Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 2 Tachwedd 1999

Tuesday 2 November 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:32

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 3Teithiau Masnach NewyddNew Trade Missions
    2. 6Y Gyngres Amrywiaeth Ddiwylliannol Fyd-eangGlobal Cultural Diversity Congress
    3. 8Rhaglen Ddeddfwriaethol y LlywodraethThe Government’s Legislative Programme
    4. 11Adeilad Newydd y CynulliadNew Assembly Building
    5. 12Recriwtio HeddweisionRecruitment of Police Officers
    6. 13Amcan 2 (Y Barri)Objective 2 (Barry)
  2. 17Cynnig o Ddiffyg HyderNo Confidence Motion 2 o bleidleisiau2 votes
  3. 27Datganiad ar y Cynllun Tir Gofal a’r Cynllun Cymorth OrganigStatement on the Tir Gofal Scheme and the Organic Aid Scheme
  4. 32Datganiad BusnesBusiness Statement
  5. 33Strategaeth DaiHousing Strategy 3 o bleidleisiau3 votes
  6. 66Rhaglen Cychwyn CadarnSure Start Programme 3 o bleidleisiau3 votes
  7. 80Dadl FerShort Debate
    1. 80Lleihau Dyled y BydRelief of World Debt

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Cynnig o Ddiffyg HyderNo Confidence Motion
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
CynnigMotion82326GwrthodwydRejected
Strategaeth DaiHousing Strategy
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 2Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 2Drwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted
Rhaglen Cychwyn CadarnSure Start Programme
Gwelliant 1Amendment 1Drwy ddangos dwyloShow of handsHeriwydChallenged
Gwelliant 1Amendment 129126DerbyniwydAdopted
CynnigMotionDrwy ddangos dwyloShow of handsDerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Teithiau Masnach Newydd

New Trade Missions

Q1 Carwyn Jones spoken in English p. 3

C1 Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 3

Does the First Secretary have any plans to set up new Welsh trade missions? (OAQ1619VB)

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu sefydlu teithiau masnach Cymreig newydd? (OAQ1619VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

In July I announced a programme of trade missions which included missions to South Africa in September; Canada, Hong Kong and Taiwan in October; and Kuwait, Bahrain, Dubai, Abu Dhabi, Hungary and the Czech Republic between now and Christmas. Next year, in addition to missions to Israel and Denmark, trade missions are planned to Egypt, France, Australia and Singapore, Japan, Saudi Arabia, Bahrain, Ireland, Spain and Mexico.

Yng Ngorffennaf cyhoeddais raglen o deithiau masnach a oedd yn cynnwys teithiau i Dde Affrica ym Medi; i Ganada, Hong Kong a Taiwan yn Hydref; ac i Kuwait, Bahrain, Dubai, Abu Dhabi, Hwngari a’r Weriniaeth Tsiec o hyn tan y Nadolig. Y flwyddyn nesaf, yn ogystal â theithiau i Israel a Denmarc, bwriedir trefnu teithiau masnach i’r Aifft, Ffrainc, Awstralia a Singapôr, Japan, Saudi Arabia, Bahrain, Iwerddon, Sbaen a Mecsico.

Carwyn Jones spoken in English p. 3

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 3

I am gratified to hear that. One great problem for Wales is our image abroad—we do not have one because people often have not heard of us. A great challenge facing the Assembly is to ensure that people have heard of Wales, want to come to Wales and want to invest in Wales. Has any thought been given to establishing permanent offices in any of the countries of Europe or in North America?

Mae’n dda gennyf glywed hynny. Un broblem fawr sydd gan Gymru yw ein delwedd dramor—nid oes gennym un am nad yw pobl yn aml wedi clywed amdanom. Her fawr sydd yn wynebu’r Cynulliad yw sicrhau bod pobl yn clywed am Gymru, eu bod am ddod i Gymru ac am fuddsoddi yng Nghymru. A roddwyd ystyriaeth o gwbl i sefydlu swyddfeydd parhaol mewn unrhyw wledydd yn Ewrop neu yng Ngogledd America?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

There is a balance to be kept between the expense and the returns on a variety of different approaches to increasing Wales’s profile and making us effective as an exporter and as a participant in international trade. Our image abroad is improving all the time. One reason behind that is the advent of the Assembly. I sometimes think that our image abroad is better than our image at home. I will leave others to judge why that might be. The Assembly is regarded as rather successful by those who observe Welsh affairs from outside.

Mae angen cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y treuliau a’r enillion mewn amryw o wahanol ddulliau o gynyddu amlygrwydd Cymru ac o’n gwneud yn effeithiol fel allforiwr ac fel un sydd yn cymryd rhan mewn masnach ryngwladol. Mae ein delwedd dramor yn gwella drwy’r amser. Un rheswm am hynny yw dyfodiad y Cynulliad. Weithiau byddaf yn meddwl bod ein delwedd dramor yn well na’n delwedd gartref. Gadawaf i eraill farnu pam y gallai hynny fod. Ystyrir y Cynulliad yn eithaf llwyddiannus gan y rhai sydd yn edrych ar faterion Cymreig o’r tu allan.

The advent of the Assembly makes Wales understandable. Like the Länder in Germany and regions in other countries in Europe, Wales can now be understood as a body that is a part of the United Kingdom but has its own clear democratic organisation. I was encouraged when I spent time in the United States and Canada a few months ago to find that people understand Wales and have a positive image of it. There is enthusiasm, particularly from those companies that have invested here in the past. So we have a sound basis on which to build.

Mae dyfodiad y Cynulliad yn peri bod Cymru’n ddealladwy. Fel y Länder yn yr Almaen a’r rhanbarthau mewn gwledydd eraill yn Ewrop, gellir deall Cymru yn awr fel corff sydd yn rhan o’r Deyrnas Unedig ond sydd â’i threfniadaeth ddemocrataidd eglur ei hun. Yr oedd yn galondid imi pan dreuliais amser yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada ychydig fisoedd yn ôl i ganfod bod pobl yn deall Cymru a bod ganddynt ddelwedd gadarnhaol ohoni. Mae yna frwdfrydedd, yn enwedig o du’r cwmnïau hynny a fuddsoddodd yma yn y gorffennol. Felly mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni.

The Welsh Development Agency’s representation in North America, for instance, has a good deal of experience of opening doors and creating that positive image, as we will see during the visit of the Canadian High Commissioner shortly. The interest of the American Ambassador, the Canadian High Commissioner and people like the Premier of New South Wales will help us because, increasingly, the Assembly will have partners with whom we can engage in promoting the image of Wales and business for Wales.

Er enghraifft, mae gan gynrychiolaeth Awdurdod Datblygu Cymru yng Ngogledd America brofiad helaeth o agor drysau a chreu’r ddelwedd gadarnhaol honno, fel y gwelwn yn ystod ymweliad Uchel Gomisiynydd Canada cyn hir. Bydd diddordeb Llysgennad America, Uchel Gomisiynydd Canada a rhai fel Prif Weinidog De Cymru Newydd yn ein helpu oherwydd bydd gan y Cynulliad fwy a mwy o bartneriaid y gallwn ymwneud â hwy wrth hybu delwedd Cymru a busnes ar gyfer Cymru.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 4

Os ydym am fesur effeithioldeb yr ymdrechion hyn dramor i ennill masnach i Gymru, a all Alun Michael ddweud pa ddulliau a ddefnyddir i fesur yr effeithioldeb hwnnw?

If we intend to measure the effectiveness of these efforts abroad to win trade for Wales, can Alun Michael say what methods are used to measure that effectiveness?

Mae’r Adran Fasnach a Diwydiant yn Llundain yn comisiynu ymchwil i weld faint y maent wedi ei ennill o anfon y math hwn o ymdrechion dramor. A ydym ni yn gwneud unrhyw beth tebyg? A oes gennym ystadegau sydd yn mesur faint o allforion sydd yn mynd o Gymru er mwyn gwybod ar beth y dylem fod yn adeiladu? A ydym, er enghraifft, yn cyllido’r gwaith y mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn ei wneud ar hyn?

The Department of Trade and Industry in London commissions research to see how much they have gained from sending such efforts abroad. Do we do anything similar? Do we have statistics that measure how many exports go out of Wales so that we know on what we should be building? Are we, for example, funding the work that Cardiff Business School is doing on this?

O sôn am ddelwedd Cymru, oni ddylem ni fod yn dangos Cymru yn glir ar ein nwyddau, yn enwedig ar y cig eidion y byddwn yn ei allforio i Ffrainc—yn fuan iawn gobeithio—er mwyn i’r Ffrancwyr ymateb yn gadarnahol iddo yn hytrach nag adweithio yn negyddol yn ei erbyn?

In reference to the image of Wales, should we not be marking Wales clearly on our products, especially on the beef that we will be exporting to France—very soon hopefully—so that the French can respond positively to it rather than react negatively against it?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 4

Mae gennym gefnogaeth gref i ddatblygu strategaeth, yn arbennig gyda chig Cymru, ond hefyd gyda bwydydd eraill. Pan oeddwn mewn cynhadledd yn Llundain yn ddiweddar, fe welais ffyrdd effeithiol o farchnata cynnyrch Cymru. Yr wyf yn cefnogi’r dull hwn o ymdrin â’r mater. Mae’r teithiau masnach y soniwyd amdanynt yn y cwestiwn gwreiddiol wedi bod yn llwyddiannus hefyd. Er enghraifft, dros gyfnod o saith mlynedd, mae’r teithiau masnach yn unig wedi dod â busnes sydd yn werth dros £40 miliwn i gwmnïau yng Nghymru. Y dulliau hyn, sydd yn denu gwaith ac arian i gwmnïau yng Nghymru, sydd orau.

We have strong support to develop a strategy, particularly with Welsh meat, but also with other foods. When I attended a conference in London recently, I saw effective ways of marketing Welsh produce. I support this method of dealing with the matter. The trade missions that were mentioned in the original question have also been successful. For example, over a period of seven years, the trade missions alone have brought business worth over £40 million to companies in Wales. These methods, which attract employment and money to companies in Wales, are the best.

Christine Humphreys spoken in English p. 5

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 5

Will the First Secretary say what plans there are to integrate trade missions from the Assembly with those of the Welsh Development Agency and other trade organisations, such as the UK-USA business partnership?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn fodlon dweud pa fwriad sydd i integreiddio teithiau masnach o’r Cynulliad â’r rhai o Awdurdod Datblygu Cymru a chyrff masnach eraill, fel partneriaeth fusnes y DU-UDA?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

Trade missions are undertaken as a joint venture. When, as Secretary of State for Wales, I went to the United States, Mexico and Canada and visited at least one city a day, the trip was organised by the WDA, and was based on their intelligence of the opportunities available to us. This is not being done blindly. We are ensuring that our officials in the Assembly, the WDA, and people in local government where economic development opportunities are identified by local authorities, work together on these matters. You are right to stress the need for us to get several messages together. We separate at our peril. Issues such as the profile of Wales as a tourist destination, as an economic country, and as a country for sports and the arts, all feed on each other. That is why the opportunities we have had with the Rugby World Cup over the past few weeks are important, not only for sport but for everything to do with the image of Wales and the success of Wales.

Ymgymerir â theithiau masnach fel menter ar y cyd. Pan euthum, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i’r Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada ac ymweld ag o leiaf un ddinas y diwrnod, fe drefnwyd y daith gan Awdurdod Datblygu Cymru, ac yr oedd yn seiliedig ar eu gwybodaeth am y cyfleoedd oedd ar gael i ni. Ni wneir hyn yn fyrbwyll. Yr ydym yn sicrhau bod ein swyddogion yn y Cynulliad, yn Awdurdod Datblygu Cymru, a’r rhai mewn llywodraeth leol lle y dynodir cyfleoedd datblygu economaidd gan awdurdodau lleol, yn gweithio gyda’i gilydd ar y materion hyn. Yr ydych yn iawn i bwysleisio’r angen inni gyfuno sawl neges. Gwae ni os awn ar wahân. Mae materion fel proffil Cymru fel cyrchfan dwristiaid, fel gwlad economaidd, ac fel gwlad ar gyfer chwaraeon a’r celfyddydau, oll yn porthi ei gilydd. Dyna pam y mae’r cyfleoedd a gawsom gyda Chwpan Rygbi’r Byd dros yr wythnosau diwethaf hyn yn bwysig, nid yn unig i chwaraeon ond i bopeth sydd yn ymwneud â delwedd Cymru a llwyddiant Cymru.

Nick Bourne spoken in English p. 5

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 5

Wales receives £1.2 million a year from the Department of Trade and Industry for export initiatives. England receives £121 million, Scotland receives £13 million and Northern Ireland receives £5 million. As a nation we are being short-changed. Are you making representation to Westminster colleagues to ensure that we receive a better deal?

Mae Cymru’n derbyn £1.2 miliwn y flwyddyn oddi wrth yr Adran Fasnach a Diwydiant ar gyfer mentrau allforio. Mae Lloegr yn derbyn £121 miliwn, mae’r Alban yn derbyn £13 miliwn ac mae Gogledd Iwerddon yn derbyn £5 miliwn. Yr ydym yn cael newid byr fel cenedl. A ydych yn cyflwyno sylwadau i’ch cydweithwyr yn San Steffan er mwyn sicrhau y cawn well bargen?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 6

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

If those figures are an accurate interpretation of the situation, they must be based on the historic situation that we inherited from your Government, Nick. I suspect that they need closer scrutiny. [CONSERVATIVE ASSEMBLY MEMBERS: ‘Answer the question.’] It would be nice if the Conservatives did not mouth ‘answer, answer’ in the traditional way of Conservatives at Westminster, when they are getting an answer. Those figures are not familiar to me. If Nick would like to give me chapter and verse, I will look at the figures and see whether they bear the interpretation that he places on them. I can assure him that if there is anything that justifies us arguing the case for Wales for improvement in any situation, we will argue it strongly. Pass the ammunition and I will decide if it is persuasive.

Os yw’r ffigurau hynny’n ddehongliad cywir o’r sefyllfa, rhaid eu bod yn seiliedig ar y sefyllfa hanesyddol y bu inni ei hetifeddu gan eich Llywodraeth chi, Nick. Yr wyf yn amau bod angen rhoi sylw manylach iddynt. [AELODAU CYNULLIAD CEIDWADOL: ‘Atebwch y cwestiwn.’] Byddai’n braf pe na bai’r Ceidwadwyr yn gweiddi ‘atebwch, atebwch’ yn ôl arfer traddodiadol y Ceidwadwyr yn San Steffan, pan ydynt yn cael ateb. Nid yw’r ffigurau hynny’n gyfarwydd i mi. Os hoffai Nick nodi’r bennod a’r adnod, fe edrychaf ar y ffigurau i weld a ellir eu dehongli yn y modd y mae ef yn ei wneud. Gallaf ei sicrhau, os oes rhywbeth sydd yn cyfiawnhau dadlau’r achos dros Gymru i wella unrhyw sefyllfa, y dadleuwn yn gryf dros hynny. Estynnwch yr arfau a phenderfynaf a yw’n ddadl argyhoeddiadol.

Y Gyngres Amrywiaeth Ddiwylliannol Fyd-eang

Global Cultural Diversity Congress

Q2 Lorraine Barrett spoken in English p. 6

C2 Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 6

Can the First Secretary outline what practical support the Assembly is providing in its role as co-host for the Global Cultural Diversity Congress due to take place in Cardiff in March 2000? (OAQ1628VB)

A oes modd i’r Prif Ysgrifennydd amlinellu pa gymorth ymarferol y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei roi fel cyd-gynhaliwr y Gyngres Amrywiaeth Ddiwylliannol Fyd-eang a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2000? (OAQ1628VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 6

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

At the Welsh launch of the event on 5 July, I announced that the Assembly has agreed to co-host the event with the Commission for Racial Equality and the Australian Multicultural Foundation. Our officials are liasing closely with the conference organisers and much work has been done since 5 July.

Yng nghyfarfod lansio’r digwyddiad yng Nghymru ar 5 Gorffennaf, cyhoeddais fod y Cynulliad wedi cytuno i gydgynnal y digwyddiad gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a Sefydliad Amlddiwylliannol Awstralia. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad agos â threfnwyr y gynhadledd a gwnaethpwyd llawer o waith ers 5 Gorffennaf.

A senior Assembly official is a member of the international steering board, the main steering and organising committee, which consists of high level representatives from around the world. Preparations are focused on how the Assembly will take part in the high level think tanks and which workshop, on a diversity issue, it will sponsor at the congress. We have also offered short-term office accommodation and volunteers from the Assembly to support the event. I envisage that our Prime Minister, the Prime Minister of Australia and I will open the event. I will also participate in a live worldwide television debate on diversity issues.

Mae uwch-swyddog o’r Cynulliad yn aelod o’r bwrdd llywio rhyngwladol, y prif bwyllgor llywio a threfnu, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr lefel uchel o bedwar ban y byd. Canolbwyntir yn y paratoadau ar y modd y bydd y Cynulliad yn cymryd rhan yn y seiadau lefel uchel a pha weithdy, ar fater yn ymwneud ag amrywiaeth, y bydd yn ei noddi yn y gyngres. Yr ydym hefyd wedi cynnig ystafelloedd am dymor byr ar gyfer swyddfa a gwirfoddolwyr o’r Cynulliad i gynorthwyo’r digwyddiad. Rhagwelaf y bydd ein Prif Weinidog, Prif Weinidog Awstralia a minnau yn agor y digwyddiad. Byddaf hefyd yn cymryd rhan mewn dadl fyw ar deledu byd-eang ar faterion amrywiaeth.

Lorraine Barrett spoken in English p. 7

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 7

That is encouraging. Wales is rich in cultural heritage, particularly in its capital city where there is a wealth of communities with international backgrounds such as Somali, Maltese, Caribbean and Italian to name but a few. The congress will concentrate on the fact that Wales is made up of many diverse cultures. We must play our part in ensuring that we live in a racially harmonious society, regardless of whether we live in Anglesey, Cardiff, Monmouth or anywhere in between.

Mae hynny’n galonogol. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, yn enwedig yn ei phrifddinas lle y mae cyfoeth o gymunedau ag iddynt gefndiroedd rhyngwladol fel yr un Somali, yr un Faltaidd, yr un Garibïaidd a’r un Eidalaidd ac enwi ond rhai. Bydd y gyngres yn canolbwyntio ar y ffaith fod Cymru wedi ei chyfansoddi o lawer o wahanol ddiwylliannau. Rhaid inni chwarae ein rhan er mwyn sicrhau y byddwn yn byw mewn cymdeithas lle y mae cytgord rhwng hiliau, pa un a ydym yn byw ym Môn, yng Nghaerdydd, yn Nhrefynwy neu unrhyw le rhyngddynt.

The recent launch of Cardiff and District Multicultural Arts Development Limited’s cultural diversity training package for business is an example of how an awareness of our different backgrounds can provide tangible benefits. Do you agree that the congress provides an ideal opportunity for us to look at not only the rest of the world, but ourselves and how we tackle discrimination and promote a healthy acceptance of our differing cultural heritage?

Mae’r pecyn hyfforddi mewn amrywiaeth diwylliannol i fusnes a lansiwyd yn ddiweddar gan Ddatblygiad Celfyddydau Aml-ddiwylliannol Caerdydd a’r Cyffuniau Cyfyngedig yn enghraifft o’r modd y gall ymwybyddiaeth o’n gwahanol gefndiroedd esgor ar fanteision gwirioneddol. A gytunwch fod y gyngres yn rhoi cyfle delfrydol inni edrych nid yn unig ar weddill y byd, ond arnom ni ein hunain a’r modd yr awn i’r afael â gwahaniaethu a hybu cydnabyddiaeth iach o’n treftadaeth ddiwylliannol amrywiol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

I agree entirely. Recent events such as the Stephen Lawrence inquiry and its findings have given us plenty of reason to challenge our complacency about what happens in our society. That applies to Wales as well as London. We must not only act as hosts to this conference but use the build up to it as an opportunity to question how cultural diversity has been promoted and celebrated in Wales and consider how we can act differently now that the Assembly is established. I hope we all agree that all the parties in the Assembly have a responsibility to ensure that all citizens in Wales, whatever their ethnicity, are fully represented. This conference is a tremendous opportunity for us to concentrate on that challenge.

Cytunaf yn llwyr. Mae digwyddiadau diweddar fel ymchwiliad Stephen Lawrence a’i ganfyddiadau wedi rhoi digon o reswm inni herio ein difaterwch ynghylch yr hyn sydd yn digwydd yn ein cymdeithas. Mae hynny’n berthnasol i Gymru yn ogystal â Llundain. Yn ogystal â gweithredu fel cynhaliwr i’r gynhadledd hon rhaid inni ddefnyddio’r cyfnod paratoi fel cyfle i gwestiynu sut y cafodd amrywiaeth ddiwylliannol ei hybu a’i dathlu yng Nghymru ac i ystyried sut y gallwn weithredu’n wahanol a’r Cynulliad bellach wedi ei sefydlu. Hyderaf ein bod oll yn gytûn fod cyfrifoldeb ar yr holl bleidiau yn y Cynulliad i sicrhau bod yr holl ddinasyddion yng Nghymru, beth bynnag fo’u hethnigrwydd, wedi eu cynrychioli’n llawn. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle aruthrol inni ganolbwyntio ar yr her honno.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 8

Yr ydym ni fel plaid, a minnau fel unigolyn, yn croesawu’r gyngres hon i Gymru a chefnogaf sylwadau Lorraine Barrett. A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno y gall Cymru wneud cyfraniad neilltuol, nid yn unig oherwydd bod ein gwlad yn aml-hiliol ac yn aml-ddiwylliannol, ond hefyd oherwydd bod gennym iaith leiafrifol, sef y Gymraeg, sydd wedi dioddef rhagfarn a gormes? Mae hynny yn newid yn sylweddol y dyddiau hyn ac y mae’n bolisi cyhoeddus i greu cymdeithas ddwyieithog yng Nghymru ac adfywio’r iaith Gymraeg. A fydd cyfle i’r Cynulliad ac i sefydliadau megis Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gyfrannu i drafodaeth y gyngres drwy gyflwyno persbectif Cymreig i’r digwyddiadau?

We as a party, and myself as an individual, welcome this congress to Wales and I support Lorraine Barrett’s comments. Does the First Secretary agree that Wales can make a special contribution, not only because our country is multi-racial and multi-cultural, but also because we have a minority language, namely Welsh, which has suffered prejudice and oppression? That is changing substantially these days and it is public policy to create a bilingual society in Wales and to revive the Welsh language. Will there be an opportunity for the Assembly and organisations such as the Welsh Language Board and the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales to contribute to the congress’s discussions by giving a Welsh perspective to the event?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 8

Croesawaf eich sylwadau ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn cyfrannu i’r gynhadledd. Mae pwynt sylfaenol i’w wneud ynglŷn â’n hiaith leiafrifol yng Nghymru. Fe roddaf eich sylwadau i’r rhai sydd yn gyfrifol am drefnu’r gynhadledd drwy ein swyddogion. Byddwn hefyd yn falch o glywed syniadau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sut i fwrw ymlaen.

I welcome your comments about how we are contributing to the conference. There is a fundamental point to make about our minority language in Wales. I will pass your comments on to those responsible for organising the conference through our officials. I would also be pleased to hear the Welsh Language Board’s suggestions on how to move forward.

Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth

The Government’s Legislative Programme

C3 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Q3 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 8

Pryd y mae’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu ymgynghori ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? (OAQ1628VB)

When is the First Secretary planning to consult with the Secretary of State for Wales in relation to the Government’s legislative programme? (OAQ1628VB)

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 8

Yr wyf yn siarad â’r Ysgrifennydd Gwladol yn wythnosol er mwyn sicrhau ei fod yn glir ynglŷn â’r syniadau a ddaw o’r Cynulliad yn gyffredinol, nid syniadau’r Cabinet a’m rhai i yn unig. Mae hyn yn paratoi’r ffordd iddo ef gyfrannu at gyfarfod o’r Cabinet, fel yr arferwn innau ei wneud fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru hyd ddiwedd yr haf.

I speak to the Secretary of State for Wales weekly to ensure that he is clear about the ideas that come from the Assembly in general, not only those of the Cabinet and myself. This prepares the ground for him to contribute to a Cabinet meeting, as I used to do as Secretary of State for Wales until the end of the summer.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â’r Cynulliad ynglŷn â’r modd y bydd pethau’n datblygu bob blwyddyn. Disgwyliaf iddo wneud hyn drwy fynychu Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad yn dilyn Araith y Frenhines yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y Trefnydd yn trafod hyn gyda’r Pwyllgor Busnes yn fuan.

The Secretary of State must consult with the Assembly regarding the way matters develop every year. I expect him to do that by attending an Assembly Plenary session after the Queen’s Speech later this month. The Business Secretary will discuss this with the Business Committee soon.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 9

Yr wyf yn ddiolchgar am yr ateb cyffredinol yna, er fy mod yn bryderus mai wedi Araith y Frenhines ar 17 Tachwedd y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dod yma. Os yw datganoli yn ffaith ac os yw gwleidyddiaeth gynhwysol yn bodoli mewn mwy na gair, oni ddylai’r Prif Ysgrifennydd drafod Araith y Frenhines yn fanwl gyda’r Ysgrifennydd Gwladol cyn 17 Tachwedd? Oni ddylai hefyd dderbyn barn ffurfiol oddi wrth y Pwyllgorau Pwnc ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru? Oni ddylai hefyd lobïo i sicrhau bod trefn o fewn y ddeddfwriaeth a benderfynir yn Araith y Frenhines i’w newid a’i gwella os bydd yn effeithio ar Gymru? Os na fydd hyn yn digwydd, onid yw hi’n ffaith nad yw datganoli yn ddigwyddiad nac yn broses ac nad yw gwleidyddiaeth gynhwysol yn ddim amgen na gair cyfleus i ofyn inni gytuno â phopeth y mae’r Llywodraeth Lafur yn ei benderfynu?

I am grateful for that general response, although I am concerned that it is following the Queen’s Speech on 17 November that the Secretary of State for Wales will come here. If devolution is a fact and if inclusive politics exists as more than a word, should not the First Secretary discuss the Queen’s Speech in detail with the Secretary of State before 17 November? Should he not also receive formal views from the Subject Committees on issues that involve Wales? Should he not also lobby to ensure that there is a system within the legislation decided in the Queen’s Speech to amend and change it if it affects Wales? If this does not happen, is it not a fact that devolution is neither an event nor a process and that inclusive politics is no more than a convenient word to ask us to agree with everything the Labour Government decides?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 9

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 9

Ni ddylai Rhodri fychanu’r syniad o ddatganoli. Mae’n syniad pwysig sydd yn rhoi pwerau yn nwylo’r Cynulliad. Dylem gyfrannu at y broses hon gydol y flwyddyn ac nid yn unig yn yr wythnosau sydd yn arwain at Araith y Frenhines. Gobeithiaf y bydd yr holl Bwyllgorau yn cyfrannu ac yn cynorthwyo i ddatblygu polisïau er mwyn egluro beth fydd orau i Gymru o ran deddfwriaeth.

Rhodri should not talk down the idea of devolution. It is an important idea that puts powers in the Assembly’s hands. We should contribute to this process throughout the year and not only in the weeks leading up to the Queen’s Speech. I hope that all the Committees will contribute and assist to develop policies in order to explain what will be best for Wales in terms of legislation.

Nid yw Aelodau Seneddol yn clywed beth sydd yn Araith y Frenhines nac yn gweld y testun hyd nes iddi orffen ei haraith. Yr wyf yn siŵr y bydd pobl megis Dafydd Wigley a chithau hefyd, Mr Llywydd, yn cadarnhau bod pawb yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi yn rhuthro wedi’r araith i gael gafael ar y testun er mwyn edrych ar y manylion. Mae manylion pob un o’r deddfau yn cael eu hastudio dros gyfnod wedi’r araith. Felly, y cyfnod yn dilyn yr araith yw’r amser priodol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddod yma i gael dadl ffurfiol â ni ynglŷn â’r araith a’r hyn a fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf. Byddwn yn gwneud cyfraniad wedi i’r broses ddeddfu ddechrau mynd trwy Dŷ’r Cyffredin, ac mae cyfle inni gynnig syniadau drwy gydol y flwyddyn.

Members of Parliament do not hear what is in the Queen’s Speech nor do they see the text until she finishes her speech. I am sure that people such as Dafydd Wigley and you also, Mr Presiding Officer, will confirm that everyone in the House of Commons and in the House of Lords hurries after the speech is concluded to get hold of the text in order to look at the details. The details of each act are studied over a period of time after the speech. Therefore, the period following the speech is an appropriate time for the Secretary of State for Wales to come here to have a formal debate with us on the speech and on what will happen over the next year. We will make a contribution after the law-making process has begun to go through the House of Commons, and there is an opportunity for us to offer ideas throughout the year.

Michael German spoken in English p. 10

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 10

We must have a powerful relationship with Westminster if we are to shape the legislation that we will eventually put into practice ourselves. We must also find a way to influence those discussions. Why has the protocol between the Secretary of State for Wales and the Assembly not yet been put in place? Why do we not have a firm statement of how we should work together? Do you agree that that statement should contain the view that the whole Assembly, as a body corporate, should be somehow engaged in the discussions with the Secretary of State for Wales, as a body corporate; in other words, that dialogue between the Government in Westminster and the Assembly should be a more open affair than a dialogue between people in private? What is your view on when we should implement that protocol? Should an all-embracing way of dealing with the relationship be part of the protocol?

Rhaid inni gael perthynas gref â San Steffan os ydym i gael llywio’r ddeddfwriaeth a roddwn ni ar waith yn y pen draw. Rhaid inni hefyd ganfod ffordd i ddylanwadu ar y trafodaethau hynny. Pam nad yw’r protocol rhwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Cynulliad wedi ei sefydlu eto? Pam nad oes gennym ddatganiad pendant am y modd y dylem gydweithio? A gytunwch y dylai’r datganiad gynnwys y farn y dylai’r Cynulliad cyfan, fel corff corfforaethol, gymryd rhan rywfodd yn y trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru; mewn geiriau eraill, y dylai deialog rhwng y Llywodraeth yn San Steffan a’r Cynulliad fod yn fater mwy agored na deialog rhwng pobl yn breifat? Beth yw eich barn ynghylch pa bryd y dylem weithredu’r protocol hwnnw? A ddylai dull holl gynhwysol o ymdrin â’r berthynas fod yn rhan o’r protocol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

I want all the protocols to be in place as soon as possible. However, we must accept that much learning and processing of new ideas is taking place at this moment in government as departments come to terms with devolution. Until now, that has not been the case for many departments. I am pleased that progress is being made and that many ministerial colleagues in London are now starting to understand the nature of the Assembly and the process in which they have to be involved. It is, inevitably, far more open than anything in the past. Assembly Members have an opportunity, through the Committees of which they are members and through debates in this chamber, to make a significant contribution to wider debate about what legislation is needed and its priorities and content.

Yr wyf am i’r holl brotocolau gael eu sefydlu cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag, rhaid inni dderbyn bod llawer o ddysgu a phrosesu syniadau newydd yn digwydd ar hyn o bryd yn y llywodraeth wrth i adrannau gynefino â datganoli. Nid yw hynny wedi digwydd mewn llawer o adrannau hyd yn hyn. Yr wyf yn falch bod cynnydd yn digwydd a bod llawer o gydweithwyr gweinidogol yn Llundain yn awr yn dechrau deall natur y Cynulliad a’r broses y mae’n rhaid iddynt gymryd rhan ynddi. Mae o reidrwydd yn llawer mwy agored na dim a fu yn y gorffennol. Mae cyfle gan Aelodau’r Cynulliad, drwy’r Pwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt a thrwy ddadleuon yn y siambr hon, i gyfrannu’n sylweddol at drafodaeth ehangach ynghylch pa ddeddfwriaeth sydd yn angenrheidiol a’i blaenoriaethau a’i chynnwys.

There are responsibilities that call for engagement with the detail of proposals made by Ministers. Our officials and the Cabinet must be involved in a confidential manner. I want us to be as open as possible with the Assembly as a whole as is consistent with maintaining that confidentiality. If we do not maintain that confidentiality, we will not have the knowledge and will not be able to anticipate some of the issues.

Mae yna gyfrifoldebau sydd yn golygu bod angen ymdrin â manylion cynigion a wneir gan Weinidogion. Rhaid i’n swyddogion ac i’r Cabinet gymryd rhan mewn modd cyfrinachol. Yr wyf am inni fod mor agored ag y gallwn â’r Cynulliad cyfan i’r graddau bod hynny’n gyson â chadw’r cyfrinachedd hwnnw. Os na chadwn y cyfrinachedd hwnnw, ni fydd y wybodaeth gennym ac ni fyddwn yn gallu rhagweld rhai o’r materion.

As I indicated in my answer to Rhodri Glyn Thomas, Members of Parliament do not know which Bills are in the Queen’s speech until the speech is delivered. They do not know the details of Bills until the Bills are published. When it is known that there is a Bill on a certain topic, there are opportunities for us all to make contributions proactively on what we think should be included. However, discussion about the fine detail has to be part of the confidential process until the legislation becomes public. We then have an opportunity of responding to it. Therefore, we have a genuine, new, fresh and more open process in which all Assembly Members can be involved.

Fel y nodais yn fy ateb i Rhodri Glyn Thomas, ni fydd Aelodau Seneddol yn gwybod pa Fesurau a fydd yn Araith y Frenhines hyd nes y traddodir yr araith. Ni wyddant fanylion y Mesurau nes cyhoeddi’r Mesurau. Pan geir gwybod bod yna Fesur ar bwnc penodol, mae yna gyfleoedd inni oll gyfrannu’n rhagweithiol ynghylch yr hyn y credwn y dylid ei gynnwys. Fodd bynnag, rhaid i’r drafodaeth am y mân fanylion fod yn rhan o’r broses gyfrinachol hyd y daw’r ddeddfwriaeth yn gyhoeddus. Cawn gyfle wedyn i ymateb iddi. Felly, mae gennym broses ddilys, newydd, ffres a mwy agored lle y gall holl Aelodau’r Cynulliad gymryd rhan.

Adeilad Newydd y Cynulliad

New Assembly Building

Q4 Glyn Davies spoken in English p. 11

C4 Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

How much extra land must be leased to accommodate the proposed new Assembly Building? (OAQ1625VB)

Faint o dir newydd y bydd yn rhaid ei brydlesu i gael lle ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad? (OAQ1625VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

I have asked the architect to make suggestions for design changes that will respond to points made by Assembly Members across the parties in July. Members asked us to improve access to the building for people with disabilities, give more space in the public gallery areas and to open up Committees to the public. Those are the three main priorities which came out of the helpful conversations that we had in July. As soon as this latest design work is ready I will discuss it again with the three other Party Leaders and the Presiding Officer through the group established for that purpose. It is at that stage that land requirements will be finalised.

Gofynnais i’r pensaer awgrymu newidiadau yn y cynllun a fydd yn ymateb i bwyntiau a wnaethpwyd gan Aelodau’r Cynulliad o bob plaid yng Ngorffennaf. Gofynnodd yr Aelodau inni wella’r mynediad i’r adeilad ar gyfer pobl ag anableddau, i roi mwy o le ym mannau’r oriel gyhoeddus ac i agor y Pwyllgorau i’r cyhoedd. Dyna’r tair prif flaenoriaeth a ddeilliodd o’r sgyrsiau buddiol a gawsom yng Ngorffennaf. Cyn gynted ag y bydd y gwaith dylunio diweddaraf yn barod fe’i trafodaf eto gyda’r tri Arweinydd Plaid arall a’r Llywydd drwy’r grŵp a sefydlwyd i’r diben hwnnw. Bryd hynny y penderfynir yn derfynol ar y gofynion tir.

Glyn Davies spoken in English p. 11

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 11

Does the First Secretary agree that it was unwise for the architects to design a building that does not fit on the site or match the brief and will he repeat past assurances that the costs will fall within previously stated budgets?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno mai annoeth ydoedd i’r penseiri gynllunio adeilad nad yw’n ffitio i’r safle neu’n cyfateb i’r cyfarwyddyd ac a yw’n fodlon ailddatgan y sicrwydd a roddodd y bydd y costau o fewn y cyllidebau a ddatganwyd cynt?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 12

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

That question is based on a misapprehension. One problem is that everyone takes a great interest in the design of a project when it is part way through its development. Having been involved with other designs such as St David’s Hall, as were others in the Assembly, I realise that every detail tends to be pored over and debated, whereas with most building schemes that are not in the public eye only the final result is considered.

Mae’r cwestiwn hwnnw’n seiliedig ar gamsyniad. Un broblem yw bod pawb yn ymddiddori’n fawr yng nghynllun prosiect pan y mae’n rhan o’r ffordd drwy ei ddatblygiad. A minnau wedi bod yn gysylltiedig â chynlluniau eraill fel Neuadd Dewi Sant, fel yr oedd eraill yn y Cynulliad, sylweddolaf fod tuedd i fyfyrio uwchben pob manylyn a’i drafod tra nad ystyrir ond y canlyniad terfynol yn achos y rhan fwyaf o gynlluniau adeiladu nad ydynt dan sylw’r cyhoedd.

We have identified a process, which has involved all Assembly Members being brought up to date in July with the development of the plans to date and making their comments. Those comments imposed some demands, and whether we can meet them—and all the other requirements that already exist—depends on what the architect presents. However, the group, which involves all the Party Leaders, can take part in the discussion of the details. As I promised before, there will then be an opportunity for all Members to comment on the design as it is developed. I hope that we shall end up with a building in which we feel comfortable and one in which we can take pride.

Yr ydym wedi pennu proses, a olygodd fod holl Aelodau’r Cynulliad yn cael gwybod yng Ngorffennaf am ddatblygiad y cynlluniau hyd hynny a’u bod yn rhoi sylwadau. Yr oedd y sylwadau hynny’n gosod rhai gofynion, ac mae’r gallu i’w cyflawni hwy—a’r holl ofynion eraill sydd yn bod eisoes—yn dibynnu ar yr hyn a gyflwyna’r pensaer. Fodd bynnag, bydd y grŵp, sydd yn cynnwys yr holl Arweinyddion Plaid, yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth ar y manylion. Fel yr addewais cynt, bydd cyfle i’r holl Aelodau roi sylwadau ar y cynllun wrth iddo gael ei ddatblygu. Gobeithiaf yn y pen draw y bydd gennym adeilad yr ydym yn teimlo’n gyfforddus ynddo ac yn ymfalchïo ynddo.

Recriwtio Heddweision

Recruitment of Police Officers

Q5 Peter Black spoken in English p. 12

C5 Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 12

Has the First Secretary or his colleagues discussed with the Home Secretary his statement that he will recruit ‘5,000 extra police officers’ and has any indication been given as to how many of these officers will be allocated to Welsh police authorities? (OAQ1634JS)

A yw’r Prif Ysgrifennydd neu ei gydweithwyr wedi trafod gyda’r Ysgrifennydd Cartref ei ddatganiad y bydd yn recriwtio ‘5,000 o heddweision ychwanegol’ ac a yw wedi cael gwybod faint o’r heddweision hyn a neilltuir ar gyfer awdurdodau’r heddlu yng Nghymru? (OAQ1634JS)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 12

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

No, although I discussed these issues frequently with the Home Secretary when we were in opposition together and during my time as Deputy Home Secretary when I held ministerial responsibility for the police service.

Nac ydwyf, er imi drafod y materion hyn yn aml gyda’r Ysgrifennydd Cartref pan oeddem yn yr wrthblaid gyda’n gilydd ac yn ystod fy nghyfnod yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol dros y gwasanaeth heddlu.

I understand that forces in England and Wales will be invited to bid for funds to recruit police officers over and above those already planned for. That is a matter between police authorities in Wales and the Home Office but I hope that all Members will join me in supporting bids by those authorities.

Deallaf y bydd yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael gwahoddiad i wneud cynnig am gyllid i recriwtio heddweision uwchlaw’r nifer y cynlluniwyd ar eu cyfer eisoes. Mae hynny’n fater rhwng awdurdodau’r heddlu yng Nghymru a’r Swyddfa Gartref ond gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau’n uno â mi i gefnogi ceisiadau gan yr awdurdodau hynny.

Peter Black spoken in English p. 13

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 13

When the First Secretary next talks to his colleagues in the Cabinet, will he stress the importance of getting more police officers on the beat in Wales? Will he also stress that these extra officers must be operational, working with the communities of Wales to try to reduce crime and disorder levels?

Pan fydd y Prif Ysgrifennydd yn siarad nesaf â’i gydweithwyr yn y Cabinet, a wnaiff ef bwysleisio mor bwysig yw cael rhagor o heddweision ar eu rhawd yng Nghymru? A wnaiff ef hefyd bwysleisio y bydd yn rhaid i’r heddweision ychwanegol hyn fod yn weithredol, gan weithio gyda chymunedau Cymru er mwyn ceisio lleihau lefelau trosedd ac anhrefn?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

I will make that point. However, I do not think that the Home Secretary needs persuading as I know his views on this. We must release police officers from administrative duties onto the street and have systems that place them in the community, where they must be active and seen to be active. From my knowledge of the four police services in Wales, each places a high priority on that. Therefore, I am certain that any bids from Wales will be for police officers to be at the sharp end and on the streets.

Fe wnaf y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, ni chredaf y bydd yn rhaid dwyn perswâd ar yr Ysgrifennydd Cartref oherwydd yr wyf yn gwybod ei farn ar hyn. Rhaid inni ryddhau heddweision oddi wrth ddyletswyddau gweinyddol a’u rhoi ar y stryd a chael systemau sydd yn eu rhoi yn y gymuned, lle y bydd yn rhaid iddynt fod yn weithredol a chael eu gweld yn weithredol. O’r hyn yr wyf yn ei wybod am y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, mae pob un yn rhoi blaenoriaeth uchel i hynny. Felly, yr wyf yn sicr y bydd unrhyw geisiadau o Gymru yn rhai am heddweision a fydd yn y pen blaen ac ar y strydoedd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 13

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

Question six is withdrawn.

Mae cwestiwn chwech wedi ei dynnu’n ôl.

Amcan 2 (Y Barri)

Objective 2 (Barry)

Q7 David Melding spoken in English p. 13

C7 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 13

Is the First Secretary taking any measures to assist Barry following the Executive’s recommendation that it should be excluded from the Objective 2 map? (OAQ1637VB)

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cymryd camau i helpu’r Barri yn sgîl argymhelliad yr Adran Weithredol na ddylid ei chynnwys ar fap Amcan 2? (OAQ1637VB)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

It is important to understand the sensitive process involved in defining Objective 2 areas. It is not a matter of excluding Barry or anywhere else, but of getting the best possible deal for Wales in general. Overall, the total population coverage for structural funds in Wales will be just under 2.2 million. That is a major coup when the UK’s coverage will be cut by almost 7 million. That reduction would have been greater for the UK if the Government had not managed to introduce a safety net that effectively restricted the reduction to one third of the current population coverage. We also envisage that the Vale of Glamorgan will be able to bid for resources from the new URBAN community initiative from 2000-06. That is designed to take account of the specific needs of small and medium-sized towns suffering from economic and social conversion difficulties.

Mae hi’n bwysig deall y broses sensitif sydd yn gysylltiedig â diffinio ardaloedd Amcan 2. Nid yw’n fater o beidio â chynnwys y Barri nac unrhyw le arall, ond o gael y fargen orau bosibl i Gymru yn gyffredinol. At ei gilydd, bydd cyfanswm y boblogaeth a gynhwysir ar gyfer y cronfeydd strwythurol yng Nghymru yn ychydig is na 2.2 miliwn. Mae hynny’n gamp fawr pan yw’r boblogaeth a gynhwysir yn y DU wedi ei chwtogi o bron 7 miliwn. Buasai’r gostyngiad hwnnw’n fwy o lawer yn y DU pe na bai’r Llywodraeth wedi llwyddo i gyflwyno rhwyd achub oedd i bob pwrpas yn cyfyngu’r gostyngiad i un rhan o dair o’r boblogaeth a gynhwysir ar hyn o bryd. Rhagwelwn hefyd y bydd Bro Morgannwg yn gallu ymgeisio am adnoddau oddi wrth y fenter gymunedol newydd, URBAN, o 2000-06. Bwriad honno yw rhoi ystyriaeth i anghenion penodol trefi bychain a chanolig eu maint sydd yn dioddef oddi wrth anawsterau trawsnewid economaidd a chymdeithasol.

David Melding spoken in English p. 14

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 14

Is the First Secretary aware that the Vale of Glamorgan is one of only five authorities in the whole of Great Britain that have been completely cut from the Objective 2 map? The council does not feel that it has had a fair chance to present its case. It does not know the criterion used or who made the recommendation in the Assembly.

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn ymwybodol bod Bro Morgannwg yn un o blith dim ond pump o awdurdodau ym Mhrydain Fawr gyfan sydd wedi eu torri’n llwyr o fap Amcan 2? Nid yw’r cyngor yn teimlo iddo gael cyfle teg i gyflwyno’i achos. Nid yw’n gwybod pa faen prawf a ddefnyddiwyd na phwy a wnaeth yr argymhelliad yn y Cynulliad.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I am slightly surprised at that because the local authority contributed to the discussions in preparing the ground for our submission. As I indicated, this is a sensitive matter. It is not just a question of drawing the lines that we would like on the map, the map must meet European criteria and help the UK to stay within the population threshold indicated by the European Commission. Within that context, we must ensure the best deal for Wales, recognising the needs of high unemployment communities and the economic development opportunities that, if seized, will benefit the immediate ward and surrounding areas. That is why facilities like the airport are extremely important. When the whole process is reviewed upon completion, there may be a greater understanding of the care that we have taken in trying to pursue the best interests of every part of Wales, including the Vale of Glamorgan.

Yr wyf yn synnu at hynny braidd oherwydd fe gyfrannodd yr awdurdod lleol at y trafodaethau wrth fraenaru’r tir ar gyfer ein cyflwyniad. Fel y nodais, mae hyn yn fater sensitif. Mae’n golygu mwy na dim ond tynnu’r llinellau y carem eu gweld ar y map; rhaid i’r map gyflawni’r meini prawf Ewropeaidd a helpu’r DU i aros o fewn y trothwy poblogaeth a nodir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwnnw, rhaid inni sicrhau’r fargen orau i Gymru, gan gydnabod anghenion cymunedau â diweithdra uchel a’r cyfleoedd datblygu economaidd a fydd o fantais i’r ward benodol a’r ardaloedd o’i chwmpas, os gafaelir ynddynt. Dyna pam y mae cyfleusterau fel y maes awyr yn bwysig iawn. Pan adolygir y broses gyfan ar ôl ei chwblhau, mae’n bosibl y bydd mwy o ddealltwriaeth o’r gofal a arferwyd gennym wrth geisio gwneud yr hyn sydd er y budd mwyaf i bob rhan o Gymru, yn cynnwys Bro Morgannwg.

Jocelyn Davies spoken in English p. 14

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 14

Point of order. I refer to the lateness of papers and previous explanations given to us, including the pressure of work on Assembly officials making it impossible to despatch documents to us in good time for meetings. We sympathise with that explanation. However, I have less sympathy with another explanation, which was brought to my attention over the weekend by the press. That is, that documents are withheld until the First Secretary has read them. That is contrary to the spirit and the letter of the Standing Orders, which give Assembly Members unprecedented access to Government documents. I draw your attention, Presiding Officer, to Janet Davies’s previous request to investigate the lateness of the papers for the Partnership Council meeting.

Pwynt o drefn. Cyfeiriaf at hwyrni papurau a’r esboniadau a roddwyd i ni cyn hyn, yn cynnwys yr eglurhad bod y pwysau gwaith ar swyddogion y Cynulliad yn ei gwneud yn amhosibl i anfon dogfennau atom mewn da bryd ar gyfer cyfarfodydd. Cydymdeimlwn â’r esboniad hwnnw. Fodd bynnag, mae gennyf lai o gydymdeimlad ag esboniad arall, y tynnwyd fy sylw ato gan y wasg dros y penwythnos. Hynny yw, bod dogfennau’n cael eu dal yn ôl hyd nes bydd y Prif Ysgrifennydd wedi eu darllen. Mae hynny’n groes i ysbryd a llythyren y Rheolau Sefydlog, sydd yn rhoi hawl na fu ei debyg o’r blaen i Aelodau’r Cynulliad weld dogfennau’r Llywodraeth. Tynnaf eich sylw, Lywydd, at gais blaenorol Janet Davies i ymchwilio i hwyrni’r papurau ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 15

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

I bear no responsibility for the content of the press, thank goodness. However, I bear responsibility for the good conduct of this Chamber and of the Committees. We investigate cases of delay on papers whenever they occur, to ensure that we can, if possible, reach the set targets.

Nid oes gennyf unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn sydd yn y wasg, diolch byth. Mae gennyf gyfrifoldeb, fodd bynnag, am sicrhau trefn dda o fewn y Siambr hon ac yn y Pwyllgorau. Byddwn yn ymchwilio i achosion lle y ceir oedi cyn anfon papurau pryd bynnag y digwyddant, er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd y targedau a osodwyd, os oes modd.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 15

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

There is real and considerable pressure on Assembly staff. They try to meet deadlines but often documents need more discussion, debate and fine-tuning before they can go forward. Each Cabinet member participates fully in examining papers in his or her area of responsibility so that they are properly cooked when the Assembly considers and deals with them. [Laughter.] That is a technical civil service phrase which is clearly not understood by all colleagues in this room.

Mae yna bwysau mawr a gwirioneddol ar staff y Cynulliad. Byddant yn ceisio cwblhau gwaith mewn pryd ond yn aml bydd angen mwy o drafod a dadlau a manwl gyweirio ar ddogfennau cyn y gellir eu hanfon ymlaen. Bydd pob aelod o’r Cabinet yn cymryd rhan lawn mewn archwilio papurau ar faes ei gyfrifoldeb fel eu bod wedi eu pobi’n iawn pan fydd y Cynulliad yn eu hystyried a’u trafod. [Chwerthin.] Ymadrodd technegol gan y gwasanaeth sifil yw hwnnw ac mae’n amlwg nad yw pawb o’m cydweithwyr yn yr ystafell hon yn ei ddeall.

The problem is that in the past the work simply meant preparing documents for Ministers to present or sign off within the timescale. We have a more complex process here which involves preparing documents further in advance. Cabinet members and officials are trying to adjust to that and to move thresholds further back so that documents can be prepared properly and in time to be tabled appropriately. There is a great deal of pressure on officials to do that.

Y broblem yw mai’r cwbl yr oedd y gwaith yn ei olygu yn y gorffennol oedd paratoi dogfennau i’w cyflwyno neu eu harwyddo gan Weinidogion o fewn yr amserlen. Mae gennym broses fwy cymhleth yma sydd yn golygu paratoi dogfennau ymhellach ymlaen llaw. Mae aelodau’r Cabinet a’r swyddogion yn ceisio ymaddasu i hynny a symud trothwyau yn ôl ymhellach fel y gellir paratoi dogfennau’n iawn ac mewn pryd i’w cyflwyno’n briodol. Mae llawer iawn o bwysau ar y swyddogion i wneud hynny.

David Davies spoken in English p. 16

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 16

Further to that point of order, will the Presiding Officer investigate the lateness of answers to written questions? I am still waiting for answers to questions tabled in early October. I have waited up to a month before now for questions to be answered. Other Assembly Members have had this problem as well. It is unacceptable. If we are to have an open Assembly, questions must be answered within five days.

Ymhellach i’r pwynt hwnnw o drefn, a fydd y Llywydd gystal ag ymchwilio i hwyrni atebion i gwestiynau ysgrifenedig? Yr wyf yn dal i ddisgwyl atebion i gwestiynau a gyflwynwyd yn gynnar yn Hydref. Arhosais hyd at fis cyn hyn am atebion i gwestiynau. Mae Aelodau Cynulliad eraill wedi cael y broblem hon hefyd. Mae’n annerbyniol. Os ydym i gael Cynulliad agored, rhaid i gwestiynau gael eu hateb o fewn pum niwrnod.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 16

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

All Members need to reflect on this. The pressure to answer questions is immense, especially when a great deal of detail is required. I, and all Cabinet members try to ensure that we provide a genuine answer to questions asked by Members. We did not always receive genuine answers in the House of Commons. It is the flavour of things in the Assembly that we want to answer questions properly. We take the questions seriously. Given the immense number of them, that creates an enormous amount of pressure. There is sometimes a delay in answering because the initial information does not answer the question properly. I am sure that David would agree that there is a trade-off between the speed with which questions are answered and ensuring that the answers are 100 per cent accurate. In tabling questions, I ask Members to ask themselves whether there are other ways to obtain the information. Perhaps the information is already available to them through other means, such as the Library. We could operate more efficiently and ease the pressure on officials if there were a degree of restraint on the part of Members. I do not want to stop Members asking questions but, in a sense, Members are putting pressure on the services to which they look for those answers. We all have a responsibility to consider the pressures on the small number of staff who serve us at a senior policy level.

Mae angen i’r holl Aelodau ystyried hyn. Mae’r pwysau i ateb cwestiynau yn enfawr, yn enwedig pan ofynnir am lawer iawn o fanylion. Byddaf fi, a holl aelodau’r Cabinet yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu ateb dilys i gwestiynau a ofynnir gan Aelodau. Ni fyddem bob amser yn derbyn atebion dilys yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn unol â naws y Cynulliad, yr ydym am ateb cwestiynau’n iawn. Cymerwn y cwestiynau o ddifrif. Oherwydd y nifer enfawr ohonynt, mae hyn yn creu pwysau anferth. Fe geir oedi weithiau cyn eu hateb am nad yw’r wybodaeth ddechreuol yn ateb y cwestiwn yn iawn. Yr wyf yn sicr y cytunai David fod cyfaddawd i’w gyrraedd rhwng cyflymder ateb cwestiynau a sicrhau bod yr atebion yn gwbl gywir. Pan fyddant yn cyflwyno cwestiynau, gofynnaf i’r Aelodau ystyried a oes dulliau eraill i gael y wybodaeth. Efallai bod y wybodaeth ar gael iddynt eisoes drwy gyfryngau eraill, fel y Llyfrgell. Gallem weithredu’n fwy effeithlon ac ysgafnhau’r pwysau ar y swyddogion pe bai’r Aelodau’n ymatal i ryw raddau. Nid wyf am rwystro’r Aelodau rhag gofyn cwestiynau ond, ar un ystyr, mae’r Aelodau’n rhoi pwysau ar y gwasanaethau y maent yn disgwyl cael yr atebion hynny ganddynt. Mae cyfrifoldeb arnom oll i ystyried y pwysau sydd ar y nifer fechan o staff sydd yn ein gwasanaethu ar lefel bolisi uwch.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 16

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

This issue and issues relating to questions have been discussed in the Business Committee. It is my concern as Presiding Officer that the protocol between Members and officials should be adhered to on the free flow of information within the Assembly. Assembly questions are one device by which information flows but there are other devices. I am anxious, as someone who was guilty in the past of overusing the questioning procedure in another place, that that procedure should be used properly at all times. We will return to this.

Mae’r mater hwn a materion sydd yn ymwneud â chwestiynau wedi eu trafod yn y Pwyllgor Busnes. Yr hyn sydd o bwys i mi fel Llywydd yw y dylid cadw at y protocol rhwng yr Aelodau a’r swyddogion ynghylch y rhwydd hynt i wybodaeth o fewn y Cynulliad. Mae cwestiynau yn y Cynulliad yn un dull o gynnal y llif o wybodaeth ond fe geir dulliau eraill. Fel un a fu’n euog yn y gorffennol o orddefnyddio’r weithdrefn gwestiynau mewn lle arall, yr wyf yn awyddus iawn i’r weithdrefn honno gael ei defnyddio’n briodol bob amser. Deuwn yn ôl at hyn.

Cynnig o Ddiffyg Hyder

No Confidence Motion

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 17

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

I will follow the procedure that was invented in the course of the recent censure motion by allowing a maximum of five minutes for each Party Leader to speak before calling the First Secretary to reply.

Dilynaf y weithdrefn a ddyfeisiwyd yng nghwrs y cynnig o gerydd yn ddiweddar drwy ganiatáu pum munud ar y mwyaf i bob Arweinydd Plaid gael siarad cyn galw ar y Prif Ysgrifennydd i ateb.

Nick Bourne spoken in English p. 17

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 17

I propose the motion standing in my name and the names of Alun Cairns, David Davies, Jonathan Morgan, William Graham, David Melding, Peter Rogers and Glyn Davies that

Cynigiaf y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i ac yn enwau Alun Cairns, David Davies, Jonathan Morgan, William Graham, David Melding, Peter Rogers a Glyn Davies sef

Nick Bourne (continued) spoken in English p. 17

Nick Bourne (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 17

This no confidence motion in the First Secretary is proposed to address how the Assembly is run. It is not specifically geared at the response to the censure motion that we had a couple of weeks ago although that is one symptom of how the Assembly is run that causes concern. After long and hard consideration, our group puts this motion forward not to attack the Assembly but rather how it is run by what is essentially a minority administration. That minority administration acts and fails to react as if it were a majority administration. It behaves with a high-handed arrogance on occasion. Ignoring the censure motion was but the latest example of that.

Rhoddir y cynnig hwn o ddiffyg hyder gerbron er mwyn ymdrin â’r modd y caiff y Cynulliad ei redeg. Nid yw’n ymwneud yn benodol â’r ymateb i’r cynnig o gerydd a gawsom ychydig wythnosau’n ôl er bod hynny’n un arwydd o’r modd y caiff y Cynulliad ei redeg sydd yn peri pryder. Ar ôl ystyried yn hir ac yn galed, mae ein grŵp yn cyflwyno’r cynnig hwn nid er mwyn ymosod ar y Cynulliad ond yn hytrach ar y modd y caiff ei redeg gan yr hyn sydd yn y bôn yn weinyddiaeth leiafrifol. Mae’r weinyddiaeth leiafrifol honno’n gweithredu ac yn methu ag ymateb fel pe bai’n weinyddiaeth fwyafrifol. Mae’n ymddwyn â thrahauster gormesol ar brydiau. Anwybyddu’r cynnig o gerydd oedd yr enghraifft ddiweddaraf o hynny.

I have two other examples where a majority of the Assembly has voted, only for the administration, led by Alun Michael, to ignore it. The first example is the short debate on genetically modified foods. A clear majority of Members wanted action to be taken but there was some doubt about the legality of doing that. The Secretary for Agriculture and Rural Development promised in early September to contact Friends of the Earth by the end of that month to say whether or not taking action was legal. They still await a response. I checked that this morning. That is one example of the administration ignoring the will of the Assembly. More recently there was a failure to recall the Assembly over the summer when a clear majority of Members from all three opposition parties wanted to do so, as well as at least one Labour Assembly Member. Again the majority was ignored. The response to the censure motion was that there was to be no response. There was no reaction at all. This is not the way for minority administrations to behave. It is scarcely inclusive.

Mae gennyf ddwy enghraifft arall o adegau pan oedd mwyafrif y Cynulliad wedi pleidleisio, a’r weinyddiaeth, dan arweiniad Alun Michael, wedi ei anwybyddu. Yr enghraifft gyntaf yw’r ddadl fer ar fwydydd a addaswyd yn enetig. Yr oedd mwyafrif pendant yr Aelodau am weld gweithredu ar hynny ond yr oedd rhywfaint o amheuaeth a oedd hynny’n gyfreithlon. Addawodd yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn gynnar ym Medi y byddai’n cysylltu â Chyfeillion y Ddaear erbyn diwedd y mis hwnnw i ddweud a fyddai gweithredu’n gyfreithlon ai peidio. Maent yn dal i ddisgwyl ateb. Gwiriais hynny fore heddiw. Mae hynny’n un enghraifft o’r weinyddiaeth yn anwybyddu ewyllys y Cynulliad. Yn ddiweddarach bu methiant i ailgynnull y Cynulliad dros yr haf pan oedd mwyafrif pendant o’r Aelodau o bob un o dair plaid yr wrthblaid am wneud hynny, ac o leiaf un Aelod Llafur o’r Cynulliad. Fe anwybyddwyd y mwyafrif drachefn. Yr ymateb i’r cynnig o gerydd oedd na fyddai ymateb. Ni chafwyd ymateb o gwbl. Nid dyma’r modd i weinyddiaethau lleiafrifol ymddwyn. Prin bod hyn yn gynhwysol.

Three major issues face us at the moment. The first issue is agriculture where we stagger from crisis to crisis and still nothing happens. The majority expresses its opinion and is ignored. Health is another major issue. During a meeting of the Health and Social Services Committee there was a vote to increase the budget. The Labour Party lost the vote and we still await its response. There is a crisis waiting to happen this winter in hospitals throughout Wales with waiting lists rising and hospital services under threat. What will the administration do now that a majority of the Assembly has spoken through that Committee? We do not know. Match funding is also an important issue and one that will dominate the life of this Assembly. Still we have no commitment to match funding other than the trite mantra from Tony Blair that he will not let Wales down. We must know what the reality will be because this affects the future of Wales.

Mae tri mater o bwys yn ein hwynebu ar hyn o bryd. Y mater cyntaf yw amaethyddiaeth lle’r ydym yn gwegian o argyfwng i argyfwng a dim yn digwydd o hyd. Mae’r mwyafrif yn mynegi ei farn ac fe’i hanwybyddir. Mae iechyd yn fater arall sydd o bwys. Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cafwyd pleidlais i gynyddu’r gyllideb. Collodd y Blaid Lafur y bleidlais ac yr ydym yn dal i ddisgwyl ei hymateb. Mae yna argyfwng yn bygwth digwydd y gaeaf hwn mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru gyda’r rhestrau aros yn cynyddu a gwasanaethau ysbytai dan fygythiad. Beth a wna’r weinyddiaeth yn awr a mwyafrif y Cynulliad wedi siarad drwy’r Pwyllgor hwnnw? Ni wyddom. Mae arian cyfatebol yn fater pwysig hefyd ac un a fydd yn flaenaf ym mywyd y Cynulliad hwn. Ni chawsom ymrwymiad i ddarparu arian cyfatebol fyth, heblaw am y mantra ystrydebol oddi wrth Tony Blair na fydd yn siomi Cymru. Rhaid inni gael gwybod beth fydd y gwirionedd oherwydd mae hyn yn effeithio ar ddyfodol Cymru.

On those three issues we see that the Labour Party fails to react to the majority in the Assembly. The Conservative group and I are committed to the Assembly as we have demonstrated time and again. I have only one full-time job but some people here who have led this assault have more than one full-time job in the Conservative Party—one in Cardiff and one in Westminster. The administration fails to listen to rural Wales and is not acting on the wishes of the Assembly or helping patients, parents, farmers or businesses. What should the response be?

Ar y tri mater hyn fe welwn fod y Blaid Lafur yn methu ag ymateb i’r mwyafrif yn y Cynulliad. Mae’r grŵp Ceidwadol a minnau wedi ymrwymo i’r Cynulliad fel y bu inni ddangos dro ar ôl tro. Nid oes gennyf ond un swydd lawn-amser ond mae gan rai sydd yma a arweiniodd yr ymosodiad hwn fwy nag un swydd lawn-amser yn y Blaid Geidwadol—un yng Nghaerdydd ac un yn San Steffan. Mae’r weinyddiaeth yn methu â gwrando ar gefn gwlad Cymru ac nid yw’n gweithredu yn ôl dymuniadau’r Cynulliad nac yn helpu cleifion, rhieni, ffermwyr na busnesau. Pa ymateb y dylid ei roi?

I know this motion will not be passed today and that the other opposition parties will not support it, for whatever reason. However, they will know that a lot, if not all, of what I am saying strikes a chord. They might not agree with the motion but rest assured that they agree with its spirit. We need a fresh start. The First Secretary and his administration need to start to listen to a majority opinion in the Assembly and to act on the wishes of that majority. It is unthinkable for the administration to go on in such a way for three and a half years. If the style and approach are altered today, we will have succeeded.

Gwn na fydd y cynnig hwn yn cael ei basio heddiw ac na fydd pleidiau eraill yr wrthblaid yn ei gefnogi, am ba bynnag reswm. Fodd bynnag, fe wyddant fod llawer, os nad y cwbl, o’r hyn a ddywedaf yn taro tant. Efallai na chytunant â’r cynnig ond gellwch fod yn sicr eu bod yn cytuno â’i ysbryd. Mae arnom angen dechrau newydd. Mae angen i’r Prif Ysgrifennydd a’i weinyddiaeth ddechrau gwrando ar farn y mwyafrif yn y Cynulliad a gweithredu yn ôl dymuniadau’r mwyafrif hwnnw. Ni ellir dychmygu y bydd y weinyddiaeth yn mynd ymlaen yn y fath fodd am dair blynedd a hanner. Os newidir yr arddull a’r dull gweithredu heddiw, byddwn wedi llwyddo.

I cannot believe that there is any clandestine chicanery between Labour’s Business Secretary and his Plaid Cymru counterpart to strike some kind of Halloween deal to alter Standing Orders. I trust that this is untrue, therefore I discount it entirely. Restrictions on the rights of Assembly Members would not be the correct response because it would be damaging to the Assembly. Labour does not have a divine right to run Wales. The First Secretary and his administration do not have a democratic right to run Wales because it is a minority administration and it is time it started acting like one.

Ni allaf gredu bod unrhyw ddichell gudd rhwng Trefnydd y Blaid Lafur a’i gymar ym Mhlaid Cymru i daro rhyw fath o fargen Calan Gaeaf i newid y Rheolau Sefydlog. Hyderaf nad yw hyn yn wir, felly fe’i diystyraf yn llwyr. Ni fyddai cyfyngu ar hawliau Aelodau’r Cynulliad yn ymateb cywir oherwydd fe wnâi niwed i’r Cynulliad. Nid oes gan y Blaid Lafur hawl ddwyfol i redeg Cymru. Nid oes gan y Prif Ysgrifennydd a’i weinyddiaeth hawl democrataidd i redeg Cymru oherwydd gweinyddiaeth leiafrifol ydyw ac mae’n bryd iddi weithredu felly.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 19

Dafydd Wigley spoken in Welsh and English p. 19

Mae’r cynnig hwn yn gamgymeriad gan y grŵp Ceidwadol. Bydd grŵp Plaid Cymru yn gwrthod cefnogi’r cynnig am dri rheswm. Yn gyntaf, nid yw’r cymhellion y tu ôl i’r cynnig yn rhai cywir. Yn ail, nid yw’r achos penodol a arweiniodd at y cynnig yn un addas ac, yn drydydd, nid yw’r amseriad yn briodol.

in Welsh This motion is a mistake by the Conservative group. The Plaid Cymru group will not be supporting the motion for three reasons. First, the motives behind the motion are improper. Secondly, the specific case that led to this motion is not suitable and, thirdly, the timing is inappropriate.

Beth yw’r cymhellion y tu ôl i’r cynnig? Difyr oedd gwrando ar Nick Bourne ar Good Morning Wales heddiw. Ei eiriau oedd,

in Welsh What are the motives behind the motion? It was interesting to hear Nick Bourne on Good Morning Wales today. His words were,

‘We do not particularly want to bring the Government down’.

Os felly, pam yn enw pob rheswm y cyflwynwyd y cynnig hwn? Mae’n gamddefnydd o brosesau’r Cynulliad. Mae’r cynnig yn amlwg yn dderbyniol o safbwynt trefn neu ni fyddai’r Llywydd wedi ei ganiatáu. Dylem felly ailedrych ar ein Rheolau Sefydlog. Yr unig adeg y dylid defnyddio cynnig o ddiffyg hyder yw pan fydd bwriad gwirioneddol i ddisodli’r Llywodraeth.

in Welsh If so, why on earth has this motion been proposed? It is an abuse of the Assembly’s processes. The motion is obviously in order or it would not have been allowed by the Presiding Officer. We should therefore look again at our Standing Orders. The only time that a vote of no confidence should be used is when there is a real intention to overturn the Government.

Taflwyd goleuni ar gymhellion y Ceidwadwyr o glywed David Davies ar Radio Wales ddydd Gwener diwethaf. Deirgwaith mewn tri munud dywedodd nad oedd y Cynulliad wedi cyflawni llawer ac nad oedd wedi ennyn ymddiriedaeth pobl Cymru. Cyfeiriodd at y Cynulliad bob tro, felly nid ymosod ar y Llywodraeth oedd ei fwriad ond yn hytrach ymosod ar y Cynulliad. Aeth ymlaen i awgrymu y dylid ailystyried bodolaeth y Cynulliad. Agenda’r Ceidwadwyr yw dymchwel y Cynulliad, nid y Llywodraeth. Nid ydym yn fodlon cefnogi’r agenda honno ac nid oes tir cyffredin rhyngom ni a’r Ceidwadwyr ar feddylfryd o’r fath.

in Welsh Some light was shed on the Conservatives’ motives when David Davies spoke on Radio Wales last Friday. Three times in three minutes he stated that the Assembly had not achieved a great deal and had not gained the trust of the people of Wales. He referred to the Assembly each time, therefore his intention was not to attack the Government but to attack the Assembly. He went on to suggest that the Assembly’s existence should be reconsidered. The Conservatives’ agenda is to bring down the Assembly, not the Government. We are unwilling to support that agenda and there is no common ground between us and the Conservatives on that kind of thinking.

Yr ail reswm pam na allwn gefnogi’r cynnig yw’r cefndir, sef y cynnig o gerydd yn erbyn Christine Gwyther a basiwyd ym mis Hydref. Mae’r hyn a wna Christine Gwyther yn fater o anrhydedd personol. Fodd bynnag, nid yw pasio cynnig o gerydd yn erbyn un aelod o Lywodraeth yn golygu diffyg hyder yn y Llywodraeth gyfan.

in Welsh The second reason why we cannot support the motion is its background; that is the censure motion against Christine Gwyther that was passed in October. What Christine Gwyther does is a matter of personal honour. However, passing a censure motion against one member of a Government does not constitute a lack of confidence in the Government as a whole.

Yr amseriad yw ein trydydd rheswm dros wrthod cefnogi’r cynnig. Mae ein cynllun Amcan 1 newydd ar fin cael ei ystyried ym Mrwsel ac yr ydym yn camu i fis o drafodaethau tyngedfennol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Gymuned Ewropeaidd. Yr ydym hefyd ar fin trafod ein cyllideb gyda’r Trysorlys, gan gynnwys y mater o arian cyfatebol a’r egwyddor o arian Ewropeaidd ychwanegol. Nid dyma’r amser i ddymchwel Llywodraeth. Efallai fod yna amser addas i wneud pethau o’r math hwn ond nid yn awr yw’r amser hwnnw.

in Welsh Our third reason for not supporting the motion is its timing. Our new Objective 1 scheme is about to be considered in Brussels and we are entering a month of crucial discussions between the Government of Wales and the European Community. We are also about to discuss our budget with the Treasury, including the issue of match funding and the principle of additional European funds. This is not the time to bring down a Government. Perhaps there is an appropriate time to do this kind of thing but now is not that time.

A question of confidence will arise if the Government fails to deliver on match funding and on securing European funds for Wales, over and above the Barnett block grant. However, we have not yet reached that point and it is our earnest belief that we do not need such a motion because the Government will deliver the necessary money. In the meantime, there is room for the Government to improve on its performance. We are working in a political vacuum to some extent.

yn Saesneg Fe fydd cwestiwn o hyder yn codi os bydd y Llywodraeth yn methu â mynd â’r maen i’r wal ar arian cyfatebol a sicrhau arian Ewropeaidd i Gymru, uwchlaw’r hyn sydd yng ngrant bloc Barnett. Fodd bynnag, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto a chredwn yn gydwybodol nad oes arnom angen cynnig o’r fath oherwydd fe fydd y Llywodraeth yn cyflenwi’r arian angenrheidiol. Yn y cyfamser, mae yna le i’r Llywodraeth wella ei pherfformiad. Yr ydym yn gweithio mewn gwactod gwleidyddol i ryw raddau.

The Government slavishly follows an agenda laid down by London. Where are the new initiatives for Wales? What is the First Secretary and his Government doing that Alun Michael could not have done as Secretary of State for Wales? We need vision and inspiration from the Government. There is a danger that we are getting little inspiration because the First Secretary is bogged down in detail. Perspiration in its place is all right, but it can never replace inspiration.

yn Saesneg Mae’r Llywodraeth yn dilyn agenda a osodir yn Llundain yn wasaidd. Ym mha le y mae’r mentrau newydd ar gyfer Cymru? Beth y mae’r Prif Ysgrifennydd a’i Lywodraeth yn ei wneud na allasai Alun Michael ei wneud fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Mae arnom angen gweledigaeth ac ysbrydoliaeth oddi wrth y Llywodraeth. Y perygl yw bod yr ysbrydoliaeth yn brin am fod y Prif Ysgrifennydd wedi mynd yn sownd mewn cors o fanylion. Mae chwys yn iawn yn ei le, ond ni all fyth gymryd lle ysbrydoliaeth.

Wales needs a vision. As a party we would support a Government with that vision. We will put forward, as we have already, an agenda for Wales. We will present proposals in the Committees and will work on an inclusive agenda to enable that vision to happen. However, we cannot do that if the agenda does not exist. The challenge is to make the Assembly work for the whole of Wales and not to play games with votes such as these. If, in due course, it becomes clear that the Alun Michael Government is not capable of rising to that challenge, we may have to look at such a proposal and look for an alternative. Today, however, is not that day. The verdict today is ‘not proven’. That is why we will not support this motion.

yn Saesneg Mae angen gweledigaeth ar Gymru. Byddem fel plaid yn cefnogi Llywodraeth a chanddi’r weledigaeth honno. Byddwn yn cyflwyno agenda ar gyfer Cymru, fel y gwnaethom eisoes. Byddwn yn cyflwyno cynigion yn y Pwyllgorau ac yn gweithio ar agenda gynhwysol fel y gall y weledigaeth honno ddigwydd. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny os nad yw’r agenda’n bod. Yr her yw cael y Cynulliad i weithio dros Gymru gyfan ac nid chwarae gemau â phleidleisiau fel y rhain. Os daw’n amlwg, ymhen amser, nad yw Llywodraeth Alun Michael yn gallu ymateb i’r her honno, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried cynnig o’r fath a chwilio am ddewis arall. Nid heddiw yw’r diwrnod i hynny, fodd bynnag. Y dyfarniad heddiw yw ‘heb ei brofi’. Dyna pam na fyddwn yn cefnogi’r cynnig hwn.

Michael German spoken in English p. 21

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 21

Here we are again. Many could be forgiven for thinking that this Assembly, in the words of one of our eminent Cabinet colleagues, is like a one-legged duck swimming in a circle. That is what happens when half of an elected body desperately wants to achieve things for the people of Wales and anxiously attempts to paddle forward boldly, while the other half cruises on a Westminster autopilot, puts its foot up and maintains the status quo. That is how it feels working here, whether you agree with this view or not, and we cannot carry on in this way.

Dyma ni eto. Gellid maddau i lawer am gredu bod y Cynulliad hwn, yn ngeiriau un o’n cydweithwyr enwog yn y Cabinet, fel hwyaden ungoes yn nofio mewn cylch. Dyna’r hyn sydd yn digwydd pan fydd hanner corff etholedig yn daer dros gyflawni pethau dros bobl Cymru ac yn ceisio padlo ymlaen yn bryderus ac yn eofn, tra bydd yr hanner arall yn hwylio mynd ar awtopeilot San Steffan, yn gorffwys ei draed ac yn cynnal y status quo. Dyna’r teimlad a geir wrth weithio yma, pa un a ydych yn cytuno â’r farn hon ai peidio, ac ni allwn fynd ymlaen fel hyn.

Some say that we are all to blame and perhaps that is true. Others say that this is a new institution and that it needs time to settle. I would not dispute that. However, this debate gives us the opportunity to think carefully about how we are conducting the new politics of Wales. It gives us a chance to take stock, to learn lessons and, hopefully, to move on.

Fe ddywed rhai fod bai arnom i gyd ac efallai fod hynny’n wir. Dywed eraill fod hwn yn sefydliad newydd a bod angen amser iddo ymsefydlu. Nid wyf yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, mae’r ddadl hon yn rhoi cyfle inni feddwl yn ofalus ynghylch y modd yr ydym yn cynnal gwleidyddiaeth newydd Cymru. Mae’n rhoi cyfle inni bwyso a mesur, i ddysgu gwersi a, gobeithio, symud ymlaen.

The Liberal Democrats do not support this motion. It is mistimed and ill-judged. The only future issue important enough to merit this type of direct political action will be the non provision of the match funding that will enable us to draw down the full European funds for Objective 1. This is where our attention should be and this motion distracts us from that task.

Nid yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r cynnig hwn. Mae’n gamamserol ac yn fyrbwyll. Yr unig fater yn y dyfodol sydd yn ddigon pwysig i deilyngu gweithredu gwleidyddol uniongyrchol o’r math hwn yw peidio â darparu’r arian cyfatebol a fydd yn ein galluogi i ymestyn am yr holl arian Ewropeaidd ar gyfer Amcan 1. Ar hynny y dylem ganolbwyntio ac mae’r cynnig hwn yn ein tynnu oddi wrth y dasg honno.

However, we will not vote against this motion because it vocalises some important concerns. It puts down a marker in the sand. I hope that the First Secretary before denouncing his critics, will take a moment or two to reflect carefully on the motion. Perhaps it is not everyone else’s fault that we have reached an impasse so quickly. Perhaps Alun Michael needs to change his approach to this Assembly and his attitude to criticism. We talk tritely of inclusiveness in the Assembly. New politics comes with a price tag. It requires compromise and we are happy with that. Like every other party we do not have a majority in the Assembly. We therefore recognise that we have to work hard with others if we want to succeed.

Fodd bynnag, ni phleidleisiwn yn erbyn y cynnig hwn oherwydd mae’n lleisio rhai pryderon o bwys. Mae’n gosod arwydd yn y tywod. Gobeithiaf y bydd y Prif Ysgrifennydd, cyn collfarnu ei feirniaid, yn treulio ychydig amser yn ystyried y cynnig yn ofalus. Efallai nad bai pawb arall yw ein bod wedi dod i’r cyfwng hwn mor gyflym. Efallai bod angen i Alun Michael newid ei agwedd at y Cynulliad hwn a’i agwedd at feirniadaeth. Byddwn yn sôn yn ystrydebol am gynwysoldeb yn y Cynulliad. Mae pris i’w dalu am y wleidyddiaeth newydd. Mae’n gofyn cyfaddawd ac yr ydym yn fodlon â hynny. Fel pob plaid arall nid oes gennym fwyafrif yn y Cynulliad. Yr ydym yn cydnabod felly y bydd yn rhaid inni weithio’n galed gydag eraill os ydym am lwyddo.

However, we will not sit back in silence when we disagree. That is the height of political irresponsibility. We are told daily by Labour that this is the only option—agree with us or we will wreck the Assembly; support our projects and ideas in our time and our way and everything will be all right. I am sorry but we cannot do that. Perhaps it is time that the administration started listening to the rest of us a little more and practised the inclusiveness that they and we are so desperate to preach. Support a good idea once in a while even if it comes from the Liberal Democrats, accept defeat once in a while even if it offends the UK Government, and acknowledge that nobody has a majority or the divine right to rule in this Assembly. Have a little more grace and maybe you will regain our confidence. The Liberal Democrats want that to happen. All of us do. The people of Wales deserve nothing less.

Fodd bynnag, nid ydym yn fodlon eistedd yn ôl mewn distawrwydd pan fyddwn yn anghytuno. Anghyfrifoldeb gwleidyddol o’r mwyaf yw hynny. Dywed Llafur wrthym bob diwrnod mai hynny yw’r unig ddewis—cytunwch â ni neu dinistriwn y Cynulliad; cefnogwch ein prosiectau a’n syniadau yn ein hamser ac yn ôl ein ffordd ni a bydd popeth yn iawn. Mae’n ddrwg gennyf, ond ni allwn wneud hynny. Hwyrach ei bod yn bryd i’r weinyddiaeth ddechrau gwrando ychydig mwy ar y gweddill ohonom gan arfer y cynwysoldeb y maent hwy fel ninnau am ei bregethu mor daer. Cefnogwch syniad da o bryd i’w gilydd hyd yn oed os daw oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol, cymerwch eich trechu o bryd i’w gilydd hyd yn oed os yw hynny’n tramgwyddo Llywodraeth y DU, a derbyniwch nad oes gan neb fwyafrif na’r hawl ddwyfol i reoli yn y Cynulliad hwn. Byddwch ychydig yn fwy graslon ac efallai y byddwch yn adennill ein hyder ynoch. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am i hynny ddigwydd. Mae pawb ohonom am i hynny ddigwydd. Nid yw pobl Cymru yn haeddu llai.

In closing, I must stress the importance of today for another reason. It represents a warning shot across the bows of this administration. I referred earlier to Objective 1 match funding. Labour has misled the people of Wales repeatedly over the last few weeks. Some £35 million spun here, a £100 million spun there and no match funding on the table. The way these matters were presented not only treated this Assembly, but the people of Wales, with contempt. We sincerely hope, First Secretary, that you will provide the vision and make good your promises and claims. If you do we will offer you our full support. However, if you do not, First Secretary—and this is my warning—then we will not abstain again.

Wrth gloi, rhaid imi bwysleisio bod heddiw’n bwysig am reswm arall. Mae’n golygu ergyd ar draws blaen llong y weinyddiaeth hon. Cyfeiriais yn gynharach at arian cyfatebol Amcan 1. Mae Llafur wedi camwarwain pobl Cymru droeon dros yr wythnosau diwethaf hyn. Rhyw £35 miliwn wedi ei droelli yma, £100 miliwn wedi ei droelli yn y fan honno a dim arian cyfatebol ar y bwrdd. Yr oedd y modd y cyflwynwyd y materion hyn yn ddirmygus o’r Cynulliad hwn, ac o bobl Cymru. Yr ydym yn gwir obeithio, Brif Ysgrifennydd, y byddwch yn rhoi’r weledigaeth ac yn cywiro’ch addewidion ac yn gwireddu’ch honiadau. Os gwnewch hynny cynigiwn ein cefnogaeth lawn. Fodd bynnag, os na wnewch hynny, Brif Ysgrifennydd—a dyma’r rhybudd sydd gennyf—ni fyddwn yn ymatal eto.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 23

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

I find this motion distasteful, not because it is an attack on me—I am used to that—nor because it is an attempt to prolong the cowardly sniping at the Secretary for Agriculture and Rural Development. That too is a busted flush. Nor do I find it distasteful simply because it is a contemptible trick to get the Tories the attention they desperately crave. I find the motion distasteful because it is a total outrage that the party which has single handedly caused so much damage and misery to the people of Wales should criticise us for working to clean up their mistakes. Nick, how dare you attack us for our handling of the Assembly when your party’s mismanagement of Wales over 18 years brought our country to its knees? How dare you attack us when your party in Government wreaked havoc on the national health service, the Labour Party’s proudest achievement? How dare you attack us when your party’s education policies destroyed opportunities for so many of our children and when your economic policies ruined many of our home-grown industries? How dare you attack us when, after years of Tory damage and destruction, we are finally beginning to turn things around in Wales and offer hope of a brighter future to our people? The Conservative Party, through its own shocking record, has forfeited any authority to judge or criticise other parties.

Credaf fod y cynnig hwn yn un annymunol, nid am ei fod yn ymosod arnaf fi—yr wyf wedi arfer â hynny—nac am ei fod yn ymgais i barhau â’r beirniadu llwfr ar yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Nid yw hynny wedi taro deuddeg ychwaith. Ni chredaf ei fod yn annymunol ychwaith am nad yw ond yn ystryw gwarthus i gael y sylw y mae’r Torïaid yn crefu’n daer amdano. Credaf fod y cynnig yn annymunol am ei fod yn gwbl warthus fod y blaid a achosodd gymaint o niwed a gofid i bobl Cymru ar ei phen ei hun yn ein beirniadu am weithio i gywiro eu camgymeriadau. Nick, sut y meiddiwch ymosod arnom am y modd yr ydym yn trin y Cynulliad wedi i gamreolaeth eich plaid chi ar Gymru dros 18 mlynedd ddod â distryw ar ein gwlad? Sut y meiddiwch ymosod arnom wedi i’ch plaid chi pan oedd mewn Llywodraeth wneud llanastr o’r gwasanaeth iechyd gwladol, sef camp fwyaf y Blaid Lafur? Sut y meiddiwch ymosod arnom wedi i bolisïau addysg eich plaid ddinistrio cyfleoedd cynifer o’n plant ac wedi i’ch polisïau economaidd ddinistrio llawer o’n diwydiannau cynhenid? Sut y meiddiwch ymosod arnom a ninnau o’r diwedd, wedi blynyddoedd o ddifrod a distryw’r Torïaid, yn dechrau gweddnewid pethau yng Nghymru a chynnig gobaith am ddyfodol gwell i’n pobl? Mae’r Blaid Geidwadol, drwy ei record drychinebus ei hun, wedi fforffedu unrhyw hawl i farnu neu feirniadu pleidiau eraill.

However, there is a second reason why this no confidence motion is distasteful and disturbing. The motion does not damage me—and the Tories know it—but it could damage the public perception of the Assembly. I and my Labour colleagues take that matter seriously. Let me be clear. The motion will not damage the Assembly itself. This Assembly is already bigger than any of us. However, it can damage perceptions. We have a duty to give people hope, to lead and to set an example. Every party and every Assembly Member has a duty to live up to the highest aspiration any of us has ever held for the National Assembly for Wales: to make it a success.

Fodd bynnag, mae yna ail reswm pam y mae’r cynnig hwn o ddiffyg hyder yn annymunol ac yn annifyr. Nid yw’r cynnig yn peri niwed i mi—ac fe ŵyr y Torïaid hynny—ond fe allai beri niwed i’r modd y mae’r cyhoedd yn dirnad y Cynulliad. Yr wyf fi a’m cydweithwyr Llafur yn cymryd y mater hwnnw o ddifrif. Gadewch imi fod yn eglur. Ni fydd y cynnig yn peri niwed i’r Cynulliad ei hun. Mae’r Cynulliad hwn yn fwy na’r un ohonom eisoes. Fodd bynnag, fe all beri niwed i ddirnadaeth. Mae arnom ddyletswydd i roi gobaith i bobl, i arwain ac i osod esiampl. Mae dyletswydd ar bob plaid a phob Aelod o’r Cynulliad i geisio cyflawni’r dyhead mwyaf a fu gan yr un ohonom erioed ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru: ei wneud yn llwyddiant.

This motion is a misuse of a serious procedure for which every Member should have the utmost respect. Let us consider what is being said against us. Two weeks ago there was a censure motion. It was not a vote of no confidence nor a motion that required a resignation. Fair minded people recognise that the Secretary for Agriculture and Rural Development has not just done her best but continues to do the best that anyone could do for Welsh farmers. There was a censure motion—the validity of which we firmly rejected and which the Presiding Officer himself called into question. Nevertheless, while rejecting the motivation behind it, we showed respect to the Assembly and its processes. Immediately after the vote I summoned an emergency Cabinet meeting and with the unanimous agreement of my colleagues I responded formally, in writing, to the Presiding Officer. I copied my letter to every Assembly Member. I took that motion seriously and I responded to it seriously, as First Secretary, in full accordance with our rules. I challenge any of the other parties to say in all sincerity that they would have acted differently in my position.

Mae’r cynnig hwn yn gamddefnydd ar weithdrefn ddifrifol y dylai pob Aelod ei pharchu i’r eithaf. Gadewch inni ystyried yr hyn a ddywedir yn ein herbyn. Bythefnos yn ôl cafwyd cynnig o gerydd. Nid pleidlais o ddiffyg hyder mohoni na chynnig a oedd yn mynnu ymddiswyddiad. Mae pobl ddiduedd yn derbyn bod yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi gwneud ei gorau a’i bod hefyd yn parhau i wneud y gorau y gallai neb dros ffermwyr Cymru. Cafwyd cynnig o gerydd—un y bu inni ei wrthod yn bendant â derbyn ei ddilysrwydd ac un a gwestiynwyd gan y Llywydd ei hun. Er hynny, a chan wrthod yr hyn a’i cymhellodd, bu inni ddangos parch i’r Cynulliad a’i brosesau. Yn union wedi’r bleidlais gelwais gyfarfod brys o’r Cabinet a chyda chytundeb unfrydol fy nghydweithwyr fe ymatebais yn ffurfiol, mewn ysgrifen, i’r Llywydd. Anfonais gopi o’m llythyr at bob Aelod o’r Cynulliad. Cymerais y cynnig hwnnw o ddifrif ac ymatebais iddo o ddifrif, fel Prif Ysgrifennydd, yn gwbl unol â’n rheolau. Heriaf unrhyw un o’r pleidiau eraill i ddweud yn gwbl onest y byddent wedi gweithredu’n wahanol pe baent yn fy sefyllfa i.

The other criticisms are also not valid. I have responded to every serious expression of concern by this Assembly. I have sought to build consensus and to provide strong leadership. We have taken initiatives on health, agriculture, jobs, and in particular, we won the Objective 1 funding for Wales. We will not let Wales down.

Nid yw’r beirniadaethau eraill yn ddilys ychwaith. Yr wyf wedi ymateb i bob pryder difrifol a fynegwyd gan y Cynulliad hwn. Ceisiais adeiladu consensws a rhoi arweinyddiaeth gadarn. Rhoesom arweiniad ar iechyd, amaethyddiaeth, swyddi ac, yn arbennig, bu inni ennill arian Amcan 1 i Gymru. Ni fyddwn yn siomi Cymru.

We are putting the vision into practice and in responding to Dafydd and Mike’s considered comments on this resolution I ask them not to talk the Assembly down. You know that we are listening and responding with grace and dignity. In Committees and in its underlying serious business, this Assembly is working. Members across parties are co-operating to get on with the job of serving the people of Wales. The alleged basis for this censure is a complete fallacy. It is the Assembly, not me or the Labour Party, which you seek to damage by abusing our procedures today. No matter how much Nick Bourne tries to conjure up a sense of crisis, no matter how much he dissembles, he cannot do it, anymore than he can magic away the utter disaster of Tory policies in Wales. He knows full well, as do the rest of us, that many of the grave problems we face in the Assembly are a direct result of his party’s incompetence over the best part of two decades. If that legacy was not enough to demand a degree of humility from the Conservative Members here, their own conduct in the Assembly has been a total disgrace. For the sake of their own credibility they need to be honest about what they want the Assembly to do. Do they want it to work or not? Do they, as Jonathan Evans said, want a Parliament with more powers? Do they, as Nigel Evans suggested, want another referendum? Do they, as David Davies intimated, want to get rid of the Assembly altogether in five years time? Or do they want to cut their losses and make a dash for Westminster as some of them tried to do before being slapped down by their latest leader? Until they sort themselves out and start behaving like serious, grown-up politicians in this Assembly, I am afraid that none of us here and none of the voters in the country will take a single word they say seriously. In the name of constructive politics Nick, and in the good name of this Assembly, I respectfully suggest that you withdraw this utterly pointless motion. If you pursue this motion you will prove that you are not, as you claim, the only real opposition in the Assembly but the only real opposition to the Assembly.

Yr ydym yn rhoi’r weledigaeth ar waith ac wrth ymateb i sylwadau ystyriol Dafydd a Mike ar y cynnig hwn gofynnaf iddynt beidio â bychanu’r Cynulliad. Fe wyddoch ein bod yn gwrando ac yn ymateb yn raslon ac yn urddasol. Yn ei Bwyllgorau ac yn ei fusnes difrifol sylfaenol, mae’r Cynulliad hwn yn gweithio. Mae Aelodau ar draws y pleidiau’n cydweithredu er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith o wasanaethu pobl Cymru. Mae sail honedig y cerydd hwn yn gamsyniad llwyr. Y Cynulliad, nid fi na’r Blaid Lafur, yw’r hyn y ceisiwch ei niweidio drwy gamddefnyddio ein gweithdrefnau heddiw. Ni waeth faint y ceisia Nick Bourne ddyfeisio ymdeimlad o argyfwng, ni waeth faint y bydd yn cogio, ni all wneud hynny, mwy nag y gall swyno ymaith drychineb llwyr polisïau’r Torïaid yng Nghymru. Fe ŵyr o’r gorau, fel y gweddill ohonom, fod llawer o’r problemau difrifol a wynebwn yn y Cynulliad yn ganlyniad uniongyrchol anghymhwyster ei blaid ef dros y rhan helaethaf o ddau ddegawd. Pe na bai’r etifeddiaeth honno’n ddigon i hawlio rhywfaint o ostyngeiddrwydd oddi wrth yr Aelodau Ceidwadol yma, bu eu hymddygiad eu hunain yn y Cynulliad yn gwbl warthus. Er mwyn eu hygrededd eu hunain fe ddylent fod yn onest ynghylch yr hyn y maent am i’r Cynulliad ei wneud. A ydynt am iddo weithio ai peidio? A ydynt, fel y dywedodd Jonathan Evans, am gael Senedd â mwy o bwerau? A ydynt, fel yr awgrymodd Nigel Evans, am gael refferendwm arall? A ydynt, fel yr awgrymodd David Davies, am gael gwared â’r Cynulliad yn gyfan gwbl ymhen pum mlynedd? Neu a ydynt am dorri eu colledion a rhuthro am San Steffan fel y ceisiodd rhai ohonynt wneud cyn i’w harweinydd diweddaraf eu rhoi yn eu lle? Nes byddant wedi rhoi trefn ar eu pethau a dechrau ymddwyn fel gwleidyddion aeddfed, difrifol yn y Cynulliad hwn, mae arnaf ofn na fydd neb ohonom yma na neb o’r etholwyr yn y wlad yn cymryd yr un gair o’u heiddo o ddifrif. Yn enw gwleidyddiaeth adeiladol, Nick, ac yn enw da’r Cynulliad hwn, awgrymaf yn barchus y dylech dynnu’n ôl y cynnig cwbl ddibwrpas hwn. Os bwriwch ymlaen â’r cynnig hwn fe brofwch nad ydych, fel yr honnwch, yn unig wir wrthblaid yn y Cynulliad ond eich bod yn unig wir wrthwynebiad i’r Cynulliad.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

We will now vote on the motion.

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig.

Cynnig Nick Bourne t. 26

Motion Nick Bourne p. 26

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

I think that the motion was rejected, but I believe that Nick Bourne is asking for a confirmatory vote.

Tybiaf fod y cynnig wedi ei wrthod, ond credaf fod Nick Bourne yn gofyn am bleidlais gadarnhau.

Nick Bourne siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Nick Bourne spoken in Welsh p. 26

Yes, I am.

Ydwyf.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 26

Pwynt o drefn. Mae materion pwysig i’w trafod y prynhawn hwn. Pam yr ydym yn gwastraffu amser y Cynulliad yn barhaus ar faterion diwerth?

Point of order. There are important issues to discuss this afternoon. Why do we continually waste the Assembly’s time on pointless issues?

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 26

Mae gennyf lawer o gydymdeimlad ynglŷn â’r pwynt o drefn hwnnw ond nid oes gennyf ddewis o dan y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd. Pan fydd pleidlais yn cael ei herio, rhaid inni gynnal pleidlais gadarnhau.

I have a great deal of sympathy with that point of order but I have no choice under the Standing Orders at present. When the outcome of a vote is challenged, we must hold a confirmatory vote.

Cynnig Nick Bourne t. 26

Motion Nick Bourne p. 26

GwrthodwydRejected O blaidFor 8 YmatalAbstain 23 Yn erbynAgainst 26

Gwrthodwyd y cynnig.

Motion rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (8)
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • William Graham
YmatalAbstain (23)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (26)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Datganiad ar y Cynllun Tir Gofal a’r Cynllun Cymorth Organig

Statement on the Tir Gofal Scheme and the Organic Aid Scheme

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 27

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 27

I have been asked to make this statement about the future of Tir Gofal agri-environmental scheme and the organic aid scheme after 31 December 1999. Both of these schemes have been approved by the European Commission under regulation 2078/92, a legal measure that expires at the end of this calendar year. There has been considerable discussion in the press about these schemes. Both play an important part in our strategy for revitalising and redirecting Welsh farming. We have always known that when the rural development plan is approved next year, the schemes will need to be resubmitted as part of that package and approved anew by the Commission. We have always been confident, and still are, that such schemes fit perfectly with the philosophy of the reformed common agricultural policy and should be easily accepted under the new regime, once it is in place.

Gofynnwyd imi wneud y datganiad hwn ar ddyfodol cynllun amaethyddol-amgylcheddol Tir Gofal a’r cynllun cymorth organig ar ôl 31 Rhagfyr 1999. Mae’r ddau gynllun hyn wedi eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan reoliad 2078/92, sydd yn fesur cyfreithiol a ddaw i ben ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Bu cryn drafod yn y wasg am y cynlluniau hyn. Mae’r ddau’n chwarae rhan bwysig yn ein strategaeth ar gyfer adfywio ac ailgyfeirio amaethyddiaeth yng Nghymru. Yr ydym yn gwybod erioed y bydd yn rhaid ailgyflwyno’r cynlluniau fel rhan o becyn y cynllun datblygu gwledig, pan gaiff hwnnw ei gymeradwyo’r flwyddyn nesaf, a chael cymeradwyaeth iddynt o’r newydd. Yr ydym wedi bod yn ffyddiog o hyd, ac yn parhau felly, fod cynlluniau o’r fath yn cydweddu’n berffaith ag athroniaeth y polisi amaethyddol cyffredin diwygiedig ac y dylent gael eu derbyn yn rhwydd o dan y gyfundrefn newydd, wedi iddi gael ei sefydlu.

The problem we have arises from the transition to the new arrangements. It has been apparent for some time that the rural development plans for the four parts of the UK and for other member states could not be agreed by the Commission in time to implement successive schemes from 1 January next year. Assembly officials have therefore been working with the Countryside Council for Wales and the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food since the summer to establish the potential implications of transitional arrangements for Tir Gofal and the organic aid scheme. CCW and Assembly officials attended a meeting with MAFF on 11 August to take this forward. There has been close co-operation on the subject since then. The ability to continue to approve applications after 1 January is dependent on having a legal basis within European Union law. That should be provided by transitional regulation. In negotiations with the European Commission and the other EU member states about this, the UK argued that the ability to make offers for applications received this year should not expire on 31 December. That point was pressed vigorously in Brussels but the UK was a minority voice. At a meeting on 12 October a transitional regulation was decided that provides no legal basis on which to issue offer letters under the existing regulations after 31 December. After that date, it will only be possible to enter into new agreements for the organic aid and Tir Gofal schemes after the rural development plan has been approved and the appropriate implementing regulations have been made. Assembly officials are working hard with CCW, who are running the scheme on our behalf, to ensure that the maximum number of offer letters are sent out by the end of this calendar year.

Mae’r broblem sydd gennym yn deillio o’r trosglwyddiad i’r trefniadau newydd. Mae’n amlwg ers cryn amser na fyddai modd i’r Comisiwn gytuno ar y cynlluniau datblygu gwledig ar gyfer pedair rhan y DU ac ar gyfer yr aelod wladwriaethau eraill mewn pryd i weithredu cynlluniau olynol o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf. Felly bu swyddogion o’r Cynulliad yn gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ers yr haf er mwyn canfod goblygiadau posibl y trefniadau trosiannol i Tir Gofal a’r cynllun cymorth organig. Bu swyddogion o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac o’r Cynulliad mewn cyfarfod gyda’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ar 11 Awst er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Cafwyd cydweithredu agos ar y mater ers hynny. Mae’r gallu i barhau i gymeradwyo ceisiadau ar ôl 1 Ionawr yn dibynnu ar gael sail gyfreithiol i wneud hynny o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Dylai hynny gael ei roi gan reoliad trosiannol. Mewn trafodaethau gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac aelod wladwriaethau eraill yr UE, fe ddadleuodd y DU na ddylai’r gallu i wneud cynigion ar gyfer ceisiadau a dderbynnir eleni ddod i ben ar 31 Rhagfyr. Fe bwyswyd y pwynt hwnnw’n egnïol ym Mrwsel ond yr oedd y DU yn y lleiafrif. Mewn cyfarfod ar 12 Hydref penderfynwyd ar reoliad trosiannol nad yw’n darparu sail gyfreithiol i roi llythyrau cynnig o dan y rheoliadau presennol ar ôl 31 Rhagfyr. Wedi’r dyddiad hwnnw, ni fydd modd gwneud cytundebau newydd ar gyfer y cynlluniau cymorth organig a Tir Gofal nes cymeradwyo’r cynllun datblygu gwledig a gwneud y rheoliadau gweithredu priodol. Mae swyddogion y Cynulliad yn gweithio’n galed gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd yn rhedeg y cynllun ar ein rhan, er mwyn sicrhau yr anfonir y nifer mwyaf posibl o lythyrau cynnig erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

I am taking two main steps to address this situation. First, I am introducing new streamlined arrangements for making offers to farmers, which will speed up the process and maximise the number of offers we can make before 31 December. It is not yet possible to state categorically how many agreements will be sent out before that date as that will depend on the quality of the applications being processed by CCW and the speed with which they can be turned around. However, I am confident that we will make a significant impact this year and will build on that in future years under the rural development plan. This is CCW’s top priority and MAFF divisional offices will similarly make the applications for the organic aid scheme their top priority.

Yr wyf yn cymryd dau brif gam i ymdrin â’r sefyllfa hon. Yn gyntaf, yr wyf yn cyflwyno trefniadau newydd symlach ar gyfer gwneud cynigion i ffermwyr, a bydd hyn yn cyflymu’r broses ac yn amlhau nifer y cynigion y gallwn eu gwneud cyn 31 Rhagfyr. Nid oes modd dweud yn bendant eto faint o gytundebau a anfonir allan cyn y dyddiad hwnnw gan y bydd hynny’n dibynnu ar ansawdd y ceisiadau a brosesir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a pha mor gyflym y gellir eu prosesu. Fodd bynnag, yr wyf yn sicr y cawn effaith sylweddol eleni ac y byddwn yn adeiladu ar sail hynny yn y blynyddoedd sydd i ddod o dan y cynllun datblygu gwledig. Dyma flaenoriaeth gyntaf Cyngor Cefn Gwlad Cymru a bydd swyddfeydd rhanbarthol y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd hefyd yn rhoi’r flaenoriaeth gyntaf i’r ceisiadau ar gyfer y cynllun cymorth organig.

Secondly, I am investigating whether there might be a legal basis for making offers after 31 December. This is complex legal territory and the potential risks must be evaluated. I will inform the Agriculture and Rural Development Committee at all stages. Along with my colleagues, I deeply regret the fact that the change in EU regulations means that we are unable to progress these two schemes as quickly as we would have liked. However, this should not divert us from our long-term strategic thinking. It is vital that those who speak for and support Welsh agriculture realise the importance of keeping to our strategic goals and the importance of planning ahead on how to achieve our goals in the European context. That is what the First Secretary and myself are doing and I call on your support for our efforts.

Yn ail, yr wyf yn ymchwilio i ganfod a oes sail gyfreithiol i wneud cynigion ar ôl 31 Rhagfyr. Mae hyn yn faes cyfreithiol cymhleth a rhaid gwerthuso’r peryglon posibl. Rhoddaf wybodaeth i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar bob cam. Mae’n ofid mawr i mi a’m cydweithwyr fod y newid yn rheoliadau’r UE yn golygu na allwn fwrw ymlaen â’r ddau gynllun hyn mor gyflym ag y dymunem. Fodd bynnag, ni ddylai hyn dynnu’n sylw oddi ar ein meddwl strategol tymor-hir. Mae’n holl bwysig bod y rhai sydd yn dadlau dros amaethyddiaeth Cymru ac yn ei chefnogi yn sylweddoli mor bwysig yw cadw at ein nodau strategol ac mor bwysig yw cynllunio ymlaen ynghylch y modd i gyrraedd ein nodau yn y cyd-destun Ewropeaidd. Dyna’r hyn y mae’r Prif Ysgrifennydd a minnau yn ei wneud a galwaf arnoch i gefnogi ein hymdrechion.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 29

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 29

Diolchaf i Christine Gwyther am gytuno i wneud y datganiad hwn. Yr wyf yn sicr ei bod hithau, yn yr un modd â phob Aelod o bob plaid, yn derbyn bod cynllun Tir Gofal a’r cynllun organig yn fesurau pwysig iawn. Yr ydym i gyd yn awyddus i sicrhau bod pob ffermwr sydd yn dymuno gwneud cais amdanynt yn cael y cyfle i wneud hynny. Serch hynny, a yw’n rhannu fy mhryder mai mewn papur Sul y cawsom wybod fod problemau o ran sicrhau cytundebau newydd rhwng 1 Ionawr 2000 a’r dyddiad pan fydd y Rheoliad Datblygu Gwledig ym Mrwsel yn cael ei ganiatáu? A all ddweud wrthym pryd yn union y cafodd wybod am y problemau hyn?

I thank Christine Gwyther for agreeing to make this statement and I am sure that she, as does every Member from every party, accepts that the Tir Gofal scheme and the organic scheme are very important measures. We are all eager to ensure that all farmers who wish to apply for them have the opportunity to do so. However, does she share my concern that we learnt that there were problems in securing new agreements between 1 January 2000 and the date when the Rural Development Regulation in Brussels will be allowed from a Sunday newspaper? Can she tell us when exactly she was informed of these problems?

Cyfeiriodd Christine yn ei datganiad fod cyfarfod wedi ei gynnal ym Mrwsel ar 12 Hydref. Pryderaf fod cyfarfodydd o’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi eu cynnal ar ôl hynny ac na chawsom wybod fod hyn wedi digwydd. Mae hynny yn fater o bryder i’r Pwyllgor ac i’r Cynulliad. A yw’n derbyn bod y sefyllfa hon yn annerbyniol? Cyfeiriodd at gamau cyfreithiol y gellir eu cymryd, ond a yw’n gallu ein sicrhau ei bod hefyd am gymryd camau gwleidyddol i sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn deall bod hyn yn annerbyniol yng ngoleuni’r sefyllfa sydd yn bodoli yng Nghymru? Ni allwn ganiátau cymaint o fwlch heb fod ffermwyr yn cael cytundebau newydd.

Christine said in her statement that a meeting was held in Brussels on 12 October. I am concerned that meetings of the Agriculture and Rural Development Committee have been held since then and we were not informed that this had happened. This is a matter of concern for the Committee and for the Assembly. Does she accept that this situation is unacceptable? She referred to legal steps which could be taken, but can she assure us that she will also take political steps to ensure that the European Commission understands that this is unacceptable in the light of the situation which exists in Wales? We cannot allow such a delay before farmers are given new agreements.

Christine Gwyther spoken in English p. 30

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 30

I agree that it is not acceptable that I was not made aware of the outcome of the meeting held on 12 October until a telephone conversation last week. You will recall, Ieuan, that I rang you to that effect yesterday. I have carried out a full investigation into this, and although I support my officials they have been made aware of my dissatisfaction. I assure you that it will not happen again. I have made it clear that I have to receive news—even bad news—as soon as it is known to the Assembly and the department.

Cytunaf nad yw’n dderbyniol na chefais wybod am ganlyniad y cyfarfod ar 12 Hydref nes cael sgwrs ffôn yr wythnos diwethaf. Fe gofiwch, Ieuan, imi’ch ffonio i ddweud hynny ddoe. Yr wyf wedi ymchwilio’n llawn i hyn, ac er fy mod yn cefnogi fy swyddogion maent wedi cael gwybod am f’anfodlonrwydd. Fe’ch sicrhaf na fydd hyn yn digwydd eto. Rhoddais ar ddeall y bydd yn rhaid imi dderbyn newyddion—newyddion drwg hyd yn oed—cyn gynted ag y daw’n wybyddus i’r Cynulliad ac i’r adran.

On the question of the legal possibilities of processing applications after 31 December, that is a very difficult legal area. The Office of the Counsel General is helping us with this matter and I shall update you. I am afraid it is probably too late to impose political pressure but we have to ensure that we put all our efforts into getting as many of these applications through before the end of the year. This applies to Tir Gofal, to the organic scheme and also to marketing and processing. Members who have followed the progress of these applications will know that we are working hard and long hours in the department to get them processed.

Ynglŷn â chwestiwn y posibiliadau cyfreithiol o brosesu ceisiadau ar ôl 31 Rhagfyr, mae hynny’n faes cyfreithiol anodd iawn. Mae Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol yn ein helpu gyda’r mater hwn a rhoddaf wybod ichi am yr hyn a ddigwydd. Mae arnaf ofn ei bod efallai’n rhy hwyr i roi pwysau gwleidyddol ond rhaid inni sicrhau ein bod yn ymdrechu i’r eithaf i fynd â chymaint ag y gellir o’r ceisiadau hyn drwodd cyn diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i Tir Gofal, i’r cynllun organig a hefyd i farchnata a phrosesu. Bydd yr Aelodau a ddilynodd ddatblygiad y ceisiadau hyn yn gwybod ein bod yn gweithio’n galed a thros oriau hir yn yr adran er mwyn eu prosesu.

Peter Rogers spoken in English p. 30

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 30

The time factor, 12 October, and the fact that this was not announced until you were away on holiday were my main points. We are concerned about your announcement on the radio yesterday about switching the £750,000 that was to be used for the calf processing aid scheme to these schemes. Can you give us an assurance that you understand the dire predicament of the Welsh dairy farmer? If that money is to be made available it should be made available to dairy producers. If you have to find additional money it should come from somewhere else. We are worried that you think that money which should have gone to the dairy industry can suddenly be transferred to help us out of our predicament over these important schemes.

Y ffactor amser, 12 Hydref, a’r ffaith na chyhoeddwyd hyn hyd nes yr oeddech i ffwrdd ar eich gwyliau yw’r prif bwyntiau sydd gennyf. Pryderwn ynghylch eich cyhoeddiad ar y radio ddoe am drosglwyddo’r £750,000 a oedd i’w ddefnyddio ar gyfer y cynllun cymorth prosesu lloi i’r cynlluniau hyn. A ellwch roi sicrwydd i ni eich bod yn deall cyfyngder difrifol y ffermwr llaeth yng Nghymru? Os yw’r arian hwnnw am fod ar gael dylai fod ar gael i’r cynhyrchwyr llaeth. Os oes rhaid ichi ddod o hyd i arian ychwanegol fe ddylai ddod o rywle arall. Pryderwn eich bod yn meddwl y gellir trosglwyddo’r arian hwnnw a ddylasai fod wedi mynd i’r diwydiant llaeth i’n helpu o’n cyfyngder ynghylch y cynlluniau pwysig hyn.

Christine Gwyther spoken in English p. 31

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 31

This is not a problem of money; it is again a problem of permission to use that money. As far as the £750,000 is concerned, two weeks ago in the Agriculture and Rural Development Committee, I said that I would come to the next meeting—which is tomorrow—with my proposals on how to spend that money. I could have announced that today but in respect and deference to the Committee I shall make my proposals in the Committee tomorrow and you can comment on them.

Nid problem ynghylch arian mo hon; unwaith eto, mae’n broblem o gael caniatâd i ddefnyddio’r arian hwnnw. Ynglŷn â’r £750,000 hwnnw, bythefnos yn ôl yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, dywedais y byddwn yn dod i’r cyfarfod nesaf—a gynhelir yfory—â’m cynigion ynghylch y modd i wario’r arian hwnnw. Gallaswn fod wedi cyhoeddi hynny heddiw ond o barch i’r Pwyllgor fe roddaf fy nghynigion yn y Pwyllgor yfory a gellwch roi sylwadau arnynt.

Mick Bates spoken in English p. 31

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 31

We note your statement. However, as a farmer, I am still concerned that so many expectations have been raised recently only to be dashed. We have seen little action. This is yet another example in a long list of events in which we, in an industry that has suffered greatly because of a reduction in market-place incomes, have found that the administration is not capable of controlling schemes, and this is one of the best schemes and one unique to Wales.

Yr ydym yn nodi’ch datganiad. Fodd bynnag, fel ffermwr, yr wyf yn dal yn bryderus am fod llawer o obeithion wedi eu codi’n ddiweddar a’u chwalu wedyn. Ychydig o weithredu a welsom. Mae hyn yn un enghraifft arall mewn rhestr hir o ddigwyddiadau lle’r ydym ni, mewn diwydiant a ddioddefodd yn fawr oherwydd gostyngiad mewn incwm yn y farchnad, yn gweld nad yw’r weinyddiaeth yn gallu rheoli cynlluniau, ac mae hwn yn un o’r cynlluniau gorau ac yn un sydd yn unigryw i Gymru.

You used the word ‘confident’ in your opening statement. However, given the track record of expectations raised over other Assembly schemes, applicants for this scheme cannot be confident that you will perform and ensure that the applications are dealt with by the organisation you have responsibility for, although it may be a low figure of 250 applicants.

Defnyddiasoch y gair ‘ffyddiog’ yn eich datganiad agoriadol. Fodd bynnag, yn wyneb record y gobeithion a godwyd ynghylch cynlluniau eraill y Cynulliad, ni all yr ymgeiswyr am y cynllun hwn fod yn ffyddiog y byddwch yn mynd â’r maen i’r wal ac yn sicrhau yr ymdrinnir â’r ceisiadau gan y gyfundrefn yr ydych yn gyfrifol amdani, er y gallai fod yn ffigur isel o 250 o ymgeiswyr.

Are we talking about thousands of applications to be processed? It seems like it, as they have been in for months. Are we talking about granting authority for hundreds or just 250 or 300 people to go ahead with this scheme? They deserve to be able to plan. They deserve a statement now as to whether they will have the scheme before the end of this year. It has been a great struggle for many farmers to even get into the ranking order of the scheme. How many farmers are expected to be included in the scheme and what percentage of applications does that represent? You should be on top of this administration burden. I will not hold my breath that that burden will be dealt with.

A ydym yn sôn am brosesu miloedd o geisiadau? Mae’n ymddangos felly, oherwydd fe’u hanfonwyd ers misoedd. A ydym yn sôn am roi caniatâd i gannoedd neu ond i 250 neu 300 o bobl i fynd ymlaen â’r cynllun hwn? Maent yn haeddu’r cyfle i gynllunio. Maent yn haeddu datganiad yn awr ynghylch a fydd y cynllun ganddynt cyn diwedd eleni. Mae wedi golygu ymdrech fawr i lawer o ffermwyr hyd yn oed gael eu hystyried ar gyfer y cynllun. Pa nifer o ffermwyr y disgwylir eu cynnwys yn y cynllun a pha ganran o’r ceisiadau yw hynny? Fe ddylech fod ar ben y baich gweinyddol hwn. Nid wyf yn hyderus iawn y caiff y baich hwnnw ei drafod.

Christine Gwyther spoken in English p. 32

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 32

I cannot comment on the track records of other departments because that comment is a little obscure. As for the number of applications that will be processed, you know as well as I do that we are talking about hundreds rather than thousands. It would be wonderful were it thousands.

Ni allaf roi sylw ar record adrannau eraill oherwydd mae’r sylw hwnnw braidd yn niwlog. O ran nifer y ceisiadau a brosesir, fe wyddoch gystal â minnau ein bod yn sôn am gannoedd yn hytrach na miloedd. Byddai’n wych pe bai miloedd.

We have a streamlining process. This week and last week, we spoke to the Office of the Counsel General and MAFF who said that we can make offers without the mapping exercise. It is the mapping exercise that takes an awful lot of person power in the field. Therefore, we are doing everything we can practically and legally to short-circuit the difficulties that have been presented to us.

Mae gennym broses symleiddio. Yr wythnos hon a’r wythnos diwethaf, buom yn siarad â Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol a’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a dywedasant y gallwn wneud cynigion heb yr ymarfer mapio. Yr ymarfer mapio sydd yn defnyddio llawer o waith gan bobl yn y maes. Felly, yr ydym yn gwneud popeth y gallwn yn ymarferol ac yn gyfreithiol i fynd heibio i’r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu.

Mick Bates spoken in English p. 32

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 32

How many is it?

Beth yw’r nifer?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 32

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

Order. We have had the question.

Trefn. Fe gawsom y cwestiwn hwnnw.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 32

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 32

The next three weeks’ Plenary business is on the Chamberweb under supporting papers. Before I outline the business for the next three weeks, I inform you that after Tom Middlehurst’s Assembly Question session in Plenary tomorrow, Rhodri Morgan, the Economic Development Secretary, will make a statement on the position of the clothing supplier William Baird given the recent announcement by Marks & Spencer on its supply policy.

Mae busnes y Cyfarfod Llawn dros y tair wythnos nesaf ar we’r Siambr o dan y papurau ategol. Cyn imi amlinellu’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, rhoddaf wybod i chi y bydd datganiad, ar ôl Sesiwn Cwestiynau’r Cynulliad i Tom Middlehurst yn y Cyfarfod Llawn yfory, gan Rhodri Morgan, Ysgrifennydd Datblygu Economaidd, ar sefyllfa’r cyflenwr dillad William Baird yn wyneb y cyhoeddiad diweddar gan Marks & Spencer ar ei bolisi cyflenwi.

Business in Plenary on 9 and 10 November is as I reported last week. On 16 November, in addition to the Home Repairs Assistance (Extension) (Wales) Regulations, there will be a debate on broadcasting in Wales. On 17 November, business will include a debate on the information age, the use of information communication technology and the benefits of a knowledge-based economy. Business in Plenary on 23 and 24 November will include a debate on the Government’s forward legislative programme. Arrangements will be made after Plenary today to place a copy of this statement on the internet and the intranet.

Mae’r busnes yn y Cyfarfod Llawn ar 9 a 10 Tachwedd fel yr adroddais yr wythnos diwethaf. Ar 16 Tachwedd, yn ogystal â’r Rheoliadau (Ymestyn) Cymorth i Atgyweirio Cartrefi (Cymru), bydd dadl ar ddarlledu yng Nghymru. Ar 17 Tachwedd, bydd y busnes yn cynnwys dadl ar yr oes wybodaeth, defnyddio technoleg cyfathrebu gwybodaeth a manteision economi sydd yn seiliedig ar wybodaeth. Bydd y busnes yn y Cyfarfod Llawn ar 23 a 24 Tachwedd yn cynnwys dadl ar raglen ddeddfu’r Llywodraeth yn y dyfodol. Gwneir trefniadau ar ôl y Cyfarfod Llawn heddiw i roi copi o’r datganiad hwn ar y rhyngrwyd a’r fewnrwyd.

Derbyniwyd y Datganiad Busnes.

Business Statement adopted.

Strategaeth Dai

Housing Strategy

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 33

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 33

There is severe time pressure on business today. We have two important debates and I need to protect the time of the short debate. Therefore, I limit this debate to 60 minutes. I have selected amendments 1 and 2 in the name of Peter Black.

Mae pwysau difrifol ar amser ar gyfer y busnes heddiw. Mae gennym ddwy ddadl bwysig a rhaid imi ddiogelu amser y ddadl fer. Felly, cyfyngaf y ddadl hon i 60 munud. Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1 a 2 yn enw Peter Black.

Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 33

Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 33

I propose that the Assembly

Cynigiaf fod y Cynulliad

Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government (continued) spoken in English p. 33

Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 33

I am pleased that we have the opportunity, relatively early in the life of the Assembly, to debate a subject that has an important bearing on the quality of life of everyone living in Wales. I will set out some of the challenges that we face and explain the progress we have made in beginning to address them.

Mae’n dda gennyf fod gennym gyfle, a hynny’n gymharol gynnar yn oes y Cynulliad, i drafod pwnc sydd o bwys arbennig i ansawdd bywyd pawb yng Nghymru. Nodaf rai o’r heriau sydd yn ein hwynebu ac egluraf y cynnydd a wnaethom wrth ddechrau ymdrin â hwy.

On 20 October the Finance Secretary, Edwina Hart, made a statement on the development of the Assembly’s strategic plan. She said that our overriding aim should be to promote a confident, outward looking and united Wales in which a healthy economy and an improving environment give everyone a chance to enjoy a better quality of life and also to promote a fairer Wales, in which everyone is encouraged to play a full part. To achieve this vision, we have set ourselves the five key objectives of achieving a better economy, better opportunities for learning, better health and well-being, better quality of life and better, simpler government.

Ar 20 Hydref gwnaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Edwina Hart, ddatganiad ar ddatblygiad cynllun strategol y Cynulliad. Dywedodd mai’r nod pennaf a ddylai fod gennym yw hybu Cymru hyderus, unedig sydd yn edrych tuag at allan lle y bydd economi iach ac amgylchedd gwell yn rhoi cyfle i bawb fwynhau ansawdd bywyd gwell a hefyd hybu Cymru decach, lle yr anogir pawb i chwarae rhan lawn. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, yr ydym wedi pennu pum prif amcan sef sicrhau economi gwell, gwell cyfleoedd i ddysgu, gwell iechyd a lles, gwell ansawdd bywyd a llywodraeth well a symlach.

This is the broad policy framework within which we need to shape our housing strategy. Everyone has a fundamental need for an affordable, decent home. The greatest social exclusion is not to have a home. A home provides shelter, security, privacy, and underpins our individual and family lives. The quality of our homes and neighbourhoods can have a significant impact on the quality of our lives. Poor housing can have consequences for our health, educational attainment and access to employment and is often a symptom of social exclusion. Decent housing, where people have access to jobs, services, transport and local amenities, is fundamental to ensuring that our communities are sustainable.

Dyma’r fframwaith polisi bras y bydd yn rhaid inni lunio ein strategaeth dai oddi mewn iddo. Mae ar bawb angen sylfaenol am gartref gweddus, fforddiadwy. Y dieithrwch cymdeithasol pennaf yw bod heb gartref. Mae cartref yn darparu cysgod, diogelwch, preifatrwydd, ac yn sylfaen i’n bywydau fel unigolion a theuluoedd. Mae ansawdd ein cartrefi a’n cymdogaethau’n gallu effeithio’n sylweddol ar ansawdd ein bywyd. Mae tai gwael yn gallu arwain at ganlyniadau i’n hiechyd, ein cyflawniadau addysgol a’n mynediad i gyflogaeth ac mae’n aml yn symptom o ddieithrwch cymdeithasol. Mae tai gweddus, lle y caiff pobl fynediad i swyddi, gwasanaethau, trafnidiaeth a mwynderau lleol, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cymunedau’n gynaliadwy.

When you ask people what they consider to be the key issues that the Assembly needs to address, I have no doubt that having safe, warm, homes will be close to the top of the list, along with better health and education, jobs, tackling social exclusion and crime and working for strong communities. The challenge is to make progress on all of these together rather than on one at the expense of others, because the solution to one is, in one way or another, inextricably linked to the rest.

Pan ofynnwch i bobl beth yn eu barn hwy yw’r materion allweddol y bydd angen i’r Cynulliad ymdrin â hwy, yr wyf yn sicr y bydd y gallu i gael cartrefi cynnes, diogel yn agos i ben y rhestr, ochr yn ochr â gwell iechyd ac addysg, swyddi, ymdrin â dieithrwch cymdeithasol a throseddu a gweithio dros gymunedau cryf. Yr her yw gwneud cynnydd ar bob un o’r rhain gyda’i gilydd yn hytrach nag ar un ar draul y lleill, oherwydd mae cyswllt anorfod, rywfodd neu’i gilydd, rhwng yr atebion i bob un o’r rhain.

A national housing strategy should seek to ensure that people have access to, and choice of, housing to meet their needs. Achieving that will require a strategic approach that encompasses all tenures and maximises the contribution of all those involved in housing to the common objectives of ensuring sustainable home ownership, a thriving well-managed private rented sector with good standards of accommodation, sufficient high quality social housing, managed efficiently and effectively, and the location of homes in communities where people want to live.

Dylai strategaeth dai genedlaethol geisio sicrhau y caiff pobl fynediad i ddewis o dai i ateb eu hanghenion. Er mwyn cyflawni hynny bydd angen strategaeth sydd yn cwmpasu pob deiliadaeth ac yn amlhau cyfraniad pawb sydd yn ymwneud â thai i’r amcanion cyffredin o sicrhau perchnogaeth gynaliadwy ar dai, sector preifat ar rent sydd yn ffyniannus ac wedi ei reoli’n dda a chyda safonau llety da, digon o dai cymdeithasol o ansawdd uchel sydd wedi eu rheoli’n effeithiol ac yn effeithlon, a lleoli cartrefi mewn cymunedau lle y mae pobl am fyw.

It is vital that we have a clear understanding of the housing situation in Wales if we are to develop a strategic approach that will effectively deliver decent housing and improve the quality of life for the people of Wales. I have therefore asked officials to make an early start on our manifesto commitment to initiate a housing audit. That will give a better picture of housing throughout Wales and include information on housing need and demand across all tenures and on the condition of existing homes.

Mae’n holl bwysig inni gael dealltwriaeth eglur o’r sefyllfa dai yng Nghymru os ydym i ddatblygu strategaeth a fydd yn effeithiol wrth gyflenwi tai gweddus a gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Felly gofynnais i’r swyddogion ddechrau’n gynnar ar yr ymrwymiad yn ein maniffesto i ddechrau archwiliad tai. Bydd hynny’n rhoi gwell darlun o dai ym mhob cwr o Gymru ac yn cynnwys gwybodaeth am anghenion a galw am dai ym mhob deiliadaeth ac ar gyflwr y tai presennol.

The recently completed audit of housing research in Wales will also help to inform a programme of research to fill gaps in our knowledge of housing so that appropriate information is available to the Assembly and our partners in formulating policy. Over 70 per cent of Welsh households own their homes, the highest percentage in the United Kingdom. Home ownership remains the tenure preference of almost nine out of 10 Welsh households. The majority of homeowners are able, rightly, to take responsibility for the repair and maintenance of their homes. For those that need it, the home renovation grant system ensures that help is targeted to those in most need. Grants have played a significant part in reducing levels of unfitness in homes and achieving the standards that people rightly expect for the twenty-first century.

Bydd yr archwiliad o ymchwil i dai yng Nghymru a gwblhawyd yn ddiweddar hefyd yn gymorth i oleuo rhaglen ymchwil i gau bylchau yn ein gwybodaeth am dai fel y bydd gwybodaeth briodol ar gael i’r Cynulliad ac i’n partneriaid wrth lunio polisi. Mae dros 70 y cant o deuluoedd Cymru yn berchen ar eu cartrefi, y ganran uchaf yn y Deyrnas Unedig. Perchentyaeth yw dewis deiliadaeth bron naw o bob 10 o deuluoedd Cymru o hyd. Mae mwyafrif y perchnogion tai yn gallu ymgymryd â chyfrifoldeb dros atgyweirio a chynnal a chadw eu cartrefi, fel sydd yn briodol. I’r rhai y mae arnynt angen hynny, mae’r system grantiau adnewyddu cartrefi yn sicrhau y caiff cymorth ei dargedu ar y rhai sydd â’r angen mwyaf. Mae grantiau wedi chwarae rhan bwysig wrth leihau lefelau anaddasrwydd mewn cartrefi a sicrhau’r safonau y mae’n iawn i bobl eu disgwyl ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

However, despite the reductions in unfitness shown in the latest house condition survey, much still remains to be done. It is essential that local authorities develop effective local renewal strategies that address issues both of bricks and mortar and of social conditions in tackling run-down communities. Care and repair agencies, disabled facilities grants, and home repair assistance have been particularly significant in helping the elderly or disabled to remain in their homes, living independently in sound conditions with convenient facilities and the help and support of friends, relatives and neighbours. These arrangements are an integral part of the health and social care support package. We are determined to further develop this joined-up approach in the future.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gostyngiadau mewn anaddasrwydd a welir yn yr arolwg diweddaraf o gyflwr tai, mae llawer yn aros i’w wneud. Mae’n holl bwysig i’r awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau adnewyddu lleol effeithiol sydd yn ymdrin â materion sydd yn ymwneud ag adeiladwaith a chyda’r amodau cymdeithasol wrth ddelio â chymunedau dirywiedig. Bu asiantaethau gofal a thrwsio, grantiau cyfleusterau i’r anabl, a chymorth i atgyweirio cartrefi yn arbennig o bwysig wrth helpu pobl oedrannus neu anabl aros yn eu cartrefi, gan fyw’n annibynnol o dan amodau da gyda chyfleusterau hwylus a chymorth a chefnogaeth ffrindiau, perthnasau a chymdogion. Mae’r trefniadau hyn yn rhan hanfodol o’r pecyn cefnogaeth i iechyd a gofal cymdeithasol. Yr ydym yn benderfynol o ddatblgu’r dull gweithredu cydgysylltiol hwn ymhellach yn y dyfodol.

We are also determined to work with local government and our other partners to improve domestic energy efficiency in Wales and, in particular, to address problems of fuel and poverty. I am pleased to announce that the new home energy efficiency scheme for Wales will channel around £15 million to those in greatest need, including the elderly, over the next two years. That is double the existing level of funding. The new scheme will provide a broad range of measures targeted at the home owner and private rented sectors with the aim of improving the comfort and health of those who cannot heat their homes adequately. Furthermore, it will make an important contribution to the reduction of carbon dioxide emissions. I will announce details of the scheme later this year.

Yr ydym hefyd yn benderfynol o weithio gyda llywodraeth leol a chyda’n partneriaid eraill er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni domestig yng Nghymru ac o ymdrin, yn arbennig, â phroblemau tanwydd a thlodi. Yr wyf yn falch o gyhoeddi y bydd y cynllun effeithlonrwydd ynni yn y cartref newydd i Gymru yn sianelu tua £15 miliwn at y rhai sydd â’r angen mwyaf, gan gynnwys yr henoed, dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny’n ddwywaith y lefel ariannu bresennol. Bydd y cynllun newydd yn darparu amrywiaeth o fesurau a dargedir at sector y perchnogion tai a’r sector preifat ar rent er mwyn gwella cysur a iechyd y rhai na allant gynhesu eu tai yn ddigonol. Yn ogystal â hynny, bydd yn gwneud cyfraniad o bwys i leihau gollyngiadau carbon deuocsid. Cyhoeddaf fanylion y cynllun yn ddiweddarach eleni.

Problems can be of a very different and more complex nature for council and housing association tenants. People are increasingly turning away from social housing. Low demand coupled with high rates of turnover can seriously undermine the social stability of our housing estates. Obvious reasons for low demand are ageing tenant profiles, population movements, more access to public services and employment opportunities as well as bad service provision. However, we need a far deeper understanding of how tenants feel about their homes, neighbourhoods and social housing to take effective measures to help deprived communities and to target resources.

Gall problemau tenantiaid tai cyngor a chymdeithasau tai fod yn wahanol iawn ac yn fwy cymhleth. Mae pobl yn troi fwyfwy oddi wrth dai cymdeithasol. Mae galw isel ynghyd â chyfraddau trosiant uchel yn gallu tanseilio sefydlogrwydd cymdeithasol ein stadau tai yn ddifrifol. Rhai rhesymau amlwg am y galw isel yw proffiliau hŷn y tenantiaid, symudiadau poblogaeth, mwy o fynediad i wasanaethau cyhoeddus a chyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â darpariaeth wasanaeth wael. Fodd bynnag, mae arnom angen dealltwriaeth ddyfnach o lawer o deimladau tenantiaid ynghylch eu cartrefi, eu cymdogaethau a thai cymdeithasol er mwyn cymryd camau effeithiol i helpu cymunedau difreintiedig a thargedu adnoddau.

I initiated a study into the problems of low demand for social housing and I will report on that study early in summer 2000. We will also consider research published in England and assess its relevance to Wales. In some cases, the reason for low demand is all too clear. Council housing was neglected and starved of investment for many years under the previous central administration. Current estimates on the repair backlog and essential modernisations to the local authority housing stock in Wales range from £750 million to over £900 million. That under-investment contributed to the downward spiral of decay and social exclusion seen in many estates today.

Yr wyf wedi sefydlu astudiaeth ar broblemau’r galw isel am dai cymdeithasol a rhoddaf adroddiad am yr astudiaeth honno yn gynnar yn haf 2000. Byddwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i ymchwil a gyhoeddwyd yn Lloegr ac yn asesu ei pherthnasedd i Gymru. Mewn rhai achosion, mae’r rheswm am y galw isel yn ddigon amlwg. Fe esgeuluswyd tai cyngor a’u hamddifadu o fuddsoddiad am flynyddoedd lawer o dan y weinyddiaeth ganolog flaenorol. Mae’r amcangyfrifon cyfredol o’r ôl-groniad o waith atgyweirio ac addasiadau hanfodol ar stoc dai awdurdodau lleol yng Nghymru yn amrywio o £750 miliwn i dros £900 miliwn. Mae’r tanfuddsoddiad hwnnw wedi cyfrannu at y dirywiad o ran dadfeiliad a dieithrwch cymdeithasol a welir ar lawer o stadau heddiw.

We will continue to spend considerably more per capita on housing in Wales than is spent in England. However, as the First Secretary stated in this Chamber on 23 September, the Assembly cannot hold out the prospect of being able to increase its budget share for housing in the future. Health and education priorities in Wales mean that there are no additional resources. Local authorities have intense pressures in education as well as social services and transport. Therefore, if additional public spending cannot be expected—

Parhawn i wario llawer mwy y pen ar dai yng Nghymru nag a werir yn Lloegr. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Ysgrifennydd yn y Siambr hon ar 23 Medi, ni all y Cynulliad gynnig y gobaith o allu cynyddu ei gyfran o’r gyllideb ar gyfer tai yn y dyfodol. Mae blaenoriaethau mewn iechyd ac addysg yng Nghymru yn golygu nad oes adnoddau ychwanegol. Mae awdurdodau lleol yn profi pwysau dirfawr ar addysg yn ogystal ag ar wasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth. Felly, os na ellir disgwyl gwariant cyhoeddus ychwanegol—

Glyn Davies spoken in English p. 37

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 37

How can you criticise the previous administration for under-investment when you just stated that you do not anticipate increasing the investment in housing?

Sut y gellwch feirniadu’r weinyddiaeth flaenorol am danfuddsoddi a chithau newydd ddweud nad ydych yn rhagweld cynyddu’r buddsoddiad mewn tai?

Peter Law spoken in English p. 37

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 37

We invest more wisely and in partnership. Our legacy from the previous administration shows that we spend more on housing. We are considering things positively in partnership with many and, if you listen to what I say, I hope you will agree with me ultimately.

Yr ydym yn buddsoddi’n ddoethach ac mewn partneriaeth. Mae’r hyn a etifeddwyd gennym o’r weinyddiaeth flaenorol yn dangos ein bod yn gwario mwy ar dai. Yr ydym yn ystyried pethau’n gadarnhaol mewn partneriaeth â nifer fawr ac, os gwrandewch ar yr hyn a ddywedaf, gobeithiaf y cytunwch â mi yn y pen draw.

If we cannot expect additional public spending, except with regard to Objective 1 and specific finances coming into Wales, we must find a way of improving conditions for council tenants by bringing in new money. Therefore, it is crucial to promote fresh debate on this issue and to approach it with an open mind and with the objective of creating a future that includes a high standard of social housing in all parts of Wales. The working party that focused on ways of attracting private finance investment into our council stock concluded that stock transfer into community ownership was the only option for delivering additional investment on the necessary scale to fully overcome the identified repair backlog and modernisation requirements in Wales. That working party involved members nominated by local government, housing associations, tenants, lenders and the Chartered Institute of Housing. I thank them warmly for their good work.

Os na allwn ddisgwyl gwariant cyhoeddus ychwanegol, heblaw hynny sydd yn gysylltiedig ag Amcan 1 ac arian penodol a ddaw i Gymru, rhaid inni ganfod modd i wella’r amodau ar gyfer tenantiaid cyngor drwy ddod ag arian newydd i mewn. Felly, mae’n holl bwysig hybu dadl newydd ar y mater hwn ac ymdrin ag ef â meddwl agored ac er mwyn creu dyfodol sydd yn cynnwys safon uchel o dai cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru. Casgliad y gweithgor a ystyriodd ddulliau o ddenu buddsoddiad preifat i’n stoc tai cyngor oedd mai trosglwyddo stoc i berchnogaeth gymunedol oedd yr unig ddewis er mwyn dod â buddsoddiad ychwanegol o’r maint angenrheidiol i ddygymod â’r ôl-groniad o atgyweiriadau a’r anghenion addasu a ddynodwyd yng Nghymru. Yr oedd y gweithgor hwnnw’n cynnwys aelodau a enwebwyd gan lywodraeth leol, cymdeithasau tai, tenantiaid, benthycwyr a’r Sefydliad Siartredig Tai. Diolchaf o galon iddynt am eu gwaith da.

I urge local authorities and tenants to give community ownership serious consideration. I make a commitment to work with councils and tenant groups to see if we can find acceptable ways of moving forward. I stress that voluntary stock transfer of any sort will only take place if tenants want it. Therefore it is important that community ownership is seen as enabling tenants not only to have a better quality of life but also to have a say in and control over their way of life and that of their communities.

Pwysaf ar yr awdurdodau lleol a’r tenantiaid i ystyried perchnogaeth gymunedol o ddifrif. Yr wyf yn ymrwymo i weithio gyda chynghorau a grwpiau tenantiaid i weld a allwn ddod o hyd i ddulliau derbyniol i fwrw ymlaen. Pwysleisiaf na fydd trosglwyddiad stoc gwirfoddol o unrhyw fath yn digwydd oni bai fod y tenantiaid yn dymuno hynny. Felly, mae’n bwysig ystyried perchnogaeth gymunedol fel rhywbeth sydd nid yn unig yn galluogi tenantiaid i gael ansawdd bywyd gwell ond hefyd fel modd iddynt gael llais a rheolaeth dros eu ffordd o fyw a ffordd o fyw eu cymunedau.

The problems on many social housing estates go beyond bricks and mortar. Many tenants in these communities feel that they have no stake in society. Their housing situation often compounds their exclusion from mainstream society and its employment and social opportunities. That is why we are developing an action plan for promoting social inclusion in Wales. At the same time we are beginning to map all the Assembly programmes that impact on exclusion and are developing better indicators of exclusion and deprivation. That will ensure that our policies and programmes are joined up in a way that helps to tackle the underlying causes of social exclusion as well as to reduce poverty, and address lack of opportunity and inequality of access to services for the most disadvantaged groups in our society.

Mae’r problemau ar lawer o stadau tai cymdeithasol yn amgenach na rhai’r adeiladau eu hunain. Mae llawer o denantiaid yn y cymunedau hyn yn teimlo nad oes ganddynt gyfran mewn cymdeithas. Bydd eu sefyllfa dai yn aml yn gwaethygu graddau eu dieithrwch oddi wrth brif ffrwd y gymdeithas a’i chyfleoedd cymdeithasol a’i chyflogaeth. Dyna pam yr ydym yn datblygu cynllun gweithredu i hybu cynhwysiant cymdeithasol yng Nghymru. Ar yr un pryd yr ydym yn dechrau mapio holl raglenni’r Cynulliad sydd yn effeithio ar ddieithrwch ac yn datblygu gwell dangosyddion am ddieithrwch ac amddifadedd. Bydd hynny’n sicrhau bod ein polisïau a’n rhaglenni wedi eu cydgysylltu mewn modd sydd yn helpu i ymdrin ag achosion sylfaenol dieithrwch cymdeithasol ac i leihau tlodi, ac i roi sylw i’r diffyg cyfle a’r anghyfartalwch o ran mynediad i wasanaethau ymhlith y grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

However, these problems are not confined to large public sector housing estates. Social exclusion is evident in many of Wales’s poorest urban areas such as the south Wales Valleys where there are high levels of home ownership. It is also evident in rural communities. Housing policies and programmes have a large part to play in addressing these problems. Pioneering schemes such as the people in communities programme encourage community-led practical solutions to practical problems based on partnership. The first eight communities to benefit under the scheme are as diverse as Duffryn in Newport, a suburban estate of 1,000 council houses, and the rural Deiniolen and Dinorwig in the old slate quarrying area in Gwynedd. In all of the communities there are problems of unemployment, poor housing and frequently high crime levels as well. The solutions are tailored to local needs through local partnership. For instance, in Rhymney in Caerphilly County Borough Council there are proposals to bring together community recycling, business support, environmental works and further education facilities; all of which will complement programmes of housing investment. While local solutions meet local needs, it is vital that lessons are learnt more widely and that best practice is shared and adopted elsewhere.

Fodd bynnag, nid yw’r problemau hyn yn gyfyngedig i stadau tai mawr y sector cyhoeddus. Fe welir dieithrwch cymdeithasol mewn llawer o ardaloedd trefol tlotaf Cymru fel Cymoedd de Cymru lle y ceir lefelau uchel o berchentyaeth. Fe’i gwelir hefyd mewn cymunedau gwledig. Mae rhan amlwg i’w chwarae gan bolisïau a rhaglenni tai wrth ymdrin â’r problemau hyn. Mae cynlluniau arloesol fel y rhaglen pobl mewn cymunedau yn hybu atebion ymarferol i broblemau ymarferol dan arweiniad y gymuned ar sail partneriaeth. Mae’r wyth gymuned gyntaf sydd yn elwa ar y cynllun yn rhai mor wahanol â Duffryn yng Nghasnewydd, stad faestrefol o 1,000 o dai cyngor, a Deiniolen a Dinorwig yng nghefn gwlad yn hen ardal chwarelyddol Gwynedd. Ym mhob un o’r cymunedau fe geir problemau o ran diweithdra, tai gwael yn ogystal â lefelau troseddu uchel mewn llawer achos. Mae’r atebion wedi eu haddasu i anghenion lleol drwy bartneriaeth leol. Er enghraifft, yn Rhymni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae yna gynigion i gyfuno ailgylchu cymunedol, cymorth i fusnesau, gwaith amgylcheddol a chyfleusterau addysg bellach, a phob un yn cyflenwi rhaglenni buddsoddi mewn tai. Tra bydd atebion lleol yn cyflawni anghenion lleol, mae’n holl bwysig y dysgir y gwersi mewn cylch ehangach ac y caiff yr arfer gorau ei rannu a’i fabwysiadu mewn lleoedd eraill.

I am shortly to announce allocations under the new sustainable communities programme, which will provide £250,000 in its first year for small projects that add value to existing public investment in housing. These projects include conversion of hard to let council flats for community use and revenue funding for small community level projects.

Cyn hir byddaf yn cyhoeddi dyraniadau o dan y rhaglen cymunedau cynaliadwy newydd, a fydd yn darparu £250,000 yn y flwyddyn gyntaf i brosiectau bychain sydd yn ychwanegu gwerth at y buddsoddi cyhoeddus presennol mewn tai. Ymhlith y prosiectau hyn y mae trawsnewid fflatiau cyngor sydd yn anodd eu gosod i’w defnyddio gan y gymuned a chyllid refeniw ar gyfer prosiectau bychain ar lefel y gymuned.

Some of the poorest housing stock is in the private rented sector, particularly houses in multiple occupation. These premises are often the only choice of housing for young people and those who are socially or economically disadvantaged and who might otherwise be homeless. It is important that local authorities have adequate enforcement powers to deal with problems in houses in multiple occupation and can offer assistance to improve their condition.

Mae rhannau o’r stoc dai waethaf i’w cael yn y sector preifat ar rent, yn enwedig tai aml-ddeiliadaeth. Y tai hyn yw’r unig ddewis o dai sydd ar gael yn aml i bobl ifainc a rhai dan anfantais gymdeithasol neu economaidd a allai fod yn ddigartref fel arall. Mae’n bwysig bod gan awdurdodau lleol bwerau gorfodi digonol i ymdrin â phroblemau mewn tai aml-ddeiliadaeth a’u bod yn gallu cynnig cymorth i wella eu cyflwr.

The Government is committed to introducing a mandatory licensing scheme for houses in multiple occupation when parliamentary time can be found for the necessary primary legislation. The comprehensive and constructive comments that were received following the consultation exercise earlier this year will help the Assembly make decisions on the details of a national licensing scheme for Wales.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer tai aml-ddeiliadaeth pan ellir canfod amser yn y Senedd ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol angenrheidiol. Bydd y sylwadau cynhwysfawr ac adeiladol a dderbyniwyd ar ôl yr ymgynghoriad yn gynharach eleni yn helpu’r Cynulliad i benderfynu ar fanylion cynllun trwyddedu cenedlaethol i Gymru.

Last, but definitely not least, we have to face up to the problem of homelessness. Rough sleeping is probably the most serious manifestation of social exclusion. We are already working with local authorities to develop strategies for tackling homelessness in their areas. Last November, the former Welsh Office took on a secondee from the voluntary sector to look into the problem of rough sleeping in Wales. He has been in discussion with all the local authorities in Wales and a wide range of voluntary organisations. His work has been completed and I will report on it to the Environment and Local Government Committee later this month. This report emphasises the need to improve strategic planning for the homeless in Wales and that there is still a need for new provision to meet their needs. This year we are providing over £1 million to voluntary organisations concerned with homelessness, an increase of £400,000 on last year. This funding provides a range of services from floating support to street outreach and direct access. We are also inviting bids for the provision of shelter and support for people sleeping rough during the winter period.

Yn olaf, ond nid yn olaf o ran pwysigrwydd, rhaid inni wynebu problem digartrefedd. Cysgu allan yw’r amlygiad mwyaf difrifol o ddieithrwch cymdeithasol, yn ôl pob tebyg. Yr ydym eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn datblygu strategaethau i fynd i’r afael â digartrefedd yn eu hardaloedd. Fis Tachwedd diwethaf, cyflogwyd gweithiwr ar secondiad o’r sector gwirfoddol gan y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd bryd hynny, i ymchwilio i broblem cysgu allan yng Nghymru. Bu’n trafod â’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru a chydag amrywiaeth fawr o fudiadau gwirfoddol. Mae ei waith wedi ei gwblhau a rhoddaf adroddiad arno i Bwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio’r angen i wella cynllunio strategol ar gyfer y digartref yng Nghymru ac mae angen darpariaeth newydd o hyd i ateb eu hanghenion. Eleni yr ydym yn darparu dros £1 miliwn i fudiadau gwirfoddol sydd yn gysylltiedig â digartrefedd, cynnydd o £400,000 oddi ar y llynedd. Mae’r cyllid hwn yn darparu amrediad o wasanaethau o gefnogaeth cynnal i waith allanol a mynediad uniongyrchol. Yr ydym hefyd yn gwahodd ceisiadau er mwyn darparu cysgod a chynhaliaeth i bobl sydd yn cysgu allan yn ystod y gaeaf.

David Davies spoken in English p. 40

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 40

Do you accept that it is difficult to tell whether or not those initiatives will work because the method for calculating whether or not people are homeless changed shortly after the Labour Government was elected in 1997? How can you be certain that homelessness will fall as a result of the policies that you are implementing?

A ydych yn derbyn ei bod yn anodd dweud a yw’r mentrau hyn yn llwyddo am fod y dull o gyfrifo a yw pobl yn ddigartref ai peidio wedi ei newid ychydig ar ôl ethol y Llywodraeth Lafur yn 1997? Sut y gellwch fod yn sicr y bydd digartrefedd yn disgyn o ganlyniad i’r polisïau yr ydych yn eu gweithredu?

Peter Law spoken in English p. 41

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 41

There are no certainties in this world but from what I have seen as an active Assembly Secretary for housing—and I have been out in the cities and in Newport—there are people working in partnership with this Assembly who are actively dealing with the problem of homelessness. I pay tribute to them today. I want to work with them, as I know this Assembly does, to ensure that we attack this problem more in the future. There are signs that we are dealing with the problem. I am committed, on behalf of the Government of Wales, to dealing with this problem and taking a positive approach to making more resources available and targeting them in the right way, in partnership with the voluntary organisations, to give the people who suffer from this awful social exclusion the best support we can.

Nid oes dim sydd yn gwbl sicr yn y byd hwn ond o’r hyn a welais fel Ysgrifennydd Cynulliad gweithgar dros dai—a bûm allan yn y dinasoedd ac yng Nghasnewydd—mae yna bobl yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cynulliad hwn sydd yn ymdrin yn egnïol â phroblem digartrefedd. Talaf deyrnged iddynt heddiw. Yr wyf am weithio gyda hwy, a gwn fod y Cynulliad am wneud hefyd, er mwyn sicrhau y byddwn yn ymosod yn fwy ar y broblem hon yn y dyfodol. Mae yna arwyddion ein bod yn delio â’r broblem. Yr wyf wedi ymrwymo, ar ran Llywodraeth Cymru, i fynd i’r afael â’r broblem hon ac edrych yn gadarnhaol ar ddarparu mwy o adnoddau a’u targedu’n briodol, mewn partneriaeth â mudiadau gwirfoddol, er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau bosibl i bobl sydd yn dioddef o’r dieithrwch cymdeithasol ofnadwy hwn.

As I said, we are inviting bids for the provision of shelter and support for rough sleepers during the winter period. I am pleased to be doing that. In August, I published the framework for a national housing strategy for Wales developed in conjunction with the National Consultative Forum on Housing in Wales. I appreciate the contribution made by the forum in developing that strategy. I was pleased and encouraged that our key partners with responsibility for delivering housing in Wales were able to produce such an agreed document. It provides an excellent platform on which to begin to develop a national housing strategy for Wales that recognises the important contribution that housing can make to our wider policies and programmes for promoting better health, well-being and quality of life. The Cabinet and the Environment and Local Government Committee welcomed the framework and endorsed my proposal to set up four task groups to look at the issues and develop coherent proposals to address them. These task groups comprise a wide range of our partners engaged in housing and community renewal in Wales including local government, housing associations, private and voluntary sectors, health authorities, academia and most importantly, tenant and other consumer representatives.

Fel y dywedais, yr ydym yn cefnogi ceisiadau ar gyfer darparu cysgod a chynhaliaeth i rai sydd yn cysgu allan yn ystod y gaeaf. Yr wyf yn falch o wneud hynny. Yn Awst, cyhoeddais y fframwaith ar gyfer strategaeth dai genedlaethol i Gymru a ddatblygwyd ar y cyd â’r Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yng Nghymru. Gwerthfawrogaf y cyfraniad a wnaethpwyd gan y fforwm wrth lunio’r strategaeth honno. Yr oeddwn yn falch ac wedi fy nghalonogi gan y ffaith fod ein prif bartneriaid sydd yn gyfrifol am gyflenwi tai yng Nghymru yn gallu cynhyrchu dogfen gytûn o’r fath. Mae’n darparu llwyfan ardderchog lle y gellir dechrau datblygu strategaeth dai genedlaethol i Gymru sydd yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall tai ei roi i’n polisïau a’n rhaglenni ehangach ar gyfer hybu gwell iechyd, lles ac ansawdd bywyd. Mae’r Cabinet a Phwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol wedi croesawu’r fframwaith ac wedi cefnogi fy nghynnig i sefydlu pedwar grŵp gorchwyl i ystyried y materion a datblygu cynigion cydlynol i ymdrin â hwy. Mae’r grwpiau gorchwyl hyn yn cynnwys amrediad eang o’n partneriaid sydd yn gysylltiedig ag adnewyddu tai a chymunedau yng Nghymru gan gwmpasu llywodraeth leol, cymdeithasau tai, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, awdurdodau iechyd, y byd academaidd ac yn bwysicaf oll cynrychiolwyr tenantiaid a defnyddwyr eraill.

The task groups are chaired by representatives from some of these external organisations and the groups demonstrate our commitment to an inclusive approach to policy development in the Assembly and embody the values and priorities that guide our work. The work of the task groups is now under way. The groups will support work carried out by other working groups including looking at the revision of planning guidance in Wales. The terms of reference for the groups require them to make a progress report to the National Consultative Forum on Housing in December. I look forward to considering these reports particularly in the Environment and Local Government Committee. The task groups have been asked to complete their reports by next April. That will be no mean feat given the breadth and complexity of the issues involved, but we must maintain the early momentum that has been gained if we are to meet the needs and aspirations of Welsh households as we approach the millennium.

Mae’r grwpiau gorchwyl dan gadeiryddiaeth cynrychiolwyr o rai o’r cyrff allanol hyn ac mae’r grwpiau’n amlygu ein hymrwymiad i ddull cynhwysol o ddatblygu polisi yn y Cynulliad ac yn ymgorffori’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau sydd yn llywio ein gwaith. Mae gwaith y grwpiau gorchwyl wedi dechrau bellach. Bydd y grwpiau’n cefnogi gwaith a gyflawnir gan weithgorau eraill ac mae hyn yn cynnwys ystyried diwygio canllawiau cynllunio yng Nghymru. Mae cylch gwaith y grwpiau yn ei wneud yn ofynnol iddynt roi adroddiad am gynnydd i’r Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yn Rhagfyr. Edrychaf ymlaen at ystyried yr adroddiadau hyn, yn enwedig ym Mhwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol. Gofynnwyd i’r grwpiau gorchwyl gwblhau eu hadroddiadau erbyn Ebrill nesaf. Bydd hynny’n gryn gamp o ystyried ehangder a chymhlethdod y materion dan sylw, ond rhaid inni gynnal y momentwm a gafwyd ar y dechrau os ydym i ateb anghenion a dyheadau teuluoedd Cymru wrth inni nesáu at y mileniwm.

I am happy to support amendment 1. The amendment reflects what I have said about the need to ensure that everyone in Wales has the opportunity to have a decent, safe, warm home and the contribution that that can make to the promotion of social inclusion and sustainability. However, we have some difficulty with amendment 2 concerning equalisation of the rates of value added tax on housing repairs with that on new buildings. Although I can understand the point, United Kingdom tax policy is a matter for the national Government of Britain. The Assembly needs to give careful consideration to the broad impact of this suggestion before making representations to the Government. I ask Members to support the motion.

Yr wyf yn falch o gefnogi gwelliant 1. Mae’r gwelliant yn adlewyrchu’r hyn a ddywedais am yr angen i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfle i fyw mewn cartref cynnes, diogel, gweddus a’r cyfraniad sydd yn gallu deillio o hynny i hybu cynhwysiant cymdeithasol a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, cawn rywfaint o anhawster â gwelliant 2 sydd yn ymwneud â chysoni cyfraddau treth ar werth ar atgyweiriadau tai â hynny ar adeiladau newydd. Er fy mod yn gallu deall y pwynt, mae polisi trethiant y Deyrnas Unedig yn fater i Lywodraeth genedlaethol Prydain. Mae angen i’r Cynulliad roi ystyriaeth ofalus i effaith gyffredinol yr awgrym hwn cyn cyflwyno sylwadau i’r Llywodraeth. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig.

Peter Black spoken in English p. 42

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 42

I propose amendment 1. Add at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 1. Ar ddiwedd y cynnig ychwaneger:

Peter Black (continued) spoken in English p. 43

Peter Black (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 43

I also propose amendment 2. Add at the end of the motion:

Yr wyf hefyd yn cynnig gwelliant 2. Ar ddiwedd y cynnig ychwaneger:

Peter Black (continued) spoken in English p. 43

Peter Black (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 43

The 1997-98 Welsh house condition survey has identified that one in 12 of all the homes in Wales are unfit. Although that is an improvement on the previous survey, that change can be partly attributed to differences in sample size. It is still a very grave situation. In deprived communities in the south Wales Valleys the figures are worse. Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taff and Torfaen all have higher levels of unfitness as do rural areas such as Ceredigion and Pembrokeshire.

Mae’r arolwg o gyflwr tai yng Nghymru am 1997-98 wedi dangos bod un o bob 12 o’r holl dai yng Nghymru yn anaddas. Er bod hynny’n welliant ar yr arolwg blaenorol, gellir priodoli’r newid hwnnw yn rhannol i wahaniaethau ym maint y samplau. Mae’n dal i fod yn sefyllfa ddifrifol iawn. Mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymoedd de Cymru mae’r ffigurau’n waeth. Fe geir lefelau uwch o anaddasrwydd ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen a hefyd mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion a Sir Benfro.

The financial cost of putting this right is enormous. As Peter Law said, it is estimated that between £750 million and £900 million is needed to tackle the backlog of repairs, refurbishment and modernisation that are required for the council house stock in Wales.

Mae’r gost ariannol er mwyn cywiro hynny yn enfawr. Fel y dywedodd Peter Law, amcangyfrifir bod angen rhwng £750 miliwn a £900 miliwn i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith atgyweirio, adnewyddu a moderneiddio y mae ei angen ar y stoc tai cyngor yng Nghymru.

A major cause of concern is that one in five properties in the private rented sectors are classed as unfit. As has been acknowledged, these are largely houses in multiple occupation; properties that traditionally housed students and people in low income groups. Safety is also an issue here. I agree that it is important that local authorities enforce the highest standards in these properties.

Un achos pryder mawr yw bod un ym mhob pump o’r anheddau yn y sectorau preifat ar rent wedi eu dynodi’n anaddas. Fel y cydnabuwyd, tai aml-ddeiliadaeth yw’r rhain yn bennaf; tai a arferai gartrefu myfyrwyr a rhai mewn grwpiau incwm isel. Mae diogelwch yn fater i’w ystyried yma hefyd. Cytunaf ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol orfodi’r safonau uchaf yn y tai hyn.

The Welsh house condition survey estimates that the bill for repairing unfit properties in Wales amounts to £1.1 billion. Nearly £800 million of that relates to owner-occupied homes.

Mae’r arolwg o gyflwr tai yng Nghymru yn amcangyfrif bod y bil am atgyweirio tai anaddas yng Nghymru yn gymaint â £1.1 biliwn. Mae bron £800 miliwn o hynny yn ymwneud â chartrefi perchnogion preswyl.

The response to that bill and to previous estimates has been to date at best inadequate, at worst, neglectful. Last year, the Welsh Office spent £296 million on housing. This year we will spend £288.5 million and next year £276 million. This is a pattern of year on year reductions in funding for housing that goes back to about 1992. The challenge we face is to reverse that trend.

Bu’r ymateb i’r bil hwnnw ac i amcangyfrifon blaenorol hyd yn hyn yn annigonol ar y gorau, ac ar y gwaethaf yn esgeulus. Y llynedd, gwariodd y Swyddfa Gymreig £296 miliwn ar dai. Eleni fe wariwn £288.5 miliwn a’r flwyddyn nesaf £276 miliwn. Mae hyn yn batrwm o ostyngiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn cyllid i dai sydd yn mynd yn ôl i tua 1992. Yr her a wynebwn yw gwrthdroi’r tuedd hwnnw.

One solution, to which Peter Law referred, is stock transfer for council housing, which would attract private finance. However, that brings its own problems, not least a potential £40 million additional cost to the Assembly.

Un ateb yn achos tai cyngor, y cyfeiriodd Peter Law ato, yw trosglwyddo stoc, a byddai hyn yn denu cyllid preifat. Fodd bynnag, mae hyn yn dod â phroblemau yn ei sgîl, ac nid y lleiaf o’r rhain yw’r gost ychwanegol bosibl o £40 miliwn i’r Cynulliad.

We also need to address the problem of private housing, which the framework document does not do. Owner-occupied homes make up nearly three quarters of the Welsh housing stock. Yet we are in effect phasing out improvement grants, leaving the ever decreasing pot of money to be directed into disabled facility grants and enveloping schemes. Low income owner occupiers, in particular, need help to improve their homes. We must find the resources to deal with this crisis.

Mae angen inni hefyd ymdrin â phroblem tai preifat, ac nid yw’r ddogfen fframwaith yn gwneud hynny. Cartrefi perchnogion preswyl yw bron dri chwarter y stoc dai yng Nghymru. Eto yr ydym i bob pwrpas yn dirwyn grantiau adnewyddu i ben, gan adael cronfa o arian sydd yn lleihau o hyd i’w chyfeirio at grantiau cyfleusterau i’r anabl a chynlluniau amgylchynol. Mae ar berchenogion preswyl ar incwm isel angen help i wella eu cartrefi, yn arbennig. Rhaid inni ganfod yr adnoddau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

My amendments are concerned with focusing the review of housing strategy onto social inclusion and sustainable development, not simply as cross-cutting issues, but as tangible issues that impact directly on the direction of housing policy. If we have to work with limited resources then we must ensure that the money is focused on achieving worthwhile and meaningful gains.

Mae’r ddau welliant sydd gennyf yn ymwneud â chyfeirio sylw’r arolwg o’r strategaeth dai ar gynhwysiant cymdeithasol a datblygu cynaliadwy, nid yn unig fel materion trawsbynciol, ond fel materion gwirioneddol sydd yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfeiriad polisi tai. Os oes rhaid inni weithio ag adnoddau prin, rhaid inni ganolbwyntio’r arian ar gyflawni enillion buddiol ac ystyrlon.

There are many planning related issues through which we can promote sustainable development in housing. We cannot rely on local councils to do that job for us. We must ensure that planning guidance is right, encourages the development of brown-field sites and re-using existing buildings and ensures that new housing developments fit within existing communities and facilities so as to reduce car use and to build sustainable communities.

Mae yna faterion sydd yn gysylltiedig â chynllunio y gallwn eu defnyddio i hybu datblygu cynaliadwy mewn tai. Ni allwn ddibynnu ar y cynghorau lleol i wneud y gwaith hwnnw ar ein rhan. Rhaid inni sicrhau bod y canllawiau cynllunio’n gywir, yn hybu datblygiad safleoedd tir llwyd ac ailddefnyddio adeiladau presennol ac yn sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn ffitio o fewn y cymunedau a’r cyfleusterau presennol er mwyn lleihau’r defnydd ar geir ac adeiladu cymunedau cynaliadwy.

We must look at existing homes and recognise that poor housing can contribute to poor health, under achievement in education, poor access to employment opportunities and increased anti-social behaviour. Investment in housing has a direct benefit for the Assembly’s main funding priorities. That investment cannot be made in isolation. It must be carried out within the context of revitalising local communities, improving their environment, establishing support mechanisms, providing education and training and creating good quality jobs. It is no good investing in better health provision if those who benefit must live in damp sub-standard housing. We must recognise that when we draw up our budget.

Rhaid inni edrych ar y cartrefi presennol a chydnabod bod tai gwael yn gallu cyfrannu at iechyd gwael, tangyrhaeddiad mewn addysg, mynediad gwael i gyfleoedd cyflogi a chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae buddsoddi mewn tai o fantais uniongyrchol i brif flaenoriaethau ariannu’r Cynulliad. Ni ellir gwneud y buddsoddiad hwnnw ar wahân. Rhaid ei gyflawni yng nghyd-destun adfywio cymunedau lleol, gwella eu hamgylchedd, sefydlu mecanweithiau cefnogi, darparu addysg a hyfforddiant a chreu swyddi o ansawdd da. Nid oes diben buddsoddi mewn gwell darpariaeth iechyd os bydd yn rhaid i’r sawl sydd yn elwa o hynny fyw mewn tai is-safonol llaith. Rhaid inni gydnabod hynny pan luniwn ein cyllideb.

Over 250,000 homes in Wales are classed as in fuel poverty, where families pay out more than 10 per cent of their income on basic heating and lighting. Energy efficiency is particularly important in tackling fuel poverty and promoting sustainable development. I welcome the extra money that has been announced for that today. Yet we are in the ludicrous position of paying 5 per cent VAT on our fuel bills when if we buy materials to improve our homes, such as loft insulation, we pay 17.5 per cent VAT. If we are serious about tackling fuel poverty and about sustainable development, then we cannot do it alone. The Chancellor of the Exchequer must come on board as well.

Mae dros 250,000 o gartrefi yng Nghymru wedi eu dynodi’n rhai sydd mewn tlodi ynni, lle y bydd teuluoedd yn talu mwy na 10 y cant o’u hincwm ar wresogi a goleuo sylfaenol. Mae effeithlonrwydd ynni yn arbennig o bwysig wrth ymdrin â thlodi ynni a hybu datblygu cynaliadwy. Croesawaf yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer hynny heddiw. Eto yr ydym mewn sefyllfa hurt o dalu TAW o 5 y cant ar ein biliau tanwydd ond os prynwn ddeunyddiau i wella ein cartrefi, fel deunydd ynysu i’r groglofft, yr ydym yn talu TAW o 17.5 y cant. Os ydym o ddifrif ynghylch delio â thlodi ynni a datblygu cynaliadwy, ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain. Rhaid i Ganghellor y Trysorlys gyfrannu at hyn hefyd.

It is also madness that we must pay 17.5 per cent VAT to improve a property and bring it up to fitness while someone building new homes on a green-field site pays no VAT. That is not sustainable. The other impact of the high VAT rate on housing repairs is that it adds to the cost for the Assembly to improve housing in Wales. That has a direct effect on our budget and prevents us from getting best value from the money put into the repair of social housing and into housing grants. It is all very well to say that this is UK tax policy but it is policy that affects our budget. We must have a view on this policy that is clearly expressed to the Chancellor of the Exchequer.

Mae hefyd yn hurt bod rhaid inni dalu TAW o 17.5 y cant i wella adeilad a’i wneud yn addas tra na fydd rhywun sydd yn codi tai newydd ar safle tir glas yn talu TAW o gwbl. Nid yw hynny’n gynaliadwy. Effaith arall a gaiff y gyfradd TAW uchel ar atgyweirio tai yw ei bod yn ychwanegu at y gost i’r Cynulliad wrth wella tai yng Nghymru. Mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar ein cyllideb ac yn ein hatal rhag cael y gwerth gorau o’r arian a roddir i atgyweirio tai cymdeithasol ac i grantiau tai. Digon hawdd yw dweud mai hyn yw polisi trethiant y DU ond mae’n bolisi sydd yn effeithio ar ein cyllideb. Rhaid inni feddu ar safbwynt ar y polisi hwn a gaiff ei fynegi’n glir i Ganghellor y Trysorlys.

These issues are interlinked and we cannot afford to deal with any of them in isolation. That is as true for housing as it is for education, health, planning or the environment. The fact that we have inherited decades of under-investment in our housing stock makes our job more difficult. If we do not start to reverse that trend, our so-called joined-up Government will start to come apart at the seams.

Mae’r materion hyn yn gydgysylltiedig ac ni allwn fforddio ymdrin â’r un ohonynt ar wahân. Mae hynny cyn wired am dai ag ydyw am addysg, iechyd, cynllunio neu’r amgylchedd. Mae’r ffaith ein bod wedi etifeddu degawdau o danfuddsoddiad yn ein stoc dai yn gwneud ein gwaith yn fwy anodd. Os na ddechreuwn wrthdroi’r tuedd hwnnw, bydd ein Llywodraeth gydgysylltiol honedig yn dechrau datod.

Janet Ryder spoken in English p. 46

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 46

I welcome much of what Peter Law and Peter Black have said. This strategy has long been talked about, anticipated and worked on by many groups. We welcome their valuable contributions in preparing this framework, which is an excellent example of joint working. The task groups have been established and the framework and the terms of reference for these working groups have been laid down. The groups will report back to the relevant Subject Committee early in the new year and regularly thereafter. I seek assurance that this timetable will be adhered to and that the relevant Subject Committee will be kept regularly informed of progress made. Why do we need a national housing strategy? In Wales, 70 per cent of homes are privately owned, a higher percentage of owner-occupied homes than any other area in the UK. While over £1.6 billion has been spent on renovation grants and area renewal investment since 1990, a number of owner occupiers are on low income or benefits and find it hard to maintain their homes to an adequate standard. There is an even worse situation in the private rented sector—up to 18.4 per cent of dwellings may be unfit to inhabit. A similar situation exists in the council housing sector where there is up to £1 billion backlog in housing repairs, refurbishment and modernisation. A strategy must address this situation.

Croesawaf lawer o’r hyn a ddywedodd Peter Law a Peter Black. Bu trafod a disgwyl hir am y strategaeth hon a gwnaethpwyd gwaith arno gan lawer o grwpiau. Croesawn eu cyfraniad gwerthfawr wrth baratoi’r fframwaith hwn, sydd yn enghraifft wych o weithio ar y cyd. Fe sefydlwyd y grwpiau gorchwyl ac mae’r fframwaith a’r cylchoedd gwaith i’r gweithgorau hyn wedi eu nodi. Bydd y grwpiau’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgorau Pwnc perthnasol yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac yn rheolaidd wedi hynny. Gofynnaf am sicrwydd y cedwir at yr amserlen hon ac y bydd y Pwyllgor Pwnc perthnasol yn cael gwybod yn rheolaidd am y cynnydd a wneir. Pam y mae arnom angen strategaeth dai genedlaethol? Yng Nghymru, mae 70 y cant o gartrefi dan berchnogaeth breifat, canran uwch o gartrefi perchnogion preswyl nag yn yr un ardal arall yn y DU. Er bod £1.6 biliwn wedi ei wario ar grantiau adnewyddu a buddsoddi mewn ardaloedd adnewyddu ers 1990, mae nifer fawr o berchenogion preswyl ar incwm isel neu ar fudd-daliadau ac yn ei chael yn anodd cynnal eu cartrefi at safon ddigonol. Ceir sefyllfa waeth fyth yn y sector preifat ar rent—gall hyd at 18.4 y cant o’r anheddau fod yn anaddas i fyw ynddynt. Ceir sefyllfa debyg yn y sector tai cyngor lle y mae ôl-groniad o hyd at £1 biliwn o waith atgyweirio, adnewyddu a moderneiddio. Rhaid cael strategaeth i ymdrin â’r sefyllfa hon.

We fully support amendment 2 on VAT. However, we also suggest that the housing benefit system should be reviewed. That review should consider the possibility of all housing benefit costs for tenants, regardless of the sector to which they belong, being borne by the Department of Social Security centrally. That would relieve local authorities of an unfair burden and release significant sums of money to councils to be re-invested in repairs and improvements of their housing stock.

Yr ydym yn llwyr gefnogi gwelliant 2 ar TAW. Fodd bynnag, yr ydym hefyd yn awgrymu y dylid adolygu’r system budd-dal tai. Yn yr adolygiad hwnnw dylid ystyried y posibiliad y dylai holl gostau budd-dal tai i denantiaid, ym mha sector bynnag, gael eu dwyn gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol yn ganolog. Byddai hynny’n tynnu baich annheg oddi ar awdurdodau lleol ac yn rhyddhau symiau sylweddol o arian i’r cynghorau i’w hailfuddsoddi mewn atgyweirio a gwella eu stoc dai.

In 1998-99, the housing revenue account expenditure for Wales showed rent rebates of £271 million being paid out of a total expenditure from all housing revenue accounts of £620 million. Local authorities received a subsidy of £179 million towards housing costs but there is still a significant amount, over £100 million, that could be released for re-investment in housing stock. To aid owner occupiers, consideration would have to be given to how the home renovation grants and loans systems are operated. Everyone should be able to get support and guidance on a wide range of housing issues through a network of adequately resourced housing advice services, which would help them get a home or stay in their own home in comfort and security. The development and implementation of licensing schemes for housing with multiple occupancy would help to improve the private rented sector. It also goes without saying that people who do not have a home should be given priority for a house.

Yn 1998-99, yr oedd gwariant y cyfrif refeniw tai i Gymru’n dangos ad-daliadau rhent o £271 miliwn a dalwyd o gyfanswm gwariant o’r holl gyfrifon refeniw tai o £620 miliwn. Yr oedd awdurdodau lleol wedi derbyn cymhorthdal o £179 miliwn tuag at gostau tai ond ceir swm sylweddol o hyd, dros £100 miliwn, y gellid ei ryddhau i’w ailfuddsoddi yn y stoc dai. Er mwyn cynorthwyo perchnogion preswyl, byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r modd y gweithredir y systemau grantiau a benthyciadau adnewyddu tai. Dylai fod modd i bawb dderbyn cefnogaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion tai drwy rwydwaith o wasanaethau cynghori ar dai sydd â digon o adnoddau, a fyddai’n eu helpu i gael cartref neu i aros yn eu cartref eu hunain mewn cysur a diogelwch. Byddai datblygu a gweithredu cynlluniau trwyddedu ar gyfer tai aml-ddeiliadaeth yn gymorth i wella’r sector preifat ar rent. Nid oes angen dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i gael tŷ i bobl sydd heb gartref.

Any national housing strategy, before being able to deal with these problems, requires that a thorough audit and survey of housing conditions and needs is carried out. Local authorities that have not already undertaken such surveys are being offered grants to do so. It is important that the information is presented in a uniform way when it is made available, so that we get an overall picture of housing conditions and needs throughout Wales. A strategy for Wales can be based on this survey and must reflect demographic and population differences between areas and show how the different needs of urban and rural areas can be met. It will have to address the present needs of communities and prepare for their future needs.

Cyn y gall unrhyw strategaeth dai genedlaethol ymdrin â’r problemau hyn, mae angen cynnal archwiliad ac arolwg trwyadl o gyflwr ac anghenion tai. Mae awdurdodau lleol sydd heb gyflawni arolygon o’r fath eisoes yn cael cynnig grantiau i wneud hynny. Mae’n bwysig i’r wybodaeth gael ei chyflwyno ar ffurf gyson pan fydd ar gael, fel y cawn ddarlun cyffredinol o gyflwr ac anghenion tai ym mhob cwr o Gymru. Gellir seilio strategaeth i Gymru ar yr arolwg hwn a rhaid iddi adlewyrchu gwahaniaethau o ran demograffeg a phoblogaeth rhwng ardaloedd a dangos sut y gellir diwallu gwahanol anghenion yr ardaloedd trefol a gwledig. Bydd yn rhaid iddi ymdrin ag anghenion presennol y cymunedau a pharatoi ar gyfer eu hanghenion yn y dyfodol.

The strategy must provide more than just housing units. There must be a move away from just setting out how many units we need and making provision for that and towards building communities that people want to live in, encouraging social inclusion and starting to regenerate and renew those areas that desperately need it.

Rhaid i’r strategaeth ddarparu mwy nag unedau tai yn unig. Rhaid symud oddi wrth wneud dim ond nodi faint o unedau y mae arnom eu hangen a darparu ar gyfer hynny a symud tuag at adeiladu cymunedau y mae pobl am fyw ynddynt, gan hybu cynhwysiant cymdeithasol a dechrau adfywio ac adnewyddu’r ardaloedd hynny sydd ag angen taer am hynny.

Any strategy must put greater emphasis on the renewal and regeneration of existing stock. However, a more flexible approach to demolition and rebuilding might need to be adopted on occasion, with preference given to new building on brown-field as opposed to green-field sites. We would also like to see new developments, apart from very small ones, favouring mixed tenure.

Rhaid i unrhyw strategaeth roi mwy o bwyslais ar adnewyddu ac adfywio’r stoc bresennol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen mabwysiadu agwedd fwy hyblyg at ddymchwel ac ailadeiladu ar brydiau, gan roi blaenoriaeth i adeiladu o’r newydd ar safleoedd tir llwyd yn hytrach na rhai tir glas. Hoffem hefyd weld datblygiadau newydd, heblaw am y rhai bychain iawn, yn ffafrio deiliadaethau cymysg.

However, the strategy shows a targeted approach to home improvement, looking at the overall needs of an area and closely linking this with anti-poverty strategies. Any housing strategy needs to be closely linked with a national planning framework as the links between poor social provision and social problems need to be addressed at the planning stage, as far as this is possible.

A strategy should show that adequate provision should be made at the planning stage for the development of play and leisure areas, access to community facilities, shops and good transport links.

Fodd bynnag, fe welir dull gweithredu bwriadus yn y strategaeth ynghylch gwella tai, drwy edrych ar yr anghenion cyffredinol mewn ardal a chreu cysylltiad cryf rhwng hynny a strategaethau gwrthdlodi. Rhaid cael cysylltiad cryf rhwng unrhyw strategaeth dai a fframwaith cynllunio cenedlaethol oherwydd mae angen ymdrin â’r cysylltiadau rhwng darpariaeth gymdeithasol wael a phroblemau cymdeithasol yn y cyfnod cynllunio, i’r graddau mwyaf posibl. Dylai’r strategaeth honno ddangos bod angen gwneud darpariaeth ddigonol yn y cyfnod cynllunio ar gyfer datblygu mannau chwarae a hamdden, mynediad i gyfleusterau cymunedol, siopau a chysylltiadau trafnidiaeth da.

Ensuring that what is planned for in a national housing strategy becomes a reality is also necessary if the Assembly’s aspirations for equality of opportunity and the development of sustainable communities are to be achieved. How can we ever achieve equality of opportunity while there are homeless people and people living in inadequate housing?

Mae angen gwireddu’r hyn a geir mewn strategaeth dai genedlaethol hefyd er mwyn cyflawni dyheadau’r Cynulliad ynghylch cyfle cyfartal a datblygu cymunedau cynaliadwy. Sut y gallwn fyth gyflawni cyfle cyfartal tra bydd pobl ddigartref a phobl yn byw mewn tai annigonol?

Care and repair schemes, which provide excellent services to elderly and disabled people, should be made available nationally and given a higher priority in this strategy. Many homeowners find it difficult to keep their properties in good condition. Some older people and those who have disabilities often face greater problems, both in the poorer condition of their properties and in finding the money to make repairs, improvements or adaptations. Care and repair home improvement agencies target their services at people who find it difficult to carry out building work without assistance. They give advice about housing options and funding and technical matters; they offer practical assistance in form-filling, finding a reliable builder, arranging plans and work schedules and inspecting the quality of the building work and they also co-ordinate all the services needed to successfully complete the work. Adequate and appropriate housing are essential components in maintaining independence in the community for older and disabled people.

Dylid sicrhau darpariaeth genedlaethol o gynlluniau gofal a thrwsio, sydd yn darparu gwasanaethau rhagorol i bobl oedrannus ac anabl, a rhoi blaenoriaeth uwch iddynt yn y strategaeth hon. Mae llawer o berchenogion tai yn ei chael yn anodd eu cadw mewn cyflwr da. Bydd rhai pobl hŷn a rhai sydd ag anableddau yn wynebu problemau mwy mewn llawer achos, o ran cyflwr eu cartrefi ac o ran canfod yr arian i’w hatgyweirio, eu gwella neu eu haddasu. Bydd asiantaethau gwella tai gofal a thrwsio yn anelu eu gwasanaethau at rai sydd yn ei chael yn anodd cyflawni gwaith adeiladu heb gymorth. Byddant yn rhoi cyngor am ddewisiadau tai a materion cyllidol a thechnegol; cynigiant gymorth ymarferol i gwblhau ffurflenni, dod o hyd i adeiladwr dibynadwy, trefnu cynlluniau ac amserlenni gwaith ac archwilio ansawdd y gwaith adeiladu a byddant hefyd yn cydlynu’r holl wasanaethau sydd yn angenrheidiol i gwblhau’r gwaith yn llwyddiannus. Mae tai digonol a phriodol yn elfennau hanfodol wrth gynnal annibyniaeth pobl oedrannus ac anabl yn y gymuned.

Care and repair agencies should play a vital role in any housing strategy. At the moment they are partly funded by the Assembly but much more reliant on local authorities for funding. While they remain dependent on local authorities for two-thirds of their funding, they will not be able to plan adequately. Given the importance of this work we ask that one of the strategic groups makes it its responsibility to consider the case of Care and Repair Cymru and ways of increasing its core funding so that it does not rely so heavily on local authorities and housing associations. The group should also ensure that an equitable service is provided throughout Wales.

Dylai asiantaethau gofal a thrwsio chwarae rôl hanfodol mewn unrhyw strategaeth dai. Ar hyn o bryd fe’u hariennir yn rhannol gan y Cynulliad ond maent yn llawer mwy dibynnol ar awdurdodau lleol am gyllid. Tra byddant yn parhau’n ddibynnol ar awdurdodau lleol am ddwy ran o dair o’u cyllid, ni fyddant yn gallu cynllunio’n ddigonol. Oherwydd pwysigrwydd y gwaith hwn gofynnwn fod un o’r grwpiau strategol yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ystyried achos Gofal a Thrwsio Cymru a dulliau i gynyddu ei gyllid craidd fel nad yw’n dibynnu gymaint ar awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Dylai’r grŵp sicrhau hefyd bod gwasanaeth cyfartal ar gael ym mhob cwr o Gymru.

With new building, people should have the opportunity to have homes for life. These homes should be able to be easily adapted to suit needs at different stages of a person’s life. Houses should be built with wider doorways to allow wheelchair access, with light switches placed at accessible levels, and they should allow for shower rooms to be created downstairs. These are adaptations that are covered in ‘Access and Facilities for Disabled People’, part M of the Building Regulations 1991 and which will be required in all new constructions.

Pan geir adeiladu o’r newydd, dylai pobl gael cyfle i gael cartref am oes. Dylai fod modd addasu’r cartrefi hyn yn rhwydd i ateb anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn ystod eu hoes. Dylid adeiladu tai â drysau lletach fel y gall cadair olwyn fynd drwyddynt, a switsis goleuadau ar lefel lle y gellir eu cyrraedd, a dylai fod modd creu ystafelloedd cawod ar y llawr gwaelod. Ymdrinnir â’r addasiadau hyn yn ‘Mynediad a Chyfleusterau i Bobl Anabl’, rhan M o Reoliadau Adeiladu 1991 a byddant yn angenrheidiol ym mhob tŷ a godir o’r newydd.

Building, repairing and maintaining homes is more than providing a roof over people’s heads. It generates work, reduces the jobless total, prevents ill-health and contributes to solutions to problems stemming from poverty. As we approach the end of this millennium, we face a £1 billion backlog in repairs to council housing. Many homeowners are on low incomes and face difficulties in maintaining their homes. There are also many homeless people who need housing. We should be providing decent homes that people can afford to live in and communities where people have access to community facilities, transport, education and employment. A national housing strategy is necessary and this should set out how we will achieve these aims. However, the strategy must also be set against the anticipated Green Paper on housing, which, when it is published, must take account of the different approaches being adopted in Wales and Scotland.

Mae adeiladu, atgyweirio a chynnal a chadw cartrefi yn golygu mwy na rhoi to uwchben. Mae’n creu gwaith, yn lleihau cyfanswm y di-waith, yn atal iechyd gwael ac yn cyfrannu at atebion i broblemau sydd yn deillio o dlodi. A ninnau’n nesáu at ddiwedd y mileniwm hwn, yr ydym yn wynebu ôl-groniad o £1 biliwn mewn atgyweiriadau i dai cyngor. Mae llawer o berchenogion tai ar incwm isel ac yn wynebu anawsterau wrth gynnal a chadw eu cartrefi. Ceir hefyd lawer o bobl ddigartref y mae arnynt angen tai. Dylem ddarparu cartrefi gweddus y gall pobl fforddio byw ynddynt a chymunedau lle y caiff pobl fynediad i gyfleusterau cymunedol, trafnidiaeth, addysg a chyflogaeth. Mae angen strategaeth dai genedlaethol ac fe ddylai nodi sut y byddwn yn cyflawni’r nodau hyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid ystyried y strategaeth ochr yn ochr â’r Papur Gwyrdd disgwyliedig ar dai a bydd yn rhaid i hwnnw, pan gyhoeddir ef, roi sylw i’r gwahanol ddulliau gweithredu a fabwysiedir yng Nghymru a’r Alban.

David Davies spoken in English p. 50

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 50

Many of the aspirations presented in the ‘Framework for a National Housing Strategy for Wales’ are worthy enough. However, as with so much else that springs from this administration, the devil is in the detail. Early in the report, we learn that the national housing strategy will reflect local needs, be based on partnership with the private sector and ensure effective targeting of public expenditure. The report outlines many of the problems that must be addressed if we are to allow everyone access to high quality housing. We must make the best use of existing stock, sort out a backlog of repairs to local authority housing stock, encourage a strong rented private sector and so on.

Mae llawer o’r dyheadau a gyflwynir yn y ‘Fframwaith ar gyfer Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru’ yn ddigon teilwng. Fodd bynnag, fel cynifer o bethau eraill sydd yn deillio o’r weinyddiaeth hon, mae’r drwg yn y manylion. Yn gynnar yn yr adroddiad, cawn wybod y bydd y strategaeth dai genedlaethol yn adlewyrchu anghenion lleol, yn seiliedig ar bartneriaeth â’r sector preifat gan sicrhau y bydd gwariant cyhoeddus wedi ei dargedu’n effeithiol. Mae’r adroddiad yn amlinellu llawer o’r problemau y bydd yn rhaid ymdrin â hwy os ydym i ganiatáu mynediad i dai o ansawdd uchel i bawb. Rhaid inni ddefnyddio’r stoc bresennol yn y modd gorau, rhoi trefn ar yr ôl-groniad o atgyweiriadau i stoc dai awdurdodau lleol, cryfhau’r sector preifat ar rent ac yn y blaen.

The report sets out a worthy enough vision for housing in Wales, in which everyone inhabits warm, spacious houses in crime-free areas. Homelessness will become a thing of the past, according to the Secretary for the Environment and Local Government. All well and good, but we are not here to vote on whether or not we agree with the assessment of the problems or the vision presented in the document. We are voting on whether or not we agree with the solutions to address the problems and encourage a higher standard of housing.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno gweledigaeth ddigon teilwng ar gyfer tai yng Nghymru, lle y bydd pawb yn byw mewn tai helaeth a chynnes mewn ardaloedd heb droseddu. Bydd digartrefedd yn perthyn i’r gorffennol, yn ôl Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol. Popeth yn iawn, ond nid ydym yma i bleidleisio o blaid neu’n erbyn yr asesiad o’r problemau neu’r weledigaeth a gyflwynir yn y ddogfen. Yr ydym yn pleidleisio o blaid neu’n erbyn yr atebion sydd i ymdrin â’r problemau ac hybu safon tai uwch.

Unfortunately, I find holes in the logic of the suggestions given in this document. The report accepts that the vast majority of households in Wales aspire to home ownership. The figures show that 71 per cent of homes are owner occupied. That is a fine tribute to the efforts of the previous Conservative administration, which the First Secretary had the cheek to criticise a few minutes ago in such outrageous terms. How dare you criticise the last administration that enabled so many people to buy their own homes in face of criticism from you and your party?

Yn anffodus, fe welaf ddiffygion yn rhesymeg yr awgrymiadau a roddir yn y ddogfen hon. Mae’r adroddiad yn derbyn mai uchelgais y mwyafrif helaeth o deuluoedd yng Nghymru yw bod yn berchenogion ar eu cartrefi. Mae’r ffigurau’n dangos bod 71 y cant o dai yn gartrefi perchenogion preswyl. Mae hynny’n deyrnged wych i ymdrechion y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol, yr oedd gan y Prif Ysgrifennydd yr wyneb i’w beirniadu ychydig funudau’n ôl yn y modd mwyaf cywilyddus. Sut y meiddiwch feirniadu’r weinyddiaeth ddiwethaf a alluogodd gymaint o bobl i brynu eu cartrefi eu hunain yn wyneb beirniadaeth oddi wrthych chi a’ch plaid?

Peter Black spoken in English p. 51

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 51

Do you accept that the last Conservative administration also started the continuing decline in funding for housing?

A ydych yn derbyn mai’r weinyddiaeth Geidwadol ddiwethaf a ddechreuodd y dirywiad parhaus mewn ariannu i dai hefyd?

David Davies spoken in English p. 51

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 51

I accept that the last Conservative administration did not need to spend as much on housing because of the number of people who bought their own homes. It is the highest figure in the United Kingdom, as you well know.

Derbyniaf nad oedd angen i’r weinyddiaeth Geidwadol ddiwethaf wario cymaint ar dai oherwydd nifer y bobl a brynodd eu cartrefi. Hwn yw’r ffigur uchaf yn y Deyrnas Unedig, fel y gwyddoch yn iawn.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 51

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 51

You should have seen the conditions in which people had to live. It was a disgrace.

Dylasech fod wedi gweld yr amodau y bu’n rhaid i bobl fyw oddi tanynt. Yr oedd yn warthus.

David Davies spoken in English p. 51

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 51

How dare you criticise—

Sut y meiddiwch feirniadu—

Val Feld spoken in English p. 51

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 51

Will you give way?

A ydych yn fodlon ildio?

David Davies spoken in English p. 51

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 51

I will make this point first. I want to answer some of the criticisms made of the previous administration on housing. You have criticised us, yet we developed the policies that established partnerships with the private sector, which were again trumpeted as being important in that last document. You criticised the previous administration, which reduced homelessness year on year in Wales. We will never know whether or not Peter Law’s policies will be successful because one of the first things that your administration did was to change how homelessness is calculated. That makes it impossible for us to know whether or not you are succeeding, although I suspect that you are not. I now give way.

Gwnaf y pwynt hwn yn gyntaf. Yr wyf am ateb rhai o’r beirniadaethau ar y weinyddiaeth flaenorol ynghylch tai. Yr ydych wedi ein beirniadu, eto yr oeddem wedi datblygu’r polisïau a sefydlodd bartneriaethau â’r sector preifat, a oedd hefyd wedi eu datgan yn rhai pwysig yn y ddogfen a grybwyllwyd ddiwethaf. Beirniadasoch y weinyddiaeth flaenorol, a leihaodd ddigartrefedd flwyddyn ar ôl blwyddyn yng Nghymru. Ni chawn fyth wybod a fydd polisïau Peter Law yn llwyddiannus oherwydd un o’r pethau cyntaf a wnaeth eich gweinyddiaeth chi oedd newid sut y cyfrifir digartrefedd. Mae hynny’n ei gwneud yn amhosibl inni wybod a ydych yn llwyddo ai peidio, er fy mod yn amau nad ydych. Ildiaf yn awr.

Val Feld spoken in English p. 52

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 52

I am grateful to you for giving way and for introducing into this debate a consideration of your Government’s record on housing. I was director of Shelter Cymru for 10 years when the Conservatives were in power. Over that time, we saw a continual and inexorable rise in homelessness. You were probably still in school at that time, so maybe you were not aware of what was happening.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am ildio ac am gyflwyno ystyriaeth o record eich Llywodraeth ar dai i’r ddadl hon. Yr oeddwn yn gyfarwyddwr ar Shelter Cymru am 10 mlynedd pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym. Dros y cyfnod hwnnw, gwelsom gynnydd parhaus a didostur mewn digartrefedd. Yr oeddech yn dal yn yr ysgol bryd hynny yn ôl pob tebyg, felly efallai nad oeddech yn ymwybodol o’r hyn a oedd yn digwydd.

The Conservative Government raised private sector partnerships and increased owner occupation. You are right to say that and claim credit for it. However, your Government introduced the ability of private landlords to tout on council estates to try to buy council houses. The fear among council tenants that they would not have security unless they bought their properties drove up owner occupation. There was clear evidence of that.

Cododd y Llywodraeth Geidwadol bartneriaethau â’r sector preifat a chynyddodd berchnogaeth breswyl. Yr ydych yn iawn wrth ddweud hynny ac am hawlio clod amdano. Fodd bynnag, yr oedd eich Llywodraeth wedi cyflwyno’r gallu i landlordiaid preifat dowtio ar stadau cyngor er mwyn ceisio prynu tai cyngor. Yr ofn ymysg tenantiaid cyngor na fyddai ganddynt ddiogelwch oni phrynent eu tai oedd yr hyn a hybodd berchnogaeth breswyl. Yr oedd tystiolaeth amlwg o hynny.

David Davies spoken in English p. 52

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 52

The report states that nine out of 10 people aspire to own their own homes. I am delighted that you are willing to give us credit for making that possible. I am sorry that you did not think of that a few years ago. Yes, I probably was in school when that happened, but I do not need more history lessons from the party that advocated pulling out of Europe and getting rid of our defences and that ruined the economy in 1979. However, I am delighted that there is recognition that home ownership is desirable to householders and to society in general.

Mae’r adroddiad yn datgan mai uchelgais naw ym mhob 10 yw bod yn berchen ar eu cartrefi. Yr wyf yn falch iawn eich bod yn barod i roi clod i ni am wneud hynny’n bosibl. Mae’n ddrwg gennyf nad oeddech wedi meddwl am hynny ychydig flynyddoedd yn ôl. Ie, mae’n debyg fy mod yn yr ysgol pan ddigwyddodd hynny, ond nid oes arnaf angen mwy o wersi hanes gan y blaid a ddadleuodd dros dynnu allan o Ewrop a chael gwared ar ein hamddiffynfeydd ac a ddistrywiodd yr economi yn 1979. Fodd bynnag, yr wyf yn falch o’r gydnabyddiaeth fod perchentyaeth yn beth dymunol i deuluoedd ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Sawl Aelod Cynulliad a gododd—

Several Assembly Members rose—

David Davies spoken in English p. 52

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 52

Unlike members of the Executive I am happy to give way to anyone who wants to speak.

Yn wahanol i aelodau’r Adran Weithredol yr wyf yn fodlon ildio i rywun sydd yn dymuno siarad.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 52

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 52

Order. I am enjoying this but if you give way, we will be out of time and I must call Jane Hutt to respond to the debate before 4.20 p.m.

Trefn. Yr wyf yn mwynhau hyn ond os byddwch yn ildio, bydd ein hamser ar ben a bydd yn rhaid imi alw ar Jane Hutt i ymateb i’r ddadl cyn 4.20 p.m.

David Davies spoken in Welsh and English p. 53

David Davies siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 53

I am sorry. You will appreciate that I am enthusiastic to give other Members a chance to speak. Given the acceptance that home ownership is an aspiration for the vast majority, I was amazed at paragraph 4.22 of the ‘Framework for a National Housing Strategy for Wales’ which states that we, as an Assembly, should consider:

yn Saesneg Mae’n ddrwg gennyf. Fe sylweddolwch fy mod yn awyddus i roi cyfle i Aelodau eraill siarad. Yn wyneb y gydnabyddiaeth fod perchentyaeth yn ddyhead ymysg y mwyafrif helaeth, synnais at baragraff 4.22 y ‘Fframwaith ar gyfer Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru’ sydd yn datgan y dylem ystyried, fel Cynulliad:

‘initiating research into the longer term sustainability of home owning brought about through Right to Buy.’

yn Saesneg ‘cychwyn ymchwil i gynaliadwyedd tymor hwy prynu cartref drwy gyfrwng cynlluniau perchentyaeth Hawl i Brynu.’

The Right to Buy scheme was an enormous advance and I am concerned that the language of the document implies that Right to Buy may cease. The Conservatives cannot countenance that and we will vote against this motion.

yn Saesneg Yr oedd y cynllun Hawl i Brynu yn gam aruthrol ymlaen a phryderaf fod geiriau’r ddogfen yn awgrymu y gallai’r Hawl i Brynu ddod i ben. Ni all y Ceidwadwyr gefnogi hynny a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.

I was pleased to note in paragraph 5.3 that the role of the private sector is recognised as making a key contribution to labour mobility and as having a wide significance for Wales’s economy. If this is so, perhaps the Secretary for the Environment and Local Government can assure us that he will look at ways of further developing the role of the private sector. It seems that many individuals own empty homes. There is evidence to suggest that they are cautious about renting these homes out because they fear that if tenants do not pay their bills, they will have to enter into lengthy court battles to regain control of their property. There are measures to overcome this, but this problem still exists. If we are serious about developing the private rented sector, rather than simply talking about it, it might be worth our while to look at this problem.

yn Saesneg Yr oeddwn yn falch o nodi ym mharagraff 5.3 fod rôl y sector preifat wedi ei chydnabod fel un sydd yn cyfrannu’n allweddol at fudoledd y llafurlu ac sydd ag arwyddocâd eang i economi Cymru. Os yw hynny’n wir, efallai y bydd modd i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol roi sicrwydd inni y bydd yn ystyried dulliau o ddatblygu rôl y sector preifat ymhellach. Mae’n ymddangos bod llawer o unigolion yn berchen ar dai gwag. Ceir tystiolaeth sydd yn awgrymu eu bod yn wyliadwrus ynghylch gosod y tai hyn ar rent am eu bod yn ofni, os na fydd tenantiaid yn talu eu biliau, y bydd yn rhaid iddynt ymladd yn hir yn y llysoedd er mwyn adennill y rheolaeth dros eu heiddo. Mae yna fesurau i oresgyn hyn, ond mae’r broblem hon yn bod o hyd. Os ydym o ddifrif ynghylch datblygu’r sector preifat ar rent, yn hytrach na dim ond siarad am hynny, efallai y bydd yn fuddiol ystyried y broblem hon.

On sustainable development, there appears to be recognition that recklessly building on green belt land while housing in towns and cities becomes vacant and derelict is not desirable. Unfortunately, there are few suggestions on how to reverse this trend. That is why we support the amendment calling for an equalisation of the rates of VAT on housing repairs with that on new buildings. If we want any countryside left, we cannot sustain the current trend of building on green belt land for long. We must utilise brown-field sites and encourage the renovation of existing housing stock.

yn Saesneg Ynglŷn â datblygu cynaliadwy, mae’n ymddangos bod cydnabyddiaeth nad yw’n ddymunol adeiladu’n ddiofal ar dir y llain las tra bydd tai mewn trefi a dinasoedd yn mynd yn wag ac yn dadfeilio. Gwaetha’r modd, prin yw’r awgrymiadau ar sut i wrthdroi’r tuedd hwn. Dyna pam yr ydym yn cefnogi’r gwelliant sydd yn galw am gysondeb rhwng y gyfradd TAW ar atgyweiriadau tai a’r gyfradd ar adeiladau newydd. Os ydym am weld rhywfaint o gefn gwlad ar ôl, ni allwn barhau’n hir â’r tuedd presennol o adeiladu ar dir y llain las. Rhaid inni ddefnyddio safleoedd tir llwyd ac annog adnewyddu’r stoc dai bresennol.

This document does not address the fact that if we continue to build houses at this rate, the Welsh countryside will be lost forever and replaced with acres of housing estates. I ask the Secretary for the Environment and Local Government to consider adopting yet another Conservative policy, one that will do much to help housing and give local authorities more control over their unitary development plans and the power to reject housing developments that local people do not want. After all, if you believe in giving power to the people, you may well believe in giving more powers to councils. I will end with a bit of Welsh.

yn Saesneg Nid yw’r ddogfen yn rhoi sylw i’r ffaith y byddwn yn colli cefn gwlad Cymru am byth ac yn cael aceri o stadau tai yn ei le os parhawn i godi tai ar y raddfa bresennol. Gofynnaf i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol ystyried mabwysiadu un arall o bolisïau’r Ceidwadwyr, un a wna lawer i gynorthwyo ym maes tai ac i roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol dros eu cynlluniau datblygu unedol a’r hawl i wrthod datblygiadau tai sydd yn annerbyniol i bobl leol. Wedi’r cyfan, os credwch y dylid rhoi grym i’r bobl, mae’n ddigon posibl eich bod yn credu y dylid rhoi mwy o bwerau i’r cynghorau. Terfynaf ag ychydig eiriau o Gymraeg.

Mae cefn gwlad Cymru yn hyfryd. Ni ddylem ei ddinistrio gyda thai diangen.

in Welsh Wales’s countryside is beautiful. We should not destroy it with housing that is not needed.

Sue Essex spoken in English p. 54

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 54

I am glad that David spoke from the heart. However, he spoke about protecting green belt land and we do not have any in Wales. He also spoke of building all over the Welsh countryside. That will take a good many years. I agree that we need to bring brownfield sites back into development, which is part of our planning policy.

Mae’n dda gennyf fod David wedi siarad o’r galon. Fodd bynnag, fe soniodd am ddiogelu tir y llain las ac nid oes gennym ddim o hynny yng Nghymru. Soniodd hefyd am adeiladu dros y cwbl o gefn gwlad Cymru. Fe gymer flynyddoedd lawer i wneud hynny. Cytunaf fod angen inni ailddatblygu safleoedd tir llwyd, ac mae hynny’n rhan o’n polisi cynllunio.

It is somewhat surprising that this is our first real debate on housing while we have had endless debates on agriculture. That is not to degrade agriculture or deem it unimportant. However, this indicates that many see housing as a marginal issue. That is not so in Wales. It is central. Housing must be at the forefront of all that we do, particularly when tackling social exclusion.

Mae’n destun syndod braidd mai hon yw’n dadl gyntaf wirioneddol ar dai a ninnau wedi cael dadleuon di-ben-draw ar amaethyddiaeth. Nid ymgais i ddiraddio amaethyddiaeth yw hynny nac i’w hystyried yn ddibwys. Fodd bynnag, mae hyn yn dangos bod llawer yn gweld tai yn fater ymylol. Nid yw hynny’n wir yng Nghymru. Mae’n ganolog. Rhaid i dai fod ar y blaen ym mhopeth a wnawn, yn enwedig wrth ymdrin â dieithrwch cymdeithasol.

I am glad that Peter Law brought the ‘Framework for a National Housing Strategy for Wales’ before us today because it gives us an opportunity to highlight important points on housing. Apart from David’s contribution, we have heard sensible and important comments.

Mae’n dda gennyf fod Peter Law wedi dod â’r ‘Fframwaith ar gyfer Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru’ ger ein bron heddiw oherwydd mae’n rhoi cyfle inni dynnu sylw at bwyntiau pwysig ynghylch tai. Ar wahân i gyfraniad David, clywsom sylwadau synhwyrol a phwysig.

The national housing strategy for Wales gives us a good focus. As chair of the Environment and Local Government Committee, I have found it useful that we have a good working relationship with a whole range of groups in Wales that are determined to do their best to provide better housing for the people of Wales. That includes tenants, who also play their role. That is the good news. The bad news is that housing is such a difficult nut to crack. We must be honest about that and face reality if we are to make progress.

Mae’r strategaeth dai genedlaethol i Gymru yn rhoi ffocws da inni. Fel cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol, fe’i cefais yn fuddiol fod gennym berthynas waith dda ag amrywiaeth fawr o grwpiau yng Nghymru sydd yn benderfynol o wneud eu gorau i ddarparu gwell tai i bobl Cymru. Mae hynny’n cynnwys tenantiaid, sydd hefyd yn chwarae eu rhan. Dyna’r newyddion da. Y newyddion drwg yw bod tai yn broblem ddyrys iawn. Rhaid inni fod yn onest ynghylch hynny a wynebu’r gwir os ydym i symud ymlaen.

We have a major problem with housing conditions. There have been improvements in recent years but we are all worried that the deterioration that exists may prevent many health improvements in our communities and impact on people’s involvement in our social inclusion programme. I was struck during a recent visit to Bro Taf Health Authority when it was said that environmental factors, including housing, are the greatest single cause of ill-health in Wales. The issue of housing cannot be marginal. If we are to have a policy of combating social exclusion, I urge everyone to realise that housing cannot be marginal within this political arena.

Mae gennym broblem fawr o ran cyflwr tai. Fe gafwyd gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf hyn ond yr ydym oll yn bryderus y gallai’r dirywiad a geir fod yn rhwystr i lawer o’r gwelliannau mewn iechyd yn ein cymunedau gan effeithio ar gyfranogiad pobl yn ein rhaglen cynhwysiant cymdeithasol. Gwnaethpwyd argraff arnaf pan ymwelais yn ddiweddar ag Awdurdod Iechyd Bro Taf pan ddywedwyd mai ffactorau amgylcheddol, gan gynnwys tai, yw’r achos unigol mwyaf o afiechyd yng Nghymru. Ni ellir ystyried mater tai yn un ymylol. Os ydym i gael polisi o wrthweithio dieithrwch cymdeithasol, pwysaf ar bawb i sylweddoli na all tai fod ar yr ymylon yn y maes gwleidyddol hwn.

In the private sector in Wales we have a particular problem of high owner occupation, which, despite David’s comments on how marvellous that is, unless you have the money to maintain and improve the house in the way that you wish, it is not so good. There are many people in Wales who are elderly or on fixed incomes and suffer because of that. We must combat that. I hope that Objective 1 and structural funds and an emphasis on improving the Welsh economy may result in people having more disposable income to improve their homes. As Peter said, we must take the role of improvement grants seriously as it has been important in the past. I support the principle of area renewal along with Jane Hutt and Jane Davidson. We represented a ward in Wales that benefited from area renewal, proving that it can turn a community around.

Yn y sector preifat yng Nghymru mae gennym broblem arbennig oherwydd lefel uchel y berchnogaeth breswyl nad yw’n beth mor dda, er gwaethaf sylwadau David ar ba mor wych ydyw, oni bai fod gennych arian i gynnal a chadw a gwella’r tŷ yn ôl eich dymuniad. Ceir llawer o bobl yng Nghymru sydd yn oedrannus neu ar incwm penodedig ac yn dioddef oherwydd hynny. Rhaid inni wrthweithio hynny. Gobeithiaf y bydd Amcan 1 a’r cronfeydd strwythurol a’r pwyslais ar wella economi Cymru yn arwain at sefyllfa lle y bydd gan bobl fwy o incwm ar gael i wella eu cartrefi. Fel y dywedodd Peter, rhaid inni gymryd rôl grantiau gwella o ddifrif gan y bu’n bwysig yn y gorffennol. Cefnogaf yr egwyddor o adnewyddu ardaloedd fel y mae Jane Hutt a Jane Davidson. Buom yn cynrychioli ward yng Nghymru a elwodd ar gynllun adnewyddu ardal, a brofodd fod modd i hynny weddnewid cymuned.

We have complex problems in the public sector. As Peter Law has said we need private money to help us solve them. We must also recognise that there are groups in our society, people in supported housing, that need special attention. Examples of these are teenagers, disabled people who want moving-on homes and women who suffer from abuse. There is a host of people with special needs. As already mentioned there is also the issue of care and repair. I was sad to hear that the Tory-led Vale of Glamorgan Council seems to be cutting out its care and repair budget. It would be a great achievement for the Assembly if it could give consistent and improved facilities in supported housing areas throughout Wales where women who suffer from fear and abuse, for example, would have somewhere to turn. That is an important issue.

Mae gennym broblemau cymhleth yn y sector cyhoeddus. Fel y dywedodd Peter Law, mae arnom angen arian preifat i’n helpu i ddatrys y rhain. Rhaid inni gydnabod hefyd fod yna grwpiau yn ein cymdeithas, rhai mewn tai â gofal, y mae arnynt angen sylw arbennig. Enghreifftiau o’r rhain yw pobl yn eu harddegau, pobl anabl sydd am gael cartrefi symud-ymlaen a benywod sydd yn dioddef camdriniaeth. Mae yna lu o bobl sydd ag anghenion arbennig. Fel y dywedwyd eisoes, mae angen ystyried mater gofal a thrwsio hefyd. Trist oedd clywed ei bod yn ymddangos bod Cyngor Bro Morgannwg, sydd dan arweinyddiaeth Dorïaidd, yn diddymu ei gyllideb gofal a thrwsio. Byddai’n gamp fawr i’r Cynulliad pe gallai ddarparu cyfleusterau gwell a chyson mewn meysydd tai â gofal ym mhob cwr o Gymru lle y byddai gan fenywod sydd yn dioddef ofn a chamdriniaeth, er enghraifft, rywle i fynd iddo. Mae hynny’n fater pwysig.

Lastly, housing conditions in the private landlord sector is another problem. Coming into the millennium we have a huge problem with conditions in this sector. I hope that everyone will support the Government’s licensing scheme which attempts to tackle the problems within that sector.

Yn olaf, mae cyflwr tai yn y sector landlordiaid preifat yn broblem arall. A ninnau’n cyrraedd y mileniwm mae gennym broblem fawr o ran cyflwr y tai yn y sector hwn. Gobeithiaf y bydd pawb yn cefnogi cynllun trwyddedu’r Llywodraeth sydd yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau yn y sector hwnnw.

I feel strongly about housing and it was the main reason I came into politics. As someone who lived in poor housing as a child, I know its effects on children, communities and families. If we want to make a difference we must tackle housing conditions. We must be brave because some past solutions will not deliver in the future. We must work closely with our colleagues in local government, in the voluntary sector and in the social landlord sector to crack this problem. There will be no winners in Wales unless we do.

Teimlaf yn gryf ynghylch tai a hynny oedd y prif reswm imi ddechrau mewn gwleidyddiaeth. Fel un a oedd yn byw mewn tŷ gwael yn blentyn, fe wn am effaith hynny ar blant, cymunedau a theuluoedd. Os ydym am wneud gwahaniaeth bydd yn rhaid inni fynd i’r afael â chyflwr tai. Rhaid inni fod yn eofn oherwydd ni fydd rhai o atebion y gorffennol yn llwyddo yn y dyfodol. Rhaid inni weithio’n agos gyda’n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn y sector gwirfoddol ac yn y sector landlordiaid cymdeithasol i ddatrys y broblem hon. Ni fydd neb ar ei ennill yng Nghymru os na wnawn hynny.

I am pleased that Peter has brought this paper before us today. It is a start. We have four task groups working in detail on some issues and I hope that the Assembly continues to give this important subject the attention it deserves.

Yr wyf yn falch bod Peter wedi cyflwyno’r papur hwn heddiw. Mae’n fan cychwyn. Mae gennym bedwar grŵp gorchwyl sydd yn gweithio’n fanwl ar rai materion a gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn parhau i roi sylw haeddiannol i’r pwnc pwysig hwn.

Janet Davies spoken in English p. 57

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 57

I will dump much of my speech as many of the points have already been made by other people and we are short of time. Paragraph 2.4 of the document lists the basic needs for housing policy. These are sustainable home ownership, a well-managed private rent sector, sufficient social housing and ensuring that housing is located where it is needed. The Assembly needs to look at all the requirements for housing which include new build of private homes and repair of older buildings.

Taflaf gryn dipyn o’m haraith gan fod llawer o’r pwyntiau wedi eu gwneud eisoes gan eraill ac yr ydym yn brin o amser. Mae paragraff 2.4 yn y ddogfen yn nodi’r anghenion sylfaenol ar gyfer polisi tai. Y rhain yw perchentyaeth gynaliadwy, sector preifat ar rent sydd wedi ei reoli’n dda, tai cymdeithasol digonol a sicrhau bod tai wedi eu lleoli lle y mae angen amdanynt. Mae angen i’r Cynulliad edrych ar yr holl anghenion tai sydd yn cynnwys adeiladu cartrefi newydd preifat ac atgyweirio adeiladau hŷn.

To achieve these aims, we need good quality information. I have been concerned about where this information would come from, therefore I was glad to hear Peter Law say that there will be a housing audit. That is an essential starting point. A national housing strategy will only be as good as the local information that feeds it. I refer to the whole issue of planning for housing, including development planning.

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, bydd arnom angen gwybodaeth o ansawdd da. Bûm yn bryderus ynghylch ffynhonnell bosibl y wybodaeth hon, felly yr oeddwn yn falch o glywed Peter Law yn dweud y bydd archwiliad tai yn cael ei gynnal. Mae hynny’n fan cychwyn holl bwysig. Ni fydd strategaeth dai genedlaethol ond cystal â’r wybodaeth leol sydd yn ei phorthi. Cyfeiriaf at holl fater cynllunio ar gyfer tai, yn cynnwys cynllunio datblygiadau.

The unitary development plans need to include the requirements for social housing and not just an overall need for housing as they do at present. We do not know where there is a need to restrain or encourage growth and we need to find out. We are clearly learning from past mistakes like the failure to ensure public transport to some big housing estates, employment and access to all sorts of services.

Fe ddylai cynlluniau datblygu unedol gynnwys y gofynion am dai cymdeithasol ac nid angen cyffredinol am dai yn unig, fel y maent ar hyn o bryd. Ni wyddom ym mha le y mae angen ffrwyno neu hybu twf a rhaid inni gael gwybod hynny. Mae’n amlwg ein bod yn dysgu oddi wrth gamgymeriadau yn y gorffennol fel y methiant i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhai stadau tai mawr, cyflogaeth a mynediad i bob math o wasanaethau.

Much has been said already about not using too many green-field sites and moving towards the use of brown-field sites. That is important but there are cost implications. We all hope that private business will bear those cost implications, but I believe that some of the money will come from the public purse. One problem is that several years ago the Government was moving towards setting up a register of brown-field sites so that we were aware of the situation and any problems. However, the Tory Government of those days stopped the compilation of the register. It would have been helpful if that had gone ahead, but there was a policy against it at that time. Private developments often include social housing and these need to be well managed to ensure they are successful. We need to design out crime and to have developments that encourage community participation.

Cafwyd llawer o sôn eisoes am beidio â defnyddio gormod o safleoedd tir glas a symud tuag at ddefnyddio safleoedd tir llwyd. Mae hynny’n bwysig ond mae yna oblygiadau o ran cost. Yr ydym oll yn gobeithio y bydd busnes preifat yn ysgwyddo’r goblygiadau cost hynny, ond credaf y daw rhywfaint o’r arian o’r pwrs cyhoeddus. Un broblem yw bod y Llywodraeth wedi symud rai blynyddoedd yn ôl tuag at sefydlu cofrestr o safleoedd tir llwyd fel y byddem yn ymwybodol o’r sefyllfa ac o unrhyw broblemau. Fodd bynnag, yr oedd y Llywodraeth Dorïaidd ar y pryd wedi atal llunio’r gofrestr. Fe fuasai’n fuddiol pe bai wedi mynd ymlaen, ond yr oedd polisi yn ei herbyn bryd hynny. Bydd cryn nifer o ddatblygiadau preifat yn cynnwys tai cymdeithasol ac mae angen i’r rhain gael eu rheoli’n dda er mwyn sicrhau eu llwyddiant. Mae angen inni gynllunio troseddu allan a chael datblygiadau sydd yn hybu cyfranogiad yn y gymuned.

We are talking about sustainable housing and sustainable planning. It appears that planning is still at a stage of minimising negative impact rather than enhancing the environment. There is a fear that while designated sites may be well protected, valuable non-designated sites are left open to development. Case by case decisions do not achieve the best solutions. Many of our aspirations for Wales are restricted by our lack of money and our lack of legislative powers. The block grant means that we have to stick to Westminster Government policies for social housing and improving the housing stock. However, in the field of planning we do have adequate powers. We can produce our own national strategy for the development of private and social housing. We can set our policy planning guidelines, build in sustainability and ensure that we make the best use of land and resources as we want to in Wales.

Yr ydym yn sôn am dai cynaliadwy ac am gynllunio cynaliadwy. Mae’n ymddangos bod cynllunio yn dal i fod mewn cyfnod o geisio lleihau effeithiau negyddol yn hytrach na gwella’r amgylchedd. Mae yna ofn, er bod safleoedd dynodedig wedi eu diogelu’n dda o bosibl, fod safleoedd gwerthfawr sydd heb eu dynodi yn agored i’w datblygu. Nid yw penderfyniadau fesul achos yn sicrhau’r atebion gorau. Mae llawer o’n dyheadau ar gyfer Cymru wedi eu llesteirio oherwydd diffyg arian a diffyg pwerau deddfu. Mae’r grant bloc yn golygu bod rhaid inni lynu wrth bolisïau Llywodraeth San Steffan ar gyfer tai cymdeithasol a gwella’r stoc dai. Fodd bynnag, ym maes cynllunio mae gennym bwerau digonol. Gallwn lunio ein strategaeth genedlaethol ein hunain i ddatblygu tai preifat a chymdeithasol. Gallwn osod ein canllawiau polisi cynllunio, ymgorffori cynaliadwyedd a sicrhau ein bod yn defnyddio tir ac adnoddau fel sydd orau gennym yng Nghymru.

We all know what happened when policy planning guidelines were ditched a few years ago. We can look at different ways of achieving sustainability in planning. This includes ensuring that there is a strong construction industry, which is increasingly realising the need for good environmental behaviour. We need to make sure that the industry adheres to that practice and improves on it. We cannot afford to continue the ad hoc, negative way in which a great deal of planning takes place. I would like to support Sue Essex in saying that housing is central to everything we do in Wales, and that if we want to have a happier, better and more confident society in Wales, it begins with housing.

Gwyddom oll beth a ddigwyddodd pan daflwyd canllawiau polisi cynllunio ychydig flynyddoedd yn ôl. Gallwn ystyried dulliau gwahanol o gael cynaliadwyedd mewn cynllunio. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yna ddiwydiant adeiladu cadarn, sydd yn fwyfwy ymwybodol o’r angen am ymddygiad amgylcheddol da. Rhaid inni sicrhau bod y diwydiant yn cadw at yr arfer hwnnw ac yn ei wella. Ni allwn fforddio parhau â’r dull negyddol, ad hoc a welir mewn llawer o gynllunio. Hoffwn gefnogi Sue Essex drwy ddweud bod tai yn elfen ganolog ym mhopeth a wnawn yng Nghymru, ac os ydym am gael cymdeithas hapusach, well a mwy hyderus yng Nghymru, mae hynny’n dechrau gyda thai.

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services spoken in English p. 58

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 58

I am pleased to close this debate. I also have a long history of concern with and involvement in housing. That enables me to underline the important contribution that decent housing can make to people’s lives and opportunities. We have had a constructive debate. I thank Peter Black, Janet Ryder, Janet Davies and Sue Essex for their contributions. I am sorry that I cannot feel so constructive about David Davies’s contribution. I am trying to be positive but I cannot. Your response was rather flippant, David. This strategy is a framework for discussion. We have four task groups that will go away in good faith to develop discussions around these strategies, including the important issues you raised about the private sector. The Assembly owes them a decent debate about how we should take this forward. I find this difficult, David, when I think back to the desperation that people felt facing the negative equity caused by your Government’s financial mismanagement.

Yr wyf yn falch o ddod â’r ddadl hon i ben. Mae gennyf finnau hefyd hanes hir o ddiddordeb ac o gysylltiad â thai. Drwy hynny gallaf dynnu sylw at y ffaith fod tai gweddus yn gallu gwneud cyfraniad o bwys i fywydau a chyfleoedd pobl. Cawsom ddadl adeiladol. Diolchaf i Peter Black, Janet Ryder, Janet Davies a Sue Essex am eu cyfraniadau. Mae’n ddrwg gennyf na allaf deimlo mor adeiladol ynghylch cyfraniad David Davies. Yr wyf yn ceisio bod yn gadarnhaol ond ni allaf. Yr oedd eich ymateb braidd yn anystyriol, David. Mae’r strategaeth hon yn fframwaith ar gyfer trafodaeth. Mae gennym bedwar grŵp gorchwyl a fydd yn mynd ati gyda phob ewyllys da i ddatblygu trafodaethau ynghylch y strategaethau hyn, gan gynnwys y materion pwysig yr oeddech wedi eu codi am y sector preifat. Maent yn haeddu dadl weddus gan y Cynulliad ynghylch sut y dylem fwrw ymlaen. Yr wyf yn ei chael yn anodd, David, pan gofiaf am yr anobaith a deimlai rhai a oedd yn wynebu’r ecwiti negyddol a achoswyd gan gamreolaeth ariannol eich Llywodraeth.

David Davies spoken in English p. 59

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

Will you give way?

A ydych yn fodlon ildio?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 59

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 59

She has only just started.

Nid yw ond newydd ddechrau.

Jane Hutt spoken in English p. 59

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 59

I will give way because David said that members of the Executive never give way.

Fe ildiaf am fod David yn dweud na fydd aelodau o’r Adran Weithredol byth yn ildio.

David Davies spoken in English p. 59

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

I thank you for reminding us that negative equity came about as a result of Britain crashing out of the exchange rate mechanism. The ERM was supported by the Labour Party at the time, just as they are now trying to take us into the single currency. Does Jane Hutt agree that a single currency could lead to negative equity once again, and will she join me in rejecting that?

Diolchaf i chi am ein hatgoffa bod ecwiti negyddol wedi digwydd am fod Prydain wedi disgyn allan o’r mecanwaith cyfraddau cyfnewid. Cefnogwyd y mecanwaith cyfraddau cyfnewid gan y Blaid Lafur bryd hynny, yn yr un modd ag y mae bellach yn ceisio mynd â ni i mewn i’r arian sengl. A yw Jane Hutt yn cytuno y gallai arian sengl arwain at ecwiti negyddol unwaith eto, ac a yw’n fodlon ymuno â mi i wrthod hynny?

Jane Hutt spoken in English p. 59

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 59

The people who experienced the Tory years, who faced homelessness and mortgage repossessions, and who slept on the streets, have their history, which we acknowledge. I thank Val, as the former director of Shelter Cymru, for putting the record straight.

Mae gan y bobl a brofodd flynyddoedd y Torïaid, a wynebodd ddigartrefedd ac ailfeddiannu gan forgeiswyr, ac a gysgodd ar y strydoedd, eu hanes eu hunain a dylem gydnabod hynny. Diolchaf i Val, fel cyn-gyfarwyddwr Shelter Cymru, am unioni’r record.

I move on to the positive points. We have heard about the challenges that local authorities, housing associations and the voluntary sector face in meeting the housing needs of the people of Wales. I re-emphasise the point that all of you have made, and which Peter Law made, that meeting the housing needs of our current and future households is not just a question of bricks and mortar. It is about how we tackle poverty and ill-health. The connection between poverty, ill-health and housing is fundamental. We must acknowledge that connection and make it clear. This is about how we tackle economic decline and unemployment in our poorest communities and households, across public and private housing sectors. It is also about under achievement in education, equality of opportunity and social exclusion.

Symudaf ymlaen at y pwyntiau cadarnhaol. Fe glywsom am yr heriau y mae awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r sector gwirfoddol yn eu hwynebu wrth ateb anghenion tai pobl Cymru. Ailbwysleisiaf y pwynt a wnaeth pob un ohonoch, ac a wnaeth Peter Law, sef nad yw ateb anghenion tai teuluoedd heddiw ac yfory yn fater o adeiladau yn unig. Mae’n ymwneud â’r modd yr awn i’r afael â thlodi a iechyd gwael. Mae’r cysylltiad rhwng tlodi, iechyd gwael a thai yn un sylfaenol. Rhaid inni gydnabod y cysylltiad hwnnw a’i wneud yn eglur. Mae hyn yn ymwneud â’r modd y byddwn yn ymdrin â dirywiad economaidd a diweithdra yn ein cymunedau a’n teuluoedd tlotaf, yn y sectorau tai cyhoeddus a phreifat. Mae’n ymwneud hefyd â thangyrhaeddiad mewn addysg, cyfleoedd cyfartal a dieithrwch cymdeithasol.

Tackling social exclusion and building sustainable communities, which Peter Black reflects in amendment 1, requires us to co-ordinate housing policy with health, social, economic and environmental policies at all levels of government. That is an opportunity for the Assembly to set the tone and put the message across to these task groups, to local government and to the voluntary sector. It means perceptive joint working.

Er mwyn mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol ac adeiladu cymunedau cynaliadwy, fel y dangosir gan Peter Black yng ngwelliant 1, bydd yn rhaid inni gydlynu polisi tai â pholisïau iechyd, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar bob lefel o lywodraeth. Mae hynny’n gyfle i’r Cynulliad sefydlu’r naws a chyfleu’r neges i’r grwpiau gorchwyl hyn, i lywodraeth leol ac i’r sector gwirfoddol. Mae’n golygu cydweithio craff.

On community involvement, referring back to the point made about community development, it is those who live in communities who know the problems that they face day in, day out. I pay tribute to the Welsh Tenants Federation Limited and to my colleagues there. Over the past two decades the tenants’ movement in social housing has developed dramatically. It is a force for change in our communities. It improves housing conditions through its influence on management, it develops credit unions, community businesses, environmental schemes, child care, safer community initiatives and training schemes. Tenants and people in the poorest communities in Wales are often providing best joined-up government at a local level through community action and development.

Ynglŷn â chyfraniad y gymuned, gan gyfeirio’n ôl at y pwynt a wnaethpwyd ynghylch datblygu cymunedol, y rhai sydd yn byw mewn cymunedau a ŵyr am y problemau y maent yn eu hwynebu ddydd ar ôl dydd. Talaf deyrnged i Ffederasiwn Tenantiaid Cymru Cyfyngedig a’m cydweithwyr yno. Mae’r mudiad tenantiaid mewn tai cymdeithasol wedi datblygu’n fawr dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae’n bŵer dros newid yn ein cymunedau. Mae’n gwella cyflwr tai drwy ei ddylanwad ar y rheolwyr, mae’n datblygu undebau credyd, busnesau cymunedol, cynlluniau amgylcheddol, gofal plant, mentrau cymunedau diogelach a chynlluniau hyfforddi. Mae tenantiaid a phobl yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru yn aml yn darparu’r llywodraeth gydgysylltiol orau ar lefel leol drwy weithredu a datblygu cymunedol.

I say again to Nick, relating to previous speeches, that five years ago tenants in Wales would never have had the opportunity to directly influence national housing policy as they now can with this new strategy. The Assembly should promote this aim of enabling the poorest people in Wales to influence our national policies. That is a significant vision.

Dywedaf eto wrth Nick, mewn perthynas ag areithiau blaenorol, na fyddai cyfle gan denantiaid yng Nghymru bum mlynedd yn ôl i ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi tai cenedlaethol fel y gallant wneud yn awr gyda’r strategaeth newydd hon. Dylai’r Cynulliad hybu’r nod hon o alluogi’r bobl dlotaf yng Nghymru i ddylanwadu ar ein polisïau cenedlaethol. Mae hynny’n weledigaeth o bwys.

I would like to mention that we have recently formed a housing and community renewal division in the Assembly, which also has responsibility for promoting and co-ordinating social inclusion policies, alongside the management of housing investment programmes and strategic housing policy. That is critical because it ensures that the social inclusion policy is connected to housing.

Hoffwn nodi ein bod wedi sefydlu adran adnewyddu tai a chymunedau yn y Cynulliad yn ddiweddar, sydd yn gyfrifol hefyd am hybu a chydlynu polisïau cynhwysiant cymdeithasol, ochr yn ochr â rheoli rhaglenni buddsoddi mewn tai a pholisi tai strategol. Mae hynny’n holl bwysig am ei fod yn sicrhau bod y polisi cynhwysiant cymdeithasol yn gysylltiedig â thai.

Many of you have people in communities programmes in your areas, supported by the Government last year. There will soon be a new programme. Such programmes demonstrate how community-based co-ordination helps to build sustainable communities, to encourage healthy living and to improve educational attendance and achievement. We will have a new round of this programme shortly and I hope that you will encourage groups, partnerships, development trusts and voluntary organisations as well as local authorities to bid for people in communities programmes.

Mae gan lawer ohonoch raglenni pobl mewn cymunedau yn eich ardaloedd, a gefnogwyd gan y Llywodraeth y llynedd. Fe geir rhaglen newydd cyn hir. Mae rhaglenni o’r fath yn dangos sut y mae cydlynu ar sail y gymuned yn helpu i adeiladu cymunedau cynaliadwy, yn hybu byw’n iach ac yn gwella presenoldeb a chyflawniad mewn addysg. Bydd gennym gylch newydd o’r rhaglen hon cyn hir a gobeithiaf y byddwch yn annog grwpiau, partneriaethau, ymddiriedolaethau datblygu a mudiadau gwirfoddol yn ogystal ag awdurdodau lleol i ymgeisio am raglenni pobl mewn cymunedau.

I am glad that Sue Essex acknowledged the strong links between ill-health and poor housing. It is a proven determinant of ill-health. Those of us who have been in and know people living in damp housing, and know the impact of poor housing and poor opportunities on people’s lives, know that we must make that connection. ‘Better Health, Better Wales’ makes that connection. We will shortly launch our guidance on health impact assessment. That will enable communities, local authorities and the Assembly to test the health impact assessments and enable us to implement our policies.

Yr wyf yn falch bod Sue Essex wedi cydnabod y cysylltiadau cryf rhwng iechyd gwael a thai gwael. Fe brofwyd bod hyn yn benderfynydd iechyd gwael. Fe ŵyr y rhai ohonom a fu mewn tai llaith ac sydd yn adnabod pobl sydd yn byw ynddynt, ac yn gwybod am effaith tai gwael a chyfleoedd gwael ar fywydau pobl, fod rhaid inni wneud y cysylltiad hwnnw. Mae ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’ yn gwneud y cysylltiad hwnnw. Cyn hir byddwn yn lansio ein harweiniad ar asesu effeithiau ar iechyd. Bydd hynny’n galluogi cymunedau, awdurdodau lleol a’r Cynulliad i brofi’r asesiadau effaith ar iechyd ac yn ein galluogi i weithredu ein polisïau.

Peter Black and other speakers rightly pointed out the challenge of improvement of housing stock. At the local level, local authorities can secure improvements in house conditions through renovation grants and area based renewal schemes. Sue Essex mentioned the one in Riverside, Cardiff. There are 23 declared renewal areas and a significant number of group repair schemes in urban and rural Wales. That has led to both improvements in housing and essential social, environmental and economic improvements. That is the added value you get when you go beyond bricks and mortar to the wider issues.

Yr oedd Peter Black a siaradwyr eraill yn iawn wrth dynnu sylw at yr her o wella’r stoc dai. Ar lefel leol, fe all awdurdodau lleol sicrhau gwelliannau yng nghyflwr tai drwy grantiau adnewyddu a chynlluniau adnewyddu ardaloedd. Soniodd Sue Essex am y cynllun yn Riverside yng Nghaerdydd. Mae 23 o ardaloedd adnewyddu wedi eu datgan a nifer sylweddol o gynlluniau atgyweirio grwpiau tai yn ardaloedd trefol a gwledig Cymru. Mae hynny wedi arwain at welliannau mewn tai a gwelliannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hanfodol. Dyna’r gwerth ychwanegol a gewch pan ewch y tu hwnt i adeiladau ac at y materion ehangach.

In Riverside, the strategic development scheme brought extra resources to improve community facilities and the environment. It lifted the aspirations of a community that had been one of the most deprived, disadvantaged communities in Cardiff, where there were also a large number of ethnic minorities and a high level of home ownership. The scheme provided a real opportunity to address people’s problems.

Yn Riverside, mae’r cynllun datblygu strategol wedi dod ag adnoddau ychwanegol i wella cyfleusterau cymunedol a’r amgylchedd. Mae wedi deffro dyheadau cymuned a fu’n un o’r mwyaf difreintiedig ac amddifad yng Nghaerdydd, a lle’r oedd nifer fawr o leiafrifoedd ethnig a lefel uchel o berchentyaeth. Yr oedd y cynllun yn cynnig cyfle gwirioneddol i ymdrin â phroblemau’r bobl.

We will look at our circumstances in relation to UK Government policies on the VAT issue raised by Peter Black in amendment 2 and on the issues raised by Janet Ryder. A housing benefit review has been announced by the Government. However, the fact that we have a lot of poor owner occupiers in Wales means that it is important to develop our own initiatives and policies. Care and repair is vital. I am glad that one of the task groups will look at that. The partnership between local government, the Assembly and the voluntary sector is critical on this. Care and repair can mean the difference between an elderly person staying in their home or ending up in hospital. It is critical that local authorities that chose to cut care and repair budgets realise that that impacts on the health service and on the lives and well-being of people who live in housing in poor condition.

Edrychwn ar ein sefyllfa mewn perthynas â pholisïau Llywodraeth y DU ar y mater o TAW a godwyd gan Peter Black yng ngwelliant 2 ac ar y materion a godwyd gan Janet Ryder. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad o fudd-dal tai. Fodd bynnag, mae’r ffaith fod gennym lawer o berchenogion preswyl tlawd yng Nghymru yn golygu ei bod yn bwysig datblygu ein mentrau a’n polisïau ein hunain. Mae gofal a thrwsio yn holl bwysig. Yr wyf yn falch y bydd un o’r grwpiau gorchwyl yn ystyried hynny. Mae’r bartneriaeth rhwng llywodraeth leol, y Cynulliad a’r sector gwirfoddol yn dyngedfennol yn hyn o beth. Mae gofal a thrwsio’n gallu golygu y bydd rhywun oedrannus yn cael aros yn ei gartref yn lle gorfod mynd i ysbyty. Mae’n holl bwysig bod awdurdodau lleol sydd yn dewis lleihau cyllidebau gofal a thrwsio yn sylweddoli bod hynny’n effeithio ar y gwasanaeth iechyd ac ar fywyd a lles y bobl sydd yn byw mewn tai gwael.

The capital challenge programme is another example of an innovative and imaginative way of investing in refurbishment of housing stock. The Capel Farm Resource Centre near Tonyrefail is an example. I worked in the Tenant Participation Advisory Service and know that this is one of the poorest communities in the Valleys. A £600,000 grant included provision for employment-related training, community enterprise activity and refurbishment of the housing stock. All of that must go together. We will consider a more strategic approach to area regeneration funding alongside European funding and will continue to welcome bids from community-based projects.

Mae’r rhaglen her gyfalaf yn enghraifft arall o ddull arloesol a dyfeisgar o fuddsoddi mewn adnewyddu’r stoc dai. Mae Canolfan Adnoddau Capel Farm ger Tonyrefail yn enghraifft o hyn. Bûm yn gweithio yn y Gwasanaeth Ymgynghorol ar Gyfranogiad Tenantiaid a gwn mai hon yw un o’r cymunedau tlotaf yn y Cymoedd. Yr oedd y grant o £600,000 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â gwaith, gweithgaredd menter gymunedol ac adnewyddu’r stoc dai. Rhaid i’r cwbl fynd gyda’i gilydd. Byddwn yn ystyried ymagwedd fwy strategol at gyllid i adnewyddu ardaloedd ochr yn ochr â chyllid Ewropeaidd a pharhawn i groesawu ceisiadau oddi wrth brosiectau yn y gymuned.

Jane Davidson spoken in English p. 63

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 63

As the Assembly Member for the area I welcome that initiative. Will the Secretary for the Environment and Local Government assure the Assembly that the 1998 stock condition survey looked at tenure when it looked at different accommodation and whether or not it was registered as social landlord owned, council owned or in the private sector. One issue of major concern to many Assembly Members is system-built houses—British Iron and Steel Federation houses for example. Can the Secretary for the Environment and Local Government assure me and other Assembly Members who have BISF houses in their area that the quality of poor system-built housing, which is currently a fire hazard, will be taken into account in at least one of the working groups? I also seek assurance that the Assembly will make a specific recommendation to local authorities about ensuring that poor quality housing is addressed early in the strategy for the future.

Fel yr Aelod Cynulliad dros yr ardal yr wyf yn croesawu’r fenter honno. A oes modd i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol roi sicrwydd i’r Cynulliad bod yr arolwg ar gyflwr y stoc yn 1998 wedi ystyried deiliadaeth pan oedd yn edrych ar wahanol fathau o lety a pha un a oedd dan berchenogaeth landlord cymdeithasol cofrestredig, dan berchenogaeth y cyngor neu yn y sector preifat. Un mater sydd yn peri pryder mawr i lawer o Aelodau’r Cynulliad yw tai system—tai Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain, er enghraifft. A oes modd i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol roi sicrwydd i mi ac i Aelodau Cynulliad eraill sydd â thai Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain yn eu hardal y bydd ansawdd tai system gwael, sydd yn achosi perygl tân ar hyn o bryd, yn cael ei ystyried gan o leiaf un o’r gweithgorau? Gofynnaf am sicrwydd hefyd y bydd y Cynulliad yn gwneud argymhelliad penodol i awdurdodau lleol ynghylch sicrhau y rhoddir sylw buan i dai o ansawdd gwael yn y strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Jane Hutt spoken in English p. 63

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 63

I am sure that Peter Law can give that assurance. The housing audit, welcomed by Janet Davies, obviously has to address those critical issues but it will come under the remit of one of the four task groups which are looking at housing needs and requirements. Sustainable development is critical. This is noted in amendment 1 and we welcome the policy suggestions made by Peter Black. However, among other housing measures currently under consideration are dispersed foyers offering integrated access to accommodation, training and job searching facilities. There is also, as Peter Law mentioned, the new home energy efficiency scheme which provides openings for unemployed people by helping them to develop important job skills.

Yr wyf yn siŵr y gall Peter Law roi’r sicrwydd hwnnw. Mae’n amlwg y bydd yr archwiliad tai, a groesawyd gan Janet Davies, yn gorfod ystyried y materion holl bwysig hynny ond fe ddaw o fewn cylch gwaith un o’r pedwar grŵp gorchwyl sydd yn edrych ar anghenion a gofynion tai. Mae datblygu cynaliadwy yn holl bwysig. Fe nodir hyn yng ngwelliant 1 ac yr ydym yn croesawu’r awgrymiadau polisi a wnaethpwyd gan Peter Black. Fodd bynnag, ymysg y mesurau tai eraill sydd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd y mae cynteddau gwasgarog sydd yn cynnig mynediad integredig i gyfleusterau llety, hyfforddi a chwilio am swydd. Fe geir hefyd, fel y crybwyllodd Peter Law, gynllun effeithlonrwydd ynni yn y cartref newydd sydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ddi-waith drwy eu helpu i ddatblygu medrau swydd pwysig.

Several people have mentioned our diversity of need in rural and urban areas. A key issue that we face in developing a strategic approach to housing is to ensure that we have equality of opportunity in access to housing. We have a commitment to tackle discrimination and disadvantage under sections 42 and 120 of the Government of Wales Act 1998 and it is vital that this is noted. Talking about equal opportunities, social inclusion and housing is new and important, and is a message that must go out to our partners in local government, the voluntary sector and to the task groups. I hope that they will take this into account during their discussions. We must look at the vulnerable groups, such as women who seek refuge from domestic violence, homeless youngsters and elderly people, and young people with drug and alcohol problems. They are all in need of support either to access or to maintain accommodation and their needs must be taken into account by the task groups. A review of the housing needs of black and ethnic minority people is currently being undertaken. This is an important development for people who are often without voice and will be included in our discussions about the national housing strategy.

Mae nifer o bobl wedi sôn am yr amrywiaeth o anghenion mewn ardaloedd gwledig a threfol. Un mater allweddol yr ydym yn ei wynebu wrth ddatblygu strategaeth dai yw’r angen i sicrhau bod gennym gyfartalwch cyfle o ran cael mynediad i dai. Mae rhwymedigaeth arnom i fynd i’r afael â gwahaniaethu ac anfantais o dan adrannau 42 a 120 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac mae’n holl bwysig nodi hyn. Mae trafod cyfle cyfartal, cynhwysiant cymdeithasol a thai yn newydd ac yn bwysig, ac yn neges y mae’n rhaid ei chyfleu i’n partneriaid mewn llywodraeth leol, y sector gwirfoddol ac i’r grwpiau gorchwyl. Gobeithiaf y byddant yn rhoi ystyriaeth i hyn yn ystod eu trafodaethau. Rhaid inni edrych ar y grwpiau sydd yn agored i niwed, fel benywod sydd yn chwilio am loches oddi wrth drais yn y cartref, pobl ifainc ddigartref a phobl oedrannus, a phobl ifainc â phroblemau alcohol a chyffuriau. Mae angen cefnogaeth ar bob un ohonynt er mwyn cael mynediad i lety neu i’w gadw a rhaid i’r grwpiau gorchwyl roi ystyriaeth i’w hanghenion. Mae adolygiad o anghenion tai’r rhai mewn lleiafrifoedd du ac ethnig yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd. Mae hyn yn ddatblygiad pwysig ar gyfer pobl sydd yn aml heb lais ac fe’i cynhwysir yn ein trafodaethau am y strategaeth dai genedlaethol.

We are at the starting point of the framework. The Assembly must paint a clear picture of what we expect from the four task groups. Those task groups will work on housing needs and requirements, the private sector, sustainable social housing and vulnerable groups. A revision of planning guidance is underway, as Peter Law has said. We need to have a strategic view about planning guidance and its impact on local communities. A housing audit is also underway and we will adhere to the timetable. The challenge is to develop a national housing strategy that embraces our aims and priorities, delivers a vision of a better Wales and provides the context and local strategy for tackling local needs and priorities. Roofs over people’s heads are fundamental if we are to make a difference as an Assembly. We must embrace this important and challenging strategy and move it forward with our partners.

Yr ydym yn y man cychwyn yn y fframwaith. Rhaid i’r Cynulliad dynnu llun eglur o’r hyn a ddisgwyliwn oddi wrth y pedwar grŵp gorchwyl. Bydd y grwpiau gorchwyl hynny’n gweithio ar anghenion a gofynion tai, y sector preifat, tai cymdeithasol cynaliadwy a grwpiau sydd yn agored i niwed. Mae adolygiad o’r canllawiau cynllunio yn digwydd ar hyn o bryd, fel y dywedodd Peter Law. Mae arnom angen safbwynt strategol ynghylch canllawiau cynllunio a’u heffaith ar gymunedau lleol. Mae archwiliad tai yn digwydd hefyd ac fe gadwn at yr amserlen. Yr her yw datblygu strategaeth dai genedlaethol sydd yn cwmpasu ein nodau a’n blaenoriaethau, yn esgor ar weledigaeth o well Cymru ac yn darparu’r cyd-destun a’r strategaeth leol er mwyn ymdrin ag anghenion a blaenoriaethau lleol. Mae rhoi to i bobl uwch eu pen yn hanfodol os ydym i wneud gwahaniaeth fel Cynulliad. Rhaid inni dderbyn y strategaeth bwysig a beiddgar hon a’i datblygu gyda’n partneriaid.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 65

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

We will now vote on amendment 1.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1.

Gwelliant 1 Peter Black t. 65

Amendment 1 Peter Black p. 65

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 65

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

We will now vote on amendment 2.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2.

Gwelliant 2 Peter Black t. 65

Amendment 2 Peter Black p. 65

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 65

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

I now call for a show of hands on the amended motion, that the Assembly

Galwaf arnoch yn awr i ddangos eich dwylo ar y cynnig wedi’i ddiwygio, sef bod y Cynulliad

considers and notes the ‘Framework for a National Housing Strategy for Wales’ sent to all Assembly Members on 23 August 1999 and laid in the Table Office;

yn ystyried ac yn nodi’r ‘Fframwaith ar gyfer Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru’ a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad ar 23 Awst 1999 ac a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno;

welcomes the valuable contribution of the National Assembly’s partners on the National Consultative Forum on Housing in Wales to the preparation of the framework; notes the establishment of four wide-ranging multi-agency task groups to develop proposals for consideration by the Assembly in setting its strategic approach to housing in Wales;

yn croesawu cyfraniad gwerthfawr partneriaid y Cynulliad Cenedlaethol ar y Fforwm Ymgynghorol Cenedlaethol ar Dai yng Nghymru wrth baratoi’r fframwaith; yn nodi sefydlu pedwar grŵp gorchwyl aml-asiantaeth amrywiol i ddatblygu cynigion i’w hystyried gan y Cynulliad wrth iddo lunio ei strategaeth ar gyfer tai yng Nghymru.

notes the importance of providing good quality, energy efficient housing within the context of community development and investment in promoting social inclusion and sustainable development in Wales;

yn nodi pwysigrwydd darparu tai rhad-ar-ynni o ansawdd da yng nghyd-destun datblygu a buddsoddi cymunedol i hybu cynhwysiant cymdeithasol a datblygu cynaliadwy yng Nghymru;

notes the importance of co-ordinating the review of planning policy guidance with the work of the four multi-agency task groups so as to promote sustainable and affordable housing in local communities; and

yn nodi pwysigrwydd cydlynu’r arolwg o’r canllawiau polisi cynllunio gyda gwaith y pedwar grŵp gorchwyl aml-asiantaeth er mwyn sicrhau bod tai cynaliadwy a fforddiadwy yn cael eu darparu yn ein cymunedau lleol; ac

calls on the UK Government to equalise the rates of VAT on housing repairs with that on new buildings.

yn galw ar Lywodraeth y DU i gysoni cyfraddau TAW ar atgyweirio tai â’r rheini a godir ar adeiladau newydd.

Gwelliant 2 Peter Black t. 65

Amendment 2 Peter Black p. 65

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Rhaglen Cychwyn Cadarn

Sure Start Programme

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 66

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 66

To protect the time of the short debate, I request that all speakers confine their remarks to five minutes so that we can close this debate by 5 p.m. I have selected amendment 1 in the name of Jenny Randerson.

Er mwyn diogelu amser y ddadl fer, gofynnaf i bob siaradwr gyfyngu ei sylwadau i bum munud fel y gallwn gau’r ddadl hon erbyn 5 p.m. Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jenny Randerson.

Rosemary Butler The Secretary for Education and Children spoken in English p. 66

Rosemary Butler Yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant siaradwyd yn Saesneg t. 66

I propose

Cynigiaf

Rosemary Butler The Secretary for Education and Children (continued) spoken in English p. 66

Rosemary Butler Yr Ysgrifennydd Addysg a Phlant (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 66

We have before us today an unexciting motion about an exciting subject. The motion is unexciting because it has to concern a technicality. That is because payments to local authorities under the Sure Start initiative are classified as a special grant under the Local Government Finance Act 1988. The real subject of the debate is far from technical. It is no less than the transformation of the life chances of very young children and their families in our most disadvantaged communities.

Ger ein bron heddiw mae gennym gynnig anghyffrous ynghylch pwnc cyffrous. Mae’r cynnig yn anghyffrous am ei fod yn gorfod ymdrin â phwynt technegol. Y rheswm am hynny yw bod taliadau i awdurdodau lleol o dan y fenter Cychwyn Cadarn wedi eu dynodi’n grant arbennig o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae gwir destun y ddadl ymhell o fod yn dechnegol. Mae’n golygu dim llai na thrawsnewid cyfleoedd bywyd plant ifainc iawn a’u teuluoedd yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Every parent knows the vital importance of the first three years of life. Those years are a time of rapid physical, emotional and intellectual change and not just for the parents. The development of children in this crucial phase lays down much of the foundation for their future lives. Sadly, not all children have an equal chance even at this early stage. Infant mortality is twice as high in Merthyr Tydfil as it is in Gwynedd. The incidence of low birth weight is much higher in Blaenau Gwent than in neighbouring Monmouthshire. For young children, poverty, poor nutrition, unsafe environments, unskilled parenting and lack of hygiene can affect health and well-being throughout life. Emotional deprivation may reduce children’s educational and other potential.

Fe ŵyr pob rhiant am bwysigrwydd hanfodol y tair blynedd cyntaf mewn bywyd. Mae’r blynyddoedd hynny’n gyfnod o newid corfforol, emosiynol a deallusol ac nid i’r rhieni’n unig. Mae datblygiad plant yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn gosod llawer o’r sylfeini ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol. Gwaetha’r modd, ni fydd pob plentyn yn cael yr un cyfle hyd yn oed yn yr oedran cynnar hwn. Mae’r gyfradd marwolaethau ymysg plant ym Merthyr Tudful yn ddwywaith yr hyn ydyw yng Ngwynedd. Mae’r achosion o bwysau geni isel yn uwch o lawer ym Mlaenau Gwent nag ydyw yn Sir Fynwy gerllaw. Ymysg plant ifainc, mae tlodi, maethiad gwael, amgylcheddau anniogel, diffyg medrau magu a diffyg glanweithdra yn gallu effeithio ar iechyd a lles ar hyd eu hoes. Gall amddifadedd emosiynol leihau potensial plant mewn addysg ac mewn meysydd eraill.

Conversely, good parenting supplemented by a range of services such as antenatal care, screening and health visiting can prevent many problems from occurring. However, access to services, information and education, as well as to social support, is often more difficult in deprived communities.

Ar y llaw arall, mae magwraeth dda a ategir ag amrediad o wasanaethau fel gofal cyn geni, sgrinio ac ymweliadau iechyd yn gallu atal llawer o broblemau. Fodd bynnag, mae cael mynediad i wasanaethau, gwybodaeth ac addysg, yn ogystal â chefnogaeth gymdeithasol yn fwy anodd yn aml mewn cymunedau difreintiedig.

Sure Start will begin to address these problems by focusing on preventative care and support during the first three years of life. The programme has three key aims. First, to improve children’s health by supporting parents in caring for children and promoting their health and development. Secondly, to enhance the ability to learn by encouraging stimulating play, improving language skills and identifying and supporting children with learning difficulties. Finally, to stimulate social development by supporting good parenting skills and helping children with emotional and behavioural difficulties. These actions will help to ensure that the youngest members of society get off to a flying start and are ready to learn and benefit from education from the moment they start school.

Bydd Cychwyn Cadarn yn dechrau mynd i’r afael â’r problemau hyn drwy ganolbwyntio ar ofal ataliol a chefnogaeth yn ystod y tair blynedd cyntaf mewn bywyd. Mae tair prif nod yn y rhaglen. Y gyntaf yw gwella iechyd plant drwy gefnogi rhieni wrth iddynt ofalu am eu plant a hybu eu hiechyd a’u datblygiad. Yr ail yw gwella’r gallu i ddysgu drwy annog chwarae symbylol, gwella medrau iaith a dynodi a chefnogi plant sydd ag anawsterau dysgu. Y nod olaf yw symbylu datblygiad cymdeithasol drwy gefnogi medrau magu a helpu plant sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Bydd y camau hyn yn helpu i sicrhau y bydd aelodau ieuengaf y gymdeithas yn cael cychwyn da a’u bod yn barod i ddysgu ac i elwa o addysg o’r eiliad y maent yn dechrau yn yr ysgol.

The Sure Start programme was launched in Wales by Alun Michael in April. He announced that £3 million would be available this year and that investment would rise sharply to £11 million in each of the next two years. In approving today’s motion, the Assembly will agree to release this year’s resources to local authorities and enable them to take forward this important work. Out of the £3 million, health authorities and trusts will receive direct funding of some £670,000 from the Assembly to cover their contribution to the delivery of these plans. That is why the figure that appears in the special grant report, which deals with the payments through local authorities, is some £2.3 million. Separate special grant reports will be required for future financial years.

Fe lansiwyd y rhaglen Cychwyn Cadarn yng Nghymru gan Alun Michael yn Ebrill. Cyhoeddodd y byddai £3 miliwn ar gael eleni ac y byddai’r buddsoddiad yn codi’n gyflym i £11 miliwn ym mhob un o’r ddwy flynedd nesaf. Drwy gymeradwyo’r cynnig heddiw, bydd y Cynulliad yn cytuno i ryddhau’r adnoddau ar gyfer y flwyddyn hon i awdurdodau lleol a’u galluogi i fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig hwn. O’r £3 miliwn, bydd yr awdurdodau a’r ymddiriedolaethau iechyd yn derbyn cyllid uniongyrchol o ryw £670,000 gan y Cynulliad i dalu am eu cyfraniad at gyflenwi’r cynlluniau hyn. Dyna pam y mae’r ffigur a welir yn yr adroddiad grant arbennig, sydd yn ymdrin â’r taliadau drwy awdurdodau lleol, tua £2.3 miliwn. Bydd angen adroddiadau grant arbennig ar wahân ar gyfer y blynyddoedd ariannol sydd i ddod.

These resources have been divided between local authority areas using what is known as a composite indicator for children’s services within the standard spending assessment formula. This is the method of distribution used for revenue support grant purposes and was favoured by the Welsh Local Government Association. It takes account of population and deprivation factors, such as the number of dependent children in families receiving income support. It ensures that there is a measure of targeting while still providing a worthwhile share of the available funding to each local authority area.

Mae’r adnoddau hyn wedi eu rhannu rhwng ardaloedd yr awdurdodau lleol drwy ddefnyddio’r hyn a elwir yn ddangosydd cyfansawdd ar gyfer gwasanaethau plant o fewn y fformwla asesu gwariant safonol. Hwn yw’r dull rhannu a ddefnyddir i ddibenion y grant cynnal refeniw a hyn oedd orau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n cymryd i ystyriaeth ffactorau poblogaeth ac amddifadedd, fel nifer y plant dibynnol mewn teuluoedd sydd yn derbyn cymhorthdal incwm. Mae hyn yn sicrhau bod elfen o dargedu ac ar yr un pryd yn darparu cyfran fuddiol o’r arian sydd ar gael i bob ardal awdurdod lleol.

In keeping with the Assembly’s commitment to partnership working, the Sure Start programme will be delivered through partnerships of local authorities, health services and voluntary organisations. The local partnerships have submitted plans to meet the needs of their areas over the next three years and, overall, the plans are well balanced. They represent a good mix of direct support for children, support for their families and capacity building in the more disadvantaged communities. I am encouraged that local partnerships have proposed imaginative, creative and innovative projects which reflect the needs of local communities.

Yn unol ag ymrwymiad y Cynulliad i weithio mewn partneriaeth, fe gyflenwir y rhaglen Cychwyn Cadarn drwy bartneriaethau rhwng awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a mudiadau gwirfoddol. Mae’r partneriaethau lleol wedi cyflwyno cynlluniau er mwyn cyflawni anghenion eu hardaloedd dros y tair blynedd nesaf ac, ar y cyfan, mae’r cynlluniau hyn yn rhai cytbwys. Maent yn dangos cymysgedd da o gefnogaeth uniongyrchol i blant, cefnogaeth i’w teuluoedd ac adeiladu gallu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae’n galondid imi fod y partneriaethau lleol wedi cynnig prosiectau dychmygus, creadigol ac arloesol sydd yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol.

I am pleased to confirm that all 22 local partnership plans have been approved for this financial year. Partnerships have made a positive start in a short time and are to be congratulated on their achievements. I encourage them to bring the same energy and commitment to delivering the programmes in their areas.

Yr wyf yn falch o gadarnhau bod pob un o’r 22 cynllun partneriaeth leol wedi eu cymeradwyo ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’r partneriaethau wedi cychwyn yn gadarnhaol o fewn cyfnod byr a dylid eu llongyfarch ar eu cyflawniadau. Fe’u hanogaf i roi’r un egni ac ymrwymiad i gyflenwi’r rhaglenni yn eu hardaloedd.

Before approving plans for future financial years we will ask partnerships to undertake further work in developing targets. These targets will demonstrate measurable improvements in the physical, emotional and intellectual development of children resulting from enhanced services and family relationships. We will also be developing Wales-wide targets for this scheme.

Cyn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol fe ofynnwn i’r partneriaethau ymgymryd â mwy o waith er mwyn datblygu targedau. Bydd y targedau hyn yn amlygu gwelliannau mesuradwy yn natblygiad corfforol, emosiynol a deallusol plant o ganlyniad i well gwasanaethau a chysylltiadau teuluol. Byddwn hefyd yn datblygu targedau i Gymru gyfan i’r cynllun hwn.

I opened a Plenary debate in September with my proposals to begin work on a strategy for children and young people. I said then that we must have services for children across Wales that looked after ill-health, provided quality education and supported them and their families. Sure Start has a contribution to make to all these objectives. The strategy gives us a set of priorities and principles to ensure that we have joined-up thinking and appropriate services for children. However, even at this stage, Sure Start is well integrated into the Assembly’s sweeping programme. Its focus on capacity building complements the community regeneration objectives of the people in communities programme. The guidance that was issued to partnerships referred to the need to ensure that Sure Start was developed in parallel with people in communities and other programmes aimed at encouraging social inclusion. At the same time, Sure Start’s work in preventing social exclusion among the older age group will be taken up by the Children and Youth Partnership Fund.

Agorais ddadl mewn Cyfarfod Llawn ym Medi drwy gyflwyno fy nghynigion ar gyfer dechrau ar strategaeth i blant a phobl ifainc. Dywedais bryd hynny y bydd yn rhaid inni gael gwasanaethau i blant drwy Gymru sydd yn gofalu am iechyd gwael, yn darparu addysg o ansawdd da ac yn eu cefnogi hwy a’u teuluoedd. Gall Cychwyn Cadarn gyfrannu at bob un o’r amcanion hyn. Mae’r strategaeth yn rhoi inni set o flaenoriaethau ac egwyddorion er mwyn sicrhau ein bod yn meddwl yn gydgysylltiol a bod gennym wasanaethau priodol i blant. Fodd bynnag, hyd yn oed ar yr adeg gynnar hon, mae Cychwyn Cadarn wedi ei hintegreiddio’n dda â rhaglen ysgubol y Cynulliad. Mae’r ffocws sydd ynddi ar adeiladu gallu yn cyflenwi amcanion adfywio cymunedau’r rhaglen pobl mewn cymunedau. Yr oedd y canllawiau a roddwyd i’r partneriaethau’n cyfeirio at yr angen i sicrhau y câi Cychwyn Cadarn ei datblygu’n gyfochrog â pobl mewn cymunedau a rhaglenni eraill sydd yn ceisio hybu cynhwysiant cymdeithasol. Ar yr un pryd, bydd gwaith Cychwyn Cadarn ar atal dieithrwch cymdeithasol ymysg y grŵp oedran hŷn yn cael ei ddilyn gan y Gronfa Partneriaeth Plant a Ieuenctid.

My and Jane Hutt’s participation in this debate demonstrates the co-operative approach of the Cabinet to children’s issues. My overall responsibility for children means that I have an interest in all Assembly programmes which affect their lives. However, that does not mean that I can control them directly. Much of the focus of Sure Start is on social services and health provision. That is why it is appropriate that Jane Hutt has responsibility for the budget and why she will close this debate. We are both deeply committed to ensuring that we invest in our children at the most formative stage of their lives—up to three years old—in a way that provides them with the opportunity to achieve their full potential.

Mae fy nghyfranogiad i a Jane Hutt i’r ddadl hon yn amlygu ymagwedd gydweithredol y Cabinet at faterion plant. Mae’r cyfrifoldeb cyffredinol sydd gennyf dros blant yn golygu bod gennyf ddiddordeb ym mhob un o raglenni’r Cynulliad sydd yn effeithio ar eu bywydau. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y gallaf eu rheoli’n uniongyrchol. Mae Cychwyn Cadarn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar wasanaethau cymdeithasol a’r ddarpariaeth iechyd. Dyna pam y mae’n briodol mai gan Jane Hutt y mae’r cyfrifoldeb am y gyllideb ac mai hi fydd yn cau’r ddadl hon. Mae’r ddwy ohonom wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn ein plant yn y cyfnod mwyaf ffurfiannol yn eu bywyd—hyd at dair blwydd oed—mewn modd sydd yn rhoi cyfle iddynt gyflawni eu potensial.

The Sure Start programme offers a tremendous opportunity to do that. It will make a real and lasting difference to children and their families in the most deprived areas. Today’s debate provides us with the opportunities to begin to implement this important programme in Wales. I urge you all to support this motion.

Mae’r rhaglen Cychwyn Cadarn yn cynnig cyfle aruthrol i wneud hynny. Bydd yn gwneud gwahaniaeth wirioneddol a pharhaol i blant a’u teuluoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’r ddadl heddiw yn rhoi’r cyfleoedd inni ddechrau gweithredu’r rhaglen bwysig hon yng Nghymru. Anogaf bob un ohonoch i gefnogi’r cynnig hwn.

Jenny Randerson spoken in English p. 69

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 69

I propose amendment 1. At the end of the motion, add:

Cynigiaf welliant 1. Ar ddiwedd y cynnig ychwaneger:

Jenny Randerson (continued) spoken in English p. 70

Jenny Randerson (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 70

I believe that my amendment will strike a chord with those of you who are or who have been councillors, school governors or local authority employees. In many ways, this amendment could have been tabled to many recent Government initiatives as well as those of the previous Government. I am drawing attention to the time it has taken to get this proposal off the drawing board and into action. I say this in the full knowledge that funding this year is £3 million, much lower than the two subsequent years at £11 million each.

Credaf y bydd fy ngwelliant yn taro tant gyda’r rhai ohonoch sydd neu a fu’n gynghorwyr, yn llywodraethwyr ysgol neu’n weithwyr mewn llywodraeth leol. Mewn llawer ffordd, gellid bod wedi cyflwyno’r gwelliant hwn mewn perthynas â llawer o fentrau diweddar y Llywodraeth yn ogystal â rhai’r Llywodraeth flaenorol. Yr wyf yn tynnu sylw at yr amser a gymerwyd i roi’r cynnig hwn ar waith. Dywedaf hyn gan wybod mai £3 miliwn yw’r cyllid eleni, sydd yn llawer is na’r ddwy flwyddyn ddilynol pan geir £11 miliwn yr un.

Let us consider the timescale. The Sure Start programme was launched on 8 April. Councils and health authorities were given until 31 July to develop their plans in partnership and to submit them. Councils had to cost the work that health authorities would do, even though the money that goes to health authorities goes directly from the Assembly and not via the councils. There was a complexity in that.

Gadewch inni ystyried yr amserlen. Lansiwyd y rhaglen Cychwyn Cadarn ar 8 Ebrill. Rhoddwyd hyd at 31 Gorffennaf i’r cynghorau a’r awdurdodau iechyd ddatblygu eu cynlluniau mewn partneriaeth ac i’w cyflwyno. Bu’n rhaid i’r cynghorau gostio’r gwaith a gyflawnid gan yr awdurdodau iechyd, er y bydd yr arian sydd yn mynd i’r awdurdodau iechyd yn dod yn uniongyrchol o’r Cynulliad ac nid drwy’r cynghorau. Yr oedd hynny’n creu cymhlethdod.

Effectively, they were given less than three months once the detailed requirements were known. The Assembly has also had these plans for three months for evaluation. You cannot imagine realistically that it takes as long to evaluate a plan as it does to draw it up in the first place.

Mewn gwirionedd, rhoddwyd llai na thri mis iddynt ar ôl cael gwybod am y gofynion manwl. Bu’r cynlluniau hyn gan y Cynulliad am dri mis hefyd i’w gwerthuso. Ni ellwch ddychmygu mewn gwirionedd fod angen mwy o amser i werthuso cynllun nag i’w lunio yn y lle cyntaf.

When we approve these plans today—and I am sure that we will—we will effectively be giving local authorities just over four months to get the scheme up and running and spend £3 million. I propose this amendment because I have spoken to people who have real doubts about their ability to spend that amount of money within such a tight timescale. There will have been eight months from the announcement to the time when the scheme is up and running.

Pan gymeradwywn y cynlluniau hyn heddiw—ac yr wyf yn sicr y gwnawn hynny—byddwn i bob pwrpas yn rhoi ychydig dros bedwar mis i’r awdurdodau lleol roi’r cynllun ar waith a gwario £3 miliwn. Cynigiaf y gwelliant hwn am fy mod wedi siarad â rhai sydd ag amheuon gwirioneddol ynghylch eu gallu i wario’r swm arian hwnnw o fewn amserlen mor gyfyng. Bydd wyth mis wedi mynd heibio rhwng y cyhoeddiad a’r adeg pan fydd y cynllun yn weithredol.

Councils and health authorities will, as always, pull out all the stops to spend the money. However, money spent in a rush at the end of the financial year is not always money well spent. I plead that, in future when looking at timescales, the realities are considered. In the past I have been involved in other projects, as many of you probably have. I was involved in spending money on nursery provision within a virtually impossible timescale. We also have the continuing anomaly of welcome money for smaller class sizes running from April to April, ignoring the fact that the school year runs from September to September. If the Assembly is to do something constructive, we must show our awareness of the problems facing local government and the voluntary sector in getting schemes up and running in the timescales that are sometimes set for them and, at the same time, spending effectively and efficiently.

Bydd y cynghorau a’r awdurdodau iechyd yn rhoi pob gewyn ar waith i wario’r arian, fel y gwnânt bob amser. Fodd bynnag, nid yw arian a werir ar frys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei wario yn y modd gorau bob amser. Yr apêl sydd gennyf yw y dylid ystyried y sefyllfa ymarferol yn y dyfodol wrth edrych ar yr amserlen. Bûm yn gysylltiedig â phrosiectau eraill yn y gorffennol, fel llawer ohonoch chi yn ôl pob tebyg. Bûm yn gysylltiedig â gwario arian ar y ddarpariaeth meithrin o fewn amserlen oedd bron yn amhosibl. Mae’r anghysondeb yn parhau hefyd o ran yr arian derbyniol ar gyfer meintiau dosbarth llai sydd yn rhedeg o Ebrill i Ebrill, gan ddiystyru’r ffaith fod y flwyddyn ysgol yn rhedeg o Fedi i Fedi. Os yw’r Cynulliad i wneud rhywbeth adeiladol, rhaid inni ddangos ein bod yn ymwybodol o’r problemau sydd yn wynebu llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol wrth iddynt roi cynlluniau ar waith o fewn yr amserlenni a osodir iddynt weithiau a gwario’n effeithiol ac yn effeithlon yr un pryd.

The Sure Start programme has laudable aims and features. It incorporates many strands, which we all now recognise as important if children are to thrive. It is part of an integrated multi-agency approach. That is the common sense approach to the problems, for which we have yearned for so many years. It links in with health improvement plans and childcare partnerships. It targets areas with the greatest social exclusion and, given the limited funds available, that is the only effective way. It works with families and supports them from the moment children are born. It takes the help out into the deprived communities, rather than expecting them to come searching for it. Its aim is to create happy, healthy, well-adjusted children who are ready and able to learn when they reach school age. We must all support the programme. It seeks to involve local people in helping themselves, and I was pleased to see reference to the need for police checks. I raised that in a previous debate.

Ceir nodau a nodweddion canmoladwy yn y rhaglen Cychwyn Cadarn. Mae’n cynnwys llawer o elfennau yr ydym oll yn eu cydnabod bellach yn rhai sydd yn bwysig os yw plant i ffynnu. Mae’n rhan o ddull gweithredu aml-asiantaeth integredig. Dyna’r ymagwedd synnwyr cyffredin at y problemau yr ydym yn dyheu amdani ers blynyddoedd lawer. Mae’n ymgysylltu â chynlluniau gwella iechyd a phartneriaethau gofal plant. Mae’n targedu’r mannau lle y ceir y dieithrwch cymdeithasol mwyaf ac, yng ngolwg y cyllid cyfyngedig sydd ar gael, dyna’r unig ddull effeithiol. Mae’n gweithio gyda theuluoedd ac yn eu cefnogi o’r eiliad y genir y plant. Mae’n estyn y cymorth i’r cymunedau difreintiedig, yn hytrach na disgwyl iddynt ddod i chwilio amdano. Ei nod yw creu plant hapus, iach a chytbwys sydd yn barod ac yn gallu dysgu pan fyddant yn cyrraedd oed ysgol. Rhaid inni oll gefnogi’r rhaglen. Mae’n ceisio cynnwys pobl leol yn y gwaith o’u helpu eu hunain, ac yr oeddwn yn falch o weld cyfeirio at yr angen am wiriadau gan yr heddlu. Codais y pwynt hwnnw mewn dadl flaenorol.

In the spirit of positive criticism, I will raise a few issues of concern. I am concerned about the communities that are only just too poor to receive this aid, and also about community and parental involvement, which takes time. Time is tight here. Sure Start can provide the link with social services but cannot improve the level of those services. There is reference to health care, public transport and so on, and also to advice on speech and language therapy. In my area, people wait for over a year for that service when their children are diagnosed as needing it. We must change the levels of those services. Sure Start aims to ensure that children are ready and able to learn when they reach school age but does not make any real difference to the amount of money invested in education, which is important if children are to continue to thrive. If we are to tackle the cycle of deprivation effectively, we must follow it through with truly integrated thought.

Yn unol ag ysbryd beirniadaeth gadarnhaol, fe godaf ychydig o faterion sydd yn peri pryder. Pryderaf ynghylch y cymunedau sydd ond yn rhy dlawd o ychydig i dderbyn y cymorth hwn, a hefyd ynghylch cysylltiad y gymuned a’r rhieni, sydd yn mynd ag amser. Mae amser yn brin yma. Mae Cychwyn Cadarn yn gallu darparu’r cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol ond ni all wella lefel y gwasanaethau hynny. Ceir cyfeiriad at ofal iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen, a hefyd at gyngor ar therapi lleferydd a iaith. Yn f’ardal i, bydd pobl yn disgwyl dros flwyddyn am y gwasanaeth hwnnw pan ganfyddir bod ar eu plant ei angen. Rhaid inni newid lefelau’r gwasanaethau hynny. Mae Cychwyn Cadarn yn ceisio sicrhau bod plant yn barod ac yn alluog i ddysgu pan gyrhaeddant oed ysgol ond nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i’r swm o arian a fuddsoddir mewn addysg, sydd yn bwysig os yw plant i barhau i ffynnu. Os ydym i ymdrin yn effeithiol â’r cylchred amddifadedd, rhaid inni ddilyn hynny drwy feddwl mewn modd gwirioneddol integredig.

In conclusion, Sure Start is a good start at tackling social exclusion. It is more than a sticking plaster over the wound, but does not provide the surgery to ensure that the wound heals entirely. I beg you to support the amendment in the spirit of raising awareness of the problems of local authorities and other agencies in delivering this. Partnerships are ideal, but always a bit more difficult than working on your own.

I derfynu, mae Cychwyn Cadarn yn gychwyn da er mwyn mynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol. Mae’n golygu mwy na rhoi plastr dros y clwyf, ond nid yw’n darparu’r llawdriniaeth i sicrhau bod y clwyf yn cau’n gyfan gwbl. Ymbiliaf arnoch i gefnogi’r gwelliant yn unol â’r ysbryd o gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch problemau awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill wrth gyflawni hyn. Mae partneriaethau’n ddelfrydol, ond maent ychydig yn fwy anodd na gweithio ar eich pen eich hun.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 72

Gareth Jones spoken in Welsh p. 72

Cefnogaf y cynnig a chroesawaf ymdrech ddiffuant y Llywodraeth i fynd i’r afael â phroblem sydd yn un mor ddwys a heriol. Mae amcanion y rhaglen—gwella sefyllfaoedd ac ansawdd bywyd rhieni a phlant anghenus—yn glodwiw ac yn haeddu ein cefnogaeth. Bydd grŵp Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig, ond hoffwn gyflwyno rhai sylwadau cryno. Mawr obeithiaf y cânt sylw pan fydd y rhaglen yn datblygu yn ein cymunedau.

I support the motion and welcome the Government’s sincere effort to tackle such a grave and challenging problem. The aims of the programme—improving the circumstances and quality of life of needy parents and children—are praiseworthy and deserve our support. The Plaid Cymru group will support the motion, but I wish to present some concise comments. I very much hope that they will receive attention as the programme develops in our communities.

Byddwn hefyd yn cefnogi’r gwelliant. Yr ydym ninnau hefyd yn gresynu am yr oedi a fu cyn i’r cyllid—a fu ar gael ers Ebrill diwethaf—gael ei ryddhau i’r awdurdodau yng Nghymru.

We will also be supporting the amendment. We also regret the delay in releasing the funding—available since last April—to the authorities in Wales.

Mae’r egwyddorion a’r amcanion pwysig a’r anghenion amlwg sydd yn symbylu’r rhaglen i’w cymeradwyo.

The important principles and aims and the evident needs that drive the programme are commendable.

Yr ydym oll yn ymwybobol o faint yr her o gael cyrff cymunedol gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio ac i ymroi’n effeithiol o’u holl sgiliau a’u harbenigedd. Mae’n galonogol felly inni dderbyn adroddiadau addawol fod cynlluniau a chydweithio llwyddiannus yn digwydd mewn prosiectau cyffelyb yn Lloegr. Mae hynny yn argoeli’n dda ar gyfer y rhaglen yng Nghymru.

We are all aware of the size of the challenge of getting community voluntary oragnisations and public services to work together and to apply all their skills and expertise effectively. It is therefore encouraging for us to receive promising reports that there are succesful programmes and succesful collaboration taking place in similar projects in England. This augurs well for the programme in Wales.

Mae’n resyn, fodd bynnag, na chafodd Aelodau’r Cynulliad gyfle i ystyried ac arfarnu rhai o’r prosiectau a gyflwynwyd gan yr awdurdodau yng Nghymru. Mae’n holl bwysig fod y prosiectau a gymeradwyir yn adlewyrchu’r anghenion a’r amrywiaethau a geir yn ein cymunedau Cymreig. Fe’i dywedwyd droeon yn y Siambr: atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Yn hynny o beth, nid oes gennym ddewis ond ymddiried yn nyfarniadau’r grŵp a sefydlwyd gan y Cynulliad i ystyried y ceisiadau.

However, it is regrettable that Assembly Members did not have an opportunity to consider and evaluate some of the projects presented by the authorities in Wales. It is crucial that the approved projects reflect the needs and the diversity found in our Welsh communities. It has been said many times in the Chamber: Welsh solutions for Welsh problems. In that context, we have no choice but to trust the decisions of the group established by the Assembly to consider the bids.

Pryderaf hefyd nad yw’r elfen gefn gwlad wedi’i hymgorffori yn yr asesiad dyraniad cyllidol y cyfeiriodd Rosemary Butler ato. Gall prosiectau mewn rhannau o Bowys, er enghraifft, fod dan anfantais pan fo gofyn i rieni a’u babanod deithio milltiroedd i ganolfannau cymunedol. Dylid talu mwy o sylw i gostau ac amser teithio ychwanegol mewn rhanbarthau gwledig. Derbyniaf y pwynt holl bwysig a wnaethpwyd ynglŷn ag estyn allan i’r gymuned.

I am also worried that rurality has not been incorporated in the financial allocation assessment to which Rosemary Butler referred. Projects in parts of Powys, for example, can be under a disadvantage when parents and their babies have to travel miles to community centres. More attention should be paid to additional travel expenses and time in rural regions. I accept the all-important point made regarding outreach into the community.

Mae angen cryfhau rôl ac annog cyfranogiad nifer o gyrff gwirfoddol a chyrff eraill llai amlwg nad oes ganddynt broffil mor uchel. Mae hyn yn ysbryd y rhaglen ac yn ddyhead ynddi. Er hyn, mae angen tanlinellu’r rôl y gall rhai cyrff cyhoeddus ei chwarae yn y prosiectau hyn—cylchoedd eglwysig, capeli a grwpiau lleiafrifol crefyddol ac ethnig er enghraifft. Cyfeirwyd yn rymus at hyn yn y ddadl flaenorol. Dylem sicrhau fod yr holl grwpiau hyn yn cael eu dwyn i mewn i’r prosiectau. Yr wyf yn amheus a yw’r anogaeth yno ar hyn o bryd, gan fod y canllawiau ar y mater yn wan.

There is a need to strengthen the role and encourage the participation of a number of voluntary organisations as well as other bodies which do not have the same high profile. This is in the spirit of the programme and is one of its aspirations. However, there is a need to highlight the role that some public organisations could play in these projects—church societies, chapels and religious and ethnic minority groups for example. This was referred to strongly in the previous debate. We should ensure that all these groups are brought into the projects. I am doubtful whether the encouragement is there at the moment, as the guidelines on the issue are weak.

Mae’r fath anogaeth yn holl bwysig o ystyried y pwysau a roddir ar ddatblygiad plant ac ar eu paratoi ar gyfer dechrau’r ysgol yn dair oed. Yno rhoddir pwyslais ar ddatblygiad ysbrydol yn ogystal â chorfforol, meddyliol ac emosiynol. Nid yw’n rhy hen ffasiwn i gyfeirio at ddatblygiad ysbrydol a chefnogaeth o’r fath honno. Er ein bod yn byw mewn oes o newid, fe erys rhai gwerthoedd. Gallwn sôn am y gwaith da a chynhaliol sydd yn cael ei wneud gan gylchoedd eglwysig, capeli a grwpiau ethnig yng Nghymru.

Such encouragement is crucial considering the emphasis placed on the development of children and on preparing them for starting school at the age of three. There the emphasis is placed on spiritual as well as physical, mental and emotional development. It is not too old fashioned to refer to spiritual development and support of that kind. Despite the fact that we live in a changing age, some values persist. I could mention the good support work that is done by church bodies, chapels and ethnic groups in Wales.

Hoffwn gyfeirio at gynaliadwyedd a’ch atgoffa o eiriau’r Prif Weinidog y bydd yn cymryd 20 mlynedd i ddiddymu tlodi. Gobeithiaf y bydd y rhaglenni hyn nid yn unig yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo, ond hefyd yn cael eu mewnoli a’u cyllido mewn modd cynaliadwy yn ein cymunedau. Gobeithiaf hefyd ein bod yn diogelu eu heffeithiolrwydd, eu defnyddioldeb, eu datblygiad a’u bodolaeth i’r dyfodol.

I will refer to sustainability and remind you of the Prime Minister’s comment that it will take 20 years to eradicate poverty. I hope these programmes will not only be accepted and approved, but also be internalised and funded in a sustainable manner within our communities. I also hope that we protect their efficiency, their usefulness, their development and their existence for the future.

Jonathan Morgan spoken in English p. 74

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 74

The Conservatives welcome the aims of the Sure Start programme and we hope it succeeds in achieving its goals. The importance of providing children with the best possible start in life can never be over emphasised. Children’s experiences in their first few years of life are crucial to their development. A bad start can often be difficult to rectify later on in life. It is imperative that the Assembly ensures a coherent approach to children of this age, one that addresses the needs of children, especially those in areas of economic deprivation and social exclusion.

Mae’r Ceidwadwyr yn croesawu nodau’r rhaglen Cychwyn Cadarn a gobeithiwn y bydd yn llwyddo i gyflawni ei hamcanion. Ni ellir byth orbwysleisio bwysigrwydd rhoi’r cychwyn gorau posibl i blant mewn bywyd. Mae profiadau plant yn eu blynyddoedd cyntaf yn dyngedfennol yn eu datblygiad. Gall fod yn anodd unioni cychwyn gwael yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n holl bwysig bod y Cynulliad yn sicrhau ymagwedd gyson at blant o’r oed hwn, un sydd yn ymdrin ag anghenion plant, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd economaidd a dieithrwch cymdeithasol.

Sure Start is the ultimate cross-cutting programme in the matrix of cross-cutting policies, involving health, education, social services, local government and many other allied agencies. Only through effective co-ordination between these services can we hope to achieve the important aims set out in the special grant report. Traditional barriers between agencies must be demolished if we are to have any chance of fulfilling our ambitions in this arena. However, we must not forget the other elements of the national children’s strategy of which Sure Start is only one part.

Cychwyn Cadarn yw’r rhaglen fwyaf trawsbynciol o fewn y fframwaith o bolisïau trawsbynciol, yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a llawer iawn o asiantaethau cysylltiedig eraill. Dim ond drwy gydlynu effeithiol rhwng y gwasanaethau hyn y gallwn obeithio cyflawni’r nodau pwysig a nodir yn yr adroddiad grant arbennig. Rhaid dymchwel y rhwystrau traddodiadol rhwng asiantaethau os ydym i gael unrhyw obaith o gyflawni ein dyheadau yn y maes hwn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio ag anghofio’r elfennau eraill yn y straegaeth blant genedlaethol nad yw Cychwyn Cadarn ond yn un rhan ohoni.

This programme must concentrate on helping parents and families to fulfil their duties. We should not seek to replace parents’ role, but we must avoid the charge that we are imposing a ‘nanny state’ on parents in Wales. Parents deserve our support and help. I hope this programme will achieve that. The Conservatives support the amendment on the lack of time for local authorities to spend money allocated for this financial year. If the programme is to have a sure start, it is vital that councils can plan ahead.

Rhaid i’r rhaglen hon ganolbwyntio ar helpu rhieni a theuluoedd i gyflawni eu rôl. Ni ddylem geisio disodli rôl rhieni, ond rhaid inni osgoi’r cyhuddiad ein bod yn gorfodi ‘gwladwriaeth or-famol’ ar rieni yng Nghymru. Mae rhieni’n haeddu ein cefnogaeth a’n cymorth. Gobeithiaf y bydd y rhaglen hon yn cyflawni hynny. Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r gwelliant ynghylch y diffyg amser i awdurdodau lleol wario’r arian a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Os yw’r rhaglen i gael cychwyn cadarn, mae’n holl bwysig bod modd i’r cynhorau gynllunio ymlaen.

I am concerned about the lack of scrutiny that the programme has been subject to thus far. A circular issued by the Welsh Office in April stated that the progress of Sure Start would be reviewed by the National Assembly for Wales before funds for 1999-2000 were released.

Yr wyf yn bryderus ynghylch y diffyg archwilio a fu ar y rhaglen hon hyd yn hyn. Mewn cylchlythyr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gymreig yn Ebrill dywedwyd y byddai cynnydd Cychwyn Cadarn yn cael ei adolygu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r cyllid ar gyfer 1999-2000 gael ei ryddhau.

The Under-16 Education Committee, the Health and Social Services Committee and the Environment and Local Government Committee have not reviewed the programme since the Assembly’s inception. That is regrettable, but I hope that the Assembly has the opportunity to review the success or otherwise of the scheme soon.

Nid yw’r Pwyllgor Addysg Cyn-16 na’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol na Phwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol wedi adolygu’r rhaglen ers sefydlu’r Cynulliad. Mae hynny’n destun gofid, ond gobeithiaf y caiff y Cynulliad gyfle i adolygu llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y cynllun cyn hir.

It is crucial that measurable targets are set to evaluate the progress of this scheme. Without well-defined targets, the Assembly will have no objective method by which to assess the scheme’s success. Targets are essential if we are to get best value from Sure Start. The Conservatives support this programme overall, but it needs proper monitoring and evaluation. I hope the administration will listen to such views and the constructive spirit in which they have been expressed.

Mae’n holl bwysig y caiff targedau mesuradwy eu gosod i werthuso cynnydd y cynllun hwn. Heb dargedau pendant, ni fydd gan y Cynulliad ddull gwrthrychol i asesu llwyddiant y cynllun. Mae targedau’n holl bwysig os ydym i gael y gwerth gorau o Gychwyn Cadarn. Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r rhaglen hon yn gyffredinol, ond mae angen ei monitro a’i gwerthuso’n iawn. Gobeithiaf y bydd y weinyddiaeth yn gwrando ar sylwadau o’r fath yn yr un ysbryd adeiladol ag y’u mynegwyd.

Jane Hutt spoken in English p. 75

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 75

I am pleased that we have an opportunity to recognise the benefits of Sure Start to young children and their families, particularly in Wales’s most deprived areas. This is a major Labour Government policy initiative. It is imaginative, innovative and bringing major new resources to Wales. We have received an initial £3 million and will receive £11 million over each of the next two years. It is appropriate and fitting that the Assembly’s first special grant is for children. Gareth Jones referred to the Prime Minister’s commitment to ending child poverty within a generation. Sure Start is a key component in that campaign to which I am sure we all subscribe. Due to the financial exclusion of their parents, Welsh children face a high risk of growing up in poverty, one of the highest in the European Union. In 1991, 18 per cent of households with dependent children in Wales did not contain any wage earners. In some areas that figure was 60 per cent.

Mae’n dda gennyf fod gennym gyfle i gydnabod manteision Cychwyn Cadarn i blant ifainc a’u teuluoedd, yn enwedig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae hyn yn fenter bolisi o bwys ar ran y Llywodraeth Lafur. Mae’n ddyfeisgar, yn arloesol ac yn dod ag adnoddau newydd o bwys i Gymru. Derbyniasom £3 miliwn i ddechrau a derbyniwn £11 miliwn y flwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’n addas ac yn briodol bod grant arbennig cyntaf y Cynulliad yn un ar gyfer plant. Cyfeiriodd Gareth Jones at ymrwymiad y Prif Weinidog i derfynu tlodi ymysg plant o fewn cenhedlaeth. Mae Cychwyn Cadarn yn elfen allweddol yn yr ymgyrch honno sydd yn un yr ydym oll yn ei chefnogi, yr wyf yn siŵr. Oherwydd allgáu ariannol eu rhieni, mae risg uchel i blant Cymru gael eu magu mewn tlodi, gyda’r uchaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn 1991, yr oedd 18 y cant o’r teuluoedd â phlant dibynnol yng Nghymru heb enillydd cyflog. Mewn rhai ardaloedd yr oedd y ffigur hwnnw’n 60 y cant.

I will strive, with my Cabinet colleagues, to ensure that the well-being of children in Wales is a high priority on everyone’s agenda. A good start in life is vital. Rhodri Morgan reminded me about the research in the Bronx area of New York that led to the headstart initiative. That proved that one’s start in life impacts on everything else. Today’s discussion about housing is related to the future generation’s start in life. We remember the confidence we felt in the health visitor when we were unsure of what to do as parents. That is an example of one important person involved in the start of our children’s lives. Sure Start offers a real and imaginative opportunity to bring together all the key people such as the health visitor, the midwife, family and friends; the support arrangements in neighbourhoods. The Sure Start partnerships will be innovative in establishing drop-in projects and imaginative family and community support schemes. These projects will boost the morale of people at the sharp end along with the morale and status of those who work with young children and families.

Fe ymdrechaf, gyda’m cydweithwyr yn y Cabinet, i sicrhau bod blaenoriaeth uchel i les plant Cymru ar agenda pawb. Mae cychwyn da mewn bywyd yn holl bwysig. Fe’m hatgoffwyd gan Rhodri Morgan am yr ymchwil yn ardal Bronx yn Efrog Newydd a arweiniodd at fenter Headstart. Yr oedd hynny’n profi bod y cychwyn a gaiff rhywun mewn bywyd yn effeithio ar bopeth arall. Mae’r ddadl a gafwyd heddiw am dai yn gysylltiedig â’r cychwyn mewn bywyd a gaiff cenhedlaeth y dyfodol. Fe gofiwn am y modd y byddem yn ymddiried yn yr ymwelydd iechyd pan oeddem yn ansicr o’r hyn y dylem ei wneud fel rhieni. Mae hynny’n enghraifft o un person pwysig sydd yn ymwneud â dechrau bywyd ein plant. Mae Cychwyn Cadarn yn cynnig cyfle gwirioneddol a dyfeisgar i gyfuno’r holl bobl allweddol fel yr ymwelydd iechyd, y fydwraig, y teulu a ffrindiau; y trefniadau cynnal mewn cymdogaethau. Bydd y partneriaethau Cychwyn Cadarn yn arloesi drwy sefydlu prosiectau galw-heibio a chynlluniau dyfeisgar i gefnogi teuluoedd a chymunedau. Bydd y prosiectau hyn yn rhoi hwb i hyder y rhai sydd yn y pen blaen yn ogystal â hyder a statws i’r rhai sydd yn gweithio gyda phlant ifainc a theuluoedd.

On Jenny’s amendment, we have stuck to the timetable laid out. It is not possible to achieve this overnight. Breaking new ground and developing partnerships takes time and we do not want to fast-forward the process or have quick fixes. That is why the allocation for this year relates to the time remaining. The next two years will see an allocation of £11 million. Everyone in the field knows about the timetable. I cannot support Jenny’s amendment because it would go against the spirit of how we wanted to initiate Sure Start. I hope that the other parties will consider that. This is not quick fix funding. Partnerships take time. I say to Gareth that the voluntary sector would be less likely to be involved if this were a programme that local authorities had been told to implement and deliver from 1 April. The smallest voluntary organisations, and perhaps those that Gareth mentioned, would have less of an opportunity if there had not been a longer preparation time for these partnerships.

Ynglŷn â gwelliant Jenny, yr ydym wedi cadw at yr amserlen a osodwyd. Nid oes modd cyflawni hyn dros nos. Mae torri tir newydd a datblygu partneriaethau yn cymryd amser ac nid ydym am frysio’r broses neu chwilio am atebion sydyn. Dyna pam y mae’r dyraniad ar gyfer eleni yn gysylltiedig â’r amser sydd ar ôl. Yn y ddwy flynedd nesaf fe geir dyraniad o £11 miliwn. Fe ŵyr pawb yn y maes am yr amserlen. Ni allaf gefnogi gwelliant Jenny oherwydd byddai’n mynd yn groes i’r ysbryd yr oeddem am ei weld wrth ddechrau Cychwyn Cadarn. Gobeithiaf y bydd y pleidiau eraill yn ystyried hynny. Nid ariannu i gael atebion sydyn yw hyn. Rhaid wrth amser ar gyfer partneriaethau. Dywedaf wrth Gareth y byddai’r sector gwirfoddol yn llai tebygol o gymryd rhan pe bai hon yn rhaglen y dywedwyd wrth yr awdurdodau lleol i’w gweithredu a’i chyflawni o 1 Ebrill. Byddai llai o gyfle i’r mudiadau gwirfoddol lleiaf, ac efallai i’r rhai y soniodd Gareth amdanynt, pe na buasai cyfnod ymbaratoi hwy ar gyfer y partneriaethau hyn.

The amendment is inappropriate because the partnerships have been working on this. An expert group has also considered the plans. It is important that we recognise that we cannot scrutinise every plan. This is partnership building between local and health authorities and the voluntary sector. An expert group of nine officials and nine representatives of external organisations has been involved. Those external organisations included people from throughout Wales including those from rural areas, local government, education, social services, health and the voluntary sector. I hope that this reassures Gareth. Assembly officials were not the only ones scrutinising the plans. The external groups had to consider what they wanted to gain from the project. We must rely on expertise outside, as well as in the Assembly.

Mae’r gwelliant yn amhriodol am fod y partneriaethau wedi bod yn gweithio ar hyn. Mae grŵp arbenigol wedi ystyried y cynlluniau hefyd. Mae’n bwysig inni gydnabod na allwn archwilio pob cynllun. Gwaith o adeiladu partneriaeth yw hyn rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd a’r sector gwirfoddol. Mae grŵp arbenigol o naw swyddog a naw cynrychiolydd o gyrff allanol wedi cymryd rhan. Yr oedd y cyrff allanol hynny’n cynnwys pobl o bob cwr o Gymru ac yn eu plith rai o’r ardaloedd gwledig, llywodraeth leol, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a’r sector gwirfoddol. Gobeithiaf fod hyn yn rhoi tawelwch meddwl i Gareth. Nid swyddogion o’r Cynulliad oedd yr unig rai i archwilio’r cynlluniau. Bu’n rhaid i’r grwpiau allanol ystyried yr hyn yr oeddent am ei ennill o’r prosiect. Rhaid inni ddibynnu ar arbenigaeth y tu allan a’r tu mewn i’r Cynulliad.

We are only at the beginning of Sure Start so let us be more positive about it. I am glad that Jenny moved on from being negative because we have kept to the programme. As you say, Sure Start links to the health improvement programmes and offers great opportunities. We must be positive that Sure Start will make a real and lasting difference to children’s lives. It is breaking new ground but we will have to monitor it. Gareth and Jonathan made that point clearly. Of course we will ensure that the money is not wasted. The programme has to be based on the plans that have been developed. It will be properly scrutinised and monitored and we will see what lessons there are for next year and the following year in terms of the larger funding allocations. We have to ensure that the plans are inclusive and that the messages we give today come across to the partnerships and local authorities that are taking the lead. I will be monitoring those partnerships to ensure that they are inclusive. I am sure there are issues that must be considered again in future. This is an exciting day—

Nid ydym ond ar ddechrau Cychwyn Cadarn felly gadewch inni fod yn fwy cadarnhaol yn ei gylch. Mae’n dda gennyf fod Jenny wedi symud ymlaen oddi wrth ei sylwadau negyddol oherwydd yr ydym wedi cadw at y rhaglen. Fel y dywedwch, mae Cychwyn Cadarn yn ymgysylltu â’r rhaglenni gwella iechyd ac yn cynnig cyfleoedd mawr. Rhaid inni gredu’n gadarnhaol y bydd Cychwyn Cadarn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau plant. Mae’n torri tir newydd ond bydd yn rhaid inni ei monitro. Gwnaeth Gareth a Jonathan y pwynt hwnnw’n eglur. Byddwn yn sicr o ofalu na wastreffir yr arian. Rhaid i’r rhaglen fod yn seiliedig ar y cynlluniau a ddatblygwyd. Caiff ei harchwilio a’i monitro’n briodol ac fe welwn ba wersi sydd i’w dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r flwyddyn wedyn o ran y dyraniadau ariannu mwy. Rhaid inni sicrhau bod y cynlluniau’n gynhwysol a bod y negeseuon a gyfleir gennym heddiw yn cyrraedd y partneriaethau a’r awdurdodau lleol sydd yn arwain. Byddaf yn monitro’r partneriaethau hynny i sicrhau eu bod yn gynhwysol. Yr wyf yn sicr y ceir materion y bydd yn rhaid eu hystyried eto yn y dyfodol. Mae heddiw’n ddiwrnod cyffrous—

Pauline Jarman spoken in English p. 78

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 78

Can I make a quick intervention?

A allaf ymyrryd yn gyflym?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

I am afraid not because the time for this debate has ended and we have half a minute for the vote. We will now vote on amendment 1.

Na ellwch, mae arnaf ofn, oherwydd mae’r amser ar gyfer y ddadl hon wedi dod i ben ac mae gennym hanner munud ar gyfer y bleidlais. Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1.

Gwelliant 1 Jenny Randerson t. 78

Amendment 1 Jenny Randerson p. 78

HeriwydChallenged Drwy ddangos dwyloShow of hands

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

I think the amendment is rejected.

Credaf fod y gwelliant wedi ei wrthod.

Jenny Randerson spoken in English p. 78

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 78

I am not sure. Could you count the hands?

Nid wyf mor sicr. A oes modd ichi gyfrif y dwylo?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

No, but if that is a challenge we will have to have a confirmatory vote.

Nac oes, ond os mai her yw honno bydd yn rhaid inni gael pleidlais gadarnhau.

Andrew Davies spoken in English p. 78

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 78

Point of order. Since the vote, several Members have returned to the Chamber, and if you have a confirmatory vote now the result will be different from before.

Pwynt o drefn. Ers y bleidlais, mae sawl Aelod wedi dychwelyd i’r Siambr, ac os cewch bleidlais gadarnhau yn awr bydd y canlyniad yn wahanol i’r hyn a gafwyd cynt.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 78

I am afraid this is always the case with divisions. We will therefore have a confirmatory vote.

yn Saesneg Felly y mae bob amser pan geir pleidleisiau, mae arnaf ofn. Fe gawn bleidlais gadarnhau felly.

O blaid 29, yn erbyn 27, ymatal 1, cyfanswm 57.

in Welsh For 29, against 27, abstained 1, total 57.

Gwelliant 1 Jenny Randerson t. 79

Amendment 1 Jenny Randerson p. 79

DerbyniwydAdopted O blaidFor 29 YmatalAbstain 1 Yn erbynAgainst 26

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (29)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (1)
  • Jane Davidson
Yn erbynAgainst (26)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

[* Cyfrifwyd pleidlais yr Aelod hwn ddwywaith yn wreiddiol. Cywirwyd hyn i bwrpas y Cofnod.]

[* The vote for this Member was originally counted twice. This has been corrected for the purpose of the Record.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 79

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 79

We will now vote on the amended motion, that

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio, sef bod

the Assembly, under section 88B of the Local Government Finance Act 1988, and in accordance with Standing Order No. 19.10, approves the Special Grant Report (No.2) (Wales) 1999, which was laid in the Table Office on 28 October 1999, but regrets that the timescale for implementing the Sure Start scheme has left local authorities with little time to spend the money allocated for the current financial year.

y Cynulliad, o dan adran 88B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac yn unol â Rheol Sefydlog 19.10, yn cymeradwyo’r Adroddiad Grant Arbennig (Rhif 2) (Cymru) 1999, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 1999 ond ei fod yn edifar nad oes llawer o amser ar ôl o fewn amserlen gweithredu’r cynllun Cychwyn Cadarn i lywodraeth leol wario’r arian a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

Cynnig Rosemary Butler t. 80

Motion Rosemary Butler p. 80

DerbyniwydAdopted Drwy ddangos dwyloShow of hands

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Dadl Fer

Short Debate

Lleihau Dyled y Byd

Relief of World Debt

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 80

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh and English p. 80

Diolch am y cyfle i drafod y mater hwn sydd o bwys rhyngwladol, sef yr angen i leihau dyled y byd. Mae’n fater sydd o bwys i Gymru. Yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad y mae’n bwysig ein bod yn trafod materion sydd o bwys i Gymru, hyd yn oed os nad oes gennym bwerau uniongyrchol i effeithio arnynt.

in Welsh Thank you for the opportunity to discuss this matter which is of international importance, namely the need to relieve world debt. It is a matter which is of importance to Wales. According to the Assembly Standing Orders it is important that we discuss maters which are important to Wales, even if we have no direct powers to affect them.

Trafodasom natur y dadleuon byr hyn yn y gorffennol. Hoffwn newid ychydig ar y drefn arferol, neu reolau sefydlog Jocelyn Davies fel y mae’r rhan fwyaf ohonom yn cyfeirio atynt, a siarad am saith munud. Wedyn bydd David Melding yn siarad am bedwar munud, Christine Humphreys am bedwar munud a minnau yn cael cyfle i gloi am saith munud gan fod llai o amser nag a ragwelwyd.

in Welsh We have discussed the nature of these short debates in the past. I would like to change the usual order a little, or the Jocelyn Davies standing orders as most of us refer to them, and speak for seven minutes. Then David Melding will talk for four minutes, Christine Humphreys for four minutes and I will have the opportunity to close for seven minutes as there is less time than anticipated.

Bydd David Melding yn ymdrin â’r hyn y gall y grŵp o wyth neu saith—mae’n dibynnu a gynhwysir Rwsia, a chan ein bod yn sefydliad gwleidyddol cynhwysol, cynhwyswn Rwsia—ei wneud mewn ymateb i’r sefyllfa. Bydd Christine Humphreys yn ymdrin â hanes a natur ymgyrchoedd Jiwbilî 2000.

in Welsh David Melding will deal with what the group of seven or eight—it depends if Russia is included, and as we are an inclusive political institution we shall include Russia—can do in response to the situation. Christine Humphreys will deal with the history and nature of Jubilee 2000 campaigns.

Byddaf yn trafod paham y dylai’r Cynulliad ddelio â’r mater rhyngwladol hwn. Codaf y mater am fod grŵp o eglwysi yn fy etholaeth wedi gofyn imi wneud hynny.

in Welsh I will discuss why the Assembly should deal with this international matter. I raise the issue because a group of churches in my constituency have asked me to do so.

Dylai’r Cynulliad fod yn fforwm gwleidyddol ar gyfer Cymru gyfan, felly y mae’n holl bwysig fod y Cynulliad yn trafod dyheadau pobl Cymru a’r hyn sydd yn gonsýrn iddynt.

in Welsh The Assembly should be a political forum for the whole of Wales, therefore it is critical that the Assembly discusses the aspirations of people in Wales and what is of concern to them.

Mae 250,000 o Gymry wedi cefnogi ymgyrchoedd Jiwbilî 2000 mewn rhyw ffordd neu gilydd. Roedd hynny’n cynnwys ffurfio dwy gadwyn fawr: 1000 o bobl yng Nghaerdydd a 1,500 o amgylch castell Caernarfon. Mae cant o fudiadau yn cefnogi ymgyrch Jiwbilî 2000 ac mae hynny yn cynrychioli 800,000 o bobl yng Nghymru. Mae’r egwysi a nifer o fudiadau eraill wedi bod yn ganolog i’r ymgyrchoedd.

in Welsh In Wales, 250,000 people have supported Jubilee 2000’s campaigns in one way or another. That included forming two large human chains: 1000 people in Cardiff and 1,500 around Caernarfon castle. A hundred movements support the Jubilee 2000 campaign and that represents 800,000 people in Wales. Churches and other movements have been central to the campaigns.

Ar 23 Medi datganodd yr Arlywydd Bill Clinton ei fod yn bwriadu dileu, yn unochrog, gant y cant o’r $5.7 biliwn o ddyled sydd gan wledydd tlotaf y byd i Unol Daleithiau America. Ein dadl ni yw y dylai Prydain fynd ymhellach na hyn, a dileu gant y cant y $2.6 biliwn o ddyled sydd gan wledydd tlota’r byd i Brydain. Byddai hyn yn caniatáu i’r gwledydd hyn y rhyddid i ddefnyddio eu harian a’u hadnoddau i adeiladu ysgolion ac ysbytai ac i sicrhau pethau sylfaenol fel dŵr glân. Cymerwn y pethau hyn yn ganiataol yng Nghymru. Pam na ddylai pobl eraill gael yr un hawliau?

in Welsh On 23 September President Bill Clinton stated that he intended to abolish, unilaterally, hundred per cent of the $5.7 billion debt owed by the world’s poorest countries to the United States of America. Our argument is that Britain should go further than this, and abolish hundred per cent of the $2.6 billion debt owed by the world’s poorest countries to Britain. That would allow those countries the freedom to use their money and resources to build schools and hospitals and to ensure basics such as clean water. We take such things for granted in Wales. Why should other people not have the same rights?

Mae’n bwysig ein bod yn trafod pobl—pobl fel ni. Mae cadwyn yr ymgyrch yn sôn am y cysylltiad rhwng gwahanol wledydd, pobloedd a diwylliannau’r byd. Mae hefyd yn sôn am gaethiwed. Mae pobl yn dioddef caethiwed gwirioneddol yn y byd heddiw. Gadewch i ni fod yn onest: yr ydym ni yn manteisio ar y caethiwed hwn er mwyn ein mantais a’n helw ein hunain a’n ffordd gysurus ni o fyw yng Nghymru. A allwn ni ganiatáu i’r fath sefyllfa fodoli? A allwn ni fod yn rhydd tra bo eraill yn gaeth? Yr ydym yn trafod cynaliadwyedd yn y Cynulliad. A allwn ni drafod cynaliadwyedd yng Nghymru mewn byd sydd yn anghynaliadwy? Soniwn yn aml am ddieithrwch cymdeithasol yn y Cynulliad. A allwn ni ddioddef sefyllfa lle mae dieithrwch cymdeithasol yn golygu marwolaeth?

in Welsh It is important that we discuss people—people like us. The chain of the campaign notes the connection between the world’s different countries, people and cultures. It also mentions servitude. People suffer real servitude in the world today. Let us be honest: we take advantage of this servitude for our own means and gains and our comfortable way of life in Wales. Can we allow such a situation to exist? Can we be free when others are in servitude? We discuss sustainability in the Assembly. Can we discuss sustainability in Wales in an unsustainable world? We often discuss social exclusion in the Assembly. Can we tolerate a situation where social exclusion means death?

Yr ydym yn ddinasyddion y byd. Mae gennym gyfrifoldeb i drafod y materion hyn ac i fynegi barn. Pa mor hir y mae mwyafrif poblogaeth y byd yn mynd i ddioddef sefyllfa mor anghyfiawn â hyn? Mae hon yn sefyllfa gwbl anghynaliadwy. Gallai hyn greu gwrthdrawiad a allai fod yn ddinistriol i hanes ein byd.

in Welsh We are citizens of the world. We have a responsibility to discuss these matters and to voice our opinion. How long will the majority of the world’s population tolerate such an unjust situation? It is a totally unsustainable situation. This could create conflict that could be destructive to the history of our planet.

Mae adroddiad diweddar gan Gymorth Cristnogol yn dangos yn glir ein cyfrifoldeb ni yn y mater hwn. Y gwledydd cyfoethog sydd yn llosgi mwyafswm y carbon, a’r gwledydd tlawd sydd yn talu’r pris. Mae’r seiclon diweddar yn yr India yn ein gorfodi i ofyn i ba raddau mae ein ffordd ni o fyw yn creu’r newid yn yr hinsawdd sydd yn achosi dioddefaint ac yn gadael pobl mewn tlodi ac angen erchyll. Nid eu problem hwy yw hon, ond ein problem ni i gyd.

in Welsh A recent report by Christian Aid clearly illustrates our responsibility in this mater. The wealthy countries burn the majority of carbon, while the poor countries pay the price. The recent cyclone in India forces us to ask to what extent our way of life creates the climatic change that causes suffering and leaves people in poverty and terrible need. That is not their problem, it is a problem for all of us.

Yr ydym yng nghanol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd. Mae rhai ohonom wedi mwynhau’r gemau—rhai gemau yn fwy na’i gilydd. Mae rhai ohonom wedi cael y fantais o fod yno. Cofiwn am y bobl a’r plant sydd yn cael eu defnyddio i gynhyrchu’r peli rygbi ar gyfer ein mwynhad ni.

in Welsh We are in the middle of the Rugby World Cup tournament. Some of us have enjoyed the games—some games more than others. Some of us have had the advantage of being there. We remember the people and children who are used to manufacture the rugby balls for our enjoyment.

Ai byd felly y mae arnom ei eisiau, neu a oes gennym gyfrifoldeb yn y math hwn o sefyllfa? Mae pob math o ddulliau y gallwn eu defnyddio i’n hesgusodi ein hunain rhag gwneud dim yn y sefyllfa hon. Cofiwn y geiriau hynny, a dyfodd yn ystrydeb, mai’r unig beth sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw pobl dda yn gwneud dim. Yr wyf yn siŵr bod Rhodri, yn y cyfarwyddyd a dderbyniodd, wedi cael llu o resymau dros beidio â dileu’r ddyled hon, ond dyna realiti peidio â gwneud dim. Gorffennaf yn awr er mwyn i eraill gael cyfle i fynegi eu barn, er bod llawer mwy y gallwn ei ddweud.

in Welsh Is that the kind of world that we want, or do we have a responsibility in this kind of situation? There are all kinds of ways in which we can excuse ourselves from not doing anything in this situation. Let us remember the words that have become a cliché, that all that is needed for evil to succeed is for good people to do nothing. I am sure that Rhodri, in the briefing that he received, has been given a list of reasons for not writing off this debt, but that is the reality of not doing anything. I will close now so that others can have a chance to express their views, although there is much more that I could say.

In closing, I refer to a speech delivered by Oscar Arias, former President of Costa Rica and Nobel Peace Prize winner, at the Welsh Centre for International Affairs on 18 June. Steven Thomas from the centre is here today. Oscar Arias refers to a translation of the poem ‘Afallon’ by T. Gwynn Jones, saying:

yn Saesneg Wrth gloi, cyfeiriaf at araith a draddodwyd gan Oscar Arias, cyn-Arlywydd Costa Rica ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel, yng Nghanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol ar 18 Mehefin. Mae Steven Thomas o’r ganolfan honno yma heddiw. Cyfeiriodd Oscar Arias at gyfieithiad o’r gerdd ‘Afallon’ gan T. Gwynn Jones, gan ddweud:

‘At the beginning of this century the Welsh poet T. Gwynn Jones eloquently expressed the most earnest and hopeful moral ambitions of the Welsh people. He described a land that now exists only in myth, but that might yet be seen on this Earth. He told us that:

In that land of blessedness, old dreams Have erased the pain of myriad ages And kept alive the ancient longings. There, in that golden place, clings aspiration Untouched by loss of faith Or by the ravages of time or blackened heart.

Every song of hope is fervent! And to every wish comes strength With power to make the needed change Resting on a sure foundation. While that hope lasts there is no ageing, But a life-giving, lasting breeze.’

Truly, the challenges we face are daunting, but I hope that we can build the utopia that T. Gwynn Jones describes, even within a world in turmoil.

yn Saesneg Mae’r heriau a wynebwn yn wirioneddol frawychus, ond gobeithiaf y gallwn adeiladu’r wtopia a ddisgrifir gan T. Gwynn Jones, hyd yn oed yn y byd helbulus hwn.

Cynog Dafis tabled a statement of opinion asking us to support the Jubilee 2000 campaign. It was signed by less than half the Members of this Assembly. When the statement is re-tabled tomorrow, I hope that all Assembly Members will sign it so that they can tell Ben Gregory, Jeff Williams and Tom Defis who are here today from Christian Aid, that they support this very important campaign on behalf of the people of Wales.

yn Saesneg Mae Cynog Dafis wedi cyflwyno datganiad o farn sydd yn gofyn inni gefnogi ymgyrch Jiwbilî 2000. Fe’i llofnodwyd gan lai na hanner Aelodau’r Cynulliad hwn. Pan ailgyflwynir y datganiad yfory, gobeithiaf y bydd holl Aelodau’r Cynulliad yn ei lofnodi fel y gallant ddweud wrth Ben Gregory, Jeff Williams a Tom Defis sydd yma heddiw o Gymorth Cristnogol eu bod yn cefnogi’r ymgyrch bwysig hon ar ran pobl Cymru.

David Melding spoken in English p. 83

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 83

They say the devil can quote scripture but I never thought I would hear a Plaid Cymru spokesperson quote Edmund Burke, when he states that all that is required for evil to prosper is for good men to do nothing. I add the Conservative Group’s support to the efforts to reduce the world debt owed by the poorest countries.

Dywedant fod y diafol yn gallu dyfynnu o’r ysgrythurau ond ni feddyliais erioed y clywn lefarydd ar ran Plaid Cymru’n dyfynnu Edmund Burke, pan ddywed mai’r unig beth sydd ei angen i ddrygioni lwyddo yw i bobl dda wneud dim. Ychwanegaf gefnogaeth y Grŵp Ceidwadol i’r ymdrechion i leihau dyled y byd y gwledydd tlotaf.

Many practical measures could be taken by G7. If there is one gleam of hope in this issue it is that most of the debt owed by the poorest countries in the world is owed to governments or multi-lateral agencies like the International Monetary Fund, therefore it is an easy form of debt to cancel. Commercial debt is obviously a much more difficult nut to crack, but if there is the political will, the G7 could move and act practically. All G7 countries should match President Clinton’s commitment to cancel export credit debt, the Labour Government has not yet done so; I hope it makes that commitment soon.

Gallai G7 gymryd llawer o gamau ymarferol. Os oes un llygedyn o obaith yn y mater hwn, y ffaith bod y rhan fwyaf o ddyled gwledydd tlotaf y byd yn ddyledus i lywodraethau neu asiantaethau amlochrog fel y Gronfa Ariannol Ryngwladol yw hwnnw, felly mae’n ffurf ar ddyled y gellir ei diddymu’n rhwydd. Mae’n amlwg bod dyled fasnachol yn broblem fwy dyrys o lawer, ond os oes ewyllys gwleidyddol i wneud hynny, fe allai G7 weithredu’n ymarferol. Dylai holl wledydd G7 ddilyn ymrwymiad yr Arlywydd Clinton i ddileu dyled o gredydau allforio. Nid yw’r Llywodraeth Lafur wedi gwneud hynny eto; gobeithiaf y bydd yn ymrwymo felly cyn hir.

However, too much emphasis is placed on past economic performance. The future economic performance of these countries is an important factor, but to restrain them by saying that they must reform their economic practices for three to six years, is not a practical way to start debt relief. As Jubilee 2000 stated, this emphasis on past performances is:

Fodd bynnag, rhoddir gormod o bwyslais ar berfformiad economaidd y gorffennol. Mae perfformiad economaidd y gwledydd hyn yn y dyfodol yn ffactor pwysig, ond mae cyfyngu arnynt drwy ddweud bod yn rhaid iddynt ddiwygio eu harferion economaidd ymhen tair i chwe blynedd yn ddull anymarferol i ddechrau eu rhyddhau oddi wrth ddyled. Fel y dywedwyd gan Jiwbilî 2000, mae’r pwyslais hwn ar berfformiad yn y gorffennol:

‘rather like asking a patient on the critical list to sprint around the hospital in order to qualify for his life-saving operation.’

We must look forward and get the poorest countries to sign up to using the money saved on debt service for education and social and health programmes. If they make that future commitment we should forgive their past economic performances. That would advance the cause. Our overall aim must be to eradicate absolute poverty. This Government, like the previous one, has committed itself to that task. It requires debt relief, fair trade and innovative aid policies.

Rhaid inni edrych ymlaen a dwyn perswâd ar y gwledydd tlotaf i gytuno i ddefnyddio’r arian a arbedir ar gynnal dyledion ar gyfer addysg a rhaglenni cymdeithasol a iechyd. Os ymrwymant felly ar gyfer y dyfodol dylem faddau iddynt am eu perfformiad economaidd yn y gorffennol. Byddai hynny’n hwb i’r achos. Y nod gyffredinol o reidrwydd yw dileu tlodi diamod. Mae’r Llywodraeth hon, fel yr un o’i blaen, wedi ymrwymo i’r dasg honno. Mae hynny’n gofyn am ryddhad oddi wrth ddyled, masnachu teg a pholisïau cymorth arloesol.

Christine Humphreys spoken in English p. 84

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 84

I am grateful for the opportunity to speak and to highlight the relevance of this debate as we enter the final months of this millennium. It is also an appropriate time to examine how Jubilee 2000 came into existence and the reason for its name.

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i siarad ac i dynnu sylw at berthnasedd y ddadl hon wrth inni ddod i fisoedd olaf y mileniwm hwn. Mae hefyd yn adeg briodol i edrych ar y modd y daeth Jiwbilî 2000 i fodolaeth a’r rheswm dros ei enw.

Third World charities like Oxfam, Debt Crisis Network, Christian Aid and others were concerned even in the 1980s about the increasing burden of debt on countries already crippled by poverty. These organisations monitored the situation but their work on eradicating debt in the world’s developing countries was done virtually in isolation. Charities working in coalition was the vision of Martin Dent, a professor at Keele University who has worked in Nigeria, is a devout Christian and a descendant of campaigners for the abolition of slavery and is, incidentally, a Liberal Democrat. As a committed Christian, he not only had the vision to work for a co-ordinated approach to world poverty but also had the vision to tie up the campaign with the turn of the millennium.

Yr oedd elusennau’r Trydydd Byd fel Oxfam, Debt Crisis Network, Cymorth Cristnogol ac eraill yn bryderus yn y 1980au hyd yn oed am faich cynyddol y ddyled ar wledydd a oedd wedi eu handwyo gan dlodi eisoes. Yr oedd y mudiadau hyn yn monitro’r sefyllfa ond yr oedd gwaith pob un ar ddileu dyled yng ngwledydd datblygol y byd yn digwydd ar wahân i bob pwrpas. Mae’r weledigaeth o gael yr elusennau i gydweithio yn eiddo i Martin Dent, athro ym Mhrifysgol Keele sydd wedi gweithio yn Nigeria, sydd yn Gristion selog ac yn ddisgynydd i rai a ymgyrchodd dros wahardd caethwasiaeth ac sydd, fel y mae’n digwydd, yn Ddemocrat Rhyddfrydol. Fel Cristion ymrwymedig, yr oedd ganddo’r weledigaeth i weithio dros ymagwedd gydlynol at dlodi’r byd a’r weledigaeth hefyd i gysylltu’r ymgyrch â throad y mileniwm.

The concept of a jubilee is found in the Old Testament. Under the law of the land, a jubilee was held at the end of each half century, when slaves were freed, their debts remitted and their land returned.

Fe geir y syniad o jiwbilî yn yr Hen Destament. O dan gyfraith y tir, cynhelid jiwbilî ar ddiwedd pob hanner canrif, a’r adeg honno câi caethweision eu rhyddhau, fe ddileid eu dyledion ac adferid iddynt eu tir.

At the end of this half century, marking the end of this millennium and the beginning of the year 2000, Jubilee 2000 seeks to encourage the developed world to remit the debt of those in dire poverty.

Ar ddiwedd yr hanner canrif hwn, sydd yn nodi diwedd y mileniwm hwn a dechrau’r flwyddyn 2000, mae Jiwbilî 2000 yn ceisio annog y byd datblygedig i ddileu dyled y rhai sydd mewn tlodi enbyd.

Martin Dent, working in conjunction with others, including Peters, a retired High Commissioner in west Africa, succeeded in bringing organisations together to form what is now a world-wide coalition. All Third World charities, all churches and organisations ranging from the Women’s Institute to the Trades Union Congress support the Jubilee 2000 aims.

Llwyddodd Martin Dent, ar y cyd ag eraill, yn cynnwys Peters, Uchel Gomisiynydd wedi ymddeol yng ngorllewin Affrica, i ddod â mudiadau at ei gilydd er mwyn ffurfio’r hyn sydd bellach yn glymblaid fyd-eang. Mae holl elusennau’r Trydydd Byd, yr holl eglwysi a mudiadau sydd yn amrywio o Sefydliad y Merched i Gyngres yr Undebau Llafur yn cefnogi amcanion Jiwbilî 2000.

Next year marks the G8 summit in Okinawa, Japan when the world’s richest countries meet. These are all major creditors and control most of the IMF’s and the World Bank’s voting power. Above all, they have the power to cancel debts. Sunday, 23 July 2000 is the final day of the millennium G8 summit. That is when the world is offered the once in a lifetime opportunity to help poor countries to break free from the debts that enslave them. However, there is still work to be done before July 2000.

Y flwyddyn nesaf cynhelir uwchgynhadledd G8 yn Okinawa, Japan pan gyferfydd gwledydd cyfoethocaf y byd. Mae pob un o’r rhain yn gredydwyr o bwys ac yn rheoli’r rhan fwyaf o bŵer pleidleisio’r Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd. Yn fwy na neb, mae ganddynt awdurdod i ddileu dyledion. Dydd Sul, 23 Gorffennaf 2000 yw diwrnod olaf uwchgynhadledd mileniwm G8. Dyna pryd y cynigir cyfle unwaith ac am byth i’r byd helpu gwledydd tlawd i dorri’n rhydd oddi wrth y dyledion sydd yn eu caethiwo. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd cyn Gorffennaf 2000.

We have raised awareness of this issue through this debate, which I am sure has cross-party support. We need such debates in order to put pressure on the Government to continue applying pressure internationally to ensure that the beginning of a new millennium marks a jubilee for the inhabitants of the world’s poorer countries.

Yr ydym wedi codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn drwy’r ddadl hon, a gefnogir gan yr holl bleidiau, yr wyf yn siŵr. Mae arnom angen dadleuon o’r fath er mwyn pwyso ar y Llywodraeth i barhau i roi pwysau’n rhyngwladol er mwyn sicrhau y bydd dechrau mileniwm newydd yn nodi jiwbilî i drigolion gwledydd tlotaf y byd.

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 85

Rhodri Morgan spoken in Welsh and English p. 85

Diolchaf i Rhodri Glyn ar ran pawb yma am godi’r pwynt hwn heddiw. Mae pawb yn cydymdeimlo â’i ddadl ac yn cefnogi’r ymgyrch i ddileu dyledion gwledydd tlotaf y byd, yn enwedig y gwledydd hynny sydd yn dlawd o achos eu dyledion. Gelwir y grŵp hwn o wledydd yn HIPCs, sef y gwledydd tlawd sydd â dyledion trwm. Felly, beth yw’r ffordd orau o ddileu’r dyledion hyn? Maent yn tagu’r gwledydd ac yn eu rhwystro rhag tyfu a dianc o’u tlodi.

in Welsh I thank Rhodri Glyn on behalf of everyone here for raising this point today. Everyone sympathises with his debate and supports the campaign to cancel the debts of the poorest countries in the world, especially those countries that are poor because of their debts. This group of countries is called HIPCs, the heavily indebted poor countries. Therefore, what is the best way of cancelling these debts? They are choking these countries, preventing them from growing and escaping from their poverty.

This is what you could call a global Objective 1 programme. Around 30 of the poorest countries in the world have the opportunity to start to recover from their problems through an 80 or 90 per cent or full cancellation of their debts. However, should this be done unconditionally or with conditions? Much reference has already been made to Bill Clinton’s dramatic gesture earlier this year. He stated that he was willing to cancel 100 per cent of the eligible inter-governmental debt of the heavily indebted poor countries group, around 36 countries. Many of you have questioned whether Britain should do exactly the same or whether it should take its own counsel and decide on action similar but not necessarily exactly the same as that of the USA.

yn Saesneg Gallech alw hyn yn rhaglen Amcan 1 fyd-eang. Mae cyfle i dua 30 o wledydd tlotaf y byd ddechrau goresgyn eu problemau drwy ddileu 80 neu 90 y cant neu’r cwbl o’u dyledion. Fodd bynnag, a ddylid gwneud hyn yn ddiamod neu o dan amodau? Cyfeiriwyd yn aml at arwydd dramatig Bill Clinton yn gynharach eleni. Dywedodd ei fod yn barod i ddileu 100 y cant o ddyled rynglywodraethol gymwys y grŵp o wledydd tlawd sydd â dyledion trwm, tua 36 o wledydd. Mae llawer ohonoch wedi holi a ddylai Prydain wneud yn union yr un fath ynteu a ddylai ystyried ei sefyllfa a phenderfynu ar gamau sydd yn debyg ond nid o reidrwydd yr un fath â rhai UDA.

The British Government has also decided that it will also offer 100 per cent debt relief. However, that is conditional on the countries being at a particular stage of their programmes. Namely, that they should devote their government expenditure priorities towards poverty relief in their own countries as well as the protection of key social programmes such as health, education and clean water. That would ensure that they were moving in the right direction. We could debate whether this should be conditional or unconditional for a very long time. However, it is clear that the USA and UK Governments have taken a lead in trying to pressurise other countries into cancelling 100 per cent of debt.

yn Saesneg Penderfynodd Llywodraeth Prydain hefyd y bydd hefyd yn cynnig 100 y cant o ryddhad oddi wrth ddyled. Fodd bynnag, mae hynny’n amodol ar y gofyniad i’r gwledydd fod ar bwynt penodol yn eu rhaglenni, sef y dylent gyfeirio blaenoriaethau gwariant eu llywodraeth at ryddhad oddi wrth dlodi yn eu gwledydd eu hunain yn ogystal â diogelu rhaglenni cymdeithasol allweddol fel iechyd, addysg a dŵr glân. Byddai hynny’n sicrhau eu bod yn symud i’r cyfeiriad iawn. Gallem drafod yn hir iawn a ddylai hyn fod yn amodol ynteu’n ddiamod. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod llywodraethau UDA a’r DU wedi achub y blaen wrth geisio rhoi pwysau ar wledydd eraill i ddileu 100 y cant o’r ddyled.

Progress has been made. It is partially a matter of people seeing that there is no point of trying to get blood out of a stone. Sometimes, we mean literally blood out of a stone when there is no chance of securing repayment of debt unless countries are given breathing space. There is then the question of whether countries should enter into a six-year revision programme of their public finances or a programme of three years before they can have 100 per cent debt relief, as is the case now. In this matter, 1999 has been a good year. Christine Humphreys alluded to some of the reasons for that.

yn Saesneg Fe gafwyd cynnydd. Mae’n rhannol yn fater o gael pobl i weld nad oes diben ceisio tynnu gwaed o garreg. Weithiau, yr ydym yn golygu tynnu gwaed o garreg yn llythrennol pan nad oes gobaith o sicrhau ad-dalu dyled oni bai fod y gwledydd yn cael amser i gael eu gwynt atynt. Cyfyd y cwestiwn wedyn a ddylai’r gwledydd ddechrau ar raglen adolygu chwe-blynedd ar eu cyllid cyhoeddus neu raglen dair-blynedd cyn y gallant gael rhyddhad o 100 y cant ar eu dyled, fel sydd yn digwydd yn awr. Yn hyn o beth, fe fu 1999 yn flwyddyn dda. Cyfeiriodd Christine Humphreys at rai o’r rhesymau am hynny.

There is pressure on everybody as they think of the year 2000 to give those with overwhelming problems a fresh start. Why not use the turn of the millennium as a time to think of giving those countries with problems unimaginable to us a fresh start? Much pressure has come from the G7, International Monetary Fund and World Bank meetings, which took place earlier this summer. They all point in the same direction. Therefore, we are not necessarily pushing at an open door but we are pushing in the right direction. Some countries are not as keen as the USA and the UK. I want to compliment all of those in the voluntary organisations that have been referred to already.

yn Saesneg Mae yna bwysau ar bawb wrth feddwl am y flwyddyn 2000 i roi cychwyn newydd i’r rhai sydd â phroblemau llethol. Pam na ddylid defnyddio troad y mileniwm fel adeg i ystyried rhoi cychwyn newydd i’r gwledydd hynny sydd â phroblemau sydd y tu hwnt i’n dirnadaeth ni? Daeth llawer o bwysau o gyfarfodydd G7, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd, a gynhaliwyd yn gynharach yn yr haf eleni. Maent oll yn pwyntio i’r un cyfeiriad. Felly, nid ydym o reidrwydd yn pwyso ar ddrws agored ond yr ydym yn pwyso i’r cyfeiriad iawn. Ceir rhai gwledydd nad ydynt mor awyddus ag UDA a’r DU. Talaf deyrnged i bawb yn y mudiadau gwirfoddol y cyfeiriwyd atynt eisoes.

Mae Jiwbilî 2000 yn cynrychioli’r eglwysi, mudiadau gwirfoddol a phobl nad ydynt yn aelodau o unrhyw enwad, eglwys, crefydd na chymdeithas wirfoddol, ond yn bobl gyffredin o bob rhan o Gymru, Prydain Fawr a’r byd. Yr ydym wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yng nghyfarfodydd blynyddol Banc y Byd yn Cologne yn ystod yr haf.

in Welsh Jubilee 2000 represents churches, voluntary organisations and people that are not members of any denomination, church, religion or voluntary organisation, but are the ordinary people from throughout Wales, Great Britain and the world. We have seen what happened in the annual meeting of the World Bank in Cologne during the summer.

It is important that voluntary groups throughout Wales—and Wales has a proud record of voluntary groups—keeps the pressure up. Governments, the international community and the financial community will then respond.

yn Saesneg Mae’n bwysig bod grwpiau gwirfoddol ym mhob cwr o Gymru—ac mae gan Gymru record anrhydeddus o ran grwpiau gwirfoddol—yn parhau i bwyso. Bydd llywodraethau, y gymuned ryngwladol a’r gymuned ariannol yn ymateb wedyn.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 87

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 87

Diolch am ddod â’n trafodaethau i ben ar nodyn rhyngwladol. Dyna ddiwedd y sesiwn heddiw a diolchaf i’r Aelodau am eu cydweithrediad.

Thank you for bringing our discussions to an end on an international note. That brings today’s session to a close and I thank Members for their co-operation.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.32 p.m.

The session ended at 5.32 p.m.