Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 12 Hydref 1999

Tuesday 12 October 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:33

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Anerchiad gan Mr Bob Carr, Prif Weinidog De Cymru NewyddAddress by Mr Bob Carr, The New South Wales Premier
  2. 10Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 10Cyllid y CynulliadAssembly Funds
    2. 12Treth y CyngorCouncil Tax
    3. 14Dieithrwch Cymdeithasol (Cynghorau Hyfforddiant a Menter)Social Exclusion (Training and Enterprise Councils)
    4. 16Dieithrwch Cymdeithasol (Pobl Ifainc)Social Exclusion (Young People)
    5. 17Lefelau Taliadau (Adolygiad)Remuneration Levels (Review)
    6. 18Arian Cyfatebol Amcan 1Objective 1 Match Funding
  3. 23Datganiad BusnesBusiness Statement
  4. 24Trosedd ac AnhrefnCrime and Disorder 9 o bleidleisiau9 votes
  5. 64Cynllun Cymorth Prosesu LloiCalf Processing Aid Scheme 4 o bleidleisiau4 votes
  6. 85Dadl FerShort Debate
    1. 85Gwobrwyo Athrawon DaRewarding Good Teachers

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Trosedd ac AnhrefnCrime and Disorder
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsGwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 2Drwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
Gwelliant 2Amendment 221136GwrthodwydRejected
Gwelliant 3Amendment 3Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Gwelliant 4Amendment 4Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Gwelliant 5Amendment 5Drwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
Gwelliant 5Amendment 529128DerbyniwydAdopted
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
CynnigMotion152615GwrthodwydRejected
Cynllun Cymorth Prosesu LloiCalf Processing Aid Scheme
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
Gwelliant 1Amendment 130127DerbyniwydAdopted
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
CynnigMotion30127DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Anerchiad gan Mr Bob Carr, Prif Weinidog De Cymru Newydd

Address by Mr Bob Carr, The New South Wales Premier

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Aelodau’r Cynulliad, mae’n rhoi pleser imi y prynhawn yma i groesawu ymwelydd arbennig o Dde Cymru Newydd. Galwaf, felly, ar Bob Carr, fel y Prif Weinidog cyntaf i annerch y Cynulliad hwn.

Members of the Assembly, it gives me great pleasure this afternoon to welcome a special visitor from New South Wales. I call, therefore, on Bob Carr, as the first Premier to address this Assembly.

Mr Bob Carr spoken in English p. 3

Mr Bob Carr siaradwyd yn Saesneg t. 3

I appreciate this honour deeply. I bring greetings and congratulations from Australia’s oldest parliament to the world’s newest representative assembly. Nobody who understands representative democracy, or understands that our common parliamentary institutions survive and thrive through their capacity for change and renewal and, above all, nobody who admires the tenacity of the Welsh could fail to be impressed or indeed moved by the significance of the establishment of this Assembly. It crowns a millennium and a half of determination to preserve not only a Welsh culture, language and identity but, as the very name of the National Assembly for Wales implies, the preservation of a Welsh nationhood. The whole of Europe offers no more remarkable example of cultural persistence and perseverance.

Gwerthfawrogaf yr anrhydedd hwn yn fawr. Yr wyf yn dwyn cyfarchion a llongyfarchion oddi wrth senedd hynaf Awstralia i gynulliad cynrychioladol mwyaf newydd y byd. Ni fydd neb sydd yn deall democratiaeth gynrychioladol, neu sydd yn deall bod ein sefydliadau seneddol cyffredin yn goroesi ac yn ffynnu drwy eu gallu i newid ac ymadnewyddu ac, uwchlaw dim, neb sydd yn rhyfeddu at ddycnwch y Cymry yn methu ag edmygu neu gael ei gyffwrdd yn wir gan bwysigrwydd sefydlu’r Cynulliad hwn. Mae’n coroni mileniwm a hanner o benderfyniad i gadw nid yn unig ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru ond, fel y mae enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun yn ei awgrymu, gadw cenedligrwydd Cymru. Nid oes yr un enghraifft fwy nodedig yn Ewrop gyfan o benderfyniad a dyfalbarhad diwylliannol.

What also stands out for a visitor like me is the economic recovery and confidence of Wales. I speak as an Australian who is conscious of the fact that there is £300 million of Australian investment in Wales. I was honoured to open Air International today and in doing so I was conscious of the fact that the Australian investment, encouraged, sought and facilitated by the Welsh Development Agency, has led to a 100 secure highly skilled jobs. This is a result of the co-operative economic relationship that Wales and Australia enjoy.

Yr hyn sydd hefyd yn amlwg i ymwelydd fel fi yw adferiad economaidd a hyder Cymru. Siaradaf fel Awstraliad sydd yn ymwybodol o’r ffaith bod £300 miliwn o fuddsoddiad o Awstralia yng Nghymru. Cefais y fraint heddiw o agor Air International ac wrth wneud hynny yr oeddwn yn ymwybodol o’r ffaith bod y buddsoddiad o Awstralia, a gafodd ei annog, ei geisio a’i hwyluso gan Awdurdod Datblygu Cymru, wedi arwain at greu 100 o swyddi diogel tra medrus. Mae hyn yn ganlyniad i’r berthynas economaidd gydweithredol sydd rhwng Cymru ac Awstralia.

I must confess that this is one of the rare occasions, either at home or abroad, on which you would find me proclaiming myself a New South Welshman. I must explain. During the nineteenth century the other Australian states were carved out of the vast territory that was once a part of New South Wales, long before the name ‘Australia’ was used widely and recognised as a commonwealth.

Rhaid imi gyfaddef mai hwn yw un o’r achlysuron prin, gartref neu dramor, pan ddywedwn ar goedd mai brodor o Dde Cymru Newydd ydwyf. Rhaid imi egluro. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ffurfiwyd taleithiau eraill Awstralia o’r diriogaeth anferth a oedd unwaith yn rhan o Dde Cymru Newydd, ymhell cyn y daethpwyd i arfer yr enw ‘Awstralia’ yn gyffredin a’i chydnabod yn gymanwlad.

The new colonies carved out of New South Wales that covered two thirds of the continent, adopted short manageable names such as Victoria, Queensland and Tasmania. While the Victorians, Tasmanians and Queenslanders still cheerfully identify themselves as such, we men and, especially, the women of New South Wales call ourselves Australians who happen to originate from New South Wales. That is not to say that we are any less proud to belong to Australia’s greatest state—in terms of history, population, political and social progress in industry and finance and by every test—the first state. As the heartland of the Australian Labour Party and the home of Australian rugby it is truly the state of origin and first in its variety and beauty.

Mabwysiadodd y trefedigaethau newydd a ffurfiwyd o Dde Cymru Newydd a oedd yn cynnwys dwy ran o dair o’r cyfandir, enwau byr hwylus fel Victoria, Queensland a Thasmania. Tra bod brodorion Victoria, Tasmania a Queensland yn dal i fod yn falch o’u galw eu hunain felly, yr ydym ni ddynion ac, yn enwedig, fenywod De Cymru Newydd yn ein galw ein hunain yn Awstraliaid sydd yn digwydd hanu o Dde Cymru Newydd. Nid yw hynny’n gyfystyr â dweud ein bod yn llai balch o berthyn i dalaith fwyaf Awstralia—o ran hanes, poblogaeth, cynnydd gwleidyddol a chymdeithasol, mewn diwydiant a byd arian ac yn ôl pob prawf—y dalaith flaenaf. Fel cadarnle Plaid Lafur Awstralia a chartref rygbi Awstralia, hon yn wir yw’r dalaith wreiddiol a’r flaenaf o ran ei hamrywiaeth a’i phrydferthwch.

One of the pleasant myths of Australian history was that Captain Cook, as he sailed up our eastern coast in 1770, was struck by its resemblance to the coast of Wales or at least south Wales. That is why, according to the legend which was taught for years in Australian schools, he called it New South Wales.

Un o fythau dymunol hanes Awstralia oedd bod Capten Cook, wrth iddo hwylio i fyny ein harfordir dwyreiniol yn 1770, wedi ei daro gan ei debygrwydd i arfordir Cymru neu o leiaf de Cymru. Dyna pam, yn ôl y chwedl a ddysgwyd am flynyddoedd yn ysgolion Awstralia, y’i galwodd yn Dde Cymru Newydd.

I have had the pleasure of visiting Wales twice, the first time three years ago. It has left me with wonderful memories of the spectacular beauty of Wales, especially the Brecon Beacons National Park, my favourite national park in the world, and the unforgettable beauty of the Valleys, so rich in Welsh history. The beauties of Wales and of New South Wales are in both meanings of the word incomparable. However, that is not what Cook had in mind. According to research—we have been confirming facts exchanged between Wales and my office in the last few days—we have established that Cook called it Wales or New Wales (the ‘South’ was added later). Another explorer, William Dampier, had identified a new Britain off Papua New Guinea in the 1680s. Cook’s biographer says that Cook named the east coast of Australia ‘New Wales’ to match the new Britain. It is not referred to in his journal, so it remains speculation. However, apparently it has a better basis than the mythology taught up until now in Australian schools.

Yr wyf wedi cael y pleser o ymweld â Chymru ddwywaith, y tro cyntaf dair blynedd yn ôl. Yn sgîl hyn mae gennyf atgofion rhyfeddol o harddwch godidog Cymru, yn enwedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y parc cenedlaethol gorau yn y byd gennyf fi, a harddwch bythgofiadwy’r Cymoedd, sydd mor gyforiog o hanes Cymru. Mae harddwch Cymru a harddwch De Cymru Newydd yn ddigymar. Fodd bynnag, nid hynny oedd gan Cook mewn golwg. Drwy ymchwil—buom yn cadarnhau ffeithiau a drosglwyddwyd rhwng Cymru a’m swyddfa i dros y dyddiau diwethaf—yr ydym wedi profi bod Cook wedi ei alw’n ‘Wales’ neu ‘New Wales’ (ychwanegwyd ‘South’ yn ddiweddarach). Yr oedd fforiwr arall, William Dampier, wedi enwi Prydain newydd oddi ar Papua Guinea Newydd yn y 1680au. Dywed bywgraffydd Cook fod Cook wedi enwi arfordir dwyreiniol Awstralia yn ‘New Wales’ I gyfateb â’r Brydain newydd. Ni chyfeirir at hynny yn ei ddyddlyfr, felly dyfaliad ydyw hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae’n debyg bod iddo fwy o sail na’r chwedl a ddysgwyd hyd yn hyn yn ysgolion Awstralia.

As I indicated at the beginning, this is a striking and thought provoking occasion in the constitutional development of the Parliamentary system we share. Let no one underestimate the significance of the constitutional changes now taking place in the United Kingdom. Those who would dismiss these changes as merely cosmetic ignore the lesson of constitutional history; not least lessons that can be drawn from the Australian experience.

Fel y nodais ar y dechrau, mae hwn yn achlysur hynod yn natblygiad cyfansoddiadol ein system Seneddol gyffredin ac yn un sydd yn peri i rywun feddwl. Na foed i neb danbrisio pwysigrwydd y newidiadau cyfansoddiadol sydd yn digwydd yn awr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhai a fyddai’n diystyru’r newidiadau hyn gan ddweud mai rhai arwynebol ydynt yn unig yn anwybyddu’r wers o hanes cyfansoddiadol; yn enwedig y gwersi y gellir eu dysgu o brofiad Awstralia.

Like your Assembly, the six Australian state Parliaments were all established by United Kingdom Acts of Parliament. In recent years, two new Assemblies, the Australian capital territory and the northern territory have been created by Acts of the Australian Parliament.

Fel eich Cynulliad chi, sefydlwyd chwe Senedd daleithiol Awstralia drwy Ddeddfau Seneddol y Deyrnas Unedig. Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, crewyd dau Gynulliad newydd, tiriogaeth prifddinas Awstralia a thiriogaeth y gogledd drwy Ddeddfau Seneddol Awstralia.

In the case of New South Wales, our first Parliament, the legislative Council, was a wholly nominated body when it was established 175 years ago. The population was only 30,000 in the early days of settlement. From that beginning, however, grew the Parliament of New South Wales. By 1856, we had a fully elected legislative Assembly which was self governing in all domestic matters. The population was 200,000 at that time. The six colonies federated as Australia in 1901. The population then of Australia as a whole was not much higher than 3 million, about that of Wales today. The Australian constitution itself is an Act of Westminster. Its principal draftsman was Sir Samuel Griffith born in Merthyr Tydfil in 1845. He became the first Chief Justice of the High Court of Australia in 1903.

Yn achos De Cymru Newydd, yr oedd ein Senedd gyntaf, y Cyngor deddfwriaethol, yn gorff a’i holl aelodau’n rhai enwebedig pan sefydlwyd hi 175 mlynedd yn ôl. Nid oedd y boblogaeth ond 30,000 yn nyddiau cynnar y drefedigaeth. O’r man cychwyn hwnnw, fodd bynnag, y tyfodd Senedd De Cymru Newydd. Erbyn 1856, yr oedd gennym Gynulliad deddfwriaethol cwbl etholedig oedd yn ymreolus ym mhob mater domestig. Yr oedd y boblogaeth yn 200,000 bryd hynny. Ymgyfunodd y chwe threfedigaeth i ffurfio Awstralia yn 1901. Nid oedd poblogaeth Awstralia gyfan bryd hynny lawer uwch na 3 miliwn, sef yr hyn a geir yng Nghymru heddiw. Mae cyfansoddiad Awstralia ei hun yn Ddeddf San Steffan. Prif luniwr y ddeddf oedd Syr Samuel Griffith a aned ym Merthyr Tudful yn 1845. Daeth yn Brif Ustus cyntaf Uchel Lys Awstralia yn 1903.

Since then the role of the state Parliaments and their relations with the Commonwealth have undergone immense changes; usually without any formal alteration of the constitution which has to be approved by a majority of the people and a majority of states. The tendency has been to enhance the power of the central Government in Canberra. Nonetheless, state Parliaments and state Governments play a vital and vigorous role in the natural life of the democratic process of Australia nowhere more than in my state, New South Wales.

Bu newidiadau enfawr ers hynny yn rôl y Seneddau taleithiol a’u cysylltiadau â’r Gymanwlad; a hynny fel arfer heb newid ffurfiol i’r cyfansoddiad y mae’n rhaid ei gymeradwyo gan fwyafrif o’r bobl a mwyafrif o’r taleithiau. Y duedd fu cynyddu pŵer y Llywodraeth ganolog yn Canberra. Er hynny, mae’r Seneddau taleithiol a’r Llywodraethau taleithiol yn chwarae rhan hanfodol a bywiog ym mywyd naturiol y broses ddemocrataidd yn Awstralia yn fy nhalaith i, De Cymru Newydd, yn anad unman.

My point here is not to compare a fully fledged federation like Australia with the devolution represented by the new Assembly. However, I assert that once any representative elected Assembly is established, irreversible forces of history, politics and culture are thereby set in train. It is inevitable that this will apply to the future of your Assembly.

Nid cymharu ffederasiwn llawn fel Awstralia a’r datganoli a gynrychiolir Cynulliad newydd yw fy mhwynt yn y fan hon. Fodd bynnag, credaf yn bendant, unwaith y sefydlir unrhyw Gynulliad etholedig cynrychioladol, y rhoddir cychwyn drwy hynny i rymoedd di-droi’n-ôl mewn hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant. Mae’n anorfod y bydd hyn yn wir am ddyfodol eich Cynulliad chi.

Indeed, precisely because the British constitution is unwritten it has a flexibility and a potential for change denied to a strict formal document like the Australian constitution. Even so, when the imperial Parliament passed the Australian Constitution Act in 1900, the Secretary of State for the Colonies, Joseph Chamberlain, justified it in the House of Commons on the ground that the federation was designed to strengthen the bonds of empire. Its Australian authors loyally believed that this would be the case.

Yn wir, yn union oherwydd bod cyfansoddiad Prydain yn anysgrifenedig a bod ynddo’r gallu i newid y mae’n hyblyg ac mae nodweddion a omeddir i ddogfen ffurfiol fanwl fel cyfansoddiad Awstralia. Er hynny, pan basiwyd Deddf Cyfansoddiad Awstralia gan y Senedd ymerodrol yn 1900, fe’i cyfiawnhawyd yn Nhŷ’r Cyffredin gan Ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau, Joseph Chamberlain, ar y sail mai bwriad y ffederasiwn oedd cryfhau clymau’r ymerodraeth. Yr oedd ei hawduron Awstralaidd yn credu’n deyrngar mai hynny a ddigwyddai.

A lot has happened to the empire and to Australia since then. Now on 6 November the Australian people will asked in a referendum to make Australia a Republic, to have an Australian Head of State. It will certainly carry in New South Wales. What happens in Australia as a whole will be hotly contested. It will be an interesting exercise in democracy. Again, I emphasise I am not suggesting a comparison or parallel but I am asserting the immense capacity for change and development inherent in representative institutions within our system of parliamentary democracy. Recognising this and the indomitable spirit of the Welsh people I anticipate and celebrate a bright future for the new Assembly of the ancient Welsh nation.

Mae llawer wedi digwydd i’r ymerodraeth ac i Awstralia ers hynny. Bellach ar 6 Tachwedd fe ofynnir i bobl Awstralia mewn refferendwm i wneud Awstralia yn Weriniaeth, i gael Pennaeth Gwladwriaeth Awstralaidd. Bydd hynny’n sicr o gael ei gymeradwyo yn Ne Cymru Newydd. Bydd dadlau brwd ynghylch yr hyn a ddigwydd yn Awstralia gyfan. Pwysleisiaf, unwaith eto, nad wyf yn awgrymu tebygrwydd neu gyffelybiaeth ond credaf yn bendant yn y gallu anferth i newid a datblygu sydd yn rhan hanfodol o’r sefydliadau cynrychioladol yn ein system ddemocrataidd seneddol. Gan gydnabod hynny ac ysbryd anorchfygol pobl Cymru rhagwelaf a dathlaf ddyfodol llewyrchus i Gynulliad newydd hen genedl y Cymry.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 7

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

To reply on behalf of the Assembly, The First Secretary of Wales.

I ymateb ar ran y Cynulliad, Prif Ysgrifennydd Cymru.

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 7

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh and English p. 7

Diolchaf o galon i Bob Carr am ei anerchiad: y Prif Weinidog cyntaf i annerch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

in Welsh I thank Bob Carr most sincerely for his address: the first Premier to address the National Assembly for Wales.

We have given you a traditional Welsh welcome, a walk in the mountains. On Sunday, Bob and I went to the top of Pen y Fan. You stood there with rain streaming down your face, with visibility of about two feet, to be told ‘look north on a fine day you can see Cadair Idris’. It is also traditionally Welsh that for the next two days it has been blazing sunshine. After three hours in the rain you demonstrated that you are finely tuned to the Welsh sense of humour; you said you had enjoyed yourself. I firmly believe that Captain Cook was reminded of the coast of south Wales as he first sailed up the coast of New South Wales because he could not see it because it was raining at the time.

yn Saesneg Rhoesom groeso traddodiadol Gymreig i chi drwy fynd am dro yn y mynyddoedd. Ddydd Sul, aeth Bob a minnau i gopa Pen y Fan. Safasoch yno a’r glaw’n diferu i lawr eich wyneb, heb allu gweld ond tua dwy droedfedd o’ch blaen, a dywedwyd wrthych y gallech weld Cadair Idris pe baech yn edrych i’r gogledd ar ddiwrnod braf. Mae hefyd yn rhywbeth traddodiadol Gymreig iddi fod yn haul braf y ddau ddiwrnod wedyn. Ar ôl teirawr yn y glaw dangosoch eich bod yn deall synnwyr hiwmor y Cymry i’r dim; dywedasoch ichi fwynhau eich hun. Credaf yn siŵr fod Capten Cook wedi ei atgoffa o arfordir de Cymru wrth iddo hwylio i fyny arfordir De Cymru Newydd am y tro cyntaf am na allai ei weld am ei bod yn bwrw glaw ar y pryd.

You said that you would describe yourself as New South Welsh. The question of the Welsh identity is something with which we have been engaged deeply and seriously over a period of time. I was involved in a discussion on television recently in which Graham Henry was also involved. He described himself as a Welshman and the show’s anchorman turned to me and said, ‘Do you accept that?’ I replied, ‘If he wants to be a Welshman, he is a Welshman’. We welcome you in the same spirit.

yn Saesneg Fe ddywedasoch y byddech yn eich disgrifio eich hun yn frodor o Dde Cymru Newydd. Mae mater yr hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth y buom yn ei drafod yn ddwys ac yn ddifrifol dros gyfnod o amser. Cymerais ran yn ddiweddar mewn trafodaeth ar y teledu yr oedd Graham Henry hefyd yn cymryd rhan ynddi. Fe’i disgrifiodd ei hun fel Cymro a throdd cyflwynydd y rhaglen ataf a gofyn, ‘A ydych yn derbyn hynny?’ Fy ateb i oedd, ‘Os ydyw am fod yn Gymro, Cymro ydyw.’ Estynnwn groeso i chi yn yr un ysbryd.

The links between Wales and New South Wales are important and they are growing. They are not only links of a name. They are links between people who want to make international contact more creative. We aspire here to be a successful economic entity with strong international links. Companies from many countries have found a home in Wales and have become advocates for Wales, as I found recently in several parts of the world. We want to extend a welcome to entrepreneurs from New South Wales, here in Wales. That welcome is a real and a warm one. Once a company establishes a factory in Wales, to us it is a Welsh company. That is why we describe household names as Welsh firms, such as Ford Motor Company, Panasonic, GE and British Aerospace.

yn Saesneg Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a De Cymru Newydd yn bwysig ac maent yn tyfu. Nid cysylltiadau o ran enw yn unig mohonynt. Maent yn gysylltiadau rhwng pobl sydd am wneud cysylltiadau rhyngwladol yn fwy creadigol. Ein gobaith yma yw bod yn endid economaidd llwyddiannus gyda chysylltiadau rhyngwladol cryf. Mae cwmnïau o lawer gwlad wedi ymgartrefu yng Nghymru ac wedi dod yn hyrwyddwyr ar gyfer Cymru, fel y gwelais yn ddiweddar mewn sawl rhan o’r byd. Yr ydym am estyn croeso i entrepreneuriaid o Dde Cymru Newydd, yma yng Nghymru. Mae’r croeso hwnnw’n un cynnes a gwirioneddol. Wedi i gwmni sefydlu ffatri yng Nghymru, mae’n dod yn gwmni Cymreig yn ein golwg ni. Dyna pam y galwn rai cwmnïau adnabyddus yn gwmnïau Cymreig, fel Ford Motor Company, Panasonic, GE a British Aerospace.

We, as a devolved body, must be creative, build links and consider how we can be constructive in the interests of the people of Wales. At lunchtime yesterday, we met people working in Wales, in fields such as health, manufacturing, design and the creative arts. We discovered that many of these people have a personal or academic link with New South Wales. I hope you will take back something of their enthusiasm for partnership and co-operation.

yn Saesneg Rhaid inni, fel corff datganoledig, fod yn greadigol, adeiladu cysylltiadau ac ystyried sut y gallwn fod yn adeiladol er budd pobl Cymru. Amser cinio ddoe, cyfarfuasom â phobl sydd yn gweithio yng Nghymru, mewn meysydd fel iechyd, gwieth-gynhyrchu, dylunio a’r celfyddydau creadigol. Cawsom fod gan lawer o’r bobl hynny gysylltiadau personol neu academaidd â De Cymru Newydd. Gobeithiaf y byddwch yn mynd â pheth o’u brwdfrydedd dros bartneriaeth a chydweithredu adref gyda chi.

We face many challenges and nothing is more important than creating a vibrant and successful economy, ensuring that all our communities, our children and our grandchildren have a future full of hope and opportunity. We cannot do that on our own, which is why we welcome the chance to create links across the world with a like-minded administration that has a common interest in economic success.

yn Saesneg Yr ydym yn wynebu llawer o heriau ac nid oes dim pwysicach na chreu economi bywiog a llwyddiannus, gan sicrhau dyfodol llawn gobaith a chyfle i’n holl gymunedau, ein plant a’n hwyrion. Ni allwn wneud hynny ar ein pennau ein hunain, a dyna pam yr ydym yn croesawu’r cyfle i greu cysylltiadau ar draws y byd gyda gweinyddiaeth o’r un anian sydd â diddordeb cyffredin mewn llwyddiant economaidd.

I have mentioned creativity and I want to end by mentioning sports and the arts. We could not engineer a Rugby World Cup final between Australia and Wales; perhaps that would be a step too far, maybe even a mistake. However, Wales and Australia are linked on the stage of the Sherman Theatre in Cardiff later this week. I am told you will not be able to stay long enough to see ‘Killing Kangaroos’, which is a gruesome title, but I think it is a comedy and I want you to know what you are missing. It features three greats from the world soap opera stage: Simon from Home and Away, Melanie from Neighbours and Mandy from Satellite City. You should mention Satellite City when giving explanations of Welsh life. Mandy is the daughter of our own Lorraine Barrett. We are engaged in creating our own bit of history here in Cardiff Bay and I hope that you will follow our little soap opera from the distance in Australia.

yn Saesneg Yr wyf wedi sôn am greadigolrwydd ac yr wyf am orffen drwy sôn am chwaraeon a’r celfyddydau. Ni allem drefnu gêm derfynol rhwng Awstralia a Chymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd; efallai y byddai hynny’n un cam yn ormod, yn gamgymeriad hyd yn oed. Fodd bynnag, fe fydd Cymru ac Awstralia wedi eu cysylltu ar lwyfan Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Dywedwyd wrthyf na fydd modd ichi aros yn ddigon hir i weld ‘Killing Kangaroos’, sydd yn deitl arswydus, ond credaf mai comedi ydyw, ac yr wyf am ichi gael gwybod am yr hyn yr ydych yn ei golli. Mae’n cynnwys tri o fawrion byd opera sebon y byd: Simon o Home and Away, Melanie o Neighbours a Mandy o Satellite City. Dylech sôn am Satellite City wrth egluro bywyd yng Nghymru. Mandy yw merch Lorraine Barrett. Yr ydym wrthi’n creu ychydig o hanes ein hunain yma ym Mae Caerdydd a gobeithiaf y byddwch yn dilyn ein hopera sebon fach ni o hirbell yn Awstralia.

I welcome you as the first serving Prime Minister to speak to this Assembly and look forward to building stronger links with you and with New South Wales over the coming years.

yn Saesneg Fe’ch croesawaf fel y Prif Weinidog cyntaf mewn gwasanaeth i annerch y Cynulliad hwn ac edrychaf ymlaen at adeiladu cysylltiadau cryfach â chi a chyda De Cymru Newydd dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Diolch yn fawr. Diolch o galon.

in Welsh Thank you very much. Our heartfelt thanks.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Cyllid y Cynulliad

Assembly Funds

Q1 Kirsty Williams spoken in English p. 10

C1 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 10

What plans does the First Secretary have to ensure that complaints against bodies in receipt of Assembly funds are dealt with openly and fairly? (OAQ1367AG)

Pa gynlluniau sydd gan y Prif Ysgrifennydd i sicrhau yr ymdrinnir â chwynion yn erbyn cyrff sydd yn derbyn arian gan y Cynulliad yn agored ac yn deg? (OAQ1367AG)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Bodies to which the Assembly provides core funding must have their own complaint procedures. Public bodies will be aware of the guidance issued under the Citizen’s Charter and have drawn on this in devising their procedures and leaflets.

Rhaid i gyrff y mae’r Cynulliad yn darparu cyllid craidd iddynt feddu ar eu trefniadau cwyno eu hunain. Bydd cyrff cyhoeddus yn ymwybodol o’r arweiniad a gyhoeddwyd dan Siarter y Dinesydd ac wedi ei ddefnyddio wrth lunio eu gweithdrefnau a’u taflenni.

The Government of Wales Act 1998 introduces a significant change in that members of the public can approach the Welsh administration ombudsman directly if they are not satisfied with the response that they receive from Assembly sponsored public bodies.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn cyflwyno newid sylweddol sef y gall aelodau o’r cyhoedd gysylltu’n uniongyrchol ag ombwdsmon gweinyddiaeth Cymru os nad ydynt yn fodlon â’r ymateb y maent yn ei dderbyn gan gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad.

Kirsty Williams spoken in English p. 10

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 10

I am sure you give a commitment to openness and fairness with regard to all the workings of the Assembly. Therefore, will you reconsider your decision not to allow an independent inquiry into the events surrounding the death of Robbie Powell of Ystradgynlais and the subsequent handling of the complaints that Robbie’s parents made against the health authorities and the Welsh Office, which included complaints about altering official records? They must have fair play.

Yr wyf yn sicr eich bod yn rhoi ymrwymiad i fod yn agored ac yn deg gyda golwg ar holl drafodion y Cynulliad. Felly, a wnewch ailystyried eich penderfyniad i beidio â chaniatáu ymchwiliad annibynnol i’r digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â marwolaeth Robbie Powell o Ystradgynlais a’r modd yr ymdriniwyd â’r cwynion a wnaethpwyd wedi hynny gan rieni Robbie yn erbyn yr awdurdodau iechyd a’r Swyddfa Gymreig, a oedd yn cynnwys cwynion ynghylch newid cofnodion swyddogol? Rhaid iddynt gael chwarae teg.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

We are doing all we can to improve the quality of dealing with complaints. For example, during the summer Assembly officials contacted chief executives of ASPBs to inform them of the establishment of the Welsh administration ombudsman and of the Assembly’s Code of Practice on Public Access to Information.

Yr ydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella ansawdd y modd y trafodir cwynion. Er enghraifft, yn ystod yr haf, cysylltodd swyddogion y Cynulliad â phrif weithredwyr cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i roi gwybod iddynt am sefydlu ombwdsmon gweinyddiaeth Cymru a Chod Ymarfer y Cynulliad ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth.

You referred to an independent inquiry, but in my initial reply I indicated that each body must have a complaint procedure that satisfies the requirements of independent scrutiny. Initially, it must be asked whether those requirements have been satisfied where there is an inquiry. It is dangerous to deal with an individual case, though I am happy to correspond with you on that. However, it would not be wise to go further in answering a general question about our systems.

Cyfeiriasoch at ymchwiliad annibynnol, ond yn fy ymateb cyntaf fe nodais fod rhaid i bob corff feddu ar drefn gwyno sydd yn ateb gofynion archwiliad annibynnol. Yn gyntaf, rhaid gofyn a yw’r gofynion hynny wedi eu hateb pan fydd ymchwiliad. Mae’n beryglus ymdrin ag achos unigol, er fy mod yn fodlon gohebu â chi ar hynny. Fodd bynnag, ni fyddai’n ddoeth mynd ymhellach wrth ateb cwestiwn cyffredinol am ein systemau.

Nick Bourne spoken in English p. 11

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 11

Labour had a plan to make a bonfire of Assembly sponsored public bodies, or quangos. That does not seem to have happened. Most of the personnel have been shifted to the Welsh Office, or now the Assembly. Are there plans for further cuts by the administration and, if so, what savings can we expect to be put towards European match funding for example?

Yr oedd yn fwriad gan Lafur gael coelcerth o gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, neu gwangos. Nid yw’n ymddangos bod hynny wedi digwydd. Mae’r rhan fwyaf o’r personél wedi eu symud i’r Swyddfa Gymreig, neu’r Cynulliad bellach. A oes cynlluniau i’r weinyddiaeth wneud toriadau pellach ac, os felly, pa arbedion y gallwn ddisgwyl gweld eu rhoi at arian cyfatebol Ewropeaidd, er enghraifft?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

I have answered that question previously and I believe that you asked it. A significant number of quangos have been abolished and administration has been cut. We have created a single economic organisation, the new Welsh Development Agency, and abolished others. The Cardiff Bay Development Corporation will cease to exist next March. In the national health service which, in esoteric definitions, does not qualify as a quango, we have reduced considerably the number of bodies to ensure a more coherent, focused and targeted health service managed by a smaller number of units. Organisations such as Tai Cymru, where there was duplication with a Welsh Office housing department, have been abolished. Therefore, you should not talk down the amount of progress that has been made. As I have said before, we must ensure that the Assembly is up and running effectively with all its responsibilities and then, over a period of time, look at existing bodies to see where they can be made more coherent or whether they can be abolished. However, the progress has been made, as promised.

Yr wyf wedi ateb y cwestiwn hwnnw o’r blaen a chredaf mai chi a’i gofynnodd. Mae nifer sylweddol o gwangos wedi eu diddymu ac mae gweinyddu wedi ei gwtogi. Yr ydym wedi creu un corff economaidd, yr Awdurdod Datblygu Cymru newydd, ac wedi diddymu eraill. Daw oes Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i ben fis Mawrth nesaf. Yn y gwasanaeth iechyd gwladol, na ellir ei ystyried yn gwango yn ôl y diffiniadau cymhleth, yr ydym wedi lleihau nifer y cyrff yn sylweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth iechyd mwy cydlynol, cryno a bwriadus dan reolaeth nifer llai o unedau. Mae cyrff fel Tai Cymru, lle yr oedd dyblygu gydag adran dai’r Swyddfa Gymreig, wedi eu diddymu. Felly, ni ddylech fychanu maint y cynnydd a wnaethpwyd. Fel y dywedais o’r blaen, rhaid inni sicrhau bod y Cynulliad ar ei draed ac yn rhedeg yn effeithiol gyda’i holl gyfrifoldebau ac wedyn, dros amser, edrych ar y cyrff presennol i weld a oes modd eu gwneud yn fwy cydlynol neu a ellir eu diddymu. Fodd bynnag, fe wnaethpwyd y cynnydd, fel yr addawyd.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Elin Jones spoken in Welsh p. 12

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn credu ei bod yn agored a theg fod cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru hefyd yn gadeirydd tri o’r pedwar fforwm economaidd yng Nghymru, ac y gallai hyn effeithio’n sylweddol ar ryddid y fforymau rhanbarthol hynny i gwestiynu polisïau’r Awdurdod? A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno nad yw’n briodol i gymaint o bŵer a chyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd fod yn nwylo un person?

Does the First Secretary believe that it is open and fair that the chairman of the Welsh Development Agency is also chairman of three of the four economic forums in Wales, and that this could have a significant effect on the freedom of those regional forums to question the Agency’s policies? Does the First Secretary agree that it is not appropriate for so much power and responsibility for economic development to be in the hands of one person?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 12

Nid wyf yn sicr bod hynny’n cysylltu’n syth â’r cwestiwn cyntaf. Fodd bynnag, yr ydym am i fwy o bobl gymryd swyddi cyhoeddus yng Nghymru. Yr ydym wedi dadlau hynny eisoes. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ehangu’r math o bobl sydd yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac mae angen sicrhau bod digon o bobl i gymryd y math hwnnw o gyfrifoldeb. Y cwestiwn amlwg yw a ydynt yn llenwi’r swydd mewn ffordd greadigol a phositif ar hyn o bryd. Yn y dyfodol, gobeithiaf weld nifer y bobl a’r lleoedd y deuant ohonynt yn ehangu i wneud yr holl system yn fwy teg ac agored.

I am not sure that that links immediately with the first question. However, we want more people to take up public office in Wales. We have already debated that. We will look at ways to expand the kind of people who take part in public life and we must ensure that there are sufficient numbers of people to take that kind of responsibility. The obvious question is whether they fill the post in a creative and positive manner at present. In the future, I hope that we will see the numbers of people and where they come from expanding to make the whole system more fair and open.

Treth y Cyngor

Council Tax

Q2 Janet Davies spoken in English p. 12

C2 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

What advice will the First Secretary give to county and county borough councils on the level of next year’s council tax as they enter the preparation period for their 2000-01 budgets? (OAQ1354VB)

Pa gyngor a roddir gan y Prif Ysgrifennydd i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ynghylch lefel treth y cyngor y flwyddyn nesaf wrth iddynt ddechrau paratoi cyllidebau 2000-2001? (OAQ1354VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 12

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

The final decisions on council tax rest with local authorities, which are accountable to the local electorate for their decisions. Next year’s level of expenditure and council tax will be discussed with local government in the Partnership Council on 22 October.

Mae’r penderfyniadau terfynol ar dreth y cyngor yn perthyn i’r awdurdodau lleol, sydd yn atebol i’w hetholwyr lleol am eu penderfyniadau. Fe drafodir lefel gwariant a threth y cyngor y flwyddyn nesaf gyda llywodraeth leol yn y Cyngor Partneriaeth ar 22 Hydref.

Janet Davies spoken in English p. 12

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 12

Recent increases have been grossly above the rate of inflation, due to the failure of the Barnett formula to take account of the increased discrepancy between GDP in Wales and the United Kingdom, arising from wholesale closures in heavy industry and manufacture in Wales during the 1980s. Would you agree?

Bu’r codiadau diweddar yn uwch o lawer na’r gyfradd chwyddiant, oherwydd methiant fformwla Barnett i roi ystyriaeth i’r gwahaniaeth cynyddol rhwng y cynnyrch mewnwladol crynswth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, o ganlyniad i’r cau diymatal ar ddiwydiannau trwm a gweithgynhyrchu yng Nghymru yn ystod y 1980au. A fyddech yn cytuno?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

The Barnett formula has a convergence effect. That means that the Welsh Office or the Secretary of State in the past—as I had to last November—or the Assembly in the future, must remember that if you put your priority in one area, that will mean squeezing in others. Due to the Barnett formula, we have a higher level of contribution than in England if you consider comparative contributions to the overall budget on a capitation basis. These decisions need to be considered when we decide on our priorities in the Assembly. That is one reason why there is a debate with local government through the Partnership Council in its meeting on 22 October.

Ceir effaith gydgyfeiriol drwy fformwla Barnett. Mae hynny’n golygu bod rhaid i’r Swyddfa Gymreig neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn y gorffennol—fel y bu’n rhaid i mi fis Tachwedd diwethaf—neu’r Cynulliad yn y dyfodol, gofio, os rhowch flaenoriaeth i un maes, y bydd hynny’n golygu gwasgu ar eraill. Oherwydd fformwla Barnett, mae gennym lefel uwch o gyfraniad nag yn Lloegr os ystyriwch gyfraniadau cymharol i’r gyllideb gyffredinol ar sail y pen. Rhaid ystyried y penderfyniadau hyn pan benderfynwn ein blaenoriaethau yn y Cynulliad. Dyna un rheswm pam y bydd trafodaeth gyda llywodraeth leol drwy’r Cyngor Partneriaeth yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.

David Davies spoken in English p. 13

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Does the First Secretary accept that local authorities are disadvantaged in rural areas because of the way the standard spending assessment is calculated? Will he take steps to address this?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn derbyn bod awdurdodau lleol dan anfantais mewn ardaloedd gwledig oherwydd y modd y cyfrifir yr asesiad gwario safonol? A wnaiff ef gymryd camau i ymdrin â hyn?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

There is always an argument about the formula and there are always arguments that one area is disadvantaged and another is advantaged. The arguments largely state that in a rural area you are disadvantaged because of sparsity. In an urban area you are disadvantaged because of the pressures of urban life and deprivation, particularly in the inner city. These matters have to be weighed. There is no way to achieve a perfect formula. I know that from my experience of the local government formula and the formula used in relation to the police and the health services. There is sparsity in some elements of the work of local authorities in rural areas. That was one of the reasons why, when I was at the Home Office, I arranged for research into the impact of sparsity in areas such as the police services. This is not an easy, open and shut case, as you seek to imply.

Ceir dadlau bob amser ynghylch y fformwla a dadleuon bob tro fod un ardal dan anfantais ac un arall ar ei hennill. Mae’r dadleuon yn dweud yn fras eich bod dan anfantais mewn ardal wledig oherwydd gwasgaredd y boblogaeth. Mewn ardal drefol yr ydych dan anfantais oherwydd pwysau bywyd trefol ac amddifadedd, yn enwedig yn ardaloedd mewnol y dinasoedd. Rhaid pwyso a mesur y materion hyn. Nid oes modd cyrraedd fformwla berffaith. Fe wn hynny o’m profiad o’r fformwla llywodraeth leol a’r fformwla a ddefnyddir mewn perthynas â’r heddlu a’r gwasanaethau iechyd. Mae gwasgaredd mewn rhai elfennau o waith awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig. Dyna un o’r rhesymau imi drefnu ymchwil, pan oeddwn yn y Swyddfa Gartref, i effaith prinder mewn meysydd fel gwasanaethau’r heddlu. Nid yw hyn yn achos hawdd ei ddatrys fel yr ydych yn ceisio ei awgrymu.

Dieithrwch Cymdeithasol (Cynghorau Hyfforddiant a Menter)

Social Exclusion (Training and Enterprise Councils)

Q3 Jonathan Morgan spoken in English p. 14

C3 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 14

What contribution do training and enterprise councils make to reducing social exclusion in Wales? (OAQ1346VB)

Pa gyfraniad a wneir gan gynghorau hyfforddi a menter i leihau dieithrwch cymdeithasol yng Nghymru? (OAQ1346VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

Training and enterprise councils are involved in a wide range of programmes and initiatives to engage disadvantaged young people and adults and to help them realise their potential.

Mae cynghorau hyfforddi a menter yn cymryd rhan mewn amrediad eang o raglenni a chynlluniau i gynnwys pobl ifainc ac oedolion dan anfantais ac i’w helpu i gyflawni eu potensial.

Jonathan Morgan spoken in English p. 14

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 14

It is the Government’s intention to eventually abolish TECs. However, many commentators argue that TECs provide a fulfilling role in terms of workplace training, particularly through Investors in People and modern apprenticeships. Given these concerns, will the First Secretary commit himself to retaining TECs as part of the new, post-16 set-up in Wales?

Bwriad y Llywodraeth yw diddymu’r CHM yn y pen draw. Fodd bynnag, mae llawer o sylwebyddion yn dadlau bod y CHM yn cyflawni rôl werthfawr o ran hyfforddiant yn y lle gwaith, yn enwedig drwy Fuddsoddwyr mewn Pobl a phrentisiaethau modern. Yn wyneb y pryderon hyn, a yw’r Prif Ysgrifennydd yn fodlon ymrwymo i gadw y CHM fel rhan o’r trefniant newydd, ôl-16 yng Nghymru?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I will commit myself to pursuing the initiatives that offer opportunities to young people. As Secretary of State I set a demanding target for the creation of modern apprenticeships. This was virtually the same target as was set for Scotland, a country with twice our population. I hope that the Assembly will endorse that approach. The delivery of many of those approaches will improve through the new type of structures suggested in the Education and Training Action Group report, which has received support from the Post-16 Education and Training Committee. That Committee is looking carefully at the detail of how we implement the principles, which are intended to combine post-16 education in schools and colleges with workplace training. The target should be to combine them as an integrated whole. I am happy to acknowledge that TECs have done good work and we need to retain some features in moving to a new system. We need to make sure that no babies go out with the bath water and that we build on what has been done well in the past.

Yr wyf yn barod i ymrwymo i drafod y cynlluniau sydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifainc. Fel Ysgrifennydd Gwladol gosodais darged ymestynnol ar gyfer creu prentisiaethau modern. Yr oedd hwn bron yr un targed â’r un a osodwyd i’r Alban, gwlad sydd â dwywaith ein poblogaeth ni. Gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cefnogi’r dull gweithredu hwnnw. Bydd y cyflenwi ar lawer o’r dulliau gweithredu hynny yn gwella drwy’r math newydd o strwythurau a awgrymir yn adroddiad y Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant, a gefnogwyd gan y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16. Mae’r Pwyllgor hwnnw’n edrych yn fanwl ar y modd y byddwn yn gweithredu’r egwyddorion, a fwriedir i gyfuno addysg ôl-16 mewn ysgolion a cholegau â hyfforddi yn y lle gwaith. Y targed priodol yw eu cyfuno yn gyfanwaith intregredig. Yr wyf yn falch o gydnabod bod y CHM wedi gwneud gwaith da ac mae angen inni gadw rhai nodweddion wrth symud ymlaen at system newydd. Mae angen inni sicrhau na fyddwn byth yn cadw’r brych ac yn taflu’r babi ac y byddwn yn adeiladu ar sail yr hyn a wnaethpwyd yn dda yn y gorffennol.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 15

A yw Alun Michael yn derbyn y bydd arian Amcan 1 o Ewrop yn cynnig cyfle ardderchog i hyfforddi’r gweithlu? Mae’n ddyletswydd arnom i ddefnyddio’r cronfeydd hyn yn llawn o’r diwrnod cyntaf y byddant ar gael. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn disgwyl inni wario tua £360 miliwn ar gynlluniau Amcan 1 yn 2000: £180 miliwn oddi wrth Ewrop a £180 miliwn o arian cyfatebol. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gyflwyno ystod eang o gynlluniau hyfforddi newydd fel y gallwn ddefnyddio’r arian Ewropeaidd hwn yn llawn? Yr wyf yn croesawu’r £35 miliwn a gyhoeddwyd neithiwr fel arian cyfatebol er bod rhan o’r arian hwn eisoes wedi ei neilltuo i ateb gofynion rhaglenni sydd ar y gweill eleni. A wnaiff Alun Michael sicrhau bod arian cyfatebol llawn ar gael fel y gallwn fanteisio’n llawn ar arian Ewrop i weithredu’r cynlluniau hyfforddi angenrheidiol hyn?

Does Alun Michael accept that Objective 1 funds from Europe will offer an excellent opportunity to train the workforce? We have a duty to use these funds fully from the first day that they are available. The European Commission expects us to spend £360 million on these schemes in 2000: £180 million from Europe and £180 million of match funding. What plans does the Government have to introduce a wide range of new training schemes so that we can use these European funds fully? I welcome the £35 million announced last night as match funding although some of this money has already been committed to the requirements of programmes that are underway this year. Will Alun Michael ensure that full match funding will be available so that we can take full advantage of European funding to implement these essential training schemes?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 15

Yr ydym yn bwriadu manteisio’n llwyr ar arian Amcan 1. Credaf fod Dafydd yn parhau i gamddeall yr esboniad a gafodd eisoes. Mae Ewrop yn gofyn inni roi addewid blynyddol nad yr un arian fydd yn cael ei wario, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf. Yr ydym wedi rhoi’r wybodaeth eisoes bod yr arian ar gael ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Byddwn yn ceisio sicrhau bod rhoi cyfle i bobl ifainc gael gwaith a datblygu eu doniau yn rhan ganolog o’r modd y defnyddiwn arian Amcan 1.

We intend to take full advantage of Objective 1 funding. I believe that Dafydd continues to misunderstand the explanation that he has already been given. Europe asks us to give an annual pledge that the money spent will not be the same money, particularly in the first year. We have already given the information that the funding is available for the first year. We will try to ensure that giving young people opportunities to find employment and develop their talents will be central to the way we use Objective 1 funding.

Christine Chapman spoken in English p. 15

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 15

Have you had an opportunity to reflect on the new research by David Piachaud of the London School of Economics which suggests that the Labour Government is on course to meet its stated reduction in poverty levels? The report suggests that measures such as the national minimum wage, budgetary measures, the working families tax credit, rises in child benefit and a rise in employment mean that we will have two million fewer people in poverty in Britain by 2002. Many of those people will be in Wales. Do you agree that as long as we continue along this path in Wales we will go a long way further towards combating social exclusion?

A gawsoch gyfle i fyfyrio uwchben yr ymchwil newydd gan David Piachaud o Ysgol Economeg Llundain sydd yn awgrymu bod y Llywodraeth Lafur ar y trywydd iawn i gyflawni’r gostyngiad mewn lefelau tlodi a osodwyd ganddi? Mae’r adroddiad yn awgrymu bod mesurau fel yr isafswm cyflog cenedlaethol, mesurau yn y gyllideb, y credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio, codiadau mewn budd-dâl plant a chynnydd mewn cyflogaeth yn golygu y bydd gennym ddwy filiwn yn llai o bobl mewn tlodi ym Mhrydain erbyn 2002. Bydd llawer o’r bobl hynny yng Nghymru. A gytunwch y byddwn yn mynd ymhell iawn tuag at ymladd dieithrwch cymdeithasol gyhyd ag y byddwn yn dilyn y llwybr hwn yng Nghymru?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 16

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

That is absolutely right. It is a pity that the considerable benefits that this Government has given to the poorest people, such as the introduction of the minimum wage, are always discounted and talked down by our opponents. They should at least give us credit for what we have done in the two years or so since the 1997 general election. That work gives us a basis on which to build. The work of TECs, creating modern apprenticeships, the incentive the New Deal gives to our young people, improvements in post-16 education, inward investment and encouraging home-grown companies are all part of the overall picture of creating a better Wales.

Mae hynny’n hollol gywir. Mae’n drueni bod y manteision sylweddol y mae’r Llywodraeth hon wedi eu rhoi i’r bobl dlotaf, fel cyflwyno’r isafswm cyflog, yn cael eu diystyru a’u bychanu o hyd gan ein gwrthwynebwyr. Dylent o leiaf roi clod inni am yr ydym wedi’i wneud yn y ddwy flynedd a mwy ers etholiad cyffredinol 1997. Mae’r gwaith hwnnw’n rhoi sylfaen inni adeiladu arni. Mae gwaith y CHM, creu prentisiaethau modern, yr anogaeth y mae’r Fargen Newydd yn ei rhoi i’n pobl ifainc, gwelliannau mewn addysg ôl-16, mewnfuddsoddi a hybu cwmnïau brodorol oll yn rhan o’r darlun cyffredinol o greu Cymru well.

Dieithrwch Cymdeithasol (Pobl Ifainc)

Social Exclusion (Young People)

Q5 Lynne Neagle spoken in English p. 16

C5 Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 16

What actions will the First Secretary take to tackle the problems of social exclusion among young people? (OAQ1364JS)

Pa gamau a gymerir gan y Prif Ysgrifennydd i ddelio â phroblemau dieithrwch cymdeithasol ymysg pobl ifainc? (OAQ1364JS)

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 16

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

Point of order. Due to my anxiety to get through the questions as quickly as possible I have missed out the fourth question. I shall take question five and then revert to question four. I apologise to Alison Halford.

Pwynt o drefn. Oherwydd fy awydd i gwblhau’r cwestiynau mor gyflym â phosibl yr wyf wedi methu’r pedwerydd cwestiwn. Fe gymeraf gwestiwn pump a dychwelyd wedyn at gwestiwn pedwar. Ymddiheuraf i Alison Halford.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 16

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

Promoting social inclusion and equality of opportunity for young people are two of my priorities. I was drawn into national politics after working with unemployed young people in Cardiff. A range of initiatives aims to tackle major problems facing young people in deprived communities in Wales, including the Children and Youth Partnership Fund for Wales, the Children First programme, Sure Start and the Drug and Alcohol Treatment Fund.

Mae hybu cynhwysiant cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal i bobl ifainc yn ddwy o’m blaenoriaethau. Fe’m denwyd mewn i wleidyddiaeth genedlaethol ar ôl gweithio gyda phobl ifainc ddi-waith yng Nghaerdydd. Ceir amrediad o gynlluniau er mwyn ymdrin â phroblemau mawr sydd yn wynebu pobl ifainc mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys Cronfa Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, y rhaglen Plant yn Gyntaf, Cychwyn Cadarn a’r Gronfa Triniaeth Alcohol a Chyffuriau.

Lynne Neagle spoken in English p. 17

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 17

Does the First Secretary welcome the recent announcement of funding for the Youth Justice Board in my constituency? Do you believe that this is an example of a cross-cutting approach to social exclusion, in stark contrast to the so-called ‘common sense’ approach seen at last week’s Tory conference? Their approach promoted the principle of forcing obligation without offering opportunities. Do you agree that that was more a case of nonsense than common sense?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar am nawdd i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fy etholaeth? A gredwch fod hyn yn enghraifft o agwedd drawsbynciol at ddieithrwch cymdeithasol, yn gwbl groes i’r agwedd ‘synnwyr cyffredin’ honedig a welwyd yng nghynhadledd y Torïaid yr wythnos diwethaf? Yr oedd eu hagwedd yn hybu’r egwyddor o orfodi rhwymedigaeth heb gynnig cyfleoedd. A gytunwch fod hynny’n debycach i ddiffyg synnwyr na synnwyr cyffredin?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 17

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

You have said it all. We need to strike a balance between giving opportunity to young people and expecting responsibility from them—being tough on crime and its causes. We should take positive steps to tackle the behaviour that causes nuisance within communities and to include young people by giving them an opportunity. One of the major opportunities is through developing and promoting youth action teams, showing young people as being part of the solution and not always of the problem. We need to build on these positive steps.

Yr ydych wedi dweud y cwbl. Mae angen inni gadw’r ddysgl yn wastad rhwng rhoi cyfle i bobl ifainc a disgwyl iddynt fod yn gyfrifol—bod yn gadarn ar droseddu a’i achosion. Dylem gymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael ag ymddygiad sydd yn peri niwsans mewn cymunedau ac i gynnwys pobl ifainc drwy roi cyfle iddynt. Un o’r cyfleoedd mwyaf yw drwy ddatblygu a hybu timau gweithredu ieuenctid, i ddangos pobl ifainc fel rhan o’r ateb ac nid yn rhan o’r broblem o hyd. Rhaid inni adeiladu ar y camau cadarnhaol hyn.

Lefelau Taliadau (Adolygiad)

Remuneration Levels (Review)

Q4 Alison Halford spoken in English p. 17

C4 Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the First Secretary initiate a review of the levels of remuneration paid to chairs and members of Assembly sponsored public bodies? (OAQ1352VB)

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd drefnu adolygiad o lefelau cyflog i gadeiryddion ac aelodau cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad? (OAQ1352VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 17

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

It is important to get these levels right. My priority is to deal with this issue in the NHS. Although trusts and health authorities, as I indicated earlier, are not defined as Assembly sponsored public bodies, most of us regard them as being similar.

Mae’n bwysig gosod y lefelau priodol. Fy mlaenoriaeth yw ymdrin â’r mater hwn yn yr NHS. Er nad yw ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd yn cael eu diffinio fel cyrff cyhoeddus a noddir y Cynulliad, fel y nodais yn gynharach, mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu hystyried fel eu bod yn debyg.

In July, I asked Jane Hutt to review the role and pay of chairs and board members. Our priority is to attract a wide range of candidates to public appointments. When I first came into office as Secretary of State for Wales and started to see the options for public appointment, I was concerned that the range of people was not wide enough. As an Assembly, we must expand the range of people drawn into making a contribution to public life.

Yng Ngorffennaf, gofynnais i Jane Hutt adolygu rôl a chyflogau cadeiryddion ac aelodau bwrdd. Ein blaenoriaeth yw denu amrediad eang o ymgeiswyr ar gyfer swyddi cyhoeddus. Pan ddechreuais yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a dechrau gweld y dewisiadau ar gyfer penodiadau cyhoeddus, yr oeddwn yn bryderus nad oedd yr amrediad o bobl yn ddigon eang. Fel Cynulliad, rhaid inni ehangu’r amrediad o bobl a ddenir i gyfrannu at ein bywyd cyhoeddus.

Alison Halford spoken in English p. 18

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 18

Without naming names, these are some of the remuneration levels: £36,923 for a two-and-a-half-day week; £11,500 for a two-and-a-half-day week; £19,717 for another two-day week. There seems to be some degree of discrepancy in two-day weeks and what can be remunerated for that particular time.

Heb enwi neb, dyma rai o’r lefelau cyflog: £36,923 am wythnos o ddeuddydd a hanner; £11,500 am wythnos o ddeuddydd a hanner; £19,717 am wythnos o ddeuddydd arall. Mae’n ymddangos bod rhywfaint o anghysondeb yn yr wythnosau deuddydd a’r hyn y gellir ei dalu am yr amser hwnnw.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 18

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

I understand your point, especially when individuals hold more than one office, but, in fairness, many of those who hold part-time posts for a couple of days a week put much more time and effort into their posts. From the Assembly’s point of view, the important thing is to get value for money out of those appointments. That is why we must consider the way we extend opportunities, recruit the best people and ensure that we have the highest standard in public life in Wales so that every penny spent is well spent.

Yr wyf yn deall eich pwynt, yn enwedig pan fydd unigolion yn dal mwy nag un swydd, ond, er tegwch, bydd llawer o’r rhai sydd yn dal swyddi rhan-amser am ychydig o ddiwrnodau’r wythnos yn rhoi llawer mwy o amser ac ymdrech i’w swyddi. O safbwynt y Cynulliad, y peth pwysig yw ein bod yn cael gwerth am arian o’r penodiadau hynny. Dyna pam fod yn rhaid inni ystyried y modd y byddwn yn ehangu cyfleoedd, yn recriwtio’r bobl orau ac yn sicrhau bod gennym y safon uchaf mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru fel y caiff pob ceiniog ei gwario’n ddoeth.

Arian Cyfatebol Amcan 1

Objective 1 Match Funding

Q6 Alun Cairns spoken in English p. 18

C6 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 18

Will the First Secretary make a statement on the amount and position of match funding that the European Commission would require in order for Wales to benefit from all Objective 1 moneys available? (OAQ1351VB)

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ddatganiad ar faint a sefyllfa’r arian cyfatebol a fyddai’n ofynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd er mwyn i Gymru fanteisio ar yr holl arian Amcan 1 sydd ar gael? (OAQ1351VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 18

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

The new structural fund programmes make provision for a maximum grant of 75 per cent instead of the current one of 50 per cent. The total amount of required match funding will depend on the amount of grant paid to individual projects.

Mae rhaglenni y cronfeydd strwythurol newydd yn darparu ar gyfer uchafswm grant o 75 y cant yn hytrach na’r 50 y cant a geir ar hyn o bryd. Bydd cyfanswm yr arian cyfatebol sydd yn ofynnol yn dibynnu ar swm y grant a delir i brosiectau unigol.

Alun Cairns spoken in English p. 18

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 18

Do you accept, like your colleague Ron Davies, that this so-called new money is not new and is not match funding to exploit the Objective 1 programme? Do you further reject comments in the documents to be debated in the Economic Development Committee tomorrow that it is the responsibility of already stretched public bodies to make up the match funding?

A ydych yn derbyn, fel eich cydweithiwr Ron Davies, nad yw’r arian honedig newydd hwn yn newydd ac nad yw’n arian cyfatebol i fanteisio ar y rhaglen Amcan 1? Yn ychwanegol at hynny, a ydych yn ymwadu â’r sylwadau yn y dogfennau sydd i’w trafod yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd yfory mai cyfrifoldeb cyrff cyhoeddus, sydd eisoes dan bwysau, yw darparu’r arian cyfatebol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 19

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 19

No, I do not accept that. You speak out of context and it may be sensible to allow the Economic Development Committee to debate this properly rather than use it here to score points. We have ensured that Wales can benefit from Objective 1 money, but as well as ensuring that the finances fit we must also encourage people to present schemes and seek the match funding that can come from a variety of sources including the private and voluntary sectors as well as the public sector. We must use all available opportunities to make Objective 1 a period of great success. Let us talk up the opportunity that we have won.

Nac ydwyf, nid wyf yn derbyn hynny. Nid ydych yn siarad o fewn y cyd-destun ac fe allai fod yn ddoeth i ganiatáu i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd drafod hyn yn iawn yn hytrach na’i ddefnyddio yma i sgorio pwyntiau. Rhaid inni sicrhau bod Cymru’n gallu elwa ar arian Amcan 1, ond yn ogystal â sicrhau bod yr arian yn dod at ei gilydd rhaid inni hefyd annog pobl i gyflwyno cynlluniau a chwilio am yr arian cyfatebol a all ddod o amryw o ffynonellau gan gynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector cyhoeddus. Rhaid inni ddefnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael i wneud Amcan 1 yn gyfnod o lwyddiant mawr. Gadewch inni frolio am y cyfle yr ydym wedi ei ennill.

Phil Williams spoken in English p. 19

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 19

After the announcement of an additional £35 million to the European regional development fund budget for 2000-01, do you agree that the actual total available for post-2000 programmes is only £25 million because £35 million was used to cover a carry-over of £50 million from the pre-2000 round of ERDF that was not previously covered in the draft budget? With that in mind, do you agree that it would be improper to make the necessary commitment to Objective 1 funding of over £100-£200 million in 2000-01 unless we are given a parallel commitment from the Treasury that the budget for full Objective 1 funding throughout the seven-year period will be ring-fenced in the comprehensive spending review?

Wedi’r cyhoeddiad am £35 miliwn ychwanegol i gyllideb y gronfa ddatblygu ranbarthol Ewropeaidd am 2000-01, a ydych yn cytuno nad yw’r gwir gyfanswm sydd ar gael i raglenni ar ôl 2000 yn ddim ond £25 miliwn am fod £35 miliwn a ddygwyd ymlaen wedi ei ddefnyddio i gynnwys trosglwyddiad o £50 miliwn o rownd cyn-2000 y gronfa ddatblygu ranbarthol Ewropeaidd nad oedd wedi ei gynnwys cyn hynny yn y gyllideb ddrafft? Gan gofio hynny, a ydych yn cytuno mai amhriodol fyddai ymrwymo’r arian Amcan 1 angenrheidiol o dros £100-£200 miliwn yn 2000-01 oni bai ein bod yn derbyn ymrwymiad cyfatebol gan y Trysorlys y bydd y gyllideb ar gyfer arian Amcan 1 llawn drwy gydol y cyfnod o saith-mlynedd wedi ei amgáu yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 19

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 19

It would be improper to undermine confidence in the process, which I have tried on numerous occasions to explain. It is clear that you want the world to operate according to rules understood by you, but the world and the Treasury operate according to rules that have been established over many years. We must achieve change and there is a change. This is the first occasion that we have secured Objective 1 finances for such a large proportion of Wales. It is an achievement and many said we would not succeed. As a result, there is a different scenario from the one that existed in Scotland when the Highlands and Islands got Objective 1 status. The proportion of Scotland included was minuscule but our proportion is large. It brings new challenges to the way that the Treasury operates and the way public funding is arranged and it will be dealt with through the comprehensive spending review as we have stated before. In the past, departments did not know what money they would get next year let alone in two or three years time but they still continued running the health service and the education service. Similarly, we must be confident that the money will be there to ensure that we can draw down the Objective 1 funding we have achieved.

Byddai’n amhriodol tanseilio hyder yn y broses hon, y ceisiais ei hegluro sawl gwaith cyn hyn. Mae’n amlwg eich bod am weld y byd yn gweithredu yn ôl rheolau a ddeellir gennych chi, ond mae’r byd a’r Trysorlys yn gweithredu yn ôl rheolau a sefydlwyd dros nifer o flynyddoedd. Rhaid inni sicrhau newid ac mae yna newid. Dyma’r tro cyntaf inni sicrhau arian Amcan 1 i ran mor helaeth o Gymru. Mae’n gamp ac fe ddywedodd llawer na fyddem yn ei llwyddo. O ganlyniad i hynny, ceir sefyllfa sydd yn wahanol i’r un a gafwyd yn yr Alban pan enillodd yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd statws Amcan 1. Yr oedd y gyfran o’r Alban oedd wedi ei chynnwys yn fach iawn ond mae’n cyfran ni yn fawr. Mae’n cynnig heriau newydd i’r modd y bydd y Trysorlys yn gweithredu a’r modd y trefnir cyllid cyhoeddus ac ymdrinnir â hyn drwy’r adolygiad cynhwysfawr o wariant fel yr ydym wedi dweud eisioes. Yn y gorffennol, ni wyddai adrannau faint o arian y byddent yn ei gael y flwyddyn wedyn heb sôn am y ddwy neu dair blynedd wedyn ond yr oeddent yn redeg i gwasanaeth iechyd a’r gwasanaeth addysg. Yr yr un modd, rhaid i ninnau fod yn hyderus y bydd yr arian yno i sicrhau y gallwn ymestyn am yr arian Amcan 1 yr ydym wedi ei ennill.

Michael German spoken in English p. 20

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 20

Do you accept that your decision yesterday to announce £35 million of allegedly new money for match funding before announcing it to Assembly Members was erroneous and irresponsible? Do you agree that the £35 million was negotiated last year as an addition to the Welsh block grant, as the former Secretary of State for Wales said? Do you also accept that that money has been spent in Wales on matters, including the NHS drugs bill, and that it would be available for spending on health and education this year, and that your decision to use it for other purposes reduces the money available should the Treasury not come up with extra money, which is apparent from the announcement?

A ydych yn derbyn bod eich penderfyniad ddoe i gyhoeddi £35 miliwn o arian honedig newydd ar gyfer arian cyfatebol cyn ei gyhoeddi i Aelodau’r Cynulliad yn anghywir ac yn anghyfrifol? A ydych yn cytuno bod y £35 miliwn wedi ei drafod y llynedd fel ychwanegiad i grant bloc Cymru, fel y dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru? A ydych hefyd yn derbyn bod yr arian hwnnw wedi ei wario yng Nghymru ar faterion, yn cynnwys bil cyffuriau’r NHS, ac y byddai ar gael ar gyfer ei wario ar iechyd ac addysg eleni, a bod eich penderfyniad i’w ddefnyddio i ddibenion eraill yn lleihau’r arian a fydd ar gael os na fydd y Trysorlys yn rhoi arian ychwanegol, fel yr ymddengys yn ôl y cyhoeddiad?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 20

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 20

That question was a garbled muddle. We have provided information to the Economic Development Committee to clarify the precise financial position we are in. As I have previously stated, I have made sure that we have adequate resources to deal with the first year for Objective 1 and that the processes can deal with subsequent years. Negotiations last year succeeded in ensuring that we could keep to our manifesto commitments on additional money going into health, which is £1 billion over three years, and education and training, which is £844 million over three years, while taking account that we need to plan for the three-year period and ensure that we can meet our commitments. That is what we have done and that is the assurance for which the Economic Development Committee was looking. I regret that Mike seems determined to find ways of saying that we cannot do what we manifestly can do.

Yr oedd y cwestiwn hwnnw’n gymysgwch carbwl. Yr ydym wedi rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Datblygu Economaidd i egluro’r union sefyllfa ariannol yr ydym ynddi. Fel y dywedais eisoes, yr wyf wedi sicrhau bod gennym adnoddau digonol i ddelio â blwyddyn gyntaf Amcan 1 a bod y prosesau yn gallu delio â’r blynyddoedd wedyn. Yn y trafodaethau y llynedd llwyddwyd i sicrhau y gallem gadw at ein hymrwymiadau maniffesto ar arian ychwanegol i iechyd, sydd yn £1 biliwn dros dair blynedd, ac i addysg a hyfforddiant, sydd yn £844 miliwn dros dair blynedd, gan roi ystyriaeth i’r angen inni gynllunio ar gyfer y cyfnod o dair blynedd ac i sicrhau y gallwn gyflawni’n hymrwymiadau. Dyna’r hyn yr ydym wedi’u wneud a dyna’r sicrwydd yr oedd y Pwyllgor Datblygu Economaidd yn edrych amdano. Mae’n resyn gennyf fod Mike yn ymddangos yn benderfynol o ganfod ffyrdd o ddweud nad allwn wneud pethau y mae’n amlwg ein bod yn gallu eu gwneud.

Janet Davies spoken in English p. 21

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 21

Point of order. It concerns the Standing Order on the late delivery of papers for meetings. Throughout the summer I did not object to the late delivery of papers because I felt we should allow staff and the administration a few months to settle and get it right. The situation has got worsened since we have returned. Last week, Phil Williams and Brian Hancock complained about the late delivery of papers. Yesterday there was a Partnership Council meeting at 3 p.m. Standing Orders note that papers should be available five working days before meetings. I received mine at 9.40 a.m. yesterday, half an hour before I was due to leave for a meeting in Swansea. I understand that the community council representatives on the Partnership Council received their papers at around midday. That is unacceptable. The situation is becoming outrageous. Although the First Secretary said in the meeting that he would try to ensure that it would not happen again, we need to take this further. Not only are Assembly Members receiving papers late but also members of the public are not being given a fair chance. A courier came to my house with the papers on Friday morning but there was no one in. I phoned the courier early on Monday morning and had the papers delivered to me at 9.40 a.m. Someone received papers at 1 a.m. This is expensive for the taxpayer and it is not satisfactory. I ask for an investigation into what happened to the Partnership Council papers in particular, to try to find out why they arrived so late.

Pwynt o drefn. Mae’n ymwneud â’r Rheol Sefydlog ar gyflenwi papurau’n hwyr ar gyfer cyfarfodydd. Drwy’r haf nid oedd gennyf wrthwynebiad i’r papurau gael eu cyflenwi’n hwyr oherwydd fe deimlwn y dylem ganiatáu ychydig o fisoedd i’r staff a’r weinyddiaeth ymsefydlu a chael pethau yn iawn. Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers inni ddychwelyd. Yr wythnos diwethaf, cwynodd Phil Williams a Brian Hancock am gyflenwi papurau yn hwyr. Ddoe, yr oedd cyfarfod o’r Cyngor Partneriaeth am 3 p.m. Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi y dylai papurau fod ar gael bum niwrnod gwaith cyn cyfarfodydd. Derbyniais fy rhai i am 9.40 a.m. ddoe, hanner awr cyn yr oeddwn i ymadael am gyfarfod yn Abertawe. Deallaf fod cynrychiolwyr y cynghorau cymuned ar y Cyngor Partneriaeth wedi derbyn eu papurau hwy tua hanner dydd. Mae hynny’n annerbyniol. Mae’r sefyllfa’n mynd yn warthus. Er i’r Prif Ysgrifennydd ddweud yn y cyfarfod y byddai’n ceisio sicrhau na ddigwyddai hyn eto, mae angen inni fynd â hyn ymhellach. Nid yn unig y mae Aelodau’r Cynulliad yn derbyn eu papurau’n hwyr, nid yw aelodau o’r cyhoedd yn cael cyfle teg ychwaith. Daeth negesydd â’r papurau i’m tŷ fore Gwener ond nid oedd neb gartref. Ffoniais y negesydd yn gynnar fore Llun a derbyniais y papurau am 9.40 a.m. Derbyniodd rhywun bapurau am 1 a.m. Mae hyn yn gostus i’r trethdalwr ac nid yw’n foddhaol. Gofynnaf am ymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd i bapurau’r Cyngor Partneriaeth yn arbennig, i geisio darganfod pam iddyn gyrraedd mor hwyr.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 22

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 22

Your point is a fair one. We discussed this at the Partnership Council meeting yesterday. It was made clear then that the situation was unacceptable. The situation arose due to a number of factors. There was a delay in papers being cleared and some had gone astray. Also, when the papers were sent out at the end of last week, many were not delivered even where it was clear where they should have been delivered. There were some hiccups in delivery in other cases. However, even if you accept each of these elements as unique and unusual, the drawing up of the papers, their clearance and distribution was begun far too near to the date of the actual meeting. I have already discussed this with the Permanent Secretary. Where there is a deadline, it should not be regarded as a target date. The target date should be set well before the deadline.

Mae eich pwynt yn un teg. Trafodasom hyn yng nghyfarfod y Cyngor Partneriaeth ddoe. Fe’i gwnaethpwyd yn amlwg bryd hynny fod y sefyllfa’n annerbyniol. Cododd y sefyllfa oherwydd nifer o ffactorau. Yr oedd oedi wrth glirio’r papurau ac yr oedd rhai wedi mynd ar gyfeiliorn. Hefyd, pan anfonwyd y papurau allan ddiwedd yr wythnos diwethaf, nid oedd llawer wedi eu danfon hyd yn oed pan oedd yn amlwg i ble yr oeddent i’w danfon. Cafwyd rhai anawsterau wrth ddanfon mewn achosion eraill. Fodd bynnag, hyd yn oed os byddwch yn derbyn bod pob un o’r elfennau hyn yn unigryw ac yn anarferol, dechreuwyd ar lunio’r papurau, eu clirio a’u dosbarthu yn llawer rhy agos at ddyddiad y cyfarfod ei hun. Trafodais hyn eisoes â’r Ysgrifennydd Parhaol. Pan geir terfyn amser, ni ddylid ei ystyried yn ddyddiad targed. Dylid gosod y dyddiad targed ymhell cyn y terfyn amser.

For example, agendas for the local government partnership should go to both sides for clearance and agreement three weeks before the meeting. That is well before the deadline so that, once the papers are cleared, there is still a fortnight to send them out for people to read and accept. We set these standards for the future. I have discussed with officials how to achieve this. I ask the Assembly to accept that many people have been under enormous pressure. Not only we but the partner organisations are under pressure. We are doing these things for the first time. We must do them better. Everyone involved accepts that. I give my assurance that steps have been taken since yesterday to ensure that we avoid this problem in the future. The immediate challenge is the date, 22 October, when we look at local government finances. We are doing our best to get the papers out for that meeting in the next few days.

Er enghraifft, dylai agendâu ar gyfer y bartneriaeth â llywodraeth leol fynd at y ddwy ochr i’w clirio a’u cytuno dair wythnos cyn y cyfarfod. Mae hynny ymhell cyn y terfyn amser fel bod pythefnos yn dal ar gael, ar ôl clirio’r papurau, i’w hanfon allan i bobl eu darllen a’u derbyn. Gosodwn y safonau hyn ar gyfer y dyfodol. Yr wyf wedi trafod y modd i gyflawni hyn gyda’r swyddogion. Gofynnaf i’r Cynulliad dderbyn bod llawer o bobl wedi bod o dan bwysau enfawr. Mae’r partner gyrff o dan bwysau yn ogystal â ni. Yr ydym yn gwneud y pethau hyn am y tro cyntaf. Rhaid inni eu gwneud yn well. Mae pawb sydd yn gysylltiedig yn derbyn hynny. Rhoddaf fy sicrwydd fod camau wedi eu cymryd ers ddoe i sicrhau y byddwn yn osgoi’r broblem hon yn y dyfodol. Yr her agosaf yw’r dyddiad, 22 Hydref, pan fyddwn yn ystyried cyllid llywodraeth leol. Yr ydym yn gwneud ein gorau i anfon y papurau allan ar gyfer y cyfarfod hwnnw o fewn y dyddiau nesaf.

Phil Williams spoken in English p. 22

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 22

Point of order. I would like your guidance, Mr Llywydd, on my supplementary question. I have the wording in front of me. It was a specific set of questions and although, admittedly, there can be no advance preparation for supplementary questions, I felt that there was no serious attempt to answer the points I raised.

Pwynt o drefn. Hoffwn ofyn am eich arweiniad, Mr Llywydd, ar fy nghwestiwn atodol. Mae’r geiriad gennyf o’m blaen. Yr oedd yn set benodol o gwestiynau ac er fy mod yn derbyn na ellir paratoi ymlaen llaw ar gyfer cwestiynau atodol, teimlwn nad oedd ymgais o ddifrif i ateb y pwyntiau a godais.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

I am pleased to say that I am not responsible for answers in this Chamber.

Yr wyf yn falch o ddweud nad wyf yn gyfrifol am atebion yn y Siambr hon.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 23

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Point of order. Sometimes questioners think they are asking a clear question when their question is based on a number of incorrect assumptions. That was the case with Phil’s question. To answer it in full would require an essay or a half-hour contribution rather than the brief answer the Presiding Officer has asked us to provide.

Pwynt o drefn. Weithiau bydd y rhai sydd yn gofyn cwestiwn yn credu eu bod yn gofyn cwestiwn eglur pan fod eu cwestiwn wedi ei seilio ar nifer o ragdybiaethau anghywir. Yr oedd hynny’n wir am gwestiwn Phil. Er mwyn ei ateb yn llawn, byddai angen traethawd neu gyfraniad o hanner awr yn hytrach na’r ateb byr y gofynnodd y Llywydd inni ei roi.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

I am grateful that you listen to my statements on these matters. I hope other Members will also continue to do so.

Yr wyf yn ddiolchgar eich bod yn gwrando ar fy natganiadau ar y materion hyn. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau eraill yn parhau i wneud hynny hefyd.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 23

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Plenary business for 19 and 20 October is as reported last week except that there is an addition to business on 19 October when there will be a resolution on the Assembly Members’ pension scheme. The Assembly will be in recess from 25 to 29 October. Plenary on 2 November will include a debate to approve the third Transfer of Functions Order. The debate in Plenary on 9 November will be on the compact of the voluntary sector and business on 10 November will include a motion to note the preliminary budget. Arrangements will be made after Plenary today to place a copy of the Business Statement on the internet and the intranet.

Mae busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer 19 a 20 Hydref fel y nodwyd yr wythnos diwethaf heblaw bod ychwanegiad i’r busnes ar 19 Hydref pan geir penderfyniad ar gynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad. Bydd y Cynulliad ar doriad rhwng 25 a 29 Hydref. Bydd y Cyfarfod Llawn ar 2 Tachwedd yn cynnwys dadl i gymeradwyo’r trydydd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau. Bydd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd ar gytundeb y sector gwirfoddol a bydd y busnes ar 10 Tachwedd yn cynnwys cynnig i nodi’r gyllideb ragarweiniol. Trefnir ar ôl y Cyfarfod Llawn heddiw i osod copi o’r Datganiad Busnes ar y rhyngrwyd a’r fewnrwyd.

I would like to announce the determination made by the Deputy Presiding Officer today, as reported in the Business Committee in accordance with Standing Order No. 22.5, of the Home Repair Assistance (Extension) Wales Regulations 1999. They need not be referred to a Subject Committee. My officials will be laying the order in the Table Office today together with the Deputy Presiding Officer’s determination and will send copies to the independent advisers and to the Legislation Committee for consideration.

Hoffwn gyhoeddi’r dyfarniad a wnaethpwyd gan y Dirprwy Lywydd heddiw, fel y’i hadroddwyd i’r Pwyllgor Busnes yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 22.5, ar Reoliadau Cymorth Atgyweirio Cartrefi (Estyniad) Cymru 1999. Nid oes angen eu cyfeirio at Bwyllgor Pwnc. Bydd fy swyddogion yn rhoi’r gorchymyn yn y Swyddfa Gyflwyno heddiw ynghyd â dyfarniad y Dirprwy Lywydd ac anfonant gopïau at yr ymgynghorwyr annibynnol ac i’r Pwyllgor Deddfau i’w hystyried.

Derbyniwyd y Datganiad Busnes.

Business Statement adopted.

Trosedd ac Anhrefn

Crime and Disorder

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 24

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

I have selected the amendments standing in the names of Helen Mary Jones and Peter Black.

Yr wyf wedi dethol y gwelliannau a gyflwynwyd yn enwau Helen Mary Jones a Peter Black.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 24

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 24

I propose that the Assembly

Cynigiaf fod y Cynulliad

Alun Michael The First Secretary (continued) spoken in English p. 24

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 24

I have been passed a note saying that Chief Superintendent Ian Arundale and Superintendent Bob Evans from the Swansea division of South Wales Police have been invited to attend today’s debate. I think that is by way of a warning that anything we say will be taken down and may be used in evidence.

Estynnwyd nodyn i mi sydd yn dweud bod y Prif Uwcharolygydd Ian Arundale a’r Uwcharolygydd Bob Evans o adran Abertawe o Heddlu De Cymru wedi eu gwahodd i fod yn bresennol yn y ddadl heddiw. Credaf fod hynny’n fath o rybudd y bydd unrhyw beth a ddywedwn yn cael ei gofnodi ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth.

Crime and disorder are blighting too many lives in Wales today; the lives of both victims and perpetrators. Those who offend cannot be excused, but crime can be born from the despair of living in a deprived community where jobs and money are short and where no-one is trying to help youngsters off the streets to engage in meaningful activity. We are all aware of the links between social exclusion and crime, substance misuse and crime and of how social pressures can lead to people going off the rails. We also know how wretched it is to be a victim or a relative of a victim of crime and how important it is not to make excuses or be soft on crime.

Mae trosedd ac anhrefn yn difetha gormod o fywydau yng Nghymru heddiw; bywydau’r rhai sydd yn dioddef a’r rhai sydd yn troseddu. Ni ellir esgusodi’r rhai sydd yn troseddu, ond fe all troseddu fod yn ganlyniad i’r anobaith o fyw mewn cymuned ddifreintiedig lle y mae swyddi ac arian yn brin a lle nad oes neb yn ceisio helpu dod â phobl ifainc oddi ar y strydoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch ystyrlon. Yr ydym oll yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng dieithrwch cymdeithasol a throseddu, camddefnyddio sylweddau a throseddu a sut y gall pwysau cymdeithasol arwain pobl i fynd ar gyfeiliorn. Fe wyddom hefyd mor ddigalon yw dioddef o ganlyniad i droseddu neu i berthynas ddioddef oddi wrtho ac mor bwysig yw peidio â gwneud esgusion neu drin troseddu’n ysgafn.

The motion refers to the Assembly’s responsibilities and the need to ‘design out crime’. Yesterday, I re-launched Secured By Design in Wales, an impressive initiative which has had a noticeable impact. Tenants feel safer in their homes and careful design minimises the threat of theft, vandalism and assault. The recent assessment of a project in Gwent showed a 40 per cent cut in the number of burglaries, for example. We must look even more creatively at the causes of crime. Designing out crime does not just mean physical design but also the design of all our policies to ensure that they contribute in a holistic way to tackling the causes of crime.

Mae’r cynnig yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r Cynulliad a’r angen i ‘gynllunio troseddu allan’. Ddoe, ail-lansiais Diogelwch Drwy Gynllunio yng Nghymru, menter drawiadol sydd wedi cael effaith amlwg. Mae tenantiaid yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi ac mae cynllunio gofalus yn lleihau’r bygythiad o ddwyn, fandaliaeth ac ymosod. Yn yr asesiad diweddar ar brosiect yng Ngwent gwelwyd gostyngiad o 40 y cant yn nifer yr achosion o fwrgleriaeth, er enghraifft. Rhaid inni edrych yn fwy creadigol fyth ar achosion troseddu. Nid yw cynllunio troseddu allan yn golygu cynllunio ffisegol yn unig ond hefyd y modd y cynllunnir ein holl bolisïau i sicrhau eu bod yn cyfrannu’n gyfannol at ymdrin ag achosion troseddu.

The aim of the motion is to put the Assembly firmly in the loop on the fight against crime in Wales by bringing an awareness of crime and its consequences and prevention into the policy debate across the whole spectrum of the Assembly’s work—education, health, housing, employment and transport, to name but a few. The Assembly must have a clear role within the partnership approach to crime reduction across Wales to support local authorities, the police and the probation service in dealing with rising crime rates, where they exist, especially among the young and in the most deprived communities in Wales. I would like to make our role clear. It does not mean taking on the responsibilities of the Home Office. It is a question of how we undertake our own duties.

Nod y cynnig yw rhoi’r Cynulliad yn gadarn yn y ddolen yn y frwydr yn erbyn troseddu yng Nghymru drwy gyflwyno ymwybyddiaeth o droseddu a’i ganlyniadau a’r modd i’w atal i’r drafodaeth ar bolisïau ar draws holl ystod gwaith y Cynulliad—addysg, iechyd, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth, i enwi dim ond ychydig. Rhaid i’r Cynulliad gael rôl bendant o fewn y dull partneriaeth i leihau troseddu ym mhob cwr o Gymru i cefnogi awdurdodau lleol, yr heddlu a’r gwasanaeth prawf wrth iddynt ymdrin â’r cyfraddau troseddu cynyddol, lle y ceir y rheini, yn enwedig ymysg yr ifanc ac yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Hoffwn wneud ein rôl yn eglur. Nid yw’n golygu ymgymryd â chyfrifoldebau’r Swyddfa Gartref. Mae’n fater o sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswyddau ein hunain.

I reached an agreement with Jack Straw on a protocol under which the Assembly will become a body designated under the Crime and Disorder Act. This is not before us today but I have circulated it to all Assembly Members and to the police and local authorities for consultation up to the end of November. The protocol will make our role clear for ourselves and for others. The Assembly has already agreed that cutting crime is important. It was in our original statement of values and priorities. Fighting crime in a holistic way is high on the list. By passing these resolutions we will send a clear message that the Assembly has a vital interest in this area.

Deuthum i gytundeb â Jack Straw ar brotocol fydd yn golygu bod y Cynulliad yn gorff a ddynodir o dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Nid yw hyn ger ein bron heddiw ond yr wyf wedi ei gylchredeg i holl Aelodau’r Cynulliad ac i’r heddlu a’r awdurdodau lleol er mwyn ymgynghori hyd at ddiwedd mis Tachwedd. Bydd y protocol yn egluro ein rôl i ni ac i eraill. Mae’r Cynulliad eisoes wedi cytuno bod lleihau troseddu yn bwysig. Yr oedd hynny yn ein datganiad gwreiddiol o werthoedd a blaenoriaethau. Mae ymladd troseddu mewn modd cyfannol yn uchel ar y rhestr. Drwy basio’r penderfyniadau hyn byddwn yn anfon neges glir bod gan y Cynulliad ran holl bwysig yn y maes hwn.

Let us look at the scale of the problem. Figures released today by the Home Office indicate that for England and Wales the level of crime fell by over 1 per cent between April 1998 and March 1999. The rate of decline is decreasing and crime levels in our communities are still unacceptably high. Young people under 18 account for about a quarter of all offences. In south Wales, house burglary has risen by a third since 1996 and vehicle crime has increased by 18 per cent over the same period. We must keep up the hard work of recent years and take a strong line against the pervasive effects of crime on our communities.

Gadewch inni edrych ar faint y broblem. Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod lefel y troseddu yng Nghymru a Lloegr wedi disgyn dros 1 y cant rhwng Ebrill 1998 a Mawrth 1999. Mae cyfradd y gostyngiad yn lleihau ac mae lefelau troseddu yn ein cymunedau yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Pobl ifainc dan 18 sydd yn gyfrifol am tua chwarter o’r holl dramgwyddau. Yn ne Cymru, mae bwrgleriaeth mewn tai wedi cynyddu o un rhan o dair ers 1996 ac mae troseddu mewn cysylltiad â cherbydau wedi cynyddu 18 y cant dros yr un cyfnod. Rhaid inni barhau â gwaith caled y blynyddoedd diwethaf a sefyll yn gryf yn erbyn yr effeithiau hollbresennol a gaiff troseddu ar ein cymunedau.

We want to encourage safer communities and that means preventative measures as well as providing alternatives to crime. We have already started to place high priority on policies and initiatives which will design out crime and anti-social behaviour by eliminating the conditions in which they thrive. Changing perspectives and behaviour among children and young people themselves possibly offers the most effective long-term solution to the growing tide of crime. That is why we have placed such a high priority on new approaches to services for families and children.

Yr ydym am hybu cymunedau mwy diogel ac mae hynny’n golygu mesurau ataliol yn ogystal â darparu dewisiadau yn lle troseddu. Yr ydym wedi dechrau eisoes drwy roi blaenoriaeth uchel ar bolisïau a mentrau a fydd yn cynllunio allan troseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol drwy ddileu’r amgylchiadau lle y byddant yn ffynnu. Mae’n bosibl mai newid mewn safbwyntiau ac ymddygiad ymysg plant a phobol ifainc eu hunain sydd yn cynnig yr ateb tymor-hir mwyaf effeithiol i’r ymchwydd mewn troseddu. Dyna pam yr ydym wedi rhoi blaenoriaeth mor uchel i ddulliau gweithredu newydd mewn perthynas â gwasanaethau i deuluoedd a phlant.

The Sure Start programme, for example, is aimed at improving health, the ability to learn and the social development of very young children in the most deprived areas. I took part in the Working Together for Children and their Families project, twenty five years ago, which identified the need to work with young children as one of the ways of dealing with the long term social disadvantaged and the growth of crime.

Mae’r rhaglen Cychwyn Cadarn, er enghraifft, yn ceisio gwella iechyd, gallu dysgu a datblygiad cymdeithasol plant ifainc iawn yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Cymerais ran yn y prosiect Gweithio Gyda’n Gilydd dros Blant a’u Teuluoedd, bum mlynedd ar hugain yn ôl, a nododd yr angen i weithio gyda phlant ifainc fel un modd o ymdrin â rhai dan anfantais gymdeithasol dymor hir a cynnydd mewn troseddu.

Once they start school, education offers children a vital route to achievement and self-respect, but only if they are taking part. The Assembly has issued the first set of practical advice to schools on pupil behaviour, improving attendance and the use of exclusion and re-integration. Targets are in place to reduce truancy and exclusions by one third by 2002.

Wedi iddynt ddechrau yn yr ysgol, mae addysg yn cynnig llwybr holl bwysig i blant at ymgyflawniad a hunan-barch, ar yr amod eu bod yn cymryd rhan. Mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi’r set gyntaf o gynghorion ymarferol i ysgolion ar ymddygiad disgyblion, gwella presenoldeb a’r defnydd o fesurau gwahardd ac adferiad. Mae targedau wedi eu gosod i leihau triwantiaeth a gwaharddiadau o un rhan o dair erbyn 2002.

As children grow into teenagers they are faced by new pressures. Under age drinking in Wales is among the highest in Europe and drug taking among the young has been rising. It is estimated that about half of recorded crime is related to drugs. The Prime Minister recently announced that stringent new measures would be introduced, under which all people arrested for criminal offences will face mandatory drugs testing.

Wrth i blant gyrraedd eu harddegau bydd plant yn wynebu pwysau newydd. Mae yfed dan oed yng Nghymru ymysg yr uchaf yn Ewrop a bu cynnydd yn nifer y bobl ifainc sydd yn cymryd cyffuriau. Amcangyfrifwyd bod tua hanner yr holl droseddu a gofnodir yn ymwneud â chyffuriau. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai mesurau newydd llym yn cael eu cyflwyno a fydd yn golygu y bydd pawb a gaiff ei restio am dramgwyddau troseddol yn wynebu prawf cyffuriau gorfodol.

We need to press ahead with measures to reduce dependence on drugs, and the crime which so often goes with substance misuse. The evidence is strong: every £1 spent on drug misuse treatment saves more than £3 in terms of the costs of victims of crime and in reduced demands on the criminal justice system. I am pleased to confirm today that £1.5 million will be allocated to drug and alcohol support services in Wales in each of the next two financial years. This money, which will add to the £1.5 million that I have already announced for this year, will help provide effective timely treatment and care particularly to those in the most vulnerable groups.

Mae angen inni ddyfalbarhau â mesurau i leihau dibyniaeth ar gyffuriau, a’r troseddu sydd mor aml yn cyd-fynd â chamddefnyddio sylweddau. Mae’r dystiolaeth yn gryf: am bob £1 sydd yn cael ei gwario ar drin camddefnyddio cyffuriau arbedir dros £3 o ran y costau i’r rhai sydd yn dioddef oddi wrth droseddu a’r gostyngiad yn y galwadau ar y system cyfiawnder troseddol. Yr wyf yn falch o gadarnhau heddiw y dyrennir £1.5 miliwn i’r gwasanaethau cymorth cyffuriau ac alcohol yng Nghymru ym mhob un o’r ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yr arian hwn, sydd yn ychwanegol at y £1.5 miliwn a gyhoeddais eisoes am eleni, yn helpu i ddarparu triniaeth a gofal amserol ac effeithiol, yn enwedig i’r rhai yn y grwpiau sydd yn fwyaf agored i niwed.

We have also opened up new opportunities for young people through the Children and Youth Partnership Fund, which will promote local initiatives to lift youngsters’ educational achievement and encourage them away from crime, drugs, vandalism and truancy. It will help those who are at risk of social exclusion to mature into independent teenagers who can be proud of themselves and their achievements and make a positive contribution to their local communities.

Yr ydym hefyd wedi creu cyfleoedd newydd i bobl ifainc drwy’r Gronfa Partneriaeth Plant a Phobl Ifainc, a fydd yn hybu mentrau lleol i gynyddu cyraeddiadau addysgol pobl ifainc a’u cymell oddi wrth droseddu, cyffuriau, fandaliaeth a thriwantiaeth. Bydd yn helpu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu dieithrio’n gymdeithasol i aeddfedu’n bobl ifainc annibynnol sydd yn gallu bod â balchder yn eu hunain ac yn eu cyflawniadau a chyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau lleol.

My past involvement with local youth action groups has taught me that youngsters have a great deal to offer to the wider community. There are over 100 youth action groups in schools and youth clubs across Wales. Some of them such as the scheme in Holyhead and the one in Dŵr-y-Felin Comprehensive School in Neath have been national prize winners for the originality of the work that their young people have undertaken. They showed the capacity of young people to be part of the solution not just part of the problem. I urge all Assembly Members to visit such action groups in your constituencies and offer them every support.

Drwy fy nghysylltiad yn y gorffennol â grwpiau gweithredu pobl ifainc lleol dysgais fod gan bobl ifainc lawer iawn i’w gynnig i’r gymdeithas ehangach. Ceir dros 100 o grwpiau gweithredu pobl ifainc mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid ar hyd a lled Cymru. Mae rhai ohonynt, fel y cynllun yng Nghaergybi a’r un yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am wreiddioldeb y gwaith a gyflawnwyd gan eu pobl ifainc. Dangosasant allu pobl ifainc i fod yn rhan o’r ateb ac nid yn rhan o’r broblem yn unig. Anogaf holl Aelodau’r Cynulliad i ymweld â grwpiau gweithredu o’r fath yn eich etholaethau a chynnig pob cefnogaeth iddynt.

The greatest self-esteem comes from rewarding employment and from being a ‘fully paid up’ member of society. If we really want to tackle crime and disorder we must build vibrant communities which offer a decent standard of living and opportunities for all. With the Youth Access initiative, Youth Gateway and New Deal we are offering practical solutions which will ensure that as many young people as possible can access meaningful training and employment opportunities.

Daw’r hunan-barch mwyaf oddi wrth gyflogaeth fuddiol a drwy fod yn aelod cwbl ‘daledig’ o gymdeithas. Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn rhaid inni adeiladu cymunedau bywiog sydd yn cynnig safon byw weddus a chyfleoedd i bawb. Gyda’r fenter Mynediad Ieuenctid, Youth Gateway a’r Fargen Newydd yr ydym yn cynnig atebion ymarferol a fydd yn sicrhau bod cynifer ag y bo modd o bobl ifainc yn gallu cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ystyrlon.

However, it is no use providing that training unless we can also provide employment opportunities. In partnership with business and using the advantages that Objective 1 and the new regional state aids derogations give us, we shall be seeking to create an additional 130,000 jobs in Wales over the next ten years. It seems an immense task but we must be ambitious and believe in ourselves—it can be done. In the year to June 1999, the number of employee jobs in Wales rose by over 19,000. No one should believe that there is no future. We can turn the economy around and ensure that everyone in Wales has economic opportunity so as to deliver social inclusion through economic inclusion.

Fodd bynnag, nid oes diben darparu’r hyfforddiant hwnnw oni bai ein bod hefyd yn gallu darparu cyfleoedd cyflogaeth. Mewn partneriaeth â busnes a drwy ddefnyddio’r manteision a gawn drwy Amcan 1 a’r rhan-ddirymiadau newydd mewn cymorth gwladol rhanbarthol, byddwn yn ceisio creu 130,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf. Mae’n ymddangos yn dasg anferth ond rhaid inni fod yn uchelgeisiol ac yn hyderus—gellir ei chyflawni. Yn y flwyddyn hyd fis Mehefin 1999, bu cynnydd o dros 19,000 yn nifer y swyddi cyflogedig yng Nghymru. Ni ddylai neb gredu nad oes dyfodol. Gallwn weddnewid yr economi a sicrhau cyfle economaidd i bawb yng Nghymru er mwyn cyflawni cynhwysiant cymdeithasol drwy gynhwysiant economaidd.

Above all, ordinary people must be freed from the fear of crime. Local authorities and police divisions in Wales, working with other partners as required under the Crime and Disorder Act 1998, have produced local crime and disorder strategies for each unitary authority in Wales. These are locally owned and reflect the needs and concerns of the people in the street. They are supported by substantial funding to assist local partnerships and other agencies involved in the fight against crime.

Uwchlaw popeth, rhaid rhyddhau pobl gyffredin oddi wrth ofn trosedd. Mae’r awdurdodau lleol ac adrannau’r heddlu yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid eraill yn ôl gofynion Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, wedi cynhyrchu strategaethau trosedd ac anhrefn lleol i bob awdurdod unedol yng Nghymru. Mae’r rhain dan berchnogaeth leol ac maent yn adlewyrchu anghenion a phryderon y bobl ar y stryd. Fe’u noddir drwy gyllid helaeth i helpu partneriaethau lleol ac asiantaethau eraill sydd yn rhan o’r frwydr yn erbyn troseddu.

The crime reduction programme for England and Wales will see £400 million committed over the next three years to support innovative, evidence-based projects to cut crime. These include initiatives in support of closed circuit television, burglary reduction, target policing at crime hotspots and intervention work in schools. I will be making an announcement tomorrow regarding the Welsh schools that will be receiving awards under this part of the programme. In addition, the Youth Justice Board will be distributing £85 million over three years in England and Wales to help identify, develop and promote good practice in the delivery of youth justice services.

Gwelir ymrwymiad o £400 miliwn yn y rhaglen lleihau troseddu i Gymru a Lloegr dros y tair blynedd nesaf er mwyn cefnogi prosiectau arloesol sydd yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn lleihau troseddu. Ymhlith y rhain y mae mentrau i gynnal teledu cylch cyfyng, lleihau bwrgleriaeth, targedu sylw’r heddlu ar fannau lle y ceir llawer o droseddu a gwaith ymyrryd mewn ysgolion. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yfory am yr ysgolion yng Nghymru a fydd yn derbyn gwobrwyon o dan y rhan hon o’r rhaglen. Yn ogystal â hynny, bydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cyfrannu £85 miliwn dros dair blynedd yng Nghymru a Lloegr i helpu i ddynodi, datblygu a hybu ymarfer da wrth gyflenwi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.

However, we must guard against seeing the fight against crime as limited to the police and local authorities. There is much more that can be done within the health service for instance. Last week’s dreadful incident at Withybush General Hospital showed the need to consider the safety of NHS staff. The wider community also needs to be engaged. This was seen in the Cardiff Royal Infirmary and now in the accident and emergency unit of the University Hospital of Wales. Professor John Sheppard and the Cardiff Violence Prevention Group have introduced measures to reduce levels of violence, increased the chances of violent offenders being brought to justice and increased access to Victim Support, mental health and other services for the victims of violent crimes. The evidence of that project led me to write to every health authority and NHS trust in Wales, asking them, not necessarily to copy what is being done in Cardiff but to ask what they could do in partnership with the police and voluntary organisations in their area to cut the levels of violent crime.

Fodd bynnag, rhaid inni ymochel rhag gweld y frwydr yn erbyn troseddu fel un sydd yn gyfyngedig i’r heddlu a’r awdurdodau lleol. Mae llawer mwy y gellir ei wneud o fewn y gwasanaeth iechyd, er enghraifft. Dangosodd y digwyddiad ofnadwy yr wythnos diwethaf yn Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg yr angen i ystyried diogelwch staff yr NHS. Mae angen cynnwys y gymdeithas ehangach hefyd. Gwelwyd hyn yn Ysbyty Brehinol Caerdydd a bellach yn uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty Prifysgol Cymru. Mae’r Athro John Sheppard a Grŵp Atal Trais Caerdydd wedi cyflwyno mesurau i leihau lefelau trais, wedi cynyddu’r tebygolrwydd o ddod â throseddwyr treisgar o flaen eu gwell ac wedi cynyddu mynediad at Gefnogaeth i Ddioddefwyr Troseddu, iechyd meddwl a gwasanaethau eraill i’r rhai sydd yn dioddef oddi wrth droseddau treisiol. O ganlyniad i dystiolaeth y prosiect hwnnw, ysgrifennais at bob awdurdod iechyd ac ymddiriedolaeth NHS yng Nghymru, nid I ofyn iddynt o reidrwydd i efelychu’r hyn sydd yn cael ei wneud yng Nghaerdydd, ond i ofyn beth y gallent ei wneud mewn partneriaeth â’r heddlu a mudiadau gwirfoddol yn eu hardal i leihau lefelau troseddu treisiol.

I have mentioned some of the programmes through which the Assembly plays its part in the fight against crime. They make it appropriate for our role in crime reduction to be formally recognised. That is why, following agreement with the Home Secretary, I have circulated the draft protocol to all Assembly Members for their comments.

Yr wyf wedi crybwyll rai o’r rhaglenni sydd yn gyfrwng i’r Cynulliad chwarae ei ran wrth ymladd troseddu. Maent yn ei gwneud yn briodol i roi cydnabyddiaeth ffurfiol i’n rôl mewn lleihau troseddu. Dyna pam, ar ôl cytuno â’r Ysgrifennydd Cartref, yr wyf wedi cylchredeg y protocol drafft i holl Aelodau’r Cynulliad er mwyn derbyn eu sylwadau.

The tabled amendments show that Members have approached this constructively and I welcome that. Helen Mary Jones has reservations about the child curfew orders but I fear that she has misunderstood the legislation. As I wrote the policy and the legislation, I understand it wholeheartedly. First, it is not incompatible with the Human Rights Act 1998. It can be argued that it is an abuse to have youngsters aged seven or eight wandering the streets at midnight or in the early hours of the morning. That is neglect that borders on the criminal and it does happen.

Mae’r gwelliannau a gyflwynwyd yn dangos bod yr Aelodau wedi ystyried hyn yn adeiladol a chroesawaf hynny. Mae gan Helen Mary Jones amheuon ynghylch y gorchmynion cyrffyw i blant ond ofnaf ei bod wedi camddeall y ddeddfwriaeth. Gan mai fi a ysgrifennodd y polisi a’r ddeddfwriaeth, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr. Yn gyntaf, nid yw’n anghyson â Deddf Hawliau Dynol 1998. Gellid dadlau mai cam-drin plant yw cael rhai saith neu wyth oed yn crwydro’r strydoedd am hanner nos neu yn oriau mân y bore. Mae hynny’n esgeulustod sydd yn ymylu ar fod yn droseddol ac mae’n digwydd.

Secondly, the preference must be for parents to care for and control their children and for the local community to set standards. The legislation encourages those approaches. The parenting order can be used if it is a matter of dealing with individual parents. Before asking for a child curfew order, the police and the local authority have to consult and involve the local community. In many cases, that process itself will lead to change. This is not theory because I have been there, done that and can give examples.

Yn ail, y dewis gorau yw i rieni ofalu am a rheoli eu plant ac i’r gymuned leol osod safonau. Mae’r ddeddfwriaeth yn annog y dulliau gweithredu hynny. Gellir defnyddio’r gorchymyn rhieni os yw’n fater o ddelio â rhieni unigol. Cyn gofyn am orchymyn cyrffyw plant, rhaid i’r heddlu a’r awdurdod lleol ymgynghori a chysylltu â’r gymuned leol. Mewn llawer o achosion, bydd y broses honno ynddi’i hun yn arwain at newid. Nid damcaniaeth mo hyn oherwydd fe’i gwelais yn digwydd a gallaf roi enghreifftiau.

Thirdly, it provides a failsafe for communities where things are out of control, with the safeguard that the police and the local authority, with the involvement of the local community, have to make application. I ask Helen Mary not to press her point. It is a long stop and has been misunderstood by some who have portrayed it in a negative way. However, if you look at the detail of the legislation it does not cause the dangers or the difficulties that she foresees.

Yn drydydd, mae’n darparu mesur methu diogel i gymunedau lle mae pethau allan o reolaeth, gyda’r amod bod yn rhaid i’r heddlu a’r awdurdod lleol gyflwyno cais, gyda chyfraniad y gymuned leol. Gofynnaf i Helen Mary beidio â phwysleisio eu pwynt. Mae iddo bwrpas gwarchodol ac mae rhai wedi ei gamddeall a’i bortreadu’n negyddol. Fodd bynnag, os edrychwch ar fanylion y ddeddfwriaeth nid yw’n achosi’r peryglon na’r anawsterau a ragwelir ganddi.

Her second amendment is a little muddled because the Human Rights Act 1998 will be implemented next year and we will seek to adhere to it even in advance of its implementation. I give Helen Mary that assurance. I was part of the team that brought the convention into UK law. However, technically we are not subject to the Act that has not even been implemented. I ask her to accept my assurance that observing the Act in advance of its implementation in the spirit of the Government of Wales Act 1998 is something that we will seek to adhere to.

Mae ei hail welliant braidd yn ddryslyd oherwydd fe weithredir Deddf Hawliau Dynol 1998 y flwyddyn nesaf a byddwn yn ceisio cadw ati cyn ei gweithredu hyd yn oed. Rhoddaf y sicrwydd hwnnw i Helen Mary. Yr oeddwn yn rhan o’r tîm a ddaeth â’r cytundeb yn rhan o gyfraith y DU. Fodd bynnag, yn dechnegol, nid ydym yn ddarostyngedig i’r Ddeddf, nad yw hyd yn oed wedi ei gweithredu. Gofynnaf iddi dderbyn y sicrwydd yr wyf yn ei roi y byddwn yn ceisio cadw at y Ddeddf cyn ei gweithredu, yn unol ag ysbryd Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

On the third amendment, I have no problem with giving the Assembly its full title. On the fourth amendment, I have no problem because it highlights social exclusion as a major factor in creating a culture of crime. As long as we do not create excuses, her point is valid. We must get the balance right in being tough on crime and the causes of crime. I accept that amendment.

Ynglŷn â’r trydydd gwelliant, nid oes gennyf wrthwynebiad i roi ei deitl llawn i’r Cynulliad. Ar y pedwerydd gwelliant, nid wyf yn gwrthwynebu oherwydd mae’n tynnu sylw at ddieithrwch cymdeithasol fel ffactor pwysig wrth greu diwylliant o droseddu. Ar yr amod na fyddwn yn creu esgusion, mae ei phwynt yn un dilys. Rhaid inni gadw’r ddysgl yn wastad wrth fod yn galed ar droseddu ac achosion troseddu. Derbyniaf y gwelliant hwnnw.

Peter Black’s amendment begins well by making that same point but he then gets it wrong. He regrets the lack of additional resources to support the establishment of youth offender teams and crime reduction teams. Additional resources have been provided and several parts of Wales have benefited. These are organisations that will carry out duties which already exist for them, bringing them together in youth offending teams, for instance, to use those resources in a more targeted way. In addition, new resources are being pumped into areas where they are needed, such as the project in St. Mellons to tackle burglary. Many other projects in Wales have received considerable funding.

Mae gwelliant Peter Black yn dechrau’n dda drwy wneud yr un pwynt ond wedyn mae’n methu. Mae’n gresynu at y diffyg adnoddau ychwanegol i roi cymorth i sefydlu timau troseddwyr ifainc a thimau lleihau troseddu. Mae adnoddau ychwanegol wedi eu darparu ac mae sawl rhan o Gymru wedi elwa ar hynny. Mae’r rhain yn gyrff a fydd yn cyflawni dyletswyddau sydd eisoes yn bod ar eu cyfer, gan eu crynhoi mewn timau troseddwyr ifainc, er enghraifft, er mwyn defnyddio’r adnoddau hynny yn fwy bwriadus. Yn ogystal â hynny, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu cyfeirio i ardaloedd lle y mae angen amdanynt, fel y prosiect yn Llaneirwg i ddelio â bwrgleriaeth. Mae llawer o brosiectau eraill yng Nghymru wedi derbyn cyllid sylweddol.

He refers to crime prevention survey schemes. All Welsh police forces have schemes. They have links with local authorities and voluntary initiatives and all four were represented yesterday at the re-launch of the Secured By Design initiative. Some £153 million of the crime reduction programme has been ring-fenced, for instance, for close circuit television schemes. The list of approved projects under this initiative will be announced by the Home Secretary in December. All applicants were required to develop a local code of practice. As from March 2000 all close circuit television systems will be covered by the Data Protection Act 1998 and from that date will have to comply with the data protection registrar’s code of practice. I ask Peter to accept that all aspects of his amendment have been addressed and I urge him not to press it. The points he makes are useful in debate and in seeking to carry forward our responsibilities for crime reduction. However, in some parts he is pushing at an open door.

Mae’n cyfeirio at gynlluniau arolygon atal troseddu. Mae cynlluniau gan yr holl heddluoedd yng Nghymru. Mae cysylltiadau rhyngddynt ag awdurdodau lleol a mentrau gwirfoddol ac yr oedd pob un o’r pedwar wedi eu cynrychioli ddoe pan ail-lansiwyd y fenter Diogelwch Drwy Gynllunio. Mae tua £153 miliwn o’r rhaglen lleihau troseddu wedi ei amgáu, er enghraifft, ar gyfer cynlluniau teledu cylch cyfyng. Cyhoeddir y rhestr o’r prosiectau a gymeradwywyd o dan y fenter hon gan yr Ysgrifennydd Cartref ym mis Rhagfyr. Yr oedd yn ofynnol i’r holl ymgeiswyr ddatblygu cod ymarfer lleol. Oddi ar fis Mawrth 2000 bydd yr holl systemau teledu cylch cyfyng o fewn cwmpas Deddf Diogelu Data 1998 ac o hynny ymlaen bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â chod ymarfer y cofrestrydd diogelu data. Gofynnaf i Peter dderbyn bod yr holl agweddau ar ei welliant wedi derbyn sylw a phwysaf arno i beidio â’i wthio. Mae’r pwyntiau a wneir ganddo yn fuddiol mewn dadl ac wrth geisio datblygu ein cyfrifoldebau i leihau troseddu. Fodd bynnag, mewn rhai rhannau mae’n pwyso ar ddrws agored.

The substantive motion seeks your agreement to the Assembly continuing to place high priority on policies and initiatives that will impact on crime and disorder. As an Assembly we are uniquely placed to help reduce social exclusion disaffection and to develop vigorous programmes of action designed to prevent offending, through working closely with the police and those who have direct responsibility for investigating and tackling crime.

Mae’r cynnig gwreiddiol yn gofyn ichi gytuno i’r Cynulliad barhau i roi blaenoriaeth uchel i bolisïau a mentrau a fydd yn effeithio ar drosedd ac anhrefn. Fel Cynulliad yr ydym mewn sefyllfa unigryw i helpu i leihau anfodlonrwydd oherwydd dieithrwch cymdeithasol a datblygu rhaglenni gweithredu egnïol er mwyn atal troseddu, drwy weithio’n agos gyda’r heddlu a’r rhai sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am ymchwilio a mynd i’r afael â throseddu.

We have at our disposal a broad spectrum of education, training, economic health and social development measures. The Assembly has repeatedly stressed to local agencies the importance of inter-agency working. We must ensure that our own policies in all relevant areas are properly co-ordinated and consistent. We must always remember that the principal aim of all these changes is to build safer and more purposeful communities for the people of Wales. My long, personal commitment to this issue is well known. I ask you to share that commitment in supporting this motion to fulfil the Assembly’s priority of promoting freedom from crime.

Mae gennym amrediad eang o fesurau at ein galwad mewn addysg, hyfforddiant, iechyd yr economi, iechyd a datblygu cymdeithasol. Mae’r Cynulliad wedi pwysleisio dro ar ôl tro wrth asiantaethau lleol mor bwysig yw gweithio rhyngasiantaethol. Rhaid inni sicrhau bod ein polisïau ein hunain yn yr holl feysydd perthnasol yn gyson ac wedi eu cydlynu’n briodol. Rhaid inni gofio bob amser mai prif nod yr holl newidiadau hyn yw adeiladu cymunedau mwy diogel a phwrpasol i bobl Cymru. Mae llawer yn gwybod am fy ymrwymiad personol hir i’r mater hwn. Gofynnaf ichi rannu’r ymrwymiad hwnnw drwy gefnogi’r cynnig hwn i gyflawni blaenoriaeth y Cynulliad o hyrwyddo rhyddid oddi wrth droseddu.

Helen Mary Jones spoken in English p. 33

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 33

I propose the first amendment

Cynigiaf y gwelliant cyntaf

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 33

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 33

I propose the second amendment

Cynigiaf yr ail welliant

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 33

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 33

I propose the third amendment

Cynigiaf y trydydd gwelliant

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 33

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 33

I propose the fourth amendment:

Cynigiaf y pedwerydd gwelliant:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 34

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 34

On behalf of Plaid Cymru—the Party of Wales, I welcome the fact that the Government of Wales has decided to put these matters on the agenda. While obviously Home Office matters are not devolved to us, there are many issues affecting crime—as the First Secretary has outlined—which are matters for this Assembly.

Ar ran Plaid Cymru—The Party of Wales, croesawaf y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi’r materion hyn ar yr agenda. Er nad yw materion y Swyddfa Gartref wedi eu datganoli i ni, yn amlwg, mae yna lawer o faterion sydd yn effeithio ar droseddu—fel y mae’r Prif Ysgrifennydd wedi amlinellu—sydd yn faterion i’r Cynulliad hwn.

There is no doubt that crime is one of the most important negative factors affecting quality of life in our communities. The sad fact is that most victims of crime, as well as most prosecuted offenders, come from our poorest communities. In that context, we welcome the United Kingdom Government’s decision to count crimes that previously went uncounted, like common assault, which have a great effect on people’s lives. We welcome the Government’s courage in doing this, as it appears that crime figures have increased even though they have not.

Nid oes dwywaith mai troseddu yw un o’r ffactorau negyddol pwysicaf sydd yn effeithio ar ansawdd bywyd yn ein cymunedau. Y ffaith drist yw bod y rhan fwyaf sydd yn dioddef oddi wrth droseddu, yn ogystal â’r rhan fwyaf o’r troseddwyr a erlynir, yn dod o’n cymunedau tlotaf. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawn benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrif tramgwyddau a âi gynt heb eu cyfrif, fel ymosodiad cyffredin, sydd yn fawr eu heffaith ar fywydau pobl. Croesawn ddewrder y Llywodraeth wrth wneud hyn, gan ei bod yn ymddangos bod y ffigurau troseddu wedi cynyddu er nad ydynt mewn gwirionedd.

We have grave reservations about the motion as it stands, which I would like to address. However, I begin by referring to the amendments, which the Government accepts. First, amendment 3. I am sure we all wish this body to be referred to by its correct name. I urge the Government of Wales to get this right in future. I for one get tired of having the British media refer to us as a Welsh Assembly as if this nation were filled with many others. We should be able to rely on our Government to get the terminology right.

Mae gennym amheuon dybryd ynghylch y cynnig fel y mae, ac fe hoffwn ymdrin â hwy. Fodd bynnag, dechreuaf drwy gyfeirio at y gwelliannau y mae’r Llywodraeth yn eu derbyn. Yn gyntaf, gwelliant 3. Yr wyf yn sicr bod pawb ohonom am weld cyfeirio at y corff hwn yn ôl ei enw cywir. Pwysaf ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn iawn yn y dyfodol. Yr wyf fi, beth bynnag, yn blino clywed y cyfryngau Prydeinig yn cyfeirio atom fel Cynulliad Cymru fel pe bai’r wlad hon yn gyforiog o rai eraill. Dylem allu dibynnu ar ein Llywodraeth i gael y derminoleg yn iawn.

I am grateful that Alun Michael has agreed that the fourth amendment is uncontroversial and I will leave other colleagues to speak about it. I come to the other two amendments. I am becoming tired of being told that I do not understand and that I am muddled. I do understand, Mr Michael. I simply do not agree. Neither, for example, do important civil liberties bodies like Liberty. I know many colleagues in this Chamber across the party lines have been or still are members and supporters of that organisation.

Yr wyf yn ddiolchgar bod Alun Michael wedi cytuno bod y pedwerydd gwelliant yn annadleuol ac fe adawaf i gyd-aelodau eraill siarad amdano. Dof at y ddau welliant arall. Yr wyf yn dechrau blino ar glywed nad wyf yn deall a’m bod mewn dryswch. Yr wyf yn deall, Mr Michael. Anghytuno yr ydwyf. Nid yw cyrff hawliau sifil fel Liberty, er enghraifft, yn cytuno chwaith. Gwn fod llawer o’m cyd-aelodau yn y Siambr hon ar draws y pleidiau yn aelodau ac yn gefnogwyr o’r mudiad hwnnw, yn awr neu yn y gorffennol.

In the context of the second amendment, it is vital that in anything we do we remember that as a body we are bound by the Human Rights Act 1998, in a way which the Government of the United Kingdom is not yet. This incorporates the European Convention of Human Rights into British law and we welcome that.

Yng nghyd-destun yr ail welliant, mae’n hanfodol inni gofio ym mhopeth a wnawn ein bod fel corff wedi’n rhwymo gan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998, mewn modd nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig eto. Mae hyn yn cynnwys y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith Prydain ac yr ydym yn croesawu hynny.

This is important in the context of this motion because of many civil liberties groups and children’s organisations believe that there are aspects of the Crime and Disorder Act that may potentially breach the European Convention. That is why we have proposed our first amendment.

Mae hyn yn bwysig yng nghyd-destun y cynnig hwn oherwydd mae llawer o grwpiau hawliau sifil a mudiadau plant yn credu bod agweddau ar y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn a allai fod yn groes i’r Cytundeb Ewropeaidd. Dyna pam yr ydym wedi cynnig ein gwelliant cyntaf.

We have highlighted child curfew orders for example because we believe that they are oppressive and unnecessary, even as a last port of call, as well as being potentially unlawful and I accept what Mr Michael has said about that. Clearly, nobody here believes that it is right for young children, particularly children under the age of 10, to be out on the streets after 9 p.m. and if they are we should be asking why.

Yr ydym wedi tynnu sylw at orchmynion cyrffyw plant, er enghraifft, am ein bod yn credu eu bod yn ormesol ac yn ddiangen, hyd yn oed fel ateb olaf, yn ogystal â bod yn anghyfreithlon o bosibl a derbyniaf yr hyn a ddywedodd Mr Michael am hynny. Wrth gwrs, nid oes neb yma’n credu ei bod yn iawn i blant ifainc, yn enwedig rhai o dan 10 oed, fod allan ar y strydoedd ar ôl 9 p.m. ac os ydynt dylem ofyn pam.

At the risk of indulging in what one journalist has called a tendency of this body to engage in ‘politics by Jerry Springer’, in referring to our personal experiences, I will quote from a youth survey from the Cynon Valley that I carried out as part of one of my previous jobs. I make no apologies for that. For example: ‘If I stay out until after he gets home there is a chance that he will be asleep and I will not have to watch him hitting her,’ said an eight-year-old boy. ‘I cannot stand all the shouting and the clouting’. ‘After all the little ones have gone to bed, Mam calms down a bit,’ said a nine-year-old boy. ‘I am all right as long as I stay out of his way,’ said an eight-year-old girl. She would not say anything more about what she meant.

A mentro ymroi i’r hyn a alwodd un newyddiadurwr yn duedd yn y corff hwn i ymhel â ‘gwleidyddiaeth yn ôl Jerry Springer’, drwy gyfeirio at ein profiadau personol, fe ddyfynnaf o arolwg ieuenctid o Gwm Cynon a gyflawnais fel rhan o un o’m swyddi blaenorol. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Er enghraifft: ‘Os arhosaf allan tan ar ôl iddo ddod adref mae yna siawns y bydd ef yn cysgu ac na fydd yn rhaid imi ei weld yn ei tharo hi,’ meddai bachgen wyth oed. ‘Ni allaf oddef yr holl weiddi a churo’. ‘Ar ôl i’r rhai bach fynd i’r gwely, bydd Mam yn tawelu ychydig,’ meddai bachgen naw oed. ‘Byddaf yn iawn os cadwaf o’i ffordd,’ meddai geneth wyth oed. Ni ddywedai fwy am yr hyn a olygai.

These children are clearly victims not criminals. There is child protection law and there should be a range of support services to make sure that those children’s needs are met. We are all committed to ensuring that that happens. It certainly will not help those situations to have those children brought home at half past ten at night by police officers. That is what child curfew orders make possible.

Mae’n amlwg mai rhai sydd yn dioddef yw’r plant hyn, nid troseddwyr. Mae cyfraith amddiffyn plant ac fe ddylai fod amrediad o wasanaethau cefnogi i ateb anghenion y plant hynny. Yr ydym oll wedi ymrwymo i sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae’n sicr na fydd o gymorth yn y sefyllfaoedd hynny os hebryngir y plant hynny adref am hanner awr wedi deg y nos gan swyddogion yr heddlu. Mae gorchmynion cyrffyw plant yn gwneud hynny’n bosibl.

The amendment calls for an urgent review of this aspect of the legislation. There are other aspects like the anti-social behaviour orders and parenting orders that need to be reviewed. I dissociate myself from those aspects of the legislation because, if this Assembly today decides to pass the motion supporting it, I believe that we all make ourselves individually culpable in the potential breach, because this is a corporate body. I dissociate myself and my colleagues in Plaid Cymru—the Party of Wales from that. I urge all Members, if only in your own self-interest, to support the amendment.

Mae’r gwelliant yn galw am adolygiad brys o’r agwedd hon ar y ddeddfwriaeth. Mae yna agweddau eraill fel y gorchmynion ymddygiad gwrth-gymdeithasol a’r gorchmynion rhieni y mae angen eu hadolygu. Yr wyf yn gwrthod arddel yr agweddau hynny ar y ddeddfwriaeth oherwydd, os bydd y Cynulliad hwn yn penderfynu heddiw i basio’r cynnig o’i phlaid, credaf y byddwn oll yn peri ein bod yn feius yn unigol yn yr hyn a allai fod yn dorcyfraith, oherwydd corff corfforaethol yw hwn. Yr wyf fi a’m cyd-aelodau ym Mhlaid Cymru yn ymddiarddel â hynny. Anogaf yr holl Aelodau, pe na bai ond er eich budd eich hun, i gefnogi’r gwelliant.

As we have already heard today, young people are those most likely to commit crime and to be victims of crime. Plaid Cymru—the Party of Wales strongly welcomes the commitment in this motion to proactive work to preventing offenders and we offer the Government of Wales our full support in this. It is vital, at a community level, that we develop any such work in partnership above all with young people themselves. For it is through participation and consultation, not through restriction and coercion, that we will end this tragic waste of young lives that often results from crime and so lift from our communities the burden that results from crime and disorder.

Fel y clywsom eisoes heddiw, pobl ifainc sydd yn fwyaf tebygol o droseddu ac o ddioddef oddi wrth droseddu. Mae Plaid Cymru—the Party of Wales yn croesawu’n fawr yr ymrwymiad yn y cynnig hwn i waith rhagweithiol er mwyn atal troseddwyr ac estynnwn ein cefnogaeth lwyr i Lywodraeth Cymru ar hynny. Mae’n holl bwysig, ar lefel y gymuned, ein bod yn datblygu unrhyw waith o’r fath mewn partneriaeth â phobl ifainc eu hunain yn anad neb. Oherwydd drwy gyfranogi ac ymgynghori, nid drwy gyfyngu a gorfodi, y rhown derfyn ar y gwastraff enbyd hwn o fywydau ifainc sydd yn aml yn dilyn troseddu a drwy hynny godi’r baich oddi ar ein cymunedau o ganlyniad i droseddu ac anhrefn.

Peter Black spoken in English p. 36

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 36

I propose the following amendment. At the end of the motion, add

Cynigiaf y gwelliant canlynol. Ar ddiwedd y cynnig, ychwaneger

Peter Black (continued) spoken in English p. 37

Peter Black (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 37

We are asked in this motion to support full implementation of the Crime and Disorder Act. The Liberal Democrats support many of the measures introduced by the Crime and Disorder Act. We have reservations about the number of provisions in that Act. In particular, we believe that there are dangers with parenting orders, which use compulsory sanctions on parents of offending young people, including the possibility of fines and eventual imprisonment. Although it is important to foster greater parental responsibility, compulsory action will either undermine families which are already dysfunctional, or it will simply punish those parents who have done all they can. Like Helen Mary Jones, we are also opposed to child curfews for under 10-year-olds and I question the judgment of councillors who have already used these measures. We believe it is too heavy handed. Powers already exist for the police and social services to intervene where young children are either causing problems—

Yn y cynnig hwn gofynnir inni gefnogi rhoi’r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn ar waith yn llawn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi llawer o’r mesurau a gyflwynwyd drwy’r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Mae gennym amheuon ynghylch nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf honno. Yn benodol, credwn fod peryglon ynglŷn â gorchmynion rhieni, sydd yn gosod sancsiynau gorfodol ar rieni pobl ifainc sydd yn troseddu, yn cynnwys y posibiliad o ddirwyon a charchar yn y pen draw. Er ei bod yn bwysig meithrin mwy o gyfrifoldeb ymysg rhieni, bydd gweithredu gorfodol naill ai’n tanseilio teuluoedd sydd eisoes yn gamweithredol, neu ni wna ddim ond cosbi’r rhieni hynny sydd wedi gwneud y cwbl a allent. Fel Helen Mary Jones, yr ydym ninnau hefyd yn gwrthwynebu cyrffyw plant i rai dan 10 oed ac yr wyf yn amheus o ddoethineb cynghorwyr sydd eisoes wedi defnyddio’r mesurau hyn. Credwn ei fod yn rhy lawdrwm. Mae pwerau ar gael eisoes i’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol ymyrryd lle y mae plant ifainc un ai yn achosi problemau—

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 37

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 37

The child curfew order has not been used by any local authority or police. The initial steps which I described have been sufficient to avoid the need to proceed to the use of an order.

Ni ddefnyddiwyd y gorchymyn cyrffyw plant gan yr un awdurdod lleol neu heddlu. Bu’r camau cyntaf a ddisgrifiais yn ddigon i osgoi’r angen i fynd ymlaen i ddefnyddio gorchymyn.

Peter Black spoken in English p. 38

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 38

I understood that one council in England was in the process of using one. Powers already exist for the police and the social services to intervene where young children are either causing problems or that they are at risk. There is no need, therefore, for a blanket curfew. There appears to be no specific research to support this measure and it is a breach of human rights and, therefore, open to challenge.

Deellais fod un cyngor yn Lloegr yn y broses o ddefnyddio un. Mae pwerau ar gael eisoes i’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol ymyrryd pan fydd plant ifainc un ai yn achosi problemau neu os ydynt mewn perygl. Nid oes angen, felly, am gyrffyw cyffredinol. Ymddengys nad oes unrhyw ymchwil benodol i gefnogi’r mesur hwn ac mae’n groes i hawliau dynol ac, felly, yn agored i’w herio.

The main thrust of our concerns and our amendment, however, is about the reality of the situation in the communities of Wales and how the Act is to be implemented. It is important that we recognise that it is not Acts of Parliament or secondary legislation passed in this Assembly that deliver outcomes that make a difference. Many of the measures in this Act are valuable and need to be implemented. However, they can only be implemented when adequate resources are made available. One of the factors in improving detection and prevention of crime has to be effective and properly resourced policing. We are having this debate in the middle of the Rugby World Cup when large parts of the south Wales area are being denied adequate police presence on match days. This is because the South Wales Police Force has not been given any extra resources to cope with the additional pressures imposed on them by this event. As a result, they have moved offices out of areas such as Swansea and Bridgend into Cardiff to help them cope with the policing demands of this tournament.

Fodd bynnag, mae prif bwyslais ein pryderon a’n gwelliant yn ymwneud â’r wir sefyllfa yng nghymunedau Cymru a’r modd y gweithredir y Ddeddf. Mae’n bwysig inni gydnabod nad Deddfau Seneddol neu ddeddfwriaeth eilaidd a gaiff ei phasio yn y Cynulliad hwn sydd yn dod â chanlyniadau sydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae llawer o’r mesurau yn y Ddeddf hon yn werthfawr ac mae angen eu gweithredu. Fodd bynnag, ni ellir eu gweithredu ond pan fo adnoddau digonol ar gael. Un o’r ffactorau hanfodol er mwyn darganfod ac atal troseddu yn well yw gwaith heddlu effeithiol gydag adnoddau priodol. Yr ydym yn cynnal y ddadl hon ar ganol Cwpan Rygbi’r Byd ar adeg pryd y mae rhannau helaeth o ardal de Cymru wedi eu hamddifadu o bresenoldeb digonol gan yr heddlu ar ddiwrnodau’r gemau. Y rheswm am hyn yw na roddwyd adnoddau ychwanegol i Heddlu De Cymru i ymdopi â’r pwysau ychwanegol sydd arnynt o ganlyniad i’r digwyddiad hwn. Oherwydd hynny, maent wedi symud eu swyddfeydd o ardaloedd fel Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd er mwyn eu helpu i ymdopi â’r angen i blismona’r twrnament hwn.

I had the experience some time ago of spending part of a night shift observing the police in action from the back of a patrol car. Although the night I chose was a fairly average one, I was shocked at how thinly stretched the police are and I was impressed by the commitment and dedication shown by the officers I observed. The fact remains, however, that whereas the number of notifiable offences recorded in Wales has risen from a 185,300 in 1987 to 236,900 in 1997, the number of police officers has only risen marginally in that period. Wales has one police officer for every 440 people compared with a ratio of one in 410 in Scotland and one in 360 in England. In south Wales we have fewer police officers than in 1987, despite this area having the highest rate of recorded crime in Wales. If we were to look at the figures in terms of the number of recorded crimes per police officer, we would find that, on average, in 1987 there were 29.5 crimes for each police officer. In 1997, that figure had risen to 35.9 crimes per officer; a clear and substantial increase in workload. It is no good talking tough on crime if the Government, both this Government and the previous Conservative Government, continues to make life tough for the crime fighters. The Government must take urgent action to address the funding problems of police authorities who are now struggling to fund police pensions and new technology requirements.

Cefais y profiad beth amser yn ôl o dreulio rhan o stem nos yn gwylio’r heddlu wrth eu gwaith o gefn car patrôl. Er bod y noson a ddewisais yn un ddigon cyffredin, arswydais o weld mor fain oedd hi ar yr heddlu a gwnaethpwyd argraff arnaf gan ymrwymiad ac ymroddiad y swyddogion a welais. Mae’n wir, er hynny, lle y mae nifer y troseddau hysbysadwy a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu o 185,300 yn 1987 i 236,900 yn 1997, nad yw nifer yr heddweision ond wedi codi’r mymryd lleiaf yn y cyfnod hwnnw. Yng Nghymru ceir un heddwas i bob 440 o bobl o’i gymharu ag un i bob 410 yn yr Alban ac un i bob 360 yn Lloegr. Yn ne Cymru mae gennym lai o heddweision nag yn 1987, er mai yn yr ardal hon y mae’r gyfradd uchaf o droseddu cofnodedig yng Nghymru. Pe baem yn edrych ar y ffigurau o ran nifer y troseddau a gofnodwyd am bob heddwas, byddem yn canfod bod 29.5 o dramgwyddau am bob heddwas yn 1987. Yn 1997, yr oedd y ffigur hwnnw wedi codi i 35.9 trosedd am bob heddwas; cynnydd amlwg a sylweddol yn y llwyth gwaith. Nid oes diben sôn am fod yn galed ar droseddu os yw’r Llywodraeth, y Llywodraeth hon a’r Llywodraeth Geidwadol o’i blaen, yn dal i wneud bywyd yn galed i’r rhai sydd yn ymladd troseddu. Rhaid i’r Llywodraeth gymryd camau ar frys i ymdrin â phroblemau ariannu’r awdurdodau heddlu sydd bellach yn ymdrechu i gyllido pensiynau’r heddlu a gofynion technolegol newydd.

I draw upon two examples of how the resources and manpower problems faced by the police can have a debilitating impact upon the programmes with which this Assembly is concerned and which we can directly affect.

Defnyddiaf ddwy enghraifft o’r modd y mae’r problemau adnoddau a gweithlu a wynebir gan yr heddlu yn gallu effeithio er gwaeth ar y rhaglenni y mae’r Cynulliad hwn yn ymwneud â hwy a chael dylanwad uniongyrchol arnynt.

The first of these is the building of sustainable communities. Along with all of the programmes on social inclusion, it is necessary to reduce crime in many communities in Wales if we are to eliminate the fear of crime and allow young people in particular to reconnect with society. The Police Federation in its publication ‘Where We Stand On Patrolling’, states that it believes that the best way of policing the community is to have uniformed officers walking the beat, backed by all the modern technology and support services currently available. They state that,

Y gyntaf o’r rhain yw adeiladu cymunedau cynaliadwy. Yn yr un modd â’r holl raglenni sydd yn ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol, mae angen lleihau troseddu mewn llawer o gymunedau yng Nghymru os ydym i ddileu’r ofn o droseddu a gadael i bobl ifainc yn arbennig ailgysylltu â chymdeithas. Dywed Ffederasiwn yr Heddlu yn ei gyhoeddiad ‘Where We Stand On Patrolling’ ei fod yn credu mai’r ffordd orau i blismona yn y gymuned yw cael swyddogion mewn lifrai ar eu rhawd, gyda chymorth yr holl dechnoleg fodern a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael ar hyn o bryd. Dywedant fod,

‘the close affinity between the British police and the public has been built up over many generations by constant contact between citizens and patrolling officers’.

However, in 1995 the Audit Commission reported that only 5 per cent of total police officer strengh—1 in 20 police officers—were available at any one time for patrol duties. In many areas the traditional community bobby exists only in name, if at all. Response times are poor as the police have to prioritise calls and the outcome is disillusionment and anger among many people at the fact that their community is not being policed in the way that they wish. It is not their fault but the resource and manpower problems faced by the police are undermining the affinity talked about by the Police Federation.

Fodd bynnag, adroddodd y Comisiwn Archwilio yn 1995 mai dim ond 5 y cant o holl swyddogion yr heddlu—1 o bob 20 o’r heddweision— a oedd ar gael ar unrhyw adeg ar gyfer dyletswyddau patrôl. Mewn llawer ardal nid yw’r plismon lleol traddodiadol ond yn bod fel enw, os o gwbl. Mae amseroedd ymateb yn wael gan fod rhaid i’r heddlu drefnu galwadau yn ôl blaenoriaeth a chanlyniad hyn yw dadrithiad a dicter ymysg llawer o bobl am nad yw eu cymuned yn cael ei phlismona fel y dymunent. Nid hwy sydd ar fai ond mae’r problemau adnoddau a gweithlu a wynebir gan yr heddlu yn tanseilio’r cyswllt y mae Ffederasiwn yr Heddlu yn sôn amdano.

Secondly, on closed circuit TV or CCTV, referred to in my amendment, many local authorities have installed CCTV in car parks, town and city centres, industrial estates and known problem areas. There have been dramatic decreases in reported crime levels in these areas. However, the CCTV is only as good as the police resources available to support it. Although cameras may ease manpower pressures on the police in some areas and allow more flexibility in the way they deploy personnel, if a crime is witnessed on camera there must be available officers to react to that incident quickly. Furthermore, evidence indicates that although CCTV reduces reported crime in a given area, it also displaces it to adjacent areas. That is another reason for the provision of adequate police resources to support its introduction.

Yn ail, ynghylch teledu cylch cyfyng, y cyfeirir ato yn fy ngwelliant, mae llawer o awdurdodau lleol wedi gosod teledu cylch cyfyng mewn meysydd parcio, yng nghanol trefi a dinasoedd, ar stadau diwydiannol ac mewn mannau sydd yn adnabyddus oherwydd eu problemau. Cafwyd gostyngiadau trawiadol yn y lefelau troseddu hysbys yn yr ardaloedd hynny. Fodd bynnag, nid yw teledu cylch cyfyng ond cystal â’r adnoddau heddlu sydd ar gael i’w ategu. Er y gallai camerâu ysgafnhau’r baich ar weithlu’r heddlu mewn rhai ardaloedd a chaniatáu mwy o hyblygrwydd yn y modd y byddant yn trefnu personél, os gwelir trosedd ar gamera rhaid i swyddogion fod ar gael i ymateb i’r digwyddiad hwnnw ar fyrder. Yn ogystal â hynny, mae’r dystiolaeth yn dangos bod teledu cylch cyfyng, er ei fod yn lleihau’r troseddu hysbysedig mewn ardal benodol, yn dadleoli troseddu i ardaloedd cyfagos hefyd. Dyna reswm arall dros ddarparu adnoddau digonol i’r heddlu I’w ategu pan gyflwynir ef.

I am pleased that one of the thrusts of the new initiatives from the Crime and Disorder Act 1998, is towards crime prevention. I welcome the fact that money is being provided by the Youth Justice Board to promote and support good crime prevention schemes. Home crime prevention survey schemes are important associated projects and they should be extended across Wales. However, if these schemes are to be effective the Secured by Design standards introduced by Tai Cymru in 1993 should be required work for renovation grants so that private homes can also benefit. Furthermore, a proper system of grants such as home installation grants must be established to help people implement security measures recommended by the surveys.

Yr wyf yn falch mai un o’r pethau a bwysleisir yn y mentrau newydd o ganlyniad i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yw atal troseddu. Croesawaf y ffaith bod arian wedi ei ddarparu gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i hybu a chefnogi cynlluniau atal troseddu da. Mae cynlluniau arolwg atal troseddu yn y cartref yn brosiectau pwysig sydd yn gysylltiedig â hynny a dylid eu hymestyn i bob cwr o Gymru. Fodd bynnag, os yw’r cynlluniau hyn i fod yn effeithiol dylai’r safonau Diogelwch Drwy Gynllunio a gyflwynwyd gan Tai Cymru yn 1993 fod yn waith gofynnol ar gyfer grantiau adnewyddu fel y gall cartrefi preifat elwa hefyd. Yn ogystal â hynny, rhaid sefydlu system briodol o grantiau fel grantiau gosod yn y cartref i helpu pobl i weithredu mesurau diogelwch a argymhellir yn yr arolygon.

We must also provide adequate support for the victims of crime, many of whom are traumatised by their experience. Crimes against individuals such as theft, burglary and assault increased by 73 per cent between 1981 and 1995. Even when the perpetrators of these crimes are caught, many of the victims are left in the dark as to what is happening with regard to prosecuting these individuals and become disillusioned and frustrated with the system. That must be addressed.

Rhaid inni hefyd ddarparu cefnogaeth ddigonol i ddioddefwyr troseddau, lawer ohonynt wedi eu trawmateiddio gan eu profiad. Bu cynnydd o 73 y cant yn y troseddau yn erbyn unigolion fel dwyn, bwrgleriaeth ac ymosod rhwng 1981 a 1995. Hyd yn oed pan gaiff y troseddwyr hyn eu dal, nid oes gan y rhai a ddioddefodd yr un syniad am beth sydd yn digwydd o ran erlyn yr unigolion hyn a dechreuant deimlo dadrithiad a rhwystredigaeth ynghylch y system. Rhaid ymdrin â hynny.

Earlier, I talked about the need for sustainable communities and the need to reconnect socially excluded people with society as a means of reducing crime. The Audit Commission’s report, ‘Misspent Youth: Young People and Crime’, identified that areas of highest crime are deprived and often contain large numbers of poor, single adult households with poorly supervised young people who frequently cause disturbance to other residents. It states that research shows that children brought up in these areas are more likely to become offenders when they grow up.

Yn gynharach, fe soniais am yr angen am gymunedau cynaliadwy a’r angen i ailgysylltu rhai a ddieithriwyd yn gymdeithasol â chymdeithas fel modd i leihau troseddu. Yn adroddiad y Comisiwn Archwilio, ‘Misspent Youth: Young People and Crime’, nodir mai’r ardaloedd sydd â’r lefelau troseddu uchaf yw’r rhai difreintiedig sydd yn aml yn cynnwys nifer fawr o deuluoedd un rhiant tlawd gyda phobl ifainc dan oruchwyliaeth wael a fydd yn aflonyddu ar breswylwyr eraill mewn llawer achos. Dywed fod ymchwil yn dangos bod plant a fegir yn yr ardaloedd hyn yn fwy tebygol o fod yn droseddwyr ar ôl tyfu.

Among the listed factors thought likely to increase the risk of offending are inadequate parental supervision, no stable family home, not being in employment or education, and a heavy use of alcohol and drugs. Three quarters of the young people convicted for the most violent and serious offences and held in secure care or custody have been the victim of physical or emotional abuse. None of those factors should be used as an excuse for anti-social behaviour, but together they form a pattern that underlines the need for the Assembly to resource programmes properly to tackle social exclusion in the communities of Wales.

Rhai o’r ffactorau a restrir y credir eu bod yn cynyddu’r perygl o droseddu yw goruchwyliaeth annigonol gan rieni, diffyg cartref teuluol sefydlog, bod y tu allan i gyflogaeth neu addysg, a defnydd helaeth o alcohol a chyffuriau. Mae tri chwarter y bobl ifainc a geir yn euog o’r troseddau mwyaf treisiol a difrifol ac a gedwir mewn gofal diogel neu’r ddalfa wedi dioddef oddi wrth gamdriniaeth gorfforol neu emosiynol eu hunain. Ni ddylid defnyddio’r un o’r ffactorau hyn yn esgus dros ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ond gyda’i gilydd maent yn ffurfio patrwm sydd yn tanlinellu’r angen i’r Cynulliad roi’r adnoddau priodol i raglenni er mwyn ymdrin â dieithrwch cymdeithasol yng nghymunedau Cymru.

Two out of every five known offenders in Wales are under 18. Furthermore, between 10 and 20 per cent of calls to the police are now about nuisance by young people. Too many young people are failing to develop constructive lives and I welcome the recognition that more must be done to reduce youth crime. It is a sobering thought that almost 70 per cent of people over 21 who offend were first convicted when they were under 21.

Mae dau o bob pump troseddwr hysbys yng Nghymru o dan 18 oed. Ar ben hynny, mae rhwng 10 a 20 y cant o’r galwadau i’r heddlu bellach yn ymwneud â niwsans a achosir gan bobl ifainc. Mae gormod o bobl ifainc yn methu â datblygu bywydau adeiladol a chroesawaf y gydnabyddiaeth bod angen gwneud mwy i leihau troseddu ymysg yr ifainc. Mae’n ystyriaeth ddifrifol bod bron 70 y cant o’r rhai dros 21 sydd yn troseddu wedi cael eu dyfarnu’n euog o drosedd am y tro cyntaf pan oeddent dan 21 oed.

However, we must keep this in perspective. The young people discussed in these figures are a minority. The vast majority live decent, blameless lives and make a valuable contribution to their community. Figures show that young people are more likely to be the victims of crimes than adults are. The figures highlight the importance of youth work as well as education and employment. Too many local councils, faced with pressure on education and social service budgets among many others, have cut back on their youth service. They need more resources to train and employ outreach youth workers, to resource youth clubs, drop-in centres and advice services and to help voluntary groups that are keen to provide youth services.

Fodd bynnag, rhaid inni gadw hyn yn ei gyd-destun. Mae’r bobl ifainc dan sylw yn y ffigurau hyn yn lleiafrif. Mae’r mwyafrif helaeth yn byw bywydau gweddus a di-fai ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w cymuned. Mae’r ffigurau’n dangos bob pobl ifainc yn fwy tebygol o ddioddef oddi wrth droseddu nag ydyw oedolion. Mae’r ffigurau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith ieuenctid yn ogystal ag addysg a chyflogaeth. Mae gormod o gynghorau lleol, yn wyneb pwysau ar eu cyllidebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol ymysg llawer o rai eraill, wedi cwtogi ar eu gwasanaeth ieuenctid. Mae arnynt angen mwy o adnoddau i hyfforddi a chyflogi gweithwyr ieuenctid yn y maes, i ddarparu adnoddau i glybiau ieuenctid, canolfannau galw heibio a gwasanaethau cynghori ac I helpu grwpiau gwirfoddol sydd yn awyddus i ddarparu gwasanaethau ieuenctid.

Research has shown that intensive, structured pre-school education, home support for three and four-year-olds in deprived areas and smaller class sizes can be beneficial in reducing crime. Ultimately, providing training and jobs for young people will have the most direct impact on reducing youth crime.

Mae ymchwil wedi dangos bod addysg cyn-ysgol strwythurol, ddwys, cefnogaeth yn y cartref i rai tair a phedair oed mewn ardaloedd difreintiedig a meintiau dosbarth llai yn gallu bod o les wrth leihau troseddu. Yn y pen draw, darparu hyfforddiant a swyddi i bobl ifainc a gaiff yr effaith uniongyrchol fwyaf ar leihau troseddu ymysg pobl ifainc.

The multi-agency and partnership approach promoted by the Crime and Disorder Act 1998 is welcomed. The youth offender teams that are being established by local councils and others as a result of this Act, can be an important tool in tackling youth crime. However, if they are to work effectively, it is important that the Home Office and the Assembly provides them with sustainable long-term funding. Grants are available from the Youth Justice Board. As a rule, these grants cover three years and local councils are concerned that, at the end of this period, they will be left to pick up the full tab. These grants do not meet the full cost of the youth offender teams. As a result of this, local authorities, the police, the probation service, health authorities and other agencies have to cut other services to meet their obligations under the Act.

Mae’r dull aml-asiantaeth a phartneriaeth a hybir gan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i’w groesawu. Gall y timau troseddwyr ifainc a sefydlir gan gynghorau lleol ac eraill o ganlyniad i’r Ddeddf hon fod yn arf bwysig wrth fynd i’r afael â throseddu ymysg pobl ifainc. Fodd bynnag, os ydynt i weithio’n effeithiol, mae’n bwysig bod y Swyddfa Gartref a’r Cynulliad yn darparu ariannu tymor hir cynaliadwy ar eu cyfer. Mae grantiau ar gael gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Fel rheol, bydd y grantiau hyn yn rhedeg dros dair blynedd ac mae’r cynghorau lleol yn bryderus mai hwy fydd yn gorfod talu’r costau i gyd ar ddiwedd y cyfnod hwn. Nid yw’r grantiau hyn yn talu costau llawn y timau troseddwyr ifainc. O ganlyniad i hynny, rhaid i awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, yr awdurdodau iechyd ac asiantaethau eraill gwtogi ar wasanaethau eraill er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf.

Youth offender teams are often lead by social service departments. That can have serious consequences for already under funded services such as respite care and home care. For example, the cost for setting up the City and County of Swansea’s youth offender team this year is £469,000. This includes existing youth justice workers and extra posts needed to carry out this work. That cost will rise to £703,000 next year and to £812,000 in 2001 and 2002. The City and County of Swansea has obtained a grant of £172,000 over three years to expand remand management and £320,000 over three years to promote crime prevention work. That still leaves a significant shortfall and serious worries as to how the council will fund the £929,00 cost in year four, when the grants run out. That must be addressed if we are not to put more under funding pressures on local authorities’ budgets that are already over-stretched.

Bydd y timau troseddwyr ifainc yn cael eu harwain yn aml gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Gall hynny ddod â chanlyniadau difrifol i wasanaethau sydd eisoes wedi eu tanariannu fel gofal ysbaid a gofal yn y cartref. Er enghraifft, cost sefydlu tîm troseddwyr ifainc Dinas a Sir Abertawe eleni yw £469,000. Mae hyn yn cynnwys y gweithwyr cyfiawnder ieuenctid presennol a swyddi ychwanegol y mae eu hangen i gyflawni’r gwaith hwn. Bydd y gost honno’n codi i £703,000 y flwyddyn nesaf ac i £812,000 yn 2001 a 2002. Mae Dinas a Sir Abertawe wedi sicrhau grant o £172,000 dros dair blynedd i ehangu rheolaeth ar bobl sydd yn disgwyl eu prawf a £320,000 dros dair blynedd i hybu gwaith atal troseddu. Mae hyn yn dal i adael diffyg sylweddol a phryderon difrifol o ran y modd y bydd y cyngor yn ariannu’r gost o £929,000 ym mlwyddyn pedwar, pryd y daw’r grantiau i ben. Rhaid rhoi sylw i hynny os nad ydym i roi mwy o bwysau tanariannu ar gyllidebau awdurdodau lleol sydd eisoes wedi eu gorymestyn.

It is important for us to highlight these concerns to the Home Office. We must publicly acknowledge the problems for the police and local councils in meeting the targets set by the Government to reduce crime and disorder.

Mae’n bwysig inni dynnu sylw’r Swyddfa Gartref at y pryderon hyn. Rhaid inni gydnabod ar goedd y problemau sydd gan yr heddlu a chynghorau lleol wrth gyrraedd y targedau a osodwyd gan y Llywodraeth er mwyn lleihau troseddu ac anhrefn.

Nick Bourne spoken in English p. 43

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 43

We support the main thrust of the motion. We want to contribute to the reduction of crime and anti-social behaviour. We also want to support the Home Office and the Youth Justice Board in implementing the Crime and Disorder Act 1998.

Yr ydym yn cefnogi prif fyrdwn y cynnig. Yr ydym am gyfrannu at leihau troseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Yr ydym hefyd am gefnogi’r Swyddfa Gartref a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wrth iddynt weithredu Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

One concern about the motion is that it does not recognise the vital role of the police. I accept that that has been inherent in what has been said. It is not our responsibility, but we are giving a general view on crime and disorder. We would do well to remember that the police have a vital role in this area. Many of us hear of policing issues when dealing with our correspondence during surgery. We should acknowledge the role of the police service and its funding problems, particularly in rural areas. In my constituency we have an excellent police force, Dyfed-Powys Police. It is accepted that rural police forces are under funded. That is true of that excellent police force, headed by Ray White. I make a plea for resources and for policing.

Un pryder ynghylch y cynnig yw nad yw’n cydnabod rôl holl bwysig yr heddlu. Derbyniaf fod hynny’n rhan hanfodol o’r hyn a ddywedwyd. Nid ein cyfrifoldeb ni ydyw, ond yr ydym yn rhoi barn gyffredinol ar drosedd ac anhrefn. Byddai’n dda inni gofio bod rôl holl bwysig gan yr heddlu yn y maes hwn. Bydd llawer ohonom yn clywed am faterion plismona wrth ymdrin â’n gohebiaethau yn ein cymorthfeydd. Dylem gydnabod rôl y gwasanaeth heddlu a’i broblemau ariannu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yn f’etholaeth i mae gennym heddlu rhagorol, Heddlu Dyfed-Powys. Derbynnir nad yw heddluoedd gwledig wedi eu cyllido’n ddigonol. Mae hynny’n wir am yr heddlu rhagorol hwnnw, dan arweiniad Ray White. Apeliaf am adnoddau ac am blismona.

My other point is about the tendency that the Assembly sometimes exhibits to use jargon. We may, and often do, know what we mean but we could be more straightforward in our use of language. We should explain what we mean by ‘design out crime’. It is not evident to everybody from just reading the motion what we mean by that.

Mae’r pwynt arall sydd gennyf yn ymwneud â’r duedd a welir yn y Cynulliad weithiau i ddefnyddio jargon. Fe allem wybod beth a olygwn yn aml, ond fe allem ddefnyddio iaith symlach. Dylem egluro’r hyn a olygwn wrth ‘cynllunio troseddu allan’. Nid yw’n amlwg i bawb wrth ddarllen y cynnig beth a olygwn wrth hynny.

I share the First Secretary’s concerns about the first and second amendments by Helen Mary Jones. We have to consider the victims as well as causes of crime. I understand Helen Mary’s point about the causes of crime but we need to deal with children who commit crimes. The curfew orders may not be perfect, but we must accept that they need to be included in the Act. We accept Helen Mary’s third amendment. It was, no doubt, a drafting error. We will vote in favour of that amendment. We will vote against her fourth amendment. It is inherent in the motion that social exclusion is a cause of crime.

Rhannaf bryderon y Prif Ysgrifennydd am y cyntaf a’r ail o welliannau Helen Mary Jones. Rhaid inni ystyried y rhai sydd yn dioddef yn ogystal â’r hyn sydd yn achosi troseddu. Deallaf bwynt Helen Mary ynghylch achosion troseddu ond mae angen inni ddelio â phlant sydd yn troseddu. Efallai nad yw’r gorchmynion cyrffyw yn berffaith, ond rhaid inni dderbyn bod angen eu cynnwys yn y Ddeddf. Yr ydym yn derbyn trydydd gwelliant Helen Mary. Gwall wrth ddrafftio oedd hynny, mae’n siŵr. Pleidleisiwn o blaid y gwelliant hwnnw. Pleidleisiwn yn erbyn ei phedwerydd gwelliant. Hanfod yn y cynnig yw bod dieithrwch cymdeithasol yn un o achosion troseddu.

We will vote in favour of the Liberal Democrats’ amendment. We recognise the importance of resourcing mentioned in that amendment. We also underline the importance of CCTV, which was a Conservative initiative and has been extremely successful in combating crime. However, I accept that we need more cameras as CCTV has, to a degree, a tendency to push crime into other areas.

Pleidleisiwn o blaid gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol. Yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd yr adnoddau a grybwyllir yn y gwelliant hwnnw. Yr ydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd teledu cylch cyfyng, oedd yn fenter Geidwadol ac yn un a fu’n llwyddiannus iawn wrth ymladd troseddu. Fodd bynnag, derbyniaf fod arnom angen mwy o gamerâu gan fod tuedd i deledu cylch cyfyng wthio troseddu i ardaloedd eraill, i ryw raddau.

The First Secretary was honest enough to admit that the rate of decrease of crime is beginning to level out. That gives cause for concern. We need to address that. The rate has fallen off quite steeply over the last three to four years and is now levelling out. The UK Government and the Assembly will need to take account of that in developing policy. To summarise, we will vote in favour of the Liberal Democrats’ amendment, and if that is accepted, in favour of the amended motion. If it is not accepted, we will vote against the motion.

Yr oedd y Prif Ysgrifennydd yn ddigon gonest i gyfaddef bod cyfradd y gostyngiad mewn troseddu yn dechrau lefelu. Mae hynny’n peri pryder. Rhaid inni ymdrin â hynny. Mae’r gyfradd wedi disgyn yn eithaf serth dros y tair neu bedair blynedd diwethaf ac mae bellach yn lefelu. Bydd angen i Lywodraeth y DU a’r Cynulliad roi sylw i hynny wrth ddatblygu polisi. I grynhoi, fe bleidleisiwn o blaid gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol, ac os derbynnir hwnnw, o blaid y cynnig wedi’i ddiwygio. Os na dderbynnir ef, fe bleidleisiwn yn erbyn y cynnig.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 45

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 45

Now that all Party speakers have spoken, some more concisely than others, I indicate that in order to protect the time allowed for the business to follow, especially the short debate, I intend to call the Secretary for the Environment and Local Government at 3.40 p.m.

Gan fod holl lefarwyr y Pleidiau wedi siarad bellach, rhai ohonynt yn fwy cryno na’i gilydd, nodaf fy mwriad i alw ar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol am 3.40 p.m., er mwyn diogelu’r amser a adewir i’r busnes sydd yn dilyn, yn enwedig y ddadl fer.

Alison Halford spoken in English p. 45

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 45

As I am never up to speed, I only learned about the full concept of this motion when I arrived late from north Wales. I hope that what I say will make sense and will be taken in the spirit I intend. Given my background as a police officer of some 30 years, having had the distinction of being suspended from duty not once but twice, having won a judicial review of unlawful suspension, having gone before the court of human rights because my telephones were tapped, having served a police authority and worked as a member of a police authority, I hope I have some small experience to call upon.

Gan fy mod ar ei hôl hi bob amser, dim ond wedi imi gyrraedd yn hwyr o ogledd Cymru y cefais wybod am holl ystyr y cynnig hwn. Gobeithiaf y bydd yr hyn a ddywedaf yn ystyrlon ac y’i derbynnir yn un ysbryd a fwriadaf. Yng ngoleuni fy nghefndir fel un a fu’n swyddog heddlu am ryw 30 mlynedd, ac yn nodedig am imi gael f’atal o’m dyletswydd nid unwaith ond dwywaith, ac ennill adolygiad barnwrol am atal anghyfreithlon, a mynd gerbron y llys hawliau dynol am fod fy nheleffonau’n cael eu tapio, ac ar ôl gwasanaethu awdurdod heddlu a gweithio fel aelod o awdurdod heddlu, gobeithiaf fod gennyf ryw ychydig o brofiad y gallaf fanteisio arno.

The police service is too important to be used as a political football. However, I have fears about what my leader proposes. If things turn sour, the National Assembly for Wales could come in for a great deal of opprobrium. I counsel caution. I understand that chief constables are accountable to nobody for the simple reason that there is a tripartite relationship between the Home Office, police authorities and police forces, which allows no one body to take total control. Therefore no-one is accountable.

Mae’r gwasanaeth heddlu yn rhy bwysig i’w ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Fodd bynnag, mae gennyf rai ofnau ynghylch yr hyn y mae f’arweinydd yn ei gynnig. Os â pethau o chwith, fe allai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddod yn destun beirniadaeth lem. Fe’ch cynghoraf i gymryd pwyll. Deallaf nad yw prif gwnstabliaid yn atebol i neb am y rheswm syml bod perthynas dairochrog rhwng y Swyddfa Gartref, yr awdurdodau heddlu a’r heddluoedd, nad yw’n caniatáu i neb gael rheolaeth lawn. Felly nid oes neb yn atebol.

I have in front of me the Crime and Disorder Bill, with notes from the Association of Police Authorities. If my knowledge of the Crime and Disorder Act is right, they were concerned that the police authorities played a small role and carried little responsibility in the partnership with local authorities and chief constables. Police authorities are powerful bodies. They are free-standing, are given powers to set their own budgets and can precept directly on billing authorities to raise revenue.

O’m blaen y mae’r mesur Trosedd ac Anhrefn, gyda nodiadau gan Gymdeithas yr Awdurdodau Heddlu. Os wyf yn deall y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn yn gywir, yr oeddent yn bryderus bod yr awdurdodau heddlu’n chwarae rôl fach ac nad oedd ganddynt ond ychydig o gyfrifoldeb yn y bartneriaeth ag awdurodau lleol a phrif gwnstabliaid. Mae’r awdurodau heddlu yn gyrff pwerus. Maent yn annibynnol, rhoddir pwerau iddynt bennu eu cyllidebau eu hunain a gallant breseptu’n uniongyrchol ar yr awdurdodau sydd yn anfon biliau er mwyn codi refeniw.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 46

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 46

I recognise Alison Halford’s point and the nature of that briefing. I reassure her that there is a good deal of discussion with the Association of Police Authorities during the course of the Bill’s passage.

Yr wyf yn cydnabod pwynt Alison Halford a natur y cyfarwyddyd hwnnw. Rhoddaf sicrwydd iddi fod llawer iawn o drafod gyda Chymdeithas yr Awdurdodau Heddlu yn ystod taith y Mesur.

It is necessary to have a local relationship between the local police and the local authority with a local level of accountability. That is why a misunderstanding arose which led police authorities to think they were being left out. They were not. They were happy with the relationship reached and with the guidance offered by the time that the legislation was passed through the House of Commons.

Mae angen cael perthynas leol rhwng yr heddlu lleol a’r awdurdod lleol gyda lefel atebolrwydd leol. Dyna pam gododd camddealltwriaeth a barodd i’r awdurdodau heddlu feddwl eu bod yn cael eu gadael allan. Nid oeddent. Yr oeddent yn fodlon â’r berthynas a sicrhawyd a’r cyfarwyddyd a gynigiwyd erbyn i’r ddeddfwriaeth fynd drwy Dŷ’r Cyffredin.

Alison Halford spoken in English p. 46

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 46

I am grateful for that explanation. You cannot take on a small part of policing responsibility and you cannot say that looking after crime and disorder and community partnerships does not bring the National Assembly for Wales into the whole milieu of policing.

Yr wyf yn ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw. Ni allwch ymgymryd â rhan fach o’r cyfrifoldeb am blismona ac ni allwch ddweud nad yw ymorol am droseddu ac anhrefn a phartneriaethau cymuned yn dod â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i faes plismona yn ei gyfanrwydd.

That brings all sorts of problems. It brings a huge time-bomb waiting to explode on police pensions. Even the ex-Chair of North Yorkshire Police Authority—who was well-regarded and was therefore elevated to the House of Lords by Nes Harris—was exceedingly concerned about the level of pensions. She pointed out in the 1 October interview that pensions in that force are due to rise to 12.2 million—£500,000 over the budget. Once we start looking at crime and disorder initiatives where does that place the National Assembly for Wales?

Daw hynny â phob math o broblemau. Daw â bom amser sydd yn disgwyl ffrwydro ynghylch pensiynau’r heddlu. Yr oedd hyd yn oed cyn-Gadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Swydd Efrog—oedd yn fawr ei pharch ac a ddyrchafwyd felly i Dŷ’r Arglwyddi gan Nes Harris—yn bryderus iawn ynghylch lefel y pensiynau. Nododd yn y cyfweliad ar 1 Hydref fod pensiynau yn yr heddlu hwnnw i godi i £12.2 miliwn—£500,000 dros y gyllideb. Wedi inni ddechrau edrych ar fentrau trosedd ac anhrefn, beth fydd sefyllfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

When I was a member of the North Wales Police Authority, £207,000 of tax payers’ money was spent on settling a case where an ex-police officer was accused of malicious falsehood. Not one halfpenny came from the force’s insurance company. Where would that put the National Assembly for Wales should a similar situation arise again?

Pan oeddwn yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, gwariwyd £207,000 o arian y trethdalwyr ar setlo achos lle’r oedd cyn-swyddog heddlu wedi ei gyhuddo o ddweud anwiredd maleisus. Ni ddaeth yr un ddimai oddi wrth gwmni yswiriant yr heddlu. Beth fyddai sefyllfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai achos tebyg yn codi eto?

Our own auditor, the Auditor General, pointed out as recently as last September that he was concerned that he had no right of access to local authority accounts. Would it not be sensible for our Auditor General to assure us that all is well with local authorities before we enter into this partnership?

Fe nododd ein harchwilydd ein hunain, yr Archwilydd Cyffredinol, mor ddiweddar â Medi diwethaf ei fod yn bryderus am nad oedd ganddo hawl i weld cyfrifon awdurdodau lleol. Oni fyddai’n ddoeth i’r Archwilydd Cyffredinol roi sicrwydd i ni fod popeth yn iawn gyda’r awdurodau lleol cyn inni ddod yn rhan o’r bartneriaeth hon?

It is more sensible to allow the status quo to continue, for the Home Office to have responsibility and for us to keep well out of it. Once we involve ourselves with this partnership, I envisage that we will have to take responsibility whether we like it or not for many less happy aspects of policing.

Mae’n ddoethach gadael y sefyllfa fel y mae, i’r Swyddfa Gartref fod yn gyfrifol ac i ni gadw’n ddigon pell oddi wrtho. Wedi inni ddechrau ymwneud â’r bartneriaeth hon, rhagwelaf y byddwn yn gorfod ymgymryd â chyfrifoldeb, o’n bodd neu’n hanfodd, am lawer o agweddau llai dymunol ar blismona.

I am sorry if it seems that I am not in accord with my own party. I am only expressing an opinion having examined the problem for many years. One option is to have nothing to do with it. A better solution is to take responsibility for all four of our police forces in Wales. Let us do the job properly. Let us do the job better than it has been done in England.

Mae’n ddrwg gennyf os yw’n ymddangos nad wyf yn gytûn â’m plaid fy hun. Nid wyf ond yn mynegi barn ar ôl archwilio’r broblem am flynyddoedd lawer. Un dewis yw peidio â chael cysylltiad â hyn. Ateb gwell yw ymgymryd â chyfrifoldeb dros y pedwar heddlu yng Nghymru. Gadewch inni wneud y gwaith yn iawn. Gadewch inni wneud y gwaith yn well nag a wnaethpwyd yn Lloegr.

Pauline Jarman spoken in English p. 48

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 48

We cannot afford to do nothing about crime and disorder in Wales. I am aware, as the leader of Rhondda Cynon Taff County Borough Council, that in order to develop any strategy you need to undertake an audit of the problem. An audit has been undertaken in my authority. Although the crime figures are lower than the national average, this does not make the situation less serious for the victim and the young people who are perpetuating crime. The strategy we have in our local authority has been prepared by a wide range of organisations. They include all the organisations that the First Secretary indicated should be involved in any strategy. These organisations are the Bro Taf Health Authority, the South Wales Fire Service, the South Wales Police, Interlink—a voluntary sector support group—the local authority itself, and the former Mid Glamorgan Probation Service. In a partnership, our aim is to develop and implement a shared strategy. This will set out clear measures to tackle the level and fear of crime and disorder, reduce the economic and social costs of crime for local people and make our community a safer and more pleasant place in which to live and work.

Ni allwn fforddio gwneud dim ynghylch trosedd ac anhrefn yng Nghymru. Yr wyf yn ymwybodol, fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fod rhaid archwilio’r broblem er mwyn datblygu unrhyw strategaeth. Fe gyflawnwyd archwiliad yn f’awdurdod i. Er bod y ffigurau troseddu’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, nid yw hynny’n gwneud y sefyllfa’n llai difrifol i’r rhai sydd yn dioddef a’r bobl ifainc sydd yn troseddu. Mae’r strategaeth sydd gennym yn ein hawdurdod lleol wedi ei pharatoi gan amrediad eang o gyrff. Yn eu plith y mae’r holl gyrff a nodwyd gan y Prif Ysgrifennydd fel y rhai a ddylai fod yn gysylltiedig ag unrhyw strategaeth. Y rhain yw Awdurdod Iechyd Bro Taf, Gwasanaeth Tân De Cymru, Heddlu De Cymru, Interlink—grŵp cefnogi yn y sector gwirfoddol—yr awdurdod lleol ei hun, a Gwasanaeth Prawf Morgannwg Ganol, fel yr oedd bryd hynny. Mewn partneriaeth, ein nod yw datblygu a gweithredu strategaeth ar y cyd. Bydd yn nodi mesurau clir i fynd i’r afael â lefel ac ofn troseddu ac anhrefn, i leihau costau economaidd a chymdeithasol troseddu i bobl leol ac i wneud ein cymuned yn lle mwy diogel a dymunol i fyw a gweithio ynddi.

We have been successful as far as funding is concerned. However, we are always in competition with other authorities and partners in attracting money for some of these important initiatives to prepare our young people for citizenship. Peter Black’s amendment clearly states the importance of the core funding and sustainability of these initiatives. I can indicate to Members the types of pressures that local authorities are under. However, they are committed to engaging in initiatives that will improve the quality of life of our young people and citizens.

Buom yn llwyddiannus o ran sicrhau cyllid. Fodd bynnag, yr ydym bob amser yn cystadlu ag awdurdodau a phartneriaid eraill wrth geisio denu arian i rai o’r mentrau pwysig hyn i baratoi ein pobl ifainc i fod yn ddinasyddion. Mae gwelliant Peter Black yn nodi’n eglur bwysigrwydd ariannu craidd a chynaladwyedd y mentrau hyn. Gallaf ddangos i’r Aelodau y math o bwysau sydd ar awdurdodau lleol. Fodd bynnag, maent wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn mentrau a fydd yn gwella ansawdd bywyd ein pobl ifainc a’n dinasyddion.

We have Megadrive Youth Wheels, aimed at 16-year olds from local comprehensive schools and school leavers. This gives hundreds of young people the chance to drive and raise their awareness of safety issues, first aid and the consequence of motor crime. However, there is a cost to it, and its sustainability is always doubtful in the absence of long-term funding.

Mae gennym Megadrive Youth Wheels, ar gyfer rhai 16 oed o ysgolion cyfun lleol a rhai sydd wedi gadael yr ysgol. Mae hyn yn rhoi cyfle i gannoedd o bobl ifainc yrru ac yn codi eu hymwybyddiaeth ynghylch materion diogelwch, cymorth cyntaf a chanlyniad troseddu sydd yn ymwneud â cherbydau. Fodd bynnag, mae angen talu amdano, ac mae amheuaeth bob amser ynghylch ein gallu i’w gynnal yn niffyg cyllid tymor hir.

We also have a safe women campaign, aimed at women drivers throughout the county borough. It raises awareness of safety, self-defence and car maintenance so that women can drive home safely. Sixth Sense is another initiative. It is a safety awareness programme that provides school children with the skills necessary to avoid placing themselves in dangerous situations. Domestic disputes and graffiti initiatives are also included in the partnership approach to challenging crime and disorder. While we have a lower number of reported incidents and crimes per resident compared to the South Wales Police average, we also have a higher level of disorder incidents related to domestic disputes and, unfortunately, more racist graffiti.

Mae gennym hefyd ymgyrch benywod diogel, ar gyfer gwragedd sydd yn gyrru ym mhob cwr o’r fwrdeistref sirol. Mae’n codi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch, hunanamddiffyn a chynnal a chadw ceir fel y gall benywod yrru adref yn ddiogel. Menter arall yw Sixth Sense. Rhaglen ymwybyddiaeth o ddiogelwch yw hon sydd yn rhoi’r medrau angenrheidiol i blant ysgol fel y gallant osgoi mynd i sefyllfaoedd peryglus. Mae anghydfod domestig a mentrau graffiti hefyd yn rhan o waith y bartneriaeth yn erbyn trosedd ac anhrefn. Er bod nifer y digwyddiadau a’r troseddau a hysbyswyd fesul preswylydd yn is o’i chymharu â chyfartaledd Heddlu De Cymru, mae gennym hefyd lefel uwch o ddigwyddiadau o anhrefn yn gysylltiedig ag anghydfod domestig a, gwaetha’r modd, mwy o graffiti hiliol.

I am aware that other Members may want to contribute to this debate. There is a big job to be done. All the partners, including local government, are eager to participate in this initiative. I support all Helen Mary Jones’s amendments and Peter Black’s amendment. The Assembly should support these amendments knowing that it will be possible to reflect on their implications. Following further examination, we can revisit the issue with the sensitivity that was indicated by the First Secretary. It is too late once the damage is done. Too many local authorities and partners have a lot of good will in this matter. I urge all Members to support all the amendments. That will do nothing to mitigate against the best aspects of this Act. As a local authority representative I know that there is concern among my colleagues regarding section 17 of this Act, which states,

Fe wn fod Aelodau eraill hwyrach am gyfrannu i’r ddadl hon. Mae gwaith mawr i’w gyflawni. Mae’r holl bartneriaid, yn cynnwys llywodraeth leol, yn awyddus i gymryd rhan yn y fenter hon. Cefnogaf bob un o welliannau Helen Mary Jones a gwelliant Peter Black. Dylai’r Cynulliad gefnogi’r gwelliannau hyn gan wybod y bydd modd myfyrio uwchben y goblygiadau sydd ynddynt. Ar ôl eu harchwilio ymhellach, gallwn fynd yn ôl at y mater gyda’r sensitifrwydd a nodwyd gan y Prif Ysgrifennydd. Mae’n rhy hwyr wedi i’r drwg gael ei wneud. Mae gan lawer iawn o awdurdodau lleol a phartneriaid lawer o ewyllys da yn y mater hwn. Anogaf yr holl Aelodau i gefnogi’r holl welliannau. Ni fyddant yn gwneud dim i fennu ar agweddau gorau’r Ddeddf hon. Fel cynrychiolydd awdurdod lleol yr wyf yn gwybod bod pryder ymysg fy nghyd-Aelodau mewn cysylltiad ag adran 17 o’r Ddeddf hon, sydd yn datgan,

‘without prejudice to any other obligations imposed upon it, it shall be the duty of each authority to which this section applies to exercise its various functions with due regard to the likely effect of the exercise of those functions on, and the need to do all that it reasonably can to prevent, crime and disorder in its area.’

The purpose of this section of the Act, according to the Home Office, would be to give a new focus to the vital work of preventing crime across a wide range of local services. It is a matter of putting crime and disorder considerations at the heart of decision-making. This poses the most challenging opportunity to local authorities in fundamentally changing the culture of acceptance and inevitability of crime and fear of crime that has threatened to overcome some communities recently. The one impediment to the success of this is that central Government, in the early days of this legislation, made it clear that there would be no new monies to fund these changes. That is a tragedy and I hope that the Assembly can influence central Government to change its position.

Pwrpas yr adran hon o’r Ddeddf, yn ôl y Swyddfa Gartref, fyddai rhoi ffocws newydd i’r gwaith hanfodol o atal troseddu ar draws amrediad eang o wasanaethau lleol. Mae’n fater o roi ystyriaethau troseddu ac anhrefn ar ganol penderfyniadau. Mae hyn yn cynnig cyfle sydd â’r her fwyaf i awdurdodau lleol wrth newid yn sylfaenol y diwylliant o dderbyn troseddu ac ofn troseddu a’r gred ei fod yn anorfod sydd wedi bygwth llethu rhai cymunedau’n ddiweddar. Yr unig rwystr i’w lwyddiant yw bod Llywodraeth ganolog, yn nyddiau cynnar y ddeddfwriaeth hon, wedi rhoi ar ddeall na fyddai unrhyw arian newydd i gyllido’r newidiadau hyn. Mae hynny’n drychineb a gobeithiaf y gall y Cynulliad ddylanwadu ar Lywodraeth ganolog i newid ei safbwynt.

Jane Davidson spoken in English p. 50

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 50

I support the Assembly taking an active part in the debate on crime and disorder, particularly as I was involved in establishing the community safety partnerships in Wales in my previous job. I was worried that, if we did not have the right relationship between the Assembly and the Home Office, we could not deliver effectively.

Yr wyf yn cefnogi’r bwriad i’r Cynulliad gymryd rhan egnïol yn y ddadl ar droseddu ac anhrefn, yn enwedig gan imi fod â rhan mewn sefydlu partneriaethau diogelwch yn y gymuned yn fy swydd flaenorol. Yr oeddwn yn bryderus, os nad oedd perthynas iawn rhwng y Cynulliad a’r Swyddfa Gartref, na allem gyflawni hyn yn effeithiol.

The Assembly’s role in crime reduction under section 6 of the Crime and Disorder Act 1998, if we accept the protocol that will come before us for further debate, will give us a real opportunity to have the right involvement. According to the draft protocol, the Assembly will be able to comment on strategies, and support and encourage the responsible authorities—local government, which is directly accountable to the Assembly, and the police, which remains accountable to the Home Office.

Bydd rôl y Cynulliad mewn lleihau troseddu o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, os derbyniwn y protocol a ddaw ger ein bron i’w drafod ymhellach, yn rhoi cyfle gwirioneddol inni gyfrannu’n iawn. Yn ôl y protocol drafft, bydd y Cynulliad yn gallu rhoi sylwadau ar strategaethau, a chefnogi ac annog yr awdurdodau cyfrifol—llywodraeth leol, sydd yn uniongyrchol atebol i’r Cynulliad, a’r heddlu, sydd yn atebol o hyd i’r Swyddfa Gartref.

I would like to contribute to this debate in terms of a practical application of how the Assembly could use its role. I welcome the motion, provided that we ensure that it has a practical application in our communities. I refer to the issue of airguns. At present, they are governed by strict laws. For example, if you are between the ages of 14 and 17 you can be given or loaned a weapon but cannot buy one. The laws governing under-14s are stricter. You cannot hire, buy or be given an airgun. You can use one if you are supervised by someone over 21, and shoot within the boundaries of the place where you are using it. It is also an offence to have a loaded weapon in public or to discharge one within 50 feet of the centre of a public road.

Hoffwn gyfrannu at y ddadl hon drwy sôn am un ffordd y gallai’r Cynulliad ddefnyddio ei rôl yn ymarferol. Croesawaf y cynnig, ar yr amod ein bod yn sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith yn ymarferol yn ein cymunedau. Cyfeiriaf at fater gynnau aer. Ar hyn o bryd, fe’u rheolir drwy ddeddfau caeth. Er enghraifft, os ydych rhwng 14 a 17 oed gallwch dderbyn arf yn rhodd neu ar fenthyg ond ni allwch brynu un. Mae’r deddfau sydd yn rheoli rhai dan 14 oed yn fwy caeth. Ni allwch logi, prynu na derbyn gwn aer yn rhodd. Cewch ddefnyddio un os ydych dan oruchwyliaeth rhywun dros 21 oed, a saethu o fewn terfynau’r man lle’r ydych yn ei ddefnyddio. Mae hefyd yn dramgwydd i feddu ar arf llwythog mewn lle cyhoeddus neu ei danio o fewn 50 troedfedd i ganol ffordd gyhoeddus.

That sounds sensible, but it is difficult to police. Despite these laws and the fact that there is recourse in the law, in my constituency of Pontypridd the abuse and misuse of airguns by young people is a major issue. This year alone there have been many incidents and I am sure that this is reflected throughout Wales. A young girl was shot in the face as she sat on a bench outside her school. Residents’ windows were shot at and broken by youths. Floodlights at a rugby pitch were shot out during a match. Numerous birds have been shot and killed, and a family cat died due to an airgun pellet lodged in its skull.

Mae hynny’n swnio’n synhwyrol, ond mae’n anodd i’r heddlu ei reoli. Er gwaethaf y deddfau hyn a’r ffaith bod cymorth ar gael drwy’r gyfraith, yn f’etholaeth i ym Mhontypridd mae’r camddefnydd o ynnau aer gan bobl ifainc yn fater o bwys. Y flwyddyn hon yn unig bu llawer o ddigwyddiadau ac yr wyf yn sicr bod hyn i’w weld ym mhob cwr o Gymru. Saethwyd merch ifanc yn ei hwyneb pan oedd yn eistedd ar fainc y tu allan i’w hysgol. Saethodd pobl ifainc at ffenestri trigolion a’u torri. Chwalwyd y llifoleuadau ar gae rygbi â gwn aer yn ystod gêm. Mae nifer fawr o adar wedi eu saethu a’u lladd, a bu farw cath un teulu oherwydd pelen o wn aer oedd yn sownd yn ei phenglog.

These incidents have led to rewards being offered for information that may lead to an arrest. I recently met Mr Allen Evans, a local resident in Tonyrefail, whose cat was killed by the airgun shot. On his behalf, along with Councillor Jarman as leader of the local authority, I accepted a petition, which includes thousands of signatures from local residents who are appalled at the recent spate of attacks and the apparent inability of the forces of law and order to deal with them. It will go to the Home Secretary and I will shortly meet the Chief Superintendent of South Wales Police to discuss this and other crime problems.

O ganlyniad i’r digwyddiadau hyn cynigiwyd gwobrwyon am wybodaeth a allai arwain at arestiad. Yn ddiweddar cyfarfûm â Mr Allen Evans, un o drigolion Tonyrefail, y lladdwyd ei gath oherwydd gan belen o’r gwn aer. Ar ei ran, derbyniais i a’r cynghorydd Jarman ddeiseb ac arni filoedd o lofnodion trigolion lleol sydd yn arswydo at y llu o ymosodiadau a gafwyd yn ddiweddar a’r hyn a welir fel anallu’r awdurdodau i ddelio â hwy. Fe â ymlaen i’r Ysgrifennydd Cartref a chyfarfyddaf cyn hir â Phrif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru i drafod hyn a phroblemau eraill ynglŷn â throseddu.

The Home Secretary has no plans to tighten airgun laws. Therefore, we must ensure that current laws are properly enforced at local level where these problems are identified. The 22 new community safety partnerships are in the best position to do that. They are well placed to clarify and enforce the airgun laws, working in partnership with the police and local government. They can set local targets for the reduction of crime and aid in the education of young people on the consequence of airgun misuse.

Nid yw’n fwriad gan yr Ysgrifennydd Cartref dynhau’r deddfau ar ynnau aer. Felly, rhaid inni sicrhau y caiff y deddfau presennol eu gorfodi’n iawn ar lefel leol lle y gwelir y problemau hyn. Y 22 o bartneriaethau diogelwch cymuned newydd sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny. Maent mewn sefyllfa dda i egluro a gorfodi’r deddfau ar ynnau aer, gan weithio mewn partneriaeth â’r heddlu a llywodraeth leol. Gallant osod targedau lleol ar gyfer lleihau troseddu a helpu i addysgu pobl ifainc ar ganlyniadau camddefnyddio gynnau aer.

In light of these attacks, I have asked the First Secretary to issue guidelines for each community safety partnership in Wales in relation to privately owned airguns. In response, he pointed out that firearms control is not a devolved power or responsibility but said that the local community safety partnership provides the forum to identify local solutions for specific problems in a particular area.

Yng ngoleuni’r ymosodiadau hyn, gofynnais i’r Prif Ysgrifennydd gyhoeddi canllawiau i bob partneriaeth diogelwch cymuned yng Nghymru mewn perthynas â gynnau aer mewn perchnogaeth breifat. Yn ei ymateb, nododd nad yw rheolaeth ar ddrylliau yn bŵer neu’n gyfrifoldeb a ddatganolwyd ond fe ddywedodd mai’r bartneriaeth diogelwch cymuned lleol yw’r fforwm i ganfod atebion lleol i broblemau penodol mewn ardal arbennig.

Firearms legislation is being kept under close scrutiny. The Firearms Consultative Committee is considering controls on air weapons as part of its programme of work for this year. The Home Affairs Select Committee is conducting an inquiry into firearms legislation, including the laws governing air weapons and is currently taking written advice. My question on the order paper today, which asked how the Assembly would influence that, was not reached. I therefore ask the Secretary for the Environment and Local Government, in his closing comments, to accept the seriousness of this issue and look for ways in which the Assembly can introduce guidelines to the community safety partnerships in conjunction with the inquiry into firearms legislation that is being conducted by the Home Affairs Select Committee.

Cedwir golwg manwl ar y ddeddfwriaeth ar ddrylliau. Mae’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ddrylliau yn ystyried cyfyngiadau ar ynnau aer fel rhan o’i raglen waith ar gyfer eleni. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn cynnal ymchwiliad i ddeddfwriaeth drylliau, yn cynnwys y deddfau sydd yn rheoli gynnau aer ac mae’n derbyn cyngor ysgrifenedig ar hyn o bryd. Ni ddaethpwyd at fy nghwestiwn i ar bapur y drefn heddiw, oedd yn gofyn sut y byddai’r Cynulliad yn dylanwadu ar hynny. Felly gofynnaf i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol, yn ei sylwadau wrth gloi, dderbyn difrifoldeb y mater hwn a chwilio am ffyrdd i’r Cynulliad allu cyflwyno canllawiau i’r partneriaethau diogelwch cymuned mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i ddeddfwriaeth drylliau sydd yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref.

We must be proactive in our approach to this issue and show that the Assembly has its teeth into it and can contribute towards improving community safety for those who we represent.

Rhaid inni fod yn rhagweithiol yn ein hymagwedd at y mater hwn a dangos bod y Cynulliad wedi mynd i’r afael ag ef a’i fod yn gallu cyfrannu at wella diogelwch yn y gymuned i’r rhai yr ydym yn eu cynrychioli.

Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 52

Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 52

This has been an interesting and useful debate on a very important subject. It is something that touches on the lives of all of us in Wales and I am glad to have the opportunity to hear Members’ opinions. The Assembly has a key role to play in combating crime and I welcome the responsibility given to me for this important cross-cutting issue.

Bu hon yn ddadl ddiddorol a buddiol ar bwnc pwysig iawn. Mae’n rhywbeth sydd yn cyffwrdd bywydau pob un ohonom yng Nghymru ac yr wyf yn falch o gael y cyfle i glywed barn yr Aelodau. Mae gan y Cynulliad rôl allweddol i’w chwarae wrth ymladd yn erbyn troseddu a chroesawaf y cyfrifoldeb a roddwyd i mi dros y mater trawsbynciol pwysig hwn.

Serving as a magistrate in the past has made me painfully aware of the scale of the problems and of the devastation that crime brings to offenders’ victims, their families and communities. Too many youngsters fall prey to crime and waste their potential. Our aim must be to prevent them from offending in the first place, by developing programmes of action that provide opportunities, challenges, and above all, hope. We must build safer communities by tackling the root causes of social deprivation and revitalise our economy. We are well placed to do this. The Assembly is able to influence the social and economic agendas for Wales, while those directly responsible for law enforcement and crime prevention are operating with the support of the strong and practical legislation in the Crime and Disorder Act 1998. Local crime and disorder reduction strategies will make a big difference. I am sure that Members wish to give them every support and encouragement, especially in their own constituencies because everyone has been touched by this problem.

Ar ôl gwasanaethu fel ynad yn y gorffennol yr wyf yn boenus o ymwybodol o faint y problemau ac o’r distryw a ddaw yn sgîl troseddu i’r rhai sydd yn dioddef dan law troseddwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae gormod o bobl ifainc yn mynd yn ysglyfaeth i droseddu ac yn afradu eu potensial. Rhaid inni anelu at geisio eu hatal rhag troseddu yn y lle cyntaf, drwy ddatblygu rhaglenni gweithredu sydd yn darparu cyfleoedd, sialensau ac, uwchlaw pob dim, gobaith. Rhaid inni adeiladu cymunedau mwy diogel drwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol amddifadedd cymdeithasol ac adfywio ein heconomi. Yr ydym mewn sefyllfa dda i wneud hyn. Mae’r Cynulliad yn gallu dylanwadu ar yr agendâu cymdeithasol ac economaidd ar gyfer Cymru, tra bydd y rhai sydd yn uniongyrchol gyfrifol am orfodi’r gyfraith ac atal troseddu yn gallu gweithredu gyda chefnogaeth deddfwriaeth gref ac ymarferol yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Bydd strategaethau lleihau trosedd ac anhrefn lleol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yr wyf yn sicr bod yr Aelodau’n dymuno rhoi pob cefnogaeth ac anogaeth iddynt, yn enwedig yn eu hetholaethau eu hunain oherwydd mae’r broblem hon wedi cyffwrdd pawb.

Working in partnership is crucial. No single organisation or individual at a local or national level can change things on its own. The need for us to follow a partnership approach has been reflected in Members’ comments this afternoon. My responsibility for local government makes me acutely aware of the vital role of local authorities in a wide range of activities. We cannot succeed without them. Our close involvement with many of the key partners who work locally makes it fitting that we should seek the designation of the Assembly under the Crime and Disorder Act 1998, as the motion proposes. This will give the Assembly a more clearly defined role that will be welcomed by those already engaged in crime reduction in Wales.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn holl bwysig. Ni all yr un corff neu unigolyn ar lefel leol neu genedlaethol newid pethau ar ei ben ei hun. Fe welir yr angen inni ddilyn dull partneriaeth yn sylwadau’r Aelodau brynhawn heddiw. Mae’r cyfrifoldeb sydd gennyf dros lywodraeth leol yn golygu fy mod yn ymwybodol iawn o rôl hanfodol awdurdodau lleol mewn amrediad eang o weithgareddau. Ni allwn lwyddo hebddynt. Mae ein cysylltiad agos â llawer o’r partneriaid allweddol sydd yn gweithio’n lleol yn golygu ei bod yn briodol inni geisio dynodi’r Cynulliad o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, fel y mae’r cynnig yn nodi. Bydd hyn yn rhoi rôl fwy eglur i’r Cynulliad a groesewir gan y rhai sydd eisoes yn gysylltiedig â lleihau troseddu yng Nghymru.

David Davies spoken in English p. 53

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

I tabled questions earlier today to the First Secretary about the number of police officers on the beat. I was informed that these questions would not be answered because responsibility for these matters has not been devolved. Does the Secretary for the Environment and Local Government agree that it would be helpful, if the Assembly is to play a role in combating crime, if questions like this could be answered either by the First Secretary or by yourself?

Cyflwynais gwestiynau’n gynharach heddiw i’r Prif Ysgrifennydd ynghylch nifer y swyddogion heddlu ar eu rhawd. Cefais wybod na roddir ateb i’r cwestiynau hyn am nad yw’r cyfrifoldeb dros y materion hyn wedi ei ddatganoli. A yw Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn cytuno y byddai o gymorth, os yw’r Cynulliad i chwarae rôl wrth ymladd troseddu, pe bai’r Prif Ysgrifennydd neu chi’ch hun yn gallu ateb cwestiynau o’r fath?

Peter Law spoken in English p. 54

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 54

I do not agree with you because it is not a devolved matter and there is no point embarking on something over which we have no jurisdiction. We have to work in partnership to make our streets and communities safer. That is what this protocol addresses. Your questions are a matter for the Home Secretary.

Ni chytunaf â chi oherwydd nid yw’n fater a ddatganolwyd ac nid oes diben dechrau gwneud rhywbeth nad oes gennym awdurdod drosto. Rhaid inni weithio mewn partneriaeth i wneud ein strydoedd a’n cymunedau’n fwy diogel. Dyna sydd dan sylw yn y protocol hwn. Mae eich cwestiynau’n fater i’r Ysgrifennydd Cartref.

The clearly defined role suggested here will be welcomed by those already engaged in crime reduction in Wales. We shall continue to work closely with ministerial colleagues in the Home Office with whom we have an excellent relationship. However, the designation will enable us to engage far more in the vital work in Wales that has to be done. Ongoing partnership working with the Home Office and the Youth Justice Board will help ensure their policies and initiatives are relevant to Wales.

Rhoddir croeso i’r rôl eglurach a awgrymir yma ymhlith y rhai sydd eisoes yn gysylltiedig â lleihau troseddu yng Nghymru. Parhawn i weithio’n agos gyda chydweithwyr gweinidogol yn y Swyddfa Gartref y mae gennym berthynas ragorol â hwy. Fodd bynnag, fe fydd y dynodiad yn ein galluogi i ymwneud yn helaethach o lawer â’r gwaith hanfodol yng Nghymru y mae’n rhaid ei gyflawni. Bydd y gwaith parhaus mewn partneriaeth â’r Swyddfa Gartref a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn helpu i sicrhau bod eu polisïau a’u mentrau yn berthnasol i Gymru.

Wales has already benefited from such additional working. Additional resources of some £4.4 million has been made available this year by the Youth Justice Board to Welsh Agencies for bail support projects and programmes aimed at tackling and preventing youth offending. In addition, we can expect a fair proportion of the £400 million crime reduction programme to come to Wales. This is a substantial resource which will offer partnerships the means to try new solutions. Welsh projects are already attracting over £1 million under the programme and, with announcements on intervention work in schools and CCTV due later this year, this will rise substantially before the end of the year.

Mae Cymru wedi elwa eisoes ar waith ychwanegol o’r fath. Mae adnoddau ychwanegol o tua £4.4 miliwn wedi eu darparu eleni gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i Asiantaethau yng Nghymru ar gyfer prosiectau a rhaglenni cefnogi mechnïaeth sydd â’r nod o ymdrin â throseddu ymysg yr ifanc a’i atal. Yn ogystal â hynny, gallwn ddisgwyl derbyn cyfran deg o £400 miliwn y rhaglen lleihau troseddu yng Nghymru. Mae’r rhain yn adnoddau helaeth a fydd yn fodd i bartneriaethau roi cynnig ar atebion newydd. Mae prosiectau Cymreig eisoes yn denu dros £1 miliwn o dan y rhaglen a, gyda’r cyhoeddiadau ar waith ymyrryd mewn ysgolion a theledu cylch cyfyng sydd i ddod yn ddiweddarach eleni, bydd hyn yn cynyddu’n sylweddol cyn diwedd y flwyddyn.

This has been an informed debate and a number of amendments to the motion have been considered. I cannot support Helen Mary Jones’s first two amendments. Although considerations of human rights are important we must build communities where everyone feels safe and is free from annoyance and nuisance.

Bu hon yn ddadl gytbwys a rhoddwyd ystyriaeth i nifer o welliannau i’r cynnig. Ni allaf gefnogi dau welliant cyntaf Helen Mary Jones. Er bod ystyriaethau o ran hawliau dynol yn bwysig rhaid inni adeiladu cymunedau lle y mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd oddi wrth aflonyddwch a niwsans.

Helen Mary Jones spoken in English p. 55

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 55

Is Peter Law convinced that police officers picking up seven and eight-year-old children off the streets and delivering them back to dysfunctional homes, is likely to contribute to the aim you are outlining?

A yw Peter Law yn argyhoeddedig y bydd codi plant saith ac wyth oed oddi ar y strydoedd gan swyddogion heddlu a’u hebrwng yn ôl i gartrefi camweithredol, yn debygol o gyfrannu at y nod yr ydych yn ei amlinellu?

Peter Law spoken in English p. 55

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 55

You have to take a realistic approach to this. These orders are to be used sparingly if at all. We have children who are at risk in the community if they are left on the streets. All these preventative initiatives are looking after their interests. We have a duty to all aspects of the community. That is a great over reaction.

Rhaid ichi ystyried hyn mewn modd ymarferol. Nid yw’r gorchmynion hyn i’w defnyddio yn aml iawn os o gwbl. Mae gennym blant sydd mewn perygl yn y gymuned os gadewir hwy ar y strydoedd. Mae pob un o’r mentrau ataliol hyn yn fodd i ymorol am eu buddiannau. Mae gennym ddyletswydd at bob ochr o’r gymuned. Gorymateb dybryd yw hynny.

Jenny Randerson spoken in English p. 55

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 55

As one ex-magistrate to another, I am concerned that aspects of this legislation are not intended to be used. Are you not afraid that you might be falling into the trap of the past ages when the solution was to increase the number of penalties? However, I am sure that you agree that the certainty of being caught if you commit a crime is the problem. Teenagers who trouble elderly people are the concern in communities. The problem with young people is the certainty and swiftness with which those who commit crimes come to court. The speed of dealing with them is an important issue and for that we need more resources and not more laws.

Gan siarad fel un cyn-ynad wrth un arall, yr wyf yn bryderus bod agweddau ar y ddeddfwriaeth hon nad oes bwriad eu defnyddio. Onid oes ofn arnoch ddisgyn i fagl yr hen oes pan ystyriwyd mai cynyddu nifer y cosbau oedd yr ateb? Fodd bynnag, yr wyf yn sicr y cytunwch mai’r sicrwydd o gael eich dal os cyflawnwch dramgwydd yw’r broblem. Pobl ifainc yn eu harddegau sydd yn aflonyddu ar bobl oedrannus yw’r pryder mewn cymunedau. Y broblem gyda phobl ifainc yw’r sicrwydd a’r cyflymder wrth ddod â’r rhai sydd yn cyflawni troseddau i’r llys. Mae’r cyflymder wrth eu trafod yn fater pwysig ac ar gyfer hynny mae arnom angen mwy o adnoddau ac nid mwy o ddeddfau.

Peter Law spoken in English p. 55

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 55

Each of these measures is there to help individuals, parents and the community. They are a matter for interpretation under the law by the Magistrates Court because magistrates will decide these issues. It is right that they are there because of what I previously said about the need to make sure that children are protected in the community and that the community in general is protected.

Mae pob un o’r mesurau hyn yn bod er mwyn helpu unigolion, rhieni a’r gymuned. Maent yn fater i’w dehongli o dan y gyfraith gan Lys yr Ynadon oherwydd ynadon fydd yn penderfynu’r materion hyn. Mae’n briodol eu bod yno oherwydd yr hyn a ddywedais o’r blaen am yr angen i sicrhau bod plant wedi eu hamddiffyn yn y gymuned a bod y gymuned yn gyffredinol wedi ei hamddiffyn.

I mentioned earlier that the First Secretary had explained that the National Assembly adheres to the European Convention and to the Human Rights Act 1998 and there is no breach of that legislation in these child curfew orders. I accept that your third amendment is correct: it is the National Assembly for Wales. I also accept your fourth amendment.

Fe ddywedais yn gynharach fod y Prif Ysgrifennydd wedi egluro bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cadw at y Cytundeb Ewropeaidd ac at Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ac nad oes dim yn y gorchmynion cyrffyw plant hyn sydd yn groes i’r ddeddfwriaeth honno. Derbyniaf fod eich trydydd gwelliant yn gywir: Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydyw. Yr wyf hefyd yn derbyn eich pedwerydd gwelliant.

None of us would disagree with the need for measures to combat social exclusion that will have a positive impact on crime. This addresses the first part of Peter’s amendment. I was very impressed when I heard of Peter’s experience in the back of a police car. It bought all kinds of scenarios to mind. I am sure however, that it was a useful initiative and you should be commended on it.

Ni fyddai’r un ohonom yn anghytuno â’r angen am fesurau i ymladd dieithrwch cymdeithasol a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar droseddu. Mae hyn yn ymwneud â rhan gyntaf gwelliant Peter. Gwnaethpwyd argraff fawr arnaf wrth glywed am brofiad Peter yng nghefn car heddlu. Daeth â phob math o olygfeydd i’r meddwl. Yr wyf yn sicr, fodd bynnag, fod hynny’n fenter fuddiol ac yr ydych i’ch canmol o’r herwydd.

Your useful example should be followed by all Members of the Assembly. If members have not been out with the local police it would be a very useful initiative for them to undertake. I have referred to the additional resources that are coming to Wales from the Youth Justice Board’s development fund. Peter mentioned some of them and Members need to know this. For the City and County of Swansea £323,000 is being made available. When one takes into account Partnership Funding of £650,000, the total scheme is worth £973,000. In mid Wales it is £184,000 which, with Partnership Funding comes to £295,000. I am sure Nick will be particularly interested in that. Carmarthenshire, a name I use with great respect—

Dylai holl Aelodau’r Cynulliad ddilyn eich esiampl ddefnyddiol. Os na fu’r Aelodau allan gyda’r heddlu lleol fe fyddai hynny’n fenter ddefnyddiol iawn iddynt. Cyfeiriais at yr adnoddau ychwanegol sydd yn dod I Gymru o gronfa ddatblygu’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Soniodd Peter am rai ohonynt ac mae angen i’r Aelodau wybod am hyn. Mae £323,000 i’w ddarparu i Ddinas a Sir Abertawe. Pan ystyrir y Cyllid Partneriaeth o £650,000, mae’r cynllun cyfan yn werth £973,000. Yng nghanolbarth Cymru mae’n £184,000 sydd, gyda’r Cyllid Partneriaeth, yn gwneud £295,000. Yr wyf yn sicr y bydd gan Nick ddiddordeb arbennig yn hynny. Sir Gaerfyrddin, enw a ynganaf â pharch mawr—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 56

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 56

Order. We are taking time out of the subject and debate.

Trefn. Yr ydym yn crwydro oddi wrth y pwnc a’r ddadl.

Peter Black spoken in English p. 57

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 57

The figures that you have read out, although correct, are actually spread out over a period of three years. They do not, therefore, amount to the sort of figures which you are implying.

Mae’r ffigurau a ddarllenasoch, er eu bod yn gywir, yn ymestyn dros gyfnod o dair blynedd. Nid ydynt, felly, yn gymaint â’r ffigurau yr ydych yn eu hawgrymu.

Peter Law spoken in English p. 57

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 57

I can think of many areas that would like to have that type of funding available to deal with such important initiatives. It is over spread over a three year period but it is nearly a million pounds with match funding. I hoped you would have been pleased to hear about this bearing in mind your continual comments about various initiatives for the Swansea area. Carmarthenshire, a name that I respect very much, was awarded £76,000 giving a total of £143,000 with match funding. TEC in south east Wales put forward a special strategy which was awarded over a million pounds. These are the sort of initiatives that have been put forward and which we have benefited in funding under the Youth Justice Board’s development fund. Members need to be aware of that because we are receiving a good share of the resources available because we have difficulties and problems to deal with. I was glad to hear Peter welcoming those initiatives—despite his questioning of the period of the funding—and referring positively to the Secure by Design scheme re-launched by the First Secretary yesterday. It has an important part to play as far as partnerships are concerned.

Gallaf feddwl am lawer o feysydd a fyddai’n hoffi derbyn y math hwnnw o arian sydd ar gael i ymdrin â mentrau mor bwysig. Mae wedi ei ymestyn dros gyfnod o dair blynedd ond mae bron yn filiwn o bunnoedd gydag arian cyfatebol. Yr oeddwn wedi gobeithio y byddech yn falch o glywed am hyn o gofio’ch sylwadau parhaus am wahanol fentrau ar gyfer ardal Abertawe. Mae Sir Gaerfyrddin, enw yr wyf yn ei barchu’n fawr iawn, wedi derbyn dyraniad o £76,000 sydd yn gwneud cyfanswm o £143,000 gydag arian cyfatebol. Yr oedd CHM yn ne ddwyrain Cymru wedi cyflwyno strategaeth arbennig y dyfarnwyd dros filiwn o bunnoedd ar ei chyfer. Dyma’r math o fentrau a gyflwynwyd ac a dderbyniodd gyllid gennym o dan gronfa ddatblygu’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae angen i’r Aelodau fod yn ymwybodol o hynny oherwydd yr ydym yn derbyn cyfran dda o’r adnoddau sydd ar gael am fod gennym anawsterau a phroblemau i’w trafod. Yr oedd yn dda gennyf glywed Peter yn croesawu’r mentrau hyn—er gwaethaf ei amheuon ynghylch cyfnod yr ariannu—ac yn cyfeirio’n gadarnhaol at y cynllun Diogelwch Drwy Gynllunio a ail-lansiwyd gan y Prif Ysgrifennydd ddoe. Mae iddo ran bwysig i’w chwarae mewn perthynas â’r partneriaethau.

Peter’s fourth point was about the CCTV initiative within the Crime Reduction Programme and his third point referred to the excellent work being undertaken by our police forces .This was also underlined by Nick’s comments about the police’s good work. I know of no plans to downscale that good work and I am sure that all of us in this Chamber will commend the police forces of Wales on their excellent efforts to make our communities safer. I cannot answer all of the points that were mentioned. I respect Alison’s points and her professional background but many of the points were not on devolved matters, and as such are for the Home Office. Partnership in this protocol is very much in the interest of the people of Wales and will help make our communities safer. In his letter which was on the internet yesterday, the First Secretary referred to the potential to make a significant impact if we go along with this protocol. It is right for the people of Wales that we adopt this protocol and support it fully.

Yr oedd y pedwerydd pwynt a oedd gan Peter yn ymwneud â’r fenter teledu cylch cyfyng o fewn y Rhaglen Lleihau Troseddu ac yr oedd ei drydydd pwynt yn cyfeirio at y gwaith rhagorol a gyflawnir gan ein heddluoedd. Yr oedd sylwadau Nick am waith da’r heddlu yn tanlinellu hyn hefyd. Ni wn am unrhyw fwriad i leihau’r gwaith da hwnnw ac yr wyf yn sicr y bydd pawb ohonom yn y Siambr hon yn canmol heddluoedd Cymru ar eu hymdrechion rhagorol i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Ni allaf ateb yr holl bwyntiau a grybwyllwyd. Parchaf y pwyntiau a oedd gan Alison a’i chefndir proffesiynol ond yr oedd llawer o’r pwyntiau’n ymwneud â materion sydd heb eu datganoli, ac fel y cyfryw maent yn fater i’r Swyddfa Gartref. Bydd y bartneriaeth yn y protocol hwn er budd mawr i bobl Cymru a bydd yn helpu i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Yn ei lythyr a oedd ar y rhyngrwyd ddoe, cyfeiriodd y Prif Ysgrifennydd at y potensial i gael effaith sylweddol os cytunwn â’r protocol hwn. Mae’n iawn i bobl Cymru inni fabwysiadu’r protocol hwn a’i gefnogi’n llawn.

It is timely that the Home Office has released today the recorded crime statistics for England and Wales. This year the figures show a 1.4 per cent fall in crime. That is because this Government has tightened the rules on police statistics and made them consistent across the country. Actual crime trends are downwards for the majority of offences, although the rate of decline has been slowing over the last five years. Therefore we must guard against complacency and hold fast to an absolute commitment to build safer communities.

Mae’n amserol mai heddiw y cyhoeddodd y Swyddfa Gartref yr ystadegau am droseddau a gofnodwyd ar gyfer Cymru a Lloegr. Eleni mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad o 1.4 y cant mewn troseddu. Y rheswm am hynny yw bod y Llywodraeth hon wedi tynhau’r rheolau ar ystadegau’r heddlu ac wedi eu cysoni ar draws y wlad. Mae’r gwir dueddiadau troseddu yn disgyn yn achos y rhan fwyaf o dramgwyddau er bod y gyfradd o ostyngiad wedi arafu dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, rhaid inni ymochel rhag difaterwch a glynu wrth benderfyniad llwyr i adeiladu cymunedau mwy diogel.

I welcome several of the points made. Pauline made positive points on partnership between the voluntary sector and local authorities. I am sure we all welcome and endorse such partnerships. She also mentioned young people’s understanding of citizenship. It is important to put on record that £25 million has gone into the children and youth partnership programme and £4.5 million into the drug and alcohol treatment fund. For every £1 spent on drug misuse treatment, there is a saving of over £3 in terms of the cost to victims of crime and reduced demands on the criminal justice system. The First Secretary highlighted that well in his opening speech.

Croesawaf nifer o’r pwyntiau a wnaethpwyd. Gwnaeth Pauline bwyntiau cadarnhaol ar bartneriaeth gyda’r sector gwirfoddol a’r awdurdodau lleol. Yr wyf yn sicr ein bod oll yn croesawu ac yn cefnogi partneriaethau o’r fath. Soniodd hefyd am y ddealltwriaeth o ddinasyddiaeth ymysg pobl ifainc. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod fod £25 miliwn wedi mynd i’r rhaglen partneriaeth plant a phobl ifainc a £4.5 miliwn i’r gronfa triniaeth cyffuriau ac alcohol. Am bob £1 sydd yn cael ei gwario ar drin camddefnydd o gyffuriau, arbedir dros £3 o ran y gost i’r rhai sydd yn dioddef oddi wrth droseddu a’r galwadau llai ar y system cyfiawnder troseddol. Pwysleisiwyd hynny’n dda gan y Prif Ysgrifennydd yn ei araith agoriadol.

I share Jane Davidson’s concern about air guns and the problems they cause for the people of Wales on a day to day basis. However, it is a matter for the Home Secretary, not the Assembly. As the Home Affairs Select Committee is taking further evidence on firearms until 14 October, I hope there will be an opportunity to make our comments to them. It is an important subject and it behoves us all to ensure that those who walk our streets are safe and protected from some of the awful experiences related by Jane.

Rhannaf bryder Jane Davidson ynghylch gynnau aer a’r problemau a achosant I bobl Cymru o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae hyn yn fater i’r Ysgrifennydd Cartref, nid y Cynulliad. Gan fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn derbyn tystiolaeth bellach ar ddrylliau tan 14 Hydref, gobeithiaf y bydd cyfle inni gyflwyno ein sylwadau iddynt. Mae’n bwnc pwysig ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau bod y rhai sydd yn cerdded ar ein strydoedd yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn oddi wrth rai o’r profiadau ofnadwy y soniodd Jane amdanynt.

In conclusion, the Assembly must, can and is ideally placed to address crime and disorder. We must ensure that reducing crime is a consideration in everything we do and give it the prominence it deserves. Partnership is the key to success. The statutory partnerships will make significant inroads into local problems. When the Assembly is designated under the Act, we can engage fully in partnership and give this work the support and encouragement it deserves. The British crime statistics, published today, show that there has been a reduction in the notifiable offences recorded by the police in three of the police authority areas in Wales. In south Wales, that reduction is 6.1 per cent. That is pleasing to hear. Dyfed-Powys has seen a reduction of 0.8 per cent and north Wales a reduction of 0.54 per cent. There was a slight increase, 0.7 per cent, in Gwent. However, in Wales as a whole we are on the right track.

I derfynu, mae rheidrwydd ar y Cynulliad, ac mae’r gallu a’r cyfle perffaith ganddo, i ymdrin â throseddu ac anhrefn. Rhaid inni sicrhau bod lleihau troseddu yn ystyriaeth ym mhob dim a wnawn gan roi iddo’r amlygrwydd dyladwy. Partneriaeth yw’r allwedd i lwyddiant. Bydd y partneriaethau statudol yn cael effaith sylweddol ar broblemau lleol. Pan ddynodir y Cynulliad o dan y Ddeddf, gallwn gymryd rhan gyflawn mewn partneriaeth a rhoi’r gefnogaeth a’r anogaeth ddyladwy i’r gwaith hwn. Mae ystadegau troseddu Prydain, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod gostyngiad yn y tramgwyddau hysbysadwy a gofnodwyd gan yr heddlu mewn tair o’r ardaloedd awdurdod heddlu yng Nghymru. Yn ne Cymru, mae’r gostyngiad hwnnw yn 6.1 y cant. Mae’n dda clywed hynny. Yn Nyfed-Powys gwelwyd gostyngiad o 0.8 y cant a gostyngiad yng ngogledd Cymru o 0.54 y cant. Bu cynnydd bychan, 0.7 y cant, yng Ngwent. Fodd bynnag, yng Nghymru gyfan yr ydym ar y llwybr iawn.

Let us all pledge our commitment to build a safer Wales and to work in partnership, and endorse the motion before us.

Gadewch inni addunedu ein hymrwymiad i adeiladu Cymru sydd yn fwy diogel ac i weithio mewn partneriaeth, a chefnogi’r cynnig sydd ger ein bron.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 59

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 59

We will now vote on the first amendment standing in the name of Helen Mary Jones.

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd yn enw Helen Mary Jones.

Gwelliant 1 Helen Mary Jones t. 59

Amendment 1 Helen Mary Jones p. 59

GwrthodwydRejected Drwy ddangos dwyloShow of hands

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 59

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 59

We will now vote on the second amendment standing in the name of Helen Mary Jones.

Pleidleisiwn yn awr ar yr ail welliant a gyflwynwyd yn enw Helen Mary Jones.

Gwelliant 2 Helen Mary Jones t. 59

Amendment 2 Helen Mary Jones p. 59

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 60

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 60

I am in doubt as to the result. I will therefore call for a confirmatory vote, which will be conducted by roll-call.

Nid wyf yn sicr o’r canlyniad. Galwaf felly am bleidlais gadarnhau, a gynhelir drwy alw’r gofrestr.

Gwelliant 2 Helen Mary Jones t. 60

Amendment 2 Helen Mary Jones p. 60

GwrthodwydRejected O blaidFor 21 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 36

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (21)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Jenny Randerson
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Jane Davidson
Yn erbynAgainst (36)
  • Lorraine Barrett
  • Nick Bourne
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 60

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 60

We will now vote on the third amendment standing in the name of Helen Mary Jones.

Pleidleisiwn yn awr ar y trydydd gwelliant a gyflwynwyd yn enw Helen Mary Jones.

Gwelliant 3 Helen Mary Jones t. 60

Amendment 3 Helen Mary Jones p. 60

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 61

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 61

We will now vote on the fourth amendment standing in the name of Helen Mary Jones.

Pleidleisiwn yn awr ar y pedwerydd gwelliant a gyflwynwyd yn enw Helen Mary Jones.

Gwelliant 4 Helen Mary Jones t. 61

Amendment 4 Helen Mary Jones p. 61

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 61

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 61

We will now vote on the amendment standing in the name of Peter Black.

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Peter Black.

Gwelliant 5 Peter Black t. 61

Amendment 5 Peter Black p. 61

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 61

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 61

I am in doubt as to the result. I will therefore call for a confirmatory vote, which will be conducted by roll-call.

Nid wyf yn sicr o’r canlyniad. Galwaf felly am bleidlais gadarnhau, a gynhelir drwy alw’r gofrestr.

Gwelliant 5 Peter Black t. 61

Amendment 5 Peter Black p. 61

DerbyniwydAdopted O blaidFor 29 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 28

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (29)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Jane Davidson
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Edwina Hart spoken in English p. 62

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 62

Point of order. You indicated that the total came to 58. However, we already know that there is one person absent and so it cannot possibly come to 58.

Pwynt o drefn. Yr oeddech wedi nodi bod y cyfanswm yn 58. Fodd bynnag, fe wyddom eisoes fod un yn absennol felly nid oes modd iddo fod yn 58.

Nick Bourne spoken in English p. 62

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 62

The Finance Secretary cannot add up, so she makes it 57.

Ni all yr Ysgrifennydd Cyllid adio, felly mae hi’n cael 57.

Edwina Hart spoken in English p. 62

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 62

I was simply making a point that it cannot come to 58.

Nid oeddwn ond yn nodi na all fod yn 58.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 62

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 62

For the avoidance of doubt and counting all absences and abstentions and those not voting, I would like to repeat the result, which is

yn Saesneg Er mwyn osgoi amheuaeth a chan gyfrif pawb sydd yn absennol ac yn ymatal a’r rhai nad ydynt yn pleidleisio, hoffwn ailadrodd y canlyniad, sef

O blaid 29, yn erbyn 28, ymatal 1, cyfanswm 58.

in Welsh For 29, against 28, abstain 1, total 58.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 62

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 62

We will now vote on the amended motion, that the Assembly

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio, sef bod y Cynulliad

places high priority on policies and initiatives which contribute to the reduction of crime and anti-social behaviour;

yn rhoi blaenoriaeth uchel i bolisïau a mentrau sydd yn cyfrannu at leihau troseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol;

supports the Home Office and the Youth Justice Board in promoting full implementation of the provisions of the Crime and Disorder Act 1998;

yn cefnogi ymdrechion y Swyddfa Gartref a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i roi holl ddarpariaethau Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ar waith;

welcomes the proposal to designate the National Assembly for Wales as having a role in crime reduction within the locus of that Act;

yn croesawu’r cynnig i ddynodi bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rôl i’w chwarae i leihau troseddau o fewn locws y Ddeddf honno;

commits itself to the development of vigorous programmes of action designed to prevent offending, especially amongst the young and to take account of the need to ‘design out crime’ while determining its policies and programmes, such programmes to include measures designed to combat social exclusion, which is a major factor in creating a culture of crime;

yn ymrwymo i ddatblygu rhaglenni gweithredu egnïol i atal troseddu, yn enwedig ymhlith yr ifanc ac i gymryd i ystyriaeth yr angen i ‘gynllunio troseddu allan’ wrth benderfynu ar ei bolisïau a’i raglenni, a’r cyfryw raglenni i gynnwys mesurau sydd â’r nod o fynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol, sydd yn ffactor o bwys o ran creu diwylliant o droseddu;

recognises that social exclusion is a major cause of crime;

yn cydnabod bod dieithrwch cymdeithasol yn un o brif achosion troseddu;

regrets the lack of additional resources provided to support the establishment of Youth Offender Teams and Crime Reduction Partnerships;

yn gresynu at y ffaith na ddarparwyd mwy o adnoddau i gynorthwyo sefydlu Timau Troseddwyr Ifanc a Phartneriaethau Lleihau Troseddu;

supports the extension of Home Crime Prevention Survey schemes throughout Wales, and

yn cefnogi ymestyn cynlluniau Arolwg Atal Troseddau yn y Cartref i bob cwr o Gymru; ac

supports the introduction of closed circuit television to major crime spots in Wales and its proper monitoring through the current code of guidance, where local people support it and where there is adequate police resource to support its use.

yn cefnogi cyflwyno teledu cylch cyfyng i fannau yng Nghymru lle y mae llawer o droseddu a’i fonitro’n briodol drwy’r cod canllawiau presennol, pan fo’r bobl leol yn ei gefnogi a phan fo digon o adnoddau ar gael gan yr heddlu i ategu’r defnydd a wneir ohono.

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

I think that the motion is adopted.

Credaf fod y cynnig wedi ei dderbyn.

Andrew Davies spoken in English p. 63

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 63

Can you call for the abstentions also please?

A allwch alw am y rhai a ymataliodd hefyd, os gwelwch yn dda?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

Yes. I therefore call for a confirmatory vote on the amended motion, which will be conducted by roll-call.

Gallaf. Galwaf felly am bleidlais gadarnhau ar y cynnig wedi’i ddiwygio, a gynhelir drwy alw’r gofrestr.

GwrthodwydRejected O blaidFor 15 YmatalAbstain 26 Yn erbynAgainst 15

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (15)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Christine Humphreys
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Kirsty Williams
YmatalAbstain (26)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
Yn erbynAgainst (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 64

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 64

Yr wyf finnau yn defnyddio fy mhleidlais yn ôl Rheol Sefydlog Rhif 1.12 yn erbyn, gan fod angen mwyafrif positif dros unrhyw beth y mae’r Cynulliad yn pleidleisio drosto.

Under Standing Order No. 1.12, I am using my vote against since a positive majority is needed for anything for which the Assembly votes.

Cynllun Cymorth Prosesu Lloi

Calf Processing Aid Scheme

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 64

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 64

I have selected three identical amendments in the names of Dafydd Wigley, Michael German and Nick Bourne, which I have grouped together.

Yr wyf wedi dethol tri gwelliant yr un fath yn enwau Dafydd Wigley, Michael German a Nick Bourne ac yr wyf wedi eu grwpio gyda’i gilydd.

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 64

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 64

I propose that

Cynigiaf fod

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development (continued) spoken in English p. 65

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 65

I know we do not have a lot of time and I will try not to waffle and hope that others do the same. I believe that we are all united in our disappointment that we have been unable to persuade the European Commission to adopt our calf scheme. We have pushed hard and I do not think anyone could have done more to get the scheme through. Since we debated this last Thursday, Nick Brown has written on our behalf to Commissioner Fischler. Only political pressure at that level stands any chance of bringing flexibility to the rules that are frustrating us, and even then the chances are slim. No reply to that letter has been received.

Gwn nad oes gennyf lawer o amser a cheisiaf beidio â gwag-siarad gan obeithio y bydd eraill yn gwneud yr un fath. Credaf ein bod i gyd yn siomedig inni fethu â pherswadio’r Comisiwn Ewropeaidd i dderbyn ein cynllun lloi. Yr ydym wedi pwyso’n galed ac ni chredaf y gallai neb wneud mwy i geisio mynd â’r cynllun drwodd. Ers inni drafod hyn ddydd Iau diwethaf, mae Nick Brown wedi ysgrifennu ar ein rhan at y Comisiynydd Fischler. Dim ond pwysau gwleidyddol ar y lefel honno sydd â’r gobaith o ddod â hyblygrwydd i’r rheolau sydd yn ein llesteirio, ac nid oes llawer o obaith wedyn chwaith. Ni dderbyniwyd ateb i’r llythyr hwnnw.

All parties in the Assembly have been aware from the outset that European approval for our calf scheme was far from certain. For those with a tendency to selective amnesia—

Mae’r holl bleidiau yn y Cynulliad yn ymwybodol o’r dechrau fod cymeradwyaeth Ewrop i’n cynllun lloi ymhell o fod yn sicr. I’r rhai sydd yn tueddu at anghofrwydd dethol—

David Davies spoken in English p. 65

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 65

Do you remember being quoted in The Western Mail as saying, ‘I am confident that we can do it’? If so, why the sudden surprise that it cannot be achieved?

A ydych yn cofio dyfyniad o’ch geiriau yn The Western Mail, sef ‘I am confident that we can do it’? Os felly, pam yr ydych yn sydyn yn synnu na ellir ei gyflawni?

Christine Gwyther spoken in English p. 65

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 65

The quote in The Western Mail and other quotes are that we can do it with funding from Wales. I was confident that I could get the money and that is what I have done. The money was not the problem; the approval was, as I think you know.

Y dyfyniad yn The Western Mail a’r dyfyniadau eraill yw y gallwn ei wneud gydag arian o Gymru. Yr oeddwn yn ffyddiog y gallwn gael yr arian a dyna’r hyn a wneuthum. Nid yr arian oedd y broblem; y broblem oedd cymeradwyo, fel y gwyddoch, yr wyf yn credu.

When the Agriculture and Rural Development Committee met on 15 September, it heard a full explanation of the hurdles that had to be jumped to secure approval for the scheme. It was made clear to the Committee that the calf processing aid scheme was a measure for member states, that there were no cases where it was run in part of a member state, and that the Assembly was trying to break new ground in seeking approval for the scheme to run in part of a member state. Our hopes were raised when Eurig Wyn was given hope from Commissioner Fischler. Subsequently Glenys Kinnock and Eluned Morgan were given a clear impression that a Wales only calf scheme would be possible.

Pan gyfarfu’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar 15 Medi, rhoddwyd eglurhad llawn am y rhwystrau y bydd yn rhaid eu goresgyn er mwyn cael cymeradwyaeth i’r cynllun. Rhoddwyd ar ddeall i’r Pwyllgor mai mesur i’r aelod wladwriaethau oedd y cynllun cymorth prosesu lloi, ac nad oedd enghreifftiau lle yr oedd wedi ei redeg mewn rhan o aelod wladwriaeth, a bod y Cynulliad yn ceisio torri tir newydd wrth geisio cymeradwyaeth i redeg y cynllun mewn rhan o aelod wladwriaeth. Codwyd ein disgwyliadau pan gynigiwyd gobaith I Eurig Wyn gan y Comisiynydd Fischler. Wedi hynny rhoddwyd argraff glir i Glenys Kinnock ac Eluned Morgan y byddai cynllun lloi i Gymru’n unig yn bosibl.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 66

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 66

Would Christine accept that the meeting with Eurig Wyn was held before any proposal for a calf processing aid scheme and that the meeting with Glenys Kinnock and Eluned Morgan was held afterwards?

A yw Christine yn derbyn bod y cyfarfod ag Eurig Wyn wedi ei gynnal cyn unrhyw gynnig am gynllun cymorth prosesu lloi a bod y cyfarfod â Glenys Kinnock ac Eluned Morgan wedi ei gynnal wedyn?

Christine Gwyther spoken in English p. 66

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 66

Of course I would. That was clearly documented in the media. Commissioner Fischler gave Welsh MEPs a clear impression that a calf scheme would be possible in principle for Wales only. That makes our disappointment all the greater. However, it does not mean that we were wrong to try in the first place. I would like to emphasise that.

Ydwyf, wrth gwrs. Fe gofnodwyd hynny’n glir ar y cyfryngau. Rhoddodd y Comisiynydd Fischler argraff glir i Aelodau Seneddol Ewropaidd Cymru y byddai cynllun lloi yn bosibl mewn egwyddor i Gymru’n unig. Mae hynny’n gwneud ein siom yn waeth. Fodd bynnag, nid yw’n golygu ein bod yn anghywir yn y lle cyntaf. Hoffwn bwysleisio hynny.

Those who are trying to make party political capital out of this also need to remember another rather inconvenient fact: Ross Finnie, the Liberal Democrat Minister for Agriculture in the Scottish Parliament had to admit defeat last Thursday in his attempt to gain approval from the European Commission for a cull ewe scheme. The Scots went through exactly the same process as we did in approaching the Commission. It gives me no pleasure at all that they have met with equal lack of success.

Rhaid i’r rhai sydd yn ceisio creu elw gwleidyddol o hyn gofio hefyd am un ffaith arall sydd braidd yn anghyfleus: bu’n rhaid i Ross Finnie, Gweinidog Amaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd yr Alban, gydnabod ddydd Iau diwethaf ei fod wedi methu yn ei ymgais i ennill cymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i gynllun difa mamogiaid. Aeth yr Albanwyr drwy union yr un broses â ni wrth gysylltu â’r Comisiwn. Nid wyf yn cael unrhyw foddhad o’r ffaith eu bod wedi methu i’r un graddau.

All this is a deep source of frustration, for me more than most. The dairy sector in Wales is in real crisis. However, we need to keep a sober and objective view of what the calf scheme would have done to help. The level of payment of £20 per calf was advocated by the National Farmers Union and others. It was designed to enable dairy calves with no market value to be disposed of humanely. That was an important objective. The NFU was always clear, however, that it would not boost farm incomes and it would have ended by the end of December. Those people who now pretend that its absence will make a material difference to the economic future of dairy farming in Wales are living in a land of make believe.

Mae hyn oll yn peri rhwystredigaeth fawr, i mi yn fwy na neb. Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn argyfwng gwirioneddol. Fodd bynnag, rhaid inni gadw golwg tawel a gwrthrychol ar yr hyn a wnâi’r cynllun lloi i helpu. Yr oedd y lefel taliadau o £20 y llo wedi ei chymell gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ac eraill. Y bwriad oedd ei gwneud yn bosibl i waredu lloi godro heb werth ar y farchnad mewn modd di-boen. Yr oedd hynny’n nod bwysig. Yr oedd yr NFU yn bendant, fodd bynnag, na fyddai’n hybu incwm ffermydd ac y byddai wedi dod i ben ddiwedd Rhagfyr. Mae’r bobl hynny sydd bellach yn cymryd arnynt fod mynd hebddo yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddyfodol economaidd ffermio llaeth yng Nghymryu yn byw mewn byd hud a lledrith.

I cannot support the amendment made to this motion. As I have said, prospects now look bleak but we should not give up on this scheme until Brussels unequivocally rejects it. Neither should we build up the hopes of Welsh farmers who want to know where they stand even if that is unpalatable.

Ni allaf gefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Fel y dywedais, mae’r rhagolygon yn ymddangos yn ddigalon bellach ond ni ddylem roi’r gorau i’r cynllun hwn nes bydd Brwsel yn ei wrthod yn ddiamod. Ar ben hynny, ni ddylem godi gobeithion ffermwyr yng Nghymru sydd am wybod beth fydd eu sefyllfa hyd yn oed os yw hynny’n annymunol.

However, my main reason for not accepting the amendment is not what it would add to the motion but rather what it would take away from it. It would remove any reference to this Assembly’s disappointment at the view now being taken by the European Commission, despite the earlier positive signals from Franz Fischler. It would also remove any reference to the broader context, the strategic approach to the problems and challenges facing Welsh agriculture on which we are building broad consensus within this Assembly. It is that positive agenda which I want to address.

Fodd bynnag, y prif reswm sydd gennyf dros beidio â derbyn y gwelliant yw nid yr hyn y byddai’n ei ychwanegu at y cynnig ond yr hyn y byddai’n ei gymryd oddi wrtho. Byddai’n tynnu unrhyw gyfeiriad at siom y Cynulliad ynghylch y safbwynt a gymerir yn awr gan y Comisiwn Ewropeaidd, er gwaethaf yr arwyddion cadarnhaol cynharach oddi wrth Franz Fischler. Byddai hefyd yn tynnu unrhyw gyfeiriad at y cyd-destun ehangach, yr ymagwedd strategol at y problemau a’r sialensau sydd yn wynebu amaethyddiaeth Cymru yr ydym yn adeiladu consensws eang yn eu cylch yn y Cynulliad hwn. Yr agenda gadarnhaol honno yr wyf am ymdrin â hi.

There are people, both outside and inside this Assembly, who question whether the Assembly has the real power to help Welsh agriculture. We need to distrust such voices and alarming signals. Many of these people never supported devolution in the first place. People who press the Assembly to provide short term panaceas for the deep seated problems of Welsh agriculture are being irresponsible. Such panaceas do not exist and it would be cruel to say that they do.

Mae yna bobl, y tu allan a’r tu mewn i’r Cynulliad hwn, sydd yn cwestiynu a oes gan y Cynulliad hwn bŵer gwirioneddol i helpu amaethyddiaeth Cymru. Ni ddylem ymddiried yn y fath leisiau a negeseuon brawychus. Nid oedd llawer o’r bobl hyn yn cefnogi datganoli yn y lle cyntaf. Mae’r rhai sydd yn pwyso ar y Cynulliad i ddarparu atebion tymor byr i broblemau sylfaenol amaethyddiaeth Cymru yn anghyfrifol. Nid yw atebion o’r fath yn bod a chreulon fyddai dweud fel arall.

The common agriculture policy is a highly centralised system and we have no option but to operate within its constraints. As we set out earlier this year in ‘Farming for the Future’, the main way which the Assembly can develop distinctive policies is through the tools provided by the Rural Development Regulation. For example, through support for the economic development of agriculture, food processing and marketing; through developing organic farming and agri-environmental schemes; through effective training and technology transfer to help farmers adapt; through the reform of the hill livestock compensatory allowances; through support for young entrants and the under development of the rural economy. None of these will provide short term quick fixes. How we all wish that they would. However, they can make a crucial difference to how Welsh agriculture will look in five and 10 years’ time. We need the maturity to focus on that long term agenda.

Mae’r polisi amaethyddol cyffredin yn system ganoledig iawn ac nid oes gennym ddewis ond gweithredu o fewn ei gyfyngiadau. Fel y bu inni nodi’n gynharach eleni, yn ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’, y brif ffordd y gall y Cynulliad ddatblygu polisïau neilltuol yw drwy’r dulliau a geir yn y Rheoliad Datblygu Gwledig. Er enghraifft, drwy gefnogi datblygiad economaidd amaethyddiaeth, prosesu bwyd a marchnata; drwy ddatblygu ffermio organig a chynlluniau amaeth-amgylcheddol; drwy hyfforddiant effeithiol a throsglwyddo technoleg er mwyn helpu ffermwyr i ymaddasu; drwy ddiwygio’r lwfansau iawndal da byw tir uchel; drwy gefnogi rhai sydd yn dechrau ffermio ac ymdrin â thanddatblygiad yr economi gwledig. Ni fydd yr un o’r rhain yn rhoi atebion sydyn tymor byr. Byddai’n dda gan bawb ohonom petaent. Fodd bynnag, fe allant wneud gwahaniaeth holl bwysig i wedd amaethyddiaeth Cymru ymhen pum neu 10 mlynedd. Rhaid inni wrth yr aeddfedrwydd i ganolbwyntio ar yr agenda dymor hir honno.

I am acutely conscious of the pressure that low milk prices now place on Welsh dairy farmers. We must be honest and recognise that the Assembly can do nothing to prevent the rationalisation of the structure of dairy farming. However, there are many steps we can and are taking to help the industry adapt and become a high quality, efficient, modern industry that can compete in the markets of the next century.

Yr wyf yn ymwybodol tu hwnt o’r pwysau y mae prisiau llaeth isel yn eu rhoi bellach ar ffermwyr llaeth Cymru. Rhaid inni fod yn onest a chydnabod na all y Cynulliad wneud dim i atal rhesymoli strwythur ffermio llaeth. Fodd bynnag, mae llawer o gamau y gallwn ac yr ydym yn eu cymryd i helpu’r diwydiant i addasu a dod yn ddiwydiant modern, effeithlon o safon uchel a all gystadlu ym marchnadoedd y ganrif nesaf.

The key priorities were set out in the action plan for the dairy sector, produced by an industry working group after substantial consultation and published in March this year. The key priorities are the processing of high value added dairy products, supported by better marketing and more efficient production by farmers themselves.

Nodwyd y blaenoriaethau allweddol yn y cynllun gweithredu i’r sector llaeth, a gynhyrchwyd gan weithgor o’r diwydiant ar ôl ymgynghori sylweddol ac a gynhyrchwyd ym Mawrth eleni. Y blaenoriaethau allweddol yw prosesu cynhyrchion llaeth â gwerth ychwanegol uchel, wedi ei ategu gan well marchnata a chynhyrchu mwy effeithlon gan y ffermwyr eu hunain.

The Welsh Development Agency is now working in partnership with the industry to take that plan forward. As part of this, the WDA is helping the industry to respond positively to the ending of the calf processing aid scheme. The WDA is working to support an initiative by Clynderwen Cardiganshire Farmers in association with Welsh Feed Producers and H.G. Lee and Oaks, who are working with ABP Abattoirs, to buy up surplus dairy calves and rear them as bull beef. This scheme enables farmers to rear their calves and sell them under contract at 12 months of age for slaughtering for beef burgers and mince. Officials from the Assembly and the WDA will also meet Serval, a French company which is showing an interest in this area, in Carmarthen later this week.

Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant yn awr i ddatblygu’r cynllun hwnnw. Fel rhan o hynny, mae’r Awdurdod yn helpu’r diwydiant i ymateb yn gadarnhaol i derfynu’r cynllun cymorth prosesu lloi. Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn gweithio i gynorthwyo menter gan Clynderwen Cardiganshire Farmers ar y cyd â Welsh Feed Producers a H.G. Lee and Oaks, sydd yn gweithio gydag ABP Abattoirs, i brynu lloi godro dros ben a’u magu fel teirw cig eidion. Mae’r cynllun hwn yn galluogi ffermwyr i fagu eu lloi a’u gwerthu o dan gontract yn 12 mis oed i’w lladd i wneud eidionod a briwgig. Bydd swyddogion o’r Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru yn cyfarfod hefyd â Serval, cwmni o Ffrainc sydd yn mynegi diddordeb yn y maes hwn, yng Nghaerfyrddin yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Welsh Lamb and Beef Promotions are developing initiatives in Wales for creating new markets for dairy and beef calves and are having discussions about this with the industry. Work is underway to develop the export market for the Welsh Beef brand and a consignment of beef has already been sent to Europe. We wish it had been bigger, but it is a start. The WDA is supporting Welsh Lamb and Beef Promotions with grant aid—£340,000—and is preparing to consider additional funding for good projects which will help the industry.

Mae Hybu Cig Oen ac Eidion Cymru yn datblygu mentrau yng Nghymru i greu marchnadoedd newydd i loi llaeth a lloi cig eidion ac maent yn cynnal trafodaethau ar hyn gyda’r diwydiant. Mae gwaith yn digwydd i ddatblygu’r farchnad dramor i frand Cig Eidion Cymru ac mae llwyth o gig eidion wedi ei anfon i Ewrop eisoes. Byddai’n dda gennym pe bai’n un mwy, ond mae’n ddechrau. Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn cefnogi Hybu Cig Oen ac Eidion Cymru drwy gymorth grant—£340,000—ac yn paratoi i ystyried cyllid ychwanegol i brosiectau da fydd yn helpu’r diwydiant.

The main priority for the viability of the Welsh dairy industry as a whole is investment in processing to create high value-added products which can be marketed effectively to secure premium prices. In July at the Royal Welsh Agricultural Show I announced a grant of £800,000 for Associated Co-operative Creameries at Llangadog and we are currently considering, as I mentioned on Thursday, two applications for further marketing and processing grants.

Y brif flaenoriaeth er mwyn sicrhau hyfywedd diwydiant llaeth Cymru yn ei gyfanrwydd yw buddsoddi mewn prosesu i greu cynhyrchion â gwerth ychwanegol uchel y gellir eu marchnata’n effeithiol i gael y prisiau gorau. Ym mis Gorffennaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, cyhoeddais grant o £800,000 i Associated Co-operative Creameries yn Llangadog ac ar hyn o bryd yr ydym yn ystyried dau gais am grantiau marchnata a phrosesu pellach, fel y dywedais ddydd Iau.

I say to the industry once again that I am keen to consider more applications from them, and especially from the dairy industry, for investment in processing and marketing. The WDA is working with firms in the dairy industry and I hope this will lead to further initiatives. If we do not get consent from Fischler the £750,000 that we would have spent on the calf scheme, will be available to support processing and marketing initiatives. I challenge farmers and processing companies to come forward with good applications.

Yr hyn a ddywedaf wrth y diwydiant unwaith eto yw fy mod yn awyddus i ystyried mwy o geisiadau oddi wrthynt, ac yn enwedig oddi wrth y diwydiant llaeth, i fuddsoddi mewn prosesu a marchnata. Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn gweithio gyda chwmnïau yn y diwydiant llaeth a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at fentrau pellach. Os na chawn ganiatâd gan Fischler bydd y £750,000 y buasem wedi ei wario ar y cynllun lloi ar gael i gefnogi mentrau prosesu a marchnata. Rhof yr her i ffermwyr a chwmnïau prosesu ddod ymlaen gyda cheisiadau da.

The break up of Milk Marque is regrettable, but the challenge now is for us to work with the successor companies and help them develop effective plans for developing the kind of high value processing that we want to see. Milk Marque knows that I am committed to this.

Mae ymddatodiad Milk Marque yn destun gofid, ond y sialens bellach yw inni weithio gyda’r cwmnïau sydd yn ei olynu a’u helpu i ddatblygu cynlluniau effeithiol i ddatblygu’r math o brosesu gwerth uchel yr ydym am ei weld. Mae Milk Marque yn gwybod am f’ymrwymiad i hyn.

Going organic is another way in which dairy farmers can become more viable. The premium to farmers is about 9 pence a litre. I announced in July that I was allocating £1 million this year for organic conversion grants, and the scheme opened on 1 October. I would encourage dairy farmers to think seriously about going organic and to think about the market opportunities for processed organic products. Rachel’s Dairy should be a good example to follow.

Mae troi at ffermio organig yn fodd arall i ffermwyr llaeth ddod yn fwy hyfyw. Mae gwerth hynny I ffermwyr tua 9 ceiniog y litr. Cyhoeddais yng Ngorffennaf fy mod yn dyrannu £1 miliwn eleni i grantiau newid organig, a dechreuodd y cynllun ar 1 Hydref. Anogaf ffermwyr llaeth i feddwl o ddifrif ynghylch troi at ffermio organig ac i ystyried y cyfleoedd yn y farchnad i gynhyrchion organig proses. Dylai Rachel’s Dairy fod yn esiampl dda i’w dilyn.

We are supporting projects to help dairy farmers become more efficient. The Welsh Dairy Club offers training information and advice to dairy farmers who join. The Carmarthenshire College of Art and Technology at its Gelli Aur site has invested in a farm diversification technology centre to spread best practice techniques to the dairy industry, and these can lower farmers’ costs significantly. Both projects have received grant aid from the Welsh Office and now the Assembly.

Yr ydym yn cefnogi prosiectau i helpu ffermwyr llaeth i ddod yn fwy effeithlon. Mae’r Welsh Dairy Club yn cynnig gwybodaeth a chyngor am hyfforddi i ffermwyr llaeth sydd yn ymaelodi. Mae Coleg Celf a Thechnoleg Sir Gaerfyrddin ar ei safle yn y Gelli Aur wedi buddsoddi mewn canolfan dechnoleg ar gyfer amryfalu mewn amaethyddiaeth i ledaenu technegau ymarfer gorau yn y diwydiant llaeth, a gall y rhain leihau costau ffermwyr yn sylweddol. Mae’r ddau brosiect wedi derbyn cymorth grant gan y Swyddfa Gymreig ac yn awr gan y Cynulliad.

As I have explained, we have been active in support of the industry at both the strategic and the practical level. The apparent failure of our calf processing aid scheme has certainly been a setback but we must not allow ourselves to be pessimistic and think that the whole of the industry depended on it. To do that would be to accept our fate, which we must not do. I will continue to pursue the key actions on which the dairy industry’s future depends. I call on the support of every Assembly Member in that cause.

Fel yr eglurais, buom yn cefnogi’r diwydiant yn egnïol ar y lefel strategol a’r lefel ymarferol. Mae methiant ymddangosiadol ein cynllun cymorth prosesu lloi yn rhwystr, yn sicr, ond rhaid inni beidio ag anobeithio a meddwl bod y diwydiant cyfan yn dibynnu arno. Byddaf yn parhau i ddatblygu’r gweithredoedd allweddol sydd yn hanfodol i ddyfodol y diwydiant llaeth. Galwaf am gefnogaeth holl Aelodau’r Cynulliad yn yr achos hwnnw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 70

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 70

In order to protect the time of the short debate, I place a time limit of five minutes on the speakers for each party. I call on Rhodri Glyn Thomas to speak on the amendment in the names of Dafydd Wigley, Michael German and Nick Bourne.

Er mwyn diogelu amser y ddadl fer, yr wyf yn rhoi cyfyngiad amser o bum munud ar y llefarwyr dros bob plaid. Galwaf ar Rhodri Glyn Thomas i siarad ar y gwelliant a gyflwynwyd yn enwau Dafydd Wigley, Michael German a Nick Bourne.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 71

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 71

Cynigiaf y gwelliant canlynol. Dileu pob peth ar ôl ‘cynllun lloi Cymreig’ ac ychwanegu:

I propose the following amendment. Delete all text after ‘a Welsh calf scheme’ and add:

Rhodri Glyn Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 71

Rhodri Glyn Thomas (continued) spoken in Welsh p. 71

Yr ydym yn cyflwyno’r gwelliant hwn oherwydd, yn ystod y tair wythnos diwethaf, mae llawer ohonom yn y Cynulliad wedi cael ar ddeall fod y cynllun yma yn mynd yn ei flaen. Nid wyf yn gallu darganfod unrhyw ddatganiad sydd yn awgrymu unrhyw beth yn wahanol. Yn y Siambr ac yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ein dealltwriaeth o’r sefyllfa oedd bod y cynllun a’r trafodaethau yn mynd rhagddynt.

We are tabling this amendment because over the past three weeks, many of us in the Assembly have been given to understand that this scheme will proceed. I cannot discover any statement that suggests anything different. In the Chamber and in the Agriculture and Rural Development Committee our understanding of the situation was that the scheme and the discussions were proceeding.

A gaf eich atgoffa o 15 Medi a’r cynnig gwreiddiol? Cynigiodd Ieuan Wyn Jones fod y Cynulliad, a oedd yn gofidio am argyfwng y diwydiant ffermio, yn galw ar y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i gyflwyno a chyllido cynllun difa mamogiaid ac ailgyflwyno cynllun cymorth prosesu lloi. Yn absenoldeb cynllun cymorth prosesu lloi ledled Prydain, byddai’r Cynulliad yn penderfynu cyflwyno cynllun ar gyfer Cymru’n unig i weithredu o 1 Hydref hyd 31 Rhagfyr 1999. Dyna oedd y cynnig. Yr oedd tri pheth ynddo: cynllun cymorth prosesu lloi Prydeinig, cynllun difa mamogiaid Prydeinig ac, yn absenoldeb cynllun cymorth prosesu lloi Prydeinig, cynllun cymorth prosesu lloi i Gymru’n unig.

Can I remind you of 15 September and the original motion? Ieuan Wyn Jones proposed that the Assembly, which was concerned about the crisis in the agricultural industry, should call upon the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food to introduce and fund a cull ewe scheme and to reintroduce a calf processing aid scheme. In the absence of an UK wide calf processing aid scheme, the Assembly would decide to introduce a Wales-only scheme to operate from 1 October to 31 December 1999. That was the proposal. There were three things in it: a British calf processing aid scheme, a British cull ewe scheme and, in the absence of a British calf processing aid scheme, a Wales-only calf processing aid scheme.

Wrth ymateb i’r cynnig, dywedodd Christine Gwyther yn gyhoeddus ei bod yn fodlon torri ei chwys ei hun er mwyn Cymru pe na châi’r cynllun ei gyflwyno ledled y Deyrnas Unedig. Eglurodd y camau y byddai’n rhaid mynd drwyddynt ac ni chafwyd unrhyw awgrym fod problemau mawr yn ein hwynebu. Dywedodd wedyn fod angen i’r Cynulliad gydnabod y ffeithiau hyn, fel y bu’n gwneud yn ystod y ddeuddydd blaenorol. Dywedodd ein bod yn dangos ein bod yn gorff ymarferol a chyfrifol wrth wneud hyn. Ystyriwyd y camau cyn iddi hi ymrwymo iddynt.

In respoding to the motion, Christine Gwyther said publicly that she would be willing to follow her own course for Wales if this scheme was not introduced throughout the United Kingdom. She explained the steps that would have to be taken and there was no suggestion that there were major problems facing us. Then she told us that the Assembly needed to recognise those facts, as it had done over the previous two days. She said that by so doing we were showing that we were a practical and responsible body. The steps had been considered before she committed herself to them.

A gaf i atgoffa Christine o’r dyfyniad a gododd David Davies? Fe ofynnwyd iddi a fyddai gofyniad y cynnig i’r cynllun gael ei ail-gyflwyno erbyn 1 Hydref yn gallu cael ei gwrdd ac fe ddywedodd, ‘I am confident that we can do it’.

May I remind Christine of the quote which David Davies raised? She was asked whether the motion’s demand for the scheme to be reintroduced by 1 October could be met and said, ‘I am confident that we can do it’.

Hyd y gwn i, ni chafodd hynny ei wadu. Yr oedd y datganiad hwnnw yn ymwneud â’r cynnig. Y diwrnod wedyn, gwelsom Glenys Kinnock ac Eluned Morgan, yr Aelodau o’r Senedd Ewropeaidd, yn mynd at Gomisiynydd Amaethyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, Franz Fischler. Fe ddyfynnaf o The Western Mail ar 17 Medi:

As far as I know, that was not denied. That statement related to the motion. The following day, we saw Glenys Kinnock and Eluned Morgan, the Members of the European Parliament, approaching the European Union Agriculture Commissioner, Franz Fischler. I quote from The Western Mail on 17 September:

‘By lunch time yesterday, Euro MPs Glenys Kinnock and Eluned Morgan had secured a guarantee from EU Agriculture Commissioner Franz Fischler that he would not block the re-introduction of the calf processing aid scheme in Wales.’

David Davies spoken in English p. 72

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 72

I faxed a message to Eluned Morgan MEP and Glenys Kinnock MEP yesterday to invite them to visit the Assembly and talk to Members about the result of their discussions with Franz Fischler and whether they received anything in writing from him when he gave that verbal assurance. Does Rhodri agree with me that their unwillingness to come to talk to us and the fact that they obviously did not get anything in writing reflects a certain amount of ineptness that you would not expect from a MEP?

Gyrrais neges ffacs ddoe at Eluned Morgan ASE a Glenys Kinnock ASE i’w gwahodd i ymweld â’r Cynulliad a siarad â’r Aelodau am ganlyniad eu trafodaethau gyda Franz Fischler a pha un a oeddent wedi derbyn rhywbeth mewn ysgrifen ganddo pan roddodd y sicrwydd hwnnw ar lafar. A yw Rhodri’n cytuno â mi fod eu hamharodrwydd i ddod i siarad â ni a’r ffaith ei bod yn amlwg nad oeddent wedi cael dim byd mewn ysgrifen yn dangos rhyw raddau o anfedrusrwydd na fyddech yn ei ddisgwyl gan ASE?

Lorraine Barrett spoken in English p. 72

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 72

We are not supposed to speak about MPs or MEPs in that derogatory manner. I would like an apology from David Davies.

Nid ydym i siarad yn ddifrïol fel hynny am ein Haelodau Seneddol a’n Haelodau Seneddol Ewropeaidd. Hoffwn glywed ymddiheuriad gan David Davies.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 72

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72

I did not note the remarks as derogatory. I will review the Record and consider this carefully.

Nid oeddwn wedi nodi’r sylwadau yn rhai difrïol. Fe adolygaf y Cofnod ac ystyried hyn yn ofalus.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 72

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 72

Yr oeddwn wedi gobeithio osgoi’r mathau hynny o ddatganiadau, ensyniadau ac emosiwn. Mae Glenys Kinnock ac Eluned Morgan wedi derbyn y clod am sicrhau caniatâd Franz Fischler. Dywedwyd bod Nick Brown yn cefnogi’r cynnig yn llwyr. Am dair wythnos cawsom ein harwain i gredu bod y cynllun yn parhau. Ni chawsom wybod tan ddydd Mercher diwethaf fod problemau mawr wedi codi. Dylai Alun Michael a Nick Brown fod wedi bod yno i ddatrys y problemau hynny. Ofnaf ein bod ni fel Cynulliad a Phwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi cael ein camarwain ar y mater hwn. Mae ffermwyr Cymru a ninnau wedi ein siomi. Yr ydym o leiaf yn haeddu datganiad penodol heddiw. Dywedodd Christine y byddai’n croesi’r bont pan ddeuai ati. Mae wedi cyrraedd y bont.

I had hoped to avoid those kinds of statements, insinuations and emotions. Glenys Kinnock and Eluned Morgan have taken the praise for ensuring Franz Fischler’s approval. It was said that the proposal has Nick Brown’s complete support. For three weeks we were led to believe for three weeks that the scheme was proceeding. We were not told until last Wednesday that major problems had arisen. Alun Michael and Nick Brown should have been there to resolve those problems. I am afraid that we as an Assembly and Agriculture and Rural Development Committee have been misled on this matter. We and the farmers of Wales have been let down. We at least deserve a specific statement today. Christine said that she would cross that bridge when she came to it. She has reached the bridge.

Peter Rogers spoken in English p. 73

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 73

I support the amendment. A summit meeting was held on Wednesday 8 September in Westminster between the UK Minister for Agriculture, Nick Brown, and his Scottish and Welsh counterparts to discuss the crisis in the industry. One of the things that our Secretary for Agriculture and Rural Development asked in that meeting was for the Treasury to fund a scheme to cull old ewes at an estimated cost of £1 million and for a calf processing aid scheme at an approximate cost of £750,000. Ross Finnie was also present and was pressing for similar schemes for Scotland.

Cefnogaf y gwelliant. Cynhaliwyd uwchgyfarfod ddydd Mercher 8 Medi yn San Steffan rhwng Gweinidog Amaeth y DU, Nick Brown, a’i gymheiriaid yn yr Alban a Chymru i drafod yr argyfwng yn y diwydiant. Un o’r pethau a ofynnodd ein Hysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn y cyfarfod hwnnw oedd i’r Trysorlys ariannu cynllun i ddidol hen ddefaid ar gost amcangyfrif o £1 miliwn a chynllun cymorth prosesu lloi ar gost o tua £750,000. Yr oedd Ross Finnie hefyd yn bresennol ac yn pwyso am gynlluniau tebyg i’r Alban.

The prices of livestock have been falling world-wide. Labour’s programmes of regulation in the industry have turned a bad situation into an outright disaster. The premature cancellation of the calf processing aid scheme precipitated an animal welfare crisis of massive proportion. The continuation of the scheme would have proved a crucial help to farmers who were being denied an export market. The Labour Government brought a premature end to the calf processing aid scheme. It was scheduled to end at the end of November and that would have been at the end of winter calving. I am sure that the reason why it was ended was that the possibility of lifting the beef export ban, which would have been a tremendous boost for the industry, would have increased the demand for British meat and consequently the demand for calves. This would have meant that we would not be faced with this problem. I agree with Christine that the financial reward to the dairy farmers would have been insignificant. However, it would have removed a number of calves from the market that have now been reared for beef. These poor quality calves will have a detrimental effect on the industry in two years’ time.

Bu prisiau da byw yn disgyn ar draws y byd. Mae rhaglenni Llafur I reoleiddio’r diwydiant wedi troi sefyllfa ddrwg yn drychineb lwyr. Achosodd diddymiad cynamserol y cynllun cymorth prosesu lloi argyfwng lles anifeiliaid o raddau anferthol. Buasai parhau â’r cynllun wedi bod o gymorth tyngedfennol i ffermwyr oedd yn cael eu hamddifadu o farchnad dramor. Daeth y Llywodraeth Lafur â’r cynllun cymorth prosesu lloi i ben cyn pryd. Yr oedd wedi ei drefnu i ddod i ben ddiwedd Tachwedd sef ar ddiwedd cyfnod bwrw lloi y gaeaf. Yr wyf yn sicr mai’r rheswm dros ei derfynu oedd y posibilrwydd o godi’r gwaharddiad ar allforio cig eidion, a fuasai’n hwb aruthrol i’r diwydiant, ac wedi cynyddu’r galw am gig o Brydain ac oherwydd hynny y galw am loi. Buasai hynny’n golygu na fyddem yn wynebu’r broblem hon. Cytunaf â Christine y byddai’r tâl i ffermwyr llaeth yn ansylweddol. Fodd bynnag, fe fyddai wedi tynnu nifer o loi o’r farchnad sydd bellach wedi eu magu am eu cig. Bydd y lloi hyn sydd o ansawdd gwael yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant ymhen dwy flynedd.

Lifting the ban on beef export in August saw a number of conditions and regulations that have meant that not one ounce of British beef has been exported to date. Labour says that it supports our farmers but it has stood about while the French and German Governments have performed every trick in the book to prolong this illegal ban on British beef. The Government has assured our farmers that the continuing ban in France and Germany was due to procedural difficulties. However, the French Government is now refusing to lift the ban on scientific grounds. A cynical tactic of support by the Germans could prolong the ban for weeks if not months. Our competitors in Europe are running rings around us. Instead of apologising to our farmers, Labour has cancelled the calf processing aid scheme which was set to continue until November. This premature and irresponsible action has brought about the calf crisis. Worthless animals are being dumped on roadsides or cruelly slaughtered by desperate farmers. This Assembly, concerned about the crisis in the farming industry, unanimously carried a motion on 15 September calling on MAFF to introduce and fund a cull ewe scheme. The motion also called for the introduction of a fund for the calf processing aid scheme. In the absence of an UK-wide calf processing aid scheme the Assembly resolved to introduce a Wales-only scheme to operate from 1 October until 31 December.

Wrth godi’r gwaharddiad ar allforio cig eidion yn Awst cafwyd nifer o amodau a rheoliadau sydd yn golygu na allforiwyd yr un owns o gig eidion o Brydain hyd yn hyn. Dywed Llafur ei fod yn cefnogi ein ffermwyr ond mae wedi sefyllian wrth i Lywodraethau Ffrainc a’r Almaen wneud pob dim a allant i ymestyn y gwaharddiad anghyfreithlon hwn ar gig eidion o Brydain. Mae’r Llywodraeth wedi rhoi sicrwydd i’n ffermwyr fod y gwaharddiad sydd yn parhau yn Ffrainc a’r Almaen yn ganlyniad i anawsterau trefniadol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Ffrainc bellach yn gwrthod codi’r gwaharddiad am resymau gwyddonol. Fe allai ystryw sinigaidd i’w cefnogi gan yr Almaenwyr fod yn fodd i ymestyn y gwaharddiad am wythnosau os nad misoedd. Mae’r rhai sydd yn cystadlu â ni yn Ewrop yn ein gadael yn ein hunfan. Yn hytrach nag ymddiheuro i’n ffermwyr, mae Llafur wedi diddymu’r cynllun cymorth prosesu lloi a oedd i barhau hyd fis Tachwedd. Yr weithred gynamserol ac anghyfrifol hon sydd wedi achosi’r argyfwng lloi. Mae anifeiliaid diwerth yn cael eu gadael ar fin y ffordd neu eu lladd yn greulon gan ffermwyr diobaith. Yr oedd y Cynulliad hwn, oherwydd ei bryder am yr argyfwng yn y diwydiant amaeth, wedi derbyn cynnig yn unfrydol ar 15 Medi yn galw ar y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i gyflwyno a chyllido cynllun didol defaid. Yr oedd y cynnig hefyd yn galw am gyflwyno cronfa ar gyfer y cynllun cymorth prosesu lloi. Yn niffyg cynllun cymorth prosesu lloi ar draws y DU, penderfynodd y Cynulliad gyflwyno cynllun i Gymru’n unig i weithredu o 1 Hydref hyd 31 Rhagfyr.

The Secretary for Agriculture and Rural Development went to London to see Nick Brown. It was agreed that Wales would go it alone and 1 October was set as the starting date. There was so much pride in Wales that the Assembly was going it alone. As Rhodri said, we even had Glenys Kinnock and Eluned Morgan discussing it in Strasbourg with Franz Fischler, ensuring that everything was in order and claiming credit for the scheme.

Aeth yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig i Lundain i weld Nick Brown. Fe gytunwyd y byddai Cymru yn mynd ar ei liwt ei hun a nodwyd 1 Hydref yn ddyddiad dechrau. Yr oedd ymdeimlad o falchder mawr yng Nghymru bod y Cynulliad am fentro. Fel y dywedodd Rhodri, yr oeddem hyd yn oed yn gweld Glenys Kinnock ac Eluned Morgan yn ei drafod yn Strasbourg gyda Franz Fischler, yn sicrhau bod popeth mewn trefn ac yn hawlio clod am y cynllun.

In the last week of September, Christine Gwyther announced that it would be difficult for the scheme to start on 1 October but that everything was on course. Last Monday, she finally flew out to Strasbourg to see Franz Fischler. Within half an hour she was told that the scheme was illegal and that we could not carry it on. She was also told that the scheme would never have been accepted because of the £20 limit on the calf value. Why is Christine Gwyther not still in Strasbourg fighting for Wales? Is half an hour all that the farmers are worth?

Yn wythnos olaf Medi, cyhoeddodd Christine Gwyther y byddai’n anodd i’r cynllun ddechrau ar 1 Hydref ond bod popeth yn mynd yn iawn. Ddydd Llun diwethaf, aeth mewn awyren i Strasbourg o’r diwedd i weld Franz Fischler. O fewn hanner awr dywedwyd wrthi fod y cynllun yn anghyfreithlon ac na allem fynd ymlaen ag ef. Dywedwyd wrthi hefyd na fyddai’r cynllun erioed wedi ei dderbyn oherwydd y terfyn o £20 ar werth pob llo. Pam nad yw Christine Gwyther yn Strasbourg o hyd yn ymladd dros Gymru? A yw’r ffermwyr ond yn werth hanner awr?

If today’s report of an all-Cabinet resignation threat is true then let it be so. Alun Michael must be prepared to accept the blame and I agree that he should go. The Cabinet’s mismanagement—

Os yw’r adroddiad heddiw am fygythiad i ymddiswyddo gan yr holl Gabinet yn wir, boed felly. Rhaid i Alun Michael fod yn barod i dderbyn y bai a chytunaf y dylai fynd. Mae camreolaeth y Cabinet—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 75

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 75

Order. Your time is up, Peter. I now call Mick Bates.

Trefn. Mae’ch amser ar ben, Peter. Galwaf yn awr ar Mick Bates.

Mick Bates spoken in English p. 75

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 75

I hope you have all heard the dates and the litany that has been presented to you by my colleagues. They have led up to deflection, doubts, disappointment and despair. At the heart of this amendment is the fact that we care and want to continue with our Welsh family farm. The motion lays the blame squarely upon the European Commission. We hear that it is Europe’s fault—something we hear quite often from some people. However, in this particular case, the facts need to be examined. On 8 September we heard from the Secretary for Agriculture and Rural Development about the hurdles that were to be jumped. These were the hurdles presented by the Commission. Who was the person who could assist us in our desire to help the Welsh dairy industry? It was none other than the Minister for Agriculture in Westminster.

Gobeithiaf ichi oll glywed y dyddiadau a’r litani a gyflwynwyd i chi gan fy nghydweithwyr. Maent wedi arwain at wyro, amheuon, siom ac anobaith. Wrth wraidd y gwelliant hwn y mae’r ffaith ein bod yn ymboeni a’n bod am weld parhad y fferm deuluol Gymreig. Mae’r cynnig yn bwrw’r bai yn llwyr ar y Comisiwn Ewropeaidd. Clywn mai ar Ewrop y mae’r bai—rhywbeth a glywn yn eithaf aml gan rai pobl. Fodd bynnag, yn yr achos arbennig hwn, mae angen bwrw golwg ar y ffeithiau. Ar 8 Medi clywsom gan yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig am y rhwystrau yr oedd rhaid eu goresgyn. Rhwystrau a godwyd gan y Comisiwn oedd y rhain. Pwy oedd yr un a allai ein cynorthwyo yn ein hawydd i helpu diwydiant llaeth Cymru? Neb llai na’r Gweinidog Amaeth yn San Steffan.

This motion is as misleading as the events that led to this industry believing that on 1 October we would have a Welsh calf processing aid scheme. The fault is that this administration could not work with its colleagues in Westminster. It could not persuade the Minister for Agriculture—

Mae’r cynnig hwn mor gamarweiniol â’r digwyddiadau a arweiniodd y diwydiant hwn i gredu y byddem yn cael cynllun cymorth prosesu lloi Cymreig ar 1 Hydref. Y diffyg yw nad oedd yr weinyddiaeth hon yn gallu gweithio gyda’u cyd-weithwyr yn San Steffan. Ni allai berswadio’r Gweinidog Amaeth—

Val Feld spoken in English p. 76

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 76

Do you agree that, in view of the fact that the UK is the member state in Europe, Christine would have been unable to have a meeting with the European Commissioner if it had not been for her colleagues amassed in Whitehall arranging for it to take place? Is it not the case that the Assembly is unable to go direct to Europe on these matters?

A ydych yn cytuno, yng ngolwg y ffaith fod y DU yn aelod wladwriaeth o Ewrop, na fyddai Christine wedi gallu cael cyfarfod gyda’r Comisiynydd Ewropeaidd oni bai i’r llu o gyd-weithwyr yn San Steffan drefnu i hynny ddigwydd? Onid yw’n wir nad oes modd i’r Cynulliad fynd yn uniongyrchol at Ewrop ar y materion hyn?

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

You are expressing the truth unfortunately. However, this merely reinforces the point that the failure was within your party. This failure was that you were unable to use your influence to introduce a scheme in Wales. The Commission is not at fault, as your motion suggests. We heard from your MEPs that Fischler accepted—

Yr ydych yn dweud y gwir, gwaetha’r modd. Fodd bynnag, nid yw hyn ond yn ategu’r pwynt bod y methiant y tu mewn I’ch plaid eich hun. Y methiant hwn yw nad oeddech yn gallu defnyddio’ch dylanwad i gyflwyno cynllun yng Nghymru. Nid yw’r Comisiwn ar fai, fel y mae’ch cynnig yn awgrymu. Clywsom gan eich Aelodau yn Senedd Ewrop fod Fischler yn derbyn—

Glyn Davies spoken in English p. 76

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 76

Will you accept that the failure of political leadership to deal with the agricultural crisis in this Assembly lies with the First Secretary. There has been a lack of urgency, leadership and, at the crucial time, a lack of support for his Secretary for Agriculture and Rural Development. Failure, failure, failure has been the feature of his leadership.

A ydych yn barod i dderbyn bod y methiant o ran arweinyddiaeth wleidyddol i ymdrin â’r argyfwng amaethyddol yn y Cynulliad hwn yn perthyn i’r Prif Ysgrifennydd. Bu diffyg brys, diffyg arweinyddiaeth ac, ar yr adeg dyngedfennol, diffyg cefnogaeth i’w Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Methiant, methiant, methiant yw’r hyn sydd wedi nodweddu ei arweinyddiaeth.

Mick Bates spoken in English p. 76

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 76

If we believe today’s The Western Mail, it sounds like one out, all out.

Os ydym i goelio The Western Mail heddiw, mae’n swnio fel petai’n fater o un allan, pawb allan.

We need to understand the direct line that you have and have not used effectively. That has led to a lack of clarity and consistency in this debate. It has also led us to ask who is responsible for raising the hopes of this industry? Today the Secretary for Agriculture and Rural Development told us that Nick Brown wrote a letter to Fischler. What were the contents of that letter? Furthermore, when you met with Fischler, you only spent 30 minutes discussing this absolutely critical scheme in Wales. This amendment must be carried. We cannot blame the Commission for its failure.

Mae angen inni ddeall natur y cysylltiad uniongyrchol sydd gennych ac sydd heb ei ddefnyddio’n effeithiol. Mae hynny wedi arwain at ddiffyg eglurder a chysondeb yn y ddadl hon. Mae hefyd wedi ein harwain i ofyn pwy sydd yn gyfrifol am godi gobeithion y diwydiant hwn. Heddiw dywedodd yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig fod Nick Brown wedi ysgrifennu llythyr at Fischler. Beth oedd cynnwys y llythyr hwnnw? Ar ben hynny, pan fu ichi gyfarfod â Fischler, nid oeddech wedi treulio ond 30 munud yn trafod y cynllun hwn sydd yn gwbl hanfodol i Gymru. Rhaid derbyn y gwelliant hwn. Ni allwn fwrw’r bai ar y Comisiwn am y methiant.

You mentioned Scotland’s failure. It did not ask for a calf scheme; it asked for a different one. To deflect blame onto the Commission is totally out of order—

Yr oeddech wedi crybwyll methiant yr Alban. Nid am gynllun lloi yr oedd yn gofyn, ond am un gwahanol. Mae osgoi’r bai a’i roi ar y Comisiwn yn gwbl amhriodol—

Richard Edwards spoken in English p. 77

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 77

Will you give way?

A ydych yn fodlon ildio?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

Order. You are not giving way; you only have one minute.

Trefn. Nid ydych yn ildio; dim ond munud sydd gennych.

Mick Bates spoken in English p. 77

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 77

This is a democracy.

Trefn ddemocrataidd yw hon.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

It is out of your own time.

Fe ddaw o’ch amser eich hun.

Richard Edwards spoken in English p. 77

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 77

Ross Finnie, the Liberal Democrat Secretary for Agriculture in Scotland is not resigning. Nobody is calling for him to resign so why do you have double standards on this issue?

Nid yw Ross Finnie, y Democrat Rhyddfrydol sydd yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth yn yr Alban, yn ymddiswyddo. Nid oes neb yn galw arno i ymddiswyddo felly pam y mae gennych safonau dwbl ar y mater hwn?

Mick Bates spoken in English p. 77

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 77

In this debate, we are discussing amendments not resignation.

Yn y ddadl hon, yr ydym yn trafod gwelliannau nid ymddiswyddo.

The irregularity and implementation of rules throughout Europe only enhance the farmer’s feeling that very few people are supporting him and that few are looking for consistency and clarity of implementation. I call on you to accept this amendment and—[ASSEMBLY MEMBERS: ‘Hear, hear.’]

Nid yw’r afreoleidd-dra a’r gweithredu ar reolau drwy Ewrop ond yn fodd i ddwysáu teimlad y ffermwr mai ychydig iawn o bobl sydd yn ei gefnogi ac mai ychydig iawn sydd yn ceisio sicrhau cysondeb ac eglurder wrth eu gweithredu. Galwaf arnoch i dderbyn y gwelliant hwn a—[AELODAU O’R CYNULLIAD: ‘Clywch, clywch.’]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

Order. Thank you Mick, but your time is up.

Trefn. Diolch, Mick, ond mae’ch amser ar ben.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 77

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 77

Leadership is what the Welsh farming industry needs most—clear, mature leadership that looks to the long term. If this Assembly is to provide that leadership, we must stop scoring short-term political points. Members must resist the temptation to pretend that there are quick panaceas for the deep-seated problems facing the industry. We must instead focus on the practical choices facing us as set out in ‘Farming for the Future’.

Arweinyddiaeth yw’r hyn y mae ar y diwydiant amaethyddol yng Nghymru ei hangen fwyaf—arweinyddiaeth bendant, aeddfed sydd yn edrych ar y tymor hir. Os yw’r Cynulliad hwn i roi’r arweinyddiaeth honno, rhaid inni roi’r gorau i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol tymor byr. Rhaid i’r Aelodau ymwrthod â’r temtasiwn i gymryd arnom fod atebion sydyn i’r problemau sylfaenol sydd yn wynebu’r diwydiant. Yn lle hynny, rhaid inni ganolbwyntio ar y dewisiadau ymarferol sydd yn ein hwynebu a nodir yn ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’.

In opening this debate, Christine Gwyther gave a clear and authoritative account of where we now stand and rebutted many of the misplaced criticisms that we have faced. I regard what she has done as the way in which we must proceed with emphasis on processing, marketing, co-operating and on bringing more added value back to farmers—

Wrth agor y ddadl hon, rhoddodd Christine Gwyther ddisgrifiad eglur ac awdurdodol o’n sefyllfa bresennol a gwrthbrofodd lawer o’r beirniadaethau cyfeiliornus a fu arnom. Ystyriaf fod yr hyn a wnaeth yn dangos y ffordd y bydd yn rhaid inni ei dilyn gan roi pwyslais ar brosesu, marchnata, cydweithredu a dod â mwy o werth ychwanegol yn ôl i’r ffermwyr—

Kirsty Williams spoken in English p. 78

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 78

Will the First Secretary give way?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn fodlon ildio?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

Order. The First Secretary is not giving way.

Trefn. Nid yw’r Prif Ysgrifennydd yn ildio.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 78

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

An enormous amount of positive work has gone unheralded. That work continued throughout the summer and deserves recognition and support from this Assembly. I give way.

Mae swm enfawr o waith cadarnhaol wedi ei gyflawni’n ddi-sylw. Aeth y gwaith hwnnw ymlaen drwy’r haf ac mae’n teilyngu cydnabyddiaeth a chefnogaeth gan y Cynulliad hwn. Ildiaf.

Kirsty Williams spoken in English p. 78

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 78

Will you recognise that these plans you talk about are for the long term and, as Christine said, will bear fruition in five to 10 years? Do you accept that there is a crisis now and those plans will be too late for many farmers? They will no longer be there.

A ydych yn fodlon derbyn bod y cynlluniau hyn yr ydych yn sôn amdanynt yn rhai tymor-hir ac y byddant yn dwyn ffrwyth ymhen pum i 10 mlynedd, fel y dywedodd Christine? A ydych yn derbyn bod argyfwng yn awr ac y bydd y cynlluniau hynny’n rhy hwyr i lawer o ffermwyr? Ni fyddant yno mwyach.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 78

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

That is precisely why we sought to introduce the calf processing aid scheme for three months to alleviate the immediate problems. We welcomed the requirement, supported by all parties, to pursue that by all possible means, and we did. These long-term plans are important. For too long, year after year, people have concentrated on the immediate problems rather than long-term ones and that is one reason for the problems facing the farming industry in this country. In our short period in office and the short period since the Assembly elections in May, we have been putting effort into the long term. I say ‘we’ not only in terms of the Cabinet or Christine as the responsible Cabinet Member, but also in terms of the plans put forward jointly by Christine and Ieuan Wyn Jones as the Chair of the Agriculture and Rural Development Committee.

Dyna’n union pam yr oeddem yn ceisio cyflwyno’r cynllun cymorth prosesu lloi am dri mis i liniaru’r problemau agosaf i law. Yr oeddem yn croesawu’r gofyniad, a gefnogwyd gan yr holl bleidiau, i ddilyn hynny drwy bob dull a modd, ac fe wnaethom hynny. Mae’r cynlluniau tymor-hir hyn yn bwysig. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, am gyfnod rhy hir, bu pobl yn canolbwyntio ar y problemau agosaf i law yn hytrach na’r rhai tymor-hir a dyna un rheswm am y problemau sydd yn wynebu’r diwydiant amaeth yn y wlad hon. Yn ystod y cyfnod byr y buom mewn grym a’r cyfnod byr ers etholiadau’r Cynulliad ym Mai, buom yn ymdrechu er mwyn y tymor hir. Fe ddywedaf ‘ni’ gan feddwl nid yn unig y Cabinet neu Christine fel yr Aelod Cabinet cyfrifol, ond hefyd y cynlluniau a gyflwynwyd ar y cyd gan Christine a Ieuan Wyn Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

Secondly, the renewal of exports to Europe was mentioned. It is not true to say that there are no exports but at the moment it is a trickle. We need to work hard to increase those exports and to overcome challenges such as the resistance in France and Germany. Those are immediate and short-term challenges but we need to look at both the short and the long term.

Yn ail, soniwyd am ailddechrau allforio i Ewrop. Nid yw’n gywir dweud nad oes allforion ond ar hyn o bryd nid yw ond yn llifo’n araf. Rhaid inni weithio’n galed i gynyddu’r allforion hynny a goresgyn sialensau fel y gwrthwynebiad yn Ffrainc a’r Almaen. Mae’r rheini’n sialensau agos a thymor-byr ond mae angen inni ystyried y tymor byr a’r tymor hir.

Rhodri Glyn said that he had understood from the beginning that the calf processing aid scheme would go ahead. He suggested that there was no implication of big problems. That is not true. We made it absolutely clear from the beginning, as Mick Bates acknowledged, that the calf processing aid scheme would face major obstacles. We set out with determination to overcome them.

Dywedodd Rhodri Glyn ei fod wedi deall o’r dechrau y byddai’r cynllun cymorth prosesu lloi yn mynd ymlaen. Awgrymodd nad oedd goblygiad o broblemau mawr. Nid yw hynny’n wir. Rhoesom ar ddeall o’r dechrau, fel y cydnabu Mick Bates, y byddai’r cynllun cymorth prosesu lloi yn wynebu problemau mawr. Yr oeddem wedi cychwyn yn benderfynol o’u goresgyn.

David Davies spoken in English p. 79

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 79

Could he explain why a Labour Party spokesman told The Western Mail that,

A oes modd iddo egluro pam y dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur wrth The Western Mail fod,

‘co-operation between Labour at all levels of government has ensured that the calf processing scheme will be re-introduced in Wales’?

If he realised that there were obstacles, why did he allow one of his spokesmen to make those comments?

Os sylweddolai fod rhwystrau, pam y caniataodd i un o’i lefarwyr wneud y sylwadau hynny?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 79

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 79

If you quote what is printed in The Western Mail rather than what may or may not have been said, you are not necessarily relying on a sound basis. I have been clear in private and in public from the start that obstacles existed but that we were proceeding with determination to overcome them.

Os byddwch yn dyfynnu o’r hyn a argreffir yn The Western Mail yn hytrach na’r hyn a ddywedir neu nas dywedir, nid ydych o reidrwydd yn pwyso ar sylfaen gadarn. Bûm yn bendant yn breifat ac yn gyhoeddus o’r cychwyn fod rhwystrau’n bod ond ein bod yn mynd ymlaen gan fod yn benderfynol o’u goresgyn.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 79

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 79

Fe’th atgoffaf am ddatganiad a wnaethpwyd ar 26 Medi, fel y’i cofnodwyd yn y Daily Post ar 27 Medi:

I remind you of a statement made on 26 September, as recorded in the Daily Post on 27 September:

‘ “We are pressing for a quick decision so that we can get the scheme started on October 1,” Mr Michael insisted.’

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 80

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

Absolutely. We have been pressing from the start for a quick decision so that we can get the scheme into place. However, we also made it clear from the beginning that we had obstacles to overcome. We set out, as I have indicated, with a determination to overcome them.

Yn hollol. Buom yn pwyso ers y dechrau am benderfyniad sydyn fel y gallwn sefydlu’r cynllun. Fodd bynnag, rhoesom ar ddeall hefyd o’r cychwyn fod gennym rwystrau i’w goresgyn. Bu inni gychwyn, fel y nodais, yn benderfynol o’u goresgyn.

Peter Rogers has also referred to the premature ending of the calf scheme. It was extended on at least two occasions when fresh calls were made to extend it yet again. We argued for the scheme that we put forward. Interestingly, Peter referred to the problems starting with the beef export ban. That is right. I am surprised that a member of his party would attack Labour when it was a Conservative Government that failed farmers comprehensively and consistently in the first place. [Interruption.] You may not like it. You are good at dishing out criticism. I am afraid you must take a good deal of criticism and mine is justified.

Cyfeiriodd Peter Rogers hefyd at derfynu cynamserol y cynllun lloi. Fe’i hestynnwyd o leiaf ddwywaith pan ddaeth galwadau newydd am ei ymestyn unwaith yn rhagor. Bu inni ddadlau dros y cynllun a gyflwynwyd gennym. Yr oedd yn ddiddorol i Peter ddweud bod y problemau wedi dechrau gyda’r gwaharddiad ar allforio cig eidion. Mae hynny’n gywir. Synnaf fod aelod o’i blaid yn barod i ymosod ar Lafur o gofio mai Llywodraeth Geidwadol a siomodd y ffermwyr yn gyson ac yn gyffredinol yn y lle cyntaf. [Torri ar draws.] Efallai nad ydych yn hoffi hynny. Yr ydych yn dda am daflu beirniadaeth. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid ichi dderbyn llawer iawn o feirniadaeth ac mae fy meirniadaeth i’n deg.

Mick Bates acknowledged that on 8 September we warned of the obstacles ahead. However, he went on to suggest that the reason for them is that this administration could not work with colleagues in Whitehall. That is completely untrue. It is because of the co-operation with colleagues at Whitehall that our officials could go to Brussels—once the decision had been taken not to introduce a scheme at a UK level—to argue the case and to receive the European Commission officials’ judgement on their interpretation of the legal position. That interpretation gave us an indication last Tuesday that what we had seen as obstacles were seen by EC officials as— [Interruption.]

Cydnabu Mick Bates ein bod wedi rhybuddio am y rhwystrau o’n blaen ar 8 Medi. Fodd bynnag, aeth ymlaen i awgrymu mai’r rheswm amdanynt yw na allai’r weinyddiaeth hon weithio gyda chydweithwyr yn Whitehall. Mae hynny’n gwbl anghywir. Oherwydd y cydweithrediad â chyd-weithwyr yn Whitehall y bu modd i’n swyddogion fynd i Frwsel—ar ôl y penderfyniad i beidio â chyflwyno cynllun ar lefel y DU—i ddadlau’r achos a derbyn dyfarniad swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd ar eu dehongliad o’r sefyllfa gyfreithiol. Yr oedd y dehongliad hwnnw’n awgrymu inni ddydd Mawrth diwethaf fod yr hyn a welsom yn rhwystrau yn cael eu gweld gan swyddogion y CE yn— [Torri ar draws.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 80

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

Order. I am seeking to protect the time of this short debate. I anticipate that there might be a vote on this matter. Therefore we must conclude this debate within the next two minutes.

Trefn. Yr wyf yn ceisio diogelu amser y ddadl fer. Rhagwelaf ei bod yn bosibl y bydd pleidlais ar y mater hwn. Felly, rhaid inni ddod â’r ddadl hon i ben o fewn y ddau funud nesaf.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 80

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

The obstacles presented last Tuesday were the same as those presented to Ross Finnie in Scotland, regarding the cull ewe scheme which they sought to introduce. You must reflect on that.

Y rhwystrau a gyflwynwyd ddydd Mawrth diwethaf oedd yr un rhai a gyflwynwyd i Ross Finnie yn yr Alban, ynghylch y cynllun difa mamogiaid yr oeddent wedi ceisio ei gyflwyno. Rhaid ichi roi ystyriaeth i hynny.

I repeat Christine’s point. To accept this amendment would mean that the Assembly is refusing to consider the calf processing aid scheme within the broader context of our strategic approach to Welsh agriculture. It would make the Assembly seem short sighted. The amendment demands a decision today on whether the calf processing aid scheme can proceed. I do not want to mislead anyone. The chances of the European Commission changing its view seem very slight and I would not want farmers to plan on the basis that our appeal to the Commission will succeed. I want to make it clear to the Assembly and the farming community that if this amendment is adopted without waiting for a final decision from the Commission, the only decision that the Cabinet can make is to declare the scheme dead. It seems perverse to take such a decision but I am prepared to do so if that is the Assembly’s view. If you insist on voting on this amendment, then those of you in the other three parties must take your share of the responsibility for ending the scheme.

Ailadroddaf bwynt Christine. Byddai derbyn y gwelliant hwn yn golygu bod y Cynulliad yn gwrthod ystyried y cynllun cymorth prosesu lloi yng nghyd-destun ehangach ein hymagwedd strategol at amaethyddiaeth Cymru. Byddai’n peri i’r Cynulliad ymddangos yn fyr ei olwg. Mae’r gwelliant yn mynnu penderfyniad heddiw ynghylch a oes modd i’r cynllun cymorth prosesu lloi fynd ymlaen. Nid wyf am gamarwain neb. Nid yw’n ymddangos yn debygol o gwbl y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn newid ei farn ac nid wyf am i’r ffermwyr gynllunio gan feddwl y bydd ein hapêl i’r Comisiwn yn llwyddo. Yr wyf am roi ar ddeall i’r Cynulliad a’r gymuned amaethyddol mai’r unig benderfyniad y gallai’r Cabinet ei wneud, os derbynnir y gwelliant hwn heb aros am y perderfyniad terfynol gan y Comisiwn, yw datgan bod y cynllun yn farw. Mae’n ymddangos yn wrthnysig gwneud penderfyniad o’r fath ond yr wyf yn barod i wneud hynny os mai hynny yw barn y Cynulliad. Os mynnwch bleidleisio ar y gwelliant hwn, rhaid i chithau yn y tair plaid arall dderbyn eich cyfran o’r cyfrifoldeb am ddod â’r cynllun i ben.

I want to make some general points about the nature of the Assembly which I believe this debate has thrown into relief. The Assembly is a devolved body and that is the will of the Welsh people. Devolution means powers are legitimately shared between the UK Government, the European Union and us. With regard to the calf processing aid scheme, we have done our utmost to use our powers creatively. We have had strong support from the UK Government, but unfortunately the European Commission has not easily adjusted to the new state of affairs. The Assembly is also about inclusive politics, not because we in the Labour Party are a minority but because the Assembly was designed that way. I deleted the words ‘opposition parties’ in an early draft of our Standing Orders and referred instead for example to the leader of the largest party outside the Cabinet.

Yr wyf am wneud rhai pwyntiau cyffredinol ynghylch natur y Cynulliad sydd wedi eu hamlygu yn y ddadl hon, yr wyf yn credu. Mae’r Cynulliad yn gorff datganoledig a dyna yw ewyllys pobl Cymru. Mae datganoli yn golygu bod pwerau wedi eu rhannu’n gyfreithlon rhwng Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd a ni. Gyda golwg ar y cynllun cymorth prosesu lloi, fe wnaethom ein gorau glas i arfer ein pwerau’n greadigol. Cawsom gefnogaeth gref gan Lywodraeth y DU, ond gwaetha’r modd nid yw’r Comisiwn Ewropeaidd wedi addasu’n rhwydd i’r sefyllfa newydd. Mae’r Cynulliad yn ymwneud hefyd â gwleidyddiaeth gynhwysol, nid am ein bod ni yn y Blaid Lafur yn lleiafrif ond am fod y Cynulliad wedi ei gynllunio felly. Fe ddileais y geiriau ‘pleidiau’r wrthblaid’ mewn drafft cynnar o’n Rheolau Sefydlog ac yn lle hynny, er enghraifft, fe gyfeiriais at arweinydd y blaid fwyaf y tu allan i’r Cabinet.

In our Subject Committees, we are seeking to build consensus on the key issues confronting our country. In the Agriculture and Rural Development Committee all parties are working together effectively on strategic issues facing rural Wales. We welcome the fact that the Assembly united behind our approach on the calf processing aid scheme last month. I welcome the commitment to work in this manner but that is easily undone if the other parties immediately walk away from their responsibilities and resort to hurling insults every time we confront a hurdle.

Yn ein Pwyllgorau Pwnc, yr ydym yn ceisio adeiladu consensws ar y materion allweddol sydd yn wynebu ein gwlad. Yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig mae’r holl bleidiau’n cydweithio’n effeithiol ar faterion strategol sydd yn wynebu cefn gwlad Cymru. Croesawn y ffaith fod y Cynulliad wedi uno y tu cefn i’n camau ar y cynllun cymorth prosesu lloi y mis diwethaf. Croesawaf yr ymrwymiad i weithio fel hyn ond gellir dad-wneud hynny’n rhwydd os bydd y pleidiau eraill yn troi cefn ar unwaith ar eu cyfrifoldebau a bodloni ar daflu sen bob tro y byddwn yn wynebu rhwystr.

There was a question about the way in which the media covered the Assembly. In some cases, there has been a disregard for the complexities of the relationship between the Government, the European Commission and us. There has been criticism of the Assembly for not being able to wave a magic wand and make things happen overnight. That is not mature politics. We need each other. We can create a new type of politics and a new type of journalism in the new Wales.

Yr oedd cwestiwn ynghylch natur y sylw a roddir i’r Cynulliad gan y cyfryngau. Mewn rhai achosion, anwybyddwyd cymhlethdodau’r berthynas rhwng y Llywodraeth, y Comisiwn Ewropeaidd a ni. Bu beirniadu ar y Cynulliad am nad oedd yn gallu chwifio ffon hud a gwneud i bethau ddigwydd dros nos. Nid gwleidyddiaeth aeddfed mo hynny. Mae arnom angen ein gilydd. Gallwn greu math newydd o wleidyddiaeth a math newydd o newyddiaduraeth yn y Gymru newydd.

Christine Gwyther has not only done her best to deliver a calf processing aid scheme, but she has done the best anyone could have done. If we have not got the result that we wished for it is not through lack of trying. I would oppose a strategy of only setting ourselves targets that we know we can achieve from the outset. We should be ambitious for Wales even if that sometimes means that we do not succeed. In the Mumph cartoon today, Christine Gwyther appears holding a ‘Free Gwyther’ T-shirt and the caption is: ‘Exactly which player would you like to wear it?’ I will tell you. Neil Jenkins. That is because even he has been on the losing side but he does not let us down. Christine Gwyther has not let us down, by her efforts—

Nid yn unig y mae Christine Gwyther wedi gwneud ei gorau i wireddu cynllun cymorth prosesu lloi, ond fe wnaeth y gorau y gallai unrhyw un ei wneud. Os na chawsom y canlyniad yr oeddem yn ei ddymuno, nid diffyg ymdrech sydd yn gyfrifol am hynny. Byddwn yn gwrthwynebu strategaeth o beidio â gosod ond y targedau hynny y gwyddom y gallwn eu cyrraedd o’r dechrau. Dylem fod yn uchelgeisiol dros Gymru hyd yn oed os yw hynny’n golygu weithiau na fyddwn yn llwyddo. Yng nghartŵn Mumph heddiw, fe welir Christine Gwyther yn dal crys T a’r geiriau ‘Free Gwyther’ arno a’r frawddeg oddi tano yw ‘Pa chwaraewr yn union yr hoffech ei weld yn ei wisgo?’ Fe ddywedaf wrthych. Neil Jenkins. A’r rheswm yw ei fod ef hyd yn oed wedi bod yn y tîm sydd yn colli ond ni fydd byth yn ein siomi. Nid yw Christine Gwyther wedi ein siomi, drwy ei hymdrechion—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 82

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 82

Order. We are losing time in the short debate.

Trefn. Yr ydym yn colli amser y ddadl fer.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 83

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

This is my last sentence.

Hon yw fy mrawddeg olaf.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

This is out of order.

Mae hyn allan o drefn.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 83

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

We have used the powers of this Assembly effectively and used our initiative. Let us concentrate on that.

Yr ydym wedi defnyddio pwerau’r Cynulliad hwn yn effeithiol ac wedi mentro gweithredu. Gadewch inni ganolbwyntio ar hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

We will now vote on the amendment standing in the names of Dafydd Wigley, Nick Bourne and Michael German.

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliant a gyflwynwyd yn enwau Dafydd Wigley, Nick Bourne a Michael German.

Gwelliant 1 Rhodri Glyn Thomas t. 83

Amendment 1 Rhodri Glyn Thomas p. 83

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

I am in doubt as to the result, I will therefore call for a confirmatory vote, which will be conducted by roll-call.

Nid wyf yn sicr o’r canlyniad, felly galwaf am bleidlais gadarnhau, a gynhelir drwy alw’r gofrestr.

Gwelliant 1 Rhodri Glyn Thomas t. 83

Amendment 1 Rhodri Glyn Thomas p. 83

DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 27

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Jane Davidson
Yn erbynAgainst (27)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 84

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 84

We will now vote on the amended motion:

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

that this Assembly notes the steps taken by the Assembly Cabinet to win support for a Welsh calf scheme and in the light of recent events calls on the Cabinet to make an unequivocal announcement today as to whether the scheme is to proceed.

bod y Cynulliad hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan Gabinet y Cynulliad i ennyn cefnogaeth i’r cynllun lloi Cymreig ac yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, yn galw ar y Cabinet i wneud datganiad cwbl bendant heddiw ar ba un a yw’r cynllun i fynd rhagddo neu beidio.

Cynnig Christine Gwyther t. 84

Motion Christine Gwyther p. 84

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 84

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 84

To avoid doubt, and for precedent, I will call for a confirmatory vote, which will be conducted by roll-call.

Fel na fydd ansicrwydd, ac er mwyn dilyn cynsail, fe alwaf am bleidlais gadarnhau, a gynhelir drwy alw’r gofrestr.

Cynnig Christine Gwyther t. 84

Motion Christine Gwyther p. 84

DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 27

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Jane Davidson
Yn erbynAgainst (27)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Dadl Fer

Short Debate

Gwobrwyo Athrawon Da

Rewarding Good Teachers

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 85

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

I am grateful to Jonathan Morgan for his indulgence, which he indicated a few minutes ago, because of the time taken by the earlier debate.

Diolchaf i Jonathan Morgan am ei oddefgarwch, a nododd rai munudau’n ôl, oherwydd yr amser a gymerwyd gan y ddadl flaenorol.

Jonathan Morgan spoken in English p. 85

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 85

In keeping with the custom that has been established in this Chamber, I have spoken to Gareth Jones and Jenny Randerson who have agreed, time permitting, to contribute to the debate.

Yn unol â’r arfer a sefydlwyd yn y Siambr hon, yr wyf wedi siarad â Gareth Jones a Jenny Randerson sydd wedi cytuno i gyfrannu i’r ddadl hon, os bydd amser yn caniatáu.

The Assembly must consider a number of issues in detail during its first term. The way in which we reward our teaching profession needs to be thoroughly examined. Teachers do so much to influence the lives of children and young people across the nation. Through their profession, they have a profound impact on the academic and vocational direction of thousands of young people. This issue is of central importance to the future of our education system.

Rhaid i’r Cynulliad roi ystyriaeth fanwl i nifer o faterion yn ystod ei dymor cyntaf. Mae angen edrych yn drwyadl ar y modd y byddwn yn gwobrwyo ein hathrawon. Mae athrawon yn cyflawni cymaint i ddylanwadu ar fywydau plant a phobl ifainc ar hyd a lled y wlad. Drwy eu proffesiwn, cânt effaith ddofn ar gyfeiriad academaidd a galwedigaethol miloedd o bobl ifainc. Mae’r mater hwn o bwys canolog i ddyfodol ein system addysg.

Most commentators would agree that teaching is at a crossroads. The profession has reached a defining moment in its development. Teachers play a pivotal role in society. They are responsible for shaping and moulding the next generation of citizens. Therefore, when we in this Assembly discuss the problems of community disorder and social exclusion, they are inseparable from issues affecting the education system itself. There is no need to lecture this Assembly about the importance of teaching and teachers. All Members share the view that the profession is vital to the development of a successful Wales in the twenty-first century.

Byddai’r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno bod dysgu ar groesffordd. Mae’r proffesiwn wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ei ddatblygiad. Mae athrawon yn chwarae rhan ganolog mewn cymdeithas. Maent yn gyfrifol am siapio a mowldio dinasyddion y genhedlaeth nesaf. Felly, pan fyddwn ni yn y Cynulliad hwn yn trafod problemau anhrefn gymunedol ac allgàu cymdeithasol, ni ellir eu gwahanu oddi wrth faterion sydd yn effeithio ar y system addysg ei hun. Nid oes angen pregethu wrth y Cynulliad hwn am bwysigrwydd dysgu ac athrawon. Mae’r holl Aelodau’n gytûn bod y proffesiwn yn hanfodol i ddatblygu Cymru lwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain.

Teachers’ salaries over the last 20 years have increased significantly in real terms. However, the acceleration in private sector incomes over the same period has far exceeded teachers’ salaries. In similar professions, such as accountancy, law, consultancy, the civil service and even politics, people can earn substantial sums of money without necessarily reaching the pinnacle of their profession. The status of teaching has, in this sense, taken a considerable knock.

Mae cyflogau athrawon wedi cynyddu’n sylweddol o ran eu gwir werth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, bu’r cynnydd yn incwm y sector preifat dros yr un cyfnod yn fwy o lawer na’r hyn a gafwyd mewn cyflogau athrawon. Mewn proffesiynau tebyg, fel cyfrifyddiaeth, y gyfraith, ymgynghori, y gwasanaeth sifil a hyd yn oed gwleidyddiaeth, gall pobl ennill symiau sylweddol o arian heb gyrraedd brig eu proffesiwn o reidrwydd. Rhoddwyd cryn ergyd i statws dysgu yn yr ystyr hon.

The regrettable reality for many teachers in Wales is that unless you become a head teacher of a large secondary school, you have little chance of keeping up with the pay of your contemporaries in equivalent professions. This has meant that increasing numbers of good teachers have left the classroom to become involved in school administration. However, many teachers never entered the profession to become school bureaucrats. They joined the profession to inspire and enlighten children and young adults. It is, therefore, not hard to understand why some teachers have become disillusioned. Good teachers should not have to sacrifice the prosperity and financial well-being of their family to stay in the profession.

Y gwir anffodus i lawer o athrawon yng Nghymru yw oni bai ichi ddod yn bennaeth ysgol uwchradd fawr, mai prin fydd eich cyfle i gael cyflog sydd yn debyg i gyflogau’ch cyfoedion mewn proffesiynau cyfatebol. Oherwydd hyn mae niferoedd cynyddol o athrawon da wedi gadael yr ystafell ddosbarth i gymryd rhan mewn gweinyddu ysgolion. Fodd bynnag, daeth llawer o athrawon i’r proffesiwn heb fwriad erioed o ddod yn fiwrocratiaid ysgol. Daethant i’r proffesiwn er mwyn ysbrydoli a goleuo plant a phobl ifainc. Hawdd yw deall, felly, pam y mae rhai athrawon wedi eu dadrithio. Ni ddylai athrawon da orfod aberthu ffyniant a lles ariannol eu teuluoedd er mwyn aros yn y proffesiwn.

Why have previous governments of all political persuasions not done something about teachers’ pay? One of the reasons is the existing pay spine structure, which is uniform and inflexible. It is exceedingly difficult for the present system to distinguish between teachers who excel and those who do not. Thus, any pay rises given to teachers in the past have had to be given as a right across the board. This has deterred many a Government Minister from putting money into teachers’ pay, as this money could be more precisely targeted at the classroom in other ways. Therefore, good teachers have had to make do with the same salary increase as that of the average.

Pam na wnaeth llywodraethau blaenorol o bob tuedd gwleidyddol rywbeth ynghylch cyflogau athrawon? Un o’r rhesymau yw’r strwythur presennol o raddfeydd cyflog, sydd yn unffurf ac yn anhyblyg. Mae’n anodd tu hwnt i’r system bresennol wahaniaethu rhwng athrawon sydd yn rhagori a rhai nad ydynt. Felly, mae unrhyw godiadau cyflog yn y gorffennol wedi eu rhoi fel hawl yn ddiwahân. Mae hyn wedi rhwystro llawer o Weinidogion Llywodraeth rhag rhoi arian at gyflogau athrawon, am y gellid targedu’r arian hwn ar yr ystafell ddosbarth yn fanylach mewn ffyrdd eraill. Felly, bu’n rhaid i athrawon da fodloni ar yr un codiadau cyflog â’r cyfartaledd.

However, pay is not the only element that can contribute towards the improved status of teaching. Financial incentives are important to enhance the role of teachers, but so too are decent working conditions. There are too many sub-standard classrooms across Wales; where money to pay for maintenance and repairs has not been forthcoming. This has the potential to affect the ability of teachers to teach and of children to learn. In my own constituency, there are such appalling school buildings that many children in the winter period are absent from school due to ill health, often brought on by inadequate heating systems. This is no incentive for children to learn and little assistance to teachers who enjoy teaching. I remind the Assembly Secretary for Education and Children that to reward good teachers does not only involve a pay reward scheme; it is also about working conditions.

Fodd bynnag, nid cyflog yw’r unig elfen sydd yn gallu cyfrannu at wella statws dysgu. Mae anogaethau ariannol yn bwysig er mwyn hyrwyddo rôl athrawon, ac amodau gwaith gweddus hefyd yr un modd. Ceir gormod o lawer o ystafelloedd dosbarth israddol ar hyd a lled Cymru; lle na chafwyd arian i dalu am waith cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae modd i hyn effeithio ar allu athrawon i ddysgu plant ac ar allu plant i ddysgu oddi wrthynt. Yn f’etholaeth i, fe geir adeiladau ysgol sydd mor warthus fel bod llawer o blant yn absennol o’r ysgol yn y gaeaf oherwydd afiechyd, a achosir yn aml gan systemau gwresogi annigonol. Nid yw hyn yn anogaeth o gwbl i blant ddysgu ac nid yw o fawr gymorth i athrawon sydd yn mwynhau dysgu. Atgoffaf yr Ysgrifennydd Cynulliad Addysg a Phlant nad yw gwobrwyo athrawon da yn ymwneud â chynllun gwobrwyon cyflog yn unig; mae’n ymwneud hefyd ag amodau gwaith.

Moving on to the proposals that the Under-16 Education Committee and the Assembly must consider. It is regrettable that there is only an eight-week consultation period. For a document of such far-reaching importance a longer consultation period would have been appropriate. After all, these changes are due to be implemented within ten months.

Gan symud ymlaen at y cynigion y bydd yn rhaid i’r Pwyllgor Addysg Cyn-16 eu hystyried. Mae’n destun gofid nad yw’r cyfnod ymgynghori ond yn wyth wythnos. Byddai cyfnod ymgynghori hwy yn fwy priodol yn achos dogfen o bwysigrwydd pellgyrhaeddol fel hon. Wedi’r cyfan, mae’r newidiadau hyn i’w gweithredu o fewn deg mis.

Teaching unions and other associations must be given enough time to conduct extensive soundings with their members if these proposals are to work. Short cuts will only jeopardise the scheme and reflect badly on the administration.

Rhaid rhoi digon o amser i undebau athrawon a chymdeithasau eraill brofi barn yn helaeth ymhlith eu haelodau os yw’r cynigion hyn i weithio. Drwy frysio ni wneir dim ond peryglu’r cynllun ac mae hyn yn adlewyrchu’n wael ar y weinyddiaeth.

Much has been said in the press about the plans being based on payment by results. However, let me make this crystal clear. It is the policy of the Welsh Conservative Party to oppose any crude link between pupils’ exam performance and teachers’ salary. We all know that pupil performance can be the result of a host of factors. Children achieve different results within different sets and streams. Pupils who have suffered social and economic exclusion are all too often at a disadvantage in the classroom. It would be wrong to disadvantage teachers as a result of these factors. Added value might be one way in which teacher performance may be more accurately appraised. Recognition should be given to teachers who improve the grades of pupils who may not hit the top grades. This value-added approach is much more useful than a simplistic approach to performance related pay. Teaching children is not like producing widgets. We must consider a complex range of factors.

Dywedwyd llawer yn y wasg am y ffaith bod y cynlluniau yn seiliedig ar dalu yn ôl canlyniadau. Fodd bynnag, gadewch imi roi ar ddeall yn gwbl glir. Polisi Plaid Geidwadol Cymru yw gwrthwynebu unrhyw gysylltiad moel rhwng perfformiad disgyblion mewn arholiadau a chyflogau athrawon. Gwyddom fod llu o ffactorau’n gallu effeithio ar berfformiad disgyblion. Mae plant yn cael gwahanol ganlyniadau o fewn gwahanol setiau a ffrydiau. Mae plant a ddioddefodd oherwydd allgàu cymdeithasol ac economaidd dan anfantais yn llawer rhy aml yn yr ystafell ddosbarth. Ni fyddai’n iawn rhoi athrawon dan anfantais oherwydd y ffactorau hyn. Efallai y byddai gwerth ychwanegol yn un ffordd i werthuso perfformiad athrawon yn fwy manwl. Dylid rhoi cydnabyddiaeth i athrawon sydd yn gwella graddau disgyblion na fyddant hwyrach yn cyrraedd y graddau uchaf. Mae’r dull gwerth ychwanegol hwn yn fwy defnyddiol o lawer na dull gor-syml o ymdrin â thâl yn ôl perfformiad. Nid yw dysgu plant yn debyg i gynhyrchu petheuach. Rhaid inni ystyried amrediad cymhleth o ffactorau.

With all due credit to the Secretary for Education and Children, at first sight these proposals do not amount to a crude system of payment by results. The Government has backtracked somewhat in response to the numerous criticisms received. That is to be welcomed. However, the proposals still portray distinct signs of other weaknesses, and our misgivings and reservations are on two fronts. The first reservation is that the consultation paper outlines proposals that are immensely bureaucratic for teachers, heads and governors to administer. Secondly, the scheme is heavily centralised. I will give you a short taster of what the administration’s performance related pay structure would involve for teachers.

Gan roi pob clod dyladwy i’r Ysgrifennydd Addysg a Phlant, nid yw’r cynigion hyn ar yr olwg gyntaf yn golygu system foel o dalu yn ôl canlyniadau. Mae’r Llywodraeth wedi cilio i ryw raddau mewn ymateb i’r nifer fawr o sylwadau beirniadol a dderbyniodd. Mae hynny i’w groesawu. Fodd bynnag, mae’r cynigion yn dal i amlygu arwyddion pendant o wendidau eraill, ac mae’r amheuon sydd gennym o ddau fath. Yr amheuaeth gyntaf yw bod y papur ymgynghorol yn amlinellu cynigion sydd yn hynod fiwrocrataidd i’w gweithredu gan athrawon, penaethiaid a llywodraethwyr. Yn ail, mae’r system yn ganoledig iawn. Rhoddaf flas i chi o’r hyn y byddai strwythur tâl yn ôl perfformiad yr weinyddiaeth yn ei olygu i athrawon.

It starts with the school development plan. It then moves on to the teacher work development plans, then the work monitoring plans, then the self-review plans, followed at long last by an annual team review plan. That is just the beginning. This information then has to be assimilated into performance thresholds, then into performance pay points and then verified by so-called external assessors. Only then can this be passed on to head teachers, followed by school governors and, finally, to local authorities.

Y man cychwyn yw cynllun datblygu’r ysgol. Mae’n symud wedyn at y cynlluniau datblygu ar gyfer gwaith athrawon, wedyn y cynlluniau monitro gwaith, wedyn y cynlluniau hunanadolygu, ac o’r diwedd cynllun adolygu tîm blynyddol. Dim ond y dechrau yw hynny. Rhaid cynnwys yr wybodaeth hon wedyn mewn trothwyau perfformiad, wedyn mewn pwyntiau cyflog perfformiad a’i dilysu wedyn gan y rhai a elwir yn aseswyr allanol. Dim ond wedyn y gellir ei throsglwyddo i’r prifathrawon, llywodraethwyr yr ysgol wedyn ac, yn olaf, yr awdurdodau lleol.

If that is not a recipe for a bureaucratic nightmare, I do not know what is. Teachers already suffer from a flood of paperwork, much of it related to the control freak tendency. Endless directives, guidelines and regulations are sent from Whitehall, particularly since this Government came into power two years ago. This extra red tape can only make matters worse for teachers.

Ni allaf feddwl am ddim sydd yn sicrach o arwain at hunllef fiwrocrataidd na hynny. Mae’r athrawon yn dioddef eisoes dan lwyth o waith paur, llawer ohono’n gysylltiedig â’r tuedd i or-reoli. Gyrrir cyfarwyddebau, canllawiau a rheoliadau dibendraw o Whitehall, yn enwedig ers i’r Llywodraeth hon ddod i rym ddwy flynedd yn ôl. Ni all y fiwrocratiaeth ychwanegol hon ond ei wneud yn waeth i athrawon.

I intended to raise specific points of concern this afternoon, but being mindful of time I am willing to put those in a letter to the Secretary for Education and Children. However, we must consider the amounts of money that we can spend on rewarding teachers, the amount that will be needed to fund the bureaucratic element of this system and the whole system of external assessors. We must consider these issues carefully.

Yr oedd yn fwriad gennyf godi pwyntiau penodol oedd yn peri pryder brynhawn heddiw, ond o gofio’r amser sydd ar gael yr wyf yn barod i roi’r rhain mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant. Fodd bynnag, rhaid inni ystyried y symiau o arian y gallwn eu gwario ar wobrwyo athrawon, y swm fydd yn angenrheidiol i ariannu elfen fiwrocrataidd y system hon a holl system yr aseswyr allanol. Rhaid inni ystyried y materion hyn yn ofalus.

The centralised approach inherent in this system is imbued with the philosophy that the man from Whitehall—David Blunkett in this case—knows best. So much for devolution of power. The scheme is based on national pay spines, national performance criteria and national enforcement. As the body that has to cough up the money for this scheme, it is vital that we reflect upon Wales’s priorities and that this Government reflects on the Assembly’s priorities in its implementation.

Mae’r dull canoledig sydd yn rhan gynhenid o’r system hon yn llawn o’r athroniaeth mai’r dyn yn Whitehall—David Blunkett yn yr achos hwn—a ŵyr orau. Ai datganoli grym ydyw hyn? Mae’r cynllun yn seiliedig ar raddfeydd cyflog cenedlaethol, meini prawf perfformiad cenedlaethol a gorfodaeth genedlaethol. Fel y corff sydd yn gorfod dod o hyd i’r arian i’r cynllun hwn, mae’n holl bwysig inni ystyried blaenoriaethau Cymru a bod y Llywodraeth hon yn ystyried blaenoriaethau’r Cynulliad wrth ei weithredu.

As I have already said, the Welsh Conservative Party is wholly in favour of the principle of extra pay for good teachers. However, the best way to do that is to develop a local performance management system, rather than one dictated from Whitehall. Real devolution is about giving power to schools. We should devolve these extra resources to them, allowing them to find their own solutions. The notion of imposing a uniform performance structure across the 27,000 primary and secondary schools in England and Wales is absurd. Local schools emphatically need a local approach to this issue, not a national straightjacket.

Fel y dywedais eisoes, mae Plaid Geidwadol Cymru yn llwyr o blaid yr egwyddor o gyflog ychwanegol i athrawon da. Fodd bynnag, y ffordd orau i wneud hynny yw datblygu system rheoli perfformiad lleol, yn hytrach nag un a reolir o Whitehall. Mae gwir ddatganoli’n ymwneud â rhoi pŵer i ysgolion. Dylem ddatganoli’r adnoddau ychwanegol hyn iddynt hwy, a chaniatáu iddynt ganfod eu hatebion eu hunain. Mae’r syniad o orfodi strwythur perfformiad unffurf ar y 27,000 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr yn afresymol. Mae’n sicr bod ar ysgolion lleol angen agwedd leol at y mater hwn, nid gwasgod gaeth genedlaethol.

In winding up, we have the opportunity to make a real difference in Wales on this issue. We all believe in rewarding good teachers. However, we are faced with two contrasting approaches to this task. On the one hand we have this administration’s approach, which is heavily centralised and bureaucratic. On the other, we have a real alternative that will allow schools to determine their own priorities and reward teachers in their own ways. This devolved approach should be the model for us to follow—devolution not to the politicians of Wales but to the people of Wales.

I derfynu, mae gennym gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru ar y mater hwn. Yr ydym oll yn credu y dylid gwobrwyo athrawon da. Fodd bynnag, mae dau ddull gwrthgyferbyniol ar gael i ymdrin â’r dasg hon. Ar un llaw, dull y weinyddiaeth, sydd yn ganolog ac yn fiwrocrataidd iawn. Ar y llaw arall, y gwir ddewis amgen a fydd yn caniatáu i ysgolion benderfynu eu blaenoriaethau eu hunain a gwobrwyo athrawon yn eu ffyrdd eu hunain. Y dull datganoledig hwn yw’r un y dylem ei ddilyn—nid datganoli i wleidyddion Cymru ond i bobl Cymru.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 90

Gareth Jones spoken in Welsh p. 90

Diolchaf i Jonathan am gyflwyno’r ddadl hon ac am ddewis ‘gwobrwyo athrawon da’ fel teitl. Yr wyf yn falch ac yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu. Byddaf yn gryno, Llywydd. Yr wyf yn derbyn bod amser yn ein herbyn ac na allaf ymdrin â phob agwedd y cyferiodd Jonathan atynt ond hoffwn sôn am rai pethau y teimlaf sydd o bwys i ni.

I thank Jonathan for presenting this debate and for selecting ‘rewarding good teachers’ as a title. I am pleased and grateful for the opportunity to contribute. I will be brief, Presiding Officer. I accept that time is against us and that I cannot pursue all the aspects referred to by Jonathan, but I will mention some things which I feel are important to us.

Un ffaith yw bod athrawon bellach yn fodlon derbyn i’w perfformiad gael ei asesu. Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen yn y broses o wella perfformiad ac, felly, o wella safonau cyrhaeddiad disgyblion. Mae’r ddogfen ddiweddaraf ar reoli perfformiad yn addawol gan ei bod yn seilio rheolaeth ar agweddau a systemau sydd eisoes yn ein hysgolion megis gosod targedau, monitro a gwerthuso ac, mewn rhai ysgolion, Buddsoddwyr mewn Pobl. Yr wyf yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar yr apêl a wneuthum yn ystod y ddadl ar gyflogau athrawon ym mis Mehefin eleni a’i bod yn bwriadu adeiladu ar yr arfer da hwn a’i atgyfnerthu.

One fact is that teachers are now willing to accept assessment of their performance. This is a substantial step forward in the process of improving performance and, therefore, improving the standards of pupil attainment. The latest document on managing performance is promising as it bases management on approaches and systems that exist in our schools such as target setting, monitoring and appraisal and, in some schools, Investors in People. I welcome the fact that the Government of Wales listened to my appeal during the debate on teachers’ salaries in June of this year and that it intends to build on this good practice and reinforce it.

Yn y broses o wobrwyo a chydnabod gwaith da ein hathrawon, yr hyn sydd yn holl bwysig yw sefydlu meini prawf cyffredin a chyffelyb i bob athro, beth bynnag fo’r cefndir cymdeithasol a’r amodau gwaith yn yr ysgol, fel y dywedodd Jonathan. Mae nifer o athrawon yn gweithio dan amodau anodd iawn. Mewn arolwg diweddar gan Swyddfa Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru, neu Estyn erbyn hyn, rhestrwyd nodweddion cyffredin ysgolion â safonau perfformiad isel. Cyfeiriwyd at ffactorau megis dalgylchoedd ag amddifadedd cymdeithasol ac economaidd. Mewn amgylchiadau felly byddai’n annoeth iawn ac yn gynamserol i osod targedau yn seiliedig ar berffomiad neu gynnydd disgyblion. Fel Jonathan, fy apêl yw na ddylid cyplysu cyflogau athrawon â pherfformiad disgyblion—hynny yw, cyflog ar sail canlyniadau. Gadewch inni feddwl am ffordd arall o wobrwyo athrawon da.

In the process of rewarding and acknowledging the good work of our teachers, it is vital to establish common and similar criteria for all teachers whatever the social background and the conditions of work in the school, as Jonathan mentioned. A number of teachers work under very difficult conditions. In a recent survey by the Office of Her Majesty’s Chief Inspector for Schools in Wales, now known as Estyn, the common features of schools with low performance levels were listed. Factors such as catchment areas with social and economic deprivation were mentioned. In such circumstances it would be very unwise and premature to set performance levels based on pupil performance and progress. Like Jonathan, my appeal is that teachers’ salaries should not be linked to pupils’ performance—that is, pay based on results. Let us think of another way of rewarding good teachers.

Jenny Randerson spoken in English p. 91

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 91

The Liberal Democrats are not opposed to performance related pay. We are in favour of it for politicians. We went into the election with a manifesto promise that we would put the whole Cabinet on performance related pay. We are in favour of it but only in appropriate circumstances. Teaching children is not like assembling cars. They come in very different models and they are not standard. My particular concern in rewarding good teachers is the effects of the Government proposals on teachers in some of our toughest schools where it is difficult to measure good teaching, where in fact it is difficult to teach at all. Many schools find it difficult to attract teachers and we have ignored teachers in some of the toughest jobs for a very long time. The Government paper suggested that teachers were not motivated. Every teacher is motivated to be a good teacher. Anyone who has ever taught knows that as a bad teacher you face noise in the classroom and lack of respect from your colleagues. I do not believe that anyone is not motivated to be a good teacher. The Government has confused motivation with morale. The best way of dealing with this problem is to give teachers decent working conditions and the basic tools to do the job. The original proposals were unfair because they are based on crude results. The renewed proposals are fairer because they are based on subtler measures, but they are a bureaucratic mountain. The fairest result of all would be to abandon that and to use the £66 million in schools to improve conditions to help all teachers be good teachers.

Nid yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu cyflogau sydd yn gysylltiedig â pherfformiad. Yr ydym o’u plaid yn achos gwleidyddion. Aethom i’r etholiad gydag addewid yn ein maniffesto y byddem yn rhoi’r holl Gabinet ar gyflogau’n gysylltiedig â pherfformiad. Yr ydym o’i blaid ond dim ond mewn amgylchiadau priodol. Nid yw dysgu plant yr un fath â rhoi ceir wrth ei gilydd. Ceir modelau sydd yn wahanol iawn i’w gilydd ac nid oes dim un yr un fath. Y pryder penodol sydd gennyf ynghylch gwobrwyo athrawon da yw effeithiau cynigion y llywodraeth ar athrawon mewn rhai o’n hysgolion mwyaf anodd lle mae’n anodd mesur dysgu da, lle mae’n anodd dysgu o gwbl, mewn gwirionedd. Mae llawer o ysgolion yn ei chael yn anodd denu athrawon ac yr ydym wedi anwybyddu athrawon mewn rhai o’r swyddi anoddaf ers amser maith iawn. Yr oedd papur y Llywodraeth yn awgrymu nad oedd athrawon yn teimlo cymhelliant. Mae pob athro da yn ymdeimlo â chymhelliant i fod yn athro da. Bydd rhywun a fu’n athro yn gwybod bod athrawon drwg yn wynebu sŵn yn yr ystafell ddosbarth a diffyg parch oddi wrth gyd-weithwyr. Ni chredaf fod neb nad yw’n ymdeimlo â chymhelliant i fod yn athro da. Mae’r Llywodraeth wedi cymysgu rhwng cymhelliant a morâl. Y ffordd orau o ymdrin â’r broblem hon yw rhoi amodau gwaith gweddus i athrawon a’r arfau sylfaenol i wneud y gwaith. Yr oedd y cynigion gwreiddiol yn annheg am eu bod yn seiliedig ar ganlyniadau moel. Mae’r cynigion wedi’u diwygio yn decach am eu bod yn seiliedig ar fesuryddion manylach, ond maent yn fynydd o fiwrocratiaeth. Y canlyniad tecaf fyddai rhoi’r gorau i hynny a defnyddio’r £66 miliwn mewn ysgolion i wella amodau i helpu’r holl athrawon i fod yn athrawon da.

We have had this debate on a number of occasions. Each time, I am impressed with how deeply all parties feel about teachers, and how valuable they feel teachers are to society. I agree with much of what Gareth Jones and Jenny Randerson said. However, there are some things Jonathan said today, which he has not said in the past and which worry me greatly. I hoped he would say that he did not agree with William Hague, who has said—I think that I quote him correctly—that pay for teachers should be agreed at a local level. That would mean that local governing bodies would decide teachers’ pay. That could lead to five or six schools in one town all paying different rates of pay to their teachers. That would be a recipe for disaster.

Cawsom y drafodaeth hon ar sawl achlysur. Gwneir argraff arnaf bob amser gan y teimladau cryf sydd gan yr holl bleidiau ynghylch athrawon, ac mor werthfawr yw athrawon i gymdeithas yn eu golwg. Cytunaf â llawer o’r hyn a ddywedodd Gareth Jones a Jenny Randerson. Fodd bynnag, mae rhai pethau a ddywedodd Jonathan heddiw, nad yw wedi eu dweud yn y gorffennol, sydd yn peri pryder mawr i mi. Yr oeddwn yn gobeithio y byddai’n dweud nad oedd yn cytuno â William Hague, a ddywedodd—a chredaf fy mod yn ei ddyfynnu’n iawn—y dylid cytuno ar gyflogau athrawon ar lefel leol. Fe olygai hynny mai cyrff llywodraethol lleol a fyddai’n pennu cyflogau athrawon. Gallai hynny arwain at sefyllfa lle y byddai pump neu chwech o ysgolion mewn un dref a phob un yn talu gwahanol gyfraddau cyflog i’w hathrawon. Byddai hynny’n sicr o achosi trychineb.

Karen Sinclair spoken in English p. 92

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 92

Will you give way?

A ydych yn fodlon ildio?

Rosemary Butler spoken in English p. 92

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 92

No, I only have a few minutes. It is important to understand that no teacher will be disadvantaged by this scheme and the majority will benefit from it. The Government has listened to consultations and I am pleased that the document I have distributed this week is much more in line with what we were looking for from the Assembly. Eight weeks is sufficient time for consultation on this document, as discussions have been on-going for nearly a year.

Nac ydwyf, dim ond ychydig funudau sydd gennyf. Mae’n bwysig deall na fydd yr un athro dan anfantais o ganlyniad i’r cynllun hwn a bydd y mwyafrif yn elwa arno. Gwrandawodd y Llywodraeth ar yr ymgynghoriadau ac yr wyf yn falch bod y ddogfen a gylchredais yr wythnos hon yn fwy cytûn â’r hyn yr ydym yn ei geisio oddi wrth y Cynulliad. Mae wyth wythnos yn ddigon o amser i ymgynghori ar y ddogfen hon, oherwydd mae’r trafodaethau yn mynd yn eu blaenau ers bron flwyddyn.

First, why are we doing this? The pay and performance management reforms proposed in the Green Paper and subsequent documents have several aims. We want to improve the pay of teachers who work consistently well in the classroom and help children to achieve their full potential. We also want to ensure that the pay structure for classroom teachers provides an encouragement for excellent teachers to stay in the classroom and use their skills for our children’s education. By doing this, we can make teaching a more rewarding and fulfilling career and encourage talented people to join the teaching profession and stay in it.

Yn gyntaf, pam yr ydym yn gwneud hyn? Mae sawl nod yn y diwygiadau rheoli cyflog a pherfformiad a gynigir yn y Papur Gwyrdd a’r dogfennau a’i dilynodd. Yr ydym am wella cyflogau athrawon sydd yn gweithio’n dda yn gyson yn yr ystafell ddosbarth ac yn helpu plant i gyflawni eu potensial. Yr ydym hefyd am sicrhau bod y strwythur cyflogau i athrawon yn yr ystafell ddosbarth yn rhoi anogaeth i athrawon rhagorol aros yn yr ystafell ddosbarth a defnyddio eu medrau er mwyn addysg ein plant. Drwy wneud hyn, gallwn wneud dysgu yn yrfa fwy boddhaus a gwerthfawr ac annog pobl dalentog i ymuno â’r proffesiwn dysgu ac aros ynddo.

Secondly, what are we offering? There appears to be some misunderstanding—whether deliberate or not—about this. Subject to the views of the School Teachers’ Review Body, there will be a new upper pay spine for teachers who are successful at a ‘performance threshold’. There will be an opportunity for all teachers with nine points for qualifications and experience to access this new upper pay spine, but application will be voluntary.

Yn ail, beth yr ydym yn ei gynnig? Mae’n ymddangos bod rhyw gamddealltwriaeth ynghylch hynny—boed fwriadol neu fel arall. Yn amodol ar farn Corff Adolygu’r Athrawon Ysgol, bydd graddfa gyflog uchaf newydd i athrawon sydd yn llwyddo ar ‘drothwy perfformiad’. Bydd cyfle i’r holl athrawon sydd â naw pwynt am eu cymwysterau a’u profiad gael mynediad i’r raddfa gyflog uchaf newydd, ond bydd ymgeisio yn wirfoddol.

Assessment will be against national threshold standards. Trained and accredited assessors will check that judgments made by headteachers are in line with those standards. Success at the threshold will mean pay rises of up to £2,000. Further pay awarded for meeting the requirements of the new upper pay scale could bring the salary of a classroom teacher from the present £23,000 to £30,000; management allowances on top of that could bring salaries of post-threshold teachers to over £35,000.

Fe asesir yn ôl safonau trothwy cenedlaethol. Bydd aseswyr hyfforddedig ac achrededig yn gwirio bod dyfarniadau a wnaethpwyd gan brifathrawon yn unol â’r safonau hynny. Bydd llwyddiant ar y trothwy yn golygu codiadau cyflog o hyd at £2,000. Fe allai cyflog pellach a ddyfernir am gyrraedd gofynion y raddfa gyflog newydd uchaf godi cyflog athro yn yr ystafell ddosbarth o’r £23,000 presennol i £30,000; byddai lwfansau rheoli ar ben hynny yn gallu codi cyflogau athrawon sydd yn uwch na’r trothwy i dros £35,000.

Thirdly, what do we ask in return? What we propose is a fair exchange: serious investment for necessary reform; a significant pay increase for a large proportion of teachers in return for a proper system of performance management and assessment. Performance management should help teachers to improve their effectiveness for their own benefit and the benefit of the children they teach. It builds on the good practice that many schools have already found to work and will help to raise standards.

Yn drydydd, beth a ofynnwn yn gyfnewid am hyn? Yr hyn a gynigiwn yw cyfnewid teg: buddsoddi sylweddol ar gyfer newid angenrheidiol; codiad cyflog sylweddol i gyfran fawr o athrawon yn gyfnewid am system briodol i reoli ac asesu perfformiad. Dylai’r system rheoli perfformiad fod yn gymorth i athrawon wella eu heffeithiolrwydd er eu budd eu hunain ac er budd y plant y maent yn eu dysgu. Bydd yn adeiladu ar sail yr arfer da y gwelodd yr ysgolion ei fod yn gweithio ac yn helpu i godi safonau.

Reviews of performance will take account of the full range of teachers’ achievements. As well as reviewing the progress pupils have made, reviews will also take into consideration how teachers have contributed to team priorities and developed their own professional skills. We want the arrangements to be fair and consistent, with a minimum of bureaucracy. We will offer schools significant support, training and advice.

Bydd adolygiadau ar berfformiad yn rhoi sylw i holl amrediad cyflawniadau athrawon. Yn ogystal ag adolygu’r cynnydd a wnaethpwyd gan ddisgyblion, bydd yr adolygiadau’n ystyried sut y mae athrawon wedi cyfrannu at flaenoriaethau tîm ac wedi datblygu eu medrau proffesiynol eu hunain. Yr ydym am i’r trefniadau fod yn deg ac yn gyson, gyda’r lleiaf posibl o fiwrocratiaeth. Byddwn yn cynnig cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor sylweddol i ysgolion.

Having said what the new system is, I now state what it is not. First, it is not crude payment by results. I have said that before and will continue to do so. I am not in favour of crude performance pay where teachers’ rewards are linked solely to results regardless of the different demands of setting and subject, for example. That is not what is proposed.

Ar ôl dweud beth yw’r system newydd, dywedaf yn awr yr hyn nad yw. Yn gyntaf, nid yw’n golygu talu am ganlyniadau yn fras. Dywedais hynny o’r blaen ac fe’i dywedaf eto. Nid wyf o blaid tâl yn ôl perfformiad moel lle y mae gwobrwyon athrawon wedi eu cysylltu â chanlyniadau yn unig, beth bynnag am wahanol ofynion y sefyllfa a’r pwnc, er enghraifft. Nid hynny a gynigir.

However, we need a system that recognises the contribution that teachers make to their pupils’ achievements. You cannot reasonably assess how effective teachers are at their jobs if you ignore how they affect pupils’ progress. However, objectives for pupil progress—not a simplistic approach to results—should take account of pupils’ starting points and should be agreed in the context of school, pupils and teacher alike.

Fodd bynnag, mae arnom angen system sydd yn cydnabod yr hyn y gall athrawon ei gyfrannu i gyflawniadau eu disgyblion. Ni allwch asesu pa mor effeithiol yw athrawon wrth eu gwaith, yn rhesymol, os anwybyddwch eu heffaith ar gynnydd eu disgyblion. Fodd bynnag, dylai’r amcanion ar gyfer cynnydd disgyblion—nid ymagwedd or-syml at ganlyniadau—roi sylw i fannau cychwyn y disgyblion a dylid eu cytuno yng nghyd-destun yr ysgolion, y disgyblion a’r athrawon fel ei gilydd.

Secondly, the system is not intended to be a total break with what is proposed in England. We need to accept that there are limitations on what we can do. Determination of teachers’ pay is not a matter for the Assembly. We want people to know that in Wales teachers’ professional standards on appraisal and development are the equal of those in England or elsewhere, and that opportunities for advancement and reward are the same.

Yn ail, ni fwriedir i’r system fod yn gwbl wahanol i’r hyn a gynigir yn Lloegr. Rhaid inni dderbyn bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ei wneud. Nid yw penderfynu cyflogau athrawon yn fater i’r Cynulliad. Yr ydym am i bobl wybod fod y safonau proffesiynol ar werthuso a datblygu athrawon yng Nghymru yn gyfwerth â’r rhai yn Lloegr neu mewn mannau eraill, a bod y cyfleoedd am ddyrchafiad a gwobrwyon yr un fath.

The development of the Green Paper proposals through consultation and discussion allows for a performance management system which is suitable for the needs of Wales. At the same time it must be sufficiently robust to enable teachers here to benefit from access to higher pay scales and wider career development throughout Wales and England.

Mae’r modd y datblygir cynigion y Papur Gwyrdd drwy ymgynghori a thrafod yn caniatáu system rheoli perfformiad sydd yn addas i anghenion Cymru. Ar yr un pryd, rhaid iddi fod yn ddigon cadarn i alluogi athrawon yn y fan hon i elwa ar fynediad at raddfeydd cyflog uwch a datblygu ehangach ar eu gyrfa ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Thirdly, this system will not skew expenditure onto administration. We have said that under present plans we have £66 million available over three years to fund the new pay and performance management arrangements as well as funding other proposals in the Green Paper on the future of the teaching profession in Wales and related expenditure. The funding available will cover not only the cost of increased teachers pay but also the necessary assessment and appraisal management systems, including training.

Yn drydydd, ni fydd y system hon yn troi gwariant at weinyddu. Dywedasom fod gennym £66 miliwn ar gael o dan y cynlluniau presennol dros dair blynedd i ariannu’r trefniadau rheoli perfformiad a chyflog newydd yn ogystal ag ariannu cynigion eraill sydd yn y Papur Gwyrdd ynghylch dyfodol y proffesiwn dysgu yng Nghymru a gwariant cysylltiedig. Yn ogystal â chost y cyflogau uwch i athrawon bydd yr arian sydd ar gael hefyd yn cynnwys cost y systemau asesu a gwerthuso angenrheidiol, gan gynnwys hyfforddi.

The administration of the new pay and performance management system is an essential component of its operation. We want to make sure that the system works efficiently and fairly for the benefit of all. We do not intend that administration costs should eat into resources intended to meet teachers’ pay. We have made it clear that we will provide funding to support the pay consequences of the new arrangements.

Bydd gweinyddu’r system rheoli cyflogau a pherfformiad newydd yn elfen hanfodol wrth ei gweithredu. Yr ydym am sicrhau bod y system yn gweithio’n effeithlon ac yn deg er budd pawb. Nid yw’n fwriad gennym weld costau gweinyddu yn llyncu’r adnoddau a fwriedir i dalu am gyflogau athrawon. Yr ydym wedi rhoi ar ddeall y byddwn yn darparu arian i gynnal canlyniadau cyflog y trefniadau newydd.

The Assembly has yet to take decisions about a number of proposals in the Green Paper so a detailed breakdown of costs is not possible at this stage—although I can underline, as both I and officials have said previously, that the largest component would be the costs of increased teachers’ pay.

Nid yw’r Cynulliad wedi penderfynu eto ar nifer o gynigion yn y Papur Gwyrdd felly nid oes modd rhoi dadansoddiad manwl o’r costau ar hyn o bryd—er y gallaf bwysleisio, fel y dywedais i a’m swyddogion cyn hyn—mai’r gyfran fwyaf fydd costau’r cyflogau uwch i athrawon.

In our view sufficient funds will be available to meet the costs of all the measures which will be introduced. No decision has yet been made on a method of distribution for these funds but we will want to reflect need as fairly as possible while involving the minimum of bureaucracy.

Ein barn ni yw y bydd digon o arian ar gael i dalu costau’r holl fesurau a gyflwynir. Ni phenderfynwyd eto ar y dull o ddosbarthu’r arian hwn ond byddwn am sicrhau bod hyn yn cyfateb i’r angen yn y modd tecaf gyda’r lleiaf posibl o fiwrocratiaeth.

What are the next steps? We have announced the detail of the performance management system in the Welsh context. Full details are being circulated to all interested parties, including teaching unions and local education authorities and to all schools in Wales. We want to make sure that all interested parties here have the chance to look at the proposals and discuss them with us. We will also be looking to discuss this issue more closely in Committee next month.

Beth fydd y camau nesaf? Yr ydym wedi cyhoeddi manylion y system rheoli perfformiad yn y cyd-destun Cymreig. Mae’r manylion llawn yn cael eu cylchredeg i bawb sydd yn gysylltiedig, yn cynnwys undebau’r athrawon a’r awdurdodau addysg lleol a’r holl ysgolion yng Nghymru. Yr ydym am sicrhau y bydd pawb sydd yn gysylltiedig yn cael cyfle i edrych ar y cynigion a’u trafod gyda ni. Yr ydym hefyd yn bwriadu trafod y mater hwn yn fanylach yn y Pwyllgor y mis nesaf.

We shall give very careful consideration to the responses to consultation from all concerned, especially teaching associations and unions. I value the views of everyone with an interest in the professional development of teaching. Reactions from teachers unions about the details of the proposals so far have been positive and I look forward to continued discussions on this subject.

Rhown ystyriaeth ofalus iawn i’r ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth bawb dan sylw, yn enwedig cymdeithasau ac undebau’r athrawon. Gwerthfawrogaf farn pawb sydd â diddordeb yn y modd y datblygir dysgu yn broffesiynol. Mae’r ymateb oddi wrth undebau’r athrawon ynghylch manylion y cynigion yn gadarnhaol hyd yn hyn ac edrychaf ymlaen at barhau i drafod y pwnc hwn.

I want to see teachers who work to high standards properly rewarded for their efforts. I want to see teaching becoming a more attractive career and I want a high standard system for Wales which does this as fairly and as reasonably as possible. I believe the proposals we are setting out will achieve these aims.

Yr wyf am weld athrawon sydd yn gweithio at safonau uchel yn cael eu gwobrwyo’n briodol am eu hymdrechion. Yr wyf am weld dysgu’n datblygu’n yrfa fwy deniadol ac am weld system o safon uchel yng Nghymru sydd yn gwneud hyn mor deg a rhesymol â phosibl. Credaf y bydd y cynigion yr ydym yn eu cyflwyno yn cyflawni’r amcanion hynny.

I have covered some points which I felt needed repeating on pay. We are also investing heavily in new school buildings. Apart from money we have allocated to the Welsh Local Government Association for local authorities to spend, we have also announced private finance initiatives for ten new schools fairly recently. So we are attacking what is quite a problem, and one which Jonathan Morgan admitted had taken 20 years to develop, and we are attacking it in the best way possible. I look forward to further constructive discussions on this issue. I hope that the points made today will be brought again to Committee in November.

Yr wyf wedi ymdrin â rhai pwyntiau y credaf fod angen eu hailadrodd ynghylch cyflogau. Yr ydym hefyd yn buddsoddi’n helaeth mewn adeiladau ysgol newydd. Ar wahân i’r arian a ddyrannwyd gennym i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w wario gan awdurdodau lleol, yr ydym hefyd wedi cyhoeddi mentrau cyllid preifat ar gyfer deg ysgol newydd yn eithaf diweddar. Yr ydym yn ymosod ar rywbeth sydd yn dipyn o broblem, ac un a gymerodd 20 mlynedd i ddatblygu, fel y cyfaddefodd Jonathan Morgan, ac yr ydym yn ymosod arni yn y modd gorau posibl. Edrychaf ymlaen at gael trafodaethau adeiladol pellach ar y mater hwn. Gobeithiaf y bydd y pwyntiau a wnaethpwyd heddiw yn cael eu codi eto yn y Pwyllgor ym mis Tachwedd.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 96

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 96

Daw hynny â sesiwn heddiw i ben. Hoffwn eich atgoffa fod y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn ymweld â’r Cynulliad heddiw a bod derbyniad iddynt am 5.30 p.m. yn Ystafelloedd Cynadledda A a B.

That brings today’s session to a close. I wish to remind you that the Welsh Affairs Select Committee is visiting the Assembly today and that there is a reception for them in Conference Rooms A and B at 5.30 p.m.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.33 p.m

The session ended at 5.33 p.m.