to 2006. We have been granted over a £170 million a year by Brussels. However, we cannot take it up because the Treasury in London will not provide the match funding. Worse still, even if we had that match funding, if we squeezed other spending programmes such as health and education—and I do not want to see that happening—London would still not pass on to us the EU structural funds that it receives from Brussels which the EU has earmarked for Wales and which Wales is entitled to get and needs. The Treasury still insists on limiting the money given to Wales for the coming year, 2000-01, to the amount calculated by the Barnett formula. Wales receives only 6 per cent of the increase in England and Wales. That is 6 per cent of some £500 million coming from this programme to England and Wales, which amounts to some £30 million instead of the £380 million to which we are entitled on the basis of the full budget provided by the EU.

Apeliaf ar Aelodau i roi’r gorau i baratoi eu hesgusodion cyn i’r cynllun fethu. Yr ydym yn benderfynol o gael yr arian hwnnw am y rheswm syml fod angen yr arian hwnnw ym Merthyr Tudful, fel yng Nghaernarfon ac ym mhob rhan o Gymru. Mae ei angen yn y flwyddyn ariannol nesaf hon ac nid rywbryd yn y dyfodol pell yn rhedeg drwodd i 2006. Mae Brwsel wedi caniatáu dros £170 miliwn y flwyddyn inni. Fodd bynnag, ni allwn ei gymryd am na wnaiff y Trysorlys yn Llundain ddarparu’r arian cyfatebol. Yn waeth fyth, hyd yn oed pe bai gennym yr arian cyfatebol hwnnw, pe baem yn gwasgu rhaglenni gwariant eraill fel iechyd ac addysg—ac nid oes arnaf eisiau gweld hynny’n digwydd—byddai Llundain yn dal i wrthod trosglwyddo’r arian strwythurol Ewropeaidd y mae’n ei dderbyn o Frwsel ac y mae’r UE wedi’i glustnodi ar gyfer Cymru, ac y mae gan Gymru hawl i’w gael ac angen ei gael. Mae’r Trysorlys yn dal i fynnu cyfyngu’r arian a roddir i Gymru am y flwyddyn sydd i ddod, 2000-01, i’r swm a gyfrifwyd gan fformwla Barnett. Dim ond 6 y cant o’r cynnydd yng Nghymru a Lloegr y caiff Cymru ei dderbyn. Mae hynny’n 6 y cant o ryw £500 miliwn a ddaw o’r rhaglen hon i Gymru a Lloegr, sef rhyw £30 miliwn yn lle’r £380 miliwn y mae gennym hawl iddo ar sail y gyllideb lawn a ddarparwyd gan yr UE.

Jenny Randerson spoken in English p. 61

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 61

Do you agree that it is unrealistic to expect us and organisations to be enthusiastic about this money if we are unable to promise organisations that they will receive that money if they come forward with schemes? Do you also agree that for significant areas of Wales outside the Objective 1 and Objective 2 designations, the idea that money that would normally be given to them might be siphoned off as match funding would be totally unacceptable to them? No part of Wales is so prosperous that it can afford to have money siphoned in that way.

Ydych chi’n cytuno ei bod yn afrealistig disgwyl i ni a sefydliadau fod yn frwdfrydig ynghylch yr arian hwn os na allwn addo i sefydliadau y byddant yn derbyn yr arian hwnnw os deuant ymlaen â chynlluniau? Ydych chi hefyd yn cytuno y byddai’r syniady gallai arian a fyddai’n cael ei roi yn arferol i ddarnau mawr o Gymru y tu allan i ardaloedd Amcan 1 ac Amcan 2 gael ei seiffno i ffwrdd fel arian cyfatebol, yn gwbl annerbyniol ganddynt? Nid oes unrhyw ran o Gymru mor gefnog fel y gall fforddio cael arian wedi’i seiffno i ffwrdd fel yna.

Dafydd Wigley spoken in English p. 61

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 61

I am grateful for that intervention. We need to give a loud and clear signal to people who are developing projects, whether in the public or private sector, that the money will be available. This budget does not give that signal because the budget lines do not provide for the figures that I quoted. There is a danger of raiding other budget lines in order to provide the money if we find this much hoped for explosion in interest and commitment from the public and private sector. Let us be clear. This is not just a question of match funding. There is no additional provision in this budget for the basic cash that has to be accorded to Wales from Europe. It is as if the announcement had never been made. At least there is some consistency in the budget. If we do not have the Euro cash then, I suppose, we do not need the match funding either. However, that is an approach that I do not want to see. One scheme that is undermined is the need—and we agreed across party lines on this—for a development bank for Wales. I am unsure as to whether Edwina indicated a movement in that direction. However, look at the potential. We have seen what Merseyside has achieved. They were a year late in getting started because they dragged their heels and I am afraid that the exact same thing will happen in Wales. We want to avoid that scenario. We want to learn from Merseyside and get ahead now. We can do so based on their experience. Merseyside has created 300 new small and medium sized enterprises and 3,750 new jobs. That is what we need in Wales.

Yr wyf yn ddiolchgar am yr ymyriad hwnnw. Mae angen inni ddatgan yn glir a chroyw i bobl sydd yn datblygu prosiectau, boed yn y sector cyhoeddus neu breifat, y bydd yr arian ar gael. Nid yw’r gyllideb hon yn rhoi’r datganiad hwnnw gan nad yw’r llinellau cyllideb yn darparu ar gyfer y ffigurau a ddyfynnais. Mae perygl o ddwyn o linellau cyllideb eraill er mwyn darparu’r arian os digwydd y ffrwydrad hwn yr ydym yn gobeithio amdano mewn diddordeb ac ymrwymiad gan y sector cyhoeddus a phreifat. Gadewch inni fod yn glir. Nid cwestiwn o arian cyfatebol yn unig yw hwn. Nid oes darpariaeth ychwanegol yn y gyllideb hon ar gyfer yr arian sylfaenol y mae’n rhaid ei roi i Gymru o Ewrop. Mae fel pe na bai’r cyhoeddiad erioed wedi’i wneud. O leiaf mae rhyw gysondeb yn y gyllideb. Os na chawn yr arian Ewropeaidd yna, am wn i, nid oes angen yr arian cyfatebol ychwaith. Fodd bynnag, dyna agwedd nad oes arnaf i eisiau’i gweld. Un cynllun sydd yn cael ei danseilio yw’r angen—ac fe gytunwyd ar draws y pleidiau ar hyn—am fanc datblygu i Gymru. Nid wyf yn siŵr a gyfeiriodd Edwina at symudiad i’r cyfeiriad hwnnw. Fodd bynnag, edrychwch ar y potensial. Yr ydym wedi gweld beth y mae Glannau Mersi wedi’i gyflawni. Yr oeddent hwy flwyddyn yn hwyr yn cychwyn oherwydd iddynt lusgo’u sodlau ac mae arnaf ofn y bydd yr un peth yn union yn digwydd yng Nghymru. Mae arnom eisiau osgoi’r senario honno. Mae eisiau inni ddysgu oddi wrth Lannau Mersi ac achub y blaen yn awr. Gallwn wneud hynny ar sail eu profiad hwy. Mae Glannau Mersi wedi creu 300 o fentrau bach a chanolig newydd a 3,750 o swyddi newydd. Dyna beth sydd ei angen arnom yng Nghymru.

The EU allows us to take 7 per cent of the total Objective 1 money in advance over the first two years. That is 7 per cent of £122,000 million, £86 million over two years or £43 million in the next financial year. That money could be available to provide a development bank with the money it needs to launch itself in partnership with other financial institutions. It would make money available for these projects in Merthyr Tydfil and Cardiff or, at least, those needed in the Objective 1 areas close to Cardiff. The money is needed now in order to stimulate the small and medium sized sector. The money is there, we can have it, but there is no budget line providing for it. At the very best, therefore, we can only receive a small fraction of it. We are losing a golden opportunity. There is no use the Government saying that everything is fine for next year, because that cannot be said on the basis of this budget. The indicative budget for 2001-02 is £8,335 million, compared to £8334 million in the document produced almost a year ago. Government Ministers should not say that we do not need the money for 2000-01 because it would not be spent.

Mae’r UE yn caniatáu inni gymryd 7 y cant o gyfanswm yr arian Amcan 1 ymlaen llaw dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae hynny’n 7 y cant o £122,000 miliwn, sef £86 miliwn dros ddwy flynedd neu £43 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Gallai’r arian hwnnw fod ar gael i ddarparu’r arian angenrheidiol i fanc datblygu lansio’i hun mewn partneriaeth â sefydliadau ariannol eraill. Byddai’n sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y prosiectau hyn ym Merthyr Tudful a Chaerdydd neu, o leiaf, yn yr ardaloedd Amcan 1 o amgylch Caerdydd. Mae angen yr arian yn awr er mwyn symbylu’r sector bach a chanolig. Mae’r arian yno, gallwn ei gael, ond nid oes llinell cyllideb ar ei gyfer. Ar y gorau un, felly, dim ond ffracsiwn bach ohono y gallwn ei gael. Yr ydym yn colli cyfle euraid. Nid yw’n tycio i’r Llywodraeth ddweud bod popeth yn iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf, oherwydd ni ellir dweud hynny ar sail y gyllideb hon. Y gyllideb fynegol ar gyfer 2001-02 yw £8,335 miliwn, o gymharu â’r £8,334 miliwn yn y ddogfen a luniwyd bron flwyddyn yn ôl. Ni ddylai Gweinidogion y Llywodraeth ddweud nad oes arnom angen yr arian am 2000-01 am na fyddai’n cael ei wario.

In reality, if the money was committed and if there was certainty, there is no doubt that projects in Wales, in the public and private sectors alike, would be able to use the money. It is arrant, defeatist nonsense and a cop-out to say that the money will not be needed. In every county in Wales strategic road schemes are waiting to be developed. Environmental projects, industrial parks, education and training schemes and energy saving projects could be developed in the next financial year if we had the drive and the money in the budget to enable that to happen.

Mewn gwirionedd, petai’r arian wedi’i addo a phe bai sicrwydd, nid oes amheuaeth y byddai prosiectau yng Nghymru, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, yn gallu defnyddio’r arian. Dwli gwangalon llwyr, ac osgoi cyfrifoldeb, yw dweud na fydd angen yr arian. Ym mhob sir yng Nghymru, mae cynlluniau ffyrdd strategol yn aros i gael eu datblygu. Gellid datblygu cynlluniau amgylcheddol, parciau diwydiannol, cynlluniau addysg a hyfforddiant a phrosiectau arbed ynni yn y flwyddyn ariannol nesaf petai gennym y cymhelliant a’r arian yn y gyllideb i alluogi hynny i ddigwydd.

The reason why projects will not happen in 2000-01 is that the Treasury in London will not allow us to have the European money to which we are entitled but do not have a mechanism to deliver. Gordon Brown is the person standing between Wales and the European funds to which we are entitled. Alun Michael was elected leader of the Labour Party of Wales on the basis that he was in the best position to deliver those goods because he had Tony Blair’s ear and had influence in London. Alun, the time has come to deliver. We do not ask for anything to which we are not entitled. We ask for the European funds that are designated for Wales. We want the money from Europe to be passed over to Wales in full and not pocketed in part by the Treasury in London. We want the money over and above the Barnett block allocation. We demand an increase in the block to provide match funding so that we do not have to raid hospital and school budgets. We demand that for every year between now and 2006. We demand the allocation in the coming year for which the budget is meant to provide.

Y rheswm pam na wnaiff prosiectau ddigwydd yn 2000-01 yw na wnaiff y Trysorlys yn Llundain ganiatáu inni gael yr arian Ewropeaidd y mae gennym hawl iddo ond nad oes gennym fecanwaith i’w sicrhau. Gordon Brown yw’r dyn sydd yn sefyll rhwng Cymru a’r arian Ewropeaidd y mae gennym hawl iddo. Etholwyd Alun Michael yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar y sail mai ef oedd yn y safle gorau i gyflawni’r addewid am fod ganddo glust Tony Blair a dylanwad yn Llundain. Alun, daeth yr awr i gyflawni. Nid ydym yn gofyn am ddim nad yw’n hawl inni. Yr ydym yn gofyn am yr arian Ewropeaidd a ddyrannwyd i Gymru. Mae arnom eisiau i’r arian o Ewrop gael ei drosglwyddo i Gymru yn llawn ac nid ei bocedu’n rhannol gan y Trysorlys yn Llundain. Mae arnom eisiau’r arian yn ychwanegol at ddyraniad bloc fformwla Barnett. Mynnwn gynyddu’r bloc i ddarparu arian cyfatebol fel nad oes rhaid inni ddwyn o gyllidebau ysbytai ac ysgolion. Mynnwn hynny am bob blwyddyn rhwng eleni a 2006. Mynnwn y dyraniad yn y flwyddyn i ddod, y mae’r gyllideb i fod i ddarparu ar ei chyfer.

We will give you, Alun, every support in your and Edwina’s fight with the Treasury for the coming year and for subsequent years. We need now your assurance that you accept that a problem exists, that action needs to be taken and that you will move heaven and earth to solve this problem. If you do, Wales will benefit fully from the European funds. If you do not, Wales will pay an enormous price. Alun, you and your Government have between now and the middle of February at the latest to find this money for Wales.

Fe roddwn i chi, Alun, bob cefnogaeth yn eich brwydr chi ac Edwina gyda’r Trysorlys am y flwyddyn sydd i ddod a’r blynyddoedd wedi hynny. Yn awr mae arnom angen sicrwydd gennych eich bod yn derbyn fod problem yn bodoli, fod angen gweithredu ac y gwnewch chi symud nefoedd a daear i ddatrys y broblem hon. Os gwnewch hynny, bydd Cymru’n manteisio’n llawn o’r arian Ewropeaidd. Os na wnewch, bydd Cymru’n talu pris enfawr. Alun, mae gennych chi a’ch Llywodraeth rhwng hyn a chanol Chwefror fan hwyraf i ganfod yr arian hwn i Gymru.

Peter Black spoken in English p. 64

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 64

I propose amendment 2. At the end of the motion add

Cynigiaf welliant 2. Ar ddiwedd y cynnig ychwaneger

Peter Black (continued) spoken in English p. 64

Peter Black (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 64

There are many good things in the budget. However, I have sought to focus in my amendment on three key priorities: the need to further reduce class sizes for seven to 11-year-olds; the need to reduce the backlog of maintenance on school buildings; and the need to reduce waiting times for health services.

Mae llawer o bethau da yn y gyllideb. Fodd bynnag, yr wyf wedi ceisio canolbwyntio yn fy ngwelliant ar dair blaenoriaeth allweddol: yr angen i leihau maint dosbarthiadau ymhellach i blant saith i 11 mlwydd oed; yr angen i leihau’r gwaith cynnal a chadw sydd yn aros i’w wneud ar adeiladau ysgolion; a’r angen i leihau amserau aros am wasanaethau iechyd.

The budget is disappointing in some ways on those issues. Despite the hype and a £72 million debt, the increases planned for health authorities and national health service trusts have been curtailed and money diverted elsewhere. One possible effect of that could be to increase this debt to £80 million by 2002 while waiting times, which have already increased exponentially since 1997, continue to rise. Alternatively, if the money is used to wipe out NHS trust debts there will only be enough left to meet a 3 per cent rise in expenditure. The number of outpatients waiting more than six months for a first outpatient appointment in Wales has increased by 386 per cent since the last general election. The number of patients waiting more than 12 months and 18 months for inpatient or day-case treatment has also increased by 29.2 per cent and 117.5 per cent respectively. Reducing these waiting times must be an Assembly priority and there must be resources available to do that.

Mae’r gyllideb yn siomedig mewn rhai ffyrdd ar y materion hynny. Er gwaethaf y brolio a dyled o £72 miliwn, mae’r codiadau a fwriadwyd ar gyfer awdurdodau iechyd ac ymddiriedolaethau’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi’u cwtogi, gan ddargyfeirio’r arian i fannau eraill. Un effaith bosibl yn sgîl hyn fyddai cynyddu’r ddyled hon i £80 miliwn erbyn 2002 tra bod amserau aros, a gynyddodd yn gynt a chynt ers 1997, yn dal i godi. Fel arall, os defnyddir yr arian i ddileu dyledion ymddiriedolaethau’r NHS, ni fydd ond digon ar ôl i dalu am godiad 3 y cant mewn gwariant. Mae nifer y cleifion allanol sydd yn aros mwy na chwe mis am apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol yng Nghymru wedi codi 386 y cant ers yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae nifer y cleifion sydd yn aros mwy na 12 mis a 18 mis am driniaeth claf mewnol neu achos dydd wedi codi 29.2 y cant a 117.5 y cant yn y drefn honno. Rhaid i’r Cynulliad roi blaenoriaeth i leihau’r amserau aros hynny a rhaid darparu adnoddau ar gyfer gwneud hynny.

It is also noticeable that the additional £16.1 million for local government has been hypothecated to pay for the costs of Best Value and the performance-related pay scheme for teachers. Of the additional £101 million allocated to local councils between this year and next, we have heard that £75 million is for education. All of this is welcome.

Mae’n amlwg hefyd fod yr £16.1 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol wedi’i bridiannu i dalu am gostau Gwerth Gorau a’r cynllun tâl yn ôl perfformiad i athrawon. O’r £101 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i gynghorau lleol rhwng eleni a’r flwyddyn nesaf, clywsom fod £75 miliwn ar gyfer addysg. Croesewir hyn i gyd.

However, this means that there is only £26 million left for local government in Wales next year to use for the general services that they have to provide. That is effectively a 1 per cent increase for non-education council services. It is inadequate to meet the many pressures on budgets for social services, public transport subsidies, highways maintenance, environmental health services and many other front line services, which have been consistently cut back over many years. The so-called increase in spending of 6 per cent Edwina mentioned is not an increase in actual money; much of that will be paid for by the 10 per cent increase in council tax.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu mai dim ond £26 miliwn sydd ar ôl ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru y flwyddyn nesaf i’w ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau cyffredinol y mae’n rhaid iddynt eu darparu. Mae hynny i bob pwrpas yn gynnydd o 1 y cant i wasanaethau cynghorau ar wahân i addysg. Mae’n annigonol i ateb y pwysau lawer ar gyllidebau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, cymorthdaliadau cludiant cyhoeddus, cynnal priffyrdd, gwasanaethau iechyd yr amgylchedd a llawer o wasanaethau llinell flaen eraill, a gwtogwyd yn gyson dros flynyddoedd lawer. Nid yw’r cynnydd o 6 y cant mewn gwariant, chwedl Edwina, yn gynnydd ariannol gwirioneddol; telir am lawer o hwnnw gan y cynnydd o 10 y cant mewn treth cyngor.

We must be clear about that. It is all very well to say that local government has 6 per cent extra to spend, but it is the council taxpayers who will have to fund that increase while paying more money for a decreased number of services. That is unacceptable.

Rhaid inni fod yn glir am hynny. Digon hawdd yw dweud fod gan lywodraeth leol 6 y cant yn ychwanegol i’w wario, ond y trethdalwr fydd yn gorfod talu hwnnw tra’n talu mwy o arian am lai o wasanaethau. Mae hynny’n annerbyniol.

There is an important issue as regards damping schemes, which has led effectively to some local councils subsidising others, but far more important is the need for the proper funding of front line services, which are key to tackling social inclusion. The Welsh Local Government Association asked for a £5 million contribution from the Assembly towards the damping scheme. If that had been allowed, that money would have gone to just four or five councils. We would much rather see that money put into revenue support grants, so that it will benefit all 22 councils, not just a few. We need to tackle this problem.

Mae yma fater pwysig o ran cynlluniau dampio, sydd wedi golygu yn y bôn fod rhai cynghorau lleol yn noddi eraill, ond llawer iawn pwysicach yw’r angen am ariannu gwasanaethau llinell flaen yn iawn, sydd yn allweddol i fynd i’r afael â chynhwysiant cymdeithasol. Gofynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gyfraniad o £5 miliwn gan y Cynulliad tuag at y cynllun dampio. Petai hynny wedi’i ganiatáu, byddai’r arian hwnnw wedi mynd i bedwar neu bum cyngor yn unig. Byddai’n llawer gwell gennym weld rhoi’r arian hwnnw i mewn i’r grantiau cynnal refeniw, fel bod y 22 cyngor i gyd yn elwa, yn hytrach na dim ond ychydig. Mae angen inni daclo’r broblem hon.

Also, considering our commitment to social inclusion, the failure to tackle the Welsh housing crisis once more is particularly disappointing. Yet again, we have failed to make the link between poor housing and poor health, poor education, crime and disorder and the many other factors that lead to exclusion. We have cut money for building new houses, put more into tackling rough sleeping, but set aside nothing for renovation grants, disabled facility grants or improving council housing. That budget has been cut every year since 1992. That cannot be allowed to continue. Yes, we can target grants better and invest in housing as part of rebuilding local communities, but the resources must be there to do that properly and until they are, social exclusion will continue and additional costs will accrue to other budgets.

Hefyd, o ystyried ein hymrwymiad i gynhwysiant cymdeithasol, mae’r methiant unwaith eto i daclo argyfwng tai Cymru yn arbennig o siomedig. Unwaith eto, yr ydym wedi methu â gwneud y cysylltiad rhwng tai gwael a iechyd gwael, addysg wael, troseddu ac anhrefn a’r llu ffactorau eraill sydd yn arwain at allgáu. Yr ydym wedi lleihau’r arian ar gyfer codi tai newydd, rhoi mwy i mewn i daclo cysgu ar y stryd, ond heb neilltuo dim ar gyfer grantiau adnewyddu, grantiau cyfleusterau i’r anabl na gwella tai cyngor. Torrwyd y gyllideb bob blwyddyn ers 1992. Ni ellir caniatáu i hynny barhau. Gallwn, gallwn dargedu grantiau’n well a buddsoddi mewn tai, fel rhan o ailadeiladu cymunedau lleol, ond rhaid i’r adnoddau fod yno i wneud hynny’n iawn a hyd nes y byddant, bydd dieithrwch cymdeithasol yn parhau a bydd costau ychwanegol yn cronni i gyllidebau eraill.

Moving onto education, I should acknowledge the work that has already been done in reducing class sizes. I note that classes for seven to 11-year-olds, and five to seven-year-olds, are becoming smaller. We need to focus our resources on continuing that trend. We must also identify additional funds for the scandalous backlog in school building maintenance, an area that appears to have been cut despite the concerns of education professionals and parents.

Gan symud ymlaen at addysg, dylwn gydnabod y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i gwtogi maint dosbarthiadau. Nodaf fod dosbarthiadau i blant saith i 11 oed, a phlant pump i saith oed, yn mynd yn llai. Mae angen inni ganolbwyntio’n hadnoddau ar barhau’r duedd honno. Rhaid inni hefyd ganfod cyllid ychwanegol ar gyfer y rhestr warthus o waith sydd yn aros i’w wneud o ran cynnal adeiladau ysgolion, maes sydd fel petai wedi’i dorri er gwaethaf pryderon addysgwyr proffesiynol a rhieni.

As I said in my short debate earlier this year, there is a backlog of between £325 million and £500 million for maintaining school buildings. Insufficient money has been set aside for this, so that each year we will continue to fall behind, putting pupils at risk and forcing teachers and children to work in intolerable conditions. We cannot allow this situation to continue and ceilings to fall down, as Jonathan Morgan mentioned this afternoon.

Fel y dywedais yn fy nadl fer yn gynharach eleni, mae gwerth rhwng £325 miliwn a £500 miliwn o waith cynnal a chadw ar adeiladau ysgolion yn aros i’w wneud. Nid oes digon o arian wedi’i neilltuo ar gyfer hyn, felly bob blwyddyn byddwn yn mynd ymhellach ar ei hôl hi, gan beryglu disgyblion a gorfodi athrawon a phlant i weithio mewn amodau annioddefol. Ni allwn ganiatáu i’r sefyllfa hon barhau a nenfydau’n cwympo, fel y soniodd Jonathan Morgan y prynhawn yma.

It is true that our resources are limited and that to achieve results we need to identify priorities such as those outlined in my amendment, and target them effectively.

Y mae’n wir fod ein hadnoddau’n gyfyngedig a bod angen inni, os am sicrhau canlyniadau, nodi blaenoriaethau fel y rheini a amlinellir yn fy ngwelliant, a’u targedu’n effeithiol.

The Chancellor of the Exchequer’s failure to provide new and additional money for Objective 1 match funding next year handicaps us in these budget deliberations. If we accept the Finance Secretary’s projections, then £25 million of our block grant will be used for match funding next year. That is paltry compared to the £187 million we hope to spend but it is money that could be used for essential services if Gordon Brown was prepared to cough up.

Mae methiant Canghellor y Trysorlys i ddarparu arian newydd ac ychwanegol ar gyfer cyllid cyfatebol Amcan 1 y flwyddyn nesaf yn ein llyffetheirio yn y trafodaethau hyn ar y gyllideb. Os derbyniwn ragamcanion yr Ysgrifennydd Cyllid, yna defnyddir £25 miliwn o’n grant bloc ar gyfer darparu arian cyfatebol y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n bitw o’i gymharu â’r £187 miliwn y gobeithiwn ei wario ond mae’n arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau hanfodol petai Gordon Brown yn barod i roi ei law yn ei boced.

Since the beginning of the Assembly, the administration has sought to fool us on this issue with smoke and mirrors. There has been the Halloween trick of the £35 million gift from Downing Street, which has sunk back into the cauldron with all the empty promises. There has also been the assurance that Tony will see us alright, followed by the revelation that we envisage using our own block grant moneys to match fund Objective 1 this year. Clearly, Tony has let us down.

Ers dechrau’r Cynulliad, mae’r weinyddiaeth wedi ceisio’n twyllo ar y cwestiwn hwn gyda mwg a drychau. Cafwyd tric Calan Gaeaf yn rhodd o £35 miliwn oddi wrth Downing Street, a suddodd yn ôl i’r crochan gyda’r holl addewidion gwag. Cafwyd hefyd y sicrwydd y byddwn yn olreit gyda Tony, cyn datgelu ein bod yn rhagweld defnyddio’n harian grant bloc ein hunain yn gyllid cyfatebol i Amcan 1 eleni. Yn amlwg, mae Tony wedi’n gadael i lawr.

We are now told that much of the match funding is in existing budgets, putting more pressure on the WDA and the Welsh Tourist Board when their budgets are cut in real terms. This also puts more pressure on local government who cannot hope to find the sort of matched funding envisaged.

Dywedir wrthym yn awr fod llawer o’r arian cyfatebol mewn cyllidebau presennol, gan roi mwy o bwysau ar yr Awdurdod Datblygu a’r Bwrdd Croeso pan gaiff eu cyllidebau eu torri mewn termau real. Mae hyn hefyd yn rhoi mwy o bwysau ar lywodraeth leol, na all obeithio canfod y math o arian cyfatebol a ragwelwyd.

It is essential that this £25 million is brought back into front line services and that we make clear to the Chancellor of the Exchequer the cost of his refusal to provide new moneys to match Objective 1 funds on education, health, local government and housing. This money would be enough, if maintained for four years, to reduce waiting times and class sizes and boost the local government settlement. That battle continues, which is why we believe that the aspirations in our amendment are still achievable.

Mae’n hanfodol dod â’r £25 miliwn hwn yn ôl i wasanaethau’r rheng flaen a datgan yn glir i Ganghellor y Trysorlys beth yw cost ei wrthodiad i ddarparu arian newydd i gyfateb i arian Amcan 1 ar addysg, iechyd, llywodraeth leol a thai. Byddai’r arian hwn yn ddigon, o’i gynnal am bedair blynedd, i leihau amserau aros a meintiau dosbarthiadau a chwyddo’r setliad llywodraeth leol. Mae’r frwydr honno’n parhau, a dyna pam y credwn ei bod yn dal i fod yn bosibl gwireddu’r dyheadau yn ein gwelliant.

Glyn Davies spoken in English p. 67

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 67

I propose amendment 3. After the sentence ending ‘Edwina Hart’, add

Cynigiaf welliant 3. Ar ôl y frawddeg sydd yn gorffen ‘Edwina Hart’, ychwaneger

Glyn Davies (continued) spoken in English p. 68

Glyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 68

This is an historic occasion to debate the first ever budget in this Assembly and I am grateful for the opportunity to take part. I agree with all the comments made by the leaders of the other two minority parties on EU structural funding, and will therefore not repeat those points.

Dyma achlysur hanesyddol: dadl ar y gyllideb gyntaf erioed yn y Cynulliad hwn, ac yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan. Yr wyf yn cytuno â’r holl sylwadau a wnaethpwyd gan arweinyddion y ddwy blaid leiafrifol arall ar gronfeydd strwythurol yr UE, ac felly ni ailadroddaf y pwyntiau hynny.

Dafydd Wigley said that his impression was that the fingerprints of Downing Street are on this budget. I go further—this budget was made in Downing Street. Since last Thursday it is also fair to say that it is a budget presented with some typical Downing Street style—rather more concerned with the black art of spin than with addressing the real needs of Wales.

Dywedodd Dafydd Wigley ei fod yn cael yr argraff fod olion bysedd Downing Street ar y gyllideb hon. Af ymhellach—mae’r gyllideb hon wedi’i gwneud yn Downing Street. Ers dydd Iau diwethaf mae’n deg dweud hefyd mai cyllideb ydyw a gyflwynwyd mewn arddull nodweddiadol o Downing Street—gyda mwy o ofal tuag at gelfyddyd ddu’r sbin nag at ateb gwir anghenion Cymru.

Perhaps the Finance Secretary, in her closing speech, will tell us whether or not the preliminary draft budget was discussed with the Westminster-based control centre before last Thursday’s press conference.

Efallai y dywed yr Ysgrifennydd Cyllid wrthym, yn ei haraith gloi, a drafodwyd y gyllideb ddrafft ragarweiniol gyda chanolfan reoli San Steffan cyn cynhadledd dydd Iau diwethaf i’r wasg ai peidio.

Richard Edwards spoken in English p. 68

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 68

As one who represents a party that dictated to Wales behind closed doors for 18 years, you have a bit of a cheek to make those comments.

Fel un sydd yn cynrychioli plaid a fu’n deyrn dros Gymru o’r tu ôl i ddrysau caeëdig am 18 mlynedd, mae gennych dipyn o wyneb yn gwneud y sylwadau hynny.

Glyn Davies spoken in English p. 68

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 68

If I had known that that was the intervention I would not have taken it. However, at least it enabled Richard to participate in the debate.

Pe bawn i wedi gwybod mai dyna oedd yr ymyriad ni fyddwn wedi ei gymryd. Serch hynny, o leiaf fe alluogodd Richard i gymryd rhan yn y ddadl.

We have been invited to note a green budget. It was a long speech with great detail and needs examination. However, it does not address the big issues that affect and concern the people of Wales. It will not, for example, make it any less likely that our hospitals will not have to face cutbacks. Neither will it make it any less likely that waiting lists in Wales will not continue to rise. It does not address the issue of match funding except by lowering expectations and ensuring that so few schemes come forward next year that match funding becomes less of an issue.

Fe’n gwahoddwyd i nodi cyllideb werdd. Yr oedd yn araith hir llawn manylder ac mae angen ei harchwilio. Fodd bynnag, nid yw’n mynd i’r afael â’r materion mawr sydd yn effeithio ar ac yn poeni pobl Cymru. Ni fydd, er enghraifft, yn ei gwneud yn ddim llai tebygol na fydd yn rhaid i’n hysbytai wynebu toriadau. Ni fydd yn ei gwneud yn ddim llai tebygol ychwaith na fydd rhestrau aros yng Nghymru’n parhau i godi. Nid yw’n ymdrin â chwestiwn cyllid cyfatebol ond drwy ostwng disgwyliadau a sicrhau y bydd cyn lleied o gynlluniau’n dod ymlaen y flwyddyn nesaf fel y bydd cyllid cyfatebol yn llai o bwnc llosg.

It will make no difference to the ability of young farmers to enter the farming industry—an issue identified by the Agriculture and Rural Development Committee as being of crucial importance to the future of rural Wales. This administration is much more interested in disrupting the rural life of Wales through banning traditional countryside activities and generating confrontation than it is in addressing the problem of the collapsing rural economy. I could continue but I do not want to be unnecessarily negative, despite the ample opportunity that this green budget affords.

Ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i allu ffermwyr ifanc i fynd i mewn i’r diwydiant ffermio—mater a nodwyd gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig fel un sydd o bwys tyngedfennol i ddyfodol cefn gwlad Cymru. Mae gan y weinyddiaeth hon lawer mwy o ddiddordeb mewn tarfu ar fywyd gwledig Cymru drwy wahardd gweithgareddau traddodiadol cefn gwlad a chreu gwrthdaro nag mewn ateb problem cwymp yr economi wledig. Gallwn fynd ymlaen ond nid wyf eisiau bod yn ddiangen o negyddol, er gwaethaf y cyfle digonol y mae’r gyllideb werdd hon yn ei gynnig.

I want to respect the spirit in which the preliminary draft budget is presented, or at least should be presented, as an opportunity for opposition parties, Assembly Members and Committees to raise issues of concern and hopefully influence the final outcome. The Conservative Party in Wales wants to suggest ways to improve the budget. We hope it can be improved to the extent that we can support it. We shall see.

Yr wyf eisiau parchu’r ysbryd y cyflwynir y gyllideb ddrafft ragarweiniol ynddo, neu o leiaf y dylid ei chyflwyno ynddo, fel cyfle i’r gwrthbleidiau, Aelodau’r Cynulliad a Phwyllgorau godi cwestiynau sydd yn eu poeni a dylanwadu, gobeithio, ar y canlyniad terfynol. Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru eisiau awgrymu ffyrdd i wella’r gyllideb. Gobeithiwn y gellir ei gwella i’r graddau y gallwn ni ei chefnogi. Cawn weld.

Concerns were expressed by opposition Assembly Members last Thursday and in the Assembly yesterday that the draft budget was spun to the media before Assembly Members had seen it. I would like to say to the Business Secretary, even though he is not here, that these concerns are shared by some of his party’s Assembly Members who have spoken to me since yesterday. I will not go into detail about why we were so angry. I want to suggest in a positive way to the Finance Secretary that in future she lets all Assembly Members know beforehand what she intends to do and when she intends to release the papers to them. That will avoid trouble. A widely-held perception of secrecy is almost as bad as secrecy itself.

Mynegwyd pryderon gan Aelodau’r gwrthbleidiau ddydd Iau diwethaf ac yn y Cynulliad ddoe fod y gyllideb ddrafft wedi’i sbinio i’r cyfryngau cyn i Aelodau’r Cynulliad ei gweld. Hoffwn ddweud wrth y Trefnydd, er nad ydyw yma, fod hyn yn poeni rhai o Aelodau ei blaid ei hun yn y Cynulliad a fu’n siarad â mi ers ddoe. Nid af i fanylder ynghylch pam yr oeddem mor flin. Hoffwn awgrymu mewn ffordd gadarnhaol i’r Ysgrifennydd Cyllid y dylai yn y dyfodol roi gwybod ymlaen llaw i holl Aelodau’r Cynulliad beth y mae hi’n bwriadu ei wneud a pha bryd y mae hi’n bwriadu rhyddhau’r papurau iddynt. Bydd hynny’n osgoi helynt. Mae teimlad cyffredinol o gyfrinachedd bron cyn waethed â chyfrinachedd ei hun.

Llywydd, I hope that you will allow me to say something about the context in which we consider this budget. I ask permission because you are sometimes critical of this sort of thing. In this instance, I know that you will not be critical. I speak against a background of massively rising levels of taxation in Wales, imposed on the people of Wales by the Chancellor of the Exchequer. We know from figures recently released by the Organisation for Economic Co-operation and Development that since the Labour Government took office in 1997, Britain and Wales have had the fastest growing tax burden in Europe. For the first time in a generation the percentage of GDP taken in tax is higher in Germany than it is in Britain. This Government has introduced £40 billion of extra stealth taxes. We know that traditional Labour, or classical Labour, as I recall the Secretary for Economic Development once claiming to subscribe to—

Llywydd, gobeithio y caniatewch imi ddweud rhywbeth am y cyd-destun yr ydym yn ystyried y gyllideb hon ynddo. Yr wyf yn gofyn am ganiatâd am eich bod chi weithiau’n feirniadol o’r math hwn o beth. Yn yr achos hwn, yr wyf yn gwybod na fyddwch yn feirniadol. Yr wyf yn siarad yn erbyn cefndir o lefelau trethiant sydd yn codi’n aruthrol yng Nghymru, a hynny’n cael ei orfodi ar bobl Cymru gan Ganghellor y Trysorlys. Gwyddom o ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan y Sefydliad er Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod gan Brydain a Chymru, ers i’r Llywodraeth Lafur ddod i rym yn 1997, y baich treth sydd yn tyfu gyflymaf yn Ewrop. Am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth mae canran y CMC a gymerir mewn treth yn uwch yn yr Almaen nag y mae ym Mhrydain. Mae’r Llywodraeth hon wedi cyflwyno £40 biliwn o drethi lladradaidd ychwanegol. Gwyddom fod Llafur draddodiadol, neu ‘Classical Labour’, fel y cofiaf yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd honni unwaith iddo’i harddel—

Rhodri Morgan spoken in English p. 70

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 70

Classic.

Classic’.

Glyn Davies spoken in English p. 70

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 70

Thank you for that correction. Classic Labour stood for high taxes and high expenditure on public services. New Labour stands for high taxes, high stealth taxes and high expenditure on a war chest for New Labour’s re-election campaign. Under the taxation yoke of the Blair Government, everybody in Wales suffers the worst of all worlds. The Conservative Party in Wales will only support a budget that responds to the problems of Wales. The crisis that exists in the NHS in Wales, the financial crisis that has befallen Wales—

Diolch am y cywiriad yna. Safai ‘Classic Labour’ dros drethi uchel a gwariant uchel ar wasanaethau cyhoeddus. Mae Llafur Newydd yn sefyll dros drethi uchel, trethi lladradaidd uchel a gwariant uchel ar gist ryfel ar gyfer ymgyrch ailethol Llafur Newydd. Dan iau trethiant Llywodraeth Blair, mae pawb yng Nghymru yn dioddef y gwaethaf o bob byd. Ni wnaiff y Blaid Geidwadol yng Nghymru ddim ond cefnogi cyllideb sydd yn ymateb i broblemau Cymru. Mae’r argyfwng sydd yn bodoli yn yr NHS yng Nghymru, yr argyfwng ariannol sydd wedi taro Cymru—

Ann Jones spoken in English p. 71

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 71

It is incredible that you can stand there as a member of the Conservative Party of Wales and say that we are not doing anything for the NHS when it was your administration that cut the NHS down to the bone. In Westminster, your Conservative Party colleagues have called the comprehensive spending review reckless because it provides too much for our public services. Today you are saying the opposite. Will you tell us what the Conservative Party of Wales stands for?

Mae’n anhygoel y gallwch chi sefyll yn y fan honno fel aelod o’r Blaid Geidwadol a dweud nad ydym yn gwneud dim dros yr NHS pan mai eich gweinyddiaeth chi a dorrodd yr NHS i lawr i’r asgwrn. Yn San Steffan, mae’ch cyd-Geidwadwyr wedi galw’r adolygiad gwariant cynhwysfawr yn fyrbwyll am ei fod yn darparu gormod ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Heddiw yr ydych chi’n dweud y gwrthwyneb. A wnewch chi ddweud wrthym dros beth y mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn sefyll?

Glyn Davies spoken in English p. 71

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

I intend to let my erudite colleague David Melding loose on that later on.

Bwriadaf adael fy nghyd-aelod dysgedig David Melding yn rhydd ar hynny yn nes ymlaen.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 71

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 71

I recommend you do that now because it may not be possible to call your colleague later, erudite though he may be.

Argymhellaf eich bod yn gwneud hynny yn awr oherwydd efallai na fydd yn bosibl galw’ch cyd-aelod yn ddiweddarach, er mor ddysgedig y bo.

Glyn Davies spoken in English p. 71

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

I must carry on. I have an important point to deal with. The Conservative Party in Wales will only support the budget—

Rhaid imi gario ymlaen. Mae gennyf bwynt pwysig i’w wneud. Ni wnaiff y Blaid Geidwadol yng Nghymru ddim ond cefnogi’r gyllideb—

David Melding spoken in English p. 71

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 71

Will you take an intervention?

Wnewch chi gymryd ymyriad?

Glyn Davies spoken in English p. 71

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

Yes.

Gwnaf.

David Melding spoken in English p. 71

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 71

I am grateful to my friend. Under the Conservative administration, the NHS in Wales advanced and increased at a record level. That was demonstrated by the number of hospitals we built, which was a record year on year. One hundred million—

Yr wyf yn ddiolchgar i’m cyfaill. Dan y weinyddiaeth Geidwadol, cynyddodd yr NHS yng Nghymru fwy nag erioed. Dangosir hyn gan y nifer o ysbytai a adeiladwyd gennym, a oedd yn record flwyddyn ar ôl blwyddyn. Can miliwn—

Glyn Davies spoken in English p. 71

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

That was precisely the response I would have given if I had not intended to leave it with David Melding.

Dyna’r union ateb y buaswn i wedi’i roi pe na bawn i wedi bwriadu ei adael i David Melding.

Ann Jones spoken in English p. 71

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 71

May I have clarification, Llywydd?

A gaf fi eglurhad, Llywydd?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 71

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 71

That is a matter for the speaker.

Mater i’r siaradwr yw hwnnw.

Glyn Davies spoken in English p. 72

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 72

I wish to move on. The Conservative Party in Wales will only support a budget that responds to Wales’s problems. I have discussed the NHS, match funding and drawing down EU structural funds. The budget does not meet the challenge that we face. We are deeply concerned that the funding allocated to health authorities and trusts is being cut at a time when these bodies are already unable to operate without reducing their services. I hope, Llywydd, that there is time for us to make at length a more considered contribution on this issue.

Yr wyf am symud ymlaen. Ni wnaiff y Blaid Geidwadol yng Nghymru ddim ond cefnogi cyllideb sydd yn ymateb i broblemau Cymru. Yr wyf wedi trafod yr NHS, cyllid cyfatebol, a thynnu cronfeydd strwythurol yr UE i lawr. Nid yw’r gyllideb yn ateb yr her yr ydym yn ei hwynebu. Yr ydym yn poeni’n ddirfawr fod yr arian a ddyrennir i awdurdodau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cael ei gwtogi ar adeg pan fo’r cyrff hyn eisoes yn methu â gweithredu heb leihau eu gwasanaethau. Gobeithio, Llywydd, fod amser ar ôl inni wneud cyfraniad mwy ystyriol am fwy o amser ar y mater hwn.

The Finance Secretary has sidestepped the Agriculture and Rural Development Committee’s recommendations. I challenge Edwina Hart’s comments on how much notice she took of these recommendations. This is the most important aspect of today’s debate. It is more concerned with process than with finance but it involves the fundamental principle of how this Assembly operates and what role the Committees play. Is there any point in us having Committees? The Conservative Party believes that the Committees have a crucial executive role in setting priorities and policies for the Assembly. I look forward to the Finance Secretary’s comments in closing. I suspect that she believes that the Committees’ role is to hold the Cabinet to account, as Select Committees do. The Conservative group disagrees.

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi ochr-gamu argymhellion y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Heriaf sylwadau Edwina Hart ynghylch faint o sylw a roddodd hi i’r argymhellion hynny. Dyma’r agwedd bwysicaf ar y ddadl heddiw. Mae’n ymwneud yn fwy â phroses nag â chyllid ond mae’n ymwneud â’r egwyddor sylfaenol o sut y mae’r Cynulliad hwn yn gweithredu a pha rôl y mae’r Pwyllgorau’n ei chwarae. Oes unrhyw bwynt inni gael Pwyllgorau? Mae’r Blaid Geidwadol yn credu fod gan y Pwyllgorau rôl weithredol allweddol o ran pennu blaenoriaethau a pholisïau i’r Cynulliad. Edrychaf ymlaen at sylwadau’r Ysgrifennydd Cyllid i gloi. Yr wyf yn amau ei bod yn credu mai rôl y Pwyllgorau yw dal y Cabinet i gyfrif, fel y gwna Pwyllgorau Dethol. Mae’r grŵp Ceidwadol yn anghytuno.

The Agriculture and Rural Development Committee put forward six priorities in order of preference. After carefully detailed consideration, support for young farmers entering agriculture was placed at the top of the list, with all-party support. The Finance Secretary has taken minimal notice of this, and the token sum she has put forward only sidesteps the issue. The issue that the Agriculture and Rural Development Committee unanimously considered to be the most important issue facing the countryside in the millennium is only receiving a token amount of financial support in the next year.

Enwodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig chwe blaenoriaeth yn nhrefn eu dewis. Ar ôl ystyriaeth fanwl a gofalus, rhoddwyd cefnogaeth i ffermwyr ifanc sydd yn mynd i mewn i amaethyddiaeth ar ben y rhestr, gyda chefnogaeth pob plaid. Bach iawn o sylw a gymerodd yr Ysgrifennydd Cyllid o hyn, a dim ond ochrgamu’r cwestiwn y mae’r swm pitw a gynigiwyd ganddi. Dim ond swm pitw o gefnogaeth ariannol yn y flwyddyn nesaf a gaiff ei roi i’r mater a farnwyd yn unfrydol gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig fel y mater pwysicaf sydd yn wynebu cefn gwlad yn y mileniwm.

I do not know how forcefully the Secretary for Agriculture and Rural Development argued the Committee’s case in the Cabinet. However, the message that the Cabinet is in charge is loud and clear to the Subject Committees. I hope that the Finance Secretary will look again at this important issue. I accept her positive words, but I hope that she will reflect on the implications—

Nid wyf yn gwybod pa mor rymus y dadleuodd yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig dros achos y Pwyllgor yn y Cabinet. Fodd bynnag, mae’r neges mai’r Cabinet sydd wrth y llyw yn glir ac yn groyw i’r Pwyllgorau Pwnc. Gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid edrych eto ar y mater pwysig hwn. Derbyniaf ei geiriau cadarnhaol, ond gobeithio y gwnaiff hi ystyried oblygiadau—

Brian Gibbons spoken in English p. 73

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 73

In view of that, how do you explain that agriculture has the highest budget increase at 21.6 per cent? That increase must surely reflect the effectiveness with which Christine Gwyther has done her job.

Yn wyneb hynny, sut ydych chi’n esbonio mai gan amaethyddiaeth y mae’r cynnydd uchaf yn y gyllideb, sef 21.6 y cant? Rhaid i’r cynnydd hwnnw, bid siŵr, adlewyrchu effeithiolrwydd Christine Gwyther wrth ei gwaith.

Glyn Davies spoken in English p. 73

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 73

You were not listening to my point. I am discussing the crucial relationship between the Cabinet and its Committees.

Nid oeddech yn gwrando ar fy mhwynt. Yr wyf yn trafod y berthynas allweddol rhwng y Cabinet a’i Bwyllgorau.

Val Feld a gododd—

Val Feld rose—

Glyn Davies spoken in English p. 73

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 73

Oh crikey, are you allowed to intervene during an answer to an intervention?

O iesgob, ydych chi’n cael ymyrryd yn ystod ateb i ymyriad?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 73

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 73

It might be helpful if you would not take any more interventions, Glyn.

Efallai y byddai o gymorth pe na fyddech chi’n cymryd mwy o ymyriadau, Glyn.

Glyn Davies spoken in English p. 73

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 73

I will not take any more interventions but I would like to finish my answer to Brian Gibbons. The main priority of the Agriculture and Rural Development Committee should have been noted by the Cabinet. That is fundamental to the Assembly’s operation. I hope that the Finance Secretary will look at this issue again, reflecting on the implications of her actions and remembering the principles on which this Assembly was created.

Nid wyf am gymryd mwy o ymyriadau ond hoffwn orffen fy ateb i Brian Gibbons. Dylai prif flaenoriaeth y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig fod wedi’i nodi gan y Cabinet. Mae hynny’n dyngedfennol i weithrediad sylfaenol y Cynulliad. Gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid edrych ar hyn eto, gan fyfyrio ar oblygiadau ei gweithredoedd a chofio’r egwyddorion y crëwyd y Cynulliad hwn arnynt.

We welcome some aspects of the budget. We are pleased to see a solid commitment to the national carers’ strategy. David Melding has campaigned for this for a long time and I am sure that he would like an opportunity to comment on it. I was pleased to hear the Finance Secretary insist that the bulk of the cash intended for schools’ devolved budgets should go to those budgets. We support that and hope you mean it. It would be a great change from last year.

Yr ydym yn croesawu rhai agweddau ar y gyllideb. Yr ydym yn falch o weld ymrwymiad cadarn i’r strategaeth genedlaethol i ofalwyr. Mae David Melding wedi ymgyrchu dros hyn ers amser maith ac yr wyf yn sicr yr hoffai ef gyfle i roi sylw arno. Yr oeddwn yn falch o glywed yr Ysgrifennydd Cyllid yn mynnu y dylai rhan helaethaf yr arian a fwriadwyd ar gyfer cyllidebau datganoledig ysgolion fynd i’r cyllidebau hynny. Yr ydym yn cefnogi hynny a gobeithio eich bod yn golygu hyn. Byddai’n newid mawr o’r llynedd.

Overall, this is a draft budget that needs much more work before it can be described as the right budget for Wales. It needs greater input and direction, particularly from the Committees. As the draft budget stands, we cannot even vote in favour of noting it.

Yn gyffredinol, cyllideb ddrafft yw hon sydd angen llawer mwy o waith cyn y gellir ei disgrifio fel y gyllideb iawn i Gymru. Mae angen mwy o fewnbwn a chyfarwyddyd gan y Pwyllgorau yn arbennig. Fel y saif y gyllideb ddrafft, ni allwn hyd yn oed bleidleisio o blaid ei nodi.

Ann Jones spoken in English p. 74

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 74

Point of order. May I have clarification?

Pwynt o drefn. A gaf i eglurhad?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 74

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 74

No. You did request that earlier and Glyn was not prepared to give way. It is a matter for him. It is the content of his speech.

Na chewch. Fe wnaethoch ofyn am hynny yn gynharach ac nid oedd Glyn yn barod i ildio. Mater iddo ef yw hynny. Dyna gynnwys ei araith.

Michael German spoken in English p. 74

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 74

I propose amendment 4 in my name and that of Nick Bourne. Add at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 4 yn fy enw i a Nick Bourne. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig:

Michael German (continued) spoken in Welsh and English p. 74

Michael German (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 74

After months of struggling to make a difference to people’s lives, the Assembly is beginning the one process that can prove to everyone the value of devolution. The budget is our chance to show the people of Wales that the Assembly can determine and act on the priorities of Wales. We can agree our own spending plans to meet the particular needs of Wales. This is not an easy process. No budget is ever easy, as there are always calls for more money in any organisation.

yn Saesneg Wedi misoedd o ymlafnio i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, mae’r Cynulliad yn cychwyn yr un broses a all brofi i bawb beth yw gwerth datganoli. Y gyllideb yw ein cyfle i ddangos i bobl Cymru y gall y Cynulliad benderfynu a gweithredu ar sail blaenoriaethau Cymru. Gallwn gytuno ar ein cynlluniau gwario ein hunain i ateb anghenion penodol Cymru. Nid proses hawdd yw hyn. Nid yw cyllideb byth yn hawdd, gan y ceir galwadau am fwy o arian bob amser mewn unrhyw sefydliad.

The Liberal Democrats are clear about their priorities. My colleague, Peter Black, has already ably called for more attention to be given to reducing hospital waiting times and class sizes for seven to 11-year-olds and improving the standard of school buildings.

yn Saesneg Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn glir ynghylch eu blaenoriaethau. Mae fy nghyd-aelod, Peter Black, eisoes wedi galw’n fedrus am roi mwy o sylw i leihau amserau aros ysbytai a meintiau dosbarthiadau i blant saith i 11 oed a gwella safonau adeiladau ysgolion.

The problem that we face, however, is that as we embark on this debate and the budget process, our room for manoeuvre is being restricted by how the European funds are being dealt with. The European funds have been drawn up in the shadows of the night and not in the light of the day. We need clarity and transparency on the provision of match funding and European funds. We all need to understand the process. It has been hidden from us because it was meant to be hidden and it is clouded because it was meant to be clouded. We need openness and transparency.

yn Saesneg Y broblem a wynebwn, serch hynny, wrth inni gychwyn ar y ddadl hon a phroses y gyllideb, yw fod y lle sydd gennym i symud yn cael ei gyfyngu’n llym gan y ffordd yr ymdrinnir â’r cronfeydd Ewropeaidd. Mae’r cronfeydd Ewropeaidd wedi cael eu llunio yng nghysgodion y nos ac nid yng ngolau’r dydd. Mae angen eglurder a thryloywder ar ddarpariaeth cyllid cyfatebol a chronfeydd Ewropeaidd. Mae angen inni i gyd ddeall y broses. Fe’i cuddiwyd rhagom oherwydd y bwriadwyd ei guddio ac mae’n niwlog oherwydd y bwriadwyd iddo fod yn niwlog. Mae angen bod yn agored a thryloyw.

I am amazed that people think that Merseyside is an example to follow. Merseyside has been given a second chance of being designated an Objective 1 area because it failed in the first round. Merseyside failed to draw down all the money. The Assembly cannot proceed on the old way of working. It does not suit Wales. We have a one off-chance and we cannot afford to blow it. Not only have we been presented with a budget that reflects many of the priorities laid down in Labour’s 1997 election manifesto for the whole of the UK and not just Wales, we have to manage on our own with no UK help to draw down crucial European match funding. Objective 1 status and the money it can bring to Wales is the most important issue facing us. We need to draw down £187 million over the next year and for virtually every year throughout the programme. Yet Edwina’s budget can only offer us £25 million of match funding and that from our own coffers.

yn Saesneg Yr wyf yn rhyfeddu fod pobl yn meddwl fod Glannau Mersi yn esiampl i’w dilyn. Cafodd Glannau Mersi ail gyfle i gael ei dynodi’n ardal Amcan 1 oherwydd methodd yn y rownd gyntaf. Methodd Glannau Mersi â thynnu’r holl arian i lawr. Ni all y Cynulliad fynd ymlaen yn yr hen ffordd o weithio. Nid yw’n gweddu i Gymru. Mae gennym gyfle unwaith-ac-am-byth ac ni allwn fforddio ei golli. Nid yn unig y cyflwynwyd cyllideb inni sydd yn adlewyrchu llawer o’r blaenoriaethau a bennwyd ym maniffesto etholiad 1997 y blaid Lafur ar gyfer y DU gyfan ac nid Cymru ei hun, ond mae’n rhaid inni ymdopi ar ein pennau ein hunain heb ddim cymorth ar lefel y DU i dynnu arian cyfatebol hanfodol Ewrop i lawr. Statws Amcan 1 a’r arian a all ddod yn ei sgîl i Gymru yw’r mater pwysicaf ger ein bron. Mae angen inni dynnu £187 miliwn i lawr dros y flwyddyn nesaf ac am bob blwyddyn drwy’r rhaglen fwy neu lai. Eto ni all cyllideb Edwina ond cynnig £25 miliwn o gyllid cyfatebol inni, a hynny o’n coffrau ni’n hunain.

Mae’n ffaith fod yr arian hwn yn dod o’r gyllideb a roddwyd i ni gan Lundain. Mae’r ffaith hon yn holl bwysig oherwydd fe allem fuddsoddi’r arian hwn i gynnig gwasanaeth pwysig i bobl Cymru. Pe byddai’r arian hwn yn cael ei roi yn gyson am bedair blynedd gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallai wneud cyfraniad gwirioneddol at leihau rhestrau aros i gleifion, lleihau maint dosbarthiadau ysgolion a thalu am waith cynnal a chadw ar adeiladau ysgol.

in Welsh It is a fact that this money comes from the budget that was given to us by London. This fact is extremely important because we could invest this money to provide an important service for the people of Wales. If this money was given consistently over a period of four years it could make a real difference. It could make a real contribution to reducing waiting lists for patients, reducing school class sizes and paying for maintenance work on school buildings.

Allocating £25 million from the block grant for match funding is to take money from front line services. The purpose of the amendment is to ensure that we do not have to do this and that there is sufficient match funding which is additional, clean, new money over and above the allocation provided by the Barnett formula. We must all understand this. We all need the clarity that has been clouded by the process facing us. In the past, we have had to scratch around Welsh Office budgets for match funding, but now the scale is entirely different. At the very least, for every year this programme is in place we need to double the match funding that is provided. If we were to do that from our own budgets, it would have a crippling effect on an already tight budget for schools, hospitals and other public services.

yn Saesneg Cymryd arian oddi wrth wasanaethau’r llinell flaen yw dyrannu £25 miliwn o’r grant bloc ar gyfer arian cyfatebol. Pwrpas y gwelliant yw sicrhau nad oes rhaid inni wneud hyn a bod digon o arian cyfatebol sydd yn arian ychwanegol, glân, newydd yn ychwanegol at y dyraniad a ddarperir gan fformwla Barnett. Rhaid inni i gyd ddeall hyn. Mae arnom i gyd angen yr eglurder a gymylwyd gan y broses sydd yn ein hwynebu. Yn y gorffennol, yr ydym wedi gorfod chwilio a chwalu yng nghyllidebau’r Swyddfa Gymreig am gyllid cyfatebol, ond mae’r raddfa’n hollol wahanol bellach. Ar ei leiaf, am bob blwyddyn y mae’r rhaglen hon yn ei lle mae angen inni ddyblu’r arian cyfatebol a ddarperir. Pe baem yn gwneud hynny o’n cyllidebau ein hunain, byddai’n cael effaith barlysol ar gyllideb sydd eisoes yn dynn ar gyfer ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

We will be told that Wales has failed to spend the European money it has been given since 1994. The record has been a disgrace. It has been extremely difficult to discover the facts. However, over the last six-year programme, Wales failed to spend £100 million due from the European regional development fund alone, because we could not identify the match funding. That is without considering the problems that are caused by match funding for the European social fund, or the agriculture funds.

yn Saesneg Dywedir wrthym fod Cymru wedi methu â gwario’r arian Ewropeaidd a roddwyd iddi ers 1994. Bu’r record yn gywilyddus. Bu’n hynod o anodd darganfod y ffeithiau. Fodd bynnag, dros y rhaglen chwe blynedd ddiwethaf, methodd Cymru â gwario £100 miliwn a oedd yn ddyledus o gronfa ddatblygu rhanbarthau Ewrop yn unig, am nad oeddem yn gallu canfod y cyllid cyfatebol. Mae hynny heb ystyried y problemau a achosir gan gyllid cyfatebol ar gyfer cronfa gymdeithasol Ewrop, na’r cronfeydd amaethyddol.

We will be told that there are not enough projects to meet the supply. However, in all previous rounds, bids for funding have been subject to competition. There have always been more bids than there have been funds available, and more project bids have been approved than were applications available. It is not, therefore, a question of the bids not being there. Failure to spend has occurred because people have had to scratch around in public sector budgets that have already been allocated in order to find the match funding and have been unable to do so.

yn Saesneg Dywedir wrthym nad oes digon o brosiectau i fodloni’r cyflenwad. Fodd bynnag, ym mhob rownd flaenorol, bu cynigion am gyllid yn destun cystadleuaeth. Bu mwy o gynigion bob tro nag yr oedd arian ar gael, a chymeradwywyd mwy o gynigion prosiect nag yr oedd ceisiadau ar gael. Nid cwestiwn o’r cynigion heb fod yno ydyw felly. Methwyd â gwario oherwydd bod pobl wedi gorfod chwilio a chwalu mewn cyllidebau sector cyhoeddus a ddyrannwyd eisoes i ganfod y cyllid cyfatebol, a’u bod wedi methu â gwneud hynny.

There has not been the leadership to make the process work. That is why things must be different this time. We cannot afford to hang about when we know that the past record in Wales and elsewhere in the UK for drawing down European funds has been lamentable. We are also told today that we should trust Tony. We are told that, when the comprehensive spending review reports, money will be given to Wales. This cannot be done, of course, before the CSR takes place in April 2001, some way through the programme. What Wales needs is not a tardy comprehensive spending review, but a common sense review. Not that I am calling for a common sense revolution, although I propose this amendment jointly with Nick Bourne. An urgent review will do because common sense dictates that if this extra money is needed next year and into the following European year—and do not confuse European years with the budget years that we are discussing—the money must be available next year and at the beginning of the following year.

yn Saesneg Ni chafwyd yr arweiniad i wneud i’r broses weithio. Dyna pam y mae’n rhaid i bethau fod yn wahanol y tro hwn. Ni allwn fforddio llaesu dwylo a ninnau’n gwybod fod record Cymru a rhannau eraill o’r DU am dynnu arian Ewropeaidd i lawr yn y gorffennol wedi bod yn echrydus. Dywedir wrthym heddiw y dylem ymddiried yn Tony. Dywedir wrthym, pan geir adroddiad yr adolygiad gwario cynhwysfawr, y rhoddir arian i Gymru. Ni ellir gwneud hyn, wrth gwrs, cyn i’r adolygiad gwario cynhwysfawr ddigwydd yn Ebrill 2001, beth ffordd drwy’r rhaglen. Yr hyn sydd ei wir angen ar Gymru yw nid adolygiad gwario cynhwysfawr hwyr, ond adolygiad synnwyr cyffredin. Nid fy mod i’n galw am chwyldro synnwyr cyffredin, er fy mod yn cynnig y gwelliant hwn ar y cyd â Nick Bourne. Fe wnaiff adolygiad brys y tro, oherwydd mae synnwyr cyffredin yn dweud os oes angen yr arian ychwanegol hwn y flwyddyn nesaf ac i mewn i’r flwyddyn Ewropeaidd wedi hynny—a pheidiwch â chymysgu blynyddoedd Ewropeaidd gyda’r blynyddoedd cyllideb yr ydym ni’n eu trafod—rhaid i’r arian fod ar gael y flwyddyn nesaf ac ar ddechrau’r flwyddyn wedi hynny.

The money cannot be committed on trust. Welsh businesses, voluntary organisations and local authorities cannot be expected to accept a Eurocheque if it does not have the security of a guarantee card from the Treasury. I have no illusions of the difficulties Alun Michael and Edwina Hart face. It is clear that Gordon Brown is intent on building up his election war chest and not opening it until the election is nearer. That may be the agenda for middle England, but it is not good enough for Wales. It is also clear that the Treasury has every motivation to stop the spending of European money in Wales, because unspent money reverts back through Brussels into the Treasury pot to be used elsewhere. It is written in the rules that the more money that is drawn down from the European Union and spent in the UK, the less money the Treasury gets back in its rebate from Brussels.

yn Saesneg Ni ellir addo’r arian ar ymddiriedaeth. Ni ellir disgwyl i fusnesau, cyrff gwirfoddol ac awdurdodau lleol Cymru dderbyn Ewrosiec os nad oes ganddo sicrwydd cerdyn gwarant gan y Trysorlys. Nid wyf yn twyllo fy hun ynghylch yr anawsterau y mae Alun Michael ac Edwina Hart yn eu hwynebu. Mae’n glir fod Gordon Brown â’i fryd ar gynyddu ei goffr rhyfel ar gyfer yr etholiad heb ei agor tan fydd yr etholiad yn nes. Efallai mai dyna’r agenda ar gyfer canol Lloegr, ond nid yw’n ddigon da i Gymru. Mae’n glir hefyd fod gan y Trysorlys bob cymhelliad i atal gwario arian Ewropeaidd yng Nghymru, oherwydd bydd arian nas gwariwyd yn mynd yn ôl, trwy Frwsel, i bot y Trysorlys i’w ddefnyddio yn rhywle arall. Mae’n ysgrifenedig yn y rheolau, po fwyaf yw’r arian a dynnir i lawr o’r Undeb Ewropeaidd a’i wario yn y DU, lleiaf o arian fydd y Trysorlys yn ei gael yn ôl yn ei ad-daliad o Frwsel.

The increase in Objective 1 money is good for Wales but bad for middle England. Gordon Brown has a choice: he can back Wales or back middle England. He can adhere to the redistributive principles that his party was founded on, or he can take the third way and worry about votes in the Home Counties.

yn Saesneg Mae’r cynnydd mewn arian Amcan 1 yn dda i Gymru, ond yn ddrwg i ganol Lloegr. Mae gan Gordon Brown ddewis: gall gefnogi Cymru neu gefnogi canol Lloegr. Gall lynu at yr egwyddorion ailddosbarthol y seiliwyd ei blaid arnynt, neu gall gymryd y drydedd ffordd a phoeni am bleidleisiau yn Siroedd de-ddwyrain Lloegr.

The Assembly must act together. We must stand up for Wales. We must do so before raiding our own budgets, and taking money from our front line services. We all have a responsibility in this, and that is why we are offering to join Alun Michael in presenting a united case to Gordon Brown. I propose that the four Assembly party leaders should go to Downing Street together to make the case for Wales—

yn Saesneg Rhaid i’r Cynulliad weithredu gyda’n gilydd. Rhaid inni sefyll dros Gymru. Rhaid inni wneud hynny cyn dwyn o’n cyllidebau’n hunain, a chymryd arian oddi wrth ein gwasanaethau llinell flaen. Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb yn hyn, a dyna pam yr ydym yn cynnig ymuno ag Alun Michael i gyflwyno achos unedig i Gordon Brown. Cynigiaf y dylai pedwar arweinydd y pleidiau yn y Cynulliad fynd i Downing Street gyda’n gilydd i gyflwyno’r achos dros Gymru—

Alun Cairns spoken in English p. 78

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 78

Is this an application to form a coalition with the Labour administration?

Ai cais yw hwn am ffurfio cynghrair gyda’r weinyddiaeth Lafur?

Michael German spoken in English p. 78

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 78

I am suggesting that the four Assembly party leaders, and if Nick Bourne wants to join that coalition I am sure he will consider it in his own way, present a united Welsh front and go to Downing Street together to make the case for Wales. We know that the money is there. There is the will in the Assembly. Let us present a united front for a unifying budget. I am pleased to move the amendment. [Applause.]

Yr wyf yn awgrymu bod pedwar arweinydd y pleidiau yn y Cynulliad, ac os ydyw Nick Bourne yn dymuno ymuno â’r gynghrair honno yr wyf yn siŵr y gwnaiff ei ystyried yn ei ffordd ei hun, yn cyflwyno ffrynt Gymreig unedig ac yn mynd i Downing Street gyda’n gilydd i gyflwyno’r achos dros Gymru. Y mae’r ewyllys yn y Cynulliad. Gadewch inni gyflwyno ffrynt unedig dros gyllideb unol. Yr wyf yn falch o gynnig y gwelliant. [Cymeradwyaeth.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

This has been an exciting debate but time is always the casualty. I am due to call the Finance Secretary to reply at 5 p.m. In view of the ingenuity shown by the Liberal Democrat group in ensuring two speakers already, I will call one speaker from Plaid Cymru—The Party of Wales and one from the Conservatives. We shall see later if we have time for a Labour speaker before I call Edwina Hart. Bearing in mind that this is the first in a series of opportunities to debate the budget, I will put the names of those unsuccessful at the top of my list in future debates on these matters, ahead perhaps of the front bench if I can get away with that.

Bu hon yn ddadl gyffrous ond amser sydd yn dioddef bob tro. Yr wyf i fod i alw’r Ysgrifennydd Cyllid i ymateb am 5 o’r gloch. Yn wyneb y dyfeisgarwch a ddangoswyd gan grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau dau siaradwr yn barod, yr wyf am alw un siaradwr o Blaid Cymru ac un o’r Blaid Geidwadol. Cawn weld wedyn a oes gennym amser ar gyfer siaradwr o’r Blaid Lafur cyn imi alw ar Edwina Hart. Gan gofio mai dyma’r cyntaf mewn cyfres o gyfleoedd i drafod y gyllideb, rhoddaf enwau’r rhai aflwyddiannus ar ben fy rhestr pan ddadleuir y materion hyn yn y dyfodol, o flaen y fainc flaen efallai os gallaf gael maddeuant am hynny.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 78

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 78

Diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth hynod o bwysig hon ar y gyllideb gyntaf. Mae’n achlysur hanesyddol ac, yn naturiol, disgwyliem bethau mawr o’r gyllideb. Yn gyntaf, disgwyliem weld arwydd clir a phendant o weledigaeth y Llywodraeth hon ynglŷn ag anghenion Cymru ac arwydd fod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi sylweddoli gwir neges canlyniad etholiad y Cynulliad yn 1999. Yr oedd yn neges ddiamwys nad blaenoriaethau Llafur Newydd yn Llundain yw blaenoriaethau pobl Cymru. Yr oedd y pleidleiswyr am i Lywodraeth y Cynulliad adlewyrchu prif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru, sef yr angen am gymdeithas decach, cyfiawnder cymdeithasol a chyfle teg i bawb. Yr oeddem am i’r gyllideb adlewyrchu’r brif ffrwd hon.

Thank you for the opportunity to participate in this extremely important debate on the first budget. It is a historic occasion and, naturally, we expected great things from the budget. First, we expected to see a clear and definite indication of this Government’s vision on the needs of Wales and an indication that the Labour Party in Wales has realised the true message of the Assembly election results in 1999. It was an unambiguous message that the priorities of New Labour in London are not the priorities of the people of Wales. The voters wanted the Assembly Government to reflect the mainstream of politics in Wales, which is the need for a more equitable society, social justice and fair opportunities for all. We wanted the budget to reflect that mainstream.

Fodd bynnag, fe’n siomwyd i raddau helaeth. Nid oes llawer o wahaniaeth yng nghynnwys y gyllideb hon i’r hyn y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi’i gynnig yn y Swyddfa Gymreig ers talwm. O dan yr hen drefn, byddai’n rhaid i’r gyllideb honno fod wedi cael sêl bendith y Prif Weinidog ei hun.

However, we have been disappointed to a susbstantial degree. There is not much difference between the content of this budget and what the Secretary of State for Wales would have proposed in the Welsh Office in the past. Under the old order, that budget would have had to have received the seal of approval of the Prime Minister himself.

Deallwn mai cyllideb ddrafft yw hon, ond mae’n awgrymu bod marc cwestiwn ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i wleidyddiaeth gonsensws gynhwysol go iawn. Gobeithiaf nad yw’n arwydd o’r syniad mai’r Llywodraeth fydd yn llywodraethu a’r gwrthbleidiau yn cytuno â hi. Rhoddwyd yr argraff inni ein bod yn esgor ar fath newydd o wleidyddiaeth; system fwy agored o lywodraeth lle y byddai barn y pleidiau eraill yn cael ei hystyried o ddifrif. Rhaid i’r Llywodraeth dderbyn bod pob plaid yn y Cynulliad yn blaid leiafrifol a bod cydweithrediad a chyd-ddealltwriaeth yn hanfodol i sicrhau nid yn unig lwyddiant y gyllideb, ond llwyddiant y Cynulliad hefyd.

We understand that this is only a draft budget, but it suggests that there is a question mark over the Government’s commitment to truly inclusive consensus politics. I hope that it is not an indication of the idea that the Government will govern and the opposition parties will agree with it. We were given the impression that we were giving birth to a new kind of politics; a more open system of government where the opinion of the other parties would be afforded serious consideration. The Government must accept that each party in the Assembly is a minority party and that co-operation and mutual understanding is essential to ensure not only the success of the budget, but also the success of the Assembly.

Mae’r cydweithredu hwn wedi bod yn digwydd ar lefel Pwyllgorau. Yr ydym wedi ceisio cydweithredu a dod i gonsensws ynglŷn â’r prif flaenoriaethau ar gyfer amaethyddiaeth a’r economi wledig yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

That co-operation has been happening at Committee level. We have tried to co-operate and to achieve a consensus on the main priorities for agriculture and the rural economy in the Agriculture and Rural Development Committee.

Brian Gibbons spoken in English p. 79

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 79

Will Ieuan Wyn Jones deal with Edwina Hart’s challenge? If he has different priorities, from where will he take money to fund them?

A wnaiff Ieuan Wyn Jones ddelio â her Edwina Hart? Os oes ganddo flaenoriaethau gwahanol, o ble y gwnaiff gymryd yr arian i dalu amdanynt?

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh and English p. 80

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 80

I will deal with that in a moment.

yn Saesneg Deliaf â hynny mewn munud.

Mae’r Pwyllgor ei hun, gan gynnwys Aelodau Llafur, wedi creu rhestr o flaenoriaethau i’w rhoi gerbron y Cabinet i’w thrafod, ond beth a ddigwyddodd i’r blaenoriaethau hynny? Pam y gwrthodwyd y blaenoriaethau yn y drefn y cyflwynwyd hwy gan y Pwyllgor?

in Welsh The Committee itself, including Labour Members, formulated a list of priorities to be put before the Cabinet for discussion, but what happened to those priorities? Why have those priorities been rejected in the order they were submitted by the Committee?

Cytunaf â Glyn Davies ynglŷn â phwysigrwydd rhoi blaenoriaeth i ffermwyr ifanc. Yr oedd cytundeb llwyr ar draws y pleidiau ar y pwynt hwn. Derbyniaf fod Edwina Hart wedi gwneud datganiad heddiw y bydd adroddiad yn cael ei gomisiynu i ystyried cynllun i helpu pobl ifainc sydd yn dechrau ffermio. Fodd bynnag, byddai’n well gennyf weld fod arian yn cael ei neilltuo yn y gyllideb i’n galluogi ni i weithredu’r cynllun y flwyddyn nesaf. Ein siom fawr ni yw nad oes unrhyw beth yn y gyllideb ar gyfer hynny.

in Welsh I agree with Glyn Davies about the importance of giving priority to young farmers. There was total consensus across the parties on this point. I accept that Edwina Hart has made a statement today that a report will be commissioned to consider a scheme to help young entrants into farming. However, I would prefer to see money being earmarked in the budget to enable us to implement that scheme next year. Our greatest disappointment is that there is nothing in the budget for that.

Croesawaf yr arian ychwanegol ar gyfer Tir Gofal a’r cynllun cymorth organig. Fodd bynnag, y gwirionedd yw bod y Pwyllgor wedi llunio rhestr o flaenoriaethau a bod y rheini wedi eu gwrthod. O ganlyniad, bydd yn rhaid i’r Pwyllgor ystyried, gyda Christine Gwyther, yr angen i symud ymlaen ar hyn.

in Welsh I welcome the additional funding for Tir Gofal and the organic aid scheme. However, the reality is that the Committee drew up a list of priorities and they have been rejected. Consequently, the Committee must consider, with Christine Gwyther, the need to take this forward.

Val Feld spoken in English p. 80

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 80

I am sure that Plaid Cymru has many researchers and I wonder whether Ieuan has totalled this up. According to my sums, eight out of nine requests from the Agriculture and Rural Development Committee have been met.

Yr wyf yn siŵr fod gan Blaid Cymru lawer o ymchwilwyr, ond tybed a yw Ieuan wedi adio hyn i fyny. Yn ôl fy symiau i, mae wyth allan o naw cais gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi’u hateb.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 80

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 80

That is not the case. The Committee decided on an order of priority. Every Committee Member would acknowledge that it would have been impossible to cover all our plans in the first year. However, we made it clear that the chief priority was to give confidence to young people entering the farming industry. We have not had an explanation as to why that proposal was rejected. If we as a Committee put forward plans to be considered by the Cabinet, we are at least entitled to know why they are being downgraded. That is all we ask in this debate. I would have preferred to see a figure in the budget for that proposal. However, clearly the Committee will need to reflect on the draft budget before us.

Nid yw hynny’n wir. Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn flaenoriaeth. Byddai pob Aelod o’r Pwyllgor yn cydnabod y byddai wedi bod yn amhosib cyflawni’n holl gynlluniau yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, gwnaethom yn glir mai’r brif flaenoriaeth oedd rhoi hyder i bobl ifainc sydd yn dechrau yn y diwydiant ffermio. Nid ydym wedi cael eglurhad o ran pam y gwrthodwyd y cynnig hwnnw. Os ydym ni fel Pwyllgor yn rhoi cynlluniau ymlaen i’w hystyried gan y Cabinet, mae gennym hawl o leiaf i gael gwybod pam eu bod yn cael eu hisraddio. Dyna’r cyfan yr ydym yn ei ofyn yn y ddadl hon. Buaswn wedi hoffi gweld ffigur yn y gyllideb ar gyfer y cynnig hwnnw. Fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd angen i’r Pwyllgor ystyried y gyllideb ddrafft sydd ger ein bron.

When Edwina Hart issued the press release announcing the draft budget she said that it is in tune with the Assembly’s priorities. With the greatest of respect to Edwina this budget does not yet reflect the Assembly’s priorities. It reflects the Government’s priorities within the Assembly. If it is to reflect the Assembly’s priorities, the Government must be prepared to listen to what other Assembly Members say.

Pan gyhoeddodd Edwina Hart y datganiad i’r wasg yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, dywedodd ei bod yn gydnaws â blaenoriaethau’r Cynulliad. Gyda’r parch mwyaf i Edwina, nid yw’r gyllideb hon hyd yma yn adlewyrchu blaenoriaethau’r Cynulliad. Mae’n adlewyrchu blaenoriaethau’r Llywodraeth o fewn y Cynulliad. Os ydyw am adlewyrchu blaenoriaethau’r Cynulliad, rhaid i’r Llywodraeth fod yn barod i wrando ar yr hyn y mae Aelodau eraill y Cynulliad yn ei ddweud.

Let us remember this. The Labour Administration in this Assembly must not act as though it has a majority. For this budget to proceed it needs the goodwill of other Assembly Members and other parties. This budget must reflect the views of parties across this Assembly if it is to reflect the Assembly’s priorities as a whole.

Cofiwn hyn. Rhaid i’r Weinyddiaeth Lafur yn y Cynulliad hwn beidio ag ymddwyn fel petai ganddi fwyafrif. I’r gyllideb hon fynd yn ei blaen mae angen ewyllys da Aelodau eraill a phleidiau eraill. Rhaid i’r gyllideb hon adlewyrchu barn y pleidiau ar draws y Cynulliad hwn os yw am adlewyrchu blaenoriaethau’r Cynulliad yn gyfan.

Let us consider this budget in our committees and in our respective parties. My main message to the Government is that this budget must be bold. It must have initiatives which are either identifiably Welsh or are issues—

Gadewch inni ystyried y gyllideb hon yn ein pwyllgorau ac yn ein pleidiau. Fy mhrif neges i i’r Llywodraeth yw bod yn rhaid i’r gyllideb hon fod yn eofn. Rhaid iddi gynnwys mentrau sydd un ai’n amlwg Gymreig neu sydd yn faterion—

Geraint Davies spoken in English p. 81

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 81

Do you agree that this budget will do nothing for the Valleys’ communities? The communities that suffered most under the Tories are being dealt more of the same. There have been cuts in vital areas such as hospitals, housing, economic development and there is no mention of European match funding. This will allow the Valleys to continue to suffer. Do you agree therefore that we must have a radical reappraisal of this budget to ensure that the Valleys have a prosperous future in the new millennium?

Ydych chi’n cytuno na wnaiff y gyllideb hon ddim i gymunedau’r Cymoedd? Mae’r cymunedau a ddioddefodd fwyaf dan y Torïaid yn cael mwy o’r un driniaeth. Bu cwtogi mewn meysydd hanfodol, fel ysbytai, tai, datblygu economaidd ac nid oes dim sôn am arian cyfatebol Ewropeaidd. Bydd hyn yn caniatáu i’r Cymoedd barhau i ddioddef. Ydych chi’n cytuno felly fod yn rhaid cael ailasesiad radicalaidd o’r gyllideb hon er mwyn sicrhau y caiff y Cymoedd ddyfodol llewyrchus yn y mileniwm newydd?

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 82

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 82

That is a well-made point and I hope that the Finance Secretary will note the concerns felt in many of the Valleys’ areas. We need to address the priorities of those areas within this budget. I am grateful to Geraint Davies for bringing that to the Assembly’s attention.

Dyna bwynt wedi’i wneud yn dda a gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid nodi’r pryderon a deimlir mewn sawl man yn y Cymoedd. Mae angen inni ddelio â blaenoriaethau’r ardaloedd hynny o fewn y gyllideb hon. Yr wyf yn ddiolchgar i Geraint Davies am ddod â hynny i sylw’r Cynulliad.

Let us, therefore, ensure that the policies we promote in the budget are in tune with the aspirations of the people of Wales and in tune with the way they voted in May 1999. We will judge this budget on the way the Government responds to the aspirations of the people of Wales as seen through their elected representatives in the Assembly. In the final analysis, the budget will be judged in the best interests of the people of Wales.

Gadewch inni, felly, sicrhau fod y polisïau a hyrwyddwn yn y gyllideb yn gydnaws â dyheadau pobl Cymru ac yn gydnaws â’r ffordd y gwnaethant bleidleisio ym Mai 1999. Byddwn yn barnu’r gyllideb hon ar y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ymateb i ddyheadau pobl Cymru fel y’u gwelir drwy eu cynrychiolwyr etholedig yn y Cynulliad. Ar ddiwedd y dydd, caiff y gyllideb ei barnu er lles gorau pobl Cymru.

Nick Bourne spoken in English p. 82

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 82

It is a privilege to take part in the first budget debate of the National Assembly for Wales.

Mae’n fraint cymryd rhan yn nadl gyllideb gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

This is a London budget, albeit delivered in Cardiff. I have looked, almost in vain, for things to welcome in Edwina’s presentation. It was a typically robust presentation and I am pleased that Edwina was drinking Welsh water. I welcome the money for Tir Gofal, the rough sleepers initiative and a carers’ strategy. Edwina said, not unreasonably, that if we look for increases we must explain from where they will be funded. However, I noticed she told us about the increases in expenditure but not about the source of those increases. The little room for manoeuvre she mentioned means that money must have been moved from one category to another. There will, therefore, be losers. Edwina said little or nothing about the massive local government council tax increases, which we oppose and which should have been mentioned. Those tax increases are no doubt being used to finance some of these projects.

Cyllideb Lundeinig yw hon, er iddi gael ei chyflwyno yng Nghaerdydd. Edrychais, bron yn ofer, am bethau i’w croesawu yng nghyflwyniad Edwina. Yr oedd yn gyflwyniad nodweddiadol o gryf ac yr wyf yn falch mai dŵr Cymru yr oedd Edwina’n ei yfed. Yr wyf yn croesawu’r arian i Tir Gofal, y cynllun ar gyfer rhai sydd yn cysgu ar y stryd a’r strategaeth ofalwyr. Dywedodd Edwina, nid yn afresymol, os edrychwn am godiadau rhaid inni egluro o ble y daw’r arian. Fodd bynnag, sylwais ei bod hi wedi dweud wrthym am y codiadau mewn gwariant ond nid am ffynhonnell y codiadau hyn. Mae’r lle cyfyng i symud y soniodd hi amdano yn golygu bod yn rhaid bod arian wedi’i symud o un categori i’r llall. Felly bydd rhywun yn colli allan. Ychydig iawn a ddywedodd Edwina am y codiadau anferthol yn nhreth cyngor llywodraeth leol, a wrthwynebir gennym ni ac y dylid bod wedi’u crybwyll. Mae’r codiadau treth hynny, mae’n siŵr, yn cael eu defnyddio i ariannu rhai o’r prosiectau hyn.

The health service allocation misleadingly creates the impression that hospitals will benefit from this budget. They will not, because there is a cut in the money going to hospitals and health authorities. There is an increase in the amount going to NHS services, demand-led on the drugs budget. That has increased partly because of reforms to GP fundholding and partly because of the more expensive patient packs that must be produced due to the European directive to which we signed up some time ago and that this Government has implemented.

Mae’r dyraniad i’r gwasanaeth iechyd yn rhoi’r camargraff y bydd ysbytai ar eu hennill o’r gyllideb hon. Ni fyddant, oherwydd ceir toriad yn yr arian sydd yn mynd i ysbytai ac awdurdodau iechyd. Ceir cynnydd yn y swm a aiff i wasanaethau’r NHS, wedi’i arwain gan y galw ar y gyllideb gyffuriau. Mae hwnnw wedi cynyddu’n rhannol oherwydd diwygio trefn cyllidebau meddygon teulu ac yn rhannol oherwydd y pecynnau cleifion drutach y mae’n rhaid eu cynhyrchu oherwydd y gyfarwyddeb Ewropeaidd a lofnodwyd gennym beth amser yn ôl ac a weithredwyd gan y Llywodraeth hon.

Lorraine Barrett spoken in English p. 83

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 83

Does Nick Bourne agree that it was also misleading of David Melding to show us a list of hospitals opened by the Tories, when there is a list of hospitals that they closed, which he chose not to show us?

A yw Nick Bourne yn cytuno mai camarweiniol oedd i David Melding ddangos rhestr inni o ysbytai a agorwyd gan y Torïaid, tra bod rhestr o ysbytai a gaewyd ganddynt, ond y dewisodd beidio â’i dangos inni?

Nick Bourne spoken in English p. 83

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 83

I recall that he also showed us a list of hospitals opened under the Labour Government during the past two and a half years and it formed a blank sheet of paper. We have nothing to be ashamed of on that matter.

Yr wyf yn cofio iddo ddangos inni hefyd restr o ysbytai a agorwyd dan y Llywodraeth Lafur yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ac mai dalen wag o bapur oedd honno. Nid oes gennym ddim byd i deimlo cywilydd yn ei gylch yn y mater hwnnw.

David Melding spoken in English p. 83

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 83

I asked the Library for a list of hospital closures during the previous Conservative Government because I knew that the Secretary for Health and Social Services would refer to the alleged 73 that were closed during that time. The vast bulk of those closures were due to replacements by new modern hospitals and units. However, I knew that the headline figure would be thrown at us.

Gofynnais yn y Llyfrgell am restr o ysbytai a gaewyd yn ystod teyrnasiad y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf oherwydd gwyddwn y byddai’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfeirio at y 73 honedig a gaewyd yn ystod yr amser hwnnw. Yr oedd mwyafrif llethol yr ysbytai hynny a gaewyd yn cael eu disodli gan ysbytai ac unedau newydd modern. Fodd bynnag, yr oeddwn yn gwybod y câi’r ffigur pennawd ei daflu atom.

Nick Bourne spoken in English p. 83

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 83

Even if we did have to wait a couple of weeks before the penny dropped. I come to the main issue. In reality, this is a Hamlet without the prince budget and has been referred to by the leader of the main opposition party—in terms of numbers at least—as the mint with a hole budget. It is actually a black hole budget because there is nothing in it about European funding. That is the main challenge that we will face in the months and years ahead. It is shameful, after all our probing and getting in return the blank response that the Prime Minister will not let us down, that all we now know is that we will be allowed to use our existing funds for match fund purposes. Thank you for nothing, Prime Minister. We knew that before. That key issue will become an issue of confidence. I hope Edwina will address it because she must know that the opposition parties are all united against her and that many of her backbenchers are also concerned. The Member for Merthyr Tydfil may huff and puff about rumours being peddled, but we are peddling the truth. If we do not receive the money, projects cannot be run throughout Wales for the next seven years and we will miss this historic one-off opportunity. Come clean, please, Edwina. Tell us what the position is, whether you are lobbying Westminster, and if so, what is the response. If this were a Cardiff budget, delivered in Cardiff with London’s co-operation, we would have a commitment of match funds, but there is a deafening silence. That is the chief concern about this budget.

Hyd yn oed os oedd yn rhaid inni aros wythnos neu ddwy cyn i’r geiniog ddisgyn. Symudaf at y prif gwestiwn. Mewn gwirionedd, dyma gyllideb Hamlet heb y tywysog a chyfeiriwyd ati gan arweinydd y brif wrthblaid—yn nhermau niferoedd o leiaf—fel cyllideb y ‘mint with a hole’. Cyllideb twll du ydyw mewn gwirionedd, achos nid oes un dim ynddi am arian Ewropeaidd. Dyna’r brif her fydd yn ein hwynebu yn y misoedd a’r blynyddoedd o’n blaenau. Mae’n warthus, ar ôl ein holl holi a’r atebion gwag a gawsom na fyddai’r Prif Weinidog yn ein siomi, mai’r cwbl a wyddom yn awr yw y caniateir inni ddefnyddio’n harian presennol at ddibenion cyllid cyfatebol. Diolch am ddim byd, Brif Weinidog. Yr oeddem yn gwybod hynny o’r blaen. Bydd y cwestiwn allweddol hwnnw’n dod yn gwestiwn o hyder. Gobeithio y gwnaiff Edwina ddelio ag ef oherwydd mae’n rhaid ei bod yn gwybod fod y gwrthbleidiau i gyd yn unedig yn ei herbyn a bod llawer o’i meinciau cefn yn poeni hefyd. Gall yr Aelod dros Ferthyr Tudful frygowthan am bedlera sibrydion, ond y gwir yw’r hyn sydd yn cael ei bedlera. Os na dderbyniwn yr arian, ni ellir rhedeg prosiectau ar hyd a lled Cymru am y saith mlynedd nesaf a byddwn wedi colli’r cyfle unwaith-ac-am-byth hanesyddol hwn. Dywedwch y gwir, os gwelwch yn dda, Edwina. Dywedwch beth yw’r sefyllfa, a ydych chi’n lobïo San Steffan, ac os ydych, beth yw’r ymateb. Petai hon yn gyllideb Caerdydd, wedi’i chyflwyno yng Nghaerdydd gyda chydweithrediad Llundain, byddai gennym ymrwymiad i ddarparu cyllid cyfatebol, ond tawelwch llethol yw’r cwbl a gawn. Dyna’r prif bryder ynghylch y gyllideb hon.

Edwina Hart spoken in English p. 84

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 84

I am not a magician, Mike and I do not exist in the shadows, but after listening to you all today, I wish I were. I would have liked to have been able to conjure up the moneys required to realise all your hopes and expectations. I have tried to manage within the confines of the set amount. It is not easy to manage the conflicting pressures, as you all know from your lives before becoming Assembly Members, whether in industry or education, or managing your own budgets in your own homes. This is an inclusive process and I am trying to be inclusive.

Nid wyf yn gonsuriwr, Mike ac nid wyf yn bodoli yn y cysgodion, ond ar ôl gwrando arnoch chi drwy’r dydd heddiw, byddai’n dda gennyf pe bawn i. Byddwn wedi hoffi gallu consurio’r holl arian angenrheidiol i wireddu’ch holl obeithion a disgwyliadau. Yr wyf wedi ceisio dod i ben o fewn cyfyngiadau’r swm gosod. Nid yw’n hawdd rheoli’r pwysau gwrthdrawiadol, fel y gwyddoch i gyd o’ch bywydau cyn dod yn Aelodau’r Cynulliad, boed mewn diwydiant neu addysg, neu o reoli’ch cyllidebau eich hunain yn eich cartrefi’ch hunain. Proses gynhwysol yw hon ac yr wyf yn ceisio bod yn gynhwysol.

I understand Ieuan Wyn Jones’s points and the need for Committees to be involved. That is clearly stated in the Standing Orders. I hope you realise that I have tried to consider and respond to Committees’ views. Of the 33 recommendations formally made by Committees, 29 have been met, two have been partly met and two have not been met. Those two were for free eye tests and dental checks and the early retirement scheme for farmers. I have partly addressed the young farmers issue. There are bound to be discussions about where the money comes from. It would have been nice if the nice Mr Brown had said yesterday that we could have all the resources that we wanted for health, agriculture, structural funds and so on. However, we all know that such sentiments, however well expressed and well meant, are meaningless. The spending review will be the important time to consider money. I can confirm—

Yr wyf yn deall pwyntiau Ieuan Wyn Jones a’r angen i Bwyllgorau gael rhan. Nodir hynny’n glir yn y Rheolau Sefydlog. Gobeithio y sylweddolwch fy mod wedi ceisio ystyried ac ymateb i sylwadau’r Pwyllgorau. O’r 33 o argymhellion a wnaethpwyd yn ffurfiol gan Bwyllgorau, cyflawnwyd 29, cyflawnwyd dau yn rhannol ac ni chyflawnwyd dau. Y ddau hynny oedd profion llygaid a deintyddol am ddim a’r cynllun ymddeol yn gynnar i ffermwyr. Yr wyf wedi ymdrin yn rhannol â materion y ffermwyr ifanc. Mae trafodaethau’n siŵr o godi ynghylch o ble y daw’r arian. Byddai wedi bod yn braf petai’r Mr Brown clên wedi dweud ddoe y gallem gael yr holl adnoddau a fynnwn ar gyfer iechyd, amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol ac yn y blaen. Fodd bynnag, yr ydym i gyd yn gwybod bod geiriau o’r fath, waeth pa mor dda y’u mynegir a faint bynnag o ewyllys da sydd y tu cefn iddynt, yn ddiystyr. Yr adolygiad gwario fydd yr amser pwysig i ystyried arian. Gallaf gadarnhau—

Phil Williams spoken in English p. 85

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 85

Under chapter 5, section 1 of the ‘Vademecum for Structural Fund Plans and Programming Documents’, 7 per cent of the European funding is available as an advance cash payment from the start of the programme. Therefore £86 million, earmarked for Wales, is available in cash in the Bank of England, to be distributed at the beginning of the programme. Is that not available for your budget?

O dan bennod 5, adran 1 y ‘Vademecum ar gyfer Cynlluniau Cronfa Strwythurol a Dogfennau Rhaglennu’, mae 7 y cant o’r arian Ewropeaidd ar gael fel blaen-daliad ariannol o ddechrau’r rhaglen. Felly mae £86 miliwn, wedi’i glustnodi ar gyfer Cymru, ar gael mewn arian parod ym Manc Lloegr, i’w ddosbarthu ar ddechrau’r rhaglen. Onid yw hynny ar gael i’ch cyllideb?

Edwina Hart spoken in English p. 85

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 85

That is the money alluded to as ‘up-front’ money. We have discussed this before, so Phil well knows that up-front money to start off projects has been taken into account. I want to address some of the questions about structural funds.

Dyna’r arian y cyfeiriwyd ato fel arian ‘o flaen llaw’. Yr ydym wedi trafod hyn o’r blaen, felly mae Phil yn gwybod yn dda fod arian o flaen llaw i gychwyn prosiectau wedi ei gymryd i ystyriaeth. Yr wyf eisiau ateb rhai o’r cwestiynau am gronfeydd strwythurol.

We all get het up and excited about the structural funds debate. However, the money is there for delivery. The anticipated commitment level for 2000 is £187 million. That is the commitment, but the timing of the payment is what is important. That is all I can say. I realise that for the majority of you, whatever I say about structural funds will not be accepted. However, we are committed to doing our best to get the necessary resources, as the Assembly has indicated to us, to ensure the progress of the structural funds programme. Dafydd, Mike and others have made many points about structural funds, but I will not dwell on this any longer. I have made it clear that I will be making bids and I will discuss with the Treasury and elsewhere. We, as much as anyone here, want to resolve this issue of structural funds when we come to the spending review.

Byddwn i gyd yn cynhyrfu ac yn cyffroi am y ddadl ar gronfeydd strwythurol. Fodd bynnag, mae’r arian yno ar gyfer ei gyflwyno. Y lefel ymrwymiad a ragwelir am 2000 yw £187 miliwn. Dyna’r ymrwymiad, ond amseriad y taliad yw’r peth pwysig. Dyna’r cwbl y gallaf ei ddweud. Yr wyf yn sylweddoli, i’r rhan fwyaf ohonoch, y bydd beth bynnag a ddywedaf am gronfeydd strwythurol yn annerbyniol. Fodd bynnag, yr ydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau i gael yr adnoddau angenrheidiol, fel y mae’r Cynulliad wedi mynegi inni, i sicrhau y gall rhaglen y cronfeydd strwythurol fynd yn ei blaen. Mae Dafydd, Mike ac eraill wedi gwneud sawl pwynt am gronfeydd strwythurol, ond ni wnaf aros ar hyn ddim hwy. Yr wyf wedi dweud yn glir y byddaf yn gwneud cynigion a byddaf yn trafod gyda’r Trysorlys ac mewn mannau eraill. Yr ydym ni, gymaint â neb yma, eisiau datrys cwestiwn y cronfeydd strwythurol pan ddeuwn at yr adolygiad gwariant.

Dafydd Wigley spoken in English p. 86

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 86

I want to make a point before you leave the structural funds issue. Do you accept that, whatever the outcome of the review for future years, the formula and the mechanisms for 2000-01 are unacceptable and impractical when the amount of money coming to Wales is so significant compared to the amount going to England? Do you also accept that unless there is a separate budget line that is over and above the Barnett formula, it is impossible for us to take full advantage of European money?

Hoffwn wneud pwynt cyn i chi adael cwestiwn y cronfeydd strwythurol. Ydych chi’n derbyn, beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad ar gyfer y dyfodol, fod y fformwla a’r mecanweithiau ar gyfer 2000-01 yn annerbyniol ac yn anymarferol pan fo’r swm o arian sydd yn dod i Gymru mor sylweddol o gymharu â’r swm sydd yn mynd i Loegr? Ydych chi hefyd yn derbyn os na cheir llinell ar wahân yn y gyllideb sydd yn ychwanegol at fformwla Barnett, ei bod yn amhosib inni fanteisio’n llawn ar arian o Ewrop?

Edwina Hart spoken in English p. 86

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 86

You know that I am unable to accept the point that you have just articulated so well. I believe the budget is sufficient to deal with these issues in year one. I am sure that answer is a disappointment to some here, but that is my answer.

Yr ydych yn gwybod na allaf dderbyn y pwynt yr ydych newydd ei leisio mor dda. Credaf fod y gyllideb yn ddigon i ddelio â’r materion hyn ym mlwyddyn un. Mae’n siŵr gennyf i fod yr ateb hwnnw’n siom i rai yma, ond dyna fy ateb.

I now turn to the amendments. I will deal firstly with Peter Black’s amendment 1 about class sizes, school maintenance and waiting times. The local authority baseline for next year provides an extra £75 million for education in addition to the £70 million already provided. There is also a pledge to reduce infant class sizes and not at the expense of seven to 11-year-olds. In January 1998, 38 per cent of Key Stage 2 pupils were in classes of over 30 pupils compared to 31 per cent in September 1999. There are also budget plans for school maintenance which include £145 million for capital work over the next two years. The planned increases in the local government revenue settlements should enable local authorities to increase levels of funding for repairs and maintenance. On waiting lists, the Health and Social Services Committee has commissioned a medium term waiting time strategy in Wales and officials are establishing a strategy development group. Glyn Davies’s amendment 3 discusses the NHS trusts and states there will be a cut of £4.7 million. That apparent £4.7 million reduction is a net change following technical adjustments. Underlying that are three elements. There will be an extra £8 million to reflect the additional capital modernisation fund and £1.8 million will be transferred into the sub-expenditure group from the health improvement line following the advancement of the meningitis programme. There will also be a transfer of £14.5 million reserve funding into the family health service line from the family health service budget, which was announced by Jane in July.

Yn awr trof at y gwelliannau. Deliaf yn gyntaf â gwelliant 1 gan Peter Black ynglŷn â maint dosbarthiadau, cynnal ysgolion ac amserau aros. Mae llinell sylfaen yr awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn darparu £75 miliwn ychwanegol i addysg ar ben y £70 miliwn a ddarparwyd yn barod. Ceir addewid hefyd i leihau maint dosbarthiadau babanod, ac nid ar draul plant saith i 11 oed. Ym mis Ionawr 1998, yr oedd 38 y cant o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 mewn dosbarthiadau o dros 30 disgygbl o gymharu â 31 y cant ym mis Medi 1999. Mae cynlluniau yn y gyllideb hefyd ar gyfer cynnal ysgolion sydd yn cynnwys £145 miliwn ar gyfer gwaith cyfalaf dros y ddwy flynedd nesaf. Dylai’r codiadau sydd wedi’u cynllunio yn y cytundebau refeniw llywodraeth leol alluogi awdurdodau lleol i gynyddu lefelau ariannu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw. Ar restrau aros, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi comisiynu strategaeth amser aros i’r tymor canolig yng Nghymru ac mae swyddogion yn sefydlu grŵp datblygu strategaeth. Mae gwelliant 3 gan Glyn Davies yn trafod ymddiriedolaethau’r NHS ac yn dweud y bydd toriad o £4.7 miliwn. Newid net yn dilyn addasiadau technegol yw’r lleihad £4.7 miliwn ymddangosiadol hwnnw. O dan hyn mae tair elfen. Bydd £8 miliwn ychwanegol i adlewyrchu’r gronfa foderneiddio gyfalaf ychwanegol, a throsglwyddir £1.8 miliwn i’r grŵp is-wariant o’r llinell gwella iechyd yn sgîl symud rhaglen llid yr ymennydd yn ei blaen. Hefyd trosglwyddir £14.5 miliwn o arian wrth gefn i’r llinell gwasanaeth iechyd teuluoedd o gyllideb y gwasanaeth iechyd teuluoedd, a gyhoeddwyd gan Jane ym mis Gorffennaf.

The administration will abstain on the amendments because this is a preliminary budget. We want to hear Assembly Members’ views. This is an inclusive process and it is the first stab at the budget. It will now be discussed elsewhere and further thoughts will be taken into account when developing the final budget strategy. Peter and Dafydd raised points about the social housing grant. Local education authorities indicate a general trend to reduce demands for social housing. Some local authorities take the issue so seriously that they are commissioning research in this area. The refocusing of funds with the £5 million community programme will assist us in changing the agenda in housing. I understand the comments that were made about agriculture. I am pleased that people are happy with some areas where additional money has been given. I understand the disappointment expressed in the Chamber with regard to a young farmers’ scheme. However, it is essential that we know what we are doing if we develop a young farmers’ scheme. It would be beneficial for the Committee for Agriculture and Rural Development and its Secretary to look at this issue this year. Peter commented on the damping grant that has caused much discussion within local government circles but, as he is aware, the damping grant is open to further discussion within the Partnership Council. Glyn asked about the Committees’ role. Their role in terms of advice and assistance is clearly defined within the budget process. We have Committees and a Cabinet structure and tensions will inevitably arise between the two in terms of priorities. I thank Mike German for his offer leading us towards the door of the Chancellor to make a presentation on behalf of the Assembly and I will dutifully pass that offer on to the First Secretary.

Bydd y weinyddiaeth yn atal pleidlais ar y gwelliannau oherwydd mai cyllideb ragarweiniol yw hon. Mae arnom eisiau clywed barn Aelodau’r Cynulliad. Proses gynhwysol yw hon a chynnig cyntaf ar y gyllideb ydyw. Yn awr caiff ei drafod mewn mannau eraill a rhoddir ystyriaeth i sylwadau pellach wrth ddatblygu strategaeth derfynol y gyllideb. Cododd Peter a Dafydd bwyntiau ar y grant tai cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn nodi tuedd gyffredinol i leihau galwadau ar gyfer tai cymdeithasol. Mae rhai awdurdodau lleol yn cymryd y mater gymaint o ddifrif fel eu bod yn comisiynu ymchwil yn y maes hwn. Bydd ailffocysu arian gyda’r rhaglen gymunedol £5 miliwn yn ein helpu ni gyda newid yr agenda yn nhermau tai. Yr wyf yn deall y sylwadau a wnaethpwyd ynghylch amaethyddiaeth. Yr wyf yn falch fod pobl yn hapus gyda rhai mannau lle rhoddwyd arian ychwanegol. Yr wyf yn deall y siom a fynegwyd yn y Siambr ynglŷn â chynllun ffermwyr ifanc. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn gwybod beth yr ydym yn ei wneud os ydym am ddatblygu cynllun ffermwyr ifanc. Byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’i Ysgrifennydd edrych ar y mater hwn eleni. Gwnaeth Peter sylw am y grant dampio a achosodd gryn drafodaeth yng nghylchoedd llywodraeth leol ond, fel y mae’n gwybod, mae’r grant dampio’n agored i drafodaeth bellach o fewn y Cyngor Partneriaeth. Holodd Glyn fi am rôl y Pwyllgorau. Mae eu rôl yn nhermau cyngor a chymorth wedi’i diffinio’n glir o fewn proses y gyllideb. Mae gennym Bwyllgorau a strwythur Cabinet a bydd tensiynau’n codi yn anochel rhwng y ddau yn nhermau blaenoriaethau. Diolch i Mike German am gynnig ein harwain at ddrws y Canghellor i wneud cyflwyniad ar ran y Cynulliad a byddaf yn trosglwyddo’r cynnig hwnnw ymlaen i’r Prif Ysgrifennydd.

I am not a queen of spin. I am straight in my dealings with everybody in this Chamber. I do not bow my knee to any Westminster politician, whoever he or she may be. This budget was made in Wales for Wales. I do not need any lectures about what we want to do as an administration. For me, the people of Wales come first, second, third, fourth and fifth and this budget is about delivering added value for them. This is the start of the process. When you return to your Committees to discuss these issues, if any points arise, I will discuss them further with you. We have three stabs at this because as Dafydd mentioned, a process exists. We will go to a certain level of agreement next time and we will go to the budget expenditure lines level underneath for Committees to discuss by the time we ratify in February. There are ways and means of dealing with this process. It has been a pleasure to take part in what has been a real debate. Many issues have been raised and people have obviously taken time to look at the various points in the budget. I am grateful for that. This is an historic occasion and I am proud and privileged to have been part of it.

Nid brenhines sbin mohonof. Yr wyf yn delio’n onest gyda phawb yn y Siambr hon. Nid wyf yn plygu glin i unrhyw wleidydd yn San Steffan pwy bynnag y bo. Cafodd y gyllideb hon ei gwneud yng Nghymru i Gymru. Nid oes arnaf angen unrhyw ddarlithoedd ynghylch beth sydd eisiau i ni ei wneud fel gweinyddiaeth. I mi, pobl Cymru sydd yn dod gyntaf, ail, trydydd, pedwerydd a phumed ac mae a wnelo’r gyllideb hon â rhoi gwerth ychwanegol iddynt hwy. Dyma ddechrau’r broses. Pan ewch yn ôl i’ch Pwyllgorau i drafod y materion hyn, os bydd unrhyw bwyntiau’n codi fe’u trafodaf ymhellach â chi. Mae gennym dri chynnig ar hyn oherwydd, fel y soniodd Dafydd, mae proses yn bodoli. Awn i ryw lefel o gytundeb y tro nesaf ac awn i lefel llinellau gwariant cyllidebol oddi tanodd er trafodaeth y Pwyllgorau erbyn yr amser y byddwn yn cadarnhau ym mis Chwefror. Mae ffyrdd a dulliau o ddelio â’r broses hon. Bu’n bleser cymryd rhan yn yr hyn a fu’n ddadl wirioneddol. Codwyd nifer o faterion ac yn amlwg mae pobl wedi cymryd amser i edrych ar y gwahanol bwyntiau yn y gyllideb. Yr wyf yn ddiolchgar am hynny. Mae hwn yn achlysur hanesyddol ac yr wyf yn falch ac yn ei theimlo’n fraint o fod wedi cael bod yn rhan ohono.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 88

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 88

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1.

We will now vote on amendment 1.

Gwelliant 1 Dafydd Wigley t. 88

Amendment 1 Dafydd Wigley p. 88

DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 23 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (23)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 89

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 89

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2.

We will now vote on amendment 2.

Gwelliant 2 Peter Black t. 89

Amendment 2 Peter Black p. 89

DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 23 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (23)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 90

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 90

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 3.

We will now vote on amendment 3.

Gwelliant 3 Glyn Davies t. 90

Amendment 3 Glyn Davies p. 90

DerbyniwydAdopted O blaidFor 24 YmatalAbstain 29 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (24)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (29)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 90

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 90

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 4.

We will now vote on amendment 4.

Gwelliant 4 Michael German t. 90

Amendment 4 Michael German p. 90

DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 23 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (23)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 91

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 91

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio, sef

We will now vote on the amended motion, that

ei bod yn ofid i’r Cynulliad nad yw’r gyllideb ddrafft yn gallu darparu arian ar gyfer rhai cynigion allweddol a argymhellwyd gan Bwyllgorau’r Cynulliad ac eraill; yn nodi bod ymdrechion i adfywio Cymru yn cael eu rhwystro gan ddiffygion fformwla Barnett, polisïau llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus, cyfraddau llog a chronfeydd strwythurol Ewrop; yn cydnabod y byddai gweithredu’r egwyddor ychwanegedd a darparu digon o arian cyfatebol yn helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn ac mae’n galw ar y Prif Ysgrifennydd i gyflwyno sylwadau i lywodraeth y DU i’r perwyl hwn; ac

the Assembly regrets that the draft budget fails to provide funding for certain key proposals recommended by Assembly Committees and others; notes that attempts to revitalise Wales are frustrated by the deficiencies of the Barnett formula, UK Government policies on public expenditure, interest rates and the European structural funds; recognises that the implementation of the additionality principle and provision of adequate match funding would go some way towards counteracting these difficulties and calls upon the First Secretary to make representations to the UK Government in this regard; and

yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 19.2 yn nodi’r gyllideb ragarweiniol ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2000-01, 2001-02 a 2002-03, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 4 Tachwedd gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Edwina Hart. Fodd bynnag, mae’n ofid i’r Cynulliad hwn:

in accordance with Standing Order No. 19.2 takes note of the preliminary draft budget for the financial years 2000-01, 2001-02 and 2002-03, laid in the Table Office on Thursday 4 November by the Finance Secretary, Edwina Hart. However, this Assembly regrets that:

y bydd gostyngiad o £4.7 miliwn mewn adnoddau ar gyfer Ymddiriedolaethau’r NHS a’r awdurdodau iechyd ar adeg pan fo’r cyrff hyn yn profi anawsterau ariannol difrifol;

resources for NHS Trusts and health authorities will be cut by £4.7 million at a time when these bodies are experiencing severe financial difficulties;

na fydd digon o arian yn cael ei neilltuo i helpu’r rhai hynny sydd yn dechrau arni fel ffermwyr;

insufficient funds will be allocated to help new entrants into farming;

nad yw’r £15 miliwn a neilltuwyd o’r gronfa Ffordd i Ffyniant sydd i’w ddefnyddio yn gyllid cyfatebol ar gyfer Amcan 1 yn arian ychwanegol, ond yn hytrach yn arian sydd wedi’i dynnu o gronfa sydd yn bodoli eisoes ac yn arian sydd eisoes wedi’i glustnodi;

the £15 million set aside from the Pathways to Prosperity fund for use as Objective 1 match funding is not additional money, but cash diverted from an existing fund that has already been earmarked;

dylai Pwyllgorau’r Cynulliad a’r Weithrediaeth, wrth roi ystyriaeth bellach i’r gyllideb ragarweiniol ddrafft, gofio bod angen lleihau maint dosbarthiadau plant saith i 11 oed, lleihau maint y gwaith cynnal a chadw sydd yn aros i’w wneud mewn ysgolion a lleihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd; ac

in considering further the preliminary draft budget the Assembly Committees and Executive should have regards to the need to reduce class sizes for seven to 11-year-olds, reduce the backlog of school maintenance and reduce waiting times for health services; and

yn galw ar Lywodraeth y DU i neilltuo arian ychwanegol ac arian newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd uwchlaw’r dyraniad a ddarparwyd gan fformwla Barnett i alluogi’r Cynulliad i ddenu’r holl arian Amcan 1 sydd ar gael yn 2000-01 ac yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

calls on the UK Government to allocate additional and new money to the National Assembly for Wales over and above the allocation provided by the Barnett formula to enable the Assembly to draw down fully the available Objective 1 funds in 2000-01 and future years.

Cynnig Edwina Hart t. 92

Motion Edwina Hart p. 92

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 8

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Mick Bates
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • Jonathan Morgan
  • David Melding
  • Peter Rogers

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 93

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 93

Hoffwn eich atgoffa fod y Prif Ysgrifennydd, arweinyddion y pleidiau eraill a minnau wedi cytuno y byddwn yn canu’r gloch am 11 a.m. yfory i nodi dechrau dau funud o ddistawrwydd i gofio am y rhai a gollwyd yn rhyfeloedd y ganrif hon. Gobeithiaf y bydd pawb yn yr adeilad yn gallu nodi’r ddau funud hyn i goffáu fel sydd yn briodol yfory. Daw hynny â sesiwn heddiw i ben a diolchaf i’r Aelodau.

I remind you that the First Secretary, the leaders of the other parties and myself have agreed that we will ring the bell at 11 a.m. tomorrow to mark the beginning of two minutes’ silence to remember those lost in the wars of this century. I hope that everyone in the building can note these two minutes for commemoration as is appropriate tomorrow. That brings today’s session to a close and I thank the Members.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.26 p.m.

The session ended at 5.26 p.m.