English

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 16 Hydref 2001

Tuesday 16 October 2001

DechreuoddMet 13:00 · Daeth i benRose 17:04

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 4Datganiad gan Val LloydStatement by Val Lloyd
  2. 5Cwestiynau i Brif Weinidog CymruQuestions to the First Minister
    1. 5Ymateb i’r Cynigion i Ehangu’r UEResponse to EU Enlargement Proposals
    2. 7Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd PenodedigA Dedicated Minister for Economic Development
    3. 11Goblygiadau’r Sefyllfa Ryngwladol Bresennol i GymruImplications for Wales of the Current International Situation
    4. 13Adroddiadau a Gomisiynwyd gan y CynulliadAssembly-commissioned Reports
    5. 15Effaith Cwymp Diweddar RailtrackImpact of the Recent Collapse of Railtrack
    6. 17Datblygu Perthynas rhwng Cymru a’r Unol DaleithiauDevelopment of Relations between Wales and the USA
    7. 19Dyfodol Cymru yn EwropThe Future of Wales in Europe
    8. 20Effeithiau yr Ymosodiadau Diweddar gan DerfysgwyrEffects of the Recent Terrorist Attacks
    9. 21Paratoi at Argyfwng Sifil yng NghymruPreparations for a Civil Emergency in Wales
  3. 22Pwynt o DrefnPoint of Order
  4. 23Datganiad ar Raglen Fusnes Flynyddol y LlywodraethStatement on the Annual Government Business Programme
  5. 37Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  6. 41Pwynt o DrefnPoint of Order
  7. 43Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  8. 45Pwynt o DrefnPoint of Order
  9. 46Adroddiad Blynyddol Prif Weinidog CymruThe First Minister’s Annual Report 3 o bleidleisiau3 votes
  10. 77Pwynt o DrefnPoint of Order
  11. 77Datganiad ar yr Ymosodiadau Terfysgol ar UDA ar 11 Medi 2001Statement on the Terrorist Attacks on the USA on 11 September 2001
  12. 108Datganiad BusnesBusiness Statement
  13. 110Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  14. 111Ethol i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a ThrafnidiaethElection to the Environment, Planning and Transport Committee 1 bleidlais1 vote
  15. 112Ethol i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol OesElection to the Education and Lifelong Learning Committee 1 bleidlais1 vote
  16. 114Cymeradwyo Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Rheoliadau (Gorfodi) Bwydydd Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001Approval of the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 1 bleidlais1 vote
  17. 115Cymeradwyo Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001Approval of the Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 2 o bleidleisiau2 votes
  18. 119Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000Delegation of the Functions of the Warm Homes and Energy Conservation Act 2000 1 bleidlais1 vote
  19. 121Datganiad gan y TrefnyddStatement by the Minister for Assembly Business

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion17039GwrthodwydRejected
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion5610DerbyniwydAdopted
Adroddiad Blynyddol Prif Weinidog CymruThe First Minister’s Annual Report
Gwelliant 1Amendment 125032GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 225032GwrthodwydRejected
Cynnig NNDM781Motion NNDM78132169DerbyniwydAdopted
Ethol i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a ThrafnidiaethElection to the Environment, Planning and Transport Committee
Cynnig NNDM782Motion NNDM7825200DerbyniwydAdopted
Ethol i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol OesElection to the Education and Lifelong Learning Committee
Cynnig NNDM783Motion NNDM7835200DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Rheoliadau (Gorfodi) Bwydydd Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001Approval of the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001
Cynnig NNDM776Motion NNDM7765200DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001Approval of the Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001
Cynnig NDM777Motion NDM7774530DerbyniwydAdopted
Cynnig NDM777Motion NDM7774730DerbyniwydAdopted
Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000Delegation of the Functions of the Warm Homes and Energy Conservation Act 2000
Cynnig NNDM779Motion NNDM7794900DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 1 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 1 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Datganiad gan Val Lloyd

Statement by Val Lloyd

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 4

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 4

Fy nyletswydd cyntaf heddiw yw croesawu Aelod newydd o’r Cynulliad.

in Welsh My first duty today is to welcome a new Assembly Member.

It gives me particular pleasure to welcome our new Member, Val Lloyd.

yn Saesneg Pleser o’r mwyaf yw croesawu ein Haelod newydd, Val Lloyd.

Val Lloyd spoken in English p. 4

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 4

Thank you for that introduction and welcome. I feel most privileged and proud to be standing here today representing the interests of the people of Swansea East. My pride is tinged, however, with sadness and regret at the circumstance that led to me being here―the untimely death of my predecessor, Val Feld. We all have our special, particular and personal memories of Val. I welcome the opportunity to pay tribute to her enthusiasm and to her work on devolution and in this Assembly, with the homeless, on equality of opportunity in all spheres, and as Chair of the Economic Development Committee. She will be sorely missed. However, she has left firm foundations, upon which I can build and continue her work. I am proud to take up that challenge and to contribute to the Assembly’s work.

Diolch am y cyflwyniad hwnnw a’r croeso. Yr wyf yn teimlo’n freintiedig ac yn falch iawn o gael sefyll yma heddiw yn cynrychioli buddiannau pobl Dwyrain Abertawe. Fodd bynnag, mae arlliw o dristwch a gofid yn fy malchder oherwydd yr amgylchiadau a arweiniodd at fy mhresenoldeb yma—marwolaeth cynamserol fy rhagflaenydd, Val Feld. Mae gan bawb ohonom ein hatgofion arbennig, penodol a phersonol am Val. Croesawaf y cyfle i dalu teyrnged i’w brwdfrydedd ac i’w gwaith ar ddatganoli ac yn y Cynulliad hwn, gyda’r digartref, ar gyfle cyfartal ym mhob maes, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Bydd colled fawr ar ei hôl. Fodd bynnag, gadawodd seiliau cadarn y gallaf adeiladu arnynt a pharhau â’i gwaith. Mae’n bleser gennyf dderbyn yr her honno a chyfrannu at waith y Cynulliad.

During the by-election campaign, it was heartening to hear the positive attitudes expressed towards the Assembly and to compare them with the comments received on doorsteps during the first Assembly elections in 1999. That positive response and the choice that electors made through the ballot box was an endorsement of the leadership of Welsh Labour in this Assembly in its short period of existence. The steps taken by the Assembly on health and education were relevant to me in my previous professional life. Through its actions, from the increase in the numbers of trainee nurses to the implementation of Objective 1 projects, the Assembly has already made a difference.

Yn ystod ymgyrch yr is-etholiad, yr oedd yn galonogol clywed yr agweddau cadarnhaol a fynegwyd tuag at y Cynulliad a’u cymharu â’r sylwadau a gafwyd wrth fynd o dŷ i dŷ yn ystod etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999. Yr oedd yr ymateb cadarnhaol hwnnw a’r dewis a wnaeth yr etholwyr wrth bleidleisio yn cymeradwyo arweinyddiaeth Llafur Cymru yn y Cynulliad hwn yn ystod cyfnod byr ei fodolaeth. Yr oedd y camau a gymerwyd gan y Cynulliad ar iechyd ac addysg yn berthnasol imi yn fy mywyd proffesiynol blaenorol. Drwy ei weithredoedd, o gynyddu nifer y nyrsys dan hyfforddiant i weithredu prosiectau Amcan 1, mae’r Cynulliad eisoes wedi gwneud gwahaniaeth.

I look forward to playing a full part in the Assembly’s work, and acting to improve the lives of people in Wales.

Edrychaf ymlaen at chwarae rhan lawn yng ngwaith y Cynulliad, a gweithredu i wella bywydau pobl Cymru.

Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Questions to the First Minister

Ymateb i’r Cynigion i Ehangu’r UE

Response to EU Enlargement Proposals

Q1 Peter Rogers spoken in English p. 5

C1 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 5

How is the First Minister co-ordinating policy to respond to proposals for European Union enlargement? (OAQ12900)

Sut y mae Prif Weinidog Cymru yn cydlynu polisïau i ymateb i’r cynigion i ehangu’r Undeb Ewropeaidd? (OAQ12900)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 5

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 5

Before I answer that question, I will also welcome Val Lloyd. She will clearly be a distinguished successor to a distinguished predecessor.

Cyn imi ateb y cwestiwn hwnnw, hoffwn innau hefyd groesawu Val Lloyd. Fe fydd yn olynydd rhagorol i ragflaenydd rhagorol.

To answer your question, Peter, the co-ordination of policy on EU enlargement is being done under the auspices of the Committee on European Affairs, which I chair. The Committee has set up a small working group, which includes representatives from the private and voluntary sectors, to advise on a co-ordinated approach to the opportunities and challenges that enlargement presents for Wales. The enlargement sub-committee of the Committee on European Affairs met for the first time on 8 October and will report back to the Committee tomorrow.

I ateb eich cwestiwn, Peter, caiff y gwaith o gydlynu’r polisi ar ehangu’r UE ei wneud o dan nawdd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd, yr wyf yn gadeirydd arno. Mae’r Pwyllgor wedi sefydlu gweithgor bach, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau preifat a gwirfoddol, i roi cyngor ar ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y cyfleoedd a’r heriau y mae ehangu yn eu cyflwyno i Gymru. Cyfarfu is-bwyllgor ehangu’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd am y tro cyntaf ar 8 Hydref a byddant yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yfory.

Peter Rogers spoken in English p. 5

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 5

Do you accept that, in future, as a consequence of EU enlargement, European Commission resources are likely to be targeted at countries other than Wales, making it essential that our Objective 1 programme is a success? Do you, therefore, share my concern that Môn Training in my constituency, which runs the skills for employment and the skills for business Objective 1 projects as part of the north Wales training organisations, has had to close all applications for new courses until 10 December? Are you aware that Môn Training has had to write to all local businesses—

A dderbyniwch, yn y dyfodol, o ganlyniad i ehangu’r UE, ei bod yn debygol y caiff adnoddau’r Comisiwn Ewropeaidd eu targedu at wledydd ac eithrio Cymru, sydd yn ei gwneud yn hanfodol i’n rhaglen Amcan 1 lwyddo? Ydych chi, felly, yn rhannu fy mhryder bod Hyfforddiant Môn yn fy etholaeth i, sydd yn rhedeg prosiectau sgiliau ar gyfer cyflogaeth a sgiliau ar gyfer busnes Amcan 1 fel rhan o sefydliadau hyfforddi gogledd Cymru, wedi gorfod gwrthod pob cais ar gyfer cyrsiau newydd tan 10 Rhagfyr? Ydych chi’n ymwybodol bod Hyfforddiant Môn wedi gorfod ysgrifennu at bob busnes lleol—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 5

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

Order. I do not want to begin the new term by calling Members to order for asking long questions. However, I ask Members to ensure that supplementary questions are kept to one or, at the most, two sentences.

Trefn. Nid wyf am ddechrau’r tymor newydd drwy alw’r Aelodau i drefn am ofyn cwestiynau maith. Fodd bynnag, gofynnaf i’r Aelodau sicrhau y cedwir cwestiynau atodol i un frawddeg, neu ddwy ar y mwyaf.

Peter Rogers spoken in English p. 6

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 6

Môn Training has had to write to all organisations stating that, because of the bureaucracy involved in the programme, there is a backlog and more training cannot be provided until mid-December. What can we do about this?

Mae Hyfforddiant Môn wedi gorfod ysgrifennu at bob sefydliad yn nodi, oherwydd biwrocratiaeth y rhaglen, bod ôl-groniad ac na ellir darparu mwy o hyfforddiant tan ganol mis Rhagfyr. Beth allwn ni ei wneud ynghylch hyn?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

The connection between your supplementary question and your original question on EU enlargement became increasingly tenuous as you went on. However, you were right on the general principle. We intend Objective 1 to be sufficiently successful that we will be disqualified from gaining Objective 1 status a second time. We will, however, be looking for transitional funding. Much of Ireland received transitional funding during this round, after being equally successful during the 1990s with the benefit of Objective 1. You should take up your points about Môn Training with Jane Davidson or me in a detailed letter, to which I am sure you will receive a prompt response.

Gwanhaodd y cysylltiad rhwng eich cwestiwn atodol a’ch cwestiwn gwreiddiol ar ehangu’r UE wrth ichi fynd yn eich blaen. Fodd bynnag, yr oeddech yn gywir o ran yr egwyddor gyffredinol. Ein bwriad yw y bydd Amcan 1 yn ddigon llwyddiannus fel na fyddwn yn gymwys i gael statws Amcan 1 eto. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio cael arian trosiannol. Cafodd sawl rhan o Iwerddon arian trosiannol yn ystod y cylch hwn, ar ôl bod yr un mor llwyddiannus yn ystod y 1990au gyda buddiannau Amcan 1. Dylech godi eich pwyntiau ynghylch Hyfforddiant Môn gyda Jane Davidson neu mi mewn llythyr manwl, ac yr wyf yn siŵr y cewch ymateb prydlon.

Phil Williams spoken in English p. 6

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 6

With full enlargement there will be six full member states of the European Union that are smaller than Wales. Do you recognise that, in accessing European funds, including cohesion funds, these small countries with full national status within the EU will have considerable advantages that are currently denied to Wales?

Gydag ehangu llawn bydd chwe aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn llai na Chymru. A ydych yn cydnabod, wrth gael mynediad i arian Ewropeaidd, yn cynnwys cronfeydd cydlyniant, y bydd gan y gwledydd bach hyn ag iddynt statws cenedlaethol llawn o fewn yr UE fanteision sylweddol nad yw Cymru’n gymwys i’w cael ar hyn o bryd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

I do not want to get into Plaid Cymru’s internal arguments over whether it wants independence for Wales or not. The important point is that we should make good use of Objective 1 funding. We are showing every sign of doing that, with some £230 million—about 20 per cent of the £1.2 billion in the Objective 1 programme—already committed and some 350 projects being supported by those means. We should make a success of that rather than, as Phil and other members of his party always do—although they are very much for Wales—believing that the grass is always greener elsewhere.

Nid wyf am gymryd rhan yn nadleuon mewnol Plaid Cymru ynghylch pa un a yw am gael Cymru annibynnol ai peidio. Y pwynt pwysig yw y dylem wneud defnydd da o arian Amcan 1. Yr ydym yn debygol o wneud hynny, gyda tua £230 miliwn—tua 20 y cant o’r £1.2 biliwn yn rhaglen Amcan 1—wedi’i neilltuo eisoes a thua 350 o brosiectau’n cael eu cefnogi drwy hynny. Dylem sicrhau bod hynny’n llwyddiant yn hytrach na chredu, fel y gwna Phil ac aelodau eraill ei blaid o hyd—er eu bod yn gadarn o blaid Cymru—bod man gwyn man draw o hyd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 6

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

Question 2 (OAQ12901) is withdrawn.

Tynnwyd Cwestiwn 2 (OAQ12901) yn ôl.

Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd Penodedig

A Dedicated Minister for Economic Development

C3 Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Q3 Cynog Dafis spoken in Welsh p. 7

Am ba hyd y bydd Cymru heb Weinidog dros Ddatblygu Economaidd penodedig? (OAQ12932)

How much longer will Wales be without a dedicated Minister for Economic Development? (OAQ12932)

C9 Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Q9 Gareth Jones spoken in Welsh p. 7

Pa sylwadau y mae Prif Weinidog Cymru wedi’u cael yn mynegi gofid ynghylch gallu ei Gabinet i ddelio’n effeithiol ag effeithiau’r miloedd o swyddi a gollwyd yng Nghymru eleni, o gofio nad oes Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd penodedig? (OAQ12925)

What representations has the First Minister received expressing concern at the ability of his Cabinet to deal adequately with the effects of thousands of job losses in Wales this year, given the absence of a dedicated Minister for Economic Development? (OAQ12925)

C12 Alun Cairns siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Q12 Alun Cairns spoken in Welsh p. 7

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sy’n bod i benodi Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd newydd? (OAQ12916)

Will the First Minister make a statement on any plans to appoint a new Minister for Economic Development? (OAQ12916)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 7

Nid wyf yn siŵr beth yw ystyr y cwestiynau hyn ynglŷn â Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd penodedig. Eglurais y sefyllfa ym mis Gorffennaf, ac nid yw wedi newid. Yn y cyfamser, yr ydym wedi cael llwyddiannau. Dylai Cynog ac eraill ystyried y canlyniadau yn hytrach na’r broses. Er enghraifft, cyhoeddasom y bore yma nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd wedi ein rhwystro rhag clustnodi £21 miliwn i Gyllid Cymru. Dywedodd pawb, gan gynnwys Dafydd Wigley, y byddai’r broses yn cael ei gohirio ac y byddai hynny’n broblem fawr. Bydd yr arian ar gael mewn pryd inni lawnsio ail gam Cyllid Cymru fel y banc, os hoffwch, y mae pawb ym myd busnes yng Nghymru wedi bod yn gofyn amdano am 30 blynedd. Y weinyddiaeth hon sydd wedi cyflawni hyn.

I am not sure of the meaning of these questions about a dedicated Minister for Economic Development. I explained the position in July, and it has not changed. In the meantime, we have been successful. Cynog and others should consider the results rather than the process. For example, we announced this morning that the European Commission has not blocked our earmarking £21 million for Finance Wales. Everybody, including Dafydd Wigley, said that the process would be delayed and that that would be a serious problem. The money will be available in time for us to launch the second phase of Finance Wales as the bank, if you like, for which everybody in the business community in Wales has been calling for for 30 years. It has been delivered by this administration.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 7

Mae’r Prif Weinidog mewn trwbl os na all wneud yn well na hynny. Yr oedd ymweliad Dafydd Wigley â Brwsel ddoe yn berthnasol i’r cyhoeddiad a wnaethpwyd y bore yma. Ynglŷn â’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol—

The First Minister is in trouble if he cannot do better than that. Dafydd Wigley’s visit to Brussels yesterday was related to the announcement made this morning. As regards the national economic development strategy—

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

Oh, come on, Cynog.

O, chwarae teg, Cynog.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 7

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 7

Gwrandewch ar y cwestiwn, os gwelwch yn dda. Mae’r strategaeth hon i fod i roi trefn ar economi Cymru. Fodd bynnag, deallaf fod y strategaeth ddau fis ar ei hôl hi. Pam? Ai bai Mike German, a fu yn y swydd am nifer o fisoedd, ydyw, neu ai bai Rhodri Morgan, sydd yn ceisio gwneud dwy swydd ond yn methu? Ai cyflwr economi Cymru neu gyflwr clymblaid y Cynulliad sydd bwysicaf i’r Prif Weinidog?

Please listen to the question. This strategy is meant to sort out the Welsh economy. However, I understand that the strategy is two months behind schedule. Why? Is it the fault of Mike German, who was in post for several months, or should we blame Rhodri Morgan, who is trying to do two jobs and failing? What is most important to the First Minister: the state of the Welsh economy or the state of the Assembly coalition?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Dim un o’r ddau. Nid bai Mike German nac fy mai i ydyw. Nid oes neb ar fai. Y rheswm dros yr oedi yw fod y cyrff yn y sector preifat a gwirfoddol yr ydym yn ymgynghori â hwy wedi gofyn am fwy o amser i ymateb i’r broses ymgynghori. Nid bai y weinyddiaeth ydyw. Fel aelod o’r wrthblaid, rhaid i Cynog feio’r weinyddiaeth am bopeth. Deallaf mai dyna yw ei swydd. Yr hyn sydd yn bwysig yw bod ein partneriaid yn y sectorau gwirfoddol a phreifat wedi gofyn am fwy o amser i ymgynghori a’n bod ni wedi cytuno â hynny. Caiff y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol ei chyhoeddi cyn diwedd y mis.

Neither of the two. It is not Mike German’s fault nor mine. No-one is to blame. The reason for the delay is that the public and private sector organisations with which we are consulting have requested more time to respond to the consultation process. It is not the administration’s fault. As a member of the opposition, Cynog must blame the administration for everything. I understand that that is his job. What is important is that our partners in the voluntary and private sectors have requested more time to consult and that we have agreed to that. The national economic development strategy will be published by the end of the month.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 8

Galwaf ar Gareth Jones ac Alun Cairns i ofyn eu cwestiynau atodol.

I call on Gareth Jones and Alun Cairns to ask their supplementary questions.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Gareth Jones spoken in Welsh p. 8

Mae gan y Llywodraeth ddiffyg penderfyniad, strategaeth a thargedau o ran ynni adnewyddadwy. Mae hynny’n peri i Gymru golli hyd at £30 miliwn ar gyfer prosiectau ffermydd gwynt, yn ogystal â’r cannoedd o swyddi sy’n gysylltiedig â hynny. Onid y rheswm sylfaenol am hynny yw nad oes gennym Weinidog dros Ddatblygu Economaidd sydd â digon o amser i ganolbwyntio’n llwyr ar ei waith?

The Government lacks resolve, strategy and targets as regards renewable energy. As a result, Wales loses up to £30 million for windfarm projects, as well as the hundreds of associated jobs. Is not the underlying reason for that the fact that we do not have a Minister for Economic Development with sufficient time to concentrate fully on his work?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Mae Gareth yn byw yng ngwlad ffantasi. Nid yw hyn yn ymwneud ag absenoldeb Gweinidog â chyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd yn unig. Mae’r broblem ynghylch ffermydd gwynt yn gysylltiedig â phroblemau cynllunio. Bron bob tro y gwneir cais cynllunio ar gyfer fferm wynt, ceir ymateb gelyniaethus yn yr ardal, a rhaid ystyried hynny.

Gareth lives in a fantasy land. This is not related to the absence of a Minister dedicated to economic development. The problem regarding windfarms relates to planning problems. Almost every time a planning application for a windfarm is submitted, there is a hostile response in the area, and that must be considered.

Alun Cairns spoken in English p. 8

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 8

By seeking to balance his time between the responsibilities of the Minister for Economic Development and the First Minister, is it not true that the First Minister is letting Wales down? The effects of this are demonstrated by the delay in publishing the national economic development strategy. On 17 July, Andrew Davies scheduled a debate on the strategy for 30 October. The papers for tomorrow’s Economic Development Committee meeting show that the debate has been postponed until 13 December, just before Christmas. This is a fiasco. Wales needs a full-time minister for economic development, not a part-time pretend version.

Drwy geisio rhannu ei amser yn gyfartal rhwng cyfrifoldebau’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Phrif Weinidog Cymru, onid yw’n wir bod y Prif Weinidog yn siomi Cymru? Caiff effeithiau hyn eu harddangos yn yr oedi wrth gyhoeddi’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Ar 17 Gorffennaf, trefnodd Andrew Davies ddadl ar y strategaeth ar gyfer 30 Hydref. Dengys y papurau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd yfory fod y ddadl wedi’i gohirio tan 13 Rhagfyr, ychydig cyn y Nadolig. Mae hyn yn llanastr. Mae angen gweinidog dros ddatblygu economaidd llawn amser ar Gymru, nid fersiwn ffug rhan amser.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

If you cannot get the ball, go for the man. That is what Alun is doing. I addressed this in my response to Cynog. I do not know why Alun was not listening. Alun should consider the outcome, and the jobs that have been created. One example is the British Telecom Ignite project, which was announced last week. Although the project is located in Cardiff, it enables the whole of Wales to benefit from broadband technology. In terms of the economic development of Wales, it is probably as important as the opening of the M4. Alun is obsessed with this question. He is thinking back to the days when he was a bank clerk who had to turn up for work at 9 a.m., go home at 5 p.m. and only considered himself to be a bank clerk during those hours. That is not how it works in politics.

Yr ydych yn ymosod yn bersonol, yn lle mynd i’r afael â’r broblem dan sylw, Alun. Cyfeiriais at hynny yn fy ymateb i Cynog. Ni wn pam nad oedd Alun yn gwrando. Dylai Alun ystyried y canlyniad, a’r swyddi a grëwyd. Un enghraifft yw prosiect British Telecom Ignite, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Er bod y prosiect wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’n galluogi Cymru gyfan i elwa ar dechnoleg band llydan. O ran datblygiad economaidd Cymru, mae’n debyg ei fod yr un mor bwysig ag agor yr M4. Mae’r cwestiwn hwn yn obsesiwn gan Alun. Mae’n meddwl yn ôl i’r cyfnod pan oedd yn glerc banc oedd yn gorfod cyrraedd y gwaith am 9 a.m., mynd gartref am 5 p.m. a dim ond yn ystyried ei hun yn glerc banc yn ystod yr oriau hynny. Nid dyna sut y mae ym myd gwleidyddiaeth.

Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 9

Nick Bourne Arweinydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

It is good to hear the First Minister telling people not to be personal and then rapidly descending to being personal himself. On 10 July, the First Minister said,

Mae’n dda clywed y Prif Weinidog yn dweud wrth bobl am beidio â bod yn bersonol ac yna’n iselhau ei hun yn syth i fod yn bersonol. Ar 10 Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog,

‘the Deputy First Minister’s portfolio can be combined with that of First Minister during a period which, apart from this and next week, will be summer recess, when demands are entirely different.’

‘gellir cyfuno portffolio Dirprwy Brif Weinidog Cymru ag un y Prif Weinidog am gyfnod a fydd, heblaw am yr wythnos hon a'r wythnos nesaf, yn doriad yr haf, pan fydd gofynion yn hollol wahanol.’

Why are you reneging on that now?

Pam yr ydych yn gwadu hynny nawr?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

Nick should consider the realities, the outcomes and the results. The people of Wales are interested in whether joblessness in Wales is continuing to fall. We have been doing well on that, although the situation may change tomorrow when the jobless figures are announced. I do not have advance knowledge of those figures. However, joblessness is at a 25-year low, so even if the figure increases tomorrow, that statistic is unlikely to change. In addition, mortgage rates are at a 40-year low. Nick should look at the results, not go for the man.

Dylai Nick ystyried y realiti a’r canlyniadau. Mae gan bobl Cymru ddiddordeb yn pa un a yw diweithdra yng Nghymru yn parhau i ostwng. Yr ydym wedi bod yn gwneud yn dda o ran hynny, er y gallai’r sefyllfa newid yfory pan gaiff y ffigurau diweithdra eu cyhoeddi. Ni wn beth fydd y ffigurau hyn. Fodd bynnag, mae diweithdra ar hyn o bryd ar ei isaf ers 25 mlynedd, felly, hyd yn oed os bydd y ffigur yn cynyddu yfory, mae’n annhebygol y bydd yr ystadeg hwnnw yn newid. Yn ogystal, mae cyfraddau morgeisi ar eu hisaf ers 40 mlynedd. Dylai Nick edrych ar y canlyniadau, yn hytrach nag ymosod yn bersonol.

Nick Bourne spoken in English p. 10

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 10

I am surprised to hear that organised leak about tomorrow’s unemployment figures, to which the rest of us are not privy. That is extraordinary.

Yr wyf yn synnu clywed y Prif Weinidog yn datgelu ffigurau diweithdra yfory yn fwriadol, nad oedd y gweddill ohonom yn gwybod amdanynt. Mae hynny’n anhygoel.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

It was not a leak.

Nid datgeliad oedd hynny.

Nick Bourne spoken in English p. 10

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 10

It sounded like one from where I was standing.

Yr oedd yn swnio’n debyg iawn i ddatgeliad o’r fan hon.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 10

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Order. I want questions and answers, not a dialogue.

Trefn. Yr wyf am gael cwestiynau ac atebion, nid deialog.

Nick Bourne spoken in English p. 10

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 10

First Minister, you stated on 1 July, when Members put it to you that somebody else should take over the job of Minister for Economic Development, for example Ron Davies or John Griffiths, that that did not need to be on a temporary basis during the summer recess. That has already been explained. We are now at the end of the summer recess and in a situation in which it is vital that we have a full-time Minister for Economic Development. Can you not see that? When will you name your successor?

Brif Weinidog, bu ichi nodi ar 1 Gorffennaf, pan ddywedodd yr Aelodau wrthych y dylai rhywun arall gymryd swydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, Ron Davies neu John Griffiths er enghraifft, na fyddai angen i hynny fod dros dro yn ystod toriad yr haf. Esboniwyd hynny eisoes. Yr ydym bellach wedi cyrraedd diwedd toriad yr haf ac mewn sefyllfa lle mae’n hanfodol bod gennym Weinidog dros Ddatblygu Economaidd llawn amser. Oni allwch weld hynny? Pryd y byddwch yn enwi eich olynydd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

When I say that you are going for the man and not the ball, I am trying to direct you to the area of results achieved, which are what interest the people of Wales. I have mentioned BT Ignite jobs, which I announced last Friday. I will also mention the excellent news of an extra 120 jobs at Continental Teves in Blaenau Gwent as well as the extra 75 jobs at Desk-link in Tredegar. We have made a series of good announcements and good progress on the national economic development strategy in the light of the extra time that was requested by our partners. Can you specify what dissatisfies you? Where are the delays that have been caused by the administration having a First Minister who shares the post of being Minister for Economic Development pro tem? If you cannot specify the delays, you are simply going for the man because you cannot get the ball.

Pan ddywedaf eich bod yn ymosod yn bersonol, yn hytrach na mynd i’r afael â’r broblem dan sylw, yr wyf yn ceisio eich cyfeirio at y canlyniadau a gyflawnwyd, sef yr hyn sydd o ddiddordeb i bobl Cymru. Yr wyf wedi sôn am swyddi BT Ignite, a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Yr wyf hefyd am sôn am y newyddion ardderchog am greu 120 o swyddi ychwanegol yn Continental Teves ym Mlaenau Gwent yn ogystal â’r 75 o swyddi ychwanegol yn Desk-link yn Nhredegar. Gwnaethpwyd cyfres o gyhoeddiadau da a chynnydd da ar y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol o ystyried yr amser ychwanegol y gwnaeth ein partneriaid gais amdano. A allwch chi nodi beth sydd yn eich anfodloni? Ble mae’r oedi a achoswyd yn sgîl y ffaith bod gan y weinyddiaeth Brif Weinidog sydd yn rhannu swydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd dros dro? Os na allwch nodi’r achosion o oedi, mae’n amlwg eich bod yn ymosod yn bersonol am na allwch fynd i’r afael â’r broblem dan sylw.

Goblygiadau’r Sefyllfa Ryngwladol Bresennol i Gymru

Implications for Wales of the Current International Situation

Q4 Richard Edwards spoken in English p. 11

C4 Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 11

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales regarding the implications for Wales of the current international situation, in view of the recent terrorist attacks? (OAQ12917)

Pa drafodaethau y mae Prif Weinidog Cymru wedi’u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am oblygiadau’r sefyllfa ryngwladol bresennol i Gymru, yng ngoleuni’r ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr? (OAQ12917)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

The Secretary of State for Wales and I are working jointly on this matter and are maintaining a constant exchange of information. Our officials are also working as a joint team and we are fully engaged in planning initiatives at a UK and Welsh level. The Secretary of State for Wales and I attend the UK Civil Contingencies Committee.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a minnau yn cydweithio ar y mater hwn ac yn cyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd. Mae ein swyddogion hefyd yn cydweithio fel tîm ar y cyd ac yr ydym ynghlwm wrth fentrau cynllunio ar lefel y DU a Chymru. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a minnau’n mynychu Pwyllgor Paratoadau Sifil y DU.

Richard Edwards spoken in English p. 11

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 11

Do you share my concerns about racial harmony in Wales following the terror attacks and military campaign that is now underway? Bigots and fanatics need the least excuse to spread their racist poison and the fact that many Muslims perished in the World Trade Center seems to have escaped them. Can you reassure me that every possible step will be taken to prevent the stirring up of racial tension in Wales?

A rannwch fy mhryderon am harmoni hiliol yng Nghymru yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol a’r ymgyrch filwrol sydd becllah yn digwydd? Dim ond yr esgus lleiaf sydd ei angen ar bobl gul ac eithafwyr i ledaenu eu gwenwyn hiliol ac ymddengys eu bod wedi anghofio’r ffaith i lawer o Foslemiaid farw yng Nghanolfan Masnach y Byd. A allwch roi sicrwydd imi y gwneir popeth posibl i atal tensiwn hiliol rhag cyniwair yng Nghymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

Despite the disharmony evinced during the previous question, there has been a considerable degree of cross-party unity on this issue. Ashamed though I am to say it, everyday somewhere in Wales a member of an ethnic or religious minority is abused because they are wearing a turban, veil or where there is some indication that they are not members of mainstream society. Those cases are reported to me all the time. The brain-dead in our society are using what happened in New York and Washington on 11 September as a cover for their racist views. These cases do not only involve members of the National Front, but people who have that bit of poison in their minds and who are using what happened as a cover to bring that poison out. It is causing considerable problems in schools and during social occasions, for example, in cafes, restaurants or wherever a member of a religious or ethnic minority enjoys a normal social, religious or cultural life. It is sad to have to say that, but it is why the four party leaders—Ieuan, Nick, Mike and myself—met the leaders of all the religious communities in Wales two weeks ago. We did so to express our solidarity with them and to encourage them to find better ways of reporting, to the police and others, such insulting and racist behaviour.

Er yr anghytgord a fynegwyd yn ystod y cwestiwn blaenorol, cafwyd cryn undod trawsbleidiol ar y mater hwn. Mae gennyf gywilydd dweud bod aelod o leiafrifoedd ethnig neu grefyddol yn cael ei gam-drin bob dydd rywle yng Nghymru am eu bod yn gwisgo tyrban, penwisg neu lle ceir rhyw arwydd nad ydynt yn aelodau o gymdeithas prif ffrwd. Caf wybod am yr achosion hynny yn gyson. Mae’r bobl dwp yn ein cymdeithas yn defnyddio’r hyn a ddigwyddodd yn Efrog Newydd a Washington ar 11 Medi er mwyn cyfiawnhau eu barn hiliol. Nid aelodau’r Ffrynt Cenedlaethol yn unig sydd yn ymwneud â’r achosion hyn, ond pobl ag ychydig o wenwyn yn eu meddyliau sydd yn defnyddio’r hyn a ddigwyddodd er mwyn rhyddhau’r gwenwyn hwnnw. Mae’n achosi llawer o broblemau mewn ysgolion ac yn ystod digwyddiadau cymdeithasol, er enghraifft, mewn caffis, bwytai neu lle bynnag y bydd aelod o leiafrifoedd crefyddol neu ethnig yn ymhel â bywyd cymdeithasol, crefyddol neu ddiwylliannol arferol. Mae’n drist gorfod dweud hynny, ond dyna pam y cyfarfu arweinwyr y pedair plaid—Ieuan, Nick, Mike a minnau—ag arweinwyr holl gymunedau crefyddol Cymru bythefnos yn ôl. Gwnaethom hynny i fynegi ein hundod â hwy ac i’w hannog i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddwyn ymddygiad mor sarhaus a hiliol i sylw’r heddlu ac eraill.

David Melding spoken in English p. 12

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 12

I am sure that all Members were heartened by your actions to gather representatives of all the ethnic minorities and major religious faiths in Wales together. However, if this conflict regrettably proves to be protracted, do you agree that we must regularly reiterate this commitment to the multi-cultural society that we have in Wales?

Yr wyf yn siŵr bod yr holl Aelodau wedi’u calonogi gan eich camau i gasglu cynrychiolwyr o’r holl leiafrifoedd ethnig a’r prif gredoau crefyddol yng Nghymru ynghyd. Fodd bynnag, os bydd y gwrthdaro hwn yn parhau am gyfnod hwy, a gytunwch fod yn rhaid inni ailadrodd yn gyson yr ymrwymiad hwn i’r gymdeithas aml-ddiwylliannol sydd gennym yng Nghymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

I could not agree with you more. It affects, in predictable ways, the seaports of south Wales such as Cardiff, Swansea, Newport, Barry and so on, where, going back to the old days of the coal trade, there are established mosques and ethnic and religious communities, for example Muslims from Pakistan and the Horn of Africa. We understand that and you can almost predict it because they are visible. However, such problems also apply in the Valleys where you might find an isolated Asian shopkeeper, or in rural Wales where there may be an individual family, but no mosque or support from an extended family. It can be just as bad because social exclusion can be much greater there, they may feel isolated or being blamed by proxy for what happened on 11 September, although their feelings against such a terrorist atrocity are probably just as strong as ours.

Cytunaf yn llwyr â chi. Mae’n effeithio, mewn modd y gellid ei ragweld, ar borthladdoedd de Cymru, megis Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, y Barri ac ati, lle mae mosgiau a chymunedau ethnig a chrefyddol o Bakistan a Horn Affrica sydd yn dyddio o gyfnod y diwydiant glo. Yr ydym yn deall hynny a gallwch ragweld hynny bron oherwydd eu bod yn weladwy. Fodd bynnag, mae problemau o’r fath hefyd yn bodoli yn y Cymoedd lle y gellir dod o hyd i berchennog siop Asiaidd wedi’i ynysu, neu yng Nghymru wledig lle efallai y bydd teulu unigol, ond dim mosg na chymorth gan deulu estynedig. Gall fod cynddrwg oherwydd gall allgáu cymdeithasol fod yn llawer gwaeth yno, gallant deimlo yn ynysig neu eu bod yn cael y bai drwy brocsi am yr hyn a ddigwyddodd ar 11 Medi, er bod eu teimladau yn erbyn erchylltra terfysgol o’r fath siŵr o fod cyn gryfed â’n teimladau ni.

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in Welsh p. 13

Mae nifer o fudiadau ac asiantaethau yng Nghymru yn pryderu ynglŷn â’r argyfwng dyngarol yn Afghanistan. Dywed y Cenhedloedd Unedig y bydd tua saith miliwn o bobl Afghanistan yn wynebu newyn ymhen ychydig o wythnosau. A wnewch chi, ar ran Llywodraeth y Cynulliad, anfon neges at Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cefnogi cais Oxfam, yng Nghymru a Phrydain, bod coridorau diogel yn cael eu creu er mwyn i fwyd gyrraedd y rhai sydd yn dioddef?

Many organisations and agencies in Wales are concerned about the humanitarian crisis in Afghanistan. The United Nations has said that approximately seven million Afghans will face starvation within a few weeks. Will you, on behalf of the Assembly Government, send a message to the United Kingdom Government in support of Oxfam’s request, in Wales and Britain, that safe corridors be created so that food can be provided for those in need?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 13

Gwnaf. Yr wyf yn cytuno â’r syniad sydd y tu ôl i’r cwestiwn a’r cais hwnnw. Er mai cyfrifoldeb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a Clare Short AS yw’r mater hwn yn bennaf, gall y Cynulliad hyrwyddo syniadau o’r fath er mwyn sicrhau nad yw’r saith miliwn o ffoaduriaid sydd yn byw ar y ffin rhwng Pakistan ac Afghanistan yn marw o newyn yn ystod y gaeaf caled sydd yn eu hwynebu.

I will. I agree with the sentiment behind that question and request. Although the Department for International Development and Clare Short MP are primarily responsible for this matter, the Assembly can promote such ideas in order to ensure that the seven million refugees living on the border between Pakistan and Afghanistan do not die of starvation during the ensuing hard winter.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 13

Diolch am yr ymateb cadarnhaol hwnnw. Serch hynny, a wnewch chi fynd gam ymellach? Rhoddais rybudd y byddwn yn codi’r mater hwn. A wnewch chi ystyried sefydlu tasglu bach i gydlynu gwaith y Cynulliad a’r mudiadau dyngarol yng Nghymru, er mwyn i’r rhai sy’n dymuno cynorthwyo a darparu defnyddiau i drueiniaid Afghanistan gael cyfrannu’n uniongyrchol â’r gwaith o helpu’r trueiniaid hyn. A wnewch chi sicrhau bod gan y Cynulliad rôl ganolog i’w chwarae yn sicrhau bod hynny’n digwydd?

Thank you for that positive response. However, will you go a step further? I gave notice that I would raise this matter. Will you consider establishing a small taskforce to co-ordinate the work of the Assembly and the humanitarian organisations in Wales, so that those wishing to help and provide materials for the unfortunate people of Afghanistan can contribute directly to the humanitarian effort? Will you ensure that the Assembly plays a central role in ensuring that this happens?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 13

Yr wyf yn awyddus i ymateb yn bositif i’r cwestiynau hynny. Yn gyntaf, hoffwn drafod y mater gyda’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a Clare Short AS. Byddaf wedyn yn adrodd yn ôl ar y dull gorau o ganiatáu i bobl Cymru helpu’r gwaith o gadw ffoaduriaid Afghanistan rhag newynu yn ystod y gaeaf.

I am eager to respond positively to those questions. First, I would like to discuss this matter with the Department for International Development and Clare Short MP. I will then report back on the best way of allowing the people of Wales to help with the work of preventing starvation amongst Afghan refugees during the winter.

Adroddiadau a Gomisiynwyd gan y Cynulliad

Assembly-commissioned Reports

Q5 Geraint Davies spoken in English p. 13

C5 Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Will the First Minister make a statement on Cabinet responses to Assembly-commissioned reports published during recess? (OAQ12929)

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar ymateb y Cabinet i adroddiadau a gomisiynwyd gan y Cynulliad ac a gyhoeddwyd yn ystod y toriad? (OAQ12929)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

It is the Cabinet’s normal practice to respond to Assembly-commissioned reports during the normal course of business when the Assembly is in session.

Mae’n arferol i’r Cabinet ymateb i adroddiadau a gomisiynwyd gan y Cynulliad yn ystod trefn arferol busnes yn ystod sesiwn y Cynulliad

Geraint Davies spoken in English p. 14

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

In the light of the strong criticisms of the First Minister’s Government in the Steel Communities Study published during the summer recess, and the absence of a full-time Minister for Economic Development, will the First Minister tell us what the Cabinet working group on Corus has been doing over the last few months?

O ystyried beirniadaethau cryf Llywodraeth y Prif Weinidog yn y Steel Communities Study a gyhoeddwyd yn ystod toriad yr haf, ac absenoldeb Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd llawn amser, a ddywed y Prif Weinidog wrthym beth fu gweithlu’r Cabinet ar Corus yn ei wneud dros y misoedd diwethaf?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

Yes, I can. If you read the report you would see that there is no such criticism from Professor Kevin Morgan. It is true that we have received the three-volumed Steel Communities Study: Implications for Employment, Learning and Regeneration. We received the document in July, after the Assembly had gone into recess. Policy divisions across the Assembly, along with the Welsh Development Agency and Education and Learning Wales, have considered the 33 recommendations, and responses have been developed into a draft action plan, which was considered by the Cabinet working group on Corus on 10 October. A final version of the action plan is being prepared, which will be taken forward by the Assembly administration, the WDA, ELWa and other partners.

Gwnaf. Os darllenwch yr adroddiad fe welwch nad oes beirniadaeth o’r fath gan yr Athro Kevin Morgan. Mae’n wir ein bod wedi derbyn y Steel Communities Study: Implications for Employment, Learning and Regeneration, sy’n dair cyfrol. Derbyniwyd y ddogfen ym mis Gorffennaf, ar ôl i’r Cynulliad dorri. Mae is-adrannau polisi ar draws y Cynulliad, ynghyd ag Awdurdod Datblygu Cymru a Dysgu ac Addysgu Cymru, wedi ystyried y 33 o argymhellion, a datblygwyd yr ymatebion yn gynllun gweithredu drafft, a ystyriwyd gan weithgor y Cabinet ar Corus ar 10 Hydref. Mae fersiwn terfynol y cynllun gweithredu’n cael ei baratoi, a bydd gweinyddiaeth y Cynulliad, Awdurdod Datblygu Cymru, ELWa a phartneriaid eraill yn gweithredu arno.

Mick Bates spoken in English p. 14

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 14

I am sure that you will understand, having researched the answer to this question, how difficult it is to find Assembly-commissioned reports. I look forward to improvements in that respect. However, there is one great omission in Assembly-commissioned reports, namely on foot and mouth disease. Will the First Minister make a commitment to produce an Assembly-commissioned report on the foot and mouth disease crisis in Wales, which caused so much suffering?

Yr wyf yn siŵr eich bod yn deall, ar ôl ymchwilio’r ateb i’r cwestiwn hwn, pa mor anodd yw dod o hyd i adroddiadau a gomisiynwyd gan y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at welliannau yn hynny o beth. Fodd bynnag, mae un peth pwysig wedi’i hepgor yn yr adroddiadau a gomisiynwyd gan y Cynulliad, sef clwy'r traed a’r genau. A wna’r Prif Weinidog ymrwymiad i gynhyrchu adroddiad a gomisiynwyd gan y Cynulliad ar argyfwng clwy'r traed a’r genau yng Nghymru, a achosodd gymaint o ddioddefaint?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I would not want to duplicate work that has already been carried out in preparing the three reports commissioned by the UK Government. If there were a specific aspect that Mick believes has not been covered, I would be happy to consider it with Carwyn Jones. Carwyn is engaged in Farming Futures for Wales at present, which considers what will happen after the eradication of foot and mouth disease and as a result of the huge structural changes and pressures in the farming industry. That is the specific Welsh angle that we are pursuing. However, in the light of the three studies that have already been commissioned by the UK Government on the causes and scientific reasons for the outbreak, I would like some more specific details on the aspects that you think, Mick, have not yet been covered.

Ni hoffwn ddyblygu’r gwaith sydd wedi’i wneud eisoes wrth baratoi’r tri adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Pe bai agwedd benodol y mae Mick yn credu nad yw wedi’i chwmpasu, byddwn yn fodlon ei hystyried gyda Carwyn Jones. Mae Carwyn yn cymryd rhan yn Dyfodol Ffermio yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd yn ystyried yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl cael gwared ar glwy’r traed a’r genau ac o ganlyniad i’r newidiadau strwythurol a’r pwysau anferth ar y diwydiant ffermio. Dyna’r ongl benodol Gymreig yr ydym yn ei dilyn. Fodd bynnag, o ystyried y tair astudiaeth sydd wedi’u comisiynu eisoes gan Lywodraeth y DU ar achosion a’r rhesymau gwyddonol dros yr argyfwng, hoffwn gael manylion mwy penodol ar yr agweddau yr ydych chi, Mick, yn credu nad ydynt wedi’u cwmpasu hyd yma.

Effaith Cwymp Diweddar Railtrack

Impact of the Recent Collapse of Railtrack

Q6 Helen Mary Jones spoken in English p. 15

C6 Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 15

What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales regarding the impact of the recent collapse of Railtrack upon the rail network in Wales? (OAQ12927)

Pa drafodaethau y mae Prif Weinidog Cymru wedi’u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch effaith cwymp diweddar Railtrack ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru? (OAQ12927)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I have regular meetings with the Secretary of State for Wales to discuss a wide range of transport and other issues. I met with him yesterday. I know that he has spoken to Stephen Byers, the Secretary of State for Trade and Industry, about the question that you raised, Helen Mary. I also spoke to Stephen Buyers shortly before Railtrack was placed in administration on application to the High Court about a week ago. He did that, as provided for in the Railways Act 1993, in the event of insolvency. We are told that this is not likely to have an impact on the re-franchising issue or the other capital investment proposals in which the Assembly is directly involved, such as the Vale of Glamorgan line.

Yr wyf yn cyfarfod yn rheolaidd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod ystod eang o faterion trafnidiaeth a materion eraill. Cyfarfum ag ef ddoe. Gwn iddo siarad â Stephen Byers, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, ynghylch y cwestiwn a godwyd gennych, Helen Mary. Siaradais innau hefyd â Stephen Byers ychydig cyn y rhoddwyd Railtrack mewn gweinyddiaeth ar gais i’r Uchel Lys tuag wythnos yn ôl. Gwnaeth hynny, fel y darperir ar ei gyfer yn Neddf Rheilffyrdd 1993, oherwydd methdaliad. Dywedir wrthym na fydd hyn yn debygol o effeithio ar fater yr ailfasnachfreintio neu’r cynigion buddsoddi cyfalaf y mae’r Cynulliad yn cymryd rhan uniongyrchol ynddynt, fel llinell Bro Morgannwg.

Helen Mary Jones spoken in English p. 15

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 15

Do you have any idea about what will now happen to Railtrack? One gets the impression that Stephen Byers does not have a clear idea himself. Will the Assembly appoint a member of the board of ap-Railtrack or Railtrack mark 2 or whatever it is to be called? Will we appoint a member of that board? Yes or no?

A oes gennych unrhyw syniad beth fydd yn digwydd i Railtrack yn awr? Caf yr argraff nad oes gan Stephen Byers syniad clir ei hun. A wnaiff y Cynulliad benodi aelod o fwrdd ap-Railtrack neu Railtrack yr ail neu beth bynnag y caiff ei alw? A fyddwn yn penodi aelod o’r bwrdd hwnnw? Byddwn neu na fyddwn?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

Before I answer the ‘yes’ or ‘no’ question, I will respond to your comment about Stephen Byers not knowing what will happen. That was answered comprehensively in the House of Commons yesterday. There is a three-month period during which the administrators will be in charge, under the provisions of the Railways Act 1993. It will then be followed by a not-for-profit body, similar to Glas Cymru, which was pioneered by the Assembly and the water and sewerage industry in Wales. That is the only existing model of its kind, which is a halfway house between the conventional private sector and the public sector and is run on a not-for-profit basis. That is what will succeed Railtrack. They have looked closely at the Glas Cymru model.

Cyn imi ateb ‘byddwn’ neu ‘na fyddwn’, yr wyf am ymateb i’ch sylw nad yw Stephen Byers yn gwybod beth fydd yn digwydd. Atebwyd hynny’n gynhwysfawr yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe. Mae cyfnod o dri mis pan fydd y cwmni o dan ofal y gweinyddwyr, o dan ddarpariaethau Deddf Rheilffyrdd 1993. Yna caiff hyn ei ddilyn gan gorff nad yw’n gwneud elw, fel Glas Cymru, y bu’r Cynulliad a’r diwydiant dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru yn ei arloesi. Dyna’r unig fodel o’i fath sydd yn bodoli, sydd yn hanner ffordd rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac yn cael ei redeg yn ddi-elw. Dyna fydd olynydd Railtrack. Maent wedi edrych yn ofalus ar fodel Glas Cymru.

The specific issue about the Railtrack or Strategic Rail Authority board—I have forgotten which you mentioned in the second half of your supplementary—

Mae’r mater penodol ynghylch bwrdd Railtrack neu’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol—yr wyf wedi anghofio pa un o’r rhain a grybwyllasoch yn ail hanner eich cwestiwn atodol—

Helen Mary Jones spoken in English p. 16

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 16

May I clarify, Presiding Officer?

A gaf egluro, Lywydd?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 16

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

No.

Na chewch.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

I will have to write to you about that, when I have read the Record. I am sorry about that, Helen Mary.

Bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch ynglŷn â hynny, ar ôl imi ddarllen y Cofnod. Mae’n ddrwg gennyf am hynny, Helen Mary.

Alun Pugh spoken in English p. 16

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 16

Do you agree that rail passengers in Wales have been badly served by John Major’s Railtrack and that its collapse was caused by the management’s failure to maintain its core assets? Do you agree with me that if the management had spent more time with a spanner and less with a begging bowl, then the collapse would not have happened?

A gytunwch fod teithwyr rheilffordd yng Nghymru wedi cael gwasanaeth gwael gan Railtrack John Major a bod ei gwymp wedi’i achosi gan fethiant y rheolwyr i gynnal ei asedau craidd? A gytunwch na fyddai’r cwymp wedi digwydd pe bai’r rheolwyr wedi treulio mwy o amser yn gweithredu a llai o amser yn gofyn am arian?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

I cannot go into the history of Railtrack. It was created as part of a new style of privatisation, which, unlike the gas and telecom privatisation of the mid-1980s, took a nationalised monopoly and simply sold its shares to everybody. However, it wanted to carry out structural change at the same time, splitting train operating companies, train leasing companies and rail infrastructure. I do not know whether that was right or wrong, but Labour inherited the problem in 1997 and now it has come to this, post the Hatfield and Paddington rail disasters. It simply has no capital left to cope with the cost of the additional safety procedures that it must follow. Things should have been done differently in 1993-94. However, the important thing is where we take it from here for the benefit of rail passengers in Wales. When we invest money, as we are doing, into the opening of new stations or additional services, we want to ensure that those services run for the benefit of passengers in Wales and are not delayed because dividends are paid to shareholders. The money for dividends could be injected back into the business, because of cheaper borrowing, if bonds rather than the equity model are used.

Ni allaf fanylu ar hanes Railtrack. Fe’i crewyd fel rhan o fath newydd o breifateiddio, a gymerodd fonopoli cenedlaethol a gwerthu ei gyfranddaliadau i bawb, yn wahanol i’r dull o breifateiddio nwy a thelecom yng nghanol yr 1980au. Fodd bynnag, yr oedd am wneud newid strwythurol ar yr un pryd, gan rannu cwmnïau trenau, cwmnïau prydlesu trenau a seilwaith rheilffyrdd. Ni wn a oedd hynny’n gywir neu’n anghywir, ond etifeddodd Llafur y broblem yn 1997 ac yn awr mae wedi dod i hyn, ar ôl trychinebau rheilffordd Hatfield a Paddington. Nid oes ganddo unrhyw gyfalaf ar ôl i ymdopi â chost y gweithdrefnau diogelwch ychwanegol y mae’n rhaid iddo eu dilyn. Dylai pethau fod wedi cael eu gwneud yn wahanol yn 1993-94. Fodd bynnag, y peth pwysig yw beth yw’r cam nesaf er budd teithwyr rheilffordd yng Nghymru. Pan fyddwn yn buddsoddi arian, fel yr ydym yn ei wneud, mewn agor gorsafoedd newydd neu wasanaethau ychwanegol, yr ydym am sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn rhedeg er budd teithwyr yng Nghymru ac na fydd oedi oherwydd bod buddrannau’n cael eu talu i gyfranddeiliaid. Gellir chwistrellu’r arian ar gyfer buddrannau yn ôl i mewn i’r busnes, oherwydd y benthyca rhatach, os defnyddir bondiau yn hytrach na’r model ecwiti.

Brian Hancock spoken in English p. 17

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 17

Do not forget the Ebbw Vale to Newport line.

Peidiwch ag anghofio’r llinell o Lynebwy i Gasnewydd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 17

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Order. I know that Members have had a long recess, but let us return in order.

Trefn. Gwn fod yr Aelodau wedi cael toriad hir, ond gadewch inni ailgychwyn mewn trefn.

Datblygu Perthynas rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau

Development of Relations between Wales and the USA

Q7 Jonathan Morgan spoken in English p. 17

C7 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 17

What plans does the First Minister have to further develop relations between Wales and the United States of America in light of the recent acts of terrorism? (OAQ12903)

Pa gynlluniau sydd gan Brif Weinidog Cymru i ddatblygu ymhellach y berthynas rhwng Cymru ac Unol Daleithiau America yng ngoleuni’r ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr? (OAQ12903)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

I discussed this question this morning in a meeting with Mark Burnett, the Welsh Affairs Officer of the American Embassy Welsh Affairs Office in Cardiff. We discussed the extraordinary degree of solidarity expressed by the people of Wales to people in New York city and Washington D.C., who lost their lives, were injured or lost loved ones in those appalling atrocities.

Trafodais y cwestiwn hwn y bore yma mewn cyfarfod gyda Mark Burnett, Swyddog Materion Cymreig Swyddfa Materion Cymreig Llysgenhadaeth America yng Nghaerdydd. Trafodwyd y gefnogaeth anhygoel a ddangoswyd gan bobl Cymru i bobl dinas Efrog Newydd a Washington D.C., a gollodd eu bywydau, a anafwyd neu a gollodd anwyliaid yn y trychinebau arswydus hynny.

He mentioned that they were impressed that the firefighters of Bridgend and Cowbridge had volunteered to wash cars, and so on, in their spare time, and raised £10,000 for the firefighters of New York city, many hundreds of whom lost their lives when the World Trade Center collapsed. That instinctive solidarity bodes well for the strengthening of long-term relationships between Wales and America.

Soniodd y crewyd argraff dda arnynt gan y ffaith bod dynion tân Pen-y-bont ar Ogwr a’r Bont-faen wedi gwirfoddoli i olchi ceir, ac ati, yn eu hamser eu hunain, a chodi £10,000 ar gyfer dynion tân dinas Efrog Newydd, y collodd llawer ohonynt eu bywydau pan ddymchwelodd Canolfan Masnach y Byd. Mae’r gefnogaeth reddfol hon yn argoeli’n dda ar gyfer cryfhau cysylltiadau hir dymor rhwng Cymru ac America.

Jenny Randerson, the Deputy First Minister, will visit New York with the Morriston Orpheus Choir and others from the Welsh cultural scene, as part of the UK with NY week-long festival. After an atrocity there is always the question of whether to cancel or carry on and try to return to business as usual. The New York authorities have made a strong plea to get back to business as usual.

Bydd Jenny Randerson, y Dirprwy Brif Weinidog, yn ymweld ag Efrog Newydd gyda Chôr Orffews Treforys ac eraill o’r byd diwylliannol yng Nghymru, fel rhan o ŵyl wythnos y DU gydag Efrog Newydd. Ar ôl trychineb cyfyd y cwestiwn pa un a ddylid canslo neu barhau â digwyddiad a cheisio dychwelyd i normalrwydd. Mae awdurdodau Efrog Newydd wedi erfyn ar i fywyd ddychwelyd i normalrwydd.

Jonathan Morgan spoken in English p. 18

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 18

In light of the recent press reports indicating that sympathisers of Osama Bin Laden were planning meetings in south Wales, what steps is the Welsh Government taking to ensure a greater degree of shared intelligence between Wales and the United States to combat global terrorism?

O ystyried yr adroddiadau diweddar yn y wasg a oedd yn nodi bod pobl sydd yn cydymdeimlo ag Osama Bin Laden yn bwriadu cynnal cyfarfodydd yn ne Cymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y rhennir cuddwybodaeth rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau i drechu terfysgaeth fyd-eang?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

The Assembly does not have an intelligence function, so I do not want to exaggerate our duties or responsibilities in terms of police and special branch matters. However, I assure you that these matters are discussed at the UK Government’s Civil Contingencies Committee and I am sure that you understand why I cannot reveal the nature of those discussions in full to the Assembly.

Nid oes gan y Cynulliad swyddogaeth cuddwybodaeth, felly nid wyf am orliwio ein dyletswyddau na’n cyfrifoldebau o ran materion yr heddlu a’r heddlu arbennig. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau y caiff y materion hyn eu trafod ym Mhwyllgor Digwyddiadau Sifil Llywodraeth y DU ac yr wyf yn siŵr eich bod yn deall pam na allaf ddatgelu natur y trafodaethau hynny yn llawn i’r Cynulliad.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 18

Yr wyf yn siŵr ein bod ni gyd wedi cael ein brawychu gan ymosodiadau’r terfysgwyr ar Efrog Newydd a Washington. Yn unol ag ysbryd eich datganiad, a gytunwch ei bod yn eithriadol o bwysig ar adeg fel hon ein bod yn nodi bod bywyd dinesydd Afghanistan gyfwerth â bywyd diniwed a gollwyd yn America?

I am sure that we were all appalled by the terrorist attacks on New York and Washington. In the spirit of your statement, do you agree that it is exceptionally important at times like this that we state that the life of an Afghan citizen is of no less value than an innocent life lost in America?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 18

Fel mae’r ymadrodd ‘children of a lesser god’ yn awgrymu, nid oes gwahaniaeth rhwng gwerth bywydau bodau dynol, ac yr wyf yn siŵr y byddem i gyd yn cefnogi’r egwyddor honno.

As the phrase ‘children of a lesser god’ suggests, there is no difference between the value of the lives of human beings, and I am sure that we would all endorse that principle.

Dyfodol Cymru yn Ewrop

The Future of Wales in Europe

Q8 Christine Chapman spoken in English p. 19

C8 Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 19

What discussions has the First Minister had with the relevant bodies about engaging the wider public in the debate over the future of Wales in Europe? (OAQ12907)

Pa drafodaethau y mae Prif Weinidog Cymru wedi’u cael gyda’r cyrff perthnasol ynghylch ennyn y cyhoedd i ymuno â’r drafodaeth am ddyfodol Cymru yn Ewrop? (OAQ12907)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 19

As I mentioned in answer to an earlier question, on 8 October I met representatives of a range of relevant public and private sector bodies and political parties to discuss issues concerning the changing shape of the European Union, as enlargement draws nearer. That group will meet again in January but, in the meantime, its conclusions will be reported to the Assembly’s Committee on European Affairs tomorrow. I will meet the chairs of the other European committees in Brussels on 29 October. I have already mentioned yesterday’s excellent news that Objective 1 funding for Finance Wales has been granted.

Fel y soniais wrth ateb cwestiwn cynharach, ar 8 Hydref cyfarfûm â chynrychiolwyr amrywiaeth o gyrff sector cyhoeddus a phreifat a phleidiau gwleidyddol perthnasol i drafod materion yn ymwneud â siâp newidiol yr Undeb Ewropeaidd, wrth inni nesáu at adeg yr ehangu. Bydd y grŵp hwnnw yn cyfarfod eto ym mis Ionawr ond, yn y cyfamser, caiff ei gasgliadau eu hadrodd i Bwyllgor y Cynulliad ar Faterion Ewropeaidd yfory. Byddaf yn cyfarfod â chadeiryddion y pwyllgorau Ewropeaidd eraill ym Mrwsel ar 29 Hydref. Yr wyf eisoes wedi crybwyll newyddion ardderchog ddoe bod arian Amcan 1 wedi’i sicrhau ar gyfer Cyllid Cymru.

Christine Chapman spoken in English p. 19

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 19

With discussions underway for fundamental changes to the European Union, should we not try to get the wider public on board to understand the benefits of a stronger voice at the European table? Do you agree that, to engage the public, we must act in partnership with all our agencies to deconstruct the complexities of Europe and show the public the benefits, not necessarily in terms of what Objective 1 can do? I am pleased that you recongise the benefits that Objective 1 is now having on Wales, along with the opportunities it offers.

Gyda thrafodaethau ar y gweill ar gyfer newidiadau sylfaenol i’r Undeb Ewropeaidd, oni ddylem geisio annog y cyhoedd yn gyffredinol i ddeall buddiannau cael llais cryfach yn Ewrop? A gytunwch, er mwyn cynnwys y cyhoedd, fod yn rhaid inni weithredu mewn partneriaeth gyda’n holl asiantaethau i chwalu cymhlethdodau Ewrop a dangos y buddiannau i’r cyhoedd, nid o anghenraid yn nhermau beth y gall Amcan 1 ei wneud? Yr wyf yn falch eich bod yn nodi’r buddiannau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl Amcan 1 bellach i Gymru.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 19

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 19

The difficulty is that specific people are interested in specific items of European initiatives. If you are a farmer, you will be interested in the reform of the common agricultural policy. If you own a small or medium-sized business in an Objective 1 area, you will no doubt be anxious to see the £21 million, which was announced in the Assembly, being launched on 6 November, and to get in there with an expansion proposal. Likewise, if you are interested in currency issues—whichever side of the argument—you will be intensely interested in the euro debate. However, this broader theme of Wales and Europe is slightly different. One of the reasons why we established the Wales European Centre was to give us a listening post in Brussels to pick up on these subjects so that we can shape the debate in Wales and ensure that everybody understands, in a more general sense, Europe’s relevance and what it can do for them. That should ensure a higher turn-out in European elections and more interest in European affairs.

Yr anhawster yw bod gan bobl benodol ddiddordeb mewn mentrau Ewropeaidd penodol. Os ydych yn ffermwr, bydd gennych ddiddordeb mewn diwygio’r polisi amaethyddol cyffredin. Os ydych yn berchen ar fusnes bach neu ganolig mewn ardal Amcan 1, mae’n debyg y byddwch yn awyddus i weld y £21 miliwn, a gyhoeddwyd yn y Cynulliad, yn cael ei lansio ar 6 Tachwedd, a chyflwyno cynnig i ehangu. Yn yr un modd, os oes gennych ddiddordeb mewn materion ariannol—pa bynnag ochr o’r ddadl—bydd gennych ddiddordeb mawr yn y ddadl ar yr ewro. Fodd bynnag, mae’r thema ehangach hon o Gymru ac Ewrop ychydig yn wahanol. Un o’r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu Canolfan Ewropeaidd Cymru oedd i roi clust i wrando ar ein rhan ym Mrwsel i nodi’r pynciau hyn fel y gallwn lywio’r ddadl yng Nghymru a sicrhau bod pawb yn deall, mewn modd mwy cyffredinol, am berthnasedd Ewrop a’r hyn y gall ei wneud iddynt hwy. Dylai hynny sicrhau bod gwell ymateb mewn etholiadau Ewropeaidd a mwy o ddiddordeb mewn materion Ewropeaidd.

Brian Hancock spoken in English p. 20

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 20

In light of the fact that the National Assembly has no powers under the Government of Wales Act 1998 to inform or raise awareness of European issues amoung the people of Wales, what specific measures are you considering to amend the current arrangements, which hinder the Assembly’s ability to inform the public of this important matter?

O ystyried y ffaith nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i lywio na chodi ymwybyddiaeth o faterion Ewropeaidd ymysg pobl Cymru, pa fesurau penodol ydych chi’n eu hystyried i ddiwygio’r trefniadau presennol, sydd yn llesteirio gallu’r Cynulliad i hysbysu’r cyhoedd o’r mater pwysig hwn?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I thought that you were going to stop half through your question and say that the Assembly has no powers under the Government of Wales Act 1998, which would have been a bit rich, even for Plaid Cymru. On the point of informing the public, we do not regard that as a major restriction. If you write to me about a particular instance where we should have acted but have been unable to do so because of a restriction on expenditure and information, I will ensure that you receive a comprehensive reply.

Tybiais eich bod yn mynd i roi’r gorau iddi hanner ffordd drwy eich cwestiwn a dweud nad oes gan y Cynulliad unrhyw bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a fyddai wedi bod yn ormodiaith, hyd yn oed i Blaid Cymru. O ran hysbysu’r cyhoedd, nid ystyriwn fod hynny’n gyfyngiad mawr. Os ysgrifennwch ataf ynglŷn ag achos penodol lle y dylem fod wedi gweithredu ond nad oeddem yn gallu gwneud hynny oherwydd cyfyngiad ar wariant a gwybodaeth, fe sicrhaf y cewch ateb cynhwysfawr.

Effeithiau yr Ymosodiadau Diweddar gan Derfysgwyr

Effects of the Recent Terrorist Attacks

Q10 William Graham spoken in English p. 20

C10 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 20

Will the First Minister make a statement concerning the effects on Wales of the recent terrorist attacks? (OAQ12898)

A wnaiff Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar effeithiau yr ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr ar Gymru? (OAQ12898)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I will make a statement concerning the effects on Wales in this afternoon’s debate. I will highlight the Assembly’s role in any emergency and our involvement with the UK Government and its responsibilities in this regard. I will also highlight the work we are undertaking with our partners across Wales to prepare for and prevent such an emergency arising. In addition, I draw attention to the subject that I mentioned earlier, namely the possible deleterious effects on the sense of social inclusion of the ethnic and religious minorities in Wales.

Gwnaf ddatganiad yn ymwneud â’r effeithiau ar Gymru yn y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn amlygu rôl y Cynulliad mewn unrhyw argyfwng â’n hymrwymiad gyda Llywodraeth y DU a’i gyfrifoldebau yn hyn o beth. Byddaf hefyd yn amlygu’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda’n partneriaid ledled Cymru i baratoi ar gyfer argyfwng ac atal argyfwng o’r fath rhag codi. Yn ogystal, tynnaf sylw at y pwnc y soniais amdano yn gynharach, sef yr effeithiau andwyol posibl ar yr ymdeimlad o gynhwysedd cymdeithasol sydd gan leiafrifoedd ethnig a chrefyddol yng Nghymru.

William Graham spoken in English p. 21

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 21

Can you indicate how you will monitor and respond to the effect of these events on the Welsh economy, particularly with regard to tourism and the aircraft engineering industries?

A allwch nodi sut y byddwch yn monitro ac yn ymateb i effeithiau’r digwyddiadau hyn ar economi Cymru, yn enwedig o ran twristiaeth a’r diwydiannau peirianwaith awyrennau?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

I have spoken with many of the aerospace companies, firm by firm, to try to calculate what the impact on them will be. We have also had face-to-face meetings with companies in the aerospace industry. However, it is too early for them to analyse fully how long the slump in transatlantic aviation will last. On tourism, the impact is greater in the London area than in Wales for the sad reason that Americans do not normally visit Wales. They tend to visit the honeypot areas of London, Stratford-upon-Avon, Oxford, Cambridge and Edinburgh. Therefore, this near collapse in the American tourist trade to Europe is not having such a great impact on us. However, Wales has been affected, which is why we will participate in next week’s UK with NY week-long festival. We will to try to discover when it would be reasonable to expect that good money would not be thrown after bad by increasing market expenditure. In other words, when will Americans start travelling over the Atlantic again, as tourists and for business?

Yr wyf wedi siarad â llawer o’r cwmnïau awyrofodol, yn unigol, i geisio cyfrifo beth fydd yr effaith arnynt. Yr ydym hefyd wedi cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda chwmnïau yn y diwydiant awyrofodol. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar iddynt ddadansoddi’n llawn pa mor hir y bydd y dirywiad mewn afioneg trawsiwerydd yn parhau. O ran twristiaeth, mae’r effaith yn fwy yn ardal Llundain nag yng Nghymru am y rheswm trist nad yw Americanwyr yn aml yn ymweld â Chymru. Maent yn tueddu i ymweld ag ardaloedd atyniadol Llundain, Stratford-upon-Avon, Rhydychen, Caergrawnt a Chaeredin. Felly, nid yw’r cwymp hwn ym masnach twristiaeth America i Ewrop wedi cael cymaint o effaith arnom. Fodd bynnag, effeithiwyd ar Gymru, a dyna pam y byddwn yn cymryd rhan yng ngŵyl wythnos y DU gydag Efrog Newydd. Byddwn yn ceisio cael gwybod pryd y byddai’n rhesymol disgwyl i arian beidio â chael ei wario’n ofer drwy gynyddu gwariant y farchnad. Mewn geiriau eraill, pryd y bydd Americanwyr yn ailddechrau teithio dros yr Iwerydd, fel twristiaid ac ar gyfer busnes?

Paratoi at Argyfwng Sifil yng Nghymru

Preparations for a Civil Emergency in Wales

C11 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Q11 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 21

A wnaiff Prif Weinidog Cymru roi manylion unrhyw gamau y mae’r Cynulliad wedi’u cymryd i baratoi at argyfwng sifil yng Nghymru? (OAQ12926)

Could the First Minister give details of any action taken by the National Assembly in preparation for a civil emergency in Wales? (OAQ12926)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 21

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 21

Pe bai argyfwng yng Nghymru, fy nghyfrifoldeb i, fel Prif Weinidog, fyddai’r sefyllfa. Gan ddibynnu ar y sefyllfa, byddwn, o bosibl, yn dirprwyo’r cyfrifoldeb hwnnw i un o’r Gweinidogion eraill, fel y gwneuthum adeg yr argyfwng tanwydd gyda Sue Essex tua blwyddyn a mis yn ôl. Gwneuthum yr un peth gyda chlwy’r traed a’r genau drwy ddirprwyo cyfrifoldeb i Carwyn Jones. Byddaf yn sefydlu pwyllgor yn y Cabinet i gydlynu ein hymateb, pe bai angen hynny. Bydd profiadau’r achlysuron hynny yn hynod werthfawr pe bai argyfwng arall o’r math y cyfeiriodd Rhodri ato.

Should there be an emergency in Wales, the responsibility would fall on my shoulders as First Minister. Depending on the situation, I would, possibly, delegate that responsibility to one of the other Ministers, as I did with Sue Essex during the fuel crisis about a year and a month ago. I did the same with foot and mouth disease by delegating responsibility to Carwyn Jones. I will establish a Cabinet committee to co-ordinate our response, should the need arise. The experience gained from those occasions will be extraordinarily valuable should we see another emergency of the sort to which Rhodri referred.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 22

A yw Rhodri yn derbyn, o ganlyniad i ddigwyddiadau 11 Medi, fod angen i Gymru hefyd fod yn barod i wynebu argyfwng sifil a allai fod yn argyfwg cenedlaethol? Yr oedd yr hyn y cyfeiriodd ato yn argyfyngau a gyfyngwyd o ran lleoliad. Yr ydym am weld strategaethau pendant i sicrhau cydlynu rhyngddo ef, y Cynulliad a’r awdurdodau lleol.

Does Rhodri accept, following the events of 11 September, that Wales also needs to be prepared for a civil emergency that could be a national emergency? The crises to which he referred were location-specific. We want to see specific strategies in place to ensure co-ordination between himself, the Assembly and local authorities.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 22

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 22

Mae rhan helaeth o’r cyfrifoldeb am gynllunio yn perthyn i’r 22 awdurdod lleol, gan fod ganddynt swyddogion cynllunio ar gyfer argyfwng. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru un swyddog o’r fath. Mae’r ddyletswydd i gydlynu’r gwaith hwnnw yn disgyn arnom ni, a derbyniwn y ddyletswydd hhonno, wrth gwrs. Hefyd, derbyniwn y ddyletswydd o gydlynu gyda San Steffan, a dyna pam yr wyf yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Paratoadau Sifil. Cynhaliwyd un cyfarfod eisoes a cheir un arall cyn bo hir. Yr wyf innau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn aelodau o’r pwyllgor hwnnw.

Much of the responsibility for planning falls to the 22 local authorities as they have crisis planning officers. Every local authority in Wales has one such official. The duty to co-ordinate that work falls to us, which we accept, of course. Also, we accept the duty to co-ordinate with Westminster, which is why I attend meetings of the Civil Contingencies Committee. One meeting has already taken place and there will be another soon. The Secretary of State for Wales and myself are members of that committee.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Helen Mary Jones spoken in English p. 22

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 22

Point of order. This relates to the use of language that does not promote equality of opportunity. I refer to the First Minister’s comments, which I believe were accidental, in response to Richard Edwards’s valuable question. The First Minister stated that those who wear scarves and turbans are not members of mainstream society. Those of us who know Rhodri Morgan, know of his strong anti-racist stance. We know that what he meant is that those who attack those people perceive them to be outside mainstream society. I raise this point of order in order to give the First Minister the opportunity to correct his comments. I am concerned that they may be quoted from the Record out of context to support racist activity that I know the First Minister would wish to suppress.

Pwynt o drefn. Mae hyn yn ymwneud â defnyddio iaith nad yw’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Cyfeiriaf at sylwadau’r Prif Weinidog, a oedd yn ddamweiniol yn fy nhyb i, mewn ymateb i gwestiwn pwysig Richard Edwards. Dywedodd y Prif Weinidog nad yw’r rhai hynny sydd yn gwisgo sgarffiau a thyrbanau yn aelodau o gymdeithas prif ffrwd. Mae’r rhai ohonom sydd yn adnabod Rhodri Morgan, yn ymwybodol o’i safiad gwrth-hiliol cadarn. Gwyddom mai’r hyn yr oedd yn ei olygu oedd bod y rhai sydd yn ymosod ar y bobl hynny o’r farn eu bod y tu allan i gymdeithas prif ffrwd. Codaf y pwynt o drefn hwn er mwyn rhoi cyfle i’r Prif Weinidog gywiro ei sylwadau. Yr wyf yn poeni y cânt eu dyfynnu y tu allan i gyd-destun y Cofnod i gefnogi gweithgaredd hiliol y gwn y byddai’r Prif Weinidog am eu hatal.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

I am grateful to Helen Mary for that point of order. I would be horrified if the Record read in the way that you described. I accept that it may, however, such words were unintended. I meant to say that people who are perceived as not being members of mainstream society because they may wear veils or any other garment that may define them as not being mainstream are being abused. I was interested to discuss how to counteract that abuse. I am sure that Helen Mary understands that. I am grateful to her for giving me the opportunity to correct words that may have slipped out in the wrong order.

Yr wyf yn ddiolchgar i Helen Mary am y pwynt o drefn hwnnw. Byddwn wedi’m brawychu petai’r Cofnod yn darllen yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych. Fodd bynnag, derbyniaf y gallai hynny ddigwydd, er nad oedd y geiriau hyn yn rhai bwriadol. Yr hyn y bwriadais ei ddweud oedd bod y bobl hynny yr ystyrir nad ydynt yn aelodau o gymdeithas prif ffrwd am eu bod yn gwisgo penwisg neu ddilledyn arall a allai eu diffinio fel rhywbeth gwahanol i’r prif ffrwd yn cael eu cam-drin. Yr oedd gennyf ddiddordeb trafod sut i atal y camdrin hwnnw Yr wyf yn siŵr fod Helen Mary yn deall hynny. Yr wyf yn ddiolchgar iddi am roi’r cyfle imi unioni’r geiriau a allai fod wedi llithro allan yn y drefn anghywir.

Datganiad ar Raglen Fusnes Flynyddol y Llywodraeth

Statement on the Annual Government Business Programme

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

I am pleased to present the second annual Government business programme, which sets out what we will be doing in the next year, on this the first day of the new session. This programme is possible because of the certainty that we have gained through the partnership Government. Together we can set our agenda, confident that we can deliver what we promise. This programme will markedly improve public services and implement our innovative and distinctive policies to meet the needs of the people of Wales. We will publish our budget plans very soon. These will give us the backing to take forward our agenda. Shortly, I will publish the final version of our strategic plan, ‘Plan for Wales 2001’, which will set out in more detail our long-term plans for delivering for Wales. The programme is available and I will underline some of our aims.

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ail raglen fusnes flynyddol y Llywodraeth, sydd yn nodi’r hyn a y byddwn yn ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf, ar y diwrnod cyntaf hwn o’r sesiwn newydd. Mae’r rhaglen hon yn bosibl oherwydd y sicrwydd a gawsom drwy’r Llywodraeth bartneriaeth. Gyda’n gilydd gallwn bennu ein hagenda, yn hyderus y gallwn gyflawni’r hyn yr ydym yn ei addo. Bydd y rhaglen hon yn gwella gwasanaethau cyhoeddus yn aruthrol ac yn gweithredu ein polisïau arloesol a neilltuol i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y gyllideb yn fuan iawn. Bydd y rhain yn rhoi cefnogaeth inni fwrw ymlaen â’n hagenda, Yn fuan, cyhoeddaf fersiwn terfynol ein cynllun strategol, ‘Cynllun i Gymru 2001’, a fydd yn nodi ein cynlluniau hirdymor ar gyfer Cymru yn fanylach. Mae’r rhaglen ar gael ac amlygaf rai o’n hamcanion.

In education, we will bring forward measures to implement our radical vision for the future of education and training in Wales, as set out in ‘The Learning Country’. This is a long-term and far-reaching programme for change from early years to higher and further education and lifelong learning. It has been widely welcomed and applauded.

Ym myd addysg, byddwn yn cyflwyno mesurau i weithredu ein gweledigaeth radical ar gyfer dyfodol addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fel y nodir yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’. Mae hon yn rhaglen hirdymor a phellgyrhaeddol ar gyfer newid o’r blynyddoedd cynnar i addysg uwch a phellach a dysgu gydol oes. Cafwyd croeso a chymeradwyaeth eang i’r rhaglen.

In health and social care, we will be implementing our strategy ‘Improving Health in Wales,’ which is a plan for the NHS through a range of regulatory and funding instruments. This will begin to put in place our planned structural reforms. It will abolish the health authorities and will improve services markedly. We will implement support for carers to ensure standards in care services. We will reform the support to children and young people, those suffering from mental ill-health, and older people. That will provide for those in our society who need support more.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn yn gweithredu ein strategaeth ‘Gwella Iechyd yng Nghymru,’ sydd yn gynllun ar gyfer yr NHS drwy amrywiol offerynnau rheoliadol ac ariannu. Bydd hyn yn dechrau rhoi ein diwygiadau strwythurol arfaethedig ar waith. Bydd yn diddymu awdurdodau iechyd ac yn gwella gwasanaethau yn aruthrol. Byddwn yn cyflwyno cymorth i ofalwyr er mwyn sicrhau safonau yn y gwasanaethau gofal. Byddwn yn diwygio’r cymorth a roddir i blant a phobl ifanc, y rhai sydd yn dioddef o salwch meddwl, a phobl hŷn. Bydd hynny yn darparu ar gyfer y rhai y mae angen mwy o gymorth arnynt yn ein cymdeithas.

On the economy, we will finalise and implement our national economic development strategy and streamline and focus support for the home grown small and medium-sized business sector and the policies, such as the major expansion of Finance Wales, that will foster the enterprise economy and the knowledge economy as we respond to increasing international competition for foreign direct investment.

O ran yr economi, byddwn yn cwblhau a gweithredu ein strategaeth datblygu economaidd genedlaethol ac yn meinhau a chanolbwyntio’r cymorth ar y sector busnesau cynhenid bach a chanolig eu maint a pholisïau megis ehangu Cyllid Cymru ar raddfa fawr, a fydd yn meithrin yr economi fenter a’r economi wybodaeth wrth inni ymateb i gystadleuaeth genedlaethol gynyddol am fuddsoddiad tramor uniongyrchol.

For our communities, we will continue the programme of local government modernisation, and implement our Communities First programme, empowering and helping those in need to help themselves out of poverty. In environment, planning and transport, we will continue to develop and implement a range of strategies that will provide a consistent basis for developing our economic, environmental and social goals, underpinning the over-arching goals set by the sustainable development scheme.

O ran ein cymunedau, byddwn yn parhau gyda’r rhaglen moderneiddio llywodraeth leol, ac yn gweithredu ein rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf, gan alluogi a helpu pobl anghenus i helpu eu hunain allan o dlodi. O ran yr amgylchedd, cynllunio a thrafnidiaeth, byddwn yn parhau i ddatblygu a gweithredu ystod o strategaethau a fydd yn darparu sylfaen gyson i ddatblygu ein nodau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, sydd yn ategu’r nodau cyffredinol a bennwyd gan y cynllun datblygu cynaliadwy.

In rural affairs, we will implement our strategy for the future of farming and continue to support communities adversely affected by foot and mouth disease. We will develop a strategy to secure the medium and long-term future of rural areas.

O ran materion gwledig, byddwn yn gweithredu ein strategaeth ar gyfer dyfodol ffermio ac yn parhau i gefnogi’r cymunedau hynny y cafodd clwy’r traed a’r genau effaith andwyol arnynt. Byddwn yn datblygu strategaeth i ddiogelu dyfodol ardaloedd gwledig yn y tymor canolig a’r hirdymor.

On culture, we will finalise and implement Wales’s first culture strategy, to underline the importance of culture, sport and the Welsh language to the people of Wales. Thank goodness that the efforts of Ian Woosnam, Nicole Cooke and Joe Calzaghe remedied the weekend’s sad sporting events.

O ran diwylliant, byddwn yn cwblhau ac yn gweithredu strategaeth ddiwylliannol gyntaf Cymru, i amlygu pwysigrwydd diwylliant, chwaraeon a’r iaith Gymraeg i bobl Cymru. Diolch byth bod ymdrechion Ian Woosnam, Nicole Cooke a Joe Calzaghe wedi gwneud iawn am ddigwyddiadau chwaraeon diflas y penwythnos.

In conclusion, I attach great importance to having the confidence and vision to deliver what matters to Wales. This programme will strengthen our key public services and lay a firm foundation for major long-term improvements in the economic, social and environmental health of Wales.

I gloi, rhoddaf bwys mawr ar gael yr hyder a’r weledigaeth i gyflwyno’r hyn sydd yn bwysig i Gymru. Bydd y rhaglen hon yn atgyfnerthu ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno gwelliannau hirdymor i iechyd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 25

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 25

I thank you for your statement. It is important because, by the end of this programme, virtually a full Assembly term will have passed. Although you have not been First Minister throughout the Assembly’s first term, at the end of the third year, the people of Wales will judge the Assembly’s achievements as a corporate body and given its current powers.

Diolch ichi am eich datganiad. Mae’n bwysig oherwydd, erbyn diwedd y rhaglen hon, bydd tymor llawn o’r Cynulliad wedi mynd heibio bron. Er na fuoch yn Brif Weinidog drwy gydol tymor cyntaf y Cynulliad, ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, bydd pobl Cymru yn barnu cyflawniadau’r Cynulliad fel corff corfforaethol o ystyried ei bwerau presennol.

You failed to answer one question properly during questions to the First Minister. You stated that you believe that you will achieve a great deal in terms of economic development. We have a right to know whether you intend to combine the roles of First Minister and Minister for Economic Development throughout the next year. If not, when will you make a decision about appointing a dedicated Minister for Economic Development? During your response, you gave the impression that you could combine both jobs. Therefore, why did you appoint Mike German as a dedicated Minister for Economic Development in the first place? Will you now give us a proper answer to that question? When will you make a decision on that?

Ni wnaethoch ateb un cwestiwn yn iawn yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog. Dywedasoach eich bod yn credu y byddwch yn cyflawni llawer yn nhermau datblygu economaidd. Mae gennym yr hawl i wybod pa un a ydych yn bwriadu cyfuno swyddogaethau’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd drwy gydol y flwyddyn nesaf. Os nad ydych, pryd y byddwch yn penderfynu penodi Gweinidog dros Ddatblyg Economaidd penodol? Yn ystod eich ymateb, rhoesoch yr argraff y gallech gyfuno’r ddwy swydd. Felly, pam y gwnaethoch benodi Mike German fel Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd yn y lle cyntaf? A wnewch chi roi ateb priodol i’r cwestiwn hwnnw yn awr? Pryd y byddwch yn penderfynu ar hynny?

My second point is vital. In response to the statement that you made on behalf of the coalition when it was established in October 2000, we stated that the programme that you highlighted lacked vision. It lacked what I would describe as big ideas that would set alight the people of Wales’s interest in what the Assembly is delivering. We have no problem with some of the individual items contained in your statement, but we continue to ask: where is the vision and drive? How, after four years of a Labour-led Assembly Government, will the people of Wales be better off as a result of your Government?

Mae fy ail bwynt yn hollbwysig. Mewn ymateb i’r datganiad a wnaethoch ar ran y glymblaid pan gafodd ei sefydlu yn Hydref 2000, nodasom nad oedd gan y rhaglen a amlinellwyd gennych weledigaeth. Nid oedd ganddi’r hyn y byddwn yn eu galw’n syniadau mawr a fyddai wedi ennyn diddordeb pobl Cymru yn yr hyn a gyflwynir gan y Cynulliad. Nid oes gennym unrhyw broblem gyda rhai o’r eitemau unigol yn eich datganiad, ond yr ydym yn parhau i ofyn: ble mae’r weledigaeth a’r penderfyniad? Sut y bydd pobl Cymru yn well eu byd o ganlyniad i’ch Llywodraeth chi, ar ôl pedair blynedd o Lywodraeth Lafur yn y Cynulliad?

Many of the points made in your statement this year simply relate to implementing legislation directed from Westminster and Whitehall. How many of these relate specifically to the delivery of government by the Labour and Liberal Democrat coalition in Wales? Is it not time for us to accept that our current constitutional settlement is so fundamentally flawed that we need full legislative powers to deliver for the people of Wales?

Mae llawer o’r pwyntiau a wnaethoch yn eich datganiad eleni yn ymwneud â dim ond gweithredu deddfwriaeth a gyfeiriwyd o San Steffan a Whitehall yn unig. Faint o’r rhain sydd yn ymwneud yn benodol â chyflwyno llywodraeth gan glymblaid y blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru? Onid yw’n bryd inni dderbyn bod ein setliad cyfansoddiadol cyfredol mor sylfaenol ddiffygiol fel bod angen pwerau deddfwriaethol llawn arnom i wasanaethu pobl Cymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 26

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 26

You made some fair points, but some were not quite so fair. On the fair points, you accused me—and I accept the accusation—of concentrating on ensuring that the Assembly and its administration could walk before it could run during my first 12 months or so as First Minister. I used to say, as St David did, ‘Gwnewch y pethau bychain’—‘Do the little things’—because they are important to everybody in Wales.

Gwnaethoch rai pwyntiau teg, ond nid oedd eraill yr un mor deg. O ran y pwyntiau teg, fe’m cyhuddwyd gennych—ac yr wyf yn derbyn y cyhuddiad—o ganolbwyntio ar sicrhau y gallai’r Cynulliad a’i weinyddiaeth gropian cyn cerdded yn ystod fy 12 mis cyntaf fel y Prif Weinidog. Arferwn ddyfynnu Dewi Sant, ‘Gwnewch y pethau bychain’—am eu bod yn bwysig i bawb yng Nghymru.

That is why we introduced a series of measures such as free school milk for children aged seven and under. Such measures are not major constitutional reforms but they are important for kids in infant schools and for their long-term health as they grow into adults. Likewise, as we move from walking towards jogging and running for the benefit of the people of Wales, admission fees to national museums were abolished on 1 April 2001. That move more than doubled attendance at eight museums and galleries, from Llanberis to St Fagans and Cathays Park. That is a massive change, but I agree that it is not a constitutional change.

Dyna pam y cyflwynasom gyfres o fesurau fel llaeth am ddim yn yr ysgol i blant saith oed ac iau. Nid yw mesurau o’r fath yn ddiwygiadau cyfansoddiadol mawr ond maent yn bwysig i blant mewn ysgolion babanod ac i’w hiechyd hirdymor wrth iddynt dyfu’n oedolion. Yn yr un modd, wrth inni symud o gerdded tuag at loncian a rhedeg er budd pobl Cymru, diddymwyd prisiau mynediad i amgueddfeydd cenedlaethol ar 1 Ebrill 2001. Mae hynny wedi mwy na dyblu nifer y bobl sydd yn mynychu wyth amgueddfa ac oriel, o Lanberis i Sain Ffagan a Pharc Cathays. Mae hynny’n newid enfawr, ond cytunaf nad yw’n newid cyfansoddiadol.

I accept that we wanted to walk before we could run. We are now talking about much bigger steps. For example, in the world of education, the implementation of the Rees report, when we can eventually put that all together, and the introduction, subject to a successful pilot, of the Welsh baccalaureate.

Derbyniaf ein bod am gropian cyn cerdded. Yr ydym yn siarad am gamau llawer mwy yn awr. Er enghraifft, ym myd addysg, gweithredu adroddiad Rees, pan fyddwn yn gallu rhoi hynny i gyd at ei gilydd, a chyflwyno, yn amodol ar lwyddiant y cynllun peilot, y fagloriaeth Gymreig.

These are major changes, and I do not want that accusation repeated about the programme that we have in mind for between now and May 2003. Ieuan asked how you excite the people of Wales. The 12 per cent swing to Labour in a mid-term by-election shows that we cannot be doing everything wrong. Ieuan has to look at his own record in that regard.

Mae’r rhain yn newidiadau mawr, ac nid wyf am i’r cyhuddiad hwnnw ynglŷn â’r rhaglen sydd gennym mewn golwg rhwng yn awr a Mai 2003 gael ei ailadrodd. Gofynnodd Ieuan sut y gallwn gyffroi pobl Cymru. Mae’r gogwydd o 12 y cant i Lafur yn yr etholiad canol tymor yn dangos nad ydym yn gwneud popeth yn anghywir. Dylai Ieuan edrych ar ei record ei hun yn hynny o beth.

Finally, I do not think that we should discuss at every question time and opportunity—whether the issue is raised by Ieuan on behalf of Plaid Cymru, or by Nick Bourne—this obsession with Mike German and the post of Minister for Economic Development. I was asked whether we have a dedicated Minister for Economic Development. My answer is that, yes, you do. You have a very dedicated Minister for Economic Development.

Yn olaf, ni chredaf y dylem drafod—pa un a godir y mater gan Ieuan ar ran Plaid Cymru, neu gan Nick Bourne—yr obsesiwn hwn gyda Mike German a swydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd yn ystod pob sesiwn cwestiynau a phob cyfle arall. Gofynnwyd imi pa un a oedd gennym Weinidog dros Ddatblygu Economaidd penodol. Fy ateb i hynny yw, oes, mae gennym. Mae gennych Weinidog dros Ddatblygu Economaidd ymrwymedig iawn.

Nick Bourne spoken in English p. 27

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 27

I have several questions. First, on budget underspends, which is central to delivery, I hope that you can assure us that, at the end of the current year, we will not face the massive underspends in key ministries that we faced last year. That money could have been spent during that year on essential services. We must ensure that does not happen again.

Mae gennyf sawl cwestiwn. Yn gyntaf, ar danwario cyllidebau, sydd yn ganolog i gyflwyno gwasanaethau, gobeithiaf y gallwch ein sicrhau, ar ddiwedd y flwyddyn gyfredol, na fyddwn yn wynebu tanwariant enfawr mewn gweinyddiaethau allweddol fel y gwelwyd y llynedd. Gallai’r arian hwnnw fod wedi cael ei wario yn ystod y flwyddyn ar wasanaethau hanfodol. Rhaid inni sicrhau na fydd hynny yn digwydd eto.

I press the First Minister on an issue that was central to the Assembly elections, some time ago now, and has been central to much that has been discussed since—the so-called bonfire of the quangos, or Assembly sponsored public bodies, as we are now supposed to call them. Can the First Minister assure us that we are not about to see a bonanza of quangos in the health service, given the structural reforms? What has happened to the bonfire of the quangos? According to my calculations, the quangos burnt so far have hardly been enough to keep an ant warm.

Pwysaf ar y Prif Weinidog ynghylch mater a oedd yn ganolog i etholiadau’r Cynulliad, beth amser yn ôl erbyn hyn, ac sydd wedi bod yn ganolog i’r rhan fwyaf o bethau a drafodwyd ers hynny—coelcerth y cwangos bondigrybwyll, neu gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, sef yr hyn y dylem eu galw erbyn hyn. A all y Prif Weinidog ein sicrhau nad ydym am weld cwangos yn ffynnu yn y gwasanaeth iechyd, o ystyried y diwygiadau strwythurol? Beth a ddigwyddodd i goelcerth y cwangos? Yn ôl fy nghyfrifiadau i, nid yw’r cwangos a losgwyd hyd yma wedi bod yn ddigon i gadw morgrugyn yn gynnes.

The shuffling off from any intention of giving a straight answer to the straight question that has been asked three or four times about the First Minister’s plans for his own future, will not do. The First Minister felt previously, and correctly, that he could not do the two most important jobs in the Assembly—First Minister and Minister for Economic Development—in the long term. It is fair to ask, without reference to previous circumstances, how long he intends to do both jobs. Before the recess, the First Minister made clear that this was a short-term arrangement. We are entitled to a straight answer, without going into the circumstances, as to how long he now envisages this situation continuing.

Nid yw osgoi rhoi ateb uniongyrchol i’r cwestiwn uniongyrchol a ofynnwyd dair neu bedair gwaith ynglŷn â chynlluniau’r Prif Weinidog am ei ddyfodol ei hun, yn ddigon da. Cyn hyn yr oedd y Prif Weinidog yn credu, a hynny’n gywir, na allai wneud y ddwy swydd bwysicaf yn y Cynulliad—Prif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd—yn yr hirdymor. Mae’n deg gofyn, heb gyfeirio at amgylchiadau blaenorol, am ba hyd y mae’n bwriadu gwneud y ddwy swydd. Cyn y toriad, esboniodd y Prif Weinidog yn glir mai trefniant byrdymor oedd hyn. Mae hawl gennym i ateb gonest, heb ddechrau trafod yr amgylchiadau, o ran pa mor hir y mae’n rhagweld y bydd y sefyllfa hon yn parhau.

My other major concern is rural Wales. The increase in the agriculture budget was minimal. It was a standstill budget. New money has not been announced for businesses affected by foot and mouth disease for some time. Those businesses continue to haemorrhage and suffer. Jobs are being lost and businesses are going bust throughout large parts of mid Wales and elsewhere. What are the administration’s intentions for next year in relation to those businesses?

Fy mhryder mawr arall yw Cymru wledig. Bach iawn oedd y cynnydd yn y gyllideb amaethyddol. Yr oedd yn gyllideb a safodd yn ei hunfan. Ni chyhoeddwyd arian newydd i fusnesau yr effeithwyd arnynt gan glwy’r traed a’r genau ers peth amser. Mae’r busnesau hyn yn parhau i ddirywio a dioddef. Mae swyddi’n cael eu colli ac mae busnesau yn mynd i’r wal mewn rhannau mawr o ganolbarth Cymru ac mewn mannau eraill. Beth yw bwriadau’r weinyddiaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf o ran â’r busnesau hynny?

The other issue that continues to haunt the administration, and which, surprisingly, does not seem to be mentioned in the programme, is what lies behind the fence that has now been raised to symbolically disguise the hole in the ground that is the site of the new Assembly building. What are the administration’s intentions for the new Assembly building? Will we call a halt to this farce and concentrate on the delivery of public services as many of us here have wanted to do for so long?

Y mater arall sydd yn parhau i boeni’r weinyddiaeth nad yw, er mawr syndod, yn cael ei grybwyll yn y rhaglen, yw’r hyn sydd yn gorwedd y tu ôl i’r ffens a godwyd yn symbolaidd i guddio’r twll yn y ddaear, sef safle adeilad newydd y Cynulliad. Beth yw bwriadau’r weinyddiaeth ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad? A fyddwn yn rhoi terfyn ar y ffars hon a chanolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint ohonom yma wedi dyheu amdanynt ers cyhyd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 28

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 28

Aside from your obsession with the post of Minister for Economic Development, I regard your questions as fair and will do my best to answer them. I have nothing to add to what I said previously about the Minister for Economic Development. On underspends, Edwina Hart will probably answer your question more comprehensively when she discusses the budget later this week. However, I understand that the underspend is about 3 per cent. Therefore, it is not a massive underspend, and our record is better than that of many of the major spending ministries in Whitehall. That is critical to any change. We are attempting to correct the underspend, but the Assembly is in the peculiar position of being reliant on others not overbidding for money that they think they ought to grab in case someone else gets it. They do not always think about whether they really need the money this year rather than next year. There is a tendency among our partners to overbid and underspend. That also happens within Assembly departments. I would not describe a 3 per cent underspend as massive. Compared with those of Whitehall departments, our underspends are not as bad. However, we are not complacent. We realise that underspend could become an important issue in the comprehensive spending review next year.

Ar wahân i’ch obsesiwn gyda swydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, ystyriaf fod eich cwestiynau’n rhai teg a gwnaf fy ngorau i’w hateb. Nid oes gennyf unrhyw beth i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedais yn gynharach ynglŷn â’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd. O ran tanwariant, mae’n debyg y bydd Edwina Hart yn rhoi ateb mwy cynhwysfawr i’ch cwestiwn pan fydd yn trafod y gyllideb yn ddiweddarach yr wythnos hon. Fodd bynnag, deallaf mai tua 3 y cant yw’r tanwariant. Felly, nid yw’n danwariant enfawr, ac mae ein record yn well na recorrd llawer o’r gweinyddiaethau gwario mawr yn Whitehall. Mae hynny’n hanfodol i unrhyw newid. Yr ydym yn ceisio unioni’r tanwariant, ond mae’r Cynulliad mewn sefyllfa ryfedd am ei fod yn ddibynnol ar eraill i beidio â gwneud gormod o geisiadau am arian y credant y dylent ei fachu rhag ofn i rywun arall ei gael. Nid ydynt bob amser yn ystyried a oes angen yr arian arnynt mewn gwirionedd y flwyddyn hon o’i gymharu â’r flwyddyn nesaf. Mae tuedd ymhlith ein partneriaid i wneud gormod o gynigion am arian ac i danwario. Digwydd hynny hefyd o fewn adrannau’r Cynulliad. Ni fyddwn yn disgrifio tanwariant o 3 y cant fel un enfawr. O’i gymharu â thanwariant adrannau Whitehall, nid yw ein tanwariant cynddrwg â hynny. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo. Yr ydym yn sylweddoli y gallai tanwariant ddod yn fater pwysig yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y flwyddyn nesaf.

On the bonfire of the quangos, you are being a little unreasonable, Nick. If you consider the Welsh Development Agency, for instance, the rationalisation that has taken place in the provision of economic development services is colossal. That rationalisation started under Ron Davies, and continued under Alun Michael’s, and then my, administration. The WDA is eight quangos rolled into one. ELWa is one quango in place of five previous ones. Without there being a visible bonfire of the 5 November variety, rationalisation is continuing apace. It has done so since Labour was elected in 1997 and has continued to do so since the Assembly was established.

O ran coelcerth y cwangos, yr ydych braidd yn afresymol, Nick. Os ystyriwch Awdurdod Datblygu Cymru, er enghraifft, mae’r adrefnu a wnaethpwyd wrth ddarparu gwasanaethau datblygu economaidd yn aruthrol. Dechreuwyd ar y gwaith adrefnu hwnnw o dan arweiniad Ron Davies, a pharhaodd o dan arweiniad Alun Michael, ac yna fy ngweinyddiaeth i. Mae’r WDA yn wyth cwango mewn un. Mae ELWa yn un cwango sydd yn disodli pum cwango blaenorol. Heb gael coelcerth fel y math a geir ar 5 Tachwedd, mae’r gwaith adrefnu yn parhau yn ei anterth. Gwnaethpwyd hynny ers i Lafur gael ei hethol yn 1997 ac mae wedi parhau i wneud hynny ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu.

Your point on foot and mouth disease areas is valid. It is a matter of us, if you like, drip-feeding the local authorities to set up a good administrative scheme. In general, I am pleased with how that has been administered by the local authorities. They have asked for more money. I am not sure what Edwina will say on that; I will not pre-empt her budget. It would be wrong of me to do that. However, it is perfectly proper for you to make a strong plea for further funds to be made available to assist businesses that are still being adversely affected by the massive drop in tourism, especially in parts of Powys.

Mae eich pwynt ar ardaloedd clwy’r traed a’r genau yn ddilys. Mae’n fater, os hoffech, o’r Cynulliad yn bwydo gwybodaeth yn raddol i’r awdurdodau lleol er mwyn iddynt sefydlu cynllun gweinyddol da. Yr wyf yn fodlon ar y cyfan â’r ffordd y gweinyddwyd y broses hon gan yr awdurdodau lleol. Maent wedi gofyn am fwy o arian. Ni wn beth fydd gan Edwina i’w ddweud am hynny; nid wyf am ddatgelu ei chyllideb. Ni fyddai’n addas imi wneud hynny. Fodd bynnag, mae’n gwbl briodol ichi alw am sicrwydd y bydd arian ychwanegol ar gael i gynorthwyo busnesau sydd yn parhau i ddioddef effeithiau andwyol gostyngiad enfawr mewn twristiaeth, yn arbennig mewn rhannau o Bowys.

On the Assembly building, again, Edwina is the Minister with responsibility. However, for obvious reasons, I keep a close eye on the matter. The tender to complete the building is now being advertised in the contracts supplement of the Official Journal of the European Communities. It must be advertised to search for developers who would be interested in delivering the building and selling it to us for a fixed price, or delivering the building by means of a lease arrangement. They would use the Richard Rogers Partnership’s design as a basis and keep its best elements, but would be free to tweak that design to enable it to be delivered for the original price that was set.

O ran adeilad y Cynulliad, unwaith eto, Edwina yw’r Gweinidog sydd yn gyfrifol am hyn. Fodd bynnag, am resymau amlwg, yr wyf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa. Mae’r tendr i gwblhau’r adeilad bellach yn cael ei hysbysebu yn atodiad contractau’r Official Journal of the European Communities. Rhaid ei hysbysebu i chwilio am ddatblygwyr fyddai â diddordeb mewn darparu’r adeilad a’i werthu inni am bris penodedig, neu ddarparu’r adeilad drwy drefniant prydles. Byddent yn defnyddio cynllun Partneriaeth Richard Rogers fel sylfaen a chadw’r elfennau gorau, ond byddai hawl ganddynt i addasu’r cynllun hwnnw er mwyn gallu ei ddarparu am y pris gwreiddiol a bennwyd.

Michael German The Leader of the Welsh Liberal Democrat Group spoken in English p. 30

Michael German Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol siaradwyd yn Saesneg t. 30

As you can imagine, I am more pleased than the other two speakers in this debate with your statement today. I thank you for bringing this so speedily to us in the first Plenary of this new Assembly term. It is important that we know our direction in the coming year. This is the first detailed programme that prioritises the challenges ahead. I am pleased that you have been able to do that.

Fel y gallwch ddychmygu, mae eich datganiad heddiw wedi fy mhlesio i yn fwy na’r ddau siaradwr arall yn y ddadl hon. Diolch am gyflwyno’r mater hwn mor brydlon inni yng Nghyfarfod Llawn cyntaf tymor newydd y Cynulliad. Mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol o’n cyfeiriad yn y flwyddyn i ddod. Dyma’r rhaglen fanwl gyntaf sydd yn blaenoriaethu’r heriau sydd o’n blaenau. Yr wyf yn falch eich bod wedi gallu gwneud hynny.

To pick up on the point that you made earlier, we need to touch people’s daily lives in our actions. That is why I welcome more action on health and education. I particularly welcome the increase in the health service budget, which is additional to what was originally proposed in last year’s budget.

I godi’r pwynt a wnaethoch yn gynharach, mae angen inni greu argraff ar fywyd pob dydd pobl gyda’n gweithrediadau. Dyna pam y croesawaf fwy o gamau gweithredu ar iechyd ac addysg. Croesawaf yn arbennig y cynnydd yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, sydd yn ychwanegol at yr hyn a gynigiwyd yn wreiddiol yng nghyllideb y llynedd.

On foot and mouth disease, we know that its impact will last much longer than we expected, especially its impact on businesses in Wales. Will you give us an indication of how the Assembly will deal with the longer-term impact? In the health service, I also welcome the challenges and changes and the provision of six weeks’ personal care. I recognise that that is as far as our powers allow us to go. To answer the point made earlier, I am sure that you recognise that there is a statement in our partnership agreement about how we will deal with the issue of the National Assembly’s powers. The partnership was put in place by both of the coalition parties and, no matter how much barking we get from the sidelines, the challenge and results stemmed from that partnership between the two coalition parties in the National Assembly.

O ran clwy’r traed a’r genau, gwyddom y bydd ei effaith yn para’n llawer hwy na’r disgwyl, yn arbennig ei effaith ar fusnesau yng Nghymru. A roddwch syniad inni o sut y bydd y Cynulliad yn ymdrin â’r effaith tymor hwy? Yn y gwasanaeth iechyd, croesawaf hefyd yr heriau a’r newidiadau a’r ddarpariaeth gofal personol am chwe wythnos. Cydnabyddaf nad yw ein pwerau yn caniatáu inni fynd ymhellach na hynny. I ateb y pwynt a wnaethpwyd yn gynharach, yr wyf yn siŵr eich bod yn cydnabod bod datganiad yn ein cytundeb partneriaeth ynglŷn â sut y byddwn yn delio â’r mater o bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol. Sefydlwyd y bartneriaeth gan ddwy blaid y glymblaid ac, waeth faint o gwyno a gawn o’r ymylon, yr oedd yr her a’r canlyniadau yn deillio o’r bartneriaeth honno rhwng dwy blaid y glymblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

I am also reassured by your statement about taking forward the recommendations of the Rees report on student hardship and by the £20 million allocated in the budget reserve for that purpose. I urge you, Rhodri, not to flinch from the opportunity of delivering a robust, targeted and afforded Welsh policy on this early, despite the fact that encouraging noises seem to be coming from Whitehall. If this Assembly is to win the hearts and minds and the confidence of the people of Wales, we must continue to provide Assembly-led solutions. I noted earlier the comment about these solutions being made elsewhere. The solutions in this programme were clearly made here in Wales, by both our parties. We now have a year to deliver on them. I hope that we, in our party, along with your party, First Minister, will do everything possible to ensure that, as a Government, we live up to our promises.

Fe’m calonogir hefyd gan eich datganiad ynglŷn â datblygu argymhellion adroddiad Rees ar galedi myfyrwyr a chan yr £20 miliwn a neilltuwyd yn y gyllideb wrth gefn at y diben hwnnw. Fe’ch anogaf, Rhodri, i beidio â cholli’r cyfle i gyflwyno polisi cadarn, penodol a fforddiadwy i Gymru ar hyn yn fuan, er gwaethaf y ffaith mai o Whitehall y daw’r sylwadau calonogol. Os yw’r Cynulliad hwn am ennill calonnau a meddyliau a hyder pobl Cymru, rhaid inni barhau i ddarparu atebion sydd wedi’u llywio gan y Cynulliad. Nodais y sylw cynharach ynglŷn â’r atebion hyn yn cael eu llunio rhywle arall. Mae’n amlwg y gwnaethpwyd y datrysiadau yn y rhaglen hon yng Nghymru, gan ein dwy blaid. Mae gennym bellach flwyddyn i’w cyflwyno. Gobeithiaf y byddwn ni, yn ein plaid ni, ynghyd â’ch plaid chi, Brif Weinidog, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwireddu ein haddewidion.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 31

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 31

I am grateful for those comments because the Rees report is the third example of an initiative that we have taken. The first was ELWa, which Tom Middlehurst, with much assistance from Cynog Dafis, pioneered through in the Assembly’s first year of administration. That was picked up in the Learning and Skills Bill in the House of Commons. However, basically, it was a Welsh idea and model, implemented in Wales in 1999 and followed in England.

Yr wyf yn ddiolchgar am y sylwadau hyn am mai adroddiad Rees yw’r trydydd enghraifft o fenter a gyflwynwyd gennym. Y cyntaf oedd ELWa, a arloeswyd gan Tom Middlehurst, gyda llawer o gymorth gan Cynog Dafis, yn ystod blwyddyn weinyddol gyntaf y Cynulliad. Crybwyllwyd hynny yn y Mesur Dysgu a Medrau yn Nhŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, syniad a model Cymreig ydoedd yn ei hanfod, a gyflwynwyd yng Nghymru ym 1999 ac yna yn Lloegr.

The second example is Glas Cymru, which I have mentioned. It is now a model for Railtrack as a not-for-profit method of delivering public services.

Yr ail enghraifft yw Glas Cymru, y crybwyllais eisoes. Mae bellach yn fodel ar gyfer Railtrack fel dull di-elw o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.

The third example is the Rees report. The Rees report was for Wales, but it will influence considerably the implementation of a graduate tax in England. Graduate tax means that the benefits of a university education are paid for after it has been received, when the graduate is earning enough money to pay for it through tax, rather than the education being funded by a student loan. The Rees report suggested that we seek the Westminster Government’s agreement to implement a graduate tax, as the Assembly cannot do this itself. Tony Blair then referred to the tax in his Labour Party conference speech.

Y drydedd enghraifft yw adroddiad Rees. Lluniwyd adroddiad Rees ar gyfer Cymru, ond caiff ddylanwad sylweddol ar gyflwyno’r dreth i raddedigion yn Lloegr. Mae’r dreth i raddedigion yn golygu y telir am fanteision addysg prifysgol ar ôl ei dderbyn, pan fo’r person graddedig yn ennill digon o arian i dalu amdano drwy dreth, yn hytrach na thalu am yr addysg drwy fenthyciad myfyrwyr. Awgrymodd adroddiad Rees y dylem ofyn am gytundeb Llywodraeth San Steffan i gyflwyno’r dreth i raddedigion, am na all y Cynulliad wneud hynny ei hun. Yna cyfeiriodd Tony Blair at y dreth yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur.

Student hardship hit us earlier in Wales, as Wales has more working-class students. The discouragement of working-class students from starting full-time further or higher education caused a crisis to occur in Wales, before it occurred in England. We, therefore, found a solution. We had to do so, because the impact upon Wales was worse than that elsewhere. Having produced a model, it was then easy for Estelle Morris and her team at the Department for Education and Skills to introduce it in England. That is another example of Welsh initiatives impacting upon governmental processes outside, as well as within, Wales. That is not only because we want and need the model and do not have the primary powers to implement it ourselves, but because England also needs the model, although it may take another year for it to realise the importance of student hardship and what the correct solution should be.

Bu caledi myfyrwyr yn ergyd inni yn gynharach yng Nghymru, am fod gan Gymru fwy o fyfyrwyr dosbarth gweithiol. Achoswyd argyfwng yng Nghymru yn sgîl y ffaith yr anogwyd myfyrwyr dosbarth gweithiol i beidio ag ymgymryd ag addysg bellach neu uwch llawn amser, cyn y gwelwyd hynny yn Lloegr. Felly, canfuwyd ateb. Bu’n rhaid inni wneud hynny am fod yr effaith yn waeth yng Nghymru nac mewn mannau eraill. Ar ôl cynhyrchu model, bu’n hawdd i Estelle Morris a’i thîm yn yr Adran Addysg a Sgiliau ei gyflwyno yn Lloegr. Dyna enghraifft arall o fentrau o Gymru yn dylanwadu ar brosesau llywodraethol allanol, yn ogystal â dylanwadu ar Gymru. Digwyddodd hynny nid yn unig am fod eisiau ac angen y model arnom ac nad oes gennym y pwerau i’w weithredu ein hunain, ond am fod angen y model ar Loegr hefyd, er y gallai gymryd blwyddyn arall cyn iddi sylweddoli pwysigrwydd caledi myfyrwyr a’r ateb priodol i hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 32

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

Before I call other Members to speak, I wish to remind Members of the procedure that we adopt for these statements, in case they have forgotten it over the summer recess. I allow the first speaker from each party group some extensive questioning, with short preambles, but after that I expect contributions to be short and sweet.

Cyn imi alw ar Aelodau eraill i siarad, hoffwn atgoffa’r Aelodau o’r weithdrefn a ddefnyddiwn ar gyfer y datganiadau hyn, rhag ofn eu bod wedi anghofio dros doriad yr haf. Caniatâf i’r siaradwr cyntaf o bob plaid i ofyn cwestiynau helaeth, gyda rhagarweiniad byr, ond yna disgwyliaf i’r cyfraniadau fod yn fyr a chryno.

Alun Cairns spoken in English p. 33

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 33

I ask the First Minister about the section in his statement relating to the economy. He has enormous responsibilities, not only as the Minister for Economic Development and the Minister for north Wales, but also as First Minister. Will he be present at the Economic Development Committee meeting, scheduled to meet in north Wales in a few weeks’ time, as he will have a dual interest in it? Will he also tell us why the operating aids have not been included in this document?

Gofynnaf i’r Prif Weinidog am y rhan honno o’i ddatganiad sydd yn sôn am yr economi. Mae ganddo gyfrifoldebau enfawr, nid yn unig fel y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a’r Gweinidog dros ogledd Cymru, ond hefyd fel y Prif Weinidog. A fydd yn bresenol yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd, a fydd yn cwrdd yng ngogledd Cymru ymhen ychydig wythnosau, gan y bydd ganddo ddiddordeb deublyg ynddo? A wnaiff esbonio hefyd pam na chynhwyswyd y cymhorthion gweithredu yn y ddogfen hon?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 33

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 33

I do not have my diary with me, but I will write to Alun about the diary commitment.

Nid yw fy nyddiadur gennyf, ond ysgrifennaf at Alun ynglŷn â’r ymrwymiad yn y dyddiadur.

On operating aids, you will be aware that that kind of issue always hits a block initially in DGIV, the European Competition Directorate-General in Brussels. It finally approved the unblocking of the £21 million for Finance Wales, which I had such pleasure in announcing, as it will benefit small and medium-sized firms in Wales. The Competition Directorate-General is also concerned about aspects of the operating aids for the same reasons. Is it an appropriate form of state aid or not? It takes a strong line on these matters, and much argument is needed to get its approval. That is why we have not been able to include the operating aids in the statement. However, we hope that eventually we can get something on that front.

O ran y cymhorthion gweithredu, byddwch yn ymwybodol bod mater o’r math hwn bob amser yn wynebu rhwystrau i ddechrau yn y DGIV, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Cystadleuaeth Ewropeaidd ym Mrwsel. Cymeradwyodd y broses o ryddhau’r £21 miliwn ar gyfer Cyllid Cymru yn y pen draw, a bu’n bleser o’r mwyaf gennyf ei gyhoeddi, am y bydd o fantais i gwmnïau bach a chanolig yng Nghymru. Mae’r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Cystadleuaeth yn pryderu hefyd am agweddau ar y cymhorthion gweithredu am yr un rhesymau. A yw’n ffurf briodol o gymorth gwladol ai peidio? Mae ganddi farn bendant ar y materion hyn, ac mae angen llawer o ddadlau er mwyn sicrhau ei chymeradwyaeth. Dyna pam nad ydym wedi gallu cynnwys y cymhorthion gweithredu yn y datganiad. Fodd bynnag, gobeithiwn y gallwn gyflawni rhywbeth yn y pen draw.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 33

Gareth Jones spoken in Welsh p. 33

Gan fod rhaid imi fod yn gryno, dyma gwestiwn ar addysg. Croesawn y dimensiwn Cymreig a osodwch yn y rhaglen, a chefnogwn agweddau ohono. Byddai’n angharedig imi ddweud fel arall.

As I must be brief, here is a question on education. We welcome the Welsh dimension set out in the programme, and support aspects of it. It would be unkind of me to say otherwise.

Yr ydym yn falch o glywed gan y Gweinidog, a gobeithio gennych chi, Rhodri, eich bod yn cefnogi’r egwyddor gyfun. Yr ydym oll yn falch o hynny. Er hynny, mae’r gyfundrefn gyllido sydd yn cynnal y system gyfun yng Nghymru yn tanseilio’r egwyddor gyfun. Mae’n achosi cystadleuaeth, ac anghysondebau cyllidol. Mae cyllid yn amrywio o ysgol i ysgol, ac o awdurdod i awdurdod. Sut yr ewch chi i’r afael â’r cwestiwn hwn mewn modd radical, fel bod cyfle cyfartal i bob disgybl yng Nghymru?

We are pleased to hear from the Minister, and hopefully from you, Rhodri, that you support the comprehensive principle. We are all pleased about that. However, the funding system that sustains the comprehensive system in Wales undermines the comprehensive principle. It leads to competition, and funding inconsistencies. Funding varies from school to school and from authority to authority. How will you tackle this issue radically so that every pupil in Wales has equal opportunities?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 34

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 34

Y mae’r holl gwestiwn yn ymwneud â’r fformiwla a etifeddwyd gennym o’r gyfundrefn flaenorol, 10 neu 12 mlynedd yn ôl, sydd yn broblem. Mae rhai ysgolion yn rhy gyfoethog ac eraill yn rhy dlawd. Gall rhai ohonynt bapuro’r wal â phapurau pum punt, ac nid oes gan eraill arian ar gyfer pensiliau ac ati. Mae angen newid y fformiwla ond nid wyf yn siŵr a oes cynigion ger ein bron ar hyn o bryd i wneud hynny oherwydd ei fod yn gam mor radical. Fe wnaf yn siŵr fod Jane Davidson neu minnau yn ysgrifennu atoch, Gareth, ynglŷn â’r cwestiwn hwn.

This whole question concerns the formula that we inherited from the previous system, 10 to 12 years ago, which is a problem. Some schools are too wealthy and others too poor. Some of them can paper the walls with five pound notes, and others do not have money for pencils and so on. The formula needs to be changed but I am not sure whether there are proposals before us at present to do so because it is such a radical step. I will ensure that Jane Davison or I write to you, Gareth, regarding this question.

Jonathan Morgan spoken in English p. 34

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 34

There is much to commend in the wishlist in the education section of this report. However, there is also much that merely responds to work being undertaken by other people—whether it is the Education and Lifelong Learning Committee or the advisory committee on student funding. Two issues are not included in the report that should be included as matters of utmost urgency. The first issue is the recruitment and retention of teachers. Some work has already been undertaken on this. However, we must look further at how we return the concept of profession to the teaching profession so that we encourage more graduates to become teachers to ensure that we fill the gap in the recruitment process in our schools in Wales, because there are vacancies, which need to be tackled. My second point—

Dylid canmol llawer o’r rhestr dymuniadau a geir yn adran addysg yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae llawer ohono ond yn ymateb i’r gwaith a wneir gan bobl eraill—boed yn y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, neu’r pwyllgor ymgynghorol ar nawdd i fyfyrwyr. Ni chynhwysir dau fater yn yr adroddiad y dylid eu cynnwys ar fyrder. Y mater cyntaf yw recriwtio a chadw athrawon. Gwnaethpwyd rhywfaint o waith eisoes ar hyn. Fodd bynnag, rhaid inni edrych ymhellach ar sut y gallwn adfer y cysyniad o broffesiwn i’r proffesiwn dysgu fel y gallwn annog mwy o raddedigion i ddod yn athrawon er mwyn sicrhau ein bod yn llenwi’r bwlch yn y broses recriwtio yn ein hysgolion yng Nghymru, am fod yna swyddi gwag, y mae angen mynd i’r afael â hwy. Fy ail bwynt—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 34

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 34

Order. That was a rather long question. I do not think that there is a second point.

Trefn. Yr oedd y cwestiwn hwnnw braidd yn hir. Ni chredaf fod ail bwynt.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 34

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 34

You made one interesting general point at the beginning, Jonathan. There is an element of confusion about who is responsible for certain reports. The administration commissioned the Rees report, and it was keen to have it. However, the higher education report is a Committee initiative, which is a slightly different animal, but it may well be favourably considered depending on what is included. Sometimes we get confused between the two kinds of ownership in some of the reports that are loosely thrown around. On recruitment and retention, recruitment at the training college level is currently up by some 23 per cent, so it does not appear to be a problem. I do not know what the situation is on retention. Jane or I will write to you on the retention of teachers in mid career, which can be equally important. The strange thing that we have found in nursing and teaching is that one consequence of having low unemployment for the first time in 25 years is that it presents alternatives for people who previously found themselves in the public services. They can now say—do I really want to spend the rest of my life in public service, maybe I should try the private sector. That has not been an option for 25 years, but it is now, and it poses new problems in retention in mid career for nurses, teachers and other professionals in the public services.

Gwnaethoch un pwynt cyffredinol diddorol ar y dechrau, Jonathan. Ceir elfen o ddryswch ynglŷn â phwy sydd yn gyfrifol am rai adroddiadau. Y weinyddiaeth a gomisiynodd adroddiad Rees, ac yr oedd yn awyddus i’w gael. Fodd bynnag, menter y Pwyllgor yw’r adroddiad addysg uwch, sydd ychydig yn wahanol, ond efallai y caiff ei ystyried yn ffafriol yn dibynnu ar beth gaiff ei gynnwys. Weithiau, yr ydym yn drysu rhwng y ddau fath o berchnogaeth mewn rhai o’r adroddiadau a gyflwynir yma ac acw. O ran recriwtio a chadw, mae recriwtio ar lefel y coleg hyfforddi wedi cynyddu tua 23 y cant, felly nid yw’n ymddangos yn broblem. Ni wn beth yw’r sefyllfa o ran cadw. Bydd Jane neu minnau yn ysgrifennu atoch ar y mater o gadw athrawon yng nghanol eu gyrfa, a all fod yr un mor bwysig. Y peth rhyfedd a welsom gyda nyrsio a dysgu yw mai un o ganlyniadau cael lefel diweithdra isel am y tro cyntaf mewn 25 mlynedd yw ei fod yn rhoi dewisiadau amgen i bobl a arferai weithio yn y gwasanaethau cyhoeddus. Gallant ddweud yn awr—a wyf am dreulio gweddill fy mywyd ym maes gwasanaethau cyhoeddus, efallai y dylwn roi cynnig ar y sector preifat. Ni fu hyn yn opsiwn am 25 mlynedd, ond mae’n opsiwn erbyn hyn, a chyflwyna broblemau newydd o ran cadw nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus yng nghanol eu gyrfa.

Alun Pugh spoken in English p. 35

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 35

Rhodri, I was pleased to see the commitment to introduce free bus travel for pensioners as an integral part of this document. However, many pensioners are still unaware of this policy. Can you assure me that there will be an active campaign to ensure take-up of this right?

Rhodri, yr oeddwn yn falch o weld yr ymrwymiad i gyflwyno cynllun teithio am ddim ar fysys i bensiynwyr fel rhan ganolog o’r ddogfen hon. Fodd bynnag, mae llawer o bensiynwyr o hyd nad ydynt yn ymwybodol o’r polisi hwn. A allwch fy sicrhau y bydd ymgyrch weithredol i sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr hawl hon?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 35

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 35

Yes, I can assure you of that. It is important that we rely on the good offices of local authorities to handle the processing of, initially, the half price fares on the free bus passes, which is the present situation. We are half way through the 2001-02 financial year. When the scheme goes critical for free local bus travel on those free bus passes on 1 April 2002, we must ensure that pensioners take up their entitlement. It is not means tested. It is for every pensioner, and we want everyone to make use of it. It is not only for pensioners—people with a disability can also access it. We want to encourage such people to have the same social mobility as those who have a good income and can afford a car and who are fully able. It is important that we publicise the scheme as much as possible and that we have the enthusiastic support of all 22 local authorities in publicising it in their local authority area.

Gallaf eich sicrhau chi o hynny. Mae’n bwysig ein bod yn dibynnu ar gymwynasgarwch awdurdodau lleol i ddelio â’r broses o brosesu tocynnau teithio hanner pris ar y pasys bws am ddim i ddechrau, sef y sefyllfa bresennol. Mae hanner blwyddyn ariannol 2001-02 wedi mynd heibio. Pan gyflwynir y cynllun yn gyffredinol ar gyfer teithio’n lleol am ddim ar fysys ar y pasys bysys am ddim hynny ar 1 Ebrill 2002, rhaid inni sicrhau bod pensiynwyr yn manteisio ar eu hawl. Nid oes prawf moddion. Mae’n gynllun i bob pensiynwr, ac yr ydym am i bawb wneud defnydd ohono. Nid dim ond ar gyfer pensiynwyr y mae—gall pobl ag anabledd ei ddefnyddio hefyd. Yr ydym am annog y bobl hyn i gael yr un symudedd cymdeithasol â’r rhai ag incwm da a all fforddio car ac sydd yn abl. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl i’r cynllun a bod gennym gymorth brwd y 22 awdurdod lleol wrth roi cyhoeddusrwydd i’r cynllun yn eu hardal hwy.

Glyn Davies spoken in English p. 36

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 36

Will you commit your Government to greatly increasing the funding for Tir Gofal, on which so much depends, as well as committing your Government to reducing the appalling hospital waiting lists? Will you personally commit yourself to showing leadership and strategic direction and not disappear under the desk when there is a real problem, which results in the kind of confusion that delivered the new building fiasco that we are currently experiencing in Wales?

A wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i gynyddu’n helaeth swm yr arian sydd ar gael ar gyfer Tir Gofal, y mae cymaint yn dibynnu arno, yn ogystal ag ymrwymo eich Llywodraeth i leihau’r rhestrau aros gwarthus ar gyfer ysbytai? A wnewch chi ymrwymo yn bersonol i ddangos arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol a pheidio â diflannu o dan y ddesg pan fo problem wirioneddol, sydd yn arwain at y math o ddryswch gyda ffiasgo’r adeilad newydd a welwn yng Nghymru ar hyn o bryd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 36

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 36

I am sorry that you felt it necessary to resort to somewhat agricultural language towards the end of that question. It is not necessary, it does not get you anywhere and it is a poor substitute for civilised argument and discourse. Funding is a matter for Edwina, and you should raise that issue during the discussion on the budget statement later this week. You also mentioned the new Assembly building. I have already responded on that by saying that Edwina is the Minister with responsibility for that issue but that I take a close interest in it. I am not avoiding responsibility for this. I mentioned that we are advertising in the contracts supplement of the Official Journal of the European Communities. That is the current situation. That is not hiding under a blanket. To use such phrases is a poor substitute for listening to previous answers and wastes the Assembly’s time on repeating them.

Mae’n ddrwg gennyf eich bod yn credu bod angen defnyddio iaith braidd yn agos at y pridd ar ddiwedd y cwestiwn hwnnw. Nid oes ei angen, nid yw’n cyflawni unrhyw beth ac nid yw’n ddadl a thrafodaeth waraidd. Mater i Edwina yw ariannu a dylech godi’r mater hwnnw yn ystod y drafodaeth ar ddatganiad y gyllideb yn ddiweddarach yr wythnos hon. Soniasoch hefyd am adeilad newydd y Cynulliad. Ymatebais eisoes i hyn drwy ddweud mai Edwina yw’r Gweinidog sydd yn gyfrifol am y mater hwn ond fy mod i yn dangos diddordeb amlwg ynddo. Nid wyf yn osgoi cyfrifoldeb dros hyn. Soniais ein bod yn hysbysebu yn atodiad contractau’r Official Journal of the European Communities. Dyna yw’r sefyllfa sydd ohoni. Nid cuddio o dan flanced yw hynny. Nid yw defnyddio ymadroddion fel hyn yn adlewyrchu gwrando ar atebion blaenorol ac mae’n gwastraffu amser y Cynulliad gan fy mod yn gorfod eu hailadrodd.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 36

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 36

Mae rhai o’r datganiadau a wneir yng nghynlluniau cyllideb y cytundeb partneriaeth yn gamarweiniol. Tynnaf sylw at un o’r ddwy enghraifft. Ceir disgrifiad o’r hyn a addawyd a dywedir bod y weithred wedi digwydd. Fodd bynnag, nid yw wedi digwydd mewn gwirionedd. Yr enghraifft yw,

Some of the statements made in the partnership agreement’s budget plans are misleading. I draw attention to one of the two examples. There is a summary of the original commitment and then it states that it has been actioned. However, it has not in fact been actioned. The example is,

‘We will design an improved performance management pay scheme for teachers, de-coupled from pupils’ exam performance.’

Hyd y gwn, nid yw hynny wedi cael ei weithredu. Nid yw’r ddogfen hon yn nodi ei fod wedi ei weithredu, ond yn y golofn ‘actioned’, dywed ei fod wedi ei weithredu. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr i mi.

To my knowledge, that has not been actioned. This document does not state that it has been done, but in the ‘actioned’ column, it states that it has been actioned. That does not make sense to me.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 37

Ystyriaf gynllun y tudalennau ac, os yw’n camarwain pobl, sicrhaf y caiff ei gywiro.

I will consider the page layout and, if it misleads people, I will ensure that it is corrected.

David Davies spoken in English p. 37

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 37

If you were ever to feel it necessary, in the public interest, to appoint a new Minister for Economic Development, would you be confident of retaining the Liberal Democrats’ support for this administration?

Pe baech yn credu, er budd y cyhoedd, y byddai angen penodi Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd newydd, a fyddech yn hyderus y byddech yn cadw cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol i’r weinyddiaeth hon?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 37

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 37

Cabinet appointments are not covered in this report. It does not matter how often you seek different ways to explore what you think is a great bit of fun in a schoolboy playground sort of manner, I will not add anything to the statement that I made in July.

Ni chwmpesir penodiadau’r cabinet yn yr adroddiad hwn. Waeth pa mor aml y ceisiwch ganfod ffyrdd gwahanol o drafod rhywbeth sydd, yn eich barn chi, yn hwyl mawr fel plant yn yr iard chwarae, ni fyddaf yn ychwanegu unrhyw beth i’r datganiad a wneuthum ym mis Gorffennaf.

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 37

Derbyniais gais gan Arweinydd yr Wrthblaid, dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, i gynnig bod y Cynulliad yn ystyried mater o bwysigrwydd cyhoeddus ar frys.

I have received a request from the Leader of the Opposition, under Standing Order No. 6.9, to propose that the Assembly urgently considers a matter of public importance.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 37

Cynigiaf fod

I propose that

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh p. 37

Fel y gwyddoch, Lywydd, gwnaethpwyd cais yn ystod y toriad i gynnal dadl ar oblygiadau’r argyfwng rhyngwladol i Gymru. Cafwyd ymgais gan arweinwyr y pleidiau, fel y noda The Western Mail heddiw, i drefnu bod dadl ar y mater yn cael ei chynnal. Yn anffodus, methwyd â chael cytundeb ar eiriad y cynnig.

As you know, Presiding Officer, a request was made during recess for a debate to be held on the implications of the international crisis for Wales. Party leaders attempted, as The Western Mail states today, to arrange a debate on the matter. Unfortunately, we failed to reach agreement on the wording of the motion.

Credaf y byddai pobl Cymru yn ei chael yn anodd deall pam na allai’r Cynulliad ddod o hyd i ffordd o sicrhau dadl ar fater o’r pwys mwyaf iddynt. Mae gan bobl Cymru hawl i glywed safbwynt y pleidiau ar y mater hwn.

I believe that the people of Wales would have difficulty in understanding why the Assembly could not find a way of ensuring a debate on a matter of the greatest import to them. The people of Wales have a right to hear the parties’ views on this matter.

Gan nad yw’n bosibl inni gynnal dadl yn unol â’r cynllun gwreiddiol, a wnewch chi ystyried galw pleidlais ar gynnal dadl dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, sydd, fel y dywedasoch, yn cyfeirio at faterion brys sydd o bwys cyhoeddus? Mae hwn yn fater brys oherwydd dyma’r cyfle cyntaf a gafodd y Cynulliad i’w ystyried, ac mae’n fater o bwys oherwydd iddo godi yn ystod cwestiynau a datganiadau heddiw.

As it is not possible for us to hold a debate under the original plan, will you consider calling a vote on whether we should hold a debate under Standing Order No. 6.9, which, as you said, refers to matters of urgent public importance? This is an urgent matter because this is the first opportunity that the Assembly has had to consider it, and it is a matter of importance as it has been raised in questions and statements today.

Dan yr amgylchiadau hyn, ac o gofio y byddai’n anodd dweud wrth bobl Cymru pam nad yw’r Cynulliad wedi trafod y mater hwn, gofynnaf ichi alw pleidlais ar gael dadl ar y mater hwn yn hytrach na datganiad.

Under such circumstances, and bearing in mind that it would be difficult to explain to the people of Wales why the Assembly has not discussed this issue, I ask you to call a vote on whether we should hold a debate on this matter rather than hear a statement.

Yr wyf am wneud pwynt cyffredinol ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng datganiad a dadl. Mae datganiad yn caniatáu, fel sydd yn briodol ar adegau, i’r Prif Weinidog neu Weinidogion y Cabinet roi datganiad a chael eu holi arno. Fodd bynnag, nid yw’n caniatáu i Aelodau’r Cynulliad fynegi eu safbwynt yn glir ar faterion pwysig.

I wish to make a general point about the difference between a statement and a debate. A statement allows, as is appropriate at times, the First Minister or Cabinet Ministers to issue a statement and be questioned on it. However, it does not allow Assembly Members to express clearly their standpoint on important matters.

Felly, byddai’n well o lawer inni gael dadl ar y mater hwn, er mwyn i bob Aelod o’r Cynulliad gael cyfle i gyfrannu, pe baent yn dymuno gwneud hynny. Yn y ddadl honno, byddem ond yn gofyn i’r Cynulliad ystyried goblygiadau y sefyllfa ryngwladol i Gymru a dyna y byddem yn pleidleisio arno. Gofynnaf ichi ystyried y cais hwnnw a galw pleidlais arno.

Therefore, it would be much better for us to have a debate on this matter, so that every Assembly Member has the opportunity to contribute, if they so wish. In that debate, we would only be asking the Assembly to consider the international situation’s implications for Wales and we would vote on that. I ask you to consider that request and call a vote on it.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 38

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 38

O dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, yr wyf yn fodlon fod y mater hwn yn haeddu cael sylw brys gan y Cynulliad. Byddaf felly’n galw pleidlais ar y mater. Gan i’r cais gael ei wneud gan Aelod nad yw’n Weinidog, galwaf ar y Trefnydd i ymateb. Os yw’r Cynulliad yn penderfynu cynnal dadl ar hyn, byddai’n cael ei chynnal yn nes ymlaen heddiw.

Under Standing Order No. 6.9, I am satisfied that this issue merits the Assembly’s immediate attention. I will therefore call a vote on the issue. As a Member other than a Minister made the request, I call on the Minister for Assembly Business to respond. If the Assembly decides to hold a debate on this issue, it will be held later today.

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 38

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 38

It is difficult for us to accede to Ieuan’s request. As the party leaders and other Members know, we agreed that a debate would be held on this matter if we could decide on the wording of a motion. Unfortunately, we could not agree on that. The original proposal was that if we could not agree on a wording, a statement would be made instead and that statement discussed.

Mae’n anodd inni gydsynio â chais Ieuan. Fel y gŵyr arweinwyr y pleidiau a’r Aelodau eraill, cytunwyd y byddai dadl yn cael ei chynnal ar y mater hwn pe gallem gytuno ar eiriad y cynnig. Yn anffodus, ni lwyddasom i gytuno ar hynny. Y cynnig gwreiddiol oedd pe na allem gytuno ar y geiriad, byddem yn gwneud datganiad yn lle hynny a byddem yn trafod y datganiad hwnnw.

The problem with acceding to Ieuan’s request for an urgent debate is that we do not know what the wording of the motion would be. I understand that a motion would be proposed which would be voted on at the end of the debate. We are in some difficulty. Until we know what the motion would be, we do not know our attitude towards it. Also, other Members and parties may wish to propose amendments to the motion.

Y broblem sydd yn gysylltiedig â chydsynio â chais Ieuan am ddadl frys yw na wyddom beth fyddai geiriad y cynnig. Deallaf y byddai cynnig yn cael ei gynnig ac y pleidleisir arno ar ddiwedd y ddadl. Mae gennym gryn anhawster. Hyd nes y gwyddom beth fyddai’r cynnig, ni wyddom beth yw ein hymagwedd tuag ato. Hefyd, hwyrach y byddai Aelodau a phleidiau eraill yn dymuno cynnig diwygiadau i’r cynnig.

I wish that this issue had been raised in Business Committee this morning, when the other party business managers could have discussed it, rather than the request being presented to us at a late stage. Our difficulty is that we do not know how to respond to this request until we see the wording of the motion.

Byddwn wedi hoffi gweld y mater hwn yn cael ei godi yn y Pwyllgor Busnes y bore yma, pan fyddai rheolwyr busnes y pleidiau eraill wedi gallu ei drafod, yn hytrach na chais yn cael ei gyflwyno inni’n ddiweddarach. Yr anhawster sydd yn ein wynebu yw na wyddom sut i ymateb i’r cais hwn nes y gwelwn eiriad y cynnig.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 39

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 39

I may be able to help the Assembly with this. The motion would be formed from the wording of the request made by the Member under Standing Order No. 6.9.

Hwyrach y gallaf helpu’r Cynulliad gyda hyn. Byddai’r cynnig yn cael ei lunio o eiriad y cais a wnaethpwyd gan yr Aelod o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9.

Nick Bourne spoken in English p. 39

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 39

Members are not aware of the nature of the request.

Nid yw’r Aelodau yn ymwybodol o natur y cais.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 39

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 39

Order. The request was made under Standing Order No. 6.9. I understood it to refer to a debate on the international situation.

Trefn. Gwnaethpwyd y cais o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9. Deallaf ei fod yn cyfeirio at ddadl ar y sefyllfa ryngwladol.

Nick Bourne spoken in English p. 39

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 39

What about the wording?

Beth am y geiriad?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 39

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 39

Order. Members may not be familiar with Standing Order No. 6.9. A request was made to me, under that Standing Order, that the Assembly should immediately consider a matter of urgent public importance, namely the international situation and how it affects Wales. That was the formal request made to me. I agreed that such a request could be made in the Chamber. The request has now been made and we will now move to a vote.

Trefn. Hwyrach nad yw’r Aelodau’n gyfarwydd â Rheol Sefydlog Rhif 6.9. Gwnaethpwyd cais imi, o dan y Rheol Sefydlog honno, y dylai’r Cynulliad ystyried mater brys sydd o bwys cyhoeddus, sef y sefyllfa ryngwladol a’i heffaith ar Gymru. Yr oedd hyn yn gais ffurfiol a wnaethpwyd i mi. Cytunais y gallai cais o’r fath gael ei wneud yn y Siambr. Gwnaethpwyd y cais ac awn ymlaen i bleidleisio.

Michael German spoken in English p. 40

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 40

Point of order. Will you explain whether the motion proposed for debate can be amended? Does a form of words have to be put before the Assembly?

Pwynt o drefn. A wnewch chi esbonio a ellir diwygio’r cynnig a gynigir ar gyfer dadl? A oes angen rhoi geiriau gerbron y Cynulliad?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 40

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 40

Order. Such motions cannot be amended as there is no time for them to be amended in the normal way. Therefore, we will move to a vote as required—

Trefn. Ni ellir diwygio cynigion o’r fath gan nad oes amser i’w diwygio yn y dull arferol. Felly, awn ymlaen i bleidleisio yn ôl yr angen—

Ron Davies spoken in English p. 40

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 40

Point of order. I request clarification on the procedure that will be followed. Will you confirm that, if the procedural motion is carried, the session would be adjourned for the motion to be tabled so that Members could consider their attitude towards it? It seems unreasonable for us to be bounced into a situation where we are voting on a matter without having the opportunity to consider it.

Pwynt o drefn. Hoffwn gael eglurhad o’r weithdrefn sydd i’w dilyn. A wnewch chi gadarnhau, os cymeradwyir y cynnig trefniadol, y byddai’r sesiwn yn cael ei gohirio er mwyn gallu cyflwyno’r cynnig er mwyn i’r Aelodau allu ystyried eu hymagwedd tuag ato? Ymddengys yn afresymol inni gael ein gorfodi i mewn i sefyllfa lle yr ydym yn pleidleisio ar fater heb gael y cyfle i’w ystyried.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 40

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 40

Under Standing Order No. 6.9, the motion is the form of the request that has been made to me. That request has been repeated in the Chamber, namely that the Assembly consider the international situation and its impact on Wales. Under Standing Order No. 6.9., I must put this matter to a vote.

O dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, y cynnig yw’r cais a wnaethpwyd imi. Ailadroddwyd y cais hwnnw yn y Siambr, sef y dylai’r Cynulliad ystyried y sefyllfa ryngwladol a’i heffaith ar Gymru. O dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, rhaid imi gyflwyno’r mater hwn i bleidlais.

Karen Sinclair spoken in English p. 40

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 40

I request that the division bell be rung.

Gofynnaf i gloch y bleidlais gael ei chanu.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 40

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 40

Under Standing Order No. 6.21, at least three Members must request that the bell be rung. Do three Members support the request? I see that they do. Clerk, please ring the bell.

yn Saesneg O dan Reol Sefydlog Rhif 6.21, rhaid i o leiaf dri Aelod wneud cais i’r gloch gael ei chanu. A oes tri Aelod yn cefnogi’r cais? Gwelaf fod tri Aelod. Glerc, a wnewch chi ganu’r gloch.

Cyn inni bleidleisio, atgoffaf y Cynulliad ein bod yn pleidleisio ar a ddylai’r Cynulliad ystyried trafod y sefyllfa ryngwladol a’i heffaith ar Gymru fel mater brys o bwys cyhoeddus. Os bydd y Cynulliad yn pleidleisio o blaid gwneud hynny, dyna fydd y cynnig.

in Welsh Before we vote, I remind the Assembly that we are voting on whether the Assembly should consider discussing the international situation and its impact on Wales as a matter of urgent public importance. If the Assembly votes in favour of that, then that will be the motion.

Cynnig trefniadol Ieuan Wyn Jones t. 40

Procedural motion Ieuan Wyn Jones p. 40

GwrthodwydRejected O blaidFor 17 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 39

Gwrthodwyd y cynnig.

Motion defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (17)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (39)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Pwynt o Drefn

Point of Order

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 41

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 41

Point of order. This is an important issue and I am willing to consider scheduling a debate on a future date if we can agree on the wording of that motion—[ASSEMBLY MEMBERS: ‘Oh.’]

Pwynt o drefn. Mae hwn yn fater pwysig ac yr wyf yn barod i ystyried trefnu’r ddadl ar ddyddiad arall yn y dyfodol os gallwn gytuno ar eiriad y cynnig hwnnw—[AELODAU’R CYNULLIAD: ‘O.’]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 41

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 41

Order. The Minister for Assembly Business is speaking on a point of order. If other Members wish to raise further points of order relating to this, I will note that.

Trefn. Mae’r Trefnydd yn siarad ar bwynt o drefn. Os yw Aelodau eraill yn dymuno codi pwyntiau o drefn pellach yn ymwneud â hyn, nodaf hynny.

Andrew Davies spoken in English p. 42

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 42

I would like to put on record that the three other parties are willing to have a debate, but we feel that in a situation like this, the wording, as agreed by the four party leaders, should be an agreed one. I give the commitment that I will seek to obtain that agreement and table a motion at the earliest possible opportunity.

Hoffwn gofnodi bod y tair plaid arall yn barod i gael dadl, ond credwn mewn sefyllfa o’r fath, y dylid cytuno ar y geiriad, fel y cytunwyd gan bedwar arweinydd y pleidiau. Rhoddaf ymrwymiad y byddaf yn ceisio sicrhau’r cytundeb hwnnw a chyflwyno cynnig cyn gynted â phosibl.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 42

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 42

Further to that point of order and in view of comments made by the Minister for Assembly Business, it is important to put on record the request that I made to you, Presiding Officer. I want to make it clear—and I am sure that Rhodri will confirm this—that when we applied to you to consider a debate under Standing Order No. 6.9, the office of the First Minister was also informed that that request was being made. The request would have been made to the Minister for Assembly Business, but for the fact that he was in a Business Committee meeting at that time. For the purposes of the record, I am sure that the request was made to you and the First Minister at 10.30 a.m. today—some four hours ago.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn ac yng ngoleuni’r sylwadau a wnaeth y Trefnydd, mae’n bwysig cofnodi’r cais a wneuthum ichi, Lywydd. Yr wyf am bwysleisio—ac yr wyf yn sicr y bydd Rhodri’n cadarnhau hyn—pan wnaethom gais ichi ystyried dadl o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9, yr hysbyswyd swyddfa Prif Weinidog Cymru hefyd o’r cais hwnnw. Byddai’r cais wedi cael ei gyflwyno i’r Trefnydd, oni bai am y ffaith ei fod yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar y pryd. At ddiben y cofnod, yr wyf yn sicr y gwnaethpwyd y cais i chi ac i’r Prif Weinidog am 10.30 a.m. heddiw—tua phedair awr yn ôl.

Nick Bourne spoken in English p. 42

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 42

Further to that point of order, if the Business Committee was sitting, it would have been appropriate to pass that information to the Business Committee at that time. It is extraordinary that that did not happen.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn, os oedd y Pwyllgor Busnes yn cwrdd, byddai wedi bod yn briodol trosglwyddo’r wybodaeth honno i’r Pwyllgor Busnes ar y pryd. Mae’n anhygoel na ddigwyddodd hynny.

On the more important issue, everybody wants a full debate on this. Initially, four parties were in agreement and then one party, namely the nationalists, broke rank with the consensus. They still want to be able to dictate the wording of the motion. On this issue, I think that the Government is right and that we should back it and that should be the debate that we have.

O ran y mater pwysicach, mae pawb yn dymuno cael dadl lawn ar hyn. I ddechrau, yr oedd y pedair plaid yn gytûn, ac yna aeth un blaid, sef y cenedlaetholwyr, yn groes i’r consensws. Maent yn dal i fod eisiau penderfynu ar eiriad y cynnig. Ar y mater hwn, credaf fod y Llywodraeth yn iawn ac y dylem gefnogi hyn a dyma ddylai testun y ddadl fod.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 42

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 42

Order. The content of any motion, provided that it is in order, is not a matter for me. I have an obligation under Standing Order No. 6.9 to protect the right of all Members to seek to debate matters as being of urgent public importance. I considered this request this morning. This Standing Order is separate from any of the business arrangements arrived at in Business Committee. It is there to ensure the opportunity for urgent debate. The Assembly has had an opportunity to make a decision on that and it has made its decision. We should now continue with our business.

Trefn. Nid mater i mi yw cynnwys unrhyw gynnig, ar yr amod ei fod mewn tref. Mae gennyf rwymedigaeth o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9 i ddiogelu hawl pob Aelod i drafod materion brys sydd o bwys cyhoeddus. Ystyriais y cais hwn y bore yma. Mae’r Rheol Sefydlog hon ar wahân i unrhyw rai o’r trefniadau busnes a gafwyd yn y Pwyllgor Busnes. Ei diben yw sicrhau’r cyfle i gynnal dadl frys. Cafodd y Cynulliad gyfle i wneud penderfyniad ar hyn ac mae wedi gwneud penderfyniad. Dylem barhau yn awr gyda’n busnes.

Glyn Davies spoken in English p. 43

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 43

Point of order.

Pwynt o drefn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

Is it on this matter?

A yw’n ymwneud â’r mater hwn?

Glyn Davies spoken in English p. 43

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 43

It is a fresh point of order on this matter.

Mae’n bwynt o drefn newydd ar y mater hwn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

There cannot be a fresh point of order on this matter.

Ni ellir cael pwynt o drefn newydd ar y mater hwn.

Glyn Davies spoken in English p. 43

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 43

Is it right that the—

A yw’n briodol bod y—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

Order. The leader of the opposition and his group have proceeded in accordance with the Standing Order. It is my role to ensure the right of any Assembly Member to raise a matter of urgent public importance under Standing Order No. 6.9 and allow the Assembly to decide whether it should be debated, provided that I believe that it merits debate. That decision was made this afternoon and we should now continue with our business.

Trefn. Mae arweinydd yr wrthblaid a’i grŵp wedi dilyn y Rheol Sefydlog. Fy rôl i yw sicrhau hawl unrhyw Aelod o’r Cynulliad i godi mater brys sydd o bwys cyhoeddus o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9 a chaniatáu i’r Cynulliad benderfynu a ddylid cynnal dadl arno, ar yr amod fy mod yn credu ei fod yn haeddu dadl. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw y prynhawn yma a dylem barhau â’n busnes yn awr.

Rod Richards spoken in English p. 43

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 43

Point of order. You have given me permission—

Pwynt o drefn. Yr ydych wedi rhoi caniatâd imi—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

Order. There cannot be a further point of order on this matter. You have given me advance warning of your intention to raise a point of order, which I shall take later.

Trefn. Ni ellir cael pwynt o drefn pellach ar y mater hwn. Yr ydych wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw imi o’ch bwriad i godi pwynt o drefn, a dderbyniaf yn ddiweddarach.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 43

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 43

Further to the point of order—

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 43

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

I will not take any further points.

Ni dderbyniaf unrhyw bwyntiau pellach.

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 43

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 43

I propose that

Cynigiaf fod

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 44

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 44

As this is a procedural motion, I am allowed to take one speaker against the motion. I see that there are no speakers against it.

Gan fod hwn yn gynnig trefniadol, gallaf dderbyn un siaradwr sydd yn gwrthwynebu’r cynnig. Gwelaf nad oes unrhyw siaradwr yn ei wrthwynebu.

Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 44

Procedural motion Andrew Davies p. 44

DerbyniwydAdopted O blaidFor 56 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (56)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Janet Davies

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 2.29 p.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 2.29 p.m.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Rod Richards spoken in English p. 45

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 45

Point of order. I have given the Presiding Officer notice of this point of order. It concerns Standing Order No. 6.2. In essence, it states that,

Pwynt o drefn. Rhoddais rybudd i’r Llywydd ynglŷn â’r pwynt o drefn hwn. Mae’n ymwneud â Rheol Sefydlog Rhif 6.2. Yn ei hanfod, noda,

‘the Presiding Officer may, at the request of the First Secretary, summon the Assembly to consider a matter of urgent public importance.’

‘gall y Llywydd, ar gais y Prif Ysgrifennydd, gynnull y Cynulliad i ystyried mater brys sydd o bwys cyhoeddus.’

Dirprwy Lywydd, in the aftermath of the terrorist attacks on the United States on 11 September—

Ddirprwy Lywydd, yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar yr Unol Daleithiau ar 11 Medi—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 45

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 45

Order. The Presiding Officer will take the Chair again later this afternoon. As he has had notice of your point of order, I ask you to defer it, given that it is not immediately relevant to the debate. You may raise it when the Presiding Officer returns to the Chair. He will give you a considered ruling. The ruling that I would give you would not be as considered and therefore not of the same quality.

Trefn. Bydd y Llywydd yn cadeirio unwaith eto yn ddiweddarach y prynhawn yma. Gan ei fod wedi cael rhybudd o’ch pwynt o drefn, gofynnaf ichi ei ohirio, o ystyried nad yw’n uniongyrchol berthnasol i’r ddadl. Cewch ei godi pan fydd y Llywydd yn dychwelyd i’r Gadair. Bydd yn rhoi dyfarniad ystyriol ichi. Ni fyddai dyfarniad gennyf i mor ystyriol ac felly ni fyddai o’r un safon.

Adroddiad Blynyddol Prif Weinidog Cymru

The First Minister’s Annual Report

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 46

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 46

I have selected amendments 1 and 2 in the name of Jocelyn Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1 a 2 yn enw Jocelyn Davies.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 46

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 46

I propose that

Cynigiaf fod

Rhodri Morgan The First Minister (continued) spoken in English p. 46

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 46

In my earlier statement, I set out the partnership Government’s formal programme for the year. Now, I am pleased to put before you my report on the Assembly Government’s work since last April. I want a Wales confident enough to recognise and celebrate success, but also confident enough to admit where it needs to do better. It is too easy to knock what has been achieved for Wales in the relatively short period since the Assembly was established. However, this report sets the record straight and I therefore urge the Assembly to reject Jocelyn Davies’s two amendments.

Yn fy natganiad cynharach, amlinellais raglen ffurfiol y Llywodraeth bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn. Yn awr, mae’n dda gennyf gyflwyno ichi fy adroddiad ar waith Llywodraeth y Cynulliad ers mis Ebrill diwethaf. Yr wyf am weld Cymru sydd yn ddigon hyderus i gydnabod a dathlu llwyddiant, ond sydd hefyd yn ddigon hyderus i gyfaddef lle y mae angen gwella. Mae’n hawdd beirniadu’r hyn a gyflawnwyd dros Gymru yn y cyfnod cymharol fyr ers sefydlu’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn ateb y feirniadaeth honno ac felly anogaf y Cynulliad i wrthod dau welliant Jocelyn Davies.

Education and training in Wales are, undoubtedly, performing well, as the figures show. Our children are better educated than ever before and more go on to higher education. We should celebrate that. However, we must also recognise that too many are not yet enjoying the benefits of that overall success, and that many adults do not have the skills that they need for today’s labour market. Our goal, therefore, must be a system that serves everyone while giving special help to those that need it. This is what we seek to provide for Wales through the work of Education and Learning Wales and our schools policy.

Ceir perfformiad da, yn ddi-os, ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fel y dengys y ffigurau. Mae ein plant yn cael gwell addysg nag erioed o’r blaen ac mae mwy ohonynt yn cael addysg uwch. Dylem ddathlu hynny. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod hefyd fod gormod o blant nad ydynt yn elwa ar y llwyddiant cyffredinol hwnnw eto, ac nad yw llawer o oedolion yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y farchnad waith sydd ohoni. Ein nod, felly, yw sicrhau system sydd yn gwasanaethu pawb tra’n rhoi cymorth arbennig i’r rhai y mae ei angen arnynt. Dyma’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni dros Gymru drwy waith Dysgu ac Addysgu Cymru a’n polisi ar ysgolion.

On health and social care, we have begun a radical programme of reform. We have sought to raise standards overall while targeting those most in need. By freezing or abolishing some charges, we have removed a major barrier to equality of healthcare. We are focusing on those most under threat—vulnerable young people and the elderly. However, we must also raise performance levels generally. Waiting times are still too long and the quality of service is too variable. By bringing health services closer to our communities—through our proposals for restructuring, and by ensuring that local government and health services work together in the future—we aim to make them more responsive to people’s needs.

O ran iechyd a gofal cymdeithasol, yr ydym wedi dechrau rhaglen o ddiwygio radical. Yr ydym wedi ceisio codi safonau cyffredinol tra’n targedu’r rhai â’r angen mwyaf. Drwy rewi neu ddiddymu rhai taliadau, yr ydym wedi cael gwared ar un o’r rhwystrau mawr i ofal iechyd cyfartal. Yr ydym yn canolbwyntio ar y rhai sydd yn wynebu’r bygythiad mwyaf—pobl ifanc ddiamddiffyn a’r henoed. Fodd bynnag, rhaid inni godi lefel y perfformiad yn gyffredinol hefyd. Mae amseroedd aros yn rhy hir o hyd ac mae ansawdd y gwasanaeth yn amrywio gormod. Drwy ddarparu gwasanaethau iechyd yn agosach at ein cymunedau—drwy ein cynigion ailstrwythuro, a thrwy sicrhau bod llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yn cydweithio yn y dyfodol—ein nod yw sicrhau eu bod yn ymateb yn well i anghenion pobl.

Our economic performance also presents a mixed picture. The extent of change over the past few years has been a tremendous achievement for the entrepreneurs, the investors and all the public agencies concerned. However, we have had massive blows to jobs in our communities from the closures at Corus and other closures.

Mae ein perfformiad economaidd hefyd yn rhoi darlun cymysg. Bu maint y newidiadau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn llwyddiant gwych i’r entrepreneuriaid, y buddsoddwyr a’r holl asiantaethau cyhoeddus cysylltiedig. Fodd bynnag, cawsom ergydion trwm iawn i swyddi yn ein cymunedau yn sgîl cau gweithfeydd Corus a gweithfeydd eraill.

We are now less dependent on those old industries and better placed to exploit new opportunities. However, it will take time for us to overcome the side effects of the closures at Corus in our urban communities and the problems in the agricultural areas in our rural communities. Prosperity and opportunity remain unevenly distributed in Wales, and we are always running to catch up with a world economy that moves on quickly. That has been clearly shown by the collapse of the previously glamorous areas of telecommunications, media and technology stocks. However, European programmes are now underway, through Objective 1 and Objective 3—and shortly also through Objective 2. There are high hopes that they will deliver the transformation that we need in the economy of west Wales and the Valleys—areas that comprises 2 million of Wales’s 3 million population. We will continue to encourage and support their development. However, the answers are not easy or clear-cut: the debate over the national economic development strategy reflects the complexity of the issues. I am pleased to say that that strategy will be published before the end of the month.

Erbyn hyn yr ydym yn llai dibynnol ar yr hen ddiwydiannau hynny ac mewn gwell sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Fodd bynnag, bydd yn cymryd amser inni oresgyn sgîl-effeithiau cau gweithfeydd Corus ar ein cymunedau trefol a’r problemau yn yr ardaloedd amaethyddol yn ein cymunedau gwledig. Nid yw ffyniant a chyfleoedd wedi’u dosbarthu’n gyfartal o hyd yng Nghymru, ac yr ydym bob amser yn rhedeg ar ôl economi’r byd sydd yn symud yn ei blaen yn gyflym. Bu arwydd clir o hynny yng nghwymp stociau telathrebu, y cyfryngau a thechnoleg, a fu gynt yn feysydd cyffrous. Fodd bynnag, mae rhaglenni Ewropeaidd bellach ar droed, drwy Amcan 1 ac Amcan 3—a thrwy Amcan 2 hefyd cyn bo hir. Mae disgwyl mawr y byddant yn sicrhau’r trawsnewid sydd ei angen arnom yn economi gorllewin Cymru a’r Cymoedd—ardaloedd sydd yn cynnwys 2 filiwn o’r 3 miliwn o bobl sydd yn byw yng Nghymru. Byddwn yn parhau i hyrwyddo a chefnogi datblygiad y rhaglenni hynny. Fodd bynnag, nid oes atebion hawdd na syml: mae’r ddadl ar y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol yn adlewyrchu cymhlethdod y materion dan sylw. Mae’n dda gennyf ddweud y caiff y strategaeth honno ei chyhoeddi cyn diwedd y mis.

Wales enjoys a strong sense of community, but we are at risk of becoming jaundiced with our representative structures. We have provided local government with the means to reinvigorate itself and to reengage with people locally, through community plans. We also support the most needy communities through Communities First, tackling inequality and poverty directly, by working with local communities themselves, putting them in the driving seat, and empowering them to raise their communities out of poverty by their own bootstraps.

Mae ymdeimlad cryf o gymuned yng Nghymru, ond mae perygl inni ddiflasu ar ein strwythurau cynrychioliadol. Yr ydym wedi rhoi modd i lywodraeth leol ymadfywio a chysylltu o’r newydd â’r bobl leol, drwy gynlluniau cymuned. Yr ydym hefyd yn cefnogi’r cymunedau mwyaf anghenus drwy Rhoi Cymunedau’n Gyntaf, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi’n uniongyrchol, drwy gydweithio â’r cymunedau lleol eu hunain, drwy sicrhau mai hwy sydd wrth y llyw, a thrwy eu galluogi i godi eu cymunedau eu hunain o dlodi.

Our high-quality environment, our national parks and areas of outstanding natural beauty are some of our greatest assets, and we must cherish them. However, too many local areas have poor quality environments and our performance on environmental benchmarks, such as recycling, is still weak. We are now establishing the frameworks that will turn the Assembly’s unique legal duty to pursue sustainable development in all our work into a reality. Our proposals for waste, transport and planning will put us at the forefront of environmental policies, and make us an exemplar of good, sustainable practice.

Mae ein hamgylchedd o ansawdd uchel, ein parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn rhai o’n hasedau mwyaf, a rhaid inni ofalu amdanynt. Fodd bynnag, ceir amgylcheddau o ansawdd gwael mewn gormod o’n hardaloedd ac erys ein perfformiad o ran meincnodau amgylcheddol, megis ailgylchu, yn wan. Erbyn hyn yr ydym yn sefydlu’r fframweithiau a fydd yn gwireddu dyletswydd gyfreithiol unigryw’r Cynulliad i hybu datblygu cynaliadwy ym mhob agwedd ar ein gwaith. Bydd ein cynigion ar wastraff, trafnidiaeth a chynllunio yn ein rhoi ar y blaen o ran polisïau amgylcheddol, ac yn ein gwneud yn esiampl o arfer cynaliadwy da.

It has been a particularly bad time for rural areas. The collective and local misfortune of foot and mouth disease has led to personal tragedies and a general feeling of hopelessness in some communities. We believe that there is a strong future for our rural communities, but it will be based on new ways of working the land, and on other areas of activity. Our concerted programmes for organic conversion and environmental improvement, such as Tir Gofal and other schemes, coupled with our work on food strategies, shows the way forward for agriculture. That future will be based on high environmental quality and quality products, skilfully marketed, which will be set on a diverse economic base. Our produce will have a niche market, and will not try to compete with prairie agriculture on price and tonnage alone. We have also invested new funds in rural areas, through our rural recovery plan, to help them through these difficult times.

Bu’n gyfnod arbennig o wael i’r ardaloedd gwledig. Mae anffawd clwy’r traed a’r genau mewn ardaloedd penodol ac ar draws Cymru wedi arwain at drychinebau personol a theimlad o anobaith mewn rhai cymunedau. Credwn fod dyfodol cryf i’n cymunedau gwledig, ond y bydd hynny’n seiliedig ar ffyrdd newydd o amaethu ac ar feysydd eraill o weithgarwch. Mae ein rhaglenni ar y cyd ar gyfer troi’n organig a gwella amgylcheddol, megis Tir Gofal a chynlluniau eraill, ynghyd â’n gwaith ar strategaethau bwyd, yn dangos y ffordd ymlaen i’r byd amaeth. Bydd y dyfodol hwnnw yn seiliedig ar amgylchedd o ansawdd da a chynnyrch o safon, sydd wedi eu marchnata’n ddeheuig, a fydd wedi’u seilio ar sylfaen economaidd amrywiol. Bydd gan ein cynnyrch farchnad ddethol, ac ni fydd yn ceisio cystadlu ag amaethu ar raddfa fawr o ran pris a maint yn unig. Yr ydym hefyd wedi buddsoddi arian newydd yn yr ardaloedd gwledig, drwy ein cynllun adfer gwledig, er mwyn eu helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

My partnership Government’s creation of a specific culture portfolio has allowed us an added focus on this important matter. Many good agencies working in sports and the arts, and many good, creative people work in the cultural industries in Wales. However, too often the work has failed to have maximum impact because the right connections were not made. Therefore, a new cultural consortium, Cymru’n Creu, is giving this work a new focus. Soon we will have Wales’s first comprehensive cultural strategy to give added direction to this process.

Bu’r portffolio penodol ar ddiwylliant a grëwyd gan fy Llywodraeth bartneriaeth yn fodd inni ganolbwyntio’n well ar y maes pwysig hwn. Mae llawer o asiantaethau da yn gweithio ym maes chwaraeon a’r celfyddydau, ac mae llawer o bobl dda, greadigol yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw’r gwaith wedi llwyddo i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl am na wnaethpwyd y cysylltiadau cywir. Felly, mae’r consortiwm diwylliannol newydd, Cymru’n Creu, yn rhoi ffocws newydd i’r gwaith hwn. Cyn bo hir byddwn wedi llunio strategaeth ddiwylliannol gynhwysfawr gyntaf Cymru i roi mwy o gyfeiriad i’r broses hon.

I have always believed in the need for openness and involvement in the work of government at all levels. I am proud that we now lead the way in Britain, and are up with the Scandinavian countries on freedom of information and in using modern techniques to engage all sectors of society in our programmes through forming formal partnerships, increasing involvement in developing ideas, and open consultation.

Yr wyf wedi credu erioed bod angen i waith llywodraeth ar bob lefel fod yn agored ac yn gynhwysol. Yr wyf yn falch ein bod erbyn hyn ar y blaen ym Mhrydain, ac yn cystadlu â gwledydd Llychlyn o ran rhyddid gwybodaeth a defnyddio dulliau cyfoes o gynnwys pob rhan o’n cymdeithas yn ein rhaglenni drwy lunio partneriaethau ffurfiol, drwy annog pobl i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu syniadau, a thrwy ymgynghori’n agored.

Last year was often difficult for Wales. We have faced an unprecedented series of crises since last autumn: flooding, the fuel crisis, the crisis at Corus, and the foot and mouth disease outbreak affected almost everyone in Wales in some way. Now, however, we are fortunate in being able to pull together when things go wrong. I pay tribute to all the staff, not only Assembly civil servants, but UK civil servants from the Department for Environment, Food and Rural Affairs and other departments, the Environment Agency, the army and the police, who worked tirelessly in the foot and mouth disease crisis centre in Cathays Park. They were a credit to the public service ethic throughout Britain.

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i Gymru ar sawl achlysur. Yr ydym wedi wynebu cyfres o argyfyngau ers yr hydref diwethaf nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen: effeithiwyd ar bron pawb yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu’i gilydd gan y llifogydd, yr argyfwng tanwydd, argyfwng Corus, a chlwy’r traed a’r genau. Erbyn hyn, fodd bynnag, yr ydym yn ffodus ein bod yn gallu bod yn gefn i’n gilydd pan fydd pethau’n mynd o chwith. Talaf deyrnged i’r holl staff, nid yn unig gweision sifil y Cynulliad, ond gweision sifil y DU o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac adrannau eraill, Asiantaeth yr Amgylchedd, y fyddin a’r heddlu a weithiai’n ddiflino yng nghanolfan argyfwng clwy’r traed a’r genau ym Mharc Cathays. Daethant â chlod i etheg gwasanaeth cyhoeddus ledled Prydain.

We now need to look ahead to what the future holds for the Assembly and Wales. We discussed today how the terrorist atrocities that hit the USA have affected us all, and will continue to do so, in the economy, in tourism and in other ways. We must ensure that we work to support the Welsh economy through the difficult times ahead. Above all, we must maintain the tolerance and openness that have been part of the civic and political culture of Wales for so long.

Erbyn hyn mae angen inni edrych ymlaen at ddyfodol y Cynulliad a Chymru. Trafodasom heddiw sut y mae’r erchyllterau terfysgol yn UDA wedi effeithio ar bob un ohonom, a byddant yn parhau i wneud hynny, o ran yr economi, twristiaeth ac mewn ffyrdd eraill. Rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio i gefnogi economi Cymru drwy’r cyfnod anodd sydd o’n blaen. Yn anad dim, rhaid inni barhau i weithredu yn y modd goddefgar ac agored hwnnw a fu’n rhan o ddiwylliant dinesig a gwleidyddol Cymru ers cymaint o amser.

I began by saying that I want a more confident Wales. In the way in which it has conducted itself, this Assembly and the administration that has led it, have, over the past six months, shown that we can stand on our own two feet politically and rise to the challenges that confront us. I look forward to putting our radical agenda into action for the benefit of everyone in Wales.

Dechreuais drwy ddweud fy mod am weld Cymru fwy hyderus. Yn y ffordd y mae wedi ymddwyn, mae’r Cynulliad hwn a’r weinyddiaeth sydd wedi ei arwain wedi dangos yn ystod y chwe mis diwethaf ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain yn wleidyddol a wynebu’r heriau a ddaw i’n rhan. Edrychaf ymlaen at roi ein hagenda radical ar waith er budd pawb yng Nghymru.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 50

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 50

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Jocelyn Davies. Gwelliant 1: dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn ei le.

I propose the following amendments in the name of Jocelyn Davies. Amendment 1: delete ‘welcomes’ and replace with ‘notes’.

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 50

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh p. 50

Cynigiaf welliant 2. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 2. Add at the end of the motion:

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 50

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh p. 50

Ar ran Plaid Cymru, yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i ymateb i adroddiad y Prif Weinidog ar flwyddyn gyntaf Llywodraeth y glymblaid, er nad oedd y glymblaid yn bodoli am ran o’r cyfnod.

On behalf of Plaid Cymru, I am grateful for the opportunity to respond to the First Minister’s report on the coalition Government’s first year, although the coalition did not exist for part of that time.

Canolbwyntiaf ar ychydig o sylwadau am yr hyn yr honnai’r glymblaid y byddai yn ei gyflawni ar ran pobl Cymru. Pan ymatebais i raglen y glymblaid, nodais bod diffyg gweledigaeth ynddi. Nid oedd unrhyw fflach ynddi hi. Er bod nifer o faterion y gallwn gytuno â hwy wedi eu cynnwys, nid oedd fawr o sylwedd yn y rhaglen.

I will concentrate on a few comments concerning what the coalition claimed that it would achieve on behalf of the people of Wales. When I responded to the coalition’s programme, I noted that it lacked vision. There was no spark to it. Although it included several matters on which we could agree, the programme lacked substance.

Yn naturiol, mae’r diffygion hyn yn amlwg yn awr wrth inni ystyried hynt y glymblaid dros ei blwyddyn gyntaf. Rhaid cydnabod fy mod wedi lledwenu wrth ddarllen rai o sylwadau agoriadol yr adroddiad. Fel y dywed Rhodri yn ei gyflwyniad,

Naturally, these deficiencies are now obvious as we consider the coalition’s performance during its first year. I acknowledge that I smiled when I read some of the report’s opening remarks. As Rhodri stated in his introduction,

‘Hyd at fis Hydref y llynedd, bu fy Nghabinet yn gweithredu heb fwyafrif y Cynulliad tu cefn iddo’.

‘Up to last October my Cabinet operated without a majority of the Assembly behind it’.

Mae hynny yn gywir. Â ymlaen i ddweud,

That is true. He goes on to say,

‘a chyflawnodd lawer.’

‘and achieved much.’

Fodd bynnag, nid oes rhestr o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Y gwir oedd bod Rhodri yn gobeithio y byddai’n gallu ffurfio clymblaid ar gyfer cyfnod yr hydref.

However, there is no list of what was achieved during that period. The truth was that Rhodri hoped that he could form a coalition for the autumn.

Cynhwyswyd materion y gallwn gytuno â hwy, sef hawl i bresgripsiwn am ddim i nifer cyfyngedig o bobl, a chymorth i dalu am wasanaethau deintyddol. Er hynny, ar faterion eraill, synnaf mai’r glymblaid sydd yn hawlio’r clod. Yn gyntaf, o ran y comisiynydd plant, mae’n wir mai o dan y Llywodraeth hon y gwnaethpwyd y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, rhaid derbyn bod pob plaid yn y Cynulliad wedi cytuno ar sefydlu comisiynydd plant, a daeth llawer o’r syniadau ynghylch ei bwerau o bob plaid. Buasai’n braf pe bai’r glymblaid wedi cydnabod hynny.

Issues on which we can agree are included, namely the right to free prescriptions for a limited number of people, and assistance with dental charges. However, I am surprised that the coalition takes credit for other matters. First, as regards the children’s commissioner, it is true that the legislation was enacted under this Government. However, we must accept that all Assembly parties were in favour of establishing a children’s commissioner, and many ideas relating to his powers came from all parties. It would have been nice if the coalition had acknowledged that.

Yn ail—ac mae’n anodd credu bod y glymblaid yn hawlio’r fuddugoliaeth hon—mae’n datgan mai’r glymblaid a berswadiodd y Trysorlys i roi’r arian a dderbyniwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gwyddom mai fformiwla Barnett sydd yn gweithredu yn y mater hwn. Nid oes lle i unrhyw lywodraeth negodi ar fater lle mae fformiwla Barnett yn gweithredu. Dylid bod wedi derbyn mai fformiwla Barnett oedd yn gyfrifol am y rhan helaethaf o’r arian ychwanegol a ddaeth drwy’r adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Secondly—and it is difficult to believe that the coalition is claiming this as a victory—it states that the coalition persuaded the Treasury to give the money received in the comprehensive spending review. We know that the Barnett formula determines these funds. No government has room to negotiate on a matter where the Barnett formula operates. You should have acknowledged that the Barnett formula was responsible for most of the additional money that came through the comprehensive spending review.

Mae’r glymblaid hefyd yn hawlio’r clod am y ffaith ein bod wedi gallu sicrhau arian gan Ewrop. Yr oedd gan y Cynulliad a phobl Cymru yr hawl i’r arian hwnnw o’r dechrau. Rhaid cydnabod mai dim ond peth o’r arian sydd wedi ein cyrraedd.

The coalition also takes credit for our managing to secure money from Europe. The Assembly and the people of Wales had a right to that money from the outset. We must acknowledge that only some of that money has reached us.

Hawlia’r glymblaid y clod am sefydlu ELWa, heb air o werthfawrogiad o waith y Pwyllgor Addysg Ôl-16 nac o gadeiryddiaeth Cynog Dafis.

The coalition takes credit for establishing ELWa, without a word of appreciation of the work of the Post-16 Education Committee, nor of Cynog Dafis’s chairmanship.

Rhaid inni dderbyn bod pleidiau eraill wedi cyfrannu tuag at ambell beth y mae hyd yn oed y glymblaid yn cydnabod eu bod yn werth chweil.

We must accept that other parties contributed towards some matters that even the coalition acknowledges are worthwhile.

Mae cymryd y clod am fod cynllun Amcan 1 yn gweithredu fel y dylai yn gyfeiliornus. A yw Rhodri yn siarad yn aml gyda’r bobl sydd yn gwneud ceisiadau am arian Amcan 1? A yw’n siarad gyda phobl fusnes? A yw’n siarad gyda’r partneriaethau lleol am Amcan 1? Pe bai’n gwneud hynny’n rheolaidd, hyderaf y byddai’n gweld darlun tra gwahanol.

Taking credit for the Objective 1 scheme working as it should is despicable. Does Rhodri talk regularly to the people who are applying for Objective 1 funding? Does he talk to business people? Does he talk to the local partnerships about Objective 1? I am sure that if he did that regularly, he would see quite a different picture.

Brian Gibbons spoken in English p. 52

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 52

In view of what Ieuan has said, would he say that this is a good example of inclusive government by the partnership, because we are willing to work with his party on the basis that he has outlined? On structural funds, what other part of the United Kingdom has received match funding for the Objective 1 programme?

Yng ngoleuni’r hyn a ddywedodd Ieuan, a ddywedai fod hon yn enghraifft dda o lywodraeth gynhwysol drwy’r bartneriaeth, gan ein bod yn barod i gydweithio â’i blaid ar y sail a nodwyd ganddo? O ran yr arian strwythurol, pa ran arall o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael arian cyfatebol ar gyfer rhaglen Amcan 1?

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 52

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 52

It would have been nice if the annual report had acknowledged that other parties were making a valuable contribution. I am complaining not that that was not part of the process but that it was not acknowledged in the annual report. You would agree that we should have received the whole of our European structural fund entitlement from day one, when the Assembly was established, and not have had to go through the rigmarole of votes of no confidence, which eventually delivered the money for Wales.

Byddai wedi bod yn ddymunol pe bai’r adroddiad blynyddol wedi cydnabod bod pleidiau eraill yn gwneud cyfraniad gwerthfawr. Nid cwyno ydwyf na fu hynny’n rhan o’r broses ond yn hytrach na chafodd hynny ei gydnabod yn yr adroddiad blynyddol. Cytunech y dylem fod wedi cael yr holl arian strwythurol Ewropeaidd yr oedd gennym hawl iddo o’r cychwyn, pan sefydlwyd y Cynulliad, yn hytrach na gorfod mynd drwy’r lol o gynnal pleidleisiau diffyg hyder, a sicrhaodd yr arian i Gymru yn y pen draw.

The programme pursued by the Government during the last year was limp and lacklustre. It lacks what I would describe as big ideas for Wales. It is hardly surprising that the people of Wales are not excited by the National Assembly Government: it lacks vision, a sense of direction and purpose. When Rhodri was answering questions about the statement, I asked him whether the programme demonstrates yet again that if the Assembly is to deliver for the people of Wales, it needs the powers to do so. It is now essential that the kind of consensus expressed by Brian Gibbons is supported by the people of Wales to turn the Assembly into a proper parliament. We could then begin to deliver real progress on behalf of the people of Wales. The Assembly’s powers are too weak to deliver properly; they lack clarity and they do not allow us to implement significant change even when there is a clear majority for it. We cannot deliver meaningful change unless there is a consensus to change the powers of this establishment.

Bu rhaglen y Llywodraeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn llipa a di-fflach. Nid yw’n cynnwys yr hyn a ddisgrifiwn fel syniadau mawr i Gymru. Nid oes ryfedd nad yw pobl Cymru wedi eu cyffroi gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol: nid oes ganddi weledigaeth, cyfeiriad na phenderfyniad. Pan oedd Rhodri yn ateb cwestiynau ar y datganiad, gofynnais iddo onid oedd y rhaglen yn dangos unwaith eto bod angen i’r Cynulliad, er mwyn iddo gyflawni dros bobl Cymru, gael y pwerau i wneud hynny. Mae’n hanfodol bellach bod y math o gonsensws a fynegwyd gan Brian Gibbons yn cael ei gefnogi gan bobl Cymru i droi’r Cynulliad yn senedd go iawn. Yna gallem ddechrau gwneud cynnydd gwirioneddol ar ran pobl Cymru. Mae pwerau’r Cynulliad yn rhy wan i gyflawni o ddifrif; nid ydynt yn ddigon clir ac nid ydynt yn ein galluogi i wneud newidiadau sylweddol hyd yn oed pan fo mwyafrif o’r Aelodau o blaid hynny. Ni allwn wneud newidiadau ystyrlon oni fydd consensws i newid pwerau’r sefydliad hwn.

Peter Law spoken in English p. 53

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 53

First, I welcome my colleague Val Lloyd. I will be pleased to work with her in future; I wish her every success and congratulate her. At present, I need all the help that I can get from any nurse; she is a great nurse, so I am pleased that she is sitting next to me, although I can think of other people who might have been put there if anyone had the choice.

Yn gyntaf, croesawaf fy nghyd-Aelod Val Lloyd. Bydd yn bleser gennyf gydweithio â hi yn y dyfodol; hoffwn ei llongyfarch a dymuno pob llwyddiant iddi. Ar hyn o bryd, mae angen pob cymorth posibl arnaf gan unrhyw nyrs; mae’n nyrs wych, felly yr wyf yn falch ei bod yn eistedd wrth fy ochr, er y gallaf feddwl am eraill y gellid bod wedi eu rhoi yno pe bai dewis gan bobl.

I congratulate the First Minister on the report, which has been produced by a Labour-led Government, but contains a major contribution by the previous Labour Government. I listened to the leader of the opposition asking, ‘Where is the recognition?’ I wonder whether four Ministers who presided over the first six months of the relevant period might have been mentioned—they are not. I am not worried for myself—I am a big boy; I come from the Baptist Kush, and up there we are able to work in a northern alliance.

Llongyfarchaf y Prif Weinidog ar yr adroddiad, a luniwyd gan Lywodraeth o dan arweiniad Llafur, ond sydd yn cynnwys cyfraniad pwysig gan y Llywodraeth Lafur flaenorol. Gwrandewais ar arweinydd y wrthblaid yn gofyn, ‘Ble mae’r gydnabyddiaeth?’ Tybed a gafodd pedwar o’r Gweinidogion a oedd mewn swydd yn ystod y chwe mis cyntaf o’r cyfnod perthnasol eu crybwyll—nis crybwyllwyd. Nid wyf yn gofidio drosof fy hun—yr wyf yn ddigon dewr; yr wyf yn hanu o garfan y Bedyddwyr, ac yn y rhan honno yr ydym yn gallu cydweithio mewn cynghrair ogleddol.

Alun Cairns spoken in English p. 53

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 53

I was interested to hear Peter Law’s comment about the support that the administration had received. What proportion of support would he ascribe to the Liberal Democrats for the document?

Yr oedd yn ddiddorol gwrando ar sylwadau Peter Law ynglŷn â’r gefnogaeth a gafodd y weinyddiaeth. Pa gyfran o’r gefnogaeth honno y byddai’n ei phriodoli i’r Democratiaid Rhyddfrydol o ran y ddogfen?

Peter Law spoken in English p. 53

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 53

I am pleased to give the Liberal Democrats a little support to try to ease them out of the door as fast as possible—I was coming to that.

Mae’n dda gennyf roi rhyw ychydig o gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol a hynny er mwyn eu hebrwng drwy’r drws mor gyflym â phosibl—yr oeddwn ar fin sôn am hynny.

I compliment the First Minister on his positive leadership of this Labour-led administration. He has positively presented the positive policies of this administration, and he has done so for the good of the Welsh people. I congratulate him on his personal style. He is a great asset to the Labour Party. I was pleased to have the opportunity to work with him for six months of the period covered by the report and saw at first hand the dedication and sincerity that he brings to his work.

Rhoddaf glod i’r Prif Weinidog am ei arweinyddiaeth gadarnhaol o’r weinyddiaeth hon dan arweiniad Llafur. Cyflwynodd bolisïau cadarnhaol y weinyddiaeth hon mewn ffordd gadarnhaol, a hynny er budd pobl Cymru. Fe’i llongyfarchaf ar ei arddull bersonol. Mae’n gaffaeliad mawr i’r Blaid Lafur. Yr oeddwn yn falch o gael y cyfle i gydweithio ag ef am chwe mis o’r cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad a gwelais drosof fy hun ei ymroddiad a’i ddidwylledd tuag at ei waith.

His work has been even more impressive when we consider that he has had to carry with him a bunch of cheapskates and opportunists. I do not want to be personal about any cheapskates outside by making that comparison, so perhaps I will withdraw it, but I am talking about the Liberal Democrats. He has had to put up with them since October 2000. We have a Government led by Labour with a couple of what we here call hobbledehoys or add-ons.

Bu ei waith yn fwy clodwiw byth o ystyried y baich oedd arno, sef cynnal criw o gybyddion sydd yn llygadu pob cyfle. Nid wyf am wneud sylwadau personol am unrhyw gnafon y tu allan drwy dynnu’r gymhariaeth honno, felly efallai y’u tynnaf yn ôl, ond sôn am y Democratiaid Rhyddfrydol ydwyf. Bu rhaid iddo eu goddef ers mis Hydref 2000. Mae gennym Lywodraeth o dan arweiniad Llafur ynghyd â dau hurtyn neu ddau ychwanegiad, fel y’u galwem yma.

The First Minister and his administration have worked many policies through, but, in many cases, those policies were put in place by the previous Labour administration. Ironically, if you consider the detail, there is nothing in this report that would not have been passed by the Assembly without the Liberal Democrats. It would not have been a problem, with the exception of the sop to the Liberal Democrats of proportional representation and the electoral commission. Since last October, Rhodri has worked with two Liberal Democrat Ministers, including Houdini German who disappeared on 5 July. It is interesting that we have a reference to that in this report, which states that he ‘stepped down, temporarily’. Other people were not mentioned but that, I noticed, was included. There is only one Liberal Democrat Cabinet member left, so the trend is in the right direction. I am pleased to see that.

Mae Prif Weinidog Cymru a’i weinyddiaeth wedi rhoi llawer o bolisïau ar waith, ond, mewn sawl achos, sefydlwyd y polisïau hynny gan y weinyddiaeth Lafur flaenorol. Mae’n eironig, o ystyried pa mor fanwl yw’r adroddiad, nad oes dim yn yr adroddiad hwn na fyddai wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad heb y Democratiaid Rhyddfrydol. Ni fyddai wedi bod yn broblem, ac eithrio cynrychiolaeth gyfrannol a’r comisiwn etholiadol a gyflwynwyd i roi taw ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Ers mis Hydref diwethaf, bu Rhodri yn gweithio â dau Weinidog o’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn cynnwys Houdini German a ddiflannodd ar 5 Gorffennaf. Mae’n ddiddorol bod yr adroddiad hwn yn cyfeirio at hynny, ac yn nodi y ‘rhoddodd y gorau i’r swydd, dros dro’. Sylwaf y bu sôn am hynny er na fu sôn am bobl eraill. Dim ond un aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd ar ôl yn y Cabinet, felly yr ydym yn mynd i’r cyfeiriad iawn. Mae’n dda gennyf weld hynny.

I do not want to take away from what has been achieved by this Labour-led administration. Despite a year of this part-time limited-value involvement by the Liberal Democrats, the people of Wales welcome the commitment to openness, transparency and partnership that has been established during the period of this report. It has been a beacon of good government. The First Minister has been tackling social deprivation and inequality positively and, coming from an area such as mine, I appreciate that. However, there is no room for complacency. In a place such as Blaenau Gwent, which still has the highest unemployment, the worst health statistics, terrible inequality and lack of access to services, there is much work to do. I will work to support the First Minister in anything he can do to deal with those issues positively in the future. A Labour-led administration is the answer to the problems. I look forward to the day when we will be able to drop the add-ons and carry on, as a Labour Party, the good work that Rhodri Morgan is undertaking.

Nid wyf am fychanu’r hyn a gyflawnodd y weinyddiaeth hon o dan arweiniad Llafur. Er gwaethaf blwyddyn o gyfranogiad rhan amser di-werth braidd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mae pobl Cymru yn croesawu’r ymrwymiad i lywodraeth agored, dryloyw a phartneriaeth sydd wedi ymsefydlu yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn. Bu’n esiampl wych o lywodraeth dda. Aeth y Prif Weinidog i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol ac anghydraddoldeb mewn modd cadarnhaol a, chan ystyried yr ardal a gynrychiolaf, gwerthfawrogaf hynny. Fodd bynnag, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Mewn lle megis Blaenau Gwent, sydd yn parhau i ddioddef y diweithdra uchaf, yr ystadegau iechyd gwaethaf, anghydraddoldeb mawr ac anhawster wrth gael mynediad i wasanaethau, mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Byddaf yn cefnogi’r Prif Weinidog ym mhob peth y gall ei wneud i ymdrin â’r materion hynny yn gadarnhaol yn y dyfodol. Gweinyddiaeth o dan arweiniad Llafur fydd yn ateb y problemau. Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd modd inni gael gwared ar yr ychwanegiadau ac, fel Plaid Lafur, parhau â’r gwaith da y mae Rhodri Morgan yn ei wneud.

Nick Bourne spoken in English p. 55

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 55

First, on behalf of the Welsh Conservatives, I welcome Val Lloyd. I hope that she will be happy here. We are also pleased to see Peter Law recovering from his hip surgery. I do not know what it has done for his hip, but it seems to have done marvels for his contributions here. That speech was vintage Peter Law. We enjoyed it more than the Liberal Democrats and probably more than many Labour Party Members.

Yn gyntaf, ar ran Ceidwadwyr Cymru, croesawaf Val Lloyd. Gobeithiaf y bydd yn hapus yma. Yr ydym hefyd yn falch o weld bod Peter Law yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth i’w glun. Ni wn pa les a gafodd ei glun, ond ymddengys ei bod wedi gwneud gwyrthiau o ran ei gyfraniadau yma. Dangosodd yr araith honno Peter Law ar ei orau. Gwnaethom ei mwynhau’n fwy na’r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn fwy na thebyg, yn fwy na llawer o Aelodau’r Blaid Lafur.

I do not know how much it cost to produce ‘Delivering for Wales’. It was posted late but, nevertheless, civil servants have been working on this―

Ni wn faint y costiodd i gynhyrchu ‘Cyflawni dros Gymru’. Fe’i cyhoeddwyd yn hwyr, ond, eto i gyd, mae gweision sifil wedi bod yn gweithio ar hyn—

Alun Cairns spoken in English p. 55

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 55

Do you think that the document was posted late in case there was a new appointment to the economic development ministerial portfolio and a new photograph needed to be copied and pasted into it?

A gredwch i’r ddogfen gael ei chyhoeddi yn hwyr rhag ofn bod penodiad newydd i’r portffolio gweinidogol dros ddatblygu economaidd a bod angen gosod llun newydd ynddi?

Nick Bourne spoken in English p. 55

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 55

I could not comment on that, although I know that the report refers to Houdini German’s―as he has been called―temporary disappearance. The report is pure propaganda. You could have done better than this, Rhodri. I do not know how much it cost, but it is not even decent, marketable propaganda. Taxpayers’ money has been spent on a document that, essentially, is a piece of Labour Party propaganda with the two add-ons mentioned here and there.

Ni wn am hynny, ond gwn fod yr adroddiad yn cyfeirio at ddiflaniad dros dro Houdini German—fel y’i galwyd. Mae’r adroddiad yn bropaganda bur. Gallech fod wedi gwneud yn well na hyn, Rhodri. Ni wn faint o arian y costiodd, ond nid yw hyd yn oed yn bropaganda dda, farchnatadwy. Gwariwyd arian trethdalwyr ar ddogfen sydd, yn y bôn, yn ddarn o bropaganda ar ran y Blaid Lafur gydag ambell gyfeiriad at y ddau ychwanegiad yma a thraw.

The difficulty with this document is what it omits. There have been successes in the National Assembly. References have been made to some of them: a ministry for culture and the Children’s Commissioner for Wales, for which there was all-party support. However, what about the failures? What about the matters that are not mentioned? The education section of the document mentions that class sizes for five, six and seven-year-olds have decreased. However, the fact that class sizes for secondary schools have increased is not mentioned.

Y broblem o ran y ddogfen hon yw’r hyn y mae’n ei hepgor. Cafwyd llwyddiannau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at rai ohonynt: gweinidog dros ddiwylliant a Chomisiynydd Plant Cymru, a gefnogwyd gan bob plaid. Fodd bynnag, beth am y methiannau? Beth am y materion nas crybwyllwyd? Mae’r adran ar addysg yn y ddogfen yn nodi bod maint dosbarthiadau i blant pump, chwe a saith oed wedi lleihau. Fodd bynnag, nid oes sôn am y ffaith bod dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd wedi cynyddu.

The section on health briefly mentions the inpatient waiting lists. However, there is no reference to the outpatient waiting lists. Is this because it has increased by 800 per cent since 1997 or is it for some other reason? The ambulance service in Wales is not mentioned. Despite the professionalism of those working in the sector, it is not delivering, and is not as effective as the service in England, let alone that in some European countries.

Mae’r adran ar iechyd yn cyfeirio’n fyr at restrau aros ar gyfer cleifion mewnol. Fodd bynnag, nid oes yr un cyfeiriad at restrau aros ar gyfer cleifion allanol. Ai’r rheswm am hynny yw eu bod wedi cynyddu 800 y cant ers 1997 neu a oes rheswm arall? Ni chyfeiriwyd at y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Er gwaethaf proffesiynoldeb y rhai sydd yn gweithio yn y sector, nid yw’n cyrraedd y nod, ac nid yw mor effeithiol â’r gwasanaeth yn Lloegr, heb sôn am wledydd eraill yn Ewrop.

On economic development, there is no explanation of why Objective 1 is not working effectively. We know that it is not working, that it is underfunded and over-administered.

O ran datblygu economaidd, nid oes esboniad pam nad yw Amcan 1 yn gweithio’n effeithiol. Gwyddom nad yw’n gweithio, nad yw wedi’i ariannu’n ddigonol a’i fod wedi ei weinyddu’n ormodol.

Michael German spoken in English p. 56

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 56

How do you know?

Sut y gwyddoch hynny?

Nick Bourne spoken in English p. 56

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 56

We know because you were in charge of it for a while. We know that the private sector has not been engaged properly. If you have forgotten since being out of office, Mike, then so be it.

Gwyddom hynny am mai chi a oedd yn gyfrifol amdano am gyfnod. Gwyddom nad yw’r sector preifat wedi ei gynnwys o ddifrif. Os ydych wedi anghofio hynny ers ymddiswyddo dros dro, Mike, felly y bo.

There is also no mention of the bonfire of quangos, to which I referred earlier. That was a central plank of this administration’s manifesto when it came to power, yet we know that it has not happened.

Nid oes sôn ychwaith am goelcerth y cwangos, y cyfeiriais ati yn gynharach. Yr oedd hynny’n elfen ganolog o faniffesto’r weinyddiaeth hon pan ddaeth i rym, ac eto gwyddom nad yw wedi digwydd.

Christine Chapman spoken in English p. 57

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 57

If you say that Objective 1 is not working, how can you account for the fact that money has been committed to 340 projects? The sum of £220 million has been committed. However, let us not just talk about the money. Let us consider the projects. I have travelled around Wales over the summer looking at some of these projects. If you think Objective 1 is not working, what about all the activities that are happening on the ground? If the private sector is not engaged, how come it is working within the partnerships? Many private sector companies are now benefiting from Objective 1.

Os dywedwch nad yw Amcan 1 yn gweithio, sut y rhowch gyfrif am y ffaith bod arian wedi ei ddyrannu i 340 o brosiectau? Dyrannwyd £220 miliwn. Fodd bynnag, waeth inni beidio â sôn am arian yn unig. Gadewch inni ystyried y prosiectau. Bûm yn teithio o amgylch Cymru dros yr haf yn edrych ar rai o’r prosiectau hyn. Os credwch nad yw Amcan 1 yn gweithio, beth am yr holl weithgareddau sydd yn digwydd ar lawr gwlad? Os nad yw’r sector preifat wedi ei gynnwys, pam felly y mae’n gweithio o fewn y partneriaethau? Mae llawer o gwmnïau yn y sector preifat yn elwa ar Amcan 1 erbyn hyn.

Nick Bourne spoken in English p. 57

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 57

Let me respond to those points in the order in which you made them. First, you talk about committed projects. That is different from money being spent, as you know. Secondly, I, like you, travel around Wales a lot. I represent a constituency, most of which is in an Objective 1 area. I meet people in the public and private sectors who are deeply frustrated about the fact that Objective 1 is not delivering. You only need to listen to your former Secretary of State for Wales, Ron Davies, to know that it is not working as effectively as it should. We need rapid economic growth, outstripping that of Singapore and Hong Kong, if we are to reach the levels of investment in Objective 1 areas that your administration mentions. If you do not want to listen to me, Christine, then listen to Ron Davies, because he is also saying this.

Gadewch imi ymateb i’r pwyntiau hynny yn y drefn y’u gwnaethoch. Yn gyntaf, bu ichi sôn am brosiectau yr ymrwymwyd arian iddynt. Mae hynny’n wahanol i arian a wariwyd, fel y gwyddoch. Yn ail, yr wyf finnau, fel chithau yn teithio o amgylch Cymru cryn dipyn. Yr wyf yn cynrychioli etholaeth y mae’r rhan fwyaf ohoni yn ardal Amcan 1. Yr wyf yn cyfarfod â phobl yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sydd yn teimlo’n rhwystredig dros ben am nad yw Amcan 1 y cyrraedd y nod. Nid oes angen ond gwrando ar eich cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, i wybod nad yw’n gweithio mor effeithiol ag y dylai. Mae angen twf economaidd cyflym arnom, yn gyflymach na’r hyn a geir yn Singapore a Hong Kong, er mwyn gwneud y fath fuddsoddiad yn ardaloedd Amcan 1 ag y mae’ch gweinyddiaeth chi yn sôn amdano. Os nad ydych am wrando arnaf fi, Christine, gwrandewch ar Ron Davies, am ei fod yntau’n dweud hyn hefyd.

Returning to this report, there are sins of omission in this document—

Gan droi yn ôl at yr adroddiad hwn, mae pethau sydd wedi eu hepgor yn y ddogfen hon—

Peter Rogers spoken in English p. 57

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 57

Your last point was similar to the question that I raised in First Minister’s question time today about Objective 1 in our regional constituency. The organisation I mentioned has had to discontinue its service until the middle of December, when it will have caught up on the paperwork. That will affect the skills for employment project in that area. It shows that there is too much emphasis on bureaucracy and paperwork. It is bringing the whole Objective 1 project to a standstill.

Yr oedd eich pwynt olaf yn debyg i’r cwestiwn a ofynnais yn sesiwn holi ac ateb y Prif Weinidog heddiw ynglŷn ag Amcan 1 yn ein hetholaeth ranbarthol. Bu’n rhaid i’r sefydliad a grybwyllais dynnu ei wasanaeth yn ôl tan ganol mis Rhagfyr, pan fydd wedi dod i ben â’r gwaith papur sydd wedi pentyrru. Bydd hyn yn amharu ar y prosiect sgiliau cyflogaeth yn yr ardal honno. Dengys fod gormod o bwyslais ar fiwrocratiaeth a gwaith papur. Mae’r prosiect Amcan 1 ar stop o’r herwydd.

Nick Bourne spoken in English p. 58

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 58

That underlines the difficulty with this document, because it does not consider the challenges. It mentions some successes, and I accept that there have been some, but what about the challenges? What about the fact that secondary school class sizes are increasing? What about the fact that waiting lists for outpatients are 800 per cent worse than they were when this Labour Government came to power? What about the fact that Objective 1 is not working? What about the fact that the quango state still exists? We now call it the Assembly sponsored public body state, but it is exactly the same.

Mae hynny’n tanlinellu’r broblem o ran y ddogfen hon, oherwydd nad yw’n ystyried yr heriau. Mae’n crybwyll ambell lwyddiant, ac yr wyf yn derbyn inni gael ambell un, ond beth am yr heriau? Beth am y ffaith bod maint dosbarthiadau ysgol uwchradd yn mynd yn fwy? Beth am y ffaith bod y rhestrau aros ar gyfer cleifion allanol 800 y cant yn waeth nag yr oeddent pan ddaeth y Llywodraeth Lafur hon i rym? Beth am y ffaith nad yw Amcan 1 yn gweithio? Beth am y ffaith bod trefn y cwangos yn dal i fodoli? Trefn y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yr ydym yn ei galw erbyn hyn, ond yr un un peth ydyw.

There is also no mention of what has taken a lot of the budget and debate in this Chamber over the last year, namely the new Assembly building. The document is called ‘Delivering for Wales’, yet there is no mention of an issue discussed by people up and down Wales, who ask ‘Why the hell do you need a new Assembly building?’ When you explain to them that it is not really a new building, that we will stay in our offices and that an extension or lean-to next door will cost £40 million plus or whatever the latest estimate is, they become even more incensed. There is no mention of that at all in this document. Therefore, this document is rather unreal. My real objection is that civil servants have produced this report and it is simply Labour Party propaganda with a bit of Lib democracy thrown in. If anything makes Labour propaganda worse, it is having a bit of Lib democracy thrown in. We are not happy with this and we will not vote in favour of such documents and costliness. This is at great cost to the public purse. We would rather that the money be spent on public services.

Nid oes sôn ychwaith am yr hyn sydd wedi mynd â rhan helaeth o’r gyllideb a’r amser dadlau yn y Siambr hon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef adeilad newydd y Cynulliad. Teitl y ddogfen yw ‘Cyflawni dros Gymru’, ac eto nid oes sôn am fater a drafodir gan bobl ym mhob cwr o Gymru, sydd yn gofyn ‘Pam ddiawl y mae angen adeilad newydd arnoch yn y Cynulliad? Pan fyddwch yn egluro iddynt nad adeilad newydd ydyw mewn gwirionedd, ac y byddwn yn aros yn ein swyddfeydd ac y bydd yr estyniad neu’r penty y drws nesaf yn costio dros £40 miliwn neu beth bynnag fo’r amcangyfrif diwethaf, maent yn gwylltio’n fwy byth. Nid oes sôn am hynny o gwbl yn y ddogfen hon. Felly, mae’r ddogfen hon yn afreal braidd. Fy ngwir wrthwynebiad yw mai gweision sifil sydd wedi llunio’r adroddiad hwn, adroddiad sy’n bropaganda Llafur pur ynghyd â rhyw fymryn o ddemocratiaeth ryddfrydol. Os oes unrhyw beth yn waeth na phropaganda Lafur, propaganda Lafur a rhyw fymryn o ddemocratiaeth ryddfrydol yw hynny. Nid ydym yn fodlon ar hyn ac ni fyddwn yn pleidleisio o blaid dogfennau o’r fath a’u holl gost. Fe’i cynhyrchwyd ar gost fawr i’r cyhoedd. Byddai’n well gennym pe bai’r arian yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Michael German spoken in English p. 58

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 58

I am fascinated by those comments, Deputy Presiding Officer. That was the usual explosion that you might expect from the Conservatives, that the only good things that have ever been achieved were achieved when they were involved in the decision. Clearly, they have been, as they have said from the outset in this Chamber, the opposition. They have made no bones about their role, which will always be to oppose. They are not interested in taking part in the successful delivery of activities.

Mae’r sylwadau hynny’n hynod o ddiddorol, Ddirprwy Lywydd. Dyna’r ffrwydrad arferol y byddech yn ei ddisgwyl gan y Ceidwadwyr, sef mai’r unig bethau da a gyflawnwyd erioed oedd y pethau a gyflawnwyd pan oeddent hwy ynghlwm wrth y penderfyniad. Yn amlwg, buont hwy, fel y dywedasant o’r dechrau yn y Siambr hon, yn llais gwrthwynebus. Nid ydynt wedi celu eu rôl, sef bod yn wrthblaid bob amser. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith o gyflawni gweithgareddau’n llwyddiannus.

I am grateful that Peter Law is here this afternoon, because, as he knows, I relish his interventions. The more he says, the more votes we win. At the most recent council election in his patch, we took the seat from Labour. I am sorry for Peter, but please keep it coming—I love it all. The knockabout politics in which he engages are fine by me, providing that we keep winning the votes and he keeps losing them. We will work on that basis.

Yr wyf yn ddiolchgar bod Peter Law yma y prynhawn yma, am fy mod yn gwirioni ar ei ymyriadau, fel y gŵyr. Po fwyaf a ddywed, y mwyaf o bleidleisiau a enillwn. Yn yr etholiad cyngor diweddaraf ar ei filltir sgwâr ef, fe gipiasom y sedd oddi wrth y Blaid Lafur. Teimlaf yn flin dros Peter, ond daliwch ati, ar bob cyfrif—yr wyf yn gwirioni ar hyn. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i’r wleidyddiaeth ymosodgar y mae’n ei harddel, ar yr amod ein bod ni’n parhau i ennill y pleidleisiau a bod yntau’n parhau i’w colli. Awn ymlaen ar y sail honno.

In reality, we have a partnership that is a year old and has been delivering for Wales. It has delivered investment in schools and hospitals—as you will see from the budget lines that we will debate this week and those that we debated last year. We have set out our own distinctive agenda for Wales—not just on post-16 education, student finance and preventing illhealth, but also delivering to the maximum of the powers available to us.

Y gwir amdani yw bod gennym bartneriaeth sydd flwydd oed ac sydd wedi bod yn cyflawni dros Gymru. Mae wedi buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai—fel y gwelwch o fanylion y gyllideb y byddwn yn ei thrafod mewn dadl yr wythnos yma a’r rhai a drafodwyd y llynedd. Yr ydym wedi cyflwyno ein hagenda unigryw ein hunain dros Gymru—nid yn unig o ran addysg ôl-16, arian i fyfyrwyr a chamau i atal afiechyd, ond hefyd o ran cyflawni’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael inni i’r eithaf.

It is all very well for the bleaters over there to say that nothing is good in this Assembly until we have more power. Plaid are really saying that this Assembly is useless as it stands. We, and everyone else in the Chamber, say that you make the best use of what you have, do what you can and show that you are worthy of more. That is why the Assembly programme for government that we and Labour have put in place will provide an opportunity to deal with the issue of the National Assembly’s powers.

Mae’n hawdd iawn i’r rhai cwynfanus acw ddweud nad oes dim byd o werth yn y Cynulliad hwn nes y bydd gennyn ragor o bwerau. Yr hyn y mae Plaid yn ei ddweud mewn gwirionedd yw bod y Cynulliad hwn yn ddiwerth fel y mae pethau. Yr hyn yr ydym ni, a phawb arall yn y Siambr, yn ei ddweud yw eich bod yn gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gennych, gwneud popeth o fewn eich gallu a dangos eich bod yn haeddu mwy. Dyna pam y bydd rhaglen lywodraethol y Cynulliad a roddwyd ar waith gennym ni a Llafur yn rhoi cyfle i ymdrin â mater pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol.

The people of Wales will see the impact of the policy reforms that we have introduced in improved public services. When we entered the coalition and I signed the agreement, ‘Putting Wales First’, with Rhodri, we were clear that despite the risks involved for any party entering an innovative and ground-breaking form of truly co-operative politics, we would have to do two things. First, we knew that we would be judged objectively on what we did, rather than on what we promised. Of course, that would be novel for the Conservatives, because, by their own admission, they would never want to take a role in this Chamber until they received 50 per cent of the votes in Wales, which has never been the case in living memory—I doubt that it ever will. Secondly, we must ensure that, through partnership, we can engage with the people of Wales through better services and demonstrate our distinctive contribution to Welsh politics through our resilient radicalism.

Bydd pobl Cymru yn gweld effaith y diwygiadau polisi a gyflwynwyd gennym mewn gwasanaethau cyhoeddus gwell. Pan luniwyd y glymblaid gyntaf a phan lofnodais y cytundeb, ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’, ar y cyd â Rhodri, yr oeddem yn eglur ein meddyliau, er gwaethaf y risgiau sy’n gysylltiedig â sefyllfa pan fo plaid yn ymgymryd â math arloesol a dyfeisgar o wleidyddiaeth wirioneddol gydweithredol, y byddai’n rhaid inni wneud dau beth. Yn gyntaf, gwyddem y byddem yn cael ein barnu’n wrthrychol ar yr hyn a gyflawnwyd yn hytrach na’r hyn a addawyd gennym. Wrth gwrs, byddai hynny’n beth newydd i’r Ceidwadwyr, oherwydd, fel y maent wedi cydnabod, ni fyddent byth am gael rôl yn y Siambr hon nes eu bod wedi derbyn 50 y cant o bleidleisiau Cymru, peth nad yw wedi digwydd ers cyn cof—yr wyf yn amau a ddigwydd byth. Yn ail, rhaid inni sicrhau y gallwn, drwy bartneriaeth, gysylltu â phobl Cymru drwy wasanaethau gwell a dangos y cyfraniad unigryw yr ydym wedi ei wneud i wleidyddiaeth Cymru drwy ein radicaliaeth wydn.

The report provides objective evidence—not wishful thinking—of success on both fronts, despite the fact that the partnership was formed only part-way through the session. We can point to achievements across the executive functions of the Assembly. In agriculture, we have £60 million extra for rural development and the establishment of an independent appeals panel. In health, we have frozen prescription charges, dealt with primary care and introduced exemptions for those aged under 26 and dental exemptions for the young and old, together with a new human resource strategy to deliver people to the hospitals that we so need.

Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth wrthrychol—nid gobeithion ofer—o’n llwyddiant yn y ddau beth hyn, er gwaethaf y ffaith mai dim ond hanner ffordd drwy’r sesiwn y lluniwyd y bartneriaeth. Gallwn nodi cyflawniadau ar draws swyddogaethau gweithredol y Cynulliad. O ran amaethyddiaeth, ceir £60 miliwn yn ychwanegol ar gyfer datblygu gwledig a sefydlu panel apelio annibynnol. Ym maes iechyd, yr ydym wedi rhewi taliadau presgripsiwn, wedi ymdrin â gofal sylfaenol ac wedi eithrio pobl o dan 26 oed rhag talu presgripsiynau ac wedi eithrio plant a’r henoed rhag taliadau deintyddol, ynghyd â strategaeth adnoddau dynol newydd i ddarparu’r bobl yn yr ysbytai y mae eu dirfawr angen arnom.

In education, we have introduced free school milk. We now have 50,000 more children in Wales drinking milk as a result of that action. I am sure that Glyn will now rise to his feet to intervene to say, ‘I am very pleased that so many young people in Wales are now drinking the milk that is produced in Montgomeryshire.’

Ym maes addysg, yr ydym wedi cyflwyno llaeth ysgol am ddim. Erbyn hyn mae 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru yn yfed llaeth o ganlyniad i’r weithred honno. Yr wyf yn siŵr y bydd Glyn yn codi ar ei draed i ymyrryd a dweud, ‘Yr wyf yn falch iawn o nodi bod cymaint o bobl ifanc yng Nghymru bellach yn yfed llaeth Sir Drefaldwyn.’

Glyn Davies spoken in English p. 60

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 60

I am very pleased that the children of Wales are drinking the milk that is produced in Montgomeryshire. [Laughter.] To address another point to you, Houdini, as you have taken credit for health policy, do you also take credit for the horrendous waiting list increases in Wales that are damaging the reputation of Wales across Britain? We are setting standards of non-delivery that no-one else can achieve.

Yr wyf yn falch iawn o nodi bod plant Cymru yn yfed llaeth Sir Drefaldwyn. [Chwerthin.] Gan godi pwynt arall gyda chi, Houdini, gan mai chi sydd wedi hawlio’r clod am bolisi iechyd, a ydych hefyd yn hawlio’r clod am y cynnydd echrydus yn y rhestrau aros yng Nghymru sydd yn gwneud drwg i enw da Cymru ledled Prydain? Yr ydym yn gosod safonau o ddiffyg cyflawniad na all neb arall eu cyflawni.

Michael German spoken in English p. 61

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 61

As you know, from the budget implications that I have already described, we are already investing more resources in Wales than ever before. I repeat that we are putting more money into investing in the people who will make that difference. If you think that those aims can be achieved overnight, you are very much mistaken. You know very well that putting in investment is what delivers, and unpicking the years of your low investment is what has happened.

Fel y gwyddoch, o’r goblygiadau i’r gyllideb a ddisgrifiwyd gennyf eisoes, yr ydym eisoes yn budsoddi mwy o adnoddau yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Dywedaf hynny eto: yr ydym yn buddsoddi mwy o arian yn y bobl a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Os credwch fod modd cyflawni’r nodau hynny dros nos, yr ydych yn camsynied. Gwyddoch yn burion mai drwy fuddsoddi y cyrhaeddir y nod, ac mai dadwneud y blynyddoedd o’ch budsoddiad isel yw’r hyn sydd wedi digwydd.

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Michael German spoken in English p. 61

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 61

I will not give way for a moment, I will come back to you when I have talked a little more about success.

Nid ildiaf am eiliad, byddaf yn dychwelyd atoch pan fyddaf wedi sôn ychydig mwy am lwyddiant.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 61

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 61

Order. Mike, you have time due to you because you have taken interventions, but you have already spoken for five and a quarter minutes.

Trefn. Mike, mae gennych amser ar ôl am eich bod wedi derbyn ymyriadau, ond yr ydych eisoes wedi siarad am bum munud a chwarter.

Michael German spoken in English p. 61

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 61

I shall conclude then, by mentioning the culture ministry, which was in the partnership agreement and was certainly not introduced by the Conservative party.

I gloi felly, byddaf yn sôn am y weinyddiaeth dros ddiwylliant, a oedd yn y cytundeb partneriaeth ac yn sicr na fyddai wedi ei chyflwyno gan y blaid Geidwadol.

In this first year of the partnership, we have ensured that the policies and resources to assist the young, the old, the needy and the marginalised, as well as the investment to turn Wales into a prosperous, winning nation, have been put in place. The partnership is delivering for all of the communities of Wales—urban, rural, English and Welsh-speaking—for the poor and for the prosperous.

Yn y flwyddyn gyntaf hon o’r bartneriaeth, yr ydym wedi sicrhau bod y polisïau a’r adnoddau i cynorthwyo’r ifanc, yr hen, yr anghenus a’r rhai sydd wedi eu hymyleiddio, yn ogystal â’r buddsoddiad i droi Cymru yn genedl ffyniannus, lwyddiannus, wedi eu rhoi ar waith. Mae’r bartneriaeth yn cyflawni dros holl gymunedau Cymru—boed yn drefol, yn wledig, yn Saesneg neu yn Gymraeg eu hiaith—dros y tlawd a’r cyfoethog.

The challenge for both parties in this partnership is to ensure that we continue to deliver for the people of Wales to show that devolution is a success and can bear fruit. Our recent anniversary pointed to the fact that this is happening. One third of the pledges in ‘Putting Wales First’ have been delivered, another third are on target, and the final third will be delivered over the rest of the term of this partnership. This is the route of political progress and progressive politics. It is the only route by which we can build an irrefutable case for the next Welsh claim—that the Assembly’s powers must be increased.

Yr her i’r ddwy blaid yn y bartneriaeth hon yw sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni dros bobl Cymru er mwyn dangos bod datganoli yn llwyddo ac yn dwyn ffrwyth. Bu awgrym fod hyn yn digwydd ar achlysur ein pen-blwydd yn ddiweddar. Mae un o bob tri o’r addewidion yn ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’ wedi eu cyflawni, mae traean arall yn cyrraedd y nod, a chaiff y traean olaf ei gyflawni yn y cyfnod yng ngweddill cyfnod y bartneriaeth hon. Hon yw’r ffordd ymlaen i ddatblygiad gwleidyddol a gwleidyddiaeth flaengar. Hon yw’r unig ffordd y gallwn roi achos digamsyniol gerbron ynglŷn â chais nesaf Cymru—bod yn rhaid i’r Cynulliad gael mwy o bwerau.

We are delivering a new kind of politics where parties are putting Wales’s interests before their own, where we work with business and employees, with the public institutions of Wales and its voluntary organisations, and where we work for the people of Wales, not the politicians of Westminster.

Yr ydym yn cyflwyno math newydd o wleidyddiaeth lle y mae pleidiau yn rhoi buddiannau Cymru o flaen eu buddiannau eu hunain, lle yr ydym yn cydweithio â’r byd busnes a chyflogeion, gyda sefydliadau cyhoeddus Cymru a’r mudiadau gwirfoddol, a lle yr ydym yn cydweithio dros bobl Cymru, nid gwleidyddion San Steffan.

Phil Williams spoken in English p. 62

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 62

There are sins of commission and omission. This report is full of both. Let us start with departmental budgets. When I see blue and red columns to represent last year and this year, I assume that we are comparing like with like—but look at the small print. For last year, we have outcomes, for this year, budgets, and not a word about the huge underspend, which amounted to £272 million last year, including £71 million in economic development. Underspend is a significant measure of an administration’s competence. However, there is no mention of it, not even under finance. Underspend is there, it is used cunningly to suggest a much larger increase in the budget than is really the case. I once came last in a skiing race in Lapland. However, I explained that there is a prize every year for the person showing the biggest improvement, so I am well placed for next year. If there is a prize for improvement in performance, this Government is well placed.

Ceir pechodau camwaith neu anwaith. Mae llawer o’r ddau fath yn yr adroddiad hwn. Gadewch inni ddechrau gyda chyllidebau’r adrannau. Pan welaf golofnau glas a choch i gynrychioli y llynedd ac eleni, tybiaf ein bod yn cymharu pethau cyffelyb—ond edrychwch ar y print mân. Mae gennym ganlyniadau ar gyfer y llynedd, mae gennym gyllidebau ar gyfer eleni, ond nid oes sôn am y tanwariant enfawr o £272 miliwn y llynedd, yn cynnwys £71 miliwn ar gyfer datblygu economaidd. Mae tanwariant yn ffordd bwysig o fesur cymhwyster gweinyddiaeth. Fodd bynnag, nid oes sôn amdano, hyd yn oed o dan gyllid. Mae’r tanwariant yno ac fe’i defnyddir mewn ffordd gyfrwys i awgrymu bod y gyllideb wedi codi lawer mwy na’r hyn sy’n gywir mewn gwirionedd. Deuthum yn olaf unwaith mewn ras sgïo yn y Lapdir. Fodd bynnag, eglurais fod gwobr bob blwyddyn am yr unigolyn sy’n dangos y gwelliant mwyaf, ac felly yr wyf mewn sefyllfa dda i ennill y wobr honno y flwyddyn nesaf. Os bydd gwobr am welliant o ran perfformiad, mae’r Llywodraeth hon mewn sefyllfa dda i’w hennill.

I will concentrate on economic development. First, I will mention the figures for European grants. Last year, according to the report, we spent £67 million on grants from Europe, which was less than expected because of the delay regarding Finance Wales, but far more than the £21 million that the Treasury gave us. The Treasury will receive the full £67 million. Therefore, what happens to the other £46 million? These reports give us proof that we still do not receive all the money that comes to the Treasury from Europe for projects in Wales, not to mention the lack of a single penny for match funding. However, fair play to Gordon Brown—if the Government here cannot spend the money we have, why should he give us more? Is that why the UK Government has been so mean in contributing to the Welsh part of the coalfields regeneration fund, despite Wales’s huge contribution to the coal industry? Is that why the UK Government only gave a pathetic £8 million towards economic regeneration in the steel industry? The report states that the Assembly responded superbly to the crisis. Is that what people believe in Ebbw Vale?

Byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu economaidd. Yn gyntaf, crybwyllaf y ffigurau ar gyfer grantiau Ewropeaidd. Y llynedd, yn ôl yr adroddiad, gwariwyd £67 miliwn gennym ar grantiau o Ewrop, a oedd yn llai na’r disgwyl oherwydd yr oedi o ran Cyllid Cymru, ond a oedd lawer mwy na’r £21 miliwn a roddodd y Trysorlys inni. Bydd y Trysorlys yn cael y £67 miliwn llawn. Felly, beth sydd yn digwydd i’r £46 miliwn arall? Mae’r adroddiadau hyn yn profi nad ydym o hyd yn cael yr holl arian a ddaw i’r Trysorlys o Ewrop ar gyfer prosiectau yng Nghymru, heb sôn am y ffaith nad oes yr un geiniog ar gyfer arian cyfatebol. Fodd bynnag, chwarae teg i Gordon Brown—os na all y Llywodraeth yma wario’r arian sydd gennym, pam y dylai roi mwy o arian inni? Ai dyna pam bod Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfraniad mor annheilwng i’r rhan honno o gronfa adfywio’r meysydd glo ar gyfer Cymru, er gwaethaf cyfraniad enfawr Cymru i’r diwydiant glo? Ai dyna’r rheswm mai dim ond £8 miliwn pitw a roddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer adfywiad economaidd yn y diwydiant dur? Dywed yr adroddiad i’r Cynulliad ymateb yn wych i’r argyfwng. Ai dyna’r hyn mae pobl Glynebwy yn ei gredu?

We now come to the sins of omission. Objective 1 funds are at last beginning to flow. I welcome the approval of Finance Wales. However, why has it taken so long? We were promised that Finance Wales would be in full operation last March. Why the delay? Was someone’s eye off the ball? Was the pressure not kept up? What about the other gaps in Objective 1? The measures for energy and information and communications technology are extremely important, but only now, two years into the programme, are we seeing the first steps in setting up a partnership for renewable energy, ICT infrastructure and integrated passenger transport. Why were these not in the original list of partnerships? Was someone’s eye off the ball at that time?

Wedyn mae pechodau anwaith. Mae arian Amcan 1 yn dechrau llifo o’r diwedd. Croesawaf y ffaith bod Cyllid Cymru wedi’i gymeradwyo. Fodd bynnag, pam y cymerwyd cymaint o amser? Addawyd inni y byddai Cyllid Cymru yn gwbl weithredol fis Mawrth diwethaf. Beth oedd achos yr oedi? Ai methiant rhywun i ganolbwyntio? Oni pharhaodd y pwysau i’w weithredu? Beth am y bylchau eraill yn Amcan 1? Mae’r mesurau o ran ynni a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn bwysig iawn, ond dim ond yn awr, ddwy flynedd ar ôl dechrau’r rhaglen, yr ydym yn gweld y camau cyntaf i sefydlu partneriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy, seilwaith TGCh a thrafnidiaeth integredig i deithwyr. Pam nad oedd y rhain ar y rhestr wreiddiol o bartneriaethau? Ai methiant rhywun i ganolbwyntio oedd achos hyn?

Finally, part of the problem is that Objective 1 was written at the time without an effective economic strategy. Over the past two years, that should have been the Minister for Economic Development’s top priority. However, last December, when members of the Economic Development Committee met to consider the national economic development strategy, all we were given were a few pages. In January, we saw a draft, which, because of the numerous gaps and unanswered questions, looked rushed and was impossible to endorse, however much we wished to see an endorsed strategy behind which we could all unite. Sound economic policy is the basis of good government. We face huge economic problems, made worse over the last month by the threat to jobs in the aero-industry. Wales desperately needs a full-time Minister for Economic Development of the highest calibre. That is the message of this report.

Yn olaf, rhan o’r broblem yw y cafodd cynllun Amcan 1 ei ysgrifennu ar y pryd heb strategaeth economaidd effeithiol. Dros y ddwy flynedd diwethaf, dylai hynny fod wedi bod yn brif flaenoriaeth i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd. Fodd bynnag, fis Rhagfyr diwethaf, pan gyfarfu aelodau’r Pwyllgor Datblygu Economaidd i ystyried y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol, dim ond ychydig o dudalennau a gawsom. Ym mis Ionawr, gwelsom strategaeth ddrafft; yr oedd golwg anghyflawn arni ac nid oedd yn bosibl ei chymeradwyo, oherwydd bylchau niferus a’r cwestiynau a oedd heb eu hateb, er gwaethaf ein dymuniad i gael strategaeth wedi’i chymeradwyo y gall pob un ohonom ei chefnogi. Polisi economaidd cadarn yw sail llywodraeth dda. Yr ydym yn wynebu problemau economaidd enfawr sydd wedi gwaethygu yn ystod y mis diwethaf oherwydd y bygythiad i swyddi yn y diwydiant awyrennau. Mae angen dybryd am Weinidog dros Ddatblygu Economaidd llawn amser o’r ansawdd gorau i Gymru. Dyna neges yr adroddiad hwn.

Christine Chapman spoken in English p. 64

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 64

I welcome the First Minister’s report and the reference to Objective 1. It has already been mentioned that £220 million has been committed through the programme and that there are 340 Objective 1 projects. Behind those statistics, there are numerous good news stories. Many of the projects are extremely innovative, and they will make beneficial structural changes to our poorest areas. Over the years, we have seen the damage that needs to be addressed in our poorest areas. Over the last few months, as Chair of the Objective 1 Programme Monitoring Committee, I have visited the partnerships that are working on the ground with Objective 1 projects. We should focus our attention on what is happening. All the talk about the process is a turnoff for the general public. They want to see actions on the ground and projects being delivered in their communities. We must focus on all that is happening within the Objective 1 programme.

Croesawaf adroddiad y Prif Weinidog a’r cyfeiriadau at Amcan 1. Fe grybwyllwyd eisoes fod £220 miliwn wedi’i ddyrannu drwy’r rhaglen a bod 340 o brosiectau Amcan 1. Y tu ôl i’r ystadegau hynny, ceir nifer o hanesion o newyddion da. Mae llawer o’r prosiectau yn arloesol iawn, a byddant yn newid strwythur ein hardaloedd tlotaf er gwell. Dros y blynyddoedd, yr ydym wedi gweld y niwed y mae angen ymdrin ag ef yn ein hardaloedd tlotaf. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, fel Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Amcan 1, yr wyf wedi ymweld â’r partneriaethau sy’n gweithio ar lawr gwlad ar y Prosiectau Amcan 1. Dylem ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd. Mae’r holl sôn am y broses yn diflasu’r cyhoedd. Maent hwy am weld camau yn cael eu cymryd ar lawr gwlad a phrosiectau yn cael eu cyflwyno yn eu cymunedau. Rhaid inni ganolbwyntio ar yr holl bethau sy’n digwydd o fewn rhaglen Amcan 1.

I caution the opposition parties not to talk about Objective 1 in terms of doom and gloom. We have a responsibility to ensure that this programme continues over six years. We should question the programme: that is why we are here. However, too much doom and gloom can be counter-productive. It could stop the flow of good ideas that we want throughout the length of the programme.

Rhybuddiaf y gwrthbleidiau rhag siarad am Amcan 1 mewn ffordd besimistaidd. Yr ydym yn gyfrifol am sicrhau bod y rhaglen hon yn parhau am chwe blynedd. Dylem gwestiynu’r rhaglen: dyna pam ein bod yma. Fodd bynnag, gall gormod o besimistiaeth fod yn wrthgynhyrchiol. Gallai rwystro’r syniadau da yr ydym am eu cael drwy’r rhaglen gyfan rhag dod i’r amlwg.

David Davies spoken in English p. 65

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 65

When the Member says that we should not talk about doom and gloom, is she suggesting that, as members of opposition parties in a democratic body, we should refrain from criticising the Government when it has made mistakes?

Pan ddywed yr Aelod na ddylem fod yn besimistaidd, a yw’n awgrymu y dylem ni, fel aelodau o wrthbleidiau mewn corff democrataidd, beidio â beirniadu’r Llywodraeth pan fo wedi gwneud camgymeriadau?

Christine Chapman spoken in English p. 65

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 65

No, David, quite the opposite. We must put right what the Tories damaged over the last few years—

Nac ydwyf, David, i’r gwrthwyneb yn llwyr. Rhaid inni unioni’r cam a wnaeth y Torïaid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Christine Chapman spoken in English p. 65

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 65

I will not give way. We should not stifle negative stories because, as politicians, we are committed to keeping the process open. The Assembly keeps a close eye on Objective 1. Without the Assembly, that would not have been possible. The Programme Monitoring Committee is open to the public, as it should be. As David knows, the Economic Development Committee receives regular reports on Objective 1. The only note of caution is that we must engage with the wider Wales to ensure that ideas for Objective 1 come forward.

Ni fyddaf yn ildio. Ni ddylem fygu straeon negyddol gan ein bod, fel gwleidyddion, yn ymrwymedig i gadw’r broses ar agor. Mae’r Cynulliad yn cadw llygad barcud ar Amcan 1. Heb y Cynulliad, ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl. Mae’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar agor i’r cyhoedd, fel y dylai fod. Fel y gŵyr David, mae’r Pwyllgor Datblygu Economaidd yn cael adroddiadau rheolaidd ar Amcan 1. Yr unig rybudd yw bod yn rhaid inni gysylltu’n ehangach â phobl Cymru er mwyn sicrhau y daw syniadau ar gyfer Amcan 1 i law.

Members know that we are trying to work in partnership on Objective 1. That involves engaging the wider, civic Wales. Rhodri was right earlier when he spoke of a confident Wales. The Assembly wants to engage with all the sectors and involve them in Objective 1. This is a new, Welsh way of working. We should not underestimate that. We should not forget that, although the Objective 1 money runs out in 2006-7, we want to ensure that the projects have a lasting impact on badly hit communities. I pay tribute to the partnerships that involve the private, public and voluntary sectors. There has been much publicity about the private sector and I am sure that there will be much more criticism from the private sector. However, I pay tribute to the good examples of working with the private sector in Objective 1. Many private sector companies are benefiting from Objective 1, and the private sector has a strong influence on the process.

Gŵyr yr Aelodau ein bod yn ceisio gweithio mewn partneriaeth o ran Amcan 1. Mae hynny’n cynnwys cysylltu â’r Gymru ddinesig ehangach. Yr oedd Rhodri yn gywir yn gynharach pan siaradodd am Gymru hyderus. Mae’r Cynulliad am gysylltu â phob sector a’u cynnwys yn Amcan 1. Dyma ffordd newydd Gymreig o weithio. Ni ddylem fychanu hynny. Ni ddylem anghofio, er bod arian Amcan 1 yn dod i ben yn 2006-7, ein bod am sicrhau y caiff y prosiectau effaith barhaus ar gymunedau sydd wedi dioddef yn fawr. Talaf deyrnged i’r partneriaethau sy’n cynnwys y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Bu llawer o gyhoeddusrwydd am y sector preifat ac yr wyf yn siŵr y bydd llawer mwy o feirniadaeth gan y sector preifat. Fodd bynnag, talaf deyrnged i’r enghreifftiau da o gydweithio â’r sector preifat o ran Amcan 1. Mae llawer o gwmnïau yn y sector preifat yn cael budd o Amcan 1, ac mae’r sector preifat yn dylanwadu’n gryf ar y broses.

David Melding spoken in English p. 65

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 65

I will comment on the chapter on health in the First Minister’s annual report. The performance has been mixed in this area. I will distinguish between the areas where there has been genuine progress, which it would be churlish not to acknowledge, and other areas where performance has fallen well short of the standard that we can expect.

Byddaf yn rhoi sylwadau ar y bennod ar iechyd yn adroddiad blynyddol y Prif Weinidog. Cafwyd perfformiad cymysg yn y maes hwn. Byddaf yn gwahaniaethu rhwng y meysydd lle y gwelwyd cynnydd gwirioneddol, y byddai’n anfoesgar peidio â’i gydnabod, a’r meysydd eraill lle nad yw’r perfformiad wedi cyrraedd y safon y gallwn ei disgwyl.

The language used in the report is careful and accurate. There has been a substantial cut in inpatient lists in the period to which this annual report speaks. However, during that period, the administration missed its self-declared target of a reduction of 15,000 in the number of inpatients waiting for treatment, despite having re-designated 4,000 patients unilaterally and by statistical device. Therefore, the administration missed its target by about 4,100 patients. However, some progress was made as there are 11,000 fewer patients on that waiting list.

Mae’r iaith a ddefnyddir yn yr adroddiad yn ofalus a chywir. Bu gostyngiad sylweddol mewn rhestrau cleifion mewnol yn y cyfnod y mae’r adroddiad blynyddol yn cyfeirio ato. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, methodd y weinyddiaeth â chyrraedd ei tharged ei hun i sicrhau bod 15,000 yn llai o gleifion mewnol yn aros am driniaeth, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi ailddynodi 4,000 o gleifion heb ymgynghori a thrwy ddulliau ystadegol. Felly, methodd y weinyddiaeth â chyrraedd ei tharged o ryw 4,100 o gleifion. Fodd bynnag, gwnaethpwyd rhywfaint o gynnydd gan fod 11,000 yn llai o gleifion ar y rhestr aros honno.

Since the annual report was published, inpatient waiting lists have increased sharply. I fear that they will continue to increase. We must consider trends. It would not have been easy for any party in office to reverse the trend. Therefore, we must consider the trend in a structural way.

Ers cyhoeddi’r adroddiad blynyddol, mae rhestrau aros cleifion mewnol wedi codi’n sydyn. Ofnaf y byddant yn parhau i godi. Rhaid inni ystyried y tueddiadau. Ni fyddai wedi bod yn hawdd i unrhyw blaid mewn grym wrthdroi’r duedd. Felly, rhaid inni ystyried y duedd mewn ffordd strwythurol.

However, waiting times are deteriorating in a way that endangers the notion of a national health service. If you keep people waiting routinely over two years for some treatments, more and more people will abandon the health service for private health insurance, or some other healthcare provision. They will then demand some form of tax relief because the national health service is not delivering for them. They may even ask for a rebate from their overall tax bill and fundamentally withdraw themselves from the national health service. That would signal the end of a universal health service, which would be dangerous. I hope that Wales can contribute to a national debate across Britain on how to fund the national health service for the future. We must increase investment levels in the health service by another magnitude to the one that has, in fairness, been achieved over the last four years. Although there has been an increase, it is not yet of a magnitude that matches European investment levels.

Fodd bynnag, mae’r amseroedd aros yn gwaethygu mewn modd sy’n peryglu’r syniad o wasanaeth iechyd gwladol. Os bydd yn rhaid i bobl aros fel rheol am ddwy flynedd i gael rhai mathau o driniaeth, bydd nifer gynyddol o bobl yn cefnu ar y gwasanaeth gwladol gan droi at yswiriant iechyd preifat, neu ryw ddarpariaeth gofal iechyd arall. Byddant wedyn yn hawlio rhyw fath o ostyngiad ar dreth gan nad yw’r gwasanaeth iechyd gwladol yn diwallu eu hanghenion. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn am ad-daliad i’w bil treth cyffredinol hyd yn oed, gan ymwrthod â’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y bôn. Byddai hynny’n dynodi diwedd gwasanaeth iechyd i bawb, a fyddai’n beryglus. Gobeithiaf y gall Cymru gyfrannu at ddadl genedlaethol ledled Prydain ar y modd i ariannu’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol. Rhaid inni godi’r arian a fuddsoddir yn y gwasanaeth iechyd ar raddfa uwch na’r hyn a gyflawnwyd, i fod yn deg, dros y pedair blynedd diwethaf. Er y cafwyd cynnydd yn yr arian a fuddsoddir, nid yw’n cyfateb i lefelau buddsoddi Ewrop eto.

Rod Richards spoken in English p. 67

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 67

Does David agree with Christine Chapman and me that negative stories should be allowed to come out? Does he join me in condemning Jo Moore for trying to bury bad news on September 11?

A yw David yn cytuno â Christine Chapman a minnau y dylid caniatáu i straeon negyddol gael eu cyhoeddi? A yw’n ymuno â mi i gondemnio Jo Moore am geisio claddu newyddion drwg ar Fedi 11?

David Melding spoken in English p. 67

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 67

Jo Moore’s statement was maladroit and insensitive, and many of us believe that the consequences of her remark have not yet been fully worked out.

Yr oedd datganiad Jo Moore yn amhriodol ac yn ansensitif, ac mae llawer ohonom o’r farn nad yw canlyniadau’r hyn a ddywedodd wedi dod i ben yn llwyr eto.

We must consider the national health service’s patient throughput. How many patients are receiving operations? Fewer inpatients are being treated now than four years ago, despite all the increases that I have mentioned. In fairness, there has been a movement towards increasing the number of patients treated as day cases. If those day cases are included, as is sometimes fair, the situation is improved slightly. However, even then, the figure is the same as four years ago. Even if you combine the numbers of day cases and inpatients, there is no increase in the number of patients being treated today as compared with four years ago. We must address that problem.

Rhaid inni ystyried y nifer o gleifion y mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn eu gweld. Faint o gleifion sy’n derbyn llawdriniaeth? Mae llai o gleifion mewnol yn cael eu trin ar hyn o bryd na phedair blynedd yn ôl, er gwaethaf yr holl gynnydd yr wyf wedi’i grybwyll. I fod yn deg, gwelwyd tuedd tuag at gynyddu’r nifer o gleifion a gaiff eu trin fel achosion dydd. Os caiff yr achosion dydd hynny eu cynnwys, fel sydd yn deg weithiau, mae’r sefyllfa ychydig yn well. Fodd bynnag, hyd yn oed wedyn, ceir yr un ffigur â phedair blynedd yn ôl. Hyd yn oed os byddwch yn cyfuno niferoedd yr achosion dydd a chleifion mewnol, nid oes cynnydd yn y nifer o gleifion a gaiff eu trin heddiw o’u cymharu â phedair blynedd yn ôl. Rhaid inni ymdrin â’r broblem honno.

Staffing is one of our most acute difficulties. As I have said before, we have a human resource strategy for the national health service that does not include recruitment targets. I do not see the purpose of a human resource strategy if that does not state how many more consultants, nurses or general practitioners the NHS will have. Scotland and England have figures for the number of extra doctors that will be working in their national health services. Some Labour Members are shaking their heads in disagreement. All that we have had from the administration are targets for the recruitment of trainees. They also have those targets in Scotland and England, in addition to the figures for increasing the number of people working in their health services.

Un o’n hanawsterau mwyaf difrifol yw staffio. Fel y dywedais o’r blaen, mae gennym strategaeth adnoddau dynol i’r gwasanaeth iechyd gwladol nad yw’n cynnwys targedau o ran recriwtio. Yn fy marn i, nid oes pwynt cael strategaeth adnoddau dynol os nad yw’n nodi faint o feddygon ymgynghorol, nyrsys neu feddygon teulu ychwanegol a fydd gan yr NHS. Mae gan yr Alban a Lloegr ffigurau o ran y nifer o feddygon ychwanegol a fydd yn gweithio yn eu gwasanaethau iechyd gwladol. Mae rhai Aelodau Llafur yn anghytuno. Yr unig beth a gawsom gan y weinyddiaeth yw targedau o ran recriwtio hyfforddeion. Mae gan yr Alban a Lloegr y targedau hynny hefyd, yn ogystal â’r ffigurau i gynyddu’r nifer o bobl sy’n gweithio yn eu gwasanaethau iechyd.

Peter Law spoken in English p. 67

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 67

Does David accept that the Minister announced a record investment in the national health service for the current three-year period? How can he have the audacity, as a Conservative AM, to criticise this Government on its health record, bearing in mind the way in which Conservative Governments presided over the reduction in the number of NHS beds and the dismantling and complete abuse of the service?

A yw David yn derbyn i’r Gweinidog gyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed yn y gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer y cyfnod tair blynedd presennol? Sut y gall fod mor ddigywilydd, fel AC Ceidwadol, i feirniadu’r Llywodraeth hon ar yr hyn y mae wedi ei gyflawni ym maes iechyd, gan gofio’r ffordd y cafodd nifer gwelyau’r NHS ei leihau ac y cafodd y gwasanaeth ei chwalu a’i gamddefnyddio’n llwyr, pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym?

David Melding spoken in English p. 68

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 68

Peter, I acknowledge that there has been a record increase in national health expenditures under this Labour Government. The problem is that for the last 20 years, we have been in a cycle where you could have said that for every four-year period that the Conservative Government was in office. Such hyperbole will not transform our health service into a body to rival those in Europe, where there are, on average, three doctors per 1,000 patients to our 1.7 doctors per 1,000. It is a fundamental problem for the Conservative Party and its record, but it is an equally fundamental problem for the current Labour Government. I was trying to make a non-partisan point in that regard.

Peter, cydnabyddaf y ffaith y cafwyd y cynnydd mwyaf erioed o ran gwariant ar y gwasanaeth iechyd o dan y Llywodraeth Lafur hon. Y broblem yw y buom mewn cylch am yr 20 mlynedd diwethaf, lle y bu’n bosibl dweud hynny am bob cyfnod pedair blynedd yr oedd y Llywodraeth Geidwadol mewn grym. Ni fydd gormodiaith o’r fath yn newid ein gwasanaeth iechyd yn gorff sydd cystal â gwasanaethau iechyd Ewrop, lle y ceir tri meddyg fesul 1,000 o gleifion ar gyfartaledd o’i gymharu â’r 1.7 o feddygon fesul 1,000 sydd gennym ni. Problem sylfaenol ydyw i’r Blaid Geidwadol a’r hyn a wnaeth, ond problem yr un mor sylfaenol ydyw i’r Llywodraeth Lafur bresennol. Yr oeddwn yn ceisio cynnig safbwynt amhleidiol yn hynny o beth.

The structural changes presaged in the report could improve the health service. However, they could also disrupt it dramatically. There is a lot of disagreement in the service, from trust chief executives, clinicians and so on, about some of the administration’s proposals during the summer recess. We must take care to note their concerns because yet another upheaval—and the last Conservative administration had a similar desire for structural reforms—could be damaging. I have not had time to congratulate the administration on matters where it can be thanked for its work, such as the progress made on mental health, the children’s commissioner and carers.

Gallai’r newidiadau strwythurol a ragfynegir yn yr adroddiad wella’r gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, gallent amharu’n sylweddol arno hefyd. Cafwyd llawer o anghytundeb ymysg pobl yn y gwasanaeth, megis prif weithredwyr yr ymddiriedolaethau, clinigwyr, ac yn y blaen, o ran rhai o gynigion y weinyddiaeth hon yn ystod toriad yr haf. Rhaid inni sicrhau ein bod yn nodi eu pryderon gan ei bod yn bosibl y byddai newidiadau eraill—ac yr oedd y weinyddiaeth Geidwadol ddiwethaf yr un mor awyddus i gyflwyno diwygiadau strwythurol—yn ddinistriol. Nid wyf wedi cael digon o amser i longyfarch y weinyddiaeth ar y materion lle y gellir diolch iddi am ei gwaith, megis y cynnydd a wnaethpwyd o ran iechyd meddwl, y comisiynydd plant a gofalwyr.

Alun Cairns spoken in English p. 68

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 68

I will refer my comments to the economic development section of the document. The First Minister spoke of a mixed picture in economic terms. If 5,000 redundancies announced in the first five weeks of this year is not a bleak picture and a sad indictment of the performance over the last 18 months or so to which the document relates, I do not know what is. Since then, the economy has officially gone into recession. Output levels have fallen for two consecutive quarters, which is the official definition of recession according to the Office for National Statistics. I suspect that we have worse falls to come. Week after week, we would listen to economic surveys and redundancy and bad growth figures that were much worse for Wales than those for the United Kingdom. Any gap that existed when the Assembly came into being has widened since then.

Bydd fy sylwadau yn cyfeirio at adran y ddogfen sy’n ymwneud â datblygu economaidd. Soniodd y Prif Weinidog am ddarlun cymysg o ran yr economi. Os nad yw’r 5,000 o swyddi a gollwyd ym mhum wythnos gyntaf y flwyddyn hon yn ddarlun digalon ac yn gondemniad trist o’r perfformiad dros y 18 mis diwethaf y mae’r ddogfen hon yn ymwneud â hwy, ni wn beth sydd. Ers hynny, mae dirwasgiad swyddogol wedi dechrau yn yr economi. Mae lefelau cynhyrchu wedi gostwng am ddau chwarter yn olynol, sef diffiniad swyddogol dirwasgiad yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Tybiaf y bydd gostyngiadau gwaeth yn y dyfodol. Un wythnos ar ôl y llall, byddem yn gwrando ar arolygon economaidd a ffigurau diswyddiadau a thwf gwael ar gyfer Cymru a oedd yn llawer gwaeth na’r arolygon a’r ffigurau ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae unrhyw fwlch a oedd yn bodoli pan sefydlwyd y Cynulliad wedi ehangu ers hynny.

The sole purpose of the Minister for Economic Development, therefore, is to make Wales a more attractive environment for business to operate in. However, in its wisdom, the Cabinet is now considering a new business rate tax. That not only goes against the spirit of the referendum result, but, more importantly, it will damage businesses operating in Wales and send them further across the border, deeper into England.

Unig ddiben y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, felly, yw sicrhau bod Cymru yn lle mwy deniadol ar gyfer busnes. Fodd bynnag, yn ei ddoethineb, mae’r Cabinet bellach yn ystyried treth fusnes newydd. Mae hynny yn groes i ysbryd canlyniad y refferendwm, ac, yn bwysicach, bydd yn amharu ar fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru gan eu hanfon ymhellach dros y ffin i mewn i Loegr.

Objective 1 was that one-off opportunity that could have made a difference. It was a lever that no other Secretary of State for Wales had—or no other First Minister, before this one—as it had not operated for a sufficient amount of time. However, now is a fair time to make a judgment on Objective 1. I am sorry that Christine does not want to hear the doom and gloom of what is happening with Objective 1. The reality is different from what she sought to present. She sought to highlight the innovative and re-structuring programmes delivered by Objective 1. If a hairdressing course in Neath and Port Talbot financed by Objective 1 is to restructure the local economy, then there is not much hope for the rest of Wales.

Amcan 1 oedd y cyfle unigryw hwnnw a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth. Yr oedd yn lifer na fu gan unrhyw Ysgrifennydd Gwladol Cymru arall—nac unrhyw Brif Weinidog Cymru arall, cyn hyn—gan nad oedd wedi gweithredu’n ddigon hir. Fodd bynnag, mae bellach yn amser teg i lunio barn am Amcan 1. Mae’n ddrwg gennyf nad yw Christine am glywed yr hanesion pesimistaidd am yr hyn sy’n digwydd o ran Amcan 1. Mae’r realiti yn wahanol i’r hyn a geisiodd ei gyflwyno. Ceisiodd bwysleisio’r rhaglenni arloesol a’r rhaglenni ailstrwythuro a gyflwynir gan Amcan 1. Os bwriedir i gwrs trin gwallt yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a ariennir gan Amcan 1 ailstrwythuro’r economi leol, yna nid oes llawer o obaith i weddill Cymru.

There is no mention in the document of the task and finish group report on Objective 1.

Ni chyfeirir at adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar Amcan 1 yn y ddogfen.

Christine Chapman spoken in English p. 69

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 69

Have you recently visited the Wales European Funding Office website? There are 340 projects. I urge you to look at some of the innovative schemes that are happening in my constituency and, I am sure, are happening in your constituency too. I think that you will agree that there are many good stories there that will help make structural changes to the Objective 1 area.

A ydych wedi ymweld â gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ddiweddar? Ceir 340 o brosiectau. Fe’ch anogaf i edrych ar rai o’r cynlluniau arloesol sy’n digwydd yn fy etholaeth ac sy’n digwydd yn eich etholaeth chi hefyd, yr wyf yn siŵr. Credaf y byddwch yn cytuno bod llawer o hanesion da yno a fydd yn helpu i gyflwyno newidiadau strwythurol i’r ardal Amcan 1.

Alun Cairns spoken in English p. 70

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 70

I accept that there are some positive schemes. However, the sort of schemes that you would like to see are few and far between. That is because the private sector has been shut out. Those are not my words—they come from the Trades Union Congress, the Confederation of British Industry and the chambers of commerce. Many of you will remember the leaked letter in which the private sector threatened to withdraw from Objective 1. Where is that mentioned in this document? Let us go back to the task and finish group report, which the former Deputy First Minister and Minister for Economic Development commissioned when he came to office. The famous quotations that came out of that document were ‘significant leadership gap’ and ‘policy and strategy vacuum’. Where is that mentioned in this report? That was in the period reflected in this report. The Minister mentioned Technium, which is one of the innovative schemes that I am pleased to see has developed thus far. However, why is Technium 2 being delayed for so long? Companies are now threatening to leave Swansea because they cannot expand in the way that they wanted.

Derbyniaf fod rhai cynlluniau cadarnhaol. Fodd bynnag, nid oes llawer o gynlluniau o’r math yr hoffech eu gweld. Y rheswm dros hynny yw i’r sector preifat gael ei anwybyddu. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini—geiriau Cyngres yr Undebau Llafur, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a’r siambrau masnach ydynt. Bydd llawer ohonoch yn cofio’r llythyr cyfrinachol a ddatgelwyd lle y bygythiodd y sector preifat gefnu ar Amcan 1. Ble mae’r sôn am hynny yn y ddogfen hon? Gadewch inni ddychwelyd at adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd gan y cyn Ddirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd pan ddechreuodd yn ei swydd. Y dyfyniadau enwog a ddaeth o’r ddogfen honno oedd ‘bwlch arweinyddiaeth sylweddol’ a ‘gwacter polisi a strategaeth’ Ble mae’r sôn am y pethau hynny yn yr adroddiad hwn? Dywedwyd y pethau hynny yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad hwn yn ymwneud ag ef. Crybwyllwyd Technium gan y Gweinidog, sef un o’r cynlluniau arloesol y mae’n bleser gennyf weld sydd wedi datblygu hyd yma. Fodd bynnag, pam y mae cymaint o oedi cyn cyflwyno Technium 2? Mae cwmnïau yn awr yn bygwth gadael Abertawe gan na allant ehangu yn y modd y byddent wedi dymuno.

We now come to the national economic development strategy. It will come back to haunt the administration for the rest of this Assembly term. On 17 July, the Minister for Assembly Business announced in the forward work plan that on 30 October the Assembly would debate the national economic development strategy in Plenary. That was the agreed timescale, although that was delayed at that stage. However, the papers for tomorrow’s Economic Development Committee meeting note that it will not come before Plenary until 13 December. Any other delay means that the strategy will not be debated until next year, and yet another year of this administration’s performance will have been wasted.

Deuwn yn awr at y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Bydd y strategaeth yn dychwelyd i blagio’r weinyddiaeth am weddill y tymor hwn yn y Cynulliad. Ar 17 Gorffennaf, cyhoeddodd y Trefnydd yn y blaengynllun gwaith y byddai dadl yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ar 30 Hydref ar y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Dyna oedd yr amserlen y cytunwyd arni, er ei fod ar ei hôl hi bryd hynny. Fodd bynnag, mae’r papurau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd yfory yn nodi na fydd yn dod gerbron y Cyfarfod Llawn tan 13 Rhagfyr. Bydd unrhyw oedi arall yn golygu na chaiff y strategaeth ei thrafod tan y flwyddyn nesaf, a bydd blwyddyn arall o berfformiad y weinyddiaeth hon wedi’i gwastraffu.

I also regret that this document contains no reference to operating aids. In an answer to a question earlier today, the First Minister sought to play that down, saying that there were blocks in the European Commission and that the administration was doing its best. That is different to the task that was set, not only by this Chamber, but also by the Economic Development Committee time after time. The First Minister and the former Deputy First Minister and Minister for Economic Development sought to kick this into the long grass hoping that we would forget about it. There is no chance of that. That is the kick-start that the Objective 1 programme could have after the disastrous, bungling, incompetent way that it has been managed thus far.

Gresynaf hefyd nad yw’r ddogfen hon yn cynnwys cyfeiriadau at gymhorthion gweithredu. Mewn ateb i gwestiwn yn gynharach heddiw, ceisiodd y Prif Weinidog wneud yn fach o hynny, gan ddweud bod rhwystrau yn y Comisiwn Ewropeaidd a bod y weinyddiaeth yn gwneud ei gorau. Mae hynny’n wahanol i’r dasg a bennwyd, nid yn unig gan y Siambr hon, ond hefyd sawl gwaith gan y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Ceisiodd y Prif Weinidog a’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd wthio’r mater hwn i’r ymylon gan obeithio y byddem yn anghofio amdano. Nid oes gobaith o hynny. Dyna’r hwb y gellid ei roi i’r rhaglen Amcan 1 ar ôl y ffordd drychinebus, lletchwith a di-glem y cafodd ei rheoli hyd yma.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 71

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 71

Although I would normally respond to Alun Cairns last, as he spoke last, I must quickly correct him about the question of whether the economy is in recession. The economy is not in recession.

Er y byddwn yn ymateb i Alun Cairns yn olaf fel arfer, oherwydd iddo siarad olaf, rhaid imi ei gywiro’n gyflym ynglŷn ag a oes dirwasgiad economaidd. Nid oes dirwasgiad economaidd.

Alun Cairns spoken in English p. 71

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 71

Will you give way?

A wnewch ildio?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh and English p. 71

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 71

No, I will not. You have had your chance and you have made your mistake. There is nothing to be said about someone who can get something as wrong as that. The economy is not in recession.

yn Saesneg Na wnaf. Cawsoch eich cyfle a gwnaethoch eich camgymeriad. Beth y gellir ei ddweud am y sawl a all wneud camgymeriad mor wael? Nid oes dirwasgiad economaidd.

Dywedodd Ieuan ar ddechrau ei araith nad oedd unrhyw syniadau mawr na gweledigaeth yn yr adroddiad hwn. Mae Cyllid Cymru yn syniad mawr. Mae’r fagloriaeth Gymreig yn syniad mawr. Mae cynnwys adroddiad Rees yn syniad mawr. Mae’r weinyddiaeth hon wedi arddangos llawer o syniadau mawr. Yr oedd y cais i gynnal Cwpan Ryder—bu inni lwyddo yn hynny o beth wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi—hefyd yn syniad mawr.

in Welsh Ieuan said at the beginning of his speech that there were no big ideas or vision in this report. Finance Wales is a big idea. The Welsh baccalaureate is a big idea. The content of the Rees report is a big idea. This administration has come up with many big ideas. The bid to host the Ryder Cup—which we succeeded in winning, following the publication of this report—was also a big idea.

I will now turn to Peter Law’s contribution. Peter is not as enthusiastic as others are about the partnership Government. However, please do not make any more such brilliant speeches, Peter, otherwise everyone will be asking for a hip operation. I had thought of seeing whether we could get Mike German and Peter Law to agree to go into a room with their coats off and sell tickets for it and pay for the new Assembly building in that way. Perhaps that is not such a good idea.

yn Saesneg Trof yn awr at gyfraniad Peter Law. Nid yw Peter mor frwdfrydig ag Aelodau eraill am y Llywodraeth bartneriaeth. Fodd bynnag, peidiwch â gwneud mwy o areithiau mor ddisglair, Peter, neu bydd pawb yn gofyn am lawdriniaeth i’r glun. Yr oeddwn wedi ystyried a allem ofyn i Mike German a Peter Law gytuno i fynd i ystafell heb eu cotiau gan werthu tocynnau i’w gweld a defnyddio’r arian hwnnw i dalu am adeilad newydd y Cynulliad. Efallai nad yw’n syniad da.

I turn to Nick Bourne’s points on Objective 1. Alun Cairns also raised some of these issues. The impression that you try to give is that there is a high degree of dissatisfaction about Objective 1 and that we are behind the game. The European Commission tells us that we are ahead of the game and that we have already committed over 20 per cent of the £1.2 billion of resources. Nick made the point that the money has not been drawn down. The problem is that the partners must draw the money down, not us. We cannot force them to draw the money down. They bid for the money, we agree, it gets committed, but it is up to them to draw it down. I do not want to criticise them because this is new to everybody. We are pressing them to draw down quicker. However, with Objective 1—and this relates to many comments made on this point—you can be accused of getting the money out of the door too fast and not following a strategic approach or, if you do follow a strategic approach, the money does not go out of the door quickly enough and you suffer from paralysis by analysis.

yn Saesneg Trof at bwyntiau Nick Bourne am Amcan 1. Cododd Alun Cairns rai o’r materion hyn hefyd. Yr argraff y ceisiwch ei rhoi inni yw bod llawer o anfodlonrwydd ynghylch Amcan 1 a’n bod ar ei hôl hi. Dywed y Comisiwn Ewropeaidd wrthym ein bod ar y blaen a’n bod eisoes wedi dyrannu mwy na 20 y cant o’r £1.2 biliwn o adnoddau. Nododd Nick nad yw’r arian wedi’i ddefnyddio. Y broblem yw bod yn rhaid i’r partneriaid ddefnyddio’r arian, nid ni. Ni allwn eu gorfodi i ddefnyddio’r arian. Gwnânt gais am yr arian, yr ydym ni yn cytuno, caiff yr arian ei ddyrannu, ond hwy sydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian. Nid wyf am eu beirniadu gan fod y broses hon yn newydd i bawb. Yr ydym yn pwyso arnynt i ddefnyddio’r arian yn gyflymach. Fodd bynnag, gydag Amcan 1—ac mae hyn yn ymwneud â llawer o’r sylwadau a wnaethpwyd ar y pwynt hwn—gellir eich cyhuddo o ddyrannu’r arian yn rhy gyflym ac am beidio â dilyn ymagwedd strategol neu, os ydych yn dilyn ymagwedd strategol, ni ddyrennir yr arian yn ddigon cyflym ac fe’ch parlysir drwy ddadansoddiad gormodol.

The present situation, where over 20 per cent of the £1.2 billion has been committed in the first 18 months of the programme, and with another five years or so to go, is about right. I do not think that we have failed to meet our strategic objectives in terms of how that commitment has been made. You will always get individual cases, like Technium and its expansion. I was pleased to hear Alun say that he strongly approved of the Technium programme. It is a great success and we hope to expand it quickly. There will be times when people will say ‘no’, ‘hang on’ or ‘that money is committed until the end of the year, but come back next year’. You will not always satisfy everybody. It is not like pushing a card into a hole in the wall and expecting to get £100 out, because the money must be there and it must follow a strategy. However, I believe that we have got that balance right.

yn Saesneg Mae’r sefyllfa bresennol, lle y dyrannwyd mwy nag 20 y cant o’r £1.2 biliwn yn ystod 18 mis cyntaf y rhaglen, a lle erys tua phum mlynedd arall, yn weddol briodol. Ni chredaf ein bod wedi methu â chyrraedd ein hamcanion strategol o ran sut y gwnaethpwyd y dyraniad hwnnw. Bydd bob amser achosion unigol, megis Technium a’r gwaith i’w ehangu. Yr oedd yn dda gennyf glywed Alun yn nodi ei fod yn cymeradwyo’r rhaglen Technium yn fawr. Mae’n llwyddiant mawr a gobeithiwn ei ehangu’n gyflym. Bydd cyfnodau pan ddywed pobl ‘na’, ‘arhoswch’ neu ‘mae’r arian hwnnw wedi’i ddyrannu tan ddiwedd y flwyddyn, ond dewch yn ôl y flwyddyn nesaf’. Ni fyddwch bob amser yn bodloni pawb. Nid yw fel rhoi cerdyn mewn twll yn y wal a disgwyl cael £100, oherwydd rhaid bod yr arian yno a rhaid dilyn strategaeth. Fodd bynnag, credaf ein bod wedi sicrhau’r cydbwysedd cywir.

Nick Bourne and David Melding made interesting points about the national health service. Expanding capacity in the NHS is extremely difficult. There are issues such as beds and doctor and nurse training to consider. Those problems are proving extremely difficult to solve. At the same time, as David emphasised, we have switched our focus, with the general approval of the Assembly, from waiting lists to waiting times, from treating sickness to correcting the causes of fundamental ill-health and from the acute secondary care sector to the primary care sector.

yn Saesneg Gwnaeth Nick Bourne a David Melding bwyntiau diddorol am y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae ehangu cynhwysedd yn yr NHS yn anodd dros ben. Rhaid ystyried materion megis gwelyau a hyfforddiant meddygon a nyrsys. Mae’r problemau hynny’n anodd dros ben i’w datrys. Ar yr un pryd, fel y pwysleisiodd David, mae ein ffocws wedi newid, gyda chymeradwyaeth gyffredinol y Cynulliad, o restrau aros i amserau aros, o drin salwch i unioni achosion salwch sylfaenol ac o’r sector gofal eilaidd aciwt i’r sector gofal cynradd.

I am not trying to downplay the problems that the health service is experiencing. David’s comments were slightly more measured than Nick’s, but I thank them both for the tone in which they treated that issue, which is always at the top of the agenda. We are trying to change strategy and ship the super tanker around, while trying to ensure that people receive the treatment that they want when they want it. The workforce figures are coming in from the health authorities and trusts, and they will be published before long. That will solve the gap in workforce planning, in comparison with Scotland and England.

yn Saesneg Ni cheisiaf wneud yn fach o’r problemau y mae’r gwasanaeth iechyd yn eu profi. Yr oedd sylwadau David ychydig yn fwy pwyllog na rhai Nick, ond diolchaf i’r ddau ohonynt am y ffordd y gwnaethant drin y mater hwnnw, sydd bob amser ym mlaen ein meddyliau. Yr ydym yn ceisio newid strategaeth a newid cyfeiriad, ar yr un pryd â cheisio sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt pan fônt ei hangen. Mae’r awdurdodau iechyd a’r ymddiriedolaethau yn cyflwyno ffigurau gweithlu, a chânt eu cyhoeddi cyn bo hir. Bydd hynny’n datrys y bwlch o ran cynllunio gweithlu, o gymharu â’r Alban a Lloegr.

On class sizes, Nick tried to imply that only infant class sizes have improved. Class sizes for children aged eight to 11 are also improving. You also implied that Welsh secondary class sizes are rising, but we do not have figures on that. If I am wrong, I will write to you, but the information that I have is that secondary class sizes are not rising.

yn Saesneg O ran maint dosbarthiadau, ceisiodd Nick awgrymu mai dim ond maint dosbarthiadau mewn ysgolion babanod sydd wedi gwella. Mae maint dosbarthiadau plant wyth i 11 oed hefyd yn gwella. Gwnaethoch awgrymu hefyd fod maint dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn codi, ond nid oes gennym ffigurau ar hynny. Os nad wyf yn gywir, byddaf yn ysgrifennu atoch, ond yr wybodaeth sydd gennyf yw nad yw maint dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd yn codi.

On Phil’s underspend figure, he said that he had never got an arithmetical sum wrong in his life, but I am advised that he has done so on this occasion. The underspend figure is £252 million, not £272 million. That represents around 3 per cent of our £10 billion budget. It is regrettable, but the figure is lower than was suggested, as I mentioned before. We want to correct it, but Phil should not imply that we are doing worse than big-spending Government departments.

yn Saesneg O ran ffigur tanwariant Phil, dywedodd nad oedd erioed wedi cyfrif swm yn anghywir, ond fe’m cynghorir ei fod wedi gwneud hynny y tro hwn. Y ffigur a danwariwyd yw £252 miliwn, nid £272 miliwn. Mae hynny’n tua tri y cant o’n cyllideb o £10 biliwn. Fe’i gresynaf, ond mae’r ffigur yn is na’r hyn a awgrymwyd, fel y crybwyllais yn gynharach. Yr ydym am gywiro’r sefyllfa, ond ni ddylai Phil awgrymu ein bod yn perfformio’n waeth nag adrannau o’r Llywodraeth sydd yn gwario symiau sylweddol.

David Davies spoken in English p. 74

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 74

As a percentage, is it more or less than the underspend achieved by John Redwood?

Fel canran, a yw’n fwy neu’n llai na’r tanwariant a gyflawnwyd gan John Redwood?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 74

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 74

I cannot answer questions about John Redwood. He sent the money back because he wanted to make a virtue out of that. We do not intend to send any money back. We will roll it over and spend it next year, unlike him. He wanted to run for the leadership of the Tory Party on the back of that insane gesture, which cost him his political life. Where is he now?

Ni allaf ateb cwestiynau am John Redwood. Anfonodd yr arian yn ôl gan ei fod am wneud rhinwedd o hynny. Ni fwriadwn anfon arian yn ôl. Byddwn yn ei dreiglo i’r flwyddyn nesaf, gan ei wario, yn wahanol iddo ef. Yr oedd am sefyll fel ymgeisydd i arweinyddiaeth y Blaid Dorïaidd ar gefn y penderfyniad gwallgof hwnnw, a gostiodd ei fywyd gwleidyddol iddo. Ble y mae yn awr?

Phil also made a point about Finance Wales being late. We have waited 30 years for a development bank for small and medium-sized firms in Wales. This morning’s news was tremendous and we hope to launch Finance Wales fully on 6 November. It is already up and running, but the Objective 1 money is now coming together.

Gwnaeth Phil bwynt am yr oedi wrth gyflwyno Cyllid Cymru. Yr ydym wedi aros 30 mlynedd am fanc datblygu i gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Yr oedd y newyddion y bore yma yn wych a gobeithiwn lansio Cyllid Cymru yn llawn ar 6 Tachwedd. Mae eisoes yn weithredol, ond yr ydym bellach yn cael trefn ar yr arian Amcan 1.

The national economic development strategy, which Alun and others raised, will be published later this month. The consultees asked for more time; it is not being delayed by anything that has happened within the administration. Our partners asked for more time, so we gave them more time, after which we will publish the strategy. It will then be fully discussed in the Economic Development Committee and in Plenary. The delay has nothing to do with the Assembly administration or the fact that we have not had a Minister for Economic Development who is not also First Minister during the past few months. I assure Alun that that is not the case. It does not matter. You cannot find evidence to indicate that that is causing a problem in economic development. I repeat that the economy is not in recession.

Caiff y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol, a godwyd gan Alun ac Aelodau eraill, ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Gofynnodd y bobl yr ymgynghorwyd â hwy am fwy o amser; nid unrhyw beth a ddigwyddodd o fewn y weinyddiaeth sydd wedi achosi’r oedi. Gofynnodd ein partneriaid am fwy o amser, felly rhoddwyd mwy o amser iddynt, ac yna byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth. Caiff ei thrafod yn llawn yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd ac yn y Cyfarfod Llawn. Nid oes a wnelo’r oedi ddim byd â gweinyddiaeth y Cynulliad na’r ffaith na fu gennym Weinidog dros Ddatblygu Economaidd nad yw hefyd yn Brif Weinidog Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Sicrhaf Alun nad yw hynny’n wir. Nid yw’n berthnasol. Ni allwch ganfod tystiolaeth i nodi bod hynny’n achosi problem ym maes datblygu economaidd. Ailadroddaf y ffaith nad oes dirwasgiad economaidd.

Gwelliant 1 Ieuan Wyn Jones t. 74

Amendment 1 Ieuan Wyn Jones p. 74

GwrthodwydRejected O blaidFor 25 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 32

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (25)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (32)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 2 Ieuan Wyn Jones t. 75

Amendment 2 Ieuan Wyn Jones p. 75

GwrthodwydRejected O blaidFor 25 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 32

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (25)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (32)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

DerbyniwydAdopted O blaidFor 32 YmatalAbstain 16 Yn erbynAgainst 9

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (32)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
YmatalAbstain (16)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (9)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers

Daeth y Llywydd i’r Gadair am 3.37 p.m.

The Presiding Officer took the Chair at 3.37 p.m.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 77

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 77

Byddaf yn derbyn y pwyntiau o drefn y cefais ragrybudd ohonynt, gan gynnwys un Rod Richards, ar ôl y datganiad busnes.

I will take those points of order of which I have had prior warning, including Rod Richards’s, after the business statement.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 77

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 77

Point of order. This point of order relates directly to the other points of order, and particularly to that raised earlier by Nick Bourne. I hope that my response will be measured.

Pwynt o drefn. Mae’r pwynt hwn o drefn yn ymwneud yn uniongyrchol â’r pwyntiau eraill o drefn, ac yn arbennig â’r hyn a godwyd gan Nick Bourne yn gynharach. Gobeithiaf y bydd fy ymateb yn bwyllog.

Nick Bourne made a point earlier, in rather intemperate language if I may say so, that Plaid Cymru was responsible for the failure to reach an agreement on the wording of a motion for the debate on the international situation. I wish to clarify, for the purposes of the Record, that the wording of the motion that was circulated by the party leaders was agreed fully by Plaid Cymru.

Gwnaeth Nick Bourne bwynt yn gynharach, mewn geiriau braidd yn eithafol os gallaf ddweud, mai Plaid Cymru a oedd yn gyfrifol am y ffaith na chafwyd cytundeb o ran geiriad y cynnig ar gyfer y ddadl ar y sefyllfa ryngwladol. Hoffwn egluro, at ddibenion y Cofnod, y cytunodd Plaid Cymru yn llwyr â geiriad y cynnig a ddosbarthwyd gan arweinwyr y pleidiau.

Nick Bourne spoken in English p. 77

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 77

Further to that point of order, I do not regret anything that I said earlier. The delivery may have been passionate, but the sentiment was the same. Three parties in the Assembly are willing to back the actions of Her Majesty’s Government. One party is not.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn, nid wyf yn edifarhau am unrhyw beth a ddywedais yn gynharach. Efallai imi ei gyflwyno mewn ffordd angerddol, ond yr un oedd y teimlad a oedd gennyf. Mae tair plaid yn fodlon cefnogi camau Llywodraeth ei Mawrhydi. Nid yw un blaid yn fodlon gwneud hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

Order. It appears as though I have not been away for my light lunch. We seem to be reverting to the points of order made earlier.

Trefn. Ymddengys fel pe nad wyf wedi mynd i gael fy nghinio a’n bod yn dychwelyd at y pwyntiau o drefn a wnaethpwyd yn gynharach.

Datganiad ar yr Ymosodiadau Terfysgol ar UDA ar 11 Medi 2001

Statement on the Terrorist Attacks on the USA on 11 September 2001

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 77

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 77

The terrorist attacks on the World Trade Center and the Pentagon on 11 September shocked and outraged the world. Wales shares in the horror of that atrocity and our sympathies and support go out to the families involved and to the American people in general. We all watched in something approaching disbelief as the events of that day unfolded. They brought home to us the harsh reality that terrorism in its modern form had achieved the unthinkable.

Bu’r ymosodiadau terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd a’r Pentagon ar 11 Medi yn sioc ac yn destun dicter i’r byd. Mae Cymru yn ymdeimlo â’r erchylltra hwnnw a chydymdeimlwn ac estynnwn ein cefnogaeth i’r teuluoedd dan sylw ac i bobl America yn gyffredinol. Gwyliodd pob un ohonom bron mewn anghrediniaeth wrth i ddigwyddiadau’r dydd ddatblygu. Gwnaethant inni sylweddoli’r realiti moel fod terfysgaeth fodern wedi cyflawni erchylltra y tu hwnt i amgyffred.

The repercussions of that atrocity have been worldwide. In Britain, contingency plans were immediately reviewed to address the question of what we could do if such an event happened here. The current planning activity is being carried out at a senior level between a network of agencies, led by the Civil Contingencies Secretariat based in the Cabinet Office, providing a co-ordinated and integrated approach to emergency planning. The National Assembly for Wales and the Office of the Secretary of State for Wales have been involved in this planning activity and are working together closely to represent the interests of Wales. In Wales, the Assembly is working with the emergency services, health authorities, local authorities and others on contingency planning and we are sharing what information we have with them. However, it is important to stress that there is no evidence of any specific threat against Wales or the UK, but nevertheless it is important that people stay vigilant. There is every reason for people to go about their daily business as normal.

Teimlwyd effeithiau’r erchylltra hwnnw ledled y byd. Ym Mhrydain, adolygwyd y cynlluniau wrth gefn ar unwaith er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiwn o beth y gallem ei wneud pe bai digwyddiad o’r fath yn digwydd yma. Ymgymerir â’r gwaith cynllunio presennol ar lefel uwch rhwng rhwydwaith o asiantaethau, o dan arweiniad yr Ysgrifenyddiaeth Digwyddiadau Sifil yn Swyddfa’r Cabinet, sydd ag ymagwedd gydlynus a chyfannol tuag at gynllunio brys. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi bod yn gysylltiedig â’r gweithgaredd cynllunio hwn ac yn cydweithio’n agos i gynrychioli buddiannau Cymru. Yng Nghymru, mae’r Cynulliad yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill ar gynllunio wrth gefn ac yr ydym yn rhannu pa wybodaeth bynnag sydd gennym gyda hwy. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio nad oes tystiolaeth o unrhyw fygythiad penodol yn erbyn Cymru na’r DU, ond serch hynny mae’n bwysig i bobl fod yn wyliadwrus. Nid oes rheswm pam na ddylai pobl barhau â’u gweithgareddau dyddiol yn unol â’u harfer.

The Assembly administration has fully supported a UK response to this tragedy to address the issue of casualties. We are in close contact with many UK Government Departments including the Department of Health and the Department for Media, Culture and Sport, which has taken the lead on services to be provided to support British casualties. British consular staff and the police are continuing the difficult task of trying to establish how many Britons were among those who were killed. It will take some time to identify all the victims. It is likely that the remains of many will never be recovered. This will be particularly hard for their families as they try to grieve. The latest number of British victims who are on the list of missing, feared dead is around 120. Fortunately, the number of British casualties has decreased and is thankfully lower than first feared. Some consolation is that over 3,400 individuals originally reported missing have now been traced and are safe and well. This, of course, is no consolation to those families that have lost their loved ones and our thoughts are very much with them.

Mae gweinyddiaeth y Cynulliad wedi cefnogi’n llwyr ymateb y DU i’r drychineb hon o ran ymdrin â’r rhai a anafwyd. Mae gennym gysylltiad agos â nifer o Adrannau Llywodraeth y DU gan gynnwys yr Adran Iechyd a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sydd wedi cymryd yr arweiniad o ran gwasanaethau i’w darparu er mwyn cynorthwyo dioddefwyr Prydeinig. Mae staff consylaidd Prydain a’r heddlu yn parhau â’r dasg anodd o geisio canfod sawl Prydeiniwr a oedd ymysg y rhai a laddwyd. Cymer beth amser i adnabod yr holl bobl a laddwyd. Mae’n debygol na fydd modd dod o hyd i gyrff llawer ohonynt. Bydd hyn yn anodd iawn i’w teuluoedd wrth iddynt geisio galaru. Mae’r nifer ddiweddaraf o ddioddefwyr Prydeinig sydd ar y rhestr o bobl sydd ar goll, ac yr ofnir eu bod wedi marw, oddeutu 120. Yn ffodus, mae nifer y dioddefwyr Prydeinig wedi gostwng ac mae’n is nag yr ofnwyd yn wreiddiol, diolch am hynny. Mae’r ffaith y daethpwyd o hyd i fwy na 3,400 o unigolion yr ofnwyd eu bod ar goll yn wreiddiol yn fyw ac yn iach yn rhywfaint o gysur. Wrth gwrs, nid yw hyn o unrhyw gysur i’r teuluoedd hynny sydd wedi colli eu hanwyliaid ac mae ein meddyliau gyda hwy.

I am aware of media reports about Welsh casualties. It is not appropriate for me to speculate on this. There is no authoritative list of Welsh victims. This is understandable not only because the process of identification is continuing, but also because families want privacy at what must be a horrendously difficult time for them. We are ensuring that we play our part in the UK arrangements to ensure that everything possible is being done to support the families involved.

Yr wyf yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau am ddioddefwyr o Gymru. Nid yw’n briodol imi ddamcaniaethu ynglŷn â hyn. Nid oes rhestr awdurdodol o ddioddefwyr o Gymru. Mae hyn yn ddealladwy nid yn unig am fod y broses adnabod yn parhau, ond hefyd am fod y teuluoedd am gael preifatrwydd ar gyfnod sydd, mae’n siŵr, yn un aruthrol o anodd iddynt. Yr ydym yn sicrhau y gallwn chwarae ein rhan yn nhrefniadau’r DU i sicrhau y gwneir popeth posibl i gefnogi’r teuluoedd dan sylw.

On racial incidents that have occurred in Wales since the events in the USA, there have been incidents of harassment, not only against Muslims, but also against other ethnic groups, supposedly as an expression of revenge for the terrorist attacks. Although they are not so violent, they are just as bad as the terrorist attacks. The majority of Muslims in Wales have condemned the attacks in America. The actions of a small group of terrorists should not be associated with the teachings and followers of Islam, which advocates peace and not terrorism. Neither is it a question of east versus west—about our values against theirs in some obscure way. It is about protecting freedom and maintaining peace. These values are shared and upheld by Muslims throughout Wales.

O ran digwyddiadau hiliol yng Nghymru ers y digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, gwelwyd achosion o aflonyddwch, nid yn unig yn erbyn Moslemiaid, ond hefyd yn erbyn grwpiau ethnig eraill, fel dial, yn ôl y dyb, am yr ymosodiadau terfysgol. Er nad ydynt mor dreisgar, maent cynddrwg â’r ymosodiadau terfysgol. Mae mwyafrif y Moslemiaid yng Nghymru wedi condemnio’r ymosodiadau yn America. Ni ddylid cysylltu gweithredoedd grŵp bychan o derfysgwyr gyda dysgeidiaeth a dilynwyr Islam, sydd yn hyrwyddo heddwch nid terfysgaeth. Nid yw ychwaith yn fater o’r dwyrain yn erbyn y gorllewin—yn fater o’n gwerthoedd ni yn erbyn eu gwerthoedd hwy mewn rhyw ffordd ryfedd. Mae’n ymwneud â diogelu rhyddid a chadw’r heddwch. Mae Moslemiaid drwy Gymru yn rhannu ac yn cefnogi’r gwerthoedd hyn.

I condemn 100 per cent any attacks, verbal or physical, on Muslims or any other ethnic or religious minority group in Wales. We must act against racists in this country who are using this opportunity to justify their prejudices and create tensions in our communities. We must show a united front against terrorism and racism. I and other party leaders met recently with religious leaders, denominational leaders within the Christian religion and other religions, community representatives and chief constables, or their representatives, to discuss and address this situation. Several actions were agreed. In particular, the Assembly will seek to arrange a meeting between religious and community representatives and the media. The Assembly will also continue to monitor the situation and liaise with these community and religious leaders regularly. The police in Wales are taking all necessary steps to protect the public and especially members of ethnic and religious minorities.

Condemniaf yn llwyr unrhyw ymosodiadau, boed yn llafar neu’n gorfforol, ar Foslemiaid neu unrhyw grŵp lleiafrifol ethnig neu grefyddol arall yng Nghymru. Rhaid inni weithredu yn erbyn pobl hiliol yn y wlad hon sydd yn defnyddio’r cyfle hwn i gyfiawnhau eu rhagfarnau a chreu tensiynau yn ein cymunedau. Rhaid inni ddangos ein bod yn uno yn erbyn terfysgaeth a hiliaeth. Cefais i ac arweinwyr y pleidiau eraill gyfarfod yn ddiweddar gydag arweinwyr crefyddol, arweinwyr enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill, cynrychiolwyr cymunedau a phrif gwnstabliaid, neu eu cynrychiolwyr, i drin a thrafod y sefyllfa hon. Cytunwyd ar sawl cam. Yn benodol, bydd y Cynulliad yn ceisio trefnu cyfarfod rhwng cynrychiolwyr crefyddol a chymunedau a’r cyfryngau. Bydd y Cynulliad hefyd yn parhau i fonitro’r sefyllfa a chyd-drafod â’r arweinwyr cymunedol a chrefyddol hyn yn rheolaidd. Mae’r heddlu yng Nghymru yn cymryd pob cam posibl i ddiogelu’r cyhoedd ac yn arbennig aelodau o leiafrifoedd ethnig a chrefyddol.

The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language is to visit New York at the end of this month as part of a visit arranged before the terrorist attacks on 11 September. Jenny will take the opportunity while in New York to offer support to the American people and pay respects on behalf of the National Assembly to those who lost their lives. She will take with her a letter of sympathy from the Muslim leaders of the Madina Mosque in Cardiff. This letter represents the feelings in Wales among all religions and communities about the tragic events in America.

Bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant Chwaraeon a’r Gymraeg yn ymweld ag Efrog Newydd ar ddiwedd y mis fel rhan o ymweliad a drefnwyd cyn yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi. Bydd Jenny yn manteisio ar y cyfle tra yn Efrog Newydd i gynnig cymorth i bobl America ac i dalu teyrnged i’r rheini a gollodd eu bywydau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yn mynd â llythyr o gydymdeimlad gyda hi gan arweinwyr Moslemaidd Mosg Madina yng Nghaerdydd. Mae’r llythyr hwn yn cynrychioli’r teimladau yng Nghymru ymysg pob crefydd a chymuned ynghylch y digwyddiadau trasig yn America.

On bio-terrorism, chemical and biological warfare and the continued speculation on this in the press, it must be reiterated that there is no evidence of a specific threat in Wales to any particular target. However, for reassurance, every reasonable measure of internal security is being taken and all the necessary authorities are involved. It would not be sensible or helpful to elaborate on the details of the arrangements in place. We are not advising people to seek medical vaccination or any other medical treatment. Neither is there any indication that there is any need for the public to be provided with protective masks.

O ran bio-terfysgaeth, rhyfela cemegol a biolegol a’r damcaniaethu parhaus ar hyn yn y wasg, rhaid imi ailadrodd nad oes dim tystiolaeth o fygythiad penodol yng Nghymru i unrhyw darged penodol. Fodd bynnag, er mwyn rhoi sicrwydd i bobl, cymerir pob cam rhesymol o ran diogelwch mewnol ac mae pob awdurdod angenrheidiol yn gysylltiedig â hyn. Ni fyddai’n synhwyrol nac yn ddefnyddiol i fanylu ar y trefniadau sydd ar waith. Nid ydym yn cynghori pobl i ofyn am frechu meddygol nac unrhyw driniaeth feddygol arall. Nid oes arwydd ychwaith bod angen darparu mygydau amddiffynnol i’r cyhoedd.

There is also speculation about the vulnerability of our water supplies to contamination. The water and sewerage companies are required by law to have plans in place to cater for all types of emergency situations including supply contamination. These plans are regularly updated and are independently audited. Again, for obvious reasons, I cannot provide you with details of these arrangements nor elaborate on any other security matters relating to water supply.

Damcaniaethir hefyd ynghylch y perygl i’n cyflenwadau dŵr gael eu halogi. Mae’n rhaid i’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn ôl y gyfraith feddu ar gynlluniau i ymdrin â phob math o argyfyngau yn cynnwys halogi cyflenwadau. Caiff y cynlluniau hyn eu diweddaru’n rheolaidd a’u harchwilio’n annibynnol. Unwaith eto, am resymau amlwg, ni allaf roi manylion y trefniadau hyn ichi nac ymhelaethu ar faterion diogelwch eraill sydd yn ymwneud â’r cyflenwad dŵr.

Nuclear power stations also have clear, up-to-date plans to deal with major incidents. The UK’s civil nuclear sites apply stringent measures regulated by the Office for Civil Nuclear Security—the security regulator. They work closely with the Health and Safety Executive—the safety regulators, who provide advice on the safety implications of events, including external hazards such as plane crashes at nuclear installations. Security and safety precautions at nuclear sites are kept under constant review. Both regulators are reviewing all relevant precautions in the light of the recent attacks in the USA. It is not Government policy to disclose details of security measures at nuclear sites.

Mae gan orsafoedd ynni niwclear hefyd gynlluniau pendant, cyfredol i ddelio ag argyfyngau. Mae safleoedd niwclear sifil y DU yn cymhwyso mesurau llym wedi’u rheoleiddio gan y Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil—y rheolydd diogelwch. Gweithiant yn agos gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch—y rheoleiddwyr diogelwch, sydd yn darparu cyngor ar oblygiadau diogelwch digwyddiadau, gan gynnwys peryglon allanol megis awyrennau’n taro gosodiadau niwclear. Caiff camau diogelwch ar safleoedd niwclear eu hadolygu’n gyson. Mae’r ddau reoleiddiwr yn adolygu’r holl gamau perthnasol yng ngoleuni’r ymosodiadau diweddar yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’n bolisi gan y Llywodraeth i ddatgelu manylion camau diogelwch mewn safleoedd niwclear.

It will no doubt be asked what role the Assembly would play if a terrorist incident or major emergency of this kind happened in Wales. The Assembly has no general responsibility for emergency planning or the handling of emergencies in Wales under the Government of Wales Act 1998. This responsibility was retained by central Government, initially by the Home Office, but following recent changes the responsibility has now passed to the Civil Contingencies Secretariat at the Cabinet Office, with the emergency services reporting directly to the Home Office, the Department for Local Government, Transport and the Regions and the police and fire services. Responsibility for emergencies is therefore fragmented at a political level. On the ground we would rely on the police, fire, ambulance and health services to deal with the situation.

Bydd y cwestiwn yn sicr o godi ynglŷn â beth fyddai rôl y Cynulliad pe bai digwyddiad terfysgol neu argyfwng mawr o’r math hwn yn digwydd yng Nghymru. Nid oes gan y Cynulliad gyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio ar gyfer argyfyngau nac ymdrin ag argyfyngau yng Nghymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Cadwyd y cyfrifoldeb hwn gan y Llywodraeth ganolog, gan y Swyddfa Gartref i ddechrau, ond yn dilyn newidiadau diweddar mae’r cyfrifoldeb bellach wedi’i drosglwyddo i’r Ysgrifenyddiaeth Digwyddiadau Sifil yn Swyddfa’r Cabinet, gyda’r gwasanaethau brys yn adrodd yn uniongyrchol i’r Swyddfa Gartref, yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau a’r heddlu a’r gwasanaethau tân. Felly caiff y cyfrifoldeb dros achosion brys eu rhannu ar lefel wleidyddol. Ar lawr gwlad byddem yn dibynnu ar yr heddlu, y gwasanaethau tân, ambiwlans ac iechyd i ddelio â’r sefyllfa.

The Assembly has direct responsibility for ambulance and health services. The responses of these services are fundamental to dealing with any major incident. The NHS in Wales has robust major incident plans that are well regarded. We have been working with these services and other Government Health Departments across the UK to ensure that these plans are as up-to date and flexible as possible and resilient to all potential threats.

Mae gan y Cynulliad gyfrifoldeb uniongyrchol dros y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth iechyd. Mae ymatebion y gwasanaethau hyn yn hollbwysig i ymdrin ag unrhyw argyfwng. Mae gan yr NHS yng Nghymru gynlluniau cadarn ar gyfer ymdrin ag argyfyngau, ac mae’r cynlluniau hynny wedi cael eu canmol. Yr ydym wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaethau hyn ac Adrannau Iechyd eraill y Llywodraeth ar draws y DU i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn rhai mor ddiweddar ac mor hyblyg â phosibl ac yn gallu gwrthsefyll pob bygythiad posibl.

The Assembly has played a valuable role during recent events in co-ordinating the activities of other agencies at the all-Wales level. Although the circumstances are different from terrorism, the ability to co-ordinate, react and respond was demonstrated clearly during the fuel crisis around 12 months ago, and again in combating foot and mouth disease over the past eight months. Whether or not that additional role of emergency planning co-ordination should be formalised and transferred to the Assembly is the subject of a current Cabinet Office consultation exercise. However, if another emergency were to develop in the meantime, as happened during the fuel and foot and mouth disease crises, a co-ordination centre would be established to act as a conduit between all the emergency services in Wales and between Wales and Whitehall.

Mae’r Cynulliad wedi chwarae rhan werthfawr yn ystod y digwyddiadau diweddar o ran cydgysylltu gweithgareddau asiantaethau eraill ar lefel Cymru gyfan. Er bod yr amgylchiadau yn wahanol i derfysgaeth, dangoswyd yn glir y gallu i gydgysylltu, adweithio ac ymateb yn ystod yr argyfwng tanwydd tua 12 mis yn ôl, ac eto wrth ymladd clwy’r traed a’r genau dros yr wyth mis diwethaf. Mae pa un ai a ddylid ffurfioli’r rôl ychwanegol honno o gydgysylltu’r broses o gynllunio ar gyfer argyfyngau a’i throsglwyddo i’r Cynulliad yn destun ymgynghoriad cyfredol gan Swyddfa’r Cabinet. Fodd bynnag, pe bai argyfwng arall yn codi yn y cyfamser, fel y digwyddodd yn ystod yr argyfwng tanwydd a chlwy’r traed a’r genau, câi canolfan gydgysylltu ei sefydlu i weithredu fel sianel rhwng yr holl wasanaethau brys yng Nghymru a rhwng Cymru a Whitehall.

In any emergency, I am responsible for agreeing the actions that we should take, or for delegating this to another Minister. At present, no Minister has been formally delegated management of emergency planning matters. In an emergency, I will form a sub-committee of Ministers, shadowed by a standing committee of officials, to oversee planning matters. Although we have no formal legal powers to handle emergencies, in reality, as we have shown in recent crises over the last 13 months, we have a tried and tested structure of communication and the co-operation of other parties to adapt and work closely together in addressing emergency situations. The Cabinet Office is content for us to act on their behalf in Wales in co-ordinating a Welsh response from the local authorities and, while the emergency services officially report to Whitehall departments, they also accept and appreciate the need to work in parallel with us in Wales.

Mewn unrhyw argyfwng, fi sydd yn gyfrifol am gytuno ar y camau y dylem eu cymryd, neu am ddirprwyo hyn i Weinidog arall. Ar hyn o bryd, ni ddirprwywyd y gwaith o reoli materion cynllunio ar gyfer argyfyngau yn ffurfiol i unrhyw Weinidog. Mewn argyfwng byddaf yn ffurfio is-bwyllgor o Weinidogion, wedi’i gysgodi gan bwyllgor sefydlog o swyddogion, i oruchwylio materion cynllunio. Er nad oes gennym unrhyw bwerau cyfreithiol ffurfiol i ymdrin ag argyfyngau, mewn gwirionedd, fel y dangoswyd mewn argyfyngau dros y 13 mis diwethaf, mae gennym strwythur cyfathrebu a brofwyd a chydweithrediad y pleidiau eraill er mwyn addasu a chydweithio’n glòs i fynd i’r afael ag argyfyngau. Mae Swyddfa’r Cabinet yn fodlon inni weithredu ar ei rhan yng Nghymru i gydlynu ymateb Cymreig gan yr awdurdodau lleol ac, er bod y gwasanaethau brys yn swyddogol atebol i adrannau Whitehall, maent hefyd yn derbyn ac yn gwerthfawrogi’r angen i weithio ochr yn ochr â ni yng Nghymru.

In summary, the events of September have focused attention on contingency planning and have posed questions throughout the world of whether existing national plans, frequently dating from the cold war, are robust enough to cope with acts of terrorism of this magnitude. In Wales, similar questions have been asked, of and by us. The Assembly will continue to work closely with the Office of the Secretary of State for Wales in addressing these questions in Wales and at the UK level. We will continue to share as much information as we can with our public sector partners in Wales to maintain the spirit of co-operation and synergy that exists. We shall continue to work with all the parties in Wales to achieve a united front against racial attacks and endeavour to achieve and sustain social harmony. However, the main message remains: there is no evidence of any specific threat against Wales and its people and people should live their normal lives without any fear of terrorism. To live in such a way would allow the terrorists to achieve what they have set out to achieve. We must maintain our united front against terrorism.

I grynhoi, mae digwyddiadau mis Medi wedi hoelio sylw ar gynllunio wrth gefn ac wedi codi cwestiynau ledled y byd ynghylch a yw’r cynlluniau cenedlaethol presennol, sydd yn aml yn dyddio o’r rhyfel oer, yn ddigon cadarn i ymdopi â gweithredoedd terfysgol o’r maint hwn. Yng Nghymru, gofynnwyd cwestiynau tebyg, i ni a chennym ni. Bydd y Cynulliad yn parhau i weithio’n agos gyda Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn yng Nghymru ac yn y DU. Byddwn yn parhau i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cynnal y natur gydweithredol a’r synergedd sydd yn bodoli. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl bleidiau yng Nghymru i uno yn erbyn pob ymosodiad hiliol ac yn ymdrechu i gyflawni a chynnal cytgord cymdeithasol. Fodd bynnag, erys y brif neges: nid oes tystiolaeth o unrhyw fygythiad penodol yn erbyn Cymru a’i phobl a dylai pobl fyw eu bywydau yn ôl eu harfer heb ofni terfysgaeth. Byddai byw yn y fath fodd yn caniatáu i’r terfysgwyr gyflawni’r hyn y maent wedi ei fwriadu. Rhaid inni barhau yn unedig yn erbyn terfysgaeth.

Finally, I thank the leaders of the other political parties for their co-operation and participation in the cross-party initiatives that we took by meeting the community leaders of the religious and minority ethnic communities. If we work together in that spirit, I believe that we can see this crisis through.

Yn olaf, diolch i arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill am eu cydweithrediad a’u cyfranogiad yn y mentrau trawsbleidiol a gymerwyd gennym drwy gwrdd ag arweinwyr y cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Os gweithiwn gyda’n gilydd yn yr ysbryd hwnnw, credaf y gallwn oresgyn yr argyfwng hwn.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 83

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh and English p. 83

Gan mai hwn yw’r tro cyntaf i’r Cynulliad gyfarfod ers digwyddiadau erchyll 11 Medi yn Efrog Newydd a Washington, mae’n briodol ein bod yn neilltuo amser i drafod hynny a’r hyn a ddigwyddodd wedyn.

in Welsh As this is the first time that the Assembly has met since the horrendous events of 11 September in New York and Washington, it is right that we set aside some time to discussing those events and their aftermath.

Dymuniad grŵp Plaid Cymru, a dymuniad sawl un yn y Cynulliad, yw sicrhau ein bod yn cynnal dadl ar y mater hwn. Er gwaethaf digwyddiadau’r prynhawn yma, yr wyf yn mawr obeithio y bydd trafodaethau rhwng y pleidiau i sicrhau y cynhelir dadl yr wythnos nesaf. Beth bynnag yw’r gwahaniaethau rhyngom ar y mater hwn, dylai fod ffordd o sicrhau ein bod yn cynnal dadl ar fater sydd mor bwysig, nid yn unig i ni yng Nghymru, ond—os caf ddweud, heb ddefnyddio gormodiaith—i ddyfodol y ddynoliaeth. Rhaid i’n profiad ni heddiw fod yn wers inni: os yw Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn rhwystr inni, dylem eu newid. Ategaf yr hyn a ddywedasoch, Rhodri, am y ffaith bod cyfarfodydd wedi’u cynnal rhwng arweinwyr y pleidiau. Gobeithiaf y gallwn sicrhau bod y trafodaethau hynny’n parhau.

in Welsh The Plaid Cymru group, and many in the Assembly, wish to ensure that we hold a debate on this matter. In spite of what happened this afternoon, I sincerely hope that there will be discussions between the parties to ensure that a debate is held next week. Whatever our differences on this issue, there should be a means of ensuring that we hold a debate on a matter of such importance, not only to us in Wales, but—if I may say, without exaggeration—to the future of mankind. Our experience today must serve as a lesson to us: if the Assembly’s Standing Orders obstruct us, we should change them. I reiterate what you said, Rhodri, about the fact that meetings have been held between the party leaders. I hope that we can ensure that those discussions continue.

Nid oes geiriau digon cryf i fynegi ein condemniad o’r hyn a ddigwyddodd yn Efrog Newydd a Washington. Y rhain oedd y gweithredoedd terfysgol mwyaf dieflig a welodd y byd erioed. Nid oes dim byd a all gyfiawnhau’r fath anfadrwydd. Fel chithau, Rhodri, anfonais neges at gynrychiolydd llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yng Nghymru i fynegi ein cydymdeimlad â phobl America yn eu trallod.

in Welsh No words can fully express our condemnation of what happened in New York and Washington. These were the most diabolical terrorist acts that the world has ever seen. Nothing can justify such villainy. Like you, Rhodri, I sent a message to the representative of the United States embassy in Wales to express our sympathy with the American people in their suffering.

Sawl tro ers 11 Medi, yr ydym wedi pwysleisio’r angen i ddod â therfysgaeth ryngwladol i ben, gan gynnwys y rhwydwaith yn Afghanistan. Mae’n rhaid inni sicrhau bod hynny’n digwydd gyda chefnogaeth lwyr y byd Moslemaidd. Rhaid i lais Cymru gael ei glywed wrth inni roi ein cefnogaeth ar lefel fyd-eang i gydweithredu rhyngwladol, pe deuem i’r fan lle y gellid concro terfysgaeth unwaith ac am byth. Llawer anos yw creu’r amgylchiadau lle y gellid gwneud hynny pan fo pobl ddiniwed yn Afghanistan yn dioddef mor enbyd. Y rheswm pennaf i’n plaid ofyn, ddydd Mawrth diwethaf, am i’r cyrchoedd bomio ddod i ben oedd ein pryder gwirioneddol ein bod ar fin creu argyfwng dyngarol arswydus. Erbyn hyn mae’r alwad honno wedi’i hategu gan Mary Robinson, cyn Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.

in Welsh Since 11 September, we have repeatedly emphasised the need to end international terrorism, including the network in Afghanistan. We must ensure that that happens with the full support of the Muslim world. Wales’s voice must be heard as we give our support on a global level to international co-operation, were we to reach a stage where terrorism could be conquered once and for all. It is much more difficult to create circumstances in which that could be done when innocent people are suffering so terribly in Afghanistan. The main reason why our party asked, last Tuesday, for the cessation of the bombing campaign was our genuine concern that we were about to create a horrendous humanitarian crisis. That call has now been echoed by Mary Robinson, the former United Nations High Commissioner for Human Rights.

Y negeseuon sy’n dod o’r mudiadau sy’n rhoi cymorth i’r ffoaduriaid yw bod rhaid inni weithredu ar frys yn Afghanistan. Yn ôl yr awdurdodau yno, mae angen 56,000 o dunelli o fwyd bob mis ar y wlad er mwyn osgoi newyn. Dim ond 1,500 o dunelli sydd wedi cyrraedd ers dechrau’r bomio. O fewn pythefnos, ni fydd bwyd ar ôl. O fewn mis, ni fydd 2 filiwn o bobl Afghanistan yn gallu cael cymorth oherwydd y gaeaf. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod traean o drigolion y wlad, 7.5 miliwn o bobl, mewn perygl o newyn.

in Welsh The aid agencies working with refugees have called for urgent action in Afghanistan. According to the authorities there, the country needs 56,000 tonnes of food every month in order to avoid famine. Only 1,500 tonnes have been delivered since the bombing began. Within a fortnight, there will be no food left. Within a month, 2 million Afghan people will be unable to get aid because of the onset of winter. The United Nations estimate that a third of the country’s population, 7.5 million people, are in danger of starvation.

Ganol dydd, bu ffrwydrad ger warws bwyd Cyngor Rhyngwladol y Groes Goch yn Kabul. Oherwydd hynny, mae gwaith dosbarthu bwyd yno wedi dod i ben. Gofynnaf i chi ategu’r hyn a ddywedasoch wrthyf yn gynharach heddiw, sef ein bod yn cefnogi galwad frys y mudiadau dyngarol i sicrhau bod llwybrau diogel yn cael eu hagor i lorïau a bod digon o fwyd a lloches yn cyrraedd pobl Afghanistan cyn tywydd gwaethaf y gaeaf, a ddaw cyn hir. Mae hyn yn fater o frys ac mae angen gweithredu ar fyrder.

in Welsh At midday, there was an explosion near the International Committee of the Red Cross food warehouse in Kabul. As a result, the work of distributing food there has ceased. I ask you to reiterate what you told me earlier today, namely that we support the humanitarian organisations’ urgent call to ensure that safe routes are opened up to lorries and that enough food and shelter reaches the Afghan people before the worst of the winter weather, which is on its way. This is a matter of urgency and swift action is needed.

Mae gennym gymunedau Moslemaidd yng Nghymru sy’n poeni o ddifrif am ddyfodol y glymblaid fregus rhwng y gorllewin a’r byd Moslemaidd. Yr ydym wedi clywed am yr hyn sy’n digwydd yn Pakistan ac Indonesia a’r anesmwythyd cynyddol yn y dwyrain canol. A wnewch chi anfon neges frys i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ddatgan cefnogaeth lwyraf Cymru i ail-agor y trafodaethau rhwng y Palestiniaid ac Israel a’n cefnogaeth ni i sefydlu gwladwriaeth i’r Palestiniaid fel rhan o unrhyw setliad yn y dwyrain canol? Tra’n croesawu’n frwd y cyfarfod ddoe rhwng Tony Blair a Yasser Arafat a’r datganiad a wnaethpwyd yn dilyn y cyfarfod, rhaid pwysleisio’r angen i fynd â’r maen i’r wal y tro hwn er mwyn osgoi creu sinigiaeth bellach ymysg y Palestiniaid ynghylch bona fides y gorllewin yn y mater hwn.

in Welsh We have Muslim communities in Wales that are deeply concerned about the future of the fragile coalition between the west and the Muslim world. We have heard about events in Pakistan and Indonesia and the increasing unrest in the middle east. Will you send an urgent message to the United Kingdom Government declaring Wales’s full support for re-opening discussions between the Palestinians and Israel and our support for the establishment of a Palestinian state as part of any settlement in the middle east? While enthusiastically welcoming yesterday’s meeting between Tony Blair and Yasser Arafat and the statement made after the meeting, we must emphasise the need for a result this time so as not to create further cynicism among Palestinians regarding the bona fides of the west in this matter.

Yr ydych eisoes wedi condemnio’r ymosodiadau milain ar Foslemiaid yng Nghymru ac wedi cadarnhau—ac mae hyn yn bwysig—fod Moslemiaid Cymru wedi condemnio’r gweithredoedd yn America. Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli eu bod yn ddinasyddion llawn yng Nghymru a’u bod yn haeddu’r un parch ac amddiffyniad a phob dinesydd arall.

in Welsh You have already condemned the vicious attacks on Muslims in Wales and confirmed—and this is important—that the Muslims of Wales have condemned the actions in America. It is important that they realise that they are full citizens in Wales and that they deserve the same respect and protection as every other citizen.

Rhodri, I thank you for keeping the party leaders informed on matters of direct interest to us in Wales. I am sure that other Members will wish to question you on matters that may have to be brought into play in the event of a reprisal attack on Wales. We do not want to sound alarmist, but you must assure people. However, while the Assembly has no role in defence or security issues, the people of Wales have a right to hear our views on these matters. Yesterday, the Home Secretary and the Chancellor of the Exchequer made statements on new legislation that is being introduced to curb terrorist activities. Can you tell us what steps will be taken to ensure that the Assembly is kept informed on these matters? We have made it clear that we will support legislation to curb money laundering and, subject to safeguards, new laws to prevent terrorists from travelling to perpertrate further atrocities. We all recognise that the world is a more dangerous place after the events of 11 September. We must do what is necessary to safeguard innocent people from potential repeat attacks. It is also worth reiterating the accepted worldwide view that military action alone cannot defeat terrorism.

yn Saesneg Rhodri, hoffwn ddiolch ichi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i arweinwyr y pleidiau ar faterion sydd o ddiddordeb uniongyrchol inni yng Nghymru. Yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau eraill yn awyddus i’ch holi ar faterion a allai godi ped ymosodid yn ddialgar ar Gymru. Nid ydym am godi bwganod, ond rhaid ichi sicrhau pobl. Fodd bynnag, er nad oes gan y Cynulliad rôl o ran materion amddiffyn a diogelwch, mae gan bobl Cymru hawl i glywed ein barn ar y materion hyn. Ddoe, gwnaeth yr Ysgrifennydd Cartref a Changhellor y Trysorlys ddatganiadau ar ddeddfwriaeth newydd sydd yn cael ei chyflwyno i wrthsefyll gweithgaredd terfysgol. A allwch ddweud wrthym pa gamau a gaiff eu cymryd i sicrhau y caiff y Cynulliad yr wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn? Yr ydym wedi ei gwneud yn glir y byddwn yn cefnogi deddfwriaeth i atal cael arian drwy dwyll ac, yn amodol ar gamau diogelwch, cyfreithiau newydd i atal terfysgwyr rhag teithio er mwyn cyflawni rhagor o erchyllterau. Yr ydym oll yn cydnabod bod y byd yn lle mwy peryglus yn dilyn digwyddiadau 11 Medi. Rhaid inni wneud yr hyn sydd ei angen er mwyn diogelu pobl ddiniwed rhag y posibilrwydd o ymosodiadau eraill. Mae hefyd yn werth ailadrodd y farn fyd-eang gyffredinol na all camau milwrol ynddynt eu hunain orchfygu terfysgaeth.

Creating a new world order based on respect for international organisations and treaties is the only way forward for us. We are living in a much more interdependent world after the events of 11 September. That means not only working through the United Nations, but establishing an international criminal court. Will you convey to the UK Government the need for the United Nations to be given a lead role, not only in respect of the current conflict in Afghanistan, but in any settlement in Afghanistan when, hopefully, the current conflict is over? Will you also state that it is necessary for the UN to be involved in preparations that will lead to a broad-based government in Afghanistan after the conflict?

yn Saesneg Creu trefn byd newydd yn seiliedig ar barch tuag at sefydliadau rhyngwladol a chytundebau yw’r unig ffordd ymlaen inni. Yr ydym yn byw mewn byd llawer mwy rhyngddibynnol yn dilyn digwyddiadau 11 Medi. Mae hynny’n golygu nid yn unig gweithio drwy’r Cenhedloedd Unedig, ond sefydlu llys troseddol rhyngwladol. A wnewch chi gyfleu i Lywodraeth y DU yr angen i’r Cenhedloedd Unedig chwarae prif rôl, nid yn unig mewn perthynas â’r gwrthdaro presennol yn Afghanistan, ond mewn unrhyw setliad yn Afghanistan pan fydd y gwrthdaro presennol ar ben, gobeithio? A nodwch hefyd ei bod yn angenrheidiol i’r Cenhedloedd Unedig gymryd rhan yn y paratoadau a fydd yn arwain at lywodraeth eang ei chwmpas yn Afghanistan yn dilyn y gwrthdaro?

The current conflict is reaching a critical stage. We are facing a humanitarian catastrophe on a massive scale. Millions of innocent people face starvation in a matter of weeks. Rhodri, the people of Wales, through its Assembly, reiterate the view that we can only make the world a safer place for peoples of all races, religions and languages if we in the west accept our responsibilities for the failures of the past and dedicate ourselves to working with all nations to resolve future conflicts through international action.

yn Saesneg Mae’r gwrthdaro presennol yn cyrraedd cam tyngedfennol. Yr ydym yn wynebu trychineb dyngarol enfawr. Bydd miliynau o bobl ddiniwed yn wynebu newyn ymhen mater o wythnosau. Rhodri, mae pobl Cymru, drwy ei Chynulliad, yn ailadrodd y farn mai dim ond drwy i ni yn y gorllewin dderbyn ein cyfrifoldebau dros fethiannau’r gorffennol ac ymroi i weithio gyda phob cenedl i ddatrys gwrthdaro yn y dyfodol drwy gamau rhyngwladol y gallwn wneud y byd yn lle mwy diogel i bobl o bob hil, crefydd ac iaith.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 87

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh and English p. 87

Yr ydych wedi ymhelaethu yn fwy na mi ar yr agweddau gwleidyddol a rhyngwladol, ond nid beirniadaeth yw honno. Oherwydd cyfyngiadau amser, canolbwyntiais ar agweddau mwy penodol ynghylch dyletswyddau’r Cynulliad. Fodd bynnag, yr ydym oll yn derbyn bod tair elfen i’r hyn y mae Llywodraethau Prydain a’r Unol Daleithiau yn ei wneud i ymateb i’r derfysgaeth a ddigwyddodd ar 11 Medi. Yn gyntaf, mae’r agwedd filwrol yn ceisio sicrhau nad yw’r ymgyrch filwrol yn targedu poblogaeth Afghanistan. Yn ail, fel y pwysleisiodd Ieuan yn deilwng, rhaid ystyried yr ochr ddyngarol, gan fod dros 7.5 miliwn o bobl bellach yn ffoaduriaid sydd mewn perygl mawr o newynu dros y gaeaf.

in Welsh You spoke at greater length than I on the political and international elements, but that is not a criticism. Due to time constraints, I focused on the specifics regarding the Assembly’s duties. However, we all accept that there are three elements to what the Governments of Britain and the United States are doing in response to the terrorism of 11 September. First, the military element is attempting to ensure that the military campaign does not target the population of Afghanistan. Secondly, as Ieuan rightly emphasised, the humanitarian element must be considered, as over 7.5 million people are now refugees who are at serious risk of starvation over the winter.

Yn drydydd, credaf fod pawb yn derbyn, ar ôl i’r ymgyrch filwrol orffen, mai’r ffordd orau o ailadeiladu’r gymdeithas sifil a’r broses wleidyddol yn Afghanistan―y wlad anhapus honno, lle cafodd y broses sifil ei dinistrio am 20 mlynedd―fyddai i’r Cenhedloedd Unedig sefydlu rhyw fath o brotectoriaeth yn debyg i’r hyn a geir yn Kosovo. Bydd angen nifer fawr o bobl ddoeth er mwyn helpu’r broses, gan nad ydym yn sicr ai datblygu’r wlad cyn cyflwyno democratiaeth fyddai orau, neu a ddylid cyflwyno democratiaeth fel y cam cyntaf cyn dechrau ailadeiladu cymdeithas sifil. Mae’n anodd rhagweld sut i wneud hyn.

in Welsh Thirdly, I believe that everyone accepts that, following the cessation of the military campaign, the best way of re-establishing civil society and political process in Afghanistan―that unhappy country, where the civil process has been destroyed for more than 20 years―would be for the United Nations to establish some sort of protectorate, such as that in Kosovo. We will need many wise people to assist in that process, as we are not sure whether it would be best to develop the country before introducing democracy, or to introduce democracy as a first step before starting to rebuild civil society. It is difficult to predict how this could be done.

Pwysleisiwyd yr ochr arall hefyd. Mae Tony Blair wedi rhoi tipyn o sylw, yn enwedig ddoe, i’r gwaith o adfywio’r broses heddwch yn y dwyrain canol. Mae hynny’n bwysig. O ran y cymunedau Moslemaidd yng Nghymru ac ym Mhrydain, mae’n bwysig ein bod yn pwysleisio ein parch tuag atynt a’n bod yn barod i’w hamddiffyn rhag unrhyw ymosodiadau a allai eu hallgáu o gymdeithas. Nid ydym am i hynny ddigwydd. Mae’n amlwg bod tensiwn yn bodoli ar draws y wlad, gan ein bod yn clywed yn gyson am ymosodiadau o’r math hwn mewn ysgolion, tai bwyta, ar y stryd ac yn y blaen.

in Welsh The other side was also emphasised. Tony Blair has paid much attention, especially yesterday, to the work of rebuilding the peace process in the middle east. That is important. Regarding the Muslim communities in Wales and in Britain, it is important that we emphasise our respect for them and that we are prepared to protect them from any attacks that might exclude them from society. We do not want that to happen. It is obvious that tension exists across the country, as we constantly hear of such attacks in schools, restaurants, on the streets and so on.

Ieuan also asked me about the three items of new legislation that the Government has announced and wishes to introduce, even though they were not included in the Queen’s Speech, which was delivered after the election in June this year. The Government of Wales Act 1998 includes a procedure that allows for such legislation to be reported to the National Assembly. The Secretary of State for Wales is keen to consult not only with me, as he would normally do at a Cabinet meeting, but with the other party leaders, on this occasion. He is happy to visit the Assembly to explain the three new measures and to clarify their impact on Wales and on society in general. I was pleased to hear of your support for the legislation on money laundering along with the other measures. Contributions made in that spirit, Ieuan, will enable us to keep a measure of political and social unity. That is essential to Wales’s ability to effectively survive such a crisis, especially if that crisis worsened as a result of a major terrorist incident as a reprisal for the actions against the Al-Quaeda network and Osama Bin Laden.

yn Saesneg Gofynnodd Ieuan hefyd imi ynghylch tri darn o ddeddfwriaeth newydd y mae’r Llywodraeth wedi’u cyhoeddi ac yn dymuno eu cyflwyno, er na chawsant eu cynnwys yn Araith y Frenhines, a gyflwynwyd ar ôl yr etholiad ym Mehefin eleni. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn cynnwys gweithdrefn sydd yn caniatáu i ddeddfwriaeth o’r fath gael ei hadrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn awyddus i ymgynghori nid yn unig â mi, fel y byddai’n gwneud yn ôl ei arfer mewn cyfarfod o’r Cabinet, ond gydag arweinwyr y pleidiau eraill, ar yr achlysur hwn. Mae’n fodlon ymweld â’r Cynulliad i esbonio’r tri mesur newydd ac i egluro eu heffaith ar Gymru ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Yr oeddwn yn falch o glywed am eich cefnogaeth i’r ddeddfwriaeth ar gael arian drwy dwyll ynghyd â’r mesurau eraill. Bydd cyfraniadau a wneir yn yr ysbryd hwnnw, Ieuan, yn ein galluogi i gadw rhywfaint o undod gwleidyddol a chymdeithasol. Mae hynny’n hanfodol i allu Cymru i oroesi argyfwng o’r fath yn effeithiol, yn arbennig pe bai’r argyfwng hwnnw yn dwysáu o ganlyniad i ymosodiad terfysgol enfawr fel dial am y camau a gymerwyd yn erbyn rhwydwaith Al-Quaeda ac Osama Bin Laden.

John Griffiths spoken in English p. 88

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 88

As there is a substantial Muslim population in my constituency, in recent weeks, I have visited a local mosque and met with community leaders who are concerned about the daily hostility, the threats to individuals and mosques and the intimidation that they face, which can lead to social exclusion. Teachers at local schools tell me that Muslim parents now tend to collect their children and return home immediately rather than staying to chat and socialise as they did before. They are also alarmed at the media coverage and politicians’ utterances, which often contain Islam and terrorism in the same breath, as if they were inextricably linked. Members of the Muslim community feel that they do not have a public voice to clarify that Islam is about peace and tolerance, not terrorism. They condemned the attack on the United States of America, but they are also worried for the innocent people of Afghanistan who are dying as a result of the bombing campaign. These people have already suffered a great deal as a result of many years of war and famine, and are now in desperate need of humanitarian aid. The hatred and bitterness may increase if we are not careful about the action that we take. It could make the world an even more dangerous place. Muslims respect human life all over the world, including in Palestine. These are some of the points that have been expressed to me with great passion, when I have met members of the local Muslim community.

Gan fod poblogaeth Foslemaidd fawr yn fy etholaeth i, yn ystod yr wythnosau diwethaf, ymwelais â mosg lleol a chyfarfûm ag arweinwyr cymunedol sydd yn pryderu ynghylch gelyniaeth ddyddiol, bygythiadau i unigolion a mosgiau a’r braw y maent yn ei wynebu, a all arwain at allgáu cymdeithasol. Dywed athrawon o ysgolion lleol wrthyf fod y rheini sydd yn Foslemiaid bellach yn tueddu i gasglu eu plant a dychwelyd adref ar unwaith yn hytrach nag aros i sgwrsio a chymdeithasu yn ôl eu harfer. Mae’r sylw yn y wasg a’r sylwadau gan wleidyddion, sydd yn aml yn sôn am Islam a therfysgaeth ar yr un gwynt, fel pe bai cysylltiad anorfod rhyngddynt, hefyd wedi codi arswyd arnynt. Teimla aelodau o’r gymuned Foslemaidd nad oes ganddynt lais cyhoeddus i egluro bod Islam yn ymwneud â heddwch a goddefgarwch, nid terfysgaeth. Maent wedi condemnio’r ymosodiad ar Unol Daleithiau America, ond maent hefyd yn pryderu am bobl ddiniwed Afghanistan sydd yn marw o ganlyniad i’r ymgyrch fomio. Mae’r bobl hyn eisoes wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad i flynyddoedd lawer o ryfel a newyn, ac erbyn hyn mae angen dybryd am gymorth dyngarol. Gall y casineb a’r chwerwder gynyddu os na fyddwn yn ofalus ynghylch pa gamau a gymerwn. Gallai wneud y byd yn lle mwy peryglus byth. Mae Moslemiaid yn parchu bywyd dynol ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys Palesteina. Dyma rai o’r pwyntiau a fynegwyd imi gydag angerdd mawr, pan gyfarfûm ag aelodau o’r gymuned Foslemaidd.

The Government of Wales must do all in its power to support Muslims and other ethnic minority populations, whose appearance makes them targets at this time. These are difficult times for them. Can you assure us that the Government of Wales will closely monitor the situation across Wales, especially in areas such as Newport, to ensure that everything possible is done to maintain good race relations in Wales?

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi Moslemiaid a lleiafrifoedd ethnig eraill, y mae eu hymddangosiad yn eu gwneud yn dargedau ar hyn o bryd. Mae’r hwn yn gyfnod anodd iddynt. A allwch roi sicrwydd inni y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r sefyllfa’n fanwl ledled Cymru, yn arbennig mewn ardaloedd fel Casnewydd, i sicrhau y gwneir popeth posibl i gynnal cysylltiadau hiliol da yng Nghymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 89

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 89

We are doing so, and will continue to do so. The police will also do so. We are closely monitoring how these incidents are reported because, although people would report a direct physical attack, they might not be anxious to report name-calling. They would report mosque daubing, if there was any chance of catching the people responsible, but they might not report general verbal abuse. We heard this first hand from some 40 community leaders and from about 10 leaders of Muslim women’s organisations. It is often Muslim women who take the children to and from school and bear the burden of hearing, at first hand, stories of bullying and name-calling in the playground. We must get as close as possible to the Muslim communities and to others, such as the Sikh community, which the brain dead in our society assume are Muslims because its members also wear turbans. We must have regard for them, because they can also be made to feel socially excluded during such a difficult and tense time.

Yr ydym yn gwneud hynny a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd yr heddlu hefyd yn gwneud hynny. Yr ydym yn monitro’n fanwl y ffordd y caiff y digwyddiadau hyn eu cofnodi oherwydd, er y byddai pobl yn rhoi gwybod am ymosodiad corfforol uniongyrchol, efallai na fyddant yn awyddus i roi gwybod am alw enwau. Byddant yn rhoi gwybod am baentio sloganau ar fosg pe bai gobaith o ddal y bobl sydd yn gyfrifol, ond efallai na fyddant yn rhoi gwybod am ddilorni cyffredinol. Clywsom hyn yn uniongyrchol gan ryw 40 o arweinwyr cymunedol a chan tua 10 arweinydd sefydliadau merched Moslemaidd. Yn aml merched Moslemaidd sydd yn mynd â’r plant i’r ysgol a’u casglu oddi yno ac sydd yn gorfod wynebu clywed, yn uniongyrchol, hanesion o fwlio a galw enwau ar yr iard. Rhaid inni agosáu gymaint â phosibl at y cymunedau Moslemaidd ac eraill, fel y gymuned Sic, y mae’r bobl dwp yn ein cymdeithas yn tybio mai Moslemiaid ydynt gan fod Siciaid hefyd yn gwisgo tyrbanau. Rhaid inni roi sylw iddynt, oherwydd gallant hwythau hefyd deimlo eu bod wedi’u hallgáu yn gymdeithasol yn ystod cyfnod mor anodd â dwys â hwn.

You made a point about trying to ensure that everybody in the Muslim community realises that this is an attack on terrorism and not on Islam. A way of reinforcing that is to say that the last time a coalition of this nature was formed was to defend a Muslim community in Kosovo against massive human rights abuse. The USA, the UK and, mainly, the same countries as are members of the present coalition, tried to defend a Muslim community from abuse by people who claimed to be of the Christian religion, who conducted torture, human rights abuse and ethnic cleansing on a massive scale. As that occurred in Europe, it is not always understood east of the middle east, but that is the case. We must use that example to explain that this is not an attack on people who follow the religion of Islam. We respect it as a religion. We know that its principles relate, as you said, to peace and tolerance and not to killing 6,000 people by using aircraft as a bomb and flying into large office blocks.

Gwnaethoch bwynt ynghylch ceisio sicrhau bod pawb yn y gymuned Foslemaidd yn sylweddoli mai ymosodiad ar derfysgaeth yw hyn ac nid ar Islam. Ffordd o atgyfnerthu hynny yw dweud mai er mwyn amddiffyn cymuned Foslemaidd yn Kosovo yn erbyn tramgwydd enfawr ar hawliau dynol y ffurfiwyd cynghrair o’r math hwn ddiwethaf. Ceisiodd yr Unol Daleithiau, y DU ac, yn bennaf, yr un gwledydd ag sydd yn aelodau o’r gynghrair bresennol, amddiffyn cymuned Foslemaidd rhag cael ei cham-drin gan bobl a oedd yn honni i fod yn Gristnogion, a aeth ati i arteithio, tramgwyddo hawliau dynol a phuro ethnig ar raddfa fawr. Gan i hynny ddigwydd yn Ewrop, nid yw bob amser yn ddealladwy i’r dwyrain o’r dwyrain canol, ond dyna’r sefyllfa. Rhaid inni ddefnyddio’r esiampl honno i esbonio nad ymosodiad ar bobl sydd yn dilyn crefydd Islam yw hyn. Yr ydym yn ei pharchu fel crefydd. Gwyddom fod ei hegwyddorion, fel y dywedasoch, yn ymwneud â heddwch a goddefgarwch nid lladd 6,000 o bobl drwy ddefnyddio awyren fel bom a’i hedfan i flociau mawr o swyddfeydd.

Nick Bourne spoken in English p. 90

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 90

I thank the First Minister for this statement. I also thank him for the discussions that he has had with party leaders. They have been helpful and productive, particularly our meeting with representatives of different religious groups throughout Wales, not only Muslims, but Jews, Hindus and Christians. I want to add to your response to John Griffiths by saying that a constructive decision was made in that first meeting to create an integrated forum, which will meet regularly, with representatives from all faiths in Wales. That was a constructive move. The second action on which we agreed was the involvement of the media. Concerns were raised about that. The media has an important role in reporting communal friction. It is important that many of us visit mosques and other places where Muslims meet. On the other hand, some representatives made the point that they do not necessarily want the location of Mosques in their communities to be known, as it is not always obvious. Therefore, this is a sensitive issue.

Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am y datganiad hwn. Hoffwn ddiolch iddo hefyd am y trafodaethau a gafodd gydag arweinwyr y pleidiau. Yr oeddent yn ddefnyddiol ac yn gynhyrchiol, yn arbennig ein cyfarfod gyda chynrychiolwyr o wahanol grwpiau crefyddol ledled Cymru, nid yn unig Moslemiaid, ond Iddewon, Hindwiaid a Christnogion. Hoffwn ychwanegu at eich ymateb i John Griffiths drwy ddweud i benderfyniad adeiladol gael ei wneud yn y cyfarfod cyntaf hwnnw i greu fforwm integredig, a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda chynrychiolwyr o bob crefydd yng Nghymru. Yr oedd hwnnw’n gam adeiladol. Yr ail gam y cytunwyd arno oedd cyfraniad y cyfryngau. Codwyd pryderon ynghylch hynny. Mae gan y cyfryngau rôl bwysig o ran adrodd am densiynau cymunedol. Mae’n bwysig bod llawer ohonom yn ymweld â mosgiau a llefydd eraill lle mae Moslemiaid yn cwrdd. Ar y llaw arall, gwnaeth rhai cynrychiolwyr y pwynt nad ydynt o anghenraid am i leoliad Mosgiau yn eu cymunedau gael ei wneud yn hysbys, gan nad yw bob amser yn amlwg. Felly, mae’n fater sensitif.

There can be little doubt that what many of us witnessed on television on 11 September was the most horrific act of barbarism that we will hopefully ever see. We think of those who were killed in those dreadful outrages involving the four planes, and also send our sympathies to those left behind, many of whom received answerphone messages from their loved ones, which must have been horrific. Our thoughts are also with the New York fire and police departments and the Mayor, Rudy Giuliani, who has been an inspiring force for good throughout this, in contrast to Bin Laden, who is full of hate and inspires only murderers and fanatics.

Nid oes amheuaeth mai’r hyn a welodd llawer ohonom ar y teledu ar 11 Medi oedd y weithred farbaraidd fwyaf erchyll y byddwn, gobeithio, erioed yn ei gweld. Meddyliwn am y bobl a laddwyd yn yr ymosodiadau ofnadwy hynny gyda’r pedair awyren, a chydymdeimlwn â’r rheini a adawyd ar ôl, yr oedd nifer ohonynt wedi derbyn negeseuon ar beiriannau ateb gan eu hanwyliaid, ac yr wyf yn siŵr bod hynny’n erchyll. Meddyliwn hefyd am adrannau tân a heddlu Efrog Newydd a’r Maer, Rudy Giuliani, a fu’n ysbrydoliaeth er daioni drwy gydol hyn, yn wahanol i Bin Laden, sydd yn llawn casineb ac ond yn ysbrydoli llofruddwyr ac eithafwyr.

My party and I think that the response of President Bush, the Prime Minister and the alliance that they have built has been right. The atrocities of 11 September, supposedly in the name of Islam, had nothing to do with that great religion. There is nothing Islamic about terrorism. To use violence against civilians and to create terror, is against one of the central tenets of Islam. The Prophet Mohammed said,

Cred fy mhlaid a minnau bod ymateb Arlywydd Bush, y Prif Weinidog a’r gynghrair y maent wedi’i ffurfio wedi bod yn briodol. Nid oedd gan erchyllterau 11 Medi, yr honnir iddynt gael eu cyflawni yn enw Islam, ddim i’w wneud â’r grefydd fawr honno. Nid oes a wnelo Islam ddim â therfysgaeth. Mae defnyddio trais yn erbyn sifilwyr a chreu terfysg, yn groes i un o gredoau canolog Islam. Dywedodd y Proffwyd Mohammed,

‘Beware of extremism, for it is that which killed the people before you.’

Under Islamic law, there are rules of engagement, and attacking economic and civilian targets is illegal. It is clear, therefore, that the atrocities that we witnessed on 11 September had nothing to do with Islam and are inconsistent with Islam. We must remind everybody of this. These were acts of terrorism committed against Christians, Muslims and Jews, and indiscriminately against humanity. This was not just an attack on America or the west. That is clear.

O dan gyfraith Islam, ceir rheolau ymrwymiad, ac mae ymosod ar dargedau economaidd a sifil yn anghyfreithlon. Mae’n amlwg, felly, nad oedd gan yr erchyllterau a welsom ar 11 Medi ddim i’w wneud ag Islam a’u bod yn anghyson ag Islam. Rhaid inni atgoffa pawb o hyn. Gweithredoedd terfysgol oedd y rhain a gyflawnwyd yn erbyn Cristnogion, Moslemiaid ac Iddewon, ac yn ddiwahân yn erbyn dynoliaeth. Nid ymosodiad ar America neu’r gorllewin yn unig oedd hwn. Mae hynny’n amlwg.

We cannot stand back and do nothing. There is a time when words alone are insufficient. In standing up to terrorism, the three actions that you mentioned—diplomatic efforts, humanitarian aid and military action—are entirely right. It is important that we signal that approach because there is a danger in appeasing terrorists. Sixty thousand or 600,000 could have been killed. Bin Laden and the people behind him would not have cared.

Ni allwn sefyll yn ôl a gwneud dim. Mae amser pan nad yw geiriau ynddynt eu hunain yn ddigon. Wrth wrthsefyll terfysgaeth, mae’r tri cham a grybwyllwyd gennych—ymdrechion diplomataidd, cymorth dyngarol a gweithredu milwrol—yn gwbl briodol. Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r ymagwedd honno gan fod perygl mewn tawelu terfysgwyr drwy ildio iddynt. Gallai 60,000 neu 600,000 fod wedi’u lladd. Ni fyddai Bin Laden a’r bobl sydd yn ei gefnogi wedi malio.

One way to tackle this problem—and it is only part of the solution—is to dismantle the apparatus of terrorism. This does not only concern Bin Laden. It is a wider fight against terrorism, which, as you hinted in your statement, Rhodri, must continue. Your concluding words were that we must maintain a united front against terrorism, not only the awful terrorism that we witnessed on 11 September, but also the terrorism involving the IRA and others in Northern Ireland, ETA, the Tamil Tigers and so on. All acts of terrorism are wrong, plain and simple. For that reason, though I disagree with the Prime Minister on many issues, I am confident that he has no intention of pursuing military action for longer than is necessary to achieve victory against the threat to us all, throughout the world. The Conservative Party, here and elsewhere, will give Her Majesty’s Government all its support during this difficult time. We call on other parties to do the same. To do less is wrong and hands a propaganda advantage to our terrorist enemies, whatever the intention. I have no doubt that the intentions are pure. I am deeply disappointed that some parties do not feel able to support the United Kingdom Government’s approach. However, we do.

Un ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon—a dim ond rhan o’r ateb yw hyn—yw datgymalu terfysgaeth. Nid Bin Laden yn unig y mae hyn yn ei gynnwys. Mae’n frwydr ehangach yn erbyn terfysgaeth, y mae’n rhaid iddi, fel y gwnaethoch awgrymu yn eich datganiad, Rhodri, barhau. I gloi dywedasoch fod yn rhaid inni uno yn erbyn terfysgaeth, nid yn unig y derfysgaeth erchyll a welsom ar 11 Medi, ond hefyd terfysgaeth yr IRA, ac eraill yng Ngogledd Iwerddon, ETA, y Tamil Tigers ac ati. Ni ellir cyfiawnhau unrhyw weithred derfysgol, dyna’r gwir plaen. Am y rheswm hwnnw, er yr anghytunaf â’r Prif Weinidog ar sawl mater, yr wyf yn hyderus nad oes ganddo unrhyw fwriad o barhau â gweithredu milwrol am fwy nag sydd rhaid er mwyn cael buddugoliaeth yn erbyn yr hyn sydd yn fygythiad inni oll, ledled y byd. Bydd y Blaid Geidwadol, yma ac mewn mannau eraill, yn rhoi ei chefnogaeth lwyr i Lywodraeth Ei Mawrhydi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yr ydym yn galw ar y pleidiau eraill i wneud yr un peth. Mae gwneud llai na hynny yn gamwedd ac yn rhoi mantais propaganda i’n gelynion terfysgol, beth bynnag fo’r bwriad. Nid oes amheuaeth gennyf fod y bwriadau’n dda. Yr wyf yn hynod siomedig nad yw rhai pleidiau yn teimlo y gallant gefnogi ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, yr ydym ni yn ei chefnogi.

Will you consider, Rhodri, a similar approach on this much more serious and wide-ranging issue to that which we took during the foot and mouth disease crisis? Will you give a fortnightly or weekly update in this Chamber, as needed, on the situation and how it effects Wales and how you see it unfolding so that we have the opportunity to question you on this? In the meantime, it is important that we have a debate. It may be that we cannot agree a motion; it may be that the motion can be amended. However, it is important that we have a more wide-ranging debate for people to have the opportunity to discuss this issue at greater length around a central core motion. It has to be more than simply stating that we debate the international situation.

A wnewch chi ystyried, Rhodri, gweithredu yn yr un modd ar y mater hwn, sydd yn llawer mwy difrifol ac eang, ag y gwnaethom yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau? A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn y Siambr hon bob pythefnos neu’n wythnosol, fel y bo’r angen, ynghylch y sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar Gymru a sut y gwelwch chi bethau’n datblygu er mwyn inni gael y cyfle i’ch holi ar hyn? Yn y cyfamser, mae’n bwysig inni gael dadl. Efallai na allwn gytuno ar gynnig; efallai y gellir diwygio’r cynnig. Fodd bynnag, mae’n bwysig cynnal dadl ehangach er mwyn i bobl gael y cyfle i drafod y mater hwn yn fwy helaeth yn seiliedig ar un cynnig craidd. Rhaid iddo fod yn fwy na dim ond nodi ein bod yn cynnal dadl ar sefyllfa ryngwladol.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 93

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 93

Thank you for the spirit in which you made that statement. You mentioned that you do not often find yourself supporting Tony Blair. I do not often find myself agreeing almost 100 per cent with what you have said. I agree with you on the inter-faith forum. I agree with you on the need for sensitivity in the media and how it reports when it is requested not to give the addresses or show the outsides of mosques. It should comply with such requests in the present situation. I agree with your remarks about the New York fire fighters and police force and the enormous sacrifices that they made. I also agree with your comments about Rudolph Giuliani. His words were remarkably inspiring because they gave voice to the great city of New York’s spirit at a moment of suffering, and he spoke remarkably of how to return it to normal afterwards. I did not know that he possessed that emotional talent. He has always been accused of being dry and unemotional, but he rose to the occasion remarkably.

Diolch ichi am ysbryd y datganiad hwnnw. Soniasoch nad ydych yn aml yn cefnogi Tony Blair. Nid wyf yn aml yn cytuno 100 y cant gyda’r hyn yr ydych chi wedi’i ddweud. Cytunaf â chi ar y fforwm ryng-grefyddol. Cytunaf â chi ynglŷn â’r angen am sensitifrwydd gan y cyfryngau a’r modd y byddant yn gohebu pan ofynnir iddynt beidio â rhoi cyfeiriadau mosgiau na dangos lluniau ohonynt. Dylent gydymffurfio â cheisiadau o’r fath yn y sefyllfa bresennol. Cytunaf gyda’ch sylwadau am wasanaeth tân a heddlu Efrog Newydd a’r aberth enfawr a wnaethant. Cytunaf hefyd â’ch sylwadau am Rudolph Giuliani. Yr oedd ei eiriau yn hynod ysbrydoledig gan iddynt roi llais i ysbryd dinas fawr Efrog Newydd ar adeg o ddioddefaint, a siaradodd yn nodedig ynghylch sut i’w rhoi yn ôl ar ei thraed wedyn. Ni wyddwn fod ganddo’r ddawn emosiynol honno. Fe’i cyhuddwyd yn gyson o fod yn sych ac yn ddiemosiwn, ond bu’n deilwng iawn i’r achlysur.

I agree that I should make frequent reports, be they every fortnight or as and when appropriate. We can agree on the frequency with the co-operation of the other parties and with the Presiding Officer’s agreement. I will not hold back on that. Although I cannot report security-related information, as I am a member of the Civil Contingencies Committee, I will pass on all possible information on what is happening.

Cytunaf y dylwn wneud adroddiadau rheolaidd, boed hynny bob pythefnos neu fel y bo’n briodol. Gallwn gytuno ar yr amlder gyda chydweithrediad y pleidiau eraill a chytundeb y Llywydd. Ni fyddaf yn oedi ar hynny. Er na allaf gyflwyno gwybodaeth yn ymwneud â diogelwch, gan fy mod yn aelod o’r Pwyllgor Digwyddiadau Sifil, byddaf yn trosglwyddo pob gwybodaeth bosibl ar yr hyn sydd yn digwydd.

On the issue of debate, this is a democratic Assembly that includes four parties and 60 Members. We all agree that the response is a three-way process: the military action, the humanitarian aid and the concentration on the long-term rebuilding of civil society in Afghanistan. Assembly Members and their parties will place a different emphasis on the three elements. However, that should not disunite us. With respect for each other, we can express our views on this. Some Members will emphasise what they think others have ignored. I would like to think that we could agree on the wording for a motion. Our Standing Orders are restrictive. We do not have adjournment debates—that is, debates without motions—as they do in Westminster. However, I want the Assembly to function democratically so that Members can express their different views. That will not disunite us. It will show people around the world who do not live in democratic societies the meaning of democracy.

O ran cynnal dadl, mae hwn yn Gynulliad democrataidd sydd yn cynnwys pedair plaid a 60 o Aelodau. Cytunwn oll fod yr ymateb yn broses tri phen: y gweithredu milwrol, y cymorth dyngarol a chanolbwyntio ar ailadeiladu cymdeithas sifil yn Afghanistan yn yr hirdymor. Bydd Aelodau’r Cynulliad a’u pleidiau yn rhoi pwyslais gwahanol ar y tair elfen. Fodd bynnag, ni ddylai hynny ein rhannu. Gyda pharch tuag at ein gilydd, gallwn fynegi ein barn ar hyn. Bydd rhai Aelodau yn pwysleisio yr hyn y credant y mae eraill wedi’i anwybyddu. Hoffwn feddwl y gallem gytuno ar eiriad ar gyfer cynnig. Mae ein Rheolau Sefydlog yn gyfyngedig. Nid ydym yn cynnal dadleuon gohirio—hynny yw, dadleuon heb gynigion—fel y maent yn San Steffan. Fodd bynnag, yr wyf am i’r Cynulliad weithredu’n ddemocrataidd er mwyn i Aelodau allu mynegi eu gwahanol safbwyntiau. Ni fydd hynny yn ein rhannu. Bydd yn dangos i bobl ledled y byd nad ydynt yn byw mewn cymdeithasau democrataidd beth yw ystyr democratiaeth.

Michael German spoken in English p. 94

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 94

I thank Rhodri for ensuring that all political parties have been kept informed of, and involved in, the issues at this dreadful time. I associate myself and my party with the comments made by colleagues from all parties in voicing their horror and sadness in coming to terms with the events of 11 September. It is difficult to know how to face and how to respond to such a catastrophe when it happens so unexpectedly. Many members of my generation will remember the day when John F. Kennedy was assassinated. We remember what we were doing, where we were and who we were with at that time. That event shook America and, to a lesser extent, the world. We were onlookers in that event. However, the events of 11 September shook the world. Similarly, we will all remember who we were with and where we were. The events of that day will remain with us all.

Hoffwn ddiolch i Rhodri am sicrhau bod pob plaid wleidyddol wedi cael eu hysbysu o’r materion dan sylw, a’u cynnwys ynddynt, yn ystod y cyfnod erchyll hwn. Yr wyf yn uniaethu fy hun a’m plaid â’r sylwadau a wnaethpwyd gan gyd-Aelodau o bob plaid wrth leisio eu braw a’u tristwch wrth ddod i delerau â digwyddiadau 11 Medi. Mae’n anodd gwybod sut i wynebu a sut i ymateb i drychineb o’r fath pan fydd yn digwydd mor annisgwyl. Bydd llawer o’m cenhedlaeth yn cofio’r diwrnod pan lofruddiwyd John F. Kennedy. Cofiwn yr hyn yr oeddem yn ei wneud, ble yr oeddem a chyda phwy bryd hynny. Bu’r digwyddiad hwnnw yn ysgytwad i America ac, i raddau llai, i’r byd. Dim ond gwylwyr oeddem bryd hynny. Fodd bynnag, rhoddodd digwyddiadau 11 Medi ysgytwad i’r byd. Yn yr un modd, byddwn oll yn cofio gyda phwy yr oeddem a ble yr oeddem. Bydd digwyddiadau’r diwrnod hwnnw yn aros yng nghof pob un ohonom.

None of us were prepared for this. We have become used to terrorism. People die in Northern Ireland, Spain and Israel but, so often, it seems distant. Such events are tragic news items that we watch and pause over, before moving on. However, terror now has a new reality. We cannot stand back and take it for granted. We cannot rest on the probability that it will never happen to us, nor can we allow those who we know are responsible to continue to operate freely and unchallenged.

Nid oedd neb ohonom yn barod am hyn. Yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â therfysgaeth. Mae bobl yn marw yng Ngogledd Iwerddon, Sbaen ac Israel ond, yn aml iawn, ymddengys yn bell. Mae digwyddiadau o’r fath yn eitemau newyddion yr ydym yn eu gwylio ac yn pendroni drostynt, cyn symud ymlaen. Fodd bynnag, mae i derfysgaeth bellach realiti newydd. Ni allwn sefyll yn ôl a’i gymryd yn ganiataol. Ni allwn ddibynnu ar y tebygolrwydd na fydd byth yn digwydd i ni, ac ni allwn ganiatáu i’r rhai y gwyddom eu bod yn gyfrifol barhau i gael y rhyddid i weithredu heb eu herio.

As the air strikes on Afghanistan continue into their second week, it is worth remembering why such action is necessary. This is not a holy war for either side—far from it. It is a series of targeted strikes aimed at destabilising a regime that, by harbouring and helping those responsible for the terrors of New York and Washington, has declared war on democracy. It is legitimate. It is not holy. We must not let it become a holy war, nor allow it to spread beyond the clearly-defined boundaries that the United Nations charter allows. We must not allow the war to widen, involving other nations, nor allow it to escalate in such a way that the proportionality is lost between the action that we are taking and the wrong that we are seeking to combat. Above all, we recognise our responsibility to reach out to the Muslim communities that we represent and emphasise that the Assembly will not tolerate discrimination against any of the citizens of Wales on the grounds of race, creed or religion.

Wrth i’r cyrchoedd awyr ar Afghanistan barhau am yr ail wythnos, mae’n werth cofio pam bod angen camau o’r fath. Nid rhyfel sanctaidd yw hwn i’r naill ochr na’r llall—mae hyn ymhell o’r gwir. Mae’n gyfres o gyrchoedd wedi’u targedu gyda’r bwriad o ddadsefydlogi system sydd, drwy roi lloches a chymorth i’r rhai sydd yn gyfrifol am erchyllterau Efrog Newydd a Washington, wedi datgan rhyfel ar ddemocratiaeth. Mae’n ddilys. Nid yw’n sanctaidd. Ni ddylem adael iddo ddod yn rhyfel sanctaidd, na gadael iddo ymledu y tu hwnt i’r ffiniau pendant y mae siarter y Cenhedloedd Unedig yn eu caniatáu. Rhaid inni beidio â gadael i’r rhyfel ledaenu, gan gynnwys cenhedloedd eraill, na gadael iddo ddwysáu i’r fath raddau fel na fo’r camau a gymerwn bellach yn gymesur â’r drwg yr ydym yn ceisio ymladd yn ei erbyn. Yn anad dim, cydnabyddwn ein cyfrifoldeb i apelio i’r cymunedau Moslemaidd yr ydym yn eu cynrychioli a phwysleisio na fydd y Cynulliad yn goddef gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ddinesydd yng Nghymru ar sail hil, cred neu grefydd.

None of us like war. In the politics of the least worst options, it is the worst option. However, unlike others in the Chamber whose views and traditions I respect, I am convinced that, sometimes, it is necessary. It is important that, in our response as a country and as part of the United Kingdom in a global coalition, we do not show a lukewarm timidity towards the terrorists. I urge caution on those whose words could be interpreted as sending the wrong signals and messages to those responsible for mass murder, including the murder of Welsh people, and also to our armed forces whose lives are in danger.

Nid oes neb yn hoffi rhyfel. Yng ngwleidyddiaeth yr opsiynau nad ydynt cynddrwg, dyma’r opsiwn gwaethaf. Fodd bynnag, yn wahanol i eraill yn Siambr y mae gennyf barch tuag at eu barn a’u traddodiadau, yr wyf yn argyhoeddedig fod hyn yn angenrheidiol weithiau. Mae’n bwysig, wrth ymateb fel gwlad ac fel rhan o’r Deyrnas Unedig mewn cynghrair fyd-eang, nad ydym yn dangos agwedd ofnus a llugoer tuag at y terfysgwyr. Erfyniaf ar y rhai y gallai eu geiriau gael eu dehongli fel rhai sydd yn cyfleu’r arwyddion a’r negeseuon anghywir i’r rhai sydd yn gyfrifol am lofruddiaethau torfol, gan gynnwys llofruddiaeth pobl Cymru, a hefyd ein lluoedd arfog y mae eu bywydau mewn perygl, i fod yn ofalus.

The Liberal Democrats have stated clearly that we support the international coalition’s resolve to root out the Al-Quaeda network and, having done so, to rebuild Afghanistan so that never again will the business of guns and drugs be, for many, the only option. In the end, only the humanitarian solution will last.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan yn glir ein bod yn cefnogi penderfyniad y gynghrair ryngwladol i ddiddymu rhwydwaith Al-Quaeda ac, yn dilyn hynny, i ailadeiladu Afghanistan er mwyn sicrhau nad gynnau a chyffuriau fydd yr unig opsiwn i lawer fyth eto. Yn y pen draw, yr ateb dyngarol fydd yr unig ateb parhaol.

I welcome the establishment of the multi-faith forum or council. It is encouraging to note that it has expressed its confidence in us as politicians and has sought politicians to be involved and help them in leading that forum. I would welcome any information that you have, Rhodri, on how frequently it might meet and when it might be set up. I would also be grateful for your reassurance that national and local co-ordination is in place in Wales in case of any emergency, and that, for example, all GPs in Wales have been contacted to ensure that they are aware of the role that they might play in public protection should that be necessary.

Croesawaf sefydlu’r fforwm neu’r cyngor aml-ffydd. Mae’n galonogol nodi ei fod wedi mynegi ei hyder ynom ni fel gwleidyddion a’i fod wedi gofyn i wleidyddion gymryd rhan a’u helpu i arwain y fforwm hwnnw. Byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth sydd gennych, Rhodri, ar ba mor aml y bwriada gyfarfod a phryd y caiff ei sefydlu. Byddwn hefyd yn ddiolchgar am eich sicrwydd bod cydlyniad cenedlaethol a lleol ar waith yng Nghymru os cyfyd unrhyw argyfwng, ac, er enghraifft, y cysylltwyd â phob meddyg teulu yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r rhan y gallent ei chwarae wrth ddiogelu’r cyhoedd pe bai angen gwneud hynny.

My thoughts today, and I am sure all our thoughts, are with the victims of this action—those who died so suddenly and tragically on 11 September, those in Afghanistan who have been displaced by the conflict, and our armed forces who are being called into action. We hope for justice and to bring terrorism to boot, but we want peace.

Yr wyf yn teimlo heddiw, fel yr ydym oll mae’n siŵr, dros y rhai sydd wedi dioddef yn sgîl y weithred hon—y rhai a fu farw mewn ffordd mor sydyn a thrasig ar 11 Medi, y rheini yn Afghanistan sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi yn sgîl y gwrthdaro, a’n lluoedd arfog y’u gelwir i weithredu. Gobeithiwn am gyfiawnder a diwedd ar derfysgaeth, ond yr ydym am gael heddwch.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 96

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 96

You raise some interesting points, Mike, about how none of us like to see bombing, and how it must be kept to a minimum and has to be as discriminating as possible. The same situation occurred in Kosovo. The same coalition of forces, roughly speaking, bombed Milosevic out of Kosovo in order to stop ethnic cleansing and prevent the removal of the Muslim majority in that province. Now we are bombing Afghanistan, we ask whether it will be successful and whether there will be occasional accidents and civilian casualties. I am afraid that there probably will be. However, if the end result is achieved fairly soon and we move on to the phase where special forces, presumably, are involved in entering Afghanistan, but with the benefit of the air protection that will have been achieved through the bombing campaign and removing the air defences of the Taleban regime, then it will be so much the better for the safety of those troops. It would be dangerous for them to go in if the air defences had not been pulverised initially. It will not be easy even if they have been, given the history of British forces in Afghanistan in the century before last. It will be an extremely difficult operation to manage.

Codwyd rhai pwyntiau diddorol gennych, Mike, wrth nodi nad oes yr un ohonom yn hoffi gweld bomio, a sut y mae’n rhaid ei gadw i isafswm gan fod mor fanwl gywir â phosibl. Gwelwyd yr un sefyllfa yn Kosovo. Yr un gynghrair o luoedd, yn gyffredinol, a wnaeth fomio Milosevic allan o Kosovo er mwyn atal puro ethnig a’r broses o gael gwared ar y mwyafrif Moslemaidd yn yr ardal honno. A ninnau’n bomio yn Afghanistan bellach, gofynnwn a fydd yn llwyddiannus ac a fydd yna ddamweiniau achlysurol ac anafiadau ymhlith pobl gyffredin. Mae arnaf ofn y bydd, fwy na thebyg. Fodd bynnag, os cyflawnir y canlyniad terfynol yn gymharol fuan gan symud i’r cam lle y gofynnir i’r lluoedd arbennig, fwy na thebyg, groesi i Afghanistan, ond gyda mantais y diogelwch a fydd wedi’i gyflawni yn yr awyr drwy’r ymgyrch fomio a chael gwared ar amddiffynfeydd awyr y Taleban, yna bydd cymaint yn well o ran diogelwch y lluoedd hynny. Byddai’n beryglus iddynt fynd yno pe na fyddai’r amddiffynfeydd awyr wedi’u dymchwel cyn hynny. Ni fydd yn hawdd hyd yn oed wedyn, o gofio hanes lluoedd Prydain yn Afghanistan yn y ganrif ddiwethaf ond un. Bydd yn ymgyrch anodd iawn i’w rheoli.

You also mentioned other aspects of terrorism. You are right that terrorism is not confined to Osama Bin Laden. A consistent policy is essential to keeping world opinion in agreement with what the coalition is attempting to do in Afghanistan and elsewhere. If there are diplomatic breakthroughs in the middle east, we would all welcome that, not only because it would help persuade people that this is not an anti-Islam move, but because it would heal the longest-running festering sore that has poisoned relationships between Muslims and non-Muslims. You asked when the inter-faith forum will first meet. I will have to write to you about that when arrangements have been made. We were starting from scratch in constructing the three meetings that we had a fortnight ago and we need to ensure that the database that we have now assembled is as rock solid as possible. We will then invite people to begin work more formally, probably by the end of the year.

Crybwyllasoch hefyd agweddau eraill ar derfysgaeth. Mae’n wir nad yw terfysgaeth wedi’i chyfyngu i Osama Bin Laden. Mae polisi cyson yn hanfodol er mwyn cadw cytundeb barn y byd o ran yr hyn y mae’r gynghrair yn ceisio ei wneud yn Afghanistan ac mewn mannau eraill. Os bydd datblygiadau diplomataidd yn y dwyrain canol, byddem oll yn croesawu hynny, nid yn unig gan y byddai’n helpu i ddarbwyllo pobl nad symudiad gwrth-Islam sydd yn mynd rhagddo, ond gan y byddai’n gwella’r briw dolurus hwyaf sydd wedi gwenwyno cydberthnasau rhwng Moslemiaid a phobl sydd yn arddel credoau eraill. Gofynnasoch pryd y bydd y fforwm rhyng-grefyddol yn cynnal ei gyfarfod cyntaf. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch ar ôl i’r trefniadau gael eu gwneud. Yr oeddem yn dechrau o ddim wrth ddatblygu’r tri chyfarfod a gynhaliwyd bythefnos yn ôl ac mae angen inni sicrhau bod y gronfa ddata a luniwyd gennym mor gadarn â phosibl. Wedi hynny byddwn yn gwahodd pobl i ddechrau gweithio yn fwy ffurfiol, fwy na thebyg erbyn diwedd y flwyddyn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 97

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 97

I remind Members that this is a statement. We will now follow the usual pattern of questions and answers.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau mai datganiad yw hwn. Yn awr dilynwn y patrwm cwestiynau ac atebion arferol.

Lorraine Barrett spoken in English p. 97

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 97

Rhodri, will you join me in paying tribute to the role played by Tony Blair as Prime Minister in garnering support from the coalition against the terrorists, without which America could well have been much more hasty and forceful in its actions? I welcome the condemnation, from many Members this afternoon, of racial abuse targeted at Muslims or other ethnic groups in Wales. However, will you join me in reassuring the Muslims in my constituency of Cardiff South and Penarth, particularly in Butetown, Grangetown and Splott, that we condemn any discrimination that they may suffer, particularly as a result of these terrorist actions, but also at any other time? Have you had any discussions with the Secretary of State for Wales and South Wales Police, for instance, about how best to prevent and deal with any such abuse as quickly and effectively as possible?

Rhodri, a ymunwch â mi wrth dalu teyrnged i’r rhan a chwaraeodd Tony Blair fel Prif Weinidog wrth ennyn cefnogaeth y gynghrair yn erbyn y terfysgwyr? Heb hynny, mae’n bosibl iawn y byddai America wedi bod yn llawer mwy brysiog a grymus wrth weithredu. Croesawaf y condemniad, gan lawer o’r Aelodau y prynhawn yma, i’r cam-drin hiliol wedi’i dargedu at Foslemiaid neu grwpiau ethnig eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, a ymunwch â mi i roi sicrwydd i Foslemiaid fy etholaeth, De Caerdydd a Phenarth, yn arbennig yn Butetown, Grangetown a Sblot, ein bod yn condemnio unrhyw gamwahaniaethu y byddent yn ei ddioddef, yn arbennig o ganlyniad i’r gweithredoedd terfysgol hyn, ond hefyd ar unrhyw adeg arall? A fuoch yn trafod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Heddlu De Cymru, er enghraifft, ynghylch y ffordd orau o atal ac ymdrin â cham-drin o’r fath mor gyflym ac effeithiol â phosibl?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 98

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 98

Thank you for your remarks on Tony Blair. I do not know whether you are exactly right, as only those present at the meetings in Washington or London, who take the telephone calls and are flies on the wall, really know. People write and talk about tensions between hawks and doves within the US administration, between Colin Powell, the Secretary of State and his department on the one hand, and Donald Rumsfeld and others in the Department of Defence on the other. No doubt there is an element of truth in that. There will always be disagreements. No doubt Tony Blair emphasised the need not to make this a gung-ho operation, of going in straight away and blasting everything to hell to make it great on television. That was not what happened. We were all surprised that it was almost 30 days before military action began. That was for the reasons that you described—the need for careful planning and political and diplomatic effort to create a coalition, which includes Muslim countries, on a massive scale.

Diolch am eich sylwadau am Tony Blair. Ni wn a ydych yn hollol gywir, gan mai dim ond y rhai sydd yn bresennol yn y cyfarfodydd yn Washington neu Lundain, sydd yn derbyn y galwadau ffôn ac yn bryfed ar y wal, sydd yn gwybod mewn gwirionedd. Mae pobl yn ysgrifennu ac yn sôn am densiynau rhwng y rhyfelgwn a’r heddychwyr o fewn gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau, rhwng Colin Powell, yr Ysgrifennydd Gwladol a’i adran ar y naill law, a Donald Rumsfeld ac eraill yn yr Adran Amddiffyn ar y llaw arall. Mae’n debyg bod rhywfaint o wirionedd yn hynny. Bydd anghytuno beth bynnag a ddaw. Mae’n siŵr i Tony Blair bwysleisio’r angen i beidio â throi’r ymgyrch hon yn weithrediad difeddwl, i beidio â mynd amdani a chwythu popeth yn ddarnau i greu sioe dda i’r teledu. Nid dyna a ddigwyddodd. Fe’n synnwyd oll mai bron 30 diwrnod yn ddiweddarach y dechreuodd gweithredu milwrol. Yr oedd hynny am y rhesymau a ddisgrifiwyd gennych—yr angen am gynllunio gofalus ac ymdrech wleidyddol a diplomataidd i greu cynghrair, sydd yn cynnwys gwledydd Moslemaidd, ar raddfa enfawr.

On your question as to what we are doing to help prevent discrimination against and the abuse of people in Islamic communities in Wales, we have had talks with the police and Muslim communities. That was one of the meetings held. South Wales Police provided figures on how many people had been arrested as a result of information given to them about Mosque daubing, name-calling or physical abuse. The solution is to report incidents. If people do not report incidents, then the police cannot take action. They cannot act on the basis of a rumour. Action must be based on a report. It is not easy to persuade people to go to the police in such circumstances. They may feel that it is something that they must suffer and not complain about. However, they should complain about it and report it to the police. The police guarantee that they will take such complaints seriously. There is a complication in that anti-Islamic remarks, or ‘Islamaphobia’ as it is called, is not a crime. A loophole exists, as Islamaphobia is not included in the Race Relations Act 1976. Therefore, it does not count as racial aggravation in an incident, unlike the Jewish religion and some other religions, because it is considered to be a religion alone. I am told that a new Act of Parliament will make Islamaphobia or religious discrimination an aggravating factor in an assault in the same way that racism is considered an aggravating factor. That loophole will be closed.

O ran eich cwestiwn ar yr hyn a wnawn i helpu i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl mewn cymunedau Islamaidd yng Nghymru a’u cam-drin, yr ydym wedi siarad â’r heddlu a’r cymunedau Moslemaidd. Dyna oedd un o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd. Darparodd Heddlu De Cymru ffigurau ar faint o bobl a arestiwyd o ganlyniad i wybodaeth a roddwyd iddynt am baentio sloganau ar fosgiau, galw enwau ar Foslemiaid neu eu cam-drin yn gorfforol. Yr ateb yw rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau. Os na fydd pobl yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ni all yr heddlu weithredu. Ni allant weithredu ar sail sibrydion. Rhaid iddynt weithredu ar sail gwybodaeth a roddwyd iddynt. Nid yw’n hawdd darbwyllo pobl i fynd at yr heddlu o dan y fath amgylchiadau. Efallai eu bod yn teimlo ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid iddynt ddioddef a pheidio â chwyno amdano. Fodd bynnag, dylent gwyno a rhoi gwybod i’r heddlu amdano. Mae’r heddlu yn gwarantu y byddant yn cymryd cwynion o’r fath o ddifrif. Mae’r ffaith nad yw sylwadau gwrth-Islamaidd, neu ‘Islamaffobia’ fel y’i gelwir, yn drosedd yn cymhlethu pethau. Mae diffyg yn y gyfraith, gan nad yw Islamaffobia wedi’i gynnwys o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Felly, nid yw’n cyfrif fel aflonyddwch hiliol mewn digwyddiad, yn wahanol i grefydd yr Iddewon a rhai crefyddau eraill, gan yr ystyrir mai crefydd yn unig ydyw. Caf ar ddeall, o dan Ddeddf Seneddol newydd, y daw Islamaffobia neu wahaniaethu crefyddol yn ffactor gwaethygol mewn ymosodiad yn yr un ffordd ag yr ystyrir hiliaeth yn ffactor gwaethygol. Daw’r diffyg hwnnw yn y gyfraith i ben.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 99

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 99

I compliment you on the measured way in which you have responded to this debate and to earlier questions about this issue—

Hoffwn ganmol eich ffordd gytbwys o ymateb i’r ddadl hon ac i gwestiynau cynharach ar y pwnc—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 99

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 99

Order. This is not a debate. This is a statement. You may ask one question.

Trefn. Nid dadl yw hon. Datganiad ydyw. Cewch ofyn un cwestiwn.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 99

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 99

My question relates to the humanitarian situation in Afghanistan. Today, 400,000 people face acute food shortages. Some 500,000 more people will face a similar situation in the next two weeks. There are 1.5 million people who do not have enough food to last the winter. Truckers are afraid to transport the food to these people. Not only was the food distribution centre bombed yesterday, but a Red Cross centre was bombed today. Is it not now time to ask for a suspension of bombing until mid November so that we can get food to these people and save their lives? Do not these people also deserve the opportunity to live?

Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â’r sefyllfa ddyngarol yn Afghanistan. Heddiw, mae 400,000 o bobl yn wynebu prinder bwyd difrifol. Bydd tua 500,000 yn fwy o bobl yn wynebu sefyllfa debyg yn ystod y bythefnos nesaf. Nid oes gan 1.5 miliwn o bobl ddigon o fwyd i bara drwy’r gaeaf. Mae ofn cludo’r bwyd i’r bobl hyn ar yrwyr loriau. Nid yn unig y cafodd y ganolfan dosbarthu bwyd ei bomio ddoe, ond heddiw cafodd un o ganolfannau’r Groes Goch ei bomio. Onid yw bellach yn bryd gofyn am ohirio’r ymgyrch fomio tan ganol Tachwedd er mwyn inni allu cludo bwyd i’r bobl hyn ac achub eu bywydau? Onid yw’r bobl hyn hefyd yn haeddu’r cyfle i fyw?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 99

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 99

That is an appropriate question for an MP to put to the Westminster Government. It is not an appropriate question to ask me, because I have not seen that kind of information. Even the Civil Contingencies Committee does not see that kind of information. I said earlier that any bombing activity risks civilian casualties. I do not want to get into an argument about whether the end justifies the means, but it is almost inevitable that there will be some civilian casualties, because it is impossible to get it right every time from a height of 30,000 feet. Accuracy has improved, but you cannot always get it right, and we will have to live with that. It is a question that Plaid Cymru MPs should ask Westminster Ministers, as they can answer it. They have the responsibility, not us.

Mae hwnnw’n gwestiwn priodol iawn i AS ei gyflwyno i Lywodraeth San Steffan. Nid yw’n gwestiwn priodol i ofyn imi, gan nad wyf wedi gweld y math hwnnw o wybodaeth. Nid yw’r Pwyllgor Digwyddiadau Sifil hyd yn oed yn gweld y math hwnnw o wybodaeth. Nodais yn gynharach fod unrhyw weithgaredd bomio yn dwyn risg y caiff pobl gyffredin eu hanafu neu eu lladd. Nid wyf am ddechrau dadl ynghylch a yw’r canlyniad terfynol yn cyfiawnhau’r gweithredu, ond mae bron yn anochel y bydd rhywfaint o bobl gyffredin yn dioddef, gan ei bod yn amhosibl taro’r nod bob tro o uchder o 30,000 troedfedd. Mae cywirdeb wedi gwella, ond ni allwch lwyddo bob tro, a bydd yn rhaid byw gyda hynny. Mae’n gwestiwn y dylai ASau Plaid Cymru ofyn i Weinidogion San Steffan, gan y gallant hwy ei ateb. Eu cyfrifoldeb hwy ydyw, nid ein cyfrifoldeb ni.

On the wider issue, I am happy to write to Clare Short on the Assembly’s behalf. As Secretary of State for International Development, she has done much work on the humanitarian aid delivery channels into Afghanistan and to the Afghan refugee camps in Pakistan, Iran and elsewhere. I will report either in writing or, given a suitable opportunity, in Plenary, on the up-to-date picture concerning whether the Department for International Development aid will get through before winter. When the heavy winter weather comes and when delivery effectively stops because the trucks cannot get through, I agree that the state of those refugee camps does not bear thinking about.

O ran y mater ehangach, yr wyf yn fwy na pharod i ysgrifennu at Clare Short ar ran y Cynulliad. Fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol, bu’n weithgar iawn ar y sianelau dosbarthu cymorth dyngarol i Afghanistan ac i wersylloedd ffoaduriaid Afghan ym Mhakistan, Iran a gwledydd eraill. Cyflwynaf adroddiad naill ai’n ysgrifenedig neu, o gael cyfle addas, mewn Cyfarfod Llawn, ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a fydd cymorth yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn cyrraedd cyn y gaeaf. Pan ddaw tywydd garw’r gaeaf a phan ddaw’r dosbarthu i ben am na fydd y lorïau yn gallu cyrraedd, cytunaf y bydd y rhai yn y gwersylloedd hynny i ffoaduriaid mewn cyflwr truenus.

Christine Chapman spoken in English p. 100

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 100

Rhodri, do you think that we in the west have not paid enough attention to matters that are perceived as outside our day-to-day lives? If anything positive is to come from the events of 11 September, we need to learn that lesson and take a longer view. Before 11 September, we were aware that Afghanistan was waging a war against its women, and perhaps we did too little. This was a huge human rights disaster, but because it was thought about in terms of women, it was not made a priority. We know that women were beaten and stoned in public for not wearing the right clothing. They are not allowed to work or go out in public—

Rhodri, a gredwch nad ydym ni yn y gorllewin wedi rhoi digon o sylw i faterion yr ystyrir eu bod y tu allan i’n bywydau beunyddiol? Os ydym am weld rhywbeth cadarnhaol o’r digwyddiadau ar 11 Medi, mae angen inni ddysgu’r wers honno ac ystyried darlun ehangach. Cyn 11 Medi, yr oeddem yn ymwybodol bod Afghanistan yn rhyfela yn erbyn ei merched, ac efallai na wnaethom ddigon. Yr oedd hynny’n drychineb hawliau dynol enfawr, ond am iddi gael ei hystyried yn nhermau merched, ni roddwyd blaenoriaeth iddi. Gwyddom i ferched gael eu curo a’u llabyddio yn gyhoeddus am beidio â gwisgo’r dillad cywir. Ni chânt weithio neu fynd allan yn gyhoeddus—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 100

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 100

Order. One question only, please.

Trefn. Un cwestiwn yn unig, os gwelwch yn dda.

Christine Chapman spoken in English p. 100

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 100

Until 1996, when the Taleban came to power, women had relative freedom. Do you think that the Assembly, as a new democratic institution can potentially encourage a more outward-looking world view and act as a beacon for the people of Wales to consider these matters in more detail?

Tan 1996, pan ddaeth y Taleban i rym, yr oedd gan ferched rywfaint o ryddid. A gredwch y gallai’r Cynulliad o bosibl, fel sefydliad democrataidd newydd, hybu safbwynt mwy eangfrydig o’r byd a bod yn esiampl i bobl Cymru ei dilyn wrth ystyried y materion hyn yn fanylach?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 101

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 101

I would like to think so. Women’s rights have been denied in Taleban-ruled Afghanistan over the past five years, and it is natural for women to feel a strong solidarity with the women there, given the abuses that have taken place. It is proper for female and male Assembly Members to hold strong views on that.

Hoffwn gredu hynny. Gwadwyd hawliau merched yn Afghanistan o dan reolaeth y Taleban dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae’n naturiol i ferched uniaethu’n gryf â’r merched yno, o gofio’r cam-drin a fu’n digwydd. Mae’n briodol fod gan Aelodau’r Cynulliad, yn ferched ac yn ddynion, safbwyntiau cryf yn hyn o beth.

The issue is what happens after the Taleban is gone. I presume that the Taleban regime will not be in power for long. I may be wrong, but that is my assumption. What kind of society will then be reconstructed in Afghanistan, and what kind of place will women have in it, after all their suffering? To have been born a woman in Afghanistan in the past 30 or 40 years is to be extraordinarily unfortunate. However, those women have survived. We can only hope that they will have a better future.

Y broblem yw beth a ddigwydd ar ôl cyfnod y Taleban. Tybiaf na fydd y Taleban mewn grym am gyfnod hir. Efallai fy mod yn anghywir, ond dyna a dybiaf. Pa fath o gymdeithas a gaiff ei hailadeiladu yn Afghanistan, a pha fath o statws fydd gan ferched yn y gymdeithas honno, ar ôl iddynt ddioddef gymaint? Anffawd eithriadol fu cael eich geni yn ferch yn Afghanistan yn ystod y 30 neu 40 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r merched hynny wedi goroesi. Gallwn ond obeithio y cânt ddyfodol gwell.

William Graham spoken in English p. 101

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 101

Will you take this opportunity to ensure that the Assembly is seen as being four-square behind the British Government in supporting the rule of law? It is essential for us to secure air supremacy to enable the suspected assassins to be captured and brought to trial, and also to ensure support for our armed services and their families who live and work in Wales, who are drawn from all sectors of our communities.

A achubwch ar y cyfle hwn i sicrhau yr ystyrir bod y Cynulliad yn gadarn y tu ôl i Lywodraeth Prydain wrth gefnogi’r drefn gyfreithiol? Mae’n hanfodol inni sicrhau goruchafiaeth yn yr awyr er mwyn dal y llofruddwyr a amheuir a’u dwyn i dreial, a hefyd i sicrhau cefnogaeth i’n lluoedd arfog a’u teuluoedd sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, a ddaw o bob carfan o’n cymunedau.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 101

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 101

There is an issue here of the new world order, which I strongly commend. I am also grateful for your words. First, there is military action to catch or eliminate somebody who has committed a terrorist atrocity, but there is also the more formal side in the International Criminal Court. Slobodan Milosevic is currently on trial at the International Criminal Court for the ethnic cleansing of Muslims in Bosnia and Kosovo. That would never have happened until the new world order brought that formal side into play.

Mae a wnelo hyn â threfn newydd y byd, a gymeradwyaf yn gryf. Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am eich geiriau. Yn gyntaf, ceir gweithredu milwrol i ddal neu gael gwared ar rywun sydd wedi cyflawni erchylltra terfysgol, ond ceir hefyd yr ochr fwy ffurfiol yn y Llys Troseddol Rhyngwladol. Mae Slobodan Milosevic yn sefyll ei brawf ar hyn o bryd yn y Llys Troseddol Rhyngwladol am ymgyrch puro ethnig yn erbyn Moslemiaid yn Bosnia a Kosovo. Ni fyddai hynny erioed wedi digwydd hyd nes i drefn newydd y byd weithredu’r ochr ffurfiol honno.

Therefore, there is a structural as well as a military aspect to this. What do you do when someone like Osama Bin Laden has been caught? In his case, it is an offence of mass-murder in the United States of America. However, there are more political cases. We now have a structure of how to deal with war criminals. A permanent Nuremberg is being set up and is currently in use for Milosevic. I hope that that is a lesson for everybody else.

Felly, ceir agwedd strwythurol yn ogystal ag agwedd filwrol i hyn. Beth y dylid ei wneud ar ôl dal rhywun fel Osama Bin Laden? Yn ei achos ef, y drosedd yw llofruddiaeth dorfol yn Unol Daleithiau America. Fodd bynnag, mae achosion mwy gwleidyddol. Erbyn hyn mae gennym strwythur i ddelio â throseddwyr rhyfel. Mae llys parhaol ar lun Nuremberg yn cael ei sefydlu ac yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Milosevic. Gobeithiaf fod hyn yn wers i bawb arall.

Christine Gwyther spoken in English p. 102

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 102

At this time, it is natural, right and proper that we look outwards at the international situation, but we must also ensure that matters are right on the home front. During last autumn’s fuel crisis, we suffered from the just-in-time syndrome. Occasionally, fuel supplies were not available for basic, and sometimes emergency, services. Have lessons been learnt from that period and does the Government of Wales’s input into strategic planning for civil defence contain plans for maintaining basic supplies to the peripheral areas of Wales? I am sure that such measures will not be needed, but they must be ready.

Ar hyn o bryd, mae’n naturiol, ac yn gwbl briodol inni edrych allan ar y sefyllfa ryngwladol, ond rhaid inni hefyd sicrhau bod materion yn iawn gartref. Yn ystod argyfwng tanwydd yr hydref diwethaf, gwelsom y syndrom mewn-pryd-o-drwch-blewyn. Ar adegau, nid oedd cyflenwadau tanwydd ar gael i weithredu gwasanaethau sylfaenol, ac weithiau, wasanaethau brys. A ddysgwyd gwersi’r cyfnod hwnnw ac a yw mewnbwn Llywodraeth Cymru i gynllunio strategol ar gyfer amddiffyn sifil yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cynnal cyflenwadau sylfaenol i ardaloedd ymylol Cymru? Yr wyf yn siŵr na fydd angen mesurau o’r fath, ond rhaid iddynt fod yn barod.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 102

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 102

This situation does recall the events of September and October 2000 and the narrowness by which we avoided a major catastrophe in terms of fuel supplies to ambulances and hospitals. Factories in Cardiff and Caerphilly were temporarily closed on that occasion. I will not go into details, but that is one of the issues that we have considered in our review of civil contingency emergency planning since 11 September. We have updated all our plans and I am sure that lessons were learnt from the events of September and October 2000.

Mae’r sefyllfa yn dwyn i gof ddigwyddiadau Medi a Hydref 2000 a pha mor agos yr oeddem i argyfwng difrifol yn nhermau cyflenwadau tanwydd i’r gwasanaethau ambiwlans ac ysbytai. Caewyd ffatrïoedd yng Nghaerdydd a Chaerffili dros dro bryd hynny. Ni wnaf fanylu, ond dyna un o’r materion a ystyriwyd gennym yn ein hadolygiad o’r broses cynllunio brys ar gyfer digwyddiadau sifil ers 11 Medi. Yr ydym wedi diweddaru pob un o’n cynlluniau ac yr wyf yn siŵr i wersi gael eu dysgu o ddigwyddiadau Medi a Hydref 2000.

Helen Mary Jones spoken in English p. 102

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 102

I am grateful to the First Minister and others for their comments about the need to ensure that the Muslim community in Wales feels supported and included at a terribly difficult time.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog ac eraill am eu sylwadau ynghylch yr angen i sicrhau bod y gymuned Foslemaidd yng Nghymru yn teimlo ein bod yn ei chefnogi ac yn ei chynnwys ar adeg anodd iawn.

You are aware of the high levels of fear among Muslim women. Will you ensure that further and ongoing steps are taken to reassure them? They are at their most vulnerable. I have recently attended several meetings, where Muslim women delegates were expected. However, they felt unsafe to leave their homes. These are relatively confident, middle-class women. Therefore, we must get the message across.

Byddwch yn ymwybodol o’r ofn mawr ymhlith merched Moslemaidd. A sicrhewch y cymerir camau pellach, parhaus i dawelu eu meddyliau? Maent yn teimlo’n fwy diamddiffyn nag erioed. Yn ddiweddar mynychais sawl cyfarfod, lle y disgwyliwyd y byddai merched Moslemaidd yn bresennol. Fodd bynnag, ni theimlent ei bod yn ddiogel i adael eu cartrefi. Merched dosbarth canol, cymharol hyderus yw’r rhain. Felly, rhaid inni drosglwyddo’r neges.

There is a growing sense of anger and disaffection among some of the younger people in Muslim communities in Wales. We have concentrated today on the fear, but there is—

Mae’r ymdeimlad o ddicter ac ymddieithrio ymhlith rhai pobl ifanc yng nghymunedau Moslemaidd Cymru yn cynyddu. Heddiw, buom yn canolbwyntio ar yr ofn, ond mae—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 103

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 103

Order. May I have one question please?

Trefn. A allaf gael un cwestiwn os gwelwch yn dda?

Helen Mary Jones spoken in English p. 103

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 103

I beg your pardon. First Minister, will you ensure that, in future, consultations with the Muslim community include younger and more radical shades of opinion, as well as those of established community leaders?

Ymddiheuriadau. Brif Weinidog, a sicrhewch, yn y dyfodol, y bydd ymgynghoriadau â’r gymuned Foslemaidd yn cynnwys safbwyntiau ifancach, mwy radical, yn ogystal â safbwyntiau arweinwyr cymunedau sydd wedi’u hen sefydlu?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 103

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 103

That was the case in the meetings that we had two weeks ago, and it was also manifested during our meeting with representatives of Muslim women. They do not all share the same view; not all of them wear a veil. It depends on their personal responses to the rules of Islam that they want to follow. Undoubtedly, because such women often wear a veil, although not invariably, they are under pressure at the moment. Nobody wants to draw attention to themselves when they feel that they are under pressure from social exclusion, verbal abuse or, sometimes, worse. This is a problem because the resentment that builds up over a few weeks, through abuse for wearing a veil in line with community practices, might take 10 or 20 years to go away.

Dyna a ddigwyddodd yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd gennym bythefnos yn ôl, a daeth i’r amlwg hefyd yn ystod ein cyfarfod â chynrychiolwyr merched Moslemaidd. Nid ydynt oll o’r un farn, nid ydynt oll yn gwisgo fêl. Mae’n dibynnu ar eu hymatebion personol i reolau Islam y maent am eu dilyn. Yn ddiau, gan fod merched o’r fath yn aml yn gwisgo fêl, er nad yn ddieithriad, maent o dan bwysau ar hyn o bryd. Nid oes neb am dynnu sylw atynt hwy eu hunain pan fyddant yn teimlo eu bod yn wynebu’r bygythiad o gael eu hallgáu yn gymdeithasol, eu dilorni neu, weithiau, yn waeth na hynny. Mae hyn yn broblem gan y gallai’r chwerwder sydd yn cronni dros ychydig o wythnosau, drwy gael eu cam-drin am wisgo fêl yn unol ag arferion y gymuned, gymryd 10 neu 20 mlynedd i ddiflannu.

It is a tense and difficult time. However, we are paying attention to women, not only because of their position but because they are the first recipients of children’s information about bullying and name-calling in the playground. Schools may not be aware of such information because children may be nervous about telling their teachers, but they will tell their mothers. We want those mothers to give that information to the headteachers and the police.

Mae’n gyfnod anodd, llawn tyndra. Fodd bynnag, yr ydym yn rhoi sylw i ferched, nid yn unig oherwydd eu sefyllfa ond oherwydd mai hwy a gaiff wybod gyntaf am blant sydd yn cael eu bwlio ac y gelwir enwau arnynt yn yr iard. Efallai nad yw ysgolion yn ymwybodol o ddigwyddiadau o’r fath gan y gallai’r plant fod yn nerfus am sôn wrth eu hathrawon, ond dywedant wrth eu mamau. Yr ydym am i’r mamau hynny roi’r wybodaeth honno i’r penaethiaid ac i’r heddlu.

Richard Edwards spoken in English p. 104

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 104

I look forward to a wide-ranging debate and to contributing my viewpoint. In the meantime, can you explain how the United States and the United Kingdom can take the moral lead in making the world a safer place, when they are the two leading exporters of arms in the world?

Edrychaf ymlaen at ddadl eang ei chwmpas ac at roi fy safbwynt. Yn y cyfamser, a allwch egluro sut y gall yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig gymryd yr awenau yn foesol wrth sicrhau bod y byd yn lle mwy diogel, o gofio mai hwy yw’r ddau brif allforiwr arfau yn y byd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 104

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 104

That is a difficult issue. There are controls over arms exports, but whether those controls are always adhered to is another matter. You will remember the ministerial careers that perished as a result of the issues that led to the Scott report, which described one of the great administrative catastrophes of the past quarter of a century in the British civil service, and in the ministerial control.

Mae hwnnw’n fater anodd. Mae rheolaethau dros allforio arfau, ond mae glynu at y rheolaethau hynny bob amser yn fater arall. Fe gofiwch y gyrfaoedd gweinidogol a ddaeth i ben o ganlyniad i’r materion a arweiniodd at adroddiad Scott, a ddisgrifiodd un o argyfyngau gweinyddol mwyaf y gwasanaeth sifil Prydeinig, a rheolaeth weinidogol, yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

I like to think that important lessons were learnt. That does not mean that arms exports will cease. However, we must verify the use made of such arms, solve the end user certificate problem and ensure adherence to their administration, so that they are not used for terrorist purposes. We are all aware of the example where Britain supplied arms to Saddam Hussein during the war against Iran. The same arms were used against British troops during the Gulf war 10 years later. Unfortunately, such things happen, and if you do not learn lessons from them, you do not learn anything.

Hoffwn gredu i wersi pwysig gael eu dysgu. Nid yw hynny’n golygu y daw allforio arfau i ben. Fodd bynnag, rhaid inni ddilysu’r defnydd a wneir o arfau o’r fath, datrys y broblem o ran tystysgrif defnyddiwr terfynol a sicrhau y cânt eu gweinyddu’n briodol, fel na chânt eu defnyddio at ddibenion terfysgol. Yr ydym oll yn ymwybodol o’r enghraifft lle y cyflenwodd Prydain arfau i Saddam Hussein yn ystod y rhyfel yn erbyn Iran. Defnyddiwyd yr un arfau yn erbyn lluoedd Prydain yn ystod rhyfel y Gwlff 10 mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus, mae pethau o’r fath yn digwydd, ac os na ddysgwch wersi ohonynt, ni ddysgwch ddim byd.

Glyn Davies spoken in English p. 104

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 104

Do you agree that it is absolutely crucial that we have the opportunity to put our views on this issue before the public in the best possible way by holding a full debate on it? That would demonstrate how much we value democracy, respecting those who may hold different views and acknowledging that a failure to hold a full and proper debate would seriously damage the credibility of this Assembly. If it is to be regarded by the public as a national governing body, it must deal with issues on a wider national scale, and not simply those devolved to the Assembly. We must have a full, public debate on this.

A gytunwch ei bod yn gwbl hanfodol inni gael cyfle i gyflwyno ein barn ar y mater hwn i’r cyhoedd yn y ffordd orau bosibl drwy gynnal dadl lawn arno? Byddai hynny’n dangos y gwerth a roddwn ar ddemocratiaeth, gan barchu’r rhai a allai fod â safbwynt gwahanol a chydnabod y byddai methu â chynnal dadl lawn, briodol yn niweidiol iawn i hygrededd y Cynulliad hwn. Os ydym am iddo gael ei ystyried gan y cyhoedd fel corff llywodraethu cenedlaethol, rhaid iddo ddelio â materion ar raddfa genedlaethol ehangach, ac nid dim ond y rhai a ddatganolwyd i’r Cynulliad. Rhaid inni gynnal dadl gyhoeddus, lawn ar y pwnc.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 104

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 104

I agree with that. The only problem here is that there is no procedure to conduct such a debate. In Westminster, my guess is that there would be an adjournment debate. However, we do not currently have the kind of procedure that would enable everybody to get their thoughts off their chests without a motion being tabled and a vote being held at the end of the debate. I do not know if we could find a way around that. It is not a matter for me, but for the Presiding Office and the four party business managers. We shall try, because I agree with your sentiments.

Cytunaf â hynny. Yr unig broblem yw nad oes gweithdrefn ar gyfer cynnal dadl o’r fath. Yn San Steffan, tybiaf y byddai dadl ohirio yn cael ei chynnal. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes gennym weithdrefn a fyddai’n galluogi i bawb gael lleisio barn heb orfod cyflwyno cynnig a chynnal pleidlais ar ddiwedd y ddadl. Ni wn a fyddai modd goresgyn hynny. Nid fy mhenderfyniad i fyddai hynny, ond penderfyniad y Llywydd a rheolwyr busnes y pedair plaid. Rhoddwn gynnig arni, gan fy mod yn cytuno â chi yn hynny o beth.

Janet Ryder spoken in English p. 105

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 105

I noticed that in your statement you discussed contingency planning, the police, fire authorities and the ambulance services. You also discussed reviewing the plans that the health authorities have in place. Earlier, in response to Rhodri Glyn Thomas’s question, you mentioned the emergency procedures that local authorities must have in place. Have you carried out a similar review of local authorities’ emergency plans? Are you considering issuing new guidelines to them, which could mean that they would have to review their plans in some way?

Sylwais yn eich datganiad ichi drafod cynllunio wrth gefn, yr heddlu, awdurdodau tân a’r gwasanaethau ambiwlans. Trafodasoch hefyd adolygu’r cynlluniau sydd ar waith yn yr awdurdodau iechyd. Yn gynharach, wrth ymateb i gwestiwn Rhodri Glyn Thomas, soniasoch am y gweithdrefnau brys y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu rhoi ar waith. A gynhaliwyd adolygiad tebyg o gynlluniau brys awdurdodau lleol? A ydych yn ystyried cyhoeddi canllawiau newydd iddynt, a allai olygu y byddai’n rhaid iddynt adolygu eu cynlluniau mewn rhyw ffordd?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 105

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 105

That is not our responsibility, but that of the Cabinet Office, which delegates directly to the local authorities in Wales, but I undertake to check the state of information on that. The health authorities are directly accountable to us, which is why we have a more direct impact on them, so that Dr Ruth Hall, the Chief Medical Officer, can communicate with the local chief medical officers and get the information directly from them. The chain of command is slightly different for local authorities, but I will write to you, Janet, and inform the rest of the Assembly on local authorities’ emergency plans.

Nid ein cyfrifoldeb ni yw hynny, ond cyfrifoldeb Swyddfa’r Cabinet, sy’n dirprwyo’n uniongyrchol i’r awdurdodau lleol yng Nghymru, ond ymchwiliaf i’r wybodaeth sydd ar gael yn hynny o beth. Mae’r awdurdodau iechyd yn uniongyrchol atebol i ni, a dyna pam mae gennym effaith fwy uniongyrchol arnynt, fel y gall Dr Ruth Hall, y Prif Swyddog Meddygol, gyfathrebu â’r prif swyddogion meddygol lleol a chael y wybodaeth yn uniongyrchol ganddynt. Mae’r gadwyn atebolrwydd ychydig yn wahanol ar gyfer awdurdodau lleol, ond ysgrifennaf atoch, Janet, a hysbysaf weddill y Cynulliad am gynlluniau brys yn awdurdodau lleol.

Peter Rogers spoken in English p. 105

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 105

Do you agree with J. K. Galbraith’s advice to President Kennedy in 1962 that politics

Oni chytunwch â chyngor J. K. Galbraith i’r Arlywydd Kennedy yn 1962 fod gwleidyddiaeth

‘consists of choosing between the disastrous and the unpalatable’?

‘yn golygu dewis rhwng y trychinebus a’r annymunol’?

Is it not the case that Plaid Cymru—The Party of Wales in calling for a stop to the bombing represents the ‘disastrous’ choice and that, in fact, we are left with the ‘unpalatable’ military action to expedite the just cause? Do you agree that to waiver from our aims now would only encourage the terrorists and those who harbour them?

Onid yw’n wir bod Plaid Cymru—The Party of Wales, wrth alw am ddiwedd ar y bomio yn cynrychioli’r dewis ‘trychinebus’ ac, mewn gwirionedd, mai’r hyn sydd yn weddill yw’r gweithredu milwrol ‘annymunol’ i hwyluso’r achos cyfiawn? A gytunwch mai dim ond annog y terfysgwyr a’r rhai sydd yn eu hamddiffyn fyddai rhoi’r gorau i’n nodau yn awr?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 106

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 106

I agree that not all the actions of Governments, particularly those with responsibility for defence, security and foreign policy, will look pretty on television. Nevertheless, sometimes, such things have to be done. I am not privy to the details of what the Government does as this is not a devolved matter. However, I agree with the general principle that Governments are faced with difficult choices and you cannot appear to be friends with, and loved by, everybody when those choices have to be made. It is a difficult time.

Cytunaf na fydd holl gamau Llywodraethau, yn arbennig y rhai sydd yn gyfrifol am amddiffyn, diogelwch a pholisi tramor, yn olygfa ddymunol ar y teledu. Serch hynny, o bryd i’w gilydd, rhaid gwneud pethau o’r fath. Nid wyf yn ymwybodol o’r manylion am yr hyn a wna’r Llywodraeth gan nad yw’n fater wedi’i ddatganoli. Fodd bynnag, cytunaf â’r egwyddor gyffredinol fod Llywodraethau yn wynebu dewisiadau anodd ac na allwch ymddangos fel petaech yn ffrind i bawb, pan fo’n rhaid gwneud y penderfyniadau hynny. Mae’n gyfnod anodd.

I agree with Glyn’s point that the most important thing for us is to act in a way that shows democracy in a good light, where we can have differences of opinion, balance and emphasis, but still have respect for all points of view and the right to express those points of view.

Cytunaf â phwynt Glyn mai’r peth pwysicaf i ni yw gweithredu mewn ffordd sydd yn bwrw goleuni da ar ddemocratiaeth, lle y gallwn gael gwahaniaeth barn, cydbwysedd a phwyslais, ond dal i barchu pob safbwynt a’r hawl i fynegi’r safbwyntiau hynny.

Rod Richards spoken in English p. 106

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 106

In these troubled times, it behoves all of us to stay within our competence and not to stray outside it. Do you agree that when a war is going on, a little learning can be dangerous, but a little ignorance can be deadly? I do not agree with Plaid Cymru’s change of view on the bombing. They considered it necessary and sufficient for only two days, when there could not possibly have been any information on priority of targets, damage to targets or on the next stages of action. Do you agree that we must trust the judgment of the Prime Minister and his expert advisers on this issue? The Prime Minister will be as keen as everyone here to avoid civilian casualties and ensure that refugees are protected. Do you also agree that—

Yn ystod y cyfnod trafferthus hwn, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i aros o fewn ein gallu a pheidio â mynd y tu hwnt iddo. A gytunwch, yn ystod cyfnod o ryfel, y gall ychydig addysg fod yn beryglus, ond y gall ychydig anwybodaeth fod yn farwol? Ni chytunaf â Phlaid Cymru yn newid ei safbwynt o ran y bomio. Yn eu barn hwy, dim ond am ddeuddydd yr oedd yn angenrheidiol ac yn ddigonol, pan na allai fod wedi bod unrhyw wybodaeth ar flaenoriaeth o ran targedau, difrod i dargedau neu ar y camau nesaf o weithredu. A gytunwch fod yn rhaid inni ymddiried ym marn Prif Weinidog y DU a’i gynghorwyr arbenigol ar y mater hwn? Bydd y Prif Weinidog yr un mor awyddus â phawb yma i osgoi anafu neu ladd pobl gyffredin ac i sicrhau y caiff ffoaduriaid eu diogelu. A gytunwch hefyd—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 106

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 106

Order. You have had six questions.

Trefn. Yr ydych wedi holi chwe chwestiwn.

Rod Richards spoken in English p. 106

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 106

This is the last question but one, Llywydd. Does the First Minister agree that the Prime Minister has a duty to our armed forces, who may soon be involved in action on the ground, many of whom will be Welsh men and women and whose families will be worried sick?

Dyma’r cwestiwn olaf ond un, Lywydd. A yw Prif Weinidog Cymru yn cytuno bod dyletswydd ar Brif Weinidog y DU i’n lluoedd arfog, a allai gael eu cynnwys cyn bo hir ar y tir, y bydd llawer ohonynt yn Gymry ac y bydd eu teuluoedd yn poeni’n ddybryd?

I am grateful to the First Minister for his remarks on civil defence and, particularly, on racial matters, which I hope will remain unchanged. Did the First Minister’s discussions with health authorities include contingency plans to bring casualties back to this country to be treated under the national health service, should there be a prolonged land war? If that occurred, the service would be placed under additional strain at a time when there would be fewer doctors and nurses, as some of them would have to go out to the war zone.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog am ei sylwadau ar amddiffyn sifil ac, yn benodol, ar faterion hiliol, gan obeithio yr erys yn ddigyfnewid. A oedd trafodaethau Prif Weinidog Cymru gydag awdurdodau iechyd yn cynnwys cynlluniau wrth gefn i ddod â phobl sydd wedi’u hanafu yn ôl i’r wlad hon i’w trin o dan y gwasanaeth iechyd gwladol, pe byddai’r rhyfel ar y tir yn parhau am gyfnod estynedig? Pe digwyddai hynny, byddai’r gwasanaeth yn cael ei roi o dan bwysau ychwanegol ar adeg pan fyddai llai o feddygon a nyrsys, gan y byddai rhai ohonynt yn gorfod mynd i ardal y rhyfel.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 107

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 107

I agree with the three principles outlined by Rod. At present, there is only a remote possibility of a land war. Similar plans to those outlined by Rod were made during the Gulf war. Hospitals in Wales, as elsewhere, were ready for the possibility of having to treat casualties returning from the Gulf. Although that is much less likely to occur now than during the Gulf war 10 years ago, the health service must be ready to treat returning land war casualties.

Cytunaf â’r tair egwyddor a amlinellwyd gan Rod. Ar hyn o bryd, mae’n annhebygol iawn y bydd rhyfel ar y tir. Gwnaethpwyd cynlluniau tebyg i’r rhai a amlinellwyd gan Rod yn ystod rhyfel y Gwlff. Yr oedd ysbytai yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, yn barod ar gyfer y posibilrwydd y byddai’n rhaid iddynt drin pobl yn dychwelyd o’r Gwlff wedi’u hanafu. Er bod y sefyllfa yn llawer llai tebygol o godi yn awr nag yn ystod rhyfel y Gwlff 10 mlynedd yn ôl, rhaid i’r gwasanaeth iechyd fod yn barod i drin pobl a fydd yn dychwelyd o ryfel ar y tir wedi’u hanafu.

As regards his first point, Rod has never asked my permission to have a go at Plaid Cymru before, and I do not know why he is asking me now. It is up to him what he says about other political parties.

O ran ei bwynt cyntaf, ni ofynnodd Rod erioed imi am ganiatâd i ymosod ar Blaid Cymru yn y gorffennol, ac ni wn pam y mae’n gofyn imi yn awr. Ei ddewis ef yw’r hyn a ddywed am bleidiau gwleidyddol eraill.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 108

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 108

Before I turn to the business statement for the next three weeks, I inform Members of changes to this week’s business. As Members are aware, I have already proposed a procedural motion to bring forward certain items of business this afternoon. This was agreed this morning by the parties’ business managers and Members were notified earlier today.

Cyn imi droi at y datganiad busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, hysbysaf yr Aelodau o’r newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wyf eisoes wedi cynnig cynnig trefniadol i ddwyn ymlaen eitemau penodol o fusnes y prynhawn yma. Cytunwyd ar hyn y bore yma gan reolwyr busnes y pleidiau, a hysbyswyd yr Aelodau yn gynharach heddiw.

Business on Thursday will include a motion to delegate the functions of the Race Relations (Amendment) Act 2000 to the First Minister and motions on the two associated Westminster Orders, a motion to approve the draft budget by the Minister for Finance, Local Government and Communities and a debate on the establishment of the design commission for Wales.

Bydd busnes ddydd Iau yn cynnwys cynnig i ddirprwyo swyddogaethau Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 i’r Prif Weinidog a chynigion ar y ddau Orchymyn cysylltiedig gan San Steffan, cynnig i gymeradwyo’r gyllideb ddrafft gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau a dadl ar sefydlu’r comisiwn dylunio i Gymru.

At its meeting this morning, the Business Committee agreed the business for the next three weeks, as shown on the Chamberweb under supporting documents. Members will also wish to be aware that, at this morning’s meeting, the Deputy Presiding Officer determined, under Standing Order No. 22.5, that the following Orders need not be referred to a Subject Committee: the Learning and Skills Act 2000 (Consequential Amendments) (Schools) (Wales) Regulations 2001 and the Smoke Control Areas (Authorised Fuels) (Wales) Regulations 2001. Arrangements will be made to post a copy of this statement to the intranet and the internet.

Yn ei gyfarfod y bore yma, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, fel yr ymddengys ar we’r Siambr o dan ddogfennau ategol. Bydd yr Aelodau hefyd am wybod bod y Dirprwy Lywydd, yn ystod cyfarfod y bore yma, wedi penderfynu, o dan Reol Sefydlog Rhif 22.5, nad oes angen cyfeirio’r Gorchmynion canlynol at Bwyllgor Pwnc: Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygio Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwydd Awdurdodedig) (Cymru) 2001. Gwneir trefniadau i roi copi o’r datganiad hwn ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 108

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 108

Are there any objections to the business statement? I see that there are none. Are there any comments on the business statement?

A oes gwrthwynebiadau i’r datganiad busnes? Gwelaf nad oes. A oes unrhyw sylwadau ar y datganiad busnes?

Jocelyn Davies spoken in English p. 108

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 108

The Minister for Assembly Business will recall that the First Minister, when taking on the economic development portfolio, said that it was a temporary arrangement for the summer. The matter remains unresolved, and dissatisfaction has been voiced several times today. May we have an early debate on the configuration of the Cabinet, so that the First Minister can stand accountable to the Assembly, which elected him to his position?

Bydd y Trefnydd yn cofio i’r Prif Weinidog, wrth ymgymryd â’r portffolio datblygu economaidd, ddweud mai trefniant dros dro ydoedd dros yr haf. Erys y mater heb ei ddatrys, a mynegwyd anfodlonrwydd sawl gwaith heddiw. A gawn ni ddadl gynnar ar gyfluniad y Cabinet, er mwyn i’r Prif Weinidog fod yn atebol i’r Cynulliad a’i etholodd i’w swydd?

Alun Pugh spoken in English p. 109

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 109

Following the conclusion of a manslaughter trial in Caernarfon this afternoon, will the Minister for Assembly Business schedule a statement by the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language on the safety of children participating in mountain sports in Wales? Although I do not want to stop children from participating in those sports, I have grave concerns about the ability of some voluntary groups to manage such activities at an acceptable level of risk.

Yn dilyn penderfyniad prawf dynladdiad yng Nghaernarfon y prynhawn yma, a fydd y Trefnydd yn trefnu datganiad gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg ar ddiogelwch plant sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau mynydda yng Nghymru? Er nad wyf am atal plant rhag cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny, mae gennyf bryderon difrifol ynghylch gallu rhai grwpiau gwirfoddol i gynnal gweithgareddau o’r fath ar lefel dderbyniol o risg.

David Melding spoken in English p. 109

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 109

Is the Minister for Assembly Business minded to give time to my no-named day motion (NNDM784), which calls upon the Presiding Office to publish annually the allowances claimed by each Assembly Member? I understand that the vast majority of Members have published their allowance figures. It demonstrates the will of the Assembly and it reflects the public’s concern.

A yw’r Trefnydd yn bwriadu rhoi amser i drafod fy nghynnig heb ddyddiad trafod (NNDM784), sydd yn galw ar Swyddfa’r Llywydd i gyhoeddi’n flynyddol y lwfansau y gwneir cais amdanynt gan bob Aelod o’r Cynulliad? Deallaf fod y mwyafrif llethol o Aelodau wedi cyhoeddi ffigurau eu lwfansau. Mae’n dangos ewyllys y Cynulliad ac yn adlewyrchu pryder y cyhoedd.

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 109

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 109

I start by responding to David’s request. As he may know, I raised his letter with members of the Business Committee this morning. I suggested, as a way forward, that this be considered in the review of Assembly procedures to place it in wider context of how we operate. The Business Committee agreed that that would be an appropriate way forward. However, I will consider your request and come back to you on that.

Dechreuaf drwy ymateb i gais David. Fel y gŵyr, o bosibl, trafodais ei lythyr gydag aelodau o’r Pwyllgor Busnes y bore yma. Awgrymais, fel cam ymlaen, y dylid ystyried hyn yn yr adolygiad o weithdrefnau’r Cynulliad i’w roi yn y cyd-destun ehangach o’r ffordd yr ydym yn gweithredu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai hynny yn gam priodol ymlaen. Fodd bynnag, byddaf yn ystyried eich cais ac yn rhoi ateb i chi yn ddiweddarach.

I will raise Alun Pugh’s point with Jenny Randerson, my Cabinet colleague, to consider how we can accommodate it. I understand Jocelyn’s reasons for making her point. It was an opportunity for her to raise this issue. However, I am reminded of the Biblical injunction about being aware of the beam in your own eye. I must point out that Plaid Cymru’s health spokesperson is not only an Assembly Member, but a Swansea City and County Council councillor, a GP and a lay preacher. Therefore, you should examine your own practice, before casting aspersions on others.

Codaf bwynt Alun Pugh gyda Jenny Randerson, fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, i ystyried sut y gallwn drefnu hynny o bosibl. Deallaf resymau Jocelyn dros fynegi ei barn. Yr oedd yn gyfle iddi godi’r mater hwn. Fodd bynnag, caf fy atgoffa o’r gorchymyn Beiblaidd ynglŷn â bod yn ymwybodol o’r trawst yn eich llygad eich hun. Rhaid imi bwysleisio fod llefarydd iechyd Plaid Cymru nid yn unig yn Aelod o’r Cynulliad, ond yn gynghorydd Dinas a Sir Abertawe, yn feddyg teulu ac yn bregethwr lleyg hefyd. Felly, dylech archwilio eich arfer eich hun, cyn lladd ar eraill.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Rod Richards spoken in English p. 110

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 110

Point of order. I seek your ruling—[Interruption.]

Pwynt o drefn. Gofynnaf am eich dyfarniad—[Torri ar draws.]

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 110

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 110

Trefn, os gwelwch yn dda. Mae’n rhaid i’r Aelod annibynnol gael ei glywed.

Order, please. The independent Member must be heard.

Rod Richards spoken in English p. 110

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 110

I seek your ruling on Standing Order No. 6.2, the essence of which states that,

Gofynnaf am eich dyfarniad ar Reol Sefydlog Rhif 6.2, sydd yn nodi bod,

‘the Presiding Officer may, at the request of the First Secretary, summon the Assembly to consider a matter of urgent public importance.’

‘gall y Llywydd, ar gais y Prif Ysgrifennydd, gynnull y Cynulliad i ystyried mater brys sydd o bwys cyhoeddus.’

It is my understanding that, after the events of 11 September, the First Minister consulted the other three party leaders or their representatives on whether or not to advise you to recall the Assembly. I was unable to be present and I was not invited to this meeting. My concern is—and this is the point on which I seek your ruling—that I wished my views had been represented in that meeting, because I would have argued forcefully that the Assembly should have been recalled due to the domestic consequences of the events in North America.

Deallaf fod y Prif Weinidog, ar ôl digwyddiadau 11 Medi, wedi ymgynghori ag arweinwyr y tair plaid arall neu eu cynrychiolwyr ynghylch a ddylid eich cynghori i alw’r Cynulliad yn ôl. Nid oeddwn yn gallu bod yn bresennol ac ni chefais wahoddiad i’r cyfarfod hwn. Fy mhryder yw—a dyma’r pwynt yr wyf yn gofyn am eich dyfarniad arno—yr oeddwn yn dymuno i’m barn gael ei chynrychioli yn y cyfarfod hwnnw, oherwydd y byddwn wedi dadlau’n gryf y dylid bod wedi galw’r Cynulliad yn ôl oherwydd canlyniadau’r digwyddiadau yng Ngogledd America i’r wlad hon.

I wish formally, therefore, to distance myself from the decision that was taken in that meeting. I firmly believe—and I will not explain my reasons, because I am sure that you will rule me out of order—that this Assembly should have been recalled at the earliest opportunity.

Dymunaf, felly, i ymbellhau yn ffurfiol oddi wrth y penderfyniad a wnaethpwyd yn y cyfarfod hwnnw. Credaf yn gryf—ac ni fyddaf yn egluro fy rhesymau, oherwydd yr wyf yn siŵr y byddwch yn galw trefn arnaf—y dylid bod wedi galw’r Cynulliad hwn yn ôl ar y cyfle cyntaf.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 110

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 110

I am grateful to you for expressing your views, as I am sure is the First Minister. The position, under that Standing Order, is that the First Minister may consult whomever he chooses in deciding to request the Presiding Officer to reconvene the Assembly. The Presiding Officer has no locus in initiating any such request, whatever his or her views may be. As regards distancing yourself, Rod, you can do that in your own right at all times and in all places if you wish. I approve of consultation in the Assembly. If independent Members wish to have their views represented, then there is an open facility from the lead Minister for Assembly Business in the Government of the day to take note of those views directly. I advise you to write to the Minister for Assembly Business if you feel that you are not being properly represented. I see that the Minister is nodding gently in agreement.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am fynegi eich barn, fel y mae’r Prif Weinidog, yr wyf yn siŵr. Y sefyllfa, o dan y Rheol Sefydlog honno, yw y gallai’r Prif Weinidog ymgynghori â phwy bynnag a ddewisa wrth benderfynu i ofyn i’r Llywydd ailgynnull y Cynulliad. Nid oes gan y Llywydd hawl i gychwyn unrhyw gais o’r fath, beth bynnag y bo ei farn ef. Ynglŷn ag ymbellhau oddi wrth y penderfyniad, Rod, gallech wneud hynny yn eich rhinwedd eich hun ar bob adeg ac ym mhob lle os dymunwch. Cymeradwyaf ymgynghori yn y Cynulliad hwn. Os bydd Aelodau annibynnol yn dymuno i’w barn gael ei chynrychioli, mae cyfleuster agored gan Drefnydd arweiniol y Llywodraeth ar y pryd i nodi’r farn honno yn uniongyrchol. Fe’ch cynghoraf i ysgrifennu at y Trefnydd os teimlwch nad ydych yn cael eich cynrychioli yn gywir. Gwelaf fod y Gweinidog yn nodio ei gytundeb.

David Davies spoken in English p. 111

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 111

Point of order. I intended to raise a point of order about the lack of notice regarding ministerial engagements in constituencies. However, I discussed the matter with the Minister concerned and I was delighted with the response that I received. Therefore, I do not need to raise this matter here.

Pwynt o drefn. Yr oeddwn yn bwriadu codi pwynt o drefn ynghylch y diffyg rhybudd cyn i Weinidogion ymweld ag etholaethau. Fodd bynnag, trafodais y mater gyda’r Gweinidog dan sylw ac yr oeddwn yn fodlon iawn gyda’r ateb a gefais. Felly, nid oes angen imi godi’r mater hwn yn y fan hon.

Ethol i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth

Election to the Environment, Planning and Transport Committee

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 111

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 111

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig NNDM782 Andrew Davies t. 111

Motion NNDM782 Andrew Davies p. 111

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas

Ethol i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes

Election to the Education and Lifelong Learning Committee

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 112

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 112

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig NNDM783 Andrew Davies t. 112

Motion NNDM783 Andrew Davies p. 112

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas

Cymeradwyo Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Rheoliadau (Gorfodi) Bwydydd Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001

Approval of the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 114

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 114

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig NNDM776 Andrew Davies t. 114

Motion NNDM776 Andrew Davies p. 114

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas

Cymeradwyo Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001

Approval of the Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services spoken in English p. 115

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 115

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Hutt The Minister for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 115

Jane Hutt Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 115

and that

a bod

the National Assembly

y Cynulliad Cenedlaethol yn

1. considers the report of the Legislation Committee, which does not draw the special attention of the Assembly to any matter under Standing Order No. 11.5 in relation to the draft Order, the Children (Protection from Offenders) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, laid in the Table Office on 3 July 2001; and

1. ystyried adroddiad y Pwyllgor Deddfau, nad yw’n tynnu sylw’r Cynulliad yn arbennig at unrhyw fater o dan Reol Sefydlog Rhif 11.5, mewn perthynas â’r Gorchymyn drafft, Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2001; ac yn

2. approves that the Order is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 26 June 2001 and the memorandum of corrections laid in the Table Office on 9 July 2001. (NDM778)

2. cymeradwyo bod y Gorchymyn yn cael ei wneud yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2001 a’r memorandwm cywiriadau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2001. (NDM778)

These regulations will amend the Adoptions Agencies Regulations 1983 and the Foster Placement (Children) Regulations 1991. Their introduction will give local authorities greater discretion to decide who can be considered as a potential foster parent or adoptive parent. At present, local authorities cannot consider a person who has a conviction or caution for an offence of actual bodily harm as a possible foster or adoptive parent, even where the offence was committed when that person was under 18. The amended regulations will remove that prohibition and allow local authorities the discretion to consider such a person. That does not mean that anyone in this category will automatically be able to foster or adopt a child, but it will enable him or her to be considered.

Bydd y rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991. Bydd eu cyflwyno yn rhoi mwy o ddisgresiwn i awdurdodau lleol benderfynu ynghylch pwy y gellir eu hystyried fel darpar riant maeth neu riant mabwysiadol. Ar hyn o bryd, ni all awdurdodau lleol ystyried unigolyn sydd â chollfarn neu rybudd am drosedd o niwed corfforol gwirioneddol fel darpar riant maeth neu fabwysiadol, hyd yn oed pan gyflawnwyd y drosedd pan oedd yr unigolyn hwnnw o dan 18. Bydd y rheoliadau diwygiedig yn dileu’r gwaharddiad hwnnw ac yn rhoi’r disgresiwn i’r awdurdodau lleol ystyried unigolyn o’r fath. Ni olyga hyn y gall unrhyw un yn y categori hwn faethu neu fabwysiadu plentyn yn awtomatig, ond bydd yn caniatáu iddo ef neu hi gael eu hystyried.

There are about 35,000 children in foster care in England and Wales. These amendments will affect a limited number of problematic cases and relaxation of the regulations will address these cases, while retaining the necessary safeguards. These amendments will not give anyone a guaranteed right to become a foster or adoptive parent; local authorities will still be required to assess the person’s suitability.

Mae tua 35,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru a Lloegr. Bydd y diwygiadau hyn ond yn effeithio ar nifer gyfyngedig o achosion problematig a bydd llacio’r rheoliadau yn ymdrin â’r achosion hyn, tra’n cadw’r diogelwch angenrheidiol. Ni fydd y diwygiadau hyn yn rhoi hawl bendant i unrhyw un ddod yn rhiant maeth neu fabwysiadol; bydd angen i awdurdodau lleol asesu addasrwydd yr unigolyn o hyd.

Since these amending regulations were introduced in England, they have been challenged on the grounds that they are incompatible with the Human Rights Act 1998. Therefore we will consider the need for further amendments to the regulations in the light of the outcome of the current challenge. In the meantime, these amending regulations are likely to make the Adoptions Agencies Regulations 1983 and the Foster Placement (Children) Regulations 1991 more compliant with the convention on human rights than at present.

Ers cyflwyno’r rheoliadau diwygio hyn yn Lloegr, maent wedi cael eu herio am fod yn anghyson â Deddf Hawliau Dynol 1998. Felly, byddwn yn ystyried yr angen am ddiwygio rheoliadau ymhellach yn sgîl canlyniad yr achos hwnnw. Yn y cyfamser, mae’r rheoliadau diwygio hyn yn debygol o sicrhau bod Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 yn cydymffurfio’n well â’r confensiwn ar hawliau dynol nag y maent ar hyn o bryd.

These regulations have been discussed in the Health and Social Services Committee and have been out to consultation.

Trafodwyd y rheoliadau hyn yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a bu’n destun ymgynghoriad.

David Melding spoken in English p. 117

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 117

I support what the Minister said in her short speech. It is important that we remember that this is a specific amendment, relating to those who were under 18 when an offence was committed. It does not undermine our commitment to ensure that only appropriate people are recruited as foster carers. We do not want the terrible episodes of abuse that occurred in residential homes to be succeeded by similar abuse by foster carers as a result of slipshod practices. We must maintain the highest possible standards. In their use of discretionary powers, local authorities must ensure that the people whom they recruit are of appropriate standing and are in no way a threat to those for whom they will be parentally responsible.

Cefnogaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei haraith fer. Mae’n bwysig inni gofio bod y diwygiad hwn yn un penodol sydd yn ymwneud â’r rhai a oedd o dan 18 pan gyflawnwyd trosedd. Nid yw’n tanseilio ein hymrwymiad i sicrhau mai dim ond pobl briodol a gaiff eu recriwtio fel gofalwyr maeth. Nid ydym am i’r achosion ofnadwy o gam-drin a ddigwyddodd mewn cartrefi preswyl gael eu dilyn gan achosion tebyg gan ofalwyr maeth o ganlyniad i arferion esgeulus. Rhaid inni gynnal y safonau uchaf posibl. Wrth iddynt arfer eu pwerau diamod, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y bobl y maent yn eu recriwtio yn briodol o ran statws ac nad ydynt yn fygythiad o gwbl i’r rhai y byddant yn gyfrifol amdanynt yn eu rôl fel rhieni.

Jane Hutt spoken in English p. 117

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 117

As David said, it is appropriate that we consider this discretion, which will not undermine our assessment of who are the right people to foster children in Wales. We must safeguard children from abuse and neglect in fostering and adoption situations through our regulations. There has been considered consultation on this. I believe that the discretion of local authorities and the assessments will safeguard our children.

Fel y dywedodd David, mae’n briodol inni ystyried y disgresiwn hwn, na fydd yn tanseilio sut yr ydym yn asesu pwy yw’r bobl gywir i faethu plant yng Nghymru. Rhaid inni ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso mewn sefyllfaoedd maethu a mabwysiadu drwy ein rheoliadau. Bu ymgynghori ystyriol ar y mater hwn. Credaf y bydd disgresiwn awdurdodau lleol a’r asesiadau yn diogelu ein plant.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 117

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 117

Pleidleisiwn yn awr ar egwyddor y Gorchymyn.

We will now vote on the principle of the Order.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 3 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
YmatalAbstain (3)
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 118

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 118

Pleidleisiwn yn awr ar gymeradwyo’r Gorchymyn.

We will now vote on approving the Order.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 47 YmatalAbstain 3 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (47)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley
YmatalAbstain (3)
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman

Dirprwyo Swyddogaethau Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000

Delegation of the Functions of the Warm Homes and Energy Conservation Act 2000

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 119

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 119

I propose that

Cynigiaf fod

Janet Davies spoken in English p. 120

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 120

Plaid Cymru supports the motion. We do not have much time to discuss it today. However, the lack of a warm home and poor energy efficiency has a great effect on health. It costs the health service a few million pounds a year. The Act states that the issue of fuel poverty and of having warm homes at a reasonable cost is delegated to ministerial function. I am sure that the Assembly will want to scrutinise the standards and the criteria set.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn. Nid oes gennym lawer o amser i’w drafod heddiw. Fodd bynnag, mae diffyg cartref cynnes ac effeithlonrwydd ynni gwael yn cael effaith fawr ar iechyd. Mae’n costio rhai miliynau o bunnoedd i’r gwasanaeth iechyd bob blwyddyn. Noda’r Ddeddf fod tlodi tanwydd a’r gwaith o sicrhau cartrefi cynnes wedi’i ddirprwyo i swyddogaeth weinidogaethol. Yr wyf yn siwr y bydd y Cynulliad am graffu ar y safonau a’r meini prawf a osodwyd.

William Graham spoken in English p. 120

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 120

The Welsh Conservatives welcome this measure. When this function was previously delegated to Edwina Hart, she stated that fuel poverty in Wales will be eliminated by 2010. Our successors—possibly ourselves—will hold Edwina to account on that. The Act states that fuel poverty will be eliminated within 15 years. We have already voted to spend £40 million on this over the next four years. That shows the importance of this provision. I trust that the First Minister will carry out his duty as effectively as the previous Minister did.

Mae Ceidwadwyr Cymru yn croesawu’r mesur hwn. Pan ddirprwywyd y swyddogaeth hon yn flaenorol i Edwina Hart, dywedodd y bydd tlodi tanwydd yng Nghymru wedi’i ddileu erbyn 2010. Bydd ein holynwyr—ni ein hunain o bosibl—yn dal Edwina yn atebol i hynny. Mae’r Ddeddf yn datgan y bydd tlodi tanwydd wedi’i ddileu o fewn 15 mlynedd. Yr ydym eisoes wedi pleidleisio i wario £40 miliwn ar hyn yn ystod y pedair blynedd nesaf. Dengys hynny bwysigrwydd y ddarpariaeth hon. Hyderaf y bydd y Prif Weinidog yr un mor effeithiol â’r Gweinidog blaenorol wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Edwina Hart spoken in English p. 120

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 120

This delegation of the powers of the Act is important. It will enable us to commence work on our requirements. We hope to bring a commencement Order before the Assembly in the new year. The Assembly has set the direction for the future of housing policy in Wales, and eliminating fuel poverty is essential to that.

Mae dirprwyo pwerau’r Ddeddf yn y dull hwn yn bwysig. Bydd yn ein galluogi i ddechrau gweithio ar ein gofynion. Gobeithiwn gyflwyno Gorchymyn cychwyn gerbron y Cynulliad yn y flwyddyn newydd. Mae’r Cynulliad wedi gosod y cyfeiriad ar gyfer dyfodol polisïau tai yng Nghymru, ac mae dileu tlodi tanwydd yn rhan hanfodol ohono.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 49 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (49)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Dafydd Wigley

Datganiad gan y Trefnydd

Statement by the Minister for Assembly Business

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 121

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 121

In view of the time, Llywydd, I will not propose the motion on the waste Wales strategy scheduled for debate today. It is an important issue for Wales, and many Members have constituency interests in it. A debate of this importance needs the full attention of all Assembly Members, and I doubt that there is sufficient time to discuss it fully. I will reschedule the debate at the earliest possible opportunity.

Gan gofio’r amser, Lywydd, ni chynigiaf y cynnig ar strategaeth wastraff Cymru a oedd wedi’i amserlennu ar gyfer ei drafod heddiw. Mae’r mater yn un pwysig i Gymru, ac mae gan lawer o’r Aelodau ddiddordeb etholaethol ynddo. Byddai angen sylw llawn holl Aelodau’r Cynulliad ar ddadl mor bwysig, ac yr wyf yn amau bod digon o amser. Byddaf yn aildrefnu’r ddadl ar y cyfle cyntaf posibl.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 122

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 122

The debate will be rescheduled together with other items that were originally for debate today. I have already notified that they will not be proposed today.

yn Saesneg Aildrefnir y ddadl ynghyd â’r eitemau eraill a oedd i’w trafod heddiw. Yr wyf eisoes wedi hysbysu na chânt eu cynnig heddiw.

Dyna ddiwedd cyfarfod heddiw.

in Welsh That brings today’s proceedings to a close.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.04 p.m.

The session ended at 5.04 p.m.