Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mercher 7 Gorffennaf 1999

Wednesday 7 July 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:16

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 2Heb deitlUntitled
  2. 2Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Datblygu EconomaiddQuestions to the Secretary for Economic Development
    1. 2Y Diwydiant TwristiaethTourism Industry
    2. 3Yr Economi DduThe Black Economy
    3. 5Ford Motor Co.
    4. 6Diwydiant Cynhyrchu (Anfanteision)Manufacturing Industry (Disadvantages)
    5. 9Banc Datblygu i GymruDevelopment Bank for Wales
  3. 11Cwestiynau i’r Ysgrifennydd CyllidQuestions to the Finance Secretary
    1. 11Cyllideb Addysg UwchHigher Education Budget
    2. 13Cronfeydd Ewropeaidd ac YchwanegeddEuropean Funding and Additionality
    3. 14Arian CyfatebolMatch Funds
    4. 16Fformiwla BarnettBarnett Formula
    5. 17Adeilad Pierhead (Adnewyddu)Pierhead Building (Refurbishing)
  4. 19Dirprwyo Swyddogaethau o dan Ddeddf Iechyd 1999Delegation of Functions under the Health Act 1999 1 bleidlais1 vote
  5. 27Cysylltu â Chymdeithas Seneddol y GymanwladAffiliation with the Commonwealth Parliamentary Association 1 bleidlais1 vote
  6. 36Dadl ar y Bartneriaeth WledigDebate on the Rural Partnership 2 o bleidleisiau2 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Dirprwyo Swyddogaethau o dan Ddeddf Iechyd 1999Delegation of Functions under the Health Act 1999
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Cysylltu â Chymdeithas Seneddol y GymanwladAffiliation with the Commonwealth Parliamentary Association
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Dadl ar y Bartneriaeth WledigDebate on the Rural Partnership
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Heb deitlUntitled

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 2

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 2

Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

I call the National Assembly for Wales to order.

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Datblygu Economaidd

Questions to the Secretary for Economic Development

Y Diwydiant Twristiaeth

Tourism Industry

Q1 Kirsty Williams spoken in English p. 2

C1 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 2

What plans does Rhodri Morgan have to support and develop the input to the Welsh economy from the tourism industry? (OAQ336VB)

Pa gynlluniau sydd gan Rhodri Morgan i gynnal a datblygu cyfraniad y diwydiant twristiaeth at economi Cymru? (OAQ336VB)

Rhodri Morgan The Secretary for Economic Development spoken in English p. 2

Rhodri Morgan Yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 2

I will open a tourism forum tomorrow in the Reardon Smith theatre in Cardiff where representatives from the Welsh tourist industry and other bodies with a special interest, will have an opportunity to discuss and comment on the Wales Tourist Board’s new draft strategy. That strategy constitutes a review of the structure and support for tourism and of how the tourist industry can best capitalise on European Objective 1 and other funds.

Byddaf yn agor fforwm twristiaeth yfory yn theatr Reardon Smith yng Nghaerdydd lle bydd cyfle i gynrychiolwyr diwydiant twristiaeth Cymru a chyrff eraill sydd â diddordeb arbennig yn y maes, drafod a rhoi eu sylwadau ar strategaeth ddrafft newydd Bwrdd Croeso Cymru. Mae’r strategaeth honno’n adolygu’r strwythur twristiaeth a’r gefnogaeth a roddir i’r diwydiant ac yn edrych sut y gall y diwydiant twristiaeth fanteisio orau ar Amcan 1 Ewrop a chronfeydd eraill.

Kirsty Williams spoken in English p. 2

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 2

That is a refreshing answer. It is no doubt a relief to Welsh tourism considering that the Labour Party’s Assembly manifesto did not refer to tourism. Does the Secretary agree that we should set strong and stringent targets for tourism and that by 2004 tourism’s input to the Welsh economy should be 10 per cent of Wales’s gross domestic product? Will he consider establishing an annual conference to help regroup an industry that is currently underfunded and underprioritised, allow greater lobbying for resources and enable the industry to elect itself the chairman of the Wales Tourist Board?

Mae’r ateb yna’n chwa o awyr iach. Nid oes dim amheuaeth y bydd yn rhyddhad i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ag ystyried nad oedd cyfeiriad at y diwydiant ym maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer y cynulliad. A yw’r Ysgrifennydd yn cytuno y dylem osod targedau cryf a llym ar gyfer twristiaeth ac erbyn y flwyddyn 2004 y dylai twristiaeth fod yn cyfrannu 10 y cant o gynnyrch mewnwladol crynswth Cymru i economi’n gwlad? A fyddai’n ystyried sefydlu cynhadledd flynyddol i helpu i ailgrwpio diwydiant nad yw’n cael digon o gyllid na blaenoriaeth, er mwyn rhoi cyfle i’r diwydiant lobïo mwy am adnoddau ac i’w alluogi i ethol cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru ei hun?

Rhodri Morgan spoken in English p. 3

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 3

That is a panoply of points. I agree that the tourist industry has had a difficult time since 1996 when the pound started to rise sharply. There was also the Sea Empress disaster, the question of the adequacy of the chief executive of the Wales Tourist Board and the problem of having no big new attractions. We hope that we will have major new attractions such as the National Botanical Gardens in the Towy valley, the Celtic Manor golf resort outside Newport and, provided it overcomes legal and other hurdles, the Welsh Highland Railway in Snowdonia. They will boost the tourism industry. However, I dissent from your proposal that the tourism industry itself should elect the chairman of the Wales Tourist Board. I would have to think about that carefully.

Yr ydych yn codi sawl pwynt yn y fan honno. Cytunaf fod y diwydiant twristiaeth wedi wynebu cyfnod anodd er 1996 pan ddechreuodd y bunt godi’n sydyn. Cafwyd trychineb y Sea Empress hefyd, cwestiwn ynghylch digonolrwydd prif weithredwr Bwrdd Croeso Cymru a’r broblem nad oedd gennym ddim atyniadau newydd mawr. Gobeithio y bydd gennym atyniadau mawr newydd megis Gerddi Botanegol Cymru yn Nyffryn Tywi, canolfa golff newydd Celtic Manor y tu allan i Gasnewydd, ac ar yr amod ei bod yn goresgyn rhwystrau cyfreithiol a rhwystrau eraill, Rheilffordd Ucheldir Cymru yn Eryri. Fodd bynnag, yr wyf yn anghytuno â’ch cynnig y dylai’r diwydiant twristiaeth ei hun ethol cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru. Byddai’n rhaid imi feddwl yn ofalus am hynny.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Elin Jones spoken in Welsh p. 3

A yw Rhodri yn cydnabod diwylliant unigryw Cymru a bod gan hwnnw botensial aruthrol i gyfrannu i’r diwydiant twristiaeth? Os felly, a yw’n barod i sicrhau bod gan y sector diwylliannol a chelfyddydol rôl bwysig iawn yn natblygiad y diwydiant twristiaeth ac yn y fforwm twristiaeth sydd yn cael ei greu o yfory?

Does Rhodri recognise the unique culture of Wales and that it has great potential to contribute to the tourist industry? If so, is he willing to ensure that the cultural and arts sector has an important role in the development of the tourism industry and in the tourism forum that will be created from tomorrow?

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Rhodri Morgan spoken in Welsh p. 3

Mae’r ochr ddiwylliannol yn agwedd bwysig o’n delwedd ym Mhrydain Fawr ac yn rhyngwladol. Yr ydym yn fwy apelgar fel gwlad oherwydd ein bod yn unigryw. Yr ydym yn colli’r frwydr o ran gwyliau pythefnos traddodiadol i’r teulu ar lan y môr gyda bwced a rhaw. Nid yr ochr hon o’r sector twristiaeth sydd yn cynyddu, ond twristiaeth werdd, ddiwylliannol sydd yn ymwneud â digwyddiadau megis yr Eisteddfod neu’r wyl jazz yn Aberhonddu. Dyna beth fydd yn denu twristiaid yn y dyfodol.

The cultural side is an important aspect of our image in Great Britain and internationally. We are more attractive as a country because we are unique. We are losing the battle of the traditional fortnight family holiday by the sea with a bucket and spade. That aspect of tourism is not growing. It is green tourism and cultural tourism associated with events such as the Eisteddfod and the Brecon jazz festival that will attract tourists in the future.

Yr Economi Ddu

The Black Economy

Q2 Alun Cairns spoken in English p. 3

C2 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 3

What plans does Rhodri Morgan have to investigate the black economy in Wales and would he make a statement on its impact on terms of gross domestic product? (OAQ316VB)

Pa gynlluniau sydd gan Rhodri Morgan i ymchwilio i’r economi ddu yng Nghymru ac a fyddai’n barod i wneud datganiad ar ei heffaith ar gynnyrch mewnwladol crynswth? (OAQ316VB)

Rhodri Morgan spoken in English p. 4

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 4

These are not devolved matters. The investigation of the black economy for the purposes of correction is a matter for the Department of Social Security, the Inland Revenue or for Customs and Excise if it is about unpaid value added tax. If it is a matter of collecting statistics on the so-called hidden or black economy—or ‘hobbles’ as they call it in some parts of Wales—then it is a matter for the Office of National Statistics. Alun was on the television last night deploring wastages of public money. I am sure he would not want the Assembly’s money spent on doing things already done by other Government departments.

Nid yw’r materion hyn wedi eu datganoli. Mae archwilio’r economi ddu at ddibenion ei chywiro’n fater i’r Adran Nawdd Cymdeithasol, Cyllid y Wlad neu’r Tollau Tramor a Chartref os mai treth ar werth heb ei thalu sydd dan sylw. Os mai sôn am gasglu ystadegau ar yr economi a elwir yn economi gudd neu’n economi ddu—neu ‘hobbles’ fel y’i gelwir mewn rhai rhannau o Gymru—yna, mater i’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol ydyw. Yr oedd Alun ar y teledu neithiwr yn gwaredu bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu. Yr wyf yn siŵr na fyddai am i arian y Cynulliad gael ei wario ar bethau sydd wedi’u gwneud eisoes gan Adrannau eraill y llywodraeth.

Alun Cairns spoken in English p. 4

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 4

Do you acknowledge that there are too many people claiming benefits fraudulently and that high inactivity rates in parts of Wales could be blamed on these people? Do you accept that it is a strange coincidence that there is a high inactivity rate in some parts of Wales when relatively short distances away employers have difficulty recruiting people of all skills? Do you acknowledge that the Labour Government has failed to address this problem over the last two years?

A ydych yn cydnabod bod gormod o bobl yn hawlio budd-daliadau drwy dwyll ac y gellid beio’r cyfraddau segurdod uchel mewn rhannau o Gymru ar y bobl hyn? A ydych chi’n derbyn ei bod hi’n gyd-ddigwyddiad bod cyfradd segurdod uchel mewn rhannau o Gymru lle bo cyflogwyr nid nepell i ffwrdd yn ei chael hi’n anodd recriwtio pobl â phob math o sgiliau? A ydych yn cydnabod bod y Llywodraeth Lafur wedi methu â mynd i’r afael â’r broblem hon yn ystod y ddwy flynedd diwethaf?

Rhodri Morgan spoken in English p. 4

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 4

Those are judgmental comments, Alun. It is not an Assembly matter. I am trying to skate out to meet you halfway on this but the ice gets very thin in the middle of that pond. Wales has a GDP per capita 82 per cent of that of the UK. If the Assembly was being misled and the figure was 10 points higher because Wales has a bigger hidden or informal economy than in other places, then we would have to consider that. I do not think that there is any evidence to suggest that the informal economy is greater here than anywhere else, which is the key issue in terms of European structural funds. I do not think there is any evidence to suggest that. If you have evidence, then it is for you to supply that to the DSS, the police, Office of National Statistics or the other undevolved bodies listed earlier.

Mae’r rheini’n sylwadau beirniadol, Alun. Nid mater i’r Cynulliad yw hyn. Yr wyf yn ymdrechu i sglefrio i’ch cyfarfod hanner ffordd ar y mater hwn ond mae’r rhew’n mynd yn denau iawn yng nghanol y pwll hwnnw. Mae’r cynnyrch mewnwladol crynswth y pen yng Nghymru’n 82 y cant o’r hyn ydyw yng ngwledydd y DG. Pe bai’r Cynulliad hwn yn cael ei gamarwain a bod y ffigwr 10 pwynt yn uwch am fod gan Gymru economi gudd neu economi anffurfiol fwy nag sydd mewn mannau eraill, yna byddai’n rhaid inni ystyried hynny. Nid wyf yn credu bod tystiolaeth i awgrymu bod yr economi anffurfiol yn fwy yma nag yn unman arall, sef y mater allweddol gyda golwg ar gronfeydd strwythurol Ewrop. Ni chredaf fod dim tystiolaeth i awgrymu hynny. Os oes gennych dystiolaeth, eich lle chi yw rhoi’r dystiolaeth honno i’r Adran Nawdd Cymdeithasol, i’r heddlu, i’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol neu i’r cyrff eraill sydd heb eu datganoli a restrwyd yn gynharach.

Helen Mary Jones spoken in English p. 5

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 5

Does Rhodri Morgan agree that if we deal with benefit matters at all in the Assembly, our energies would be better used in ensuring that the poorest people in our communities are enabled to take up the benefits they desperately need? Would he wish to dissociate himself, as I am sure he would, from any suggestion on the part of the Assembly that those claiming benefits are scrounging? I am disappointed in Alun’s question.

A yw Rhodri Morgan yn cytuno, pe baem yn ymdrin â budd-daliadau o gwbl yn y Cynulliad, mai’r ffordd orau o gyfeirio’n hymdrechion fyddai sicrhau bod pobl dlotaf ein cymunedau’n gallu manteisio ar y budd-daliadau sydd gymaint eu hangen arnynt? A fyddai am ei ddatgysylltu ei hun, fel yr wyf yn siŵr y byddai, oddi wrth unrhyw awgrym o du’r Cynulliad bod y bobl sydd yn hawlio budd-daliadau’n manteisio ar y drefn? Mae cwestiwn Alun yn fy siomi i.

Rhodri Morgan spoken in English p. 5

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 5

Yes. It is all right to be judgmental about fellow Assembly Members and other parties, even if we do not want to be judgmental about people outside. I do not think there is any evidence that the people of Wales are more immoral or liable to scrounge than people anywhere else. It would be a sad day if the Assembly were to draw that conclusion on the basis of no evidence.

Byddwn. Mae’n iawn bod yn feirniadol o’n Cydaelodau yn y Cynulliad a phleidiau eraill, hyd yn oed os nad ydym am fod yn feirniadol o bobl y tu allan. Ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth bod pobl Cymru yn fwy anfoesol neu’n fwy tebygol o fanteisio ar y wladwriaeth les na phobl mewn mannau eraill. Byddai’n ddiwrnod trist pe bai’r Cynulliad yn dod i’r casgliad hwnnw heb ddim sail.

Ford Motor Co.

Q3 Peter Black spoken in English p. 5

C3 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 5

What is the current status of discussions with Ford Motor Co. in relation to the Bridgend engine plant and will Rhodri Morgan make a statement? (OAQ326VB)

Beth yw sefyllfa’r trafodaethau â Ford Motor Co. am eu ffatri ym Mhen-y-bont ac a fyddai Rhodri Morgan yn barod i wneud datganiad? (OAQ326VB)

Rhodri Morgan spoken in English p. 5

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 5

It is good to move from the black economy to Mr Black on the economy. [Laughter.] There’s more where that came from.

Mae’n dda cael troi o’r economi ddu at Mr Black ar yr economi. [Chwerthin.] Mae yna ragor o ble daeth honna.

Discussions with the company are continuing regarding the I4 engine project for which the Bridgend plant is in competition with plants in Valencia in Spain and Köln in Germany. Due to their high sensitivity and commercial confidentiality it would not be appropriate for me to make public the detail of those discussions but I will make a statement as soon as there is a definite conclusion.

Mae trafodaethau’n parhau â’r cwmni gyda golwg ar brosiect peiriant 14. Mae ffatri Pen-y-bont yn cystadlu gyda ffatrïoedd yn Valencia yn Sbaen a Köln yn yr Almaen. Oherwydd bod manylion y trafodaethau hynny mor sensitif a’u bod yn fasnachol gyfrinachol, ni fyddai’n briodol imi eu trafod ar goedd, ond gwnaf ddatganiad cyn gynted ag y bydd penderfyniad pendant.

Peter Black spoken in English p. 5

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 5

Thank you for that, despite the appalling pun. What role does central Government play in these discussions and does it back any necessary support the Assembly may need to give to Ford?

Diolch am hynny, er gwaetha’r gair mwys ofnadwy. Pa swyddogaeth sydd gan Lywodraeth ganol yn y trafodaethau hyn ac a yw’n gefnogol i unrhyw gefnogaeth y bydd angen i’r Cynulliad ei roi i Ford?

Rhodri Morgan spoken in English p. 6

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 6

Yes. Central Government, in the person of the Prime Minister, recently met Jacques Nasser and Mr Zimmerman, the two heads of Ford in Europe. Although it was not the primary purpose of the discussions at No. 10, the subject was raised. Central Government is being fully supportive. I believe that it thinks that it is as important as we do to safeguard the 300 to 400 jobs that would be involved if we can get the I4 engine that will replace the Zetec engine, which is coming to the end of its natural shelf life of 10 to 15 years. If we can safeguard those jobs in Bridgend, the export consequences for this country will be enormous. That is a major concern for Tony Blair and Gordon Brown, as I am sure Peter Black knows.

Ydyw. Cyfarfu’r Prif Weinidog a gynrychiolai’r Llywodraeth Ganol â Jacques Nasser a Mr Zimmermana yn ddiweddar, sef dau bennaeth Ford yn Ewrop. Er nad hyn oedd prif ddiben y trafodaethau yn Rhif 10, codwyd y pwnc. Mae’r Llywodraeth Ganol yn gwbl gefnogol. Credaf ei bod hi fel ninnau’n ystyried ei bod hi’n bwysig diogelu’r 300 neu 400 o swyddi a ddeuai pe bai modd inni gael y peiriant 14. Bydd honno’n disodli’r peiriant Zetec sydd yn dod at ddiwedd ei hoes naturiol o 10 i 15 mlynedd. Os gallwn ni ddiogelu’r swyddi hynny ym Mhen-y-bont, bydd y canlyniadau allforio i’r wlad hon yn anferth. Mae Tony Blair a Gordon Brown yn poeni’n fawr am hyn, fel y gŵyr Peter Black, mae’n siŵr.

Diwydiant Cynhyrchu (Anfanteision)

Manufacturing Industry (Disadvantages)

Q4 Brian Gibbons spoken in English p. 6

C4 Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 6

Does Rhodri Morgan have any specific proposals to deal with the disadvantages created by the effect of the high pound and geographical distance on the manufacturing industry in Wales? (OAQ318VB)

A oes gan Rhodri Morgan gynlluniau penodol i ddelio â’r anfanteision a grëwyd gan effaith gwerth uchel y bunt a phellter daearyddol ar y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru? (OAQ318VB)

Rhodri Morgan spoken in English p. 6

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 6

We do not have any plans to devalue the Welsh pound if that is what you mean. Also, we do not have any control over the economic background against which we work. In respect of geographical distance, we could not lift Wales up and drop it on the other side of the Severn bridge. However, in our plans for Objective 1 assistance, we must increase the proportion of our gross domestic product that is in the weightless category. Instead of exporting heavy commodities such as coal, steel, tin plate, slate or agricultural produce in its crude form, we must move up-market through goods with higher added value. We would then be more protected against price movements and transport costs. That is how the Irish Republic used their Objective 1 assistance, moving into industries such as software, information technology, telecommunications and so on where there are no transport costs. If we could do as they did during their six or seven years of benefit from Objective 1, we would do very well. We would be far less prone to problems because of the high pound, or our location on the western periphery of western Europe.

Nid oes gennym gynlluniau i ddibrisio’r bunt Gymreig os mai dyna yw eich awgrym. Hefyd, nid oes gennym reolaeth dros yr hinsawdd economaidd y gweithiwn ynddo. Gyda golwg ar bellter daearyddol, ni allem godi Cymru a’i gollwng ochr draw i Bont Hafren. Fodd bynnag, yn ein cynlluniau ar gyfer cymorth Amcan 1, rhaid inni gynyddu’r gyfran o’n cynnyrch mewnwladol crynswth sydd yn y categori ‘dibwysau’. Yn hytrach nag allforio nwyddau trymion megis glo, dur, alcam, llechi neu gynnyrch amaethyddol yn ei ffurf amrwd, rhaid inni symud i ben uchaf y farchnad ac allforio nwyddau sydd â gwerth ychwanegol uwch. Byddai hynny’n cynnig gwell gwarchodaeth rhag newidiadau mewn prisiau a chostau cludiant. Dyma sut mae Gweriniaeth Iwerddon wedi defnyddio’u cymorth Amcan 1, gan symud i mewn i ddiwydiannau fel meddalwedd, technoleg gwybodaeth, telathrebu ac yn y blaen lle nad oes costau cludo. Pe bai modd inni wneud fel y gwnaethant hwy yn ystod y chwe neu saith mlynedd y cawsant fudd o Amcan 1, byddem yn gwneud yn dda iawn. Byddem yn llawer llai agored i broblemau sydd yn codi yn sgîl y bunt uchel neu ein lleoliad ar gyrion gorllewinol gorllewin Ewrop.

Brian Gibbons spoken in English p. 7

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 7

Does Rhodri Morgan agree that the Assembly needs to develop a regional approach to encourage industry to maintain its presence in the industrial belt, particularly in south Wales? Would he also agree that there might be other formidable challenges ahead with regard to the energy tax and so on? We must urgently address those matters.

A yw Rhodri Morgan yn cytuno bod angen i’r Cynulliad ddatblygu safbwynt rhanbarthol i annog diwydiant i gynnal ei bresenoldeb yn y rhimyn diwydiannol, yn enwedig yn y De? A fyddai hefyd yn cytuno y gallwn fod yn wynebu sawl her arswydus gyda golwg ar y dreth ar ynni ac yn y blaen? Rhaid inni fynd i’r afael â’r materion hyn ar frys.

Rhodri Morgan spoken in English p. 7

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 7

We cannot help our starting point. We can only take responsibility for where we intend to be in six or seven years’ time. We start out from an extraordinary concentration of heavy commodity and smokestack industries. In America, we would be called part of the rust belt because of the number of heavy smokestack industries, which you see all over, not only in south Wales, but north-east Wales. The impact of the energy tax is bound to be greater in Wales than in areas where there is a higher concentration of IT, financial services, software industries and so on. It is part of our job as an Assembly and an Economic Development Committee and part of my job as the Secretary for Economic Development to get a better balance between the industries that we inherit from our industrial past and our industrial, technological future.

Nid oes gennym ddewis ynghylch ein man cychwyn. Ni allwn ond ysgwyddo’r cyfrifoldeb am le y bwriadwn fod ymhen chwe neu saith mlynedd. Dechreuwn gyda chrynodiad anghyffredin o ddiwydiannau nwyddau trwm a simneiau mwg. Yn America, byddem yn cael ein hystyried yn rhan o’r rhimyn rhwd oherwydd y nifer fawr o ddiwydiannau simneiau mwg a welwch ym mhob man, nid dim ond yn y De, ond yn y Gogledd-ddwyrain hefyd. Mae effaith y dreth ar ynni’n rhwym o fod yn uwch yng Nghymru nag mewn ardaloedd lle ceir crynodiad uwch o ddiwydiannau TG, gwasanaethau ariannol, meddalwedd ac yn y blaen. Rhan o’n gwaith fel Cynulliad a Phwyllgor Datblygu Economaidd a rhan o fy swydd innau fel yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd yw sicrhau gwell cydbwysedd rhwng y diwydiannau a etifeddwn o’n gorffennol diwydiannol a’n dyfodol diwydiannol technolegol.

Phil Williams spoken in English p. 7

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 7

What pressure is the Assembly Cabinet using to persuade the Treasury to use the appropriate clauses in the Bank of England Act 1998 so that it can set revised guidelines? These would include relaxed criteria on price stability and more emphasis on the threat to jobs in Wales and other parts of the UK with a high dependence on exporting commodities. The Bank of England could then act to reduce the parity of the pound under those guidelines.

Pa bwysau y mae Cabinet y Cynulliad yn ei ddwyn i berswadio’r Trysorlys i ddefnyddio’r cymalau priodol yn Neddf Banc Lloegr 1998 er mwyn iddo allu gosod canllawiau diwygiedig? Byddai’r rhain yn cynnwys llacio’r meini prawf ar sefydlogrwydd prisiau a rhoi mwy o bwyslais ar y bygythiad i swyddi yng Nghymru a rhannau eraill o ardaloedd y DU lle dibynnir yn drwm ar allforio nwyddau. Yna, gallai Banc Lloegr weithredu i ostwng cydraddoldeb y bunt dan y canllawiau hynny.

Rhodri Morgan spoken in English p. 8

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 8

I do not know whether it is the phenomenon of the grass always seeming greener on the other side of the hill. However, I agree that the head of the Federal Reserve Bank, Alan Greenspan, has been more successful than Eddie George, Governor of the Bank of England, in achieving the delicate balance between controlling inflation and ensuring that unemployment does not become unacceptable in any part of the country. The American philosophy is to say: ‘Yes, we want sound money, but we want plenty of it’. In this country, we tend to say: ‘If we want sound money, we must control inflation’. Eddie George was pilloried, perhaps slightly unfairly, in the press for saying; ‘Unemployment in the north-east is what happens when you are controlling inflation in the south-east’. There is no doubt that you could have said ‘Wales’ for ‘the north-east’. There is a similar pattern here.

Ni wn ai’r hen ffenomen fod y gwair bob amser yn ymddangos yn wyrddach ochr draw’r bryn sydd yma. Fodd bynnag, cytunaf fod pennaeth y Banc Cronfa Ffederal, Alan Greenspan, wedi cael mwy o lwyddiant nag Eddie George, Llywodraethwr Banc Lloegr, o ran sicrhau’r cydbwysedd cynnil rhwng rheoli chwyddiant a sicrhau nad yw diweithdra’n cynyddu i lefel annerbyniol mewn unrhyw ran o’r wlad. Athroniaeth America yw dweud: ‘Oes, mae angen sefydlogrwydd ariannol arnom, ond yr ydym am gael digon o’r arian hwnnw’. Yn y wlad hon, ein tuedd yw dweud: ‘Os ydym am gael sefydlogrwydd ariannol, rhaid inni reoli chwyddiant’. Lambastiwyd Eddie George yn y wasg, ychydig yn annheg efallai, am ddweud: ‘Diweithdra yn y gogledd-ddwyrain yw beth sydd yn digwydd pan fyddwch chi’n rheoli chwyddiant yn y de ddwyrain’. Mae’n amlwg y gallech chi roi ‘Cymru’ yn lle’r ‘gogledd-ddwyrain’. Mae patrwm tebyg yma.

However, it is a very delicate balance. I am not praising Alan Greenspan just because the American Ambassador was here yesterday, but I believe that in the United States, there is a slight shift in emphasis between control of inflation and ensuring economic growth. I think that this Assembly, the Scottish Parliament and the Northern Ireland Assembly, once it is up and running, will take that view. Maybe in 10 years’ time, there will be more representation from Wales, Scotland, the Midlands and the North on the Bank of England, over which we have no direct control. The City of London and academic institutions, such as Oxford and Cambridge, fine though they may be, do not have much knowledge of what is happening in this country’s manufacturing regions.

Fodd bynnag, mae’r cydbwysedd yn un bregus iawn. Nid wyf yn canmol Alan Greenspan dim ond am fod Llysgennad America yma ddoe, ond credaf fod ychydig o newid pwyslais yn yr Unol Daleithiau rhwng rheoli chwyddiant a sicrhau twf economaidd. Credaf y bydd y Cynulliad hwn, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, unwaith y bydd ar waith, yn derbyn y farn honno. Efallai ymhen 10 mlynedd y bydd rhagor o gynrychiolaeth o Gymru, yr Alban, Canolbarth Lloegr a’r Gogledd ar Fanc Lloegr, banc nad oes gennym reolaeth uniongyrchol drosto. Nid oes gan Ddinas Llundain a sefydliadau academaidd, megis Rhydychen a Chaergrawnt, er yn sefydliadau gwych, lawer o wybodaeth am beth sydd yn digwydd yn rhanbarthau gweithgynhyrchu’r wlad hon.

David Davies spoken in English p. 8

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 8

Does Rhodri Morgan accept that while many manufacturing industries are disadvantaged, quite a number of industries that are involved with supplying them are also disadvantaged? However, they are not entitled to the same level of grants as manufacturing industries because they are classed as service industries. Does he believe that more should be done to support them?

A yw Rhodri Morgan yn derbyn, er bod diwydiannau cynhyrchu dan anfantais, fod cryn nifer o ddiwydiannau sydd yn ymwneud â’u cyflenwi hefyd dan anfantais? Fodd bynnag, nid oes ganddynt hwy’r hawl i’r un lefel o grantiau â’r diwydiannau cynhyrchu am eu bod yn cael eu hystyried yn ddiwydiannau gwasanaeth. A yw’n credu y dylid gwneud rhagor i’w cefnogi hwythau?

Rhodri Morgan spoken in English p. 9

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 9

There is no discrimination against service industries. Provided that they qualify on the grounds that they are mobile, job creating and financially viable, their projects will go ahead. I have mentioned software, which is a service industry, as is IT frequently. There is no reason to suppose that for example, a software industry would be discriminated against when compared with an oily rag manufacturing industry. If a manufacturing industry is going down, it takes many others with it. If one large plant with 500 people, like the Ely paper mills in my own constituency, fails then its suppliers will undoubtedly suffer because of it. There is not always something you can do about it in the short term.

Nid oes dim camwahaniaethu yn erbyn diwydiannau gwasanaeth. Ar yr amod eu bod yn gymwys o ran eu bod yn fudol, yn creu swyddi ac yn ariannol hyfyw, bydd eu prosiectau’n cael mynd yn eu blaenau. Soniais am feddalwedd, sydd yn ddiwydiant gwasanaeth, fel y mae TG yn aml iawn. Nid oes rheswm dros dybio er enghraifft y byddai rhywun yn camwahaniaethu yn erbyn diwydiant meddalwedd o’i gymharu â diwydiant cynhyrchu budr. Os bydd yr hwch yn mynd drwy’r siop mewn diwydiant cynhyrchu, bydd yn llusgo llawer o bobl eraill gydag ef. Os bydd un ffatri fawr sydd yn cyflogi 500 o bobl, megis melin bapur Trelái yn fy etholaeth yn methu, yna bydd ei chyflenwyr yn sicr o fethu o ganlyniad. Yn y tymor byr, nid oes bob amser modd gwneud dim ynghylch hyn.

Banc Datblygu i Gymru

Development Bank for Wales

Q5 Michael German spoken in English p. 9

C5 Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 9

What plans does Rhodri Morgan have to establish a development bank for Wales to assist in the growth and development of indigenous companies? (OAQ335VB)

Pa gynlluniau sydd gan Rhodri Morgan i sefydlu banc datblygu i Gymru i gynorthwyo gyda thwf a datblygiad cwmnïau cynhenid? (OAQ335VB)

Rhodri Morgan spoken in English p. 9

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 9

This is a Labour manifesto commitment. The suggestion originally came from the Federation of Small Businesses, which I must add, is not an affiliated organisation of the Labour Party. However, it was less worked-up than suggestions that came from our working groups. As Ambassador Lader suggested yesterday, generating more of our own home-grown industrial companies from small and medium-sized enterprises, getting the small ones to become medium-sized and the medium ones to become large is an important part of our aims. As yet, the proposal is not fully worked-up. We are consulting on it and perhaps in 12 months’ time we will have a fully worked-up proposal, which we will bring before the Assembly.

Mae hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto’r Blaid Lafur. Ffederasiwn y Busnesau Bach a wnaeth yr awgrym hwn i ddechrau, a dylwn ddweud nad yw’r Ffederasiwn hwnnw’n sefydliad sydd yn gysylltiedig â’r Blaid Lafur. Fodd bynnag, nid oedd mor fanwl â’r awgrymiadau a ddaeth o’n gweithgorau. Fel yr awgrymodd y Llysgennad Lader ddoe, mae creu rhagor o’n cwmnïau diwydiannol cartref ni’n hunain o blith mentrau bychain a chanolig eu maint, troi’r rhai bach yn rhai canolig a’r rhai canolig yn fawr yn elfen bwysig o’n hamcanion. Hyd yn hyn, nid ydym wedi troi’r cynnig yn gynllun manwl. Yr ydym wrthi’n ymgynghori yn ei gylch ac efallai ymhen 12 mis, bydd gennym gynnig manwl a gyflwynir gerbron y Cynulliad.

Michael German spoken in English p. 10

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 10

Should this proposal be included in the national strategy document?

A ddylid cynnwys y cynnig hwn yn y ddogfen strategaeth genedlaethol?

Rhodri Morgan spoken in English p. 10

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 10

The national development bank has a much better chance of being mentioned in the national strategy document when it goes out in its final form in October. The European taskforce discussed the strategy document covering 1997 to 1999 that ended a couple of weeks ago. However, the 1999 Labour manifesto commitments cover the next few years so it may have just missed out. It is much more likely that it will appear in the final document that comes before the Assembly, as it will be a strong candidate for Objective 1 funding.

Mae gan y banc datblygu cenedlaethol well cyfle o lawer o gael ei gynnwys yn y ddogfen strategaeth genedlaethol pan gyhoeddir hi yn ei ffurf derfynol ym mis Hydref. Trafododd tasglu Ewrop y ddogfen strategaeth sydd yn ymwneud â’r cyfnod 1997 i 1999 a ddaeth i ben ychydig wythnosau’n ôl. Fodd bynnag, mae ymrwymiadau maniffesto’r Blaid Lafur 1999 yn ymwneud â’r ychydig flynyddoedd nesaf felly, efallai ei fod wedi methu ei gyfle o ychydig. Mae hi’n llawer mwy tebygol y bydd yn ymddangos yn y ddogfen derfynol a ddaw gerbron y Cynulliad gan y bydd yn ymgeisydd cryf ar gyfer arian Amcan 1.

Brian Hancock spoken in English p. 10

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 10

The Federation of Small Businesses in Wales gave the development bank the highest priority in its manifesto. The FSB and the Welsh Enterprise Institute both feel that an enterprise bank would enable the adoption of a co-ordinated approach to the provision of development finance for small and medium sized businesses. They went on to consider design strategies to stimulate economic growth and development in all regions and sectors of Wales through long-term preferential loans for SMEs. What work will we be doing towards this? How are we going to help SMEs?

Rhoddodd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru’r flaenoriaeth bennaf i’r banc datblygu yn ei faniffesto. Teimla’r Ffederasiwn a Sefydliad Mentrau Cymru ill dau y byddai banc menter yn golygu bod modd mabwysiadu agwedd gydlynol at ddarparu cyllid datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig. Aethant yn eu blaenau i ystyried strategaethau cynllunio i ysgogi twf a datblygiad economaidd ym mhob rhanbarth a phob sector yng Nghymru drwy gyfrwng benthyciadau manteisiol hirdymor i fusnesau bach a chanolig. Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda golwg ar hyn? Sut y byddwn ni’n helpu busnesau o’r fath?

Rhodri Morgan spoken in English p. 10

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 10

Much of that has been covered in my answer to Mike German. However, I add that we will emphasise the issues that Philip Lader, the American Ambassador, addressed yesterday. You are trying to tap into the sources of innovation. We must support SMEs with innovative projects to expand them rapidly. The creation of a large number of jobs has been an astonishing feature of the US economy. If, and it is a big if, we can repeat that pro rata with our modest population of 3 million—compared with the US’s 240 million—and get the same share of new jobs, as the Ambassador emphasised yesterday, so that we are not too dependent on the big names such as General Electric and Ford—welcome though they are—we will have done a very good job.

Atebais lawer o’ch cwestiynau yn fy ateb i Mike German. Fodd bynnag, ychwanegaf y byddwn yn pwysleisio’r materion y soniodd Philip Lader, Llysgennad America, amdanynt ddoe. Y nod yw ceisio tynnu dŵr o’r ffynonellau arloesi. Rhaid inni gefnogi busnesau bychain a chanolig sydd â phrosiectau arloesol i’w ehangu’n gyflym. Mae creu nifer fawr o swyddi wedi bod yn un o nodweddion syfrdanol economi’r UD. Os, ac mae’n os mawr, os gallwn ni wneud yr un peth pro rata gyda’n poblogaeth fechan ni o 3 miliwn o’i chymharu â phoblogaeth yr UD o 240 miliwn, a chael yr un gyfran o swyddi newydd, fel y pwysleisiodd y Llysgennad ddoe, fel nad ydym yn orddibynnol ar yr enwau mawr megis General Electric a Ford—er bod croeso mawr i’r rheini—byddwn wedi gwaith da.

The sources of funding are critical, but funding must be for firms with innovation in mind and the capability of expanding and creating the kind of jobs that the innovative American SME sector has done, especially since 1990.

Mae’r ffynonellau cyllido’n holl bwysig, ond rhaid i’r cyllid fod ar gyfer cwmnïau sydd yn bwriadu arloesi ac sydd â’r gallu i ehangu a chreu’r math o swyddi a grëwyd gan sector busnesau bach a chanolig arloesol America, yn enwedig ers 1990.

Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cyllid

Questions to the Finance Secretary

Cyllideb Addysg Uwch

Higher Education Budget

Q1 Peter Black spoken in English p. 11

C1 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 11

What is the total budget for higher education in Wales and what proportion of that is income derived from tuition fees levied on students? (OAQ329VB)

Beth yw cyfanswm y gyllideb ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a pha gyfran o’r incwm hwnnw sydd yn deillio o’r ffioedd dysgu a godir ar fyfyrwyr? (OAQ329VB)

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 11

Edwina Hart The Finance Secretary siaradwyd yn Saesneg t. 11

The total resources available in 1999-2000 for higher education in Wales are £321.975 million. The fee contribution from students is £16 million, representing 5 per cent of the total resources.

Yr Ysgrifennydd Cyllid (Edwina Hart): Cyfanswm yr adnoddau sydd ar gael yn 1999-2000 ar gyfer addysg uwch yng Nghymru yw £321.975 miliwn. Cyfraniad y myfyrwyr ar ffurf ffioedd yw £16 miliwn, sydd yn cynrychioli 5 y cant o gyfanswm yr adnoddau.

Peter Black spoken in English p. 11

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 11

In the light of those figures, would the Finance Secretary support an inquiry by this Assembly into the impact of tuition fees on entrance into higher education?

Yng ngoleuni’r ffigyrau hynny, a fyddai’r Ysgrifennydd Cyllid yn cefnogi ymchwiliad gan y Cynulliad hwn i effaith ffioedd dysgu ar fynediad i addysg uwch?

Edwina Hart spoken in English p. 11

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 11

There are several issues here and there is no benefit to be gained from having a different tuition fees policy in Wales. The responsibility for student support policy, including tuition fees for England and Wales, lies with the Department for Education and Employment. That function has not been transferred to the Assembly.

Mae sawl mater ynghlwm wrth hyn ac nid oes dim byd i’w ennill o gael polisi ffioedd dysgu gwahanol yng Nghymru. Yr Adran Addysg a Chyflogaeth sydd yn gyfrifol am bolisi cefnogi myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd dysgu ar gyfer Cymru a Lloegr. Ni throsglwyddwyd y swyddogaeth honno i’r Cynulliad.

Jocelyn Davies spoken in English p. 11

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

You will no doubt acknowledge that there are significant concerns about this across the Chamber and elsewhere despite it not being a devolved matter. What information does the Government have on the effect of the introduction of tuition fees on hardship, access to higher education, and recruitment to higher education institutions in Wales?

Mae’n siŵr y byddwch yn cydnabod bod hyn yn destun pryder mawr ym mhob rhan o’r Siambr ac mewn mannau eraill er nad yw’n fater a ddatganolwyd. Pa wybodaeth sydd gan y Llywodraeth am effaith cyflwyno ffioedd dysgu ar galedi, ar fynediad i addysg uwch ac ar recriwtio i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 12

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 12

Following the comprehensive spending review, the Welsh education sector secured an excellent settlement for 1999-2000 and for 2001-02. Following Government action to encourage students to enter higher education and to support them in it, we extended the availability of subsidised student loans, increasing the age limit from 50 to 54. There is also a hardship loan of up to £250 for students in financial difficulty and fee remission for part-time students in higher education who lose their jobs. From September 1999, part-time higher education students on low incomes will no longer have to pay tuition fees. There has been a raft of other initiatives.

Yn dilyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, sicrhaodd sector addysg Cymru setliad rhagorol ar gyfer 1999-2000 ac ar gyfer 2001-02. Yn dilyn camau gan y Llywodraeth i annog myfyrwyr i fynd i addysg uwch ac i’w cefnogi yno, estynnwyd y benthyciadau rhad i fyfyrwyr, gan gynyddu’r terfyn oed o 50 i 54. Mae benthyciad caledi ar gael hefyd o hyd at £250 i fyfyrwyr sydd yn wynebu anawsterau ariannol a dilëir y ffi ar gyfer myfyrwyr rhan-amser mewn addysg uwch sydd yn colli eu swyddi. O fis Medi 1999 ymlaen, ni fydd raid i fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser ar incwm isel dalu ffioedd dysgu. Cafwyd llu o fentrau eraill hefyd.

With regard to what we have been doing in financial terms, I do not have the specific answer to the question you asked because it is not within my remit to deal with student fees. However, if you wish to speak to me afterwards, I will see what additional information I can supply.

Gyda golwg ar yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud o safbwynt ariannol, nid oes gennyf yr ateb penodol i’r cwestiwn a ofynnwyd gennych oherwydd nid yw ymdrin â ffioedd myfyrwyr yn rhan o fy nghylch gorchwyl. Fodd bynnag, be baech yn dymuno siarad â mi wedyn, ceisiaf weld pa wybodaeth ychwanegol y gallaf ei darparu.

Jonathan Morgan spoken in English p. 12

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 12

I am interested in the Finance Secretary’s response, particularly in light of the decision taken by her Cabinet colleague, Tom Middlehurst, this morning, that the Post-16 Education and Training Committee will hold its own investigation into tuition fees and will ask for written and oral evidence from the National Union of Students and other organisations. I assure the Finance Secretary that we will examine these cases in some detail.

Mae gennyf ddiddordeb yn ymateb yr Ysgrifennydd Cyllid, yn enwedig gyda golwg ar y penderfyniad a gymerwyd gan ei chydweithiwr yn y Cabinet, Tom Middlehurst, y bore yma, y bydd y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn cynnal ei archwiliad ei hun i ffioedd dysgu ac yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyrff eraill. Gallaf sicrhau’r Ysgrifennydd Cyllid y byddwn yn archwilio’r achosion hyn yn eithaf manwl.

Edwina Hart spoken in English p. 12

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 12

I am sure you will. Obviously, Committees wish to establish their own agendas. The Assembly was set up on that principle. I am simply giving a factual answer to these questions and explaining my position. However, Committees can choose what they want to look at within their own agendas, and if people can assist them in their discussions, we will help.

Yr wyf yn siŵr y byddwch chi. Mae’n amlwg y bydd Pwyllgorau am sefydlu eu hagenda eu hunain. Sefydlwyd y Cynulliad ar yr egwyddor honno. Y cyfan yr ydwyf i’n ei wneud yw rhoi ateb ffeithiol i’r cwestiynau hyn ac esbonio fy sefyllfa. Fodd bynnag, caiff Pwyllgorau ddewis beth y maent am edrych arno o fewn eu hagenda eu hunain, ac os gall pobl eu cynorthwyo yn eu trafodaethau, byddwn yn barod i wneud hynny.

Cronfeydd Ewropeaidd ac Ychwanegedd

European Funding and Additionality

Q2 Brian Gibbons spoken in English p. 13

C2 Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 13

What plans does Edwina Hart have to address the concerns expressed in the pamphlet issued by the Coalfield Communities Campaign (Welsh Region) on European funding and the additionality problem? (OAQ317VB)

Beth yw cynlluniau Edwina Hart i leddfu’r gofidiau a fynegwyd yn y pamffled a gyhoeddwyd gan Ymgyrch y Cymunedau Glofaol (Rhanbarth Cymru) ar arian o Ewrop a phroblem ychwanegedd? (OAQ317VB)

Edwina Hart spoken in English p. 13

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 13

I am sure that many Members and Cabinet colleagues have read the pamphlet. Rhodri Morgan hopes to discuss some issues that have arisen with the chairman of the Coalfield Communities Campaign. The First Secretary on several occasions has said that funding implications for the Welsh budget will be dealt with in next year’s comprehensive spending review.

Yr wyf yn siŵr fod llawer o’r Aelodau a’m cydweithwyr yn y Cabinet wedi darllen y pamffled. Mae Rhodri Morgan yn gobeithio trafod rhai o’r materion sydd wedi codi gyda chadeirydd Ymgyrch y Cymunedau Glofaol. Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi dweud sawl tro y bydd goblygiadau ariannu ar gyfer cyllideb Cymru’n cael eu trin yn adolygiad cynhwysfawr o wariant y flwyddyn nesaf.

Brian Gibbons spoken in English p. 13

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 13

Would the Secretary agree that the coalfield communities have borne a disproportionate burden of economic and social hardship over the last couple of decades and that it is therefore vital that Objective 1 money is delivered in packets that will address the specific problems of those communities in terms of transport, telecommunications and social infrastructure?

A fyddai’r Ysgrifennydd y cytuno bod y cymunedau glofaol wedi ysgwyddo baich caledi economaidd a chymdeithasol annheg yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf a’i bod hi’n holl bwysig felly bod arian Amcan 1 yn cael ei ddarparu mewn pecynnau a fydd yn mynd i’r afael â phroblemau penodol y cymunedau hynny o ran cludiant, cyfathrebu a’r seilwaith cymdeithasol?

Edwina Hart spoken in English p. 13

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 13

Like you, I have been concerned about the economy of the former coalfield regions. We must emphasise that Objective 1 is excellent news for west Wales and the Valleys, with particular emphasis on the Valleys.

Fel chithau, yr wyf innau wedi bod yn bryderus ynghylch economi’r hen ardaloedd glofaol. Rhaid inni bwysleisio bod Amcan 1 yn newyddion rhagorol i’r Gorllewin a’r Cymoedd, gyda phwyslais arbennig ar y Cymoedd.

Pauline Jarman spoken in English p. 13

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 13

The Treasury and the Department of Trade and Industry have argued that the spending levels for the next three years have been set and that is up to the Assembly and local authorities to live within them. How available is the Chancellor of the Exchequer to you, so that you can influence him as much as possible? Wales, in proportion to the rest of the UK, is very small but two thirds of it will now enjoy Objective 1 status. Europe will not care too much about match funding but it will care about additionality, without which the UK Government will be in serious breach of the commitment that it gave in 1991.

Mae’r Trysorlys a’r Adran Fasnach a Diwydiant a wedi dadlau bod y lefelau gwario ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi’u pennu ac mai gwaith y Cynulliad a’r awdurdodau lleol yw byw y tu mewn iddynt. I ba raddau y mae Canghellor y Trysorlys ar gael ichi, fel y gallwch ddylanwadu arno gymaint ag y bo modd? Mae Cymru, o’i chymharu â gweddill gwledydd y DU, yn fach iawn ond bydd dwy ran o dair ohoni yn awr yn gallu manteisio ar statws Amcan 1. Ni fydd Ewrop yn poeni gormod am arian cyfatebol ond fe fydd yn poeni am ychwanegedd a heb hynny, bydd Llywodraeth gwledydd y DU yn torri’n ddifrifol yr ymrwymiad a roddodd yn 1991.

Edwina Hart spoken in English p. 14

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 14

I assure Pauline Jarman that the UK has complied and will continue to comply with the rules on additionality. Additionality will be assessed for all Objective 1 areas within the member states. Member states are required to demonstrate compliance with the additionality provisions under Article 11 of the new structural fund general regulations. As a member of the same political party as the Chancellor of the Exchequer, I can assure you that the necessary discussions are taking place on these issues with Rhodri Morgan, Alun Michael and myself, and elsewhere within Government.

Gallaf sicrhau Pauline Jarman fod gwledydd y DU wedi cydymffurfio ac y byddant yn parhau i gydymffurfio gyda’r rheolau ar ychwanegedd. Bydd ychwanegedd yn cael ei hasesu ar gyfer pob ardal Amcan 1 o fewn yr aelod-wladwriaethau. Rhaid i’r aelod-wladwriaethau ddangos eu bod yn cydymffurfio gyda’r darpariaethau ychwanegedd dan Erthygl 11 rheoliadau cyffredinol newydd y gronfa strwythurol. Fel aelod o’r un blaid wleidyddol â Changhellor y Trysorlys, gallaf eich sicrhau fod y trafodaethau angenrheidiol yn cael eu cynnal ynghylch y materion hyn gyda Rhodri Morgan, Alun Michael a finnau, ac mewn mannau eraill o fewn y Llywodraeth.

Mick Bates spoken in English p. 14

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 14

I was pleased to hear that definition of additionality. Have you considered speaking to the Commission, in particular the director of Directorate D of DGXVI, Graham Meadows, to confirm that the additionality you are proposing for Objective 1 in Wales is legal in the eyes of the Commission? Graham Meadows has previously visited Wales and said I am sorry, you are not doing it very well. Have you thought of contacting him to confirm that your views are correct?

Yr oeddwn yn falch o glywed y diffiniad hwnnw o ychwanegedd. A ydych chi wedi ystyried siarad â’r Comisiwn, yn benodol gyda Chyfarwyddwr Cyfadran D DGXVI, Graham Meadows, i gadarnhau bod yr ychwanegedd a gynigiwch chi ar gyfer Amcan 1 yng Nghymru’n gyfreithlon yng ngolwg y Comisiwn? Mae Graham Meadows wedi ymweld â Chymru o’r blaen ac wedi dweud mae’n ddrwg gennyf nad ydych yn gwneud hyn yn dda iawn. A ydych chi wedi ystyried cysylltu ag ef i gadarnhau bod eich dehongliad yn gywir?

Edwina Hart spoken in English p. 14

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 14

I believe that my view of additionality is correct, and the rules will apply as I have already outlined.

Credaf fod fy nehongliad o ychwanegedd yn gywir, ac y bydd y rheolau yn cael eu gweithredu fel a amlinellais eisoes.

Arian Cyfatebol

Match Funds

Q3 Nick Bourne spoken in English p. 14

C3 Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 14

How much of the Assembly’s budget will be used for match funds for EU projects? (OAQ323JS)

Faint o gyllideb y Cynulliad a ddefnyddir yn arian cyfatebol ar gyfer prosiectau UE? (OAQ323JS)

Edwina Hart spoken in English p. 14

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 14

Here we go again. If I were a fox I would think that I had the hounds chasing me on structural funds. Match funding is actually the responsibility of the grant applicant. This ensures local ownership and commitment to projects. Match funding can come from a variety of sources including the private sector. In setting its budget allocations, the Assembly will need to be aware of the match funding requirements of the public bodies it supports.

Dyma ni unwaith eto. Pe bawn i’n llwynog, fe dybiwn fod y cŵn yn fy ymlid i gyda golwg ar gronfeydd strwythurol. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd am grant mewn gwirionedd yw arian cyfatebol. Mae hyn yn sicrhau perchnogaeth ac ymrwymiad lleol i brosiectau. Gall arian cyfatebol ddod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y sector preifat. Wrth ddyrannu’r gyllideb, bydd rhaid i’r Cynulliad fod yn ymwybodol o ofynion arian cyfatebol y cyrff cyhoeddus a gefnogir ganddo.

Nick Bourne spoken in English p. 15

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 15

As you said, here we go again. If you were a fox I think we would have caught up with you by now. Leaving aside the platitudes we have just heard about match funds, will you give a guarantee that the Treasury is being pressed to provide match funds? What is the likelihood that match funds will come from the Treasury and when will we know, or will you give a civil service reply yet again? Is there to be new money—yes or no?

Fel y dywedasoch, dyma ni unwaith eto. Pe baech chi’n llwynog, yr wyf yn meddwl y byddem wedi’ch dal erbyn hyn. Ac anghofio’r ystrydebau yr ydym newydd eu clywed am arian cyfatebol, wnewch chi warantu bod pwysau’n cael ei roi ar y Trysorlys i ddarparu arian cyfatebol? Pa mor debygol yw hi y bydd arian cyfatebol yn dod gan y Trysorlys a pha bryd y cawn wybod, neu a fyddwch chi’n rhoi ateb gwasanaeth sifil inni eto fyth? A oes arian newydd am ddod—oes ynteu nac oes?

Edwina Hart spoken in English p. 15

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 15

I have already outlined the position on the comprehensive spending review and issues that will arise from that. As the Chancellor and Prime Minister have already said, we will not let Wales down.

Yr wyf eisoes wedi amlinellu’r sefyllfa gyda golwg ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a materion a fydd yn codi o hynny. Fel y dywedodd y Canghellor a’r Prif Weinidog eisoes, ni fyddwn yn siomi Cymru.

Michael German spoken in English p. 15

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 15

There was a statement in the Economic Development Committee that there was about £35 million in the kitty for three years for additional and match funding for Wales, and that Ron Davies had made a bid for over £300 million of match funding which was turned down by the Cabinet. Do you agree with those facts?

Yr oedd datganiad yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd fod oddeutu £35 miliwn yn y pwrs am dair blynedd ar gyfer arian ychwanegol a chyfatebol i Gymru, a bod Ron Davies wedi gwneud cais am dros £300 miliwn o arian cyfatebol a wrthodwyd gan y Cabinet. A ydych chi’n cytuno â’r ffeithiau hynny?

Edwina Hart spoken in English p. 15

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 15

I did not attend that Economic Development Committee and I have not yet seen the information on that discussion or the minutes of the Economic Development Committee. I was engaged on other Assembly Business. Therefore it would be less than honest for me to comment on something I did not hear or see.

Nid oeddwn yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd hwnnw ac nid wyf eto wedi gweld y wybodaeth am y drafodaeth na chofnodion y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Yr oeddwn wrthi’n gwneud gwaith arall y Cynulliad. Felly, ni fyddwn yn onest pe bawn yn rhoi sylwadau am rywbeth na chlywais ac na welais.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Elin Jones spoken in Welsh p. 15

Gan gymryd yr hyn y mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi ei ddweud ynglŷn ag arolwg cynhwysfawr o wariant sydd yn weithredol o Ebrill 2001 ymlaen, hoffwn wybod ei barn ynglŷn â dyhead y Comisiwn Ewropeaidd i weld Cymru yn barod i weithredu Amcan 1 o 2000 ymlaen. Pa sicrhad y mae hi yn gallu ei roi i bobl sydd â chynlluniau da sydd yn mynd i fod yn barod ar gyfer defnyddio arian Amcan 1 o’r flwyddyn nesaf ymlaen? Pa arian ychwanegol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru fydd ar gael i sicrhau cyllid cyfatebol ac i weithredu’r cynlluniau hynny o’r flwyddyn nesaf ymlaen, gan gofio bod y Comisiwn Ewropeaidd yn disgwyl hynny gennym?

Considering what the Finance Secretary has said about the comprehensive spending review effective from April 2001 onwards, I would like to know her opinion on the European Commission’s wish to see Wales ready to implement Objective 1 from 2000 onwards. What assurance can she give to people with good schemes which will be ready to use Objective 1 money from next year onwards? What additional money will be available from the public sector in Wales to ensure match funding and to implement the schemes from next year onwards, remembering that the European Commission expects that from us?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

I am sorry but when I put my paper back, I lost part of what you said. Could you repeat it?

Mae’n ddrwg gennyf ond wrth imi roi fy mhapur yn ôl, collais ran o’r hyn a ddywedasoch. A allech ei ail-ddweud?

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Elin Jones spoken in Welsh p. 16

Gan gymryd bod y Comisiwn Ewropeaidd yn disgwyl i Gymru weithredu’r cynllun Amcan 1 o 2000 ymlaen, a chan gofio fod yr atebion sydd eisoes wedi cael eu rhoi ynglŷn â’r cwestiynau hyn yn cyfeirio at Ebrill 2001 ymlaen, pa sicrwydd y mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn gallu ei roi y bydd yna gyllid cyfatebol digonol ar gael i weithredu cynlluniau da a fydd yn barod i’w gweithredu o 2000 ymlaen?

Assuming that the European Commission expects Wales to implement the Objective 1 scheme from 2000 onwards, and remembering that the answers already given to these questions refer to April 2001 onwards, what assurance can the Finance Secretary give that there will be adequate match funding available to implement good schemes which will be ready for implementation from 2000 onwards?

Edwina Hart spoken in English p. 16

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 16

The comprehensive spending review, which we will start either side of the summer next year, is the opportunity for starting to deal with some of these issues. I appreciate your points about when the schemes start but evidence from elsewhere in Europe indicates that things start to come on stream not in the first year but in the following years. This is a point that I will bear in mind in further discussions.

Bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a fydd yn dechrau cyn neu ar ôl yr haf y flwyddyn nesaf, yn gyfle i ddechrau ymdrin â rhai o’r materion hyn. Yr wyf yn gwerthfawrogi eich pwyntiau ynghylch adeg dechrau’r cynlluniau ond mae tystiolaeth o fannau eraill yn Ewrop yn awgrymu bod pethau’n tueddu i ddechrau nid yn ystod y flwyddyn gyntaf ond yn ystod y blynyddoedd canlynol. Bydd hwn yn bwynt y byddaf yn ei gadw mewn cof wrth gynnal trafodaethau pellach.

Fformiwla Barnett

Barnett Formula

Q4 Phil Williams spoken in English p. 16

C4 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 16

Will Edwina Hart ensure that the full calculations leading to the block allocation of funds to the Assembly according to the Barnett formula are made available to Members and that all regional funds from the European Union are accounted separately to make it clear that they are additional to the Barnett block grant? (OAQ338JS)

A wnaiff Edwina Hart sicrhau bod Aelodau’n cael gweld yr holl gyfrifiadau a wnaed wrth gyfrif y dyraniad arian bloc i’r Cynulliad yn ôl fformiwla Barnett a bod yr holl arian rhanbarthol o’r UE yn cael ei gofnodi ar wahân er mwyn dangos yn glir ei fod yn ychwanegol at grant floc Barnett? (OAQ338JS)

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

Section 81 of the Government of Wales Act 1998 requires the Secretary of State for Wales to provide this Assembly with a written statement setting out the details of how the total budget for Wales was derived.

Yn ôl Adran 81 Deddf Llywodraeth Cymru 1998, rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru roi datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad hwn yn nodi’r manylion ynghylch sut y pennwyd cyfanswm y gyllideb ar gyfer Cymru.

Phil Williams spoken in English p. 17

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 17

Are you aware of the considerable ignorance and confusion among many leading figures in Welsh civic and economic life about the present system for delivering the Barnett block, and the way in which the structural funds are passed on? Do you recognise the shock that may come when they realise how this has been administered in the past?

A ydych chi’n ymwybodol o’r anwybodaeth a’r dryswch sylweddol sydd ymhlith llawer o arweinwyr bywyd dinesig ac economaidd Cymru ynghylch y drefn bresennol ar gyfer cyflwyno bloc Barnett, a sut y mae’r cronfeydd strwythurol yn cael eu trosglwyddo? A ydych chi’n cydnabod y posibilrwydd y bydd y bobl hyn yn cael eu synnu’n fawr o sylweddoli sut y gweinyddwyd hwn yn y gorffennol?

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

Phil, you and I have no differences on some of these matters as we both want respect for Wales in terms of transparency and standing European funding. In fact, I am thinking of getting you and I matched anoraks on the Barnett formula issue as we discuss it so often. I am concerned about the confusion regarding the Barnett formula. Your point about transparency is well made; people need to understand all the issues and these issues are rightly being pursued.

Phil, nid oes gwahaniaeth barn rhyngom ar rai o’r meysydd hyn gan fod y ddau ohonom yn dymuno gweld Cymru’n cael parch o ran bod y drefn yn dryloyw ac ariannu Ewropeaidd sefydlog. Yn wir, yr wyf wedi bod yn ystyried prynu anorac yr un fath inni’n dau ar fater fformiwla Barnett gan ein bod yn ei drafod mor aml. Yr wyf yn gofidio am y dryswch ynghylch fformiwla Barnett. Mae eich pwynt am dryloywder yn un dilys; mae angen i bobl ddeall yr holl faterion hyn ac mae’n gwbl gywir mynd i’r afael â hwy.

Adeilad Pierhead (Adnewyddu)

Pierhead Building (Refurbishing)

Q5 David Davies spoken in English p. 17

C5 David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 17

What is the estimated total cost of refurbishing the Pierhead building? (OAQ315VB)

Beth yw’r amcangyfrif o gost adnewyddu adeilad Pierhead? (OAQ315VB)

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

One million pounds.

Miliwn o bunnoedd.

David Davies spoken in English p. 17

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 17

Is the Finance Secretary aware that it is costing a huge amount of money to maintain this building, partly because it has to be heated all year round as it is a listed building? Is she aware that no use has been found for this building? Does she share my frustration at this waste of taxpayers’ money and will she take steps to resolve the situation?

A yw’r Ysgrifennydd Cyllid yn sylweddoli bod cynnal yr adeilad hwn yn ofnadwy o ddrud, yn rhannol am fod rhaid ei gynhesu drwy’r flwyddyn oherwydd ei fod yn adeilad rhestredig? A yw’n sylweddoli nad oes dim defnydd wedi’i ganfod ar gyfer yr adeilad hwn? A yw’n rhannu fy rhwystredigaeth ynghylch y ffaith fod arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu fel hyn ac a wnaiff gymryd camau i ddatrys y sefyllfa?

Edwina Hart spoken in English p. 17

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 17

I am afraid I do not share your frustrations. My only frustration is that we are not all united about the needs of the Assembly, the Pierhead building and the new building, Crickhowell House. Finance questions are used just to raise cheap political points about the Assembly itself. The Pierhead building is being refurbished to an acceptable standard, which is in accordance with Grade 1 listed buildings status. I am sure no Assembly Member would wish us to do other than keep it to the appropriate standards. There are committed total costs of refurbishment of £1 million. This is higher than it would otherwise be because of its listed status.

Mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu eich rhwystredigaeth. Fy unig rwystredigaeth i yw nad ydym i gyd yn unfryd ynghylch anghenion y Cynulliad, adeilad Pierhead a’r adeilad newydd, Tŷ Crucywel. Yr unig reswm dros godi cwestiynau ynghylch cyllid yw er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol ynghylch y Cynulliad ei hun. Mae adeilad Pierhead yn cael ei adnewyddu yn unol â’r safon foddhaol ar gyfer statws adeiladau rhestredig Gradd 1. Yr wyf yn siŵr na fyddai’r un Aelod o’r Cynulliad am inni beidio â’i gynnal yn unol â’r safonau priodol. Ymrwymwyd i gyfanswm costau adnewyddu o £1 miliwn. Mae hyn yn uwch nag y byddai fel arall oherwydd ei statws rhestredig.

Janet Davies spoken in English p. 18

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 18

My understanding is that the National Audit Office is occupying part of the building. What proportion is it occupying? Would we wish to see the National Audit Office in substandard accommodation? If it is possible within the rules of confidentiality, what rent would we receive?

Deallaf fod y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yn defnyddio rhan o’r adeilad. Pa gyfran o’r adeilad yw honno? A fyddem yn dymuno gweld y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol mewn adeilad gwael ei gyflwr? Os oes modd dweud dan y rheolau cyfrinachedd, faint o rent y byddem yn ei chael?

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

I do not have the specifics with me today detailing that building’s usage, but I will be happy to reply. Generally, I would want anybody occupying any property that is under our control to have an appropriate standard of accommodation. Bearing in mind my background as a trade union official, that is only right and proper.

Nid oes gennyf fanylion penodol heddiw ynghylch y defnydd o’r adeilad hwnnw, ond byddaf yn falch o roi ateb ichi. Yn gyffredinol, byddwn am i unrhyw un o’r adeiladau sydd dan ein gofal a ddefnyddir gan unrhyw un fod o safon briodol. Gan gadw fy nghefndir fel swyddog undeb llafur mewn cof, nid yw hynny ond yn iawn.

Jenny Randerson spoken in English p. 18

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 18

There were plans to use the Pierhead building for educational purposes. Would you support those plans? If those plans are not going ahead, where will the educational aspects attached to the Assembly’s work be carried out?

Yr oedd cynlluniau i ddefnyddio adeilad Pierhead at ddibenion addysgol. A fyddech yn cefnogi’r cynlluniau hynny? Os nad yw’r cynlluniau hynny’n mynd rhagddynt, ymhle y gwneir y gwaith addysgol sydd ynghlwm wrth waith y Cynulliad?

Edwina Hart spoken in English p. 18

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 18

I support the idea of having an educational remit within the Assembly’s work. It is important that young people learn to identify with the Assembly and its workings. That might help us in due course to increase the percentage of people who vote in elections, especially in Assembly elections. The Pierhead building issue has to be taken in the context of the new building andthis building. Party leaders will discuss various issues related to this with the First Secretary. At this stage I have no further information. The point that Jenny made on education is well made. I will focus my later discussions on this point.

Yr wyf yn cefnogi’r syniad o gynnwys cylch gorchwyl addysgol fel rhan o waith y Cynulliad. Mae’n bwysig i bobl ddysgu bod ganddynt ran yn y Cynulliad a’i drafodion. Maes o law, efallai y bydd hynny’n gymorth i gynyddu nifer y bobl sydd yn pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig yn etholiadau’r Cynulliad. Mae’n rhaid ystyried mater adeilad Pierhead yng nghyd-destun yr adeilad newydd a’r adeilad hwn. Bydd arweinyddion y pleidiau’n trafod sawl mater sydd yn berthnasol i hyn gyda’r Prif Ysgrifennydd. Ar hyn o bryd, nid oes gennyf ragor o wybodaeth. Mae’r pwynt a wnaeth Jenny am addysg yn un dilys. Byddaf yn canolbwyntio fy nhrafodaethau pellach ar y pwynt hwn.

John Griffiths spoken in English p. 19

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 19

Is Edwina aware that, as far as these matters are concerned, devolution has reached the Conservative Assembly Members, bearing in mind that there are new offices being refurbished and built at Westminster at present? The cost of those offices is in excess of £200 million. This initiative was started by the Conservative Government in the early 1990s.

A yw Edwina’n ymwybodol, cyn belled â bod y materion hyn dan sylw, bod datganoli wedi cyrraedd Aelodau Ceidwadol y Cynulliad, gan gofio bod swyddfeydd newydd yn cael eu hadnewyddu a’u hadeiladu yn San Steffan ar hyn o bryd? Mae’r swyddfeydd hynny’n costio dros £200 miliwn. Dechreuwyd y cynllun hwn gan y Llywodraeth Geidwadol ddechrau’r 1990au.

Edwina Hart spoken in English p. 19

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 19

I would not like to comment on what happens in another place. It is important that we in the Assembly get our act together and ensure that we adhere to budgets and all the requirements. I will answer the question in that spirit.

Ni fyddwn am roi fy sylwadau ar beth sydd yn digwydd mewn man arall. Mae’n bwysig yn y Cynulliad ein bod yn cael trefn arni a sicrhau ein bod yn glynu wrth ein cyllidebau a’r holl ofynion. Atebaf y cwestiwn yn yr ysbryd hwnnw.

Dirprwyo Swyddogaethau o dan Ddeddf Iechyd 1999

Delegation of Functions under the Health Act 1999

Jane Hutt spoken in English p. 19

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 19

I propose that:

Cynigiaf fod:

Jane Hutt (continued) spoken in English p. 19

Jane Hutt (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 19

To turn that into something we understand, I want to acknowledge this motion’s significance and provide an outline of the delegation of functions. This requires a full briefing for Assembly Members, particularly the Health and Social Services Committee, on the implications of the Health Act. The briefing will take place and there will be further debate as a result.

I droi hynny’n rhywbeth ystyrlon, yr wyf am gydnabod pwysigrwydd y cynnig hwn a rhoi amlinelliad o ddirprwyo’r swyddogaethau. Er mwyn gwneud hyn rhaid rhoi’r wybodaeth yn gyflawn i Aelodau’r Cynulliad, yn enwedig y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch oblygiadau’r Ddeddf Iechyd. Cynhelir sesiwn i roi gwybodaeth a chynhelir dadl arall o ganlyniad i hynny.

However, to outline the situation, the Health Act 1999 received royal assent on 30 June, the day before we assumed our full powers. The Act contains new functions and a substantial number of amendments to existing national health service legislation. Section 66 of the Act contains what I call the ‘devolution clause’, which empowers the Assembly to commence the provisions in the Act for which it will have functional responsibility in Wales, and to exercise such new functions in relation to Wales. This includes a new statutory duty of quality on health authorities, NHS trusts, primary care trusts and, in the case of Wales, the local health groups. This duty aims to improve the quality of the care provided to NHS patients. It also includes provisions relating to the repeal of general practitioner fund-holding legislation, and the new partnership arrangements between the NHS and local authorities. The Act ensures that new functions and the functions created by amendments to existing legislation are transferred to the Assembly. Section 62(5) of the Government of Wales Act 1998, allows the First Secretary to delegate functions to Assembly Secretaries. When the First Secretary spoke last week, he made clear his intention to delegate the functions in the Health Act to me, in my role as Assembly Secretary, as soon as is practicable after royal assent. I welcome this opportunity whole-heartedly.

Fodd bynnag, i grynhoi’r sefyllfa’n fras, rhoddwyd cydsyniaeth frenhinol i’r Ddeddf Iechyd 1999 ar 30 Mehefin, y diwrnod cyn inni ysgwyddo’n holl bwerau. Mae’r Ddeddf yn cynnwys swyddogaethau newydd a nifer sylweddol o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth gyfredol y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae Adran 66 o’r Ddeddf yn cynnwys yr hyn a alwaf i’n ‘gymal datganoli’, sydd yn rhoi grym i’r Cynulliad ddechrau’r darpariaethau yn y Ddeddf y bydd ganddo gyfrifoldeb swyddogaethol drostynt yng Nghymru, ac i roi’r swyddogaethau newydd hynny ar waith gyda golwg ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi dyletswydd statudol newydd i sicrhau ansawdd ar ysgwyddau’r awdurdodau iechyd, ymddiriedolaethau’r NHS, ymddiriedolaethau gofal sylfaenol ac, yng nghyswllt Cymru, y grwpiau iechyd lleol. Nod dyletswydd o’r fath yw gwella ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion yr NHS. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sydd yn ymwneud â diddymu deddfwriaeth meddygon teulu sydd yn dal cronfa, a’r trefniadau partneriaeth newydd rhwng yr NHS ac awdurdodau lleol. Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod swyddogaethau newydd a’r swyddogaethau a grëwyd drwy’r gwelliannau i’r ddeddfwriaeth gyfredol yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 62(5) Deddf Llywodraeth Cymru 1998, yn caniatáu i’r Prif Ysgrifennydd ddirprwyo swyddogaethau i Ysgrifenyddion y Cynulliad. Pan siaradodd y Prif Ysgrifennydd wythnos diwethaf, fe wnaeth yn glir mai ei fwriad oedd dirprwyo’r swyddogaethau yn y Ddeddf Iechyd i mi, yn fy swyddogaeth fel Ysgrifennydd y Cynulliad, cyn gynted ag sydd yn ymarferol ar ôl cael cydsyniaeth frenhinol. Croesawaf y cyfle hwn yn gynnes iawn.

The Act builds on the work of the Welsh White Paper, ‘Putting Patients First’. It will modernise the NHS and has the potential to significantly break down the barriers between health and social care, which is my driving ambition, and make true partnership working a reality rather than rhetoric. It also sets the scene and lays the framework for tackling the big picture of health inequalities and the realignment of the NHS into a primary-care driven service.

Mae’r Ddeddf yn adeiladu ar sail y Papur Gwyn i Gymru, ‘Rhoi Cleifion yn Gyntaf’. Bydd yn moderneiddio’r gwasanaeth iechyd a gallai wneud cryn dipyn i chwalu’r muriau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Caf fy sbarduno gan yr uchelgais hwn. Y nod yw creu gwir bartneriaeth sydd yn realiti yn hytrach na dim ond rhethreg. Mae hefyd yn gosod y cefndir ac yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer i’r afael â darlun eang yr annhegwch sydd ym maes iechyd ac ar gyfer ail-lunio’r NHS i greu gwasanaeth sydd yn cael ei lywio gan ofal sylfaenol.

Most of the legislation provided for by the Act will be subject to Assembly scrutiny procedures. Some provisions relate to the constitution and administration of the Commission for Health Improvement. I stress that we will have a say before these are made, but they will be made by the Secretary of State for Health.

Bydd y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth a ddarperir gan y Ddeddf yn destun i drefniadau archwilio’r Cynulliad. Bydd rhai darpariaethau’n ymwneud â chyfansoddiad a gweinyddu’r Comisiwn Gwella Iechyd. Pwysleisiaf y bydd cyfle i ni fynegi’n barn cyn gwneud y rhain, ond yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a fydd yn eu gwneud.

There will be a significant programme of secondary legislation to be dealt with by the Health and Social Services Committee, and the Assembly as a whole. It will be a major task, as we are already experiencing in the Committee and one which we must get right for the people of Wales, as citizens, individual patients, service users, carers and the 65,000 people who work in the service. Any comments?

Bydd angen i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cynulliad yn ei grynswth fynd i’r afael â rhaglen sylweddol o ddeddfwriaeth eilaidd. Bydd yn dasg fawr, fel y gwelsom eisoes yn y Pwyllgor ac mae’n dasg y mae’n rhaid inni ei gwneud yn iawn, er mwyn pobl Cymru, fel dinasyddion, cleifion unigol, defnyddwyr y gwasanaeth, cynhalwyr a’r 65,000 o bobl sydd yn gweithio i’r gwasanaeth. Unrhyw sylwadau?

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 21

David Lloyd spoken in Welsh p. 21

Mater trefniadol syml yw’r drafodaeth hon i fod ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd ac fel yr oeddem yn trafod yn fyr heddiw yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr ydym yn cefnogi’r cynnig ar y sail syml honno. Fodd bynnag, fel yr ydych wedi cytuno’n barod, yr ydym eisiau trafodaeth lawer mwy eang. Yr ydym eisiau mwy o fanylion a mwy o wybodaeth ar gyfer trafodaeth eang ar oblygiadau’r Ddeddf Iechyd i Gymru.

This discussion is meant to be a simple organisational matter regarding the Health Act, and as we discussed briefly today in the Health and Social Services Committee, we support this motion on that simple basis. However, as you have already agreed, we want a much broader discussion. We want more details and more information for an extensive discussion on the implications of the Health Act for Wales.

Mae gennym bryderon ynglŷn â rhai agweddau o’r Ddeddf hon—y sôn byth a hefyd fod grwpiau iechyd lleol yn mynd i fod yn ymddiriedolaethau, fel y bydd 22 o ymddiriedolaethau newydd yng Nghymru a ninnau’n ceisio eu lleihau. Mae gennym bryderon ynglŷn â’r diffyg rôl i bobl fel ffisiotherapyddion yn y grwpiau iechyd lleol hyn. Byddaf yn gwyntyllu’r pryderon hyn yn y Pwyllgor pan gawn ni drafodaeth yn y sesiynau briffio.

We have concerns about some aspects of this Act. There is the constant talk that local health groups will become trusts, so that there will be 22 new trusts in Wales when we are trying to reduce them. We are concerned about the lack of a role for people such as physiotherapists in these local health groups. I will air these concerns in the Committee when we have a discussion in the briefing sessions.

Felly, wrth gefnogi’r cynnig hwn, gofynnaf am, ac yr wyf yn siŵr y cawn ni, fwy o wybodaeth ac y byddwn yn gallu cael trafodaeth bellach ar y Ddeddf Iechyd hon.

Therefore, in supporting this motion, I ask that we be given, and I am sure that we will be, more information and that we can have further discussion about this Health Act.

Jane Hutt spoken in English p. 22

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 22

Diolch, Dai. I want to strongly make the point that we are implementing our Welsh White Paper, ‘Putting Patients First’, not the English White Paper, which led to the Health Act. The provisions for the way we want to develop primary health care, the fact that our local health groups will be more inclusive than the English version of the primary care groups being set up and that they are multi-disciplinary and coterminous with the local authorities, sets apart Wales from England. I appreciate that we have far to go in developing those health groups and deciding what their role should be. It is not my intention to drive down the road towards primary care trusts, unless as an Assembly we decide that we want that. We need to take it a step at a time, considering the local health groups and their role, which is different from that of primary care trusts. The Act enables us and England to change things. What we need, as soon as possible, is a full briefing—hopefully before the end of this session, or if not, at the beginning of the next.

Thank you, Dai. Yr wyf am wneud y pwynt yn glir mai gweithredu’n Papur Gwyn i Gymru, ‘Rhoi Cleifion Gyntaf’ ydym ni, nid y Papur Gwyn i Loegr, a arweiniodd at y Ddeddf Iechyd. Mae’r darpariaethau ar gyfer y ffordd yr ydym am ddatblygu gofal iechyd sylfaenol, y ffaith y bydd ein grwpiau iechyd lleol yn fwy cynhwysol na’r grwpiau gofal sylfaenol sydd yn cael eu sefydlu yn Lloegr a’u bod yn rhai amlddisgyblaeth ac yn gyd-derfynol â’r awdurdodau lleol, yn gwneud Cymru’n wahanol iawn i Loegr yn hyn o beth. Sylweddolaf fod gennym gryn ffordd i fynd o ran datblygu’r grwpiau iechyd hynny a phenderfynu beth ddylai eu swyddogaeth fod. Nid fy mwriad i yw gyrru i i gyfeiriad ymddiriedolaethau gofal sylfaenol, oni fyddwn ni’n penderfynu fel Cynulliad mai dyna yw’n dymuniad. Rhaid inni fynd gam wrth gam, gan ystyried y grwpiau iechyd lleol a’u swyddogaeth, sydd yn wahanol i swyddogaeth ymddiriedolaethau gofal sylfaenol. Mae’r Ddeddf yn caniatáu inni a Lloegr newid pethau. Yr hyn sydd ei angen arnom cyn gynted ag y bo modd yw cyfle i roi gwybodaeth gyflawn—gobeithio cyn diwedd y sesiwn hwn, neu ar ddechrau’r sesiwn nesaf os nad yw hynny’n bosibl.

You are right that we need to be briefed on our powers under the Health Act to implement our policies and on the exceptions where we have no control, such as the control of prices of medicines and profits. We need a full briefing and an ongoing debate on how to implement this legislation.

Yr ydych yn iawn i ddweud bod rhaid inni gael gwybodaeth ynghylch ein pwerau dan y Ddeddf Iechyd i roi’n polisïau ar waith a’r eithriadau lle nad oes gennym reolaeth, megis rheolaeth dros brisiau meddyginiaethau ac elw. Mae angen sesiwn wybodaeth gyflawn arnom a dadl barhaus ynghylch sut i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith.

David Melding spoken in English p. 22

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 22

I welcome Jane’s assurance that, assuming the motion is carried, the powers to be delegated to the First Secretary will in turn soon be delegated to her, as it is the Committee’s responsibility to work through the detail that will be contained in the follow-on from the Health Act, which is considerable. However, I enter some reservations. The Conservative Party opposed this Act in Westminster. It undoes many of the previous Government’s structural changes to the health service. I will not rehearse those arguments. I would not get away with it and I fear that I would try the patience of most Members. However, we regret the passing of GP fundholding. We will carefully monitor how the new reforms work. The performance of local health groups is promising, but we will see how they work in reality. We do not want to be meagre. As it is in place, we want this reform to work. There is nothing in it to undermine the health service of the people of Wales in the primary sector. It is important that these things bed down and work.

Croesawaf sicrhad Jane, a bwrw bod y cynnig yn llwyddo, y bydd y pwerau sydd i’w dirprwyo i’r Prif Ysgrifennydd yn cael eu dirprwyo iddi hithau cyn bo hir, gan mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yw gweithio drwy’r manylion sylweddol a gynhwysir yn y dilyniant i’r Ddeddf Iechyd. Fodd bynnag, yr wyf yn nodi ychydig o amheuon. Gwrthwynebwyd y Ddeddf hon yn San Steffan gan y Blaid Geidwadol. Mae’n dadwneud llawer o’r newidiadau strwythurol a wnaeth y Llywodraeth flaenorol i’r gwasanaeth iechyd. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon hynny. Ni chawn rwydd hynt i wneud hynny ac ofnaf y byddwn yn dreth ar amynedd y rhan fwyaf o’r Aelodau. Fodd bynnag, mae’n flin gennym weld diwedd ar y drefn lle’r oedd meddygon teulu’n dal cronfa. Byddwn yn cadw golwg ofalus ar sut mae’r diwygiadau newydd yn gweithio. Mae perfformiad y grwpiau iechyd lleol yn addawol, ond cawn weld sut y byddant yn gweithio. Nid ydym am fod yn negyddol. Gan fod y drefn wedi’i sefydlu, yr ydym am weld y diwygiad hwn yn gweithio. Nid oes ynddo ddim a fyddai’n tanseilio gwasanaeth iechyd pobl Cymru yn y sector sylfaenol. Mae’n bwysig bod y pethau hyn yn ymwreiddio ac yn gweithio.

We are concerned about the future role of health authorities. This issue needs to be flagged up, although it will not be immediately dealt with as a result of this Act. Clearly if local health groups become trusts, then the future of health authorities is in peril. We will have to consider that in Committee and Plenary sessions at some point.

Yr ydym yn gofidio am swyddogaeth yr awdurdodau iechyd yn y dyfodol. Mae angen codi’r mater hwn, er na fyddwn yn ymdrin ar unwaith â hyn o ganlyniad i’r Ddeddf hon. Mae’n amlwg, os bydd y grwpiau iechyd lleol yn troi’n ymddiriedolaethau, yna, mae dyfodol yr awdurdodau lleol mewn perygl. Bydd rhaid inni ystyried hynny mewn sesiwn Pwyllgor ac mewn Sesiwn Lawn maes o law.

I fear for the whole future of treatment and rationing and how these decisions will be made. There are two super quangos or new institutions, referred to by the strange acronyms of ‘NICE’ and ‘CHIMP’, but we are concerned about the effect they will have on the ground, on how GPs prescribe drugs. For the first time, they will be restricted by definite guidance. We will be very careful in examining that.

Yr wyf yn bryderus ynghylch holl ddyfodol triniaeth a dogni a sut y gwneir y penderfyniadau hyn. Ceir dau arch-gwango neu sefydliad newydd, y cyfeirir atynt gyda’r acronymau rhyfedd ‘NICE’ a ‘CHIMP’, ond yr ydym yn gofidio ynghylch pa effaith ymarferol a gaiff y rhain ar sut y mae meddygon teulu yn rhagnodi cyffuriau. Am y tro cyntaf, bydd canllawiau pendant yn cyfyngu arnynt. Rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth archwilio hynny.

Finally, I regret that in this age of new partnership, which is very much the rhetoric of this new Government, you are now ending the statutory duty of the joint consultative committees; the only body in health and social services that gives the independent and voluntary sector a say in the strategic direction of health and social care. That does not sit well with your rhetoric of partnership and improving working practices across all sectors. JCCs deserve to have stayed as part of our public policy. They did not work well everywhere, but there were enough instances of good practice to have saved them and ensure that the statutory agencies would have reinvigorated their JCC process. It is a great pity that that has been ended.

Yn olaf, yr wyf yn gofidio yn yr oes hon o bartneriaeth newydd, sydd yn elfen bwysig yn rhethreg y Llywodraeth newydd hon, eich bod bellach yn dod â dyletswydd statudol y cyd-bwyllgorau ymgynghorol i ben, sef yr unig gorff ym myd iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol sydd yn rhoi llais i’r sector annibynnol a gwirfoddol gyda golwg ar bennu cyfeiriad strategol iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw hynny’n cydweddu’n dda â’ch rhethreg ynghylch partneriaeth a gwella arferion gweithio ar draws pob sector. Mae’r cyd-bwyllgorau ymgynghorol yn haeddu cael parhau’n rhan o’n polisi cyhoeddus. Nid oeddent yn gweithio’n dda ymhobman ond yr oedd digon o enghreifftiau o arferion da i’w hachub a sicrhau bod yr asiantaethau statudol yn adfywio’u trefniadaucyd-bwyllgorau ymgynghorol. Mae’n dreuni mawr bod hynny wedi dod i ben.

Jane Hutt spoken in English p. 24

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 24

We have turned this into a debate. We discussed earlier how we needed to have a full briefing on this Act and then a debate. However, I must respond to some of the points that David made.

Yr ydym wedi troi hyn yn ddadl. Trafodwyd ynghynt fod angen cynnal sesiwn wybodaeth gyflawn ar y Ddeddf hon ac yna gynnal dadl. Fodd bynnag, rhaid imi ymateb i rai o’r pwyntiau a gododd David.

As far as the new Health Act is concerned, the fact that we are moving into a climate of collaboration and partnership is critical, if we are to move forward with our objectives and priorities for the health service. This was touched upon in the Health and Social Services Committee this morning, where we are beginning to get a flavour of what will come out of the NHS stocktake, which has been mentioned in this Chamber more than once. The impact of the internal market is something that the previous Government has to take responsibility for and is well known to Members. Proceeding in the spirit of collaboration and partnership is vital if we want to tackle ill-health and establish a health service based on those principles. That is why the local health groups are so important. As you know David, they respond to health improvement programmes, identifying health needs in different areas and working in partnership with local government. That is a multi-disciplinary approach. The JCCs can continue to play a role if they wish to do so. However, as we discussed in the Health and Social Services Committee, local health groups will provide the means to progress.

Gyda golwg ar y Ddeddf Iechyd newydd, mae’r ffaith ein bod ni’n symud i hinsawdd o gydweithio a phartneriaeth yn hanfodol os ydym am fwrw ymlaen gyda’n hamcanion a’n blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Soniwyd yn fras am hyn yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bore yma lle’r ydym yn dechrau cael blas ar yr hyn a ddeillia o gyfrif stoc yr NHS, mater y soniwyd amdano sawl gwaith yn y Siambr hon. Mae effaith y farchnad fewnol yn rhywbeth y mae’n rhaid i’r Llywodraeth flaenorol dderbyn cyfrifoldeb amdani a da y gŵyr yr Aelodau hynny. Mae bwrw ymlaen mewn ysbryd o gydweithrediad a phartneriaeth yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael ag afiechyd a sefydlu gwasanaeth iechyd sydd yn seiliedig ar yr egwyddorion hynny. Dyna pam fod y grwpiau iechyd lleol mor bwysig. Fel y gwyddoch David, maent yn ymateb i raglenni gwella iechyd, yn canfod anghenion iechyd mewn gwahanol feysydd, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol. Maent yn arddel safbwynt aml-ddisgyblaeth. Gall y cyd-bwyllgorau ymgynghorol barhau i gyfrannu os dymunant. Fodd bynnag, fel a drafodwyd yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y grwpiau iechyd lleol yw’r ffordd ymlaen.

For the benefit of those outside this Chamber, I should explain that the acronyms NICE and CHIMP stand for National Institute for Clinical Excellence, which is vital, and Commission for Health Improvement. We must proceed towards a health service that is based on clinical effectiveness and evidence-based medicine. We all subscribe to that and we must ensure that we deliver it in Wales and monitor it carefully.

Er budd pobl y tu allan i’r Siambr hon, dylwn esbonio bod yr acronymau NICE a CHIMP yn sefyll dros Sefydliad Cenedlaethol dros Rhagoriaeth Glinigol, sydd yn holl bwysig, a’r Comisiwn ar gyfer Gwella Iechyd. Rhaid inni gamu ymlaen tuag at wasanaeth iechyd sydd yn seiliedig ar effeithiolrwydd clinigol a meddygaeth sydd yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae pawb ohonom yn gytun ar hynny a rhaid inni sicrhau hynny yng Nghymru a’i fonitro’n ofalus.

I have spoken to many GPs, some of whom have been fundholders, who are excited about the future and by messages from myself and the Committee. There is a strong consensus on moving towards a primary care-led national health service that tackles health needs. We can work in partnership and there must be a further debate on this issue after we have been briefed. We must ensure that everyone here understands the implications of this new way forward for the national health service in Wales, which will be driven by us.

Bûm yn sgwrsio gyda llawer o feddygon teulu, rhai ohonynt wedi bod yn ddeiliaid cronfa, ac iddynt hwy, mae’r dyfodol a’r negeseuon a gânt gennyf fi a’r Pwyllgor yn llawn cyffro. Mae consensws cryf o blaid symud i gyfeiriad gwasanaeth iechyd gwladol sydd yn cael ei lywio gan ofal sylfaenol gyda’r nod o fynd i’r afael ag anghenion iechyd. Gallwn gydweithio fel partneriaid a rhaid inni gynnal dadl arall ar hyn ar ôl inni gael cyfarwyddyd. Rhaid inni sicrhau bod pawb yma’n deall goblygiadau’r ffordd newydd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru a ninnau wrth y llyw.

Kirsty Williams spoken in English p. 25

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 25

I welcome the transfer of powers in respect of the most recent piece of health legislation to Wales. With this motion the Assembly assumes full responsibility for running the NHS in the principality. We take hold of the reins at challenging times. Our nation’s health is much poorer than that of our English neighbours. We die younger and are more likely to have a heart attack or develop certain types of cancer. We smoke too much, eat the wrong type of food and, judging from the number of people queuing outside lifts after Plenarys, we do not take enough exercise. Waiting lists, and more importantly, waiting times are rising, and staff morale is being pushed to breaking point, which is illustrated by a recruitment crisis in many areas.

Croesawaf drosglwyddo’r pwerau gyda golwg ar y darn diweddaraf o ddeddfwriaeth iechyd i Gymru. Gyda’r cynnig hwn, bydd y Cynulliad yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn am redeg yr NHS yn ein gwlad. Byddwn yn cydio yn yr awennau mewn oes sydd yn llawn her. Mae iechyd ein cenedl yn waeth o lawer na iechyd ein cymdogion yn Lloegr. Yr ydym yn marw’n iau ac yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon neu gael rhai mathau arbennig o ganser. Yr ydym yn ysmygu gormod, yn bwyta’r math anghywir o fwyd ac, ag ystyried nifer y bobl sydd yn disgwyl am y lifft ar ôl Sesiynau Lawn, nid ydym yn cael digon o ymarfer corff. Mae’r rhestrau aros, ac yn bwysicach fyth, y cyfnodau aros yn hwy, ac mae ysbryd y staff mor isel, maent bron wedi llethu’n llwyr. Mae’r argyfwng recriwtio yn brawf o hyn mewn sawl ardal.

I welcome many things in the Health Act. While David Melding regrets the passing of GP fundholding, I rejoice in it. However, as Dai Lloyd mentioned, many aspects are worrying and require debate. Today is not the day to discuss its contents and details, or the bigger picture of challenges facing the NHS. This motion concerns the delegation of functions to the First Secretary. However, I take this opportunity to remind Jane and the Assembly of the amendment that we passed on 16 June to the original delegated motion, when we agreed that any delegation should not remove the pre-eminence of this Assembly, or the Committees’ roles. By delegating functions to the First Secretary and in turn to Jane, we must agree that the Health and Social Services Committee will continue to review the effectiveness of policies and develop new ones. In accepting this motion, I look forward to a productive period of working together to address the decisive issues that I outlined earlier.

Croesawaf lawer o bethau yn y Ddeddf Iechyd. Tra bo David Melding yn drist wrth weld y drefn lle’r oedd meddygon teulu yn dal cronfa yn dod i ben, yr wyf innau’n llawenhau. Fodd bynnag, fel y soniodd Dai Lloyd, mae sawl agwedd yn destun pryder ac mae angen eu trafod. Nid heddiw yw’r amser i drafod ei chynnwys a’i manylion na’r darlun helaethach o’r her sydd yn wynebu’r NHS. Mae’r cynnig hwn yn ymwneud â dirprwyo swyddogaethau i’r Prif Ysgrifennydd. Fodd bynnag, manteisiaf ar y cyfle hwn i atgoffa Jane a’r Cynulliad am y gwelliant a basiwyd yma i’r cynnig dirprwyedig gwreiddiol ar 16 Mehefin, pan gytunwyd na ddylai unrhyw ddirprwyo danseilio goruchafiaeth y Cynulliad hwn na swyddogaethau’r Pwyllgorau. Trwy ddirprwyo swyddogaethau i’r Prif Ysgrifennydd ac yn eu tro i Jane, rhaid inni gytuno y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i adolygu effeithiolrwydd polisïau a datblygu rhai newydd. Wrth dderbyn y cynnig hwn, edrychaf ymlaen at gyfnod cynhyrchiol o gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r materion holl bwysig a amlinellais yn gynharach.

Jane Hutt spoken in English p. 26

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 26

Thank you, Kirsty. Perhaps you can join me later this evening on the race for life, which supports women suffering from cancer.

Diolch, Kirsty. Efallai y gallwch chi ymuno â mi yn ddiweddarach heno yn y ras i fyw, ras sydd yn cefnogi menywod sydd yn dioddef o ganser.

Kirsty made some important points. The Health and Social Services Committee is a powerful one, which will keep me in place and ensure that Committee members play a part in devolving health and social services matters to Wales. I value that. We can only move forward in collaboration. I am aware that I will be under scrutiny as Assembly Secretary, I already have been. However, we will learn together and it is vital that you bring your concerns to me and that they form part of the debate, scrutiny, and policy development. I am glad to move this motion to assume these powers. I take on this responsibility and with your support and scrutiny, I look forward to exercising these new powers.

Gwnaeth Kirsty nifer o bwyntiau pwysig. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn un grymus a fydd yn fy nghadw yn fy lle ac yn sicrhau bod gan aelodau’r Pwyllgor ran yn y gwaith o ddatganoli materion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i Gymru. Yr wyf yn gwerthfawrogi hynny. Ni allwn ond symud ymlaen trwy gydweithio. Yr wyf yn sylweddoli y byddaf yn dod dan y chwyddwydr fel Ysgrifennydd y Cynulliad, fel y bûm eisoes. Fodd bynnag, byddwn yn dysgu gyda’n gilydd ac mae’n holl bwysig eich bod yn dod â’ch pryderon ataf a’u bod yn rhan o’r ddadl, yr archwilio a’r datblygu polisi. Yr wyf yn falch i gynnig y cynnig hwn i ysgwyddo’r pwerau hyn. Ysgwyddaf y cyfrifoldeb hwn a chyda’ch cefnogaeth a dan eich goruchwyliaeth, edrychaf ymlaen at roi’r pwerau newydd hyn ar waith.

Cynnig Jane Hutt t. 27

Motion Jane Hutt p. 27

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Cysylltu â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad

Affiliation with the Commonwealth Parliamentary Association

Andrew Davies spoken in English p. 27

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 27

I propose that the Assembly

Cynigiaf fod y Cynulliad

Andrew Davies (continued) spoken in English p. 28

Andrew Davies (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 28

The CPA is a prestigious body with the principal aims of promoting knowledge of the constitutional, legislative, economic, social and cultural aspects of parliamentary democracy with particular reference to Commonwealth countries. It is appropriate that this Assembly plays its full role in representing Wales positively in the Commonwealth. The opportunity to affiliate to the CPA will enable the Assembly to make contact with other state parliaments.

Mae’r Gymdeithas yn gorff o fri a’i phrif amcanion yw hyrwyddo gwybodaeth am agweddau cyfansoddiadol, deddfwriaethol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol democratiaeth seneddol gyda golwg yn benodol ar wledydd y Gymanwlad. Mae’n briodol bod y Cynulliad hwn yn cyflawni ei swyddogaeth lawn o ran cynrychioli Cymru mewn ffordd gadarnhaol yn y Gymanwlad. Bydd y cyfle i ymaelodi gyda’r Gymdeithas yn fodd i’r Cynulliad greu cysylltiad gyda seneddau gwladwriaethau eraill.

We believe it will raise our profile at international level. On admission to the CPA, this Assembly will become a member of the British Isles and Mediterranean region and be eligible to participate in regional activities. I am confident that the motion will receive widespread support from Members. I urge you to accept it.

Credwn y bydd hyn yn codi’n proffil ar lefel ryngwladol. Wrth gael ei dderbyn i’r Gymdeithas, daw’r Cynulliad hwn yn aelod o ranbarth Gwledydd Prydain a Môr y Canoldir a chaiff gyfranogi mewn gweithgareddau rhanbarthol. Yr wyf yn hyderus y bydd y cynnig yn cael cefnogaeth eang o du’r Aelodau. Fe’ch anogaf i’w dderbyn.

John Marek spoken in English p. 28

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 28

It gives me pleasure to speak as the Member who invited the Assembly to become an affiliate to the CPA. I know that all parties support that. I am particularly pleased that Andrew Davies was so enthused about the CPA that he proposed the motion himself. I thank you for that, Andrew.

Mae’n bleser gennyf siarad fel yr Aelod a wahoddodd y Cynulliad i ymaelodi â’r Gymdeithas. Gwn fod pob plaid yn cefnogi hyn. Yr wyf yn arbennig o falch fod Andrew Davies mor frwd ynghylch y Gymdeithas iddo gyflwyno’r cynnig ei hun. Diolch am hynny, Andrew.

The CPA is a parliamentary association not a government association. There is a clear distinction. It consists of 14,000 parliamentarians throughout the Commonwealth, and has 135 federal and state branches. The parent branch is the United Kingdom one. Although it is a parent branch, I would like to state that the National Assembly of Wales branch would be equal in status with that of the United Kingdom as soon as it becomes a member. It will be represented by smaller delegations at the annual conference, because we are a smaller body with only 60 Members instead of the 659 in the Westminster Parliament.

Cymdeithas seneddol, nid cymdeithas a berthyn i lywodraethau yw’r Gymdeithas. Mae gwahaniaeth clir. Mae’n cynnwys 14,000 o seneddwyr ledled y Gymanwlad ac mae iddi 135 o ganghennau ffederal a gwladwriaethol. Y rhiant-gangen yw cangen y Deyrnas Unedig. Er mai rhiant-gangen yw hon, hoffwn ddweud y byddai cangen Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydradd o ran statws â changen y Deyrnas Unedig, unwaith y daw’n aelod. Fe’i cynrychiolir gan ddirprwyaethau llai yn y gynhadledd flynyddol, oherwydd ein bod yn gorff llai gyda dim ond 60 o Aelodau yn hytrach na’r 659 sydd yn Senedd San Steffan.

The CPA meets at annual and regional conferences. It rarely passes resolutions. However, I recall one being passed in Australia as a result of the coup that cancelled democracy in Fiji, but it is a rare event. It does not bind members or branches to any particular views. There is a headquarter secretariat in London, in Millbank, not too far away from Parliament, but a long way from the other Millbank headquarters further down the road. I speak as a member of the executive committee of the international secretariat. One must never underestimate the good that talking to parliamentarians from other countries can do, for example in getting a proper appreciation of the problems in Montserrat, the political situation in Quebec or economic issues between this country and New Zealand. There is no substitute for talking to parliamentarians from those countries and finding out exactly what makes them tick in their state or federal Parliament and what their issues are.

Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod mewn cynhadledd flynyddol a rhanbarthol. Anaml y bydd yn pasio penderfyniadau. Fodd bynnag, cofiaf un penderfyniad yn cael ei basio yn Awstralia o ganlyniad i’r gwrthryfel a ddileodd ddemocratiaeth yn Fiji, ond mae’n ddigwyddiad prin. Nid yw’n rhwymo’r aelodau na’r canghennau i unrhyw farn benodol. Ceir ysgrifenyddiaeth yn y pencadlys yn Llundain, ym Millbank, nid nepell o’r Senedd, ond ymhell iawn o’r pencadlys Millbank arall i lawr y ffordd. Siaradaf fel aelod o bwyllgor gweithredol yr ysgrifenyddiaeth ryngwladol. Rhaid inni beidio byth â thanystyried y lles a ddaw yn sgîl siarad â seneddwyr gwledydd eraill, er enghraifft o ddeall problemau Montserrat yn iawn, y sefyllfa wleidyddol yn Quebec neu faterion economaidd rhwng y wlad hon a Seland Newydd. Nid oes curo ar siarad â seneddwyr o’r gwledydd hynny a chael gwybod yn union beth sydd yn eu tanio yn Senedd eu gwladwriaeth neu yn eu Senedd ffederal a beth yw eu materion.

But the CPA does more than that. In conjunction with CHOGM—the Commonwealth Heads of Government Meeting—it undertakes election observing. That function is more important today. It is very important to have teams of observers in countries where a transition to democracy is taking place to ensure that elections are seen to be fair and properly carried out. The CPA also holds post-election seminars, such as those held in South Africa after the first post-apartheid election. Suddenly, there were about eight provincial legislatures and a federal parliament but few people in South Africa knew how democracy worked or had any experience of it except from reading a book or watching foreign television. The CPA provides advice, exchange of information and help where necessary. It also holds an international seminar for new parliamentarians in different parts of the world—the last was held in Malta in June.

Ond mae’r Gymdeithas yn gwneud mwy na hynny. Ar y cyd â’r CHOGM—Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad—bydd yn arsylwi etholiadau. Mae’r gwaith hwnnw’n bwysicach heddiw. Mae’n bwysig iawn cael timau o arsylwyr mewn gwledydd sydd yn troi at drefn ddemocrataidd, er mwyn sicrhau bod etholiadau i’w gweld yn deg ac yn cael eu cynnal yn iawn. Bydd y CPA hefyd yn cynnal seminarau ar ôl etholiadau, megis y rhai a gynhaliwyd yn Ne Affrica yn dilyn yr etholiad cyntaf ar ôl apartheid. Yn sydyn, yr oedd tua wyth o gyrff deddfu taleithiol a senedd daleithiol ond ychydig o bobl yn Ne Affrica a wyddai sut yr oedd democratiaeth yn gweithio neu a oedd ag unrhyw brofiad ohoni ac eithrio drwy ddarllen llyfr neu wylio teledu tramor. Mae’r Gymdeithas yn cynnig cyngor, yn cyfnewid gwybodaeth a chymorth lle bo angen. Mae hefyd yn cynnal seminar rhyngwladol i seneddwyr newydd mewn gwahanol rannau o’r byd—cynhaliwyd y diwethaf ym Malta ym mis Mehefin.

The CPA was founded in 1911 and is similar to the Inter-Parliamentary Union. They are the only two bodies that straddle the world for parliamentarians. The CPA was formed as the Empire Parliamentary Association. If we were going to think of a name we would not think of that one now.

Sefydlwyd y CPA yn 1911 ac mae’n debyg i’r Undeb Rhyng-Seneddol. Dyma’r unig ddau gorff sydd yn pontio’r byd i seneddwyr. Sefydlwyd y gymdeithas fel Cymdeithas Seneddol yr Ymerodraeth. Pe baem am fathu enw iddi heddiw, prin y byddem yn dewis hwnnw.

Rod Richards spoken in English p. 30

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 30

I do not know about that.

Wn i ddim am hynny.

John Marek spoken in English p. 30

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 30

Some people obviously disagree, but I think that they are in a small minority. The Empire Parliamentary Association consisted of the United Kingdom, Australia, Canada, New Zealand, South Africa and Newfoundland. The latter of course was at that time still an independent country and had not joined the Canadian Federation. However the inappropriateness of the title was quickly realised after the war with the advent of the Labour Government, which gave independence to India and many other Commonwealth countries. In 1948, it was renamed the Commonwealth Parliamentary Association with the appearance of new independent Commonwealth countries, such as India. Although the Queen is still head of the Commonwealth, the United Kingdom branch in Westminster is no greater and no lesser than any other branch, whether federal or state.

Mae’n amlwg bod rhai pobl yn anghytuno ond credaf eu bod mewn lleiafrif bach. Yr oedd Cymdeithas Seneddol yr Ymerodraeth yn cynnwys y Deyrnas Unedig, Awstralia, Canada, Seland Newydd, De Affrica a Newfoundland. Ar y pryd, yr oedd yr olaf o’r rhain yn dal i fod yn wlad annibynnol nad oedd wedi ymuno â Ffederasiwn Canada. Fodd bynnag, buan y sylweddolwyd nad oedd y teitl yn addas ar ôl y rhyfel, pan ddaeth y Llywodraeth Lafur i rym, ac y rhoddwyd annibyniaeth i India a nifer o wledydd eraill y Gymanwlad. Ym 1948, fe’i hailenwyd yn Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad pan ymddangosodd gwledydd annibynnol newydd y Gymanwlad, megis India. Er bod y Frenhines yn dal i fod yn ben ar y Gymanwlad, nid yw cangen y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn fwy nac yn llai nag unrhyw gangen arall, boed hwy’n ganghennau ffederal neu’n ganghennau gwladwriaeth.

There are two conditions for joining the CPA. One is that any country has to be a member of the Commonwealth and the federal branch of that country must send delegates to CHOGM. The second condition to become and remain a member is that the country must have a parliament. Countries like Brunei, which are not democracies, are members of the Commonwealth but are not members of the CPA simply because they do not have a parliament. I am not being pejorative in mentioning Brunei but simply making a point about this second condition. In 1994 and 1995, 13 new branches were admitted including Seychelles, the South African federal branch and seven of its provinces, Pakistan and Zanzibar. Zanzibar was able to become a member because although it is part of Tanzania, it has a separate legislature with legislative responsibility. Similarly our Assembly has legislative responsibility. I know from the present CPA secretary general and the past Speaker of the Nova Scotia Parliament, Art Donahoe, that the motion will meet all the requirements and will have his enthusiastic support at the next annual conference in Trinidad in September.

Gosodir dau amod wrth ymuno â’r CPA. Un yw bod rhaid i unrhyw wlad fod yn aelod o’r Gymanwlad a rhaid i gangen ffederal y wlad honno anfon cynrychiolwyr i CHOGM. Yr ail amod er mwyn cael dod a pharhau’n aelod yw bod rhaid i wlad gael senedd. Mae gwledydd megis Brunei, nad ydynt yn cynnal trefn ddemocrataidd, yn aelodau o’r Gymanwlad, ond nid ydynt yn aelodau o’r Gymdeithas am y rheswm syml nad oes ganddynt senedd. Nid bod yn ddifrïol yr wyf wrth sôn am Brunei. Gwneud pwynt yr wyf yn hytrach am yr ail amod hwn. Yn 1994 a 1995, derbyniwyd 13 o ganghennau newydd, gan gynnwys Seychelles, cangen ffederal De Affrica a saith o’i thaleithiau, Pacistan a Zanzibar. Llwyddodd Zanzibar i ddod yn aelod er ei bod yn rhan o Tanzania, am fod ganddi gorff deddfu ar wahân gyda chyfrifoldeb deddfwriaethol. Yn yr un modd, mae gan ein Cynulliad gyfrifoldeb deddfwriaethol. Cefais wybod drwy ysgrifennydd cyffredinol presennol y CPA a chyn Lefarydd Senedd Nova Scotia, Art Donahoe, y bydd ein cynnig yn cyflawni’r holl ofynion ac y caiff ei gefnogaeth frwd yn y gynhadledd flynyddol nesaf yn Nhrinidad ym mis Medi.

We have a motion before us to increase the number of branches affiliated to the CPA from 135 to 136. I hope that it will be passed unanimously. I am sure it will pass and I hope to convene a meeting with you, Dafydd, before we pack up for the summer recess to form a branch in waiting. I look forward to our Assembly taking its place in the world forum—the forum of the family of nations.

Mae’r cynnig sydd ger ein bron yn gofyn am gynyddu nifer y canghennau sydd yn aelodau o’r Gymdeithas o 135 i 136. Gobeithiaf y byddwn yn derbyn y cynnig yn unfrydol. Yr wyf yn siŵr y bydd y cynnig yn llwyddo a gobeithiaf drefnu cyfarfod gyda chi, Dafydd, cyn inni roi’r gorau iddi dros wyliau’r haf er mwyn sefydlu darpar gangen. Edrychaf ymlaen at weld ein Cynulliad yn cymryd ei le ar fforwm y byd—fforwm teulu’r cenhedloedd.

Rod Richards spoken in English p. 31

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 31

Mr Llywydd, on behalf of the Conservative Party I am delighted to support the motion along with the other party leaders and John Marek. I have to say I agreed with almost every word he said. What I liked about his remarks was that they came from the heart. He did not have to write them down. We can learn an awful lot from parliaments and assemblies in other parts of the world and not just the one in Westminster, which I know people make disparaging remarks about. There is a lot of good practice in other parts of the world. I know, Llywydd, that you take a close interest in what other Parliaments do.

Mr Llywydd, ar ran y Blaid Geidwadol, mae’n bleser gennyf gefnogi’r cynnig gydag arweinyddion y pleidiau eraill a John Marek. Rhaid imi ddweud imi gytuno â bron pob gair o’i enau. Yr hyn a hoffais am ei sylwadau oedd eu bod yn dod o’r galon. Nid oedd rhaid iddo’u hysgrifennu. Gallwn ddysgu llawer iawn gan seneddau a chynulliadau rhannau eraill o’r byd ac nid dim ond gan y senedd yn San Steffan, sydd, mi wn, yn destun sylwadau difrïol gan bobl. Mae llawer o arferion da ar waith mewn rhannau eraill o’r byd, ac fe wn fod gennych chithau, Lywydd, ddiddordeb mawr yn yr hyn a wneir mewn Seneddau eraill.

What I like about the CPA’s constitution is that it speaks of the pursuit of the positive ideals of parliamentary democracy. I could not help noticing that the Business Secretary found it rather difficult to use the words ‘parliamentary democracy’. I find it very easy because, like John Marek, and many people in every other party, we believe fervently in parliamentary democracy, and never more so than today, when there is a threat to our parliamentary democracy at Westminster, the mother of Parliaments. Over the last two years there have been attempts to sideline Westminster and diminish its influence. I need hardly remind Members that almost the first action of the Prime Minister was to reduce Prime Minister’s Question Time from twice to once a week, thereby making himself less accountable. I am told that his attendances at Cabinet are becoming infrequent.

Un peth sydd yn fy mhlesio am gyfansoddiad y CPA yw ei fod yn sôn am geisio’r delfrydau cadarnhaol a berthyn i ddemocratiaeth seneddol. Ni allwn lai na sylwi bod y Trefnydd yn ei chael hi’n anodd braidd defnyddio’r geiriau ‘democratiaeth seneddol’. Yr wyf i’n cael y geiriau hynny’n hawdd iawn, oherwydd, fel John Marek, a llawer o bobl ym mhob plaid arall, credwn yn frwd mewn democratiaeth seneddol, a heddiw yn fwy nag erioed o’r blaen, pan welir democratiaeth seneddol yn San Steffan, mam y Seneddau, dan fygythiad. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, gwelwyd ymdrechion i yrru San Steffan i’r cyrion a lleihau ei ddylanwad. Prin bod angen imi atgoffa’r Aelodau mai un o’r camau cyntaf a gymerodd y Prif Weinidog oedd cwtogi sesiwn y Cwestiynau i’r Prif Weinidog o ddwywaith i unwaith yr wythnos, gan ei wneud ei hun yn llai atebol o ganlyniad. Clywais mai’n anaml y bydd yn bresennol yn y Cabinet.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 32

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

Order. This motion is not about Westminster or Whitehall but the affiliation of this Assembly. I would be grateful if you could confine your remarks to it. I understand the line of your preamble.

Trefn. Nid oes a wnelo’r cynnig hwn â San Steffan na Whitehall ond â chynnig ynghylch y Cynulliad yn ymaelodi â’r CPA. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cyfyngu’ch sylwadau i hynny. Deallaf drywydd eich rhagymadrodd.

Rod Richards spoken in English p. 32

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 32

I am underlining the importance of parliamentary democracy at this time and trying to explain some of my concerns which are shared by many other people about what is happening to the mother of Parliaments. Last week I was very sad to learn that Tony Benn was leaving the House of Commons after some 50 years. I have not always agreed with everything he has said but we have agreed on an awful lot. What I like about him is that he is independent minded and that he will get up in the House of Commons and say what he thinks, irrespective of party Whips, business managers and so on. The sad thing about his departure from Parliament, was that he said he was leaving so that he could become more involved with politics and say what he really believed. That exemplifies part of the problem.

Yr wyf yn tanlinellu pwysigrwydd democratiaeth seneddol ar hyn o bryd ac yn ceisio esbonio rhai o fy mhryderon a rennir gan lawer o bobl eraill ynghylch beth sydd yn digwydd i fam y Seneddau. Yr wythnos ddiwethaf, yr oeddwn yn drist iawn o glywed bod Tony Benn yn ymadael â Thŷ’r Cyffredin ar ôl rhyw 50 mlynedd. Nid wyf bob amser wedi cytuno â’r hyn a ddywedodd, ond yr ydym wedi cytuno ar lawer iawn o bethau. Yr hyn yr wyf yn ei hoffi amdano yw ei fod yn ŵr annibynnol ei farn sydd yn fodlon codi yn Nhŷ’r Cyffredin a dweud ei ddweud, ni waeth am Chwipiau’r blaid, rheolwyr busnes ac yn y blaen. Un peth trist am ei ymadawiad â’r Senedd oedd ei fod wedi dweud ei fod yn gadael er mwyn ymwneud mwy â gwleidyddiaeth a dweud yr hyn yr oedd wir yn ei gredu. Dyma un enghraifft o ran o’r broblem.

Only today, I read in the newspapers that the Prime Minister had said that he was fed up of being stabbed in the back by the public sector unions. Frankly, you can get stabbed in the back only if you are looking the wrong way and I believe he has been doing so. I do not think for one moment that the First Secretary would ever be stabbed in the back because the Business Secreatry looks after him very well.

Dim ond heddiw, darllenais yn y papurau newydd i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi cael llond bol o gael cyllell yn ei gefn gan undebau’r sector cyhoeddus. A dweud y gwir, dim ond os ydych chi’n edrych i’r cyfeiriad anghywir y gallwch chi gael cyllell yn eich cefn a chredaf mai dyna y mae wedi bod yn ei wneud. Ni chredaf am funud y byddai’r Prif Ysgrifennydd yn cael ei drywanu yn ei gefn. Mae’r Trefnydd yn ei warchod yn ofalus iawn.

Alison Halford spoken in English p. 32

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 32

Point of order. What has this to do with the debate?

Mater o drefn. Beth sydd a wnelo hyn â’r ddadl?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 32

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

I have already advised Rod Richards to concentrate on the motion. I understand that he is about to do so.

Yr wyf eisoes wedi gofyn i Rod Richards ganolbwyntio ar y cynnig. Deallaf ei fod ar fin gwneud hynny.

Rod Richards spoken in English p. 32

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 32

I am delighted that John Marek secured the invitation because some within the Assembly, and others who take a close interest in what we do here, might have wondered whether we would qualify in terms of parliamentary democracy. We know that the Government does not encourage vigorous debates in this place. Indeed, I am told that the BBC is seriously considering changing the name of its new Sunday programme, The Point to ‘What’s the Point?’ in September.

Yr wyf yn hynod o falch i John Marek sicrhau’r gwahoddiad oherwydd efallai y byddai rhai pobl o fewn y Cynulliad ac eraill sydd â diddordeb mawr yn yr hyn a wnawn yma wedi amau a fyddem yn gymwys o ran bod yn ddemocratiaeth seneddol. Gwn nad yw’r Llywodraeth yn ein hannog i gynnal dadleuon grymus yn y fan hon. Yn wir, deallaf fod y BBC o ddifrif yn ystyried newid enw’i rhaglen newydd ar y Sul o The Point i ‘What’s the Point?’ ym mis Medi.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 33

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

Order. I would be grateful, Rod, if you came to the point.

Trefn. Byddwn yn ddiolchgar, Rod, pe baech yn dod at y pwynt.

Rod Richards spoken in English p. 33

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 33

Indeed, Llywydd. We hear the words, ‘openness’ and ‘inclusiveness’, yet certain recent events lead me to question the existence of the parliamentary democracy that we are supposed to exhibit in this place. A few days ago my colleague, Jonathan Morgan sought to ask the First Secretary an oral question and the question he tabled—

Wrth gwrs, Lywydd. Clywn y geiriau ‘bod yn agored’ ac yn ‘gynhwysol’, eto i gyd, mae rhai digwyddiadau’n ddiweddar wedi fy arwain i amau bodolaeth y ddemocratiaeth seneddol yr ydym i fod i’w harddangos yma. Ychydig ddiwrnodau yn ôl, ceisiodd fy nghydweithiwr, Jonathan Morgan, ofyn cwestiwn llafar i’r Prif Ysgrifennydd a’r cwestiwn a gyflwynodd—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 33

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

Order. Tabling questions is a matter for my office. It is not appropriate to discuss it in this public forum.

Trefn. Mater i’m swyddfa yw cyflwyno cwestiynau. Nid yw’n briodol ei drafod yn y fforwm cyhoeddus hwn.

Rod Richards spoken in English p. 33

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 33

If I may move on to talk about secondary legislation—

Os caf fwrw ymlaen i sôn am ddeddfwriaeth eilaidd—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 33

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

I think not.

Na chewch.

Rod Richards spoken in English p. 33

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 33

I would like briefly to make the point because the Business Secretary, who is a cross between Peter Mandelson and Screaming Lord Sutch, is trying to arrange for secondary legislation to be nodded through the Business Committee without coming before the Assembly. I am talking about important secondary legislation such as teacher appraisal regulations. Why would the Business Secretary, if he believes in parliamentary democracy, which is what the motion is about—

Hoffwn wneud y pwynt yn gryno oherwydd mae’r Trefnydd, sydd yn gyfuniad o Peter Mandelson a Screaming Lord Sutch yn ceisio trefnu i ddeddfwriaeth eilaidd gael ei derbyn yn ffurfiol drwy’r Pwyllgor Busnes heb ddod gerbron y Cynulliad. Cyfeiriaf at ddeddfwriaeth eilaidd bwysig megis y rheoliadau arfarnu athrawon. Pam fyddai’r Trefnydd, os yw’n credu mewn democratiaeth seneddol, sef byrdwn y cynnig hwn—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 33

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

Order. This is not relevant to the motion. It is not about the way we conduct our business here. That comes under Standing Orders, and I would be grateful if you brought your comments on the matter to a close.

Trefn. Nid yw hyn yn berthnasol i’r cynnig. Nid oes a wnelo’r cynnig â’r ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes yma. Daw hynny o dan y Rheolau sefydlog, a byddwn yn ddiolchgar pe baech chi’n dirwyn eich sylwadau ar y mater i ben.

Rod Richards spoken in English p. 33

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 33

I shall bring my remarks to a close by welcoming the motion. I proposed it, and I agree with what John Marek has said. However, the motion is about promoting parliamentary democracy and in this Assembly we have to be sure of the way we operate. There are certain Government interests in the Assembly and though they talk about openness and inclusiveness, they do not fully exhibit that in their conduct. I urge the Government to look closely at the way this Assembly is run in the light of the fact that, like the Commonwealth Parliamentary Association, we are here to promote parliamentary democracy.

Dygaf fy sylwadau i ben drwy groesawu’r cynnig. Fe’i cynigiais, a chytunaf â’r hyn a ddywedodd John Marek. Fodd bynnag, hyrwyddo democratiaeth seneddol yw byrdwn y cynnig ac yn y Cynulliad hwn, rhaid inni fod yn siŵr ynghylch sut y byddwn yn gweithredu. Cynrychiolir rhai o fuddiannau’r Llywodraeth yn y Cynulliad hwn ac er eu bod yn sôn am fod yn agored ac yn gynhwysol, nid yw eu hymddygiad yn adlewyrchu hynny’n llwyr. Anogaf y Llywodraeth i edrych yn ofalus ar sut mae’r Cynulliad hwn yn cael ei gynnal yng ngoleuni’r ffaith ein bod ninnau, fel Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, yma i hyrwyddo democratiaeth seneddol.

Michael German spoken in English p. 34

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 34

You will forgive me, Mr Presiding Officer, if I do not take quite the same tack as Rod Richards. However, perhaps you will allow me a little preamble, or, in the words of the Legislation Committee, a recital—a new word I have learnt, which precedes everything. I have now seen Rod Richards in action, and there is no truth in the rumour that he walks backwards down the corridors. Just think about it!

Maddeuwch imi, Mr Llywydd, os nad wyf yn dilyn yr union drywydd a ddilynwyd gan Rod Richards. Fodd bynnag, efallai y caniatewch imi ragymadroddi ychydig, neu, yng ngeiriau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, gyflwyno ‘recital’ —gair newydd a ddysgais sydd yn rhagflaenu popeth. Yr wyf bellach wedi gweld Rod Richards ar waith, ac nid oes dim gwirionedd yn y si ei fod yn cerdded wysg ei gefn i lawr y coridorau. Meddyliwch am y peth!

I welcome the motion and I pay particular tribute to John Marek. It is not easy, when you are prepared to stand up and say what you think in front of your colleagues and perhaps embarrass some of them, to propose a motion that has almost universal support. I hope that it will have universal support here today.

Croesawaf y cynnig a hoffwn dalu teyrnged arbennig i John Marek. Nid yw’n hawdd pan fyddwch chi’n barod i sefyll ar eich traed a dweud eich dweud gerbron eich cydweithwyr gan wneud i rai ohonynt deimlo’n chwithig efallai, i gynnig cynnig y mae pawb fwy neu lai’n ei gefnogi. Gobeithio y caiff gefnogaeth unfryd yma heddiw.

The motion is important because it represents this Assembly’s first step towards becoming an international Assembly and having an international dimension. There is a genuinely international spirit in Wales. I shall give two examples of that, which show why the motion is important for us.

Mae’r cynnig yn bwysig am ei fod yn cynrychioli cam cyntaf y Cynulliad hwn tuag at ddod yn Gynulliad rhyngwladol a chael dimensiwn rhyngwladol. Mae ysbryd gwirioneddol ryngwladol ar droed yng Nghymru. Rhoddaf ddwy enghraifft o hynny sydd yn dangos pam y mae’r cynnig yn bwysig inni.

The first is the Wales-Lesotho link. Many of you will have been involved at some stage in your recent careers with that link, in which Wales, largely unaided by state financing, has played a major part in trying to assist one of the poorest nations in Africa. The Queen of Lesotho’s recent visit here was particularly welcome.

Y cyntaf yw’r ddolen Cymru-Lesotho. Bydd llawer ohonoch yn ystod eich gyrfa’n ddiweddar wedi cael cysylltiad gyda’r ddolen honno. Heb fawr o gefnogaeth ar ffurf arian gan y wladwriaeth, mae Cymru wedi gwneud cyfraniad o bwys wrth geisio cynorthwyo un o genhedloedd tlotaf Affrica. Croesawyd yn arbennig ymweliad Brenhines Lesotho â Chymru yn ddiweddar.

The second example also reflects people’s interest. Almost half the Members of this Assembly—29 when I last looked—have now signed the statement of opinion on Jubilee 2000. By the time we look again, I hope those Members who have not yet filled in their pieces of paper will have added their names. I believe that a genuine majority in this Assembly accept an international perspective.

Mae’r ail enghraifft hefyd yn adlewyrchu diddordeb pobl. Erbyn hyn, mae bron hanner Aelodau o’r Cynulliad—29 pan edrychais ddiwethaf—wedi llofnodi’r datganiad barn ar Jiwbilî 2000. Erbyn inni edrych eto, gobeithiaf y bydd yr Aelodau hynny nad ydynt eto wedi llenwi’u darnau o bapur wedi ychwanegu eu henwau hwythau. Credaf fod mwyafrif dilys y Cynulliad hwn yn arddel safbwynt rhyngwladol.

Through this motion, we are trying to say that we want to look outwards and be confident about ourselves in a way that we have never been before, but that we also want to be humble enough to learn from and listen to others, who can teach us and help us to achieve a thriving democracy in Wales. Therefore, it is a two-way street. It will allow us to welcome guests here and learn from their experiences but beyond that it will provide the first platform for a valuable link to those economic, social and cultural agencies in Wales that want to develop partnerships and to look outwards. Above all, this motion will enable us to be a facilitator for playing a part on the international stage.

Drwy’r cynnig hwn, ceisiwn ddweud ein bod am edrych tuag allan a dangos hyder ynom ni’n hunain mewn ffordd nad ydym erioed wedi gwneud o’r blaen, ond ein bod hefyd am fod yn ddigon gostyngedig i ddysgu gan eraill a gwrando ar y sawl sydd yn gallu’n dysgu a’n cynorthwyo i greu democratiaeth sydd yn ffynnu yng Nghymru. Felly, mae hon yn stryd ddwyffordd. Bydd yn gyfle inni groesawu gwesteion yma a dysgu o’u profiadau, ond y tu hwnt i hynny, dyma’r llwyfan gyntaf i greu cysylltiad gwerthfawr â’r asiantaethau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hynny yng Nghymru sydd am ddatblygu partneriaethau ac edrych tuag allan. Yn anad dim, bydd y cynnig hwn yn fodd inni fod yn hwylusydd er mwyn chwarae rhan ar y llwyfan rhyngwladol.

I welcome the motion because it will bring us into contact with many of the poorer countries in the world, particularly those in Southern Africa below the Sahara, which most need assistance, and bring home to us and hopefully to the people of Wales, that we are the lucky ones, the people who benefit. The spirit of genuine humility that I detect in the Welsh people will be represented by this motion. Therefore, I deeply appreciate John’s work in introducing it. I hope it will enable us to take that first step towards putting Wales on the international stage.

Croesawaf y cynnig oherwydd bydd yn creu cysylltiad rhyngom a nifer o wledydd tlotaf y byd, yn enwedig y rheiny sydd fwyaf eu hangen yn Neheudir Affrica o dan y Sahara. Byddant yn dangos i ni, a gobeithio i bobl Cymru, mai ni yw’r rhai ffodus, y bobl sydd yn elwa. Mae’r cynnig hwn yn cynrychioli’r ysbryd o ostyngeiddrwydd diffuant a welaf ym mhobl Cymru. Felly, gwerthfawrogaf yn fawr waith John wrth ei gyflwyno. Gobeithiaf y bydd yn fodd inni gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at roi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 35

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 35

Ategaf lawer iawn o’r sylwadau a wnaed ynglŷn â’r cynnig. Yr wyf hefyd am longyfarch John Marek ar ei ddyfalbarhad. Mae John wedi ceisio dwyn y mater hwn i sylw’r Cynulliad ers tro ac yr wyf yn meddwl y dylem ei longyfarch ar lwyddo i gael y pedair plaid i gytuno ar y cynnig. Mae’r pedwar arweinydd wedi ei arwyddo. Wrth inni geisio sefydlu system newydd o lywodraeth yng Nghymru, mae gennym gyfle, drwy dderbyn y gwahoddiad yma, i rannu ein profiadau ag Aelodau o Seneddau rhanbarthol a chenedlaethol yng ngwledydd y Gymanwlad. Fel y dywedodd Mike German, mae’r cynnig yn ategu’r ffaith fod yna gysylltiadau rhyngwladol rhwng Cymru a gwledydd eraill. Mae’r rhain wedi bodoli er nad oedd gennym sefydliad cenedlaethol y gallem uniaethu ag ef.

I endorse a great deal of what has been said about this motion. I also congratulate John Marek on his perseverance. I know that John has been trying to draw the matter to the attention of the Assembly for some time and we should congratulate him on his success in getting the four parties to agree to the motion. The four leaders have signed the motion. As we try to set up a new system of government in Wales, accepting this invitation gives us an opportunity to share our experiences with Members from regional and national Parliaments in the countries of the Commonwealth. As Mike German said, the motion endorses the fact that there are international links between Wales and other countries. These existed although we did not have a national institution with which we could identify.

Bydd y cysylltiadau yr ydym wedi eu gwneud â gwledydd fel Lesotho yn cryfhau oherwydd pe byddem yn aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad byddai gennym statws i sicrhau bod trafodaethau’n digwydd nid yn unig ar lefel bersonol ond hefyd ar lefel Lywodraethol.

Our links with countries such as Lesotho will be strengthened by being members of the Commonwealth Parliamentary Association because we will have the status to ensure that discussions take place not only on a personal level but also on a Government level.

Yr wyf yn gobeithio y bydd ymaelodi â’r Gymdeithas hon yn gyfle inni ddatblygu’r cysylltiadau hyn, nid yn unig yn Lesotho ond mewn nifer o wledydd eraill. Erbyn hyn, mae cymaint o wledydd bach yn y byd sydd â systemau llywodraethol cenedlaethol a rhanbarthol, fel y gallwn ni ddysgu o’u profiadau ac y gallwn gyflwyno ein profiadau ni—nid yn unig yn y Gymanwlad, ond gyda llawer o seneddau rhanbarthol a chenedlaethol yng ngorllewin Ewrop. Mae yna brofiadau pwysig i’w dysgu ohonynt. Dyna paham yr wyf mor frwd o blaid y cynnig hwn.

I hope that this becoming a member of this Association will allow us to develop these links not only in Lesotho but with a number of other countries. There are by now so many small countries in the world that have national and regional parliamentary systems from which we can learn and to which we can present our experiences—not only in the Commonwealth but in a number of other regional and national parliaments in western Europe. There are important lessons to be learned and that is why I am so enthusiastically in favour of the motion.

Cynnig Andrew Davies t. 36

Motion Andrew Davies p. 36

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Dadl ar y Bartneriaeth Wledig

Debate on the Rural Partnership

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 36

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 36

I propose that the Assembly

Yr wyf yn cynnig bod y Cynulliad

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 37

Yr wyf wedi dethol y gwelliant sydd yn enw Ieuan Wyn Jones.

I have selected the amendment in the name of Ieuan Wyn Jones.

Christine Gwyther spoken in English p. 37

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 37

Ieuan’s amendment shows his determination to keep the Committee’s nose to the grindstone. I am delighted that the Assembly is debating the economy as it is timely to consider this fundamental issue. The difficulties facing our rural communities are well documented. Every day, those of us who represent rural constituencies witness the pressures caused by peripherality, out-migration of young people and the shortage of quality, well-paid jobs. These problems threaten the viability of our communities and businesses. That cannot be allowed to continue. Local services, health care, transport and recreational facilities are also under threat. We must also remember that the Assembly has inherited a crisis in farming.

Mae gwelliant Ieuan yn dangos pa mor benderfynol yw i gadw trwyn y Pwyllgor ar y maen. Yr wyf wrth fy modd bod y Cynulliad yn dadlau am yr economi gan ei bod yn amserol inni ystyried y mater sylfaenol hwn. Mae digon o dystiolaeth o’r anawsterau y mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Bob dydd, mae’r rheini ohonom sydd yn cynrychioli etholaethau gwledig yn tystio i’r pwysau a achosir drwy broblemau byw ar y cyrion, pobl ifanc yn gadael a diffyg swyddi o safon gyda chyflogau da. Mae’r problemau hyn yn bygwth hyfywedd ein cymunedau a’n busnesau. Ni ellir gadael i hynny barhau. Mae gwasanaethau lleol, gofal iechyd, trafnidiaeth a chyfleusterau hamdden hefyd dan fygythiad. Rhaid inni hefyd gofio bod y Cynulliad wedi etifeddu argyfwng ym myd ffermio.

The dairy industry and the Assembly have awaited the publication of the Competition Commission’s report on Milk Marque. The period of uncertainty is over. The report has been published and, following representations by Alun Michael and myself, the Secretary of State for Trade and Industry, Stephen Byers, has announced his decisions on the matter. He has accepted the Commission’s findings that Milk Marque is exploiting its monopoly of raw milk sales, resulting in consumers paying more for fresh milk than they should and damaging the competitiveness of the dairy processing sector. The Commission has set out the grounds of its analysis in the report. I am sure that we shall talk about that in the future.

Mae’r diwydiant llaeth a’r Cynulliad wedi bod yn disgwyl am gyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cystadleuaeth ar Milk Marque. Daeth y cyfnod o ansicrwydd i ben. Cyhoeddwyd yr adroddiad ac, ar ôl i Alun Michael a minnau ddadlau’r achos, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, Stephen Byers, wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar y mater. Mae wedi derbyn canfyddiadau’r Comisiwn fod Milk Marque yn manteisio ar ei fonopoli dros werthu llaeth amrwd ac, o ganlyniad, bod defnyddwyr yn talu mwy am laeth ffres nag y dylent gan niweidio gallu’r sector prosesu llaeth i fod yn gystadleuol. Mae’r Comisiwn wedi disgrifio sail ei ddadansoddiad yn yr adroddiad. Yr wyf yn sicr y byddwn yn siarad am hynny yn y dyfodol.

Stephen Byers has not backed the Commission’s recommendation on breaking up Milk Marque, although he has decided that it cannot go further into processing while it accounts for such a large volume of sales. Members and their constituents will be relieved that the report has been published as it opens up the debate about the future of Milk Marque and the wider industry. I reinforce the pledge given by Alun Michael that the Assembly will continue to work with the dairy industry to develop processing. The Agriculture and Rural Development Committee will discuss the document for the first time before the summer recess. I am sure it will not be the last time.

Nid yw Stephen Byers wedi cefnogi argymhellion y Comisiwn ar ddiddymu Milk Marque, er ei fod wedi penderfynu na chaniateir iddo ddatblygu’r gwaith prosesu ymhellach tra’i fod yn rhoi cyfrif am gynifer o’r gwerthiant. Bydd yr Aelodau a’u hetholwyr yn falch iawn bod yr adroddiad wedi ei gyhoeddi gan ei fod yn agor y ddadl am ddyfodol Milk Marque a’r diwydiant ehangach. Yr wyf yn ategu’r addewid a roddodd Alun Michael sef y bydd y Cynulliad yn dal i weithio gyda’r diwydiant llaeth i ddatblygu prosesu. Bydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn trafod y ddogfen am y tro cyntaf cyn gwyliau’r haf. Yr wyf yn sicr nad hwn fydd y tro olaf.

Jocelyn Davies spoken in English p. 38

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 38

As a consumer, I welcome the emphasis that Stephen Byers puts on consumers but has he said anything about the price that farmers get for milk?

Fel defnyddiwr, yr wyf yn croesawu’r pwyslais y mae Stephen Byers yn ei roi ar ddefnyddwyr ond a yw ef wedi dweud unrhyw beth am y pris y mae ffermwyr yn ei gael am laeth?

Christine Gwyther spoken in English p. 38

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 38

The price that farmers get for milk has consistently got lower. That is a concern for the industry and for the Assembly. However, I do not know whether Stephen Byers has commented on the issue specifically as I have not got his report in front of me. As I mentioned, Jocelyn, the Commission’s report stated why it came to its conclusion. After we discuss it, I am sure that you will want to hear what the Committee’s conclusions were. This is not the last time that we will discuss this issue and I accept your concerns.

Mae’r pris y mae ffermwyr yn ei gael am laeth wedi gostwng yn gyson. Mae hynny’n peri pryder i’r diwydiant ac i’r Cynulliad. Fodd bynnag, nid wyf yn gwybod a yw Stephen Byers wedi rhoi sylwadau ar y mater yn benodol gan nad yw ei adroddiad o’m blaen. Fel y crybwyllais, Jocelyn, mae adroddiad y Comisiwn yn nodi pam y daeth i’w gasgliadau. Ar ôl inni ei drafod, yr wyf yn sicr y byddwch am glywed beth oedd casgliadau’r Pwyllgor. Nid hwn yw’r tro olaf y byddwn yn trafod y mater hwn ac yr wyf yn derbyn eich pryderon.

The Assembly is a new beginning for Wales and we must ensure that it is a new beginning for the economy of rural Wales. We are looking towards new opportunities offered by Objective 1 status for west Wales and the prospect of Objective 2 status for some of rural east Wales. We are trying to maximise coverage of that region, including areas such as Powys. Agenda 2000 points to reforms in the agricultural market and talks about a more integrated approach to rural development. The new European structural fund programmes offer a unique opportunity to drive up prosperity and self-confidence in rural communities. We need to ensure that we use European funding in the best way that we can. Our approach has to be a joined-up, partnership approach. Community initiatives are also going to operate more in Wales. LEADER Plus will build on the success of the current LEADER programmes and the INTERREG programme will continue to develop a closer relationship between west Wales and Southern Ireland.

Mae’r Cynulliad yn ddechrau newydd i Gymru a rhaid inni sicrhau ei fod yn ddechrau newydd i economi’r Gymru wledig. Yr ydym yn troi ein golygon tuag at y cyfleoedd newydd a gynigir drwy statws Amcan 1 ar gyfer gorllewin Cymru a’r posibilrwydd o statws Amcan 2 ar gyfer rhai o ardaloedd gwledig dwyrain Cymru. Yr ydym ni’n ceisio sicrhau y bydd cymaint â phosibl o’r ardal honno yn cael ei chynnwys, gan gynnwys ardaloedd megis Powys. Mae Agenda 2000 yn cyfeirio at ddiwygiadau yn y farchnad amaeth ac yn siarad am ddull mwy integredig o ddatblygu cefn gwlad. Mae rhaglenni newydd cronfa strwythurol Ewrop yn cynnig cyfle unigryw i feithrin ffyniant a hunanhyder yn ein cymunedau gwledig. Rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio arian Ewrop yn y ffordd orau bosibl. Rhaid inni weithredu gyda’n gilydd, mewn partneriaeth. Bydd mentrau cymunedol hefyd yn gwneud mwy yng Nghymru. Bydd LEADER Plus yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni LEADER cyfredol a bydd rhaglen INTERREG yn dal i greu perthynas agosach rhwng gorllewin Cymru a De Iwerddon.

European programmes are only one piece of the jigsaw. The deep-rooted challenges facing rural Wales need a long-term approach based on partnership. By that, I do not mean sitting around a table mulling over the issues but constructive dialogue and action through openness and positive debate that leads towards a sustainable and common goal. That goal is a prosperous and sustainable rural economy because the people whom we represent deserve it.

Dim ond un darn o’r jig-so yw rhaglenni Ewrop. Rhaid sicrhau camau hirdymor, yn seiliedig ar bartneriaeth, i wynebu’r heriau dwfn y mae’r Gymru wledig yn eu hwynebu. Nid eistedd o amgylch bwrdd yn cnoi cil ar y materion yr wyf fi’n ei feddwl ond, yn hytrach, deialog a gweithredu adeiladol drwy ddadlau cadarnhaol ac agored a fydd yn arwain at un nod gyffredin a chynaliadwy. Y nod honno yw economi wledig ffyniannus a chynaliadwy gan fod y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli yn haeddu hynny.

In November 1998, the Labour Government formed the Rural Partnership for Wales after a wide-ranging consultation. It is a fairly new body but it has plenty of energy and expertise. The rural statement is long but I hope that you have all had a chance to read it. It shows that the partnership can see the problems, is imaginative about the solutions and is determined to see them through. When I attended the last partnership meeting in May, I was impressed by its sense of commitment and its willingness to tackle the big issues and identify solutions that cut across a wide agenda.

Ym mis Tachwedd 1998, ffurfiodd Llywodraeth Lafur Bartneriaeth Wledig Cymru ar ôl ymgynghori’n helaeth. Corff cymharol newydd ydyw ond mae ganddo ddigon o egni ac arbenigedd. Mae’r datganiad gwledig yn faith ond gobeithiaf eich bod chi oll wedi cael cyfle i’w ddarllen. Dengys y gall y bartneriaeth weld y problemau, ei bod yn llawn dychymyg am yr atebion ac yn benderfynol o fwrw’r maen i’r wal. Pan fûm yng nghyfarfod diwethaf y bartneriaeth ym mis Mai, yr oeddwn i’n falch iawn o weld ei hymrwymiad a’i pharodrwydd i fynd i’r afael â’r materion mawr a chanfod atebion sydd yn torri ar draws agenda eang.

In the months ahead, I am determined that the partnership should continue to play its part, along with business, local government, the voluntary sector and others to promote the rural economy. The document will provide a solid base to start from as we develop our programmes and policies.

Yn ystod y misoedd nesaf, yr wyf yn benderfynol y dylai’r bartneriaeth barhau i chwarae’i rhan, ochr yn ochr â busnesau, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol ac eraill i hybu’r economi wledig. Bydd y ddogfen yn gychwyn cadarn wrth inni lunio ein rhaglenni a’n polisïau.

I am pleased that the Agriculture and Rural Development Committee plans to consider the statement on 14 July. I look forward to working constructively with the Committee to drive the agenda forward. For today, I shall dip into the statement and pull out a couple of points that I am sure Members will develop in the debate.

Yr wyf yn falch bod y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn bwriadu ystyried y datganiad ar 14 Gorffennaf. Yr wyf yn edrych ymlaen at weithio’n adeiladol gyda’r Pwyllgor er mwyn gyrru’r agenda yn ei blaen. Am heddiw, fe wnaf droi’n gyflym at y datganiad a dethol cwpl o bwyntiau. Yr wyf yn sicr y bydd Aelodau am eu datblygu yn y ddadl.

First, issues of social inclusion and equal opportunities are vital in understanding the unique needs of rural Wales. Some Members raised these points yesterday in the childcare debate, where lack of transport was seen as a key issue in social exclusion and economic inactivity. It might be something to consider later during this debate.

Yn gyntaf, mae materion fel cymdeithas gynhwysol a chyfle cyfartal yn holl bwysig os ydym am ddeall anghenion unigryw’r Gymru wledig. Bu i rai Aelodau godi’r pwyntiau hyn ddoe yn y ddadl ar ofal plant, lle gwelwyd diffyg trafnidiaeth fel un o’r materion allweddol gydag dieithriwch cymdeithasol a syrthni economaidd. Efallai fod hyn yn rhywbeth i’w ystyried yn ddiweddarach yn ystod y ddadl hon.

Secondly, sustainability is vital, as it is more than just the protection and preservation of the countryside. We must have a sustainable society and economy that provides jobs and a variety of employment and training opportunities for all ages, groups, skill levels and aspirations.

Yn ail, mae cynaladwyedd yn holl bwysig, gan ei fod yn golygu mwy na dim ond amddiffyn a gwarchod cefn gwlad. Rhaid inni gael economi a chymdeithas gynaliadwy sydd yn cynnig swyddi ac amrywiol gyfleoedd o ran hyfforddiant a gwaith i bob oedran, grŵp, lefel sgil a dyhead.

Thirdly, in broadening the economic base, we need to encourage new businesses, support existing companies and keep up the drive for inward investment. We must nurture innovative activities and promote a climate where entrepreneurship can flourish. That is sadly lacking in our countryside.

Yn drydydd, wrth ledu’r sylfaen economaidd, rhaid inni annog busnesau newydd, cefnogi cwmnïau presennol a chynnal yr ymgyrch am mewn-fuddsoddi. Rhaid inni feithrin gweithgareddau arloesol a hybu hinsawdd lle gall mentergarwch ffynnu. Mae hyn, yn anffodus, yn ddiffygiol yn ein cefn gwlad.

Fourthly, community-based initiatives, in partnership with others, that focus on the areas of greatest need are vital.

Yn bedwerydd, mae mentrau â’u gwreiddiau yn y gymuned, mewn partneriaeth ag eraill, sydd yn canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd â’r anghenion mwyaf yn holl bwysig.

Fifthly is tourism, Rhodri’s baby. The appeal of Wales to visitors must be exploited to provide more opportunities and greater economic benefits. Tourism in rural areas works well when it is integrated effectively into local economies and is sensitive to the built environment and countryside. We must work to develop good practice.

Yn bumed yw twristiaeth, baban Rhodri. Mae’n rhaid inni fanteisio ar apêl Cymru i ymwelwyr er mwyn darparu mwy o gyfleoedd a sicrhau mwy o fanteision economaidd. Mae twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yn gweithio’n dda pan gaiff ei hintegreiddio’n effeithiol i’r economi leol a phan mae’n sensitif i’r amgylchedd adeiledig a chefn gwlad. Rhaid inni weithio i feithrin ymarfer da.

Sixthly, promoting lifelong learning and encouraging people to acquire the skills relevant for jobs in rural Wales is important. To invest in education and training is to invest in rural Wales’s future.

Yn chweched, hybu dysgu gydol eich oes ac annog pobl i feithrin y sgiliau sydd yn berthnasol ar gyfer swyddi yn y Gymru wledig yn bwysig. Drwy fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant byddwn yn buddsoddi yn nyfodol y Gymru wledig.

Seventhly, as Rhodri mentioned earlier, new technologies must be embraced, especially where they can help counter peripherality and generate new jobs.

Yn seithfed, fel y dywedodd Rhodri yn gynharach, rhaid elwa ar dechnolegau newydd, yn arbennig lle gallant helpu i wrthdroi’r sefyllfa o fod ar y cyrion a chreu swyddi newydd.

Finally, keeping our communities alive can be accomplished by encouraging young people to stay or return to their habitats. This will ensure that we have balanced communities with a living culture and a living language.

Yn olaf, gallwn gadw ein cymunedau yn fyw drwy annog pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i’w cynefinoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym gymunedau cytbwys gyda diwylliant byw a iaith fyw.

I hope that my words were food for thought. I give my sincere thanks to the members of the Rural Partnership for Wales for being so generous with their time and commitment in getting the document written. I also thank Jon Owen Jones for taking the group through to this point, in a spirit of openness and healthy debate. I look forward to working with them in future.

Gobeithiaf fod fy ngeiriau wedi rhoi ichi rywbeth i gnoi cil arno. Hoffwn estyn fy niolch cywiraf i aelodau Partneriaeth Wledig Cymru am fod mor hael gyda’u hamser a’u hymrwymiad yn ysgrifennu’r ddogfen. Diolchaf hefyd i Jon Owen Jones am arwain y grŵp ymlaen i’r pwynt hwn, yn naws dadl agored a iach. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 41

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 41

Mae Christine yn dod â’i sylwadau i’w terfyn ac yr wyf wedi clywed am y cynlluniau tymor hir, y partneriaethau a buddsoddi yn yr isadeiledd economaidd ac mewn hyfforddiant ac addysg ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yr wyf yn poeni gan nad wyf wedi clywed unrhyw gydnabyddiaeth—hyd yn oed wrth ymdrin ag ymchwiliad y Comiswn Monopolïau a Chydsoddiadau i Milk Marque a’u bwriad i geisio sicrhau mwy o gyfleoedd prosesu—o’r argyfwng dirfawr sydd yn wynebu ein hardaloedd gwledig. Mae cwmnïau, busnesau a ffermwyr yng nghefn gwlad yn wynebu methdaliad oherwydd yr amodau economaidd ac nid oes unrhyw gydnabyddiaeth o hynny ar ddechrau’r drafodaeth bwysig hon ar ddatblygu economi cefn gwlad. Os na fydd y Llywodraeth hon yn cydnabod hynny, ni fydd yn gwneud unrhyw beth i wynebu problemau mawr cefn gwlad.

Christine is drawing her comments to a close and I have heard about the long-term plans, the partnerships and investment in the economic infrastructure and training and education for the future. However, I am worried because I have not heard any acknowledgment—even when dealing with the Monopolies and Mergers Commission’s investigation into Milk Marque and their intentions to try to secure more processing opportunities—of the severe crisis facing our rural areas. Companies, businesses and farmers in the rural areas are facing bankruptcy because of the economic conditions and there is no recognition of that at the beginning of this important discussion about the development of the rural economy. If this Government does not recognise that, it will not do anything to address the major problems in rural areas.

Christine Gwyther spoken in English p. 41

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 41

You are right to keep up the pressure. I have not written this document, I am promoting it. It is a sad day for the Assembly if you do not believe that we should consider long-term plans seriously. Perhaps Rhodri would like to address his short-term aspirations when he responds.

Yr ydych chi’n iawn yn dal i bwyso. Nid myfi a ysgrifennodd y ddogfen hon, ei hyrwyddo yr ydwyf i. Mae’n ddiwrnod trist i’r Cynulliad os nad ydych yn credu y dylem ystyried cynlluniau tymor hir yn ddifrifol. Efallai y byddai Rhodri yn hoffi mynegi ei ddyheadau byrdymor wrth iddo ateb.

This document is a snapshot of the problems that exist and some long-term solutions. I would be delighted if people had short-term solutions. That would please all Assembly Members. I look forward to hearing your views.

Cipolwg ar y problemau sydd yn bodoli a rhai atebion hirdymor yw’r ddogfen hon. Buaswn wrth fy modd pe bai gan bobl atebion tymor byr. Byddai’n hynny’n plesio holl Aelodau’r Cynulliad. Edrychaf ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 42

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 42

Cynigiaf y gwelliant canlynol. Ar ddiwedd y cynnig, ychwanegu:

I propose the following amendment. At the end of the motion, add:

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 42

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh and English p. 42

Mae’r gwelliant yn cydnabod bod gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig her enfawr, sef cynnig arweiniad ar nifer o’r sylwadau sydd yn y ddogfen bwysig hon a baratowyd ar ran y Bartneriaeth Wledig. Croesawaf y ddogfen, cyn belled ag y mae’n mynd, a gobeithiaf y gallwn gael crynodeb ohoni. Mae’n anodd darllen dogfen 67 tudalen. Gobeithiaf y bydd modd cael dogfen lai. Efallai y gallwn drafod hynny yn y Pwyllgor.

in Welsh The amendment recognises that the Agriculture and Rural Development Committee has a massive challenge, namely to offer guidance on many of the observations in this document which was prepared on behalf of the Rural Partnership. I welcome the document, as far as it goes, and I hope that we can have a synopsis of it. It is difficult to read a 67 page document. I hope that it will be possible to secure a shorter document. Perhaps we could discuss that in the Committee.

Dyma un o’r dadleuon pwysicaf yn y sesiwn hwn oherwydd bydd y mater hwn yn cael ei drafod gan y Pwyllgor y caf fi’r fraint o’i gadeirio ac oherwydd y bydd yn profi a all y Cynulliad ddatblygu polisi yn effeithiol. Yng nghyd-destun yr economi wledig, bydd yn dangos a fedrwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sydd yn gweithio yn yr ardaloedd gwledig. Un o’r profion cyntaf a fydd yn wynebu’r Cynulliad fydd sicrhau pobl yn y Gymru wledig y gall y Cynulliad gynnig arweiniad ar y problemau dybryd sydd yn wynebu ein cymunedau.

in Welsh This is one of the most important debates in this session, because this matter will be discussed by the Committee that I have the privilege of chairing and because it will prove whether the Assembly can develop policy effectively. In the context of the rural economy, it will show whether we can make a real difference to the lives of people working in the rural areas. One of the first tests facing the Assembly will be to assure people in rural Wales that the Assembly can offer a lead on the grave problems facing people in our communities.

Yn ystod ymgyrch Ie y refferendwm ac etholiad y Cynulliad, cafwyd sgeptigiaeth iach ymhlith llawer o bobl a oedd yn byw yn yr ardaloedd gwledig ynglŷn â’r hyn y gallai’r Cynulliad ei gyflawni. Mae’r sgeptigiaeth yn rhoi her a chyfle inni. Nid mater o rannu gogledd a de na dwyrain a gorllewin ydyw. Ceir teimlad o fygythiad rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Mae eu gweithgarwch gwahanol yn golygu blaenoriaethau gwahanol. Hynny yw, mae pobl sydd yn byw mewn ardal wledig yn Sir Benfro yn teimlo’r un fath â phobl sydd yn byw yn Sir Fôn neu ym Mhowys. Mae’n rhaid inni wynebu hynny fel her.

in Welsh During the referendum’s Yes campaign and the Assembly elections, there was a healthy scepticism among many people living in rural areas as regards what the Assembly could achieve. That scepticism gives us both a challenge and an opportunity. It is not an issue of splitting north and south or east and west. There is a feeling of threat between rural and urban areas. Their different activities mean different priorities. That is, people living in a rural area of Pembrokeshire feel the same as people living in Anglesey or Powys. We must address that as a challenge.

Sylfaen y teimlad hwnnw yw’r canfyddiad y bydd yr arian yng nghyllideb y Cynulliad yn cael ei gyfeirio’n ormodol i’r ardaloedd trefol gan fod y rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad yn dod o ardaloedd o’r fath. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae penawdau yn y papurau newydd wedi dweud y bydd Caerdydd, er enghraifft, yn elwa’n sylweddol oherwydd sefydlu’r Cynulliad. Nid yw hynny bob amser yn newyddion da i’r ardaloedd gwledig.

in Welsh That feeling is based on the perception that the money in the Assembly’s budget will be excessively directed to urban areas because the majority of Assembly Members come from such areas. During the last few days, headlines in the newspapers have said that Cardiff, for example, will profit substantially because of the establishment of the Assembly. That is not always good news for the rural areas.

Mae’r Cynulliad wedi cymryd rhai camau pwysig i leddfu rhai o’r pryderon hyn. Mae gennym bwyllgor pwnc penodol ac Ysgrifennydd yn y Cabinet sydd yn gyfrifol am amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Mae hwnnw’n gyfle i’r Cynulliad roi ffocws pendant ar anghenion yr economi wledig a’r ffaith fod amaethyddiaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn y cyd-destun hwnnw. Mae’r ffaith fod gennym Bwyllgor yn codi gobeithion pobl ynglŷn â’n gallu i gyflawni. Mae disgwyliadau mawr ynghylch yr hyn y gall y Pwyllgor hwnnw ei wneud.

in Welsh The Assembly has taken some important steps to assuage some of these concerns. We have a specific subject committee and a Cabinet Secretary responsible for agriculture and rural development. That is an opportunity for the Assembly to give a definite focus to the needs of the rural economy and the fact that agriculture plays such an important role in that context. The fact that we have a Committee raises people’s hopes as regards our ability to deliver. There are great expectations of what that Committee can do.

I am determined to ensure—as, I am sure, are all Committee members—that the rural dimension is kept very high on the Assembly’s agenda. The Committee has already demonstrated that it is prepared to take action and act quickly. This was the first Committee to hit the ground running when the Assembly was established because, as you know, we set up an inquiry into the ban on beef on the bone and worked quickly. I thank all Committee members for their willingness to contribute positively to its deliberations. As you have heard, we have set a demanding schedule. We do not want to manage the decline of rural Wales. We want to make a positive contribution to the improvement of the economic position. We want to see a healthy and diverse rural economy. However, I recognise—as does the statement—that the base of rural Wales’s economy is very narrow and, therefore, extremely vulnerable. We are still dependent on the traditional industries of rural Wales. Everybody wants to see the economic base widened considerably.

yn Saesneg Yr wyf yn benderfynol o sicrhau—fel y mae holl aelodau’r Pwyllgor, yr wyf yn siŵr—y cedwir y dimensiwn gwledig yn uchel ar agenda’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor eisoes wedi dangos ei fod yn barod i gymryd camau a gweithredu’n gyflym. Dyma’r Pwyllgor cyntaf i ymgymryd â’r gwaith yn ddi-oed pan sefydlwyd y Cynulliad oherwydd, fel y gwyddoch, sefydlwyd gennym ymchwiliad i’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn gan weithio’n gyflym. Diolchaf i holl aelodau’r Pwyllgor am eu parodrwydd i gyfrannu’n bositif i’r trafodaethau. Fel y clywsoch, yr ydym wedi pennu amserlen anodd. Nid ydym am reoli dirywiad y Gymru wledig. Yr ydym am gyfrannu’n bositif er mwyn gwella sefyllfa’r economi. Yr ydym am weld economi wledig iach ac amrywiol. Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod—fel ag y mae’r datganiad—bod sylfaen economi’r Gymru wledig yn gul iawn ac, felly, yn agored iawn i niwed. Yr ydym ni’n dal yn ddibynnol ar ddiwydiannau traddodiadol y Gymru wledig. Mae pawb am weld y sylfaen economaidd yn lledu’n sylweddol.

I applaud much of the work of organisations and individuals involved in drawing up this statement. They have given us important pointers for the future. However, the danger is that we highlight the problems that we face. It is much more difficult to offer solutions. A strategic document can give an important overview. However, many of us will want to see the specific policies, which will be brought forward to the Assembly to implement those strategic ideas, before we can make real progress. Therein lies the danger for the Assembly. We must not become an Assembly of warm words and fine phrases. As the United States Ambassador said—I hope that I paraphrase him correctly—there must be more prose than poetry.

yn Saesneg Yr wyf yn cymeradwyo llawer o waith y sefydliadau a’r unigolion a oedd yn gysylltiedig â llunio’r datganiad hwn. Maent wedi rhoi inni arwyddion pwysig ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, y perygl yw mai amlygu’r problemau a wynebwn a wnawn. Mae’n llawer anoddach cynnig atebion. Gall dogfen strategol roi arolwg pwysig inni. Fodd bynnag, bydd ar lawer ohonom eisiau gweld y polisiau penodol a gaiff ei gyflwyno i’r Cynulliad er mwyn rhoi’r syniadau strategol hynny ar waith, cyn y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol. Dyma’r perygl i’r Cynulliad. Rhaid inni beidio â mynd yn Gynulliad llawn geiriau gwresog a gosodiadau teg. Fel y dywedodd Llysgennad yr Unol Daleithiau—gobeithio fy mod yn ei aralleirio’n gywir—rhaid sicrhau mwy o ryddiaith na barddoniaeth.

I would like to pinpoint some of the real difficulties that we face. First, the granting of Objective 1 status to west Wales and the Valleys is a stark reminder that vast swathes of rural Wales are among the poorest regions in the European Union. Gross domestic product per head is less than 75 per cent of the EU average. There has been a significant drop in the numbers of people working in our agricultural communities. Figures in the statement show that there has been a 20 per cent drop since 1977. While that drift away from the land is not a particularly Welsh phenomenon but something that is happening throughout western Europe, the drop in incomes since 1996 has worsened the situation. People are leaving the industry at an alarming rate, not because of long-term structural changes but because of short-term cash problems. Confidence is low, and young people are no longer encouraged to make farming their livelihood. Many of those employed in industries outside agriculture are on relatively low incomes—I say relatively low because in other parts of the world people are in even worse situations. But in relative terms, those living in rural areas in Wales are on low incomes and we all appreciate the high cost of living and transport, along with the lack of job opportunities. The problems are real but what about solutions?

yn Saesneg Hoffwn fanylu ar rai o’r anawsterau gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu. Yn gyntaf, mae rhoi statws Amcan 1 i orllewin Cymru a’r Cymoedd yn ein hatgoffa’n ingol fod rhannau eang o’r Gymru wledig ymhlith yr ardaloedd tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae cynnyrch mewnwladol crynswth y pen yn llai na 75 y cant o ffigwr cyfartalog UE. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sydd yn gweithio yn ein cymunedau amaethyddol. Dengys y ffigyrau yn y datganiad bod y ffigyrau wedi disgyn 20 y cant ers 1977. Er nad yw’r llif oddi wrth y tir yn ffenomen Gymreig yn ei hanfod ond yn hytrach yn rhywbeth sydd yn digwydd ledled gorllewin Ewrop, mae’r cwymp mewn incwm ers 1996 wedi gwaethygu’r sefyllfa. Mae pobl yn gadael y diwydiant ar gyflymdra brawychus, nid oherwydd y newidiadau strwythurol hirdymor ond oherwydd problemau ariannol tymor byr. Mae diffyg hyder yn amlwg, ac nid yw pobl ifanc yn cael eu hannog bellach i wneud ffermio yn fywoliaeth iddynt. Mae llawer o’r rheini a gyflogir mewn diwydiannau y tu allan i amaethyddiaeth ar incwm cymharol isel—yr wyf yn dweud cymharol isel gan fod pobl mewn sefyllfaoedd gwaeth fyth mewn rhannau eraill o’r byd. Ond o’i gymharu, mae’r rheini sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ar incwm isel ac yr ydym oll yn gwerthfawrogi costau uchel byw a thrafnidiaeth, ynghyd â’r diffyg cyfleoedd i gael gwaith. Mae’r problemau yn real ond beth am yr atebion?

It is the Assembly’s duty to show that we are determined to restore people’s confidence in rural life, to re-emphasise our commitment to improving living standards and the quality of life, to make it easier for people to have access to services, shops, post offices, medical attention, transport and to maintain the social and cultural life of our nation. We must use all the instruments available to us, whether that be INTERREG, the LEADER programme, Objective 1, Objective 2, or the accompanying measures in agriculture, and use them imaginatively without raising people’s expectations too much. It is important that people understand that the Assembly’s budget is finite. However, we must be bold, and introduce things into our policy initiatives which show that the Assembly can make a real difference to people’s lives. There will be occasions when the Assembly will want to charter a different course from other British countries. That is not being different for difference’s sake, but a response to our problems and circumstances.

yn Saesneg Mae’n ddyletswydd ar y Cynulliad i ddangos ein bod yn benderfynol o adfer hyder pobl yn y bywyd gwledig, ailbwysleisio ein hymrwymiad i wella safonau byw ac ansawdd bywyd, ei gwneud hi’n haws i bobl allu cyrraedd at siopau, gwasanaethau, swyddfa’r post, sylw meddygol, trafnidiaeth, a chynnal bywyd cymdeithasol a diwylliannol ein cenedl. Rhaid inni ddefnyddio pob cyfrwng sydd ar gael inni, boed hwnnw yn INTERREG, rhaglen LEADER, Amcan 1, Amcan 2, neu’r mesurau a ddaw i’w canlyn ym maes amaethyddiaeth, a’u defnyddio heb godi disgwyliadau pobl yn ormodol. Mae’n bwysig bod pobl yn deall bod terfynau i gyllideb y Cynulliad. Fodd bynnag, rhaid inni fod yn feiddgar, a chyflwyno pethau yn eu cynlluniau polisi sydd yn dangos y gall y Cynulliad wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Ambell dro bydd y Cynulliad eisiau siartro cwrs gwahanol i wledydd eraill Prydain. Nid bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol yw hynny, ond ymateb i’n problemau a’n hamgylchiadau ni.

Two things should underpin our thinking on rural issues. The first is that we must ensure that our efforts to attract jobs to rural Wales are not dominated by quantity. We cannot afford to become tainted by the view that a low wage and low skill economy is the norm in our countryside. We must aim higher and should use our centres of excellence to the best advantage. Each of our University Colleges at Bangor, Aberystwyth, Lampeter and Swansea serve rural Wales. We can and must use these facilities to attract research and development investment and jobs that demand high skills and high incomes into our rural areas. Using Objective 1 imaginatively means raising the GDP level in rural Wales, and the only way to do that is by attracting jobs that command decent salaries. We must also ensure that we have the necessary facilities to ensure the availability of information technology as a matter of course. If the private sector is not prepared to provide from its own profits, the Assembly should look for ways to facilitate this provision.

yn Saesneg Dylai dau beth fod yn sylfaen i’n ffordd o feddwl am faterion gwledig. Yn gyntaf, rhaid inni sicrhau nad nifer sydd yn pennu ein hymdrechion i ddenu swyddi i’r Gymru wledig. Ni allwn fforddio cael ein llygru gyda’r farn mai economi cyflog isel ac ychydig o sgiliau yw’r norm yn ein cefn gwlad. Rhaid inni anelu’n uwch a manteisio i’r eithaf ar ein canolfannau rhagoriaeth. Mae pob un o’n Colegau Prifysgol ym Mangor, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe yn gwasanaethu’r Gymru wledig. Fe allwn, ac mae’n rhaid inni, ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i ddenu buddsoddiad ymchwil a datblygiad a swyddi sydd yn gofyn am lefel dda o sgiliau ac incwm uchel i’n ardaloedd gwledig. Mae defnyddio Amcan 1 gyda dychymyg yn golygu codi’r lefel cynnyrch mewnwladol crynswth yn y Gymru wledig, a’r unig ffordd o wneud hynny yw drwy ddenu swyddi sydd yn cynnig cyflogau teg. Rhaid inni hefyd sicrhau bod y cyfleusterau angenrheidiol gennym i sicrhau bod technoleg gwybodaeth ar gael fel mater o gwrs. Os nad yw’r sector preifat yn barod i ddarparu o’i elw ei hun, dylai’r Cynulliad chwilio am ffyrdd o hwyluso’r ddarpariaeth hon.

Secondly, we face a difficult choice in the way we support agriculture. We will need to assure farmers that they can maintain their livelihoods but, however much money is put into the industry in the short term, we must accept that it will not make up for the losses suffered due to the high value of the pound, the BSE crisis and the general lack of confidence. Farmers have been telling me throughout and before the election campaign, that they do not always want to see money pumped into the industry. They want fairness and the ability to compete on equal terms with their counterparts in Ireland and other parts of the European Union. Therefore we must look for imaginative ways to make sure that agriculture can survive into the next century and beyond.

yn Saesneg Yn ail, yr ydym yn wynebu dewis anodd yn y modd yr ydym yn cefnogi amaethyddiaeth. Bydd yn rhaid inni rhoi sicrwydd i ffermwyr y gallant gynnal eu bywoliaeth ond, faint bynnag o arian a roddir i mewn i’r diwydiant yn y tymor byr, rhaid inni dderbyn na fydd yn gwneud iawn am y colledion a ddioddefwyd yn sgîl gwerth uchel y bunt, yr argyfwng BSE a’r diffyg hyder cyffredinol. Mae ffermwyr wedi bod yn dweud wrthyf drwy a chyn ymgyrch yr etholiad, nad ydynt bob amser eisiau gweld arian yn cael ei fwydo i mewn i’r diwydiant. Maent eisiau tegwch a’r gallu i gystadlu ar yr un telerau â’u cymheiriaid yn Iwerddon ac mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd. Rhaid inni felly feddwl am ffyrdd llawn dychymyg o wneud yn siŵr y gall amaethyddiaeth goroesi i’r ganrif nesaf a thu hwnt.

What should we be doing? How can the Assembly show the agricultural community that we are serious about addressing their problems? We must put into place, for example, measures which help farms in the medium and long term, by encouraging young entrants, promoting better marketing of agricultural products and facilitating farmers’ ability to influence the end price they receive for their products. One of the difficulties faced by farmers in the market place is that they are producing prime quality produce at one end for next to nothing, and the supermarkets are making vast profits at the other. There is something wrong somewhere in the system that allows this to happen and that is why we must give farmers the instruments to enable them to influence the end price of their own products.

yn Saesneg Beth ddylem ni fod yn ei wneud? Sut y gall y Cynulliad ddangos i’r gymuned amaethyddol ein bod o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’u problemau? Rhaid inni, er enghraifft, roi mesurau ar waith i helpu ffermydd yn y tymor canolig a hir, drwy annog ffermwyr ifanc newydd, hybu gwell dulliau o farchnata cynnyrch amaethyddol a hwyluso gallu ffermwyr i ddylanwadu ar y pris terfynol y maent yn ei gael am eu cynnyrch. Un o’r anawsterau y mae ffermwyr yn ei wynebu yn y farchnad yw eu bod yn cynhyrchu cynnyrch o’r safon orau yn un pen am yn agos i ddim, tra bod yr archfarchnadoedd yn gwneud elw aruthrol yn y pen arall. Mae rhywbeth o’i le yn rhywle ar y system sydd yn caniatáu i hyn ddigwydd a dyna pam mae’n rhaid inni roi’r arfau i’r ffermwyr i’w galluogi i ddylanwadu ar bris terfynol eu cynnyrch eu hunain.

I do not want to see this important industry suffering more pain as a result of these changes. I do not want to have to address meetings of farmers who are desperate about their position or young farmers who are being pressed by banks for loan repayments. These young farmers have never had the good years that their parents had and now face a real crisis in their livelihoods. The message they want to hear from this Assembly is that we have confidence in the future of their industry in the medium and long term, while supplying temporary palliative measures in the short term. I hope that the statement before the Assembly today will make a significant contribution to that debate. Those are therefore some of the issues, but the Committee will want to look at more. I welcome the opportunity therefore to debate the rural statement. We will have a great deal of work in implementing its values for the benefit of our rural communities and I assure the Assembly that the Committee is ready and willing to play its part in this important debate.

yn Saesneg Nid wyf am weld y diwydiant hwn yn dioddef mwy o boen yn sgîl y newidiadau hyn. Nid wyf eisiau gorfod annerch cyfarfodydd o ffermwyr sydd wedi anobeithio am eu sefyllfa neu ffermwyr ifanc sydd yn gorfod dioddef pwysau gan y banc am iddynt ad-dalu eu benthyciadau. Nid yw’r ffermwyr ifanc hyn wedi profi’r blynyddoedd da y cafodd eu rhieni ac yn awr maent yn wynebu argyfwng gwirioneddol yn eu bywoliaeth. Y neges y maent eisiau ei chlywed gan y Cynulliad hwn yw bod gennym ffydd yn nyfodol eu diwydiant yn y tymor canolig a hir, tra’n cyflwyno mesurau lliniarol dros dro yn y tymor byr. Yr wyf yn gobeithio y bydd y datganiad sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r ddadl honno. Dyma, felly, rai o’r materion, ond bydd y Pwyllgor eisiau edrych ar ragor. Croesawaf y cyfle felly i drafod y datganiad gwledig. Mae llawer iawn o waith o’n blaenau i roi ei werthoedd ar waith er budd ein cymunedau gwledig a hoffwn sicrhau’r Cynulliad bod y Pwyllgor yn barod ac yn awyddus i chwarae’i ran yn y ddadl bwysig hon.

Glyn Davies spoken in English p. 47

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 47

I congratulate the Executive on bringing this debate forward today and for allowing the Assembly the opportunity to discuss an issue that raises the concerns and problems of rural Wales. I agree with the amendment, and with almost everything Ieuan Wyn Jones said. Had I not been determined not to be repetitive, I might have said something very similar. He has not left a lot for me to say but I will try to be different.

Llongyfarchiadau i’r Adran Weithredol am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac am roi i’r Cynulliad y cyfle i drafod mater sydd yn codi pryderon a phroblemau’r Gymru wledig. Yr wyf yn cytuno gyda’r gwelliant, a chyda bron bopeth a ddywedodd Ieuan Wyn Jones. Pe na bawn yn benderfynol o beidio â bod yn ailadroddus, efallai y byddwn wedi dweud rhywbeth tebyg iawn. Nid yw ef wedi gadael llawer iawn imi ei ddweud ond fe geisiaf fod yn wahanol.

I commend the rural partnership that produced this document. I do not agree with Rhodri’s intervention. Even though his points are exceedingly important, we need a long-term vision as in this amendment. All the organisations in rural Wales were involved in the production of this document. It will not appeal to the general public because of its length and detail but it is designed to appeal to those of us who have interests in the development of rural Wales. I will enjoy reading this document in some detail over the next few days even though I only had 64 pages in my copy—I missed the executive summary, which I look forward to seeing.

Yr wyf yn cymeradwyo’r bartneriaeth wledig a luniodd y ddogfen hon. Nid wyf yn cytuno ag ymyrraeth Rhodri. Er bod ei bwyntiau ef yn hynod bwysig, rhaid inni gael gweledigaeth tymor hir fel yn y gwelliant hwn. Yr oedd holl sefydliadau’r Gymru wledig yn gysylltiedig â llunio’r ddogfen hon. Ni fydd yn apelio at y cyhoedd oherwydd ei hyd a’i manylder ond fe’i cynlluniwyd i apelio i’r rheini ohonom sydd â buddiannau yn natblygiad y Gymru wledig. Byddaf yn mwynhau darllen y ddogfen hon yn fanwl yn ystod y dyddiad nesaf er mai dim ond 64 tudalen oedd yn fy nghopi i—yr oedd y crynodeb gweithredol ar goll, ac edrychaf ymlaen at ei weld.

The rural statement deals with so many issues that it would be easy to fall into what I call New Labour speak—saying everything and nothing all at once. I am sure Rhodri would understand. I will try to avoid that. I will share with the Assembly some details of my background, which stimulated my interest in rural development, and focus on three important issues. Many Assembly Members would not agree with me on two of them. I was born on a small farm in the heart of mid Wales where I still farm. I went to a small comprehensive school that produced a lot of able people including the Assembly Member who represents Llanelli. So you can attribute any similarity between Helen Mary Jones and myself directly to the teaching patterns in Llanfair Caereinion High School.

Mae’r datganiad gwledig yn delio gyda chymaint o faterion, fel y byddai’n hawdd syrthio i’r hyn yr wyf i’n ei alw yn iaith y Llafur newydd—gan ddweud popeth a dim byd ar yr un pryd. Yr wyf yn siŵr y bydd Rhodri yn deall. Fe geisiaf osgoi hynny. Fe rannaf gyda’r Cynulliad rai manylion am fy nghefndir, cefndir a symbylodd ynof ddiddordeb mewn datblygu gwledig, a chanolbwyntiaf ar dri mater pwysig. Fe’m ganed ar fferm fechan yng nghanol canolbarth Cymru lle’r wyf yn ffermio o hyd. Euthum i ysgol gyfun fechan a gynhyrchodd lawer o bobl abl gan gynnwys yr Aelod o’r Cynulliad sydd yn cynrychioli Llanelli. Felly gallwch briodoli unrhyw debygrwydd rhwng Helen Mary Jones a minnau yn uniongyrchol i’r patrymau addysgu yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion.

I left school at the age of 16 because my father was very ill. The key issue for rural development is that every single person in my school form left rural Wales to secure employment. The only reason I stayed was because of the family farm.

Gadewais yr ysgol yn 16 oed gan fod fy nhad yn wael iawn. Y mater allweddol ar gyfer datblygu gwledig yw bod pob un person yn fy nosbarth yn yr ysgol i wedi gadael y Gymru wledig i gael gwaith. Yr unig reswm pam yr arhosais i oedd oherwydd y fferm deuluol.

I have always been interested in rural development. During my younger years, I got married, worked hard, enjoyed fast living and rugby and boxing—at the same time on occasions. However, I always realised that it was wrong that the people I had known through school had had to move away from the area to secure employment. I became involved in the local authority and then the Development Board for Rural Wales. I focused on my interest in public affairs, chiefly in trying to develop the economy of rural Wales. That has driven me to become a Member of this Assembly. We have all sorts of different objectives, but for me the key objective will always be developing the rural economy. That is why I welcome this debate.

Yr wyf i wastad wedi bod â diddordeb mewn datblygu gwledig. Pan oeddwn yn iau, priodais, gweithiais yn galed, gan fwynhau byw’n egr a rygbi a bocsio—ar yr un pryd ambell dro. Fodd bynnag, yr wyf wastad wedi sylweddoli nad oedd hi’n iawn bod y bobl yr oeddwn i wedi eu hadnabod drwy’r ysgol wedi gorfod symud i ffwrdd o’r ardal i chwilio am waith. Dechreuais ymwneud â’r awdurdod lleol ac yna Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Canolbwyntiais ar fy niddordeb mewn materion cyhoeddus, yn bennaf er mwyn ceisio datblygu economi’r Gymru wledig. Mae hyn wedi fy ngyrru i fod yn Aelod o’r Cynulliad hwn. Mae gennym ni oll bob math o wahanol amcanion ond, imi, yr amcan allweddol wastad fydd datblygu’r economi wledig. Dyna pam yr wyf yn croesawu’r ddadl hon.

I would like to take this opportunity to criticise the Government. I do not think we do enough of that on our side. The Government in the Assembly has to prove to me that it is interested in the rural parts of Wales. I am not at all certain that it is. I have not recovered yet from the bitter blow for rural Wales when the Labour Government abolished the Development Board for Rural Wales. The Welsh Development Agency is the new body that covers the whole of Wales, but despite rhetoric that emphasises its commitment to rural policy and the directing of its budget to deal with rural Wales, I still think it misses the point.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i feirniadu’r Llywodraeth. Nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon o hynny ar ein hochr ni. Rhaid i’r Llywodraeth yn y Cynulliad brofi imi fod ganddi ddiddordeb yn rhannau gwledig Cymru. Nid wyf yn sicr o gwbl fod ganddi’r diddordeb hwnnw. Nid wyf fyth wedi dod at fy hun yn sgîl yr ergyd arw a ddioddefodd y Gymru wledig pan ddiddymodd Llywodraeth Lafur Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Awdurdod Datblygu Cymru yw’r corff newydd sydd yn cwmpasu Cymru gyfan, ond er gwaethaf rhethreg sydd yn pwysleisio ei ymrwymiad i bolisi gwledig a’i fod yn anelu ei gyllideb er mwyn delio â’r Gymru wledig, yr wyf yn dal i gredu ei fod yn methu’r pwynt.

The Development Board for Rural Wales gave rural Wales an identity. It gave it political stature that an all-Wales body cannot. I want the Assembly to recognise that. That is why the Regional Committees can play a role. I want us to recognise that rural Wales is a key area that needs that kind of political profile to develop a real interest in it that will make people want to move to rural Wales.

Rhoddai Bwrdd Datblygu Cymru Wledig hunaniaeth i’r Gymru wledig. Rhoddai iddi statws gwleidyddol na all corff Cymru-gyfan ei roi. Yr wyf am i’r Cynulliad gydnabod hynny. Dyna pam y caiff y Pwyllgorau Rhanbarth chwarae rôl. Yr wyf am inni gydnabod bod y Gymru wledig yn ardal allweddol y mae arni angen y math hwnnw o broffil gwleidyddol er mwyn meithrin diddordeb go iawn ynddi, diddordeb a fydd yn gwneud i bobl fod eisiau symud i’r Gymru wledig.

I want to focus on three issues, and the first is highways. It is not very fashionable to talk about substantial investment in developing highways. This has been the case for 10 years. I listened to Rhodri Morgan answer the question about the geographical distance of manufacturing industry from the markets. The only way to reduce the geographical distance is to improve the highways between the manufacturing industry in Wales, particularly in rural Wales, and the markets. I do not want this Assembly to only discuss rural transport issues, as if major highway investment is no longer relevant. I want discussion on investment to connect the M4 with Pembrokeshire and Ceredigion, mid Wales with the west Midlands and the roads north and west of Blaenau Ffestiniog. These are key issues in the development of rural Wales.

Hoffwn ganolbwyntio ar dri mater, a’r cyntaf yw priffyrdd. Nid peth ffasiynol iawn yw siarad am fuddsoddi’n sylweddol i ddatblygu priffyrdd. Dyma fu’r hanes ers 10 mlynedd. Gwrandewais ar Rhodri Morgan yn ateb y cwestiwn am y pellter daearyddol rhwng y diwydiant cynhyrchu a’r marchnadoedd. Yr unig ffordd i leihau pellteroedd daearyddol yw drwy wella’r priffyrdd rhwng y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, yn arbennig yn y Gymru wledig, a’r marchnadoedd. Nid wyf am weld y Cynulliad hwn yn trafod materion trafnidiaeth wledig yn unig fel pe na bai yw buddsoddi sylweddol mewn priffyrdd yn berthnasol mwyach. Yr wyf eisiau trafodaeth ar fuddsoddi i gysylltu’r M4 gyda Sir Benfro a Cheredigion, canolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr a’r ffyrdd i’r gogledd a’r gorllewin o Flaenau Ffestiniog. Mae’r rhain yn faterion allweddol wrth ddatblygu’r Gymru wledig.

The second issue is the family farm. I was part of a family farm. Generally, everybody is in favour of the family farm and the structure that we have in Wales. Maybe it is not the best economic structure in terms of agriculture, although that could be argued against. However, it is right in terms of the social infrastructure of rural Wales. Agriculture can no longer sustain viable communities alone but it plays a significant part in sustaining a lot of villages in the most rural and remote parts of Wales. A lot of smaller villages still depend very much upon the agricultural community. The demise of the small family farm would render those communities not viable. This is not just a matter for the Agriculture and Rural Development Committee. It is a matter for the education committees in terms of rural schools. Rural schools and the rural infrastructure are dependent upon each other. If you sacrifice one you sacrifice the other. It also applies to the Local Government, Environment, Planning, Housing and Transport Committee. Every Committee has to recognise the importance of the family farm structure and the issues that impact upon it. I am very much in favour of that.

Yr ail fater yw’r fferm deuluol. Yr oeddwn i’n rhan o fferm deuluol. Ar y cyfan, mae pawb o blaid y fferm deuluol a’r strwythur sydd gennym yng Nghymru. Efallai nad hwn yw’r strwythur economaidd gorau o safbwynt amaethyddiaeth, er y gellid dadlau yn erbyn hynny. Fodd bynnag, mae’n iawn o safbwynt isadeiledd cymdeithasol y Gymru wledig. Ni all amaethyddiaeth bellach gynnal cymunedau hyfyw ar ei phen ei hun ond y mae’n chwarae rhan bwysig i gynnal llawer o bentrefi yn y rhannau mwyaf gwledig ac ynysig yng Nghymru. Gyda thranc y fferm deuluol fechan ni fyddai’r cymunedau hynny yn hyfyw. Nid mater i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn unig yw hwn. Mae’n fater i’r pwyllgorau addysg o safbwynt ysgolion gwledig. Mae ysgolion gwledig a’r isadeiledd gwledig yn ddibynnol ar ei gilydd. Wrth aberthu’r naill rydych hefyd yn aberthu’r llall. Mae hefyd yn berthnasol i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol, yr Amgylchedd, Cynllunio, Tai a Thrafnidiaeth. Rhaid i bob pwyllgor gydnabod pwysigrwydd strwythur y fferm deuluol a’r materion sydd yn effeithio arni. Yr wyf yn gefnogol iawn i hynny.

The third issue is one which—

Mae’r trydydd mater yn un—

Ron Davies spoken in English p. 50

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 50

I do not think anybody would disagree with the analysis of the family farms situation and the commitment of us all to maintaining them because of their importance to the rural community, the landscape and social cohesion. However, you drew up short of any prescription, and the document we are debating talks about the Agenda 2000 proposals and the importance of shifting agricultural support away from traditional commodity price support, towards more direct payments such as the environmental payments. Would you broadly endorse that prescription?

Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghytuno â’r dadansoddiad o sefyllfa’r fferm deuluol a’n hymrwymiad ni oll i’w chynnal oherwydd ei phwysigrwydd i’r gymuned wledig, y dirwedd a glyniad cymdeithasol. Fodd bynnag, ni aethoch mor bell â rhoi unrhyw argymhelliad, ac mae’r ddogfen yr ydym yn ei thrafod yn cyfeirio at gynigion Agenda 2000 a’r pwysigrwydd o symud cefnogaeth i amaethyddiaeth oddi wrth gefnogaeth draddodiadol i brisiau nwyddau, tuag at daliadau mwy uniongyrchol megis y taliadau amgylcheddol. A fyddech chi’n cymeradwyo’r argymhelliad hwn at ei gilydd?

Glyn Davies spoken in English p. 50

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 50

Yes. I think that is the key subject the Agricultural and Rural Development Committee has to deal with in the short-term, particularly as it relates to hill livestock compensatory allowances. I am sure Ieuan would agree. The way we deal with hill livestock compensation is important also as a template, and it could be used to deal with sheep annual premium payments and so on.

Byddwn. Credaf mai dyma’r testun allweddol y mae’n rhaid i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ddelio ag ef yn y tymor byr, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â lwfansau iawndal da byw tir uchel. Yr wyf yn siŵr y byddai Ieuan yn cytuno. Mae’r modd yr ydym yn delio â iawndal da byw tir uchel yn bwysig hefyd fel templed, gan y gallai gael ei ddefnyddio i ddelio gyda’r taliadau premiwm blynyddol defaid ac yn y blaen.

Therefore the point Ron makes is absolutely right. Whether we agree or disagree, it is the way that we will go. The European Union is insisting that we make this change in dealing with hill livestock compensatory allowances. That change will lead to changes in all sorts of other support. I accept the point you make.

Felly mae’r pwynt y mae Ron yn ei wneud yn gwbl gywir. Pa un ai ydym yn cytuno neu’n anghytuno, dyma’r llwybr yr awn ar ei hyd. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu ein bod yn gwneud y newid hwn wrth ddelio gyda lwfansau iawndal da byw tir uchel. Bydd y newid hwn yn arwain at newid mewn pob mathau o gefnogaeth arall. Yr wyf yn derbyn y pwynt a wnaethoch.

Planning policy in terms of the open countryside is the final issue, and I think this will also be controversial. I speak again with some experience because I spent six years as a local planning authority chairman. I always felt that we were imposing on rural Wales, or Montgomeryshire, a policy that was really designed for the south-east of England. It was a policy that the committee members disagreed with. We regularly had applications called in and this is still the case. Montgomeryshire now has applications called in for the flimsiest of reasons and that is because of a continuing attempt to impose policies that are not necessarily designed for rural Wales.

Polisi cynllunio o safbwynt cefn gwlad agored yw’r mater terfynol, a chredaf y bydd hyn hefyd yn ddadleuol. Unwaith eto yr wyf yn siarad o brofiad gan imi dreulio chwe blynedd fel cadeirydd i awdurdod cynllunio lleol. Yr oeddwn wastad yn teimlo ein bod yn gorfodi ar y Gymru wledig, neu Sir Drefaldwyn, bolisi a fwriadwyd mewn gwirionedd ar gyfer de ddwyrain Lloegr. Yr oedd yn bolisi yr oedd yr aelodau pwyllgor yn anghytuno ag ef. Yr oedd ceisiadau’n cael eu galw i mewn yn rheolaidd ac mae hyn yn dal i fod yn wir. Mae ceisiadau yn Sir Drefaldwyn, yn awr, yn cael eu galw i mewn am y rhesymau mwyaf tila a digwydd hynny oherwydd ymgais barhaus i orfodi polisïau nad ydynt o anghenraid wedi’u bwriadu ar gyfer y Gymru wledig.

The Assembly should consider a planning guidance policy on development control that looks at allowing low-impact development that is related to job creation in the isolated countryside. This would not have to be on a grand scale, but I think it is important in Powys and other parts of Wales. If we want to give real meaning to diversification and to allowing people to take decisions about their own area—and that is what the planning committees in these areas want—we have to accept that there must be scope for some low-impact development. However, I know that there will be criticism of that as a general policy.

Dylai’r Cynulliad ystyried polisi canllawiau cynllunio ar reoli datblygiad sydd yn edrych ar ganiatáu datblygiadau effaith fechan sydd yn gysylltiedig â chreu swyddi mewn cefn gwlad ynysig. Ni fyddai’n rhaid i hyn fod ar raddfa fawr, ond credaf ei fod yn bwysig ym Mhowys ac mewn rhannau eraill o Gymru. Os ydym eisiau rhoi ystyr go iawn i arallgyfeirio ac i roi caniatâd i bobl wneud penderfyniadau am eu hardal eu hunain—a dyna beth y mae’r pwyllgorau cynllunio yn yr ardaloedd hyn ei eisiau—rhaid inni dderbyn bod yn rhaid sicrhau mwy o gyfleuoedd i rai datblygiadau effaith fechan. Gwn, fodd bynnag, y bydd beirniadaeth ar hynny fel polisi cyffredinol.

There is a range of issues in this document, some major and some small. I chose three issues that were of particular interest to me, and, I hope, to other Members. I hope there will be other examples and that we can have a general debate on rural issues and return to a whole host of other issues. I strongly support the amendment.

Ceir amrywiaeth o faterion yn y ddogfen hon, rhai mân a rhai mawr. Dewisais dri mater a oedd o ddiddordeb arbennig imi ac i Aelodau eraill, gobeithio. Gobeithiaf y bydd yna enghreifftiau eraill ac y cawn ddadl gyffredinol ar faterion gwledig a dychwelyd at lu o faterion eraill. Yr wyf yn gefnogol iawn i’r gwelliant.

Mick Bates spoken in English p. 52

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 52

You are certainly getting variety this afternoon. You heard from the Chairman of the Agricultural and Rural Development Committee, a long-time farmer and now you will hear from a former teacher, who is also a retired farmer and trainee politician. So, it is quite a good afternoon.

Yn wir, yr ydych chi’n cael amrywiaeth da’r prynhawn hwn. Clywsoch oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, ffermwr tymor hir ac yn awr cewch glywed oddi wrth gyn-athro, sydd hefyd yn ffermwr wedi ymddeol ac yn wleidydd dan hyfforddiant. Felly, mae hwn yn brynhawn gweddol dda.

I offer my congratulations to the organisations that helped prepare this statement, which is hot off the press. However, that is also part of the problem. No matter how excellent the contributions, the document leaves open the question of leadership and prioritisation of the recommendations. We must address that.

Carwn longyfarch y sefydliadau hynny a helpodd i baratoi’r datganiad hwn, sydd newydd ei gyhoeddi. Fodd bynnag, mae hynny hefyd yn rhan o’r broblem. Waeth pa mor ardderchog yw’r cyfraniadau, mae’r cwestiwn o arweinyddiaeth a blaenoriaethu’r argymhellion heb ei ateb o hyd yn y ddogfen. Rhaid inni fynd i’r afael â hyn.

Bringing this document before the Assembly represents a landmark for all of us living in rural areas. We all share the vision of sustainability, in urban and rural contexts. However, we must consider critically what we can do with this document. I hope my practical observations, as someone who worked with the farming community and on community regeneration programmes, will offer us a way forward in terms of priorities and future prosperity.

Mae cyflwyno’r ddogfen hon gerbron y Cynulliad yn cynrychioli carreg filltir i bawb ohonom sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig. Yr ydym ni oll yn rhannu’r weledigaeth o gynaladwyedd, mewn cyd-destunau trefol a gwledig. Fodd bynnag, rhaid inni ystyried yn feirniadol beth y gallwn ei wneud gyda’r ddogfen hon. Yr wyf yn gobeithio y bydd fy sylwadau ymarferol, fel un a weithiodd gyda’r gymuned ffermio ac ar raglenni adfywio cymunedau, yn cynnig inni ffordd ymlaen o safbwynt blaenoriaethau a ffyniant i’r dyfodol.

The document identifies wider issues affecting rural Wales: economic, social, environmental, cultural and equality of opportunity issues. We must sustain and develop rural communities, the economy and environment and provide an integrated rural development programme. Tackling rural disadvantage is a challenging task. Rural Wales needs leadership through this Assembly. We must provide the high-quality research and information that is often lacking, as we heard in the debate on social inclusion. The Liberal Democrats share these broad aims and the document should outline the need to bring economic prosperity and social inclusion to rural Wales; enhance the environment and, no matter where they live, help everyone enjoy a nation’s treasure—the countryside.

Mae’r ddogfen yn dynodi materion ehangach sydd yn effeithio ar y Gymru wledig: materion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol a chyfle cyfartal. Rhaid inni gynnal a datblygu cymunedau gwledig, yr economi a’r amgylchedd a darparu rhaglen datblygu gwledig integredig. Mae mynd i’r afael ag anfanteision gwledig yn dasg llawn her. Rhaid i’r Gymru Wledig gael arweiniad drwy’r Cynulliad hwn. Rhaid inni ddarparu gwybodaeth ac ymchwil o’r safon orau—pethau sydd yn aml ar goll—fel y clywsom yn y ddadl ar gymdeithasau cynhwysol. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu’r nodau cyffredinol hyn a dylai’r ddogfen amlinellu’r angen am ddod â ffyniant economaidd a chyhwysiant cymdeithasol cynhwysol i’r Gymru wledig; gwella’r amgylchedd a helpu pawb, lle bynnag y maent yn byw, i fwynhau trysor cenedl—cefn gwlad.

The document presents a holistic, integrated view, focusing on bio-diversity through to waste management. That is set against the critical European funding issue, additionality and the Agenda 2000 reforms. The rural statement makes us focus on the timescale. We have six or seven years to use that funding and create foundations for rural prosperity. We must provide an overall strategy for European funding that is closely integrated with this rural statement. The Economic Development Committee, European Task Force, and Agricultural and Rural Development Committee must work together to ensure that the overall strategy is truly integrated.

Mae’r ddogfen yn cyflwyno safbwynt cyfannol, integredig gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth drwodd i reoli gwastraff. Gosodir hyn yn erbyn y mater hanfodol sef cyllid Ewrop, ychwanegoldeb a diwygiadau Agenda 2000. Mae’r datganiad gwledig yn gwneud inni ganolbwyntio ar yr amserlen. Mae gennym chwech neu saith mlynedd i ddefnyddio’r arian hwn a chreu sylfeini ar gyfer ffyniant cefn gwlad. Rhaid inni ddarparu strategaeth gyffredinol ar gyfer cyllid Ewrop—strategaeth sydd wedi ei hintegreiddio’n agos gyda’r datganiad gwledig hwn. Rhaid i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, Tasglu Ewrop, a’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y strategaeth gyffredinol yn wirioneddol integredig.

I would like to see a similar solution to that introduced in England, where one agency looks after integration. The Countryside Agency was set up to deal with all rural matters. The funding on tap from Europe will not deal with the myriad recommendations contained in this document. Somebody must prioritise them. It is all very well to have this wonderful document and these tremendous recommendations but, at some point realism sets in, so they must be prioritised. To drive this statement forward, as an Assembly, we must have a lead organisation. For example, the Welsh Development Agency has always taken a lead on business, now it can focus on agriculture. Will the WDA be directly answerable to a rural statement? Will it drive the funding? The document does not answer these questions.

Hoffwn weld ateb tebyg i’r ateb a gyflwynwyd yn Lloegr, lle ceir un asiantaeth yn gofalu am integreiddio. Sefydlwyd yr Asiantaeth Cefn Gwlad i ddelio â’r holl faterion gwledig. Ni fydd y cyllid sydd ar gael o Ewrop yn delio â’r argymhellion di-rif a geir yn y ddogfen hon. Rhaid i rywun eu gosod yn nhrefn eu blaenoriaeth. Er un peth yw cael y ddogfen ardderchog hon a’r argymhellion rhagorol hyn; ar ryw bwynt mae realaeth yn dod i’r amlwg, felly mae’n rhaid eu blaenoriaethu. Er mwyn gyrru’r datganiad hwn yn ei flaen, fel Cynulliad, rhaid inni gael sefydliad arweiniol. Er enghraifft, mae Awdurdod Datblygu Cymru bob amser wedi cymryd yr awenau gyda busnes, yn awr gall ganolbwyntio ar amaethyddiaeth. A fydd Awdurdod Datblygu Cymru yn uniongyrchol atebol i ddatganiad gwledig? A fydd yn llywio’r cyllid? Nid yw’r ddogfen hon yn ateb y cwestiynau hyn.

Land use in planning is the first major issue that will help create a new prosperity in rural areas. I refer to page 60, and in particular the need to reconcile the involvement of individuals and communities in the planning process. Given that the key element in planning guidance is the protection of landscape, there are issues here that the Assembly must resolve. Glyn Davies referred to the need for a more flexible attitude in planning, to allow the conversion of redundant farm buildings, and enable low-impact development. I also draw your attention to the development of sustainable energy systems, called wind turbines. That is a controversial issue in my part of the world and is opposed by many communities. Under this document someone must address the need for new planning guidelines, like PG7, which exists in England. How can we use the planning process to protect and enhance rural diversity and the countryside fabric? In considering that, we must focus on the needs of the Wildlife Trust and other organisations that have an interest in rural areas.

Defnydd tir o safbwynt cynllunio yw’r mater blaenllaw cyntaf a fydd yn helpu i greu ffyniant o’r newydd mewn ardaloedd gwledig. Cyfeiriaf at dudalen 60, ac yn arbennig yr angen i sicrhau cyfraniad unigolion a chymunedau yn y broses gynllunio. O gofio mai’r elfen allweddol o ran canllawiau cynllunio yw gwarchod y tirlun, mae yna faterion yma y mae’r rhaid i’r Cynulliad eu datrys. Cyfeiriodd Glyn Davies at yr angen am agwedd mwy hyblyg tuag at gynllunio, er mwyn caniatáu i adeiladau fferm segur gael eu haddasu a chaniatáu datblygiad effaith fechan. Hoffwn dynnu eich sylw hefyd at ddatblygu systemau ynni cynaliadwy, a elwir yn dyrbinau gwynt. Mae hwn yn fater dadleuol yn fy rhan i o’r byd ac mae llawer o gymunedau’n gwrthwynebu. Dan y ddogfen hon, rhaid i rywun fynd i’r afael â’r angen am ganllawiau cynllunio newydd, fel PG7, sydd yn bodoli yn Lloegr. Sut y gallwn ni ddefnyddio’r broses gynllunio i warchod a gwella’r amrywiaeth gwledig a chyfansoddiad cefn gwlad? Wrth ystyried hyn, rhaid inni ganolbwyntio ar anghenion yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a sefydliadau eraill sydd â buddiant mewn ardaloedd gwledig.

There is a sense of urgency on the rural development issue, as the European Union requires a detailed plan by November. It forms an excellent part of the document. Rural development requires a multi-sectoral approach and co-operation leading to cost-effective partnerships that bring real benefits to rural areas. The Assembly must achieve cost benefits by producing rural indicators at local, regional and national level. These indicators could evaluate the process and recommendations in the document. For example, the suggested growth in organic farming is an excellent lead. The finalised document must outline targets for rural business start-ups, tourism, green technology development, the retention of young people in rural areas, biomass and forestry growth and the number of farms taking part in environmental schemes. These are true indicators of rural success and prosperity.

Mae yna ymdeimlad o frys gyda’r mater o ddatblygu gwledig, gan fod yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am gynllun manwl erbyn Tachwedd. Mae’n ffurfio rhan ardderchog o’r ddogfen. Rhaid wrth ddull gweithredu a chydweithio aml-sectoraidd gyda datblygu gwledig gan arwain at bartneriaeth cost-effeithiol sydd yn dod â manteision gwirioneddol i ardaloedd gwledig. Rhaid i’r Cynulliad sicrhau manteision costau drwy gynhyrchu dangosyddion gwledig ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Gallai’r dangosyddion hyn arfarnu’r broses a’r argymhellion sydd yn y ddogfen. Er enghraifft, mae’r twf a awgrymir ym maes ffermio organig yn arweiniad ardderchog. Rhaid i’r ddogfen derfynol amlinellu targedau ar gyfer sefydlu busnesau gwledig newydd, twristiaeth, datblygu technoleg werdd, cadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, biomàs a thwf coedwigaeth a nifer y ffermydd sydd yn cymryd rhan mewn cynlluniau amgylcheddol. Mae’r rhain yn wir ddangosyddion o lwyddiant a ffyniant gwledig.

The agricultural industry will remain central, although nationally it represents only 1.8 per cent of GDP and employs 2.7 per cent of the workforce. In areas like Powys and Montgomeryshire, which I represent, the workforce in agriculture is over 20 per cent, and in similar areas the economy is wholly dependent on agriculture. A good suggestion in the document is that we create a farm development task force—another task force, another strategy. It would promote coherence of research and development, technology transfer, and information advisory services. Looking at this part of the document, I think somebody read the Liberal Democrat manifesto, which makes a similar point under the title, ‘Farming Connect’.

Bydd y diwydiant amaethyddiaeth yn aros yn ganolog er nad yw, yn genedlaethol, ond yn cynrychioli 1.8 y cant o’r GDP ac yn cyflogi 2.7 y cant o’r gweithlu. Mewn ardaloedd fel Powys a Sir Drefaldwyn, yr wyf fi’n eu cynrychioli, mae’r gweithlu mewn amaethyddiaeth dros 20 y cant, ac mewn ardaloedd tebyg mae’r economi yn gwbl ddibynnol ar amaethyddiaeth. Un awgrym da yn y ddogfen yw ein bod yn creu tasglu datblygu ffermydd—tasglu arall, strategaeth arall. Byddai’n hybu cysondeb o safbwynt ymchwil a datblygu, trosglwyddo technoleg, a gwasanaethau gwybodaeth a chynghori. Wrth edrych ar y rhan hon o’r ddogfen, credaf fod rhywun wedi darllen maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol; maent hwy yn gwneud pwynt tebyg dan y teitl, ‘Cyswllt Ffermio’.

Agriculture is ready for this. Today, the young farmers who are keeping their heads above water, are keen to change. There is a new attitude of looking forward. They want to sell their products and secure their businesses. This document provides a basis for re-integrating agriculture into the rural economy. For so long, agriculture has been treated separately. The rural economy and community prosperity are vital issues. We must refocus our attention to restore vibrancy into rural communities and consider the rural economy as a whole—the shop, post office, and ancillary businesses. To promote this, the section on community regeneration is critical. I have been involved in community regeneration. Voluntary and elected groups are invited to a local forum to provide a bottom-up approach, rather than a top-down one. This community participation brings real empowerment together with self-reliance and a sense of social and political value. Within this I commend Chapter 8 of ‘Local Voice,’ which is a good Government document.

Mae Amaethyddiaeth yn barod am hyn. Heddiw, mae’r ffermwyr ifanc sydd yn dal eu pennau uwchben y dŵr, yn awyddus i newid. Mae yna agwedd newydd o edrych ymlaen. Maent am werthu eu cynnyrch a diogelu eu busnesau. Rhydd y ddogfen hon sylfaen ar gyfer ailintegreiddio amaethyddiaeth i’r economi wledig. Deliwyd ag amaethyddiaeth ar wahân am gyhyd. Mae ffyniant cymunedau a’r economi wledig yn faterion holl bwysig. Rhaid inni ail-hoelio’n sylw er mwyn adfer egni i’n cymunedau gwledig ac ystyried yr economi wledig fel cyfangorff—y siop, swyddfa’r post, a busnesau ategol. I hyrwyddo hyn, mae’r adran ar adfywio cymunedau yn holl bwysig. Yr wyf fi wedi bod yn gysylltiedig ag adfywio cymunedau. Gwahoddir grwpiau etholedig a gwirfoddol i fforwm lleol er mwyn gweithredu o’r gwaelod i fyny, yn hytrach nag o’r pen uchaf i lawr. Yn sgîl cyfranogiad cymunedol o’r math hwn ceir gallu gwirioneddol ynghyd â hunanddibyniaeth ac ymdeimlad o werth cymdeithasol a gwleidyddol. Oddi mewn i hyn yr wyf yn cymeradwyo Pennod 8 ‘Llais Lleol’, sydd yn ddogfen Lywodraethol dda.

Too many people in rural areas feel excluded and distant from Government. I commend the great work done, started after a previous Government’s recommendation, called the ‘market towns initiative’. It focused on community regeneration through partnerships and groups like Menter Powys, which is a LEADER initiative. There was also partnership with the county council and the old Development Board for Rural Wales. These community projects are the forums where we can start at local level to regenerate communities and agriculture.

Mae gormod o bobl mewn ardaloedd gwledig yn teimlo eu bod wedi eu heithrio ac yn bell oddi wrth y Llywodraeth. Yr wyf yn cymeradwyo’r gwaith da a wnaed, gwaith a ddechreuwyd ar ôl argymhelliad gan Lywodraeth flaenorol a alwyd yn ‘gynllun trefi marchnad’. Canolbwyntiai ar adfywio cymunedau drwy bartneriaethau a grwpiau megis Menter Powys, sef un o gynlluniau LEADER. Cafwyd partneriaeth hefyd gyda’r Cyngor Sir a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig gynt. Y prosiectau cymunedol hyn yw’r fforymau lle gallwn ddechrau, ar lefel leol, adfywio cymunedau ac amaethyddiaeth.

We have recently applied to Europe for a grant that encompasses this document’s needs. We want to improve marketing of our local community, enhance the environment, build on tourism, improve farm incomes, make greater use of information and communications technology, enhance management skills and provide community-based energy schemes. These projects, as well as community participation, are the basic planks necessary to bring rural prosperity.

Yn ddiweddar yr ydym wedi ymgeisio i Ewrop am grant sydd yn cwmpasu anghenion y ddogfen hon. Rhaid inni wella’r modd yr ydym yn marchnata ein cymuned leol, gwella’r amgylchedd, adeiladu ar dwristiaeth, gwella incwm ffermydd, defnyddio mwy ar dechnoleg cyfathrebu a gwybodaeth, gwella sgiliau rheoli a darparu cynlluniau ynni â’u gwreiddiau yn y gymuned. Y prosiectau hyn, yn ogystal â chyfranogiad cymunedol, yw’r estyll sylfaenol sydd yn angenrheidiol i sicrhau ffyniant gwledig.

We have heard Ieuan talk about the problems facing agriculture. We must prepare agriculture to face the world market so that there can be good access and fair competition. Equally, there are short-term problems to which Rhodri refers. I have fought for a full inquiry into the Welsh dairy industry. The time is coming when we will have to fight for extra funding to invest in Welsh agriculture. It is not widely known that the £14.7 million that was put on to the hill livestock compensatory allowances payments last year will be lost this year. There are no current plans to replace that money. In the short term, some people have to get their thinking caps on about agriculture because there are serious problems within the industry.

Clywsom Ieuan yn siarad am y problemau sydd yn wynebu amaethyddiaeth. Rhaid inni baratoi amaethyddiaeth i wynebu marchnad y byd er mwyn sicrhau y gall bawb fod yn rhan ohoni a sicrhau cystadleuaeth deg. Yn yr un modd, ceir problemau tymor byr y mae Rhodri yn cyfeirio atynt. Yr wyf wedi brwydro i gael ymchwiliad llawn i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Daeth yn bryd inni i gyd frwydro i gael arian ychwanegol i’w fuddsoddi mewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Nid oes llawer yn gwybod y bydd y £14.7 miliwn a ychwanegwyd at daliadau lwfansau iawndal da byw tir uchel y llynedd yn cael ei golli eleni. Nid oes unrhyw gynlluniau cyfredol i sicrhau arian yn lle’r arian hwnnw. Yn y tymor byr, rhaid i rai pobl roi eu meddyliau ar waith i ystyried amaethyddiaeth gan fod yna broblemau difrifol oddi mewn i’r diwydiant.

Within business growth, we have seen great words and meanings in this wonderful document. It states, let us not have too much inward investment and encourage enterprise and entrepreneurship. However it is short on priorities and does not say exactly who will give us the money and who will lead on it. When this document finally gets down to tacks and somebody pins the bill on it, the prioritisation must be done carefully. Rural services, transport, housing, care of the elderly and childcare are all issues that impact on rural life. This document, in its thoroughness—I almost used another word but it certainly is thorough—provides an insight into all these issues. As a whole, social inclusion in rural areas can be dealt with by this document. We have a great beginning in this document and I fully support it.

Fel rhan o dwf busnes, gwelsom eiriau ac ystyron gwych yn y ddogfen ardderchog hon. Mae’n datgan, na ddylem gael gormod o fewnfuddsoddi ac y dylem annog menter a mentergarwch. Fodd bynnag, mae’n ddiffygiol o ran blaenoriaethau ac o ran dweud yn union pwy fydd yn rhoi’r arian hwn inni a phwy fydd yn ein harwain yn y mater. Yn y pen draw, pan mae’r ddogfen hon yn mynd at graidd y mater a phan ddaw’r gost i’r amlwg, rhaid blaenoriaethu yn ofalus. Mae gwasanaethau gwledig, trafnidiaeth, tai, gofalu am yr henoed a gofal plant oll yn faterion sydd yn effeithio ar y bywyd gwledig. Mae’r ddogfen hon yn drylwyr—bu bron imi ddefnyddio gair arall ond mae’n wir yn drylwyr—a rhydd inni oleuni ar yr holl faterion hyn. Ar y cyfan, gall y ddogfen hon ddelio â chynhwysiant cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym ddechrau gwych yn y ddogfen hon ac yr wyf yn ei llwyr gefnogi.

The key issues are to empower local people so that they can develop their own solutions. It is important to build truly sustainable rural economies and ensure that service providers understand the special needs of rural dwellers. The vibrance of a rural economy can only be good for the heritage and language. I wish the amendment used the word ‘implement’ instead of ‘promote’. It would make a difference to the targets that will be set. I commend this document which is wide-ranging and looks at every facet of rural life and business. I hope we will provide from it a truly integrated strategy that will bring about a real rural renaissance in Wales.

Y materion allweddol yw grymuso pobl leol fel y gallant lunio eu hatebion eu hunain. Mae’n bwysig adeiladu economïau gwledig gwir gynaliadwy a sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn deall anghenion arbennig trigolion gwledig. Ni all egni economi gwledig ond bod o fudd i’r dreftadaeth a’r iaith. Hoffwn i’r gwelliant ddefnyddio’r gair ‘gweithredu’ yn hytrach na ‘hyrwyddo’. Byddai’n gwneud gwahaniaeth i’r targedau a osodir. Yr wyf yn cymeradwyo’r ddogfen hon sydd yn amrywiol ac yn edrych ar bob agwedd o fusnes a’r bywyd gwledig. Gobeithiaf y byddwn, yn ei sgîl, yn darparu strategaeth integredig a fydd yn pen gwir ddadeni gwledig yng Nghymru.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 57

Elin Jones spoken in Welsh p. 57

Croesawaf y drafodaeth hon a’r sylw a roddir i gefn gwlad. Mae nifer o bobl eisoes wedi cyfeirio at yr argyfwng yng nghefn gwlad. Nid argyfwng economaidd yn unig ydyw ond hefyd argyfwng hyder a ffydd ymysg trigolion cefn gwlad yn nyfodol eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r Cynulliad ymateb i’r argyfwng ac anfon negeseuon cryf i gefn gwlad yn dweud ein bod am weld cymunedau gwledig hyfyw yng Nghymru.

I welcome this discussion and the attention given to rural areas. A number of people have already referred to the crisis in rural Wales. It is not only an economic crisis, but also a crisis of confidence among the people of rural areas about the future of their communities. The Assembly must respond to the crisis and send strong messages to rural areas to say that we wish to see viable rural communities in Wales.

Nid yw’r ddogfen yn ddigonol. Mae’n llawn o bopeth ac o ddim ar yr un pryd. Mae’n rhaid inni ddatblygu cynlluniau pendant a chyfeirio adnoddau i gwrdd ag anghenion cefn gwlad. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr fe gawsom drafodaeth ar allgáu cymdeithasol. Gwelsom o’r ystadegau o’n blaenau y diwrnod hwnnw fod y mwyafrif o’n siroedd gwledig ymysg y lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

This document in itself is not enough. It is full of everything and nothing simultaneously. We must develop specific plans and direct resources to meet the needs of rural areas. Last week in this Chamber we had a discussion on social exclusion. From the statistics presented on that day, we saw that the majority of our rural counties are among the least deprived in Wales.

Serch hynny, soniais yn y drafodaeth honno bod yr ystadegau o’n blaenau yn methu â chyfleu natur y tlodi a’r diffyg cyfleoedd economaidd a chymdeithasol yng nghefn gwlad. Yr oeddent yn methu ag adlewyrchu’r allgáu sydd yn digwydd yng nghefn gwlad, sydd yn arwain at bobl yn gadael yr ardal.

However, as I said in that debate, those statistics did not convey the nature of the poverty and the lack of social and economic opportunities in rural areas. They did not reflect the exclusion in rural areas that leads to people leaving the area.

Mae’n rhaid i’r Cynulliad fod yn effro i ddylanwad sefydlu’r corff hwn ar leihau cyfleoedd gwaith yng nghefn gwlad. Soniodd Glyn am hyn. Yn y deddfwriaeth i greu’r corff hwn, diddymwyd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig. Arweiniodd hynny at leihad clir yn nifer y swyddi sector cyhoeddus da a oedd ar gael yn ardaloedd y Drenewydd ac Aberystwyth. Yr wyf yn gwybod hyn oherwydd yr oeddwn yn swyddog i BDCW ac yn gadeirydd cangen UNISON yn y bwrdd hwnnw yn ystod y broses boenus o uno’r Bwrdd Datblygu ac Awdurdod Datblygu Cymru.

The Assembly must be aware of the influence that the establishment of this body may have on a decrease in job opportunities in rural areas. Glyn has already talked about this. In the legislation to create this body, the Development Board for Rural Wales was dissolved. That led to a net decrease in the number of good public sector jobs available in the Newtown and Aberystwyth areas. I know this because I was an official with the DBRW and was also chair of the UNISON branch of that board during the painful process of amalgamation with the Welsh Development Agency.

Yn sgîl sefydlu’r Cynulliad, mae yna gyrff sydd yn symud swyddi neu yn symud yn gyfan gwbl o drefi yng nghefn gwlad Cymru, megis o Aberystwyth i Gaerdydd, er mwyn bod yn agos i’r Cynulliad. Felly, mae gennym sefyllfa lle mae Caerdydd yn sugno swyddi oddi wrth ardaloedd eraill yng Nghymru, yn enwedig yr ardaloedd gwledig lle mae cyfleoedd swyddi yn brin yn barod. Mae’n rhaid inni yn y Cynulliad ofyn a ydym eisiau gweld gwlad lle mae’r egni a’r buddsoddi yn digwydd mewn un lleoliad yn bennaf, sef Caerdydd, tra mae gweddill Cymru mewn trafferthion.

As a result of establishing the Assembly there are bodies moving jobs or moving completely from towns in rural areas of Wales, for example from Aberystwyth to Cardiff, in order to be close to the Assembly. Therefore, we have a situation where Cardiff is taking jobs away from other areas in Wales, especially from the rural areas where job opportunities are already scarce. We in the Assembly must ask if we want to see a country where the investment happens mainly in one location, namely Cardiff, while the rest of Wales is struggling.

Mae rhai pobl eisiau gweld Caerdydd yn datblygu’n ddinas llawer mwy nag yw hi ar hyn o bryd—yn ddinas o filiwn o bobl. Yn sicr mae rhai sydd yn ymwneud â rhai o’n cyrff cyhoeddus mwyaf pwerus yng Nghymru yn awyddus i hyn ddigwydd, ac efallai bod rhai yn y Siambr hefyd. Cred rhai mai’r modd gorau i sicrhau twf economaidd yng Nghymru yw trwy fuddsoddi yn nhwf Caerdydd, ac y byddai gweddill Cymru yn elwa yn sgîl hynny. Hen bolisi economaidd yw hwn sydd wedi hen fethu. Yr un oedd y weledigaeth am ddylanwad twf y Drenewydd ar y canolbarth yn y 1970au. Bach iawn oedd dylanwad y polisi o greu swyddi ac adeiladu tai yn y Drenewydd ar weddill y canolbarth ac ar ardaloedd megis Llanwrtyd a Llandysul.

There are people who want to see Cardiff developing into a much larger city than it is at the moment—a city of a million people. Certainly some people working within our most powerful public bodies in Wales want this, as do some in this Chamber perhaps. Some people believe that the best way to ensure economic growth in Wales is to invest in the growth of Cardiff and that the rest of Wales will benefit as a result. This is an old economic policy that has long failed. The same view was held about the effect of the growth of Newtown on mid Wales in the 1970s. The policy of creating jobs and building houses in Newtown did not have much effect on the rest of mid Wales and areas such as Llanwrtyd and Llandysul.

Mae’n bosibl ei bod yn wir bod cyfraniad buddsoddi yng Nghaerdydd i dwf cynnyrch mewnwladol crynswth yn fwy yn y tymor byr na chyfraniad buddsoddi yng nghefn gwlad. Mae’n rhaid inni holi ein hunain ai’r enillion tymor byr y mae arnom eu heisiau, yn enwedig wrth gofio ein cyfrifoldeb tuag at ddatblygiad cynaliadwy yn y tymor hir.

It is possibly true that the contribution of investment in Cardiff to the growth of gross domestic product is greater in the short term than that of investment in rural areas. We must ask if it is the short-term gain that we want, especially when we remember our responsibility towards sustainable development in the long term.

Mae Plaid Cymru eisiau gweld cymunedau hyfyw drwy Gymru. Yr ydym yn ddigon dewr i ddweud: os ydym eisiau i Gymru ffynnu drwyddi draw, yna mae’n rhaid inni dargedu ein buddsoddiad tuag at yr ardaloedd mwyaf anghenus. Yr ydym yn dweud wrth yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig nad yw’r ddogfen hon yn ddigon i leddfu’r argyfwng hyder sydd yng nghefn gwlad Cymru. Yr ydym yn gofyn iddi sicrhau y bydd cynlluniau ac adnoddau pendant i weithredu’r cynlluniau yng nghefn gwlad Cymru.

Plaid Cymru wants to see viable communities throughout Wales. We are brave enough to say: if we want to see a Wales that is prospering in all areas, we must target our investment towards the areas of greatest need. We say to the Secretary for Agriculture and Rural Development that this document is not enough to alleviate the crisis of confidence in rural Wales. We ask her to ensure that there will be plans and resources to implement the schemes in rural Wales.

Richard Edwards spoken in English p. 59

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 59

I welcome this rural statement—it is not a farming statement—which offers a panoramic sweep of the issues facing rural communities, even if the solutions are much more intractable. I endorse its values of partnership, co-operation and community empowerment, with a unified bottom-up approach to economic and social cohesion and sustainable development in rural Wales.

Yr wyf yn croesawu’r datganiad gwledig hwn—nid datganiad ffermio mohono—sydd yn cynnig golygfa banoramig o’r materion sydd yn wynebu cymunedau gwledig, hyd yn oed os yw’r atebion yn llawer mwy anhydrin. Yr wyf yn cymeradwyo ei werthoedd, sef partneriaeth, cydweithrediad a grymusedd cymunedol, gydag agwedd unedig o’r gwaelod i fyny tuag at gydlynu cymdeithasol ac economaidd a datblygu cynaliadwy yn y Gymru wledig.

I particularly welcome the acknowledgement of the need to develop better indicators of the nature and extent of rural deprivation and poverty. Last week, the Assembly discussed social exclusion, which blights so much of Welsh life. Sadly, as we stand on the threshold of a new millennium, the most striking feature about our country is how deeply divided and unequal it is. There are many barriers between our different regions, communities and people and the greatest barriers of all are poverty and deprivation. However you choose to present it and whatever euphemisms you employ to sanitise its stark ugliness, material deprivation is the overriding cause of social exclusion.

Croesawaf yn arbennig y gydnabyddiaeth bod yn rhaid creu gwell dangosyddion o natur a maint tlodi ac amddifadedd gwledig. Yr wythnos diwethaf, bu’r Cynulliad yn trafod dieithriwch cymdeithasol, sydd yn amharu ar gymaint o’r bywyd Cymru. Yn anffodus, a ninnau ar drothwy mileniwm newydd, nodwedd fwyaf trawiadol ein gwlad yw pa mor rhanedig ac anghyfartal ydyw. Ceir nifer o rwystrau rhwng ein gwahanol ranbarthau, cymunedau a’n pobl a’r rhwystrau mwyaf un yw tlodi ac amddifadedd. Sut bynnag y dewiswch ei gyflwyno a pha bynnag eiriau teg a ddefnyddiwch i lanhau ei hagrwch amlwg, amddifadedd materol yw prif achos dieithriwch cymdeithasol.

The statement points out that social exclusion and inequalities can be concealed by the quality of the environment—scattered settlements and population sparsity. In verdant Pembrokeshire, a large part of which I represent, we have spectacular coastline, the rugged beauty of the Preseli hills and sundry other delights, which can conjure up an illusion of idyllic prosperity. This masks a different reality, in which some parts of the county enjoy less than 60 per cent of the average gross domestic product per head. Youth unemployment is the highest in Wales, 20 per cent of working-age men and 23 per cent of working-age women are economically inactive, almost 11 per cent of homes are unfit for habitation and 27 per cent of households lack a basic amenity. Big employers offering well-paid work have vanished and, as we all know, agriculture is in crisis. Remoteness, isolation and inaccessibility compound the deprivation of the rural poor. The statement mentions minimising social exclusion and inequality by widening opportunities. That can be achieved through better public information and more welfare rights advisers. I welcome Pembrokeshire’s somewhat belated entry into this field.

Mae’r datganiad yn tynnu sylw at y ffaith y gellir cuddio anghysonderau a diethriwch cymdeithasol gydag ansawdd yr amgylchedd—anheddau gwasgaredig a phoblogaeth denau. Yn Sir Benfro ir, ardal yr wyf fi’n cynrychioli rhan fawr ohoni, y mae gennym arfordir ysblennydd, harddwch garw mynyddoedd y Preseli ac amryw o bethau ardderchog eraill; gall y rhain oll greu camargraff o ffyniant delfrydol. Mae hyn yn cuddio realiti gwahanol, lle mae rhai rhannau o’r sir yn mwynhau llai na 60 y cant o’r cynnyrch mewnwladol crynswth cyfartalog y pen. Yno mae’r ffigyrau uchaf o safbwynt diweithdra ymhlith ieuenctid, mae 20 y cant o ddynion oed gweithio a 23 y cant o fenywod oed gweithio yn economaidd segur, mae bron i 11 y cant o gartrefi yn anaddas i fyw ynddynt ac 27 y cant o’r aelwydydd heb ryw fwyniant sylfaenol. Mae’r cyflogwyr mawr a gynigiai waith â chyflog da wedi diflannu ac, fel y gwyddom ni oll, mae amaethyddiaeth mewn argyfwng. Mae natur bell, ynysig ac anhygyrch yr ardal yn ychwanegu at amddifadedd y tlodion gwledig. Cyfeiria’r datganiad at sicrhau cyn lleied â phosibl o anghyfartaledd a dieithriwch cymdeithasol drwy ehangu cyfleoedd. Gellir gwneud hynny drwy ddarparu gwell gwybodaeth gyhoeddus a mwy o ymgynghorwyr hawliau lles. Croesawaf y ffaith fod Sir Benfro wedi camu i’r maes hwn, er bod hynny braidd yn hwyr.

The statement also mentions education and training. It states that education policies must recognise the value of rural schools to the community and must not focus only on pupil numbers. I mention this because Pembrokeshire local education authority, which faces immense budgetary pressures, has embarked on a rural schools rationalisation programme. Given the great sensitivity of this issue and the complex web of social, economic and educational implications, the Assembly must adopt a strategic all-Wales approach on this matter, rather than wait for LEAs to proceed unilaterally and piecemeal.

Cyfeiria’r datganiad hefyd at addysg a hyfforddiant. Mae’n ddatgan bod yn rhaid i bolisïau addysg gydnabod gwerth ysgolion gwledig i’r gymuned a rhaid iddynt beidio â chanolbwyntio’n unig ar nifer y disgyblion. Crybwyllaf hyn gan fod awdurdod addysg lleol Sir Benfro, sydd yn wynebu gwasgfa gyllidebol aruthrol, wedi dechrau ar raglen i ad-drefnu ysgolion gwledig. O gofio sensitifrwydd y mater hwn a’r we ddyrys o oblygiadau cymdeithasol, economaidd ac addysgol, rhaid i’r Cynulliad fabwysiadu strategaeth Cymru-gyfan gyda’r mater hwn, yn hytrach nag aros i AALlau fwrw ymlaen yn unochrog a thameidiog.

The greatest test of whether this Assembly can make a difference to the life of our people will be its ability to take root in the everyday experience of the disadvantaged, the poor, the unemployed, the marginalised and the excluded, and to reach all those who need to be reached most. That is an immense challenge, but we cannot begin to meet it unless we tackle poverty and deprivation head on. Poor people in poor areas must be targeted in a concerted anti-poverty drive. That determination should be at the forefront of all the Assembly’s strategic priorities and, not least, in the rural development programme. Every avenue of policy must be embraced. There must be a holistic approach to eradicating inequality, deprivation and exclusion. It is not just a question of increasing prosperity and ensuring higher GDP, although we all want that. It is also a question of widening opportunities through spreading and sharing prosperity, although that is a little less palatable in some quarters. We must ensure a fairer distribution of resources, greater equality between regions, communities and people. Only if that can be achieved and we can deliver for the people most in need can the National Assembly for Wales ever truly claim to speak for all the people of Wales.

Y prawf mwyaf i weld a all y Cynulliad hwn wneud gwahaniaeth i fywyd ein pobl yw ei allu i wreiddio ym mhrofiad bob dydd pobl dan anfantais, pobl dlawd, y di-waith, pobl sydd ar y cyrion ac wedi’u dieithrio, ac ymgyrraedd at y rheini y mae arnynt fwyaf o angen cymorth. Mae hon yn her aruthrol, ond ni allwn ddechrau bodloni’r her onid awn yn syth ati i fynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd. Rhaid targedu pobl dlawd mewn ardaloedd tlawd mewn ymgyrch gwrth-dlodi unedig. Dylai’r penderfyniad hwnnw fod ar flaen blaenoriaethau strategol y Cynulliad ac, yn anad dim, yn y rhaglen datblygu gwledig. Rhaid achub ar bob llwybr polisi. Rhaid gweithredu’n gyfannol i gael gwared ag anghyfartaledd, amddifadedd a dieithriwch. Nid mater o gynyddu ffyniant a sicrhau GDP uwch yn unig yw hwn, er ein bod ni oll eisiau gweld hynny. Mae hefyd yn fater o ymestyn y cyfleoedd drwy ledaenu a rhannu ffyniant, er bod hynny yn ychydig yn llai derbyniol mewn rhai ardaloedd. Rhaid inni sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n decach, bod gwell cydraddoldeb rhwng ardaloedd, cymunedau a phobl. Dim ond drwy gyflawni hynny a chwflawni’r addewid i’r bobl sydd fwyaf mewn angen y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru hawlio ei fod yn siarad yn wirioneddol dros holl bobl Cymru.

Peter Rogers spoken in English p. 61

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 61

I shall not speak long because Ieuan, Glyn and others have already made good points. Rural communities are grateful to the Assembly for establishing a separate Agriculture and Rural Development Committee and for accepting how important that subject is for Wales. This debate and the thickness of the statement reflect that; there are so many good ideas in there. Many people have talked about the crisis in farming and we would like to find an immediate answer, but I realise that that is difficult.

Ni siaradaf yn hir gan fod Ieuan, Glyn ac eraill eisoes wedi cyflwyno pwyntiau da. Mae cymunedau gwledig yn ddiolchgar i’r Cynulliad am sefydlu Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar wahân ac am dderbyn pa mor bwysig yw’r mater hwn i Gymru. Mae’r ddadl hon a thrwch y datganiad yn adlewyrchu hynny; mae yna gymaint o syniadau da ynddo. Mae llawer o bobl wedi siarad am yr argyfwng ym myd ffermio a hoffem ddarganfod ateb ar unwaith, ond sylweddolaf fod hyn yn anodd.

Farming here has been burdened with many extra costs, compared with other countries, to achieve the required production standards. That has a very big effect. If it were recognised that we have very high standards, for which we pay a very high price, we could follow on from that great Welsh victory the other day. We now have more nationalism and patriotism and we could support Welsh agriculture in the same way as the Irish and the French support their produce. When we go to functions where there are wonderful Welsh choirs, we could also have Welsh fare on offer and sell our wares as we have never done before. I am sure that that would ease the present crisis.

Mae ffermio yma bellach yn gorfod ysgwyddo llawer o gostau ychwanegol, o’i gymharu â gwledydd eraill, er mwyn cyrraedd y safonau cynhyrchu gofynnol. Mae hyn yn cael effaith fawr iawn. Pe cydnabyddid bod gennym safonau uchel iawn, safonau yr ydym yn talu pris uchel iawn i’w sicrhau, gallem arwain ymlaen o’r fuddugoliaeth Gymreig fawr y dydd o’r blaen. Mae gennym ni yn awr fwy o genedlaetholdeb a gwladgarwch a gallem gefnogi amaethyddiaeth Cymru yn yr un modd ag y mae’r Gwyddelod a’r Ffrancwyr yn cefnogi eu cynnyrch hwy. Pan awn i achlysuron lle ceir corau Cymreig ardderchog, gallem hefyd sicrhau fod bwyd Cymreig ar gael a gwerthu ein nwyddau fel na wnaethom erioed o’r blaen. Yr wyf yn siŵr y byddai’n lleddfu’r argyfwng presennol.

People in rural areas have many skills. If we could get help and organisation for education and training into these rural areas, I am sure that there would be a positive response. In the Local Government, Environment, Planning, Housing and Transport Committee meeting this morning, somebody talked about roads to Cardiff and better links between north and south Wales. Somebody said that we need better roads and transport so that people can travel to different parts of Wales to admire the countryside and see what else Wales has to offer. That is important. Roads and links back into some of these rural areas could regenerate rural Wales.

Mae gan bobl mewn ardaloedd gwledig nifer o sgiliau. Pe baem yn cael cymorth a threfn ar gyfer addysg a hyfforddiant i’r ardaloedd gwledig hyn, yr wyf yn sicr y byddai yna ymateb cadarn. Yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol, yr Amgylchedd, Cynllunio, Tai a Thrafnidiaeth y bore hwn, cyfeiriodd rhywun at ffyrdd i Gaerdydd a gwell cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Dywedodd rhywun bod arnom angen gwell ffyrdd a thrafnidiaeth fel y gall pobl deithio i wahanol rannau o Gymru er mwyn edmygu cefn gwlad a gweld beth arall sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae hynny’n bwysig. Gallai ffyrdd a chysylltiadau a fyddai’n arwain yn ôl i rai o’r ardaloedd gwledig hyn yn adfywio’r Gymru wledig.

Given the financial hammering that rural people have taken during the last couple of years, it is amazing that they are now finding ways to achieve, even in the darkest moments. I am sure that the crisis has been worse during the last few weeks than it has been for a long time. At the rural show this week we saw the launch of Snowdon lamb; farmers had even been to the parish shows. A mail order scheme for lambs was launched in mid Wales. Safeway, I believe, announced that it had tied up with the Welsh sheep breeders to take 1,000 small hill lambs off the market each week. The farmers’ ferry is moving far more small lambs at this time of the year than ever before to try to alleviate problems later on. There are many initiatives. Someone talked about being fed up about asking for money. Farmers are not looking for money. They are prepared to fight their way out of this themselves. There are many good points in the rural statement. If we all work together and recognise the problems that exist in rural Wales, we can have the same success that we have had in some areas of Cardiff. We can have a fair society throughout Wales. It will be a tremendous step forward.

O gofio’r gurfa ariannol y mae pobl yng nghefn gwlad wedi’i dioddef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n rhyfeddol eu bod yn awr yn darganfod ffyrdd o gyflawni, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf. Yr wyf yn sicr y bu’r argyfwng yn waeth yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf hyn nag y bu ers amser maith. Yn y sioe wledig yr wythnos hon gwelsom lansiad cig oen Eryri; yr oedd ffermwyr hyd yn oed wedi bod yn y sioeau plwyf. Lansiwyd cynllun archebu drwy’r post ar gyfer ŵyn yng nghanolbarth Cymru. Mae Safeway, yr wyf yn credu, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymrwymo gyda bridiwyr defaid Cymreig i fynd â 1,000 o ŵyn mynydd bychain oddi ar y farchnad bob wythnos. Mae fferi’r ffermwyr yn symud llawer mwy o ŵyn bychain yr adeg hon o’r flwyddyn nag o’r blaen i geisio lliniaru problemau yn nes ymlaen. Mae yna lawer o fentrau. Soniodd rhywun eu bod wedi cael llond bol o ofyn am arian. Nid arian y mae ffermwyr yn chwilio amdano. Maent yn barod i ymladd eu ffordd allan o’r sefyllfa hon eu hunain. Ceir nifer o bwyntiau da yn y datganiad gwledig. Os byddwn oll yn cydweithio a chydnabod y problemau sydd yn bodoli yn y Gymru wledig, gallwn gael yr un llwyddiant ag y cawsom mewn rhai o ardaloedd Caerdydd. Gallwn sicrhau cymdeithas deg ledled Cymru. Bydd yn gam aruthrol ymlaen.

Janet Davies spoken in English p. 63

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 63

This document has been needed for a long time in Wales. It is very valuable because it brings together all the issues that needed to be brought together in Wales. This enables us to compare them and consider ways of working effectively to begin to meet the challenges. In reading the document, I felt that many of the issues were familiar because it has the same thrust as the 1984 Plaid Cymru agricultural policy—perhaps it takes a long time for the rest of Wales to catch up with us. We must then ensure, as Ieuan said, that there are specific policies in place. We must set targets and ensure that they are monitored and met.

Bu angen am y ddogfen hon ers amser maith yng Nghymru. Mae’n werthfawr iawn gan ei bod yn dwyn ynghyd yr holl faterion yr oedd yn rhaid eu dwyn ynghyd yng Nghymru. Fel hyn, gallwn eu cymharu ac ystyried ffyrdd o weithio’n effeithiol er mwyn dechrau wynebu’r her. Wrth ddarllen y ddogfen, teimlais fod llawer o’r materion yn gyfarwydd gan fod iddi’r un ergyd â pholisi amaethyddol Plaid Cymru yn 1984—efallai ei bod yn cymryd amser hir i weddill Cymru ddal i fyny â ni. Rhaid inni wedyn sicrhau, fel y dywedodd Ieuan, bod yna bolisïau penodol ar waith. Rhaid inni bennu targedau a sicrhau y cânt eu monitro a’u cyflawni.

I want to talk about one issue from this document, although I appreciate that it should be put in context. However, I would like to talk about the most serious issue of rural housing, which is the lack of adequate housing for people in rural Wales. The effect on people of living in overcrowded or poor housing is poor health. Often there are no facilities to enable them to take advantage of education and training.

Hoffwn drafod un mater o’r ddogfen hon, er fy mod yn gwerthfawrogi’r ffaith y dylid ei roi yn ei gyd-destun. Fodd bynnag, hoffwn siarad am y mater mwyaf difrifol sef tai gwledig, sef diffyg tai digonol i bobl yn y Gymru wledig. Yr effaith a gaiff sefyllfa lle mae pobl yn byw mewn tai gwael neu dai gorlawn yw iechyd gwael. Yn aml nid oes unrhyw gyfleusterau i’w galluogi i fanteisio ar addysg a hyfforddiant.

One problem in rural Wales is low wages. A result of low incomes compared with high house prices—which are often artificially raised through people retiring to Wales, because of its beauty—is that it makes it impossible for people to get sufficient mortgages. The right to buy has merit in some areas and has improved many council housing estates beyond recognition. However, it has been disastrous for small villages, because the 10 or 12 houses formerly available for rent are no longer available. It has left a big gap in provision, which housing associations are struggling to fill. However, the rent of those housing associations leads to further problems. We have homelessness in rural areas, but it is mainly hidden. Sleeping rough in a rural area is worse than sleeping rough in a big city. It has happened in my area a couple of times and it has been a dreadful situation. For example, you may have several generations living in a small house—three or four generations living in a three-bedroom house. That is a difficult situation. Some homelessness is exported to cities, particularly Swansea due to its geographical location.

Un broblem yn y Gymru wledig yw cyflogau isel. Un effaith y mae cyflogau isel o’u cymharu â phrisiau tai uchel yn ei chael—prisiau sydd yn codi’n artiffisial yn aml wrth i bobl yn ymddeol i Gymru, oherwydd ei harddwch—yw bod hi’n amhosibl i bobl gael morgeisi digonol. Mae gan yr hawl i brynu ei rinweddau mewn rhai ardaloedd ac mae wedi gwella llawer o stadau tai cyngor yn aruthrol. Fodd bynnag, bu’n drychinebus i bentrefi bychain, gan nad yw’r 10 neu 12 o dai, a oedd unwaith ar gael i’w rhentu, ar gael mwyach. Gadawodd ar ei ôl fwlch mawr yn y ddarpariaeth, bwlch y mae’r cymdeithasau tai yn ymdrechu i’w lenwi. Fodd bynnag, mae rhent y cymdeithasau tai hynny yn arwain at broblemau pellach. Mae digartrefedd i’w weld mewn ardaloedd gwledig, ond mae’r rhan fwyaf o hynny yng nghudd. Mae cysgu allan mewn ardal wledig yn waeth na chysgu allan mewn dinas fawr. Digwyddodd yn fy ardal i ryw gwpl o weithiau ac yr oedd yn sefyllfa enbyd. Er enghraifft, efallai fod gennych sawl cenhedlaeth yn byw mewn tŷ bychan—tair neu bedair cenhedlaeth yn byw mewn tŷ tair llofft. Mae honno’n sefyllfa anodd. Mae peth digartrefedd yn cael ei allforio i’r dinasoedd, yn arbennig Abertawe oherwydd ei lleoliad daearyddol.

There is also the issue of housing conditions in rural areas and lack of money for essential repairs. Materials for repairs are often more expensive in rural areas than in urban areas. It is important to find out the extent of this problem. We desperately need a full housing conditions and needs survey. In the mid 1980s, we tried to persuade the Conservative Government to carry out such a survey, but the feeling was that it would cost too much. However, the cost that would have been incurred would probably have been saved many times over by now.

Mae hefyd y mater o gyflwr tai mewn ardaloedd gwledig a diffyg arian ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Mae deunyddiau atgyweirio yn aml yn ddrutach mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol. Mae’n bwysig darganfod maint y broblem. Mae gwir angen am arolwg llawn o anghenion a chyflwr tai. Ganol y 1980au, bûm yn ceisio darbwyllo’r Llywodraeth Geidwadol i gynnal arolwg o’r fath, ond y teimlad oedd y byddai’n costio gormod. Fodd bynnag, mae’n debyg y byddent wedi arbed y gost honno sawl gwaith drosodd bellach.

Affordable housing in good condition must be available. The difficulty is finding the necessary investment. Local authorities should take a strategic role. However, the important issue is to get the housing and ensure its availability rather than sticking to set ways of working. In recent years, local authorities have often been forced to pursue ways of working that perhaps have not been the most effective, but have been the only means available within the legislation. That has often wasted money and time rather than producing the necessary results.

Rhaid sicrhau bod tai y gellir eu fforddio, sydd hefyd mewn cyflwr da, ar gael. Dod o hyd i’r buddsoddiad angenrheidiol yw’r anhawster. Dylai’r awdurdodau lleol chwarae rôl strategol. Fodd bynnag, y mater pwysig yw sicrhau’r tai a sicrhau eu bod ar gael yn hytrach na glynu wrth ffyrdd sefydlog o weithio. Dros y blynyddoedd diwethaf, gorfodwyd awdurdodau lleol i ddilyn ffyrdd o weithio—nid y rhai mwyaf effeithiol o bosibl—ond dyma’r unig ffyrdd a oedd ar gael o fewn y ddeddfwriaeth. Gwastraffu arian ac amser oedd hynny yn aml, yn hytrach na sicrhau’r canlyniadau angenrheidiol.

I recognise that there is an overlap here with the work of the Environment and Local Government Committee but there is overlap everywhere. There is the question of different committees and bodies working together to try to solve the particular problems that occur in rural areas. However, until local people have decent living accommodation, they will have difficulty in working together with anybody to tackle successfully the challenges that we have in rural areas.

Yr wyf yn cydnabod bod hyn yn gorgyffwrdd yma â’r gwaith Phwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol ond mae’n gorgyffwrdd ag eraill hefyd. Ceir y cwestiwn o wahanol bwyllgorau a chyrff yn gweithio gyda’i gilydd i geisio datrys problemau penodol sydd yn digwydd mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, nes bydd gan bobl leol le priodol i fyw ynddo, bydd yn anodd iddynt gydweithio gydag unrhyw un i ddelio yn llwyddiannus â’r heriau sydd yn ein hwynebu mewn ardaloedd gwledig.

Kirsty Williams spoken in English p. 65

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 65

I too welcome this debate. As Ieuan said, throughout the campaign for this Assembly election you heard on doorstep after doorstep rural people’s fear that this Assembly would be dominated by urban issues. They felt that it would have little impact on their lives and would not take the time to debate the issues that were important to them. In some ways, it has almost been the other way around. A great deal of our time in recent weeks has been spent discussing rural issues. We have debated beef on the bone, Milk Marque and GM foods and there have been many debates in this Chamber in which people have raised the issue of rural needs. This is welcome.

Yr wyf innau hefyd yn croesawu’r ddadl hon. Fel y dywedodd Ieuan, drwy’r ymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad hwn fe glywech o un drws i’r llall, bryderon pobl yng nghefn gwlad mai materion trefol fyddai’n mynd ag amser y Cynulliad hwn. Teimlent mai ychydig o effaith y byddai’n ei chael ar eu bywyd hwy ac na fyddai’n rhoi o’i amser i drafod y materion a oedd yn bwysig iddynt hwy. Mewn rhyw ystyr, mae’r gwrthwyneb bron yn wir. Treuliwyd llawer iawn o’n hamser yn ystod yr wythnosau diwethaf yn trafod materion gwledig. Yr ydym wedi trafod cig eidion ar yr asgwrn, Milk Marque a bwydydd a addaswyd yn enetig a chafwyd sawl dadl yn y Siambr lle mae pobl wedi codi cwestiynau ynghylch anghenion gwledig. Croesewir hyn.

Perhaps I am paranoid, but there seem to be many misconceptions about people who live in rural areas and what living in a rural area is all about. The fact that we live among some of the most beautiful scenery in Wales does not mean that we do not get sick or have difficulty finding somewhere to live. I know, because at the moment I am a rural homelessness statistic, desperately attempting to find a property. It does not mean that we do not have to work or that we will not have mental health problems or need childcare. Although, as Janet said, some of these things are hidden, it does not mean that poverty, social exclusion and need do not exist. I read with despair this week on the front page of The Western Mail that Powys was the least socially excluded county in Wales. I would like to tell The Western Mail—and I wish Clive Betts were here—to try telling that to the people of Ystradgynlais and Machynlleth. They would have something to say to him. Of course, there are areas in Powys that, in comparison with other areas in Wales, are doing very well. However, there are parts of rural Powys that are doing extremely badly and we need to recognise that fact, which we begin to do in this paper.

Efallai fy mod yn baranoiaidd, ond ymddengys y ceir nifer o gamsyniadau am bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig a sut beth yn union yw’r bywyd gwledig. Nid yw’r ffaith ein bod yn byw yng nghanol rhai o’r golygfeydd harddaf yng Nghymru yn golygu nad ydym yn dioddef salwch neu’n cael trafferth i ddod o hyd i le i fyw. Yr wyf fi’n gwybod, gan fy mod ar hyn o bryd yn un ffigwr yn yr ystadegau digartrefedd yng nghefn gwlad, yn chwilio’n daer am eiddo. Nid yw’n golygu nad oes yn rhaid inni weithio neu na fyddwn yn dioddef problemau iechyd meddwl nag angen gofal plant. Fel y dywedodd Janet, er bod rhai o’r pethau hyn yng nghudd, nid yw hynny’n golygu nad yw’r tlodi, dieithriwch cymdeithasol ac anghenion yn bodoli yno. Darllenais ar dudalen flaen y Western Mail, gydag anobaith, yr wythnos hon mai Powys oedd y sir yng Nghymru sydd yn dioddef leiaf o ddieithriwch cymdeithasol. Hoffwn ddweud wrth y Western Mail—a thrueni na fyddai Clive Betts yma—am geisio dweud hynny wrth drigolion Ystradgynlais a Machynlleth. Byddai ganddynt hwy rywbeth i’w ddweud wrtho. Wrth gwrs, ceir ardaloedd ym Mhowys sydd, o’u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru, yn llwyddo. Fodd bynnag, ceir llefydd yn y Bowys wledig nad ydynt yn llwyddiannus o gwbl a rhaid inni gydnabod y ffaith honno—rhywbeth yr ydym yn dechrau ei wneud yn y papur hwn.

I would like to touch on three issues. First, rural services. I have one thing to say, which is that they cost more to deliver. This year Powys Education Authority will spend over £5 million just getting the children to school. That means that, before they do anything else, they will spend that huge chunk of their budget just physically getting children to their places of learning. That is why in Dyfed Powys Health Authority we need three district general hospitals. If we did not have them, people would have to travel many more miles than they already do to get access to acute medical services. It costs more to deliver these services in a rural area. As this paper points out, the allocations of resources must reflect that. I would plead with the Environment Committee and also with my fellow members of the Health and Social Services Committee that we need to at least consider the possibility of including sparsity or rurality as a factor when allocating resources to local government and health authorities.

Hoffwn gyffwrdd ar dri mater. Yn gyntaf, gwasanaethau gwledig. Mae gennyf un peth i’w ddweud, sef eu bod yn costio mwy i’w cyflwyno. Eleni bydd Awdurdod Addysg Powys yn gwario dros £5 miliwn dim ond yn sicrhau bod plant yn cyrraedd yr ysgol. Golyga hynny, cyn gwneud unrhyw beth arall, eu bod wedi gwario darn anferth o’u cyllideb dim ond yn sicrhau bod y plant yn cyrraedd yr ysgolion. Dyna pam bod arnom angen tri ysbyty cyffredinol dosbarth yn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys. Os nad yw’r rheini gennym, byddai’n rhaid i bobl deithio llawer mwy o filltiroedd nag a wnânt yn awr er mwyn derbyn gwasanaethau meddygol aciwt. Mae’n costio mwy i gyflwyno’r gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig. Fel yr amlyga’r papur hwn, rhaid dyrannu’r adnoddau mewn modd sydd yn adlewyrchu hynny. Buaswn yn ymbil ar Bwyllgor yr Amgylchedd a hefyd ar fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod yn rhaid inni o leiaf ystyried y posibilrwydd o gynnwys y natur wasgaredig a gwledig fel ystyriaeth wrth ddyrannu adnoddau i awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

When I was a candidate, the Senior Salaries Review Body sent a very useful man to talk to me about various aspects of becoming an Assembly Member. He was aghast when I said that I was planning to drive to the Assembly. He thought I should set an example and urged me to use public transport. I had difficulty in explaining to him that as I live in Builth Wells, public transport is not an issue for me. Or rather, it is an issue. It would not be possible to arrive at the Assembly by 9 a.m. using public transport. If by some miracle I could get here by 9 a.m. I would be going home again at 12 because that is when the last buses and trains leave. We have real life evidence of youngsters hitchhiking from Knighton to Llandrindod to sign on and of pensioners hitchhiking to their nearest post office because there is simply no other way of getting there if you do not have a car. I would plead with the relevant Committees to look at community transport policies for rural communities extending, for instance, the post bus service and the dial-a-ride scheme. Dial-a-ride is fantastic if you are old or have a disability because then you have access to it. If you do not fall into those categories you do not get access to it. We need to expand that scheme.

Pan oeddwn yn ymgeisydd, bu i’r Corff Adolygu Cyflogau Uwch anfon dyn defnyddiol iawn i siarad gyda mi am yr amrywiol agweddau ar fod yn Aelod o’r Cynulliad. Yr oedd wedi dychryn pan ddywedais fy mod yn bwriadu gyrru i’r Cynulliad. Credai ef y dylwn ddangos esiampl gan fy annog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Cefais drafferth i esbonio wrtho, gan fy mod yn byw yn Llanfair-ym-Muallt, nad yw cludiant cyhoeddus yn fater i mi. Neu, yn hytrach, mae hynny yn fater i mi. Ni fyddai modd imi gyrraedd y Cynulliad erbyn 9 y bore gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Pe gallwn, drwy ryw wyrth, gyrraedd yma erbyn 9 y bore byddai’n rhaid imi droi am adref unwaith eto am 12 gan mai dyna pryd mae’r bysiau a’r trenau olaf yn gadael. Mae gennym ni dystiolaeth go iawn o bobl ifanc yn bodio o Drefyclo i Landrindod i gofrestru am fudd-dâl a phensiynwyr yn bodio i’w swyddfa bost agosaf oherwydd, yn syml, nad oes yna unrhyw ffordd arall o fynd yno os nad oes gennych gar. Buaswn yn ymbil ar y Pwyllgorau perthnasol i edrych ar bolisïau trafnidiaeth gymunedol ar gyfer cymunedau gwledig gan ymestyn, er enghraifft, y gwasanaeth bysiau post a’r cynllun dial-a-ride. Mae dial-a-ride yn ardderchog os ydych chi’n hen neu’n anabl, gan fod gennych chi, o’r herwydd, hawl i’w ddefnyddio. Os nad ydych yn syrthio i’r categorïau hyn ni chewch ei ddefnyddio. Rhaid inni ymestyn y cynllun hwn.

Richard rightly says that rural affairs are about more than farming. However, I cannot sit down without mentioning the crisis in agriculture. Family farms are the backbone of agriculture in Wales. The average age of farmers on family farms is 58. Increasingly, young people in rural communities are turning their backs on agriculture. Who can blame them when they will get approximately 73p per kilo for their lambs in Talgarth market? They are losing £25 per beast more than last year and last year was bad enough. Successive Governments have failed to back young farmers. There are European schemes that could facilitate an early retirement scheme and measures to help young people into agriculture, yet we do not access them. Having said that, unless we make agriculture economically viable so that a living can be made from it, young people will not stay in the industry.

Dywedodd Richard, ac yn gywir felly, bod materion gwledig yn cwmpasu llawer mwy na dim ond ffermio. Fodd bynnag, ni allaf eistedd heb grybwyll yr argyfwng ym myd ffermio. Ffermydd teuluol yw asgwrn cefn amaethyddiaeth yng Nghymru. Oedran cyfartalog ffermwyr ar ffermydd teuluol yw 58. Fwyfwy, mae pobl ifanc mewn cymunedau gwledig yn troi eu cefnau ar amaethyddiaeth. Pwy all eu beio pan gânt oddeutu 73c y kilo am eu hŵyn ym marchnad Talgarth? Maent yn colli £25 yr anifail yn fwy na’r llynedd ac yr oedd y llynedd yn ddigon gwael. Mae’r naill Lywodraeth ar ôl y llall wedi methu â chefnogi ffermwyr ifanc. Ceir cynlluniau yn Ewrop a allai hwyluso cynllun ymddeoliad cynnar a mesurau i helpu pobl ifanc i’r byd amaeth, ond eto nid ydym yn eu defnyddio. Wedi dweud hynny, oni bai ein bod yn gwneud amaethyddiaeth yn economaidd hyfyw fel y gellir gwneud bywoliaeth ohono, ni fydd pobl ifanc yn aros yn y diwydiant.

I am sad to see that Ron has gone. He said that we do not need subsidies. Any farmer would tell you that if you give him a decent price for his stock he will do without subsidies. Ron said that agri-environmental schemes and such like are the answer. They are the answer for the 300 farmers that will be allowed to join that co-operative scheme and for the 1 in 10 Welsh farmers allowed to join Tir Gofal. However, when farmers stuck halfway up a hill are told to diversify they do not have sufficient money and find it difficult because the land they own does not allow for diversification.

Mae’n drist gennyf weld bod Ron wedi mynd. Fe ddywedodd nad oes arnom angen cymorthdaliadau. Byddai unrhyw ffermwr yn dweud wrthych pe byddech yn rhoi pris digonol iddo am ei stoc y byddai’n gwneud heb gymorthdaliadau. Dywedodd Ron mai’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol a’u tebyg yw’r ateb. Maent yn ateb i’r 300 o ffermwyr a dderbynnir ar y cynllun cydweithredol hwnnw a’r 1 ym mhob 10 o ffermwyr Cymru a dderbynnir ar gynllun Tir Gofal. Fodd bynnag, pan ddywedir wrth ffermwyr sydd yn byw hanner ffordd i fyny’r mynydd am arallgyfeirio nid oes ganddynt yr arian digonol ac maent yn cael hynny yn anodd gan nad yw’r tir sydd yn eiddo iddynt yn caniatáu iddynt arallgyfeirio.

I am glad of the opportunity to raise these issues on behalf of the largest single rural constituency of the Assembly. As someone who has spent most of her life in an urban area, I am a welcome convert to rural affairs. I hope that the Assembly will continue to discuss these important issues and find real answers for the people of Brecon and Radnorshire and all of rural Wales.

Yr wyf yn falch o’r cyfle i godi’r materion hyn ar ran etholaeth wledig sengl fwyaf y Cynulliad. Fel un a dreuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd mewn ardal drefol, yr wyf yn falch o fod wedi troi at faterion gwledig. Gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn parhau i drafod y materion pwysig hyn ac yn darganfod atebion gwirioneddol ar gyfer pobl Aberhonddu a Maesyfed a’r Gymru wledig gyfan.

Lorraine Barrett spoken in English p. 68

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 68

I found Glyn Davies’s contribution interesting because of the personal elements he brought to it. However, despite that and despite the fact that we are trying to develop a non-adversarial style of working, I felt it was a bit rich for him to say that this Government, whether the UK Government or the Assembly, is not interested in rural issues. It was his Tory Government, especially under Mrs Thatcher, that destroyed the public transport system and closed most of the corner shops and rural post offices. That hit rural areas very hard. We are picking up those pieces.

Yr oedd cyfraniad Glyn Davies yn ddiddorol oherwydd yr elfen bersonol a gynhwyswyd ganddo. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny ac er gwaethaf y ffaith ein bod yn ceisio meithrin arddull gweithio anymosodol, yr oeddwn yn teimlo ei bod ychydig yn eironig iddo ddweud nad oes gan y Llywodraeth hon, boed hynny’n Llywodraeth y DU neu’r Cynulliad, ddiddordeb mewn materion gwledig. Ei Lywodraeth Dorïaidd ef, yn arbennig dan Mrs Thatcher, a ddinistriodd y system cludiant cyhoeddus ac a gaeodd y rhan fwyaf o’r siopau cornel a’r swyddfeydd post gwledig. Yr oedd honno yn ergyd galed iawn i ardaloedd gwledig. Nyni sydd yn codi’r darnau hynny.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 68

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 68

Fel Glyn, credaf fod gan y Llywodraeth gryn waith i’w wneud i argyhoeddi pobl yng nghefn gwlad ei bod yn cymryd eu problemau o ddifrif ac yn sylweddoli’n llawn yr argyfwng sydd yn bodoli yno.

Like Glyn, I believe that the Government has work to do to convince people in the countryside that they take their problems seriously and fully realise the crisis that exists there.

Llongyfarchaf Christine am ddod â’r ddogfen hon ger ein bron. Yr wyf yn cydnabod ei bod yn ddogfen werthfawr sydd yn dangos nifer o’r dewisiadau sydd gennym ar gyfer hyrwyddo nid yn unig amaethyddiaeth ond datblygu cefn gwlad ac ardaloedd gwledig ar gyfer y dyfodol.

I congratulate Christine on bringing this document before us. I acknowledge that it is a valuable document that shows a number of the options that we have not only for promoting agriculture but also developing rural areas and the countryside for the future.

Gwnaethpwyd nifer o bwyntiau am hynny ac yr wyf yn eu cydnabod ac yn eu croesawu. Fodd bynnag, fel y dywedais wrth i Christine gyflwyno’r ddogfen, nid wyf yn argyhoeddedig bod y Llywodraeth yn sylweddoli’r argyfwng sydd yn ein hwynebu yng nghefn gwlad.

Several points were made about that and I acknowledge and welcome them. However, as I said when Christine presented the document, I am not convinced that the Government realises the crisis that faces us in the countryside.

Dywedodd Janet fod y ddogfen yn ei hatgoffa o bolisi economaidd ac amaethyddol Plaid Cymru ym 1984. Gallaf gyfeirio at lif o ddogfennau y mae hon yn fy atgoffa ohonynt. Pe bai modd ateb problemau cefn gwlad neu unrhyw ran arall o Gymru trwy ysgrifennu dogfennau a chreu partneriaethau, ni fyddai angen Amcan 1 arnom. Yr ydym wedi gweld gormodedd o ddogfennau o’r un math ac ansawdd. Nid wyf yn cwestiynu ansawdd y ddogfen na chyfraniadau’r bobl yn y bartneriaeth hon, ond yn y gorffennol y mae Cymru wedi creu gormodedd o bartneriaethau nad ydynt wedi cynhyrchu na gweithredu dim byd. Soniodd Mick Bates am hynny. Dyna’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng partneriaeth a llywodraeth. Dylai partneriaeth ddadansoddi’r broblem a dylai llywodraeth weithredu polisïau er mwyn ateb y broblem.

Janet said that the document reminded her of Plaid Cymru’s economic and agricultural policy in 1984. I can refer to a flood of documents that this one reminds me of. If the problems of the countryside or any other part of Wales could be solved through writing documents and creating partnerships we would not need Objective 1. We have seen a surfeit of documents of this quality and kind. I do not question the quality of the document nor the contributions of those in this partnership but in the past Wales has created a surfeit of partnerships that have neither created nor produced anything. Mick Bates mentioned that. That is the basic difference between a partnership and a government. A partnership should examine the problem and a government should implement policies to solve the problem.

Os edrychwn yn fanwl ar y cynnig a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, nid oes sôn am weithredu, dim ond rhoi ystyriaeth ofalus a chaniatáu i Bartneriaeth Wledig Cymru hyrwyddo’r polisïau angenrheidiol i ateb y problemau. Nid cyfrifoldeb y bartneriaeth yw ateb problemau cefn gwlad; cyfrifoldeb y Llywodraeth a’r Cynulliad yw creu’r polisïau angenrheidiol.

If we look carefully at the proposal presented by Government, there is no mention of action, just of careful consideration and allowing the Rural Partnership for Wales to promote the policies necessary to solve the problems. It is not the partnership’s responsibility to solve the problems of the countryside; it is the Government’s and the Assembly’s responsibility to create the policies needed.

Gofynnodd Christine imi nodi’r pethau yr wyf yn disgwyl i’r Llywodraeth eu gwneud. Nodaf rai ohonynt yng nghyd-destun cyhoeddiad Stephen Byers heddiw ei fod wedi penderfynu caniatáu i Milk Marque barhau i fodoli fel cwmni cydweithredol, ond ei fod yn gwrthod caniatáu iddo ddatblygu rhagor o ganolfannau prosesu. Beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i ateb yr angen dybryd yng Nghymru am ganolfannau prosesu? Gwerthir ein llaeth drwy Brydain ac Ewrop ond nid ydym yn cael y cyfle i ychwanegu gwerth at y cynnyrch yng Nghymru. Os dywed Stephen Byers wrthym na fydd Milk Marque yn cael y cyfle hwnnw, pwy fydd yn ei gael? Sut bydd y Llywodraeth yn hyrwyddo’r agwedd bwysig honno ar y diwydiant llaeth?

Christine asked me to note what things I expect the Government to do. I note some of them in the context of Stephen Byers’s announcement today that he has decided to allow Milk Marque to continue to exist as a co-operative company but that he refuses to allow it to develop more processing centres. What will the Government do to answer the real need in Wales for processing centres? Our milk is sold throughout Britain and Europe but we do not get the chance to add value to the product in Wales. If Stephen Byers says that Milk Marque will not get that chance, who will? How will the Government promote that important aspect of the milk industry?

Yr ydym wedi clywed am y bartneriaeth bwyd-amaeth ac eto mae cynlluniau gwirioneddol dda yn y fan hon. Fodd bynnag, hoffwn gyfeirio at yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig i’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn. Daeth yr undebau i roi tystiolaeth ddydd Iau diwethaf. Er bod anghytundeb ynghylch y gwaharddiad, yr oedd cytundeb llwyr rhwng y ddau undeb a Chymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad am yr angen i godi’r gwaharddiad ar allforio cig eidion i Ewrop. Beth fydd y Llywodraeth a’r Cynulliad—er fy mod yn siŵr bydd Rhodri yn ein hatgoffa bod hyn tu hwnt i bwerau’r Cynulliad—yn ei wneud am y broblem sylfaenol honno sydd yn wynebu cynhyrchwyr cig yng Nghymru? Mae’n rhaid inni ddelio â hynny cyn dechrau ar gynlluniau tymor hir, er bod y rheini’n bwysig ac yn cynnig cyfleodd. Mae ffermwyr, fel oedd Mick a Glyn yn dweud, yn ddigon parod i gymryd mantais o’r cyfleoedd hynny.

We have heard about the agri-food partnership and again there are excellent plans in that field. However, I would like to refer to the inquiry by the Agriculture and Rural Development Committee into the ban on beef on the bone. The unions came to give evidence last Thursday. Although there was disagreement over the ban, there was complete agreement between the two unions and the Country Landowners Association about the need to lift the ban on exporting beef to Europe. What will the Government and the Assembly—although I am sure that Rhodri will remind us that this is beyond the Assembly’s power—do about that fundamental problem facing meat producers in Wales? We need to tackle that before starting on long-terms plans, though these are important and offer opportunities. Farmers, as Mick and Glyn said, are prepared to take advantage of those opportunities.

Mae’n rhaid inni wynebu’r problemau. Beth y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynghylch newidiadau yn nhaliadau’r lwfans iawndal da byw tir uchel? Yr ydym yn sylweddoli bod newidiadau yn angenrheidiol i greu cynllun sydd yn haws i’r Comisiwn Ewropeaidd ei weithredu a’i weinyddu. Hefyd, rhaid inni sicrhau nid ydym yn gorgynhyrchu oherwydd mae hynny’n creu problemau yn y farchnad. Beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu’r ffermydd llai na fydd yn cael mantais o daliadau wrth yr hectar? Dyna’r sectorau yn gyffredinol.

We must face the problems. What does the Government plan to do about the changes in hill livestock compensatory allowance payments? We realise that changes are needed to create a scheme that is easier for the European Commission to administer and operate. We also need to ensure that we do not overproduce as that creates problems in the market. What will the Government do to protect the smaller farms that will not benefit from payments per hectare? Those are the sectors in general.

Gadewch inni fynd yn ôl at y ddogfen. Fe’i darllenais ac yr oedd gennyf 75 o dudalennau yn ogystal ag yr atodiadau. Felly, nid wyf yn siŵr beth yr oedd Glyn wedi’i ddarllen. Mae 75 tudalen rhwng 35,000 a 40,000 o eiriau. Yr oeddwn yn cytuno gyda bron popeth yn y ddogfen ond chwiliais am darged penodol, rhywbeth oedd y ddogfen yn datgan y dylid ei gyflawni. Mae Mick wedi cyfeirio at hyn. Deuthum ar draws yr unig darged penodol ar dudalen 29. Mae’n sôn am ymestyn y sector organig i 10 y cant o gynnyrch Cymru erbyn 2005 a gwneud defnydd llawn o’r cyfleoedd i farchanta bwydydd organig. Dyna darged penodol, rhywbeth y dylid ei gyflawni.

Let us go back to the document. I read it and it had 75 pages excluding the appendices. So I am not sure what Glyn has been reading. Seventy-five pages is between 35,000 and 40,000 words. I agreed with almost everything in the document but searched for a definite target, something the document stated should be accomplished. Mick has referred to that. I came across the only specific target on page 29. It mentions extending the organic sector to 10 per cent of Wales’s produce by 2005 and making full use of the opportunities to market organic foods. That is a specific target, something that should be accomplished.

Dydd Llun diwethaf, ymwelais â fferm sydd yn ceisio trosglwyddo i fod yn fferm organig. Maent wedi gwneud cais ers dwy flynedd. Dywedodd y Swyddfa Gymreig eu bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ac y byddent yn derbyn taliadau. Aethant drwy’r broses o ymweliadau, asesiadau, llenwi ffurflenni, cofrestru a chael eu hachredu ar gyfer y cynllun. Ar 9 Chwefror gwnaeth Alun Michael ddatganiad a oedd yn llonni eu calonnau. Dywedodd ei fod yn benderfynol o annog mwy o ffermwyr yng Nghymru i drosglwyddo i fod yn organig, ei fod wedi sicrhau mwy o gyngor a chymorth i’w helpu drwy’r broses drosglwyddo a’i fod yn croesawu’r ffaith fod llawer iawn mwy o ffermwyr yn gweld y cyfleoedd ac yn gwneud cais am drosglwyddo. Dywedodd yn benodol eto fod angen mwy o gymorth ar ffermwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Ategodd Jon Owen Jones, y Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig, hyn a dywedodd mai’r prif newid yr oedd y Swyddfa Gymreig yn mynd i’w gyflwyno oedd cynnydd mewn taliadau o £250 i £450 yr hectar dros bum mlynedd ar gyfer y rhan fwyaf o dir âr a rhwng £50 a £350 ar gyfer tir wedi’i wella.

Last Monday, I visited a farm that is trying to transfer into an organic farm. They made an application two years ago. The Welsh Office said that they were suitable for the scheme and would receive payments. They went through the process of visits, assessments, filling in forms, registration and accreditation for the scheme. On 9 February Alun Michael made a statement that brought joy to their hearts. He said that he was determined to encourage more Welsh farmers to transfer into being organic, that he had ensured more help and advice to assist them through the process of transferral and that he welcomed the fact that many more farmers saw the opportunity and were applying for transferral. He stated specifically that more help was needed for farmers during the transfer period. Jon Owen Jones, the Minister in the Welsh Office, confirmed this and said that the main change that the Welsh Office was going to introduce was to increase payments from £250 to £450 per hectare over five years for most arable land and between £50 to £350 for improved land.

Felly, yr oedd y bobl hyn yn paratoi ar gyfer trosglwyddo i fod yn ffermwyr organig gan wybod y byddai’r taliadau trosglwyddo yn gwneud yn iawn am y toriadau y byddent yn gorfod eu hwynebu oherwydd yr angen i leihau stoc. Ond yr wythnos diwethaf bu’n rhaid iddynt ledaenu gwrtaith oherwydd na chyrhaeddodd y taliadau. Mae eu cyfle wedi’i golli a bydd yn rhaid iddynt aros am flwyddyn neu efallai ddwy flynedd ychwanegol.

Therefore, these people were preparing to tranfer to being organic farmers, knowing that the transfer payment would meet the cuts they would have to face due to the need to reduce stock. However, last week they had to spread fertiliser because the payments did not arrive. Their chance has been lost and they will have to wait an additional year or perhaps two years.

Yr ydym yn sôn am daliadau sydd wedi’u cyflwyno yn Lloegr. Dywedodd Nick Brown ym mis Ionawr ei fod yn mynd i gyflwyno’r taliadau, a chawsant eu cyflwyno ym mis Ebrill yn Lloegr. Pam nad ydynt wedi’u cyflwyno yng Nghymru? Hwn yw’r unig darged penodol yn yr holl ddogfen, mewn 75 tudalen a 40,000 o eiriau, ac mae’r rhai sydd yn ei gyflawni yn methu â gwneud hynny oherwydd bod y Swyddfa Gymreig wedi methu â chyflwyno’r taliadau.

We are talking about payments that have been introduced in England. Nick Brown said in January that he was going to introduce the payments, and they were introduced in April in England. Why have they not been introduced in Wales? It is the only specific target in the whole document, in 75 pages and 40,000 words, and those trying to accomplish it cannot do so because the Welsh Office has failed to introduce the payments.

Mae gennyf dau gwestiwn. Pam nad yw’r taliadau wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru a phryd y byddant yn cael eu cyflwyno? Pryd y bydd yr unig darged sydd yn y ddogfen yn cael ei weithredu? Mae hyn yn dangos yn glir y broblem sydd yn ein hwynebu. Mae’n ddogfen i’w chymeradwyo ac yn cynnig cyfleoedd at y dyfodol. Fodd bynnag, yr ydym ni, a phobl cefn gwlad, yn aros o hyd i weld a yw’r Llywodraeth o ddifrif ynghylch wynebu’r argyfwng presennol ac a fyddant yn cymryd camau gweithredol ymarferol i ateb y broblem. O leiaf y mae’r gwelliant a gyflwynwyd gan Ieuan Wyn Jones yn sôn am osod targedau a’u monitro. Mae’n rhaid gwneud hynny.

I have two questions. Why have the payments not been introduced in Wales and when will they be? When will the only target in this document be operational? That clearly shows the problem that faces us. The document is to be praised and offers opportunities for the future. However, we, and the people in rural areas, are still waiting to see whether the Government is serious about facing the present crisis and will take practical steps to solve the problem. At least Ieuan Wyn Jones’s amendment mentions setting targets and monitoring them. That must be done.

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 72

Rhodri Morgan spoken in Welsh and English p. 72

Yn holl Seneddau Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, yr wyf yn meddwl y gallaf ddweud gyda phob hyder mai dyma’r tro cyntaf i un Rhodri siarad ar ôl Rhodri arall.

in Welsh Of all the Parliaments of the Commonwealth Parliamentary Association, I think I can say with all confidence that this is the first time that one Rhodri has spoken after another.

The debate this afternoon has shown how important is the principle that we are the Assembly for the whole of Wales, including rural Wales. The priority we give to rural Wales is not be determined by its relatively small population—0.5 million or 600,000, depending on how it is defined—but by the fact that it is an integral part of Wales. The way the debate has been conducted shows that we all know, recognise and respect that.

yn Saesneg Mae’r ddadl y prynhawn yma wedi dangos pa mor bwysig yw’r egwyddor ein bod yn Gynulliad ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys y Gymru wledig. Ni ddylai poblogaeth cymharol fechan y Gymru wledig yn pennu’r flaenoriaeth a roddwn iddi—0.5 miliwn neu 600,000, mae’n dibynnu sut y’i diffinnir—ond, yn hytrach, y ffaith ei bod yn rhan annatod o Gymru. Dengys y modd y cynhaliwyd y ddadl ein bod oll yn gwybod, yn cydnabod ac yn parchu hynny.

Rhodri Glyn has picked on one of the difficulties about this document. It is one that the Assembly does not own in that we did not write it. It has not come from the Welsh Office under the old ministerial regime or from the Assembly or from any quango in Wales. It has come from the Rural Partnership. I am not trying to avoid responsibility for any inadequacies it may have. That is not the point. The point is that it is a bottom-up document that has come from the organisations represented in the Rural Partnership. It is not a Government document but one that has emerged from rural society, is by rural society and about rural society in Wales. It has been handed to us to take on.

yn Saesneg Mae Rhodri Glyn wedi amlygu un o’r anawsterau am y ddogfen hon. Nid yw’r ddogfen yn eiddo i’r Cynulliad o ran nad nyni y’i hysgrifennodd. Nid o’r Swyddfa Gymreig dan yr hen drefn weinidogol y daeth nac oddi wrth y Cynulliad nac oddi wrth unrhyw gwango yng Nghymru. Daeth oddi wrth y Bartneriaeth Wledig. Nid wyf yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am unrhyw ddiffygion a allai fod ynddi. Nid dyna yw’r pwynt. Y pwynt yw ei bod yn ddogfen o’r gwaelod i fyny a ddaeth oddi wrth y sefydliadau a gynrychiolwyd yn y Bartneriaeth Wledig. Nid dogfen gan y Llywodraeth mohoni, ond un a ddeilliodd o’r gymdeithas wledig, gan y gymdeithas wledig ac am y gymdeithas wledig yng Nghymru. Fe’i cyflwynwyd er mwyn inni fynd i’r afael â hi.

I cannot confirm that the only specific target in the document is that to expand organic food production to 10 per cent, but Rhodri Glyn is probably right. I took note of his sad anecdote about the delays in processing applications for conversion to organic production. He said that because payments were late, the farmers had to spread fertiliser and so their chance to become organic was lost. I do not doubt his word on that. However, trying to marry together the targets—or, if it is only one, the target—referred to in the document, with our conduct and actions as an Assembly is part of the problem. This document has not come from the civil service at the Welsh Office but from the Rural Partnership itself. It has given us a baseplate for our work on rural development and for how we conduct ourselves and give priority to rural issues.

yn Saesneg Ni allaf gadarnhau mai’r unig darged penodol yn y ddogfen yw hwnnw i ymestyn gweithgaredd cynhyrchu bwyd organig i 10 y cant, ond mae’n debyg bod Rhodri Glyn yn iawn. Sylwais ar ei hanesyn trist am yr oedi wrth brosesu ceisiadau i drosi i gynhyrchu organig. Dywedodd, gan fod y taliadau’n hwyr, bod yn rhaid i’r ffermwyr lledaenu gwrtaith gan golli’r cyfle i droi’n organig. Nid wyf yn amau ei air ynghylch hyn. Fodd bynnag, mae ceisio cyfuno’r targedau—neu, os mai dim ond un sydd, y targed—y cyfeiriwyd ato yn y ddogfen hon, gyda’n hymddygiad a’n gweithredoedd fel Cynulliad yn rhan o’r broblem. Nid oddi wrth y gwasanaeth sifil yn y Swyddfa Gymreig y daeth y ddogfen hon ond oddi wrth y Bartneriaeth Wledig ei hun. Rhoddodd inni sylfaen ar gyfer ein gwaith ar ddatblygu gwledig ac ar gyfer sut yr ydym yn ymddwyn ac yn rhoi blaenoriaeth i faterion gwledig.

I will try to pick up some of the issues referred to by other speakers. We recognise that the situation in rural areas over the past three or four years has been peculiar. They have seen rural Wales take a ferocious battering. I referred to the tourism industry earlier. I could repeat my statements 10 times more strongly about the agricultural side of the backbone of rural life in Wales. None of us doubt that there are problems. We all know that farm incomes have dropped by 30 to 40 per cent over the past few years.

yn Saesneg Ceisiaf godi rhai o’r materion y bu i siaradwyr eraill gyfeirio atynt. Yr ydym yn cydnabod bod y sefyllfa mewn ardaloedd gwledig dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn neilltuol. Gwelwyd y Gymru wledig yn cael curfa ffyrnig. Cyfeiriais at y diwydiant twristiaeth yn gynharach. Gallwn ailadrodd fy sylwadau 10 gwaith yn gryfach am ochr amaethyddol i asgwrn cefn y bywyd gwledig yng Nghymru. Nid oes yr un ohonom yn amau bod yna broblemau. Yr ydym ni oll yn gwybod bod incwm ffermydd wedi gostwng rhwng 30 a 40 y cant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

However, this document’s purpose is to state what the Rural Partnership would like us to do to ensure that we give the right priority to rural areas and that they do not get forgotten. In theory they can be out-voted. You could say that because the rural areas have taken such a battering due to low farm and tourism incomes, all the Assembly should do is try to immediately find a way of preventing specific farmers or small tourism enterprises from going bankrupt. In any such debate I would expect a cri de coeur from representatives of rural constituencies, asking us to do something about the decline in incomes in agriculture, tourism and other small rural enterprises that are affected by the knock-on effects of the drop in farm incomes and tourism incomes. I would expect that. It is fair enough and we have had it in this debate. We will take note of that and the delays in processing conversion grants or grant applications for organic farming and so on. If Rhodri Glyn Thomas writes to Christine Gwyther, I am sure it will be taken up.

yn Saesneg Fodd bynnag, pwrpas y ddogfen hon yw nodi beth y byddai’r Bartneriaeth Wledig yn hoffi inni ei wneud i sicrhau ein bod yn rhoi’r flaenoriaeth gywir i ardaloedd gwledig ac na chânt eu hanghofio. Mewn egwyddor gallai’r bleidlais fynd yn eu herbyn. Gallech ddweud, oherwydd bod ardaloedd gwledig wedi dioddef mor enbyd yn sgîl incwm isel ym myd ffermio a thwristiaeth, mai’r oll y dylai’r Cynulliad ei wneud yw taro ar unwaith ar ffordd o rwystro busnesau twristiaeth bychain neu ffermwyr penodol rhag mynd yn fethdalwyr. Mewn unrhyw ddadl o’r fath buaswn yn disgwyl cri o’r galon gan gynrychiolwyr etholaethau gwledig, yn gofyn inni wneud rhywbeth am y dirywiad mewn incwm yn y byd amaeth, twristiaeth a busnesau gwledig bychain eraill sydd yn wynebu sgil-effeithiau’r cwymp mewn incwm ffermydd ac incwm twristiaeth. Buaswn yn disgwyl hynny. Mae’n ddigon teg a chawsom hynny yn y ddadl hon. Byddwn yn cadw hynny mewn cof ynghyd â’r oedi wrth brosesu grantiau trosi neu geisiadau grant ar gyfer ffermio organig ac yn y blaen. Os bydd Rhodri Glyn Thomas yn ysgrifennu at Christine Gwyther, yr wyf yn siŵr yr ymgymerir â’r mater.

However, we should not only look at this particular crisis, which we hope is a cyclical crisis in tourism and agriculture. That is not the only thing we should be doing. The answer to the short-term crisis created by BSE, bad weather, the high pound or whatever the multiplicity of things that have battered rural Wales over the past three or four years are, is not what this document is about. Neither is it what this afternoon’s debate has been about in the main. It has been about trying to solve the more fundamental problems of rural Wales and trying to exploit the potential advantages of rural Wales, not to forget about them.

yn Saesneg Fodd bynnag, ni ddylem edrych ar yr argyfwng hwn yn unig, sef argyfwng cylchol gobeithio, ym maes twristiaeth ac amaethyddiaeth. Nid dyna’r unig beth y dylem ei wneud. Nid dogfen i gynnig ateb i’r argyfwng byr dymor a grewyd gan BSE, tywydd garw, gwerth uchel y bunt neu ba bynnag amryw bethau sydd wedi curo’r Gymru wledig dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf yw hon. Nid yw’r ddadl y prynhawn yma yn ymdrin â’r hyn ychwaith, yn bennaf. Y bwriad oedd ceisio datrys problemau mwy sylfaenol y Gymru wledig a cheisio achub ar y manteision posibl a geir yn y Gymru wledig, ac nid anghofio amdanynt.

Rural Wales is sparsely populated and there are long distances to travel. Glyn Davies and other Members have mentioned the problems of isolation. Fair enough. We know that rural areas are isolated and rural Wales more than most. What about the impact of information technology in wiping out the disadvantage that road or rail travel causes? It is easy to say that modern information technology should compensate for the physical isolation of being 150 or 200 miles away and having no decent roads. Should is one thing and will is another. We must try to convert ‘we should be able to get rid of this isolation problem’ to ‘we will get rid of this isolation problem’ by the clever use of information technology. Getting the right industries that do not have a transport problem such as IT, software and telecommunications can help to get rid of this apparent isolation. If you think in an old fashioned way, rural Wales is still considered isolated for everything, no good for anything, can only be subsidised, only people who are going to retire ought to live there and so on. That should not be the case. We must turn that ‘should not be the case’ into ‘will not be the case’. We want rural Wales to play its full part in the future of the Welsh economy.

yn Saesneg Poblogaeth wasgaredig sydd gan y Gymru wledig ac mae gofyn teithio cryn bellteroedd. Mae Glyn Davies ac Aelodau eraill wedi crybwyll y problemau o fod yn ynysig. Digon teg. Gwyddom fod ardaloedd gwledig yn ynysig a’r Gymru wledig yn fwy na’r rhan fwyaf o leoedd. Beth am effaith technoleg gwybodaeth o ran dileu’r anfantais y mae teithio ar ffyrdd neu’r rheilffyrdd yn ei achosi? Mae’n hawdd dweud y dylai technoleg gwybodaeth fodern wneud iawn am yr ynysu daeryddol o fod 150 neu 200 milltir i ffwrdd heb unrhyw ffyrdd digonol. Dau beth cwbl wahanol yw ‘dylai’ a ‘byddwn’. Rhaid inni ymdrechu i drosi ‘dylem allu cael gwared â’r broblem hon o fod yn ynysig’ i ‘byddwn yn cael gwared â’r broblem hon o fod yn ynysig’ drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn ddeheuig. Gallai gael y diwydiannau iawn nad oes ganddynt problem trafnidiaeth, megis TG, meddalwedd a thelathrebu yn helpu i gael gwared â’r broblem o fod yn ynysig. Os ydych yn meddwl mewn ffordd hen ffasiwn, credir bod y Gymru wledig yn ynysig ar gyfer pob dim, yn dda i ddim, ni ellir ond rhoi cymhorthdal iddi, dim ond pobl sydd yn mynd i ymddeol a ddylai fyw yno ac yn y blaen. Nid fel yna y dylai pethau fod. Rhaid inni newid ‘nid fel yna y dylai pethau fod’ yn ‘nid fel yna y bydd pethau’. Yr ydym ni am weld y Gymru wledig yn chwarae rhan lawn yn nyfodol economi Cymru.

Glyn Davies spoken in English p. 75

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 75

Are you committing yourself and the Government to ensuring that rural Wales does not lose out in the development of IT and communications in Wales? That is a particularly relevant point and I have been looking for a positive statement, which I think you have indicated. Over the next couple of years there is a real danger that rural Wales will lose out on this developing technology. Your support for that would be relevant.

Ydych chi’n ymrwymo eich hun a’r Llywodraeth i sicrhau nad yw’r Gymru wledig yn syrthio ar ôl o safbwynt datblygiad TG a thelathrebu yng Nghymru? Mae hwn yn bwynt hynod berthnasol ac yr wyf wedi bod yn chwilio am ddatganiad cadarnhaol, a chredaf eich bod wedi dynodi pwynt o’r fath. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf mae yna berygl gwirioneddol y bydd y Gymru wledig yn syrthio ar ôl o safbwynt y dechnoleg ddatblygol hon. Byddai eich cefnogaeth ar gyfer hynny yn berthnasol.

Rhodri Morgan spoken in English p. 75

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 75

There is no issue about that for any of us here. We must try to ensure that new technology industries are not only distributed in the most obvious way: the big cities, the places that already have big universities, universities with big engineering or software departments and so on. That should not be the basis. We must try to exploit the particular advantages of the weightless industries to move into the more isolated areas. We have heard about the industries that can do this. There has been some investment, previously by the Development Board for Rural Wales, now by the Welsh Development Agency and by the European Union via the LEADER programme and others. This investment is to try to get the infrastructure in place so that the countryside will become attractive for people to work from home because distance does not count. A living used to be called three acres and a cow; it is now three modems and a fax. You can live anywhere you wish and distance makes no difference. We must ensure that we exploit that potential for new types of rural high-tech industries, either in small centres in Newcastle Emlyn, Llanfair Caereinion or in people’s homes.

Nid oes cwesitwn am hynny i unrhyw un yma. Rhaid inni sicrhau bod diwydiannau technoleg newydd nid yn unig yn cael eu dosbarthu yn y ffordd fwyaf amlwg: y dinasoedd mawr, y lleoedd sydd â phrifysgolion mawr eisoes, prifysgolion gydag adrannau meddalwedd neu beirianneg mawr ac yn y blaen. Nid dyma’r sail y dylid ei defnyddio. Rhaid inni geisio achub ar fanteision penodol y diwydiannau ysgafn i symud i ardaloedd mwy ynysig. Yr ydym wedi clywed am y diwydiannau a all wneud hynny. Gwelwyd peth buddsoddiad, gynt gan Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, yn awr gan Awdurdod Datblygu Cymru a chan yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen LEADER ac eraill. Gwneir y buddsoddiad hwn er mwyn llunio’r isadeiledd er mwyn gwneud cefn gwlad yn ddeniadol i bobl weithio o gartref gan nad yw’r pellter yn cyfrif. Arferid galw bywoliaeth yn dair erw a buwch; tri modem a ffacs ydyw bellach. Gallwch fyw ym mha le bynnag y dymunwch ac nid yw’r pellter yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Rhaid inni sicrhau ein bod yn achub ar botensial am fathau newydd o ddiwydiannau uwch-dechnoleg gwledig, un ai mewn canolfannau bychain fel Castell Newydd Emlyn, Llanfair Caereinion yn nghartrefi pobl.

We do not want rural Wales to be a retirement ghetto for the better off. All that does is take people out of the housing market, the young people whom we want to see settling down and raising families in rural Wales, as they would have done years ago.

Nid ydym eisiau i Gymru fod yn geto ymddeol i’r cyfoethog. Yr oll mae hynny yn ei wneud yw mynd â phobl allan o’r farchnad dai, y bobl ifanc hynny yr ydym ni am eu gweld yn ymgartrefu ac yn magu teulu yn y Gymru wledig, fel y byddent wedi ei wneud flynyddoedd yn ôl.

Alun Pugh spoken in English p. 76

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 76

Thank you for that statement. In some parts of rural Wales, it is not a question of three modems and a fax but the non-availability of broadband services such as ISDN lines. I have had a number of constituency letters from people in rural parts of Clwyd west who cannot access the information superhighway simply because access to broadband communications is not available.

Diolch ichi am y datganiad hwn. Mewn rhai rhannau o Gymru, nid mater o dri modem a ffacs ydyw ond y ffaith nad oes gwasanaethau band llydan megis llinellau ISDN ar gael. Yr wyf wedi cael nifer o lythyrau etholaethol gan bobl mewn rhannau gwledig o orllewin Clwyd na allant ddefnyddio’r uwch-draffordd wybodaeth, yn syml gan nad oes modd iddynt gael gafael ar systemau cyfathrebu band llydan.

Rhodri Morgan spoken in English p. 76

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 76

Indeed. I know of a complex and ongoing series of negotiations with non-British Telecommunications suppliers. Originally BT was keen, but was ineligible for European assistance so non-BT suppliers were asked because they were eligible. They have not come up with the goods so it may revert to BT. There are certainly ongoing negotiations and I accept that there have been many failed negotiations to solve the ISDN line problem over the past two or three years.

Yn wir. Yr wyf yn ymwybodol o gyfres gymhleth a pharhaus o gyd-drafodaethau sydd yn mynd rhagddi gyda chyflenwyr, heblaw British Telecommunications. I ddechrau yr oedd BT yn awyddus, ond nid oedd yn gymwys i gael grant o Ewrop felly gofynnwyd i gyflenwyr eraill, nad ydynt yn perthyn i BT, gan eu bod yn gymwys. Nid ydynt wedi cwrdd â’r disgwyliad felly efallai y bydd yn troi’n ôl at BT. Mae trafodaethau yn mynd yn eu blaen a derbyniaf y cafwyd llawer o gyd-drafodaethau aflwyddiannus i geisio datrys y broblem llinell ISDN yn ystod y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf.

The issue of housing in rural Wales has been raised by Janet Davies, Kirsty Williams and others. Kirsty mentioned two things that struck me. She said she was homeless and wishes Clive Betts were here. If that is not a definition of a sad person, I am not sure that I know of another.

Cododd Janet Davies, Kirsty Williams ac eraill y mater o dai yn y Gymru wledig. Crybwyllodd Kirsty Williams ddau beth a’m trawodd. Dywedodd ei bod yn ddigartref a’i bod yn dymuno i Clive Betts fod yn bresennol. Os nad yw hwn yn ddiffiniad o berson trist, nid wyf yn siŵr a wn am un arall.

However, rural Wales has many areas with high potential for the development of renewable energy. There is high potential for diversification of agricultural buildings into non-agricultural, modern, economic uses through installing modems, faxes and so on. Mick Bates referred to the controversial planning issues, not only windfarms, but conversion of barns into small industrial or craft premises. It is always very controversial. I cannot comment on individual issues and as far as I know nobody is going to ask me to. It is true that the Welsh Office’s latest planning policy guidance notes offer every encouragement to diversification and are more flexible than they were. I heard Mick say that the grass is greener over the planning policy hill in England. I am not sure he is right about that but, if he wants to write to Peter Law about it, I am sure he will get a full explanation. It may arise in some of the Committees that will look at parts of this document.

Fodd bynnag, mae gan y Gymru wledig lawer o ardaloedd o botensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy. Mae llawer o botensial i arallgyfeirio adeiladau amaethyddol i’w defnyddio at ddibenion economaidd, modern trwy osod peiriannau ffacs, modemau ac yn y blaen. Cyfeiriodd Mick Bates at y materion cynllunio dadleuol, nid yn unig ffermydd gwynt, ond addasu ysguboriau yn adeiladau ar gyfer crefftau neu ddiwydiant. Mae bob amser yn ddadleuol iawn. Ni allaf wneud sylwadau am faterion unigol a, chyn belled ag y gwn, ni wnaiff unrhyw un ofyn imi wneud hynny. Mae’n wir bod canllawiau polisïau cynllunio diweddaraf y Swyddfa Gymreig yn cynnig pob anogaeth i arallgyfeirio ac maent yn fwy hyblyg nag y buont. Clywais Mick yn dweud bod y glaswellt yn lasach dros y bryn polisi cynllunio yn Lloegr. Nid wyf yn sicr a yw’n iawn yn dweud hynny ond, os yw ef am ysgrifennu at Peter Law ynghylch hyn, yr wyf yn siŵr y caiff esboniad llawn. Efallai y cyfyd y mater yn rhai o’r Pwyllgorau a fydd yn edrych ar rannau o’r ddogfen hon.

Diversification is important but that does not necessarily mean that every windfarm application will be accepted. Diversification of agriculture into a more conservation-orientated form is important. That applies to the Tir Gofal scheme, which we want to proceed. It also applies to the question of converting to more organic production. We know of the phenomenal success of some organic food enterprises in Wales. Rachel’s Dairy is the best known. Its new owners said, when they took over a month or so ago, that they looked forward and had an open door to purchasing two or three times more organic milk produce. They would then add value to it and convert it to yoghurt or fromage frais as dairy produce. This is value adding, something we have always wanted to see happening in rural Wales instead of the export of the raw produce outside, when the value adding takes place and the jobs are created closer to the ultimate markets, whether in London or Europe.

Mae arallgyfeirio yn bwysig ond nid yw, o anghenraid, yn golygu y bydd pob cais am fferm wynt yn cael ei dderbyn. Mae arallgyfeirio amaethyddiaeth i ffurf sydd yn canolbwyntio mwy ar gadwraeth yn bwysig. Mae hynny’n berthnasol i’r cynllun Tir Gofal yr ydym am ei weld yn parhau. Mae hefyd yn berthnasol i’r cwestiwn o droi at weithgaredd cynhyrchu mwy organig. Yr ydym ni’n gwybod am lwyddiant rhyfeddol rhai o’r busnesau bwyd organig yng Nghymru. Rachel’s Dairy yw’r enwocaf. Dywedodd y perchnogion newydd, wrth iddynt gymryd yr awenau ychydig dros fis yn ôl, eu bod yn edrych ymlaen a bod ganddynt ddrws agored i brynu dwy neu dair gwaith yn fwy o gynnyrch llaeth organig. Yna byddent yn ychwanegu gwerth ato a’i droi yn iogwrt neu’n fromage frais fel cynnyrch llaeth. Dyma yw ychwanegu gwerth, rhywbeth yr ydym wedi bod eisiau ei weld yn digwydd yn y Gymru wledig yn hytrach nag allforio’r cynnyrch amrwd, pan ddigwydd yr ychwanegu gwerth a chreu’r swyddi yn nes at y marchnadoedd terfynol, boed hynny yn Llundain neu yn Ewrop.

That is where rural and urban Wales come together in many ways. Rural Wales’s problems have a remarkable similarity with those of urban Wales. I represent a constituency of 60,000 people and only six farms, and from time to time, I wonder what I am doing here. Our problem in an urban area is that we export tonnage produce: tonnes of steel, coal and tin plate. The problem is that the value adding takes place elsewhere. Exactly the same problem applies in rural Wales. We export tonnage milk, lamb and beef and the value is added elsewhere. If we had the value adding that you get in more diverse, mature economies, the jobs would be created and people would stay in the area. There would be opportunities for farmers’ sons and daughters to get local jobs that pay well. They would find that the rural economy in Wales is healthy.

Dyna ym mhle y mae’r Gymru wledig a threfol yn dod ynghyd mewn sawl ffordd. Mae problemau’r Gymru wledig yn hynod o debyg i broblemau’r Gymru drefol. Yr wyf fi’n cynrychioli etholaeth o 60,000 o bobl a dim ond chwe fferm ac, o bryd i’w gilydd, yr wyf yn gofyn beth yr wyf fi’n ei wneud yma. Ein problem ni mewn ardal drefol yw ein bod yn allforio cynnyrch tunelledd: tunelli o ddur, glo a thunplat. Y broblem yw fod y broses o ychwanegu gwerth yn digwydd yn rhywle arall. Mae union yr un broblem yn wir am y Gymru wledig. Yr ydym yn allforio tunelli o laeth, cig oen, cig eidion ac ychwanegir y gwerth mewn man arall. Pe bai gennym ni’r broses o ychwanegu gwerth a gewch mewn economïau aeddfed, mwy amrywiol byddai swyddi’n cael eu creu a byddai pobl yn aros yn yr ardal. Ceid cyfle i feibion a merched ffermwyr gael swyddi lleol sydd yn talu’n dda. Byddent yn darganfod bod yr economi wledig yng Nghymru yn iach.

This is true of Wales as a whole. If, instead of exporting vast tonnages of steel or coal out of Wales throughout our history, we had managed to get the value-added industries that used the steel and coal and converted it into another product, we would have had a more diverse economy in Wales, more higher value-added jobs and we would have been better off. We must help to diversify Wales’s rural communities in line with the other recommendations in this document.

Mae hyn yn wir am Gymru gyfan. Yn hytrach nag allforio tunelli o ddur neu lo o Gymru drwy gydol ein hanes, pe byddem wedi llwyddo i gael y diwydiannau gwerth ychwanegol a ddefnyddiai ddur a glo a’i droi’n gynnyrch arall, byddem wedi cael economi mwy amrywiol yng Nghymru, mwy o swyddi ychwanegu gwerth uwch a byddem wedi bod yn fwy cyfoethog. Rhaid inni helpu i arallgyfeirio cymunedau gwledig Cymru yn unol â’r argymhellion eraill yn y ddogfen hon.

I am close to finishing but will take interventions from Kirsty and Ieuan before drawing my remarks to a close.

Yr wyf bron â dod i ben ond fe wnaf dderbyn ymyrraeth gan Kirsty ac Ieuan cyn dwyn fy sylwadau i ben.

Kirsty Williams spoken in English p. 79

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 79

Mr Morgan, maybe I can enlighten you on why you are here this afternoon. It is because you are the Secretary of an important Committee. We hope that you will work with Christine Gwyther to get rural communities out of crisis. Such glib comments from the Secretary of such an important Committee will not go down well in the rural communities that so many of us represent.

Mr Morgan, efallai y caf fwrw goleuni ar y rheswm pam yr ydych chi yma y prynhawn hwn. Y rheswm yw am eich bod chi yn Ysgrifennydd i Bwyllgor pwysig iawn. Gobeithiwn y byddwch yn gweithio gyda Christine Gwyther i sicrhau bod cymunedau gwledig yn camu allan o’r argyfwng hwn. Ni fydd sylwadau mor slic gan Ysgrifennydd Pwyllgor mor bwysig yn cael eu derbyn yn dawel yn y cymunedau gwledig y mae cymaint ohonom yn eu cynrychioli.

Rhodri Morgan spoken in English p. 79

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 79

I thought that they would because I was saying that my knowledge of rural affairs is naturally not as great as Members who represent rural communities. I was being suitably humble and modest but obviously the message did not come across and I accept the strictures from Kirsty.

Credais y byddent gan imi ddweud bod fy ngwybodaeth am faterion gwledig, yn naturiol, ddim mor helaeth ag Aelodau sydd yn cynrychioli cymunedau gwledig. Yr oeddwn yn bod yn ddiymhongar a gostyngedig yn fwriadol ond mae’n amlwg na ddaeth y neges drosodd a derbyniaf y feirniadaeth lem gan Kirsty.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 79

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 79

Rhodri has made an important point about making value-added products. Do you share my disappointment in Stephen Byers’s statement yesterday on Milk Marque, because one of the ways that dairy farmers in north and west Wales make value-added products is through Milk Marque having the capacity to process locally?

Gwnaeth Rhodri bwynt pwysig am wneud cynnyrch â gwerth-ychwanegol. Ydych chi’n rhannu fy siom ynghylch datganiad Stephen Byers ddoe am Milk Marque, gan mai un o’r ffyrdd y mae ffermwyr llaeth yng ngogledd a gorllewin Cymru yn gwneud cynnyrch â gwerth-ychwanegol yw drwy fod gan Milk Marque y gallu i brosesu yn lleol?

Rhodri Morgan spoken in English p. 79

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 79

It is a happy coincidence that this debate has occurred a day after the announcement by Stephen Byers. To use the new Labour verbiage of the official DTI press release: ‘a shake-up, not a break-up’. I am sure you all enjoyed that headline. The primary sentiment of dairy farmers in Wales is relief that Stephen Byers, in making a decision on the Competition Commission’s recommendations, has not gone for breaking up Milk Marque. There is overwhelming feeling among dairy farmers that Milk Marque should stay in existence.

Mae’n gyd-ddigwyddiad hapus bod y ddadl hon wedi digwydd ddiwrnod ar ôl y cyhoeddiad gan Stephen Byers. I ddefnyddio jargon y Llafur newydd yn y datganiad i’r wasg swyddogol gan yr Adran Masnach a Diwydiant: ‘a shake-up, not a break-up’. Yr wyf yn siŵr bod pawb ohonoch wedi mwynhau’r pennawd hwnnw. Y teimlad amlycaf ymhlith ffermwyr llaeth yng Nghymru yw rhyddhad bod Stephen Byers, wrth wneud penderfyniad ynghylch argymhellion y Comisiwn Cystadleuaeth, wedi dewis peidio â diddymu Milk Marque. Ceir teimlad llethol ymysg ffermwyr llaeth y dylai Milk Marque aros.

Having got the relief out of the way, people in rural Wales will be concerned that he said that Milk Marque must not go further into milk processing because it has unfairly exploited its position to get excessive margins between what it pays the farmer and what it charges the consumer. People will say that it means that there is no chance of reopening the Whitland creamery. We have to consider whether there is a special case to be made for value-added projects, whether that means Milk Marque-owned facilities, Rachel’s Organic Dairy, the south Carmarthenshire creamery or other value-added dairy processing projects in rural Wales of the sort that we want to see more of. However, were reopening Whitand to mean that there was less milk for Rachel’s Organic Dairy or the south Carmarthenshire creamery, we would not be happy either. We must get the balance right. I am sure that there are points that Ieuan’s Committee and Chris, as the Assembly Secretary responsible, will wish to look at. If there is anything that I can do on the economic side, I will do it.

Ar ôl i’r rhyddhad basio, bydd pobl yn y Gymru wledig yn pryderu am iddo ddweud na ddylai Milk Marque fynd dim pellach gyda phrosesu llaeth gan ei fod yn manteisio’n annheg ar ei sefyllfa i gael bwlch gormodol rhwng yr hyn mae’n ei dalu i’r ffermwr a’r hyn y mae’n ei godi ar y defnyddiwr. Bydd pobl yn dweud y golyga hyn nad oes unrhyw siawns o ailagor hufenfa Hendy-gwyn. Rhaid inni ystyried a oes yna achos arbennig i’w wneud ar gyfer prosiectau â gwerth ychwanegol, boed hynny’n golygu cyfleusterau sydd yn eiddo i Milk Marque, Rachel’s Organic Dairy, hufenfa de Sir Gaerfyrddin neu brosiectau prosesu llaeth â gwerth ychwanegol eraill yn y Gymru wledig o’r math yr ydym am weld mwy ohonynt. Fodd bynnag, pe bai ailagor hufenfa Hendy-gwyn yn golygu bod yna lai o laeth ar gyfer Rachel’s Organic Dairy neu hufenfa de Sir Gaerfyrddin, ni fyddem yn hapus gyda hynny ychwaith. Rhaid inni daro ar gydbwysedd. Yr wyf yn siŵr bod yna bwyntiau yr hoffai Pwyllgor Ieuan a Chris, fel yr Ysgrifennydd Cynulliad cyfrifol, edrych arnynt. Os oes unrhyw beth y gallaf fi ei wneud ar yr ochr economaidd, fe wnaf fi hynny.

We have shown respect for the hard work that went into this document by the Rural Partnership for Wales. We have debated the issue well but the real work begins today, to ensure that rural Wales is on a par with urban Wales. This will give the whole of Wales a more prosperous future. We are grateful for the work that has been done, not only by the Rural Partnership for Wales but also by civil servants and Jon Owen Jones, who chaired the four plenary sessions it had. We will listen to the voice of rural Wales and ensure that it is never lost in the cacophony that can come from urban Wales. Rural Wales will play a full part in the future economic prosperity that we hope to bring to the three million people who live in this country.

Yr ydym wedi dangos ein parch at y gwaith caled a wnaeth Partneriaeth Wledig Cymru i baratoi’r ddogfen hon. Yr ydym wedi dadlau’r mater yn helaeth ond mae’r gwir waith yn dechrau heddiw, i sicrhau bod y Gymru wledig yn gyfartal â’r Gymru drefol. Bydd hyn yn sicrhau dyfodol mwy ffyniannus i Gymru gyfan. Yr ydym yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed, nid yn unig gan Bartneriaeth Wledig Cymru ond hefyd gan weision sifil a Jon Owen Jones, a gadeiriodd y pedwar sesiwn llawn a gafwyd. Byddwn yn gwrando ar lais y Gymru wledig gan sicrhau nad â byth ar goll yn yr aflafaredd a all ddeillio o’r Gymru drefol. Bydd y Gymru wledig yn chwarae rhan lawn yn y ffyniant economaidd y gobeithiwn ei sicrhau i’r tair miliwn o bobl sydd yn byw yn y wlad hon i’r dyfodol.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 80

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 80

Fe bleidleisiwn ar y gwelliant i ddechrau.

We shall vote first on the amendment.

Gwelliant 1 Ieuan Wyn Jones t. 80

Amendment 1 Ieuan Wyn Jones p. 80

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Fe bleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

We shall now vote on the amended motion.

Gwelliant 1 Ieuan Wyn Jones t. 81

Amendment 1 Ieuan Wyn Jones p. 81

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd heb ei enwi yn y Cofnod siaradwyd yn Gymraeg t. 81

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer not named in the Record spoken in Welsh p. 81

Yr wyf yn datgan fod sesiwn ddigrifaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hyd yn hyn, wedi dod i ben.

I declare the most amusing session so far of the National Assembly for Wales, closed.

Daeth y sesiwn i ben am 5:16 p.m.

The session ended at 5:16 p.m.