Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Iau 9 Mai 2002

Thursday 9 Mai 2002

DechreuoddMet 09:05 · Daeth i benRose 12:33

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Gohirio’r Cyfarfod LlawnSuspension of the Plenary Session 1 bleidlais1 vote
  2. 4Cymeradwyo Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-4Approval of the Planning Decision Committee 2002-4 1 bleidlais1 vote
  3. 6Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau CymdeithasolQuestions to the Minister for Health and Social Services
    1. 6Esgeulustod ClinigolClinical Negligence
    2. 7‘Your Contract, Your Future’
    3. 8Defnyddio Cyfleusterau Preifat ac Annibynnol wrth Gyflwyno Gwasanaethau’r GIGUse of Private and Independent Facilities in Delivering NHS Services
    4. 9Strategaeth Amseroedd ArosWaiting Times Strategy
    5. 10Triniaeth Ddeintyddol y GIGNHS Dental Treatment
    6. 12Ysgolion Clinigol NewyddNew Clinical Schools
    7. 14Gofal Cleifion CanserCare for Cancer Patients
  4. 16Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol OesQuestions to the Minister for Education and Lifelong Learning
    1. 16Cymorth mewn Ysgolion ar gyfer Plant â DyslecsiaSupport for Dyslexic Children in Schools
    2. 18Cwynion yn erbyn AthrawonComplaints against Teachers
    3. 20Cyfle Cyfartal yn y Ddarpariaeth Addysg GynraddEqual Opportunities in Primary Education Provision
    4. 22Cyflenwad a Galw mewn Addysg Uwch Cyfrwng CymraegSupply and Demand in Welsh-medium Higher Education
    5. 23‘Capasiti Ymchwil Addysgol yng Nghymru’‘Educational Research Capacity in Wales’
    6. 25Polisi Ysgolion GwledigRural Schools Policy
  5. 27Cynllun Gweithredu Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad CymruThe Welsh Assembly Government’s Childcare Action Plan 2 o bleidleisiau2 votes
  6. 49Dadl Plaid Leiafrifol (Y Blaid Geidwadol)Minority Party Debate (The Conservative Party) 4 o bleidleisiau4 votes
    1. 49Cyfarfod Llawn yn y GogleddPlenary in North Wales 4 o bleidleisiau4 votes
  7. 81Anerchiad gan Jan Olbricht, Marsial Silesia, Gwlad PwylAddress by Jan Olbricht, the Marshal of Silesia, Poland
  8. 87Dadl FerShort Debate
    1. 87Cael Gafael ar Wasanaethau Iechyd yn y Gymru WledigAccess to Health Services in Rural Wales

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Gohirio’r Cyfarfod LlawnSuspension of the Plenary Session
Cynnig NDM1048Motion NDM10483800DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-4Approval of the Planning Decision Committee 2002-4
Cynnig NDM1046Motion NDM10464000DerbyniwydAdopted
Cynllun Gweithredu Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad CymruThe Welsh Assembly Government’s Childcare Action Plan
Cynnig NDM1045Motion NDM104581133GwrthodwydRejected
Cynnig NDM1045Motion NDM10455200DerbyniwydAdopted
Cyfarfod Llawn yn y GogleddPlenary in North Wales
Gwelliant 1Amendment 131210DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 25300DerbyniwydAdopted
Gwelliant 3Amendment 323030GwrthodwydRejected
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion4490DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 9.05 a.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 9.05 a.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Gohirio’r Cyfarfod Llawn

Suspension of the Plenary Session

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Ni chynhelir dadl ar y cynnig hwn.

This motion is not subject to debate.

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in Welsh p. 3

Cynigiaf fod

I propose that

Cynnig NDM1048 Carwyn Jones t. 3

Motion NDM1048 Carwyn Jones p. 3

DerbyniwydAdopted O blaidFor 38 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (38)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cymeradwyo Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-4

Approval of the Planning Decision Committee 2002-4

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 4

Ni chynhelir dadl ar y cynnig hwn.

This motion is not subject to debate.

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in Welsh p. 4

Cynigiaf fod

I propose that

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business (continued) spoken in Welsh and English p. 4

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 4

Atodlen

yn Saesneg Schedule

Cais wedi’i alw i mewn a wnaed gan Renewable Energy Systems Ltd mewn perthynas â datblygu fferm wynt 17 tyrbin ym Mynydd Clogau, Adfa, Powys.

in Welsh Called-in application by Renewable Energy Systems Ltd for proposed development of a 17 turbine windfarm at Mynydd Clogau, Adfa, Powys.

Ceisiadau wedi’u galw i mewn a wnaed gan National Windpower Cyf am fferm wynt 42 tyrbin yng Nghwm Llwyd, Carno, Powys, ac am fan caeëdig ar gyfer is-orsaf, adeilad rheoli a gwaith cysylltiedig ger Cefn-brith, Carno, Powys.

in Welsh Called-in applications by National Windpower Ltd for proposed 42 turbine windfarm at Cwm Llwyd, Carno, Powys and for proposed substation compound, control building and associated works near Cefn Brith, Carno, Powys.

Apêl gynllunio gan Powergen Renewables Cyf mewn perthynas â bwriad i ddatblygu fferm wynt 16 tyrbin yn Nant Carfan, Llanbryn-mair, Powys.

in Welsh Planning appeal by Powergen Renewables Ltd for proposed development of a 16 turbine windfarm at Nant Carfan, Llanbrynmair, Powys.

Cais wedi’i alw i mewn a wnaed gan Mr A.J. Nolan am annedd amaethyddol newydd yn Woodlands, Forest Lodge, Libanus, Powys.

in Welsh Called-in application by Mr A.J. Nolan for a new agricultural dwelling at Woodlands, Forest Lodge, Libanus, Powys.

Cynnig NDM1046 Carwyn Jones t. 5

Motion NDM1046 Carwyn Jones p. 5

DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
  • Mick Bates
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Questions to the Minister for Health and Social Services

Esgeulustod Clinigol

Clinical Negligence

Q1 Janet Davies spoken in English p. 6

C1 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

Is there any progress in controlling the number of clinical negligence cases? (OAQ17376)

A gafwyd unrhyw ddatblygiadau pellach o ran rheoli nifer yr achosion o esgeulustod clinigol? (OAQ17376)

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 6

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 6

As indicated in the response to the Audit Committee’s report on clinical negligence, the Assembly has developed Welsh risk management standards for the NHS in Wales, and we monitor each trust’s performance against these standards. In addition, we are establishing a national patient safety agency, which will record adverse incidents across Wales.

Fel y nodwyd yn yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar esgeulustod clinigol, mae’r Cynulliad wedi datblygu safonau rheoli risg Cymreig ar gyfer y GIG yng Nghymru, ac yr ydym yn monitro perfformiad pob ymddiriedolaeth yn ôl y safonau hyn. Yn ogystal â hynny, yr ydym yn sefydlu asiantaeth diogelwch cleifion genedlaethol, a fydd yn cofnodi digwyddiadau anffafriol ledled Cymru.

Janet Davies spoken in English p. 6

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

One of the most distressing aspects of clinical negligence is the amount of time that passes and trauma that claimants suffer before they get a settlement. Has progress been made in moving towards a less stressful and traumatic procedure by settling out of court wherever possible? What percentage of cases are now settled out of court?

Un o’r agweddau mwyaf gofidus ar esgeulustod clinigol yw’r amser sy’n mynd heibio a’r trawma y mae’r hawlwyr yn ei brofi cyn setliad. A gafwyd cynnydd tuag at weithdrefn lai ingol a thrawmatig drwy setlo y tu allan i’r llys lle bynnag y bo modd? Pa ganran o’r achosion sy’n cael ei setlo y tu allan i’r llys erbyn hyn?

Jane Hutt spoken in English p. 6

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 6

I agree that how we support people through this stressful experience is important. Our record on the time taken to settle claims in Wales is better than that in England, but it still takes too long. Our record is four years, whereas in England it takes five or more years. We are moving towards structured settlements. I cannot give you the percentage today, but I will write to you with that information. This needs to be linked to our work on ensuring that adverse patient incidents are recorded and our complaints systems improved.

Cytunaf fod y modd yr ydym yn cynorthwyo pobl yn ystod y profiad ingol hwn yn bwysig. Mae ein record o ran yr amser a gymerir i setlo hawliadau yng Nghymru’n well nag yn Lloegr, ond mae’n rhy hir er hynny. Pedair blynedd yw ein record ni, tra cymer bum mlynedd neu ragor yn Lloegr. Yr ydym yn symud at setliadau strwythuredig. Ni allaf roi’r ganran ichi heddiw, ond fe ysgrifennaf atoch gyda’r wybodaeth honno. Rhaid cysylltu hyn â’n gwaith ar sicrhau y caiff digwyddiadau anffafriol eu cofnodi ac ar wella’n systemau cwyno.

David Davies spoken in English p. 6

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

Is it any wonder that the number of clinical negligence cases is rising, considering that money is being diverted away from front-line services? Do you know that your advertising budget has increased from around £250,000 to £650,000 in just two years? Would that money not have been better spent on front-line services?

Pa ryfedd bod nifer yr achosion o esgeulustod clinigol yn codi, o ystyried bod arian yn cael ei ailgyfeirio oddi wrth wasanaethau rheng flaen? A wyddoch fod eich cyllideb hysbysebu wedi codi o tua £250,000 i £650,000 o fewn dim ond dwy flynedd? Oni fuasai’n well gwario’r arian hwnnw ar wasanaethau rheng flaen?

Jane Hutt spoken in English p. 7

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 7

I am not sure what that has to do with the Welsh Risk Management Pool or the Welsh risk management standards, to which Janet’s question clearly related. It is important that we ensure that money that should be spent on front-line services is not spent on clinical negligence claims, by improving clinical governance in the national health service in Wales.

Nid wyf yn sicr beth sydd a wnelo hynny â Chronfa Rheoli Risg Cymru neu’r safonau rheoli risg Cymreig, sef yr hyn a oedd dan sylw yng nghwestiwn Janet. Mae’n bwysig inni sicrhau nad yw arian a ddylai gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen yn cael ei wario ar hawliadau esgeulustod clinigol, drwy wella llywodraethu clinigol yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 7

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

Question 2 (OAQ17326) has been withdrawn.

Mae cwestiwn 2 (OAQ17326) wedi’i dynnu’n ôl.

‘Your Contract, Your Future’

Q3 William Graham spoken in English p. 7

C3 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 7

Will the Minister make a statement concerning the British Medical Association proposals contained in the ‘Your Contract, Your Future’ document? (OAQ17358)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynigion Cymdeithas Feddygol Prydain yn y ddogfen ‘Your Practice, Your Future’? (OAQ17358)

Jane Hutt spoken in English p. 7

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 7

‘Your Contract, Your Future’ is a consultation document published by the BMA. It sets out the BMA’s views on the NHS Confederation’s proposals for a new UK contract for general practitioners. The confederation is acting as the negotiating agent for the four UK Health Ministers. The new contract aims to modernise general practice for the benefit of both patients and doctors.

Mae ‘Your Contract, Your Future’ yn ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain. Mae’n nodi barn Cymdeithas Feddygol Prydain am gynigion Cydffederasiwn y GIG am gontract newydd yn y DU i ymarferwyr cyffredinol. Mae’r cydffederasiwn yn gweithredu fel asiant negodi ar ran pedwar Gweinidog Iechyd y DU. Bwriad y contract newydd yw moderneiddio gwaith ymarferwyr cyffredinol er budd y cleifion a’r meddygon.

William Graham spoken in English p. 7

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 7

Will you outline what measures you will take to address the urban-rural divide that may arise from these proposals?

A wnewch chi ddisgrifio’r camau a gymerwch i roi sylw i’r rhaniad a allai ddeillio rhwng ardaloedd gwledig a threfol o ganlyniad i’r cynigion hyn?

Jane Hutt spoken in English p. 7

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 7

The proposals are still being consulted upon. The BMA is holding consultation meetings throughout Wales and will discuss the framework of these proposals with general practitioners in Wales. We will then consider the proposals in terms of taking them forward for negotiating and costing purposes. However, it is clear that all general practitioners in Wales must be engaged in that process.

Mae’r ymgynghori ar y cynigion yn parhau. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru a bydd yn trafod fframwaith y cynigion hyn gyda’r ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru. Wedyn byddwn yn ystyried y cynigion o ran eu dwyn ymlaen i ddibenion negodi a phrisio. Fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd yn rhaid cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru yn y broses honno.

Defnyddio Cyfleusterau Preifat ac Annibynnol wrth Gyflwyno Gwasanaethau’r GIG

Use of Private and Independent Facilities in Delivering NHS Services

Q4 David Melding spoken in English p. 8

C4 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 8

Will the Minister make a statement on the use of private and independent facilities in delivering NHS services? (OAQ17311)

A allai’r Gweinidog wneud datganiad ar ddefnyddio cyfleusterau preifat ac annibynnol wrth gyflwyno gwasanaethau’r GIG? (OAQ17311)

Jane Hutt spoken in English p. 8

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 8

The Welsh Assembly Government’s preference is for NHS services in NHS facilities. However, health authorities are free to use services from the private and independent sectors, and NHS facilities outside their area, where it is in the interests of their patients and where the services meet appropriate quality standards.

Mae’n well gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gael gwasanaethau’r GIG yng nghyfleusterau’r GIG. Er hynny, mae’r awdurdodau iechyd yn rhydd i ddefnyddio gwasanaethau o’r sectorau preifat ac annibynnol, a chyfleusterau’r GIG y tu allan i’w hardal, lle y mae er budd eu cleifion a lle y mae’r gwasanaethau’n bodloni’r safonau ansawdd priodol.

David Melding spoken in English p. 8

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 8

Do you agree with me, and your colleague in England, Mr Milburn, that, to have an enterprising and innovative NHS in the future, we must integrate many private and independent facilities so that they can participate in delivering NHS services?

A ydych yn cytuno â mi, a’ch cyd-Weinidog yn Lloegr, Mr Milburn, bod yr amcan o gael GIG mentrus ac arloesol yn y dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni integreiddio llawer o gyfleusterau preifat ac annibynnol fel y gallant gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau’r GIG?

Jane Hutt spoken in English p. 8

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 8

In Wales, we have a small private health service sector compared with that in England. We have only five private hospitals, whereas England has 400. As you know, we have used private capacity to supplement existing NHS facilities.

Yng Nghymru, mae gennym sector gwasanaeth iechyd preifat sy’n fach o’i gymharu â’r hyn sydd yn Lloegr. Dim ond pum ysbyty preifat sydd gennym, tra bo gan Loegr 400. Fel y gwyddoch, yr ydym wedi defnyddio capasiti preifat i ategu cyfleusterau presennol y GIG.

Kirsty Williams spoken in English p. 8

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 8

Do you agree that not only is it the Welsh Assembly Government’s preference that people be treated in NHS facilities, but of most patients too? Will you comment on Liam Fox’s statement, made privately to GPs at the Conservative Party conference, on the Conservatives’ plans for private medicine in the NHS?

A ydych yn cytuno nad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn unig sy’n ffafrio trin pobl yng nghyfleusterau’r GIG, ond y rhan fwyaf o’r cleifion hefyd? A wnewch chi sylw ar ddatganiad Liam Fox, a wnaethpwyd yn breifat i feddygon teulu yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, ar gynlluniau’r Ceidwadwyr ar gyfer meddygaeth breifat yn y GIG?

Jane Hutt spoken in English p. 8

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 8

That sums it up. Patients heard about that and sniffed out the Tory agenda for what it really is: a two-tier, divisive system—a service for those who can afford it and another for those who cannot. We want a national health service in Wales. We are committed to this through building hospitals, for example in Rhondda and Porthmadog, using public money only. That is what the people of Wales want.

Mae hynny’n dweud y cwbl. Clywodd y cleifion am hynny a synhwyro beth yw agenda’r Torïaid: system ddwy haen sy’n peri rhwyg—un system i’r rhai sy’n gallu ei fforddio ac un arall i’r rhai nad ydynt. Yr ydym am gael gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Yr ydym wedi ymrwymo i hynny drwy godi ysbytai, yn y Rhondda ac ym Mhorthmadog, er enghraifft, gan ddefnyddio arian cyhoeddus yn unig. Dyna’r hyn y mae pobl Cymru am ei gael.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 9

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 9

There is lack of capacity in the private sector, and most NHS trusts face projected budget shortfalls. Carmarthenshire NHS Trust faces a projected shortfall of £7.5 million. When the trusts run out of money in January next year, do you believe that the private sector can cope with delivering the service?

Mae diffyg capasiti yn y sector preifat, ac mae’r rhan fwyaf o’r ymddiriedolaethau’r GIG yn wynebu diffygion rhagamcanedig yn eu cyllidebau. Mae Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin yn wynebu diffyg rhagamcanedig o £7.5 miliwn. Pan ddaw arian yr ymddiriedolaethau i ben yn Ionawr y flwyddyn nesaf, a gredwch y bydd y sector preifat yn gallu ymdopi â darparu’r gwasanaeth?

Jane Hutt spoken in English p. 9

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 9

The most important news from the budget is that an extra £1.8 billion will be spent in the health sector over the next five years. We work every day with our national health service colleagues across Wales on how they can meet their commitments on performance and delivering for patients, and on the funding needed to do that. The extra £1 billion for the health service over the last three years was a 10 per cent increase in funding and has delivered great benefits for patients.

Y newyddion pwysicaf o’r gyllideb yw y caiff £1.8 biliwn ychwanegol ei wario ar y sector iechyd dros y pum mlynedd nesaf. Yr ydym yn gweithio bob dydd gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd gwladol ledled Cymru ar y modd y gallant gyflawni’u hymrwymiadau ar berfformio a darparu ar gyfer cleifion, ac ar y cyllid sydd ei angen i wneud hynny. Bu’r £1 biliwn ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd dros y tair blynedd diwethaf yn gynnydd o 10 y cant mewn cyllid, a daeth â buddion mawr i gleifion.

Strategaeth Amseroedd Aros

Waiting Times Strategy

Q5 Lynne Neagle spoken in English p. 9

C5 Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 9

Will the Minister make a statement on the progress of the waiting times strategy? (OAQ17386)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar hynt y strategaeth amseroedd aros? (OAQ17386)

Jane Hutt spoken in English p. 9

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 9

Significant progress has been made towards achieving the aims of the waiting times strategy. Shorter waiting times in priority sectors are being achieved, booking systems are in place, and statistical information has been redesigned to give a clearer indication of how long people have been waiting, thereby enabling closer monitoring.

Gwnaethpwyd cynnydd sylweddol tuag at gyflawni nodau’r strategaeth amseroedd aros. Sicrheir amseroedd aros byrrach yn y sectorau blaenoriaethol, mae systemau archebu ar waith, ac ailgynlluniwyd y wybodaeth ystadegol i ddangos yn gliriach am faint y bu pobl yn aros, fel y gellir monitro hynny’n fanylach.

Lynne Neagle spoken in English p. 9

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 9

You will be aware of concerns about the progress made on waiting times in Wales compared with that in England. In the interests of delivering better services in Wales, and transparency for patients and staff, do you agree that there is considerable merit in having an independent audit service to cover Wales and England?

Byddwch yn ymwybodol o’r pryderon am y cynnydd a wnaethpwyd ar yr amseroedd aros yng Nghymru o’i gymharu â chynnydd yn Lloegr. Er mwyn darparu gwell gwasanaethau yng Nghymru, a thryloywder i gleifion a staff, a ydych yn cytuno bod cryn werth mewn cael gwasanaeth archwilio annibynnol i gynnwys Cymru a Lloegr?

Jane Hutt spoken in English p. 10

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 10

Our waiting times strategy group, chaired by Brian Gibbons, is progressing our intentions in terms of reducing unacceptable waiting times in Wales for cardiac, cancer, orthopaedic and cataract services. It is important that we consider how the proposed independent clinical audit organisation could benefit and suit the needs of Wales.

Mae ein grŵp strategaeth amseroedd aros, o dan gadeiryddiaeth Brian Gibbons, yn hyrwyddo ein bwriad o ran lleihau’r amseroedd aros annerbyniol yng Nghymru am wasanaethau cardiaidd, canser, orthopaedig a chataract. Mae’n bwysig inni ystyried sut y gallai’r corff archwilio clinigol annibynnol arfaethedig fod o fudd i Gymru a chydweddu â’i hanghenion.

Janet Davies spoken in English p. 10

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 10

What effect will the recently announced 1,500 vacancies in NHS Wales have on the waiting times strategy?

Pa effaith a gaiff y 1,500 o swyddi gwag a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn GIG Cymru ar y strategaeth amseroedd aros?

Jane Hutt spoken in English p. 10

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 10

The good news today is that we have an extra 1,900 full-time equivalent staff members working in the national health service. That is 8,500 more people working in the health service than in 1997, when Labour took power. It is a 12 per cent increase. We must recognise that we have more nurses, doctors and consultants in the service. However, we must ensure that we recruit and retain those staff, particularly nurses, more vigorously.

Y newyddion da heddiw yw bod gennym staff ychwanegol sy’n cyfateb i 1,900 o rai amser llawn yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny’n 8,500 yn rhagor o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd nag a oedd yn 1997, pan ddaeth Llafur i rym. Mae hynny’n gynnydd o 12 y cant. Rhaid inni sylweddoli bod gennym fwy o nyrsys, meddygon ac ymgynghorwyr yn y gwasanaeth. Fodd bynnag, rhaid inni wneud mwy o ymdrech i sicrhau ein bod yn recriwtio ac yn cadw’r staff hynny, yn enwedig nyrsys.

William Graham spoken in English p. 10

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 10

We all applaud the audit system in terms of its accountability. However, in most hospitals in Wales, one day a month is devoted to an audit. During that time, no operations take place except for emergency operations. Is that the right way to treat patients?

Yr ydym oll yn cymeradwyo’r system archwilio o ran ei hatebolrwydd. Er hynny, yn y rhan fwyaf o ysbytai yng Nghymru, neilltuir un diwrnod y mis ar gyfer gwaith archwilio. Yn ystod yr amser hwnnw, ni chynhelir unrhyw lawdriniaethau heblaw am rai brys. Ai felly y dylid trin cleifion?

Jane Hutt spoken in English p. 10

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 10

We discussed clinical governance and its importance earlier. It is vital that we undertake clinical audit in hospitals and primary care services, to ensure that we have the best possible service for patients, and that the systems are appropriately managed so that we can increase the number of patients treated.

Bu inni drafod llywodraethu clinigol a’i bwysigrwydd yn gynharach. Mae’n hollbwysig bod gwaith archwilio clinigol yn digwydd yn yr ysbytai a’r gwasanaethau gofal sylfaenol, i sicrhau bod gennym y gwasanaeth gorau posibl i gleifion, ac y caiff y systemau eu rheoli’n briodol fel y gallwn drin mwy o gleifion.

Triniaeth Ddeintyddol y GIG

NHS Dental Treatment

C6 Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Q6 Elin Jones spoken in Welsh p. 10

Sut mae’r Gweinidog yn sicrhau bod triniaeth ddeintyddol y gwasanaeth iechyd gwladol ar gael i bawb yng Nghymru? (OAQ17367)

How does the Minister ensure that national health service dental treatment is available to everybody in Wales? (OAQ17367)

Jane Hutt spoken in English p. 11

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 11

Ensuring that access to NHS dental treatment is available to those patients who wish to use it, no matter where they live in Wales, is the responsibility of Welsh health authorities. I remain committed to a comprehensive, high-quality NHS dental service for the people of Wales. I will continue to assist the Welsh health authorities to ensure the availability of that service through the Welsh dental initiative, which I was pleased to announce in my written statement to Assembly Members on 19 March.

Mae sicrhau bod triniaeth ddeintyddol y GIG ar gael i gleifion sy’n dymuno’i defnyddio, ni waeth ym mhle yng Nghymru y maent yn byw, yn gyfrifoldeb i awdurdodau iechyd Cymru. Yr wyf wedi ymrwymo i wasanaeth deintyddol cynhwysfawr o ansawdd da i bobl Cymru a ddarperir gan y GIG. Byddaf yn parhau i helpu awdurdodau iechyd Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw ar gael drwy fenter ddeintyddol Cymru, yr oeddwn yn falch o’i chyhoeddi yn fy natganiad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad ar 19 Mawrth.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Elin Jones spoken in Welsh p. 11

Byddwch yn ymwybodol bod argyfwng yng Ngheredigion oherwydd diffyg deintyddion NHS. Daeth gwasanaethau deintyddol NHS 2,000 o gleifion i ben cyn y Nadolig ac mae 3,500 newydd golli eu gwasanaeth NHS wedi marwolaeth deintydd yn Aberystwyth. Mae’r gwasanaeth agosaf y mae’r NHS yn barod i’w gynnig ar hyn o bryd i bobl Ceredigion yn Aberhonddu ac Abertawe. Gan eich bod newydd gyfeirio at ddarparu gwasanaeth o fewn cyrraedd rhesymol, a gytunwch fod y cynllun ariannol presennol i ddenu deintyddion NHS newydd i Geredigion yn methu? Beth yw’r atebion tymor byr cyraeddadwy i’r 5,500 a mwy o gleifion heb ddeintydd NHS yn ardal Aberystwyth?

You will be aware that there is a crisis in Ceredigion because of a lack of NHS dentists. Two thousand patients lost their NHS dental services before Christmas and 3,500 have just lost their NHS service following the death of a dentist in Aberystwyth. The nearest services that the NHS is willing to offer to the people of Ceredigion at the moment are in Brecon and Swansea. As you have just referred to providing a reasonably accessible service, do you agree that the current financial scheme to attract new NHS dentists to Ceredigion is failing? What are the achievable, short-term answers for the 5,500 or more patients without a NHS dentist in the Aberystwyth area?

Jane Hutt spoken in English p. 11

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 11

Since 1995, the Welsh dental initiative has provided £3.4 million to attract new dentists into Wales. As a result there are 42 new practices, 41 expanded practices and 13 new posts in the community dental service. I announced an extra £1.8 million this year for the next two years to consider designated areas, to increase the basic level of grant aid and to introduce a new grant. My officials will meet Dyfed Powys Health Authority on 20 May to evaluate the situation that has developed in your constituency, Elin. Since the latest launch of the initiative, we have received six expressions of interest from dentists who wish to open new practices or to expand existing practices in Wales. I hope that that will address the issues that you mentioned.

Ers 1995, mae menter ddeintyddol Cymru wedi darparu £3.4 miliwn i ddenu deintyddion newydd i Gymru. O ganlyniad i hynny mae 42 practis newydd, 41 practis mwy a 13 swydd newydd yn y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Cyhoeddais £1.8 miliwn ychwanegol eleni ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i ystyried ardaloedd a ddynodwyd, i gynyddu lefel sylfaenol y cymorth grant ac i gyflwyno grant newydd. Bydd fy swyddogion yn cwrdd ag Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ar 20 Mai i werthuso’r sefyllfa a ddatblygodd yn eich etholaeth, Elin. Ers lansiad diweddaraf y fenter, yr ydym wedi derbyn chwe datganiad o ddiddordeb oddi wrth ddeintyddion sy’n dymuno agor practisiau newydd neu ehangu practisiau yng Nghymru. Gobeithiaf y bydd hynny’n rhoi sylw i’r materion y gwnaethoch eu crybwyll.

Glyn Davies spoken in English p. 12

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

I am pleased that you seem to be making progress. However, in the meantime, what do you recommend that I say to Mr Tecwyn Griffiths, the manager of the Owain Glyndwr Centre in Machynlleth, who telephoned me on a Saturday morning to say that his son was suffering from a serious dental problem and that he had spent all morning on the phone but had failed to find any treatment available within a reasonable distance?

Yr wyf yn falch ei bod yn ymddangos eich bod yn gwneud cynnydd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, beth yr ydych yn argymell y dylwn ei ddweud wrth Mr Tecwyn Griffiths, rheolwr Canolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth, a gysylltodd â mi ar y teleffon un bore Sadwrn i ddweud bod ei fab yn dioddef gan broblem ddeintyddol ddifrifol a’i fod wedi bod ar y ffôn drwy’r bore ond wedi methu â chanfod unrhyw driniaeth a oedd ar gael o fewn pellter rhesymol?

Jane Hutt spoken in English p. 12

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 12

That is regrettable. The latest initiative to add incentives and opportunities for dentists to move to and relocate in Wales will be important. The health authorities are responsible for dealing with these situations and should provide a community dental service in the circumstance that you described. For example, they can provide a community dental service by employing salaried dentists and ensuring that patients have access to that service. I would want that to happen in the case to which you referred.

Mae hynny’n destun gofid. Bydd y fenter ddiweddaraf i roi mwy o anogaeth a chyfleoedd i ddeintyddion symud i Gymru ac ail-leoli yma yn un bwysig. Yr awdurdodau iechyd sy’n gyfrifol am ddelio â’r sefyllfaoedd hyn a dylent ddarparu gwasanaeth deintyddol cymunedol yn yr amgylchiadau y gwnaethoch eu disgrifio. Er enghraifft, gallant ddarparu gwasanaeth deintyddol cymunedol drwy gyflogi deintyddion a sicrhau y caiff cleifion ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Byddwn am i hynny ddigwydd yn yr achos y gwnaethoch gyfeirio ato.

Ysgolion Clinigol Newydd

New Clinical Schools

Q7 John Griffiths spoken in English p. 12

C7 John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 12

Will the Minister give a progress report on the proposed establishment of two new clinical schools in Wales? (OAQ17383)

A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad ar hynt y cynlluniau arfaethedig i sefydlu dwy ysgol glinigol newydd yng Nghymru? (OAQ17383)

Jane Hutt spoken in English p. 12

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 12

A business case from the north Wales consortium is being developed. Gwent Healthcare NHS Trust and the University of Wales College of Medicine are carrying out similar work on the Royal Gwent clinical school proposals. Formal consideration of these schemes will begin when robust business cases have been provided.

Mae achos busnes gan gonsortiwm y Gogledd yn cael ei ddatblygu. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru’n gwneud gwaith tebyg ar y cynigion ar gyfer ysgol glinigol Ysbyty Brenhinol Gwent. Dechreuir ystyried y cynlluniau hynny’n ffurfiol pan fydd achosion busnes cadarn wedi’u cyflwyno.

John Griffiths spoken in English p. 12

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 12

You will be aware that the proposed Gwent clinical school, which has now received initial planning permission from the local authority, involves the Newport health sciences institute on the Royal Gwent Hospital site,. Subject to the robust business case that you mentioned, do you agree that these developments will significantly improve training in Wales, and recognise the Royal Gwent Hospital’s long history of taking substantial numbers of medical students?

Byddwch yn ymwybodol bod ysgol glinigol arfaethedig Gwent, sydd bellach wedi cael caniatâd cynllunio dechreuol gan yr awdurdod lleol, yn gysylltiedig â sefydliad gwyddorau iechyd Casnewydd ar safle Ysbyty Brenhinol Gwent. Yn amodol ar y cynllun busnes cadarn y cyfeiriasoch ato, a ydych yn cytuno y bydd y datblygiadau hyn yn gwella hyfforddiant yng Nghymru’n sylweddol, ac yn cydnabod yr hanes hir sydd gan Ysbyty Brenhinol Gwent o dderbyn niferoedd mawr o fyfyrwyr meddygol?

Jane Hutt spoken in English p. 13

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 13

By 2004, we will have over 1,300 medical students enrolled in Wales. They will need support, training and clinical placements in every part of Wales. The Royal Gwent Hospital has played an important role in providing those clinical placements. I visited the site you mentioned, which would be appropriate for the development in the Royal Gwent Hospital, and I hope that we will receive the business case shortly.

Erbyn 2004, bydd gennym dros 1,300 o fyfyrwyr meddygol wedi’u cofrestru yng Nghymru. Bydd arnynt angen cymorth, hyfforddiant a lleoliadau clinigol ym mhob rhan o Gymru. Mae Ysbyty Brenhinol Gwent wedi chwarae rôl bwysig wrth ddarparu’r lleoliadau clinigol hynny. Yr wyf wedi ymweld â’r safle y cyfeiriasoch ato, a fyddai’n addas i’r datblygiad yn Ysbyty Brenhinol Gwent, a gobeithiaf y byddwn yn derbyn yr achos busnes cyn hir.

David Lloyd spoken in English p. 13

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 13

The clinical medical school should serve to attract and retain specialised consultants. Should not the recommendations of the Specialised Health Service Commission for Wales, therefore, take into account new medical school developments?

Dylai’r ysgol feddygol glinigol fod yn fodd i ddenu a chadw ymgynghorwyr arbenigol. Gan hynny, oni ddylai argymhellion Comisiwn Gwasanaeth Iechyd Arbenigol Cymru ystyried datblygiad ysgolion meddygol newydd?

Jane Hutt spoken in English p. 13

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 13

The development of new clinical schools across Wales—Swansea has already made a start—is based on our need for medical students. The all-Wales medical workforce development expert group, chaired by the chief medical officer, takes these needs into account, and also considers the post-graduate specialities that students will need to move into. This is an important part of our workforce planning.

Mae datblygu ysgolion clinigol newydd ledled Cymru—mae Abertawe wedi dechrau eisoes—yn seiliedig ar ein hangen am fyfyrwyr meddygol. Mae’r grŵp arbenigol i Gymru gyfan ar gyfer datblygu gweithlu meddygol, dan gadeiryddiaeth y prif swyddog meddygol, yn ystyried yr anghenion hyn, ac yn ystyried yr arbenigaethau ôl-raddedig y bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd â hwy. Mae hyn yn rhan bwysig o’n gwaith cynllunio gweithlu.

Alun Cairns spoken in English p. 13

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 13

Will you clarify the proposals of the Noah’s Ark Appeal for a children’s hospital? Will it provide additional services to Alder Hey Hospital and Great Ormond Street Children’s Hospital, or will services be centralised in Cardiff?

A wnewch chi roi gwedd eglurach ar gynigion Apêl Arch Noa am ysbyty plant? A fydd yn darparu gwasanaethau ychwanegol i rai Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Plant Great Ormond Street, neu a ganolir y gwasanaethau yng Nghaerdydd?

Jane Hutt spoken in English p. 13

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 13

If you have read my written statement of last week, issued shortly after Ian Botham’s successful walk to raise funds for a children’s hospital, you will know that I announced last August that £4.5 million will go towards the capital costs of a children’s hospital. The hospital will provide important specialist services for the communities of Cardiff and the Vale of Glamorgan, and for the wider population in mid, south and west Wales. It is important that we see the proposals for the next stage of the development of a children’s hospital in Wales.

Os ydych wedi darllen y datganiad ysgrifenedig a gyflwynais yr wythnos diwethaf, a gyhoeddwyd yn fuan ar ôl taith gerdded lwyddiannus Ian Botham i godi arian at ysbyty plant, byddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi fis Awst diwethaf y caiff £4.5 miliwn ei wario ar gostau cyfalaf ysbyty plant. Bydd yr ysbyty yn darparu gwasanaethau arbenigol pwysig i gymunedau Caerdydd a Bro Morgannwg, ac i’r boblogaeth ehangach yn y Canolbarth, y De a’r Gorllewin. Mae’n bwysig ein bod yn gweld y cynigion ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad ysbyty plant yng Nghymru.

Gofal Cleifion Canser

Care for Cancer Patients

C8 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Q8 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 14

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gofal y mae cleifion canser yn ei dderbyn yng Nghymru? (OAQ17371)

Will the Minister make a statement on the care for cancer patients in Wales? (OAQ17371)

Jane Hutt spoken in English p. 14

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 14

One of the Welsh Assembly Government’s top priorities for the NHS in Wales is the provision of high quality cancer services. The key to achieving this is the implementation of the cancer services co-ordinating group’s standards of cancer care. The Welsh Assembly Government has reaffirmed its commitment to the standards in ‘Improving Health in Wales’. In the light of this, three cancer networks have been established to drive forward the development of services through the implementation of these standards.

Darparu gwasanaethau canser o ansawdd da yw un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r GIG yng Nghymru. Yr elfen allweddol yn hyn o beth yw gweithredu safonau gofal canser y grŵp cydlynu gwasanaethau canser. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i’r safonau yn ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’. Yng ngolwg hynny, sefydlwyd tri rhwydwaith canser i hyrwyddo datblygiad gwasanaethau drwy roi’r safonau hynny ar waith.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 14

Mae’r Gweinidog yn hoff o sôn am wasanaethau a strategaethau’r gwasanaeth iechyd. A wnaiff ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau a’r strategaethau gyda chyllid; mae’r ymddiriedolaethau yn dweud wrthyf fod gofynion newydd parhaus arnynt, ond nid oes arian ychwanegol? Faint o’r £1.8 biliwn a werir ar wasanaethau canser yng Nghymru o 2003-04 ymlaen?

The Minister likes to talk about services and strategies in the health service. Will she commit to supporting those services and strategies with funding; the trusts tell me that new demands are constantly made of them, but that there is no additional money? How much of the £1.8 billion will go towards cancer services in Wales from 2003-04 onwards?

Jane Hutt spoken in English p. 14

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 14

As you know, I announced in July 2000 an additional £25 million for the Assembly’s health priorities, including cancer. I announced an additional £1 million in revenue funding for cancer, and £3.5 million of capital funding for cancer and coronary heart disease to meet our minimum standard targets. I was pleased to launch the new CT scanner at Llanelli recently. CT scanners and MRI scanners are now being provided across Wales as a result of the £40 million that we received through Edwina Hart’s budget statement last year. The cancer co-ordinating services group reports that trusts and the health service across Wales are on the way to meeting the minimum standard of no-one waiting more than 10 days to see a consultant following a GP referral, for four of the cancer sites.

Fel y gwyddoch, cyhoeddais £25 miliwn ychwanegol yng Ngorffennaf 2000 ar gyfer blaenoriaethau iechyd y Cynulliad, gan gynnwys canser. Cyhoeddais £1 filiwn ychwanegol o gyllid refeniw i ganser, a £3.5 miliwn o gyllid cyfalaf i ganser a chlefyd coronaidd y galon er mwyn cyrraedd targedau ein safonau sylfaenol. Yr oeddwn yn falch o lansio’r sganiwr tomograffeg gyfrifiadurol yn Llanelli’n ddiweddar. Mae sganwyr tomograffeg gyfrifiadurol a sganwyr delweddu cyseiniant magnetig yn cael eu lansio ledled Cymru o ganlyniad i’r £40 miliwn a dderbyniasom drwy ddatganiad cyllideb Edwina Hart y llynedd. Mae’r grŵp cydlynu gwasanaethau canser yn dweud bod yr ymddiriedolaethau a’r gwasanaeth iechyd ledled Cymru ar y ffordd at gyflawni’r safon sylfaenol o beidio â pheri i neb ddisgwyl mwy na 10 niwrnod i weld ymgynghorydd, ar ôl ei atgyfeirio gan feddyg teulu, ar gyfer pedwar o’r safleoedd canser.

Alun Pugh spoken in English p. 15

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 15

Rhodri Glyn is right that there is a huge demand on cancer services, particularly those for lung, throat and oral cancers. I compliment you on your commitment to reducing this disease by increasing the amount of surgery. Will you use every legislative opportunity to reduce the death toll from lung, throat and oral cancers?

Mae Rhodri Glyn yn gywir wrth ddweud bod galw aruthrol am wasanaethau canser, yn enwedig y rhai ar gyfer canser yr ysgyfaint, y gwddf a’r geg. Fe’ch canmolaf ar eich ymrwymiad i leihau’r clefyd hwn drwy gynyddu nifer y llawdriniaethau. A wnewch chi ddefnyddio pob cyfle deddfwriaethol i leihau’r nifer sy’n marw oherwydd canser yr ysgyfaint, y gwddf a’r geg?

Jane Hutt spoken in English p. 15

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 15

It is important that we examine those particular cancer sites. In the first set of standards we focused on breast cancer. We must ensure that all seven cancer sites are included in the minimum standard of a 10-day referral period. On funding, from the £25 million that I announced, health authorities have invested £4 million in 2000-01, £5.5 million in the following year and £6 million this year on cancer services. That will help us to meet those targets and reduce the death toll from cancer.

Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar y safleoedd canser penodol hynny. Yn y set gyntaf o safonau gwnaethom ganolbwyntio ar ganser y fron. Rhaid inni sicrhau bod pob un o’r saith safle canser wedi’u cynnwys yn y safon sylfaenol o gyfnod atgyfeirio o 10 niwrnod. Ynghylch ariannu, o’r £25 miliwn a gyhoeddais, mae’r awdurdodau iechyd wedi buddsoddi £4 miliwn yn 2000-01, £5.5 miliwn yn y flwyddyn ddilynol a £6 miliwn eleni mewn gwasanaethau canser. Bydd hynny’n ein helpu i gyflawni’r targedau hynny a lleihau’r nifer sy’n marw o ganser.

David Melding spoken in English p. 15

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 15

Do you agree with the Royal College of Nursing in Wales that the failure to recruit and retain sufficient numbers of nurses is having a dramatic effect on front-line services such as cancer treatment?

A ydych yn cytuno â’r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru bod y methiant i recriwtio a chadw niferoedd digonol o nyrsys yn cael effaith drawiadol ar wasanaethau rheng flaen megis triniaeth canser?

Jane Hutt spoken in English p. 15

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 15

As Richard Jones said on radio this morning, services are expanding. We have recruited 440 more full-time equivalent nurses, midwives and health visitors this year, and that is important progress. Our return-to-practice courses have attracted 145 nurses back to the profession. We are training an extra 600 nurses this year, so we are training nearly double the number of nurses. Our recruitment and retention strategies will also address the need to recruit and retain nurses, midwives and health visitors.

Fel y dywedodd Richard Jones ar y radio y bore yma, mae’r gwasanaethau’n ehangu. Yr ydym wedi recriwtio’r hyn sy’n cyfateb i 440 yn rhagor o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd llawn amser eleni, ac mae hynny’n gynnydd pwysig. Mae ein cyrsiau dychwelyd-i-ymarfer wedi denu 145 o nyrsys yn ôl i’r proffesiwn. Yr ydym yn hyfforddi 600 o nyrsys yn rhagor eleni, felly yr ydym yn hyfforddi ymron i ddwywaith y nifer o nyrsys. Bydd ein strategaethau recriwtio a chadw’n ymdrin hefyd â’r angen i recriwtio a chadw nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Questions to the Minister for Education and Lifelong Learning

Cymorth mewn Ysgolion ar gyfer Plant â Dyslecsia

Support for Dyslexic Children in Schools

Q1 Peter Rogers spoken in English p. 16

C1 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 16

Will the Minister make a statement on support for dyslexic children in schools? (OAQ17344)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cymorth sydd ar gael i blant â dyslecsia mewn ysgolion? (OAQ17344)

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 16

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 16

The new special educational needs code of practice for Wales emphasises the importance of earlier identification and more effective interventions for those with special educational needs, including dyslexia. While the precise arrangements for delivery are determined by local education authorities, you may be aware that I agreed funding for the Welsh Dyslexia Project to produce a well-trialled, bilingual diagnostic test, which I am sure will prove immensely helpful. Other strands to the project include piloting a dyslexia-friendly model across a growing number of local authorities and offering support and in-service training to teachers.

Mae’r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig newydd i Gymru yn tanlinellu pwysigrwydd dynodi anghenion yn gynt ac ymyriadau mwy effeithiol i rai sydd ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys dyslecsia. Er mai’r awdurdodau addysg lleol sy’n pennu’r trefniadau gweithredu manwl, efallai y byddwch yn gwybod fy mod wedi cytuno i roi arian i Brosiect Dyslecsia Cymru i gynhyrchu prawf diagnostig dwyieithog a ragbrofwyd yn dda, ac yr wyf yn sicr y bydd hwnnw o gymorth aruthrol. Rhai o’r elfennau eraill yn y prosiect yw rhagbrofi model ystyriol o ddyslecsia mewn nifer cynyddol o awdurdodau lleol a chynnig cymorth a hyfforddiant mewn swydd i athrawon.

Peter Rogers spoken in English p. 16

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 16

I welcome that. However, as you know, many dyslexic children have already fallen through the net. Probation officers are concerned about the significant numbers of young offenders whose dyslexia may be a contributory factor to their offending and their behaviour. It is important that their dyslexia is identified so that education and training schemes, which would benefit these young offenders, can be organised. How can these young offenders access dyslexia testing and support, which probation officers believe would be beneficial?

Croesawaf hynny. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, mae llawer o blant dyslecsig wedi disgyn drwy’r rhwyd eisoes. Mae swyddogion prawf yn bryderus ynghylch y niferoedd sylweddol o droseddwyr ifanc y gallai’u dyslecsia fod yn ffactor cyfrannol yn eu troseddu a’u hymddygiad. Mae’n bwysig dynodi’u dyslecsia fel y gellir trefnu cynlluniau addysg a hyfforddiant a fyddai o fudd i’r troseddwyr ifanc hyn. Sut y gall y troseddwyr ifanc hyn gael y profion a’r cymorth ar gyfer dyslecsia, y mae’r swyddogion prawf yn credu y byddent yn fanteisiol iddynt?

Jane Davidson spoken in English p. 16

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 16

Responsibility for the probation service is not devolved to the Assembly. I discussed basic skills earlier this week, and we are looking to ensure that all those services are extended to include the probation and prison services. It is important that everyone in Wales has the opportunity to gain basic skills. I will write to you about the dyslexia diagnostic test.

Ni ddatganolwyd y cyfrifoldeb dros y gwasanaeth prawf i’r Cynulliad. Trafodais sgiliau sylfaenol yn gynharach yr wythnos yma, ac yr ydym yn ceisio sicrhau y caiff yr holl wasanaethau hynny eu hymestyn i gynnwys y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth carcharau. Mae’n bwysig sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol. Ysgrifennaf atoch am y prawf diagnostig am ddyslecsia.

Helen Mary Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Helen Mary Jones spoken in Welsh p. 17

O ystyried y problemau enfawr sy’n wynebu rhieni Cymraeg eu hiaith wrth geisio cael cefnogaeth arbennig i’w plant dyslecsig, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod plant dyslecsig mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn derbyn yr un gwasanaethau â phlant yn y system Saesneg ledled Cymru? Croesawaf y gwaith newydd ar ddiagnosis, ond mae rhai plant y canfuwyd eu bod yn ddyslecsig nad ydynt yn gallu derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Given the huge problems faced by Welsh-speaking parents in trying to obtain special support for their dyslexic children, what steps is the Minister taking to ensure that dyslexic children in Welsh-medium education receive the same services as children in the English-medium system throughout Wales? I welcome the new work on diagnosis, but some children who have been diagnosed as being dyslexic cannot access the services they need.

Jane Davidson spoken in English p. 17

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 17

We approved a grant of over £66,000 for the development of the bilingual diagnostic test developed by the University of Wales, Bangor on behalf of the Welsh dyslexia project which will be finalised in June. The dyslexia-friendly schools initiative is focusing on Powys, Ceredigion, Gwynedd, Denbighshire and Flintshire, and operates in both languages. Last month, I launched the Welsh Dyslexia Project compact disc, ‘Understanding Specific Learning Difficulties: A Guide for Parents’, which is fully bilingual. We are supporting the Welsh Dyslexia Project to be fully bilingual. The new special educational needs code of practice ensures that parents and children can access services, seek statements and, if they are not satisfied with the statement process, seek a tribunal.

Gwnaethom gymeradwyo grant o dros £66,000 i ddatblygu’r prawf diagnostig dwyieithog a ddatblygwyd gan Brifysgol Cymru, Bangor ar ran Prosiect Dyslecsia Cymru a gwblheir ym Mehefin. Mae’r fenter ysgolion ystyriol o ddyslecsia’n canolbwyntio ar Bowys, Ceredigion, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, ac mae’n gweithredu yn y ddwy iaith. Y mis diwethaf, lansiais ddisg cryno Prosiect Dyslecsia Cymru, ‘Deall Anawsterau Dysgu Penodol: Canllaw i Rieni’, sy’n gwbl ddwyieithog. Yr ydym yn cynorthwyo Prosiect Dyslecsia Cymru fel y bydd yn gwbl ddwyieithog. Mae’r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig newydd yn sicrhau bod rhieni a phlant yn gallu cael gwasanaethau, ceisio datganiadau ac, os nad ydynt yn fodlon ar broses y datganiad, ceisio tribiwnlys.

Val Lloyd spoken in English p. 17

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 17

I agree that early diagnosis and subsequent support for dyslexic children is vital for their future learning. Do you agree that the nationally acclaimed project undertaken by the City and County of Swansea, which has been running for three years, where every primary school has a teacher trained to recognise and use support techniques for dyslexia, is to be commended and that it could well be a model for the whole of Wales? I declare an interest as a member of the City and County of Swansea council.

Cytunaf fod canfod dyslecsia yn gynnar a chymorth ar ôl hynny i blant dyslecsig yn hollbwysig i’w dysgu yn y dyfodol. A ydych yn cytuno y dylid cymeradwyo’r prosiect gan Ddinas a Sir Abertawe, a gafodd glod cenedlaethol, sy’n rhedeg ers tair blynedd, sy’n golygu bod athro ym mhob ysgol gynradd a hyfforddwyd i adnabod dyslecsia a defnyddio technegau cymorth ar ei gyfer, ac y gallai fod yn fodel i Gymru gyfan? Datganaf fuddiant fel aelod o gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Jane Davidson spoken in English p. 17

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 17

Yes, the work going on in Swansea is interesting, as is the work going on in Bridgend and in the other counties that I have already mentioned. We have established a Welsh advisory group on special educational needs with four co-ordinators to consider how we tackle these issues across the whole of Wales and particularly how we exchange best practice so that we improve the quality of provision across the country.

Ydyw, mae’r gwaith sy’n digwydd yn Abertawe’n ddiddorol, fel y mae’r gwaith sy’n digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn y siroedd eraill y cyfeiriais atynt eisoes. Yr ydym wedi sefydlu grŵp ymgynghorol i Gymru ar anghenion addysgol arbennig gyda phedwar cydlynydd i ystyried sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn ledled Cymru ac yn enwedig sut y byddwn yn cyfnewid yr arfer gorau fel ein bod yn gwella ansawdd y ddarpariaeth drwy’r wlad.

Mick Bates spoken in English p. 18

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 18

Dyslexia is a disability that no one can see. A full psychological assessment is required to diagnose dyslexia, and the earlier it is carried out the better. Once that has occurred, it is up to the school to provide support. In small rural schools the money can often only provide for a non-teaching assistant and not the required specialist support. Will you undertake to examine how specialist support services can be delivered in remote areas? Unlike small rural schools, larger secondary schools can provide that support from their budgets.

Mae dyslecsia’n anabledd na all neb ei weld. Mae angen asesiad seicolegol llawn i ganfod dyslecsia, a gorau po gyntaf y’i gwneir. Ar ôl i hynny ddigwydd, lle’r ysgol yw darparu cymorth. Yn aml, mewn ysgolion bach gwledig nid oes ond digon o arian i ddarparu cynorthwy-ydd nad yw’n athro ac nid y cymorth arbenigol sydd ei angen. A wnewch ymrwymo i ystyried sut y gellir darparu gwasanaethau cymorth arbenigol mewn ardaloedd diarffordd? Yn wahanol i ysgolion bach gwledig, gall yr ysgolion uwchradd mwy ddarparu’r cymorth hwnnw o’u cyllidebau.

Jane Davidson spoken in English p. 18

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 18

You will notice from the counties I mentioned earlier—Powys, Ceredigion, Gwynedd, Denbighshire and Flintshire—that account is taken of that focus.

Byddwch yn sylwi oddi wrth y siroedd a grybwyllais yn gynharach—Powys, Ceredigion, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint—fod y pwyslais hwnnw’n cael ei gymryd i ystyriaeth.

Cwynion yn erbyn Athrawon

Complaints against Teachers

Q2 Peter Rogers spoken in English p. 18

C2 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 18

What actions has the Minister taken to ensure that complaints against teachers are resolved quickly? (OAQ17328)

Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i sicrhau bod cwynion yn erbyn athrawon yn cael eu datrys yn gyflym? (OAQ17328)

Jane Davidson spoken in English p. 18

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 18

I expect to issue draft guidance before long on governing bodies’ disciplinary procedures for dealing with complaints against teachers and other staff. The guidance will emphasise the importance of handling complaints expeditiously and provide indicative timescales for the stages involved.

Disgwyliaf gyhoeddi canllawiau drafft cyn hir ar weithdrefnau disgyblu cyrff llywodraethu ar gyfer trafod cwynion yn erbyn athrawon a staff eraill. Bydd y canllawiau’n rhoi pwys ar drafod cwynion yn gyflym a darparu amserlenni dynodol i’r camau dan sylw.

Peter Rogers spoken in English p. 18

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 18

I realise that you cannot comment on the case of one of my constituents, which took 18 months to reslove, but do you agree that such delays are unacceptable and cause much stress to teachers, who are too frequently unfairly accused? Given that you have a semi-judicial role, does your department receive notification from local education authorities when a serious complaint has been made, so that it has some way of identifying cases that appear to be going on for too long? How do you intend to prevent teachers from facing unnecessarily long investigations against them?

Sylweddolaf na allwch wneud sylw am achos un o’m hetholwyr, y cymerodd 18 mis i’w ddatrys, ond a ydych yn cytuno bod oedi o’r fath yn annerbyniol ac yn peri llawer o straen i athrawon, a gaiff eu cyhuddo’n annheg yn rhy aml? O ystyried bod gennych rôl led-farnwrol, a yw’ch adran yn cael ei hysbysu gan yr awdurdodau addysg lleol pan wnaethpwyd cwyn ddifrifol, fel bod ganddi ryw fodd i ganfod achosion y mae’n ymddangos eu bod yn parhau’n rhy hir? Sut yr ydych yn bwriadu atal athrawon rhag wynebu ymchwiliadau sy’n hwy na rhaid yn eu herbyn?

Jane Davidson spoken in English p. 19

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 19

The draft guidance has been drawn up following discussions with teaching unions, LEAs and others. The proposed approach has been generally welcomed. It is important to say that an individual who has a complaint needs to contact the Assembly. That did not happen in the individual case to which you referred, on which I cannot comment, contributing to the delay. We can only consider complaints from the individuals affected, not from other people on their behalf.

Paratowyd y canllawiau drafft ar ôl trafodaethau ag undebau’r athrawon, yr awdurdodau addysg lleol ac eraill. Mae’r dull gweithredu arfaethedig wedi’i groesawu’n gyffredinol. Mae’n bwysig dweud y dylai unigolyn gysylltu â’r Cynulliad os oes ganddo gŵyn. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos penodol y cyfeiriasoch ato, na allaf wneud sylw amdano, a chyfrannodd hynny at yr oedi. Ni allwn ond ystyried cwynion oddi wrth yr unigolion a effeithiwyd, nid oddi wrth eraill ar eu rhan.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Gareth Jones spoken in Welsh p. 19

Yr wyf yn falch eich bod yn paratoi’r canllawiau hyn ac y byddant ar gael inni eu hystyried. Un peth a welwyd pan fu oedi annerbyniol mewn achosion diweddar oedd diffyg cydweithio rhwng cyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol. Efallai fod aneglurder ynglŷn â’r cyfrifoldebau ond y ffaith yw bod athrawon unigol yn dioddef oherwydd hynny. Yn y canllawiau hyn, gobeithiaf y byddwch yn gallu ymyrryd yn gynnar i fonitro’r broses ddisgyblu ac efallai y gallwch benodi swyddog yn eich adran i oruchwylio’r holl broses.

I am pleased that you are preparing this guidance and that it will be made available for us to consider. One of the factors we saw when there was an unacceptable delay in recent cases was a lack of co-operation between governing bodies and local education authorities. Perhaps there is a lack of clarity as regards responsibilities but the fact is that individual teachers are suffering because of it. In this guidance, I hope that you will be able to make an early intervention to monitor the disciplinary process and that you will perhaps be able to appoint an official in your department to supervise the whole process.

Jane Davidson spoken in English p. 19

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 19

We hope to introduce the draft guidance shortly. It will then go for consultation and you and others will be able to contribute views.

Yr ydym yn gobeithio cyflwyno’r canllawiau drafft cyn hir. Bydd ymgynghori arnynt wedyn a byddwch chi ac eraill yn gallu rhoi’ch barn.

Jonathan Morgan spoken in English p. 19

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 19

Your party introduced school exclusion targets that provided a presumption in favour of keeping pupils with poor behavioural issues in the school setting. That has led to a number of teachers leaving the profession, citing disciplinary problems and issues concerning poor pupil behaviour in schools. In light of that fact and of the Marjorie Evans case in Monmouth, what is the Government doing to combat poor behaviour in schools?

Cyflwynodd eich plaid dargedau gwahardd o ysgolion sy’n rhagdybio o blaid cadw disgyblion a chanddynt ganlyniadau ymddygiadol gwael mewn lleoliad ysgol. Mae nifer o athrawon wedi gadael y proffesiwn oherwydd hynny, gan grybwyll problemau disgyblaeth a materion sy’n ymwneud ag ymddygiad gwael gan ddisgyblion mewn ysgolion. Yng ngoleuni hynny ac achos Marjorie Evans ym Mynwy, pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd yn erbyn ymddygiad gwael mewn ysgolion?

Jane Davidson spoken in English p. 20

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 20

In addition to the work that we are doing on discipline and governors, we held a conference in Swansea last year on tackling disaffection in schools. The conference was attended by qualified and experienced people, and its recommendations will soon be available for people to consider. They made recommendations to us about how to amend circular 3/99, which deals with these issues. Both these areas are important to the Assembly Government, and it is important that we get it right. We must be fair and be seen to be fair in dealing with these kinds of policies.

Yn ogystal â’r gwaith yr ydym yn ei wneud ynghylch disgyblaeth a llywodraethwyr, gwnaethom gynnal cynhadledd yn Abertrawe y llynedd ar fynd i’r afael ag ymddieithrio mewn ysgolion. Mynychwyd y gynhadledd gan bobl gymwys a phrofiadol, a bydd yr argymhellion ar gael cyn hir i’w hystyried. Rhoesant argymhellion i ni ynghylch sut i newid cylchlythyr 3/99, sy’n ymdrin â’r materion hyn. Mae’r ddau faes hyn yn bwysig i Lywodraeth y Cynulliad, ac mae’n bwysig ein bod yn ei gael yn iawn. Rhaid inni fod yn deg ac ymddangos yn deg wrth ddelio â pholisïau o’r fath.

Cyfle Cyfartal yn y Ddarpariaeth Addysg Gynradd

Equal Opportunities in Primary Education Provision

C3 Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Q3 Owen John Thomas spoken in Welsh p. 20

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y modd y mae egwyddor cyfle cyfartal yn gweithio yn y ddarpariaeth addysg gynradd? (OAQ17415)

Will the Minister make a statement on how the principle of equal opportunities works in primary education provision? (OAQ17415)

Jane Davidson siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Jane Davidson spoken in Welsh p. 20

Yr wyf wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o gyfle cyfartal i bob plentyn sy’n derbyn addysg gynradd yng Nghymru, heb ystyried tarddiad ethnig, rhyw nac anabledd a ddioddefir. Er nad oes anghenraid statudol penodol i ysgolion ddatblygu eu polisïau cyfle cyfartal eu hunain, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi argymell y dylai pob ysgol gael polisi o’r fath, fel mater o arfer da. Ategir y bwriad hwn gan ganllawiau a gyhoeddwyd gennym y llynedd i lywodraethwyr ysgol, a chan ganllawiau pellach a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn Rhagfyr 2001.

I am fully committed to the principle of equal opportunities for all children receiving primary education in Wales regardless of ethnicity, gender or disability. Whilst there is no specific statutory requirement for schools to develop their own equal opportunities policies, the Welsh Assembly Government has recommended that each school should, as a matter of good practice, have one in place. This aim is underpinned by guidance we issued last year to school governors and by further guidance issued by the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales in December 2001.

Owen John Thomas spoken in English p. 20

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 20

I found the innovative scheme you favour, Minister, for an intensive five-month course for some year 6 primary school children, to be an exciting prospect. However, unless you can grow freely the block of Welsh speakers through Welsh-medium schools, you will not nurture sufficient staff to launch and sustain your innovative scheme for the English-medium sector. Do you favour a national strategy for Welsh-medium education that will ensure equality of opportunity with community-based provision reflecting parental demand?

Yr oedd y cynllun arloesol yr ydych yn ei ffafrio, Weinidog, ar gyfer cwrs pum mis dwys i rai plant ysgol gynradd blwyddyn 6, yn un cyffrous iawn yn fy marn i. Fodd bynnag, os na allwch feithrin y garfan o siaradwyr Cymraeg yn rhwydd drwy ysgolion cyfrwng Cymraeg, ni fyddwch yn datblygu digon o staff i lansio a chynnal eich cynllun arloesol i’r sector cyfrwng Saesneg. A ydych o blaid strategaeth genedlaethol i addysg cyfrwng Cymraeg a fydd yn sicrhau cydraddoldeb cyfle gyda darpariaeth yn y gymuned sy’n adlewyrchu galw’r rhieni?

Jane Davidson spoken in English p. 21

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 21

I think that you are pre-empting the work of the Education and Lifelong Learning Committee, because it was only yesterday that it finished taking evidence on issues around the Welsh language in education. The Committee will compile its report and make recommendations to me. I assure you that the Assembly will be the first to be told of my response to those recommendations.

Credaf eich bod yn achub y blaen ar waith y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, oherwydd dim ond ddoe y gorffennodd gymryd tystiolaeth ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg. Bydd y Pwyllgor yn llunio ei adroddiad ac yn rhoi argymhellion i mi. Yr wyf yn eich sicrhau mai’r Cynulliad fydd y cyntaf i gael gwybod am fy ymateb i’r argymhellion hynny.

Christine Chapman spoken in English p. 21

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 21

Do you agree that, while primary school education is one of the few professions where women outnumber men, evidence suggests that structural inequality persists, with a disproportionate number of men occupying higher positions in the school system generally? Do you also agree that it is important to tackle institutional gender inequality, not just to provide a level playing field, but also in the interests of providing strong role models for girls in school from a young age?

A ydych yn cytuno, er mai addysg ysgol gynradd yw un o’r ychydig broffesiynau lle y mae mwy o fenywod nag o ddynion, fod y dystiolaeth yn awgrymu bod anghydraddoldeb strwythurol yn parhau, gyda nifer anghyfartal o ddynion yn y swyddi uwch yn y system ysgolion yn gyffredinol? A ydych hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sefydliadol rhwng y rhywiau, nid yn unig i sicrhau chwarae teg, ond hefyd er mwyn darparu rôl-fodelau cadarn i ferched mewn ysgolion o oedran cynnar?

Jane Davidson spoken in English p. 21

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 21

Yes.

Ydwyf.

Glyn Davies spoken in English p. 21

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 21

I do not know the precise figures, but it is obvious that, for a long time, men have participated in sport much more than women. What steps are you taking to ensure that, in primary school in particular, equal encouragement is given to the participation of boys and girls in sport, which will hopefully continue in later life?

Ni wn yr union ffigurau, ond mae’n amlwg, ers amser hir, fod dynion yn cymryd rhan fwy o lawer mewn chwaraeon na menywod. Pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod yr un anogaeth, yn yr ysgol gynradd yn arbennig, i gyfranogiad gan fechgyn a merched mewn chwaraeon, a fydd yn parhau, fe obeithir, yn ddiweddarach yn eu hoes?

Jane Davidson spoken in English p. 21

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 21

This is an important area, as it fits in with our health promotion strategies and with the encouragement given to young people to eat healthily and to get out of the car and walk or cycle to school, which is possible due to the safe routes to schools initiative. Within the school environment, we are keen to ensure that all schools offer physical education as part of the curriculum. Initiatives such as Dragon Sport, run by the Sports Council for Wales and under the auspices of my colleague, Jenny Randerson, will ensure that all young people can access sporting opportunities, not just within the school day, but also after school. The soccer skills initiative, for girls and boys, has been a real success, and it is important that we continue to make such initiatives available.

Mae hyn yn faes pwysig, gan ei fod yn cyd-fynd â’n strategaethau hybu iechyd a’r anogaeth i bobl ifanc fwyta’n iach a pheidio â mynd yn y car a cherdded neu feicio i’r ysgol, sy’n bosibl oherwydd y fenter llwybrau diogel i’r ysgol. O fewn amgylchedd yr ysgol, yr ydym yn awyddus i sicrhau y bydd pob ysgol yn cynnig addysg gorfforol yn rhan o’r cwricwlwm. Bydd mentrau fel Campau’r Ddraig, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru o dan nawdd fy nghyd-Weinidog, Jenny Randerson, yn sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn gallu manteisio ar gyfleoedd mewn chwaraeon, nid yn ystod y diwrnod ysgol yn unig, ond ar ôl ysgol hefyd. Bu’r fenter sgiliau pêl-droed, i ferched a bechgyn, yn llwyddiant gwirioneddol, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddarparu mentrau o’r fath.

Cyflenwad a Galw mewn Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg

Supply and Demand in Welsh-medium Higher Education

C4 Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Q4 Cynog Dafis spoken in Welsh p. 22

A wnaiff y Gweinidog fanylu ar gwmpas astudiaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyflenwad a galw mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg? (OAQ17419)

Will the Minister give details of the scope of the Higher Education Funding Council for Wales’s study on supply and demand in Welsh-medium higher education? (OAQ17419)

Jane Davidson siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Jane Davidson spoken in Welsh p. 22

Yn fy strategaeth addysg uwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gwneuthum ymrwymiad i wahodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gomisiynu adroddiad ar y lefelau presennol o gyflenwad a galw o fewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg, y tueddiadau amcanol mewn galw a’r camau y dylid eu cymryd i gynyddu’r galw. Byddaf yn bwrw ymlaen gyda’r ymrwymiad hwn yn ein llythyr cylch gwaith i’r cyngor ar gyfer 2002-03 a ddosberthir cyn bo hir.

In my recently published higher education strategy, I made a commitment to invite the Higher Education Funding Council for Wales to commission a report into the current levels of supply and demand in Welsh-medium higher education, the projected trends in demand and the steps that should be taken to increase demand. I will take this commitment forward in our remit letter to the council for 2002-03, which will be issued shortly.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 22

Edrychaf ymlaen at fwrw golwg ar y cylch gwaith hwnnw. Pa bryd yr ydych yn rhagweld y byddwn yn gallu symud ymlaen i weithredu ar y mater hwn? A wnewch chi gydnabod bod profiad yn dangos fod galw am addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn tyfu lle y mae cyflenwad diogel a digonol ar gael? Mae adran gwleidyddiaeth ryngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn dangos hynny’n glir. A ydych yn fodlon ymrwymo i ddull rhagweithredol er mwyn sicrhau bod y cyflenwad ar gael, a bod yn hyderus y bydd y galw’n datblygu yn sgîl hynny?

I look forward to studying that remit. When do you foresee action being taken on this issue? Will you acknowledge that experience shows that demand for Welsh-medium higher education grows where there is a secure and adequate supply available? The department of international politics at the University of Wales, Aberystwyth clearly illustrates this. Are you prepared to commit to a proactive approach to ensure that the supply is available, confident in the fact that demand will develop as a consequence?

Jane Davidson spoken in English p. 22

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 22

I am prepared to commit myself to exactly what I said, namely that I will commission the report into current levels of supply and demand, the projected trends and the steps that should be taken to increase demand. We will consider the report when we receive it. I am committed to looking positively at the outcome.

Yr wyf yn barod i ymrwymo i wneud yn union yr hyn a ddywedais, sef y gwnaf gomisiynu’r adroddiad ar faint y cyflenwad a’r galw ar hyn o bryd, y tueddiadau rhagamcanedig a’r camau y dylid eu cymryd i gynyddu’r galw. Byddwn yn ystyried yr adroddiad pan ddaw i law. Yr wyf wedi ymrwymo i edrych yn gadarnhaol ar y canlyniad.

Eleanor Burnham siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Eleanor Burnham spoken in Welsh p. 22

A fydd yr adroddiad yn ystyried addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn ein gwasanaeth iechyd?

Will the report consider Welsh-medium higher education in our health service?

Jane Davidson spoken in English p. 23

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 23

The overall report will consider supply and demand in Welsh-medium higher education in terms of delivery within the higher education system.

Bydd yr adroddiad cyffredinol yn ystyried y cyflenwad a’r galw mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg o ran y ddarpariaeth yn y system addysg uwch.

Alun Cairns siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Alun Cairns spoken in Welsh p. 23

Sut y bydd y Gweinidog yn ateb y galw am addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn sgîl y gwaith ymchwil presennol?

How will the Minister respond to the demand for Welsh-medium education as a result of current research?

Jane Davidson spoken in English p. 23

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 23

We do not have current research, which is why we are about to undertake the work. It was a key recommendation in the Committee’s work on the lack of sufficient Welsh-medium provision in further and higher education. We have responded positively to that. A remit letter will be sent to HEFCW for this financial year. Therefore, we have picked up on that from the Committee’s report, included it in our higher education strategy and presented it to HEFCW for delivery this year.

Nid oes gennym ymchwil gyfredol, a dyna pam yr ydym ar fin gwneud y gwaith. Yr oedd yn argymhelliad allweddol yng ngwaith y Pwyllgor ar ddiffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg ddigonol mewn addysg bellach ac uwch. Yr ydym wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny. Anfonir llythyr cylch gwaith at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Felly, yr ydym wedi codi hynny o adroddiad y Pwyllgor, wedi’i gynnwys yn ein strategaeth addysg uwch a’i chyflwyno i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i’w gyflawni eleni.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 23

Tynnwyd cwestiwn 5 (OAQ17350) yn ôl.

Question 5 (OAQ17350) has been withdrawn.

‘Capasiti Ymchwil Addysgol yng Nghymru’

‘Educational Research Capacity in Wales’

Q6 Phil Williams spoken in English p. 23

C6 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 23

Will the Minister make a statement in response to the recently launched report ‘Educational Research Capacity in Wales’? (OAQ17349)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei ymateb i’r adroddiad ‘Capasiti Ymchwil Addysgol yng Nghymru’, a gafodd ei lansio yn ddiweddar? (OAQ17349)

Jane Davidson spoken in English p. 23

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 23

I generally welcome the report, as the Education and Lifelong Learning Committee heard when it was presented to the Committee yesterday. The report corresponds strongly with several key areas of our published strategy for higher education in Wales.

Yr wyf yn croesawu’r adroddiad yn gyffredinol, fel y clywodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes pan gyflwynwyd ef i’r Pwyllgor ddoe. Mae’r adroddiad yn cyd-fynd yn bendant â sawl maes allweddol yn ein strategaeth gyhoeddedig i addysg uwch yng Nghymru.

Phil Williams spoken in English p. 23

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 23

Given the existence of a bilingual education system, the pioneering of a Welsh Baccalaureate, the problems of a serious gap in basic skills and several other unique challenges, I am sure that you will agree that educational research has a special importance in Wales. Do you agree with the review that funding levels for research in Wales are low compared with the rest of the UK and the Organisation for Economic Co-operation and Development? Will the new liaison group be able to address any funding shortfall?

O ystyried bodolaeth system addysg ddwyieithog, arloesi Bagloriaeth Gymreig, problemau’r bwlch difrifol o ran sgiliau sylfaenol a sawl her unigryw arall, yr wyf yn sicr y byddwch yn cytuno bod ymchwil addysgol yn arbennig o bwysig yng Nghymru. A ydych yn cyd-weld â’r adolygiad bod y lefelau ariannu i ymchwil yng Nghymru’n isel o’u cymharu â gweddill y DU a’r Gymdeithas Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd? A fydd y grŵp cyswllt newydd yn gallu rhoi sylw i unrhyw ddiffyg mewn cyllid?

Jane Davidson spoken in English p. 24

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 24

As an Assembly, we do not only commission research from higher education. We have invested in Estyn, which will undertake evidence-based research for us. The largest commissioner of research in Wales at the moment is ACCAC, which is funded by the Assembly. We also contribute towards the Economic and Social Research Council. The authors of the report also made it clear to the Committee that it was difficult to obtain some of the information. We know that our higher education institutions in Wales are only getting 3 per cent of research council funding—for which they have to bid—when we should receive at least 6 per cent. As Minister, I believe that we should receive much more than that. During our review of higher education, we discovered the high quality research that is carried out across Wales. In terms of research, we have one of only two five star education departments in the UK. We should develop that.

Fel Cynulliad, nid gan addysg uwch yn unig y byddwn yn comisiynu ymchwil. Yr ydym wedi buddsoddi yn Estyn, a fydd yn gwneud ymchwil ar sail tystiolaeth i ni. Y comisiynydd ymchwil mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd yw ACCAC, a ariannir gan y Cynulliad. Yr ydym hefyd yn cyfrannu at y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rhoddodd awduron yr adroddiad wybod i’r Pwyllgor hefyd ei bod yn anodd cael peth o’r wybodaeth. Gwyddom nad yw’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ond yn cael 3 y cant o gyllid y cynghorau ymchwil—y maent yn gorfod ymgeisio amdano—tra dylem dderbyn o leiaf 6 y cant. Fel Gweinidog, credaf y dylem dderbyn llawer mwy na hynny. Yn ystod ein hadolygiad o addysg uwch, canfuom yr ymchwil o ansawdd da a wneir ledled Cymru. O ran ymchwil, gennym ni y mae un o ddim ond dwy adran addysg bum seren yn y DU. Dylem ddatblygu hynny.

Our proposals for a liaison group are exciting. It will develop an infrastructure to enable the Assembly to have a proper dialogue with the research community. As that community says, it has not managed to link educational research with psychology and social science research. It is not just educational research that we should consider in the Assembly. Our strategy mentions using research more effectively as an evidence base for the Welsh Assembly Government. I will carry that philosophy forward.

Mae ein cynigion am grŵp cyswllt yn gyffrous. Bydd yn datblygu seilwaith i alluogi’r Cynulliad i gael deialog briodol â’r gymuned ymchwil. Fel y dywed y gymuned honno, nid yw wedi gallu cysylltu ymchwil addysgol ag ymchwil mewn seicoleg a’r gwyddorau cymdeithasol. Nid ymchwil addysgol yn unig y dylem ei hystyried yn y Cynulliad. Mae ein strategaeth yn sôn am ddefnyddio ymchwil yn fwy effeithiol fel sylfaen dystiolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Byddaf yn parhau â’r athroniaeth honno.

Peter Rogers spoken in English p. 24

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 24

Do you agree that we will not have good quality educational research that can be applied to Wales unless we have more trained and qualified professionals? How will you promote access to appropriate professional research training in Wales?

A ydych yn cytuno na fydd gennym ymchwil addysgol o ansawdd da y gellir ei chymhwyso ledled Cymru os na chawn fwy o weithwyr proffesiynol hyfforddedig a chymwysedig? Sut y byddwch yn hyrwyddo mynediad at hyfforddiant ymchwil proffesiynol priodol yng Nghymru?

Jane Davidson spoken in English p. 24

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 24

As I said, Wales has one of the two best research departments in the UK. We must not underestimate the quality of research in Wales. On action research by professionals, we have an innovative, popular and unique approach, through the General Teaching Council for Wales, whereby all teachers can improve their professional development. We have been successful in terms of teachers applying for research bursaries, with over 150 receiving bursaries from the first tranche of money and over 250 from the second tranche. We are committed to professionalising and enhancing the skills of our working population as well as the opportunities for academics in our higher education system. We want to collaborate with those academics more effectively, so that we do not just have a high quality education research department in Cardiff, but that we can use individual researchers across Wales who have specialised in individual areas and do not want to move from Bangor, Aberystwyth or Swansea for career development reasons. As a small country, we should harness all those talents. That is why we emphasised collaboration in our higher education strategy.

Fel y dywedais, gan Gymru y mae un o’r ddwy adran ymchwil orau yn y DU. Rhaid inni beidio â synied yn rhy isel am ansawdd yr ymchwil yng Nghymru. Ynghylch ymchwil gweithredu gan weithwyr proffesiynol, mae gennym ddull gweithredu arloesol, poblogaidd ac unigryw, drwy Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sy’n cynnig modd i’r holl athrawon wella eu datblygiad proffesiynol. Buom yn llwyddiannus o ran athrawon a ymgeisiodd am fwrsariaethau ymchwil, gan fod dros 150 yn derbyn bwrsariaethau o’r dyraniad cyntaf o arian a thros 250 o’r ail ddyraniad. Yr ydym wedi ymrwymo i broffesiynoli a gwella sgiliau’r boblogaeth sy’n gweithio yn ogystal â’r cyfleoedd i academwyr yn ein system addysg uwch. Yr ydym am gydweithio â’r academwyr hynny’n fwy effeithiol, fel nad yng Nghaerdydd yn unig y bydd gennym adran ymchwil addysg o ansawdd da, ond fel ein bod yn gallu defnyddio ymchwilwyr unigol ledled Cymru sydd wedi arbenigo mewn meysydd unigol nad ydynt am symud o Fangor, Aberystwyth neu Abertawe am resymau datblygu gyrfa. Fel gwlad fach, dylem harneisio’r holl ddoniau hynny. Dyna pam y rhoesom bwyslais ar gydweithio yn ein strategaeth addysg uwch.

Polisi Ysgolion Gwledig

Rural Schools Policy

Q7 Peter Black spoken in English p. 25

C7 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 25

Will the Minister make a statement on the Welsh Assembly Government’s policy on rural schools? (OAQ17417) [R]

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran ysgolion gwledig? (OAQ17417) [R]

Jane Davidson spoken in English p. 25

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 25

I set out our rural schools policy in a paper that I presented to the Education and Lifelong Learning Committee in October last year. Our priority is that children in rural areas, like all children in Wales, should have access to education of the highest standard.

Nodais ein polisi ysgolion gwledig mewn papur a gyflwynais i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Oes ym mis Hydref y llynedd. Ein blaenoriaeth yw y dylai plant mewn ardaloedd gwledig, fel yr holl blant yng Nghymru, allu derbyn addysg o’r safon uchaf.

Peter Black spoken in English p. 25

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 25

Now that we have a special grant in place, and given the programme of closures in areas such as Pembrokeshire, what action can you take to encourage councils to reconsider those proposals in light of the policy that you have set out and the extra money that is now available to local councils?

Gan fod gennym grant arbennig ar waith bellach, ac o ystyried y rhaglen o gau mewn ardaloedd fel sir Benfro, pa gamau y gallwch eu cymryd i annog y cynghorau i ailystyried y cynigion hynny yng ngolwg y polisi yr ydych wedi’i nodi a’r arian ychwanegol sydd ar gael yn awr i’r cynghorau lleol?

Jane Davidson spoken in English p. 25

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 25

Educational standards and opportunities for all are the priorities.

Safonau addysgol a chyfleoedd i bawb yw’r blaenoriaethau.

Councils should consider how the provision of their local services meets the educational needs and aspirations of their communities. Where there are proposals to close schools, I will look for evidence that imaginative alternatives have been explored, that the proposal will not lead to unreasonably long journey times, and that the role of the school in the local community has been taken into account. As I said when we debated this, as we issued the document in October and as the revised guidance only involves some tweaking at the edges, councils know what evidence I will take into account when considering closure proposals. That will done according to the updated guidance.

Dylai’r cynghorau ystyried sut y mae darpariaeth eu gwasanaethau lleol yn cyflawni anghenion a dyheadau addysgol eu cymunedau. Pan fo cynigion i gau ysgolion, byddaf yn chwilio am dystiolaeth bod dewisiadau eraill dyfeisgar wedi’u hystyried, na fydd y cynnig yn arwain at amseroedd teithio afresymol o hir, a bod rôl yr ysgol yn y gymuned leol wedi’i chymryd i ystyriaeth. Fel y dywedais pan gawsom ddadl ar hyn, gan mai yn Hydref y cyhoeddasom y ddogfen a chan nad yw’r canllawiau diwygiedig ond yn golygu ychydig o fân newid ymylol, mae’r cynghorau’n gwybod pa dystiolaeth a gymeraf i ystyriaeth wrth ystyried cynigion i gau. Gwneir hynny’n unol â’r canllawiau a ddiweddarwyd.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 26

Croesawaf ymateb y Gweinidog i’r cwestiwn dyrys hwn. Mae nifer o faterion i’w hystyried, fel y dywedodd y Gweinidog. Yr wyf yn falch ei bod yn ystyried pob math o opsiynau ar gyfer ysgolion bach gwledig. Dylai’r pwyslais fod ar y ddarpariaeth addysg ac anghenion addysgol plant. A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod yr awdurdodau addysg yn deall y gofynion hynny a’u bod yn paratoi strategaethau addysg i ddarparu addysg o’r safon uchaf i blant ym mhob rhan o Gymru?

I welcome the Minister’s response to this complex question. There are many issues to consider, as the Minister said. I am pleased that she is considering all kinds of options for small rural schools. The emphasis should be on the educational provision and children’s educational needs. Will the Minister ensure that education authorities understand those requirements and that they prepare education strategies to provide education of the highest standard for children in all parts of Wales?

Jane Davidson spoken in English p. 26

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 26

The policy on rural schools, which we announced in October 2001, went out for consultation and was warmly welcomed by local education authorities. With a few small adjustments, it will become the Assembly Government’s policy. Last week, we also approved a grant of £2 million for local authorities. It is important that local authorities are in the best position to determine the needs of their local communities. In some instances, the best approach will be to retain and support small schools so that they work together in collaborative groups or in federations. With others, the best way to deliver effective, high-quality education to children in rural areas will be to consolidate provision and to close some schools. It is unsatisfactory to keep a school open which has no playing provision, no indoor toilets and inadequate classroom facilities. That does not benefit the education of the children of Wales. We must consider education for the twenty-first century and ensure that the children of Wales are educated in buildings that are fit for purpose.

Dosbarthwyd y polisi ar ysgolion gwledig, a gyhoeddasom yn Hydref 2001, ar gyfer ymgynghori a chafodd groeso cynnes gan yr awdurdodau addysg lleol. Ar ôl ychydig o fân newidiadau, hwnnw fydd polisi Llywodraeth y Cynulliad. Yr wythnos diwethaf, bu inni hefyd gymeradwyo grant o £2 filiwn i’r awdurdodau lleol. Mae’n bwysig bod yr awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau i bennu anghenion eu cymunedau lleol. Mewn rhai achosion, y dull gorau fydd cadw a chynnal ysgolion bach fel y gallant gydweithio mewn grwpiau cydweithredol neu mewn ffederasiynau. Mewn achosion eraill, y dull gorau o ddarparu addysg effeithiol o ansawdd da i blant mewn ardaloedd gwledig fydd cyfuno’r ddarpariaeth a chau rhai ysgolion. Nid yw’n foddhaol cadw ysgol yn agored a honno heb ddarpariaeth chwarae, toiledau dan do neu gyfleusterau ystafell ddosbarth digonol. Nid yw hynny o les i addysg plant Cymru. Rhaid inni ystyried addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a sicrhau bod plant Cymru’n derbyn eu haddysg mewn adeiladau sy’n addas i’w diben.

Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 27

Nick Bourne Arweinydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 27

I do not think that anyone would disagree with your last comments. Will you take this opportunity to confirm that, if a school is able to deliver the national curriculum, it should not be closed? There is widespread feeling that although some local authorities are applying the policy sensibly—Powys local authority for example—others such as Pembrokeshire local authority in relation to Moylgrove primary school, take an axe to rural schools.

Ni chredaf y byddai neb yn anghytuno â’ch sylwadau diwethaf. A wnewch fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau na ddylid cau ysgol os yw’n gallu darparu’r cwricwlwm cenedlaethol? Mae teimlad cyffredinol bod rhai awdurdodau lleol yn cymhwyso’r polisi’n synhwyrol— awdurdod lleol Powys, er enghraifft—ond bod eraill fel awdurdod lleol sir Benfro, mewn cysylltiad ag ysgol gynradd Trewyddel, yn torri ar ysgolion gwledig.

Jane Davidson spoken in English p. 27

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 27

We always take Estyn reports into account. The national curriculum is delivered differently in schools across Wales. I have always said that I would not want to close a popular and effective school. However, the emphasis must be on effectiveness: delivering the national curriculum to a minimum standard would not be sufficient. You would not want that for your constituents if we are considering the need for high-quality education for all. Our guidance is clear on this issue. I have a quasi-judicial role in terms of individual schools, on which I cannot comment. Local authorities are clear about the guidance and they make proposals on schools. If there are statutory objections regarding proposals, they come to me for determination. I have stated that the opportunities that we are creating in our rural and small schools strategy, and the way in which the proposals for closure are dealt with, are subject to what has already been announced to the Assembly.

Yr ydym bob amser yn cymryd adroddiadau Estyn i ystyriaeth. Caiff y cwricwlwm cenedlaethol ei gyflwyno’n wahanol mewn ysgolion ledled Cymru. Yr wyf yn dweud erioed na fyddwn am gau ysgol boblogaidd ac effeithiol. Fodd bynnag, rhaid rhoi pwys ar effeithiolrwydd: ni fyddai darparu’r cwricwlwm cenedlaethol at y safon sylfaenol yn ddigon. Ni fyddech am gael hynny i’ch etholwyr os ydym yn ystyried yr angen am addysg o ansawdd da i bawb. Mae ein canllawiau ar y mater hwn yn glir. Mae gennyf rôl led-farnwrol yng nghyd-destun ysgolion unigol, na allaf wneud sylw arnynt. Mae’r awdurdodau lleol yn deall y canllawiau a gwnânt gynigion ynghylch ysgolion. Os oes gwrthwynebiadau statudol i gynigion, deuant ataf fi i’w penderfynu. Yr wyf wedi datgan bod y cyfleoedd yr ydym yn eu creu yn ein strategaeth ysgolion gwledig a bach, a’r dull o drafod y cynigion i gau, yn amodol ar yr hyn a gyhoeddwyd eisoes yn y Cynulliad.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 9.53 a.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 9.53 a.m.

Cynllun Gweithredu Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru

The Welsh Assembly Government’s Childcare Action Plan

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 27

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

I have selected amendment 1 in the name of Jonathan Morgan.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jonathan Morgan.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 27

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 27

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 28

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 28

I am pleased to present a childcare action plan that covers a range of Assembly Government policy issues. In the first place, childcare is for children. When children are cared for outside their immediate family, it must be a safe, rewarding and enriching experience, and such childcare must be accessible to all children in Wales. We have recognised this by combining the local planning and funding of childcare with Sure Start and the children and youth partnership fund into Cymorth, the children and youth support fund. We are the first UK administration to do this and it has already attracted favourable UK press coverage. We will also ensure that childcare is underpinned through new statutory duties placed on local authorities to plan for childcare and to provide advice, information and training.

Yr wyf yn falch o gyflwyno cynllun gweithredu gofal plant sy’n ymdrin ag amryw o faterion polisi Llywodraeth y Cynulliad. Yn y lle cyntaf, mae gofal plant ar gyfer plant. Os yw plant yn derbyn gofal y tu allan i’w teulu agos, rhaid iddo fod yn brofiad diogel a buddiol sy’n eu cyfoethogi, a rhaid i ofal plant o’r fath fod ar gael i holl blant Cymru. Yr ydym wedi cydnabod hynny drwy gyfuno’r gwaith o gynllunio ac ariannu gofal plant yn lleol gyda Cychwyn Cadarn a’r gronfa partneriaeth plant a phobl ifanc i wneud Cymorth, y gronfa gymorth i blant a phobl ifanc. Ni yw’r weinyddiaeth gyntaf yn y DU i wneud hynny a chafodd sylw ffafriol eisoes gan wasg y DU. Byddwn hefyd yn sicrhau y caiff gofal plant ei ategu gan ddyletswyddau statudol newydd gan yr awdurdodau lleol i gynllunio gofal plant a darparu cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant.

The Minister for Education and Lifelong Learning and I have also agreed to take forward together proposals for integrated children’s centres. There are examples around Wales, especially in the more disadvantaged areas, where such integrated provision can have a dramatic impact on communities. These centres bring together the Welsh Assembly Government’s objective to extend free pre-school education with its wider social objectives for children. They can ensure that playgroups are available in combination with pre-school education, open access play, out-of-school clubs, community training and other children and family support projects. Additional funding for three national voluntary sector bodies is being provided to ensure that they can participate fully in developing these centres.

Mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes a minnau wedi cytuno hefyd i fwrw ymlaen gyda’n gilydd â chynigion am ganolfannau plant integredig. Ceir enghreifftiau o gwmpas Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle y mae darpariaeth integredig o’r fath yn gallu cael effaith drawiadol ar gymunedau. Mae’r canolfannau hyn yn cyfuno amcan Llywodraeth Cynulliad Cymru o ymestyn addysg cyn ysgol am ddim â’i hamcanion cymdeithasol ehangach i blant. Gallant fod yn fodd i sicrhau bod grwpiau chwarae ar gael ar y cyd ag addysg cyn ysgol, chwarae â mynediad agored, clybiau y tu allan i’r ysgol, hyfforddiant cymunedol a phrosiectau cymorth eraill i blant a’u teuluoedd. Darperir cyllid ychwanegol i dri chorff sector gwirfoddol cenedlaethol i sicrhau eu bod yn gallu cyfranogi’n llawn wrth ddatblygu’r canolfannau hyn.

Our action plan also recognises how childcare can help business, and how childcare businesses need support. Enlightened employers reap the benefits when their staff can balance work and family life as they wish. Childcare is one important element in that, alongside other caring responsibilities. We have provided the NHS in Wales with £1 million over three years to fund additional workplace childcare facilities, and we have agreed in the action plan to commit childcare resources to supplement challenge funds, encouraging innovation in this area.

Mae ein cynllun gweithredu’n cydnabod hefyd y modd y gall gofal plant helpu busnes, a’r math o gymorth y mae ar fusnesau gofal plant ei angen. Mae cyflogwyr goleuedig yn cael budd pan yw eu staff yn gallu dal y ddysgl yn wastad rhwng eu gwaith a’u bywyd teuluol fel y dymunant. Mae gofal plant yn un elfen bwysig o hynny, ochr yn ochr â chyfrifoldebau gofalu eraill. Yr ydym wedi darparu £1 filiwn i’r GIG yng Nghymru dros dair blynedd i ariannu cyfleusterau gofal plant ychwanegol yn y gweithle, ac yr ydym wedi cytuno yn y cynllun gweithredu i neilltuo adnoddau gofal plant i ategu’r cronfeydd her, gan hybu arloesedd yn y maes hwn.

We must also recognise that the care sector is growing and it needs to be nurtured from all sources of business support. The National Childminding Association in Wales has been successful in winning a major contract from the Welsh Development Agency worth more than £1.6 million over three years to support new entrants to the childminding profession. I commend the WDA’s imagination. New childminders can find the registration process challenging. It must ensure that our children are safe and receive quality care.

Rhaid inni gydnabod hefyd fod y sector gofal yn tyfu a bod angen ei feithrin drwy bob ffynhonnell cymorth busnes. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant yng Nghymru wedi llwyddo i ennill contract mawr gan Awdurdod Datblygu Cymru gwerth mwy na £1.6 miliwn dros dair blynedd i gynorthwyo newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn gwarchod plant. Canmolaf y WDA ar ei ddyfeisgarwch. Mae’r broses gofrestru’n gallu bod yn her i warchodwyr plant newydd. Rhaid iddi sicrhau bod ein plant yn ddiogel ac yn derbyn gofal o ansawdd da.

This contract will ensure that they receive introductory training of a consistent standard across Wales, one-to-one mentoring through the registration process and follow-up to promote further developments. The contract delivers part of the childminder start-up grant, which I recently announced. Local authority partnerships will now have even more funds to provide equipment to childminders or to support other childcare settings. I know that we are all concerned that some childcare providers struggle to survive; childcare is not affordable to many people; childminders cannot be found in some areas; and childcare workers are on low incomes. In our last debate on this issue, Assembly Members emphasised the difficulties of short-term funding. I can confirm that funds for childcare are increasing. We have a long-term vision for funding children’s programmes, including childcare. We announced that local partnerships should provide five-year plans for the unified fund, Cymorth, and that, after five years, we intend to transfer the funds to the main local government settlement, underpinned by statutory duties.

Bydd y contract hwn yn sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant rhagarweiniol o safon gyson ledled Cymru, mentora un i un yn ystod y broses gofrestru a dilyniant i hybu datblygiadau pellach. Mae’r contract yn cyflawni rhan o’r grant cychwyn i warchodwyr plant, a gyhoeddais yn ddiweddar. Bydd gan bartneriaethau’r awdurdodau lleol fwy byth o arian yn awr i ddarparu offer i warchodwyr plant neu i gynorthwyo lleoliadau gofal plant eraill. Gwn ein bod i gyd yn pryderu bod rhai darparwyr gofal plant yn ei chael yn anodd parhau; mae llawer o bobl na allant fforddio gofal plant; ni ellir dod o hyd i warchodwyr plant mewn rhai ardaloedd; ac mae incwm gweithwyr gofal plant yn isel. Yn ein dadl ddiwethaf ar y pwnc hwn, rhoddodd Aelodau’r Cynulliad bwyslais ar yr anawsterau sydd ynglŷn ag ariannu tymor byr. Gallaf gadarnhau bod y cyllid i ofal plant yn cynyddu. Mae gennym weledigaeth dymor hir ar gyfer ariannu rhaglenni plant, gan gynnwys gofal plant. Gwnaethom gyhoeddi y dylai’r partneriaethau lleol ddarparu cynlluniau pum mlynedd ar gyfer y gronfa unedig, Cymorth, a’n bod yn bwriadu trosglwyddo’r arian ar ôl pum mlynedd i’r prif setliad llywodraeth leol, gan ei ategu â dyletswyddau statudol.

We require local partnerships to distribute some of these funds through an open and transparent grant scheme within each authority area. We will work to take full advantage of other sources of funding, including community regeneration funds, lottery based funding and European structural funds. I am pleased to note that the new opportunities fund has just announced extra help with the costs associated with training, such as travel costs and temporary staff cover within its out of school hours programme.

Yr ydym yn mynnu bod y partneriaethau lleol yn dosbarthu rhywfaint o’r arian hwn drwy gynllun grant agored a thryloyw yn ardal pob awdurdod. Byddwn yn ceisio manteisio’n llawn ar ffynonellau ariannol eraill, gan gynnwys cronfeydd adfywio cymunedol, arian o’r loteri a chronfeydd strwythurol Ewrop. Yr wyf yn falch o nodi bod y gronfa cyfleoedd newydd yn ddiweddar wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol o fewn ei rhaglen tu allan i oriau ysgol at y costau sy’n gysylltiedig â hyfforddi, megis costau teithio a thalu am staff dros dro.

We will also support local partnerships more effectively through a guidance and evaluation unit that can spread best practice. The role of local partnerships is also vital as the point of contact for families trying to find information on childcare provision. The childcare action plan sets out a number of actions in that regard. The key principles are that we want to see the Care Standards Inspectorate for Wales make its base registration data available to local information services, and those local services must add the more detailed information that parents will need. There is also an important role for good quality web-based services. We will participate in the childcare link website, which covers England and Scotland, and to a limited extent at present, Wales, provided that we can be satisfied on cost, standards of service and bilingual presentation. Our own registration data will be at the core of the information presented. We will take care to encourage local developments at the same time.

Byddwn hefyd yn rhoi cymorth mwy effeithiol i’r partneriaethau lleol drwy uned cyfarwyddyd a gwerthuso sy’n gallu lledaenu’r arfer gorau. Mae rôl y partneriaethau lleol yn hollbwysig hefyd fel pwynt cyswllt i deuluoedd sy’n ceisio dod o hyd i wybodaeth am y ddarpariaeth gofal plant. Mae’r cynllun gweithredu gofal plant yn nodi nifer o gamau yn hynny o beth. Yr egwyddorion allweddol yw ein bod am weld Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru’n darparu’i data cofrestru sylfaenol i’r gwasanaethau gwybodaeth lleol, a rhaid i’r gwasanaethau lleol hynny ychwanegu’r wybodaeth fanylach y bydd ar rieni ei hangen. Mae rôl bwysig hefyd i wasanaethau o ansawdd da ar y we. Byddwn yn cymryd rhan yn y wefan cysylltiadau gofal plant, sy’n cynnwys Lloegr a’r Alban, a Chymru i raddau cyfyng ar hyn o bryd, ar yr amod ein bod yn gallu bod yn fodlon ar y gost, y safonau gwasanaeth a chyflwyniad dwyieithog. Bydd lle canolog i’n data cofrestru ein hunain yn yr wybodaeth a gyflwynir. Byddwn yn ymorol am hybu datblygiadau lleol yr un pryd.

We will not support Jonathan Morgan’s amendment 1 because the main motion already recognises the economic dimensions of the childcare action plan. The plan already recognises the need for business support, and I have outlined the actions to take this forward.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 Jonathan Morgan gan fod y prif gynnig eisoes yn cydnabod dimensiynau economaidd y cynllun gweithredu gofal plant. Mae’r cynllun eisoes yn cydnabod yr angen am gymorth busnes, ac yr wyf wedi disgrifio’r camau i hyrwyddo hynny.

I conclude by returning to the needs of children. You welcomed our new regulations and minimum care standards for children under eight when we debated them in March. The Assembly has led the way in banning smacking in registered day care settings, and in its emphasis on the value of play. I hope to announce the Assembly Government’s play policy shortly. We will also work with the voluntary sector to encourage providers to consistently seek higher standards. We are funding Play Wales to promote the playwork sector, which suffers particularly from shortages of staff with recognised qualifications. I emphasise the value of the staff and volunteers who provide care for our children. I hope that you will join me in supporting this action plan and in building the quantity and quality of childcare provision in Wales.

Terfynaf drwy ddychwelyd at anghenion plant. Gwnaethoch groesawu ein rheoliadau a’n safonau gofal sylfaenol i blant dan wyth pan gawsom ddadl arnynt ym Mawrth. Mae’r Cynulliad wedi arwain y ffordd drwy wahardd taro plant mewn lleoliadau gofal dydd cofrestredig, ac yn ei bwyslais ar werth chwarae. Yr wyf yn gobeithio cyhoeddi polisi chwarae Llywodraeth y Cynulliad cyn hir. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol i annog darparwyr i geisio safonau uwch yn gyson. Yr ydym yn ariannu Chwarae Cymru i hyrwyddo’r sector gwaith chwarae, sy’n dioddef yn benodol gan brinder staff â chymwysterau cydnabyddedig. Pwysleisiaf werth y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gofalu am ein plant. Gobeithiaf y byddwch yn ymuno â mi i gefnogi’r cynllun gweithredu hwn ac wrth ddatblygu maint ac ansawdd y ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru.

David Melding spoken in English p. 31

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 31

I propose amendment 1 in the name of Jonathan Morgan: add a new point at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 1 yn enw Jonathan Morgan: ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

David Melding (continued) spoken in English p. 31

David Melding (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 31

I see that abnormal service has been resumed on the automatic rejection of opposition amendments. The excuses that are now given are delicious. The latest one is that the amendment will not be supported because it refers to matters that are already in the childcare action plan. The whole motion refers to the contents of the childcare action plan. Points 2, 3 and 4 of the Minister’s motion would be automatically redundant based on that criterion. I suppose that they must find desperate reasons to convince people that they are not being sharply, unthinkingly partisan, which is what is happening. If the Minister disagrees with the amendment, she should say so directly. However, I suspect that she does not—

Gwelaf fod y gwasanaeth annormal wedi ailddechrau o ran gwrthod gwelliannau’r wrthblaid yn awtomatig. Mae’r esgusion a roddir yn awr yn amheuthun. Y diweddaraf yw na chefnogir y gwelliant am ei fod yn cyfeirio at faterion sydd eisoes yn y cynllun gweithredu gofal plant. Mae’r holl gynnig yn cyfeirio at gynnwys y cynllun gweithredu gofal plant. Byddai pwyntiau 2, 3 a 4 yng nghynnig y Gweinidog yn afraid yn awtomatig ar sail y maen prawf hwnnw. Mae’n debyg gennyf eu bod yn gorfod dod o hyd i resymau anobeithiol i argyhoeddi pobl nad ydynt yn ddidostur ac yn ddifeddwl o bleidiol, sef yr hyn sy’n digwydd. Os yw’r Gweinidog yn anghytuno â’r gwelliant, dylai ddweud hynny ar ei ben. Fodd bynnag, yr wyf yn amau nad ydyw—

Brian Gibbons spoken in English p. 32

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 32

We agree with it.

Yr ydym yn cytuno ag ef.

David Melding spoken in English p. 32

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 32

The Deputy Minister for Health says that they agree with the amendment, but it seems odd that they vote against amendments with which they agree—

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd yn dweud eu bod yn cytuno â’r gwelliant, ond mae’n ymddangos yn rhyfedd eu bod yn pleidleisio’n erbyn gwelliannau y maent yn cytuno â hwy—

Brian Gibbons spoken in English p. 32

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 32

Why waste people’s time repeating the obvious?

Pam yr ydych yn gwastraffu amser pobl drwy ail-ddweud yr hyn sy’n amlwg?

David Melding spoken in English p. 32

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 32

It is important that people watching the Assembly’s proceedings realise that the administration will not allow the opposition parties to make what used to be called friendly amendments. We are supposed to be an inclusive organisation. That used to be the front bench’s proud claim, but it is nonsense. The Minister either disagrees with the amendment, or she is rejecting it on the grounds that it has been proposed by the Conservatives. To say that it refers to something that is already in the action plan is no excuse because the three points of her motion refer to the contents of the action plan.

Mae’n bwysig bod y rhai sy’n gwylio trafodion y Cynulliad yn sylweddoli na wnaiff y weinyddiaeth ganiatáu i’r gwrthbleidiau wneud yr hyn yr arferid ei alw’n welliannau cyfeillgar. Yr ydym i fod yn gorff cynhwysol. Dyna fyddai’r fainc flaen yn falch o’i honni, ond nonsens ydyw. Un ai y mae’r Gweinidog yn anghytuno â’r gwelliant, neu mae’n ei wrthod am y rheswm ei fod wedi’i gynnig gan y Ceidwadwyr. Nid yw dweud ei fod yn cyfeirio at rywbeth sydd eisoes yn y cynllun gweithredu yn esgus gan fod tri phwynt ei chynnig yn cyfeirio at gynnwys y cynllun gweithredu.

To return to the substantial issues before us, good quality, affordable childcare is vital in a modern, successful economy. The Conservative Party is committed to all good efforts to increase the provision of quality childcare. The economic and social benefits for the whole economy will be vast and the quality of life of the children who receive this care will also be important. All the evidence suggests that effective, innovative pre-school care has a great impact on the outcome of children’s education and development. The independent and business sectors are also vital. I will discuss the independent sector first, where the strategy is weak, but it could be strengthened in time. The voluntary sector offers innovative services. That is the starting point. In a system that relies heavily on local government for co-ordination, involving the independent sector is an important counterweight, and will aid the agencies that are delivering this strategy to provide effective services. Voluntary bodies often target the vulnerable and deprived groups much more effectively than larger organisations or state organisations. I emphasise that because there is no mention in the strategy about provision for children with special educational needs.

I fynd yn ôl at y materion pwysig sydd gerbron, mae gofal plant fforddiadwy o ansawdd da yn hollbwysig mewn economi lwyddiannus a modern. Mae’r Blaid Geidwadol wedi ymrwymo i bob ymdrech da i ddarparu rhagor o ofal plant o ansawdd da. Bydd manteision economaidd a chymdeithasol aruthrol i’r economi gyfan a bydd ansawdd bywyd y plant sy’n derbyn y gofal hwn yn bwysig hefyd. Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu bod gofal cyn ysgol arloesol ac effeithiol yn cael effaith fawr ar ganlyniad addysg a datblygiad plant. Mae’r sectorau annibynnol a busnes yn hollbwysig hefyd. Trafodaf y sector annibynnol yn gyntaf, gan fod y strategaeth yn wan ar hynny, ond gellid ei gwella ymhen amser. Mae’r sector gwirfoddol yn cynnig gwasanaethau arloesol. Dyna’r man cychwyn. Mewn system sy’n dibynnu’n helaeth ar lywodraeth leol am gydlyniad, mae’n bwysig cynnwys y sector annibynnol fel gwrthbwys, a bydd yn helpu’r asiantaethau sy’n cyflawni’r strategaeth hon i ddarparu gwasanaethau effeithiol. Yn aml, mae cyrff gwirfoddol yn targedu’r grwpiau sy’n ddifreintiedig ac yn agored i niwed yn llawer mwy effeithiol na chyrff mwy neu gyrff gwladol. Pwysleisiaf hynny am nad oes sôn yn y strategaeth am ddarpariaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

The Minister will know from our inquiry into the health needs of children with special educational needs and special healthcare needs that pre-school care is often not provided for this group of children. They are probably the most vulnerable group that could benefit from this kind of care provision, and it would ensure respite for these children’s parents. It is a key group, and we have been consistently told by parents and organisations that provision for children with special educational needs is inadequate. They are often denied any form of pre-school care until they reach the age of five when, by law, they must have some form of schooling. That issue must be addressed.

Gŵyr y Gweinidog oddi wrth ein hymchwiliad i anghenion iechyd plant ag anghenion addysgol arbennig ac anghenion gofal iechyd arbennig na ddarperir gofal cyn ysgol yn aml i’r grŵp plant hwn. Mae’n debyg mai hwy yw’r grŵp mwyaf agored i niwed a allai gael budd o ddarpariaeth gofal o’r math hwn, a byddai’n sicrhau seibiant i rieni’r plant hyn. Mae’n grŵp allweddol, a dywedwyd wrthym dro ar ôl tro gan rieni a chyrff fod y ddarpariaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig yn annigonol. Yn aml naceir unrhyw fath o ofal cyn ysgol iddynt nes eu bod yn cyrraedd pump oed pan yw’n rhaid iddynt gael rhyw fath o addysg o dan y gyfraith. Rhaid ymdrin â’r mater hwnnw.

There are two aspects to the business sector’s involvement. Companies must be more effective in providing childcare services. That is key to retaining many skilled staff, and I hope that this aspect of the strategy will be effective through the WDA and other business support organisations. I am sure that we will see developments, but it is vital for private companies to take that on board. Secondly, there are great opportunities for childcare businesses. A large section of our population is highly skilled in that area, but it has been informal, unrecognised and lowly paid. I hope that groups of people will now come forward and establish childcare businesses and be confident enough to access the training, receive the financial support and deliver an excellent service, which I am sure will be possible—

Mae dwy agwedd ar y rhan a gymerir gan y sector busnes. Rhaid i gwmnïau fod yn fwy effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau gofal plant. Mae hynny’n hollbwysig er mwyn cadw llawer o’r staff medrus a gobeithiaf y bydd yr agwedd hon ar y strategaeth yn effeithiol drwy’r WDA a’r cyrff cymorth busnes eraill. Yr wyf yn sicr y gwelwn ddatblygiadau, ond mae’n hollbwysig i gwmnïau preifat ystyried hynny. Yn ail, mae cyfleoedd mawr i fusnesau gofal plant. Mae rhan fawr o’n poblogaeth yn dra medrus yn y maes hwnnw, ond bu’n anffurfiol, yn anghydnabyddedig ac yn isel ei dâl. Gobeithiaf y bydd grwpiau o bobl yn dod ymlaen yn awr ac yn sefydlu busnesau gofal plant ac y byddant yn ddigon hyderus i gael at yr hyfforddiant, derbyn y cymorth ariannol a darparu gwasanaeth rhagorol, a fydd yn bosibl yr wyf yn siŵr—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 33

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

Order. You have time for one more sentence, David.

Trefn. Mae gennych amser i un frawddeg arall, David.

David Melding siaradwyd yn Gymraeg t. 33

David Melding spoken in Welsh p. 33

I did give way.

Gwneuthum ildio.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 33

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

You are right.

Yr ydych yn iawn.

David Melding spoken in English p. 33

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 33

I will conclude with a 20-second point. The current problem is that the number of childminders has declined considerably. The strategy hopes to see a return to the 1999 levels by 2005 but we need to set higher targets than that and recognise that, in order to increase the quality and regulation in this area, we must address the reduction in the number of childminders. That is a hump that we must get over quickly.

Terfynaf â phwynt 20 eiliad o hyd. Y broblem ar hyn o bryd yw bod nifer y gwarchodwyr plant wedi disgyn yn sylweddol. Mae’r strategaeth yn gobeithio gweld dychwelyd at lefelau 1999 erbyn 2005 ond rhaid inni bennu targedau uwch na hynny a chydnabod, er mwyn cynyddu’r ansawdd a’r rheoleiddio yn y maes hwn, bod yn rhaid inni roi sylw i’r gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant. Rhaid inni oresgyn y rhwystr hwnnw’n gyflym.

Janice Gregory spoken in English p. 34

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 34

I will be more succinct than David because I do not need to complain about an amendment. There are many positive measures in this action plan, not least the increased resources for early years development and childcare partnerships, as the Minister mentioned. It is an increase of 60 per cent for 2002-03, from £2.4 million to £3.8 million. I also welcome the increase in funding for voluntary organisations that provide childcare. It amounts to an increase of £214,000 this financial year, and an additional £388,000 next year.

Byddaf yn fwy cryno na David gan nad oes arnaf angen cwyno am welliant. Mae llawer o gamau cadarnhaol yn y cynllun gweithredu hwn, nid lleiaf y cynnydd yn yr adnoddau i ddatblygu yn y blynyddoedd cynnar a’r partneriaethau gofal plant, fel y dywedodd y Gweinidog. Mae’n gynnydd o 60 y cant ar gyfer 2002-03, o £2.4 miliwn i £3.8 miliwn. Yr wyf hefyd yn croesawu’r cynnydd yn yr arian i fudiadau gwirfoddol sy’n darparu gofal plant. Mae’n gwneud cyfanswm o £214,000 yn y flwyddyn ariannol hon, a £388,000 yn ychwanegol y flwyddyn nesaf.

I know that parents in my constituency will welcome the Assembly Government’s efforts to reverse the decline in the number of childminders, and I hope that the start-up grant of £300 will help to achieve that. Along with this extra investment, the enhanced access to information on childcare facilities will be truly appreciated. Many families are struggling to make the right decisions for their children because they do not know where to find childcare and how to choose it. I would like to see us build on examples of current best practice, to ensure that parents in all parts of Wales are empowered to make the choices that are best for them and their children.

Gwn y bydd y rhieni yn fy etholaeth i’n croesawu ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i wrthdroi’r gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant, a gobeithiaf y bydd y grant cychwyn o £300 yn gymorth i gyflawni hynny. Gwir werthfawrogir y buddsoddiad ychwanegol hwn, ynghyd â’r hwb i’r mynediad at wybodaeth am gyfleusterau gofal plant. Mae llawer o deuluoedd yn ei chael yn anodd gwneud y penderfyniadau iawn ar gyfer eu plant am na wyddant ym mhle i ddod o hyd i ofal plant a sut i’w ddewis. Hoffwn ein gweld yn datblygu’r enghreifftiau o’r arfer gorau a geir ar hyn o bryd, fel y bydd rhieni ym mhob rhan o Gymru’n cael eu galluogi i wneud y penderfyniadau gorau iddynt hwy a’u plant.

It is in deprived communities that these measures have the greatest potential to make themselves felt. Good quality and accessible childcare will be a powerful tool in promoting social inclusion for children and parents alike. Socially and economically, we have the opportunity to make a real difference. In addition to providing opportunities for those parents who return to work, good childcare will help tackle unemployment, welfare dependency, child poverty and educational underachievement, as well as socialising children from an early age.

Yn y cymunedau difreintiedig y mae’r posibiliadau mwyaf i’r mesurau hyn gael effaith. Bydd gofal plant hygyrch o ansawdd da’n offeryn pwerus i hybu cynhwysiant cymdeithasol i blant a’u rhieni. Mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn gymdeithasol ac yn economaidd. Yn ogystal â darparu cyfleoedd i’r rhieni sy’n mynd yn ôl i weithio, bydd gofal plant da o gymorth i fynd i’r afael â diweithdra, dibyniaeth ar fudd-daliadau, tlodi plant a thangyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â chymdeithasoli plant o oedran cynnar.

Reference has been made to out-of-school clubs. These are sometimes overlooked, but they are crucial as they provide a range of activities for children while at the same time offering safe, acceptable childcare for parents who, for whatever reason, are not able to look after their children before school, after school or during the school holidays. Further to this point, what plans does the Minister have for the further integration of out-of-school clubs, extracurricular programmes and childcare provision during school holidays? This issue has been raised with me by constituents who feel the extra burden, particularly during the long summer break, when there is obviously extra pressure on parents trying to balance their work and family commitments.

Cyfeiriwyd at glybiau y tu allan i’r ysgol. Diystyrir y rhain weithiau, ond maent yn hollbwysig gan eu bod yn darparu amryw o weithgareddau i blant gan gynnig gofal plant diogel a derbyniol ar yr un pryd i rieni na allant ofalu am eu plant, am ba bynnag reswm, cyn mynd i’r ysgol, ar ôl dod o’r ysgol neu yn ystod y gwyliau ysgol. Ymhellach i’r pwynt hwn, pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i integreiddio clybiau y tu allan i’r ysgol, rhaglenni allgwricwlaidd a’r ddarpariaeth gofal plant ymhellach yn ystod y gwyliau ysgol? Codwyd y mater hwn gyda mi gan etholwyr sy’n teimlo’r baich ychwanegol, yn enwedig yn ystod y toriad hir yn yr haf, pan fo pwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar rieni sy’n ceisio dal y ddysgl yn wastad rhwng eu hymrwymiadau i’w gwaith a’u teulu.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 35

David Lloyd spoken in Welsh p. 35

Datganaf fy muddiant arferol fel meddyg teulu ac aelod o Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Yng nghyd-destun y ddadl hon, datganaf fuddiant arall gan fod fy ngwraig yn aelod o fwrdd rheoli clwb terfyn dydd Ysgol Gynradd Gymraeg Brynymor yn Abertawe, ac yr wyf fi yn gyn gadeirydd cangen yr hen Orllewin Morgannwg o’r Mudiad Ysgolion Meithrin.

I declare my usual interest as a general practitioner and a member of Swansea City and County Council. In the context of this debate, I declare another interest as my wife is a member of the management board of the out-of-school club at Ysgol Gynradd Gymraeg Brynymor in Swansea, and I used to chair the former West Glamorgan branch of Mudiad Ysgolion Meithrin.

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn oherwydd, fel y crybwyllwyd eisoes, mae maes gofal plant yn hanfodol bwysig. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn rhoi sylw teilwng i’r pwnc. Yr ydym wedi trafod y trafferthion a’r rhwystrau ym maes gofal plant yn y gorffennol yn y Siambr. Ymysg y 24 o bwyntiau gweithredu, mae’r cynllun yn argymhell adnoddau ychwanegol ac hyfforddiant i’r sawl sy’n gofalu. Mae hefyd yn cydnabod cyfraniad y maes hwn i’r economi yn gyffredinol. Dylid croesawu hyn, oherwydd y realiti yn aml yw bod gofal plant yn costio’n ddrud ac yn anodd i’w gael os ydych yn gweithio oriau anarferol, drwy ddechrau’n gynnar yn y bore neu orffen yn hwyr y nos. Hefyd, mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn aml yn brin.

Plaid Cymru will support this motion because, as has already been mentioned, childcare is vitally important. This action plan gives the matter the attention it deserves. The difficulties and barriers in the childcare sector have been discussed in the Chamber previously. Among its 24 action points, the plan recommends additional resources and training for childcare providers. It also recognises the sector’s contribution to the wider economy. This is to be welcomed, because it is too often the case that childcare is expensive and difficult to find if you work irregular hours, such as early mornings or late nights. Also, Welsh-medium provision is often scarce.

Rhaid inni, fel cymdeithas, wella’r sefyllfa bresennol. Mae’r cynllun hwn yn cyfrannu at y broses o gamu ymlaen yn obeithiol i drawsnewid maes gofal plant. Yr her yw troi’r dymuniad a fynegir yn y cynllun gweithredu yn realiti i bobl Cymru a’u cymunedau.

We, as a society, must improve the current situation. This plan contributes to the process of moving forward with hope, to transform the field of childcare. The challenge is to turn the wish expressed in the action plan into a reality for the people of Wales and their communities.

Gwenda Thomas spoken in English p. 36

Gwenda Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 36

I am delighted to have the opportunity to welcome the childcare action plan, which shows how seriously the Welsh Assembly Government takes the issue of childcare, and how important it is to the economic and social wellbeing of our communities in Wales.

Yr wyf wrth fy modd o gael cyfle i groesawu’r cynllun gweithredu gofal plant, sy’n dangos mor ddifrif y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch mater gofal plant, a pha mor bwysig ydyw i les economaidd a chymdeithasol ein cymunedau yng Nghymru.

There are many examples of excellent childcare provision in Wales, especially in local government, where the early years development and childcare partnership—which embraces disabled children—are excellent examples of good practice. I particularly commend Neath Port Talbot County Borough Council, where 95.8 per cent of 3-year-old children, and 98.7 per cent of 4-year-old children already attend a nursery school. A recent Audit Commission and Social Services Inspectorate joint report commended the authority on its children’s services, saying that priority is given to child protection, that there is an excellent range of family support services, and that the council should be commended, in particular, for its record of involving partner agencies.

Mae llawer o enghreifftiau o ddarpariaeth gofal plant ragorol yng Nghymru, yn enwedig mewn llywodraeth leol, lle y mae’r bartneriaeth datblygu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant—sy’n cwmpasu plant anabl—yn enghraifft ragorol o arfer da. Canmolaf yn arbennig Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle y mae 95.8 y cant o blant teirblwydd oed, a 98.7 y cant o blant pedair blwydd oed eisoes yn mynychu ysgol feithrin. Rhoddwyd clod i’r awdurdod yn ddiweddar mewn adroddiad ar y cyd gan y Comisiwn Archwilio a’r Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am ei wasanaethau plant, a dywedwyd bod blaenoriaeth wedi’i rhoi i amddiffyn plant, a bod amrediad rhagorol o wasanaethau cymorth teuluol, ac y dylid canmol y cyngor, yn benodol, am ei record o ran cynnwys asiantaethau partner.

I have noted that the childcare action plan will require local government to provide information, advice and training. There is, therefore, a resource issue for local government. Will extra funding be made available for this purpose? The report further recommends that there should be at least one integrated children’s centre in every local authority area, which would bring childcare and early years education under one roof. I expect, therefore, that local authorities will be required to take the lead in this initiative.

Nodais y bydd y cynllun gweithredu gofal plant yn mynnu bod llywodraeth leol yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant. Mae mater yn codi, felly, ynghylch adnoddau i lywodraeth leol. A ddarperir arian ychwanegol i’r diben hwn? Mae’r adroddiad yn argymhell ymhellach y dylid cael o leiaf un ganolfan blant integredig ym mhob ardal awdurdod lleol, a fyddai’n rhoi gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar o dan yr unto. Disgwyliaf, felly, y bydd yn ofynnol i’r awdurdodau lleol arwain y ffordd yn y fenter hon.

However, while I fully endorse any improvement in childcare, the action plan does not take into account the fact that childcare provision should be made available where there is need. In Gwauncaegurwen, in my constituency, to the best of my knowledge, there are no childminders, and parents must rely on close family, friends or neighbours if they go out to work—which must remain a matter of choice. There is, therefore, a need to examine existing childcare provision, especially where there is a need to plug the gap.

Fodd bynnag, er fy mod yn llwyr gefnogi unrhyw wella mewn gofal plant, nid yw’r cynllun gweithredu’n cymryd i ystyriaeth yr angen i ddarparu gofal plant lle y mae angen. Yng Ngwauncaegurwen, yn fy etholaeth i, nid oes unrhyw warchodwyr plant, hyd y gwn i, a rhaid i’r rhieni ddibynnu ar y teulu agos, ffrindiau neu gymdogion os ydynt yn mynd i weithio—a rhaid i hynny fod yn fater o ddewis o hyd. Felly, mae angen ystyried y ddarpariaeth gofal plant bresennol, yn enwedig lle y mae angen llenwi bwlch.

Like Janice Gregory, I warmly welcome the report’s initiatives, such as the increase in funding for childcare partnerships by 60 per cent, and the provision of a start-up grant of £300 to all new childminders. However, one of the major reasons for using family for childcare is cost and affordability. Many young families may not be able to afford to pay for childcare, and I firmly believe that childcare provision and costs should reflect accessibility and ability to pay. Likewise, employers must take into account that childcare may be needed for school holidays, family illness, or a crisis at home, and any childcare provision they make should reflect this.

Fel Janice Gregory, croesawaf yn fawr y mentrau yn yr adroddiad, megis y cynnydd yn yr arian i’r partneriaethau gofal plant o 60 y cant, a darparu grant cychwyn o £300 i bob gwarchodwr plant newydd. Fodd bynnag, un o’r prif resymau dros ddefnyddio’r teulu ar gyfer gofal plant yw’r gost a’r gallu i’w fforddio. Mae’n bosibl nad yw llawer o deuluoedd ifanc yn gallu fforddio talu am ofal plant, a chredaf yn bendant y dylai’r ddarpariaeth o ofal plant a’i gost adlewyrchu ei hygyrchedd a’r gallu i dalu. Yn yr un modd, rhaid i gyflogwyr gymryd i ystyriaeth yr angen posibl am ofal plant yn y gwyliau ysgol, pan fo salwch teuluol, neu argyfwng yn y cartref, a dylai unrhyw ddarpariaeth gofal plant ganddynt hwy adlewyrchu hynny.

Finally, while I welcome this important strategy, we must remember that communities and society are diverse. This diversity must be reflected in childcare provision, and the best interests of the child should always come first. This was recently endorsed by the Save the Children Fund in its report ‘Children’s Rights: A Second Chance’, which said that,

Yn olaf, er fy mod yn croesawu’r strategaeth bwysig hon heddiw, rhaid inni gofio bod cymunedau a’r gymdeithas yn amrywiol. Rhaid adlewyrchu’r amrywiaeth hon yn y ddarpariaeth gofal plant, a dylai’r hyn sy’n orau i’r plentyn ddod yn gyntaf bob tro. Ategwyd hynny’n ddiweddar gan Gronfa Achub y Plant yn ei adroddiad ‘Children’s Rights: A Second Chance’, a ddywedodd,

‘children’s own unique situation and perspectives are often disregarded in the development of policies and programmes, goals and targets…and that…all actions, policies and practice should be carefully assessed to ensure that they take full account of the best interests of children.’

‘mae sefyllfa a safbwyntiau unigryw plant yn cael eu diystyru’n aml wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni, nodau a thargedau a dylai pob gweithred, polisi ac arfer gael ei asesu’n ofalus i sicrhau ei fod yn llwyr ystyried buddiannau gorau’r plant.’

If we are to strive towards achieving social inclusion, we must comprehensively reflect the wider picture of informal family care.

Os ydym i ymdrechu i sicrhau cynhwysiant cymdeithasol, rhaid inni adlewyrchu pob agwedd ar y darlun ehangach o ofal teuluol anffurfiol.

Kirsty Williams spoken in English p. 37

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 37

I welcome the action plan outlined today as a way of combating the dismal record of public funding for childcare that puts the UK at the bottom of the European league. That has resulted in high childcare costs that are prohibitive to many families. Many must rely on informal arrangements, with family members often bearing the brunt. Grandparents in particular find themselves looking after their grandchildren so that their sons and daughters can go out to work. The lack of affordable and flexible childcare is a millstone around the economic neck of Wales.

Croesawaf y cynllun gweithredu a amlinellwyd heddiw fel modd i wrthweithio’r hanes truenus o ariannu cyhoeddus i ofal plant sy’n rhoi’r DU ar waelod y gynghrair Ewropeaidd. Mae hynny wedi arwain at gostau gofal plant uchel sy’n afresymol i lawer o deuluoedd. Rhaid i lawer ddibynnu ar drefniadau anffurfiol, lle y mae aelodau o’r teulu yn aml yn dwyn y baich. Mae neiniau a theidiau’n benodol yn eu cael eu hunain yn gofalu am eu hwyrion a’u hwyresau fel bod eu meibion a’u merched yn gallu mynd allan i weithio. Mae diffyg gofal plant fforddiadwy a hyblyg yn faen melin am wddf economaidd Cymru.

Evidence from the Future Skills Wales survey and the anniversary research of Chwarae Teg revealed that 26 per cent of women surveyed cited the lack of childcare availability as the main barrier to them taking employment. In 1999, the Welsh Development Agency’s report ‘Caring for the Economy’ cited that if female economic activity in Wales were brought up to the UK average, it would result in more than £430 million in direct earnings, and an additional 2 per cent increase in gross domestic product in Wales. The report also highlighted the fact that if the 116,000 economically inactive women in Wales who said that they would like to go out to work, were able to do so, GDP per head could rise to an average of 89.5 per cent of UK levels.

Yr oedd y dystiolaeth o arolwg Sgiliau Dyfodol Cymru a’r ymchwil ar ben blwydd Chwarae Teg yn dangos bod 26 y cant o’r menywod a arolygwyd yn dweud mai diffyg argaeledd gofal plant oedd y rhwystr pennaf iddynt rhag mynd i weithio. Yn 1999, dywedodd adroddiad Awdurdod Datblygu Cymru ‘Caring for the Economy’ y byddai cynyddu gweithgaredd economaidd menywod yng Nghymru at gyfartaledd y DU yn arwain at fwy na £430 miliwn mewn enillion uniongyrchol, a chynnydd ychwanegol o 2 y cant yn y cynnyrch mewnwladol crynswth yng Nghymru. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith y gallai’r cynnyrch mewnwladol crynswth y pen godi i gyfartaledd o 89.5 y cant o un y DU os byddai’r 116,000 o fenywod economaidd anweithredol yng Nghymru a ddywedodd yr hoffent fynd allan i weithio yn gallu gwneud hynny.

The Minister’s opening speech mentioned the NHS, which is the largest public employer in Wales. This morning, on Radio Wales, Richard Jones the deputy board secretary in Wales of the Royal College of Nursing cited the lack of flexible childcare as a barrier to successful nurse recruitment and retention in the NHS in Wales. We need to challenge trusts on what they are doing about this.

Yn araith agoriadol y Gweinidog, cyfeiriwyd at y GIG, sef y cyflogwr cyhoeddus mwyaf yng Nghymru. Y bore yma, ar Radio Wales, dywedodd Richard Jones, y dirprwy ysgrifennydd bwrdd yng Nghymru i’r Coleg Nyrsio Brenhinol, fod diffyg gofal plant hyblyg yn rhwystr rhag recriwtio a chadw nyrsys yn y GIG yng Nghymru. Rhaid inni herio’r ymddiriedolaethau ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud am hynny.

The Assembly must also consider what it is doing in this area. Perhaps I will be accused of self-interest, but will the Minister pursue the availability of crèche facilities in the new Assembly building with the Presiding Officer? While we lecture others on the need to provide childcare facilities, we blindly continue to ignore provision in the National Assembly for Wales. I do not speak just for myself and, potentially, Lynne Neagle, but for others in the Assembly who have childcare responsibilities: the staff; those with whom we engage in debates in the Chamber and in Assembly functions; those from whom we take evidence; and those who want to visit the National Assembly for Wales and listen to and participate in our proceedings. I am afraid that a children’s table at the end of the milling area with some Duplo bricks and a few books is not a child-friendly policy for the National Assembly.

Rhaid i’r Cynulliad hefyd ystyried beth y mae’n ei wneud yn y maes hwn. Efallai y caf fy nghyhuddo o hunan-les, ond a wnaiff y Gweinidog drafod argaeledd cyfleusterau meithrinfa yn yr adeilad Cynulliad newydd gyda’r Llywydd? Tra pregethwn wrth eraill am yr angen i ddarparu cyfleusterau gofal plant, parhawn i lwyr anwybyddu darpariaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid wyf yn siarad ar fy rhan fy hun yn unig, a Lynne Neagle o bosibl, ond ar ran eraill yn y Cynulliad sydd â chyfrifoldebau gofal plant: y staff; y rhai yr ydym yn eu cynnwys mewn dadleuon yn y Siambr ac yn swyddogaethau’r Cynulliad; y rhai yr ydym yn cymryd tystiolaeth ganddynt; a’r rhai sydd am ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a gwrando ar ein trafodion a chymryd rhan ynddynt. Mae arnaf ofn nad yw bwrdd plant ym mhen y neuadd gyda brics Duplo ac ychydig o lyfrau yn bolisi ystyriol o blant i’r Cynulliad.

Christine Chapman spoken in English p. 39

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 39

I welcome today’s action plan. I am also pleased that the Welsh Assembly Government is taking the lead in such a vital aspect of our lives. Wales has a much brighter economic future, but its most important asset is people. I am delighted that childcare is at last seen as central to Wales’s economic agency. If we want to ensure that barriers to work are removed for parents who want to participate in the workplace, it is essential to get this right.

Croesawaf y cynllun gweithredu hwn heddiw. Yr wyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n arwain mewn agwedd mor bwysig yn ein bywydau. Mae gan Gymru ddyfodol economaidd mwy gobeithiol o lawer, ond ei hased pwysicaf yw pobl. Yr wyf wrth fy modd bod gofal plant yn cael ei ystyried yn ganolog o’r diwedd gan asiantaeth economaidd Cymru. Os ydym am sicrhau y caiff rhwystrau i waith eu dymchwel ar gyfer rhieni sydd am gymryd rhan yn y gweithle, mae’n hollbwysig cael hyn yn iawn.

Yesterday, the Economic Development Committee received a useful presentation from Chwarae Teg. Some of the findings in its recent research, which Kirsty mentioned, into 1,000 women and 500 employers suggest that although women’s role in the Welsh workplace has changed, there is still, unfortunately, much to do. Two of the most significant findings showed why unemployed women did not work: that there were too few jobs in the area, and that those jobs that were available did not cover the cost of childcare, which has increased significantly over the 10 years of the study.

Ddoe, cafodd y Pwyllgor Datblygu Economaidd gyflwyniad buddiol gan Chwarae Teg. Mae rhai o’r canfyddiadau yn ei ymchwil ddiweddar, y cyfeiriodd Kirsty ati, i 1,000 o fenywod a 500 o gyflogwyr yn awgrymu, er y bu newid yn rôl menywod yn y gweithle yng Nghymru, fod llawer eto i’w wneud, gwaetha’r modd. Yr oedd dau o’r canfyddiadau pwysicaf yn dangos pam nad oedd menywod di-waith yn gweithio: am nad oedd digon o swyddi yn yr ardal, ac am nad oedd y swyddi hynny a oedd ar gael yn talu cost gofal plant, sydd wedi cynyddu’n sylweddol dros 10 mlynedd yr astudiaeth.

We must ensure that measures to increase quality childcare are not just avialable for the more affluent parents, but available to assist families in our poorer areas. We know that Objective 1 helps with that.

Rhaid inni sicrhau nad yw’r mesurau i gynyddu gofal plant o ansawdd da ar gael i rieni mwy cefnog yn unig, ond eu bod ar gael i helpu teuluoedd yn ein hardaloedd tlotach. Gwyddom fod Amcan 1 yn gymorth yn hynny o beth.

I was pleased to find out today that nearly £500,000 of the £2.8 million Objective 1 funding being invested in community projects will be given to the Gelli Deg Foundation Group. Some of that money will be used to fund a crèche. Many Objective 1 measures are addressing these issues. However, we cannot afford to be too complacent. I agree with Kirsty that the Assembly needs to put its own house in order first. It is not only a question of crèches, although they are the answer for some families. After school arrangements are needed for older children. When children are in their early teens, the situation can be more difficult sometimes. I have experienced this as a parent. We must be innovative.

Yr oeddwn yn falch o ddarganfod heddiw y bydd ymron i £500,000 o’r £2.8 miliwn o arian Amcan 1 a fuddsoddir mewn prosiectau cymunedol yn cael ei roi i Grŵp Sefydliad Gelli Deg. Defnyddir rhywfaint o’r arian hwnnw i ariannu meithrinfa. Mae llawer o’r mesurau Amcan 1 yn ymdrin â’r materion hyn. Fodd bynnag, ni allwn fforddio bod yn rhy ddifater. Cytunaf â Kirsty bod angen i’r Cynulliad roi trefn ar ei bethau’i hun yn gyntaf. Nid yw’n fater o feithrinfeydd yn unig, er mai hwy yw’r ateb i rai teuluoedd. Mae angen trefniadau ar ôl ysgol i blant hŷn. Pan yw plant yn eu harddegau cynnar, fe all y sefyllfa fod yn fwy anodd weithiau. Yr wyf wedi profi hynny fel rhiant. Rhaid inni fod yn arloesol.

I thank the Minister and the Assembly for—

Diolchaf i’r Gweinidog ac i’r Cynulliad am—

Pauline Jarman spoken in English p. 40

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 40

You must be delighted that the Rhondda Cynon Taff early years partnership has led the way in Wales in the delivery of local childcare action plans in advance of the publication of the action plan before us today. It is currently in the process of delivering a £2.5 million scheme, using funding awarded to it under the Objective 1 programme. Do you share Plaid Cymru’s delight that an area of high deprivation has benefited in this way?

Rhaid eich bod wrth eich bodd bod partneriaeth blynyddoedd cynnar Rhondda Cynon Taf wedi arwain y ffordd yng Nghymru o ran cyflawni cynlluniau gweithredu gofal plant lleol cyn cyhoeddi’r cynllun gweithredu sydd o’n blaen heddiw. Ar hyn o bryd mae ar ganol darparu cynllun £2.5 miliwn, gan ddefnyddio arian a ddyfarnwyd iddi dan y rhaglen Amcan 1. A ydych yr un mor falch â Phlaid Cymru bod ardal ddifreintiedig iawn wedi elwa fel hyn?

Christine Chapman spoken in English p. 40

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 40

I am delighted that there is further evidence that Objective 1, which was delivered by a Labour government, is working for Wales. I share your delight as the Member for Cynon Valley.

Yr wyf yn falch iawn bod tystiolaeth bellach bod Amcan 1, a wireddwyd drwy lywodraeth Lafur, yn gweithio dros Gymru. Rhannaf eich llawenydd fel yr Aelod dros Gwm Cynon.

I thank the Minister and the Assembly for their lead on banning smacking by childminders. That issue has been raised again in the action plan. Yesterday, I attended the children’s day at the Assembly’s Pierhead building, along with other Assembly Members, which the National Society for the Prevention of Cruelty to Children and the Children are Unbeatable! alliance used to highlight again that physically punishing children must be stopped. These organisations are delighted with the Assembly’s decision to ban smacking by childminders and that it is taking the lead in Wales.

Diolchaf i’r Gweinidog ac i’r Cynulliad am eu harweiniad ar wahardd taro gan warchodwyr plant. Codwyd y mater hwnnw eto yn y cynllun gweithredu. Ddoe, bûm yn bresennol yn y diwrnod plant yn adeilad Glanfa’r Cynulliad, ynghyd ag Aelodau Cynulliad eraill, a ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a’r gynghrair ’Sdim Curo Plant! i bwysleisio eto fod rhaid atal cosbi plant yn gorfforol. Mae’r mudiadau hyn wrth eu bodd â phenderfyniad y Cynulliad i wahardd taro gan warchodwyr plant ac am ei fod yn arwain yng Nghymru.

Helen Mary Jones spoken in English p. 40

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 40

We must all welcome this action plan. No one, except the most dyed-in-the-wool, ‘a woman’s place is in the home’, conservative could possibly object to it. However, some gaps remain and some issues must be addressed. I would value the Minister’s response to these today.

Rhaid inni oll groesawu’r cynllun gweithredu hwn. Ni allai neb, heblaw ceidwadwr digymrodedd sy’n credu mai ‘y cartref yw lle’r fenyw’, ei wrthwynebu. Er hynny, mae rhai bylchau o hyd a rhaid rhoi sylw i rai materion. Byddwn yn gwerthfawrogi cael ymateb y Gweinidog i’r rhain heddiw.

Developing early years and childcare partnerships to co-ordinate childcare at a local level is welcome. However, problems still exist. Does the Minister accept that the priority given by different authorities to this work varies? Does she accept that the extent of voluntary sector and private provider involvement in local partnership also varies? Will she outline how the National Assembly Government proposes to monitor the partnerships’ work and what steps will she take if she is concerned about developments in any particular local government area? The Minister will remember that Plaid Cymru raised a concern in the debate on 4 December 2001 about the current capacity of the Children and Families Division to undertake this monitoring. Will she comment on that?

Mae datblygu partneriaethau’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar lefel leol i’w groesawu. Fodd bynnag, mae problemau o hyd. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod gwahanol awdurdodau’n rhoi gwahanol flaenoriaeth i’r gwaith hwn? A yw’n derbyn bod y graddau y mae’r sector gwirfoddol a’r darparwyr preifat yn cymryd rhan mewn partneriaethau lleol hefyd yn amrywio? A wnaiff amlinellu sut y mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu monitro gwaith y partneriaethau a pha gamau y bydd yn eu cymryd os yw’n bryderus ynghylch datblygiadau mewn unrhyw ardal lywodraeth leol benodol? Bydd y Gweinidog yn cofio i Blaid Cymru fynegi pryder yn y ddadl ar 4 Rhagfyr 2001 am allu presennol yr Is-adran Plant a Theuluoedd i ymgymryd â’r monitro hwn. A wnaiff sylw am hynny?

As Dai Lloyd said, the action plan barely mentions the need to develop childcare through the medium of Welsh. It is only mentioned briefly under the heading of the voluntary sector. That is disappointing. In the context of the economic impact of childcare, research undertaken by the Equal Opportunities Commission some years ago showed that Welsh speaking women were taking seven years on average out of the workplace compared to three years taken by their non Welsh-speaking counterparts, which affects their long-term promotion prospects and their prosperity in old age. The same research also shows that there was little 8 a.m. to 6 p.m. traditional childcare provision available let alone more flexible provision, which is also needed. Little childcare was provided through the medium of Welsh. A national strategy is needed to develop Welsh-medium provision, to ensure that Welsh speaking children have access to services in their own language and to enable Welsh speaking women to participate equally in the labour market, if they so choose. Will the Minister comment on this matter and tell us how she intends to address it effectively? It is matter of national and local concern.

Fel y dywedodd Dai Lloyd, prin bod y cynllun gweithredu’n cyfeirio at yr angen i ddatblygu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes ond cyfeiriad byr ato o dan bennawd y sector gwirfoddol. Mae hynny’n siomedig. Yng nghyd-destun effaith economaidd gofal plant, yr oedd ymchwil a wnaethpwyd gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal rai blynyddoedd yn ôl yn dangos bod menywod Cymraeg eu hiaith yn treulio saith mlynedd y tu allan i’r gweithlu ar gyfartaledd o’i gymharu â’r tair blynedd a gymerid gan eu cymheiriaid di-Gymraeg, sy’n effeithio ar eu rhagolygon hirdymor am ddyrchafiad a’u ffyniant pan fyddant yn hen. Mae’r un ymchwil yn dangos mai ychydig o ddarpariaeth draddodiadol o ofal plant rhwng 8 a.m. a 6 p.m. a oedd ar gael heb sôn am ddarpariaeth fwy hyblyg, sydd ei hangen hefyd. Ychydig o ofal plant a ddarperid drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen strategaeth genedlaethol i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, i sicrhau bod plant Cymraeg eu hiaith yn gallu derbyn gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain ac i alluogi menywod Cymraeg eu hiaith i gymryd rhan yn gyfartal yn y farchnad lafur, os dewisant wneud hynny. A wnaiff y Gweinidog sylw ar y mater hwn a dweud wrthym sut y mae’n bwriadu ymdrin ag ef yn effeithiol? Mae’n destun pryder cenedlaethol a lleol.

Funding remains the major outstanding issue in terms of the affordability—to which Gwenda Thomas usefully referred—and sustainability of provision. The action plan highlights positive developments, such as increased funding for local partnerships, start-up grants for childminders and more effective partnerships with the new opportunities fund. Most of this is about start-up funding. For example, the 11,000 new out-of-school childcare places developed using new opportunities fund money are welcome, but what is the Minister doing to monitor how many such places are lost once they become self-financing, as has been the pattern in the past?

Ariannu yw’r prif fater sydd heb ei benderfynu eto o ran y gallu i fforddio—y cyfeiriodd Gwenda Thomas yn fuddiol ato—a chynnal y ddarpariaeth. Mae’r cynllun gweithredu’n tynnu sylw at ddatblygiadau cadarnhaol, megis y cynnydd yn yr arian i bartneriaethau lleol, grantiau cychwyn i warchodwyr plant a phartneriaethau mwy effeithiol gyda’r gronfa cyfleoedd newydd. Mae a wnelo hyn ag arian cychwyn gan mwyaf. Er enghraifft, croesewir y 11,000 o leoedd gofal plant newydd y tu allan i’r ysgol a ddatblygwyd drwy ddefnyddio arian y gronfa cyfleoedd newydd, ond beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i fonitro pa nifer o leoedd o’r fath a gollir wrth iddynt ddod yn rhai sy’n eu hariannu eu hunain, fel y digwyddodd yn y gorffennol?

The Minister’s response to the national childcare strategy taskforce recommendation 1.5 is disappointing. While a universal subsidy to providers may be unaffordable in the short-term, in the long-term it must be right to move towards low-cost or no-cost provision as a basic human right and, as other speakers have said, as part of a child’s right to education.

Mae ymateb y Gweinidog i argymhelliad 1.5 tasglu’r strategaeth gofal plant genedlaethol yn siomedig. Er ei bod yn bosibl na fydd modd fforddio cymhorthdal cyffredinol i ddarparwyr yn y tymor byr, mae’n sicr o fod yn briodol yn yr hirdymor i symud tuag at ddarpariaeth am gost isel neu ddim cost fel hawl ddynol sylfaenol ac, fel y dywedodd siaradwyr eraill, fel rhan o hawl y plentyn i dderbyn addysg.

I press the Minister to tell us what she is doing in the short-term to support ongoing provision in our most deprived communities? They will always need subsidy, and will never—in the short-term—be able to sustain provision commercially, even using the tax-breaks available.

Pwysaf ar y Gweinidog i ddweud wrthym beth y mae’n ei wneud yn y tymor byr i gynnal darpariaeth barhaus yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd arnynt angen cymhorthdal bob amser, ac ni fyddant byth—yn y tymor byr—yn gallu cynnal darpariaeth yn fasnachol, hyd yn oed drwy ddefnyddio’r manteision trethu sydd ar gael.

Furthermore, I endorse Kirsty Williams’s comments about the situation in this institution, which is becoming a national embarrassment, particularly in the context of today’s debate. It must be addressed urgently.

Yn ogystal â hynny, ategaf sylwadau Kirsty Williams am y sefyllfa yn y sefydliad hwn, sy’n mynd yn destun cywilydd cenedlaethol, yn enwedig yng nghyd-destun y ddadl heddiw. Rhaid ymdrin â hynny ar fyrder.

On a positive note, and agreeing with Christine Chapman, the National Assembly Government’s commitment, enshrined in regulation, to ensuring that children in Wales are no longer smacked—or hit—in childcare settings is to be highly commended. Children can still lawfully be hit by family members in their own homes, in direct contravention of the United Nations Convention on the Rights of the Child. At the NSPCC’s children’s day event, which Christine Chapman mentioned, the Minister gave a commitment to make a statement to the Assembly on the physical punishment of children. That commitment is most welcome. Will the Minister repeat it today and give us an idea of timescale?

Ar nodyn cadarnhaol, a chan gytuno â Christine Chapman, mae ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, a ymgorfforir mewn rheoliadau, i sicrhau na chaiff plant yng Nghymru eu taro—neu eu bwrw—bellach mewn lleoliadau gofal plant yn dra chymeradwy. Mae’n bosibl o hyd i blant gael eu bwrw’n gyfreithlon gan aelodau o’u teulu yn eu cartrefi eu hunain, yn gwbl groes i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn nigwyddiad yr NSPCC ar ddiwrnod y plant, y cyfeiriodd Christine Chapman ato, fe ymrwymodd y Gweinidog i roi datganiad i’r Cynulliad ar gosbi plant yn gorfforol. Mae’r ymrwymiad hwnnw i’w groesawu’n fawr. A wnaiff y Gweinidog ei ailddatgan heddiw a rhoi syniad inni o ba bryd y bydd hynny?

The Party of Wales will vote for this motion and has chosen not to amend it, because the action plan is a definite step in the right direction. I trust that the Minister will today commit herself to addressing those areas of outstanding concern that I and others have identified.

Bydd Plaid Cymru’n pleidleisio o blaid y cynnig hwn ac mae wedi dewis peidio â chynnig gwelliant iddo, gan fod y cynllun gweithredu’n gam pendant i’r cyfeiriad iawn. Hyderaf y bydd y Gweinidog yn ymrwymo heddiw i roi sylw i’r meysydd hynny y mae pryder o hyd yn eu cylch a nodwyd gennyf i ac eraill.

Pauline Jarman spoken in English p. 43

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 43

Point of order. I forgot to declare my interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council when I spoke earlier.

Pwynt o drefn. Anghofiais ddatgan fy muddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf pan siaredais yn gynharach.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 43

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

Thank you.

Diolch i chi.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 43

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 43

The widespread support for this plan shows that we can develop a consensus by seeking external advice, holding a debate in the Assembly, as we did earlier this year, and bringing back all the considerations. Plaid Cymru’s support shows that we can achieve it through debate, without amendments being necessary.

Mae’r gefnogaeth eang i’r cynllun hwn yn dangos y gallwn feithrin consensws drwy geisio cyngor allanol, cynnal dadl yn y Cynulliad, fel y gwnaethom yn gynharach eleni, a dychwelyd â’r holl ystyriaethau. Mae cefnogaeth Plaid Cymru’n dangos y gallwn gyflawni hynny drwy ddadlau, heb yr angen am welliannau.

The action plan is a new start for childcare in Wales, and is a distinctive strategy made in Wales based on careful consultation. It is a part of our programme for children, our programme for the care sector, and our programme for social and economic regeneration. The link to Communities First is clear, and Janice, Gwenda and Helen Mary all made the important connections between accessibility, affordability and our integrated children’s centres, which will be key to ensuring their success in terms of policy development.

Mae’r cynllun gweithredu’n gychwyn newydd i ofal plant yng Nghymru, ac mae’n strategaeth arbennig a wnaed yng Nghymru sy’n seiliedig ar ymgynghori manwl. Mae’n rhan o’n rhaglen i blant, ein rhaglen i’r sector gofal, a’n rhaglen ar gyfer adfywio cymdeithasol ac economaidd. Mae’r cysylltiad â Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn amlwg, a gwnaeth Janice, Gwenda a Helen Mary y cysylltiadau pwysig rhwng hygyrchedd, fforddiadwyedd, a’n canolfannau plant integredig, a fydd yn hollbwysig i sicrhau eu bod yn llwyddiant o ran datblygu polisi.

The plan is also about ending child poverty in Wales and improving children’s prospects and opportunities. We are confident that it will have a positive impact on the childcare sector for the benefit of children, parents and providers. Of course, children and families come first, Gwenda. We must support the important developments of local authorities such as Neath Port Talbot County Borough Council, and support new schemes such as Cymorth, to which £39 million will be allocated this year. We must ensure that increased funding goes to local authorities for their partnerships, that those partnerships are inclusive, and that the voluntary and independent sector partners have roles to play.

Mae’r cynllun yn ymwneud hefyd â rhoi pen ar dlodi plant yng Nghymru a gwella rhagolygon a chyfleoedd plant. Yr ydym yn ffyddiog y caiff effaith gadarnhaol ar y sector gofal plant er budd plant, rhieni a darparwyr. Wrth gwrs, plant a theuluoedd sy’n dod yn gyntaf, Gwenda. Rhaid inni gefnogi’r datblygiadau pwysig gan awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a chefnogi cynlluniau newydd fel Cymorth, y dyrennir £39 miliwn iddo eleni. Rhaid inni sicrhau bod mwy o arian yn mynd at yr awdurdodau lleol ar gyfer eu partneriaethau, bod y partneriaethau hynny’n gynhwysol, a bod rôl i’w chwarae gan y partneriaid yn y sector gwirfoddol ac annibynnol.

David made some important points about the crucial role of the voluntary sector. Mudiad Ysgolion Meithrin, the National Childminding Association and the Wales Pre-school Playgroups Association all take on board issues of accessibility and special needs. We must examine our review of children’s healthcare special needs in terms of how this can influence the action plan. The Wales advisory group on special educational needs, which Jane Davidson steers, will consider special needs in terms of early years provision. We must bring those important points to the fore. It is about highlighting a range of services for children of all needs, as Gwenda described, but the business and economic issues are high priorities in this action plan.

Gwnaeth David rai pwyntiau pwysig am rôl hollbwysig y sector gwirfoddol. Mae Mudiad Ysgolion Meithrin, y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol, Cymdeithas Grwpiau Chwarae Cyn Ysgol Cymru i gyd yn ystyried materion sy’n ymwneud â hygyrchedd ac anghenion arbennig. Rhaid inni edrych ar ein hadolygiad o anghenion gofal iechyd arbennig plant o ran y modd y gall hynny ddylanwadu ar y cynllun gweithredu. Bydd grŵp ymgynghorol Cymru ar anghenion addysgol arbennig, sy’n cael ei lywio gan Jane Davidson, yn ystyried anghenion arbennig o ran darpariaeth y blynyddoedd cynnar. Rhaid inni ddod â’r holl bwyntiau pwysig hynny i’r blaen. Mae’n golygu tynnu sylw at amrediad o wasanaethau i blant â phob math o angen, fel y dywedodd Gwenda, ond mae’r materion busnes ac economaidd yn flaenoriaethau uchel yn y cynllun gweithredu hwn.

It is important, as Christine said, that Chwarae Teg plays such a key role. In its presentation to the Economic Development Committee meeting yesterday, it made the connection with economic inactivity, barriers for women and children and dependant care. David will be pleased to hear that new day nurseries have been helped by the community loans fund, which was launched on 8 March by Finance Wales and HSBC bank. Seven day nurseries have been helped through this fund, with £178,000 provided and 70 new jobs created. That demonstrates that, at long last, we have grasped the economic importance of childcare. The Welsh Development Agency has an innovative new contract with the National Childminding Association. It sees childminding in terms of business start-ups, which is a huge step forward. It is taking on board that start-up grants will help access in terms of children’s needs and economic development activities.

Mae’n bwysig, fel y dywedodd Christine, fod Chwarae Teg yn chwarae rhan mor allweddol. Yn ei gyflwyniad i gyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd ddoe, gwnaeth y cysylltiad ag anweithgaredd economaidd, rhwystrau i fenywod a phlant a gofal am ddibynyddion. Bydd David yn falch o glywed bod y meithrinfeydd dydd newydd wedi’u helpu gan y gronfa benthyciadau cymunedol, a lansiwyd ar 8 Mawrth gan Cyllid Cymru a banc HSBC. Mae saith meithrinfa ddydd wedi derbyn cymorth o £178,000 drwy’r gronfa hon, a chrewyd 70 o swyddi newydd. Mae hynny’n dangos ein bod o’r diwedd wedi amgyffred pwysigrwydd economaidd gofal plant. Mae Awdurdod Datblygu Cymru wedi gwneud contract newydd arloesol â’r Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol. Mae’n ystyried gwarchodwyr plant yn rhai sy’n cychwyn busnes, sy’n gam mawr ymlaen. Mae’n deall y bydd grantiau cychwyn o gymorth i ddarparu ar gyfer anghenion plant a gweithgareddau datblygu economaidd.

Christine’s work in promoting Objective 1 opportunities is important; as Pauline recognised, crèche projects are progressing. There are childcare projects throughout Wales, with Objective 1 and the European social fund providing key funding streams in terms of economic and social regeneration.

Mae gwaith Christine wrth hyrwyddo cyfleoedd Amcan 1 yn bwysig; fel y cydnabu Pauline, mae’r prosiectau meithrinfa’n dod yn eu blaen. Mae prosiectau gofal plant ledled Cymru, ac mae Amcan 1 a chronfa gymdeithasol Ewrop yn darparu ffrydiau ariannu allweddol yng nghyd-destun adfywio economaidd a chymdeithasol.

Janice, Gwenda and Helen Mary referred to the importance of out-of-school developments. This is about sustainability and affordability. We have 11,000 new places as a result of the new opportunities fund. It hopes to reach its target of 22,000 new places by 2003. However, we must ensure that the development is sustainable; that is why we can influence the policy direction in Wales. Janice also made important points about out-of-school holiday provision, breakfast clubs and after-school clubs.

Cyfeiriodd Janice, Gwenda a Helen Mary at bwysigrwydd datblygiadau y tu allan i’r ysgol. Mae hwn yn ymwneud â chynaliadwyedd a fforddiadwyedd. Mae gennym 11,000 o leoedd newydd o ganlyniad i’r gronfa cyfleoedd newydd. Mae’n gobeithio cyrraedd ei tharged o 22,000 o leoedd newydd erbyn 2003. Fodd bynnag, rhaid inni sicrhau bod y datblygu’n gynaliadwy; dyna pam yr ydym yn gallu dylanwadu ar gyfeiriad polisi yng Nghymru. Gwnaeth Janice bwyntiau pwysig hefyd am y ddarpariaeth y tu allan i’r ysgol yn y gwyliau, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol.

On Welsh-medium development, some of the most advanced groups were the mentrau iaith, which took on the Welsh-medium potential of holiday and after-school provision. Menter Iaith in Rhondda Cynon Taff took great steps forward in providing Welsh-medium services. We must out-of-school ensure that this is not only motivated by a few organisations. We must include Welsh-medium childcare in mainstream developments through the childcare action plan. More Welsh speaking childminders are needed. We also need more from black and ethnic minority communities. That is key, in a cultural sense. People should have access to childcare that ensures that children and parents can communicate in their first language and the language of their choice.

Ynghylch datblygu cyfrwng Cymraeg, rhai o’r grwpiau mwyaf blaengar oedd y mentrau iaith, a aeth i’r afael â photensial cyfrwng Cymraeg y ddarpariaeth gwyliau ac ar ôl ysgol. Cymerodd Menter Iaith yn Rhondda Cynon Taf gamau mawr ymlaen wrth ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg y tu allan i’r ysgol. Rhaid inni sicrhau na chaiff hynny ei ysgogi gan ychydig o gyrff yn unig. Rhaid inni gynnwys gofal plant cyfrwng Cymraeg mewn datblygiadau prif ffrwd drwy’r cynllun gweithredu gofal plant. Rhaid wrth ragor o warchodwyr plant Cymraeg eu hiaith. Mae arnom angen rhagor o’r cymunedau lleiafrifoedd du ac ethnig hefyd. Mae hynny’n allweddol yn diwylliannol. Dylai fod yn bosibl i bobl gael gofal plant sy’n sicrhau y gall plant a rhieni gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf ac yn eu dewis iaith.

Kirsty, of course we must consider our own childcare provision. I remember an early Assembly survey, which was conducted before you had a little one on the way. We had little response, which often happens with workforce surveys of childcare needs. We have been challenged again; I hope that that will include the Presiding Office as well as the Assembly as a whole. We need to revisit this matter in terms of needs and availability.

Wrth gwrs, Kirsty, rhaid inni ystyried ein darpariaeth gofal plant ein hunain. Cofiaf arolwg cynnar yn y Cynulliad, a gynhaliwyd cyn yr oeddech yn disgwyl plentyn. Ychydig o ymateb a gawsom, ac mae hynny’n digwydd yn aml mewn arolygon o anghenion gofal plant ymysg gweithluoedd. Cawsom ein herio eto; gobeithiaf y bydd hynny’n cynnwys Swyddfa’r Llywydd yn ogystal â’r Cynulliad fel cyfangorff. Rhaid inni ailystyried y mater hwn o ran anghenion ac argaeledd.

It is also a vital issue for the NHS. The way forward includes childcare provision, work and family balance, and family-friendly policies—which are enshrined in the Assembly’s practices.

Mae’n fater hollbwysig hefyd i’r GIG. Mae’r ffordd ymlaen yn cynnwys darparu gofal plant, cydbwysedd rhwng y gwaith a’r teulu, a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd—a ymgorfforir yn arferion y Cynulliad.

Janice, on children and information, many parents do not know what is available. In many cases, local partnerships have developed. The childcare information service in Wrexham has, over many years, integrated with other information services for children and families. This has been pioneered initially through the library service. That will also be important in progressing this.

Janice, ynghylch plant a gwybodaeth, mae llawer o rieni na wyddant beth sydd ar gael. Mewn llawer o achosion, mae partneriaethau lleol wedi datblygu. Mae’r gwasanaeth gwybodaeth gofal plant yn Wrecsam wedi ymgyfuno, dros flynyddoedd lawer, â’r gwasanaethau gwybodaeth eraill i blant a theuluoedd. Arloeswyd hyn drwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd i ddechrau. Bydd hynny’n bwysig hefyd wrth hyrwyddo hyn.

I close with something that was said to my officials last week by a local childcare co-ordinator, who said that the grants from the Assembly are making a noticeable difference and that childcare providers are feeling valued at last. That kind of positive response has been a long time coming, but everyone has now taken this on board.

Terfynaf â rhywbeth a ddywedwyd wrth fy swyddogion yr wythnos diwethaf gan gydlynydd gofal plant lleol, a ddywedodd fod grantiau’r Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth amlwg a bod darparwyr gofal plant o’r diwedd yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Bu ymateb cadarnhaol o’r fath yn hir-ddisgwyliedig, ond mae pawb yn derbyn hynny bellach.

Finally, Christine and Helen Mary made important points relating to the discussions and debates that we are now having as a result of the Children are Unbeatable campaign. I attended the NSPCC children’s day event yesterday, where the theme was how to stop the physical punishment of children and encourage positive parenting. I made the point that a range of opportunities are available for children and parents. That is linked to our campaign to end child poverty and to Cymorth, and how we can support parents and families, particularly those who are most vulnerable. It is also about ensuring that we have taken this forward in terms of banning smacking and physical punishment through all regulated childcare in Wales. The Assembly must now consider what kind of stance—

Yn olaf, gwnaeth Christine a Helen Mary bwyntiau pwysig ynghylch y trafodaethau a’r dadleuon yr ydym yn eu cael o ganlyniad i’r ymgyrch Does Dim Curo ar Blant. Bûm yn bresennol yn nigwyddiad y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant ar ddiwrnod y plant ddoe, ac iddo’r thema o sut i atal cosbi plant yn gorfforol a hybu magu cadarnhaol. Gwneuthum y pwynt bod amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael i blant a rhieni. Mae hynny’n gysylltiedig â’n hymgyrch i roi pen ar dlodi plant, ac i Cymorth, a sut y gallwn gynorthwyo rhieni a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n fwyaf agored i niwed. Mae’n ymwneud hefyd â sicrhau ein bod wedi hyrwyddo hyn o ran gwahardd taro a chosbi corfforol drwy’r holl ofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru. Rhaid i’r Cynulliad ystyried yn awr y math o safbwynt—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 47

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 47

Order. You have already had 15 minutes.

Trefn. Yr ydych eisoes wedi cael 15 munud.

Jane Hutt spoken in English p. 47

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 47

I will be making a statement on that later this year.

Byddaf yn gwneud datganiad ar hyn yn ddiweddarach eleni.

GwrthodwydRejected O blaidFor 8 YmatalAbstain 11 Yn erbynAgainst 33

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (11)
  • Cynog Dafis
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
Yn erbynAgainst (33)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Dadl Plaid Leiafrifol (Y Blaid Geidwadol)

Minority Party Debate (The Conservative Party)

Cyfarfod Llawn yn y Gogledd

Plenary in North Wales

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 49

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 49

I have selected amendment 1 in the name of Carwyn Jones, and amendments 2 and 3 in the name of Jocelyn Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Carwyn Jones, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Jocelyn Davies.

Peter Rogers spoken in English p. 49

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 49

I propose that

Cynigiaf fod

Peter Rogers (continued) spoken in English p. 49

Peter Rogers (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 49

I will begin by dealing with the amendments that have been tabled. The Government’s points are not entirely without merit, but once again, it has resorted to spoiling tactics by attempting to delete our motion. We will oppose that. In contrast, Plaid Cymru has been constructive by adding to the point we wish to make, and we will support its amendments 2 and 3.

Dechreuaf drwy ddelio â’r gwelliannau a gyflwynwyd. Nid yw pwyntiau’r Llywodraeth yn gwbl ddi-werth, ond unwaith eto, mae wedi troi at dacteg sbwylio drwy geisio dileu ein cynnig. Byddwn yn gwrthwynebu hynny. Mewn cyferbyniad â hynny, bu Plaid Cymru’n adeiladol drwy ychwanegu at y pwynt yr ydym yn dymuno’i wneud, a byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 o’i heiddo.

In 1851, Indiana newspaperman, John Soule was the first to tell his readers, ‘Go west, young man, and grow up with the country’. Nearly 150 years later, the First Minister talked about ‘variable geometry’, and while John Soule’s instructions could land us in Pembroke, my political compass wants to point Assembly Members in a northern direction. I would like to see the Assembly wagon train rumble north for one week in a year. Rumbling could well be the operative word, given the state of our north-south rail link. However, it is worth giving serious consideration to the idea of holding a meeting outside Cardiff.

Yn 1851, y newyddiadurwr o Indiana, John Soule oedd y cyntaf i ddweud wrth ei ddarllenwyr, ‘Dos tua’r gorllewin, ŵr ifanc, a thyfu gyda’r wlad’. Ymron i 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, soniodd Prif Weinidog Cymru am ‘geometreg newidiol’, ac er y gallai cyfarwyddiadau John Soule fynd â ni i Benfro, mae fy nghwmpawd gwleidyddol am droi Aelodau’r Cynulliad i gyfeiriad y Gogledd. Hoffwn weld mintai wagenni’r Cynulliad yn trystio tua’r Gogledd am un wythnos y flwyddyn. Efallai mai trystio yw’r gair allweddol, o ystyried cyflwr ein cyswllt rheilffordd o’r Gogledd i’r De. Fodd bynnag, mae’n werth ystyried y syniad o gynnal cyfarfod y tu allan i Gaerdydd o ddifrif.

Alun Pugh spoken in English p. 49

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 49

Do you have an estimate of the costs of rolling the Assembly wagon northwards?

A oes gennych amcangyfrif o gostau treiglo wagen y Cynulliad tua’r Gogledd?

Peter Rogers spoken in English p. 50

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 50

There would be a good chance to do that during the Queen’s Jubilee celebrations when we would all be up there anyway.

Byddai cyfle da i wneud hynny yn ystod dathliadau Jiwbilî’r Frenhines pan fyddem i gyd yno beth bynnag.

Ann Jones spoken in English p. 50

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 50

You said that we would all be up in north Wales for the Queen’s Jubilee. What will you do next year when there is no Jubilee? Will you stick to one week, which is pure tokenism? As a Member for North Wales, you should be ashamed of promoting tokenism in an all-inclusive Assembly.

Dywedasoch y byddem i gyd yn y Gogledd ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines. Beth a wnewch y flwyddyn nesaf pan nad oes Jiwbilî? A wnewch gadw at un wythnos, sy’n symboleiddiaeth lwyr? Fel Aelod dros y Gogledd, dylai fod arnoch gywilydd o hybu symboleiddiaeth mewn Cynulliad hollgynhwysol.

Peter Rogers spoken in English p. 50

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 50

The welcome that the Assembly would receive in north Wales would be justified in economic terms. I assure you that your spending capacity would be going into an economy that desperately needs it, and I would have hoped that you could appreciate that, Ann.

Byddai cyfiawnhad economaidd dros y croeso a gâi’r Cynulliad yn y Gogledd. Yr wyf yn eich sicrhau y byddai’ch gallu gwario’n mynd at economi y mae arni daer angen amdano, a byddwn wedi gobeithio y gallech werthfawrogi hynny, Ann.

Our Regional Committees go out and about, as do our Subject Committees from time to time. As I have said previously, the Queen’s Jubilee service at Bangor Cathedral on 11 June would have been the ideal occasion for us to act historically, and hold the first ever Plenary outside Cardiff.

Mae ein Pwyllgorau Rhanbarth yn mynd o gwmpas, fel y mae’n Pwyllgorau Pwnc o bryd i’w gilydd. Fel y dywedais o’r blaen, gwasanaeth Jiwbilî’r Frenhines yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar 11 Mehefin fyddai’r achlysur delfrydol inni gymryd cam hanesyddol, a chynnal y Cyfarfod Llawn cyntaf erioed y tu allan i Gaerdydd.

I thought that this idea might have appealed to the First Minister, who has special responsibility for the north Wales region. Had he wanted to push the idea, I am sure that he could have worked something out—after all, he likes to think of himself as something of a Mr Fix-It, even if, in reality, he is something of a cowboy builder.

Tybiais y gallai’r syniad hwn apelio at Brif Weinidog Cymru, sydd â chyfrifoldeb arbennig dros ranbarth y Gogledd. Pe buasai am hybu’r syniad, yr wyf yn sicr y gallai fod wedi trefnu rhywbeth—wedi’r cyfan, mae’n hoff o’i ystyried ei hun yn rhyw fath o ddyn trwsio pob dim, er ei fod, mewn gwirionedd yn dipyn o grachadeiladwr.

Assembly Members representing the region know that their constituents feel that the Welsh Assembly Government neglects their interests. Some believe that the Assembly simply does not care; they see evidence of this in the First Minister’s failure to appoint anyone from north Wales to the Cabinet. The serious demands of being a Member for a north Wales constituency have no doubt contributed to the fact that we will shortly be losing some of our well-respected colleagues who have represented north Wales during this Assembly term.

Fe ŵyr Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli’r rhanbarth fod eu hetholwyr yn teimlo bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n esgeuluso’u buddiannau. Mae rhai’n credu nad yw’r Cynulliad yn hidio dim; gwelant dystiolaeth o hynny ym methiant Prif Weinidog Cymru i benodi neb o’r Gogledd i’r Cabinet. Mae’n sicr bod y galwadau mawr o fod yn Aelod dros etholaeth yn y Gogledd wedi cyfrannu at y ffaith y byddwn cyn hir yn colli rhai o’n cyd-Aelodau uchel eu parch a gynrychiolodd y Gogledd yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

I am not asking for the Assembly to sit in north Wales because the people there have radically different concerns to everyone else, although a small minority are responsible for the negative image of north Wales people jumping up and down, trying to ban outsiders. The truth is very different. People’s first concerns are jobs, the health service and good schools. The language is best secured by economic development, which gives people reasons to stay in their communities. We should not believe that the problem of access to affordable housing is unique to Welsh-speaking areas—all across the UK young people are being priced out of the property market. There would be a collapse in the housing market if you told people that they could only sell their homes to other Welsh-speaking people. House prices in Wales would fall even further behind the rest of the UK. We need high quality, skilled jobs, and we must be realistic and acknowledge that this involves bringing in companies from outside the area. It also means encouraging local, indigenous entrepreneurs to create small and medium-sized enterprises, and as our recent debate showed, we need good north-south transport links to encourage business development. Instead, we get space age bubbles for the bay.

Nid wyf yn gofyn i’r Cynulliad eistedd yn y Gogledd am fod y pryderon sydd gan y bobl yno’n sylfaenol wahanol i rai pawb arall, er bod lleiafrif bach yn gyfrifol am y ddelwedd negyddol o bobl y Gogledd yn neidio ar eu traed, yn ceisio gwahardd dieithriaid. Mae’r gwir yn dra gwahanol. Yr hyn y mae pobl yn poeni amdano’n bennaf yw swyddi, y gwasanaeth iechyd ac ysgolion da. Diogelir yr iaith orau drwy ddatblygu economaidd, sy’n rhoi rheswm i bobl aros yn eu cymunedau. Ni ddylem gredu bod problem y gallu i gael tai fforddiadwy’n unigryw i’r ardaloedd Cymraeg—ledled y DU mae pobl ifanc yn ei chael yn amhosibl cystadlu yn y farchnad eiddo. Byddai’r farchnad dai yn dymchwel pe dywedech wrth bobl na chaent ond gwerthu eu cartrefi i eraill sy’n Gymraeg eu hiaith. Byddai prisiau tai yng Nghymru bellach fyth y tu ôl i weddill y DU. Mae arnom angen swyddi medrus o ansawdd da, a rhaid inni fod yn realistig a chydnabod bod hynny’n golygu dod â chwmnïau o’r tu allan i’r ardal. Mae hefyd yn golygu annog entrepreneuriaid cynhenid, lleol i greu mentrau bach a chanolig eu maint ac, fel y dangosodd ein dadl ddiweddar, mae arnom angen cysylltiadau trafnidiaeth da rhwng y Gogledd a’r De i hybu datblygiad busnesau. Yn lle hynny, cawn swigod oes y gofod i’r bae.

North Wales councils tell me that poor video conferencing facilities make them the poor relations in talks when local authorities in south Wales can have face-to-face meetings with Ministers. They feel as though they are in the boot cupboard, and there are no technicians to repair the facilities if they break down. This is unacceptable, and the reason why we must link the north and south.

Dywed cynghorau’r Gogledd wrthyf fod y cyfleusterau cynadledda fideo gwael yn eu rhoi dan anfantais mewn trafodaethau tra bo’r awdurdodau lleol yn y De’n gallu cael cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’r Gweinidogion. Teimlant fel petaent yn y cwpwrdd dan y grisiau, ac nid oes technegwyr i atgyweirio’r cyfleusterau os ydynt yn methu. Mae hynny’n annerbyniol, ac oherwydd hynny, rhaid inni gysylltu’r De a’r Gogledd.

Only through economic development will young people chose to stay in these areas, and we cannot protect the Welsh language if all the young people have left the area to find work. In the area that I represent, we lost 20 per cent of our young working population between 1992 and 2000, and there will be a further 10 per cent loss over the next 15 years.

Dim ond drwy ddatblygu economaidd y bydd pobl ifanc yn dewis aros yn yr ardaloedd hyn, ac ni allwn warchod y Gymraeg os yw’r holl bobl ifanc wedi gadael yr ardal i gael gwaith. Yn yr ardal a gynrychiolaf fi, collasom 20 y cant o’n poblogaeth weithio ifanc rhwng 1992 a 2000, a bydd colled bellach o 10 y cant dros y 15 mlynedd nesaf.

Owen John Thomas spoken in English p. 51

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 51

You seem to have shifted ground now, but are you saying that holding an Assembly meeting in north Wales will make all these differences? Is it not more realistic to say that a good transport system to connect north and south, and a good regional economic plan for the area would make far more difference than holding a token meeting in north Wales?

Mae’n ymddangos eich bod wedi newid eich dadl bellach, ond a ydych yn dweud y bydd cynnal cyfarfod o’r Cynulliad yn y Gogledd yn gwneud yr holl wahaniaethau hyn? Onid mwy realistig yw dweud y byddai system drafnidiaeth dda i gysylltu’r gogledd a’r de, a chynllun economaidd rhanbarthol da i’r ardal yn gwneud llawer mwy o wahaniaeth na chynnal cyfarfod symbolaidd yn y Gogledd?

Peter Rogers spoken in English p. 52

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 52

It would give you all an opportunity to understand that some of our problems in north Wales are as bad as those in the south Wales Valleys. There seems to be a greater emphasis on the rail link to the Valleys, than there is on joining north and south Wales.

Byddai’n rhoi cyfle i bob un ohonoch ddeall bod rhai o’n problemau yn y Gogledd cyn waethed â’r rhai yng Nghymoedd y De. Ymddengys fod mwy o bwyslais ar y cyswllt rheilffordd â’r Cymoedd nag y mae ar uno’r Gogledd a’r De.

Anglesey has the second highest unemployment rate for the whole of Wales, and young people who want to stay and make a contribution to their area are not encouraged to do so. For example, our councils—particularly the Isle of Anglesey County Council—lack quality and probity in their planning, and are slow and inefficient. Anglesey council has particular problems—not least its general level of incompetence. We could show our concern about its difficulties by holding a Plenary session at its Llangefni headquarters. That would be valuable because, judging by his long-running silence on the issue, the Assembly Member for Ynys Môn is apparently ignorant of how incompetent the council is.

Gan Ynys Môn y mae’r gyfradd diweithdra ail uchaf yng Nghymru gyfan, ac nid yw’r bobl ifanc sydd am aros a chyfrannu i’w hardal yn cael eu cymell i wneud hynny. Er enghraifft, mae ein cynghorau—yn enwedig Cyngor Sir Ynys Môn—yn ddiffygiol o ran ansawdd ac uniondeb yn eu cynllunio, ac maent yn araf ac yn aneffeithlon. Mae gan gyngor Ynys Môn broblemau penodol—nid lleiaf ei anfedrusrwydd cyffredinol. Dylem amlygu ein pryder ynghylch ei anawsterau drwy gynnal Cyfarfod Llawn yn ei bencadlys yn Llangefni. Byddai hynny’n werthfawr oherwydd, a barnu’n ôl ei ddistawrwydd hir ar y mater, nid yw’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn yn gwybod am anfedrusrwydd y cyngor, yn ôl pob golwg.

By taking the Assembly’s Plenary session out of Cardiff, we would be sending an important political message to the people of north Wales, that we were interested in what was happening in the area. I accept that the First Minister and his colleagues think that the Government has north Wales’s interests at heart—the First Minister will no doubt tell us that what counts is how successful his policies are there; but that really only amounts to saying that he should be judged on how equally unsuccessful he is across the whole of Wales. I ask you to support the motion; the Assembly should be seen to be representing the whole of Wales

Drwy fynd â Chyfarfod Llawn y Cynulliad o Gaerdydd, byddem yn anfon neges wleidyddol bwysig at bobl y Gogledd, ein bod yn ymddiddori yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal. Derbyniaf fod y Prif Weinidog a’i gyd-Aelodau’n credu bod buddiannau gogledd Cymru’n agos at galon y Llywodraeth—mae’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrthym mai’r hyn sy’n cyfrif yw pa mor llwyddiannus y mae ei bolisïau yn y fan honno; ond nid yw hynny ond yn gyfystyr â dweud y dylid ei farnu yn ôl y ffaith ei fod yr un mor aflwyddiannus ledled Cymru. Gofynnaf ichi gefnogi’r cynnig; dylai’r Cynulliad gael ei weld yn cynrychioli Cymru gyfan.

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 52

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 52

I propose amendment 1 in my name. Delete all after ‘National Assembly for Wales’ and insert:

Cynigiaf welliant 1 yn fy enw i. Dileu popeth ar ôl ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ ac ychwanegu:

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 53

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 53

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Jocelyn Davies. Gwelliant 2: ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

I propose the following amendments in the name of Jocelyn Davies. Amendment 2: add at the end of the motion:

Dafydd Wigley (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 53

Dafydd Wigley (continued) spoken in Welsh p. 53

Cynigiaf welliant 3. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 3. Add at the end of the motion:

Dafydd Wigley (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 53

Dafydd Wigley (continued) spoken in Welsh p. 53

Yr wyf yn falch fod gennym gyfle i drafod y pwnc hwn. Cefnogwn y cynnig, ond nid yw’n mynd yn ddigon pell. Dyna, felly, pam y bu inni gyflwyno’r gwelliannau. Mae’n dipyn o syndod bod y Torïaid yn cyflwyno’r cynnig hwn gan na wnaethant gyfeirio at y mater hwn yn eu tystiolaeth i’r adolygiad o weithdrefnau’r Cynulliad. Croesawn y ffaith bod y Torïaid wedi deffro i bwysigrwydd datganoli. Fodd bynnag, ni soniwn am ddatganoli o Lundain i Gaerdydd yn unig; yr ydym hefyd yn sôn am ddatganoli o Gaerdydd i ranbarthau Cymru, sy’n cynnwys y Canolbarth, y Gorllewin a’r Cymoedd, yn ogystal â’r Gogledd. Soniwn hefyd am y Pwyllgorau Pwnc yn ogystal â’r Cyfarfodydd Llawn. Dyna’r rheswm dros welliant 2.

I am glad that we have the opportunity to discuss this subject. We support the motion, but it does not go far enough. That is why we tabled the amendments. It is surprising that the Tories tabled this motion, as they did not raise this matter in their evidence to the review of Assembly procedures. We welcome the fact that the Tories have woken up to the importance of devolution. However, it is not only about devolving power from London to Cardiff; it is also about devolving power from Cardiff to the regions of Wales, which include mid and west Wales and the Valleys, as well as north Wales. It is not only about Plenary sessions, but also about the Subject Committees. That is why we have tabled amendment 2.

Yn y dystiolaeth i’r adolygiad o weithdrefn y Cynulliad, cynigiodd Plaid Cymru y dylid rhoi ystyriaeth i’r mater hwn. Cynigiodd Jocelyn Davies yn y Pwyllgor Busnes y dylai’r Cynulliad gynnal Cyfarfod Llawn yn y Gogledd fis nesaf, ar adeg y gwasanaeth cenedlaethol yn eglwys gadeiriol Bangor.

In the evidence to the review of Assembly procedure, Plaid Cymru proposed that consideration be given to this matter. Jocelyn Davies also proposed in the Business Committee that the Assembly should hold a Plenary session in north Wales next month, to coincide with the national service at Bangor cathedral.

Cefnogwn yr egwyddor y tu ôl i’r cynnig. Rhaid ymateb i’r teimlad cynyddol sy’n bodoli yn y Gogledd, ac mewn rhanbarthau eraill o Gymru, mi dybiaf, fod perygl i bopeth droi o gwmpas Caerdydd. Croesawaf y ffaith fod Caerdydd wedi tyfu’n wir brifddinas i Gymru. Mae rhai o’r darpariaethau a geir yma, fel Stadiwm y Mileniwm a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi’u lleoli yng Nghaerdydd oherwydd fel arall ni fyddent yng Nghymru o gwbl. Fodd bynnag, mae gan bob prifddinas gyfrifoldebau a ddaw yn sgîl y breintiau. Cyfrifoldeb Caerdydd fel prifddinas y genedl, a’n cyfrifoldeb ni fel Cynulliad y genedl, yw sicrhau ein bod yn gwasanaethu’r genedl gyfan. Golyga hyn y dylem gael ein gweld ym mhob rhan o Gymru; ni ddylem ymddangos fel pe baem mewn byncar ym mae Caerdydd.

We support the principles behind this motion. We must respond to the growing feeling that exists in north Wales, and in the other regions of Wales, I believe, that there is a danger of everything revolving around Cardiff. I welcome the fact that Cardiff has become a true capital of Wales. Some of the facilities here, such as the Millennium Stadium and the Wales Millennium Centre, are situated in Cardiff because otherwise they would not be in Wales at all. However, every captial city has responsibilities that come with privileges. Cardiff’s responsibility as the nation’s capital, and our responsibility as the nation’s Assembly, is to ensure that we serve the whole nation. That means that we should make our presence felt all over Wales; we should not only appear to be in a bunker in Cardiff bay.

Mae Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd wedi dangos bod modd denu cynulleidfaoedd mawr—rhwng 150 a 200 o bobl—i gyfarfodydd yn y Gogledd. Dylid chwilio am gyfleoedd i adeiladu ar y diddordeb hwnnw drwy gynnal rhai o gyfarfodydd y Pwyllgorau Pwnc eraill mewn lleoedd fel Caernarfon, Conwy, a Wrecsam. Dylai Cadeiryddion y Pwyllgorau Pwnc fod yn gyfrifol am chwilio am o leiaf un cyfle y flwyddyn i gyfarfod yn y Gogledd ac yn y rhanbarthau eraill.

The North Wales Regional Committee has shown that it is possible to attract large audiences—some 150 to 200 people—to meetings in north Wales. We should look for opportunities to build on that interest by holding other Subject Committee meetings in places such as Caernarfon, Conwy and Wrexham. The Chairs of Subject Committees should be responsible for seeking at least one opportunity a year to meet in north Wales and in the other regions.

Wrth ddadlau dros hynny, a thros gynnal Cyfarfodydd Llawn y tu allan i Gaerdydd, rhaid osgoi’r ffars sy’n bodoli yn Senedd Ewrop lle mae’r holl fiwrocratiaeth seneddol yn codi pac unwaith bob mis a symud o Frwsel i Strasbourg. Mae hynny’n nonsens. Rhaid cael fformiwla sy’n osgoi’r peryglon hynny ac sy’n gwneud mwy na chynnig symbol gwag, diystyr a disylwedd, sy’n cydnabod y broblem ond heb ei hateb.

In arguing for that, and for holding Plenary sessions outside of Cardiff, we must avoid the farce that takes place in the European Parliament where the whole parliamentary bureaucracy is shipped down to Strasbourg from Brussels once a month. That is nonsense. We must have a formula that avoids those possibilities and one that is more than an empty, meaningless and unsubstantial token, which acknowledges the problem without solving it.

Rhaid i’r Cabinet fod yn fwy cynrychioliadol o Gymru gyfan. Fel y dywedodd Owen John Thomas, rhaid cael gwell system drafnidiaeth rhwng y De a’r Gogledd er mwyn uno’r genedl. Ceir teimlad cryf hefyd yn y Gogledd, ac mewn rhanbarthau eraill, y dylid datganoli swyddi o Gaerdydd. Dyna pam y cyflwynwn welliant 3. Mae’r Llywodraeth wedi datgan ei bod yn gobeithio datganoli 400 o swyddi dros bum mlynedd i wahanol rannau o Gymru. Os yw pob un o’r 20 awdurdod lleol y tu hwnt i Gaerdydd a Bro Morgannwg yn cael rhan o’r datganoli hwnnw, y mae’n golygu pedair swydd y flwyddyn i bob un o’r 20 sir. Nid yw hynny’n ddigon.

The Cabinet must be more representative of the whole of Wales. As Owen John Thomas stated, we need a better transport system between north and south Wales to unite the nation. A strong feeling also exists in north Wales, and in other regions, that jobs should be devolved from Cardiff. That is why we have tabled amendment 3. The Government has declared that it hopes to devolve 400 jobs over five years to various parts of Wales. If every one of the 20 local authorities outside Cardiff and the Vale of Glamorgan has a piece of that devolution, it will mean four jobs a year for each of the 20 counties. That is not enough.

Os oedd modd symud yr adran amaethyddiaeth yn gyfan o Aberystwyth i Gaerdydd 20 mlynedd yn ôl, y mae modd symud adrannau yn y cyfeiriad arall. Yn wir, gyda’r dechnoleg newydd mae’n haws heddiw, os yw’r ewyllys wleidyddol yn bodoli. Dyna’r cwestiwn. Mae’r modd y mae’r Llywodraeth yn tincran â’r broblem yn gwneud i mi amau a oes ewyllys wleidyddol yn y Llywodraeth Lafur/Ryddfrydol i gyflawni hyn.

If it was possible to move the entire agriculture department from Aberystwyth to Cardiff 20 years ago, it is just as possible to move departments in the other direction. In fact, with new technology it is easier today, if the political will exists. That is the question. The way in which the Government is tinkering with the problem leads me to doubt whether the political will exists in the Labour/Liberal Government to achieve this.

Gadewch inni osgoi’r temtasiwn i chwarae â geiriau—mae perygl o hynny yn y cynnig hwn, ac yng ngwelliant y Llywodraeth. Gadewch inni ddangos ein bod o ddifrif ac yn benderfynol o ddod â gwaith y Cynulliad i fod yn rhan o fywyd pob rhanbarth yn ein gwlad.

Let us avoid the temptation to play with words—there is a danger of that in this motion, and in the Government’s amendment. Let us show that we are serious and determined to make the Assembly’s work a part of the life of every region of our country.

Ann Jones spoken in English p. 55

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 55

Peter started well in talking about holding a Plenary meeting in north Wales; he then centred on Anglesey, but it is slightly difficult for people in north Wales to get to Anglesey. I was disappointed that he became parochial in this debate.

Dechreuodd Peter yn dda drwy sôn am gynnal Cyfarfod Llawn yn y Gogledd; canolbwyntiodd ar Ynys Môn wedyn, ond mae braidd yn anodd i bobl y Gogledd gyrraedd Ynys Môn. Yr oeddwn yn siomedig ei fod wedi mynd yn blwyfol yn y ddadl hon.

It is tokenism to consider going to north Wales for one week per year. North Wales has suffered tokenism, as many Members have said in this Chamber. We must find a system that will accommodate the whole of Wales. Dafydd Wigley was right to refer to the farce of the European Parliament upping sticks once a month and moving around. We must also remember about west, south-west, north-east, north-west and mid Wales.

Symboleiddiaeth yw ystyried mynd i’r Gogledd am un wythnos y flwyddyn. Mae’r Gogledd wedi dioddef gan symboleiddiaeth, fel y dywedodd llawer o Aelodau yn y Siambr hon. Rhaid inni ganfod system a fydd yn bodloni Cymru gyfan. Yr oedd Dafydd Wigley yn iawn wrth gyfeirio at ffars Senedd Ewrop yn symud o gwmpas unwaith y mis. Rhaid inni gofio hefyd am y Gorllewin, y De-orllewin, y Gogledd-ddwyrain, y Gogledd-orllewin a’r Canolbarth.

Nick Bourne spoken in English p. 56

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 56

You mention tokenism. There can always be reasons for opposing all sorts of motions, but do you not agree that a trip up to north Wales by a Cardiff-centric Cabinet for an open-mike session is true tokenism?

Soniwch am symboleiddiaeth. Gellir cael rhesymau bob amser dros wrthwynebu pob math o gynigion, ond oni chytunwch mai gwir symboleiddiaeth yw taith i fyny i’r Gogledd gan Gabinet Caerdydd-ganolog ar gyfer sesiwn drafod agored?

Ann Jones spoken in English p. 56

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 56

It may appear to be tokenism, but if they go to north Wales and listen, and put into practice some answers to the problems there, it is not tokenism. However, when you say that you want one Plenary session, during the Queen’s Jubilee week, because you all want to go up to north Wales just for that event, it is misleading to the north Wales public.

Gallai ymddangos yn symboleiddiaeth, ond os ânt i’r Gogledd a gwrando, a rhoi ar waith rai o’r atebion i’r problemau yno, nid symboleiddiaeth fyddai hynny. Fodd bynnag, pan ddywedwch eich bod am gael un Cyfarfod Llawn, yn ystod wythnos Jiwbilî’r Frenhines, am eich bod i gyd yn dymuno mynd i’r Gogledd ar gyfer y digwyddiad hwnnw’n unig, mae hynny’n gamarweiniol i’r cyhoedd yn y Gogledd.

David Melding a gododd—

David Melding rose—

Ann Jones spoken in English p. 56

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 56

Sorry, David, but the Deputy Presiding Officer will not give me time to take interventions and make the points I want to make.

Mae’n ddrwg gennyf, David, ond ni wnaiff y Dirprwy Lywydd roi amser imi dderbyn ymyriadau a gwneud y pwyntiau yr wyf am eu gwneud.

That is tokenism and it is wrong to use the Queen’s Jubilee to try to say that you are in an all-inclusive Wales. Peter, the spending in the local economy that you mentioned would not be so great as to solve all problems. We must have good policies in place that will be inclusive for the whole of Wales. I would like the Assembly to take the whole of its work around Wales with a system where everyone feels that they have an opportunity. You will know that the North Wales Regional Committee, which is the only one mentioned in legislation, was a commitment by the former First Secretary and Ron Davies, when he was drawing up the Bill, to recognise north Wales’s special problems. The regional meetings in north Wales have always been well attended, and I hope that that will continue, because they have been themed meetings, in which people could get involved and in which they could work. We must take that forward.

Symboleiddiaeth yw hynny ac mae’n anghywir defnyddio Jiwbilî’r Frenhines i geisio dweud eich bod mewn Cymru hollgynhwysol. Peter, ni fyddai’r gwario yn yr economi leol y cyfeiriasoch ato mor fawr fel y byddai’n datrys yr holl broblemau. Rhaid inni roi polisïau da ar waith a fydd yn gynhwysol i Gymru gyfan. Hoffwn pe bai’r Cynulliad yn mynd â’r cyfan o’i waith o gwmpas Cymru gyda system lle y mae pawb yn teimlo bod ganddo gyfle. Byddwch yn gwybod bod Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru, sef yr unig un a grybwyllir yn y ddeddfwriaeth, yn ymrwymiad gan y cyn Brif Ysgrifennydd a Ron Davies, pan oedd yn paratoi’r Mesur, i gydnabod problemau arbennig y Gogledd. Bu niferoedd da yn y cyfarfodydd rhanbarthol yn y Gogledd erioed, a gobeithiaf y bydd hynny’n parhau, oherwydd buont yn gyfarfodydd thematig, y gallai pobl gymryd rhan a gweithio ynddynt. Rhaid inni barhau â hynny.

We must say to the people of north Wales that their problems can be dealt with wherever we are in Wales. We must move away from parochialism. I would like nothing better than to spend every night in my own bed in my constituency and travel across north Wales, as would most Members, but when I put myself forward for election I pledged that I would come down to south Wales to fight on behalf of north Wales. Wherever we meet, I will still fight for the people of my constituency and north Wales. We do not need to go to north Wales once a year to prove that we are inclusive.

Rhaid inni ddweud wrth bobl y Gogledd y gellir delio â’u problemau ym mha le bynnag yr ydym yng Nghymru. Rhaid inni symud oddi wrth blwyfoldeb. Ni fyddai dim yn well gennyf fi na threulio pob nos yn fy ngwely fy hun yn fy etholaeth a theithio ledled y Gogledd, fel y byddai’r rhan fwyaf o’r Aelodau eraill, ond pan gyflwynais fy hun i’m hethol addewais y deuwn i lawr i’r De i ymladd ar ran gogledd Cymru. Ym mhle bynnag yr ydym yn cwrdd, byddaf yn dal i ymladd dros bobl fy etholaeth a gogledd Cymru. Nid oes rhaid inni fynd i’r Gogledd unwaith y flwyddyn i brofi ein bod yn gynhwysol.

Glyn Davies spoken in English p. 57

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 57

I discussed the topic of this minority party debate yesterday with a Labour Assembly Member who represents north Wales, who dismissed the idea as tokenism. Alun Pugh and Ann Jones have said much the same today, and Owen John Thomas also referred to tokenism. I am disappointed by that. Symbolism is important, and holding an Assembly Plenary session once a year in north Wales would make a major statement about our desire to be an Assembly for all of Wales. Every Assembly Member who represents a north Wales constituency must be aware of the level of disengagement among the people of north Wales. That is also true of west Wales and the area in which I live, mid Wales. We must address that and consider how we can make all the people of Wales feel part of the National Assembly for Wales.

Trafodais bwnc y ddadl plaid leiafrifol hon ddoe gydag Aelod Cynulliad Llafur sy’n cynrychioli’r Gogledd, a wfftiodd y syniad a’i alw’n symboleiddiaeth. Mae Alun Pugh ac Ann Jones wedi dweud rhywbeth tebyg heddiw, a chyfeiriodd Owen John Thomas yntau at symboleiddiaeth. Mae hynny’n siom i mi. Mae symboliaeth yn bwysig, a byddai cynnal un o Gyfarfodydd Llawn y Cynulliad unwaith y flwyddyn yn y Gogledd yn ddatganiad o bwys am ein hawydd i fod yn Gynulliad i Gymru gyfan. Mae’n siŵr bod pob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli etholaeth yn y Gogledd yn gwybod am faint yr ymddieithrio ymysg pobl y Gogledd. Mae hynny’n wir hefyd am y Gorllewin a’r ardal yr wyf fi’n byw ynddi, y Canolbarth. Rhaid inni roi sylw i hynny ac ystyried sut y gallwn beri i holl bobl Cymu deimlo’n rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

I was also disappointed by Ann Jones’s reference to the Queen’s Jubilee service. It seemed to me to be a good opportunity to hold a Plenary session in north Wales. To interpret our desire to hold a meeting in north Wales every year as making political use of that occasion is unjust.

Cefais fy siomi hefyd gan gyfeiriad Ann Jones at wasanaeth Jiwbilî’r Frenhines. Yr oeddwn i’n ei weld yn gyfle da i gynnal Cyfarfod Llawn yn y Gogledd. Annheg yw dehongli ein hawydd i gynnal cyfarfod yn y Gogledd bob blwyddyn fel ymgais i wneud defnydd gwleidyddol o’r achlysur hwnnw.

Owen John Thomas a gododd—

Owen John Thomas rose—

Glyn Davies spoken in English p. 57

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 57

I will not give way. I did not like the comment you made earlier. It was inappropriate and I will not give you a chance to repeat it.

Nid ildiaf. Nid oeddwn yn hoffi’r sylw a wnaethoch yn gynharach. Yr oedd yn amhriodol ac ni roddaf gyfle ichi ei ailadrodd.

Like Peter Rogers, I acknowledge that there is a great deal of merit in the Government’s amendment 1. I agree with the open-mike sessions in north Wales, although it is blatant tokenism. The Conservative Party can claim some credit for forcing the Government to come forward with that idea. Although it is tokenism, it would be a good idea for the Cabinet to visit north Wales to give people a chance to interview all the Ministers.

Fel Peter Rogers, yr wyf yn cydnabod bod llawer iawn o werth yng ngwelliant 1 y Llywodraeth. Yr wyf yn cyd-fynd â’r sesiynau trafod agored yn y Gogledd, er mai symboleiddiaeth lwyr yw hynny. Gall y Blaid Geidwadol hawlio rhywfaint o glod am orfodi’r Llywodraeth i gyflwyno’r syniad hwnnw. Er mai symboleiddiaeth ydyw, byddai’n syniad da i’r Cabinet ymweld â’r Gogledd i roi cyfle i bobl gyfweld yr holl Weinidogion.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 58

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 58

You referred to tokenism, Glyn, and some Members have described the motion as such. In order to address that issue, will you share with us the Conservative Party’s input into the recent Assembly review of procedure, including any arguments you might have made in favour of holding Plenary sessions in north Wales?

Cyfeiriasoch at symboleiddiaeth, Glyn, ac mae rhai o’r Aelodau wedi disgrifio’r cynnig felly. Er mwyn ymateb i’r mater hwnnw, a wnewch chi ddweud wrthym beth oedd mewnbwn y Blaid Geidwadol i adolygiad diweddar y Cynulliad o’i weithdrefn, gan gynnwys unrhyw ddadleuon y gallech fod wedi’u rhoi o blaid cynnal Cyfarfodydd Llawn yn y Gogledd?

Glyn Davies spoken in English p. 58

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

I cannot answer that question. I do not know the answer; it would be better for you to look at the review of procedure. It is disappointing that Plaid Cymru Members in particular are not joining us in accepting what must be crucial to all the people who currently support their party. Dafydd Wigley’s contribution was not too bad, but your question, Rhodri, and Owen John Thomas’s intervention earlier, were disappointing and showed the depths to which you are prepared to stoop to make your point.

Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn gwybod yr ateb; byddai’n well ichi edrych ar yr adolygiad o weithdrefn. Mae’n destun siom nad yw Aelodau Plaid Cymru’n benodol yn ymuno â ni wrth dderbyn rhywbeth sy’n sicr o fod yn hollbwysig i bawb sy’n cefnogi eu plaid ar hyn o bryd. Nid oedd cyfraniad Dafydd Wigley cyn waethed â hynny, ond yr oedd eich cwestiwn chi, Rhodri, ac ymyriad Owen John Thomas yn gynharach, yn siomedig ac yn dangos pa mor isel yr ydych yn fodlon mynd i wneud eich pwynt.

Point 4 of amendment 1 also has a great deal of merit. It seems to me that, rather belatedly, the Assembly administration has recognised the need to address this problem. It has recognised that, in proposing this debate, the Conservative Party has tapped into the concerns of the people of Wales. The Government seeks to remove our proposition altogether and replace it with one of its own, which, in terms of point 4, is quite similar.

Mae llawer iawn o werth ym mhwynt 4 gwelliant 1 hefyd. Mae’n ymddangos i mi fod gweinyddiaeth y Cynulliad wedi cydnabod, yn hwyr braidd, fod angen ymdrin â’r broblem hon. Mae wedi cydnabod bod y Blaid Geidwadol, wrth gynnig y ddadl hon, wedi cysylltu â phryderon pobl Cymru. Mae’r Llywodraeth yn ceisio dileu ein cynnig yn llwyr a rhoi yn ei le un o’i heiddo hi, sydd, o ran pwynt 4, yn eithaf tebyg.

I will support Plaid Cymru’s amendments 2 and 3. I had hoped for a cross-party approach to this issue. There is no reason for all Members not to make positive contributions on an issue that the people of Wales care about. I am disappointed that that has not been so. There would be logistical difficulties in holding a Plenary session outside Cardiff, as there are in holding a Committee meeting outside Cardiff. However, we must address the serious issue of disengagement in parts of Wales. One way to do that is to hold meetings outside Cardiff. Therefore, I will support amendment 2. I will also support amendment 3. I do not support every call to move institutions from Cardiff to other parts of Wales. It is sometimes mistaken, as, for example, in the case of S4C. However, there is no arguing with the principle of locating as many jobs as practicable in other parts of Wales. The very existence of the National Assembly in Cardiff creates a magnetic pull and draws all sectors to this place. We must do all that we can to counteract that and to encourage more investment and support to enable the Assembly to have a presence in all parts of Wales.

Cefnogaf welliannau 2 a 3 Plaid Cymru. Yr oeddwn wedi gobeithio cael ymdriniaeth drawsbleidiol i’r mater hwn. Nid oes rheswm pam na ddylai’r holl Aelodau wneud cyfraniadau cadarnhaol ar fater sy’n bwysig i bobl Cymru. Yr wyf yn siomedig nad felly y bu. Byddai anawsterau logistaidd wrth gynnal Cyfarfod Llawn y tu allan i Gaerdydd, fel y mae wrth gynnal cyfarfod Pwyllgor y tu allan i Gaerdydd. Fodd bynnag, rhaid inni roi sylw i fater difrifol yr ymddieithrio mewn rhai rhannau o Gymru. Un modd i wneud hynny yw cynnal cyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd. Felly, cefnogaf welliant 2. Cefnogaf hefyd welliant 3. Ni chefnogaf bob galwad i symud sefydliadau o Gaerdydd i rannau eraill o Gymru. Mae’n gamgymeriad weithiau, fel yn achos S4C, er enghraifft. Fodd bynnag, ni ellir anghytuno â’r egwyddor o leoli cynifer o swyddi ag y bo modd mewn rhannau eraill o Gymru. Mae bodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ynddi’i hun yn creu tynfa fagnetig ac yn tynnu’r holl sectorau i’r fan hon. Rhaid inni wneud popeth a allwn i wrthweithio hynny ac annog mwy o fuddsoddi a chymorth i alluogi’r Cynulliad i gael presenoldeb ym mhob rhan o Gymru.

Eleanor Burnham spoken in English p. 59

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 59

The Welsh Liberal Democrats assert that the Assembly is for all the people of Wales, which should be reflected in the location of its meetings. It is hardly impossible—consider the European Parliament. The National Eisteddfod and the Urdd Eisteddfod are held in different parts of Wales every year, which is part of their charm and why they are held in such affection by the people of Wales. The media should work in close partnership with the Assembly to ensure that everybody in Wales can access our proceedings, whether we meet here or in north Wales.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n mynnu bod y Cynulliad i holl bobl Cymru, a dylid adlewyrchu hynny yn lleoliad ei gyfarfodydd. Prin ei fod yn amhosibl—ystyriwch Senedd Ewrop. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, sydd yn rhan o’u hapêl ac yn egluro pam y maent mor annwyl gan bobl Cymru. Dylai’r cyfryngau weithio mewn partneriaeth glòs â’r Cynulliad i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n gallu cael mynediad at ein trafodion, pa un a ydym yn cwrdd yma neu yn y Gogledd.

The Welsh Assembly Government has done much to ensure that all regions of Wales are properly represented, and the Government’s amendment underlines that. We welcome any reasonable suggestions to strengthen our representation in all parts of Wales. The Cabinet has made a commitment to holding an open-mike session in north Wales, and North Wales Regional Committee meetings—which I have had the pleasure and privilege of chairing for the last year—have been extremely well-attended, as Dafydd Wigley and others mentioned. In fact, I made a bold move and took Committee members to parts of Wales that some needed a map to find. However, the meetings were well attended and I believe that I set the agenda alight. Llanrhaeadr-ym-Mochnant, for instance—

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud llawer i sicrhau cynrychiolaeth briodol i holl ranbarthau Cymru, ac mae gwelliant y Llywodraeth yn pwysleisio hynny. Croesawn unrhyw awgrymiadau rhesymol i atgyfnerthu ein cynrychiolaeth ym mhob rhan o Gymru. Mae’r Cabinet wedi ymrwymo i gynnal sesiwn drafod agored yn y Gogledd, a chafwyd niferoedd da iawn yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru—y cefais y pleser a’r fraint o’i gadeirio dros y flwyddyn ddiwethaf—fel y nododd Dafydd Wigley ac eraill. A dweud y gwir, cymerais gam dewr a mynd ag aelodau’r Pwyllgor i rannau o Gymru yr oedd ar rai ohonynt angen map i’w canfod. Fodd bynnag, yr oedd niferoedd da yn y cyfarfodydd a chredaf fy mod wedi bywiogi’r agenda. Llanrhaeadr-ym-Mochnant, er enghraifft—

Dafydd Wigley spoken in English p. 60

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 60

It is not in north Wales.

Nid yw yng ngogledd Cymru.

Eleanor Burnham spoken in English p. 60

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 60

It is in Clwyd South. The people of Llanrhaeadr-ym-Mochnant were delighted that I took the unprecedented move to hold the Regional Committee meeting in their community hall. I am sorry that I will be unable to chair the Committee next year. I have thoroughly enjoyed the experience, and it has been a wonderful revelation. We even have groupies. Seriously, North Wales Regional Committee meetings are a sight to behold. Our last meeting on the rights of disabled people was so well attended—by wheelchair users and all—that people could hardly get in through the door. It was brilliant, and I commend the First Minister for attending and for doing so well in answering quite thorny questions.

Mae yn Ne Clwyd. Yr oedd pobl Llanrhaeadr-ym-Mochnant wrth eu bod fy mod wedi cymryd y cam digyffelyb o gynnal cyfarfod y Pwyllgor Rhanbarth yn eu neuadd gymunedol. Mae’n ddrwg gennyf na fyddaf yn gallu cadeirio’r Pwyllgor y flwyddyn nesaf. Yr wyf wedi mwynhau’r profiad yn fawr, a bu’n ddatguddiad rhyfeddol. Mae gennym grwpis hyd yn oed. O ddifrif, mae cyfarfodydd Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru’n werth eu gweld. Yn ein cyfarfod diwethaf ar hawliau pobl anabl, yr oedd cynifer yno—gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwynion—fel mai prin y gallai pobl ddod drwy’r drws. Yr oedd yn wych, a chanmolaf Brif Weinidog Cymru am ddod yno ac am wneud cystal wrth ateb cwestiynau eithaf dyrys.

Jonathan Morgan spoken in English p. 60

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 60

It is commendable that so many people attend your Regional Committee meetings. All Regional Committee meetings have good turn-outs from time to time. In light of the excellent turn-out for the session on disability, do you not agree that were the Assembly to meet in north Wales, we would have a fantastic turn-out?

Mae’n glodwiw bod cynifer yn mynychu cyfarfodydd eich Pwyllgor Rhanbarth. Ceir presenoldeb da yng nghyfarfodydd yr holl Bwyllgorau Rhanbarth o bryd i’w gilydd. Yng ngoleuni’r presenoldeb rhagorol yn y sesiwn ar anabledd, a ydych yn cytuno, pe bai’r Cynulliad yn cwrdd yn y Gogledd, y caem bresenoldeb rhagorol?

Eleanor Burnham spoken in English p. 60

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 60

Yes, which is what the Government amendment suggests. We can work to reorganise where people are employed by the Assembly and Assembly sponsored public bodies. The magnificent turn-out by the people of north Wales for meetings on many wide-ranging topics demonstrates the need for us to meet there. We are lucky in the various bodies and cohesion that we have in north Wales. That is to be commended and should be complemented by holding more Assembly proceedings in the area. I commend amendment 1. I believe that the political will exists to ensure that everybody has their say in the National Assembly for Wales.

Ydwyf, a dyna y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei awgrymu. Gallwn weithio i aildrefnu’r mannau y cyflogir pobl gan y Cynulliad a’r cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. Mae’r presenoldeb gwych gan bobl y Gogledd ar gyfer cyfarfodydd ar lawer o bynciau amrywiol yn dangos bod angen inni gwrdd yno. Yr ydym yn ffodus o ran y gwahanol gyrff a’r cydlyniad sydd gennym yn y Gogledd. Mae hynny i’w ganmol a dylid ategu hynny drwy gynnal rhagor o drafodion y Cynulliad yn yr ardal. Cymeradwyaf welliant 1. Credaf fod yr ewyllys wleidyddol yn bod i sicrhau y caiff pawb lais yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Jonathan Morgan spoken in English p. 60

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 60

I am saddened by the Labour Party’s attitude this morning. This debate was a real opportunity for the Assembly to reaffirm a basic principle, namely that the Assembly is for all of Wales, not just Cardiff and south Wales. I say that as a proud Cardiffian who has mentioned on several occasions in this Chamber how proud I am to represent the capital city and its glorious achievements. It is a proud, confident, vibrant and exciting modern capital city and I am proud to be a part of it and to represent it.

Mae agwedd y Blaid Lafur y bore yma yn peri tristwch i mi. Yr oedd y ddadl hon yn gyfle gwirioneddol i’r Cynulliad ailddatgan egwyddor sylfaenol, sef bod y Cynulliad ar gyfer Cymru gyfan, nid Caerdydd a’r De’n unig. Dywedaf hynny fel un sy’n falch ei fod o Gaerdydd, sydd wedi dweud ar sawl achlysur yn y Siambr hon mor falch ydwyf o gynrychioli’r brifddinas a’i chyflawniadau gwych. Mae’n brifddinas fodern sy’n falch, yn hyderus, yn fywiog ac yn gyffrous ac yr wyf yn falch o fod yn rhan ohoni ac o’i chynrychioli.

We have much to shout about in south Wales, given our bid to be Cultural Capital of Europe in 2008, the Millennium Stadium, the Wales Millennium Centre and the range of possibilities Cardiff offers as a capital city. However, it is easy to become too focused on one area.

Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo yn y De, o ystyried ein cais i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008, Stadiwm y Mileniwm, Canolfan Mileniwm Cymru a’r amrediad o bosibiliadau y mae Caerdydd yn ei gynnig fel prifddinas. Fodd bynnag, mae’n hawdd canolbwyntio gormod ar un ardal.

Alison Halford spoken in English p. 61

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 61

Do you not think that you could lend greater support to north Wales by insisting that a little more money is spent there, rather than propping up all the glorious developments in Cardiff?

Onid ydych yn credu y gallech roi mwy o gefnogaeth i’r Gogledd drwy fynnu y caiff ychydig yn fwy o arian ei wario yno, yn hytrach na chynnal yr holl ddatblygiadau gwych yng Nghaerdydd?

Jonathan Morgan spoken in English p. 61

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 61

I would be happy for more money to be spent elsewhere in Wales in addition to it being spent in Cardiff. However, given that you are a member of the ruling party, your voice should carry more weight than mine. A member of the Labour Party should be able to convince its own Cabinet.

Byddwn yn falch pe câi mwy o arian ei wario mewn mannau eraill yng Nghymru yn ogystal â chael ei wario yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gan eich bod yn aelod o’r blaid sy’n rheoli, dylai’ch llais fod yn fwy dylanwadol na fy un i. Dylai aelod o’r Blaid Lafur allu argyhoeddi ei Gabinet ei hun.

Eleanor Burnham has just outlined some of the reasons why we should meet in north Wales. There would be tremendous support from the people if we met in north Wales. It would enable us to listen to their concerns and to start to reflect on and address the issues there. Some of those issues were outlined in the passage of the Government of Wales Bill through Parliament, and the Government of Wales Act 1998 specifies that there should be a Regional Committee for north Wales. It recognised that north Wales was a special case and that we should build on that by meeting there.

Mae Eleanor Burnham newydd amlinellu rhai o’r rhesymau pam y dylem gwrdd yn y Gogledd. Byddai cefnogaeth aruthrol gan y bobl pe baem yn cwrdd yn y Gogledd. Fe’n galluogai i wrando ar eu pryderon a dechrau ystyried ac ymdrin â’r materion sy’n codi yno. Amlinellwyd rhai o’r materion hynny yn ystod hynt Mesur Llywodraeth Cymru drwy’r Senedd, ac mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn nodi y dylid cael Pwyllgor Rhanbarth i’r Gogledd. Cydnabu fod gogledd Cymru’n achos arbennig ac y dylem adeiladu ar sail hynny drwy gwrdd yno.

The Assembly needs to be seen as more than merely Cardiff based. Three out of the four Cardiff Assembly Members are in the Cabinet, most of the Cabinet come from the Cardiff and Glamorgan area, and they all come from the south Wales belt. That sends a negative message to the rest of Wales, not least north Wales, which is not represented in the Cabinet.

Rhaid i’r Cynulliad gael ei ystyried yn rhywbeth nad yw wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn unig. Mae tri o bedwar Aelod Cynulliad Caerdydd yn y Cabinet, daw’r rhan fwyaf o’r Cabinet o ardal Caerdydd a Morgannwg, ac maent i gyd yn dod o ranbarth de Cymru. Mae hynny’n cyfleu neges negyddol i weddill Cymru, yn arbennig i ogledd Cymru, sydd heb gynrychiolaeth yn y Cabinet.

Owen John Thomas a gododd—

Owen John Thomas rose—

Jonathan Morgan spoken in English p. 62

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 62

I will not give way. I may do so later.

Nid ildiaf. Efallai y gwnaf yn ddiweddarach.

I disagree slightly with Glyn Davies on point 1 of amendment 1. An open-mike session is a gimmick. The idea of having the Cabinet travel to north Wales to take part in an open-mike session in a dumbed-down version of Have I Got News for You is laughable. Perhaps we should invite Angus Deayton to chair the meeting. It is incredible.

Anghytunaf fymryn â Glyn Davies ar bwynt 1 gwelliant 1. Gimig yw sesiwn drafod agored. Mae’r syniad o gael y Cabinet i deithio i’r Gogledd i gymryd rhan mewn sesiwn drafod agored mewn fersiwn twpach o Have I Got News for You yn chwerthinllyd. Efallai y dylem wahodd Angus Deayton i gadeirio’r cyfarfod. Mae’n anhygoel.

Point 2 of amendment 1 states that the Assembly Government will strengthen its presence in north Wales. The First Minister has responsibility for co-ordinating policy for north Wales, and, indeed, for the whole of Wales. Somehow, we have a Minister for north Wales, a Father Christmas figure who goes up north once a year and showers the good people of north Wales with gifts and promises of a brighter future. That is also laughable and even more of a gimmick than having the Cabinet travel up to north Wales en masse.

Mae pwynt 2 gwelliant 1 yn datgan y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn atgyfnerthu ei phresenoldeb yn y Gogledd. Mae Prif Weinidog Cymru’n gyfrifol am gydlynu polisi i’r Gogledd, ac, yn wir, i Gymru gyfan. Rywfodd, mae gennym Weinidog dros ogledd Cymru, rhywun tebyg i Siôn Corn sy’n mynd i fyny i’r gogledd unwaith y flwyddyn ac yn pentyrru anrhegion ac addewidion am ddyfodol mwy disglair ar bobl dda’r Gogledd. Mae hynny’n chwerthinllyd hefyd ac yn fwy byth o gimig na chael y Cabinet i deithio i fyny i’r Gogledd yn un fflyd.

Ann Jones spoken in English p. 62

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 62

To say that the First Minister travels to north Wales once a year is inaccurate. When the First Minister took over responsibility for north Wales, he agreed to attend the Regional Committee meetings. When I was Chair, he attended all but one meeting. Many people came to the regional meetings to listen to what the First Minister had to say during the open question and answer sessions, and to talk to the Regional Committee members about the problems in north Wales. It is incorrect to say that the First Minister only travels up once a year. He is totally committed to north Wales and he—

Anghywir yw dweud bod Prif Weinidog Cymru’n teithio i’r Gogledd unwaith y flwyddyn. Pan ymgymerodd Prif Weinidog Cymru â’r cyfrifoldeb dros y Gogledd, cytunodd i ddod i gyfarfodydd y Pwyllgor Rhanbarth. Pan oeddwn i’n Gadeirydd, daeth i bob cyfarfod ond un. Daeth llawer i’r cyfarfodydd rhanbarth i wrando ar yr hyn a oedd gan Brif Weinidog Cymru i’w ddweud yn ystod y sesiynau cwestiwn ac ateb agored, ac i siarad ag aelodau’r Pwyllgor Rhanbarth am y problemau yn y Gogledd. Anghywir yw dweud nad yw Prif Weinidog Cymru ond yn teithio i fyny unwaith y flwyddyn. Mae wedi ymrwymo’n llwyr i’r Gogledd ac mae—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 62

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 62

Order. Interventions must be brief and to the point.

Trefn. Rhaid i ymyriadau fod yn fyr ac yn berthnasol.

Jonathan Morgan spoken in English p. 63

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 63

It is good to hear that the First Minister has been gracious enough to attend Regional Committee meetings in north Wales. The people of north Wales, who feel that Cardiff and south Wales are remote, have attended meetings and shown interest. Given that, and that devolution, as Dafydd Wigley rightly said, is not just about devolving from London to Cardiff, but about how Cardiff can address the needs of the rest of Wales, and north Wales in particular—where people feel far closer to the cities and towns of north England than they do to the rest of Wales—surely there is a case for the Assembly, not to hold one just Plenary session there, but to hold some of its Committee meetings and to undertake some of its other business in north Wales? That would send out a positive signal. As someone who has always lived in Cardiff and represents the city as part of South Wales Central, I would find it a privilege and a joy to travel to north Wales to listen to the people and to find out about their concerns and issues. Assembly Members should support this motion as a positive contribution to addressing some of the real concerns in Wales.

Mae’n dda clywed i Brif Weinidog Cymru fod yn ddigon haelionus i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Rhanbarth yn y Gogledd. Mae pobl y Gogledd, sy’n teimlo bod Caerdydd a’r De’n bell, wedi dod i’r cyfarfodydd ac wedi dangos diddordeb. O ystyried hynny, a bod datganoli, fel y dywedodd Dafydd Wigley, yn ymwneud â mwy na datganoli o Lundain i Gaerdydd, ond yn ymwneud â sut y gall Caerdydd roi sylw i anghenion gweddill Cymru, a’r Gogledd yn benodol—lle y mae pobl yn teimlo’n agosach at ddinasoedd a threfi gogledd Lloegr nag y maent at weddill Cymru—siawns nad oes dadl y dylai’r Cynulliad gynnal mwy nag un Cyfarfod Llawn yno, ac y dylai gynnal rhai o’i gyfarfodydd Pwyllgor a rhywfaint o’i fusnes arall yn y Gogledd? Byddai hynny’n rhoi arwydd cadarnhaol. Fel un sydd wedi byw yng Nghaerdydd erioed ac sy’n cynrychioli’r ddinas fel rhan o Ganol De Cymru, byddwn yn ei chael yn fraint ac yn hyfrydwch teithio i’r Gogledd i wrando ar y bobl a chael gwybod am eu pryderon a materion sy’n codi yno. Dylai Aelodau’r Cynulliad gefnogi’r cynnig hwn fel cyfraniad cadarnhaol at ymdrin â rhai o’r pryderon gwirioneddol yng Nghymru.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 63

Gareth Jones spoken in Welsh p. 63

I fod braidd yn hunanol, efallai, byddwn yn cefnogi unrhyw gynnig a fyddai’n caniatáu i mi osgoi y siwrnai wythnosol i lawr i Gaerdydd ac yn ôl, y byddaf yn ymgymryd â hi y prynhawn yma. Byddwn hefyd am gefnogi’n llwyr unrhyw ymgais ddifrifol i godi proffil y Cynulliad, ei dynnu allan o Gaerdydd a’i wneud yn fwy perthnasol i bobl yn y Gogledd a rhannau eraill o Gymru.

To be somewhat selfish perhaps, I would support any motion that would allow me to avoid the weekly journey down to Cardiff and back, which I will undertake this afternoon. I would also fully support any serious attempt to raise the Assembly’s profile, to bring it out of Cardiff and make it more relevant to people in north Wales and other parts of the country.

Cefnogwn hynny. Yr hyn sydd yn fy synnu, a chyfeiriwyd at hyn eisoes, yw bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis y pwnc hwn ar yr adeg hon, pan gafwyd cyfle eisoes i adolygu gweithdrefn y Cynulliad. Yr oeddech yn dawel bryd hynny. Nid wyf yn deall pam eich bod yn dod â hyn gerbron yn awr, ac felly mae rhywun yn amheus o’ch bwriad. Ai sioe wleidyddol yw hyn?

I would support that. What surprises me, and reference has been made to this already, is that the Welsh Conservatives have selected this subject at this time, when we have already had an opportunity to review Assembly procedure. You were silent at that time. I do not understand why you are bringing this matter before us today, and so one doubts your intentions. Is this a political stunt?

David Davies siaradwyd yn Gymraeg t. 63

David Davies spoken in Welsh p. 63

Cyfle da yw hyn i ddechrau ar y gwaith o fynd i ogledd Cymru, a dyna’r hyn yr hoffem ei weld yn digwydd.

This is a good opportunity to begin the work of going to north Wales, and that is what we want to see happening.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 64

Gareth Jones spoken in Welsh p. 64

Derbyniaf y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, y prif gwestiwn i bob un ohonom yw a fyddai’r penderfyniad hwn i gyfarfod y tu allan i Gaerdydd, boed Gabinet neu Gyfarfod Llawn, yn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell drwy Gymru? Dyna’r hyn yr ydym am ei gael. Sut fyddai Cynulliad Cenedlaethol nomadaidd yn helpu i gyflawni hynny? A fyddai’n ffars, yn theatr a dim byd arall? A fyddai gweithredu pwrpasol? Yr wyf yn amau.

I accept that point. However, the main question for each of us is whether this decision to meet outside Cardiff, be it the Cabinet or Plenary, would help to deliver better services throughout Wales? That is what we want. How would a nomadic National Assembly help to achieve that? Would it be a farce, a theatre and nothing else? Would there be purposeful action? I doubt it.

Yr wyf yn siomedig nad yw dewis dadl y Ceidwadwyr wedi’i ganolbwyntio ar fater a fyddai’n arwain at wella ansawdd bywyd pobl Cymru. Yr ydych wedi colli cyfle. Ansawdd ac effaith penderfyniadau sydd o bwys i bobl Cymru, nid lleoliad y broses o wneud penderfyniadau. Dylem ystyried y pwynt hwnnw’n ofalus. Mae gwelliant 1 Carwyn Jones yn dila ac yn adwaith i fethiant y Llywodraeth i sicrhau newidiadau llesol ar gyfer pobl Cymru. Mae angen llawer mwy na rhestr fympwyol i ddatrys problemau mawr y Llywodraeth ac i argyhoeddi etholwyr Cymru bod ei pholisiau’n effeithiol ac yn llesol. Hunan-longyfarch yw hyn, yn hytrach nag ymdrech ddychmygus, strwythuredig i gyflawni polisïau o bwys. Cyfeiriodd Dafydd Wigley eisoes at y gwelliannau.

I am disappointed that the Conservatives’ choice of debate has not focused on an issue that would lead to improving the quality of life of the people of Wales. You have missed an opportunity. What matters to the people of Wales is the quality and effect of decisions, not the location of the decision-making process. We should consider that point carefully. Carwyn Jones’s amendment 1 is feeble and a reaction to the Government’s failure to bring about beneficial changes for the people of Wales. We need much more than an arbitrary list to solve the Government’s great problems and to persuade the Welsh electorate that its policies are effective and beneficial. This is self-congratulation, rather than an imaginative, structured effort to deliver meaningful policies. Dafydd Wigley has already referred to the amendments.

Hoffwn gloi drwy ail-adrodd pwynt difrifol yr hoffwn ichi ei ystyried. Nid yw cynnig y Ceidwadwyr, na gwelliant y Llywodraeth yn gwneud dim i geisio gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Symboleiddiaeth a chyoeddusrwydd rhad yn unig yw hyn.

I conclude by reiterating a serious point, which I want you to consider. The Conservative motion and the Government’s amendment do nothing to try to improve the quality of life of the people of Wales. This is just tokenism and cheap publicity.

Alun Cairns siaradwyd yn Gymraeg t. 64

Alun Cairns spoken in Welsh p. 64

Derbyniaf y pwynt ynglŷn ag ansawdd, ond a dderbyniwch y byddai cynnal cyfarfod yn y Gogledd yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r Cabinet ac i holl Aelodau’r Cynulliad, yn enwedig Aelodau o’r De, o anghenion y Gogledd?

I accept the point about quality, but do you accept that holding a Plenary in north Wales would give the Cabinet and all Assembly Members, particularly Members from south Wales, a better understanding of the needs of north Wales?

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 64

Gareth Jones spoken in Welsh p. 64

Yr wyf yn amheus, oherwydd ein bod yn trafod heddiw, ond ychydig sydd yn edrych ar broses y ddadl. Mae elfen o symboleiddiaeth a chyhoeddusrwydd rhad yn hyn. Beth fyddem yn ei wneud? Dim ond adleoli’r cadeiriau haul ar fwrdd y Titanic y byddem. Mae angen mynd i’r afael â chwestiynau mwy dwys. Nid lleoliad y broses o wneud penderfyniadau sydd yn bwysig ond ansawdd y penderfyniadau hynny—ac mae diffyg penderfyniadau o safon yn y Llywodraeth hon ar hyn o bryd.

I am doubtful, because we are debating today, but few are looking at the process of the debate. There is an element of tokenism and cheap publicity in this. What would we be doing? We would only be rearranging the deckchairs on the Titanic. We must tackle more serious questions. It is not the location of the decision-making process that is important, but the quality of those decisions—and the Government is lacking in quality decisions at present.

David Melding spoken in English p. 65

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 65

It is usually a pleasure to follow Gareth Jones in debate, but after that contribution, he stands in jeopardy of losing the Conservative whip; it will be withdrawn. He is usually able to see our point of view positively, but he is losing that particular talent.

Pleser, fel rheol, yw dilyn Gareth Jones mewn dadl, ond ar ôl y cyfraniad hwnnw, mae perygl iddo golli’r chwip Geidwadol; caiff ei thynnu’n ôl. Fel arfer, mae’n gallu edrych yn gadarnhaol ar ein safbwynt, ond mae’n colli’r ddawn benodol honno.

The Scottish Parliament has met outside Edinburgh. There is a clear precedent in the British Isles for devolved institutions to meet in different locations because of the strong signal that sends out. It would be ultimate devolution for us to do that and to see ourselves as more than a static entity. It would send out a powerful signal.

Mae Senedd yr Alban wedi cyfarfod y tu allan i Gaeredin. Mae cynsail amlwg yn Ynysoedd Prydain i sefydliadau datganoledig gyfarfod mewn gwahanol leoedd oherwydd y neges glir y mae hynny’n ei rhoi. Y datganoli eithaf fyddai i ni wneud hynny a’n gweld ein hunain yn fwy nag endid sefydlog. Byddai’n anfon neges gryf.

Let us not forget that, as an accident of history, our capital city is in the most southerly part—nearly—of the principality. We cannot change that: that is how it is. However, we could meet in north Wales for one week a year as a start. Were that successful, as I am sure it would be, it could be built upon. It would be an annual event; so the allegation that we have proposed this just because Her Majesty is to attend a service in Bangor cathedral has nothing to do with the motion. We say that the Assembly should meet annually in north Wales. It is the Labour Members who have tried to sully the debate by raising this spurious point. I feel sorry for the north Walian Members who support the administration. They have been forced reluctantly to back the Government line. That is terrible for them because they are denying their constituents better access to the Assembly, at least for the time that we would meet in north Wales.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod ein prifddinas, oherwydd damwain hanesyddol, yn neau eithaf—bron—y dywysogaeth. Ni allwn newid hynny: felly y mae. Er hynny, fe allem gwrdd yn y Gogledd am un wythnos y flwyddyn fel man cychwyn. Pe byddai’n llwyddiannus, ac yr wyf yn siŵr y byddai, gellid adeiladu ar sail hynny. Byddai’n ddigwyddiad blynyddol; felly nid yw’r honiad ein bod yn cynnig hyn dim ond am fod Ei Mawrhydi yn mynd i wasanaeth yn eglwys gadeiriol Bangor yn ymwneud dim â’r cynnig o gwbl. Dywedwn y dylai’r Cynulliad gwrdd yn flynyddol yn y Gogledd. Yr Aelodau Llafur sydd wedi ceisio difwyno’r ddadl drwy godi’r pwynt ffug hwn. Mae’n ddrwg gennyf dros Aelodau’r Gogledd sy’n cefnogi’r weinyddiaeth. Fe’u gorfodwyd o’u hanfodd i gefnogi polisi’r Llywodraeth. Mae hynny’n ofnadwy iddynt hwy am eu bod yn gwrthod gwell mynediad i’w hetholwyr at y Cynulliad, o leiaf dros y cyfnod y byddem yn cyfarfod yn y Gogledd.

Meeting in north Wales would also counterbalance the fact that we currently have a Glamorgan Cabinet. Let us not forget that. Every member of the Cabinet represents a Glamorgan constituency. There is a pattern of behaviour from the First Minister—who has, unfortunately now left the Chamber, but whom I will attack anyway. He makes a decision in great haste and then has to invent all sorts of convoluted bells and whistles to try to justify his position. He probably did not realise that he had appointed a Cabinet wholly from Glamorgan until that was pointed out to him. Then he said that the appointments were made on ability alone. That is an awful assessment of his colleagues in Gwent and west, mid and north Wales. It is sheer incompetence to appoint a Cabinet that exclusively represents one part of Wales. The First Minister also brought us the WAG. I am sure that he did not realise until after he had decided that he wanted to call the administration the Welsh Assembly Government, that the acronym is WAG. However, by then it was too late and he could not get out of it, so he tries to convince everyone not to use the acronym WAG. We always use acronyms in public life, but we cannot use this particular one. What incompetence, to put us in a position whereby the media can refer to our Executive as WAG. It is a pattern of behaviour; he often misses the big point. He gets leadership wrong and does not present the Assembly well. That is a stark example.

Byddai cwrdd yn y Gogledd yn fodd hefyd i wrthbwyso’r ffaith bod gennym Gabinet o Forgannwg ar hyn o bryd. Gadewch inni beidio ag anghofio hynny. Mae pob aelod o’r Cabinet yn cynrychioli etholaeth ym Morgannwg. Mae patrwm o ymddygiad gan Brif Weinidog Cymru—sydd wedi gadael y Siambr bellach, gwaetha’r modd, ond ymosodaf arno beth bynnag. Mae’n gwneud penderfyniad ar frys ac wedyn yn gorfod dyfeisio pob math o ddadleuon astrus i gyfiawnhau ei safbwynt. Mae’n debyg na sylweddolodd ei fod wedi penodi Cabinet o Forgannwg yn unig nes tynnwyd ei sylw at hynny. Wedyn dywedodd fod y penodiadau wedi’u gwneud ar sail gallu’n unig. Mae hynny’n asesiad ofnadwy o’i gyd-Aelodau yng Ngwent a’r Gorllewin, y Canolbarth a’r Gogledd. Aflerwch llwyr yw penodi Cabinet sy’n cynrychioli un rhan o Gymru’n unig. Prif Weinidog Cymru a roddodd y WAG i ni hefyd. Yr wyf yn sicr na sylweddolodd tan ar ôl iddo benderfynu ei fod am alw’r weinyddiaeth yn ‘Welsh Assembly Government’ mai WAG yw’r acronym. Fodd bynnag, yr oedd yn rhy hwyr erbyn hynny ac ni allai ei osgoi, felly mae’n ceisio darbwyllo pawb i beidio â defnyddio’r acronym WAG. Yr ydym bob amser yn defnyddio acronymau mewn bywyd cyhoeddus, ond ni allwn ddefnyddio’r un penodol yma. Y fath aflerwch yw ein rhoi mewn sefyllfa lle y gall y cyfryngau alw ein Gweithrediaeth yn WAG. Mae patrwm i’w ymddygiad; mae’n aml yn methu’r prif bwynt. Mae’n cyfeiliorni wrth arwain ac nid yw’n cyflwyno’r Cynulliad yn dda. Mae hynny’n enghraifft amlwg.

There would be costs involved in this, and we must face that. However, we are prepared to build the new Assembly Chamber at a cost of roughly £40 million. That must come into the balance of this debate. Plaid Cymru has made much of the lack of reference in our submission to the review of procedure. I drafted most of that submission and Plaid makes a fair point; it was an omission. We could have addressed that point at that time and did not. However, it was not a deliberate omission. We are now of the view that we need to meet in north Wales, and I hope that you accept that there can be some good faith in politics. Aristotle says that the human heart always has mixed motivations, which is, perhaps, a fair but rather severe point.

Byddai costau ynglŷn â hyn, a rhaid inni wynebu hynny. Fodd bynnag, yr ydym yn barod i godi Siambr newydd y Cynulliad ar gost o tua £40 miliwn. Rhaid ystyried hynny yn y ddadl hon. Mae Plaid Cymru wedi gwneud yn fawr o’r diffyg cyfeiriad yn ein cyflwyniad i’r adolygiad o weithdrefn. Myfi a ddrafftiodd y rhan fwyaf o’r cyflwyniad hwnnw ac mae Plaid Cymru’n gwneud pwynt teg; yr oedd hynny’n ddiffyg. Gallem fod wedi ymdrin â’r pwynt hwnnw ar y pryd ac ni wnaethom. Fodd bynnag, ni adawyd ef allan yn fwriadol. Ein barn bellach yw bod angen inni gwrdd yn y Gogledd, a gobeithiaf eich bod yn derbyn y gellir bod rhywfaint o ddiffuantrwydd mewn gwleidyddiaeth. Dywed Aristoteles fod cymhellion cymysg yn y galon ddynol bob amser, sy’n bwynt teg, er braidd yn llym, efallai.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 66

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 66

A ydych yn cymeradwyo cynnal Cyfarfodydd Llawn mewn lleoedd eraill yng Nghymru, ar wahân i’r hyn a alwch yn ‘ogledd Cymru’, er enghraifft, yn Aberystwyth, Sir Benfro neu Llandrindod? A gredwch ei bod yn realistig siarad am gynnal cyfres o Gyfarfodydd Llawn symudol? Pam y gwahaniaethu rhwng y Gogledd a’r gweddill, o gofio bod Milffwrd mor bell o Gaerdydd ac yn anos i’w chyrraedd na Wrecsam?

Do you approve of holding Plenary sessions in other locations in Wales, apart from what you call ‘north Wales’, for example, in Aberystwyth, Pembrokeshire or Llandrindod Wells? Do you believe that it is realistic to talk of having a series of peripatetic Plenary sessions? Why differentiate between north Wales and the rest, considering that Milford is as far from Cardiff and more difficult to reach than Wrexham is?

David Melding spoken in English p. 67

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 67

Logic suggests that we would move to a situation whereby Plenary sessions would be held in mid and west Wales also. However, we need to start in north Wales to send out a positive signal. People commonly talk in terms of north and south, but you are right, we should remember mid and west Wales too.

Mae’n rhesymegol tybio y byddem yn mynd at sefyllfa lle y cynhelid Cyfarfodydd Llawn yn y Canolbarth a’r Gorllewin hefyd. Fodd bynnag, rhaid inni ddechrau yn y Gogledd er mwyn anfon neges gadarnhaol. Mae pobl yn sôn yn aml am y Gogledd a’r De, ond yr ydych yn iawn, dylem gofio’r Canolbarth a’r Gorllewin hefyd.

On Plaid Cymru’s attack, or rather its pointed criticism of our position on the review, it should get over that and support the motion as it stands. That is the most constructive thing to do. This is an Assembly decision. Obviously, the review is just that. It gives advice and does not need to be followed up.

Ynghylch ymosodiad Plaid Cymru, neu’n hytrach ei beirniadaeth finiog ar ein safbwynt ar yr adolygiad, dylai ddod dros hynny a chefnogi’r cynnig fel y mae. Dyna’r peth mwyaf adeiladol i’w wneud. Penderfyniad i’r Cynulliad yw hwn. Wrth gwrs, adolygiad ydyw a dim mwy. Mae’n rhoi cyngor ac nid oes rhaid ei ddilyn.

Finally, on tokenism, that is always a charge and, until we see this established behaviour, we do not know how it will work out. If it does not lead to better services and access then it would be for nought, but we should at least try. At the minute, we do not meet anywhere outside Cardiff, so it would be good to start with this pretty powerful token gesture and then build on it. We should meet in north Wales.

Yn olaf, ynghylch symboleiddiaeth, ceir y cyhuddiad hwnnw bob amser a, hyd nes y gwelwn hyn yn ennill ei blwyf, ni wyddom sut y bydd yn gweithio. Os nad yw’n arwain at well gwasanaethau a mynediad, byddai’n ofer, ond dylem roi cynnig arni o leiaf. Ar hyn o bryd, nid ydym yn cwrdd yn unman y tu allan i Gaerdydd, felly byddai’n dda dechrau ag arwydd symbolaidd eithaf pendant ac adeiladu ar sail hynny. Fe ddylem gwrdd yn y Gogledd.

Peter Law spoken in English p. 67

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 67

I am grateful for the opportunity to speak in this interesting debate, particularly as the Conservatives have proposed it and discussed inclusion. Some of us are still trying to recover from 18 years of their idea of inclusion. Having said that, this issue is above politics. It is about the people of Wales. Therefore, I support the Government’s amendment, as it is much more appropriate and in line with what we need to consider. To be fair, it welcomes the innovative Cabinet session in north Wales, which Lorraine Barrett mentioned earlier. The Cabinet is to be complimented on that. The amendment mentions strengthening the Government’s presence in north Wales and I hope that that means offices of appropriate status being located there in the future. It would be about time, because people in north Wales particularly, and probably in the west, are wondering how dull we can be. It is three years after we have been established and we are just discussing these matters now. Quite frankly, we should have discussed this a long time ago. If we are to be an inclusive organisation—and many people here know more about inclusivity than I, and were spouting it before they were elected here—we should have taken action on a Plenary session going out to the people a long time ago. I support that and always have done. That is why I am glad to see the Government mention a greater presence.

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl ddiddorol hon, yn enwedig am mai’r Ceidwadwyr sydd wedi’i chynnig ac wedi trafod cynhwysiant. Mae rhai ohonom yn dal i geisio ymadfer ar ôl 18 mlynedd o’u syniad hwy o gynhwysiant. Wedi dweud hynny, mae’r mater hwn uwchlaw gwleidyddiaeth. Mae’n ymwneud â phobl Cymru. Felly, yr wyf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, gan ei fod yn llawer mwy priodol ac yn gyson â’r hyn y mae angen inni ei ystyried. A bod yn deg, mae’n croesawu cyfarfod arloesol y Cabinet yn y Gogledd, y cyfeiriodd Lorraine Barrett ato’n gynharach. Dylid canmol y Cabinet am hynny. Mae’r gwelliant yn sôn am atgyfnerthu presenoldeb y Llywodraeth yn y Gogledd a gobeithiaf fod hynny’n golygu lleoli swyddfeydd o statws priodol yno yn y dyfodol. Byddai’n hen bryd, gan fod pobl yn y Gogledd yn enwedig, ac yn y Gorllewin yn ôl pob tebyg, yn meddwl tybed pa mor dwp y gallwn ni fod. Mae tair blynedd ers ein sefydlu a dyma ni’n trafod y materion hyn am y tro cyntaf. A bod yn gwbl onest, dylem fod wedi trafod hyn amser maith yn ôl. Os ydym i fod yn gorff cynhwysol—ac mae llawer yma sy’n gwybod mwy am gynwysoldeb nag yr wyf fi, ac wedi traethu amdano cyn eu hethol i’r lle hwn—dylem fod wedi cymryd camau ar fynd â Chyfarfod Llawn at y bobl amser maith yn ôl. Yr wyf o blaid hynny erioed. Dyna pam yr wyf yn falch o weld y Llywodraeth yn sôn am fwy o bresenoldeb.

Point 4 of amendment 1, which invites the Presiding Officer to explore the feasibility of Plenary sessions being held in other parts of Wales, is also important, because there are other parts of Wales besides north Wales. West Wales should also be considered. Some people refer affectionately to Ceredigion as the wild west. The people there need to see that the Assembly is alive and concerned and occasionally walks among them. We do not need to tear ourselves apart over this; we should consider how we can achieve it instead. When you look around at—and I will talk about north Wales in a moment—Flintshire, Wrexham, Ruthin, Conwy, Caernarfon, Ynys Môn, Meirionydd, Ceredigion and Pembrokeshire, there are excellent debating chambers in many of those areas, where they have had simultaneous translation facilities for many years, even before the establishment of the Welsh Language Board. That is an excellent organisation, which does great work and which should be continued in the future, by the way. There would be no great difficulty in finding places for us to meet. People talk of tokenism—and we should see Plenary sessions held outside of Cardiff for a few weeks a year at least, which could be done on a rota basis—but when you feel totally excluded, a token gesture is better than nothing at all. To those who talk of tokenism, when you take the Committee out, what is that? The Committee has gone out and—

Mae pwynt 4 o welliant 1, sy’n gwahodd y Llywydd i ymchwilio i ymarferoldeb cynnal Cyfarfodydd Llawn mewn rhannau eraill o Gymru, yn bwysig hefyd, gan fod rhannau eraill o Gymru heblaw am y Gogledd. Dylid ystyried y Gorllewin hefyd. Mae rhai pobl yn cyfeirio’n hoffus at Geredigion fel y gorllewin gwyllt. Mae angen i’r bobl yno weld bod y Cynulliad yn fyw ac yn pryderu amdanynt ac yn cerdded yn eu mysg weithiau. Nid oes rhaid inni rwygo’n hunain yn ddarnau ynghylch hyn; yn hytrach, dylem ystyried sut y gallwn ei gyflawni. Pan edrychwch o’ch cwmpas ar—ac fe soniaf am y Gogledd ymhen eiliad—sir y Fflint, Wrecsam, Rhuthun, Conwy, Caernarfon, Ynys Môn, Meirionnydd, Ceredigion a sir Benfro, mae siambrau dadlau rhagorol mewn llawer o’r ardaloedd hynny, a chanddynt gyfleusterau cyfieithu ar y pryd ers blynyddoedd lawer, hyd yn oed cyn sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hwnnw’n gorff rhagorol, sy’n gwneud gwaith rhagorol y dylid parhau ag ef yn y dyfodol, gyda llaw. Ni fyddai’n anodd iawn canfod mannau inni gyfarfod. Mae rhai’n sôn am symboleiddiaeth—a dylem weld cynnal Cyfarfodydd Llawn y tu allan i Gaerdydd am ychydig wythnosau’r flwyddyn o leiaf, a gellid gwneud hynny yn ôl rota—ond pan deimlwch eich bod wedi’ch allgáu’n llwyr, mae arwydd symbolaidd yn well na dim. Dywedaf hyn wrth y rhai sy’n sôn am symboleiddiaeth, pan ewch â Phwyllgor allan, beth yw hynny? Mae’r Pwyllgor wedi mynd allan a—

Glyn Davies spoken in English p. 69

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 69

Peter, I invite you to congratulate the Conservative Party, as well as quite rightly congratulating Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Congratulate us on proposing the motion today because, without it, you would not have had the amendment. It is the motion that has brought about the amendment and forced the Government to consider this issue seriously and to propose what you seem to support so much.

Peter, yr wyf yn eich gwahodd i longyfarch y Blaid Geidwadol, yn ogystal â llongyfarch Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fel y gwnaethoch yn gwbl briodol. Llongyfarchwch ni ar gynnig y cynnig heddiw oherwydd, hebddo, ni fyddech wedi cael y gwelliant. Y cynnig sydd wedi arwain at y gwelliant ac wedi gorfodi’r Llywodraeth i ystyried y mater hwn o ddifrif a chynnig yr hyn y mae’n ymddangos eich bod yn ei gefnogi mor gryf.

Peter Law spoken in English p. 69

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 69

I would never have realised that, had you not said it.

Ni fyddwn erioed wedi sylweddoli hynny, pe na fyddech wedi’i ddweud.

We need to show people that we are concerned about them. We have seen an excellent example of Committees meeting outside the Assembly. Sue Essex first took one of the meetings of the Local Government and Housing Committee outside the Assembly, if I remember correctly. Gwenda Thomas has taken meetings outside the Assembly recently on regeneration issues and will do so again next month. We were discussing that yesterday. Other Committees have done the same. That is a great example and it is appreciated. People who attend these meetings are pleased to have that opportunity to do so.

Rhaid inni ddangos i bobl ein bod yn poeni yn eu cylch. Gwelsom enghraifft ragorol o gyfarfodydd Pwyllgorau y tu allan i’r Cynulliad. Aeth Sue Essex ag un o gyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o’r Cynulliad yn gyntaf, os cofiaf yn iawn. Mae Gwenda Thomas wedi mynd â chyfarfodydd ar faterion adfywio o’r Cynulliad yn ddiweddar a bydd yn gwneud hynny eto y mis nesaf. Yr oeddem yn trafod hynny ddoe. Mae Pwyllgorau eraill wedi gwneud yr un fath. Mae hynny’n esiampl wych ac fe’i gwerthfawrogir. Mae’r rhai sy’n dod i’r cyfarfodydd hyn yn falch o gael y cyfle i wneud hynny.

Cost should not be a factor in this, particularly when you consider the £40 million for down the road to which David Melding referred. He forgot to refer to the £56 million for a concert hall across the road, which he supported. I doubt that many from Caernarfon will see it, Dafydd, but we will have to wait and see. We should be prepared to spend money to show people that we care. People want a fair deal. Those who are 190 miles away from the south-east tip of Wales feel that we should wake up to this. People have expectations of us. They want us to be visible and want to be included. We must be seen to be among the people whenever possible. I will support the amended motion.

Ni ddylai cost fod yn ffactor yn hyn, yn enwedig pan ystyriwch y £40 miliwn sy’n mynd i’r cyfeiriad y cyfeiriodd David Melding ato. Anghofiodd gyfeirio at y £56 miliwn i neuadd gyngerdd dros y ffordd, yr oedd o’i phlaid. Yr wyf yn amau na fydd llawer o Gaernarfon yn ei gweld, Dafydd, ond bydd yn rhaid inni aros i gael gweld. Dylem fod yn barod i wario arian i ddangos i bobl ein bod yn poeni. Mae pobl am gael bargen deg. Mae’r rhai sy’n 190 milltir i ffwrdd o bwynt de-ddwyreiniol Cymru’n teimlo y dylem fod yn effro i hyn. Mae pobl yn disgwyl pethau gennym. Maent am inni fod yn weladwy ac am gael eu cynnwys. Rhaid inni gael ein gweld ymysg y bobl pryd bynnag y bo modd. Byddaf yn cefnogi’r cynnig wedi’i ddiwygio.

Lorraine Barrett spoken in English p. 70

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 70

Amendment 1 is more inclusive than the Tory motion and includes the spirit of that motion, with which I have no problem. Let us not forget that we have a good record of holding meetings around Wales, in terms of the Regional Committees and Subject Committees. I have been to Machynlleth, Conwy, Llanelli, Merthyr, Denbigh, the National Botanic Garden of Wales and Blaenavon to name but a few places.

Mae gwelliant 1 yn fwy cynhwysol na chynnig y Torïaid ac mae’n cynnwys ysbryd y cynnig hwnnw, sy’n dderbyniol i mi. Gadewch inni beidio ag anghofio bod gennym record dda o gynnal cyfarfodydd o gwmpas Cymru, o ran y Pwyllgorau Rhanbarth a’r Pwyllgorau Pwnc. Bûm ym Machynlleth, Conwy, Llanelli, Merthyr, Dinbych, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Blaenafon, ac enwi dim ond rhai mannau.

While I can support amendment 2, I ask that consideration be given to those of us who are members of two Subject Committees when meetings are arranged at the far ends of Wales. Some of us may have one Committee meeting in the morning and another in the afternoon. When I visited Machynlleth with one Subject Committee I had to find a substitute to attend my other Committee meeting. We must give some thought to the logistics of this exercise.

Er y gallaf gefnogi gwelliant 2, gofynnaf am ystyriaeth i’r rhai ohonom sy’n aelodau o ddau Bwyllgor Pwnc pan drefnir cyfarfodydd yn eithafion Cymru. Mae’n bosibl y bydd gan rai ohonom un cyfarfod Pwyllgor yn y bore ac un arall yn y prynhawn. Pan ymwelais â Machynlleth gydag un Pwyllgor Pwnc, yr oedd yn rhaid imi ddod o hyd i ddirprwy i fynd i’m cyfarfod Pwyllgor arall. Rhaid inni roi rhywfaint o ystyriaeth i logisteg yr ymarfer hwn.

In spirit, I support what the Tories propose, but the Government’s amendment has expanded on it and broadened it.

Yr wyf yn cefnogi ysbryd yr hyn y mae’r Torïaid yn ei gynnig, ond mae gwelliant y Llywodraeth wedi ymhelaethu arno a’i ehangu.

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs and Assembly Business spoken in English p. 70

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Threfnydd y Cynulliad siaradwyd yn Saesneg t. 70

It always amazes me that in Wales—and everybody does this from time to time—we refer to parts of our country as though they were not in our own country. We often refer to north Wales as if it were in a different country, as though we were in England at the time of saying it. During my speech, I will talk of the North. I hope there will be no confusion about that; it is not a suggestion that we should hold Plenary sessions in Manchester or Carlisle.

Mae’n fy synnu bob tro ein bod ni yng Nghymru—ac mae pawb yn gwneud hyn o bryd i’w gilydd—yn cyfeirio at rannau o’n gwlad fel petaent heb fod yn ein gwlad ein hunain. Yr ydym yn cyfeirio’n aml at ogledd Cymru fel pe byddai mewn gwlad wahanol, fel petaem yn Lloegr ar adeg ei ddweud. Yn ystod fy araith, byddaf yn sôn am y Gogledd. Gobeithiaf na fydd unrhyw ddryswch oherwydd hynny; nid yw’n awgrym y dylem gynnal Cyfarfodydd Llawn ym Manceinion neu Gaerliwelydd.

It would not be accepted by anyone anywhere in Wales that holding a National Assembly session in a particular part of Wales would turn its economy around overnight. It may be that, for the time that the Assembly is in session in that part, more money will come to it. Given the number of people coming there, that would be inevitable. It will not, however, turn the economy around. We must therefore accept that holding an Assembly session in any part of Wales outside Cardiff would be a showcase event, rather than an event that will seriously engage the people of that area on a greater level.

Ni fyddai neb yn unman yng Nghymru’n derbyn y byddai cynnal cyfarfod o’r Cynulliad Cenedlaethol mewn rhan benodol o Gymru’n gweddnewid ei heconomi dros nos. Mae’n ddigon posibl, tra byddai’r Cynulliad yn cwrdd yn yr ardal honno, y deuai rhagor o arian iddi. O ystyried y nifer a ddeuai yno, byddai hynny’n anorfod. Er hynny, ni fydd yn gweddnewid yr economi. Felly rhaid inni dderbyn y byddai cynnal cyfarfod o’r Cynulliad mewn unrhyw ran o Gymru y tu allan i Gaerdydd yn ddigwyddiad arddangos, yn hytrach na digwyddiad a fydd yn cysylltu o ddifrif â phobl yr ardal honno i raddau helaethach.

David Davies spoken in English p. 71

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

If you feel that holding an Assembly session in north Wales will not turn the economy around, what makes you so confident that having the Assembly in Cardiff will turn the economy around?

Os ydych yn teimlo na fydd cynnal cyfarfod o’r Cynulliad yn y Gogledd yn gweddnewid yr economi, pam yr ydych mor ffyddiog y bydd cael y Cynulliad yng Nghaerdydd yn gweddnewid yr economi?

Carwyn Jones spoken in English p. 71

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 71

Having a Labour-Liberal Democrat partnership Government in Cardiff is the best way to turn the economy around after 18 years of total neglect, as the people of Anglesey will tell you. A few from Holyhead told me recently that the way to do that is to do the work on the ground, regardless of where the decision is made, and ensure that it benefits all the people of Wales. It is not a matter of simply taking the Assembly to one part of Wales and saying that that is enough. That certainly is not enough, and we on this side of the Chamber know that.

Cael Llywodraeth bartneriaeth Llafur-Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd yw’r modd gorau i weddnewid yr economi ar ôl 18 mlynedd o esgeulustod llwyr, fel y bydd pobl Ynys Môn yn dweud wrthych. Dywedodd rhai o Gaergybi wrthyf yn ddiweddar mai’r modd i wneud hynny yw gwneud y gwaith yn y fan a’r lle, ni waeth ym mhle y gwneir y penderfyniad, a sicrhau ei fod er budd holl bobl Cymru. Mae’n fwy na mater o fynd â’r Cynulliad i un rhan o Gymru a dweud bod hynny’n ddigon. Nid yw hynny’n ddigon, yn sicr, ac yr ydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn gwybod hynny.

A phrase that I often hear during Plenary is ‘Cardiff-centric’. I invite anybody to use that phrase about Bridgend in Bridgend town centre. Some people believe that Cardiff begins at the Severn and ends at the Loughor. I guarantee you that that is not the case. Nick, you used the phrase today, as Glyn and others have. I invite you to go to Swansea, preferably to stand in the middle of the Vetch Field, and say that Swansea is a Cardiff-centric part of Wales. Many of us would pay to see the results of that. There is no question of there being a Cardiff-centric Cabinet. I was born and brought up in Bridgend, I live there and I am proud to be the Assembly Member for Bridgend. No way is my town a part of Cardiff.

Gair a glywaf yn aml yn ystod y Cyfarfod Llawn yw ‘Caerdydd-ganolog’. Gwahoddaf rywun i ddweud hynny am Ben-y-bont ar Ogwr yng nghanol y dref honno. Mae rhai’n credu bod Caerdydd yn dechrau wrth afon Hafren ac yn gorffen wrth afon Llwchwr. Yr wyf yn eich sicrhau nad yw hynny’n wir. Nick, gwnaethoch chi ddefnyddio’r gair hwnnw heddiw, fel y gwnaeth Glyn ac eraill. Fe’ch gwahoddaf i fynd i Abertawe, a sefyll ar ganol Cae’r Vetch os oes modd, a dweud bod Abertawe’n rhan Gaerdydd-ganolog o Gymru. Byddai llawer ohonom yn talu i weld canlyniadau hynny. Ni ellir dadlau bod y Cabinet yn Gaerdydd-ganolog. Cefais fy ngeni a’m magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr wyf yn byw yno ac yr wyf yn falch o fod yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr. Nid yw fy nhref i’n rhan o Gaerdydd o gwbl.

The Government’s amendment improves and refines the motion tabled by the Welsh Conservatives. The Conservatives present themselves in the Chamber as the self-appointed guardians of the public purse. They often talk about the cost of curtains and so on, but they have made no attempt, so far, to quantify to cost of Plenaries being held around Wales. That must be done—and the Government is keeping an open mind on this matter—so that people are fully informed before making a decision. That is encapsulated in the motion itself.

Mae gwelliant y Llywodraeth yn gwella a mireinio’r cynnig a gyflwynwyd gan Geidwadwyr Cymru. Mae’r Ceidwadwyr yn eu cyflwyno eu hunain yn y Siambr yn warcheidwaid hunanbenodedig y pwrs cyhoeddus. Maent yn sôn yn aml am gost llenni ac yn y blaen, ond ni wnaethant ddim ymgais, hyd yn hyn, i gyfrif cost cynnal Cyfarfodydd Llawn o gwmpas Cymru. Rhaid gwneud hynny—ac mae’r Llywodraeth yn cadw ei meddwl yn agored ar y mater hwn—fel bod pobl yn cael eu hysbysu’n llawn cyn gwneud penderfyniad. Crynhoir hynny yn y cynnig ei hun.

The Government can support amendment 2. The Panel of Chairs can consider the feasibility of meetings being held around Wales to ensure that people have as much access as possible to the Subject Committees. The Panel of Chairs is perfectly free to discuss that.

Gall y Llywodraeth gefnogi gwelliant 2. Caiff Panel y Cadeiryddion ystyried ymarferoldeb cynnal cyfarfodydd o gwmpas Cymru i sicrhau y caiff pobl gymaint o fynediad ag y bo modd at y Pwyllgorau Pwnc. Mae Panel y Cadeiryddion yn berffaith rydd i drafod hynny.

The Government is already engaged in doing what is proposed in amendment 3. We must accept that it takes time to move jobs out of Cardiff. We are talking about people’s lives and about their families, who have settled in certain parts of Wales. You cannot move employees around at the drop of a hat. The movement of the common agricultural policy management division from Aberystwyth to Cardiff, for example, was a disaster. The decision to move the office was made by the Secretary of State for Wales at the time. Ninety per cent of the staff decided to stay in Aberystwyth and because, therefore, 90 per cent of the employees in Cardiff were new to the job, farming subsidy payments suffered. We cannot allow that to happen in the future, although we agree with the idea of moving jobs out of Cardiff.

Mae’r Llywodraeth yn ymwneud eisoes â’r hyn a gynigir yng ngwelliant 3. Rhaid inni dderbyn ei bod yn cymryd amser i symud swyddi o Gaerdydd. Yr ydym yn sôn am fywydau pobl ac am eu teuluoedd, sydd wedi ymsefydlu mewn rhai rhannau o Gymru. Ni allwch symud gweithwyr ar drawiad amrant. Er enghraifft, yr oedd symud is-adran rheoli’r polisi amaethyddol cyffredin o Aberystwyth i Gaerdydd yn drychineb. Gwnaethpwyd y penderfyniad i symud y swyddfa gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Penderfynodd 90 y cant o’r staff aros yn Aberystwyth ac felly, gan fod 90 y cant o’r gweithwyr yng Nghaerdydd yn newydd i’r gwaith, fe wnaeth hynny ddrwg i’r taliadau cymhorthdal ffermio. Ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol, er ein bod yn cytuno â’r syniad o symud swyddi o Gaerdydd.

We must remember that many Assembly jobs are already situated outside Cardiff, along with many agency jobs. There are 150 Assembly staff in the Agriculture Department in Caernarfon. That department is also the largest employer in Llandrindod Wells, employing 150 people. That is a significant contribution to the local economy. The Assembly is also a significant employer in Aberystwyth, when you take into account the Forestry Commission, the WDA and other agencies. We are all eager to see that trend continue.

Rhaid inni gofio bod llawer o swyddi’r Cynulliad y tu allan i Gaerdydd eisoes, ynghyd â llawer o swyddi’r asiantaethau. Mae 150 o staff y Cynulliad yn yr Adran Amaethyddiaeth yng Nghaernarfon. Yr adran honno yw’r cyflogwr mwyaf yn Llandrindod hefyd, gan ei bod yn cyflogi 150. Mae hynny’n gyfraniad o bwys i’r economi leol. Mae’r Cynulliad yn gyflogwr o bwys yn Aberystwyth hefyd, pan ystyriwch y Comisiwn Coedwigaeth, y WDA ac asiantaethau eraill. Yr ydym yn awyddus i’r duedd honno barhau.

In terms of holding Assembly meetings around Wales, the European Parliament is not a good example. When it moves, everything is packed up into boxes and moved from Strasbourg to Brussels and vice versa. That incurs an enormous cost.

O ran cynnal cyfarfodydd y Cynulliad o gwmpas Cymru, nid yw Senedd Ewrop yn enghraifft dda. Pan yw’n symud, rhoddir popeth mewn blychau a’i symud o Strasbourg i Frwsel ac fel arall. Mae hynny’n peri cost aruthrol.

Peter Rogers spoken in English p. 73

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 73

You are confusing me, Carwyn, because you mentioned divisional offices in Llandrindod Wells and Caernarfon, but they have been in place for many years—ever since I have been farming. You also mentioned hearing someone in Holyhead state that the Lib-Lab coalition had turned the economy around. That does not make sense because Holyhead has the second highest unemployment rate in Wales.

Yr ydych yn peri penbleth i mi, Carwyn, oherwydd gwnaethoch sôn am y swyddfeydd adrannol yn Llandrindod a Chaernarfon, ond maent ar waith ers blynyddoedd lawer—byth ers yr wyf fi’n ffermio. Gwnaethoch sôn hefyd am glywed rhywun yng Nghaergybi’n dweud bod y glymblaid Lafur-Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweddnewid yr economi. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr oherwydd gan Gaergybi y mae’r gyfradd diweithdra ail uchaf yng Nghymru.

Carwyn Jones spoken in English p. 73

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 73

The people of Anglesey have a much better opportunity to improve their economy now than after 18 years of Tory Government, when nothing whatsoever happened. The idea that unemployment in Holyhead has emerged since May 1997 is nonsense; that needs to be emphasised.

Mae gan bobl Ynys Môn well cyfle o lawer i wella’u heconomi’n awr nag ar ôl 18 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd, pan na ddigwyddodd dim o gwbl. Lol yw’r syniad bod diweithdra yng Nghaergybi wedi datblygu ers Mai 1997; rhaid pwysleisio hynny.

The divisional offices have been established for a long time, but it is also important to stress that they are Assembly offices. The people there are employed by the Assembly and this Government.

Mae’r swyddfeydd adrannol wedi’u sefydlu ers amser maith, ac mae’n bwysig pwysleisio mai swyddfeydd y Cynulliad ydynt. Cyflogir y bobl yno gan y Cynulliad a’r Llywodraeth hon.

Alun Cairns spoken in English p. 73

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 73

You referred to 18 years of Conservative Government, but are you satisfied by the progress that has been made in the last five years, given that Holyhead has the second highest rate of unemployment in Wales?

Cyfeiriasoch at 18 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol, ond a ydych yn fodlon ar y cynnydd a wnaethpwyd yn y pum mlynedd diwethaf, o ystyried mai gan Gaergybi y mae’r gyfradd diweithdra ail uchaf yng Nghymru?

Carwyn Jones spoken in English p. 73

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 73

Much work is being done in Holyhead. I was there a week last Friday and I saw that for myself. The port has a tremendous potential for development. Holyhead is in an Objective 1 area and there are excellent Objective 1 projects going ahead there. The Labour Government ensured that Objective 1 came to Holyhead and to Anglesey—a Conservative Government did nothing.

Gwneir llawer o waith yng Nghaergybi. Yr oeddwn yno ddydd Gwener diwethaf a gwelais hynny fy hun. Mae potensial datblygu aruthrol yn y porthladd. Mae Caergybi mewn ardal Amcan 1 ac mae prosiectau Amcan 1 rhagorol yn mynd ymlaen yno. Y Llywodraeth Lafur a sicrhaodd fod Amcan 1 yn dod i Gaergybi ac Ynys Môn—ni wnaeth Llywodraeth Geidwadol ddim.

On the Scottish Parliament, it is right to say that it moves out of Edinburgh on occasion, but that is because it is kicked out of its current home by the Church of Scotland, which uses the Chamber for its annual general meeting. The Church of Scotland owns the building. Therefore, the Parliament moves to Glasgow because it has to do so. There are no plans for it to do so when the new building is built.

Ynghylch Senedd yr Alban, mae’n gywir dweud ei bod yn symud o Gaeredin weithiau, ond mae hynny am ei bod yn cael ei thaflu o’i chartref presennol gan Eglwys yr Alban, sy’n defnyddio’r Siambr ar gyfer ei chyfarfod blynyddol cyffredinol. Eglwys yr Alban yw perchennog yr adeilad. Felly, mae’r Senedd yn symud i Glasgow am fod rhaid iddi wneud hynny. Nid oes bwriad iddi wneud hynny ar ôl codi’r adeilad newydd.

David Melding spoken in English p. 74

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 74

It has also met in Stirling, so it has not remained in Edinburgh, has it?

Cyfarfu yn Sterling hefyd, felly nid yw wedi aros yng Nghaeredin, onid yw?

Carwyn Jones spoken in English p. 74

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 74

When the new Scottish Parliament is built, it will remain in Edinburgh; it will not meet elsewhere. That is what I was told when I was there.

Pan godir Senedd-dy newydd yr Alban, bydd yn aros yng Nghaeredin; ni fydd yn cwrdd yn unman arall. Dyna a ddywedwyd wrthyf pan oeddwn yno.

The Government proposes that we obtain more information to see whether there is merit in holding meetings in other parts of Wales as well as the North. Ultimately, we must define where the North is. If you look at the Assembly electoral boundaries, Betws-y-Coed, Dolgellau, Llanrwst and Harlech are in mid Wales. The North must be defined. The Presiding Office must also work matters out so that Members are fully aware of the likely cost. The Government’s amendment is therefore an attempt to amend the Conservative motion to include some sense in it. The motion appears to be a token gesture. Saying that we should take the Assembly to the North once a year appears to be the worst kind of tokenism, and is the worst message to give to people in the North, as Members for north Wales have already said.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig ein bod yn cael rhagor o wybodaeth i weld a oes rhinwedd mewn cynnal cyfarfodydd mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal â’r Gogledd. Yn y pen draw, rhaid inni ddiffinio ym mhle y mae’r Gogledd. Os edrychwch ar ffiniau etholiadol y Cynulliad, mae Betws-y-coed, Dolgellau, Llanrwst a Harlech yn y Canolbarth. Rhaid diffinio’r Gogledd. Rhaid i’r Llywydd ystyried pob agwedd hefyd fel bod yr Aelodau’n llwyr ymwybodol o’r gost debygol. Felly mae gwelliant y Llywodraeth yn ymgais i newid cynnig y Ceidwadwyr i gynnwys rhywfaint o synnwyr. Mae’r cynnig yn ymddangos yn arwydd symbolaidd. Mae dweud y dylem fynd â’r Cynulliad i’r Gogledd unwaith y flwyddyn yn ymddangos yn symboleiddiaeth o’r math gwaethaf, a honno yw’r neges waethaf i’w rhoi i bobl yn y Gogledd, fel y mae Aelodau dros ogledd Cymru wedi dweud eisoes.

If this is to be done, let us consider it properly and ensure that we understand the costs, the venue and the security and information technology needs. Let us see, more than anything else, whether there is scope for moving not only one Plenary Session, but Assembly proceedings for a whole week, and for moving meetings to other parts of Wales, not only the North. People in Pembrokeshire, Brecon and Radnorshire, and northern Gwent will want to know why the Assembly will only go to the North rather than to their part of Wales. That is important, and is why our amendment asks the Presiding Office to consider the feasibility of meetings being held in different parts of Wales. It is important that we engage with all the people of Wales, not only those in the North, as the motion suggests.

Os yw hyn i’w wneud, gadewch inni’i ystyried yn iawn a sicrhau ein bod yn deall y costau, y lleoliad a’r anghenion diogelwch a thechnoleg gwybodaeth. Gadewch inni weld, yn fwy na dim, a oes cyfle i symud mwy na dim ond un Cyfarfod Llawn, sef gwaith y Cynulliad am wythnos gyfan, ac i symud cyfarfodydd i rannau eraill o Gymru, nid y Gogledd yn unig. Bydd pobl yn sir Benfro, Brycheiniog a Sir Faesyfed, a gogledd Gwent am wybod pam mai i’r Gogledd yn unig y bydd y Cynulliad yn mynd yn hytrach na’u rhan hwy o Gymru. Mae hynny’n bwysig, a dyna pam y mae’n gwelliant yn gofyn i’r Llywydd ystyried ymarferoldeb cynnal cyfarfodydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’n bwysig inni gysylltu â holl bobl Cymru, nid y rhai yn y Gogledd yn unig, fel y mae’r cynnig yn awgrymu.

Nick Bourne spoken in English p. 75

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 75

Carwyn Jones’s speech was miserable and negative. It was the same sort of speech that Sue Essex gave last week when she said that we could not do anything for schools because crèches and houses had not been included. The Minister for Assembly Business tells us that we cannot do anything for north Wales because we have not included mid and west Wales. You may object to the term ‘north Wales’, but it is the one used in the Government of Wales Act 1998; the area is recognised in the Act as north Wales. There may be a problem of definition, but we are talking about the vision here, not the nuts and bolts of how this is undertaken.

Yr oedd araith Carwyn Jones yn druenus ac yn negyddol. Yr oedd yr un fath ag araith Sue Essex yr wythnos diwethaf pan ddywedodd na allai wneud dim dros ysgolion am nad oedd meithrinfeydd a thai wedi’u cynnwys. Dywed Trefnydd y Cynulliad wrthym na allwn wneud dim dros y Gogledd am nad ydym wedi cynnwys y Canolbarth a’r Gorllewin. Efallai’ch bod yn gwrthwynebu’r term ‘gogledd Cymru’, ond dyna’r un a ddefnyddir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998; gelwir yr ardal yn ogledd Cymru yn y Ddeddf. Efallai fod problem o ran diffinio, ond yr ydym yn sôn am y weledigaeth yma, nid y manylion am y modd y gwneir hyn.

Another alarming part of your speech, Carwyn, was that on jobs being dispersed throughout Wales on behalf of the WAG and the Lib-Labbery people who run this place. You sought to include the WDA jobs. Those of us who welcomed the assurance of the First Minister that because WAG was pulling out of WEC, it did not necessarily mean that the WDA would, are somewhat alarmed by the fact that they now seem to be merging into one organisation. Perhaps you should have a word with the First Minister about that.

Rhan arall o’ch araith a oedd yn peri braw, Carwyn, oedd honno ar wasgaru swyddi ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r bobl Lafur-Ryddfrydol sy’n rhedeg y lle yma. Gwnaethoch geisio cynnwys swyddi’r WDA. Mae’r rhai ohonom a groesawodd y sicrwydd a roddodd Prif Weinidog Cymru na fyddai’r ffaith bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n tynnu allan o Ganolfan Ewropeaidd Cymru’n golygu o reidrwydd y byddai’r WDA yn gwneud hefyd, wedi’n brawychu braidd gan y ffaith ei bod bellach yn ymddangos eu bod yn cyfuno’n un corff. Efallai y dylech gael gair â Phrif Weinidog Cymru am hynny.

If you had considered what we propose, you would see that it is constructive and a first step. The Labour Party will vote against the motion because it was put forward by the Welsh Conservaties. I was surprised and disappointed by Peter Law’s contribution, because it seems that for once he wants to give a Liberal Democrat Member a platform in an open-mike session in north Wales. It is an alarming development. We all know that it will be an election forum, which is why we will abstain on Labour’s amendment 1, and, if it is carried, on the amended motion we can see what they have in mind. The Assembly needs to engage with the people of north Wales. If you visited Holyhead regularly, Minister, you would know what the people of Anglesey, Clwyd South and the Vale of Clwyd are saying. They do not feel engaged with the Assembly in Cardiff.

Pe byddech wedi ystyried yr hyn a gynigiwn, fe welech ei fod yn adeiladol ac yn gam cyntaf. Bydd y Blaid Lafur yn pleidleisio’n erbyn y cynnig am ei fod wedi’i gyflwyno gan Geidwadwyr Cymru. Cefais fy synnu a’m siomi gan gyfraniad Peter Law, oherwydd ei bod yn ymddangos ei fod am unwaith am roi llwyfan i Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn sesiwn drafod agored yn y Gogledd. Mae’n ddatblygiad brawychus. Yr ydym oll yn gwybod y bydd yn fforwm etholiadol, a dyna pam y byddwn yn ymatal ar welliant 1 Llafur, ac, os derbynnir ef, ar y cynnig wedi’i ddiwygio y gallwn weld ei fod dan sylw ganddynt. Mae angen i’r Cynulliad gysylltu â phobl y Gogledd. Pe byddech yn ymweld â Chaergybi’n rheolaidd, Weinidog, fe wyddech beth y mae pobl Ynys Môn, De Clwyd a Dyffryn Clwyd yn ei ddweud. Nid ydynt yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â’r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Owen John Thomas a gododd—

Owen John Thomas rose—

Nick Bourne spoken in English p. 76

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 76

I am sorry, I will not give way. We have heard enough from you on Cardiff today.

Mae’n ddrwg gennyf, ni wnaf ildio. Clywsom ddigon gennych am Gaerdydd heddiw.

The Assembly needs to meet in north Wales. Someone asked whether we would cover the cost; I will gladly do so. Security staff and translators already service the Committees, therefore there is no additional staff cost. There is a cost to this proposal, but set against the additional £80 million that it costs to run the Assembly as opposed to the former Welsh Office, then it is small. If you want me to find the £100,000 or so that it will take to do this, I will find it for you; that will not be a problem.

Mae angen i’r Cynulliad gwrdd yn y Gogledd. Gofynnodd rhywun a wnaem drafod y gost; gwnaf hynny’n llawen. Mae’r staff diogelwch a’r cyfieithwyr yn gwasanaethu’r Pwyllgorau eisoes, felly nid oes unrhyw gost ychwanegol o ran staff. Mae cost ynghlwm wrth y cynnig hwn, ond mae’n fach o’i chymharu â’r £80 miliwn ychwanegol y mae’n ei gostio i redeg y Cynulliad yn hytrach na’r gyn Swyddfa Gymreig. Os ydych am imi ddod o hyd i’r oddeutu £100,000 y bydd ei angen i wneud hyn, deuaf o hyd iddo i chi; ni fydd hynny’n broblem.

This is clearly needed. I am disappointed in the Labour Party, but I am glad that Plaid Cymru has tabled constructive amendments. We will support those amendments, because they are constructive. It is true that there was little discussion of this issue in the Assembly review of procedure. I will not argue with that; we did not put the issue forward then. However, we are now talking about a constructive first step. I hope that we can follow that route, because at the moment the Labour Party and the Sir Humphreys have got their way. Incidentally, it is a pretty Cardiff-centric Cabinet when three or four of its members used to sit on Cardiff City Council and the remainder are from the rest of Glamorgan. The Cabinet certainly knows little or nothing about north Wales. This is the first step—

Mae angen pendant am hyn. Yr wyf wedi fy siomi yn y Blaid Lafur, ond yr wyf yn falch bod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliannau adeiladol. Byddwn yn cefnogi’r gwelliannau hyn, gan eu bod yn adeiladol. Mae’n wir mai prin oedd y drafodaeth ar y mater hwn yn adolygiad o weithdrefn y Cynulliad. Nid wyf yn dadlau â hynny; ni wnaethom gynnig y mater i’w drafod bryd hynny. Fodd bynnag, yr ydym yn sôn yn awr am gam cyntaf adeiladol. Gobeithiaf y gallwn ddilyn y llwybr hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae’r Blaid Lafur a’r Syr Humphreys wedi cael eu ffordd. Gyda llaw, mae’n Gabinet eithaf Caerdydd-ganolog—arferai tri neu bedwar o’i aelodau fod ar Gyngor Dinas Caerdydd a daw’r gweddill o weddill Morgannwg. Mae’n sicr nad yw’r Cabinet yn gwybod y nesaf peth i ddim am y Gogledd. Dyma’r cam cyntaf—

David Melding spoken in English p. 76

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 76

Perhaps, in the spirit of inclusiveness, we should be more positive about what the Cabinet has promised us. It will, of course, give us a feasability study. Do you not agree that, at least, that is an improvement on the task and slumber group that it usually sets up?

Efallai, o ran cynwysoldeb, y dylem fod yn fwy cadarnhaol am yr hyn y mae’r Cabinet wedi’i addo i ni. Bydd yn rhoi astudiaeth dichonoldeb i ni, wrth gwrs. A ydych yn cytuno bod hynny o leiaf yn well na’r grŵp gorchwyl a chysgu y mae’n ei sefydlu fel arfer?

Nick Bourne spoken in English p. 77

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 77

We are used to matters being kicked into the long grass when the Government is afraid that a positive decision might be made. The same happened with the Wales European Centre. It is high time that the First Minister gave a lead. He is supposed to be in charge of north Wales. It is high time that the Cabinet—which is totally Glamorganshire—followed some sort of lead. If the First Minister cannot provide that lead, I hope that the Assembly can do so today.

Yr ydym wedi arfer gweld materion yn cael eu bwrw o’r naill ochr pan yw’r Llywodraeth yn ofni y gellid gwneud penderfyniad cadarnhaol. Digwyddodd yr un peth yn achos Canolfan Ewropeaidd Cymru. Mae’n hen bryd i Brif Weinidog Cymru roi arweiniad. Mae ef i fod yn gyfrifol am y Gogledd. Mae’n hen bryd i’r Cabinet—sydd yn Forgannwg i gyd—ddilyn rhyw fath o arweiniad. Os na all Prif Weinidog Cymru roi’r arweiniad hwnnw, gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn gallu gwneud hynny heddiw.

Gwelliant 1 Carwyn Jones t. 77

Amendment 1 Carwyn Jones p. 77

DerbyniwydAdopted O blaidFor 31 YmatalAbstain 21 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (31)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Dafydd Elis-Thomas
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams
YmatalAbstain (21)
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Gwelliant 2 Dafydd Wigley t. 78

Amendment 2 Dafydd Wigley p. 78

DerbyniwydAdopted O blaidFor 53 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (53)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Dafydd Elis-Thomas
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 3 Dafydd Wigley t. 79

Amendment 3 Dafydd Wigley p. 79

GwrthodwydRejected O blaidFor 23 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 30

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (23)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Dafydd Elis-Thomas
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (30)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 44 YmatalAbstain 9 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (44)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Dafydd Elis-Thomas
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (9)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas

Gohiriwyd y Cyfarfod Llawn am 11.42 a.m.

The Plenary session was adjourned at 11.42 a.m.

Anerchiad gan Jan Olbricht, Marsial Silesia, Gwlad Pwyl

Address by Jan Olbricht, the Marshal of Silesia, Poland

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 81

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 81

Mae’n bleser mawr gennyf y bore yma groesawu Marsial Silesia yng ngwlad Pwyl i annerch Aelodau’r Cynulliad.

It is my great pleasure this morning to welcome the Marshal of Silesia, Poland to address Assembly Members.

Jan Olbricht The Marshal of Silesia, Poland spoken in English p. 81

Jan Olbricht Marsial Silesia, Gwlad Pwyl siaradwyd yn Saesneg t. 81

Presiding Officer, First Minister, Ladies and Gentlemen and Members of the National Assembly for Wales, this is a very historical moment for our region and myself as the first Marshal of the region, which is equivalent to being the president of the region, to have the opportunity to speak in Cardiff, in the National Assembly. I hope that I am the first Marshal from a Polish region to have had the opportunity to speak in such an important political body. In Poland, while we were working on regional structure, we watched others carefully, thinking what kind of solutions and model would be best for a large country like Poland.

Lywydd, Brif Weinidog Cymru, Foneddigesau a Boneddigion ac Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae hon yn foment hanesyddol iawn i’n rhanbarth ac i minnau fel Marsial cyntaf y rhanbarth, sy’n cyfateb i fod yn arlywydd ar y rhanbarth, i gael y cyfle i siarad yng Nghaerdydd, yn y Cynulliad Cenedlaethol. Gobeithiaf mai myfi yw’r Marsial cyntaf o ranbarth yng Ngwlad Pwyl i gael cyfle i siarad mewn corff gwleidyddol mor bwysig. Yng Ngwlad Pwyl, tra oeddem yn gweithio ar y strwythur rhanbarthol, gwyliasom eraill yn ofalus, gan ystyried pa fath o atebion ac o fodel a fyddai orau i wlad fawr fel Gwlad Pwyl.

We have the tradition of a unitary state and we also have historical regions with strong identities. Therefore, during the 1990s when we were discussing the model that we would like to achieve, we observed the different tendencies in different countries. That is why it was so important for us to observe what happened in the UK—in Wales, in Scotland, and, interestingly, the proposals published today for regional assemblies in England.

Mae gennym draddodiad o wladwriaeth unedol ac mae gennym ranbarthau hanesyddol hefyd sydd â hunaniaethau cryf. Felly, yn ystod y 1990au pan oeddem yn trafod y model yr hoffem ei sicrhau, edrychasom ar y tueddiadau gwahanol mewn gwahanol wledydd. Dyna pam yr oedd mor bwysig inni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn y DU—yng Nghymru, yn yr Alban ac, yn ddiddorol, y cynigion a gyhoeddwyd heddiw am gynulliadau rhanbarthol yn Lloegr.

Thank you for this opportunity to speak. I will give some brief information about our region and our expectations and hopes for the possible partnership with Wales. Our region is quite large compared to other regions in Poland. It has almost 5 million inhabitants. As you know, 16 regions have been created in Poland. In terms of democratising Poland, it is important that we had the union, Solidarity. I was involved in that, and I am still active on that part of the political stage.

Diolch i chi am y cyfle hwn i siarad. Rhoddaf ychydig o wybodaeth yn fyr am ein rhanbarth a’n disgwyliadau a’n gobeithion am y bartneriaeth bosibl â Chymru. Mae ein rhanbarth yn eithaf mawr o’i gymharu â’r rhanbarthau eraill yng Ngwlad Pwyl. Mae ganddo ymron i 5 miliwn o drigolion. Fel y gwyddoch, crewyd 16 o ranbarthau yng Ngwlad Pwyl. Yng nghyd-destun democrateiddio Gwlad Pwyl, yr oedd yn bwysig bod yr undeb, Solidarność, gennym. Yr oeddwn yn gysylltiedig â hynny, ac yr wyf yn dal i fod yn weithgar ar y rhan honno o’r llwyfan gwleidyddol.

We started the democratic movement in 1989 with the hope of creating local democracy. We started with local authorities, which were reconstructed in 1990 for the first time after the second world war. When we started with local authorities, we quickly discovered that it is important to have regions and something more than local government. We debated this strongly. The mayors—I was a mayor at the time—fought for regions in Poland. We created 16 of them, ranging from 1 million to 5 million inhabitants per region. The regions were created in a similar way to those in France, which are quite weak in terms of power. We hope to create a new regional model based on the French model, but we want stronger regions in a unitary state.

Cychwynasom y mudiad democrataidd yn 1989 gan obeithio creu democratiaeth leol. Dechreuasom â’r awdurdodau lleol, a ail-luniwyd yn 1990 am y tro cyntaf ar ôl yr ail ryfel byd. Pan ddechreuasom â’r awdurdodau lleol, daethom i ddeall yn gyflym ei bod yn bwysig cael rhanbarthau a rhywbeth mwy na llywodraeth leol. Cawsom ddadl egnïol ar hynny. Ymladdodd y meiri—yr oeddwn yn faer ar y pryd—o blaid rhanbarthau yng Ngwlad Pwyl. Crewyd 16 ohonynt, a oedd yn amrywio o ran maint o 1 filiwn i 5 miliwn o drigolion y rhanbarth. Crewyd y rhanbarthau mewn modd tebyg i’r rhai a geir yn Ffrainc, sy’n dal i fod yn eithaf gwan o ran y pŵer sydd ganddynt. Yr ydym yn gobeithio creu model rhanbarthol newydd ar sail un Ffrainc, ond yr ydym am gael rhanbarthau cryfach mewn gwladwriaeth unedol.

Our region has 5 million inhabitants, and is composed of three former voivodeships that are different in terms of cultural identity and economy. The central part of our region is Upper Silesia, which is a typical industrial region based on coal mines and steel factories. This part of the region now faces the economic and social consequences of restructuring. Agriculture is much more prominent in the northern part of the region, while there is agriculture and tourism in the southern part. In the southern part of our region, which is on the Polish/Czech and Polish/Slovak border, car factories such as Fiat, General Motors and Isuzu have been constructed. They re-entered the economy in another kind of industry. However, we are trying not to have monopolies and having another branch of industry in different economic conditions is sensible.

Mae 5 miliwn o drigolion yn byw yn ein rhanbarth, ac mae’n cynnwys tair cyn foifodaeth sy’n wahanol o ran eu hunaniaeth ddiwylliannol a’u heconomi. Rhan ganolog ein rhanbarth yw Silesia Uchaf, sy’n rhanbarth diwydiannol nodweddiadol ac yn seiliedig ar lofeydd a ffatrïoedd dur. Mae’r rhan hon o’r rhanbarth bellach yn wynebu y canlyniadau economaidd a chymdeithasol o’r ailstrwythuro. Mae amaethyddiaeth yn llawer amlycach yn rhan ogleddol y rhanbarth, tra ceir amaethyddiaeth a thwristiaeth yn y rhan ddeheuol. Yn rhan ddeheuol ein rhanbarth, sydd ar y ffin rhwng Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia, codwyd ffatrïoedd ceir fel Fiat, General Motors ac Isuzu. Daethant yn ôl i’r economi drwy fath arall o ddiwydiant. Er hynny, yr ydym yn ceisio peidio â chael monopolïau ac mae’n ddoeth cael cangen arall o ddiwydiant mewn amodau economaidd gwahanol.

Therefore, it is quite a large region where there are strong cultural identities. The identity in Upper Silesia is strong. The other parts of the region have kept their own identity. As regional authorities, we do not want to destroy this cultural identity, as it is important. Diversity can be useful for regional development, and cultural identity can help the economy. That is why we are creating an image of the region as being composed of different groups, cultures and types of economy. It is not easy, but it is going much better than we expected. Compared to other regions in Poland, the region has quite a good infrastructure, which is linked to the industrial past. Therefore, we hope that, even with all the problems of restructuring the coal industry, we will still be attractive to investors in future. Creating jobs is one of our main problems. Unemployment is relatively high, and it is increasing rapidly. The average unemployment in our region is 16 per cent. It is 6 or 7 per cent in the large towns, but the average is 16 per cent.

Felly, mae’n rhanbarth eithaf mawr a chanddo hunaniaethau diwylliannol cryf. Mae hunaniaeth Silesia Uchaf yn gryf. Mae rhannau eraill y rhanbarth wedi cadw eu hunaniaeth eu hunain. Fel awdurdodau rhanbarthol, nid ydym am ddinistrio’r hunaniaeth ddiwylliannol hon, gan ei bod yn bwysig. Gall amrywiaeth fod yn fuddiol i ddatblygu rhanbarthol, a gall hunaniaeth ddiwylliannol helpu’r economi. Dyna pam yr ydym yn creu delwedd o’r rhanbarth fel un sydd yn cynnwys gwahanol grwpiau, diwylliannau a mathau o economi. Nid yw’n hawdd, ond mae’n mynd yn well o lawer nag yr oeddem wedi disgwyl. O’i gymharu â rhanbarthau eraill yng Ngwlad Pwyl, mae gan y rhanbarth seilwaith eithaf da, sydd wedi’i gysylltu â’r gorffennol diwydiannol. Felly, er gwaethaf yr holl broblemau wrth ailstrwythuro’r diwydiant glo, yr ydym yn gobeithio y byddwn yn dal i fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr yn y dyfodol. Creu swyddi yw un o’n prif broblemau. Mae diweithdra’n gymharol uchel, ac mae’n codi’n gyflym. Y cyfartaledd diweithdra yn ein rhanbarth yw 16 y cant. Mae’n 6 neu 7 y cant yn y trefi mawr, ond mae’n 16 y cant ar gyfartaledd.

As I said yesterday in the meeting of the Committee on European and External Affairs, education is our main problem. We will succeed in developing our region if we have well educated people who are well prepared for the new challenges and new industries. We need to attract investors who use new technologies and who have new ideas. For a long time, Silesia was treated as some kind of labour force reservoir, with the workers, although not educated, able to be used for other purposes. That is an influence from the past, and we hope to change that situation in our region. We work hard on the image of our region. We would like to create an image of a modern region that is ready to co-operate and develop quickly. Given past trends, we are trying to change the image of our region.

Fel y dywedais ddoe yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, addysg yw ein prif broblem. Byddwn yn llwyddo i ddatblygu ein rhanbarth os bydd gennym bobl addysgedig sydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer yr heriau newydd a’r diwydiannau newydd. Rhaid inni ddenu buddsoddwyr sy’n defnyddio technolegau newydd ac sydd â syniadau newydd. Am gyfnod hir, câi Silesia ei thrin fel rhyw fath o gronfa lafur, a’r gweithwyr, er nad oeddent wedi derbyn addysg, yn rhai y gellid eu defnyddio at ddibenion eraill. Dylanwad o’r gorffennol yw hynny, a gobeithiwn newid y sefyllfa honno yn ein rhanbarth. Yr ydym yn gweithio’n galed ar ddelwedd ein rhanbarth. Hoffem greu delwedd o ranbarth modern sy’n barod i gydweithredu a datblygu’n gyflym. O ystyried tueddiadau’r gorffennol, yr ydym yn ceisio newid delwedd ein rhanbarth.

We are also trying to develop the region’s international contacts. We have traditional contacts from the past, and we have decided to make them more official. Polish law states that, if we want to have international partnerships, we must obtain the permission of the Minister for foreign affairs. We have permission to create some partnerships and we have signed official documents with Nord-Pas de Calais in France, Nordrhein-Westfalen in Germany and Lombardy in Italy. We are active in the Polish-Wallonian commission. We have interesting contacts with central and eastern Europe, which are different in terms of how we co-operate. We have good contacts with the Czechs, as we share a border with them, and we also work together with Slovaks, Hungarians, Romanians and Ukrainians. These countries are at different stages of regionalisation. The Czechs have just created regions and the Slovaks have started to do so this year. We are just at the beginning of the official partnership.

Yr ydym hefyd yn ceisio datblygu cysylltiadau rhyngwladol y rhanbarth. Mae gennym gysylltiadau traddodiadol o’r gorffennol, ac yr ydym wedi penderfynu eu gwneud yn fwy swyddogol. Mae cyfraith Gwlad Pwyl yn datgan bod rhaid inni gael caniatâd gan y Gweinidog dros Faterion Tramor os ydym i gael partneriaethau rhyngwladol. Cawsom ganiatâd i greu rhai partneriaethau ac yr ydym wedi arwyddo dogfennau swyddogol gyda Nord-Pas de Calais yn Ffrainc, Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen a Lombardi yn yr Eidal. Yr ydym yn weithgar yng nghomisiwn Gwlad Pwyl-Walonia. Mae gennym gysylltiadau diddorol â chanol a dwyrain Ewrop, sy’n wahanol o ran y modd y cydweithredwn. Mae gennym gysylltiadau da â’r Tsieciaid, gan ein bod yn rhannu ffin â hwy, ac yr ydym hefyd yn gweithio gyda’r Slofaciaid, yr Hwngariaid, y Romaniaid a’r Ukrain. Mae’r gwledydd hyn ar wahanol gamau yn eu rhanbartholi. Mae’r Tsieciaid newydd greu rhanbarthau ac mae’r Slofaciaid wedi dechrau gwneud hynny eleni. Yr ydym newydd ddechrau’r bartneriaeth swyddogol.

Partnership is important for us as we prepare to join the European Union. The link with Wales is important for us. It is an important moment for a Polish region, as we have just started to prepare for the accession and for the structural funds absorption. After the Nice summit and the single currency agenda, we have worked hard in Poland on preparing for membership of the EU. There is a discussion on the role of regions in the EU. We are active in different regional organisations in Europe. We would like to participate in the discussions on the definition of a region within the European Union. What about European governance and the role of regions within the European model? We are interested in how the Committee of the Regions functions. The Joint Co-operation Committee will discuss structural funds in June. That is why we would like to be present. We would like to be well prepared. If we wait until the accession, it will be too late.

Mae partneriaeth yn bwysig i ni wrth inni baratoi i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cyswllt â Chymru’n bwysig i ni. Mae’n adeg bwysig i unrhyw ranbarth yng Ngwlad Pwyl, gan ein bod newydd ddechrau paratoi ar gyfer ymuno a chael ein cynnwys yn y cronfeydd strwythurol. Ar ôl uwchgynhadledd Nice ac agenda’r arian sengl, yr ydym wedi gweithio’n galed yng Ngwlad Pwyl ar baratoi ar gyfer aelodaeth o’r UE. Mae trafodaeth ar rôl y rhanbarthau yn yr UE. Yr ydym yn weithgar mewn gwahanol gyrff rhanbarthol yn Ewrop. Hoffem gymryd rhan yn y trafodaethau ar y diffiniad o ranbarth o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Beth am lywodraethu Ewropeaidd a rôl y rhanbarthau o fewn y model Ewropeaidd? Yr ydym yn ymddiddori yng ngweithrediad Pwyllgor y Rhanbarthau. Bydd y Cydbwyllgor Cydweithredu’n trafod y cronfeydd strwythurol ym Mehefin. Dyna pam yr hoffem fod yn bresennol. Hoffem ymbaratoi’n dda. Os arhoswn nes ein bod yn ymuno, bydd yn rhy hwyr.

Therefore, we must be prepared now. Our link with Wales means that we have the possibility of exchanging experience and learning from best practice here, because your example is the most useful to us. The general opinion is that Ireland’s use of structural funds have shown the best results. However, Ireland is different; it is centralised and the country is different in scale. We share a common past, if I can put it that way, with Wales, in terms of coal, steel and agriculture industries. Our social problems and the outlook of our people are similar. It will be easier for us to communicate and to learn from the best practice and experience of Wales.

Felly, rhaid inni fod yn barod yn awr. Mae ein cyswllt â Chymru’n golygu bod posibiliad inni gyfnewid profiad a dysgu oddi wrth yr arferion gorau yma, oherwydd eich esiampl chi yw’r un mwyaf defnyddiol i ni. Y farn gyffredinol yw mai defnydd Iwerddon o’r cronfeydd strwythurol sydd wedi dangos y canlyniadau gorau. Fodd bynnag, mae Iwerddon yn wahanol; mae’n ganoledig ac mae’r wlad yn wahanol o ran maint. Yr ydym yn rhannu gorffennol â Chymru, os caf ei roi felly, o ran y diwydiannau glo, dur ac amaethyddiaeth. Mae ein problemau cymdeithasol ac agwedd ein pobl yn debyg. Bydd yn haws inni gyfathrebu a dysgu oddi wrth arferion gorau a phrofiad Cymru.

A large region like ours is preparing to be a good partner following Poland’s accession to the European Union. Inter-regional co-operation within the European Union is important. We are thinking about INTERREG and the possibility of using other financial means that will be of use to us. We would like to use your experience of the effects of restructuring after devolution and learn how you solved the consequent social problems, such as those in those parts of Britain scarred by heavy industry. We would like to learn how to develop structural fund projects, as well as learning about the role of structural funds in a region’s economy. We must think about our region and how we can use an instrument like structural funds to help the economy.

Mae rhanbarth mawr fel ein hun ni’n paratoi at fod yn bartner da wedi i Wlad Pwyl ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Mae cydweithredu rhyngranbarthol o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig. Yr ydym yn ystyried INTERREG a’r posibiliad o ddefnyddio ffynonellau ariannol eraill a fydd o fudd i ni. Hoffem ddefnyddio eich profiad o effeithiau ailstrwythuro ar ôl datganoli a dysgu sut y gwnaethoch ddatrys y problemau cymdeithasol canlyniadol, fel y rhai yn y rhannau hynny o Brydain a greithiwyd gan ddiwydiant trwm. Hoffem ddysgu sut i ddatblygu prosiectau cronfeydd strwythurol, yn ogystal â dysgu am rôl y cronfeydd strwythurol mewn economi rhanbarthol. Rhaid inni feddwl am ein rhanbarth a sut y gallwn ddefnyddio offeryn fel y cronfeydd strwythurol i helpu’r economi.

To summarise, we have tried to explain to the inhabitants of our region that the European Union is not only about providing money. If we only think in terms of money, that will not lead to a good situation, because we will never have enough of it. The European Union should not be explained to our people in terms of how much money it may provide. There are problems relating to the economy, development and our role as citizens and regions in an open Europe. It is about how we can use financial instruments, rather than how much money they will provide. This is a different point of view, and the level of understanding in Poland is growing. According to the latest statistics, 67 per cent of the population favours accession to the European Union, which, because of enlargement, was not the case in many member states. We understand the fears and different views on the future. We know what Objective 1 means and what it would mean to regions that already have Objective 1 status were we to become part of the European Union. We are also aware of the phasing out. We understand all of this, which is why we would like to join the group, not replace an existing member. We also understand how much money would be required if we considered the concept of joining, not replacing.

I grynhoi, yr ydym wedi ceisio egluro i drigolion ein rhanbarth nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â darparu arian yn unig. Os nad ydym ond yn meddwl yng nghyd-destun arian, ni fydd hynny’n arwain at sefyllfa dda, oherwydd ni chawn byth ddigon ohono. Ni ddylid egluro’r Undeb Ewropeaidd i’n pobl yng nghyd-destun faint o arian y gallai ei ddarparu. Ceir problemau o ran yr economi, datblygu a’n rôl fel dinasyddion a rhanbarthau mewn Ewrop agored. Mae’n ymwneud â’r modd y gallwn ddefnyddio offerynnau ariannol, yn hytrach na maint yr arian a ddarparant. Safbwynt gwahanol yw hwnnw, ac mae’r ddealltwriaeth yng Ngwlad Pwyl yn cynyddu. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 67 y cant o’r boblogaeth o blaid ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ond, oherwydd yr ehangu, nid felly yr oedd hi mewn llawer o’r aelod wladwriaethau. Yr ydym yn deall yr ofnau a’r gwahanol safbwyntiau am y dyfodol. Gwyddom yr hyn y mae Amcan 1 yn ei olygu a’r hyn a olygai i ranbarthau sydd â statws Amcan 1 eisoes pe byddem yn dod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Yr ydym hefyd yn ymwybodol o’r diddymu graddol. Yr ydym yn deall hyn oll, a dyna pam yr hoffem ymuno â’r grŵp, ac nid cymryd lle aelod presennol. Yr ydym hefyd yn deall faint o arian y byddai ei angen pe byddem yn ystyried y cysyniad o ymuno, ac nid disodli.

We would like to be open and in contact with all the regions in order to hear, from both sides, about the advantages of being a member of the European Union, in terms of different kinds of objectives. The regional level is the best level for this kind of partnership and for enabling people to meet, get to know and trust each other, so that they see that they can work together and learn about each other’s thinking, nation, culture, identity and future in Europe. The regional level, therefore, is the best.

Hoffem fod yn agored ac mewn cysylltiad â’r holl ranbarthau er mwyn clywed, gan y ddwy ochr, am fanteision bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, o ran y gwahanol fathau o amcanion. Y lefel ranbarthol yw’r lefel orau i bartneriaeth o’r fath ac i alluogi pobl i gwrdd, dod i adnabod ac ymddiried yn ei gilydd, fel eu bod yn gweld eu bod yn gallu gweithio gyda’i gilydd a dysgu am feddylfryd, cenedl, diwylliant a hunaniaeth ei gilydd a’u dyfodol yn Ewrop. Y lefel ranbarthol, felly, yw’r orau.

I thank you for this first meeting in Cardiff, at the invitation of the British Government. This is the second time I have met the Presiding Officer. The first visit to Katowice was successful and resulted in good feelings and hope. The people of Silesia expected me to make a decision about some form of co-operation with Wales. Would Wales accept it or not? Partnership is not easy. I was the mayor of Katowice. In the early fifties, the twinning of cities and towns was spectacular and symbolic, as it was with those in France and Germany. That was another era. Nowadays, it is much more serious, difficult, and, of course, expensive for both sides, and we understand that. Therefore, we want to find the best way of getting to know each other. We want this partnership to create real contact so that we actually work together; not only contact between officials and VIPs who meet from time to time—because that is criticised everywhere—but contact between universities, schools, young people, non-governmental organisations and those who deal with structural funds. That is real contact and we are ready for such co-operation. We have an election in October, but it will not affect this partnership. This is not only about officials; it is about ordinary people working together. Any political change or new administration will not influence that. I assure you that co-operation with Wales would not be short term and would not be a means of simply acquiring information before our accession into the European Union. It would be long term and one day we will be good partners in the European Union. [Applause.]

Diolchaf i chi am y cyfarfod cyntaf hwn yng Nghaerdydd, ar wahoddiad Llywodraeth Prydain. Dyma’r ail dro imi gwrdd â’r Llywydd. Yr oedd yr ymweliad cyntaf â Katowice yn llwyddiannus ac arweiniodd at deimladau da a gobaith. Yr oedd pobl Silesia’n disgwyl imi wneud penderfyniad am ryw fath o gydweithrediad â Chymru. A fyddai Cymru’n ei dderbyn neu beidio? Nid yw partneriaeth yn hawdd. Bûm yn faer Katowice. Yn y pumdegau cynnar, yr oedd gefeillio rhwng dinasoedd a threfi yn rhywbeth mawreddog a symbolaidd, fel yn achos rhai yn Ffrainc a’r Almaen. Oes arall oedd honno. Y dyddiau hyn, mae’n llawer mwy difrifol, anodd a drud, wrth gwrs, i’r ddwy ochr, ac yr ydym yn deall hynny. Felly, dymunwn ganfod y dull gorau i ddod i adnabod ein gilydd. Yr ydym am i’r bartneriaeth hon greu cyswllt gwirioneddol fel y gallwn weithio gyda’n gilydd; nid cyswllt o bryd i’w gilydd rhwng swyddogion a Phobl Bwysig Iawn yn unig—gan fod beirniadu ar hynny ym mhob man—ond cyswllt rhwng prifysgolion, ysgolion, pobl ifanc, cyrff anllywodraethol a’r rhai sy’n delio â’r cronfeydd strwythurol. Mae hynny’n gyswllt gwirioneddol ac yr ydym yn barod am gydweithredu o’r fath. Mae gennym etholiad ym mis Hydref, ond ni fydd yn effeithio ar y bartneriaeth hon. Nid yw hyn yn ymwneud â swyddogion yn unig; mae’n ymwneud â phobl gyffredin yn gweithio gyda’i gilydd. Ni fydd unrhyw newid gwleidyddol neu weinyddiaeth newydd yn dylanwadu ar hynny. Yr wyf yn eich sicrhau na fyddai’r cydweithredu â Chymru’n beth tymor byr nac yn ddim ond modd i gael gwybodaeth cyn inni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Byddai’n rhywbeth tymor hir ac un diwrnod byddwn yn bartneriaid da yn yr Undeb Ewropeaidd. [Cymeradwyaeth.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 87

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 87

Thank you for sharing your vision with us on Europe Day. I am sure that we can do more business together.

Diolch i chi am rannu’ch gweledigaeth â ni ar Ddiwrnod Ewrop. Yr wyf yn sicr y gallwn wneud mwy o fusnes gyda’n gilydd.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 12.03 p.m.

The Assembly reconvened at 12.03 p.m.

Dadl Fer

Short Debate

Cael Gafael ar Wasanaethau Iechyd yn y Gymru Wledig

Access to Health Services in Rural Wales

Kirsty Williams spoken in English p. 87

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 87

Having being successful in the draw for the first ever short debate in the National Assembly for Wales, I did not anticipate that I would have to wait three years for the draw to favour me again. However, it was easy to select a topic for this morning’s debate: I want to highlight the challenges of delivering and accessing health services in a rural setting.

A minnau wedi llwyddo i dynnu’r tocyn am y ddadl fer gyntaf erioed yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ni ddisgwyliais y byddwn yn gorfod disgwyl tair blynedd imi gael y fraint eto. Er hynny, hawdd oedd dewis pwnc i’r ddadl y bore yma: yr wyf am dynnu sylw at yr her o ddarparu a chael gafael ar wasanaethau iechyd mewn lleoliadau gwledig.

We often hear in Plenary and in the Health and Social Services Committee that there is a potential crisis in recruiting GPs in deprived and isolated parts of Wales. That is true, but it is also true for many rural parts of Wales. Given the falling retirement age of GPs and the increasing number of female doctors who are more likely to work part-time, or take career breaks to look after other aspects of their lives, it is a challenge for the whole of Wales. However, it is particularly challenging for rural Wales where the main concern is out-of-hours services and on-call responsibilities. General practitioner practices in Powys and the Powys local health group quote those factors as being the main problem in recruiting new GPs. Applicant numbers have dropped in recent years, and practices in Builth Wells and Talgarth have been anxious about their ability to recruit new partners. One practice in north Radnorshire has had a vacancy since April 2001. The two doctors running that practice have to work a ‘one in two’ rota, and are on call every other weekend. I am sure that you would agree that that puts a strain on their ability to continue with that work.

Clywn yn aml yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod posibiliad o argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu mewn rhannau difreintiedig a diarffordd o Gymru. Mae hynny’n wir, ond mae hefyd yn wir am lawer o’r rhannau gwledig o Gymru. Gan fod oedran ymddeol meddygon teulu’n disgyn ac oherwydd y nifer cynyddol o feddygon benywaidd sy’n fwy tebygol o weithio’n rhan amser, neu gymryd toriad yn eu gyrfa i ymorol am agweddau eraill ar eu bywyd, mae hyn yn her i Gymru gyfan. Fodd bynnag, mae’n her arbennig i’r Gymru wledig lle y mae’r pryder pennaf ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau a chyfrifoldebau ar alwad. Mae practisiau meddygon teulu ym Mhowys a grŵp iechyd lleol Powys yn crybwyll y ffactorau hynny fel y brif broblem wrth recriwtio meddygon teulu newydd. Mae nifer yr ymgeiswyr wedi disgyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, a bu practisiau yn Llanfair ym Muallt a Thalgarth yn bryderus ynghylch eu gallu i recriwtio partneriaid newydd. Mae swydd yn wag mewn un practis yng ngogledd sir Faesyfed ers Ebrill 2001. Mae’r ddau feddyg sy’n rhedeg y practis hwnnw’n gorfod gweithio’n ôl rota ‘un ym mhob dau’, ac maent ar alwad bob yn ail benwythnos. Yr wyf yn sicr y cytunech fod hynny’n rhoi straen ar eu gallu i barhau â’r gwaith hwnnw.

It was hoped that the new contract for GPs would offer a way forward for stressed professionals looking to cut back on their busy on-call commitments, but the document ‘Your Contract, Your Future’ has caused a great deal of concern in rural areas. I regret the General Practitioners Committee’s decision not to hold a consultation meeting in mid Wales to discuss the contents of the document with rural GPs.

Yr oedd gobaith y byddai’r contract newydd i feddygon teulu’n cynnig ffordd ymlaen i weithwyr proffesiynol sydd dan straen ac sy’n ceisio lleihau eu hymrwymiadau ar alwad prysur, ond mae’r ddogfen ‘Your Contract, Your Future’ wedi peri llawer o bryder mewn ardaloedd gwledig. Mae’n ofid imi fod Pwyllgor yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi penderfynu peidio â chynnal cyfarfod ymgynghori yn y Canolbarth i drafod cynnwys y ddogfen â meddygon teulu gwledig.

We must consider innovative systems to recruit to this challenging area of practice. It is a wonderful opportunity for many practitioners to work in a rural setting with a good infrastructure, good practice buildings, and the opportunity to extend their scope by working in conjunction with community hospitals. However, that advantage poses a problem in arranging out-of-hours rotas as doctors are expected to cover at local community hospitals, as well as deal with their usual patient lists. The new document affords opportunities for organisations, such as the soon to be formed local Powys health board, to take this challenge into account and develop services. We cannot take the commitment of rural GPs to continue to work rotas such as the ‘one in two’ for granted.

Rhaid inni ystyried systemau arloesol i recriwtio i’r maes ymarfer ymestynnol hwn. Mae’n gyfle gwych i lawer o ymarferwyr weithio mewn lleoliad gwledig gyda seilwaith da, adeiladau practis da, a’r cyfle i ymestyn cylch eu gwaith drwy weithio ar y cyd ag ysbytai cymunedol. Fodd bynnag, mae’r fantais honno’n peri problem o ran trefnu rotâu y tu allan i oriau gan fod disgwyl i’r meddygon ddirprwyo mewn ysbytai cymunedol lleol, yn ogystal â delio â’u rhestrau cleifion arferol. Mae’r ddogfen newydd yn cynnig cyfleoedd i gyrff, fel bwrdd iechyd lleol Powys sydd i’w ffurfio cyn hir, gymryd yr her hon i ystyriaeth a datblygu gwasanaethau. Ni allwn gymryd ymrwymiad meddygon teulu gwledig i barhau i weithio’n ôl rotâu fel yr un ‘un ym mhob dau’ yn ganiataol.

Access to dentistry has already been alluded to today. Presteigne has not had an NHS dentist since 1999, and, despite receiving the highest possible levels of subsidy to attract a dentist to the area—an impressive £50,000—we have been unable to do so. Shortages in the community dental service mean that even at-risk and vulnerable groups cannot access dental services in this area of Wales. The nearest NHS dentist for patients in Presteigne is Brecon, and I know that similar situations exist in Ceredigion, and that the practice in Brecon has also been touted to the people there. As a resident of Brecon, I am worried that that dentist must see people from a geographic area of well over 100 miles, which also raises the issue of access for local residents who are currently signed up to that dentist. Therefore, access to primary care services is a pressing need for many of my constituents, and we must seriously consider innovative ways of supporting investment that can make a difference in this area.

Cyfeiriwyd at fynediad at ddeintyddiaeth eisoes heddiw. Nid oes deintydd GIG yn Llanandras ers 1999, ac, er inni gael y cymhorthdal mwyaf posibl i ddenu deintydd i’r ardal—y swm sylweddol o £50,000—nid ydym wedi gallu gwneud hynny. Mae prinder yn y gwasanaeth deintyddol cymunedol yn golygu nad yw hyd yn oed grwpiau sydd mewn perygl ac yn agored i niwed yn gallu cael gwasanaethau deintyddol yn y rhan hon o Gymru. Yn Aberhonddu y mae’r deintydd GIG agosaf i gleifion yn Llanandras, a gwn fod sefyllfaoedd tebyg yng Ngheredigion, a bod y practis yn Aberhonddu wedi’i bedlera hefyd ymysg y bobl yno. Fel un sy’n byw yn Aberhonddu, yr wyf yn pryderu bod y deintydd hwnnw’n gorfod gweld rhai o ardal ddaearyddol o ymhell dros 100 milltir, ac mae hynny hefyd yn codi mater y mynediad i’r trigolion lleol sydd wedi cofrestru gyda’r deintydd hwnnw ar hyn o bryd. Felly, mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn daer angen gan lawer o’m hetholwyr, a rhaid inni ddwys ystyried dulliau arloesol o gynnal buddsoddiad a all wneud gwahaniaeth yn yr ardal hon.

Ambulance cover is the second area of great concern to my constituency. In 1999, we successfully introduced 24-hour ambulance cover in Powys. Many of you may be surprised to know that, prior to that, out-of-hours ambulance services were covered by staff from their homes. If you made a 999 call out of hours in Radnorshire before 1999, ambulance personnel were woken in their beds and had to get dressed and drive to the local ambulance station to pick up the ambulance before responding to the call. We were greatly cheered by the decision of the Ambulance Trust for Wales to instate 24-hour cover, which is now enjoyed at Ystradgynlais, Brecon, Llandrindod Wells, Newtown and other areas of Montgomeryshire. However, this was done at the expense of the hours of service at Crickhowell, Builth Wells and Bronllys. Therefore, in those areas in east Radnorshire, if you call an ambulance out of hours, it will have to travel from Brecon. With the best will in the world, and even the speediest driving, it is not possible for those ambulance crews to respond to medical emergencies within an appropriate timescale in vast tracks of Brecon and Radnorshire.

Y warchodaeth ambiwlans yw’r ail faes sy’n peri pryder mawr yn fy etholaeth. Yn 1999, llwyddasom i gyflwyno gwarchodaeth ambiwlans 24 awr ym Mhowys. Efallai y bydd llawer ohonoch yn synnu bod y gwasanaethau ambiwlans y tu allan i oriau, cyn hynny, wedi’u darparu gan y staff o’u cartrefi. Os gwnaech alwad 999 y tu allan i oriau yn sir Faesyfed cyn 1999, câi’r gweithwyr ambiwlans eu deffro o’u gwelyau ac yr oeddent yn gorfod gwisgo amdanynt a gyrru i’r orsaf ambiwlans leol i nôl yr ambiwlans cyn ymateb i’r alwad. Fe’n calonogwyd yn fawr gan benderfyniad Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i sefydlu gwarchodaeth 24 awr, a geir bellach yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Llandrindod, y Drenewydd ac ardaloedd eraill o sir Drefaldwyn. Fodd bynnag, gwnaethpwyd hynny ar draul yr oriau gwasanaeth yng Nghrucywel, Llanfair ym Muallt a Bronllys. Felly, yn yr ardaloedd hynny yn nwyrain sir Faesyfed, os galwch am ambiwlans y tu allan i oriau, bydd yn gorfod dod o Aberhonddu. Gyda phob ewyllys yn y byd, a hyd yn oed y gyrru cyflymaf, nid oes modd i’r criwiau ambiwlans hynny ymateb i argyfwng meddygol o fewn cyfnod priodol mewn rhannau helaeth o Frycheiniog a sir Faesyfed.

We should also be realistic about what can be done about this situation. Increasing 24-hour ambulance cover, for instance to Bronllys, could go a long way to help, but there are areas of my constituency that will never be able to get an ambulance within the magical 8 to 10 minutes. Therefore, we have welcomed the development of the first responder and rapid responder schemes in Rhayader, for instance. However, I am concerned that the all-Wales ambulance trusts do not cover sickness leave in many cases in Powys, and have also failed to respond in a timely fashion to the innovation of the Brecnock and Radnor community health council to develop first responder schemes in areas such as Senny Bridge. They have identified funding for such a scheme, and have only asked the ambulance trust to provide training opportunities for volunteers in the use of defibrillator machines; yet it has taken over a year for that to come to fruition. However, I am glad to say that, after some pushing, training for Senny Bridge residents will go ahead.

Dylem fod yn realistig hefyd ynghylch yr hyn y gellir ei wneud am y sefyllfa hon. Byddai cynyddu’r warchodaeth ambiwlans 24 awr, i gynnwys Bronllys er enghraifft, yn gymorth mawr, ond ceir ardaloedd yn fy etholaeth na fyddant byth yn gallu cael ambiwlans o fewn yr wyth i 10 munud hud. Felly, yr ydym wedi croesawu datblygu’r cynlluniau ymatebwr cyntaf ac ymatebwr cyflym yn Rhaeadr Gwy, er enghraifft. Fodd bynnag, yr wyf yn bryderus nad yw’r ymddiriedolaethau ambiwlans Cymru gyfan yn dirprwyo yn ystod absenoldeb salwch mewn llawer o achosion ym Mhowys a’u bod hefyd wedi methu ag ymateb yn brydlon i arloesedd cyngor iechyd cymunedol Brycheiniog a Maesyfed wrth ddatblygu cynlluniau ymatebwr cyntaf mewn ardaloedd fel Pontsenni. Maent wedi canfod arian i gynllun o’r fath, a dim ond gofyn i’r ymddiriedolaeth ambiwlans ddarparu cyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr yn y defnydd o beiriannau diffibrilio; ac eto, cymerodd dros flwyddyn i hynny ddwyn ffrwyth. Fodd bynnag, yr wyf yn falch o ddweud y bydd yr hyfforddiant ar gyfer trigolion Pontsenni’n mynd yn ei flaen, ar ôl rhywfaint o bwyso.

Transport to hospital is a vexed and inconsistent issue. Patients who suffer from cancer conditions are entitled to free transport to their hospital appointments, regardless of their ability to pay for those charges, whereas other patients with chronic, long-term conditions must pay for transport to hospital. For a Rhayader resident travelling to Hereford hospital, the fee would be around £25 per trip. When you consider that people must attend many out-patient appointments at Hereford before receiving an operation, and subsequently receive their after-care there, the bill soon adds up.

Mae trafnidiaeth i’r ysbyty’n fater astrus a dadleuol. Mae hawl gan gleifion sy’n dioddef gan anhwylderau canser i gael trafnidiaeth am ddim i’w hapwyntiadau ysbyty, beth bynnag fo’u gallu i dalu’r costau hynny, tra bo’n rhaid i gleifion eraill ag anhwylderau cronig, tymor hir dalu am drafnidiaeth i’r ysbyty. Yn achos rhywun sy’n byw yn Rhaeadr Gwy a deithiai i ysbyty Henffordd, byddai’r ffi oddeutu £25 y daith. Pan ystyriwch fod rhaid i bobl gadw llawer o apwyntiadau claf allanol yn Henffordd cyn cael llawdriniaeth, a’u bod yn derbyn ôl-ofal yno wedyn, mae’r bil yn tyfu’n gyflym.

That brings me to the issue of access to hospitals in rural settings. In the document, ‘Access and Excellence’, the Chief Medical Officer for Wales committed herself to developing a healthcare system that was flexible enough to meet the needs of rural and urban Wales. That document also referred to public expectations about what services people expected to be delivered locally. People in rural Wales are realistic about what can be delivered in community hospitals. As much as I love Brecon War Memorial hospital, I would not want to undergo brain surgery there—it would not be appropriate. People in rural Wales are prepared to travel to other locations to receive services when they are assured that the outcome will be better for them. However, they are not prepared, for example, to travel long distances for short, 10-minute out-patient appointments. They are particularly keen for out-patient and maternity services to be delivered as locally as possible.

Mae hynny’n dod â mi at fater y mynediad i ysbytai mewn lleoliadau gwledig. Yn y ddogfen, ‘Mynediad a Rhagoriaeth’, ymrwymodd Prif Swyddog Meddygol Cymru i ddatblygu system gofal iechyd a oedd yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion y Gymru wledig a’r Gymru drefol. Cyfeiriodd y ddogfen honno hefyd at y disgwyliadau sydd gan y cyhoedd am y gwasanaethau y mae pobl yn disgwyl iddynt gael eu darparu’n lleol. Mae pobl yn y Gymru wledig yn realistig ynghylch yr hyn y gellir ei ddarparu mewn ysbytai cymunedol. Er cymaint y caraf Ysbyty Coffa’r Rhyfel Sir Frycheiniog, ni fyddwn am gael llawdriniaeth ar yr ymennydd yno—ni fyddai’n briodol. Mae pobl yn y Gymru wledig yn barod i deithio i leoliadau eraill i dderbyn gwasanaethau pan ydynt yn cael sicrwydd y bydd y canlyniad yn well iddynt. Fodd bynnag, nid ydynt yn barod, er enghraifft, i deithio’n bell ar gyfer apwyntiadau claf allanol byr, 10 munud o hyd. Maent yn arbennig o awyddus i weld darparu gwasanaethau cleifion allanol a mamolaeth mor lleol ag y bo modd.

The ‘Access and Excellence’ document also points to the pull of centralisation through a variety of factors, which has led to an iniquitous situation in my constituency regarding maternity services. Last year saw the re-establishment and the reconfiguration of maternity services at Brecon War Memorial hospital. We saw the downgrading of the maternity unit to being midwife-led, and the end of what were regarded as high risk procedures at the unit. While there is an argument about the feasibility of performing emergency caesarean sections at Brecon without the availability of blood supplies and without special intensive care facilities for mother and child, I do not accept the situation in which we find ourselves today regarding maternity services in Powys. From 1 October, mothers giving birth in a Powys maternity unit must leave that unit within 24 hours of giving birth. Members with experience of these matters will agree that this is not acceptable.

Mae’r ddogfen ‘Mynediad a Rhagoriaeth’ yn cyfeirio hefyd at y dynfa i ganoli drwy amryw o ffactorau, sydd wedi arwain at sefyllfa anghyfiawn yn fy etholaeth i mewn cysylltiad â gwasanaethau mamolaeth. Y llynedd gwelwyd ailsefydlu ac ailgyflunio’r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Coffa’r Rhyfel Sir Frycheiniog. Gwelsom israddio’r uned famolaeth yn un sydd dan ofal bydwraig, a diwedd ar weithdrefnau a ystyrid yn rhai risg uchel yn yr uned. Er bod dadl ynghylch ymarferoldeb cyflawni crothdoriadau brys yn Aberhonddu os nad oes cyflenwadau o waed a chyfleusterau gofal dwys arbennig i’r fam a’r plentyn, nid wyf yn derbyn y sefyllfa sydd ohoni heddiw o ran y gwasanaethau mamolaeth ym Mhowys. O 1 Hydref ymlaen, bydd mamau sy’n rhoi genedigaeth mewn uned famolaeth ym Mhowys yn gorfod gadael yr uned honno o fewn 24 awr ar ôl y geni. Bydd yr Aelodau â phrofiad o’r materion hyn yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol.

This week members of the Knighton hospital league of friends, potential mothers, and mothers who have had their babies at the hospital, travelled to the Assembly to hand a petition to the Minister for Health and Social Services outlining their concerns about this policy development. Mums in Knighton who want to stay in hospital longer than 24 hours, must travel to Hereford hospital to have their babies. One mum’s partner clocked up an impressive 1,000 miles while he visited her following the birth of their child at Hereford hospital. I am sure that even those of you who represent urban constituencies cannot believe that this is an equitable situation.

Yr wythnos hon daeth aelodau o gymdeithas cyfeillion ysbyty Trefyclo, mamau dichonol, a mamau a roddodd enedigaeth i’w plant yn yr ysbyty hwnnw i’r Cynulliad i gyflwyno deiseb i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn amlinellu eu pryderon ynghylch y datblygiad polisi hwn. Bydd mamau yn Nhrefyclo sydd am aros yn hwy na 24 awr yn yr ysbyty yn gorfod mynd i ysbyty Henffordd i roi genedigaeth. Yr oedd cymar un fam wedi teithio pellter aruthrol o 1,000 o filltiroedd wrth ymweld â hi ar ôl geni eu plentyn yn ysbyty Henffordd. Yr wyf yn sicr na fydd hyd yn oed y rhai ohonoch sy’n cynrychioli etholaethau trefol yn gallu credu bod hynny’n sefyllfa deg.

Knighton community hospital has a first class record. There have been no adverse incidents regarding safety in that maternity unit. It was also the first hospital in Wales to receive a United Nations award for high levels of breast-feeding—it has an exemplary record in establishing breast-feeding in the area. It serves a highly rural population, many people living in isolated farmhouses up in the Teme valley. The choice is stark for them now. Either you go home after 24 hours, often to an isolated environment, perhaps with limited support structures and other young children in the house, or you have your child in Hereford hospital. That is not an equitable situation.

Mae record ragorol gan ysbyty cymunedol Trefyclo. Ni fu unrhyw ddigwyddiadau anffafriol o ran diogelwch yn yr uned famolaeth honno. Hwnnw hefyd oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i gael gwobr gan y Cenhedloedd Unedig am y lefel uchel o fwydo o’r fron—mae ganddo record ragorol o ran sefydlu bwydo o’r fron yn yr ardal. Mae’n gwasanaethu poblogaeth wledig iawn, a llawer ohonynt yn byw mewn ffermdai diarffordd yn nyffryn Tefeidiad. Mae’r dewis yn un plaen iddynt yn awr. Un ai yr ydych yn mynd adref ar ôl 24 awr, i amgylchedd unig yn aml, a strwythurau cymorth cyfyngedig efallai a phlant ifanc eraill yn y tŷ, neu yr ydych yn geni’ch plentyn yn ysbyty Henffordd. Nid yw honno’n sefyllfa deg.

This debate is not about having lower standards of safety for people in rural areas, but about delivering healthcare in innovative ways for people in rural Wales. It is about using telemedicine links and specialist nurses, which would mean that the trip to the district general hospital for a 10-minute consultation was no longer necessary. It is about delivering the appropriate service by appropriately trained people in the appropriate place and not giving in to the centralisation that many of the royal colleges favour. They often operate from London and have little regard for the geography and demography of Wales.

Nid yw’r ddadl hon yn ymwneud â chael safonau diogelwch is i bobl mewn ardaloedd gwledig, ond â darparu gofal iechyd drwy ddulliau arloesol i bobl yn y Gymru wledig. Mae’n ymwneud â defnyddio cysylltiadau telefeddygaeth a nyrsys arbenigol, a olygai na fyddai angen wedyn am y daith i’r ysbyty dosbarth cyffredinol am ymgynghoriad 10 munud. Mae’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth priodol gan rai a hyfforddwyd yn briodol yn y lle priodol ac nid ildio i’r canoli y mae llawer o’r colegau brenhinol yn ei ffafrio. Maent yn gweithredu o Lundain yn aml ac nid ydynt yn rhoi fawr o ystyriaeth i ddaearyddiaeth a demograffeg Cymru.

I am happy to allow contributions from Elin Jones and Nick Bourne.

Yr wyf yn falch o ganiatáu cyfraniadau gan Elin Jones a Nick Bourne.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 92

Elin Jones spoken in Welsh p. 92

Diolch i Kirsty Williams am gyflwyno’r ddadl hon. Gallaf uniaethu ar ran fy etholwyr yng Ngheredigion â nifer o’i phwyntiau sy’n ymwneud â’i hetholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Tynnaf sylw penodol at un o’r materion hynny, sef y diffyg yn y gwasanaeth deintyddol GIG yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Mae 5,500 o bobl wedi colli deintyddion GIG yn y misoedd diweddar yn ardal Aberystwyth. Mae practis GIG hefyd wedi cau yn ardal Aberteifi sy’n effeithio ar gannoedd o bobl eraill. Nid oes gobaith gyda’r miloedd o fyfyrwyr sy’n dod i Aberystwyth a Llanbedr-pont-Steffan o gofrestru gyda’r GIG. Mae Awdurdod Iechyd Dyfed Powys yn cyfeirio 5,500 o bobl i bractisiau yn Aberhonddu ac Abertawe, fel y soniodd Kirsty Williams. O’r 5,500, mae 3,500 ohonynt heb gael llythyr oddi wrth yr awdurdod iechyd yn dweud eu bod ar fin colli eu gwasanaeth GIG oherwydd marwolaeth anfodus ddiweddar deintydd Aberystwyth. Felly pan gyrhaedda’r llythyrau hynny, mae’n bosibl y caiff y deintydd hwnnw yn Aberhonddu 3,500 o alwadau ffôn.

I thank Kirsty Williams for introducing this debate. I can identify on behalf of my constituents in Ceredigion with a number of her points that dealt with her constituency in Brecon and Radnorshire. I draw particular attention to one of those issues, the current lack of an NHS dental service in Ceredigion. There are 5,500 people who have lost NHS dentists in the Aberystwyth area in recent months. An NHS practice has also closed in the Cardigan area, which effects hundreds of other people. The thousands of students who come to Aberystwyth and Lampeter have no hope of registering with the NHS. Dyfed Powys Health Authority is referring 5,500 people to practices in Brecon and Swansea, as Kirsty Williams mentioned. Of the 5,500, 3,500 have not received a letter from the health authority informing them that they are about to lose their NHS service because of the unfortunate recent death of an Aberystwyth dentist. Therefore, when those letters arrive, it is possible that that dentist in Brecon will have 3,500 phone calls.

Mae’r sefyllfa yn argyfyngus yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Nid yw’r system o ddenu deintyddion newydd i’r GIG drwy gynnig £50,000 o grant yn gweithio oherwydd, yn ôl yr awdurdod iechyd, fod diffyg deintyddion yn y system yn gyffredinol. Hoffwn i weld y Llywodraeth, yn y tymhorau canol a hir, yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr o ardal Ceredigion, er enghraifft, i ariannu eu hyfforddiant fel y gallent wedyn gynnig gwasanaeth yn ôl yn eu cymunedau am gyfnod penodedig oherwydd iddynt dderbyn y fwrsariaeth. Mewn ardal fel Ceredigion, credaf y byddai diddordeb gyda myfyrwyr i dderbyn y fath hwb i mewn i’r gwasanaeth deintyddol. Byddai sicrwydd wedyn y byddai gennym ddeintyddion GIG mewn ardaloedd fel Ceredigion.

There is currently a crisis situation in Ceredigion. The system of attracting new dentists to the NHS by offering a £50,000 grant is not working because, according to the health authority, there is a shortage of dentists in the system in general. I would like to see the Government, in the medium and long term, working with local authorities to offer bursaries to students from the Ceredigion area, for example, to fund their training so that they can then offer a service in return in their communities for a specified period, as a result of receiving that bursary. In an area such as Ceredigion, I believe that students would be interested in receiving that kind of incentive into the dental service. That would ensure that we would have NHS dentists in areas such as Ceredigion.

Croesawaf yn fawr alwad Kirsty Williams am chwilio am ffyrdd ariannu newydd i ddenu pobl i weithio yn y maes hwn yn GIG.

I warmly welcome Kirsty Williams’s call for an investigation into new funding methods to attract people to work in this area of the NHS.

Nick Bourne spoken in English p. 93

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 93

I will focus on a few issues that have been mentioned. I associate myself almost entirely with Kirsty and Elin’s points. There is a real problem with attracting general practitioners into rural Wales and retaining them. It is certainly a problem in Rhayader, for example, and we need to consider new and imaginative ways of involving doctors and attracting them to rural Wales.

Canolbwyntiaf ar ychydig o’r materion a grybwyllwyd. Ategaf bron y cwbl o’r pwyntiau a wnaethpwyd gan Kirsty ac Elin. Mae gwir broblem o ran denu ymarferwyr cyffredinol i’r Gymru wledig a’u cadw. Mae’n sicr yn broblem yn Rhaeadr Gwy, er enghraifft, a rhaid inni ystyried dulliau newydd a dychmygus o gysylltu â meddygon a’u denu i’r Gymru wledig.

The lack of dentists has been mentioned in Presteigne in particular—where that is a problem—and Aberystwyth. On the recent advertisement by Dyfed Powys Health Authority, there was no positive indication for Aberystwyth. However, it is sad that the county council refused to give assistance to an existing dentist in Portland Street, who was willing to expand the practice and bring another dentist in. I am still considering that; I am not sure whether it is because the rules do not allow it, or whether the council turned it down for other reasons. However, we must push for that, because dental provision in Aberystwyth is a real problem, as has been mentioned.

Cyfeiriwyd at y prinder deintyddion ac at Lanandras yn benodol, lle y mae hynny’n broblem, ac at Aberystwyth. Ar yr hysbyseb ddiweddar gan Awdurdod Iechyd Dyfed Powys, nid oedd unrhyw arwydd cadarnhaol i Aberystwyth. Fodd bynnag, mae’n drist bod y cyngor sir wedi gwrthod cymorth i ddeintydd presennol yn Stryd Portland, a oedd yn barod i ehangu’r practis a dod â deintydd arall i mewn. Yr wyf yn dal i ystyried hynny; nid wyf yn sicr a yw hynny am nad yw’r rheolau’n ei ganiatáu, neu a oedd y cyngor wedi’i wrthod am resymau eraill. Fodd bynnag, rhaid inni bwyso am hynny, gan fod y ddarpariaeth ddeintyddol yn Aberystwyth yn broblem wirioneddol, fel y dywedwyd.

I regret that the Townsend committee did not give sufficient weighting to rurality in relation to resources. We will need to revisit that matter, and I hope that the Minister will comment on that. Rural Wales has particular problems in relation to doctors, dentists, GP practices, and the ambulance service. The response time in Powys is the worst in Wales. That is no reflection on the people running it; it is simply a feature of rural Wales. We do not have proper cover in Crickhowell and other parts of eastern Powys, as the Minister well knows. I hope that she can address that.

Mae’n ofid imi na roddodd pwyllgor Townsend ddigon o bwysoliad i wledigrwydd mewn cysylltiad ag adnoddau. Bydd yn rhaid inni ailystyried y mater hwnnw, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gwneud sylw ar hynny. Mae gan y Gymru wledig broblemau penodol o ran meddygon, deintyddion, practisiau meddygon teulu, a’r gwasanaeth ambiwlans. Yr amser ymateb ym Mhowys yw’r gwaethaf yng Nghymru. Nid yw hynny’n adlewyrchu ar y bobl sy’n ei redeg; nid yw ond yn agwedd ar y Gymru wledig. Nid oes gennym warchodaeth briodol yng Nghrucywel a rhannau eraill o ddwyrain Powys, fel y gŵyr y Gweinidog yn dda. Gobeithiaf y bydd modd iddi roi sylw i hynny.

Rural healthcare generally has particular problems, and I hope that we can have a meaningful review of the matter. We cannot treat it in the same way as urban healthcare. In some areas, particular problems could be addressed by a separate consideration of resources and the provision of rural healthcare.

Mae problemau penodol ynglŷn â gofal iechyd gwledig yn gyffredinol, a gobeithiaf y gallwn gael adolygiad ystyrlon o’r mater hwnnw. Ni allwn ei drin yn yr un modd â gofal iechyd trefol. Mewn rhai ardaloedd, gellid ymdrin â phroblemau penodol drwy ystyried adnoddau a darparu gofal iechyd gwledig ar wahân.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 94

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 94

I thank Kirsty for highlighting important health needs in rural areas and the importance of our addressing rural health services. There is no doubt that we must help people living in rural areas to access safe and effective health services. We must recognise the importance of access, as we have done in ‘Improving Health in Wales’, and in the consultative document, ‘The Future of Primary Care’.

Diolchaf i Kirsty am dynnu sylw at yr anghenion iechyd pwysig mewn ardaloedd gwledig ac mor bwysig ydyw inni ymdrin â’n gwasanaethau iechyd gwledig. Nid oes amheuaeth bod rhaid inni helpu pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig i allu cael gwasanaethau iechyd diogel ac effeithiol. Rhaid inni gydnabod bod mynediad yn bwysig, fel y gwnaethom yn ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’, ac yn y ddogfen ymgynghorol, ‘Dyfodol Gofal Sylfaenol’.

We should recognise that previous initiatives have benefited rural communities. Nick, the Townsend review and the reallocation formula did recognise issues of rurality. We are also undertaking more work on those issues.

Dylem gydnabod bod mentrau blaenorol wedi bod o fudd i gymunedau gwledig. Nick, fe gydnabuwyd materion gwledigrwydd yn adolygiad Townsend ac yn y fformiwla ailddyrannu. Yr ydym hefyd yn gwneud rhagor o waith ar y materion hynny.

In addition, we have invested substantially in community hospitals; we have set up NHS Direct, which is of particular value in rural areas; we have set aside health inequalities initiative funding for dentistry, for children aged six to eight, to help increase the number of dentists; and we have taken steps to attract more GPs. I will deal with some of those issues in more detail as you have raised them.

Yn ogystal â hynny, yr ydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ysbytai cymunedol; yr ydym wedi sefydlu Galw Iechyd Cymru, sydd o werth penodol mewn ardaloedd gwledig; yr ydym wedi neilltuo arian y fenter anghydraddoldebau iechyd i ddeintyddiaeth, i blant chwech i wyth oed ac i helpu i gynyddu nifer y deintyddion; yr ydym wedi cymryd camau i ddenu rhagor o feddygon teulu. Ymdriniaf â rhai o’r materion hynny’n fanylach gan eich bod wedi eu codi.

Accessing hospital services causes difficulties in some rural areas, and we do not have the resources to build as many facilities as we would like. Maintaining safe services and clinical governance—Kirsty referred to ‘Access and Excellence’—is vital, but it constrains us. We have invested substantially in community hospitals: in the Rhondda and in North Meirionnydd, East Dwyfor, where the community hospital is important as a rural investment. We have also undertaken the refurbishment of community hospitals in Powys. That resulted from the extensive public consultation on community hospitals. We must also develop the clinical networks that give people in rural areas, as in urban areas, access to the best quality services.

Mae’r gallu i gael gwasanaethau ysbytai’n peri anawsterau mewn rhai ardaloedd gwledig, ac nid oes gennym ddigon o adnoddau i adeiladu cynifer o gyfleusterau ag yr hoffem. Mae cynnal gwasanaethau a llywodraethu clinigol diogel—fe gyfeiriodd Kirsty at ‘Mynediad a Rhagoriaeth’—yn hollbwysig, ond mae hynny’n ein cyfyngu. Yr ydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ysbytai cymunedol: yn y Rhondda ac yng Ngogledd Meirionnydd, Dwyrain Dwyfor, lle y mae’r ysbyty cymunedol yn bwysig fel buddsoddiad gwledig. Yr ydym hefyd wedi adnewyddu ysbytai cymunedol ym Mhowys. Yr oedd hynny’n ganlyniad i’r ymgynghori cyhoeddus helaeth ar ysbytai cymunedol. Rhaid inni hefyd ddatblygu’r rhwydweithiau clinigol sy’n rhoi mynediad i bobl mewn ardaloedd gwledig at y gwasanaethau o’r ansawdd gorau, yn yr un modd â rhai mewn ardaloedd trefol.

The quality of patient transport and emergency ambulance services is crucial, particularly in rural areas. The ambulance trust is working hard to improve its performance in rural areas, and you have drawn attention to those issues. I am glad that the local initiatives that you describe are succeeding, because it is important to make full use of locally-based first responders, to train people and to use their skills in using defibrillators. It is important to have schemes in place.

Mae ansawdd y drafnidiaeth i gleifion a’r gwasanaethau ambiwlans brys yn hollbwysig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae’r ymddiriedolaeth ambiwlans yn gweithio’n galed i wella’i pherfformiad mewn ardaloedd gwledig, ac yr ydych wedi tynnu sylw at y materion hynny. Yr wyf yn falch bod y mentrau lleol a ddisgrifiasoch yn llwyddo, oherwydd mae’n bwysig defnyddio ymatebwyr cyntaf lleol i’r eithaf. hyfforddi pobl a defnyddio’u sgiliau i weithredu diffibrilwyr. mae’n bwysig rhoi cynlluniau ar waith.

The British Heart Foundation is engaged with the ambulance trust and other emergency services to try to improve access. That will be particularly helpful for rural areas. The Assembly has helped to update the ambulance trust’s vehicle fleet with £1 million in direct funding this year, and £3.6 million in last year’s capital programme. Rapid response vehicles are improving services in rural areas.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cydweithio â’r ymddiriedolaeth ambiwlans a’r gwasanaethau brys eraill i geisio gwella’r mynediad. Bydd hynny o gymorth penodol i ardaloedd gwledig. Mae’r Cynulliad wedi helpu i ddiweddaru fflyd gerbydau’r ymddiriedolaeth ambiwlans drwy roi £1 filiwn o arian uniongyrchol eleni, a £3.6 miliwn yn rhaglen gyfalaf y flwyddyn ddiwethaf. Mae cerbydau ymateb cyflym yn gwella’r gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.

You rightly referred to GPs and primary care staff—all speakers made those points. It is critical that we retain and recruit GPs in all parts of Wales, and I hope that we can reverse the trend of decline in rural areas. The GP contract is one means to this end; we must ensure that we listen to the views of rural GPs. I hope that the initiatives that I announced earlier this year have an impact in rural communities: the £5,000 golden hello for new GPs; the vacancy grants; the locum cover for maternity and paternity leave; and the incentives for location and access to premises.

Cyfeiriasoch yn briodol at feddygon teulu a staff gofal sylfaenol—gwnaeth pob un o’r siaradwyr y pwyntiau hynny. Mae’n hollbwysig ein bod yn cadw ac yn recriwtio meddygon teulu ym mhob rhan o Gymru, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gwrthdroi’r duedd ddirywiol mewn ardaloedd gwledig. Mae contract y meddygon teulu yn un dull o gyflawni’r amcan hwnnw; rhaid inni sicrhau ein bod yn gwrando ar farn meddygon teulu gwledig. Gobeithiaf y bydd y mentrau a gyhoeddais yn gynharach eleni’n cael effaith ar gymunedau gwledig: y tâl croeso o £5,000 i feddygon teulu newydd; y grantiau ar gyfer swyddi gwag; y dirprwyon ar gyfer seibiant mamolaeth a thadolaeth; a’r anogaethau ar gyfer ymleoli a mynediad i adeiladau.

There has always been an issue surrounding the comprehensiveness of out-of-hours services. It has been difficult to set up co-operatives, so we have commissioned work to analyse the current out-of-hours provision across Wales. That will be important in advising us on the development of out-of-hours services, which is a critical part of the development of the GP contract.

Mae dadl erioed ynghylch cynwysfawredd y gwasanaethau y tu allan i oriau. Bu’n anodd sefydlu mentrau cydweithredol, felly yr ydym wedi comisiynu gwaith i ddadansoddi’r ddarpariaeth bresennol y tu allan i oriau ledled Cymru. Bydd hynny’n bwysig o ran rhoi gwybod i ni am ddatblygiad y gwasanaethau y tu allan i oriau, sy’n rhan hanfodol o ddatblygu contract y meddygon teulu.

It is important that we consider the whole primary care team, including GPs, nurses, dentists, pharmacists and all those who will form the local health boards, as well as patients and the voluntary sector. We discussed dentistry earlier today. We have increased spending on dentistry by over 11 per cent, and we will increase it by a further 7 per cent over the next year. It is important that we address the problems identified by Elin, Kirsty and Nick. We must consider planning issues with health authorities, and we must also bear in mind individual dental contractors who want to develop or expand premises. I mentioned earlier, Elin, that a meeting between Dyfed Powys Health Authority and Assembly officials will be held at the end of May to consider problems in communities which you, Kirsty and Nick represent where there is a lack of NHS dentists. We have already received six expressions of interest as a result of the £1.8 million that I announced in March. I will convey the outcome of that meeting—that is, the future direction—to colleagues. We must ensure that the dental grants scheme is flexible enough, because that is its purpose. We must also ensure that our work on health inequalities with the community dental service is effective in rural areas.

Mae’n bwysig inni ystyried yr holl dîm gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, deintyddion, fferyllwyr a phawb a fydd yn ffurfio’r byrddau iechyd lleol, yn ogystal â chleifion a’r sector gwirfoddol. Bu inni drafod deintyddiaeth yn gynharach heddiw. Yr ydym wedi cynyddu’r gwariant ar ddeintyddiaeth o fwy nag 11 y cant, a byddwn yn ei gynyddu o 7 y cant ar ben hynny dros y flwyddyn nesaf. Mae’n bwysig inni ymdrin â’r problemau a nodwyd gan Elin, Kirsty a Nick. Rhaid inni ystyried y materion cynllunio gyda’r awdurdodau iechyd, a rhaid inni hefyd gofio’r contractwyr deintyddol unigol a fydd am ddatblygu neu ehangu’u hadeiladau. Soniais yn gynharach, Elin, y bydd cyfarfod rhwng Awdurdod Iechyd Dyfed Powys a swyddogion y Cynulliad yn cael ei gynnal ddiwedd Mai i ystyried y problemau mewn cymunedau yr ydych chi, Kirsty a Nick yn eu cynrychioli lle y mae prinder deintyddion GIG. Cawsom chwe mynegiad o ddiddordeb eisoes o ganlyniad i’r £1.8 miliwn a gyhoeddais ym Mawrth. Rhoddaf wybod am ganlyniad y cyfarfod hwnnw—hynny yw, y cyfeiriad yn y dyfodol—i’m cydweithwyr. Rhaid inni sicrhau bod y cynllun grant deintyddol yn ddigon hyblyg, oherwydd dyna’i bwrpas. Rhaid inni sicrhau hefyd fod ein gwaith ar anghydraddoldebau iechyd gyda’r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn effeithiol mewn ardaloedd gwledig.

The point on maternity services in Powys links to the earlier points that you raised on the role of community hospitals, ‘Access and Excellence’ and the development of safe, effective and accessible services. We learnt much during the consultation on the maternity unit in Brecon. It was important that we all worked with parents and clinicians and discussed the right way forward with them. We sought their advice, and research is ongoing on that. Kirsty and I received a petition earlier this week from parents in the Knighton area with regard to the Knighton unit. Providing a safe service is of prime concern.

Mae’r pwynt am wasanaethau mamolaeth yn berthnasol i’r pwyntiau cynharach y gwnaethoch eu codi ar rôl yr ysbytai cymunedol, ‘Mynediad a Rhagoriaeth’ a datblygu gwasanaethau diogel, effeithiol a hygyrch. Gwnaethom ddysgu llawer yn ystod yr ymgynghoriad ar yr uned famolaeth yn Aberhonddu. Yr oedd yn bwysig ein bod ni i gyd wedi gweithio gyda’r rhieni a’r clinigwyr ac wedi trafod y ffordd briodol ymlaen gyda hwy. Gofynasom am eu cyngor, ac mae ymchwil yn mynd ymlaen ar hynny. Derbyniodd Kirsty a minnau ddeiseb yn gynharach yr wythnos yma gan rieni yn ardal Trefyclo mewn cysylltiad â’r uned yn Nhrefyclo. Mae darparu gwasanaeth diogel o’r pwys mwyaf.

Kirsty Williams spoken in English p. 97

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 97

Do you agree that the issues facing Knighton are different from those faced in Brecon? The unit at Knighton has always been a midwife-led, low risk unit. There have been no adverse incidents. It is Powys Health Care NHS Trust’s interpretation of a rule by the Nursing and Midwifery Council that is driving mothers out of Knighton and forcing them to have their babies in Hereford hospital because they cannot stay longer than 24 hours in the unit at Knighton. They are entitled to midwife cover in their homes, but the midwife cannot visit them in Knighton hospital after hours. That is, frankly, crazy.

A ydych yn cytuno bod y materion dan sylw yn Nhrefyclo’n wahanol i’r rhai yn Aberhonddu? Mae’r uned yn Nhrefyclo’n uned risg isel dan ofal bydwraig erioed. Ni fu digwyddiadau anffafriol yno. Dehongliad Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Powys o reol gan y Cyngor Nyrsys a Bydwragedd sy’n gyrru mamau o Drefyclo a’u gorfodi i roi genedigaeth yn ysbyty Henffordd am na allant aros yn hwy na 24 awr yn yr uned yn Nhrefyclo. Mae ganddynt hawl i gael gofal gan fydwraig yn eu cartrefi, ond ni chaiff y fydwraig ymweld â hwy yn ysbyty Trefyclo ar ôl oriau. Mae hynny’n hurt, a dweud y gwir.

Jane Hutt spoken in English p. 98

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 98

I have visited Knighton hospital more than once. I will explain the situation to colleagues. To maintain safety, two midwives must be present at each birth. On rare occasions, this requirement may mean that a woman must give birth in a different unit to the one that she chose. That is an issue. When there are not two midwives, it is possible that the mother will have to go to another unit such as that in Hereford. I recognise that people are unhappy with the changed policy at Knighton, but the trust and the health authority did undertake consultation with the support of the community health council. Women who have uncomplicated births are being encouraged to return home within 24 hours, with 24-hour midwifery support following that. If a woman needs to remain in hospital for longer for clincial reasons, her needs should be met. We must see whether that works in practice, as that is the nub of the point that you and the mothers made this week.

Yr wyf wedi ymweld ag ysbyty Trefyclo fwy nag unwaith. Egluraf y sefyllfa i’m cydweithwyr. Er mwyn cynnal diogelwch, rhaid i ddwy fydwraig fod yn bresennol ym mhob genedigaeth. Yn anaml iawn, gallai’r gofyniad hwn olygu y bydd yn rhaid i fenyw roi genedigaeth mewn uned sy’n wahanol i’r un a ddewisodd. Mae’r mater hwnnw’n codi. Os nad oes dwy fydwraig, mae’n bosibl y bydd y fam yn gorfod mynd i uned arall fel yr un yn Henffordd. Yr wyf yn cydnabod bod pobl yn anfodlon ar y newid yn y polisi yn Nhrefyclo, ond fe ymgynghorodd yr ymddiriedolaeth a’r awdurdod iechyd gyda chymorth y cyngor iechyd cymunedol. Mae benywod a gafodd enedigaethau heb gymhlethdodau’n cael eu hannog i fynd adref o fewn 24 awr, gyda chymorth gan fydwraig am 24 awr ar ôl hynny. Os oes angen i fenyw aros mewn ysbyty’n hwy am resymau clinigol, dylid diwallu ei hanghenion. Rhaid inni weld a fydd hynny’n gweithio’n ymarferol, gan mai hynny yw hanfod y pwynt a wnaethoch chi a’r mamau yr wythnos yma.

Kirsty Williams spoken in English p. 98

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 98

Do you also agree that during that crucial time, within 24 hours of giving birth, although many women would be happy to give birth at home or to return home within that time, some women, for social reasons perhaps, do not feel comfortable enough to leave the maternity unit? They should have the opportunity of staying in their local hospital if they wish to do so. This is a potentially traumatic time. If a mother has other children at home who need to be cared for, lives 15 miles up the Tene valley, and it takes a midwife at least half an hour to reach her in an emergency, she would want to be assured that she could stay in the maternity unit until she felt confident enough to go home.

A ydych hefyd yn cytuno, er y byddai llawer o fenywod, yn ystod y cyfnod hollbwysig hwnnw o fewn 24 awr ar ôl rhoi genedigaeth, yn fodlon rhoi genedigaeth gartref neu fynd adref yn y cyfnod hwnnw, fod rhai menywod nad ydynt yn teimlo’n ddigon cyfforddus, am resymau cymdeithasol efallai, i adael yr uned famolaeth? Dylent gael cyfle i aros yn eu hysbyty lleol os ydynt yn dymuno. Fe all hon fod yn adeg drawmatig. Os oes gan y fam blant eraill gartref y mae angen gofal arnynt, a hithau’n byw 15 milltir i fyny yn nyffryn Tefeidiad, a’i bod yn cymryd o leiaf hanner awr i’r fydwraig ei chyrraedd mewn argyfwng, byddai am gael sicrwydd y gallai aros yn yr uned famolaeth nes ei bod yn teimlo’n ddigon hyderus i fynd adref.

Jane Hutt spoken in English p. 98

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 98

We need to ensure that staying in the maternity unit for 24 hours is based on clinical need and is tested. In rural areas, midwives must reach patients and mothers as quickly as possible. During that first 24 hours, we must ensure that they are backed-up so that they can reach mothers. Complications can arise three or four days after the birth of a baby. We must recognise that it does not always occur within the first 24 or 48 hours. As I told parents and the League of Friends this week, we must be advised on what is the best clinical practice and guidance. We must ensure that safety is paramount when mothers are giving birth and that these units are supported appropriately. We must ensure that the needs of mothers who must stay in hospital for clinical reasons are met.

Rhaid inni sicrhau bod aros yn yr uned famolaeth am 24 awr yn seiliedig ar angen clinigol a bod prawf o hynny. Mewn ardaloedd gwledig, rhaid i’r bydwragedd gyrraedd cleifion a mamau mor gyflym ag y bo modd. Yn ystod y 24 awr gyntaf hynny, rhaid inni sicrhau cefnogaeth iddynt fel eu bod yn gallu cyrraedd y mamau. Fe all cymhlethdodau godi dri neu bedwar diwrnod ar ôl geni’r plentyn. Rhaid inni gydnabod nad yw hynny bob amser yn digwydd yn y 24 neu 48 awr gyntaf. Fel y dywedais wrth y rhieni a’r Gymdeithas Cyfeillion yr wythnos yma, rhaid inni gael cyngor ar yr arfer a’r cyfarwyddyd clinigol gorau. Rhaid inni sicrhau mai diogelwch yw’r brif ystyriaeth pan yw mamau’n rhoi genedigaeth a bod cefnogaeth briodol i’r unedau hyn. Rhaid inni sicrhau y bydd anghenion mamau sy’n gorfod aros mewn ysbytai am resymau clinigol yn cael eu diwallu.

Looking to the future of rural health needs, which Nick mentioned, we support the excellent Institute of Rural Health based at Gregynog. We have commissioned the rural health research programme to facilitate and develop evidence-based policy and programmes to address issues of health and wellbeing in rural Wales. I hope that the local health boards will take this forward through their health and wellbeing strategies. Powys health board will have a committed team which will be responsible for planning, commissioning and delivering many services in that area. It will grasp this opportunity as will the rest of the health boards in rural Wales.

Gan edrych ar anghenion iechyd gwledig at y dyfodol, a grybwyllwyd gan Nick, yr ydym yn cefnogi’r Sefydliad Iechyd Gwledig rhagorol sydd wedi’i leoli yng Ngregynog. Yr ydym wedi comisiynu’r rhaglen ymchwil iechyd gwledig i hwyluso a datblygu polisi a rhaglenni ar sail tystiolaeth i ymdrin â materion iechyd a lles yn y Gymru wledig. Gobeithiaf y bydd y byrddau iechyd lleol yn hyrwyddo hyn drwy eu strategaethau iechyd a lles. Bydd gan fwrdd iechyd Powys dîm pwrpasol a fydd yn gyfrifol am gynllunio, comisiynu a gweithredu llawer o wasanaethau yn yr ardal honno. Bydd yn achub ar y cyfle hwn fel y bydd gweddill y byrddau iechyd yn y Gymru wledig.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 99

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 99

Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

That brings today’s proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 12.33 p.m.

The session ended at 12.33 p.m.