Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mercher 10 Mai 2000

Wednesday 10 May 2000

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:26

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  2. 4Ethol i BwyllgorauElection to Committees 1 bleidlais1 vote
  3. 5Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  4. 6Ethol i’r Cyngor PartneriaethElection to the Partnership Council 1 bleidlais1 vote
  5. 7Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd ar Ddatblygu EconomaiddQuestions to the First Secretary on Economic Development
    1. 7Map Cymorth Rhanbarth DewisolRevised Regional Selective Assistance Map
    2. 10Strategaeth Datblygu Economaidd Genedlaethol (Trafodaethau ar Flaenoriaethau Strategol)National Economic Development Strategy (Discussion on Strategic Priorities)
    3. 12Cau Rover (Effaith ar Swyddi yng Nghymru)Closure of Rover (Effect on Jobs in Wales)
  6. 16Cwestiynau i’r Ysgrifennydd CyllidQuestions to the Finance Secretary
    1. 16Trwyddedau Ffonau SymudolMobile Phone Licences
    2. 18Gwahaniaethu Hiliol yng NghymruRacial Discrimination in Wales
    3. 20Adroddiad LawrenceLawrence Report
  7. 23Datganiad ar Werthusiadau Graddfa Fferm yng NghymruStatement on Farm-scale Evaluations in Wales
  8. 32Datganiad ar Adolygu Cyrff Cyhoeddus Gweithredol a Noddir gan y CynulliadStatement on the Review of Executive Assembly Sponsored Public Bodies
  9. 41Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  10. 43Datganiad BusnesBusiness Statement
  11. 44Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2000-01Planning Decision Committee 2000-01 1 bleidlais1 vote
  12. 46Newid yn yr HinsawddClimate Change 9 o bleidleisiau9 votes
  13. 88Dadl FerShort Debate
    1. 88Pobl Ifanc ac MEYoung People and ME

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion3600DerbyniwydAdopted
Ethol i BwyllgorauElection to Committees
CynnigMotion4000DerbyniwydAdopted
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion4000DerbyniwydAdopted
Ethol i’r Cyngor PartneriaethElection to the Partnership Council
CynnigMotion4400DerbyniwydAdopted
Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2000-01Planning Decision Committee 2000-01
CynnigMotion4100DerbyniwydAdopted
Newid yn yr HinsawddClimate Change
Gwelliant 1Amendment 14400DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 24061DerbyniwydAdopted
Gwelliant 3Amendment 39043GwrthodwydRejected
Gwelliant 4Amendment 45100DerbyniwydAdopted
Gwelliant 5Amendment 529158DerbyniwydAdopted
Gwelliant 6Amendment 64508DerbyniwydAdopted
Gwelliant 7Amendment 74571DerbyniwydAdopted
Gwelliant 8Amendment 88639GwrthodwydRejected
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion4308DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol i’r Pwyllgorau Sefydlog. Gan na chafodd yr eitem ei chyflwyno mewn pryd, galwaf ar y Trefnydd i gynnig cynnig trefniadol o dan Reol Sefydlog Rhif 6.16 er mwyn caniatáu i ni ethol i’r Pwyllgorau heb y cyfnod cyflwyno gofynnol.

The first item on the agenda is the election to the Standing Committees. As this was not tabled in time, I call on the Business Secretary to propose a procedural motion under Standing Order No. 6.16 to allow us to elect to the Committees without the required tabling period.

Andrew Davies The Buisness Secretary spoken in English p. 3

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

I propose that

Cynigiaf fod

Nick Bourne spoken in English p. 3

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 3

Could we have an indication of what is being proposed?

A gawn ni awgrym o’r hyn a gynigir?

Andrew Davies spoken in English p. 3

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

This motion is to allow us to vote on the election of Delyth Evans to the appropriate Committees. The procedural motion that follows is to allow us to vote on the election of the new members of the Partnership Council.

Cynnig yw hwn i ganiatáu inni bleidleisio i ethol Delyth Evans i’r Pwyllgorau priodol. Mae’r cynnig trefniadol sydd yn dilyn yn caniatáu inni bleidleisio i ethol aelodau newydd y Cyngor Partneriaeth.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 3

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

To clarify, both these items are on the agenda, but they are unscheduled business.

I egluro, mae’r ddwy eitem hon ar yr agenda, ond nid oes amserlen wedi’i phennu iddynt.

Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 3

Procedural motion Andrew Davies p. 3

DerbyniwydAdopted O blaidFor 36 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (36)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Ethol i Bwyllgorau

Election to Committees

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 4

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig Andrew Davies t. 4

Motion Andrew Davies p. 4

DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 5

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 5

Procedural motion Andrew Davies p. 5

DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Ethol i’r Cyngor Partneriaeth

Election to the Partnership Council

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 6

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig Andrew Davies t. 6

Motion Andrew Davies p. 6

DerbyniwydAdopted O blaidFor 44 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (44)
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd ar Ddatblygu Economaidd

Questions to the First Secretary on Economic Development

Map Cymorth Rhanbarth Dewisol

Revised Regional Selective Assistance Map

Q1 Jonathan Morgan spoken in English p. 7

C1 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 7

What role did the National Assembly for Wales play in drawing up the revised assisted areas map for Wales? (OAQ5050)

Pa ran a chwaraeodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gwaith o lunio fersiwn diwygiedig o fap yr ardaloedd a gynorthwyir ar gyfer Cymru? (OAQ5050)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

The Assembly has the responsibility for co-ordinating and submitting all Wales’s proposals to the UK Government for inclusion in the British proposals for the assisted areas map, which are sent to Brussels.

Y Cynulliad sydd yn gyfrifol am gydlynu a chyflwyno i Lywodraeth y DU holl gynigion Cymru i’w cynnwys yng nghynigion Prydain ar fap yr ardaloedd a gynorthwyir, a anfonir i Frwsel.

Jonathan Morgan spoken in English p. 7

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 7

My understanding is that Assembly officials were responsible for replying to your colleagues in London. Is it right that Assembly officials should be engaged in this consultation, without reference to the National Assembly for Wales? Or is the First Secretary distancing himself from unpopular decisions such as those made for Barry and Rhoose?

Yn ôl a ddeallaf swyddogion y Cynulliad a oedd yn gyfrifol am ateb i’ch cyd-Aelodau yn Llundain. A yw’n iawn fod swyddogion y Cynulliad yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, heb gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru? Ynteu a yw’r Prif Ysgrifennydd ei hun yn ymbellhau oddi wrth benderfyniadau amhoblogaidd fel y rheini a wnaethpwyd ar ran y Barri a’r Rhws?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

Not at all. I have no intention of distancing myself from proposals that, I believe, attempt to bring together the best interests of the whole of Wales. I do not doubt that all Assembly Members want to push for the inclusion of their areas. However, we have to take a share of the 338,000 overall population cut for the United Kingdom that is required by the European Commission. Assembly Members speaking on behalf of either their list areas or constituencies can propose an addition to what has been proposed, with a population of, say, 10,000. However, they are not usually keen to come forward with the equivalent cut in 10,000 in somebody else’s constituency. That would still enable Wales to carry the share of the overall UK cut of 338,000 that we must achieve to satisfy the Commission’s demands for reduced coverage.

Ddim o gwbl. Nid oes gennyf unrhyw fwriad i ymbellhau oddi wrth gynigion sydd, mi gredaf, yn ceisio dwyn ynghyd fuddiannau pennaf Cymru gyfan. Nid wyf yn amau bod holl Aelodau’r Cynulliad am wthio’u hardaloedd i gael eu cynnwys. Fodd bynnag, rhaid inni gymryd cyfran o’r gostyngiad poblogaeth o 338,000 i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw a fynnir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Gall Aelodau’r Cynulliad, siarad ar ran un ai eu hardaloedd rhestr neu eu hetholaethau, gynnig ychwanegiad at yr hyn a gynigiwyd, gyda phoblogaeth, dyweder, o 10,000. Fodd bynnag, nid ydynt yn awyddus fel arfer i gynnig gostyngiad cyfatebol o 10,000 yn etholaeth rhywun arall. Byddai hynny’n dal i alluogi Cymru i ysgwyddo’i chyfran o’r gostyngiad o 338,000 i’r DU gyfan y mae’n rhaid inni ei gyflawni er mwyn bodloni galwadau’r Comisiwn am grebachu.

Phil Williams spoken in English p. 8

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 8

I notice that the other large members of the EU, France, Germany and Italy, have received approval for their designated areas, along with many of the smaller countries. However, we still await approval. This is similar to the situation with the Objective 1 single programming document, which is now in operation in several countries or on the point of approval in many others. These delays are inexcusable. How do you share the blame for these inexcusable delays between the Government in London and Cardiff?

Sylwaf fod aelodau mawr eraill yr UE, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal, wedi cael cymeradwyaeth i’w hardaloedd dynodedig, ynghyd â llawer o’r gwledydd llai. Fodd bynnag, yr ydym ni’n dal i ddisgwyl am gymeradwyaeth. Mae hynny’n debyg i’r sefyllfa gyda dogfen rhaglennu sengl Amcan 1, sydd ar waith erbyn hyn mewn sawl gwlad neu ar fin cael ei chymeradwyo mewn llawer o wledydd eraill. Mae’r oedi‘n anfaddeuol. Sut ydych chi’n rhannu bai am yr oedi anfaddeuol hwn rhwng y Llywodraeth yn Llundain a Chaerdydd?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 8

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

That is a difficult question, on which I would be parti pris myself. It would be a matter on which historians and other commentators or academics comment. I could not be wholly objective about it. As regards approving the assisted areas map, approval should have been given ready for the new map on 1 January. The delay seems to have been caused by the different view taken by the previous European Commissioner, Commissioner Van Miert, about an understanding that was reached, but never put on paper, with the British Government. The new commissioner, Commissioner Monti, took a completely different view and did not want to continue with the informal understanding that had been reached with Commissioner Van Miert. That is an issue that Phil has excluded, because he only wants to blame me or Stephen Byers and does not want to consider that others might be responsible. I will always take my full share of the blame. We can discuss this in more detail if he has any particular points for which he thinks I am responsible. As he did not make any, I assume that he has no evidence.

Mae hynny’n gwestiwn anodd, y byddai rhagfarn gennyf yn ei gylch. Byddai’n fater i haneswyr a sylwebyddion neu academyddion eraill ymdrin ag ef. Ni allwn fod yn gwbl wrthrychol amdano. O ran cymeradwyo map yr ardaloedd a gynorthwyir, dylai’r map newydd fod wedi’i gymeradwyo ar 1 Ionawr. Ymddengys mai’r hyn sydd wedi achosi’r oedi yw’r farn wahanol a gymerwyd gan y Comisiynydd Ewropeaidd blaenorol, y Comisiynydd Van Miert, ynglŷn â dealltwriaeth y daethpwyd iddi gyda Llywodraeth Prydain ond nas rhoddwyd ar bapur. Cymerodd y comisiynydd newydd, y Comisiynydd Monti, farn gwbl wahanol ac nid oedd am barhau â’r ddealltwriaeth anffurfiol a sefydlwyd gyda’r Comisiynydd Van Miert. Mae hynny’n rhywbeth y mae Phil wedi’i adael allan, am ei fod am fy meio i neu Stephen Byers yn unig ac nad yw am ystyried y gallai eraill fod yn gyfrifol. Fe gymeraf fi fy nghyfran lawn o’r bai bob amser. Gallwn drafod hyn mewn mwy o fanylder os oes ganddo unrhyw bwyntiau penodol y cred yr wyf fi yn gyfrifol amdanynt. Gan na wnaeth unrhyw bwyntiau felly, yr wyf yn cymryd nad oes ganddo dystiolaeth.

Christine Humphreys spoken in English p. 9

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 9

I take your point, Rhodri, that you would not want all Members to be making arguments on behalf of their regions or constituencies. However, I raise the question of Wrexham, which is now the hole in the middle between Objective 1 in Denbighshire and Objective 1 in Merseyside: this will effect businesses settling or not settling in Wrexham. Do you foresee that the majority of this Assembly will have an input into future consultations? I appreciate that the decision was made by officials, but surely, in the future, there should be some input from the majority of Assembly Members?

Yr wyf yn derbyn eich pwynt, Rhodri, na fyddech am i’r holl Aelodau fod yn dadlau ar ran eu rhanbarthau neu’u hetholaethau. Fodd bynnag, codaf gwestiwn Wrecsam, sef y twll yn y canol bellach rhwng Amcan 1 yn Sir Ddinbych ac Amcan 1 ar Lannau Mersi: caiff hyn effaith ar fusnesau yn ymsefydlu neu’n peidio ag ymsefydlu yn Wrecsam. A ydych yn rhagweld y caiff mwyafrif y Cynulliad hwn lais mewn ymgynghoriadau i’r dyfodol? Yr wyf yn sylweddoli mai penderfyniad gan swyddogion oedd hwn, ond oni ddylai fod rhyw fewnbwn o du mwyafrif Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

If the majority of Assembly Members could come to an agreement on how to reach the Welsh share of the 338,000 cut, and if they could do it better than officials then I am sure that we would all welcome their efforts. What happened was perfectly proper and in order, there is no mystery or conspiracy about it. The officials consult with the Welsh Local Government Association and other responsible bodies. They take note of the views of the Welsh Development Agency about industrial prospects in certain areas and they then publish a draft map, which fulfils the complicated new criteria set out by the European Commission. There are five criteria of contiguity; for example that they must be areas with a population of 100,000 and self-contained. The Commission sets out those difficult criteria then officials carry out the consultation and produce a draft map. It is then up to individual areas, during the three-week consultation, which expired on 2 May, to put forward alternative views. Wrexham County Borough Council did indeed put forward alternative views. Officials are still working with it and the Department of Trade and Industry—under my overall supervision—to see if there is a solution that meets the perhaps unique problems of Wrexham in being squashed in between an Objective 1 area with full development area status to the north-east of it in Merseyside and another such area to the west of it in the rest of Denbighshire.

Pe gallai mwyafrif Aelodau’r Cynulliad gytuno ar sut i gyflawni cyfran Cymru o’r gyfran o 338,000, a phe gallent wneud hynny’n well na’r swyddogion, yr wyf yn siŵr y byddai pawb ohonom yn croesawu eu hymdrechion. Mae’r hyn a ddigwyddodd yn gwbl briodol a derbyniol, nid oes unrhyw ddirgelwch na chynllwyn ynglŷn ag ef. Mae’r swyddogion yn ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff cyfrifol eraill. Rhoddant sylw i farn Awdurdod Datblygu Cymru am y rhagolygon diwydiannol mewn rhai ardaloedd ac wedyn maent yn cyhoeddi map drafft, sydd yn bodloni’r set gymhleth o feini prawf newydd a bennwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae pum maen prawf ar gyffinioldeb; er enghraifft, rhaid iddynt fod yn ardaloedd â phoblogaeth o 100,000 ac yn hunangynhwysol. Mae’r Comisiwn yn pennu’r meini prawf anodd hynny a’r swyddogion wedyn yn cynnal yr ymgynghoriad ac yn llunio’r map drafft. Mater i ardaloedd unigol wedyn, yn ystod yr ymgynghoriad tair-wythnos, a ddaeth i ben ar 2 Mai, oedd cyflwyno barn amgen. Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam farn amgen. Mae’r swyddogion yn dal i weithio gyda’r Cyngor a’r Adran Masnach a Diwydiant—o dan fy ngoruchwyliaeth gyffredinol i—i weld a oes ateb i broblemau unigryw efallai Wrecsam sydd yn cael ei gwasgu rhwng ardal Amcan 1 sydd â statws datblygu llawn i’r gogledd-ddwyrain ohoni ar Lannau Mersi ac ardal arall gyffelyb i’r gorllewin ohoni yng ngweddill Sir Ddinbych.

Karen Sinclair spoken in English p. 10

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 10

Returning to the same subject, all of us in north Wales share the disappointment of Wrexham’s omission, and the implications for Wrexham are serious. Can you assure me, given that you are actively working on Wrexham’s appeal, that you will put all your energies and weight into reinstating these areas for Wrexham?

Gan ddychwelyd at yr un pwnc, mae pawb ohonom yng ngogledd Cymru yn rhannu’r siom fod Wrecsam wedi’i gadael allan, ac mae’r goblygiadau i Wrecsam yn ddifrifol. A allwch roi sicrwydd imi, o gofio eich bod wrthi’n gweithio’n ddiwyd ar apêl Wrecsam, y byddwch yn rhoi eich holl egni a’ch pwysau i mewn i adfer yr ardaloedd hyn ar gyfer Wrecsam?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Yes. Although Wrexham might not get everything for which it has asked, I hope that it gets some of what it has asked for because that salient of non-assisted area status squashed between two full development area status may well be a unique position. However, I cannot guarantee, simply because there is little flexibility built into the system, that you can aid Wrexham without severely discomforting another part of Wales, but we are working hard to try to prevent Wrexham from being left stranded between two full development areas.

Gallaf. Er na chaiff Wrecsam bopeth y mae wedi gofyn amdano efallai, gobeithiaf y caiff rywfaint o’r hyn y mae wedi gofyn amdano oherwydd mae’n dra phosibl fod yr elfen drawiadol o fod heb statws ardal ddatblygu, wedi’i gwasgu rhwng dwy ardal â statws datblygu llawn, yn sefyllfa unigryw. Fodd bynnag, ni allaf warantu, am y rheswm syml fod cyn lleied o hyblygrwydd yn y system, y gallwch gynorthwyo Wrecsam heb darfu’n ddifrifol ar ran arall o Gymru, ond yr ydym yn gweithio’n galed i geisio atal Wrecsam rhag cael ei gadael rhwng dwy ardal ddatblygu lawn.

Strategaeth Datblygu Economaidd Genedlaethol (Trafodaethau ar Flaenoriaethau Strategol)

National Economic Development Strategy (Discussion on Strategic Priorities)

C2 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Q2 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 10

Pa drafodaethau a gafodd y Prif Ysgrifennydd â’r sectorau perthnasol o fewn economi Cymru ar y blaenoriaethau strategol a fydd yn graidd i’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol? (OAQ5027)

What discussions has the First Secretary had with relevant sectors within the Welsh economy on the strategic priorities that will be the central focus of the national economic development strategy? (OAQ5027)

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 10

Fersiwn drafft oedd y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 1999. Bu’n gefndir defnyddiol i’r holl raglenni a dogfennau yr ydym wedi eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch Amcan 1, 2 a 3. Yr ydym hefyd wedi cyflawni’r cynllun datblygu Cymru wledig. Mae’r ddogfen mewn fersiwn drafft ac yr ydym yn ymgynghori arni ac yn gwrando ar syniadau o bob cyfeiriad. Erbyn inni ddechrau ar y ddogfen derfynol byddwn yn ymgynghori ar hyd a lled Cymru gyda phob un o’r sectorau perthnasol yn economi Cymru cyn cyhoeddi fersiwn derfynol y ddogfen.

The national economic development strategy published in October 1999 was a draft version. It was useful background for all the programmes and documents that we have presented to the European Commission regarding Objectives 1, 2 and 3. We have also achieved the Welsh rural development strategy. The document is in draft form and we are consulting on it and listening to ideas from all directions. By the time that we begin the final document we will be consulting across Wales with all the relevant sectors in the Welsh economy before publishing the final version of the document.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 10

Er mai dogfen ddrafft yw hon ar hyn o bryd, yr wyf yn siŵr y byddai Rhodri yn cytuno bod targedau economaidd go benodol ynddi ar gyfer gwella perfformiad yr economi yng ngorllewin Cymru. Credaf y byddai hefyd yn cytuno bod angen buddsoddiad ariannol er mwyn gwneud hynny. Pam felly nad yw’r ddogfen rhaglennu sengl wedi cyrraedd Brwsel eto? Os na chytunir â honno gan Frwsel ni cheir buddsoddiad economaidd. Ai’r unig strategaeth sydd gennym yw oedi cyn belled â phosibl er mwyn osgoi gwariant yn y flwyddyn gyntaf oherwydd bod Rhodri yn gwybod nad oes arian yno ar gyfer y flwyddyn gyntaf?

Although this is a draft document at present, I am sure that Rhodri would agree that there are quite specific economic targets within it for improving the economy’s performance in west Wales. I believe that he would also agree that financial investment is needed in order to do this. Why then has the single programming document not yet reached Brussels? If Brussels does not agree with it there will be no economic investment. Is our only strategy to delay as long as possible in order to avoid spending during the first year because Rhodri knows that there is no money there for the first year?

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 11

Nage, yn sicr. Yr ydym yn prysuro, nid yn oedi. Nid oedd Rhodri Glyn yn bresennol yr wythnos diwethaf yng Nghwm Cynon yn ail gyfarfod pwyllgor monitro cysgodol Amcan 1 yng Nghymru. Ailbenderfynwyd gwneud penderfyniadau ariannol ym mis Gorffennaf oherwydd ein bod am roi rhai elfennau o wariant cyhoeddus a all fod yn fodel i’r sectorau perthnasol yn yr economi o ba fath o brosiectau a gaiff flaenoriaeth yn rhaglen Amcan 1 ar y trac cyflym. Penderfynwyd gwneud hynny ym mis Gorffennaf cyn toriad yr haf.

Certainly not. We are hastening, not delaying. Rhodri Glyn was not present last week in the Cynon Valley in the second meeting of the shadow monitoring committee for Objective 1 in Wales. A decision was re-taken to make financial decisions in July because we wanted to put some elements of public expenditure that could be a model for the relevant sectors within the economy of the kind of projects that will be given priority in the Objective 1 programme on the fast track. It was decided to do this in July before the summer recess.

Glyn Davies spoken in English p. 11

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

A central theme, Rhodri, of the national economic development plan will be job creation. Your main job creating body—the Welsh Development Agency—is looking at a target of about 17,000 jobs next year, while the national economic development plan mentions 40,000 jobs. We know that land-based businesses are likely to lose some jobs and that the tourism industry is suffering because of the exchange rate. Where are all these extra jobs coming from?

Un thema ganolog, Rhodri, yn y cynllun datblygu economaidd cenedlaethol fydd creu swyddi. Mae eich prif gorff creu swyddi—Awdurdod Datblygu Cymru—yn edrych ar darged o tua 17,000 o swyddi y flwyddyn nesaf, pan fo’r cynllun datblygu economaidd cenedlaethol yn sôn am 40,000 o swyddi. Gwyddom fod rhai busnesau sydd yn seiliedig ar y tir yn debygol o golli rhai swyddi a bod y diwydiant twristiaeth yn dioddef oherwydd y gyfradd gyfnewid. O ble y daw’r holl swyddi ychwanegol hyn?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

By avoiding the deflationary boom and bust policy that was around when the Government that he supports was in power. He must concede that in spite of the problems of the high pound, the macroeconomic situation is far from unhealthy at present. Growth is continuing and we have avoided the twin perils of inflation and rapid interest rates, and the sudden shocks to the economy as a result of adjustment by slamming the foot on the brakes. We do not have to slam the foot on the brakes, but we are not free of the problems to which he referred in the tourist industry, agriculture and elsewhere that are occasioned by the high pound. He, in turn, would have to concede that the macroeconomic situation over the past three years has been pretty good.

Drwy osgoi’r polisi ffyniant a methiant datchwyddol a oedd gennym pan oedd y Llywodraeth y mae ef yn ei chefnogi mewn grym. Rhaid iddo gydnabod, er gwaethaf problemau’r bunt uchel, fod y sefyllfa facro-economaidd ymhell o fod yn wael ar hyn o bryd. Mae twf yn parhau ac yr ydym wedi osgoi perygl dwbl chwyddiant a chyfraddau llog yn newid yn sydyn, ac ysgytiadau i’r economi yn sgîl ymaddasu drwy daro’r brêc yn galed. Nid oes rhaid inni daro’r brêc yn galed, ond nid ydym yn rhydd rhag y problemau y cyfeiriodd atynt yn y diwydiant twristiaeth, amaethyddiaeth a mannau eraill a achosir gan y bunt uchel. Byddai’n rhaid iddo yntau, yn ei dro, gydnabod i’r sefyllfa facro-economaidd fod yn reit dda dros y tair blynedd ddiwethaf.

Cau Rover (Effaith ar Swyddi yng Nghymru)

Closure of Rover (Effect on Jobs in Wales)

Q3 Alun Cairns spoken in English p. 12

C3 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 12

What assessment has the First Secretary made of the effect on jobs in Wales of the possible closure of Rover? Can he extend his answer to Dagenham, as a result of recent announcements? (OAQ5161)

Pa asesiad y mae’r Prif Ysgrifennydd wedi’i wneud o’r effaith a gaiff y posibilrwydd o gau Rover ar swyddi yng Nghymru? A wnaiff ehangu ei ateb i gynnwys Dagenham, yn sgîl y cyhoeddiadau diweddar? (OAQ5161)

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

I have referred to Alun before as the Victorian undertaker praying for a hard winter. He has lost his hard winter as regards the Rover-Longbridge closure. He now refers to press reports, which may well be accurate. I do not know. I have read the same press reports as him about Dagenham. If he cannot ask a gloomy question on one subject he switches to another. We will have to see this weekend whether he is right about Dagenham. I am obviously not privy to what Ford will do. The Welsh Automotive Forum taskforce, which includes representatives from the Assembly and the Welsh Development Agency, is urgently considering the implications of the Rover situation for the Welsh automotive sector. They will have another meeting on 23 May and I will meet the taskforce and representatives of others with a special interest in the future of the automotive industry in Wales later on the same date. Perhaps I can report back to the Economic Development Committee or Plenary on the outcome of that meeting. By that time, we will have considered the impact of the success of the Phoenix bid for Longbridge and the good news about Vauxhall. If the press reports are correct, there may not be very good news emerging this weekend about Dagenham as a car assembly plant.

Yr wyf wedi cyfeirio at Alun o’r blaen fel yr ymgymerwr angladdau Fictoraidd yn gweddïo am aeaf caled. Mae wedi colli ei aeaf caled o ran cau Rover-Longbridge. Bellach mae’n cyfeirio at adroddiadau yn y wasg, y mae’n gwbl bosibl eu bod yn gywir. Ni wn i. Darllenais yr un adroddiad ag yntau yn y wasg am Dagenham. Os na all ofyn cwestiwn tywyll ar un pwnc mae’n newid i bwnc arall. Bydd yn rhaid inni weld y penwythnos hwn a yw’n iawn am Dagenham. Yn amlwg, ni wn i beth a wna Ford. Mae tasglu Fforwm Moduron Cymru, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru, yn ystyried goblygiadau sefyllfa Rover i sector modurol Cymru fel mater o frys. Byddant yn cael cyfarfod arall ar 23 Mai a byddaf yn cwrdd â’r tasglu a chynrychiolwyr carfanau eraill sydd â buddiant arbennig yn nyfodol y diwydiant moduron yng Nghymru yn ddiweddarach yr un dyddiad. Efallai y gallaf adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd neu Gyfarfod Llawn ar ffrwyth y cyfarfod hwnnw. Erbyn hynny, byddwn wedi ystyried effaith llwyddiant cais Phoenix am Longbridge a’r newyddion da am Vauxhall. Os yw’r adroddiadau yn y wasg yn gywir, efallai na chawn ni newyddion da iawn y penwythnos hwn am Dagenham fel gwaith adeiladu ceir.

Alun Cairns spoken in English p. 12

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 12

We all enjoy the one-line comments that you use sometimes to get you out of some political difficulty. However, I am sure that you will agree that this is a serious situation with potentially thousands of jobs at risk. The last thing that people need is a one-line quip to take away the political tension. Additional costs are imposed on businesses, and on manufacturing businesses in particular. Wales has a disproportionate dependence on these kinds of businesses. Costs such as changes in business rates, the imminent energy tax which will be debated later today and the problems facing British exporters as a result of the failing euro all contribute to these additional costs. What action do you plan to take with the Treasury to save the manufacturing base in this country?

Mae pawb ohonom yn mwynhau’r sylwadau un llinell a ddefnyddiwch weithiau i’ch cael allan o ryw anhawster gwleidyddol. Fodd bynnag, yr wyf yn siŵr y byddech yn cytuno bod hon yn sefyllfa ddifrifol gyda miloedd o swyddi yn y fantol o bosibl. Y peth olaf sydd ei angen ar bobl yw cellwair slic i ddileu’r tensiwn gwleidyddol. Rhoddir costau ychwanegol ar fusnesau, ac ar fusnesau gweithgynhyrchu yn enwedig. Mae Cymru yn orddibynnol ar y mathau hyn o fusnesau. Mae costau fel newidiadau yn y trethi busnes, y dreth ynni sydd ar fin ei chyflwyno a gaiff ei thrafod yn ddiweddarach heddiw a’r problemau sydd yn wynebu allforwyr Prydain am fod yr ewro yn gwanhau i gyd yn cyfrannu at y costau ychwanegol hyn. Pa gamau y bwriadwch eu cymryd gyda’r Trysorlys i achub y sylfaen gweithgynhyrchu yn y wlad hon?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

I apologise if I caught you on the quick with my reference to you changing your question. I accept that we face a moving target. One day, there might be good news about Rover. The following day or week, there may be bad news, equivalent to what had been half feared about Rover, about another part of the car assembly industry in this country. I have noticed that you do not want to refer to the good news about the £500 million investment by Vauxhall, led ably by its chairman Nick Reilly, who is a famous Welsh industrialist. Anybody who says—as I believe Alun is saying— that the manufacturing industry of this country will become extinct over the next few years is talking through the top of his hat.

Ymddiheuraf os cyffyrddais â’r byw wrth ddweud eich bod wedi newid eich cwestiwn. Derbyniaf ein bod yn wynebu targed sydd yn symud. Un diwrnod, efallai y bydd newyddion da am Rover. Y diwrnod neu’r wythnos ddilynol, efallai y bydd newyddion drwg, yn cyfateb i’r hyn yr hanner ei ofnwyd ynglŷn â Rover, am ran arall o’r diwydiant cydosod ceir yn y wlad hon. Sylwaf nad ydych am gyfeirio at y newyddion da ynglŷn â’r buddsoddiad £500 miliwn gan Vauxhall, dan arweiniad medrus ei gadeirydd Nick Reilly, sydd yn ddiwydiannwr Cymreig enwog. Mae unrhyw un sydd yn dweud—fel y credaf fod Alun yn ei ddweud—y bydd diwydiant gweithgynhyrchu’r wlad hon yn darfod dros y blynyddoedd nesaf yn siarad drwy’i het.

Certain industries are coming under severe pressure. I have said before that the kinds of industry that are under severe pressure are those which are heavily dependent on exporting high volume, low margin goods such as steel, electronic components, car components, standard television sets and other consumer electronics. Those goods can be produced in many countries and they do not necessarily need to be made in the UK with the special skills that we have here. I have never denied— in fact, I have broadcast it heavily—that Wales and the west Midlands are in the most difficult position in the UK with regard to over-reliance on that kind of high volume, low margin, high export dependent industry. Rover was a classic example of that. The steel industry, certain car component firms that are dependent on Rover, Vauxhall, Ford and the three Japanese transplants are all in difficulty for the reason to which Alun referred. I do not deny that. That is the reason that I am meeting the main movers and shakers in the Welsh Automotive Forum taskforce on 23 May. If there is anything significant to report from that meeting, I shall report to the Economic Development Committee or to the Assembly.

Mae rhai diwydiannau yn dod o dan bwysau mawr. Yr wyf wedi dweud o’r blaen mai’r mathau o ddiwydiant sydd dan bwysau mawr yw’r rheini sydd yn ddibynnol iawn ar allforio llawer, nwyddau lle mae’r gyfran elw yn isel megis dur, cydrannau electronig, cydrannau ceir, setiau teledu safonol a nwyddau traul electronig eraill. Gellir cynhyrchu’r nwyddau hynny mewn llawer o wledydd ac nid oes raid iddynt gael eu gwneud yn y DU o reidrwydd gyda’r sgiliau arbennig sydd gennym yma. Nid wyf erioed wedi gwadu—yn wir, yr wyf wedi ei gyhoeddi’n eang—mai Cymru a gorllewin Canolbarth Lloegr sydd yn y sefyllfa fwyaf anodd yn y DU o ran gorddibyniaeth ar y math hwn o ddiwydiant sydd yn ddibynnol ar allforion uchel, ac ar gynhyrchu llawer gyda chyfran elw isel. Yr oedd Rover yn enghraifft glasurol o hynny. Mae’r diwydiant dur, rhai cwmnïau cydrannau ceir sydd yn ddibynnol ar Rover, Vauxhall, Ford a’r tri thrawsblaniad Japaneaidd i gyd mewn anhawster am y rheswm y cyfeiriodd Alun ato. Nid wyf yn gwadu hynny. Dyna pam yr wyf yn cwrdd â phrif ysgogwyr a chynhyrfwyr tasglu Fforwm Moduron Cymru ar 23 Mai. Os oes unrhyw beth o bwys i’w adrodd o’r cyfarfod hwnnw, rhoddaf adroddiad i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd neu’r Cynulliad.

Helen Mary Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Helen Mary Jones spoken in Welsh p. 14

Diolch am eich atebion i gwestiwn Alun Cairns. A ydych yn cytuno mai un o broblemau rhai o’r cyflenwyr yng Nghymru yw eu bod yn gor-ddibynnu ar un neu ddau o brynwyr mawr? Pa gamau y byddwch yn eu trafod drwy Fforwm Moduron Cymru a beth all y Cynulliad ei wneud i gynorthwyo’r ffatrïoedd i arallgyfeirio fel nad ydynt yn gor-ddibynnu ar un prynwr yn y dyfodol?

Thank you for your answers to Alun Cairns’s question. Do you agree that one of the problems facing some suppliers in Wales is over-dependency on one or two main buyers? What steps will you discuss through the Welsh Automotive Forum and what can the Assembly do to help the factories to diversify so that they are not over-dependent on one buyer in the future?

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in Welsh p. 14

Hyd y deallaf—ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda Fforwm Moduron Cymru er mwyn mapio’r diwydiant ceir, o’r cyflenwyr i’r cynhyrchwyr—nid oes un cwmni yng Nghymru yn dibynnu mwy na 50 y cant ar gyflenwi Rover. Efallai bod y ffigur yn 40 y cant, ond nid yw’n fwy na 50 y cant. Mae hyn yn wir am hyd yn oed y ddwy ffatri enfawr yn etholaeth Helen Mary Jones yn Llanelli, a oedd yn eiddo i Rover, neu British Leyland fel yr oedd ar y pryd. Yr ydym eisiau mapio faint o ddibyniaeth sydd ar Rover, Ford, Vauxhall neu ar gwmnïau o Japan, megis Honda, Nissan a Toyota. Hoffwn pe na byddai’r diwydiannau mawr fel Camford Pressings a Calsonic International Ltd yn Llanelli, neu TRW yng Nghwm Nedd yn dibynnu’n ormodol ar yr archebion a ddaw oddi wrth un cynhyrchwr ceir fel Ford. Felly, pe bai un ohonynt yn cael cnoc oddi wrth gynhyrchwr ceir, ni fyddai’n ergyd derfynol i’w allu i barhau mewn busnes.

As I understand—and we will continue to work with the Welsh Automotive Forum to map the car industry, from suppliers to manufacturers—no company in Wales depends more than 50 per cent on supplying Rover. Perhaps the figure is 40 per cent, but it is not more than 50 per cent. This is true of even the two big factories in Helen Mary Jones’s Llanelli constituency, which used to belong to Rover, or British Leyland as it was at the time. We want to map how much dependency there is on Rover, Ford, Vauxhall or on Japanese companies such as Honda, Nissan and Toyota. I would like to see the large industries, such as Camford Pressings and Calsonic International Ltd in Llanelli, or TRW in the Vale of Neath, not over-depending on orders from one car producer such as Ford. Therefore, if one were to receive a knock from a car producer, it would not be a fatal blow to its ability to continue in business.

John Griffiths spoken in English p. 14

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 14

I return to the euro and the problems in Wales, particularly in the steel industry. We know that the pound is high, or perhaps the euro is very low, and we know that there are particular problems in Wales. It seemed to me yesterday that there were simplistic comments from the Conservative AMs about early entry into the euro. No doubt they are split on this as they are split on all matters European. How strongly could the Assembly bring pressure on the UK Government to lay out a clear strategy for early entry? We know that the pound is too high at the moment, but how could we encourage a clear strategy, a series of steps to be laid down and a campaign to be set out so that we would have early entry when conditions allowed?

Dof yn ôl at yr ewro a’r problemau yng Nghymru, yn enwedig yn y diwydiant dur. Gwyddom fod y bunt yn uchel, neu efallai fod yr ewro yn isel iawn, a gwyddom fod yna broblemau neilltuol yng Nghymru. Ymddangosai i mi ddoe fod yna sylwadau gor-syml gan ACau Ceidwadol ynglŷn ag ymuno â’r ewro yn fuan. Mae’n siŵr eu bod yn rhanedig ar hyn fel y maent yn rhanedig ar bopeth yn ymwneud ag Ewrop. Pa mor gryf y gallai’r Cynulliad roi pwysau ar y Llywodraeth i sefydlu strategaeth glir ar ymuno’n fuan â’r ewro? Gwyddom fod y bunt yn rhy uchel ar hyn o bryd, ond sut y gallem annog strategaeth glir, cyfres o gamau i gael eu dynodi ac ymgyrch i gael ei phennu fel y byddem yn gallu ymuno’n fuan pan fyddai’r amodau yn caniatáu?

Rhodri Morgan The First Secretary spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

This is moving a long way from the possible closure of Rover, which was the point of Alun Cairns’s original question. An overvalued pound and undervalued euro is a threat to manufacturing industries, whether it be Rover, the end of the food chain or the tier one suppliers to Rover, of which we have about six big factories in Wales, with another six that are major suppliers to Land Rover. They may come out of this quite well because if they are sold to Ford they may end up with an increase rather than a decrease in production. However, we are talking about a smaller number of units than Rover at Longbridge.

Yr ydym yn symud ymhell oddi wrth y posibilrwydd o gau Rover, sef y pwynt yng nghwestiwn gwreiddiol Alun Cairns. Mae punt a orbriwiswyd ac ewro a danbrisiwyd yn fygythiad i ddiwydiannau gweithgynhyrchu, boed hynny’n Rover, pen eithaf y gadwyn fwyd neu gyflenwyr haen un Rover, sydd â thua chwech o ffatrïoedd mawr yng Nghymru, ynghyd â chwech arall sydd yn gyflenwyr mawr i Land Rover. Efallai y dônt allan o hyn yn gymharol dda oherwydd os gwerthir hwy i Ford efallai y cânt gynnydd yn hytrach na gostyngiad yn eu gwaith cynhyrchu. Fodd bynnag, yr ydym yn sôn am nifer llai o unedau na Rover yn Longbridge.

The problem is that we are a moving target. Every week, if not every day, brings a different projection of what the level of car production will be. It is like the currency markets, where exporters have just got used to what they thought was a high rate at Christmas, but where there has been a further 15 per cent rise to which it has been difficult to adjust. Some companies have done better than others. Vauxhall has done remarkably well despite the rise because it buys a high proportion of its components from mainland Europe. Other companies such as Rover are suffering. This is also true of the Japanese companies because they buy a high proportion of their components, including steel, from the UK. Therefore, they pay the overvalued pound rate, rather than the undervalued euro rate that is paid by some of the companies that carry out more offshore assembly in the UK rather than the whole built-up job using UK steel and components.

Y broblem yw ein bod yn darged symudol. Daw pob wythnos, os nad pob diwrnod, â blaenamcan gwahanol o beth fydd lefel y gwaith cynhyrchu ceir i’r dyfodol. Mae’n debyg i’r marchnadoedd arian cyfredol, lle mae allforwyr newydd gyfarwyddo â’r hyn a dybient hwy oedd yn gyfradd uchel adeg y Nadolig, ond lle cafwyd codiad pellach o 15 y cant y bu’n anodd addasu iddo. Mae rhai cwmnïau wedi gwneud yn well nag eraill. Mae Vauxhall wedi gwneud yn hynod o dda er gwaethaf y codiad am ei fod yn prynu cyfran uchel o’i gydrannau o dir mawr Ewrop. Mae cwmnïau eraill fel Rover yn dioddef. Mae hyn yn wir hefyd am y cwmnïau Japaneaidd am eu bod yn prynu cyfran uchel o’u cydrannau, gan gynnwys dur, o’r DU. Felly, maent yn talu cyfradd uchel y bunt, yn hytrach na chyfradd isel yr ewro a delir gan rai o’r cwmnïau sydd yn gwneud gwaith cydosod yn y DU gydag elfennau tramor yn hytrach na gwneud y gwaith i gyd gan ddefnyddio dur a chydrannau o’r DU.

I do not know how you achieve early entry into the euro from the standing start of 3.46 deutschmarks to the pound. It is difficult because the pound must decrease to a reasonable level relative to the euro before the big decision about locking it in is made, subject to a referendum. It is a big decision for the UK Parliament—which would have to start the decision-making process—for the Assembly and for the population of this country, and would be made by way of the referendum mechanism, with which we in the Assembly are all familiar.

Ni wn sut mae sicrhau mynediad buan i’r ewro o fan cychwyn o 3.46 deutschmark i’r bunt. Mae’n anodd oherwydd mae’n rhaid i’r bunt ostwng i lefel resymol o’i chymharu â’r ewro cyn y gwneir y penderfyniad mawr i’w chloi i mewn, yn amodol ar refferendwm. Mae’n benderfyniad mawr i Senedd y DU—a fyddai’n gorfod dechrau’r broses benderfynu—i’r Cynulliad ac i boblogaeth y wlad hon, a châi ei wneud drwy beirianwaith refferendwm, y mae pawb ohonom yn y Cynulliad yn gyfarwydd ag ef.

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cyllid

Questions to the Finance Secretary

Trwyddedau Ffonau Symudol

Mobile Phone Licences

Q1 Alun Cairns spoken in English p. 16

C1 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 16

How does the Finance Secretary propose to ensure that Wales receives a share of the £22 billion windfall the UK Government has received by selling the mobile phone licences? (OAQ5152)

Sut y mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn cynnig sicrhau bod Cymru yn derbyn cyfran o’r £22 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei dderbyn trwy werthu trwyddedau ffonau symudol? (OAQ5152)

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 16

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 16

I understand that the UK Government intends to use the proceeds of the mobile phone auction to reduce public sector debt. If that is the case, there are no immediate financial implications for the Assembly. I refer Members to the comments made in Plenary yesterday by the First Secretary.

Deallaf fod Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio’r enillion o’r arwerthiant ffonau symudol i leihau dyledion y sector cyhoeddus. Os yw hynny’n wir, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i’r Cynulliad ar hyn o bryd. Cyfeiriaf yr Aelodau at y sylwadau a wnaeth y Prif Ysgrifennydd yn y Cyfarfod Llawn ddoe.

Alun Cairns spoken in English p. 16

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 16

The Prime Minister has stated that the tax burden on the Welsh taxpayer has risen from 35 per cent of gross domestic product to approaching 38 per cent since the last general election. Does the Finance Secretary agree that it would be useful to use part of the £22 billion for the match funding that we desperately need in Wales and also to help Welsh taxpayers by reducing the tax burden that has been imposed on them since the last general election?

Mae’r Prif Weinidog wedi datgan bod y baich trethi ar y trethdalwr yng Nghymru wedi codi o 35 y cant o’r cynnyrch mewnwladol crynswth i bron i 38 y cant ers yr etholiad cyffredinol diwethaf. A yw’r Ysgrifennydd Cyllid yn cytuno mai da o beth fyddai defnyddio rhan o’r £22 biliwn ar gyfer y cyllid cyfatebol y mae ei angen mor ddirfawr arnom yng Nghymru a hefyd i helpu trethdalwyr Cymru drwy leihau’r baich trethi sydd wedi ei osod arnynt ers yr etholiad cyffredinol diwethaf?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

I do not agree with how you outlined your question. The money that will be raised from the windfall to the UK Government is a matter of national fiscal policy under the control of the Westminster administration.

Nid wyf yn cytuno â’r ffordd yr amlinellasoch eich cwestiwn. Mater o bolisi cyllidol cenedlaethol o dan reolaeth y weinyddiaeth yn San Steffan yw’r arian a godir gan Lywodraeth y DU drwy werthu’r trwyddedau.

Dafydd Wigley spoken in English p. 17

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 17

I disassociate myself from the Conservative spokesperson’s comment on wanting to use the £22 billion to reduce taxation. Clearly, it would be wrong to use one-off money for revenue purposes of that sort. I press the Finance Secretary as to whether she had any consultation with the Treasury before the Chancellor made this announcement. If money of this order were available for spending on capital projects on a one-off basis, a share of 5 per cent of this—£1.1 billion—could be of tremendous benefit for Wales. Given that The Economist disagreed with the use of this money for reducing the national debt and said that the decision,

Datgysylltaf fy hun oddi wrth sylw’r llefarydd Ceidwadol ei fod am ddefnyddio’r £22 biliwn i ostwng trethi. Yn amlwg, ni fyddai’n briodol defnyddio arian a dderbynnir unwaith yn unig at ddibenion refeniw o’r math hwnnw. Yr hyn yr wyf am ei wybod gan yr Ysgrifennydd Cyllid yw a fu unrhyw ymgynghori rhyngddi â’r Trysorlys cyn i’r Canghellor wneud y cyhoeddiad hwn. Pe bai arian o’r math hwn ar gael i’w wario ar brosiectau cyfalaf ar sail unwaith yn unig, gallai cyfran o 5 y cant ohono—£1.1 biliwn—fod o fudd enfawr i Gymru. O gofio bod The Economist yn anghytuno â defnyddio’r arian hwn i leihau’r ddyled genedlaethol ac iddo ddweud bod perygl i’r penderfyniad,

‘risks making it look as if the Chancellor is taking his famed prudence to the point of perversity’,

‘wneud iddi edrych fel pe bai’r Canghellor yn mynd dros ben llestri i barhau â’i agwedd bwyllog y clywyd cymaint o sôn amdani’,

is it not in order for us to make representations to have some of that money for capital purposes in Wales?

onid priodol yw hi inni gyflwyno achos o blaid cael peth o’r arian hwnnw at ddibenion cyfalaf yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

I already have a meeting scheduled in the normal course of events with the Secretary of State for Wales and I will raise the issue of the windfall with the UK Government in that context.

Mae gennyf eisoes gyfarfod wedi ei drefnu yn nhrefn arferol pethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a byddaf yn codi mater y gorelw gyda Llywodraeth y DU yn y cyd-destun hwnnw.

Michael German spoken in English p. 17

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 17

Do you think that Wales would be better served by having a portion of the £22 billion? If so, do you think that you should take action to ensure that the Assembly’s views are well heard by the Chancellor and represented to him, rather than simply accepting what he says? If you had your share of the £22 billion—the proper share for Wales—on what would you spend it?

A ydych yn credu y câi Cymru ei gwasanaethu’n well o gael cyfran o’r £22 biliwn? Os felly, a ydych yn credu y dylech weithredu i sicrhau bod y Canghellor yn clywed barn y Cynulliad yn glir a’i bod yn cael ei chyflwyno iddo, yn hytrach na dim ond derbyn yr hyn a ddywed ef? Pe caech chi eich cyfran o’r £22 biliwn—y gyfran briodol i Gymru—ar beth y byddech yn ei wario?

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

I am never one to make decisions on spending until I have the money in the bank, to be honest. I do not like to dream about what I would do tomorrow if I have not got the money to spend. On the other matter, as I indicated to Dafydd Wigley, I have a normal meeting in the course of events where I will raise several issues with the Secretary of State for Wales. This will be one of the issues on my agenda, to ensure that the Assembly’s views are fully taken into account. I assure you that I will fully illustrate the concerns that have been expressed in the Assembly chamber yesterday and today on this issue.

Nid wyf byth yn un i wneud penderfyniadau gwario hyd nes y mae’r arian gennyf yn y banc, a dweud y gwir. Nid wyf yn hoffi breuddwydio am yr hyn a wnawn yfory os nad yw’r arian gennyf i’w wario. Ar y mater arall, fel y dywedais wrth Dafydd Wigley, mae gennyf gyfarfod arferol yn nhrefn pethau a byddaf yn codi sawl mater gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yno. Bydd hwn yn un o’r materion ar fy agenda, i sicrhau bod barn y Cynulliad yn cael ei hystyried yn llawn. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn darlunio’r pryderon a fynegwyd yn siambr y Cynulliad ddoe a heddiw ar y mater hwn yn llawn.

Alun Pugh spoken in English p. 18

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 18

What is the best deal for the taxpayer? Is it getting £22.5 billion for leasing part of the radio spectrum for mobile phones or selling off the whole of British Telecom forever for £4 billion?

Beth yw’r fargen orau i’r trethdalwr? Ai cael £22.5 biliwn am brydlesu rhan o’r sbectrwm radio ar gyfer ffonau symudol ynteu gwerthu British Telecom yn ei gyfanrwydd am byth am £4 biliwn?

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

The answer to that question is self-evident.

Mae’r ateb i’w cwestiwn hwnnw’n amlygu ei hun.

Gwahaniaethu Hiliol yng Nghymru

Racial Discrimination in Wales

Q2 Geraint Davies spoken in English p. 18

C2 Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 18

What measures will the Finance Secretary be taking to prevent any increase in racial discrimination in Wales? (OAQ5148)

Pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn eu cymryd i rwystro unrhyw gynnydd mewn gwahaniaethu hiliol yng Nghymru? (OAQ5148)

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

It is important that racial discrimination is fully discussed in this Chamber. The Assembly provides leadership, guidance and advice and is developing partnerships with equality organisations in the fight against discrimination. It has demonstrated leadership by signing up to the Commission for Racial Equality’s Leadership Challenge. We will ensure that the bodies for which the Assembly is responsible audit their personnel and other policies and programmes to eliminate discrimination. We have already begun that process in the Assembly. It is important for the Assembly to set high standards and lessons that will reflect well across Wales, as we all hear or read about so many incidents of racial attacks and so on.

Mae’n bwysig fod gwahaniaethu hiliol yn cael ei drafod yn llawn yn y Siambr hon. Mae’r Cynulliad yn cynnig arweiniad, canllawiau a chyngor ac yn datblygu partneriaethau gyda chyrff cydraddoldeb yn y frwydr yn erbyn camwahaniaethu. Mae wedi dangos arweiniad drwy ymuno yn Her Arweinyddiaeth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Byddwn yn sicrhau bod y cyrff y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt yn cynnal archwiliad o’u personél a pholisïau a rhaglenni eraill i ddileu gwahaniaethu ar gam. Yr ydym eisoes wedi dechrau ar y broses honno yn y Cynulliad. Mae’n bwysig fod y Cynulliad yn gosod safonau uchel a gwersi a fydd yn adlewyrchiad da ar draws Cymru, gan ein bod i gyd yn clywed neu’n darllen am gynifer o ddigwyddiadau o ymosodiadau hiliol ac ati.

Geraint Davies spoken in English p. 18

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 18

I am sure that you are aware that there has been a tremendous increase in the number of racial crimes in south Wales. The South Wales Police Authority recorded a 150 per cent increase last year. I condemn the activities of people such as the British National Party and other organisations whose sole prerogative is to create disharmony in our communities.

Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cynnydd enfawr a fu yn nifer y troseddau hiliol yn ne Cymru. Cofnododd Awdurdod Heddlu De Cymru gynnydd o 150 y cant y llynedd. Condemniaf weithgareddau pobl fel y Blaid Genedlaethol Brydeinig a chyrff eraill nad ydynt ond yn ceisio creu anghytgord yn ein cymunedau.

In view of these statistics and facts, I was disappointed to hear that the recent South Wales Police initiative to tackle racial crime through teacher training and education—a vital weapon in fighting this unacceptable activity—has been refused by the Home Office. This was despite the support of seven local authorities and organisations such as the Commission for Racial Equality, Race Equality First, VALREC—the Valleys Race Equality Council—and Swansea Bay Race Equality Council. I realise that this is not a devolved matter, but it is such an important issue for our communities. Will you pursue it with the Home Office, so that we can change this decision?

Yn wyneb yr ystadegau a’r ffeithiau hyn, yr oeddwn yn siomedig i glywed bod y cynllun diweddar gan Heddlu De Cymru i fynd i’r afael â throseddu hiliol drwy hyfforddiant athrawon ac addysg—arf holl bwysig wrth ymladd y gweithgaredd annerbyniol hwn—wedi ei wrthod gan y Swyddfa Gartref. Yr oedd hyn er gwaethaf cefnogaeth saith awdurdod lleol a chyrff fel y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Race Equality First, VALREC—Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd—a Chyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe. Sylweddolaf nad yw hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’n fater pwysig i’n cymunedau. A wnewch chi fynd ar ei drywydd gyda’r Swyddfa Gartref, fel y gallwn newid y penderfyniad hwn?

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

I join you in our condemnation of the BNP’s actions across Wales and all those that stir racial hatred across society. We must be aware that comments sometimes slur out extreme racial hatred and could lead to attacks. Many of us share the disappointment about the initiative that you mentioned. I guarantee that I will do my best and speak to the First Secretary about righting the matters of concern that have been raised today.

Ymunaf â chi i gondemnio gweithgarwch y Blaid Genedlaethol Brydeinig ar draws Cymru a phawb sydd yn cyffroi atgasedd hiliol ar draws cymdeithas. Rhaid inni fod yn ymwybodol fod sylwadau weithiau yn llithro dros atgasedd hiliol eithafol ac yn gallu arwain at ymosodiadau. Mae llawer ohonom yn rhannu’r siom ynglŷn â’r cynllun y cyfeiriasoch ato. Yr wyf yn gwarantu y gwnaf fy ngorau ac y siaradaf â’r Prif Ysgrifennydd ynglŷn â chywiro’r materion o bryder a godwyd yma heddiw.

David Davies spoken in English p. 19

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 19

On behalf of the Conservative group, I also want to disassociate ourselves from the BNP and extreme right wing groups which promote hatred. Does Edwina agree with the words of Haile Selassie, which later turned into a song by Bob Marley, about building a society where the colour of a man’s skin is of no more significance than the colour of his eyes? No doubt, if Val Feld had been there, he would have included women in that. Why is it that Edwina’s Cabinet colleagues are supporting policies, such as free eye tests for certain ethnic minorities, which will create more division? Many ethnic minorities would find the suggestion that they cannot afford eye tests patronising. Does Edwina agree that we should be colour blind in this country and all ethnic groups should be treated in the same fair way?

Ar ran y grŵp Ceidwadol, yr wyf innau hefyd am ein datgysylltu oddi wrth y Blaid Genedlaethol Brydeinig a grwpiau adain dde eithaf sydd yn hybu atgasedd. A yw Edwina yn cytuno â geiriau Haile Selassie, a droesant yn gân gan Bob Marley yn ddiweddarach, ynglŷn â chymdeithas lle nad oes i liw croen dyn ddim mwy o arwyddocâd na lliw ei lygaid? Mae’n siŵr, pe byddai Val Feld wedi bod yno, y byddai wedi cynnwys menywod yn hynny. Pam fod cyd-Aelodau Edwina yn y Cabinet yn cefnogi polisïau, fel profion llygaid am ddim i rai lleiafrifoedd ethnig, a fydd yn creu mwy o raniad? Byddai llawer o leiafrifoedd ethnig yn cael bod yr awgrym na allant fforddio profion llygaid yn nawddoglyd. A yw Edwina yn cytuno y dylem fod yn ddall i liw yn y wlad hon ac y dylid trin pob grŵp ethnig yn yr un ffordd deg?

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

We must identify the issues concerning the special health needs of ethnic minorities in the same way as those concerning women’s health. That has been discussed in the Health and Social Services Committee. The Committee has had its deliberations and I am pleased with its choice of issues to pursue in this area. I was delighted to hear about your group’s condemnation of the BNP. It is important that the Assembly takes a strong lead in condemning racial discrimination wherever it is.

Rhaid inni ddynodi’r materion sydd yn berthnasol i anghenion iechyd arbennig lleiafrifoedd ethnig yn yr un ffordd â’r rheini sydd a wnelont ag iechyd menywod. Mae hynny wedi’i drafod yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Pwyllgor wedi cael ei drafodaethau ac yr wyf yn fodlon â’r pynciau y mae wedi dewis mynd ar eu trywydd yn y maes hwn. Yr oeddwn wrth fy modd i glywed bod eich grŵp yn condemnio’r Blaid Genedlaethol Brydeinig. Mae’n bwysig fod y Cynulliad yn rhoi arweiniad cryf yn condemnio camwahaniaethu hiliol pa le bynnag y mae.

Christine Chapman spoken in English p. 20

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 20

In welcoming the initiatives that are in place and in paying tribute to the Committee on Equality of Opportunity’s work, which you have mentioned, and in ensuring that the fight against racial discrimination is at the heart of everything that we do, have you considered how much it would cost to extend the route to Torfaen scheme, which addresses racism in communities through their schools and was the only project in Wales to be financed by a grant from the European Year Against Racism, across the rest of Wales?

Wrth groesawu’r cynlluniau sydd wedi’u sefydlu a thalu teyrnged i waith y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, y cyfeiriasoch ato, ac wrth sicrhau bod y frwydr yn erbyn gwahaniaethu hiliol wrth galon popeth a wnawn, a ydych wedi ystyried faint y byddai’n ei gostio i ehangu i weddill Cymru gynllun y llwybr i Dorfaen, sydd yn ymdrin â hiliaeth mewn cymunedau drwy eu hysgolion, yr unig brosiect yng Nghymru i gael ei gyllido drwy grant gan Flwyddyn Ewrop yn Erbyn Hiliaeth?

Edwina Hart spoken in English p. 20

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 20

I have not made any detailed considerations of the cost of introducing this scheme into other local authority areas. However, in the light of your question, I will make the necessary enquiries and discuss this matter with my colleagues on the Committee on Equality of Opportunity, as it will fit nicely into our programme of work in tackling race discrimination in Wales.

Nid wyf wedi ystyried y gost o gyflwyno’r cynllun hwn yn ardaloedd awdurdodau lleol eraill mewn unrhyw fanylder. Fodd bynnag, yn wyneb eich cwestiwn, gwnaf yr ymholiadau angenrheidiol a thrafodaf y mater hwn gyda’m cyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, gan y bydd yn asio’n dwt gyda’n rhaglen waith i fynd i’r afael â gwahaniaethu hiliol yng Nghymru.

Adroddiad Lawrence

Lawrence Report

Q3 David Melding spoken in English p. 20

C3 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 20

Will the Finance Secretary make a statement on progress towards implementing the Lawrence report? (OAQ5153)

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cyllid ddatganiad ar gynnydd tuag at weithredu adroddiad Lawrence? (OAQ5153)

Edwina Hart spoken in English p. 20

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 20

The Lawrence report is at the heart of all discussions in the Committee on Equality of Opportunity. We have an all-party sub-group in the Committee, which is discussing implementation of the report with the education sector. We have also brought in South Wales Police, Estyn, ACCAC—the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority—and the Commission for Racial Equality to examine how the Assembly can address the findings of Sir William Macpherson’s report on the Lawrence inquiry. I have some good news. I am awaiting the confirmation of the appointment of a secondee to help the Committee and the Assembly to take this forward.

Mae adroddiad Lawrence wrth galon yr holl drafodaethau yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Mae gennym is-grŵp o blith yr holl bleidiau yn y Pwyllgor, sydd yn trafod rhoi’r adroddiad ar waith gyda’r sector addysg. Yr ydym hefyd wedi dod â Heddlu De Cymru, Estyn, yr Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol i mewn i ystyried sut y gall y Cynulliad ymdrin â’r canfyddiadau yn adroddiad Syr William Macpherson ar ymchwiliad Lawrence. Mae gennyf rywfaint o newyddion da. Yr wyf yn disgwyl cadarnhad fod swyddog wedi’i benodi ar secondiad i helpu’r Pwyllgor a’r Cynulliad i dywys hyn yn ei flaen.

As Chair of the Committee, I pay tribute to the work that it has initiated in this area with the implementation of the Macpherson report and the additional work that members of the sub-group have undertaken to ensure that the Assembly leads the way in implementing the Macpherson report on the tragic death of Stephen Lawrence.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor, talaf deyrnged i’r gwaith y mae wedi ei ddechrau yn y maes hwn o ran gweithredu adroddiad Macpherson a’r gwaith ychwanegol a ymgymerwyd gan aelodau o’r is-grŵp i sicrhau bod y Cynulliad yn arwain y ffordd wrth roi adroddiad Macpherson am farwolaeth drasig Stephen Lawrence ar waith.

David Melding spoken in English p. 21

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 21

Does Edwina agree that casual assurances from ACCAC that racial awareness issues are mainstreamed in the curriculum are not helpful when that organisation cannot give a single instance of a topic studied to raise racial awareness?

A yw Edwina yn cytuno nad yw geiriau didaro gan ACCAC yn rhoi sicrwydd fod materion ymwybyddiaeth hiliol yn rhan o brif ffrwd y cwricwlwm o lawer o fudd pan na all y corff hwnnw roi un enghraifft o bwnc a astudir i gynyddu ymwybyddiaeth hiliol?

Edwina Hart spoken in English p. 21

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 21

I was also concerned with ACCAC’s contribution in the Committee on that area. The pertinent way in which the Committee dealt with it by looking at key areas in the curriculum of how geography and history are taught has been useful. ACCAC has now joined our sub-group to discuss the issues, which will allow us to take the issues forward. Rosemary Butler is eager to ensure that the issues are addressed within the education system so that we can ensure that the Macpherson report is implemented properly in Wales and that people know that we are not just paying lip service to it. Sometimes Commission reports come and go and only lip service is paid to their outcome.

Yr oeddwn innau hefyd yn bryderus ynglŷn â chyfraniad ACCAC yn y Pwyllgor ar y maes hwnnw. Mae’r ffordd berthnasol y bu i’r Pwyllgor ymdrin ag ef drwy edrych ar feysydd allweddol yn y cwricwlwm, sef sut y mae daearyddiaeth a hanes yn cael eu dysgu, wedi bod yn fuddiol. Erbyn hyn mae ACCAC wedi ymuno â’n his-grŵp i drafod y materion, a fydd yn caniatáu inni dywys y materion yn eu blaen. Mae Rosemary Butler yn awyddus i sicrhau bod y materion yn cael sylw o fewn y system addysg fel y gallwn sicrhau bod adroddiad Macpherson yn cael ei weithredu’n briodol yng Nghymru a bod pobl yn gwybod mai nid esgus ei gefnogi yn unig yr ydym. Weithiau mae adroddiadau gan Gomisiwn yn mynd a dod heb i unrhyw sylw gwirioneddol gael ei roi i’w cynnwys.

Owen John Thomas spoken in English p. 21

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 21

Education is a shared experience that provides an excellent opportunity for nurturing racial harmony. Cardiff has had a cosmopolitan community for almost 150 years and since the 1960s Welsh towns have had substantial ethnic populations. When Betty Campbell retired from Mount Stuart Primary School in Cardiff Bay last year, Wales lost its only head teacher from an ethnic background. As Chair of the Committee on Equality of Opportunity, are you satisfied with the efforts that are made to attract entrants from ethnic minorities to the teaching profession and what steps are you taking to encourage this move and to monitor its progress?

Mae addysg yn brofiad a rennir sydd yn cynnig cyfle rhagorol i feithrin cytgord hiliol. Bu gan Gaerdydd gymuned gosmopolitan ers bron i 150 mlynedd ac mae trefi Cymru wedi bod â phoblogaethau ethnig sylweddol ers y 1960au. Pan ymddeolodd Betty Campbell o Ysgol Gynradd Mount Stuart ym Mae Caerdydd y llynedd, collodd Cymru ei hunig brifathrawes o gefndir ethnig. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, a ydych yn fodlon â’r ymdrechion a wneir i ddenu pobl newydd o leiafrifoedd ethnig i’r proffesiwn dysgu a pha gamau yr ydych yn eu cymryd i annog y symudiad hwn ac i fonitro ei gynnydd?

Edwina Hart spoken in English p. 22

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 22

I cannot give you an adequate answer today on whether sufficient work has been undertaken to attract people from ethnic minorities to the teaching profession. From looking at other career paths in Wales and from the concerns expressed by teaching unions I am aware that more people from ethnic minorities are needed in that field so that we have positive black, Asian and ethnic minority role models with which school children can identify. That is important. In light of your question, I will raise the matter with Rosemary Butler so that we can improve the situation. It is an issue that we would like to examine in general discussions on areas such as education in the Committee on Equality of Opportunity.

Ni allaf roi ateb digonol i chi heddiw o ran a oes digon o waith wedi ei wneud i ddenu pobl o leiafrifoedd ethnig i’r proffesiwn dysgu. O edrych ar lwybrau gyrfaol eraill yng Nghymru ac o’r pryderon a fynegir gan undebau athrawon yr wyf yn ymwybodol fod angen mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn y maes hwnnw fel bod gennym fodelau rôl du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol positif y gall plant ysgol uniaethu â hwy. Mae hynny’n bwysig. Yng ngoleuni eich cwestiwn, byddaf yn codi’r mater gyda Rosemary Butler fel y gallwn wella’r sefyllfa. Mae’n fater yr hoffem edrych arno mewn trafodaethau cyffredinol ar feysydd fel addysg yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal.

Jenny Randerson spoken in English p. 22

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 22

I was pleased to hear David’s point earlier. Do you join me in condemning William Hague who, in the course of his anti-refugee broadcast prior to the elections last week —

Yr oeddwn yn falch o glywed pwynt David yn gynharach. A ydych yn ymuno â mi i gondemnio William Hague, y bu iddo, yn ystod ei ddarllediad gelyniaethus i ffoaduriaid cyn yr etholiadau yr wythnos diwethaf—

Nick Bourne spoken in English p. 22

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 22

That is not a question, it is a speech.

Nid cwestiwn mo hynny, mae’n araith.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 22

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

Order. I, not the Conservative Group, am in charge of ensuring that questions are questions.

Trefn. Fi, nid y Grŵp Ceidwadol, sydd yn gyfrifol am sicrhau bod cwestiynau yn gwestiynau.

Jenny Randerson spoken in English p. 22

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 22

William Hague condemned time wasted on so-called politically correct policing, which one has to assume must have meant equality and race issues. Do you agree?

Condemniodd William Hague amser a wastraffir ar blismona a elwir yn wleidyddol gywir, a rhaid tybio bod hynny yn golygu materion cydraddoldeb a hil. A ydych yn cytuno?

Edwina Hart spoken in English p. 22

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 22

I share many of your concerns regarding the whipping up of issues against asylum seekers in this country. It is not helpful for leading politicians to use that to play politics with people’s lives. There is no place in modern politics to stir up that type of racial hatred, particularly in Wales.

Rhannaf lawer o’ch pryderon ynglŷn â chreu stŵr yn erbyn ceiswyr nodded yn y wlad hon. Nid yw’n fuddiol pan fo gwleidyddion blaenllaw yn defnyddio hynny i chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl. Nid oes lle mewn gwleidyddiaeth fodern i ysgogi’r math hwnnw o atgasedd hiliol, yn enwedig yng Nghymru.

Richard Edwards spoken in English p. 22

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 22

Will you take this opportunity to re-emphasise how vitally important schooling from the earliest possible age is to ending discrimination and promoting integration and harmony in this country?

A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto mor hanfodol bwysig yw addysg o’r oed cynharaf posibl i roi terfyn ar gamwahaniaethu a hyrwyddo integreiddio a chytgord yn y wlad hon?

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

To answer that question we need only look at the Stephen Lawrence inquiry findings and its 70 recommendations, and how many of those are linked to racism and the role of education in dealing with racism within society. It is a matter of agenda for us in Wales to tackle racism through the education system and to examine the wider issues of equality of opportunity. This does not just refer to racist attacks but also such matters as providing for people with disability. It is the Assembly’s duty, with its proud record in equality of opportunity, to take these issues seriously.

I ateb y cwestiwn hwnnw nid oes angen edrych dim pellach na chanfyddiadau ymchwiliad Stephen Lawrence a’i 70 o argymhellion, a faint o’r rheini sydd wedi’u cydgysylltu â hiliaeth a rôl addysg wrth ddelio â hiliaeth yn ein cymdeithas. Mae’n fater o agenda inni yng Nghymru i fynd i’r afael â hiliaeth drwy’r system addysg ac edrych ar ystyriaethau ehangach cyfle cyfartal. Nid yw hyn yn cyfeirio’n unig at ymosodiadau hiliol ond hefyd at faterion fel darparu ar gyfer pobl ag anabledd. Mae’n ddyletswydd ar y Cynulliad, gyda’i record falch o safbwynt cyfle cyfartal, i gymryd y materion hyn o ddifrif.

Datganiad ar Werthusiadau Graddfa Fferm yng Nghymru

Statement on Farm-scale Evaluations in Wales

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 23

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 23

In March, the Minister for the Environment, Michael Meacher announced details of a scientific programme of farm-scale evaluations of the potential effect on the natural environment of growing genetically modified crops. Before this announcement, his Department informed us that none of the farm-scale evaluations would take place in Wales. We have now learned that Aventis, one of the companies involved in the evaluations, has decided to locate one of its sites in north-east Wales.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Michael Meacher, fanylion rhaglen wyddonol o werthusiadau graddfa fferm i effaith bosibl tyfu cnydau a addaswyd yn enetig ar yr amgylchedd naturiol. Cyn y cyhoeddiad hwn, dywedodd ei Adran wrthym na fyddai’r un o’r gwerthusiadau graddfa fferm yn cael ei gynnal yng Nghymru. Yr ydym wedi cael ar ddeall erbyn hyn fod Aventis, un o’r cwmnïau sydd yn ymdrin â’r gwerthusiadau, wedi penderfynu lleoli un o’i safleoedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

The crop to be trialled is Chardon LL, a hybrid line of forage maize containing the transformation event T25, which has been genetically modified to be tolerant to the herbicide glufosinate ammonium. You will be aware that we considered the national listing of this variety in Committee in March, and I emphasise that this is unrelated to the location of the farm-scale trials. As you may recall, national listing is a statutory procedure that establishes whether a variety of seed meets specific criteria that allow it to be marketed commercially for use by growers. Farm-scale evaluations are a scientific assessment which are not governed by statute to assess the bio-diversity effects of growing the genetically modified variety. To be included in a farm-scale evaluation, the seed does not need national seed listing and this seed does not yet have national seed listing.

Y cnwd i’w dreialu yw Chardon LL, math hybrid o india-corn sydd yn cynnwys y trawsffurfiad T25, sydd wedi’i addasu’n enetig i fedru goddef y chwynladdwr amoniwm glufosinate. Byddwch yn gwybod inni ystyried rhestru’r amrywiad hwn yn genedlaethol ym mis Mawrth, a phwysleisiaf nad oes perthynas rhwng hynny â lleoliad y treialon graddfa fferm. Fel y cofiwch, efallai, mae rhestru cenedlaethol yn drefn statudol sydd yn sefydlu a yw amrywiad o had yn bodloni meini prawf penodol sydd yn caniatáu iddo gael ei farchnata’n fasnachol i’w ddefnyddio gan dyfwyr. Asesiad gwyddonol yw gwerthusiadau graddfa fferm nas llywodraethir gan statud i asesu effeithiau bioamrywiaeth tyfu’r amrywiad sydd wedi’i addasu’n enetig. I gael ei gynnwys mewn gwerthusiad graddfa fferm, nid yw’n rhaid i’r had fod wedi’i restru’n genedlaethol, ac nid yw’r had hwn eto wedi’i restru’n genedlaethol.

The crop can legally be grown in a farm-scale evaluation if it has consent under Part C of the European Union Directive 90/220. Part C consent allows a genetically modified organism to be released into the environment throughout the European Union. The particular variety of maize that Aventis proposes to use in the trial in north Wales received Part C consent in August 1998. The reference number is C/F/95/12/7, issued by the French authorities following agreement by member states. This consent is valid throughout the European Union and the company can therefore conduct these trials anywhere in the United Kingdom with no further approvals required. The Assembly does not have legal grounds to prevent this happening. I emphasise that neither does the UK Government.

Gellir tyfu’r cnwd yn gyfreithlon mewn gwerthusiad graddfa fferm os oes ganddo ganiatâd o dan Ran C Cyfarwyddeb 90/220 yr Undeb Ewropeaidd. Mae caniatâd Rhan C yn caniatáu rhyddhau organeb a addaswyd yn enetig i’r amgylchedd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd yr amrywiad penodol o india-corn y mae Aventis yn bwriadu ei dreialu yng ngogledd Cymru ganiatâd Rhan C yn Awst 1998. Y cyfeirnod yw C/F/95/12/7, ac fe’i rhoddwyd gan awdurdodau Ffrainc ar ôl i’r aelod wladwriaethau gytuno. Mae’r caniatâd hwn yn ddilys ledled yr Undeb Ewropeaidd a gall y cwmni felly gynnal y treialon hyn mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig heb fod angen cymeradwyaeth bellach. Nid oes gan y Cynulliad seiliau cyfreithiol i atal hyn rhag digwydd. Pwysleisiaf nad yw hynny gan Lywodraeth y DU ychwaith.

As this crop has Part C consent under the European Union Directive 90/220, Aventis is not required to notify either us or the Department of the Environment, Transport and the Regions of the location of the field sites. We only know where they are because of SCIMAC—the Supply Chain Initiative on Modified Agricultural Crops—which is the group of industry organisations that agreed to provide a six-figure grid reference of each field. This has been placed on the Department of the Environment, Transport and the Regions’ website. I am not satisfied that this information is sufficiently widely known and I well understand concerns locally. I am informed that the DETR has plans to hold a meeting in the Cheshire area at which a panel of experts will explain the reasons behind the farm-scale evaluations. I do not regard these arrangements as adequate. I spoke to Michael Meacher earlier today and I expressed my deep unhappiness about this. He was sympathetic and recognised the difficulties that we face in Wales and in the Assembly in particular. He agreed that his officials should hold further discussions with Aventis in an effort to get them to use an alternative site in England. Should this not meet with success, I will call on Aventis to delay planting until there has been adequate consultation with local people in the Sealand area. They have a right to know what is going on, and they should have been given adequate notice so that they could, if they wished, make their views known to the farmer who has agreed to the trial, to Aventis—the company who will be carrying it out—and to us in the Assembly.

Gan fod gan y cnwd hwn ganiatâd Rhan C o dan Gyfarwyddeb 90/220 yr Undeb Ewropeaidd, nid yw’n ofynnol i Aventis ein hysbysu ni nac Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau o leoliad y caeau. Dim ond drwy Fenter y Gadwyn Gyflenwi ar Gnydau Amaethyddol wedi’u Haddasu, y grŵp o gyrff o’r diwydiant sydd wedi cytuno i roi cyfeirnod grid chwe-ffigur inni i bob cae, y gwyddom ymhle maent. Mae hyn wedi’i roi ar safle Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau ar y we. Nid wyf yn fodlon fod yr wybodaeth hon yn ddigon hysbys ac yr wyf yn llawn ddeall y pryderon yn lleol. Dywedir wrthyf fod gan Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau gynlluniau i gynnal cyfarfod yn ardal Swydd Gaer pan fydd panel o arbenigwyr yn egluro’r rhesymau y tu ôl i’r gwerthusiadau graddfa fferm hyn. Ni thybiaf fod y trefniadau hyn yn ddigonol. Siaradais â Michael Meacher heddiw gan fynegi fy anfodlonrwydd dwfn ynglŷn â hyn. Yr oedd yn cydymdeimlo ac yn cydnabod yr anawsterau a wynebwn yng Nghymru ac yn y Cynulliad yn enwedig. Cytunodd y dylai ei swyddogion gynnal trafodaethau pellach gydag Aventis mewn ymgais i’w cael i ddefnyddio safle amgen yn Lloegr. Os na ddaw llwyddiant o hynny, byddaf yn galw ar Aventis i ohirio’r plannu hyd nes y ceir ymgynghori digonol gyda phobl leol yn ardal Sealand. Mae ganddynt hawl i wybod beth sydd yn digwydd, a dylid bod wedi rhoi rhybudd digonol iddynt fel y gallent, pe baent yn dymuno, gyfleu eu barn wrth y ffermwr sydd wedi cytuno i’r treial, i Aventis—y cwmni a fydd yn ymgymryd ag ef—ac i ninnau yn y Cynulliad.

We have been promoting and putting public money into organic farming in Wales. I am well aware that organic farmers do not want to have genetically modified crops grown close to their farms. In the Assembly we care about the wishes of organic farmers, so I will be writing formally to Michael Meacher inviting him to consider how the two systems can live together. My officials will also be raising these concerns with the senior management of Aventis. We are promoting and encouraging organic farming in Wales and I do not want to see the integrity of that project damaged. SCIMAC guidelines are specific about cultivation and planting distances in relation to genetically modified crops and I would like to see that strengthened. I will also be pursuing that point with Michael Meacher.

Yr ydym wedi bod yn hyrwyddo ac yn rhoi arian cyhoeddus i mewn i ffermio organig yng Nghymru. Yr wyf yn ymwybodol iawn nad yw ffermwyr organig am weld cnydau a addaswyd yn enetig yn cael eu tyfu yn agos at eu ffermydd hwy. Yn y Cynulliad yr ydym yn parchu dymuniadau ffermwyr organig, felly byddaf yn ysgrifennu’n ffurfiol at Michael Meacher yn ei wahodd i ystyried sut y gall y ddwy system fyw gyda’i gilydd. Bydd fy swyddogion hefyd yn codi’r pryderon hyn gydag uwch reolwyr Aventis. Yr ydym yn hyrwyddo ac yn annog ffermio organig yng Nghymru ac nid wyf am weld uniondeb y prosiect hwnnw yn cael ei niweidio. Mae canllawiau SCIMAC yn benodol ynglŷn â thyfu a phellteroedd plannu cnydau a addaswyd yn enetig a hoffwn weld hynny’n cael ei atgyfnerthu. Byddaf yn mynd ar ôl y pwynt hwn gyda Michael Meacher hefyd.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 25

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh and English p. 25

Diolch am y datganiad. Mae’r digwyddiad wedi creu tipyn o newyddion. Bu llawer o adroddiadau camarweiniol a chryn dipyn o gamddealltwriaeth ynglŷn â’r sefyllfa.

in Welsh Thank you for the statement. This incident has created quite a bit of news. There have been many misleading reports and a great deal of misunderstanding about the situation.

Yr wyf yn gwisgo dwy het. Gallwn, fel llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig, fanteisio ar y cyfle hwn i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Ni wnaf hynny. Gallwn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud mai ni oedd yn iawn, a phe bai’r Ysgrifennydd wedi gwrando ar y Pwyllgor, ni fyddai’r amwysedd yn bodoli. Ni wnaf hynny ychwaith oherwydd y mae dau bwynt o bwys mawr yn codi o hyn.

in Welsh I wear two hats. I could, as the Plaid Cymru spokesman on agriculture and rural development, take advantage of this opportunity to score political points. I will not do that. I could, as Chair of the Agriculture and Rural Development Committee, take advantage of this opportunity to say that we were right, and that if the Secretary had listened to the Committee, this ambiguity would not exist. I will not do that either, because two points of great import arise from this.

Yn gyntaf, cyfrifoldeb y weinyddiaeth Lafur yn y Cynulliad yw mynegi’n glir yr hyn y mae’r Cynulliad wedi’i ddweud ym mis Gorffennaf y llynedd, sef ein bod am weld Cymru yn glir o gynnyrch a addaswyd yn enetig. Mae’n bwysig bod y datganiad hwnnw yn cael ei wneud yn eglur. Mae Christine yn iawn ynghylch y sefyllfa ddeddfwriaethol. Sylweddolwn hynny. Fodd bynnag, mae teimlad bod y Llywodraeth Lafur yn y Cynulliad yn methu â sicrhau bod dymuniadau mwyafrif Aelodau’r Cynulliad yn cael eu mynegi’n glir.

in Welsh First, it is the responsibility of the Labour administration in the Assembly to express clearly what the Assembly said in July of last year, namely that we want to see Wales free from genetically modified produce. It is important that that statement is made clear. Christine is right about the legislative situation. We realise that. However, there is a feeling that the Labour Government in the Assembly is failing to ensure that the wishes of the majority of Assembly Members are expressed clearly.

Yn ail, fel y mae Christine wedi nodi, mae ein strategaeth ar gyfer amaethyddiaeth a datblgu’r economi wledig yn ddibynnol ar greu delwedd o Gymru sydd yn glir o unrhyw ychwanegiadau artiffisial, sydd yn naturiol, yn organig, yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn gynaliadwy. Mae’r digwyddiad hwn yn tanseilio hynny. Fel llefarydd y prif wrthblaid ar y mater hwn, rhybuddiaf y Llywodraeth y bydd yn anodd i ni gefnogi’r strategaeth hon ymhellach os na wneir y datganiad clir diamwys hwnnw ac os nad yw’r weinyddiaeth Lafur yn y Cynulliad yn barod i ddweud yn bendant y bydd yn pwyso ar y cwmni, a’r ffermwr yn yr achos hwn, i beidio â chael y treialon hyn ar dir Cymru.

in Welsh Secondly, as Christine has noted, our strategy for agriculture and the development of the rural economy depends on creating an image of Wales that is free from any artificial additives, is natural, organic, eco-friendly and sustainable. This incident undermines that. As the spokesperson of the main opposition party, I warn the Government that it will be difficult for us to support this strategy further if that clear, unambigious statement is not made, and if the Assembly’s Labour administration is not willing to say categorically that it will urge the company, and the farmer in this case, not to hold these trials on Welsh land.

We need a clear commitment from the administration that it will ensure that the company and the farmer clearly understand that we do not want these trials on Welsh land.

yn Saesneg Mae angen ymrwymiad clir gan y weinyddiaeth y bydd yn sicrhau bod y cwmni a’r ffermwr yn deall yn glir nad ydym am gael y treialon hyn ar dir Cymru.

A wnaiff Christine roi’r ymrwymiad hwnnw i ni y prynhawn yma?

in Welsh Will Christine give us that commitment this afternoon?

Christine Gwyther spoken in English p. 26

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 26

Would you like me to respond to each individual, Llywydd?

A hoffech imi ymateb i bob unigolyn, Lywydd?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

You may do whatever is easiest for you. I have received indications from Nick Bourne and Mike German that they wish to speak. You may respond to all speakers at once, if you prefer.

Gallwch wneud pa un bynnag yw’r hawsaf i chi. Cefais wybod gan Nick Bourne a Michael German eu bod am siarad. Gallwch ymateb i’r holl siaradwyr gyda’i gilydd, os yw’n well gennych.

Christine Gwyther spoken in English p. 26

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 26

I will respond briefly. I make it clear that the Assembly administration will not persecute farmers in Wales or companies, whether their headquarters are in England or Wales. It is not my intention to put pressure on the farmer. If DETR is not successful in getting Aventis to withdraw from proceeding with the trial in Wales and to move it to England, I will call on the company to take part in full, public discussions. Before it plants one seed, there will be a full public consultation. It is not for this Assembly to persecute farmers, as you said, Rhodri.

Ymatebaf yn fyr. Fe’i gwnaf yn glir na fydd gweinyddiaeth y Cynulliad yn erlid ffermwyr yng Nghymru na chwmnïau, boed eu pencadlys yng Nghymru neu Loegr. Nid yw’n fwriad gennyf roi pwysau ar y ffermwr. Os na lwydda Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau i gael Aventis i dynnu’n ôl rhag bwrw ymlaen â’r treial yng Nghymru a’i symud i Loegr, byddaf yn galw ar y cwmni i gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus, llawn. Cyn iddo blannu un hedyn, ceir ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Nid mater i’r Cynulliad hwn yw erlid ffermwyr, fel y dywedasoch, Rhodri.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 27

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 27

Ni allaf ganiatáu hyn. Nid wyf wedi—

I cannot permit this. I have not—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

Order.

Trefn.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 27

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 27

I have not mentioned persecuting farmers in any way. It is a gross—

Nid wyf wedi sôn am erlid ffermwyr mewn unrhyw ffordd. Mae’n gam—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

Order. If you wish to raise a point of order, you may do so at the end of the statement.

Trefn. Os ydych am godi pwynt o drefn, gallwch wneud hynny ar ddiwedd y datganiad.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 27

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 27

Iawn. Diolch yn fawr.

Fine. Thank you.

Nick Bourne spoken in English p. 27

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 27

First, I make it clear that we do not want farmers persecuted. However, what concerns me about your statement today Secretary, is that you did not know about these GM trials until today, when you contacted Michael Meacher. I can understand that you feel that this deserves a wider audience, because you yourself did not know about this until today. That is clear and it causes us great concern.

Yn gyntaf, fe’i gwnaf yn glir nad ydym am i ffermwyr gael eu herlid. Fodd bynnag, yr hyn sydd yn fy mhryderu yn eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd, yw na wyddech am y treialon o gnydau a addaswyd yn enetig tan heddiw, pan gysylltoch â Michael Meacher. Gallaf ddeall eich bod yn teimlo bod hyn yn haeddu cynulleidfa ehangach, oherwydd ni wyddech chi eich hun am hyn tan heddiw. Mae hynny’n glir ac mae’n peri pryder mawr inni.

To accept the legal position for the moment—although I am not sure that it is as Christine stated it—there is a clear mandate for a GM-free Wales from the Agriculture and Rural Development Committee and the Assembly. That goes back to a motion for a GM-free Wales adopted nearly a year ago and which I proposed. You are on record as wanting a GM-free Wales. On the one hand, you are GM-free Chris. On the other, when something goes wrong, you say ‘it is not me, guv’.

Wrth dderbyn y sefyllfa gyfreithiol fel y mae am y tro—er nad wyf yn siŵr ei bod fel y cafodd ei datgan gan Christine—mae mandad clir dros Gymru rydd rhag cnydau a addaswyd yn enetig oddi wrth y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’r Cynulliad. Mae hynny’n mynd yn ôl at y cynnig o blaid Cymru rydd rhag addasu’n enetig a fabwysiadwyd bron i flwyddyn ôl ac a gynigiwyd gennyf fi. Cofnodwyd chi’n dweud eich bod am i Gymru fod yn glir rhag cnydau a addaswyd yn enetig. Ar yr un llaw, wele Chris rydd rhag cnydau a addaswyd yn enetig. Ar y llaw arall, pan fo rhywbeth yn mynd o’i le, dywedwch ‘nid fi ydy e’, sgweiar’.

Where is the political will? What are you doing in Europe to ensure a GM-free Wales? Have you been to Europe to present our case? What are you doing in Westminster? Other than your telephone conversation with Michael Meacher this morning, which is a classic case of stable door syndrome, what have you done in Westminster to ensure a GM-free Wales? That is what is causing concern, not so much the legal position as what you are seeking to do to present the Welsh view and show that we want changes, if that is the legal position. There is a clear mandate from the Agriculture and Rural Development Committee and from the Assembly. It seems like the administration wants to cherry pick again. It wants to ignore this issue and blame the Labour Government in Westminster. That will not do. You must show political will. Where is the evidence that you will change things to reflect this body’s will?

Ym mha le mae’r ewyllys wleidyddol? Beth ydych chi’n ei wneud yn Ewrop i sicrhau Cymru rydd rhag cnydau a addaswyd yn enetig? A fuoch chi i Ewrop i gyflwyno eich achos? Beth ydych yn ei wneud yn San Steffan? Ar wahân i’ch sgwrs dros y ffôn gyda Michael Meacher y bore yma, enghraifft glasurol o godi pais, beth ydych chi wedi’i wneud yn San Steffan i sicrhau Cymru rydd rhag cnydau a addaswyd yn enetig? Hynny sydd yn peri pryder, nid yn gymaint y sefyllfa gyfreithiol â’r hyn yr ydych yn ei wneud i geisio cyflwyno barn Cymru a dangos ein bod am weld newidiadau, os mai dyna’r sefyllfa gyfreithiol. Mae mandad clir oddi wrth y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’r Cynulliad. Mae’n ymddangos bod y weinyddiaeth am ddewis a dethol unwaith eto. Mae am anwybyddu’r mater hwn a beio’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Ni wnaiff hynny’r tro. Rhaid ichi ddangos ewyllys wleidyddol. Ym mha le mae’r dystiolaeth y byddwch yn newid pethau i adlewyrchu ewyllys y corff hwn?

Christine Gwyther spoken in English p. 28

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 28

I want to be clear about this site’s history. About a fortnight ago, the grid reference of the field under discussion first appeared on the Department of the Environment, Transport and the Regions website. The farm’s address is in England. My officials contacted the DETR immediately. It said that it would contact Aventis to try to persuade them to remove their indication of preference for the field in Wales for one in England. That work continued throughout the last fortnight. The position was the same yesterday afternoon. Yesterday evening, the DETR’s press office was contacted in the normal course of events and it changed the position. It said that it was a done and dusted deal and that Aventis would plant in Wales. That happened at 10 p.m. last night.

Yr wyf am fod yn glir ynglŷn â hanes y safle hwn. Tua phythefnos yn ôl, ymddangosodd cyfeirnod grid y cae dan sylw am y tro cyntaf ar safle Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau ar y we. Mae cyfeiriad y fferm yn Lloegr. Cysylltodd fy swyddogion ag Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau ar unwaith. Dywedodd y byddai’n cysylltu ag Aventis i geisio’u perswadio i newid y cae yr oeddent yn ei ffafrio yng Nghymru am un yn Lloegr. Parhaodd y gwaith hwnnw gydol y pythefnos diwethaf. Yr un oedd y sefyllfa brynhawn ddoe. Fin nos neithiwr, cysylltwyd â swyddfa’r wasg y DETR yn nhrefn arferol pethau a newidiodd ei safiad. Dywedodd fod y fargen wedi ei chyflawni a’i chwblhau ac y byddai Aventis yn plannu yng Nghymru. Digwyddodd hynny am 10 p.m. neithiwr.

Nick Bourne spoken in English p. 28

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 28

I only heard early this morning myself.

Dim ond yn gynnar y bore yma y clywais i.

Christine Gwyther spoken in English p. 28

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 28

That is when you heard it.

Dyna pryd y clywsoch chi.

Nick Bourne spoken in English p. 28

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 28

Slightly afterwards.

Ychydig wedyn.

Christine Gwyther spoken in English p. 28

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 28

There we are then.

Dyna ni felly.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 28

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 28

Order. This is not a conversation or a debate; this is a statement.

Trefn. Nid sgwrs na dadl sydd gennym; datganiad yw hwn.

Michael German spoken in English p. 28

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 28

That frightens me considerably because, on 11 April, I tabled a no-named-day motion, which reflected the fact that Aventis would plant in Wales. That matter has been on the table in the Assembly for that period. It is unhelpful when the Secretary for Agriculture and Rural Development does not know what is happening. The relevant European Union Directive—and you cannot hide behind the European Union on this—has two elements. You are correct that part C consent is commercial consent and that part B consent is experimental consent. The DETR and the Assembly must be notified on the part B level. However, we cannot hide behind Europe because Austria has already banned T25. When there is a will in Wales not to have a GM environment, why must we follow the lead set by other countries in the European Union that find it acceptable, possible and legal? I understand that other countries will follow this route. The Government in Wales, as in London, has lost control of this situation. It has been led by the nose by the company on this matter.

Mae hynny’n peri cryn fraw i mi oherwydd, ar 11 Ebrill, cyflwynais gynnig heb ddyddiad wedi’i nodi ar ei gyfer, a adlewyrchai’r ffaith y byddai Aventis yn plannu yng Nghymru. Bu’r mater hwnnw ar y bwrdd yn y Cynulliad ers hynny. Nid yw o gymorth pan nad yw’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn gwybod beth sydd yn digwydd. Mae i Gyfarwyddeb berthnasol yr Undeb Ewropeaidd—ac ni allwch guddio y tu cefn i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn—ddwy elfen. Yr ydych yn gywir bod caniatâd rhan C yn ganiatâd masnachol a bod caniatâd rhan B yn ganiatâd arbrofol. Rhaid hysbysu Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd a’r Cynulliad ar lefel rhan B. Fodd bynnag, ni allwn guddio y tu ôl i Ewrop oherwydd mae Awstria eisoes wedi gwahardd T25. Pan fo ewyllys yng Nghymru i beidio â chael amgylchedd a addaswyd yn enetig, pam fod yn rhaid inni ddilyn yr arweiniad a roddir gan wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd sydd yn ei gael yn dderbyniol, yn bosibl ac yn gyfreithiol? Deallaf y bydd gwledydd eraill yn dilyn y llwybr hwn. Mae’r Llywodraeth yng Nghymru, fel yn Lloegr, wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa. Fe’i harweiniwyd gerfydd ei thrwyn gan y cwmni ar y mater hwn.

I have two questions. First, will you investigate, as a matter of priority, whether the seeds are being marketed to the farmer by Aventis in breach of EC Directive 70/457, which prohibits marketing these seeds unless they are on the UK National List? Will you also insist on receiving copies of all relevant agreements between Aventis, the farmer and all intermediaries? Secondly, will you support the Assembly in making representations to the UK Government, under Section 33 of the Government of Wales Act 1998, to impose a ban in Wales on the release of T25 maize under Article 16 of EC Directive 90/220?

Mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, a wnewch chi ymchwilio, fel mater o flaenoriaeth, i ganfod a yw’r hadau sydd yn cael eu marchnata i’r ffermwr gan Aventis yn groes i Gyfarwyddeb 70/457 CE, sydd yn gwahardd marchnata’r hadau hyn onid ydynt ar Restr Genedlaethol y DU? A wnewch chi hefyd fynnu derbyn copïau o’r holl gytundebau perthnasol rhwng Aventis, y ffermwr a’r holl gyrff yn y canol? Yn ail, a wnewch chi gefnogi’r Cynulliad drwy gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, o dan Adran 33 Deddf Llywodraeth Cymru 1998, o blaid gosod gwaharddiad yng Nghymru ar ryddhau india-corn T25 o dan Erthygl 16 Cyfarwyddeb 90/220 y CE?

Christine Gwyther spoken in English p. 29

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 29

I am sure that Mike will correct me if I am wrong, but I understand that part C allows release into the whole of the European Union. It does not matter whether or not the seed is listed. Part B is another matter. Maybe we need to discuss this in the Agriculture and Rural Development Committee. If your party and the Government of Wales have different legal perspectives, we should explore them proactively.

Yr wyf yn siŵr y gwnaiff Mike fy nghywiro os wyf yn anghywir, ond deallaf fod rhan C yn caniatáu rhyddhau cynnyrch i’r Undeb Ewropeaidd yn ei chyfanrwydd. Nid yw a yw’r had wedi’i restru ai peidio o bwys. Mae rhan B yn fater arall. Efallai fod angen inni drafod hyn yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Os oes gan eich plaid chi a Llywodraeth Cymru safbwyntiau cyfreithiol gwahanol, dylem ymchwilio’n rhagweithiol iddynt.

I have been aware of this site for a couple of weeks. Web watchers will have noticed that its details were removed from the DETR website because it was negotiating with the company. To be fair to the DETR, it probably did as much as it could. The original error, which was that we were not told of the likelihood of a site in Wales, rests with the DETR. I am not simply blaming the UK Government or Europe or anybody else. That is where the original error occurred.

Bûm yn ymwybodol o’r safle hwn ers ychydig wythnosau. Bydd y rhai sydd yn gwylio’r we wedi sylwi i’w fanylion gael eu tynnu oddi ar safle Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau am ei fod yn negodi gyda’r cwmni. I fod yn deg ag Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau, mae’n debyg iddo wneud popeth a allai. Mae’r camgymeriad gwreiddiol, sef na ddywedwyd wrthym fod safle yng Nghymru yn debygol, yn gorffwys gydag Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau. Nid rhoi’r bai ar Lywodraeth y DU nac Ewrop na neb arall yr ydwyf. Dyna lle y digwyddodd y camgymeriad gwreiddiol.

Jocelyn Davies spoken in English p. 30

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 30

Can you not see the hypocrisy in agreeing to licence this field and then hoping that only English farmers would have to tolerate it? You decided to licence this particular seed. Now you are telling us that you are trying to persuade the company to grow that seed in England alone. It is not fair on our neighbours. Did you not realise that some farmer in the UK would have to live with your decision?

Oni allwch chi weld y rhagrith mewn cytuno i drwyddedu’r cae hwn ac yna gobeithio mai dim ond ffermwyr o Loegr fyddai’n gorfod ei ddioddef? Penderfynasoch drwyddedu’r had arbennig hwn. Yn awr yr ydych yn dweud wrthym eich bod yn ceisio perswadio’r cwmni i dyfu’r had yn Lloegr yn unig. Nid yw hynny’n deg i’n cymdogion. Oni sylweddolech y byddai’n rhaid i ryw ffermwr yn y DU fyw gyda’ch penderfyniad?

Christine Gwyther spoken in English p. 30

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 30

As you know, the listing of the seed has no bearing on the farm-scale evaluations. I need to reiterate that. It is a proposed listing, which is what I agreed to. We will receive the results of the consultation on T25. As far as that is concerned, the issue is not dead. However, as far as the national seed listing and the farm-scale evaluations are concerned, there is no correlation whatsoever. The media and general public might have got that idea. We need to disabuse people of that.

Fel y gwyddoch, nid oes cysylltiad rhwng rhestru’r had a gwerthusiadau graddfa fferm. Mae angen imi ailadrodd hynny. Mae’n rhestriad sydd wedi’i gynnig, a dyna’r hyn y cytunais iddo. Byddwn yn derbyn canlyniadau’r ymgynghori ar T25. Cyn belled ag y mae hynny’n bod, nid yw’r mater ar ben. Fodd bynnag, cyn belled ag y mae rhestru’r had yn genedlaethol a gwerthusiadau graddfa fferm yn bod, nid oes unrhyw gydberthynas o gwbl. Efallai fod y cyfryngau a’r cyhoedd wedi cael y syniad hwnnw. Mae angen inni agor llygaid pobl i hynny.

Peter Rogers spoken in English p. 30

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 30

We have dealt with this in detail. Quite rightly, Christine, you said that this matter surfaced about two or three weeks ago. I thought that it had been sorted out at that stage and that the site would be changed. I thought that it would be kept in England, where they had gone through the consultation paper and had accepted that they were going to carry on with these trials. We have reached the point where the soil is right and the drills are ready to drill the crop. It is too late to start negotiating now. We as an Assembly must hold up our hands and stand against this. They must move it back into England because there is no time to consult the people of Sealand. It is time for Westminster to understand that we have teeth in the Assembly and that we are going to look after Wales.

Yr ydym wedi delio â hyn yn fanwl. Yn gwbl gywir, Christine, dywedasoch i’r mater hwn ddod i’r wyneb tua dwy neu dair wythnos yn ôl. Tybiwn ei fod wedi ei ddatrys bryd hynny ac y câi’r safle ei newid. Tybiwn y câi ei gadw yn Lloegr, lle’r oeddent wedi mynd drwy’r papur ymgynghorol ac wedi derbyn eu bod yn mynd i fwrw ymlaen â’r treialon hyn. Yr ydym wedi cyrraedd y pwynt pan fo’r pridd yn iawn a’r peiriannau hau yn barod i hau’r cnwd. Mae’n rhy hwyr i ddechrau negodi yn awr. Rhaid i ni fel Cynulliad ddal ein dwylo i fyny a sefyll yn erbyn hyn. Rhaid iddynt ei symud yn ôl i Loegr oherwydd nid oes amser i ymgynghori â phobl Sealand. Mae’n bryd i San Steffan ddeall bod gennym ddannedd yn y Cynulliad a’n bod yn mynd i ofalu am Gymru.

Christine Gwyther spoken in English p. 31

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 31

The consultation has been arranged for the English trial sites. It has not actually happened yet. However, you are right to point out that this is the ideal time for growing. Had the intention of a site in Wales become apparent and had there been meaningful consultation, we should have known a long time ago. I can only regret that that is the case. I am being honest when I tell you that, from a political perspective, I have been pressing Michael Meacher to get his officials back on the case and back on to Aventis.

Mae’r ymgynghori wedi ei drefnu ar gyfer safleoedd y treialon yn Lloegr. Nid yw wedi digwydd eto. Fodd bynnag, yr ydych yn iawn i ddweud mai hwn yw’r amser delfrydol ar gyfer tyfu. Pe bai’r bwriad o gael safle yng Nghymru wedi dod yn amlwg a phe bai ymgynghori ystyrlon wedi’i gynnal, dylem fod wedi gwybod ers tro byd. Ni allaf ond tristáu mai fel hyn y mae hi. Yr wyf yn bod yn onest wrth ddweud imi, o safbwynt gwleidyddol, fod yn pwyso ar Michael Meacher i gael ei swyddogion yn ôl ar waith ar hyn ac ar gefn Aventis eto.

Mick Bates spoken in English p. 31

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 31

I raise two issues. First, the Daily Post on 29 April had information about this site and the surrounding confusion, so the information was readily available to you and all of us. I want you to answer this question. We hear about the concordats and the flow of information between the ministries in Westminster and the departments here. I believe that there is a concordat between us and the DETR. Does this not constitute a breach of the protocol within that concordat?

Codaf ddau bwynt. Yn gyntaf, yr oedd gan y Daily Post wybodaeth am y safle hwn a’r dryswch ynglŷn ag ef ar 29 Ebrill, felly yr oedd yr wybodaeth ar gael yn ddiffwdan i chi a phawb ohonom. Yr wyf am ichi ateb y cwestiwn hwn. Clywn am y concordatiau a’r llif gwybodaeth rhwng y gweinyddiaethau yn San Steffan a’r adrannau yma. Credaf fod concordat rhyngom ni ag Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau. Onid yw hyn yn torri’r protocol oddi mewn i’r concordat hwnnw?

Christine Gwyther spoken in English p. 31

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 31

The concordat between the various ministries and the Assembly includes, and I paraphrase, the intention that there should be no surprises. That is a fair summary of it. There should be no surprises either way. That helps departments to operate more efficiently and effectively.

Mae’r concordat rhwng y gwahanol weinyddiaethau a’r Cynulliad yn cynnwys, ac yr wyf yn aralleirio, y bwriad na ddylai fod unrhyw bethau annisgwyl. Mae hynny’n grynodeb teg ohono. Ni ddylai fod dim annisgwyl o’r naill ochr na’r llall. Mae hynny’n helpu adrannau i weithredu’n fwy effeithlon ac effeithiol.

The media had picked this up but, as far as we in the Assembly are concerned, until 10 p.m. last night, the DETR was pulling out all the stops to ensure that this field site was moved into England. Although the DETR had in a way let us down by not informing us of the potential of a site in Wales, I think that they are trying to retrieve the situation. It has been my job today to put political pressure on Michael Meacher to do that. I suggest that, when we know the outcome of these further discussions with Aventis, I bring it back either by the will of the Assembly to Plenary or to the Agriculture and Rural Development Committee.

Yr oedd y cyfryngau wedi cydio yn hyn ond, cyn belled ag yr ydym ni yn y Cynulliad yn y cwestiwn, tan 10 p.m. neithiwr, yr oedd Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y safle hwn yn cael ei symud i Loegr. Er i Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau wneud cam â ni mewn ffordd drwy beidio â’n hysbysu bod safle yng Nghymru yn bosibilrwydd, tybiaf eu bod yn ceisio adfer y sefyllfa. Fy ngorchwyl i heddiw yw rhoi pwysau gwleidyddol ar Michael Meacher i wneud hynny. Pan fyddwn yn gwybod canlyniad y trafodaethau pellach hyn gydag Aventis, awgrymaf fy mod yn dod â’r mater yn ôl naill ai yn unol ag ewyllys y Cynulliad i Gyfarfod Llawn neu i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

Datganiad ar Adolygu Cyrff Cyhoeddus Gweithredol a Noddir gan y Cynulliad

Statement on the Review of Executive Assembly Sponsored Public Bodies

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 32

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 32

This is a statement on the Assembly’s review of our executive sponsored public bodies, or quangos as I call them. This morning, it gave me great pleasure to formally launch ‘Betterwales.com’ as the Assembly’s three-year strategic plan. In it, we have made a commitment to a significant acceleration of the programme for reviewing the executive Assembly sponsored public bodies, or the quangos. The original timetable would have meant not completing the review cycle until 2005. We believe that this would have been too slow, given the importance rightly attached by the Assembly to the work of these bodies. Under the programme that I am announcing today, a full review will be completed by 2003. It will form a critical element in our drive for better, simpler government. Before giving the details, I will set out the background to our thinking.

Datganiad yw hwn ar adolygiad y Cynulliad o’n cyrff cyhoeddus gweithredol a noddir, neu gwangos fel y galwaf hwy. Y bore yma, cefais bleser mawr wrth lansio ‘Gwellcymru.com’ yn ffurfiol fel cynllun strategol tair blynedd y Cynulliad. Ynddo, yr ydym wedi ymrwymo i gyflymu’r rhaglen i adolygu’r cyrff cyhoeddus gweithredol a noddir gan y Cynulliad, neu’r cwangos, yn sylweddol. Byddai’r amserlen wreiddiol wedi golygu peidio â chwblhau’r cylch adolygu tan 2005. Credwn y byddai hyn wedi bod yn rhy araf, o gofio’r pwys a roddir yn gwbl briodol gan y Cynulliad ar waith y cyrff hyn. O dan y rhaglen yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw, caiff adolygiad llawn ei gwblhau erbyn 2003. Bydd yn elfen holl bwysig yn ein hymgyrch i sicrhau gwell a symlach llywodraeth. Cyn rhoi’r manylion, rhoddaf y cefndir i’n syniadau.

Since 1997, there has been a more radical redrawing of the map of public bodies in Wales than is commonly recognised. The merger of the Land Authority for Wales and the Development Board for Rural Wales with the Welsh Development Agency in 1998 has produced a new, streamlined approach to economic development in Wales. Tai Cymru has been wound up and its functions brought into the Assembly. The Welsh Health Common Services Authority and the Health Promotion Authority for Wales have similarly been wound up. The number of NHS trusts in Wales has been reduced from 26 in 1997 to 15 in the current year. The arrangements for post-16 education and training are undergoing a complete overhaul by the Assembly under the education and training action plan. This includes the wind-up of the four training and enterprise councils in Wales and the Further Education Funding Council for Wales and the establishment of the new National Council for Education and Training for Wales. Bodies such as Cardiff Bay Development Corporation and the Residuary Body for Wales have come to the end of their natural lives.

Ers 1997, cafodd map y cyrff cyhoeddus yng Nghymru ei ail-lunio yn fwy radical nag y cydnabyddir yn gyffredin. Drwy uno Awdurdod Tir Cymru a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig gydag Awdurdod Datblygu Cymru yn 1998 crewyd dull newydd a llai cymhleth o ymdrin â datblygu economaidd yng Nghymru. Mae Tai Cymru wedi’i ddirwyn i ben a daethpwyd â’i swyddogaethau i mewn i’r Cynulliad. Mae Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru ac Awdurdod Hybu Iechyd Cymru hwythau wedi’u dirwyn i ben. Gostyngwyd nifer yr ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru o 26 yn 1997 i 15 yn y flwyddyn gyfredol. Mae’r trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael eu harchwilio’n drylwyr gan y Cynulliad o dan y cynllun gweithredu addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys dirwyn y pedwar cyngor hyfforddiant a menter yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru i ben a sefydlu’r Cyngor Cenedlaethol newydd dros Addysg a Hyfforddiant i Gymru. Mae cyrff fel Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a Chorff Gweddilliol Cymru wedi dod i ddiwedd eu hoes naturiol.

All in all, more than 20 major bodies will have been wound up by the end of next year and their functions ended or reallocated. Our policy is that, subject to the legal frameworks concerned, quangos should only be retained where they are the most appropriate and cost-effective means of carrying out the functions concerned. We have an open mind as to what the right arrangements should be in each case. Organisational options should be assessed on their merits, not according to dogma. Where these point to a sponsored body or an agency as the right solution, the requirement must be to ensure that these bodies are properly accountable to the Assembly and the public. Public accountability is the key area. We must also ensure that the bodies make good use of the funds that they receive, are conducting their business in line with the Assembly’s values and principles as set out in ‘Betterwales.com’ and are contributing, as appropriate, to the Assembly’s vision of Wales. The Assembly must feel confident that it has effective relationships in place which recognise the particular circumstances of each body and which strengthen the team Wales approach, underpinning the Assembly’s strategy.

Yn gyfan gwbl, bydd mwy nag 20 o gyrff mawr wedi’u dirwyn i ben erbyn diwedd y flwyddyn nesaf a’u swyddogaethau wedi’u terfynu neu eu hailddyrannu. Ein polisi yw, yn amodol ar y fframweithiau cyfreithiol perthnasol, na ddylid cadw cwangos ond lle mai hwy yw’r ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol o gyflawni’r swyddogaethau dan sylw. Mae gennym feddwl agored ynglŷn â pha drefniadau sydd yn briodol ym mhob achos. Dylid asesu dewisiadau cyfundrefnol ar eu haeddiant, nid yn ôl dogma. Lle bo’r rhain yn amlygu corff neu asiantaeth a noddir fel yr ateb iawn, rhaid sicrhau bod y cyrff hyn yn atebol fel sydd yn briodol i’r Cynulliad a’r cyhoedd. Atebolrwydd cyhoeddus yw’r maes allweddol. Rhaid inni hefyd sicrhau bod y cyrff yn gwneud defnydd da o’r arian y maent yn ei dderbyn, eu bod yn cynnal eu busnes yn unol â gwerthoedd ac egwyddorion y Cynulliad fel y’u nodwyd yn ‘Gwellcymru.com’ a’u bod yn cyfrannu, fel sydd yn briodol, at weledigaeth y Cynulliad o Gymru. Rhaid i’r Cynulliad deimlo’n hyderus ei fod wedi sefydlu perthnasau effeithiol sydd yn cydnabod amgylchiadau penodol pob corff ac sydd yn atgyfnerthu’r dull gweithredu y seiliwyd strategaeth y Cynulliad arno, sef gweithredu fel tîm Cymru.

My concern today is with the cohort of 14 executive Assembly sponsored public bodies. Jane Hutt has introduced separate new performance management monitoring arrangements for NHS bodies, in close consultation with the Health and Social Services Committee. Executive agencies such as Cadw are also subject to a review process. There was a well-established process under the Welsh Office for reviewing individual sponsored bodies. This was known as the financial management performance review. Under guidelines for future quinquennial reviews, which I am issuing later today, we are taking the best elements of that process and updating it to reflect the establishment of the Assembly, the interests of Assembly Secretaries and Committees and the need for a more strategic approach.

Yr hyn sydd dan sylw gennyf heddiw yw’r garfan o 14 corff cyhoeddus gweithredol a noddir gan y Cynulliad. Mae Jane Hutt wedi cyflwyno trefniadau monitro newydd ar wahân ar reoli perfformiad i gyrff NHS, mewn ymgynghoriad agos â’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae asiantaethau gweithredol fel Cadw hefyd yn destun proses adolygu. Yr oedd proses a oedd wedi ei hen sefydlu o dan y Swyddfa Gymreig i adolygu cyrff unigol a noddir. Gelwid honno yn adolygiad perfformiad rheoli ariannol. O dan y canllawiau ar gyfer adolygiadau pum-mlynedd i’r dyfodol, y byddaf yn eu rhyddhau yn ddiweddarach heddiw, yr ydym yn cymryd yr elfennau gorau o’r broses honno ac yn ei diweddaru i adlewyrchu sefydlu’r Cynulliad, buddiannau Ysgrifenyddion a Phwyllgorau’r Cynulliad a’r angen am ddull gweithredu mwy strategol.

In addition to whether there is still a need for the functions of the body, the emphasis in quinquennial reviews will be on accountability, strategic effectiveness and securing continuous improvement. They will look at the performance and the quality of the body’s work as well as its management of resources and its success in improving efficiency. The relevant Assembly Subject Committee will be consulted on the terms of reference for each review before it is commissioned by Assembly Secretaries and will be invited to comment on the reviewer’s draft report before the final version is submitted to the Cabinet. It will be up to the Committee to decide whether to call for further evidence at that point before coming to a view. It is essential that Committees are able to engage fully in the process. A successful review requires a partnership approach.

Yn ogystal ag ystyried a oes angen o hyd am swyddogaethau’r corff, bydd y pwyslais yn yr adolygiadau pum-mlynedd ar atebolrwydd, effeithiolrwydd strategol a sicrhau gwelliant parhaus. Byddant yn edrych ar berfformiad ac ansawdd gwaith y corff yn ogystal â’r ffordd y mae’n rheoli ei adnoddau a’i lwyddiant o ran gwella effeithlonrwydd. Ymgynghorir â Phwyllgor Pwnc perthnasol y Cynulliad ynglŷn â chylch gorchwyl pob adolygiad cyn iddo gael ei gomisiynu gan Ysgrifenyddion y Cynulliad a chaiff ei wahodd i roi sylwadau ar adroddiad drafft yr adolygydd cyn cyflwyno’r fersiwn terfynol i’r Cabinet. Mater i’r Pwyllgor fydd penderfynu a ddylid galw am dystiolaeth bellach bryd hynny cyn llunio barn. Mae’n hanfodol fod y Pwyllgorau’n gallu cymryd rhan lawn yn y broses. Rhaid gweithredu drwy bartneriaeth er mwyn cael adolygiad llwyddiannus.

The Cabinet’s conclusions and the resulting action plan will be reported to the Assembly. The review and its report will be in the public domain. A feature of quinquennial reviews will be the opportunity for the body’s partners, customers, staff and other stakeholders to have input as well as senior managers and board members. We want a rigorous process, but we also want the bodies to have ownership of the review and to be involved at each step. Reviews will be conducted independently. This will either mean appointing an external reviewer or commissioning an Assembly official from outside the sponsoring Assembly division. Our expectation is that external reviewers will carry out most reviews in the forthcoming programme.

Caiff casgliadau’r Cabinet a’r cynllun gweithredu a fydd yn deillio o hynny eu hadrodd i’r Cynulliad. Bydd yr adolygiad a’i adroddiad yn eiddo cyhoeddus. Un nodwedd o’r adolygiad pum-mlynedd fydd y cyfle i bartneriaid, cwsmeriaid, staff a chyfranogion eraill y corff gyfrannu yn ogystal â’r uwch reolwyr ac aelodau’r bwrdd. Yr ydym am gael proses egnïol, ond yr ydym hefyd am i’r cyrff fod â pherchenogaeth ar yr adolygiad a bod yn rhan ohono bob cam o’r ffordd. Caiff adolygiadau eu cynnal yn annibynnol. Bydd hyn naill ai’n golygu penodi adolygydd allanol neu gomisiynu un o swyddogion y Cynulliad o’r tu allan i’r adran o’r Cynulliad sydd yn noddi’r corff. Yr ydym yn disgwyl mai adolygwyr allanol fydd yn cynnal y rhan fwyaf o’r adolygiadau yn y rhaglen sydd i ddod.

The programme for the next three years is as follows. In 2000-2001 there will be reviews of the Welsh Development Agency, the Countryside Council for Wales, the Welsh Language Board and the Arts Council for Wales. The review of the Arts Council for Wales will take place after the special management study currently being undertaken and also in light of the Post-16 Education and Training Committee’s arts and cultural review. Also in 2000-01 there will be a review of the Environment Agency Wales, commissioned jointly by the Department of the Environment, Transport and the Regions and the Assembly. In 2001-02 there will be reviews of the Wales Tourist Board, the National Library of Wales and the National Museums and Galleries of Wales. Reviews of the Royal Commission on Ancient and Historical Monuments of Wales, the Sports Council for Wales and the Qualification, Curriculum and Assessment Authority for Wales will follow by the end of 2003.

Mae’r rhaglen dros y tair blynedd nesaf fel a ganlyn. Yn 2000-2001 ceir adolygiadau o Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cynhelir adolygiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar ôl yr astudiaeth reoli arbennig sydd yn cael ei gwneud ar hyn o bryd a hefyd yng ngoleuni adolygiad celfyddydau a diwylliant y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16. Hefyd yn 2000-01 ceir adolygiad o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, wedi’i gomisiynu ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau a’r Cynulliad. Yn 2001-02 ceir adolygiadau o Fwrdd Croeso Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Bydd adolygiadau o’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru, Cyngor Chwaraeon Cymru ac Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn dilyn erbyn diwedd 2003.

Recent financial management and performance review reports on the last two bodies, commissioned pre-Assembly, are to be published shortly. The next review of the Higher Education Funding Council for Wales, last reviewed in 1999, will be carried out jointly with the first review of the shortly to be established National Council for Education and Training for Wales. This reflects their proposed joint management arrangements. Because the Council will be a new body, it would not be appropriate to undertake a review within the 2003 timescale and the provisional timing is for 2004-05. The Welsh National Board for Nursing, Midwifery and Health Visiting is also not included in the review programme because of imminent plans for a new body.

Mae adroddiadau adolygu diweddar ar reolaeth ariannol a pherfformiad y ddau gorff diwethaf, a gomisiynwyd cyn dyddiau’r Cynulliad, i gael eu cyhoeddi’n fuan. Caiff yr adolygiad nesaf o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a adolygwyd ddiwethaf yn 1999, ei gynnal ar y cyd â’r adolygiad cyntaf o Gyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru sydd i’w sefydlu’n fuan. Mae hyn yn adlewyrchu’r cyd drefniadau rheoli a fwriedir ar eu cyfer. Gan y bydd y Cyngor yn gorff newydd, ni fyddai’n briodol cynnal adolygiad o fewn amserlen 2003 a’r amseriad amodol yw 2004-05. Nid yw Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd wedi ei gynnwys yn y rhaglen adolygu ychwaith am fod cynlluniau ar fin eu cyflwyno ar gyfer corff newydd.

I hope that Members will agree that the intensive review programme will help the Assembly place its relationships with its sponsored bodies on a new and firm footing. They will ensure that we have in place arrangements to make a stronger contribution to our drive for a better, simpler government in Wales.

Gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n cytuno y bydd y rhaglen adolygu ddwys yn gymorth i’r Cynulliad roi ei berthynas gyda’r cyrff y mae’n eu noddi ar sail newydd a chadarn. Bydd yn sicrhau bod gennym drefniadau a fydd yn cyfrannu’n gryfach tuag at ein hymgyrch o blaid gwell a symlach llywodraeth yng Nghymru.

Janet Davies spoken in English p. 35

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 35

I welcome this timely statement brought before the Assembly. We should not have a reflex action to get rid of all Assembly sponsored public bodies for the sake of doing it, although there was a political party that did have it in their programme before the 1997 election, but wiser thoughts sometimes prevail. There are two issues regarding these ASPBs. First, is the question of the best way of administering the executive functions and responsibilities effectively, accountably and efficiently. Second, there is the issue of democracy and how democracy is exercised over them. They both go together to an extent, because without democracy you will not in the long run get the effectiveness either. It is high time for a debate on this. I am pleased to secure your comment that you will not be doing this according to dogma but you will be looking for the right solution. That is the best way to go about it.

Croesawaf y datganiad amserol hwn a gyflwynwyd i’r Cynulliad. Ni ddylem ymateb yn reddfol i gael gwared â’r holl gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad dim ond er mwyn gwneud hynny, er bod plaid wleidyddol oedd â hynny yn eu rhaglen cyn etholiad 1997, ond bod syniadau doethach weithiau yn ennill. Mae dau fater ynglŷn â’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Yn gyntaf, y cwestiwn ynglŷn â’r ffordd orau o weinyddu swyddogaethau gweithredol a chyfrifoldebau yn effeithiol, yn atebol ac yn effeithlon. Yn ail, y cwestiwn o ddemocratiaeth a sut y caiff democratiaeth ei harfer drostynt. Maent ill dau yn mynd law yn llaw i raddau, oherwydd heb ddemocratiaeth ni chewch effeithiolrwydd ychwaith yn y tymor hir. Mae’n hen bryd cael dadl ar hyn. Yr wyf yn falch o’ch clywed yn dweud na fyddwch yn gwneud hyn yn ôl dogma ond y byddwch yn edrych am yr ateb iawn. Dyna’r ffordd orau o fynd ati.

I remain concerned about the timetable of 2003. I hope it will be a shorter timetable if possible. It is important that it is done by external reviewers rather than from within the Assembly. You said that 20 bodies would be wound up by the end of 2001. In some cases they have gone to an elected body. For example, Cardiff Bay Development Corporation and Tai Cymru coming within the Assembly remit. However, I have been concerned for some time that although the number of ASPBs is reduced, their functions and areas of responsibility stay exactly the same. They are simply merged into one larger body.

Yr wyf yn dal yn bryderus ynglŷn ag amserlen 2003. Gobeithiaf y bydd yn amserlen fyrrach os yw hynny’n bosibl. Mae’n bwysig mai adolygwyr allanol sydd yn gwneud hyn yn hytrach na rhywrai o’r tu mewn i’r Cynulliad. Dywedasoch y câi 20 o gyrff eu dirwyn i ben erbyn diwedd 2001. Mewn rhai achosion maent wedi mynd i gorff etholedig. Er enghraifft, Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a Tai Cymru yn dod o fewn cylch gwaith y Cynulliad. Fodd bynnag, bûm yn bryderus ers tro bod swyddogaethau a meysydd cyfrifoldeb y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn aros yn union fel ag y maent, er bod nifer y cyrff yn gostwng. Nid ydynt ond yn cael eu huno yn un corff mwy.

In this case, if an NHS trust is reduced from 26 to 15, local democracy is somewhat reduced because they are further from the people. There is certainly no increase in democracy. I note also that there will be a new Assembly sponsored public body, the National Council for Education and Training. On the issue of keeping the functions while reducing the number of bodies, I would like you to give an undertaking that in debates and reviews there will not be any fudging such as claiming a reduction in the number of ASPBs when in fact the functions and the areas of responsibility remain exactly the same. The change in staff is good as there is a reduction in the number of chiefs. However, it is not a fundamental reduction in administration.

Yn yr achos hwn, os gostyngir ymddiriedolaethau NHS o 26 i 15, crebachir rhywfaint ar ddemocratiaeth leol gan eu bod ymhellach oddi wrth y bobl. Yn sicr, ni cheir unrhyw gynnydd mewn democratiaeth. Nodaf hefyd y bydd corff newydd a noddir gan y Cynulliad, sef y Cyngor Cenedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant. Ar fater cadw swyddogaethau tra’n gostwng nifer y cyrff, hoffwn ichi roi addewid na cheir unrhyw gamarwain megis hawlio gostyngiad yn nifer y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad mewn dadleuon ac adolygiadau pan fo’r swyddogaethau a’r meysydd cyfrifoldeb yn aros yn union yr un fath mewn gwirionedd. Mae’r newid yn y staff yn dda oherwydd y ceir llai o benaethiaid. Fodd bynnag, nid yw’n ostyngiad sylfaenol mewn gweinyddiaeth.

Edwina Hart spoken in English p. 36

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 36

The sound of ASPBs suggests that snakes and quangos go nicely together. At the end of the day, some of Janet’s points are spot on. One point was about the way that we look at their executive functions and democracy. It is all about how we get democratic control within these organisations. The Assembly is a new body that needs to stamp its authority on these bodies because we are the elected representatives. At the same time, we should consider Janet’s point about how to deal with democratic deficits on a local level when some organisations disappear but become larger bodies. Those issues will come to the fore when we undertake the review and hold discussions within Committees. I will look into the issue of functions as we go through the review process. The timetable for 2003 is ideal as it is achievable. I will bear in mind the comments regarding speeding up these processes to get the reviews done earlier. I thank Janet for her comments. I hope Assembly Members feel that they have a contributing role in this through the Committee. This is our review and process. This is the real democratisation of Wales. We were elected to the Assembly to deal with the democratic deficit.

Mae sŵn ASPBs yn awgrymu bod nadroedd a chwangos yn mynd gyda’i gilydd yn dwt. Ar ddiwedd y dydd, mae Janet yn taro’r hoelen ar ei phen gyda rhai o’i phwyntiau. Un pwynt oedd y ffordd yr edrychwn ar eu swyddogaethau gweithredol a democratiaeth. Mater yw o sut y gallwn gael rheolaeth ddemocrataidd o fewn y cyrff hyn. Mae’r Cynulliad yn gorff newydd ac mae angen iddo roi nod ei awdurdod ar y cyrff hyn gan ein bod ni yn gynrychiolwyr etholedig. Ar yr un pryd, dylem ystyried pwynt Janet ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn delio â’r diffyg democrataidd ar lefel leol pan fo rhai cyrff yn diflannu ond yn dod yn gyrff mwy. Daw’r materion hyn i’r amlwg pan fyddwn yn cynnal yr adolygiad ac yn cynnal trafodaethau o fewn y Pwyllgorau. Byddaf yn edrych ar fater swyddogaethau wrth inni fynd drwy’r broses adolygu. Mae’r amserlen ar gyfer 2003 yn ddelfrydol oherwydd gallwn ei chyflawni. Fe gofiaf y sylwadau ynglŷn â chyflymu’r prosesau hyn er mwyn cyflawni’r adolygiadau ynghynt. Diolchaf i Janet am ei sylwadau. Gobeithiaf fod Aelodau’r Cynulliad yn teimlo bod ganddynt rôl i gyfrannu yn hyn drwy’r Pwyllgor. Ein hadolygiad a’n proses ni yw hon. Dyma wir ddemocrateiddio Cymru. Etholwyd ni i’r Cynulliad i ddelio â’r diffyg democrataidd.

Glyn Davies spoken in English p. 37

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 37

We welcome the review. As you know, we were not in favour of ‘A Better Wales’. [Laughter.] That was an inadvertent joke.

Croesawn yr adolygiad. Fel y gwyddoch, nid oeddem o blaid ‘Gwell Cymru’. [Chwerthin.] Jôc ddamweiniol oedd hynny.

We were not in favour of the strategic plan document but we are in favour of the programme that you are adopting in dealing with ASPBs. I welcome the adult relationship that the Labour administration now seems to have with public bodies. The First Secretary referred to my previous experience in the quango movement. I have greater experience in local government. I spent some 10 years in the quango movement. By now I have experience in the Assembly therefore I know all the ways in which we govern Wales reasonably well. I have always thought that there was a real place for ASPBs. The Labour Government recognises this.

Nid oeddem o blaid dogfen y cynllun strategol ond yr ydym o blaid y rhaglen yr ydych yn ei mabwysiadu i ddelio â chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Croesawaf y berthynas aeddfed sydd gan y weinyddiaeth Lafur bellach yn ôl pob golwg gyda chyrff cyhoeddus. Cyfeiriodd y Prif Ysgrifennydd at fy mhrofiad blaenorol yn y cwangos. Mae gennyf fwy o brofiad mewn llywodraeth leol. Treuliais ryw 10 mlynedd ar gwangos. Erbyn hyn mae gennyf brofiad yn y Cynulliad felly yr wyf yn weddol gyfarwydd â’n holl ffyrdd o lywodraethu yng Nghymru. Yr wyf i wedi credu erioed bod lle dilys i gyrff a noddir. Mae’r Llywodraeth Lafur yn cydnabod hyn.

We saw the most appalling rhetoric for a number of years, which damaged the credibility of the role of ASPBs. The Government in the Assembly has made some decisions of which I do not think even Government members approve. An example is the way health trusts have been organised. Some of those mergers may well turn out to have been wrong. I deplore the abolition of the Development Board for Rural Wales and the abolition of TECs. Much of this is driven by the misplaced rhetoric that we saw during the period before the last general election. We need to identify the role that public bodies can play. We need to harness expertise from outside this Chamber to help us. No quango has a God-given right to continue. Let us be clear and not call them taskforces. Let us call them ASPBs, which is what they are. Let us identify when we want a public body to do a job for us. Let us do this within the democratic process because quangos have always been within the democratic process. They have always been appointed by the democratic process to do a specific job, harnessing the expertise that does not exist within Government. Once that is in place, the quango or whatever it is called should be abolished. They have a purpose to serve for us within the democratic movement. In those terms, I welcome the course that you are taking as the proper way forward. It is a pity that it has not always been like that.

Gwelsom y rhethreg fwyaf ofnadwy am nifer o flynyddoedd, a niweidiodd hygrededd rôl cyrff cyhoeddus a noddir. Mae’r Llywodraeth yn y Cynulliad wedi gwneud rhai penderfyniadau na thybiaf fod hyd yn oed aelodau o’r Llywodraeth yn eu cymeradwyo. Un enghraifft yw’r ffordd y trefnwyd yr ymddiriedolaethau iechyd. Mae’n gwbl bosibl y gwelir ymhen amser fod uno rhai o’r cyrff hynny yn gam gwag. Yr wyf yn gresynu i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig gael ei ddileu a bod y CHMau i’w dileu. Mae llawer o hyn wedi’i yrru gan y rhethreg amhriodol a welwyd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae angen inni nodi’r rôl y gall cyrff cyhoeddus ei chwarae. Mae angen inni harneisio arbenigedd o’r tu allan i’r Siambr hon i’n helpu. Nid oes gan unrhyw gwango hawl ddiymwad i barhau. Gadewch inni fod yn glir a pheidio â’u galw’n dasgluoedd. Gadewch inni eu galw’n gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, sef yr hyn ydynt. Gadewch inni ddynodi pryd yr ydym am i gorff cyhoeddus wneud gwaith inni. Gadewch inni wneud hyn o fewn y broses ddemocrataidd oherwydd mae cwangos wedi bod o fewn y broses ddemocrataidd erioed. Maent wedi eu penodi erioed drwy’r broses ddemocrataidd i wneud gwaith penodol, gan harneisio’r arbenigedd nad yw’n bodoli o fewn Llywodraeth. Unwaith y mae hwnnw wedi’i sefydlu, dylid dileu’r cwango neu beth bynnag y’i gelwir. Mae iddynt ddiben i’w ateb inni o fewn y mudiad democrataidd. Yn y termau hynny, croesawaf y cwrs yr ydych yn ei gymryd fel y ffordd iawn ymlaen. Mae’n drueni na fu felly erioed.

Edwina Hart spoken in English p. 38

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 38

I only take responsibility for Assembly sponsored public bodies since last May. It is a bit rich for Glyn to talk about rhetoric when we have seen the rhetoric that his party indulged in during the last few weeks with the local government elections in England. You referred to the comments that were made on the bonfire of the quangos. I have never favoured bonfires. I take a different view on Guy Fawkes to many in this Chamber.

Nid wyf ond yn cymryd cyfrifoldeb am gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad er mis Mai y llynedd. Mae Glyn yn un da i sôn am rethreg o gofio’r rhethreg y bu ei blaid ef yn ymhyfrydu ynddi dros yr wythnosau diwethaf gyda’r etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr. Cyfeiriasoch at y sylwadau a wnaethpwyd ynglŷn â choelcerth y cwangos. Ni fûm i erioed o blaid coelcerthi. Mae gennyf farn wahanol i lawer yn y Siambr hon ar Guto Ffowc.

I welcome the general slant of your comments for a constructor review. There is a role for ASPBs. The key is the democratic accountability of these bodies. We need to know what they are doing, what their outputs are—we will decide what those outputs are. The purpose of this review is to get things in order, to see what the way forward is and to know what bodies require and need. As the Assembly grows it might look at other bodies when it comes to another review. By 2006-07, issues concerning ASPBs will have changed. We might require a different response.

Croesawaf ogwydd cyffredinol eich sylwadau o blaid adolygu adeiladol. Mae rôl i gyrff a noddir. Yr allwedd yw atebolrwydd democrataidd y cyrff hyn. Mae angen inni wybod beth y maent yn ei wneud, beth yw eu hallbwn—ni fydd yn penderfynu ar eu hallbwn. Diben yr adolygiad hwn yw cael pethau i drefn, i allu gweld y ffordd ymlaen a gwybod beth sydd ei angen ar gyrff a beth yw eu gofynion. Wrth i’r Cynlluniad dyfu gallai edrych ar gyrff eraill pan ddaw’n bryd cynnal adolygiad arall. Erbyn 2006-07, bydd yr ystyriaethau ynglŷn â chyrff a noddir wedi newid. Efallai y bydd angen ymateb gwahanol arnom.

Peter Black spoken in English p. 39

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 39

I also welcome this review. It is important that we finally tackle the remaining quangos. This process was ongoing in a less robust form before the Assembly came to being. We need to ensure—as was clear in the Finance Secretary’s statement—that the review is root and branch. It must ask fundamental questions about whether the quangos need to exist. Questions such as: if they need to exist, do they need to exist in their present form and how can they be reformed to meet the Assembly’s agenda? I follow Janet Davies’s point about local accountability. I regret that we are not including the health trusts and authorities in this review. I noticed that there was a reference to the better management of those bodies but there is also a local democratic deficit. We should look at how we can improve that democratic deficit in relation to those bodies. We need to ensure that where the quangos remain as a result of this review there is improved accountability to the Assembly in particular, and we need to ensure that they are following our agenda. It is important that we do not have a similar situation to the Arts Council of Wales. The council was significantly out of step with political opinion in Wales in the way that they proceeded. The Assembly secretary responsible told us at the time that he was helpless to do anything about it.

Croesawaf innau hefyd yr adolygiad hwn. Mae’n bwysig ein bod o’r diwedd yn mynd i’r afael â’r cwangos sydd yn weddill. Yr oedd y broses hon ar y gweill ar ffurf lai cadarn cyn sefydlu’r Cynulliad. Mae angen inni sicrhau—fel a oedd yn glir yn natganiad yr Ysgrifennydd Cyllid—bod yr adolygiad yn un gwraidd a brig. Rhaid iddo ofyn y cwestiynau sylfaenol ynglŷn â’r angen am fodolaeth y cwangos. Cwestiynau fel: os oes eu hangen, a oes angen iddynt fodoli yn eu ffurf bresennol a sut y gellir eu diwygio i ateb agenda’r Cynulliad? Dilynaf bwynt Janet Davies ar atebolrwydd lleol. Mae’n siom imi nad ydym yn cynnwys yr ymddiriedolaethau a’r awdurdodau iechyd yn yr adolygiad hwn. Sylwais fod cyfeiriad at well rheolaeth dros y cyrff hynny ond mae hefyd ddiffyg democrataidd. Dylem edrych ar sut y gallwn wella’r diffyg democrataidd mewn perthynas â’r cyrff hyn. Mae angen inni sicrhau, lle bo cwangos yn aros o ganlyniad i’r adolygiad hwn, y ceir gwell atebolrwydd i’r Cynulliad yn benodol, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn dilyn ein hagenda ni. Mae’n bwysig nad ydym yn cael sefyllfa debyg i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yr oedd y cyngor ymhell o fod yn cydgerdded â’r farn wleidyddol yng Nghymru yn y ffordd yr aethant rhagddi. Dywedodd yr ysgrifennydd sydd yn gyfrifol yn y Cynulliad ar y pryd nad oedd ganddo’r grym i wneud unrhyw beth ynglŷn â hynny.

I agree that we need to speed up this review. 2003 is a welcome cut off point. We will have finished this review by then which is, conveniently, just in time for the Assembly elections. If we can finish it earlier, we should. It is an urgent matter that we need to tackle.

Cytunaf fod angen inni gyflymu’r adolygiad hwn. Mae 2003 yn ddyddiad terfyn i’w groesawu. Byddwn wedi cwblhau’r adolygiad erbyn hynny sydd, yn hwylus, mewn pryd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Os gallwn ei gwblhau’n gynharach, fe ddylem. Mae’n fater brys y mae angen inni fynd i’r afael ag ef.

Edwina Hart spoken in English p. 39

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 39

In view of the concerns raised about the timetabling, Plaid Cymru and the Liberal Democrats believe that 2003 is adequate. I will give further consideration to the date if independent reviewers are available. It will be a workload for all of us. The key point of Peter’s contribution was for ASPBs to follow our agenda. That is why a significant link was made between ourselves and ASPBs to look at their work, their strategic plans and action plans. They must follow to deliver our agenda. That is a key area. I hope as we go through the reviews that we can get a clear insight into what ASPBs are doing, where they are going and what we require from them. It is an agenda for Wales and it is about local accountability. I note Peter’s comments about the health service and I will discuss that further with Jane Hutt. If possible, I will report back to the Assembly.

Yn wyneb y pryderon a godwyd ynglŷn â’r amserlen, cred Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol fod 2003 yn ddigonol. Rhoddaf ystyriaeth bellach i’r dyddiad os bydd adolygwyr annibynnol ar gael. Bydd yn faich gwaith i bawb ohonom. Pwynt allweddol cyfraniad Peter oedd y dylai cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad ddilyn ein hagenda ni. Dyna pam y crëwyd dolen gyswllt gref rhyngom ni a’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i edrych ar eu gwaith, eu cynlluniau strategol a’u cynlluniau gweithredu. Rhaid iddynt wireddu ein hagenda ni. Mae hynny’n faes allweddol. Wrth inni fynd drwy’r adolygiadau gobeithiaf y cawn ni ddarlun clir o’r hyn y mae’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn ei wneud, i ble y maent yn mynd a beth a ddisgwyliwn ni ganddynt. Mae’n agenda i Gymru ac mae a wnelo ag atebolrwydd lleol. Nodaf sylwadau Peter am y gwasanaeth iechyd a byddaf yn trafod hynny ymhellach gyda Jane Hutt. Os yn bosibl, byddaf yn adrodd yn ôl i’r Cynulliad.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 40

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 40

Croesawaf y ffaith fod Edwina Hart yn cynnal yr arolwg hwn. Mae’r arolwg yn gwireddu un o ymrwymiadau’r ddogfen, ‘Gwellcymru.com’. Os cofiaf yn iawn, ceir cymal yn y ddogfen sydd yn sôn am y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad sydd hefyd yn cyfeirio at fecanweithiau cyflenwi mewn ystyr ychydig ehangach. Gobeithio bod hynny’n cynnwys y gallu i ystyried cyrff cenedlaethol eraill yn ogystal â rhai sydd yn dechnegol yn gwangos.

I welcome the fact that Edwina Hart is undertaking this review. The review realises one of the commitments contained in the ‘Betterwales.com’ document. If I remember rightly, there is a clause in that document which mentions the ASPBs that also refers to delivering mechanisms in a broader sense. I hope that that includes the ability to consider other national bodies in addition to those that are technically quangos.

Gan fod gennym gyfrifoldebau a phwerau pwysig ym myd addysg, mae’n bwysig ein bod yn edrych ar sefydliadau cenedlaethol sydd yn delio ag addysg cyn bo hir. Mewn perthynas â hynny, dylid ystyried dau gorff. Un, sydd yn gysylltiedig ag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, yw Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Mae’r cyd-bwyllgor yn eiddo i lywodraeth leol, nid y Cynulliad. Serch hynny, mae’n gorff sydd yn darparu gwasanaeth addysg o bwysigrwydd cenedlaethol. Gobeithio y bydd modd inni edrych ar y berthynas rhwng ACCAC â CBAC ac ystyried i ba raddau y byddai’n synhwyrol cyfuno eu swyddogaethau i gael system gost-effeithiol a democrataidd atebol yng Nghymru.

As we have important responsibilities and powers in the field of education, it is important that we look at national organisations that deal with education soon. In relation to that, there are two bodies that should be considered. One, which is related to ACCAC, the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales, is the Welsh Joint Education Committee. The committee belongs to local government, not to the Assembly. Even so, it is a body that provides an education service of national importance. I hope that we will be able to look at the relationship between ACCAC and the WJEC and consider to what extent it would be sensible to combine their functions in order to have a cost-effective and democratically accountable system in Wales.

Y corff arall sydd yn cwympo y tu allan i’r categori arferol yw’r arolygiaeth ysgolion, Estyn. Cyhyd ag y gallwn weld, nid yw’r corff hwnnw yn atebol i’r Cynulliad mewn ffordd ddigonol. Mynegwyd pryderon ynglŷn ag Estyn ac mae’n bwysig ein bod yn edrych yn drylwyr ar y modd y mae’r corff hwnnw’n gweithredu. Dylid hefyd ystyried i ba raddau y mae’n ymateb i flaenoriaethau Cymru mewn perthynas ag arolygu ysgolion ac i ba raddau y mae’n dilyn agenda Mr Woodhead yn Llundain.

The other body that falls outside the usual category is the schools inspectorate, Estyn. As far as we can see, that body is not adequately accountable to the Assembly. Concerns have been expressed about Estyn and it is important that we look thoroughly at how that body operates. We should also consider to what extent it responds to Welsh priorities in relation to the inspection of schools and to what extent it follows Mr Woodhead’s agenda in London.

Edwina Hart spoken in English p. 41

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 41

Yes, Cynog is quite right. I have concentrated solely today on the quangos that I have outlined. There are areas for discussion about the wider role of organisations in Wales. As the Assembly develops, what type of organisations will we require to deliver our policies? As regards the organisations to which you refer, I will hold discussions with Rosemary Butler about the future development of any work within those areas. Even though I see my primary responsibility as the review of executive Assembly sponsored public bodies, I acknowledge Cynog’s comments about the development of all bodies in Wales and that their role will develop to ensure that they deliver Welsh policies made in Wales for Wales.

Ie, mae Cynog yn hollol iawn. Canolbwyntiais yn llwyr heddiw ar y cwangos yr wyf wedi’u hamlinellu. Mae meysydd i’w trafod ynglŷn â rôl ehangach cyrff yng Nghymru. Wrth i’r Cynulliad ddatblygu, pa fath o gyrff fydd eu hangen i gyflenwi ein polisïau? O ran y cyrff y cyfeiriwch chi atynt, byddaf yn cynnal trafodaethau gyda Rosemary Butler ynglŷn â datblygiad unrhyw waith o fewn y meysydd hynny i’r dyfodol. Er fy mod yn ystyried mai adolygu’r cyrff cyhoeddus gweithredol a noddir gan y Cynulliad yw fy nghyfrifoldeb pennaf, cydnabyddaf sylwadau Cynog am ddatblygiad pob corff yng Nghymru ac y bydd eu rôl yn datblygu i sicrhau eu bod yn cyflenwi polisïau Cymreig a wnaethpwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Lorraine Barrett spoken in English p. 41

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 41

My point of order comes under Standing Order No. 7.8. It also comes under point 17 (iv) of the Protocol on Conduct in the Chamber, which relates to discourteous behaviour. It is a small point, but yesterday Rod Richards did it and today we saw Nick Bourne do the same. Where Rod goes, will Nick follow, I wonder? They walked to the front of the Chamber to discuss something with your Private Secretary, Mr Maguire, and handed him some papers. Nick Bourne is shaking his head. I am sorry if it was not you. Rod Richards definitely did it and someone else did it today. It looked bad to walk behind the First Secretary yesterday and the Finance Secretary today. Were we all to start to do this it would look like the stock market. We have e-mail facilities here to contact each other. Will you, therefore, give your consideration to this behaviour?

Daw fy mhwynt i o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 7.8. Daw hefyd o dan bwynt 17 (iv) y Protocol ar Ymddygiad yn y Siambr, sydd yn ymdrin ag ymddygiad anghwrtais. Pwynt bychan yw, ond fe’i gwnaethpwyd ddoe gan Rod Richards a gwelsom Nick Bourne yn gwneud yr un peth heddiw. Pa le yr â Rod, a fydd Nick yn dilyn, ys gwn i? Cerddasant i ben blaen y Siambr i drafod rhywbeth gyda’ch Ysgrifennydd Preifat, Mr Maguire, a rhoi rhyw bapurau iddo. Mae Nick Bourne yn ysgwyd ei ben. Mae’n ddrwg gennyf os nad chi oedd y person. Yn sicr, gwnaeth Rod Richards hynny a rhywun arall heddiw. Edrychai’n wael i gerdded y tu ôl i’r Prif Ysgrifennydd ddoe a’r Ysgrifennydd Cyllid heddiw. Pe bai pawb ohonom yn dechrau gwneud hynny byddai’n edrych fel marchnad anifeiliaid. Mae gennym gyfleusterau e-bost yma i gysylltu â’n gilydd. A wnewch chi, felly, roi eich sylw i’r ymddygiad hwn?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 41

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 41

I am grateful to you for trying to improve our staging of performance in the Chamber. You are right to say that we have the e-mail system and many Members make use of it. Another practice that I find difficult is that of Members who crowd around me at 2.00 p.m. when I am trying to start the proceedings. Occasionally, therefore, we have a little slippage on the opening of proceedings. I ask you therefore to use the e-mail facility to give Mark Maguire, my Private Secretary, and myself advance warning in sufficient time of an interest to speak in a debate. I also try to accept speakers as the mood takes the Assembly, as and when Members indicate that they wish to intervene to speak on a particular subject. However, it is always helpful if we have information about the conduct of debates in advance.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am geisio gwella llwyfaniad ein perfformiad yn y Siambr. Yr ydych yn iawn i ddweud bod y system e-bost gennym a bod llawer o’r Aelodau yn ei defnyddio. Arfer arall yr wyf fi’n ei gael yn anodd yw Aelodau yn tyrru o’m cwmpas am 2.00 p.m. pan yr wyf yn ceisio dechrau’r trafodion. Weithiau, felly, mae pethau’n llithro ychydig wrth agor y trafodion. Gofynnaf felly ichi ddefnyddio’r cyfleuster e-bost i roi i Mark Maguire, fy Ysgrifennydd Personol, a minnau rybudd ymlaen llaw mewn da bryd eich bod yn dymuno siarad mewn dadl. Yr wyf hefyd yn ceisio derbyn siaradwyr yn ôl hwyliau’r Cynulliad, fel a phan mae Aelodau’n dangos eu bod am ymyrryd i siarad ar bwnc penodol. Fodd bynnag, mae bob amser o gymorth os oes gwybodaeth gennym ymlaen llaw am y modd y mae dadleuon i’w cynnal.

Carwyn Jones spoken in English p. 42

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 42

My point of order comes under Standing Order No. 6.32, which relates to the answering of oral questions by Assembly Secretaries. It has been the practice since the Assembly was established that a question to be tabled is put in writing and sent to the Table Office. That question then appears on the agenda and it is read out to the appropriate Assembly Secretary. Today, Alun Cairns asked question 3 about Rover to the First Secretary. Due to the fact that circumstances had overtaken the question, the proper course of action would have been to withdraw that question. However, another question was piggy-backed on top, which meant that an extra supplementary question was asked when the Member was only allowed one supplementary question. The ruling I seek from you is this: is it correct that a Member should be allowed to ask what is, in effect, another supplementary question when an oral question is being asked? If that is to be condoned, does not that open the floodgates for people to ask questions that are supplementary questions on top of the oral questions, thereby allowing them to ask more questions than they are entitled to ask? There are many questions in my point of order but I think it is important.

Daw fy mhwynt i o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 6.32, sydd yn ymwneud ag Ysgrifenyddion y Cynulliad yn ateb cwestiynau llafar. Yr arfer ers sefydlu’r Cynulliad fu cyflwyno cwestiwn yn ysgrifenedig a’i anfon i’r Swyddfa Gyflwyno. Mae’r cwestiwn hwnnw yn ymddangos wedyn ar yr agenda ac yn cael ei ddarllen ar goedd i Ysgrifennydd priodol y Cynulliad. Heddiw, gofynnodd Alun Cairns gwestiwn 3 ynglŷn â Rover i’r Prif Ysgrifennydd. Oherwydd y ffaith fod amgylchiadau wedi goddiweddyd y cwestiwn, dylid bod wedi tynnu’r cwestiwn hwnnw yn ôl. Fodd bynnag, ychwanegwyd cwestiwn arall yn ei sgîl, sydd yn golygu bod cwestiwn atodol ychwanegol wedi’i ofyn pan nad oedd gan yr Aelod ond hawl i un cwestiwn atodol. Y dyfarniad yr wyf yn ei geisio gennych yw hyn: a yw hi’n iawn fod Aelod yn cael gofyn yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn gwestiwn atodol arall pan ofynnir cwestiwn llafar? Os yw hynny i’w ganiatáu, onid yw’n agor y llifddorau i bobl ofyn cwestiynau sydd yn gwestiynau atodol ar ben cwestiynau llafar, gan ganiatáu iddynt drwy hynny ofyn mwy o gwestiynau nag y mae ganddynt hawl iddynt? Mae nifer o gwestiynau yn fy mhwynt o drefn ond credaf ei fod yn bwysig.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 42

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 42

I am grateful for all the questions and I agree with them because it is inappropriate for Members to try to use the facility for reading the oral question as it is on the agenda and then add to it or put a gloss on it. That is out of order. Only the question on the agenda should be read so that Members understand what they are asking but, mainly, so that the public understand. I do not approve of the Westminster tradition of reading out numbers, because that is meaningless. We have agreed to read out questions and only questions. If Members persist in trying to put a gloss on their questions as they ask them, namely anticipating their supplementary question, we will have to review the procedure. I am grateful to you for drawing my attention to that.

Yr wyf yn ddiolchgar am yr holl gwestiynau a chytunaf â hwy oherwydd mae’n amhriodol i Aelodau geisio defnyddio’r cyfleuster i ddarllen y cwestiwn llafar fel y mae ar yr agenda ac yna ychwanegu ato neu ei liwio. Mae hynny allan o drefn. Dim ond y cwestiwn ar yr agenda y dylid ei ddarllen er mwyn i’r Aelodau ddeall beth y maent yn ei ofyn ond, yn bennaf, er mwyn i’r cyhoedd ddeall. Nid wyf yn cymeradwyo traddodiad San Steffan o ddarllen rhifau ar goedd, oherwydd mae hynny’n ddiystyr. Yr ydym wedi cytuno i ddarllen y cwestiynau a’r cwestiynau yn unig. Os bydd Aelodau’n parhau i geisio lliwio eu cwestiynau wrth iddynt eu gofyn, gan baratoi’r ffordd i’w cwestiwn atodol, bydd yn rhaid inni adolygu’r drefn. Yr wyf yn ddiolchgar ichi am dynnu fy sylw at hynny.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 43

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 43

Point of order. I clarify a situation that arose during Christine Gwyther’s response to the point that I made about her statement. I assure you that neither my response nor the translation of my response referred to persecuting anybody and certainly not the farmer. I asked for the farmer to be informed of the Assembly’s view. It seems to me that the Secretary for Agriculture and Rural Development intentionally and grossly misrepresented what I said to avoid my challenge to the administration. My point of order refers to whether the administration should be allowed to avoid these challenges by diverting attention and by intentionally referring to something that was not said. The administration wants to tell us continuously what it cannot do rather than concentrate on what it can do and—if it dares—on trying to tell us what it will do.

Pwynt o drefn. Bwriaf oleuni ar sefyllfa a gododd yn ystod ymateb Christine Gwyther i’r pwynt a wneuthum am ei datganiad. Gallaf eich sicrhau na chyfeiriodd fy ymateb i na’r cyfieithiad o’m hymateb at erlid neb ac yn sicr nid y ffermwr. Gofynnais am i’r ffermwr gael ei hysbysu o farn y Cynulliad. Mae’n ymddangos i mi i’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig gamddehongli‘n fwriadol a dybryd yr hyn a ddywedais i osgoi fy her i’r weinyddiaeth. Mae fy mhwynt o drefn yn cyfeirio at ba un y dylid caniatáu i’r weinyddiaeth osgoi her o’r fath drwy wyro’r sylw a thrwy gyfeirio’n fwriadol at rywbeth na ddywedwyd mohono. Mae’r weinyddiaeth am ddweud wrthym yn barhaus yr hyn na all ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gall ei wneud ac—os meiddia—ar geisio dweud wrthym beth y bydd yn ei wneud.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

This is not a matter for me. Today we saw an example of what is sometimes described as robust political debate and I do not believe that there was an attempt on behalf of the Secretary to misrepresent what any other Member said. I will check the Record. It is important that, in response to questions and statements, we have clear and succinct answers as well as clear and direct questions. We have only been back for two days and we are reviving all the bad habits that we had before Easter in terms of the length of questions and answers. I hope that we can bring some self-discipline to bear on our proceedings.

Nid mater i mi mo hynny. Gwelsom enghraifft heddiw o’r hyn a ddisgrifir weithiau fel dadl wleidyddol rywiog ac ni chredaf fod ymgais ar ran yr Ysgrifennydd i gamliwio’r hyn a ddywedodd unrhyw Aelod arall. Byddaf yn edrych yn fanwl ar y Cofnod. Mae’n bwysig ein bod, mewn ymateb i gwestiynau a datganiadau, yn cael atebion clir a chryno yn ogystal â chwestiynau clir ac uniongyrchol. Dim ond ers deuddydd yr ydym yn ôl ac yr ydym yn adfywio’r holl arferion drwg a oedd gennym cyn y Pasg o ran hyd cwestiynau ac atebion. Gobeithiaf y gallwn arfer mwy o hunanddisgyblaeth yn ein trafodion.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 43

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

I inform Members that following the special meeting of the Business Committee this morning, the Deputy Presiding Officer, on the recommendation of the four party Business Managers, has determined that the following Assembly Orders need not be referred to a Subject Committee for consideration: the Housing Renewal Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Amendment) (Wales) Regulations 2000; the Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 2000; the Education (Outturns Statements) (Wales) Regulations 2000; the National Health Service (General Medical Services) Amendment (Wales) Regulations 2000 and the National Health Service (Choice of Medical Practitioner) Amendment (Wales) Regulations 2000.

Hysbysaf yr Aelodau fod y Dirprwy Lywydd, yn dilyn cyfarfod arbennig y Pwyllgor Busnes y bore yma, ar argymhelliad Rheolwyr Busnes y pedair plaid, wedi penderfynu nad oes angen cyfeirio’r Gorchmynion a ganlyn o eiddo’r Cynulliad i Bwyllgor Pwnc i’w hystyried: Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni Penodedig a Manylion) (Diwygiad) (Cymru) 2000; Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygiad) (Cymru) 2000; Rheoliadau Addysg (Datganiadau Canlyniad) (Cymru) 2000; Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygiad (Cymru) 2000 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygiad (Cymru) 2000.

Acting on the advice of the Secretary for Health and Social Services, Jane Hutt, the Business Committee also recommended to the Deputy Presiding Officer that the Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2000 should be referred to the Health and Social Services Committee for consideration. The Deputy Presiding Officer has directed the Committee to report back to the Assembly in five weeks.

Gan weithredu ar gyngor yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt, argymhellodd y Pwyllgor Busnes hefyd i’r Dirprwy Lywydd y dylid cyfeirio Rheoliadau Plant (Amddiffyn rhag Troseddwyr) (Diwygiad) (Cymru) 2000 i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’w hystyried. Mae’r Dirprwy Lywydd wedi cyfarwyddo’r Pwyllgor i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ymhen pum wythnos.

Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2000-01

Planning Decision Committee 2000-01

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 44

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 44

I propose that

Cynigiaf fod

Andrew Davies The Business Secretary (continued) spoken in English p. 45

Andrew Davies Y Trefnydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 45

Schedule

Atodlen

An application by Mr and Mrs S. George for permission to carry out certain development at Portfield Gate, Haverfordwest, Pembrokeshire, namely rehabilitation of the Enfield Homestead, including conversion of redundant corn barn for use as a single detached dwelling.

Cais gan Mr a Mrs S. George am ganiatâd i ymgymryd â datblygiad penodol yn Portfield Gate, Hwlffordd, Sir Benfro, sef adnewyddu Enfield Homestead, gan gynnwys troi sgubor nad yw’n cael ei defnyddio yn dŷ sydd yn sefyll ar ei ben ei hun

Cynnig Andrew Davies t. 45

Motion Andrew Davies p. 45

DerbyniwydAdopted O blaidFor 41 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (41)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Lynne Neagle
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Newid yn yr Hinsawdd

Climate Change

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 46

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 46

I have selected amendments 1, 2 and 4 in the name of Jocelyn Davies, amendment 3 in the name of David Davies, amendments 5, 6 and 7 in the name of Christine Humphreys and amendment 8 in the name of Alun Cairns.

Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 2 a 4 yn enw Jocelyn Davies, gwelliant 3 yn enw David Davies, gwelliannau 5, 6 a 7 yn enw Christine Humphreys a gwelliant 8 yn enw Alun Cairns.

Sue Essex The Secretary for the Environment, Planning and Transport spoken in English p. 46

Sue Essex Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth siaradwyd yn Saesneg t. 46

I propose that

Cynigiaf fod

Sue Essex The Secretary for the Environment, Planning and Transport (continued) spoken in English p. 46

Sue Essex Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 46

On the Assembly’s anniversary, it is appropriate that we discuss a subject that is not only important to us but that puts Wales in its international setting because we are dealing with international and global issues in which we must play a significant part. I am reminded of a quote from John Donne’s poem, because it is particularly relevant to the environment, ‘no man is an island’. Rhodri Morgan said that in Welsh it was, ‘nid ynys yw unrhyw ddyn’. We can forgive John Donne, who was around hundreds of years ago, for using the gender-specific language that we try to avoid in the Assembly. That poem’s principle is so important in getting the message of today’s debate across, namely, the global impact of human actions.

Ar ben blwydd y Cynulliad, mae’n briodol ein bod yn trafod pwnc sydd nid yn unig yn bwysig i ni ond sydd yn rhoi Cymru yn ei chyd-destun rhyngwladol am ein bod yn delio â materion rhyngwladol a byd-eang y mae’n rhaid inni chwarae rhan o bwys ynddynt. Atgoffir fi o ddyfyniad o gerdd John Donne, am ei fod yn neilltuol o berthnasol i’r amgylchedd, ‘no man is an island’. Dywedodd Rhodri Morgan mai ‘nid ynys yw unrhyw ddyn’ yw hynny yn y Gymraeg. Gallwn faddau i John Donne, a oedd yn byw gannoedd o flynyddoedd yn ôl, am ddefnyddio’r iaith gender-benodol yr ydym ni yn ceisio ei hosgoi yn y Cynulliad. Mae egwyddor y gerdd mor bwysig wrth gyfleu neges y ddadl heddiw, sef effaith fyd-eang gweithgarwch pobl.

We have always experienced climate change but, in the past, that was in terms of epochs. Anyone who studied Geography GCSE or A Level could recount what happened during the Ice Age and the scale on which that affected Wales and elsewhere. However, today we are debating something that is significantly different—climate change in a way that we have never seen before. It is already having a traceable and definable impact on our land and on the physical nature of that land. In historical terms, these significant changes are occurring in a short glimpse of time. We are all aware of the nature of those changes in terms of the weather. They have increased temperatures, resulting in changes in climate with dramatic extremes. We have reached the stage when we have to anticipate increased risks of floods, changes in winter and so on. All these things contribute to a type of instability that previous generations did not face. After many years of debate, scientists have finally linked these changes to increased greenhouse gas emissions.

Yr ydym wedi gweld newidiadau yn yr hinsawdd erioed ond, yn y gorffennol, yr oedd hynny yn nhermau epocau. Gallai unrhyw un sydd wedi astudio Daearyddiaeth TGAU neu Safon Uwch ddweud beth ddigwyddodd yn ystod Oes yr Iâ ac ar ba raddfa yr effeithiodd hynny ar Gymru a mannau eraill. Fodd bynnag, yr ydym heddiw yn trafod rhywbeth tra gwahanol—newid yn yr hinsawdd mewn ffordd nad ydym erioed wedi’i gweld o’r blaen. Mae eisoes yn cael effaith olrheiniadwy a diffiniadwy ar ein tir ac ar natur ffisegol y tir hwnnw. Mewn termau hanesyddol, mae’r newidiadau arwyddocaol hyn yn digwydd o fewn chwinciad o amser. Gŵyr pawb ohonom am natur y newidiadau yn nhermau’r tywydd. Mae’r tymheredd wedi codi, gan arwain at newidiadau yn yr hinsawdd gydag eithafion dramatig. Yr ydym wedi cyrraedd cyfnod lle mae’n rhaid inni ddisgwyl mwy o risg o lifogydd, newidiadau yn y gaeaf ac ati. Mae’r pethau hyn i gyd yn cyfrannu at fath o ansefydlogrwydd na wynebwyd mohono gan genedlaethau gynt. Ar ôl blynyddoedd o ddadlau, mae’r gwyddonwyr o’r diwedd wedi cysylltu’r newidiadau hyn â’r cynnydd mewn gollyngiadau nwyon tŷ gwydr.

If we consider this coming century, over a period of time we can begin to predict how those changes and the volume of emissions of greenhouse gases will impact on the landscape. I am not a scientist and there are Members here who are much more able than I to discuss the scientific facts and impact of these changes. However, in simple terms, greenhouse gases that, in the past, would have gone up beyond the atmosphere are collecting and staying within the environment of the atmosphere. The lives of these gases, such as carbon dioxide, nitric oxide and methane, are lengthy. Therefore, we are inheriting the result of past greenhouse gas emissions. The important factor is that what we decide today will live for future generations. It is a significant debate.

Os ystyriwn y ganrif o’n blaenau, dros gyfnod o amser gallwn ddechrau darogan sut y bydd y newidiadau hynny a chyfaint y gollyngiadau nwyon tŷ gwydr yn effeithio ar y tirwedd. Nid wyf yn wyddonydd ac mae Aelodau yma sydd yn llawer mwy abl na mi i drafod y ffeithiau gwyddonol ac effaith y newidiadau hyn. Fodd bynnag, mewn termau syml, mae nwyon tŷ gwydr a fyddai, yn y gorffennol, wedi mynd i fyny y tu hwnt i’r atmosffer yn ymgasglu ac yn aros o fewn amgylchedd yr atmosffer. Mae oes y nwyon hyn, fel deuocsid carbon, ocsid nitrig a methan, yn faith. Felly, yr ydym yn etifeddu canlyniad gollyngiadau nwyon tŷ gwydr o’r gorffennol. Y ffactor pwysig yw y bydd yr hyn y penderfynwn ni arno heddiw fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ddadl bwysig.

Advances in scientific knowledge over recent years enable us to have this debate with a degree of certainty of what we can predict. Although we have debates about living standards, compared to the rest of the world, countries like ours have high living standards overall. We are mostly to blame, even if unwittingly, for the rise in greenhouse gases. Countries industrialised early such as the UK, Europe, north America and Japan, through their wealth, have created the unfortunate effects of pumping vast amounts of greenhouse gases into the atmosphere. At the time, the impact of that was not understood, but it is now.

Mae’r datblygiadau mewn gwybodaeth wyddonol dros y blynyddoedd diwethaf yn ein galluogi i gynnal y ddadl hon gyda pheth sicrwydd ynglŷn â’r hyn y gallwn ei ddarogan. Er ein bod yn cael dadleuon am safonau byw, o’i chymharu â gweddill y byd, mae gan wledydd fel ein un ni safonau byw uchel ar y cyfan. Ni sydd i’n beio fwyaf, hyd yn oed os yn ddiarwybod, am y cynnydd mewn nwyon tŷ gwydr. Mae gwledydd a ddiwydiannwyd yn gynnar fel y DU, Ewrop, gogledd America a Japan, drwy eu cyfoeth, wedi creu’r effeithiau anffodus o bwmpio sympiau enfawr o nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer. Ar y pryd, nid oedd effaith hynny wedi ei ddeall, ond y mae yn awr.

The global dimension is important not only in terms of meteorological changes but also to understand the global wealth inequalities. We in western Europe have a relatively high standard of living while elsewhere there are countries that are still developing. The message is that we have little safety margin to lose. We bear the economic responsibilities of Wales and that is why this is a complicated situation. The disturbing factor that everyone must grasp is that whatever we decide to do today we are not in a position to reverse this trend. The trend is there. Our actions can modify and ameliorate the rate of change and try to minimise the worst aspects of that change. Reversing that trend is unlikely within our lifetime. Past actions make this trend irreversible in the foreseeable future. However, before we get too pessimistic, we can take actions that will minimise the effects.

Mae’r dimensiwn byd-eang yn bwysig nid yn unig yn nhermau newidiadau meteorolegol ond hefyd er mwyn deall anghydraddoldebau cyfoeth byd-eang. Mae gennym ni yng ngorllewin Ewrop safon byw cymharol uchel tra bo yna wledydd yn dal i ddatblygu mewn mannau eraill. Y neges yw nad oes gennym fawr o le i chwarae o ran diogelwch. Ni sydd yn ysgwyddo cyfrifoldebau economaidd Cymru a dyna pam y mae hon yn sefyllfa gymhleth. Y ffactor anffodus y mae’n rhaid i bawb ei ddeall yw ni waeth beth a benderfynwn ni heddiw, nid ydym mewn sefyllfa i wrthdroi’r duedd hon. Mae’r duedd yn bod. Gall ein gweithredoedd ni ddylanwadu ar a lleddfu cyflymdra’r newid a cheisio lliniaru agweddau gwaethaf y newid hwnnw. Nid yw’n debygol y caiff y duedd ei gwrthdroi yn ein hoes ni. Mae gweithredoedd y gorffennol yn gwneud hon yn duedd na ellir ei gwrthdroi yn y dyfodol rhagweladwy. Fodd bynnag, cyn mynd yn rhy anobeithiol, gallwn weithredu i liniaru’r effeithiau.

We are not alone in this. It is a global issue. The impact of climate change is a worldwide concern and the international community has already reacted to this. Looking at the Kyoto Protocol, the formal agreement that was reached in Japan in 1997, developing countries agreed to reduce emissions of a basket of the six greenhouse gases by 5.2 per cent in total. In the EU, that figure goes up to 8 per cent. It was agreed subsequently in the UK that our share should be 12.5 per cent. It is a credit to our Government that it has taken a strong position on this and is trying to take a lead. The percentage of the reduction in emissions to which we have signed up is perhaps necessary. We must take that into account.

Nid ydym ar ein pennau ein hunain yma. Mae’n fater byd-eang. Mae effaith newid yn yr hinsawdd yn peri pryder drwy’r byd ac mae’r gymuned ryngwladol eisoes wedi ymateb i hyn. Gan edrych ar Brotocol Kyoto, y cytundeb ffurfiol y daethpwyd iddo yn Japan yn 1997, cytunodd y gwledydd sydd yn datblygu i ostwng gollyngiadau basgedaid o’r chwe nwy tŷ gwydr 5.2 y cant i gyd. Yn yr UE, mae’r ffigur hwnnw yn codi i 8 y cant. Cytunwyd wedi hyn yn y DU y dylai ein cyfran ni fod yn 12.5 y cant. Mae’n glod i’n Llywodraeth ei bod wedi cymryd safiad cryf ar hyn a’i bod yn ceisio arwain. Efallai fod canran y gostyngiad mewn gollyngiadau yr ydym wedi ymrwymo iddo yn angenrheidiol. Rhaid inni gymryd hynny i ystyriaeth.

We have talked about international commitments, but what does that mean for Wales and how have we approached the issue of examining what policies we need to introduce? Many important debates have been conducted over the last year. In January 1999, the Welsh Office organised a workshop that examined climate change scenarios and their possible impact. Following this workshop the National Assembly for Wales commissioned a study which examined the impact of climate change in Wales in 2080. The study was launched by Peter Law, my predecessor in this post, at a conference in February at which I and some of you were present. The study identifies important themes for climate impacts on the natural and built environment, on agriculture, water management and effects on the people of Wales. The Welsh climate is varied and we must learn more about how people and the environment adapt to these changes.

Yr ydym wedi sôn am ymrwymiadau rhyngwladol, ond beth mae hynny yn ei olygu i Gymru a sut ydym ni wedi mynd ati i ystyried pa bolisïau y mae angen eu cyflwyno? Cynhaliwyd llawer o ddadleuon pwysig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Ionawr 1999, trefnodd y Swyddfa Gymreig weithdy a edrychai ar senarios newid yn yr hinsawdd a’u heffaith bosibl. Yn sgîl y gweithdy comisiynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru astudiaeth a edrychai ar effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru yn 2080. Lansiwyd yr astudiaeth gan Peter Law, fy rhagflaenydd yn y swydd hon, mewn cynhadledd ym mis Chwefror yr oeddwn i a rhai ohonoch chithau yn bresennol ynddi. Mae’r astudiaeth yn nodi themâu pwysig o ran effeithiau’r hinsawdd ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, ar amaethyddiaeth, rheoli dŵr a’r effeithiau ar bobl Cymru. Mae hinsawdd Cymru yn amrywiol a rhaid inni ddysgu mwy am sut y mae pobl a’r amgylchedd yn addasu i’r newidiadau hyn.

There may be positive effects from climate change. In the past we have joked about palm trees in Porthcawl and Costa del Cardiff. There may be positive effects such as the extension of the growing season. However, we are also aware, despite the early jokes, that there are more serious impacts. There are more serious changes that we must consider and try to get to grips with. These are real problems in Wales, such as coastal erosion, flooding, storm damage, increased prevalence of pests and diseases. A country like Wales must also consider water resources.

Efallai y ceir effeithiau positif o newid yn yr hinsawdd. Yn y gorffennol yr ydym wedi cellwair am goed palmwydd ym Mhorthcawl a’r Costa del Caerdydd. Efallai y ceir effeithiau positif fel ymestyn y tymor tyfu. Fodd bynnag, yr ydym hefyd yn ymwybodol, er gwaethaf y jôcs cynnar, fod yna effeithiau mwy difrifol. Mae newidiadau mwy difrifol y mae’n rhaid inni eu hystyried a cheisio ymafael â hwy. Mae problemau gwirioneddol yng Nghymru, fel erydu’r arfordir, llifogydd, difrod gan stormydd, plâu a chlefydau yn dod yn fwy cyffredin. Rhaid i wlad fel Cymru ystyried adnoddau dŵr hefyd.

The context for our policy development comes from this document. At least one of you has read it because he mentioned binding problems. If you have read it, well done. It is a comprehensive and scientific document but, if you can persevere, it makes interesting reading. It sets out the draft UK programme for climate change. There is a section in the back for the devolved administrations. There is a section for Wales. The document sets a new strategic focus for action against climate change in the UK. It builds on positive action by business, local government and others. Wales must play a part in reducing emissions. Some of Wales’s core industries are significant emitters of greenhouse gas. Wales is thought to be responsible for around 6 per cent of UK greenhouse gas emissions, according to the 1995 figure. I am keen, as I am sure we all are, to reduce these emissions in Wales so that we can play our part in the UK’s Kyoto protocol target.

Daw ein cyd-destun ar gyfer datblygu polisi o’r ddogfen hon. Mae o leiaf un ohonoch wedi ei darllen oherwydd soniodd am broblemau rhwymo. Os ydych wedi’i darllen, da iawn chi. Mae’n ddogfen gynhwysfawr a gwyddonol ond, os gallwch ddyfalbarhau, mae’n ddiddorol i’w darllen. Mae’n nodi rhaglen ddrafft y DU ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Ceir adran yn y cefn i’r gweinyddiaethau datganoledig. Ceir adran i Gymru. Mae’r ddogfen yn nodi ffocws strategol newydd ar gyfer gweithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn y DU. Mae’n adeiladu ar weithredu positif gan fusnes, llywodraeth leol ac eraill. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn gostwng lefel y gollyngiadau. Mae rhai o ddiwydiannau craidd Cymru yn gollwng llawer iawn o nwyon tŷ gwydr. Tybir bod Cymru’n gyfrifol am oddeutu 6 y cant o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr y DU, yn ôl ffigurau 1995. Yr wyf fi, fel chithau i gyd yr wyf yn siŵr, yn awyddus i ostwng lefel y gollyngiadau yng Nghymru fel y gallwn chwarae ein rhan yn nharged Protocol Kyoto y DU.

Shortly after the publication of the UK document to which I referred, we produced another document, which focuses on Wales and what we can do. It notes steps and suggests how we should plan centrally to ensure a reduction in emissions. In addition to the greenhouse gases noted in the Kyoto Protocol, the UK has set itself a separate goal. That is, to reduce carbon dioxide emissions to 20 per cent below the 1990 levels by 2010. That goal is significantly beyond that agreed in Kyoto. We must all work together to achieve it.

Yn fuan ar ôl cyhoeddi dogfen y DU y cyfeiriais ati, cynyrchiasom ddogfen arall, sydd yn canolbwyntio ar Gymru a’r hyn y gallwn ni ei wneud. Mae’n nodi camau ac yn awgrymu sut y dylem gynllunio’n ganolog i sicrhau gostyngiad mewn gollyngiadau. Yn ychwanegol at y nwyon tŷ gwydr a nodwyd ym Mhrotocol Kyoto, mae’r DU wedi gosod nod ar wahân iddi ei hun. Hynny yw, gostwng y gollyngiadau deuocsid carbon 20 y cant yn is na lefelau 1990 erbyn 2010. Mae’r nod hwnnw yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y cytunwyd arno yn Kyoto. Rhaid inni i gyd weithio gyda’n gilydd i’w gyflawni.

We must encourage environmentally friendly generation of energy. That is dear to the hearts of people in this Chamber. We must be aware that our everyday choices about travelling, using electrical appliances, heating our homes and waste disposal have an effect on climate. We can make a difference. We are not alone in working on this. Other European countries are signing up to these agreements. However, as Rhodri said yesterday, Wales is special because we are alone among European governments in terms of our sustainable development requirement and duty. Although this presents a challenge for core industries, many people will focus on what we can do and how we can meet our sustainable development responsibilities.

Rhaid inni annog cynhyrchu ynni mewn ffyrdd sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae hynny yn agos at galonnau pobl yn y Siambr hon. Rhaid inni fod yn ymwybodol fod ein dewisiadau bob dydd am deithio, defnyddio cyfarpar trydanol, gwresogi ein cartrefi a gwaredu gwastraff yn cael effaith ar ein hinsawdd. Gallwn wneud gwahaniaeth. Nid ni yn unig sydd yn gweithio ar hyn. Mae gwledydd eraill Ewrop yn ymrwymo i’r cytundebau hyn. Fodd bynnag, fel y dywedodd Rhodri ddoe, mae Cymru yn hynod am mai ni yn unig ymysg llywodraethau Ewrop sydd â gofynion a dyletswydd i ddatblygu’n gynaliadwy. Er bod hyn yn her i’n diwydiannau craidd, bydd llawer o bobl yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a sut y gallwn gyflawni ein cyfrifoldebau datblygu cynaliadwy.

The Government of Wales Act 1998 provides a reserve power to ensure that the Assembly delivers a share of climate change commitments. However, I am pleased that neither we nor the UK Government envisage this power having to be used. Wales wants to make an equitable contribution to the Kyoto target, as well as playing a full part in delivering the domestic goal of reducing carbon dioxide emissions. However, we realise Wales’s difficulties in terms of our historic development and dependence on heavy industries. Those industries have been large energy consumers. As a result of the devolution settlement, responsibility for much of the environmental policy rests with the Assembly. The UK draft climate change programme spans reserved and devolved policy areas. There is also action at the EU level that will deliver carbon dioxide savings.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi pŵer wrth gefn i sicrhau bod y Cynulliad yn gwireddu cyfran o’r ymrwymiadau ar newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, yr wyf yn falch o ddweud nad ydym ni na Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd yn rhaid defnyddio’r pŵer hwn. Mae Cymru am gyfrannu’n deg tuag at darged Kyoto, yn ogystal â chwarae rhan lawn mewn gwireddu’r nod domestig o ostwng gollyngiadau deuocsid carbon. Fodd bynnag, sylweddolwn anawsterau Cymru oherwydd ein datblygiad a’n dibyniaeth hanesyddol ar ddiwydiannau trwm. Bu’r diwydiannau hynny yn defnyddio llawer o ynni. Yn sgîl y setliad datganoli, mae’r cyfrifoldeb am lawer o’r polisi amgylcheddol yn gorffwys gyda’r Cynulliad. Mae rhaglen ddrafft y DU ar newid yn yr hinsawdd yn rhychwantu meysydd polisi datganoledig a rhai sydd wedi’u cadw. Mae yna weithredu hefyd ar lefel yr UE a fydd yn arwain at arbedion deuocsid carbon.

On the basis of information available, it is not possible to draw a line at the border and attempt to define precisely how successful UK policies have been in delivering emission savings in Wales, nor the exact contribution of policies in the devolved field in the future. There is a need for partnership between us and the UK Government so that it can understand our historical and economic background and tell us how to make the changes, which are difficult for some.

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, nid yw’n bosibl tynnu llinell ar y ffin a cheisio diffinio’n union pa mor llwyddiannus fu polisïau’r DU o ran cyflawni arbedion gollyngiadau yng Nghymru, nac union gyfraniad polisïau yn y maes datganoledig i’r dyfodol. Mae angen partneriaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU fel y gall ddeall ein cefndir hanesyddol ac economaidd a dweud wrthym sut mae gwneud y newidiadau, sydd yn anodd i rai.

We have a raft of policies to try to help deliver those targets. There are strong incentives in terms of working with business. There is a range of measures, but I will mention specifically the Assembly’s business and environmental campaign; the WDA’s energy safe programme which gives finance to businesses for energy saving schemes; our development of renewable sources and pursuing the draft energy strategy, which will be important for Wales because it is an area in which we have huge scope to make a difference; the home energy efficiency programme for domestic users, and something that is dear to my heart, measures relating to integrated transport and how we can target road pollution through better development of public and integrated transport.

Mae gennym lu o bolisïau i geisio helpu i gyflawni’r targedau hynny. Mae cymhellion cryf o ran gweithio gyda busnes. Mae ystod o fesurau, ond soniaf yn benodol am ymgyrch busnes ac amgylcheddol y Cynulliad; rhaglen ynni diogel Awdurdod Datblygu Cymru sydd yn rhoi cyllid i fusnesau tuag at gynlluniau arbed ynni; ein gwaith yn datblygu ffynonellau adnewyddadwy a mynd ar drywydd strategaeth ynni ddrafft, a fydd yn bwysig i Gymru am ei fod yn faes lle mae’n bosibl inni wneud gwahaniaeth enfawr, y rhaglen effeithlonrwydd ynni yn y cartref i ddefnyddwyr domestig, a rhywbeth sydd yn agos at fy nghalon i, mesurau yn ymwneud â thrafnidiaeth integredig a sut y gallwn dargedu llygredd ffordd drwy ddatblygu gwell trafnidiaeth gyhoeddus ac integredig.

I want to comment on the climate change levy because I am sure it will be mentioned in discussions today. It is one of the key planks of Government policy which will be introduced for non-domestic energy use in April 2001. The levy is about dealing with increased costs for certain types of electricity, and in return the levy is expected to reduce carbon emissions by around five million tonnes by 2010. We must ensure that policies used to reduce emissions do not have an excessive cost to the economy and industry. I am pleased that all the revenue raised by the levy will be recycled to business via reductions in employers’ national insurance contributions and in providing capital sums to assist with energy efficiency.

Yr wyf am sôn am y dreth newid yn yr hinsawdd oherwydd yr wyf yn siŵr y caiff ei chrybwyll yn y trafodaethau heddiw. Mae’n un o elfennau allweddol polisi’r Llywodraeth a gyflwynir yng nghyswllt defnydd annomestig ar ynni ym mis Ebrill 2001. Diben y dreth yw delio â’r costau uwch am rai mathau o drydan, a disgwylir i’r dreth yn ei thro ostwng y gollyngiadau carbon o oddeutu pum miliwn tunnell erbyn 2010. Rhaid inni sicrhau nad yw’r polisïau a ddefnyddir i ostwng gollyngiadau yn golygu cost ormodol i’r economi a diwydiant. Yr wyf yn falch y bydd yr holl refeniw a godir drwy’r dreth yn cael ei ailgylchu I fusnes drwy ostyngiadau yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a thrwy ddarparu symiau cyfalaf i gynorthwyo gydag effeithlonrwydd ynni.

There has been widespread concern in Welsh industry about the potential impact of the levy, particularly on heavy energy users on which we in Wales are dependent. After vigorous lobbying from the Assembly and other quarters, the Chancellor has responded and introduced several amendments to the design of the levy. These include exempting from the levy electricity generated from new forms of renewable energy, such as solar and wind power and good quality combined heat and power plants; trebling the support for energy efficiency measures arising from the levy packages; safeguarding competitiveness by lowering the overall size of the levy and agreeing an 80 per cent discount for energy intensive sectors that enter into agreements to reduce carbon emissions.

Cafwyd pryder ar hyd a lled diwydiant yng Nghymru ynglŷn ag effaith bosibl y dreth hon, yn enwedig ar y rheini sydd yn defnyddio ynni’n drwm yr ydym ni yng Nghymru yn ddibynnol arnynt. Ar ôl lobïo egnïol o du’r Cynulliad a mannau eraill, mae’r Canghellor wedi ymateb ac wedi cyflwyno sawl newid i batrwm y dreth. Mae’r rhain yn cynnwys eithrio rhag y dreth drydan a gynhyrchir o ffurfiau newydd o ynni adnewyddadwy, megis egni’r hawl a phŵer gwynt a gweithfeydd gwres a phŵer cyfun o ansawdd uchel; treblu’r gefnogaeth I fesurau effeithlonrwydd ynni sydd yn deillio o becynnau’r dreth; diogelu natur gystadleuol drwy ostwng maint y dreth drwyddi draw a chytuno i ddisgownt o 80 y cant ar gyfer sectorau sydd yn dibynnu’n drwm ar ynni sydd yn llofnodi cytundebau i ostwng gollyngiadau carbon.

Therefore, there has been some recognition of the difficulties we face in terms of historical dependence on heavy energy users and recognition that there are new forms of energy sources that need to be free from that levy. We are in a good position to be able to develop and pursue that.

Felly, cafwyd peth cydnabyddiaeth o’r anawsterau a wynebwn yn nhermau dibyniaeth hanesyddol ar ddefnyddwyr sydd yn drwm ar ynni a chydnabyddiaeth bod ffurfiau newydd o ffynonellau ynni a ddylai fod yn rhydd rhag y dreth. Yr ydym mewn sefyllfa dda i allu datblygu a mynd ar drywydd hynny.

I turn to the amendments. I hope the fact that we have eight amendments is a sign of people’s interest in this issue. I thank Jocelyn Davies for her amendments 1, 2 and 5, which tidy up the wording, although ‘Countryside Council’ in amendment 5 should be ‘Countryside Council for Wales’. We are happy to accept Christine Humphreys’s amendments 5, 6 and 7. However, I want to comment on amendment 6 which mentions the waste strategy and the term ‘presumption against’ certain elements. In planning guidance, we try to change that term to ‘presumption for’, but that is just wording. We will not support David Davies’s amendment 3 or Alun Cairns’s amendment 8. I understand the philosophy behind them in terms of helping and supporting industry, but to vote for them would negate such amendments as those in Christine’s name. I am looking forward to an interesting and informative debate and I hope that many will participate.

Trof at y gwelliannau. Gobeithiaf fod y ffaith fod gennym wyth gwelliant yn arwydd o ddiddordeb pobl yn y pwnc hwn. Diolchaf i Jocelyn Davies am ei gwelliannau 1, 2 a 5, sydd yn tacluso’r geiriad, er mai ‘Cyngor Cefn Gwlad Cymru’ ddylai fod yng ngwelliant 5 nid y ‘Cyngor Cefn Gwlad’. Yr ydym yn barod i dderbyn gwelliannau 5, 6 a 7 gan Christine Humphreys. Fodd bynnag, hoffwn gyfeirio at welliant 6 sydd yn sôn am y strategaeth gwastraff a’r term ‘rhagdybiaeth yn erbyn’ rhai elfennau. Mewn canllawiau cynllunio, yr ydym yn ceisio newid y term hwnnw i ‘ragdybiaeth o blaid’, ond mater o eiriad yw hynny. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 3 gan David Davies na gwelliant 8 gan Alun Cairns. Deallaf yr athroniaeth y tu cefn iddynt o ran helpu a chefnogi diwydiant, ond byddai pleidleisio o’u plaid yn negyddu gwelliannau fel y rheini yn enw Christine. Edrychaf ymlaen at ddadl ddiddorol a llawn gwybodaeth a gobeithiaf y bydd llawer yn cymryd rhan.

Jocelyn Davies spoken in English p. 53

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

I propose amemdment 1. In line 1 delete ‘Assembly’ and insert ‘National Assembly for Wales’.

Cynigiaf welliant 1. Yn llinell 1, dileer y geiriau ‘y Cynulliad’ a rhoi ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ yn eu lle.

Jocelyn Davies (continued) spoken in English p. 53

Jocelyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 53

I propose amendment 2. In line 1 before ‘agrees’ add ‘ recalling its statutory responsibility to promote sustainable development’.

Cynigiaf welliant 2. Yn llinell 1, cyn y geiriau ‘yn cytuno’, ychwaneger y geiriau ‘o gofio ei gyfrifoldeb statudol i hybu datblygiad cynaliadwy’.

Jocelyn Davies (continued) spoken in English p. 53

Jocelyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 53

I propose amendment 4. In line 5 delete ‘that it’ and add

Cynigiaf welliant 4. Yn llinell 6, ychwaneger ar ôl ‘a’i fod’ y geiriau

Jocelyn Davies (continued) spoken in English p. 53

Jocelyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 53

Climate change is with us as a result of our unsustainable use of energy, whether it is from electricity generation in the home, office, industry or transport. It is made worse by the fact that unsustainable practices in waste disposal result in large amounts of waste being buried in landfill sites which decompose and produce methane—a powerful greenhouse gas.

Mae newid yn yr hinsawdd yn bodoli oherwydd ein defnydd anghynaliadwy ni o ynni, boed hynny o gynhyrchu trydan yn y cartref, y swyddfa, diwydiant neu drafnidiaeth. Fe’i gwneir yn waeth gan y ffaith fod arferion anghynaliadwy o ran gwaredu gwastraff yn arwain at gladdu llawer iawn o wastraff mewn safleoedd tirlenwi, gyda hwnnw yn pydru ac yn cynhyrchu methan—nwy tŷ gwydr grymus.

We cannot avoid some climate change, as Sue has said, so to a greater or lesser extent we are just facing damage limitation. We must move towards a more sustainable economy, and judging from the greenhouse gas emissions, we in Wales have further to go than some other areas in the UK. This in itself justifies powers of control over energy matters in Wales in the form of an energy strategy. We also, therefore, have a greater need to subscribe to a sustainable way of life. The effect of pollution on our nation’s health and the potential improvements to both health and job creation is something that the Assembly should grasp.

Ni allwn osgoi rhywfaint o newid yn yr hinsawdd, fel y dywedodd Sue, felly i raddau mwy neu lai ceisio lleihau’r difrod a wnawn. Rhaid inni symud tuag at economi mwy cynaliadwy ac, a barnu oddi wrth y gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, mae gennym ni yng Nghymru fwy o ffordd i fynd na rhai ardaloedd eraill yn y DU. Mae hynny ynddo’i hun yn cyfiawnhau mesurau rheoli dros faterion ynni yng Nghymru ar ffurf strategaeth ynni. Mae mwy o angen hefyd, felly, inni arddel ffordd gynaliadwy o fyw. Mae effaith llygredd ar iechyd ein cenedl a’r gwelliannau posibl o ran iechyd a chreu swyddi yn rhywbeth y dylai’r Cynulliad gydio ynddo.

I have a few facts to summarise the challenges that face Wales in reducing greenhouse gas emissions. Emissions here, across all sectors, increased by 5 per cent between 1990 and 1995, while UK emissions as a whole declined by 10 per cent in the same period. Wales therefore has to deliver greater savings overall. Wales’s power generation mix differs from that of the rest of the UK. Our iron and steel industries rely on coal for electricity generation. England relies on gas turbines and nuclear power for electricity, using cleaner technologies for power generation. Wales’s obligation to promote sustainable development places it in a position to lead on sustainable practices to achieve reduced emissions. Wales’s legacy of pollution also makes it a particularly difficult challenge to reverse the trends of unsustainable practice. However, neither the ‘Betterwales.com’ document nor the sustainable development scheme has addressed the issue of climate change with enough gusto. Our amendments to the motion call for serious consideration to be given by the Assembly to setting up procedures to enable a dynamic, renewable energy industry to succeed in Wales. This would replace our unsustainable dependence on finite fossil fuels and the contentious nuclear industry.

Mae gennyf rai ffeithiau i grynhoi’r her sydd yn ein hwynebu yng Nghymru wrth leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Cynyddodd y gollyngiadau yma, ar draws pob sector, 5 y cant rhwng 1990 a 1995, tra bu i ollyngiadau’r DU gyfan ostwng 10 y cant dros yr un cyfnod. Mae’n rhaid felly i Gymru gyflawni mwy o arbedion drwyddynt draw. Mae cymysgedd cynhyrchu pŵer Cymru yn wahanol i’r gymysgedd yng ngweddill y DU. Mae ein diwydiannau haearn a dur yn dibynnu ar lo i gynhyrchu trydan. Mae Lloegr yn dibynnu ar dyrbinau nwy a phŵer niwclear am drydan, gan ddefnyddio technolegau glanach i gynhyrchu pŵer. Mae ymrwymiad Cymru i hybu datblygu cynaliadwy yn ei rhoi mewn sefyllfa i arwain ar arferion cynaliadwy er mwyn lleihau’r gollyngiadau. Mae etifeddiaeth Cymru o lygredd hefyd yn ei gwneud hi’n her neilltuol o anodd i wrthdroi tueddiadau arferion anghynaliadwy. Fodd bynnag, nid yw’r ddogfen ‘Gwellcymru.com’ na’r cynllun datblygu cynaliadwy wedi ymdrin â mater newid yn yr hinsawdd yn ddigon egnïol. Mae ein gwelliannau ni i’r cynnig yn galw ar i’r Cynulliad roi ystyriaeth ddifrifol i sefydlu gweithdrefnau i alluogi diwydiant ynni adnewyddadwy, dynamig i lwyddo yng Nghymru. Byddai hynny’n disodli ein dibyniaeth anghynaliadwy ar danwydd ffosiledig a fydd yn darfod a’r diwydiant niwclear dadleuol.

There are numerous obstacles and objections to even clean technology, but we have a duty to the future citizens of Wales to promote a more sustainable way of life and Wales is well placed to harness its natural, renewable resources for producing clean energy. This places a duty on those concerned with the environment in Wales, in particular the Environment Agency and the Countryside Council for Wales to work together with local authority planning departments to actively promote the future energy supply using clean technologies.

Mae rhwystrau a gwrthwynebiadau niferus hyd yn oed i dechnoleg lân, ond mae gennym ddyletswydd i ddinasyddion Cymru yn y dyfodol i hyrwyddo ffordd fwy cynaliadwy o fyw ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i harneisio ei hadnoddau adnewyddadwy, naturiol ar gyfer cynhyrchu ynni glân. Rhydd hyn ddyletswydd ar y rheini y mae a wnelont â’r amgylchedd yng Nghymru, yn enwedig Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, i weithio gydag adrannau cynllunio’r awdurdodau lleol i hyrwyddo cyflenwad ynni i’r dyfodol sydd yn defnyddio technolegau glân.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 54

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 54

Yr wyf yn falch bod Jocelyn wedi cyfeirio at sefydliadau cenedlaethol, megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yng ngwelliant 4. A yw hi’n cytuno ei bod yn eithriadol bwysig fod cyrff felly yn sylweddoli bod adeiladu diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn flaenoriaeth strategol, bod yn rhaid i hyn ddigwydd, bod angen inni roi cyfarwyddyd i gyrff fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru a bod yn rhaid iddynt hwyluso datblygiad ynni adnewyddadwy yn hytrach na bod yn dramgwydd i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy fel y maent yn aml ar hyn o bryd? Clywaf lawer gormod o negeseuon negyddol o gyfeiriad Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn arbennig, ac ambell waith hyd yn oed o du Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’n eithriadol bwysig eu bod yn cael y neges ynglŷn â’r mater holl bwysig hwn.

I am pleased that Jocelyn has referred to national institutions, such as the Countryside Council for Wales and the Environment Agency, in amendment 4. Does she agree that it is exceptionally important that such bodies realise that building a renewable energy industry in Wales is a strategic priority, that this must happen, that we must give bodies such as the Countryside Council for Wales direction and that they must facilitate the development of renewable energy rather than prevent the development of renewable energy as they often do at present? I hear far too many negative messages coming from the direction of the Countryside Council for Wales, in particular, and even sometimes from the Environment Agency. It is exceptionally important that they get the message about this extremely important matter.

Jocelyn Davies spoken in English p. 55

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 55

It will come as no surprise that I agree with you. All our partners need to actively promote the idea rather than frustrate our efforts.

Ni fyddwch yn synnu fy mod yn cytuno â chi. Mae angen i’n holl bartneriaid hyrwyddo’r syniad yn ddiwyd yn hytrach na llesteirio ein hymdrechion.

The responsibility does not all lie with power generation. All sectors should be involved in promoting energy efficiency. The energy saving trust has a number of projects in Wales that show the way forward, but these need to be extended and become the norm. The promotion of energy conservation and efficiency is a key element in encouraging businesses and public and domestic sectors to reduce energy use and save costs. Traditionally, energy has been cheap, and efforts to reduce use have not been a financial incentive. Now the effects of climate change and the need to conserve finite fossil fuels are pushing the need for more efficiency.

Nid yw’r cyfrifoldeb hwn i gyd yn gorffwys gyda chynhyrchu ynni. Dylai pob sector fod â rhan mewn hybu effeithlonrwydd ynni. Mae gan yr ymddiriedolaeth arbed ynni nifer o brosiectau yng Nghymru sydd yn dangos y ffordd ymlaen, ond mae angen ehangu’r rhain er mwyn eu gwneud yn batrwm arferol. Mae hyrwyddo cadwraeth ac effeithlonrwydd ynni yn elfen allweddol mewn annog busnesau a’r sectorau cyhoeddus a domestig i ddefnyddio llai o ynni ac arbed costau. Yn draddodiadol, bu ynni yn rhad, ac ni fu cymhelliant ariannol i’r ymdrechion i leihau’r defnydd ohono. Bellach mae effeithiau newid yn yr hinsawdd a’r angen i warchod tanwyddau ffosiledig a fydd yn darfod yn gwthio’r angen am fwy o effeithlonrwydd.

The scope for energy savings are high, but the subject does not generally incite much enthusiasm. What should interest us all is the opportunity for Wales to become the exemplar in the application of energy-efficient technology, and to lead the way towards reducing greenhouse gas emissions, especially in view of our obligation towards sustainable development. We could create jobs and improve health and, if business and industries in Wales act now, become pioneers in clean and efficient technology. That would reap rewards in the market place. If we do not do that, we risk being left behind and losing out to others in job and wealth creation.

Mae llawer o le i arbed ynni, ond nid yw’n bwnc sydd yn ysgogi llawer o frwdfrydedd. Yr hyn a ddylai fod o ddiddordeb i bawb ohonom yw’r cyfle i Gymru sefydlu ei hun fel y patrwm o ran rhoi technoleg ynni-effeithlon ar waith, ac arwain y ffordd tuag at ostwng gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig yn wyneb ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Gallem greu swyddi a gwella iechyd a, dim ond i fusnes a diwydiannau weithredu yn awr, dod yn arloeswyr mewn technoleg lân ac effeithlon. Byddai i hynny ei wobr yn y farchnad. Os na wnawn ni hynny, mae perygl inni gael ein gadael ar ôl a bod ar ein colled i eraill o ran creu swyddi a chyfoeth.

What can the Assembly do to uncouple economic growth from greenhouse gas emissions? We can target transport, we can have industrial efficiency and look at fuel poverty. We can opt for clean technology, renewable energy, traffic reduction and reduce landfill waste. That means taking practical action. We can support the Warm Homes Bill, waste can be reduced at source, we can reuse and recycle and we can use wind, solar, tidal and hydro energy. In domestic and commercial buildings, environmental design can make the difference between an unsustainable and a sustainable building. That does not mean simply increasing the insulation. Building management systems, low energy movement-sensitive lighting systems and energy saving devices can make a difference, particularly in offices because they are highly energy-intensive operations. Efficient use of fuel with improvements in combustion, efficiency and boilers can ensure that heating systems do not waste. Combined heat and power installations offer the benefits of electricity generations with district heating for homes. The role of innovative design can play an enormous part and should not be overlooked. Green designs offer exciting ways of addressing the problems that we face. I am sorry that the First Secretary is not here to hear that.

Beth all y Cynulliad ei wneud i ddatgysylltu twf economaidd oddi wrth ollyngiadau nwyon tŷ gwydr? Gallwn dargedu trafnidiaeth, gallwn gael effeithlonrwydd diwydiannol ac edrych ar dlodi o safbwynt ynni. Gallwn ddewis technoleg lân, ynni adnewyddadwy, gostwng lefelau traffig a lleihau swmp y gwastraff a gleddir. Mae hynny’n golygu gweithredu ymarferol. Gallwn gefnogi’r Mesur Cartrefi Cynnes, gellir ailgylchu gwastraff yn ei darddiad, gallwn ailddefnyddio ac ailgylchu a defnyddio ynni’r gwynt, yr haul a’r llanw ac ynni dŵr. Mewn adeiladau domestig a masnachol, gall dylunio amgylcheddol olygu’r gwahaniaeth rhwng adeilad anghynaliadwy ac un cynaliadwy. Nid cynyddu’r insiwleiddiad yn unig y mae hynny’n ei olygu. Gall systemau rheoli adeiladau, systemau goleuo ynni isel sydd yn sensitif i symudiadau a dyfeisiau arbed ynni wneud gwahaniaeth, yn enwedig mewn swyddfeydd am eu bod yn llefydd sydd yn defnyddio llawer o ynni. Gall defnydd effeithlon o danwydd gyda gwelliannau o ran taniad, effeithlonrwydd a’r bwyleri sicrhau nad yw systemau gwresogi yn gwastraffu. Mae gorsafoedd gwres a phŵer cyfun yn cynnig manteision cynhyrchu trydan gyda system wresogi leol ar gyfer cartrefi. Gall dylunio arloesol chwarae rhan enfawr ac ni ddylid ei ddiystyru. Mae dylunio gwyrdd yn cynnig ffyrdd cyffrous o fynd i’r afael â’r problemau a wynebwn. Mae’n ddrwg gennyf nad yw’r Prif Ysgrifennydd yma i glywed hynny.

The global implications of climate change means that we cannot afford to be inward looking. We support Christine Humphreys’ amendments 6 and 7 but cannot support her amendment 5 because it seems to argue for a reduction in income tax. If the amendment referred to employment rather than earnings of the individual, we would support it. We will abstain on it. We oppose the Conservative amendments 3 and 8. Although we have grave concerns about the levy’s impact on the Welsh economy, we cannot oppose a levy in principle.

Mae goblygiadau byd-eang newid yn yr hinsawdd yn golygu na allwn fforddio edrych ar i mewn. Cefnogwn welliannau 6 a 7 gan Christine Humphreys ond ni allwn gefnogi gwelliant 5 ganddi am ei fod fel petai yn dadlau am ostyngiad mewn treth incwm. Pe bai’r gwelliant yn cyfeirio at gyflogaeth yn hytrach nag enillion yr unigolyn, byddem yn ei gefnogi. Byddwn yn ymatal arno. Gwrthwynebwn welliannau 3 ac 8 gan y Ceidwadwyr. Er bod gennym bryderon mawr am effaith y dreth ar economi Cymru, ni allwn wrthwynebu treth mewn egwyddor.

I remind you that the National Assembly’s sustainable energy group will be launched tonight at 6 p.m. I hope that Members and interested parties will attend and show their support.

Atgoffaf chi y bydd grŵp ynni cynaliadwy’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei lansio heno am 6 p.m. Gobeithiaf y bydd Aelodau ac eraill sydd â diddordeb yn bresennol i ddangos eu cefnogaeth.

David Davies spoken in English p. 56

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 56

I propose amendment 3. After ‘2010’ delete the words ‘and that it’ and insert

Cynigiaf welliant 3. Ar ôl ‘2010 a’i fod’, ychwaneger

David Davies (continued) spoken in English p. 57

David Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 57

I also propose amendment 8 in the name of Alun Cairns. Add at the end of the motion:

Cynigiaf hefyd welliant 8 yn enw Alun Cairns. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

David Davies (continued) spoken in English p. 57

David Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 57

I congratulate the Secretary on producing a worthy enough document which bursts with good intentions on every page. I read of calls for action to reduce carbon emissions, to promote energy efficiency, encourage recycling, improve air quality and encourage sensible land use. These are some of the many worthy sentiments expressed but not properly and fully addressed by the document. There is a huge divergence between the sentiments expressed and the solutions proposed to tackle the problem of a worsening climate. The solutions such as they are fail to address the problem. They are based on that well-known Labour answer to all problems—to raise taxes. There is a belief that raising taxes alone will be enough to stem the decline in the quality of the climate. That is not the case. One example—[Interruption.] Is this going to be a narrow political point?

Llongyfarchaf yr Ysgrifennydd ar gynhyrchu dogfen ddigon teilwng sydd yn orlawn o fwriadau da ar bob tudalen. Darllenais alwadau am weithredu i ostwng y gollyngiadau carbon, hybu effeithlonrwydd ynni, annog ailgylchu, gwella ansawdd yr aer ac annog defnydd tir synhwyrol. Dyma rai o’r llu o deimladau teilwng a fynegir ond nad eir i’r afael â hwy yn briodol a llwyr yn y ddogfen. Mae bwlch enfawr rhwng y teimladau a fynegir a’r atebion a awgrymir i fynd i’r afael â phroblem y dirywiad yn yr hinsawdd. Nid yw hynny o atebion ag a gynigir yn llwyddo i ymaflyd yn y broblem. Fe’u seilir ar yr ateb cyfarwydd hwnnw gan Lafur i bob problem—codi trethi. Mae cred y bydd codi trethi ynddo’i hun yn ddigon i atal y dirywiad yn ansawdd yr hinsawdd. Nid dyna’r gwirionedd. Un enghraifft— [Torri ar draws.] Ai pwynt gwleidyddol cul sydd gennych?

Brian Gibbons spoken in English p. 57

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 57

No. The climate levy implementation will deal with around 20 to 30 per cent of the particular excess targets that we are trying to achieve. It is not a main instrument as you said. It is a minor instrument.

Nage. Bydd gweithredu’r dreth hinsawdd yn delio ag oddeutu 20 i 30 y cant o’r targedau gollyngiadau penodol yr ydym yn ceisio’u cyflawni. Nid yw’n brif offeryn fel y dywedasoch chi. Offeryn llai yw.

David Davies spoken in English p. 57

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 57

One of the biggest pollutants is carbon. The energy tax will be put on producers of all kinds of energy. Whatever they produce, it will hit producers of clean energy such as gas as much as the more heavily polluting coal. That tax is applied as such across the board and will therefore fail to influence businesses in the types of energy that they use. I suspect that it will also fail to reduce the amount of energy being used. It is being applied across the board. Businesses will increase their prices and possibly continue with previous practices. The only person who will benefit is Gordon Brown, who will no doubt increase the size of his war chest. We have seen the same thing happen with landfill.

Un o’r llygrwyr mwyaf yw carbon. Caiff y dreth ynni ei rhoi ar gynhyrchwyr ynni o bob math. Beth bynnag y maent yn ei gynhyrchu, bydd yn taro cynhyrchwyr ynni glân fel nwy gymaint â glo sydd yn llygru’n drwm. Mae’r dreth yn cael ei chodi drwyddi draw ac ni fydd felly yn llwyddo i ddylanwadu ar fusnesau yn y mathau o ynni a ddefnyddiant. Yr wyf yn amau na fydd ychwaith yn llwyddo i leihau faint o ynni sydd yn cael ei ddefnyddio. Mae’n cael ei chodi ar draws y bwrdd. Bydd busnesau yn codi eu prisiau ac o bosibl yn parhau â’u harferion blaenorol. Yr unig berson a fydd yn elwa fydd Gordon Brown, a fydd mae’n siŵr yn cynyddu maint ei gist ryfel. Gwelsom yr un peth yn digwydd gyda chladdu sbwriel.

Brian Gibbons spoken in English p. 58

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 58

It is—

Mae’n—

David Davies spoken in English p. 58

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

Hang on, I have not yet said whether or not I will give way to you.

Un funud. Nid wyf wedi dweud eto a wnaf i ildio ai peidio ichi.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 58

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 58

Order. Are you giving way?

Trefn. A ydych chi’n ildio?

David Davies spoken in English p. 58

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

Yes.

Ydwyf.

Brian Gibbons spoken in English p. 58

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 58

It is extraordinary that I have had to intervene less than two minutes into David Davies’s speech. If he reads the documents, he will see that the climate levy proposals are neutral in terms of the Exchequer.

Mae’n anhygoel fy mod wedi gorfod ymyrryd lai na dwy funud i mewn i araith David Davies. Pe bai’n darllen y dogfennau, fe wêl fod cynigion y dreth hinsawdd yn niwtral o safbwynt y Trysorlys.

David Davies spoken in English p. 58

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

I have read that a portion of the money taken through that tax will go into schemes to encourage energy efficiency. I am concerned at the use of the terms. I do not believe that every penny will go back. If you consider the landfill tax, the story was very different to that. The tax was introduced to discourage people from using landfill sites. However, if you talk to the experts in local authorities in charge of recycling programmes, you will find that what happens is that every time the cost of disposal in landfill sites rises, the cost to them of recycling waste also increases, because few companies are involved in recycling waste. Levying higher taxes across the board, without putting the money back into schemes to achieve what you are aiming to achieve, is not the answer.

Yr wyf wedi darllen y bydd cyfran o’r arian a gymerir drwy’r dreth yn mynd i mewn i gynlluniau i annog effeithlonrwydd ynni. Yr wyf yn bryderus ynglŷn â’r termau a ddefnyddir. Ni chredaf y bydd pob ceiniog yn mynd yn ôl. Os ystyriwch chi’r dreth claddu sbwriel, yr oedd y stori’n wahanol iawn i hynny. Cyflwynwyd y dreth i annog pobl i beidio â defnyddio safleoedd claddu sbwriel. Fodd bynnag, os siaradwch chi â’r arbenigwyr mewn awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am raglenni ailgylchu, fe glywch mai’r hyn sydd yn digwydd yw bob tro y mae’r gost o waredu i safleoedd claddu sbwriel yn codi, mae’r gost iddynt hwy o ailgylchu gwastraff hefyd yn codi, gan mai prin yw’r cwmnïau sydd yn ymwneud ag ailgylchu gwastraff. Nid codi trethi uwch drwyddi draw, heb roi’r arian yn ôl i gynlluniau i gyflawni’r hyn yr ydych am ei gyflawni, yw’r ateb.

Peter Black spoken in English p. 58

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 58

The landfill tax was introduced by the last Conservative Government. I accept David’s point because the tax is clearly not achieving what it should. The problem is that it was not designed to encourage recycling. Local authorities are not allowed to use the credit directly for recycling. That reform is needed.

Y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf a gyflwynodd y dreth claddu sbwriel. Derbyniaf bwynt David oherwydd mae’n amlwg nad yw’r dreth yn cyflawni’r hyn a ddylai. Y broblem yw na chafodd ei chynllunio i annog ailgylchu. Ni chaniateir i’r awdurdodau lleol ddefnyddio’r credyd yn uniongyrchol ar gyfer ailgylchu. Mae angen newid hynny.

David Davies spoken in English p. 58

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

I agree with you. I am not here to defend the record of the last Conservative Government, but I will say that it did an excellent job. Let us not go into that.

Cytunaf â chi. Nid wyf yma i amddiffyn record y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, ond mi ddywedaf iddi wneud gwaith rhagorol. Na awn ar ôl hynny.

You are right that my point is that the money is not hypothecated. It does not return as credit and therefore is not achieving what it is intended to achieve. It increases the coffers of the Treasury without encouraging better recycling policies. If that is your point, then I agree with you. Punitive taxation is not the answer.

Yr ydych yn iawn mai fy mhwynt i yw nad yw’r arian wedi’i neilltuo. Nid yw’n dychwelyd fel credyd ac nid yw felly’n cyflawni yr hyn y’i bwriadwyd i’w gyflawni. Mae’n chwyddo coffrau’r Trysorlys heb annog gwell polisïau ailgylchu. Os mai dyna eich pwynt, yr wyf yn cytuno â chi. Nid trethu cosbol yw’r ateb.

It would have been beneficial had we considered what is happening in other countries. In Costa Rica, for example, farmers are paid to plant trees on their land. They allow the trees to grow and are given about $10 for every tonne of carbon that those trees would have hypothetically used. That payment is expected to increase. I do not suggest that that is necessarily the answer for Wales, but it is an imaginative approach to the problem. Similar schemes are being established in the United States of America, New Zealand and Australia. It would have been beneficial had we examined such imaginative possible solutions rather than simply levying higher taxes. It would, of course, have meant more hard work from and commitment by various Government departments, as well as less money for the Chancellor’s war chest.

Da o beth fyddai pe baem wedi ystyried yr hyn sydd yn digwydd mewn gwledydd eraill. Yn Costa Rica, er enghraifft, caiff ffermwyr eu talu i blannu coed ar eu tir. Maent yn gadael i’r coed dyfu a rhoddir tua $10 iddynt am bob tunnell o garbon y byddai’r coed hynny wedi’i ddefnyddio yn ddamcaniaethol. Disgwylir i’r taliad hwnnw gynyddu. Nid wyf yn awgrymu mai dyna’r ateb o reidrwydd i Gymru, ond mae’n ymdrin â’r broblem gyda dychymyg. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu sefydlu yn Unol Daleithiau America, Seland Newydd ac Awstralia. Byddai wedi bod yn fuddiol pe baem wedi edrych ar atebion posibl o’r fath sydd yn llawn dychymyg yn hytrach na dim ond codi trethi uwch. Wrth gwrs, byddai wedi golygu mwy o waith caled ac ymroddiad gan amryw o adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â llai o arian i gist ryfel y Canghellor.

Mick Bates spoken in English p. 59

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 59

For your information, David, there are projects in Britain along the lines of those that you described in Costa Rica. I am not familiar with the Costa Rican projects, but you will be pleased to learn that farmers in Yorkshire are already benefiting from taking wood into their local plant. I hope that you will give your support to a similar project that we hope is about to begin in Newbridge-on-Wye.

Er gwybodaeth ichi, David, mae prosiectau ym Mhrydain sydd yn debyg i’r rhai a ddisgrifiwch yn Costa Rica. Nid wyf yn gyfarwydd â phrosiectau Costa Rica, ond byddwch yn falch o glywed bod ffermwyr yn Swydd Efrog eisoes yn elwa o fynd â choed i’w gwaith lleol. Gobeithiaf y rhowch eich cefnogaeth i brosiect tebyg sydd, gobeithio, ar fin dechrau yn y Bontnewydd ar Wy.

David Davies spoken in English p. 59

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

I do not know the details of that scheme. No doubt I will find out about it tonight if I attend the sustainable energy meeting that you have helped to organise.

Ni wn fanylion y cynllun hwnnw. Mae’n siŵr y caf wybod amdano heno os af i’r cyfarfod ynni cynaliadwy yr ydych chi wedi helpu i’w drefnu.

I suggest a combined approach. The Labour Party is fond of soundbites and would no doubt call it joined-up government. I prefer to call it common sense. I will briefly contrast the divergence between principles and commitment in two other matters mentioned in the report. First, on the use of land for housing, there must be a recognition—and I believe that there is one—that building on greenfield sites, apart from being unpleasant for the environment, can affect water tables. I have seen that happen in my constituency. We must discourage building on greenfield sites and encourage development on brownfield sites. The Government has set a target for 60 per cent of new development to be on brownfield sites. It is disappointing that we are not doing the same in Wales. We are not taking this opportunity to show a commitment to the development of brownfield sites.

Yr wyf yn awgrymu ymagwedd gyfunol. Mae’r Blaid Lafur yn hoff o seiniau slic ac mae’n siŵr y byddent hwy yn ei alw’n lywodraeth gydgysylltiedig. Mae’n well gen i ei alw’n synnwyr cyffredin. Hoffwn wrthgyferbynnu’n gryno y bwlch rhwng egwyddorion ac ymrwymiad ar ddau fater arall a grybwyllir yn yr adroddiad. Yn gyntaf, o ran defnyddio tir ar gyfer tai, rhaid cydnabod—a chredaf fod cydnabod—bod adeiladu ar feysydd glas nid yn unig yn annymunol i’r amgylchedd ond yn gallu effeithio ar lefelau trwythiad. Gwelais hynny’n digwydd yn fy etholaeth i. Rhaid inni wrthannog adeiladu ar feysydd glas ac annog datblygu ar feysydd llwyd. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o 60 y cant o ddatblygiadau newydd i’w codi ar feysydd llwyd. Mae’n siom nad ydym ninnau’n gwneud hynny yng Nghymru. Nid ydym yn achub ar y cyfle hwn i ddangos ymrwymiad i ddatblygu meysydd llwyd.

It is pointless to produce wordy documents that call for sensible land use to be included in planning guidance, if other Assembly departments will force local authorities to build on greenfield sites regardless.

Nid oes diben cynhyrchu dogfennau geiriog sydd yn galw am gynnwys defnyddio tir yn ddoeth mewn canllawiau cynllunio, os yw adrannau eraill y Cynulliad yn gorfodi awdurdodau lleol i adeiladu ar feysydd glas beth bynnag.

Earlier, Sue Essex quoted from a poem by John Donne. I recall three lines from a poem by Gerard Manley Hopkins:

Yn gynharach, dyfynnodd Sue Essex o gerdd gan John Donne. Cofiaf innau dair llinell o gerdd gan Gerard Manley Hopkins:

‘O if we but knew what we do When we delve or hew—Hack and rack the growing green!’

Although it was written over 100 years ago, it is relevant to us all today. I thought that you would appreciate that.

Er iddi gael ei hysgrifennu dros 100 mlynedd yn ôl, mae’n dal yn berthnasol inni heddiw. Tybiais y byddech yn gwerthfawrogi hynny.

Alison Halford spoken in English p. 60

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 60

Will you read it again, please?

A wnewch ei darllen eto, os gwelwch yn dda?

David Davies spoken in English p. 60

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 60

I would be happy to give you the whole poem after I have finished my speech.

Byddwn yn falch o roi’r gerdd i gyd ichi ar ôl imi orffen fy araith.

Worthy sentiments are expressed on reducing car use. This is not the place to become parochial, Llywydd. However, as a general example, a village in Monmouthshire has for years been trying to get a speed reduction on the A4042 in Llanover. I am not trying to raise that issue. I will say nothing further about it except that despite the fact that everyone seems to agree that a reduction in the speed limit from 60 to 40 miles per hour would be reasonable, and despite the fact that we are only asking for two signs to be erected, nothing has been done. I have received promises and I know that this is in the pipeline, but we have had one excuse after another. The signs have not been erected. If the Assembly cannot even arrange a few speed limit signs on a trunk road—[Interruption.] If the Assembly Secretary would like to intervene, I would be happy to give way.

Mynegir teimladau teilwng ar leihau’r defnydd o geir. Nid dyma’r lle i fod yn blwyfol, Lywydd. Fodd bynnag, fel enghraifft gyffredinol, mae pentref yn Sir Fynwy wedi bod yn ceisio cael gostyngiad cyflymder ar yr A4042 yn Llanofer ers blynyddoedd. Nid wyf yn ceisio codi’r mater hwnnw. Ni ddywedaf ddim mwy amdano ac eithrio’r ffaith fod pawb fel pe baent yn cytuno y byddai gostwng y cyfyngiad cyflymder o 60 i 40 milltir yr awr yn rhesymol, ac er gwaethaf y ffaith nad ydym ond yn gofyn am godi dau arwydd, nid oes dim wedi’i wneud. Yr wyf wedi derbyn addewidion a gwn fod hyn ar y gweill, ond cawsom un esgus ar ôl y llall. Nid yw’r arwyddion yn eu lle. Os na all y Cynulliad hyd yn oed drefnu ychydig o arwyddion cyfyngiad cyflymder ar gefnffordd—[Torri ar draws.] Os hoffai’r Ysgrifennydd Cynulliad ymyrryd, byddwn yn barod i ildio.

If the Assembly cannot even arrange that, I am not confident that we can change the planet. We want proper solutions which will make a real difference: carbon credit controls, hypothecation of landfill taxes, a greener housing policy and even a speed limit through Llanover. Most importantly, we need the commitment, energy and imagination to carry out these solutions.

Os na all y Cynulliad drefnu hynny hyd yn oed, nid wyf yn hyderus y gallwn newid y blaned. Yr ydym am gael atebion priodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol: mesurau rheoli credyd carbon, trethi claddu sbwriel sydd wedi’u pridiannu, polisi tai gwyrddach a hyd yn oed gyfyngiad cyflymder drwy Lanofer. Yn fwyaf pwysig, mae angen yr ymroddiad, yr egni a’r dychymyg arnom i wireddu’r atebion hyn.

Peter Law spoken in English p. 61

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 61

Will you acknowledge that you have publicly acknowledged that when I was Assembly Secretary with responsibility for transport, I made a decision to bring in proposals for safety measures and speed limits, not only in Llanover but also in Llanellen and Goetre. My colleague Sue Essex carries on that work, which is subject to Gwent Consultancy and has been agreed at £100,000.

A wnewch chi gydnabod eich bod wedi cydnabod yn gyhoeddus i mi, pan oeddwn i yn swydd yr Ysgrifennydd Cynulliad sydd yn gyfrifol am drafnidiaeth, wneud penderfyniad i gyflwyno cynigion ar gyfer mesurau diogelwch a chyfyngiadau cyflymder, nid yn unig yn Llanofer ond hefyd yn Llanellen a Goetre. Mae fy nghyd-Aelod Sue Essex yn parhau â’r gwaith hwnnw, sydd dan gochl Ymgynghoriaeth Gwent ac y cytunwyd arno am £100,000.

David Davies spoken in English p. 61

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 61

I acknowledge that you were open in speaking to me about this and were supportive. I have always publicly acknowledged your help on this. However, although I have your letter, it has not happened yet. There seems to be a delay. I do not blame you for that; it is possibly officials’ fault. However, if it takes so long to introduce a speed limit, how can we be confident that we will be able to change the world overnight? I ask for firmer solutions than those found in this document.

Cydnabyddaf ichi siarad â mi yn agored am hyn a’ch bod yn gefnogol. Yr wyf wedi cydnabod eich help ar hyn yn gyhoeddus erioed. Fodd bynnag, er bod eich llythyr gennyf, nid yw wedi digwydd eto. Ymddengys bod yna oedi. Nid wyf yn eich beio chi am hynny, mae’n bosibl mai bai swyddogion yw. Fodd bynnag, os yw’n cymryd mor hir i gyflwyno cyfyngiad cyflymder, sut y gallwn ni fod yn hyderus y gallwn newid y byd dros nos? Gofynnaf am atebion cadarnach na’r rhai yn y ddogfen hon.

Christine Humphreys spoken in English p. 61

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 61

I propose amendment 5. Add at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 5. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

Christine Humphreys (continued) spoken in English p. 62

Christine Humphreys (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 62

I propose amendment 6. Add at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 6. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

Christine Humphreys (continued) spoken in English p. 62

Christine Humphreys (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 62

I propose amendment 7. At the end of the motion insert:

Cynigiaf welliant 7. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

Christine Humphreys (continued) spoken in English p. 62

Christine Humphreys (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 62

I welcome this opportunity to discuss a pivotal part of Liberal Democrat philosophy. As the Liberal Democrat leader Charles Kennedy said recently, and as others have said, you do not inherit the environment from your parents, you preserve it for your children. The ostrich approach is no longer an option. We cannot bury our heads in the sand and hope that environmental questions will disappear. They will not.

Croesawaf y cyfle hwn i drafod rhan ganolog o athroniaeth y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel y dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, yn ddiweddar, ac fel y mae eraill wedi dweud, nid etifeddu’r amgylchedd oddi wrth eich rhieni a wnewch, ond ei gadw ar gyfer eich plant. Nid yw bod yn estrys yn opsiwn mwyach. Ni allwn gladdu ein pennau yn y tywod a gobeithio y bydd cwestiynau amgylcheddol yn diflannu. Ni wnânt.

The environment has been sadly neglected by politicians in recent years. On too many occasions, environmental concerns have been seen as constraints on economic growth and development. In reality, the reverse applies. Environmental protection is one of the most liberating forces in politics. It broadens choice at all levels. It creates jobs and helps to build a more sustainable and cohesive society. Environmental protection should be at the centre of any liberal democracy.

Mae’r amgylchedd wedi cael ei esgeuluso’n druenus gan wleidyddion dros y blynyddoedd diwethaf. Yn rhy aml, gwelwyd pryderon amgylcheddol fel cyfyngiadau ar dwf economaidd a datblygu. Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sydd yn wir. Mae amddiffyn yr amgylchedd yn un o’r grymoedd mewn gwleidyddiaeth sydd yn dod â’r mwyaf o ryddid yn ei sgîl. Mae’n ehangu dewis ar bob lefel. Mae’n creu swyddi ac yn help i greu cymdeithas fwy cynaliadwy a chydlynol. Dylai gwarchod yr amgylchedd fod wrth galon unrhyw ddemocratiaeth ryddfrydol.

Climate change is an international problem, as Sue said. Multinational co-operation is vital if we are to meet, and perhaps even exceed, the targets set by the Kyoto agreement. Although I welcome the motion’s commitment to working with other UK regions, it fails to recognise the international dimension that environmental action will require if it is to succeed. Also, the motion does not do justice to the role that the Assembly could potentially play in developing domestic and international environmental protection initiatives.

Mae newid yn yr hinsawdd yn broblem ryngwladol, fel y dywedodd Sue. Mae cydweithredu amlwladol yn hanfodol os ydym i gyflawni, ac efallai i ragori ar, y targedau a bennwyd drwy gytundeb Kyoto. Er fy mod yn croesawu’r ymrwymiad yn y cynnig i weithio gyda rhanbarthau eraill y DU, nid yw’n cydnabod y dimensiwn rhyngwladol a fydd yn ofynnol mewn gweithredu amgylcheddol os yw i lwyddo. Hefyd, nid yw’r cynnig yn gwneud cyfiawnder â’r rôl y gallai’r Cynulliad ei chwarae yn natblygiad cynlluniau gwarchod yr amgylchedd domestig a rhyngwladol.

Under the Government of Wales Act 1998, the Assembly is legally bound to promote sustainable development. Today’s debate is a chance to demonstrate that we are serious about fulfilling that obligation. My criticism of the motion lies principally with the fact that it does not indicate how the Assembly proposes to carry out its obligation. We need flesh on the bones and my amendments seek to provide some of that flesh.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r Cynulliad wedi’i rwymo’n gyfreithiol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae’r ddadl heddiw yn gyfle i ddangos ein bod o ddifrif ynglŷn â chyflawni’r rhwymedigaeth honno. Fy meirniadaeth bennaf o’r cynnig yw’r ffaith nad yw’n dangos sut y mae’r Cynulliad yn bwriadu cyflawni ei rwymedigaeth. Mae angen cnawd ar yr esgyrn ac mae fy ngwelliannau i yn ceisio darparu peth o’r cnawd hwnnw.

I have sought to rectify the lack of international perspective by calling for the Assembly to co-operate with the European Union in developing environmental policy initiatives. As a National Assembly, we should look to make an input into the international decision-making process, separate from that of the UK, in recognition of the fact that our environmental concerns may differ from those of other UK regions. Those concerns must be expressed clearly and distinctly in the European forum.

Yr wyf wedi ceisio cywiro’r diffyg persbectif rhyngwladol drwy alw ar y Cynulliad i gydweithredu gyda’r Undeb Ewropeaidd i ddatblygu cynlluniau polisi amgylcheddol. Fel Cynulliad Cenedlaethol, dylem geisio cyfrannu tuag at y broses o wneud penderfyniadau rhyngwladol, sydd ar wahân i broses y DU, i gydnabod y ffaith y gallai ein pryderon amgylcheddol fod yn wahanol i bryderon rhanbarthau eraill yn y DU. Rhaid i’r pryderon hynny gael eu datgan yn glir a phendant yn y fforwm Ewropeaidd.

Wales’s environmental concerns are different. In comparison to other UK regions, Wales has a greater concentration of energy intensive industries. That fact is recognised in the document ‘Climate Change Wales: Learning to Live Differently’, which was issued to Members earlier this year. Therefore, it would be unfair to suggest that Wales should be required to reduce its greenhouse emissions at a rate equal to that of the rest of the United Kingdom. That would impact upon Welsh industry and jobs. I have called for the Assembly to set, monitor and evaluate targets for environmental performance improvements so that they can be placed in the Welsh context in a way that will not pose a threat to Welsh industry or jobs.

Mae pryderon amgylcheddol Cymru yn wahanol. O’i chymharu â rhanbarthau eraill y DU, mae gan Gymru fwy o ddiwydiannau sydd yn ddwys o ran ynni. Cydnabyddir y ffaith honno yn y ddogfen ‘Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru: Dysgu Byw’n Wahanol’, a roddwyd i’r Aelodau yn gynharach eleni. Felly, annheg fyddai awgrymu y dylai fod gofyn i Gymru ostwng ei gollyngiadau nwyon tŷ gwydr ar gyfradd sydd yn cyfateb i weddill y Deyrnas Unedig. Byddai hynny’n effeithio ar ddiwydiant a swyddi yng Nghymru. Yr wyf wedi galw ar y Cynulliad i osod, monitro a gwerthuso targedau ar gyfer gwelliannau o ran perfformiad amgylcheddol fel y gellir eu gosod yng nghyd-destun Cymru mewn ffordd na fydd yn fygythiad i ddiwydiant na swyddi yng Nghymru.

The contribution made by road traffic towards the total greenhouse gas emission is huge. Reducing the volume of traffic on our roads is not easy. The Assembly’s powers are limited with regard to acting in this area. However, we can act in an advisory role by setting clear guidelines with local authorities and assisting them to reduce traffic volumes. The differing circumstances that prevail throughout Wales with regard to road traffic volumes make it appropriate for the local authorities to implement their own strategies to suit local needs. However, guidance is needed from this Assembly to assist them in this task.

Mae’r cyfraniad a wneir gan draffig ar y ffyrdd tuag at gyfanswm y gollyngiadau nwyon tŷ gwydr yn enfawr. Nid yw’n hawdd lleihau swmp y traffig ar ein ffyrdd. Mae pwerau’r Cynulliad i weithredu yn y maes hwn yn gyfyngedig. Fodd bynnag, gallwn weithredu mewn rôl gynghori drwy osod canllawiau clir i awdurdodau lleol a’u cynorthwyo i ostwng lefel y traffig. Mae’r amgylchiadau gwahanol a welir ledled Cymru o ran swmp y traffig ar y ffyrdd yn ei gwneud yn briodol i’r awdurdodau lleol weithredu eu strategaethau eu hunain yn unol ag anghenion lleol. Fodd bynnag, mae angen canllawiau gan y Cynulliad i’w cynorthwyo yn y dasg hon.

On waste management, the current level of landfill in Wales, as a major waste disposal option, is undesirable and unsustainable. Wales is the most wasteful country in Europe. We are beginning to richly deserve that title. We only recycle 5 per cent of our waste; 95 per cent of our municipal waste finds its way into landfill sites across Wales. The resulting methane emissions from decomposing waste contribute significantly towards greenhouse emissions. The releases of carbon dioxide, carbon monoxide and other noxious gases from waste incineration are equally problematic. Both are unsustainable and highly damaging to our environment.

O ran rheoli gwastraff, nid yw’r lefel claddu sbwriel yng Nghymru ar hyn o bryd, fel opsiwn gwaredu gwastraff o bwys, yn ddymunol na chynaliadwy. Cymru yw’r wlad fwyaf gwastraffus yn Ewrop. Yr ydym yn dechrau llawn haeddu’r teitl hwnnw. Nid ydym ond yn ailgylchu 5 y cant o’n gwastraff; mae 95 y cant o’n gwastraff dinesig yn mynd i safleoedd claddu ledled Cymru. Mae’r gollyngiadau methan sydd yn deillio o wastraff yn pydru yn cyfrannu’n sylweddol tuag at ollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r gollyngiadau deuocsid carbon, y monocsid carbon a’r nwyon gwenwynig eraill o losgi gwastraff yr un mor broblemus. Mae’r naill a’r llall yn anghynaliadwy ac yn niweidiol iawn i’n hamgylchedd.

The Assembly’s commitment to producing a waste strategy for Wales that improves the sustainability of waste management is welcomed by the Liberal Democrats. We look forward to the findings of the current research into waste management being presented to the Assembly later this year. However, we believe that to have a truly sustainable waste strategy, recycling must be at its core. Landfill and incineration must be actively discouraged by the Assembly to ensure that sustainability is at the forefront of our approach. Where incineration is the only viable option, mechanisms should be in place to ensure that the energy generated from that incineration is not wasted, but used to generate domestic and industrial energy. My amendment 6 reflects this approach to waste management and I hope that it strikes a chord with other Members in this Chamber.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesawu ymrwymiad y Cynulliad i gynhyrchu strategaeth gwastraff i Gymru sydd yn gwneud y gwaith rheoli gwastraff yn fwy cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at weld canfyddiadau’r ymchwil cyfredol i reolaeth gwastraff yn cael eu cyflwyno i’r Cynulliad yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, er mwyn cael strategaeth gwastraff wir gynaliadwy, credwn fod yn rhaid cael ailgylchu wrth ei chraidd. Rhaid i’r Cynulliad wrthannog claddu a llosgi yn egnïol i sicrhau mai cynaliadwyedd sydd flaenaf yn ein dull gweithredu. Pan mai’r unig opsiwn ymarferol yw llosgi, dylid sefydlu peirianweithiau i sicrhau nad yw’r ynni a gynhyrchir drwy losgi yn cael ei wastraffu, ond ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni domestig a diwydiannol. Mae fy ngwelliant 6 yn adlewyrchu’r agwedd hon tuag at reoli gwastraff a gobeithiaf ei bod yn taro tant gydag Aelodau eraill yn y Siambr hon.

The Liberal Democrats welcomed the Chancellor’s modification to the climate change levy last November as it sent clear signals to the industrial and commercial sectors that carbon emissions must be cut, energy consumption regulated and the environment safeguarded. However, it needs to be based upon the carbon content of the energy consumed and the revenue it raises should be used more effectively in promoting sustainability.

Croesawodd y Democratiaid Rhyddfrydol y newid gan y Canghellor i’r dreth newid yn yr hinsawdd fis Tachwedd diwethaf gan iddo anfon neges glir i’r sectorau diwydiannol a masnachol fod yn rhaid lleihau gollyngiadau carbon, rheoli faint o ynni a ddefnyddir a diogelu’r amgylchedd. Fodd bynnag, mae angen seilio hynny ar gynnwys carbon yr ynni a ddefnyddir a dylid defnyddio’r refeniw y mae’n ei godi yn fwy effeithiol i hyrwyddo cynaliadwyedd.

My amendment 5, asking the Assembly to call upon the UK Government to implement a phased carbon tax to assist in meeting the Kyoto targets, is unashamedly radical. A phased carbon tax would certainly assist Wales and the rest of the United Kingdom in meeting the Kyoto targets. It would seek to shift the burden of taxation away from the individual’s earnings and onto energy consumption. I stress that I do not envisage this applying to petrol, which already bears the brunt of heavy taxation. It is directed specifically towards industry and the consumption of domestic energy. ‘Phased’ is probably a key word as far as carbon tax is concerned. I do not suggest for one moment that this tax would be introduced without warning. This would prove fatal to energy intensive businesses and would increase the problem of fuel poverty among the most vulnerable in our society.

Mae fy ngwelliant 5, sydd yn gofyn i’r Cynulliad alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno treth carbon fesul cam i gynorthwyo i gyflawni targedau Kyoto, yn ddiedifar radical. Yn sicr, byddai treth carbon fesul cam yn cynorthwyo Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig i gyflawni targedau Kyoto. Byddai’n ceisio symud y baich trethu oddi ar enillion yr unigolyn ac i’r ynni a ddefnyddir. Pwysleisiaf nad wyf yn rhagweld cymhwyso hyn i betrol, sydd eisoes yn ysgwyddo treth uchel. Fe’i hanelir yn benodol at ddiwydiant ac at ddefnydd ynni domestig. Mae’n debyg fod ‘fesul cam’ yn derm allweddol cyn belled ag y mae treth carbon yn bod. Nid wyf yn awgrymu am eiliad y dylid cyflwyno’r dreth hon yn ddirybudd. Byddai hynny’n angheuol i fusnesau sydd yn drwm ar ynni a byddai’n cynyddu problem tlodi o safbwynt ynni ymysg y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

By gradually increasing the rate at which the carbon tax would be payable over a period of time, the Government could implement energy saving initiatives, using revenue generated by the carbon tax and provide financial assistance to those industries that will find reducing energy consumption a costly exercise.

Drwy gynyddu’r gyfradd y byddai’r dreth carbon yn daladwy arni yn raddol dros gyfnod o amser, gallai’r Llywodraeth roi cynlluniau arbed ynni ar waith, gan ddefnyddio refeniw a gynhyrchwyd gan y dreth carbon a rhoi cymorth ariannol i’r diwydiannau hynny a fydd yn cael bod gostwng lefel eu defnydd ynni yn ymarferiad costus.

Pollution has a detrimental effect on all of us, but it affects the poor the most. Politicians have ducked the tough questions that need to be answered. They fear that radical environmental policies will impact upon their fortunes at the ballot box. Environmental protection is overwhelmingly more important than short-term electoral gain, and today’s debate is the chance for this Assembly to take the lead and live up to its legal obligations to our environment in Wales. I ask you to show courage and conviction and vote in favour of my amendments.

Caiff llygredd effaith niweidiol ar bawb ohonom, ond mae’n effeithio fwyaf ar y tlodion. Mae gwleidyddion wedi osgoi’r cwestiynau caled y mae angen eu hateb. Ofnant y bydd polisïau amgylcheddol radical yn effeithio ar eu ffawd yn y blychau pleidleisio. Mae gwarchod yr amgylchedd yn aruthrol bwysicach nag enillion etholiadol tymor hir, ac mae’r ddadl heddiw yn gyfle i’r Cynulliad hwn gymryd yr awenau a chadw at ei rwymediaethau cyfreithiol i’n hamgylchedd yng Nghymru. Gofynnaf ichi ddangos dewrder ac argyhoeddiad a phleidleisio o blaid fy ngwelliannau.

Phil Williams spoken in English p. 66

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 66

In my opinion, this is the most important topic that the National Assembly for Wales or any other parliamentary body could discuss. I welcome this debate and the contributions that have been made. It is the overriding imperative of global politics and, for me, it has been the most important single issue since the 1980s, and the issue that brought me back into active politics. It is also the issue that drives my continuing research and I have had the privilege of knowing and working with several of the key scientists in the field. I therefore have an obligation to convey to you today their sense of reasoned, responsible panic.

Yn fy marn i, dyma’r pwnc pwysicaf y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw gorff seneddol arall ei drafod. Croesawaf y ddadl hon a’r cyfraniadau sydd wedi’u gwneud. Dyma’r rheidrwydd pennaf mewn gwleidyddiaeth fyd-eang ac, i mi, hwn fu’r pwnc unigol pwysicaf ers y 1980au, a’r pwnc a ddaeth â mi yn ôl i mewn i wleidyddiaeth weithredol. Dyma hefyd y pwnc sydd yn gyrru fy ymchwil barhaus ac yr wyf wedi cael y fraint o adnabod a gweithio gyda nifer o’r gwyddonwyr allweddol yn y maes. Mae’n rheidrwydd arnaf felly i gyfleu ichi heddiw eu hymdeimlad hwy o banig rhesymegol, cyfrifol.

Since 1958, the exact concentration of carbon dioxide has been measured from Hawaii. It is rising and, despite the warnings, the rate of increase is rising. The average temperature of the earth is rising. For example, 1998 was the hottest year ever recorded, by a considerable margin. The consequences of rising temperature are already apparent.

Ers 1958, mae’r union grynodiad o ddeuocsid carbon wedi’i fesur o Hawäi. Mae’n codi ac, er gwaethaf y rhybuddion, mae cyfradd y cynnydd yn codi. Mae tymheredd y byd ar gyfartaledd yn codi. Er enghraifft, 1998 oedd y flwyddyn boethaf i’w chofnodi erioed, o gryn dipyn. Mae canlyniadau’r cynnydd mewn tymheredd yn amlwg eisoes.

Average sea level and sea temperatures are rising steadily. When sea temperature reaches a trigger point, the flow of energy into the atmosphere increases dramatically, leading to hurricanes. In recent years, Central America has suffered hurricanes of unprecedented ferocity, France has suffered the worst storms in its recorded history, Mozambique has suffered disastrous flooding and, elsewhere, the deserts are spreading. These are not random accidents.

Mae lefel y môr a thymereddau’r môr ar gyfartaledd yn codi’n gyson. Pan fo tymheredd y môr yn cyrraedd pwynt sbardun, mae’r llif egni i’r atmosffer yn cynyddu’n ddramatig, gan arwain at gorwyntoedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Canolbarth America wedi dioddef corwyntoedd ffyrnig na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, mae Ffrainc wedi dioddef y stormydd gwaethaf ers iddi ddechrau cadw cofnodion, mae Mozambique wedi cael llifogydd trychinebus ac, mewn mannau eraill, mae’r diffeithwch yn ymledu. Nid damweiniau ar hap mo’r rhain.

Over the past 25 years, huge efforts have been made to build scientific models of the global climate to predict the effect of increased carbon dioxide with confidence. I want to pay tribute to a Welshman, John Houghton, who has led this work worldwide, as chairman of the scientific committee of the Intergovernmental Panel on Climate Change, and the man primarily responsible for the Rio and Kyoto conferences.

Dros y 25 mlynedd diwethaf, gwnaethpwyd ymdrechion enfawr i lunio modelau gwyddonol o hinsawdd y byd er mwyn darogan effaith cynnydd mewn deuocsid carbon gyda hyder. Hoffwn dalu teyrnged i Gymro, John Houghton, a arweiniodd y gwaith hwn drwy’r byd, fel cadeirydd pwyllgor gwyddonol y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, a’r dyn a fu’n bennaf gyfrifol am gynadleddau Rio a Kyoto.

In the past, the scientific models had to face two puzzling aspects. There were large, unexplained fluctuations in temperature, and also the average temperature increased substantially between 1900 and 1925 when carbon dioxide levels were not rising quickly.

Yn y gorffennol, bu’n rhaid i fodelau gwyddonol wynebu dwy agwedd annealladwy. Yr oedd y tymheredd yn codi a gostwng yn sylweddol heb eglurhad, a hefyd cynyddodd y tymheredd ar gyfartaledd yn sylweddol rhwng 1900 a 1925 pan nad oedd lefelau deuocsid carbon yn codi’n gyflym.

Scientific uncertainty—honest uncertainty—allowed unscrupulous industrialists in the fossil fuel and automobile sectors especially, to claim that man-made global warming was a myth. Their client journalists and politicians echoed the claim and, alas, this is the still the case to some extent in the USA. It was suggested, for instance, that high levels of solar activity were entirely responsible for the high temperatures of the 1980s and 1990s.

Caniataodd ansicrwydd gwyddonol—ansicrwydd gonest—i ddiwydianwyr diegwyddor yn y sectorau tanwydd ffosiledig a cheir yn arbennig, hawlio mai myth oedd cynhesu byd-eang o wneuthuriad dyn. Adleisiodd newyddiadurwyr a gwleidyddion a oedd yn gleientiaid iddynt yr honiad ac, ysywaeth, mae hynny’n dal i ddigwydd i ryw raddau yn UDA. Awgrymwyd, er enghraifft, mae lefelau uchel o weithgaredd heulol oedd yn gyfan gwbl gyfrifol am dymereddau uchel y 1980au a’r 1990au.

Today, if I may wear my other hat as a solar terrestrial physicist, it is fair to state with some confidence that the uncertainties are largely resolved. The large fluctuations are now understood. We now know that the sharp drops in temperature over the past century were all the result of major volcanoes putting dust and aerosols into the atmosphere, which reduced the sunlight for a couple of years.

Heddiw, os caf wisgo fy het arall fel ffisegydd sydd yn arbenigo ar yr haul a’r ddaear, teg yw datgan gyda pheth hyder bod yr ansicrwydd wedi’i ddatrys i raddau helaeth. Mae’r newidiadau mawr wedi’u deall erbyn hyn. Gwyddom fod y gostyngiadau amlwg mewn tymheredd dros y ganrif ddiwethaf i gyd i’w priodoli i folcanoau mawr yn rhyddhau llwch ac erosolau i’r atmosffer, gan dorri i lawr ar olau’r haul am gwpl o flynyddoedd.

The second uncertainty—the increase in the early years of the last century—has also been explained, although there is still an element of controversy. This has answered the crucial question of how much global warming is a result of human activity and how much is the result of changes in the sun. Although it is controversial, this is the area of my research, therefore it is fair to say that changes in the solar and interplanetary magnetic field accounted for much of the increase at the beginning of the century, but that recent increases are almost entirely due to man-made activity.

Mae’r ail ansicrwydd—y cynnydd ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf—hefyd wedi’i egluro, er bod elfen o ddadl o hyd. Mae hyn wedi ateb y cwestiwn holl bwysig o faint o gynhesu byd-eang sydd yn deillio o weithgarwch dyn a faint sydd yn deillio o newidiadau yn yr haul. Er ei fod yn ddadleuol, dyma faes fy ymchwil, felly mae’n deg dweud mai newidiadau ym maes magnetig yr haul a rhwng y planedau oedd i gyfrif am lawer o’r cynnydd ar ddechrau’r ganrif, ond bod y cynnydd diweddar i’w briodoli yn gyfan gwbl bron i weithgarwch o wneuthuriad dyn.

The effect of this is to remove some of the crucial uncertainties, so that we have increasing confidence in the scientific models. The jigsaw is becoming complete. The predictions are more certain and they tend towards the less threatening end of the old, uncertain predictions. However, this can bring us little comfort. One result of the increasing unanimity among scientists has been the Kyoto agreement to cut carbon dioxide emissions by 5 per cent. This is bad news and good news.

Effaith hyn yw gwneud i ffwrdd â pheth o’r hen ansicrwydd, fel bod gennym hyder cynyddol yn y modelau gwyddonol. Mae’r jig-so yn dod yn gyflawn. Mae’r proffwydoliaethau yn fwy cywir ac maent yn tueddu mwy tuag at ben llai bygythiol yr hen broffwydoliaethau ansicr. Fodd bynnag, ni all hyn roi fawr o gysur inni. Un o ganlyniadau’r unfrydedd cynyddol ymysg gwyddonwyr fu cytundeb Kyoto i leihau gollyngiadau deuocsid carbon 5 y cant. Mae hyn yn newydd drwg ac yn newydd da.

First, the bad news. According to the scientific models a cut of 5 per cent is inadequate and will make little difference. The good news is that the Kyoto agreement has established an international framework for tackling the problem, and the optimists—and we must all be optimists—believe that when even the most reactionary governments accept the overwhelming evidence, 5 per cent will become 50 per cent, and a 50 per cent cut will make a difference.

Yn gyntaf, y newydd drwg. Yn ôl y modelau gwyddonol mae toriad o 5 y cant yn annigonol ac ni fydd yn gwneud fawr o wahaniaeth. Y newydd da yw bod cytundeb Kyoto wedi sefydlu fframwaith rhyngwladol ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem, ac mae’r optimistiaid—a rhaid inni gyd fod yn optimistiaid—yn credu y bydd 5 y cant yn mynd yn 50 y cant pan fydd hyd yn oed y llywodraethau mwyaf adweithiol wedi derbyn y dystiolaeth ddiymwad, a bydd toriad o 50 y cant yn gwneud gwahaniaeth.

However, will the change in world opinion occur in time? Once there is universal acceptance that anthropogenic global warming is occurring, the main debate—and partly our debate in Wales—will be between mitigation and adaptation. It will be between those who advocate that our absolute priority is to halt global warming as soon as possible, and those who are unwilling to make drastic cuts in carbon dioxide and argue instead that we should counter the effects of climate change, such as rising sea levels, increased ferocity of storms, more rain in some areas and droughts in others, and the migration of plant and animal species.

Fodd bynnag, a geir newid barn drwy’r byd mewn pryd? Unwaith y bydd pawb yn derbyn bod cynhesu byd-eang anthropogenig yn digwydd, bydd y brif ddadl—a’n dadl ni yng Nghymru yn rhannol—rhwng lliniaru ac addasu. Bydd yn ddadl rhwng y rheini sydd yn cymell mai ein blaenoriaeth absoliwt yw rhoi terfyn ar gynhesu byd-eang cyn gynted â phosibl, a’r rheini sydd yn amharod i wneud toriadau llym mewn deuocsid carbon gan ddadlau yn lle hynny y dylem wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd, fel lefelau’r môr yn codi, stormydd ffyrnicach, mwy o law mewn rhai ardaloedd a sychder mewn mannau eraill, a rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn mudo.

However, those who stress adaptation to climate change at the expense of mitigation are making a fatal mistake by ignoring the likelihood of positive feedback leading to runaway increases. Several feedback mechanisms are already identified. The Arctic icecap is melting and is now only half the thickness that it was 40 years ago. With the Arctic covered by ice, most sunlight near the north pole is reflected back into space but once the icecap disappears that sunlight will be absorbed into an ocean that will heat up further. If the temperature of high latitudes rises beyond a certain level, methane trapped in the tundra will escape. As a greenhouse gas, methane is more powerful than carbon dioxide, which is why landfill disposal of organic waste must become unacceptable.

Fodd bynnag, mae’r rheini sydd yn pwysleisio addasu i newid yn yr hinsawdd ar draul lliniaru yn gwneud camgymeriad tyngedfennol drwy anwybyddu’r tebygrwydd y bydd atborth cadarnhaol yn arwain at gynyddu ar garlam. Eisoes canfuwyd sawl peirianwaith atborth. Mae’r capan rhew Arctig yn ymdoddi ac nid yw ond hanner ei drwch 40 mlynedd yn ôl erbyn hyn. Gyda’r Arctig dan orchudd o rew, mae’r rhan fwyaf o olau’r haul ym mhegwn y gogledd yn cael ei adlewyrchu yn ôl i’r gofod ond unwaith y diflanna’r capan rhew caiff golau’r haul ei sugno i mewn i’r cefnfor a bydd hwnnw yn cynhesu ymhellach. Os cyfyd tymheredd lledredau uchel tu hwnt i lefel benodol, bydd methan sydd wedi’i ddal yn y twndra yn dianc. Fel nwy tŷ gwydr, mae methan yn llawer cryfach na deuocsid carbon, a dyna pam y mae’n rhaid i waredu gwastraff organig drwy ei gladdu ddod yn annerbyniol.

The next stage, reported by the Natural Environment Research Council, will occur when temperature rises and changes in rainfall cause natural deforestation. That is why over-emphasis on adaptation at the expense of mitigation is so dangerous. We must take steps to anticipate the increased flooding and storm damage that will inevitably occur but our priority must be to achieve climate stability as soon as possible, which implies large cuts in our carbon dioxide emissions. That is why energy conservation and renewable energy are so important and why reduction in car and lorry traffic is so urgent.

Ceir y cam nesaf, fel y dangosodd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, pan fydd y tymheredd yn codi a newidiadau o ran glawiad yn achosi datgoedwigo naturiol. Dyna pam y mae gorbwysleisio addasu ar draul lliniaru mor beryglus. Rhaid inni gymryd camau i ragweld y cynnydd anochel mewn llifogydd a difrod stormydd ond rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau sefydlogrwydd yn yr hinsawdd cyn gynted â phosibl, sydd yn golygu toriadau mawr yn ein gollyngiadau deuocsid carbon. Dyna pam y mae cadwraeth ynni ac ynni adnewyddadwy mor bwysig a pham y mae lleihau’r traffig ceir a lorïau yn fater o gymaint o frys.

Having been somewhat apocalyptic, I will end on a positive note. Governments are starting to recognise the urgency of the situation. Soon, the targets of 10 or even 20 per cent cuts in carbon dioxide—which are commendable in that they lead the world—will be forgotten and we will be achieving cuts of 50 per cent. With proper planning, it is technically possible—without discomfort or inconvenience and without any serious dislocation of our overall standard of living—to make such cuts. We must remember that for every crisis, there is an opportunity and the replacement of the spectrum of fossil fuel industries throughout the world by renewable, non-polluting energy industries creates enormous economic opportunities. Wales is ideally placed to pioneer these new industries and to win a significant share of the new global market.

Ar ôl bod braidd yn apocalyptaidd, yr wyf am orffen ar nodyn cadarnhaol. Mae llywodraethau yn dechrau cydnabod brys y sefyllfa. Cyn bo hir, bydd y targedau o doriadau o 10 neu hyd yn oed 20 y cant mewn deuocsid carbon—sydd yn glodwiw am eu bod yn arwain y byd—yn angof a byddwn yn cyflawni toriadau o 50 y cant. Gyda chynllunio priodol, mae’n dechnegol bosibl—heb anghysur nac anhwylustod a heb darfu’n ddifrifol ar ein safon byw gyffredinol—gwneud toriadau o’r fath. Rhaid inni gofio bod pob argyfwng yn dod â chyfle yn ei sgîl ac mae disodli’r sbectrwm o ddiwydiannau tanwydd ffosiledig ledled y byd gyda diwydiannau sydd yn dibynnu ar ynni adnewyddadwy, nad yw’n llygru, yn creu cyfleoedd economaidd enfawr. Mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i arloesi gyda’r diwydiannau newydd hyn ac ennill cyfran arwyddocaol o’r farchnad newydd fyd-eang.

We already have a mature industrial sector for wind energy, hydroelectricity and solar power. We have ideal conditions for wave and tidal power and for biomass generation. Therefore, the Assembly has responsibilities and opportunities. It has a responsibility to draw up a detailed strategic plan for energy conservation and renewable energy and an opportunity to create planning guidelines and rating discrimination to enable those plans to proceed. I give credit to Peter Law for designing the business rating to take this into account.

Mae gennym eisoes sector diwydiannol aeddfed o ran ynni gwynt, trydan dŵr ac ynni’r haul. Mae gennym amodau delfrydol i greu ynni o’r tonnau a’r llanw ac ar gyfer cynhyrchu drwy bio-màs. Felly, mae gan y Cynulliad gyfrifoldebau a chyfleoedd. Mae ganddo gyfrifoldeb i lunio cynllun strategol manwl ar gyfer cadwraeth ynni ac ynni adnewyddadwy a chyfle i greu canllawiau cynllunio a gwahaniaethu trethi er mwyn galluogi’r cynlluniau hynny i fynd rhagddynt. Rhoddaf glod i Peter Law am lunio trethi busnes er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth.

We have the responsibility to encourage a partnership between Government agencies, research laboratories, industry and community enterprise to develop renewable energy and an opportunity to use Objective 1 to support such a partnership. We have the responsibility and opportunity to direct our agencies, such as the Welsh Development Agency, the Countryside Council for Wales and the Environment Agency, to give their full commitment to these aims. That has not always been the case in the past but there are signs that they are giving positive support to our sustainable development aims.

Mae gennym gyfrifoldeb i annog partneriaeth rhwng asiantaethau’r Llywodraeth, labordai ymchwil, diwydiant a mentrau cymunedol i ddatblygu ynni adnewyddadwy a chyfle i ddefnyddio Amcan 1 i gefnogi partneriaeth o’r fath. Mae gennym y cyfrifoldeb a’r cyfle i gyfarwyddo ein hasiantaethau, megis Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, i ymrwymo’n llwyr i’r amcanion hyn. Ni fu hynny’n wir bob amser yn y gorffennol ond mae arwyddion eu bod yn rhoi cefnogaeth gadarnhaol i’n hamcanion datblygu cynaliadwy.

The only area where we do not have direct power is in defining the climate change levy. We welcome the principle but regret the crude way in which it has been levied and the rebate distributed. I hope that our evidence and advice on that—in our own interest in Wales—will modify the way that it is implemented and make it more selective. Therefore, I welcome this debate, the contributions and the fact that, although no single parliament has the power to solve the problem globally, this Assembly, with the exception of the climate change levy, has all the necessary powers to ensure that Wales plays not only its full role but perhaps a leading role. That is my dream.

Yr unig faes lle nad oes gennym rym uniongyrchol yw o ran diffinio’r dreth newid yn yr hinsawdd. Croesawn yr egwyddor ond gresynwn fod y dreth wedi ei chodi a’r ad-daliadau wedi’u dosbarthu gyda chyn lleied o gynildeb. Gobeithiwn y bydd ein tystiolaeth a’n cyngor ar hynny—er ein budd ni yma yng Nghymru—yn newid y ffordd y mae’n cael ei gweithredu ac yn ei gwneud yn fwy dethol. Felly, croesawaf y ddadl hon, y cyfraniadau a’r ffaith, er nad oes unrhyw senedd unigol â’r grym i ddatrys y broblem drwy’r byd, fod gan y Cynulliad hwn, ar wahân i’r dreth newid yn yr hinsawdd, yr holl bwerau sydd yn angenrheidiol i sicrhau bod Cymru yn chwarae nid yn unig ran lawn ond rhan flaenllaw efallai. Dyna fy mreuddwyd.

Richard Edwards spoken in English p. 71

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 71

Thank you, Llywydd, for the opportunity to contribute to this important debate. I welcome the draft climate change programme, ‘Climate Change Wales: Learning to Live Differently’. It provides, for the first time, a strategic focus, which in the longer term can only be good, not only for the environment of Wales, but also for the economy and people of Wales. We must all accept the environmental message and we need to respond to the challenge it presents. Without reductions in emissions of greenhouse gases, there will be severe consequences, especially for the world’s poorest countries, where flooding, famine and drought will compound the already desperate circumstances. We must all do our bit, as the Deputy Prime Minister would say.

Diolch ichi, Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon. Croesawaf y rhaglen drafft ar newid yn yr hinsawdd, ‘Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru: Dysgu Byw’n Wahanol’. Am y tro cyntaf, mae’n cynnig ffocws strategol na all ond bod er lles yn y tymor hwy, nid yn unig i amgylchedd Cymru, ond hefyd i economi a phobl Cymru. Rhaid i bawb ohonom dderbyn y neges amgylcheddol ac mae angen inni ymateb i’r her a ddaw yn ei sgîl. Heb ostyngiadau yn y gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, bydd canlyniadau difrifol, yn enwedig i wledydd tlotaf y byd, lle bydd llifogydd, newyn a sychdwr yn gwneud amgylchiadau sydd eisoes yn dorcalonnus yn waeth fyth. Rhaid i bawb ohonom wneud ein rhan, fel y byddai’r Dirprwy Brif Weinidog yn ei ddweud.

The practical application of this responsibility means that we must share a strategy in partnership with the UK Government, the Scottish Executive and the Department of the Environment in Northern Ireland. There must be a UK-wide response. However, Wales must make its contribution to ensure that the UK goes well beyond the 12.5 per cent target for cutting greenhouse gas emissions under the Kyoto Protocol, as well as achieving the more difficult goal of a 20 per cent cut in carbon dioxide emissions by 2010.

Mae rhoi’r cyfrifoldeb hwn ar waith yn ymarferol yn golygu bod yn rhaid inni rannu strategaeth mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth yr Alban ac Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon. Rhaid wrth ymateb o’r DU gyfan. Fodd bynnag, rhaid i Gymru wneud ei chyfraniad i sicrhau bod y DU yn mynd gryn dipyn y tu hwnt i’r targed o 12.5 y cant ar gyfer torri gollyngiadau nwyon tŷ gwydr o dan Brotocol Kyoto, yn ogystal â chyflawni’r nod anoddach o 20 y cant o ostyngiad mewn gollyngiadau deuocsid carbon erbyn 2010.

The ‘Climate Change Wales: Learning to Live Differently’ document seeks to establish the consensus needed to underpin concerted action on this vital issue. It considers a wide range of policy options for delivering emission reductions and provides a first assessment of the costs, benefits and practicality of target reductions.

Mae’r ddogfen ‘Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru: Dysgu Byw’n Wahanol’, yn ceisio sefydlu’r consensws sydd ei angen yn sail i weithredu cydunol ar y mater holl bwysig hwn. Mae’n ystyried ystod o opsiynau polisi er mwyn sicrhau gostyngiadau yn y gollyngiadau ac mae’n rhoi asesiad cyntaf o gostau, manteision ac ymarferoldeb y gostyngiadau targed.

For the first time ever we have a blueprint for stakeholders in the economy to work together to actively tackle the challenge of global warming. All sectors of the economy must move forward together to generate energy in new, renewable and sustainable ways. The Assembly has a duty to promote sustainable development. That point has been made several times. It is unique in Europe, which gives us a cutting edge role. We are uniquely placed.

Am y tro cyntaf erioed mae gennym lasbrint i’r rhai sydd yn cyfrannu yn yr economi i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael yn egnïol â her y cynhesu byd-eang. Rhaid i bob sector o’r economi symud ymlaen gyda’i gilydd i gynhyrchu ynni mewn ffyrdd newydd, adnewyddadwy a chynaliadwy. Mae gan y Cynulliad ddyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae’r pwynt hwnnw wedi ei wneud droeon. Mae’n unigryw yn Ewrop, sydd yn rhoi rôl arloesol inni. Yr ydym mewn sefyllfa unigryw.

Energy efficiency and conservation are also crucial. In the UK context, I welcome initiatives aimed at improving energy efficiency in the home, with particular help for the elderly and people on low incomes. Similarly, it must be the responsibility of electricity and gas suppliers to encourage and help householders to save energy and cut fuel bills. This clearly must be part of the strategy.

Mae effeithlonrwydd a chadwraeth ynni hefyd yn holl bwysig. Yng nghyd-destun y DU, croesawaf gynlluniau sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref, gyda help arbennig ar gyfer yr henoed a phobl ar incwm isel. Yn yr un modd, rhaid rhoi’r cyfrifoldeb ar gyflenwyr trydan a nwy i annog deiliaid tai i arbed ynni a thorri eu biliau tanwydd. Yn amlwg, mae’n rhaid i hyn fod yn rhan o’r strategaeth.

Others have dwelt on the importance of a waste disposal strategy and an integrated transport system, which, I know, is dear to Sue Essex’s heart. I will not spend too much time on that, but obviously it must be fundamental to our vision. We must have clarity in our objectives and all stakeholders must be clear that carbon credit trading cannot form part of the longer-term solution to cutting greenhouse gas emissions. The way ahead must be renewable energy and energy conservation and efficiency.

Mae eraill wedi mynd ar ôl pwysigrwydd strategaeth gwaredu gwastraff a system drafnidiaeth integredig, sydd, mi wn, yn agos at galon Sue Essex. Ni threuliaf ormod o amser ar hynny, ond yn amlwg mae’n rhaid iddo fod wrth wraidd ein gweledigaeth. Rhaid inni gael eglurder yn ein hamcanion a rhaid i bawb cyfrannog fod yn glir na all masnachu credydau carbon fod yn rhan o’r ateb tymor hwy i dorri gollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Y ffordd ymlaen o reidrwydd yw ynni adnewyddadwy a chadwraeth ac effeithlonrwydd ynni.

Not surprisingly, there has been much discussion about the increasing burden of tax, especially on business. I recognise the effect of costs on business. However, this is primarily a question of equity, both in the short and longer term and we must seek equitable long-term solutions.

Fel y byddid wedi disgwyl, cafwyd llawer o drafod ar y baich trethi cynyddol, yn enwedig ar fusnesau. Cydnabyddaf effaith costau ar fusnes. Fodd bynnag, cwestiwn ynglŷn â chyfiawnder yw hwn yn bennaf, yn y tymor byr a’r tymor hwy, a rhaid inni geisio atebion cyfiawn yn y tymor hir.

As Sue has pointed out, the effect of the climate change levy will be offset by cuts in employer National Insurance contributions and by increased support for energy efficiency schemes.

Fel y dywedodd Sue, gwneir iawn am effaith y dreth newid yn yr hinsawdd gan y toriadau yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a’r cynnydd yn y gefnogaeth ar gyfer cynlluniau effeithlonrwydd ynni.

The message must be that improved environmental management can reduce waste. It can also improve competitiveness as well as protecting the environment. The climate change programme and the issue itself deserve the greatest commitment in accord with our singular responsibility to promote sustainable development in Wales.

Rhaid cyflwyno’r neges y gall gwell rheolaeth amgylcheddol leihau gwastraff. Gall hefyd ein gwneud yn fwy cystadleuol yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd. Mae’r rhaglen newid yn yr hinsawdd a’r pwnc ei hun yn haeddu’r ymroddiad mwyaf yn unol â’n cyfrifoldeb neilltuol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Alun Cairns spoken in English p. 73

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 73

It is fair to say that since our return after the Easter recess, much of the statements, discussions and questions in the Chamber have focused on the problems of manufacturing industries such as the car and steel industries, particularly in Wales, because of our disproportionate dependence on such industries. Some Members sought to curb the debate on such issues earlier in points of order, during my absence from the Chamber.

Mae’n deg dweud bod llawer o’r datganiadau, y trafodaethau a’r cwestiynau yn y Siambr, ers inni ddychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg, wedi canolbwyntio ar broblemau diwydiannau gweithgynhyrchu fel y diwydiannau ceir a dur, yn enwedig yng Nghymru, am ein bod mor ddibynnol ar ddiwydiannau o’r fath. Ceisiodd rhai Aelodau ffrwyno’r ddadl ar faterion o’r fath yn gynharach drwy bwyntiau o drefn, yn ystod fy absenoldeb o’r Siambr.

We have discussed the problems facing exporters in Wales. No one would blame the UK Government completely for the weakness of the euro or the overvalued pound, although it must accept some of the responsibility. I will not repeat the argument on that point or on the additional burdens that have been put on business such as those relating to business rates, extra employment costs and changes in taxation and the additional legislation from Westminster and Brussels. In a presentation last week, Nick Cragg, the managing director of strip products at British Steel, or should I say Corus, said that the cumulative effect of these problems will mean a dire future for our manufacturing industries.

Yr ydym wedi trafod y problemau sydd yn wynebu allforwyr yng Nghymru. Ni fyddai neb yn beio Llywodraeth y DU yn llwyr am wendid yr ewro na gwerth rhy uchel y bunt, er bod yn rhaid iddi dderbyn peth o’r cyfrifoldeb. Nid ailadroddaf y ddadl ar y pwynt hwnnw na’r beichiau ychwanegol sydd wedi’u rhoi ar fusnesau megis y rheini sydd yn deillio o’r trethi busnes, costau cyflogi ychwanegol a newidiadau trethu a’r ddeddfwriaeth ychwanegol o San Steffan a Brwsel. Mewn cyflwyniad yr wythnos diwethaf, dywedodd Nick Cragg, rheolwr gyfarwyddwr cynnyrch stribed Dur Prydain, ynteu a ddylwn i ddweud Corus, y bydd effaith gronnol y problemau hyn yn golygu dyfodol enbyd i’n diwydiannau gweithgynhyrchu.

Wales has a disproportionate dependence on these manufacturing industries. Every action that we take in the Assembly that affects such industries should encourage them rather than add to their running costs. Richard Edwards said that he regretted the additional taxation that is imposed on these industries but that we must take the longer-term view. So many of our debates and discussions have focused on that. I regret to say that many of these industries will not have a long-term view if the costs and burdens continue as they have since the last general election.

Mae Cymru yn orddibynnol ar y diwydiannau gweithgynhyrchu hyn. Dylai pob cam a gymerwn yn y Cynulliad sydd yn effeithio ar ddiwydiannau o’r fath eu hannog yn hytrach nag ychwanegu at eu costau rhedeg. Dywedodd Richard Edwards ei fod yn gresynu at y trethi ychwanegol a roddir ar y diwydiannau hyn ond fod yn rhaid inni edrych ar bethau o safbwynt y tymor hwy. Mae cynifer o’n dadleuon a’n trafodaethau wedi canolbwyntio ar hynny. Mae’n ddrwg gennyf ddweud na fydd gan lawer o’r diwydiannau hyn safbwynt tymor hir os bydd y costau a’r beichiau’n parhau fel y gwnaethant ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.

The energy tax will cost an additional £233 million to the steel industry, £33 million to the water industry and £17 million to the farming industries. These are the burdens with which our industrialists must compete. The Government argues that the energy tax is tax neutral. That is not the case as it discriminates against manufacturers. It moves money from the manufacturing sector into the service sector. It is causing enormous problems and will lead to the export of jobs and the import of pollution.

Bydd y dreth ynni yn costio £233 miliwn ychwanegol i’r diwydiant dur, £33 miliwn i’r diwydiant dŵr ac £17 miliwn i’r diwydiannau ffermio. Dyma’r beichiau y mae’n rhaid i’n diwydianwyr gystadlu â hwy. Mae’r Llywodraeth yn dadlau bod y dreth ynni yn niwtral o ran treth. Nid yw hynny’n wir am ei bod yn camwahaniaethu yn erbyn gweithgynhyrchwyr. Mae’n symud arian o’r sector gweithgynhyrchu i’r sector gwasanaethau. Mae’n creu problemau enfawr a bydd yn arwain at allforio swyddi a mewnforio llygredd.

Brian Gibbons spoken in English p. 74

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 74

I was interested in what Phil Williams said about Hawaii because when I was a kid we used to watch a programme called Hawaii Five-O. Phil was talking about Hawaii CO2. This is an important issue, which demands a global response. People have highlighted the importance of what we can do in Wales but if there is not a concerted international response on this issue we will have endured a lot of pain in Wales for nothing.

Yr oedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd Phil Williams am Hawäi oherwydd pan oeddwn yn blentyn arferwn wylio rhaglen o’r enw Hawaii Five-O. Yr oedd Phil yn sôn am Hawäi CO2. Mae’n fater pwysig, a rhaid wrth ymateb byd-eang. Mae pobl wedi tanlinellu pwysigrwydd yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ond oni cheir ymateb rhyngwladol cydunol ar y mater hwn byddwn wedi dioddef llawer o boen yng Nghymru am ddim rheswm.

Wales contributes 0.1 per cent to greenhouse gases. The United Kingdom contributes 2 to 3 per cent and the United States 25 per cent. As we read in the document on climate change, there is increasing evidence that the United States Congress does not intend to sign up to the Kyoto Protocol. If the United States Government is not prepared to sign up, the radical ideas that Christine Humphreys and others who have proposed amendments today will account for nothing. A major debate continues in the United States about increasing car petrol tax to meet the commitments that were outlined in the Kyoto Protocol. The attitude to this is highlighted in an editorial in The Washington Times. It says that the free flow of energy close to the market is critical for a healthy and vibrant economy and that they would not be in the midst of 10 years’ unprecedented economic growth if it were not for the restraint that they have applied in exercising taxes on fuel.

Mae Cymru’n cyfrannu 0.1 y cant at y nwyon tŷ gwydr. Mae’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu 2 i 3 y cant a’r Unol Daleithiau 25 y cant. Fel y darllenasom yn y ddogfen ar y newid yn yr hinsawdd, mae tystiolaeth gynyddol nad yw Cyngres yr Unol Daleithiau yn bwriadu ymrwymo i Brotocol Kyoto. Os nad yw Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn barod i ymrwymo iddo, ni fydd syniadau radical Christine Humphreys ac eraill sydd wedi cynnig gwelliannau heddiw yn cyfrif dim. Mae dadl fawr yn parhau yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â chynyddu’r dreth ar betrol i gyflawni’r ymrwymiadau a amlinellwyd ym Mhrotocol Kyoto. Amlygir yr agwedd tuag at hyn mewn golygyddol yn The Washington Times. Dywed fod llif dilyffethair o ynni yn agos at y farchnad yn hanfodol i economi iach a bywiog ac na fyddent yng nghanol 10 mlynedd o dwf economaidd nas gwelwyd ei debyg oni bai iddynt fod yn ofalus iawn wrth drethu tanwydd.

Brian Hancock spoken in English p. 74

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 74

Your argument proposes to do nothing. Would not leading by example be a stronger argument? Taking steps in Wales would show the world that we can act to provide and safeguard a future for our children. Therefore, the bigger nations could readily assume this and take it on board.

Mae eich dadl yn awgrymu gwneud dim. Oni fyddai arwain drwy esiampl yn ddadl gryfach? Byddai cymryd camau yng Nghymru yn dangos i’r byd y gallwn weithredu i ddarparu ar gyfer a diogelu dyfodol i’n plant. Felly, hawdd y gallai’r cenhedloedd mwy ysgwyddo hyn ac ymgymryd ag ef.

Brian Gibbons spoken in English p. 74

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 74

I agree. However, the message that I want to convey in my contribution is that the efforts that we are making in Wales and the United Kingdom will count for very little if we do not exercise influence on the United States of America at every opportunity. If that country is not on board, everything else will count for nothing. There is no point for our industries to endure the pain if the United States and other big gas emitting countries are not prepared to sign up to this agreement. That is vital.

Yr wyf yn cytuno. Fodd bynnag, y neges yr wyf am ei chyfleu yn fy nghyfraniad yw na fydd yr ymdrechion a wnawn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn cyfrif fawr iawn oni ddylanwadwn ar Unol Daleithiau America ar bob cyfle. Os nad yw’r wlad honno yn tynnu ei phwysau, bydd popeth arall yn werth dim. Nid oes unrhyw ddiben i’n diwydiannau ddioddef y boen os nad yw’r Unol Daleithiau a’r gwledydd eraill sydd yn gollwng llawer o nwyon yn barod i ymrwymo i’r cytundeb hwn. Mae’n hanfodol.

I have some other points. First, the carbon tax. The parties that expressed concern yesterday about the steel industry must express concern about the implication of the carbon levy for that industry. We cannot say one thing on one day about the steel industry and another thing the next about the implications of the tax. Secondly, the steel industry and industry in general. It would be preferable for the climate levy tax to be introduced on a company basis, and if not on a company basis, at least on an industry-neutral basis, rather than, as Alun Cairns said, across all of the manufacturing industries. If we had a more restricted, better targeted carbon levy tax we would be more successful in achieving our desired objectives.

Mae gennyf rai pwyntiau eraill. Yn gyntaf, y dreth carbon. Rhaid i’r rheini a fynegodd bryder ddoe ynglŷn â’r diwydiant dur fynegi pryder ynglŷn â goblygiadau’r dreth carbon i’r diwydiant hwnnw. Ni allwn ddweud un peth un diwrnod am y diwydiant dur a rhywbeth arall y diwrnod wedyn ynglŷn â goblygiadau’r dreth. Yn ail, y diwydiant dur a diwydiant yn gyffredinol. Byddai’n well pe câi’r dreth hinsawdd ei chyflwyno ar sail cwmnïau, ac os nad ar sail cwmnïau, o leiaf ar sail niwtral i ddiwydiant, yn hytrach nag, fel y dywedodd Alun Cairns, ar draws yr holl ddiwydiannau gweithgynhyrchu. Pe bai gennym dreth carbon fwy cyfyngedig, wedi’i thargedu’n well, byddem yn llwyddo’n well i gyflawni’r amcanion yr ydym yn eu dymuno.

I welcome the document’s commitment that Wales will not be asked to go it alone on this issue. I was concerned with Janet Davies’s contribution about the need for a Wales-only energy strategy. We must hold such a view about Wales, but the best way to solve this problem is on a UK-wide basis.

Croesawaf yr ymrwymiad yn y ddogfen na ofynnir i Gymru weithredu ar ei phen ei hun ar y mater hwn. Yr oeddwn yn bryderus am gyfraniad Janet Davies ynglŷn â’r angen am strategaeth ynni i Gymru’n unig. Rhaid inni feddwl felly am Gymru, ond y ffordd orau o ddatrys y broblem hon yw ar sail y DU gyfan.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 75

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 75

I think that you mean Jocelyn Davies, Brian.

Credaf eich bod yn golygu Jocelyn Davies, Brian.

Janet Davies spoken in English p. 75

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 75

I was just about to say that I have not spoken in this debate.

Yr oeddwn ar fin dweud nad wyf wedi siarad yn y ddadl hon.

Brian Gibbons spoken in English p. 75

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 75

Yes, it was Jocelyn Davies.

Ie, Jocelyn Davies oedd hi.

This is an issue that is better solved on a UK-wide basis. An equitable response is better than an equal response bearing in mind the sensitivities of the type of industrial configuration that we have in Wales.

Mae hwn yn fater y byddai’n well ei ddatrys ar sail y DU gyfan. Mae ymateb cyfiawn yn well nag ymateb cydradd o gofio mor sensitif yw’r math o batrwm diwydiannol sydd gennym yng Nghymru.

Sue Essex spoken in English p. 75

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 75

This has been a good discussion with many good points and ideas. I will start with Phil Williams, who was slightly apocalyptic. I would hate to see him when he is hell-bent on being apocalyptic. I am always interested when Phil stands up to speak because he is the world expert on everything. I expect to hear him during a health debate stand up to say, ‘As a qualified neuro-surgeon’. I recognise, from your passion, that you are an expert on this issue, to which you have a real commitment. If we ever have time during the Assembly’s pressurised schedule, perhaps we could set aside an hour or two to have an academic discussion about this because it is something about which you are extremely knowledgeable.

Bu hon yn drafodaeth dda gyda llawer o bwyntiau a syniadau da. Dechreuaf gyda Phil Williams, a oedd ychydig yn apocalyptaidd. Byddai’n gas gennyf ei weld pan nad oes troi arno rhag bod yn apocalyptaidd. Mae gennyf ddiddordeb bob amser pan fo Phil yn codi i siarad oherwydd mae’n arbenigwr byd-eang ar bopeth. Disgwyliaf ei glywed yn ystod dadl ar iechyd yn sefyll ar ei draed i ddweud, ‘Fel llawfeddyg nerfol’. Sylweddolaf, o’ch angerdd, eich bod yn arbenigwr ar y pwnc hwn, a bod gennych ymrwymiad gwirioneddol iddo. Os byth y bydd gennym amser yn ystod amserlen gywasgedig y Cynulliad, efallai y gallem neilltuo awr neu ddwy i gael trafodaeth academaidd ar hyn oherwydd mae’n rhywbeth yr ydych yn eithriadol o wybodus amdano.

I would like to start with the point about mitigation and adaptation. We must do both. You are right to say that there is no way to hide in adaptation only. That will not deliver the goods. Our responsibility to the people that we represent means that we must do both. Points have been raised about how difficult it is in the early years to make these adjustments in Wales because we have particular problems, as Brian mentioned. It would be unfair if we did not recognise those problems, such as our existing dependence on heavy industry.

Hoffwn ddechrau gyda’r pwynt am liniaru ac addasu. Rhaid inni wneud y ddau. Yr ydych yn iawn i ddweud nad oes ffordd o guddio drwy addasu yn unig. Ni fydd hynny’n mynd â’r maen i’r wal. Mae ein cyfrifoldeb i’r bobl a gynrychiolwn yn golygu bod yn rhaid inni wneud y ddau. Codwyd pwyntiau am ba mor anodd yw hi yn y blynyddoedd cynnar i wneud yr addasiadau hyn yng Nghymru am fod gennym broblemau neilltuol, fel y soniodd Brian. Byddai’n annheg pe na baem yn cydnabod y problemau hynny, megis ein dibyniaeth ar hyn o bryd ar ddiwydiant trwm.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 76

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 76

Derbyniaf eich pwynt ynglŷn â diwydiannau sydd yn ddibynnol ar ynni, megis dur. Mae achos dros drosglwyddo cyfran dda o’r derbyniadau lefi newid hinsawdd i ardaloedd sydd yn ddibynnol ar ddiwydiannau felly. Fodd bynnag, mae’r lefi hwnnw hefyd yn agor cyfleoedd. Bydd twf y sector bio-ynni, er enghraifft, sydd yn cynnig cyfleoedd mawr i ardaloedd gwledig ac a all greu nifer o swyddi, yn cael ei gryfhau gan y lefi newid hinsawdd. Bydd cynhyrchu trydan o’r ffynhonnell honno yn gystadleuol yn erbyn cynhyrchu trydan o ffynonellau confensiynol.

I accept your point regarding industries that are dependent on power, such as steel. There is a case for transferring a good proportion of the climatic change levy receipts to areas that are dependent on such industries. However, that levy also opens up opportunities. The growth of the bio-energy sector, for example, which affords great opportunities to rural areas and which may create a number of jobs, will be strengthened by the climatic change levy. Creating electricity from that source will compete with creating energy from conventional sources.

Sue Essex spoken in English p. 76

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 76

That is right—it is what I was going to move on to. I was spreading the bad news first, because there have been other emphases on waste problems and we have had a high dependency on landfill resulting in our methane problem. You are right that we can be optimistic. If we use that levy imaginatively and negotiate with companies, as Brian mentioned, there are possibilities of making improvements within some of those heavy plants, and we can turn these problems into real opportunities. Jocelyn and your intervention made one point strongly, namely, the scope and potential that we have here in Wales if we get our act together. One key message—I know that you and others will be saying this at 6 p.m. tonight at the launch of the Assembly sustainable energy group—is that we need to have a strong focus on this. I would not necessarily support all you said on the Countryside Council for Wales. We must realise that there are other issues here in terms of landscape quality and nature conservation quality, but if we have produced the right strategy we can reconcile those issues and get ahead.

Mae hynny’n wir—dyna’r hyn yr oeddwn ar fin symud ymlaen ato. Yr oeddwn yn lledaenu’r newyddion drwg i ddechrau, oherwydd rhoddwyd pwyslais fel arall ar broblemau gwastraff ac yr ydym wedi bod yn ddibynnol iawn ar gladdu sbwriel a arweiniodd at ein problem methan. Yr oeddech yn iawn y gallwn fod yn obeithiol. Os defnyddiwn y lefi gyda dychymyg a negodi gyda chwmnïau, fel y soniodd Brian, mae posibilrwydd o wneud gwelliannau oddi mewn i rai o’r gweithfeydd trwm hyn, a gallwn droi’r problemau hyn yn gyfleoedd gwirioneddol. Gwnaeth Jocelyn a’ch ymyriad chi un pwynt yn gryf, sef y lle a’r potensial sydd gennym yma yng Nghymru os cawn drefn ar bethau. Un neges allweddol—gwn y byddwch chi ac eraill yn dweud hyn heno wrth lansio grŵp ynni cynaliadwy’r Cynulliad—yw bod angen inni fod â ffocws cryf ar hyn. Ni fyddwn o reidrwydd yn cefnogi popeth a ddywedoch am Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Rhaid inni sylweddoli bod materion eraill yma yn nhermau ansawdd y tirwedd ac ansawdd cadwraeth natur, ond os ydym wedi cynhyrchu’r strategaeth iawn gallwn gysoni’r materion hynny a symud ymlaen.

One fundamental lesson from this debate is that we need to concentrate on those areas where the Assembly is going forward, to work with our partners and with the UK Government in using that levy to ensure that we take advantage of the available opportunities. On David Davies’s amendment, you never know quite where to start with David—he has gone, so he might not want to hear this. He mentions, as usual, that we are a party that introduces taxation. He seems to have amnesia about the past Tory Government. He does not remember them doing anything nasty or awkward or difficult, but he cannot get away from VAT on fuel—he was around when that was introduced and there was no recompense for that. He says that this is just about taxation, when it is not, there is a whole raft of measures that is in the—

Un wers sylfaenol o’r ddadl hon yw bod angen inni ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae’r Cynulliad yn symud yn ei flaen, i weithio gyda’n partneriaid a chyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r lefi i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael. Ar welliant David Davies, nid ydych byth yn gwybod ymhle i ddechrau gyda David—mae wedi mynd, efallai na fyddai am glywed hyn. Soniodd, fel arfer, ein bod yn blaid sydd yn cyflwyno trethi. Mae fel pe bai wedi colli ei gof am y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf. Nid yw’n eu cofio yn gwneud dim byd cas nac annifyr nac anodd, ond ni all ddianc rhag TAW ar danwydd—yr oedd o gwmpas pan gyflwynwyd hynny ac nid oedd unrhyw iawndal am hynny. Dywed nad yw hyn yn ddim ond mater trethu, ond nid dyna mohono, mae ystod gyfan o fesurau sydd yn—

Glyn Davies spoken in English p. 77

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 77

You say that there was no recompense for that. I specifically remember that when VAT was introduced on fuel there was recompense for all vulnerable people, particularly pensioners. You were not accurate in your statement.

Dywedwch nad oedd unrhyw iawndal am hynny. Cofiaf yn benodol pan gyflwynwyd TAW ar danwydd fod iawndal i bawb a oedd yn agored i niwed, yn enwedig pensiynwyr. Nid oeddech yn gywir yn eich datganiad.

Sue Essex spoken in English p. 77

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 77

I take that point. I was trying to say that this particular tax, of which I believe he was accusing us, is hypothecated and is going back to specifically help industry, both in terms of the national contributions and also with lump sums that are allocated to energy efficiency improvement. The whole scope of the programme is to look at climate change and the problems that we have from a whole raft of issues and policies that need to be put in place. That is the issue—using a whole series of measures, because the issue comes not only from energy use and production, but from what we do in transport, from landfill problems, from the series of problems that we have inherited. That is why we have this composite programme of which there are measures that need to be put in place. Our Welsh waste strategy, which was mentioned by a few people, is important in delivering that.

Derbyniaf y pwynt. Yr oeddwn yn ceisio dweud bod y dreth arbennig hon, y credaf ei fod yn ein cyhuddo ohoni, wedi’i neilltuo a’i bod yn mynd yn ôl yn benodol i helpu diwydiant, yn nhermau’r cyfraniadau gwladol a hefyd gyda swmp daliadau a neilltuir ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni. Holl ddiben y rhaglen yw edrych ar y newid yn yr hinsawdd a’r problemau sydd gennym o safbwynt y llu o faterion a pholisïau y mae angen eu sefydlu. Dyna’r mater dan sylw—defnyddio cyfres gyfan o fesurau, oherwydd mae hyn yn deillio nid yn unig o ddefnyddio a chynhyrchu ynni, ond o’r hyn a wnawn mewn trafnidiaeth, o broblemau claddu sbwriel, o’r gyfres o broblemau yr ydym wedi’u hetifeddu. Dyna pam y mae gennym y rhaglen gyfansawdd hon y mae ynddi fesurau y mae angen eu rhoi ar waith. Mae ein strategaeth gwastraff i Gymru, y cyfeiriodd sawl person ati, yn bwysig er mwyn cyflawni hynny.

Richard’s point—and Jocelyn and Christine may also have mentioned this—on energy efficiency and how that links to our other policies on anti-poverty is extremely important. The money put into home energy efficiency programmes can meet a vast range of our objectives. It is not just about saving energy, it is about helping people make their homes warm and saving them money into the bargain. It is wonderful to have those opportunities to introduce measures that hit a whole series of our objectives. That is important.

Mae pwynt Richard—ac efallai fod Jocelyn a Christine hefyd wedi cyfeirio at hyn—ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni a sut y mae hynny’n cydgysylltu â’n polisïau eraill ar ymladd tlodi yn eithriadol o bwysig. Gall yr arian a roddir i mewn i raglenni effeithlonrwydd ynni yn y cartref gyflawni ystod eang o’n hamcanion. Nid dim ond mater o arbed ynni mohono, mae a wnelo â helpu pobl i wneud eu cartrefi yn gynnes ac arbed arian iddynt yn y fargen. Peth gwych yw cael y cyfleoedd hynny i gyflwyno mesurau sydd yn taro llu o’n hamcanion. Mae hynny yn bwysig.

Alun Cairns mentioned the manufacturing industries. I apologise for talking about him when he is not here. We are aware of the issue of competitiveness. We are not alone in our taxation and our efforts. Other European countries are natural competitors in these areas. Other countries are also putting this into practice. They also signed the Kyoto Protocol. It is important that we recognise that.

Soniodd Alun Cairns am y diwydiannau gweithgynhyrchu. Ymddiheuraf am siarad amdano pan nad yw yma. Yr ydym yn ymwybodol o fater bod yn gystadleuol. Nid ydym ar ein pennau ein hunain gyda’n trethi a’n hymdrechion. Mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn gystadleuwyr naturiol yn y meysydd hyn. Mae gwledydd eraill hefyd yn rhoi hyn ar waith. Maent hwythau wedi ymrwymo i Brotocol Kyoto. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny.

Brian’s last point was about the USA. We know that the USA is the big nut to crack on greenhouse gas emissions and so on. Brian Hancock made the vital point that if we do not do it, we cannot turn around and say that others must also do it. That is an important lesson for us all. In meeting our requirements, we can show an example. It might be difficult. In the process—as Phil said—we will learn and achieve positive gains. That is looking to the future. The short term will be difficult. Looking to the medium and long term, there are positive gains in Wales that will make us competitive and place us at the cutting edge of the way in which we produce energy. That will give us an advantage.

Cyfeiriai pwynt olaf Brian at UDA. Gwyddom fod UDA yn broblem ddyrys o ran gollyngiadau nwyon tŷ gwydr ac ati. Gwnaeth Brian Hancock y pwynt holl bwysig na allwn ni droi rownd a dweud wrth eraill fod yn rhaid iddynt hwy wneud hyn, onid ydym ni yn ei wneud ein hunain. Mae hynny yn wers bwysig i bawb ohonom. Wrth gyflawni ein gofynion, gallwn ddangos esiampl. Efallai y bydd yn anodd. Yn y broses—fel y dywedodd Phil—byddwn yn dysgu ac yn ennill manteision positif. Mae hynny gan edrych tua’r dyfodol. Bydd y tymor byr yn anodd. Ac edrych i’r tymor canolig neu hir, mae manteision positif yng Nghymru a fydd yn ein gwneud yn gystadleuol ac yn ein rhoi ar flaen y maes yn y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ynni. Bydd hynny yn rhoi mantais inni.

I would like to thank everybody who contributed to the debate. As Phil said, it is not a marginal debate—

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Fel y dywedodd Phil, nid dadl ymylol mohoni—

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 79

Gareth Jones spoken in Welsh p. 79

Pa rôl ydych chi’n ei gweld i addysg ac ysgolion yn y rhaglen hon?

What role do you envisage for education and schools in this programme?

Sue Essex spoken in English p. 79

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 79

It is part and parcel of education on the environment and sustainable development. That is why organisations such as the Environment Education Council for Wales are important in delivering that. You are right to emphasise that it is critical for youngsters to understand how important this is for their future. We have a duty to them and they must understand what their responsibilities will be in future years.

Mae’n rhan annatod o addysg am yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy. Dyna pam y mae cyrff fel Cyngor Addysg Amgylcheddol Cymru yn bwysig er cyflwyno hynny. Yr ydych yn iawn i bwysleisio ei bod yn hanfodol fod pobl ifanc yn deall mor bwysig yw hyn i’w dyfodol. Mae gennym ddyletswydd iddynt a rhaid iddynt ddeall beth fydd eu cyfrifoldeb hwy i’r dyfodol.

Gwelliant 1 Jocelyn Davies t. 79

Amendment 1 Jocelyn Davies p. 79

DerbyniwydAdopted O blaidFor 44 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (44)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 2 Jocelyn Davies t. 80

Amendment 2 Jocelyn Davies p. 80

DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 6 Yn erbynAgainst 1

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (6)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Glyn Davies
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (1)
  • William Graham

Gwelliant 3 David Davies t. 81

Amendment 3 David Davies p. 81

GwrthodwydRejected O blaidFor 9 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 43

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (9)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
Yn erbynAgainst (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 4 Jocelyn Davies t. 81

Amendment 4 Jocelyn Davies p. 81

DerbyniwydAdopted O blaidFor 51 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (51)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 5 Christine Humphreys t. 82

Amendment 5 Christine Humphreys p. 82

DerbyniwydAdopted O blaidFor 29 YmatalAbstain 15 Yn erbynAgainst 8

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (29)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams
YmatalAbstain (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers

Gwelliant 6 Christine Humphreys t. 83

Amendment 6 Christine Humphreys p. 83

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 8

Derbyniwyd y gwelliant.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers

Gwelliant 7 Christine Humphreys t. 84

Amendment 7 Christine Humphreys p. 84

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 1

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (1)
  • Glyn Davies

Gwelliant 8 David Davies t. 85

Amendment 8 David Davies p. 85

GwrthodwydRejected O blaidFor 8 YmatalAbstain 6 Yn erbynAgainst 39

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (6)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Michael German
  • Christine Humphreys
  • Jenny Randerson
  • Kirsty Williams
Yn erbynAgainst (39)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 8

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers

Dadl Fer

Short Debate

Pobl Ifanc ac ME

Young People and ME

Lorraine Barrett spoken in English p. 88

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 88

I have been involved with a family in my constituency whose teenage daughter suffers from ME. That young teenager is Tiffany, and she has taken the brave step of coming here today with her mother to listen to the debate. That has taken a superhuman effort on her part, as she is often unable to leave her bedroom let alone her house. Jo, another young ME sufferer, is also here today. She is here with her family and other families with young ME sufferers who, unfortunately, are not well enough to be with us today. Thank you all for making the effort to come here.

Yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â theulu yn fy etholaeth sydd â merch yn ei harddegau sydd yn dioddef o ME. Tiffany yw enw’r ferch ifanc honno, a chymerodd gam dewr i ddod yma heddiw gyda’i mam i wrando ar y ddadl. Bu hynny’n ymdrech eithriadol iddi, gan nad yw’n aml yn gallu gadael ei hystafell wely heb sôn am ei chartref. Rhywun arall sydd yma heddiw yw Jo, dioddefwraig ME ifanc arall. Mae hithau yma gyda’i theulu a theuluoedd eraill sydd â dioddefwyr ME ifanc sydd, yn anffodus, yn rhy sâl i fod yma gyda ni heddiw. Diolch ichi i gyd am ymdrechu i ddod yma.

This week is ME awareness week, and I could not believe my luck when my name was drawn in the ballot for the short debate. I knew then that I had to use this opportunity to highlight the misery caused by this often misunderstood illness.

Wythnos ymwybyddiaeth ME yw’r wythnos hon, ac ni allwn gredu fy lwc pan dynnwyd fy enw allan o’r het ar gyfer y ddadl fer. Gwyddwn bryd hynny fod rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i danlinellu’r dioddefaint a achosir gan yr afiechyd hwn sydd yn cael ei gamddeall yn aml.

I thank Wendy Holloway and Jill Moss of the Association of Youth with ME, known as AYME. I wanted to pronounce it as ‘amy’, rather than ‘aim’, but they said that the boys in the association would not accept that. Esther Rantzen is the president of AYME and I will refer to the association’s work later. Several Assembly Members attended a presentation by AYME during the lunch hour, along with parents and young ME sufferers. It was informative and relevant leaflets are available for Assembly Members.

Diolchaf i Wendy Holloway a Jill Moss o’r Gymdeithas Ieuenctid gydag ME a adwaenir yn AYME. Yr oeddwn eisiau ei ynganu fel ‘amy’, yn hytrach nag ‘aim’, ond yr oeddent yn dweud wrthyf na fyddai’r bechgyn yn y gymdeithas yn derbyn hynny. Esther Rantzen yw llywydd AYME a byddaf yn cyfeirio at waith y gymdeithas yn ddiweddarach. Yr oedd nifer o Aelodau’r Cynulliad yn bresennol mewn cyflwyniad gan AYME yn ystod yr awr ginio, ynghyd â rhieni a dioddefwyr ME ifanc. Cawsom gryn dipyn o wybodaeth ac mae taflenni perthnasol ar gael i Aelodau’r Cynulliad.

I do not feel that it is appropriate to go into the quite complex medical side of ME today. I will use this debate to highlight the effects of the illness and the difficulties that are faced by young ME sufferers and their families. The proper name for ME—this is where my nurse’s training may come in useful—is myalgic encephalomyelitis. It is derived from Greek: myalgic meaning muscle and encephalo meaning brain. It is also described as chronic fatigue syndrome and was originally flippantly and cruelly referred to as yuppie flu.

Nid wyf yn credu y byddai’n addas trafod ochr feddygol eithaf cymhleth ME heddiw. Defnyddiaf y ddadl hon i danlinellu effeithiau’r afiechyd a’r anawsterau a wynebir gan ddioddefwyr ME ifanc a’u teuluoedd. Enw cywir ME—efallai y bydd fy hyfforddiant nyrsio yn ddefnyddiol yn awr—yw enseffalomyelitis myalgig. Daw o’r gair Groegaidd myalgic sydd yn golygu cyhyr ac encephalo sydd yn golygu ymennydd. Caiff ei ddisgrifio hefyd fel syndrom blinder cronig ac yn wreiddiol cyfeiriwyd ato’n ysgafn ac yn greulon fel ffliw yr iypis.

It is only in recent years that ME has been recognised as a serious illness. Young sufferers receive a double whammy. As teenagers, they have to cope with all the pressures that beset healthy young people, let alone those who are ill. They are going through the normal growing up processes that we all went through, such as hormonal changes, difficulties with relationships, including parents, as well as having to deal with social pressures from school and exams. Then they are hit by this cruel illness, causing symptoms such as fatigue, sore throat, joint pain, concentration loss, lack of sleep and poor memory. Some young people have described their symptoms as ‘my legs ache continuously’, ‘my words come out all wrong and I forget what I am saying in the middle of a sentence’. Some say that they cannot concentrate or watch television for more than ten minutes. Any noise is painful and bright lights hurt their eyes. Headaches can sometimes go on for days. In young people, these symptoms can lead to feelings of social isolation, as they simply cannot join in the things that their friends do. They often become depressed, as I am sure that I would.

Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y cydnabuwyd bod ME yn afiechyd difrifol. Mae’r afiechyd ddwywaith yn fwy creulon i ddioddefwyr ifanc. Pan fônt yn eu harddegau, rhaid iddynt ddelio â’r holl bwysau sydd yn wynebu pobl ifanc iach, heb sôn am y rheini sydd yn sâl. Maent yn mynd trwy’r un prosesau arferol o dyfu fyny a gawsom ni i gyd, megis newidiadau hormonaidd, anawsterau gyda’u perthynas â phobl eraill, gan gynnwys rhieni, yn ogystal â gorfod delio â phwysau cymdeithasol yr ysgol ac arholiadau. Yna cânt eu taro gan yr afiechyd creulon hwn sydd yn achosi symptomau megis blinder, dolur gwddw, poen yn y cymalau, methu canolbwyntio, diffyg cwsg a chof gwael. Disgrifiodd rhai pobl ifanc eu symptomau fel ‘mae fy nghoesau’n brifo drwy’r amser’, ‘mae fy ngeiriau’n dod allan o chwith ac yr wyf yn anghofio’r hyn dwi’n ei ddweud ar ganol brawddeg’. Dywed rhai na allant ganolbwyntio na gwylio’r teledu am fwy na deg munud. Mae unrhyw sŵn yn boenus ac mae goleuadau llachar yn brifo eu llygaid. Gall cur yn y pen barhau am ddyddiau weithiau. Ymysg pobl ifanc, gall y symptomau hyn arwain at deimlo unigrwydd cymdeithasol, gan nad ydynt yn gallu ymuno â’r pethau y mae eu ffrindiau’n eu gwneud. Yn aml, maent yn teimlo’n isel, fel yr wyf yn siŵr y byddwn innau hefyd.

At this time of their lives, losing contact with friends and dropping out of their social world can be devastating and can lead to terrible feelings of isolation and insecurity. Therefore, they not only have to cope with feeling ill, they also often lose their friends and suffer educationally because they are not well enough to go to school or college.

Ar yr adeg hon yn eu bywydau, gall colli cysylltiad â ffrindiau a gadael eu byd cymdeithasol fod yn andwyol a gall arwain at deimladau ofnadwy o unigrwydd ac ansicrwydd. Felly, nid yn unig y mae’n rhaid iddynt ddelio â bod yn sâl, maent yn aml yn colli eu ffrindiau a dioddef yn addysgol oherwydd nad ydynt yn ddigon da i fynd i’r ysgol neu i’r coleg.

In the past, children and young people have always had difficulty in getting people to listen to their problems and concerns. The north Wales child abuse inquiry proved that. I hope that things are turning around now, particularly with the Assembly’s commitment to appointing a children’s commissioner for Wales. We must develop a different attitude towards young people. We should listen to them when they are well, but we should listen twice as hard when they are ill.

Yn y gorffennol, câi plant a phobl ifanc anawsterau dro ar ôl tro wrth geisio cael pobl i wrando ar eu problemau a’u pryderon. Yr oedd ymchwiliad cam-drin plant gogledd Cymru yn profi hynny. Gobeithiaf fod pethau yn newid erbyn hyn, yn enwedig gydag ymrwymiad y Cynulliad i benodi comisiynydd plant i Gymru. Rhaid inni ddatblygu agwedd wahanol tuag at bobl ifanc. Dylem wrando arnynt pan fônt yn iach ond dylem wrando arnynt ddwywaith gymaint pan fônt yn sâl.

The problem with ME is that the understanding and treatment of the illness appears to be patchy throughout health authorities, not only in Wales but throughout the UK. A recent report called ‘Speaking Up’, written by Dr Stan Tucker of the Open University and Chris Tatum, a young ME sufferer, is informative. It was funded by the National Lottery Charities Board and compiled by asking young ME sufferers to fill in a questionnaire. Some were also interviewed, including several parents—to gain an insight into how this illness affects the whole family. I hope that Dr Tucker and Chris Tatum do not mind, but I can do no better than use some of the information gathered in their report to highlight the difficulties experienced by young ME sufferers.

Y broblem gydag ME yw bod dealltwriaeth o’r afiechyd a’r driniaeth ar ei gyfer yn ymddangos yn anghyson rhwng yr awdurdodau iechyd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Ysgrifennodd Dr Stan Tucker o’r Brifysgol Agored a Chris Tatum, dioddefwr ME ifanc, adroddiad yn ddiweddar o’r enw ‘Speaking Up’ ac mae’r adroddiad yn llawn gwybodaeth. Fe’i cyllidwyd gan gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ac fe’i lluniwyd drwy ofyn i ddioddefwyr ME ifanc lenwi holiadur. Cafodd rai ohonynt eu cyfweld hefyd, gan gynnwys nifer o rieni—i ganfod sut y mae’r afiechyd yn effeithio ar yr holl deulu. Gobeithiaf na fydd gwahaniaeth gan Dr Tucker a Chris Tatum, ond ni allaf wneud yn well na defnyddio rhywfaint o’r wybodaeth a gasglwyd yn eu hadroddiad i danlinellu’r anawsterau a brofir gan ddioddefwyr ME ifanc.

According to the report, many youngsters experience negativity when they first see their doctor. I am sure that that is not true of the two doctors that we have in the Assembly. I do not want to criticise the medical profession, but it seems that many youngsters have come up against ignorance of the illness among their doctors and nurses. However, the report also lists positive experiences, with youngsters saying thing like, ‘even though my GP did not know anything about ME, she read up on it and listens to me, which helps’. Some youngsters say that they found their child psychologist helpful. However, others report that they had been sent to a psychiatrist and one was even asked whether he heard voices.

Yn ôl yr adroddiad, mae nifer o bobl ifanc yn profi agwedd negyddol pan fônt yn gweld eu meddyg am y tro cyntaf. Yr wyf yn siŵr nad yw hyn yn wir am y ddau feddyg sydd gennym yn y Cynulliad. Nid wyf eisiau beirniadu’r proffesiwn meddygol, ond ymddengys bod nifer o bobl ifanc wedi wynebu anwybodaeth am yr afiechyd ymysg eu meddygon a’u nyrsys. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn rhestru profiadau cadarnhaol, gyda phobl ifanc yn dweud pethau fel, ‘er nad oedd fy meddyg yn gwybod dim byd am ME, darllenodd hi amdano ac mae’n gwrando arnaf, sydd yn help’. Dywed rhai pobl ifanc fod eu seicolegydd plant yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, dywed eraill eu bod wedi cael eu hanfon at seiciatrydd a gofynnwyd i un, hyd yn oed, a oedd yn clywed lleisiau.

There also seems to be a huge variation in the treatment offered to these youngsters. Some ME clinics advocate an aggressive exercise programme which tries to push the youngsters to do more physical activities. It seems to me, from the examples and information I have come across, that young ME sufferers should only do what they feel they can do, because they will become more exhausted if they push themselves too hard and end up feeling worse than when they started.

Ymddengys hefyd fod anghysondeb anferth rhwng y driniaeth a gynigir i’r bobl ifanc hyn. Mae rhai clinigau ME yn argymell rhaglen o ymarfer corff egnïol sydd yn ceisio gwthio’r bobl ifanc i wneud mwy o weithgareddau corfforol. Mae’n fy nharo i, o’r wybodaeth a’r enghreifftiau a welais, na ddylai’r dioddefwyr ME ifanc wneud dim mwy na’r hyn a deimlant sydd o fewn eu gallu, gan y byddant yn blino mwy os ydynt yn gwthio’u hunain yn rhy galed gan deimlo’n waeth yn y pen draw nag oeddent ar y cychwyn.

Young people with ME face two hurdles. One is having to deal with the illness and the other is having to deal with the educational problems that result from their illness. Again, provision is patchy throughout the country. There are examples of some local education authorities not understanding why a pupil cannot attend school, sometimes for a year or even longer. Some parents chose to educate their children at home or are provided with home tutors, some of whom are helpful, but there are some who do not appreciate or cannot cope with the physical and emotional demands of their young pupils. I know of one case where the education authority has virtually forgotten a young ME sufferer, with no contact since the parent decided to teach the child at home herself. I appreciate that there are huge demands on schools, teachers and local education authorities but these young people are at a crucial time in their lives and they could lose out on their education for months and years, some of them never managing to catch up. We must do all we can in the Assembly to ensure that all young ME sufferers in Wales obtain the best education they can, which is suited to their ability, depending on the severity of their illness.

Mae pobl ifanc sydd ag ME yn wynebu dau rwystr. Y cyntaf yw gorfod delio â’r afiechyd a’r ail yw gorfod delio â’r problemau addysgol sydd yn deillio o’u hafiechyd. Unwaith eto, mae’r ddarpariaeth yn anghyson drwy’r wlad. Ceir enghreifftiau o awdurdodau addysg lleol yn methu â deall pam na all disgybl fynychu ysgol, weithiau am flwyddyn neu hyd yn oed yn hwy. Mae rhai rhieni’n dewis dysgu eu plant gartref neu darperir tiwtoriaid cartref iddynt, mae rhai ohonynt yn gymorth, ond nid yw rhai ohonynt yn gwerthfawrogi gofynion corfforol ac emosiynol eu disgyblion ifanc ac nid ydynt ychwaith yn gallu delio â’r gofynion hynny. Gwn am un achos lle mae’r awdurdod addysg, i bob pwrpas, wedi anghofio am y dioddefwr ME ifanc, ac nid ydynt wedi cysylltu â’r teulu ers i’r rhiant benderfynu mynd ati ei hun i ddysgu’r plentyn gartref. Yr wyf yn ymwybodol bod gofynion enfawr ar ysgolion, athrawon ac awdurdodau addysg lleol ond mae hon yn adeg bwysig iawn yn ystod bywydau’r bobl ifanc hyn. Gallant golli eu haddysg am fisoedd a blynyddoedd ac ni all rhai ohonynt fyth ddal i fyny. Rhaid inni wneud popeth sydd o fewn ein gallu yn y Cynulliad i sicrhau bod holl ddioddefwyr ME ifanc Cymru’n cael yr addysg orau a allant, sydd yn briodol i’w gallu, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb eu hafiechyd.

I pay tribute to the work done by AYME, the Association of Youth with ME, which is a lifeline to so many young people. AYME is a UK-wide charity dedicated to supporting young people with ME. It runs entirely on voluntary donations and produces a free newsletter called Cheers, which keeps its young members in touch with each other and also provides medical, psychological and educational advice and information. I am wearing their cheerful badge today, which shows what they are about. I hope this short debate will be the first step to raising public awareness of this cruel illness and that together, through the Assembly’s health and social services and education departments and committees, we can improve the health and well being of so many young people in Wales who suffer from ME. I agreed before the debate to allow Kirsty Williams, David Melding and Dr Dai Lloyd a minute or two each.

Talaf deyrnged i waith AYME, Cymdeithas Ieuenctid gydag ME, sydd yn cynnig achubiaeth i gymaint o bobl ifanc. Mae’r elusen AYME yn gweithio ledled y DU i gefnogi pobl ifanc gydag ME. Caiff ei gynnal yn gyfan gwbl gan gyfraniadau gwirfoddol ac mae’n cynhyrchu cylchlythyr rhad ac am ddim o’r enw ‘Cheers’ sydd yn cadw’i aelodau ifanc mewn cysylltiad â’i gilydd ac sydd hefyd yn rhoi cyngor meddygol, seicolegol ac addysgol a gwybodaeth. Yr wyf yn gwisgo eu bathodyn siriol heddiw, sydd yn dangos beth yw hanfod y gymdeithas. Gobeithiaf y bydd y ddadl fer hon yn gam cyntaf tuag at godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r afiechyd creulon hwn a chyda’n gilydd, drwy adrannau a phwyllgorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac addysg y Cynulliad gallwn wella iechyd a lles cymaint o bobl ifanc Cymru sydd yn dioddef gan ME. Cytunais, cyn y ddadl, i roi munud neu ddwy yr un i Kirsty Williams, David Melding a Dr Dai Lloyd.

Kirsty Williams spoken in English p. 92

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 92

Thank you, Lorraine, for bringing this subject before us today and for your conscientious work in organising the presentation this afternoon which my colleague Jenny Randerson attended. It is hard for us to imagine the difficulties faced by any sufferer of ME but the difficulties faced by young sufferers of ME are increased because of the nature of the disease as Lorraine described it, suffering not only problems within the health system but also problems within the education service.

Diolch ichi Lorraine am gyflwyno’r pwnc hwn ger ein bron heddiw ac am eich gwaith cydwybodol er mwyn trefnu’r cyflwyniad y prynhawn yma, a fynychwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Randerson. Mae’n anodd inni ddychmygu’r anawsterau a wynebir gan unrhyw ddioddefwr ME ond mae’r anawsterau a wynebir gan ddioddefwyr ME ifanc yn fwy byth oherwydd natur yr afiechyd fel y disgrifiodd Lorraine ef, gan ddioddef problemau yn y system iechyd yn ogystal â phroblemau yn y gwasanaethau addysg.

I would like to raise two points that are of particular concern to action for ME. First, patients are often misdiagnosed by medical professionals or have great difficulty in expressing their problems and getting the relevant treatment. There are a range of treatments available for ME sufferers and I have been aware of cases where they have been pushed down a particular route although they would have liked to pursue other options available to them. Second, there is the lack of awareness of ME within minority ethnic communities. I would be interested to hear from Jane what progress is being made following a Liberal-Democrat amendment passed by the Assembly on 25 January that noted the omissions from Assembly health and strategy documents of culturally appropriate health care. What can the Assembly do, not only to raise awareness of ME generally, but in particular to raise awareness within minority ethnic communities? I pay tribute to Lorraine for bringing this important topic to our attention.

Hoffwn godi dau bwynt sydd o bryder penodol wrth weithredu dros ME. Yn gyntaf, mae gweithwyr proffesiynol meddygol yn aml yn rhoi’r diagnosis anghywir i gleifion neu cânt anawsterau mawr i leisio’u problemau a chael y driniaeth berthnasol. Mae amrywiaeth o driniaethau ar gael i ddioddefwyr ME ac yr wyf wedi bod yn ymwybodol o achosion lle cafodd y cleifion eu gwthio ar hyd llwybr penodol er y byddent wedi hoffi dilyn trywydd arall a oedd ar gael iddynt. Yn ail, mae diffyg ymwybyddiaeth o ME mewn cymunedau ethnig lleiafrifol. Byddai diddordeb gennyf glywed gan Jane pa gynnydd sydd ar waith yn dilyn gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol a basiwyd gan y Cynulliad ar 25 Ionawr a nododd fylchau yn nogfennau iechyd a strategaeth y Cynulliad ar ofal iechyd diwylliannol priodol. Beth all y Cynulliad ei wneud, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o ME yn gyffredinol, ond i godi ymwybyddiaeth ohono mewn cymunedau ethnig lleiafrifol yn arbennig? Talaf deyrnged i Lorraine am dynnu ein sylw at y pwnc pwysig hwn.

David Melding spoken in English p. 93

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 93

I am glad that the random ballot could come up with the pleasing result of allowing Lorraine to win during ME week and raise this important subject. I am disappointed that I could not attend the lunchtime function, I had to attend to other duties relating to the Committee that I chair.

Yr wyf yn falch bod dewis enw ar hap wedi arwain at y canlyniad boddhaol mai Lorraine a enillodd yn ystod wythnos ymwybyddiaeth ME i godi’r pwnc pwysig hwn. Yr wyf yn siomedig nad oeddwn yn gallu bod yn bresennol yn y digwyddiad amser cinio, yr oedd rhaid imi gyflawni dyletswyddau eraill a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor yr wyf yn Gadeirydd arno.

Lorraine’s exposition was powerful. It is difficult when a diagnosis is complicated, particularly when it relates to a condition that has a range of effects. As medicine advances we become much better at identifying these complicated conditions and that must continue. However, as ever in medicine, the situation with children is particularly demanding. This goes right across the range. It can be the case with drug research and all the treatments and interventions that we offer—they tend to come from the adult end of the market and are then brought in for children as well, without detailed research sometimes. This can be a concern. The other particular matters that aggravate the condition for children are the ones that were described, particularly education and the whole aspect of going through adolescence, which is itself a complicated time, often making the diagnosis more difficult too. The points about education and the way that they link into health and access to health services have to be taken up by the Health and Social Services Committee and the Pre-16 Education Committee.

Yr oedd traethiad Lorraine yn rymus. Mae’n anodd pan fo diagnosis yn gymhleth, yn enwedig pan y mae’n ymwneud â chyflwr sydd ag amrywiaeth o effeithiau. Wrth i feddygaeth ddatblygu, gallwn adnabod y cyflyrau cymhleth hyn yn well a rhaid i hynny barhau. Fodd bynnag, fel erioed mewn meddygaeth, mae’r sefyllfa gyda phlant yn arbennig o anodd. Mae hyn yn gyffredin ym mhob achos. Gall ddigwydd gydag ymchwil ar gyffuriau a’r holl driniaethau ac ymyriadau a gynigwn—maent yn tueddu i ddod o ochr oedolion y farchnad ac ar ôl hynny cânt eu cyflwyno i blant hefyd, heb ymchwil fanwl weithiau. Gall hyn fod yn destun pryder. Y materion penodol eraill sydd yn gallu gwneud y sefyllfa’n waeth i blant yw’r rheini a ddisgrifiwyd, yn enwedig addysg a’r holl broses o fynd drwy lencyndod, sydd yn gyfnod cymhleth ynddo’i hun, gan wneud y diagnosis hefyd yn anos yn aml. Mae’r pwyntiau ynghylch addysg a’r ffyrdd y maent yn cysylltu ag iechyd a chael gafael ar wasanaethau iechyd yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Addysg Cyn-16.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 93

David Lloyd spoken in Welsh p. 93

Diolchaf innau hefyd i Lorraine Barrett am godi’r pwnc hwn yn ystod wythnos codi ymwybyddiaeth ME. Fel y dywedais yn y cyfarfod amser cinio—nid ailadroddaf y pwyntiau yn ormodol—mae angen codi ymwybyddiaeth o’r clefyd hwn. Mae angen mwy o wybodaeth arnom a llawer mwy o waith ymchwil, oherwydd ar hyn o bryd nid oes gennym, ar yr ochr feddygol, brofion newydd a all brofi a oes ME ar rywun ai peidio. Mae angen triniaethau effeithiol hefyd gan nad oes gennym rai ar hyn o bryd. Mae angen llawer mwy o sylw i’r cyflwr hwn a llawer mwy o waith ymchwil. Dyna bwysigrwydd cael wythnos fel hon i godi ymwybyddiaeth, a phwysigrwydd ymgyrch AYME yw codi ymwybyddiaeth er mwyn hybu ymchwil yn y maes.

I also thank Lorraine Barrett for raising this subject during ME awareness-raising week. As I said at the lunchtime meeting—I will not elaborate too much on the points—we need to raise awareness of this disease. We need more information and far more research work, because currently, on the medical side, we have no tests that can prove whether or not a person is suffering from ME. We also need effective treatments, as we do not have any at present. A great deal more attention needs to be paid to this complaint and far more research is needed. That is the importance of having an awareness-raising week like this, and the importance of AYME’s campaign is raising awareness in order to promote research in this area.

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services spoken in English p. 94

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 94

Thank you Lorraine. I recognise that ME is a distressing, debilitating and disabling condition, affecting people of all ages. It poses a great challenge to health and social care, but also to the wider policy areas of education. It, in fact, affects all aspects of people’s lives. Today, we are looking in particular at children and young people, at all aspects of their lives and life opportunities and those of their families and carers. Sadly, despite a great deal of commitment from professionals, carers, families and voluntary organisations, there are major gaps in our knowledge and understanding of ME and its impact on people’s lives. It is important, therefore, that the Assembly has the opportunity of debating this today. I will take back issues that have come out of the contributions to my Cabinet colleagues, where relevant, and also take note of them in respect of my own responsibilities.

Diolch ichi Lorraine. Gwn fod ME yn gyflwr trallodus, gwanychol ac yn achos anabledd, sydd yn effeithio ar bobl o bob oed. Mae’n gosod her aruthrol i ofal iechyd a chymdeithasol yn ogystal ag i feysydd polisi ehangach addysg. Mewn gwirionedd, mae’n effeithio ar bob agwedd o fywydau pobl. Heddiw, yr ydym yn edrych yn benodol ar blant a phobl ifanc, ar bob agwedd o’u bywydau a’u cyfleoedd mewn bywyd ynghyd â rhai eu rhieni a’u cynhalwyr. Yn anffodus, er gwaethaf llawer iawn o ymrwymiad gan weithwyr proffesiynol, cynhalwyr, teuluoedd a mudiadau gwirfoddol, ceir bylchau mawr yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o ME a’i effaith ar fywydau pobl. Mae’n bwysig felly fod y Cynulliad yn cael cyfle i drafod hyn heddiw. Byddaf yn dweud wrth fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet am y materion sydd wedi deillio o’r cyfraniadau heddiw, lle bo’n berthnasol, a’u nodi hefyd mewn perthynas â’m cyfrifoldebau fy hun.

ME affects many people and their families throughout the world, but because of the problems of definition—Dr Dai Lloyd touched on this—it is hard to determine the actual number of sufferers. It is thought that perhaps two people in every 1000 may have the illness, with numbers peaking in the 20 to 40 age group, but there is probably under-reporting of the illness in some social groups. We know that the condition is more prevalent among women and that it can affect children as young as five. More recently, we have become aware that ME is becoming increasingly common among school-age children, which is of great concern to us. These issues have also been brought to my attention in my constituency.

Mae ME yn effeithio ar lawer o bobl a’u teuluoedd ledled y byd, ond oherwydd y problemau wrth ei ddiffinio—crybwyllodd Dr Dai Lloyd hyn—mae’n anodd pennu’r union nifer o ddioddefwyr. Credir bod efallai ddau berson o bob 1000 yn dioddef gan yr afiechyd, gyda’r nifer yn cyrraedd uchafbwynt yn y grŵp oed rhwng 20 a 40, ond mae’n debyg na chaiff yr holl achosion eu cofnodi mewn rhai grwpiau cymdeithasol. Gwyddwn fod y cyflwr yn fwy cyffredin ymysg menywod ac y gall effeithio ar blant mor ifanc â phump oed. Yn fwy diweddar, yr ydym wedi dod yn ymwybodol bod ME yn dod yn fwy fwy cyffredin ymhlith plant oed ysgol, sydd yn bryder mawr inni. Tynnwyd fy sylw at y materion hyn yn fy etholaeth hefyd.

There is much debate on the causes of ME. I will not go into detail, as that was not the focus of our discussions today. However, it does indicate, as Dai Lloyd said, that we need more research to guide our health practitioners and policies. It is appropriate that Lorraine has raised this in ME awareness week. I thank Tiffany, Jo and all the others who have come here from many different constituencies to listen to this debate. Thank you for coming and sharing your experiences.

Mae llawer o ddadlau ar yr hyn sydd yn achosi ME. Ni wnaf fanylu ar hyn, gan nad hynny yw canolbwynt ein dadl heddiw. Fodd bynnag, dengys, fel y dywedodd Dai Lloyd fod angen mwy o ymchwil arnom ni i arwain ein hymarferwyr iechyd a’n polisïau. Mae’n briodol bod Lorraine wedi codi’r pwnc hwn yn ystod wythnos ymwybyddiaeth ME. Diolchaf i Tiffany, Jo a phawb arall sydd wedi dod yma o nifer o wahanol etholaethau i wrando ar y ddadl hon. Diolch ichi am ddod a rhannu’ch profiadau.

Much research is being carried out on ME. However, it is not enough, as has been indicated. The Government has provided considerable funding and has funded several research and development projects to inform its work on the development of health and social care policy. In Wales, the Wales Office for Research and Development has funded a pilot study for a narrative analysis of patient accounts of chronic fatigue syndrome. Like the Open University report that Lorraine described, that is about listening to children and young people’s experiences. I will return to that point.

Mae llawer o ymchwil yn cael ei wneud ar ME. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon, fel a nodwyd. Mae’r Llywodraeth wedi darparu cyllid sylweddol a chyllido nifer o brosiectau ymchwil a datblygu i oleuo’i waith ar ddatblygu polisi gofal iechyd a chymdeithasol. Yng Nghymru, mae Swyddfa Ymchwil a Datblygu Cymru wedi cyllido astudiaeth beilot ar gyfer dadansoddiad traethiadol o adroddiadau cleifion ar syndrom blinder cronig. Fel adroddiad y Brifysgol Agored a ddisgrifiodd Lorraine, mae hynny’n ymwneud â gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc. Dychwelaf at y pwynt hwnnw.

The difficulty in defining the cause of ME means that there is no single diagnostic test for the condition. That returns to Dai Lloyd’s point. At present, diagnosis hinges largely on the elimination of other possible conditions through a series of tests. It follows that because the causes of ME are not fully understood yet, there is no agreed treatment. That leads to problems in how people receive care and attention.

Mae’r anawsterau wrth ddiffinio’r hyn sydd yn achosi ME yn golygu nad oes un prawf diagnostig penodol ar gyfer y cyflwr. Mae hynny’n mynd yn ôl at bwynt Dai Lloyd. Ar hyn o bryd, mae diagnosis yn dibynnu i raddau helaeth ar ddileu cyflyrau posibl eraill drwy gyfres o brofion. Gan nad ydym yn deall yr hyn sydd yn achosi ME yn llawn eto, nid oes triniaeth y cytunir arni. Mae hynny’n arwain ar broblemau o ran sut y mae pobl yn derbyn gofal a sylw.

What can we, and the NHS in particular, offer ME patients? The symptoms are numerous and vary from one person to another. Suffers usually have chronic fatigue and pain in common. The NHS provides several services to which sufferers from chronic fatigue syndrome and ME have access. Patients are seen within a wide range of hospital specialities and can discuss the options available with their GPs. However, it is also important that they get support, empathy and understanding from their GPs. That is most important in the care of people with ME. Lorraine helpfully revealed this in her discussion of the Open University study. We should learn from good practice based on such studies and from users, carers, and those who have this complex illness.

Beth allwn ni, a’r NHS yn enwedig, gynnig i gleifion ME? Mae’r symptomau’n niferus ac maent yn amrywio rhwng un person a’r llall. Fel arfer un peth sydd yn gyffredin i ddioddefwyr yw blinder cronig a phoen. Mae’r NHS yn darparu nifer o wasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr syndrom blinder cronig ac ME. Caiff cleifion eu gweld mewn nifer fawr o wahanol unedau arbenigol ysbytai a gallant drafod y dewisiadau sydd ar gael gyda’u meddygon teulu. Fodd bynnag, mae’n bwysig hefyd y cânt gefnogaeth, cydymdeimlad a dealltwriaeth gan eu meddygon teulu. Honno yw elfen bwysicaf gofalu am bobl gydag ME. Nododd Lorraine hyn yn ei thrafodaeth ar astudiaeth y Brifysgol Agored ac yr oedd hynny’n ddefnyddiol. Dylem ddysgu o ymarfer da ar sail astudiaethau o’r fath a chan ddefnyddwyr, cynhalwyr a’r rheini sydd â’r afiechyd cymhleth hwn.

Kirsty pointed to the importance of culturally appropriate health care. Minority ethnic groups may feel even more excluded from an understanding of ME. I am glad that the Health and Social Services Committee influenced our guidance on health improvement programmes. We need to ensure that we reach ME in the implementation of those programmes by health authorities. The issue of how people can get the right kind of support from their GPs is critical to what happens next.

Nododd Kirsty bwysigrwydd gofal iechyd diwylliannol priodol. Gall grwpiau ethnig lleiafrifol deimlo eu bod yn cael eu cau allan yn waeth o ddealltwriaeth o ME. Yr wyf yn falch bod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dylanwadu ar ein canllawiau ar raglenni gwella iechyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyrraedd ME wrth roi’r rhaglenni hyn ar waith drwy awdurdodau lleol. Mae’r mater o sut y gall pobl gael y math cywir o gefnogaeth yn hanfodol i’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.

A working group was established by the Department of Health in 1998 to consider providing good practice guidance. That is being taken forward by the Chief Medical Officer for England. We need to ensure that we learn from that group in Wales. The working group comprises health service professionals, academics, patients, carers and representatives of voluntary groups. It is reviewing management and practice in the sector with the aim of producing best practice guidance for professionals, patients and carers to improve the quality of care and treatment. I understand that its work should be completed by summer 2001. However, that is too far away for those here today.

Sefydlodd yr Adran Iechyd weithgor yn 1998 i ystyried darparu canllawiau ymarfer da. Mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr yn dilyn trywydd hynny. Rhaid inni sicrhau ein bod ninnau yng Nghymru’n dysgu gan y grŵp hwnnw. Mae’r gweithgor yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r gwasanaeth iechyd, academyddion, cleifion, cynhalwyr a chynrychiolwyr o grwpiau gwirfoddol. Mae’n adolygu rheolaeth ac ymarfer y sector gyda’r nod o gynhyrchu canllawiau ymarfer gorau i weithwyr proffesiynol, cleifion a chynhalwyr i wella ansawdd gofal a thriniaeth. Gwn y dylai ei waith ddod i ben erbyn haf 2001. Fodd bynnag, mae hynny’n rhy bell i’r rheini sydd yma heddiw.

A sub-group of that working group is considering issues affecting children and young people. We also need to learn from that group. We are closely in touch with the work being carried out by the Department of Health. The issues we have heard about today occur throughout the United Kingdom and the working group’s findings will be a useful resource that we can draw on to improve the quality of our understanding, support and care for people with this distressing and debilitating condition. Our aim must be to provide good and appropriate care for sufferers of ME, which is often a perplexing condition. We must ensure that our knowledge continues to grow and our provision continues to improve.

Mae is-grŵp o’r gweithgor hwnnw’n ystyried materion sydd yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Rhaid inni hefyd ddysgu gan y grŵp hwnnw. Yr ydym mewn cysylltiad agos â gwaith yr Adran Iechyd. Mae’r materion a drafodwyd heddiw i’w gweld ledled y Deyrnas Unedig a bydd casgliadau’r gweithgor yn adnodd defnyddiol y gallwn ei ddefnyddio i wella ansawdd ein dealltwriaeth, cefnogaeth a gofal i’r bobl sydd â’r cyflwr trallodus a gwanychol hwn. Mae’n hanfodol mai ein nod yw darparu gofal da a phriodol i ddioddefwyr ME, sydd yn aml yn gyflwr dyrys. Rhaid inni sicrhau bod ein gwybodaeth yn parhau i dyfu a bod ein darpariaeth yn parhau i wella.

On the wider issues, it is important that we recognise the blight on young life. Lorraine, you eloquently described what it means. Social exclusion and isolation leads to lack of confidence and esteem. Young people lose out on long-term life opportunities in education and social contact. This goes back to David Melding’s point about listening to children and young people about their needs. The Assembly has agreed that listening to children and young people has to be our priority. It is easy to say these things. However, taking on board what children and young people are saying is the test of whether we put it into practice. We must ensure that we in the Assembly know about any local education authorities or schools who are not helpful in terms of education. We must ensure that we note unsatisfactory responses that have been given to children, young people and their parents. Lorraine, you sit on the Pre-16 Education Committee. I am sure that Rosemary Butler would be concerned to hear about this.

Gyda golwg ar y materion ehangach, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr aflwydd ar fywyd ifanc. Lorraine, disgrifiasoch yn huawdl beth yr oedd hynny’n ei olygu. Mae allgáu cymdeithasol ac unigrwydd yn arwain at ddiffyg hyder a hunan barch. Mae pobl ifanc yn colli cyfleoedd bywyd tymor hir mewn addysg a chyswllt cymdeithasol. Mae hyn yn mynd yn ôl at bwynt David Melding ynghylch gwrando ar blant a phobl ifanc a’u hanghenion. Mae’r Cynulliad wedi cytuno bod gwrando ar blant a phobl ifanc yn gorfod bod yn flaenoriaeth inni. Mae’n hawdd dweud hyn. Fodd bynnag, ystyried yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud fydd y llinyn mesur i weld a ydym yn rhoi hyn ar waith ai peidio. Rhaid inni sicrhau ein bod ni yn y Cynulliad yn gwybod am unrhyw awdurdodau addysg lleol neu ysgolion nad ydynt yn cynorthwyo i ddarparu addysg ar eu cyfer. Rhaid inni sicrhau ein bod yn nodi’r atebion anfoddhaol a roddwyd i blant, pobl ifanc a’u rhieni. Lorraine, yr ydych chi’n aelod o’r Pwyllgor Addysg Cyn-16. Yr wyf yn siŵr y byddai Rosemary Butler eisiau clywed am hyn.

In conclusion, I thank Lorraine for drawing attention to the important work of the voluntary sector in this respect, which is leading the way and educating us. In the Assembly, we take that strongly on board. We consult with the voluntary sector and we want to learn from the voluntary sector as well as put money into the research and provision. In this instance, we are supporting people with ME, particularly children and young people.

I gloi, diolchaf i Lorraine am dynnu ein sylw at waith pwysig y sector gwirfoddol yn hyn o beth, sydd yn arwain y ffordd ac yn ein haddysgu. Yn y Cynulliad, yr ydym yn ystyried hynny’n ofalus. Yr ydym yn ymgynghori â’r sector gwirfoddol ac yr ydym eisiau dysgu gan y sector gwirfoddol yn ogystal â chyllido’r ymchwil a’r ddarpariaeth. Yn yr achos hwn, yr ydym yn cefnogi pobl gydag ME, yn enwedig plant a phobl ifanc.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 97

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 97

Dyna ddiwedd y ddadl ar bwnc pwysig. Diolch i’r Aelodau am eu cyfraniad. Daw hynny â gweithgareddau heddiw i ben. Diolch am eich cydweithrediad.

That is the end of the debate on an important subject. I thank Members for their contribution. That brings today’s proceedings to an end. Thank you for your co-operation.

Daeth y sesiwn i ben am 5.26 p.m.

The session ended at 5.26 p.m.