English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 16 Ionawr 2001

Tuesday 16 January 2001

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:30

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Cwestiynau i Brif Weinidog CymruQuestions to the First Minister
    1. 3Dyraniadau Cyllid yr Heddlu ar gyfer 2001-02Police Funding Allocations for 2001-02
    2. 5Cydlynu Materion Polisi ar gyfer Gogledd CymruCo-ordinating Policy Issues for North Wales
    3. 7Cyflwr yr Economi BrydeinigThe State of the British Economy
    4. 9Amddiffynfeydd Rhag Llifogydd yng Ngogledd CymruFlood Defences in North Wales
    5. 11Clustnodi Dydd Gŵyl Dewi’n Ŵyl BancDesignating St David’s Day as a Bank Holiday
    6. 13Protocol Swyddogol rhwng y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol CymruAn Official Protocol between the Assembly and the Secretary of State for Wales
    7. 14Blaen-Raglen Waith y Weinyddiaeth ar gyfer 2000-01The Administration’s Forward Work Programme for 2000-01
    8. 19Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasolTackling Anti-social Behaviour
    9. 20Datblygu Polisi a Chydlynu Materion Trawsbynciol ar gyfer Gogledd CymruPolicy Development and Co-ordination of Cross-cutting Issues in North Wales
    10. 22Gweithredu ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’Implementing ‘Putting Wales First’
  2. 23Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  3. 24Datganiad BusnesBusiness Statement
  4. 27Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar Bolisi’r Celfyddydau a Diwylliant yng NghymruThe Post-16 Education and Training Committee Report on Arts and Culture Policy in Wales 1 bleidlais1 vote
  5. 69Pwynt o DrefnPoint of Order
  6. 69Dadl Plaid Leiafrifol (Plaid Cymru)Minority Party Debate (Plaid Cymru) 3 o bleidleisiau3 votes
    1. 69Gweithgynhyrchu yng NghymruManufacturing in Wales 3 o bleidleisiau3 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar Bolisi’r Celfyddydau a Diwylliant yng NghymruThe Post-16 Education and Training Committee Report on Arts and Culture Policy in Wales
CynnigMotion4700DerbyniwydAdopted
Gweithgynhyrchu yng NghymruManufacturing in Wales
Gwelliant 1Amendment 16041GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 233014DerbyniwydAdopted
CynnigMotion29018DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Questions to the First Minister

Dyraniadau Cyllid yr Heddlu ar gyfer 2001-02

Police Funding Allocations for 2001-02

Q1 David Davies spoken in English p. 3

C1 David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

Does the First Minister plan to meet the Home Secretary on behalf of the Welsh police authorities who have once again had below average increases in their police funding allocation for 2001-02 as a result of inadequacies in the funding formula? (OAQ8734)

A yw Prif Weinidog Cymru yn bwriadu cwrdd â’r Ysgrifennydd Cartref ar ran awdurdodau heddlu Cymru a gafodd gynnydd sydd yn llai na’r cyfartaledd unwaith eto yn nyraniad cyllid yr heddlu ar gyfer 2001-02 am fod y fformwla ariannu’n annigonol? (OAQ8734)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 3

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 3

I have no immediate plans to meet the Secretary of State for the Home Department regarding this issue. The Assembly Cabinet believes that there are shortcomings in the Home Office’s funding formula for the police. These mostly relate to the cost of rural policing and to the top slice that the Metropolitan Police Authority receives towards the policing of major events in London. The Minister for Finance, Local Government and Communities wrote to the Minister for Local Government and Regions in the UK Government on 8 December, setting out our view that the funding formula for the police should be re-examined in the context of the present wider review of the local government finance system. We look forward to collaborating with Whitehall colleagues to ensure that future primary legislation fully reflects the needs of local government, including police authorities, in Wales.

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau brys i gwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ynglŷn â’r mater hwn. Cred Cabinet y Cynulliad fod diffygion yn fformwla ariannu’r Swyddfa Gartref ar gyfer yr heddlu. Yn bennaf, mae’r rhain yn ymwneud â chost plismona gwledig a’r brig doriad a gaiff Awdurdod yr Heddlu Metropolitan tuag at blismona digwyddiadau mawr yn Llundain. Ysgrifennodd y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Rhanbarthau yn Llywodraeth y DU ar 8 Rhagfyr, yn mynegi ein safbwynt y dylid ailarchwilio’r fformwla ariannu ar gyfer yr heddlu yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach presennol o system ariannu llywodraeth leol. Edrychwn ymlaen at gydweithio â’n cydweithwyr yn Whitehall i sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion llywodraeth leol yn llawn, gan gynnwys awdurdodau’r heddlu, yng Nghymru.

David Davies spoken in English p. 3

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

Will you join me in congratulating the Gwent Police Authority, which has done a good job in reducing crime in the area? Do you not regret the fact that in spite of its success it has been financially punished? When will Westminster colleagues start implementing their election promise to be tough on crime and on the causes of crime by putting more police officers back on the beat, more money into the police authorities and severely punish those who are found guilty of criminal offences? In view of the shortcomings to which you have admitted, would it not be appropriate to meet with the Home Secretary and complain in person?

A ymunwch â mi wrth longyfarch Awdurdod Heddlu Gwent, a wnaeth waith da wrth leihau troseddu yn yr ardal? Onid ydych yn difaru’r ffaith, er gwaethaf ei lwyddiant, iddo gael ei gosbi’n ariannol? Pryd fydd ein cydweithwyr yn San Steffan yn dechrau gweithredu eu haddewid etholiadol i fod yn llym ar droseddu ac ar achosion troseddu drwy roi mwy o swyddogion yr heddlu yn ôl ar y stryd, rhoi mwy o arian i awdurdodau’r heddlu a chosbi’r rhai hynny a ddyfernir yn euog o droseddu yn llym? O ystyried y diffygion y gwnaethoch gyfaddef iddynt, oni fyddai’n briodol cwrdd â’r Ysgrifennydd Cartref a chwyno yn bersonol?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 4

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 4

Your question is a combination of congratulations to the Gwent Police on its success in reducing crime—that is sensible and I agree with that entirely—and a rant. I wish that you could find a way of keeping your argument on a reasoned keel. It helps debate in this Chamber. I agree with the first part of your supplementary question. The Gwent police force has done a good job. It is also true that it is the only police authority in Wales that is unhappy about its settlement this year, although it was the most happy last year because, out of all the Welsh police authorities, it received an above average settlement. It has received a below average settlement this year. If you average the present year with the prospective settlement for the year beginning in April, the Gwent Police Authority will probably receive around the average amount.

Mae eich cwestiwn yn gyfuniad o longyfarch Heddlu Gwent ar ei lwyddiant wrth leihau troseddu—mae hynny’n synhwyrol a chytunaf yn llwyr â hynny—a rhefru. Trueni na allech ganfod modd o gadw eich dadl yn rhesymol. Mae o fudd i drafodaeth yn y Siambr hon. Cytunaf â rhan gyntaf eich cwestiwn atodol. Mae heddlu Gwent wedi gwneud gwaith da. Mae hefyd yn wir mai hwn yw’r unig awdurdod heddlu yng Nghymru sydd yn anfodlon ar ei setliad eleni, er mai’r heddlu hwn oedd hapusaf y llynedd oherwydd, o holl awdurdodau heddlu Cymru, derbyniodd setliad uwch na’r cyfartaledd. Derbyniodd setliad is na’r cyfartaledd eleni. Pe baech yn cyfartaleddu’r flwyddyn bresennol â’r setliad arfaethedig ar gyfer y flwyddyn sydd yn dechrau ym mis Ebrill, mae’n debyg y bydd Awdurdod Heddlu Gwent yn derbyn tua’r swm cyfartalog.

Peter Black spoken in English p. 4

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 4

Given the publication of figures showing an increase in violent crime, do you agree that there is a need for more visible policing on the streets? Will you seek a meeting with the Home Secretary to try to ensure that we have more police on the streets in Wales to tackle the increase in crime, particularly street crime?

Wrth ystyried y ffigurau a gyhoeddwyd, sydd yn dangos cynnydd mewn troseddu treisgar, a ydych yn cytuno bod angen mwy o blismona gweladwy ar y strydoedd? A wnewch chi geisio cael cyfarfod â’r Ysgrifennydd Cartref i geisio sicrhau bod gennym fwy o swyddogion yr heddlu ar y strydoedd yng Nghymru i ymdrin â’r cynnydd mewn troseddu, yn enwedig troseddu ar y stryd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 4

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 4

I am not sure if that has happened in Wales. I have followed the recent debate about the increase in violent crime and the degree of teenager on teenager violent crime in certain large metropolitan areas that has been cited as a possible cause of that increase. That is largely due to the availability of high-visibility mobile phones that can be snatched by bigger teenagers from smaller teenagers, or by gangs of teenagers from individuals who find it difficult to resist. The Home Secretary is now discussing the matter of the availability of millions of mobile phones to children and teenagers with phone manufacturers and the police to see if it can become a more easily defensible situation and not such an invitation to violent crime. The same was done with motor manufacturers to try to make cars easier to defend from break-ins. That is the key issue.

Nid wyf yn siŵr a yw hynny wedi digwydd yng Nghymru. Dilynais y drafodaeth ddiweddar am y cynnydd mewn troseddu treisgar a graddau’r troseddu treisgar gan bobl yn eu harddegau yn erbyn ei gilydd mewn ardaloedd metropolitan mawr penodol, y cyfeiriwyd atynt fel achos posibl o’r cynnydd hwnnw. Mae hynny’n bennaf oherwydd argaeledd ffonau symudol amlwg y gellir eu dwyn oddi ar blant yn eu harddegau gan blant eraill yn eu harddegau sydd yn fwy o gorff na hwy, neu gan grwpiau o bobl ifanc yn eu harddegau oddi ar unigolion sydd yn ei chael yn anodd ymladd yn ôl. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn awr yn trafod y mater o argaeledd miliynau o ffonau symudol i blant a phobl ifanc yn eu harddegau gyda gwneuthurwyr ffonau a’r heddlu i weld a ellir creu sefyllfa haws ei hamddiffyn nad ydyw’n arwain at gymaint o droseddu treisgar. Gwnaethpwyd yr un peth â gwneuthurwyr moduron i geisio gwneud ceir yn haws i’w hamddiffyn rhag lladron. Dyna’r mater allweddol.

High-visibility policing has always required a judicious mixture of police or detectives working under cover and invisible, and the highly visible bobby on the beat or, more recently, the bobbies in pairs on horseback. Some Assembly Members will have seen that being used in Liverpool—I believe—this morning, to reinforce the message that policemen are around. You can see them from 100 yards away and they are more visible. They also reassure people that there are policemen in the neighbourhood. That possibly reduces the fear of crime.

Mae plismona amlwg bob amser wedi gofyn am gymysgedd ddoeth o swyddogion yr heddlu neu dditectifs sydd yn gweithio yn y dirgel ac yn anweledig, a’r swyddog heddlu amlwg ar y stryd neu, yn fwy diweddar, swyddogion yr heddlu mewn parau ar gefn ceffylau. Bydd rhai o Aelodau’r Cynulliad wedi gweld hynny’n cael ei ddefnyddio yn Lerpwl—credaf—y bore yma, i atgyfnerthu’r neges bod plismyn o’n cwmpas. Gellir eu gweld o 100 llath ac maent yn fwy gweladwy. Maent hefyd yn rhoi sicrwydd i bobl bod plismyn yn y gymdogaeth. Mae’n bosibl bod hynny’n lleddfu’r ofn sydd ar bobl o droseddu.

Cydlynu Materion Polisi ar gyfer Gogledd Cymru

Co-ordinating Policy Issues for North Wales

Q2 William Graham spoken in English p. 5

C2 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 5

Will the First Minister make a statement concerning the co-ordination of policy issues for north Wales and how those initiatives compare with those being progressed in south-east Wales? (OAQ8766)

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ynghylch cydlynu materion polisi ar gyfer gogledd Cymru, a’r ffordd y mae’r mentrau hyn yn cymharu â’r mentrau sydd yn mynd rhagddynt yn ne-ddwyrain Cymru? (OAQ8766)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 5

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 5

It is difficult to follow the logic behind this question. I have always made clear that my role in co-ordinating policy in north Wales follows the provisions set out in the Government of Wales Act 1998, which mentions north Wales in particular and no other regions specifically. I said that I would co-ordinate policies in north Wales to ensure that north Wales was not disadvantaged in any way by the fact that none of the members of the Cabinet represent a north Wales constituency. I have sought to do that by my presence in north Wales and by ensuring that Assembly policies do not disadvantage north Wales. Why turn that on its head and ask, what about the other regions of Wales? I am not saying that I will advantage north Wales to the disadvantage of south-east or mid Wales. I will ensure that north Wales is not disadvantaged. The implication that it disadvantages the other regions of Wales in some way turns logic on its head.

Mae’n anodd dilyn y rhesymeg y tu ôl i’r cwestiwn hwn. Yr wyf wedi gwneud yn glir bob amser bod fy rôl wrth gydlynu polisïau yng ngogledd Cymru yn dilyn y darpariaethau a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, sydd yn cyfeirio’n arbennig at ogledd Cymru ac nid at unrhyw ranbarthau eraill yn benodol. Dywedais y byddwn yn cydlynu polisïau yng ngogledd Cymru i sicrhau nad oedd gogledd Cymru o dan unrhyw anfantais oherwydd nad oes unrhyw un o aelodau’r Cabinet yn cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru. Ceisiais wneud hynny drwy fy mhresenoldeb yng ngogledd Cymru a thrwy sicrhau nad yw polisïau’r Cynulliad yn rhoi gogledd Cymru dan anfantais. Pam newid hynny a gofyn, beth am ranbarthau eraill o Gymru? Nid wyf yn dweud y byddaf yn rhoi mantais i ogledd Cymru a fydd o anfantais i dde-ddwyrain neu ganolbarth Cymru. Byddaf yn sicrhau na fydd gogledd Cymru dan anfantais. Mae’r awgrym y byddai hynny’n rhoi rhanbarthau eraill Cymru dan anfantais mewn ryw ffordd neu’i gilydd heb unrhyw resymeg.

William Graham spoken in English p. 6

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 6

You must be aware that there is growing apprehension concerning your failure to take responsibility for policy matters in other areas of Wales. The nation expects its First Minister to lead the current negotiations affecting the steel industry in Wales and not leave it to another Minister.

Rhaid ichi fod yn ymwybodol bod pryder cynyddol ynghylch eich methiant i gymryd cyfrifoldeb dros faterion polisi mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae’r genedl yn disgwyl i’w Phrif Weinidog arwain y negodiadau presennol sydd yn effeithio ar y diwydiant dur yng Nghymru a pheidio â’u gadael i Weinidog arall.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

I explained this last week. Matters relating to the Corus crisis are dealt with by the Deputy First Minister and I. Edwina also has a role in this matter in communicating with the steel trade unions. All three of us do that. I do not know what is behind this question. I have taken the leading role in trying to dissuade Corus from carrying out what appears to be an intention—although we have not seen the details yet—to conduct major restructuring, which could lead to thousands of job losses in Wales. Mike takes the leading role in trying to prepare for that eventuality, and planning for what would happen if we lose thousands of jobs in the steel industry and how we would prepare for the creation of alternative jobs. There is a seamless web of trying to dissuade Corus from doing that. If we cannot dissuade it, we must try to reduce the number of jobs that we will lose. If we cannot even get it to reduce the number of jobs that will be lost, we must prepare to get alternative jobs into the communities affected.

Esboniais hyn yr wythnos diwethaf. Ymdrinnir â materion yn ymwneud ag argyfwng Corus gan y Dirprwy Brif Weinidog a minnau. Mae gan Edwina rôl yn y mater hwn hefyd wrth gyfathrebu â’r undebau llafur dur. Gwneir hynny gan y tri ohonom. Ni wn beth sydd y tu ôl i’r cwestiwn hwn. Cymerais y rôl arweiniol wrth geisio perswadio Corus i beidio â gweithredu’r hyn yr ymddengys ei fod yn fwriad ganddo—er nad oes gennym y manylion eto—sef ailstrwythuro’n eang, a allai arwain at golli miloedd o swyddi yng Nghymru. Cymera Mike y rôl arweiniol wrth geisio paratoi ar gyfer y digwyddiad hwnnw, a chynllunio ar gyfer yr hyn a fyddai’n digwydd pe collem filoedd o swyddi yn y diwydiant dur a sut y byddem yn paratoi i greu swyddi eraill. Ceir gwe ddi-dor o ymdrechion i geisio darbwyllo Corus rhag gwneud hynny. Os na allwn ei ddarbwyllo, rhaid inni geisio lleihau nifer y swyddi y byddwn yn eu colli. Os na allwn hyd yn oed ei ddarbwyllo i leihau nifer y swyddi a gollir, rhaid inni baratoi i greu swyddi eraill yn y cymunedau yr effeithir arnynt.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 6

A gytunwch eich bod wedi cael eich gorfodi i gymryd cyfrifoldeb am gydlynu polisïau’r Llywodraeth yn y Gogledd oherwydd eich methiant i benodi unrhyw un o’r Gogledd i’ch Cabinet, a bod hynny’n creu amwysedd ynglŷn â’ch rôl fel Prif Weinidog Cymru?

Do you agree that you have been forced to take responsibility for co-ordinating the Government’s policies in the North because of your failure to appoint anyone from the North to your Cabinet, and that that creates ambiguity regarding your role as First Minister?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 7

Dim o gwbl. Ein traddodiad ym Mhrydain yw dewis aelodau Cabinet heb ystyried ardaloedd daearyddol—o ble y dônt, neu ble y cynrychiolant. Penodir ar sail pwy allai gyflawni’r swyddi gwag yn y Cabinet orau. Gwneir hynny ar sail ddaearyddol mewn rhai gwledydd, ond nid ym Mhrydain Fawr, ac nid yng Nghymru. Nid oes unrhyw draddodiad o hynny, ac ni fyddai pobl yn croesawu’r math hwnnw o draddodiad neu egwyddor wrth ddewis aelodau Cabinet. Arweinia hynny at broblem o ran sut y byddai pobl yn y Gogledd yn ystyried y goblygiadau, a dyna pam yr wyf wedi gwneud y penderfyniad a chymryd y cyfrifoldeb a gyhoeddais pan aildrefnwyd y Cabinet ym mis Hydref.

Not at all. Our tradition in Britain is to select Cabinet members regardless of geographical areas—where they are from, or where they represent. Appointments are based on who best fits the Cabinet posts available. This is done on a geographical basis in some countries, but not in Great Britain and not in Wales. There is no tradition of that, and such a tradition or principle would not be welcome when selecting Cabinet members. As a result there is a problem in terms of how people in the North consider the implications, which is why I took the decision announced when the Cabinet was reshuffled in October.

Cyflwr yr Economi Brydeinig

The State of the British Economy

Q3 Lynne Neagle spoken in English p. 7

C3 Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 7

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales regarding the overall state of the British economy, as it relates to Wales? (OAQ8843)

Pa drafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch cyflwr cyffredinol yr economi Brydeinig fel y mae’n ymwneud â Chymru? (OAQ8843)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

I have discussions with the Secretary of State for Wales at least weekly. We discuss a wide variety of issues, and the state of the economy comes up frequently. Obviously, due to the current crisis in Corus, and what it plans to do to restructure the strip mill industry, the frequency of my discussions on this topic with Paul Murphy has doubled. The general situation of the Welsh economy is relatively healthy, as is the British economy. The perception that people have put about that some kind of meltdown is happening in manufacturing is absurd. The state of manufacturing in Wales is relatively healthy, as is the state of the overall economy. I was pleased to receive confirmation at lunchtime by Legal and General that it will create a further 200 jobs in the Cardiff area, therefore almost reaching its target of 2,000 jobs in the Cardiff area that it expressed some five years ago. That is a further healthy sign of what is happening in the service and manufacturing side. Manufacturing had a bad time in 1998, but has rebounded well in Wales with a rise of 3.5 per cent in 1999, compared with only 1.5 per cent in the UK as a whole.

Caf drafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn wythnosol o leiaf. Trafodwn amrywiaeth eang o faterion, a choda cyflwr yr economi yn aml. Yn amlwg, oherwydd yr argyfwng presennol yn Corus, a’r hyn y bwriada ei wneud i ailstrwythuro’r diwydiant melinau stribed, mae amlder fy nhrafodaethau ar y pwnc hwn â Paul Murphy wedi dyblu. Mae sefyllfa gyffredinol yr economi yng Nghymru yn gymharol iach, fel ag y mae’r economi ym Mhrydain. Mae’r syniad y mae pobl wedi ei ledaenu bod rhyw fath o chwalfa yn digwydd yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn hurt. Mae cyflwr gweithgynhyrchu yng Nghymru yn gymharol iach, fel ag y mae cyflwr yr economi yn gyffredinol. Yr oeddwn yn falch o dderbyn cadarnhad amser cinio gan Legal and General y bydd yn creu 200 o swyddi pellach yn ardal Caerdydd, sydd bron yn cyrraedd y targed a gyhoeddodd bum mlyned yn ôl i greu 2,000 o swyddi yn ardal Caerdydd. Mae hynny’n arwydd iach arall o’r hyn sydd yn digwydd ar yr ochr gwasanaeth a gweithgynhyrchu. Cafodd y sector gweithgynhyrchu amser caled yn 1998, ond mae wedi gwella’n dda yng Nghymru, gyda chynnydd o 3.5 y cant yn 1999, o’i gymharu â dim ond 1.5 y cant yn y DU yn gyffredinol.

Lynne Neagle spoken in English p. 8

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 8

Do you agree that it would be ridiculous for decisions to be made on the future of the steel industry based on short-term fluctuations in the value of the euro, especially given the current trend in its value and the recent announcement of a cut in US interest rates?

A gytunwch y byddai’n wirion gwneud penderfyniadau ar ddyfodol y diwydiant dur yn seiliedig ar wyriadau tymor byr yng ngwerth yr ewro, yn enwedig o ystyried y tueddiad presennol yn ei werth a’r datganiad diweddar y caiff cyfraddau llog yr UD eu torri?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 8

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 8

Yes. The rebound in the value of the euro relative to sterling at the end of 2000 is about 10 per cent. That would benefit Corus by about £150 million to £200 million if that would be the rate for 2001. Most foreign exchange dealers expect a further rise in the euro during the year and it may return to the equivalent of about 2.80 deutschmark to the pound or it may return to the launch rate of the euro, which would be about 70 pence. If that happened, it would lead to a further £150 million to £200 million difference in the bottom line of Corus’s UK operations. It does not only affect Corus.

Gwnaf. Mae gwerth yr ewro o’i gymharu â’r bunt ar ddiwedd 2000 wedi cynyddu tua 10 y cant. Byddai Corus tua £150 miliwn i £200 miliwn ar ei ennill os mai dyna fyddai’r gyfradd ar gyfer 2001. Mae’r rhan fwyaf o gyfnewidwyr arian tramor yn disgwyl codiad pellach yn yr ewro yn ystod y flwyddyn a gallai ddychwelyd i fod gyfwerth â thua 2.80 deutschmark i’r bunt neu gallai ddychwelyd i gyfradd gychwynnol yr ewro, sef tua 70 ceiniog. Pe digwyddai hynny, byddai’n arwain at £150 miliwn i £200 miliwn o wahaniaeth yn llinell sylfaen gweithfeydd Corus yn y DU. Nid Corus yn unig yr effeithir arno.

However, it does not probably affect the clothing industry. The equally catastrophic announcement by Dewhirst last week regarding job losses in Lampeter is probably not related to the exchange rate but to the difference in wage rates between Wales and north Africa. If there is a difference of 1:10, 1:11 or 1:12 in the value of wages paid in Tunisia, Morocco and Algeria compared to Wales, then the exchange rate differential is not going to make much difference to the profitability of clothing manufacturing in Wales.

Fodd bynnag, mae’n debyg nad yw’n effeithio ar y diwydiant dillad. Mae’n debyg nad yw datganiad trychinebus Dewhirst yr wythnos diwethaf ynghylch colli swyddi yn Llanbedr Pont Steffan yn gysylltiedig â’r gyfradd gyfnewid ond â’r gwahaniaeth mewn cyflogau rhwng Cymru a gogledd Affrica. Os oes gwahaniaeth o 1:10, 1:11 neu 1:12 yng ngwerth y cyflogau a delir yn Tiwnisia, Moroco ac Algeria o’u cymharu â Chymru, yna ni wna gwahaniaeth y gyfradd gyfnewid lawer o wahaniaeth i broffidioldeb gweithgynhyrchu dillad yng Nghymru.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 8

A wnaiff Prif Weinidog Cymru gydnabod bod y broblem a wynebir, nid yn unig gan y diwydiant dur, ond gan ddiwydiannau gweithgynhyrchu eraill, amaethyddiaeth a thwristiaeth, yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd, yn deillio o werth diweddar y bunt, ac nad oes sicrwydd ynglŷn â sut y bydd hyn yn datblygu yn y dyfodol? O dan yr amgylchiadau hyn, a wnaiff drafod gyda Paul Murphy a Gweinidogion eraill yn Llundain, yr angen i roi cyfrifoldeb i Fanc Lloegr, nid yn unig i ystyried lefel chwyddiant ond hefyd effaith ei pholisïau ar lefelau cyflogau fel bod mwy o gydbwysedd rhwng yr elfennau hyn wrth i’r banc ddod i benderfyniad ar raddfeydd llog?

Will the First Minister acknowledge that the problem currently faced not only by the steel industry, but by other manufacturing industries, agriculture and tourism, in Wales and England alike, are caused by the recent strength of the pound and there is no certainty as to how this will develop in the future? Under these circumstances, will he discuss with Paul Murphy and other Ministers in London, the need to make the Bank of England responsible, not only for considering the level of inflation but also the effect of its policies on employment levels, so that there is greater balance between these elements as the bank comes to a decision on interest rates?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 9

Pe ystyriech y gwahaniaeth rhwng dyletswyddau a dull gweithredu, mae gan Alan Greenspan, llywydd y Banc Cronfa Ffederal, ddyletswyddau sydd yn cyfateb i rai Eddie George, Llywydd Banc Lloegr a’r Pwyllgor Polisi Ariannol. Fodd bynnag, byddai’r mwyafrif o bobl yn dweud bod gwahaniaeth, gan fod Alan Greenspan yn rhoi mwy o ystyriaeth i’r effaith ar yr economi a swyddi. Mae gan Ewrop draddodiad ychydig yn gulach o ran sut y mae’r banciau canolog yn gosod cyfraddau llog. Felly, cytunaf â Dafydd fod angen i Fanc Lloegr, Eddie George a’r Pwyllgor Polisi Ariannol ailystyried sut y maent yn rheoli chwyddiant—sydd yn swyddogaeth bwysig—a’r effaith ar yr economi. Hoffwn weld rhywun yn gweithredu mewn dull sydd yn debycach i ddull Alan Greenspan. Yn ogystal, mae’n bwysig cofio ein bod wedi cadw chwyddiant i lawr a bod twf wedi digwydd yn yr economi yn ystod y tair blynedd ers y gwnaethpwyd Banc Lloegr yn gyfrifol am osod cyfraddau llog.

If you consider the difference between duties and method of operation, Alan Greenspan, the chair of the Federal Reserve Bank, has duties corresponding to those of Eddie George, the Governor of the Bank of England, and the Monetary Policy Committee. However, most people would say that there is a difference because Alan Greenspan gives more consideration to the effect on the economy and employment. Europe has a somewhat narrower tradition in terms of how the central banks set interest rates. Therefore, I agree with Dafydd that the Bank of England, Eddie George and the Monetary Policy Committee need to reconsider how they control inflation—which is an important function—and the impact on the economy. I would like to see somebody acting in a similar manner to that of Alan Greenspan. In addition, it is important to remember that we have kept inflation down and that the economy has grown during the three years since the Bank of England was made responsible for setting interest rates.

Amddiffynfeydd Rhag Llifogydd yng Ngogledd Cymru

Flood Defences in North Wales

Q4 Alison Halford spoken in English p. 9

C4 Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 9

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales on the current condition of flood defences in north Wales? (OAQ8811)

Pa drafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch cyflwr amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru? (OAQ8811)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

I have discussed this matter with the Secretary of State for Wales before and since his visit to north Wales to see at first hand the effects of the recent flooding. People will make comparisons between what happened in York, Gloucester, Tewkesbury, Worcester, Bewdley and the affected areas in England. Some areas were affected by rivers that rise in Wales. The area which Alison Halford and David Hanson, the Parliamentary Under-secretary of State for Wales, represent has been in the eye of the storm, if that is the right term to use. That subject is discussed because we are anxious to see exactly what are the funding requirements. I do not know of an area in England that has had a problem similar to that of the Horseshoe Pass, for example, with a landslide wiping out a fairly important road and forcing people to travel an extra 25 miles to get to work. On the other hand, there has been flooding in England. The ideal situation for us in terms of remedial works, would be for considerable additional funding to be allocated to the Department of the Environment, Transport and the Regions. We would then receive the Barnett consequentials of that. However, I presume that we are affected more than the Barnett consequentials would normally allow.

Trafodais y mater hwn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn, ac ar ôl, ei ymweliad â gogledd Cymru i weld effeithiau’r llifogydd diweddar. Bydd pobl yn cymharu’r hyn a ddigwyddodd yn Efrog, Caerloyw, Tewkesbury, Caerwrangon a Bewdley â’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn Lloegr. Effeithiwyd ar rai ardaloedd gan afonydd sydd yn codi yng Nghymru. Bu’r ardal a gynrychiolir gan Alison Halford a David Hanson, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yng nghanol y storm, os mai dyna yw’r term cywir i’w ddefnyddio. Trafodir y pwnc hwnnw oherwydd ein bod yn awyddus i weld yn union beth yw’r gofynion ariannu. Ni wn am ardal yn Lloegra gafodd broblem debyg i broblem Bwlch yr Oernant, er enghraifft, gyda thirlithrad yn dinistrio ffordd weddol bwysig gan orfodi pobl i deithio 25 milltir ychwanegol i fynd i’w gwaith. Ar y llaw arall, cafwyd llifogydd yn Lloegr. Y sefyllfa ddelfrydol i ni o ran y gwaith adfer, fyddai i arian ychwanegol sylweddol gael ei ddyrannu i Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau. Byddem wedyn yn derbyn canlyniadau hynny drwy fformwla Barnett. Fodd bynnag, cymeraf yn ganiataol yr effeithiwyd arnom yn fwy nag y byddai’r canlyniadau hynny yn eu caniatáu fel arfer.

Alison Halford spoken in English p. 10

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 10

Acknowledging your frequent and welcome visits to north Wales, you might be aware that Flintshire County Council has introduced some good initiatives. It has set up an environment forum to ensure that the public is aware of what is going on. It has also set up a land drainage unit, although this has cost £750,000. Do you think that these important initiatives should be established in other parts of Wales to ensure that flooding is kept to a minimum?

O gydnabod eich ymweliadau cyson â gogledd Cymru, a groesewir, efallai eich bod yn ymwybodol bod Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno rhai mentrau da. Sefydlodd fforwm amgylcheddol i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd. Mae hefyd wedi sefydlu uned draenio tir, er bod hyn wedi costio £750,000. A gredwch y dylid sefydlu’r mentrau pwysig hyn mewn rhannau eraill o Gymru i sicrhau cyn lleied o lifogydd â phosibl?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

Yes. They sound like good initiatives. The key to trying to prevent or minimise incidents of this kind—given the dire predictions about climate change which imply their greater frequency—is good co-operation between a local authority and the Environment Agency in its area and between adjoining local authorities because rivers do not respect local government boundaries. Good and path-breaking initiatives can therefore be set as a benchmark for other authorities. I will not comment in detail on the schemes that you mentioned but I am sure that Sue Essex has taken note of what you said, Alison.

Credaf. Maent yn swnio fel mentrau da. Er mwyn ceisio atal neu leihau digwyddiadau o’r fath i’r eithaf—o ystyried y rhagolygon enbyd am newid yn yr hinsawdd sydd yn awgrymu y byddant yn digwydd yn amlach—dylid sicrhau cydweithredu da rhwng awdurdod lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr ardal a rhwng awdurdodau lleol oherwydd nid yw afonydd yn parchu ffiniau llywodraeth leol. Felly gellir sefydlu mentrau da, arloesol, fel meincnod ar gyfer awdurdodau eraill. Ni roddaf sylwadau manwl ar y cynlluniau a grybwyllasoch ond yr wyf yn siŵr bod Sue Essex wedi nodi’r hyn a ddywedasoch, Alison.

Janet Ryder spoken in English p. 11

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 11

Rhodri, you have talked about the money that has been made available to address flooding issues and the possibility of extra money being made available perhaps in our Barnett share of that. You have also said that our need might be greater than that Barnett share. The Environment Agency estimates that we need at least £10 million compared with the £3 million available. What steps have you taken to ensure that we get that extra money and where do you think that it will come from?

Rhodri, siaradasoch am yr arian a roddwyd i ymdrin â materion llifogydd a’r posibilrwydd y bydd arian ychwanegol ar gael efallai yn ein cyfran Barnett. Hefyd, dywedasoch y gallai ein hangen ni fod yn fwy na chyfran Barnett. Amcangyfrifa Asiantaeth yr Amgylchedd bod angen o leiaf £10 miliwn arnom o’i gymharu â’r £3 miliwn sydd ar gael. Pa gamau a gymerwyd gennych i sicrhau ein bod yn cael yr arian ychwanegol hwnnw ac o ble y credwch y bydd yn dod?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

It is too early to say yet, Janet. The point that I made reflects a discussion between Ministers to try to calculate whether if you use the Barnett formula—Wales equals 6 per cent above England, if I remember the figures correctly—given the amount of flooding and likely remedial work required in York and Bewdley and Worcester and so on, are we at 6 per cent of that or are we at 26 per cent of that? If we have had much more flooding than 6 per cent, it will cost more in Wales than our Barnett share would imply. In which case, we may have to think of other ways to handle the issue. I fear that it is still early days and that it will be much more than 6 per cent of the likely remedial works required in England.

Mae’n rhy gynnar i ddweud eto, Janet. Adlewyrcha’r pwynt a wneuthum drafodaeth rhwng Gweinidogion i geisio cyfrifo, o ddefnyddio fformwla Barnett—mae Cymru yn cyfateb i 6 y cant yn uwch na Lloegr, os cofiaf y ffigurau’n gywir—o ystyried maint y llifogydd a’r gwaith adfer tebygol sydd ei angen yn Efrog a Bewdley a Chaerwrangon ac ati, a ydym ar 6 y cant o hynny neu ar 26 y cant o hynny? Os cawsom lawer mwy o lifogydd na 6 y cant, bydd yn costio mwy yng Nghymru nag y byddai ein cyfran Barnett yn ei gynnig. Yn yr achos hynny, efallai y bydd yn rhaid inni feddwl am ffyrdd eraill o ymdrin â’r mater. Ofnaf mai megis dechrau yr ydym a bydd yn llawer mwy na 6 y cant o’r gwaith adfer tebygol sydd ei angen yn Lloegr.

Clustnodi Dydd Gŵyl Dewi’n Ŵyl Banc

Designating St David’s Day as a Bank Holiday

Q5 Kirsty Williams spoken in English p. 11

C5 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 11

What discussions has the First Minister had with ministerial colleagues at Westminster about designating St David’s Day as a bank holiday in Wales? (OAQ8819)

Pa drafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru gyda’r Gweinidogion yn San Steffan ynghylch clustnodi Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc yng Nghymru? (OAQ8819)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

I have written to the Secretary of State for Wales asking him to seek Cabinet colleagues’ views on this matter. I will inform Members of the outcome as soon as I can.

Ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gofyn iddo gael barn cyd-Aelodau yn y Cabinet ar y mater hwn. Hysbysaf yr Aelodau o’r canlyniad cyn gynted â phosibl.

Kirsty Williams spoken in English p. 11

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 11

If you are not able to secure an order in Council to achieve this aim, will you try to secure legislative time in Westminster if that is the only way that we can achieve what I believe to be the committed will of the Assembly?

Os na allwch sicrhau gorchymyn y Cyfrin Gyngor i gyflawni’r nod hwn, a geisiwch sicrhau amser deddfwriaethol yn San Steffan os mai dyna yw’r unig ffordd y gallwn gyflawni’r hyn a gredaf yw dymuniad ymroddedig y Cynulliad?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

That is an interesting proposal. I am not certain that that is a matter for us as bank holidays are not a devolved issue. Declaring bank holidays is the responsibility of a strange and traditional combination of the UK Government, the Queen and others. I am not sure whether legislation is the correct route for this. If it is, we can look into it. The main thing is for us to persuade the UK Cabinet via Paul Murphy to support the idea of designating St David’s Day as a bank holiday. As I recall, Ron Davies pursued this matter when he was Secretary of State for Wales but, at that time, there was no sympathy for the idea of an additional bank holiday because it was said that St David’s Day could become a bank holiday by switching it with another holiday. I think that that is the position of the Conservative group in this Assembly.

Mae hynny’n gynnig diddorol. Nid wyf yn bendant fod hynny’n fater inni gan nad yw gwyliau banc yn fater a ddatganolwyd. Cyfrifoldeb cyfuniad rhyfedd a thraddodiadol o Lywodraeth y DU, y Frenhines ac eraill yw datgan gwyliau banc. Nid wyf yn siŵr pa un ai deddfwriaeth yw’r llwybr gorau ar gyfer hyn. Os ydyw, gallwn ymchwilio i hynny. Y prif beth yw inni ddarbwyllo Cabinet y DU drwy Paul Murphy i gefnogi’r syniad o ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc. Fel y cofiaf, ymdriniodd Ron Davies â’r mater hwn pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ond, ar y pryd, ni chafwyd cydymdeimlad â’r syniad o ŵyl banc ychwanegol oherwydd y dywedwyd y gallai Dydd Gŵyl Dewi ddod yn ŵyl y banc drwy ei gyfnewid â gŵyl arall. Credaf mai dyna sefyllfa’r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad hwn.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 12

Oherwydd eich cysylltiadau agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a ydych yn rhagweld unrhyw rwystrau cyfansoddiadol neu agweddau imperialaidd a wnaiff ein rhwystro rhag gwireddu ein penderfyniad i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc genedlaethol?

Given your close links with the UK Government, do you foresee any constitutional barriers or imperialistic attitudes that will prevent us from bringing our decision to make St David’s Day a national bank holiday to fruition?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 12

Nid oes rhwystrau o’r math y cyfeiriodd Owen John atynt. Nid yw’r mater hwn wedi ei ddatganoli i’r Cynulliad. Dyna’r broblem. Yn yr Alban, mae’r mater wedi’i ddatganoli ond nid ydynt wedi cymryd mantais o’r cyfle i ddynodi diwrnod San Andreas yn ŵyl banc. Er hyn, mae ambell awdurdod lleol neu le â thraddodiad o ddathlu Gŵyl San Andreas yn ŵyl banc answyddogol.

There are no barriers of the sort to which Owen John referred. This matter has not been devolved to the Assembly. That is the problem. In Scotland, the matter has been devolved but they have not taken advantage of the opportunity to designate St Andrew’s Day a bank holiday. However, a few local authorities or places have a tradition of celebrating St Andrew’s Day as an unofficial bank holiday.

Ni all unrhyw un ddweud a fyddem wedi ymateb yn wahanol i Senedd yr Alban, nad ydyw wedi cymryd mantais o’r cyfle, pe byddai’r mater hwn wedi’i ddatganoli yng Nghymru ond nid am resymau imperialaidd nag unrhyw reswm arall o ddychymyg Owen John. Yr ydym wedi ceisio gweithredu yn y modd arferol yn ôl y gyfraith. Nid yw wedi ei ddatganoli. Yr ydym wedi gofyn i Paul Murphy ddarbwyllo ei gyfeillion yn y Cabinet i wneud yr hyn sydd yn angenrheidiol er mwyn gwneud dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru.

No one can say whether we would have taken a different line to the Scottish Parliament, which has not taken advantage of the opportunity, if this matter were devolved in Wales. However, imperialistic reasons or any other reason dreamed up by Owen John would not enter into it. We have tried to act in the usual manner according to the law. It has not been devolved. We have asked Paul Murphy to persuade his colleagues in the Cabinet to do what is necessary in order to make St David’s Day a bank holiday in Wales.

Glyn Davies spoken in English p. 13

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Over the last three years, the New Labour Government has claimed to be a supporter of devolution and has, in my view, turned its back on the workers of this country. If we cannot have an extra day, do you think that it would be appropriate to change the May Day holiday to a St David’s Day holiday?

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Lafur Newydd wedi honni ei bod yn cefnogi datganoli ac, yn fy marn i, mae wedi troi ei gefn ar weithwyr y wlad hon. Os na allwn gael diwrnod ychwanegol, a gredwch y byddai’n briodol newid gŵyl Calan Mai yn Ddydd Gŵyl Dewi?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

I am grateful for Glyn’s sudden conversion to Bukharinite-Marxist-Leninism. I did not know that he had actually met a ‘worker’, but on the basis that he has, I will accept that that is the view of the working classes in his part of Wales. I understood that the Conservative Party wanted to switch the May Day holiday—much beloved of workers—to St David’s Day. That view is honestly held by the Conservative group, the rest of the Assembly voted in favour of making St David’s Day an additional bank holiday. I hope that that will be the outcome of the consultations that we had with the UK Government following the Assembly’s vote.

Yr wyf yn ddiolchgar am dröedigaeth sydyn Glyn i gredoau Bukharin, Marx a Lenin. Ni wyddwn ei fod wedi cwrdd â ‘gweithiwr’, ond ar y sail ei fod wedi gwneud hyn, derbyniaf mai dyma farn y dosbarthiadau gweithiol yn ei ran ef o Gymru. Deallaf fod y Blaid Geidwadol am newid gŵyl Calan Mai—gŵyl hoff y gweithwyr—i Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’r grŵp Ceidwadol yn ddifuant o’r farn honno, pleidleisiodd gweddill y Cynulliad o blaid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc ychwanegol. Gobeithiaf mai dyna fydd canlyniad y trafodaethau a gawsom â Llywodraeth y DU yn dilyn pleidlais y Cynulliad.

Protocol Swyddogol rhwng y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru

An Official Protocol between the Assembly and the Secretary of State for Wales

Q6 Jocelyn Davies spoken in English p. 13

C6 Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Is there an official, ratified protocol between the Assembly and the Secretary of State for Wales? (OAQ8788)

A oes protocol swyddogol wedi’i gadarnhau rhwng y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru? (OAQ8788)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

Yes, but only since 14 months.

Oes, ond dim ond ers 14 mis.

Jocelyn Davies spoken in English p. 14

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

Do you intend to use this protocol to request a change to the Government of Wales Act 1998, so that you may use the title ‘Minister’ in a legal capacity? Do you agree that the Carltona doctrine that you cited in a letter to the Legislation Committee today, in justification for the use of that title on a legal document, does not apply to titles, but to delegation?

A fwriadwch ddefnyddio’r protocol hwn i wneud cais am newid Deddf Llywodraeth Cymru 1998, fel y gellir defnyddio’r teitl ‘Gweinidog’ mewn cyd-destun cyfreithiol? A gytunwch nad yw athrawiaeth Carltona a ddyfynnwch mewn llythyr i’r Pwyllgor Deddfau heddiw, i gyfiawnhau defnyddio’r teitl hwnnw ar ddogfen gyfreithiol, yn berthnasol i deitlau, ond i ddirprwyo?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

Jocelyn has been at the law books again over Christmas—

Bu Jocelyn yn darllen y llyfrau cyfreithiol eto dros y Nadolig—

Nick Bourne spoken in English p. 14

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 14

You have not, Rhodri.

Ni fuoch chi, Rhodri.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

No, I have not. I understood that our consultations with the Speaker’s office had a satisfactory outcome. There was no problem over the use of the courtesy titles of ‘First Minister’ or ‘Assembly Minsters’ for this or that function. Those terms are more widely understood by the public. There was no more of a legal bar to doing that than there is to the custom and practice by which the First Lord of the Treasury is known as the Prime Minister, and the Secretary of State for the Home Department is known as the Home Secretary and so on. Problems relating to delegation should be dealt with by lawyers or law students like Jocelyn Davies.

Naddo. Deallaf i’n trafodaethau â swyddfa’r Llefarydd gael canlyniad boddhaol. Nid oedd problem dros y defnydd o deitlau cwrteisi megis ‘Prif Weinidog Cymru’ neu ‘Weinidogion y Cynulliad’ ar gyfer y naill swyddogaeth neu’r llall. Deellir y termau hynny’n fwy cyffredinol gan y cyhoedd. Ni chafwyd mwy o rwystr cyfreithiol i wneud hynny nag a gafwyd i’r arfer o alw Prif Arglwydd y Trysorlys yn Brif Weinidog, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn Ysgrifennydd Cartref ac ati. Cyfreithwyr neu fyfyrwyr y gyfraith fel Jocelyn Davies a ddylai ymdrin â phroblemau yn ymwneud â dirprwyo.

Blaen-Raglen Waith y Weinyddiaeth ar gyfer 2000-01

The Administration’s Forward Work Programme for 2000-01

Q7 David Melding spoken in English p. 14

C7 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 14

Will the First Minister make a statement on the administration’s forward work programme for 2000-01 as announced on 21 November? (OAQ8733)

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ynghylch blaen-raglen waith y weinyddiaeth ar gyfer 2000-01 a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd? (OAQ8733)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I refer you to the answers that I gave to the questions that you and Jonathan Morgan tabled on 19 December and in the Plenary debate on the annual Government business programme on 14 December.

Fe’ch cyfeiriaf at yr atebion a roddais i’r cwestiynau a gyflwynwyd gennych chi a Jonathan Morgan ar 19 Rhagfyr ac yn nhrafodaeth y Cyfarfod Llawn ar raglen fusnes flynyddol y Llywodraeth ar 14 Rhagfyr.

David Melding spoken in English p. 14

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 14

When will your administration bring forward proposals to give powers to local health groups to become trusts so that the primary health care sector in Wales does not lag behind the advances that may occur in England?

Pryd bydd eich gweinyddiaeth yn cynnig cynigion i roi pwerau i grwpiau iechyd lleol i ddod yn ymddiriedolaethau fel nad yw’r sector gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru ar ei hôl hi o ran y datblygiadau a allai ddigwydd yn Lloegr?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I am not sure that it is necessary to become a trust in order to have the powers of initiative and commissioning that, I think, most local health groups want. I have supported local health group initiatives from day one. It is the right way forward to bridge the gap between general practice, planning functions of the health authorities and others involved in medicine such as midwives, community pharmacists and so on. They have pitched into the local health group idea with great enthusiasm, building a bridge with social services departments throughout Wales. I am sure that that is the right way forward for the future of health care in Wales.

Nid wyf yn siŵr bod angen dod yn ymddiriedolaeth er mwyn cael pwerau menter a chomisiynu y credaf fod y rhan fwyaf o grwpiau iechyd lleol am eu cael. Cefnogais fentrau’r grwpiau iechyd lleol o’r cychwyn cyntaf. Dyma’r ffordd gywir ymlaen i bontio’r bwlch rhwng meddygon teulu, swyddogaethau cynllunio’r awdurdodau iechyd ac eraill sydd yn cymryd rhan mewn meddygaeth megis bydwragedd, fferyllwyr cymunedol ac ati. Maent wedi derbyn y syniad o grwpiau iechyd lleol yn frwdfrydig iawn, gan bontio ag adrannau nawdd cymdeithasol ledled Cymru. Yr wyf yn siŵr mai dyma’r ffordd ymlaen i ddyfodol gofal iechyd yng Nghymru.

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in English p. 15

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Saesneg t. 15

I declare that three members of my family have links with the nursing profession. Labour’s business programme for the current year boldly declares that it aims to address health inequalities and is beginning to make Wales a healthier place in which to grow up and grow old. How does that statement square with the fact that over the Christmas period we were told that 166 operations were cancelled in Wales to make way for emergency cases, and that surgeons have been given time off because there are not enough beds in the system to keep them working?

Datganaf fod gan dri aelod o’m teulu gysylltiadau â’r proffesiwn nyrsio. Mae rhaglen fusnes Llafur ar gyfer y flwyddyn hon yn datgan yn hyderus ei fod yn bwriadu ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd a’i fod yn dechrau gwneud Cymru yn lle iachach i dyfu i fyny a heneiddio ynddi. Sut y cymhara’r datganiad hwnnw â’r ffaith y dywedwyd wrthym dros gyfnod y Nadolig fod 166 o lawdriniaethau wedi eu canslo yng Nghymru i wneud lle i achosion brys, a bod llawfeddygon wedi cael amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd nad oes digon o welyâu yn y system i’w cadw yn gweithio?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I am sorry, Ieuan, but I think that you have fallen for the three-card trick. The Assembly is on what could be called ‘winter journalism watch’, because health journalists working in the health field in Wales have been waiting, with pens poised, for a winter health crisis. They are so desperate that they have invented one, when one does not exist. That is not to say that one might not occur next week, because you can never tell; the winter is in its early stages. However, compared to last year, we are coping well. Indeed, Richard Thomas, director of the NHS Confederation in Wales, said yesterday that,

Mae’n ddrwg gennyf, Ieuan, ond credaf eich bod wedi eich twyllo. Mae’r Cynulliad ar yr hyn a elwir yn ‘wyliadwriaeth newyddiadurol y gaeaf’, oherwydd bod newyddiadurwyr iechyd sydd yn gweithio yn y maes iechyd yng Nghymru wedi bod yn aros yn eiddgar am argyfwng iechyd dros y gaeaf. Yr oeddent mor daer maent wedi creu un, pan nad oedd un yn bodoli. Nid yw hynny’n dweud na allai argyfwng ddigwydd yr wythnos nesaf, oherwydd ni ellir rhagweld hynny; newydd ddechrau y mae’r gaeaf. Fodd bynnag, o gymharu â’r llynedd, yr ydym yn ymdopi’n dda. Yn wir, dywedodd Richard Thomas, cyfarwyddwr Conffederasiwn yr NHS yng Nghymru,

‘Hospitals are experiencing the seasonal increased pressures on beds that happen every January, but this year, they have been coping much better and there is certainly not a crisis.’

Do not follow every journalistic jot and tittle, Ieuan, when you know that journalists have been waiting for a crisis to engulf the NHS and this year the crisis has resolutely refused to arrive as yet. It may happen and I will report to the Assembly, as I am sure Jane Hutt will, if it does. However, one must not make a mountain out of a molehill. Although 166 operations may have been deferred, 17,000 operations took place. Indeed, over the Christmas holiday period, operations and elective surgery were advanced from January. Given that the flu crisis had not arisen, there was space for elective surgery that had not been anticipated. Some operations were therefore brought forward, albeit that others here and there were deferred.

Peidiwch â dilyn bob si a chlec newyddiadurol, Ieuan, pan wyddoch fod newyddiadurwyr wedi bod yn aros am argyfwng i lethu’r NHS. Hyd yma, eleni, mae’r argyfwng wedi gwrthod yn lân â chyrraedd. Efallai y bydd yn digwydd a byddaf yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad, fel yr wyf yn siŵr y gwna Jane Hutt, os bydd argyfwng yn codi. Fodd bynnag, rhaid peidio â gwneud môr a mynydd o bethau. Er bod 166 o lawdriniaethau, o bosibl, wedi eu gohirio, ymgymerwyd â 17,000 o lawdriniaethau. Yn wir, dros gyfnod gwyliau’r Nadolig, symudwyd llawdriniaethau a llawdriniaethau dewisol ymlaen o fis Ionawr. O ystyried nad oedd yr argyfwng ffliw wedi codi, cafwyd lle i lawdriniaethau dewisol nas rhagwelwyd. Felly symudwyd rhai llawdriniaethau ymlaen, er bod rhai eraill yma ac acw wedi eu gohirio.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 16

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 16

Let us put the journalists, whom you have attacked, to one side and consider the views of health service practitioners. Despite the fact that there are 700 nursing vacancies in Wales, there are eight applicants for every nursing place in colleges. When will you increase the number of places for student nurses? We have been told by the taskforce that Jane Hutt set up that we need 400 new medical beds and an extra 30 intensive care beds to deal with this crisis. When will the rhetoric end and the delivery begin?

Gadewch inni roi’r newyddiadurwyr, yr ydych wedi ymosod arnynt, o’r neilltu ac ystyried barn ymarferwyr y gwasanaeth iechyd. Er gwaethaf y ffaith bod 700 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, cafwyd wyth cais am bob lle nyrsio mewn colegau. Pryd y byddwch yn cynyddu nifer y lleoedd ar gyfer myfyrwyr nyrsio? Dywedodd y gweithlu a sefydlwyd gan Jane Hutt wrthym bod angen 400 o welyâu meddygol newydd a 30 o welyâu gofal dwys ychwanegol arnom i ymdrin â’r argyfwng hwn. Pryd y bydd y rhethreg yn dod i ben a’r broses o gyflwyno yn dechrau?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

You should have listened more carefully to what I said about operations being brought forward. You are turning now to the more long-term strategic issue of estimating the level of nursing vacancies that will need to be filled over the next 10 years, guessing how many nurses will require specialist skills, such as midwifery, intensive care and cardiac care skills, and the retirement rate of those nurses. Then you need to estimate how many vacancies there will be and how many places to make available on nursing courses. The same is true for medics and consultants. It is not easy estimating that and some huge mistakes were made five and 10 years ago in trying to estimate the number of places that should be made available on nurse training courses or education courses in Wales in the nurse 2000 programme. It is not easy to get it right, but we have made a significant start. The number of places in the University of Wales College of Medicine and on nursing courses in Cardiff, Swansea and north Wales have greatly increased. That will bear fruit in two or three years’ time in the case of nurses, six years’ time in the case of doctors, and 10 or 15 years’ time in the case of consultants.

Dylech fod wedi gwrando’n fwy astud ar yr hyn a ddywedais am lawdriniaethau’n cael eu symud ymlaen. Yr ydych yn troi yn awr at y mater strategol mwy tymor hir o amcangyfrif lefel y swyddi nyrsio gwag y bydd angen eu llenwi dros y 10 mlynedd nesaf, dyfalu faint o nyrsys y bydd angen sgiliau arbenigol arnynt, megis sgiliau bydwreigiaeth, sgiliau gofal dwys a sgiliau gofal cardiaidd, a chyfradd ymddeol y nyrsys hynny. Wedyn bydd angen ichi amcangyfrif faint o swyddi fydd yn wag a faint o leoedd a ddylai fod ar gael ar gyrsiau nyrsio. Mae’r un peth yn wir am feddygon ac ymgynghorwyr. Nid yw’n hawdd amcangyfrif hynny a gwnaethpwyd camgymeriadau anferth 5-10 mlynedd yn ôl wrth geisio amcangyfrif nifer y lleoedd a ddylai fod ar gael ar gyrsiau hyfforddi nyrsys neu gyrsiau addysgu nyrsys yng Nghymru yn rhaglen nyrsio 2000. Nid yw’n hawdd ei gael yn iawn, ond gwnaethom ddechrau da. Mae nifer y lleoedd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru ac ar gyrsiau nyrsio yng Nghaerdydd, Abertawe a gogledd Cymru wedi cynyddu’n fawr. Bydd hynny’n dwyn ffrwyth mewn dwy neu dair blynedd yn achos nyrsys, mewn chwe blynedd yn achos meddygon, ac mewn 10 neu 15 mlynedd yn achos ymgynghorwyr.

Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 17

Nick Bourne Arweinydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

I do not need to listen to what journalists say about cancelled operations. A member of my family had an operation cancelled yesterday in Swansea. I also know from constituents and from the post-bag that I receive that cancellations happen day after day and week after week. While the position might not be as serious as last year—I fully accept that, given last year’s flu crisis—it is still serious. Will you apologise to the people of Wales for failing to reduce waiting lists, given that you—or rather your party—made an early pledge to do that nearly four years ago?

Nid oes angen imi wrando ar yr hyn a ddywed newyddiadurwyr am lawdriniaethau wedi eu canslo. Canslwyd llawdriniaeth aelod o’m teulu yn Abertawe ddoe. Gwn hefyd drwy etholwyr a’r sach bost a dderbyniaf fod llawdriniaethau yn cael eu canslo ddydd ar ôl dydd ac wythnos ar ôl wythnos. Er nad yw’r sefyllfa mor ddifrifol â sefyllfa’r llynedd—derbyniaf hynny’n llawn, o ystyried argyfwng ffliw y llynedd—mae’n dal yn ddifrifol. A ymddiheurwch i bobl Cymru am fethu â lleihau’r rhestrau aros, o ystyried eich bod chi—neu yn hytrach eich plaid—wedi gwneud addewid gynnar i wneud hynny bron i bedair blynedd yn ôl?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

I am proud of our record on health. A tremendous amount of work has been done, led by Jane Hutt, but carried out by everybody involved in the management and the real work of the health service in hospitals, on wards and in community services. Let us be clear about hospitals. In terms of alert levels, alert levels 1 or 2 mean that there is no major problem. Sometimes, a problem will arise which puts the hospital at level 3. At that level, a hospital will consider cancelling elective surgery. At level 4, all elective surgery is cancelled. Only one hospital out of the 18 major hospitals in Wales is at level 4. There are six hospitals at level 3 and the others are at level 1 or 2. There is no serious problem at those hospitals other than the occasional ups and downs that you would expect in January.

Yr wyf yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym ym maes iechyd. Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith, o dan arweiniad Jane Hutt, gan bawb sydd yn cymryd rhan wrth reoli a gwneud gwaith gwirioneddol y gwasanaeth iechyd mewn ysbytai, ar wardiau ac mewn gwasanaethau cymunedol. Gadewch inni fod yn glir am ysbytai. Yn nhermau lefelau rhybuddio, golyga lefelau rhybuddio 1 neu 2 nad oes fawr o broblem. Weithiau, bydd problem yn codi sydd yn rhoi’r ysbyty ar lefel 3. Ar y lefel honno, bydd ysbyty yn ystyried canslo llawdriniaethau dewisol. Ar lefel 4 canslir pob llawdriniaeth ddewisol. Dim ond un o 18 prif ysbyty Cymru sydd ar lefel 4. Ceir chwe ysbyty ar lefel 3 ac mae’r gweddill ar lefel 1 neu 2. Nid oes problem ddifrifol yn yr ysbytai hyn oni bai am y mân amrywiadau achlysurol y byddech yn eu disgwyl ym mis Ionawr.

Nick Bourne spoken in English p. 18

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 18

They may be ups and downs to the First Minister but they are not ups and downs to the patients who are waiting. To cut out the jargon, a third of hospitals recorded that operations were being cancelled because of a shortage of beds. Almost 150 operations were cancelled throughout Wales during the first week of January. You should not be proud of that. You should be proud of the people working in the health service, but the record is not good and it is time that your administration improved on it.

Efallai mai mân amrywiadau ydynt i’r Prif Weinidog ond nid i’r cleifion sydd yn aros. I gael gwared ar y jargon, nododd traean o’r ysbytai fod llawdriniaethau’n cael eu canslo oherwydd diffyg gwelyâu. Canslwyd ymron i 150 o lawdriniaethau drwy Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr. Ni ddylech fod yn falch o hynny. Dylech fod yn falch o’r bobl sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd, ond nid yw’r record yn un dda ac mae’n amser i’ch gweinyddiaeth wella ar hyn.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

No, Nick. Every January, from time immemorial, elective operations have been cancelled in order to make provision to deal with winter problems. If there is ice on the roads, more people will fall over and break their legs. If there is a flu epidemic, or anything else that brings on emerging symptoms of respiratory or cardiac problems, then there is an increase in emergency admissions and so you cancel cardiac operations. That happened when the Conservatives were in power and it happens now, with Labour in power. The degree to which it happens is the issue, not that no operations will be cancelled in January. You will never have a national health service that does not cancel any operations in January. We are just talking about the number of operations. A total of 166 operations were cancelled, but perhaps an additional 100 operations were brought forward, as I said earlier. We must also note that 17,000 operations have been carried out even though 166 have been deferred. I am sorry that any operation has to be deferred, but that will always happen in January. However, this year, January has been easier to manage. I am not saying that that will hold true for the rest of the winter if there is a major flu epidemic or another outbreak of an infectious disease. However, we must not look for a crisis when it has not happened.

Na, Nick. Bob mis Ionawr, ers cyn cof, gohiriwyd llawdriniaethau dewisol er mwyn ymdrin â phroblemau’r gaeaf. Os oes rhew ar y ffyrdd, bydd mwy o bobl yn syrthio ac yn torri eu coesau. Os oes epidemig o’r ffliw, neu unrhyw beth arall a fydd yn codi symptomau datblygol problemau anadlu neu broblemau â’r galon, yna ceir cynnydd yn y cleifion brys a dderbynnir ac felly caiff llawdriniaethau cardiaidd eu canslo. Digwyddodd hynny pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym ac mae’n digwydd yn awr, gyda Llafur mewn grym. I ba raddau y mae’n digwydd sydd yn bwysig, ac nid y ffaith y caiff llawdriniaethau eu canslo ym mis Ionawr. Ni chewch byth wasanaeth iechyd gwladol nad yw’n canslo llawdriniaethau ym mis Ionawr. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw siarad am nifer y llawdriniaethau. Canslwyd cyfanswm o 166 o lawdriniaethau, ond efallai bod 100 o lawdriniaethau ychwanegol wedi eu symud ymlaen, fel y dywedais yn gynharach. Hefyd rhaid nodi y cynhaliwyd 17,000 o lawdriniaethau er bod 166 wedi eu gohirio. Mae’n ddrwg gennyf fod rhaid gohirio unrhyw lawdriniaeth, ond bydd hyn bob amser yn digwydd ym mis Ionawr. Fodd bynnag, bu’n haws delio â mis Ionawr eleni. Ni ddywedaf y bydd hynny’n wir am weddill y gaeaf os ceir epidemig mawr o’r ffliw neu ymlediad arall o afiechyd heintus. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â chwilio am argyfwng lle nad oes un wedi digwydd.

Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol

Tackling Anti-social Behaviour

Q8 Christine Gwyther spoken in English p. 19

C8 Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 19

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales about tackling anti-social behaviour in Wales? (OAQ8812)

Pa drafodaethau a gafodd Prif Weinidog Cymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol yng Nghymru? (OAQ8812)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 19

Edwina Hart intends to meet and maintain contact with Whitehall Ministers, particularly those in the Home Office, to discuss law and order issues, including anti-social behaviour. She has agreed to quarterly meetings with the police authorities for Wales and the chief constables, and intends to build relationships with other key agencies engaged in crime and disorder reduction work in Wales. I met Wales’s four chief constables in December for a wide-ranging discussion, and the Secretary of State for Wales will meet with them this month. Following that meeting, he and I will discuss the conclusions of both meetings.

Bwriada Edwina Hart gyfarfod â Gweinidogion Whitehall a chadw mewn cysylltiad â hwy, yn enwedig y rhai hynny yn y Swyddfa Gartref, i drafod materion cyfraith a threfn, gan gynnwys ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Cytunodd i gael cyfarfodydd chwarterol ag awdurdodau’r heddlu yng Nghymru a’r prif gwnstabliaid, a bwriada adeiladu cysylltiadau ag asiantaethau allweddol eraill sydd yn ymwneud â gwaith lleihau troseddu ac anhrefn yng Nghymru. Cyfarfûm â phedwar prif gwnstabl Cymru ym mis Rhagfyr am drafodaeth eang ei chwmpas, a bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyfarfod â hwy y mis hwn. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, bydd ef a minnau yn trafod canlyniadau’r ddau gyfarfod.

Christine Gwyther spoken in English p. 19

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 19

Anti-social behaviour is ugly at any age. We have seen a little of it in the Assembly. We all recognise that, these days, anti-social behaviour is imprinted at an early age. When that happens, there is a temptation for agencies, individuals and groups to blame other agencies, individuals and groups. I am pleased, therefore, that you are engaging with our UK counterparts to tackle this problem. We can only do that by working together as a cohesive whole. Will you amplify how the Cabinet is working together to tackle bullying and other anti-social behaviour?

Nid yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ddeniadol ar unrhyw oedran. Gwelwyd ychydig ohono yn y Cynulliad. Cydnabyddwn oll, y dyddiau hyn, fod ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn gadael ei ôl o oedran cynnar. Pan ddigwydd hynny, ceir temtasiwn i asiantaethau, unigolion a grwpiau roi’r bai ar asiantaethau, unigolion a grwpiau eraill. Yr wyf yn falch, felly, eich bod yn cysylltu â’r Gweinidogion eraill yn y DU i ymdrin â’r broblem hon. Dim ond drwy gydweithio y gallwn wneud hynny. A wnewch ymhelaethu ar sut y mae’r Cabinet yn cydweithio i ymdrin â bwlio ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol arall?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 19

I discussed bullying with Delwyn Tattum—one of the world’s leading authorities on anti-bullying strategies—last Saturday night. It is an important issue, and we are lucky to have a world expert in Wales to advise us. Anti-social behaviour Orders have been implemented and are currently in use in Wrexham, Glyn Corrwg and elsewhere to control anti-social behaviour within an age group that is, perhaps, a little older than the age group within which bullying occurs. A great deal of teenage anti-social behaviour starts with bullying, which sometimes arises from domestic violence that the child has either observed or suffered at the hands of violent parents. Unfortunately, that develops, as the child enters school, into anti-social behaviour, low self-esteem and sometimes into criminality later on in life. The earlier that anti-bullying strategies can be used to head that off, the healthier it is for communities throughout Wales.

Trafodais fwlio â Delwyn Tattum—un o arbenigwyr gorau’r byd ar strategaethau gwrth-fwlio nos Sadwrn diwethaf. Mae’n fater pwysig, ac yr ydym yn lwcus i gael arbenigwr byd-enwog yng Nghymru i roi cyngor inni. Gweithredwyd Gorchmynion ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac ar hyn o bryd maent mewn grym yn Wrecsam, Glyn Corwg a lleoedd eraill i reoli ymddygiad gwrth-gymdeithasol o fewn grŵp oedran sydd, efallai, ychydig yn hŷn na’r grŵp oedran lle y ceir bwlio. Mae llawer o ymddygiad gwrth-gymdeithasol ymhlith rhai yn eu harddegau yn dechrau â bwlio, sydd weithiau’n deillio o drais yn y cartref y mae’r plentyn naill ai wedi ei weld neu wedi ei ddioddef gan rieni treisgar. Yn anffodus, datblyga hynny, wrth i’r plentyn gael ei dderbyn i ysgol, yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, hunan-hyder isel ac weithiau yn droseddoldeb yn nes ymlaen mewn bywyd. Po gynharaf y gellir defnyddio strategaethau gwrth-fwlio i ddileu hynny, yr iachaf y bydd ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

William Graham spoken in English p. 20

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 20

Do you welcome the trend shown in several Welsh towns and city centres, where it is now unlawful to drink alcohol in public? Do you agree that those measures have made a significant contribution towards tackling anti-social behaviour, and do you have any suggestions as to how this could be further improved in Wales?

A groesawch y tueddiad a welir mewn nifer o drefi a chanol dinasoedd yng Nghymru, lle y mae bellach yn anghyfreithlon i yfed alcohol yn gyhoeddus? A gytunwch fod y mesurau hynny wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at ymdrin ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac a oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gellir gwella hyn ymhellach yng Nghymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

My understanding is that two targeted policing projects are underway in Wales. One project is addressing anti-social behaviour linked to children in care in Rhondda Cynon Taff, and the other, to which you are referring, William, is a £0.5 million strategy to address alcohol-related street violence in Cardiff. If that works, I am sure that police forces elsewhere in the South Wales Police Authority area and in the other Welsh police authority areas will want to consider it to see if they can apply the lessons learnt in their communities.

Deallaf fod dau brosiect plismona wedi’u targedu ar waith yng Nghymru. Mae un prosiect yn ymdrin ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol sydd yn gysylltiedig â phlant mewn gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r llall, y cyfeiriwch ato, William, yn strategaeth £0.5 miliwn i ymdrin â thrais ar y stryd sydd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghaerdydd. Os bydd hynny’n gweithio, yr wyf yn siŵr y bydd heddlu mewn rhannau eraill o ardal Awdurdod Heddlu De Cymru ac awdurdodau heddlu eraill yng Nghymru am ei ystyried i weld a allant gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd yn eu cymunedau.

Datblygu Polisi a Chydlynu Materion Trawsbynciol ar gyfer Gogledd Cymru

Policy Development and Co-ordination of Cross-cutting Issues in North Wales

Q9 Nick Bourne spoken in English p. 20

C9 Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 20

Can the First Minister report on any progress in the area of policy development and co-ordination of cross-cutting issues in north Wales? (OAQ8787)

A all Prif Weinidog Cymru sôn am unrhyw gynnydd ym maes datblygu polisi a chydlynu materion trawsbynciol ar gyfer gogledd Cymru? (OAQ8787)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

Several of our cross-cutting policy developments have a direct north Wales presence or spin off. In tackling social deprivation, the Communities First initiative will add to the three successful People in Communities schemes in north Wales and a fourth scheme that started recently in Rhyl.

Mae gan ogledd Cymru ran uniongyrchol mewn sawl un o’n datblygiadau polisi trawsbynciol yn ogystal â sgîl-effaith. Wrth fynd i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol, bydd menter Rhoi Cymunedau’n Gyntaf yn ychwanegu at dri chynllun llwyddiannus Pobl mewn Cymunedau yng ngogledd Cymru a phedwerydd cynllun a ddechreuodd yn ddiweddar yn y Rhyl.

Last Friday, I went on an interesting site visit to an INTERREG boat-building project, which involved the long-term unemployed in Pwllheli. They and I launched the boat in the presence of Dafydd Wigley, who is not in the Chamber at the moment. That project was important in trying to tackle social deprivation in an area that you do not often consider to be socially deprived. However, social deprivation does exist in rural areas.

Ddydd Gwener diwethaf, euthum i ymweld â safle diddorol prosiect adeiladu cychod INTERREG, a oedd yn cynnwys y diwaith tymor hir ym Mhwllheli. Lansiwyd y cwch ar y cyd rhyngom ym mhresenoldeb Dafydd Wigley, nad yw yn y Siambr ar hyn o bryd. Yr oedd y prosiect hwnnw yn bwysig am ei fod yn ceisio mynd i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol mewn ardal nad yw’n aml yn cael ei hystyried yn un gymdeithasol-ddifreintiedig. Fodd bynnag, mae amddifadedd cymdeithasol yn bodoli mewn ardaloedd gwledig.

On sustainable development, the north Wales planning group’s draft regional planning guidance will be reflected in work on the national spatial planning framework. On equality, Assembly staff took part in a conference on combating rural racism in Llandudno on 30 November.

O ran datblygu cynaliadwy, adlewyrchir arweiniad cynllunio rhanbarthol drafft grŵp cynllunio gogledd Cymru yn y gwaith ar y fframwaith cynllunio gofodol cenedlaethol. O ran cydraddoldeb, cymerodd staff y Cynulliad ran mewn cynhadledd ar wrthsefyll hiliaeth wledig yn Llandudno ar 30 Tachwedd.

Nick Bourne spoken in English p. 21

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 21

I return to an issue that cropped up earlier, namely floods, because it is an issue which we might lose sight of until it occurs again. Further to a commitment given by the Minister for Finance, Local Government and Communities, will you revisit this issue in relation to the Barnett formula? This should not be assessed as a Barnett formula issue, but as a needs-based issue. Wales did badly out of the Barnett formula on this this time around.

Dychwelaf at fater a gododd yn gynharach, sef llifogydd, gan ei fod yn fater y gallem ei anghofio nes iddo godi eto. Ymhellach i ymrwymiad a roddwyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a ailystyriwch y mater hwn mewn perthynas â fformwla Barnett? Ni ddylid asesu hyn fel mater fformwla Barnett, ond fel mater yn seiliedig ar anghenion. Nid elwodd Cymru yn fawr iawn ar fformwla Barnett y tro hwn.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

We may well deploy that argument in negotiations when the bills have been added up. We are still waiting to receive bills and estimates of the costs, for instance, of rebuilding the Horseshoe Pass—to take probably the biggest item of expenditure that we shall face. We are also awaiting the other costs in terms of flood-prevention measures and other bits and pieces of expenditure, for example, the cost of cleaning out and maintaining culverts to a better degree than in the past. Sometimes, it is not only a matter of cleaning a culvert but of expanding its capacity. What is the bill for that? When we know that, we will see whether the amount is greater than our Barnett share proportion of the comparable English bill. If so, we may well deploy Nick’s arguments in negotiation with Whitehall departments, including the Treasury.

Efallai y defnyddiwn y ddadl honno mewn negodiadau pan fydd y biliau wedi eu cyfrif. Yr ydym yn dal i aros am y biliau a’r amcangyfrifon o gostau, er enghraifft, ailadeiladu Bwlch yr Oernant—i gymryd yr eitem fwyaf o wariant, siŵr o fod, y byddwn yn ei hwynebu. Yr ydym hefyd yn aros am y costau eraill o ran mesurau atal llifogydd a mân eitemau eraill o wariant, er enghraifft, cost glanhau a chynnal a chadw ceuffosydd yn well nag a wnaethpwyd yn y gorffennol. Weithiau, nid mater o lanhau ceuffos yn unig ydyw ond mater o’i gwneud yn fwy. Beth yw’r bil ar gyfer hynny? Pan wyddom hynny, fe welwn a yw’r swm yn fwy na’n cyfran Barnett o’i chymharu â’r bil yn Lloegr. Os felly, efallai y defnyddiwn ddadleuon Nick wrth negodi ag adrannau Whitehall, gan gynnwys y Trysorlys.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 22

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

As Geraint Davies is not in the Chamber to ask question 10, we will move on to question 11.

Gan nad yw Geraint Davies yn y Siambr i ofyn cwestiwn 10, symudwn ymlaen at gwestiwn 11.

Gweithredu ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’

Implementing ‘Putting Wales First’

Q11 Mick Bates spoken in English p. 22

C11 Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 22

Will the First Minister make a general statement on progress made in implementing ‘Putting Wales First: A Partnership Agreement for the People of Wales’? (OAQ8818)

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad cyffredinol ynghylch y camau a gymerwyd i weithredu ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf: Partneriaeth ar gyfer Pobl Cymru’? (OAQ8818)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 22

I refer you to the answers that I gave to similar questions tabled by Jonathan Morgan on 28 November and Nick Bourne on 5 December. The annual government business programme announced on 21 November and debated in Plenary on 14 December is our first step towards implementing the policies in ‘Putting Wales First’.

Fe’ch cyfeiriaf at yr atebion a roddais i gwestiynau tebyg a gyflwynwyd gan Jonathan Morgan ar 28 Tachwedd a Nick Bourne ar 5 Rhagfyr. Y cam cyntaf tuag at weithredu’r polisïau yn ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’ yw rhaglen fusnes flynyddol y llywodraeth a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd ac a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr.

Mick Bates spoken in English p. 22

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 22

Thank you for that answer. However, I remain greatly concerned about the lack of indices for rural deprivation, which, as you know, impact greatly on local government assessments. When will we have proper indices that express true rural deprivation, which will put the people of rural Wales first?

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Fodd bynnag, yr wyf yn pryderu o hyd ynglŷn â’r diffyg mynegrifau ar gyfer amddifadedd gwledig, sydd, fel y gwyddoch, yn effeithio’n fawr ar asesiadau llywodraeth leol. Pryd y cawn y mynegrifau cywir a fydd yn mynegi amddifadedd gwledig gwirioneddol, a fydd yn rhoi pobl Cymru wledig yn gyntaf?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

I discussed that issue in answer to the first question when I said that we were not entirely happy, for instance, with the Home Office police funding formula. One of the two aspects about which we are not happy is whether it takes sufficient account of the additional cost of policing rural areas, in terms of journey costs. There are other areas of rural deprivation that come under the question of the multiple rural deprivation index. If Mick has a particular point to make on what he thinks is missing from how that index deals with rural poverty, I would be grateful if he would write to me about it.

Trafodais y mater hwnnw wrth ateb y cwestiwn cyntaf pan ddywedais nad oeddem yn hollol fodlon, er enghraifft, ar fformwla’r Swyddfa Gartref ar gyfer ariannu’r heddlu. Un o’r ddwy agwedd nad ydym yn fodlon arnynt yw a yw’n rhoi ystyriaeth ddigonol i gost ychwanegol plismona ardaloedd gwledig, o ran costau teithiau. Mae ardaloedd eraill o amddifadedd gwledig a ddaw o dan bennawd cwestiwn mynegrif amddifadedd gwledig lluosog. Os oes gan Mick bwynt penodol i’w wneud ynglŷn â’r hyn sydd yn ei farn ef yn absennol o’r ffordd y mae’r mynegrif hwnnw yn ymdrin â thlodi gwledig, byddwn yn ddiolchgar pe bai yn ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 23

Pwynt o drefn. Codaf hwn dan Reol Sefydlog Rhif 6.28, ynglŷn â chwestiynau llafar. Gwyddoch, Lywydd, fod cwestiynau wedi eu gofyn yn ddiweddar ynglŷn â dilysrwydd cwestiynau i Brif Weinidog Cymru a bod materion yn codi ynglŷn ag a yw cwestiynau yn ddilys ai peidio. Mae nifer o Aelodau ein grŵp yn dal i gael trafferth i wybod yn union sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch a yw cwestiynau’n ddilys ai peidio. Mae cwestiynau’n cael eu cyflwyno, ac wedyn ymddengys fod trafod rhwng y Swyddfa Gyflwyno ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet i weld a yw cwestiwn yn ddilys. Yn sgîl y trafod hwnnw y penderfynir a ddylid caniatáu’r cwestiwn.

Point of order. I raise this under Standing Order No. 6.28, regarding oral questions. You are aware, Presiding Officer, that questions have been asked recently about the validity of questions to the First Minister and that issues arise about whether questions are valid or not. Several of our group’s Members are still having difficulty in knowing exactly how decisions are made on the validity of questions. Questions are tabled, and then it appears that that they are discussed by the Table Office and the Cabinet Secretariat to assess whether they are valid. In the wake of that discussion, a decision is made as to whether the question should be allowed.

A wnewch chi, Lywydd, gadarnhau mai yn ôl eich disgresiwn chi y dylid penderfynu a yw cwestiwn yn ddilys ai peidio ac nid drwy broses arall? Byddai gosod canllawiau clir i’r Aelodau ynglŷn â hyn o gymorth mawr.

Will you, Presiding Officer, confirm that decisions as to whether a question is valid or not should be made according to your discretion, and not by any other process? It would be a great help to Members if clear guidelines were set in this area.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 23

Yr wyf yn ddiolchgar am y rhybudd am y pwynt hwnnw. Yr oeddwn yn credu bod canllawiau clir ynghylch cyflwyno a derbyn cwestiynau. Nid yw’r Swyddfa Gyflwyno yn ymgynghori ag Ysgrifenyddiaeth y Cabinet wrth ystyried cwestiynau, ond mae gan y Cabinet hawl i drosglwyddo cwestiynau rhwng Gweinidogion yn ôl y portffolio sydd wedi’i gytuno. Mae rhybudd o’r portffolio hwnnw yn cael ei baratoi ar ddechrau pob sesiwn neu unrhyw bryd y bydd newid yn y Cabinet, ac mae’r rheini’n hysbys. Fodd bynnag, gan fod y cwestiwn hwn wedi ei godi, ymchwiliaf ymhellach ac adrodd yn ôl yn llawn, os bydd angen. Gall Pwyllgor y Tŷ hefyd drafod hyn wrth adolygu gweithgaredd y Swyddfa Gyflwyno, ac mae’n bosibl y bydd angen i’r Pwyllgor Busnes ei drafod yn ei swyddogaeth fel y pwyllgor gweithdrefniadau.

I am grateful for notice of that point. I thought that there were clear guidelines on tabling and accepting questions. The Table Office does not consult with the Cabinet Secretariat in considering questions, but the Cabinet has the right to transfer questions between Ministers according to the agreed portfolio. Notice of that portfolio is prepared at the beginning of every session or whenever there is a change in the Cabinet and the information is made public. However, as this question has been raised, I will make further inquiries and report back in full if needs be. The House Committee could also discuss this in reviewing the Table Office’s activity, and it is possible that the Business Committee will need to discuss it in its capacity as the procedures committee.

Peter Black spoken in English p. 24

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 24

Point of order. I raise a point of order under Standing Order No. 6. You have been scrupulous about references to political party groups in the Chamber, and the fact that these should be made according to their correct name. Yet Plaid Cymru’s motion today refers twice to the ‘Lib/Lab’ administration, implying that the Liberal Democrats should be referred to as ‘Lib’, and the Labour Party as ‘Lab’. Will you confirm that motions will only be accepted for debate if they refer to other parties using the correct name?

Pwynt o drefn. Codaf bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 6. Buoch yn ofalus ynglŷn â chyfeiriadau at grwpiau pleidiau gwleidyddol yn y Siambr, a’r ffaith y dylid gwneud y cyfeiriadau hyn yn unol â’u henw cywir. Ac eto, ddwywaith heddiw, cyfeiria cynnig Plaid Cymru yn Saesneg at y weinyddiaeth ‘Lib/Lab’, gan awgrymu y dylid cyfeirio at y Democratiaid Rhyddfrydol fel ‘Lib’ a’r Blaid Lafur fel ‘Lab’. A gadarnhewch mai dim ond os byddant yn cyfeirio at bleidiau eraill gan ddefnyddio’r enw cywir y cânt eu derbyn ar gyfer dadl?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 24

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

I have tried to ensure that the correct names of parties are used at all times. We did not consider that the foreshortened, affectionate expression ‘Lib/Lab’ was regarded as disorderly, but in future we will take a view of this.

Ceisiais sicrhau y defnyddir enwau cywir y pleidiau bob amser. Nid oeddem yn credu bod yr ymadrodd, cyfarwydd ‘Lib/Lab’ yn cael ei ystyried yn un amharchus, ond yn y dyfodol byddwn yn ystyried hyn.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 24

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

Business for the next three weeks is as follows. Business on 23 January will include a composite motion to approve two items of subordinate legislation, a motion to delegate the functions of the Countryside and Rights of Way Act 2000 to the First Minister and a debate on the long-term direction of agriculture. Business on 25 January will include a Conservative Minority Party Debate.

Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel a ganlyn. Bydd y busnes ar 23 Ionawr yn cynnwys cynnig cyfansawdd i gymeradwyo dwy eitem o is-ddeddfwriaeth, cynnig i ddirprwyo swyddogaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i Brif Weinidog Cymru a dadl ar gyfeiriad tymor hir amaethyddiaeth. Bydd y busnes ar 25 Ionawr yn cynnwys Dadl Plaid Leiafrifol gan y Ceidwadwyr.

On 30 January business will include a debate on the professional development of teachers.

Ar 30 Ionawr bydd y busnes yn cynnwys dadl ar ddatblygiad proffesiynol athrawon.

Business on 1 February will include a motion to delegate the functions of the Ionising Radiation (Medical Exposure) Regulations 2000 to the First Minister, a debate on the diversity of public appointments and a Plaid Cymru Minority Party Debate. On 6 February there will be a motion to approve the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 and a debate on the local government settlement. On 8 February business will include a motion to approve subordinate legislation and a debate on broadcasting and communications.

Bydd y busnes ar 1 Chwefror yn cynnwys cynnig i ddirprwyo swyddogaethau Rheoliadau Ioneiddio Ymbelydriad (Amlygiad Meddygol) 2000 i Brif Weinidog Cymru, dadl ar amrywiaeth penodiadau cyhoeddus a Dadl Plaid Leiafrifol gan Blaid Cymru. Ar 6 Chwefror bydd cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Bwydydd (Cymru) 2001 a dadl ar y setliad llywodraeth leol. Ar 8 Chwefror bydd y busnes yn cynnwys cynnig i gymeradwyo is-ddeddfwriaeth a dadl ar ddarlledu a chyfathrebu.

Finally, on the advice of the Business Committee this morning, the Deputy Presiding Officer has determined, in accordance with Standing Order No 22.5, that the following items of subordinate legislation need not be referred to Subject Committees: the NHS (General Medical Services) (Amendments) (Wales) Regulations 2001, the Education (Education Standards Grants) (Wales) Regulations 2001, the Education (Individual Pupils’ Achievements) (Information) (Wales) (Amendment) Regulations 2001 and the Education (National Curriculum) (Key Stage 3 Assessment Arrangements) (Wales) (Amendment) Order 2001. As on previous occasions, arrangements will be made to post a copy of this statement to both the intranet and the internet later today.

Yn olaf, ar gyngor y Pwyllgor Busnes y bore yma, penderfynodd y Dirprwy Lywydd, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 22.5, nad oes rhaid cyfeirio’r eitemau canlynol o is-ddeddfwriaeth i’r Pwyllgorau Pwnc: Rheoliadau Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2001, y Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001, y Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 a’r Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001. Yn unol ag achlysuron blaenorol, gwneir trefniadau i roi copi o’r datganiad hwn ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd yn ddiweddarach heddiw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 25

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

There are no objections to the business statement. I will therefore take comments on the business statement from one member of each party group.

Nid oes unrhyw wrthwynebiadau i’r datganiad busnes. Felly cymeraf sylwadau ar y datganiad busnes gan un aelod o bob plaid.

William Graham spoken in English p. 25

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 25

Members will note from the ‘forward look’ page on the intranet, which is linked to the business statement, that business on many days appears to be somewhat light in regard to the time allocated and devoted to Plenary sessions. I ask the Minister for Assembly Business to indicate, as he did to the Business Committee this morning, that he would prefer discussion by statement rather than discussion by debate, and the reason for that.

Bydd yr aelodau yn nodi o’r dudalen ‘rhagolwg’ ar y fewnrwyd, sydd yn gysylltiedig â’r datganiad busnes, bod y busnes ar sawl diwrnod yn ymddangos yn ysgafn o ran yr amser a ddyrennir ac a neilltuir ar gyfer sesiynau’r Cyfarfod Llawn. Gofynnaf i’r Trefnydd nodi, fel y gwnaeth i’r Pwyllgor Busnes y bore yma, y byddai’n well ganddo drafod yn ôl datganiad yn hytrach na thrafod yn ôl dadl, a’r rheswm dros hynny.

Lorraine Barrett spoken in English p. 26

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 26

Will the Minister for Assembly Business tell us whether there will be an opportunity for the Assembly to discuss issues of international interest, such as the terrible disaster in El Salvador? As an international socialist, I would like the opportunity to discuss issues affecting countries other than Wales. Could we have time to discuss these issues?

A wnaiff y Trefnydd ddweud wrthym a fydd cyfle i’r Cynulliad drafod materion o ddiddordeb rhyngwladol, megis y drychineb erchyll yn El Salvador? Fel sosialydd rhyngwladol, hoffwn gael y cyfle i drafod materion sydd yn effeithio ar wledydd heblaw Cymru. A allem gael amser i drafod y materion hyn?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

I note that no member of the Plaid Cymru group wishes to comment.

Nodaf nad oes un o aelodau grŵp Plaid Cymru am wneud sylw.

Andrew Davies spoken in English p. 26

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

As I have reported on numerous occasions, it is difficult to plan business in Plenary sessions. We are often in the position where there is too much business and too little time. On many other occasions, because of a change in circumstances, debates may be on the long side. However, I have indicated to the Business Committee that, for example, this Thursday the Cabinet will make two statements. I will make a statement on the information age strategic framework and my colleague Edwina Hart will make a statement giving an update on the situation of the new building. I have given a commitment to the Business Committee that wherever possible I will give as much notice as possible to colleagues in the other parties of Cabinet statements. That is, statements other than those made in response to urgent questions that Members may raise with the Presiding Officer.

Fel y soniais ar sawl achlysur, mae’n anodd cynllunio busnes yn sesiynau’r Cyfarfod Llawn. Yn aml, yr ydym mewn sefyllfa lle mae gormod o fusnes a dim digon o amser. Ar sawl achlysur arall, oherwydd newid mewn amgylchiadau, gall y dadleuon fod ychydig yn rhy hir. Fodd bynnag, soniais wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Cabinet y dydd Iau hwn, er enghraifft, yn gwneud dau ddatganiad. Byddaf yn gwneud datganiad ar fframwaith strategol yr oes wybodaeth a bydd fy nghyd-Aelod Edwina Hart yn gwneud datganiad gan roi’r newyddion diweddaraf am yr adeilad newydd. Yr wyf wedi addo i’r Pwyllgor Busnes y rhoddaf gymaint o rybudd â phosibl i gyd-Aelodau yn y pleidiau eraill am ddatganiadau’r Cabinet. Hynny yw, datganiadau heblaw’r rheini a wneir mewn ymateb i gwestiynau brys y gall Aelodau eu codi gyda’r Llywydd.

I have a great deal of sympathy with Lorraine Barrett’s point. The Business Committee will have to consider how we may legitimately raise issues of international significance. Speaking as an international socialist myself, I share Lorraine’s concerns about what is happening in El Salvador and other areas of the world. The Business Committee could consider ways in which the Assembly can either express solidarity with people in other parts of the world or discuss such significant issues. I would need to discuss that with the other parties.

Yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr â phwynt Lorraine Barrett. Bydd yn rhaid i’r Pwyllgor Busnes ystyried sut y gallwn godi materion o arwyddocâd rhyngwladol. Fel sosialydd rhyngwladol fy hun, rhannaf bryderon Lorraine ynglŷn â’r hyn sydd yn digwydd yn El Salvador a rhannu eraill o’r byd. Gallai’r Pwyllgor Busnes ystyried ffyrdd y gall y Cynulliad naill ai fynegi undod â phobl mewn rhannau eraill o’r byd neu drafod materion arwyddocaol o’r fath. Byddai angen imi drafod hynny â’r pleidiau eraill.

Derbyniwyd y datganiad busnes.

Business statement adopted.

Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar Bolisi’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru

The Post-16 Education and Training Committee Report on Arts and Culture Policy in Wales

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 27

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 27

Gwahoddaf Cynog Dafis, Cadeirydd y Pwyllgor a baratôdd yr adroddiad, i gynnig y cynnig.

I invite Cynog Dafis, the Chair of the Committee that prepared this report, to propose the motion.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 27

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 27

Cynigiaf fod

I propose that

Cynog Dafis (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 27

Cynog Dafis (continued) spoken in Welsh p. 27

Teimlaf yn eithriadol o browd o gael y cyfle i gyflwyno’r adroddiad hwn, ‘Diwylliant Cytûn’, i’r Cynulliad Cenedlaethol. Pwysleisiaf nad ar chwarae bach nac yn ddifeddwl y llwyddwyd i gynhyrchu’r ddogfen hon na’r rhestr hir o argymhellion—dros 100 ohonynt—sydd ynddi.

I feel extremely proud to have the opportunity to present this report, ‘A Culture in Common’, to the National Assembly. I emphasise that it was no mean feat. It was not without a great deal of thought that this report or the long list of 100 plus recommendations contained within it was successfully produced.

Yr oedd y Pwyllgor, wrth baratoi’r adroddiad, yn ymwybodol ein bod yn ymgymryd â thasg heriol a chyffrous, sef gosod allan fframwaith o egwyddorion a fyddai’n llywio polisi i’r celfyddydau yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.

The Committee, in preparing the report, was aware that it was undertaking a challenging and exciting task, namely setting out a framework of principles that would steer policy for the arts in Wales for many years to come.

Yr oedd yr aelodau yn ymdeimlo hefyd â chyd-destun hanesyddol y fenter hon, sef cyfnod o ddadeni cenedlaethol ac ymdeimlad cynyddol o hunaniaeth Gymreig, ac ar yr un pryd o newid cymdeithasol, demograffaidd a thechnolegol cyflym, a dylanwadau cosmopolitanaidd mwy grymus nag erioed. Dyna bair o ystyriaethau gwahanol ac, o bosibl, croesdynnol, a ystyriodd y Pwyllgor.

The members also sensed the historical context of this enterprise, coming as it did during a period of national renaissance and an increasing sense of Welsh identity, and at the same time of rapid social, demographic and technological change, and stronger cosmopolitan influences than ever. That is the melting pot of different, and possibly conflicting, considerations considered by the Committee.

Ym mharagraff 1.8 yn yr adroddiad ceir disgrifiad byr o’r ymgynghori helaeth a ddaeth â’r holl wahanol sylwadau inni. Mae’n werth edrych ar y dudalen honno er mwyn gweld cymaint o ddeunydd ysgrifenedig a llafar a gyflwynwyd inni. Pwysleisiaf yn arbennig yr ymdrech ddiffuant a llwyddiannus i gyrraedd consensws ar y dadansoddiad a’r argymhellion. Treuliwyd oriau dirifedi yn trafod ac yn negodi a chafwyd cytundeb cadarn a brwdfrydig, ar y cyfan, ar draws yr holl bleidiau.

In paragraph 1.8 of the report there is a brief description of the extensive consultation that brought us all the varied comments. It is worth looking at that page in order to see the amount of written and oral material that was presented to us. I particularly emphasise the genuine and successful effort to reach consensus on the analysis and the recommendations. We spent many hours discussing and negotiating and there was strong and, on the whole, enthusiastic agreement across all parties.

Fel sydd yn arferol ar adegau fel hyn, ond gyda mwy o frwdfrydedd nag sydd yn ofynnol, talaf deyrnged arbennig i’r clerc, Julia Annand, y dirprwy glerc, Stephen Thomas, ac, yn enwedig, i’r ymgynghorydd arbenigol, Ceri Sherlock. Mae’n berson disglair yn y maes a buom yn ffodus o gael ei wasanaeth. Mae’n galonogol ein bod yn gallu denu pobl o’r fath galibr i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi.

As is the norm on such occasions, but with more enthusiasm than is usual, I pay special tribute to the clerk, Julia Annand, the deputy clerk, Stephen Thomas, and, in particular, to the expert adviser, Ceri Sherlock. He is a leader in his field and we were fortunate to have his services. It is encouraging that we can attract people of such calibre to assist in the work of developing policy.

Wedi dweud hynny i gyd, fel Cadeirydd y Pwyllgor, yr wyf yn siomedig am un mater. Nid yw’r cynnig ger ein bron yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddatgan barn ar yr adroddiad. Nid oes sôn am groesawu’r adroddiad, heb sôn am ei arddel. Gwaethygwyd y broblem honno oherwydd ei bod yn amhosibl inni gyflwyno gwelliannau i’r cynnig. Beth yw statws dogfennau fel hyn yng ngwaith y Cynulliad a beth yw gwerth eu cynhyrchu? Efallai y gall y Llywydd ystyried hynny ar gyfer y dyfodol. Mae’n fy mhoeni y gall fod siom ymysg yr holl bobl a roddodd amser I greu mewnbwn i’r adolygiad ein bod y trin y canlyniad yn gymharol ffrit.

Having said all that, as Committee Chair, one issue does disappoint me. The motion before us does not give the Assembly an opportunity to state an opinion on the report. No mention is made of welcoming the report, let alone endorsing it. That problem is exacerbated by the fact that it is impossible for us to table amendments to the motion. What is the status of documents such as this in the Assembly’s work and what is the value of producing them? Perhaps the Presiding Officer can consider that for the future. It concerns me that all those who gave their time to input into the review may be disappointed that we are treating the result fairly trivially.

Un o gasgliadau pwysicaf yr adroddiad yw bod yn rhaid i’r Llywodraeth benderfynu ar flaenoriaethau a fframwaith polisi. Dylai’r Cynulliad neu Lywodraeth Cymru wneud hynny, ac yna sefydliadau megis Cyngor Celfyddydau Cymru weithio o fewn y fframwaith polisi hwnnw. Yr oedd hynny’n amhosibl cyn sefydlu’r Cynulliad. Edrychaf ymlaen at sylwadau Jenny Randerson ar ei bwriadau ynghylch argymhellion yr adroddiad.

One of the report’s most important conclusions is that Government must decide upon priorities and a policy framework. The Assembly or the Government of Wales should do that, and then organisations such as the Arts Council of Wales should work within that policy framework. That was impossible prior to the Assembly’s inception. I look forward to Jenny Randerson’s comments on her intentions regarding the report’s recommendations.

Mae’r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod y celfyddydau o’r pwys mwyaf mewn polisi cyhoeddus, nid yn unig o ran ansawdd bywyd a datblygiad meddyliol a phersonol—sydd yn elfen allweddol mewn addysg a hyfforddiant—ond hefyd fel ffactor arwyddocaol mewn adfywiad cymunedol a datblygu economaidd. Nid moeth ychwanegol y gall cymdeithas fforddio bod hebddo yw’r celfyddydau, ond un o hanfodion bywyd gwâr. Dywed yr adroddiad yn gwbl ddiamwys bod angen i hynny gael ei adlewyrchu yn lefel y cyllid cyhoeddus ar gyfer datblygu’r celfyddydau ac nad yw wedi ei gydnabod yn ddigonol o bell ffordd yn y gorffennol. Galwn am gynnydd sylweddol mewn cyllid cyhoeddus ar gyfer datblygu’r celfyddydau.

The Committee is convinced that the arts are vitally important in public policy, not only in terms of quality of life and intellectual and personal development—which is a key element in education and training—but also as a significant factor in community regeneration and economic development. The arts are not a luxury which society can do without, but a cornerstone of civilised life. The report states unequivocally that that must be reflected in the level of public funding for developing the arts and that it has been far from sufficiently acknowledged in the past. We call for a significant increase in public funding for developing the arts.

Rhestrir yr egwyddorion y credwn y dylent fod wrth wraidd polisi ym mharagraff 3.1. Hyderaf y bydd y Gweinidog yn datgan ei chefnogaeth iddynt yn eu cyfanrwydd. Maent yn egwyddorion pwysig ac, o’u gweithredu, bydd newid cyfeiriad arwyddocaol mewn polisi celfyddydol.

The principles that we believe should form the basis of policy are listed in paragraph 3.1. I am sure that the Minister will state that she supports them in their entirety. They are important principles and their implementation will change the direction of arts policy significantly.

Nodaf rai o brif themâu ac argymhellion yr adroddiad. Yn gyntaf, cred y Pwyllgor y dylai’r prif bwyslais polisi fod ar feithrin creadigedd yn y gwreiddiau. Yr ydym am weld adnoddau dynol yn ogystal ag adnoddau ariannol yn cael eu rhoi i mewn i’r gwaith hwnnw, a hynny ar sail gadarn a chynaliadwy. Mynegwyd peth pryder yn ystod yr ymchwiliad nad yw adnoddau ar gyfer y math hwnnw o weithgarwch yn ddigon sefydlog, ac mai adnoddau ydynt sydd yn dod ac yn mynd ac yn gadael sefydliadau a mudiadau heb hyder ynglŷn â’u dyfodol tymor hir. Yr ydym am weld adnoddau digonol, sefydlog a pharhaol ar gyfer meithrin creadigedd ym mywyd pobl yng ngwreiddiau’u cymunedau.

I will note some of the report’s main themes and recommendations. First, the Committee believes that the main policy emphasis should be on nurturing creativity at the grass roots. We want to see human resources as well as financial resources provided for that work, on a strong and sustainable basis. Some concern was expressed during the review that resources for that kind of activity have not been stable enough, and that they are resources that come and go and, as a result, organisations and institutions lack confidence about their long-term future. We want to see sufficient, stable, and permanent resources to develop and nurture creativity in people’s lives in their communities at grass roots level.

Cyfeiriwn yn yr adroddiad at adroddiad Rowntree, ‘Arts and Regeneration’, a gyhoeddwyd dros flwyddyn yn ôl. Cefnogwn argymhellion yr adroddiad hwnnw, a daethom ar draws ddigon o enghreifftiau o ddefnyddio’r celfyddydau i gyfoethogi bywyd cymunedau difreintiedig. Un enghraifft o’r cyfoethogi hwnnw yw Pen-rhys yn y Rhondda. Nid cyfeirio at y difreintiedig yn unig a wneir wrth bwyleisio celf gymunedol.

We refer to the Rowntree report, ‘Arts and Regeneration’ published over a year ago. We support the recommendations of that report, and we came across plenty of examples of the arts enriching the lives of disadvantaged communities. Penrhys in Rhondda is one example of that kind of enriching. One does not refer solely to social deprivation while emphasising community art.

Mae pwyslais arbennig ar gyfranogiad yn yr adroddiad—yr hyn a alwn ar lafar yn cymryd rhan—ac nid derbyn y celfyddydau fel cynulleidfa yn unig. Mae angen sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y gweithgarwch. Golyga hynny bwyslais newydd ar yr amatur.

There is particular emphasis in the report on participation—taking part as we call it in everyday speech—rather than viewing the arts solely as audience members. We must ensure that people take part in activities. That means a new emphasis on the amateur.

Cefais lythyr gan Gymro alltud crac yr wythnos diwethaf. Nid oedd yn meddwl llawer o’n hadroddiad. Ar y cyfan, bu’r ymateb i’r adroddiad yn gadarnhaol, ond yr oedd y llythyr hwn yn gwbl negyddol. Yr oedd yn drwm ei lach ar y pwyslais ar gelf gymunedol. Yr oedd am wybod beth oedd celf gymunedol, gan honni nad oedd yr adroddiad yn esbonio hynny. Credaf fod yr adroddiad yn esbonio hynny. Dyma un frawddeg o’i lythyr,

I received a letter last week from an angry expatriate Welshman. He did not rate our report. On the whole, the response to the report has been positive, but this letter was entirely negative. He was especially critical of the emphasis on community art. He wanted to know what community art meant, claiming that the report did not explain that. I believe that the report does explain that. This is a sentence from his letter,

‘Wales deserves better than amateur dramatics in the welfare hall.’

Nid dyna agwedd y Pwyllgor, ac nid dyna fy mhrofiad innau. Yr wyf wedi gweld dramâu amatur o safon uchel yn y ‘welfare hall’ yn y gorffennol, ac yr wyf wedi cymryd rhan mewn perfformiadau o safon uchel yn y ‘welfare hall’ cyn hyn hefyd. Gwelwn fantais fawr o ddod â’r proffesiynol a’r amatur at ei gilydd a’u cyfuno at bwrpas creadigedd a safonau uchel. Mae digon o dystiolaeth fod y cyfuniad hwnnw yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed ac y mae hi’n ffaith ddiymwad—a gellir pwyntio at enghreifftiau—mai felly y mae llawer o’n doniau disgleiriaf wedi dod i amlygrwydd. Gallwn ond dechrau enwi pobl a ddechreuodd yn y maes hwnnw, ar y lefel amatur yn y gymuned, a weithiodd gyda phobl proffesiynol ac a ddatblygodd wedyn yn bobl broffesiynol o safon uchel.

That is not the Committee’s attitude, and it is not my experience. I have seen amateur dramatics of a high standard in the ‘welfare hall’ in the past, and I have previously taken part in performances of a high standard in the ‘welfare hall’. We see great advantage in bringing the professional and the amateur together and combining them for the purposes of creativity and high standards. There is plenty of evidence that that combination bears fruit a hundred fold, and it is an irrefutable fact—and one can point to examples—that that is how many of our most brilliant talents have come to the fore. We can only begin to name people who started in that field, on the amateur level in the community, who worked with professional people, and who then developed into professionals of a high standard.

Erbyn hyn, mae gennym rwydwaith o ganolfannau celfyddydol gwych yng Nghymru. Mae sôn—fel a ddywedais yn gynharach—am yr angen i sicrhau sefydlogrwydd ariannol y canolfannau hynny. Fodd bynnag, mae angen cydnabod hefyd fod y celfyddydau’n digwydd mewn myrdd o leoliadau eraill ac nid yn y canolfannau ffurfiol yn unig. Maent yn digwydd yn y dafarn, yn y capel, yn y neuadd bentref, yn y clwb ac yn y blaen. Mae’r celfyddydau yn bresennol yn yr holl leoliadau hyn, ac yng nghartrefi pobl hefyd. Mae angen cydnabod hynny a chreu cysylltiadau rhwng y canolfannau ffurfiol a’r holl leoliadau eraill anffurfiol lle meithrinir y celfyddydau.

By now, we have a network of excellent arts centres in Wales. There is talk—as I said earlier—of the need to ensure the financial stability of those centres. However, we must also recognise that the arts are staged in a myriad of other venues and not only in the formal venues. They take place in the pub, the chapel, the village hall, in the club and so on. The arts are present in all of these locations, and also in people’s homes. We need to recognise that and create links between the formal centres and all the other informal venues where the arts are nurtured.

Mae’r pwyslais ar feithrin yr hyn sydd yn arbennig ym mywyd diwylliannol Cymru. Mae hynny’n cynnwys yr iaith Gymraeg yn ogystal â Saesneg Cymru, sef y ffurfiau ar yr iaith Saesneg sydd wedi datblygu yng Nghymru drwy newid demograffedd ieithyddol a diwylliannol. Mae angen dathlu’r ffurfiau ieithyddol hynny yn yr iaith Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg. Fodd bynnag, yr hyn sydd yn nodweddu Cymru heddiw yw amrywiaeth fawr sydd yn cynnwys cyfraniad cynyddol gan y cymunedau ethnig lleiafrifol. Mae’r adroddiad yn galw am fwy o gydnabyddiaeth i anghenion arbennig y cymunedau hynny. Yn y gorffennol, y maent wedi cael eu gwthio i’r ymylon neu eu hanwybyddu, ond yn awr, maent yn awyddus i gymryd eu lle ym mywyd diwylliannol y genedl. Rhaid inni alluogi hynny i ddigwydd yn fwy effeithiol.

The emphasis is on nurturing what is unique to the cultural life of Wales. That includes the Welsh language as well as the English language of Wales, that is, the forms of the English language that have developed in Wales through demographic, linguistic and cultural change. We must celebrate those linguistic forms in the English language as well as in Welsh. However, what characterises Wales today is a great diversity that includes an increasing contribution by the ethnic minority communities. The report calls for greater acknowledgement of the particular needs of those communities. In the past, they have been marginalised or ignored, but now, they are eager to take their place in the cultural life of the nation. We must enable that to happen more effectively.

Cred y Pwyllgor fod dehongli realiti bywyd Cymru yn ei holl amrywiaeth drwy’r celfydyddydau yn rhywbeth y dylai polisi cyhoeddus ei gefnogi. Wrth gwrs, mae angen polisi i ganiatáu a hwyluso dylanwadau allanol a byd eang ar ein profiad diwylliannol. Fodd bynnag, rhaid inni weld yr angen i ddehongli ein bywydau ein hunain drwy’r celfyddydau. Yr ydym hefyd yn galw am sylw i adfywio a datblygu ffurfiau celfyddydol traddodiadol gwahanol.

The Committee believes that interpreting the reality of life in Wales in all its diversity through the arts is something that public policy should support. Of course, policy is needed to allow and facilitate the external and global influences on our cultural experience. However, we must see the need to interpret our own lives through the arts. We also call for attention to revive and develop different traditional art forms.

Yn drydydd, mae’r adroddiad yn galw am gryfhau lle y celfyddydau yn ein bywyd economaidd. Mae’r diwydiannau creadigol yn cyflogi tua 29,000 o bobl yng Nghymru sydd yn 2.6 y cant o’r boblogaeth weithiol. Mae’n sector arwyddocaol, felly, yn yr economi sydd yn cyfrannu dros £300 miliwn at gynnrych mewnwladol crynswth yng Nghymru. Mae argymhellion penodol ar ffilm yn yr adran ar gelfyddydau’r cyfryngau. Mae’n werth ystyried y rheini’n ofalus.

Thirdly, the report calls for strengthening the place of the arts in our economic life. Creative industries employ about 29,000 people in Wales, which is 2.6 per cent of the working population. It is, therefore, a significant sector in the economy, which contributes over £300 million to gross domestic product in Wales. There are specific recommendations on film in the media arts section. It is worth considering those carefully.

Yn naturiol, un o adrannau pwysicaf yr adroddiad yw’r un sydd yn trafod y sefydliadau sydd â chylch gwaith cenedlaethol, megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chwmni Dawns Diversions. Mae lle, wrth gwrs, i ymfalchïo yn eu llwyddiant, eu safonau uchel a’u henwogrwydd byd-eang. Mae’n naturiol eu bod yn denu cyllid sylweddol o’r pwrs cyhoeddus. Mae cyfran uchel o gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw. Mewn sefyllfa lle mae gwariant ar y celfyddydau’n cynyddu, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai eu cyllid nhw gynyddu ymhellach. Fodd bynnag, yn wyneb y blaenoriaethau eraill y mae’r Pwyllgor wedi eu penodi, nid ydym yn credu y dylai eu cyfran o’r holl gyllid ar gyfer y celfyddydau fod gyfuwch â’r hyn ydyw ar hyn o bryd. Dylent gael cyfran lai mewn cyfanswm mwy.

Naturally, one of the most important sections in the report is the one that discusses institutions that have a national remit, such as the Welsh National Opera, the BBC National Orchestra of Wales and Diversions Dance Company. We can, of course, take pride in their success, their high standards and their worldwide fame. It is natural that they attract substantial funding from the public purse. A high proportion of the Arts Council of Wales’s funding goes in that direction. In a situation where expenditure on the arts is increasing, the Committee believes that their funding should increase further. However, in the face of the other priorities that the Committee has set, we do not believe that their share of the total funding for the arts should be as high as it currently is. They should have a smaller proportion of a larger total.

Mae trafodaeth yn yr adroddiad hefyd ynglŷn â chreu sefydliadau cenedlaethol eraill. Yr ydym yn datgan amheuaeth ynglŷn â sefydlu theatr genedlaethol yn yr ystyr gonfensiynol. Yr ydym yn galw am ailystyried y strategaeth ddrama yn syflaenol.

The report also discusses creating other national institutions. We declare our reservations about establishing a national theatre in the conventional sense. We call for a basic reassessment of the drama strategy.

Wrth sôn am sefydliadau cenedlaethol, mae’r Pwyllgor yn galw’n glir am i’r cysylltedd rhwng y sefydliadau hyn a bywyd diwylliannol y genedl fod yn gryfach. I roi un enghraifft, dylai fod cysylltiad cryf gyda chwmnïau perfformio ieuenctid cenedlaethol er mwyn meithrin y cysylltiad ac agor llwybr gyrfaol i bobl ifanc sydd mewn sefydliadau amatur yng Nghymru i allu dod i’r byd proffesiynol.

In referring to national institutions, the Committee clearly calls for the link between these institutions and the cultural life of the nation to be stronger. For example, there should be a strong connection with national youth performance companies in order to nurture the link and open a career path for young people who are in amateur institutions in Wales to enter the professional world.

Yn y rhestr o argymhellion pwysig a gwerthfawr ym mharagraff 3.58, mae galwad benodol am

In the list of important and valuable recommendations in paragraph 3.58, there is a specific call for

‘lunio contractau clir ar gyfer eu gwaith diwylliannol a’r cylch gwaith rhyngddynt hwy a’r prif gorff cyllido yng Nghymru, Cyngor y Celfyddydau.’

‘clear contracts for their cultural work and remit, between them and their principal Welsh funding body, the Arts Council.’

Os yw’r sefydliadau hyn i barhau i dderbyn arian sylweddol, mae angen i’w cyfrifoldebau i fywyd y genedl gael eu cytuno gyda’r cyrff sydd yn eu cyllido. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn yr argymhellion hynny.

If these institutions are to continue to receive substantial funding, their responsibilities to the life of the nation need to be agreed upon with the bodies that fund them. I hope that the Minister accepts these recommendations.

Mae trafodaeth yn yr adroddiad ar y gwahanol ffurfiau celfyddydol. Cyfeiriaf at deimlad y Pwyllgor fod llenyddiaeth—ac yr ydym yn rhoi llenyddiaeth yn gyntaf o gofio am ei phwysigrwydd i’n traddodiad cenedlaethol—wedi bod yn dipyn o Sinderela o ran cyllido yn y gorffennol—

There is discussion in the report on the different art forms. I refer to the Committee’s feeling that literature—and we place literature first bearing in mind its importance to our national tradition—has been something of a Cinderella in terms of funding in the past—

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 33

Trefn. Er gwaethaf fy hoffter o lenyddiaeth, yr ydych wedi cael chwarter awr i siarad. Teimlaf eich bod wedi cyfrannu at lenyddiaeth yn barod. Gofynnaf ichi grynhoi.

Order. Despite my fondness for literature, you have had a quarter of an hour to speak. I feel that you have already contributed to literature. I ask you to sum up.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 33

Yr oedd arnaf ofn fod fy nghyfraniad yn rhy fyr.

I feared that my contribution was too short.

Mae angen gwella’n ddirfawr y gefnogaeth i awduron.

Support for authors needs to be drastically improved.

Yr wyf yn sylweddoli na ddywedais unrhyw beth am Gyngor Celfyddydau Cymru. Nid adroddiad am y cyngor yw ‘Diwylliant Cytûn’, er ein bod wedi clywed hyd at syrffed am helyntion y corff hwnnw ac wedi cofnodi’n sylwadau ar hynny. Yr ydym yn cefnogi argymhellion adroddiad Wallace, sydd bellach yn fater i’r Gweinidog.

I realise that I have not said anything about the Arts Council of Wales. ‘A Culture in Common’ is not a report about the council, although we have repeatedly heard of that body’s difficulties and have recorded our comments on those. We support the recommendations of the Wallace report, which is now a matter for the Minister.

Efallai mai prif argymhelliad yr adroddiad yw i sefydlu consortiwm diwylliannol yn dwyn yr enw Cymru’n Creu. Galwodd nifer o dystion am sefydlu fforwm i ddwyn gwahanol sefydliadau diwylliannol ynghyd er mwyn hyrwyddo cydweithio. Mae ein hargymhelliad wedi datblygu’r syniad hwnnw mewn ffordd rymus a chreadigol a gobeithio y cawn ni ymrwymiad gan y Gweinidog i fwrw ymlaen i weithredu ar hyn.

Perhaps the report’s main recommendation is to establish a cultural consortium called Cymru’n Creu. Many witnesses called for the establishment of a forum to bring together various cultural organisations in order to promote collaboration. Our recommendation has developed that idea in a powerful and creative way and I hope that the Minister will commit to act on this.

Rhan yn unig o ddiwylliant yw’r celfyddydau, wrth gwrs, ac nid dwyn gwaith oddi ar Gyngor Celfyddydau Cymru yw diben sefydlu Cymru’n Creu. Yn y consortiwm hwnnw byddai’r cyngor yn cymryd ei le ochr yn ochr â, ac ymysg, nifer o gyrff eraill, megis Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a’r holl sefydliadau sydd yn ymwneud â bywyd diwylliannol y genedl yn ei ystyr ehangaf.

The arts are, of course, only a part of culture, and the purpose of establishing Cymru’n Creu is not to take work away from the Arts Council of Wales. In that consortium the council would take its place alongside, and among, a number of another organisations, such as the Wales Tourist Board, the Welsh Development Agency and all the organisations involved with the cultural life of the nation in its broadest sense.

Ceir disgrifiad o rai o swyddogaethau Cymru’n Creu yn y ddogfen. Yn fy marn i, dylai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg gadeirio’r consortiwm. Drwy ddwyn ynghyd y gwahanol elfennau a sefydliadau yn ein bywyd diwylliannol, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad, gallai Cymru’n Creu gyfiawnhau ei deitl a rhoi gyriant y tu ôl i’r math o adfywiad diwylliannol cenedlaethol y mae’r Pwyllgor Diwylliant yn credu sydd yn bwysig ac yn bosibl ar yr adeg hon yn hanes Cymru.

There is a description of some of Cymru’n Creu’s functions in the document. In my opinion, the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language should chair the consortium. By drawing together the various strands and organisations in our cultural life, and by sharing information and experience, Cymru’n Creu could live up to its title and put drive behind the kind of national cultural regeneration that the Culture Committee believes is important and possible at this point in the history of Wales.

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language spoken in Welsh and English p. 34

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 34

I will concentrate on the report, not on the wording of the motion. It is important to remember that this is the former Post-16 Education and Training Committee’s report and that we are here today to discuss it in detail. This is an exciting time to debate culture in Wales and to celebrate it in its widest sense. We must look critically, during this debate, at what needs to be done to raise achievement and participation at all levels in the field of arts and culture in Wales. However, in doing so, I hope that we can make it clear that we admire the work that is already underway, and pay tribute to those who have contributed to the successes already achieved.

yn Saesneg Canolbwyntiaf ar yr adroddiad, nid ar eiriad y cynnig. Mae’n bwysig cofio mai adroddiad y cyn Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yw hwn a’n bod yma heddiw i’w drafod yn fanwl. Mae hon yn adeg gyffrous i gael dadl ynghylch diwylliant yng Nghymru a’i ddathlu yn ei ystyr ehangaf. Rhaid inni edrych yn feirniadol, yn ystod y ddadl hon, ar yr hyn sydd angen ei wneud i gynyddu cyflawniad a chyfranogiad ar bob lefel ym maes celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, gobeithiaf y gallwn ei gwneud yn amlwg ein bod yn edmygu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill, a thalu teyrnged i’r rheini sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant a gyflawnwyd eisoes.

The Football Association has just passed a resounding vote of confidence in our premier sporting facility, the Millennium Stadium. There is a healthy interest in the Welsh language and the mentrau iaith are undertaking excellent work. The talents of our actors, directors and writers are transforming the Welsh film industry. The Welsh National Opera won the Lawrence Olivier award for best production last year. Welsh rock bands are storming the music charts and filling the stadia of Europe. Welsh theatre receives critical acclaim, and dance from Wales has gained an international profile. There is a wealth of activity in voluntary and community arts, from imaginative initiatives by Carmarthen Women’s Aid arts workshops to India Dance Wales. There was an almost 8 per cent increase in the sale of Welsh interest books last year alone.

yn Saesneg Mae’r Gymdeithas Bêl-droed newydd basio pleidlais unfrydol o hyder yn ein prif gyfleuster chwareon, sef Stadiwm y Mileniwm. Mae diddordeb iach yn yr iaith Gymraeg a gwna’r mentrau iaith waith rhagorol. Mae doniau ein hactorion, cyfarwyddwr ac awduron yn trawsffurfio diwydiant ffilm Cymru. Enillodd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wobr Lawrence Olivier am y cynhyrchiad gorau y llynedd. Mae bandiau roc Cymreig yn hawlio’r sylw yn y siartiau ac yn llenwi stadia Ewrop. Caiff y theatr yng Nghymru glod mawr, ac mae cwmnïau dawns o Gymru wedi cael proffil rhyngwladol. Ceir cyfoeth o weithgaredd ym maes y celfyddydau gwirfoddol a chymunedol, o fentrau llawn dychymyg gan weithdai celf Cymorth i Fenywod Caerfyrddin i India Dance Wales. Cafwyd cynnydd o bron 8 y cant yng ngwerthiant llyfrau o ddiddordeb Cymreig y llynedd yn unig.

We have tradition, innovation and diversity in our culture, which is already contributing substantially to the economy, our quality of life and our international profile. We have much to do, but also much on which to build. I pay tribute to the achievements of the Chair, the members of the Post-16 Education and Training Committee and their expert adviser in compiling ‘A Culture in Common’. They have provided us with a definitive work on arts and culture in Wales, and I will use it as a springboard for my work and policies in this area. The report is an excellent advertisement for the Assembly’s capacity to carry out in-depth examinations.

yn Saesneg Mae gennym draddodiad, arloesedd ac amrywiaeth yn ein diwylliant sydd eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi, ansawdd ein bywydau a’n proffil rhyngwladol. Mae gennym lawer i’w wneud, ond mae gennym lawer i adeiladu arno hefyd. Talaf deyrnged i gyflawniadau’r Cadeirydd, aelodau’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 a’u hymgynghorydd arbenigol wrth lunio ‘Diwylliant Cytûn’. Maent wedi darparu gwaith manwl iawn inni ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, ac fe’i defnyddiaf fel sbringfwrdd ar gyfer fy ngwaith a’m polisïau yn y maes hwn. Mae’r adroddiad yn hysbyseb rhagorol i allu’r Cynulliad i gynnal archwiliadau manwl.

There is a great deal in the report, which offers a vision for the next 10 years. A 10-year programme, maybe, but it is one that we can start immediately, and one that we can kick-start. We have provided the financial means for that kick-start in our budget. The partnership Government has invested an extra £7.85 million in the arts settlement for the next three years. That is evidence of our determination to give proper support to the arts and is a sign of our optimism about their potential. It is also a sign of our confidence that the arts community will repay that investment by its contribution to the social, cultural and economic wellbeing of Wales.

yn Saesneg Mae llawer yn yr adroddiad, sydd yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Rhaglen 10 mlynedd, efallai, ond mae’n un y gallwn ddechrau arni ar unwaith, ac yn un y gallwn roi hwb cychwynnol iddi. Yr ydym wedi darparu’r modd ariannol ar gyfer yr hwb cychwynnol hwnnw yn ein cyllideb. Mae’r Llywodraeth bartneriaeth wedi buddsoddi £7.85 miliwn yn ychwanegol yn y setliad celfyddydau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae hynny’n dystiolaeth o’n penderfyniad i roi cymorth priodol i’r celfyddydau ac mae’n arwydd o’n hoptimistiaeth ynghylch eu potensial. Mae hefyd yn arwydd o’n hyder y bydd cymuned y celfyddydau yn ad-dalu’r buddsoddiad hwnnw drwy ei gyfraniad i les cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru.

I will not stand here today and say that I endorse all of the report’s 104 recommendations. I would first like to listen to and reflect on the views expressed during this debate. I will provide a formal Government response to the report and to this debate in the near future, outlining the steps that I will take and my priorities for the report’s recommendations.

yn Saesneg Ni safaf yma heddiw a dweud fy mod yn cymeradwyo bob un o 104 o argymhellion yr adroddiad. Hoffwn yn gyntaf wrando ar y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y ddadl hon a myfyrio arnynt. Darparaf ymateb ffurfiol y Llywodraeth i’r adroddiad ac i’r ddadl hon yn y dyfodol agos, gan amlinellu’r camau y byddaf yn eu cymryd a’m blaenoriaethau ar gyfer argymhellion yr adroddiad.

I say emphatically, and Cynog will be pleased to hear this, that I give my whole-hearted support to these key priorities. Young people must be encouraged to enjoy arts and culture if we are to pass on our values, traditions and artistic skills. Local communities in all areas of Wales must have access to the arts, not least to help social regeneration. We must respect, nurture and enjoy cultural diversity in the arts. We must stimulate the creative industries that have so much potential for economic growth—growing at twice the rate of the rest of the economy. They also have the potential to raise Wales’s international profile, which is vital in terms of Objective 1 and the economic and social challenges that face Wales in the coming years.

yn Saesneg Dywedaf yn bendant, a bydd Cynog yn falch o glywed hyn, y cefnogaf y blaenoriaethau allweddol hyn yn llwyr. Rhaid annog pobl ifanc i fwynhau celfyddydau a diwylliant os am drosglwyddo ein gwerthoedd, ein traddodiadau a’n sgiliau artistig. Rhaid i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i’r celfyddydau, yn bennaf er mwyn helpu adfywiad cymdeithasol. Rhaid inni barchu, meithrin a mwynhau amrywiaeth diwylliannol yn y celfyddydau. Rhaid inni ysgogi’r diwydiannau creadigol sydd â chymaint o botensial ar gyfer twf economaidd—yn tyfu ddwywaith yn gyflymach na gweddill yr economi. Mae ganddynt hefyd y potensial i godi proffil rhyngwladol Cymru, sydd yn holl bwysig yn nhermau Amcan 1 a’r heriau economaidd a chymdeithasol sydd yn wynebu Cymru yn y blynyddoedd nesaf.

Ein blaenoriaethau yw pobl ifanc, cymunedau, mentrau diwylliedig a diwylliant amrywiol.

in Welsh Our priorities are young people, communities, cultural initiatives and a diversity of culture.

We must give people who take part in arts and cultural activities the opportunities to achieve excellence in their work and performances. We have excellent national, professional organisations—some of which are regarded as flagships for Wales. We should not support community arts at the expense of these organisations, but in addition to them. I fully endorse the report’s conclusions on this, which make clear the importance of our flagship national organisations to our international profile. These organisations, however, as Cynog has said, must also be rooted in communities. I applaud, to give only one example, the Welsh National Opera, which today announced a major new opera project involving four Merthyr schools, including the Goitre junior school on the Gurnos estate. It will involve 200 young people working with leading opera singers. That is the kind of project that we need to bring the two sides together.

yn Saesneg Rhaid inni roi cyfleoedd i bobl sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol i gyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith a’u perfformiadau. Mae gennym sefydliadau cenedlaethol, proffesiynol rhagorol—rhai ohonynt yn cael eu hystyried fel sefydliadau blaenllaw ar gyfer Cymru. Dylem gefnogi’r celfyddydau cymunedol nid ar draul y sefydliadau hyn, ond yn ychwanegol atynt. Cymeradwyaf gasgliadau’r adroddiad ar hyn yn llawn, ac amlygant bwysigrwydd ein sefydliadau cenedlaethol blaenllaw i’n proffil rhyngwladol. Fodd bynnag, rhaid i’r sefydliadau hyn, fel y dywedodd Cynog, hefyd gael eu gwreiddio yn ein cymunedau. Canmolaf, i roi dim ond un enghraifft, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddodd heddiw brosiect opera newydd mawr sydd yn cynnwys pedair o ysgolion Merthyr, gan gynnwys ysgol iau Goetre ar ystad y Gurnos. Bydd yn cynnwys 200 o bobl ifanc yn gweithio gyda chantorion opera adnabyddus. Dyna’r math o brosiect sydd ei angen arnom er mwyn dod â’r ddwy ochr ynghyd.

I will work energetically with the Arts Council, local government, the British Council, and cultural organisations to set broad policy and to agree priorities for funding, to raise the profile of Welsh arts and culture at home and abroad, and to ensure that all organisations in this sector work co-operatively to reinforce each other’s efforts. To that end, I welcome the proposal for Cymru’n Creu. I intend to give priority to it and will bring the group together for its first meeting, hopefully, during February. I want Cymru’n Creu to be a forum for discussion of down to earth subjects. I want its members to identify issues on which they can work together to achieve concrete objectives for the good of practitioners and audiences and to make a real contribution to the emerging national economic development strategy.

yn Saesneg Byddaf yn gweithio’n ddyfal gyda Chyngor y Celfyddydau, llywodraeth leol, y Cyngor Prydeinig, a sefydliadau diwylliannol i bennu polisi cyffredinol ac i gytuno ar flaenoriaethau ariannu, i godi proffil celfyddydau a diwylliant Cymru gartref a thramor, ac i sicrhau bod yr holl sefydliadau yn y sector hwn yn cydweithio i atgyfnerthu ymdrechion ei gilydd. I’r perwyl hwnnw, croesawaf y cynnig ar gyfer Cymru’n Creu. Bwriadaf roi blaenoriaeth iddo a dôf â’r grŵp ynghyd ar gyfer ei gyfarfod cyntaf, gobeithio, yn ystod mis Chwefror. Yr wyf am i Gymru’n Creu fod yn fforwm i drafod pynciau sylfaenol. Yr wyf am i’w aelodau nodi materion y gallant gydweithio arnynt i gyflawni amcanion cadarn er budd ymarferwyr a chynulleidfaoedd ac i wneud cyfraniad gwirioneddol i’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol arfaethedig.

I have already met Jane Davidson to discuss recommendations that need to be considered by the education sector and our educational institutions.

yn Saesneg Yr wyf eisoes wedi cwrdd â Jane Davidson i drafod argymhellion y mae angen i’r sector addysg a’n sefydliadau addysgol eu hystyried.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 37

A dderbyniwch yr argymhelliad mai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg ddylai fod yn cadeirio Cymru’n Creu?

Do you accept the recommendation that the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language should chair Cymru’n Creu?

Jenny Randerson spoken in English p. 37

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 37

It is my intention to chair the organisation, because that is how we can provide firm leadership. It is also a symbolic gesture, conveying the importance that we intend to give to it.

Fy mwriad yw cadeirio’r sefydliad, gan mai dyna sut y gallwn ddarparu arweinyddiaeth gadarn. Mae hefyd yn rhywbeth symbolaidd, sydd yn cyfleu’r pwysigrwydd y bwriadwn ei roi iddo.

I have also held meetings with Mike German and representatives of the Welsh Development Agency and the Wales Tourist Board to discuss those recommendations that have an impact on economic development. Local authorities have an important role to play, which is sometimes overlooked. I will work closely with the Welsh Local Government Association on this, within Cymru’n Creu, as well as separately.

Yr wyf hefyd wedi cynnal cyfarfodydd gyda Mike German a chynrychiolwyr Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru i drafod yr argmhellion hynny sydd yn effeithio ar ddatblygiad economaidd. Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig i’w chwarae, sydd weithiau’n cael ei hanwybyddu. Gweithiaf yn agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn, o fewn Cymru’n Creu, yn ogystal ag ar wahân.

There are exciting possibilities for film, a sector to which we are committed in the partnership agreement, for which I will push hard. I am working to establish a film fund for Wales to put us on a par with the other dynamic regions of the EU. The report has lively ideas for extending Wales’s international reach, which I will pursue with the British Council and Wales Arts International, in consultation with the Assembly’s international relations unit. There will be much to be done by the Arts Council, and I will work closely with it to ensure that it uses the ideas in the report as the basis for an ongoing programme of initiatives.

Mae posibiliadau cyffrous ar gyfer ffilmiau, sector yr ydym wedi ymrwymo iddo yn y cytundeb partneriaeth, a byddaf yn pwyso’n galed am hyn. Yr wyf yn gweithio i sefydlu cronfa ffilmiau ar gyfer Cymru i’n gosod ar yr un lefel â rhanbarthau dynamig eraill yr UE. Mae gan yr adroddiad syniadau bywiog i ymestyn cyrhaeddiad rhyngwladol Cymru, a byddaf yn mynd ar drywydd hyn gyda’r Cyngor Prydeinig a Wales Arts International, drwy ymgynghori ag uned cysylltiadau rhyngwladol y Cynulliad. Bydd gan Gyngor y Celfyddydau lawer i’w wneud, a byddaf yn gweithio’n agos ag ef i sicrhau ei fod yn defnyddio’r syniadau yn yr adroddiad fel sail i raglen barhaus o fentrau.

The report offers a wealth of ideas on how we can safeguard and develop traditional Welsh culture, stimulate multi-cultural activity, foster the Welsh language and introduce the arts to young people. I look forward to working with our partners to put those ideas into practice. I will work closely with the new Culture Committee in doing so. I look forward to hearing the views of fellow Members—members of the new and old Committees, and those from outside the Committee who have an interest—in the forthcoming debate.

Cynigia’r adroddiad gyfoeth o syniadau ar sut y gallwn ddiogelu a datblygu diwylliant traddodiadol Cymreig, ysgogi gweithgaredd aml-ddiwylliannol, meithrin yr iaith Gymraeg a chyflwyno’r celfyddydau i bobl ifanc. Edrychaf ymlaen i weithio gyda’n partneriaid i roi’r syniadau hynny ar waith. Gweithiaf yn agos gyda’r Pwyllgor Diwylliant newydd wrth wneud hynny. Edrychaf ymlaen at glywed barn cyd-Aelodau—aelodau o’r hen Bwyllgor a’r Pwyllgor newydd, a’r rheini o’r tu allan i’r Pwyllgor sydd â diddordeb—yn y ddadl arfaethedig.

Jonathan Morgan spoken in English p. 38

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 38

The Welsh Conservative Party is content to note the report. However, as I am sure is the case with other Members, we would rather have approved or welcomed it. We certainly would have liked to thank the Committee and recognise the considerable amount of work that was undertaken. We regret that this motion does not do that, but we will vote in favour of noting the report.

Mae Plaid Geidwadol Cymru yn fodlon nodi’r adroddiad. Fodd bynnag, fel gydag Aelodau eraill mae’n siŵr, byddai’n well gennym fod wedi ei gymeradwyo neu ei groesawu. Byddem yn sicr wedi hoffi diolch i’r Pwyllgor a chydnabod y swm sylweddol o waith yr ymgymerwyd ag ef. Gresynnwn nad yw’r cynnig hwn yn gwneud hynny, ond pleidleisiwn o blaid nodi’r adroddiad.

We welcome the opportunity to debate this significant piece of work undertaken by a Subject Committee. A group of us worked on this report since the sub-group was established in October 1999. Twelve months later, the report was published. I pay tribute to and thank Cynog Dafis, who chaired what were sometimes difficult sessions, for the considerable amount of work that he undertook. I also pay tribute to Tom Middlehurst who, at the time, was the Assembly Secretary with responsibility for culture, and to everyone who provided a considerable body of evidence that led to the creation of this report.

Croesawn y cyfle i ddadlau’r darn sylweddol hwn o waith a wnaethpwyd gan Bwyllgor Pwnc. Gweithiodd grŵp ohonom ar yr adroddiad hwn ers sefydlu’r is-grŵp ym mis Hydref 1999. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, cyhoeddwyd yr adroddiad. Talaf deyrnged a diolchaf i Cynog Dafis, a gadeiriodd yr hyn a oedd ar adegau yn sesiynau anodd, am y gwaith helaeth a wnaeth. Talaf deyrnged hefyd i Tom Middlehurst a oedd, ar y pryd, yn Ysgrifennydd y Cynulliad gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant, ac i bawb a ddarparodd gorff sylweddol o dystiolaeth a arweiniodd at greu’r adroddiad hwn.

The report, as Cynog outlined, took a broad view of culture in Wales. It did not limit culture to the arts, but took a wide and inclusive view of our nation’s cultural life. It examined clearly the artistic diversity that we have in Wales, of which we are all extremely proud. We came up with new policy ideas about a new cultural consortium and innovative ideas regarding community arts. We placed much emphasis on the importance of encouraging the grass roots.

Cymerodd yr adroddiad, fel yr amlinellodd Cynog, olwg gyffredinol ar ddiwylliant yng Nghymru. Ni chyfyngodd ddiwylliant i’r celfyddydau, ond yn hytrach cymerodd olwg eang a chynhwysol ar fywyd diwylliannol ein cenedl. Archwiliodd yn glir yr amrywiaeth artistig sydd gennym yng Nghymu, yr ymfalchïwn oll yn fawr ynddo. Cyflwynasom syniadau polisi newydd ynghylch consortiwm diwylliannol newydd a syniadau arloesol yn ymwneud â chelfyddydau cymunedol. Rhoddasom lawer o bwyslais ar bwysigrwydd annog pobl ar lawr gwlad.

The Committee, as Members will know, rejected a hierarchical approach to culture and a rigid distinction between high and low culture. Instead, we took an overall view of what contributes to the cultural life in Wales. We took that approach, recognising the bottom-up nature of culture in Wales and examining what we could do to support the grass roots. In short, we eventually set out a distinctive vision of cultural policy in Wales, certainly for the next decade. That was as a result of what was, at times, a difficult review, but we worked extremely hard to complete it.

Fel y gŵyr yr Aelodau, gwrthododd y Pwyllgor ymagwedd hierarchaidd tuag at ddiwylliant a gwahaniaeth pendant rhwng uwch ddiwylliant ac is ddiwylliant. Yn hytrach, cymerasom olwg gyffredinol o’r hyn sydd yn cyfrannu at fywyd diwylliannol yng Nghymru. Cymerasom yr ymagwedd honno, gan gydnabod natur o’r bôn i’r brig diwylliant yng Nghymru ac archwilio yr hyn y gallem ei wneud i gefnogi llawr gwlad. Yn fyr, pennwyd gweledigaeth bendant gennym o bolisi diwylliannol yng Nghymru, yn sicr dros y degawd nesaf. Yr oedd hynny o ganlyniad i adolygiad, a oedd yn anodd ar adegau, ond gweithiasom yn galed iawn i’w gwblhau.

We welcome the establishment of the new Culture Committee and the appointment of a Minister for Culture, Sport and the Welsh Language. The Committee recommended that and we were pleased that the First Minister was so swift to establish those new parts of our structure. However, while we welcome her appointment, the Minister for Culture’s approach to date has not completely satisfied many of the report’s recommendations and the concerns raised in the Chamber. The Minister rightly welcomed the report at a press conference to launch it but, a fortnight later, seemed to dither considerably on one of its central recommendations, namely ditching the Arts Council of Wales’s Royal Charter.

Croesawn sefydlu’r Pwyllgor Diwylliant newydd a phenodi’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg. Argymhellodd y Pwyllgor hynny ac yr oeddem yn falch fod Prif Weinidiog Cymru wedi sefydlu’r rhannau newydd hynny o’n strwythur mor gyflym. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu ei phenodiad, nid yw’r Gweinidog dros Ddiwylliant hyd yma wedi bodloni llawer o argymhellion yr adroddiad yn llwyr a’r pryderon a godwyd yn y Siambr. Croesawodd y Gweinidog yr adroddiad, a hynny’n briodol, mewn cynhadledd i’r wasg i’w lansio ond, bythefnos yn ddiweddarach, ymddangosodd fel ei bod yn tin droi’n arw ynghylch un o’i argymhellion canolog, sef cael gwared â Siarter Frenhinol Cyngor Celfyddydau Cymru.

My other concern in terms of the Minister’s actions relates to the national gallery—

Mae fy mhryder arall ynghylch y camau a gymerodd y Gweinidog yn ymwneud â’r oriel genedlaethol—

Jenny Randerson spoken in English p. 40

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 40

Will you accept that I did not dither, but that I considered and rejected the idea of an outright removal of the Royal Charter? It could take many years to achieve and, therefore, it was much better to go for the short-term solution of changing the Charter, which would achieve much of what the Committee wanted. That is not dithering.

A dderbyniwch na wneuthum din droi, ond fy mod wedi ystyried a gwrthod y syniad o gael gwared ar y Siarter Frenhinol yn llwyr? Gallai gymryd blynyddoedd lawer i’w gyflawni ac, felly, yr oedd yn llawer gwell dewis yr ateb tymor byr o newid y Siarter, a fyddai wedi cyflawni llawer o’r hyn yr oedd y Pwyllgor ei eisiau. Nid tin droi yw hynny.

Jonathan Morgan spoken in English p. 40

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 40

I do not believe that removing the Royal Charter would be a long drawn-out process. It requires assent by the Privy Council. You were being presumptive at the time in assuming what the Privy Council would state. I am sure that many Members would agree that, were the Assembly to take a firm line on this, the Privy Council would take note. I do not presume to understand the workings of the Privy Council, but I am sure that people in Westminster understand the new dynamic of devolution. The Committee considered carefully that the Royal Charter was inappropriate for the Arts Council. In many of its decisions and dealings, it was easy for it to hide behind the Royal Charter. We need to know that we have a cultural agency of sorts that responds to the direction of the Assembly and takes note of what the Assembly says. It is clear that the Arts Council does not have to do that, if it so wishes.

Ni chredaf y byddai cael gwared ar y Siarter Frenhinol yn broses hirwyntog. Mae’n gofyn am gydsyniad gan y Cyfrin Gyngor. Yr oeddech yn rhagdybiadol ar y pryd yn tybio’r hyn y byddai’r Cyfrin Gyngor yn ei ddatgan. Yr wyf yn siŵr y byddai llawer o’r Aelodau’n cytuno, pe bai’r Cynulliad yn bendant ynghylch hyn, y byddai’r Cyfrin Gyngor yn cymryd sylw. Ni honnaf fy mod yn deall sut mae’r Cyfrin Gyngor yn gweithio, ond yr wyf yn siŵr bod pobl yn San Steffan yn deall dynameg newydd datganoli. Ystyriodd y Pwyllgor yn ofalus fod y Siarter Frenhinol yn amhriodol ar gyfer Cyngor y Celfyddydau. Mewn llawer o’i benderfyniadau a’i ymdriniaethau, yr oedd yn hawdd iddo guddio y tu ôl i’r Siarter Frenhinol. Mae angen inni wybod bod gennym y math o asiantaeth ddiwylliannol sydd yn ymateb i gyfarwyddyd y Cynulliad ac yn cymryd sylw o’r hyn a ddywed y Cynulliad. Mae’n amlwg nad oes rhaid i Gyngor y Celfyddydau wneud hynny, os dymuna.

David Melding spoken in English p. 40

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 40

You may recall that the Minister actually said that she did not want to upset the Privy Council, perhaps we do not all share her sensitivity in this matter.

Efallai y cofiwch i’r Gweinidog ddweud nad oedd am dramgwyddo’r Cyfrin Gyngor, efallai nad yw pawb ohonom yn rhannu ei sensitifrwydd yn y mater hwn.

Jonathan Morgan spoken in English p. 40

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 40

I tend to agree with my colleague. We welcome having a new Minister, but it is imperative for that individual to get to grips with the Committee’s recommendations and to understand the process that led to them and to the decision that the Arts Council having a Royal Charter was not acceptable. In considering the deficiencies outlined in the report and looking at our central institutions in Wales, there were powerful arguments for a national gallery. We recognise that there is a deficiency in that Wales does not have a national gallery. However, we have heard nothing on this from the Minister, although the Liberal Democrat’s manifesto—in which I am sure that we are all interested—mentions establishing a national gallery of modern art. Congratulations for that, but where are the policy ideas and proposals that will lead to these wonderful, radical changes that will put Wales on the map?

Tueddaf i gytuno â’m cyd-Aelod. Croesawn Weinidog newydd, ond mae’n holl bwysig i’r unigolyn hwnnw fynd i’r afael ag argymhellion y Pwyllgor a deall y broses a arweiniodd atynt ac at y penderfyniad nad oedd y ffaith bod gan Gyngor y Celfyddydau Siarter Frenhinol yn dderbyniol. Wrth ystyried y diffygion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac edrych ar ein sefydliadau canolog yng Nghymru, yr oedd dadleuon cryf dros oriel genedlaethol. Cydnabyddwn fod diffyg yn yr ystyr nad oes gan Gymru oriel genedlaethol. Fodd bynnag, ni chlywsom unrhyw beth am hyn gan y Gweinidog, er i faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol—y mae gennym oll ddiddordeb ynddo mae’n siŵr—grybwyll sefydlu oriel genedlaethol o gelfyddyd fodern. Llongyfarchiadau am hynny, ond ble mae’r syniadau polisi a’r argymhellion a fydd yn arwain at y newidiadau radical, gwych hyn a fydd yn rhoi Cymru ar y map?

We also need action in ensuring that Wales achieves the title of European capital of culture in 2008. If Members had watched the Newcastle United football match at the weekend, they would have seen the terrific advertisements for Newcastle’s European city of culture bid. By contrast, we have not yet made a decision as to which city in Wales should bid for this wonderful new initiative. If Wales were to succeed in this initiative, it would be of tremendous benefit, putting us firmly on the map in terms of our cultural advantages. There is a great deal that we can do and I am concerned that the Minister has not taken this forward, that we have not yet had a result and that we do not know whether Cardiff or Swansea will make a bid for this tremendous status. We must resolve that as quickly as possible because it would enhance Wales’s position as a culturally advantaged nation.

Mae angen gweithredu hefyd i sicrhau fod Cymru’n ennill teitl prifddinas diwylliant Ewrop yn 2008. Pe bai’r aelodau wedi gwylio gêm bêl-droed Newcastle United dros y penwythnos, byddent wedi gweld yr hysbysebion gwych ar gyfer cais Newcastle i fod yn ddinas diwylliant Ewrop. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, nid ydym eto wedi penderfynu pa ddinas yng Nghymru ddylai wneud cais am y fenter newydd wych hon. Pe bai Cymru’n llwyddo yn y fenter hon, byddai o fudd aruthrol, gan ein rhoi yn gadarn ar y map o ran ein manteision diwylliannol. Mae llawer iawn y gallwn ei wneud ac yr wyf yn pryderu nad yw’r Gweinidog wedi mynd â’r mater hwn yn ei flaen, nad ydym eto wedi cael canlyniad ac na wyddom ai Caerdydd neu Abertawe fydd yn gwneud cais ar gyfer y statws arthurol hwn. Rhaid inni ddatrys hynny cyn gynted â phosibl gan y byddai’n gwella sefyllfa Cymru fel cenedl flaengar ddiwylliannol.

Much has been said about the Arts Council, and I will focus briefly on it. I do not intend to victimise this institution, particularly as it is going through a difficult transition, although I have no sympathy for it in that. The Committee stated that:

Dywedwyd llawer am Gyngor y Celfyddydau, a byddaf yn canolbwyntio’n fyr arno. Ni fwriadaf erlid y sefydliad hwn, yn arbennig gan ei fod yn mynd drwy drosglwyddiad anodd, er nad oes gennyf unrhyw gydymdeimlad â’r Cyngor yn hynny o beth. Nododd y Pwyllgor:

‘we do not feel that the Royal Charter model is appropriate in a new, political climate.’

That policy decision was not made quickly nor without detailed consideration. It was made after a wealth of evidence was provided to the Committee, suggesting that the current structures were inappropriate. We all agree that we need an arms’ length agency. However, we must not have an agency with the ability to hide behind a charter and remove the democratic accountability that we are here to support. Having said that, I am pleased that the Assembly agrees with establishing a cultural consortium—a decision that was made, again, after detailed consideration—that will provide greater input for the artistic and cultural agencies and organisations in Wales. It will have the political leadership of the Cabinet, but will be separate from the existing structures, including the Arts Council. A cultural consortium could provide a great deal of input into designing our cultural policies in future.

Ni wnaethpwyd y penderfyniad polisi hwnnw yn gyflym na heb ystyriaeth ddwys. Fe’i gwnaethpwyd ar ôl i gyfoeth o dystiolaeth gael ei ddarparu gan y Pwyllgor, yn awgrymu bod y strwythurau cyfredol yn amhriodol. Cytunwn oll bod angen asiantaeth hyd braich. Fodd bynnag, ni ddylem gael asiantaeth gyda’r gallu i guddio y tu ôl i siarter a chael gwared ar yr atebolrwydd democrataidd yr ydym yma i’w gefnogi. Wedi dweud hynny, yr wyf yn falch bod y Cynulliad yn cytuno gyda sefydlu consortiwm diwylliannol—penderfyniad a wnaethpwyd, eto, ar ôl dwys ystyried—a fydd yn darparu mwy o fewnbwn ar gyfer yr asiantaethau a’r sefydliadau artistig a diwylliannol yng Nghymru. Rhoddir arweinyddiaeth wleidyddol iddo gan y Cabinet, ond bydd ar wahân i’r strwythurau presennol, gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau. Gallai consortiwm diwylliannol ddarparu llawer iawn o fewnbwn i gynllunio ein polisïau diwylliannol yn y dyfodol.

Focusing, as the report did, on the national companies and institutions which, in many respects, are the crown jewels of our cultural life in Wales, we need to do more to support these organisations that act as ambassadors in promoting Wales around the world. We all know about the Welsh National Opera, our orchestras and choirs and other artistic organisations that travel the world promoting Wales as Welsh organisations. However, many choirs, bands and orchestras travel around the world, but we never hear about them. A classic example of that was seen last year, when the Black Mountain Male Voice Chorus conducted a 10-week tour of the USA. Many people did not hear about this tour. These people were acting as ambassadors for our nation, and yet we did not know that it was happening and we were in no position to capitalise on what was an extremely successful tour. We need to be aware of how we can address that deficiency. We need to make better use of the British Council in supporting organisations that travel around the world promoting Wales.

Gan ganolbwyntio, fel y gwnaeth yr adroddiad, ar y cwmnïau a’r sefydliadau cenedlaethol, sydd mewn sawl cyswllt, yn berlau ein bywyd diwylliannol yng Nghymru, mae angen inni wneud mwy i gefnogi’r sefydliadau hyn sydd yn gweithredu fel llysgenhadon yn hyrwyddo Cymru ledled y byd. Gwyddom oll am Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, ein cerddorfeydd a’n corau a sefydliadau artistig eraill sydd yn teithio’r byd yn hyrwyddo Cymru a sefydliadau Cymreig. Fodd bynnag, mae llawer o gorau, bandiau a cherddorfeydd yn teithio o amgylch y byd, ond nid ydym byth yn clywed amdanynt. Gwelwyd enghraifft wych o hyn y llynedd, pan aeth Côr Meibion y Mynydd Du ar daith 10 wythnos o amgylch yr Unol Daleithiau. Ni chlywodd llawer o bobl am y daith hon. Yr oedd y bobl hyn yn gweithredu fel llysgenhadon dros ein cenedl, ac eto ni wyddem ei fod yn digwydd ac nid oeddem mewn sefyllfa i elwa ar daith hynod lwyddiannus. Mae angen inni fod yn ymwybodol o sut y gallwn fynd i’r afael â’r diffyg hwnnw. Mae angen inni wneud gwell defnydd o’r Cyngor Prydeinig i gefnogi’r sefydliadau sydd yn teithio o amgylch y byd yn hyrwyddo Cymru.

There are many challenges for the years ahead. There are 104 recommendations in this report, and I would have liked the opportunity to welcome or endorse them. We are not in a position to do that. The Minister indicated that she would bring forward the work programme and the Cabinet’s indication as to which recommendations it supports in the near future. I ask that that be done by the Easter recess at the latest; it should not take much longer.

Mae sawl her ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae 104 o argymhellion yn yr adroddiad hwn, a byddwn wedi hoffi cael y cyfle i’w croesawu neu i’w cymeradwyo. Nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny. Nododd y Gweinidog y byddai’n cyflwyno’r rhaglen waith ac awgrym y Cabinet o ran pa argymhellion y mae’n eu cefnogi yn y dyfodol agos. Gofynnaf i hynny gael ei wneud erbyn toraid y Pasg fan bellaf; ni ddylai gymryd fawr mwy na hynny.

The Assembly can enhance its status immensely if it has the resolution to implement this report. It was a difficult report to produce, and is the result of a considerable amount of work. We must not take an à la carte approach to it; it was not written for us to pick and chose those recommendations that might fit into the current climate. It would not be good enough for us to merely note the report and cherry-pick the recommendations. We would do a disservice to the former Assembly Secretary, Tom Middlehurst, and to the dissolved Committee, and a grave disservice to the many hundreds of people to whom we spoke in the course of the review in order to write the report. Jenny Randerson’s record and reputation will stand or fall according to the actions implemented from this report. There is a great deal of work to do. I urge you, Minister, not to duck the challenge.

Gallai’r Cynulliad wella ei statws yn sylweddol pe bai ganddo’r penderfyniad i roi’r adroddiad hwn ar waith. Yr oedd yn adroddiad anodd i’w gynhyrchu, ac mae’n ganlyniad i swm sylweddol o waith. Ni ddylem gymryd ymagwedd à la carte tuag ato; ni chafodd ei ysgrifennu er mwyn inni ddewis a dethol yr argymhellion hynny a fyddai’n gweddu i’r hinsawdd bresennol. Ni fyddai’n ddigon da inni ddim ond nodi’r adroddiad a dewis a dethol o blith yr argymhellion. Byddai hynny’n gwneud anghymwynas â chyn Ysgrifennydd y Cynulliad, Tom Middlehurst, ac i’r Pwyllgor a ddiddymwyd, ac anghymwynas fawr â’r cannoedd o bobl y siaradasom â hwy yn ystod yr adolygiad er mwyn ysgrifennu’r adroddiad. Bydd enw da Jenny Randerson yn parhau neu’n chwalu yn dibynnu ar y camau a weithredir o’r adroddiad hwn. Mae llawer iawn o waith i’w wneud. Pwysaf arnoch, Weinidog, i beidio ag osgoi’r her.

Tom Middlehurst spoken in English p. 43

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 43

I will attempt to cover the new ground that is in the report. First I pay tribute to my former colleagues on the Committee. They worked diligently and conscientiously throughout the review period, which was demanding and pretty exhausting at times. I pay tribute also to Cynog Dafis’s skilful chairmanship and handling of the Committee’s business, Ceri Sherlock’s professional and analytical advice to the Committee in its deliberations and to Julia Annand and Stephen Thomas of Committee Secretariat, who had to make sense from all that we did; I think that they succeeded. We have a substantial piece of work on which to build the Assembly’s future policies and strategies for the arts and culture.

Ymdrechaf i ymdrin â’r tir newydd sydd yn yr adroddiad. I ddechrau talaf derynged i’m cyn gyd-Aelodau ar y Pwyllgor. Gweithiasant yn ddyfal ac yn gydwybodol drwy gydol cyfnod yr arolygiad, a oedd yn feichus ac yn flinedig iawn ar adegau. Talaf deyrnged hefyd i gadeiryddiaeth fedrus Cynog Dafis a’r ffordd yr ymdriniodd â busnes y Pwyllgor, cyngor proffesiynol a dadansoddol Ceri Sherlock i’r Pwyllgor yn ei drafodaethau ac i Julia Annand a Stephen Thomas o Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor, yr oedd yn rhaid iddynt wneud synnwyr o’r holl bethau a wnaethom; credaf iddynt lwyddo. Mae gennym ddarn sylweddol o waith i adeiladu polisïau a strategaethau’r Cynulliad arno yn y dyfodol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant.

The process reflects a strength of the National Assembly’s committee system in its role in developing policy. It has proved constructive and this report provides the basis upon which the Government of Wales can act in the future. In many ways it has been an exemplary review, conducted consistently in the spirit of the motion that we will debate on Thursday. It engaged with people and organisations in Wales, sharing views and opinions in order to develop a policy for the arts and culture. The process enhanced the Assembly’s image and we were warmly welcomed wherever we went in Wales.

Mae’r broses yn adlewyrchu cryfder system bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei rôl wrth ddatblygu polisi. Mae wedi profi’n adeiladol ac mae’r adroddiad hwn yn darparu sylfaen y gall Llywodraeth Cymru weithredu arno yn y dyfodol. Mewn sawl ffordd bu’n adolygiad a fydd yn batrwm i eraill, a gynhaliwyd yn gyson yn ysbryd y cynnig y byddwn yn dadlau yn ei gylch ddydd Iau. Cysylltodd â phobl a sefydliadau yng Nghymru, gan rannu safbwyntiau a barn er mwyn datblygu polisi ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Llwyddodd y broses i wella delwedd y Cynulliad a chawsom groeso cynnes ble bynnag yr aethom yng Nghymru.

The report contains a significant number of recommendations and I concur with the overwhelming majority of them. There are significant cost implications to this report, which is recognised in the report itself. Those costs will fall to the National Assembly, local government and to the cultural institutions that the Assembly funds and supports. However, that should not deter us from identifying the priorities for action in what must be seen as a long-term investment strategy. I am pleased that the current administration confirmed the proposal made under the previous administration to substantially increase funding for arts institutions in Wales, particularly for the Arts Council of Wales, but also for other cultural organisations. That builds upon the stability brought about by the Labour Government’s decisions in the three-year comprehensive spending review, which enables organisations, and the Assembly, to plan ahead with some confidence. We need to keep that under review and to increase and sustain that investment in the long-term if we are to achieve the principal objectives identified in this report.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer sylweddol o argymhellion a chytunaf gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt. Mae goblygiadau sylweddol o ran cost i’r adroddiad hwn, a gydnabyddir yn yr adroddiad ei hun. Bydd y costau hynny yn syrthio ar ysgwyddau’r Cynulliad Cenedlaethol, llywodraeth leol a’r sefydliadau diwylliannol y mae’r Cynulliad yn eu hariannu a’u cefnogi. Fodd bynnag, ni ddylai hynny ein hatal rhag nodi’r blaenoriaethau i weithredu arnynt yn yr hyn y dylid ei ystyried fel strategaeth fuddsoddi tymor hir. Yr wyf yn falch i’r weinyddiaeth bresennol gadarnhau’r cynnig a wnaethpwyd o dan y weinyddiaeth flaenorol i gynyddu’r arian ar gyfer sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn sylweddol, yn arbennig ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ond hefyd ar gyfer sefydliadau diwylliannol eraill. Mae hynny’n adeiladu ar y sefydlogrwydd a ddaeth yn sgîl penderfyniadau’r Llywodraeth Lafur yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant tair blynedd, sydd yn galluogi sefydliadau, a’r Cynulliad, i gynllunio ymlaen llaw yn gymharol hyderus. Mae angen inni adolygu hynny a chynyddu a chynnal y buddsoddiad hwnnw yn y tymor hir os ydym i gyflawni’r prif amcanion a nodir yn yr adroddiad hwn.

We also need to monitor the outcomes and the outworking of the strategies which the Arts Council and other cultural organisations must develop in support of the Assembly’s policies and priorities. That monitoring and evaluation process should determine the National Assembly’s future investment strategies. Local government has a major role to play, which the Minister acknowledged. I was disappointed that we did not acknowledge the substantial contribution being made by the business community through Arts & Business Cymru in support of many cultural organisations in Wales. That investment is continuing and growing. I am pleased to note that in this debate. Its sponsorship in the short and medium term is often important in enabling organisations to develop new ideas and initiatives upon which they can build a future strategy.

Mae angen inni hefyd fonitro canlyniadau a rhagweithio’r strategaethau y mae’n rhaid i Gyngor y Celfyddydau a sefydliadau diwylliannol eraill eu datblygu er mwyn cefnogi polisïau a blaenoriaethau’r Cynulliad. Y broses fonitro a gwerthuso honno ddylai benderfynu ar strategaethau buddsoddi’r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol. Mae gan lywodraeth leol rôl bwysig i’w chwarae, a gydnabuwyd gan y Gweinidog. Yr oeddwn yn siomedig na wnaethom gydnabod y cyfraniad sylweddol a wnaethpwyd gan y gymuned fusnes drwy Arts & Business Cymru i gefnogi’r llu o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad hwnnw’n parhau ac yn tyfu. Yr wyf yn falch o nodi hynny yn y ddadl hon. Mae ei nawdd yn y tymor byr a chanolig yn aml yn bwysig i alluogi sefydliadau i ddatblygu syniadau a mentrau newydd y gallant adeiladu strategaeth ar gyfer y dyfodol arnynt.

I turn to the Arts Council of Wales. The review was played out against the background of growing dissatisfaction and a clamour of disappointment about the Arts Council’s handling of proposals for the provision of theatre for young people in Wales. That created a problem for the Committee since many of the contributions from organisations were targeted on criticism of that strategy. That strategy has now been suspended and it is for the Arts Council to determine how it takes forward the provision of theatre for young people. Its considerations are no doubt ongoing.

Trof at Gyngor Celfyddydau Cymru. Cynhaliwyd yr adolygiad yn erbyn cefndir o anfodlonrwydd cynyddol a’r waedd o siom ynghylch y ffordd yr ymdriniodd Cyngor y Celfyddydau â’r cynigion i ddarparu theatr i bobl ifanc yng Nghymru. Creodd hynny broblem i’r Pwyllgor gan fod llawer o’r cyfraniadau gan sefydliadau wedi eu targedu ar feirniadaeth o’r strategaeth honno. Mae’r strategaeth honno bellach wedi ei gohirio a Chyngor y Celfyddydau ddylai benderfynu sut i ddatblygu’r ddarpariaeth o theatr i bobl ifanc. Mae’n siŵr bod ei ystyriaethau yn mynd rhagddynt.

We must acknowledge that some of the Arts Council’s problems were self-inflicted. Those deficiencies were identified clearly in the Wallace report. I know that the Arts Council acted quickly to produce an action plan to implement the Wallace report’s principal recommendations. We have also had assurances from the Minister that she will ensure that those actions that fall to the Assembly to decide upon will be pursued vigorously, so that we ensure that we get best value from the Wallace report.

Rhaid inni gydnabod mai Cyngor y Celfyddydau ei hun a greodd rai o’I broblemau. Nodwyd y diffygion hynny yn glir yn adroddiad Wallace. Gwn fod Cyngor y Celfyddydau wedi gweithredu’n gyflym i gynhyrchu cynllun gweithredu i weithredu prif argymhellion adroddiad Wallace. Cawsom sicrwydd hefyd gan y Gweinidog y bydd yn sicrhau yr eir ar drywydd y camau y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt yn frwd, er mwyn inni sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau o adroddiad Wallace.

Whatever the criticisms that have been levelled at the Arts Council, I will say a word of support for what has been a beleaguered Arts Council in the last few years. The fundamental problems confronting the Arts Council were of diminishing resources, cuts in real terms and the decisions of successive Conservative Governments to cut public spending. The arts were a casualty of those decisions. It is only since Labour came to power that we have started to rebuild and reinvest, albeit slowly, but nevertheless constructively, to ensure that arts and cultural organisations can receive the support that they are entitled to expect.

Beth bynnag fo’r feirniadaeth a anelwyd at Gyngor y Celfyddydau, dywedaf air o gefnogaeth am yr hyn sydd wedi bod yn Gyngor y Celfyddydau dan warchae dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Y problemau sylfaenol a wynebai Gyngor y Celfyddydau oedd adnoddau’n prinhau, toriadau mewn termau gwirioneddol a phenderfyniadau Llywodraethau Ceidwadol olynol i dorri ar wariant cyhoeddus. Dioddefodd y celfyddydau yn sgîl y penderfyniadau hynny. Dim ond ers i Lafur ddod i rym yr ydym wedi dechrau ailadeiladu ac ailfuddsoddi, er yn araf, yn adeiladol, i sicrhau y caiff y cyrff celfyddydol a diwylliannol y gefnogaeth y mae ganddynt yr hawl i’w disgwyl.

Cynog said at the outset that we were determined that this would not be a review of the Arts Council, but rather of arts and cultural policy in Wales. The document is testimony to that decision and viewpoint. To strike a slightly discordant note, we said in the report that we did not want, as an Assembly, to second guess the artistic decisions and the artistic strategies of an arts agency, whether that be the Arts Council by another name or not, that were rightly and properly for that organisation to make. We neither have the capacity nor the ability to make artistic decisions about what and which strategies should be supported or funded. In spite of that, the report suggests, for example, that the Arts Council fundamentally review the drama strategy. That is an artistic judgment for the Arts Council to make. Although I recognise that the criticism that the Committee had to endure was substantial enough for us to come to that sort of conclusion, we should recognise that that in itself does not justify a fundamental review of the drama strategy. The criticism was largely related to the handling of the theatre for young people element of that strategy. To some extent, the report is deficient in its findings. It states that,

Dywedodd Cynog o’r cychwyn ein bod yn benderfynol na fyddai hyn yn adolygiad o Gyngor y Celfyddydau, ond yn hytrach yn adolygiad o bolisi’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn destament i’r penderfyniad a’r safbwynt honno. Er mwyn taro nodyn ychydig yn amhersain, dywedasom yn yr adroddiad nad oeddem, fel Cynulliad, am ailddyfalu penderfyniadau artistig a strategaethau artistig asiantaeth oedd yn ymwneud â’r celfyddydau, pa un a oedd hynny yn Gyngor y Celfyddydau o dan enw arall ai peidio, a oedd yn gywir ac yn briodol i’r corff hwnnw eu gwneud. Nid oes gennym y gallu i wneud penderfyniadau artistig ynghylch pa strategaethau y dylid eu cefnogi neu eu hariannu. Er gwaethaf hynny, awgryma’r adroddiad, er enghraifft, y dylai Cyngor y Celfyddydau adolygu’r strategaeth ddrama yn sylfaenol. Penderfyniad artistig i Gyngor y Celfyddydau yw hynny. Er fy mod yn cydnabod bod y feirniadaeth y gorfu i’r Pwyllgor ei dioddef yn ddigon sylweddol inni ddod i’r math hwnnw o gasgliad, dylem gydnabod nad yw hynny ynddo’i hun yn cyfiawnhau adolygiad sylfaenol o’r strategaeth ddrama. Yr oedd y feirniadaeth yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd o ymdrin ag elfen theatr i bobl ifanc yn y strategaeth honno. I ryw raddau, mae’r adroddiad yn ddiffygiol yn ei ganfyddiadau. Noda bod,

‘the Arts Council’s drama strategy is now so contentious that it should be revisited’.

‘strategaeth ddrama Cyngor y Celfyddydau bellach mor ddadleuol fel bod angen ei hailystyried’.

I do not think that is substantiated by the evidence that we heard. However, that drama strategy, in the context of theatre for young people, does need to be considered, not least because there are funding implications for the Arts Council.

Ni chredaf i’r dystiolaeth a glywsom roi unrhyw sylwedd i hynny. Fodd bynnag, mae angen ystyried y strategaeth ddrama honno, yng nghyd-destun theatr i bobl ifanc, yn bennaf oherwydd bod goblygiadau ariannu i Gyngor y Celfyddydau.

I now turn to the national remit organisations. The report rightly recognises, but somewhat understates, the important role of the professional flagship companies in Wales, such as the Welsh National Opera, Diversions Dance Company, the National Orchestra of Wales and Clwyd Theatr Cymru. I refer to Clwyd Theatr Cymru as a Welsh national performing arts company because it has demonstrated that it has work of the highest quality, both nationally and internationally. Many of the objectives in the report are already central to Clwyd Theatr Cymru’s agenda for developing work in communities, supporting educational activities and taking the show on the road. It has been imaginative in how it has pursued that. I support the principle that we want to see more touring. I want to see more professional activity in communities. There is no better example of that than the recent, excellent work done by the small-scale touring company that Clwyd Theatr Cymru has established. It took high-quality, professional productions into community halls and schools and took theatre to the people.

Trof yn awr at y sefydliadau cylch gwaith cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn cydnabod yn briodol, ond ychydig yn rhy gynnil, rôl bwysig cwmnïau proffesiynol blaenllaw yng Nghymru, fel Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Clwyd Theatr Cymru. Cyfeiriaf at Clwyd Theatr Cymru fel cwmni celfyddydau perfformio cenedlaethol Cymreig gan ei fod wedi dangos fod ei waith o’r safon uchaf, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae llawer o amcanion yr adroddiad eisoes yn ganolog i agenda Clwyd Theatr Cymru ar gyfer datblygu gwaith mewn cymunedau, cefnogi gweithgareddau addysgol a chynnal sioe deithiol. Defnyddiodd ei ddychymyg wrth fynd ar drywydd hynny. Cefnogaf yr egwyddor ein bod am weld mwy o deithio. Hoffwn weld mwy o weithgaredd proffesiynol mewn cymunedau. Nid oes enghraifft well o hynny na’r gwaith rhagorol a wnaethpwyd yn ddiweddar gan y cwmni teithio bychan a sefydlwyd gan Clwyd Theatr Cymru. Aeth â chynyrchiadau proffesiynol o safon i neuaddau cymuned ac ysgolion gan fynd â theatr at y bobl.

I will briefly mention participation. I entirely agree with Cynog. We want to encourage creativity and participation. However, audience participation is equally important in educating, informing and provoking thought. We should not devalue audience participation in addressing how we pursue our arts policy in Wales based upon this document.

Soniaf yn fyr am gyfranogiad. Cytunaf yn llwyr â Cynog. Yr ydym am annog creadigrwydd a chyfranogiad. Fodd bynnag, mae cyfranogiad y gynulleidfa yr un mor bwysig wrth addysgu, hysbysu a phrocio’r meddwl. Ni ddylem ddibrisio cyfranogiad y gynulleidfa wrth fynd i’r afael â sut yr ydym yn mynd ar drywydd ein polisi celfyddydau yng Nghymru yn seiliedig ar y ddogfen hon.

I am proud to have been part of a Committee that has produced a substantial piece of work that stands testimony to the National Assembly’s ability to produce work of the highest order. It will serve this Assembly well and, more importantly, will meet the needs of the people of Wales in the long-term.

Yr wyf yn falch imi fod yn rhan o Bwyllgor a gynhyrchodd ddarn sylweddol o waith sydd yn dyst i allu’r Cynulliad Cenedlaethol i gynhyrchu gwaith o’r radd flaenaf. Bydd o fudd mawr i’r Cynulliad hwn ac, yn bwysicach, yn cwrdd ag anghenion pobl Cymru yn y tymor hir.

Owen John Thomas spoken in English p. 47

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 47

As I was not a member of the Post-16 Education and Training Committee and therefore not one of the authors of this report, I feel no embarrassment in acknowledging it as a work of profound importance and enormous potential. To begin turning around the fortunes of Wales, given our limited powers and current ranking in the economic table of European regions, is surely the National Assembly’s greatest challenge. There can be few better ways of starting to meet that challenge than by adopting the report’s vision for 2010 and its recommendations.

Gan nad oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ol-16 ac nad oeddwn felly yn un o awduron yr adroddiad hwn, ni theimlaf unrhyw embaras wrth ei gydnabod fel gwaith o bwysigrwydd sylweddol a photensial anferthol. Onid dechrau gwyrdroi ffawd Cymru, o gofio ein pwerau cyfyngedig a’n safle cyfredol yn nhabl economaidd y rhanbarthau Ewropeaidd, yw her fwyaf y Cynulliad Cenedlaethol? Prin bod gwell ffordd o ddechrau cyfarfod â’r her honno na thrwy fabwysiadu gweledigaeth yr adroddiad ar gyfer 2010 a’i argymhellion.

The terms of reference for the inquiry were a key factor in shaping the report’s outcome, focusing on the need to develop a distinct cultural identity; greater social cohesion and active citizenship through better accessibility to the arts; improving the quality of life of individuals in communities; encouraging education and artistic talent across Wales; stressing the importance of creative industries; and developing excellence. While recognising the importance of excellence and of national institutions, the report contains a crucial illustration showing that the process of achieving excellence is best nurtured through the roots. The illustration also highlights the concept of an all-embracing culture, not an elitist model where only a few talents are nurtured, appreciated by a select set and enjoyed in a small number of key institutions and festivals. It shows that culture is to be found, and needs to be nurtured, at places of worship, public houses, clubs and local societies, and at all levels right through to the top of the pyramid.

Yr oedd y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yn ffactor allweddol wrth lunio canlyniad yr adroddiad, gan ganolbwyntio ar yr angen i ddatblygu hunaniaeth ddiwylliannol wahanol, gwell cydlyniaeth gymdeithasol a dinasyddiaeth weithredol drwy well hygyrchedd i’r celfyddydau; gwella ansawdd bywyd i unigolion mewn cymunedau; annog addysg a dawn artistig ledled Cymru; tanlinellu pwysigrwydd diwydiannau creadigol; a datblygu rhagoriaeth. Tra’n cydnabod pwysigrwydd rhagoriaeth a sefydliadau cenedlaethol, mae’r adroddiad yn cynnwys enghraifft holl bwysig sydd yn dangos mai’r ffordd orau o gyflawni rhagoriaeth yw drwy fagu’r gwreiddiau. Amlyga’r engrhaifft hefyd y cysyniad o ddiwylliant hollgynhwysol nid model elitaidd lle mai dim ond ychydig ddoniau a feithrinir, a werthfawrogir gan griw dethol ac a fwynheir mewn nifer fechan o sefydliadau a gwyliau allweddol. Dengys fod diwylliant yn bodoli, a bod angen ei feithrin, mewn addoldai, tafarndai, clybiau a chymdeithasau lleol, ac ar bobl lefel hyd frig y pyramid.

The counter-plan to this would lead to a predicament, where culture is like the icing on a cake and where the cake is very much a cultural void. In such a situation, social inclusion, equality of opportunity, sustainable development, multiculturalism and bilingualism would have little chance of survival, let alone of flourishing. Our temperate climate, rich cultural and historical heritage and attractive topography lend themselves to the development of cultural tourism and creative industries. This report recognises the need to tap this great potential. It recognises that in its recommendation for the spatial distribution of cultural amenities and of regional involvement in decision making and planning, as well as in the concept of Cymru’n Creu.

Byddai’r gwrth-gynllun yn arwain at gyfyng gyngor, lle mae diwylliant fel eisin ar deisen a lle mae’r deisen yn wacter diwylliannol. Mewn sefyllfa o’r fath, prin fyddai’r gobaith y byddai cynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal, datblygiad cynaliadwy, amlddiwylliant a dwyieithrwydd yn goroesi, heb sôn am ffynnu. Mae ein hinsawdd dyner, ein treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog a’n topograffi deniadol yn gydnaws â datblygu twristiaeth ddiwylliannol a diwydiannau creadigol. Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod yr angen i fanteisio ar y potensial mawr hwn. Mae’n cydnabod hynny yn ei argymhelliad ar gyfer dosbarthu amwynderau diwylliannol yn ofodol a chyfranogiad rhanbarthol yn y broses o wneud penderfyniadau a chynllunio, yn ogystal â’r cysyniad o Gymru’n Creu.

Recent industrial, demographic and political changes coincide with the need for this report. The threshold of this century marks the beginning of what is largely a post-industrial age. With the demise of the old era it seems appropriate that some of the philistine attitudes forged by the domination of the demands of heavy industries should be replaced by a growth in aesthetic values and general cultural appreciation. Likewise, the advent of multiculturalism, the European Community and devolution, together demand a reappraisal of how we view our lives in a post-colonial Wales and a post-colonial world. These changes are of international consequence and have been addressed by this report, thus putting the National Assembly in the vanguard where it should be.

Mae newidiadau diwydiannol, demograffig a gwleidyddol diweddar yn cyd-daro â’r angen am yr adroddiad hwn. Noda trothwy’r ganrif hon ddechrau’r hyn sydd yn bennaf yn oes ôl-ddiwydiannol. Gyda dirywiad yr hen oes ymddengys yn briodol y dylid disodli rhai o’r agweddau philistaidd a luniwyd gan bwysau’r diwydiannau trwm gan dwf mewn gwerthoedd esthetig a gwerthfawrogiad diwylliannol cyffredinol. Yn yr un modd, mae dyfodiad amlddiwylliant, y Gymuned Ewropeaidd a datganoli, gyda’i gilydd yn gofyn am ailwerthusiad o’r modd yr ystyriwn ein bywydau mewn Cymru ôl-drefedigaethol a byd ôl-drefedigaethol. Mae canlyniad rhyngwladol i’r newidiadau hyn a rhoddwyd sylw iddynt yn yr adroddiad hwn, gan roi’r Cynulliad Cenedlaethol ar flaen y gad, ble y dylai fod.

The Members who attended the celebration of the Bangladeshi new year in Cardiff will have been enthralled by the folk dancing and music and the colourful, intricate designs of the clothing displayed. Similarly, without even stepping outside this ward, there are a variety of customs that cry out for encouragement, some with long and interesting associations with Wales. They are just some of the ingredients of the cultural potential that is ripe for development within the boundaries of our small nation. Only the National Assembly can motivate that great potential.

Bydd yr Aelodau a fynychodd ddathliad o’r flwyddyn newydd Bangladeshi yng Nghaerdydd wedi eu cyfareddu gan y dawnsio gwerin a’r gerddoriaeth a’r gwisgoedd lliwgar, coeth a arddangoswyd. Yn yr un modd, heb hyd yn oed gamu y tu allan i’r ward hon, mae amrywiaeth o draddodiadau sydd yn gweiddi am anogaeth, rhai gyda chysylltiadau hir a diddorol â Chymru. Dim ond rhai o elfennau’r potensial gwleidyddol yw’r rhain sydd yn barod i’w datblygu o fewn ffiniau ein cenedl fechan. Dim ond y Cynulliad Cenedlaethol all ysgogi’r potensial mawr hwnnw.

In endorsing this report, I compliment the members of the former Post-16 Education and Training Committee on its achievement, and especially the former Secretary for Post-16 Education and Training, Tom Middlehurst and former Chair, Cynog Dafis. ‘A Culture in Common’ provides an opportunity for the National Assembly to make a substantial difference by boosting the confidence and quality of life of all people, through participation in our varied, yet distinct culture and, in doing, so developing a vibrant national presence and a powerful international image.

Wrth gymeradwyo’r adroddiad hwn, canmolaf aelodau’r cyn Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar ei gyflawniad, ac yn arbennig y cyn Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, Tom Middlehurst a’r cyn Gadeirydd, Cynog Dafis. Rhydd ‘Diwylliant Cytûn’ gyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud gwahaniaeth sylweddol drwy roi hwb i hyder ac ansawdd bywyd yr holl bobl, drwy gyfranogiad yn ein diwylliant amrywiol, ond unigryw ac, wrth wneud hynny, ddatblygu presenoldeb gwleidyddol byw a delwedd genedlaethol bwerus.

Delyth Evans siaradwyd yn Gymraeg t. 49

Delyth Evans spoken in Welsh p. 49

Cymeradwyaf y gwaith meddylgar a diwyd a aeth i mewn i’r adroddiad hwn a chroesawaf y modd cynhwysol a phenderfynol y mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg wedi ymgymryd â’i chyfrifoldeb newydd.

I commend the thoughtful and diligent work that went into this report and welcome the inclusive and determined way in which the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language has undertaken her new responsibility.

Croesawaf yn arbennig y pwyslais ar bobl ifanc yn yr adroddiad, sydd yn rhoi pobl ifanc yn flaenoriaeth yn ein polisi ar y celfyddydau. Mae hynny’n hollol gywir. Mae datblygu hyder, creadigrwydd, mynegiant ac ymwybydiaeth o’u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill yn rhan werthfawr o sut y mae pobl ifanc yn tyfu. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n briodol talu teyrnged i bolisi blaengar y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i ddiddymu tâl mynediad i amgueddfeydd ac orielau i blant a phobl ifanc, ac i grwpiau eraill megis pensiynwyr a’r di-waith. Mae’r neges y mae hynny’n ei hanfon i’n cymunedau yn bwysig ac yr wyf yn falch ohoni.

I particularly welcome the emphasis on young people in the report, which makes young people a priority in our arts policy. That is quite right. Developing confidence, creativity, expression and awareness of their own culture and other cultures is a valuable part of how young people develop. In that context, it is appropriate to pay tribute to the Labour Government in Westminster’s progressive policy of abolishing entrance fees to museums and galleries for children and young people, and for other groups such as pensioners and the unemployed. The message that that sends out to our communities is important and I am proud of it.

Mae gweld sut y mae plant yn ymateb i gelfyddyd o bob math yn ysbrydoliaeth inni i gyd. Croesawaf yn arbennig gynllun yn yr Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd i arddangos sylwadau ac ymateb plant ysgol i rai o’r darluniau a arddangosir yno. Ni wn a wneir hynny o hyd—dyna’r arfer pan oeddwn i yn yr Oriel Genedlaethol ddiwethaf. Yr oedd gweld ymateb a sylwadau’r plant hynny a sylwi sut y gallant ddehongli celfyddyd a’r gwerth y gallant ei gael ohoni yn agoriad llygad imi. Mae’n holl bwysig, felly, ein bod yn hyrwyddo cyfleoedd i blant a phobl ifanc i fwynhau a chymryd rhan mewn pob math o gelfyddyd. Dyna yw’r flaenoriaeth gywir yn yr adroddiad hwn.

Seeing how children respond to art of all kinds is an inspiration to us all. I particularly welcome a scheme at the National Gallery in Cardiff to display the comments and responses of school children to some of the paintings exhibited there. I do not know whether that is still done—that was the case when I was last at the National Gallery. Seeing the response and comments of those children and observing how they can interpret art and the value that they can get out of it was an eye opener for me. It is crucial, therefore, that we promote opportunities for children and young people to enjoy and participate in all kinds of art. That is the right priority in this report.

Mae Aelodau eisoes wedi cyfeirio at waith Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith cymunedol yn ein hysgolion yn bwysig dros ben. Dyna sydd yn bwysig—nid datblygu celfyddyd yn y cymunedau neu ar lefel genedlaethol, celfyddyd amatur neu gelfyddyd broffesiynol—rhaid inni wneud y ddau, oherwydd eu bod yn bwydo oddi ar ei gilydd. Dyna’r agwedd y mae’n rhaid inni ei chymryd at y celfyddydau yng Nghymru.

Members have already referred to the work of the Welsh National Opera. Its community work in our schools is exceptionally important. That is what is important—not developing art in communities or on a national level, amateur art or professional art—we must do both, because they feed off each other. That is the attitude that we must adopt towards the arts in Wales.

Os oes gennyf un amheuaeth ynglŷn â phwyslais yr adroddiad—ac nid yw’n fwy nag amheuaeth—ofnaf efallai fod tuedd at fod yn rhy fewnblyg yn y modd yr ystyriwn ddiwylliant yng Nghymru. Hoffwn pe baem, wrth ystyried diwylliant Cymru, yn edrych allan, yn hybu allforio ein doniau ac yn croesawu doniau o ddiwylliannau eraill. Dyna beth yw diwylliant—nid rhywbeth cul a chaeëdig, ond proses barhaol o ddatblygu, creu a chyfnewid syniadau yn y cyd-destun rhyngwladol.

If I have one doubt about the report’s emphasis—and it is no more than a doubt—I am afraid that there may be a tendency to be too introvert in the way in which we consider culture in Wales. I would like us, when considering Wales’s culture, to look outward, promoting exporting our talents and welcoming talents from other cultures. That is what culture is—not something narrow and enclosed, but a continuous process of developing, creating and exchanging ideas in the international context.

Pryderaf am baragraff 3.72 yn yr adroddiad. Mae’n awgrymu y dylem symud oddi wrth y traddodiad o theatr testunol, gan nad oes traddodiad parhaus o hynny yng Nghymru. O ddilyn y rhesymeg honno, byddem yn ymwrthod â phob math o greadigedd gwerthfawr a ddaeth i Gymru o’r tu allan ar hyd y canrifoedd. Un o’r darganfyddiadau diwylliannol pwysicaf yn hanes Cymru oedd darganfyddiad darn o grochenwaith La Tène a darddai o rywle yng nghanol Ewrop. Profodd pa mor gynnar yr oedd trosglwyddo diwylliannol o Gymru i wledydd eraill ac fel arall yn digwydd.

I am concerned by paragraph 3.72 in the report. It suggests that we should move away from the text theatre tradition, because there is no continuous tradition of that in Wales. If we followed that rationale, we would reject all kinds of valuable creativity, which has come to Wales from outside throughout the centuries. One of the most important cultural discoveries in the history of Wales was the discovery of a piece of La Tène porcelain that came from somewhere in central Europe. It proved how early cultural transfers from Wales to other countries, and vice versa, were taking place.

Ers y canrifoedd cynnar hynny, yr ydym yn rhan o ddiwylliant Ewropeaidd. Mae’n bwysig ein bod yn cyfnewid â diwylliannau eraill ac yn dysgu oddi wrthynt, yn ogystal â mynd â’n diwylliant i wledydd eraill. Dylem annog y math hwnnw o gyfnewid diwylliant, gan ddatblygu cysylltiadau cryfach rhyngom a diwylliannau eraill, nid cau’r drws ar bethau gan nad oes ‘llinell barhaus neu ddiderfyn’ yng Nghymru, ys dywed yr adroddiad.

We have been part of European culture since those early days. It is important that we exchange with and learn from other cultures, as well as taking our culture to other countries. We should encourage that kind of culture exchange, and develop stronger links with other cultures, rather than closing the door on things because there is no ‘continuous or unbroken line’ in Wales, as the report states.

Er hynny, croesawaf yr adroddiad a sylwadau’r Gweinidog y bydd yn defnyddio hyn fel sylfaen ar gyfer datblygu i’r dyfodol. Fodd bynnag, rhaid inni ddarganfod y pwyslais cywir ynglŷn â’n lle yng nghyd-destun diwylliant Ewropeaidd.

Despite that, I welcome the report and the Minister’s comments that she will use this as a foundation for future development. However, we must find the right emphasis regarding our place in the context of European culture.

David Davies spoken in English p. 51

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 51

I am delighted that this report recognises the good work being done by theatre in education groups such as Gwent Theatre. I fought hard to ensure that the drama strategy would be changed so that groups such as Gwent Theatre would survive. In recognising that the Arts Council of Wales has made mistakes, we must be careful in the tone of language that we adopt. During off-the-record conversations, many members of the Arts Council will admit that mistakes have been made. We should recognise that those people are unpaid and that they are experts in their field. While I accept the report’s findings, we should be careful not to use language that is too negative. It is easy to publish press releases attacking the Arts Council of Wales; I have done it myself. However, I recognise that the Arts Council contains an enormous amount of talent. If we care about the arts in Wales, we must proceed with caution.

Yr wyf yn falch o weld bod yr adroddiad hwn yn cydnabod y gwaith da a wneir gan grwpiau theatr mewn addysg megis Theatr Gwent. Brwydrais yn galed i sicrhau y byddai’r strategaeth ddrama yn cael ei newid fel y byddai grwpiau megis Theatr Gwent yn goroesi. Wrth gydnabod bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud camgymeriadau, rhaid inni fod yn ofalus o ran naws yr iaith a fabwysiadwn. Mewn trafodaethau nas cofnodir, bydd sawl aelod o Gyngor y Celfyddydau yn barod i gyfaddef y gwnaethpwyd camgymeriadau. Dylem gydnabod na thelir y bobl hynny a’u bod yn arbenigwyr yn eu maes. Er y derbyniaf ganfyddiadau’r adroddiad, dylem ochel rhag defnyddio iaith sydd yn rhy negyddol. Mae’n hawdd cyhoeddi datganiadau i’r wasg yn barnu Cyngor Celfyddydau Cymru; yr wyf wedi gwneud hynny fy hun. Fodd bynnag, cydnabyddaf fod talent enfawr yn bodoli o fewn Cyngor y Celfyddydau. Os ydym yn poeni am y celfyddydau yng Nghymru, rhaid inni fynd ati â gofal.

Jonathan rightly referred to the crown jewels of the arts in Wales. I declare an interest, as I live in the town that is the jewel in the music crown. Monmouth is usually famous for being the place where England meets Wales. However, it is also a place where classical music meets contemporary music. Monmouth contains two world-famous centres of excellence. In the north of the town is Nimbus Records, at whose premises classical music is performed, written and recorded. It is a world-leader in compact disc technology. In the south is the famous Rockfield Studios, where groups such as Oasis, Manic Street Preachers and Queen have performed and recorded some of their best singles. It is surprising and disappointing that Monmouth is not mentioned in this report. It is an ideal tourist export. In Monmouth you can sit in the pub elbow to elbow with world famous popstars, although I will not be crass enough to start name-dropping. Monmouth is an exciting place to live and I hope that the Minister will consider including it in future reports.

Cyfeiriodd Jonathan yn briodol at berlau’r celfyddydau yng Nghymru. Datganaf fuddiant, gan fy mod yn byw yn y dref a adwaenir fel y goron gerddorol. Fel arfer mae Trefynwy yn adnabyddus fel man cyfarfod Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae hefyd yn dref lle daw cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth gyfoes ynghyd. Ceir dwy ganolfan o ragoriaeth fyd enwog yn Nhrefynwy. Yng ngogledd y dref mae Nimbus Records, lle caiff cerddoriaeth glasurol ei pherfformio, ei hysgrifennu a’i recordio. Mae’n flaenllaw mewn technoleg cryno ddisgiau. Yn y de mae’r Rockfield Studios enwog, lle bu grwpiau megis Oasis, Manic Street Preachers a Queen yn perfformio ac yn recordio rhai o’u senglau gorau. Mae’n syndod ac yn siom na chrybwyllir Trefynwy yn yr adroddiad hwn. Mae’n dref ddelfrydol i dwristiaid. Yn Nhrefynwy gallwch eistedd yn y dafarn ochr yn ochr â sêr y byd pop, er nad wyf yn ddigon fwlgar i ddechrau enwi unigolion. Mae Trefynwy yn dref gyffrous i fyw ynddi a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried ei chynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

I am uneasy when reports such as this refer to jungle, house and rap music. I am still young enough to listen to Radio 1. I become uneasy when people in authority try to embrace such music. It strikes me as being politically correct. A few months ago, S4C asked me to review a CD by a well-known and highly acclaimed Welsh rap group called Tystion. The lead track on the CD was called ‘New Deal, New Dead’, which was a damming indictment of New Labour’s efforts to try to buy out young musicians by placing them on schemes. I agreed with its sentiments. I also learnt many new Welsh phrases that do not appear in any textbooks.

Teimlaf yn anniddig pan fydd adroddiadau o’r math hwn yn cyfeirio at gerddoriaeth jungle, house a rap. Yr wyf yn ddigon ifanc i wrando ar Radio 1 o hyd. Dof yn anniddig pan fydd pobl mewn awdurdod yn ceisio cofleidio cerddoriaeth o’r fath. Credaf mai ffurf ar gywirdeb gwleidyddol ydyw. Ychydig fisoedd yn ôl, gofynnodd S4C imi adolygu CD gan grŵp rap Cymreig adnabyddus o’r enw y Tystion. Enw’r prif drac ar y CD oedd ‘New Deal, New Dead’, sef beirniadaeth lem o ymdrechion Llafur Newydd i geisio bodloni cerddorion ifanc drwy eu gosod ar gynlluniau. Yr oeddwn yn cytuno â’i safbwyntiau. Dysgais lawer o ymadroddion Cymraeg newydd hefyd na welwch mewn unrhyw werslyfr.

I will finish on the Welsh language. No debate that embraces the Welsh language would be complete without a contribution from the Member for Monmouth, as I am sure that you all agree. I have spoken in the past about the importance of offering choice and opportunity but not too much compulsion. What will the Culture Committee do to support the Conservative members of Monmouthshire County Council, who recently voted to support parents in the south of that county who wanted a Welsh-medium primary school? We were outvoted by the Labour group on Monmouthshire council. What will the Minister and the Committee do about that? It is one thing for Labour to support compulsory Welsh lessons for those who do not want to learn the language, but it is quite another when it does not support Welsh-medium education for those who do. It is time that we had—

I gloi, soniaf am y Gymraeg. Ni fyddai unrhyw ddadl am y Gymraeg yn gyflawn heb gyfraniad gan Aelod Trefynwy, fel y byddwch oll yn cytuno mae’n siŵr. Soniais yn y gorffennol am bwysigrwydd cynnig dewis a chyfle ond heb ormod o orfodaeth. Beth a wna’r Pwyllgor Diwylliant i gefnogi aelodau Ceidwadol Cyngor Sir Fynwy, a bleidleisiodd yn ddiweddar i gefnogi rhieni yn ne’r sir honno a oedd am gael ysgol gynradd Gymraeg? Fe’n trechwyd gan garfan Lafur cyngor Sir Fynwy. Beth a wna’r Gweinidog a’r Pwyllgor ynglŷn â hynny? Un peth yw i Lafur gefnogi gwersi Cymraeg gorfodol i’r rheini nad ydynt am ddysgu’r iaith, ond peth hollol wahanol yw peidio â chefnogi addysg Gymraeg i’r rheini sydd am ei chael. Mae’n bryd inni gael—

John Griffiths spoken in English p. 53

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 53

Is not Monmouthshire council controlled by the Conservatives, with the support of a few independent members?

Oni reolir cyngor Sir Fynwy gan y Ceidwadwyr, gyda chefnogaeth nifer fach o aelodau annibynnol?

David Davies spoken in English p. 53

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

I do not want to go into that. Monmouthshire County Council recently suffered a sad loss. Therefore, there is no majority on the council at the moment. The independents voted with the Labour group on that issue. The situation is difficult. However, because of that delay, there will be no Welsh-medium school for at least another year. That has disappointed many parents in the south of the county who wanted such a school.

Nid wyf am drafod hynny. Yn ddiweddar, dioddefodd Cyngor Sir Fynwy golled drist. Felly, nid oes mwyafrif ar y cyngor ar hyn o bryd. Pleidleisiodd yr annibynwyr gyda’r grŵp Llafur ar y mater hwnnw. Mae’r sefyllfa yn anodd. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r oedi hwnnw, ni fydd ysgol Gymraeg am o leiaf blwyddyn arall. Mae hynny wedi siomi llawer o rieni yn ne’r sir a oedd am weld ysgol o’r fath.

It is time that we had common sense and an end to political correctness. If you offer choice and opportunity in Welsh language policies, you will see the language develop, even in places such as Monmouthshire.

Mae’n bryd inni arfer synnwyr cyffredin a rhoi diwedd ar gywirdeb gwleidyddol. Os cynigiwch ddewis a chyfle mewn polisïau iaith Gymraeg, fe welwch yr iaith yn datblygu, hyd yn oed mewn lleoedd fel Sir Fynwy.

Rosemary Butler spoken in English p. 53

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 53

Like everyone else, I welcome this report. There is a difference in emphasis here. However, I am stunned by how it affected David Davies. I thought that we had started a new year with a new, positive David. That was tremendous—

Fel pawb arall, croesawaf yr adroddiad hwn. Mae gwahaniaeth pwyslais yma. Fodd bynnag, fe’m syfrdanwyd gan y modd yr effeithiodd ar David Davies. Credais ein bod wedi dechrau blwyddyn newydd gyda David cadarnhaol, newydd. Yr oedd hynny’n ardderchog—

David Davies spoken in English p. 54

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 54

Do not hold your breath.

Peidiwch â dal eich anadl.

Rosemary Butler spoken in English p. 54

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 54

I did not have to hold my breath for long because you lapsed towards the end of your speech.

Ni fu’n rhaid imi ddal fy anadl yn hir gan ichi roi’r gorau iddi tuag at ddiwedd eich araith.

What is important about this report is that it shows that the Assembly realises that culture, arts and sport must be at the heart of all Assembly policies. They must not be bolted or welded on additional pieces. It is important that all our policies, such as education, economic development, Communities First and Objective 1, take into account arts and culture. Arts regeneration could lead the regeneration of much of Wales.

Yr hyn sydd yn bwysig am yr adroddiad hwn yw ei fod yn dangos bod y Cynulliad yn sylweddoli bod yn rhaid i ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon fod wrth wraidd holl bolisïau’r Cynulliad. Ni ddylid eu hychwanegu neu eu hatodi. Mae’n bwysig bod pob un o’n polisïau, megis addysg, datblygu economaidd, Rhoi Cymunedau’n Gyntaf ac Amcan 1, yn ystyried y celfyddydau a diwylliant. Gallai adfywiad celfyddydol arwain at adfywio sawl rhan o Gymru.

This is a good report but it is serious and earnest. There is no mention of enjoyment in it. We need to take that on board; arts and culture are all about enjoyment. However, the word ‘exciting is contained somewhere in the report. The fact that we now have a Minister for Culture, Sport and the Welsh Language and a Culture Committee shows that the administration is taking arts and culture seriously. I look forward to taking part in debates on much of what is contained in this report in the Culture Committee. However, I will raise a few points now.

Mae hwn yn adroddiad da ond mae’n ddifrifol ac yn ddiwyd. Ni chrybwyllir mwynhad ynddo. Mae angen inni ystyried hynny; mae’r celfyddydau a diwylliant oll yn ymwneud â mwynhad. Fodd bynnag, cynhwysir y gair ‘cyffrous’ rywle yn yr adroddiad. Dengys y ffaith fod gennym bellach Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg a Phwyllgor Diwylliant fod y weinyddiaeth yn cymryd y celfyddydau a diwylliant o ddifrif. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn dadleuon ar lawer o’r hyn a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn y Pwyllgor Diwylliant. Fodd bynnag, codaf rai pwyntiau yn awr.

Tom Middlehurst mentioned the role of the local authorities. However, they are not mentioned until page 17 of the report. They should feature at the beginning because the amount of money that they spend and the commitment that they have to the arts and culture in Wales is amazing. The report says only that it is important, to the benefit of the local economy and in regeneration schemes, that local authorities’ input must be recognised by the Arts Council and all cultural Assembly sponsored public bodies in Wales. The Assembly must recognise that also. We should try to encourage every local authority in Wales to have an arts strategy and policy.

Crybwyllodd Tom Middlehurst rôl awdurdodau lleol. Fodd bynnag, ni chânt eu crybwyll tan dudalen 17 yr adroddiad. Dylid eu cynnwys ar y dechrau oherwydd swm yr arian a wariant a chan fod yr ymrwymiad sydd ganddynt i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru yn anhygoel. Noda’r adroddiad yn syml ei bod yn bwysig, er budd yr economi leol ac mewn cynlluniau adfywio, i fewnbwn awdurdodau lleol gael ei gydnabod gan Gyngor y Celfyddydau a’r holl gyrff diwylliannol cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yng Nghymru. Rhaid i’r Cynulliad gydnabod hynny hefyd. Dylem geisio annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i lunio strategaeth a pholisi celfyddydol.

I take issue with the suggestion that Edwina Hart should ring-fence money for arts and culture for local authorities. I dispute that. Considering the huge amount of money that local authorities have already spent, if we were to suggest that we should give them a pittance and then ring-fence it, I suspect that many of them would say, ‘If that is what they give us, that is what we will spend.’ As a result, arts and culture would lose out.

Dadleuaf â’r awgrym y dylai Edwina Hart neilltuo arian ar gyfer y celfyddydau a diwylliant o fewn awdurdodau lleol. Anghytunaf â hynny. O ystyried y swm enfawr o arian y mae awdurdodau lleol eisoes wedi’i wario, pe baem yn awgrymu y dylem roi swm pitw iddynt ac yna’i neilltuo, yr wyf yn amau y byddai llawer ohonynt yn dweud, ‘Os mai dyna a roddant, dyna a wariwn.’ O ganlyniad, byddai’r celfyddydau a diwylliant ar eu colled.

We must consider Delyth Evans’s comments. Creative industries are vital to the future of Wales. I would like us to help local authorities. We have universities that have excellent film schools and design and photography courses, for example the University of Wales College, Newport, which has a highly respected international reputation. Students graduate from there with good degrees. They love the area, but it does not have the facilities, studios or custom-built offices to encourage them to stay there. We should consider that and find a way of using Objective 1, 2 or 3 money to ensure that those students have the opportunity to stay in Wales. I also take issue with the allocation of Arts Council lottery money. The report suggests that all the applications that are granted should include something about how applicants would develop the Welsh language. Although I am totally committed to developing the Welsh language, to do so in that way could be limiting. For example, someone mentioned India Dance Wales earlier, and there was also a reference to the Bangladeshi community. If we want them to develop as part of this nation, we should encourage them in any way that we can. To place a limit on them by asking how they would develop the Welsh language as part of their application would be somewhat restrictive.

Rhaid inni ystyried sylwadau Delyth Evans. Mae diwydiannau creadigol yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Hoffwn inni helpu awdurdodau lleol. Mae gennym brifysgolion ag ysgolion ffilm a chyrsiau dylunio a ffotograffiaeth ardderchog, er enghraifft Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd, sydd ag enw da ac sydd yn uchel ei barch yn rhyngwladol. Mae myfyrwyr yn graddio oddi yno â graddau da. Maent yn hoff iawn o’r ardal, ond nid oes ganddi’r cyfleusterau, y stiwdios neu’r swyddfeydd pwrpasol i’w hannog i aros yno. Dylem ystyried hynny a dod o hyd i ffordd o ddefnyddio arian Amcan 1, 2 neu 3 i sicrhau y rhoddir y cyfle i’r myfyrwyr hynny aros yng Nghymru. Anghytunaf hefyd â’r modd y dyrennir arian loteri Cyngor y Celfyddydau. Awgryma’r adroddiad y dylai’r holl geisiadau llwyddiannus gynnwys rhywbeth am y modd y byddai ymgeiswyr yn datblygu’r Gymraeg. Er fy mod yn llwyr ymroddedig i ddatblygu’r Gymraeg, gallai gwneud hynny yn y fath fodd fod yn gyfyngol. Er enghraifft, crybwyllwyd India Dance Wales gan rywun yn gynharach, a chyfeiriwyd at y gymuned Bangladeshi hefyd. Os ydym am iddynt ddatblygu fel rhan o’r genedl hon, dylem eu hannog mewn unrhyw fodd y gallwn. Byddai gosod terfyn arnynt drwy ofyn sut y byddent yn datblygu’r Gymraeg fel rhan o’u cais yn gyfyngol braidd.

Earlier, I mentioned that we must ensure that everybody takes this report on board, particularly those involved in education. Jane Davidson must consider how we deliver library services. For example, the schools museum service should provide an exciting experience, not only in school time, but during holidays. There are good examples in Europe, particularly in Barcelona, of how we can deliver an exciting schools museum service to young people. We need to put money aside to ensure that artists, poets, authors and musicians can visit schools and youth clubs. I would like that to be extended.

Yn gynharach, crybwyllais fod angen inni sicrhau bod pawb yn ystyried yr adroddiad hwn, yn arbennig y rheini sydd yn ymwneud ag addysg. Rhaid i Jane Davidson ystyried sut y cyflwynwn wasanaethau llyfrgell. Er enghraifft, dylai’r gwasanaeth amgueddfeydd ysgolion ddarparu profiad cyffrous, nid yn unig yn ystod tymor yr ysgol, ond yn ystod y gwyliau. Ceir enghreifftiau da yn Ewrop, yn arbennig yn Barcelona, o’r modd y gallwn gyflwyno gwasanaeth amgueddfeydd ysgolion cyffrous i bobl ifanc. Mae angen inni neilltuo arian i sicrhau y gall artistiaid, beirdd, awduron a cherddorion ymweld ag ysgolion a chlybiau ieuenctid. Hoffwn ehangu’r agwedd honno.

David Davies mentioned theatre in education, which is important. I remember a young child going home to his mother, having spent a day with a theatre in education group at Tredegar House in Newport. They were looking at a day in the life of Lord Tredegar after returning from the battle of Balaclava. The child went home and said to its mother, ‘I have been in a time machine.’ That is what it is all about. We need to be able to offer our young people experiences that will help to shape their futures, giving them aspirations and inspiration. I can still remember the first time that I went to the theatre in Cardiff. I had been to the local miners’ institute and had experienced what I considered a high-quality, exciting event. However, I then visited the pantomime at the New Theatre in Cardiff and I can remember the sheer thrill and magic of that occasion, when the lights went down, the music started and the curtains went up. We must give every child in Wales the same opportunity.

Crybwyllodd David Davies theatr mewn addysg, sydd yn bwysig. Cofiaf blentyn ifanc yn mynd adref at ei fam, wedi treulio’r diwrnod gyda grŵp theatr mewn addysg yn Nhy Tredegar yng Nghasnewydd. Buont yn edrych ar ddiwrnod ym mywyd Arglwydd Tredegar ar ôl dychwelyd o frwydr Balaclava. Aeth y plentyn adref gan ddweud wrth ei fam, ‘Bûm mewn peiriant amser.’ Dyna’n union yw’r bwriad. Mae angen inni allu cynnig profiadau i’n pobl ifanc a fydd yn eu helpu i lunio eu dyfodol, gan roi dyheadau ac ysbrydoliaeth iddynt. Gallaf gofio hyd heddiw y tro cyntaf imi fynd i’r theatr yng Nghaerdydd. Yr oeddwn wedi bod i sefydliad lleol y glowyr ac wedi profi’r hyn a ystyriais yn ddigwyddiad cyffrous, o ansawdd uchel. Fodd bynnag, wedi hynny ymwelais â’r pantomeim yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd a gallaf gofio cyffro a hud yr achlysur hwnnw, pan ddiffoddwyd y golau, dechreuodd y gerddoriaeth a chodwyd y llenni. Rhaid inni roi’r un cyfle i bob plentyn yng Nghymru.

We could all speak at length on this good report, but we must address funding, which I have already mentioned in the Culture Committee. We must ensure that we get a fair slice of the budget for arts, culture and sport. There is no way that that can be done on the cheap. It must be done so that Wales can become the kind of country where people want to come to live and stay. This morning, we discussed quality of life in Wales, and if we skimp on the arts, we will be doing a disservice to the future of our country. I look forward greatly to ensuring that Jenny Randerson implements most of these recommendations and I thank the former Post-16 Education and Training Committee for the amazing amount of work that it accomplished in such a short time.

Gallem oll sôn yn fanwl am yr adroddiad da hwn, ond rhaid inni ymdrin ag arian, a grybwyllais eisoes yn y Pwyllgor Diwylliant. Rhaid inni sicrhau y dyrennir cyfran deg o’r gyllideb i’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Nid oes unrhyw ffordd rad o wneud hynny. Rhaid ei wneud fel y gall Cymru ddod yn wlad y mae pobl am ddod iddi i fyw ac i aros. Y bore yma, trafodasom ansawdd bywyd yng Nghymru, ac os na roddir cyfran deg i’r celfyddydau, byddwn yn gwneud tro gwael â dyfodol ein gwlad. Edrychaf ymlaen yn fawr at sicrhau y bydd Jenny Randerson yn gweithredu’r rhan fwyaf o’r argymhellion hyn a diolchaf i’r cyn Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 am y swm anhygoel o waith a gyflawnodd mewn byr amser.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 57

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh and English p. 57

Dechreuodd Cynog Dafis drwy ddweud ei fod yn falch o’r ffaith iddo fod ynghlwm â pharatoi’r adroddiad hwn. Yr wyf innau’n falch fy mod yn Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant sydd yn etifeddu’r adroddiad o’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16. Ymunaf ag eraill yn fy ngwerthfawrogiad o’r gwaith pwysig ac unigryw y maent wedi ei gyflawni oherwydd dyma’r adroddiad cyntaf i ddeillio’n uniongyrchol o Bwyllgor ac sydd heb gael ei gomisiynu gan y Cynulliad. Felly, mae’n bwysig ein bod yn ofalus yn y modd y gweithredwn yr adroddiad hwn.

in Welsh Cynog Dafis began by saying that he was proud to have been involved in the preparation of this report. I am also proud of being the Chair of the Culture Committee that inherits the report from the Post-16 Education and Training Committee. I join others in my appreciation of the important and unique work that they undertook because this is the first report to emanate directly from a Committee rather than being commissioned by the Assembly. Therefore, it is important that we are careful in how we implement this report.

Rhannaf y pryder a fynegwyd ynghylch y modd y mae’r cynnig wedi ei eirio. Sut y bydd y weinyddiaeth yn ymateb i’r adroddiad hwn? Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog wedi mynegi ei brwdfrydedd drosto ond mae angen proses. Os bydd y cynnig yn darllen ein bod yn ‘nodi’r’ adroddiad yn unig, dylai’r weinyddiaeth ymrwymo, o leiaf, i ymateb i’r adroddiad yn llawn ac yn fanwl o fewn tri mis.

in Welsh I share the concern expressed about the wording of this motion. How will the administration respond to this report? I welcome the fact that the Minister has expressed her enthusiasm for it, but we need a process. If the motion will read that we ‘note’ the report only, then there should, at least, be a commitment from the administration to respond to the report in full and in detail within three months.

O gofio mai adroddiad Pwyllgor ydyw, mae’n rhaid codi cwestiwn ynghylch y modd y mae’r weinyddiaeth a’r Gweinidog yn ymateb i’r adroddiad. A ydyw’n briodol bod y Gweinidog, o gofio mai adroddiad Pwyllgor yw hwn, yn dewis gwneud datganiadau am weithredu argymhellion yr adroddiad hwn, yn y Cynulliad neu yn gyhoeddus, cyn ei bod yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Diwylliant? Mae cyfrifoldeb ar y Gweinidog i fynd yn ôl yn y lle cyntaf i’r Pwyllgor. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi mynegi ei bwriad y prynhawn yma i weithredu’r argymhelliad ynghylch creu y consortiwm Cymru’n Creu, dylai’r cyhoeddiad hwnnw fod wedi ei wneud yn y Pwyllgor Diwylliant, o gofio mai adroddiad Pwyllgor yw hwn.

in Welsh Bearing in mind that this is a Committee report, we must ask a question about the way in which the administration and the Minister respond to the report. Is it appropriate that the Minister, bearing in mind that this is a Committee report, chooses to make statements about the implementation of the recommendations of this report, in the Assembly or publicly, before she goes back to the Culture Committee? The Minister is duty-bound to return in the first instance to the Committee. Although I appreciate that the Minister has expressed her intention this afternoon to implement the recommendation regarding the creation of the Cymru’n Creu consortium, that announcement should have been made to the Culture Committee, bearing in mind that this is a Committee report.

Os yw’r Gweinidog yn dewis newid unrhyw argymhelliad, dylai ddod i’r Pwyllgor i esbonio pam ei bod hi’n dewis newid neu ddiwygio’r argymhelliad hwnnw. Cyfeiraf at y penderfyniad ynghylch Siarter Brenhinol Cyngor Celfyddydau Cymru ac at y tasglu. Mae’r prosesau hyn yn hynod bwysig oherwydd byddant yn gosod cynsail ynglŷn â’r modd yr ydym yn ymdrin ag adroddiadau eraill sydd yn codi yn uniongyrchol o Bwyllgor.

in Welsh If the Minister chooses to change any recommendation, she should come to the Committee to explain why she chooses to change or amend the recommendation. I refer to the decision on the Royal Charter of the Arts Council of Wales and to the taskforce. These processes are exceptionally important because they will set a precedent as regards how we deal with other reports that emanate directly from Committees.

Fy mhwynt olaf ynghylch y berthynas â’r Pwyllgor ac ynghylch gweithredu’r adroddiad hwn yw ei fod yn hynod bwysig fod y weinyddiaeth a’r Gweinidog yn dod yn ôl yn fuan i’r Pwyllgor gyda chynllun gweithredu a fydd yn datgan yn glir sut y mae hi a’r weinyddiaeth yn bwriadu gweithredu’r argymhellion hyn. Mater i’r weinyddiaeth a’r Gweinidog yw gweithredu’r argymhellion hynny. Yr wyf yn glir ynglŷn â hynny, ond mae’n bwysig bod cynllun gweithredu eglur yn dod yn ôl i’r Pwyllgor yn fuan i esbonio sut y bydd hynny’n digwydd.

in Welsh My final point about the relationship with the Committee and about implementing this report is that it is extremely important that the administration and the Minister come back to the Committee soon with an action plan which clearly states how she and the administration intend to implement these recommendations. It is a matter for the administration and the Minister to implement those recommendations. I am clear about that, but it is important that a coherent action plan is presented to the Committee soon to explain how that will be done.

Dyna fframwaith y broses sydd yn hynod bwysig er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn aros ym meddiant a pherchnogaeth y Pwyllgor. Mae’n bwysig bod y weinyddiaeth a’r Gweinidog yn parchu hynny.

in Welsh That is the framework of the process that is exceptionally important to ensure that the report remains in the ownership of the Committee. It is important that the administration and the Minister respect that.

That is important in terms of implementation because we must ensure at least two points. We want to ensure that this report becomes the philosophical backdrop that drives and directs all our dealings with culture in Wales. That is important and there has been a general acceptance of that in this debate. Although some Members may have misgivings, there has been a general acceptance that that should be the situation. We must safeguard that.

yn Saesneg Mae hynny’n bwysig yn nhermau gweithredu gan fod yn rhaid inni sicrhau o leiaf ddau bwynt. Yr ydym am sicrhau y sefydlir yr adroddiad hwn fel y cefndir athronyddol sydd yn llywio ac yn cyfeirio ein holl ymdriniadau â diwylliant yng Nghymru. Mae hynny’n bwysig a derbyniwyd hynny’n gyffredinol yn y ddadl hon. Er y gallai fod amheuon gan rai Aelodau, derbyniwyd yn gyffredinol mai dyna ddylai’r sefyllfa fod. Rhaid inni amddiffyn hynny.

We must address the central issue within the report, namely how do we retain standards of excellence and yet ensure that there is sufficient support and encouragement for culture at grass-roots level? We want both and we do not want to undermine either. However, there are budgetary implications to any decision of that kind. I support wholeheartedly the Minister’s words in paying tribute to the Welsh National Opera and its initiative in Merthyr Tydfil. It not only allows young pupils in schools in Merthyr Tydfil to take part in an encouraging and important initiative, but it also means that those young people will have the opportunity to work with members of the WNO chorus, a writer, a composer, a costume designer, a photographer and a film-maker. It also means that they participate in an important production at the end of the project. That brings together the WNO’s standards of excellence and young people in Merthyr Tydfil, and gives them that opportunity. However, there are budgetary implications. As Rosemary and others have said, we must ensure that the budget adequately caters for that. I am far from convinced that the current budget is sufficient.

yn Saesneg Rhaid inni ymdrin â’r mater canolog o fewn yr adroddiad, sef sut y gallwn gynnal safonau o ragoriaeth ac eto sicrhau y rhoddir cymorth ac anogaeth ddigonol i ddiwylliant ar lawr gwlad? Yr ydym am sicrhau’r ddau heb danseilio’r naill na’r llall. Fodd bynnag, ceir goblygiadau cyllidebol i unrhyw benderfyniad o’r math hwnnw. Ategaf yn frwd eiriau’r Gweinidog wrth dalu teyrnged i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a’i menter ym Merthyr Tudful. Nid yn unig y mae’n caniatáu i ddisgyblion ifanc yn ysgolion Merthyr Tudful gymryd rhan mewn menter galonogol a phwysig, ond mae hefyd yn golygu y rhoddir y cyfle i’r bobl ifanc hynny weithio ag aelodau o gorws Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, awdur, cyfansoddwr, cynllunydd gwisgoedd, ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau. Golyga hefyd eu bod yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad pwysig ar ddiwedd y prosiect. Daw hynny â safonau rhagoriaeth Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a phobl ifanc Merthyr Tudful ynghyd, gan roi’r cyfle hwnnw iddynt. Fodd bynnag, ceir goblygiadau cyllidebol. Fel y nododd Rosemary ac eraill, rhaid inni sicrhau bod y gyllideb yn darparu’n ddigonol ar gyfer hynny. Yr wyf yn bell o gael fy argyhoeddi fod y gyllideb gyfredol yn ddigonol.

Gwerthfawrogaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Mawr hyderaf y bydd y weinyddiaeth yn symud ymlaen i weithredu’r argymhellion mewn trafodaeth a dealltwriaeth â’r Pwyllgor Diwylliant, sydd bellach wedi etifeddu’r adroddiad hwn sydd eisoes wedi ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16.

in Welsh I appreciate the opportunity to participate in this debate. I trust that the administration will proceed to implement the recommendations in consultation and understanding with the Culture Committee, which has now inherited this report, which has already been adopted by the Post-16 Education and Training Committee.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 59

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 59

I must protect the time of the minority party debate which follows, so I will need to call Cynog Dafis to respond at 4.20 p.m. I have the names of six Members who wish to contribute. Therefore, if Members can be as careful with their time and as succinct as I know that Glyn will be, everyone can be accommodated.

Rhaid imi amddiffyn amser y ddadl plaid leiafrifol sydd yn dilyn, felly bydd angen imi alw ar Cynog Dafis i ymateb am 4.20 p.m. Mae gennyf enwau chwe Aelod sydd am gyfrannu. Felly, os gall yr Aelodau fod mor ofalus â’u hamser, ac mor gryno ag y gwn y bydd Glyn, gellir bodloni pawb.

Glyn Davies spoken in English p. 59

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

I agree with nearly everybody else about the importance of culture to Wales and to the Assembly. I will focus on the potential that culture has to bring economic benefit to Wales. I have been interested in this for a long time because of my involvement in economic development over many years.

Cytunaf â bron pawb arall am bwysigrwydd diwylliant i Gymru ac i’r Cynulliad. Canolbwyntiaf ar y potensial sydd gan ddiwylliant i ddod â budd economaidd i Gymru. Bu diddordeb gennyf yn hyn am beth amser yn sgîl fy nghyfranogiad mewn datblygiad economaidd dros sawl blwyddyn.

A big advantage of using culture to develop Wales economically is that it is sustainable and fits in with the Assembly’s sustainable development objectives. Another advantage is the diversity that it offers to Wales’s economic base. Wales must create diversity in its economic base if it wants to retain more of its young people. Culture also enhances the corporate image of Wales abroad. It prevents Wales from seeming like a foreign or faraway country to people in places that might be considering inward investment projects in Wales. We all want a place where people want to live, bring up and educate their children, work and visit. Concentrating on and using culture could help us achieve that.

Un o fanteision mawr defnyddio diwylliant i ddatblygu Cymru yn economaidd yw ei fod yn gynaliadwy a’i fod yn cydweddu ag amcanion datblygiad cynaliadwy’r Cynulliad. Mantais arall yw’r amrywiaeth a gynigia i sail economaidd Cymru. Rhaid i Gymru greu amrywiaeth yn ei sail economaidd os yw am gadw mwy o’i phobl ifanc. Mae diwylliant hefyd yn cyfoethogi delwedd gorfforaethol Cymru dramor. Mae’n helpu i sicrhau na chaiff Cymru ei hystyried fel gwlad dramor neu bellennig i bobl mewn llefydd a allai fod yn ystyried prosiectau mewnfuddsoddi yng Nghymru. Yr ydym oll am weld gwlad lle mae pobl am fyw, magu ac addysgu eu plant, gweithio ac ymweld â hi. Gallai canolbwyntio ar ddiwylliant a’i ddefnyddio ein helpu i gyflawni hynny.

I have always been frustrated by the fact that the impact that culture can have on economic development has never been fully appreciated. Llywydd, you will remember how this issue was argued in the past. I was taught by a man whom you know—Dr Iain Skewis—many years ago. When I first entered this argument, it was about the Brecon Jazz Festival. The debate was about whether to spend about £0.5 million on building a new factory that might have been filled in a few years’ time and would have to have been let at a highly subsidised rate, or to spend perhaps a tenth of that on the Brecon Jazz Festival. I lost that argument and many more, on similar issues such as the Hay-on Wye Festival. I became convinced that investing in cultural events, purely in terms of developing the economy, was a sensible way for government to spend its money.

Bûm yn rhwystredig erioed â’r ffaith na werthfawrogwyd yr effaith y gall diwylliant ei chael ar ddatblygiad economaidd yn llawn. Lywydd, fe gofiwch sut y dadleuwyd y mater hwn yn y gorffennol. Fe’m dysgwyd gan ddyn sydd yn adnabyddus ichi—Dr Iain Skewis—flynyddoedd yn ôl. Pan gymerais ran yn y ddadl hon am y tro cyntaf, yr oedd yn ymwneud â Gŵyl Jazz Aberhonddu. Y ddadl oedd a ddylid gwario tua £0.5 miliwn ar adeiladu ffatri newydd y gellid fod wedi’i llenwi o fewn ychydig flynyddoedd ac y byddem wedi gorfod ei gosod ar brydles ar gyfradd ostyngol, neu o bosibl wario tua un rhan o ddeg o hynny ar Ŵyl Jazz Aberhonddu. Collais y ddadl honno a sawl un arall, ar faterion tebyg fel Gŵyl y Gelli Gandryll. Fe’m hargyhoeddwyd bod buddsoddi mewn digwyddiadau diwylliannol, yn nhermau datblygu’r economi, yn ffordd ddoeth i lywodraeth wario ei harian.

Language and the bilingualism of Wales and the Assembly are of huge potential economic benefit to Wales. We must not forget the English language. I have often been overwhelmed in the Chamber by David Melding—he is not here now—and his clever use of English. His incredible use of a wonderful language has sometimes brought us to fits of laughter.

Mae iaith a dwyieithrwydd Cymru a’r Cynulliad o fudd economaidd posibl enfawr i Gymru. Ni ddylem anghofio’r Saesneg. Fe’m trawyd yn aml yn y Siambr gan David Melding—nid yw yma ar hyn o bryd—a’i ddefnydd clyfar o’r Saesneg. Weithiau cafwyd chwerthin di-baid o ganlyniad i’w ddefnydd anhygoel o iaith ardderchog.

The Welsh language allows people, such as Dafydd Wigley, with his fantastic deep, rich Welsh voice, to talk rubbish and make it sound like sense. That is a wonderful attribute of the language. It also has an emotional side. I remember sitting in a hotel in Cardiff last summer, listening to three Welsh girls singing in Welsh. The combination of music and the language was almost too much for me. It brought a lump to my throat and tears to my eyes. It is fantastic and will help us to sell Wales. We want to use every aspect of culture to develop Wales and I hope that this report will enable us to go forward and use it in many different positive ways.

Mae’r Gymraeg yn caniatáu i bobl, megis Dafydd Wigley, a’i lais Cymreig cyfoethog, dwfn, siarad ffwlbri gan wneud iddo swnio fel synnwyr. Mae hynny’n un o nodweddion ardderchog yr iaith. Mae iddi ochr emosiynol hefyd. Cofiaf eistedd mewn gwesty yng Nghaerdydd yn ystod yr haf y llynedd, yn gwrando ar dair merch Gymreig yn canu yn Gymraeg. Yr oedd y cyfuniad o gerddoriaeth a’r iaith ymron yn ddigon i mi. Daeth â lwmp i’m gwddf a dagrau i’m llygaid. Mae’n ardderchog a bydd o gymorth inni wrth werthu Cymru. Yr ydym am ddefnyddio pob agwedd ar ddiwylliant i ddatblygu Cymru a gobeithiaf y bydd yr adroddiad hwn yn ein galluogi i fynd ati a’i ddefnyddio mewn sawl gwahanol ffordd gadarnhaol.

Christine Chapman spoken in English p. 61

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 61

As a member of the former Post-16 Education and Training Committee, I welcome this report. We also dealt with the detailed Education and Training Action Group report, which has set the scene for post-16 education in Wales. I pay tribute to my colleagues on the Committee and to Tom Middlehurst, Cynog Dafis and Ceri Sherlock. We all helped to put this piece of work together.

Fel aelod o’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 blaenorol, croesawaf yr adroddiad hwn. Ymdriniom hefyd ag adroddiad manwl y Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant, sydd yn nodi’r sefyllfa ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru. Talaf deyrnged i’m cydweithwyr ar y Pwyllgor ac i Tom Middlehurst, Cynog Dafis a Ceri Sherlock. Buom oll yn helpu i lunio’r darn hwn o waith.

This process also gave us—as was the case with the ETAG report—a blue print for undertaking such policy reviews, encompassing a wide range of views, wide consultation and a new, open way of conducting such work. We have seen a unique policy process through the evidence taking sessions. Those sessions were held throughout Wales as well as in the Assembly in the form of roadshows and presentations to organisations and individuals. That was important. It was an innovative and open approach to the process of policy review and devolution was in action. We must applaud that and be pleased about it.

Fel a ddigwyddodd gydag adroddiad ETAG, rhoddodd y broses hon lasbrint inni ar gyfer cynnal arolygon polisi o’r fath, yn cwmpasu ystod eang o safbwyntiau, ymgynghori eang a ffordd newydd, agored o gynnal gwaith o’r fath. Gwelsom broses bolisi unigryw drwy’r sesiynau cymryd tystiolaeth. Cynhaliwyd y sesiynau hynny ledled Cymru yn ogystal ag yn y Cynulliad ar ffurf sioeau teithiol a chyflwyniadau i sefydliadau ac unigolion. Yr oedd hynny’n bwysig. Yr oedd yn ymagwedd arloesol ac agored tuag at y broses o adolygu polisïau ac yr oedd datganoli ar waith. Rhaid inni gymeradwyo hynny ac ymfalchïo ynddo.

I want to talk mainly about the economic development of arts and culture. The contribution of the arts and culture industry to Wales is paramount. In terms of economic contribution alone, these industries are important to the future direction of Wales. However, arts and culture are not only about economic development, and I am sure that if we speak to people involved in arts and culture—as we have done—that they would not want to see it only in those terms. Nevertheless, economic development is a vital aspect. We know from statistics that one in 40 of the working population are involved in the arts and culture, and we cannot underestimate its importance.

Hoffwn sôn yn bennaf am ddatblygiad economaidd y celfyddydau a diwylliant. Mae cyfraniad y diwydiant celfyddydol a diwylliant i Gymru yn holl bwysig. Yn nhermau cyfraniad economaidd yn unig, mae’r diwydiannau hyn yn bwysig i gyfeiriad Cymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid mater o ddatblygiad economaidd yn unig yw’r celfyddydau a diwylliant, ac yr wyf yn siŵr pe bawn yn siarad â’r bobl sydd yn ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant—fel y gwnaethom—na fyddent am ei weld yn y termau hynny yn unig. Serch hynny, mae datblygiad economaidd yn agwedd hanfodol. Gwyddom o ystadegau bod un o bob 40 o’r boblogaeth sydd yn gweithio yn ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant, ac ni allwn danamcangyfrif ei bwysigrwydd.

This report is not only important in terms of revitalising and supporting the arts and cultural organisations, but also in recognising and enhancing their contribution to the rebuilding of the Welsh economy. We would all want to sign up to that. We need to get this policy right and implement it. We must be creative and use joined-up thinking, which is something we talk about a great deal in the Assembly. The policy is about redefining Wales in terms of our cultural base and heritage. As a country, Wales is small enough to do that. When we formulate our policy, we should take account of that. Bodies such as the Welsh Development Agency and the Wales Tourist Board must take account of this report. We cannot afford to be narrow in our vision. When we present Wales to the wider world, which is a definite benefit of devolution—Wales has a higher profile since devolution—this report can play a vital role. As well as redefining Wales, it is about helping to forge another definition of Wales. That is important. It is also important that we look beyond people’s stereotypical views of Wales. I welcome this report and I was pleased and privileged to be part of this process. Let us proceed and implement it.

Mae’r adroddiad hwn yn bwysig nid yn unig yn nhermau adfywio a chynnal sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, ond hefyd wrth gydnabod a chyfoethogi eu cyfraniad wrth ailadeiladu economi Cymru. Byddem oll yn cytuno â hynny. Mae angen inni sicrhau bod y polisi hwn yn gywir a’i weithredu. Rhaid inni fod yn greadigol a defnyddio ffordd o feddwl gydlynus, sydd yn rhywbeth yr ydym yn sôn amdano’n helaeth yn y Cynulliad. Mae’r polisi yn ymwneud ag ailddiffinio Cymru yn nhermau ein sail ddiwylliannol a’n hetifeddiaeth. Fel gwlad, mae Cymru yn ddigon bach i wneud hynny. Wrth lunio ein polisi, dylem ystyried hynny. Rhaid i gyrff megis Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru ystyried yr adroddiad hwn. Ni allwn fforddio culhau ein gweledigaeth. Wrth gyflwyno Cymru i’r byd ehangach, sydd yn un o fanteision pendant datganoli—mae proffil Cymru’n uwch ers datganoli—gall yr adroddiad hwn chwarae rhan hanfodol. Yn ogystal ag ailddiffinio Cymru, mae’n ymwneud â helpu i lunio diffiniad arall o Gymru. Mae hynny’n bwysig. Mae hefyd yn bwysig inni edrych y tu hwnt i safbwyntiau ystrydebol pobl o Gymru. Croesawaf yr adroddiad hwn ac yr oedd yn bleser ac yn fraint bod yn rhan o’r broses hon. Gadewch inni fynd ati a’i weithredu.

Richard Edwards spoken in English p. 62

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 62

At the dawn of a new millennium—I am tempted to say post-colonial millennium, but Owen John Thomas is not present and I do not want to upset David Davies; but I was impressed that even you, David, recognised that there are limits to crassness—and at the outset of devolution, an extensive audit of the arts and cultural life in Wales is welcome and propitious.

Ar drothwy’r mileniwm newydd—caf fy nhemtio i ddweud mileniwm ôl-wladychol, ond nid yw Owen John Thomas yn bresennol ac nid wyf am boenydio David Davies; ond fe’m synnwyd o glywed eich bod chi, David, hyd yn oed yn cydnabod bod yna derfynau i fwlgariaeth—ac ar ddechrau datganoli, bod archwiliad helaeth o fywyd celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru yn rhywbeth manteisiol i’w groesawu.

I focus my comments on access and diversity. ‘A Culture in Common’ will provide a helpful framework for developing policies that will promote the enjoyment and wellbeing of Welsh citizens in social and economic terms. The Assembly should take the lead in that policy formulation and implementation with adequate funding to match commitment and working closely with our partners.

Canolbwyntiaf fy sylwadau ar fynediad ac amrywiaeth. Bydd ‘Diwylliant Cytûn’ yn darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer datblygu polisïau a fydd yn hyrwyddo mwynhad a lles dinasyddion Cymru yn nhermau cymdeithasol ac economaidd. Dylai’r Cynulliad gymryd yr awenau wrth lunio a gweithredu’r polisi hwnnw gydag arian digonol i gyfateb â’r ymroddiad a chan weithio’n agos â’n partneriaid.

When there is so much financial deprivation in our country—and the Welsh Affairs Committee report on social exclusion published yesterday reinforces what is self-evident—it may sound a trifle effete to say that man and woman cannot live by bread alone. However, without question, access to the arts, culture and leisure promotes social and economic wellbeing. It enriches our quality of life and it can renew our economy. The report commendably stresses that the arts and culture must be available to all. We must provide the framework that permits creativity and excellence to flourish and we need the flagship organisations. As a fan of the Welsh National Opera, I am bound to say that. However, I have always believed that opera and high culture should be available to everybody. ‘Flagship’ should not be a euphemism for elitism. We must ensure that as many people as possible have the chance to enjoy and participate in all forms of cultural activity. Access must not be limited to the moneyed and educated elite, as happened in the Thatcher years. Hers was a decade of blight and unmitigated philistinism, whose legacy of underfunding was prolonged by her successor, and from which we have yet to recover.

Pan fo cymaint o amddifadedd ariannol yn ein gwlad—ac mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar allgáu cymdeithasol a gyhoeddwyd ddoe yn atgyfnerthu’r hynny sydd yn amlwg—gall yr ymadrodd nid ar fara yn unig y bydd dyn na merch yn byw swnio braidd yn llipa. Fodd bynnag, yn ddi-os, mae mynediad i’r celfyddydau, diwylliant a hamdden yn hyrwyddo lles cymdeithasol ac economaidd. Mae’n cyfoethogi ansawdd ein bywyd a gall adfywio ein heconomi. Pwysleisia’r adroddiad yn gymeradwy y dylai’r celfyddydau a diwylliant fod ar gael i bawb. Rhaid inni ddarparu’r fframwaith sydd yn caniatáu i greadigrwydd a rhagoriaeth ffynnu ac mae angen y sefydliadau blaenllaw arnom. Fel un o ddilynwyr Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, dyna fyddai fy marn yn amlwg. Fodd bynnag, credais erioed y dylai opera a diwylliant uchel fod ar gael i bawb. Ni ddylai ‘blaenllaw’ fod yn gyfystyr ag elitiaeth. Rhaid inni sicrhau y caiff cymaint o bobl â phosibl y cyfle i fwynhau a chymryd rhan ymhob math o weithgaredd diwylliannol. Ni ddylid cyfyngu mynediad i’r elît gyfoethog a hyddysg, fel y digwyddodd ym mlynyddoedd Thatcher. Yr oedd ei degawd hi yn ddegawd o ddirywiad a philistiaeth diarbed, yr estynnwyd ei hetifeddiaeth o danariannu gan ei holynydd, rhywbeth nad ydym wedi dod drosto eto.

The report also emphasises that we must value and take pride in our cultural diversity. Every Welsh citizen, be he or she from a Welsh language, an English language or an ethnic minority background, should have the opportunity to share, celebrate and develop his or her own distinctive cultural heritage. Culture can help to create a sense of community, identity and pride, but we have a community of communities in Wales and a rich diversity of local cultures and traditions expressed in more than two languages. Celebrating our differences means fostering mutual understanding and nurturing mutual respect.

Pwysleisia’r adroddiad hefyd fod yn rhaid inni werthfawrogi ac ymfalchïo yn ein hamrywiaeth diwylliannol. Dylid rhoi’r cyfle i bob un o ddinasyddion Cymru, boed o gefndir Cymraeg, Saesneg neu leiafrifol ethnig, rannu, dathlu a datblygu eu hetifeddiaeth ddiwylliannol benodol eu hunain. Gall diwylliant helpu i greu ymdeimlad o gymuned, hunaniaeth a balchder, ond mae gennym gymuned o gymunedau yng Nghymru ac amrywiaeth cyfoethog o ddiwylliannau a thraddodiadau lleol wedi’u mynegi mewn mwy na dwy iaith. Mae dathlu ein gwahaniaethau yn golygu meithrin dealltwriaeth gytûn a pharch tuag at ein gilydd.

On access, geographical as well as financial access to cultural activities and facilities is vital. In rural areas and geographically marginal areas—and Pembrokeshire qualifies on both counts—venues must be close to public transport facilities to maximise participation. I am tempted to ask, ‘What public transport facilities?’ but I will not pursue that now. There should also be disabled access and crèche provision. Arts and cultural events should be promoted in all local communities and not just concentrated in urban centres. I have already raised that issue in this Chamber with regard to opportunities for young musicians who do not happen to live in the Cardiff area. The report gives weight to the fact that our vision can best be realised by nurturing children in school. I agree with that. Early years education in particular is important here, as it is for the equality agenda as a whole. However, I regret that there is only a brief reference in the report to the contribution adult learning plays in promoting art and culture. There may be a good reason for that; I do not know. Local authorities, further and higher education institutions, workers’ education associations and other bodies provide a rich variety of adult education courses. Regrettably, their distribution is poor, and I would like to see an audit of the geographical distribution of adult education, arts and culture courses in Wales. Adult education has an important contribution to make if we are to maximise the potential of arts and culture to promote social cohesion, community regeneration and to establish creative industries.

O ran mynediad, mae mynediad daearyddol yn ogystal â mynediad ariannol i weithgareddau a chyfleusterau diwylliannol yn hanfodol. Mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd sydd wedi’u hynysu’n ddaearyddol—ac mae Sir Benfro yn gymwys yn y ddau ystyr—rhaid i leoliadau fod yn agos i gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau’r cyfranogiad uchaf posibl. Caf fy nhemtio i ofyn, ‘Pa gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus?’ ond nid af ar drywydd hynny yn awr. Dylid sicrhau mynediad i’r anabl a chyfleusterau crèche hefyd. Dylid hyrwyddo digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ymhob cymuned leol ac nid mewn canolfannau trefol yn unig. Codais y mater hwnnw eisoes yn y Siambr hon o ran cyfleoedd i gerddorion ifanc nad ydynt yn digwydd byw yn ardal Caerdydd. Pwysleisia’r adroddiad y ffaith mai’r ffordd orau i wireddu ein gweledigaeth yw drwy addysgu plant yn yr ysgol. Cytunaf â hynny. Mae addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig o bwysig yn hyn o beth, fel y mae ar gyfer yr agenda cydraddoldeb yn gyffredinol. Fodd bynnag, siomedig yw’r cyfeiriad byr yn yr adroddiad at gyfraniad dysgu i oedolion wrth hyrwyddo’r celfyddydau a diwylliant. Efallai fod rheswm da am hynny; ni wn. Darpara awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac uwch a chyrff eraill amrywiaeth cyfoethog o gyrsiau addysg i oedolion. Yn anffodus, mae eu dosbarthiad yn wael, a hoffwn weld archwiliad o ddosbarthiad daearyddol addysg i oedolion, cyrsiau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Mae gan addysg i oedolion gyfraniad pwysig i’w chwarae os ydym am wneud y gorau o botensial y celfyddydau a diwylliant i hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol, adfywiad cymunedol ac i sefydlu diwydiannau creadigol.

Finally, on equality of opportunity, it would be a foolish man who claimed that women get a fair deal in the arts and culture world. I note that there is no reference in the report, as far as I am aware, to the cultural contributions of the Women’s Institute, or Merched y Wawr or to local authority youth clubs and young farmers’ clubs. The aspirations in the report are highly commendable, but perhaps in the spirit of equality of opportunity, to which we have a statutory obligation, all our reports—and this is perhaps a little tongue in cheek—should have a feminist eye cast over them. A disabled one, an ethnic minority one and a classist one—to please David again—should also be cast over them to pick out the prejudices of white, middle-aged, middle-class men in grey suits.

Yn olaf, ar fater cyfle cyfartal, dim ond ffwl o ddyn fyddai’n honni bod merched yn cael cyfle teg ym myd y celfyddydau a diwylliant. Nodaf na cheir unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad, hyd y gwelaf, at gyfraniadau diwylliannol Sefydliad y Merched, neu Ferched y Wawr neu at glybiau ieuenctid awdurdodau lleol a chlybiau ffermwyr ifanc. Mae’r dyheadau yn yr adroddiad i’w cymeradwyo, ond efallai yn ysbryd cyfle cyfartal, y mae gennym rwymedigaeth statudol i’w gyflawni, y dylem sicrhau gyda phob un o’n hadroddiadau—ac efallai fod hyn yn gellweirus braidd—y caiff merch fwrw golwg drostynt. Dylid hefyd roi cyfle i gynrychiolydd o blith yr anabl, lleiafrifoedd ethnig a dosbarthiadau—eto i blesio David—er mwyn iddynt nodi rhagfarnau dynion gwyn, canol oed, dosbarth canol mewn siwtiau llwyd.

Alison Halford spoken in English p. 65

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 65

I broadly welcome this report. It must be frustrating, when so much work has been spent on it, that we are not taking it forward in the way that the authors would perhaps like us to do. There are many good proposals in it, such as raising the profile of ethnic minority groups and including other cultures in the Curriculum Cymreig. That is a decisive step. The proposed audit of training and education provision in the arts is also welcome. Anything that can help a new group in Mold, called Coldplay, is to be encouraged. Promoting cultural tourism is a great way to improve local economies. These are all positive reforms, but the report suggests that the grass roots is the main theme, and the aim is to raise standards and expectations at every level. I am sure that we will all support that. However, I fear that the method chosen to implement certain changes may present serious difficulties for the professional arts in Wales. The report’s rather exciting way of reviving our communities may result in economic apartheid, even a possible exodus of professionals, with investment in professional, art-based organisations decreasing because of their status. Surely, the balance between community and professional arts has already been struck and exists in many of our centres of excellence right now. Clwyd Theatr Cymru, in my constituency for example, already fulfils all the proposed requirements for a new national remit organisation, and the Welsh National Opera nearly does so.

Croesawaf yr adroddiad hwn yn fawr. Ar ôl i gymaint o waith fynd iddo, rhaid ei fod yn rhwystredig nad ydym yn ei ddatblygu yn y ffordd y bwriadodd yr awduron inni ei wneud o bosibl. Mae llawer o gynigion da ynddo, megis codi proffil grwpiau lleiafrifol ethnig a chynnwys diwylliannau eraill yn y Cwricwlwm Cymreig. Mae hwn yn gam pendant. Croesewir hefyd yr archwiliad arfaethedig o’r ddarpariaeth hyfforddiant ac addysg yn y celfyddydau. Dylid annog unrhyw gamau a all helpu grŵp newydd yn Yr Wyddgrug o’r enw Coldplay. Mae hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol yn ffordd ardderchog o wella economïau lleol. Maent oll yn ddiwygiadau cadarnhaol, ond awgryma’r adroddiad mai llawr gwlad yw’r brif thema, a’r nod yw codi safonau a disgwyliadau ar bob lefel. Yr wyf yn siŵr y byddwn oll o blaid hynny. Fodd bynnag, ofnaf y gallai’r dewis ddull ar gyfer gweithredu rhai newidiadau gyflwyno anawsterau difrifol i’r celfyddydau proffesiynol yng Nghymru. Gallai ffordd gyffrous yr adroddiad o adfywio ein cymunedau achosi apartheid economaidd, ecsodus posibl ymhlith pobl broffesiynol hyd yn oed, gyda buddsoddi mewn sefydliadau proffesiynol ym myd y celfyddydau yn lleihau o ganlyniad i’w statws. Siawns fod y cydbwysedd rhwng celfyddydau cymunedol a phroffesiynol eisoes wedi’i daro a’i fod eisoes yn bodoli o fewn llawer o’n canolfannau rhagoriaeth. Mae Clwyd Theatr Cymru, yn fy etholaeth er enghraifft, eisoes yn cyflawni’r holl ofynion arfaethedig ar gyfer sefydliad cylch gwaith cenedlaethol newydd, ac mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn agos at gyrraedd y nod hwnnw.

Last year, Clwyd Theatr Cymru’s mobile theatre toured eight major productions throughout Wales. It organised 50 performances by amateur groups, 594 educational workshops and 50 community gallery exhibitions. As a result, almost 200,000 people attended Clwyd Theatr Cymru’s productions and events last year. This included 31,000 children, and 25,000 people attended their amateur community-based performances. If this is not art serving the community, I do not know what is. These flagships of Welsh culture are the backbone of Welsh art. Who will nurture new talent? It is short-sighted to think that you can divert funding from these centres of excellence and not suffer the consequences. What are we left with? Like it or not, community amateur-based projects have a history of large state subsidy, but they rarely break even.

Y llynedd, aeth theatr symudol Clwyd Theatr Cymru ar daith gydag wyth o gynyrchiadau mawr ledled Cymru. Trefnodd 50 o berfformiadau gan grwpiau amatur, 594 o weithdai addysgol a 50 o arddangosfeydd mewn orielau cymunedol. O ganlyniad, mynychodd ymron 200,000 o bobl gynyrchiadau a digwyddiadau Clwyd Theatr Cymru y llynedd. Yr oedd hyn yn cynnwys 31,000 o blant, a mynychodd 25,000 o bobl eu perfformiadau amatur cymunedol. Os nad yw hynny’n enghraifft o gelfyddyd yn gwasanaethu’r gymuned, ni wn beth sydd. Mae’r sefydliadau diwylliannol blaenllaw hyn yng Nghymru yn asgwrn cefn i gelfyddyd Gymreig. Pwy fydd yn meithrin talent newydd? Byr eich golwg yw ystyried y gallwch arallgyfeirio nawdd o’r canolfannau rhagoriaeth hyn heb ddioddef y canlyniadau. Beth fydd yn weddill? Yn cytuno ai peidio, mae gan brosiectau cymunedol amatur hanes o dderbyn cymorthdaliadau mawr gan y wladwriaeth, ond anaml y gwnânt ad-dalu costau.

I support the establishment of the cultural consortium—Cymru’n Creu. It will help to tackle what John Barnie called a crisis of arts management in Wales. It will bring distinctive threads of Welsh art together in an open and accountable way. However, the answer is a middle ground. If art helps education, let the education budget contribute. If art helps health, draw upon the health budget. Let us not pretend that we can take money away from our centres of excellence and not expect them to suffer. Robbing Peter to pay Paul will not work. This is a good report, but it should be considered in its entirety. As has been said, it has not been costed, it needs more work, and cutting away professionalism to the advantage of amateurism may not be the way forward.

Yr wyf o blaid sefydlu’r consortiwm diwylliannol—Cymru’n Creu. Bydd yn helpu i fynd i’r afael â’r hyn a alwodd John Barnie yn argyfwng rheolaeth gelfyddydol yng Nghymru. Daw â llinynnau penodol o’r celfyddydau yng Nghymru ynghyd mewn ffordd agored ac atebol. Fodd bynnag, dod o hyd i’r tir canol yw’r ateb. Os bydd celfyddyd yn helpu addysg, gadewch i’r gyllideb addysg gyfrannu. Os bydd celfyddyd yn helpu iechyd, defnyddiwch y gyllideb iechyd. Ni ddylem esgus y gallwn gymryd arian o’n canolfannau rhagoriaeth heb ddisgwyl iddynt ddioddef. Nid dwyn o’r naill law i dalu’r llall yw’r ateb. Mae hwn yn adroddiad da, ond dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd. Fel y dywedwyd, nid yw wedi’i gostio, mae angen mwy o waith arno, ac efallai nad cael gwared ar broffesiynoldeb er budd amaturiaeth yw’r ffordd orau ymlaen.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 66

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 66

Ar bwynt Alison Halford, gobeithio y bydd yn bosibl cael cydbwysedd rhwng yr amatur a’r proffesiynol. Mae lle i gredu bod y cydbwysedd hwnnw wedi bod yn annigonol yn y gorffennol ac nad yw wedi adlewyrchu cryfder a phwysigrwydd gweithgarwch yn y gwreiddiau a gweithgarwch amatur. Croesawaf gymeradwyaeth Jenny Randerson i amcan yr adroddiad, er nad i bob un o’r manylion. Ni fyddwn yn disgwyl hynny. Fodd bynnag, mae angen ailystyried statws adroddiadau o’r math hwn a sut y dylent gael eu trafod gan y Cynulliad cyfan, ac a ddylai’r Cynulliad gael cyfle i’w cymeradwyo.

On Alison Halford’s point, I hope that it will be possible to strike a balance between the amateur and the professional. There is scope to believe that that balance has been inadequate in the past and has not reflected the strength and importance of grass roots and amateur activities. I welcome Jenny Randerson’s approval of the purpose of the report, though not for each of the recommendations. I would not expect that. However, there is a need to reconsider the status of such reports and how they should be discussed by the Assembly as a whole and whether the Assembly should be given the opportunity to approve them.

Trafodwyd elitiaeth a hierarchiaeth. Mae gwahaniaeth rhwng y ddau. Collais y frwydr ar hierarchiaeth yn y Pwyllgor—yr oeddwn am gael datganiad bod Beethoven, ar y cyfan, rywfaint yn well na Tony ac Aloma, er mor swynol yw Tony ac Aloma. Yr oedd Christine Chapman yn gwrthod â gadael imi ddweud y fath beth. Mae elitiaeth yn beth arall. Y mae’n berffaith bosibl i bobl ar bob lefel o gymdeithas werthfawrogi Beethoven—yr aruchelaf yn cael ei werthfawrogi gan bob lefel o gymdeithas. Yr wyf yn erbyn elitiaeth, ond credaf mewn elfen o hierarchiaeth.

Elitism and hierarchy were discussed. There is a difference between the two. I lost the battle in Committee on hierarchy—I wanted to have a statement that Beethoven, on the whole, was slightly better than ‘Tony ac Aloma’, melodious as ‘Tony ac Aloma’ are. Christine Chapman would not allow me to say such a thing. Elitism is something else. It is perfectly possible for people on all levels of society to appreciate Beethoven—the sublime being appreciated by every level of society. I am against elitism, but I believe in an element of hierarchy.

Gobeithiaf fod Delyth Evans yn anghywir pan ddywed fod lle i gredu ein bod yn rhy fewnblyg. Nid dyna oedd y bwriad. Soniodd Owen John Thomas am gyfnod ôl-drefedigaethol. Mae’n bosibl, ar adegau mewn hanes, fod yn rhaid cywiro diffygion y gorffennol. Bu elfen o ddiraddio a diflannu a diffyg gweledigaeth mewn perthynas â’n traddodiadau brodorol. Er enghraifft, edrychwch ar lyfr Peter Lord ar ddelweddu’r genedl i weld sut yr ydym wedi anghofio am ganrifoedd fod y fath beth yn bod â chelfyddyd weledol Gymreig. Mae’n bryd dod ag ef yn ôl ac ymfalchïo yn yr hyn sydd yn draddodiadol.

I hope that Delyth Evans is wrong when she says that there is room to believe that we are too introspective. That was not the intention. Owen John Thomas mentioned a post-colonial era. It is possible, at times in history, that we need to correct the deficiencies of the past. There has been an element of debasement and disappearance and lack of vision in relation to our indigenous traditions. For example, look at Peter Lord’s book on imaging the nation to see how we have forgotten for centuries that such a thing as Welsh visual art exists. It is time to bring it back and to take pride in that which is traditional.

Siaradodd Rosemary Butler â brwdfrydedd ynglŷn â chelfyddyd ac addysg, a chymeradwyaf hynny.

Rosemary Butler talked with enthusiasm about art and education, and I applaud that.

Ar Clwyd Theatr Cymru a’r cwestiwn o ymyrryd â’r strategaeth ddrama, yr oedd yr amgylchiadau’n arbennig. Gohiriodd Gyngor y Celfyddydau ei strategaeth ddrama yng nghanol y trafodaethau. Yn ôl fy nealltwriaeth, mae cysylltiad rhwng penderfyniadau cyllido ynghylch theatr i bobl ifanc a’r rheini yn ymwneud â Clwyd Theatr Cymru. Ni allwch ystyried un heb y llall. Mae angen ailystyried y strategaeth ddrama o’r gwaelod.

On Clwyd Theatr Cymru and the question of interfering with the drama strategy, the circumstances were exceptional. The Arts Council deferred its drama strategy in the middle of discussions. According to my understanding, there is a link between the funding decisions on theatre for young people and those relating to Clwyd Theatr Cymru. You cannot consider one without the other. The drama strategy needs to be reconsidered from the bottom up.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos gymaint y gall y Cynulliad ei gyflawni heb bwerau ychwanegol. Nid wyf am ddweud hynny’n aml yn ystod y tri neu bedwar mis nesaf ond mae’n dangos bod hynny’n bosibl lle mae’r ewyllys wleidyddol yn bodoli. Cyhuddiad cyffredin yn erbyn y Cynulliad yw ein bod yn llawn brawl ond nad ydym yn gweithredu. Mae Rhodri Glyn Thomas yn gofyn am gynllun gweithredu. Dyna yr hoffem ei weld yn deillio o’r adroddiad hwn. Rhaid inni weithredu’r argymhellion a dangos ei bod yn bosibl creu adfywiad diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru.

This report demonstrates how much the Assembly can achieve without additional powers. I will not say that often over the next three or four months, but it demonstrates that that is possible when the political will exists. A common accusation made against the Assembly is that we are all talk and no action. Rhodri Glyn Thomas is asking for an action plan. That is what we want to see emanating from this report. We must implement the recommendations and show that it is possible to create a cultural and artistic revival in Wales.

Cynnig Cynog Dafis t. 68

Motion Cynog Dafis p. 68

DerbyniwydAdopted O blaidFor 47 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (47)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 4.28 p.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 4.28 p.m.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Ron Davies spoken in English p. 69

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 69

Point of order. After the division that took place in the Assembly last week, I had to confess that I had taken the advice of the chief whip and voted the wrong way. [Laughter.] Further to that, for the last minute I have been frantically pressing the button while the red light was flashing but my vote does not seem to have been recorded. I would like it recorded that I was present and attempting to vote and that, on this occasion, without the advice of the chief whip I managed to vote the right way.

Pwynt o drefn. Ar ôl y bleidlais a gafwyd yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, bu’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi derbyn cyngor y prif chwip ac wedi pleidleisio’n anghywir. [Chwerthin.] At hynny, am y funud ddiwethaf bûm wrthi’n brysur yn pwyso’r botwm wrth i’r golau coch fflachio ond ymddengys nad yw fy mhleidlais wedi’i chofnodi. Hoffwn gofnodi fy mod yn bresennol ac wedi ceisio pleidleisio ac, y tro hwn, heb gyngor y prif chwip fy mod wedi llwyddo i bleidleisio’n gywir.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 69

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 69

I am pleased about the last bit, Ron. We can put that right. Your vote will be included on the official record of votes.

Yr wyf yn falch o’r rhan olaf, Ron. Gallwn unioni hynny. Caiff eich pleidlais ei chynnwys ar gofnod swyddogol y pleidleisiau.

Dadl Plaid Leiafrifol (Plaid Cymru)

Minority Party Debate (Plaid Cymru)

Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Manufacturing in Wales

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 69

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 69

I have selected amendment 1 in the name of William Graham and amendment 2 in the names of Kirsty Williams and Andrew Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw William Graham a gwelliant 2 yn enw Kirsty Williams ac Andrew Davies.

Phil Williams spoken in English p. 69

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 69

I propose that

Cynigiaf fod

Phil Williams (continued) spoken in English p. 70

Phil Williams (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 70

The National Assembly therefore urges the Government in London to:

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol felly yn annog y Llywodraeth yn Llundain i:

use fiscal rather than monetary measures to control inflation in the most prosperous areas, by increasing tax raised on taxable incomes greater than £50,000 a year, and investing the extra revenue in an active regional policy;

ddefnyddio mesurau ariannol yn hytrach na rhai arianyddol i ffrwyno chwyddiant yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus, trwy gynyddu’r dreth ar incymau trethadwy dros £50,000 y flwyddyn a buddsoddi’r arian ychwanegol mewn polisi rhanbarthol gweithredol;

amend the present guidelines to the Monetary Policy Committee, laid down in the Bank of England Act 1997, which only refer to the control of inflation, to ensure that proper consideration is given to the overall strength of the economy and to the level of employment throughout the UK;

diwygio canllawiau presennol y Pwyllgor Polisi Arianyddol a bennwyd gan Ddeddf Banc Lloegr 1997 sydd yn cyfeirio’n unig at reoli chwyddiant, i sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i gryfder yr economi gyfan ac i lefel y diwaith ledled y DU;

reduce the levels of corporation tax and employers’ national insurance contributions in those regions designated to receive European structural funds;

lleihau lefelau’r dreth gorfforaethol a chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y rhanbarthau hynny sy’n derbyn cronfeydd strwythurol Ewropeaidd;

provide extra tax credits for research and development in those regions designated to receive European structural funds;

rhoi credydau treth ychwanegol i waith ymchwil a datblygu yn y rhanbarthau hynny sydd yn derbyn cronfeydd strwythurol Ewropeaidd;

establish employment protection measures in the UK similar to those that apply in the other major economies of the EU.

sefydlu mesurau amddiffyn swyddi yn y DU tebyg i’r rheini a geir ym mhrif economïau eraill yr UE.

Amendment 2, the Government amendment, is ambiguous but if it is read in the way that I fear it was intended to be read, whatever I say, the outcome of the vote at the end is predictable. I understand that before Christmas there was a debate in the Labour group on this issue so I know that some of the Labour group and possibly all the Liberal Democrats will secretly agree with much of what I say. I will therefore try not to worry about how Members will vote but I want to get my message across.

Mae gwelliant 2, gwelliant y Llywodraeth, yn amwys ond os y’i darllenir yn y ffordd y bwriadwyd iddo gael ei ddarllen fel yr wyf yn ofni, beth bynnag a ddywedaf, gellir rhagweld canlyniad y bleidlais ar y diwedd. Deallaf y bu dadl ar y mater hwn o fewn y grŵp Llafur cyn y Nadolig, felly gwn y bydd rhai o aelodau’r grŵp Llafur a phob un o’r Democratiaid Rhyddfrydol o bosibl yn cytuno’n dawel bach ar y rhan fwyaf o’r hyn a ddywedaf. Felly ceisiaf beidio â phoeni am sut y pleidleisia’r Aelodau ond yr wyf am drosglwyddo fy neges.

Alun Cairns spoken in English p. 71

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 71

You mentioned the debate in the Labour group on this issue. Do you mean the one on higher tax for people earning £50,000 or more?

Cyfeiriasoch at y ddadl ar y mater hwn yn y grŵp Llafur. A ydych yn cyfeirio at yr un ar dreth uwch i bobl sydd yn ennill £50,000 neu fwy?

Phil Williams spoken in English p. 71

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 71

No. The manufacturing industry is important to Wales. It constitutes 27 per cent of our economy compared with 20 per cent of the UK economy as a whole. In contrast, only 3 per cent of our economy is comprised of financial services compared with the UK’s 6 per cent. This is not necessarily a weakness. The manufacturing industry will continue to be of great importance in all economies. There is a naïve suggestion that commodity manufacture will go to eastern Europe and we will develop the knowledge-based industries. Be warned. I have worked closely with scientists from eastern Europe for 15 years: I provide the equipment and they provide the intellectual input. For all its faults, the old Communist system provided a superb education in mathematics, physics and engineering. Do not assume that the Czech Republic will be happy with the low grade work of manufacturing analogue television sets while we develop the new digital and flat screen technologies. It is a competitive world. We will need our manufacturing industries. However, to compete in a global economy, they must be among the best. In steel manufacturing, for example, we are among the best. Our steel mills are among the most efficient in Europe. According to Corus’s own figures, the workers in our strip mills are 25 per cent more productive than their counterparts in the Netherlands. Why, therefore, is our steel industry under threat and why have there been huge job losses in electronics and other industries? The answer is simple: our industries have to overcome the formidable handicap of an over-valued pound.

Nac ydwyf. Mae’r diwydiant gweithgynhyrchu yn bwysig i Gymru. Mae’n cyfrif am 27 y cant o’n heconomi o’i gymharu ag 20 y cant o economi gyfan y DU. Ar y llaw arall, dim ond 3 y cant o’n heconomi sydd yn wasanaethau ariannol o’i gymharu â 6 y cant ar gyfer y DU. Nid yw hyn yn wendid o reidrwydd. Bydd y diwydiant gweithgynhyrchu yn parhau i fod o bwys mawr ym mhob economi. Ceir awgrym naïf y bydd gweithgynhyrchu nwyddau yn symud i ddwyrain Ewrop ac mai ni fydd yn datblygu’r diwydiannau sydd yn seiliedig ar wybodaeth. Gocheler. Bûm yn gweithio’n agos â gwyddonwyr o ddwyrain Ewrop ers 15 mlynedd: darparaf innau y cyfarpar a darparant hwy y mewnbwn deallusol. Er gwaethaf ei holl wendidau, rhoddodd yr hen system Gomiwnyddol addysg wych ym maes mathemateg, ffiseg a pheirianneg. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y Weriniaeth Tsiec yn fodlon ar waith o radd isel megis gweithgynhyrchu setiau teledu analog tra ein bod ni’n datblygu’r technolegau digidol a sgriniau gwastad newydd. Mae’n fyd cystadleuol. Bydd angen ein diwydiannau gweithgynhyrchu arnom. Fodd bynnag, er mwyn cystadlu mewn economi fyd-eang, rhaid iddynt fod ymhlith y goreuon. Mewn gweithgynhyrchu dur, er enghraifft, yr ydym ymhlith y goreuon. Mae ein melinau dur ymhlith y rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop. Yn ôl ffigurau Corus ei hun, mae’r gweithwyr yn ein melinau stribed 25 y cant yn fwy cynhyrchiol na’u cydweithwyr yn yr Iseldiroedd. Pam, felly, mai ein diwydiant dur ni sydd o dan fygythiad a pham fod nifer enfawr o swyddi wedi eu colli yn y diwydiant electroneg ac mewn diwydiannau eraill? Mae’r ateb yn syml: rhaid i’n diwydiannau oresgyn rhwystr mawr gwerth uchel y bunt.

At this point I must reject William Graham’s amendment 1. The climate change levy and the business rate are factors in job losses, but they are tiny compared with the losses caused by an over-valued pound. The Government talks of a package of £4 million. Given that the high pound costs the UK carbon steel division of Corus £1 million a day, that will not cover next week.

Rhaid imi wrthod gwelliant 1 William Graham ar y pwynt hwn. Mae’r ardoll newid hinsawdd a’r ardreth fusnes yn ffactorau o ran colli swyddi, ond maent yn ddibwys o’i gymharu â nifer y swyddi a gollwyd oherwydd gwerth uchel y bunt. Sonia’r Llywodraeth am becyn o £4 miliwn. O gofio bod y bunt uchel yn costio £1 miliwn y dydd i is-adran dur carbon Corus yn y DU, ni fydd hynny’n talu am yr wythnos nesaf.

Let us concentrate on the main factor of why the pound is at such a high parity against the deutschmark when the German economy is doing so well. It is not like high rainfall, which is inevitable. It is a predictable result of Government policy. The first major Act introduced by the New Labour Government was the Bank of England Act 1998, which set up a Monetary Policy Committee with a single guideline of keeping inflation below a limit set by the Chancellor. References in the Act to employment are cosmetic.

Gadewch inni ganolbwyntio ar y prif ffactor pam fod gwerth y bunt mor uchel o’i gymharu â’r deutschmark pan fo economi’r Almaen yn gwneud cystal. Nid yw megis glaw trwm, sydd yn anochel. Mae’n ganlyniad y gellir ei ragweld i bolisi’r Llywodraeth. Y brif Ddeddf gyntaf a gyflwynodd y Llywodraeth Lafur Newydd oedd Deddf Banc Lloegr 1998, a sefydlodd Bwyllgor Polisi Arianyddol â’r unig gyfarwyddyd o sicrhau bod chwyddiant yn is na therfyn a bennwyd gan y Canghellor. Mae cyfeiriadau at gyflogaeth yn y Ddeddf yn gosmetig.

The Monetary Policy Committee, therefore, keeps interest rates high to control inflation mainly in the south-east of England where high wages are pushing up house prices. It is a London problem. There is no inflation in house prices in Blaenau Gwent. To tackle the problem of excess wealth, interest rates are kept high. This attracts large amounts of speculative money, which can be switched in a millisecond when the inevitable readjustment occurs. That means that City dealers make a fortune on the way up and on the way down. Speculative money pushes up the value of the pound and the price is paid by the workers of Bairdwear, Fii Footwear, Panasonic, Sony, Hitachi, Alcan, Llanwern and a host of others.

Mae’r Pwyllgor Polisi Arianyddol, felly, yn sicrhau bod cyfraddau llog yn uchel er mwyn rheoli chwyddiant yn bennaf yn ne-ddwyrain Lloegr lle y mae cyflogau uchel yn peri i brisiau tai godi. Problem Llundain ydyw. Nid oes chwyddiant ym mhrisiau tai ym Mlaenau Gwent. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o gyfoeth gormodol, cedwir cyfraddau llog yn uchel. Mae hyn yn denu symiau mawr o arian hapfuddsoddi, y gellir ei symud mewn eiliad pan fydd yr ailaddasiad anochel yn digwydd. Golyga hyn fod delwyr Dinas Llundain yn gwneud ffortiwn ar y ffordd i fyny ac ar y ffordd i lawr. Mae arian hapfuddsoddi yn cynyddu gwerth y bunt a gweithwyr yn Bairdwear, Fii Footwear, Panasonic, Sony, Hitachi, Alcan, Llanwern a llu o gwmnïau eraill sydd yn talu’r pris.

There is an alternative way to control inflation in the most prosperous regions, which is to increase taxation on the wealthy. We propose a limit of £50,000 in taxable income. Just before Christmas a firm from London gave its top managers a £1 million bonus, which is more than most of us will earn in a lifetime. Each manager had £600,000 to spend on housing and luxuries. There is a choice between monetary and fiscal policies and between privilege or redistribution. New Labour has chosen monetarism. It is increasingly the party of the wealthy, with members who can throw £2 million into the bucket when it comes round.

Mae ffordd amgen o reoli chwyddiant yn y rhanbarthau mwyaf llewyrchus, sef cynyddu’r dreth ar y cyfoethog. Cynigiwn derfyn o £50,000 mewn incwm trethadwy. Ychydig cyn y Nadolig, rhoddodd cwmni o Lundain fonws o £1 miliwn i’w huwch reolwyr, sydd yn fwy nag y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei ennill drwy gydol ein hoes. Yr oedd gan bob rheolwr £600,000 i’w wario ar dai a phethau moethus. Mae dewis rhwng polisïau arianyddol a pholisïau ariannol, rhwng braint ac ailddosbarthu. Dewisodd Llafur Newydd arianyddiaeth. Yn fwyfwy mae’n blaid y cyfoethogion, a phlaid sydd ag aelodau a all daflu £2 filiwn i mewn i’r bwced pan ddaw o gwmpas.

The problem is aggravated by the Government’s indecision on membership of the euro. If we had joined at the beginning, when there was an exchange rate of 70 pence to the euro, there would be no problem in Llanwern, our farmers and tourist industry would be happier, and we would have far more money in the budget for Objective 1. On the other hand, if the Government had decided not to join the euro, at least industry would know where it stood. The worst policy is indecision and uncertainty. It is the ordinary workers in Newport and Luton, Caerphilly and Sunderland, Lampeter and Longbridge, who suffer from this uncertainty, not the fat cats.

Mae’r broblem yn gwaethygu oherwydd amhendantrwydd y Llywodraeth ynghylch ymuno â’r ewro. Pe baem wedi ymuno ar y cychwyn, pan oedd cyfradd gyfnewid o 70 ceiniog i’r ewro, ni fyddai unrhyw broblem yn Llanwern, byddai ein ffermwyr a’n diwydiant twristiaeth yn hapusach a byddai llawer mwy o arian gennym yn y gyllideb ar gyfer Amcan 1. Ar y llaw arall, pe bai’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio ag ymuno â’r ewro, o leiaf byddai’r diwydiant yn gwybod beth oedd y sefyllfa. Amhendantrwydd ac ansicrwydd yw’r polisi gwaethaf. Y gweithwyr cyffredin yng Nghasnewydd a Luton, yng Nghaerffili a Sunderland, yn Llambed a Longbridge sydd yn dioddef oherwydd yr ansicrwydd hwn, nid y cyfoethogion.

Gordon Brown talks about his five conditions for entry into the euro. I tease my Labour friends by asking them to remind me of them. Some do not remember. The ones who do are embarrassed because there is a specific condition—number 2—to protect financial services, the sector where Wales is under-represented. There is no mention of protecting manufacturing. That shows the Government’s priorities. It is no wonder that Tony Blair fought with such determination at the European summit to protect the withholding tax. It would not surprise me if anyone here were uncertain about what the withholding tax is. It is of little concern to you or I or the people whom we represent who do not—except for those on Ynys Môn—live on offshore islands.

Sonia Gordon Brown am ei bum amod ar gyfer ymuno â’r ewro. Yr wyf yn poeni fy nghyfeillion Llafur drwy ofyn iddynt ddweud wrthyf beth ydynt. Nid yw rhai yn eu cofio. Mae’r rhai sydd yn eu cofio yn cywilyddio oherwydd bod amod benodol—rhif 2—i ddiogelu gwasanaethau ariannol, sef y sector lle y mae tangynrychiolaeth o Gymru. Nid oes unrhyw sôn am ddiogelu gweithgynhyrchu. Dengys hyn flaenoriaethau’r Llywodraeth. Nid oes rhyfedd i Tony Blair ymladd mor gadarn yn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd dros ddiogelu’r dreth atal. Ni synnwn pe bai unrhyw un yma yn ansicr ynghylch beth yw’r dreth atal. Nid yw o bwys mawr i chi na fi na’r bobl a gynrychiolir gennym, nad ydynt yn byw—ac eithrio’r rhai ar Ynys Môn—ar ynysoedd alltraeth.

I have one final charge. This Government has allowed the gap between rich and poor regions to grow and has done nothing substantial to strengthen regional policy. Members of the Economic Development Committee will remember when a representative of the Treasury came to explain to us why it was impossible to give firms in the Objective 1 regions extra tax credits for research and development. Even a measure as modest as that was rejected. The Treasury has also blocked every other substantial proposal for operating aids. We have proposed a lower rate of corporation tax, as Ireland had, and a lower rate of employers’ contribution to national insurance. In Ireland’s experience, such operating aids were important features in the success of its Objective 1 programme. Tony Blair, after the Nice summit, confirmed in a parliamentary answer to Dafydd Wigley that it is in the Government’s power to give this assistance. So far, nothing has been done. We live in hope.

Mae un cyhuddiad olaf gennyf. Mae’r Llywodraeth hon wedi caniatáu i’r bwlch rhwng y rhanbarthau cyfoethog a rhanbarthau tlawd dyfu ac nid yw wedi gwneud dim byd o bwys i atgyfnerthu polisi rhanbarthol. Bydd aelodau o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd yn cofio’r adeg pan ddaeth cynrychiolydd o’r Trysorlys i egluro inni pam ei bod yn amhosibl rhoi credydau treth ychwanegol ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu i gwmnïau yn rhanbarthau Amcan 1. Gwrthodwyd mesur mor gymedrol â hynny hyd yn oed. Mae’r Trysorlys hefyd wedi rhwystro pob cynnig sylweddol arall ar gyfer cymhorthion gweithredu. Cynigiasom ostwng cyfradd y dreth gorfforaeth, megis yn Iwerddon, a chyfradd cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Yn ôl profiad Iwerddon, yr oedd cymhorthion gweithredu o’r fath yn nodweddion pwysig yn llwyddiant ei rhaglen Amcan 1. Cadarnhaodd Tony Blair, ar ôl uwchgynhadledd Nice, mewn ateb seneddol i Dafydd Wigley, fod pwer gan y Llywodraeth i roi’r cymorth hwn. Hyd yn hyn, ni wnaethpwyd dim. Yr ydym yn byw mewn gobaith.

This Government has so far failed to take any major initiative to reduce the prosperity gap between the regions and nations of the UK and has opposed the reasonable measures that others have proposed. The evidence is strong: The biggest problem that faces the manufacturing industry in Wales, the Midlands and the north of England, is the over-valued pound which is, to a large extent, a result of Government strategy. I see from today’s The Western Mail that, on steel, New Labour is trying to shift the pressure from the Government to Corus itself. That reminds me of a Bengali saying about tigers. When the tiger kills a man, it is no good blaming the tiger for acting as tigers do. You blame the head of the village for neglecting the defences. It is no good blaming Corus or the other firms that I mentioned for acting as you would expect a multi-national equity company to act, given that its main loyalty is to its shareholders. You must blame the Government, which is responsible for protecting the livelihood of thousands of ordinary people in Wales and the manufacturing regions of England. The Government has turned its back on them and done nothing.

Mae’r Llywodraeth hon hyd yma wedi methu â chymryd unrhyw gamau mawr i leihau’r bwlch ffyniant rhwng rhanbarthau a chenhedloedd y DU ac mae wedi gwrthwynebu mesurau rhesymol a gynigiwyd gan eraill. Mae’r dystiolaeth yn gryf: y broblem fwyaf a wyneba’r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru, canolbarth a gogledd Lloegr yw gwerth rhy uchel y bunt sydd, i raddau helaeth, o ganlyniad i strategaeth y Llywodraeth. Gwelaf yn The Western Mail heddiw fod Llafur Newydd, o ran dur, yn ceisio symud y pwysau oddi ar y Llywodraeth i Corus ei hun. Mae hynny’n fy atgoffa o ddywediad Bengali am deigrod. Pan fo teigr yn lladd dyn, ni wiw beio’r teigr am ymddwyn fel teigr. Beiwch bennaeth y pentref am esgeuluso’r amddiffynfeydd. Ni ddylid beio Corus na’r cwmnïau eraill a grybwyllais am weithredu fel y disgwyliech i gwmni soddgyfrannol amlwladol weithredu, o ystyried mai i’w gyfranddalwyr y mae ei deyrngarwch pennaf. Rhaid ichi feio’r Llywodraeth, sydd yn gyfrifol am ddiogelu bywoliaeth miloedd o bobl gyffredin yng Nghymru ac yn rhanbarthau gweithgynhyrchu Lloegr. Mae’r Llywodraeth wedi cefnu arnynt ac wedi gwneud dim.

I said at the beginning that I hoped that I get my message across. I believe that this Assembly is at its most effective when it acts unanimously, but I accept that we will not achieve unanimity today. I recognise that Labour AMs have a double loyalty to Wales and to the Labour Party and that there may be times when those loyalties clash. I hope, however, that outside this Chamber we can campaign together on this vital issue. I appeal to the Labour Assembly Members for Steel group to invite members of other parties who represent steel communities to form an all-party group, which would be more effective. Above all, we must ensure that some of this message will go, by whatever channel, to put maximum pressure on the Government in London.

Dywedais ar y dechrau fy mod yn gobeithio y llwyddwn i drosglwyddo fy neges. Credaf mai pan fydd yn gweithredu’n unfrydol y mae’r Cynulliad hwn fwyaf effeithiol, ond derbyniaf na fydd gennym unfrydedd heddiw. Cydnabyddaf fod gan ACau Llafur deyrngarwch deuol i Gymru a’r Blaid Lafur ac efallai y bydd adegau pan fydd gwrthdaro. Gobeithiaf, fodd bynnag, y gallwn, y tu allan i’r Siambr hon, ymgyrchu gyda’n gilydd ar y mater holl bwysig hwn. Apeliaf ar grŵp Aelodau Llafur y Cynulliad ar gyfer Dur i wahodd partïon eraill sydd yn cynrychioli’r cymunedau dur er mwyn ffurfio grŵp trawsbleidiol, a fyddai’n llawer mwy effeithiol. Yn anad dim, rhaid inni sicrhau y bydd peth o’r neges hon drwy ba gyfrwng bynnag, yn llwyddo i roi’r pwysau mwyaf posibl ar y Llywodraeth yn Llundain.

Alun Cairns spoken in English p. 75

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 75

I propose amendment 1 in the name of William Graham. After ‘the National Assembly recognises that’ delete the remainder of the motion and replace with:

Cynigiaf welliant 1 yn enw William Graham. Ar ôl ‘y Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod bod’ dileer gweddill y cynnig, gan roi’r canlynol yn ei le:

Alun Cairns (continued) spoken in English p. 76

Alun Cairns (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 76

The National Assembly therefore urges the Lib/Lab administration and the UK Government to:

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol, felly, yn annog gweinyddiaeth Democratiaid Rhyddfrydol / Llafur y Cynulliad, a Llywodraeth y DU i:

abort the introduction of the climate change levy;

beidio â chyflwyno’r ardoll newid yn yr hinsawdd;

radically reduce the levels of red tape imposed on business;

lleihau’n sylweddol ar faint o fân reolau sydd yn cael eu gorfodi ar fusnesau;

rule out the introduction of supplementary business rates; and

peidio â chyflwyno ardrethi busnes atodol; a

devise a coherent partnership strategy with Corus to prevent further job losses in the steel industry.

chreu strategaeth bartneriaeth gydlynol ar y cyd â Corus i atal swyddi pellach rhag cael eu colli yn y diwydiant dur.

I understand the sentiments behind today’s motion but I am cautious about it because I feel that the nationalists have either become stuck in a time warp or do not understand fundamental business and economic principles. Since the last general election we have come to understand and appreciate that the Labour Party did not mean anything by its pre-election promises. Waiting lists have risen, class sizes are larger and crime continues to rise. I could go on, but I will focus on the pledges that were made on business and the economy.

Deallaf y teimladau y tu ôl i gynnig heddiw ond yr wyf yn bryderus yn ei gylch am fy mod yn teimlo bod y cenedlaetholwyr naill ai wedi eu dal mewn rhyw ystumdro amser neu eu bod yn methu â deall egwyddorion busnes ac economeg sylfaenol. Ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, yr ydym wedi dod i ddeall a gwerthfawrogi nad yw’r Blaid Lafur yn golygu dim wrth ei haddewidion a wnaethpwyd cyn yr etholiad. Mae’r rhestrau aros wedi cynyddu, mae meintiau dosbarthiadau’n fwy ac mae troseddu’n parhau i gynyddu. Gallwn fynd yn fy mlaen, ond yr wyf am ganolbwyntio ar yr addunedau a wnaethpwyd ynghylch busnes a’r economi.

First, you will recall that the Labour Party promised not to raise taxes. Four years on from the last general election, the average family is paying almost £700 more per annum in taxes now than before the general election. ‘The average family’ could be considered to be a somewhat vague description so I checked some independent reports. Ernst and Young, which is a reputable company with no party political bias, said that with Labour piling on taxes Britain could become the sick man of Europe. That is the situation that Mrs Thatcher inherited in 1979 and that is the period that the nationalists are choosing to ignore. Furthermore, no one can deny that the overall tax burden and the proportion of taxes taken from the economy has risen to 38 per cent of the national income. That is equivalent to an extra 10p on income tax and almost all must be soaked up by business.

Yn gyntaf, fe gofiwch i’r Blaid Lafur addo peidio â chynyddu trethi. Bedair blynedd ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf, mae’r teulu cyffredin yn talu bron £700 yn fwy bob blwyddyn mewn trethi na chyn yr etholiad cyffredinol. Gellid ystyried mai disgrifiad braidd yn annelwig yw ‘y teulu cyffredin’ felly gwiriais rai adroddiadau annibynnol. Dywedodd Ernst and Young, sydd yn gwmni parchus heb unrhyw duedd bleidiol, y gallai Prydain fynd yn ddyn sâl Ewrop yn sgîl y pentwr o drethi y mae Llafur yn eu codi. Dyna’r sefyllfa a etifeddodd Mrs Thatcher yn 1979 a dyna’r cyfnod y mae’r cenedlaetholwyr yn dewis ei anwybyddu. Ar ben hynny, na all neb wadu bod y baich trethi cyffredinol a chanran y trethi a godir o’r economi wedi cynyddu i 38 y cant o’r incwm cenedlaethol. Mae hynny’n gyfartal â 10c yn ychwanegol ar dreth incwm a’r byd busnes sydd yn gorfod talu am y cyfan bron.

The second pledge on business was not to impose burdensome regulations upon it. That flew in the face of Labour’s real intention. Since the last general election, taxes on business have increased by £5 billion per annum and the cost of complying with those regulations amounts to another £5 billion.

Yr ail adduned ar fusnes oedd peidio â gorfodi rheoliadau beichus arno. Yr oedd hynny i’r gwrthwyneb llwyr i wir fwriad Llafur. Ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, mae trethi ar fusnes wedi cynyddu £5 biliwn y flwyddyn ac mae cydymffurfio â’r rheoliadau hynny yn costio £5 biliwn ar ben hynny.

Last year, the Government introduced more regulations on business than in any year since records began. It introduced the working time regulations, the national minimum wage, a reduction in qualifying period for unfair dismissal, the right to take time off for study, an increased cap on unfair dismissal, parental leave regulations, European works councils, working families tax credit through the payroll, student loan repayment regulations, the compulsory recognition of trade unions, dismissal of striking workers regulations, part-time work regulations, disciplinary grievance regulations, stakeholder pension regulations and fixed term work regulations. [LABOUR ASSEMBLY MEMBERS: ‘Hear, hear.’]

Y llynedd, cyflwynodd y Llywodraeth fwy o reoliadau ar fusnes nag mewn unrhyw flwyddyn ers i gofnodion fodoli. Cyflwynodd y rheoliadau amser gweithio, yr isafswm cyflog cenedlaethol, gostyngiad yn y cyfnod cymhwyso ar gyfer diswyddo annheg, yr hawl i gymryd amser o’r gwaith i astudio, terfyn uwch ar gyfer diswyddo annheg, rheoliadau yn ymwneud â’r cyfnod o’r gwaith i rieni, cynghorau gwaith Ewropeaidd, credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio drwy’r gyflogres, rheoliadau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, cynrychiolaeth orfodol o undebau llafur, rheoliadau diswyddo gweithwyr sydd ar streic, rheoliadau gweithio rhan amser, rheoliadau cwynion disgyblu, rheoliadau pensiynau budd-ddeiliaid a rheoliadau gwaith tymor penodedig. [AELODAU LLAFUR O’R CYNULLIAD: ‘Clywch, clywch.’]

Nick Bourne spoken in English p. 77

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 77

It has obviously taken you and Phil Williams to prompt the Labour Party to revert to its old Labour roots. It is heartening to see. We have been given an old Labour speech, the oldest I have ever heard, from Phil Williams, who seems to think that it is more important to get rid of the prosperity gap than to create prosperity. The speech was so bad that it was worthy of Rhodri Morgan 10 to 15 years ago. Do you not agree that creating the right conditions for enterprise by low taxation and deregulation is most important, as is creating the right conditions for manufacturing industries, which I gather that the Deputy First Minister—we should not let the Liberal Democrats off the hook—has been trying to do? Do you not also recognise that there is a disturbing correlation between ministerial visits by Mike German and announced job losses? He visited south-east Wales and then Alcan announced its closure. He visited mid Wales and then we heard that Dewhirst was closing.

Mae’n amlwg bod angen Phil Williams a chi ar y Blaid Lafur i’w symbylu i ddychwelyd at ei gwreiddiau hen Lafur. Mae’n galonogol i weld hynny. Cawsom araith hen Lafur, yr hynaf a glywais erioed, gan Phil Williams, yr ymddengys iddo gredu ei bod yn bwysicach gwaredu’r bwlch ffyniant na chreu ffyniant. Yr oedd yr araith mor wael y gellid bod wedi ei thadogi i Rhodri Morgan 10 i 15 mlynedd yn ôl. Oni chytunwch mai creu’r amodau cywir ar gyfer mentergarwch drwy drethi isel a dadreoleiddio yw’r peth pwysicaf, fel y mae creu’r amodau cywir ar gyfer y diwydiannau gweithgynhyrchu, yr hyn y mae’r Dirprwy Brif Weinidog—ni ddylem adael i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddianc rhag eu cyfrifoldeb—wedi bod yn ceisio ei wneud, mae’n debyg? Oni chydnabyddwch hefyd fod cysylltiad anniddig rhwng ymweliadau gweinidogol Mike German a chyhoeddiadau bod swyddi yn cael eu colli? Ymwelodd â de-ddwyrain Cymru ac yna cyhoeddodd Alcan ei fod yn cau. Ymwelodd â’r canolbarth ac yna clywsom fod Dewhirst yn cau.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 78

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

Order. Nick, this is supposed to be an intervention.

Trefn. Nick, ymyriad ddylai hyn fod.

Nick Bourne spoken in English p. 78

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 78

Would it not be better to sponsor him to go overseas to see if we can get protected performance-related pay by ensuring that factories overseas close and we protect our own jobs?

Oni fyddai’n well i’w noddi i fynd dramor er mwyn canfod a allwn gael tâl ar sail perfformiad a ddiogelir drwy sicrhau bod ffatrïoedd dramor yn cau a’n bod yn diogelu ein swyddi ein hunain?

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 78

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

Alun, I will only allow an extra 20 seconds on your time for accepting that intervention.

Alun, dim ond 20 eiliad ychwanegol y caniatâf ichi ar eich amser am dderbyn yr ymyriad hwnnw.

Alun Cairns spoken in English p. 78

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 78

Nick Bourne is obviously right. It is the Government’s responsibility to create those conditions. The regulations that Labour Members all cheered are driving businesses into bankruptcy. Is this what it meant by the flexible economy?

Mae’n amlwg bod Nick Bourne yn llygad ei le. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw creu’r amodau hynny. Mae’r rheoliadau a gymeradwyodd yr holl Aelodau Llafur yn peri i fusnesau fynd i’r wal. Ai hyn a olygir wrth economi hyblyg?

Most worrying is that the cost of these burdens falls disproportionately on small businesses. No matter what initiative is developed to promote entrepreneurship—and we have heard about the entrepreneurship action plan and the business support review that the Economic Development Committee is conducting—and no matter how much we spend on that, it will not come near meeting the extra costs that have been imposed on businesses in Wales. It is no wonder that the latest Dunn and Bradstreet bankruptcy report released last month shows that the rates for Wales were among the worst. Yet again, the gap between Wales and the rest of the United Kingdom is widening.

Yr hyn sydd yn achosi’r pryder mwyaf yw’r ffaith bod cost y beichiau hyn yn disgyn yn ddigymesur ar fusnesau bach. Pa fentrau bynnag a ddatblygir er mwyn hyrwyddo entrepreneuriaeth—ac yr ydym wedi clywed am y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth a’r arolwg cymorth busnes a gynhelir gan y Pwyllgor Datblygu Economaidd—a pha faint bynnag a wariwn ar hynny, ni fydd yn agos at dalu am y costau ychwanegol a orfodwyd ar fusnesau yng Nghymru. Nid oes ryfedd i adroddiad diweddaraf Dunn a Bradstreet ar fethdalu a gyhoeddwyd y mis diwethaf ddangos bod y cyfraddau yng Nghymru ymhlith y gwaethaf. Unwaith eto, mae’r bwlch rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn ehangu.

At the outset of my speech, I mentioned that I thought that the nationalists were caught in a time warp. I recall their economic spokesman reminiscing about the time that he wrote Plaid Cymru’s economic strategy in 1968. I think that Plaid Cymru’s motion today has been copied and pasted from that document, manually, of course, using glue and paper, because when those policies were written computers did not even exist.

Ar ddechrau fy araith, soniais imi gredu bod y cenedlaetholwyr wedi eu dal mewn ystumdro amser. Cofiaf am eu llefarydd economaidd yn dwyn atgofion am yr adeg pan ysgrifennodd strategaeth economaidd Plaid Cymru yn 1968. Credaf fod cynnig Plaid Cymru heddiw, wedi ei gopïo a’i bastio o’r ddogfen honno, â llaw, wrth gwrs, gan ddefnyddio glud a phapur, am nad oedd cyfrifiaduron yn bodoli hyd yn oed pan ysgrifennwyd y polisïau hynny.

Does Plaid Cymru not realise that the world has moved on from its Marxist agenda? This policy might go down well in parts of the former Soviet Union or Cuba—

Onid yw Plaid Cymru yn sylweddoli bod y byd wedi symud yn ei flaen o’i hagenda Farcsaidd? Mae’n bosibl y byddai hyn yn dderbyniol mewn rhannau o’r hen Undeb Sofietaidd neu Giwba—

Phil Williams spoken in English p. 79

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 79

I remind you that there have been computers since 1957.

Yr wyf yn eich atgoffa bod cyfrifiaduron mewn bodolaeth ers 1957.

Alun Cairns spoken in English p. 79

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 79

Will it ever realise that time has moved on from its Marxist agenda? Monetarism, as Phil Williams called it, is the only way. That is widely accepted by businessmen across the world.

A fydd byth yn sylweddoli bod amser wedi mynd heibio ers ei hagenda Farcsaidd? Arianyddiaeth, fel y galwodd Phil Williams hi, yw’r unig ffordd. Mae dynion busnes ledled y byd yn derbyn hynny.

A recent article in the Harvard Business Review highlighted that

Nododd erthygl ddiweddar yn yr Havard Business Review fod

‘more and more analysts see economic freedom as the main driver to economic development.’

There is an international ranking of suitable places to invest depending on taxes and regulations and government stability. Ireland comes top; the UK is well down the league. Our position has fallen since the last general election. Taxes and investment restrictions score badly. Is this the climate of economic freedom for which the nationalists call? Higher direct taxes, fiscal interference and greater employment regulation? That will certainly revive Britain’s economy and replace jobs in Wales. What do we have here? We have more regulations and more taxes that drive entrepreneurs away. Labour talks about introducing a tax on earnings above £50,000. Who are the people who create wealth in this country? They are the ones who will join the brain drain that we saw under the last Labour Government and that has began again because of its high tax policy.

Mae trefn restrol ryngwladol o leoedd addas ar gyfer buddsoddi gan ddibynnu ar drethi a rheoliadau a sefydlogrwydd llywodraethol. Mae Iwerddon yn y safle cyntaf; mae’r DU yn bell o’r brig. Mae ein safle wedi disgyn ers yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae trethi a chyfyngiadau ar fuddsoddi yn sgorio’n wael. Ai hwn yw’r hinsawdd o ryddid economaidd y mae’r cenedlaetholwyr yn galw amdano? Trethi uniongyrchol uwch, ymyrraeth ariannol a mwy o reoleiddio cyflogaeth? Bydd hynny’n sicr o adfywio economi Prydain a chreu swyddi newydd yn lle y rhai a gollwyd yng Nghymru. Beth sydd gennym yma? Mae gennym fwy o reoliadau a mwy o drethi sydd yn gyrru entreprenwyr i fwrdd. Mae Llafur yn siarad am gyflwyno treth ar enillion dros £50,000. Pwy yw’r bobl sydd yn creu cyfoeth yn y wlad hon? Dyma’r bobl a fydd yn ymuno â’r ymfudiad ymennydd a welsom o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ac sydd wedi dechrau eto oherwydd ei pholisi ar drethi uchel.

Ron Davies spoken in English p. 80

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 80

This is very entertaining, but I wonder if Alun could explain the economic factors that have led to the situation in Wales today in which the unemployment level is lower than during any one of the 18 years under the previous Conservative Government?

Mae hyn yn ddifyr iawn, ond tybed a allai Alun esbonio’r ffactorau economaidd sydd wedi arwain at sefyllfa yng Nghymru heddiw lle y mae lefel diweithdra yn is nag mewn unrhyw flwyddyn o’r 18 mlynedd o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol?

Alun Cairns spoken in English p. 80

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 80

Everyone appreciates the foundation—

Mae pawb yn gwerthfawrogi’r sylfaen—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 80

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

Order. You have had seven minutes. I will not be able to call Glyn Davies because you have over-run. I will give you 30 seconds to finish.

Trefn. Cawsoch saith munud. Ni allaf alw ar Glyn Davies gan eich bod wedi mynd dros eich amser. Rhoddaf 30 eiliad ichi gloi.

Alun Cairns spoken in English p. 80

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 80

I cannot let Ron Davies get away with those comments. Everyone appreciates that the growth that the country now experiences was built on the strong foundations that were left by the previous Conservative Government and inherited by this Labour Government.

Rhaid imi ymateb i’r hyn a ddywedodd Ron Davies. Mae pawb yn gwerthfawrogi bod y twf a geir yn y wlad erbyn hyn wedi ei adeiladu ar y sylfeini cryf a adawodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ac a etifeddodd gan y Llywodraeth Lafur hon.

I will briefly mention Corus and the business rates to support it, which we welcome. However, is that not an admission that Labour’s high business rates policy is closing down firms? How will the Deputy First Minster or the First Minister react when there is another threat of large-scale redundancies in a different firm? Given the Deputy First Minister’s policy of high business rates, there will undoubtedly be another tide of them. How does he plan to look the small businessman in the eye, when he is struggling to make ends meet because his fixed costs are too high given the current business rate level? What reasons will he give the shopkeeper, farmer, the small manufacturer or even another large production plant for an additional levy, which he is proposing? Phil Williams spent much time discussing the single European currency, all I can say on that is that joining a sinking ship is not the way to revive the Welsh economy.

Soniaf yn fyr am Corus a’r ardrethi busnes i roi cymorth iddo, a groesewir gennym. Fodd bynnag, onid yw hynny’n gyfaddefiad bod polisi ardrethi busnes uchel Llafur yn peri i gwmnïau gau? Sut y bydd y Dirprwy Brif Weinidog neu’r Prif Weinidog yn ymateb pan fydd bygythiad arall o ddiswyddiadau ar raddfa fawr mewn cwmni gwahanol? O gofio polisi’r Dirprwy Brif Weinidog o ardrethi busnes uchel, mae’n anochel y bydd llu arall ohonynt. Sut y mae’n bwriadu edrych i fyw llygad y dyn busnes bach, pan fydd yn ymdrechu i ddal dau ben llinyn ynghyd am fod ei gostau sefydlog yn rhy uchel o ystyried lefel yr ardreth fusnes gyfredol? Pa resymau a rydd i siopwyr, ffermwyr, gweithgynhyrchwyr bach neu hyd yn oed gweithfan fawr arall dros arddoll ychwanegol, a gynigir ganddo? Treuliodd Phil Williams gryn dipyn o amser yn trafod yr arian Ewropeaidd sengl, y cyfan y gallaf ei ddweud am hynny yw na fydd ymuno â llong sydd yn suddo yn fodd o adfer economi Cymru.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 81

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 81

I propose amendment 2 in the names of Andrew Davies and Kirsty Williams. Delete all after ‘productivity’ in the second clause and insert

Cynigiaf welliant 2 yn enw Andrew Davies a Kirsty Williams. Dileer popeth ar ôl ‘cynhyrchiant uchaf’ yn yr ail gymal, gan roi’r canlynol yn ei le:

Rhodri Morgan The First Minister (continued) spoken in English p. 81

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 81

I thank Phil Williams and Plaid Cymru for choosing manufacturing in Wales as the subject of this minority party debate. I welcome the opportunity to discuss the importance of manufacturing in Wales in the Assembly as a whole, given the dark cloud on the horizon of the strip mill side of the steel industry about which we may hear more from Corus in the next three or four weeks.

Diolchaf i Phil Williams a Phlaid Cymru am ddewis gweithgynhyrchu yng Nghymru fel testun y ddadl plaid leiafrifol hon. Croesawaf y cyfle i drafod pa mor bwysig yw gweithgynhyrchu yng Nghymru gerbron y Cynulliad cyfan, o ystyried y cwmwl du ar y gorwel o ran ochr y melinau stribed o’r diwydiant dur a glywn ragor amdano o bosibl gan Corus yn ystod y tair neu bedair wythnos nesaf.

Difficult situations are still being faced by the clothing industry as indicated by recent announcements by Dewhirst and possible further announcements by Gossard about its Blackwood plant. We must remember that the loss of 200 jobs in places like Fishguard and Lampeter can be the equivalent, in terms of the potential local economic impact, of the loss of 2,000 jobs in the more heavily populated parts of Wales.

Mae’r diwydiant dillad yn parhau i wynebu sefyllfa anodd fel y nodwyd mewn datganiadau diweddar gan Dewhirst a datganiad arall posibl gan Gossard ar y weithfan yn y Coed Duon. Rhaid inni gofio y gall colli 200 o swyddi mewn lleoedd fel Abergwaun a Llanbedr Pont Steffan fod yn cyfateb i golli 2,000 o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru o ran yr effaith economaidd bosibl yn lleol.

However, I do not welcome Phil’s tone, given that yesterday he said that he did not want the steel industry to become a political football. At times, he confused a cross-party campaign, to which we would all sign up and in which we are already involved to try to avert the full force of the job cuts that Corus announced that it had in mind before Christmas—it referred to ‘restructuring proposals’, but we know that ‘restructuring’ means job cuts—with a blame culture, saying that it is the Government in London’s fault and that Corus is totally blameless. Phil’s conspiracy theory, that this is the fault of the Government and the fact that it does not care about the steel industry because it is in Wales, leads us well into the territory of using the steel industry as a political football only 24 hours after he said that he did not want to do that.

Fodd bynnag, ni chroesawaf oslef Phil, o gofio iddo ddweud ddoe nad oedd am i’r diwydiant dur fod yn rhan o gêm wleidyddol. Ar adegau, mae’n cymysgu rhwng ymgyrch drawsbleidiol, y byddem oll yn ymuno â hi ac yr ydym eisoes wedi ei ddechrau er mwyn ceisio osgoi ergyd lawn y colledion swyddi y cyhoeddodd Corus ei fod yn eu hystyried cyn y Nadolig—cyfeiriodd at ‘gynigion ailstrwythuro’, ond gwyddom fod ‘ailstrwythuro’ yn golygu colli swyddi—a diwylliant bai, gan ddweud mai’r Llywodraeth yn Llundain sydd ar fai a bod Corus yn gwbl ddifai. Mae theori gynllwyn Phil, sef mai’r Llywodraeth a’r ffaith nad yw’n poeni am y diwydiant dur am ei fod yng Nghymru sydd ar fai, yn ein harwain at chwarae gêm wleidyddol gyda’r diwydiant dur dim ond 24 awr ar ôl iddo ddweud nad oedd am wneud hynny.

We must try to unite the Welsh nation behind a campaign to avert severe damage from being done to a key aspect of the Welsh economy. However, we cannot do that if we play blame game politics with such an important issue. Phil says that the Government in London should switch entirely to a fiscal-policy based method of preventing inflation from getting out of hand in south-east England. However, every government uses a mixture of regional, monetary, fiscal and redistributive policies, and the present Labour Government is no different.

Rhaid inni geisio uno’r genedl Gymreig i gefnogi ymgyrch a fydd yn atal niwed difrifol rhag cael ei wneud i agwedd allweddol ar economi Cymru. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny os chwaraewn gêm fai gyda mater mor bwysig. Dywedodd Phil y dylai’r Llywodraeth yn Llundain newid yn gyfan gwbl i ddull yn seiliedig ar bolisi ariannol o reoli chwyddiant yn ne-ddwyrain Lloegr. Fodd bynnag, mae pob llywodraeth yn defnyddio amrywiaeth o bolisïau rhanbarthol, arianyddol, ariannol ac ailddosbarthu, ac nid yw’r Llywodraeth Lafur bresennol yn wahanol yn hynny o beth.

There is a difficulty where the impact of the euro:pound exchange rate introduced an element that destabilises certain types of manufacturing industry, the commodity-related industries like steel, and those that did not think of themselves as involved in commodities—like cars and television sets—are suffering because they have became commodities. Any commodity industry is highly sensitive to changes in the exchange rate. This has posed a big difficulty in the management of the economy over the past three and a half years, while Labour has been in government.

Ceir anhawster lle y cyflwynodd effaith y gyfradd gyfnewid ewro:punt elfen sydd yn dadsefydlogi mathau penodol o ddiwydiant gweithgynhyrchu, diwydiannau sydd yn ymwneud â nwyddau fel dur, ac mae’r rhai nad oeddent yn ystyried eu bod yn ymwneud â nwyddau—fel ceir a setiau teledu—yn dioddef am eu bod wedi dod yn nwyddau. Mae unrhyw fath o ddiwydiant sydd yn ymwneud â nwyddau yn sensitif iawn i newidiadau yn y gyfradd gyfnewid. Bu hyn yn peri cryn anhawster o ran rheoli yr economi yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, tra bod Llafur wedi bod yn llywodraethu.

Apart from this, most people would say that Gordon Brown as Chancellor of the Exchequer has done a sound job. He is regarded by all the independent commentators in the newspapers and publications such as The Economist as the most successful Labour chancellor. Many people would say that the one problem—

Ar wahân i hyn, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod Gordon Brown fel Canghellor y Trysorlys wedi gwneud gwaith da. Mae sylwebyddion annibynnol yn y papurau newydd a chyhoeddiadau megis The Economist yn ystyried mai ef yw’r canghellor Llafur mwyaf llwyddiannus. Byddai llawer o bobl yn dweud mai’r brif broblem—

Alun Cairns a gododd—

Alun Cairns rose—

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 82

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 82

No, I do not expect the Tories to agree. Fair enough, that is par for the course. I will not accept an intervention just yet, let me get my main points on the board.

Ni ddisgwyliaf i’r Torïaid gytuno. Digon teg, mae hynny i’w ddisgwyl. Ni dderbyniaf ymyriad eto, gadewch imi osod fy mhrif bwyntiau ger eich bron.

Independent commentators say that, with the sole exception of the difficulties caused by the weakness of the euro, the British economy has been well managed.

Mae sylwebyddion annibynnol yn dweud bod economi Prydain, ar wahân i’r anawsterau a barwyd gan wendid yr ewro, wedi ei rheoli’n dda.

Cynog Dafis a gododd—

Cynog Dafis rose—

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 83

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 83

I will give way in a second, Cynog.

Ildiaf mewn eiliad, Cynog.

We can see the evidence in the rise by 34,000 in the number of people in employment in Wales in 1998-2000. We have also seen a drop in the inactivity rate in Wales, although it is nowhere near the British average as yet. We have also seen a variety of measures that have helped to break the culture of benefit dependency in our poorest areas. The combination of the minimum wage, the New Deal and the working family’s tax credit is beginning to have a real impact on people who, over the 20 years of the previous Tory Government, had got used to a benefit culture based on the fact that mass unemployment was all that they knew.

Gwelwn y dystiolaeth o edrych ar y cynnydd o 34,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn 1998-2000. Hefyd gwelsom ostyngiad yn y gyfradd anweithrededd yng Nghymru, er nad yw’n cyrraedd y cyfartaledd ym Mhrydain o bell ffordd. Gwelsom hefyd amrywiaeth o fesurau sydd wedi helpu i chwalu’r diwylliant o fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau yn ein hardaloedd tlotaf. Mae cyfuniad yr isafswm cyflog, y Fargen Newydd a’r credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio, yn dechrau cael effaith wirioneddol ar bobl, a oedd, yn ystod 20 mlynedd y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol wedi ymgynefino â’r diwylliant budd-daliadau yn seiliedig ar y ffaith mai diweithdra torfol oedd y cyfan a wyddent.

Cynog Dafis a gododd—

Cynog Dafis rose—

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 83

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 83

I will let you speak in a second. Let me tell you what I was concerned about in Alun’s speech. Alun represents a party that managed to produce manufacturing meltdown, not once, but twice. In 1979-81—

Gadawaf ichi siarad mewn eiliad. Gadewch imi fynegi yr hyn a oedd yn fy mhoeni ynghylch araith Alun. Mae Alun yn cynrychioli plaid a lwyddodd i chwalu’r sector gweithgynhyrchu, nid unwaith ond dwywaith. Ym 1979-81—

Alun Cairns a gododd—

Alun Cairns rose—

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 83

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 83

We all know that it happened, Alun. We were there. You might have been in short trousers; I was not. You should remember 1990 when there was another dose of manufacturing meltdown. It happened twice. There has been no manufacturing meltdown or anything like it, while Labour has been in government over the last three and a half years. Let us put that on the record clearly. That is why everybody will reject the nonsense that Alun spoke. He must have been exploring in the Antarctic or up the Amazon during the 18 years of Tory Government, because its attitude to manufacturing was that it did not matter a damn.

Gwyddom oll i hynny ddigwydd, Alun. Yr oeddem yno. Efallai eich bod chi mewn trowsus byr; ond nid oeddwn i. Dylech gofio 1990 pan chwalwyd gweithgynhyrchu drachefn. Digwyddodd ddwywaith. Ni fu unrhyw chwalfa nac unrhyw beth tebyg i hynny, tra bu Llafur yn llywodraethu yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf. Gadewch inni gofnodi hynny’n glir. Dyna pam y bydd pawb yn gwrthod y nonsens a siaradodd Alun. Rhaid ei fod yn arloesi yn yr Antarctig neu ar afon Amazon yn ystod 18 mlynedd y Llywodraeth Dorïaidd, am nad oedd hi’n poeni dim am y sector gweithgynhyrchu.

Alun Cairns spoken in English p. 84

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 84

You cannot get away with that. Do you agree that Tony Benn closed more coalmines in Wales than any Conservative Government? When you talked of The Economist believing that Gordon Brown is a successful chancellor, how do you account for the fact that Wales has fallen down the inward investment league table that I mentioned?

Ni chewch ddweud hynny. A gytunwch fod Tony Benn wedi cau mwy o byllau glo yng Nghymru nag unrhyw Lywodraeth Geidwadol? Pan gyfeirasoch at ffaith bod The Economist yn credu bod Gordon Brown yn ganghellor llwyddiannus, sut yr ydych yn esbonio’r ffaith bod Cymru wedi disgyn yn y rhestr drefnol o fewnfuddsoddi a grybwyllais?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 84

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 84

Neither of those points is relevant to the big picture; the big picture shows that employment is rising in Wales and has risen by 34,000 over the two years for which we have the full figures, 1998-2000. That is a substantial rise. It is not a reduction in employment, but a rise in employment. The fall in manufacturing that I referred to earlier was 20 per cent in the first two years of Mrs Thatcher’s Government. This was repeated in John Major’s Government in the period 1990-91.

Nid yw’r naill bwynt na’r llall yn berthnasol i’r darlun cyffredinol: dengys hwnnw fod cyflogaeth yn cynyddu yng Nghymru ac mae wedi cynyddu 34,000 yn ystod y ddwy flynedd y mae gennym ffigurau llawn ar eu cyfer, sef 1998-2000. Mae hynny’n gynnydd sylweddol. Nid yw’n ostyngiad mewn cyflogaeth, ond cynnydd mewn cyflogaeth. Yr oedd y gostyngiad mewn gweithgynhyrchu y cyfeiriais ato yn gynharach 20 y cant yn nwy flynedd gyntaf Llywodraeth Mrs Thatcher. Digwyddodd hynny eto yn Llywodraeth John Major yn y cyfnod 1990-91.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 84

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 84

Gobeithiaf fod Rhodri Morgan yn sylweddoli bod perygl mawr y gwelir ef yn hunanfodlon yn nannedd y gwirionedd sydd yn wynebu cymaint o economi Cymru. Dywed fod Gordon Brown yn cael ei weld yn rheolwr effeithiol ar yr economi; a allai bwyntio at un mesur y mae Brown wedi ei gyflwyno sydd yn mynd i’r afael â’r agendor aruthrol sydd yn agor rhwng ffyniant mawr de-ddwyrain Lloegr ac ardaloedd megis Cymru? A oes unrhyw gam y mae wedi ei gymryd i gywiro’r diffyg difrifol hwnnw sydd yn gwaethygu o ddydd i ddydd?

I hope that Rhodri Morgan realises that there is a great danger that he will be seen as complacent given the reality facing much of Wales’s economy. He says that Gordon Brown is perceived as an effective manager of the economy; can he pinpoint one measure that Brown has introduced that tackles the massive gulf that is opening between the great prosperity of south-east England and regions such as Wales? Is there any step that he has taken to rectify that serious deficiency, which is worsening from one day to the next?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 84

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 84

Yr wyf newydd enwi tri ohonynt, Cynog, ond nad oeddech yn gwrando, sef y Fargen Newydd, y credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio—ni ddeallaf pam yr ydych yn chwerthin. Os nad ydych yn siarad â phobl yn eich etholaeth sydd wedi elwa o—

I have just named three of them, Cynog, but you were not listening: the New Deal, the tax credit for working families—I do not understand why you are laughing. If you do not speak to people in your constituency who have benefited from—

Cynog Dafis a gododd—

Cynog Dafis rose—

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 85

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh and English p. 85

Yr ydych wedi cael eich cyfle. Gofynasoch imi enwi mesurau ac fe enwais dri. Enwaf hwy eto, gan nad oeddech yn gwrando—y Fargen Newydd, yr isafswm cyflog a’r credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio. Dylech ofyn i bobl yn ardaloedd tlotaf eich etholaeth a ydynt wedi elwa o’r tri mesur hynny. Fe ddywedant eu bod wedi elwa o hwy a’u bod yn dechrau trawsnewid eu bywydau beunyddiol. Dyna sydd yn bwysig.

in Welsh You have had your opportunity. You asked me to name measures and I named three. I will name them again, as you were not listening—the New Deal, the minimum wage and the working families tax credit. You should ask people in the poorest areas of your constituency whether they have benefited from those three measures. They will say that they have benefited from them and that they are beginning to transform their daily lives. That is what is important.

Nid wyf yn siŵr am y ffigurau a ddefnyddiodd Cynog i ddangos gagendor ffyniant. Mae’n camddeall yr hyn sydd wedi digwydd o ran y ffigurau ar gyfer deunydd crai. Bu newidiadau ystadegol, yn hytrach na’r newidiadau yn y gagendor ffyniant y sonia Cynog amdanynt.

in Welsh I am not sure about the figures that Cynog has used to demonstrate a gulf in prosperity. He misunderstands what has happened as regards the figures for raw material. There have been statistical changes, as opposed to the changes in the gulf in prosperity that Cynog mentions.

I will briefly discuss the euro. Corus is in crisis in Britain because it is losing £1 million a day. There has been great irony regarding Corus management in recent months. John Bryant and his Dutch opposite number had to leave the company—it is unclear whether they resigned or were sacked—because the City accused them of waiting for the euro to rise. As soon as they left, it started to rise substantially. Its value has risen by 10 per cent over the past month. Most foreign exchange dealers believe that that will increase a further 10 per cent over the next 12 months, although it cannot be guaranteed. It is hard to say whether it will happen in time to make a difference to the profitability of the strip mills in Wales and in Redcar in England. Corus is approaching a decision based on a short-term factor that is about to disappear. It needs an exchange rate of about 2.70 deutshmarks to the pound. I cannot convert that into euros, although I think it corresponds to the value of the euro being 70p. At that rate, it becomes profitable to export strip steel from the UK. Based on the improvements in the euro exchange rate over the past few weeks, we are halfway there. However, we may not get there in time to save us from Corus’s decision. I recommend that you support amendment 2.

yn Saesneg Soniaf yn fyr am yr ewro. Mae Corus mewn argyfwng ym Mhrydain am ei fod yn colli £1 miliwn bob dydd. Bu eironi fawr o safbwynt rheolwyr Corus yn ystod y misoedd diwethaf. Yr oedd yn rhaid i John Bryant a’r rheolwr cyfatebol yn yr Iseldiroedd adael y cwmni—nid yw’n amlwg a ymddiswyddasant neu a chawsant eu diswyddo—am fod Dinas Llundain wedi eu cyhuddo o aros i’r ewro godi. Cyn gynted ag y gadawsant, dechreuodd godi gryn dipyn. Mae ei gwerth wedi codi 10 y cant yn ystod y mis diwethaf. Cred y rhan fwyaf o ddelwyr y cyfnewidfeydd tramor y bydd yn codi 10 y cant eto yn ystod y 12 mis nesaf, er na ellir gwarantu hynny. Mae’n anodd dweud a fydd yn digwydd mewn pryd i wneud gwahaniaeth i broffidiolrwydd y melinau stribed yng Nghymru ac yn Redcar yn Lloegr. Mae Corus yn gwneud penderfyniad ar sail ffactor tymor byr sydd ar fin diflannu. Mae angen cyfradd gyfnewid o tua 2.70 deutchmark i’r bunt. Ni allaf drosi hynny’n ewro, er y credaf iddo gyfateb i’r ewro fod yn 70c. Ar y gyfradd honno, daw’n broffidiol i allforio dur stribed o’r DU. Yn seiliedig ar y gwelliannau yng nghyfradd gyfnewid yr ewro yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yr ydym wedi cyrraedd hanner ffordd. Fodd bynnag, efallai na chyrhaeddwn mewn pryd i’n harbed rhag penderfyniad Corus. Argymhellaf ichi gefnogi gwelliant 2.

Brian Hancock spoken in English p. 86

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 86

Manufacturing industries come in various sizes. The steel industry and its large steel plants support a greater number of small and medium-sized companies and provide greater employment in a greater area than smaller manufacturing industries. The knock-on multiplier effect is well-known. I declare an interest as the director of a small company.

Ceir diwydiannau gweithgynhyrchu o wahanol feintiau. Mae’r diwydiant dur a’i weithfannau dur mawr yn cynnal nifer fawr o gwmnïau bach a chanolig eu maint ac yn rhoi mwy o gyflogaeth mewn ardal ehangach na diwydiannau gweithgynhyrchu llai. Mae’r effaith luosog ddilynol yn hysbys iawn. Datganaf fuddiant fel cyfarwyddwr cwmni bach.

As Phil Williams mentioned earlier, manufacturing accounts for 27.3 per cent of the Welsh economy, in comparison to 20.5 per cent in the UK, whereas financial services account for 3.5 per cent of the Welsh economy compared to 6.1 per cent in the UK. Therefore, Wales is a manufacturing orientated country.

Fel y soniodd Phil Williams yn gynharach, mae gweithgynhyrchu yn cyfrif am 27.3 y cant o economi Cymru, o gymharu ag 20.5 y cant yn y DU, tra bod gwasanaethau ariannol yn cyfrif am 3.5 y cant o economi Cymru o gymharu â 6.1 y cant yn y DU. Felly, mae Cymru yn wlad sydd wedi ei hanelu at weithgynyrchu.

The industry is often small or medium-sized. I will consider some small companies that contribute widely to their communities. A company in Pontllanfraith has given its 162 employees notice of closure. It has not happened yet, but it is on the cards. The company manufactures underwear under its own name, Gossard. It has three factories; in Pontllanfraith, Tunisia and Turkey. The Turkey plant is operated by Welsh-trained managers. The company’s reputation preceeds it. To use industry-technical jargon, it makes bras, knickers, basques and so on that are technically advanced in nature. Nowadays, in addition to the basic products, there are bras that are water-filled, padded, gel-filled or even contain air bags. These products must be researched and developed. If a bra contains an air pocket that is inflated by the wearer, it must be tested at various temperatures and altitudes. We do not want any accidents occurring because of product liability. Research and development is necessary for small companies.

Mae’r diwydiant yn aml yn un bach neu’n ganolig ei faint. Ystyriaf rai cwmnïau bach sydd yn cyfrannu’n helaeth at eu cymunedau. Mae 162 o weithwyr mewn cwmni ym Mhontllanfraith wedi cael rhybudd ei fod yn cau. Nid yw wedi digwydd eto, ond mae ar y gweill. Mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu dillad isaf o dan ei enw ei hun, sef Gossard. Mae ganddo dair ffatri; ym Mhontllanfraith, Tiwnisia a Thwrci. Rheolir y weithfan yn Nhwrci gan reolwyr a hyfforddwyd yng Nghymru. Mae enw’r cwmni yn un hysbys. Gan ddefnyddio jargon technegol y diwydiant, mae’n gwneud bras, nicers, basgau ac ati sydd yn dechnegol blaengar o ran natur. Heddiw, yn ogystal â’r cynnyrch sylfaenol, ceir bras wedi eu llenwi â dwr, wedi eu padio, wedi eu llenwi â gel neu hyd yn oed yn cynnwys bagiau aer. Rhaid ymchwilio i’r cynnyrch hyn a’u datblygu. Os bydd bra yn cynnwys poced aer sydd i’w chwyddo gan y sawl sydd yn ei wisgo, rhaid ei brofi ar wahanol dymereddau ac uchelderau. Nid ydym am i unrhyw ddamweiniau ddigwydd oherwydd bod y cynnyrch yn ddiffygiol. Mae gwaith ymchwil a datblygu yn angenrheidiol i gwmnïau bach.

Glyn Davies spoken in English p. 86

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 86

Will you give way?

A wnewch ildio?

Brian Hancock spoken in English p. 86

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 86

No, I will not.

Na wnaf.

This company, just like the steel industry, is efficient, cost effective and highly productive. It manufactures under its own brand name and sells directly. It is not a major chain store but it has its own brand name and, therefore, sells a value-added product. It is known as a quick response company. We should aspire to that in Wales. It is a manufacturing company that can do well. It can produce large orders in one or two days and within seven to 10 days it can produce and distribute those orders all over the world.

Mae’r cwmni hwn, fel y diwydiant dur, yn effeithlon, yn gost effeithiol ac yn gynhyrchiol dros ben. Mae’n gweithgynhyrchu o dan ei enw brand ei hun ac yn gwerthu’n uniongyrchol. Nid yw’n siop fawr ar y stryd fawr ond mae ganddo ei enw brand ei hun ac, felly mae’n gwerthu cynnyrch â gwerth ychwanegol. Mae’n adnabyddus am fod yn gwmni sydd yn ymateb yn fuan. Dylem anelu at hynny yng Nghymru. Mae’n gwmni gweithgynhyrchu a all ffynnu. Gall gynhyrchu archebion mawr mewn un neu ddau ddiwrnod ac o fewn saith i 10 diwrnod gall gynhyrchu a dosbarthu’r archebion hynny ledled y byd.

It is interesting that the reason for closure is given as the strength of the pound. It cannot compete, given the strength of the pound, in selling its products. No matter what the company does, it cannot compete. It has done everything, like the steel industry, in considering its cost effectiveness. This is becoming too regular an occurrence. We often hear about the creation of new jobs, but we also hear about the closure of many small and medium sized companies.

Mae’n ddiddorol nodi mai’r rheswm a gynigiwyd dros ei gau oedd cryfder y bunt. Ni all gystadlu, oherwydd cryfder y bunt, o ran gwerthu ei gynnyrch. Beth bynnag a wna’r cwmni, ni all gystadlu. Mae wedi gwneud popeth, fel y diwydiant dur, wrth ystyried ei gost-effeithiolrwydd. Mae hyn yn digwydd yn rhy aml. Clywn yn aml am greu swyddi newydd, ond clywn hefyd fod llawer o gwmnïau bach a chanolig eu maint yn cau.

There is another manufacturing company, which is in Ron Davies’s constituency, Takiron in Bedwas. It is interesting that it was the first Japanese company to come to Wales and only the second in manufacturing to come to the UK.

Mae cwmni gweithgynhyrchu arall, sydd yn etholaeth Ron Davies, sef Takiron ym Medwas. Mae’n ddiddorol nodi mai hwn oedd y cwmni cyntaf o Siapan i ddod i Gymru a dim ond yr ail gwmni gweithgynhyrchu i ddod i’r DU.

Alun Cairns spoken in English p. 87

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 87

What does it make?

Beth y mae’n ei gynhyrchu?

Brian Hancock spoken in English p. 87

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 87

Thank you for asking. I was about to give you that information. It makes prefabricated sheeting.

Diolch ichi am ofyn. Yr oeddwn ar fin rhoi’r wybodaeth honno ichi. Mae’n gwneud llieiniau parod.

Alun Cairns spoken in English p. 87

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 87

It is boring in comparison.

Mae’n ddiflas o gymharu â’r llall.

Brian Hancock spoken in English p. 87

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 87

There you are then. It takes one to know one.

Dyna chi felly. Tebyg at ei debyg.

The company has given notice to 57 of its employees. It is looking for a buyer and meetings are ongoing. Its problem is simply the strength of the pound. It cannot compete. No matter what it tries to do to be highly effective, efficient and productive, it cannot compete given the strength of the pound.

Mae’r cwmni wedi rhoi rhybudd i 57 o’i weithwyr. Mae’n chwilio am brynwr ac mae cyfarfodydd yn mynd ymlaen. Ei broblem yn syml yw cryfder y bunt. Ni all gystadlu. Beth bynnag a geisia ei wneud er mwyn bod yn dra effeithiol, effeithlon a chynhyrchiol, ni all gystadlu oherwydd cryfder y bunt.

What can be done? The Chancellor of the Exchequer does not want to know about the pound. I insist that the First Minister go back, if he has already done so, to express again our concern about the effect that the strength of the pound is having on our manufacturing industries and the employment derived from those industries in Wales.

Beth gellir ei wneud? Nid yw Canghellor y Trysorlys am weithredu ynglŷn â’r bunt. Mynnaf fod y Prif Weinidog yn dychwelyd ato, os yw wedi gwneud eisoes, i fynegi ein pryder unwaith eto ynghylch yr effaith a gaiff cryfder y bunt ar ein diwydiannau gweithgynhyrchu a’r gyflogaeth a geir gan y diwydiannau hynny yng Nghymru.

Huw Lewis a gododd—

Huw Lewis rose—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 88

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 88

Will you give way? I remind you that you have already spoken for five minutes and I ask you to finish soon.

A wnewch ildio? Fe’ch atgoffaf eich bod wedi siarad am bum munud eisoes a gofynnaf ichi orffen yn fuan.

Brian Hancock spoken in English p. 88

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 88

No, I will not give way. I will be consistent. I am about to finish. That is why I will not give way.

Nid ildiaf. Byddaf yn gyson. Yr wyf ar fin gorffen. Dyna pam nad ildiaf.

Before Christmas, members of Plaid Cymru—the Party of Wales who sit on the Economic Development Committee, laid great emphasis on the introduction of extra tax credits for research and development for companies and the reduction of the levels of employers’ national insurance contributions. The Committee members agreed with the Plaid Cymru members. Measures such as these would greatly assist small and medium sized companies. Even the former First Secretary agreed that these would be useful. He wrote to the Chancellor of the Exchequer who rejected the idea. It was the UK Government that rejected that idea, not European Commissioners. It shows that the UK Government has little or no concern for manufacturing industries in Wales. It has rejected research and development tax credits that would assist small and medium sized enterprises.

Cyn y Nadolig, yr oedd aelodau o Blaid Cymru—The Party of Wales ar y Pwyllgor Datblygu Economaidd, wedi rhoi pwyslais arbennig ar gyflwyno credydau treth ychwanegol ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu i gwmnïau ac ar ostwng lefel cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor ag aelodau Plaid Cymru. Byddai mesurau o’r fath o gymorth mawr i gwmnïau bach a chanolig eu maint. Cytunodd hyd yn oed y cyn Brif Ysgrifennydd y byddai’r rhain yn ddefnyddiol. Ysgrifennodd at Ganghellor y Trysorlys a wrthododd y syniad. Llywodraeth y DU a wrthododd y syniad hwnnw, nid y Comisiynwyr Ewropeaidd. Dengys nad yw Llywodraeth y DU yn gofalu dim neu braidd dim am y diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru. Gwrthododd gredydau treth ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu a fyddai wedi bod o gymorth i fentrau bach a chanolig eu maint.

An effective regional policy must be developed in the UK. It is obvious that the prosperity gap is widening between Wales and other UK regions and nations. The GDP per capita in Wales has fallen to an all time low at 79.4 per cent. That is why we need to consider regional policies to improve our manufacturing industries. We are discussing people’s livelihoods, their health, education and housing and the wellbeing of our communities. In Wales, that is often dependent on the manufacturing industries. The UK Government should give priority to the manufacturing industries in Wales.

Rhaid datblygu polisi rhanbarthol effeithiol yn y DU. Mae’n amlwg bod y bwlch ffyniant yn ehangu rhwng Cymru a rhanbarthau a chenhedloedd eraill y DU. Mae CMC y pen yng Nghymru wedi gostwng i’r ganran isaf erioed sef 79.4 y cant. Dyna pam bod angen inni ystyried polisïau rhanbarthol er mwyn gwella ein diwydiannau gweithgynhyrchu. Yr ydym yn sôn am fywoliaeth pobl, eu hiechyd, eu haddysg a’u tai a lles ein cymunedau. Yng Nghymru, mae hynny yn aml yn dibynnu ar y diwydiannau gweithgynhyrchu. Dylai Llywodraeth y DU roi blaenoriaeth i’r diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Val Feld spoken in English p. 89

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 89

I welcome the opportunity for a debate about the problems in the manufacturing sector in Wales, which is of great importance to us. However, I am surprised by Plaid Cymru’s motion, which blames UK Government policy. That is the kind of classic refrain that we hoped the Assembly would abolish. The tone of this debate so far has been that of a knockabout run-around laying out of Plaid Cymru’s economic policy in readiness for a general election. I hope that it is not and I am pleased to see Cynog and Phil shaking their heads.

Croesawaf y cyfle i gael dadl ar y problemau yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, sydd o bwys mawr inni. Fodd bynnag, synnaf at gynnig Plaid Cymru, sydd yn beio polisi Llywodraeth y DU. Dyna’r math o ymateb ystrydebol yr oeddem yn gobeithio y byddai’r Cynulliad yn cael gwared arno. Mae i’r ddadl hon hyd yma arlliw o bolisi economaidd Plaid Cymru yn barod ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Gobeithiaf nad hwn ydyw ac mae’n dda gennyf weld bod Cynog a Phil yn siglo eu pennau.

We should be addressing the serious problems involving people’s jobs and livelihoods in Wales. The manufacturing sector is of huge importance. It contributes more to Wales’s gross domestic product than any other sector, it is the major vehicle for growth in our economy and it is also the sector that creates the most inter-trading within Wales. It is therefore of vital importance to Wales’s local economy as well as to the country’s economic growth and GDP. It can have an enormous impact on our policies and programmes to sustain jobs across a range of different sectors. We can ill-afford the problems that are currently besetting the manufacturing industry if we want to meet the target for growth that was set in the national economic development strategy, which we will reinforce.

Dylem fod wrthi yn mynd i’r afael â’r problemau difrifol sydd yn ymwneud â swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru. Mae’r sector gweithgynhyrchu o bwys enfawr. Mae’n cyfrannu mwy tuag at gynnyrch mewnwladol crynswth Cymru nag unrhyw sector arall, dyna brif gyfrwng tyfiant ein heconomi ac mae hefyd yn sector sydd yn creu’r rhan helaeth o ryng-fasnachu yng Nghymru. Felly mae o bwys hanfodol i economi leol Cymru yn ogystal â thwf economaidd y wlad a’r CMC. Gall gael effaith enbyd ar ein polisïau a’n rhaglenni er mwyn cynnal swyddi ar draws ystod o wahanol sectorau. Ni allwn fforddio’r problemau a wyneba’r diwydiant gweithgynhyrchu ar hyn o bryd os ydym am gyrraedd y targed ar gyfer twf a bennwyd yn y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol, y gwnawn ei hatgyfnerthu.

We can complain about Gordon Brown’s economic policy. We can have cerebral debates about what would make a difference to the wider economy, where the UK economy fits in the global economy and the impact on jobs on the ground. The value of the pound is clearly a problem and many of our industries would benefit from the UK joining the euro. However, there are many other issues such as the changing nature of the bulk of our traditional manufacturing sector, the need to create new markets, the extension of Europe and many other factors that have led to the current problems.

Gallwn gwyno am bolisi economaidd Gordon Brown. Gallwn gael trafodaethau ymenyddol ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r economi ehangach, safle economi’r DU yn yr economi fydeang a’r effaith ar swyddi ar lawr gwlad. Mae gwerth y bunt yn amlwg yn broblem a byddai llawer o’n diwydiannau yn elwa ar y DU yn ymuno â’r ewro. Fodd bynnag, mae llawer o faterion eraill fel natur gyfnewidiol y rhan helaeth o’n sector gweithgynhyrchu traddodiadol, yr angen i greu marchnadoedd newydd, y ffaith fod Ewrop yn ymestyn a llawer o ffactorau eraill a arweiniodd at y problemau presennol.

It is strange that Plaid Cymru complains much about regional policy, as it was the 1974-79 Labour Government that developed the platform of regional policy. We have institutions that were created in Wales as a result of regional policy. Regional policy was then swept away by the Tory Government, although it has been reintroduced. However, Plaid Cymru forgets that, since then, there has been a massive expansion of our role within the European Union. Regional policy is now predicated on the expansion and implementation of structural funds. Objectives 1 and 2 are aimed at restructuring the economy and creating regional distortion. Cynog asked Rhodri for an example of the measures that Gordon Brown is taking. The agreement to breach the Barnett formula in providing match funding for Objective 1 is one such example of regional distortion.

Mae’n rhyfedd bod Plaid Cymru yn cwyno am bolisïau rhanbarthol, gan mai Llywodraeth Lafur 1974-79 a ddatblygodd lwyfan y polisi rhanbarthol. Mae gennym sefydliadau a grewyd yng Nghymru o ganlyniad i bolisi rhanbarthol. Ysgubwyd polisïau rhanbarthol ymaith gan y Llywodraeth Dorïaidd, er iddynt gael eu hailgyflwyno bellach. Fodd bynnag, anghofia Plaid Cymru y ffaith fod ein rôl o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi ymestyn yn helaeth ers hynny. Mae polisïau rhanbarthol erbyn hyn wedi eu seilio ar ymestyn a gweithredu cronfeydd strwythurol. Nod Amcan 1 ac Amcan 2 yw ailstrwythuro’r economi a chreu aflunio rhanbarthol. Gofynnodd Cynog i Rhodri am enghraifft o’r mesurau y mae Gordon Brown yn eu cymryd. Mae’r cytundeb i dorri fformwla Barnett wrth roi arian cyfatebol ar gyfer Amcan 1 yn enghraifft o aflunio rhanbarthol o’r fath.

On the actions that can be taken to address the current state of our manufacturing industry, the Wales Trades Union Congress launched an impressive document at the end of last year outlining many actions that central Government and the Assembly could take. Mike German and I know that there is much more that we should do to gather intelligence on what is happening in the manufacturing sector in order to prevent job losses and closures. It was pointed out to Rhodri, Mike and I recently that we should have known that the decision to phase out analogue television would create problems for Sony and Panasonic, as they produced those televisions in Wales. We should have planned for the implications of that change. Similarly, when Bairdwear collapsed due to the problems at Marks & Spencer, we should have known that other companies that were solely dependent on M&S, such as Dewhirst, would face similar problems in time. That is what we must focus on.

O ran y camau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â sefyllfa bresennol ein diwydiant gweithgynhyrchu, lansiodd Cynghrair Undebau Llafur Cymru ddogfen drawiadol ar ddiwedd y llynedd yn nodi llawer o gamau y gallai Llywodraeth ganolog a’r Cynulliad eu cymryd. Gwyr Mike German a minnau fod llawer mwy y dylem ei wneud i gasglu gwybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd yn y sector gweithgynhyrchu er mwyn atal swyddi rhag cael eu colli a ffatrïoedd rhag cau. Dywedwyd wrth Rhodri, Mike a minnau yn ddiweddar y dylem fod yn gwybod y byddai’r penderfyniad i gael gwared ar deledu analog yn raddol yn achosi problemau i Sony a Panasonic, gan eu bod yn cynhyrchu’r math hwnnw o deledu yng Nghymru. Dylem fod wedi cynllunio ar gyfer goblygiadau’r newid hwnnw. Yn yr un modd, pan gaewyd Bairdwear oherwydd problemau yn Marks & Spencer, dylem fod yn gwybod y byddai cwmnïau eraill a oedd yn gwbl ddibynnol ar M&S, megis Dewhirst, yn wynebu problemau tebyg ymhen amser. Dyna beth y mae’n rhaid inni ganolbwyntio arno.

The Economic Development Committee in its proposals for business support is proposing an economic board, an intelligence unit and much more research. The TUC proposes that we should have rapid reaction units and evidence gatherers to go out and talk to the different companies to gather intelligence so that we can do our best to create the conditions for these companies to survive a changing UK and world economy. In doing this, I believe that we should be working closely with the DTI so that they understand our strategy. Therefore, there is a chance that they will understand the implication of those macro, monetary decisions.

Mae’r Pwyllgor Datblygu Economaidd yn ei gynigion ar gyfer cymorth busnes yn cynnig bwrdd economaidd, sef uned wybodaeth a llawer mwy o ymchwil. Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn cynnig y dylem sefydlu unedau ymateb yn fuan a chasglwyr tystiolaeth sydd yn mynd allan ac yn siarad â’r gwahanol gwmnïau er mwyn casglu gwybodaeth fel y gallwn wneud ein gorau i greu’r amodau i’r cwmnïau hyn oroesi economi gyfnewidiol y DU a’r byd. Wrth wneud hyn, credaf y dylem weithio’n agos gyda’r Adran Masnach a Diwydiant fel y gallant ddeall ein strategaeth. Felly, mae posibilrwydd y byddant yn deall pa oblygiadau sydd i’r penderfyniadau macro, arianyddol hynny.

Janet Davies spoken in English p. 91

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 91

This motion refers to Welsh manufacturing units with the most advanced technology and the highest level of productivity, which are not able to export in the euro zone due to the over valued pound. The other party amendments delete this part of the motion. I think that is shameful.

Cyfeiria’r cynnig hwn at unedau gweithgynhyrchu yng Nghymru sydd â’r dechnoleg fwyaf blaengar a’r lefel gynhyrchiant uchaf, nad ydynt yn gallu allforio yng nghylchfa’r ewro oherwydd gwerth uchel y bunt. Mae gwelliannau’r pleidiau eraill yn dileu’r rhan hon o’r cynnig. Credaf fod hynny’n warthus.

In the steel industry, investment was made and the workforce responded with high productivity. Corus’s figures cite a productivity of 952 tonnes per worker per year in Llanwern and Port Talbot compared to 750 tonnes per worker per year in IJmuiden in the Netherlands. Therefore, what does it feel like to be a worker achieving so much yet faced with redundancy? What does it feel like to live in a community dependent, directly or indirectly, on plants faced with closure despite such high productivity? What does it feel like to be part of a country—developed, productive, literate, numerate, highly-skilled, with good communications to the outside world—and yet unable to compete for exports? We all know what it is like to live in Wales to try to build confidence and pride, to raise our economic standing and keep our manufacturing industries intact.

Buddsoddwyd yn y diwydiant dur, ac ymatebodd y gweithlu â chynhyrchiant uchel. Noda ffigurau Corus gynhyrchiant o 952 o dunelli metrig y flwyddyn fesul gweithiwr yn Llanwern a Phort Talbot o gymharu â 750 o dunelli metrig y flwyddyn fesul gweithiwr yn IJmuiden yn yr Iseldiroedd. Felly sut deimlad ydyw i weithiwr sydd yn cyflawni cymaint ond eto yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei ddiswyddo? Sut deimlad ydyw i fyw mewn cymuned sydd yn dibynnu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar weithfannau a all gau o bosibl er gwaethaf cynhyrchiant uchel o’r fath? Sut deimlad ydyw i fod yn rhan o wlad—datblygedig, cynhyrchiol, llythrennog, rhifyddol, â sgiliau uchel, â chysylltiadau da i’r byd allanol—ond eto heb allu cystadlu ar gyfer allforion? Gwyddom oll sut deimlad ydyw i fyw yng Nghymru a cheisio magu hyder a balchder, i godi ein safle economaidd a chadw ein diwydiannau gweithgynhyrchu’n gyfan.

In the two and half years since I became a prospective Assembly candidate, I have seen redundancies in South Wales West which include steel jobs in Port Talbot, textile jobs in Pyle and Neath and electronic jobs at Sony in Pencoed. Other jobs have come in and some of them are excellent, such as those announced in Swansea last week. We are grateful for them. However, overall in South Wales West, the region that I represent, as in Wales as a whole, we are struggling to stay on the bottom rung of the economic ladder and not disappear totally of sight, rather than beginning to climb that ladder.

Yn y ddwy flynedd a hanner ers imi ddod yn ddarpar-ymgeisydd i’r Cynulliad, gwelais ddiswyddiadau yn Ne-orllewin Cymru gan gynnwys swyddi dur ym Mhort Talbot, swyddi gwehyddol yn y Pîl a Chastell-nedd a swyddi electroneg yn Sony ym Mhen-coed. Daeth swyddi eraill a rhai ardderchog yn eu plith, megis y rhai a gyhoeddwyd yn Abertawe yr wythnos diwethaf. Yr ydym yn ddiolchgar o’u cael. Fodd bynnag, yn gyffredinol yn Ne-orllewin Cymru, sef y rhanbarth a gynrychiolaf, fel yng Nghymru gyfan, yr ydym yn cael anhawster wrth geisio aros ar ris isaf yr ysgol economaidd a pheidio â diflannu yn gyfan gwbl, yn hytrach na dechrau dringo’r ysgol honno.

Huw Lewis spoken in English p. 92

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 92

My comments are not necessarily directed solely at your speech. However, do you agree that the views that you and your party have been expressing this afternoon are simply the view from the cheap seats? What we have had from Plaid Cymru in this debate today is a slightly nauseous attempt to heckle British economic management while simultaneously working to divorce Wales from what is after all the world’s fourth largest economy. Plaid Cymru has talked Wales down in terms of employment when this Government has halved unemployment here and turn us into a nation of aggressive beggars where we aggressively with menace demand a larger and larger share of British prosperity while we curse Britain as the cause of all our ills.

Ni chyfeiria fy sylwadau at eich araith yn unig o reidrwydd. Fodd bynnag, a gytunwch fod y safbwyntiau a fynegwyd gennych chi a’ch plaid y prynhawn yma ond yn farn o’r seddau rhad? Yr hyn a gawsom gan Blaid Cymru yn y ddadl hon heddiw yw ymgais ffiaidd braidd i ymosod ar reolwyr economaidd Prydain tra’n gweithio ar yr un pryd i ysgaru Cymru oddi wrth economi sydd wedi’r cyfan yn bedwaredd o’r brig o ran maint yn y byd. Mae Plaid Cymru wedi lladd ar Gymru o ran cyflogaeth ar ôl i’r Llywodraeth hon haneru diweithdra yma gan ein troi’n genedl o gardotwyr ymosodol lle yr ydym yn gofyn am gyfran fwyfwy o ffyniant Prydain a hynny’n ymosodol tra ein bod yn melltithio Prydain am achosi ein holl helbulon.

Janet Davies spoken in English p. 92

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 92

You cannot expect me to agree with the comment about cheap seats. These are the good seats over here. The reference to aggressive beggars relates to Val’s point that it is the duty of the European Union to provide regional assistance. The United Kingdom is an aggressive beggar. The United Kingdom is rich enough to ensure that all its regions, including Wales, are prosperous. The United Kingdom, if anybody, is an aggressive beggar.

Ni allwch ddisgwyl imi gytuno â’r sylw ynglŷn â seddau rhad. Mae’r rhain yn seddau da draw y fan hyn. Mae’r cyfeiriad at gardotwyr ymosodol yn ymwneud â phwynt Val bod dyletswydd ar yr Undeb Ewropeaidd i roi cymorth rhanbarthol. Mae’r Deyrnas Unedig yn gardotwr ymosodol. Mae’r Deyrnas Unedig yn ddigon cyfoethog i sicrhau bod pob un o’i rhanbarthau, gan gynnwys Cymru, yn llewyrchus. Y Deyrnas Unedig, yn anad neb, yw’r cardotwr ymosodol.

The Government aid package that we have read about is interesting, helpful, constructive and inadequate. It is a package that is needed because the Government’s fiscal policies create the basic problem. The high value of the pound over many months is the most significant problem for Corus. It is less of a difficulty at the moment, but only to an extent. A recent article in The Economic Journal states that the UK export performance is particularly cost sensitive. Our productivity is high, and our labour costs are relatively low for a developed country. That is also something on which I do not agree with the party on my far right. It is important that people have decent jobs with decent wages, and if the European Union can help us achieve that, we should support it.

Mae pecyn cymorth y Llywodraeth y darllenasom amdano yn ddiddorol, yn ddefnyddiol, yn adeiladol ac yn annigonol. Mae’n becyn sydd ei angen am fod polisïau ariannol y Llywodraeth yn creu’r broblem sylfaenol. Gwerth uchel y bunt dros fisoedd lawer yw’r broblem fwyaf arwyddocaol i Corus. Mae’n achosi llai o anhawster ar hyn o bryd ond dim ond i raddau. Nododd erthygl ddiweddar yn The Economic Journal fod perfformiad allforion y DU yn arbennig o gost sensitif. Mae ein cynhyrchiant yn uchel, ac mae ein costau llafur yn gymharol isel am wlad ddatblygedig. Mae hynny hefyd yn fater nad wyf yn cytuno â’r blaid ar fy ne bellaf yn ei gylch. Mae’n bwysig bod gan bobl swyddi dechau â chyflogau dechau, ac os gall yr Undeb Ewropeaidd helpu inni gyflawni hynny, dylem ei gefnogi.

Alun Cairns spoken in English p. 93

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 93

Do you accept that the additional burdens placed on business are causing job losses because of the direct cost implication on the bottom line?

A dderbyniwch fod y beichiau ychwanegol a roddwyd ar fusnes yn peri inni golli swyddi oherwydd y goblygiad i gostau uniongyrchol ar y llinell waelodol?

Janet Davies spoken in English p. 93

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 93

A well-paid contented workforce provides a better economy than a workforce that is not.

Mae gweithlu bodlon a delir yn dda yn esgor ar well economi na gweithlu anfodlon nas telir yn dda.

The rate of exchange, which 43 Assembly Members back against the interests of their voters, is the main problem. It is time for our Government to face our manufacturing communities and give them a fair chance. Those communities have had more than enough to face over recent years.

Y gyfradd gyfnewid, y mae 43 o Aelodau’r Cynulliad yn ei chefnogi yn groes i fuddiannau eu hetholwyr, yw’r brif broblem. Mae’n bryd i’n Llywodraeth wynebu ein cymunedau gweithgynhyrchu a rhoi cyfle teg iddynt. Mae’r cymunedau hynny wedi gorfod wynebu mwy na digon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

John Griffiths spoken in English p. 93

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 93

Given the current situation, I make no apology for concentrating on steel issues, with particular regard to the Llanwern plant in my constituency. It is worth restating the basic factors that apply to the steel industry in Newport. The first being the effect on the Newport area, including the Valleys, of any further substantial cuts in capacity and jobs. It is impossible to exaggerate those effects. They would be grave, in terms of the direct jobs, the contractors, the supply chain and the dependent small businesses in Newport and the surrounding area. That is beyond dispute.

O ystyried y sefyllfa bresennol, nid ymddiheuraf o gwbl am ganolbwyntio ar faterion sydd yn ymwneud â dur, yn enwedig gweithfan Llanwern yn fy etholaeth i. Mae’n werth nodi’r ffactorau sylfaenol sydd yn berthnasol i’r diwydiant dur yng Nghasnewydd drachefn. Y ffactor cyntaf yw’r effaith ar ardal Casnewydd, gan gynnwys y Cymoedd, yn sgîl unrhyw doriadau sylweddol pellach o ran cynhwysedd a swyddi. Nid oes modd gor-ddweud yr effeithiau hynny. Byddent yn ddifrifol iawn, o ran swyddi uniongyrchol, y contractwyr, y gadwyn gyflenwi a’r busnesau bach dibynnol yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Ni ellir gwadu hynny.

The commitment shown by Newport’s communities and surrounding areas, the workforce and the trade union is also beyond dispute. They have suffered continuing job losses, have had to up-skill and retrain and have adopted flexible working patterns. All of those changes have delivered, through real commitment, to make Llanwern one of the most productive steel plants in the world. We are asking for some kind of medium to long-term commitment from Corus management to match the commitment of the workforce, the local community and the trade union. It is not too much to ask. There is a support package in place, which Rhodri Morgan and Mike German have put together with help from Westminster. Some people have derided that package as paltry and not enough. However, such is the nature of political debate that they would do that whatever the package would be. We should focus on the fact that this is a package designed to tide Corus over during its short-term problems, which will succeed if the company takes a medium to long-term view.

Ni ellir gwadu ychwaith yr ymrwymiad a ddangoswyd gan gymunedau Casnewydd a’r cyffiniau, y gweithlu a’r undeb llafur. Maent wedi dioddef colli swyddi a hynny’n ddi-baid, wedi gorfod uwchraddio eu sgiliau a chael ail-hyfforddiant ac wedi mabwysiadu patrymau gwaith hyblyg. Mae pob un o’r newidiadau hyn wedi cyflawni pethau, drwy ymrwymiad gwirioneddol, er mwyn sicrhau bod Llanwern yn un o’r gweithfannau dur mwyaf cynhyrchiol yn y byd. Gofynnwn am ryw fath o ymrwymiad tymor canolig i hir gan reolwyr Corus i gyfateb ag ymrwymiad y gweithlu, y gymuned leol a’r undeb llafur. Nid ydym yn gofyn gormod. Mae pecyn cymorth ar waith, a luniwyd gan Rhodri Morgan a Mike German gyda chymorth San Steffan. Mae rhai pobl wedi gwawdio’r pecyn hwnnw am fod yn bitw ac yn annigonol. Fodd bynnag, oherwydd natur dadlau gwleidyddol byddant yn gwneud hynny pa becyn bynnag a luniwyd. Dylem ganolbwyntio ar y ffaith fod y pecyn hwn wedi ei lunio i helpu Corus â’i broblemau tymor byr, a bydd yn llwyddo os cymer y cwmni safbwynt tymor canolig i hir.

Rhodri referred to a 10 per cent improvement in the strength of the euro against the pound in recent weeks. All the informed commentators say that that will continue. Corus needs to take that on board. We know that it paid over £600 million to its shareholders following the merger. Imagine for how long that amount would have kept its operations going while the company waited for a change in the financial climate. Corus must show its commitment to the medium to long-term, given that a support package is in place to help it do that.

Cyfeiriodd Rhodri at welliant o 10 y cant yng nghryfder yr ewro yn erbyn y bunt yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae pob sylwebydd hyddysg yn dweud y bydd hynny’n parhau. Mae angen i Corus ystyried hyn. Gwyddom iddo dalu dros £600 miliwn i’w gyfranddalwyr yn sgîl uno’r cwmni. Dychmygwch am faint o amser y byddai’r swm hwnnw wedi sicrhau bod gweithrediadau yn parhau tra bod y cwmni yn aros i’r ansawdd ariannol newid. Rhaid i Corus ddangos ei ymrwymiad i’r tymor canolig a hir, o ystyried y pecyn cymorth sydd ar waith i’w helpu i wneud hynny.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 94

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 94

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl bwysig ac amserol hon, o gofio’r argyfwng sydd yn wynebu’r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r drafodaeth wedi dangos y gagendor rhwng y pleidiau o ran ymateb i’r argyfwng hwnnw ac o ran blaenoriaethau eu cynigion polisi.

I thank everyone who participated in this important and timely debate, bearing in mind the crisis facing the manufacturing industry in Wales. This discussion has shown the gulf between the parties in terms of responding to the crisis and in terms of the priorities of their policy proposals.

Wrth agor y ddadl, nododd Phi Williams bwysigrwydd y diwydiant gweithgynhyrchu i Gymru, o’i chymharu â rhannau eraill o wledydd Prydain, gan gofio bod rhai ardaloedd yn Lloegr yr un mor ddibynnol ar y diwydiant hwnnw ag yr ydym ni. Gwrthodaf y safbwynt y ceisiodd Val Feld ei amlinellu, sef nad oeddem ond yn ceisio nodi’r gwahaniaeth rhyngom ni a Lloegr. Nid yw hynny’n wir. Mae ardaloedd yn Lloegr sydd yn dioddef yr un mor ddrwg â Chymru o safbwynt y diwydiant cynhyrchu. Amlinellodd Phil yn glir y math o atebion yr ydym am eu cynnig ac yr ydym am i Rhodri symud ymlaen i’w mabwysiadu a’u cynnig i’r Llywodraeth yn Llundain. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw bod rhannau o bolisi economaidd y Llywodraeth yn Llundain yn milwrio yn erbyn y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain.

In opening the debate, Phil Williams highlighted the manufacturing industry’s importance to Wales, compared with other parts of the countries of Britain, bearing in mind that some areas in England are just as dependent as we are on that industry. I reject the standpoint that Val Feld tried to outline, namely that we are only trying to draw a distinction between ourselves and England. That is not true. There are areas of England which are suffering just as badly as Wales as regards manufacturing industry. Phil outlined clearly the kind of answers we are proposing, which we would like Rhodri to adopt and propose to the Government in London. What we are saying is that parts of the London Government’s economic policy are attacking the manufacturing industry in Wales and other parts of Britain.

Cawsom araith nodweddiadol gan Alun Cairns oedd yn dangos bod—

We had a characteristic speech from Alun Cairns which demonstrated—

Huw Lewis a gododd—

Huw Lewis rose—

John Marek Deputy Presiding Officer spoken in English p. 95

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 95

Will you give way?

A ildiwch?

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 95

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh and English p. 95

Na wnaf. Mae gennyf lawer o bwyntiau i’w gwneud ac yr wyf wedi cytuno i dorri hyd fy araith er mwyn ceisio gwneud hynny. Dywedaf wrth Alun ei fod wedi dangos yn glir iawn pam fod pobl Prydain wedi pleidleisio yn erbyn y Ceidwadwyr yn 1997. Wedi 18 mlynedd o bolisïau o’r fath mae’n amlwg pam fod angen cyfeiriad newydd. Mae’n drueni bod Alun wedi siarad mor hir ac wedi rhwystro Glyn Davies rhag gwneud cyfraniad llawer mwy cytbwys.

in Welsh No. I have many points to make and have already agreed to curtail my speech in order to do so. I say to Alun that he demonstrated clearly why the British people voted against the Conservatives in 1997. After 18 years of those policies it is clear why a new direction was needed. It is a shame that Alun spoke at such length, and prevented Glyn Davies from making a much more balanced contribution.

Symudaf ymlaen at gyfraniad Rhodri. Yn naturiol, mae Rhodri yn croesawu’r ddadl ac yn cydnabod y broblem. Mae’n gweld, er enghraifft, yr hyn sydd yn digwydd i gymunedau yn Abergwaun a Llanbedr Pont Steffan. Gallai fod wedi sôn hefyd am gymunedau sydd yn dibynnu ar swyddi yn Panasonic, Sony, Hitachi, First Line, Thyson Krupp Automotive yn Llanelli, Flexys Rubber Chemicals yn Rhiwabon, ac yn y blaen, y bygythiad sydd i Dewhirst yn Abergwaun, Takiron ym Medwas a Gossard ym Mhontllan-fraith. Mae’n cydnabod y broblem a’i bod yn amserol i ni edrych ar y drafodaeth. Ond nid yw’n gweld bod rôl i’r Llywodraeth yn Llundain wrth geisio dod o hyd i atebion. Yr hyn sydd yn bwysig i Aelodau Llafur ei gofio, wedi iddynt fod mor feirniadol o Corus dros yr wythnosau diwethaf, heb weld bai ar y Llywodraeth yn Llundain am beidio â datblygu polisi economaidd mwy cytbwys—a’r hyn y byddwn yn ei ddweud wrth Rhodri—yw bod pob llywodraeth yn defnyddio cyfuniad o bolisïau rhanbarthol, trethiannol ac ariannol.

in Welsh I come to Rhodri’s contribution. Naturally, Rhodri welcomes the debate and acknowledges the problem. For example, he can see what is happening in communities in Fishguard and Lampeter. He could also have mentioned communities that depend on jobs in Panasonic, Sony, Hitatchi, First Line, Thyson Krupp Automotive in Llanelli, Flexys Rubber Chemicals in Ruabon and so on, the threat which now faces Dewhirst in Fishguard, Takiron in Bedwas and Gossard in Pontllan-fraith. He acknowledges the problem, and that it is now timely for us to look at the discussion. However, he does not see that the Government in London has a role in seeking solutions. It is important for Labour Members to bear in mind, having been so critical over the last few weeks of Corus without placing any blame on the Government in London for not developing a more balanced economic policy—and this is what I say to Rhodri—that all governments use a combination of regional, taxation and monetary policies.

Rhodri fails to address the fact that we did not object to the mix of measures being used, but rather to the Government’s priority in terms of monetary policy. Phil Williams was right to draw attention to the fact that this was set as criteria when the Bank of England was given independence and that that has caused the problem. Why, for example, were those criteria set differently to the Federal Reserve of the United States? The Bank of England does not consider the impact on manufacturing industry. It is simply looking at a monetarist angle.

yn Saesneg Mae Rhodri wedi methu ag ymdrin â’r ffaith inni wrthwynebu blaenoriaeth y Llywodraeth o ran polisi arianyddol yn hytrach na’r cyfuniad o fesurau a ddefnyddir. Yr oedd Phil Williams yn llygad ei le i dynnu sylw i’r ffaith i hyn gael ei bennu fel meini prawf pan roddodd annibyniaeth i Fanc Lloegr ac mai hynny sydd wedi achosi’r broblem. Pam, er enghraifft, y pennwyd y meini prawf hynny yn wahanol i Fanc Cronfa Ffederal yr Unol Daleithiau? Nid yw Banc Lloegr yn ystyried yr effaith ar y diwydiant gweithgynhyrchu. Dim ond edrych ar yr ongl arianyddol a wna.

Hefyd, yr wyf am bwysleisio’r pwynt a wnaethpwyd gan Phil a nifer o siaradwyr eraill bod bwlch gwirioneddol yn datblygu ar lefelau incwm ac CMC y pen rhwng gwledydd fel Cymru a rhanbarthau yn Lloegr a rhannau mwy cyfoethog o Loegr. Yr oedd Brian Hancock yn amlwg yn iawn yn dweud bod lefelau CMC y pen Cymru i lawr bellach i 79.4 y cant o’r cyfartaledd. Dyna’r ateb i bobl fel Alun Cairns. Dan y Ceidwadwyr disgynnodd lefelau cyflog ac incwm yng Nghymru tra yr oedd eu cyfeillion yn y Ddinas yn cael mwy o arian fel bonws. Dyna pam ein bod ni am weld polisi gwahanol yma yng Nghymru. Dyna pam bod ein cynnig yn pwysleisio bod camau pendant y gall y Llywodraeth eu cymryd i edrych ar lefelau trethiant cytbwys a fyddai’n sicrhau mwy o chwarae teg ar draws y Deyrnas Gyfunol.

in Welsh I also emphasise the point made by Phil and a number of others that a real gap is developing on income levels and GDP per capita between countries such as Wales and English regions and more prosperous parts of England. Brian Hancock was obviously right in saying that GDP per capita levels in Wales are now down to 79.4 per cent of the average. That is the answer to people like Alun Cairns. Under the Conservatives, salary and income levels in Wales decreased while their friends in the City received higher bonuses. That is why we wish to see a different policy here in Wales. That is why, in our motion, we emphasise the positive steps the Government can take to look at balanced taxation levels, which would ensure more fair play across the United Kingdom.

Val, although you mentioned the fact that there had been regional policy by a Labour government in the 1970s, regional policy today must look to the European Union. The reality is that you cannot simply go to the European Union to formulate a regional policy. There has to be a recognition within the United Kingdom that there are different levels of prosperity in the south east of England, the north of England, Wales, Scotland and Northern Ireland. We must be allowed to view regional policy as a method of redistributing wealth within the United Kingdom. The Labour group rejected that principle of redistribution proposed in one of our recent amendments.

yn Saesneg Val, er ichi grybwyll y ffaith fod polisi rhanbarthol gan lywodraeth Lafur yn y 1970au, rhaid i bolisïau rhanbarthol heddiw edrych i’r Undeb Ewropeaidd. Y gwirionedd yw na ellir mynd i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn llunio polisi rhanbarthol yn unig. Rhaid bod cydnabyddiaeth o fewn y Deyrnas Unedig bod gwahanol lefelau o ffyniant yn ne-ddwyrain Lloegr, gogledd Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid caniatáu inni edrych ar bolisi rhanbarthol fel modd o ailddosbarthu cyfoeth o fewn y Deyrnas Unedig. Gwrthododd y grŵp Llafur yr egwyddor honno o ailddosbarthu a gynigiwyd mewn un o’n gwelliannau diweddar.

Janet Davies graphically highlighted the importance of a progressive regional policy and the impact of the high value of the pound. She gave an excellent speech that drew those themes together. The Assembly faces a clear choice between continuing the basically Conservative policies by the current New Labour administration in Westminster and in the Assembly, and a progressive, forward-looking, bold and imaginative policy put forward by Plaid Cymru.

yn Saesneg Nododd Janet Davies mewn ffordd fanwl pa mor bwysig yw polisi rhanbarthol cynyddol ac effaith gwerth uchel y bunt. Rhoddodd araith ragorol a dynnodd y themâu hynny ynghyd. Mae’r Cynulliad yn wynebu dewis clir rhwng parhau â pholisïau sydd yn Geidwadol yn y bôn o dan y weinyddiaeth Lafur Newydd bresennol yn San Steffan ac yn y Cynulliad, a pholisi blaengar, mentrus a dychmygol a gynigiwyd gan Blaid Cymru.

Gwelliant 1 Alun Cairns t. 97

Amendment 1 Alun Cairns p. 97

GwrthodwydRejected O blaidFor 6 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 41

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (6)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (41)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 33 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 14

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (33)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams
Yn erbynAgainst (14)
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Jonathan Morgan
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Phil Williams

Cynnig Phil Williams t. 99

Motion Phil Williams p. 99

DerbyniwydAdopted O blaidFor 29 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 18

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (29)
  • Lorraine Barrett
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Val Feld
  • Michael German
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Kirsty Williams
Yn erbynAgainst (18)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Phil Williams

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 99

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 99

That brings today’s proceedings to a close.

Ar hynny daw trafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.30 p.m.

The meeting ended at 5.30 p.m.