Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2002

Tuesday 16 July 2002

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:34

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Etholiadau i’r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-06Elections to the Planning Decision Committee 2002-06 1 bleidlais1 vote
  2. 4Cwestiynau i Brif Weinidog CymruQuestions to the First Minister
    1. 4Cynlluniau Cymorth Rhanbarthol DewisolRegional Selective Assistance Schemes
    2. 6Mwy o Feddygon Teulu ac YmgynghorwyrExtra General Practitioners and Consultants
    3. 8Adolygiad Cynhwysfawr o WariantComprehensive Spending Review
    4. 13Cludo Gwastraff NiwclearTransportation of Nuclear Waste
    5. 15Rhwydwaith Trafnidiaeth rhwng y De a’r GogleddTransport Infrastructure between North and South Wales
    6. 17Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy BachSmall Renewable Energy Schemes
    7. 18Cyfraniad Pysgota i Economi Gogledd CymruContribution of Angling to the North Wales Economy
    8. 19Hybu a Phortreadu ChwaraeonPromotion and Portrayal of Sport
    9. 21Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (Cyllid Iechyd)Comprehensive Spending Review (Health Funding)
    10. 23Adolygiad o Wasanaethau Ombwdsmon ym Mhroses Ymgynghori CymruReview of Ombudsman Services in Wales’s Consultation Process
  3. 24Datganiad ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o WariantStatement on the Comprehensive Spending Review
  4. 37Datganiad ar y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol LleolStatement on the Commission on Local Electoral Arrangements
  5. 47Datganiad BusnesBusiness Statement
  6. 48Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  7. 58Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders 1 bleidlais1 vote
  8. 60Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002Approval of the Local Education Authority (Post Compulsory Education Awards) (Wales) Regulations 2002 2 o bleidleisiau2 votes
  9. 72Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  10. 73Cymeradwyo Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 a Chod o Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw: Ieir DodwyApproval of the Welfare of Farmed Animals (Wales) (Amendment) Regulations 2002 and the Code of Recommendations for the Welfare of Livestock: Laying Hens 5 o bleidleisiau5 votes
  11. 92Y Mesur Iechyd MeddwlThe Mental Health Bill 2 o bleidleisiau2 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Etholiadau i’r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-06Elections to the Planning Decision Committee 2002-06
Cynnig NDM1139Motion NDM11392200DerbyniwydAdopted
Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo GorchmynionComposite Motion: Approval of Orders
Cynnig cyfansawddComposite motion4300DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002Approval of the Local Education Authority (Post Compulsory Education Awards) (Wales) Regulations 2002
Cynnig NDM1134Motion NDM11344500DerbyniwydAdopted
Cynnig NDM1135Motion NDM11354500DerbyniwydAdopted
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion4500DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 a Chod o Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw: Ieir DodwyApproval of the Welfare of Farmed Animals (Wales) (Amendment) Regulations 2002 and the Code of Recommendations for the Welfare of Livestock: Laying Hens
Cynnig NNDM1165Motion NNDM11654300DerbyniwydAdopted
Gwelliant 1Amendment 14300DerbyniwydAdopted
Cynnig NNDM1166Motion NNDM11664300DerbyniwydAdopted
Cynnig NNDM1137Motion NNDM11374200DerbyniwydAdopted
Cynnig NNDM1138Motion NNDM11384200DerbyniwydAdopted
Y Mesur Iechyd MeddwlThe Mental Health Bill
Gwelliant 1Amendment 113028GwrthodwydRejected
Cynnig NDM1136Motion NDM11364100DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Etholiadau i’r Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio 2002-06

Elections to the Planning Decision Committee 2002-06

Carwyn Jones Y Trefnydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Carwyn Jones The Business Minister spoken in Welsh p. 3

Penderfynir:

It is resolved:

Cynnig NDM1139 Carwyn Jones t. 4

Motion NDM1139 Carwyn Jones p. 4

DerbyniwydAdopted O blaidFor 22 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (22)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Richard Edwards
  • Michael German
  • John Griffiths
  • Edwina Hart
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Owen John Thomas
  • Phil Williams

Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Questions to the First Minister

Cynlluniau Cymorth Rhanbarthol Dewisol

Regional Selective Assistance Schemes

Q1 Jonathan Morgan spoken in English p. 4

C1 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 4

Will the First Minister make a statement on how regional selective assistance schemes are benefiting business investment prospects for companies in Wales? (OAQ19007)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y mae cynlluniau cymorth rhanbarthol dewisol o fudd i gwmnïau yng Nghymru o ran y rhagolygon ar gyfer buddsoddi mewn busnes? (OAQ19007)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 4

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 4

This is the third time in about four weeks that I have had to thank you for your question, Jonathan. Your question coincides with the publication of figures by Invest UK, the inward investment arm of the Department of Trade and Industry, which indicate a remarkable performance by Wales on inward-investment projects and jobs in the year up to 1 April 2002. Although it was generally a poor year for the UK, Wales did remarkably well, with its share of the jobs in inward-investment projects rising from 5 per cent in 2000-01 to 12.6 per cent in the year up to 1 April 2002. That is a remarkable tribute to the work of all those involved. I think that Wales is the only region where the numbers rose compared to the previous year; from 6,150 jobs in the previous year to 7,317 in the year ending 1 April 2002. I am sure that we would all wish to congratulate everyone involved in that remarkable performance.

Dyma’r drydedd waith o fewn rhyw bedair wythnos yr wyf wedi gorfod diolch ichi am eich cwestiwn, Jonathan. Mae’ch cwestiwn yn cyd-daro â chyhoeddi ffigurau gan Invest UK, sef cangen mewnfuddsoddi’r Adran Masnach a Diwydiant, sy’n dangos perfformiad eithriadol gan Gymru ar brosiectau mewnfuddsoddi a swyddi yn y flwyddyn hyd at 1 Ebrill 2002. Er ei bod yn flwyddyn wael i’r DU yn gyffredinol, yr oedd Cymru wedi gwneud yn hynod o dda, gyda’i chyfran o’r swyddi mewn prosiectau mewnfuddsoddi yn codi o 5 y cant yn 2000-01 i 12.6 y cant yn y flwyddyn hyd at 1 Ebrill 2002. Mae hynny’n deyrnged hynod i waith pawb a gyfranodd. Credaf mai Cymru yw’r unig ranbarth lle’r oedd y ffigurau wedi cynyddu o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol; o 6,150 o swyddi yn y flwyddyn flaenorol i 7,317 yn y flwyddyn yn gorffen 1 Ebrill 2002. Yr wyf yn siŵr y byddem oll am longyfarch pawb a gyfranodd at y perfformiad hynod hwnnw.

Jonathan Morgan spoken in English p. 5

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 5

I seek a point of clarification. [Interruption.] Someone has opened the door and the sound of singing from outside fills the Chamber—it is like the Hallelujah chorus.

Hoffwn gael pwynt o eglurhad. [Torri ar draws.] Mae rhywun wedi agor y drws ac mae sŵn canu o’r tu allan yn llenwi’r Siambr—mae’n swnio fel corws yr Haleliwia.

Can companies that apply for funding spend money in a country outside the United Kingdom and claim that as capital expenditure against the grant they are seeking?

A gaiff cwmniau sy’n ymgeisio am gyllid wario arian mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig a hawlio hynny fel gwariant cyfalaf yn erbyn y grant y maent yn ei geisio?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 5

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 5

Not as far as I am aware, but I will check and write to you.

Na chânt hyd y gwn i, ond byddaf yn cadarnhau hynny ac yn ysgrifennu atoch.

Christine Chapman spoken in English p. 5

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 5

Will you join me in welcoming the substantial regional selective assistance investment, worth £600,000, that is creating or safeguarding at least 83 jobs in one company and will create further jobs in another company in Cynon Valley? Do you agree that further investment in Cynon Valley could help revive the local economy and alleviate the high levels of deprivation typically found in our Valleys communities?

A wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r buddsoddiad sylweddol, gwerth £600,000, o gymorth rhanbarthol dewisol, sydd yn creu neu’n diogelu o leiaf 83 o swyddi mewn un cwmni ac a fydd yn creu swyddi pellach mewn cwmni arall yng Nghwm Cynon? A ydych yn cytuno y gallai buddsoddiad pellach yng Nghwm Cynon helpu i adfywio’r economi leol a lleddfu’r lefelau uchel o amddifadedd a geir yn nodweddiadol yng nghymunedau’r Cymoedd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 5

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 5

You are correct. I mentioned inward investment because it happens that the DTI published those UK inter-regional comparisons for the last full financial year last Friday. However, about 80 per cent of regional selective assistance goes to Welsh-based firms, to local companies, that is, to the indigenous sector. I do not know to which sector—indigenous or inward—the two companies in Cynon Valley that you referred to belong. However, we had a record year for RSA offers in the year up to 1 April 2002, with 270 offers made. Of those, 196 went to Welsh-based companies, offering grants of £38 million. It was a record year for indigenous companies taking advantage of the suite of investment assistance that is now available. That assistance gives preference to the Objective 1 areas of Wales—two thirds of Wales—which include Cynon Valley.

Yr ydych yn gywir. Soniais am fewnfuddsoddi oherwydd, fel y mae’n digwydd, ddydd Gwener diwethaf y cyhoeddodd yr Adran Masnach a Diwydiant y cymariaethau hyn rhwng rhanbarthau’r DU am y flwyddyn ariannol lawn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae tua 80 y cant o’r cymorth rhanbarthol dewisol yn mynd i gwmnïau o Gymru, i gwmnïau lleol, hynny yw, i’r sector brodorol. Ni wn i ba sector—brodorol ynteu fewnfuddsoddi—y mae’r ddau gwmni yng Nghwm Cynon y cyfeirioch chi atynt yn perthyn. Fodd bynnag, cawsom flwyddyn heb ei hail o ran cynigion cymorth rhanbarthol dewisol yn y flwyddyn hyd at 1 Ebrill 2002, gyda 270 o gynigion. O’r rheini, aeth 196 i gwmnïau o Gymru, gan gynnig grantiau o £38 miliwn. Yr oedd yn flwyddyn heb ei hail i gwmnïau brodorol yn manteisio ar y gyfres o gymorth buddsoddi sydd ar gael erbyn hyn. Mae’r cymorth hwnnw yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd Amcan 1 Cymru—dwy ran o dair o Gymru—sy’n cynnwys Cwm Cynon.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Gareth Jones spoken in Welsh p. 6

Dilynaf y pwynt hwnnw a’ch atgoffa, yn ôl yr ystadegau diweddaraf am y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mai dim ond 27 y cant o’r cymorth rhanbarthol dewisol a roddwyd i fusnesau cynhenid Cymreig. Mae’r arian a roddir i gwmnïau mawr o’r tu allan i Gymru yn llawer mwy. Beth a wnewch i sicrhau bod cwmnïau bach Cymreig yn gallu cystadlu â’r cwmnïau mwy hyn wrth wneud ceisiadau?

I will follow up that point and remind you that, according to the latest statistics for the last financial year, only 27 per cent of regional selective assistance was given to indigenous Welsh businesses. Large companies from outside Wales receive much more funding. What will you do to ensure that small Welsh companies can compete with these larger companies when making applications?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 6

Nid cystadleuaeth yw hi. Yr ydych yn rhoi grantiau yn ôl maint y prosiect. Os yw 73 y cant o’r prosiectau sy’n cael cymorth yn dod o Gymru, ond dim ond 27 y cant o’r arian yn mynd i’r cwmnïau hynny, y rheswm yw bod gan y cwmnïau o dramor brosiectau llawer mwy. Nid oes cystadleuaeth. Mae’n hollol naturiol ac yn union yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl, sef bod cwmnïau lleol Cymreig, ar y cyfan, yn cyflwyno prosiectau sy’n llawer llai na’r prosiectau mawr sy’n dod o dramor. Yr ydym yn croesawu prosiectau o’r ddau fath.

It is not a competition. You award grants according to the size of the project. If 73 per cent of the projects receiving assistance come from Wales, but only 27 per cent of the funding goes to those companies, it is because the companies from abroad have much bigger projects. There is no competition. It is completely natural and exactly what you would expect—local Welsh companies, in general, put forward projects that are much smaller than the large projects that come in from abroad. We welcome both types of project.

Mwy o Feddygon Teulu ac Ymgynghorwyr

Extra General Practitioners and Consultants

Q2 David Melding spoken in English p. 6

C2 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 6

Has the First Minister compared the Welsh Assembly Government’s targets for extra general practitioners and consultants with the targets set in England? (OAQ19006)

A yw’r Prif Weinidog wedi cymharu targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru am fwy o feddygon teulu ac ymgynghorwyr â’r targedau a bennwyd yn Lloegr? (OAQ19006)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

Yes. I believe that the figures indicate that last year we increased the number of consultants and GPs in Wales by 97. That is based on figures from September 2000 to September 2001, which are the latest figures available. On that performance, I believe that we are slightly ahead of the game in comparison with England. The figures for consultants and GPs in England rose by 1,590 during that period. On the basis of a population differential of 1:17 between Wales and England, we are doing well. We are slightly ahead.

Ydwyf. Credaf fod y ffigurau’n dangos bod nifer yr ymgynghorwyr a’r meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 97 y llynedd. Mae hynny wedi’i seilio ar ffigurau o Fedi 2000 tan Fedi 2001, y ffigurau diweddaraf sydd ar gael. Ar sail y perfformiad hwnnw, yr ydym fymryn ar y blaen o’n cymharu â Lloegr. Gwelwyd cynnydd o 1,590 yn nifer yr ymgynghorwyr a’r meddygon teulu yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar sail gwahaniaeth yn y boblogaeth o 1:17 rhwng Cymru a Lloegr, yr ydym yn gwneud yn dda. Yr ydym fymryn ar y blaen.

David Melding spoken in English p. 7

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 7

The long-term figures, confusingly, are projected for 2008 in England and 2010 in Wales. However, they are eight-year targets, and I shall take them as comparable figures. If we just emulated the English target, we would have 200 extra doctors working in Wales. Do you think that the people in Wales are so healthy that they do not need this extra manpower in the health service?

Mae’r ffigurau tymor hir, yn ddryslyd iawn, yn cael eu rhagamcanu tan 2008 yn Lloegr a 2010 yng Nghymru. Fodd bynnag, targedau wyth mlynedd ydynt, a byddaf yn eu trin fel ffigurau i’w cymharu. Pe na baem ond yn efelychu targed Lloegr, byddai gennym 200 o feddygon ychwanegol yn gweithio yng Nghymru. A ydych yn credu bod pobl Cymru mor iach fel nad oes arnynt angen y gweithwyr ychwanegol hyn yn y gwasanaeth iechyd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

I am pleased that the figures indicate that we are increasing the doctor workforce at general practitioner and consultant level by more than indicated by our population share. Our targets for nurses are also considerably higher than the increase in the nurse staffing total complement in England.

Yr wyf yn falch fod y ffigurau yn dangos ein bod yn cynyddu nifer y meddygon teulu ac ymgynghorwyr o fwy nag y byddai ein cyfran o’r boblogaeth yn ei awgrymu. Mae ein targedau o ran nyrsys hefyd yn sylweddol uwch na’r cynnydd yng nghyfanswm y nyrsys yn Lloegr.

Ann Jones spoken in English p. 7

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 7

Do you agree that protecting workers’ rights in any field—particularly the health service at present because of restructuring—is vital? Do you also agree that we should be proud of the fact that we have built sufficient transitional costs over a four-year period into our restructuring process to ensure that workers are not disadvantaged as the result of transfers because of structural changes?

A ydych yn cytuno bod gwarchod hawliau gweithwyr mewn unrhyw faes—yn enwedig y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd oherwydd yr ailstrwythuro—yn hanfodol? A ydych hefyd yn cytuno y dylem fod yn falch o’r ffaith ein bod wedi ymgorffori costau trosiannol digonol yn ein proses ailstrwythuro dros gyfnod o bedair blynedd i sicrhau nad yw ein gweithwyr yn wynebu anfantais o ganlyniad i drosglwyddiadau yn sgîl newidiadau strwythurol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

I agree with you. Reorganisation always causes transitional problems. It is important to minimise the number of casualties and keep staff in their posts so that they can continue to contribute even if they do not have the same job or if not as many jobs are available after the reorganisation is completed.

Yr wyf yn cytuno â chi fod ad-drefnu bob amser yn achosi problemau trosiannol. Mae’n bwysig lleihau’r niferoedd yr effeithir arnynt i’r eithaf a chadw staff yn eu swyddi fel y gallant barhau i gyfrannu hyd yn oed os nad ydynt yn yr un swydd neu os nad oes cynifer o swyddi ar gael ar ôl i’r ad-drefnu gael ei gwblhau.

Geraint Davies siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Geraint Davies spoken in Welsh p. 8

Datganaf fuddiant fel fferyllydd. Sut y bydd gwario £15 miliwn ar ailstrwythuro’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn ein helpu i gyflogi rhagor o feddygon teulu?

I declare an interest as a pharmacist. How will spending £15 million on restructuring the national health service in Wales help us to employ more GPs?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Nid oes amheuaeth ynglŷn â’r targedau a gyhoeddodd Jane Hutt o ran cynyddu nifer y meddygon, nyrsus a phroffesiynau perthynol i iechyd yn y GIG. Ni chredaf yr effeithir o gwbl ar ein targedau gan yr ad-drefnu. Mae’r ffigur a roddais, sef cynnydd o 97 mewn ymgynghorwyr a meddygon yn y flwyddyn hyd at Medi 2001—y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigur ar ei chyfer—yn dangos ein bod ar flaen y gad o’n cymharu â Lloegr.

There is no doubt about the targets announced by Jane Hutt regarding increasing the number of doctors, nurses and professions allied to medicine in the NHS. I do not believe that our targets will be affected by the reorganisation in any way. The figures that I quoted, namely an increase of 97 in the number of consultants and doctors in the year to September 2001—the last year for which figures are available—show that we are leading the way compared with England.

Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Comprehensive Spending Review

C3 Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Q3 Elin Jones spoken in Welsh p. 8

Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y gweill? (OAQ19019)

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales on the forthcoming comprehensive spending review? (OAQ19019)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Yn naturiol, cawsom drafodaethau helaeth ar y mater. Dyna fu fy mlaenoriaeth i, fel Prif Weinidog, a blaenoriaeth y Llywodraeth dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Yr wyf yn hapus â’r datganiad y bydd cynnydd mewn gwariant cyhoeddus mewn termau real o 5.1 y cant dros y tair blynedd o fis Ebrill 2003.

Naturally, we had a great deal of discussion on the issue. That has been my priority, as First Minister, and the priority of the Government over the past few months. I am pleased with the announcement that there will be an increase in public spending of 5.1 per cent in real terms over the three years from April 2003.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Elin Jones spoken in Welsh p. 8

Yr oedd datganiad y Canghellor ddoe yn glir a diamwys—ni roddir cyllid cyfatebol Amcan 1 i’r Cynulliad a bydd yn rhaid canfod yr arian hwnnw o’r bloc Cymreig. Er i Paul Murphy a Gareth Thomas wneud eu gorau i gynhyrchu sbin ddoe i guddio’r ffaith, a ydych yn barod i gydnabod y bydd yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ganfod y cyllid cyfatebol o’i chyllidebau addysg ac iechyd? Bydd hynny’n golygu swm o tua £100 miliwn y flwyddyn o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau.

The Chancellor’s statement yesterday was clear and unambiguous—the Assembly will not receive Objective 1 match funding and we will have to find that funding from the Welsh block. Although Paul Murphy and Gareth Thomas tried their best to conceal this fact with spin yesterday, are you willing to accept that the Assembly Government must find the match funding from its education and health budgets? This will mean a sum of around £100 million per annum from budgets which are already under pressure.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Yr ydych yn cadw’r chwedl yn fyw, ond nid yw ailadrodd chwedl yn ei gwneud yn wir, Elin. Nid oes tystiolaeth yn bodoli ac nid oes gennym brofiad o broblemau o ran cyllid cyfatebol i brosiectau. Mae’r arian hwnnw yn y system. Llywodraeth y Cynulliad oedd y cyntaf i sicrhau cyllid o ran y ddarpariaeth gwariant cyhoeddus yn ychwanegol at floc Barnett. Gwnaethom hynny yn adolygiad cynhwysfawr o wariant 2000 ac yr ydym wedi cyflawni’r un gamp yn 2002.

You are perpetuating the myth. Repeating a myth does not make it true, Elin. There is no evidence and we do not have any experience of a problem with regard to match funding for projects. That money is in the system. The Assembly Government was the first to secure public expenditure funding over and above the Barnett block. We achieved that in the 2000 comprehensive spending review and we have repeated our achievement in 2002.

Peter Black spoken in English p. 9

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 9

A view has been expressed that the comprehensive spending review has again illustrated the need to reform how Wales is funded under the devolution settlement—the leader of Plaid Cymru expressed that view last night in a speech in Rhondda. Do you think that that view is incredible when you consider that there is a UK-based alternative? If you only refer to Wales, as Plaid Cymru is doing, and do not involve Scottish colleagues in negotiations, is the credibility of your position not undermined?

Mynegwyd barn fod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi dangos unwaith eto fod angen diwygio’r ffordd y caiff Cymru ei chyllido o dan y setliad datganoli—mynegodd arweinydd Plaid Cymru y farn honno neithiwr mewn araith yn y Rhondda. A ydych yn meddwl bod y farn honno yn un na ellir rhoi coel arni o ystyried bod yna opsiwn amgen ar sail y DU? Os mai at Gymru yn unig y cyfeiriwch, fel y gwnaeth Plaid Cymru, ac os nad ydych yn cynnwys cymheiriaid o’r Alban yn y trafodaethau, onid yw hygrededd eich safbwynt yn cael ei danseilio?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

I commend that view to the leader of Plaid Cymru. The issue for the whole of the UK is that using the Barnett formula prevents an annual quarrel taking place because you know what the formula will give you. However, when the stresses and strains—as happened with Objective 1—became so great in the run up to the spending review for 2000 that a settlement outside, or over and above, the Barnett formula was needed, the necessary flexibility was there to provide a Barnett plus settlement. We had a Barnett plus settlement in the 2000 comprehensive spending review and we will have one again in the 2002 comprehensive spending review. That is a tribute to the diplomatic and negotiating skills of the Assembly teams involved in this as well as the Secretary of State for Wales who talked to the Treasury, including the Chief Secretary and the Chancellor of the Exchequer.

Tynnaf sylw arweinydd Plaid Cymru at y farn honno. Yr ystyriaeth i’r DU gyfan yw bod defnyddio fformiwla Barnett yn atal ffrae flynyddol rhag digwydd gan eich bod yn gwybod yr hyn y bydd y fformiwla yn ei roi i chi. Fodd bynnag, pan oedd y pwysau a’r straen—fel a ddigwyddodd gydag Amcan 1—wedi mynd mor fawr wrth ddynesu at adolygiad gwariant 2000 fel bod angen setliad y tu allan i, neu’r tu hwnt i, fformiwla Barnett, yr oedd yr hyblygrwydd angenrheidiol yno i ddarparu setliad Barnett a mwy. Cawsom setliad Barnett a mwy yn adolygiad cynhwysfawr o wariant 2000 a byddwn yn cael hynny eto yn adolygiad cynhwysfawr o wariant 2002. Mae hynny yn deyrnged i sgiliau diplomyddol a sgiliau trafod telerau timau’r Cynulliad a fu’n ymwneud â hyn yn ogystal ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a fu’n siarad â’r Trysorlys, gan gynnwys y Prif Ysgrifennydd a Changhellor y Trysorlys.

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in English p. 9

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Saesneg t. 9

In your first answer to this question, you stated that this settlement gives us a 5.1 per cent real terms increase in public spending in Wales. If you subtract the amount allocated for European structural funds, the overall actual increase is just over 4 per cent a year on average. Do you acknowledge that the actual amount for our core budgets is just over 4 per cent and not the 5.1 per cent that you allege nor the 5.1 per cent that Paul Murphy stated in the Welsh Grand Committee?

Yn eich ateb cyntaf i’r cwestiwn hwn, dywedasoch fod y setliad hwn yn rhoi cynnydd o 5.1 y cant mewn termau real inni mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Os tynnwch chi’r swm sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer cronfeydd strwythurol Ewrop, ychydig dros 4 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd yw’r cynnydd gwirioneddol drwyddo draw. A ydych yn cydnabod mai ychydig dros 4 y cant yw’r swm gwirioneddol ar gyfer ein cyllidebau craidd, nid y 5.1 y cant a honnwch chi na’r 5.1 y cant a ddatganodd Paul Murphy yng nghyfarfod yr Uwch Bwyllgor Cymreig?

In your press statement, you said that the amount for Objective 1 over the next three years was £164 million, whereas the Treasury’s White Paper today refers to the figure of £106 million over three years. Which is the correct figure?

Yn eich datganiad i’r wasg, dywedasoch mai £164 miliwn oedd y swm ar gyfer Amcan 1 dros y tair blynedd nesaf, tro bo Papur Gwyn y Trysorlys heddiw yn cyfeirio at ffigur o £106 miliwn dros dair blynedd. Pa un yw’r ffigur cywir?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

The correct figure without question is £492 million; £164 million for the three years. If you were to subtract the increase over and above the Barnett formula from today to then, the change would be tiny—you would be in the second decimal place before you noted its impact. In other words, the average annual increase in real terms would decrease from 5.1 per cent to 5.05 per cent.

Y ffigur cywir heb unrhyw amheuaeth yw £492 miliwn; £164 miliwn am y tair blynedd. Pe baech yn tynnu’r cynnydd sydd uwchlaw fformiwla Barnett rhwng heddiw a phryd hynny, bychan eithriadol fyddai’r newid—byddech yn yr ail le degol cyn ichi sylwi ar ei effaith. Mewn geiriau eraill, byddai’r cynnydd blynyddol ar gyfartaledd mewn termau real yn gostwng o 5.1 y cant i 5.05 y cant.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 10

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 10

That is not the case and I am sure that you would like to review your calculations.

Nid yw hynny’n wir ac yr wyf yn siŵr y byddech am edrych eto ar eich cyfrifon..

On match funding, you have again refused to say whether it comes out of the Welsh block. In yesterday’s White Paper, Gordon Brown stated that the resources for match funding were provided for within the total spending settlement. Therefore, it is included within the block. Will you now admit that your spending on health and education will have to compete with match funding if we are to make full use of Objective 1? Is it not the case that all the community regeneration programmes that depend on Objective 1 money cannot be accessed by the poorer communities in Wales because they do not have access to match funding?

O ran cyllid cyfatebol, yr ydych wedi gwrthod dweud unwaith yn rhagor a yw’n dod allan o floc Cymru. Yn y Papur Gwyn ddoe, dywedodd Godron Brown fod yr adnoddau ar gyfer cyllid cyfatebol wedi’u darparu yn y setliad gwariant llawn. Felly, mae wedi’i gynnwys yn y bloc. A wnewch chi gyfaddef yn awr y bydd yn rhaid i’ch gwariant ar iechyd ac addysg gystadlu yn erbyn cyllid cyfatebol os ydym i ddefnyddio Amcan 1 i’r eithaf? Onid yw hi’n wir nad yw cymunedau tlotaf Cymru yn gallu manteisio ar yr holl raglenni adfywio cymunedol sy’n dibynnu ar arian Amcan 1 gan nad ydynt yn gallu cael gafael ar gyllid cyfatebol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

I would expect an argument about whether the increase is 5.1 per cent, 5.05 per cent or some alternative figure to be slightly stronger than the one that you posed at the beginning of your question, which essentially conceded the point.

Byddwn yn disgwyl i ddadl ynglŷn â maint y cynnydd, ai 5.1 y cant, 5.05 y cant ynteu ryw swm arall, fod ychydig yn gryfach na’r ddadl a roddwyd gennych chi ar ddechrau eich cwestiwn, a oedd i bob diben yn ildio’r pwynt.

On your other points, there is no change in the match funding. It is up to those running the projects to put forward their proposals for getting match funding and then to apply to us, if need be. So far, there has been no evidence of a shortage of match funding in the system. It comes from various places, but there has been no evidence over the past few years of any shortage of match funding nor has it threatened a single penny of health or education expenditure.

Ynglŷn â’ch pwyntiau eraill, nid oes unrhyw newid yn y cyllid cyfatebol. Mater i’r rheini sy’n cynnal y prosiectau yw cyflwyno eu cynigion am gyllid cyfatebol ac yna i wneud cais i ni, os bydd angen. Hyd yma, ni fu unrhyw dystiolaeth fod diffyg cyllid cyfatebol yn y system. Mae’n dod o wahanol lefydd, ond ni fu unrhyw dystiolaeth dros y blynyddoedd diwethaf fod diffyg cyllid cyfatebol ac nid yw ychwaith wedi bygwth yr un geiniog o’r gwariant ar iechyd nac addysg.

Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 11

Nick Bourne Arweinydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

It is true that, without taking into account the match funding, the increase is around 4 per cent over and above the previous figures. There is no doubt about that. You cannot have it both ways; you cannot count it in and then disregard it. However, on a different issue relating to the CSR, is it not the case that some of the CSR money will now have to be spent on reorganisation of the health service that we were promised would be cost-neutral? I quote the exact words of the Minister for Health and Social Services last November from the Record of Proceedings:

Mae’n wir fod y cynnydd oddeutu 4 y cant yn uwch na’r ffigurau blaenorol, heb gymryd y cyllid cyfatebol i ystyriaeth. Nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Ni allwch honni’r naill ffordd a’r llall; ni allwch ei gyfrif yn y swm ac yna ei ddiystyru. Fodd bynnag, ar fater gwahanol yn ymwneud â’r adolygiad cynhwysfawr o wariant, onid yw’n wir y bydd yn rhaid i beth o arian yr adolygiad gael ei wario bellach ar yr ad-drefniant o’r gwasanaeth iechyd yr addawyd inni y byddai’n niwtral o ran cost? Dyfynnaf union eiriau’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fis Tachwedd diwethaf o Gofnod y Trafodion:

‘In terms of costing these plans, I have already told you that these plans are cost-neutral.’

‘O ran costio’r cynlluniau hyn, yr wyf eisoes wedi dweud wrthych fod y cynlluniau hyn yn gost-niwtral.’

We are now being told that they will cost up to an estimated £15 million, which means that the final figure could be well in excess of that. When she said that it was cost-neutral, many of us took that to mean that it was neutral as to cost. What do you think she meant, and will you now cancel these plans so that we can save the money and use it at the sharp end of public services?

Bellach dywedir wrthym y byddant yn costio hyd at ffigur amcangyfrifedig o £15 miliwn, sy’n golygu y gallai’r ffigur terfynol fod lawer yn uwch na hynny. Pan ddywedodd wrthym ei fod yn niwtral o ran cost, yr oedd llawer ohonom yn credu bod hynny’n golygu y byddai’r costau’n niwtral. Beth dybiwch chi oedd hi yn ei olygu, ac a fyddwch yn canslo’r cynlluniau hyn bellach er mwyn inni arbed arian a’i ddefnyddio lle mae ei angen fwyaf ar y gwasanaethau cyhoeddus?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

I expected a slightly stronger attempt from you at mounting an argument. If you want to argue the toss about the 5.1 per cent, or the 5.05 per cent if you take out the increase in structural funds expenditure, then present the argument. Do not just leave it because you cannot support the argument. Equally, your argument is unbelievably thin when it comes to the reorganisation costs. The reorganisation costs over four years are £12.5 million. The definition of cost-neutral means that the administrative costs of the new system are the same as the administrative costs of the old system. It is not cost-zero and would never have been said to be cost-zero because there are one-off costs. They are much smaller than the cost of local government reorganisation in 1996, which, as you remember, was estimated by John Redwood to cost between £60 million and £150 million. Cost-zero and cost-neutral have never meant the same thing in the English language, and you must go back to the dictionary and the calculus, Nick.

Yr oeddwn yn disgwyl ymgais ychydig cryfach gennych i lunio dadl. Os ydych am godi amheuon ynglŷn â’r 5.1 y cant, neu’r 5.05 y cant os tynnwch chi’r cynnydd yng ngwariant y cronfeydd strwythurol, yna cyflwynwch y ddadl. Peidiwch â gadael y mater am nad ydych yn gallu cynnal y ddadl. Yn yr un modd, mae eich dadl yn anhygoel o denau wrth ymdrin â’r costau ad-drefnu. Mae’r costau ad-drefnu dros bedair blynedd yn £12.5 miliwn. Mae niwtral o ran cost yn golygu y bydd costau gweinyddol y system newydd yr un fath â chostau gweinyddol yr hen system. Nid yw’n golygu dim cost o gwbl ac ni fyddai neb byth wedi dweud na fyddai unrhyw gostau o gwbl oherwydd mae yna un set o gostau. Maent yn llawer llai na chost ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Fe gofiwch i John Redwood amcangyfrif y byddai hynny’n costio rhwng £60 miliwn a £150 miliwn. Nid yw dim cost o gwbl a niwtral o ran cost erioed wedi golygu’r un peth yn yr iaith Saesneg, a rhaid i chi fynd yn ôl at y geiriadur a’r calcwlws, Nick.

Nick Bourne spoken in English p. 12

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 12

We are used to these performances; we have had them all before. You now say that something different was meant. This was discussed at length, and all Members know that Jane Hutt said—and you did not stop her saying it—that the plans were cost-neutral. We now know that they are not, as you are telling us. However, why should we be surprised? After all, you are the Minister who gave us a Minister for Open Government who, contrary to Standing Orders, does not seem to be obliged to answer questions on open government. You gave us a Minister for Wales Abroad who is responsible for it, but is not accountable for it. Fat lot of good that is. He does not have to answer questions and he is not shadowed by a Committee. Again, this is about the integrity of your administration. Not long ago, a Minister told us that you were not in contact with the police when you were. The Minister for Health and Social Services is now telling us that plans are cost-neutral when they are costing £15 million. Will you take the cost-neutral option, cancel these plans and put the money into the sharp end of public services?

Yr ydym yn gyfarwydd â’r perfformiadau hyn; yr ydym wedi’u cael i gyd o’r blaen. Yr ydych yn dweud yn awr mai rhywbeth gwahanol a olygid. Cafodd hyn ei drafod yn faith, a gŵyr yr Aelodau i gyd i Jane Hutt gyhoeddi—ac ni fu ichi ei rhwystro rhag gwneud y cyhoeddiad—fod y cynlluniau yn niwtral o ran cost. Gwyddom erbyn hyn nad ydynt, fel yr ydych yn dweud wrthym. Fodd bynnag, pam ydym ni’n synnu? Wedi’r cyfan, chi yw’r Gweinidog a roddodd inni Weinidog dros Lywodraeth Agored nad oes rhaid iddo yn ôl pob golwg, yn groes i’r Rheolau Sefydlog, ateb cwestiynau ar lywodraeth agored. Rhoddasoch inni Weinidog dros Gymru Dramor sy’n gyfrifol ond nid yn atebol amdano. Pa les sydd yn hynny? Nid yw’n gorfod ateb cwestiynau ac nid yw’n cael ei gysgodi gan Bwyllgor. Unwaith eto, mae a wnelo hyn ag uniondeb eich gweinyddiaeth. Yn ddiweddar, bu i Weinidog ddweud wrthym nad oeddech mewn cysylltiad â’r heddlu pan yr oeddech. Yn awr mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud wrthym fod cynlluniau yn niwtral o ran cost er eu bod yn costio £15 miliwn. A wnewch chi ddewis yr opsiwn niwtral o ran cost, canslo’r cynlluniau hyn a defnyddio’r arian lle mae ei angen fwyaf ar y gwasanaethau cyhoeddus?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

You do not seem to be able to cope with any rebuttal of your argument, Nick, so you immediately change the subject. If you want to argue the point, then argue it. If you believe that the dictionary definition of cost-neutral is cost-zero, then you must present an argument to support that. Everybody else knows that it means that the administrative costs of the new system are the same as the administrative costs of the present system. Do not change the subject when you do not agree with an answer. When you change the subject Nick, everybody else knows that I have won and you have lost because you do not have any more arguments to present. You change the subject and ramble on about a range of things that have happened over the past two years. I would enjoy arguing the point, if only you had an argument.

Mae’n ymddangos nad ydych yn gallu ymdopi ag unrhyw ateb sy’n mynd yn groes i’ch dadl, Nick, felly yr ydych yn newid y pwnc ar unwaith. Os ydych am ddadlau’r pwynt, yna dadleuwch. Os ydych yn credu mai dim cost o gwbl yw diffiniad y geiriadur o niwtral o ran cost, yna rhaid i chi gyflwyno dadl i ategu hynny. Gŵyr pawb arall ei fod yn golygu bod costau gweinyddol y system newydd yr un fath â chostau gweinyddol y system bresennol. Peidiwch â newid y pwnc pan nad ydych yn cytuno ag ateb. Pan fyddwch yn newid y pwnc Nick, mae pawb arall yn gwybod fy mod i wedi ennill a’ch bod chi wedi colli oherwydd nid oes gennych ragor o ddadleuon i’w rhoi gerbron. Yr ydych yn newid y pwnc ac yn malu awyr am amryw o bethau sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn yn mwynhau dadlau’r pwynt, pa bai gennych ddadl.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 13

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

Question 4 (OAQ19001) has been withdrawn.

Mae Cwestiwn 4 (OAQ19001) wedi’i dynnu’n ôl.

Cludo Gwastraff Niwclear

Transportation of Nuclear Waste

Q5 Richard Edwards spoken in English p. 13

C5 Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 13

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales regarding the transportation of nuclear waste around Wales? (OAQ19009)

Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch cludo gwastraff niwclear o amgylch Cymru? (OAQ19009)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

I explained in an answer on 2 July that I meet with the Secretary of State for Wales on a regular basis, but this is not a subject that we have discussed. Shipping routes are a matter for the Department of Transport and have not been devolved. Nuclear safety on shipping routes is a matter for the Office of Civil Nuclear Security.

Eglurais mewn ateb ar 2 Gorffennaf fy mod yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rheolaidd, ond nid yw hwn yn bwnc yr ydym wedi ei drafod. Mater i’r Adran Drafnidiaeth yw llwybrau môr ac nid yw wedi’i ddatganoli. Mater i’r Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil yw diogelwch niwclear ar lwybrau môr.

Richard Edwards spoken in English p. 13

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 13

Are you aware that a plutonium mixed-oxide shipment destined for Sellafield illegally left Japan on 4 July, escorted out of Japanese waters by 38 armoured vessels and seven helicopters? Are you also aware, in view of your response on 2 July, to which you alluded, that British Nuclear Fuels Limited, which today announced losses of £2 billion, is not retrieving this plutonium out of any sense of moral obligation, but to secure future contracts from the Japanese Government? It is Japanese plutonium separated at Sellafield from Japanese nuclear waste fuel. Would it not be safer and more moral to treat this mixed-oxide, along with the 3,000 kg of separated plutonium already stockpiled in Japan, as waste and immobilise it in a form that would make it impossible or difficult to use in weapons? Is there not a moral responsibility to the scores of countries on the shipment route, including our own, First Minister, that are in danger from accidents or malicious acts? This is not hysteria, but responsible concern. Wales and the Assembly should speak out in protest and support the flotillas from Pembrokeshire and Ireland.

A ydych yn ymwybodol i lwyth o blwtoniwm ocsid-cymysg ymadael â Japan yn anghyfreithlon ar 4 Gorffennaf ar ei ffordd i Sellafield a’i fod wedi’i arwain allan o ddyfroedd Siapan gan 38 o gychod arfog a saith hofrennydd? A ydych yn ymwybodol hefyd, gan gofio eich ymateb ar 2 Gorffennaf, yr ydych wedi cyfeirio ato, mai nid oherwydd unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd foesol y mae British Nuclear Fuels Limited, sydd wedi cyhoeddi colledion o £2 biliwn heddiw, yn adfer y plwtoniwm hwn, ond er mwyn sicrhau contractau oddi wrth Lywodraeth Siapan i’r dyfodol? Plwtoniwm o Siapan yn cael ei wahanu yn Sellafield o danwydd gwastraff niwclear o Siapan ydyw. Oni fyddai’n fwy diogel ac yn fwy moesol trin yr ocsid-cymysg hwn, ynghyd â’r 3,000 kg o blwtoniwm sydd wedi’u wahanu ac eisoes wedi’i storio yn Siapan, fel gwastrafff a’i gadw mewn ffurf a fyddai’n ei gwneud hi’n amhosibl neu’n anodd i’w ddefnyddio mewn arfau? Onid oes yna gyfrifoldeb moesol tuag at y llu o wledydd ar hyd y llwybr môr, yn cynnwys ein gwlad ni, Brif Weinidog, sydd mewn perygl oddi wrth ddamweiniau neu weithredoedd maleisus? Nid hysteria mo hyn, ond pryder cyfrifol. Dylai Cymru a’r Cynulliad godi eu llais mewn protest a chefnogi’r llyngesau bach o Sir Benfro ac Iwerddon.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I understand the strength of feeling on both sides of the Irish sea. You need only talk to anyone in the Irish tourist trade, or in Irish governmental circles, to know how strong the strength of feeling is about Sellafield and virtually all of its operations. However, when faulty nuclear material is supplied, the electricity utility in question has the right to send it back to the originating plant. I have also received a letter outlining much the same legal argument as you have probably seen, Richard. However, it does not affect Sellafield’s fundamental problem, namely that it supplied faulty fuel that did not work and that Kansai Electric Power Co now says that it must take it back. It is difficult to resist that argument. Therefore we must ensure that the transportation meets every criterion of the Office of Civil Nuclear Security and that it is returned to where it belongs and converted into something less destructive than it is at present.

Yr wyf yn deall y cryfder teimlad ar y naill ochr a’r llall i Fôr Iwerddon. Nid oes angen ond siarad â rhywun o ddiwydiant twristiaeth Iwerddon, neu yng nghylchoedd llywodraethol Iwerddon, i wybod mor gryf yw’r teimladau ynglŷn â Sellafield a’i holl waith bron iawn. Fodd bynnag, pan gyflenwir deunydd niwclear diffygiol, mae gan y cwmni trydan dan sylw yr hawl i’w anfon yn ôl i’r gwaith y deilliodd ohono. Yr wyf innau hefyd wedi derbyn llythyr yn amlinellu’r un ddadl gyfreithiol ag yr ydych chithau wedi’i weld mae’n siŵr, Richard. Fodd bynnag, nid yw hynny’n effeithio ar broblem sylfaenol Sellafield, sef iddo gyflenwi tanwydd diffygiol nad oedd yn gweithio ac mae Kansai Electric Power Co yn dweud yn awr fod yn rhaid iddo ei gymryd yn ôl. Mae’n anodd gwrthsefyll y ddadl honno. Rhaid inni felly wneud yn siŵr fod y cludiant yn cyflawni pob un o feini prawf y Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil a’i fod yn cael ei ddychwelyd i’r man lle mae’n perthyn a’i drosi i rywbeth llai distrywiol nag yw ar hyn o bryd.

Phil Williams spoken in English p. 14

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 14

Given the huge environmental and security dangers and the unsolved problems associated with the transportation, processing and long-term storage of nuclear waste, will you assure us that the present Assembly Government will use whatever powers it has available to oppose the construction of new nuclear fission power stations in Wales and the location of any new long-term storage facility for nuclear waste?

O ystyried y peryglon enfawr yn ymwneud â’r amgylchedd a diogelwch a’r problemau nad ydynt wedi’u datrys ynglŷn â chludiant, prosesu a storio gwastraff niwclear yn y tymor hir, a roddwch chi sicrwydd inni y bydd Llywodraeth bresennol y Cynulliad yn defnyddio pa bwerau bynnag sydd ganddi i wrthwynebu codi gorsafoedd ymholltiad niwclear yng Nghymru yn y dyfodol ynghyd â lleoliad unrhyw gyfleuster storio hirdymor newydd ar gyfer gwastraff niwclear?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I am not aware of any proposals for new nuclear power stations in Wales. It has been mooted that a proposal will emerge during the next 25 years for a replacement for Wylfa power station. It will probably be a decade or more before any proposal is made. Therefore I do not think that we need to consider it now. However, I am sure that the relevant Assembly Government during the next two decades will take on board such issues, unless nuclear power has been replaced.

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynigion i godi gorsafoedd niwclear newydd yng Nghymru. Cafwyd sôn y bydd cynnig yn ymddangos yn ystod y 25 mlynedd nesaf i godi gorsaf newydd yn lle’r Wylfa. Mae’n debyg y bydd yn ddegawd neu fwy cyn y gwneir unrhyw gynnig. Nid wyf yn meddwl felly fod angen inni ei ystyried yn awr. Fodd bynnag, yr wyf yn siŵr y bydd Llywodraeth berthnasol y Cynulliad dros y ddwy ddegawd nesaf yn rhoi sylw i faterion o’r fath, oni bai fod ynni niwlear wedi’i ddisodli gan rywbeth arall.

Rhwydwaith Trafnidiaeth rhwng y De a’r Gogledd

Transport Infrastructure between North and South Wales

Q6 Glyn Davies spoken in English p. 15

C6 Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 15

What discussions has the First Minister had with the Minister for Environment about policies to improve the transport infrastructure between north and south Wales? (OAQ19004)

Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd ynghylch polisïau i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth rhwng y De a’r Gogledd? (OAQ19004)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

This is an important issue that I discuss frequently with the Minister for Environment, Sue Essex. The tender for a relevant scheme, namely the A470 Lledr valley scheme between Dolwyddelan and Beaver Bridge, will be awarded in a few months’ time. The stretch of road to be improved is approximately 7.2 km in length, or four and a half miles, at an estimated cost of just under £20 million. We hope that the work will be completed by the end of 2005. A comparable scheme, but mostly in England and more relevant to the area with which you are familiar, is the Pant and Llanymynech bypass, on which we are co-operating with the Highways Agency in England. The border between Wales and England crosses this road in several places. This is a major road scheme that will start in a few years’ time. It will greatly assist road traffic between north-east Wales, mid Wales and south Wales.

Mae hwn yn fater pwysig yr wyf yn ei drafod yn fynych gyda’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Sue Essex. Bydd y tendr am gynllun perthnasol, sef cynllun yr A470 yn nyffryn Lledr rhwng Dolwyddelan a Phont yr Afanc, yn cael ei ddyfarnu ymhen ychydig fisoedd. Mae’r darn o ffordd sydd i’w wella oddeutu 7.2 km o hyd, neu bedair milltir a hanner, ar gost amcangyfrifedig o ychydig dan £20 miliwn. Gobeithiwn y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2005. Cynllun cymharol, ond yn bennaf yn Lloegr ac yn fwy perthnasol i’r ardal yr ydych chi’n gyfarwydd â hi, yw ffordd osgoi Pant a Llanymynech, ar ba un yr ydym yn cydweithredu â’r Asiantaeth Briffyrdd yn Lloegr. Mae’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn croesi’r ffordd hon mewn sawl lle. Mae hwn yn gynllun ffordd mawr a fydd yn dechrau ymhen rhai blynyddoedd. Bydd yn hwb mawr i draffig ffordd rhwng gogledd-ddwyrain Cymru, y Canolbarth a’r De.

Glyn Davies spoken in English p. 15

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 15

Since you have responsibility for north Wales, you may have some sympathy with my questions. Will you have another word with Sue Essex about the importance of investing in the A470? Notwithstanding the relatively small investment you mentioned, such investment would enable you to counteract the disillusionment in north, mid and west Wales about the commitment of your south-east-centric Government to these other parts of Wales.

Gan mai chi sy’n gyfrifol am ogledd Cymru, efallai y byddwch yn cydymdeimlo â’m cwestiynau. A wnewch chi gael gair eto â Sue Essex ynglŷn â phwysigrwydd buddsoddi yn yr A470? Er gwaethaf y buddsoddiad cymharol fach y cyfeirioch ato, byddai buddsoddiad o’r fath yn eich galluogi i leddfu’r dadrithiad yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru ynglŷn ag ymrwymiad eich Llywodraeth, sydd â’i gwreiddiau mor gadarn yn y de-ddwyrain, tuag at y rhannau eraill hyn o Gymru.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

The first scheme may cost £20 million but, as the tenders are out at present, I must not comment too much on it. It is estimated that the second scheme will cost £17 million. Although it is still at the draft Order stage, the A470 scheme for Blaenau Ffestiniog to Cancoed is due to start around March 2005 at a cost of £10 million. Therefore, between £45 million and £50 million will be invested in the purposes to which you refer. It is a good, significant investment, which will be facilitated by yesterday’s comprehensive spending review announcement.

Efallai y bydd y cynllun cyntaf yn costio £20 miliwn, ond gan fod y tendrau allan ar hyn o bryd, rhaid imi beidio â sôn gormod am hynny. Amcangyfrifir y bydd yr ail gynllun yn costio £17 miliwn. Er mai yng ngham y Gorchymyn drafft y mae ar hyn o bryd, mae cynllun yr A470 o Flaenau Ffestiniog i Ganored i fod i ddechrau oddeutu Mawrth 2005 am gost o £10 miliwn. Felly, bydd rhwng £45 miliwn a £50 miliwn yn cael ei fuddsoddi i’r dibenion y cyfeiriwch chi atynt. Mae’n fuddsoddiad da, sylweddol, a gaiff ei hwyluso gan y cyhoeddiad ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ddoe.

Eleanor Burnham spoken in English p. 16

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 16

We welcome any improvement to links between north and south Wales. I am always concerned about train services. Do you agree that we should ensure that the Strategic Rail Authority makes adequate investment, particulary in the North-South link, which is not lost in the woodwork? Given that we are trying to promote Wales, investment is also needed in the rolling stock because, when leaving one train at Shrewbury to catch another, it is aggravating and frustrating to find that the rolling stock is filthy and disgusting, with seats that have been broken for months. Despite the timetable improvements from September, we also need better rolling stock.

Yr ydym yn croesawu unrhyw welliant i’r cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Yr wyf bob amser yn pryderu am y gwasanaethau trên. A ydych yn cytuno y dylem sicrhau bod yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol yn buddsoddi’n ddigonol, yn enwedig yn y cyswllt Gogledd-De, ac nad yw hynny’n diflannu o’r golwg? O gofio ein bod yn ceisio hyrwyddo Cymru, mae angen buddsoddi hefyd yn y cerbydau oherwydd, wrth adael trên yn Amwythig i ddal trên arall, mae canfod bod y cerbydau yn fudr a ffiaidd, gyda seddau sydd wedi torri ers misoedd, yn gwneud i rywun wylltio ac yn peri rhwystredigaeth. Er gwaethaf y gwelliannau i’r amserlen o fis Medi ymlaen, mae angen gwell cerbydau arnom hefyd.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

You are right. This issue has formed part of our discussions with the SRA as regards selecting the preferred bidder in December 2002. As part of the terms and conditions of the tender, it will be judged on its vision for improving north-south rail transport in Wales. In the meantime, we are funding alternative services to provide higher frequency on the Chester-Wrexham-Shrewsbury route, with additional services providing interchange on routes from Cardiff to north Wales.

Yr ydych yn gywir. Bu’r mater hwn yn rhan o’n trafodaethau gyda’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol o safbwynt dethol y cynigydd sy’n cael ei ffafrio yn Rhagfyr 2002. Fel rhan o delerau ac amodau’r tendr, bydd yn cael ei farnu ar ei weledigaeth ar gyfer gwella trafnidiaeth rheilffordd rhwng y De a’r Gogledd. Yn y cyfamser, yr ydym yn cyllido gwasanaethau amgen er mwyn darparu gwasanaethau mwy mynych ar lwybr Caer-Wrecsam-Amwythig, gyda gwasanaethau ychwanegol yn golygu bod modd newid ar lwybrau o Gaerdydd i ogledd Cymru.

Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy Bach

Small Renewable Energy Schemes

C7 Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Q7 Cynog Dafis spoken in Welsh p. 17

Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cael gyda’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd ynglŷn â symud y rhwystrau i gynlluniau ynni adnewyddadwy bach? (OAQ18996)

What discussions has the First Minister had with the Minister for Economic Development and the Minister for Environment about removing restrictions to small renewable energy schemes? (OAQ18996)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 17

Ni wyddom at ba rwystrau yr ydych yn cyfeirio yn eich cwestiwn. Fodd bynnag, po fwyaf y cynlluniau bach sydd, mwyaf y problemau os nad ydynt at eich defnydd eich hun yn eich ffatri, eich fferm neu’ch tŷ oherwydd mae’n rhaid eu cysylltu â’r rhwydwaith cenedlaethol. Gwyddom fod trefniadau masnachu trydan newydd wedi achosi problemau i’r cynhyrchwyr trydan bach, sydd am weld rhywfaint o ad-drefnu. At hynny, mae Ofgem wedi dechrau ymgynghoriadau i sicrhau nad ydynt o dan anfaintais oherwydd y trefniadau newydd.

We do not know to which restrictions you refer in your question. However, the greater the number of small schemes, the greater the problems if they are not for your own use in your factory, your farm or your home because they must be connected to the national grid. We know that the new electricity trading arrangements have caused problems for the small electricity producers, who want to see some degree of re-organisation. To that end, Ofgem has commenced consultations to ensure that they are not disadvantaged by the new arrangements.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 17

Bu Mick Bates, Phil Williams a minnau yn Sir Benfro yn diweddar yn clywed am yr holl rwystrau sy’n cadw cynlluniau bach rhag dwyn ffrwyth; rhwystrau gyda chynllunio, lleoli, cysylltu â’r rhwydwaith, y NETA a denu cyllid. Mae’n feicrocosm o’r hyn sy’n tagu’r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru ar hyn o bryd. A roddwch sicrwydd yr ewch chi a’r Gweinidogion eraill i’r afael â’r broblem hon yn systematig i symud pob un o’r rhwystrau hyn?

Mick Bates, Phil Williams and I were in Pembrokeshire recently hearing about all the restrictions that prevent small schemes from bearing fruit; restrictions with planning, location, connection to the grid, NETA and obtaining funding. It is a microcosm of what is presently stifling the renewable energy industry in Wales. Will you give an assurance that you and the other Ministers will tackle this problem systematically to lift all of these restrictions?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 17

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 17

Mae pob gorsaf drydan o dan 50 MW—yn gynaliadwy neu beidio—yn fater i’r Cynulliad, nid yr Adran Diwydiant a Masnach. Felly, mae’n cael ei ystyried fel mater cynllunio yn hytrach na mater strategol cyflenwad ynni. Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr awdurdodau lleol—er y gall y mater ddod gerbron y Cynulliad ar apêl weithiau—yn rhesymol a sensitif wrth ystyried y fath achosion. Wrth gwrs, rhaid iddynt ystyried ffactorau megis tirwedd cyn gwneud penderfyniad.

Every electricity generating station under 50 MW—sustainable or not—is a matter for the Assembly, not the Department of Trade and Industry. Therefore, it is considered a planning matter rather than a strategic energy supply matter. The important thing is that local authorities—though the matter may occasionally come before the Assembly on appeal—are reasonable and sensitive in considering such cases. Of course, they must consider factors such as landscape before making any decisions.

Mick Bates spoken in English p. 17

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 17

Do you agree that accessing advice is the key to promoting large or small-scale renewable energy schemes? In view of the success of Farming Connect, the farming advisory scheme, should the Assembly create a ‘renewable energy connect’?

A ydych yn cytuno mai cael gafael ar gyngor yw’r allwedd er mwyn hyrwyddo cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr neu fach? O ystyried llwyddiant Cyswllt Ffermio, y cynllun ymgynghorol ar gyfer ffermwyr, a ddylai’r Cynulliad greu ‘cyswllt ynni adnewyddadwy’?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

That is something for the future. I doubt that there are enough schemes at present to justify an entire ‘connect’ scheme as with farming and business. However, that would be worth considering should technologies such as small-scale biomass applications, anaerobic digesters, small-scale wind and small-scale hydro for local use start to break through. You must have a deal flow to justify establishing a bureaucracy, otherwise you have a bureaucracy doing nothing, and nothing could be more disheartening than that.

Rhywbeth ar gyfer y dyfodol yw hynny. Yr wyf yn amheus a oes digon o gynlluniau ar hyn o bryd i gyfiawnhau cynllun ‘cyswllt’ cyfan fel a geir gyda ffermio a busnes. Fodd bynnag, byddai’n werth ei ystyried pe bai technolegau megis gweithfeydd biomas ar raddfa fach, treulwyr anaerobig, ynni gwynt ar raddfa fach ac ynni dŵr ar raddfa fach at ddefnydd lleol yn dechrau ennill eu tir. Rhaid i chi gael digon o alw i gyfiawnhau sefydlu biwrocratiaeth, neu bydd gennych fiwrocratiaeth sy’n gwneud dim, ac nid oes dim sy’n torri calon rhywun yn fwy na hynny.

Cyfraniad Pysgota i Economi Gogledd Cymru

Contribution of Angling to the North Wales Economy

Q8 Alun Pugh spoken in English p. 18

C8 Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 18

Will the First Minister, in his capacity as policy co-ordinator for north Wales, make a statement on the contribution of angling to the north Wales economy?

A wnaiff y Prif Weinidog, yn rhinwedd ei rôl fel cydlynydd polisi ar gyfer gogledd Cymru, ddatganiad ar gyfraniad pysgota i economi gogledd Cymru? (OAQ19002)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

I do not have definitive figures for north Wales. However, it is clear that angling tourism is an important activity that has the potential to deliver significant economic benefits to the host community. A recent report commissioned by the Wales Tourist Board suggested that fishing tourism in Wales could be currently valued at £76 million and that it supports approximately 800 full-time equivalent jobs. However, there was no separate regional breakdown for north Wales.

Nid oes gennyf ffigurau pendant am ogledd Cymru. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod twristiaeth bysgota yn weithgaredd pwysig sydd â’r potensial i ddod â budd economaidd sylweddol i’r gymuned sy’n ei chynnal. Awgrymodd adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Fwrdd Croeso Cymru y gellid prisio twristiaeth bysgota yng Nghymru ar hyn o bryd ar £76 miliwn a’i bod yn cynnal tua 800 o swyddi sy’n cyfateb i rai amser llawn. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ddadansoddiad rhanbarthol ar wahân ar gyfer gogledd Cymru.

Alun Pugh spoken in English p. 18

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 18

My question was prompted by constituents who are alarmed by large-scale and organised illegal fishing. Will you raise this matter with the relevant bodies, including the Environment Agency, before further, unsustainable damage is caused to fish stocks?

Cafodd fy nghwestiwn ei ysgogi gan etholwyr sydd wedi’u brawychu gan bysgota anghyfreithlon ar raddfa fawr, a hynny’n cael ei drefnu. A wnewch chi godi’r mater gyda’r cyrff perthnasol, yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, cyn i niwed pellach, anghynaliadwy, gael ei achosi i’r cyflenwadau pysgod?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 19

The fish stocks of transmigratory game fish, and particularly the Atlantic salmon, are sadly now at depleted levels. Part of the image, tourism industry and economy of many areas of Wales is the presence of that magnificent beast, the Atlantic salmon. Unfortunately, depredation in the mid Atlantic, as a result of Faroese fishing fleets, the Irish drift-net fisheries or simply the spread of necrosis from salmon in fish farms, has sadly depleted the viability and health of Atlantic salmon. It would be sad if the Atlantic salmon stopped migrating to its spawning grounds in Welsh rivers. Salmon, sewin and brown trout play a great part in Wales’s image and tourism.

Mae’n drist dweud bod y cyflenwadau o bysgod trawsfudol, ac yn enwedig eogiaid o o Fôr Iwerydd, yn isel bellach. Mae presenoldeb y creadur gwych hwnnw, eog Môr Iwerydd, yn rhan o ddelwedd, diwydiant twristiaeth ac economi llawer rhan o Gymru. Yn anffodus, mae’r ysbeilio yng nghanol yr Iwerydd, oherwydd y llyngesau pysgota Ffaroaidd, y Gwyddelod yn pysgota â rhwydi drifft neu fod necrosis yn lledaenu o eogiaid mewn ffermydd pysgod, wedi tanseilio dyfodol ac iechyd eogiaid yr Iwerydd. Byddai’n drist pa bai eog yr Iwerydd yn rhoi’r gorau i fudo i’w silfeydd yn afonydd Cymru. Mae eog, sewin a brithyll yn chwarae rhan bwysig yn nelwedd a thwristiaeth Cymru.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 19

A wnaiff Prif Weinidog Cymru dderbyn bod lefel stoc pysgod llynnoedd ac afonydd Cymru yn allweddol i economi’r Gogledd a rhannau eraill o Gymru? A wnaiff ystyried a yw’r cyngor a’r arweiniad a roddir i ddiwydiant ac i amaethyddiaeth yn ddigon cadarn o safbwynt peryglon gwenwyno llynnoedd ac afonydd, sy’n arwain at leihau’r stoc a thanseilio pysgota?

Will the First Minister accept that fish stock levels in the lakes and rivers of Wales are key to the economy of the North and other parts of Wales? Will he consider whether the advice and guidance given to the industry and to agriculture is robust enough with regard to the dangers of poisoning lakes and rivers, which leads to a depletion in stocks and undermines fishing?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 19

Credaf fod gwenwyn sy’n llifo o wrtaith neu blaladdwr yn gallu gwneud niwed i afonydd. Mae hynny’n niweidio’r diwydiant twristiaeth, a’r posibilrwydd o greu swyddi yn economi Cymru wledig. Gallai hefyd effeithio ar dwristiaeth ar y ffermydd a fu’n gyfrifol am y gwenwyno yn y lle cyntaf drwy esgeulustod wrth ddelio â gwrtaith neu blaladdwr. Yn y pen draw, o ran pysgod i’w bwyta, ffermio dŵr yw’r ateb. Er bod pob un ohonom sydd wedi bwyta eog gwyllt yn gwybod na ellir cymharu ei flas â blas eog o fferm, mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni dderbyn mai rhywbeth o’r gorffennol yw blas eog gwyllt. Ffermio dŵr yw’r dyfodol o ran pysgod i’w bwyta yng Nghymru.

I believe that poison flowing from fertiliser or pesticide can damage rivers. That damages the tourism industry, and the possibility of job creation in the rural economy of Wales. It could also affect tourism on the farms that were responsible for the poisoning in the first place through negligence in dealing with fertiliser or pesticide. In the end, with regard to fish for consumption, aquaculture is the answer. Even though every one of us who has tasted wild salmon knows that its flavour cannot be compared with the flavour of farmed salmon, it is possible that we will have to accept that the taste of wild salmon belongs to the past. The future of fish production for the food market in Wales lies in aquaculture.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 19

Tynnwyd cwestiwn 9 (OAQ19000) yn ôl.

Question 9 (OAQ19000) has been withdrawn.

Hybu a Phortreadu Chwaraeon

Promotion and Portrayal of Sport

Q10 Brian Gibbons spoken in English p. 19

C10 Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 19

Has the First Minister had any discussions with the media in Wales regarding its promotion and portrayal of sport in Wales? (OAQ19005)

A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’r cyfryngau yng Nghymru ynghylch y modd y maent yn hybu ac yn portreadu chwaraeon yng Nghymru? (OAQ19005)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I have not undertaken any discussions personally. However, the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language has discussed the issue during her regular meetings with the BBC, HTV and S4C. While recognising the editorial independence of broadcasters in Wales, she has encouraged them to promote the coverage of minority sports, including women’s sports.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau yn bersonol. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg wedi trafod y mater yn ystod ei chyfarfodydd rheolaidd gyda’r BBC, HTV ac S4C. Tra’n cydnabod annibyniaeth olygyddol darlledwyr Cymru, mae wedi eu hannog i roi rhagor o sylw i chwaraeon lleiafrifol, yn cynnwys chwaraeon merched.

Brian Gibbons spoken in English p. 20

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 20

I do not think that the problem only lies in minority sports. Top rugby players are reasonably well known in south Wales, but participants in Welsh league football, League of Wales football, and athletics, as well as anglers, boxers and so on are not well known. Do you believe that we must develop a corporate identity for Welsh sports as a means of promoting participation and excellence and in order to project a positive image of Wales?

Nid wyf yn meddwl mai chwaraeon lleiafrifol yn unig yw’r broblem. Mae’r prif chwaraewyr rygbi yn gymharol adnabyddus yn ne Cymru, ond nid yw’r rhai sy’n cymryd rhan ym mhêl-droed Cynghrair Cymru, ac athletwyr, yn ogystal â physgotwyr, bocswyr ac yn y blaen yn adnabyddus. A ydych yn credu bod yn rhaid inni ddatblygu hunaniaeth gorfforaethol i chwaraeon yng Nghymru fel ffordd o hybu cyfranogiad a rhagoriaeth ac er mwyn cyfleu delwedd bositif o Gymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I do; I believe that the 17 sports in which we will be represented in the Commonwealth Games beginning on 27 July provide a great opportunity for new heroes and heroines to emerge. They can become role models for 10 and 15-year-olds who may become the next generation of heroes and heroines.

Ydwyf; credaf fod yr 17 o chwaraeon a fydd yn cael eu cynrychioli yng Ngemau’r Gymanwlad, sy’n dechrau ar 27 Gorffennaf, yn gyfle rhagorol i arwyr ac arwresau newydd ddod i’r amlwg. Gallant ddod yn fodelau i’w hefelychu i bobl ifanc 10 a 15 oed a allai roi inni y genhedlaeth nesaf o arwyr ac arwresau.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 20

Cefais y pleser yn ddiweddar o wylio Cymru yn chwarae criced a phêl fâs yn erbyn Lloegr. Yr oedd yr un faint o bobl yn gwylio’r ddwy gêm, ac er bod Cymru wedi ennill y ddwy yn hawdd, y criced a gafodd y sylw yn y cyfryngau. A ydych yn fodlon ceisio defnyddio eich dylanwad ar y cyfryngau—ac ambell aelod o’r Cabinet—i sicrhau gwell cefnogaeth i bêl fâs?

I recently had the pleasure of watching Wales play cricket and baseball against England. Crowd numbers were the same at both matches, and even though Wales easily won both, it was the cricket that received media coverage. Are you willing to try to use your influence with the media—and one or two members of your Cabinet—to provide better support for baseball?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 20

Nid wyf wedi chwarae pêl fâs erioed, er fy mod wedi dysgu chwarae criced yn Ysgol Gynradd Radur gyda bat pêl fâs, gan mai dyna’r unig fath o fat oedd ar gael; efallai mai hynny sy’n gyfrifol am y ffaith na fûm yn llwyddiant mawr wrth chwarae criced wedi hynny. Mae criced yn gêm a chwaraeir ar draws Cymru gyfan, ond yn anffodus nid yw pêl fâs wedi llwyddo i dreiddio ymhellach na Chasnewydd, Caerdydd, Penarth a’r Barri yn ogystal â rhai ardaloedd fel Lerpwl yn Lloegr.

I have never played baseball, despite the fact that I learned to play cricket using a baseball bat at Radyr Primary School, as that was the only bat available; that may be the reason why I was subsequently never a great success at cricket. Cricket is played all over Wales, but unfortunately baseball has not succeeded in penetrating further than Newport, Cardiff, Penarth and Barry as well as some areas of England, such as Liverpool.

John Griffiths spoken in English p. 21

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 21

Will you join me in congratulating the Welsh media for arranging to cover the crunch football match between the National Assembly and the House of Commons? The game will be held as a prelude to the English Football Association’s Charity Shield match.

A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch cyfryngau Cymru am drefnu i roi sylw i’r gêm bêl-droed dyngedfennol rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Thŷ’r Cyffredin? Bydd y gêm yn cael ei chynnal fel rhagarweiniad i gêm Tarian Elusennol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

You did not manage to give the result, John, so I do not know to what extent congratulations are in order; however, you probably would not have mentioned it if we had lost.

Ni lwyddoch i roi’r canlyniad, John, felly ni wn i ba raddau y dylwn gynnig llongyfarchiadau; fodd bynnag, mae’n siŵr na fyddech wedi cyfeirio at y gêm pe baem wedi colli.

John Griffiths spoken in English p. 21

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 21

It has not been played yet.

Nid yw wedi ei chwarae eto.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

I see; this is advance publicity. It is important. It is surprising how matches between the press office and bunches of politicians get incredibly good coverage, because the press office wants to report its own doings. You also mentioned that politicians can act as role models, to a modest degree, through their sporting talent. Usually, their sporting talents will also be modest, but they can look good when playing against other politicians. I commend everybody who will take part, and wish that I was young and fit enough to do so myself.

Yr wyf yn gweld; cyhoeddusrwydd ymlaen llaw yw hwn. Mae’n bwysig. Mae’n syndod sut mae gemau rhwng swyddfa’r wasg a chriwiau o wleidyddion yn cael sylw eithriadol o dda, am fod swyddfa’r wasg am roi gwybod am yr hyn y mae hi’n ei wneud. Soniasoch hefyd y gall gwleidyddion weithredu fel modelau i’w hefelychu, i ryw raddau, drwy eu dawn chwaraeon. Fel arfer, nid yw eu doniau chwaraeon yn eithriadol o gwbl, ond gallant edrych yn dda wrth chwarae yn erbyn gwleidyddion eraill. Cymeradwyaf bawb a fydd yn cymryd rhan; o na bawn i’n ddigon ifanc a ffit i wneud hynny fy hun.

Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (Cyllid Iechyd)

Comprehensive Spending Review (Health Funding)

Q11 Kirsty Williams spoken in English p. 21

C11 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 21

Will the First Minister make a statement on health funding in relation to the comprehensive spending review? (OAQ19012)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid iechyd mewn perthynas â’r adolygiad cynhwysfawr o wariant? (OAQ19012)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

This is the most important question today. The pot of money that was announced yesterday will go into the budget planning round. There was one exception to how Gordon Brown dealt with yesterday’s comprehensive spending review in that he had already announced the health element in his budget statement in April, some three months ago. Adding the increase that was announced through the consequentials by the Department of Health in England, which the Chancellor announced in April, and yesterday’s above-Barnett formula announcement, means that our total budget under the new resource formula goes from £9.7 billion this year to £12 billion in 2005-06. That extra £2.3 billion—which is the maximum to which it rises in the third year—is available for spending on all other front-line public services, including health, education, economic development, and all the other functions for which we are responsible.

Dyma’r cwestiwn pwysicaf heddiw. Bydd y pot o arian a gyhoeddwyd ddoe yn mynd i mewn i gylch cynllunio’r gyllideb. Yr oedd un eithriad i’r ffordd y deliodd Gordon Brown â’r adolygiad cynhwysfawr o wariant ddoe gan ei fod eisoes wedi cyhoeddi’r elfen iechyd yn ei ddatganiad ar y gyllideb yn Ebrill, rhyw dri mis yn ôl. Drwy ychwanegu’r cynnydd a gyhoeddwyd drwy elfennau ôl-ddilynol yr Adran Iechyd yn Lloegr, a oedd wedi eu cyhoeddi gan y Canghellor yn Ebrill, a chyhoeddiad ddoe a oedd yn uwch na fformiwla Barnett, mae’n golygu bod ein cyllideb lawn o dan y fformiwla adnoddau newydd yn mynd o £9.7 biliwn eleni i £12 biliwn yn 2005-06. Mae’r £2.3 biliwn ychwanegol hwnnw—yr uchafswm y mae’n cynyddu iddo yn y drydedd flwyddyn—ar gael i’w wario ar bob gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arall, yn cynnwys iechyd, addysg, datblygu economaidd, a’r holl swyddogaethau eraill yr ydym yn gyfrifol amdanynt.

Kirsty Williams spoken in English p. 22

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 22

Do you agree that the Chancellor has confirmed that what the Liberal Democrats were saying before, during, and after the last general election, was correct, in that we needed more investment in our health services? Will you work with the Minister for Health and Social Services to tackle the continuing problem of delayed transfers of care in Welsh hospitals, which is unsatisfactory to those who remain in hospital settings, and those who are waiting to get into hospital?

A gytunwch fod y Canghellor wedi cadarnhau bod yr hyn yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei ddweud cyn, yn ystod ac ar ôl yr etholiad cyffredinol yn gywir, sef bod angen rhagor o fuddsoddiad arnom yn ein gwasanaethau iechyd? A wnewch chi weithio gyda’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd i’r afael â’r broblem barhaus o orfod oedi cyn trosglwyddo gofal o ysbytai Cymru, sydd yn anfoddhaol i’r sawl sy’n dal yn yr ysbyty, ac i’r sawl sy’n disgwyl i gael mynd i’r ysbyty?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 22

Delayed transfers of care is one of the huge problems that we face in breaking down the barriers between the expenditure that falls under the national health service, which is our direct responsibility, and social services, which is not, even though we are hugely involved in funding and planning it with our colleagues in local government. Even a 10-day transfer delay through the assessment process, and finding the nursing home or home care package, or whatever, can cause bed blocking. It is also not good for those who should be at home or in a nursing home, but unfortunately, because the assessment has not taken place or the funding arrangements have not been made, are still in hospital when they do not need to be. It is an enormous problem to which we must continue to give maximum priority.

Mae gorfod oedi cyn trosglwyddo gofal ymhlith y problemau enfawr a wynebwn wrth geisio dymchwel y rhwystrau rhwng y gwariant sy’n dod o dan y gwasanaeth iechyd gwladol, yr ydym yn uniongyrchol gyfrifol amdano, a’r gwasanaethau cymdeithasol, nad ydym yn gyfrifol amdanynt, er bod gennym ran enfawr yn y gwaith o’u cyllido a’u cynllunio gyda’n cydweithwyr mewn llywodraeth leol. Mae oedi am ddim ond 10 diwrnod hyd yn oed cyn trosglwyddo oherwydd y broses asesu, a dod o hyd i becyn cartref nyrsio neu gartref gofal, neu beth bynnag, yn gallu cloi gwelyau. Nid yw’n dda ychwaith i’r rhai a ddylai fod gartref neu mewn cartref nyrsio, ond yn anffodus, am nad yw’r asesiad wedi’i wneud neu nad yw’r trefniadau cyllido wedi’u sefydlu, maent yn dal yn yr ysbyty pan nad oes angen. Mae’n broblem enfawr y mae’n rhaid inni barhau i roi’r flaenoriaeth uchaf iddi.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 23

David Lloyd spoken in Welsh p. 23

Faint o arian newydd a gaiff ei roi i ddatrys yr argyfwng yn ein cartrefi gofal preswyl—cost niwtral neu gost sero?

How much new money will be given to solve the crisis in our residential care homes—cost neutral or cost zero?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 23

Tybiaf ichi glywed yr ateb i’r cwestiwn hwnnw, er nad yw efallai mor graff ag y bu ichi feddwl wrth gychwyn i lawr y llwybr hwnnw. Yr hyn sydd yn bwysig yw bod yr adnoddau ychwanegol sydd ar gael inni o 1 Ebrill 2003 yn ychwanegol i’r codiad a oedd ar gael eisoes yn rhan o drydedd flwyddyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf yn 2000. Mae’r adnoddau a’r gallu yno dros dair blynedd y setliad hwn i gynllunio, gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol, i sicrhau y gall pobl, pan fônt yn barod i gael eu trosglwyddo o welyau ysbyty i welyau mewn cartrefi preswyl neu gartref—lle yr hoffai’r rhan fwyaf ohonynt fod—fynd ar yr un diwrnod.

I think that you have heard the response to that question, although it may not be as clever as you thought when you started down that path. What is important is that the additional resources available to us from 1 April 2003 are additional to the increase that was already available as part of the third year of the previous comprehensive spending review in 2000. The resources and capacity are there over the three years of this settlement to plan, with local government partners, to ensure that people, when they are ready to be transferred from hospital beds to beds in residential homes or in their own homes—where most of them would like to be—can go on the same day.

Adolygiad o Wasanaethau Ombwdsmon ym Mhroses Ymgynghori Cymru

Review of Ombudsman Services in Wales’s Consultation Process

Q12 Alison Halford spoken in English p. 23

C12 Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 23

What recent discussion has the First Minister had with the Secretary of State for Wales regarding the review of ombudsman services in Wales’s consultation process? (OAQ18998)

Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ddiweddar ynghylch yr adolygiad o wasanaethau ombwdsmon ym mhroses ymgynghori Cymru? (OAQ18998)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

This subject has come up recently because of the retirement of the present Welsh administration ombudsman and health services ombudsman, Sir Michael Buckley. He presented his last annual report as the ombudsman for Wales this morning. He will retire shortly. The succession arrangements that need to be put in place are unexpectedly complex. I have had many discussions about this, because a legislative solution may be required. We hope to find a neat legislative solution to Sir Michael Buckley’s retirement and the succession problem, following his enormously distinguished service during the Assembly’s first three years.

Mae’r mater hwn wedi codi’n ddiweddar oherwydd ymddeoliad ombwdsmon gweinyddiaeth Cymru ac ombwdsmon y gwasanaethau iechyd, Syr Michael Buckley. Cyflwynodd ei adroddiad blynyddol olaf fel ombwdsmon Cymru y bore yma. Bydd yn ymddeol yn fuan. Mae’r trefniadau olynu y mae angen eu sefydlu yn annisgwyl o gymhleth. Yr wyf wedi cael llawer o drafodaethau am hyn, oherwydd efallai y bydd angen ateb deddfwriaethol. Gobeithiwn ganfod ateb deddfwriaethol taclus i ymddeoliad Syr Michael Buckley a’r broblem olynu, yn sgîl ei wasanaeth tra nodedig yn ystod tair blynedd gyntaf y Cynulliad.

Alison Halford spoken in English p. 23

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 23

I was always rather rude about Sir Michael Buckley, and referred to him as ‘Six Hats Buckley’. Do you agree that there is a degree of slippage with regard to what you wanted to do in Wales with the review of the ombudsman services? What can be done to reduce that slippage?

Yr oeddwn bob amser braidd yn ddigywilydd am Syr Michael Buckley, yn cyfeirio ato fel ‘Buckley’r Chwe Het’. A ydych yn cytuno bod rhywfaint o lithriad o ran yr hyn yr oeddech am ei wneud yng Nghymru wrth adolygu gwasanaethau’r ombwdsmon? Beth ellir ei wneud i leihau’r llithriad hwnnw?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 24

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 24

It is important that everybody accepts that the right solution is a college of ombudsmen, or ombudspersons, to cover local government, the health service and general administration issues, including freedom of information. We voluntarily gave the task of arbitrating on disputes over freedom of information to the ombudsman. If we can find the right route, by legislation or by other means, to get these ombudsmen into a collegiate format, the job would be a more attractive proposition to potential suitable applicants.

Mae’n bwysig bod pawb yn derbyn mai’r ateb priodol yw coleg o ombwdsmyn, neu ombwdsbobl, i ymdrin â llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a materion gweinyddol yn gyffredinol, yn cynnwys rhyddid gwybodaeth. Rhoddasom y dasg o gyflafareddu ar anghydfodau ynglŷn â rhyddid gwybodaeth i’r ombwdsmon o’n gwirfodd. Os gallwn ganfod y priod lwybr, drwy ddeddfwriaeth neu ryw ddull arall, i drefnu’r ombwdsmyn hyn ar batrwm colegol, byddai’r swydd yn gynnig mwy deniadol i ymgeiswyr addas posibl.

Alun Cairns spoken in English p. 24

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 24

The use of an ombudsman is one way to ensure propriety and efficiency in public services, but will you audit the promises and commitments that will arise from yesterday’s comprehensive spending review?

Mae defnyddio ombwdsmon yn un ffordd o sicrhau priodoldeb ac effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond a wnewch chi archwilio’r addewidion a’r ymrwymiadau a fydd yn deillio o’r adolygiad cynhwysfawr o wariant ddoe?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 24

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

Order. That question does not relate to ombudsmen.

Trefn. Nid yw’r cwestiwn hwnnw yn ymwneud ag ombwdsmyn.

Datganiad ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

Statement on the Comprehensive Spending Review

Edwina Hart The Finance Minister spoken in English p. 24

Edwina Hart Y Gweinidog Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 24

Over two years ago, I welcomed an unprecedented allocation of funds to Wales as part of the 2000 spending review. Today I welcome a further boost to the Assembly’s budget.

Dros ddwy flynedd yn ôl, croesawais ddyraniad cyllid i Gymru na welwyd mo’i debyg cyn hynny fel rhan o adolygiad gwariant 2000. Heddiw, yr wyf yn croesawu hwb pellach i gyllideb y Cynulliad.

In total, including the resources announced in the April budget, the Assembly’s budget will rise by £2.3 billion, including structural funds, by 2005-06, compared to the current year’s baseline. This Treasury figure includes some £600 million of resources that were allocated for 2003-04 as part of the 2000 spending review; therefore, the true figure is arguably closer to £1.7 billion. The Assembly’s budget for 2003-04 will rise by £252 million, by a further £666 million in 2004-05, and by a further £833 million in 2005-06. These figures represent our departmental expenditure limit, less depreciation.

Yn ei chrynswth, gan gynnwys yr adnoddau a gyhoeddwyd yng nghyllideb Ebrill, bydd cyllideb y Cynulliad yn codi £2.3 biliwn, yn cynnwys cronfeydd strwythurol, erbyn 2005-06, o’i chymharu â llinell sylfaen y flwyddyn gyfredol. Mae’r ffigur hwn gan y Trysorlys yn cynnwys rhyw £600 miliwn o adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer 2003-04 fel rhan o adolygiad gwariant 2000; gellid dadlau, felly, fod y gwir ffigur yn nes at £1.7 biliwn. Bydd cyllideb y Cynulliad ar gyfer 2003-04 yn cynyddu £252 miliwn, gyda £666 miliwn ychwanegol yn 2004-05, a £833 miliwn ychwanegol eto yn 2005-06. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli ein terfyn gwariant adrannol, gan dynnu dibrisiant.

We already knew about the significant increase for health, which was announced in the April budget. However, I am delighted that the Chancellor has also provided resources over and above the Barnett formula to enable the Assembly to meet expenditure on the structural funds programmes. That again proves that, when Barnett funding principles are inappropriate, we can negotiate with the Treasury to secure additional funds outside of the usual formula. Over the three years from 1 April 2003 we will receive £492 million above Barnett formula consequentials, compared to £421 million over the last spending review period. No doubt we will hear the familiar cries—I have already heard them from some quarters—that this is not enough, but the UK Government has honoured its commitment to make the funds available. The system is also sufficiently flexible to cope with changes in demand.

Gwyddem eisoes am y cynnydd sylweddol ar gyfer iechyd, a gyhoeddwyd yng nghyllideb Ebrill. Fodd bynnag, yr wyf wrth fy modd bod y Canghellor hefyd wedi darparu adnoddau uwchlaw fformiwla Barnett i alluogi’r Cynulliad i dalu am y gwariant ar raglenni’r cronfeydd strwythurol. Mae hynny eto yn profi ein bod yn gallu trafod telerau â’r Trysorlys, pan fo egwyddorion cyllido Barnett yn amhriodol, i sicrhau cyllid ychwanegol y tu allan i’r fformiwla arferol. Dros y tair blynedd o 1 Ebrill 2003 byddwn yn derbyn £492 miliwn uwchlaw elfennau ôl-ddilynol fformiwla Barnett, o’i gymharu â £421 miliwn dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr diwethaf o wariant. Yr ydym yn siŵr o glywed yr un hen honiadau—yr wyf eisoes wedi’u clywed o rai mannau—nad yw hyn yn ddigon, ond mae Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu’r cyllid. Mae’r system hefyd yn ddigon hyblyg i ymdopi â newidiadau yn y galw.

As Members will know, the linkage between the reform of public services and the provision of additional resources was at the core of the Chancellor’s announcement yesterday. In Wales we also believe that reform is essential, but the Welsh Assembly Government is developing its own challenging and robust agenda to deliver reform. We believe that this can be achieved in many areas without introducing a plethora of inspection and audit regimes, because the relationship between the Welsh Assembly Government and those who deliver public services is closer than it is elsewhere.

Fel y gŵyr yr Aelodau, yr oedd y cysylltiad rhwng diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus a darparu adnoddau ychwanegol wrth galon cyhoeddiad y Canghellor ddoe. Yng Nghymru, yr ydym ninnau hefyd yn credu bod diwygio yn holl bwysig, ond mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu ei hagenda heriol a chref ei hun i wireddu’r diwygiadau. Credwn y gellir cyflawni hyn mewn llawer o feysydd heb gyflwyno llu o gyfundrefnau arolygu ac archwilio, oherwydd bod y berthynas rhwng llywodraeth Cynulliad Cymru a’r rhai sy’n cyflwyno’r gwasanaethau cyhoeddus yn fwy agos nag ydyw mewn mannau eraill.

I have no doubt that you will hear a series of spending announcements by Whitehall Ministers over the coming days and weeks, but, as I have said before, initiatives in England will inform our deliberations but will not determine our policies. We will conduct our budget planning round in the usual way. Over the summer recess, I will discuss with each Minister his or her particular requirements, and I will bring forward a draft budget for debate when the Assembly returns on 15 October. I have already received several letters from Committee Chairs outlining Committee priorities. I believe that the overall settlement is good for Wales.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwch yn clywed cyfres o gyhoeddiadau gwario gan Weinidogion Whitehall dros y diwrnodau a’r wythnosau a ddaw, ond, fel a ddywedais o’r blaen, bydd cynlluniau Lloegr yn goleuo ein trafodaethau ond ni fyddant yn pennu ein polisïau. Byddwn yn cynnal cylch cynllunio’r gyllideb yn y ffordd arferol. Dros doriad yr haf, byddaf yn trafod â phob Gweinidog ei ofynion neilltuol, a byddaf yn cyflwyno cyllideb ddrafft i’w thrafod pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd ar 15 Hydref. Yr wyf eisoes wedi derbyn sawl llythyr gan Gadeiryddion Pwyllgorau yn amlinellu blaenoriaethau’r Pwyllgorau. Credaf fod y setliad drwyddo draw yn dda i Gymru.

The third edition of the statement of funding policy—the funding rules—has also been published. It sets out the funding arrangements for the devolved administrations, and I will arrange for it to be published on the intranet. My officials were involved in negotiating the changes that have been made. These, essentially, are technical changes resulting from the move to resource budgeting, but there are also changes to the comparability factors. Those changes are necessary because of changes to the machinery of government in England. The statement is an essential tool for our day-to-day relationship with UK Government departments, particularly the Treasury. It reinforces the Barnett formula as the best means of delivering resources. As I have said before, neither my colleagues nor I can guarantee that Wales would benefit from a review of the Barnett arrangement. This settlement is good news for all the citizens of Wales. Our challenge is to make the money work to enhance public services.

Mae trydydd argraffiad y datganiad ar bolisi cyllido—y rheolau cyllido—hefyd wedi ei gyhoeddi. Mae’n nodi’r trefniadau cyllido ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, a byddaf yn trefnu iddo gael ei gyhoeddi ar y fewnrwyd. Cyfrannodd fy swyddogion at y trafodaethau ynglŷn â’r newidiadau. Newidiadau technegol yw’r rhain yn eu hanfod, yn deillio o’r symud i gyllidebu ar sail adnoddau, ond mae newidiadau hefyd i’r ffactorau cymaroldeb. Mae’r newidiadau hynny yn angenrheidiol oherwydd newidiadau i beirianwaith llywodraeth yn Lloegr. Mae’r datganad yn arf hanfodol ar gyfer ein perthynas o ddydd i ddydd gydag adrannau Llywodraeth y DU, yn enwedig y Trysorlys. Mae’n atgyfnerthu fformiwla Barnett fel y ffordd orau o gyflenwi adnoddau. Fel a ddywedais o’r blaen, nid wyf fi na’m cyd-Aelodau yn gallu gwarantu y byddai Cymru yn elwa o adolygu trefniant Barnett. Mae’r setliad hwn yn newyddion da i holl ddinasyddion Cymru. Yr her i ni yw gwneud i’r arian weithio er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Janet Ryder spoken in English p. 26

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 26

At first glance—and thanks to a good dollop of Labour spin—this settlement appears to give us all that we asked for. However, whichever way you cut this cake, Minister, it will not meet the needs of Wales or match yesterday’s proposed increases for England. This settlement gives Wales an overall increase of around 5 per cent, which is less than the increase in England. Also, no additional money is allocated for match funding. In England, spending on health will increase by 7.5 per cent, and on education by 6 per cent. There is no way that you can match that in Wales. The gap between spending on services in Wales and in England will widen, while the need in Wales continues to grow. Yet again, funds from Europe can only be used if money is taken from other parts of our budget.

Ar yr olwg gyntaf—a diolch i ddogn da o sbin Llafur—mae’n ymddangos bod y setliad hwn yn rhoi inni bopeth y gofynnasom amdano. Fodd bynnag, pa ffordd bynnag y torrir y deisen hon, Weinidog, ni fydd yn diwallu anghenion Cymru nac yn cyfateb i’r codiadau a gynigiwyd i Loegr ddoe. Mae’r setliad hwn yn rhoi cynnydd cyffredinol o ryw 5 y cant i Gymru, sydd yn llai na’r cynnydd i Loegr. Hefyd, nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi ei ddyrannu ar gyfer cyllid cyfatebol. Yn Lloegr, bydd y gwariant ar iechyd yn cynyddu 7.5 y cant, a 6 y cant ar addysg. Mae’n amhosibl ichi wneud hynny yng Nghymru. Bydd y bwlch rhwng gwariant ar wasanaethau yng Nghymru a Lloegr yn lledu, tra bo’r angen yng Nghymru yn dal i dyfu. Unwaith eto, dim ond drwy dynnu arian o rannau eraill o’n cyllideb y gellir defnyddio cyllid o Ewrop.

There is no match funding in this review. Last time that happened, a First Secretary lost his job, and education was the big loser. It looks as though education will be the big loser again. Yesterday, we heard that an additional £50,000 will go to each secondary school, and £10,000 to every primary school in England. Should you choose to meet that commitment in Wales, you would need to commit £27,760,000 per year for the next three years. Money does not go directly to schools in Wales, so will you commit to giving that money to local government to pass on to schools? If you do not, overall spending on education in Wales will fall even further behind that in England.

Nid oes dim cyllid cyfatebol yn yr adolygiad hwn. Y tro diwethaf y digwyddodd hynny, collodd Prif Ysgrifennydd ei swydd, ac addysg a wynebodd y golled fwyaf. Mae’n ymddangos mai addysg fydd ar ei cholled yn bennaf eto. Ddoe, clywsom y bydd £50,000 ychwanegol yn mynd i bob ysgol uwchradd, a £10,000 i bob ysgol gynradd yn Lloegr. Pe baech yn dewis gwneud yr un addewid yng Nghymru, byddai’n rhaid i chi rwymo £27,760,000 y flwyddyn am y tair blynedd nesaf. Nid yw arian yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgolion yng Nghymru, felly a wnewch chi ymrwymo i roi’r arian hwnnw i lywodraeth leol i’w basio ymlaen i’r ysgolion? Os na wnewch, bydd y gwariant ar addysg drwyddo draw yn colli mwy eto o dir o’i gymharu â Lloegr.

Last spring, Paul Murphy announced a 6.8 per cent increase in the health budget. That was re-announced yesterday as part of the overall settlement. You have already made it clear that not all of that money will be passed on to the health budget, despite the desperate state of the health service—waiting times are up 1,000 per cent. We now know the reason for that: if you pass all the money on, you will not have enough money to fund other services in Wales.

Y gwanwyn diwethaf, cyhoeddodd Paul Murphy gynnydd o 6.8 y cant yn y gyllideb iechyd. Cafodd hynny ei ailgyhoeddi ddoe fel rhan o’r setliad cyfan. Yr ydych eisoes wedi ei gwneud yn glir na fydd yr arian hwnnw i gyd yn cael ei drosglwyddo i’r gyllideb iechyd, er gwaethaf cyflwr truenus y gwasanaeth iechyd—mae’r amserau aros wedi cynyddu 1,000 y cant. Gwyddom y rheswm am hynny bellach: os trosglwyddwch yr arian i gyd, ni fydd gennych ddigon o arian i gyllido gwasanaethau eraill yng Nghymru.

Are you satisfied, Minister, that you can give local government the money needed to properly and adequately fund schools, properly fund public services in light of the anticipated and much-deserved pay rises in that sector, prevent the possible closure of over half the care homes in Wales, build an integrated transport system, develop an effective waste strategy and regenerate our communities and repair our houses? Can you achieve all that and match the European funds to ensure that they are used in Wales, and not sent back to Europe?

A ydych yn fodlon, Weinidog, y gallwch roi i lywodraeth leol yr arian sy’n ofynnol i gyllido ysgolion yn briodol a digonol, i gyllido’r gwasanaethau cyhoeddus yn briodol yn wyneb y codiadau cyflog a ragwelir, ac sy’n gwbl haeddiannol, yn y sector hwnnw, i atal y posibilrwydd o gau dros hanner y cartrefi gofal yng Nghymru, i adeiladu system drafnidiaeth integredig, i ddatblygu strategaeth wastraff effeithiol ac i adfywio ein cymunedau ac atgyweirio ein tai? A allwch gyflawni hyn oll a darparu cyllid cyfatebol ar gyfer y cronfeydd Ewropeaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yng Nghymru, nid yn cael eu hanfon yn ôl i Ewrop?

Yet again, education and health will lose out compared with the situation in England, and the gap between spending in England and Wales will continue to widen. Less money will be spent on services here, where the need is greatest. Whatever words you use, and however you juggle these figures, you have not been given enough money. Yet again, Wales has not had a fair deal, and it never will have until we have a parliament with teeth to fight for our country, and a party running it—

Unwaith eto, bydd addysg ac iechyd ar eu colled o’u cymharu â’r sefyllfa yn Lloegr, a bydd y bwlch rhwng y gwariant yng Nghymru a Lloegr yn parhau i ledu. Caiff llai o arian ei wario ar wasanaethau yma, lle mae’r angen ar ei fwyaf. Pa eiriau bynnag a ddefnyddiwch, a sut bynnag y chwaraewch chi â’r ffigurau hyn, nid ydych wedi cael digon o arian. Unwaith eto, nid yw Cymru wedi cael bargen deg, ac ni chaiff byth hyd nes y bydd gennym senedd sydd â’r dannedd i ymladd dros ein gwlad, a phlaid i’w rhedeg—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 28

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 28

Order. This is a statement. Statements are subject to questioning, with an appropriate preamble.

Trefn. Datganiad yw hwn. Mae datganiadau yn agored i gwestiynau, gyda rhagymadrodd priodol.

Edwina Hart spoken in English p. 28

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 28

I will answer some of those questions; there was not much substance to deal with there. We have had a good settlement from the Treasury. We can deliver our policies, and the Welsh electorate will know that after 2003. The electorate knows that Plaid Cymru has a begging bowl and that it wants independence. If Plaid ever came to power and achieved an independent Wales, it would mean higher taxation. The difference between our positions is that we understand the meaning of the devolution settlement. We negotiate our needs with the Treasury, and we have received a good settlement.

Yr wyf am ateb rhai o’r cwestiynau hynny; ni chafwyd llawer o sylwedd i ddelio ag ef. Cawsom setliad da gan y Trysorlys. Gallwn wireddu ein polisïau, a bydd etholwyr Cymru yn gwybod hynny ar ôl 2003. Gŵyr yr etholwyr fod gan Blaid Cymru ffiol gardota a’i bod am gael annibyniaeth. Pe byth y deuai Plaid i rym a gwireddu Cymru annibynnol, byddai’n golygu trethi uwch. Y gwahaniaeth rhwng ein safbwyntiau yw ein bod ni’n deall ystyr y setliad datganoli. Yr ydym yn trafod ein hanghenion â’r Trysorlys, ac yr ydym wedi cael setliad da.

I will now deal with the figures. In 2000-01, we spent 8.4 per cent more on education per capita in Wales than was spent in England, which dispels your myth that we are not doing very well. Total expenditure on education in Wales has increased by 20 per cent since 1997. In 2002-03, we plan to spend 10.5 per cent more on health per capita than will be spent in England. Total expenditure on health in Wales has increased by 50 per cent since 1997. The issue is how we deliver better services for that money and deal with these matters in our budget process.

Yr wyf am ddelio yn awr â’r ffigurau. Yn 2000-01, cafod 8.4 y cant yn fwy ei wario y pen ar addysg yn Nghymru nag a wariwyd yn Lloegr, sy’n chwalu’r myth nad ydym yn gwneud yn dda iawn. Mae cyfanswm y gwariant ar addysg yng Nghymru wedi cynyddu 20 y cant er 1997. Yn 2002-03, bwriadwn wario 10.5 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag a fydd yn cael ei wario yn Lloegr. Mae cyfanswm y gwariant ar iechyd yng Nghymru wedi cynyddu 50 y cant er 1997. Y cwestiwn yw sut mae sicrhau gwell gwasanaethau am yr arian hwnnw a delio â’r materion hynny yn ein proses gyllido.

To turn to structural funds, I was interested in the argument over £106 million during questions to the First Minister earlier. It is unhelpful Treasury drafting. To anyone who knows anything about structural funds, it is the European regional development fund. It is exclusive of European structural funds. If you add on ESF, then the total is £164 million. We then had the nonsense about percentages. There was £160 million in the 2000 spending review. In order to compare like with like, the settlement for 2001 must be calculated on the same basis: anything subtracted from the 2001 settlement must be subtracted from the earlier settlement so that the rate is the same. Some Members are using nursery school mathematics today.

A throi at y cronfeydd strwythurol, yr oedd y ddadl ynglŷn â £106 miliwn yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn gynharach yn ddiddorol. Drafftio gwael gan y Trysorlys sydd ar fai. I rywun sy’n gwybod rhywbeth am gronfeydd strwythurol, cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop sydd dan sylw. Nid yw’n cynnwys cronfeydd strwythurol Ewrop. Os ychwanegwch chi y cronfeydd hynny, mae’r cyfanswm yn £164 miliwn. Yna cawsom y gwiriondeb am ganrannau. Yr oedd £160 miliwn yn adolygiad gwariant 2000. Er mwyn cymharu tebyg â’i debyg, rhaid cyfrifo setliad 2001 ar yr un sail: rhaid i unrhyw beth a dynnir o setliad 2001 gael ei dynnu o’r setliad cynharach fel mai’r un yw’r gyfradd. Mae rhai Aelodau yn defnyddio mathemateg yr ysgol feithrin heddiw.

The reality is that this is a good settlement. We know that we can deliver and we know what we are doing. I am sorry that you do not.

Y gwir yw bod hwn yn setliad da. Gwyddom y gallwn fynd â’r maen i’r wal a gwyddom ein bod yn gwneud hynny. Mae’n ddrwg gennyf nad ydych chi’n gwybod hynny.

Christine Chapman spoken in English p. 29

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 29

This settlement is excellent news for Wales. The UK Government has proved once again that Wales will not be let down on Objective 1 funding, with almost £0.5 billion over and above the Barnett formula for structural funds—17 per cent more than in the last spending review. Do you agree that, while Plaid Cymru is content to undermine this process for its political ends, our priority must be the application of these funds and ensuring that we commit this money to quality projects that can contribute to the economic and social regeneration of our poorest communities?

Mae’r setliad hwn yn newydd rhagorol i Gymru. Mae Llywodraeth y DU wedi profi unwaith eto na fyddwn ar ein colled o ran cyllid Amcan 1, gyda bron i £0.5 biliwn uwchlaw fformiwla Barnett ar gyfer y cronfeydd strwythurol—17 y cant yn fwy nag yn yr adolygiad diwethaf o wariant. A ydych yn cytuno, tra bo Plaid Cymru yn barod i danseilio’r broses hon at ei dibenion gwleidyddol, mai’r flaenoriaeth i ni o reidrwydd yw defnyddio’r cyllid hwn a sicrhau ein bod yn rhwymo’r arian ar gyfer prosiectau o safon a all gyfrannu at adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau tlotaf?

Edwina Hart spoken in English p. 29

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 29

It is about quality projects and about what we can deliver through them. There have been no examples of a lack of match funding. All good projects have been delivered and that will continue with the new money that will be available. You must have priorities. Our priority is to ensure economic regeneration across Wales and we will do that by using this money and considering the budget process properly.

Prosiectau o safon a’r hyn y gallwn ei gyflawni drwyddynt yw hanfod hyn oll. Ni fu unrhyw enghreifftiau o ddiffyg cyllid cyfatebol. Mae’r prosiectau da i gyd wedi cael eu rhoi ar waith a byddant yn parhau gyda’r arian newydd a fydd ar gael. Rhaid ichi gael blaenoriaethau. Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau adfywio economaidd ar draws Cymru a byddwn yn gwneud hynny drwy ddefnydido’r arian hwn ac ystyried proses y gyllideb yn briodol.

Nick Bourne spoken in English p. 29

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 29

Thank you for your statement, Minister. I look forward to a full debate on this matter in which we can scrutinise the figures more closely. I agree with you on the issue of independence: Wales would be worse off financially, and in other ways, if it were independent.

Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Edrychaf ymlaen at ddadl lawn ar y mater hwn pryd y gallwn fanylu mwy ar y ffigurau. Cytunaf â chi ar fater annibyniaeth. Byddai Cymru ar ei cholled yn ariannol, ac mewn ffyrdd eraill, pe bai’n annibynnol.

This administration is similar to the Westminster Government in its love of spin. Figures have been grouped together to make them look more significant than they really are. If you take out the Objective 1 funding—and we should, because we were promised separate treatment on Objective 1—the increase in Wales is less than in England. There is no doubt about that. Will you confirm that? Independent assessment suggests that that is the case.

Mae’r weinyddiaeth hon yn debyg i Lywodraeth San Steffan yn ei hoffter o sbin. Mae ffigurau wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd er mwyn iddynt edrych yn fwy arwyddocaol nag ydynt mewn gwirionedd. Os tynnwch chi’r cyllid Amcan 1 allan—a dylem wneud hynny, oherwydd addawyd inni y byddai Amcan 1 yn cael ei drin ar wahân—mae’r cynnydd yng Nghymru yn llai nag yn Lloegr. Nid oes amheuaeth am hynny. A wnewch chi gadarnhau hynny? Mae asesiad annibynnol yn awgrymu mai dyna’r gwir.

On the issue of the audit and supervisory arrangements announced for England with regard to schools, health and so on, the First Minister is on record as saying that he does not think that they are necessary for Wales because it is a small nation. It is because we are a small nation that we need them more, not less. It may be that our arrangements are different, but will you assure me today that our arrangements will be at least as effective—if not more so, which would be welcome—as those in England?

Ar fater y trefniadau archwilio a goruchwylio a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr yng nghyswllt ysgolion, iechyd ac ati, cofnodwyd Prif Weinidog Cymru ar glawr a chadw yn dweud nad yw’n credu eu bod yn angenrheidiol i Gymru am mai gwlad fach ydyw. Y ffaith mai gwlad fach ydym sy’n golygu bod mwy o’u hangen arnom, nid llai. Efallai fod ein trefniadau yn wahanol, ond a roddwch chi sicrwydd imi heddiw y bydd ein trefniadau ni mor effeithiol o leiaf—os nad yn fwy felly, a fyddai i’w groesawu—na’r rhai yn Lloegr?

Many, not least the schools themselves, would welcome the ring-fencing of school budgets, so that schools can spend the money on their priorities. I can understand former leaders of local authorities, such as Tom Middlehurst, not liking it, but many of us who are at the sharp end and speak to schools know that that is what they want. I know that the Minister for Education and Lifelong Learning has sticky fingers and would like to get her hands on the budget, but it is better that it goes to schools.

Byddai llawer, nid leiaf yr ysgolion eu hunain, yn croesawu pridiannu cyllidebau ysgolion, fel y gall ysgolion wario’r arian ar eu blaenoriaethau. Gallaf ddeall na fyddai cyn arweinwyr awdurdodau lleol, megis Tom Middlehurst, yn hoff o hynny, ond mae llawer ohonom sy’n wynebu’r realiti anodd ac yn siarad ag ysgolion yn gwybod mai dyna y maent hwy yn ei ddymuno. Gwn fod gan y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes ddwylo blewog ac yr hoffai gael gafael ar y gyllideb, ond mae’n well iddi fynd i’r ysgolion.

You did not mention the increase in national insurance contributions in April 2003 in your statement, but it is relevant. I have corresponded with you on this, not only on the considerable impact it will have on the Assembly budget, but also its impact on the health budget—the health sector is very labour intensive—on schools, on local authorities and on Assembly sponsored public bodies. Have you assessed what that will cost in a full year? If not, why not, and how will it be met?

Ni soniasoch am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn Ebrill 2003 yn eich datganiad, ond mae’n berthnasol. Yr wyf wedi gohebu â chi am hyn, nid yn unig yr effaith sylweddol a gaiff ar gyllideb y Cynulliad, ond hefyd ei effaith ar y gyllideb iechyd—mae’r sector iechyd yn dibynnu’n drwm iawn ar lafur—ar ysgolion, ar awdurdodau lleol, ac ar gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad. A ydych wedi asesu faint fydd yn ei gostio mewn blwyddyn lawn? Os nad ydych, pam, a sut bydd y gost yn cael ei thalu?

I appreciate that it is for the Government of Wales to discuss how it will allocate this money. However, it is important that we ensure that there are sufficient funds for Tir Gofal, where there is increased take-up and demand.

Yr wyf yn gwerthfawrogi mai mater i Lywodraeth Cymru yw trafod sut y bydd yn dyrannu’r arian hwn. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod arian digonol ar gyfer Tir Gofal, lle mae’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun a’r galw ar gynnydd.

Lastly, we had been assured that the reorganisation of the national health service in Wales would be cost-neutral. It will be costly and will take money out of the budget. Will you confirm that there is money available in the budget, or alternatively—as many of us would like—that this reorganisation will be shelved so that this money can be spent on patient care?

Yn olaf, yr oeddem wedi cael sicrwydd y byddai ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn niwtral o ran cost. Bydd yn gostus a bydd yn mynd ag arian o’r gyllideb. A wnewch chi gadarnhau bod arian ar gael yn y gyllideb, neu—fel y byddai llawer ohonom yn dymuno—y bydd yr ad-drefnu hwn yn cael ei roi o’r neilltu er mwyn i’r arian gael ei wario ar ofal i gleifion?

Edwina Hart spoken in English p. 31

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 31

We have already had a full discussion on NHS restructuring. I agree with the First Minister’s comments. I am also aware of the Minister for Health and Services’s comments on this.

Yr ydym eisoes wedi cael trafodaeth lawn ar ailstrwythuo’r GIG. Cytunaf â sylwadau Prif Weinidog Cymru. Yr wyf yn ymwybodol hefyd o sylwadau’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn.

I am aware of the issues surrounding Tir Gofal, and I will discuss them in my bilateral meeting with the Deputy First Minister and the Minister for Rural Development and Wales Abroad. I am sure that he will raise those issues as areas of priority. I have not yet had an opportunity to read the letter from the Chair of the Agriculture and Rural Development Committee.

Yr wyf yn ymwybod o’r materion yn ymwneud â Tir Gofal, a byddaf yn eu trafod yn fy nghyfarfod â Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor. Yr wyf yn siŵr y bydd yn codi’r materion hyn fel blaenoriaethau. Nid wyf wedi cael cyfle eto i ddarllen y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

The increases in national insurance contributions are an ongoing issue and I will be mindful of the costs during the budget planning round.

Mae’r codiadau o ran cyfraniadau yswiriant gwladol yn fater sydd ar y gweill a byddaf yn ymwybodol o’r costau yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

On school budgets, we must consider the current situation in Wales. When I visit schools—as you do, Nick—I hear good news about education in Wales. The schools appreciate all that we have done. They appreciate that we have abolished standard assessment tests at key stage 1 and they realise the Government’s commitment to education. They are not narrowly focusing on the notion that allocating £50,000 directly to schools’ budgets will do wonders. We must recognise that we have a different relationship with education in Wales, and a different understanding of its needs. We must make budget decisions on that basis.

Ar gyllidebau ysgol, rhaid inni ystyried y sefyllfa gyfredol yng Nghymru. Pan wyf yn ymweld ag ysgolion—fel a wnewch chi, Nick—yr wyf yn clywed newyddion da am addysg yng Nghymru. Mae’r ysgolion yn gwerthfawrogi popeth yr ydym wedi’i wneud. Maent yn falch ein bod wedi diddymu’r tasgau asesu safonol yng nghyfnod allweddol 1 ac maent yn sylweddoli ymroddiad y Llywodraeth tuag at addysg. Nid ydynt yn canolbwyntio’n gul ar y syniad y bydd dyrannu £50,000 yn uniongyrchol i gyllidebau ysgolion yn cyflawni gwyrthiau. Rhaid inni gydnabod bod gennym berthynas wahanol ag addysg yng Nghymru, a dealltwriaeth wahanol o’i hanghenion. Rhaid inni benderfynu ar y gyllideb ar y sail honno.

On structural funds, if you take Objective 1 funding out of the figures for future years, you must also take it out of the baseline figure. That confirms real growth for all services of over 5 per cent—I have done the calculations as well.

O ran y cronfeydd strwythurol, os ydych yn tynnu’r cyllid Amcan 1 allan o’r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd a ddaw, rhaid ichi wneud hynny hefyd gyda’r ffigur sylfaenol. Mae hynny’n cadarnhau twf gwirioneddol i’r holl wasanaethau o dros 5 y cant—yr wyf innau hefyd wedi gwneud y cyfrifiadau.

Peter Black spoken in English p. 32

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 32

I start with an observation: the comprehensive spending review settlement appeared to be much more generous for Wales when I read the Secretary of State for Wales’s press statement yesterday. Contrary to what Nick Bourne said, I think that the Minister’s statement is refreshingly lacking in spin and is far more accurate in terms of what we can expect to receive.

Yr wyf am ddechrau gyda sylw: yr oedd setliad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ymddangos yn llawer mwy hael i Gymru pan ddarllenais ddatganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r wasg ddoe. Yn groes i’r hyn a ddywedodd Nick Bourne, credaf fod datganiad y Gweinidog yn syndod o ddi-sbin ac mae’n llawer mwy cywir o ran yr hyn y gallwn ddisgwyl ei dderbyn.

We welcome the extra resources coming to Wales as a result of the comprehensive spending review and that the Chancellor has once more chosen to bust Barnett by allocating additional public expenditure cover for Objective 1 and other European funds. Do you agree that the Chancellor has once again illustrated the weakness of the Barnett formula? Do you also agree that, despite the extra money, spending in Wales will fall back compared to that in England? Do you therefore agree that we need a new UK formula, as proposed by the Liberal Democrats, to ensure that we receive enough money to meet our needs?

Yr ydym yn croesawu’r adnoddau ychwanegol sy’n dod i Gymru o ganlyniad i’r adolygiad cynhwysfawr o wariant a’r ffaith bod y Canghellor wedi dewis mynd ymhellach na Barnett unwaith eto drwy ddyrannu darpariaeth ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus ar Amcan 1 a chronfeydd eraill Ewrop. A ydych yn cytuno bod y Canghellor unwaith eto wedi dangos gwendid fformiwla Barnett? A ydych hefyd yn cytuno, er gwaethaf yr arian ychwanegol, y bydd gwariant yng Nghymru yn colli tir o’i gymharu â Lloegr? A ydych felly’n cytuno bod angen fformiwla newydd i’r DU, fel a gynigiwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, i sicrhau ein bod yn derbyn digon o arian i ddiwallu ein hanghenion?

Do you also agree that devolved administrations should decide their own priorities for spending this money and that, because of our close relationship with the public sector, we do not need the red tape proposed for England by the Chancellor? Will you confirm that we will not follow Plaid’s exhortations to pursue an English agenda in our spending plans? Will you give an assurance that the modernisation of the health service and education remain priorities for the Welsh Assembly Government and that this will be reflected in our expenditure plans?

A ydych hefyd yn cytuno y dylai’r gweinyddiaethau datganoledig benderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain i wario’r arian hwn ac, oherwydd ein perthynas agos â’r sector cyhoeddus, nad oes arnom ni angen y fiwrocratiaeth a gynigiwyd gan y Canghellor i Loegr? A wnewch chi gadarnhau na fyddwch yn dilyn anogaeth Plaid i efelychu agenda Lloegr yn ein cynlluniau gwariant? A wnewch chi roi sicrwydd mai moderneiddio’r gwasanaeth iechyd ac addysg yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru o hyd ac y caiff hynny ei adlewyrchu yn ein cynlluniau gwariant?

Edwina Hart spoken in English p. 32

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 32

The administration has agreed priorities, and it is important that we seek to honour those. I concur that we have a Welsh agenda. The English agenda is good, but we will only copy the parts of it that we want to copy. I also agree about bureaucracy; I am not a great fan of over-burdensome inspection arrangements. We must ensure that we have appropriate arrangements in Wales and that we have our partners’ understanding in that regard.

Mae’r weinyddiaeth wedi cytuno ar flaenoriaethau, ac mae’n bwysig ein bod yn eu hanrhydeddu. Cytunaf fod gennym agenda Gymreig. Mae agenda Lloegr yn un dda, ond ni fyddwn yn efelychu ond y rhannau hynny ohoni yr ydym am eu hefelychu. Cytunaf hefyd ynglŷn â biwrocratiaeth; nid wyf yn or-hoff o drefniadau arolygu sy’n rhy feichus. Rhaid inni sicrhau bod gennym drefniadau priodol yng Nghymru a bod ein partneriaid yn ein deall yn y cyswllt hwnnw.

However, I do not concur with your comments on the Barnett formula. The formula has served us well and continues to do so. The fact that the Chancellor is prepared to think outside Barnett to deal with structural funds shows that he understands the issues. There has been much talk of the Treasury reviewing the Barnett formula. However, it was stated on the record, in response to a question during evidence to the House of Lords Constitution Committee’s inquiry into constitutional change, that the Treasury is not reviewing the Barnett formula.

Fodd bynnag, nid wyf yn cytuno â’ch sylwadau am fformiwla Barnett. Mae’r fformiwla wedi ein gwasanaethu’n dda ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae’r ffaith bod y Canghellor yn barod i feddwl y tu hwnt i Barnett er mwyn delio â’r cronfeydd strwythurol yn dangos ei fod yn deall yr ystyriaethau. Cafwyd llawer o siarad am y Trysorlys yn adolygu fformiwla Barnett. Fodd bynnag, datganwyd ar goedd, mewn ymateb i gwestiwn yn ystod tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi, nad yw’r Trysorlys yn adolygu fformiwla Barnett.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 33

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 33

You have told us again today that, although £2.3 billion has been allocated to the National Assembly under Barnett consequentials, it is up to you and your Cabinet colleagues to decide how that money is allocated to the various budget headings. If that is the case, how was it that Paul Murphy could tell the Welsh Grand Committee this morning that, by 2005-06, £907 million more will be available for health spending in Wales? Did he clear that figure with you? Was he speaking on behalf of the Assembly Cabinet? Will you therefore confirm that an extra 6.8 per cent will be spent on the NHS in Wales, as Paul Murphy told the Welsh Grand Committee? However, if, like last time, that is not the case, is this not another example of Labour saying one thing in London and another in Cardiff? Is it not clear that, because of the Barnett squeeze, you are not in a position to match the increases in health and education to be delivered in England?

Er bod £2.3 biliwn wedi’i ddyrannu i’r Cynulliad Cenedlaethol o dan ffactorau ôl-ddilynol Barnett, yr ydych wedi dweud wrthym eto heddiw mai mater i chi a’ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet yw penderfynu sut mae’r arian i gael ei ddyrannu i wahanol benawdau’r gyllid. Os yw hynny’n wir, sut oedd Paul Murphy yn gallu dweud wrth yr Uwch Bwyllgor Cymreig y bore yma y bydd £907 miliwn ychwanegol ar gael i’w wario ar iechyd yng Nghymru erbyn 2005-06? A oedd wedi clirio’r ffigur gyda chi? A oedd yn siarad ar ran Cabinet y Cynulliad? A wnewch chi gadarnhau felly y bydd 6.8 y cant ychwanegol yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru, fel a ddywedodd Paul Murphy wrth yr Uwch Bwyllgor Cymreig? Fodd bynnag, os nad yw hynny’n wir, fel y tro diwethaf, onid yw hon yn enghraifft arall o Lafur yn dweud un peth yn Llundain a pheth yng arall Nghaerdydd? Onid yw’n amlwg, oherwydd gwasgfa Barnett, nad ydych mewn sefyllfa i ddarparu codiadau ar gyfer iechyd ac addysg sy’n cyfateb i’r hyn a geir yn Lloegr?

Edwina Hart spoken in English p. 33

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 33

There is no evidence to suggest that there is a Barnett squeeze. No-one has been able to prove that such a squeeze exists and I have not seen any figures that stack up or that I regard as intellectually valid. The key word in the Secretary of State’s statement, of which I have a copy with me, is ‘could’. He was not indicating our expenditure plans, but illustrating what money was available, as he is entitled to do as Secretary of State for Wales in taking questions in the Welsh Grand Committee. I make it clear that we will make the decisions on what we do in the budget planning round. Priorities will be submitted and discussed and then debated fully in the Assembly Chamber. There may be speculation elsewhere by Members of Parliament from all parties but we will make the decisions on expenditure. As far as I am concerned, it is important that we recognise that we have our own budget process, in which we must allocate funding according to our priorities. We must welcome the good news of this announcement. To talk it down is to talk Wales down, and I am not prepared to have my people talked down by anyone.

Nid oes tystiolaeth i awgrymu gwasgfa oherwydd Barnett. Nid oes unrhyw un wedi gallu profi bod y fath wasgfa yn bod ac nid wyf wedi gweld unrhyw ffigurau sy’n ategu hynny nac sy’n ddilys yn ddeallusol yn fy marn i. Y gair allweddol yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol, y mae gennyf gopi ohono gyda mi, yw ‘gallai’. Nid oedd yn nodi ein cynlluniau gwariant, ond yn dangos pa arian oedd ar gael, fel y mae ganddo hawl i’w wneud fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth iddo gymryd cwestiynau yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig. Yr wyf am ei gwneud yn glir mai ni fydd yn penderfynu ar yr hyn a wnawn yng nghylch cynllunio’r gyllideb. Caiff blaenoriaethau eu cyflwyno a’u trafod a cheir dadl lawn arnynt wedyn yn Siambr y Cynulliad. Efallai y bydd Aelodau Seneddol o bob plaid yn damcaniaethu mewn mannau eraill ond ni fydd yn gwneud y penderfyniadau ar wariant. O’m rhan i, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod gennym ein proses ein hunain i bennu’r gyllideb, a rhaid inni ddyrannu cyllid yn unol â’n blaenoriaethau. Rhaid inni groesawu’r newyddion da yn y cyhoeddiad hwn. Os bychanwn ef yr ydym yn bychanu pobl Cymru, ac nid wyf yn barod i unrhyw un fychanu fy mhobl i.

Peter Law spoken in English p. 34

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 34

Do you agree that everything said in London or in Cardiff by the Labour Party—the true party of Wales—is in the interests of the people? This excellent announcement demonstrates that. Do you also agree that it is in stark contrast to the fantasy world of a Plaid Cymru—The Party of Wales government, which would reduce us to a begging-bowl state? We have a Labour Chancellor who has shown that he cares for the people of Wales, in giving you and your ministerial colleagues the opportunity to reduce class sizes and waiting lists, to ensure better transport provision and to deliver a programme to improve the quality of life of the people of Wales. That is thanks to Labour.

A ydych yn cytuno bod popeth a ddywedir yn Llundain neu yng Nghaerdydd gan y Blaid Lafur—gwir blaid Cymru—er lles y bobl? Mae’r cyhoeddiad rhagorol hwn yn dangos hynny. A ydych hefyd yn cytuno ei fod mewn cyferbyniad llwyr â byd ffantasi llywodraeth Plaid Cymru—The Party of Wales, a fyddai yn ein darostwng i wladwriaeth ffiol gardota? Mae gennym Ganghellor Llafur sydd wedi dangos ei fod yn teimlo tuag at bobl Cymru, drwy roi i chi a’ch cyd-Weinidogion y cyfle i ostwng maint dosbarthiadau a rhestrau aros, i sicrhau gwell darpariaeth drafnidiaeth ac i gyflwyno rhaglen a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Diolch i Lafur yw hynny.

Edwina Hart spoken in English p. 34

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 34

Well said, Peter. You are absolutely correct. The Chancellor has, in the comprehensive spending review, recognised the needs of Wales. He is prepared to provide us with the money to deliver good and efficient public services.

Da iawn chi, Peter. Yr ydych yn hollol gywir. Mae’r Canghellor, yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, wedi cydnabod anghenion Cymru. Mae’n barod i roi inni’r arian i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus da ac effeithlon.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 34

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 34

Order. The Assembly elections are some months away. I would prefer Members to ask questions on the statement rather than make speeches. That applies to all parties.

Trefn. Mae rhai misoedd tan etholiadau’r Cynulliad. Byddai’n well gennyf i Aelodau ofyn cwestiynau am y datganiad yn hytrach na gwneud areithiau. Mae hynny’n wir i bob plaid.

Helen Mary Jones spoken in English p. 34

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 34

I have listened carefully to your comments, Minister and none of us would want a ‘for Wales, see England’ attitude. However, we want the approach to be better for Wales, not worse. Will you acknowledge that we have a hill to climb before we even reach a level playing field in terms of some aspects of English education spending? For example, we spend £324 less per year per student in further education. Will you admit that the 4 per cent settlement that we have been offered, once you take out the European money one way or another, will not let your Government close this gap or meet the 6 per cent increase in English education spending overall? That is an example of where I would like us to follow the English—I do not often say that. Will you also admit that this settlement may be a good deal for England but it is not a good deal for Wales? Let us be honest about this so that we can start to change it.

Yr wyf wedi gwrando’n ofalus ar eich sylwadau, Weinidog, ac ni fyddai’r un ohonom am weld agwedd ‘gweler Lloegr am Gymru’. Yr ydym am i’r ymdriniaeth i Gymru fod yn well, nid yn waeth. A wnewch chi gydnabod bod gennym riw i’w dringo cyn inni gyrraedd cae gwastad hyd yn oed yn nhermau rhai agweddau ar wariant Lloegr ar addysg? Er enghraifft, yr ydym yn gwario £324 yn llai y flwyddyn fesul myfyriwr mewn addysg bellach. A wnewch chi gyfaddef na fydd y setliad o 4 y cant a gynigiwyd inni, ar ôl ichi dynnu’r arian Ewropeaidd allan ryw ffordd neu’i gilydd, yn caniatáu i’ch Llywodraeth gau’r bwlch hwn na efelychu’r cynnydd o 6 y cant drwyddo draw ar addysg yn Lloegr? Mae hon yn enghraifft lle’r hoffwn inni ddilyn y Saeson—nid wyf yn dweud hynny’n aml. A wnewch chi gyfaddef hefyd fod y setliad hwn yn fargen dda i Loegr efallai ond nad yw’n fargen dda i Gymru? Gadewch inni fod yn onest am hyn er mwyn inni allu dechrau ei newid.

Edwina Hart spoken in English p. 35

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 35

I will be honest if everyone else is honest about their understanding of the figures and what they mean. It is a good settlement that allows us to do what we need to do. It is easy, with broad issues such as education or health, to point at aspects that seem to be worse off. However, you must look at the whole picture. In 2000-01, we spent 8.4 per cent more on education per capita in Wales than was spent in England. That is a valid statistic and it knocks everything that you said into a cocked hat.

Byddaf fi’n onest os yw pawb arall yn onest ynglŷn â’u dealltwriaeth o’r ffigurau a’r hyn y maent yn ei olygu. Mae’n setliad da sy’n caniatáu inni wneud yr hyn y mae angen inni ei wneud. Mae’n hawdd, gyda materion eang megis addysg neu iechyd, pwyntio at agweddau sydd yn ôl pob golwg ar eu colled. Fodd bynnag, rhaid ichi edrych ar y darlun cyfan. Yn 2000-01, gwariasom 8.4 y cant y pen yn fwy ar addysg yng Nghymru nag a wariwyd yn Lloegr. Mae hwn yn ystadegyn dilys ac mae’n tanseilio popeth yr ydych wedi’i ddweud.

David Melding spoken in English p. 35

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 35

According to WAG, cost-neutral merely means revenue-neutral, and has no implications for the transitory costs involved in a restructuring exercise. When I have a few spare moments, I enjoy looking through a dictionary. In doing so, I have come across some stunning insights, but nothing akin to the one delivered by the First Minister earlier today. Do you agree that the Chancellor realises that massive increases in public expenditure—and I freely confess that that is what they are—have to be tied to specific outcomes if we are to be assured that they will be effective? We are talking about the patients of Wales. We want a better health service for 10 per cent of gross domestic product, not the same health service that we had for 7 per cent of GDP. That is important. The Chancellor will ensure that all the Government’s promises and targets are audited by an independent commission. Will you do the same in Wales? Will you concede to the Secretary of State for Wales that that is necessary? Will you ensure that we will not be just left with the First Minister’s assurance that we, as a small country, do not need such rigour when defending the rights of the patients and people of Wales?

Yn ôl Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae niwtral o ran cost yn golygu niwtral o ran refeniw, ac nid oes iddo unrhyw oblygiadau o ran costau trosiannol yr ailstrwythuro. Pan fydd gennyf ychydig eiliadau segur, yr wyf yn mwynhau edrych drwy eiriadur. Wrth wneud hynny, yr wyf wedi dod ar draws rhai pethau ysgubol, ond dim byd i’w gymharu â’r hyn a gawsom gan Brif Weinidog Cymru yn gynharach heddiw. A ydych yn cytuno bod y Canghellor yn sylweddoli bod yn rhaid clymu codiadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus—ac yr wyf yn cyfaddef heb ddadlau mai dyna ydynt—wrth ganlyniadau penodol os ydym i gael sicrwydd y byddant yn effeithiol? Am gleifion Cymru yr ydym yn sôn. Yr ydym am gael gwell gwasanaeth iechyd am 10 y cant o’r cynnyrch mewnwladol crynswth, nid yr un gwasanaeth ag a oedd gennym am 7 y cant. Mae hynny’n bwysig. Bydd y Canghellor yn sicrhau bod holl addewidion a thargedau’r Llywodraeth yn cael eu harchwilio gan gomisiwn annibynnol. A wnewch chi yr un peth yng Nghymru? A wnewch chi gydsynio ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod hynny’n angenrheidiol? A wnewch chi sicrhau na fyddwn yn cael ein gadael gyda dim ond gair Prif Weinidog Cymru nad oes angen y fath drylwyredd arnom ni, fel gwlad fach, wrth amddiffyn hawliau cleifion a phobl Cymru?

Edwina Hart spoken in English p. 36

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 36

I always rigorously defend the rights of the people of Wales. As I said in my statement, the Chancellor rightly linked the reform of public services and the provision of additional resources. We must consider issues of reform and outcomes. I assure you that I will consider those issues in the budget planning round. We must have value for money in terms of what we deliver to people, and outcomes that we can examine and manage. I will consider what systems are available for monitoring. I do not want to add any further layers of bureaucracy but rather to make existing systems more sufficient to ensure that we get the information that we want so that we can know that money is being well spent.

Yr wyf bob amser yn amddiffyn hawliau pobl Cymru yn egnïol. Fel a ddywedais yn fy natganiad, nododd y Canghellor yn gwbl briodol fod cysylltiad rhwng y diwygio ar y gwasanaethau cyhoeddus a’r adnoddau ychwanegol sydd i’w darparu. Rhaid inni ystyried materion diwygio a chanlyniadau. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn ystyried y materion hynny yng nghylch cynllunio’r gyllideb. Rhaid inni gael gwerth am arian yn nhermau’r hyn yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer pobl, a chanlyniadau y gallwn eu harchwilio a’u rheoli. Byddaf yn ystyried pa systemau sydd ar gael ar gyfer monitro. Nid wyf am ychwanegu haenau pellach o fiwrocratiaeth ond yr wyf am wneud y systemau presennol yn fwy digonol i sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth y mae ei hangen arnom fel y gallwn wybod bod yr arian yn cael ei wario’n dda.

David Lloyd spoken in English p. 36

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 36

I declare an interest as a general practitioner. The new GP contract comes into force next April. Its successful implementation requires an extra £260 million in Wales alone. Has this been planned for in the CSR?

Datganaf fuddiant fel meddyg teulu. Daw’r contract newydd i feddygon teulu i rym fis Ebrill nesaf. Er mwyn ei weithredu’n llwyddiannus bydd yn rhaid wrth £260 miliwn ychwanegol yng Nghymru yn unig. A gynlluniwyd ar gyfer hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant?

Edwina Hart spoken in English p. 36

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 36

If you know anything about the comprehensive spending review, you will know that we will receive the appropriate consequentials to increases in the budgets of English Government departments. If, as it probably has, the Department of Health has put in a bid for an uplift to ensure that it can deliver, we will receive the consequential amount. However, we will decide how to allocate our funds during the budget planning round.

Os gwyddoch unrhyw beth o gwbl am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, byddwch yn gwybod y byddwn yn derbyn y ffactorau ôl-ddilynol sy’n deillio o godiadau yng nghyllidebau adrannau Llywodraeth Lloegr. Os yw’r Adran Iechyd wedi gwneud cais am ychwanegiad i sicrhau y gall gyflawni hyn, ac yr wyf yn cymryd ei bod, byddwn yn derbyn y swm ôl-ddilynol. Fodd bynnag, ni fydd yn penderfynu sut i ddyrannu ein cyllid yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

Datganiad ar y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Lleol

Statement on the Commission on Local Electoral Arrangements

Edwina Hart The Finance Minister spoken in English p. 37

Edwina Hart Y Gweinidog Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 37

In June of last year, I established the Commission on Local Government and Electoral Arrangements with wide terms of reference and asked to report within a year. Give or take a few days, the commission succeeded in this task when it published its report on 3 July 2002.

Fis Mehefin y llynedd, sefydlais Gomisiwn ar Drefniadau Etholiadol Lleol gyda chylch gwaith eang a gofynnais iddo gyflwyno adroddiad o fewn blwyddyn. Llwyddodd y comisiwn yn y dasg honno, o fewn diwrnod neu ddau, pan gyhoeddodd ei adroddiad ar 3 Gorffennaf 2002.

Many of you will have seen the commission’s report and I am sure that you will agree that it is detailed. It is clear that the commissioners have made good use of their wide brief and have investigated and made recommendations on many aspects of the electoral process. I pay tribute to Professor Eric Sunderland and his fellow commissioners for their work. It is clear that they took their task seriously and have been painstaking in their approach.

Bydd llawer ohonoch wedi gweld adroddiad y comisiwn ac yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno ei fod yn fanwl. Mae’n amlwg fod y comisiynwyr wedi defnyddio eu cylch gwaith eang yn dda ac wedi ymchwilio i lawer o agweddau ar y broses etholiadol ac wedi llunio argymhellion ar hynny. Talaf deyrnged i’r Athro Eric Sunderland a’i gyd-gomisiynwyr am eu gwaith. Mae’n amlwg iddynt gymryd eu tasg o ddifrif ac iddynt fod yn drylwyr iawn yn eu gwaith.

Some of the commission’s recommendations would require legislation in the UK Parliament, some would require legislation in the Assembly, others would simply require the Assembly or local government to produce advice or implement fresh practices. On several issues, there would be a role for the Electoral Commission.

Byddai angen deddfwriaeth yn senedd y DU ar gyfer rhai o argymhellion y comisiwn, byddai angen deddfwriaeth yn y Cynulliad ar gyfer rhai, ac ni fyddai angen ond i’r Cynulliad neu lywodraeth leol gynhyrchu cyngor neu roi arferion newydd ar waith ar gyfer eraill. Ar sawl mater, byddai yna rôl i’r Comisiwn Etholiadol.

I do not intend to single out any recommendations at this stage. I intend to launch a wide consultation exercise on all the recommendations over the summer and early autumn, to include elected politicians, local government, political parties, the Electoral Commission, equality organisations, youth organisations and relevant public bodies, as well as to invite the views of the general public. After the consultation, I will present a report to the Local Government and Housing Committee in December, which will provide a summary of the views received for the Committee to consider. We can then consider the way forward early in the new year.

Nid wyf yn bwriadu tynnu sylw at unrhyw argymhellion unigol ar hyn o bryd. Bwriadaf lansio ymarferiad ymgynghori eang ar yr holl argymhellion dros yr haf a dechrau’r hydref, i gynnwys gwleidyddion etholedig, llywodraeth leol, pleidiau gwleidyddol, y Comisiwn Etholiadol, cyrff cydraddoldeb, cyrff ieuenctid a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal â gwahodd barn y cyhoedd yn gyffredinol. Ar ôl yr ymgynghori, byddaf yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Rhagfyr, gan roi crynodeb o’r safbwyntiau a dderbyniwyd i’w hystyried gan y Pwyllgor. Gallwn wedyn ystyried y ffordd ymlaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

I do not intend to give my views on the commission’s recommendations today. We will have plenty of time to voice opinions over the months ahead. It is essential that we end up with proposals that will increase interest and participation in local government, so that local government is given its proper place of importance—in the eyes of young people in particular.

Nid wyf yn bwriadu rhoi fy marn i ar argymhellion y comisiwn heddiw. Cawn ddigon o amser i leisio barn dros y misoedd i ddod. Mae’n hanfodol inni gael cynigion terfynol a fydd yn cynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn llywodraeth leol, fel y rhoddir i lywodraeth leol ei lle haeddiannol o ran pwysigrwydd—yng ngolwg pobl ifanc yn arbennig.

Janet Ryder spoken in English p. 38

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 38

The report makes many far-reaching recommendations that will not only benefit democracy at local government level, but at all levels. Many of the recommendations are relevant to young people. How will you make information on the electoral process more widely and easily available to young people? I am sure that you are aware of the recommendations on that issue and of the fact that, as a recent survey showed, many young people do not know how or where to vote. Will you discuss with your colleague, the Minister for Education and Lifelong Learning, changes to civic lessons, or to however politics is taught in schools these days? Young people say that they want more information. They also want to be consulted, especially on decisions that concern them. The recommendation on reducing the age of voting from 18 to 16 has a direct implication for them. Will you give me a guarantee today that you will take the views of young people into account when you open up the second round of consultation?

Mae’r adroddiad yn gwneud llawer o argymhellion pellgyrhaeddol a fydd nid yn unig o fudd i ddemocratiaeth ar lefel llywodraeth leol, ond ar bob lefel. Mae llawer o’r argymhellion yn berthnasol i bobl ifanc. Sut y byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth am y broses etholiadol ar gael yn fwy eang ac yn haws i bobl ifanc? Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r argymhellion ar y mater hwnnw ac o’r ffaith i arolwg diweddar ddangos nad yw llawer o bobl ifanc yn gwybod sut nac ymhle i bleidleisio. A wnewch chi drafod newidiadau i wersi sifil, neu sut bynnag y caiff gwleidyddiaeth ei ddysgu mewn ysgolion y dyddiau hyn, gyda’ch cyd-Weinidog, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes? Dywed pobl ifanc eu bod am gael rhagor o wybodaeth. Maent hefyd am i bobl ymgynghori â nhw, yn enwedig am benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae i’r argymhelliad i ostwng yr oed pleidleisio o 18 i 16 oblygiad uniongyrchol iddynt hwy. A wnewch chi warantu imi heddiw y byddwch yn ystyried barn pobl ifanc pan fyddwch yn agor ail gylch yr ymgynghori?

As you said, the Sunderland commission consulted widely when it drew up its report and made these recommendations. I am concerned that all the recommendations in this report will be buried under one argument about introducing the single transferable vote system and proportional representation, which is an important element of the recommendations. Will you give a guarantee that if further consultation supports PR—and the vast majority of the commission voted in favour of introducing proportional recommendation—you will stand by that consultation regardless of party politics and go forward with the recommendations as put forward in this review? Will you make a commitment today to publish the details of the consultation process and all the consultation responses as they come in? Will you make all of that available, as it will be happening over the summer when we will not be here to question you on it?

Yr ydych eisoes wedi dweud bod comisiwn Sunderland wedi ymgynghori’n eang wrth lunio ei adroddiad a gwneud yr argymhellion hyn. Yr wyf yn poeni y caiff yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwn eu claddu o dan un ddadl ynglŷn â chyflwyno system y bleidlais sengl drosglwyddadwy a chynrychiolaeth gyfrannol, sydd yn elfen bwysig o’r argymhellion. A wnewch chi warantu, os bydd ymgynghori pellach yn gefnogol i gynrychiolaeth gyfrannol—a phleidleisiodd mwyafrif helaeth y comisiwn o blaid ei gyflwyno—y byddwch yn parchu’r ymgynghoriad hwnnw heb ystyried gwleidyddiaeth plaid ac y byddwch yn tywys yr argymhellion yn eu blaen fel y’u cyflwynwyd yn yr adolygiad hwn? A wnewch chi addewid heddiw i gyhoeddi manylion y broses ymgynghori a’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad fel y dônt i law? A wnewch chi ryddhau hynny oll, gan y bydd yn digwydd dros yr haf pan na fyddwn ni yma i’ch holi yn ei gylch?

Edwina Hart spoken in English p. 39

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 39

I am also concerned about the issues with regard to young people. I am particularly concerned that they should be fully consulted on this report. Many aspects of this report deserve their consideration. I will be considering what kind of specialist consultation I can undertake with young people through various organisations to ensure that we can get the message across. I will discuss this matter with the Minister for Education and Lifelong Learning, because there is also a role for schools and colleges in this regard. It will be a useful exercise if we can look imaginatively at the consultation process with young people.

Yr wyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â’r materion sy’n ymwneud â phobl ifanc. Yr wyf yn arbennig o awyddus i ymgynghori’n llawn â nhw ynglŷn â’r adroddiad hwn. Mae llawer o agweddau ar yr adroddiad yn deilwng o’u sylw. Byddaf yn ystyried pa ymgynghori arbenigol y gallaf ymgymryd ag ef gyda phobl ifanc drwy wahanol fudiadau i sicrhau y gallwn gyfleu’r neges. Byddaf yn trafod y mater gyda’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, oherwydd mae yna rôl i ysgolion a cholegau hefyd yn y cyswllt hwn. Bydd yn ymarferiad defnyddiol os gallwn edrych ar y broses o ymgynghori â phobl ifanc gyda dychymyg.

I do not want good recommendations buried. I am mindful of the innovative nature of some of the recommendations, particularly the one on reducing the voting age from 18 to 16 years of age. At what age does someone become a citizen? We must consider when young people should be allowed to participate—after all, they can get married at 16. Such issues must be properly debated. I will not allow anything to be buried. I will not prejudge the outcome of the consultation. In responding, most people will be interested in a handful of recommendations rather than the whole report. However, I will attach all the responses to the Local Government and Housing Committee report in December. If it helps the Local Government and Housing Committee, and with the Chair’s agreement, I will be more than happy to present a short report, at the beginning of the autumn term, on how I have included young people in the consultation process.

Nid wyf am i argymhellion da gael eu claddu. Yr wyf yn ymwybodol o natur arloesol rhai o’r argymhellion, yn enwedig yr un ar ostwng yr oed pleidleisio o 18 i 16 oed. Ym mha oed y mae rhywun yn dod yn ddinesydd? Rhaid inni ystyried pa bryd y dylid caniatáu i bobl ifanc gymryd rhan—wedi’r cyfan, gallant briodi yn 16. Rhaid trafod materion o’r fath yn drylwyr. Ni fyddaf yn gadael i unrhyw beth gael ei gladdu. Ni fyddaf yn rhagfarnu ffrwyth yr ymgynghori. Wrth ymateb, bydd y rhan fwyaf o bobl â diddordeb mewn dyrnaid o argymhellion yn hytrach na’r adroddiad cyfan. Fodd bynnag, byddaf yn cynnwys yr ymatebion i gyd gyda’r adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Rhagfyr. Os yw o gymorth i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a chyda chytundeb y Cadeirydd, byddaf yn fwy na pharod i gyflwyno adroddiad byr, ar ddechrau tymor yr Hydref, ar sut yr wyf wedi cynnwys pobl ifanc yn y broses ymgynghori.

Tom Middlehurst spoken in English p. 39

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 39

I welcome the report, and there is much in it that is worthy of full and further consideration. However, do you agree that Peter Black was ill-advised at this stage to issue an ultimatum on behalf of the Liberal Democrats and state that any future coalition deal in this Assembly would be conditional upon a commitment to pursue primary legislation to introduce PR into local government? I hope that you will agree that that is premature, and that there is much to be debated. Given the position of the Labour Party with regard to PR in local government, it is highly unlikely that it will ever happen.

Croesawaf yr adroddiad, ac mae llawer ynddo sy’n haeddu ystyriaeth lawn a phellach. Fodd bynnag, a ydych yn cytuno bod Peter Black yn annoeth ar hyn o bryd i roi wltimatwm ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a datgan y byddai unrhyw fargen ar glymblaid yn y Cynulliad hwn i’r dyfodol yn dibynnu ar ymrwymiad i geisio deddfwriaeth sylfaenol i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer llywodraeth leol? Gobeithiaf y gwnewch chi gytuno bod hynny yn gynamserol, a bod yna lawer i’w drafod. O ystyried sefyllfa’r Blaid Lafur o safbwynt cynrychiolaeth gyfrannol mewn llywodraeth leol, mae’n hynod annhebygol y digwydd hynny byth.

Edwina Hart spoken in English p. 40

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 40

I entered into this consultation in good faith. It was part of our agreement as an administration that we discussed not only the narrow issue of PR, but also the wider issues that have emerged in the Sunderland report. All of it is worthy of further consideration. We will have a consultation, but I want people to see how matters are coming together. People will want to give further views on some of these issues. People have already indicated to me how single-member wards can help with certain problems in remote areas and so on. All these issues are bound to be explored because of the majority report and the minority report that will go out for consultation. It is premature for anybody to comment before the outcome of a consultation. I want a genuine consultation on this, and that is why I indicated that it would come back to the Local Government and Housing Committee. It is up to the Committee what further issues it might wish to pursue. In light of Janet’s comments earlier about the involvement of youth, the Committee might decide that it would like to speak to youth organisations to see whether they were properly consulted. That is a valuable role.

Dechreuais ar yr ymgynghoriad hwn gyda phob ewyllys da. Yr oedd yn rhan o’n cytundeb fel gweinyddiaeth ein bod yn trafod nid yn unig fater cul cynrychiolaeth gyfrannol, ond hefyd y materion ehangach sydd wedi dod i’r wyneb yn adroddiad Sunderland. Cynhelir ymgynghoriad, ond yr wyf am i bobl weld sut mae pethau’n dod at ei gilydd. Bydd pobl am roi barn bellach ar rai o’r materion hyn. Mae pobl eisoes wedi dweud wrthyf fel y mae wardiau un aelod yn gallu helpu gyda rhai problemau mewn ardaloedd anghysbell ac ati. Mae’n sicr y caiff yr holl faterion hyn eu hystyried oherwydd yr adroddiad mwyafrifol a’r adroddiad lleiafrifol a gylchredir ar gyfer ymgynghori. Mae’n gynamserol i unrhyw un sôn am ganlyniad yr ymgynghori. Yr wyf am gael ymgynghori gwirioneddol ar hyn, a dyna pam y dywedais y byddai’n dod yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mater i’r Pwyllgor yw pa faterion pellach y bydd yn dymuno mynd ar eu trywydd. Yng ngoleuni sylwadau Janet yn gynharach am gynnwys pobl ifanc, gallai’r Pwyllgor benderfynu yr hoffai siarad â chyrff ieuenctid i weld a ymgynghorwyd yn briodol â nhw. Mae honno yn rôl werthfawr.

David Melding spoken in English p. 40

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 40

I sympathise with you and your ministerial colleagues, Minister, being in receipt of an ultimatum from Peter Black. That must be truly terrifying. We can only hope, for the good governance of Wales, that you can somehow revolve these terrible dilemmas.

Cydymdeimlaf â chi a’ch cyd-Weinidogion, Weinidog, yn cael wltimatwm gan Peter Black. Rhaid bod hynny yn codi ofn gwirioneddol arnoch. Ni allwn ond gobeithio, er lles llywodraethu yng Nghymru, y gallwch rywsut ddatrys cyfyng-gyngor mor ofnadwy.

I welcome the report, and commend the commission’s work. It has applied itself with great rigour throughout the past year and has held many consultation meetings. There has been extensive consultation already. There can be no doubt about the effort and the application that has gone into this report. The report is worthy of further detailed and serious consideration. It is impressive that 31 of the 33 recommendations were unanimously decided upon. However, I appeal to you, Minister, not to overlook the fact that there was a minority report on two issues relating to PR. The minority report was signed by the Conservative commissioner and the Labour Party commissioner. That must carry some weight. The principle of PR in local government elections was rejected by those commissioners. There is still a strong argument against using PR in local government elections, which must be the subject of genuine consultation. We may want to reaffirm the use of the first-past-the-post system in local government if that is the overwhelming desire of the people. That will presumably be the subject of this consultation process.

Croesawaf yr adroddiad, a chymeradwyaf waith y comisiwn. Mae wedi ymroi yn ddygn iawn drwy gydol y flwyddyn a aeth heibio ac wedi cynnal llawer o gyfarfodydd ymgynghorol. Cafwyd ymgynghori helaeth yn barod. Nid oes amheuaeth ynglŷn â’r ymdrech a’r ymroddiad a gafwyd mewn perthynas â’r adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn haeddu ystyriaeth fanwl a difrifol bellach. Rhaid nodi y penderfynwyd yn unfrydol ar 31 o’r 33 argymhelliad. Fodd bynnag, apeliaf atoch, Weinidog, i beidio ag anwybyddu’r ffaith bod yna adroddiad lleiafrifol ar ddau fater yn ymwneud â chynrychiolaeth gyfrannol. Llofnodwyd yr adroddiad lleiafrifol gan y comisiynydd Ceidwadol a chomisiynydd y Blaid Lafur. Mae’n rhaid fod hynny’n dwyn rhyw bwysau. Cafodd egwyddor cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau llywodraeth leol ei gwrthod gan y comisiynwyr hynny. Mae yna ddadl gref o hyd yn erbyn defnyddio cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau llywodraeth leol, a rhaid i hynny fod yn destun ymgynghori gwirioneddol. Efallai y byddwn am ailgadarnhau’r defnydd o system y cyntaf heibio’r postyn mewn llywodraeth leol os mai dyna ddymuniad y bobl gan mwyaf. Rhagdybiaf mai dyna fydd testun y broses ymgynghori hon.

The majority report’s main recommendation is not, in general, for proportional representation, but is for a system known as the single transferable vote. That system, in my view and that of many independent observers, has many flaws, which must be considered. First, it will create large wards for returning between three and five councillors. That would be a ward size at the minimum—taking three councillors—of a little over 5,000 people. In rural areas, that would create large wards, and would completely shatter the councillor-constituent link. It would potentially be much more unwieldy. The direct link between a councillor and his or her ward is important. We were moving to a system that ended multi-ward members, in favour of one councillor representing one ward. This would end all that. We would reverse it completely, and would be in the invidious position that, unless we had single transferable voting based on five-member wards, we would not have effective PR. If you have three-member wards, the PR principle is considerably curtailed. Therefore, there is a real dilemma ahead of us.

Nid yw prif argymhelliad yr adroddiad mwyafrifol, yn gyffredinol, o blaid cynrychiolaeth gyfrannol, ond o blaid system a elwir yn bleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae i’r system honno, yn fy marn i a barn llawer o sylwedyddion annibynnol, lawer o ddiffygion, y mae’n rhaid eu hystyried. Yn gyntaf, bydd yn creu wardiau mawr a fydd yn ethol rhwng tri a phump o gynghorwyr. Byddai hynny’n golygu wardiau—yn cymryd tri chynghorydd—o ychydig dros 5,000 o bobl ar y lleiaf. Mewn ardaloedd gwledig, byddai hynny’n creu wardiau mawr, a byddai’n chwalu’n llwyr y cyswllt rhwng cynghorydd a’i etholwyr. Mae’r cyswllt uniongyrchol rhwng cynghorydd a’i ward yn bwysig. Yr oeddem yn symud i system o ddod â wardiau sawl aelod i ben, er mwyn cael un cynghorydd yn cynrychioli un ward. Byddai hyn yn rhoi terfyn ar hynny oll. Byddem yn gwrth-droi’r holl broses, a byddem yn y sefyllfa anffodus, oni fyddai gennym bleidleisiau sengl trosglwyddadwy wedi’u seilio ar wardiau pum aelod, o gael cynrychiolaeth gyfrannol aneffeithiol. Os mai wardiau tri aelod sydd gennych, cyfyngir yn sylweddol ar egwyddor cynrychiolaeth gyfrannol. Felly, yr ydym yn wynebu cyfyng-gyngor gwirioneddol.

To conclude, if we had a single transferable vote system in local government, we would have different electoral systems at local government, Assembly, parliamentary, and European parliamentary level. Three different PR systems would operate in this country. This argument calls for Occam’s razor—we must simplify and use one system.

I gloi, pe bai gennym system o bleidleisiau sengl trosglwyddadwy mewn llywodraeth leol, byddai gennym systemau etholiadol gwahanol ar lefel llywodraeth leol, y Cynulliad, y Senedd, a Senedd Ewrop. Byddai tair system wahanol o gynrychiolaeth gyfrannol ar waith yn y wlad hon. Mae angen rasel Occam ar y ddadl hon—rhaid inni symleiddio a defnyddio un system.

Edwina Hart spoken in English p. 42

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 42

Discussions will inevitably emerge about proportional representation and its various voting systems during this consultation process. There are people who have signed up to the principles of PR, but who want to discuss the various systems available. You mentioned that 31 recommendations were agreed by all commission members. They worked hard. Many of us will concur with those recommendations; I will not comment on them individually. We can move forward with some of these recommendations following the consultation period, and there will be an opportunity in the Local Government and Housing Committee to consider those issues. Once people see this document and start to go through it, I believe that they will value the opportunity of being able to make more comments. When you have given evidence in a consultation such as this, it is important that you see the final product.

Mae’n anochel y ceir trafodaethau am gynrchiolaeth gyfrannol a’i gwahanol systemau pleidleisio yn ystod y broses ymgynghori hon. Mae yna bobl sydd wedi mabwysiadu egwyddorion cynrychiolaeth gyfrannol, ond a fydd am drafod y gwahanol systemau sydd ar gael. Soniasoch am y 31 argymhelliad y cytunodd holl aelodau’r comisiwn arnynt. Gweithiasant yn galed. Bydd llawer ohonom yn cytuno â’r argymhellion hynny; ni soniaf amdanynt yn unigol. Gallwn symud ymlaen ar rai o’r argymhellion hyn ar ôl y cyfnod ymgynghori, a bydd yna gyfle yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ystyried y materion hynny. Unwaith y bydd pobl yn gweld y ddogfen hon ac yn dechrau mynd drwyddi, credaf y byddant yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael gwneud rhagor o sylwadau. Pan ydych wedi rhoi tystiolaeth mewn ymgynghoriad fel hwn, mae’n bwysig eich bod yn gweld y cynnyrch terfynol.

Peter Black spoken in English p. 42

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 42

I welcome the statement and the consultation process on which we are now embarking. However, it is important that this report does not sink without trace in that process, which I am sure is the intention, but that we come out of it with strong recommendations to strengthen local democracy. We should not forget that the Sunderland commission was independent, free of partisan interference, and came to its conclusions on the basis of the arguments put before it, following wide consultation. The recommendations commanded an overwhelming commission majority, and have much support among ordinary voters. That is why I believe that it is important that we do not allow vested interests to triumph, and that the Welsh Assembly Government should sign up to this report, when it comes back to us in the new year.

Croesawaf y datganiad a’r broses ymgynghori yr ydym yn dechrau arni yn awr. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r adroddiad hwn yn diflannu heb adael unrhyw ôl yn y broses honno, a dyna’r bwriad yr wyf yn siŵr, ond ein bod yn dod allan ohoni gydag argymhellion cryf i gryfhau democratiaeth leol. Ni ddylem anghofio bod comisiwn Sunderland yn annibynnol, ni fu ymyrraeth bleidiol arno, a daeth i’w gasgliadau ar sail y dadleuon a roddwyd ger ei fron, ar ôl ymgynghori’n eang. Cafwyd mwyafrif llethol o blaid yr argymhellion, ac mae iddynt lawer o gefnogaeth ymysg pleidleiswyr cyffredin. Dyna pam yr wyf yn credu ei bod yn bwysig inni beidio â gadael i fuddiannau breintiedig drechu, ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fabwysiadu’r adroddiad hwn, pan ddaw yn ôl inni yn y flwyddyn newydd.

Do you agree that the present system—

A ydych yn cytuno bod y system bresennol—

David Melding spoken in English p. 43

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 43

That is an ultimatum.

Wltimatwm yw hynny.

Peter Black spoken in English p. 43

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 43

It is not an ultimatum; it is an exhortation. Do you agree that the present system does not produce accountable, representative local government, and that it is absurd that although most people voted against Labour in Blaenau Gwent, Labour won more than four of every five seats? In Bridgend, three in five people voted against Labour, yet Labour won over three-quarters of the seats. In Newport, opposition parties won most of the votes, yet Labour won six of every seven seats. Similar anomalies exist in authorities—

Nid wltimatwm mohono; anogiad yw. A ydych yn cytuno nad yw’r system bresennol yn arwain at lywodraeth leol atebol, gynrychiadol, a’i bod yn afresymol fod Llafur, ym Mlaenau Gwent, wedi ennill mwy na phedair sedd o bob pump, er i’r rhan fwyaf o bobl bleidleisio yn ei herbyn? Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, pleidleisiodd tri pherson o bob pump yn erbyn Llafur, ond enillodd Llafur dros dri chwarter y seddau. Yng Nghasnewydd, y gwrthbleidiau a enillodd y rhan fwyaf o’r pleidleisiau, ond enillodd Llafur chwech o bob saith sedd. Mae anghysonderau cyffelyb i’w gweld mewn awdurdodau—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

Order. I hope that you are not going to go through all the Welsh local authorities.

Trefn. Gobeithiaf nad ydych yn mynd i fynd drwy holl awdurdodau lleol Cymru.

Peter Black spoken in English p. 43

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 43

I considered it. Do you agree that a system where all votes are equal, but some are more equal than others, fails the political process, and, more importantly, fails the people it is supposed to represent? Do you also agree that our present system is run for the benefit of councillors, when it should be run for the benefit of electors?

Yr oeddwn wedi ystyried hynny. A ydych yn cytuno bod system lle mae pob pleidlais yn gydradd, ond fod rhai yn fwy cydradd nag eraill, yn tanseilio’r broses wleidyddol, ac, yn fwy pwysig, nad yw’n deg â’r bobl y mae i fod i’w cynrychioli? A ydych yn cytuno hefyd mai er budd cynghorwyr y mae ein system bresennol yn cael ei rhedeg, tra dylai fod yn cael ei rhedeg er budd etholwyr?

Edwina Hart spoken in English p. 43

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 43

We are all accountable, and that applies to any system that elects us. Parliament decides on the voting system when considering electoral process, and, therefore, we are all accountable through the ballot box, whether we are in local government, the National Assembly or Parliament. It is right that we are all accountable in that way. We must stress that. Systems are never ideal from everyone’s perspective; sometimes the electorate does not like it and sometimes councillors do not like it. However, systems must be agreed, and electoral systems make us all accountable in different ways.

Yr ydym i gyd yn atebol, ac mae hynny’n wir am unrhyw system sy’n ein hethol. Y Senedd sy’n penderfynu ar y system bleidleisio pan fydd yn ystyried y broses etholiadol, ac, felly, yr ydym i gyd yn atebol drwy’r blwch pleidleisio, pa un a ydym mewn llywodraeth leol, yn y Cynulliad Cenedlaethol neu’r Senedd. Mae’n iawn ein bod i gyd yn atebol yn y ffordd honno. Rhaid pwysleisio hynny. Nid yw systemau byth yn ddelfrydol o safbwynt pawb; weithiau nid yw’r etholwyr yn eu hoffi ac weithiau nid yw cynghorwyr yn eu hoffi. Fodd bynnag, rhaid cytuno ar systemau, ac mae systemau etholiadol yn ein gwneud ni i gyd yn atebol mewn ffyrdd gwahanol.

The important point that you made is that we must not lose sight of this report. This exercise must not be seen as simply further consultation. The Local Government and Housing Committee must examine the findings at the end of the process, and, after such extensive consultation, we may request that central Government puts legislation in place and we may suggest that 16-year-olds gain the right to vote in Wales. We must not lose sight of the valuable points that will emerge. I am convinced that the people of Wales will be interested in this document, and it is important that they have their say on the finished product.

Y pwynt pwysig a wnaethoch yw na ddylem golli golwg ar yr adroddiad hwn. Rhaid peidio ag ystyried yr ymarferiad hwn fel dim ond ymgynghoriad pellach. Rhaid i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai archwilio’r casgliadau ar ddiwedd y broses, ac, ar ôl ymgynghori mor eang, gallwn ofyn i’r Llywodraeth ganolog sefydlu deddfwriaeth a gallwn awgrymu bod yr hawl i bleidleisio yn cael ei rhoi i bobl ifanc 16 oed. Rhaid inni beidio â cholli golwg ar y pwyntiau gwerthfawr a ddaw i’r amlwg. Yr wyf yn argyhoeddedig y bydd gan bobl Cymru ddiddordeb yn y ddogfen hon, ac mae’n bwysig eu bod yn cael lleisio’i barn am y cynnyrch gorffenedig.

I know that you never issue me with ultimatums, Peter.

Gwn nad ydych byth yn rhoi wltimata imi, Peter.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 44

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 44

Tra’n derbyn bod nifer sylweddol o argymhellion yn adroddiad Sunderland, bydd y rhan fwyaf o bobl yn ystyried mai eich ymateb i’r argymhelliad i symud oddi wrth system etholiadol un bleidlais, un person ar gyfer llywodraeth leol, i system o bleidleisio’n gyfrannol fydd y prawf mwyaf i’ch Llywodraeth. Dyna’r benbleth wleidyddol sydd yn wynebu’r Llywodraeth ac yr ydym wedi gweld hynny’n amlwg heddiw. A fyddwch yn gwrando ar y naill law ar ddadleuon Tom Middlehurst a Peter Law—sydd yn ystyried ei hun fel arweinydd nesaf y grŵp Llafur yn y Cynulliad—sydd yn amlwg yn elyniaethus i’r syniad o gynrychiolaeth gyfrannol, neu Peter Black, sydd wedi dweud wrthym oni bai ei fod yn rhan o setliad y Llywodraeth, ni fydd Llywodraeth glymblaid ar ôl yr etholiad nesaf? Wrth gwrs, ni fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw gyfle i fod mewn Llywodraeth wedi’r etholiad nesaf.

While accepting that the Sunderland report contains a significant number of recommendations, most people will consider that your response to the recommendation of moving away from the one person, one vote electoral system for local government, to a proportional voting system, will be the biggest test for your Government. That is the political dilemma facing the Government, and we have seen that clearly today. Will you listen on the one hand to the arguments of Tom Middlehurst and Peter Law—who considers himself to be the next leader of the Labour group in the Assembly—who are clearly opposed to the idea of proportional representation, or Peter Black, who has told us that, unless it is part of the Government settlement, there will be no coalition Government after the next election? The Liberal Democrats, of course, stand no chance of being in Government after the next election.

Gwyddom y bydd cyfnod o ymgynghori ond mae’n rhaid i chi, Weinidog, ddangos arweiniad yn y mater. Yr ydym wedi clywed eich safbwynt ar faterion eraill, ond beth yw eich safbwynt ar gynrychiolaeth gyfrannol? A ydych o’i phlaid neu yn ei herbyn?

We know that there will be a consultation period but you, Minister, must show leadership in this matter. We have heard your views on other matters, but what is your view on proportional representation? Are you in favour of it or against it?

Edwina Hart spoken in English p. 44

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 44

It is not appropriate for me to comment on my preferences in this regard. As Finance Minister, I am entering the consultation process, and I will fully reflect the results of the consultation in the papers that I will submit to the Committee. We will examine all of the recommendations made. I am disappointed, Ieuan, that you, like many others, have chosen to discuss one aspect of this report, when it contains many imaginative suggestions such as lowering the voting age from 18 to 16 years of age, which I believe to be an interesting concept, and worthy of debate. It is not a test, or a political worry for me. We must wait for the results of the consultation and then we must hold discussions within the administration and elsewhere on how to proceed with implementing the report.

Nid yw’n briodol imi sôn am yr hyn yr wyf fi yn ei ffafrio yn y cyswllt hwn. Fel y Gweinidog Cyllid, yr wyf yn dechrau ar y broses ymgynghori, a byddaf yn adlewyrchu ffrwydd yr ymgynghori yn llawn yn y papurau a gyflwynaf i’r Pwyllgor. Byddwn yn archwilio’r holl argymhellion a wnaethpwyd. Yr wyf yn siomedig, Ieuan, eich bod chi, fel cynifer o rai eraill, wedi dewis trafod un agwedd o’r adroddiad hwn, sydd yn cynnwys llawer o argymhellion llawn dychymyg megis gostwng yr oed pleidleisio o 18 i 16 oed, sydd yn gysyniad diddorol yn fy marn i, ac yn haeddu ei drafod. Nid prawf, na phoen gwleidyddol mohono i mi. Rhaid inni ddisgwyl am ganlyniadau’r ymgynghori ac yna rhaid inni gynnal trafodaethau o fewn y weinyddiaeth ac mewn mannau eraill ynglŷn â sut i fwrw ymlaen i roi’r adroddiad ar waith.

Richard Edwards spoken in English p. 45

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 45

I welcome the Sunderland commission’s report. I congratulate the commission and welcome all 33 of its recommendations. I am also glad that I am sitting behind Peter Law and Tom Middlehurst, not in front of them. Are you aware that there is support for proportional representation in local government within the Welsh Labour Party, especially for the single transferable vote option? That is far preferable to the compromise effected for the Assembly elections. STV should be used for all elections. Do you agree that it is immaterial whether the Liberal Democrats favour PR? What matters is that we have a fairer, more just electoral system that will help to democratise local government’s workings and—in my view—also make it more socialist by ridding us of the feudal fiefdoms that bring some local authorities, not just in Pembrokeshire, into disrepute.

Croesawaf adroddiad comisiwn Sunderland. Llongyfarchaf y comisiwn a chroesawaf bob un o’r 33 argymhelliad. Yr wyf yn falch hefyd fy mod yn eistedd y tu cefn i Peter Law a Tom Middlehurst, nid o’u blaenau. A ydych yn ymwybodol fod yna gefnogaeth i gynrychiolaeth gyfrannol mewn llywodraeth leol o fewn Plaid Lafur Cymru, yn enwedig opsiwn y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Mae hynny’n llawer gwell na’r cyfaddawd a roddwyd ar waith ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Dylid defnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy ym mhob etholiad. A ydych yn cytuno nad oes gwahaniaeth pa un a yw’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid cynrychiolaeth gyfrannol neu beidio? Yr hyn sydd yn bwysig yw bod gennym system etholiadau decach, fwy cyfiawn a fydd yn help i ddemocrateiddio trefn llywodraeth leol ac—yn fy marn i—yn ei gwneud yn fwy sosialaidd hefyd drwy gael gwared ar y tiriogaethau ffiwdal sy’n dwyn anfri ar rai awdurdodau lleol, nid dim ond yn Sir Benfro.

Edwina Hart spoken in English p. 45

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 45

Your comments illustrate why we must have a further, proper discussion on this document. I am aware that there are Members across the parties who favour PR, others who favour the first-past-the-post system, others who do not like the Assembly system and others who would like to change the Westminster system. This report enables us to discuss this issue across the board in Wales, and to undertake consultation to see whether there is agreement on a way forward.

Mae eich sylwadau yn dangos pam fod yn rhaid inni gael trafodaeth bellach, briodol ar y ddogfen hon. Gwn fod yna Aelodau ar draws y pleidiau sy’n ffafrio cynrychiolaeth gyfrannol, eraill sy’n ffafrio’r system y cyntaf heibio i’r postyn, eraill nad ydynt yn hoffi system y Cynulliad ac eraill a fyddai’n hoffi newid system San Steffan. Mae’r adroddiad hwn yn ein galluogi i drafod y mater hwn yn ei gyfanrwydd yng Nghymru, ac i ymgynghori i weld a oes cytundeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

Pauline Jarman spoken in English p. 45

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 45

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council. When the Reform Acts were being debated in the nineteenth century, Lord Acton was famously quoted as stating:

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Pan oedd y Deddfau Diwygio yn cael eu trafod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafwyd dyfyniad enwog o enau’r Arglwydd Acton:

‘Power tends to corrupt and absolute power corrupts absolutely.’

‘Tuedda grym i lygru a grym llwyr a lwyr lygra.’

Given the Labour Party’s policy on PR and the Liberal Democrats’ threats, and that the majority of the commission believed that STV would reduce the incidence of one-party states, would you want to be remembered as the Minister who launched such an important document for consultation under the threat that the good of the party would be put before the good of the electorate, either at the hands of the Liberal Democrats or of your Labour colleagues?

O ystyried polisi’r Blaid Lafur ar gynrychiolaeth gyfrannol a bygythiadau’r Democratiaid Rhyddfrydol, a bod mwyafrif y comisiwn yn credu y byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn arwain at lai o wladwriaethau un blaid, a fyddech am gael eich cofio fel y Gweinidog a lansiodd ddogfen mor bwysig i ymgynghori yn ei chylch o dan fygythiad y byddai lles y blaid yn cael ei roi o flaen lles yr etholwyr, un ai dan ddwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol neu dan ddwylo eich cyd-Aelodau Llafur?

Edwina Hart spoken in English p. 46

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 46

I have not launched any consultation documents under threat. I am amazed that Members refer to these matters. No-one has ever dared to threaten me and they are not likely to do so.

Nid wyf wedi lansio unrhyw ddogfennau ymgynghori o dan fygythiad. Yr wyf yn rhyfeddu bod Aelodau yn cyfeirio at y pethau hyn. Nid oes unrhyw un erioed wedi meiddio fy mygwth i ac nid ydynt yn debygol o wneud hynny.

Janice Gregory spoken in English p. 46

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 46

Do you agree that whatever electoral system is in place, if you cannot offer the electorate polling stations in which to cast their votes, the issue becomes academic? You know that I have a particular concern about this matter in my constituency. Will you and your department closely monitor local authorities, especially those who are closing polling stations using the Disability Discrimination Act 1985 as an excuse?

A ydych yn cytuno, pa system etholiadol bynnag a ddefnyddir, mai mater academaidd yn unig yw os na allwch gynnig gorsafoedd pleidleisio i’r etholwyr i fwrw eu pleidleisiau ynddynt? Gwyddoch fod gennyf bryder neilltuol ynglŷn â’r mater hwn yn fy etholaeth i. A wnewch chi a’ch adran fonitro’r awdurdodau lleol yn fanwl, yn enwedig y rheini sy’n cau gorsafoedd pleidleisio gan ddefnyddio Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1985 fel esgus?

Edwina Hart spoken in English p. 46

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 46

I will continue to do so. You are right; we are talking about changing the electoral arrangements and participation, and the best way to get people to participate is to allow them to go to a polling booth. That is essential and the four parties are agreed that we must do what we can to ensure that people have the opportunity to vote in a polling station or to exercise their right to a postal vote.

Byddaf yn parhau i wneud hynny. Yr ydych yn gywir; sôn yr ydym am newid y trefniadau etholiadol a chyfranogiad, a’r ffordd orau o gael pobl i gyfranogi yw drwy ganiatáu iddynt fynd i fwth pleidleisio. Mae hynny’n hanfodol ac mae’r pedair plaid yn gytûn fod yn rhaid inni wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu i arfer eu hawl i bleidlais drwy’r post.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 46

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 46

Thank you for responding to two statements despite your cold, Minister.

Diolch ichi am ymateb i ddau ddatganiad er gwaethaf eich annwyd, Weinidog.

Datganiad Busnes

Business Statement

Carwyn Jones The Business Minister spoken in English p. 47

Carwyn Jones Y Gweinidog Busnes siaradwyd yn Saesneg t. 47

I am grateful to the Llywydd and to the Business Committee for agreeing to my request to propose a procedural motion to allow me to introduce the two no-named-day motions set out on today’s agenda. That will allow the Assembly to consider the Welfare of Farmed Animals (Wales) (Amendment) Regulations 2002 and the Code of Recommendations for the Welfare of Livestock: Laying Hens. I will propose the procedural motion later on today.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Llywydd ac i’r Pwyllgor Busnes am gytuno i’m cais i gyflwyno cynnig gerbron i ganiatáu imi gyflwyno’r ddau gynnig heb ddyddiad trafod sydd wedi’u nodi yn yr agenda heddiw. Bydd hynny’n caniatáu i’r Cynulliad ystyried Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 a’r Cod o Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw: Ieir Dodwy. Byddaf yn cynnig y cyfryw gynnig yn ddiweddarach heddiw.

On the business for the first three weeks after the recess, my draft statement is shown on the Chamberweb under supporting documents. There are no Deputy Presiding Officer’s determinations to report under Standing Order No. 22.5.

O ran y busnes ar gyfer y tair wythnos gyntaf ar ôl y gwyliau, mae fy natganiad drafft i’w weld ar We’r Siambr o dan y dogfennau ategol. Nid oes unrhyw benderfyniadau o eiddo’r Dirprwy Lywydd i’w hadrodd o dan Reol Sefydlog Rhif 22.5.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 47

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 47

Nid oes gwrthwynebiad i’r datganiad busnes. A oes gan Aelodau sylwadau?

There is no objection to the business statement. Do Members have any comments on it?

Phil Williams spoken in English p. 47

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 47

For several months, the Minister for Economic Development has repeatedly promised a major statement on broadband communication, which many Members regard as central to sustained economic growth. Last Thursday the Minister made that statement at the Cardiff Business School, while the Assembly was in session. I was present for the statement and claims were made that I regard as extravagant, given the budget available. The statement also left several crucial technical matters unresolved. However, there was no opportunity to question the Minister. When will the Minister repeat that statement in the Assembly so that we can give it the detailed scrutiny it deserves?

Ers sawl mis, mae’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd wedi addo dro ar ôl tro y ceir datganiad o bwys am gysylltiadau band llydan, sydd ym marn llawer o Aelodau yn ganolog i dwf economaidd parhaus. Ddydd Iau diwethaf gwnaeth y Gweinidog y datganiad hwnnw yn Ysgol Fusnes Caerdydd, tra’r oedd y Cynulliad yn cyfarfod. Yr oeddwn yn bresennol ar gyfer y datganiad a gwnaethpwyd honiadau sydd yn eithafol yn fy marn i, o ystyried y gyllideb sydd ar gael. Gadawodd y datganiad sawl mater technegol hanfodol heb ei ddatrys hefyd. Fodd bynnag, nid oedd cyfle i holi’r Gweinidog. Pryd wnaiff y Gweinidog ailadrodd y datganiad hwnnw yn y Cynulliad fel y gallwn graffu’n fanwl arno fel sy’n haeddiannol?

Nick Bourne spoken in English p. 47

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 47

A year ago tomorrow, Minister for Open Government, the Minister for Finance, Local Government and Communities fired the architect of the new Assembly building. Since then, the Government has lost an expensive arbitration case, and we have not had a progress report—if ‘progress report’ is not a misnomer. Can you arrange for a statement on the new building to be made?

Flwyddyn yn ôl i yfory, Weinidog dros Lywodraeth Agored, diswyddodd y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau bensaer adeilad newydd y Cynulliad. Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi colli achos cyflafareddu costus ac nid ydym wedi cael adroddiad cynnydd—os nad yw ‘adroddiad cynnydd’ yn gamenw. A allech drefnu bod datganiad yn cael ei wneud ar yr adeilad newydd?

Carwyn Jones The Business Minister spoken in English p. 48

Carwyn Jones Y Gweinidog Busnes siaradwyd yn Saesneg t. 48

My colleagues will have heard what has been said. I will discuss with them how they propose to take these matters forward.

Bydd fy nghyd-Weinidogion wedi clywed yr hyn a ddywedwyd. Byddaf yn trafod â nhw sut y maent yn bwriadu tywys y materion hyn yn eu blaen.

Derbyniwyd y datganiad busnes.

Business statement adopted.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Mick Bates spoken in English p. 48

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 48

Point of order. I raise this under Standing Order No. 22.6, which provides for the Deputy Presiding Officer, as Chair of the Business Committee, to determine when a draft Order should be considered by a Subject Committee. However, Standing Order No. 22, which outlines the process of making Assembly subordinate legislation, does not provide for a Subject Committee to consider draft Orders at an earlier stage in the process. Bearing in mind that the role of Subject Committees, as set out in Standing Order No. 9.8, is to

Pwynt o drefn. Codaf hwn o dan Reol Sefydlog Rhif 22.6, sy’n datgan mai’r Dirprwy Lywydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, sydd i benderfynu pa bryd y dylai Gorchymyn drafft gael ei ystyried gan Bwyllgor Pwnc. Fodd bynnag, nid oes darpariaeth yn Rheol Sefydlog Rhif 22, sy’n amlinellu’r broses o lunio is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, i alluogi Pwyllgor Pwnc i ystyried Gorchmynion drafft yn gynharach yn y broses. O gofio mai rôl Pwyllgorau Pwnc, fel y’i nodwyd yn Rheol Sefydlog Rhif 9.8, yw

‘advise on proposed legislation affecting Wales’,

‘cynghori ar ddeddfwriaeth arfaethedig a fydd yn effeithio ar Gymru’,

and that the ‘Assembly Review of Procedure’ recommended that it would be preferable for Subject Committees to consider legislation as early as possible in the process, would it not be sensible to amend Standing Order No. 22? That would clarify the process that is now the norm.

ac i’r ‘Adolygiad o Weithdrefn y Cynulliad’ argymell y byddai’n well i Bwyllgorau Pwnc ystyried deddfwriaeth mor gynnar â phosibl yn y broses, oni fyddai’n synhwyrol diwygio Rheol Sefydlog Rhif 22? Byddai hynny’n egluro’r broses a ddefnyddir fel y norm yn barod.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 48

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 48

Thank you for giving me advance notice of this point of order. I have considered this matter at length and we have discussed it privately. I do not believe that any procedural irregularities have occurred in relation to the operation of these Standing Orders. Standing Order No. 9 provides for Subject Committees to consider any matter within their relevant fields and to advise on proposed legislation affecting Wales, as you noted.

Diolch ichi am roi rhybudd imi ymlaen llaw am y pwynt hwn o drefn. Yr wyf wedi rhoi ystyriaeth hir i’r mater ac yr ydym wedi ei drafod yn breifat. Ni chredaf fod unrhyw afreolaidd-dra trefniadol wedi digwydd o ran gweithrediad y Rheolau Sefydlog hyn. Yn ôl Rheol Sefydlog Rhif 9 caiff Pwyllgorau Pwnc ystyried unrhyw faterion o fewn eu meysydd perthnasol a rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth arfaethedig a fydd yn effeithio ar Gymru, fel a nodoch.

When our Standing Orders were drafted, it was envisaged that Subject Committee scrutiny of Assembly subordinate legislation would take place upon referral by the Business Committee, under Standing Order No. 22.6. I have observed that this is not now the usual route taken. Subject Committees often find it beneficial to consider legislation at an earlier stage and, as you mentioned, the ‘Assembly Review of Procedure’ recommended that the Business Committee should be informed of the degree of prior consultation with a Subject Committee before deciding whether or not to refer a statutory instrument under Standing Order No. 22.6. The review also recommended that the Business Committee produce a protocol for improved planning and tracking of subordinate legislation, to be reviewed after six to nine months, and that it explore the scope for streamlining our subordinate legislation procedures within that timescale.

Pan ddrafftiwyd ein Rheolau Sefydlog, rhagwelwyd y byddai’r Pwyllgorau Pwnc yn archwilio is-ddeddfwriaeth y Cynulliad pan gâi ei chyfeirio gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog Rhif 22.6. Yr wyf wedi sylwi mai nid dyma’r llwybr arferol a ddilynir bellach. Yn aml, mae’r Pwyllgorau Pwnc yn ei chael yn fwy buddiol ystyried deddfwriaeth yn gynharach ac, fel a sonioch, argymhellodd yr ‘Adolygiad o Weithdrefn y Cynulliad’ y dylid rhoi gwybod i’r Pwyllgor Busnes faint o ymgynghori a fu ymlaen llaw â’r Pwyllgor Pwnc cyn iddo benderfynu pa un i gyfeirio offeryn statudol o dan Reol Sefydlog Rhif 22.6. Argymhellodd yr adolygiad hefyd fod y Pwyllgor Busnes yn cynhyrchu protocol ar gynllunio ac olrhain is-ddeddfwriaeth yn well, i’w adolygu ar ôl chwech i naw mis, ac y dylai ymchwilio i’r posibiliadau o symleiddio’n trefniadau ar gyfer is-ddeddfwriaeth o fewn yr amserlen honno.

While Standing Order No. 22.6 serves as a valuable safeguard, I shall respond positively to your request and ask the Business Committee to consider whether its protocol should also cover early examination of statutory instruments by Committees. If the arrangement works successfully under the protocol, it might then be worth amending Standing Order No. 22 to reflect the current practice.

Er bod Rheol Sefydlog Rhif 22.6 yn gwasanaethu fel mesur diogelu gwerthfawr, byddaf yn ymateb yn gadarnhaol i’ch cais ac yn gofyn i’r Pwyllgor Busnes ystyried a ddylai ei brotocol ymdrin hefyd â threfn lle bo’r Pwyllgorau yn archwilio offerynnau statudol yn gynnar. Os bydd y trefniant yn gweithio’n llwyddiannus o dan y protocol, yna gallai fod yn werth diwygio Rheol Sefydlog Rhif 22 i adlewyrchu’r arfer cyfredol.

Mick Bates spoken in English p. 49

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 49

Further to that point of order, thank you, Llywydd, for that response. This matter is important for this legislature as a whole. Unless we learn how to scrutinise legislation and amend it, we will be failing in our duty to govern Wales.

Yng nghyswllt y pwynt hwnnw o drefn, diolch ichi, Lywydd, am yr ymateb hwnnw. Mae hwn yn fater pwysig i’r ddeddfwrfa gyfan. Oni bai ein bod yn dysgu sut mae manylu ar ddeddfwriaeth a’i diwygio, ni fyddwn yn cyflawni ein dyletswydd i lywodraethu Cymru.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 49

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 49

Thank you, Mick.

Diolch ichi, Mick.

Nick Bourne spoken in English p. 49

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 49

Point of order. I have previously discussed this matter with you, Llywydd. It relates to ministerial functions, responsibilities and accountabilities and how, through the Government of Wales Act 1998 and Standing Orders, they impact on Committee structures and responsibilities and oral and written questions. I refer in particular to the Government of Wales’s reshuffle announced by the First Minister on 18 June 2002. On that day, Rhodri Morgan announced that Mike German, the formerly suspended Deputy First Minister, would re-enter the Cabinet as Minister for Rural Development—[Interruption.]

Pwynt o drefn. Yr wyf wedi trafod y mater hwn gyda chi o’r blaen, Lywydd. Mae’n ymwneud â swyddogaethau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd Gweinidogion a sut, drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a’r Rheolau Sefydlog, y mae’r rheini yn effeithio ar strwythurau a chyfrifoldebau’r Pwyllgorau a chwestiynau llafar ac ysgrifenedig. Cyfeiriaf yn arbennig at yr ad-drefnu ar Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 18 Mehefin 2002. Y diwrnod hwnnw, cyhoeddodd Rhodri Morgan y byddai Mike German, y Dirprwy Brif Weinidog a oedd gynt wedi ei atal, yn ailymuno â’r Cabinet fel Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig—[Torri ar draws.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 50

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 50

Order. I am listening to a point of order from the leader of the Welsh Conservatives. If Members wish to make other relevant points of order, I will call them later.

Trefn. Yr wyf yn gwrando ar bwynt o drefn gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru. Os oes Aelodau am wneud pwyntiau o drefn eraill sy’n berthnasol, galwaf arnynt yn ddiweddarach.

Nick Bourne spoken in English p. 50

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 50

He announced that the Deputy First Minister would re-enter the Cabinet as Minister for Rural Development and Wales Abroad. At the time, everyone’s interpretation of that was that he would be accountable for those portfolios. Indeed, the Chamberweb, intranet and internet show him as being responsible/accountable for rural development, all aspects of agriculture and fisheries, development and promotion of food production, forestry, and relations between Wales, Europe and the rest of the world. However, in a response to a written question tabled to the First Minister, it seems that the only functions delegated to the Deputy First Minister are related to rural development; none relate to Wales abroad. That raises the question as to whether the title ‘Wales Abroad’ is a matter of pandering to his vanity or whether there is an attempt to ensure that there can be no effective scrutiny of the Deputy First Minister on important matters relating to Wales abroad. Section 56 (3) of the Government of Wales Act 1998 states that:

Cyhoeddodd y byddai’r Dirprwy Brif Weinidog yn ailymuno â’r Cabinet fel Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor. Ar y pryd, dehonglodd pawb hynny i olygu y byddai’n atebol am y portffolios hynny. Yn wir, mae gwe’r Siambr, y fewnrwyd a’r rhyngrwyd yn dangos ei fod yn gyfrifol/atebol am ddatblygu gwledig, pob agwedd o amaethyddiaeth a physgodfeydd, datblygu a hyrwyddo cynhyrchu bwyd, coedwigaeth, a chysylltiadau rhwng Cymru, Ewrop a gweddill y byd. Fodd bynnag, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd i Brif Weinidog Cymru, mae’n ymddangos mai â datblygu gwledig y mae’r unig swyddogaethau a ddirprwywyd i’r Dirprwy Brif Weinidog yn ymwneud, nid â Chymru dramor o gwbl. Cyfyd hynny gwestiwn pa un ai boddio ei falchder ynteu ymgais i sicrhau na ellir craffu’n effeithiol ar y Dirprwy Brif Weinidog ar faterion pwysig yn ymwneud â Chymru dramor yw’r teitl ‘Cymru Dramor’. Dywed Adran 56 (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998:

‘The Assembly First Secretary shall allocate accountability in the fields in which the Assembly has functions to members of the Executive Committee…’,

and that, by virtue of section 57 (4), Subject Committees should be set up to mirror those fields of accountability. That suggests that the Agriculture and Rural Development Committee has no brief to consider the matter of Wales abroad. While that is consistent with the Act, it subverts the Assembly’s role. When the Bill was going through Parliament, it was always taken to be the case—and this matter was considered by the National Assembly Advisory Group—that the Subject Committees would mirror the Ministers’ jobs. This Minister has been given a job relating to Wales abroad, as indicated by his job title. The First Minister should consider that, unless he is intent on denying proper scrutiny, open government and the calling of Ministers to account on behalf of the people of Wales.

ac, yn rhinwedd adran 57 (4), y dylid sefydlu Pwyllgorau Pwnc i adlewyrchu’r meysydd atebolrwydd hyn. Mae hynny’n awgrymu nad oes gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig frîff i ystyried mater Cymru dramor. Tra bo hynny’n gyson â’r Ddeddf, mae’n tanseilio rôl y Cynulliad. Pan oedd y Mesur yn mynd drwy’r Senedd, tybid ar hyd yr adeg—a chafodd y mater hwn ei ystyried gan Grŵp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol—y byddai’r Pwyllgorau Pwnc yn adlewychu swyddi’r Gweinidogion. Rhoddwyd swydd sy’n ymwneud â Chymru dramor i’r Gweinidog hwn, fel a nodir gan deitl ei swydd. Dylai Prif Weinidog Cymru ystyried hynny, oni bai ei fod â’i fryd ar ymwrthod ag archwilio priodol, llywodraeth agored a galw Gweinidogion i gyfrif ar ran pobl Cymru.

On a second, related point—

Ar ail bwynt, cysylltiol—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 51

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 51

Order. I would prefer to deal with your initial point in the first instance because the Business Minister wants to respond to it.

Trefn. Byddai’n well gennyf ddelio â’ch pwynt cyntaf i ddechrau oherwydd mae’r Gweinidog Busnes am ymateb iddo.

Carwyn Jones The Business Minister spoken in English p. 51

Carwyn Jones Y Gweinidog Busnes siaradwyd yn Saesneg t. 51

I am exceptionally surprised that this point has been raised now, because it has been discussed elsewhere. An indication has been given that these matters need to be ironed out over the summer. Therefore, I am surprised that this matter has been raised publicly, given that it has been discussed at length privately and in another session.

Yr wyf wedi synnu’n aruthrol fod y pwynt hwn yn cael ei godi’n awr, oherwydd ei fod wedi ei drafod o’r blaen. Rhoddwyd ar ddeall fod angen llyfnhau’r materion hyn dros yr haf. Felly, yr wyf yn synnu bod y mater hwn wedi ei godi’n gyhoeddus, o gofio iddo gael ei drafod yn faith yn breifat ac mewn cyfarfod arall.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 51

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 51

I am grateful to the Business Minister. I will respond to the point raised by the leader of the Welsh Conservatives. I believe that he now has a copy of the letter that I wrote to Business Committee members. I was concerned about this matter following the points of order that were raised by many Members, including Ron Davies. I was concerned that Ministers should be held fully to account in Plenary and Committee, and that our procedure should not prevent that. A copy of that letter has also been placed in the Library and is available to all Members.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog Busnes. Ymatebaf fi i’r pwynt a godwyd gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru. Credaf fod ganddo bellach gopi o’r llythyr a ysgrifennais at aelodau’r Pwyllgor Busnes. Yr oeddwn yn pryderu ynglŷn â’r mater hwn yn dilyn y pwyntiau o drefn a godwyd gan lawer o Aelodau, yn cynnwys Ron Davies. Yr oeddwn am wneud yn siŵr bod Gweinidogion yn cael eu dal i gyfrif yn llwyr mewn Cyfarfodydd Llawn a Phwyllgorau, ac na ddylai ein trefn rwystro hynny. Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi ei roi hefyd yn y Llyfrgell, ac mae ar gael i’r holl Aelodau.

I also understand that the Government is compiling a full list of ministerial accountabilities in fields under section 56 (3) of the Government of Wales Act 1998 and that this list will be accompanied by a further list of any other responsibilities that Ministers hold. I also understand that at the most recent Business Committee meeting this morning, it was agreed in principle to amend Standing Orders so that Ministers could be questioned on their other responsibilities. The Business Committee will consider a paper setting out the draft wording of this amendment in its first meeting after the summer recess, to which the Business Minister has just referred.

Deallaf hefyd fod y Llywodraeth yn llunio rhestr lawn o’r meysydd y mae Gweinidogion yn atebol amdanynt o dan adran 56 (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac y ceir ochr yn ochr â’r rhestr hon restr bellach o unrhyw gyfrifoldebau eraill sydd gan Weinidogion. Deallaf hefyd y cytunwyd, yng nghyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Busnes y bore yma, mewn egwyddor, i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog fel y gellid holi Gweinidogion am eu cyfrifoldebau eraill. Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried papur yn cyflwyno geiriad drafft y gwelliant hwn yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl gwyliau’r haf, y mae’r Gweinidog Busnes newydd gyfeirio ato.

On scrutiny in Committees, section 57 (4) of the Government of Wales Act 1998 speaks of Subject Committees paralleling ministerial accountability, as Nick Bourne mentioned. The intention of Parliament seems to have been to establish something equivalent to the House of Commons departmentally-related Select Committees. To date, we have accepted that some cross-cutting ministerial responsibilities should, de facto, be the responsibility of appropriately related Committees. For example, sustainable development has been scrutinised by the Environment, Planning and Transport Committee, and special arrangements are in place for finance. However, the designation of a Minister as having responsibility for rural development and European issues—two rather more unrelated areas, except in terms of the common agricultural policy—has shown that the somewhat free interpretation of section 57(4) is now less tenable. I understand that the Business Committee has considered Assembly procedures in terms of this aspect of its business in Committee. It was agreed that the Business Minister would produce a paper on this for the Business Committee to consider at its first meeting following the summer recess, and I am grateful for that.

O ran manylu mewn Pwyllgorau, mae adran 57 (4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn dweud bod y Pwyllgorau Pwnc yn cyfateb i atebolrwydd Gweinidogion, fel a soniodd Nick Bourne. Mae’n ymddangos mai bwriad y Senedd oedd sefydlu rhywbeth i gyfateb i Bwyllgorau Dethol Tŷ’r Cyffredin, sy’n adlewyrchu adrannau. Hyd yma, yr ydym wedi derbyn y dylai rhai cyfrifoldebau gweinidogol trawsbynciol fod, de facto, yn gyfrifoldeb Pwyllgorau sydd â chysylltiad priodol â nhw. Er enghraifft, manylwyd ar ddatblygu cynaliadwy gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, ac mae trefniadau arbennig wedi’u sefydlu ar gyfer cyllid. Fodd bynnag, mae dynodi bod Gweinidog yn gyfrifol am ddatblygu gwledig a materion Ewropeaidd—dau faes sy’n llai cysylltiedig â’i gilydd, ac eithrio yn nhermau’r polisi amaethyddol cyffredin—wedi dangos bod dehongli adran 57(4) mewn modd braidd yn llac yn llai derbyniol erbyn hyn. Deallaf fod y Pwyllgor Busnes wedi ystyried trefniadau’r Cynulliad o ran yr agwedd hon o’i fusnes mewn Pwyllgorau. Cytunwyd y dylai’r Gweinidog Busnes gynhyrchu papur ar hyn i’w ystyried gan y Pwyllgor Busnes yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl gwyliau’r haf, ac yr wyf yn ddiolchgar am hynny.

Nick Bourne spoken in English p. 52

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 52

Further to that point of order, I realise that this issue was discussed in the Business Committee today. I raised this issue with you some time ago, as you can confirm. I accept your comments on the Committee structure, which is a less urgent issue. However, there is also an issue relating to questions. Standing Order Nos. 6.26 and 6.33 allow us to table oral and written questions to all Ministers in relation to their responsibilities.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn, sylweddolaf fod y mater hwn wedi ei drafod yn y Pwyllgor Bunses heddiw. Codais y mater hwn gyda chi beth amser yn ôl, fel y gallwch gadarnhau. Derbyniaf eich sylwadau am strwythur y Pwyllgorau, sy’n fater â llai o frys ynghlwm wrtho. Fodd bynnag, mae yna hefyd fater yn ymwneud â chwestiynau. Mae Rheol Sefydlog Rhifau 6.26 a 6.33 yn caniatáu inni gyflwyno cwestiynau llafar ac ysgrifenedig i’r holl Weinidogion mewn perthynas â’u cyfrifoldebau.

I ask you to rule on this. I have tried to table many questions in relation to those Standing Orders, but they are being refused. I appreciate that the recess is close, but it is unsatisfactory that this matter will be considered over the recess. We have a right under Standing Orders to table questions in relation to Ministers’ responsibilities. The First Minister has detailed to us the Deputy First Minister’s responsibilities, and they are confirmed on the Chamberweb, the intranet and the internet. We should, therefore, be able to table questions accordingly. I await your ruling on this. I have tried to table a string of questions to the Minister—on budgets, his role in promotion and so on—which seem to me to be wholly within the spirit of that obligation. With regard to other ministerial obligations in terms of questions, Standing Order No. 6.3 provides that the Minister for Finance, Local Government and Communities should answer questions relating to her responsibility and, similarly, the Minister responsible for Assembly business must answer questions relating to his responsibility other than for business. It seems to me that Assembly Members are being denied a right.

Gofynnaf ichi ddyfarnu ar hyn. Yr wyf wedi ceisio cyflwyno llawer o gwestiynau mewn perthynas â’r Rheolau Sefydlog hynny, ond fe’u gwrthodwyd hwy. Sylweddolaf fod y toriad wrth law, ond mae’n anfoddhaol fod y mater hwn i gael ei ystyried dros y toriad. Mae gennym hawl, o dan y Rheolau Sefydlog, i gyflwyno cwestiynau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r Gweinidogion. Mae Prif Weinidog Cymru wedi manylu ar gyfrifoldebau’r Dirprwy Brif Weinidog wrthym yn fanwl, a chânt eu cadarnhau ar we’r Siambr, y fewnrwyd a’r rhyngrwyd. Dylem, felly, allu cyflwyno cwestiynau yn unol â hynny. Disgwyliaf eich dyfarniad ar hyn. Yr wyf wedi ceisio cyflwyno rhesaid o gwestiynau i’r Gweinidog—ar gyllidebau, ei rôl hyrwyddo ac ati—a’r rheini yn ôl fy nealltwriaeth i yn gyfangwbl o fewn ysbryd y rhwymedigaeth honno. O ran rhwymedigaethau gweinidogol eraill o safbwynt cwestiynau, o dan Reol Sefydlog Rhif 6.3 dylai’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau ateb cwestiynau yn ymwneud â’i chyfrifoldeb ac, yn yr un modd, rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Cynulliad ateb cwestiynau yn ymwneud â’i gyfrifoldeb am bethau ar wahân i fusnes. Mae’n debyg fod un o hawliau Aelodau’r Cynulliad yn cael ei gwadu iddynt.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 53

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 53

There is no issue involving the tabling of written questions. Tabling is not the issue. The issue is the answering of oral questions in the Chamber.

Nid oes dim i’w drafod ynglŷn â chyflwyno cwestiynau ysgrifenedig. Nid cyflwyno yw’r mater dan sylw. Y mater dan sylw yw ateb cwestiynau llafar yn y Siambr.

Nick Bourne spoken in English p. 53

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 53

I am being blocked from tabling these questions, so there is an issue. I am informed by the Table Office that your ruling prevents me from tabling questions on ministerial responsibilities.

Yr wyf yn cael fy rhwystro rhag cyflwyno’r cwestiynau hynny, felly mae yna fater i’w drafod. Dywedir wrthyf gan y Swyddfa Gyflwyno fod eich dyfarniad chi yn fy rhwystro rhag cyflwyno cwestiynau am gyfrifoldebau gweinidogol.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 53

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 53

Order. If any Assembly Member wishes to further discuss issues involving the Table Office with me, my door is always open.

Trefn. Os oes unrhyw Aelod o’r Cynulliad yn dymuno trafod materion pellach yn ymwneud â’r Swyddfa Gyflwyno gyda mi, mae fy nrws ar agor bob amser.

Nick Bourne a gododd—

Nick Bourne rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 53

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 53

Order. There is nothing further relating to the Table Office.

Trefn. Nid oes dim pellach yn ymwneud â’r Swyddfa Gyflwyno.

Kirsty Williams spoken in English p. 53

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 53

Point of order. I raise this under Standing Order No. 7.2, which relates to the language used in the Chamber. In raising his point of order, Mr Bourne referred to the ‘suspension’ of the Deputy First Minister, Michael German. I point out to Mr Bourne and other Members that Michael German was not suspended from his role as Deputy First Minister at any point. Michael German voluntarily stepped aside. The term used was therefore incorrect and should not be allowed to stand in the record of Mr Bourne’s comments.

Pwynt o drefn. Codaf hyn o dan Reol Sefydlog Rhif 7.2, sy’n ymdrin â’r iaith a ddefnyddir yn y Siambr. Wrth godi ei bwynt o drefn, cyfeiriodd Mr Bourne at ‘atal’ Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Michael German. Hoffwn dynnu sylw Mr Bourne ac Aelodau eraill at y ffaith na chafodd Michael German ei atal o’i rôl fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru ar unrhyw adeg. Camodd Michael German i’r naill ochr o’i wirfodd. Nid oedd y term a ddefnyddiwyd yn gywir felly, ac ni ddylid caniatáu iddo sefyll yn y cofnod o sylwadau Mr Bourne.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 54

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 54

I did not hear anything that was disorderly. However, I am grateful to you for putting that on record.

Ni chlywais ddim a oedd allan o drefn. Fodd bynnag, yr wyf yn ddiolchgar ichi am gofnodi hynny.

Ron Davies spoken in English p. 54

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 54

Further to the previous point of order, I was interested to hear the Minister’s response. Many Members are not privy to the discussions that take place in the Business Committee, so the revelation that the Government is considering this matter is something of a surprise. You helpfully referred to section 57(4) of the Government of Wales Act 1998 in discussing the allocation of responsibilities to Cabinet members and Subject Committees, Llywydd. I refer you to section 56(3), which refers to the allocation of accountability in the fields in which the Assembly has functions, to members of the executive committee. I am not sure whether Nick Bourne, in his earlier point of order, was referring to the response to the written question that I tabled to the First Minister, in which he indicated the functions that had been allocated to the Deputy First Minister, which were all of an agricultural nature. As I understand it, the Deputy First Minister has no functions whatsoever in respect of his responsibility for Wales abroad.

Yn ychwanegol at y pwynt blaenorol o drefn, yr oedd gennyf ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog. Nid yw llawer o’r Aelodau yn gwybod am y trafodaethau a gynhelir yn y Pwyllgor Busnes, felly mae clywed bod y Llywodraeth yn ystyried y mater hwn yn rhywfaint o syndod. Cyfeiriasoch yn fuddiol at adran 57(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wrth drafod dyrannu cyfrifoldebau i aelodau’r Cabinet a’r Pwyllgorau Pwnc, Lywydd. Cyfeiriaf chi at adran 56(3), sy’n cyfeirio at ddyrannu atebolrwydd yn y meysydd y mae gan y Cynulliad swyddogaethau ynddynt, i aelodau pwyllgor y weithrediaeth. Nid wyf yn siŵr a oedd Nick Bourne, yn ei bwynt cynharach o drefn, yn cyfeirio at yr ymateb i’r cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais i Brif Weinidog Cymru, lle rhestrai’r swyddogaethau a oedd wedi eu dyrannu i’r Dirprwy Brif Weinidog, yr oedd y rheini i gyd yn amaethyddol eu natur. Yn ôl a ddeallaf fi, felly, nid oes gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru unrhyw swyddogaethau o gwbl yn ymwneud â’i gyfrifoldeb am Gymru dramor.

A fortnight ago, the Agriculture and Rural Development Committee discussed whether the Deputy First Minister, in his attendance at the Committee, could be questioned on the area for which he has wider responsibilities but, it would seem, no functions. Is it the case, therefore, that the Deputy First Minister, in accordance with section 56(3) of the Government of Wales Act 1998, has responsibility but no functions? If so, do we have the right, notwithstanding the provisions in section 56(3), to question him on these responsibilities in the Agriculture and Rural Development Committee?

Bythefnos yn ôl, trafododd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig pa un y gellid holi’r Dirprwy Brif Weinidog, wrth iddo fynychu’r Pwyllgor, am y maes y mae ganddo gyfrifoldebau ehangach amdano ond, yn ôl pob golwg, dim swyddogaethau. A yw’n wir, felly, fod gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, yn unol ag adran 56(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gyfrifoldeb ond dim swyddogaethau? Os felly, a oes gennym hawl, er gwaethaf y darpariaethau yn adran 56(3), i’w holi am y cyfrifoldebau hyn yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig?

David Melding spoken in English p. 55

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 55

Further to this point of order, Standing Orders are a little confused and perhaps point in several directions. Standing Order No. 6.26 states that:

Yn ychwanegol at y pwynt hwn o drefn, mae’r Rheolau Sefydlog braidd yn ddryslyd ac yn pwyntio mewn sawl cyfeiriad efallai. Dywed Rheol Sefydlog Rhif 6.26:

‘Members may table questions for oral answer to any Minister about any matters relating to his or her responsibilities’.

‘Gall Aelodau gyflwyno cwestiynau i’w hateb ar lafar i unrhyw un o’r Gweinidogion a hynny ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud â’i gyfrifoldebau.’

That is clear. In a democratic institution, the distinction between responsibilities and accountabilities is surely a distinction without a difference. They should be the same, and I believe that they are used interchangeably in our legislation and Standing Orders. That is not true of all political systems. There are cases where politicians have responsibility for matters but cannot be held to account. One could think of a Saudi Arabian monarch in this regard. I am not suggesting that the Deputy First Minister is in any way a middle-eastern monarch. I have previously compared him to a grand vizier of the Ottoman empire, which was a little further north.

Mae hynny’n glir. Mewn sefydliad democrataidd, onid yw gwahaniaethu rhwng cyfrifoldeb ac atebolrwydd yn wahaniaethu di-fudd. Dylent fod yr un, a chredaf fod y naill yn cael ei gyfnewid am y llall yn ein deddfwriaeth a’n Rheolau Sefydlog. Nid yw hynny’n wir am bob system wleidyddol. Mae achosion lle bo gan wleidyddion gyfrifoldeb am faterion ond na ellir eu dal i gyfrif. Gellid meddwl am frenin Sawdi-Arabaidd fel hyn. Nid wyf yn awgrymu bod y Dirprwy Brif Weinidog yn ymdebygu mewn unrhyw ffordd i frenin o’r dwyrain canol. Yr wyf wedi ei gymharu cyn hyn ag uchel fisir o’r ymerodraeth Otomanaidd, sydd ychydig ymhellach i’r gogledd.

Standing Orders are clear, and I believe that the rights of Assembly Members are being compromised. Ministers could take a lead on this by saying that they are prepared to be questioned. Changing a Minister’s job title to avoid questions relating to an aspect of that title is a pernicious principle that Members must, with all their energy, oppose. We look to the Chair to sustain us in this contest.

Mae’r Rheolau Sefydlog yn glir, a chredaf fod hawliau Aelodau’r Cynulliad yn cael eu tanseilio. Gallai’r Gweinidogion arwain ar hyn drwy ddweud eu bod yn barod i gael eu holi. Mae newid teitl swydd Gweinidog i osgoi cwestiynau yn ymwneud ag agwedd o’r teitl hwnnw yn egwyddor niweidiol y mae’n rhaid i’r Aelodau ei gwrthwynebu, gyda’u holl egni. Rhaid inni ddibynnu ar y Cadeirydd i’n cynnal yn yr ornest hon.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 55

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 55

In my letter to the Business Committee, which was also made available to the leader of the Welsh Conservatives and, subsequently, to all Members, I proposed a way of amending Standing Orders to meet this difficulty. The issue of accountabilities and responsibilities could be resolved by amending Standing Orders in order to ensure that Ministers can be questioned on their responsibilities. In my view, the Standing Orders are not consistent on these matters.

Yn fy llythyr i’r Pwyllgor Busnes, a ryddhawyd hefyd i arweinydd Ceidwadwyr Cymru ac, wedi hynny, i’r Aelodau i gyd, cynigiais ffordd o ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ymdrin â’r anhawster hwn. Gellid datrys y mater ynglŷn ag atebolrwydd a chyfrifoldebau drwy ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i sicrhau bod modd holi Gweinidogion am eu cyfrifoldebau. Yn fy marn i, nid yw’r Rheolau Sefydlog yn gyson ar y materion hyn.

Glyn Davies spoken in English p. 55

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 55

Further to the point of order raised by Nick Bourne, and particularly the contribution made by Ron Davies, I find it difficult as Chair of the Agriculture and Rural Development Committee to know which questions and issues I can allow to be raised in Committee. That may well happen at tomorrow’s meeting. I have found that my position is difficult and that I can do no more than quote your ruling and Standing Orders, which, I am sure you would agree, is good practice. We need to clarify this situation as quickly as possible because it is unsatisfactory for a Committee Chair to attend meetings without a full understanding of what the position is when a member asks a question relating to procedure.

Yn ychwanegol at y pwynt o drefn a godwyd gan Nick Bourne, ac yn arbennig y cyfraniad a wnaethpwyd gan Ron Davies, fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yr wyf yn ei chael hi’n anodd gwybod pa gwestiynau a materion y caf ganiatáu eu codi yn y Pwyllgor. Mae’n gwbl bosibl y digwydd hynny yn y cyfarfod yfory. Yr wyf wedi canfod fy mod mewn sefyllfa anodd ac na allaf wneud dim ond dyfynnu eich dyfarniad chi a’r Rheolau Sefydlog ac mae hynny, yr wyf yn siŵr y byddech yn cytuno, yn arfer da. Mae angen inni egluro’r sefyllfa hon cyn gyflymed â phosibl oherwydd ei bod hi’n anfoddhaol fod Cadeirydd Pwyllgor yn mynd i gyfarfodydd heb fod yn deall yn llwyr beth yw’r sefyllfa pan fo aelod yn gofyn cwestiwn ynglŷn â’r drefn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 56

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 56

I agree with you that this matter should be resolved as quickly as possible. As regards what happens tomorrow, it is your responsibility as Chair—[ASSEMBLY MEMBERS: ‘Oh.’]

Cytunaf â chi y dylid datrys y mater hwn cyn gyflymed â phosibl. O ran yr hyn a ddigwydd yfory, eich cyfrifoldeb chi fel Cadeirydd—[AELODAU’R CYNULLIAD: ‘Oh.’]

Order. Opposition parties should not become over-excited until I have finished my sentences.

Trefn. Ni ddylai’r gwrthbleidiau gynhyrfu’n ormodol nes y byddaf wedi gorffen fy mrawddegau.

It is within your field of responsibility, Glyn—to use a felicitous phrase—as Chair of the Committee in question, to decide how to conduct business tomorrow or on any other day. I would not seek to rule upon the way in which Committee meetings are chaired. However, there is an opportunity to discuss these issues through the Panel of Chairs, by we which promote good practice in the chairing of committees and share experiences. I will not take this matter further at this stage except to add that I am keen for it to be resolved as soon as possible. I believe that I have responded to all points.

Mae o fewn eich maes cyfrifoldeb chi, Glyn—os caf ddefnyddio ymadrodd priodol—fel Cadeirydd y Pwyllgor dan sylw, i benderfynu sut mae cynnal y busnes yfory neu ar unrhyw ddiwrnod arall. Ni fyddwn yn ceisio dyfarnu ar y ffordd y caiff cyfarfodydd Pwyllgorau eu cadeirio. Fodd bynnag, mae cyfle i drafod y materion hyn drwy’r Panel Cadeiryddion, sy’n gyfrwng i hyrwyddo arferion da wrth gadeirio pwyllgorau ac i rannu profiadau. Nid wyf am fynd â’r mater hwn ymhellach am y tro ac eithrio i ychwanegu fy mod yn awyddus iddo gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl. Credaf fy mod wedi ymateb i’r pwyntiau i gyd.

Nick Bourne spoken in English p. 56

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 56

Further to that point of order, although not specifically, Standing Order No. 6.3 (iii) provides that the Minister with responsibility for Assembly business should answer questions for oral answer related to his responsibilities other than for business at least once every four weeks when the Assembly meets in Plenary. The Cabinet changes were announced on 18 June—four weeks ago today—since which time there have been no questions to the Minister for Open Government on his portfolios of open government, equality of opportunity and human rights. Members should have the opportunity to scrutinise the Government. That has not happened where the Minister for Open Government is concerned. I ask that you rule that this should have happened by today.

Yn ychwanegol at y pwynt hwnnw o drefn, er nad yn benodol, yn ôl Rheol Sefydlog Rhif 6.3 (iii), dylai’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Cynulliad ateb cwestiynau y gofynnir am ateb llafar iddynt mewn perthynas â’i gyfrifoldebau am bethau ar wahân i fusnes o leiaf unwaith bob pedair wythnos pan fo’r Cynulliad yn cwrdd mewn Cyfarfod Llawn. Cyhoeddwyd y newidiadau i’r Cabinet ar 18 Mehefin—bedair wythnos i heddiw—ond ers hynny ni chafwyd cwestiynau i’r Gweinidog dros Lywodraeth Agored ar ei bortffolios llywodraeth agored, cyfle cyfartal a hawliau dynol. Dylai’r Aelodau gael y cyfle i archwilio’r Llywodraeth. Nid yw hyn wedi digwydd mewn perthynas â’r Gweinidog dros Lywodraeth Agored. Gofynnaf ichi ddyfarnu y dylai hyn fod wedi digwydd erbyn heddiw.

Carwyn Jones The Business Minister spoken in English p. 57

Carwyn Jones Y Gweinidog Busnes siaradwyd yn Saesneg t. 57

Further to that point of order, I hear what you say. I cannot give an explanation at this stage, though I am happy to answer questions when appropriate. These matters must be considered at length, as I cryptically indicated earlier on, and as you, Presiding Officer, have since said in the Business Committee. There are discrepancies in terms of which written questions are in order and which oral questions are in order in which issues a Subject Committee can properly become involved. These matters must be resolved. The Government has no intention of stifling discussion, it is simply a matter of getting this right to enable Members to ask questions freely and know the discretion within which the Table Office operates.

Yng nghyswllt y pwynt hwnnw o drefn, clywaf yr hyn a ddywedwch. Ni allaf roi esboniad ar hyn o bryd, er fy mod yn falch o ateb cwestiynau pan fo hynny’n briodol. Rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr i’r materion hyn, fel a nodais i yn gryptig yn gynharach, ac fel yr ydych chithau, Lywydd, wedi dweud ers hynny yn y Pwyllgor Busnes. Mae yna anghysonderau o safbwynt pa gwestiynau ysgrifenedig sydd mewn trefn, pa gwestiynau llafar sydd mewn trefn a pha faterion y mae’n briodol i Bwyllgor Pwnc ymdrin â nhw. Rhaid datrys y materion hyn. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i fygu trafodaeth, mater ydyw o gael hyn yn iawn fel bod yr Aelodau yn gallu gofyn cwestiynau fel a fynnant gan wybod o fewn pa ddisgresiwn y mae’r Swyddfa Gyflwyno yn gweithredu.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 57

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 57

I am anxious that these matters be expedited in Business Committee and that we do not spend time in Plenary rehearsing procedural matters.

Yr wyf yn awyddus i’r Pwyllgor Busnes ymdrin â’r materion hyn yn gyflym ac nad ydym yn treulio amser mewn Cyfarfodydd Llawn yn mynd dros faterion trefniadol.

Nick Bourne spoken in English p. 57

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 57

Further to this point of order, it is clear that this matter is not about Subject Committees. Standing Order No. 6.7 makes provision for at least five minutes in Plenary for oral questions to the Minister with responsibility for Assembly business on matters for which he is responsible other than business. It could not be clearer. I appreciate the opportunity taken to obfuscate the issue, but it is clear.

Yn ychwanegol at y pwynt hwn o drefn, mae’n amlwg mai nid mater ynglŷn â Phwyllgorau Pwnc mo hwn. Yn ôl Rheol Sefydlog Rhif 6.7, mae o leiaf bum munud i’w ganiatáu mewn Cyfarfodydd Llawn ar gyfer cwestiynau llafar i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Cynulliad ar faterion y mae’n gyfrifol amdanynt ar wahân i fusnes. Ni allai fod yn gliriach. Gwerthfawrogaf yr ymgais i dywyllu’r mater, ond mae’n glir.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 57

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 57

The Minister has responded and the matter will be discussed further—[Interruption.]

Mae’r Gweinidog wedi ymateb a chaiff y mater ei drafod ymhellach—[Torri ar draws.]

Order. I know that it is the end of term, but I will not have Members muttering and grumbling. We seek to conduct our business in a businesslike manner. I deplore spending so much time discussing procedural matters that are appropriate for discussion in the Business Committee or privately with me. I have spent time discussing these issues privately with Members and prefer to operate in that way rather than using Plenary time to discuss points of order on these matters.

Trefn. Gwn mai dyma ddiwedd y tymor, ond ni wnaf oddef Aelodau yn mwmial a grwgnach. Yr ydym yn ceisio cynnal ein busnes mewn modd trefnus. Gresynaf ein bod yn treulio cymaint o amser yn trafod materion trefniadol y dylid eu trafod yn y Pwyllgor Busnes neu’n breifat gyda mi. Yr wyf wedi treulio amser yn trafod y materion hyn yn breifat gydag Aelodau ac mae’n well gennyf weithredu felly na defnyddio amser Cyfarfod Llawn yn trafod pwyntiau o drefn ar y materion hyn.

Alun Cairns spoken in English p. 58

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 58

Point of order. I raise this point of order under Standing Order No. 6.8, which states that statements by Ministers may be taken in Plenary without notice. The First Minister advised the Business Partnership Council two weeks ago that the Minister for Finance, Local Government and Communities would make a statement on her plans to allow local authorities to reset business rates and abandon the principle of the uniform business rate. I am suspicious and concerned that the Minister may present her statement in a written format, which will not allow for scrutiny in Plenary.

Pwynt o drefn. Codaf y pwynt hwn o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 6.8, sy’n dweud y gellir ymdrin â datganiadau gan Weinidogion mewn Cyfarfodydd Llawn heb hysbysiad. Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Cyngor Partneriaeth Busnes bythefnos yn ôl y byddai’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gwneud datganiad ar ei chynlluniau i ganiatáu i awdurdodau lleol ailosod trethi busnes a rhoi heibio egwyddor y dreth fusnes unffurf. Yr wyf yn ddrwgdybus a phryderus fod y Gweinidog yn cael cyflwyno ei datganiad ar ffurf ysgrifenedig, sy’n golygu na ellir archwilio’r datganiad mewn Cyfarfod Llawn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 58

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 58

It will be rather difficult to question a Minister in the Chamber for some weeks after Thursday. However, it will be possible to do so whenever a statement is made. You make a clear point that statements should be made in Plenary when the Assembly is in session. We discussed this issue last week and I ruled on it clearly, I hope. What Ministers or Members do during recess is, happily, not a matter for me.

Bydd braidd yn anodd holi Gweinidog yn y Siambr am rai wythnosau ar ôl dydd Iau. Fodd bynnag, bydd yn bosibl gwneud hynny pa bryd bynnag y gwneir datganiad. Gwnewch bwynt clir y dylai datganiadau gael eu gwneud mewn Cyfarfod Llawn pan fo’r Cynulliad mewn sesiwn. Trafodasom y mater hwn yr wythnos diwethaf a dyfarnais arno’n glir, gobeithio. Yn ffodus, nid mater i mi yw’r hyn y mae Gweinidogion nac Aelodau yn ei wneud yn ystod y toriad.

Cynnig Cyfansawdd: Cymeradwyo Gorchmynion

Composite Motion: Approval of Orders

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 58

O dan Reol Sefydlog Rhif 22.25, ni chynhelir dadl ar y cynnig hwn.

Under Standing Order No. 22.25, this motion is not subject to debate.

Carwyn Jones Y Trefnydd siaradwyd yn Gymraeg t. 58

Carwyn Jones The Business Minister spoken in Welsh p. 58

Cynigiaf fod

I propose that

Carwyn Jones Y Trefnydd (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 59

Carwyn Jones The Business Minister (continued) spoken in Welsh p. 59

(Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2002;

Learning Grant Scheme) (Wales) Regulations 2002, laid in the Table Office on 18 June 2002;

2) yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Deddfau nad yw wedi nodi unrhyw faterion sy’n destun pryder yn y Gorchymyn drafft Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2002;

2) considers the report of the Legislation Committee which has not identified any matters for concern in the draft Order, the Education (Assembly Learning Grant Scheme) (Wales) Regulations 2002, laid in the Table Office on 2 July 2002;

3) yn cymeradwyo Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2002;

3) approves the Children Leaving Care (Amendment) (Wales) Regulations 2002, laid in the Table Office on 25 June 2002;

4) yn ystyried:

4) considers:

a) adroddiad y Pwyllgor Deddfau nad yw wedi nodi unrhyw faterion sy’n destun pryder yn y Gorchymyn drafft Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2002.

a) the report of the Legislation Committee which has not identified any matters for concern in the draft Order, the Children Leaving Care (Amendment) (Wales) Regulations 2002, laid in the Table Office on 2 July 2002;

b) yr arfarniad rheoliadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2002. (NDM1133)

b) the regulatory appraisal laid in the Table Office on 25 June 2002. (NDM1133)

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Brian Gibbons
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Peter Law
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cymeradwyo Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002

Approval of the Local Education Authority (Post Compulsory Education Awards) (Wales) Regulations 2002

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 60

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 60

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning (continued) spoken in English p. 60

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 60

I propose that

Cynigiaf fod

Helen Mary Jones spoken in English p. 60

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 60

Plaid Cymru—The Party of Wales welcomes the introduction of the Assembly learning grant and will support this motion. However, I will comment on student hardship and on implementing the Assembly learning grants, to which these regulations relate. I would appreciate the Minister’s response.

Mae Plaid Cymru—The Party of Wales yn croesawu cyflwyno grant dysgu’r Cynulliad a byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn. Fodd bynnag, hoffwn sôn am galedi ymysg myfyrwyr ac am roi grantiau dysgu’r Cynulliad ar waith, materion y mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt. Byddwn yn gwerthfawrogi ymateb gan y Gweinidog.

The Minister will be aware of the latest estimates produced by the National Union of Students that the cost of attending university has doubled in the last four years and that the average debt on graduation is £12,000 and rising. The Assembly learning grant will make a valuable contribution to addressing student hardship, especially for poorer students, but I am sure that the Minister would acknowledge that much more needs to be done. To this end, will the Minister inform us of the latest progress of her discussions with the Westminster Government on abolishing up-front tuition fees? I would be grateful to hear her views about progress before the recess. Is she optimistic that her representations are receiving a favourable hearing? In the hope that the Minister continues to pursue this important agenda, will she discuss with colleagues in Westminster the impact of including student loans and, presumably, Assembly learning grants, as income when assessing housing benefit? I have dealt with two constituency cases where mature students have been forced out of higher education because of the impact of that situation on their family incomes. Given that we have an agreed agenda of social inclusion, that cannot be allowed to continue.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r amcangyfrifon diweddaraf a gynhyrchwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr bod y gost o fynd i’r brifysgol wedi dyblu yn y pedair blynedd ddiwethaf a bod dyledion graddedigion yn £12,000 ar gyfartaledd ac yn cynyddu. Bydd grant dysgu’r Cynulliad yn gyfraniad gwerthfawr tuag at ymdrin â chaledi ymysg myfyrwyr, yn enwedig i fyfyrwyr tlotach, ac yr wyf yn siŵr y byddai’r Gweinidog yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy. I’r perwyl hwn, a wnaiff y Gweinidog ein hysbysu am hynt ddiweddaraf ei thrafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan ar ddileu’r ffïoedd hyfforddi sy’n daladwy ymlaen llaw? Byddwn yn falch o glywed eich barn am unrhyw ddatblygiadau cyn y toriad. A yw’n optimistaidd fod ei sylwadau yn cael gwrandawiad ffafriol? Yn y gobaith y bydd y Gweinidog yn parhau i ymaflyd yn yr agenda bwysig hon, a wnaiff hi drafod gyda chyd-Weinidogion yn San Steffan effaith cynnwys benthyciadau myfyrwyr ac, mae’n debyg, grantiau dysgu’r Cynulliad, fel incwm wrth asesu budd-dâl tai? Yr wyf wedi delio â dau achos yn fy etholaeth lle mae myfyrwyr aeddfed wedi gorfod ymadael ag addysg uwch oherwydd effaith y sefyllfa honno ar incwm eu teuluoedd. O gofio inni gytuno ar agenda o gynhwysiant cymdeithasol, ni ellir caniatáu i hynny barhau.

With regard to implementing Assembly learning grants, I ask the Minister to keep some aspects under review, the first of which is thresholds. Threshold levels at present allow for easy administration because they reflect the levels imposed by central Government for assessing tuition fees. However, those levels are low. Can the Minister review threshold levels when she has had an opportunity to assess uptake? I am particularly concerned about the low level of grant available to students whose family incomes are between £10,000 and £15,000—not a high income for a family.

O ran rhoi grantiau dysgu’r Cynulliad ar waith, gofynnaf i’r Gweinidog gadw rhai agweddau o dan arolwg, a’r gyntaf yw trothwyon. Mae’r lefelau trothwy ar hyn o bryd yn hwyluso’r gwaith gweinyddol gan eu bod yn adlewyrchu’r lefelau a bennwyd gan y Llywodraeth ganolog wrth asesu ffïoedd hyfforddi. Fodd bynnag, mae’r lefelau hynny yn isel. A all y Gweinidog adolygu’r lefelau trothwy pan fydd wedi cael cyfle i asesu’r niferoedd sy’n manteisio ar y ddarpariaeth? Pryderaf yn arbennig am lefel isel y grant sydd ar gael i fyfyrwyr y mae incwm eu teuluoedd rhwng £10,000 a £15,000—nad yw’n incwm uchel i deulu.

I also have grave concerns about the introduction of Assembly learning grants for students who are, for whatever reason, alienated from their parents or guardians. The current hardship arrangements have, for example, enabled lesbian, gay or bisexual students who were disowned by their parents when they came out at university—sadly, too many students still face such situations—to continue in education. There is a concern that the new grant regime will not be flexible enough to deal with such cases and, as a result, those students will drop out. I urge the Minister to commit herself to ensuring that her officials co-operate with the NUS and the national lesbian, gay and bisexual forum to monitor this situation and address any problems identified.

Mae gennyf hefyd bryderon difrifol am gyflwyno grantiau dysgu’r Cynulliad i fyfyrwyr sydd, am ba reswm bynnag, wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu warcheidwaid. Mae’r trefniadau caledi cyfredol wedi galluogi, er enghraifft, myfyrwyr lesbiaid, hoyw neu ddeurywiol a ddiarddelwyd gan eu rhieni ar ôl iddynt ddod allan yn y brifysgol—mae’n drist dweud bod gormod o fyfyrwyr yn dal i wynebu sefyllfaoedd o’r fath—i barhau â’u haddysg. Mae yna bryder na fydd y gyfundrefn grantiau newydd yn ddigon hyblyg i ddelio ag achosion o fath ac, o ganlyniad, y bydd y myfyrwyr hynny yn rhoi’r gorau i astudio. Anogaf y Gweinidog i ymrwymo i sicrhau bod ei swyddogion yn cydweithredu ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a fforwm cenedlaethol lesbiaid, hoywon a’r deurywiol i fonitro’r sefyllfa hon a rhoi sylw i unrhyw broblemau a ganfyddir.

Finally, I welcome the extension of grants to the further education sector. However, I am concerned that the financial incentive of the grant might encourage a small number of students to follow the further education route rather than choose to attend school sixth forms, regardless of what might be the most appropriate choice for their studies. I am not clear whether grants are available for sixth form students, but the public perception is that we have only extended grants to the further education sector. If grants are also available to sixth formers, it is not widely-known or acknowledged. The Minister should emphasise their availability, if that is the case, when publicising the Assembly learning grant. We welcome the regulations—as we do the Assembly learning grant—and we will support them. However, I hope that the Minister will review the issues that we have raised today, with a view to making what is a welcome scheme better and more responsive.

Yn olaf, croesawaf y ffaith y bydd grantiau yn cael eu hymestyn i’r sector addysg bellach. Fodd bynnag, yr wyf yn pryderu y gallai’r cymhelliad ariannol annog nifer fach o fyfyrwyr i ddilyn y llwybr addysg bellach yn hytrach na dewis mynd i ddosbarth chwech mewn ysgol, heb ystyried pa un fyddai’r dewis mwyaf priodol o ran eu hastudiaethau. Nid wyf yn glir a oes grantiau ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth, ond yr argraff sydd gan y cyhoedd yw mai dim ond i’r sector addysg bellach yr ydym wedi ymestyn grantiau. Os oes grantiau ar gael i fyfyrwyr chweched dosbarth hefyd, nid yw hynny’n hysbys nac yn cael ei gydnabod ar hyd ac ar led. Dylai’r Gweinidog bwysleisio eu bod ar gael, os yw hynny’n wir, wrth roi cyhoeddusrwydd i grant dysgu’r Cynulliad. Croesawn y rheoliadau—ynghyd â grant dysgu’r Cynulliad—a byddwn yn eu cefnogi. Fodd bynnag, gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn adolygu’r materion a godwyd gennym heddiw, er mwyn gwneud yr hyn sy’n gynllun a groesawir yn un gwell ac yn fwy ymatebol.

Mick Bates spoken in English p. 62

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 62

The Welsh Liberal Democrats welcome this legislation. I am sure that the Minister would agree that we have come a long way since 1 March 2000, when Tom Middlehurst said:

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu’r ddeddfwriaeth hon. Yr wyf yn siŵr y byddai’r Gweinidog yn cytuno inni droedio ymhell er 1 Mawrth 2000, pan ddywedodd Tom Middlehurst:

‘I have repeated on many occasions in this Chamber that student support policy is the responsibility of the Department of Education and Employment for both England and Wales. The function has not been devolved to the National Assembly for Wales. Consequently, I have no plans to initiate an inquiry into student support arrangements in Wales.’

‘Yr wyf wedi ategu lawer gwaith yn y Siambr hon mai cyfrifoldeb yr Adran Addysg a Chyflogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr yw’r polisïau cynnal myfyrwyr. Nid yw’r swyddogaeth wedi’i datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i roi ymchwiliad ar waith i drefniadau cynnal myfyrwyr yng Nghymru.’

A partnership Government was then formed. The Rees report was only produced because the Liberal Democrats insisted upon it when we entered into the partnership Government. We fully supported its conclusions. I am sure that the Minister would agree that our stance that maintenance grants should be re-introduced and tuition fees abolished, has been vindicated.

Yna ffurfiwyd y Llywodraeth bartneriaeth. Dim ond am i’r Democratiaid Rhyddfrydol fynnu hynny wrth ymuno â’r Llywodraeth bartneriaeth y cafodd adroddiad Rees ei gynhyrchu. Cefnogwn ei gasgliadau yn llwyr. Yr wyf yn siŵr bod y Gweinidog yn cytuno bod ein safiad ni, y dylai grantiau cynhaliaeth gael eu hailgyflwyno a ffïoedd hyfforddi gael eu dileu, wedi cael ei gyfiawnhau yn llwyr.

The Assembly learning grant will enable students who would otherwise be deterred from going to university to earn a degree. I am sure that we all welcome that. While the number of students entering university has significantly increased in Scotland, it has stagnated in England and Wales. In England, there is a difference between Liberal Democrat policy and Labour Government policy. The situation in Scotland and Wales, where the Liberal Democrats are in power, is different. When we are in power, poorer students go to university. When Labour exclusively is in power, they do not. The grant is a major step towards repairing the consequences of a generation of ‘Tory/Blair’ rule. However, we cannot rest on our laurels. Britain spends less on universities per student than any other industrialised nation. The worldwide reputation that British and Welsh academia enjoys has been earned despite Government policy and not because of it. The battle to abolish tuition fees continues and we will fight until we have achieved our aim. However, the Assembly learning grant is a major achievement for the partnership Government and the Assembly. The funding given to local authorities will be a major investment in our future. Sadly, such investment has been lacking for a whole generation. We are now acting in partnership to correct these mistakes.

Bydd grant dysgu’r Cynulliad yn galluogi myfyrwyr, a fyddai fel arall yn cael eu rhwystro rhag mynd i’r brifysgol, i ennill gradd. Yr wyf yn siŵr ein bod oll yn croesawu hynny. Tra bo nifer y myfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol wedi cynyddu’n sylweddol yn yr Alban, aros yn ei unfan a wnaeth yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr, mae gwahaniaeth rhwng polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol a pholisi’r Llywodraeth Lafur. Mae’r sefyllfa yn yr Alban a Chymru, lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym, yn wahanol. Lle’r ydym ni mewn grym, mae myfyrwyr tlotach yn mynd i’r brifysgol. Pan mae dim ond Llafur sydd mewn grym, nid yw hynny’n digwydd. Mae’r grant yn gam mawr tuag at wneud iawn am ganlyniadau cenhedlaeth o lywodraeth ‘Tory/Blair’. Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae Prydain yn gwario llai ar brifysgolion fesul myfyriwr nag unrhyw genedl ddiwydiannol arall. Enillwyd yr enw da sydd gan academwyr Cymru a Phrydain drwy’r byd er gwaethaf polisi’r Llywodraeth, nid o’i herwydd. Mae’r frwydr i ddileu ffïoedd hyfforddi yn parhau a byddwn yn ymladd hyd nes y byddwn wedi cyflawni ein nod. Fodd bynnag, mae grant dysgu’r Cynulliad yn bluen yn het y Llywodraeth bartneriaeth a’r Cynulliad. Bydd y cyllid a roddir i’r awdurdodau lleol yn fuddsoddiad mawr yn ein dyfodol. Yn anffodus, ni chafwyd buddsoddiad o’r fath am genhedlaeth gyfan. Yr ydym yn gweithredu mewn partneriaeth yn awr i gywiro’r camgymeriadau hyn.

Jonathan Morgan spoken in English p. 63

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 63

I do not often sympathise with my colleague, the Minister for Education and Lifelong Learning, or feel sorry for her. However, on this occasion, having listened to Mick Bates, I sympathise with the whole Cabinet. I am pleased that the Liberal Democrat education spokesman supported the Rees report and its recommendations: a key recommendation was to keep tuition fees to be paid at the end of a degree but to abolish up-front fees. I am pleased that the Liberal Democrats have finally admitted that they are still in favour of keeping tuition fees, although you would not believe it if you spoke to people outside the Chamber. People seem to have been given the impression that the Liberal Democrats would happily abolish tuition fees; we have now heard them say that they favour keeping them.

Nid wyf yn cydymdeimlo â’m cyd-Aelod, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn aml, nac yn teimlo trueni drosti. Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, ar ôl gwrando ar Mick Bates, cydymdeimlaf â’r Cabinet cyfan. Yr wyf yn falch i lefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi adroddiad Rees a’i argymhellion: un argymhelliad allweddol oedd cadw ffïoedd hyfforddi sydd i’w talu ar ddiwedd gradd ond dileu’r ffïoedd a delir ymlaen llaw. Yr wyf yn falch fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyfaddef o’r diwedd eu bod yn dal o blaid cadw ffïoedd hyfforddi, er na fyddech yn credu hynny pe baech yn siarad â phobl y tu allan i’r Siambr. Mae pobl fel pe baent wedi cael yr argraff y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod iawn i ddileu ffïoedd hyfforddi; yn awr, yr ydym wedi eu clywed yn dweud eu bod o blaid eu cadw.

We will support the regulations because we see this as a step in the right direction. I further see this—

Byddwn yn cefnogi’r rheoliadau oherwydd gwelwn hyn fel cam i’r cyfeiriad iawn. Gwelaf hyn hefyd—

Peter Black spoken in English p. 64

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 64

It is always nice to witness a Damascene conversion, Jonathan. You are keen on tuition fees now, but was it not the Conservative Party that phased out student grants and introduced tuition fees in the first place?

Mae bob amser yn braf tystio i dröedigaeth ar y ffordd i Ddamasgus, Jonathan. Yr ydych yn frwd dros ffïoedd hyfforddi yn awr, ond onid y Blaid Geidwadol a wnaeth i ffwrdd yn raddol â grantiau myfyrwyr a chyflwyno ffïoedd hyfforddi yn y lle cyntaf?

Jonathan Morgan spoken in English p. 64

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 64

I will remind you of a few facts, Peter. First, I have never favoured tuition fees and I still do not believe that tuition fees are right. We should not charge students to enter higher education. Prior to the 1997 general election the Labour Party promised not to introduce tuition fees and then made a complete u-turn—no doubt after gaining the support of thousands of students across Britain—and introduced tuition fees. It was also the Labour Party that finally abolished the maintenance grant. It was not abolished under the Conservative Party; it was phased out in line with the introduction of further support to the student loans company. It was the Labour Party that put the final nails in the coffin. I also remind Peter Black that one of the first steps that I took as an elected Member was to table a statement of opinion calling for the establishment of a committee of inquiry into student hardship. You may wish to ask how many Liberal Democrat Members signed that statement. I believe that it was the first statement of opinion to be tabled, which was in July 1999. I am pleased to see that a committee of inquiry was established and that the Rees report was published. I accept some of the praise for having first introduced this issue onto the agenda.

Atgoffaf chi o rai ffeithiau, Peter. Yn gyntaf, ni fûm erioed o blaid ffïoedd hyfforddi ac nid wyf yn credu o hyd bod ffïoedd hyfforddi yn briodol. Ni ddylem godi ar fyfyrwyr i ddilyn cyrsiau addysg uwch. Cyn etholiad cyffredinol 1997 addawodd y Blaid Lafur beidio â chyflwyno ffïoedd hyfforddi ac yna gwnaeth dro pedol llwyr—ar ôl cael cefnogaeth miloedd o fyfyrwyr ar draws Prydain mae’n siŵr—a chyflwyno ffïoedd hyfforddi. Y Blaid Lafur hefyd a gafodd wared yn derfynol â’r grant cynhaliaeth. Ni chafodd ei ddileu o dan y Blaid Geidwadol, cafod ei ostwng yn raddol fel yr oedd rhagor o gymorth i’r cwmni benthyciadau myfyrwyr yn cael ei gyflwyno. Y Blaid Lafur a roddodd yr hoelion olaf yn yr arch. Atgoffaf Peter Black hefyd mai un o’r camau cyntaf a gymerais fel Aelod etholedig oedd cyflwyno datganiad barn yn galw am sefydlu pwyllgor i ymchwilio i galedi ymysg myfyrwyr. Efallai yr hoffech ofyn sawl Aelod o blith y Democratiaid Rhyddfrydol a lofnododd y datganiad hwnnw. Credaf mai hwnnw oedd y datganiad barn cyntaf i gael ei gyflwyno, yng Ngorffennaf 1999. Yr wyf yn falch i weld bod pwyllgor ymchwilio wedi ei sefydlu ac i adroddiad Rees gael ei gyhoeddi. Derbyniaf rywfaint o’r clod am roi’r mater hwn ar yr agenda i ddechrau.

By introducing the grant, the Assembly Government is almost admitting the failure of the Labour Party’s policies since 1997. It is almost apologising for the fact that the Government has not got its policies right and admitting that introducing tuition fees and abolishing the maintenance grant have been deeply damaging. While we will support the regulations today, I have yet to be convinced by the criteria that will be used to determine which students qualify for the grant. Similarly to Helen Mary Jones, I do not believe that it will have the maximum possible effect. The statistics and criteria that will be used may lead to the exclusion of a large number of students in Wales. It may exclude a large number of people who by no means regard themselves as middle class—an issue that seems to be a hang-up of the current administration. It may not have the effect that the Government desires. We hope that administration costs for the grant by local education authorities will be considered and that the costs will not be too onerous.

Drwy gyflwyno’r grant, mae Llywodraeth y Cynulliad bron iawn yn cyfaddef methiant polisïau’r Blaid Lafur er 1997. Mae bron iawn yn ymddiheuro am y ffaith nad yw’r Llywodraeth wedi cael ei pholisïau yn iawn ac yn cyfaddef bod cyflwyno ffïoedd hyfforddi a dileu’r grant cynhaliaeth wedi bod yn hynod niweidiol. Er ein bod yn cefnogi’r rheoliadau heddiw, nid wyf wedi fy argyhoeddi eto gan y meini prawf a ddefnyddir i bennu pa fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant. Yn yr un modd â Helen Mary Jones, ni chredaf y bydd yn cael cymaint o effaith ag sy’n bosibl. Efallai y bydd yr ystadegau a’r meini prawf a ddefnyddir yn arwain at allgáu nifer fawr o fyfyrwyr yng Nghymru. Gallai allgáu nifer fawr o bobl sydd ymhell o fod yn ystyried eu hunain yn ddosbarth canol—mater sydd fel pe bai’n obsesiwn i’r weinyddiaeth gyfredol. Efallai na chaiff yr effaith y mae’r Llywodraeth yn ei dymuno. Yr ydym yn gobeithio y bydd costau gweinyddu’r grant i’r awdurdodau addysg lleol yn cael eu hystyried ac na fydd y costau yn rhy feichus.

I also raised a concern in Committee that relates to further education colleges. Many colleagues from the FE sector have told me that they would prefer to see the funding going directly to colleges, to be administered centrally according to the needs and priorities of students at those institutions. They are not convinced that merely handing the money to students will necessarily provide them with the assistance that they need. They strongly believe that allocating the funding to FE colleges to be distributed and for them to determine how it is spent may be a better way of ensuring the greatest degree of financial support for students in further education.

Codais bryder yn y Pwyllgor hefyd ynglŷn â cholegau addysg bellach. Mae llawer o gydweithwyr o’r sector addysg bellach wedi dweud wrthyf y byddai’n well ganddynt weld y cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r colegau, i gael ei weinyddu’n ganolog yn unol ag anghenion a blaenoriaethau myfyrwyr yn y sefydliadau hynny. Nid ydynt wedi eu hargyhoeddi y bydd trosglwyddo’r arian i fyfyrwyr o reidrwydd yn rhoi iddynt y cymorth y maent ei angen. Credant yn gryf y byddai dyrannu’r cyllid i’r colegau AB i’w ddosbarthu ac iddynt hwy benderfynu sut y mae i gael ei wario yn well ffordd efallai o sicrhau’r gefnogaeth ariannol fwyaf bosibl i fyfyrwyr mewn addysg bellach.

It would be useful for the Assembly, as Helen Mary Jones rightly said, to be given an update on the current position with regard to the work of examining tuition fees taking place at Westminster. I understand that the Minister is working closely with the Secretary of State for Education and Skills in London. However, it would be useful for the Assembly and all of Wales to see whether any real progress is being made, as this remains a matter for the Westminster Government.

Byddai’n dda o beth, fel a ddywedodd Helen Mary Jones yn briodol, pe bai’r Cynulliad yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfredol o ran y gwaith sy’n mynd rhagddo yn San Steffan o edrych ar ffïoedd hyfforddi. Deallaf fod y Gweinidog yn gweithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau yn Llundain. Fodd bynnag, byddai’n dda o beth i’r Cynulliad ac i Gymru gyfan weld a oes unrhyw gynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, gan mai mater i Lywodraeth San Steffan yw hwn o hyd.

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 66

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 66

I remind Members that they will be voting today on a mechanism to enable local authorities to pay Assembly learning grants to those eligible.

Atgoffaf yr Aelodau mai pleidleisio a fyddant heddiw ar fecanwaith i alluogi awdurdodau lleol i dalu grantiau dysgu’r Cynulliad i’r sawl sy’n gymwys.

I will respond to some specific concerns that were raised. I assure you, Helen Mary Jones, that we have always said that this will be a pathfinder year. It is a huge investment for the Assembly: some £44 million, which is set to increase in future budget planning rounds. We will want to review uptake. We hope that all students eligible in terms of income—some 50,000 going into higher and further education—will take up the grant. I hope that all Members will encourage everyone who qualifies to take up the new grant.

Byddaf yn ymateb i rai pryderon neilltuol a godwyd. Gallaf eich sicrhau, Helen Mary Jones, ein bod wedi dweud erioed mai blwyddyn o dorri cwys newydd fydd hon. Mae’n fuddsoddiad enfawr i’r Cynulliad: rhyw £44 miliwn, a bydd yn cynyddu yng nghylchoedd cynllunio’r gyllideb i’r dyfodol. Byddwn am adolygu’r niferoedd sy’n manteisio ar y grantiau. Gobeithiwn y bydd pob myfyriwr sy’n gymwys yn nhermau incwm—rhyw 50,000 sy’n mynd i addysg uwch a phellach—yn manteisio ar y grant. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau i gyd yn annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y grant newydd.

The Secretary of State for Education and Skills is announcing her strategy in the House of Commons today in response to the comprehensive spending review. That includes a commitment to publish a strategy document in the autumn setting out the 10-year vision for the development and reform of higher education in England. The strategy will set out how the student support system will be developed so that it underpins and reinforces our aims of excellence, access and participation, while sharing the cost of higher education fairly among those who benefit from it, namely graduates, their families, and the wider public through taxation.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau yn cyhoeddi ei strategaeth yn Nhŷ‘r Cyffredin heddiw mewn ymateb i’r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Cynhwysir ynddi addewid i gyhoeddi dogfen strategaeth yn yr hydref yn cyflwyno’r weledigaeth 10 mlynedd i ddatblygu a diwygio addysg uwch yn Lloegr. Bydd y strategaeth yn nodi sut y caiff y system cymorth i fyfyrwyr ei datblygu fel ei bod yn sylfaen i ac yn atgyfnerthu ein nodau, sef rhagoriaeth, mynediad a chyfranogiad, tra’n rhannu cost addysg uwch yn deg ymysg y rhai sy’n elwa ohoni, sef graddedigion, eu teuluoedd, a’r cyhoedd ehangach drwy drethiant.

That statement is being given this afternoon, and I will be keeping in close contact with my colleague, the Secretary of State, on that development. I can also assure you that we are in constant dialogue with the NUS in Wales—the NUS women’s officer participated in the launch of the Assembly learning grants. The NUS has been supportive of the way in which we have developed this agenda. I also confirm that these grants are not available for students under 18 years of age, because we do not want to encourage young people to leave sixth forms and go to colleges. The grants are for those people who are two years beyond the leaving age for statutory education.

Mae’r datganiad hwnnw yn cael ei roi y prynhawn yma, a byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos a’m cyd-Weinidog, yr Ysgrifennydd Gwladol, ynglŷn â’r datblygiad hwnnw. Gallaf eich sicrhau hefyd ein bod mewn deialog parhaus ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru—cymerodd swyddog menywod yr Undeb ran yn lansiad grantiau dysgu’r Cynulliad. Bu’r Undeb yn gefnogol iawn o sut yr ydym wedi datblygu’r agenda hon. Cadarnhaf hefyd nad yw’r grantiau hyn ar gael i fyfyrwyr o dan 18 oed, oherwydd nid ydym am annog pobl ifanc i ymadael â’r chweched dosbarth a mynd i golegau. Grantiau yw’r rhain i’r bobl hynny sydd ddwy flynedd y tu hwnt i’r oed ar gyfer ymadael ag addysg statudol.

Helen Mary Jones spoken in English p. 67

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 67

That clarification was helpful. Some confusion has arisen because of the Chancellor’s announcement with regard to possible bursaries for sixth form and further education students aged 16 years and over in England. When you review Assembly learning grants, it might be appropriate to consider extending them to students aged 16 years and over and targeting those students in most need, who might be in danger of exiting education altogether to look for employment because of family pressures.

Yr oedd yr eglurhad o gymorth. Mae peth dryswch wedi codi oherwydd cyhoeddiad y Canghellor ynglŷn â bwrsariaethau posibl i fyfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach 16 oed a hŷn yn Lloegr. Pan fyddwch yn adolygu grantiau dysgu’r Cynulliad, efallai y byddai’n briodol ystyried eu hymestyn i fyfyrwyr 16 oed a hŷn a’u targedu at y myfyrwyr hynny sy’n fwyaf anghennus, a allai fod mewn perygl o ymadael â byd addysg yn gyfangwbl i chwilio am waith oherwydd pwysau teuluol.

Jane Davidson spoken in English p. 67

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 67

It is important that the agenda is right for us in Wales. Last year, the number of young people in Wales between the ages of 16 and 18 who were not in employment, education or training was just over 1,000. We are talking about a small group that we have not managed to win over in terms of that agenda. I was pleased that that figure reduced dramatically last year. We want to continue in that direction, and I assure the Assembly that we would always consider mechanisms for widening participation, because the more young people we get into education, employment and training, the better our skills and the better our economy.

Mae’n bwysig fod yr agenda yn iawn i ni yng Nghymru. Y llynedd, ychydig dros 1,000 oedd nifer y bobl ifanc yng Nghymru rhwng 16 a 18 oed nad oeddent mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Yr ydym yn sôn am grŵp bach nad ydym wedi llwyddo i’w darbwyllo o ran yr agenda honno. Yr wyf yn falch fod y ffigur hwnnw wedi gostwng yn ddramatig y llynedd. Yr ydym am barhau i’r cyfeiriad hwnnw, a gallaf sicrhau’r Cynulliad y byddem bob amser yn ystyried mecanweithiau i ehangu cyfranogiad, oherwydd po fwyaf o bobl ifanc a gawn i mewn i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, y gorau fydd ein sgiliau a’r gorau fydd ein economi.

The Presiding Officer said earlier that we were a long way from elections, but listening to Mick Bates, he may have thought that they were a little nearer. However, I reconfirm Tom Middlehurst’s statement that student support arrangements are not devolved. Tom’s statement was accurate. Your contribution today, Mick, was selective. The partnership agreement wanted the Assembly Government to be bound by the outcomes of the Rees report and to take on board its recommendations. As Minister for Education and Lifelong Learning, I have been happy to do that, including the recommendation that the costs of higher education should be shared between graduates, their families and the wider public. Your party has not taken that recommendation on board, despite the fact that it is clearly included in the Rees report.

Dywedodd y Llywydd yn gynharach fod yr etholiadau ymhell i ffwrdd, ond o wrando ar Mick Bates, efallai ei fod ef wedi credu eu bod ychydig yn nes. Fodd bynnag, gallaf ailgadarnhau datganiad Tom Middlehurst nad yw’r trefniadau cymorth i fyfyrwyr wedi’u datganoli. Yr oedd datganiad Tom yn gywir. Yr oedd eich cyfraniad chi heddiw, Mick, yn ddetholus. Yr oedd y cytundeb bartneriaeth am i Lywodraeth y Cynulliad gael ei rhwymo gan ganlyniadau adroddiad Rees a mabwysiadu ei argymhellion. Fel y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, bûm yn falch o wneud hynny, yn cynnwys yr argymhelliad y dylai costau addysg uwch gael eu rhannu rhwng graddedigion, eu teuluoedd a’r cyhoedd ehangach. Nid yw eich plaid chi wedi mabwysiadu’r argymhelliad hwnnw, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei gynnwys yn glir yn adroddiad Rees.

Tom Middlehurst spoken in English p. 68

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 68

Do you agree that the many laudable initiatives that you have introduced as Minister, including Assembly learning grants, have been made possible by the generous settlement that we have received from the Westminster Government and the fact that Gordon Brown has ensured that the economy can deliver the necessary investment that we in Wales are now enjoying?

A ydych yn cytuno mai’r setliad hael a dderbyniasom oddi wrth Lywodraeth San Steffan, a’r ffaith bod Gordon Brown wedi sicrhau bod yr economi yn gallu darparu’r buddsoddiad angenrheidiol yr ydym ni yng Nghymru yn ei fwynhau yn awr, sydd wedi gwneud y llu o gynlluniau canmoladwy a gyflwynwyd gennych fel Gweinidog yn bosibl?

Jane Davidson spoken in English p. 68

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 68

It is true to say that I would not be standing here today putting the final piece in place in terms of the directions for the delivery of Assembly learning grants if our previous comprehensive spending review had not been so successful for Wales. It is important to acknowledge that our key commitment as an Assembly Government has been about widening participation in education. All our policies lead in that direction.

Mae’n wir dweud na fyddwn yn sefyll yma heddiw yn rhoi’r darn olaf yn ei le o ran cyfarwyddiadau i sefydlu grantiau dysgu’r Cynulliad pe na bai ein hadolygiad cynhwysfawr blaenorol o wariant wedi bod mor llwyddiannus i Gymru. Mae’n bwysig cydnabod mai ehangu cyfranogiad mewn addysg fu ein hymrwymiad allweddol fel Llywodraeth y Cynulliad. Mae ein polisïau i gyd yn arwain i’r cyfeiriad hwnnw.

Jonathan made the point that a number of colleges would like to keep control of the money. That does not surprise me, but our commitment is to a learner-focused system. We have therefore ensured that local education authorities, which are in a far better position to support the individual learner in terms of making choices about further and higher education, will be responsible for delivery, not least because they are the bodies responsible for determining whether or not people are involved in paying fees. We wanted to use the simplest possible mechanism to ensure that the learners of Wales have one port of call. In terms of higher education in particular, it is a simple system: once students have been identified as not paying fees and their income has been checked to ensure that it fulfils our requirements, there is a simple form to fill in to ensure that they are eligible for an Assembly learning grant. There is therefore no added bureaucracy in the system.

Gwnaeth Jonathan y pwynt y byddai nifer o golegau yn hoffi cadw rheolaeth dros yr arian. Nid yw hynny yn fy synnu, ond mae ein hymrwymiad ni i system sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Yr ydym felly wedi sicrhau mai’r awdurdodau addysg lleol, sydd mewn llawer gwell sefyllfa i gefnogi’r dysgwr unigol o ran gwneud dewisiadau am addysg bellach ac uwch, fydd yn gyfrifol am gyflawni’r addewid, nid leiaf am mai nhw yw’r cyrff sy’n gyfrifol am benderfynu a yw pobl i dalu ffïoedd ai peidio. Yr oeddem am ddefnyddio’r mecanwaith symlaf posibl i sicrhau nad yw dysgwyr Cymru ond yn gorfod mynd i un man cyswllt. O ran addysg uwch yn arbennig, mae’n system syml: unwaith y pennir nad yw myfyrwyr yn talu ffïoedd a bod eu hincwm wedi ei wirio i wneud yn siŵr ei fod yn ateb ein gofynion, mae ffurflen syml i’w llenwi i sicrhau eu bod yn gymwys am grant dysgu’r Cynulliad. Nid oes unrhyw fiwrocratiaeth ychwanegol yn y system felly.

Jonathan Morgan spoken in English p. 69

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 69

I accept your requirement that there should be a focus on the learner. However, some colleges are concerned, not about the control of the money, but that they will face difficulties further into the financial year in trying to find the money in their budgets to provide further assistance if hardship is sustained. That concern has been expressed to me. It is all very well handing the money to the student in the form of this grant, but where would the support come from to provide money to colleges further into the financial year if they felt that they had to provide additional hardship assistance? That was the main concern.

Yr wyf yn derbyn eich gofyniad y dylai’r ffocws fod ar y dysgwr. Fodd bynnag, mae rhai colegau yn pryderu, nid am reoli’r arian, ond y byddant yn wynebu anawsterau yn ddiweddarach i mewn i’r flwyddyn ariannol wrth geisio canfod arian yn eu cyllidebau i ddarparu cymorth pellach os bydd caledi yn parhau. Mae’r pryder hwnnw wedi ei fynegi wrthyf fi. Mae’n ddigon hawdd trosglwyddo’r arian i’r myfyriwr ar ffurf y grant hwn, ond o ble y deuai’r cymorth i ddarparu arian i golegau yn ddiweddarach i mewn i’r flwyddyn ariannol pe teimlent fod yn rhaid iddynt ddarparu cymorth ychwanegol rhag caledi? Dyna oedd y pryder pennaf.

Jane Davidson spoken in English p. 69

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 69

The Rees report recommendations suggest that a small amount of money should be kept in financial contingency funds in higher and further education to ensure that there is money available for hardship and access. We considered that, and a sum of about £12 million has been made available. Seven million pounds of that money is available to further education to ensure that it can properly support access arrangements where necessary. Other Members have also raised this concern, and it is particularly important in a pathfinder year, when we are moving from a system where access and hardship funds have been delivered by the institutions, to one in which individuals will benefit.

Mae adroddiad Rees yn awgrymu y dylid cadw swm bach o arian mewn cronfeydd ariannol wrth gefn o fewn addysg uwch a phellach i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer caledi a mynediad. Cafodd hynny ei ystyried, ac mae swm o ryw £12 miliwn wedi ei ddarparu. Mae saith miliwn o bunnoedd o’r arian hwnnw ar gael i addysg bellach i sicrhau y gall gynorthwyo trefniadau mynediad yn briodol lle bo angen. Mae Aelodau eraill hefyd wedi codi’r pryder hwn, ac mae’n neilltuol o bwysig mewn blwyddyn sy’n torri cwys newydd, wrth inni symud o system lle’r oedd yr arian mynediad a chaledi yn cael ei gyflwyno gan y sefydliadau, i un lle bydd unigolion yn elwa.

Notwithstanding the debate, it is important to note that the Assembly learning grant is a new initiative by the Assembly Government. The grants will, we hope, incentivise education. They will encourage young people to go on to develop greater skills and greater opportunities for higher education. We are keen to ensure that people can stay in the education and training system as long as possible in order to benefit from higher skills. That is why—once again, uniquely within the UK—we are considering supporting skills pilot schemes to level 3 qualifications, whereas across the border it is only to level 2. Everything we do is focused on widening participation and enhancing skills levels. This small piece of legislation is important. In the early discussions on the Education Bill, this clause was going to be removed altogether. We have retained it in education legislation for the benefit of Wales, with the strong support of my colleague, Estelle Morris, to ensure that we can deliver the agenda that we wish to see in Wales.

Er gwaethaf y ddadl, mae’n bwysig nodi mai menter newydd gan Lywodraeth y Cynulliad yw grant dysgu’r Cynulliad. Bydd y grantiau, gobeithiwn, yn gymhelliad i fynnu addysg. Byddant yn annog pobl ifanc i fynd ymlaen i ddatblygu gwell sgiliau a gwell cyfleoedd ar gyfer addysg uwch. Yr ydym yn awyddus i sicrhau bod pobl yn gallu aros yn y system addysg a hyfforddiant gyhyd â phosibl er mwyn elwa o sgiliau uwch. Dyna pam—ac unwaith eto, mae hyn yn unigryw yn y DU—yr ydym yn ystyried cefnogi cynlluniau sgiliau peilot hyd at gymwysterau lefel 3, er na wneir hynny ond hyd at lefel 2 dros y ffin. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad a gwella lefelau sgiliau. Mae’r darn bach hwn o ddeddfwriaeth yn bwysig. Yn y trafodaethau cynnar ynglŷn â’r Mesur Addysg, yr oedd y cymal hwn yn mynd i gael ei ddileu yn gyfangwbl. Yr ydym wedi ei gadw yn y ddeddfwriaeth addysg er budd Cymru, gyda chefnogaeth gref fy nghyd-Weinidog, Estelle Morris, i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni’r agenda yr ydym am ei gweld yng Nghymru.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 70

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 70

Pleidleisiwn yn awr ar egwyddor y rheoliadau.

We will now vote on the principle of the regulations.

Cynnig NDM1134 Jane Davidson t. 70

Motion NDM1134 Jane Davidson p. 70

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 71

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 71

Pleidleisiwn yn awr ar gymeradwyo’r Gorchymyn.

We will now vote on approving the Order.

Cynnig NDM1135 Jane Davidson t. 71

Motion NDM1135 Jane Davidson p. 71

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Carwyn Jones Y Trefnydd siaradwyd yn Gymraeg t. 72

Carwyn Jones The Business Minister spoken in Welsh p. 72

Cynigiaf fod

I propose that

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 4.21 p.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 4.21 p.m.

Cymeradwyo Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 a Chod o Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw: Ieir Dodwy

Approval of the Welfare of Farmed Animals (Wales) (Amendment) Regulations 2002 and the Code of Recommendations for the Welfare of Livestock: Laying Hens

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 73

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 73

These motions will be debated together, unless any Member objects.

Caiff y cynigion hyn eu trafod gyda’i gilydd, onid oes Aelodau yn gwrthwynebu.

Before I call the Minister to propose the motions, I appeal to Members: following this debate is a debate that may well take an hour. It is now 4.21 p.m., so the more succinct Members’ speeches are, the sooner we will finish today’s session.

Cyn imi alw ar y Gweinidog i gynnig y cynigion, apeliaf ar yr Aelodau: yn dilyn y ddadl hon ceir dadl a allai yn hawdd gymryd awr. Mae’n 4.21 p.m. yn awr, felly po fwyaf cryno fydd areithiau’r Aelodau, y cyflymaf y byddwn yn gorffen cyfarfod heddiw.

I have selected amendment 1 to the second motion in the name of Glyn Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 i’r ail gynnig yn enw Glyn Davies.

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad spoken in English p. 73

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor siaradwyd yn Saesneg t. 73

I propose that

Cynigiaf fod

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad (continued) spoken in English p. 73

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 73

I propose that

Cynigiaf fod

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad (continued) spoken in English p. 74

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 74

I propose that

Cynigiaf fod

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad (continued) spoken in English p. 74

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 74

I propose that

Cynigiaf fod

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad (continued) spoken in English p. 74

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 74

To assist matters, I will just note that I will support the amendment. I will respond to the points made in the debate in my closing speech.

I gynorthwyo pethau, yr wyf am nodi y byddaf yn cefnogi’r gwelliant. Byddaf yn ymateb i’r pwyntiau a wneir yn y ddadl yn fy araith gloi.

Glyn Davies spoken in English p. 74

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 74

I propose amendment 1 to the second motion. Insert as new point 2, and renumber accordingly:

Cynigiaf welliant 1 i’r ail gynnig. Ychwanegu pwynt 2 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Glyn Davies (continued) spoken in English p. 74

Glyn Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 74

The Agriculture and Rural Development Committee considered this statutory instrument on 19 June 2002 and recommended five amendments to the Minister. As Chair of that Committee, I tabled this amendment to draw attention to the Committee’s considerations. We are in new territory in terms of how Committees deal with statutory instruments, as has been discussed today. In effect, I tabled the amendment as a procedural device.

Ystyriodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yr offeryn statudol hwn ar 19 Mehefin 2002 ac argymhellodd bum gwelliant i’r Gweinidog. Fel Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw, cyflwynais y gwelliant hwn er mwyn tynnu sylw at ystyriaethau’r Pwyllgor. Yr ydym ar dir newydd yma o ran sut mae’r Pwyllgorau yn delio ag offerynnau statudol, fel a drafodwyd heddiw. Mewn gwirionedd, cyflwynais y gwelliant fel dyfais drefniadol.

There is no reason why anybody in this Chamber should not support my amendment, no matter what their views, as it does not lead to any change in the Order. To do that would have necessitated tabling separate amendments by 5 p.m. yesterday. However, I want to make one important and closely related point on the content of the Order, which is to do with the development of free-range egg production. Today, a representative of that industry, who travelled to the Assembly especially for the purpose, drew to my attention a serious matter affecting the development of that industry in Dolau, Radnorshire. Over recent weeks, vicious foxes have wiped out the entire free-range egg industry of Dolau. Not content with killing one or two chickens for their table, they ruthlessly slaughtered the entire flock, destroying an entire developing industry. That is the consequence of not hunting with dogs during the 2001 foot and mouth disease crisis.

Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai unrhyw un yn y Siambr hon gefnogi fy ngwelliant, beth bynnag fo’u barn, gan nad yw’n peri unrhyw newid yn y Gorchymyn. Byddai gwneud hynny wedi golygu bod yn rhaid cyflwyno gwelliannau unigol erbyn 5 p.m. ddoe. Fodd bynnag, hoffwn wneud un pwynt pwysig sydd â pherthynas agos â chynnwys y Gorchymyn, yn ymwneud â datblygu cynhyrchiant wyau buarth. Heddiw, tynnodd cynrychiolydd o’r diwydiant hwnnw, a oedd wedi teithio i’r Cynulliad yn arbennig i’r diben hwnnw, fy sylw at fater difrifol sy’n effeithio ar ddatblygiad y diwydiant hwnnw yn Dolau, Sir Faesyfed. Dros yr wythnosau diwethaf, mae llwynogod milain wedi difa holl ddiwydiant wyau buarth Dolau. Yn hytrach na bodloni ar ladd un neu ddwy iâr i’w digoni, aethant ati’n ddiarbed i ladd yr haid gyfan, gan ddinistrio diwydiant cyfan a oedd yn datblygu. Dyna ganlyniad peidio â hela â chŵn yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2001.

Mick Bates spoken in English p. 75

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 75

Animal welfare is an important issue that has generally not received the political attention it deserves. However, food quality and how we treat animals are important both to our health and our ethics. This is a European regulation, and the Liberal Democrats played a full part in guaranteeing food safety and ensuring the just treatment of animals. However, we pushed hard to ensure that improving standards did not lead to moving the egg production industry outside the European Union.

Mae lles anifeiliaid yn fater pwysig nad yw, yn gyffredinol, wedi cael y sylw gwleidyddol a haedda. Fodd bynnag, mae ansawdd bwyd a sut yr ydym yn trin anifeiliaid yn bwysig i’n hiechyd ac i’n moeseg. Rheoliad Ewropeaidd yw hwn, a chwaraeodd y Democratiaid Rhyddfrydol ran lawn yn gwarantu diogelwch bwyd ac yn sicrhau triniaeth deg i anifeiliaid. Fodd bynnag, gwthiasom yn galed i sicrhau nad oedd gwella safonau yn arwain at symud y diwydiant cynhyrchu wyau allan o’r Undeb Ewropeaidd.

I draw attention to the amendments in Committee to which Glyn, as Chair of the Committee, referred. The amendments that Plaid Cymru tabled in the Committee, which I note have not been tabled for discussion today, would have meant us losing the Welsh egg industry. I understand that a Plaid Cymru MP won last week’s egg-and-spoon race in Westminster: that is all that it is fit to do with eggs.

Tynnaf sylw at y gwelliannau yn y Pwyllgor y cyfeiriodd Glyn, fel Cadeirydd y Pwyllgor, atynt. Byddai’r gwelliannau a gyflwynodd Plaid Cymru yn y Pwyllgor, nad ydynt, fe nodaf, wedi eu cyflwyno i’w trafod heddiw, wedi golygu colli’r diwydiant wyau o Gymru. Deallaf i un o ASau Plaid Cymru ennill y ras ŵy ar lwy yn San Steffan yr wythnos diwethaf: dyna’r unig wyau y gellir eu hymddiried iddi.

Glyn Davies spoken in English p. 76

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 76

That was very good.

Da iawn wir.

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

Thank you.

Diolch.

Rhodri Glyn Thomas a gododd—

Rhodri Glyn Thomas rose—

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

I will take your intervention in a moment. The egg production industry is important to Wales: it currently employs over 1,000 people, directly and indirectly. It has been calculated that implementing these regulations—even unamended—will cost Welsh egg producers £20 million in capital costs and £5 million in increased annual running costs.

Cymeraf eich ymyriad mewn munud. Mae’r diwydiant cynhyrchu wyau yn bwysig i Gymru: ar hyn o bryd mae’n cyflogi dros 1,000 o bobl, yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Cyfrifwyd y byddai rhoi’r rheoliadau hyn ar waith—hyd yn oed heb eu diwygio—yn costio £20 miliwn i gynhyrchwyr wyau Cymru mewn costau cyfalaf a £5 miliwn mewn costau rhedeg blynyddol uwch.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 76

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 76

Is Mick arguing that these regulations do not need to be amended? Are the Liberal Democrats happy with the present situation? Do you feel that these regulations do not need to be introduced and changes are unnecessary, or do you accept that they are needed, and the sooner that they are introduced the better? If the Assembly Government can work with the egg production sector to introduce them sooner, would you support that, even if it required some financial investment?

A yw Mick yn dadlau nad oes angen diwygio’r rheoliadau hyn? A yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon â’r sefyllfa bresennol? A ydych yn teimlo nad oes angen cyflwyno’r rheoliadau hyn a bod newidiadau yn ddianghenraid, neu a ydych yn derbyn bod eu hangen, a pho gyntaf y cyflwynir nhw, gorau oll? Os gall Llywodraeth y Cynulliad weithio gyda’r sector cynhyrchu wyau i’w cyflwyno’n gynt, a fyddech yn cefnogi hynny, hyd yn oed pe bai’n rhaid wrth rywfaint o fuddsoddiad ariannol?

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

Thank you for that long intervention. Plaid Cymru does not appear to have the courage of the convictions it expressed in the Agriculture and Rural Development Committee.

Diolch ichi am yr ymyriad hir hwnnw. Nid yw’n ymddangos bod Plaid Cymru yn barod i sefyll dros yr egwyddorion a fynegodd yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 76

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 76

Answer the question.

Atebwch y cwestiwn.

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

I am answering the question. We know how difficult it is to strike a balance between ethics and economics. In the regulatory appraisal that was undertaken, all sides were consulted extensively and 2012 was the agreed implementation date.

Yr wyf yn ateb y cwestiwn. Gwyddom mor anodd yw dal y ddysgl yn wastad rhwng moeseg ac economeg. Yn yr arfarniad rheoliadol yr ymgymerwyd ag ef, ymgynghorwyd yn helaeth â phob ochr, a 2012 oedd y dyddiad gweithredu y cytunwyd arno.

Rhodri Glyn Thomas a gododd—

Rhodri Glyn Thomas rose—

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

I will not accept any more interventions. The Welsh Liberal Democrats also believe that farm animal welfare would benefit greatly from a more precise and accurate labelling system throughout the EU. There is currently no comprehensive scheme for labelling products according to their origin. Such a labelling scheme would be more truthful and accurate than the present method of labelling products with the country of slaughter. It would also give consumers the opportunity to make more informed choices. I support the legislation.

Ni dderbyniaf ragor o ymyriadau. Cred y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd y byddai lles anifeiliaid fferm yn elwa’n fawr o system labelu fwy manwl a chywir ledled yr UE. Nid oes cynllun cynhwysfawr ar hyn o bryd i labelu cynnyrch yn ôl ei darddiad. Byddai cynllun labelu o’r fath yn fwy gonest a chywir na’r dull presennol o labelu cynnyrch â’r wlad lle y lladdwyd yr anifail. Byddai hefyd yn rhoi’r cyfle i ddefnyddwyr ddewis ar sail rhagor o ffeithiau. Cefnogaf y ddeddfwriaeth.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 77

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 77

I am surprised that Mick Bates, who so readily tells us that the partnership Government, led by the Liberal Democrats, can make all sorts of achievements, is suddenly unable to effect a change within five years. Suddenly, he is unable to work with the sector to bring about—

Yr wyf yn synnu bod Mick Bates, sydd mor barod i ddweud wrthym y gall y Llywodraeth bartneriaeth, o dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol, gyflawni pob mathau o bethau, yn sydyn yn methu ag achosi newid o fewn pum mlynedd. Yn sydyn, ni all weithio gyda’r sector i beri—

Mick Bates spoken in English p. 77

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 77

Where is your courage? You had the opportunity to table amendments, and effect change sooner than the legislation proposes. What happened?

Ymhle mae eich dewrder? Cawsoch gyfle i gyflwyno gwelliannau, ac achosi newid yn gynt nag a gynigir yn y ddeddfwriaeth. Beth a ddigwyddodd?

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 77

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 77

Simply, the Committee—

Yn syml, gwnaeth y Pwyllgor—

Mick Bates spoken in English p. 77

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 77

‘Simply’? You chickened out.

‘Yn syml’? Troi’n llwfr a wnaethoch.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 77

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

Order. We will not make much progress unless we have orderly debate.

Trefn. Ni symudwn ymlaen lawer oni chawn ddadl drefnus.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 77

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 77

Thank you for defending me against Mick Bates, Deputy Presiding Officer—I am sure that I need it. In Committee, we highlighted a welfare issue and received support from other political parties on it.

Diolch ichi am fy amddiffyn rhag Mick Bates, Ddirprwy Lywydd—yr wyf yn siŵr fod angen hynny arnaf. Yn y Pwyllgor, amlygwyd mater lles gennym a chawsom gefnogaeth gan bleidiau eraill ar y mater hwnnw.

Peter Rogers a gododd—

Peter Rogers rose—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 77

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 77

Allow me to finish my point, and I will come back to you, Peter. We highlighted an important welfare issue. Plaid Cymru—The Party of Wales wants agriculture in Wales, and the egg producing sector as part of that industry, to be seen to be producing the highest quality goods, while also ensuring animal welfare and public safety. We want consumers to be confident that when they buy Welsh produce, they can look forward to eating it. That is our vision and we want to promote and market that. Therefore, when a welfare issue arises, we are happy to highlight it. In the time between the Committee meeting and this Plenary session, representatives of the egg producing sector came to us, and we had extensive discussions. They highlighted the financial burden placed upon them.

Gadewch imi orffen fy mhwynt, a dof yn ôl atoch, Peter. Amlygwyd mater lles pwysig gennym. Mae Plaid Cymru—The Party of Wales am iddi fod yn amlwg fod amaethyddiaeth yng Nghymru, a’r sector cynhyrchu wyau fel rhan o’r diwydiant hwnnw, yn cynhyrchu nwyddau o’r ansawdd uchaf, tra hefyd yn sicrhau lles anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd. Yr ydym am i ddefnyddwyr fod yn hyderus, wrth brynu cynnyrch o Gymru, y gallant edrych ymlaen at ei fwyta. Dyna’n gweledigaeth ni ac yr ydym am hyrwyddo a marchnata hynny. Felly, pan fo mater lles yn codi, yr ydym yn falch o’i amlygu. Yn yr amser rhwng cyfarfod y Pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn hwn, daeth cynrychiolwyr o’r sector cynhyrchu wyau i’n gweld a chawsom drafodaethau helaeth. Tynasant sylw at y baich ariannol a roddir arnynt.

Peter Rogers a gododd—

Peter Rogers rose—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 78

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 78

I will accept your intervention in a minute, Peter. I look forward to your contribution, but a little patience would do you good. We discussed the burdens on the sector and the possibility of unfair competition, and decided not to propose amending the regulations. However, we will support the amendment tabled in the name of Glyn Davies, which refers back to the debate in Committee. I hope that the Minister notes that debate and the issues raised and will work with the egg producing sector to introduce these regulations earlier in Wales if possible. Plaid Cymru wants that to happen.

Derbyniaf eich ymyriad mewn munud, Peter. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniad, ond byddai mymryn o amynedd yn gwneud lles ichi. Trafodasom y beichiau ar y sector a’r posibilrwydd o gystadleuaeth annheg, a phenderfynasom beidio â chynnig diwygio’r rheoliadau. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd yn enw Glyn Davies, sy’n cyfeirio’n ôl at y ddadl yn y Pwyllgor. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn nodi’r ddadl a’r materion a godwyd ac y bydd yn gweithio gyda’r sector cynhyrchu wyau i gyflwyno’r rheoliadau hyn yn gynharach yng Nghymru os yw hynny’n bosibl. Mae Plaid Cymru am i hynny ddigwydd.

Peter Rogers spoken in English p. 78

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 78

I think that the question I wanted to ask you, Rhodri—

Yr wyf yn meddwl mai’r cwestiwn yr oeddwn am ei ofyn ichi, Rhodri—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 78

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

Order. If you have forgotten the question, Peter, do not stand up and waste our time. I might call you to speak later in the debate.

Trefn. Os ydych wedi anghofio’r cwestiwn, Peter, peidiwch â sefyll ar eich traed a gwastraffu ein hamser. Efallai y galwaf chi i siarad yn ddiweddarach yn y ddadl.

Peter Rogers spoken in English p. 78

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 78

I have not forgotten the question. You talk about the industry, but has anybody in Plaid Cymru ever visited a battery farm and seen enriched cages? I invited you all to visit a battery farm in the Vale of Clwyd, yet one of your Members did not even know that we had battery cages in Wales.

Nid wyf wedi anghofio’r cwestiwn. Siaradwch am y diwydiant, ond a oes unrhyw un o Blaid Cymru erioed wedi ymweld â fferm fatri ac wedi gweld cewyll gydag elfennau wedi’u hychwanegu? Gwahoddais chi oll i ymweld â fferm fatri yn Nyffryn Clwyd, er nad oedd un o’ch Aelodau yn gwybod hyd yn oed fod gennym gewyll batri yng Nghymru.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 78

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 78

I assure you that I have visited farms where battery hens are kept. I have no problem with that. I visit farms quite often. Peter’s problem—and we continually come back to this—is that he wants to deregulate the industry in Wales, and return to the situation under the previous Conservative Government, which told producers in all agricultural sectors in Wales to produce more and more. That is why producers in Wales are encountering problems today; they are trying to compete in a market in which they cannot compete. They should be competing on the basis of quality. We want the whole industry to compete on that basis. It is time that Peter came into the real world and understood that the industry must take that direction, and that the role, not only of Government, but also of all political parties in this Chamber, is to support the industry in this.

Gallaf eich sicrhau fy mod wedi ymweld â ffermydd lle cedwir ieir batri. Nid oes gennyf broblem â hynny. Ymwelaf â ffermydd yn bur aml. Problem Peter—a down yn ôl at hyn byth a hefyd—yw ei fod am ddadreoleiddio’r diwydiant yng Nghymru, a dychwelyd i’r sefyllfa o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, a ddywedai wrth gynhyrchwyr ym mhob sector amaethyddol yng Nghymru i gynhyrchu mwy a mwy. Dyna pam y mae cynhyrchwyr yng Nghymru yn wynebu problemau heddiw; maent yn ceisio cystadlu mewn marchnad na allant gystadlu ynddi. Dylent fod yn cystadlu ar sail ansawdd. Yr ydym am i’r diwydiant cyfan gystadlu ar y sail honno. Mae’n bryd i Peter ddod i’r byd go-iawn a deall bod yn rhaid i’r diwydiant symud i’r cyfeiriad hwnnw, ac mai rôl, nid yn unig y Llywodraeth, ond hefyd yr holl bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon, yw cefnogi’r diwydiant yn hynny.

Peter Rogers spoken in English p. 79

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 79

Surely you do not believe that, if you bring in these measures and destroy the intensive egg production industry, processors and caterers will support what remains of the egg production industry in Wales? The trade will transfer to England and Europe—to France in particular. You will destroy this industry overnight.

Nid oes bosibl eich bod yn credu, os cyflwynwn y mesurau hyn a dinistrio’r diwydiant dwys-gynhyrchu wyau, y bydd proseswyr ac arlwywyr yn cynnal yr hyn sy’n weddill o’r diwydiant cynhyrchu wyau yng Nghymru? Bydd y fasnach yn trosglwyddo i Loegr ac i Ewrop—i Ffrainc yn arbennig. Byddwch yn dinistrio’r diwydiant hwn dros nos.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 79

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 79

I have just explained this to you, Peter, and Mick Bates—you both seem to have difficulty in understanding the point—that it is clear from the agenda that we are not attempting to amend the regulations. We are raising the issue of welfare. I am sure that we will not get clarity—

Yr wyf newydd egluro hyn i chi, Peter, a Mick Bates—mae’n ymddangos bod y ddau ohonoch yn cael anhawster i ddeall y pwynt—mae’n amlwg o’r agenda nad ydym yn ceisio diwygio’r rheoliadau. Yr ydym yn codi mater lles. Yr wyf yn siŵr na chawn eglurder—

Mick Bates a gododd—

Mick Bates rose—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 79

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 79

Order. Rhodri Glyn has run out of time.

Trefn. Mae Rhodri Glyn wedi rhedeg allan o amser.

Lorraine Barrett spoken in English p. 79

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 79

I will not give way to any attempt at an intervention from Peter Rogers because I will not be shouted at. I declare an interest as chair of the all-party group on animal welfare. I welcome the proposals that call for the date at which battery cages for hens will be replaced with enriched cages to be brought forward.

Nid ildiaf i unrhyw ymgais gan Peter Rogers i ymyrryd oherwydd ni adawaf i neb weiddi arnaf. Datganaf ddiddordeb fel cadeirydd grŵp yr holl bleidiau ar les anifeiliaid. Croesawaf y cynigion sy’n galw am ddwyn ymlaen y dyddiad pryd y caiff cewyll batri ar gyfer ieir eu disodli gan gewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu.

I have here a picture that demonstrates the suffering that hens endure in battery cages. I recognise the implications of these measures for the egg-producing industry, and I would support investment to assist producers to move towards using enriched cages—although I am not happy with enriched cages either. I congratulate Germany on abolishing the use of enriched cages and Elliott Morley on his plans to consult on the possibility of getting rid of enriched cages. That should happen across Europe, so that the industry operates on a level playing field.

Mae gennyf yma lun sy’n dangos dioddefaint ieir mewn cewyll batri. Cydnabyddaf oblygiadau’r mesurau hyn i’r diwydiant cynhyrchu wyau, a byddwn yn cefnogi buddsoddi i helpu cynhyrchwyr i symud tuag at ddefnyddio cewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu—er nad wyf yn hapus â chewyll felly ychwaith. Llongyfarchaf yr Almaen ar ddileu’r defnydd o gewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu ac Elliott Morley ar ei gynlluniau i ymgynghori ynghylch y posibilrwydd o gael gwared â chewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu. Dylai hynny ddigwydd ar draws Ewrop, fel bod y diwydiant yn gweithredu ar gae gwastad.

Having welcomed these regulations, I urge everyone to stop buying eggs that are not free-range or at least perch or barn eggs. If there were no market, the producers would have to change their cruel practices.

Ar ôl croesawu’r rheoliadau hyn, anogaf bawb i roi’r gorau i brynu wyau nad ydynt yn wyau buarth neu o leiaf yn wyau clwyd neu ysgubor. Pe na bai marchnad, byddai’n rhaid i’r cynhyrchwyr newid eu harferion creulon.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 80

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

Thank you for being succinct, Lorraine.

Diolch ichi am fod yn gryno, Lorraine.

Peter Rogers spoken in English p. 80

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 80

There is no better evidence that politicians should not be involved in legislation—[Laughter.]

Nid oes gwell tystiolaeth na ddylai gwleidyddion ymwneud â deddfwriaeth—[Chwerthin.]

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 80

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 80

I know that you believe in deregulation, but trying to take politics and politicians out of the legislation process is going too far.

Gwn eich bod yn credu mewn dadreoleiddio, ond mae ceisio tynnu gwleidyddiaeth a gwleidyddion allan o’r broses ddeddfu yn mynd yn rhy bell.

Peter Rogers spoken in English p. 80

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 80

What we have heard today, particularly from Lorraine Barrett, about free-range eggs, and altering the legislation—or talking about it, as Plaid Cymru has done—would finish not only intensive egg production in Wales, but also free-range production, as the packing stations would not have sufficient eggs to run a viable business. They would transfer to England and Welsh eggs would be sold as English eggs. We have built a business, and we ask that the legislation in Wales remains the same as in England and elsewhere. You must remember, if this industry is to survive, that third world countries, and also America, have battery chickens that are packed double—

Byddai’r hyn yr ydym wedi ei glywed heddiw, yn enwedig gan Lorraine Barrett, am wyau buarth, a newid y ddeddfwriaeth—neu siarad am hynny, fel a wnaeth Plaid Cymru—yn golygu diwedd nid yn unig ddwys-gynhyrchu wyau yng Nghymru, ond hefyd gynhyrchu wyau buarth, gan na fyddai gan y gorsafoedd pacio ddigon o wyau i gynnal busnes hyfyw. Byddent yn trosglwyddo i Loegr a châi wyau o Gymru eu gwerthu fel wyau o Loegr. Yr ydym wedi creu busnes, a gofynnwn am i’r ddeddfwriaeth yng Nghymru aros yr un peth ag yn Lloegr a mannau eraill. Rhaid ichi gofio, os yw’r diwydiant hwn i oroesi, fod gan wledydd y trydydd byd, ac America hefyd, ieir batri sy’n cael eu pacio ddwy—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 80

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 80

Is it Conservative Party policy to call for third-world standards in Welsh agricultural production? If so, we are pleased that you have reminded us of that, Peter.

Ai polisi’r Blaid Geidwadol yw galw am safonau’r trydydd byd yng nghynhyrchiant amaethyddol Cymru? Os felly, yr ydym yn falch ichi ein hatgoffa o hynny, Peter.

Peter Rogers spoken in English p. 81

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 81

No, it is not. When enriched cages are used with proper controls, the use of antibiotics is not necessary. However, hot countries such as Thailand use antibiotics, and other measures, in producing eggs. We must ensure that the system is fair in Wales and that eggs are produced to the same standards that apply in England and the rest of Europe. We must move forward with the same legislation, rather than gold-plating it and destroying the industry overnight. We are talking about job losses in Wales that would equal those lost in the steelworks in Cardiff last week.

Nage. Pan ddefnyddir cewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu yn iawn, nid oes angen defnyddio gwrthfiotigau. Fodd bynnag, mae gwledydd poeth fel Gwlad y Tai yn defnyddio gwrthfiotigau, a mesurau eraill, wrth gynhyrchu wyau. Rhaid inni sicrhau bod y system yn deg yng Nghymru a bod wyau yn cael eu cynhyrchu i’r un safonau ag a arddelir yn Lloegr a gweddill Ewrop. Rhaid inni symud ymlaen gyda’r un ddeddfwriaeth, yn hytrach na cheisio ei gwella a dinistrio’r diwydiant dros nos. Yr ydym yn sôn am golledion swyddi yng Nghymru a fyddai’n cyfateb i’r rheini a gollwyd yn y gwaith dur yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Lorraine Barrett spoken in English p. 81

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 81

Point of order. No steel jobs in Cardiff have been lost.

Pwynt o drefn. Nid oes swyddi dur wedi’u colli yng Nghaerdydd.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 81

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 81

That is not a point of order; it is a point of debate.

Nid pwynt o drefn yw hynny; pwynt o ddadl yw.

Peter Rogers spoken in English p. 81

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 81

I meant the threatened job losses at the steelworks.

Golygwn y swyddi sydd o dan fygythiad yn y gwaith dur.

Let us make it clear: Plaid Cymru—The Party of Wales wants to bring in legislation that would finish a rural industry. The recommendations that it proposed in Committee were an absolute disgrace. Let us understand what we are talking about. We must consider what the industry is doing and take corrective steps to make production more acceptable to the consumer. That must be done in line with what every country throughout the world is doing, without jeopardising Welsh producers.

Gadewch inni ei gwneud yn glir: mae Plaid Cymru—The Party of Wales am gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n lladd diwydiant gwledig. Yr oedd yr argymhellion a gynigiwyd ganddi yn y Pwyllgor yn gwbl gywilyddus. Gadewch inni ddeall am beth yr ydym yn sôn. Rhaid inni ystyried yr hyn y mae’r diwydiant yn ei wneud a chymryd camau cywiro i wneud y cynhyrchu yn fwy derbyniol i’r cwsmer. Rhaid gwneud hynny yn unol â’r hyn y mae pob gwlad drwy’r byd yn ei wneud, heb beryglu dyfodol cynhyrchwyr Cymru.

Ron Davies spoken in English p. 81

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 81

It is obvious that Rhodri Glyn Thomas has a problem this afternoon because otherwise he would not be jumping up and down and trying to confuse the issue. The problem that he, and other Plaid Cymru members of the Agriculture and Rural Development Committee have, is that he tabled a motion asking the Committee to agree to the unilateral early implementation of these welfare codes in Wales. Much to his surprise, and obviously to his subsequent regret, the Committee, almost unanimously, accepted the recommendation—

Mae’n amlwg fod gan Rhodri Glyn Thomas broblem y prynhawn yma neu ni fyddai’n neidio i fyny ac i lawr yn ceisio cymhlethu’r mater. Y broblem iddo ef, ac aelodau eraill Plaid Cymru ar y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yw iddo gyflwyno cynnig yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno y dylai’r codau lles hyn gael eu cyflwyno’n gynnar yng Nghymru’n unig. I’w fawr syndod, ac er gofid iddo ers hynny mae’n amlwg, derbyniodd y Pwyllgor, yn unfrydol bron, yr argymhelliad—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 81

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 81

Will you take an intervention?

A wnewch chi gymryd ymyriad?

Ron Davies spoken in English p. 82

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 82

Time is limited; you can come in later.

Mae amser yn brin; gallwch ddod i mewn yn ddiweddarach.

The question that he must address now is why did Plaid Cymru consider early implementation to be such a good idea a few weeks ago, when it obviously does not consider that to be the case today. Why has Plaid Cymru not tabled an amendment to the motion in order to allow the Assembly to implement its recommendation?

Y cwestiwn y mae’n rhaid iddo ymdrin ag ef yn awr yw pam oedd Plaid Cymru o’r farn ychydig wythnosau yn ôl y byddai rhoi’r rheoliadau ar waith yn gynnar yn syniad da, pan nad yw yn amlwg yn credu hynny heddiw. Pam nad yw Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig er mwyn galluogi’r Cynulliad i weithredu ei argymhelliad?

There has been some fun during this debate, and understandably so, but I have constituents who are egg producers—there are not thousands of egg producers in Wales, Peter, but there are over 200—who have had an unpleasant time over the last few weeks. There was a real prospect, if gold-plated regulations were adopted, of the loss of not thousands, but certainly hundreds, of jobs in Wales’s hard-pressed agriculture sector. Those jobs would have been lost because we would not have been enhancing welfare conditions in Wales, because you cannot do that unilaterally when you have the integrated market that we have in the UK and Europe; we would have been exporting cruelty and disrupting the supply of poultry products and eggs in Wales, thereby putting producers out of work. There would not have been any real benefits—

Cawsom dipyn o hwyl yn ystod y ddadl hon, ac mae hynny’n ddealladwy, ond mae gennyf etholwyr sy’n gynhyrchwyr wyau—nid oes miloedd o gynhyrchwyr wyau yng Nghymru, Peter, ond mae yna dros 200—sydd wedi cael amser annymunol dros yr wythnosau diwethaf. Yr oedd posibilrwydd gwirioneddol, pe câi rheoliadau rhagorach eu mabwysiadu, y câi nid miloedd, ond yn sicr gannoedd, o swyddi eu colli yn sector amaethyddol Cymru, sydd o dan gymaint o bwysau. Ni fyddai’r swyddi hynny wedi cael eu colli oherwydd ni fyddem wedi bod yn gwella amodau lles yng Nghymru, oherwydd ni allwch wneud hynny ar eich pen eich hunain pan fo gennych farchnad integredig fel sydd gennym yn y DU ac Ewrop; byddem wedi bod yn allforio creulondeb ac yn tarfu ar y cyflenwad o gynnyrch dofednod ac wyau yng Nghymru, gan roi cynhyrchwyr allan o waith drwy hynny. Ni fyddai unrhyw fudd gwirioneddol—

Rhodri Glyn Thomas a gododd—

Rhodri Glyn Thomas rose—

Ron Davies spoken in English p. 82

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 82

I will take an intervention in a moment, Rhodri; I want to finish my argument.

Cymeraf ymyriad mewn munud, Rhodri; yr wyf am orfen fy nadl.

There would have been no real improvement in welfare conditions, even though there is an argument that, if we wanted to make a gesture in Wales, we could have done it in pursuance of the green and clean agenda that we all support. However, if we were to do that, a price tag would be attached to it and we would have had to make the financial wherewithal available.

Ni fyddem wedi sicrhau unrhyw welliant gwirioneddol mewn amodau lles, er bod dadl, pe baem am ddangos rhyw arwydd yng Nghymru, y gallem fod wedi gwneud hynny yn unol â’r agenda werdd a glân yr ydym oll yn ei chefnogi. Fodd bynnag, pe baem i wneud hynny, byddai pris ynghlwm wrtho a byddem wedi gorfod sicrhau bod y ddarpariaeth ariannol ar gael.

It is interesting that the Liberal Democrats’ agriculture spokesperson now tells us that they are in favour of intensive battery egg production, given that, historically, the party has not been in favour of that. Labour Members, like myself and Lorraine, have had to put our consciences on the shelf because of Plaid Cymru’s inability to have confidence in its own Committee recommendations and to test the Assembly. Therefore, we are all at fault. I was going to praise Glyn Davies and say that he and the other Conservatives have been the only Members who have been consistent on this issue. They voted against gold-plating these regulations in Committee and have been consistent in their approach. I was going to praise him until we heard his outrageous outburst, which destroyed any vestiges of credibility that he might have had as a rational human being, about vicious foxes. I wonder what insight into animal behaviour he has which allows him, at a glance, to differentiate between a vicious fox and any other type of fox. Apparently, there are now vicious foxes and non-vicious foxes.

Mae’n ddiddorol fod llefarydd amaethyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud wrthym yn awr eu bod o blaid dwys-gynhyrchu wyau batri, o gofio nad yw’r blaid, yn hanesyddol, wedi cefnogi hynny. Mae Aelodau Llafur, fel Lorraine a minnau, wedi gorfod rhoi ein cydwybod ar y silff oherwydd anallu Plaid Cymru i fod â hyder yn ei hargymhellion i’r Pwyllgor ac i brofi’r Cynulliad. Felly, yr ydym oll ar fai. Yr oeddwn am ganmol Glyn Davies a dweud mai ef a’r Ceidwadwyr oedd yr unig Aelodau sydd wedi bod yn gyson ar y mater hwn. Pleidleisiasant yn erbyn gwella’r rheoliadau hyn yn y Pwyllgor a buont yn gyson eu hagwedd. Yr oeddwn yn mynd i’w ganmol nes inni glywed ei sylwadau gwarthus, a ddinistriodd unrhyw rithyn o hygrededd a allai fod ganddo fel bod dynol rhesymol, am lwynogod milain. Tybed pa ddealltwriaeth arbennig sydd ganddo o ymddygiad anifeiliaid sy’n ei alluogi, ar amrantiad, i wahaniaethu rhwng llwynog milain ac unrhyw fath arall o lwynog. Erbyn hyn, mae’n debyg, mae llwynogod milain a llwynogod eraill.

I feel sorry for the free-range egg producers involved. If people have lost free-range hens because of the predations of foxes or any other predator, one feels a degree of sympathy for them. However, I am tempted to ask why they did not lock the hens up. If there is a fault, it is not that of the foxes, but of producers who do not take the time and trouble to look after their stock.

Mae’n ddrwg gennyf dros y cynhyrchwyr wyau buarth dan sylw. Os yw pobl wedi colli ieir buarth am fod llwynogod neu unrhyw reibiwr arall yn ysglyfaethu, rhaid teimlo rhywfaint o gydymdeimlad â nhw. Fodd bynnag, caf fy nhemtio i ofyn pam nad oeddent yn rhoi’r ieir dan glo. Os oes bai, nid bai’r llwynogod mohono, ond y cynhyrchwyr nad ydynt yn cymryd yr amser a’r drafferth i ofalu am eu stoc.

Peter Rogers and Rhodri Glyn Thomas rose—

Peter Rogers a Rhodri Glyn Thomas a godasant—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 83

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

Order. We cannot have more than one Member on their feet. Ron is not giving way.

Trefn. Ni allwn oddef mwy nag un Aelod ar ei draed. Nid yw Ron yn ildio.

Ron Davies spoken in English p. 83

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 83

People who keep stock have a responsibility to ensure that the highest welfare standards apply. That means that if you keep free-range hens, you must look after them properly.

Mae gan bobl sy’n cadw stoc gyfrifoldeb i sicrhau bod y safonau lles uchaf yn cael eu cynnal. Os ydych yn cadw ieir buarth, mae hynny’n golygu bod yn rhaid ichi ofalu amdanynt yn iawn.

Finally, Glyn’s argument that that occurrence would not have happened had hunting not been suspended last year during the foot and mouth disease outbreak defies credibility. The fox population—whether or not it increased last year as a result of the cessation of hunting during the outbreak—will have been restored to its summer population, regardless of what happened last year or this year. There are neither more nor fewer foxes now than there were then. It may not have escaped your notice, but you said that these vicious foxes were out killing hens a few weeks ago. Why, therefore, is hunting suspended during the closed season? Even if we had fox hunting, as you would like, Glyn, those hens would have still have been killed by those vicious foxes.

Yn olaf, ni ellir rhoi unrhyw goel ar ddadl Glyn na fyddai hyn wedi digwydd pe na bai hela wedi ei atal y llynedd yn ystod clwy’r traed a’r genau. Bydd y boblogaeth lwynogod—pa un a gynyddodd ai peidio y llynedd am fod hela wedi peidio yn ystod y clwyf—wedi dychwelyd i’w phoblogaeth haf, ni waeth beth a ddigwyddodd y llynedd nac eleni. Nid oes mwy na llai o lwynogod yn awr nag a oedd bryd hynny. Mae’n bosibl eich bod wedi sylwi, ond dywedasoch fod y llwynogod milain hyn allan yn lladd ieir rai wythnosau’n ôl. Pam, felly, y caiff hela ei atal yn ystod y tymor caeëdig? Hyd yn oed pa bai gennym hela llwynogod, fel y byddech chi’n ei hoffi, Glyn, byddai’r ieir hynny yn dal i fod wedi cael eu lladd gan y llwynogod milain hynny.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 84

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 84

Will you give way before you sit down?

A wnewch chi ildio cyn eistedd i lawr?

Ron Davies spoken in English p. 84

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 84

I will.

Gwnaf.

This process has provided a useful example of two principles. First, we have seen how Subject Committees can examine legislation and propose amendments to Plenary for consideration and thus can have an impact on legislation. Secondly, there is a lesson for us in that we must consider carefully whether, if amendments are recommended to Plenary, they are intended to benefit the people of Wales, whether that is in terms of economic welfare, or in other ways, such as animal welfare. We must ensure that our proposals benefit Wales, not disadvantage it.

Mae’r broses hon wedi bod yn esiampl ddefnyddiol o ddwy egwyddor. Yn gyntaf, yr ydym wedi gweld sut y gall Pwyllgorau Pwnc archwilio deddfwriaeth a chynnig gwelliannau i Gyfarfod Llawn i’w hystyried a thrwy hynny gallwn effeithio ar ddeddfwriaeth. Yn ail, mae gwers inni yn yr ystyr fod yn rhaid inni ystyried yn ofalus, os caiff gwelliannau eu hargymell i Gyfarfod Llawn, pa un a ydynt wedi’u bwriadu i fod o fudd i bobl Cymru, boed hynny yn nhermau lles economaidd, neu mewn ffyrdd eraill, megis lles anifeiliaid. Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion o fudd i Gymru, nid o anfantais iddi.

I am sorry Rhodri, I have run out of time.

Mae’n ddrwg gennyf Rhodri, yr wyf wedi rhedeg allan o amser.

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Rural Development and Wales Abroad spoken in English p. 84

Michael German Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor siaradwyd yn Saesneg t. 84

These regulations and the welfare code represent a positive move in raising minimum welfare standards. There is support for them and a delay in implementing them, which would be the result of any amendments to the legislation today, would mean that we would be out of line with the other UK administrations and would not comply with the European Commission’s directive. That directive requires the provision of increased space for birds in conventional cages from 1 January 2003 and bans those conventional cages from 1 January 2012. From that date, it applies new requirements for enriched or furnished cages, which give birds more space and better facilities—someone close to me suggested that they will be the new ‘Pecker Morris’ standard for hens. However, it does not apply to establishments with fewer than 350 laying hens. It introduces minimum standards for non-caged birds for the first time. The other United Kingdom administrations are pursuing this course of action and the Department for Environment, Food and Rural Affairs’s regulations for England came into effect on 25 June 2002.

Mae’r rheoliadau hyn a’r cod lles yn cynrychioli cam cadarnhaol i godi’r safonau lles gofynnol. Mae cefnogaeth iddynt a byddai oedi rhag eu gweithredu, sef canlyniad unrhyw welliannau i’r ddeddfwriaeth heddiw, yn golygu na fyddem yn gweithredu’n unol â gweinyddiaethau eraill y DU ac na fyddem yn cydymffurfio â chyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd. Yn ôl y gyfarwyddeb honno rhaid darparu rhagor o le i adar mewn cewyll confensiynol o 1 Ionawr 2003 a gwahardd y cewyll confensiynol hynny o 1 Ionawr 2012. O’r dyddiad hwnnw, daw â gofynion newydd i rym i ddarparu cewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu neu gewyll wedi’u dodrefnu, sy’n rhoi rhagor o le a gwell cyfleusterau i’r adar—awgrymodd rhywun sy’n agos ataf mai hon fydd safon newydd ‘Pecker Morris’ i ieir. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i sefydliadau sydd â llai na 350 o ieir dodwy. Mae’n cyflwyno safonau gofynnol i adar nad ydynt mewn cewyll am y tro cyntaf. Mae gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig yn dilyn y trywydd hwn a daeth rheoliadau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer Lloegr i rym ar 25 Mehefin 2002.

I will support the amendment to consider the Agriculture and Rural Development Committee’s report because I recognise the concerns expressed by that Committee and by Members in the Chamber that advancing the dates of the regulations, without agreement at a UK level, let alone at a European Union level, would place the Welsh egg industry at an unacceptable disadvantage. It would add considerable costs to Welsh factories and could mean job losses here as shops source eggs from England—

Byddaf yn cefnogi’r gwelliant i ystyried adroddiad y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig gan fy mod yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor hwnnw a chan Aelodau yn y Siambr y byddai symud dyddiadau’r rheoliadau ymlaen, heb gytundeb ar lefel y DU, heb son am lefel yr Undeb Ewropeaidd, yn rhoi diwydiant wyau Cymru o dan anfantais annerbyniol. Byddai’n golygu costau ychwanegol sylweddol i ffatrïoedd Cymru a gallai olygu colli swyddi yma wrth i siopau brynu eu hwyau o Loegr—

Rhodri Glyn Thomas a gododd—

Rhodri Glyn Thomas rose—

Michael German spoken in English p. 85

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 85

If I may proceed, I will come to a point that may be helpful to you.

Os caf fi gario ymlaen, dof i bwynt a allai fod yn ddefnyddiol ichi.

We expect that such an acceleration of the regulations would increase the cost to Welsh producers of implementing the regulations from about £1.5 million per annum to about £3 million. That would probably cost us about 1,000 jobs—450 directly and about 500 indirectly. We cannot remove the level playing field across Great Britain and the European Union. We must therefore approve the regulations as they are.

Yr ydym yn disgwyl y byddai cyflymu’r rheoliadau felly yn cynyddu’r gost i gynhyrchwyr Cymru o roi’r rheoliadau ar waith o oddeutu £1.5 miliwn y flwyddyn i oddeutu £3 miliwn. Mae’n debyg y byddai hynny’n costio tua 1,000 o swyddi inni—450 yn uniongyrchol a thua 500 yn anuniongyrchol. Rhaid inni beidio â chael gwared â’r cae gwastad ar draws Prydain Fawr a’r Undeb Ewropeaidd. Rhaid felly inni gymeradwyo’r rheoliadau fel y maent.

In supporting the amendment, I am recognising the concerns expressed by Members. However, I cannot approve any changes to the timing of the introduction of the regulations because of the consequences. If the amendment is carried, it will not affect the timing of the introduction of the regulations, but it will allow the Assembly to record the expressions of concern contained in the Committee’s report and those voiced in the Chamber today. It also sends a signal to me to take these concerns further in the British and European context. I will do so, but this issue must be considered within that broad context.

Wrth gefnogi’r gwelliant, yr wyf yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan Aelodau. Fodd bynnag, ni allaf gymeradwyo unrhyw newidiadau i amseriad cyflwyno’r rheoliadau oherwydd y canlyniadau. Os caiff y gwelliant ei dderbyn, ni fydd yn effeithio ar amseriad cyflwyno’r rheoliadau, ond bydd yn caniatáu i’r Cynulliad gofnodi’r datganiadau o bryder a gynhwyswyd yn adroddiad y Pwyllgor a’r pryderon a leisiwyd yn y Siambr heddiw. Mae hefyd yn rhoi arwydd i mi i fynd â’r pryderon hyn ymhellach yng nghyd-destun Prydain ac Ewrop. Byddaf yn gwneud hynny, ond rhaid ystyried y mater hwn yn y cyd-destun eang hwnnw.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 86

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 86

I am grateful to you for delaying taking my intervention, as your comments have been useful. You are taking note of the important discussion in the Agriculture and Rural Development Committee and you have committed yourself and the Government of Wales to considering what can be done in the UK and Europe. That is a sensible way forward. We remain committed to trying to introduce these standards as soon as possible. We are pleased that you are co-operating on that and that you have taken up the challenge. It is a pity that the Liberal Democrat spokesperson did not work in such a consensual way.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am oedi cyn cymryd fy ymyriad, gan i’ch sylwadau fod yn ddefnyddiol. Yr ydych yn nodi’r drafodaeth bwysig yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ac yr ydych wedi rhwymo eich hun a Llywodraeth Cymru i ystyried beth a ellir ei wneud yn y DU ac yn Ewrop. Mae hynny yn ffordd synhwyrol ymlaen. Yr ydym yn dal wedi ymrwymo i geisio cyflwyno’r safonau hyn cyn gynted â phosibl. Yr ydym yn falch eich bod yn cydweithredu ar hynny a’ch bod wedi ymaflyd yn yr her. Mae’n drueni na wnaeth llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol weithio mewn ffordd gydsyniol felly.

Michael German spoken in English p. 86

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 86

You interpret my remarks far too fluidly. That is not what I said. The directive allows for a review of the arrangements in 2005. I am committed to consulting on the appropriateness of enriched cages from 2012. However, that is not what you have suggested that I said.

Yr ydych yn dehongli fy sylwadau yn rhy llac o lawer. Nid dyna a ddywedais. Mae’r gyfarwyddeb yn caniatáu i’r trefniadau gael eu hadolygu yn 2005. Yr wyf wedi ymrwymo i ymgynghori ynghylch priodolrwydd cewyll ag elfennau wedi’u hychwanegu o 2012. Fodd bynnag, ni ddywedais yr hyn yr oeddech yn ei awgrymu.

Peter Rogers spoken in English p. 86

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 86

Will you highlight not only battery egg production, but also the danger of legislation on beak trimming, and the effects that would have on rearers and growers, particularly in mid Wales, who send so many of those flocks across into England? If we alter those conditions prior to England doing so, trade would also be lost.

A wnewch chi dynnu sylw nid yn unig at gynhyrchu wyau batri, ond hefyd y perygl o ddeddfwriaeth ar docio pigau, ac effeithiau hynny ar y rhai sy’n magu a thyfu adar, yn enwedig yn y Canolbarth, sy’n anfon cynifer o’r heidiau hynny ar draws i Loegr? Os newidiwn ni’r amodau hynny o flaen Lloegr, byddid yn colli busnes eto.

Michael German spoken in English p. 86

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 86

There would be major concerns for the Welsh egg industry if we were to make changes that depart from this directive, including those which you suggest. We must recognise that, for the first time, we are setting minimum standards for non-caged systems. That is part of this directive. When the standards have been negotiated across the European Union, in the interests of the whole of the EU, it is important that we do not stray from them in a way that would harm the industry in Wales. We are considering this for the first time. The statutory code encourages anyone who owns or looks after hens to adopt the highest possible standard of care and it complements the regulations on which we will vote today. I ask the Assembly, in that spirit, to vote in favour of all motions and to support the amendment.

Byddai yna bryderon mawr i ddiwydiant wyau Cymru pe baem i wneud newidiadau sy’n gwyro oddi wrth y gyfarwyddeb hon, gan gynnwys y rhai a awgrymwch chi. Rhaid inni gydnabod ein bod, am y tro cyntaf, yn gosod safonau gofynnol i systemau lle na ddefnyddir cewyll. Mae hyn yn rhan o’r gyfarwyddeb. Pan fo telerau’r safonau hyn wedi cael eu trafod ar draws yr Undeb Ewropeaidd, er budd yr UE gyfan, mae’n bwysig nad ydym yn crwydro oddi wrthynt mewn ffordd a fyddai’n niweidio’r diwydiant yng Nghymru. Yr ydym yn ystyried hyn am y tro cyntaf. Mae’r cod statudol yn annog unrhyw un sy’n berchen ar, neu’n gofalu am, ieir i fabwysiadu’r safon gofal uchaf bosibl ac mae hynny’n ategu’r rheoliadau y byddwn yn pleidleisio arnynt heddiw. Gofynnaf i’r Cynulliad, yn yr ysbryd hwnnw, bleidleisio o blaid y cynigion i gyd a chefnogi’r gwelliant.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 87

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 87

We will now vote on the principle of the regulations (NNDM1165).

Pleidleisiwn yn awr ar egwyddor y rheoliadau (NNDM1165).

Cynnig NNDM1165 Michael German t. 87

Motion NNDM1165 Michael German p. 87

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 88

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 88

We will now vote on amendment 1 to the motion to approve the regulations.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1 i’r cynnig i gymeradwyo’r rheoliadau.

Gwelliant 1 Glyn Davies t. 88

Amendment 1 Glyn Davies p. 88

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Cynnig NNDM1166 Michael German t. 89

Motion NNDM1166 Michael German p. 89

DerbyniwydAdopted O blaidFor 43 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (43)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 90

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 90

We will now vote on the principle of the code of recommendations (NNDM1137).

Pleidleisiwn yn awr ar egwyddor y cod argymhellion (NNDM1137).

Cynnig NNDM1137 Michael German t. 90

Motion NNDM1137 Michael German p. 90

DerbyniwydAdopted O blaidFor 42 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (42)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 91

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 91

We will now vote on the code of recommendations (NNDM1138).

Pleidleisiwn yn awr ar y cod argymhellion (NNDM1138).

Cynnig NNDM1138 Michael German t. 91

Motion NNDM1138 Michael German p. 91

DerbyniwydAdopted O blaidFor 42 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (42)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams

Y Mesur Iechyd Meddwl

The Mental Health Bill

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 92

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 92

I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 92

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 92

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 92

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 92

The UK Government published a draft Mental Health Bill for public consultation on 25 June. The Assembly, along with all stakeholders in Wales, is a consultee in the legislative process and we welcome the opportunity to consider and comment on the Government’s proposals. The introduction of any new legislation will affect Wales and it is, therefore, imperative that Members have the opportunity to present their views on the draft Bill before the consultation period ends on 16 September.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fesur Iechyd Meddwl drafft er mwyn ymgynghori â’r cyhoedd ar 25 Mehefin. Mae’r Cynulliad, ynghyd â holl randdeiliaid Cymru, yn gorff yr ymgynghorir ag ef yn y broses ddeddfwriaethol a chroesawn y cyfle i ystyried a gwneud sylwadau ar gynigion y Llywodraeth. Bydd cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar Gymru ac mae, felly, yn hanfodol bod yr Aelodau’n cael y cyfle i gyflwyno eu barn ar y Mesur drafft cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 16 Medi.

This is a detailed and complex Bill and must be considered with the utmost care. Some of the key proposals that Members may wish to explore during the consultation period and this debate include: broadening the definition of mental disorder and changes to the criteria for compulsion; changes to the processes by which approved professionals will compulsorily examine, assess and treat patients; provision for patients to choose a nominated person to represent their interests, as well as access to advocacy services; provision for all persons subject to compulsory care under the Act with formal care plans that are kept under review; specific clauses designed to further protect and strengthen the rights of children and other vulnerable groups; the establishment of a new mental health tribunal to oversee the administration of the Act, supplemented by a mental health appeals tribunal, the latter body having similar functions to the current mental health review tribunal; and replacement of the mental health act commission with a new health care inspectorate to monitor compliance with the Act. Members will be aware that some of these are policy issues on which the Government does not yet have a final view and on which it has particularly invited comments.

Mae hwn yn Fesur manwl a chymhleth a rhaid ei ystyried yn eithriadol o ofalus. Dyma rai o’r cynigion allweddol y bydd yr Aelodau efallai am eu hystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r ddadl hon: ehangu’r diffiniad o anhwyldeb meddwl a newidiadau i’r meini prawf gorfodaeth; newidiadau i’r prosesau a ddilynir gan weithwyr proffesiynol sydd wedi’u cymeradwyo i archwilio, asesu a thrin cleifion drwy orfodaeth; darpariaeth i gleifion ddewis person enwebedig i gynrychioli eu buddiannau, yn ogystal â gallu defnyddio gwasanaethau eiriolaeth; darparu cynllun gofal ffurfiol, a gedwir dan arolwg, i bawb sy’n cael eu trin drwy orfodaeth o dan y Ddeddf; cymalau penodol â’r bwriad o amddiffyn a chryfhau ymhellach hawliau plant a grwpiau eraill sy’n agored i niwed; sefydlu tribiwnlys iechyd meddwl newydd i oruchwylio gweinyddiaeth y Ddeddf, ynghyd â thribiwnlys apeliadau iechyd meddwl, sydd i fod â swyddogaeth gyffelyb i’r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl presennol; ac, yn lle comisiwn y ddeddf iechyd meddwl, sefydlu arolygiaeth gofal iechyd newydd i fonitro cydymffurfiad â’r Ddeddf. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod rhai o’r rhain yn faterion polisi nad oes gan y Llywodraeth farn derfynol arnynt eto ac y mae wedi gwahodd sylwadau ar y rhain yn arbennig.

In certain respects, the spirit of the Bill is consistent with the principles espoused in our child and adolescent mental health strategy and our adult mental health strategy. The proposals to ensure better advocacy support for detained patients, and demand more explicit and rigorous processes relating to their compulsory examination, assessment and treatment, should strengthen the rights of patients affected by the Act. It is inevitable that any legislation proposing compulsory powers to treat some of the most vulnerable members of society will provoke strong reactions. It is important, therefore, that the Government is giving everyone the chance to comment on the draft Bill and we shall do all that we can to ensure a full debate in Wales.

Mewn rhai ffyrdd, mae ysbryd y Mesur yn cyd-fynd â’r egwyddorion a fabwysiadwyd yn ein strategaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Dylai’r cynigion i sicrhau gwell cymorth eiriolaeth i gleifion dan orchymyn, ac i fynnu prosesau mwy penodol a manwl o ran eu harchwilio, eu hasesu a’u trin drwy orfodaeth, atgyfnerthu hawliau cleifion y mae’r Ddeddf yn effeithio arnynt. Mae’n anochel y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cynnig pwerau gorfodol i drin rhai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas yn ysgogi ymateb cryf. Mae’n bwysig, felly, fod y llywodraeth yn rhoi’r cyfle i bawb wneud sylwadau ar y Mesur drafft a gwnawn bopeth yn ein gallu i sicrhau dadl lawn yng Nghymru.

I recognise that Welsh services will be faced with considerable capacity and human resource issues in meeting the requirements of the draft Bill. It is worth remembering that these issues are not exclusive to Wales, but the matter has already given rise to concern among our partners in this arena. The views of our NHS and social care partners will be vital in terms of trying to quantify the scope of this problem. With that in mind, it is premature to vote today on issues surrounding financial human resources, and that is why I will not support Jocelyn Davies’s amendment 1.

Cydnabyddaf y bydd materion sylweddol yn ymwneud â gallu ac adnoddau dynol yn wynebu gwasanaethau Cymru wrth iddynt gyflawni gofynion y Mesur drafft. Mae’n werth cofio mai nid materion i Gymru yn unig yw’r rhain, ond mae’n ystyriaeth sydd eisoes wedi peri pryder ymysg ein partneriaid yn y maes hwn. Bydd barn ein partneriaid yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol yn hanfodol o ran ceisio mesur maint y broblem. O ystyried hynny, mae’n rhy gynnar inni bleidleisio heddiw ar faterion sy’n ymwneud ag adnoddau dynol ariannol, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi gwelliant 1 gan Jocelyn Davies.

On behalf of the Wales Office, my officials have distributed the Bill to key stakeholders in Wales and will have sight of all the written responses. There will be three conferences for stakeholders in August in different parts of Wales, and the feedback from those sessions will help us. The Health and Social Services Committee plans to convene in early September to consider the Bill’s proposals in detail, alongside views from all sources, and will draw these together to finalise the Assembly’s response. I look forward to hearing today’s views in this debate, along with those that will emerge later in the pre-legislative consultation.

Ar ran Swyddfa Cymru, mae fy swyddogion wedi dosbarthu’r Mesur i randdeiliaid allweddol yng Nghymru a byddant yn gweld yr holl ymatebion ysgrifenedig. Cynhelir tair cynhadledd i randdeiliaid ym mis Awst mewn mannau gwahanol yng Nghymru, a bydd yr atborth o’r sesiynau hynny yn help inni. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwriadu ymgynnull yn gynnar ym mis Medi i ystyried cynigion y Mesur yn fanwl, ynghyd â safbwyntiau o bob ffynhonnell, a chaiff y rhain eu tynnu ynghyd i lunio ymateb terfynol y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn heddiw yn y ddadl hon, ynghyd â’r safbwyntiau a fynegir yn ddiweddarach yn yr ymgynghori cyn-deddfu.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 94

David Lloyd spoken in Welsh p. 94

Cynigiaf welliant 1 yn enw Jocelyn Davies. Ychwanegu pwynt bwled newydd ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 1 in the name of Jocelyn Davies. Add as a new point at the end of the motion:

David Lloyd (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 94

David Lloyd (continued) spoken in Welsh and English p. 94

Datganaf fy muddiant arferol fel meddyg teulu, ac yng nghyd-destun y ddadl hon, bûm yn seiciatrydd yn Ysbyty Glan-rhyd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn yr 1980au cynnar. Yn ogystal, mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn seiciatrydd ymgynghorol yng Nghaerdydd. Mae’r gwelliant yn nodi—beth bynnag fydd yn digwydd gyda’r Mesur Iechyd Meddwl hwn—yr angen dybryd am fwy o adnoddau i fynd i’r afael â sialens iechyd meddwl yn ein gwlad heddiw.

in Welsh I declare my usual interest as a GP, and in the context of this debate, I was a psychiatrist in Glanrhyd Hospital in Bridgend in the early 1980s. In addition, my brother-in-law is a consultant psychiatrist in Cardiff. The amendment notes—whatever happens with this Mental Health Bill—the desperate need for more resources to tackle the challenge of mental health in our country today.

Mae angen mwy o staff o bob math, nyrsys arbenigol, therapyddion a meddygon, o gofio ein bod yn brin o 45 o seicatryddion ymgynghorol allan o 139 posibl yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae 45 o swyddi ymgynghorol gwag yng Nghymru, heb sôn am y prinder gwelyau pan fo’n rhaid cael rhywun i’r ysbyty am driniaeth brys.

in Welsh We need more staff of all kinds, specialist nurses, therapists and doctors, bearing in mind that we are short of 45 consultant psychiatrists out of a possible 139 in Wales at the moment. There are 45 vacant consultant jobs in Wales, let alone the shortage of beds when people must be admitted to hospital for emergency treatment.

That brings me to the current draft Mental Health Bill. It is Westminster legislation, which is not devolved, and the National Assembly is involved as a consultee. Yet health is devolved, which means that mental health is devolved, and, as we have heard, the National Assembly has mental health strategies. The Welsh Assembly Government should be more active in helping to frame mental health legislation, not merely as a consultee. Many of the representations that I have received so far on the draft Bill from organisations such as MIND Cymru, Hafal and the Royal College of Psychiatrists, show much discontent with the contents of the draft Bill. In particular, they are unhappy with the changed definition of mental illness to include those previously excluded from the definition, such as people with certain personality disorders. That means that more people could be compulsory detained for treatment. I have sectioned seriously mentally ill people in the past and who were a danger to themselves and to others. I know what a fearsome responsibility it is. Widening the definition of who can be sectioned brings with it significant additional burdens. Consultant colleagues feel that these proposals would be costly and complex to implement and that Government funds would be better spent in the provision of more effective clinical services for patients.

yn Saesneg Daw hynny â mi at y Mesur Iechyd Meddwl drafft cyfredol. Deddfwriaeth San Steffan yw hon, sydd heb ei datganoli, ac mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu fel corff yr ymgynghorir ag ef. Eto i gyd mae iechyd wedi ei ddatganoli, sy’n golygu bod iechyd meddwl wedi ei ddatganoli, ac, fel y clywsom, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol strategaethau iechyd meddwl. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol fod yn gwneud mwy yn helpu i lunio deddfwriaeth iechyd meddwl, nid dim ond fel corff yr ymgynghorir ag ef. Mae llawer o’r sylwadau a dderbyniais hyd yma am y Mesur drafft oddi wrth gyrff megis MIND Cymru, Hafal a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, yn dangos llawer o anfodlonrwydd â chynnwys y Mesur drafft. Yn benodol, maent yn anhapus â’r newid yn y diffiniad o salwch meddwl i gynnwys y rhai a oedd wedi eu heithrio o’r diffiniad gynt, megis pobl sydd â rhai anhwyldebau personoliaeth. Mae hynny’n golygu y gallai mwy o bobl gael eu cadw drwy orfodaeth am driniaeth. Yr wyf wedi rhoi gorchymyn ar bobl â salwch meddwl difrifol yn y gorffennol a oedd yn berygl i’w hunain ac i eraill. Gwn y fath gyfrifoldeb ofnadwy yw. Mae ehangu’r diffiniad o’r rhai y gellir rhoi gorchymyn arnynt yn dod â beichiau ychwanegol sylweddol gydag ef. Teimla cydweithwyr ymgynghorol y byddai’r cynigion hyn yn gostus a chymhleth i’w gweithredu ac y byddai’n well gwario arian y Llywodraeth ar ddarparu gwasanaethau clinigol mwy effeithiol i gleifion.

Patients and families would like to see more efficient services and supportive and independent advocacy services, as well as an enforceable right to a comprehensive assessment of their needs, and for those identified needs to be addressed by good quality services. The checks and balances as regards compulsory treatment would be by way of new and welcome mental health review tribunals. However, these new tribunals alone would require the time of 600 extra consultant psychiatrists throughout the UK, meaning 30 extra for Wales on top of the 45 consultants that we cannot recruit at present. It will be difficult to recruit such numbers of new consultants, and those already in post would be diverted from patient care to tribunal work.

yn Saesneg Hoffai cleifion a theuluoedd weld gwasanaethau mwy effeithlon a gwasanaethau eiriolaeth cefnogol ac annibynnol, yn ogystal â hawl orfodadwy i asesiad cynhwysfawr o’u hanghenion, a bod yr anghenion hynny a nodir yn cael eu diwallu gyda gwasanaethau o safon. Ceid rhwystrau a gwrthbwysau o safbwynt triniaeth orfodol drwy dribiwnlysoedd adolygu iechyd meddwl newydd, sydd i’w croesawu. Fodd bynnag, byddai angen amser 600 o seiciatryddion ymgynghorol ychwanegol ar y tribiwnlysoedd hyn yn unig ledled y DU, sy’n golygu 30 ychwanegol i Gymru ar ben y 45 o ymgynghorwyr na allwn eu recriwtio ar hyn o bryd. Bydd yn anodd recriwtio cynifer o ymgynghorwyr newydd, a byddai’r rheini sydd mewn swyddi yn barod yn cael eu tynnu oddi wrth ofalu am gleifion i wneud gwaith tribiwnlys.

The consultation period is welcome, and I am grateful for the feedback that I have received so far from organisations such as MIND Cymru, Hafal and the Royal College of Psychiatrists among others. There are concerns that the draft Mental Health Bill is driven by the perceived risk presented by a small number of people with dangerous and severe personality disorders—

yn Saesneg Croesawir y cyfnod ymgynghori, ac yr wyf yn ddiolchgar am yr atborth a dderbyniais hyd yma oddi wrth gyrff megis MIND Cymru, Hafal a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ymysg eraill. Mae yna bryderon fod y Mesur Iechyd Meddwl drafft yn cael ei yrru gan y risg gydnabyddedig a gynrychiolir gan nifer fach o bobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth peryglus a difrifol—

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 96

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 96

Will you confirm that the Bill has been drawn up on the basis of around 600 people who are perceived to be a danger to the general public, but that it will affect many more people? The effect on those people could impinge on their human rights.

A wnewch chi gadarnhau y cafodd y Mesur ei lunio ar sail oddeutu 600 o bobl y bernir eu bod yn berygl i’r cyhoedd yn gyffredinol, ond y bydd yn effeithio ar lawer mwy o bobl? Gallai’r effaith ar y bobl hynny darfu ar eu hawliau dynol.

David Lloyd spoken in English p. 96

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 96

Yes. That needs to be explored during this consultation period. There is a real issue here of public safety and personal freedom. Getting the balance right will be a massive challenge, as well as establishing the role of the criminal justice system. Yet the representations that I have received suggest that the draft Mental Health Bill is flawed. It extends compulsion, but places no responsibility on services to offer a minimum standard of treatment and care. Since health is devolved, and since we have our own mental health strategy in Wales, the Assembly should be more involved in framing the legislation.

Ie. Mae angen ymchwilio i hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae yna fater gwirioneddol yma ynglŷn â diogelwch y cyhoedd a rhyddid personol. Bydd cael y cydbwysedd cywir yn her enfawr, ynghyd â sefydlu rôl y system cyfiawnder troseddol. Ond mae’r sylwadau yr wyf fi wedi’u derbyn yn awgrymu bod gwendid yn y Mesur Iechyd Meddwl drafft. Mae’n ehangu gorfodaeth, ond nid yw’n rhoi unrhyw gyfrifoldeb ar wasanaethau i gynnig safonau gofynnol o driniaeth a gofal. Gan fod iechyd wedi ei ddatganoli, a chan fod gennym ein strategaeth iechyd meddwl ein hunain yng Nghymru, dylai’r Cynulliad fod â mwy o ran yn y gwaith o lunio’r ddeddfwriaeth.

Val Lloyd spoken in English p. 96

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 96

There is so much to comment on in this Bill, and many Members want to speak. I will therefore limit myself to a few issues, because I am sure that others will cover many of them. The society that will be subjected to this Bill is different to that when the previous Bill was enacted 19 years ago. Nevertheless, no matter how different, the over-riding principle, then as now, is the balance between the rights of individuals and the rights of society as a whole—remembering that the rights of society as a whole are the rights of the individuals who make up that society.

Mae cymaint i sôn amdano yn y Mesur hwn, ac mae llawer o Aelodau am siarad. Cyfyngaf fy hun i ychydig faterion felly, oherwydd yr wyf yn siŵr y bydd eraill yn ymdrin â llawer ohonynt. Bydd y gymdeithas a fydd yn ddarostyngedig i’r Mesur hwn yn wahanol iawn i gymdeithas pan ddaeth y Mesur blaenorol yn ddeddf 19 mlynedd yn ôl. Serch hynny, pa mor wahanol bynnag y bo, yr egwyddor hollbwysig, bryd hynny fel yn awr, yw’r cydbwysedd rhwng hawliau unigolion a hawliau cymdeithas yn ei chyfanrwydd—gan gofio mai hawliau cymdeithas yn ei chyfanrwydd yw hawliau’r unigolion sy’n llunio’r gymdeithas honno.

Compulsory treatment is possibly at the core of the Bill. It has a long history of use, and regrettably not always an honourable one, in the care of those with a mental illness. Equally, for many, compulsory treatment was, and is, of benefit, sometimes to patients themselves, and sometimes acts as a safeguard for themselves and others. That seems to be the same situation that is presented to us today. Are there enough safeguards for the protection of individuals as well as for society as a whole? The Mental Health Act 1983 was a vast improvement on the Mental Health Act 1959, whereby patients, especially those admitted under section 36, could be forgotten for many years. In view of its importance the question, must be asked again: does the revision of the existing Mental Health Act 1983 now propose adequate safeguards for all? I do not apologise for repeating that three times in different ways, because it is crucial.

Mae’n bosibl mai triniaeth drwy orfodaeth yw craidd y Mesur hwn. Defnyddiwyd triniaeth o’r fath ers cryn amser i ofalu am y rhai sydd â salwch meddwl ond, yn anffodus, ni chafodd ei ddefnyddio mewn modd anrhydeddus bob amser. Yn yr un modd, yr oedd, ac y mae, triniaeth orfodol o fudd i lawer, i gleifion eu hunain weithiau, ac weithiau mae’n fodd o’u diogelu hwy ac eraill. Mae’n ymddangos mai’r un sefyllfa sy’n ein hwynebu ni heddiw. A oes yna ddigon o fesurau i ddiogelu unigolion yn ogystal â chymdeithas yn ei chyfanrwydd? Yr oedd Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn welliant enfawr ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1959, a olygai y gallai cleifion, yn enwedig y rhai a driniwyd o dan adran 36, gael eu hanghofio am flynyddoedd lawer. Am ei fod mor bwysig, rhaid gofyn y cwestiwn eto: a yw’r diwygio ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn awr yn cynnig mesurau digonol i ddiogelu pawb? Nid ymddiheuraf am ailadrodd hynny dair gwaith, oherwydd mae’n hollbwysig.

The code of practice for guiding all decisions is a positive step in that it proposes the involvement of patients, transparency in the processes used, and the least intrusive treatment allowable. The broader definition of mental disorder, which will now cover psychopathic disorders and mental impairment, although supported by the Richardson commission, might raise expectations that expertise is available for their treatment, even though the treatability clause will be removed. This has an ethical dimension, which must be carefully and thoughtfully aired.

Mae’r cod ymarfer a fydd yn arweiniad ym mhob penderfyniad yn gam positif gan ei fod yn awgrymu rhoi llais i’r cleifion, tryloywder yn y prosesau a ddefnyddir, a’r driniaeth leiaf ymwthiol bosibl. Gallai’r diffiniad ehangach o anhwyldeb meddwl, a fydd bellach yn cynnwys anhwyldebau seicopathig a nam ar y meddwl, er bod comisiwn Richardson yn ei gefnogi, godi disgwyliadau fod arbenigedd ar gael i drin yr anhwyldebau, er y bydd y cymal ynglŷn â’r posibilrwydd o’u trin yn cael ei ddileu. Mae i hyn ddimensiwn moesegol, y mae’n rhaid ei wyntyllu yn ofalus a phwyllog.

For patients other than offenders, a major change is that they may be subject to community-based Orders. Practical and ethical issues then arise for the individuals administering those Orders. What kind of back-up support will be available for them during emergencies? I welcome the removal of the current position where people with mental disorders are more restricted in their rights to challenge aspects of their care, than those with physical illnesses. The balance has been fairly struck in that the person campaigned against will have a defence of good faith and reasonable care.

Newid mawr i gleifion ar wahân i droseddwyr yw y gallent fod yn destun Gorchmynion cymunedol. Cyfyd materion ymarferol a moesegol wedyn i’r unigolion sy’n gweinyddu’r Gorchmynion hynny. Pa fath o gymorth wrth gefn fydd ar gael iddynt mewn argyfwng? Croesawaf y ffaith y ceir gwared ar y sefyllfa gyfredol lle y mae hawliau pobl ag anhwyldebau meddwl i herio agweddau ar eu gofal wedi eu cyfyngu yn fwy nag y mae hawliau’r rhai sydd â salwch corfforol. Cafodd cydbwysedd teg ei daro yn yr ystyr yr amddiffynnir y sawl yr ymgyrchir yn ei erbyn gydag ewyllys da a gofal rhesymol.

Overall, the proposals in principle develop the service, but there are issues regarding whether policy can be effectively implemented, as well as ethical issues, some of which I raised earlier. The principles of compulsion, liberty, safety, and effectiveness must be balanced.

Yn gyffredinol, mae’r cynigion mewn egwyddor yn datblygu’r gwasanaeth, ond mae materion ynghylch a ellir gweithredu’r polisi yn effeithiol, yn ogystal â materion moesegol, y codais rai ohonynt yn gynharach. Rhaid dal y fantol rhwng egwyddorion gorfodaeth, rhyddid, diogelwch ac effeithiolrwydd.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 98

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 98

Thank you, Val, for being succinct.

Diolch ichi, Val, am fod yn gryno.

David Melding spoken in English p. 98

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 98

Nearly the whole period for consultation on this draft Bill falls outside Assembly time. We have until 16 September. I believe that the Bill was published a few weeks ago. However, I commend the Government for tabling this debate, and I am grateful to the Presiding Office for agreeing to recall the Health and Social Services Committee in September, so it too can consider this matter in greater detail. It is wholly appropriate for the Assembly to comment on a piece of primary legislation for which it is not directly responsible, but that will affect many people in Wales. We should tell our Parliamentary colleagues in London that more care needs to be taken regarding the times that draft Bills are issued for consultation because this Bill could have compromised us, had it been published a little later.

Mae’r cyfnod cyfan bron ar gyfer ymgynghori ar y Mesur drafft hwn yn disgyn y tu allan i dymhorau’r Cynulliad. Mae gennym tan 16 Medi. Credaf i’r Mesur gael ei gyhoeddi rai wythnosau yn ôl. Fodd bynnag, cymeradwyaf y Llywodraeth am gyflwyno’r ddadl hon, ac yr wyf yn ddiolchgar i Swyddfa’r Llywydd am gytuno i alw’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ôl ym mis Medi, fel y gall yntau ystyried y mater yn fwy manwl. Mae’n gwbl briodol i’r Cynulliad wneud sylwadau ar ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol nad yw’n uniongyrchol gyfrifol amdano, ond a fydd yn effeithio ar lawer o bobl yng Nghymru. Dylem ddweud wrth ein cyd-Aelodau Seneddol yn Llundain fod angen bod yn fwy gofalus o ran amser rhyddhau Mesurau drafft ar gyfer ymgynghori oherwydd gallai’r Mesur hwn fod wedi peryglu ein henw da, pe bai wedi ei gyhoeddi ychydig yn ddiweddarach.

Although the draft Bill is now being consulted on, this reform in the law has been anticipated for some time. The White Paper was published a few years ago. It is fair to say that most of the mental health sector is disappointed that the draft Bill closely mirrors the White Paper, despite the many objections that were raised with the Government. The Mental Health Alliance stated that it did not feel that it had been listened to. It is a great shame that one of the key organisations that should be held in partnership in terms of producing coherent law feels that it has not been able to put its points across.

Er mai yn awr y mae’r ymgynghori ar y Mesur drafft yn mynd rhagddo, mae’r diwygiad hwn wedi cael ei ragweld ers tro. Cyhoeddwyd y Papur Gwyn rai blynyddoedd yn ôl. Mae’n deg dweud bod rhan helaethaf y sector iechyd meddwl yn siomedig fod y Mesur drafft yn cadw mor agos at y Papur Gwyn, er gwethaf y gwrthwynebiadau lu a godwyd gyda’r Llywodraeth. Dywedodd y Cynghrair Iechyd Meddwl nad oedd yn teimlo iddo gael gwrandawiad. Mae’n drueni mawr fod un o’r cyrff allweddol a ddylai gael ei gynnwys mewn partneriaeth wrth gynhyrchu cyfraith gydlynol yn teimlo nad yw wedi gallu cyfleu ei bwyntiau..

Mental health is a priority in England and Wales. It is one of the three priorities that have been declared by the Health and Social Services Committee, which has been reaffirmed for the future budget round. However, no extra funds have been designated for the national service framework. We must consider that and identify extra expenditure for mental health, as a priority area, beyond what is projected in the budget. Being a priority area with no priority funding is a contradiction. We should aim to improve services comprehensively before we consider a change in the law and that is our problem.

Mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’n un o’r tair blaenoriaeth a ddatganwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi ei hailgadarnhau ar gyfer cylch nesaf y gyllideb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol. Rhaid inni ystyried hynny a chanfod gwariant ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl, fel maes blaenoriaeth, uwchlaw’r hyn a ragamcanwyd yn y gyllideb. Mae bod yn faes blaenoriaeth heb gyllid blaenoriaeth yn groesddywediad. Dylem anelu at wella’r gwasanaethau o un pen i’r llall cyn ystyried newid y gyfraith a dyna yw ein problem.

I will remind Members of the current position regarding services. This Bill contains no right for services to patients, which is a fundamental flaw. The National Schizophrenia Fellowship calculates that one third of people seeking help or treatment is turned away. The draft Bill states that compulsion is the answer, but one third of people are told to go away.

Atgoffaf yr Aelodau am y sefyllfa ar hyn o bryd o ran gwasanaethau. Nid yw’r Mesur yn cynnwys unrhyw hawl i wasanaeth i gleifion, sydd yn nam sylfaenol. Mae’r Gymdeithas Sgitsoffrenia Genedlaethol yn amcangyfrif bod un o bob tri pherson sy’n gofyn am help neu driniaeth yn cael ei wrthod. Dywed y Mesur drafft mai gorfodaeth yw’r ateb, ond dywedir wrth un rhan o dair o bobl i fynd i ffwrdd.

On compulsory treatment, I listened with care to Val Lloyd’s compassionate and lucid speech, and I agree with much of what she said. However, there are problems with compulsory treatment. The wider and vaguer definition of mental disorder allows authorities more latitude to section someone. I know that we do not live in the Soviet Union, and I am sure that our checks and balances and the fact that decisions would be subjected to human rights legislation would provide effective protection. However, I am still uncomfortable with this type of statute.

O ran triniaeth orfodol, gwrandewais yn ofalus ar araith dosturiol ac eglur Val Lloyd, a chytunaf â llawer o’r hyn a ddywedodd. Fodd bynnag, mae yna broblemau gyda thriniaeth orfodol. Mae’r diffiniad ehangach a mwy amwys o anhwyldeb meddwl yn rhoi mwy o ryddid i’r awdurdodau i roi gorchymyn ar rywun. Gwn nad ydym yn byw yn yr Undeb Sofietaidd, ac yr wyf yn siŵr bod ein rhwystrau a’n gwrthbwysau a’r ffaith y byddai penderfyniadau yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth hawliau dynol yn rhoi amddiffyniad effeithiol. Fodd bynnag, yr wyf yn dal yn anghyfforddus â Deddf o’r math hwn.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 99

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 99

I agree that we need to be concerned about the references to sectioning within this draft Order, because the perception of people who are suffering from mental illness could be that they face being sectioned because of the changes in the draft Bill. Do you agree that that could lead to people not seeking help and treatment because of the fear of being sectioned?

Cytunaf fod angen inni boeni am y cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at roi gorchymyn ar gleifion, oherwydd gallai pobl sy’n dioddef salwch meddwl gael yr argraff y gallai gorchymyn gael ei roi arnynt oherwydd y newidiadau yn y Mesur drafft. A ydych yn cytuno y gallai hynny beri i bobl beidio â cheisio help a thriniaeth oherwydd yr ofn y câi gorchymyn ei roi arnynt?

David Melding spoken in English p. 99

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 99

I am grateful to the Member because many charities have already pointed that out. Indeed, we anticipate more compulsory treatment, which could act as a deterrent. I am also concerned that compulsory treatment could be provided in the community and not only in hospitals, which opens the door for many more compulsory treatment orders to be issued. How will compulsory treatment be supervised? That is the practical problem. Will treatment have to be taken in front of a pharmacist, nurse or social worker? How will it be done? Will it curtail the range of treatments available? Will patients have to go for treatment that only needs to be given once a day as opposed to several times a day? If so, will that prevent modern drugs from being used and more old-fashioned ones with many side-effects being preferred? There are huge practical issues to be considered.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Aelod oherwydd mae llawer o elusennau wedi tynnu sylw at hynny yn barod. Yn wir, yr ydym yn rhagweld rhagor o driniaeth orfodol, a fyddai’n llestair i bobl. Yr wyf yn bryderus hefyd y gallai triniaeth orfodol gael ei rhoi yn y gymuned, a hynny nid dim ond mewn ysbytai, sy’n agor y drws i lawer mwy o orchmynion triniaeth orfodol gael eu rhoi. Sut y bydd triniaeth orfodol yn cael ei goruchwylio? Dyna’r broblem ymarferol. A fydd yn rhaid i’r driniaeth gael ei chymryd o flaen fferyllydd, nyrs neu weithiwr cymdeithasol? Sut bydd hyn yn cael ei wneud? A gyfyngir ar ystod y triniaethau a fydd ar gael? A fydd cleifion yn gorfod cymryd triniaeth nad oes angen ei rhoi ond unwaith y dydd yn hytrach na sawl gwaith y dydd? Os felly, a fydd hynny’n atal defnyddio cyffuriau modern gan ffafrio rhai mwy hen-ffasiwn sydd â llawer o sgîl effeithiau? Mae yna faterion ymarferol enfawr i’w hystyried.

Finally, the treatability clause that will be removed as a result of this Bill, if it becomes an Act, is ominous because only people who can receive treatment are currently sectioned into a hospital. That seems to be a reasonable defence because if we want to deal with people who cannot be treated, but who are a risk, then we must do so in an environment that is not a hospital, otherwise we are turning doctors and nurses into prison wardens. That is not appropriate. The Mental Health Alliance has stated that the tiny minority of people who pose a danger to the public and cannot be provided with effective treatment should not be hospitalised. I agree with that, as does the Royal College of Psychiatrists, which has called the proposals in this respect fundamentally flawed and draconian. The truth is that this is merely a personality disorder Bill dressed up as a general mental health Bill and that is—

Yn olaf, nid yw dileu’r cymal ynglŷn â’r posibilrwydd o drin o ganlyniad i’r Mesur hwn, os daw’n Ddeddf, yn argoeli’n dda oherwydd dim ond pobl y gellir eu trin sy’n cael eu cadw o dan orchymyn mewn ysbyty ar hyn o bryd. Mae hynny’n ymddangos yn amddiffyniad rhesymol oherwydd os ydym am ddelio â phobl na ellir eu trin, ond sy’n risg, yna rhaid gwneud hynny mewn amgylchedd ar wahân i ysbyty, neu yr ydym yn troi meddygon a nyrsys yn wardeiniaid carchar. Nid yw hynny’n briodol. Mae’r Cynghrair Iechyd Meddwl wedi datgan na ddylai’r lleiafrif bach iawn o bobl sydd yn berygl i’r cyhoedd ac na ellir rhoi triniaeth effeithiol iddynt gael eu cadw mewn ysbyty. Cytunaf â hynny, fel a wna Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, sydd wedi dweud bod nam sylfaenol yn y cynigion yn y cyswllt hwn a’u bod yn ddraconaidd. Y gwir yw nad yw hwn ond Mesur anhwyldeb personoliaeth wedi ei gyflwyno fel Mesur iechyd meddwl cyffredinol ac mae hynny—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 100

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 100

Order. You must wind up in the next sentence.

Trefn. Rhaid ichi ddirwyn i ben yn y frawddeg nesaf.

David Melding spoken in English p. 100

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 100

I fear that the weak and harmless will suffer for the sake of a small, violent minority; that is not an adequate basis on which to proceed.

Ofnaf y bydd y gwan a’r diniwed yn dioddef er lles lleiafrif bach, treisgar; nid yw honno’n sail ddigonol i fwrw ymlaen arni.

Kirsty Williams spoken in English p. 100

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 100

I am grateful that the Minister for Open Government considered it appropriate to find time for this debate, particularly at the end of a busy session when there was a great deal of business to get through. However, this is an important matter that deserves the attention of the Assembly in Plenary. As David Melding said, it is regrettable that the consultation period on this draft Bill will end before we return from the recess. However, despite that, it is highly desirable that this process of publishing Bills in draft form be encouraged in Westminster because it gives the Assembly and others an opportunity to influence legislation in a way that was not possible before.

Yr wyf yn ddiolchgar fod y Gweinidog dros Lywodraeth Agored yn ei hystyried yn briodol canfod amser ar gyfer y ddadl hon, yn enwedig ar ddiwedd sesiwn prysur pan oedd llawer iawn o fusnes i ymdrin ag ef. Fodd bynnag, mae hyn yn fater pwysig sy’n haeddu sylw’r Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Fel a ddywedodd David Melding, mae’n anffodus y bydd y cyfnod ymgynghori ar y Mesur drafft hwn yn gorffen cyn inni ddychwelyd o’r gwyliau. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, mae’n beth hynod o ddymunol annog y broses hon o gyhoeddi Mesurau ar ffurf ddrafft yn San Steffan gan ei bod yn rhoi’r cyfle i’r Cynulliad ac eraill ddylanwadu ar ddeddfwriaeth mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

I trust that this process will lead to legislation that is more realistic and relevant to those people who will use the services that we are discussing and those who practice within them. I welcome the proposal that the Minister has already outlined to the Health and Social Services Committee on the wide-ranging consultation exercise that will take place across the length and breadth of Wales over the next months. That should be welcomed. I am also grateful for the forbearance of my colleagues on the Health and Social Services Committee who will return in September to discuss this issue and take evidence from organisations with an interest in it before the Committee decides on its formal response to this consultation exercise.

Hyderaf y bydd y broses hon yn arwain at ddeddfwriaeth sy’n fwy realistig a pherthnasol i’r bobl hynny a fydd yn defnyddio’r gwasanaethau yr ydym yn eu trafod a’r rheini sy’n gweithio oddi mewn iddynt. Croesawaf y cynnig y mae’r Gweinidog eisoes wedi ei amlinellu i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran yr ymarferiad ymgynghori eang a gynhelir ar hyd a lled Cymru dros y misoedd nesaf. Dylid croesawu hynny. Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am amynedd fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn dychwelyd ym mis Medi i drafod y mater hwn a chymryd tystiolaeth gan gyrff sydd â diddordeb ynddo cyn i’r Pwyllgor benderfynu ar ei ymateb ffurfiol i’r ymarferiad ymgynghori hwn.

Turning briefly to some of the proposals in the draft Bill, having this debate before the end of the consultation period is a little back to front, but certain issues jump out of this Bill that deserve comment at this stage. This draft Bill is the long-overdue and disappointing update of the 1983 Act. We have waited a long time for it: it could be described as a piece of repressive legislation. It will give powers to lock up people with personality disorders indefinitely despite the fact that they have committed no crime. Everyone here agrees that the public must be protected from the risk of an attack, but the best and most effective way to achieve that is by ensuring that there are adequate services in the community and hospitals to treat people.

A throi’n fyr at rai o’r cynigion yn y Mesur drafft, mae cynnal y ddadl hon cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben y tu ôl ymlaen braidd, ond mae rhai materion yn y Mesur yn mynnu sylw ar unwaith ac mae’n werth sôn amdanynt yn awr. Diweddariad siomedig, y bu hir ddisgwyl amdano, ar Ddeddf 1983 yw’r Mesur drafft hwn. Bu’n hir iawn yn dod: gellid ei ddisgrifio fel darn o ddeddfwriaeth ormesol. Bydd yn rhoi pwerau i osod pobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth dan glo am gyfnod amhenodol er nad ydynt wedi cyflawni unrhyw drosedd. Mae pawb yma yn cytuno bod yn rhaid diogelu’r cyhoedd rhag perygl o ymosodiad, ond y ffordd orau a mwyaf effeithiol o gyflawni hynny yw drwy sicrhau bod gwasanaethau digonol ar gael yn y gymuned ac mewn ysbytai i drin pobl.

David Melding spoken in English p. 102

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 102

Do you agree that the Government’s approach seems to be more about compulsion than meeting the demands for treatment that currently exist?

A ydych yn cytuno bod dull y Llywodraeth fel pe bai a wnelo mwy â gorfodaeth nag â diwallu’r galw am driniaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd?

Kirsty Williams spoken in English p. 102

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 102

I am afraid that I can find little evidence to the contrary in this draft Bill. However, I look forward to hearing from the Minister and to hearing further debates in Westminster that will dispel the impression that you and I have at this stage.

Mae arnaf ofn na allaf ganfod fawr o dystiolaeth i’r gwrthwyneb yn y Mesur drafft hwn. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog ac at glywed trafodaethau pellach yn San Steffan a fydd yn chwalu’r argraff sydd gennych chi a minnau ar hyn o bryd.

Brian Gibbons spoken in English p. 102

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 102

Treating people with sociopathic behavioural problems is difficult. The point is that they cannot be treated, which is why this legislation has been changed. If they cannot be treated, what is the answer? If you are intent on criticising the legislation, then it behoves you and David and others to tell us what the answer is.

Mae’n anodd trin pobl sydd â phroblemau ymddygiad sosiopathig. Y pwynt yw na ellir eu trin, a dyna pam y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei newid. Os na ellir eu trin, beth yw’r ateb? Os yw eich bryd ar feirniadu’r ddeddfwriaeth, yna dylech chi a David ac eraill ddweud wrthym beth yw’r ateb.

Kirsty Williams spoken in English p. 102

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 102

You are absolutely right, Brian. I agree that there are extremely difficult individual cases that pose challenges in terms of how they can or cannot be treated. However, those people are a minority. To quote the Law Society, this Bill is taking a hammer to crack a nut. I fear that because of this Bill there will be people who can be treated and who do not pose that kind of risk, but whose rights will be curtailed severely by its content.

Yr ydych yn hollol iawn, Brian. Cytunaf fod yna achosion unigol eithriadol o anodd sydd yn her o ran sut y gellir neu na ellir eu trin. Fodd bynnag, lleiafrif yw’r bobl hynny. I ddyfynnu Cymdeithas y Gyfraith, mae’r Mesur hwn yn defnyddio gordd i dorri cneuen. Oherwydd y Mesur hwn, ofnaf y bydd yna bobl y mae modd eu trin ac nad ydynt yn peri’r math hwnnw o risg ond y cyfyngir yn ddifrifol ar eu hawliau oherwydd ei gynnwys.

David Melding spoken in English p. 102

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 102

I appreciate your indulgence in giving way again. This issue of people with severe personality disorders is crucial. If they should not be in a hospital environment because they cannot be treated, but they need to be placed in some form of preventive custody, do you agree that it would be appropriate for them to be detained in relatively comfortable surroundings and not in the prison environment? That would have to be part of society’s contract for imposing such a severe penalty on a group of people who have not committed a criminal offence.

Gwerthfawrogaf eich goddefgarwch yn ildio eto. Mae’r mater hwn o bobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth difrifol yn holl bwysig. Os na ddylent fod mewn amgylchedd ysbyty gan na ellir eu trin, ond fod angen eu rhoi mewn rhyw fath o ddalfa ataliol, a ydych yn cytuno y byddai’n briodol iddynt gael eu cadw mewn amgylchiadau cymharol gyfforddus ac nid mewn amgylchedd carchar? Byddai’n rhaid i hynny fod yn rhan o gontract cymdeithas am osod cosb mor lem ar grŵp o bobl nad ydynt wedi tramgwyddo’n droseddol.

Kirsty Williams spoken in English p. 102

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 102

I agree.

Cytunaf.

I have grave concerns about compulsory treatment. If a person is currently detained for compulsory treatment there is a requirement for treatment to be available to alleviate their condition. This draft Bill proposes to remove that and introduce a requirement that treatment should be available but not in terms of benefiting the individual patient. That is what is most worrying about this Bill. Its tone and emphasis smack too much of seeing the mentally ill as being dangerous and therefore in need of being locked up. The focus must be on treating mental illness and patients. The new mental health tribunals are welcome but are a huge bureaucratic burden which, again, the Law Society and the Royal College of Psychiatrists state will crucify the system if the proposals in this Bill are delivered.

Mae gennyf bryderon difrifol am driniaeth orfodol. Ar hyn o bryd os yw person yn cael ei ddal ar gyfer triniaeth orfodol mae’n ofynnol fod triniaeth ar gael i liniaru ei gyflwr. Mae’r Mesur drafft hwn yn cynnig dileu hynny a chyflwyno gofyniad y dylai triniaeth fod ar gael ond nid yn nhermau bod o fudd i’r claf unigol. Dyna’r hyn sy’n peri’r pryder mwyaf ynglŷn â’r Mesur hwn. Mae ei dôn a’i bwyslais yn cyfleu’n ormodol fod pobl sâl eu meddwl yn cael eu hystyried yn beryglus a bod angen felly eu rhoi o dan glo. Rhaid i’r ffocws fod ar drin salwch meddwl a chleifion. Croesewir y tribiwnlysoedd iechyd meddwl newydd ond maent yn faich biwrocrataidd enfawr ac, eto, dywed Cymdeithas y Gyfraith a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion y byddant yn faich llethol ar y system os gwireddir y cynigion yn y Mesur hwn.

The public needs to be protected, but the best way to achieve that and to protect the needs of the mentally disordered and mentally ill is by providing more resources to put in place adequate treatment proposals.

Mae angen diogelu’r cyhoedd, ond y ffordd orau o gyflawni hynny a gwarchod anghenion pobl sydd ag anhwyldebau a salwch meddwl yw drwy ddarparu rhagor o adnoddau i roi cynigion ar waith i sicrhau triniaeth ddigonol.

Geraint Davies spoken in English p. 103

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 103

I declare an interest as a pharmacist.

Datganaf fuddiant fel fferyllydd.

Mental health still carries a great deal of stigma in terms of the labels that we stick on people who have suffered from mental illness at some point in their lives. We are aware of the stereotypes of someone who is dangerous, violent and out-of-control. However, the Assembly has been addressing that. Our adult mental health strategy and the mental health national service framework are based on patient choice and empowerment. They talk about respecting the rights of patients and the need for education to reduce stigma. That is the forward-thinking approach to which the Assembly proudly subscribes.

Mae cryn stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl o hyd o safbwynt y labeli a roddwn ar bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl ryw dro yn ystod eu hoes. Gwyddom am y stereoteipiau o rywun sy’n beryglus, treisgar ac allan o reolaeth. Fodd bynnag, mae’r Cynulliad wedi bod yn ymdrin â hyn. Mae ein strategaeth iechyd meddwl i oedolion a’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol o ran iechyd meddwl wedi eu seilio ar roi dewis i gleifion a’u grymuso. Soniant am barchu hawliau cleifion a’r angen am i addysg leihau’r stigma. Dyna’r dull blaengar y mae’r Cynulliad yn falch o’i arddel.

However, do the proposals under discussion today conform to our policies and ideas or do they fundamentally conflict with them? Certainly the messages coming from people who work in this field underline the same concerns time and time again. There are concerns that this Bill will take us back to the definition of treatment in the narrowest sense, namely interventionist and compulsory. There are concerns about patients being sidelined and people losing empowerment.

Fodd bynnag, a yw’r cynigion o dan drafodaeth heddiw yn cydymffurfio â’n polisïau a’n syniadau ynteu â ydynt yn gwrthdaro’n sylfaenol â nhw? Yn sicr, mae’r negeseuon oddi wrth bobl sy’n gweithio yn y maes hwn yn tanlinellu’r un pryderon dro ar ôl tro. Mae yna bryderon y bydd y Mesur hwn yn mynd â ni’n ôl at y diffiniad o driniaeth yn yr ystyr culaf, sef drwy ymyrraeth a gorfodaeth. Mae pryderon y bydd cleifion yn cael eu gwthio i’r ochr ac y bydd pobl yn colli grym.

Consider the proposed changes to the role of the accredited social worker and moving responsibilities away from trained accredited social workers to a wider group of people. Accredited social workers were widely welcomed in the 1983 Act to act as a weight and balance. They ensured that patients’ views were heard, represented and taken into account along with the views of health professionals. However, there is now a danger of roles being blurred, of a downgrading of expertise and even a danger of collusion between the person performing the ASW’s role and the consultant. An ASW can currently consider the whole picture and assess holistically with knowledge and experience because they have already undergone training. There are huge training implications for involving staff who have never received training in the field. I cannot see the rationale behind this proposal.

Ystyriwch y newidiadau arfaethedig i rôl y gweithiwr cymdeithasol achrededig a’r symud cyfrifoldebau oddi wrth weithwyr cymdeithasol achrededig sydd wedi eu hyfforddi i grŵp ehangach o bobl. Rhoddwyd croeso eang i weithwyr cymdeithasol achrededig yn Neddf 1983 i weithredu fel clorian bwyso. Yr oeddent yn sicrhau bod barn cleifion yn cael ei chlywed, ei chynrychioli a’i chymryd i ystyriaeth ynghyd â barn gweithwyr iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, mae perygl yn awr y bydd y rolau yn mynd yn fwy aneglur, y caiff arbenigedd ei israddio a pherygl hyd yn oed o gydgynllwynio rhwng y sawl sy’n cyflawni rôl y gweithiwr cymdeithasol sydd wedi ei gymeradwyo a’r ymgynghorydd. Ar hyn o bryd gall y gweithiwr cymdeithasol sydd wedi ei gymeradwyo ystyried y darlun cyfan ac asesu’n gyfannol gyda gwybodaeth a phrofiad gan ei fod eisoes wedi cael hyfforddiant. Mae goblygiadau hyfforddi enfawr i gynnwys staff nad ydynt erioed wedi cael hyfforddiant yn y maes. Ni allaf weld y rhesymeg wrth wraidd y cynnig hwn.

There are also concerns about community treatment orders—the introduction of compulsory treatment for mentally ill people being cared for in the community. Is this proposal compatible with human rights legislation? Workers are horrified about the human rights implications of this Bill. Does the proposed detention of people with severe personality disorders in secure mental hospitals, even though they have not committed a crime, comply with human rights legislation? An individual being detained indefinitely without ever having caused harm or committed a crime.

Mae pryderon hefyd ynglŷn â gorchmynion trin yn y gymuned—cyflwyno triniaeth orfodol i bobl sâl eu meddwl y gofalir amdanynt yn y gymuned. A yw’r hyn a gynigir yn gydnaws â deddfwriaeth hawliau dynol? Mae gweithwyr wedi eu brawychu gan oblygiadau hawliau dynol y Mesur hwn. A yw’r bwriad i gadw pobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth difrifol mewn ysbytai meddwl diogel, er nad ydynt wedi cyflawni trosedd, yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol? Unigolyn yn cael ei gadw am gyfnod amhenodol er nad yw wedi achosi niwed nac wedi cyflawni trosedd erioed.

Professionals tell me that the contradiction between avowed Assembly policy and the proposed Bill is unfortunately a typical example of what is currently taking place with regard to social policy. They are faced with constant contradictions. We must ensure that the workforce of the future has consistency and clear direction, not confusion and contradiction.

Dywed gweithwyr proffesiynol wrthyf fod y croes-ddweud rhwng polisi cydnabyddedig y Cynulliad a’r Mesur arfaethedig yn enghraifft nodweddiadol yn anffodus o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yng nghyswllt polisi cymdeithasol. Maent yn wynebu croes-ddweud cyson. Rhaid inni sicrhau cysondeb a chyfeiriad clir i weithlu’r dyfodol, nid dryswch a chroes-ddweud.

This consultation will be a test of what devolution has achieved, although we should have been part of the process before now—we should not merely be consultees. Looking to the future, we must listen to what patients and carers in Wales are telling us and ensure that the message is unequivocally conveyed to Westminster.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn brawf o’r hyn a gyflanwyd gan ddatganoli, er y dylem fod wedi bod yn rhan o’r broses cyn hyn—nid corff i ymgynghori ag ef yn unig. Ac edrych i’r dyfodol, rhaid inni wrando ar yr hyn y mae cleifion a gofalwyr Cymru yn ei ddweud wrthym a sicrhau bod y neges yn cael ei chyfleu yn ddiamwys i San Steffan.

Ann Jones spoken in English p. 105

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 105

I will add a few comments on the consultation process, which we are embarking upon today. The vast majority of people with mental health problems pose no threat to anyone. Many such people are among the most vulnerable in our communities and need our help and support. Statistics show that one in four people will suffer from some form of mental illness during their lives, a fact that we must all recognise. We need to shake off the stigma of mental illness, which is too commonly found within society, as Geraint mentioned. We must also ensure that we continue to invest in high quality community care for people with mental health problems. I will probably astonish most of my colleagues—and David Melding—by commending the Conservatives for introducing care in the community, although it was never properly funded under the Conservative Government. However, the principle behind the policy was correct and some progress was made in community care, which the Assembly has built upon. We have established two national frameworks, one for children and adults with mental health problems and another to resettle patients from Bryn y Neuadd Hospital. These are examples of the work that we have achieved. For too long, mental health services have been seen as the Cinderella services of the NHS. I believe that the Assembly has changed that perception. We have moved mental health to centre stage alongside our other two priorities of cancer and coronary heart disease.

Ychwanegaf ychydig sylwadau ar y broses ymgynghori, yr ydym yn dechrau arni heddiw. Nid yw mwyafrif llethol y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn unrhyw fygythiad i unrhyw un. Mae llawer o bobl o’r fath ymysg y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac mae angen ein help a’n cymorth arnynt. Dengys ystadegau y bydd un ym mhob pedwar person yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl yn ystod ei oes, ffaith y mae’n rhaid i bawb ohonom ei chydnabod. Mae angen inni gael gwared â stigma salwch meddwl, sydd yn rhy gyffredin mewn cymdeithas, fel y soniodd Geraint. Rhaid hefyd innau sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gofal cymunedol o ansawdd uchel i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n siŵr y byddaf yn synnu’r rhan fwayf o’m cyd-Aelodau—a David Melding—drwy ganmol y Ceidwadwyr am gyflwyno gofal yn y gymuned, er na chafodd ei gyllido’n iawn o dan y Llywodraeth Geidwadol erioed. Fodd bynnag, yr oedd yr egwyddor y tu cefn i’r polisi yn gywir a gwnaethpwyd peth cynnydd o ran gofal yn y gymuned, cynnydd y mae’r Cynulliad wedi adeiladu arno. Yr ydym wedi sefydlu dau fframwaith cenedlaethol, un i blant ac oedolion â phroblemau iechyd meddwl a’r llall i adleoli cleifion o Ysbyty Bryn y Neuadd. Enghreifftiau yw’r rhain o’r gwaith yr ydym wedi ei gyflawni. Cafodd y gwasanaethau iechyd meddwl eu gweld fel gwasanaethau Sinderela y GIG yn rhy hir. Credaf fod y Cynulliad wedi newid yr argraff honno. Yr ydym wedi symud iechyd meddwl i ganol y llwyfan ochr yn ochr â’n dwy flaenoriaeth arall, sef canser a chlefyd y galon.

There is a great deal in the draft Bill that I believe most Members would not object to. Existing mental health legislation largely dates back to the 1950s and is out of date—I will not bother you with examples. In considering the widespread failures of community care—we are right to deplore those—it is worth reminding ourselves of what existed in the past. We can all recall horrific solutions and situations that were once seen as the way forward for people who suffered from mental illness. Many institutions were extremely unpleasant and grossly neglected basic dignity and human rights. The vast majority of mental health patients today are offered a much better deal than was offered to sufferers some 20 years ago. We should not forget the improvements that have been made, but neither should we sit on our laurels. We must move forward. It is important that we find a way to strike the right balance between the principles of the Assembly’s national framework and the problems of compulsion for the small numbers of people with dangerous and severe personality disorders. The current system fails to protect these people, and they are largely a danger to themselves rather than to others. I have some concerns about the powers, but I look forward to a vigorous debate over the summer months and to seeing a vast range of views for the Committee to take forward as part of its consultation.

Mae llawer iawn yn y Mesur drafft y credaf na fyddai’r rhan fwyaf o Aelodau yn ei wrthwynebu. Mae’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl bresennol gan mwyaf yn dyddio’n ôl i’r 1950au ac mae ar ôl yr oes—nid wyf am eich diflasu gydag enghreifftiau. Wrth ystyried methiannau lu gofal yn y gymuned—yr ydym yn iawn i resynu at y rheini—mae’n werth atgoffa ein hunain o’r hyn a fodolai yn y gorffennol. Gallwn i gyd gofio atebion a sefyllfaoedd arswydus a gâi eu hystyried unwaith fel y ffordd ymlaen i bobl a oedd yn dioddef o salwch meddwl. Yr oedd llawer o sefydliadau yn hynod annymunol ac yn esgeuluso urddas sylfaenol a hawliau dynol yn enbyd. Cynigir llawer gwell bargen i fwyafrif llethol y cleifion iechyd meddwl heddiw nag a gynigid i ddioddefwyr ryw 20 mlynedd yn ôl. Ni ddylem anghofio’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud, ond ni ddylem ychwaith fod yn hunanfodlon. Rhaid inni symud ymlaen. Mae’n bwysig ein bod yn canfod ffordd i ddal y fantol yn briodol rhwng egwyddorion fframwaith cenedlaethol y Cynulliad a’r problemau gorfodaeth i’r nifer fach o bobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth peryglus a difrifol. Nid yw’r system bresennol yn llwyddo i amddiffyn y bobl hyn, ac maent yn berygl i’w hunain yn bennaf yn hytrach nag i eraill. Mae gennyf rai pryderon ynglŷn â’r pwerau, ond edrychaf ymlaen at ddadl drylwyr dros fisoedd yr haf ac at weld amrywiaeth enfawr o safbwyntiau i’r Pwyllgor weithio arnynt fel rhan o’i ymgynghoriad.

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 106

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 106

I thank Members for their contributions to today’s discussion: it has been interesting to hear your views at this stage of the draft Bill; they will help to shape our response. I do not intend to respond in detail to the points made, but this debate will contribute to the consultation and to our discussions over the coming weeks.

Diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau at y drafodaeth heddiw: bu’n ddiddorol gwrando ar eich barn am y Mesur drafft yn ystod y cam hwn; bydd yn help i lywio ein hymateb. Ni fwriadaf ymateb yn fanwl i’r pwyntiau a wnaethpwyd, ond bydd y ddadl hon yn cyfrannu at yr ymgynghoriad ac at ein trafodaethau dros yr wythnosau i ddod.

As everyone has said, we have a commitment to improving mental health services and have already started to turn those services around in the way that Ann described, using the money that we have invested in services. The whole Assembly has engaged vigorously in establishing our new national service framework and our child and adolescent mental health strategies. We are taking them forward and consulting with our stakeholders. We are committed to resourcing those strategies and to ensuring that they are taken forward to provide modern mental health services for the people of Wales.

Fel y mae pawb wedi dweud, mae gennym ymrwymiad i wella’r gwasanaethau iechyd meddwl ac yr ydym eisoes wedi dechrau gweddnewid y gwasanaethau hynny yn y ffordd a ddisgrifiodd Ann, gan ddefnyddio’r arian yr ydym wedi ei fuddsoddi mewn gwasanaethau. Mae’r Cynulliad cyfan wedi cyfrannu’n ddygn tuag at sefydlu ein fframwaith gwasanaeth cenedlaethol newydd a’n strategaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Yr ydym yn eu tywys yn eu blaen ac yn ymgynghori â’n budd-ddalwyr. Yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar gyfer y strategaethau hyn ac i sicrhau y gweithredir arnynt er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl modern i bobl Cymru.

How we deal with the demands of finance and human resources is essential in discussing this draft Bill. Although firm data is not available at this stage, we have sought and received assurances from the Department of Health that Wales would receive its share of any new Treasury money to implement the Act. Our colleagues in the Department of Health and the Home Office have included estimates for Wales in their calculations for areas where rough costings have been made. The publication of the Department of Health’s fuller regulatory impact assessment—the department is committed to producing that assessment by the end of this month—will also provide us with a better idea of costings, and will guide our discussions.

Mae’r ffordd yr ydym yn delio â gofynion cyllid ac adnoddau dynol yn holl bwysig wrth drafod y Mesur drafft hwn. Er nad oes data pendant ar gael ar hyn o bryd, yr ydym wedi ceisio ac wedi derbyn sicrwydd gan yr Adran Iechyd y byddai Cymru yn derbyn ei chyfran o unrhyw arian newydd gan y Trysorlys i weithredu’r Ddeddf. Mae ein cyd-Weinidogion yn yr Adran Iechyd a’r Swyddfa Gartref wedi cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn eu cyfrifiadau ar gyfer y meysydd lle lluniwyd costau bras. Bydd cyhoeddi asesiad llawnach yr Adran Iechyd o’r effaith reoliadol—mae’r adran wedi ymrwymo i gynhyrchu asesiad erbyn diwedd y mis hwn—hefyd yn rhoi gwell syniad o’r costau inni, a bydd yn arweiniad i’n trafodaethau.

We also have our own workforce planning group and an idea of human resource needs. The Chief Medical Officer for Wales, Dr Ruth Hall, has already invited the authors of two studies on medical personnel in psychiatry to present papers to the workforce group. Therefore, assessment has already started on how the Bill would affect the needs and demands of psychiatric services.

Mae gennym hefyd ein grŵp cynllunio gweithlu ein hunain a syniad o’r anghenion o ran adnoddau dynol. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hall, eisoes wedi gwahodd awduron dwy astudiaeth ar bersonél meddygol mewn seiciatreg i gyflwyno papurau i grŵp y gweithlu. Felly, dechreuwyd asesu eisoes sut y bydd y Mesur yn effeithio ar anghenion a gofynion y gwasanaethau seiciatrig.

Members have raised important issues today, which we must consider in a measured and balanced way, as Val Lloyd aptly did in her contribution. David Melding raised a point about the right to service. That right must be set against the services that we provide. Whatever legislation is introduced—if any is introduced—people need to be able to access primary care and mental health services via accident and emergency departments, helplines and the voluntary and statutory support that we already provide. It is important to scrutinise access and right to services but the new legislation, as outlined in the consultation document, would place new emphasis on the rights of patients to become involved in their care. If compulsory powers are used, treatment must be delivered on the basis of a written care plan and a comprehensive assessment of needs. We should test that in our consultation.

Codwyd materion pwysig gan Aelodau heddiw, a rhaid inni eu hystyried mewn ffordd bwyllog a chytbwys, fel y dywedodd Val Lloyd yn ei chyfraniad hi. Cododd David Melding bwynt ynglŷn â’r hawl i wasanaeth. Rhaid gosod yr hawl honno yn erbyn y gwasanaethau a ddarparwn. Pa ddeddfwriaeth bynnag a gyflwynir—os cyflwynir deddfwriaeth—mae angen i bobl allu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol ac iechyd meddwl drwy adrannau damweiniau a brys, llinellau cymorth a’r cymorth gwirfoddol a statudol yr ydym yn ei ddarparu’n barod. Mae’n bwysig manylu ar fynediad a’r hawl i wasanaethau ond byddai’r ddeddfwriaeth newydd, fel a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori, yn rhoi pwyslais newydd ar hawliau cleifion i gael llais yn eu gofal. Os defnyddir pwerau gorfodol, rhaid cyflwyno’r driniaeth ar sail cynllun gofal ysgrifenedig ac asesiad cynhwysfawr o’r anghenion. Dylem roi prawf ar hyn yn ein hymgynghoriad.

David Melding spoken in English p. 108

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 108

Can you throw any light on the issue of who will supervise compulsory treatment?

A allwch fwrw unrhyw oleuni ar bwy fydd yn goruchwylio triniaeth orfodol?

Jane Hutt spoken in English p. 108

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 108

Replacing the current mental health tribunals with stronger tribunals will be important in that regard. However, I was referring to ensuring that the services that we provide are accessible.

Bydd newid y tribiwnlysoedd iechyd meddwl presennol drwy roi tribiwnlysoedd cryfach yn eu lle yn bwysig yn y cyswllt hwnnw. Fodd bynnag, yr oeddwn yn cyfeirio at sicrhau bod modd cael gafael ar y gwasnaethau a ddarparwn.

Kirsty Williams spoken in English p. 108

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 108

Do you accept that the Royal College of Psychiatrists has already severely questioned the ability of the new tribunal to operate under the new system? The tribunal is there to protect patients but the college has grave doubts about whether it can perform that function.

A ydych yn derbyn bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion eisoes wedi bwrw amheuon difrifol ar allu’r tribiwnlys newydd i weithredu o dan y system newydd? Mae’r tribiwnlys yno i warchod cleifion ond mae’r coleg yn amau’n fawr a fydd yn gallu cyflawni’r swyddogaeth honno.

Jane Hutt spoken in English p. 108

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 108

We must test that view during the consultation on the draft Bill. If mental health tribunals are going to work, they must be adequately resourced and given status and credibility. The draft Bill makes a huge impact on human resources, which is why I made those points. Members of the Royal College of Psychiatry will also help us with our evidence and our consideration as a consultee in the process.

Rhaid inni roi prawf ar y farn honno wrth ymgynghori ar y Mesur drafft. Os yw tribiwnlysoedd iechyd meddwl yn mynd i weithio, rhaid rhoi adnoddau digonol iddynt a statws a hygrededd. Caiff y Mesur drafft effaith enfawr ar adnoddau dynol, a dyna pam y gwnaf y pwyntiau hynny. Bydd aelodau’r Coleg Seiciatreg Brenhinol hefyd yn ein helpu gyda’n tystiolaeth ac wrth inni, fel corff yr ymgynghorir ag yn ef yn y broses, ystyried y Mesur.

We have heard a great deal about human rights today and I appreciate the points that were made. However, as has already been said, the Government is only considering a small percentage—and I emphasise the word small—of mentally ill people and people with severe personality disorders, who may be a danger to themselves and others and who, at present, often slip through the net of mental health services and the criminal justice system.

Yr ydym wedi clywed llawer iawn am iawnderau dynol heddiw a gwerthfawrogaf y pwyntiau a wnaethpwyd. Fodd bynnag, fel y dywedwyd eisoes, nid yw’r Llywodraeth ond yn ystyried canran fach—a phwysleisiaf y gair bach—o bobl sâl eu meddwl a phobl sydd ag anhwyldebau personoliaeth difrifol, a allai fod yn berygl iddynt eu hunain ac i eraill ac sydd, ar hyn o bryd, yn aml yn llithro drwy rwyd y gwasanaethau iechyd meddwl a’r system cyfiawnder troseddol.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 108

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 108

You used the terminology ‘severe personality disorder’. Do you accept that there is no specific definition for that particular terminology? It is dangerous to use terminology that cannot be defined. Who are these people to whom the Bill refers and to whom you have referred? It is important, in terms of ensuring that people receive the treatment that they need and deserve, that the definition is clear and generally accepted.

Defnyddiasoch y derminoleg ‘anhwyldeb personoliaeth difrifol’. A ydych yn derbyn nad oes diffiniad penodol o’r derminoleg neilltuol honno? Mae’n beryglus defnyddio terminoleg na ellir ei diffinio. Pwy yw’r bobl hyn y cyfeiria’r Mesur atynt ac yr ydych chithau wedi cyfeirio atynt? Mae’n bwysig, o ran sicrhau bod pobl yn derbyn y driniaeth y mae ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu, fod y diffiniad yn glir ac y’i derbynnir yn gyffredinol.

Jane Hutt spoken in English p. 109

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 109

It is important that the definition is clear. It is also important—I am glad that this has been recognised—that there is support for sufficient advocacy to meet all reasonable requirements to support the rights and needs of people who may be in that situation. This is a controversial area and we must be vigorous in considering the proposed measures.

Mae’n bwysig fod y diffiniad yn glir. Mae’n bwysig hefyd—yr wyf yn falch fod hyn wedi ei gydnabod—fod yna gymorth ar gyfer eiriolaeth ddigonol i gyflawni’r holl ofynion rhesymol i gynnal hawliau ac anghenion pobl a allai fod yn y sefyllfa honno. Mae hwn yn faes dadleuol a rhaid inni fynd ati’n egnïol i ystyried y mesurau arfaethedig.

In conclusion, this is about us trying to influence legislation. As David said, the White Paper on this issue was not discussed in the Chamber—perhaps we should have done so—or in the Health and Social Services Committee. It was debated extensively at conferences that I attended. I recognise that what we are seeking today is an opportunity to influence the new Bill. We need a measured response in influencing the legislation. We have had only a short time to debate this issue today, and therefore I would welcome written comments from Members who may not able to take part in the consultative conferences in the summer. However, if Members want, we can circulate details of that consultation. We will meet on 11 September, I think, to take evidence in Committee and consider the draft Bill in greater detail.

I gloi, hanfod hyn yw ein bod yn ceisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth. Fel y dywedodd David, ni chafodd y Papur Gwyn ar y mater hwn ei drafod yn y Siambr—efallai y dylem fod wedi gwneud—nac yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fe’i trafodwyd yn helaeth mewn cynadleddau y bûm ynddynt. Cydnabyddaf mai’r hyn yr ydym yn ei geisio heddiw yw cyfle i ddylanwadu ar y Mesur newydd. Mae angen inni ymateb yn bwyllog wrth ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth. Dim ond amser byr a gawsom heddiw i drafod y mater hwn, ac felly byddwn yn croesawu sylwadau ysgrifenedig oddi wrth Aelodau na fyddant efallai yn gallu cymryd rhan yn y cynadleddau ymgynghorol dros yr haf. Fodd bynnag, os yw’r Aelodau yn dymuno, gallwn gylchredeg manylion yr ymgynghori hwnnw. Byddwn yn cwrdd ar 11 Medi, yr wyf yn credu, i gymryd tystiolaeth fel Pwyllgor ac i ystyried y Mesur drafft yn fwy manwl.

Val Lloyd spoken in English p. 109

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 109

Point of order. I did not declare my interest as a registered nurse.

Pwynt o drefn. Ni ddatganais fy muddiant fel nyrs gofrestredig.

Gwelliant 1 David Lloyd t. 109

Amendment 1 David Lloyd p. 109

GwrthodwydRejected O blaidFor 13 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (13)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Peter Rogers
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 41 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (41)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 111

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 111

That brings today’s proceedings to a close.

Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.34 p.m.

The session ended at 5.34 p.m.