Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 1999

Tuesday 14 December 1999

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:34

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Datganiad gan y LlywyddStatement by the Presiding Officer
  2. 3Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 3Gohebiaeth ynglŷn â Materion DatganoledigCorrespondence on Devolved Matters
    2. 5Cynhwysiant Cymdeithasol (Ffigurau Aros)Social Inclusion (Waiting Figures)
    3. 8Cronfeydd StrwythurolStructural Funds
    4. 11Cryfhau Rôl Pwyllgorau’r CynulliadStrengthening the Role of Assembly Committees
    5. 14Arian Cyfatebol (Grant Bloc Cymru)Match Funding (Welsh Block Grant)
    6. 15Lefelau Troseddau mewn Ardaloedd GwledigCrime Levels in Rural Areas
  3. 17Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  4. 19Datganiad ar Fyg y MileniwmStatement on the Millennium Bug
  5. 25Datganiad BusnesBusiness Statement
  6. 29Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  7. 30Y Cynllun Datblygu GwledigThe Rural Development Plan 4 o bleidleisiau4 votes
  8. 73Deddf Safonau Bwyd 1999Food Standards Act 1999 1 bleidlais1 vote
  9. 79Dadl FerShort Debate
    1. 79Cysylltiadau Trafnidiaeth Rhwng y Gogledd a’r DeNorth-South Transport Links

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Y Cynllun Datblygu GwledigThe Rural Development Plan
Gwelliant 1Amendment 14800DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 24800DerbyniwydAdopted
Gwelliant 3Amendment 34800DerbyniwydAdopted
CynnigMotion4700DerbyniwydAdopted
Deddf Safonau Bwyd 1999Food Standards Act 1999
CynnigMotion28017DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd

Statement by the Presiding Officer

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Tynnaf sylw Aelodau at gyfarwyddyd a fydd yn ymddangos ar y fewnrwyd ynglŷn â ffurfio grwpiau holl bleidiol. Gosodais y wybodaeth hon ar y fewnrwyd er gwybodaeth, er mwyn ceisio esbonio rôl a phwrpas grwpiau o’r fath ac i wneud rhai awgrymiadau ynglŷn â’r modd y gall y grwpiau hyn weithio o fewn amserlen swyddogol busnes y Cynulliad.

I draw Members’ attention to guidelines which will appear on the intranet regarding the formation of all-party groups. I placed this information on the intranet for information, to try to explain the role and purpose of such groups and to make some suggestions about the way these groups can work within the official timetable of Assembly business.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Gohebiaeth ynglŷn â Materion Datganoledig

Correspondence on Devolved Matters

Q1 David Davies spoken in English p. 3

C1 David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

Will the First Secretary allow Assembly Secretaries to answer correspondence from Welsh Members of Parliament on devolved matters that fall within their portfolios? (OAQ2622)

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ganiatáu i Ysgrifenyddion y Cynulliad ateb gohebiaeth oddi wrth Aelodau Seneddol Cymru ynghylch materion datganoledig sydd o fewn eu portffolio? (OAQ2622)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

You asked an almost identical question on 12 November and in my reply to that I explained in detail the practice I adopt on answering correspondence from MPs. Assembly Secretaries generally reply to correspondence which they receive from MPs. The occasions when I might respond instead are when letters are written in a Ministerial capacity from other Government departments, where the letters concern issues of particular sensitivity or an issue which falls within my direct responsibilities or where I have been involved personally, or when the relevant Assembly Secretary is not available. I hope this clarifies the matter once and for all.

Gofynasoch gwestiwn oedd bron yn union yr un fath ar 12 Tachwedd ac yn fy ymateb i hwnnw eglurais yn fanwl yr ymarfer a ddilynaf wrth ateb gohebiaeth oddi wrth Aelodau Seneddol. Fel arfer mae Ysgrifenyddion y Cynulliad yn ateb gohebiaeth a dderbyniant oddi wrth Aelodau Seneddol. Yr unig achlysuron pan allwn ateb yn eu lle yw pan ysgrifennir llythyrau gan rai yn rhinwedd eu swydd fel Gweinidog o adrannau eraill o’r Llywodraeth, pan mae’r llythyrau’n ymwneud â materion arbennig o sensitif neu fater sydd oddi mewn i’m cyfrifoldebau uniongyrchol neu pan fûm yn gysylltiedig yn bersonol, neu pan nad yw’r Ysgrifennydd Cynulliad perthnasol ar gael. Gobeithiaf y bydd hyn yn egluro’r mater unwaith ac am byth.

David Davies spoken in English p. 3

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 3

You did not clarify the matter because, as I said to you before, I have a copy of a letter which relates to a crash barrier on the Raglan road. This is only of importance to those who live in the area. I have seen copies of other letters to other Secretaries about different subjects and they could have all been answered by the relevant Assembly Secretary. How does the First Secretary expect us to have confidence in the abilities of his Assembly Secretaries if he does not allow them to answer simple letters from backbench MPs?

Nid oeddech wedi egluro’r mater oherwydd, fel y dywedais wrthych o’r blaen, mae gennyf gopi o lythyr sydd yn ymwneud â chlwyd ddiogelwch ar ffordd Rhaglan. Nid yw hyn ond o bwys i’r rhai sydd yn byw yn yr ardal. Gwelais gopïau o lythyrau eraill at Ysgrifenyddion eraill ynghylch pynciau gwahanol a buasai modd iddynt oll gael eu hateb gan yr Ysgrifennydd Cynulliad perthnasol. Sut y mae’r Prif Ysgrifennydd yn disgwyl inni ymddiried yng ngallu ei Ysgrifenyddion Cynulliad os nad yw’n caniatáu iddynt ateb cwestiynau syml oddi wrth Aelodau Seneddol o’r meinciau cefn?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

I understand the first part of your question now. You are trying to create a mythology and include a cunning Conservative Central Office plug-in at the end. It is complete nonsense. I have confidence in my Cabinet colleagues, which is why they act responsibly within their briefs. We also work effectively as a team. I do not recall the letter to which you refer. If the matter was causing you such worry, you should have raised it with me in private. I think the letter may have been related to a road issue which was raised with me by the Secretary of State for Wales. When the letter came from another MP it was one which I had already dealt with in correspondence. Therefore, it falls within the explanation that I have given.

Deallaf ran gyntaf eich cwestiwn yn awr. Yr ydych yn ceisio creu mytholeg ac yn cynnwys stori gyfrwys barod o Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr ar y diwedd. Nonsens llwyr ydyw. Mae gennyf hyder yn fy nghydweithwyr yn y Cabinet, a dyna pam y maent yn gweithredu’n gyfrifol oddi mewn i’w briff. Yr ydym hefyd yn gweithio’n effeithiol fel tîm. Ni chofiaf y llythyr y cyfeiriwch ato. Os oedd y mater yn peri cymaint o ofid i chi, dylasech fod wedi ei godi gyda mi’n breifat. Credaf ei bod yn bosibl bod y llythyr yn gysylltiedig â mater ffyrdd a godwyd gyda mi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Pan ddaeth y llythyr oddi wrth Aelod Seneddol arall yr oedd yn un yr oeddwn eisoes wedi ymdrin ag ef mewn gohebiaeth. Felly, mae’n dod o fewn yr eglurhad a roddais.

Janet Davies spoken in English p. 4

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 4

In this age obsessed with quality standards, does the First Secretary believe that a framework should be established requiring Assembly Secretaries to reply to correspondence from fellow Assembly Members and members of the public within an agreed period of time? This is in view of the fact that Cymdeithas yr Iaith Gymraeg received a reply from Rosemary Butler after six months and seven letters.

Yr yr oes hon sydd ag obsesiwn â safonau ansawdd, a yw’r Prif Ysgrifennydd yn credu y dylid sefydlu fframwaith i’w gwneud yn ofynnol i Ysgrifenyddion Cynulliad ymateb i ohebiaeth oddi wrth gyd-Aelodau Cynulliad ac aelodau o’r cyhoedd o fewn cyfnod amser a gytunir? Mae hyn yn wyneb y ffaith fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn ateb oddi wrth Rosemary Butler ar ôl chwe mis a saith llythyr.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

I agree with that point. There are quality targets set for the Assembly and for Assembly Secretaries as there has always been for Ministers in Government departments. I am able to make a comparison with the situation in the Welsh Office. There is a massive difference between the amount of correspondence received from 60 Members in the Assembly and the amount that Ministers previously received from MPs. The range and detail of correspondence from Assembly Members is massive. There have been occasions where the time taken to provide answers has been unacceptable. Sometimes that has been because there has been genuine discussion about an issue; sometimes it is because it has taken time to get information: on occasion, the system has not been able to cope with the demand. The Permanent Secretary, the Business Secretary and I am concerned about this. In the light of recent experience, new processes are being implemented to try to avoid this, because we want to provide an improved service. It is frustrating for us when we are unable to answer correspondence quickly. Sometimes, we would have liked to answer and, perhaps, could have answered, a piece of correspondence quicker. I accept that there is a problem and we will do our best to overcome it.

Cytunaf â’r pwynt hwnnw. Pennir targedau ansawdd ar gyfer y Cynulliad ac Ysgrifenyddion Cynulliad fel y gwneir erioed ar gyfer Gweinidogion mewn adrannau o’r Llywodraeth. Gallaf gymharu hyn a’r sefyllfa yn y Swyddfa Gymreig. Mae gwahaniaeth aruthrol rhwng swm yr ohebiaeth a dderbynnir oddi wrth 60 Aelod yn y Cynulliad a’r swm yr oedd y Gweinidogion yn arfer ei dderbyn oddi wrth Aelodau Seneddol. Mae amrediad a manylder yr ohebiaeth oddi wrth Aelodau Cynulliad yn aruthrol. Bu achlysuron pan oedd yr amser a gymerwyd i ddarparu atebion yn annerbyniol. Rheswm am hynny weithiau oedd bod trafodaeth wirioneddol wedi digwydd ynghylch rhyw fater; ac weithiau am ei bod wedi cymryd amser i gael gwybodaeth: ar brydiau, nid yw’r system wedi gallu dygymod â’r galw. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, y Trefnydd a minnau’n bryderus ynghylch hyn. Yng ngoleuni profiad diweddar, mae prosesau newydd yn cael eu gweithredu er mwyn ceisio osgoi hyn, oherwydd yr ydym am ddarparu gwasanaeth gwell. Teimlwn yn anniddig pan na allwn ateb gohebiaeth yn gyflym. Weithiau, buasem wedi hoffi ateb llythyr ynghynt, ac efallai y buasem wedi gallu gwneud hynny. Derbyniaf fod problem a gwnawn ein gorau i’w goresgyn.

Carwyn Jones spoken in English p. 5

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 5

A written question tabled on 12 November asked the same question as this, with only slightly different wording. It was answered. It was tabled again on 30 November for oral answer, and another answer was given. Now the same question is being asked a third time. Given the cost of producing three different answers to the same question—I must stress that all three were asked by the same Member, David Davies—does this not represent a waste of taxpayers’ money?

Yr oedd cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd yn gofyn yr un cwestiwn â hyn, a’r geiriau ond ychydig yn wahanol. Fe’i hatebwyd. Cyflwynwyd ef eto ar 30 Tachwedd ar gyfer ateb llafar, a rhoddwyd ateb arall. Yn awr gofynnir yr un cwestiwn am y trydydd tro. O ystyried cost cynhyrchu tri gwahanol ateb i’r un cwestiwn—rhaid imi bwysleisio bod pob un o’r tri wedi ei ofyn gan yr un Aelod, David Davies—onid yw hyn yn golygu gwastraff o arian y trethdalwyr?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

I agree. This question has got stuck on the Conservative Central Office computer. It keeps being repeated to David and he keeps handing it in. Perhaps in future he might think twice and ask questions that are more relevant to the Assembly’s work.

Cytunaf. Aeth y cwestiwn hwn yn sownd ar gyfrifiadur Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr. Mae’n cael ei ailadrodd i David o hyd ac mae’n dal i’w roi i mewn. Efallai yn y dyfodol y gallai feddwl ddwywaith a gofyn cwestiynau sydd yn fwy perthnasol i waith y Cynulliad.

Cynhwysiant Cymdeithasol (Ffigurau Aros)

Social Inclusion (Waiting Figures)

Q2 David Melding spoken in English p. 5

C2 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 5

What do the latest waiting lists figures do to promote social inclusion in Wales? (OAQ2616)

Beth y mae’r ffigurau rhestrau aros diweddaraf yn ei wneud i hybu cynhwysiant cymdeithasol? (OAQ2616)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

The recently published activity figures for the quarter ending 30 September show an increase of 4 per cent over the previous yearly total to 874,000. Despite emergency admissions increasing by 3 per cent over the same period, NHS Wales treated 8 per cent more elective cases, which include those admitted from waiting lists and planned cases, and saw an additional 3 per cent of new outpatients. That demonstrates how the health service is seeking to grapple with the major challenges that it faces.

Mae’r ffigurau gweithgaredd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y chwarter blwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi yn dangos cynnydd o 4 y cant ar ben y cyfanswm blynyddol blaenorol i 874,000. Er gwaethaf y cynnydd o 3 y cant yn y derbyniadau brys dros yr un cyfnod, triniodd NHS Cymru 8 y cant yn fwy o achosion dewisol, sydd yn cynnwys y rhai a dderbynnir oddi ar restrau aros ac achosion cynlluniedig, a gwelodd 3 y cant yn ychwanegol o gleifion allanol newydd. Mae hyn yn dangos sut y mae’r gwasanaeth iechyd yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau mawr y mae’n eu hwynebu.

David Melding spoken in English p. 6

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 6

Following the attack on my colleague, David Davies, I apologise for asking this question month in month out, but, of course, waiting lists increase month in month out, under the Labour Administration. Do you reaffirm your promise to cut waiting lists in Wales as a first step?

Ar ôl yr ymosodiad ar fy nghydweithiwr, David Davies, ymddiheuraf am ofyn y cwestiwn hwn fis ar ôl mis, ond, wrth gwrs, mae rhestrau aros yn cynyddu fis ar ôl mis, o dan y Weinyddiaeth Lafur. A ydych yn ailddatgan eich addewid i dorri rhestrau aros yng Nghymru fel cam cyntaf?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 6

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

It is certainly our intention to cut waiting lists in Wales as a first step. I have explained that in this Chamber on many occasions, and as David Melding has been courteous enough to apologise for repeating the question, I apologise for repeating the answer. We faced a state of chaos in the finances of NHS Wales. That was laid bare by the stocktake that I put in place last January, which demonstrated the massive problems that we all have responsibility to try to tackle. I will not make the obvious political point, David, in view of your courtesy. I am encouraged by the fact that in relation to the problems of the NHS finances in Dyfed Powys, while Assembly Members across parties have been challenging about them and our proposed solutions, they have worked together to try to ensure that we improve the standard of the health service given to people in Wales.

Mae’n sicr yn fwriad gennym dorri rhestrau aros yng Nghymru fel cam cyntaf. Ceisiais egluro hynny yn y Siambr hon lawer tro, a chan y bu David Melding mor gwrtais ag ymddiheuro am ailadrodd y cwestiwn, ymddiheuraf innau am ailadrodd yr ateb. Yr oeddem yn wynebu anhrefn yng nghyllid NHS Cymru. Dinoethwyd hynny yn y cyfrif stoc a sefydlais Ionawr diwethaf, a ddangosodd y problemau enfawr y mae’n gyfrifoldeb arnom oll geisio mynd i’r afael â hwy. Ni wnaf y pwynt gwleidyddol amlwg, David, yng ngolwg eich cwrteisi. Calondid i mi, mewn perthynas â phroblemau cyllid yr NHS yn Nyfed Powys, yw bod Aelodau’r Cynulliad ar draws y pleidiau, er iddynt fod yn heriol ynghylch y rheini a’n hatebion arfaethedig, wedi cydweithio er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn gwella safon y gwasanaeth iechyd a roddir i bobl yng Nghymru.

Helen Mary Jones spoken in English p. 6

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 6

Given that the Government is rightly proposing to move away from simple waiting list figures to waiting times, how confident are you about the nature of information collected by the Welsh Office about hospitals’ performances in terms of waiting times, the procedures being waited for, and the procedures undertaken? Will you discuss, perhaps with the Secretary for Health and Social Services, how accurate those figures are in the light of recent events, when some of the information used for hospital league tables was proved to be inaccurate?

Gan fod y Llywodraeth yn bwriadu’n briodol symud oddi wrth ffigurau rhestrau aros syml at amseroedd aros, pa mor ffyddiog yr ydych ynghylch natur y wybodaeth a gasglwyd gan y Swyddfa Gymreig am berfformiadau ysbytai o ran amseroedd aros, y triniaethau y disgwylir amdanynt, a’r triniaethau a gyflawnwyd? A ydych yn fodlon trafod, efallai gyda’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, pa mor gywir yw’r ffigurau hynny yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, pan brofwyd bod rhywfaint o’r wybodaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer tablau cynghrair yr ysbytai yn anghywir?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

If you are referring to Llanelli, I am surprised that there is public discussion about that. It seems that a press conference to make a complaint went ahead when the information that was open to question had already been withdrawn. It had been withdrawn because it was supplied to the hospital so that the hospital could confirm its accuracy. We have good systems in place. Why on earth did the hospital go ahead with a press conference and that sort of publicity when there was no need for it?

Os ydych yn cyfeirio at Lanelli, synnaf fod trafodaeth gyhoeddus am hynny. Ymddengys bod cynhadledd i’r wasg i wneud cwyn wedi mynd ymlaen pan oedd y wybodaeth oedd dan amheuaeth eisoes wedi ei thynnu’n ôl. Fe’i tynnwyd yn ôl am ei bod wedi ei chyflwyno i’r ysbyty fel y gallai’r ysbyty gadarnhau ei bod yn gywir. Mae systemau da wedi eu sefydlu gennym. Pam ar y ddaear yr aeth yr ysbyty ymlaen â chynhadledd i’r wasg a’r math hwnnw o gyhoeddusrwydd pan nad oedd angen hynny?

Waiting lists are important. It is important that they are measured so that we know the current situation and can improve on it. I agree that waiting times are also important. I and the Secretary for Health and Social Services want to see an improvement in the quality of information available to us. To a great extent, the quality of information depends on those who supply the information to the Assembly. However, we will do all that we can in partnership with other organisations and I trust, with the help of all Assembly Members, to improve the quality of information. We can then track the performance of the health service accurately.

Mae rhestrau aros yn bwysig. Mae’n bwysig iddynt gael eu mesur fel ein bod yn gwybod beth yw’r sefyllfa gyfredol ac yn gallu gwella arni. Cytunaf fod amseroedd aros hefyd yn bwysig. Yr wyf fi a’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am weld gwelliant yn ansawdd y wybodaeth sydd ar gael i ni. I raddau helaeth, mae ansawdd y wybodaeth yn dibynnu ar y rhai sydd yn cyflenwi’r wybodaeth i’r Cynulliad. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud popeth a allwn mewn partneriaeth â chyrff eraill a hyderaf, gyda chymorth holl Aelodau’r Cynulliad, i wella ansawdd y wybodaeth. Wedyn gallwn ddilyn perfformiad y gwasanaeth iechyd yn fanwl.

Jenny Randerson spoken in English p. 7

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 7

I welcome your comments about waiting times. The waiting list measure has gone up by a staggering 430 per cent since the Labour Government came to power. That measure does not have much credibility any more. If the waiting time measure is introduced, will you guarantee that waiting times are counted from the time that people are referred by their GP, rather than the current system, which calculates them from the time that patients are seen by the hospital? The only true measure for someone who is in pain—and many people in my constituency wait a long time for surgery or treatment—is the time from when their doctor judges that they need treatment and refers them to hospital.

Croesawaf eich sylwadau am amseroedd aros. Mae mesurydd y rhestr aros wedi codi’n syfrdanol 430 y cant er pan ddaeth y Llywodraeth Lafur i rym. Nid oes llawer o hygrededd yn perthyn i’r mesurydd hwnnw bellach. Os cyflwynir y mesurydd amseroedd aros, a roddwch sicrwydd y cyfrifir amseroedd aros oddi ar yr amser y cyfeirir pobl gan eu meddyg teulu, yn hytrach na’r system gyfredol, sydd yn cyfrif oddi ar yr amser y gwelir cleifion yn yr ysbyty? Yr unig wir fesurydd i rywun sydd mewn poen—ac mae llawer o bobl yn fy etholaeth i yn disgwyl yn hir iawn am driniaeth neu lawdriniaeth—yw’r amser oddi ar yr adeg y mae eu meddyg yn barnu bod arnynt angen triniaeth ac yn eu cyfeirio i ysbyty.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

I must make one distinction. The GP must often judge how urgently a patient needs to be seen. They will often see a patient for a second time to judge whether things have become more urgent. This is a difficult element to measure. We will commit ourselves to try to measure things in the way that best helps patients to get treatment and accurately shows the performance of the health service. Changing the way in which things are measured can make it difficult to make a comparison year on year. Those comparisons often drive forward improvement in any field of activity and not only in the health service. I welcome the work that is being done by the waiting time strategy development group which met for the first time on 9 December, and the interest of the Health and Social Services Committee, which is working with Jane Hutt to ensure improvement and the undertaking of the right measurements.

Rhaid imi wahaniaethu rhwng dau beth. Yn aml rhaid i’r meddyg teulu farnu ar faint o frys y mae angen gweld claf. Byddant yn aml yn gweld claf am yr eildro er mwyn barnu a oes angen mwy o frys. Mae hon yn elfen anodd ei mesur. Ymrwymwn i geisio mesur pethau yn y modd sydd orau er mwyn helpu cleifion i gael triniaeth ac i ddangos perfformiad y gwasanaeth iechyd yn fanwl. Mae newid y dull o fesur pethau yn gallu ei gwneud yn anodd cymharu o flwyddyn i flwyddyn. Yn aml mae’r cymariaethau hynny’n hybu gwelliannau mewn unrhyw faes gweithgaredd ac nid yn y gwasanaeth iechyd yn unig. Croesawaf y gwaith a wneir gan y grŵp datblygu strategaeth amseroedd aros a gyfarfu am y tro cyntaf ar 9 Rhagfyr, a diddordeb y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn gweithio gyda Jane Hutt er mwyn sicrhau y ceir gwelliant ac yr ymgymerir â’r mesuriadau cywir.

Christine Chapman spoken in English p. 8

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 8

Will you join me in congratulating Edwina Hart whose draft budget has meant that we have a 7 per cent cash increase next year for the NHS in Wales and £1 billion extra over the next three years? That contrasts with the statements made nationally by the Conservative party, which said that our comprehensive spending review spending commitments on health and education were reckless.

A ymunwch â mi wrth longyfarch Edwina Hart, y mae ei chyllideb ddrafft yn golygu bod gennym gynnydd o 7 y cant yn yr arian y flwyddyn nesaf ar gyfer yr NHS yng Nghymru a £1 biliwn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf? Mae hynny mewn cyferbyniad â’r datganiadau a wnaethpwyd yn genedlaethol gan y Blaid Geidwadol, a ddywedodd fod yr ymrwymiadau gwariant ar iechyd ac addysg yn ein hadolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhai byrbwyll.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 8

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

I agree. They were not reckless. We have been generous to health and education but as I indicated earlier, we face big challenges in achieving the performance in health and education that people have a right to expect. We have injected a massive amount of money into the health service but given the chaotic state of financial management that we inherited, we have a long way to go before we can start to be complacent.

Cytunaf. Nid oeddent yn fyrbwyll. Buom yn hael wrth iechyd ac addysg ond fel y nodais yn gynharach, yr ydym yn wynebu heriau mawr wrth gyflawni’r perfformiad mewn iechyd ac addysg y mae gan bobl yr hawl i’w ddisgwyl. Yr ydym wedi chwistrellu swm enfawr o arian i’r gwasanaeth iechyd ond yn wyneb anhrefn y rheolaeth ariannol a etifeddwyd gennym, mae gennym ffordd bell o’n blaen cyn y gallwn ddechrau bod yn ddifater.

Cronfeydd Strwythurol

Structural Funds

Q3 Phil Williams spoken in English p. 8

C3 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 8

Has the First Secretary had discussions with the Secretary of State for Wales on the possibility of drawing down 7 per cent of the contribution of structural funds at the start of the new programming period? (OAQ2608)

A yw’r Prif Ysgrifennydd wedi cael trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch y posibiliad o ymestyn am 7 y cant o’r cyfraniad oddi wrth y cronfeydd strwythurol ar ddechrau’r cyfnod rhaglennu newydd? (OAQ2608)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 9

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

I meet the Secretary of State for Wales regularly and the financial implications of Objective 1 for the Welsh budget are frequently part of our agenda. This question seems to be deep in the technicalities of the financial arrangements. I am not quite sure what you are getting at.

Cyfarfyddaf yn rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac mae oblygiadau ariannol Amcan 1 i gyllideb Cymru yn rhan o’n hagenda’n aml. Ymddengys bod y cwestiwn hwn yn ddwfn ym manylion technegol y trefniadau ariannol. Nid wyf yn gwbl sicr beth sydd gennych dan sylw.

Phil Williams spoken in English p. 9

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 9

Would it be possible, through the Secretary of State for Wales to persuade the Treasury that the advance payment in the suspense account which could not have been considered or anticipated at the last comprehensive spending review and therefore, does not come within its terms of reference, could be considered as a contingency fund in the hope that I know we both share, that next year we will succeed in attracting a large number of valid Objective 1 proposals that would qualify for advance payment?

A oes modd, drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, berswadio’r Trysorlys y gellid ystyried y taliad ymlaen llaw sydd yn y cyfrif dros dro, na fuasai modd ei ystyried na’i ragweld yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf ac nad yw felly yn rhan o’i gwmpas, yn gronfa wrth gefn yn y gobaith y gwn ei fod yn gyffredin i’r ddau ohonom, y byddwn y flwyddyn nesaf yn llwyddo i ddenu nifer fawr o gynigion Amcan 1 dilys a fyddai’n gymwys i dderbyn taliad ymlaen llaw?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 9

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

This is based again on a number of misapprehensions. We are content with the present situation. All of us who take an interest in this issue should concentrate on getting the schemes and proposals ready. In other words, put us under pressure in terms of the call on the finances. The arrangements that will apply under the new programmes are similar to those that have operated in the past. There are no surprises or bonanzas.

Mae hyn yn seiliedig unwaith eto ar nifer o gamsyniadau. Yr ydym yn fodlon â’r sefyllfa bresennol. Dylai pawb ohonom sydd yn ymddiddori yn y mater hwn ganolbwyntio ar baratoi’r cynlluniau a’r cynigion mewn pryd. Mewn geiriau eraill, rhowch bwysau arnom o ran y galw ar y cyllid. Mae’r trefniadau a fydd yn berthnasol o dan y rhaglenni newydd yn debyg i’r rhai a weithredodd yn y gorffennol. Nid oes dim sydd yn annisgwyl.

On approval of a programme, the Commission will advance 3.5 per cent of the total grant resources to the member state. The Assembly is responsible for drawing money down from the European regional development fund, the European agricultural guidance and guarantee fund and the Financial Instrument for Fisheries Guidance. The Department for Education and Employment, as Phil is aware, is responsible for the draw down of European social fund grants. These resources will be held in the relevant department’s paymaster account until they are required for payment of grants to sponsors. A further advance of 3.5 per cent of total grant resources—I suspect that that is where the figure of 7 per cent comes from—will be paid at the beginning of the second year of the programme. Requests for further payments of grants from the Commission may be made up to three times a year, based on the total eligible expenditure that has taken place under the programme. None of this changes the arrangements, which have been discussed many times in the Chamber, about financing Objective 1 schemes.

Ar ôl cymeradwyo rhaglen, bydd y Comisiwn yn talu 3.5 y cant o gyfanswm yr adnoddau grant i’r aelod wladwriaeth. Mae’r Cynulliad yn gyfrifol am ymestyn am yr arian o’r gronfa ddatblygu rhanbarthol Ewropeaidd, cronfa cyfarwyddo a gwarantu amaethyddiaeth Ewrop a’r Offeryn Ariannol ar Gyfarwyddo Pysgodfeydd. Yr Adran Addysg a Chyflogaeth, fel y gŵyr Phil, sydd yn gyfrifol am ymestyn am grantiau o gronfa gymdeithasol Ewrop. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cadw yng nghyfrif tâl-feistr yr adran berthnasol nes bydd angen amdanynt er mwyn talu noddwyr. Telir 3.5 y cant pellach o gyfanswm yr adnoddau grant—yr wyf yn amau mai o hynny y cafwyd y ffigur o 7 y cant—ar ddechrau ail flwyddyn y rhaglen. Gellir cyflwyno ceisiadau am daliadau grant pellach gan y Comisiwn hyd at deirgwaith y flwyddyn, ar sail cyfanswm y gwariant cymwys a ddigwyddodd o dan y rhaglen. Nid oes dim o hynny yn newid y trefniadau, a drafodwyd lawer gwaith yn y Siambr, ar gyfer ariannu cynlluniau Amcan 1.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 10

A yw Alun yn derbyn mai un o’r problemau a wynebir gan bobl yw parodrwydd Llywodraeth y Cynulliad i roi ymrwymiad i dynnu’r arian i lawr pe byddai angen gwneud hynny? Dywedir bod y gwrthbleidiau yn brawychu pobl wrth ddweud nad oes digon o arian ar gael. A yw Alun yn derbyn y byddai rhoi ymrwymiad clir, ar ran y Llywodraeth, fod yr arian ar gael yn lleddfu rhai o’r problemau?

Does Alun accept that one of the problems people face is whether the Assembly Government is prepared to make a commitment to draw down the money were it necessary? It is said the opposition parties alarm people by saying that there is not enough money available. Does Alun accept that giving a clear commitment, on behalf of the Government, that the money is available would alleviate some of the problems?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 10

Nid yw pethau yn gweithio fel hynny, Ieuan. Rhaid imi esbonio unwaith eto. Gofynnodd Phil gwestiwn ynglŷn â thynnu’r 7 y cant i lawr. Bydd hyn yn cynnwys y 3.5 y cant yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn. Mater i’r Llywodraeth Brydeinig yw hynny. Mae’r modd yr ydym yn tynnu arian i lawr yn rhan o’n system ariannu ni a’r Llywodraeth Brydeinig a bydd hynny’n gweithio drwy’r broses a esboniwyd eisoes. Gofynnaf ichi gefnogi’r syniad o berswadio pobl i ddefnyddio amserlen Amcan 1 i sicrhau ein bod yn gwella economi Cymru yn y modd yr hoffai’r ddau ohonom ei weld.

Things do not work in that way, Ieuan. I must explain once again. Phil asked a question about drawing down the 7 per cent. That would include the 3.5 per cent in the first and second year. That is a matter for the British Government. The way in which we draw down money is part of our and the British Government’s finance system and it will work through the process explained previously. I ask you to support the idea of persuading people to use the Objective 1 timetable to ensure that we improve the Welsh economy in the way that both of us would like to see.

Alun Cairns spoken in English p. 10

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 10

In your response to Phil Williams’s question, you talked about the urgent need to get schemes ready and we all agree with that. What support are you giving to private sector organisations, and smaller private sector organisations and to the public and voluntary sectors in accessing structural funds and in understanding the process? What consideration have you given to establishing a hotline to help empower these sectors to apply for funds? Or are you seeking to scale down the projects because of the lack of match funds in the first place?

Yn eich ymateb i gwestiwn Phil Williams, yr oeddech yn sôn am y taer angen i gael cynlluniau’n barod ac yr ydym oll yn cytuno â hynny. Pa gymorth yr ydych yn ei roi i gyrff yn y sector preifat, ac i gyrff llai yn y sector preifat ac i’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i gael mynediad at gronfeydd strwythurol ac i ddeall y broses? Pa ystyriaeth a roesoch i sefydlu llinell gymorth i helpu i alluogi’r sectorau hyn i ymgeisio am arian? Ynteu a ydych yn ceisio lleihau’r prosiectau oherwydd diffyg arian cyfatebol yn y lle cyntaf?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

That was another Central Office sentence at the end of a convoluted question. When the negotiations with Brussels are completed we will make every piece of information possible available to those who wish to apply, including our partners in local government, business and the voluntary sector. I recently appointed Roger Thomas as my ambassador for business, who is here on secondment from Eversheds. He has begun to make contact with businesses across Wales during the past few weeks, with two aims in mind. One is to encourage business to work with us in partnership generally. The first meeting of the business partnership council will take place this week. The second is to promote our and our officials’ understanding of business, along with business’ understanding of how we must work in order to satisfy the complex European requirements.

Yr oedd honno’n frawddeg arall gan y Swyddfa Ganolog ar ddiwedd cwestiwn dryslyd. Pan gwblheir y trafodaethau â Brwsel byddwn yn sicrhau bod pob darn posibl o wybodaeth ar gael i’r rhai sydd yn dymuno ymgeisio, gan gynnwys ein partneriaid mewn llywodraeth leol, busnes a’r sector gwirfoddol. Yn ddiweddar penodais Roger Thomas yn llysgennad drosof ar gyfer busnes, ac y mae yma ar secondiad o Eversheds. Dechreuodd gysylltu â busnesau ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn, a dau nod mewn golwg. Un ohonynt yw annog busnes i weithio mewn partneriaeth â ni’n gyffredinol. Bydd cyfarfod cyntaf y cyngor partneriaeth busnes yr wythnos hon. Yr ail yw hybu ein dealltwriaeth ni a’n swyddogion, ynghyd â dealltwriaeth busnes o’r modd y bydd yn rhaid inni weithio er mwyn cyflawni’r gofynion Ewropeaidd cymhleth.

Cryfhau Rôl Pwyllgorau’r Cynulliad

Strengthening the Role of Assembly Committees

Q4 Michael German spoken in English p. 11

C4 Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 11

What consideration has the First Secretary given to strengthening the role of the Committees in the formation of Assembly policy? (OAQ2618)

Pa ystyriaeth a roddwyd gan y Prif Ysgrifennydd i gryfhau rôl y Pwyllgorau wrth lunio polisi’r Cynulliad? (OAQ2618)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

I believe that the central role of our Subject Committees is to help in the development of Assembly policy. I am pleased that there are good examples of Committees selecting areas for in-depth study, engaging outside groups and making proposals for change. As the Assembly comes to maturity, we need a long-term indication of a strategic approach by Committees in concentrating on areas where change is possible. They will then be able to make a significant in-depth contribution to policy development.

Credaf mai rôl ganolog ein Pwyllgorau Pwnc yw helpu i ddatblygu polisi’r Cynulliad. Yr wyf yn falch bod enghreifftiau da o Bwyllgorau sydd wedi dethol meysydd i’w hastudio’n fanwl, wedi cysylltu â grwpiau ar y tu allan ac wedi gwneud cynigion ar gyfer newid. Wrth i’r Cynulliad ddod i oed, mae arnom angen arwydd tymor hir o ymagwedd strategol gan Bwyllgorau wrth ganolbwyntio ar feysydd lle y mae newid yn bosibl. Wedyn byddant yn gallu gwneud cyfraniad manwl sylweddol i ddatblygu polisi.

Michael German spoken in English p. 11

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 11

Due to the Assembly’s political make-up, the Committees represent the view of the Assembly majority. Will you respect that view and withdraw your proposals for performance-related pay for teachers?

Oherwydd cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad, mae’r Pwyllgorau’n cynrychioli barn mwyafrif y Cynulliad. A fyddwch gystal â pharchu’r farn honno a thynnu’n ôl eich cynigion ar gyfer tâl yn ôl perfformiad i athrawon?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

Political parties are represented in the Committees but I hope and believe that Assembly Members, while not setting aside their party political affiliations, generally seek to operate as a team in the Committees. Committee Chairs have been concerned to be seen as not operating politically but in a way that represents the whole Committee. That is important. Mike, as you make a specific comment, let me reply with a general one. One should be wary of assuming that it is wise for a Committee to express a view before the end of a consultative process, in which we have to listen to many representations. Any views expressed would be no more than the views of the Committee at that stage.

Cynrychiolir pleidiau gwleidyddol ar y Pwyllgorau ond gobeithiaf a chredaf fod Aelodau’r Cynulliad, er nad ydynt yn rhoi heibio eu hymlyniad i’w plaid, yn ceisio gweithio fel tîm yn y Pwyllgorau fel arfer. Bu’n bwysig gan Gadeiryddion Pwyllgor gael eu gweld fel rhai nad oeddent yn gweithio’n wleidyddol ond mewn modd sydd yn cynrychioli’r Pwyllgor cyfan. Mae hynny’n bwysig. Mike, gan ichi wneud sylw penodol, gadewch imi ymateb ag un cyffredinol. Dylid gochel rhag tybio ei bod yn ddoeth i Bwyllgor fynegi barn cyn diwedd proses ymgynghorol, pan fo’n rhaid inni wrando ar lawer o sylwadau. Ni fyddai unrhyw sylwadau a fynegid yn fwy na barn y Pwyllgor yn y cyfnod hwnnw.

I would be reluctant to accept a view on teachers’ pay that would make us unable to encourage outstanding and experienced teachers to stay in the classroom in Wales by giving them an additional payment, which will be available across the border in England.

Petruswn rhag derbyn barn ar dâl i athrawon a fyddai’n peri na allem annog athrawon eithriadol a phrofiadol i aros yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru drwy roi tâl ychwanegol iddynt, a fydd ar gael dros y ffin yn Lloegr.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Gareth Jones spoken in Welsh p. 12

Yng nghyfarfod Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru yng Nghaernarfon ddydd Gwener diwethaf, brawychwyd yr aelodau ac eraill a oedd yn bresennol gan ddatganiad Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru am ddiffygion amlwg yn deillio o broblemau recriwtio staff rhan amser. Mae 12 gorsaf yn y Gogledd yn methu ag ymateb i alwadau oherwydd problemau staffio. Golyga’r oedi hwn fod bywydau ac eiddo mewn perygl.

In the North Wales Regional Committee meeting in Caernarfon last Friday, the members and others present were alarmed by the Chief Fire Officer for North Wales’s statement on glaring deficiencies arising from staff recruitment problems of part-time staff. In North Wales, 12 stations are unable to respond to calls because of staffing problems. This delay means that lives and property are at risk.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 12

A yw hyn yn gysylltiedig â chwestiwn?

Is this related to a question?

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Gareth Jones spoken in Welsh p. 12

Ydyw. Mae’r cwestiwn yn dod.

Yes. The question is coming.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 12

Gorau po gyntaf, os gwelwch yn dda.

The sooner the better, please.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Gareth Jones spoken in Welsh p. 12

Sut ydych chi fel Prif Ysgrifennydd, a sut mae’r Cynulliad, yn bwriadu gweithredu ar y mater hwn fel bod y cyhoedd yn gweld rôl defnyddiol ac ymarferol i’r Pwyllgorau Rhanbarth?

How do you as First Secretary, and how does the Assembly, propose to act on this matter so that the public see a useful and practical role for the Regional Committees?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 12

Y Swyddfa Gartref sydd yn gyfrifol am y mater hwn. Gall aelodau’r Pwyllgor Rhanbarth ddweud wrth y Swyddfa Gartref nad ydym yn hapus gyda’r sefyllfa a gofyn iddynt edrych ar y broblem. Mae cyfrifoldeb ar aelodau’r Awdurdod Tân hefyd.

The Home Office is responsible for this matter. Regional Committee members can tell the Home Office that we are not happy with the situation and ask them to look at the problem. Members of the Fire Authority are also responsible.

Pwysigrwydd y Pwyllgorau Rhanbarth yw eu bod yn rhoi cyfle i’r rhanbarthau leisio eu barn, yn enwedig i’r Cynulliad, drwy roi gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad sydd ar y Pwyllgorau Rhanbarth. Gellir datblygu’r syniad nad yw’r Cynulliad yn cyfarfod yng Nghaerdydd yn unig, ond ei fod yn cynrychioli pob rhan o Gymru. Os bydd pawb yn parhau i roi statws i’r Pwyllgorau Rhanbarth, bydd y Pwyllgorau hynny yn helpu’r Cynulliad i lwyddo.

The importance of the Regional Committees is that they give the regions an opportunity to voice their opinion, especially to the Assembly, by passing information to Assembly Members on the Regional Committees. It is possible to develop the idea that the Assembly does not only meet in Cardiff, but represents all parts of Wales. If everyone continues to attach importance to the Regional Committees, those Committees will help the Assembly to succeed.

Jonathan Morgan spoken in English p. 13

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 13

Which does the First Secretary regard as being more important: attendance at cross-parliamentary committee meetings in London to discuss important issues such as poverty, or tackling congestion in Carmarthenshire by opening new stretches of motorway?

Pa un sydd bwysicaf ym marn y Prif Ysgrifennydd: ymbresenoli mewn cyfarfodydd pwyllgor traws-seneddol yn Llundain i drafod materion pwysig fel tlodi, neu ymdrin â thagfeydd yn Sir Gaerfyrddin drwy agor rhannau newydd o draffordd?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

It was absolutely right for me to be in Carmarthen last week to open a new stretch of motorway, which is important for the economy of west Wales. It was a celebration for all those who were present, from all walks of life. I went afterwards to Pembrokeshire to mark a major investment by Elf, a major employer there.

Yr oedd yn gwbl briodol imi fod yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos diwethaf i agor rhan newydd o draffordd, sydd yn bwysig i economi gorllewin Cymru. Yr oedd yn ddathliad ar gyfer pawb a oedd yn bresennol, o bob maes. Wedyn euthum i Sir Benfro i nodi buddsoddiad mawr gan Elf, sydd yn gyflogwr pwysig yno.

I had reported to the Assembly that there was a ministerial group meeting in London, had discussed it with Alistair Darling during his visit the previous week, and with the Secretary of State for Wales before he attended the meeting. It was the first establishing meeting for that group. The priority has to be to deal with issues in Wales, but liaisons with colleagues in Westminster and Whitehall are also a high priority for me, which is why, for instance, colleagues and I shall be attending the first meeting of the British-Irish Council.

Yr oeddwn wedi hysbysu’r Cynulliad bod cyfarfod o grŵp gweinidogol yn Llundain, wedi ei drafod gydag Alistair Darling yn ystod ei ymweliad yr wythnos cynt, a chydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn iddo fynd i’r cyfarfod. Hwn oedd cyfarfod sefydlu cyntaf y grŵp hwnnw. Rhaid rhoi blaenoriaeth i drafod materion yng Nghymru, ond mae cysylltiadau â chydweithwyr yn San Steffan a Whitehall yn flaenoriaeth uchel i mi hefyd, a dyna pam, er enghraifft, y byddaf fi a chydweithwyr yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Cyngor Prydain-Iwerddon.

Lorraine Barrett spoken in English p. 13

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 13

Do you think it is more important for a member of the Conservative Group to attend the Environment and Local Government Committee than to attend the Countryside Alliance march?

A gredwch ei bod yn bwysicach i aelod o’r Grŵp Ceidwadol fod yn bresennol ym Mhwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol nag i fod yn bresennol yng ngorymdaith y Gynghrair Cefn Gwlad?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

That is a matter for Assembly Members to decide for themselves. I would place high priority on attending Assembly Committee meetings because they are the engine room of the Assembly. It is Assembly Members’ responsibility to make up their own minds as to their priorities.

Mater i’w benderfynu gan Aelodau Cynulliad eu hunain yw hynny. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uchel i fynychu cyfarfodydd Pwyllgorau’r Cynulliad oherwydd hwy yw ystafell injan y Cynulliad. Cyfrifoldeb Aelodau’r Cynulliad yw penderfynu drostynt hwy eu hunain ynghylch eu blaenoriaethau.

Arian Cyfatebol (Grant Bloc Cymru)

Match Funding (Welsh Block Grant)

Q5 Alun Cairns spoken in English p. 14

C5 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 14

How much match funding has been paid out of the Welsh block grant per annum over the last 10 years? (OAQ2615)

Faint o arian cyfatebol a dalwyd o grant bloc Cymru fesul blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf? (OAQ2615)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

As Rhodri Morgan explained on 25 November in a written response to a similar question—there seems to be specialisation in repetition here—this information can only be supplied at a disproportionate cost because match funding is the responsibility of the grant recipient.

Fel yr eglurodd Rhodri Morgan ar 25 Tachwedd mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn tebyg—ymddengys bod arbenigo ar ailadrodd yma—ni ellir cyflenwi’r wybodaeth hon ond am gost anghymesur oherwydd cyfrifoldeb derbynnydd y grant yw arian cyfatebol.

Alun Cairns spoken in English p. 14

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 14

You acknowledged last week the need for additional funding over and above the Barnett block grant. How do you expect to be in a negotiating position with the Chief Secretary to the Treasury if you do not even know at the moment how much match funding has been provided over the last 10 years?

Cydnabuasoch yr wythnos diwethaf yr angen am gyllid ychwanegol ar ben grant bloc Barnett. Sut y disgwyliwch fod mewn sefyllfa i drafod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys os na wyddoch yn awr hyd yn oed faint o arian cyfatebol a ddarparwyd dros y 10 mlynedd diwethaf?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

The former Welsh Office, which was controlled by a different party during most of this period, did not separately identify match funding allocations over the previous European structural fund programmes. Therefore, it would be a difficult exercise in resource terms to try to extrapolate so much information from the records without having to ask public sector bodies in Wales to produce the information for us. I cannot see the point of that. The requirements have to be met in respect to any particular project and programme and those are checked at the time. It has already been explained that the specific piece of information for which you ask is not available.

Nid oedd y gyn-Swyddfa Gymreig, a reolid gan blaid wahanol yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn, yn dynodi dyraniadau arian cyfatebol ar wahân yn ystod rhaglenni blaenorol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Felly, byddai’n ymarferiad anodd o ran adnoddau i geisio allosod cymaint o wybodaeth o gofnodion heb orfod gofyn i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru gynhyrchu’r wybodaeth i ni. Ni allaf weld diben hynny. Rhaid cyflawni’r gofynion mewn perthynas ag unrhyw brosiect a rhaglen benodol a gwirir y rheini ar y pryd. Eglurwyd eisoes nad yw’r darn penodol o wybodaeth a geisiwch ar gael.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Elin Jones spoken in Welsh p. 14

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno y bydd yn rhaid sicrhau cyllid cyfatebol ychwanegol i’r bloc ar gyfer y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, os neu pan fydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o’r Adran Addysg a Chyflogaeth? Yr oeddwn yn siomedig i glywed oddi wrth y Prif Ysgrifennydd fod y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yn parhau yn gyfrifoldeb i’r Adran Addysg a Chyflogaeth. Gofynnaf unwaith eto yn y Siambr hon—oherwydd yr wyf yn anfodlon â’r diffyg cynnydd yn y mater hwn—pryd y bydd y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yn cael ei throsglwyddo i gyfrifoldeb llawn y Cynulliad er mwyn inni allu sicrhau llwyddiant Amcan 1 ac Amcan 3 i Gymru?

Does the First Secretary agree that match funding additional to the block will have to be secured for the European Social Fund, if or when that responsibility is transferred from the Department for Education and Employment? I was disappointed to hear from the First Secretary that ESF is still the responsibility of the Department for Education and Employment. I ask again in this Chamber—because I am unhappy with the lack of progress in this matter—when will ESF be transferred to be the full responsibility of the Assembly so that we can ensure the success of Objective 1 and Objective 3 for Wales?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 15

Mae’r Adran Addysg a Chyflogaeth wedi cydweithio’n dda gyda ni ar lawer o brosiectau, yn arbennig rhai er budd pobl ifainc ddi-waith. Os yw’r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo, rhaid sicrhau bod yr arian cyfatebol yn cael ei drosglwyddo hefyd. Nid yw hyn yn beth hawdd i’w wneud ar unwaith. Yr wyf wedi dadlau gyda Gweinidogion am hyn. Ni fyddwn yn rhoi’r cwestiwn i’r naill ochr, ond nid ydym wedi penderfynu arno eto.

The Department for Education and Employment has worked well with us on a number of projects, particularly ones for the benefit of unemployed young people. If the responsibility is transferred, we must ensure that the match funding is also transferred. It is not easy to do so immediately. I have discussed this with Ministers. We shall not set the question to one side, but we have not decided upon it yet.

Lefelau Troseddau mewn Ardaloedd Gwledig

Crime Levels in Rural Areas

Q6 Kirsty Williams spoken in English p. 15

C6 Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 15

What steps does the First Secretary intend to take to reduce crime levels in rural areas? (OAQ2614)

Pa gamau y mae’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu eu cymryd i ostwng lefelau troseddau mewn ardaloedd gwledig? (OAQ2614)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 15

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

I am proud that, in a previous role, I took the Crime and Disorder Act 1998 through the House of Commons. The Act, created for the first time, a partnership approach to the fight against crime, which is as relevant to every rural area in Wales as it is to every urban area in Wales. It starts with an audit of crime levels to ensure that the police and local authority and all the other partners target the particular problems and needs of each individual area. That is as relevant to rural areas as to urban areas.

Ymfalchïaf fy mod, mewn rôl flaenorol, wedi mynd â’r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 drwy Dŷ’r Cyffredin. Creodd y Ddeddf ddull partneriaeth o ymladd yn erbyn troseddu, am y tro cyntaf, sydd yr un mor berthnasol i bob ardal wledig yng Nghymru ag ydyw i bob ardal drefol yng Nghymru. Mae’n dechrau ag archwiliad o lefelau troseddau i sicrhau bod yr heddlu a’r awdurdod lleol a’r holl bartneriaid eraill yn targedu problemau ac anghenion penodol pob ardal unigol. Mae hynny yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag ydyw i ardaloedd trefol.

Kirsty Williams spoken in English p. 15

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 15

You will also know about the sparsity cost review from your previous roles. Are you confident that the findings of that review will be implemented and that Dyfed-Powys Police can look forward to additional £3 million of resources? Translated into manpower, that will mean more than 100 extra police officers on the streets. This will be welcome relief to Dyfed-Powys Police, and in particular, to the lone female officer who recently arrested and had to detain four burglars in a rural area while waiting 40 minutes for back-up.

Byddwch hefyd yn gwybod am yr arolwg o gost gwasgaredd o’ch rolau blaenorol. A ydych yn ffyddiog y gweithredir canfyddiadau’r arolwg hwnnw ac y gall Heddlu Dyfed-Powys edrych ymlaen at £3 miliwn o adnoddau ychwanegol? O drosi hynny’n weithlu, golygai hynny fwy na 100 o heddweision ychwanegol ar y strydoedd. Bydd hyn yn rhyddhad derbyniol i Heddlu Dyfed-Powys, ac yn enwedig, i’r blismones a restiodd bedwar byrgler ar ei phen ei hun yn ddiweddar mewn ardal wledig a gorfod disgwyl 40 munud am gefnogaeth.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 16

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

I am aware of the sparsity cost review because I commissioned it in my previous role. I understand that the Department of the Environment, Transport and the Regions, which works with the Home Office on formula, had put a freeze on the implementation of changes to the formula. This delays any response to the outcome of the sparsity review for a year or so. Anything that benefits rural areas will benefit Dyfed-Powys and I would welcome that. This is not a devolved matter, so we may see interesting elements when we look at sparsity in relation to our formula. We must wait and see what proposals come forth from the Home Office.

Yr wyf yn ymwybodol o’r arolwg o gost gwasgaredd oherwydd fe’i comisiynais yn fy rôl flaenorol. Deallaf fod Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau, sydd yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ar fformwlâu, wedi rhewi gweithredu’r newidiadau i’r fformwla. Bydd hyn yn gohirio unrhyw ymateb i ganlyniad yr arolwg o wasgaredd am ryw flwyddyn. Bydd rhywbeth sydd o fantais i ardaloedd gwledig yn fanteisiol i Ddyfed-Powys a chroesawn hynny. Nid yw hwn yn fater a ddatganolwyd, felly mae’n bosibl y gwelwn elfennau diddorol pan edrychwn ar wasgaredd mewn perthynas â’n fformwla ni. Rhaid inni ddisgwyl i weld pa gynigion a ddaw o’r Swyddfa Gartref.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 16

A wnaiff Alun ymuno â mi i longyfarch Heddlu Dyfed-Powys ar ei berfformiad gwych dros y blynyddoedd yn defnyddio’r adnoddau prin sydd ganddo i sicrhau diogelwch yn ein hardaloedd gwledig? A yw’n cytuno ei fod, ar sail ei berfformiad ac ar sail yr ardal y mae’n rhaid iddo ei phlismona, yn haeddu mwy o adnoddau i sicrhau ei fod hyd yn oed yn fwy effeithiol yn ei waith?

Will Alun join me in congratulating Dyfed-Powys Police on its excellent performance over the years using the scarce resources that it has to ensure security in our rural areas? Does he agree that, on the basis of its performance and on the basis of the area that it has to police, it deserves more resources to ensure that it is even more effective in its work?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 16

Yr wyf yn cefnogi gwaith Heddlu Dyfed-Powys. Yr wyf wedi gweld llawer o’i waith ar hyd y blynyddoedd ac yr wyf wedi bod gyda’r heddlu yn yr ardal nifer o weithiau.

I support the work of Dyfed-Powys Police. I have seen much of its work over the years and I have been with the police in the area a number of times.

Rhaid cofio, ar un llaw, y pwysau sydd mewn ardal fawr â nifer fach o blismyn. Ar y llaw arall, mae gwahanol fathau o bwysau yn y Cymoedd neu yn ein dinasoedd. Y broblem yw sicrhau tegwch yn y system sydd yn ariannu gwaith yr heddlu.

We must remember, on one hand, the pressures that exist in a large area with a small number of police officers. On the other hand, there is a different kind of pressure in the Valleys or in our cities. The problem is ensuring fairness in the funding system for police’s work.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 16

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 16

On Kirsty Williams’s earlier point, I think that it is staff power rather than manpower.

Ynglŷn â phwynt cynharach Kirsty Williams, credaf mai ‘staff power’ ydyw yn hytrach na ‘manpower’.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Alun Cairns spoken in English p. 17

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 17

I raise a point of order under Standing Orders Nos. 9.7 and 9.8.

Codaf bwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog Rhifau 9.7 a 9.8.

Last week the First Secretary made a statement to clarify reported contradictions and concerns relating to public safety in Cardiff Bay. I am concerned, however, that the First Secretary used the opportunity to announce his decision to accept a bid from Cardiff City and County Council instead of Thames Water to operate the barrage post-Cardiff Bay Development Corporation. The corporation has been negotiating with Thames Water for some 15 months, and the decision to award the contract to Cardiff Council would delay the freshwater impoundment by 12 months. This has enormous implications for the whole Cardiff Bay project. I accept that the suggested £2 million cost savings seem prudent, but I feel it only right that, according to Standing Orders Nos. 9.7 and 9.8, the Economic Development Committee should have been consulted on this matter. Does the figure of £2 million include the additional engineering consequences and costs of scouring—the ripping of sand and rock from the barrage—the safety consequences to boats and yachts—

Yr wythnos diwethaf gwnaeth y Prif Ysgrifennydd ddatganiad i egluro’r gwrthddywediadau a’r pryderon a adroddwyd ynghylch diogelwch y cyhoedd ym Mae Caerdydd. Pryderaf, fodd bynnag, fod y Prif Ysgrifennydd wedi defnyddio’r cyfle i gyhoeddi ei benderfyniad i dderbyn cynnig oddi wrth Gyngor Dinas a Sir Caerdydd yn lle Thames Water i weithredu’r morglawdd ar ôl Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Mae’r gorfforaeth yn trafod â Thames Water ers rhyw 15 mis, a byddai’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract i Gyngor Caerdydd yn gohirio’r cronni ar ddŵr croyw am 12 mis. Mae oblygiadau enfawr yn hynny i holl brosiect Bae Caerdydd. Derbyniaf fod yr arbedion o £2 miliwn ar gostau a awgrymir yn ymddangos yn ddoeth, ond teimlaf na fyddai ond yn iawn, yn unol â Rheolau Sefydlog Rhifau 9.7 a 9.8, i ymgynghori â’r Pwyllgor Datblygu Economaidd ar y mater hwn. A yw’r ffigur o £2 filiwn yn cynnwys y canlyniadau peirianegol ychwanegol a’r costau o sgwrio—rhwygo tywod a cherrig o’r morglawdd—y canlyniadau diogelwch i gychod a chychod hwylio—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 17

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Order. That is not a point of order. I am very interested in the Cardiff Bay barrage and all its environmental implications, as I pass it every morning, but that is not a point of order. These are substantive questions that should be raised during questions to the Secretary for the Environment and Local Government, during questions to the First Secretary or in the Environment and Local Government Committee. They are points of debate.

Trefn. Nid pwynt o drefn mo hynny. Ymddiddoraf yn fawr ym morglawdd Bae Caerdydd a’i holl oblygiadau amgylcheddol, gan fy mod yn mynd heibio iddo bob bore, ond nid yw hynny’n bwynt o drefn. Cwestiynau gwirioneddol yw’r rhain y dylesid bod wedi eu codi yn ystod y cwestiynau i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol, yn ystod y cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd neu ym Mhwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol. Materion mewn dadl ydynt.

Alun Cairns spoken in English p. 17

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 17

The point of order relates to the decision to hand over the contract to run the barrage to Thames Water and to the question of whether the Economic Development Committee should have been consulted, particularly as negotiations have been going on for 15 months.

Mae’r pwynt o drefn yn ymwneud â’r penderfyniad i drosglwyddo’r contract i redeg y morglawdd i Thames Water a’r cwestiwn a ddylesid bod wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, yn enwedig gan fod y trafodaethau’n mynd ymlaen ers 15 mis.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 17

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Further to that point of order, I made a statement last week on two issues. Both were urgent issues on which the Assembly had to be informed at the earliest possible moment. One was the event over the previous few days that had led to an unseemly row between the CBDC and the Environment Agency. The other was the conclusion that we had reached, as a result of extended discussions with Cardiff City and County Council regarding a proposal that I had previously reported to the Assembly, that the council should take over the responsibilities of the harbour authority. It was inevitably a part of those discussions that we should review the arrangements that had been prepared by the CBDC for the management of both the lake and the barrage, as well as the environment and water quality of the bay.

Yn ychwanegol at y pwynt o drefn hwnnw, gwneuthum ddatganiad yr wythnos diwethaf ar ddau fater. Yr oedd y ddau’n faterion brys yr oedd yn rhaid hysbysu’r Cynulliad yn eu cylch ar yr adeg cynharaf posibl. Un oedd y digwyddiad dros yr ychydig ddyddiau cyn hynny a arweiniodd at ffrae anweddus rhwng Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Y llall oedd y casgliad y daethom iddo, o ganlyniad i drafodaethau maith â Chyngor Dinas a Sir Caerdydd ynghylch cynnig yr oeddwn wedi hysbysu’r Cynulliad yn ei gylch cyn hynny, sef y dylai’r cyngor ymgymryd â chyfrifoldebau’r awdurdod porthladd. Yr oedd yn anorfod y byddem fel rhan o’r trafodaethau hynny yn adolygu’r trefniadau a baratowyd gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar gyfer rheoli’r llyn a’r morglawdd, yn ogystal ag amgylchedd ac ansawdd dŵr y Bae.

During those discussions several matters became clear. Alternative proposals for management were put forward by Cardiff City and County Council, as I explained in my statement last week, which will lead to savings for the public purse and the Assembly. Cardiff Bay Development Corporation worked for some time—around 15 months I think—on the assumption that a new body—one might regard it as a new quango—would be established to undertake the harbour authority responsibilities. I am satisfied that it is right for an elected public body to take over those responsibilities. Last week, I reported on that and the consequences of the contract, which would have to have been managed, in any event, by the harbour authority. As a result of our discussions it will be managed by Cardiff City and County Council. I am satisfied that I did everything correctly.

Yn ystod y trafodaethau hynny daeth sawl mater yn eglur. Cyflwynwyd cynigion rheoli amgen gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd, fel yr eglurais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, a fydd yn arwain at arbedion i’r pwrs cyhoeddus ac i’r Cynulliad. Gweithiodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd am gryn amser—tua 15 mis yr wyf yn credu—yn ôl y rhagdybiaeth y byddai corff newydd—gallai rhywun ei ystyried yn gwango newydd—yn cael ei sefydlu i ymgymryd â chyfrifoldebau awdurdod porthladd. Yr wyf yn sicr ei bod yn briodol i gorff cyhoeddus etholedig ymgymryd â’r cyfrifoldebau hynny. Yr wythnos diwethaf, adroddais ar hynny ac ar ganlyniadau’r contract, y buasai’n rhaid iddynt gael eu rheoli, p’run bynnag, gan yr awdurdod porthladd. O ganlyniad i’n trafodaethau fe’i rheolir gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd. Yr wyf yn sicr imi wneud popeth yn gywir.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 18

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 18

I am grateful to the First Secretary. I am anxious that you do not repeat last week’s statement. In view of the urgency and of the public interest in this issue, I allowed sufficient time for these questions to be raised in Plenary.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Ysgrifennydd. Yr wyf yn awyddus i sicrhau nad ydych yn ailadrodd datganiad yr wythnos diwethaf. Yng ngolwg y brys a diddordeb y cyhoedd yn y mater hwn, caniateais ddigon o amser i godi’r cwestiynau hyn yn y Cyfarfod Llawn.

Datganiad ar Fyg y Mileniwm

Statement on the Millennium Bug

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 19

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 19

Millennium bug is rather an unfortunate phrase, Presiding Officer. I hope there is no such thing to spoil our new year celebrations.

Mae byg y mileniwm yn ymadrodd anffodus braidd, Lywydd. Gobeithiaf na fydd dim o’r fath i ddifetha ein dathliadau blwyddyn newydd.

I am pleased to update Members on preparations in Wales to meet the potential problems of the millennium date change, which I last did by publishing a statement on the intranet in November. Although there are no grounds for complacency, I have a few concerns that I will mention later.

Yr wyf yn falch o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y paratoadau yng Nghymru i gyfarfod â phroblemau posibl newid dyddiad y mileniwm, a wneuthum ddiwethaf drwy gyhoeddi datganiad ar y fewnrwyd ym mis Tachwedd. Er nad oes dim lle i ddifaterwch, mae gennyf rai pryderon y soniaf amdanynt yn ddiweddarach.

I am pleased to report that in Wales all sectors of the Assembly, local government, health organisations and the infrastructure are prepared for the millennium. I expect my objective, for the millennium date change to pass without any serious disruption in Wales, particularly in public services, to be met. Business continuity plans and millennium operating regimes are essential safeguards against the impact of unforeseen bug failures and other pressures of the millennium holiday period. We do not expect any problems, but the Assembly’s business continuity plan will be kept under review. This details the arrangements that have been made to ensure that key services are maintained and any disruption is managed and minimised so that we can continue to deliver essential services.

Yr wyf yn falch o adrodd am Gymru fod holl sectorau’r Cynulliad, llywodraeth leol, cyrff iechyd a’r isadeiledd yn barod ar gyfer y mileniwm. Disgwyliaf y bydd y nod sydd gennyf, sef i newid dyddiad y mileniwm fynd heibio heb unrhyw amhariad difrifol yng Nghymru, yn enwedig mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cael ei gyrraedd. Mae cynlluniau parhad busnes a chyfundrefnau gweithredu’r mileniwm yn amddiffyniadau hanfodol rhag effaith methiannau byg nas rhagwelwyd a phwysau eraill cyfnod gwyliau’r mileniwm. Ni ddisgwyliwn unrhyw broblemau, ond parheir i adolygu cynllun parhad busnes y Cynulliad. Mae hwn yn nodi’r trefniadau a wnaethpwyd i sicrhau y cynhelir gwasanaethau allweddol ac y caiff unrhyw amhariad ei reoli a’i leihau fel y gallwn barhau i gyflenwi gwasanaethau hanfodol.

The Assembly will staff an operations room, which will function from 31 December to 7 January. The room will receive information about any significant problems that occur during the millennium date change from our partners throughout Wales, including the emergency services, local government, health organisations and utilities. The Assembly will be in direct contact with the Government’s millennium centre in Whitehall, which will keep us informed of any developments overseas. The operations room will not supersede any local emergency plans. Each local area has joint authority emergency plans that are best suited to meet local needs. The Assembly’s role is to create an overall picture for Wales, which I, as the Assembly Secretary on call, will report to the Cabinet’s civil contingencies committee.

Bydd y Cynulliad yn staffio ystafell reoli, a fydd yn gweithredu o 31 Rhagfyr i 7 Ionawr. Bydd yr ystafell yn derbyn gwybodaeth am unrhyw broblemau o bwys sydd yn digwydd yn ystod newid dyddiad y mileniwm oddi wrth ein partneriaid ledled Cymru, gan gynnwys y gwasanaethau brys, llywodraeth leol, cyrff iechyd a chyfleustodau. Bydd cysylltiad uniongyrchol rhwng y Cynulliad a chanolfan mileniwm y Llywodraeth yn Whitehall, a fydd yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ddatblygiadau dramor. Ni fydd yr ystafell reoli’n disodli unrhyw gynlluniau argyfwng lleol. Mae gan bob ardal gynlluniau argyfwng ar y cyd rhwng awdurdodau sydd wedi eu haddasu i ateb anghenion lleol orau. Rôl y Cynulliad yw creu darlun cyffredinol ar gyfer Cymru, y byddaf fi, fel yr Ysgrifennydd Cynulliad sydd ar alwad, yn hysbysu pwyllgor digwyddiadau annisgwyl sifil y Cabinet amdano.

I have arranged for Members to be provided with an update on developments across Wales on 31 December and 1 January via the intranet. I will publish details of how to access this and useful websites. In addition, there will be a recorded message giving Members a verbal update. This will not be a public helpline, but a line for Members to call to obtain updated information on events as necessary, which I think will be of great help. These arrangements are unique in government, to the Assembly.

Trefnais i hysbysu’r Aelodau am ddigwyddiadau ledled Cymru ar 31 Rhagfyr a 1 Ionawr drwy’r fewnrwyd. Cyhoeddaf fanylion ynghylch y modd i fynd at y wybodaeth hon a gwefannau defnyddiol. Yn ogystal â hynny, bydd neges a recordiwyd a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar lafar. Nid llinell gymorth i’r cyhoedd fydd hon, ond llinell i’r Aelodau alw er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiadau yn ôl yr angen, y credaf y bydd o gymorth mawr. Mae’r trefniadau hyn yn unigryw mewn llywodraeth, i’r Cynulliad.

All sectors in Wales continue to be rated as blue. This means that, through the National Infrastructure Forum, independent assessors have not identified any risk of material disruption, therefore normal electricity, gas and water services can be expected. The police, fire, health care and telecommunications services and the essential food and groceries industries are also rated blue.

Mae’r holl sectorau yng Nghymru yn y dosbarth glas o hyd. Mae hyn yn golygu, drwy’r Fforwm Isadeiledd Cenedlaethol, nad yw aseswyr annibynnol wedi dynodi unrhyw berygl o amhariad o bwys, felly gellir disgwyl gwasanaethau trydan, nwy a dŵr yn ôl yr arfer. Mae’r heddlu, y gwasanaethau tân, gofal iechyd a thelegyfathrebu a’r diwydiannau bwyd hanfodol hefyd yn cael eu hystyried yn las.

I am pleased that the national health service has recently concluded an all-Wales pay settlement for the millennium period. Settlements remain to be concluded in some parts of local government but it appears that all sides are working constructively to finalise agreements. We do not anticipate any problems in that area. The latest survey by Action 2000 shows that three-quarters of small and medium sized enterprises are on course to complete, or have completed, their preparations for 2000. Many sources of help and advice have been made available to companies. Business Connect has played its part in this process, providing help for several thousand Welsh businesses over the past 18 months through a range of support products, provided at subsidised rates or free of charge. It employs eight millennium advisers based in the Welsh regions, who are still available to help firms with contingency planning. They will continue to provide this specialist service in the first quarter of the next millennium.

Yr wyf yn falch bod y gwasanaeth iechyd gwladol wedi cwblhau setliad tâl i Gymru gyfan yn ddiweddar ar gyfer cyfnod y mileniwm. Mae setliadau i’w cwblhau eto mewn rhai rhannau o lywodraeth leol ond ymddengys fod pob ochr yn gweithio’n adeiladol er mwyn cwblhau’r cytundebau. Ni ragwelwn unrhyw broblemau yn y maes hwnnw. Mae’r arolwg diweddaraf gan Action 2000 yn dangos bod tri chwarter o fusnesau bach a chanolig eu maint wedi cwblhau neu ar y ffordd i gwblhau eu paratoadau ar gyfer 2000. Sicrhawyd bod llawer o ffynonellau cymorth a chyngor ar gael i gwmnïau. Mae Cyswllt Busnes wedi chwarae ei ran yn y broses hon, gan ddarparu cymorth i rai miloedd o fusnesau yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf drwy amrediad o gynhyrchion cymorth, a ddarparwyd ar gyfraddau is drwy gymhorthdal neu’n rhad ac am ddim. Mae’n cyflogi wyth ymgynghorydd mileniwm sydd wedi eu lleoli yn rhanbarthau Cymru, sydd ar gael o hyd i helpu busnesau i wneud cynlluniau wrth gefn. Byddant yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth arbenigol hwn yn chwarter cyntaf y mileniwm nesaf.

It is frequently said that the millennium bug is not just a technical issue but a business issue. Through Business Connect, Welsh firms can access a broad range of business support and advice to help them manage the diverse business impacts that might arise in the coming months. Firms can access Business Connect through the all-Wales telephone number, 0345 969798. I may sound like an advertisement, but it is important that businesses recognise that help and assistance is available.

Dywedir yn aml nad yw byg y mileniwm yn fater technegol yn unig ond yn fater i fusnesau hefyd. Drwy Gyswllt Busnes, gall busnesau yng Nghymru gael mynediad at amrediad eang o gymorth a chyngor busnes i’w helpu i reoli’r gwahanol effeithiau ar fusnesau a allai godi yn y misoedd sydd i ddod. Gall busnesau gyrraedd Cyswllt Busnes drwy’r rhif ffôn i Gymru gyfan, 0345 969798. Efallai fy mod yn swnio fel hysbyseb, ond mae’n bwysig bod busnesau’n sylweddoli bod help a chymorth ar gael.

Organisations must also plan for the return to work on 4 January. The Assembly’s buildings will be checked and confirmed as safe before staff are allowed to enter. The computer system will be checked, and instructions posted on how Members and staff can help in this process. These are only prudent precautions, and no major problems are expected.

Rhaid i gyrff hefyd gynllunio ar gyfer dychwelyd i’r gwaith ar 4 Ionawr. Gwirir adeiladau’r Cynulliad a’u cadarnhau’n ddiogel cyn caniatáu i’r staff ddod i mewn. Gwirir y system gyfrifiadur, ac anfonir cyfarwyddiadau ynghylch y modd y gall yr Aelodau a’r staff helpu yn y broses hon. Nid yw’r rhain ond yn rhagofalon doeth, ac ni ddisgwylir problemau mawr.

As I have indicated, a vast amount of work has been done across Wales to prepare for the millennium. In the main, we can be confident that it will be business as usual. This is confirmed in a report published by the National Audit Office on Welsh millennium preparations. I have asked a few organisations that were mentioned as not yet having completed their preparation work to confirm that they are now ready. The Assembly and its sponsored bodies have spent approximately £1.3 million on millennium compliance activities to ensure that critical systems at risk will continue to work. However, no matter how much work has been done, risks will remain. It is possible there will be some localised disruptions, as there are every day, which may manifest themselves at the new year. That is why organisations must have robust business continuity plans.

Fel y nodais, cyflawnwyd gwaith enfawr ledled Cymru i baratoi ar gyfer y mileniwm. Ar y cyfan, gallwn fod yn ffyddiog y bydd busnes fel arfer. Cadarnheir hyn mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar baratoadau ar gyfer y mileniwm yng Nghymru. Gofynnais i ychydig o gyrff y crybwyllwyd nad oeddent eto wedi cwblhau eu gwaith paratoi i gadarnhau eu bod bellach yn barod. Mae’r Cynulliad a’r cyrff a noddir ganddo wedi gwario tua £1.3 miliwn ar weithgareddau cydymffurfiad y mileniwm er mwyn sicrhau y bydd systemau holl bwysig sydd mewn perygl yn parhau i weithio. Fodd bynnag, ni waeth faint o waith a wnaethpwyd, bydd y peryglon yn aros. Mae’n bosibl y bydd rhai amhariadau lleol, fel y ceir bob dydd, yn dod i’r amlwg yn y flwyddyn newydd. Dyna pam y mae’n rhaid i gyrff gael cynlluniau parhad busnes cadarn.

The millennium bug is not the only challenge that we must manage. The millennium will be one of the longest public holidays that most of us will experience. It is a time of year when the weather can turn nasty and when our hospitals and emergency services are under greatest pressure. I have a few simple messages for the people of Wales. I would like your support in spreading these messages, which can help us all enjoy a trouble-free new year, to your constituents. They are simple messages, like planning all journeys in advance. If you use public transport, check it is available for the journey home before you travel, bearing in mind that there is likely to be a limited service, if any, in some areas. There will be an extra burden on the emergency services so only make 999 calls if absolutely necessary. Avoid using hospital accident and emergency units for anything but serious needs. The health authorities and trusts will issue publicity material on what primary care facilities will be available, and what pharmacies and health centres will be open. Over this holiday, it is important to spread the message to be a good neighbour. There was a disturbing report in the newspaper yesterday about old people dying and nobody knowing about it for weeks. Such incidents should not happen.

Nid byg y mileniwm yw’r unig her y bydd yn rhaid inni ei rheoli. Y mileniwm fydd un o’r gwyliau cyhoeddus hwyaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn eu profi. Mae’n adeg o’r flwyddyn pan all y tywydd droi’n annifyr a phan y mae ein hysbytai a’n gwasanaethau brys o dan y pwysau mwyaf. Mae gennyf ychydig o negeseuon syml i bobl Cymru. Hoffwn gael eich cefnogaeth i ledaenu’r negeseuon hyn, a all ein helpu oll i fwynhau blwyddyn newydd ddidrafferth, ymysg eich etholwyr. Negeseuon syml ydynt, fel cynllunio pob taith ymlaen llaw. Os ydych yn defnyddio cludiant cyhoeddus, gwiriwch ei fod ar gael ar gyfer y daith adref cyn ichi deithio, gan gofio ei fod yn debygol o fod yn wasanaeth cyfyngedig, os ceir un o gwbl, mewn rhai ardaloedd. Bydd baich ychwanegol ar y gwasanaethau brys felly peidiwch â gwneud galwadau 999 oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol. Peidiwch â defnyddio unedau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai ar gyfer dim heblaw anghenion difrifol. Bydd awdurdodau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cyhoeddi deunydd cyhoeddusrwydd ynghylch y cyfleusterau gofal sylfaenol fydd ar gael, a pha fferyllfeydd a chanolfannau iechyd a fydd yn agored. Dros y gwyliau hyn, mae’n bwysig lledaenu’r neges bod angen bod yn gymydog da. Yr oedd adroddiad poenus yn y papur newydd ddoe am hen bobl yn marw a neb yn gwybod am hynny am wythnosau. Ni ddylid cael digwyddiadau o’r fath.

In conclusion, much hard work has been completed across Wales. There are no grounds for complacency but I am confident that, with the co-operation of the citizens of Wales, we will enjoy a smooth transition into the millennium. I have arranged for an assessment in January of how events worked out in reality, which will show what lessons are to be learnt. I will report on this in detail to the Assembly in the new year.

I derfynu, cwblhawyd llawer o waith caled ledled Cymru. Nid oes lle i ddifaterwch ond yr wyf yn ffyddiog, gyda chydweithrediad dinasyddion Cymru, y byddwn yn mwynhau newid llyfn i’r mileniwm. Trefnais ar gyfer asesiad yn Ionawr o’r modd y gweithiodd pethau mewn gwirionedd, a fydd yn dangos pa wersi sydd i’w dysgu. Rhoddaf adroddiad manwl ar hyn i’r Cynulliad yn y flwyddyn newydd.

Brian Hancock spoken in English p. 22

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 22

This is not so much a question as a statement. I welcome the statement and the confidence it gives. The fact that you will be on call makes me feel even better. I welcome the NHS pay settlements, as NHS workers were concerned about them. They kept looking over the fence and seeing what was happening in other organisations. Last time we spoke about this, I spoke about the £750 million being spent on the Millennium Dome. Unfortunately, I see that now being advertised as a big car park. I wonder if we are getting any revenue from the advertising on that. It bugs me that this horrendous sum is being spent, when it represents 63 per cent of Objective 1 funding.

Nid yw hyn yn gymaint o gwestiwn ag ydyw o ddatganiad. Croesawaf y datganiad a’r hyder y mae’n ei roi. Mae’r ffaith y byddwch ar alwad yn gwneud imi deimlo’n well byth. Croesawaf setliadau tâl yr NHS, gan fod gweithwyr yr NHS yn bryderus yn eu cylch. Yr oeddent yn edrych dros y clawdd o hyd ac yn gweld beth oedd yn digwydd mewn cyrff eraill. Y tro diwethaf inni sôn am hyn, siaredais am y £750 miliwn a werir ar Ddôm y Mileniwm. Gwaetha’r modd, gwelaf ei bod yn cael ei hysbysebu’n awr fel maes parcio mawr. Tybed a ydym yn derbyn unrhyw refeniw o’r hysbysebu ar hynny. Mae’n boen imi fod y swm aruthrol hwn yn cael ei wario, gan ei fod yn cyfateb i 63 y cant o gyllid Amcan 1.

I am pleased that three quarters of small and medium-sized businesses are on course to complete or have completed, their preparations for 2000. However, it is worrying that 25 per cent have not. Only recently did Action 2000 advise small businesses to get their act together and prepare themselves. It bugs me that this type of up-skilling includes work that would have been acceptable for Objective 1 funding. This is 1999, and we could have achieved much more by now. Furthermore, it bugs me that the pensions of miners’ widows, the widows of men who gave blood, sweat and tears are being raided for £250 million a year.

Yr wyf yn falch bod tri chwarter y busnesau bach a chanolig eu maint wedi cwblhau neu ar y ffordd i gwblhau eu paratoadau ar gyfer 2000. Fodd bynnag, mae’n peri gofid bod 25 y cant heb wneud hynny. Dim ond yn ddiweddar y cynghorwyd busnesau bach gan Action 2000 i roi siâp arni a pharatoi eu hunain. Mae’n boen imi fod y math hwn o uwchraddio medrau’n cynnwys gwaith a fuasai’n dderbyniol ar gyfer cyllid Amcan 1. 1999 yw hi, a gallasem fod wedi cyflawni llawer mwy erbyn hyn. Yn ogystal â hynny, mae’n boen imi fod pensiynau gweddwon glowyr, gweddwon i ddynion a chwysodd waed a dagrau, yn cael eu hysbeilio o £250 miliwn y flwyddyn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Order. This statement is about the millennium bug not the Millennium Dome.

Trefn. Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â byg y mileniwm nid Dôm y Mileniwm.

Brian Hancock spoken in English p. 23

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 23

It all relates to the next millennium. We are trying to help the people of Wales.

Mae’r cwbl yn ymwneud â’r mileniwm nesaf. Yr ydym yn ceisio helpu pobl Cymru.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Order. A question would be helpful.

Trefn. Byddai cwestiwn o gymorth.

Brian Hancock spoken in English p. 23

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 23

I was not going to pose a question. I wanted to comment on the technical and business aspects of this.

Nid oeddwn yn mynd i ofyn cwestiwn. Yr oeddwn am wneud sylw ar yr agweddau technolegol a busnes o hyn.

I will finish on this point. What particularly bugs me is how some of our disadvantaged people in rural and in semi rural communities are being deprived and further disadvantaged by the potential loss of their post offices and sub-post offices due to the imposition of automated credit transfer and monthly payments. If we think—

Terfynaf ar y pwynt hwn. Yr hyn sydd yn boen arbennig imi yw’r modd y mae rhai o’n pobl ddifreintiedig mewn cymunedau gwledig a lled-wledig yn cael eu hamddifadu a’u rhoi dan anfantais bellach drwy’r posibiliad y byddant yn colli eu swyddfeydd post a’u his-swyddfeydd post oherwydd gorfodi trosglwyddo credyd awtomataidd a thaliadau misol. Os credwn—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Order. Please ask a question or end your statement.

Trefn. Gofynnwch gwestiwn, os gwelwch yn dda, neu dewch â’ch datganiad i ben.

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

I share some of Brian’s concerns about SMEs. We have tried to help them and 3,000 have been given advice and assistance. However, the ones that have not recognised the need for that assistance concern me. I am particularly pleased that we have millennium advisors to advise SMEs, and that they are still available to do so. If you get an opportunity to publicise any of this, please stress that it is not too late to seek advice. We are concerned about what will happen when people return to work in businesses that are not millennium-compliant, particularly if they are part of a supply chain that impacts on other people. It is important to communicate that message to business.

Rhannaf rai o bryderon Brian ynghylch busnesau bach a chanolig eu maint. Yr ydym wedi ceisio eu helpu ac mae 3,000 wedi derbyn cyngor a chymorth. Fodd bynnag, y rhai sydd heb gydnabod yr angen am y cymorth hwnnw sydd yn peri pryder i mi. Yr wyf yn arbennig o falch bod gennym ymgynghorwyr mileniwm i gynghori busnesau bach a chanolig eu maint, ac maent ar gael o hyd i wneud hynny. Os cewch gyfle i roi cyhoeddusrwydd i hyn o gwbl, byddwch gystal â phwysleisio nad yw’n rhy hwyr i ofyn cyngor. Yr ydym yn bryderus ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd pan ddaw pobl yn ôl i’w gwaith mewn busnesau nad ydynt yn barod ar gyfer y mileniwm, yn enwedig os ydynt yn rhan o gadwyn gyflenwi sydd yn effeithio ar bobl eraill. Mae’n bwysig trosglwyddo’r neges honno i fusnes.

Hyder and the Environment Agency have done a great deal of work on this by talking to companies. The Environment Agency has talked to its client base and addressed many issues with them including possible risks with pollutants. I share their confidence that they have done as much as they possibly could on this matter. It was nice to see a team-Wales approach to this problem because we have tackled these issues differently and more co-operatively in Wales.

Gwnaeth Hyder ac Asiantaeth yr Amgylchedd lawer o waith ar hyn drwy siarad â chwmnïau. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi siarad â’i sylfaen gwsmeriaid ac wedi ymdrin â llawer o faterion gyda hwy gan gynnwys peryglon posibl gyda llygryddion. Rhannaf eu hyder eu bod wedi gwneud cymaint ag y gallent ar y mater hwn. Yr oedd yn braf gweld dull gweithredu tîm Cymru ynghylch y broblem hon oherwydd yr ydym wedi trafod y materion hyn mewn modd gwahanol a mwy cydweithredol yng Nghymru.

Glyn Davies spoken in English p. 24

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

I was pleased to hear the Finance Secretary refer to all sectors in Wales as being blue. That is a Conservative dream for early in the new millennium.

Yr oeddwn yn falch o glywed yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyfeirio at yr holl sectorau yng Nghymru fel rhai glas. Mae hynny’n freuddwyd gan y Ceidwadwyr ar gyfer dechrau’r mileniwm newydd.

As much as I search for an opportunity to introduce a degree of Westminster politics into this debate, I cannot. I associate myself with the Finance Secretary’s statement. I am pleased at her overall confidence that there will be no serious problems and that our public services will be protected. You asked for our support to ensure that public services are not over-pressurised. We are all pleased to do that.

Er cymaint y chwiliaf am gyfle i gyflwyno rhywfaint o wleidyddiaeth San Steffan i’r ddadl hon, ni allaf. Cefnogaf ddatganiad yr Ysgrifennydd Cyllid. Yr wyf yn falch o weld ei hyder cyffredinol na fydd problemau difrifol ac y diogelir ein gwasanaethau cyhoeddus. Gofynasoch am ein cefnogaeth i sicrhau na fydd gormod o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Yr ydym oll yn fodlon gwneud hynny.

Edwina Hart spoken in English p. 24

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 24

Thank you.

Diolch i chi.

Peter Black spoken in English p. 24

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 24

I was surprised that Brian Hancock did not mention the bugs in the millennium stadium. Edwina’s statement did not directly refer to transport. Many people will be travelling in cars or on public transport over Christmas. There is a problem in ensuring not only that computers that control public transport systems but the embedded chips are compliant. What contingencies are in place to ensure that our transport systems will be up and running across this period and that when we return from the millennium holiday, they will continue to run in good order?

Synnais na soniodd Brian Hancock am y bygiau yn Stadiwm y Mileniwm. Nid oedd cyfeiriad uniongyrchol at drafnidiaeth yn natganiad Edwina. Bydd llawer o bobl yn teithio mewn ceir neu ar gludiant cyhoeddus dros y Nadolig. Mae problem wrth sicrhau nid yn unig fod cyfrifiaduron sydd yn rheoli systemau cludiant cyhoeddus yn barod ond bod y sglodion gosod hefyd. Pa gynlluniau wrth gefn a sefydlwyd i sicrhau y bydd ein systemau trafnidiaeth yn rhedeg dros y cyfnod hwn ac y byddant yn parhau i redeg yn drefnus ar ôl inni ddychwelyd o wyliau’r mileniwm?

Edwina Hart spoken in English p. 25

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 25

All these issues, including plans for individual sections, have been checked by central Government. In terms of compliance, they are all on blue. However, I share your concern about what will happen when we come back to work on 4 January. We have done everything possible to ensure that everything will be in order.

Mae’r holl faterion hyn, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer adrannau unigol, wedi eu gwirio gan Lywodraeth ganol. O ran parodrwydd, maent oll yn las. Fodd bynnag, rhannaf eich pryder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd pan ddeuwn yn ôl i’r gwaith ar 4 Ionawr. Gwnaethom bob dim posibl i sicrhau y bydd popeth mewn trefn.

There is a public transport issue and it starts on millennium eve. There will not be much public transport. If people are attending functions it is essential that they organise transport to get home. My concern is that people will be stranded and will have to call out the emergency services to deal with the problem. Here, I pay tribute to the excellent job of the emergency services—the police, the ambulance and the fire services—in delivering the plan in all key areas. They have been on the ball and have dealt with this marvellously. I hope that the citizens of Wales will allow them to enjoy the millennium and that they will not have too many unnecessary call-outs.

Mae mater cludiant cyhoeddus ac mae’n dechrau ar noson y mileniwm. Ni fydd llawer o gludiant cyhoeddus. Os yw pobl yn mynd i dderbyniadau mae’n holl bwysig eu bod yn trefnu cludiant i ddod adref. Y pryder sydd gennyf yw y bydd pobl wedi eu gadael ar y clwt ac y byddant yn gorfod galw’r gwasanaethau brys allan i ddelio â’r broblem. Talaf deyrnged yma i waith rhagorol y gwasanaethau brys—yr heddlu, a’r gwasanaethau ambiwlans a thân—wrth gyflawni’r cynllun yn yr holl feysydd allweddol. Buont yn gwbl effro ac maent wedi delio â hyn yn wych. Gobeithiaf y bydd dinasyddion Cymru’n caniatáu iddynt fwynhau’r mileniwm ac na chânt ormod o alwadau diangen.

Elin Jones spoken in English p. 25

Elin Jones siaradwyd yn Saesneg t. 25

On a slightly lighter note, does the Finance Secretary agree with me that Assembly Members should refrain from celebrating the millennium and the millennium bug with French Champagne and should chose good Welsh sparkling wine?

Ar nodyn ychydig yn ysgafnach, a yw’r Ysgrifennydd Cyllid yn cytuno â mi y dylai Aelodau’r Cynulliad ymatal rhag dathlu’r mileniwm a byg y mileniwm drwy yfed siampaen o Ffrainc ac y dylent ddewis gwin pefriol da o Gymru?

Edwina Hart spoken in English p. 25

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 25

I enjoy a drop of Cariad sparkling wine. I will be on call, so, if I am allowed one glass, I think I will have a glass of that.

Yr wyf yn mwynhau diferyn o win pefriol Cariad. Byddaf ar alwad, felly, os caniateir un gwydraid i mi, credaf y cymeraf wydraid o hwnnw.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 25

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

Before I turn to the next three weeks’ Business Statement, I inform you of changes to the handling of three items of business tomorrow. As I reported to the Business Committee this morning, the decision to change the motion to approve the take-up of the winter supplementary estimate to a statement reflects the change in the legal advice that we have received from the Office of the Counsel General. Initially, its advice was that the take-up of the winter supplementary estimate should be treated in the same way as the transfers across main expenditure groups, which are covered under Standing Order No. 19.7. That was to be the subject of tomorrow’s motion. However, subsequent legal advice was that Standing Order No. 19 does not deal with all supplementary estimates and that it would be appropriate to deal with those by way of a statement. Accordingly, the Finance Secretary will issue a statement tomorrow on the take-up of the winter supplementary estimate.

Cyn imi droi at y Datganiad Busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, fe’ch hysbysaf am newidiadau yn y modd yr ymdrinnir â thair eitem busnes yfory. Fel yr adroddais i’r Pwyllgor Busnes y bore yma, mae’r penderfyniad i newid y cynnig i gymeradwyo derbyn amcangyfrif atodol y gaeaf yn ddatganiad yn adlewyrchu’r newid yn y cyngor cyfreithiol a gawsom o Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol. I ddechrau, ei chyngor oedd y dylid ymdrin â derbyniad amcangyfrif atodol y gaeaf yn yr un modd â’r trosglwyddiadau ar draws y prif grwpiau gwariant, sydd wedi eu cynnwys o dan Reol Sefydlog Rhif 19.7. Yr oedd hynny i fod yn destun i’r cynnig yfory. Fodd bynnag, y cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd wedyn oedd nad yw Rheol Sefydlog Rhif 19 yn ymdrin â phob amcangyfrif atodol ac y byddai’n briodol ymdrin â’r rheini drwy ddatganiad. Yn unol â hynny, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi datganiad yfory ar dderbyniad amcangyfrif atodol y gaeaf.

The second item, as agreed in the Business Committee meeting this morning, is the debate on the beef on the bone ban. I explained to the Business Committee that we are proceeding, by way of urgency procedure, to lift the beef on the bone ban so that we will legislate on the same basis as England, Scotland and Northern Ireland. My colleague, Christine Gwyther will explain this more fully tomorrow in moving the motion.

Yr ail eitem, fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes y bore yma, yw’r ddadl ar y gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn. Eglurais i’r Pwyllgor Busnes ein bod yn mynd rhagom, drwy weithdrefn frys, i godi’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn fel y byddwn yn deddfu ar yr un sail â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd fy nghydweithiwr Christine Gwyther yn egluro hyn yn llawnach yfory wrth gynnig y cynnig.

Thirdly, it has also been brought to my attention that the Welsh language version of the special grant report on the children and youth partnership fund that we debated last week and approved in Plenary, and that enabled the release of this year’s resources to the fund, is incorrect. The error lies in Annex A which specifies each local authority’s grant entitlement under the fund. Given that there is such an inconsistency and that both versions of the report are of equal standing, the statutory determination was technically defective. A correct and consistent version of the report must be tabled and approved by the Assembly before resources can be released to local authorities. It is important that this issue is resolved as soon as possible so that local partnerships have the maximum opportunity to spend the funding this year. I have sought and obtained the agreement of the Presiding Officer under Standing Order No. 6.9 to approve the corrected report in Plenary tomorrow. I will make arrangements to table the motion and place the revised report in the Table Office today so that we can approve the report tomorrow.

Yn drydydd, tynnwyd fy sylw at y ffaith fod fersiwn Cymraeg yr adroddiad grant arbennig ar y gronfa bartneriaeth plant a phobl ifainc a drafodasom yr wythnos diwethaf a’i gymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn, ac a alluogodd ryddhau adnoddau’r flwyddyn hon i’r gronfa, yn anghywir. Mae’r gwall yn Atodiad A sydd yn nodi hawl grant pob awdurdod lleol o dan y gronfa. Gan fod anghysondeb o’r fath a bod dau fersiwn yr adroddiad o’r un statws, yr oedd y penderfyniad statudol yn dechnegol ddiffygiol. Rhaid i fersiwn cywir a chyson o’r adroddiad gael ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan y Cynulliad cyn y gellir rhyddhau adnoddau i awdurdodau lleol. Mae’n bwysig datrys y mater hwn gynted ag y bo modd fel y bydd y cyfle mwyaf posibl gan bartneriaethau lleol i wario’r arian eleni. Yr wyf wedi ceisio ac wedi derbyn cydsyniad y Llywydd o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9 i gymeradwyo’r adroddiad cywiredig yn y Cyfarfod Llawn yfory. Trefnaf i gyflwyno’r cynnig yfory a gosod yr adroddiad diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno heddiw fel y gallwn gymeradwyo’r adroddiad yfory.

Another issue raised in Business Committee this morning was the timing of the local government settlement debate. The provisional figures for the settlement for the next financial year are out to consultation with our local government partners. The deadline for the consultation period is 20 January. It is our intention to debate the settlement at the earliest possible time after that in the light of the consultation exercise. I could not envisage bringing forward this debate before the end of the consultation period as that would undermine our consultations with local government in Wales.

Mater arall a godwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore yma oedd amseriad y ddadl ar setliad llywodraeth leol. Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer y setliad am y flwyddyn ariannol nesaf wedi eu hanfon allan ar gyfer ymgynghori â’n partneriaid llywodraeth leol. Y dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgynghori yw 20 Ionawr. Ein bwriad yw trafod y setliad ar yr adeg gynharaf bosibl wedi hynny yng ngoleuni’r ymarferiad ymgynghori. Ni allwn ddychmygu rhoi’r ddadl hon gerbron cyn diwedd y cyfnod ymgynghori gan y byddai hynny’n tanseilio ein hymgynghoriadau â llywodraeth leol yng Nghymru.

The issue of separating a debate on the local government settlement from a motion to ratify the budget was also raised with me. I heard the points that were made in the Business Committee meeting and I have no objection, in principle, to separating the matters. I will therefore look closely at the possibility of bringing the debate forward to 1 February 2000, and I will report back to the Business Committee in due course. We will need to discuss with officials the tabling of motions and Orders.

Codwyd y mater â mi hefyd o wahanu dadl ar y setliad llywodraeth leol oddi wrth gynnig i gadarnhau’r gyllideb. Clywais y pwyntiau a wnaethpwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ac nid oes gennyf wrthwynebiad, mewn egwyddor, i wahanu’r materion. Byddaf felly’n edrych yn fanwl ar y posibiliad o ddod â’r ddadl ymlaen i 1 Chwefror 2000, ac adroddaf yn ôl i’r Pwyllgor Busnes maes o law. Bydd angen inni drafod cyflwyno cynigion a Gorchmynion gyda’r swyddogion.

The next three weeks’ Plenary business will be as follows. The business in Plenary on Tuesday 18 January will include the debate on social inclusion and the progress on the draft action plan. On Wednesday 19 January, it is proposed that we debate the outcome of the national curriculum review and a motion to approve the 11 national curriculum draft Orders. On Tuesday 25 January, business will focus on five items of local government subordinate legislation. On Wednesday 26 January, there will be a debate on the report of the Post-16 Education and Training Committee on the Education Training and Action Group report. On Wednesday 2 February we will debate the Executive’s response to the debate on subordinate legislation. Arrangements will be made after Plenary today to place a copy of this statement on the intranet and internet.

Bydd y tair wythnos nesaf o fusnes y Cyfarfod Llawn fel a ganlyn. Bydd y busnes yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 18 Ionawr yn cynnwys y ddadl ar gynhwysiant cymdeithasol a’r cynnydd ar y cynllun gweithredu drafft. Ddydd Mercher 19 Ionawr, cynigir ein bod yn trafod canlyniad yr adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol a chynnig i gymeradwyo 11 Gorchymyn drafft y cwricwlwm cenedlaethol. Ddydd Mawrth 25 Ionawr, bydd y busnes yn canolbwyntio ar bum eitem o is-ddeddfwriaeth llywodraeth leol. Ddydd Mercher 26 Ionawr, bydd dadl ar adroddiad y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar adroddiad Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant. Ddydd Mercher 2 Chwefror byddwn yn trafod ymateb y Weithrediaeth i’r ddadl ar is-ddeddfwriaeth. Gwneir trefniadau ar ôl y Cyfarfod Llawn heddiw i osod copi o’r datganiad hwn ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Jocelyn Davies spoken in English p. 28

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 28

I am glad that Andrew has agreed to have a debate on the local government settlement, following the announcement made by Peter Law last week and the point of order raised by Peter Black, because it is an important issue. Will you give the Plaid group the assurance that this debate will take place as soon as possible in the new year and well before the budget debate, so that we can support your Business Statement?

Yr wyf yn falch bod Andrew wedi cytuno i gael dadl ar y setliad llywodraeth leol, ar ôl y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan Peter Law yr wythnos diwethaf a’r pwynt o drefn a godwyd gan Peter Black, oherwydd mae’n fater pwysig. A fyddwch gystal â rhoi sicrwydd i grŵp Plaid Cymru y bydd y ddadl hon yn digwydd cyn gynted ag y bo modd yn y flwyddyn newydd ac ymhell cyn y ddadl ar y gyllideb, fel y gallwn gefnogi’ch Datganiad Busnes?

Andrew Davies spoken in English p. 28

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 28

It is stated in the timetable that we will debate the budget on 8 February and the Assembly has agreed to that. If we were to bring forward or put back the debate on the local government settlement, the only available opportunity after the consultation ends on the 20 January, would be the first week of February. I am considering that. Due to the constraints on the timetable of the budget, that will be the earliest possible opportunity if, for example, officials have to prepare papers and draft Orders. It will obviously take them time to take on board the responses to the consultation on the local government settlement.

Nodir ar yr amserlen y byddwn yn trafod y gyllideb ar 8 Chwefror ac mae’r Cynulliad wedi cytuno ar hynny. Pe baem yn dod â’r ddadl ar y setliad llywodraeth leol ymlaen neu’n ei bwrw’n ôl, yr unig gyfle a fyddai ar gael ar ôl i’r ymgynghoriad orffen ar 20 Ionawr fyddai wythnos gyntaf Chwefror. Yr wyf yn ystyried hynny. Oherwydd y cyfyngiadau ar amserlen y gyllideb, dyna fyddai’r cyfle cynharaf posibl os oes rhaid, er enghraifft, i’r swyddogion baratoi papurau a Gorchmynion drafft. Mae’n amlwg y bydd angen amser iddynt roi ystyriaeth i’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y setliad llywodraeth leol.

Glyn Davies spoken in English p. 28

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 28

I am also glad that we will have the opportunity to discuss the local government settlement. However, I was a little disappointed that you have not programmed time for a statement from the Secretary for Economic Development concerning the loss of 1,000 jobs in Hyder, the Labour Government’s contribution towards that and what they intend to do about it.

Yr wyf finnau’n falch y cawn gyfle i drafod y setliad llywodraeth leol. Fodd bynnag, yr oeddwn braidd yn siomedig nad ydych wedi darparu amser yn y rhaglen ar gyfer datganiad gan yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd ynghylch colli 1,000 o swyddi yn Hyder, cyfraniad y Llywodraeth Lafur at hynny a’r hyn y bwriadant ei wneud yn ei gylch.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 28

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 28

Order. I know that I have a habit of calling Glyn to order, but his question does not arise from the Business Statement, and I do not want to see questions on the Business Statement being used as a way of making points on issues that were not accepted by the Presiding Officer as urgent questions. I have already raised this in relation to the previous use of points of order for this purpose, but clearly Members have found another route now. I would therefore like Members to reflect on that.

Trefn. Gwn ei fod yn arfer gennyf alw Glyn i drefn, ond nid yw ei gwestiwn yn codi o’r Datganiad Busnes, ac nid wyf am weld cwestiynau ar y Datganiad Busnes yn cael eu defnyddio fel modd i wneud pwyntiau ar faterion nad oeddent wedi eu derbyn gan y Llywydd yn gwestiynau brys. Yr wyf eisoes wedi codi hyn mewn perthynas â’r defnydd blaenorol o bwyntiau o drefn i’r diben hwn, ond mae’n amlwg bod yr Aelodau wedi canfod ffordd arall yn awr. Felly byddai’n dda gennyf pe bai’r Aelodau yn myfyrio ynghylch hynny.

Jenny Randerson spoken in English p. 29

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 29

On Wednesday 26 January there is a debate on the report of the Post-16 Education and Training Committee on the ETAG report. I am interested in the terminology. If the report is debated in Plenary session and accepted, what status will that report have and will it bind the Secretary for Post-16 Education and Training to accept the report’s recommendations or those passed in Plenary?

Ddydd Mercher 26 Ionawr mae dadl ar adroddiad y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 ar adroddiad y Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant. Ymddiddoraf yn y derminoleg. Os trafodir yr adroddiad mewn Cyfarfod Llawn a’i dderbyn, pa statws fydd i’r adroddiad hwnnw ac a fydd yn rhwymo yr Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 i dderbyn argymhellion yr adroddiad ynteu’r rhai a dderbynnir yn y Cyfarfod Llawn?

Andrew Davies spoken in English p. 29

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 29

As always, we will take close note of the Assembly’s decisions. Under the delegation of functions, only the Cabinet or the Executive can carry out the executive functions. However, as has already been indicated, we will listen closely to what the Subject Committees and the Assembly decide and indicate. We want the Subject Committees to play a leading role in policy formulation and development, as the First Secretary indicated in his response to Mike German earlier this afternoon, and that will be true for the ETAG report. It will be part of policy development within the Assembly as a corporate body.

Fel y gwnaethom erioed, byddwn yn nodi penderfyniadau’r Cynulliad yn ofalus. O dan y ddirprwyaeth o swyddogaethau, dim ond y Cabinet neu’r Weithrediaeth a gaiff gyflawni’r swyddogaethau gweithredol. Fodd bynnag, fel y nodwyd eisoes, gwrandawn yn ofalus ar yr hyn a benderfynir ac a ddywedir gan y Pwyllgorau Pwnc a’r Cynulliad. Yr ydym am i’r Pwyllgorau Pwnc chwarae rôl arweiniol wrth lunio a datblygu polisi, fel y nododd y Prif Ysgrifennydd yn ei ymateb i Mike German yn gynharach y prynhawn yma, a bydd hynny’n wir am adroddiad y Grŵp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant. Bydd yn rhan o’r datblygu ar bolisi oddi mewn i’r Cynulliad fel corff corfforaethol.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 29

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 29

Point of order. While I entirely endorse the care with which you, Presiding Officer, deal with spurious points of order as well as spurious questions to the Business Secretary, I would like to make a point in the interest of the Assembly about the possibility of job losses at Hyder.

Pwynt o drefn. Er fy mod yn llwyr ategu’r gofal a gymerwch, Lywydd, wrth ymdrin â phwyntiau o drefn ffug yn ogystal â chwestiynau ffug i’r Trefnydd, hoffwn wneud pwynt er budd y Cynulliad ynghylch y posibiliad o golledion swyddi yn Hyder.

Glyn Davies spoken in English p. 29

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 29

What is your point of order?

Beth yw’r pwynt o drefn sydd gennych?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 29

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 29

It should be noted that we took steps to bring together the different regulatory bodies to make sure that there was joined up—[Interruption.]

Dylid nodi ein bod wedi cymryd camau i ddod â’r gwahanol gyrff rheoleiddiol at ei gilydd er mwyn sicrhau bod—[Torri ar draws.]

I see that the Tories do not like it when—

Gwelaf nad yw wrth fodd y Torïaid pan—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 30

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 30

Order. I am afraid that I do not like it either. This is exactly what I am trying to prevent. We are having micro debates under additional question time outwith our question time. I was surprised that nobody had the ingenuity to ask that question during questions to the First Secretary where it would have perhaps made an interesting exchange.

Trefn. Mae arnaf ofn nad yw wrth fy modd i ychwaith. Dyma’r union beth yr wyf yn ceisio ei rwystro. Yr ydym yn cael mân ddadleuon o dan sesiwn cwestiynau ychwanegol y tu allan i’n sesiwn cwestiynau. Synnais nad oedd neb yn ddigon craff i ofyn y cwestiwn hwnnw yn ystod y sesiwn cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd pan fyddai efallai wedi gwneud dadl ddiddorol.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 30

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 30

Further to that point of order, my whole point is that the Assembly can be proud of the part it played in achieving joined-up government in regulating the water industry.

Yn ychwanegol at y pwynt o drefn hwnnw, yr holl bwynt sydd gennyf yw y gall y Cynulliad ymfalchïo yn y rhan a chwaraeodd wrth sicrhau llywodraeth gydgysylltiol wrth reoleiddio’r diwydiant dŵr.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 30

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 30

I will not take any other points of order from the First Secretary or anyone else. We will now move on to the important rural development debate.

Ni dderbyniaf bwyntiau o drefn eraill oddi wrth y Prif Ysgrifennydd na neb arall. Symudwn ymlaen yn awr i’r ddadl bwysig ar ddatblygu gwledig.

Y Cynllun Datblygu Gwledig

The Rural Development Plan

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 30

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 30

I propose that the Assembly

Cynigiaf fod y Cynulliad

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development (continued) spoken in English p. 30

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 30

The rural development plan even without its technical annexes—which are still in preparation—is a massive document, and I hope that most of you have managed to download it from your machines in time. It included many maps; small trolleys will be provided if you need them. The size and format of the plan is largely at the behest of the European Commission, which has repeatedly emphasised its wish to see a detailed explanation of the measures we propose to improve the economic, environmental and social sustainability of rural Wales. However, this plan also represents an important part of the Assembly’s integrated economic strategy for Wales, examining the problems our rural areas face and proposing, after extensive consultation and debate with our partners, the approach we should take to tackle those problems.

Mae’r cynllun datblygu gwledig hyd yn oed heb ei atodiadau technegol—sydd yn dal i gael eu paratoi—yn ddogfen anferth, a gobeithiaf fod y rhan fwyaf ohonoch wedi llwyddo i’w lwytho i lawr o’ch peiriannau mewn pryd. Yr oedd yn cynnwys llawer o fapiau; darperir trolïau bach os bydd arnoch eu hangen. Mae maint a ffurf y cynllun wedi eu pennu i raddau helaeth gan ofynion y Comisiwn Ewropeaidd, a bwysleisiodd dro ar ôl tro ei fod yn dymuno gweld eglurhad manwl o’r mesurau a gynigiwn i wella cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cefn gwlad Cymru. Fodd bynnag, mae’r cynllun hwn hefyd yn cynrychioli rhan bwysig o strategaeth economaidd integredig y Cynulliad i Gymru, sydd yn ystyried y problemau a wynebir gan ein hardaloedd gwledig ac yn cynnig, ar ôl ymgynghori a thrafod helaeth â’n partneriaid, y dull gweithredu y dylem ei fabwysiadu er mwyn ymdrin â’r problemau hynny.

A small team compiled the plan, but its work was given context by the earlier rural plan brought to this Assembly by the rural partnership. Members will remember the debate we had on it in July. It is also underpinned by a series of consultations, all of which have provoked useful and positive responses, and by a number of valuable discussions held in the Agriculture and Rural Development Committee. The Committee has had three bites at this. Those discussions have helped shape the strategy that lies at the heart of the plan. The rural partnership and the European Task Force have also endorsed the approach taken in producing the document.

Tîm bychan a luniodd y cynllun, ond darparwyd cyd-destun i’w waith gan y cynllun gwledig cynharach y daeth y bartneriaeth wledig ag ef i’r Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau’n cofio’r ddadl a gawsom arno yn ôl ym mis Gorffennaf. Mae hefyd yn seiliedig ar gyfres o ymgynghoriadau, y mae pob un ohonynt wedi ysgogi ymatebion defnyddiol a chadarnhaol, ac ar nifer o drafodaethau gwerthfawr a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Cafodd y Pwyllgor dri chynnig i’w trafod. Mae’r trafodaethau hynny wedi helpu i lunio’r strategaeth sydd wrth graidd y cynllun. Mae’r bartneriaeth wledig a’r Tasglu Ewropeaidd hefyd wedi cefnogi’r ymagwedd a fabwysiadwyd wrth gynhyrchu’r ddogfen.

I will return to those consultations later, but first I will pay tribute to the officials who have produced this immense piece of work, and particularly to the teams led by Mike Dunn and Peter Fullerton who have put an awful lot of hard work into this. The Agriculture and Rural Development Committee know just how much work that is. The plan needs further work to satisfy the technical requirements of the Commission, but it already represents a clear exposition of the current position of rural Wales and of our strategy for its development. There is technical work to be done, but the actual meat of the document is there.

Dychwelaf at yr ymgynghoriadau hynny’n ddiweddarach, ond talaf deyrnged yn gyntaf i’r swyddogion a gynhyrchodd y gwaith anferth hwn, ac yn enwedig i’r timau dan arweiniad Mike Dunn a Peter Fullerton a gyfrannodd lawer iawn o waith caled i hyn. Gŵyr y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig union faint y gwaith hwnnw. Mae angen gwaith pellach ar y cynllun er mwyn bodloni gofynion technegol y Comisiwn, ond mae eisoes yn rhoi esboniad eglur o sefyllfa bresennol cefn gwlad Cymru ac o’n strategaeth i’w ddatblygu. Mae gwaith technegol i’w wneud, ond mae cig y ddogfen yno.

Our consultations on the strategic priorities for rural Wales have been extensive. Building on the work of the rural partnership, the Agriculture and Rural Development Committee published ‘Farming for the Future’ in July. This set out honestly the long-term problems that beset the agriculture industry in Wales. More importantly, it proposed a long-term vision aimed at promoting a sustainable and viable industry. This long-term strategy was widely supported. There is widespread recognition that western agriculture must face up to change. The challenge is to make that a positive rather than negative change.

Cawsom ymgynghoriadau helaeth ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer cefn gwlad Cymru. Gan adeiladu ar sail gwaith y bartneriaeth wledig, cyhoeddodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ yng Ngorffennaf. Yr oedd hwn yn nodi’n onest y problemau tymor hir sydd yn peryglu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Yn bwysicach na hynny, yr oedd yn cynnig gweledigaeth dymor hir er mwyn hybu diwydiant cynaliadwy a hyfyw. Cafwyd cefnogaeth eang i’r strategaeth dymor hir hon. Ceir cydnabyddiaeth eang bod rhaid i amaethyddiaeth orllewinol wynebu newid. Yr her yw gwneud hynny’n newid cadarnhaol yn hytrach nag un negyddol.

There was strong support for further development of the Welsh agri-food strategy, which emphasises added value food processing. There was also recognition that Welsh agriculture must become more environmentally and ecologically sustainable. We must remember that. However, there was concern that extreme changes to the structure of family farms would be undesirable. We must recognise that there is cross-party support for the future of family farms in Wales. We all appreciate that farming has shaped our culture, language and rural life. We must pay tribute to that. Support for farming families to adapt, rather than let them wither on the vine, was seen as vital to any strategy.

Yr oedd cefnogaeth gref i ddatblygu pellach o strategaeth amaeth-fwyd Cymru, sydd yn pwysleisio ychwanegu gwerth wrth brosesu bwyd. Yr oedd cydnabyddiaeth hefyd fod rhaid i amaethyddiaeth Cymru ddod yn fwy amgylcheddol ac ecolegol gynaliadwy. Rhaid inni gofio hynny. Fodd bynnag, yr oedd pryder y byddai newidiadau eithafol yn strwythur ffermydd teuluol yn annymunol. Rhaid inni sylweddoli bod cefnogaeth drawsbleidiol i ddyfodol ffermydd teuluol yng Nghymru. Yr ydym oll yn gwerthfawrogi bod ffermio wedi llunio ein diwylliant, ein hiaith a’n bywyd gwledig. Rhaid inni dalu teyrnged i hynny. Ystyriwyd bod cefnogaeth i deuluoedd amaethyddol addasu, yn hytrach na gadael iddynt wywo ar y gangen, yn hanfodol i unrhyw strategaeth.

A further consultation in November reinforced these key messages and endorsed the overall strategy. It also emphasised the need for an integrated approach to rural development in order to get the best value for money from the limited resources available. For that we drew on the experience of such groups as LEADER. We must remember how limited those resources may be, and make every penny count. We consulted on more specific issues, for example the successor scheme to the hill livestock compensatory allowance scheme. The proposals in section 9 of the plan reflect the views expressed during the consultation. The scheme has been substantially revised, which is welcomed by people throughout Wales. As a result of that consultation, the scheme has been substantially improved.

Yr oedd ymgynghoriad pellach ym mis Tachwedd wedi atgyfnerthu’r negeseuon allweddol hyn ac wedi ategu’r strategaeth gyffredinol. Pwysleisiodd hefyd yr angen am ymagwedd integredig at ddatblygu gwledig er mwyn cael y gwerth gorau am arian o’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. I wneud hynny yr oeddem wedi tynnu ar brofiad grwpiau fel LEADER. Rhaid inni gofio pa mor gyfyngedig y gallai’r adnoddau hynny fod, a rhoi pob ceiniog ar waith. Ymgyngorasom ar faterion mwy penodol, er enghraifft, y cynllun sydd yn olynu’r cynllun iawndal da byw tir uchel. Mae’r cynigion yn adran 9 o’r cynllun yn adlewyrchu’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Mae’r cynllun wedi ei adolygu’n helaeth, a chroesewir hynny gan bobl ledled Cymru. O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw, mae’r cynllun wedi ei wella’n sylweddol.

That has been our approach throughout. We have tried to create a strategy which has wide ownership based on a shared understanding of the needs of rural Wales. It is not a strategy created here in the Assembly or in an office in Cathays Park. Our proposed strategy is in section 6 of the plan and full details of the measures to be implemented are in section 9. The plan demonstrates our proposed co-ordinated approach to rural development, through the new European programmes across all parts of Wales, whether in the Objective 1 area or in east Wales. The broader measures in this plan—the Objective 3 programme to promote human resource development and, in some areas, Objective 2 measures—will all contribute to achieving our goals.

Honno yw’r ymagwedd a fu gennym drwyddo draw. Ceisiasom greu strategaeth ac iddi berchnogaeth eang yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o anghenion cefn gwlad Cymru. Nid yw’n strategaeth a grëwyd yma yn y Cynulliad nac mewn swyddfa ym Mharc Cathays. Mae ein strategaeth arfaethedig yn adran 6 o’r cynllun ac mae manylion llawn y mesurau sydd i’w gweithredu yn adran 9. Mae’r cynllun yn dangos yr ymagwedd gydlynol a gynigiwn at ddatblygu gwledig, drwy’r rhaglenni Ewropeaidd newydd ym mhob rhan o Gymru, boed hynny yn yr ardal Amcan 1 neu yn nwyrain Cymru. Bydd y mesurau ehangach yn y cynllun—y rhaglen Amcan 3 i hybu datblygu adnoddau dynol ac, mewn rhai ardaloedd, mesurau Amcan 2—oll yn cyfrannu at gyflawni ein nodau.

The financial allocations for each measure are given in the table in section 8 of the plan, which the Agriculture and Rural Development Committee has studied. However, it is a draft and indicative table. It is in draft form because final decisions have yet to be made, not least on modulation. I announced our proposals for modulation in Plenary last week. It is also subject to amendment during the negotiations with the European Commission, which will last from January to July, and to modification as events unfold. Needs will be reassessed over the next seven years. We have discussed this also in the Committee. In response to Ieuan Wyn Jones’s amendment 1, any substantive changes to this or any other aspect of the plan will be referred to the Committee for its views. We can take that as read.

Nodir y dyraniadau ariannol ar gyfer pob mesur yn y tabl yn adran 8 o’r cynllun, y mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi ei astudio. Fodd bynnag, tabl drafft ac enghreifftiol ydyw. Mae ar ffurf ddrafft am nad yw’r penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud eto, yn arbennig ar fodiwleiddio. Cyhoeddais ein cynigion ar gyfer modiwleiddio yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae hefyd yn agored i’w newid yn ystod y trafodaethau â’r Comisiwn Ewropeaidd, a fydd yn parhau o Ionawr i Orffennaf, ac i’w fodiwleiddio fel y mae’r digwyddiadau’n datblygu. Ailasesir anghenion dros y saith mlynedd nesaf. Trafodasom hyn yn y Pwyllgor hefyd. Mewn ymateb i welliant 1 Ieuan Wyn Jones, cyfeirir unrhyw newidiadau o bwys i’r agwedd hon neu unrhyw agwedd arall o’r cynllun i’r Pwyllgor er mwyn derbyn ei farn. Gallwn gymryd fod hynny’n ddealledig.

The measures proposed in the plan have a potential to make a real difference to Welsh agriculture and the rural economy by 2007 when the plan’s period ends. The agri-food strategy is central to helping farming become more viable and to creating jobs in added-value food processing in our rural areas. Support for training, advice and information for farmers will help them grab those opportunities when they are available, taking into account the concepts of Farming Connect.

Mae potensial yn y mesurau a gynigir yn y cynllun i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i amaethyddiaeth Cymru ac i’r economi gwledig erbyn 2007 pan ddaw cyfnod y cynllun i ben. Mae’r strategaeth amaeth-fwyd yn ganolog wrth helpu ffermio i ddod yn fwy hyfyw ac wrth greu swyddi mewn prosesu bwyd gwerth ychwanegol yn ein hardaloedd gwledig. Bydd cymorth i hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth i ffermwyr yn eu helpu i afael yn y cyfleoedd hynny pan fyddant ar gael, gan gymryd i ystyriaeth gysyniadau Farming Connect.

The increasing demand for organic food is an opportunity that must be grasped. It is not to our credit that we still have to import 80 per cent of the organic food that we eat in Wales. We must turn that around. The expansion of Tir Gofal will not only help our environment and ecology but will contribute to keeping many farms viable. It is another way of bringing money to the farm while achieving some of our environmental aims and objectives. It will strengthen the environmental image of Welsh food and enhance the attractiveness of the countryside for tourism.

Mae’r galw cynyddol am fwyd organig yn gyfle y mae’n rhaid gafael ynddo. Nid yw er clod i ni ein bod o hyd yn gorfod mewnforio 80 y cant o’r bwyd organig a fwytawn yng Nghymru. Rhaid inni weddnewid hynny. Bydd ehangu Tir Gofal nid yn unig o gymorth i’n hamgylchedd a’n hecoleg ond bydd hefyd yn cyfrannu at gadw hyfywedd llawer o ffermydd. Mae’n ddull arall o ddod ag arian i’r fferm wrth gyflawni rhai o’n nodau ac amcanion amgylcheddol. Bydd yn atgyfnerthu delwedd amgylcheddol bwyd Cymru ac yn gwneud cefn gwlad yn fwy deniadol ar gyfer twristiaeth.

The reformed hill livestock compensatory allowance scheme underlines our commitment to the social fabric of rural Wales. During the consultation it was emphasised that it is a socio-economic as well as an environmental measure. The plan allows for action to help young farmers, subject to the study that we are initiating in the new year and which came out of the budget this year. Action on woodlands will seek to reflect the outcome of the consultation that the Forestry Commission is undertaking for us with the industry. That is due to be completed at the end of January and I hope that we will have good feedback from that for our future Welsh woodland strategy.

Mae’r cynllun iawndal da byw tir uchel yn tanlinellu ein hymrwymiad i wead cymdeithasol cefn gwlad Cymru. Yn ystod yr ymgynghoriad pwysleisiwyd ei fod yn fesur cymdeithasol-economaidd yn ogystal ag un amgylcheddol. Mae’r cynllun yn caniatáu gweithredu i gynorthwyo ffermwyr ifainc, yn amodol ar yr astudiaeth y byddwn yn ei sefydlu yn y flwyddyn newydd ac a ddeilliodd o’r gyllideb eleni. Bydd y gweithredu ynghylch coetiroedd yn ceisio adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn ei gynnal ar ein rhan gyda’r diwydiant. Mae hwnnw i’w gwblhau ddiwedd Ionawr a gobeithiaf y cawn adborth da o hynny ar gyfer ein strategaeth goetiroedd ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

The planned support for wider rural development, through community-led projects in particular, will support the diversification of the rural economy. Taken together, these measures represent a coherent package of support and measures, which can make a real and positive difference to rural Wales. We all accept that it is an ambitious programme and that there are financial constraints. The draft financial table in section 8 of the plan makes this clear.

Bydd y cymorth arfaethedig ar gyfer datblygu gwledig ehangach, drwy brosiectau dan arweiniad y gymuned yn benodol, yn cynnal amrywiaethu yn yr economi gwledig. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn cynrychioli pecyn cydlynol o gymorth a mesurau, sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i gefn gwlad Cymru. Yr ydym oll yn derbyn ei bod yn rhaglen uchelgeisiol a bod cyfyngiadau ariannol. Mae’r tabl ariannol drafft yn adran 8 o’r cynllun yn dangos hynny’n eglur.

On the basis of our share of the UK’s bitterly disappointing allocation of European funding and the Assembly’s allocation to relevant programmes, we can plan on the basis of total expenditure of around £370 million over seven years. That is not enough for us to expand Tir Gofal at the rate we would want nor put in place a credible programme of support for organic conversion. Nor does it allow us to make meaningful allocations to the non-accompanying measures such as processing and marketing and wider rural development. It is all but impossible to create a balanced programme out of that pot of money.

Ar sail ein cyfran ni o’r dyraniad siomedig iawn o arian Ewropeaidd i’r DU a dyraniad y Cynulliad i raglenni perthnasol, gallwn gynllunio ar sail cyfanswm gwariant o tua £370 miliwn dros saith mlynedd. Nid yw hynny’n ddigon inni ehangu Tir Gofal ar y gyfradd a ddymunem nac i sefydlu rhaglen gymorth gredadwy ar gyfer trosi organig. Nid yw ychwaith yn caniatáu inni roi dyraniadau ystyrlon i’r mesurau anghysylltiedig fel prosesu a marchnata a datblygu gwledig ehangach. Bron yn amhosibl yw creu rhaglen gytbwys o’r pot arian hwnnw.

This situation results from the inadequate—pitiful, in fact—UK allocation of European funding. The UK has made strong representations to the European Commission about the level of resources available. However, there is little we can do about that, at least until the mid-term review in 2002-03 when we shall argue forcibly for a more realistic approach to be taken. It is because we have such a poor historic base for rural development activities in the UK hitherto that we have received such a poor settlement this time. That is not to the credit of any previous Government and we are doing all we can to put that right.

Mae’r sefyllfa hon yn ganlyniad i’r dyraniad annigonol—truenus, yn wir—o gyllid Ewropeaidd i’r DU. Mae’r DU wedi cyflwyno sylwadau cryf i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y lefel o adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, ychydig a allwn ei wneud ynghylch hynny tan yr adolygiad canol cyfnod yn 2002-03 pan fyddwn yn dadlau’n gryf dros ymgymryd ag ymagwedd fwy realistig. Y ffaith fod gennym sylfaen hanesyddol mor wael ar gyfer gweithgareddau datblygu gwledig yn y DU hyd yn hyn yw’r rheswm pam yr ydym wedi derbyn setliad mor wael y tro hwn. Nid yw hyn er clod i unrhyw Lywodraeth flaenorol ac yr ydym yn gwneud popeth a allwn i gywiro hynny.

I explained the background to modulation in my statement to the Assembly last week and said that we would consult widely. I wrote to the unions immediately after making the statement. Our proposals are for modulation to start at a low level and to increase gradually. The financial table shows that, on this basis, the receipts from modulation would total £39 million over six years. Importantly, that would be matched by £39 million of new money from the Treasury. It is a way of dragging money into our pot. That £78 million may not seem much compared to the £370 million of the basic programme. However, it would offer us the flexibility to inject balance into the programme by ensuring credible allocations for agri-environmental schemes, including organic farming, and for the wider development measures, which are needed to help deliver our long-term policy objectives. I hope we have a full and frank discussion this afternoon.

Eglurais y cefndir i fodiwleiddio yn fy natganiad i’r Cynulliad yr wythnos diwethaf a dywedais y byddem yn ymgynghori’n eang. Ysgrifennais at yr undebau ar unwaith ar ôl gwneud y datganiad. Yr ydym yn cynnig y bydd modiwleiddio’n dechrau ar lefel isel ac yn cynyddu’n raddol. Mae’r tabl ariannol yn dangos, ar y sail hon, y byddai cyfanswm y derbyniadau o fodiwleiddio yn £39 miliwn dros chwe blynedd. Yr hyn sydd yn bwysig yw y byddai £39 miliwn o arian newydd o’r Trysorlys yn cyfateb i hynny. Mae’n ffordd o dynnu arian i’r pot. Efallai nad yw’r £78 miliwn hwnnw’n ymddangos yn llawer o’i gymharu â’r £370 miliwn yn y rhaglen sylfaenol. Fodd bynnag, gallai gynnig hyblygrwydd inni ddod â chydbwysedd i’r rhaglen drwy sicrhau dyraniadau credadwy ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol, yn cynnwys ffermio organig, ac ar gyfer y mesurau datblygu ehangach, sydd yn angenrheidiol er mwyn ein helpu i gyflawni ein hamcanion polisi tymor hir. Gobeithiaf y byddwn yn cael trafodaeth lawn a gonest y prynhawn yma.

I stress the importance of this plan to the future of rural Wales. It sets out an integrated approach throughout Wales, with ambitious objectives for achieving greater prosperity through the sustainable development of a strong rural economy, an enhanced environment and a better quality of life for our rural towns and villages. I look forward to your contributions and I know that they will be valuable and constructive. I ask the Assembly to agree to the submission of the plan to the European Commission.

Pwysleisiaf mor bwysig yw’r cynllun hwn i ddyfodol cefn gwlad Cymru. Mae’n cyflwyno ymagwedd integredig ledled Cymru, gydag amcanion uchelgeisiol er mwyn sicrhau mwy o ffyniant drwy ddatblygu economi gwledig cryf mewn modd cynaliadwy, drwy amgylchedd gwell ac ansawdd bywyd gwell i’n trefi a’n pentrefi gwledig. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau a gwn y byddant yn werthfawr ac yn adeiladol. Gofynnaf i’r Cynulliad gytuno i gyflwyno’r cynllun i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 36

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 36

Cynigiaf welliant 1. Dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger at ddiwedd y cynnig

I propose amendment 1. Delete the full stop and add at the end of the motion

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 36

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh p. 36

Diolchaf i Christine am agor y drafodaeth ac am dderbyn y gwelliant. Mae’r ddadl hon yn gyfle arbennig i drafod rhai o broblemau’r Gymru wledig yn ogystal â chynnig rhai atebion i oresgyn y problemau mawr hynny.

I thank Christine for opening the debate and for accepting the amendment. This debate is an excellent opportunity to discuss some of the problems of rural Wales as well as to offer some solutions to overcome those major problems.

Cyd-destun y ddadl hon yw sefyllfa echrydus yr economi wledig yng Nghymru. Gwelwn amharodrwydd i ddatrys rhai o’r problemau sylfaenol, megis lefelau incwm isel, pocedi o ddiweithdra uchel a diffyg gwasanaethau hanfodol. Byddwn yn colli rhagor o’r gwasanaethau hynny os aiff cynlluniau Swyddfa’r Post yn eu blaen. Fodd bynnag, yr ydym heddiw yn edrych ar gynllun datblygu gwledig sydd yn cynnig atebion rhannol. Rhaid pwysleisio, fodd bynnag, mai dim ond dechrau mynd i’r afael â’r problemau hynny yr ydym. Derbyniodd Christine nad yw’r 150 miliwn ewro a neilltuwyd i’r cynllun ym Mhrydain ddim chwarter digon. Cydnabu Christine mai esgeulustod Llywodraethau blaenorol o safbwynt cynlluniau datblygu gwledig sydd yn rhannol gyfrifol am hyn.

The context for this debate is the appalling state of the rural economy in Wales. We see an unwillingness to solve some of the basic problems such as low income levels, pockets of high unemployment and a lack of essential services. We will lose more of those services if the Post Office’s plans go ahead. However, we are today looking at a rural development plan that offers partial answers. We must emphasise, however, that we are only starting to address those problems. Christine has accepted that the 150 million euros earmarked for this plan in Britain is not nearly enough. Christine has acknowledged that it is previous Governments’ neglect as regards rural development plans that is partially responsible for this.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 36

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 36

Cyfeiriwyd eisoes at y diffyg arian ar gyfer y cynllun datblygu gwledig. Soniodd Christine yn benodol am y diffyg arian ar gyfer cynlluniau fel Tir Gofal. A yw Ieuan yn cytuno, pan ddaw Amcan 1 i fodolaeth, y bydd symiau ychwanegol o arian ar gael ar gyfer cynlluniau megis Tir Gofal, cynlluniau organig a thaliadau lwfans iawndal da byw tir uchel, ond nad oes unrhyw arwydd yn y gyllideb y bydd Cymru’n elwa o’r symiau ychwanegol hynny ac mai’r perygl yw y bydd yr arian yn dychwelyd i’r Trysorlys?

Reference has been made to the lack of funding for the rural development plan. Christine specifically mentioned the lack of funding for schemes such as Tir Gofal. Does Ieuan agree that, when Objective 1 comes into existence, additional sums of money will be available for schemes such as Tir Gofal, organic schemes and hill livestock compensatory allowance payments, but that there is no indication in the budget that Wales will benefit from those additional sums and that the danger is that the money will return to the Treasury?

O ran modwleiddio, mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn draddodiadol wedi ffafrio ardaloedd mawr yn ne-ddwyrain Lloegr. Felly, wrth inni gymryd arian o’r PAC drwy’r system o fodwleiddio i greu symiau ychwanegol ar gyfer y diwydiant amaethyddol o fewn y cynllun datblygu gweldig, golyga hyn fod Cymru yn colli allan unwaith eto oherwydd yr anghyfartalwch yn nyraniad y PAC. Onid eironig yw clywed Nick Brown yn gwneud datganiad ar symiau cyfatebol ar gyfer modwleiddio tra’r ydym ninnau yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth Lafur y Cynulliad wneud datganiad ar arian cyfatebol ar gyfer Amcan 1? A yw Nick Brown yn gallu ymryddhau o’r arolwg cynhwysfawr o wariant tra’r ydym ninnau’n gorfod bod yn rhwym iddo?

As regards modulation, the Common Agricultural Policy has traditionally favoured large areas in south-east England. Therefore, as we take money out of the CAP through the modulation system to generate additional sums for the agricultural industry within the rural development plan, this means that Wales will lose out once again because of the CAP’s inequity of distribution. Is it not ironic to hear Nick Brown make a statement on match funding for modulation while we are still waiting for the Assembly’s Labour Government to make a statement on Objective 1 match funding? Is Nick Brown able to free himself from the comprehensive spending review while we have to be tied to it?

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 37

Yr oedd hynny’n gyfraniad braidd yn hir a bron a bod yn araith mewn gwirionedd.

That was rather a lengthy contribution—almost a speech in fact.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 37

Derbyniaf fod yn rhaid cael eglurder ynglŷn ag o ble y daw’r arian ac ynglŷn ag arian cyfatebol. Neilltuwyd tua £10 miliwn i £15 miliwn i Gymru o gyfanswm gwledydd Prydain. Ni fyddai’r swm hwnnw yn caniatáu inni wneud mwy na dechrau crafu wyneb problemau mawr y Gymru wledig. Cyfeiriodd Rhodri at y swm a ddaw o’r cynllun modwleiddio, sydd yn ychwanegiad o tua £5 miliwn. Digon teg yw dweud bod yr arian a ddaw inni o fodwleiddio yn ddim o’i gymharu â’r 2.5 y cant yn Lloegr, oherwydd bydd ffermwyr yn ardaloedd cynhyrchu grawn Lloegr yn cael arian sylweddol wrth fodwleiddio. Pwysig yw sylweddoli na fyddwn ni yn elwa o fodwleiddio yn yr un ffordd ag y mae’r gyllideb yn Lloegr yn debygol o elwa. Clywsom hefyd am Amcan 1 a gobeithiwn y daw’r arian hwnnw i’n rhan hefyd.

I accept that there must be clarity about where the money comes from and about match funding. The sum of about £10 million to £15 million has been earmarked for Wales from the total for the countries of Britain. That sum would only allow us to begin to scratch the surface of rural Wales’s serious problems. Rhodri referred to the sum that we will receive from the modulation scheme, which is an addition of about £5 million. It is fair enough to say that the money from modulation is nothing compared with the 2.5 per cent in England, because farmers in the grain producing areas of England will receive substantial sums from modulation. It is important to realise that we will not benefit from modulation in the same way that the budget in England is likely to benefit. We have also heard about Objective 1 and we hope that we will receive that money as well.

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg t. 37

Rhodri Morgan spoken in Welsh p. 37

Ceisiaf ateb pwynt Rhodri Glyn ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Nick Brown yr wythnos diwethaf. Credaf fod datganiad Nick Brown i Dŷ’r Cyffredin ynglŷn ag arian ychwanegol yn ddibynnol ar yr arolwg o wariant cyhoeddus flwyddyn nesaf.

I will try to answer Rhodri Glyn’s point about Nick Brown’s statement last week. I believe that Nick Brown’s statement to the House of Commons regarding additional funding is dependent on the public expenditure survey next year.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 37

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh and English p. 37

Efallai y daw eglurhad fwy manwl o’r sefyllfa cyn diwedd y drafodaeth.

in Welsh Perhaps we will receive a more detailed explanation of the situation before the end of the debate.

Hoffwn edrych ar y cyfraniad y gallai’r cynllun hwn ei wneud i amaethyddiaeth. Yr ydym wedi dadlau’n gyson y dylid trafod amaethyddiaeth o fewn cyd-destun datblygu gwledig yn gyffredinol a hynny mewn ffordd integredig. Yr wyf yn falch bod cytundeb cyffredinol ar hynny. Mae ystyried amaethyddiaeth fel diwydiant sydd yn ganolog i ffyniant economi cefn gwlad yn rhan o’r drafodaeth bwysig honno.

in Welsh I would like to examine the contribution that this scheme can make to agriculture. We have consistently argued that agriculture should be discussed in the context of rural development generally and in an integrated way. I am glad that there is general agreement on that. Considering agriculture as an industry that is central to the prosperity of the rural economy is part of that important debate.

Yn bwysicach, rhaid sylweddoli bod llawer o’r problemau sydd yn effeithio ar gefn gwlad ar hyn o bryd yn deillio’n uniongyrchol o’r argyfwng ym myd amaeth. Rhaid inni i gyd gytuno bod parhad y diwydiant hwnnw yn holl bwysig i reolaeth tir, yr amgylchedd, twristiaeth a gwasanaethau lleol. Mae’n ganolog i barhad y cymunedau gwledig a hefyd i barhad yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

in Welsh More importantly, we must realise that many of the problems that currently affect rural Wales arise directly from the crisis in agriculture. We must all agree that the survival of this industry is crucial to land management, the environment, tourism and local services. It is central to the survival of rural communities and also to the survival of the Welsh language in its strongholds.

Mae’r argyfwng amaethyddol yn amlygu ei hun mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, mae nifer y ffermydd yn lleihau wrth i ffermydd uno. Mae hynny’n andwyol i’r economi wledig ac i’n holl batrwm cymdeithasol. Mae’r lleihad tymor hir mewn cyfleoedd gwaith yn y diwydiant amaethyddol yn dangos ei bod yn fwyfwy anodd i ddenu ffermwyr ifanc i ddechrau yn y diwydiant. Cyfeiriaf at hynny’n benodol yn nes ymlaen.

in Welsh The agricultural crisis manifests itself in many ways. First, the number of farms is decreasing as farms are merged. That is harmful to the rural economy and to our whole social pattern. The long-term reduction in job opportunities in the agricultural industry demonstrates that it is increasingly difficult to attract young farmers to enter the industry. I will refer specifically to this later.

Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae cyfartaledd oedran ffermwyr yn 55 a thros ddwy ran o dair o ffermwyr dros 50 oed. Dyna pam yr oeddem ni yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig mor bendant ynglŷn â’n blaenoriaeth i helpu pobl ifainc.

in Welsh This has led to a situation where the average age of farmers is 55 and over two-thirds of farmers are over the age of 50. This is why we in the Agriculture and Rural Development Committee were so definite about our priority of helping young people.

Ar wahân i’r problemau tymor hir, mae ffactorau eraill wedi achosi gostyngiad ym mhrisiau cynnyrch amaethyddol ers 1996. Mae hyn yn wir am bob sector ar draws y diwydiant. Er enghraifft, mae’r bunt uchel a BSE wedi cael effaith andwyol ar y diwydiant.

in Welsh Apart from the long-term problems, other factors have caused a reduction in the prices of agricultural produce since 1996. That is true of every sector across the industry. For example, the high pound and BSE have had a devastating effect on the industry.

Mae ffermwyr yn cael llai am eu cynnyrch yn y farchnad ac mae’r costau sydd wedi cael eu rhoi arnynt yn sylweddol uwch, nid yn unig o safbwynt porthiant ond hefyd o safbwynt rheoli glanweithdra. Ar ben hyn oll, yn y dyddiau diwethaf yr ydym wedi gweld gweithred anghyfreithlon Ffrainc yn gwrthod cig eidion o wledydd Prydain. Mae honno’n ergyd fawr i’n ffermwyr.

in Welsh Farmers get less for their produce in the market and the costs which have been imposed on them are substantially higher, not only in terms of feedstuffs but also in terms of hygiene control. In addition, in the last few days we have seen France’s illegal action in refusing beef from the countries of Britain. That is a huge blow to our farmers.

O ganlyniad, mae ffermwyr yn cael eu taro o bob cyfeiriad yn y tymor byr a’r tymor hir. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried hynny. Yr ydym yn ystyried atebion tymor byr, ond mae’r cynllun hwn yn pennu strategaeth tymor hir sydd yn delio’n ymarferol â phroblemau’r economi wledig.

in Welsh Consequently, farmers are being hit from every direction in the short-term and long-term. This plan must consider that. We are considering short-term answers, but this scheme sets out a long-term strategy that deals practically with the problems of the rural economy.

Yr wyf yn derbyn bellach fod cytundeb cyffredinol ar draws y pleidiau ar yr angen i gynnal ffermydd teuluol—y fferm draddodiadol yng Nghymru—tra ar yr un pryd yn annog pobl i arallgyfeirio fel bod ganddynt ffynonellau eraill o incwm. Yr oeddwn yn falch o weld pwyslais ar yr angen holl bwysig i ganolbwyntio’n fwy ar gynhyrchion o ansawdd uchel a fydd yn denu prisiau premiwm, yn annog diwydiant prosesu ac yn ychwanegu at werth ein cynnyrch. Hoffwn weld mwy o wybodaeth benodol ynglŷn â sut y bydd y cynlluniau hynny yn cael eu gweithredu.

in Welsh I now accept that there is general consensus across the parties regarding the need to support family farms—the traditional farm in Wales—while at the same time encouraging people to diversify so that they have other sources of income. I was pleased to see an emphasis on the all-important need to concentrate more on high quality products that will attract premium prices, encourage a processing industry and add value to our produce. I would like to see more specific information on how those schemes will be implemented.

Mae angen i’n ffermwyr traddodiadol ddysgu rhagor o sgiliau busnes a chydweithio mwy fel bod adnoddau a gwybodaeth yn cael eu rhannu. Yr oeddwn yn falch o gael bod yn y sioe aeaf yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf i weld lansio’r cynllun arloesol y fferm ddigidol sydd yn galluogi ffermwyr i gael mwy o wybodaeth ar flaenau eu bysedd. Gellir defnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd, o dan gynllun Cwysi, i gael y math hwn o wybodaeth. Yr wyf yn llongyfarch Cwysi a’r bartneriaeth wledig ar y lansiad.

in Welsh Our traditional farmers need to learn more business skills and to co-operate more so that resources and information are shared. I was pleased to be at the winter show in Builth Wells last week to see the launch of the innovative digital farm scheme, which enables farmers to have more information at their fingertips. Computers and software can be used, under the Cwysi scheme, to access that kind of information. I congratulate Cwysi and the rural partnership on the launch.

One of the central pledges on rural affairs in the Plaid Cymru—The Party of Wales manifesto for the Assembly election last May was to set up an all-Wales agri-environmental scheme. That had widespread support across the political spectrum. Therefore, we acknowledge the commitment in the rural development plan to enhance the Tir Gofal scheme. This scheme will help the long-term strategy of increasing the environmental and ecological sustainability of Welsh farming. Our reservations stem from our concern that the amount of money allocated to Tir Gofal now and in the future will not be sufficient to enable enough farmers to enter the scheme over a number of years. In view of her comments today, Christine Gwyther obviously shares our reservations.

yn Saesneg Un o’r addewidion canolog ar faterion gwledig ym maniffesto Plaid Cymru—The Party of Wales ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Fai diwethaf oedd i sefydlu cynllun amaeth-amgylcheddol i Gymru gyfan. Yr oedd cefnogaeth eang i hynny ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Felly, cydnabyddwn yr ymrwymiad yn y cynllun datblygu gwledig i wella’r cynllun Tir Gofal. Bydd y cynllun hwn yn helpu’r strategaeth dymor hir o gynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol ac ecolegol ffermio yng Nghymru. Mae’r amheuon sydd gennym yn deillio o’n pryder na fydd y swm o arian a ddyrannwyd ar gyfer Tir Gofal yn awr ac yn y dyfodol yn ddigon i alluogi digon o ffermwyr i ddod i mewn i’r cynllun dros nifer o flynyddoedd. Yn ôl ei sylwadau heddiw, mae’n amlwg bod Christine Gwyther yn rhannu ein hamheuon.

We must now look at a higher target for entrants to the Tir Gofal scheme. The extension of the scheme is a prerequisite if we are to have a major impact on the rural economy. I urge the Government in the Assembly to fight hard when the total budget of the rural development plan is up for discussion next. It is crucial that this is given an even greater priority. We want to see more farmers being able to qualify for the Tir Gofal scheme, for its environmental benefits as well as its support for farming incomes.

yn Saesneg Rhaid inni edrych yn awr ar darged uwch ar gyfer y nifer sydd yn dod i mewn i’r cynllun Tir Gofal. Mae ymestyn y cynllun yn rhagamod os ydym i gael effaith sylweddol ar yr economi gwledig. Pwysaf ar y Llywodraeth yn y Cynulliad i ymladd yn galed pan ddaw’n adeg i drafod cyfanswm cyllideb y cynllun datblygu gwledig y tro nesaf. Mae’n holl bwysig rhoi blaenoriaeth uwch byth i hynny. Yr ydym am weld mwy o ffermwyr yn gallu cymhwyso ar gyfer y cynllun Tir Gofal, er mwyn ei fanteision amgylcheddol yn ogystal â’i gymorth i incwm ffermio.

One major disappointment is that there is not a new entrants scheme already up and running for young farmers. That was the top priority set by the Agriculture and Rural Development Committee. I am disappointed that it was not included in the recently announced budget. However, I acknowledge that steps have been taken in Edwina Hart’s budget to set up a study to look at the scheme. When it reports, I want us to make a commitment to assist young people entering the farming industry. The Agriculture and Rural Development Committee looked at the rural development plan as it will eventually go to Brussels and wanted a commitment to ensure that that will happen. I want a commitment that assistance for young farmers will be a top priority when one looks at the total budget, including the core funding and modulated sums. It is vital for the future of farming that the Assembly demonstrates its commitment and confidence by actively encouraging new farming businesses. The rural development plan sets out a possible scheme.

yn Saesneg Un siom fawr yw nad oes cynllun dechreuwyr newydd eisoes yn rhedeg ar gyfer ffermwyr ifanc. Honno oedd y flaenoriaeth uchaf a bennwyd gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Yr wyf yn siomedig na chynhwyswyd hynny yn y gyllideb a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fodd bynnag, cydnabyddaf fod camau wedi eu cymryd yng nghyllideb Edwina Hart i sefydlu astudiaeth i edrych ar y cynllun. Pan fydd yn adrodd, yr wyf am inni wneud ymrwymiad i gynorthwyo pobl ifainc sydd yn dod i mewn i’r diwydiant amaeth. Edrychodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar y cynllun datblygu gwledig fel y bydd yn mynd i Frwsel yn y pen draw ac yr oedd am weld ymrwymiad i sicrhau y bydd hynny’n digwydd. Yr wyf am gael ymrwymiad y bydd cymorth i ffermwyr ifanc yn flaenoriaeth uchaf pan edrychir ar y gyllideb gyfan, gan gynnwys y cyllid craidd a’r symiau modiwledig. Mae’n holl bwysig i ddyfodol ffermio bod y Cynulliad yn dangos ei ymrwymiad a’i ffydd drwy hybu busnesau ffermio newydd yn egnïol. Mae’r cynllun datblygu gwledig yn cynnig cynllun posibl.

The rural development plan goes some way, but only some way, to address the plight of rural Wales. The lack of resources available to deliver the plan’s objectives is a major obstacle. I urge the Government to seek a much better deal for Wales, as they have said that they will. It is time to tell the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food and the Treasury that rural Wales is bleeding and that the flow of blood can only be stemmed by an adequate cash injection. Many of the plan’s objectives are admirable but let us ensure that they are implemented in a way which makes a lasting and positive impact on our rural economy.

yn Saesneg Mae’r cynllun datblygu gwledig yn mynd ran o’r ffordd, ond dim ond rhan ohoni, at fynd i’r afael â chyflwr cefn gwlad Cymru. Mae’r diffyg yn yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni amcanion y cynllun yn rhwystr mawr. Pwysaf ar y Llywodraeth i geisio gwell bargen o lawer i Gymru, fel y dywedasant y byddant yn ei wneud. Mae’n bryd dweud wrth y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Trysorlys bod cefn gwlad Cymru’n gwaedu ac na ellir atal y llif o waed heb chwistrelliad digonol o arian. Mae llawer o amcanion y cynllun yn ganmoladwy ond gadewch inni sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn modd sydd yn cael effaith hir a chadarnhaol ar ein heconomi gwledig.

Mick Bates spoken in English p. 41

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 41

I propose amendment 2. At the end of the motion, add

Cynigiaf welliant 2. Ar ddiwedd y cynnig, ychwaneger

Mick Bates (continued) spoken in English p. 41

Mick Bates (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 41

I also propose amendment 3. At the end of the motion, add

Cynigiaf hefyd welliant 3. Ar ddiwedd y cynnig, ychwaneger

Mick Bates (continued) spoken in English p. 41

Mick Bates (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 41

The hopes and aspirations of the rural people of Wales rest on this comprehensive document. It is a quality statement and an extensive plan, addressing local and regional needs with sustainability at its heart. The plan also addresses an urgent need for rural Wales. We all hope that the policies will develop the rural economy and reduce social exclusion. The Assembly will be judged by the people of rural Wales on this plan.

Mae gobeithion a dyheadau pobl wledig Cymru’n dibynnu ar y ddogfen gynhwysfawr hon. Mae’n ddatganiad o ansawdd da ac yn gynllun helaeth, sydd yn ymdrin ag anghenion lleol a rhanbarthol gyda chynaliadwyedd wrth ei graidd. Mae’r cynllun yn ymdrin hefyd â thaer angen ar gyfer cefn gwlad Cymru. Yr ydym oll yn gobeithio y bydd y polisïau’n datblygu’r economi gwledig ac yn lleihau dieithrwch cymdeithasol. Bernir y Cynulliad gan bobl cefn gwlad Cymru yn ôl y cynllun hwn.

Not withstanding the difficulties over match funding, the next greatest challenge is successful implementation. Amendment 2 emphasises the need for co-ordination. Why do we need to emphasise this? Over the last six years, £1.2 billion has been spent in Wales as a result of the receipt of European structural funding. By and large, it has been spent through a scattergun approach. This is the last chance for Wales to make effective use of the European funding that is mentioned in this plan.

Er yr anawsterau ynghylch ariannu cyfatebol, yr her fwyaf nesaf yw gweithredu llwyddiannus. Mae gwelliant 2 yn pwysleisio’r angen am gydlynu. Pam y mae angen inni bwysleisio hyn? Dros y chwe blynedd diwethaf, gwariwyd £1.2 biliwn yng Nghymru o ganlyniad i dderbyn cyllid strwythurol Ewropeaidd. At ei gilydd, fe’i gwariwyd drwy ddull gwasgaru. Dyma’r cyfle olaf i Gymru wneud defnydd effeithiol o’r cyllid Ewropeaidd a grybwyllir yn y cynllun hwn.

Amendment 2 focuses on section 12, which has

Mae gwelliant 2 yn canolbwyntio ar adran 12, sydd yn nodi

‘provisions to ensure the effective and correct implementation of the plan, including monitoring and evaluation, a definition of quantified indicators for evaluation, arrangements for controls and sanctions and adequate publicity.’

One reason for the previous comparative failure of European structural funds in Wales was the lack of realistic targets and leadership to implement them. Above all, the organisations involved did not communicate and co-ordinate their activities. This document states that a single organisation would take responsibility for formally applying for and administering the funds. This lead organisation would be required to work with a defined partnership group, both in the design of actions and in their implementation. This is the programme executive, which is intended to deliver the plan in partnership with many other bodies. The critical point is partnership and the co-ordination leading to the delivery of these plans.

Un rheswm am fethiant cymharol blaenorol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru oedd diffyg targedau realistig ac arweiniad i’w gweithredu. Yn bennaf oll, nid oedd y cyrff cysylltiedig yn cyfathrebu ac yn cydlynu eu gweithgareddau. Mae’r ddogfen hon yn datgan y bydd un corff yn ymgymryd â chyfrifoldeb dros ymgeisio’n ffurfiol ac am weinyddu’r cyllid. Byddai’n ofynnol i’r corff arweiniol hwn weithio gyda grŵp partneriaeth diffiniedig, wrth gynllunio gweithredoedd ac wrth eu rhoi ar waith. Gweithrediaeth y rhaglen yw hon, y bwriedir iddi gyflawni’r cynllun mewn partneriaeth â llawer o gyrff eraill. Y pwynt tyngedfennol yw partneriaeth a’r cydlynu sydd yn arwain at gyflawni’r cynlluniau hyn.

The bodies must work together. They will work through themed national packages such as that for processing and marketing agricultural produce. The line management would consist of a programme executive, the Welsh Development Agency, the food directorate and the Agri Food Partnership, not to mention the rural unit of the WDA based in Aberystwyth. I assume that the agency would bid to the programme executive, which would advise on the availability of match funding and would help signpost potential applicants through the European funding process. The agency would also need to develop in collaboration with the Assembly, which has experience of administering the present scheme, new grant schemes to cover the EU funds and establish administration and audit systems to enable it to carry out the work effectively and efficiently.

Rhaid i’r cyrff weithio gyda’i gilydd. Byddant yn gweithio drwy becynnau cenedlaethol â thema fel hwnnw ar gyfer prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol. Byddai’r rheolaeth linell yn cynnwys gweithredwr y rhaglen, Awdurdod Datblygu Cymru, y gyfarwyddiaeth fwyd a’r Bartneriaeth Amaeth-fwyd, heb sôn am uned wledig Awdurdod Datblygu Cymru sydd â’i chanolfan yn Aberystwyth. Cymeraf y byddai’r asiantaeth yn gwneud cais i weithrediaeth y rhaglen, a fyddai’n ei hysbysu ynghylch argaeledd arian cyfatebol ac yn helpu ymgeiswyr posibl i ganfod eu ffordd drwy’r broses ariannu Ewropeaidd. Byddai angen hefyd i’r asiantaeth ddatblygu cynlluniau grant newydd mewn cydweithrediad â’r Cynulliad, sydd â phrofiad o weinyddu’r cynllun presennol, cynlluniau grant newydd er mwyn cynnwys arian yr UE a sefydlu systemau gweinyddu ac archwilio i’w galluogi i gyflawni’r gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon.

My fear—and we have tabled this amendment to highlight the need for co-ordination—is that the picture is unclear on implementation. The Assembly must overlook, and take responsibility for, these layers. Over the past 20 years, there have been other attempts to brand Wales and promote Welsh produce. The problem is that, so often, people do not work effectively together. Co-ordination means that all our agencies need to be trained in working together if these plans are to be successful. The chief executives and their staff must take part in effective team building and partnership working. Our quangos must be trained to work together. External factors such as globalisation, costs and competition, the expansion of the European Union and the European structural funds, all push us towards partnership. The European Commission assessment will take into account our steps to consult the economic and social partners in the plan. Partnership is compulsory. Effective co-ordination to avoid duplication and loss of leadership is the key to this rural development plan.

Yr ofn sydd gennyf—a chyflwynasom y gwelliant hwn er mwyn tynnu sylw at yr angen am gydlynu—yw bod y darlun ynghylch gweithredu yn aneglur. Rhaid i’r Cynulliad oruchwylio, ac ymgymryd â chyfrifoldeb dros, yr haenau hyn. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, bu llawer o ymdrechion eraill i frandio Cymru a hybu cynnyrch Cymru. Y broblem, yn rhy aml, yw nad yw pobl yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Mae cydlynu’n golygu bod angen hyfforddi ein holl asiantaethau ynghylch gweithio gyda’i gilydd os yw’r cynlluniau hyn i lwyddo. Rhaid i’r prif weithredwyr a’u staff gymryd rhan mewn gwaith adeiladu tîm a phartneriaeth effeithiol. Rhaid hyfforddi ein cwangos i weithio gyda’i gilydd. Mae ffactorau allanol fel cymathu byd-eang, costau a chystadlu, ehangu’r Undeb Ewropeaidd a chronfeydd strwythurol Ewrop, i gyd yn ein cymell tuag at bartneriaeth. Bydd asesiad y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi ystyriaeth i’r camau a gymerasom i ymgynghori â’r partneriaid economaidd a chymdeithasol yn y cynllun. Mae partneriaeth yn orfodol. Mae cydlynu effeithiol er mwyn osgoi dyblygu a cholli arweiniad yn allweddol i’r cynllun datblygu gwledig hwn.

In the past, Wales has been driven by specialist empires that never co-ordinated their activities. The only rural champion we ever really had was sadly lost on the demise of the Development Board for Rural Wales. This amendment will remind us that this fine plan can only be successful if co-ordination through effective partnerships is established.

Yn y gorffennol, gyrrwyd Cymru gan ymerodraethau arbenigol nad oeddent byth yn cydlynu eu gweithgareddau. Collwyd yr unig un a safodd erioed dros gefn gwlad mewn gwirionedd gyda diflaniad Bwrdd Datblygu Cymru Wledig. Bydd y gwelliant hwn yn ein hatgoffa na fydd y cynllun gwych hwn yn llwyddo oni sefydlir cydlyniad drwy bartneriaethau effeithiol.

In dreams begin responsibilities. The Liberal Democrats believe that to achieve the dream of rural regeneration, we must knock heads together and make co-ordination happen or we will see another wasted six years. This amendment will focus our minds to ensure that we can measure an effective rural development plan.

Breuddwydion yw man cychwyn cyfrifoldebau. Cred y Democratiaid Rhyddfrydol y bydd yn rhaid inni fwrw pennau yn erbyn ei gilydd a sicrhau cydlyniad er mwyn cyflawni’r freuddwyd o adfywiad gwledig neu gwelwn chwe blynedd ofer arall. Bydd y gwelliant hwn yn canolbwyntio ein meddyliau er mwyn sicrhau y gallwn fesur cynllun datblygu gwledig effeithiol.

This rural development plan, if implemented in a co-ordinated way through partnership will help to build the roads to recovery that are so obviously needed in rural Wales. The depressed state of agriculture and its ancillary industries and the general pressure on the lives of people in rural areas, whether it is caused by increased fuel prices, loss of services or lack of access, has led to an increasing level of suicide and depression. This newspaper headline says it all: ‘Farmers Suicide Shames Britain’. Nowhere in this extensive document is a thought given to mental health and mechanisms to reduce stress. The link between economic factors and stress is well known. Welsh agriculture is at the same stage as America was in the early 1990s. Some American research by C&I Jones, ‘Winner Takes All and Families Lose All—A Nightmare for Farming’, states:

Bydd y cynllun datblygu gwledig hwn, os caiff ei weithredu’n gydlynol drwy bartneriaeth yn helpu i adeiladu’r ffyrdd at adferiad y mae angen amlwg amdanynt yng nghefn gwlad Cymru. Mae cyflwr dirwasgedig amaethyddiaeth a’i diwydiannau ategol a’r pwysau cyffredinol ar fywydau pobl mewn ardaloedd gwledig, pa un a achosir hynny gan brisiau tanwydd uwch, colli gwasanaethau neu ddiffyg mynediad, wedi arwain at lefel gynyddol o hunanladdiad ac iselder. Mae’r pennawd hwn mewn papur newydd yn dweud y cwbl: ‘Farmers Suicide Shames Britain’. Ni roddir sylw yn unman yn y ddogfen helaeth hon i iechyd meddwl a mecanweithiau i leihau pwysau. Mae’r cyswllt rhwng ffactorau economaidd a phwysau yn adnabyddus. Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn yr un cyfnod ag yr ydoedd yn America yn y 1990au cynnar. Mae ymchwil yn America gan C&I Jones, ‘Winner Takes All and Families Lose All—A Nightmare for Farming’, yn dweud:

‘By 1990 24 per cent of US farmers had gone in less than 10 years. In Iowa it was 34 per cent. Many of these had been farming up to 500 acres. Often those remaining no longer had livestock. It is now normal for husbands and wives to have full-time jobs as well as cropping several hundred acres with 20-year-old machinery. Most are over 55. US Oxfam had given thousands of food boxes to families unable to touch any assets.’

This desperate situation is being repeated here in Wales. This amendment would send a clear message and give a commitment to eliminate rural stress and the misery it causes.

Mae’r sefyllfa enbyd hon yn cael ei hailadrodd yma yng Nghymru. Byddai’r gwelliant hwn yn anfon neges glir ac yn rhoi ymrwymiad i ddileu pwysau cefn gwlad a’r dioddefaint a achosir ganddo.

A survey carried out among farmers by the Institute of Rural Health, based at Gregynog in Montgomeryshire, identified the main causes of stress experienced by farmers. The research was supported by Powys Health Care NHS Trust, the National Farmers Union and the Farmers Union of Wales. Government policy was at the top of the list of factors causing stress. Our rural development plan should recognise that this Government’s policy aims to eliminate stress. The rural development plan mentions the word ‘stress’ only once, when quoting a 1995 study on page 46. I hope that this lack of direction will be tackled by our rural development plan. I hope that it will bring prosperity to reduce rural stress. I commend this amendment, which I hope you will support. It will send a message that this rural development plan is a commitment to eliminate rural stress.

Mae arolwg a gyflawnwyd ymysg ffermwyr gan y Sefydliad Iechyd Gwledig, sydd â’i ganolfan yng Ngregynog yn Sir Drefaldwyn, wedi dynodi prif achosion y pwysau a brofir gan ffermwyr. Rhoddwyd cymorth i’r ymchwil gan Ymddiriedolaeth NHS Gofal Iechyd Powys, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Polisi’r Llywodraeth oedd ar ben rhestr y ffactorau sydd yn achosi stres. Dylai ein cynllun datblygu gwledig gydnabod bod polisi’r Llywodraeth hon yn ceisio dileu pwysau. Dim ond unwaith y mae’r cynllun datblygu gwledig yn crybwyll y gair ‘pwysau’, wrth ddyfynnu o astudiaeth yn 1995 ar dudalen 46. Gobeithiaf y bydd ein cynllun datblygu gwledig yn ymdrin â’r diffyg cyfeiriad hwn. Gobeithiaf y daw â ffyniant i leihau pwysau cefn gwlad. Cymeradwyaf y gwelliant hwn, a gobeithiaf y byddwch yn ei gefnogi. Bydd yn anfon neges bod y cynllun datblygu gwledig hwn yn ymrwymiad i ddileu pwysau cefn gwlad.

Peter Rogers spoken in English p. 45

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 45

The Welsh Conservative Group welcomes this plan, and any plan that will give our rural areas a sustainable future. The plan is a large document with many good, constructive ideas, including planning, monitoring and proposed action. A lot of work has gone into it to prepare for the future. It is a shame that the consultation and speed that has been used in this was not used with some of the unnecessary legislation that brought the agricultural industry to its knees. For too long, farmers have said that they do not want aid, but a level playing field to be able to trade. Money was not the most important factor for them. It was the ability to be able to trade with the rest of Europe and the world. The situation has arisen again as the French put up resistance.

Mae Grŵp Ceidwadol Cymru’n croesawu’r cynllun hwn, ac unrhyw gynllun a fydd yn rhoi dyfodol cynaliadwy i’n hardaloedd gwledig. Mae’r cynllun yn ddogfen fawr ac ynddi lawer o syniadau adeiladaol, da, gan gynnwys cynllunio, monitro a chamau arfaethedig. Gwnaethpwyd llawer o waith er mwyn ei baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae’n drueni na ddefnyddiwyd yr un ymgynghori a’r un cyflymder ag a gafwyd wrth wneud hyn gyda rhai o’r deddfau diangen a loriodd y diwydiant amaeth. Ers cyfnod rhy hir o lawer, mae ffermwyr wedi dweud nad cymorth yw’r hyn y mae arnynt ei angen, ond cae chwarae gwastad er mwyn gallu masnachu. Nid arian oedd y ffactor pwysicaf yn eu golwg hwy, ond y gallu i fasnachu â gweddill Ewrop a’r byd. Mae’r sefyllfa wedi ailgodi wrth i’r Ffrancwyr wrthsefyll.

The short-term problems of farming are immense. This is a long-term view of the way forward. The consultation was good and the papers were excellent. It was disturbing that only one farmer contributed to the plan. One of the features of the hill livestock compensatory allowance consultation process was the number of farmers who contributed to it, not with fine, typewritten scripts but in longhand. It may have been difficult to understand but it was full of good practical ideas for the HLCA scheme.

Mae problemau tymor byr ffermio yn enfawr. Mae hwn yn arolwg tymor hir ar y ffordd ymlaen. Yr oedd yr ymgynghori’n dda a’r papurau’n rhagorol. Yr oedd yn peri pryder mai ond un ffermwr a gyfrannodd i’r cynllun. Un o nodweddion y broses ymgynghori ar iawndal da byw tir uchel oedd y nifer o ffermwyr a gyfrannodd iddi, nid â theipysgrifau gwych ond mewn llawysgrifen. Efallai ei bod yn anodd ei deall ond yr oedd yn llawn syniadau ymarferol da ar gyfer y cynllun iawndal da byw tir uchel.

The agri-environment scheme is important. We must remember that most of the money invested in that scheme goes back into the community, financing projects like walling, fencing, hedge management and old building restoration. In doing those jobs, people apply skills that they did not realise they had. I have seen those skills in practice on the new road being built across my area of Anglesey. Many of the boys working on that road have found well-paid fencing and walling jobs, for example. It encourages a community to see that money go back into it. The agri-environment scheme is a great source of pride for the countryside.

Mae’r cynllun amaeth-amgylcheddol yn bwysig. Rhaid inni gofio bod y rhan fwyaf o’r arian a fuddsoddir yn y cynllun hwnnw’n mynd yn ôl i’r gymuned, gan ariannu prosiectau fel codi waliau, ffensio, rheoli gwrychoedd ac adfer hen adeiladau. Wrth wneud y gwaith hwnnw, mae pobl yn arfer medrau na wyddent eu bod ganddynt. Gwelais y medrau hynny ar waith ar y ffordd newydd sydd yn cael ei hadeiladu ar draws fy ardal i ym Môn. Mae llawer o’r bechgyn sydd yn gweithio ar y ffordd honno wedi canfod swyddi ffensio neu walio gyda chyflogau da, er enghraifft. Mae’n galondid i gymuned weld bod arian yn cael ei roi yn ôl ynddi. Mae’r cynllun amaeth-amgylchedd yn destun balchder yng nghefn gwlad.

This investment will be tremendous in terms of marketing and processing. Added value is the buzzword. These local facilities will provide employment and investment. The branding of produce will also encourage a sense of community spirit. It will be a great help to all areas.

Bydd y buddsoddiad hwn yn aruthrol o ran marchnata a phrosesu. Ychwanegu gwerth yw’r gair allweddol. Bydd y cyfleusterau lleol hyn yn darparu cyflogaeth a buddsoddiad. Bydd brandio cynnyrch hefyd yn ennyn ymdeimlad o falchder yn y gymuned. Bydd o gymorth mawr i bob ardal.

The dairy farmer will welcome the processing initiative. Instead of seeing his milk being trundled many miles away and facing the burden of high transport costs, Welsh cheese and milk products will come to the fore, regenerating these areas.

Bydd y ffermwr llaeth yn croesawu’r fenter prosesu. Yn lle gweld ei laeth yn cael ei yrru filltiroedd lawer a wynebu baich costau cludiant uchel, daw cynhyrchion caws a llaeth Cymru i’r amlwg, gan adfywio’r ardaloedd hynny.

The compensatory allowances, the HLCAs in their new form, must be maintained at this year’s and last year’s funding. They are cheap to administer, with only 3 or 4 per cent of the total cost going into administration so the money goes where it is really needed. They are essential to keep the mountain areas alive and working.

Rhaid cadw’r lwfans iawndal, yr iawndal da byw tir uchel ar ei ffurf newydd, ar lefel ariannu eleni neu y llynedd. Maent yn rhad i’w gweinyddu, gan mai ond 3 neu 4 y cant o gyfanswm y gost sydd yn mynd i weinyddu felly mae’r arian yn mynd i’r mannau lle y mae ei wir angen. Mae’n hanfodol er mwyn cynnal bywyd a gwaith yn yr ardaloedd mynyddig.

I cannot envisage a young entrants scheme that is not coupled with an early retirement scheme. I was disappointed at the lack of direction or interest in such a scheme. Young entrants are desperately needed to introduce innovation and adaptability into the industry and, most importantly, to reduce the outward migration of young people from rural areas. Age structure must be balanced. We cannot establish a young entrants scheme unless we can make way for them to enter the industry. That means we must also have a retirement scheme. I understand arguments against the retirement scheme, but I do not accept them partly because it could be introduced for people who were ready for retirement in the normal way and would be leaving the industry anyway.

Ni allaf ddychmygu cynllun i ddechreuwyr ifanc nad yw’n gysylltiedig â chynllun ymddeol yn gynnar. Yr oeddwn yn siomedig yn y diffyg cyfeiriad neu ddiddordeb mewn cynllun o’r fath. Mae angen taer am ddechreuwyr ifanc er mwyn dod ag arloesedd ac addasadwyedd i’r diwydiant ac, yn bwysicaf oll, i leihau allfudiad pobl ifainc o ardaloedd gwledig. Rhaid cael cydbwysedd yn y strwythur oedran. Ni allwn sefydlu cynllun dechreuwyr newydd os na wnawn le iddynt ddod i mewn i’r diwydiant. Mae hynny’n golygu bod rhaid inni gael cynllun ymddeol hefyd. Deallaf ddadleuon yn erbyn y cynllun ymddeol, ond nid wyf yn eu derbyn a hynny’n rhannol am y gellid ei gyflwyno ar gyfer pobl sydd yn barod i ymddeol yn y ffordd arferol ac a fyddai’n gadael y diwydiant beth bynnag.

We must remember that the collateral of people leaving the industry resulting from money that they invested in their business has been completely and unnecessarily eroded by this Government and by Dr Jack Cunningham. The value of that stock was for their retirement. They are giving it away now and it has little value. It has been stolen from them. Starter units would then become available for young entrants. In my area there are many starter units, a small acreage of land on which these young people can start—

Rhaid inni gofio bod sicrwydd cyfochrog y bobl sydd yn gadael y diwydiant o ganlyniad i arian a fuddsoddwyd ganddynt yn eu busnes wedi ei erydu’n llwyr ac yn ddiangen gan y Llywodraeth hon a chan Dr Jack Cunningham. Yr oedd gwerth y stoc hwnnw ar gyfer eu hymddeoliad. Maent yn ei roi’n rhad yn awr ac ychydig o werth sydd iddo. Cafodd ei ladrata oddi arnynt. Wedyn byddai unedau cychwyn ar gael i ddechreuwyr ifanc. Yn fy ardal i ceir llawer o unedau cychwyn, tir o ychydig erwau lle y gall y bobl ifainc hyn ddechrau—

Alison Halford spoken in English p. 47

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 47

Point of order. I think the word ‘stolen’ is a little excessive. Will the Presiding Officer consider whether it should be slightly toned down?

Pwynt o drefn. Credaf fod y gair ‘lladrata’ braidd yn ormodol. A fydd y Llywydd gystal ag ystyried a ddylid ei leddfu ychydig?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 47

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 47

I would be grateful if Peter reflected on the accusation of theft. [ASSEMBLY MEMBERS: ‘Purloin.’]

Byddwn yn ddiolchgar pe bai Peter yn rhoi ystyriaeth i’r cyhuddiad o ladrata. [AELODAU O’R CYNULLIAD: ‘Dwyn.’]

Rhodri Morgan spoken in English p. 47

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 47

Sirloin.

Syrlwyn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 47

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 47

I am not interested in specifying words, as I have indicated a number of times. All words have a context. It depends on the context and the intention. We had this discussion last week.

Nid oes gennyf ddiddordeb mewn manylu ar eiriau, fel y nodais sawl gwaith. Mae i bob gair ei gyd-destun. Mae’n dibynnu ar y cyd-destun a’r bwriad. Cawsom y drafodaeth hon yr wythnos diwethaf.

Peter Rogers spoken in English p. 47

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 47

I retract the word ‘stolen’. Rhodri suggested sirloin—Welsh sirloin.

Tynnaf y gair ‘lladrata’ yn ôl. Awgrymodd Rhodri ‘syrlwyn’—syrlwyn o Gymru.

Through starter units, young people could enter this industry, bringing all their encouragement, enthusiasm and ideas. Agriculture would then have a sustainable future. The other important issue mentioned by Christine Gwyther was the afforestation of some types of agricultural land. She also mentioned that there will be more consultation on the Welsh woodlands plan later on. I know that in early January she will visit Mr Roger Williams Ellis in the Lleyn Peninsula, who owns a forest. I am sure that after that visit, she will be convinced that we must ensure that forestry plays a bigger part in Wales. There, in the Lleyn Peninsula, you will see a successfully run forest with a timber yard, employing 17 men. Much of that timber is used on estates for building. Such sustainable work would be of great benefit to our rural areas. This will give us the chance to provide training in rural areas. I welcome the opportunity of having trial farms across the country so that we can monitor the progress of many different ways of farming and so increase our overall product. Technology offers another fantastic opportunity for rural areas.

Drwy unedau cychwyn, gallai pobl ifainc ddod i mewn i’r diwydiant hwn, gyda’u holl galondid, brwdfrydedd a syniadau. Wedyn byddai dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth. Y pwynt pwysig arall a grybwyllwyd gan Christine Gwyther oedd fforestu rhai mathau o dir amaethyddol. Dywedodd hefyd y byddai mwy o ymgynghori ar gynllun coetiroedd Cymru yn ddiweddarach. Yr wyf yn gwybod y bydd yn ymweld yn gynnar yn Ionawr â Mr Roger Williams Ellis ym Mhenrhyn Llŷn, sydd yn berchen ar goedwig. Yr wyf yn sicr, ar ôl yr ymweliad hwnnw, y bydd wedi ei hargyhoeddi bod rhaid inni sicrhau y bydd coedwigaeth yn chwarae rhan ehangach yng Nghymru. Yno, ym Mhenrhyn Llŷn, byddwch yn gweld coedwig a redir yn llwyddiannus, gyda iard goed, sydd yn cyflogi 17 o ddynion. Defnyddir llawer o’r coed hwnnw ar stadau ar gyfer adeiladu. Byddai gwaith cynaliadwy o’r fath o fudd mawr i’r hardaloedd gwledig. Bydd hyn yn rhoi cyfle inni ddarparu hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig. Croesawaf y cyfle i gael ffermydd prawf ledled y wlad fel y gallwn fonitro cynnydd llawer o wahanol fathau o ffermio a drwy hynny gynyddu ein cynnyrch cyffredinol. Mae technoleg yn cynnig cyfle gwych arall i ardaloedd gwledig.

I also welcome the organic food initiative. We must remember, as the document makes clear, that the Welsh family farm is the backbone of rural life. Every one of those farms has diversified in some way to survive this Labour-made crisis. We must implement these plans as soon as possible, without any hiccoughs, for the farmers’ sake. We can then look forward to having a future in the rural areas of Wales.

Yr wyf hefyd yn cefnogi’r fenter bwyd organig. Rhaid inni gofio, fel y rhoddir ar ddeall yn yr adroddiad, mai’r fferm deuluol Gymreig yw asgwrn cefn bywyd cefn gwlad. Mae pob un o’r ffermydd hynny wedi amrywiaethu mewn rhyw ffordd er mwyn goroesi’r argyfwng hwn a grëwyd gan Lafur. Rhaid inni weithredu’r cynlluniau hyn gynted ag y bo modd, heb yr un anhap, er mwyn y ffermwyr. Wedyn gallwn edrych ymlaen at gael dyfodol yn ardaloedd gwledig Cymru.

The Welsh Conservatives will also support all the amendments.

Bydd Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cefnogi’r holl welliannau.

Richard Edwards spoken in English p. 48

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 48

I will focus on Tir Gofal and social inclusion. Modulation, with match funding, will release £78 million for rural development in Wales over the next seven years. The development will include schemes like Tir Gofal. I acknowledge, Ieuan, that Tir Gofal was in the Plaid Cymru manifesto, but Tir Gofal was launched by Ron Davies as Secretary of State for Wales. It is a Labour success story, and I am pleased that it receives cross-party support.

Canolbwyntiaf ar Tir Gofal a chynhwysiant cymdeithasol. Bydd modiwleiddio, gydag arian cyfatebol, yn rhyddhau £78 miliwn ar gyfer datblygu gwledig yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf. Bydd y datblygu’n cynnwys cynlluniau fel Tir Gofal. Cydnabyddaf, Ieuan, fod Tir Gofal ym maniffesto Plaid Cymru, ond lansiwyd Tir Gofal gan Ron Davies fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Un o lwyddiannau Llafur ydyw, ac yr wyf yn falch bod iddo gefnogaeth drawsbleidiol.

Tir Gofal has already proven popular with Welsh farmers, with nearly 14,000 applications for the first year. The budget, even though it has been doubled for the next year, only enables 600 farms to be taken into the scheme. That means 65,000 hectares in agri-environmental schemes. That is an increase of 28 per cent, almost a third. It will have a great impact on rural life, improving biodiversity and landscapes and creating more access opportunities for local people and tourists. Strengthening the most sustainable type of farming, which Tir Gofal supports, is vital for the future well-being of rural areas. We need to consider seriously investing as much of the extra funding from modulation as possible into Tir Gofal. In England, the budget for its countryside stewardship scheme has been quadrupled. Perhaps we should consider a similar increase for Tir Gofal.

Mae Tir Gofal eisoes wedi profi’n boblogaidd ymysg ffermwyr Cymru, gyda bron 14,000 o geisiadau ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Er ei bod wedi ei dyblu ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid yw’r gyllideb ond yn caniatáu derbyn 600 o ffermydd i’r cynllun. Mae hynny’n golygu 65,000 hectar mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol. Mae hynny’n gynnydd o 28 y cant, bron un rhan o dair. Bydd yn cael effaith fawr ar fywyd cefn gwlad, gan wella bioamrywiaeth a thirweddau a chreu mwy o gyfleoedd mynediad i bobl leol a thwristiaid. Mae cryfhau’r math mwyaf cynaliadwy o ffermio, a gefnogir gan Tir Gofal, yn hanfodol er mwyn lles ardaloedd gwledig yn y dyfodol. Mae angen inni roi ystyriaeth ofalus i fuddsoddi cymaint ag y bo modd o’r cyllid ychwanegol o fodiwleiddio yn Tir Gofal. Yn Lloegr, mae’r gyllideb ar gyfer ei chynllun stiwardiaeth cefn gwlad wedi ei chynyddu bedair gwaith. Efallai y dylem ystyried cynnydd tebyg ar gyfer Tir Gofal.

Turning to social inclusion, given the hidden and dispersed nature of much rural deprivation, I would like to see more focus on rural anti-poverty strategies, with a collaborative approach from statutory and voluntary bodies. Mick mentioned more effective co-ordination. However, we need a more collaborative approach embracing issues such as benefit advice and take-up, work, debt counselling, childcare provision, health promotion, community transport and community development. I accept that some of those matters fall outside the Assembly’s remit, but we are all signed up to joined-up government now.

Gan droi at gynhwysiant cymdeithasol, oherwydd bod cymaint o amddifadedd gwledig yn guddiedig ac yn wasgaredig, hoffwn weld mwy o ganolbwyntio ar strategaethau gwrth-dlodi gwledig, gydag ymagwedd gydweithredol ar ran cyrff statudol a mudiadau gwirfoddol. Soniodd Mick am gydlynu mwy effeithiol. Fodd bynnag, mae arnom angen ymagwedd fwy cydweithredol sydd yn cwmpasu materion fel cyngor ar fudd-daliadau ac ar eu derbyn, gwaith, cynghori ynghylch dyled, darparu gofal plant, hybu iechyd, cludiant cymunedol a datblygu cymunedol. Derbyniaf fod rhai o’r materion hynny y tu allan i gylch gwaith y Cynulliad, ond yr ydym oll bellach yn cyd-fynd â llywodraeth gydgysylltiol.

The problems within the agriculture industry can only serve to increase social exclusion in rural areas, bringing in new groups of individuals not formally recognised in the context of exclusion. Poverty is now a problem or a potential problem for the whole of the rural population. In Pembrokeshire, 26 per cent of school children receive free school meals. We have a culture of high unemployment and low wages. Important demographic changes compound the problems.

Nid yw’r problemau yn y diwydiant amaeth ond yn fodd i gynyddu dieithrwch cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, ac yn cwmpasu grwpiau newydd o unigolion nad ydynt yn cael eu cydnabod fel arfer yng nghyd-destun allgáu. Mae tlodi yn broblem neu’n broblem ddichonol i’r holl boblogaeth wledig. Yn Sir Benfro, mae 26 y cant o blant ysgol yn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae gennym ddiwylliant o ddiweithdra uchel a chyflogau isel. Mae newidiadau demograffig pwysig yn gwaethygu’r problemau.

I will end with the age distortion of rural Wales’s population. It is shifting dramatically towards the old age groups, and the 65 plus age group is increasing disproportionately. We have a growing extremely vulnerable group trapped by rural isolation, whose needs are not being addressed. Perhaps the most notable concern in this regard is the abysmal state of the rail network and the lack of any plan by Railtrack, for instance, for investment in the south-west Wales line.

Terfynaf drwy sôn am yr ystumiad oedran ym mhoblogaeth cefn gwlad Cymru. Mae’n symud yn drawiadol tuag at y grwpiau henoed, ac mae’r grŵp oedran 65 ac uwch yn cynyddu’n anghymesur. Mae gennym grŵp cynyddol sydd yn agored iawn i niwed, sydd wedi eu caethiwo gan arwahanrwydd yng nghefn gwlad, ac na roddir sylw i’w hanghenion. Efallai mai’r pryder mwyaf arbennig yn hyn o beth yw cyflwr affwysol y rhwydwaith rheilffyrdd a diffyg unrhyw gynllun gan Railtrack, er enghraifft, i fuddsoddi yn rheilffordd de-orllewin Cymru.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 49

Elin Jones spoken in Welsh p. 49

Yr wyf finnau hefyd yn croesawu’r drafodaeth ar y ddogfen hon fel sail i drafod dyfodol amaethyddiaeth a chefn gwlad. Seiliaf fy nghyfraniad ar y ffaith y dylem ddefnyddio’r cynllun datblygu gwledig i osod y fferm deuluol yn ganolog i ddatblygiad y sector amaethyddol. Mae’r cynllun yn mynd ran o’r ffordd i sicrhau hynny.

I also welcome the discussion on this document as a basis for discussing the future of agriculture and the countryside. I base my contribution on the fact that we should use the rural development plan to put the family farm at the centre of the development of the agriculture sector. The plan goes part of the way to ensure that.

Cyn mynd ymhellach, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i gywiro camargraff ymysg rhai Aelodau. Hynny yw, yr argraff mai diwydiant i ddynion yw amaethyddiaeth. Bûm mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf lle y dywedodd un Aelod o’r Cynulliad y dylem edmygu’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig oherwydd ei bod yn fenyw mewn sector llawn o ddynion. Rwtsh llwyr yw dweud bod amaethyddiaeth yn ddiwydiant i ddynion. Mae hynny’n sarhad ar yr holl fenywod sydd yn ffermio. Mae fy mam a’m dwy fam-gu wedi ffermio ar hyd eu hoes. Efallai nad ydynt yn eistedd ar bwyllgorau undebau, ac efallai nad ydynt yn ymddangos mewn ystadegau yn aml, ond bai’r ystadegau yw hynny. Mae menywod wedi ffermio drwy’r ganrif hon ac maent yn parhau i wneud hynny.

Before going any further, I would like to use the opportunity to correct a misapprehension among some Members. That is, the impression that agriculture is an industry for men. I was in a meeting last week where one Assembly Member said that we should admire the Secretary for Agriculture and Rural Development because she is a woman in a sector full of men. It is complete nonsense to say that agriculture is an industry for men. That is an insult to all the women who farm. My mother and two grandmothers have farmed all their lives. Perhaps they do not sit on union committees, and perhaps they do not often appear in statistics, but that is the fault of statistics. Women have farmed throughout this century and continue to do so.

Fel arfer, nid cynhaliaeth incwm i un dyn yw fferm, ond i gyfres o unigolion o sawl cenhedlaeth, yn hen ac yn ifanc. Yn hyn o beth, gallwn weld yr argyfwng amaethyddol presennol yn cael yr effaith fwyaf dinistriol a phellgyrhaeddol. Mae hyder y diwydiant ar ei isaf ers degawdau ac mae pobl ifainc yn cefnu arno. Amlygir hynny gan y ffigurau recriwtio trychinebus ar gyfer cyrsiau amaethyddol mewn colegau yng Nghymru eleni. Mae’r ffaith fod pobl ifainc yn cefnu ar y diwydiant yn drychineb tymor hir angheuol i ddiwydiant sydd yn seiliedig ar drosglwyddo tir o un genhedlaeth i’r nesaf. Felly, mae cyfraniad potensial y cynllun ffermwyr ifanc i hyder y genhedlaeth ifanc mewn amaethyddiaeth yn allweddol yn y tymor hir.

A farm is not usually a source of income for one man, but for a series of individuals from several generations, young and old. In this regard, we can see the current agricultural crisis having the most destructive and far-reaching effect. The industry’s confidence is lower than it has been for decades and young people are turning their backs on it. That is shown by the disastrous recruitment figures for agricultural courses in colleges in Wales this year. The fact that young people are turning their backs on the industry is a fatal long-term disaster for an industry that is based on transferring land from one generation to the next. Therefore, the potential contribution of the young farmers scheme to the confidence of the young generation in agriculture is crucial in the long term.

Mae’r cynllun datblygu gwledig i’w ganmol am amlygu a hybu ffynonellau incwm ychwanegol i’r fferm deuluol. Bydd cynhyrchu bwyd yn parhau’n ganolog i’r diwydiant amaethyddol, ond mae angen i ni hybu ac i ffermwyr groesawu dulliau newydd o greu incwm o’r fferm. Nid yw hyn yn ddieithr i ffermwyr; mae dibyniaeth ar aml-ffynonellau incwm yn gyffredin i nifer o ffermwyr yn draddodiadol. Mae tir amaethyddol ac adeiladau’r fferm yn adnoddau i’w defyddio’n hyblyg. Croesawaf bwyslais yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’r cynllun ar goedwigaeth ac ar ddefnyddio tir amaethyddol i dyfu coed. Mae potensial enfawr i’r diwydiant coed yng Nghymru nid yn unig o ran defnydd mwy effeithiol o’n coedwigoedd ac ychwanegu gwerth yn lleol at gynnyrch y coedwigoedd hynny, ond o ran cynllunio’n genedlaethol i’r dyfodol ar gyfer y sector coed. Mae rôl allweddol gan y strategaeth goed ac mae angen i’r diwydiant amaethyddol ymateb yn greadigol i’r ymgynghoriad.

The rural development plan is to be praised for highlighting and promoting additional income sources for the family farm. Food production will remain central to the agriculture industry, but we must promote and farmers must welcome new methods of creating income from the farm. That is not new to farmers; dependency on multiple sources of income is common to many farmers traditionally. Agricultural land and farm buildings are resources to be used flexibly. I welcome the emphasis that the Secretary for Agriculture and Rural Development and the plan place on forestry and on using agricultural land to grow trees. There is a great potential for the timber industry in Wales not only in terms of more effective use of our woodlands and adding value locally to products of those woodlands, but in terms of future national planning for the timber sector. The wood strategy has a key role and the agriculture industry must react creatively to the consultation.

Mae tanwydd coed yn ffynhonnell botensial bwysig o ynni. Nid yw’r cynllun yn rhoi digon o sylw i botensial bio-màs a chnydau ynni fel defnydd economaidd o dir. Rhaid cofio hefyd y gall dulliau mwy traddodiadol o gynhyrchu ynni, megis tyrbinau gwynt, wneud cyfraniad sylweddol at incwm fferm.

Wood fuel is an important potential source of energy. The plan does not give sufficient attention to the potential of biomass and energy crops as an economic use of land. We must also remember that the more traditional methods of producing energy, such as wind turbines, can make a substantial contribution to farm incomes.

Er mwyn cynyddu’r ffynonellau incwm sydd ar gael i’n ffermwyr, rhaid inni gyflwyno hyblygrwydd yn ein system gynllunio i ganiatáu defnydd amgenach o’n hadeiladau fferm. Fe fydd Glyn Davies, Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth yn cofio, yn ein cyfarfod diwethaf yn Aberhonddu, inni gael cyflwyniad ardderchog gan ffermwr lleol yn ystod y sesiwn meic-agored. Siaradodd am yr angen am ganiatâd i wneud defnydd newydd o’r gofod segur sydd mewn nifer o adeiladau fferm yng Nghymru, nid yn unig fel llety i ymwelwyr ond fel unedau busnes a chynhyrchu a storio ac yn y blaen.

In order to increase the sources of income that are available to our farmers, we must introduce flexibility in our planning system to allow alternative use of our farm buildings. Glyn Davies, Chairman of the Mid Wales Regional Committee will remember that in our last meeting at Brecon, a local farmer gave an excellent presentation during the open-mike session. He spoke of the need for permission to make new use of unoccupied space in many farm buildings in Wales, not only as accommodation for visitors but as business production and storage units and so on.

Croesawaf ymdrech y cynllun i flaenoriaethu i’r dyfodol hyd yn oed yn nyfnder yr argyfwng amaethyddol presennol. Er hynny, nid yw’r ddogfen yn gosod gweledigaeth ar gyfer y ffermydd teuluol nac yn eu sefydlu fel sylfaen i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Os mai bwyd rhad yn unig yw’r hyn y mae arnom eisiau gan ein sector amaethyddol, gallwn ei gynhyrchu mewn dwsin neu ddau o ffermydd enfawr. Fodd bynnag, os ydym eisiau tirlun ac amgylchedd amrywiol, bwyd iach o safon, amrywiaeth cynnyrch a chymunedau gwledig hyfyw, rhaid inni gydnabod gwerth ffermydd bach teuluol a’u cefnogi.

I welcome the plan’s effort to prioritise for the future even in the depth of the current agricultural crisis. However, the document does not set a vision for family farms nor does it establish them as a basis for the agricultural industry in Wales. If cheap food is all that we want from our agricultural industry, we can produce it in a couple of dozen vast farms. However, if we want a diverse landscape and environment, healthy food of high quality, a variety of produce and viable rural communities, we must recognise the value of small family farms and support them.

Val Feld spoken in English p. 51

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 51

I want to speak briefly in this important discussion. We must consider this issue in the context of our national economic development strategy. I am sure that, in responding, Rhodri Morgan will reinforce that. At the risk of being unpopular, we must remember that there are people other than farmers who live in our rural communities, and who try to make a living in all sorts of ways. Do you wish to contradict me?

Yr wyf am siarad yn fyr yn y drafodaeth bwysig hon. Rhaid inni ystyried y mater hwn yng nghyd-destun ein strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol. Yr wyf yn sicr y bydd Rhodri Morgan, wrth ymateb, yn ategu hynny. Os caf fentro bod yn amhoblogaidd, rhaid inni gofio bod rhai heblaw ffermwyr yn byw yn ein cymunedau gwledig, ac yn ceisio gwneud bywoliaeth ym mhob dull a modd. A ddymunwch ddadlau’n groes i mi?

Elin Jones spoken in English p. 52

Elin Jones siaradwyd yn Saesneg t. 52

Yes. Why do you believe that that comment would make you unpopular? Most speakers have noted the importance of agriculture as one of the components of rural development.

Dymunaf. Pam y credwch y byddai’r sylw hwnnw yn eich gwneud yn amhoblogaidd? Mae’r rhan fwyaf o’r siaradwyr wedi nodi pwysigrwydd amaethyddiaeth fel un elfen mewn datblygu gwledig.

Val Feld spoken in English p. 52

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 52

It is interesting to note how Elin has heard today’s speakers. I think there has been a great deal of focus on agriculture and not a broader focus on the extent to which a range of issues and policies will impact on the development of sustainable rural communities. It seems that all the attention is focused on agriculture. Maybe I am wrong. It may be because I come from a constituency which has only small rural areas.

Diddorol yw sylwi sut y mae Elin wedi clywed y siaradwyr heddiw. Credaf fod llawer o sylw wedi ei ganolbwyntio ar amaethyddiaeth yn hytrach na chanolbwyntio’n ehangach ar y graddau y mae amrediad o faterion a pholisïau’n effeithio ar ddatblygu cymunedau gwledig cynaliadwy. Ymddengys fod yr holl sylw wedi ei ganolbwyntio ar amaethyddiaeth. Efallai fy mod yn anghywir. Efallai mai’r rheswm am hynny yw fy mod o etholaeth sydd ond ag ardaloedd gwledig bychain.

Peter Rogers spoken in English p. 52

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 52

The biggest supporters of the uprising of the farmers two or three years ago, were other people who lived in rural areas, even professional people such as accountants and solicitors. Everybody who lived in rural areas was involved. They understood the importance of safeguarding rural Wales and Welsh family farms.

Cefnogwyr mwyaf gwrthryfel y ffermwyr ddwy neu dair blynedd yn ôl oedd pobl eraill a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig, hyd yn oed pobl broffesiynol fel cyfrifwyr a chyfreithwyr. Yr oedd pawb sydd yn byw yng nghefn gwlad yn gysylltiedig. Yr oeddent yn deall pwysigrwydd diogelu cefn gwlad Cymru a ffermydd teuluol Cymreig.

Val Feld spoken in English p. 52

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 52

That is why, Elin, I thought I would be unpopular in saying that there are people in our rural communities who try to make a living in other ways. Perhaps our challenge is to develop an approach that reaches out to all people in our rural communities and to integrate that into our national economic development strategy. That is fundamentally important because what is good for the rural economy is good for the whole of Wales. Unless we tackle the problems of the rural economy, we will not tackle the overriding economic development problems of Wales and in particular, the serious problems of entrenched poverty, low pay and marginalisation in so many of our communities. It is important that we have an integrated approach.

Dyna pam, Elin, y credais y byddwn yn amhoblogaidd wrth ddweud bod pobl yn ein cymunedau gwledig sydd yn ceisio gwneud bywoliaeth mewn modd arall. Efallai mai’r her sydd gennym yw datblygu ymagwedd sydd yn ymestyn at bawb yn ein cymunedau gwledig ac integreiddio hynny yn ein strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol. Mae hynny’n sylfaenol bwysig oherwydd mae’r hyn sydd yn dda i’r economi gwledig yn dda i Gymru gyfan. Onid awn i’r afael â phroblemau’r economi gwledig, nid awn i’r afael â phroblemau datblygu economaidd pennaf Cymru ac yn enwedig, y problemau difrifol sydd ynglŷn â thlodi di-syfl, tâl isel a gyrru pobl i’r cyrion mewn cynifer o’n cymunedau. Mae’n bwysig inni gael dull gweithredu integredig.

I would like to ensure that the Economic Development Committee has the opportunity to look at this plan and how it is integrated with the strategy and structural funds programmes. I know that it is included in the plan but we must consider it. It is equally important that the Environment and Local Government Committee considers this plan and its implications on their policies on transport. Richard has, rightly, raised the issue of public transport and roads in rural areas and the fundamental importance of access in rural areas. We must also tackle the fundamental issue of available, affordable housing in rural areas. There are also broader issues such as finding ways of keeping our communities sufficiently well resourced so that they have a clear future and can attract people to them.

Hoffwn geisio sicrhau y caiff y Pwyllgor Datblygu Economaidd gyfle i edrych ar y cynllun hwn a’r modd y mae wedi ei integreiddio â’r strategaeth a rhaglenni’r cronfeydd strwythurol. Gwn ei fod wedi ei gynnwys yn y cynllun ond rhaid inni ei ystyried. Mae yr un mor bwysig i Bwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol ystyried y cynllun hwn a’i oblygiadau i’w polisïau ar drafnidiaeth. Mae Richard, yn briodol, wedi codi mater cludiant cyhoeddus a ffyrdd mewn ardaloedd gwledig a’r pwysigrwydd hanfodol sydd i fynediad mewn ardaloedd gwledig. Rhaid inni roi sylw hefyd i fater sylfaenol tai sydd yn fforddiadwy ac ar gael mewn ardaloedd gwledig. Mae materion ehangach hefyd fel darganfod ffyrdd i gadw digon o adnoddau yn ein cymunedau fel bod dyfodol eglur iddynt ac fel eu bod yn gallu denu pobl.

One key question in the Objective 1 programme is how we can use resources to expand activities in rural areas so that communities become self-sustaining in the longer term. I am pleased to see that there are references to the importance of the development of the information and communications technology infrastructure across rural Wales. I would like us to consider how we can use the ICT revolution not only to create businesses but to help sustain our communities. The Welsh Development Agency, in conjunction with NTL I think, is looking at ways of putting computer access points into rural post offices. Post offices would then become places where people go not only to post letters but to send e-mails, to access the internet, and to have that kind of connection with the outside world. It is important that we consider how we put that infrastructure for accessing IT, electronic commerce and the communications network into our rural communities.

Un cwestiwn allweddol yn rhaglen Amcan 1 yw sut y gallwn ddefnyddio adnoddau i ehangu gweithgareddau mewn ardaloedd gwledig fel y daw cymunedau i fod yn hunangynhaliol yn y tymor hwy. Yr wyf yn falch o weld bod cyfeiriadau at bwysigrwydd datblygu’r isadeiledd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu ledled y Gymru wledig. Byddai’n dda gennyf pe baem yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r chwyldro technoleg gwybodaeth a chyfathrebu nid yn unig i greu busnesau ond hefyd i helpu cynnal ein cymunedau. Mae Awdurdod Datblygu Cymru, ar y cyd â NTL yr wyf yn credu, yn ystyried ffyrdd o osod pwyntiau mynediad cyfrifiadurol mewn swyddfeydd post yng nghefn gwlad. Byddai swyddfeydd post wedyn yn fannau y mae pobl yn mynd iddynt nid yn unig i bostio llythyrau ond hefyd i anfon negeseuon e-bost, cyrraedd y rhyngrwyd, a chael cysylltiad o’r math hwnnw â’r byd y tu allan. Mae’n bwysig inni ystyried sut i roi’r isadeiledd hwnnw ar gyfer mynd at dechnoleg gwybodaeth, masnachu electronig a’r rhwydwaith cyfathrebu yn ein cymunedau gwledig.

Those kind of opportunities offer a chance for change and regeneration. As we take this plan forward, I hope that it can go to the Assembly Committees for consideration so that we can all contribute to it and integrate it into our broader activities. We do not want to work in isolation. That is where my worry about farming comes in. Farming is important. I do not say for a moment that it is not. However we must integrate the broader agenda for the rural economy into all our activities. I will ensure that we consider this seriously in the Economic Development Committee.

Mae cyfleoedd o’r fath yn cynnig gobaith am newid ac adfywio. Wrth inni fynd ymlaen â’r cynllun hwn, gobeithiaf y gall fynd i Bwyllgorau’r Cynulliad i’w ystyried fel y gallwn oll gyfrannu ato a’i integreiddio â’r gweithgareddau ehangach. Nid wyf am weithio ar wahân. Dyna’r rheswm am fy mhryder ynghylch ffermio. Mae ffermio’n bwysig. Ni ddywedaf am funud nad ydyw. Fodd bynnag, rhaid inni integreiddio’r agenda ehangach ar gyfer yr economi gwledig â’n holl weithgareddau. Byddaf yn sicrhau ein bod yn ystyried hyn o ddifrif yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 54

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 54

I have indicated to Rhodri Morgan that I will call him at 4.30 p.m. If everyone keeps to five minutes, all those who wish to speak will be able to do so.

Dywedais wrth Rhodri Morgan y byddaf yn galw arno am 4.30 p.m. Os bydd pawb yn cadw at bum munud, bydd modd i bawb sydd yn dymuno siarad allu gwneud hynny.

David Davies spoken in English p. 54

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 54

I welcome much that is in the report but there is also much that is lacking. I was delighted to see so much space set aside to discuss forestry, which was mentioned earlier on by the constituency Member for Ceredigion. Great play is made of supporting forests, but the reality is very different, as anybody in the Chepstow area of Monmouthshire knows full well. We have seen there what the Government’s forestry policies really are. The Forest Enterprise—an arm of the Forestry Commission—is deliberately encouraging developers to develop an area of about 800 acres of prime forest land to build holiday homes.

Croesawaf lawer o’r hyn sydd yn yr adroddiad ond mae llawer hefyd sydd heb ei gynnwys. Yr oeddwn yn falch iawn o weld bod cymaint o le wedi ei neilltuo i drafod coedwigaeth, a grybwyllwyd yn gynharach gan yr Aelod etholaeth dros Geredigion. Ceir llawer o sôn am gynnal coedwigoedd, ond mae’r gwir yn wahanol iawn, fel y gŵyr pawb yn ardal Cas-gwent yn Sir Fynwy. Gwelsom yn y fan honno beth yw polisïau coedwigaeth y Llywodraeth mewn gwirionedd. Mae’r Fenter Coedwigaeth—cangen o’r Comisiwn Coedwigaeth—yn annog datblygwyr yn fwriadol i ddatblygu ardal o tua 800 erw o’r coetir gorau i godi tai gwyliau.

I welcome the fact that Christine Gwyther has been ready to meet people who are rightly concerned about this, and has put this plan on hold for several weeks. However, I would much rather see something more concrete in this report to stop this sort of thing happening ever again. Empty words about the importance of forestry are all very well, but I would much rather see it in the rural development plan.

Croesawaf y ffaith fod Christine Gwyther wedi bod yn barod i gyfarfod â phobl sydd â phryder priodol ynghylch hynny, a’i bod wedi atal y cynllun hwn am rai wythnosau. Fodd bynnag, byddai’n well gennyf weld rhywbeth mwy pendant yn yr adroddiad hwn i atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd byth eto. Un peth yw geiriau gwag am bwysigrwydd coedwigaeth, ond byddai’n well o lawer gennyf ei weld yn y cynllun datblygu gwledig.

There is quite a bit about abattoirs in this report, but nothing about the problems that face so many meat processing plants. I went to one of these plants last week to a meeting with the leader of the Liberal Democrats and the local Member of Parliament. We learnt first-hand how meat processing plants and abattoirs up and down the country face ruin because of the excessive charges that are being levied on them. I visited a plant when it was operating some months ago. I saw numerous meat hygiene inspectors there standing around with their hands in their pockets while other people were working. It was quite unnecessary and there were far too many of them. The costs of all this were being borne by the plant’s owners.

Mae cryn dipyn am ladd-dai yn yr adroddiad hwn, ond dim am y problemau sydd yn wynebu cynifer o weithfeydd prosesu cig. Euthum i un o’r gweithfeydd hyn yr wythnos diwethaf i gyfarfod gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Aelod Seneddol lleol. Dysgasom yn uniongyrchol sut y mae gweithfeydd prosesu cig a lladd-dai ar hyd a lled y wlad yn wynebu distryw oherwydd y taliadau gormodol a godir arnynt. Ymwelais â gwaith pan oedd yn rhedeg rai misoedd yn ôl. Gwelais nifer o arolygwyr glanweithdra cig yn sefyllian â’u dwylo yn eu pocedi tra oedd pobl eraill yn gweithio. Yr oedd yn gwbl ddiangen ac yr oedd gormod o lawer ohonynt. Yr oedd yr holl gostau am hynny yn cael eu talu gan berchnogion y gwaith.

Any responsible person accepts that there is a need for inspections wherever animals are slaughtered, but is there really any need to have so many meat hygiene inspectors and veterinary surgeons? In other European Union countries, veterinary surgeons are employed by the state and a much lower rate is charged to meat processing manufacturers. In this country, abattoir operators often have to pay twice as much as they should because the vets are independent contractors.

Mae pob un cyfrifol yn derbyn bod angen am archwiliadau lle bynnag y caiff anifeiliaid eu lladd, ond a oes gwir angen cael cynifer o arolygwyr glanweithdra cig a milfeddygon? Mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, cyflogir milfeddygon gan y wladwriaeth a chodir cyfradd is o lawer ar y cynhyrchwyr prosesu cig. Yn y wlad hon, mae gweithredwyr lladd-dai yn aml yn gorfod talu dwywaith cymaint ag y dylent am fod y milfeddygon yn gontractwyr annibynnol.

I would like the report to anticipate the fact that abattoirs are likely to have to close if these charges continue, and find some way of reducing the charges.

Byddai’n dda gennyf pe bai’r adroddiad yn rhagweld y ffaith fod lladd-dai’n debygol o orfod cau os bydd y taliadau hyn yn parhau, ac yn canfod rhyw ffordd i leihau’r taliadau.

Val Feld spoken in English p. 55

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 55

I am slightly puzzled. I seem to remember that it was the Conservative Government’s reduction of the inspection of abattoirs that led to the problems that created BSE. Am I wrong?

Yr wyf mewn penbleth braidd. Yr wyf fel petawn yn cofio mai’r gostyngiad mewn archwilio lladd-dai gan y Llywodraeth Geidwadol a arweiniodd at y problemau a greodd BSE. A wyf yn anghywir?

David Davies spoken in English p. 55

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 55

I quite understand that the Member is confused and puzzled—that is nothing new. BSE came about because a certain amount of bonemeal and animal products were put into animal feeds. That is what caused it, not a reduction in the number of inspectors.

Yr wyf yn deall yn iawn bod yr Aelod mewn dryswch a phenbleth—nid oes dim newydd yn hynny. Daeth BSE i fod am fod rhywfaint o flawd esgyrn a chynnyrch anifeilol wedi eu rhoi mewn porthiant anifeiliaid. Dyna’r hyn a’i achosodd, nid gostyngiad yn nifer yr arolygwyr.

Alun Pugh spoken in English p. 55

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 55

Who deregulated the bonemeal industry to allow it into the system in the first place?

Pwy a ddadreoleiddiodd y diwydiant blawd esgyrn a’i adael i ddod i mewn i’r system yn y lle cyntaf?

David Davies spoken in English p. 55

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 55

As that Member knows perfectly well, since the Second World War, successive Labour and Conservative Governments have done their utmost to try to make farming methods more modern and efficient as they are afraid of food shortages ever happening again. There were probably cases of BSE back in the early 1970s under Labour, and if that Member knew anything about agriculture, he would not have tried to make political points out of a real tragedy.

Fel y gŵyr yr Aelod hwnnw’n iawn, ers yr Ail Ryfel Byd, mae Llywodraethau Llafur a Cheidwadol ar ôl ei gilydd wedi gwneud eu gorau glas i geisio gwneud dulliau ffermio’n fwy modern ac effeithlon rhag ofn y ceir prinder bwyd byth eto. Yr oedd achosion o BSE yn y 1970au cynnar yn ôl pob tebyg o dan Lafur, a phe gwyddai’r Aelod hwnnw rywbeth am amaethyddiaeth, ni fyddai wedi ceisio gwneud pwyntiau gwleidyddol o drasiedi wirioneddol.

Yesterday, as I went back to meet the owner of that abattoir, I was handed a card saying, ‘Unlike Santa, Labour delivers all year round. Happy Christmas’. I showed this card to local farmers who told me that it was just like all the other documentation they receive—red tape, empty words.

Ddoe, ar fy ffordd yn ôl i gyfarfod â pherchennog y lladd-dy hwnnw, rhoddwyd cerdyn imi ac arno’r geiriau, ‘Unlike Santa, Labour delivers all year round. Happy Christmas’. Dangosais y cerdyn hwn i ffermwyr lleol a ddywedodd ei fod yr union un fath â’r ddogfennaeth arall y maent yn ei derbyn—biwrocratiaeth, geiriau gwag.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 56

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 56

Before I call Kirsty, I would like to point out that ‘that Member’ is called Alun Pugh.

Cyn imi alw ar Kirsty, hoffwn nodi mai enw’r ‘Aelod hwnnw’ yw Alun Pugh.

Kirsty Williams spoken in English p. 56

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 56

I do not suppose that many Members are familiar with the small village of Beulah in the Brecon and Radnorshire constituency. The farmers here will know it for the breed of sheep that shares its name. I know it for the warmth of the welcome of its residents. The kettle is always on in Beulah and a slice of home-made cake is always readily offered.

Ni thybiaf fod llawer o Aelodau’n gyfarwydd â phentref bach Beulah yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed. Bydd y ffermwyr yma yn ei adnabod oherwydd y brîd o ddefaid o’r un enw. Yr wyf yn ei adnabod oherwydd croeso cynnes ei drigolion. Mae’r tegell ar y tân bob amser yn Beulah a darn o deisen gartref yn cael ei gynnig yn barod bob tro.

This year, Beulah has had a sadder connotation for me. One parish alone this year has seen the suicide of four farmers. These farmers could not see a future for themselves or their families. They were weary of the constant battle to keep their businesses going, and I am sick and tired of attending their funerals.

Eleni, mae i Beulah arwyddocâd tristach i mi. Mewn un plwyf yn unig eleni gwelwyd hunanladdiad pedwar ffermwr. Ni allai’r ffermwyr hynny weld dyfodol iddynt hwy eu hunain na’u teuluoedd. Yr oeddent wedi blino ar y frwydr gyson i gynnal eu busnesau, ac yr wyf wedi hen alaru ar fynd i’w hangladdau.

I am glad that the Assembly is at last taking positive steps to stop the situation. We have had many debates on agriculture since the formation of the Assembly and, unfortunately, too often they have been negative and about what we have been unable to do rather than what we have been able to do. I am glad, Christine, that today we can discuss what we can do to create opportunities in rural areas for people throughout Wales.

Yr wyf yn falch bod y Cynulliad o’r diwedd yn cymryd camau cadarnhaol i atal y sefyllfa. Cawsom lawer o ddadleuon ar amaethyddiaeth ers ffurfio’r Cynulliad a, gwaetha’r modd, buont yn rhy aml yn negyddol ac yn ymwneud â’r hyn na allem ei wneud yn hytrach na’r hyn y gallem ei wneud. Yr wyf yn falch, Christine, ein bod heddiw’n gallu trafod yr hyn y gallwn ei wneud i greu cyfleoedd mewn ardaloedd gwledig i bobl ledled Cymru.

I welcome the inclusion of the hill livestock compensatory allowance reform paper. It is a vast improvement on the first one. I congratulate Christine on listening to the views of farmers up and down the country and on the changes that she has put in place. It is far better than what officials first put forward and will allow far more farmers to take advantage of the final section of HLCA payments. I am grateful to you for your work on that.

Croesawaf gynnwys papur diwygio’r iawndal da byw tir uchel. Mae’n welliant aruthrol ar yr un cyntaf. Llongyfarchaf Christine ar wrando ar farn ffermwyr ar hyd a lled y wlad ac ar y newidiadau y mae wedi eu cynnwys. Mae’n well o lawer na’r hyn a gyflwynwyd gan y swyddogion yn gyntaf a bydd yn caniatáu i fwy o lawer o ffermwyr fanteisio ar yr adran olaf o daliadau’r iawndal da byw tir uchel. Yr wyf yn ddiolchgar i chi am weithio ar hynny.

I also welcome the proposals for a retirement scheme. That is especially relevant to the tenant farmers of my constituency given the current economic climate. Many of them, once they have sold their stock, will not have enough money to buy a property of their own to which to retire.

Croesawaf hefyd y cynigion ar gyfer cynllun ymddeol. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i’r tenantiaid ffermydd yn fy etholaeth i yng ngolwg yr hinsawdd economaidd gyfredol. Bydd llawer ohonynt, ar ôl gwerthu eu stoc, heb ddigon o arian i brynu eu heiddo eu hunain i ymddeol iddo.

Like Ieuan, I am also glad to see the mention of a young entrants scheme. However, I hope that Members will forgive me when I say that all the young entrants schemes in the world will not encourage young people into the sector until it is doing much better.

Yn yr un modd â Ieuan, yr wyf finnau’n falch o weld crybwyll cynllun dechreuwyr ifanc. Fodd bynnag, gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n maddau i mi pan ddywedaf na fydd yr holl gynlluniau dechreuwyr newydd yn y byd yn annog pobl ifainc i ddod i’r sector hyd nes bydd yn llawer mwy ffyniannus.

Much has been said about environmental schemes. Tir Gofal has been a great success for those farmers who have been able to access it. Richard quoted the number of applicants for the scheme, but it is not just the lack of financial resources that has limited the number of farmers who have been accepted. For many farmers in Wales, no matter what their good intentions, their holdings will never allow them to take advantage of that scheme. I would have liked a more universal scheme included in the draft rural development plan such as the old hedgerow scheme of which all farmers in Wales would have been able to take advantage. Tir Gofal, with the best will in the world, is still an elitist agri-environmental scheme.

Dywedwyd llawer am gynlluniau amgylcheddol. Bu Tir Gofal yn llwyddiant mawr i’r ffermwyr hynny sydd wedi gallu cael mynediad ato. Nododd Richard y nifer o ymgeiswyr am y cynllun, ond nid diffyg adnoddau ariannol yw’r unig beth sydd wedi cyfyngu ar nifer y ffermwyr a dderbyniwyd. Yn achos llawer o ffermwyr yng Nghymru, beth bynnag yw eu bwriadau da, ni fydd eu ffermydd byth yn caniatáu iddynt fanteisio ar y cynllun hwnnw. Buaswn wedi hoffi gweld cynllun mwy cyffredinol yn y cynllun datblygu gwledig drafft fel yr hen gynllun gwrychoedd y buasai’r holl ffermwyr yng Nghymru wedi gallu manteisio arno. Mae Tir Gofal, gyda phob ewyllys da yn y byd, yn dal i fod yn gynllun amaeth-amgylcheddol elitaidd.

Val is right in saying that not all people who live in rural communities are farmers. Yet, whether farmers or not, we all suffer from a distinct disadvantage in accessing services. Two in particular, post offices and village pubs are under severe threat. Although there is a paragraph devoted to them in this document, there is little to say what help we can offer those in my constituency. It is difficult for us as an Assembly to promote such services while national Government policy tends to do the opposite and undermine the good work that we are trying to do in Wales.

Mae Val yn gywir wrth ddweud nad ffermwyr yw pawb sydd yn byw mewn cymunedau gwledig. Eto, pa un a ydynt yn ffermwyr ai peidio, yr ydym oll o dan anfantais bendant wrth gael mynediad at wasanaethau. Mae dau ohonynt yn arbennig, swyddfeydd post a thafarnau pentref, o dan fygythiad difrifol. Er bod paragraff wedi ei neilltuo iddynt yn y ddogfen hon, ychydig sydd i ddweud pa gymorth y gallwn ei gynnig i’r rhai yn fy etholaeth. Mae’n anodd inni hybu gwasanaethau o’r fath fel Cynulliad pan mae polisi’r Llywodraeth yn tueddu i fynd yn groes a thanseilio’r gwaith da yr ydym yn ceisio ei wneud yng Nghymru.

The plan also mentions diversification. On a parochial note, many of my farmers who live within the Brecon Beacons National Park would like to diversify, but the opportunities open to them are often limited. I know of many farmers who want to take advantage of quad bike or bed and breakfasts opportunities and have had their applications turned down because they live in the sensitive area of Brecon and Radnorshire. There are constraints on diversification for those who live in national park environments.

Mae’r cynllun yn sôn hefyd am amrywiaethu. Ar nodyn plwyfol, byddai llawer o’r ffermwyr sydd yn byw oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hoffi amrywiaethu, ond mae’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn aml yn gyfyngedig. Gwn am lawer o ffermwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd sydd ynglŷn â beiciau cwad neu wely a brecwast ond y gwrthodwyd eu ceisiadau am eu bod yn byw yn yr ardal sensitif o Frycheiniog a Maesyfed. Mae cyfyngiadau ar amrywiaethu yn achos y rhai sydd yn byw mewn amgylchedd parc cenedlaethol.

I pay tribute to the work of community development organisations such as Menter Powys, which has done great work in Powys to date through its LEADER project. However, the ability to carry on work in an integrated and cross-Powys fashion will be severely hampered by the exclusion of 14 wards of south-east Powys from the Objective 2 map. We took evidence from various organisations at a Regional Committee meeting last week. All of them to a man—all of those giving presentations were men—said that the exclusion of these 14 wards of south-east Powys, which are all severely disadvantaged areas, especially Talgarth, means that it will be difficult for them to implement their plans across an area that will have Objective 1 status, Objective 2 status and, as they eloquently put it, Objective zilch status. I hope, Christine, that you can—

Talaf deyrnged i waith mudiadau datblygu cymunedol fel Menter Powys, a wnaeth waith gwych ym Mhowys hyd yn hyn drwy ei brosiect LEADER. Fodd bynnag, bydd y gallu i fynd ymlaen â gwaith mewn modd integredig ar draws Powys yn cael ei lesteirio’n ddifrifol am fod 14 ward yn ne-ddwyrain Powys wedi eu hepgor o’r map Amcan 2. Derbyniasom dystiolaeth oddi wrth wahanol fudiadau mewn cyfarfod Pwyllgor Rhanbarthol yr wythnos diwethaf. Dywedodd pob un hyd y gŵr olaf—a dynion oedd pob un a wnaeth gyflwyniad—fod hepgor y 14 ward hyn yn ne-ddwyrain Powys, y mae pob un ohonynt yn ardal ddifreintiedig iawn, yn enwedig Talgarth, yn golygu y bydd yn anodd iddynt weithredu eu cynlluniau ar draws ardal a fydd yn cynnwys statws Amcan 1, statws Amcan 2 ac, yn eu geiriau huawdl hwy, statws Amcan zilch. Gobeithiaf, Christine, y gallwch—

David Melding spoken in English p. 58

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 58

Will you tell the people of these communities that they should not focus on the fact that they have been excluded? As the administration emphasises constantly, the problem is that they have not been included.

A ddywedwch wrth bobl y cymunedau hyn na ddylent ganolbwyntio ar y ffaith eu bod wedi eu hepgor? Fel y mae’r weinyddiaeth yn pwysleisio o hyd, y broblem yw nad ydynt wedi eu cynnwys.

Kirsty Williams spoken in English p. 58

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 58

I have been trying hard to do that but, unfortunately, just as it does not wash with me, it does not wash with the 14 wards of south-east Powys either. I hope Christine will do all that she can to recognise the difficulties the organisations that she hopes will implement these plans for her will face due to the decision to exclude those wards.

Ymdrechais yn galed i wneud hynny ond, gwaetha’r modd, ni thycia hynny â mi, mwy nag y mae’n tycio â’r 14 ward yn ne-ddwyrain Powys. Gobeithiaf y bydd Christine yn gwneud popeth yn ei gallu i gydnabod yr anawsterau a wynebir gan y mudiadau y mae’n gobeithio y byddant yn rhoi’r cynlluniau hyn ar waith drosti oherwydd y penderfyniad i hepgor y wardiau hynny.

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 59

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 59

Croesawaf y cynllun hwn yn fawr. Dyma’r tro cyntaf inni gael cynllun yng Nghymru i edrych ar broblemau cefn gwlad Cymru, cynllun yr ydym wedi ei drafod yn y Siambr hon. Mae llawer o ddiffygion yng nghefn gwlad o ran gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chludiant. O ran addysg, gwyddom ei bod yn anodd rhoi’r un cyfleoedd i bobl mewn ardaloedd gwledig ag sydd ar gael i rywun sydd yn byw yng Nghaerdydd, er enghraifft. Mae gwasanaethau bysiau a threnau yn yr ardaloedd gwledig wedi cael eu hisraddio dros y blynyddoedd. Mae’r gwasanaethau trên yn mynd yn rhy ddrud a gwael i bobl lleol eu defnyddio ac felly mae’r traciau yn cael eu cau. Byddai rhai yn dweud nad yw pethau wedi newid o gwbl.

I very much welcome this plan. This is the first time that we have had a plan in Wales to look at the problems of rural Wales, a plan that we have debated in this Chamber. There are many deficiencies in rural areas in social services, education and transportation. In education, we know that it is difficult to give the same opportunities to people in rural areas as those available to someone living in Cardiff, for example. Bus and train services in rural areas have been run down over the years. Train services become too expensive and poor for local people to use and therefore the tracks are closed. Some would say that things have not changed at all.

Mae pobl wedi bod yn gadael ardaloedd gwledig ers dwy ganrif. Ddechrau’r ganrif hon, symudodd fy nheulu o ffermydd yn sir Gaerfyrddin i weithio yn y pyllau glo gan fod gwell arian yno nag oedd i’w gael wrth ffermio. Nid yw’n wir dweud bod problemau amaethyddiaeth a’r ardaloedd gwledig wedi digwydd yn y ddwy flynedd diwethaf. Achoswyd y problemau dros nifer o flynyddoedd. Yr ydym yn awr yn edrych ar gynllun i helpu a hybu pobl sydd yn byw yn y Gymru wledig.

People have been leaving rural areas for two centuries. At the beginning of this century, my family moved from farms in Carmarthenshire to work in the coal mines as there was better money to be had there than in farming. It is not true to say that the problems of agriculture and the rural areas have happened in the last two years. The problems have been caused over a number of years. We are now looking at a plan to assist and promote people who live in rural Wales.

Soniodd Kirsty am siopau a thafarnau yn cau. Rhaid cael rhyw lefel o wasanaethau ym mhob cymuned. Mae’n rhaid cael siop neu siopau ac mae’n rhaid cael tafarn. Tafarn yw canolbwynt unrhyw gymuned.

Kirsty mentioned shops and pubs closing. There must be a certain level of services in every community. There must be a shop or shops and there must be a pub. A pub is the centre of any community.

David Davies spoken in English p. 59

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 59

Do you agree that Government plans to bring in automated credit transfer will cause post offices in rural areas to shut down? Do you also accept that pensioners who would have previously gone to post offices and possibly spent their pension in the village shop will no longer do so and that, therefore, village shops will also close?

A gytunwch y bydd bwriad y Llywodraeth i gyflwyno trosglwyddo credyd awtomataidd yn peri i swyddfeydd post mewn ardaloedd gwledig gau? A ydych hefyd yn derbyn y bydd pensiynwyr a fyddai wedi mynd cynt i swyddfeydd post ac efallai wedi gwario eu pensiwn yn siop y pentref yn peidio â gwneud hynny mwyach ac y bydd siopau pentref hefyd, felly, yn cau?

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 59

Carwyn Jones spoken in Welsh p. 59

Mae ymgynghori yn digwydd ar y cynllun ar hyn o bryd a chawn weld beth fydd canlyniad hynny. Gwn i sicrwydd fod polisïau’r Torïaid yn ystod y 20 mlynedd diwethaf wedi gwneud mwy na dim arall i sicrhau bod tafarnau, a siopau yn enwedig, yn cau. Unwaith y mae’r dafarn yn cau mewn unrhyw gymuned, bydd y gymuned yn diflannu. Y dafarn yw’r peth diwethaf sydd yn cau mewn unrhyw gymuned. Ni chofiaf i’r Torïaid wneud unrhyw beth o’r blaen i geisio—

Consultation on the plan is taking place at the moment and we will see what the result of that will be. I know for certain that the Tories’ policies during the last 20 years have done more than anything else to ensure that pubs, and shops in particular, close. Once the pub closes in any community, the community will disappear. The pub is the last thing to close in any community. I do not remember the Tories doing anything previously to try to—

David Davies spoken in English p. 60

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 60

Point of order. I do not like to bring it up, but the other parties have made much of calling parties by their proper names. I therefore object to the use of the word ‘Tory’ or ‘Torïaid’, particularly as in Welsh it is similar to the word for ‘cut’. I would not want anyone to get the wrong impression.

Pwynt o drefn. Nid wyf yn hoffi codi hyn, ond mae’r pleidiau eraill wedi gwneud yn fawr o alw pleidiau yn ôl eu priod enwau. Felly gwrthwynebaf y defnydd o’r gair ‘Tori’ neu ‘Torïaid’, yn enwedig am ei fod yn debyg yn Gymraeg i’r gair am ‘dorri’. Nid wyf am i neb gael yr argraff anghywir.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 60

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 60

The quality of your Welsh, David, has improved so much that we all have to be careful what we say.

Mae safon eich Cymraeg wedi gwella cymaint, David, fel y bydd yn rhaid inni oll fod yn ofalus ynghylch yr hyn a ddywedwn.

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 60

Carwyn Jones spoken in Welsh and English p. 60

Derbyniaf hynny. Dywedaf ‘Ceidwadwyr’.

in Welsh I accept that. I shall say ‘Conservatives’.

People who live in rural areas need allies in urban areas. Wales is too small a country for people to seek to put divisions between people and to divide the urban from the rural. It is of no help to rural areas when former miners and steelworkers are told that they do not know what it is like to experience the problems that farmers have now. I do not want to belittle the problems of farmers. However, it is wrong to suggest to miners and steelworkers that they do not understand what poverty, unemployment and desperation are like.

yn Saesneg Mae pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig angen cynghreiriaid mewn ardaloedd trefol. Mae Cymru’n wlad rhy fach i bobl geisio creu rhaniadau rhwng pobl a rhannu’r trefol oddi wrth y gwledig. Nid yw o unrhyw gymorth i ardaloedd gwledig pan ddywedir wrth gyn-lowyr a gweithwyr dur na wyddant beth yw profi’r problemau sydd gan ffermwyr yn awr. Nid wyf am fychanu problemau ffermwyr. Fodd bynnag, nid yw’n iawn awgrymu i lowyr a gweithwyr dur nad ydynt yn deall beth yw tlodi, diweithdra ac anobaith.

Helen Mary Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 60

Helen Mary Jones spoken in Welsh p. 60

Hoffwn wybod pwy yn y byd mawr crwn sydd wedi bod yn ddigon dwl i ddweud hynny wrth y cyn lowyr a’r cyn weithwyr dur yng Nghymru. Yr wyf yn sicrhau Carwyn nad oes neb ym Mhlaid Cymru erioed wedi dweud nac awgrymu’r ffasiwn beth. Fel rhywun a dreuliodd lawer o amser ar y llinellau piced yn ystod streic y glowyr, yr wyf yn gwybod mai ychydig iawn o arweinwyr y Blaid Lafur, gan gynnwys Neil Kinnock, a oedd yn bresennol. Hoffwn wybod pwy sydd wedi dweud y fath beth. Cytunaf eu bod yn dwp i wneud hynny.

I would like to know who in the whole wide world has been silly enough to say such a thing to the former miners and the former steelworkers in Wales. I assure Carwyn that nobody in Plaid Cymru has ever said or suggested such a thing. As someone who spent a lot of time on the picket lines during the miners’ strike, I know that few of the leaders of the Labour Party, including Neil Kinnock, were present. I want to know who said such a thing. I agree that they are stupid to do so.

Carwyn Jones siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 61

Carwyn Jones spoken in Welsh and English p. 61

Nid wyf yn siarad am Blaid Cymru. Clywais y cyhuddiad ar y radio gan un o aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig.

in Welsh I am not talking about Plaid Cymru. I heard the accusation on the radio from one of the members of the Welsh Conservatives.

That does not do anybody any good. There is no point saying that farmers have it bad and no one else understands what it is like. We must build alliances between rural and urban areas and between farmers and other working people. Making that sort of divide does not help anybody. We have, at last, a rural development plan. We are in the throes of ensuring that rural Wales does not become a theme park of economic inactivity. That has threatened to happen over the past 10 or 15 years. At last we have a situation where we can build a better and a sustainable future for our rural areas and ensure that our rural communities and agriculture have a chance to prosper.

yn Saesneg Nid yw hynny o fudd i neb. Nid oes diben dweud ei bod yn ddrwg ar ffermwyr ac nad oes neb arall yn deall sut y mae. Rhaid inni greu cynghreiriau rhwng ardaloedd gwledig a threfol a rhwng ffermwyr a gweithwyr eraill. Nid yw gwneud rhaniad o’r fath yn gymorth i neb. O’r diwedd, mae gennym gynllun datblygu gwledig. Yr ydym ar ganol yr ymdrech o sicrhau na fydd cefn gwlad Cymru’n mynd yn barc thema o anweithgaredd economaidd. Bu peygl i hynny ddigwydd dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf. O’r diwedd mae gennym sefyllfa lle y gallwn adeiladu dyfodol gwell a chynaliadwy i’n hardaloedd gwledig a sicrhau bod ein cymunedau gwledig a’n hamaethyddiaeth yn cael cyfle i ffynnu.

Janet Davies spoken in English p. 61

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 61

It has been suggested that some people are only talking about agriculture, whereas this is a much wider issue covering the whole of the rural areas. Ieuan Wyn Jones and Elin Jones spoke a great deal about agriculture. I intend to talk about rural communities as a whole. I take up one point that Carwyn Jones made about working together. One of the most inspiring protest marches I have ever attended was in 1984 in Aberystwyth—miners, farmers—who were having problems with milk quotas—academics and peace campaigners all marched together. There is no need to say against whom they were marching in 1984.

Awgrymwyd nad yw rhai ond yn siarad am amaethyddiaeth, er bod hwn yn fater llawer ehangach sydd yn cynnwys y cyfan o’r ardaloedd gwledig. Dywedodd Ieuan Wyn Jones ac Elin Jones lawer iawn am amaethyddiaeth. Bwriadaf siarad am ardaloedd gwledig yn eu cyfanrwydd. Codaf un pwynt a wnaeth Carwyn Jones am gydweithio. Un o’r gorymdeithiau gwrthdystio mwyaf ysbrydoledig y bûm arni erioed oedd yn 1984 yn Aberystwyth—yr oedd glowyr, ffermwyr—oedd â phroblemau ynghylch cwotâu llaeth—academyddion ac ymgyrchwyr dros heddwch i gyd yn gorymdeithio gyda’i gilydd. Nid oes angen dweud yn erbyn pwy yr oeddent yn gorymdeithio yn 1984.

Rural employment has depended heavily on agriculture for a long time. Unfortunately, the agriculture sector will not be so able to provide employment in rural areas in the future and it is essential to widen and diversify the employment base. We have heard much about the threat to rural communities from the fall in incomes and gross domestic product per capita, the ageing structure and the loss of basic services. As basic services are lost, the cost of travelling to them rises not only because they are further away but because present taxation policies make it more expensive to travel in rural areas. Although it is not a matter for us, the UK Government must address this issue of how it will manage not to adversely affect, or almost disenfranchise, rural communities when they are setting taxation policies that apply to cities.

Mae cyflogaeth wledig wedi dibynnu’n drwm ar amaethyddiaeth ers amser maith. Yn anffodus, ni fydd y sector amaethyddiaeth mor alluog i ddarparu cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig yn y dyfodol ac mae’n holl bwysig ehangu ac amrywiaethu’r sylfaen gyflogaeth. Clywsom lawer am y bygythiad i gymunedau gwledig o ganlyniad i’r gostyngiad mewn incwm a’r cynnyrch mewnwladol crynswth y pen, y strwythur oedrannus a cholli gwasanaethau sylfaenol. Wrth golli gwasanaethau sylfaenol, bydd y gost o deithio atynt yn cynyddu, nid yn unig am eu bod yn bellach i ffwrdd ond am fod y polisïau trethiant presennol yn ei gwneud yn ddrutach i deithio mewn ardaloedd gwledig. Er nad yw’n fater i ni, rhaid i Lywodraeth y DU roi sylw i’r mater hwn o’r modd y gall beidio ag andwyo, neu ddifreinio bron, gymunedau gwledig pan maent yn pennu polisïau trethiant sydd yn berthnasol i ddinasoedd.

Once communities are in this downward spiral it is difficult to get them out of it. An integrated approach is essential to begin to tackle these problems. The rural development plan needs to work with existing programmes such as the national economic development strategy, the Welsh Development Agency corporate plan, the Objective 1 single programming document and those of the LEADER groups. When these programmes work together, the National Assembly must have a role of scrutiny and support for them through the Agriculture and Rural Development Committee and its Secretary.

Pan mae cymunedau ar y ddisgynfa droellog hon mae’n anodd iddynt ddianc ohoni. Mae dull gweithredu integredig yn hanfodol er mwyn dechrau ymdrin â’r problemau hyn. Mae angen i’r cynllun datblygu gwledig weithio gyda’r rhaglenni presennol fel y strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol, cynllun corfforaethol Awdurdod Datblygu Cymru, dogfen raglennu sengl Amcan 1 a rhai’r grwpiau LEADER. Pan mae’r rhaglenni hyn yn gweithio gyda’i gilydd, rhaid i’r Cynulliad gael y rôl o’u harchwilio a’u cefnogi drwy’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’i Ysgrifennydd.

Integration is also essential for the single programming document. There are omissions in the two documents and I would have liked a strategic objective of adaptation and development being put it for rural areas. In priority 5, there is a need to enable organisations that can create links between different programmes and sectors to be able to apply for funding for integrated rural development. People have spoken a great deal about Tir Gofal today. I had the privilege yesterday of seeing a Tir Gofal scheme on the cliffs of the Pembrokeshire coast. It struck me that the scheme can bring the needs of agriculture, the environment and tourism together to create employment. I was pleased to hear you say Richard, that Ron Davies introduced that scheme. I am sure therefore that he must be a front runner for the Labour group as the leading Assembly Member.

Mae integreiddio hefyd yn holl bwysig i’r ddogfen raglennu sengl. Mae diffygion yn y ddwy ddogfen a byddwn wedi hoffi gweld cynnwys amcan strategol o addasu a datblygu ar gyfer ardaloedd gwledig. Ym mlaenoriaeth 5, mae angen galluogi cyrff sydd yn gallu creu cysylltiadau rhwng gwahanol raglenni a sectorau i ymgeisio am gyllid ar gyfer datblygu gwledig integredig. Dywedwyd llawer am Tir Gofal heddiw. Cefais y fraint ddoe o weld cynllun Tir Gofal ar ben clogwyni ar arfordir Sir Benfro. Fe’m trawyd bod y cynllun yn gallu cyfuno anghenion amaethyddiaeth, yr amgylchedd a thwristiaeth i greu cyflogaeth. Yr oeddwn yn falch o’ch clywed yn dweud, Richard, mai Ron Davies a gyflwynodd y cynllun hwnnw. Yr wyf yn sicr felly ei fod yn geffyl blaen dros y grŵp Llafur fel yr Aelod Cynulliad blaenaf.

I would also like to see a cultural element to Tir Gofal. I visited a farm near the Pembrokeshire coast yesterday where marsh fritillary butterflies breed. There was also a mountain close by where an amazing battle took place 918 years ago. The Welsh won that battle but nobody knew about it. There is room in tourism to bring culture and the environment together. It makes tourism more interesting.

Hoffwn hefyd weld elfen ddiwylliannol i Dir Gofal hefyd. Ymwelais â fferm ger arfordir Sir Benfro ddoe lle mae gloynnod byw brith y gors yn bridio. Yr oedd mynydd gerllaw hefyd lle y digwyddodd brwydr ryfeddol 918 o flynyddoedd yn ôl. Y Cymry a enillodd y frwydr honno ond ni wyddai neb amdani. Mae lle mewn twristiaeth i ddod â diwylliant a’r amgylchedd at ei gilydd. Mae’n gwneud twristiaeth yn fwy diddorol.

I am concerned when I look at the priorities in the plan. There seems to be some conflict in respect of promoting existing services, inward investment and new companies. We must be sure that we know what we are doing. Expanding and strengthening local companies must be the first priority. The others are not unimportant but we must prioritise. On rural post offices, I hope that they survive to have ICT points put in them.

Yr wyf yn bryderus pan edrychaf ar y blaenoriaethau yn y cynllun. Ymddengys fod rhywfaint o wrthdaro o ran hybu’r gwasanaethau presennol, mewnfuddsoddi a chwmnïau newydd. Rhaid inni fod yn sicr ein bod yn gwybod beth yr ydym yn ei wneud. Rhaid rhoi’r flaenoriaeth gyntaf i ehangu a chryfhau cwmnïau lleol. Nid yw’r lleill heb fod yn bwysig ond rhaid inni drefnu blaenoriaethau. Ynglŷn â swyddfeydd post gwledig, gobeithiaf y byddant yn goroesi fel y gellir rhoi pwyntiau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu ynddynt.

Tourism is an important issue for rural communities. It provides more income now than agriculture and we need to ensure that this has the greatest added value possible. I return to the relationship between the environment and culture, because the visible environment is defined by the culture that existed for centuries. Forestry is extremely important and I congratulate Coed Cymru on producing new products under the marketing label of Welsh Angle.

Mae twristiaeth yn fater pwysig i gymunedau gwledig. Mae’n darparu mwy o incwm yn awr nag amaethyddiaeth a rhaid inni sicrhau bod y gwerth ychwanegol mwyaf posibl ar hynny. Dychwelaf at y cysylltiad rhwng yr amgylchedd a diwylliant, oherwydd diffinnir yr amgylchedd gweladwy gan y diwylliant sydd yn bod ers canrifoedd. Mae coedwigaeth yn bwysig iawn a llongyfarchaf Coed Cymru ar gynhyrchu cynhyrchion newydd o dan label marchnata Welsh Angle.

If we are to achieve a higher gross domestic product in the Objective 1 area, we must diversify the base. We cannot afford to neglect rural GDP. We need to preserve a living and lively rural society based on cultural traditions, attractive landscape and strong population of indigenous flora and fauna.

Os ydym i gyflawni cynnyrch mewnwladol crynswth uwch yn rhanbarth Amcan 1, rhaid inni amrywiaethu’r sylfaen. Ni allwn fforddio esgeuluso’r cynnyrch mewnwladol crynswth gwledig. Rhaid inni gadw cymdeithas wledig fyw a bywiog yn seiliedig ar draddodiadau diwylliannol, tirwedd deniadol a phoblogaeth gref o fflora a ffawna cynhenid.

Rhodri Morgan spoken in Welsh and English p. 63

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 63

I thank those who have spoken today. The crisis that has hit rural areas of Wales has led to a surprising degree of agreement today that the correct way forward lies by and large within this rural development plan. Unanimity would have been gobsmacking and too much to expect but there is a remarkable degree of agreement that the plan has a way forward—subject to amendments during the consultation period—for an area of Wales that is suffering. It is not necessarily suffering more than the Welsh Valleys, but it is suffering. Combined action is needed from the Assembly and Europe, under whose aegis this plan comes and to whose format and instruction it conforms so that people have a hope of a way forward out of today’s problems.

yn Saesneg Diolchaf i’r rhai a siaradodd heddiw. Mae’r argyfwng sydd wedi taro ardaloedd gwledig Cymru wedi arwain at raddau annisgwyl o gytundeb heddiw fod y ffordd gywir ymlaen i’w gweld at ei gilydd oddi mewn i’r cynllun datblygu gwledig hwn. Byddai unfrydedd yn gwbl syfrdanol ac yn ormod i’w ddisgwyl ond mae graddau rhyfeddol o gytundeb bod ffordd ymlaen i’r cynllun—yn amodol ar newidiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori—ar gyfer rhanbarth o Gymru sydd yn dioddef. Nid yw o reidrwydd yn dioddef mwy na Chymoedd Cymru, ond mae’n dioddef. Mae angen gweithredu ar y cyd gan y Cynulliad ac Ewrop, y daw’r cynllun hwn o dan ei hadain ac y mae ei fformat a’i gyfarwyddyd yn cydymffurfio â’i gofynion, fel bod gan bobl obaith o gael ffordd ymlaen o broblemau heddiw.

I believe that this plan will commend itself, but that still means that people can consult on it and inject their own ideas into it, whether about modulation, about the hill livestock compensatory allowance or the financial or training aspects.

yn Saesneg Credaf y bydd y cynllun hwn yn gymeradwy, ond mae hynny’n dal i olygu y gall pobl ymgynghori yn ei gylch a chwistrellu eu syniadau eu hunain iddo, boed hynny ynghylch modiwleiddio, lwfans da byw tir uchel neu’r agweddau ariannol neu hyfforddi.

I will run through some of the points raised. I will not be able to deal with them all. However, Christine Gwyther or myself, according to our respective responsibilities, will write about any points that I do not address during this 10-minute closing speech.

yn Saesneg Af drwy rai o’r pwyntiau a godwyd. Ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonynt. Fodd bynnag, bydd Christine Gwyther neu minnau, yn ôl ein priod gyfrifoldebau, yn ysgrifennu am unrhyw bwyntiau na roddaf sylw iddynt yn ystod yr araith 10-munud hon sydd yn dod â’r ddadl i ben.

We all accept that the key change that has come upon rural as well as urban Wales is that people are no longer so tied to specific occupations arising from the resource that they live on or near. Today’s society does not comprise people with specific occupations living in specific places. We are no longer a nation of miners, dockers or farmers who live next to the coalmine, the docks or the land. It is now possible to live 15, 20 or 50 miles away from work and commute.

yn Saesneg Yr ydym oll yn derbyn mai’r newid allweddol a ddaeth i ran y Gymru wledig yn ogystal â’r Gymru drefol yw nad yw pobl ynghlwm bellach i’r un graddau â galwedigaethau penodol sydd yn deillio o’r adnodd y maent yn byw arno neu gerllaw iddo. Nid yw cymdeithas heddiw yn cynnwys pobl â galwedigaethau penodol sydd yn byw mewn lleoedd penodol. Nid ydym bellach yn genedl o lowyr, docwyr neu ffermwyr sydd yn byw ger y lofa, y dociau neu’r tir. Yn awr gellir byw 15, 20 neu 50 milltir oddi wrth y gweithle a chymudo.

Furthermore, occupations can be unrelated to a specific resource because we live in a more complex society. With telecommunications, commuting is no longer a matter of how far it is possible to travel in a car or train everyday, but a matter of where it is possible to get the latest telecommunications link-up. I am sure that Alun Pugh would tell me that if I had not already said it. Cybercall’s recent announcement about their call-centre in Cardigan is encouraging to us all in the Chamber because it shows that it is possible to have advanced technology call-centres even in areas such as west Wales—which I know extremely well—which are a long way from London, from main telephone exchanges like Cardiff, and from the main urban areas. We are no longer restricted because telecommunications has exploded the distance gap and made irrelevant the physical distance that used to govern where people worked and lived. The infrastructure of the information super-highway becomes the alternative.

yn Saesneg Yn ogystal â hynny, gall galwedigaethau fod heb gysylltiad ag adnodd penodol am ein bod yn byw mewn cymdeithas fwy cymhleth. Gyda thelegyfathrebu, nid yw cymudo bellach yn fater o ba mor bell y gellir teithio mewn car neu drên bob dydd, ond yn fater o ble y gellir cael y cyswllt telegyfathrebu diweddaraf. Yr wyf yn sicr y byddai Alun Pugh wedi dweud hynny wrthyf os na fyddwn wedi ei ddweud yn barod. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Cybercall am eu canolfan alwadau yn Aberteifi yn galonogol i bawb ohonom yn y Siambr oherwydd mae’n dangos bod modd cael canolfannau galwadau uwch-dechnoleg hyd yn oed mewn ardaloedd fel gorllewin Cymru—yr wyf yn ei hadnabod yn dda iawn—sydd yn bell o Lundain, o brif gyfnewidfeydd ffôn fel Caerdydd, ac o’r prif ardaloedd trefol. Nid ydym bellach yn gyfyngedig oherwydd fod telegyfathrebu wedi chwalu’r bwlch pellter ac wedi gwneud y pellter ffisegol a arferai reoli lle’r oedd pobl yn gweithio ac yn byw yn amherthnasol. Mae isadeiledd yr uwchbriffordd wybodaeth wedi dod yn ddewis amgen.

I shall say more about this on Friday—I cannot say more today due to time pressure—when there will be a further announcement about rural Wales, the information super-highway and infrastructure investment.

yn Saesneg Byddaf yn dweud rhagor am hyn ddydd Gwener—ni allaf ddweud mwy heddiw oherwydd pwysau amser—pan fydd cyhoeddiad pellach am y Gymru wledig, yr uwchbriffordd wybodaeth a buddsoddi mewn isadeiledd.

Mick Bates raised how an applicant would know what to do and how well integrated the scheme is. He is being a bit unfair because the proposals enable people to have a national partnership and, as with the national development plan, they will be able to find their way more easily than in the past. The individual applicant will be guided through what was previously a maze in an integrated manner. However, I appreciate Mick Bates’s call for this and we accept the Liberal Democrat amendments 2 and 3 and the Plaid Cymru amendment 1. We also welcome the points made by Conservative speakers. There is a spirit of agreement today.

yn Saesneg Cododd Mick Bates y mater o sut y gwyddai ymgeisydd beth i’w wneud a pha mor integredig yw’r cynllun. Mae braidd yn annheg oherwydd mae’r cynigion yn galluogi pobl i gael partneriaeth genedlaethol ac, yn yr un modd â’r cynllun datblygu cenedlaethol, byddant yn gallu canfod eu ffordd yn haws nag yn y gorffennol. Arweinir yr ymgeisydd unigol drwy’r hyn a oedd gynt yn ddrysfa mewn modd integredig. Fodd bynnag, gwerthfawrogaf alwad Mick Bates am hynny a derbyniwn welliannau 2 a 3 y Democratiaid Rhyddfrydol a gwelliant 1 Plaid Cymru. Croesawn hefyd y pwyntiau a wnaethpwyd gan y siaradwyr Ceidwadol. Mae ysbryd cytûn heddiw.

Others, including Val, have mentioned the degree of alignment with the national economic development strategy and how the plan and the strategy will be drawn together. There is a single programming document both for Objective 1 and Objective 3 and there will be one for Objective 2. They all need to be aligned. One virtue of the national economic development strategy is that it is not so tied to Objective 1 that it cannot also accommodate the rural development plan. The alignment, so that all those Objectives are covered by the national economic development strategy, attempts to bring the strands together so that we work in the same way towards producing the future for rural Wales, as well as for urban Wales, about which we all share a vision, as has been evident from today’s debate. That is, a Wales that does not produce simple tonnages of meat, tinplate, steel or coal. We want the value-added jobs to be located in Wales, rather than outside Wales as they have been throughout Wales’s economic history.

yn Saesneg Mae eraill, yn cynnwys Val, wedi sôn am raddau’r aliniad â’r strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol a sut y deuir â’r cynllun a’r strategaeth at ei gilydd. Mae dogfen raglennu sengl i Amcan 1 ac i Amcan 3 a bydd un arall i Amcan 2. Bydd angen eu halinio i gyd. Un o rinweddau’r strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol yw nad yw ynghlwm ag Amcan 1 i’r graddau na all hefyd gynnwys y cynllun datblygu wledig. Mae’r aliniad hwn, fel bod yr holl Amcanion hynny wedi eu cynnwys gan y strategaeth ddatblygu economaidd genedlaethol, yn ceisio cyfuno’r edefynnau fel ein bod yn gweithio yn yr un ffordd tuag at greu dyfodol i’r Gymru wledig, yn ogystal â’r Gymru drefol, y mae gennym oll weledigaeth ohono, fel y gwelwyd yn y ddadl heddiw. Hynny yw, Cymru nad yw’n cynhyrchu ond tunelleddau o gig, tunplat, dur neu lo. Yr ydym am weld lleoli’r swyddi gwerth ychwanegol yng Nghymru, yn hytrach na’r tu allan i Gymru fel y buont drwy hanes economaidd Cymru.

That applies as much to rural Wales as urban Wales. We need to try to retain the multiplier effects of our basic agricultural activities so that the downstream jobs, which are frequently more highly paid, are also in Wales. We will then have the income, the jobs, and the market power and investment that goes with it, so that we are no longer the drawers of water and hewers of wood that we have been in the past, both in urban and rural Wales.

yn Saesneg Mae hynny yr un mor berthnasol i’r Gymru wledig ag ydyw i’r Gymru drefol. Mae angen inni gadw effeithiau lluosi ein gweithgareddau amaethyddol sylfaenol fel bod y swyddi gwaeredol, sydd yn aml â thâl uwch, hefyd yng Nghymru. Wedyn bydd gennym yr incwm, y swyddi a’r pŵer yn y farchnad a’r buddsoddiad a ddaw gydag ef, fel nad ydym mwyach yn wehynwyr dŵr ac yn gymynwyr coed fel y buom yn y gorffennol, yn y Gymru wledig a’r Gymru drefol.

Peter made the point about age structure. We all realise that this is a vexed topic. There is no early retirement scheme in the rural development plan because it is completely out of port on grounds of cost. However, we take account of the age structure of the industry, of rural Wales, and of society as a whole. Society is ageing rapidly and one effect on rural Wales is that it is undoubtedly an attractive area to retire to. There is no real reason for resisting that. The agriculture industry has a fairly stark choice: there has to be a method for retaining the small rural farm structure, which also allows people to enter the industry in some way at a younger age. We appreciate the production problems that will result from the ever-increasing average age of the farming workforce.

yn Saesneg Peter a wnaeth y pwynt ynghylch strwythur oedran. Yr ydym oll yn sylweddoli bod hyn yn bwnc dyrys. Nid oes cynllun ymddeol cynnar yn y cynllun datblygu gwledig oherwydd mae’n gwbl allan ohoni ar sail cost. Fodd bynnag, yr ydym yn rhoi sylw i strwythur oedran y diwydiant, y Gymru wledig, a’r gymdeithas gyfan. Mae cymdeithas yn heneiddio’n gyflym ac un effaith ar gefn gwlad Cymru yw ei fod yn sicr yn ardal ddeniadol i ymddeol iddi. Nid oes rheswm gwirioneddol dros wrthsefyll hynny. Mae gan y diwydiant amaethyddol ddewis eithaf amlwg: rhaid cael dull i gadw strwythur y ffermydd bychain gwledig, sydd hefyd yn caniatáu i bobl ddod i mewn i’r diwydiant mewn rhyw fodd ar oed ifanc. Deallwn y problemau cynhyrchu a ddaw o ganlyniad i oedran cyfartalog bythol gynyddol y gweithlu ffermio.

We also appreciate the points made about modulation. We need additional money from the Treasury. Nothing in this rural development plan tries to hide the need for that, and Nick Brown has promised that Wales will also be covered in the autumn review of hill livestock compensatory allowances next year.

yn Saesneg Deallwn hefyd y pwyntiau a wnaethpwyd am fodiwleiddio. Mae arnom angen arian ychwanegol o’r Trysorlys. Nid oes dim yn y cynllun datblygu gwledig hwn sydd yn ceisio celu’r angen am hynny, ac mae Nick Brown wedi addo y bydd Cymru hefyd wedi ei chynnwys yn yr adolygiad o’r iawndal da byw tir uchel yn hydref y flwyddyn nesaf.

We also appreciate the need that has been pointed out for training for farmers to enable them to face the more uncertain world of the future when farming, in the main, will not be about just price guarantees, but trying to adapt to constantly changing market demands and diversify. Of necessity, it will be a more uncertain world, one not just about increasing the tonnage of milk or meat produced, but also about constantly taking changing consumer demands into account and ensuring that Wales develops a high-quality branded country-fresh image for which people will be willing to pay a premium. The way forward must be produce that is clearly branded either as being made in Wales or as coming from Wales, or is branded under one of a series of brand names associated with production in Wales. We can no longer depend on price support. The World Trade Organisation will not allow that in the long term anyway. However, we have to help farmers to train for the new commercial environment in which they will live.

yn Saesneg Deallwn hefyd yr angen a nodwyd i hyfforddi ffermwyr i’w galluogi i wynebu byd mwy ansicr y dyfodol pan na fydd ffermio, at ei gilydd, yn ymwneud â gwarantau pris yn unig, ond â cheisio addasu’n gyson i alwadau bythol gyfnewidiol y farchnad ac amrywiaethu. O reidrwydd, bydd yn fyd mwy ansicr, un nad yw ond yn ymwneud â chynyddu’r symiau o laeth neu gig a gynhyrchir, ond hefyd â’r angen i roi ystyriaeth i alwadau bythol gyfnewidiol y defnyddwyr ac i sicrhau bod Cymru’n datblygu delwedd ffres-o’r-wlad brandiedig o ansawdd uchel ar gyfer pobl sydd yn barod i dalu pris uwch. Y ffordd y mae’n rhaid ei dilyn yw cynnyrch sydd wedi ei frandio’n amlwg i nodi ei fod wedi ei wneud yng Nghymru neu wedi dod o Gymru, neu wedi ei frandio o dan un o gyfres o enwau brand sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu yng Nghymru. Ni allwn ddibynnu ar gymorth prisiau bellach. Ni fydd Corff Masnachu’r Byd yn caniatáu hynny yn y tymor hir, beth bynnag. Fodd bynnag, rhaid inni helpu ffermwyr i hyfforddi ar gyfer yr amgylchedd masnachol newydd lle byddant y byw.

Atebaf Elin oherwydd y mae hyn yn berthnasol i’r pwynt ynglŷn â dynion a menywod mewn amaeth. Credaf ei bod yn rhesymol i ddweud mai dynion a arweiniai’r diwydiant yn y gorffennol pan mai’r hyn y ceisid ei wneud, i raddau helaeth, oedd cynyddu nifer y tunelli o gig neu gynnyrch a gynhyrchid bob blwyddyn. Fodd bynnag, efallai mai menywod yn bennaf a fydd yn gorfod arwain yr agweddau newydd ar y diwydiant lle’r ychwanegir gwerth at y cynnyrch, oherwydd efallai bod mwy o ddawn gan fenywod ar yr ochr honno o ddiwydiant. Mater o ddod o hyd i gydbwysedd rhwng dynion a menywod ydyw yn y diwedd.

in Welsh I will answer Elin because this is relevant to the point about men and women in agriculture. I believe that it is reasonable to say that it was men who led the industry in the past when the aim, to a great extent, was to increase the tonnage of meat or product produced annually. However, perhaps women primarily will have to lead the new aspects of the industry where value is added to the produce, because perhaps women have more talent on that side of industry. It is a matter in the end of striking a balance between the two sexes.

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 67

Elin Jones spoken in Welsh p. 67

A yw’r Ysgrifennydd yn barod i gydnabod ei fod o bosibl yn stereoteipio swyddi o ran yr hyn y gall dynion a menywod ei wneud?

Will the Secretary acknowledge that he is possibly stereotyping jobs as regards what men and women are able to do?

Rhodri Morgan siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 67

Rhodri Morgan spoken in Welsh and English p. 67

Siarad am gydbwysedd yr ydym bob tro. Credaf efallai y bydd rhan mwy blaenllaw gan fenywod yn arweinyddiaeth y diwydiant amaeth yn y dyfodol nag sydd wedi bod yn y gorffennol. Derbyniaf yr hyn a ddywed Elin. Mae perygl o stereoteipio.

in Welsh It is always a matter of balance. I believe that perhaps women will have a more prominent role in the leadership of the agriculture industry in the future than has been the case in the past. I accept what Elin says. There is a danger of stereotyping.

Kirsty made some valuable points about suicide and stress among farmers. That has been an appalling problem. We recognise the industry’s isolation and the need to retain the basic backbone of services such as the rural post office and shops. You will be aware of the valuable scheme of half-rating shops in areas where there is only one shop, taken under Jonathan Evans, as I remember, as the Parliamentary Under-Secretary of State for Wales in the previous Conservative Government.

yn Saesneg Gwnaeth Kirsty rai pwyntiau gwerthfawr am hunanladdiad a phwysau ymysg ffermwyr. Bu honno’n broblem enbyd. Cydnabyddwn unigedd y diwydiant a’r angen i gadw’r asgwrn cefn sylfaenol o wasanaethau fel swyddfeydd post a siopau yng nghefn gwlad. Byddwch yn ymwybodol o’r cynllun gwerthfawr o haneru trethi siopau mewn ardaloedd lle nad oes ond un siop, a weithredwyd o dan Jonathan Evans, fel y cofiaf, fel Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru yn y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

We are assured by Post Office Counters Limited that there is no immediate threat to rural post offices arising from automated credit transfer, if it is introduced. This is an extremely sensitive topic on which there is a great deal of consultation, but Post Office Counters Limited denies that there is a mass closure threat to rural post offices. We recognise that mass closure would contribute to isolation in rural areas in a dangerous way.

yn Saesneg Cawsom sicrwydd gan Cownteri Swyddfa’r Post Cyfyngedig nad oes bygythiad uniongyrchol i swyddfeydd post gwledig oherwydd trosglwyddo credyd awtomataidd, os caiff ei gyflwyno. Mae hwn yn bwnc sensitif iawn y ceir llawer o ymgynghori yn ei gylch, ond mae Cownteri Swyddfa’r Post Cyfyngedig yn gwadu bod bygythiad i gau swyddfeydd post gwledig yn gyffredinol. Cydnabyddwn y byddai cau cyffredinol yn cyfrannu at unigedd mewn ardaloedd gwledig mewn modd difrifol.

David Davies spoken in English p. 68

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 68

If any evidence emerges that suggests that rural post offices will close as a result of ACT, will he give an assurance that it will not be introduced in Wales?

Os daw unrhyw dystiolaeth i’r amlwg sydd yn awgrymu y bydd swyddfeydd post gwledig yn cau o ganlyniad i drosglwyddo credyd awtomataidd, a yw’n fodlon rhoi sicrwydd na chaiff ei gyflwyno yng Nghymru?

Rhodri Morgan spoken in English p. 68

Rhodri Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 68

I cannot give that promise because looking after post offices is a Department for Trade and Industry matter, not an Assembly one. I promise that I will write to him if it appears that rural post offices will close. I will also convey the Assembly’s views to the DTI at the right moment, if ACT appears to be on the way. ACT is a Department of Social Security matter. We will convey the Assembly’s views if it appears that ACT will have a deleterious effect on rural Wales.

Ni allaf roi’r addewid hwnnw oherwydd mater i’r Adran Masnach a Diwydiant yw gofalu am swyddfeydd post, nid i’r Cynulliad. Yr wyf yn addo yr ysgrifennaf ato os yw’n ymddangos y bydd swyddfeydd post gwledig yn cau. Byddaf hefyd yn cyfleu barn y Cynulliad i’r Adran Masnach a Diwydiant ar yr adeg briodol, os yw’n ymddangos bod trosglwyddo credyd awtomataidd ar y ffordd. Mater i’r Adran Nawdd Cymdeithasol yw trosglwyddo credyd awtomataidd. Cyflewn farn y Cynulliad iddi os ymddengys y bydd trosglwyddo credyd awtomataidd yn niweidiol i gefn gwlad Cymru.

Janet was positive about getting a high value, high quality country-fresh image for Welsh branded products from rural areas because that is the right way forward for rural Wales. I am glad that we have managed to keep off the party political divide this afternoon—it is natural for it to occasionally fizzle out—but in general we can unite around this rural development plan. We will differ on the details but I believe that we are united behind the principles. It is too important for rural Wales for us to fail in getting a rural development plan that offers a way forward for a crisis-hit rural economy in Wales.

Yr oedd Janet yn gadarnhaol ynghylch cael delwedd ffres-o’r-wlad o ansawdd a gwerth uchel i gynhyrchion brandiedig o Gymru o ardaloedd gwledig oherwydd dyna’r ffordd gywir ymlaen i gefn gwlad Cymru. Yr wyf yn falch inni lwyddo i gadw oddi wrth y rhaniad pleidiol y prynhawn yma—mae’n naturiol iddo fynd i’r gwellt o bryd i’w gilydd—ond ar y cyfan gallwn ymuno o gwmpas y cynllun datblygu gwledig hwn. Byddwn yn gwahaniaethu ynghylch y manylion ond credaf ein bod yn unedig y tu cefn i’r egwyddorion. Mae’n rhy bwysig i gefn gwlad Cymru inni fethu â chael cynllun datblygu gwledig sydd yn cynnig ffordd ymlaen i economi gwledig a fwriwyd gan argyfwng yng Nghymru.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 69

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 69

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1.

We will now vote on amendment 1.

Gwelliant 1 Ieuan Wyn Jones t. 69

Amendment 1 Ieuan Wyn Jones p. 69

DerbyniwydAdopted O blaidFor 48 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (48)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 70

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 70

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2.

We will now vote on amendment 2.

Gwelliant 2 Mick Bates t. 70

Amendment 2 Mick Bates p. 70

DerbyniwydAdopted O blaidFor 48 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (48)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 70

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 70

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 3.

We will now vote on amendment 3.

Gwelliant 3 Mick Bates t. 71

Amendment 3 Mick Bates p. 71

DerbyniwydAdopted O blaidFor 48 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (48)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 71

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 71

We will now vote on the amended motion, that the Assembly

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio, sef bod y Cynulliad

approves the draft Rural Development Plan for Wales 2000-2006, laid in the Table Office on 7 December 1999, and authorises the First Secretary to arrange for the plan to be submitted to the European Commission by 3 January 2000, with such amendments as may be necessary to meet the Commission’s technical requirements, provided that if the European Commission requires any substantive amendments to the documents prior to its final approval, the First Secretary will consult on such amendments with the Agriculture and Rural Development Committee;

yn cymeradwyo’r Cynllun Datblygu Gwledig drafft ar gyfer Cymru 2000-2006, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 1999, ac yn awdurdodi’r Prif Ysgrifennydd i drefnu bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd erbyn 3 Ionawr 2000, ynghyd ag unrhyw welliannau a fydd, o bosibl, yn ofynnol er mwyn bodloni gofynion technegol y Comisiwn, ar yr amod, os bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn am ddiwygiadau sylweddol i’r dogfennau cyn eu cymeradwyo’n derfynol, y bydd y Prif Ysgrifennydd yn ymgynghori ar y diwygiadau hynny gyda’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig;

particularly welcomes the proposal to establish a team to deal specifically with the problems of rural Wales as part of the new Programme Executive, and looks forward to a co-ordinated approach to the administration of all structural funds in rural areas; and

yn croesawu’n arbennig y cynnig i sefydlu tîm i ddelio’n benodol â phroblemau cefn gwlad Cymru fel rhan o Weithrediaeth y Rhaglen newydd, ac mae’n edrych ymlaen at weld yr holl gronfeydd strwythurol yn cael eu gweinyddu mewn ffordd gydlynol mewn ardaloedd gwledig; ac

also takes this opportunity to reaffirm its commitment to the elimination of rural stress by the vigorous implementation of the measures and priorities set out in the Rural Development Plan.

yn manteisio ar y cyfle hwn hefyd i gadarnhau o’r newydd ei ymrwymiad i ddileu pwysau cefn gwlad drwy fynd ati’n egnïol i roi mesurau a blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Gwledig ar waith.

Cynnig Christine Gwyther t. 72

Motion Christine Gwyther p. 72

DerbyniwydAdopted O blaidFor 47 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (47)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Deddf Safonau Bwyd 1999

Food Standards Act 1999

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 73

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 73

Cyn imi alw ar Jane Hutt i gynnig y cynnig ar y Ddeddf Safonau Bwyd, mae gennyf ddatganiad byr yn ymwneud â phwynt o drefn a godwyd gan Mick Bates ddydd Mawrth 7 Rhagfyr ynglŷn â’r ffaith nad oedd copi o’r Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn y Llyfrgell pan oedd cynnig gerbron y Cynulliad yn trafod dirprwyo pwerau o dan y Ddeddf.

Before I call on Jane Hutt to propose the motion on the Food Standards Act, I have a brief statement to make in relation to a point of order raised by Mick Bates on Tuesday 7 December about the fact that there was no copy of the Food Standards Act 1999 in the Library when the motion on the delegation of powers under the Act was before the Assembly.

Yr wyf wedi ymchwilio i’r mater. Ymatebais yn fyr ar y pryd, ond yr wyf wedi darganfod erbyn hyn fod o leiaf un copi o’r Ddeddf ar gael yn y Llyfrgell o 1 Rhagfyr hyd 7 Rhagfyr, sef dydd y ddadl. Rhywbryd yn ystod y bore hwnnw benthyciwyd y copïau o’r Llyfrgell. Hyd yn oed wedyn, byddai wedi bod yn bosibl argraffu copi o’r Ddeddf o’r fewnrwyd.

I have investigated the matter. I responded briefly at the time, but I have discovered by now that at least one copy of the Act was available in the Library from 1 December to 7 December, the day of the debate. Sometime during that morning, the copies were borrowed from the Library. Even then, it would have been possible to print a copy of the Act from the intranet.

Bydd y Llyfrgell yn sicrhau yn y dyfodol bod o leiaf un copi o ddogfennau a osodwyd yn y Llyfrgell yn gysylltiedig â chynnig sydd gerbron y Cynulliad ar gael drwy’r cyfnod perthnasol. Gall hyn arwain weithiau at orfod gwrthod ceisiadau i fenthyg copïau.

The Library will ensure in future that at least one copy of any document placed in the Library in connection with a motion that is before the Assembly is available throughout the relevant period. This may sometimes lead to requests for borrowing copies having to be refused.

Wedi dweud hynny, yr wyf o’r farn fod cael dogfennau ar gael mewn ffurf electronig, gan ganiatáu eu hargraffu, yn dderbyniol i bawb yn y Cynulliad.

Having said that, I believe that the availability of documents in electronic form, which allows them to be printed, is acceptable to everyone in the Assembly.

Carwn wneud un pwynt arall. Nid wyf am barhau’r arfer o ddefnyddio pwyntiau o drefn i drafod prosesau gweithio mewnol y Cynulliad. Felly, gofynnaf i Aelodau sydd am godi unrhyw bwynt ynglŷn â diffygion neu brinder dogfennau i’w codi yn uniongyrchol gyda Swyddfa’r Llywydd.

I wish to make one further point. I do not want to continue the practice of using points of order to discuss the internal working processes of the Assembly. Therefore, I ask Members who want to raise any points about deficiencies or lack of documents to raise them directly with the Office of the Presiding Officer.

Os ydynt yn faterion hynod o ddifrifol ac am gael eu codi’n gyhoeddus, gofynnaf am ddwy awr o rybudd ymlaen llaw er mwyn imi allu gwneud ymchwiliadau a sefydlu’r ffeithiau. Heb dderbyn rhybudd ymlaen llaw, ni fyddaf yn caniatáu’r pwyntiau hynny o drefn.

If they are extremely serious matters that are to be raised publicly, I ask for two hours’ advance notice so that I can make investigations and establish the facts. Without receiving advance notice, I will not allow those points of order.

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services spoken in English p. 74

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 74

I propose

Cynigiaf

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 74

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 74

I am pleased to report that the Food Standards Act 1999 received Royal Assent on 11 November. The main purpose of the Act is to establish the Food Standards Agency and to provide it with the functions and powers needed to protect public health in relation to food. The Act also confers powers on the National Assembly for Wales which it is proposed should now be delegated to the First Secretary by means of this afternoon’s motion. This delegation is necessary in the short term to enable us to incur expenditure on setting up the Welsh executive of the agency. The first priority is to recruit a director and members of the advisory committee for Wales. We hope to advertise these appointments shortly.

Yr wyf yn falch o adrodd bod y Ddeddf Safonau Bwyd 1999 wedi derbyn Cydsyniad y Frenhines ar 11 Tachwedd. Prif bwrpas y Ddeddf yw sefydlu’r Asiantaeth Safonau Bwyd a rhoi iddi’r swyddogaethau a’r pwerau sydd yn angenrheidiol er mwyn gwarchod iechyd cyhoeddus mewn perthynas â bwyd. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cynigir y dylid eu dirprwyo’n awr i’r Prif Ysgrifennydd drwy gyfrwng y cynnig y prynhawn yma. Mae’r ddirprwyaeth hon yn angenrheidiol yn y tymor byr i’n galluogi i gyflawni gwariant ar sefydlu adran weithredol Gymreig yr asiantaeth. Y flaenoriaeth gyntaf yw recriwtio cyfarwyddwr ac aelodau o’r pwyllgor ymgynghorol i Gymru. Gobeithiwn hysbysebu’r penodiadau hynny cyn hir.

The foundation for this reform was the report submitted to the Government in May 1997 by Professor Philip James and later published. In the light of the report and the public responses to it, Government proposals were drawn up which were presented to the public in the White Paper ‘The Food Standards Agency: A Force for Change’ in January 1998. This led to the draft Bill being published for public consultation in January 1999. The draft Bill was also examined by the House of Commons Food Standards Committee, whose report was published on 31 March 1999. All these consultations took place before devolution.

Sylfaen y diwygiad hwn oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Llywodraeth ym Mai 1997 gan yr Athro Philip James ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach. Yng ngoleuni’r adroddiad a’r ymatebion cyhoeddus iddo, lluniwyd cynigion y Llywodraeth a gyflwynwyd i’r cyhoedd yn y Papur Gwyn ‘The Food Standards Agency: A Force for Change’ yn Ionawr 1998. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r Mesur drafft ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yn Ionawr 1999. Archwiliwyd y mesur drafft hwn hefyd gan Bwyllgor Safonau Bwyd Tŷ’r Cyffredin, y cyhoeddwyd ei adroddiad ar 31 Mawrth 1999. Digwyddodd y cwbl o’r ymgynghoriadau hyn cyn datganoli.

The Assembly was consulted by the Government on the principle of the agency being a UK-wide body in July. Colleagues on the Health and Social Services Committee took a close interest in the proposals for a food standards agency and I am sure that many Members followed the Bill’s progress carefully. You have also been provided with a paper that summarises the powers conferred by the Act.

Ymgynghorodd y Llywodraeth â’r Cynulliad yng Ngorffennaf ynghylch yr egwyddor o wneud yr asiantaeth yn gorff ar gyfer y DU gyfan. Ymddiddorodd cydweithwyr ar y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn fanwl yn y cynigion ar gyfer asiantaeth safonau bwyd ac yr wyf yn sicr bod llawer o Aelodau wedi dilyn hynt y Mesur yn ofalus. Darparwyd papur i chi hefyd sydd yn crynhoi’r pwerau a gyflwynir gan y Ddeddf.

Jocelyn Davies spoken in English p. 75

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 75

We are becoming used to these delegation of functions motions. They can go through without comment most of the time, and are generally seen by most of us as legal or technical matters. Through them, Assembly powers are delegated to the First Secretary so that they may be exercised by him and his appointed Secretaries. This Act, however, needs special attention as it contains clauses that represent significant constitutional steps.

Yr ydym yn dod i arfer â’r cynigion dirprwyo swyddogaethau hyn. Gallant fynd drwodd heb sylw y rhan fwyaf o’r amser, ac fe’u gwelir ar y cyfan gan y rhan fwyaf ohonom yn faterion cyfreithiol neu dechnegol. Drwyddynt, dirprwyir pwerau’r Cynulliad i’r Prif Ysgrifennydd fel y gallant gael eu harfer ganddo ef a’r Ysgrifenyddion a benodir ganddo. Fodd bynnag, mae angen rhoi sylw arbennig i’r Ddeddf hon gan fod ynddi gymalau sydd yn golygu camau cyfansoddiadol o bwys.

The Act establishes a UK-wide food standards agency that will take an overall view of food safety, including animal feed-stuff and genetically modified organisms. The agency is the first to be set up since the Government of Wales Act 1998 and will be jointly accountable to the three devolved bodies and Parliament. The accountability to our National Assembly is laid down in the Act. It is not given to us via the Secretary of State as was previously the norm, but directly to the Assembly.

Mae’r Ddeddf yn sefydlu asiantaeth safonau bwyd ar gyfer y DU gyfan a fydd yn cymryd golwg gyffredinol ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys porthiant anifeiliaid ac organebau a addaswyd yn enetig. Yr asiantaeth hon yw’r gyntaf i’w sefydlu ers Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a bydd yn gydatebol i’r tri chorff datganoledig ac i’r Senedd. Nodir yr atebolrwydd i’n Cynulliad Cenedlaethol yn y Ddeddf. Nis rhoddir i ni drwy’r Ysgrifennydd Gwladol fel yr arferwyd cynt, ond yn uniongyrchol i’r Cynulliad.

This could be the model for other bodies, such as the strategic rail authority. Section 2 provides for us to appoint a board member and to jointly appoint the chair and deputy chair. We are also responsible for appointing an advisory committee, and I argue that these appointments should not be in the gift of the First Secretary or the appointed Cabinet. I seek assurances today that these appointments will be made under Assembly guidelines and, more importantly, via an Assembly Committee.

Gallai hyn fod yn batrwm ar gyfer cyrff eraill, fel yr awdurdod rheilffyrdd strategol. Mae adran 2 yn rhoi hawl i ni benodi aelod bwrdd ac i gydbenodi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd. Yr ydym hefyd yn gyfrifol am benodi pwyllgor ymgynghorol, a dadleuaf na ddylai’r penodiadau hyn fod yn llaw’r Prif Ysgrifennydd neu’r Cabinet a benodwyd. Ceisiaf sicrwydd heddiw y gwneir y penodiadau hyn yn unol â chanllawiau’r Cynulliad ac, yn bwysicach, drwy Bwyllgor Cynulliad.

The explanatory notes that accompany the Act, under the heading, ‘Appointment of Members’, in referring to Wales, states

Mae’r nodiadau eglurhaol sydd gyda’r Ddeddf, o dan y pennawd, ‘Appointment of Members’, wrth gyfeirio at Gymru, yn dweud

‘Under the Government of Wales Act 1998, powers are vested in the National Assembly as a whole. In practice, those with responsibility for health matters would be expected to lead on the agency in Wales.’

In Scotland, the Minister for Health is cited in the explanatory notes. In Northern Ireland, the Executive is named as the appropriate body for making these appointments. It is clearly the intention that the Assembly as a whole, and I suggest acting through a Committee—the Health and Social Services Committee seems the most appropriate—should make these appointments. Anything else would be contrary to Parliament’s intention.

Yn yr Alban, crybwyllir y Gweinidog dros Iechyd yn y nodiadau eglurhaol. Yng Ngogledd Iwerddon, enwir y Weithrediaeth fel y corff priodol i wneud y penodiadau hyn. Mae’n amlwg mai’r bwriad yw y dylai’r Cynulliad fel cyfangorff, a chan weithredu, awgrymaf, drwy Bwyllgor—ymddengys y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn fwyaf priodol—wneud y penodiadau hyn. Byddai unrhyw beth arall yn groes i fwriad y Senedd.

I ask the Cabinet to tell us what mechanisms it intends to put into place to ensure that this happens. I seek an assurance today that, despite the delegation of these functions to the First Secretary, in practice it will be the Health and Social Services Committee that exercises them and receives the agency’s annual report. That would not only respect Parliament’s intention, but acknowledge the nature of our devolution. Without that assurance, I do not believe that the Plaid group, if it were present, would support this motion.

Gofynnaf i’r Cabinet ddweud wrthym pa fecanweithiau y mae’n bwriadu eu sefydlu er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Ceisiaf sicrwydd heddiw, er gwaethaf dirprwyo’r swyddogaethau hyn i’r Prif Ysgrifennydd, mai’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymarferol fydd yn eu gweithredu ac yn derbyn adroddiad blynyddol yr asiantaeth. Byddai hynny nid yn unig yn parchu bwriad y Senedd, ond hefyd yn cydnabod natur ein datganoli. Heb y sicrwydd hwnnw, ni chredaf y byddai grŵp Plaid Cymru, pe bai’n bresennol, yn cefnogi’r cynnig hwn.

Kirsty Williams spoken in English p. 76

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 76

I echo Jocelyn’s words. The Liberal Democrats, alongside all major producing and consumer groups, and sensible politicians, have already welcomed this Act. However, under section 62(1)(b) of the Government of Wales Act 1998, we commit ourselves to devolve functions either to a Committee or to the First Secretary. The Liberal Democrats believe that this function should be devolved to a Committee.

Ategaf eiriau Jocelyn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, ochr yn ochr â’r holl grwpiau cynhyrchu a defnyddwyr pwysig, a gwleidyddion synhwyrol, eisoes wedi croesawu’r Ddeddf hon. Fodd bynnag, o dan adran 62(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yr ydym yn ymrwymo i ddatganoli swyddogaethau un ai i Bwyllgor neu i’r Prif Ysgrifennydd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r farn y dylid datganoli’r swyddogaeth hon i Bwyllgor.

The Food Standards Act 1999 allows us not only to make appointments, as Jocelyn pointed out, but to deal with serious issues connected to food safety in Wales. This would include agreeing the objectives of the agency in Wales, directing the agency if it is felt that it has failed and dealing with emergency orders.

Mae’r Ddeddf Safonau Bwyd 1999 nid yn unig yn caniatáu inni wneud penodiadau, fel y nododd Jocelyn, ond hefyd i ymdrin â materion difrifol sydd yn gysylltiedig â diogelwch bwyd yng Nghymru. Byddai hynny’n cynnwys cytuno ar amcanion yr asiantaeth yng Nghymru, cyfarwyddo’r asiantaeth os teimlir ei bod wedi methu ac ymdrin â gorchmynion brys.

There are important issues here that should not be concentrated in the hand of one person in the Assembly, given its present political balance. I hope that the Executive will further consider whether the responsibilities of the food standards agency should be in the hands of one person or in the hands of the cross-party Health and Social Services Committee.

Mae materion pwysig yma na ddylid eu crynhoi yn llaw un person yn y Cynulliad, yng ngolwg ei gydbwysedd gwleidyddol presennol. Gobeithiaf y bydd y Weithrediaeth yn ystyried ymhellach a ddylai cyfrifoldebau’r asiantaeth safonau bwyd fod yn nwylo un person neu yn nwylo’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol trawsbleidiol.

Jane Hutt spoken in English p. 77

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 77

As Jocelyn said, this is the first agency to be set up since devolution, and it is a potential model for other UK agencies of this kind. At the Health and Social Services Committee meeting on 23 June, we agreed that the agency should be a UK body. We were also concerned about the devolution aspects of the Bill and that they should not be diluted. We made our views on the Bill known to the relevant House of Commons committee and ensured that amendments designed to limit the powers of the Assembly in the operation of the agency were strongly resisted. Therefore, we now have an Act that allows the Assembly to exercise its powers in the way intended in the Government of Wales Act 1998.

Fel y dywedodd Jocelyn, hon yw’r asiantaeth gyntaf i’w sefydlu ers datganoli, ac mae’n batrwm posibl ar gyfer asiantaethau eraill y DU o’r math hwn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Mehefin, cytunasom y dylai’r asiantaeth fod yn gorff ar gyfer y DU. Yr oeddem hefyd yn bryderus ynghylch yr agweddau datganoli ar y mesur ac na ddylent gael eu gwanhau. Rhoesom wybod am ein barn ar y Mesur i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin a sicrhau bod gwrthwynebiad cryf i welliannau oedd â’r bwriad o gyfyngu ar bwerau’r Cynulliad wrth weithredu’r asiantaeth. Felly, mae gennym Ddeddf bellach sydd yn caniatáu i’r Cynulliad arfer ei bwerau yn y modd a fwriadwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998.

We must press ahead with appointments. They will be made in accordance with Nolan procedures and I will consult my panel, through the Health and Social Services Committee, as I do for other public appointments. The Committee will meet the director in due course and discuss progress on the agency. On responsibility, the Assembly is given the power to appoint jointly with the other three authorities the chair and deputy chair of the agency’s board and a Welsh member who will also chair an advisory committee for Wales. The Assembly is also given the power to appoint the first director of the Welsh executive of the agency and the advisory committee. They must produce a statement of general objectives and practices, which the Assembly must approve. The agency’s annual report and statement of objectives and principles will be laid before the Assembly. I have no objection to them being laid before the Committee.

Rhaid inni fwrw ymlaen â’r penodiadau. Fe’u gwneir yn unol â gweithdrefnau Nolan a byddaf yn ymgynghori â’m panel, drwy’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y gwnaf ar gyfer penodiadau cyhoeddus eraill. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod â’r cyfarwyddwr maes o law ac yn trafod cynnydd ynghylch yr asiantaeth. Ynglŷn â chyfrifoldeb, rhoddir y pŵer i’r Cynulliad cydbenodi â’r tri awdurdod arall gadeirydd a dirprwy gadeirydd bwrdd yr asiantaeth ac aelod o Gymru a fydd hefyd yn cadeirio pwyllgor ymgynghorol i Gymru. Rhoddir y pŵer i’r Cynulliad hefyd benodi cyfarwyddwr cyntaf adran weithredol Gymreig yr asiantaeth a’r pwyllgor ymgynghorol. Rhaid iddynt lunio datganiad o amcanion ac ymarferiadau cyffredinol, y bydd yn rhaid i’r Cynulliad ei gymeradwyo. Rhoddir adroddiad blynyddol a datganiad amcanion ac egwyddorion yr asiantaeth gerbron y Cynulliad. Nid oes gennyf wrthwynebiad i’w rhoi gerbron y Pwyllgor.

Ieuan Wyn Jones spoken in English p. 78

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 78

I listened carefully to your response and wish to clarify how these appointments will be made. In essence, you said that you would just consult the panel, whose membership is drawn from the Health and Social Services Committee. We seek an assurance that the Members concerned will be with you on the panel that makes the appointments.

Gwrandewais yn ofalus ar eich ymateb a dymunaf gael eglurhad ynghylch y modd y gwneir y penodiadau hyn. Yn y bôn, dywedasoch na fyddech ond yn ymgynghori â’r panel, y daw ei aelodaeth o’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gofynnwn am sicrwydd y bydd yr Aelodau dan sylw gyda chi ar y panel sydd yn gwneud y penodiadau.

Jane Hutt spoken in English p. 78

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 78

The Health and Social Services Committee makes over 500 appointments, so the panel does not interview all candidates for trusts, for example. I will—as I have done in the past—make recommendations, on which I will consult Kirsty and David Melding as the Committee’s appointees. I presume that that is how we will undertake these appointments. I have the responsibility for making health and social services appointments, but I consult Kirsty and David in making my decisions. We have done that for previous health appointments.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud dros 500 o benodiadau, felly nid yw’r panel yn cyfweld pob ymgeisydd ar gyfer ymddiriedolaethau, er enghraifft. Byddaf yn gwneud argymhellion—fel y gwneuthum yn y gorffennol, ac ymgynghoraf ar y rhain â Kirsty a David Melding fel y rhai a benodwyd gan y Pwyllgor. Rhagdybiaf mai felly yr ymgymerwn â’r penodiadau hyn. Mae gennyf gyfrifoldeb am wneud penodiadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond ymgynghoraf â Kirsty a David cyn imi benderfynu. Gwnaethom hynny ar gyfer penodiadau iechyd blaenorol.

In terms of this being a constitutionally different route, I understand that the First Secretary would delegate the responsibilities to me and I would then consult the Committee on the statement of objectives and principles and the annual report. I would also bring those before the Assembly. Therefore, I understand that the powers would be vested in me through the First Secretary, and I would then consult the Committee and the appointments panel.

O ran dweud bod hon yn ffordd gyfansoddiadol wahanol, deallaf y byddai’r Prif Ysgrifennydd yn dirprwyo’r cyfrifoldebau i mi ac y byddwn wedyn yn ymgynghori â’r Pwyllgor ar y datganiad amcanion ac egwyddorion a’r adroddiad blynyddol. Byddwn wedyn yn dod â’r rhain gerbron y Cynulliad. Felly, deallaf y byddai’r pwerau wedi eu hymddiried i mi drwy’r Prif Ysgrifennydd, a byddwn wedyn yn ymgynghori â’r Pwyllgor a’r panel penodiadau.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 78

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 78

We will now vote on the motion.

Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig.

Cynnig Jane Hutt t. 78

Motion Jane Hutt p. 78

DerbyniwydAdopted O blaidFor 28 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 17

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (28)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Janice Gregory
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Peter Rogers
  • Gwenda Thomas
Yn erbynAgainst (17)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Owen John Thomas
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dadl Fer

Short Debate

Cysylltiadau Trafnidiaeth Rhwng y Gogledd a’r De

North-South Transport Links

Alun Pugh spoken in English p. 79

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 79

I want to use the last short debate of this millennium to debate north-south transport links. I intend to allow short contributions from my colleagues, John Marek and Carwyn Jones, and from Plaid Cymru and the Conservatives. I have not been officially notified by the Liberal Democrats that they wish to speak.

Yr wyf am ddefnyddio’r ddadl fer olaf yn y mileniwm hwn i drafod cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de. Bwriadaf ganiatáu cyfraniadau byr gan fy nghydweithwyr, John Marek a Carwyn Jones, a chan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Nid wyf wedi fy hysbysu’n swyddogol gan y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn dymuno siarad.

My first experience of travelling from one end of our nation to the other was in 1969. The Pugh family of Tonypandy had just taken delivery of a second hand Morris 1000. Suddenly there were alternatives to Trecco Bay for the miners’ fortnight. We sat and pondered. We were looking for something different, a bit more upmarket and exotic. We chose Rhyl.

Cefais y profiad cyntaf o deithio o un pen i’n gwlad i’r llall yn 1969. Yr oedd y teulu Pugh o Donypandy newydd gael Morris 1000 ail-law. Yn sydyn yr oedd dewisiadau eraill yn lle Trecco Bay ar gyfer pythefnos y glowyr. Eisteddasom ac ystyried. Yr oeddem yn chwilio am rywbeth gwahanol, ychydig yn fwy crand ac ecsotig. Dewisasom y Rhyl.

Wales today is a different place from what it was in the 1960s. There have been huge changes in the economy. There is a new sense of national pride. We start a new millennium with a new democratic system of government for our nation. However, some things have hardly changed at all, including the difficulty of getting from one end of our small nation to the other. Improving north-south links is essential for the future economic, social and cultural cohesion of Wales. It says much about our nation that the only good roads lead out of Wales. We must be one of the few parts of the western world whose principal connecting road is a country lane for much of its length. During my research for this debate, I read an old Welsh Office statement, which stated that the A470 and A473 are built to historical standards. That does the Roman civil engineers an injustice. At least they were capable of building a highway in a straight line.

Mae Cymru heddiw’n lle gwahanol i’r hyn ydoedd yn y 1960au. Bu newidiadau enfawr yn yr economi. Mae ymdeimlad newydd o falchder cenedlaethol. Yr ydym yn dechrau mileniwm newydd â system ddemocrataidd newydd o lywodraeth ar gyfer ein cenedl. Fodd bynnag, mae rhai pethau heb newid o gwbl bron, yn cynnwys yr anhawster o fynd o un pen i’n gwlad fach i’r llall. Mae gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de yn holl bwysig er mwyn cydlyniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol. Mae’n dweud llawer am ein cenedl bod yr unig ffyrdd da yn mynd o Gymru. Rhaid ein bod yn un o’r ychydig rannau o’r byd gorllewinol y mae ei phrif ffordd gyswllt yn lôn gefn gwlad dros lawer o’i hyd. Yn ystod fy ymchwil ar gyfer y ddadl hon, darllenais hen ddatganiad gan y Swyddfa Gymreig, a ddywedodd fod yr A470 a’r A473 wedi eu hadeiladu yn ôl safonau hanesyddol. Mae hynny’n gwneud anghyfiawnder â pheirianwyr sifil y Rhufeiniaid. O leiaf yr oeddent yn gallu adeiladu priffordd ar hyd llinell syth.

With semi-permanent traffic lights on the trunk roads between Builth and Brecon and between Llandrindod and Newtown leading to single lane working, parts of the network are in a worse state than they were when I made that first trip to sunny Rhyl 30 years ago. There would be few civil engineering difficulties in constructing a dual carriageway, of the quality of the Brecon bypass, from Merthyr to Llandudno Junction. Indeed, after enduring torture by tractor in Kirsty Williams’s constituency or getting stuck behind a trouserless Assembly Member with a van full of sheep on the way to market, such a scheme seems attractive. However, it is out of the question on environmental and cost grounds.

Gyda goleuadau traffig lled-barhaol ar y cefnffyrdd rhwng Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu a rhwng Llandrindod a’r Drenewydd yn arwain at waith lôn sengl, mae rhai rhannau o’r rhwydwaith mewn cyflwr gwaeth nag yr oeddent pan euthum ar y daith gyntaf honno i’r Rhyl 30 mlynedd yn ôl. Prin fyddai’r anawsterau o ran peirianneg sifil wrth adeiladu cerbydffordd ddeuol, o’r un ansawdd â ffordd osgoi Aberhonddu, o Ferthyr Tudful i Gyffordd Llandudno. Yn wir, ar ôl goroesi artaith gan dractor yn etholaeth Kirsty Williams neu fynd yn sownd y tu ôl i Aelod Cynulliad di-drowsus â fan yn llawn o ddefaid ar ei ffordd i’r farchnad, mae cynllun o’r fath yn ymddangos yn ddeniadol. Fodd bynnag, ni ellir ei ystyried ar seiliau amgylcheddol ac ariannol.

A programme of carriageway widening to allow regular overtaking opportunities and improved safety is a legitimate policy objective. The Institute of Welsh Affairs report, ‘The Cambrian Way’, makes interesting reading and Conwy County Borough Council is keen to see the A470 upgraded in the north.

Mae rhaglen o ledu cerbydffyrdd i ganiatáu cyfleoedd goddiweddyd rheolaidd a gwell diogelwch yn amcan polisi dilys. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, ‘The Cambrian Way’, yn ddeunydd darllen diddorol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i weld uwchraddio’r A470 yn y gogledd.

At the moment, we have a number of small scale improvement projects under way on north-south roads. Many of these enhance safety but do not permit safe overtaking. The lack of safe overtaking locations is dangerous, as frustrated drivers attempt to get past slow moving vehicles in marginal locations. A typical example of this is the recently redesigned roundabout outside Welshpool on the main Cardiff to Wrexham road. It is a missed opportunity to provide a safe overtaking slot. There seems little point in widening the carriageway by two metres if a poorly designed bend means you have a two metre wide, no overtaking chevron in the middle of the road. If getting such schemes right is significantly more costly, then we should have fewer of them, done to a better standard.

Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o brosiectau gwella bychain mewn llaw ar y ffyrdd o’r gogledd i’r de. Mae llawer o’r rhain yn gwella diogelwch ond nid ydynt yn caniatáu goddiweddyd diogel. Mae diffyg mannau goddiweddyd diogel yn beryglus, gan fod gyrwyr rhwystredig yn ceisio mynd heibio i gerbydau araf mewn mannau ymylol. Enghraifft nodweddiadol o hynny yw’r gylchfan a ailgynlluniwyd yn ddiweddar y tu allan i’r Trallwng ar y brif ffordd o Gaerdydd i Wrecsam. Mae’n gyfle a gollwyd i ddarparu lle goddiweddyd diogel. Nid ymddengys fod llawer o ddiben i ledu’r gerbydffordd o ddau fetr os yw troad a gynlluniwyd yn wael yn golygu bod gennych geibr dim goddiweddyd, dau fetr o hyd ar ganol y ffordd. Os yw gwneud cynlluniau o’r fath yn iawn yn ddrutach o lawer, yna dylem gael llai ohonynt, a’u gwneud o safon uwch.

Although I advocate a programme of limited road upgrading, we should concentrate the majority of our transport resources on improving public transport. There are two quick and easy ways to become the Assembly’s resident anorak. One is to show an interest in ICT and the other is to show any enthusiasm for railways. ICT can, of course, reduce the need to travel. This Assembly has made an impressive start in the use of new technology but much remains to be done, including the provision of adequate video-conferencing facilities. Unfortunately, our video-conferencing suite currently resembles Mother Hubbard’s cupboard. It needs to be properly equipped, and soon.

Er fy mod yn dadlau dros raglen gyfyngedig o uwchraddio ffyrdd, dylem ganolbwyntio’r rhan fwyaf o’n hadnoddau trafnidiaeth ar wella cludiant cyhoeddus. Mae dwy ffordd gyflym a rhwydd i ddod yn anorac preswyl yn y Cynulliad. Un ohonynt yw amlygu diddordeb mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a’r llall yw dangos unrhyw frwdfrydedd ynghylch rheilffyrdd. Wrth gwrs, gall technoleg gwybodaeth a chyfathrebu leihau’r angen i deithio. Mae’r Cynulliad wedi dechrau’n drawiadol yn ei ddefnydd o dechnoleg newydd ond mae llawer i’w wneud eto, yn cynnwys darparu cyfleusterau cynadledda fideo digonol. Gwaetha’r modd, mae ein hystafell cynadledda fideo yn debyg i gwpwrdd Mother Hubbard ar hyn o bryd. Mae angen ei hofferu’n briodol, a hynny’n fuan.

Although the economy of the twenty-first century will depend on information highways as much as tarmac or steel ones, there will always be a need to travel the length of Wales. Wearing my anorak with pride this afternoon, I believe that rail is the real answer to improving north-south links. It is more comfortable and sustainable than roads and it has the potential to be much quicker. Despite recent appalling events, it is still much safer than road. However, privatisation is the one real problem with rail. It has been an utter disaster, a poll tax on steel wheels.

Er y bydd economi’r unfed ganrif ar hugain yn dibynnu ar briffyrdd gwybodaeth i’r un graddau â rhai tarmac a dur, bydd angen bob amser i deithio o un pen o Gymru i’r llall. Gan wisgo fy anorac yn falch y prynhawn yma, credaf mai’r rheilffyrdd yw’r gwir ateb i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Maent yn fwy cyfforddus a chynaliadwy na ffyrdd ac mae ynddynt y potensial i fod yn llawer cynt. Er gwaethaf digwyddiadau ofnadwy yn ddiweddar, maent yn dal i fod yn llawer mwy diogel na’r ffyrdd. Fodd bynnag, preifateiddio yw’r un broblem fawr sydd ynglŷn â rheilffyrdd. Bu’n drychineb lwyr, treth y pen ar olwynion dur.

In the last month of 1999, it is difficult to decide who is the twentieth century’s biggest rail vandal. I have two nominations. Dr Beeching is a strong contender as the man who presided over the wrecking of the rail network. His complete lack of vision and foresight was compounded by a failure to retain ownership of track lines for future use and we are still coping with his appalling legacy. Mrs Thatcher was even worse. She had an ideological hatred of trains. It was her anti-rail culture that led to the transfer of the network rail infrastructure to a privatised monopoly at a knockdown price.

Ym mis olaf 1999, anodd yw penderfynu pwy yw fandal rheilffyrdd gwaethaf yr ugeinfed ganrif. Mae gennyf ddau i’w henwebu. Mae Dr Beeching yn gystadleuydd cryf fel y dyn a oruchwyliodd ddinistrio’r rhwydwaith rheilffyrdd. Yn ogystal â’i ddiffyg gweledigaeth a rhagolwg llwyr, methwyd â chadw perchnogaeth ar linellau rheilffyrdd i’w defnyddio yn y dyfodol ac yr ydym yn dal i ddygymod â’i gymynrodd ofnadwy. Yr oedd Mrs Thatcher yn waeth byth. Yr oedd ganddi gasineb ideolegol at drenau. Ei diwylliant gwrth-reilffyrdd hi a arweiniodd at drosglwyddo isadeiledd y rhwydwaith rheilffyrdd i fonopoli preifateiddiedig am bris rhad.

Railtrack is the most unpopular company in Britain today. To know why, you need only consider the company’s reaction to the Ladbroke Grove disaster. It released a statement claiming that its signals were working. It did not state that it had failed to provide the automatic train protection equipment that is common elsewhere in Europe. I was appalled that a driver who had paid with his life for a human error was criticised. Nobody should wonder why this company does not enjoy the confidence of its customers or even its shareholders. I am delighted that Tom Winsor, the new rail regulator, is starting to get tough with Railtrack.

Railtrack yw’r cwmni mwyaf amhoblogaidd ym Mhrydain heddiw. Er mwyn deall pam, nid oes ond rhaid ichi ystyried ymateb y cwmni i drychineb Ladbroke Grove. Cyhoeddodd ddatganiad yn honni bod ei signalau’n gweithio. Ni ddywedodd ei fod wedi methu â darparu’r offer diogelu trenau awtomatig sydd yn gyffredin mewn mannau eraill yn Ewrop. Arswydais fod beirniadu ar y gyrrwr a dalodd y pris eithaf am gamgymeriad dynol. Ni ddylai neb synnu nad yw cwsmeriaid y cwmni hwn na hyd yn oed ei gyfranddalwyr yn ymddiried ynddo. Yr wyf yn falch iawn bod Tom Winsor, rheoleiddiwr newydd y rheilffyrdd, yn dechrau bod yn galed ar Railtrack.

I want the north Wales line to be upgraded as befits its status as a strategic European link and not treated as a branch line to nowhere. That includes enhanced capacity for freight and serious consideration of electrification. Many people in the north are concerned about the perceived domination of this Assembly by the south. Mistrust and misconceptions are hardly surprising when the two regions have such little contact with each other. The poor state of transport links is a major contributor to these feelings. Railway stations in the north, including my own at Colwyn Bay, do not even feature the Welsh capital as a destination on their timetable posters. When I asked for a north-south timetable, I was given a document entitled ‘Manchester to south Wales’. This monolingual publication shows north Wales services from Cardiff but it does not include arrival and departure times at Colwyn Bay, Abergele and many other stations.

Yr wyf am weld uwchraddio rheilffordd gogledd Cymru i gydweddu â’i statws fel cyswllt Ewropeaidd strategol ac fel na chaiff ei thrin fel rheilffordd gangen i’r unman. Mae hynny’n cynnwys mwy o gynhwysedd ar gyfer cludo nwyddau ac ystyriaeth ddifrifol i drydaneiddio. Mae llawer yn y gogledd yn bryderus ynghylch y ddirnadaeth bod y Cynulliad hwn yn cael ei dra-arglwyddiaethu gan y de. Prin y gellir synnu bod drwgdybiaeth a chamsyniadau pan geir cyn lleied o gysylltiad rhwng y ddau ranbarth. Mae cyflwr gwael y cysylltiadau trafnidiaeth yn cyfrannu’n helaeth at y teimladau hyn. Nid yw gorsafoedd yn y gogledd, gan gynnwys fy un i ym Mae Colwyn, hyd yn oed yn cynnwys prifddinas Cymru fel cyrchfan ar eu posteri amserlen. Pan ofynnais am amserlen rhwng y gogledd a’r de, rhoddwyd dogfen i mi o’r enw ‘Manchester to south Wales’. Mae’r cyhoeddiad uniaith hwn yn dangos y gwasanaethau i ogledd Cymru o Gaerdydd ond nid yw’n cynnwys amseroedd cyrraedd a gadael ym Mae Colwyn, Abergele a llawer o orsafoedd eraill.

The train service between the two halves of our nation is wholly inadequate. If rhetoric about improving public transport is to mean anything, we must bring about a positive alternative to the car to link north Wales, Wrexham and the capital. The only current direct daily service ignores Wrexham in favour of the longhaul via Crewe. We need more direct services between north and south. If additional rolling stock is required, we should consider a distinctive livery, catering and a naming regime. I suggest that the trains are named the Owain Glyndŵr and the Peter Law.

Mae’r gwasanaeth trenau rhwng dau hanner ein gwlad yn gwbl annigonol. Os yw rhethreg ynghylch gwella cludiant cyhoeddus i olygu rhywbeth, rhaid inni greu dewis cadarnhaol yn lle’r car i gysylltu gogledd Cymru, Wrecsam a’r brifddinas. Mae’r unig wasanaeth dyddiol uniongyrchol ar hyn o bryd yn anwybyddu Wrecsam ac yn dewis y daith hir drwy Crewe. Mae arnom angen mwy o wasanaethau uniongyrchol rhwng y gogledd a’r de. Os oes angen cerbydau ychwanegol, dylem ystyried lifrai neilltuol, arlwyo a chyfundrefn enwi. Awgrymaf enwi’r trenau’n Owain Glyndŵr ac yn Peter Law.

Peter Law’s statements to date have been very encouraging. I was also pleased to hear Edwina’s positive response in the budget debate on 1 December regarding financial assistance for a high quality service. I said that privatisation was the number one culprit but a second difficulty for the planning of integrated transport arises from the current devolution settlement. Having significant powers for roads but few for rail is a real problem. We must seize the opportunities presented by the renewal of rail franchises in March 2004. A Wales-only rail network is impractical given the geography of the tracks, but we could usefully explore new ways of working with bordering English counties to set up a powerful forum for rail issues.

Bu datganiadau Peter Law hyd yn hyn yn galonogol iawn. Yr oeddwn yn falch iawn hefyd o glywed ymateb cadarnhaol Edwina yn y ddadl ar y gyllideb ar 1 Rhagfyr ynghylch cymorth ariannol i wasanaeth o ansawdd uchel. Dywedais mai preifateiddio a oedd yn bennaf ar fai ond mae anhawster arall wrth gynllunio trafnidiaeth integredig yn deillio o’r setliad datganoli cyfredol. Mae cael pwerau sylweddol dros ffyrdd ond ychydig dros reilffyrdd yn broblem wirioneddol. Rhaid inni afael yn y cyfleoedd a gynigir gan yr adnewyddu ar fasnachfreintiau rheilffyrdd ym Mawrth 2004. Mae rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan yn anymarferol oherwydd daearyddiaeth y cledrau, ond byddai’n fuddiol inni ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio gyda siroedd y gororau yn Lloegr er mwyn sefydlu fforwm pwerus ar gyfer materion rheilffyrdd.

We cannot look to air transport as a solution to the north-south divide. If a commercial air service between north and south can stand on its own two feet, that is all well and good, but given the huge pressure on resources I would find it difficult to support any subsidy for such a service. If any money is available for subsidising north-south links, it should be spent on rail services.

Ni allwn ystyried trafnidiaeth awyr yn ateb i’r rhaniad rhwng y gogledd a’r de. Os gall gwasanaeth awyr masnachol rhwng y gogledd a’r de sefyll ar ei draed ei hun, gorau oll, ond oherwydd y pwysau enfawr ar adnoddau fe’i cawn yn anodd cefnogi unrhyw gymhorthdal i wasanaeth o’r fath. Os oes arian ar gael i roi cymorth i gysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, dylid ei wario ar wasanaethau rheilffyrdd.

Cycling has enormous benefits for health. It is cheap and environmentally friendly, but obviously it has a limited role in north-south links. However, I must mention the project to connect Holyhead and Cardiff by a safe, cycle-friendly route. Sustrans has ably led this excellent project. It is part of an UK national project that will be completed with millennium funding next summer.

Mae seiclo o les mawr i iechyd. Mae’n rhad ac yn llesol i’r amgylchedd, ond mae’n amlwg bod iddo rôl gyfyngedig mewn cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Fodd bynnag, rhaid imi sôn am y prosiect i gysylltu Caergybi a Chaerdydd ar hyd llwybr diogel, addas i feiciau. Mae Sustrans wedi llywio’r prosiect rhagorol hwn yn alluog. Mae’n rhan o brosiect cenedlaethol yn y DU a gwblheir â chyllid y mileniwm yr haf nesaf.

Mr Llywydd, improving north-south links is a policy objective that unites parties in this Chamber. It would provide real evidence that the Assembly is making a difference. Uniting our nation in this way would be a truly fitting national objective for the National Assembly for Wales.

Mr Llywydd, mae gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de yn amcan polisi sydd yn uno pleidiau yn y Siambr hon. Byddai’n rhoi tystiolaeth wirioneddol bod y Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth. Byddai uno ein cenedl fel hyn yn amcan cenedlaethol gwirioneddol addas i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

John Marek spoken in English p. 84

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 84

I agree with Alun Pugh. However, I add that we need a passenger transport authority for Wales. Without that, the railway lines in Wales—whether to Fishguard, Aberystwyth or Holyhead—will be dismissed as being at the end of the line. They will be nothing more than branch lines. We need a passenger transport authority because we need north-south links and that is the body to achieve it. It will need money—perhaps some of the subsidy that is given to railway operators—because if it has money to disburse, it will be taken seriously. Without money, nothing will happen and we will forever be a collection of branch lines at the end of the system. Even if we cannot have a passenger transport authority immediately, the National Assembly for Wales must take action.

Cytunaf ag Alun Pugh. Fodd bynnag, ychwanegaf fod arnom angen awdurdod trafnidiaeth teithwyr ar gyfer Cymru. Heb hynny, diystyrir y rheilffyrdd yng Nghymru—boed i Abergwaun, Aberystwyth neu Gaergybi—fel rhai sydd ar ddiwedd y lein. Ni fyddant yn ddim amgenach na rheilffyrdd cangen. Mae arnom angen awdurdod trafnidiaeth teithwyr am fod arnom angen cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de a hwnnw yw’r corff i gyflawni hynny. Bydd arno angen arian—rhywfaint o’r cymhorthdal a roddir i weithredwyr y rheilffyrdd efallai—oherwydd os oes ganddo arian i’w ddosbarthu, fe’i cymerir o ddifrif. Heb arian, ni fydd dim yn digwydd a byddwn am byth yn gasgliad o reilffyrdd cangen ar ddiwedd y system. Hyd yn oed os na allwn gael awdurdod trafnidiaeth teithwyr ar unwaith, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu.

Prism Rail Plc, which owns Wales & West Passenger Trains Limited, has already submitted initial proposals for a new franchise and for extending that franchise by 20 years. Unless we take action now, the opportunity will be missed. The system will not be improved or integrated unless the Assembly acts now. I am pleased that as a result of the draft budget negotiations, the Executive is now committed to north-south links. I implore it to seize the opportunity now, before it is too late.

Mae Prism Rail ccc, sef perchennog Wales & West Passenger Trains Limited, eisoes wedi cyflwyno cynigion dechreuol ar gyfer masnachfraint newydd ac ar gyfer ymestyn y fasnachfraint honno o 20 mlynedd. Oni weithredwn yn awr, collir y cyfle. Ni wellir y system na’i hintegreiddio oni weithreda’r Cynulliad yn awr. Yr wyf yn falch bod y Weithrediaeth, o ganlyniad i’r trafodaethau ar y gyllideb ddrafft, wedi ymrwymo bellach i gysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Apeliaf arni i afael yn y cyfle yn awr, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Carwyn Jones spoken in English p. 85

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 85

We all have our horror stories of travel from north to south, or in my case south to north. It is not all one-way traffic. From my college days in Aberystwyth I remember the delights of the Traws Cambria bus. I also remember travelling on the train on one occasion from Aberystwyth to Birmingham when the train was late because the guard had overslept; such was Aberystwyth then.

Mae gan bawb ohonom storïau arswyd am deithio o’r gogledd i’r de, neu yn fy achos i o’r de i’r gogledd. Nid traffig unffordd mohono i gyd. Yn fy nyddiau coleg yn Aberystwyth cofiaf bleserau’r bws Traws Cambria. Cofiaf hefyd deithio ar y trên ar un achlysur o Aberystwyth i Birmingham pan oedd y trên yn hwyr am fod y gard wedi cysgu’n hwyr; lle felly oedd Aberystwyth bryd hynny.

This is an important point. We must concentrate on how we can build our links, both bus and rail. We must seek to use such influence as we have on public transport so that people know that one of this Assembly’s priorities is to ensure that people can travel from north to south, and from south to mid, and from mid to north, within Wales itself.

Mae hwn yn bwynt pwysig. Rhaid inni ganolbwyntio ar y modd y gallwn adeiladu ein cysylltiadau, drwy fysiau a rheilffyrdd. Rhaid inni geisio defnyddio hynny o ddylanwad sydd gennym ar gludiant cyhoeddus fel bod pobl yn gwybod mai un o flaenoriaethau’r Cynulliad hwn yw sicrhau bod pobl yn gallu teithio o’r gogledd i’r de, ac o’r de i’r canolbarth, ac o’r canolbarth i’r gogledd, oddi mewn i Gymru.

People will not use a public transport service unless they consider it to be reliable and safe. We must ensure that any transport links between north and south run on time and are reasonable in terms of cost. We must also ensure that people feel their personal safety is not compromised on trains and buses. It is particularly relevant to some of our old bus stops and stations that are not staffed and have no security at all. The Traws Cambria bus used to stop at hedges in Carmarthenshire and Ceredigion on its way to Aberystwyth. We must look into that.

Ni fydd pobl yn defnyddio gwasanaeth cludiant cyhoeddus oni bai eu bod yn ei ystyried yn ddibynadwy ac yn ddiogel. Rhaid inni sicrhau bod unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de yn brydlon ac yn rhesymol o ran cost. Rhaid inni hefyd sicrhau nad yw pobl yn teimlo bod eu diogelwch personol wedi ei beryglu ar drenau neu fysiau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i rai o’n hen arosfannau bysiau a gorsafoedd sydd heb eu staffio ac sydd heb warchodaeth o gwbl. Yr oedd y bws Traws Cambria yn arfer stopio wrth wrychoedd yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar ei ffordd i Aberystwyth. Rhaid inni ystyried hynny.

The prime indicator for the Assembly’s transport policy will not be how it deals with the links outside Wales—the fact that the best links lead from Wales to England shows what a country we are—but how easy we make it for people to travel within Wales.

Y prif ddangosydd ar gyfer polisi trafnidiaeth y Cynulliad yw nid sut y bydd yn ymdrin â chysylltiadau y tu allan i Gymru—mae’r ffaith fod y cysylltiadau gorau yn mynd o Gymru i Loegr yn dangos pa fath o wlad ydym—ond y graddau y byddwn yn hwyluso teithio i bobl oddi mewn i Gymru.

Glyn Davies spoken in English p. 85

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 85

Point of order. It is not clear whether the last two speakers are from different parties.

Pwynt o drefn. Nid yw’n eglur a yw’r ddau siaradwr diwethaf o bleidiau gwahanol.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 86

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 86

The speaker indicated that he was inviting two Labour speakers. I now have three other speakers. Members must be patient.

Nododd y siaradwr ei fod yn gwahodd dau siaradwr Llafur. Yn awr mae gennyf dri siaradwr arall. Rhaid i’r Aelodau fod yn amyneddgar.

Janet Ryder spoken in English p. 86

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 86

I congratulate Alun on that speech. I am pleased that he has taken the last short debate of the millennium to take on board so whole-heartedly Plaid Cymru’s transport policy. It was nice to hear another party putting it forward for us. He said many things that we have said all along. We need a good north-south rail link and to combine it with a good road link, with improvements to make that road network safer. Much has been said about the rail links today but I want to mention roads. As Alun said, there are parts of Wales where rail can no longer reach and may never reach again. Therefore, we need to develop a good coach service throughout Wales to make the whole of Wales accessible. Thank you, Alun, for adopting our policy.

Llongyfarchaf Alun ar yr araith honno. Yr wyf yn falch ei fod wedi defnyddio dadl fer olaf y mileniwm er mwyn derbyn polisi trafnidiaeth Plaid Cymru mor galonnog. Yr oedd yn braf clywed plaid arall yn ei gyflwyno ar ein rhan. Dywedodd lawer o bethau a ddywedir gennym ni erioed. Mae arnom angen cyswllt rheilffordd da rhwng y gogledd a’r de a hwnnw wedi ei gyfuno â chyswllt ffordd da, gyda gwelliannau sydd yn gwneud y rhwydwaith ffyrdd hwnnw’n fwy diogel. Dywedwyd llawer am y cysylltiadau rheilffyrdd heddiw ond yr wyf am sôn am ffyrdd. Fel y dywedodd Alun, mae rhannau o Gymru na all rheilffyrdd eu cyrraedd bellach ac na fyddant yn eu cyrraedd byth eto efallai. Felly, mae angen inni ddatblygu gwasanaeth bysiau da ledled Cymru fel bod modd cyrraedd pob rhan o Gymru. Diolch i chi, Alun, am fabwysiadu ein polisi.

Peter Rogers spoken in English p. 86

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 86

There is nothing like experience to understand rail link problems. I had not realised how bad the north-south rail service was until I started to travel regularly to Cardiff in May. It is not surprising that few north Wales Members use the train service and that the majority of us use cars. I agree with the proposed solution to have a drastically improved rail service, which takes passengers into consideration and not just the ability to move people from A to B. Travelling from the north is a four hour journey. Not only do we need a safe system but customer conveniences when travelling on a two-carriage train for four hours. Some people have to travel to and from the railway station for half an hour. That could mean five hours travelling or 10 hours there and back.

Nid oes dim fel profiad i ddeall problemau cysylltiadau rheilffyrdd. Ni sylweddolais mor wael oedd y gwasanaeth rheilffyrdd rhwng y gogledd a’r de nes imi ddechrau teithio’n rheolaidd i Gaerdydd ym Mai. Nid yw’n syndod mai ychydig o Aelodau gogledd Cymru sydd yn defnyddio’r gwasanaeth trenau a bod y rhan fwyaf ohonom yn defnyddio ceir. Cytunaf â’r ateb arfaethedig i gael gwasanaeth rheilffyrdd gwell o lawer, sydd yn rhoi ystyriaeth i’r teithwyr ac nid y gallu i symud pobl o un lle i’r llall yn unig. Mae’r daith o’r gogledd yn bedair awr o hyd. Yn ogystal â system ddiogel mae arnom angen cyfleusterau i gwsmeriaid wrth deithio mewn trên dau-gerbyd am bedair awr. Mae rhai pobl yn gorfod teithio yn ôl a blaen o’r orsaf reilffordd am hanner awr. Gallai hynny olygu pum awr o deithio neu 10 awr yno ac yn ôl.

Cardiff is a focal point for Wales. North Walians have to travel here, not just Assembly Members, but people on committees, county councils and other organisations in the north, to present their points of view down here. I am afraid that some people do not manage to get down here to represent north Wales because of travelling problems.

Mae Caerdydd yn ganolbwynt i Gymru. Mae gogleddwyr yn gorfod teithio yma, nid Aelodau’r Cynulliad yn unig, ond rhai ar bwyllgorau, cynghorau sir a chyrff eraill yn y gogledd, er mwyn cyflwyno eu safbwynt yma. Mae arnaf ofn nad yw rhai yn llwyddo i gyrraedd yma i gynrychioli gogledd Cymru oherwydd problemau teithio.

We must ensure that we have a fast and comfortable rail service. We must be able to work on the train and to arrive here fresh and able to do a day’s work. I wholeheartedly move that we need Government action and that money must be spent to upgrade the rail service and make it more convenient.

Rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaeth rheilffyrdd cyflym a chyfforddus. Rhaid inni allu gweithio ar y trên a chyrraedd yma’n effro ac yn alluog i wneud diwrnod o waith. Yr wyf yn cynnig yn galonnog fod arnom angen gweithredu gan y Llywodraeth a bod rhaid gwario arian i uwchraddio’r gwasanaeth rheilffyrdd a’i wneud yn fwy cyfleus.

Christine Humphreys siaradwyd yn Gymraeg t. 87

Christine Humphreys spoken in Welsh p. 87

Yr wyf yn falch o glywed cyfraniad Carwyn. Pan welais deitl y ddadl, ‘Cysylltiadau Trafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De’, yr oeddwn yn meddwl bod pobl wedi anghofio bod rhai yn teithio o’r de i’r gogledd. Fy mreuddwyd yw cael Cyfarfodydd Llawn yn y gogledd er mwyn i bawb gael gwneud y daith y mae Peter ac eraill yn ei gwneud bob wythnos.

I am pleased to hear Carwyn’s contribution. When I saw the title of the debate, ‘North-South Transport Links’, I thought that people had forgotten that some people travel form the south to the north. My dream is to have Plenary sessions in north Wales so that everyone can make the journey that Peter and others make every week.

Mae dwy sialens yn wynebu’r Cynulliad ar y mater hwn: gwella’r A470 a gwella’r cysylltiadau rheilffordd. Canolbwyntiaf ar y rhain oherwydd y prinder amser. Mae angen astudiaeth ar yr A470. Nid ydym yn gofyn am ffordd ddeuol, fel y dywedodd Alun yn gynharach, ond mae lle i wella’r ffordd mewn rhai mannau er mwyn ei gwneud yn fwy diogel. Croesawaf addewid Edwina Hart i roi arian yn y gyllideb i wella cysylltiadau rheilffordd pan gyhoeddir adroddiad Grŵp Babtie.

Two challenges face the Assembly on this matter: to improve the A470 and to improve rail links. I will concentrate on those because of the shortage of time. We need a study of the A470. We are not asking for a dual carriageway, as Alun said earlier, but there is reason to improve the road in some parts to make it safer. I welcome Edwina Hart’s promises to put money in the budget to improve rail links when the Babtie Group’s report is published.

Yr oeddwn yn siomedig o glywed datganiad John Prescott ddoe. O’r £80 biliwn ychwanegol y mae wedi ei glustnodi ar gyfer trafnidiaeth dros y 10 mlynedd nesaf, nid oes ceiniog yn dod i Gymru. Unwaith eto, fel gyda’r cyllid cyfatebol ar gyfer arian Amcan 1, mae’n rhaid inni ddarganfod arian ar gyfer trafnidiaeth o’r grant sydd yn seiliedig ar fformwla Barnett.

I was disappointed on hearing John Prescott’s statement yesterday. Of the additional £80 billion that he has earmarked for transport over the next 10 years, not a penny is coming to Wales. Once again, as with the match funding for Objective 1 money, we must find money for transport out of the grant which is based on the Barnett formula.

Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 87

Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 87

I am pleased that Alun Pugh has raised this important issue today and I thank him. He shows a proactive approach on this matter, as he does on all matters in his job of representing the people of Clwyd West. I am also grateful for the way in which we injected humour into what is a serious matter for all of us. I realise the strength of feeling regarding improving transport links between north and south Wales and the interest it has generated across a wide spectrum of interests, organisations and individuals. Although it is a long way from Tonypandy to Rhyl, it is a positive link, which is what we are seeking.

Yr wyf yn falch bod Alun Pugh wedi codi’r mater pwysig hwn heddiw, a diolchaf iddo. Mae’n amlygu ymagwedd ragweithiol ar y mater hwn, fel y mae’n gwneud ym mhob mater yn ei waith o gynrychioli pobl Gorllewin Clwyd. Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am y modd y chwistrellasom hiwmor i’r hyn sydd yn fater difrifol i ni oll. Deallaf gryfder y teimladau ynghylch gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru a’r diddordeb a greodd ar draws sbectrwm eang o fuddiannau, yn gyrff ac yn unigolion. Er ei bod yn bell o Donypandy i’r Rhyl, mae’n gyswllt cadarnhaol, sef yr hyn yr ydym yn ei geisio.

If social inclusion is to mean anything, Peter Rogers is right to say that we must ensure that we pursue this as vigorously as possible. That is the Government of Wales’s stance. The aim of the Government’s integrated transport policy is to develop a transport system that is safe, efficient, clean and fair. We want a system that delivers integration between different types of transport with the environment and with land use planning, and that is integrated with and supports the policy aims of education, health and wealth creation. That is part of our broader policy of promoting sustainable development.

Os yw cynhwysiant cymdeithasol i olygu rhywbeth, mae Peter Rogers yn gywir wrth ddweud bod rhaid inni sicrhau ein bod yn dilyn hyn mor egnïol ag y bo modd. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru. Nod polisi trafnidiaeth integredig y Llywodraeth yw datblygu system drafnidiaeth sydd yn ddiogel, yn effeithlon, yn lân ac yn deg. Yr ydym am gael system sydd yn dod ag integreiddio rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth gyda’r amgylchedd a chyda chynllunio defnydd tir, ac mae hyn wedi ei integreiddio â nodau polisi addysg, iechyd a chreu cyfoeth, ac yn eu cynnal. Mae hynny’n rhan o’n polisi ehangach o hybu datblygu cynaliadwy.

We are committed to facilitating the movement of people and business in all parts of Wales within an economically and environmentally sustainable framework. We are also committed to achieving a strong economy, a sustainable environment and an inclusive society. Good communications are central to our aim of improving the transport network taking people to and from work and taking goods and services to and from the markets.

Yr ydym wedi ymrwymo i hwyluso symudiad pobl a busnes ym mhob rhan o Gymru oddi mewn i fframwaith economaidd ac amgylcheddol gynaliadwy. Yr ydym wedi ymrwymo hefyd i sicrhau economi cryf, amgylchedd cynaliadwy a chymdeithas gynhwysol. Mae cyfathrebu da yn ganolog i’n nod o wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gan fynd â phobl i’w gwaith ac yn ôl, a mynd â nwyddau a gwasanaethau yn ôl ac ymlaen i’r marchnadoedd.

One of the main issues raised for discussion during the consultation exercise on the review of the Welsh trunk road programme in 1997 was the extent to which improvements are needed to road links between north and south Wales. It is important to note that responses to the invitation to comment failed to produce a consensus view. There were those who advocated significant improvements to north-south links generally, those concerned to ensure priority for particular schemes and those taking the view that present links catered adequately for existing and likely future demand.

Un o’r prif faterion a godwyd i’w trafod yn ystod yr ymarfer ymgynghori ar yr adolygiad o raglen gefnffyrdd Cymru yn 1997 oedd y graddau y mae angen gwelliannau ar gysylltiadau ffyrdd rhwng gogledd a de Cymru. Mae’n bwysig nodi bod yr ymatebion i’r gwahoddiad i gynnig sylwadau heb greu barn consensws. Yr oedd rhai a oedd yn dadlau dros welliannau sylweddol yn y cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de’n gyffredinol, rhai a oedd yn awyddus i sicrhau blaenoriaeth i gynlluniau penodol a rhai a oedd o’r farn fod y cysylltiadau presennol yn darparu’n ddigonol ar gyfer y galw yn awr a’r galw tebygol yn y dyfodol.

The report on the review of the trunk road programme, ‘Driving Wales Forward’, published in July 1998, concluded that there was no case on either traffic or environmental grounds for major road building through the heart of Wales. It also concluded that the strategy would be to bring forward significant improvements in north-south public transport services, complemented by steady and relatively small scale improvements to the trunk road network. We have a precious environment that we must guard, and we must balance our actions as regards Wales’s environment and economy. The report also recognised the importance of the main A470 trunk road link by adding it to the core network. It also confirmed that a corridor study of the A470 between Brecon and Llandudno Junction would be undertaken with a remit to consider the problems on the route, and the A483 and A487 routes, and to examine the scope for non-road solutions to the problems that face the travelling public and businesses.

Casgliad yr adroddiad ar yr adolygiad o’r rhaglen gefnffyrdd, ‘Gyrru Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 1998, oedd nad oedd dadl ar sail traffig neu’r amgylchedd dros waith adeiladu ffyrdd helaeth drwy ganol Cymru. Daeth i’r casgliad hefyd mai’r strategaeth fyddai cyflwyno gwelliannau sylweddol yn y gwasanaethau cludiant cyhoeddus rhwng y gogledd a’r de, wedi eu cyflenwi â gwelliannau cyson a chymharol fach yn y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae gennym amgylchedd gwerthfawr y mae’n rhaid inni ei warchod, a rhaid inni sicrhau cydbwysedd rhwng ein gweithredoedd mewn cysylltiad ag amgylchedd ac economi Cymru. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd prif gyswllt cefnffordd yr A470 drwy ei ychwanegu at y rhwydwaith craidd. Cadarnhaodd hefyd y byddid yn ymgymryd ag astudiaeth coridor o’r A470 rhwng Aberhonddu a Chyffordd Llandudno ac iddi’r cylch gwaith o ystyried y problemau ar y ffordd, a ffyrdd yr A483 a A487, ac o ystyried y cyfle ar gyfer atebion heblaw ffyrdd i’r problemau a wynebir gan y cyhoedd a busnesau wrth deithio.

The first stage of information gathering commenced this April. On 9 September, I announced the second stage with the award of a commission to consultants Babtie Group Limited to consider the best way the Assembly can improve transport links between north and south Wales. The study will look at existing and potential travel demand for all types of transport and will, in line with the Assembly’s integrated transport policies, consider all reasonable options for future provision of transport, including the use of car, bus, rail and air between north and south Wales, and between destinations along the existing transport routes. It will also look at the environmental implications of any proposal. The consultants are due to report back to the Assembly in March and we will use the results of the study to decide on the scale of, and priorities for, future investment to improve transport links, including further work on the north-south trunk road network. The contributions made to the debate by the Institute of Welsh Affairs’ report ‘Uniting the Nation’ and the Friends of the Earth counter-proposals report will be taken into account in the Babtie study, underlining the previously mentioned balance.

Dechreuodd y cyfnod cyntaf o gasglu gwybodaeth yn Ebrill eleni. Ar 9 Medi, cyhoeddais yr ail gyfnod gyda dyfarnu comisiwn i’r ymgynghorwyr Babtie Group Limited i ystyried y dull gorau i’r Cynulliad wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y galw teithio presennol a dichonol am bob math o drafnidiaeth ac, yn unol â pholisïau trafnidiaeth integredig y Cynulliad, bydd yn ystyried pob dewis rhesymol ar gyfer darparu cludiant yn y dyfodol, gan gynnwys y defnydd o geir, bysiau, rheilffyrdd a’r awyr rhwng gogledd a de Cymru, a rhwng cyrchfannau ar hyd y llwybrau trafnidiaeth presennol. Bydd hefyd yn edrych ar oblygiadau amgylcheddol unrhyw gynnig. Mae’r ymgynghorwyr i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ym Mawrth a byddwn yn defnyddio canlyniadau’r astudiaeth i benderfynu ar faint a blaenoriaethau’r buddsoddi yn y dyfodol i wella cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys gwaith pellach ar y rhwydwaith cefnffyrdd rhwng y gogledd a’r de. Rhoddir ystyriaeth yn astudiaeth Babtie i’r cyfraniadau a wnaethpwyd i’r ddadl gan adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ‘Uniting the Nation’ ac adroddiad gwrth-gynigion Cyfeillion y Ddaear, gan danlinellu’r cydbwysedd a grybwyllwyd yn flaenorol.

Nobody involved in that consultation suggested a dual carriageway all the way from south Wales to Llandudno. Everybody can exercise their minds, but I doubt if we will see that. I was interested to hear you refer to yourself in the press as a resident anorak with a timetable. Peter Black will be relieved that you have designated yourself in that way. I am glad he has returned to the Chamber because I thought he had disappeared while we were discussing this important subject. Christine made a good contribution for you, Peter, in your absence. However, I must disagree with what she said. We all endorse your comments about improving the north-south rail and road link. The Deputy Prime Minister’s announcement yesterday concerned expenditure in England. If there is any expenditure available from the Treasury for Wales, I will be up front, working with the First Secretary to ensure that we get our share.

Nid oedd neb a oedd yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad hwnnw yn awgrymu cerbydffordd ddeuol yr holl ffordd o dde Cymru i Landudno. Gall pawb ddefnyddio ei ddychymyg, ond yr wyf yn amau a welwn hynny. Fe’i cefais yn ddiddorol eich bod wedi cyfeirio atoch eich hun yn y wasg fel anorac preswyl gydag amserlen. Bydd Peter Black yn teimlo rhyddhad am eich bod wedi’ch disgrifio’ch hun felly. Yr wyf yn falch ei fod wedi dychwelyd i’r Siambr oherwydd tybiais ei fod wedi diflannu tra oeddem yn trafod y pwnc pwysig hwn. Gwnaeth Christine gyfraniad da ar eich rhan, Peter, yn eich absenoldeb. Fodd bynnag, rhaid imi anghytuno â’r hyn a ddywedodd. Yr ydym oll yn cefnogi’ch sylwadau ynghylch gwella’r cysylltiadau rheilffyrdd a ffyrdd rhwng y gogledd a’r de. Yr oedd cyhoeddiad y Dirprwy Brif Weinidog ddoe yn ymwneud â gwariant yn Lloegr. Os oes unrhyw wariant ar gael o’r Trysorlys i Gymru, byddaf yn y rheng flaen, yn gweithio gyda’r Prif Ysgrifennydd i sicrhau y cawn ein cyfran.

The matter of rail is on everyone’s mind. I am fully committed to improved, direct rail services between north and south Wales. In fact, I am impatient for change. Both train operators currently serving long-distance routes from Holyhead were unable to bring forward proposals earlier in the year that we felt gave value for money. It has been this Government’s policy to improve the north-south links since the Assembly came into being and since this Labour Government took office. The proposal of Wales & West Passenger Trains Limited was rejected on the basis of not offering the best value for money at the time. First North Western informed us that it has withdrawn its interest, having completed a cost/revenue analysis, which suggested that it could not run a service for less than the other company.

Mae mater y rheilffyrdd ar feddwl pawb. Yr wyf wedi llwyr ymrwymo i sicrhau gwasanaethau uniongyrchol, gwell rhwng gogledd a de Cymru. Mewn gwirionedd, yr wyf wedi blino aros am newid. Nid oedd y naill na’r llall o’r gweithredwyr trenau sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu’r teithiau pellter hir o Gaergybi yn gallu cyflwyno cynigion yn gynharach yn y flwyddyn y teimlem eu bod yn rhoi gwerth da am arian. Polisi’r Llywodraeth hon ers sefydlu’r Cynulliad ac ers i’r Llywodraeh Lafur hon ddod i rym yw gwella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Gwrthodwyd cynnig Wales & West Passenger Trains Limited am nad oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian ar y pryd. Fe’n hysbyswyd gan First North Western ei fod wedi tynnu’n ôl ei ddiddordeb, ar ôl cwblhau dadansoddiad cost/refeniw, a oedd yn awgrymu na allai redeg gwasanaeth am lai na’r cwmni arall.

In the short term—John Marek will be pleased to hear this—Wrexham County Borough Council, in partnership with Central Trains Limited, is preparing a bid for improvements to connection times to enable shorter journey times for passengers between north Wales and Cardiff via Wrexham. It will make the bid to the Rail Passenger Partnership Scheme, which is administered by the shadow strategic rail authority. I welcome this positive move. I also understand that First North Western and Virgin Trains are in discussion to see whether they can make any timetable alterations to improve interconnections at Crewe in the next couple of years.

Yn y tymor byr—bydd John Marek yn falch o glywed hyn—mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn partneriaeth â Central Trains Limited, yn paratoi cynnig ar gyfer gwelliannau mewn amseroedd cyswllt fel y gellir cael amseroedd taith byrrach ar gyfer teithwyr rhwng gogledd Cymru a Chaerdydd drwy Wrecsam. Bydd yn cyflwyno’r cais i’r Cynllun Partneriaeth Teithwyr Rheilffyrdd, a weinyddir gan yr awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol. Croesawaf y cam cadarnhaol hwn. Deallaf hefyd fod First North Western a Virgin Trains mewn trafodaeth i ganfod a allant wneud unrhyw newidiadau mewn amserlenni i wella rhyng-gysylltiadau yn Crewe yn y blynyddoedd nesaf hyn.

I intend to make progress on achieving the additional services. I am grateful to the Finance Secretary for making finance available for future negotiations in her recent budget announcement. This underlines again that Labour has been taking forward this matter since our inception. Thank you for your support, Janet, which you have always given.

Bwriadaf wneud cynnydd ynghylch sicrhau gwasanaethau ychwanegol. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cyllid am sicrhau bod arian ar gael ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol yn ei chyhoeddiad diweddar ar y gyllideb. Mae hyn yn tanlinellu eto fod Llafur wedi bod yn bwrw ymlaen â’r mater hwn ers inni ddechrau. Diolch am y gefnogaeth yr ydych wedi ei rhoi bob amser, Janet.

John made a point about passenger transport authorities. This would need primary legislation. I understand your sincerity in pursuing this but the Act that brought them into being in England has lapsed. I am not convinced that they are the best way forward. They would undermine the role of local authorities as our transport authorities throughout Wales. We have a working relationship with the Welsh Local Government Association. Their views have to be taken into account because their role would be diminished. It is important that we look to the shadow SRA because it has the primary responsibility to ensure that operators deliver against their passenger service agreements, which are specified by the terms of their franchises. The SRA will consult the Assembly in future franchise negotiations and on all other matters affecting Wales.

Gwnaeth John bwynt ynghylch awdurdodau trafnidiaeth teithwyr. Byddai angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer hynny. Deallaf eich diffuantrwydd wrth ddilyn hyn ond mae’r Ddeddf a’u creodd yn Lloegr wedi mynd yn ddi-rym. Nid wyf yn argyhoeddedig mai hwy yw’r ffordd orau ymlaen. Byddent yn tanseilio rôl awdurdodau lleol fel ein hawdurdodau trafnidiaeth ledled Cymru. Mae gennym berthynas weithredol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rhaid rhoi ystyriaeth i’w barn oherwydd byddai eu rôl wedi ei lleihau. Mae’n bwysig inni droi at yr awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol am mai ganddo ef y mae’r prif gyfrifoldeb dros sicrhau bod gweithredwyr yn cyflawni eu cytundebau gwasanaeth teithwyr, a nodir yn amodau eu masnachfreintiau. Bydd yr awdurdod rheilffyrdd strategol yn ymgynghori â’r Cynulliad mewn trafodaethau ar fasnachfreintiau yn y dyfodol ac ar bob mater arall sydd yn effeithio ar Gymru.

Outside these franchise terms, other than providing funding for modest infrastructure or rolling stock developments, or levering in local authority or other subsidy, the SRA and the Assembly can encourage, but not require, the operators to provide additional, non-commercial services. This can be difficult towards the end of a franchise term, as public subsidy levels fall and operators have less time to recoup any investment. On this basis, we need to ensure that we can take full advantage of the requirement for the shadow SRA to consult the Assembly when franchises are next negotiated. We intend to provide the shadow SRA with strong evidence to support our proposals for improvements to rail services in Wales, including services between north and south. The SRA announced last week that it hoped that operators would bring forward innovative proposals for future franchises, to serve properly the needs of Wales.

Y tu allan i’r amodau masnachfraint hyn, heblaw am ddarparu cyllid ar gyfer datblygiadau bach yn yr isadeiledd neu gerbydau, neu roi cymorthdaliadau awdurdodau lleol neu eraill yn eu lle, gall yr awdurdod rheilffyrdd statudol a’r Cynulliad annog, ond nid mynnu, bod y gweithredwyr yn darparu gwasanaethau ychwanegol, anfasnachol. Gall hyn fod yn anodd tua diwedd tymor masnachfraint, wrth i lefelau cymorthdaliadau cyhoeddus ostwng a phan fo llai o amser gan y gweithredwyr i adennill unrhyw fuddsoddiad. Ar y sail honno, rhaid inni sicrhau bod modd inni fanteisio’n llawn ar y gofyniad sydd ar yr awdurdod rheilffyrdd strategol i ymgynghori â’r Cynulliad pan drafodir masnachfreintiau nesaf. Bwriadwn ddarparu tystiolaeth gref i’r awdurdod rheilffyrdd strategol o blaid ein cynigion ar gyfer gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau rhwng y gogledd a’r de. Cyhoeddodd yr awdurdod rheilffyrdd strategol yr wythnos diwethaf ei fod yn gobeithio y bydd gweithredwyr yn cyflwyno cynigion arloesol ar gyfer masnachfreintiau yn y dyfodol, er mwyn gwasanaethu anghenion Cymru’n briodol.

These new franchise proposals will not need to follow the franchise boundaries that are already defined. I hope such new parameters will make a fast, direct north-south service a better prospect in a shorter time. Negotiations between the shadow Strategic Rail Authority and operators will take place early next year.

Ni fydd angen i’r cynigion masnachfraint newydd hyn ddilyn ffiniau’r masnachfreintiau a ddiffiniwyd eisoes. Gobeithiaf y bydd paramedrau newydd o’r fath yn cynnig gwell gobaith o wasanaeth cyflym, uniongyrchol rhwng y gogledd a’r de o fewn cyfnod byrrach. Bydd trafodaethau rhwng yr awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol a’r gweithredwyr yn gynnar y flwyddyn nesaf.

The Babtie study will be a significant part of this evidence, which will give us balanced data on demand and supply. Although it is not due to be completed until the end of March 2000, we will be able to draw on the data in advance. The Babtie study is only one part of a more general effort on our part—already underway—to work with local authorities, Railtrack, train operating companies and other interested groups to establish their needs, and to draw up, together, a detailed strategy to inform our case to the Strategic Rail Authority. The knowledge that we will gain as a result of this rail audit will also enable us to explore, with the train operators, the possibility of introducing additional north-south services in advance of the completion of the existing franchise. We will look for more comfortable, speedy and inclusive services between the north and south.

Bydd astudiaeth Babtie yn rhan bwysig o’r dystiolaeth hon, a fydd yn rhoi data cytbwys i ni ar y cyflenwad a’r galw. Er nad yw i’w chwblhau tan ddechrau Mawrth 2000, byddwn yn gallu tynnu ar y data ymlaen llaw. Nid yw astudiaeth Babtie ond yn un rhan o ymdrech fwy cyffredinol ar ein rhan—a ddechreuodd eisoes—i weithio gydag awdurdodau lleol, Railtrack, cwmnïau gweithredu rheilffyrdd a grwpiau cysylltiedig eraill i ganfod eu hanghenion, ac i lunio, gyda’n gilydd, strategaeth fanwl er mwyn goleuo’n ein hachos i’r awdurdod rheilffyrdd strategol. Bydd y wybodaeth a gawn o ganlyniad i’r archwiliad rheilffyrdd hwn yn ein galluogi hefyd i ystyried, gyda’r gweithredwyr rheilffyrdd, y posibiliad o gyflwyno gwasanaethau ychwanegol rhwng y gogledd a’r de cyn cwblhau’r fasnachfraint bresennol. Byddwn yn ceisio gwasanaethau mwy cyfforddus, cyflym a chynhwysol rhwng y gogledd a’r de.

I will keep the Environment and Local Government Committee fully informed of our progress and will take full account of its views. The Committee has been very supportive; nobody could have been more so than Sue Essex who has taken a proactive approach on the north-south link. The Committee will conduct its own public transport study early in the new year.

Rhoddaf wybodaeth lawn i Bwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol am ein cynnydd a rhoddaf ystyriaeth lawn i’w farn. Bu’r Pwyllgor yn gefnogol iawn; ni allasai neb wedi bod yn fwy felly na Sue Essex sydd wedi gweithredu’n rhagweithiol ar y cyswllt rhwng y gogledd a’r de. Bydd y Pwyllgor yn cynnal ei astudiaeth gludiant cyhoeddus ei hun yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

I recognise the economic benefits that a regional air service can bring when demand for services exists and we have been proactive in trying to identify demand. The First Secretary wrote to all of you who represent constituencies in north Wales to ask your views on a dedicated air service between Cardiff, Hawarden and Caernarfon airports. Your overwhelming response was that, while this may be convenient for the occasional journey, you would not use such a service for regular journeys from your constituencies because it would be too inflexible.

Cydnabyddaf y manteision economaidd a all ddod yn sgîl gwasanaeth awyr rhanbarthol pan geir galw am y gwasanaethau a buom yn rhagweithiol wrth geisio canfod y galw. Ysgrifennodd y Prif Ysgrifennydd at bawb ohonoch sydd yn cynrychioli etholaethau yng ngogledd Cymru i ofyn eich barn ynghylch gwasanaeth awyr pwrpasol rhwng meysydd awyr Caerdydd, Penarlâg a Chaernarfon. Eich ymateb llethol oedd y gallai hynny fod yn gyfleus ar gyfer ambell daith, ond na fyddech yn defnyddio gwasanaeth o’r fath ar gyfer teithiau rheolaidd o’ch etholaethau am y byddai’n rhy anhyblyg.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 93

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order. Because of my bias in this matter, I have allowed you to continue for an extra two minutes, but please end your speech in one minute.

Trefn. Oherwydd fy rhagfarn yn y mater hwn, yr wyf wedi caniatáu ichi fynd ymlaen am ddau funud ychwanegol, ond gorffennwch eich araith ymhen munud, os gwelwch yn dda.

Peter Law spoken in English p. 93

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 93

That is no problem. I did not want to miss the part of my speech about air travel, in case you had something scheduled that we do not know about to help you get here earlier.

Nid yw hynny’n broblem. Nid oeddwn am fethu’r rhan hon o’m haraith ynghylch teithio awyr, rhag ofn eich bod wedi trefnu rhywbeth na wyddem amdano i’ch helpu i gyrraedd yma ynghynt.

For those travelling by bus, a daily service is provided by Arriva Cymru between Cardiff and Holyhead through the Traws Cambria service. The Babtie study will consider this.

Ar gyfer y rhai hynny sydd yn teithio mewn bws, darperir gwasanaeth dyddiol gan Arriva Cymru rhwng Caerdydd a Chaergybi drwy’r gwasanaeth Traws Cambria. Bydd astudiaeth Babtie yn ystyried hyn.

All of us who have an interest in this important matter must realise that there are funding consequences and all proposals need to pass the value for money test. We must take a long, careful look at the problems and assess the many complex and conflicting travel movements and requirements to find a solution or solutions which are affordable, sustainable and environmentally acceptable.

Rhaid i bawb ohonom sydd â diddordeb yn y mater pwysig hwn sylweddoli bod canlyniadau ariannu a bod rhaid i bob cynnig lwyddo yn y prawf gwerth am arian. Rhaid inni edrych yn hir ac yn ofalus ar y problemau ac asesu’r llu o symudiadau ac anghenion traffig cymhleth a chroestynnol er mwyn canfod ateb neu atebion sydd yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn amgylcheddol dderbyniol.

I assure Members that I am working untiringly to provide Welsh transport solutions to our Welsh problems that will lead to an integrated Welsh transport policy of excellence.

Rhoddaf sicrwydd i’r Aelodau fy mod yn gweithio’n ddiflino i ddarparu atebion trafnidiaeth Cymreig i’n problemau Cymreig a fydd yn arwain at bolisi trafnidiaeth Cymreig integredig o ragoriaeth.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 94

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 94

Diolchaf i Aelodau am eu hamynedd.

I thank Members for their patience.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.34 p.m.

The session ended at 5.34 p.m.