Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting
Dydd Mercher 15 Rhagfyr 1999
Wednesday 15 December 1999
CynnwysContents
- 3Cwestiynau i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth LeolQuestions to the Secretary for the Environment and Local Government
- 3Rheoli Tir Llywodraeth LeolControl of Local Government Land
- 4Safle Gwaith Dur BrymboBrymbo Steelworks Site
- 6Ymgynghori â’r Awdurdod Rheilffyrdd StrategolConsultation with the Strategic Rail Authority
- 9Awdurdod Rheilffyrdd Strategol (Swyddfa yng Nghymru)Strategic Rail Authority (Office in Wales)
- 10Ailsefydlu’r Rhwydwaith RheilffyrddRe-establishing the Railway Network
- 11Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
- 13Delwedd CymruThe Image of Wales 5 o bleidleisiau5 votes
- 47Codi’r Gwaharddiad ar Gig Eidion ar yr AsgwrnLifting the Beef on the Bone Ban 4 o bleidleisiau4 votes
- 70Trosglwyddiadau AriannolFinancial Transfers 1 bleidlais1 vote
- 73Datganiad gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar Amcangyfrifon Atodol y GaeafStatement by the Finance Secretary on Winter Supplementary Estimates
- 78Rheoliadau Rhestr Ardrethi Canolog (Cymru) 1999Central Rating List (Wales) Regulations 1999 1 bleidlais1 vote
- 81Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
- 82Adroddiad Grant Arbennig ar y Gronfa Bartneriaeth Plant a IeuenctidSpecial Grant Report on the Children and Youth Partnership Fund 1 bleidlais1 vote
PleidleisiauVotes
TrafodionProceedings
Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.
The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.
Cwestiynau i Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol
Questions to the Secretary for the Environment and Local Government
Rheoli Tir Llywodraeth Leol
Control of Local Government Land
In view of the Audit Commission’s recent comments about control of land in local government, will the Secretary for the Environment and Local Government be reviewing the arrangements of local authorities in this field? (OAQ2706)
Yng ngoleuni sylwadau diweddar y Comisiwn Archwilio ar reoli tir llywodraeth leol, a fydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn adolygu’r trefniadau ar gyfer awdurdodau lleol yn y maes hwn? (OAQ2706)
Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 3
Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 3
I appreciate your interest in this as Chair of the Audit Committee. The Audit Commission is presently reviewing local authorities’ asset management policies and performance with the intention of issuing a report in April 2000. I expect local authorities to have full regard to the Audit Commission’s recommendations when the report is published. Local authorities should review their land assets across all service areas so as to establish what land is necessary for their service requirements and what is surplus to their present and future needs. Disposal of surplus land should be considered, but significant income and savings could be achieved if councils adopted effective asset management practices.
Yr wyf yn gwerthfawrogi eich diddordeb yn hyn fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn Archwilio yn adolygu perfformiad a pholisïau rheoli asedau awdurdodau lleol gyda’r bwriad o gyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill 2000. Disgwyliaf i awdurdodau lleol ystyried argymhellion y Comisiwn Archwilio yn llawn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi. Dylai awdurdodau lleol adolygu eu hasedau tir ym mhob maes gwasanaeth i bennu pa dir sydd ei angen arnynt ar gyfer gofynion eu gwasanaethau a faint fydd dros ben wedi iddynt ddiwallu eu hanghenion presennol a’u hanghenion yn y dyfodol. Dylid ystyried cael gwared ar dir sydd dros ben, ond byddai modd sicrhau incwm a chynilion sylweddol pe byddai cynghorau yn mabwysiadu arferion rheoli asedau effeithiol.
Bearing in mind the deleterious effects of certain developments, such as large scale retail parks, on local communities and the environment, and the relative weakness of planning laws compared with the strength of multinational and UK-wide companies, would you consider advising an audit to assess the impact of future use, before the sale of local government owned land?
Gyda golwg ar effeithiau niweidiol datblygiadau penodol, megis parciau adwerthu enfawr, ar gymunedau lleol ac ar yr amgylchedd, a gwendid cymharol y cyfreithiau cynllunio o’u cymharu â chryfder cwmnïau amlwladol a chwmnïau’r DU gyfan, a fyddech yn ystyried cynghori cynnal archwiliad i asesu effaith defnydd yn y dyfodol, cyn gwerthu tir llywodraeth leol?
It is over 10 years since the Audit Commission last examined councils’ property management practices, when councils were encouraged to adopt a managerial approach to their assets. Much has changed since that last investigation. New options for service delivery have emerged, and there have been advances in information technology and innovations in the integration of service provision, such as one-stop shops. The Audit Commission should look at these things and take them into account. It would be beneficial to the community, and I would be prepared to discuss that matter with it.
Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i’r Comisiwn Archwilio edrych ar arferion rheoli eiddo cynghorau, pryd yr anogwyd cynghorau i fabwysiadu agwedd reolaethol tuag at eu hasedau. Mae llawer wedi newid ers yr archwiliad diwethaf hwnnw. Mae dewisiadau newydd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau wedi dod i’r golwg, a gwelwyd datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth a thorrwyd tir newydd drwy integreiddio darpariaeth gwasanaethau, megis siopau bob dim. Dylai’r Comisiwn Archwilio edrych ar y rhain a’u hystyried. Byddai’n fuddiol i’r gymuned, a byddwn yn barod i drafod y mater hwnnw gydag ef.
Safle Gwaith Dur Brymbo
Brymbo Steelworks Site
What can Peter Law do to assist the redevelopment of the Brymbo steelworks site? (OAQ2712)
Ym mha ffordd y gall Peter Law helpu’r gwaith o ailddatblygu safle gwaith dur Brymbo? (OAQ2712)
I was born in Brymbo and have fond memories of that bustling village from many years ago.
Cefais fy ngeni ym Mrymbo ac mae gennyf atgofion melys o’r pentref bywiog flynyddoedd yn ôl.
So Brymbo is responsible, Peter? Alun Michael explained in his answer on 2 November to your previous question on this project that the proposed reclamation has raised difficult technical issues surrounding the funding of the scheme, which need to be resolved to enable it to proceed. Since then, Alun Michael and Rhodri Morgan have discussed how it can be taken forward. Assembly officials are involved in meetings with the other parties to discuss the options for progressing the project.
Brymbo sydd yn gyfrifol felly, Peter? Yn ei ateb i’ch cwestiwn blaenorol ar y prosiect hwn, ar 2 Tachwedd, eglurodd Alun Michael fod yr adennill arfaethedig wedi arwain at faterion technegol anodd ynghylch cyllido’r cynllun. Bydd rhaid datrys y materion hyn cyn bod modd mynd ag ef ymlaen. Ers hynny, mae Alun Michael a Rhodri Morgan wedi trafod sut y gellir ei ddatblygu. Mae swyddogion y Cynulliad yn cynnal cyfarfodydd gyda’r grwpiau eraill i drafod y dewisiadau i barhau gyda’r prosiect.
Will you ensure that every effort is made to recognise the problems of north Wales? We are looking for some development to encourage us to take advantage of Objective 1 funding. Brymbo offers a wonderful chance to do that. Can you assure me that Brymbo will receive the same understanding and same terms as all the other redeveloped steelworks throughout the country?
A wnewch sicrhau y gwneir pob ymdrech i gydnabod problemau gogledd Cymru? Yr ydym yn chwilio am rywfaint o ddatblygiad i’n hannog i fanteisio ar gyllid Amcan 1. Mae Brymbo yn cynnig cyfle gwych i wneud hynny. A allwch chi fy sicrhau y bydd Brymbo yn derbyn yr un cytundeb a’r un amodau â phob gwaith dur arall sydd wedi ei ail ddatblygu ledled y wlad?
This is an interesting issue for me, particularly as it does not come under my portfolio. I wondered why it was on the list. However, we work with these things. The Secretary for Economic Development is working hard for all of us in Wales, particularly north Wales, to get the maximum development. He is actively pursuing the Brymbo steelworks site development with the First Secretary and officials to progress on the options of taking the scheme forward.
Mae hwn yn fater diddorol i mi, yn enwedig gan nad yw’n dod o dan fy mhortffolio. Yr oeddwn yn pendroni pam yr oedd hwn ar y rhestr. Fodd bynnag, yr ydym yn gweithio gyda’r pethau hyn. Mae’r Ysgrifennydd Datblygu Economaidd yn gweithio’n galed dros bawb ohonom yng Nghymru, yn enwedig gogledd Cymru, i sicrhau ein bod yn cael cymaint o ddatblygiadau ag y bo modd. Mae’n dilyn trywydd datblygu safle gwaith dur Brymbo yn ddyfal gyda’r Prif Ysgrifennydd a swyddogion i ddatblygu’r dewisiadau i fynd â’r cynllun yn ei flaen.
Part of the problem with Brymbo, as you are aware, is that it is not in the Objective 1 area. It is surrounded by what could be classed as a well-off area but is also one of those pockets of great need to which Tony Blair alluded last week. The local community is feeling frustrated because it is faced with an empty site. A viable business was bought out and dismantled under the Tory government and the site was left derelict for many years. The local community wants to know when something will happen with the site. People are having to live with its consequences. It has ripped out the heart of that community and, although it is not directly part of your brief, it does have an environmental impact. If you visit the site you will see what a mess the outlying areas are in. Is there anything that you, under your brief, can do? Obviously, your brief does not include provision of the necessary economic support but could you convene a meeting of interested parties from all Government levels so that the community can approach this situation again and identify what they want to do with this site? I am also concerned about the development company and its commitment to developing that site.
Fel y gwyddoch, rhan o’r broblem gyda Brymbo yw nad yw yn yr ardal Amcan 1. Caiff ei amgylchynu gan yr hyn y gellir ei alw’n ardal gyfoethog, ond y mae hefyd yn un o’r pocedi hynny sydd mewn angen mawr, y cyfeiriodd Tony Blair atynt yr wythnos diwethaf. Mae’r gymuned leol yn teimlo’n rhwystredig oherwydd ei bod yn wynebu safle gwag. Prynwyd busnes dichonadwy ac fe’i chwalwyd dan y llywodraeth Dorïaidd a gadawyd y safle yn wag am nifer o flynyddoedd. Mae’r gymuned leol eisiau gwybod pryd y bydd rhywbeth yn digwydd i’r safle. Mae pobl yn gorfod byw gyda’r canlyniadau. Mae hyn wedi rhwygo’r galon o’r gymuned honno ac, er nad yw’n rhan uniongyrchol o’ch brîff, mae iddo effaith amgylcheddol. Os byddwch yn ymweld â’r safle, byddwch yn gweld y llanastr yn yr ardaloedd cyffiniol. A oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud dan eich brîff chi? Yn amlwg nid yw eich brîff yn cynnwys rhoi’r gefnogaeth economaidd angenrheidiol, ond a fyddech yn gallu galw cyfarfod gyda’r grwpiau sydd â diddordeb yn y prosiect, a hynny o bob lefel o Lywodraeth fel y gall y gymuned edrych o’r newydd ar y sefyllfa a phenderfynu yr hyn y carent ei wneud gyda’r safle? Yr wyf yn bryderus hefyd ynghylch y cwmni datblygu a’i ymrwymiad i ddatblygu’r safle hwnnw.
As it is not in my brief, I do not want to interfere in the Secretary for Economic Development’s on-going good work. Rhodri will be listening today and he has had many discussions with Brymbo Developments Limited, Wrexham County Borough Council and the Welsh Development Agency. There was a meeting with officials early this week, which is a mark of the project’s importance. I note your comments and if I am in north Wales in the future, I will visit the site.
Gan nad yw hyn yn fy mrîff, nid wyf eisiau ymyrryd gyda gwaith da parhaus yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd. Bydd Rhodri yn gwrando heddiw ac y mae wedi cael sawl trafodaeth gyda Brymbo Developments Cyfyngedig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Awdurdod Datblygu Cymru. Bu cyfarfod gyda swyddogion yn gynnar yr wythnos hon, sydd yn dangos pwysigrwydd y prosiect. Nodaf eich sylwadau ac os byddaf yng ngogledd Cymru yn y dyfodol, byddaf yn ymweld â’r safle.
Ymgynghori â’r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol
Consultation with the Strategic Rail Authority
If the strategic rail authority is to consult with the Assembly, will it be through the Cabinet or with the Environment and Local Government Committee members? (OAQ2672)
Os bydd yr awdurdod rheilffyrdd strategol yn ymgynghori â’r Cynulliad, a fydd yr ymgynghori yn digwydd drwy’r Cabinet neu gydag aelodau Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol? (OAQ2672)
I will be consulted by the shadow strategic rail authority on proposals affecting Wales and in responding I shall take account of the views of the Environment and Local Government Committee, which are extremely important to me, the Assembly and the people of Wales. The Committee will conduct its own review of public transport in the new year and the shadow strategic rail authority will be invited to meet its members.
Ymgynghorir â mi drwy’r awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol ar gynigion a fydd yn effeithio ar Gymru ac wrth ymateb byddaf yn ystyried sylwadau Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol, sydd yn bwysig iawn imi, ynghyd â sylwadau’r Cynulliad a phobl Cymru. Bydd y Pwyllgor yn cynnal ei adolygiad ei hun ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y flwyddyn newydd a gwahoddir yr awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol i gyfarfod ei aelodau.
You are aware that the Scottish Executive will have powers to guide and instruct the SRA, while the Greater London Authority will be able to procure enhanced rail services via the SRA. The Assembly’s power to be consulted, which appeared in the railways White Paper, does not appear in the new Transport Bill. This limited ability to influence decisions that are important for transport in Wales restricts severely the Assembly’s role. What type of consultation will be held in Wales if the Assembly cannot appoint a representative member? If consultation is restricted to Cabinet members, not the Assembly as a whole, is there not a danger that the Assembly’s real voice will not be heard?
Gwyddoch y bydd gan Weithrediaeth yr Alban bwerau i arwain a chyfarwyddo’r awdurdod rheilffyrdd strategol, tra bydd Awdurdod Llundain Fwyaf yn gallu ennill gwell gwasanaethau trenau drwy’r awdurdod rheilffyrdd strategol. Nid yw pŵer y Cynulliad, sef bod rhaid ymgynghori ag ef, a ymddangosodd ym Mhapur Gwyn y rheilffyrdd, yn ymddangos yn y Mesur Trafnidiaeth newydd. Mae’r gallu cyfyngedig hwn i ddylanwadu ar benderfyniadau sydd yn bwysig i drafnidiaeth yng Nghymru yn cyfyngu rôl y Cynulliad yn arw. Pa fath o ymgynghoriad a gaiff ei gynnal yng Nghymru os na all y Cynulliad benodi aelod cynrychioladol? Os caiff yr ymgynghoriad ei gyfyngu i aelodau’r Cabinet, nid i’r Cynulliad i gyd, onid oes perygl na fydd gwir lais y Cynulliad i’w glywed?
The First Secretary and myself have answered questions on this before, Geraint, but I am pleased to rehearse them here again. Today is a Plaid Cymru rail day. I have just noticed how many questions on rail have been tabled by Plaid Cymru.
Mae’r Prif Ysgrifennydd a minnau wedi ateb cwestiynau ar hyn o’r blaen, Geraint, ond yr wyf yn fodlon eu hailadrodd yma eto. Diwrnod trenau Plaid Cymru yw hi heddiw. Yr wyf newydd sylwi cynifer o gwestiynau ar drenau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru.
You must remember that we will be consulted on a nomination to the SRA. Matters will evolve as we continue. However, we have only been in existence for six months. That is important to recognise and I will have an opportunity to make that point on behalf of the Assembly. We must remember that the SRA has responsibility for Wales. We are interdependent on a rail network that travels into England and back. That is much different from the Scottish arrangement. Many of the Scottish proposals that were in the Railways Bill have been subsumed in the Transport Bill. I appreciate that the Scottish Parliament has powers that we do not. However, it is shadowing the strategic rail authority.
Rhaid ichi gofio yr ymgynghorir â ni ar enwebiad ar gyfer yr awdurdod rheilffyrdd strategol. Bydd materion yn esblygu wrth inni barhau. Fodd bynnag, dim ond ers chwe mis yr ydym wedi bodoli. Mae’n bwysig cydnabod hynny a byddaf yn cael cyfle i wneud y pwynt hwnnw ar ran y Cynulliad. Rhaid inni gofio bod gan yr awdurdod rheilffyrdd strategol gyfrifoldeb dros Gymru. Yr ydym yn gyd-ddibynnol ar rwydwaith trenau sydd yn rhedeg i Loegr ac yn ôl. Mae hynny’n wahanol iawn i’r trefniant yn yr Alban. Mae nifer o’r cynigion ar gyfer yr Alban a oedd yn y Mesur Rheilffyrdd wedi eu cynnwys yn y Mesur Trafnidiaeth. Yr wyf yn cydnabod bod gan Senedd yr Alban bwerau nad oes gennym ni mohonynt. Fodd bynnag, mae’n cysgodi’r awdurdod rheilffyrdd strategol.
We must work in partnership with the strategic rail authority, train companies, Railtrack and our transport authorities. Sir Alastair Morton has assured me that he wants to hear the views of the Assembly and will take them seriously. That is very positive for Wales. We can evolve as we go along.
Rhaid inni weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod rheilffyrdd strategol, cwmnïau trenau, Railtrack a’n hawdurdodau trafnidiaeth. Mae Syr Alastair Morton wedi fy sicrhau ei fod eisiau clywed sylwadau’r Cynulliad ac y bydd yn eu cymryd o ddifrif. Mae hynny’n galonogol iawn i Gymru. Gallwn esblygu wrth inni fynd ymlaen.
Do you agree that the Environment and Local Government Committee accurately reflects the views of people who live in Wales, and that if devolution is to have any meaning at all, it is imperative that any consultation takes place with that Committee and not through the Cabinet?
A ydych yn cytuno bod Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn adlewyrchu barn y bobl sydd yn byw yng Nghymru yn gywir, ac os oes unrhyw ystyr i ddatganoli o gwbl, ei bod yn hanfodol y caiff unrhyw ymgynghoriad ei gynnal gyda’r Pwyllgor hwnnw, nid drwy’r Cabinet?
You must recognise that we have a Cabinet system and we consult the Committee regularly. You should know that. Unfortunately, you do not attend Committee meetings often, but I know that you are very committed and you have to attend countryside marches. However, most people who attend our Committee—as Sue Essex can confirm—will know that I consult on virtually everything. I listen to what is said and when I am listening, the First Secretary is listening. The Finance Secretary has also listened to comments on the budget statement, so we have good consultation.
Rhaid ichi gydnabod bod gennym system Gabinet a’n bod yn ymgynghori â’r Pwyllgor yn gyson. Dylech fod yn gwybod hynny. Yn anffodus, nid ydych yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn aml, ond gwn eich bod yn ymrwymedig iawn a bod rhaid ichi fod yn bresennol mewn ymdeithiau cefn gwlad. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl sydd yn dod i’n Pwyllgor—fel y gall Sue Essex gadarnhau—yn gwybod fy mod yn ymgynghori ar bron bob dim. Yr wyf yn gwrando ar yr hyn a gaiff ei ddweud a phan wyf fi’n gwrando, mae’r Prif Ysgrifennydd yn gwrando. Mae’r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi gwrando ar sylwadau ar ddatganiad y gyllideb, felly yr ydym yn cael ymgynghori da.
The Environment and Local Government Committee deals with all forms of transport in Wales. Can you assure us that you will take steps to ensure that the heads of the Valleys road will not be blocked to traffic by snow, as was the case on Monday?
Mae Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn delio â phob math o drafnidiaeth yng Nghymru. A allwch chi ein sicrhau y byddwch yn cymryd camau i sicrhau na fydd ffordd blaenau’r Cymoedd ar gau i draffig oherwydd eira, fel a ddigwyddodd ddydd Llun?
I am glad to be asked about roads, as nobody has done so up until now. I have been concerned about past closures on the heads of the Valleys road and I was made aware of the blockage there on Monday, as with other parts of Wales. I am working with my officials to ensure that they are in touch with Gwent Consultancy to reinforce the snow clearance arrangements on that road to upper Valley areas, so that people there are adequately catered for. I will pursue that.
Yr wyf yn falch eich bod yn gofyn cwestiwn imi am ffyrdd, gan nad oes neb wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Yr wyf wedi bod yn poeni ynghylch y ffaith y caewyd ffordd blaenau’r Cymoedd sawl gwaith yn ddiweddar a dywedwyd wrthyf fod y ffordd ar gau ddydd Llun, fel mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Yr wyf yn gweithio gyda fy swyddogion i sicrhau eu bod mewn cysylltiad â Gwent Consultancy i atgyfnerthu’r trefniadau symud eira ar y ffordd honno hyd at rannau uchaf y Cymoedd, fel y gwasanaethir y bobl sydd yno yn ddigonol. Byddaf yn dilyn trywydd hynny.
I am sure that you are aware of Sir Alastair Morton’s statement about grouping franchises in Wales together to create a Welsh rail network. What consultation did you have with him before he made that statement? If that is to become a reality, do you accept that it would be worthwhile for Wales to have similar powers to Scotland in directing the development of that new rail network?
Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o ddatganiad Syr Alastair Morton ar osod trwyddedau gweithredu yng Nghymru gyda’i gilydd i greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru. Pa ymgynghoriad a gawsoch ag ef cyn iddo wneud y datganiad hwnnw? Os yw hynny am ddod yn realiti, a ydych yn derbyn y byddai’n fuddiol i Gymru gael pwerau tebyg i’r Alban i gyfarwyddo datblygiad y rhwydwaith rheilffyrdd newydd hwnnw?
Sir Alastair Morton did not consult me before he made that statement and I would not expect him to, although we have a very good relationship. In his statement about franchising, he said he was looking for innovative approaches to franchising. There are four franchises in Wales, there may be less, more or the same number in future, but he said that he had an open book. I welcome that. I would not want to interfere with the strategic rail authority as the franchise organisation. There is no doubt that we will be consulted in detail about those franchises and we will be able to make our point of view known. The Environment and Local Government Committee will play an active role in that.
Nid ymgynghorodd Syr Alastair Morton â mi cyn iddo wneud y datganiad hwnnw ac ni fuaswn wedi disgwyl iddo wneud hynny, er bod gennym berthynas dda iawn. Yn ei ddatganiad ar drwyddedau gweithredu, dywedodd ei fod yn chwilio am ffyrdd arloesol o ymdrin â thrwyddedau gweithredu. Mae pedair trwydded weithredu yng Nghymru, efallai y bydd llai, mwy neu’r un faint yn y dyfodol, ond dywedodd fod ganddo lyfr agored. Croesawaf hynny. Ni fyddwn eisiau ymyrryd â’r awdurdod rheilffyrdd strategol fel y sefydliad trwyddedu. Nid oes amheuaeth yr ymgynghorir yn fanwl â ni ynghylch y trwyddedau gweithredu hynny a byddwn yn gallu lleisio ein safbwynt. Bydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol yn chwarae rhan bwysig yn hynny.
Awdurdod Rheilffyrdd Strategol (Swyddfa yng Nghymru)
Strategic Rail Authority (Office in Wales)
Will Peter Law state whether there are any plans to establish a strategic rail authority office in Wales? (OAQ2668)
A wnaiff Peter Law ddatgan a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i sefydlu swyddfa ar gyfer awdurdod rheilffyrdd strategol yng Nghymru? (OAQ2668)
This is an internal matter for the shadow strategic rail authority. At present, it has no offices apart from the one in London. We will continue to work closely with the team that the SRA has established to deal with Welsh services.
Mae hwn yn fater mewnol ar gyfer yr awdurdod rheilffyrdd strategol cysgodol. Ar hyn o bryd, nid oes ganddo swyddfeydd heblaw am yr un yn Llundain. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r tîm a sefydlodd yr awdurdod rheilffyrdd strategol i ddelio gyda gwasanaethau Cymru.
As we will be discussing the image of Wales later today, do you not think that it would be good for the image and status of our nation to have an SRA office in Wales rather than depending on someone else to tell us how we should run our railways? Do you not think that the excuse that a large part of the railway runs through the marches of England is a bad one? When you consider that Herefordshire is served by Dŵr Cymru and Montgomeryshire by Severn Trent Water Limited, why is it so difficult to arrange for a railway, which runs partly through England to come under Welsh control?
Gan y byddwn yn trafod delwedd Cymru yn nes ymlaen heddiw, onid ydych yn meddwl y byddai i’r awdurdod rheilffyrdd strategol gael swyddfa yng Nghymru yn ddaioni i ddelwedd a statws ein gwlad, yn hytrach na dibynnu ar rywun arall i ddweud wrthym sut y dylem redeg ein rheilffyrdd? Onid ydych yn meddwl bod yr esgus bod rhan fawr o’r rheilffordd yn rhedeg drwy Loegr yn un gwael? Pan ystyriwch y caiff Swydd Henffordd ei gwasanaethu gan Ddŵr Cymru a Sir Drefaldwyn gan Severn Trent Water Cyfyngedig, pam ei bod hi mor anodd trefnu bod rheilffordd, sydd yn rhedeg yn rhannol drwy Loegr, i gael ei rheoli yng Nghymru?
I am slightly confused. We have moved from railways to water.
Yr wyf wedi fy nrysu braidd. Yr ydym wedi symud o reilffyrdd at ddŵr.
Do you not understand the analogy?
Onid ydych yn deall y gyfatebiaeth?
I understand the analogy. The SRA has expertise in the whole of Britain. It is not an English body as it serves the whole of Britain, of which Wales is a part. There is a team in the SRA office dedicated to monitoring rail issues in Wales. It is a matter for the SRA whether it establishes an office in Wales, if Wales needs one. If it does, I would welcome it. The most important thing is that there is a team of people looking after Welsh interests. My officials work with them, as do other people from train companies. They have built up a detailed knowledge of the operations of key Welsh train companies, Railtrack and its infrastructure. We are establishing close working relationships with them and we have much to gain from that.
Yr wyf yn deall y gyfatebiaeth. Mae gan yr awdurdod rheilffyrdd strategol arbenigedd ym Mhrydain i gyd. Nid corff Seisnig ydyw gan ei fod yn gwasanaethu Prydain i gyd, gan gynnwys Cymru. Mae tîm yn swyddfa’r awdurdod rheilffyrdd strategol sydd yn gweithio’n gyfan gwbl ar fonitro materion rheilffyrdd yng Nghymru. Byddai sefydlu swyddfa yng Nghymru yn fater i’r awdurdod ei hun, os oes angen un ar Gymru. Os oes, byddwn yn ei chroesawu. Y peth pwysicaf yw bod tîm o bobl yn edrych ar ôl buddiannau Cymru. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda hwy, yn yr un modd â phobl eraill o gwmnïau trenau. Maent wedi adeiladu gwybodaeth fanwl o weithrediadau cwmnïau trenau allweddol Cymru, Railtrack a’i isadeiledd. Yr ydym yn sefydlu perthynas waith agos gyda hwy ac mae gennym lawer i’w ennill o hynny.
Ailsefydlu’r Rhwydwaith Rheilffyrdd
Re-establishing the Railway Network
To what extent is there planning protection for the possible routes required in the re-establishment of a railway network serving all parts of Wales? (OAQ2683)
I ba raddau y mae’r llwybrau y byddai eu hangen ar gyfer ailsefydlu rhwydwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru yn cael eu gwarchod trwy’r broses gynllunio? (OAQ2683)
This is an important point, bearing in mind that we would like some of the network to be re-opened. ‘Planning Guidance (Wales) Planning Policy’, which was published in April 1999, stipulates that:
Mae hwn yn bwynt pwysig, ag ystyried y byddem yn hoffi ailagor peth o’r rhwydwaith. Mae ‘Polisi Cynllunio Canllawiau Cynllunio (Cymru)’, a argraffwyd ym mis Ebrill 1999, yn nodi:
‘local planning authorities should ensure that disused transport routes are not severed by new development if there is a realistic prospect for their use for transport in the future’.
‘y dylai awdurdodau cynllunio lleol sicrhau na chaiff llwybrau trafnidiaeth segur eu defnyddio ar gyfer datblygiad newydd os oes posibilrwydd realistig o’u defnyddio ar gyfer trafnidiaeth yn y dyfodol.’
I give priority to improving and extending the existing infrastructure. Our planning guidance plays a key role in safeguarding our future interests.
Yr wyf yn rhoi blaenoriaeth i ehangu’r isadeiledd presennol. Mae ein canllawiau cynllunio yn chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu ein buddiannau i’r dyfodol.
In some instances there is a strong economic and social case for re-opening railway lines, but the old routes have been compromised by subsequent developments. For example, I looked at maps in one planning department and on the line of the old railway it said, in the handwriting of a member of the department, that a bungalow seemed to have appeared. What further actions could you take to encourage feasibility studies to establish alternative routes which could then get planning protection, where necessary?
Mewn rhai enghreifftiau mae achos economaidd a chymdeithasol cryf i ailagor rheilffyrdd, ond mae’r hen lwybrau wedi eu cyfaddawdu gan ddatblygiadau dilynol. Er enghraifft, edrychais ar fapiau mewn un adran gynllunio, ac ar linell yr hen reilffordd yr oedd aelod o’r adran wedi ysgrifennu bod bwthyn wedi ymddangos yno. Pa gamau pellach y gallech chi eu cymryd i annog astudiaethau dichonolrwydd i sefydlu llwybrau eraill a fyddai wedyn yn gallu cael gwarchodaeth gynllunio, lle bo’r angen?
Local planning authorities in Wales are required to prepare unitary development plans for their areas and they provide the means for promoting the integration and co-ordination of transport and land use planning. The transport authority, which is effectively the same authority, must then come forward with appropriate proposals. UDPs may include policies and proposals relating to the development of transport infrastructure and related services such as transport interchanges and rail facilities. A number of safeguards are built into the system through our local authorities to try to enable us to introduce that type of facility.
Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru baratoi cynlluniau datblygu unedol ar gyfer eu hardaloedd ac mae’r rhain yn darparu’r modd ar gyfer hyrwyddo integreiddio a chydlynu cynllunio trafnidiaeth a defnydd tir. Rhaid i’r awdurdod trafnidiaeth, sef yr un awdurdod i bob pwrpas, gyflwyno cynigion priodol. Gall cynlluniau datblygu unedol gynnwys polisïau a chynigion sydd yn ymwneud â datblygu isadeiledd trafnidiaeth a gwasanaethau perthnasol megis cyfnewidfeydd trafnidiaeth a chyfleusterau rheilffyrdd. Caiff nifer o fesurau diogelu eu hadeiladu i mewn i’r system drwy ein hawdurdodau lleol i’n galluogi i gyflwyno’r math hwnnw o gyfleuster.
When considering the re-establishment of a railway network to all parts of Wales, will you consider the importance of upgrading the Cambrian Coast line in mid Wales and, in particular, the occupational crossings at which an American tourist was killed earlier this year?
Pan fyddwch yn ystyried ailsefydlu rhwydwaith rheilffyrdd i bob rhan o Gymru, a wnewch chi ystyried pwysigrwydd gwella llinell Arfordir y Cambria yng nghanolbarth Cymru ac, yn enwedig, y croesfannau gwaith lle y lladdwyd ymwelydd o America yn gynharach eleni?
That is an important point. The Cambrian Coast line is in being and does not need to be re-established. I understand its importance to the people of the community that it serves. I am regularly in touch with the train companies and Railtrack about that line and its future. Regrettably, an American tourist lost her life earlier this year and that incident is subject to an independent inquiry by Railtrack and the Health and Safety Executive. It is not appropriate for me to make further comment other than to extend our deepest sympathy to the tourist’s family. I am ever vigilant about the need for rail safety throughout Wales.
Mae hynny yn bwynt pwysig. Mae llinell Arfordir y Cambria yn bodoli ac nid oes angen ei hailsefydlu. Yr wyf yn deall ei phwysigrwydd i bobl y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Yr wyf mewn cysylltiad cyson â’r cwmnïau trenau a Railtrack ynghylch y llinell hon a’i dyfodol. Yn anffodus, collodd ymwelydd o America ei bywyd yno yn gynharach eleni ac mae’r digwyddiad hwnnw yn cael ei archwilio’n annibynnol gan Railtrack a’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch. Nid yw’n briodol imi roi rhagor o sylwadau ar hynny, dim ond estyn ein cydymdeimlad at deulu’r ymwelydd. Yr wyf bob amser yn effro i’r angen am ddiogelwch rheilffyrdd ledled Cymru.
Cynnig Trefniadol
Procedural Motion
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 11
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 11
The Finance Secretary wishes to make a statement on a matter that is dependent on the financial transfers motion which we shall reach later today. I have therefore decided to allow a procedural motion under Standing Order No. 6.16, which covers
Mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn dymuno rhoi datganiad ar fater sydd yn ddibynnol ar y cynnig trosglwyddiadau ariannol y byddwn yn ei gyrraedd yn nes ymlaen heddiw. Yr wyf felly wedi penderfynu caniatáu cynnig trefniadol o dan Reol Sefydlog Rhif 6.16, sydd yn trafod
‘such other matters as the Presiding Officer considers appropriate’, to allow her statement to be taken later in today’s Plenary than would normally be the case.
‘y cyfryw faterion eraill ag sy’n briodol ym marn y Llywydd’, i ganiatáu cymryd ei datganiad yn nes ymlaen yn y Cyfarfod Llawn heddiw nag y byddai’n digwydd fel arfer.
Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 12
Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 12
I propose that under Standing Order No. 6.16, Standing Order No. 6.11 be suspended in respect of the motion relating to financial transfers.
Dan Reol Sefydlog Rhif 6.16, cynigaf ddileu Rheol Sefydlog Rhif 6.11 gyda golwg ar y cynnig sydd yn ymwneud â throsglwyddiadau ariannol.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 12
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 12
I can take a speaker against the procedural motion before putting the matter to a vote.
Gallaf gymryd siaradwr yn erbyn y cynnig trefniadol cyn inni bleidleisio ar y mater.
Point of order. Are we talking about the winter supplementary estimates? I have a question to raise on the statement.
Pwynt o drefn. A ydym yn siarad am yr amcangyfrifon gaeaf atodol? Mae gennyf gwestiwn ar y datganiad.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 12
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 12
I apologise if I did not make myself clear. We are talking about an oral statement to be made after the financial transfers motion. The procedural motion is a device to enable me to take the statement later in our business than would normally have been the case.
Ymddiheuraf os nad eglurais y sefyllfa’n ddigon clir. Yr ydym yn siarad am wneud datganiad llafar ar ôl y cynnig trosglwyddiadau ariannol. Dyfais yw’r cynnig trefniadol i’m galluogi i dderbyn y datganiad yn nes ymlaen yn ein busnes nag y buasem yn arfer ei wneud.
We will now vote on the procedural motion.
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig trefniadol.
Cynnig trefniadol Edwina Hart t. 12
Procedural motion Edwina Hart p. 12
DerbyniwydAdopted O blaidFor 51 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig trefniadol.
Procedural motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (51)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
- Phil Williams
Delwedd Cymru
The Image of Wales
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 13
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 13
Oherwydd pwysau busnes heddiw cyn y Nadolig, yr wyf yn cyfyngu siaradwyr unigol i bum munud. Bydd y siaradwyr sydd yn agor ac yn cloi yn cael 10 munud.
Due to pressure of business today before Christmas, I limit individual speakers to five minutes. The opening and closing speakers will have 10 minutes.
Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13
Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13
I propose that
Cynigiaf fod
Alun Michael The First Secretary (continued) spoken in English p. 13
Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 13
I am proud whenever I hear, as I did in Canada, the United States and Europe earlier this year, a positive view of Wales portrayed by those who have visited our country or by those who have invested in Wales. The arrival of the National Assembly for Wales has helped to put us on the world map. However, there is no room for complacency.
Byddaf yn teimlo balchder pryd bynnag y clywaf, fel y gwneuthum yng Nghanada, yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop yn gynharach eleni, bobl sydd wedi ymweld â’n gwlad neu wedi buddsoddi yng Nghymru yn rhoi darlun positif o Gymru. Mae creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi helpu i’n gosod ar fap y byd. Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfoddog.
According to a recent study, a staggering 26 per cent of international business leaders, almost one in three, believe that coal is still Wales’s biggest industry. In a separate survey of perceptions of the UK abroad, when people were asked what images they identified with Wales, 25 per cent of the respondents said that they did not identify Wales with anything. Of the remaining respondents, the highest number, 13 per cent, identified Wales with castles. These two examples illustrate the scale of the problem that we face. Wales’s image remains stuck in the past. That is why today’s debate is important.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae’r nifer syfrdanol o 26 y cant o arweinwyr busnesau rhyngwladol, bron i un o bob tri, yn credu mai’r diwydiant glo yw diwydiant mwyaf Cymru hyd heddiw. Mewn arolwg ar wahân o farn pobl am y DU dramor, pan ofynnwyd i bobl pa ddelweddau yr oeddent yn eu cysylltu â Chymru, dywedodd 25 y cant o’r rhai a atebodd nad oeddent yn cysylltu Cymru â dim. O’r gweddill a atebodd, yr oedd y nifer fwyaf, 13 y cant, yn cysylltu Cymru gyda chestyll. Mae’r ddwy enghraifft hon yn dangos inni faint y broblem sydd yn ein hwynebu. Mae delwedd Cymru yn dal yn gaeth yn y gorffennol. Dyna pam fod dadl heddiw yn bwysig.
Twenty-five years ago, when I was first elected to Cardiff City Council, the then leader Philip Dunleavy gave me the job of promoting conferences and tourism. People thought he had a sense of humour and laughed. They do not laugh now. Instead of being a joke, Cardiff, our capital, shows its face to the wider world. We have come a long way but it has taught me how long it takes and how much work by a range of organisations and individuals is required to secure success. One decision has built on another: pedestranisation, St David’s Hall, The Holiday Inn Hotel as it was known, Cardiff Bay, the Millennium Stadium, the Assembly. Each is a beacon of success. We need to work together across Wales. Too often in the past, we have seen Cardiff pitted against Swansea, north Wales against south Wales, rural against urban, when we each need the other to succeed if any of us are to succeed. That is why I am keen to see a single ‘City of Culture’ application so that we show team Wales in action, led perhaps by the capital but involving places like Swansea and Wrexham. Let us grow together and celebrate each other’s strengths within Wales.
Bum mlynedd ar hugain yn ôl, pan gefais fy ethol gyntaf i Gyngor Dinas Caerdydd, rhoddodd yr arweinydd ar y pryd, Philip Dunleavy, imi’r dasg o hyrwyddo cynadleddau a thwristiaeth. Credid bod ganddo synnwyr digrifwch a chwarddodd pawb. Nid ydynt yn chwerthin heddiw. Yn hytrach na bod yn jôc, mae Caerdydd, ein prifddinas, yn dangos ei hwyneb i’r byd ehangach. Yr ydym wedi dod yn bell, ond y mae hyn wedi fy nysgu pa mor hir mae hi’n ei gymryd a faint o waith sydd ei angen gan ystod o fudiadau ac unigolion er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae un penderfyniad wedi deillio o un arall: pedestreiddio’r strydoedd, Neuadd Dewi Sant, Gwesty’r Holiday Inn, fel y’i gelwid, Bae Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd drwy Gymru. Yn y gorffennol, yn llawer rhy aml, yr ydym wedi gweld Caerdydd yn erbyn Abertawe, gogledd Cymru yn erbyn de Cymru, y wlad yn erbyn y dref, tra mae ar y naill ohonom angen y llall os oes unrhyw un i lwyddo. Dyna pam yr wyf yn awyddus i weld gweithredu un ‘Dinas Diwylliant’ fel y gallwn ddangos tîm Cymru ar waith, dan arweiniad y brifddinas efallai, ond yn cynnwys lleoedd fel Abertawe a Wrecsam. Gadewch inni dyfu gyda’n gilydd a dathlu cryfderau ein gilydd yng Nghymru.
How we perceive ourselves, and how we are perceived by others, are key factors in shaping our country’s future. Our identity, our unique talents and strengths and our national aspirations and ambitions are all communicated through our image. Image is vital to our future success.
Mae’r ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain, a sut mae eraill yn ein gweld, yn allweddol ar gyfer siapio dyfodol ein gwlad. Mae ein hunaniaeth, ein talentau a’n cryfderau unigryw a’n dyheadau a’n huchelgeisiau cenedlaethol oll yn cael eu cyfleu drwy ein delwedd. Mae delwedd yn hanfodol i sicrhau llwyddiant i’r dyfodol.
This has been an exciting year for Wales. The Assembly was established and the eyes of the whole world were on us as the Rugby World Cup came to Cardiff. At the dawn of the new millennium, a new Wales is emerging: modern, confident and dynamic.
Bu hon yn flwyddyn gynhyrfus i Gymru. Sefydlwyd y Cynulliad ac fe’n rhoddwyd yn llygad y byd pan ddaeth Cwpan Rygbi’r Byd i Gaerdydd. A gwawr y mileniwm newydd ar dorri, mae’r Gymru newydd yn codi ei phen: cyfoes, hyderus a deinamig.
Look at our successes in the arts over the past year: Bryn Terfel, Charlotte Church, Rhys Ifans, Ioan Gruffydd, Catatonia and the Stereophonics. They are international stars in their fields and there are many more. For a small nation, we have a huge cultural reputation. That is a vital element in promoting Wales around the world. We also have economic successes. Epitaxial Products in St Mellons makes microchip machines for blue-chip companies. Rachel’s Dairy is at the forefront of organic food production. The new media companies in Cardiff Bay are at the cutting edge of creative technology. These are all home-grown companies that are leading the way in their respective fields.
Edrychwch ar ein llwyddiannau yn y celfyddydau dros y flwyddyn ddiwethaf: Bryn Terfel, Charlotte Church, Rhys Ifans, Ioan Gruffydd, Catatonia a’r Stereophonics. Maent yn sêr rhyngwladol yn eu meysydd, ac mae llawer mwy ohonynt. Er mai cenedl fechan ydym ni, mae ein henw diwylliannol yn anferth. Mae honno’n elfen allweddol i hyrwyddo Cymru drwy’r byd. Mae gennym hefyd lwyddiannau economaidd. Mae Epitaxial Products yn Llaneirwg yn cynhyrchu peiriannau sglodyn micro ar gyfer cwmnïau mawr. Mae Rachel’s Dairy yn arwain ym maes cynhyrchu bwyd organig. Mae’r cwmnïau cyfryngau newydd ym Mae Caerdydd ar flaen y gad ym maes technoleg greadigol. Mae’r rhain oll yn gwmnïau o Gymru sydd yn arweinwyr yn eu meysydd.
Look at our architecture and building projects: the Millennium Stadium, Island Green in Wrexham, Victoria Dock in Caernarfon and the National Botanic Gardens in Carmarthen. They are at the forefront of innovation and sustainability. They are the emerging symbols of the new Wales. We need to maintain this momentum and harness the positive image of our country that has flowered in this last year and make it work to the advantage of all our people.
Edrychwch ar ein prosiectau adeiladu a phensaernïol: Stadiwm y Mileniwm, Island Green yn Wrecsam, Doc Fictoria yng Nghaernarfon a’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin. Maent yn yn arwain o safbwynt arloesedd a chynaliadwyedd. Y rhain yw symbolau genedigaeth y Gymru newydd. Rhaid inni gynnal y momentwm hwn a harneisio’r ddelwedd bositif o’n gwlad sydd wedi blodeuo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gwneud iddi weithio er mantais i’n holl bobl.
I accept Cynog’s amendment 1, which develops this point. We need to use our talents, energies and powers to get on with the job. I ignore amendment 2, which I presume Glyn tabled in pursuit of his own special brand of Christmas humour. I ask Cynog to withdraw amendment 3 because it reduces precision and does not improve the motion. Is our country Wales or Britain? For those of us who are proud to be Welsh and British, I hope Cynog does not want to create divisions where none need exist.
Yr wyf yn derbyn gwelliant 1 Cynog, sydd yn datblygu’r pwynt hwn. Rhaid inni ddefnyddio ein talentau, ein hegni a’n pwerau i fwrw ati i gyflawni’r gwaith. Yr wyf am anwybyddu gwelliant 2, yr wyf yn cymryd i Glyn ei gyflwyno i fodloni ei fath arbennig ef o hiwmor Nadoligaidd. Gofynnaf i Cynog dynnu gwelliant 3 yn ôl gan ei fod yn cymylu’r manylion ac nid yw’n gwella’r cynnig. Ai Cymru neu Brydain yw ein gwlad? I’r rhai hynny ohonom sydd yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, gobeithiaf nad yw Cynog yn dymuno creu rhaniadau lle nad oes rhaid iddynt fodoli.
This debate is not just about image. It is no good selling an image that does not reflect a deeper reality. What we want to promote and what we want to achieve go hand in hand. We must be clear therefore about the type of country we want to build. We must raise our sights, shake off the burdens of the past and be truly ambitious for what Wales and its people can achieve. For us to succeed, the image of a dynamic and confident Wales must be backed by real change and progress. This is where the Assembly has a vital role to play.
Nid delwedd yw’r unig ffactor dan sylw yn y ddadl hon. Nid oes diben gwerthu delwedd nad yw’n adlewyrchu realiti dyfnach. Mae’r hyn yr ydym yn dymuno ei hyrwyddo a’r hyn yr ydym yn dymuno ei gyflawni yn mynd law yn llaw. Rhaid inni fod yn glir felly ynglŷn â’r math o wlad yr ydym am ei hadeiladu. Rhaid inni ddyrchafu ein golygon, diosg beichiau’r gorffennol a bod yn wirioneddol uchelgeisiol ynglŷn â’r hyn y gall Cymru a’i phobl ei gyflawni. Er mwyn inni lwyddo, rhaid i’r ddelwedd o Gymru ddeinamig a hyderus fod wedi ei chefnogi gan newid a datblygiad go iawn. Dyma lle mae rôl y Cynulliad yn holl bwysig.
There are three areas where, through our actions, we are raising confidence in Wales and giving substance to its image. The first is the economy. We all want a dynamic Welsh economy, capable of sustaining high quality industries across all sectors, both in our homegrown businesses and in inward investment. To achieve this, we must create a highly skilled and flexible workforce, a high technology infrastructure, an entrepreneurial and innovative spirit and, above all, a knowledge-based economy. It will not be easy but we are making progress. I want us to promote what has been put in place already. The Wales innovation fund launched in November will provide access to venture capital for small and medium sized businesses. The entrepreneurship action plan and the regional technology plan are changing attitudes as well as providing support for Welsh businesses. Our partnership with other European regions, notably the four motor regions, is bringing economic benefits as well as enhancing Wales’s image to an international audience.
Mae tri maes lle’r ydym, drwy ein gweithredoedd, yn magu hyder yng Nghymru ac yn rhoi sylwedd i’w delwedd. Y cyntaf yw’r economi. Mae ar bob un ohonom eisiau gweld economi Cymreig deinamig, sydd yn gallu cynnal diwydiannau o safon ym mhob sector, yn ein busnesau cynhenid ac mewn buddsoddi o’r tu allan. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni greu gweithlu hyblyg â sgiliau uchel, isadeiledd technolegol, ysbryd entrepreneuraidd ac arloesol ac, yn anad dim, economi wedi ei seilio ar wybodaeth. Ni fydd yn dasg hawdd ond yr ydym wedi dechrau ei datblygu. Yr wyf am inni hybu’r hyn sydd wedi ei gyflawni eisoes. Bydd cronfa arloesedd Cymru, a lansiwyd ym mis Tachwedd, yn sicrhau bod cyfalaf mentro ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint. Mae’r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth a’r cynllun technoleg rhanbarthol yn newid agweddau yn ogystal â chynnig cefnogaeth i fusnesau Cymru. Mae ein partneriaeth gyda rhanbarthau eraill Ewrop, yn fwyaf nodedig y pedwar rhanbarth motor, yn cyflwyno manteision economaidd yn ogystal â chyfoethogi delwedd Cymru i gynulleidfa ryngwladol.
Our involvement with the Wales European Centre in Brussels will help to increase the Assembly’s profile and influence in Europe. I am grateful to the members of the Assembly Committee on European Affairs for taking that work forward so positively.
Bydd ein gwaith gyda Chanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel yn helpu i gynyddu proffil a dylanwad y Cynulliad yn Ewrop. Yr wyf yn ddiolchgar i aelodau Pwyllgor Materion Ewropeaidd y Cynulliad am fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw mewn modd mor bositif.
We must ensure that Objective 1 funding is used effectively to provide a vital boost to investment and training. That will enable us to change perceptions as well as the reality of our country, both at home and abroad. Our success in attracting inward investment has already put Wales on the global economic map: Japanese companies like Toyota in Deeside and Mitsui in Ammanford; American firms such as International Rectifier in Swansea; Ford Motor Company in Bridgend sticking with us and expanding production; and European companies like Lansing Laine investing in Merthyr Tydfil. I am determined that we shall build on that good record and strive even harder for new deals and successes.
Rhaid inni sicrhau bod arian Amcan 1 yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol er mwyn rhoi hwb hanfodol i fuddsoddi a hyfforddi. Bydd hynny’n ein galluogi i newid y darlun o’n gwlad, yn ogystal â’r realiti, gartref a thramor. Mae ein llwyddiant i ddenu buddsoddiad o dramor wedi gosod Cymru ar fap economaidd y byd eisioes: cwmnïau o Siapan, fel Toyota ar Lannau Dyfrdwy a Mitsui yn Rhydaman; cwmnïau Americanaidd fel International Rectifier yn Abertawe; Cwmni Moduron Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn aros gyda ni ac yn cynyddu eu cynhyrchiant; a chwmnïau Ewropeaidd fel Lansing Lane yn buddsoddi ym Merthyr Tudful. Yr wyf yn benderfynol ein bod yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn ac yn ceisio hyd yn oed yn galetach i gipio cytundebau a llwyddiannau newydd.
The second image that I wish to project is closely tied to the first. It is a Wales of vibrant communities, all enjoying the benefits of our success. Over the past 20 years, too many people and communities have felt excluded from society and powerless to change their lives. We must not leave them out of the new Wales that we are trying to build.
Mae’r ail ddelwedd y carwn ei phortreadu yn cysylltu’n agos iawn â’r gyntaf. Delwedd yw hon o Gymru â chymunedau byw, oll yn mwynhau manteision ein llwyddiant. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae gormod o bobl a chymunedau wedi teimlo nad ydynt yn rhan o gymdeithas ac nad oes ganddynt bŵer i newid eu bywydau. Rhaid inni ofalu peidio â’u gadael allan o’r Gymru newydd yr ydym yn ceisio ei hadeiladu.
The Assembly’s work to renew our communities and rid Wales of the problems of social exclusion is just beginning. However, we have hit the ground running with the new social inclusion fund of £48 million over three financial years. The fund will tackle major problems in deprived communities and will be backed by a dedicated social inclusion team to promote this vital agenda across all the policy areas of the Assembly.
Megis dechrau mae gwaith y Cynulliad i adnewyddu ein cymunedau a gwaredu Cymru o broblemau dieithrwch cymdeithasol. Fodd bynnag, nid ydym wedi gwastraffu dim amser gyda’r gronfa gynhwysiant cymdeithasol newydd o £48 miliwn a fydd ar gael dros dair blynedd ariannol. Bydd y gronfa yn mynd i’r afael â’r prif broblemau mewn cymunedau sydd yn wynebu anfantais ac yn cael ei chefnogi gan dîm gynhwysiant cymdeithasol ymroddgar i hybu’r agenda holl bwysig hon ym mhob un o feysydd polisi’r Cynulliad.
We are beginning to see a difference. I have had the privilege of visiting successful local projects that are turning communities around. Examples include Safer Merthyr Tydfil, a project in which residents are involved in cutting crime and tackling fear of crime on the Gurnos estate. That project has empowered the residents to make a real change to the quality of their own lives and the lives of their families and neighbours.
Yr ydym yn dechrau gweld gwahaniaeth. Cefais y fraint o ymweld â phrosiectau lleol llwyddiannus sydd yn trawsnewid cymunedau. Er enghraifft, prosiect Merthyr Tudful Mwy Diogel, lle mae’r trigolion yn cyfrannu at ostwng troseddu a mynd i’r afael â’r ofn o droseddu ar stad y Gurnos. Mae’r prosiect hwnnw, wedi rhoi grym yn nwylo’r trigolion i’w galluogi i wneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd eu bywydau eu hunain a bywydau eu teuluoedd a’u cymdogion.
Today I announce another good example of the way forward, namely the agreement in principle to build a new multipurpose high-tech training centre at Cleddau Bridge. We are giving West Wales Training and Enterprise Council the go-ahead to work with Pembrokeshire County Council and contribute funding to this project. That will be a shot in the arm for Pembrokeshire and will encourage the creation of skilled jobs and help to stimulate local business and inward investment into west Wales, which has often been passed by in the past.
Heddiw, cyhoeddaf enghraifft arall dda o’r ffordd ymlaen, sef y cytundeb mewn egwyddor i adeiladu canolfan hyfforddi dechnolegol aml-ddefnydd newydd ym Mhont Cleddau. Yr ydym yn rhoi caniatâd i Gyngor Hyfforddi a Menter Gorllewin Cymru weithio ar y cyd â Chyngor Sir Benfro ac yr ydym yn cyfrannu tuag at y prosiect hwn. Bydd hyn yn hwb i Sir Benfro ac yn annog creu swyddi â chrefft ac yn help i ysgogi busnesau lleol a buddsoddi o’r tu allan yng ngorllewin Cymru, sydd yn aml wedi ei anwybyddu yn y gorffennol.
We cannot create a truly vibrant and successful Wales if we do not use the talents and resources of all our communities and all our people. Economic success and social justice go hand in hand. In our drive towards a new Wales, the objectives of economic renewal and community renewal are two sides of the same golden coin. It means that the image of a new and confident country is also the reality for every man, woman and child who wants to be a part of it.
Ni allwn greu Cymru wirioneddol fyw a llwyddiannus onid ydym yn defnyddio talentau ac adnoddau ein holl gymunedau a’n holl bobl. Mae llwyddiant economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn cydredeg. Wrth ymgyrchu tuag at Gymru newydd, mae’r amcanion i adfywio’r economi ac adfywio’r gymuned yn ddwy ochr i’r un geiniog. Golyga fod y ddelwedd o wlad newydd a hyderus hefyd yn realiti i bob dyn, menyw a phlentyn sydd am fod yn rhan ohoni.
The third image of Wales that I want to turn into a reality is that of a young country where young people can prosper and use their talents to the full, a better Wales for our children, a Wales that is wealthier and healthier and a Wales that is at ease with itself and confident of its place in the world.
Y drydedd ddelwedd o Gymru yr wyf am ei throi yn realiti yw delwedd o wlad ifanc lle gall pobl ifainc ffynnu a defnyddio eu talentau i’r eithaf, Cymru well i’n plant, Cymru sydd yn gyfoethocach ac yn iachach ac sydd yn gyfforddus â hi ei hun a’i lle yn y byd.
Last week, I announced that a forum, Young Voice/Llais Ifanc, had been set up to allow young people to air their views and input ideas into the Assembly. I became involved in politics because I want Wales’s image to be one of a generation of young people empowered to become active citizens. That is beginning to happen. Young people show their determination to get together and influence their communities. I have seen some of the best examples myself, such as the youth action groups at Dŵr-y-Felin Comprehensive School in Neath and in Ysgol Uwchradd Caergybi in Holyhead. We move Wales forward by equipping young people with the knowledge and the confidence to shake off the images of the past and to create their own future in their own communities.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais sefydlu fforwm Llais Ifanc i alluogi pobl ifainc i wyntyllu eu safbwyntiau a chyfrannu syniadau i’r Cynulliad. Deuthum i weithio mewn gwleidyddiaeth am fod arnaf eisiau i ddelwedd Cymru fod yn un o genhedlaeth o bobl ifainc sydd â grym i ddod yn ddinasyddion gweithgar. Mae hynny’n dechrau digwydd. Mae pobl ifainc yn dangos eu penderfyniad i ddod at ei gilydd a dylanwadu ar eu cymunedau. Yr wyf wedi gweld rhai o’r enghreifftiau gorau fy hun, megis grwpiau gweithredu ieuenctid yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Yr ydym yn gwthio Cymru yn ei blaen drwy roi gwybodaeth a hyder i bobl ifainc er mwyn iddynt ddiosg delweddau’r gorffennol a chreu eu dyfodol eu hunain yn eu cymunedau eu hunain.
The National Assembly for Wales has a responsibility to develop the image of the new Wales. I wanted this debate today because it is up to us to take a lead. I look forward to the contributions from all parties.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am ddatblygu delwedd y Gymru newydd. Yr oeddwn am i’r ddadl hon ddigwydd heddiw gan mai ein lle ni yw dangos arweiniad. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan bob plaid.
It is vital that we and our partner organisations work together to make this image a reality. In the new year, I will convene a summit with all the key agencies and other interested parties responsible for promoting Wales, to agree a new streamlined marketing strategy that can be used across all sectors to project a new image of Wales for the next millennium. It will not be a case of telling people what to do, but of working together with partners across all sectors. The international relations unit in the Assembly’s Economic Development Division has already started the ball rolling. I want to build on that work and give it new momentum.
Mae’n hanfodol ein bod ni a’n partner-sefydliadau yn cydweithio i droi’r ddelwedd hon yn realiti. Yn y flwyddyn newydd, byddaf yn galw uwch-gynhadledd i gynnwys pob asiantaeth allweddol a grwpiau eraill perthnasol sydd yn gyfrifol am hyrwyddo Cymru, i gytuno ar strategaeth farchnata newydd y gellir ei defnyddio ym mhob sector i hybu delwedd newydd Cymru ar gyfer y mileniwm newydd. Nid mater o ddweud wrth bobl beth i’w wneud fydd hi, ond o gydweithio gyda phartneriaid ym mhob sector. Mae uned cysylltiadau rhyngwladol Adran Datblygu Economaidd y Cynulliad eisoes wedi dechrau ar y gwaith. Yr wyf am adeiladu ar y gwaith hwnnw a chyflwyno momentwm newydd iddo.
I am happy to accept Mike German’s amendment 5 as something that we will seek to develop as a part of that process. The Assembly is already investing in a new on-line data based project, along the lines you suggest, Mike. I welcome the ideas that you have put forward today.
Yr wyf yn hapus i dderbyn gwelliant 5 Mike German fel rhywbeth y byddwn yn ceisio ei ddatblygu fel rhan o’r broses honno. Mae’r Cynulliad eisoes yn buddsoddi mewn prosiect ar-lein newydd sydd yn seiliedig ar ddata, yn debyg i’r hyn a awgrymwch, Mike. Yr wyf yn croesawu’r syniadau yr ydych chi wedi eu rhoi gerbron heddiw.
I also agree with the spirit of Mike’s amendment 4, but I hope he will not press it, simply because it is inaccurate. This is far from being the demise of the Branding Wales Group. Indeed we are seeking to build on its valuable work by holding this debate today. I promise that I will carry forward its work with our image summit in the new year.
Cytunaf hefyd ag ysbryd gwelliant 4 Mike, ond gobeithiaf na fydd yn pwyso’r mater, yn syml iawn am ei fod yn anghywir. Nid yw hyn yn ddiwedd ar Grŵp Brandio Cymru o bell ffordd. Yn wir, yr ydym yn ceisio adeiladu ar ei waith gwerthfawr drwy gynnal y ddadl hon heddiw. Yr wyf yn rhoi addewid y byddaf yn parhau ei waith gyda’n huwch-gynhadledd ar ddelwedd yn y flwyddyn newydd.
I believe that it is up to all of us in the Assembly to break down the old negative images and replace them with a modern and positive image of Wales, an image which truly reflects the aspirations of our people.
Credaf, mai ein lle ni oll yn y Cynulliad yw chwalu’r hen ddelweddau negatif a chreu delwedd bositif a modern o Gymru yn eu lle, delwedd sydd yn adlewyrchiad go iawn o ddyheadau ein pobl.
Through our work in the Assembly, we can craft this new image and work with our partners to give it real substance. A successful economy, strong and vibrant communities and a bright future for our young people should be the new images of Wales. The challenge for us is to turn them into a reality for the people of Wales in the new millennium and into an image of Wales that is understood across the world.
Drwy ein gwaith yn y Cynulliad, gallwn saernïo’r ddelwedd newydd hon a gweithio gyda’n partneriaid i roi sylwedd iddi. Economi llwyddiannus, cymunedau cryf a byw a dyfodol disglair i’n pobl ifainc a ddylai fod yn ddelweddau newydd o Gymru. Yr her inni yw eu troi nhw yn realiti i bobl Cymru yn y mileniwm newydd ac yn ddelwedd o Gymru sydd yn ddealladwy drwy’r byd.
I end by wishing everybody a happy and prosperous new year and by wishing a return to good health to those who are unwell, especially Dafydd Wigley and Karen Sinclair.
Yr wyf yn cloi drwy ddymuno blwyddyn newydd hapus a ffyniannus i bawb ac adferiad buan i’r rheini sydd wedi bod yn wael, yn arbennig Dafydd Wigley a Karen Sinclair.
Cynigiaf welliant 1. Yn dilyn ‘hwn’ yn y llinell gyntaf, dileu ‘ar drothwy’r mileniwm’ ac ychwanegu
I propose amendment 1. After ‘that’ in the first line, delete ‘on the threshold of the new millennium’ and insert
Cynigiaf welliant 3. Yn yr ail linell, dileu ‘Cymru’ a nodi
I propose amendment 3. In the second line, delete ‘Wales’ and insert
Yr ydym fel grŵp yn cefnogi’r gwelliannau i gyd, ar wahân i welliant 2 Glyn Davies. Mae allan o’i le yn y cynnig hwn, ac mewn trafodaeth o’r math hwn mae’n hynod o negyddol.
We as a group support all the amendments, apart from Glyn Davies’s amendment 2. It is out of place in this motion, and in a debate of this sort it is extremely negative.
O safbwynt ein gwelliannau ni, nid oedd unrhyw arwyddocâd o ran ystyr yng ngwelliant 3. Mater o arddull yn unig ydoedd. Defnyddir y gair ‘Cymru’ ddwywaith yn y frawddeg ac yr oeddwn yn twtio’r arddull. Fodd bynnag, yr wyf yn berffaith hapus i dynnu’r gwelliant hwnnw yn ôl os yw’n dramgwydd. Fe’i tynnaf yn ôl felly.
As regards our amendments, in amendment 3, there was no significance in terms of meaning. It was simply a matter of style. The word ‘Cymru’ is used twice in the sentence and I wished to tidy up the style. However, I am perfectly happy to withdraw that amendment if it is a stumbling block. I therefore withdraw it.
Mae geiriad y cynnig, sef bod angen
The wording of the motion, that we need
‘ymdrech ar y cyd i hybu delwedd newydd a phositif’
‘a concerted effort to promote a new and positive image’
i’n cenedl, yn awgrymu’n gryf fod gennym broblem gyda’n delwedd bresennol, a bod rhai diffygion y mae angen eu cywiro.
of our nation, strongly suggests that we have a problem with our current image, and that there are some deficiencies which need to be corrected.
Fy ymateb cyntaf i’r cynnig hwn oedd ei wfftio. Oni ddylem fod yn canolbwyntio ar bolisi, realiti a sylwedd yn hytrach nag ar ddelwedd? Fodd bynnag, cystal inni gyfaddef bod problem a bod delwedd yn cyfrif.
My first response to this motion was to dismiss it. Should we not be focusing on policy, reality and substance rather than on image? However, we might as well admit that there is a problem and that image does matter.
Ceir tystiolaeth o hynny ym mhamffled diddorol John Smith, Aelod Seneddol Llafur, a gyhoeddwyd beth amser yn ôl gan y Sefydliad Materion Cymreig. Yn ôl yr astudiaeth hon, mae problem arbennig gyda chanfyddiadau’r Saeson o’r Cymry fel pobl. Mae John Smith yn sôn am y ddelwedd ganlynol:
Evidence of that can be found in the interesting pamphlet by John Smith, a Labour Member of Parliament, which was published some time ago by the Institute of Welsh Affairs. According to this study, there is a particular problem with the English’s perception of the Welsh as people. John Smith mentions the following perception:
‘delwedd negyddol yn gysylltiedig â stereoteipiau niweidiol o’r cymeriad Cymreig a’r bobl. O’u cyfuno maent yn ffurfio rhyw fath o hilyddiaeth.’
‘a negative image…closely associated with damaging stereotypes of the Welsh character and people. In combination they amount to a form of racism.’
Y neges gyffredinol yn yr astudiaeth, medd John Smith, yw nad oes modd ymddiried yn y Cymry.
John Smith says that the general message in the study is that it is not possible to trust the Welsh.
Gallech ddadlau mai problem y Saeson yw hynny, nid ein problem ni, ond mae’n realiti serch hynny a rhaid inni ddelio ag ef.
One could argue that that is the English’s problem, not ours, but it is still a reality and we must deal with it.
Yr ydym ein hunain yn euog o hyrwyddo stereroteipiau ohonom ein hunain. Mae’r anthem genedlaethol yn disgrifio Cymru fel gwlad beirdd a chantorion.
We ourselves are guilty of promoting stereotypes of ourselves. The national anthem describes Wales as a country of poets and singers.
Mae Phil Williams yn ddisgynnydd uniongyrchol i’w hawduron, James ac Evan James, ac mae’n mynnu, wrth gwrs, mai ym myd gwyddoniaeth a pheirianneg y bu cyfraniad pwysicaf Cymru. Dyfynnaf o waith Phil
Phil Williams is a direct descendant of its authors, James and Evan James, and he insists, of course, that Wales’s greatest contribution has been in the world of science and engineering. I quote from Phil’s work
‘Rhaid i hyn fod yn gynhwysyn pwysig yn ein delwedd er mwyn cyflwyno Cymru fel gwlad addas i economi gwybodaeth a datblygiadau technolegol cynaliadwy’.
‘This must be an important component fin our image in order to present Wales as a suitable country for an information economy and sustainable technological developments’.
Mae gan Phil Williams gatalog o enwogion o fri i brofi’r pwynt, gan gynnwys Evan William o Gwmsychbant, darganfyddwr meson. Undodwr oedd ef ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Capel y Cwm.
Phil Williams has a catalogue of very famous people to prove this point, including Evan William from Cwmsychbant, the discoverer of meson. He was an Unitarian and is buried in Capel y Cwm cemetery.
Ni nodaf y rhesymau dros y delweddau cyfeiliornus hynny a’n tuedd fel Cymry i’n sentimentaleiddio ein hunain a chydymffurfio â stereoteipiau allanol. Y cyfan y dymunaf ei nodi yw ei bod yn bryd inni ailddiffinio, trawsnewid ac ailadeiladu ein hunain fel cenedl ar droad y ganrif, ac yna penderfynu pleidleisio dros fesur o ymreolaeth.
I will not mention the reasons for those false images and our tendency as Welsh people to sentimentalise ourselves and conform with external stereotypes. I only wish to note that it is time for us to redefine, transform and rebuild ourselves as a nation at the turn of the century, and then decide to vote for a measure of autonomy.
Yr allwedd i hynny yw hunanhyder, a grybwyllir yn ein gwelliant. Mae John Smith, yn ei astudiaeth, yn disgrifio canlyniadau ymchwil gan gwmni o’r enw Springpoint—ymgynghorwyr o Lundain a gomisiynwyd gan nifer o sefydliadau Cymreig er mwyn penderfynu sut i frandio Cymru. Mae’n nodweddiadol o’n sefydliadau Cymreig fod yn rhaid iddynt fynd i Lundain i gael ymgynghorwyr. Efallai y bydd pethau’n gwella yn y cyfeiriad hwnnw. Fodd bynnag, nododd yr ymgynghorwyr Llundeinig ddiffyg hyder fel problem allweddol yn yr hunanddelwedd Gymreig. Bydd hynny’n taro tant gyda llawer ohonom. Sylwodd Peter Hain—dyfodiad i Gymru o Dde Affrica—ar hynny yn ystod ymgyrch y refferendwm. Dro ar ôl tro, synhwyrodd ddiffyg hunanhyder ymysg y Cymry. Yn ffodus mae hynny’n dechrau newid, fel y mae’r ymchwil yn dangos. Dychwelaf at hynny.
The key to that is self-confidence, which is mentioned in our amendment. John Smith, in his study, describes the results of research by a company called Springpoint—consultants from London commissioned by a number of Welsh organisations to decide how to brand Wales. It is characteristic of our Welsh institutions that they have to go to London to find consultants. Perhaps matters will improve in that direction. However, the London consultants noted a lack of self-confidence as a key problem in the Welsh self-image. That will strike a chord with many of us. Peter Hain—an incomer to Wales from South Africa—noticed that during the referendum campaign. Time after time, he sensed a lack of self-confidence among the Welsh people. Fortunately, that is beginning to change, as the research shows. I shall return to that.
Beth yw nodweddion pobl, gwledydd a chenhedloedd hunanhyderus? Yn fwy na dim, parodrwydd ac awydd i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain. Dyna pam y mae gwelliant 1 yn ychwanegu’r mater hwnnw at y cynnig, a phaham y mae datgan mai proses yw datganoli mor bwysig. Rhaid inni ymddwyn fel cenedl sydd yn awchu am gael cymryd cyfrifoldeb. Golyga hynny ychwanegu at bwerau’r Cynulliad o ran hawliau deddfu a threthu. Yr wyf yn ffyddiog fod cefnogaeth i hynny ar gynnydd yn y wlad ac yr wyf yn siŵr ei fod yn gryf yn y Cynulliad ar draws ffiniau pleidiau. Gwn ei fod yn bod yn y Cynulliad ar draws ffiniau pleidiau a byddwn yn synnu os nad oes mwyafrif yn y Cynulliad o blaid y math hwnnw o symudiad. Dylai’r awch i gymryd cyfrifoldeb fod yn rhan o’n delwedd genedlaethol wrth i Brydain gael ei hailstrwythuro o fewn esblygiad yr Ewrop newydd. Mae’r ailstrwythuro a’r esblygiad hwnnw yn rhoi cyfle hanesyddol i ni fel Cymry.
What are the characteristic of self-confident people, countries and nations? More than anything, a willingness and a desire to take responsibility for their own lives. That is why amendment 1 adds that issue to the motion, and why declaring that devolution is a process is so important. We must conduct ourselves as a nation that is eager to take responsibility. That means adding to the Assembly’s powers in terms of legislative and tax-raising powers. I am confident that support for that is increasing in the country and I am sure that it is strong in the Assembly across party lines. I know that it exists in the Assembly across party lines and I would be surprised if there is not a majority in the Assembly in favour of such a movement. The desire to take responsibility should be part of our national image as Britain is restructured within the evolution of the new Europe. That restructuring and evolution gives us a historic opportunity as Welsh people.
Beth ddylai fod natur y prosiect a’r anturiaeth genedlaethol y mae sefydlu’r Cynulliad yn arwydd o’i chychwyn? Mae hynny’n bwysig yn nelwedd Cymru. Awgrymaf nifer o elfennau. Yn gyntaf, model o ddatblygu economaidd a chymdeithasol sydd yn flaengar ac sydd yn rhagweld tueddiadau’r ganrif nesaf. Cyfeiriodd Alun Michael i raddau at hynny. Mae’n well inni fodloni ar y ganrif nesaf yn hytrach na sôn am y mileniwm, rhag ofn inni fynd yn rhy llamsachus.
What should be the nature of this project and national venture, of which the establishment of the Assembly is an indicator of its beginning? That is important in the image of Wales. I will suggest a number of elements. First, a model of economic and social development that is innovative and anticipates the next century’s trends. Alun Michael referred to that to some extent. It is better for us to be satisfied with the next century rather than talk about the millennium, in case we become too exuberant.
Cyfeiriaf at ddatblygu cynaliadwy—math o ddatblygu sydd yn uno materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond inni gymryd y cysyniad hwn o ddifrif a’i ddeall, a chymryd ein cyfrifoldeb statudol yn y Cynulliad yn hyn o beth o ddifrif, gallem wneud yr ymgyrch tuag at ddatblygu cynaliadwy yn nodwedd genedlaethol. Gallai fod o gymorth wrth sefydlu ein delwedd. Felly, mae angen inni fesur ein llwyddiant nid yn unig drwy gynnydd mewn cynnyrch mewnwladol crynswth, er pwysiced yw hwnnw, ond gyda dangosyddion ansawdd bywyd a chynaliadwyedd—nodwedd arall a allai berthyn i’r Gymru newydd.
I refer to sustainable development—the kind of development that combines economic, social and environmental matters. As long as we take this concept seriously and understand it, and take seriously our statutory responsibility in the Assembly in this regard, we could make the campaign towards sustainable development a national characteristic. That could assist in establishing our image. Therefore, we must measure our success not only through an increase in gross domestic product, important though that is, but with indicators of quality of life and sustainability—another characteristic that could belong to the new Wales.
Yn ail, gallai technolegau newydd ein helpu i gael y math o ddatblygiad sydd yn gydnaws â phatrwm gwasgaredig ein haneddiadau. Yr wyf yn meddwl am y chwyldro sydd ar y ffordd o ran datganoli cynhyrchu ynni a thelathrebu, sydd yr un mor chwyldroadol ei effaith. Mewn geiriau eraill, dylem anelu at lwyddiant economaidd heb fegalopolis.
Secondly, new technologies could assist us in getting the kind of development that suits the scattered pattern of our settlements. I am thinking of the revolution that is on the way in terms of devolving the generation of power and telecommunications, which is just as revolutionary in its effect. In other words, we should aim towards economic success without a megalopolis.
Yn drydydd, dylai dadeni diwylliannol fod yn ganolog i’n hunaniaeth genedlaethol newydd. Rhaid i’r hunaniaeth honno gynnwys holl amrywiaeth y Gymru gyfoes, a gobeithiaf y bydd yr hyn sydd yn gynhenid Gymreig yn elfen fywiol yn y dadeni hwn.
Thirdly, cultural renaissance should be central to our new national identity. That identity must contain all the diversity of contemporary Wales, and I hope that what is indigenously Welsh will be a vibrant element in this renaissance.
Mae hi’n bwysig hefyd fod diwydiannau diwylliannol yn ganolog i ddatblygu economaidd ym mhroses Amcan 1. Mae cwmpas arbennig ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol fel elfen bwysig arall.
It is also important that cultural industries are central to economic development in the Objective 1 process. There is special scope for cultural tourism as another important element.
Yn bedwerydd, mae angen hwb newydd ar y broses o adfywio’r Gymraeg a chryfhau sylfeini Cymru ddwyieithog y dyfodol. Dylai Cymru sydd yn anelu at greu cymdeithas effeithiol ddwyieithog fod yn ganolog i’n delwedd.
Fourthly, a new boost is needed for the process of regenerating the Welsh language and strengthening the foundations of the bilingual Wales of the future. A Wales aiming to create an effective bilingual society should be central to our image.
Yn hyn oll, ac yn bwysicach na dim, rhaid i’r Gymru newydd feddu ar ddelwedd a fydd yn ysbrydoli ein pobl ifainc. Yn fwy na dim, rhaid inni newid y canfyddiad fod llwyddiant, anturiaeth, beiddgarwch, dyfeisgarwch a lledu adenydd yn golygu ymadael â Chymru. Croesawaf y pwyslais a roddodd Alun Michael ar hyn.
In all of this, and more important than anything, the new Wales must have an image that will inspire our young people. More than anything, we must change the perception that success, entrepreneurship, boldness, ingenuity and spreading one’s wings means leaving Wales. I welcome the emphasis that Alun Michael put on this.
Dyna allwedd y cyfan. Fodd bynnag, ni ddeuwn o hyd i’r allwedd heb chwilio amdani. Dyna pam y dadleuaf y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu prosiect cenedlaethol a fyddai’n gwneud dau beth. Byddai’n dadansoddi a deall canfyddiadau pobl ifainc o Gymru, eu gwlad a’u cymdeithas, a byddai’n ystyried sut y gellid creu amgylchiadau a fyddai’n ysbrydoli ein pobl ifainc fwyaf dawnus, ymroddgar a dyfeisgar i fyw a gweithio yng Nghymru ac i ymroi i greu dyfodol cenedlaethol llewyrchus.
That is the key to everything. However, we will not find that key without searching for it. That is why I argue that the Government of Wales should establish a national project which would do two things. It would analyse and understand young people’s perceptions of Wales, their country and society, and it would consider how to create the circumstances which would inspire our most talented, committed and ingenious young people to live and work in Wales and to commit to creating a prosperous national future.
Gorffennaf yn ysbryd gwleidyddiaeth gynhwysol drwy ddyfynnu o bennod olaf pamffled John Smith. Enw’r bennod yw ‘Delwedd a Phŵer Gwleidyddol’.
I end in the spirit of inclusive politics by quoting from the last chapter of John Smith’s pamphlet. The chapter is entitled ‘Image and Political Power’.
‘Un o nodweddion trawiadol y refferendwm ar y Cynulliad oedd mai’r bobl ifainc oedd y mwyaf brwdfrydig dros newid. Mae astudiaeth o’r canlyniad…wedi dangos bod etholwyr o dan 45 mlwydd oed wedi tueddu i bleidleisio’n gadarnhaol tra yr oedd yr etholwyr hynaf yn tueddu i bleidleisio’n negyddol. Yr un mor arwyddocaol oedd datguddiad a wnaed gan yr ymchwil bod y bleidlais i lawer yn ymwneud â Chymreictod yn hytrach na diwygiad etholiadol fel y cyfryw. Ymhlith yr ifanc mae yna hyder newydd yn bodoli, asbri newydd ac angerdd dros Gymru. Angerdd yw’r gair sydd yn gweddu’n dda i ysbryd y Gymru newydd yr ydym mor ffodus i fod yn rhan o’i chreadigaeth. Dylem gipio’r cyfle, a pheidio gadael iddo fynd, a sicrhau bod hyder ac angerdd yn nodweddiadol o’r ddelwedd Gymreig yn y dyfodol.’
‘A striking feature of the referendum on the Assembly was that it was the young who were most enthusiastic for the change. A study of the poll…has revealed that voters under the age of 45 were inclined to vote Yes while older voters tended to vote No. As significant, the research revealed that for many the vote revolved more around the issue of Welshness rather than around constitutional reform as such. Amongst the young there is a new confidence abroad, a new élan and passion for Wales. Passion is a word that fits well with the spirit of the new Wales we are lucky enough to be part of making. We should seize the opportunity, not let it go, and ensure that confidence and passion are the defining qualities of the future Welsh image.’
Nid fi nac aelod o Blaid Cymru a ddywedodd y geiriau hynny, eithr aelod amlwg o’r Blaid Lafur. Fe’u cymeradwyaf yn gryf.
It was not me or a Plaid Cymru member who said those words, but a prominent member of the Labour Party. I commend them strongly.
I propose Glyn Davies’s amendment 2. After ‘this Assembly’, insert
Cynigiaf welliant 2 Glyn Davies. Yn dilyn ‘y Cynulliad hwn’, nodi
William Graham (continued) spoken in English p. 25
William Graham (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 25
The Conservative group feels that the Administration has room for improvement. However, when considering the image of Wales, we need to look not only at how we see ourselves but at how we are perceived by the world. It is vital, therefore, that we fashion an attractive icon that can form a catalyst for identifying Wales in the eyes of the world. We have a prime task to fashion a vision which is achievable and capable of realisation.
Teimla’r grŵp Ceidwadol fod lle i’r Weinyddiaeth wella. Fodd bynnag, wrth ystyried delwedd Cymru, rhaid inni edrych nid yn unig ar sut yr ydym yn gweld ein hunain ond sut mae’r byd yn ein gweld. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn llunio eicon deniadol a allai weithredu fel catalydd ar gyfer dynodi Cymru yn llygaid y byd. Mae gennym dasg bwysig i lunio gweledigaeth y gallwn ei chyflawni a’i gwireddu.
One of the great strengths of Wales has always been our ability to assimilate. Over the centuries there has been a constant movement of peoples across our land. Fortunately, during the last 150 years, this was primarily for reasons of work. I still find it moving when talking to colleagues who have come from other parts of our United Kingdom to hear how well they perceive that they are received in our communities. A sense of belonging is also special to Wales. I believe this flows from the fluidity between the countries of the United Kingdom.
Un o gryfderau mawr Cymru erioed fu ein gallu i addasu i’n hamgylchiadau. Dros y canrifoedd bu symudiad cyson yn y boblogaeth dros ein tir. Yn ffodus, yn ystod y 150 blynedd diwethaf, yr oedd hyn yn bennaf yn sgîl chwilio am waith. Yr wyf yn dal i deimlo balchder wrth siarad â chydweithwyr sydd wedi dod yma o rannau eraill o’n Teyrnas Unedig a chlywed pa mor dda y credant iddynt gael eu derbyn gan ein cymunedau. Mae’r ymdeimlad o berthyn hefyd yn arbennig i Gymru. Credaf fod hyn yn deillio o’r hylifedd rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig.
I do not want to be controversial, but the problem of language cannot pass without remark. Some 75 per cent of worldwide communications are in English. We should rejoice that we can be so well understood on an international basis. A bilingual policy should be followed to reflect the rich and vibrant cultural diversity that is based primarily on hopes and mutual respect. It is said that patriotism is the love of one’s country. It is sad that nationalism seems to be the hatred of everybody else’s.
Nid wyf am godi pwnc dadleuol, ond ni ellir peidio â chyfeirio at y broblem iaith. Mae 75 y cant o’r cyfathrebu sydd yn digwydd yn y byd yn cael ei wneud yn Saesneg. Dylem ymlawenhau y gall pobl drwy’r byd ein deall mor dda. Dylid dilyn polisi dwyieithog sydd yn adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog a byw sydd yn seiliedig yn bennaf ar obeithion a’n parch tuag at ein gilydd. Dywedir mai ystyr gwladgarwch yw caru eich gwlad. Mae’n drist yr ymddengys bod cenedlaetholdeb yn golygu casáu gwlad pawb arall.
The image we wish to portray of Wales is one that reflects our heritage, in terms of music and cultural traditions. I emphasise also the religious and industrial traditions. A feature of the sporting traditions of Wales is our resilience in adversity. Even if we were stuffed out of sight last week, next week our key players will be back and we will win.
Y ddelwedd yr ydym am ei chyfleu o Gymru yw un sydd yn adlewyrchu ein treftadaeth, o safbwynt traddodiadau cerddorol a diwylliannol. Yr wyf hefyd yn pwysleisio’r traddodiadau crefyddol a diwydiannol. Un o nodweddion y traddodiadau Cymreig yw ein gwydnwch mewn adfyd. Hyd yn oed os cawsom ni grasfa’r wythnos diwethaf, yr wythnos nesaf, bydd ein chwaraewyr allweddol yn ôl ac fe enillwn.
We want greater prosperity for succeeding generations. In the past, we have exported our labour. Perhaps in the future we can export our skills. I suggest that we look closely at providing a new logo for Wales as a whole, based perhaps on the well-recognised kitemark of the British Standards Institution: a mark that shows that ‘made in Wales’ is the best in the world and signifies quality and value for money, whether in fashion, food, the manufacture of goods, music or general services. In the new millennium we could have a competition to design this new mark. A new mark for Wales in the new millennium.
Mae arnom eisiau gwell ffyniant i’r cenedlaethau sydd i ddod. Yn y gorffennol, yr ydym wedi allforio ein llafur. Yn y dyfodol, efallai y gallwn allforio ein sgiliau. Awgrymaf ein bod yn edrych yn ofalus ar y syniad o roi logo newydd i Gymru yn ei chyfanrwydd, yn seiliedig efallai ar nod barcud adnabyddus Sefydliad Safonau Prydain: nod sydd yn dangos fod ‘gwnaed yng Nghymru’ yn arwydd o’r gorau yn y byd ac yn arwydd o ansawdd a gwerth am arian, boed mewn ffasiwn, bwyd, cynhyrchu nwyddau, cerddoriaeth neu wasanaethau cyffredinol. Yn y mileniwm newydd, gallem gynnal cystadleuaeth i gynllunio’r nod newydd hwn. Nod newydd i Gymru yn y mileniwm newydd.
Wales is well known for committees and choirs. For some reason, committees dominate our community lives in Wales, whether it is the deacons’ or parish council meetings. Choirs in some ways typify the image of Wales abroad. Combining the two, nearly all choral societies have attempted the Messiah. Choirs can often be a way of recruitment, particularly for committees and for councillors. Consider the words of the oratorio when the mass choirs come to the crescendo. You start with ‘wonderful Conunsellor the mighty God’. Small wonder you and I know people who believe that to be true.
Mae Cymru yn adnabyddus am ei phwyllgorau a’i chorau. Am ryw reswm, mae pwyllgorau yn amlwg ym mywydau ein cymunedau yng Nghymru, boed yn gyfarfod blaenoriaid neu’n gyngor plwyf. Mae corau yn aml yn nodweddu delwedd Cymru dramor. O ddod â’r ddau at ei gilydd, mae bron i bob cymdeithas gorawl wedi rhoi tro ar ganu’r Meseia. Gall corau fod yn ffynhonnell recriwtio yn aml, yn arbennig i bwyllgorau a chynghorwyr. Ystyriwch eiriau’r oratorio pan ddaw corau’r offeren i gresiendo. Yr ydych yn dechrau gyda’r geiriau ‘gynghorydd rhyfeddol y nerthol Dduw’. Nid oes ryfedd eich bod chi a minnau’n adnabod pobl sydd yn credu bod hynny’n wir.
I end with another quotation similar to the one we heard earlier. It is from an English poet, John Milton. He paraphrases Psalm 82—perhaps we all should make the acknowledgement to Asaph—saying
Yr wyf yn cloi gyda dyfyniad tebyg i’r un a glywsom yn gynharach. Y bardd Saesneg John Milton, piau’r geiriau. Mae’n aralleirio Salm 82—efallai y dylem oll gydnabod Asaph—gan ddweud
‘Sweet Peace and Righteousness have kissed, and hand in hand are set’.
That may be a somewhat cloying image, but if peace and righteousness typify Wales in the next millennium this Assembly will have gone a long way to achieving that.
Efallai ei bod yn ddelwedd fymryn yn siwgwraidd, ond os yw heddwch a chyfiawnder i nodweddu Cymru yn y mileniwm nesaf, bydd y Cynulliad hwn wedi mynd ymhell i gyflawni hynny.
I propose amendment 4. Add at the end of the motion
Cynigiaf welliant 4. Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig
Michael German (continued) spoken in English p. 27
Michael German (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 27
I propose amendment 5. Add at the end of the motion
Cynigiaf welliant 5. Ychwanegu at ddiwedd y cynnig
Michael German (continued) spoken in English p. 27
Michael German (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 27
At the risk of interrupting the end of term mood and ‘Zadok the Priest’ and getting out of kilter with the Christmas spirit, I want to put on record that I am getting fed up of standing here every week debating platitudinous motions. This is no doubt an important debate and we all accept that the image of Wales is nothing to do with feeling good about ourselves. The image of Wales is about jobs, exports, tourism, revenue, the stark reality of bridging the poverty gap by building on our strengths and enabling the people we serve to fulfil their potential on a global stage. Few debates could be more fundamental to the economic future of Wales, but we have before us another meaningless motion that no right-minded Assembly Member could oppose, any more than Santa would vote against Christmas.
Er nad wyf am darfu ar y naws diwedd-tymor a ‘Zadok yr Offeiriad’ nac am beidio â gweddu â’r ysbryd Nadolig, yr wyf am iddo gael ei gofnodi fy mod wedi cael llond bol ar sefyll yn y fan hon bob wythnos yn dadlau cynigion ystrydebol. Yn ddi-os, mae hon yn ddadl bwysig ac yr ydym oll yn cytuno nad oes a wnelo delwedd Cymru ddim â theimlo’n dda amdanom ein hunain. Mae a wnelo delwedd Cymru â swyddi, allforio, twristiaeth, refeniw a’r reailiti noeth o bontio’r gagendor tlodi drwy adeiladu ar ein cryfderau a galluogi’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu i wireddu eu potensial ar lwyfan byd-eang. Ychydig o ddadleuon sydd yn fwy sylfaenol I ddyfodol economaidd Cymru, ond o’n blaenau y mae cynnig arall diystyr na allai unrhyw Aelod o’r Cynulliad yn ei iawn bwyll ei wrthwynebu, fwy nag y gallai Siôn Corn bleidleisio yn erbyn y Nadolig.
There is nothing of substance in this motion for the Assembly to consider—nothing binding and nothing that requires action. I want motions which have substance. Having a sexy image for Wales is welcome but it is no substitute for a decent set of policies.
Nid oes unrhyw sylwedd yn y cynnig hwn i’r Cynulliad ei ystyried – dim rhwymedigaeth a dim sydd yn gofyn am weithredu. Yr ydym yn croesawu creu delwedd rywiol ar gyfer Cymru ond nid yw’n gwneud yn lle set iawn o bolisïau.
Does Mike German agree that a debate on the local government budget, which will mean higher council taxes throughout Wales, would have been a more useful way of spending this afternoon rather than debating a motion which we are all likely to agree upon?
A yw Mike German yn cytuno y byddai dadl am gyllideb llywodraeth leol, a fydd yn golygu treth cyngor uwch drwy Gymru gyfan, wedi bod yn ffordd fwy defnyddiol o dreulio’r prynhawn yn hytrach na dadlau ynglŷn â chynnig y mae pawb yn debyg o gytuno arno?
There are matters of great importance behind the motion. However, there is no list of actions for the Assembly to take. That is my complaint. We need a set of policies to underpin the motion.
Mae materion pwysig iawn y tu ôl i’r cynnig. Fodd bynnag, nid oes rhestr o gamau gweithredu i’r Cynulliad eu cymryd. Dyna fy nghwyn. Mae angen set o bolisïau arnom fel sail i’r cynnig.
Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 28
Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 28
The point of tabling a motion for debate is for people to exchange ideas. If we had put two or three specific proposals, you would be complaining in the same way as you often do with great verve that proposals are too narrow or too specific. Did you listen to what Cynog, William and I said? We took the opportunity to say how we can take Wales forward together. Come on, join in.
Diben cyflwyno cynnig mewn dadl yw i roi cyfle i bobl gyfnewid syniadau. Pe baem wedi cyflwyno dau neu dri cynnig penodol, byddech yn cwyno yn yr un modd ag yr ydych yn ei wneud yn aml gyda brwdfrydedd mawr fod y cynigion yn rhy gyfyng neu’n rhy benodol. A wnaethoch chi wrando ar yr hyn a ddywedodd Cynog, William a minnau? Cymerasom y cyfle i ddweud sut y gallwn wthio Cymru ymlaen gyda’n gilydd. Dewch, ymunwch gyda ni.
I am convinced that this motion can take Wales forward. Our amendments would take us forward and some of the things you mentioned are rightly included in them. However, the motion does state what actions we are going to take. I want this Assembly to make a difference. We need a set of concrete policies. This motion requires more substance. We can put that substance in place, but we would have welcomed something from the Executive.
Yr wyf yn argyhoeddedig y gall y cynnig hwn wthio Cymru ymlaen. Byddai ein gwelliannau ni yn ein gwthio ymlaen ac mae rhai o’r pethau y sonioch amdanynt wedi eu cynnwys ynddynt, yn haeddiannol felly. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn datgan pa gamau yr ydym i’w cymryd. Yr wyf am i’r Cynulliad hwn wneud gwahaniaeth. Mae arnom angen set o bolisïau cadarn. Mae angen mwy o sylwedd i’r cynnig hwn. Gallwn greu’r sylwedd hwnnw, ond buasem wedi croesawu cyfraniad gan y Weithrediaeth.
We cannot support Glyn Davies’s amendment because while it is a chance to fire shots across the bows of the Labour Administration, it does not make any clear or specific criticism. That is the kind of open goal that an empty motion provides. It does not bring anything constructive to the debate or achieve anything for the people of Wales.
Ni allwn gefnogi gwelliant Glyn Davies oherwydd, er ei fod yn gyfle i danio at fyrddau’r Weinyddiaeth Llafur, nid yw’n cynnig beirniadaeth glir na phenodol. Dyna’r math o gôl agored mae cynnig gwag yn ei gwahodd. Nid yw’n dod ag unrhyw beth adeiladol i’r ddadl nac yn cyflawni unrhyw beth ar ran pobl Cymru.
The Liberal Democrats could not disagree with anything in Cynog Dafis’s amendment 1. We have always fought for devolution because putting decisions close to those affected by them is the pathway to self-confidence. It lies at the heart of our vision of community empowerment. We are delighted that in this case we can make a common cause with Plaid Cymru.
Ni all y Democratiaid Rhyddfrydol anghytuno ag unrhyw beth yng ngwelliant 1 Cynog Dafis. Yr ydym wedi ymladd dros ddatganoli erioed oherwydd bod sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn agos at y rheini a fydd yn cael eu heffeithio ganddynt yn magu hunanhyder. Mae hyn wrth galon ein gweledigaeth o rymuso’r gymuned. Yr ydym wrth ein boddau yn yr achos hwn bod gennym ni a Phlaid Cymru ddadl gyffredin.
I now turn to our amendment 4. It is worth drawing the Assembly’s attention to the Government initiated document, ‘Cymru: nawr yw’r amser, Wales: the time is now’, which states
Trof yn awr at ein gwelliant 4. Mae’n werth tynnu sylw’r Cynulliad at y ddogfen a gychwynnwyd gan y Llywodraeth, ‘Cymru: nawr yw’r amser, Wales: the time is now’, sydd yn datgan
‘the heart of the Wales brand was not conjured from thin air. It is the result of two years of consultation and development’.
‘nid rhywbeth a grëwyd o ddim byd yw’r hyn sydd wrth galon brand Cymru. Mae’n deillio o ddwy flynedd o ymgynghori a datblygu’.
That involved interviews, analysis and market research, brokered by Wales’s leading institutions—the Wales Tourist Board, the Welsh Development Agency, Hyder, the Training and Enterprise Councils, the media and the Bank of Wales. It is all done and dusted and possibly sitting in a cupboard somewhere in Cathays Park.
Yr oedd y gwaith hwnnw’n cynnwys cyfweliadau, dadansoddi ac ymchwil i’r farchnad, gan sefydliadau arweiniol Cymru –Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Hyder, y Cynghorau Hyfforddi a Menter, y cyfryngau a Banc Cymru. Mae’r holl waith wedi ei gwblhau ac mae’n bosibl iawn ei fod yn gorwedd mewn cwpwrdd rhywle ym Mharc Cathays.
The spirit of amendment 4 is simple. Why do we insist on re-inventing the wheel by subjecting something as straightforward and fundamental as our own image to the age-old turf wars that have paralysed Welsh public life for many years? The document was issued in June 1998. The demise of the Branding Wales Group is a cause of regret because of what is at stake: jobs, exports, growth and investment. This is not academic marketing; it is core to our economic development.
Mae ysbryd gwelliant 4 yn syml. Pam mynnu ailddyfeisio’r olwyn drwy ddarostwng rhywbeth mor syml a sylfaenol â’n delwedd ni ein hunain i’r rhyfeloedd tir hynafol sydd wedi parlysu bywyd cyhoeddus Cymru ers blynyddoedd lawer? Cyflwynwyd y ddogfen ym mis Mehefin 1998. Mae dirywiad Grŵp Brandio Cymru yn resyn oherwydd yr hyn sydd yn y fantol: swyddi, allforion, twf a buddsoddiad. Nid marchnata academig mo hyn; mae’n greiddiol i’n datblygiad economaidd.
Let us have this debate but it must build on what we have. It must be wide-ranging and above all—if I dare use the word—inclusive. The image we project of Wales must stem from those that generate and sustain it. It must be owned by the people of Wales and not patented by costly consultants in Cardiff.
Gadewch inni gael y ddadl hon ond rhaid iddi adeiladu ar yr hyn sydd gennym. Rhaid iddi fod yn eang ei chynnwys ac yn anad dim – os meiddiaf i ddefnyddio’r gair – yn gynhwysol. Rhaid i’r ddelwedd o Gymru yr ydym yn ei chyfleu ddod gan y rheini sydd yn ei chreu ac yn ei chynnal. Rhaid iddi fod yn eiddo i bobl Cymru ac nid dan batent i ymgynghorwyr costus yng Nghaerdydd.
I welcome Alun’s commitment to an image summit but I hope that it will build on Ron Davies’s work rather than re-write it. I look forward to the invitations that I am sure he will send to Nick Bourne, Dafydd Wigley and me to attend.
Croesawaf ymrwymiad Alun i drefnu uwch-gynhadledd ar ddelwedd ond gobeithiaf y bydd yn adeiladu ar waith Ron Davies yn hytrach na’i ailysgrifennu. Edrychaf ymlaen at y gwahoddiadau yr wyf yn siŵr y bydd yn eu hanfon at Nick Bourne, Dafydd Wigley a minnau.
Amendment 5—
Mae gwelliant 5—
Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 30
Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 30
I made it clear in my speech that we will build on that work and that we need to engage all parties in the Assembly in carrying this forward.
Fe’i gwneuthum yn glir yn fy araith y byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw ac y bydd yn rhaid wrth gyfraniad holl bleidiau’r Cynulliad i’w wthio ymlaen.
Thank you, I welcome that. There are three strands to amendment 5. The first is an electronic embassy for Wales. We, as an Assembly, are keen to debate matters such as offices, assemblies and embassies and whether we should have representation at EU level such as our own office in Brussels, and so on. However, we have an opportunity to have a voice where it really counts which is accessible to millions of people across the globe. In the digital age of information overload, information about Wales must be easy to find and clearly branded. Without this, Wales could easily become a mere footnote in cyber history.
Diolch, yr wyf yn croesawu hynny. Mae tair rhan i welliant 5. Y gyntaf yw creu llysgenhadaeth electronig i Gymru. Yr ydym ni, fel Cynulliad, yn awyddus i drafod materion megis swyddfeydd, cynulliadau a llysgenadaethau ac a ddylem gael ein cynrychioli ar lefel yr Undeb Ewropeaidd drwy gael ein swyddfa ein hunain ym Mrwsel, ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae gennym gyfle i gael ein llais lle mae’n cyfrif mewn gwirionedd ac mewn lle sydd yn agored i filiynau o bobl drwy’r byd. Yn yr oes ddigidol hon lle mae gwybodaeth yn llifo o bob twll a chornel, rhaid i wybodaeth am Gymru fod yn hawdd ei chanfod ac wedi ei brandio yn eglur. Heb hyn, gallai Cymru yn rhwydd iawn fod yn droednodyn yn hanes datblygiadau seiber.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 30
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 30
Order. You might become a footnote yourself if you do not bring your remarks to a close quickly. Have you many more footnotes in your text?
Trefn. Efallai y byddwch yn dod yn droednodyn eich hun oni ddewch chi â’ch sylwadau i ben yn fuan. A oes gennych chi lawer o droednodiadau yn eich testun?
I am about to reach my last few.
Yr wyf ar gyrraedd fy ychydig olaf.
A positive image of Wales must be built on a positive reality of Wales. You cannot sell something that does not exist; even if you try, you cannot get away with that for very long. All the re-branding and image doctoring in the world will do nothing for Wales if we do not eradicate poverty. That means building entrepreneurship and a new style of government in Wales. We must not mistake image for substance. The people of Wales must not be fobbed off with an illusion of cool Cymru. They must see genuine progress growing from within their communities. I propose these amendments in the hope that the spirit that lies behind today’s debate, and the aspirations that we all share to see Wales move confidently into the next century, will be transposed into action that will bring that vision closer.
Rhaid i ddelwedd bositif o Gymru fod wedi ei hadeiladu ar realiti positif o Gymru. Ni allwch werthu rhywbeth nad yw’n bodoli; hyd yn oed petaech yn ceisio, ni allech barhau i wneud hynny am yn hir iawn. Waeth faint o ail-frandio a doctora delweddau a wnewch, ni fydd o unrhyw werth i Gymru os na wnawn ni ddiddymu tlodi. Mae hynny’n golygu adeiladu entrepreneuriaeth ac arddull newydd o lywodraethu yng Nghymru. Rhaid inni beidio â chamgymryd delwedd am sylwedd. Ni allwn ddallu pobl Cymru â rhith cŵl Cymru. Rhaid iddynt weld gwir gynnydd yn tyfu o’u cymunedau eu hunain. Yr wyf yn cynnig y gwelliannau hyn yn y gobaith y bydd yr ysbryd sydd y tu ôl i ddadl heddiw, a’r dyheadau yr ydym oll yn eu rhannu am weld Cymru’n symud yn hyderus i’r ganrif nesaf, yn cael eu trawsnewid yn gamau gweithredu a fydd yn dod â’r weledigaeth honno gam yn nes.
The one advantage of having this Chamber is that we can have a debate on the image of Wales. If the devolution referendum had gone the other way two years ago, not only would we not have a debate, but we would not have a Wales with an image to debate. At least, not an image of Wales as a nation.
Yr un fantais o gael y Siambr hon yw y gallwn gynnal dadl am ddelwedd Cymru. Pe bai’r refferendwm dros ddatganoli wedi mynd y ffordd arall ddwy flynedd yn ôl, nid yn unig ni fyddai’r ddadl yn bodoli, ond ni fyddai gennym Gymru â delwedd i ddadlau yn ei chylch. O leiaf, dim delwedd o Gymru fel cenedl.
I agree with other speakers about the lack of self-confidence in Wales. I remember talking to people during the referendum campaign two years ago. The lack of confidence was astounding. People asked me if Coronation Street would be taken off the television if devolution happened and if it would mean that everybody would have to speak Welsh. Such lack of confidence astonished even me, and I am used to seeing despair, as are so many of you, in my constituency.
Cytunaf â’r siaradwyr eraill ynglŷn â’r diffyg hunanhyder yng Nghymru. Cofiaf siarad â phobl yn ystod ymgyrch y refferendwm ddwy flynedd yn ôl. Yr oedd y diffyg hyder yn syfrdanol. Gofynnai pobl imi a fyddai Coronation Street yn cael ei dynnu oddi ar y teledu pe baem yn datganoli ac a fyddai’n golygu bod yn rhaid i bawb siarad Cymraeg. Yr oedd y fath ddiffyg hyder yn syndod mawr hyd yn oed imi, ac yr wyf wedi arfer â gweld anobaith, fel y mae cymaint ohonoch chwithau, yn fy etholaeth.
The first meeting of the Council of the Isles is to take place soon. The Council consists of representatives of democratically elected bodies from Northern Ireland, the Republic, England, Scotland, Alderney, Guernsey, Jersey and the Isle of Man. If we did not have this Assembly, Wales would be the only one left out. At least we have that to be thankful for.
Mae cyfarfod cyntaf Cyngor yr Ynysoedd i ddigwydd yn fuan. Mae’r Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd o Ogledd Iwerddon, y Weriniaeth, Lloegr, yr Alban, Alderney, Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw. Pe na bai’r Cynulliad hwn gennym, Cymru fyddai’r unig un na fyddai’n bresennol. O leiaf, gallwn fod yn ddiolchgar am hynny.
Where do we go from here? There are two problems that we must surmount. The first is publicity, because if nobody has heard about Wales, they will not come to visit us. If they do not visit us, they will not want to invest in Wales and if they do not invest in Wales, the number of jobs created by inward investment will be fewer. Whenever I go abroad and am asked what nationality I am, I always say Welsh, because people abroad do not understand the difference between British and English. Many people in England, especially in the media, do not understand the difference between Britain and England. Only five years ago I was asked whether Wales was a village in England. That shows the problem that we have. Everybody has heard of Scotland and Ireland, but few people have heard of Wales. We must make a concerted effort—the Assembly is a start—to ensure that people around the world hear about Wales.
I ble yr awn o’r fan hon? Mae dwy broblem y mae’n rhaid inni eu goresgyn. Y gyntaf yw cyhoeddusrwydd, oherwydd os nad yw pobl wedi clywed am Gymru, ni fyddant yn dod i ymweld â ni, ni fyddant am fuddsoddi yng Nghymru a bydd llai o swyddi yn cael eu creu gan fuddsoddi o’r tu allan. Pryd bynnag yr af dramor ac y gofynnir imi i ba genedl yr wyf yn perthyn, yr ydwyf bob amser yn dweud mai Cymro ydwyf, oherwydd nid yw pobl dramor yn deall y gwahaniaeth rhwng Prydain a Lloegr. Nid yw llawer o bobl yn Lloegr, yn arbennig yn y cyfryngau, yn deall y gwahaniaeth rhwng Prydain a Lloegr. Gwta bum mlynedd yn ôl, gofynnwyd imi ai pentref yn Lloegr oedd Cymru. Dyna ddangos y broblem sydd yn ein hwynebu. Mae pawb wedi clywed am yr Alban ac Iwerddon, ond ychydig sydd wedi clywed am Gymru. Rhaid inni ymdrechu ar y cyd—ac mae’r Cynulliad yn gam cyntaf—i sicrhau bod pobl o bob cwr o’r byd wedi clywed am Gymru.
We have another problem. There are some media correspondents who surrender regularly to quite violent anti-Welsh outpourings. The sort of ire that used to be reserved for the people of Ireland has been transferred to us. Thankfully, it is a minority view, but it exists. Some things written in newspapers about the people of Wales would not be written about any other nationality in Europe or the world. That is disgraceful. I know that other speakers will make the same point.
Mae gennym broblem arall. Mae rhai gohebwyr yn y cyfryngau yn ymollwng yn gyson i lif lled-ffyrnig o sylwadau gwrth-Gymreig. Mae’r math o lid yr arferid ei anelu at y Gwyddelod wedi cael ei drosglwyddo i ni. Barn y lleiafrif ydyw drwy drugaredd, ond y mae’n bodoli. Ni fyddai rhai o’r pethau a ysgrifennir am bobl Cymru yn y papurau newydd yn cael eu hysgrifennu am unrhyw genedl arall yn Ewrop na’r byd. Mae hynny’n gywilyddus. Gwn y bydd siaradwyr eraill yn gwneud yr un pwynt.
What about the future? We have much to do. There is no point being self-congratulatory in the Assembly. We have only been in existence a short while. Assembly Members’ workloads are heavy. I disagree with the comments that I saw in The Western Mail this morning, Glyn, that Assembly Members’ workloads are light. Please come around the Bridgend constituency with me and see what you think of my workload.
Beth am y dyfodol? Mae llawer o waith yn ein hwynebu. Nid oes diben llongyfarch ein hunain yn y Cynulliad. Cyfnod byr sydd ers inni ddechrau ar ein gwaith. Mae baich gwaith Aelodau’r Cynulliad yn drwm. Yr wyf yn anghytuno â’r sylwadau a welais yn The Western Mail y bore yma, Glyn, fod baich gwaith Aelodau’r Cynulliad yn ysgafn. Mae croeso i chi ddod draw i’m hetholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr i roi eich barn ar fy maich gwaith i.
I am grateful to Carwyn for giving me an opportunity to explain what the words, which were reported accurately, meant. I would like to see Plenary sessions sitting longer than they do now. We should not allow debates like this one to be truncated. My speech has now been cut from 10 minutes to five because of your ruling, to the great relief of the First Secretary, I am sure. That is the reason—
Yr wyf yn ddiolchgar i Carwyn am roi cyfle imi egluro ystyr y geiriau, a adroddwyd yn gywir. Carwn weld y cyfarfodydd llawn yn para’n hwy nag y gwnant ar hyn o bryd. Ni ddylem ganiatáu i ddadleuon fel hon gael eu torri. Mae fy araith i yn awr wedi ei thorri o 10 munud i bum munud oherwydd eich penderfyniad, er mawr ryddhad i’r Prif Ysgrifennydd, yr wyf yn siŵr. Dyna pam—
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 32
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 32
Order. Are you making your speech now?
Trefn. Ydych chwi’n cyflwyno eich araith yn awr?
No. I was clarifying the point. The hours are a concern. Perhaps my comments suggested that all of us were not working hard enough. I simply think that we do not sit long enough in Plenary
Nac ydwyf. Yr oeddwn yn esbonio’r pwynt. Mae’r oriau yn fater sydd yn peri pryder. Efallai fod fy sylwadau yn awgrymu nad oedd pob un ohonom yn gweithio yn ddigon caled. Credu yr wyf fi nad ydym yn treulio digon o amser yn y Cyfarfodydd Llawn.
I am happy that that matter has been clarified. The experience of other Assembly Members in this Chamber is that our workload is full and rightly so, as we are full-timers.
Yr wyf yn falch fod y mater wedi ei esbonio. Profiad Aelodau eraill y Cynulliad yn y Siambr hon yw bod ein baich gwaith yn llawn, ac yn briodol felly, gan ein bod i gyd yn gweithio yn amser llawn.
We have the Assembly as we enter the new millennium. At the beginning of the last millennium we were not even a nation. We were a bunch of people who spoke the same language and fought each other. We now have an Assembly of which we must make use. Let us go out and tell people about clean, green Cymru. Let us tell them that Wales has an image and an Assembly. We are now on the right track with the Assembly. Let us ensure that people know where we are and that they take us seriously. Above all, let us ensure that we improve the standard of living of our people and that people know that Wales is a good, beautiful place and one to visit. Let us go to work.
Mae’r Cynulliad gennym wrth inni gamu i mewn i’r mileniwm newydd. Ar ddechrau’r mileniwm diwethaf, nid oeddem hyd yn oed yn genedl. Yr oeddem yn griw o bobl a siaradai’r un iaith ac a ymladdai yn erbyn ein gilydd. Bellach, mae gennym Gynulliad y dylem ei ddefnyddio. Gadewch inni fynd allan a dweud wrth bobl am Gymru lân, Cymru werdd. Gadewch inni ddweud wrthynt fod gan Gymru ddelwedd a Chynulliad. Yr ydym ar y trywydd cywir bellach gyda’r Cynulliad. Gadewch inni sicrhau bod pobl yn gwybod pwy ydym ni a’u bod yn ein cymryd o ddifrif. Yn anad dim, gadewch inni sicrhau ein bod yn gwella safon byw ein pobl a bod pobl yn gwybod bod Cymru yn lle da a phrydferth ac yn lle i ymweld â hi. Gadewch inni fwrw i’r gwaith.
In view of the Liberal Democrat leader’s remarks, I hope that the First Secretary will take on board all the Members’ contributions today and come forward with a composite at a later date. We all agree that the Assembly must consider practical ways of developing and promoting a positive image of Wales. Supporting cultural tourism in Wales and taking advantage of our cultural heritage is one way to do this. Ireland has been successful in this and it has brought them significant economic rewards.
Gyda golwg ar sylwadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, gobeithiaf y bydd y Prif Ysgrifennydd yn cymryd holl gyfraniadau’r Aelodau i ystyriaeth heddiw ac y bydd yn cyflwyno cyfanwaith yn nes ymlaen. Mae pob un ohonom yn cytuno bod yn rhaid i’r Cynulliad ystyried ffyrdd ymarferol o ddatblygu a hybu delwedd bositif o Gymru. Mae cefnogi twristiaeth ddiwylliannol yng Nghymru a manteisio ar ein treftadaeth ddiwylliannol yn un ffordd o wneud hyn. Llwyddodd Iwerddon i wneud hyn gan esgor ar fanteision economaidd sylweddol i’r wlad.
The prospect of Objective 1 funding gives us a great opportunity to push forward ideas that will help to raise the profile of Wales and attract more people to experience our culture. I have here a copy of the Economic Development Committee’s report on the implementation of Objective 1. I would like to see cultural tourism feature more prominently in national and regional packages. This must be a key theme running through the implementation plans if we are to play to our strengths.
Mae’r gobaith o arian Amcan 1 yn rhoi cyfle gwych inni wthio syniadau a fydd yn help i roi proffil amlycach i Gymru a denu rhagor o bobl i ddod I flasu ein diwylliant. Mae gennyf gopi yma o adroddiad y Pwyllgor Datblygu Economaidd ar weithredu Amcan 1. Carwn weld twristiaeth ddiwylliannol yn cael lle amlycach mewn pecynnau cenedlaethol a rhanbarthol. Rhaid i hyn fod yn thema allweddol sydd yn rhedeg drwy ein cynlluniau gweithredu os ydym i weithredu ar ein cryfderau.
The cultural industries, which make an enormous contribution to the Welsh economy, should also feature more prominently in the national economic development strategy. The successes of the film industry and the performing arts in Wales must be built upon. They will have a great impact on Wales’s image at the international level. This should all go hand in hand with the need to develop a strong brand image for Wales, as identified by business.
Dylai’r diwydiannau diwylliannol, sydd yn gwneud cyfraniad anferth i economi Cymru, fod yn amlycach yn y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Rhaid adeiladu ar lwyddiannau’r diwydiant ffilm a’r celfyddydau perfformio. Byddant yn cael dylanwad mawr ar ddelwedd Cymru ar lefel ryngwladol. Dylai hyn gydredeg â’r angen i ddatblygu delwedd frandio gref ar gyfer Cymru, fel a nodwyd gan fusnes.
The Assembly must be part of a concerted effort to promote Wales and its image. We are talking about identity here to a certain extent, and we hope that the Assembly will have some influence on Welsh political identity. However, it needs to succeed as a representative, and effective, Wales-wide body. There are students from Treorchy Comprehensive School in the public gallery today to see how the power of politics packs its punch to raise the image of Wales. Let us not disappoint them. We cannot expect the people of Wales to step forward with confidence unless we lead the way. Perhaps we need to demonstrate the courage of our convictions more than we have done so far.
Rhaid i’r Cynulliad fod yn rhan o ymdrech ar y cyd i hybu Cymru a’i delwedd. Sôn yr ydym am hunaniaeth i raddau helaeth, a gobeithiwn y bydd gan y Cynulliad rywfaint o ddylanwad ar hunaniaeth wleidyddol Cymru. Fodd bynnag, rhaid iddo lwyddo fel corff cynrychioladol, ac effeithiol, ar gyfer Cymru drwyddi draw. Mae myfyrwyr o Ysgol Gyfun Treorci yn yr oriel gyhoeddus heddiw i weld sut mae grym gwleidyddiaeth yn arddel ei bwerau i hybu delwedd Cymru. Gadewch inni beidio â’u siomi. Ni allwn ddisgwyl i bobl Cymru gamu ymlaen yn hyderus onid ydym ni yn arwain y ffordd. Efallai fod yn rhaid inni ddangos dewrder ein hargyhoeddiadau yn amlycach nag a wnaethom hyd yma.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 34
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 34
Glyn, you have four minutes to speak, since you took one minute earlier.
Glyn, mae gennych chi bedwar munud i siarad, gan i chi ddefnyddio munud yn gynharach.
I intend to make a positive speech in justification of the references to the Government’s inadequacies during the previous term. My first venture into public life in Wales after following a career in local government in Montgomeryshire, was as chairman of a development agency. I was charged with promoting economic and social development in rural Wales. It was the most wonderful job that I or anybody else from rural Wales could have been given. It was also the first time that I gave any thought to the image of Wales. While doing that job, I developed a particular image of the Wales that I wanted to see. The image has stayed with me and always will. It is of Wales with a bit of a swagger, a Wales that feels it could achieve almost anything it has a mind to achieve.
Yr wyf yn bwriadu rhoi araith bositif i gyfiawnhau’r cyfeiriadau at ddiffygion y Llywodraeth yn ystod y tymor blaenorol. Fy mhrofiad cyntaf o fywyd cyhoeddus yng Nghymru ar ôl dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol yn Sir Drefaldwyn, oedd fel cadeirydd awdurdod datblygu. Fe’m rhoddwyd yng ngofal hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol yn y Gymru wledig. Hon oedd y swydd orau y gallwn i nac unrhyw un arall yn y Gymru wledig fod wedi ei chael. Dyma hefyd y tro cyntaf imi feddwl o gwbl am ddelwedd Cymru. Tra’n gwneud y swydd honno, datblygais ddelwedd arbennig o’r Gymru yr oeddwn i am ei gweld. Mae’r ddelwedd wedi aros gyda mi a bydd gyda mi am byth. Mae hi’n ddelwedd o Gymru sydd yn cerdded yn rhodresgar, Cymru sydd yn teimlo y gallai gyflawni bron unrhyw beth y mae am fynd ati i’w gyflawni.
In mid Wales, I worked with, among others, Dr Iain Skewis and Peter Garbett-Edwards, two men who genuinely believed we could transform the economic and social life of mid Wales, turn around decades of decline and create a new employment structure to replace the traditional jobs that were inevitably being lost. To paraphrase Frank Sinatra, as ants, we felt we could move a rubber tree plant.
Yng nghanolbarth Cymru, gweithiwn gyda Dr Iain Skewis a Peter Garbett-Edwards, ymysg eraill, dau ddyn a gredai’n ddidwyll y gallem drawsnewid bywyd economaidd a chymdeithasol canolbarth Cymru, troi degawdau o ddirywio ar ei ben a chreu strwythur economaidd newydd yn lle’r swyddi traddodiadol a oedd, yn anochel, yn cael eu colli. Os caf aralleirio Frank Sinatra, fel morgrug, teimlem y gallem symud planhigyn coeden rwber.
Peter Walker, now Lord Walker, was at the Welsh Office. He was an outstanding Secretary of State whose belief in himself and confidence in me was inspirational. Leading the Welsh Development Agency, our big sister organisation, was a man who became a good friend, Dr Gwyn Jones. He was a cavalier, a Welsh-speaking swashbuckler who strode the world stage with a swagger. I had never seen anything like Gwyn Jones’ swagger. In the US, Japan and Europe, he challenged age-old perceptions of the Welsh as a dark, brooding, introverted nation. It could not last but it was fantastic while it did.
Yr oedd Peter Walker, yr Arglwydd Walker bellach, yn y Swyddfa Gymreig. Yr oedd yn Ysgrifennydd Gwladol penigamp yr oedd ei gred ynddoi’I hun a’i ffydd ynof i yn ysbrydoliaeth. Wrth y llyw yn Awdurdod Datblygu Cymru, ein chwaer fawr, yr oedd gŵr a ddaeth yn gyfaill da, Dr Gwyn Jones. Yr oedd yn Gymro Cymraeg cafaliraidd a herfeiddiol a gerddai yn rhodresgar ar lwyfan y byd. Nid oeddwn i wedi gweld dim fel cerddediad rhodresgar Gwyn Jones o’r blaen. Yn yr Unol Daleithiau, yn Siapan ac yn Ewrop, heriodd y ddelwedd oesol o’r Cymry fel cenedl dywyll, fewnblyg sydd yn hel meddyliau. Ni allai barhau, ond yr oedd yn wych tra y gwnaeth.
In mid Wales, Laura Ashley, Central Techniques, Blaenau Plastics, and Peter Segger at Organic Farm Foods were all flying. In the rest of Wales, Japanese companies and north American investors were queuing up at the Severn Bridge. Alun claimed the credit for this earlier. The first three years of my five-year involvement were the best, most exciting years of my life. I cannot let go of many aspects of that period, including the image of Wales as a confident, outward looking, ‘can do’ country.
Yng nghanolbarth Cymru, yr oedd Laura Ashley, Central Techniques, Blaenau Plastics a Peter Segger yn Organic Farm Foods ar eu hanterth. Yng ngweddill Cymru, yr oedd cwmnïau o Siapan a buddsoddwyr o ogledd America yn sefyll mewn ciw ar Bont Hafren. Hawliodd Alun y clod am hyn yn gynharach. Tair blynedd cyntaf y pum mlynedd y bûm yn ymwneud â hyn oedd blynyddoedd gorau, mwyaf cynhyrfus fy mywyd. Ni allaf ollwng gafael ar nifer o agweddau o’r cyfnod hwnnw, gan gynnwys y ddelwedd o Gymru fel gwlad hyderus â’i golygon am allan, sydd yn dweud ‘gallaf’.
All of us identify ourselves in different ways. I am British, proud of what Britain has given the world and of the British character. I am nauseated by this touchy-feely, lip trembling, American style pseudery that we see in our Prime Minister. I am a Conservative, respectful of history, tradition, freedom and responsibility, who believes that my party will once again emerge to dominate British politics. I am a Montgomeryshire man—Mick knows what that means—but most of all, I am a Welshman, a Welsh countryman. I am especially proud whenever I see Welsh men and women projecting themselves on to the world stage in the confident, ‘can do’ image of Wales that I have.
Mae gan bawb ohonom ein hunaniaeth ein hunain. Yr wyf fi yn Brydeiniwr ac yn falch o’r hyn mae Prydain wedi ei roi i’r byd ac o’r cymeriad Prydeinig. Ni allaf oddef yr arddull Americanaidd ffug, gwefus-grynedig a welwn yn ein Prif Weinidog. Yr wyf yn Geidwadwr sydd yn parchu hanes, traddodiad, rhyddid a chyfrifoldeb, sydd yn credu y bydd fy mhlaid i unwaith eto yn codi i fri yng ngwleidyddiaeth Prydain. Yr wyf yn un o feibion Sir Drefaldwyn—gŵyr Mick beth yw ystyr hynny—ond yn bennaf, yr wyf yn Gymro, yn gydwladwr o Gymru. Yr wyf yn arbennig o falch pryd bynnag y gwelaf ddynion a merched Cymru yn ennill bri iddynt eu hunain ar lwyfan y byd gyda’r ddelwedd ‘gallaf’ hyderus sydd gennyf o Gymru.
I am proud of the Welsh rugby team, who are taking on the world. What a feeling it was in October to sing the anthem at a World Cup game at the magnificent Millennium Stadium. It is a pity that it was the Samoan game but it was a wonderful feeling. I have relived the Scott Gibbs break through the centre against England last year many times. I still well remember Gareth’s try for the Barbarians against the All Blacks in the 1970s. It was worth £1 billion to Wales in my view.
Yr wyf yn falch o dîm rygbi Cymru sydd yn herio’r byd. Dyna deimlad oedd canu’r anthem mewn gêm Cwpan y Byd yn Stadiwm wych y Mileniwm fis Hydref. Gresyn o beth mai’r gêm yn erbyn Samoa ydoedd ond, yr oedd yn deimlad da. Yr wyf wedi ail-fyw camau Scott Gibbs wrth iddo dorri drwy ganolwyr Lloegr y llynedd lawer gwaith. Yr wyf yn dal i gofio’n dda am gais Gareth dros y Barbariaid yn erbyn y Crysau Duon yn y 1970au. Yr oedd werth £1 biliwn i Gymru yn fy marn i.
It is important to Wales that this Assembly is a success, contributing to the confident ‘can do’ image of Wales. There are many ways in which we are getting it wrong. The Western Mail today quotes me as saying that we do not work hard enough, which is the point raised by Carwyn Jones. I did say those words but what I meant was that I do not believe that we sit in Plenary for long enough. Some of our debates are far too short. I detest the statutory cut-off at 5:30 p.m. It means a time limit on speeches, so many carefully prepared speeches are not made at all. I have never done a job where I am so controlled by the clock.
Mae’n bwysig i Gymru fod y Cynulliad hwn yn llwyddiant, ac yn cyfrannu at ddelwedd hyderus o Gymru sydd yn dweud ‘gallaf’. Yr ydym yn gwneud hyn yn anghywir mewn nifer o ffyrdd. Mae The Western Mail yn fy nyfynnu heddiw yn dweud nad ydym yn gweithio’n ddigon caled, sef y pwynt a godwyd gan Carwyn Jones. Dywedais y geiriau hynny, ond yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl oedd nad wyf yn credu ein bod yn treulio digon o amser yn y cyfarfodydd Llawn. Mae rhai o’n dadleuon yn llawer rhy fyr. Yr wyf yn casáu’r torri statudol am 5:30 p.m. Y mae’n golygu cyfyngu amser areithiau, felly mae llawer o areithiau sydd wedi eu paratoi’n ofalus yn cael eu colli. Nid wyf erioed wedi gweithio mewn swydd lle mae’r cloc yn gymaint o deyrn.
The obsession with inclusive politics, with the fireside chat debates, is failing to engage the public. It must be making the media question its financial commitment to this Assembly. We need a First Secretary who shows fire and oratory. We have seen it once, but the Welsh Conservative Group cannot move a vote of no confidence every day. We need a Secretary for Economic Development who stands proudly at the head of the WDA and who sounds as if he could attract an LG Semicon to Wales and who shows the rest of the world the fantastic, exciting future that the barrage and the bay will give to the Welsh capital. Most of all, we need a Cabinet that is prepared to cut the umbilical cord with Millbank, stand on its own feet and show a self-belief and self-confidence that can add to a confident, ‘can do’ image of Wales.
Mae’r obsesiwn gyda gwleidyddiaeth gynhwysol, gyda dadleuon cil pentan, yn methu ag ennyn brwdfrydedd y cyhoedd. Rhaid bod y cyfryngau’n dechrau amau eu hymrwymiad ariannol i’r Cynulliad hwn. Mae arnom angen Prif Ysgrifennydd sydd yn dangos tân ac yn gallu areithio. Fe’i gwelsom unwaith, ond ni all Grŵp Ceidwadol Cymru gynnig pleidlais o ddiffyg hyder bob dydd. Mae arnom angen Ysgrifennydd Datblygu Economaidd sydd yn sefyll wrth lyw Awdurdod Datblygu Cymru gyda balchder ac sydd yn swnio fel y gallai ddenu cwmni fel LG Semicon i Gymru ac sydd yn dangos i weddill y byd y dyfodol cynhyrfus a gwych y bydd y morglawdd a’r bae yn ei roi i brifddinas Cymru. Yn anad dim, mae arnom angen Cabinet sydd yn barod i dorri’r llinyn bogail gyda Millbank, sefyll ar ei draed ei hun a dangos hunan-gred a hunanhyder a all gyfrannu at ddelwedd hyderus ‘gallaf’ Cymru.
There have been special moments in the Chamber. My favourite was when Phil Williams came to the rostrum in the debate on information technology and told us that his whole life had been a preparation for that moment. That was a wonderful moment. Peter Rogers is always at his magnificent club-swinging best, every contribution a gem. However, the most important aspect in the Assembly in terms of developing an image of Wales is the Government’s performance. It has not come close to doing as well as it should. That is my reason for placing the amendment. It is not my own brand of humour; it is what I genuinely believe. I am an optimist and believe that we will all come back next year and make this Assembly work and improve. Let us return to the Chamber in January after the break, refreshed and ready to take on the world and turn my image of a confident ‘can do’ country into reality.
Yr ydym wedi cael eiliadau i’w trysori yn y Siambr. Fy hoff foment oedd pan daeth Phil Williams at y rostrwm yn y ddadl ar dechnoleg gwybodaeth a dweud wrthym fod ei holl fywyd wedi bod yn baratoad ar gyfer y foment honno. Yr oedd yn foment ragorol. Mae Peter Rogers bob amser ar ei orau tanllyd, a phob cyfraniad yn em. Fodd bynnag, yr agwedd bwysicaf ar y Cynulliad o safbwynt datblygu delwedd Cymru yw perfformiad y Llywodraeth. Nid yw wedi dod yn agos at gyflawni’r hyn y dylai. Dyna fy rheswm dros gynnig y gwelliant. Nid fy math arbennig i o hiwmor ydyw; dyma’r hyn yr wyf yn ei gredu mewn gwirionedd. Yr wyf yn optimist ac yn credu y bydd pob un ohonom yn dychwelyd y flwyddyn nesaf ac yn gwneud i’r Cynulliad hwn weithio a gwella. Gadewch inni ddychwelyd i’r Siambr ym mis Ionawr ar ôl y toriad, wedi’n hadfywio ac yn barod i herio’r byd a throi’r ddelwedd o wlad hyderus sydd yn dweud ‘gallaf’ yn realiti.
Rhodri Morgan The Secretary for Economic Development spoken in English p. 37
Rhodri Morgan Yr Ysgrifennydd Datblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 37
Thank you for all the contributions, even Glyn Davies’s strictures on myself and the First Secretary. Although Glyn’s speech was, in some ways, eloquent, moving and sincerely expressed, it conveyed nothing more to me than a quango boss’s image of Wales before devolution rather than after devolution. I hope Glyn will reflect on that during the Christmas break.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau, hyd yn oed Glyn Davies am ei feirniadaeth ohonof i a’r Prif Ysgrifennydd. Er bod araith Glyn, mewn rhai ffyrdd, yn huawdl, yn rymus ac yn ddidwyll ei mynegiant, nid oedd yn cyfleu dim mwy imi na delwedd pennaeth cwango o Gymru cyn datganoli yn hytrach nag ar ôl datganoli. Gobeithiaf y bydd Glyn yn pwyso a mesur hynny yn ystod toriad y Nadolig.
I turn to Carwyn’s speech, because he made an interesting point about the images and recognition abroad of Scotland and Ireland being a hundred times greater than those of Wales, even though those countries—our cousin Celtic countries and, therefore, the most obvious comparators—are barely twice the size of Wales.
Trof at araith Carwyn, oherwydd yr oedd ynddi bwynt diddorol bod delweddau ac adnabyddiaeth yr Alban ac Iwerddon dramor gan gwaith cryfach na Chymru, er bod y gwledydd—ein cyd-wledydd Celtaidd ac, felly, y gwledydd amlycaf i’w defnyddio fel cymhariaeth—brin ddwywaith maint Cymru.
Carwyn made an interesting point about the British-Irish Council meeting for the first time on Friday. It is wonderful for us all that the Northern Ireland peace process has finally come along. In 1999, at long last, we have devolution to all the Celtic parts of the UK. Waiting for devolution is a bit like waiting for a bus in Cardiff. You wait thousands of years to see devolution to an Assembly or Parliament and the next thing you know, three of them come along at the same time.
Gwnaeth Carwyn bwynt diddorol am gyfarfod cyntaf erioed Cyngor Prydain-Iwerddon ddydd Gwener. Mae’n gaffaeliad i bawb bod proses heddwch Gogledd Iwerddon wedi dyfod o’r diwedd. Yn 1999, wedi hir aros, mae datganoli wedi dod i ran pob ardal Geltaidd y DU. Mae aros am ddatganoli ychydig fel aros am fws yng Nghaerdydd. Yr ydych yn aros miloedd o flynyddoedd i weld datganoli ar ffurf Cynulliad neu Senedd a’r peth nesaf, mae tri yn cyrraedd ar yr un pryd.
This is a great moment because it means that all of the British Isles are now united with a new constitutional settlement. That is healthy for Wales because, while we lack some of Scotland and Ireland’s recognition abroad, we are now in many ways on a par with them. The First Secretary and two other Cabinet Members, Edwina Hart and Andrew Davies, will attend a meeting of the British-Irish Council on Friday. That will be an important and historic moment for us all, Wales included.
Mae hon yn foment wych oherwydd mae’n golygu bod Ynysoedd Prydain i gyd yn awr wedi eu huno mewn setliad cyfansoddiadol newydd. Mae hynny’n iach i Gymru oherwydd, er nad ydym yn cael ein hadnabod i’r un graddau â’r Alban ac Iwerddon dramor, yr ydym bellach ar yr un lefel â hwy mewn sawl ffordd. Bydd y Prif Ysgrifennydd a dau Aelod arall o’r Cabinet, Edwina Hart ac Andrew Davies, yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor Prydain-Iwerddon ddydd Gwener. Bydd hon yn foment bwysig a hanesyddol inni i gyd, gan gynnwys Cymru.
However, as Mike German said, a lot of this is not about moments of history and constitutional issues, but about the issues that fundamentally concern all our constituents. It concerns jobs, the wealth gap between Wales and the rest of the UK and the rest of Western Europe, tourism, sales abroad and the perceptions of Wales as a favoured location for business by home-grown firms and by inward investment. We know that we are not there yet and that we have a long way to go.
Fodd bynnag, fel y dywedodd Mike German, nid oes a wnelo llawer o hyn ddim ag eiliadau mewn hanes a materion cyfansoddiadol, ond â’r materion sydd o gonsýrn sylfaenol i’n holl etholwyr. Mae a wnelo â swyddi, y gagendor cyfoeth rhwng Cymru a gweddill y DU a gweddill Gorllewin Ewrop, twristiaeth, gwerthiant tramor a’r darlun o Gymru fel lleoliad ffafriol ar gyfer busnes, o safbwynt cwmnïau cynhenid a buddsoddwyr o’r tu allan. Gwyddom nad ydym wedi cyrraedd yno eto a bod gennym ffordd bell i fynd.
We know what the Irish have managed to do in the 1990s. If, in the next decade, with the assistance of devolution, we can do three-quarters of what they have done about wealth creation we will have done a great deal for Wales’s image. Correcting the prosperity gap is what made people in Britain stop using the Irish as the butt of their jokes. They know that it does not wash any more. They do not look down on people from Ireland in the way that they used to when the Irish was seen as a nation of navvies. Irish jokes have simply withered on the vine because people know that the Irish standard of living is now higher than that of Great Britain. Jobs and identity are closely interlinked. That was Mike’s point. Talking about image sounds a bit airy-fairy. However, in reality, image is about wealth and trying to close the poverty gap in Wales and the prosperity gap between us and the rest of western Europe, so that we can achieve the standard of living that people in the rest of western Europe have come to expect.
Gwyddom beth mae’r Gwyddelod wedi llwyddo i’w wneud yn y 1990au. Os gallwn ni, yn y degawd nesaf, gyflawni tri-chwarter yr hyn a wnaethant hwy ynglŷn â chreu cyfoeth, byddwn wedi rhoi cryn hwb i ddelwedd Cymru. Unioni’r gagendor ffyniant a arweiniodd at roi diwedd ar ddefnyddio’r Gwyddelod fel testun jôcs gan bobl ym Mhrydain. Maent yn gwybod nad yw’n tycio erbyn hyn. Nid ydynt yn edrych i lawr ar bobl o Iwerddon fel yr oeddent pan ystyrid y Gwyddelod yn genedl o nafis. Mae jôcs am y Gwyddelod wedi araf ddiflannu am fod pobl yn gwybod bod safon byw y Gwyddelod bellach yn uwch nag un Prydain Fawr. Mae rhyng-gysylltiad clòs rhwng swyddi a hunaniaeth. Dyna oedd pwynt Mike. Mae siarad am ddelwedd yn swnio ychydig yn wirion a disylwedd. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae a wnelo delwedd â chyfoeth a cheisio cau’r gagendor tlodi yng Nghymru a’r gagendor llewyrch rhyngom a gweddill gorllewin Ewrop, fel y gallwn gyflawni’r safon byw y mae pobl yng ngweddill gorllewin Ewrop wedi dod i’w ddisgwyl.
On the cultural front, to show the connection between identity, culture, jobs and prosperity, I remember reading about the Irish Minister of Culture, Michael D. Leonard, at the height of the new recognition of Ireland as a Celtic tiger five years ago. People would say that he was poxed with luck and that it was not fair because while he was a Minister, Seamus Heaney won the Nobel Prize, Roddy Doyle won the Booker Prize and Neil Jordan won an Oscar. If, in five years’ time, people describe the First Secretary in those terms, he will be pleased because that would recognise that these things are interwoven. The perceptions of an improving level of prosperity, a talent explosion, the increasing self-confidence that comes with an improving standard of living and of the confidence that people have in either being Irish or making things in Ireland are all interlinked. Over the first decade of the next century, if we achieve even three quarters of what Ireland has, this debate will have helped to set that off. It is particularly appropriate to debate this now because of the timing—of the year, century and the millennium—and because the Assembly is new.
O safbwynt diwylliant, er mwyn dangos y cysylltiad rhwng hunaniaeth, diwylliant, swyddi a ffyniant, cofiaf ddarllen am Weinidog Diwylliant Iwerddon, Michael D. Leonard, pan oedd y darlun newydd o Iwerddon fel y teigr Celtaidd ar ei anterth bum mlynedd yn ôl. Dywedai pobl ei fod yn lwcus ac nad oedd hi’n deg, oherwydd tra’r oedd ef yn Weinidog, enillodd Seamus Heaney’r Wobr Nobel, enillodd Roddy Doyle y Wobr Booker ac enillodd Neil Jordan Oscar. Os yw pobl yn disgrifio’r Prif Ysgrifennydd mewn pum mlynedd yn yr un termau, bydd yn falch, oherwydd byddai hynny’n cydnabod fod y pethau hyn wedi eu plethu gyda’i gilydd. Mae’r canfyddiadau o ffyniant uwch, ffrwydriad mewn talent, a’r cynnydd mewn hunanhyder sydd yn dod gyda gwella safon byw a’r hyder sydd gan bobl naill ei mewn bod yn Wyddelod neu mewn gwneud pethau yn Iwerddon, yn rhyng-gysylltiedig. Dros ddegawd cyntaf y ganrif nesaf, os cyflawnwn ni hyd yn oed dri chwarter yr hyn y mae Iwerddon wedi ei gyflawni, bydd y ddadl hon wedi helpu i roi cychwyn ar y gwaith. Mae hi’n arbennig o briodol ein bod yn dadlau hyn yn awr oherwydd yr amseru—y flwyddyn, y ganrif a’r mileniwm—ac oherwydd fod y Cynulliad yn newydd.
I will criticise Mike’s speech for giving the impression that he was trying to have it both ways. He said that we should not be debating this topic but that it was a very important one. If we had commissioned a new series of information programmes and brochures without consulting the Assembly, he would have criticised us. However, we are still criticised for consulting the Assembly before we go firm on any proposals on the image of Wales. If we were not steered by a newly elected democratic body, we would be falling down on our responsibilities. We would not be using the Assembly for the purpose for which it was established: to consult the three million people who live in Wales and those who will ultimately provide the technology and advice on what we should do to improve its image. That improved image would then feed off an improving standard of living and help to create the improving standard of living and the front-line services that we all want.
Yr wyf yn beirniadu araith Mike am roi’r argraff ei fod yn ceisio ei chael hi’r ddwy ffordd. Dywedodd na ddylem fod yn dadlau’r pwnc hwn ond ei fod yn bwnc pwysig iawn. Pe baem ni wedi comisiynu cyfres newydd o raglenni a phamffledi gwybodaeth heb ymgynghori â’r Cynulliad, byddai wedi ein beirniadu ni. Fodd bynnag, yr ydym yn dal i gael ein beirniadu am ymgynghori â’r Cynulliad cyn bwrw ymlaen ag unrhyw gynigion cadarn am ddelwedd Cymru. Pe na baem yn cael ein llywio gan gorff democrataidd newydd ei ethol, byddem yn methu yn ein cyfrifoldebau. Ni fyddem yn defnyddio’r Cynulliad i’r pwrpas y’i sefydlwyd: i ymgynghori â’r tair miliwn o bobl sydd yn byw yng Nghymru a’r rheini a fydd, yn y pen draw, yn darparu’r dechnoleg a’r cyngor ynglŷn â beth y dylem ei wneud i wella ei delwedd. Byddai’r ddelwedd well honno wedyn yn bwydo oddi ar safon byw well a’r gwasanaethau rheng flaen yr ydym oll am eu cael.
Coping with the past and future together is important for all of us. Stereotypes and images of Wales abroad lag 30 years behind reality. As the First Secretary indicated, Wales suffers from the image of 30 years ago in the rest of the UK and abroad. That is inevitable to some extent. That image is also related to the slag heaps and the book and film, How Green Was My Valley. John Smith was right to draw attention to that because it is part of how Wales is seen abroad.
Mae ymdopi â’r gorffennol a’r dyfodol gyda’i gilydd yn bwysig inni i gyd. Mae’r stereoteipiau a’r delweddau o Gymru dramor 30 mlynedd ar ei hôl hi. Fel y nododd y Prif Ysgrifennydd, mae Cymru yn dioddef o ddelwedd 30 mlynedd yn ôl yng ngweddill y DU a thramor. Mae hynny’n anochel i ryw raddau. Mae’r ddelwedd honno hefyd yn gysylltiedig â’r tomenni glo a’r llyfr a’r ffilm, How Green Was My Valley. Yr oedd John Smith yn gywir i dynnu sylw at hynny oherwydd mae’n rhan o sut mae Cymru yn cael ei gweld dramor.
However, we do not want to pretend that the coal industry and the industrial revolution did not play an important part in our history. We hope that most people will think of Tower Colliery when they think of the coal industry in Wales. In doing so, you do not think of the slag heap image of Wales, but of Cynog Dafis’s point and of people taking responsibility to try to save jobs and create new ones in their area. They did so in a particularly Welsh community-based fashion, with a unique solution to the job problem that would have faced them if that pit had disappeared. It does not matter that we discuss the coal industry today because it does not mean slag heaps and old-fashioned Wales. It is part of the future of Wales because a Welsh solution was found to a Welsh problem by those 300 workers at Tower Colliery who dipped into their savings and redundancy money to save a pit. They did not save a slag heap; they saved jobs. They did not destroy the Welsh image; they helped to create the image of a self-confident Wales, albeit in an industry that is conventionally associated with the sunset rather than the sunrise of the new century.
Fodd bynnag, nid ydym am esgus na chwaraeodd y diwydiant glo a’r chwyldro diwydiannol ran bwysig yn ein hanes. Gobeithiwn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am Lofa’r Tŵr wrth feddwl am y diwydiant glo yng Nghymru. Wrth wneud hynny, nid meddwl yr ydych am ddelwedd y domen lo o Gymru, ond am bwynt Cynog Dafis ac am bobl yn cymryd cyfrifoldeb er mwyn ceisio arbed swyddi a chreu rhai newydd yn eu hardal. Gwnaethant hynny mewn dull arbennig o Gymreig yn y gymuned, gan ganfod ateb unigryw i’r broblem waith a fyddai wedi eu hwynebu pe bai’r pwll wedi diflannu. Nid yw o bwys ein bod yn trafod y diwydiant glo heddiw oherwydd nid yw’n golygu tomenni glo a’r Gymru hen-ffasiwn. Mae’n rhan o ddyfodol Cymru oherwydd canfuwyd ateb Cymreig i broblem Gymreig gan y 300 o weithwyr yna yng Nglofa’r Tŵr a ddefnyddiodd eu cynilion a’u harian diswyddo i achub pwll glo. Nid achub tomen lo a wnaethant ond arbed swyddi. Ni chwalwyd delwedd Cymru ganddynt; rhoesant hwb i’r ddelwedd o Gymru hunanhyderus, er bod hynny mewn diwydiant sydd yn cael ei gysylltu’n arferol gyda machlud yn hytrach na gwawr y ganrif newydd.
I am listening to this, and I would like to draw your attention Rhodri, to the images of Wales that have traditionally been very male. Those images have been reflected in today’s debate. I knew that this would draw sighs and guffaws from the Conservatives. However, the debate at the moment does not recognise that traditional images of Wales have been very male, and that this Assembly reflects a very different type of Wales, although women have unfortunately not contributed in this debate. I ask you to reinforce the importance—
Yr wyf yn gwrando ar hyn, a charwn dynnu eich sylw Rhodri at y delweddau o Gymru sydd yn draddodiadol wedi bod yn rhai gwrywaidd iawn. Mae’r delweddau hynny wedi cael eu hadlewyrchu yn y ddadl heddiw. Gwyddwn y byddai hyn yn ennyn ebychiadau a chwerthin gan y Ceidwadwyr. Fodd bynnag, nid yw’r ddadl ar hyn o bryd yn cydnabod bod delweddau traddodiadol Cymru wedi bod yn rhai gwrywaidd iawn, a bod y Cynulliad hwn yn adlewyrchu Cymru wahanol iawn, er nad oes menyw wedi cyfrannu at y ddadl hon yn anffodus. Gofynnaf i chi atgyfnerthu pa mor bwysig—
I have contributed.
Yr wyf fi wedi cyfrannu.
I apologise Pauline, I must have been out of the Chamber. I ask you to reinforce the importance of a Wales in which women and men, and people of different ethnic minority backgrounds, participate.
Ymddiheuraf Pauline, mae’n rhaid fy mod allan o’r Siambr ar y pryd. Gofynnaf i chi atgyfnerthu pwysigrwydd Cymru lle mae menywod a dynion, a phobl o wahanol gefndiroedd ethnig lleiafrifol, yn cymryd rhan.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 41
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 41
Order. The calling of people in debates is a matter for me. The reason why there are no more women speakers is because men moved the amendments.
Trefn. Mater i mi yw galw pobl mewn dadleuon. Y rheswm pam nad oes rhagor o fenywod yn siarad yw am mai dynion a gynigiodd y gwelliannau.
Val makes a valid point. The knowledge-driven economy of the next century will not be associated as much with a single gender taking the lead as breadwinners as was the case when Wales had a coal, steel and resource based economy. Val is right to draw attention to this. The one great weakness of our national anthem—of which I am otherwise proud—is that it starts off ‘Mae hen wlad fy nhadau’, ‘The land of my fathers’. It does not mention mamau, mothers, even though we all know that mamau are just as important as tadau, fathers, in our history and origin. However, that is the way things were written in the 1850s. It would never have crossed anybody’s mind in Victorian Wales to include a reference to mamau, even though everybody would be aware of the heroism of women like Jemima Nicholas, or Lucy Thomas, the mother of the Welsh steam coal trade and one of the great entrepreneurs of British history.
Mae gan Val bwynt dilys. Ni fydd economi’r ganrif nesaf, a fydd yn cael ei gyrru gan wybodaeth, yn cael ei chysylltu i’r un graddau â sefyllfa lle mae un rhyw yn cymryd yr awenau fel penteuluoedd fel yr oedd hi pan oedd gan Gymru economi’n seiliedig ar adnoddau, dur a glo. Mae Val yn llygad ei lle i dynnu sylw at hyn. Un gwendid mawr yn ein hanthem genedlaethol—yr wyf fel arall yn falch ohoni—yw ei bod yn dechrau gyda’r geiriau ‘Mae hen wlad fy nhadau’. Nid oes sôn am famau, er y gwyddom ni oll fod mamau yr un mor bwysig â thadau, yn ein hanes a’n tarddiad. Fodd bynnag, dyna sut yr ysgrifennwyd pethau yn yr 1850au. Ni fyddai wedi croesi meddwl neb yng Nghymru Oes Fictoria i gynnwys cyfeiriad at famau, er y byddai pawb yn ymwybodol o arwriaeth menywod fel Jemima Nicholas, neu Lucy Thomas, mam masnach glo stêm Cymru ac un o entrepreneuriaid mawr hanes Prydain.
Thank you for that comment about ‘Mae hen wlad fy nhadau’. Do you expect that some Assembly Members will propose changes to ‘Mae hen wlad fy nhadau’, in the interest of gender balance?
Diolch am y sylw yna ynglŷn â ‘Mae hen wlad fy nhadau’. A ydych chi’n disgwyl i rai o Aelodau’r Cynulliad gynnig newidiadau i ‘Mae hen wlad fy nhadau’, er hybu cydraddoldeb y rhywiau?
No more than I expect that we will change the national flag. It is part of this attempt to blend the past and the future, which has to be done when talking about image and identity. I am enormously proud that at the turn of this millennium, we will be the only nation on the surface of the globe as far as I am aware—I have checked this with my brother and he said that it was true—with the same national flag in 2000 AD as in 1000 AD. That is an enormous credit to the continuity of what is special about Wales. It is in the past, but is part of what you are proud of in your heritage and identity. However, you have to then blend that with a self-confident future based on the fact that 1999 is the most important year in Wales’s history. As 1999, this century and millennium come to an end, we must look forward to doing far better over the next 100 years than we have done in the past. We must deliver prosperity, front-line services, a self-confident image, and get the exports out, the tourists in and investment—whether from home-grown firms or inward investment—so that the people of Wales will say in five or ten years’ time, ‘Thank God the Assembly was created in May 1999 for the good of the three million of us who live in Wales’.
Dim mwy nag y byddwn yn disgwyl inni newid baner ein gwlad. Mae’n rhan o’r ymgais hon i gydblethu’r gorffennol a’r dyfodol, a rhaid gwneud hynny wrth siarad am ddelwedd a hunaniaeth. Teimlaf falchder aruthrol mai ni, ar droad y mileniwm, fydd yr unig genedl ar wyneb y ddaear cyhyd ag y gwn—yr wyf wedi cadarnhau hyn gyda’m brawd a dywedodd ef ei fod yn wir—â’r un faner genedlaethol yn 2000 OC ag yn 1000 OC. Mae hynny’n glod aruthrol i barhad yr hyn sydd yn arbennig am Gymru. Mae yn y gorffennol, ond mae’n rhan o’r hyn yr ydych yn falch ohono yn eich treftadaeth a’ch hunaniaeth. Fodd bynnag, rhaid cydblethu hynny wedyn gyda dyfodol hunanhyderus sydd yn seiliedig ar y ffaith mai 1999 yw’r flwyddyn bwysicaf yn hanes Cymru. Wrth i 1999, y ganrif hon a’r mileniwm hwn ddod i ben, rhaid inni edrych ymlaen at wneud yn llawer gwell dros y 1000 o flynyddoedd nesaf nag y gwnaethom yn y gorffennol. Rhaid inni sicrhau ffyniant, gwasanaethau rheng-flaen, delwedd hunanhyderus, a chael yr allforion allan, y twristiaid i mewn ac ennyn buddsoddiad—gan gwmnïau cynhenid neu o’r tu allan—fel y bydd pobl Cymru yn dweud mewn pum neu ddeg mlynedd, ‘Diolch i’r drefn i’r Cynulliad gael ei greu ym mis Mai 1999 er lles y tair miliwn ohonom sydd yn byw yng Nghymru’.
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 42
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 42
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1.
We will now vote on amendment 1.
Gwelliant 1 Cynog Dafis t. 42
Amendment 1 Cynog Dafis p. 42
DerbyniwydAdopted O blaidFor 44 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 6
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (44)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- Geraint Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
Yn erbynAgainst (6)
- Alun Cairns
- David Davies
- Glyn Davies
- William Graham
- David Melding
- Peter Rogers
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 43
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 43
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2.
We will now vote on amendment 2.
Gwelliant 2 William Graham t. 43
Amendment 2 William Graham p. 43
GwrthodwydRejected O blaidFor 12 YmatalAbstain 13 Yn erbynAgainst 25
Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment rejected.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (12)
- Mick Bates
- Peter Black
- Alun Cairns
- David Davies
- Glyn Davies
- Michael German
- William Graham
- Christine Humphreys
- David Melding
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Kirsty Williams
YmatalAbstain (13)
- Geraint Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Brian Hancock
- Pauline Jarman
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- David Lloyd
- Janet Ryder
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
Yn erbynAgainst (25)
- Lorraine Barrett
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Gwenda Thomas
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 44
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 44
Mae gwelliant 3 wedi ei dynnu’n ôl. Pleidleisiwn yn awr ar welliant 4.
Amendment 3 has been withdrawn. We will now vote on amendment 4.
Gwelliant 4 Michael German t. 44
Amendment 4 Michael German p. 44
DerbyniwydAdopted O blaidFor 20 YmatalAbstain 30 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (20)
- Mick Bates
- Peter Black
- Cynog Dafis
- Geraint Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Michael German
- Brian Hancock
- Christine Humphreys
- Pauline Jarman
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- David Lloyd
- Jenny Randerson
- Janet Ryder
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
YmatalAbstain (30)
- Lorraine Barrett
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- David Davies
- Glyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Peter Rogers
- Gwenda Thomas
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 45
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 45
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 5.
We will now vote on amendment 5.
Gwelliant 5 Michael German t. 45
Amendment 5 Michael German p. 45
DerbyniwydAdopted O blaidFor 50 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (50)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 46
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 46
We will now vote on the amended motion, that
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio,
noting the growth in national self-confidence and the widespread desire that Wales should take increasing responsibility for decisions affecting the lives of its people and the sustainability of its communities, this Assembly calls for a concerted effort to promote a new and positive image of Wales, both at home and abroad;
gan nodi’r cynnydd mewn hunan-hyder cenedlaethol a’r dymuniad cyffredinol i Gymru gymryd mwy o gyfrifoldeb dros y penderfyniadau sydd yn effeithio ar fywyd ei phobl a chynaliadwyedd ei chymunedau,bod y Cynulliad hwn yn galw am ymdrech ar y cyd i hybu delwedd newydd a phositif o Gymru, yn y wlad hon a thramor;
regrets the demise of the Branding Wales Group and resolves to initiate a national debate involving all the Assembly’s Committees as well as the public, private and voluntary sectors, to ensure that any image of Wales presented is consistent with the aims and aspirations of the people of Wales; and
yn edifarhau am ddirywiad Grŵp Brandio Cymru ac yn penderfynu cychwyn ar drafodaeth genedlaethol i gynnwys holl Bwyllgorau’r Cynulliad yn ogystal â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i sicrhau bod unrhyw ddelwedd a gyflwynir o Gymru yn gyson ag amcanion a dyheadau pobl Cymru; ac
further resolves to take the following steps to improve and promote the image of Wales:
yn penderfynu ymhellach i gymryd y camau canlynol i wella a hybu delwedd Cymru:
ensure the development of the Assembly’s own external website as an electronic gateway to information about Wales, to include links to a comprehensive on-line planning and booking service for visitors to Wales;
sicrhau datblygiad gwefan allanol y Cynulliad ei hun fel porth electronig i wybodaeth am Gymru, i gynnwys cysylltiadau â gwasanaeth cynllunio a bwcio ar-lein cynhwysfawr i ymwelwyr â Chymru;
encourage the promotion of food from Wales in shops, restaurants and hotels throughout Wales as part of a complete visitor experience;
annog hybu bwyd o Gymru mewn siopau, bwytai a gwestai ym mhob rhan o Gymru fel rhan o brofiad cyfan i ymwelwyr;
place a strong emphasis on encouraging indigenous entrepreneurs in both private and community-based enterprises.
rhoi pwyslais cryf ar annog entrepreneuriaid cynhenid o Gymru mewn mentrau preifat a chymunedol.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 50 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Amended motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (50)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Rhodri Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Owen John Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
Codi’r Gwaharddiad ar Gig Eidion ar yr Asgwrn
Lifting the Beef on the Bone Ban
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 47
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 47
I invite Members, because of time constraints, to abide by the limit of five minutes, except for those opening and closing the debate.
Gwahoddaf yr Aelodau, oherwydd cyfyngiadau amser, i gadw at y terfyn amser o bum munud, ar wahân i’r rheini sydd yn agor a chau’r ddadl.
Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 48
Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 48
I propose that
Cynigiaf fod
Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development (continued) spoken in English p. 48
Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 48
I also propose amendment 2 in the name of Andrew Davies. Delete all after ‘(laid in the Table Office on 8 December 1999)’ and replace with
Cynigiaf hefyd welliant 2 yn enw Andrew Davies. Dileu popeth ar ôl ‘(a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 1999)’ ac ychwanegu
Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development (continued) spoken in English p. 48
Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 48
When the Assembly came into being in May, the beef on the bone ban was one of the first issues that we considered. There was wide support for the unilateral removal of the ban in Wales and we resolved that we wanted the ban to be lifted but not until the implications of doing so had been considered thoroughly. We asked the Agriculture and Rural Development Committee, with representation from the Health and Social Services Committee, to conduct a public inquiry into the matter.
Pan ddaeth y Cynulliad i rym ym mis Mai, yr oedd y gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn yn un o’r materion cyntaf inni ei ystyried. Yr oedd cefnogaeth eang i ni yng Nghymru fwrw ymlaen yn unigol i godi’r gwaharddiad a phenderfynasom ein bod am i’r gwaharddiad gael ei godi ond nid hyd nes y byddai goblygiadau gwneud hynny wedi cael eu hystyried yn drylwyr. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, gyda chynrychiolaeth o’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r mater.
The Committee began its review in June. This involved written material and taking evidence from a number of expert and interested bodies including the Spongiform Encephalopathy Advisory Committee. We also heard from representatives from the farming unions, the Meat and Livestock Commission and the Welsh Consumer Council. What became apparent was that the majority of those giving evidence also wanted to see the ban lifted, but only when the scientific and medical evidence supported it.
Dechreuodd y Pwyllgor ar ei arolwg ym mis Mehefin. Yr oedd yn cynnwys deunydd ysgrifenedig a derbyn tystiolaeth gan nifer o gyrff arbenigol a rhai â diddordeb gan gynnwys y Pwyllgor Ymgynghorol Enseffalopathi Sbyngffurf. Clywsom hefyd gan gynrychiolwyr undebau’r ffermwyr, y Comisiwn Cig a Da Byw a Chyngor Defnyddwyr Cymru. Yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd bod mwyafrif y rheini a fu’n rhoi tystiolaeth hefyd am weld codi’r gwaharddiad, ond dim ond pan fyddai’r dystiolaeth wyddonol a meddygol o blaid hynny.
On 21 July, the Committee issued its interim report, which reflected extensive evidence taking and careful deliberation. This concluded that the Committee’s final recommendations should not be made until a further statement had been received from our Chief Medical Officer for Wales, Dr Ruth Hall, on the public health implications of lifting the ban. That statement was to reflect and take into account the latest evidence of trends in BSE-affected animals and deaths from variant CJD.
Ar 21 Gorffennaf, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad interim, a adlewyrchai’r holl dystiolaeth a gymerwyd a’r pwyso a mesur manwl. Deuai i’r casgliad na ddylai’r Pwyllgor wneud argymhellion terfynol hyd nes y byddai datganiad pellach wedi ei dderbyn oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hall, ar oblygiadau codi’r gwaharddiad o safbwynt iechyd y cyhoedd. Yr oedd y datganiad hwnnw i adlewyrchu a rhoi sylw i’r dystiolaeth ddiweddaraf am dueddiadau mewn anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt gan BSE a marwolaeth o CJD annodweddiadol.
This is an appropriate time for me to pay tribute to Ieuan Wyn Jones as Chair of the Agriculture and Rural Development. His experience and skill in these matters have been vital in guiding our deliberations throughout the inquiry. Arguments for and against the ban have been exposed fully to public scrutiny and the people of Wales have been given every opportunity to study them. Ieuan deserves credit for this. The Committee as a whole has conducted its business in a thorough and professional manner. We must remember that.
Mae hon yn adeg briodol imi i dalu teyrnged i Ieuan Wyn Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Bu ei brofiad a’i allu yn y materion hyn yn holl bwysig wrth arwain ein trafodaethau drwy gydol yr ymchwiliad. Mae’r dadleuon o blaid ac yn erbyn y gwaharddiad wedi cael eu hagor yn llawn i archwiliad cyhoeddus a rhoddwyd pob cyfle i bobl Cymru i’w hastudio. Mae Ieuan yn haeddu clod am hynny. Mae’r Pwyllgor cyfan wedi cynnal ei waith mewn modd trylwyr a phroffesiynol. Rhaid inni gofio hynny.
In July, following publication of the interim report, the Committee considered further statements from the CMO for Wales. Unfortunately, key evidence expected from the Oxford Research Group, which maintains a mathematical model on the progress of the BSE epidemic in cattle, was not available at that time. Dr Hall and two of her colleagues felt that the interim findings from the Oxford Group could not form the basis of substantive advice on such an important issue.
Ym mis Gorffennaf, yn sgîl cyhoeddi’r adroddiad interim, ystyriodd y Pwyllgor ddatganiadau pellach gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Yn anffodus, nid oedd tystiolaeth allweddol gan Grŵp Ymchwil Rhydychen, sydd yn cynnal model mathemategol ar hynt yr haint BSE mewn gwartheg, ar gael bryd hynny. Teimlai Dr Hall a dau o’i chydweithwyr na allai canfyddiadau interim Grŵp Rhydychen fod yn sail i gyngor cadarn ar fater mor bwysig â hwn.
It was not until Friday 26 November that the Oxford Group’s latest results were made available to the Chief Medical Officers. All four spent that weekend reading and assessing the information that had been provided for them. On Tuesday, 30 November, the four CMOs prepared an agreed statement for their respective administrations. The agreed advice was that the ban should be lifted on the retail sale of bone-in beef and beef bone for human consumption but that the ban should remain on the use of beef bones in the manufacture of food, including food for infants. The CMOs agreed that, while the very small risk to human health had reduced even further, it was still undesirable to allow beef bones to be used to make such foods as stock cubes, gravies and gelatine. In those circumstances, consumers could not be certain that they were deciding to eat foods made out of beef bones. Consumer choice was paramount. The food processing industry advised that it would be difficult for labelling to specify which ingredients were derived from beef bones so, sticking to the precautionary principle, while acknowledging that any risk was very small, the CMOs advised keeping the ban on manufacturing use.
Nid tan ddydd Gwener 26 Tachwedd y rhyddhawyd canlyniadau diweddaraf Grŵp Rhydychen i’r Prif Swyddogion Meddygol. Treuliodd y pedwar ohonynt y penwythnos hwnnw yn darllen ac yn asesu’r wybodaeth a roddwyd iddynt. Ddydd Mawrth, 30 Tachwedd, paratôdd y pedwar Prif Swyddog ddatganiad y cytunwyd arno ar gyfer eu gweinyddiaethau unigol. Y cyngor y cytunwyd arno oedd y dylid codi’r gwaharddiad ar adwerthu cig eidion ac asgwrn ynddo ac esgyrn cig eidion i’w bwyta gan bobl ond y dylid cadw’r gwaharddiad ar ddefnyddio esgyrn cig eidion i gynhyrchu bwyd, gan gynnwys bwyd i fabanod. Er bod y risg fechan iawn i iechyd dynol wedi gostwng ymhellach fyth, cytunai’r Prif Swyddogion meddygol nad doeth o hyd fyddai caniatáu defnyddio esgyrn cig eidion i wneud bwydydd fel ciwbiau stoc, grefi a gelatin. Dan yr amgylchiadau hynny, ni allai defnyddwyr fod yn siŵr eu bod yn penderfynu bwyta bwydydd wedi eu gwneud o esgyrn cig eidion. Yr oedd dewis y defnyddiwr o’r pwys mwyaf. Dywedai’r diwydiant prosesu bwyd y byddai’n anodd i labeli ddangos pa gynhwysion sydd yn deillio o esgyrn cig eidion felly, gan gadw at yr egwyddor o fod yn ofalus, tra’n cydnabod bod unrhyw risg yn fach iawn, cyngor y Prif Swyddogion meddygol oedd cadw’r gwaharddiad ar ddefnydd cynhyrchu.
Mick Bates’s and Glyn Davies’s amendments 1 and 3 reflect the criticisms there have been of how the matter was handled once the Chief Medical Officer’s advice was given. I am sorry if people felt, and still feel, that way. Once the joint statement was available from the CMOs, I believe that I was bound to respond to it at once and that that was what the public and the industry in Wales expected of me. Dr Hall explained her position to the Committee at the first opportunity; the morning following the joint CMOs’ statement. The fact that the advice of all CMOs has been unanimous has allowed all parts of the UK to move to lift the ban on the retail sale of beef on the bone at the same time. The UK-wide approach is the best way to gain the confidence of consumers and offers the greatest indication of confidence in our products.
Mae gwelliannau 1 a 3 gan Mick Bates a Glyn Davies yn adlewyrchu’r feirniadaeth a fu ar y modd yr ymdriniwyd â’r mater unwaith yr oedd cyngor y Prif Swyddog Meddygol wedi ei roi. Mae’n ddrwg gennyf os teimlai pobl felly, a’u bod yn dal i deimlo yr un fath. Unwaith yr oedd cyd-ddatganiad y Prif Swyddogion meddygol ar gael, credaf fod rheidrwydd arnaf i ymateb iddo ar unwaith ac mai dyna’r hyn a ddisgwyliai’r cyhoedd a’r diwydiant yng Nghymru gennyf. Eglurodd Dr Hall ei safbwynt i’r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf; y bore ar ôl cyd-ddatganiad y Prif Swyddogion meddygol. Mae’r ffaith bod cyngor pob un o’r Prif Swyddogion meddygol yn unfrydol wedi caniatáu i bob rhan o’r DU godi’r gwaharddiad ar adwerthu cig eidion ar yr asgwrn yr un pryd. Gweithredu ledled y DU yw’r ffordd orau o ennyn hyder defnyddwyr ac mae’n dangos yr hyder mwyaf yn ein cynnyrch.
I do not agree that this in any way undermined the Committee’s work. It was the detailed work of the Committee coupled with the clear advice of the Chief Medical Officer for Wales that has given me the confidence to lift the ban on retail sales. I therefore move that these two amendments should not be accepted.
Nid wyf yn cytuno bod hyn wedi tanseilio gwaith y Pwyllgor mewn unrhyw ffordd. Gwaith manwl y Pwyllgor ynghyd â’r cyngor clir a roddwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru sydd wedi rhoi imi’r hyder i godi’r gwaharddiad ar adwerthu. Yr wyf felly yn cynnig na ddylid derbyn y ddau welliant hwn.
Before completing the final report, the Committee gave further consideration to the implications of lifting the ban on human health and the workability of the arrangements to ensure that beef bone does not enter the food chain, except as boned beef in retail and catering establishments. Officials have provided assurances that the necessary enforcement measures will be strong enough. They will continue to be undertaken by the agencies currently responsible for these functions; the Meat Hygiene Service for licensed cutting plants and local authorities for retail and other butchers. I am convinced that there is no reason why, in the light of new estimates of the likelihood of infected material reaching the food chain, that public safety should be compromised in any way.
Cyn cwblhau’r adroddiad terfynol, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth bellach i oblygiadau codi’r gwaharddiad i iechyd dynol a pha mor ddichonadwy oedd y trefniadau i sicrhau nad yw esgyrn cig eidion yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, ac eithrio fel cig eidion ac asgwrn ynddo mewn sefydliadau adwerthu ac arlwyo. Mae’r swyddogion wedi rhoi sicrwydd y bydd y mesurau gorfodi angenrheidiol yn ddigon cryf. Yr asiantaethau sydd yn gyfrifol am y swyddogaethau yma ar hyn o bryd fydd yn parhau i’w hysgwyddo; y Gwasanaeth Hylendid Cig i ffatrïoedd torri trwyddedig a’r awdurdodau lleol i adwerthwyr a chigyddion eraill. Yr wyf yn argyhoeddedig nad oes unrhyw reswm, yn wyneb yr amcangyfrifon newydd o ba mor debygol yw hi y bydd deunydd wedi ei heintio yn cyrraedd y gadwyn fwyd, i fwrw cysgod dros ddiogelwch y cyhoedd mewn unrhyw ffordd.
On the same day that the Committee resolved to advise the Assembly to lift the ban, we issued a consultation paper proposing that the ban should be lifted forthwith. The consultation period ended on Wednesday 8 December. Twelve responses were received in Wales and all were in favour of the proposal. That is not a surprise to any of us. A draft Order was circulated with the consultation paper. While none of the Welsh responses suggested changes to the draft Order, some of the responses received by other UK agriculture departments drew attention to some relatively minor alterations that would make implementing the new regulations clearer and easier. I still believe that it is better to proceed in tandem with the other agriculture departments to secure a uniform regime throughout the UK. Otherwise, there will be differences between us that are not justified by any different circumstances in any of the four countries. I therefore consider it wiser not to vote to adopt a specific Order today, but to wait until our colleagues in Scotland, Northern Ireland and England have finished considering the responses to their consultation exercises. We should then make in effect the same Order in all four countries, provided that no changes are proposed that do not conform with the Assembly’s wishes. That is important to remember.
Yr un diwrnod ag y penderfynodd y Pwyllgor gynghori’r Cynulliad i godi’r gwaharddiad, cyhoeddasom bapur ymgynghorol yn awgrymu bod y gwaharddiad i gael ei godi ar unwaith. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ddydd Mercher 8 Rhagfyr. Derbyniwyd 12 ymateb yng Nghymru, pob un ohonynt o blaid y cynnig. Nid yw hynny’n syndod i’r un ohonom. Dosbarthwyd Gorchymyn drafft gyda’r papur ymgynghorol. Er nad oedd yr un o’r ymatebion yng Nghymru yn awgrymu newidiadau i’r Gorchymyn drafft, tynnai rhai o’r ymatebion a dderbyniwyd gan adrannau amaethyddiaeth eraill y DU sylw at rai mân newidiadau a fyddai’n ei gwneud yn gliriach ac yn haws i roi’r rheoliadau newydd ar waith. Yr wyf yn dal i gredu ei bod yn well symud ar y cyd â’r adrannau amaethyddiaeth eraill i sicrhau cyfundrefn unffurf ledled y DU. Fel arall, bydd gwahaniaethau rhyngom nas cyfiawnheir gan unrhyw amgylchiadau gwahanol yn yr un o’r pedair gwlad. Tybiaf felly mai doethach fyddai peidio â phleidleisio i fabwysiadu Gorchymyn penodol heddiw, ond disgwyl hyd nes y bydd ein cydweithwyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi gorffen ystyried yr ymatebion i’w hymarferiadau ymgynghori. Dylem wedyn wneud yr un Gorchymyn mewn gwirionedd yn y pedair gwlad, ar yr amod nad awgrymir unrhyw newidiadau nad ydynt yn cydymffurfio â dymuniadau’r Cynulliad. Mae hynny’n bwysig i’w gofio.
It is good that the Assembly leads on this issue. We carried out our consultation first and received our responses first. However, it is sensible to have a consistent approach throughout the UK. I still intend the ban to be formally lifted on Friday 17 December. The ban, with your agreement, will be lifted at 12.01 a.m. on Friday. I ask, therefore, that you allow me to decide the exact nature of the Order that will lift the ban in Wales and agree to the Business Secretary’s amendment, amendment 2, to instruct
Mae’n dda o beth bod y Cynulliad yn arwain ar y mater hwn. Cynaliasom ni ein hymgynghoriad yn gyntaf a derbyniasom ein hymatebion yn gyntaf. Fodd bynnag, synhwyrol yw gweithredu mewn modd cyson ledled y DU. Yr wyf yn dal i fwriadu i’r gwaharddiad gael ei godi’n ffurfiol ddydd Gwener 17 Rhagfyr. Gyda’ch cytundeb chi, caiff y gwaharddiad ei godi am 12.01 a.m. ddydd Gwener. Gofynnaf, felly, ichi ganiatáu i mi benderfynu ar union natur y Gorchymyn a fydd yn codi’r gwaharddiad yng Nghymru a chytuno i welliant y Trefnydd, gwelliant rhif 2, i gyfarwyddo
‘the Agriculture Secretary to make the appropriate statutory instruments under the urgency procedure in order to ensure the implementation of the Committee’s recommendation with effect from 17 December’.
‘yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth i lunio’r offeryn statudol priodol dan y weithdrefn frys er mwyn sicrhau gweithredu argymhelliad y Pwyllgor o 17 Rhagfyr’.
In May this year, when we first started talking about this, there was considerable pressure from within the Assembly and from many in the farming community and elsewhere to lift the ban on beef on the bone as a matter of urgency. You must accept that it would have been easy to bow to the pressure at that time to lift the ban unilaterally in Wales. That, however, would not have been a wise course, which is why I decided not to follow it. The processes and procedures that we have adopted in reviewing the issue thoroughly have meant that, without compromising human health, T-bone steaks will be on the menu for Christmas. Welsh beef producers, whose product is among the best, will therefore have a significant and timely psychological boost. I call on the Assembly to lift the ban when we finalise the necessary Order by the end of this week.
Ym mis Mai eleni, pan ddechreuasom siarad am hyn, yr oedd cryn bwysau o oddi mewn i’r Cynulliad ac o du llawer yn y gymuned ffermio a mannau eraill o blaid codi’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn fel mater o frys. Rhaid ichi dderbyn y byddai wedi bod yn hawdd plygu i’r pwysau bryd hynny i godi’r gwaharddiad yng Nghymru yn unig. Ni fyddai hynny, fodd bynnag, wedi bod yn gwrs doeth, a dyna pam y penderfynais beidio â’i ddilyn. Mae’r prosesau a’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gennym wrth edrych yn drylwyr ar y mater wedi golygu, heb fwrw cysgod dros iechyd dynol, y bydd stêcs ar yr asgwrn ar y fwydlen erbyn y Nadolig. Caiff cynhyrchwyr cig eidion Cymru, sydd â chynnyrch gyda’r gorau, hwb seicolegol sylweddol ac amserol. Galwaf ar y Cynulliad i godi’r gwaharddiad unwaith y bydd y Gorchymyn angenrheidiol yn barod ar ei ffurf derfynol erbyn diwedd yr wythnos hon.
I propose amendment 1 on behalf of Glyn Davies. After ‘beef on the bone issue’, insert
Cynigiaf welliant rhif 1 ar ran Glyn Davies. Ar ôl ‘ar yr asgwrn’, ychwanegu
It is a shame that this debate follows the confident debate on the image of Wales. It would have been better to have had this debate first because I do not understand the reason for the first paragraph in this motion. Nick Brown made the decision to lift this unnecessary ban. Christine Gwyther beat him to it by 30 seconds and from the way that she did so you would have thought that we had won the world cup. Considering the speed at which it was done, it is no wonder that there was a mistake in the legislation.
Mae’n drueni bod y ddadl hon yn dilyn y ddadl hyderus ar ddelwedd Cymru. Byddai wedi bod yn well cael y ddadl hon yn gyntaf oherwydd nid wyf yn deall y rheswm am y paragraff cyntaf yn y cynnig hwn. Gwnaeth Nick Brown y penderfyniad i godi’r gwaharddiad dianghenraid hwn. Fe’i curwyd ef gan Christine Gwyther o 30 eiliad ac o’r ffordd y gwnaeth hi hynny byddech yn meddwl ein bod wedi ennill cwpan y byd. O ystyried mor gyflym y gwnaethpwyd hyn, nid oes ryfedd bod yna gamgymeriad yn y ddeddfwriaeth.
The Agriculture and Rural Development Committee played no part in lifting this ban. It was lifted in Westminster. The Chief Medical Officer for England, Professor Liam Donaldson, published a report in September or October that stated that he considered it safe to lift the ban and safe to eat the meat. Professor Roy Anderson agreed with him. The Committee heard that the Welsh Chief Medical Officer, Dr Ruth Hall, had not heard anything to change her mind. Nick Brown then said that he was prepared for England to go it alone. The lifting of the ban was due to be announced to the Committee on the Wednesday, but it was persuaded by Christine Gwyther to delay the announcement until the following Wednesday, when Dr Ruth Hall would have returned from her meeting with the other CMOs and would report back to the Committee. It would then be able to make a decision. On the Tuesday, Christine announced with great enthusiasm that she was lifting the ban, minutes before Nick Brown in Westminster.
Ni fu’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ag unrhyw rhan mewn codi’r gwaharddiad hwn. Fe’i codwyd yn San Steffan. Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Liam Donaldson, adroddiad ym mis Medi neu fis Hydref a ddywedai ei fod ef o’r farn ei bod yn ddiogel i godi’r gwaharddiad ac yn ddiogel i fwyta’r cig. Cytunai’r Athro Roy Anderson ag ef. Clywodd y Pwyllgor nad oedd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hall, wedi clywed dim i newid ei meddwl. Wedyn dywedodd Nick Brown ei fod yn fodlon i Loegr weithredu ar ei phen ei hun. Yr oedd codi’r gwaharddiad i fod i gael ei gyhoeddi i’r Pwyllgor ar y dydd Mercher, ond perswadiwyd ef gan Christine Gwyther i ohirio’r cyhoeddiad tan y dydd Mercher dilynol, pan fyddai Dr Ruth Hall wedi dychwelyd o’i chyfarfod gyda’r Prif Swyddogion eraill ac y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Gallai wedyn wneud penderfyniad. Ar y dydd Mawrth, cyhoeddodd Christine yn llawn brwdfrydedd ei bod yn codi’r gwaharddiad, funudau o flaen Nick Brown yn San Steffan.
The Committee played no part in this. It has been a shambles, with the aborted calf processing scheme, the cull ewe scheme and there have been problems with the dairy hygiene charges. It is no wonder that the two main farming newspapers last week slammed the Assembly, as ‘ineffectual’, ‘garbage’, ‘hot air’, ‘having promised much and delivered nothing’. They said that Welsh producers are poor cousins of producers in the rest of the UK and talked of late payment of subsidies. I mentioned last week the problems of a young farmer in my area. I have written a letter about him three times in the last three weeks but have not received a reply. He has a young family. We should be facing some of the problems now.
Ni chwaraeodd y Pwyllgor unrhyw ran yn hyn. Bu’n llanastr llwyr, ynghyd â’r cynllun prosesu lloi a aeth i’r gwellt, y cynllun difa mamogiaid a chafwyd problemau gyda’r taliadau hylendid mewn llaethdai. Nid yw’n syndod o gwbl i’r ddau brif bapur newydd ym maes ffermio feirniadu’r Cynulliad yn hallt, am fod yn ‘aneffeithiol’, ‘sothach’, ‘aer poeth’, ‘wedi addo llawer a gwireddu dim’. Dywedasant mai cynhyrchwyr Cymru yw cefndryd tlawd cynhyrchwyr gweddill y DU a soniwyd am dalu cymorthdaliadau yn hwyr. Soniais yr wythnos diwethaf am broblemau ffermwr ifanc yn fy ardal i. Yr wyf wedi ysgrifennu llythyr amdano dair gwaith yn y tair wythnos diwethaf ond heb gael ateb. Mae ganddo deulu ifanc. Dylem fod yn wynebu rhai o’r problemau yn awr.
Someone has complained that Christine’s name has not been put forward as Assembly Member of the year. That is regrettable. The Agriculture and Rural Development Committee is a laughing stock. However, the buck stops with us as a Committee.
Mae rhywun wedi cwyno na chynigiwyd enw Christine fel Aelod y flwyddyn o’r Cynulliad. Gresynwn at hynny. Mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn gyff gwawd. Fodd bynnag, y ni fel Pwyllgor piau’r cyfrifoldeb.
Are you pleased that the ban is being lifted, Peter?
A ydych chi’n falch bod y gwaharddiad yn cael ei godi, Peter?
Of course I am pleased.
Wrth gwrs fy mod i’n falch.
The Agriculture and Rural Development Committee asked as early as June if it were possible to lift the ban, for use other than in manufactured produce and infant foods. The advice given at that time was that it was not possible. However, Westminster has now succeeded in achieving this. Was the advice that we received wrong? The ban has been a disaster for the farming industry. It was the most severe of all the recommendations received by the Government two years ago. The first recommendation was merely for a warning to be displayed. The ban has been impossible to enforce and the British public has shown its faith by returning to eat more beef than was eaten before the BSE crisis, particularly minced beef. The French and the Germans are not impressed and have used the situation to make a fool of Nick Brown and Tony Blair. In Wales, two or three councils have still not returned to Welsh meat. That is disgraceful and possibly unlawful. The Welsh Conservative Group looks forward to devouring large quantities of Welsh beef on the bone and to developing plans to rebuild rural prosperity to give confidence back to our farmers. We support the motion and the amendments.
Gofynnodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig cyn gynhared â mis Mehefin a oedd posibl codi’r gwaharddiad, ar wahân i ddefnydd mewn cynnyrch a gynhyrchir a bwydydd babanod. Y cyngor a roddwyd bryd hynny oedd nad oedd yn bosibl. Fodd bynnag, mae San Steffan yn awr wedi llwyddo i gyflawni hyn. A oedd y cyngor a gawsom ni yn anghywir? Mae’r gwaharddiad wedi bod yn drychineb i’r diwydiant ffermio. Dyma’r llymaf o’r holl argymhellion a ddaeth i law’r Llywodraeth ddwy flynedd yn ôl. Yr argymhelliad cyntaf oedd na ddylid ond dangos rhybudd. Bu’r gwaharddiad yn amhosibl i’w orfodi ac mae’r cyhoedd drwy Brydain wedi dangos ei ffydd drwy ddychwelyd i fwyta mwy o gig eidion nag a gâi ei fwyta cyn yr argyfwng BSE, yn enwedig briwgig eidion. Nid yw’r Ffrancwyr a’r Almaenwyr wedi eu plesio ac maent wedi defnyddio’r sefyllfa i wneud ffŵl o Nick Brown a Tony Blair. Yng Nghymru, mae dau neu dri chyngor yn dal i ymwrthod â chig o Gymru. Mae hynny’n gywilyddus ac o bosibl yn anghyfreithlon. Mae Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn edrych ymlaen at sglaffio tomenni o gig eidion Cymreig ar yr asgwrn ac at ddatblygu cynlluniau i adfer ffyniant yng nghefn gwlad a rhoi hyder yn ôl i’n ffermwyr. Cefnogwn y cynnig a’r gwelliannau.
I propose amendment 3. Add at the end of the motion:
Cynigiaf welliant rhif 3. Ychwaneger at ddiwedd y cynnig:
As the man who proposed the first motion to lift this ban, and who beat me by about 30 seconds in doing so, why are you in favour of lifting the ban when other members of your group voted to keep the ban in place?
Fel y dyn a gynigiodd y cynnig cyntaf i godi’r gwaharddiad hwn, ac a’m curodd i o tua 30 eiliad wrth wneud hynny, pam ydych chi o blaid codi’r gwaharddiad pan bleidleisiodd aelodau eraill o’ch grŵp o blaid cadw’r gwaharddiad?
You were so upset at being beaten by 30 seconds that your objectivity has obviously been betrayed, David. You will realise, objectively, that our group has been totally supportive. It has followed its own principles, including the precautionary principle. That is the same path as Peter Rogers followed as a member of the Agriculture and Rural Development Committee.
Yr oeddech wedi eich siomi gymaint o gael eich curo o 30 eiliad fel bod eich gwrthrychedd wedi ei danseilio mae’n amlwg, David. Fe sylweddolwch chi, yn wrthrychol, I’n grŵp ni fod yn gwbl gefnogol. Mae wedi dilyn ei egwyddorion ei hun, gan gynnwys yr egwyddor o fod yn ofalus. Dyna’r un llwybr ag a ddilynwyd gan Peter Rogers fel aelod o’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.
I also proposed the motion which was supported by your party in the Agriculture and Rural Development Committee. We have taken the chance at every opportunity to get rid of this ban. Today, that has happened. Let us rejoice in that fact and have no more recriminations. We have tabled our amendment to expose a problem with devolution. Let us not argue among ourselves. We welcome the final hours of such an unnecessary piece of legislation. Common sense has prevailed. The manner of its departure reflects, however, a disregard for devolution. I will not catalogue the disasters but our amendment reflects the final slight of hand by London Labour to circumvent our Agriculture and Rural Development Committee from achieving its deserved goal. That slight of hand was cruel. My tie today reflects the mind of London’s Labour: it is grey.
Myfi hefyd a gynigiodd y cynnig a gefnogwyd gan eich plaid chi yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Yr ydym wedi manteisio ar bob cyfle i gael gwared â’r gwaharddiad hwn. Heddiw, mae hynny wedi digwydd. Gadewch inni lawenhau yn y ffaith honno heb edliw dim mwy. Yr ydym wedi cyflwyno ein gwelliant ni i amlygu problem gyda datganoli. Gadewch inni beidio â dadlau ymysg ein gilydd. Croesawn oriau olaf darn mor ddianghenraid o ddeddfwriaeth. Mae synnwyr cyffredin wedi trechu. Mae’r modd y cafwyd gwared ag ef, fodd bynnag, yn dangos amarch i ddatganoli. Nid af i restru’r trychinebau ond mae ein gwelliant yn adlewyrchu cyfrwystra Llafur yn Llundain i rwystro ein Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ni rhag cyflawni’r nod a haeddai. Yr oedd yn dric creulon. Mae fy nhei i heddiw yn adlewyrchu meddwl Llafur yn Llundain: mae’n llwyd.
It is silver, Mick.
Lliw arian ydyw, Mick.
That is the colour of your hair.
Dyna liw eich gwallt chi.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 55
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 55
Order. It states on my Chamberweb that we should be courteous at all times.
Trefn. Dywed ar fy Ngwe’r Siambr y dylem fod yn gwrtais bob amser.
Let us hope that the future is brighter for farmers and consumers. Let us take advice from Lloyd George,
Gadewch inni obeithio bod y dyfodol yn fwy disglair i ffermwyr a defnyddwyr. Gadewch inni gymryd cyngor gan Lloyd George,
‘The finest eloquence is that which gets things done’.
‘Yr huodledd pennaf yw hwnnw sydd yn cyflawni’.
Mae angen nodi un neu ddau o bethau. Mae’n hawdd bod yn gwbl negyddol mewn sefyllfa fel hyn, ond nid yw hynny’n cyfrannu i unrhyw drafodaeth. Mae’n drueni bod rhai Aelodau yn parhau i gredu mai’r unig gyfraniad y dylid ei wneud yw un negyddol. Gadewch inni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf ers i’r pwnc hwn gael ei godi yn dilyn ymrwymiad nifer ohonom i geisio codi’r gwaharddiad hwn mor gyflym ag oedd yn bosibl wedi inni gael ein hethol i’r Cynulliad
We need to note one or two things. It is easy to be completely negative in a situation such as this, but that does not contribute to any debate. It is a pity that some Members still think that the only contribution they should make is a negative one. Let us look at what has happened over these last few months since this subject was first mooted after a number of us committed ourselves to trying to lift this ban as quickly as possible after we were elected to the Assembly.
Pe bai’r gwaharddiad wedi cael ei godi yn yr haf—ac fe allai fod wedi cael ei godi bryd hynny—byddai wedi cael ei godi o fwyafrif bach iawn, a hynny yn wyneb gwrthwynebiad gan y Prif Swyddog Meddygol. Byddai’r penderfyniad, felly, wedi cymryd amser maith i’w weithredu. Mae rhai pobl a oedd yn galw am godi’r gwaharddiad wedi anghofio am hynny. Yn sicr, ni fyddai’n cael ei godi ddydd Gwener nesaf hyd yn oed pe bai’r penderfyniad wedi ei wneud ar 1 Gorffennaf pan drosglwyddwyd y pwerau inni. Byddai’r penderfyniad wedi cymryd hyd yn oed mwy o amser. Byddai’n benderfyniad heb unrhyw hygrededd o gwbl o safbwynt y diwydiant a’r defnyddwyr. Byddai pobl wedi cwestiynu paham fod nifer helaeth o Aelodau’r Cynulliad a’r Prif Swyddog Meddygol yn gwrthwynebu codi’r gwaharddiad.
If this ban had been lifted in the summer— as it could have been—it would have been lifted by a slim majority and in the face of opposition by the Chief Medical Officer. The decision, therefore, would have taken a great deal of time to be implemented. Some people who called for the lifting of the ban have forgotten that. It certainly would not have been lifted next Friday even if the decision had been made on 1 July when the powers were transferred to us. The decision would have taken even more time. It would have been a decision without credibility in the eyes of the industry and consumers. People would have questioned why many Assembly Members and the Chief Medical Officer were opposed to lifting the ban.
Bydd y penderfyniad hwn, fe obeithiaf, yn derbyn cefnogaeth unfrydol y Siambr fel y derbyniodd gefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Bydd gan y penderfyniad hygrededd o safbwynt y diwydiant a’r defnyddiwr. Credaf fod y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi ymdrin â’r mater hwn yn effeithiol ac wedi sicrhau bod yr agenda yn glir i’r cyhoedd. Mae’r penderfyniad wedi esgor ar benderfyniadau mewn sefydliadau gwleidyddol eraill hefyd. Credaf, felly, y dylem gymeradwyo’r modd yr ymdriniwyd â’r mater hwn yn y Pwyllgor. Yr wyf yn llawenhau fod y gwaharddiad yn mynd i gael ei godi ddydd Gwener yng Nghymru.
This decision will, I hope, receive unanimous support in this Chamber as it received the unanimous support of the Agriculture and Rural Development Committee. It will have credibility in the eyes of the industry and the consumer. I believe that the Agriculture and Rural Development Committee dealt with this matter effectively and ensured that the agenda was clearly for the public. The decision has also led to decisions in other political establishments. I believe that we should, therefore, approve the way in which the Committee dealt with this matter. I rejoice in the fact that the ban will be lifted in Wales on Friday.
Mynegaf siom a dicter tuag at y modd y dewisodd y Gweiniog Amaethyddiaeth yn Llundain, Nick Brown, danseilio’r broses hon yn y Cynulliad. Yr oedd yntau’n ymwybodol fod penderfyniad yn cael ei wneud y diwrnod canlynol yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ac mae rhywun yn cwestiynu paham y dewisodd yntau wneud cyhoeddiad swyddogol ddiwrnod cyn ein penderfyniad ninnau. Chwarae plant gwleidyddol oedd hynny ac ni ddylem dynnu oddi wrth yr hyn sydd wedi digwydd yn y Siambr hon oherwydd bod rhywun yn rhywle arall yn dymuno ymddwyn yn y ffordd honno.
I express disappointment and anger at the way that the Agriculture Minister in London, Nick Brown, decided to undermine this process in the Assembly. He knew that a decision was going to be made the following day in the Agriculture and Rural Development Committee and one questions why he chose to make an official announcement the day before our decision. It was political child’s play and we should not detract from what has happened in this Chamber because someone elsewhere wished to behave in that way.
You should recognise that Nick Brown has been announcing for the last six weeks that he was going to lift the ban and go it alone in England. It was not a case of prejudging when the Assembly was going to lift the ban. He had already decided after speaking to Professor Donaldson to lift the ban in England alone.
Dylech gydnabod bod Nick Brown wedi bod yn cyhoeddi ers chwe wythnos ei fod yn mynd i godi’r gwaharddiad a gweithredu ar ei ben ei hun yn Lloegr. Nid mater o ragfarnu pa bryd yr oedd y Cynulliad yn mynd i godi’r gwaharddiad mohono. Yr oedd eisoes wedi penderfynu, ar ôl siarad â’r Athro Donaldson, codi’r gwaharddiad yn Lloegr yn unig.
Yr wyf yn llawn sylweddoli hynny. Bûm innau’n gwrando ar y datganiadau hefyd. Ni wnaeth Nick Brown yr un sylw cyhoeddus ynglŷn â chodi’r gwaharddiad nes y codwyd y pwnc yn y Cynulliad a nes i’n hymchwiliad ni ymdrin â’r mater yn y ffordd y gwnaeth. Peidied neb â thwyllo eu hunain. Y lle hwn sydd wedi gosod yr agenda ac sydd wedi gwthio’r agenda honno ymlaen, a dylem gael y ganmoliaeth am wneud hynny.
I fully realise that. I also listened to the announcements. Nick Brown did not make any public announcements regarding the lifting of this ban until the matter was raised in the Assembly and our inquiry dealt with the matter in the way it did. Let nobody fool themselves. This Assembly has set the agenda and pushed that agenda forward, and we should receive the praise for doing so.
Yr oedd yr holl ddatganiadau cyhoeddus a ddaeth o Lundain yn annerbyniol. Yr oedd y datganiadau a wnaeth Nick Brown a Liam Donaldson a Roy Anderson yn tanseilio hygrededd ein Prif Swyddog Meddygol ni. Dylem gondemnio hynny yn llym iawn. Mae Dr Ruth Hall wedi ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ac mae ei thystiolaeth wedi bod yn gwbl glir trwy gydol yr ymchwiliad hwn. Nid wyf wedi digwydd cytuno gyda hi, ond rhaid inni gydnabod iddi ymdrin â’r mater mewn ffordd gwbl broffesiynol.
All the public announcements which came from London were unacceptable. The announcements made by Nick Brown and Liam Donaldson and Roy Anderson undermined the credibility of our Chief Medical Officer. We should severely condemn that. Dr Ruth Hall has behaved in a responsible way and her evidence has been completely clear throughout this inquiry. I have not happened to agree with her, but we must recognise that she has dealt with the matter in an entirely professional way.
Dydd i lawenhau yw heddiw, er bod gennym feirniadaeth o’r hyn y mae pobl eraill wedi dewis ei wneud. Mae’r Cynulliad wedi gwireddu’r addewid a wnaeth llawer ohonom i godi’r gwaharddiad hwn a oedd, ym marn llawer ohonom, yn ddiangen yn y lle cyntaf. Yr ydym wedi codi’r gwaharddiad yn y ffordd gywir ac yn y ffordd fwyaf cyfrifol. Yr wyf yn ddiolchgar fy mod wedi cael rhan yn y broses honno.
This is a day for rejoicing, although we have criticism of what other people have chosen to do. The Assembly has fulfilled the promise that many of us made to lift this ban, which many of us considered was unnecessary in the first place. We have lifted the ban in a proper manner and in the most responsible way. I am thankful that I have had a part in that process.
It has been suggested this afternoon that the Assembly—in particular the Agriculture and Rural Development Committee—is nothing more than hot air and a talking shop which has failed farmers. Let us consider what has happened since May. We initiated an inquiry into beef on the bone, we looked at a cull ewe scheme and a calf processing aid scheme, and we are in the midst of trying to implement a dairy hygiene charges scheme. These developments are not happening over the border in England. They are happening in Wales as a result of the initiative of the Assembly and of Christine Gwyther. We were not holding ourselves back in Wales while matters were moving on apace in England, but that is the impression being given this afternoon. The reality is that we in Wales have given the leadership that others have followed. Let us look back at what happened this June.
Mae wedi ei awgrymu y prynhawn yma nad yw’r Cynulliad—a’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn enwedig—yn ddim mwy nag aer poeth a siop siarad sydd wedi esgeuluso’r ffermwyr. Gadewch inni ystyried yr hyn sydd wedi digwydd er mis Mai. Sefydlwyd ymchwiliad gennym i gig eidion ar yr asgwrn, yr ydym wedi edrych ar gynllun difa mamogiaid a chynllun cymorth prosesu lloi, ac yr ydym wrthi’n ceisio rhoi cynlluniau taliadau hylendid mewn llaethdai ar waith. Nid dros y ffin yn Lloegr y mae’r datblygiadau hyn yn digwydd. Maent yn digwydd yng Nghymru drwy arweiniad y Cynulliad a Christine Gwyther. Nid oeddem yn dal yn ôl yng Nghymru tra’r oedd pethau’n carlamu yn eu blaen yn Lloegr, ond dyna’r argraff sydd yn cael ei roi y prynhawn yma. Y realiti yw mai ni yng Nghymru oedd yn arwain tra’r oedd eraill yn dilyn. Gadewch inni edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd fis Mehefin.
Which party was pushing all those matters you mentioned? Was it your party?
Pa blaid oedd yn gwthio’r holl faterion a grybwyllwyd gennych? Ai eich plaid chi?
I am not aware of the Liberal Democrats having a place in the Cabinet. Christine Gwyther put those ideas forward because she is Secretary for Agriculture and Rural Development.
Nid wyf yn ymwybodol bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol le yn y Cabinet. Christine Gwyther gyflwynodd y syniadau hynny am mai hi yw’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.
The inquiry on beef on the bone was instigated. Other people and other parties wanted us to lift the ban immediately, before the summer recess, without having a proper inquiry to fully investigate all the evidence. The inquiry we had is a tribute to the Committee’s professionalism and that of the inquiry. We looked at all the evidence, weighed it up and took the matter very seriously. As a Committee member I took the matter very seriously. But what happened then? After the summer, the decision was taken to lift the ban in England. If we had not taken the decision to lift the ban quickly in Wales, we would have been criticised. Farmers would have proclaimed a turf war between the Assembly and the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, resulting in damage to their business. That is a matter for MAFF and the Assembly, not for farmers. Farmers will be very happy that the ban will now be lifted. The political reality is that if Christine had not announced the lifting of the ban, she would have been criticised anyway for prevaricating. The political reality is that the ban is in the process of being lifted.
Sefydlwyd yr ymchwiliad i gig eidion ar yr asgwrn. Yr oedd pobl eraill a phleidiau eraill am inni godi’r gwaharddiad ar unwaith, cyn gwyliau’r haf, heb gael ymchwiliad priodol i edrych yn drylwyr ar yr holl dystiolaeth. Mae’r ymchwiliad a gawsom yn deyrnged i broffesiynoldeb y Pwyllgor a phroffesiynoldeb yr ymchwiliad. Edrychwyd ar y dystiolaeth i gyd, cafodd ei phwyso a’i mesur a chymerwyd y mater yn gwbl o ddifrif. Fel aelod o’r Pwyllgor cymerais y mater yn ddifrifol iawn. Ond beth ddigwyddodd wedyn? Ar ôl yr haf, penderfynwyd codi’r gwaharddiad yn Lloegr. Pe na baem ni wedi gwneud y penderfyniad i godi’r gwaharddiad yn gyflym yng Nghymru, byddem wedi cael ein beirniadu. Byddai’r ffermwyr wedi honni bod tynnu’n groes rhwng y Cynulliad a’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a oedd yn niweidio eu busnes. Mater i’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Cynulliad yw hynny, nid i ffermwyr. Bydd ffermwyr yn falch iawn bod y gwaharddiad yn cael ei godi. Y realiti gwleidyddol yw y byddai Christine wedi cael ei beirniadu beth bynnag, am fod yn anwadal, pe na bai wedi cyhoeddi codi’r gwaharddiad. Y realiti gwleidyddol yw bod y gwaharddiad yn y broses o gael ei godi.
Do you think that the motion should congratulate the Agriculture and Rural Development Committee or Christine Gwyther?
Ydych chi’n meddwl y dylai’r cynnig longyfarch y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig neu Christine Gwyther?
This motion is on the inquiry, and it was the Committee that took part in the inquiry. However, if you want to congratulate Christine, I will join you. The Committee was involved in the inquiry, and Christine was part of that Committee, and this motion recognises that. I am sorry that you do not wish to extend the congratulations expressed in the motion to the members of your party who took part in the inquiry. I did not realise that you did not want to congratulate them for their work in the interests of inclusive politics. That is the reality. The ban is on the way out. It was done properly and professionally in Wales, and I am glad that we gave the leadership that others sought to follow.
Mae’r cynnig yn ymdrin â’r ymchwiliad, a’r Pwyllgor fu’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Fodd bynnag, os ydych am longyfarch Christine, ymunaf â chi. Bu’r Pwyllgor â rhan yn yr ymchwiliad, ac yr oedd Christine yn rhan o’r Pwyllgor hwnnw, ac mae’r cynnig hwn yn cydnabod hynny. Mae’n ddrwg gennyf nad ydych am estyn y llongyfarchiadau a fynegwyd yn y cynnig i’r aelodau o’ch plaid chi a fu â rhan yn yr ymchwiliad. Ni sylweddolwn nad oeddech am eu llongyfarch am eu gwaith dros wleidyddiaeth gynhwysol. Dyna’r realiti. Mae’r gwaharddiad ar ei ffordd allan. Cafodd ei wneud yn briodol a phroffesiynol yng Nghymru, ac yr wyf yn falch inni roi’r arweiniad yr oedd eraill am ei ddilyn.
My first contribution in this Chamber was on this subject, and it seems fitting that my last one this term is on the same subject. I am glad that we have got to this stage and that the ban will be lifted this Friday. I reiterate that my view, and that of my party, has always been that the ban was unnecessary.
Ar y pwnc hwn y gwneuthum fy nghyfraniad cyntaf yn y Siambr hon, ac mae’n briodol fod fy nghyfraniad olaf y tymor hwn ar yr un pwnc. Yr wyf yn falch ein bod wedi cyrraedd y fan hon ac y caiff y gwaharddiad ei godi ddydd Gwener. Dywedaf unwaith eto mai gwaharddiad cwbl ddianghenraid oedd hwn yn fy marn i, a barn fy mhlaid, erioed.
I turn to comments that David Davies made, which I believe were aimed at me. My role in the investigation was that of Chair of the Health and Social Services Committee. I am grateful to the Agriculture and Rural Development Committee and its Chair, Ieuan Wyn Jones, for extending an invitation to myself and Jane Hutt, the Secretary for Health and Social Services, to be involved in the investigation. After all, it is a matter of great public concern that food, whether it is beef on the bone or food of any sort, is of the highest quality and standard.
Trof at y sylwadau a wnaethpwyd gan David Davies, a anelwyd ataf fi mi gredaf. Fy rôl i yn yr ymchwiliad oedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig a’i Gadeirydd, Ieuan Wyn Jones, am estyn gwahoddiad i mi a Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gyfrannu at yr ymchwiliad. Wedi’r cwbl, mae’n fater sydd yn poeni’r cyhoedd yn fawr y dylai bwyd, boed hwnnw’n gig eidion ar yr asgwrn neu’n fwyd o unrhyw fath, fod o’r ansawdd a’r safon uchaf.
Despite press releases by your leader in the local press, I did not vote to keep the ban on beef on the bone in the Agriculture and Rural Development Committee. I did not do so because, first, I am not entitled to vote in that Committee as I am not a member of it. Secondly, in the Agriculture and Rural Development Committee, I do not represent my personal views but those of the Health and Social Services Committee as a whole. When the first decision was taken on whether to wait for further medical advice or lift the ban there and then, I had to reflect my Committee’s view. I know that it is not a role to which you are accustomed, but maybe in years to come you too will have the opportunity of representing a Committee. At that stage, David, there was not a majority in the Health and Social Services Committee in favour of lifting the ban.
Er gwaethaf datganiadau i’r wasg gan eich arweinydd yn y papurau lleol, ni phleidleisiais i gadw’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Ni wneuthum hynny oherwydd, yn gyntaf, nid oes gennyf hawl i bleidleisio yn y Pwyllgor hwnnw gan nad wyf yn aelod ohono. Yn ail, yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, nid wyf yn cynrychioli fy marn bersonol fy hun ond barn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Pan wnaethpwyd y penderfyniad cyntaf pa un i ddisgwyl am gyngor meddygol pellach ynteu godi’r gwaharddiad yn y fan a’r lle, yr oedd yn rhaid imi adlewyrchu barn fy Mhwyllgor. Gwn nad yw’n rôl yr ydych chi’n gyfarwydd â hi, ond ymhen blynyddoedd efallai y cewch chithau hefyd gyfle i gynrychioli Pwyllgor. Bryd hynny, David, nid oedd mwyafrif yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o blaid codi’r gwaharddiad.
I thank the constituency Member for Brecon and Radnorshire for giving way. My point was that, before the election, she and members of her party were vociferous in saying that they would fight for that ban to be lifted. However, it seemed that they were far more reticent in doing so after the election. When she went to the Agriculture and Rural Development Committee, did she represent farmers, Brecon and Radnorshire or her Committee?
Diolchaf i’r Aelod dros etholaeth Brycheiniog a Maesyfed am ildio. Fy mhwynt i oedd ei bod hi ac aelodau ei phlaid, cyn yr etholiad, yn uchel eu cloch yn dweud y byddent yn ymladd dros godi’r gwaharddiad. Fodd bynnag, ymddangosai eu bod yn llawer mwy tawedog yn hynny o beth ar ôl yr etholiad. Pan aeth hi i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, a wnaeth hi gynrychioli ffermwyr, Brycheiniog a Maesyfed ynteu ei Phwyllgor?
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 60
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 60
That is not in order, Kirsty, and you do not have to answer it.
Nid yw hynny mewn trefn, Kirsty, ac nid oes raid ichi ei ateb.
I do, because David is obviously having great difficulty understanding the constitutional role of a Committee Chair. The comments that he and his Tory colleagues keep making to Val Feld show that they do not understand the role of a Committee Chair in the Assembly. I represented my Committee’s views. To do anything less would have been a disservice to it, and I would have been perfectly prepared to have gone back to that Committee and been sacked by it if I had not done that. I represented its views, because that was my constitutional role. I request, David, that you learn a little bit about how this place works. It would do us all a great deal of good.
Gwnaf, oherwydd mae David yn amlwg yn cael anhawster mawr i ddeall rôl gyfansoddiadol Cadeirydd Pwyllgor. Mae’r sylwadau y mae ef a’i gyd-Aelodau Torïaid yn eu gwneud i Val Feld o hyd yn dangos nad ydynt yn deall rôl Cadeirydd Pwyllgor yn y Cynulliad. Cynrychiolais farn fy Mhwyllgor. Byddai unrhyw beth yn llai na hynny yn anghymwynas ag ef, a byddwn yn gwbl barod i fynd yn ôl i’r Pwyllgor hwnnw a chael fy niswyddo ganddo pe na bawn wedi gwneud hynny. Cynrychiolais ei farn, oherwydd dyna oedd fy rôl gyfansoddiadol. Gofynnaf ichi, David, ddysgu ychydig am sut mae’r lle hwn yn gweithio. Byddai’n lles mawr i bawb ohonom.
Subsequently, David, when I went back to the most recent Agriculture and Rural Development Committee meeting, I had a consensus from Health and Social Services Committee members that the ban should be lifted. Therefore, I represented that view on that day.
Wedi hynny, David, pan euthum yn ôl i gyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yr oedd gennyf gonsensws oddi wrth aelodau’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y dylid codi’r gwaharddiad. Felly, cynrychiolais y farn honno ar y diwrnod hwnnw.
I regret, however—and in support of Glyn Davies’s amendment 1 and Mick Bates’ amendment 3—that the work of the Agriculture and Rural Development Committee had been undermined. The Health and Social Services Committee had been mindful not to take a formal vote when we took evidence from the Chief Medical Officer. We believed that if the Health and Social Services Committee had taken a formal vote that afternoon, we too would have prejudged the will of the Agriculture and Rural Development Committee. It was not our place to do so. The Assembly had asked the Agriculture and Rural Development Committee to look at this subject, and we were careful in the Health and Social Services Committee not to prejudge or pre-empt its work. I only wish that the respect the members of my Committee had shown had been echoed in another place.
Mae’n ofid imi, serch hynny—a chefnogaf welliant rhif 1 gan Glyn Davies a gwelliant rhif 3 gan Mick Bates—i waith y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig gael ei danseilio. Nid oedd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gymryd pleidlais ffurfiol pan gymerasom dystiolaeth gan y Prif Swyddog Meddygol. Credem y byddai’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, pe bai wedi cymryd pleidlais ffurfiol y prynhawn hwnnw, wedi rhagfarnu ewyllys y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Nid ein lle ni oedd gwneud hynny. Yr oedd y Cynulliad wedi gofyn i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig edrych ar y mater hwn, ac yr oeddem yn ofalus yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i beidio â rhagfarnu ei waith nac achub y blaen arno. Mae’n drueni na chafodd y parch a ddangoswyd gan aelodau fy Mhwyllgor ei adleisio mewn man arall.
Yr wyf yn falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth hon. Yr wyf yn rhannu llawenydd pawb—pob Aelod o bob plaid—fod y gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn i’w godi, fel y dywed Christine, ddydd Gwener. Llawenhawn y gallwn gael cig eidion ar yr asgwrn ar y bwrdd cinio Nadolig os dymunwn, neu yn sicr yn ystod y flwyddyn newydd. Mae llawenydd ar draws y Siambr ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn.
I am glad of the opportunity to take part in this discussion. I share everyone’s joy—every Member from every party—that the beef on the bone ban is to be lifted, as Christine says, on Friday. We rejoice that we can have beef on the bone on the table for Christmas if we so wish, or certainly during the new year. There is joy across the Chamber that we have reached this point.
Mae’n drueni bod rhan olaf y drafodaeth wedi digwydd rhwng dwy o’r pleidiau ynglŷn â materion a ddigwyddodd yn nyddiau cynnar y Cynulliad. Dylem gofio bod y penderfyniad i sefydlu ymchwiliad gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi cael ei wneud gan bob plaid ar draws y Siambr, a gobeithiaf fod penderfyniad heddiw i godi’r gwaharddiad yn benderfyniad pob plaid. Mae’n bwysig cofio hynny. Dyma’r math o wleidyddiaeth gonsensws y daethom i’r Cynulliad i’w chefnogi.
It is a pity that the last part of the discussion has taken place between two of the parties regarding matters that took place in the early days of the Assembly. We must remember that the decision to instigate an inquiry by the Agriculture and Rural Development Committee was taken by all parties across the Chamber, and I hope that today’s decision to lift the ban is an all-party decision. It is important to remember that. That is the sort of consensus politics that we came to the Assembly to support.
Mae gennyf rai sylwadau ar waith y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y mae’n fraint gennyf ei gadeirio. Un o benderfyniadau cyntaf y Cynulliad oedd sefydlu’r ymchwiliad. Yr oeddwn yn ymwybodol yn y dyddiau cynnar hynny ein bod, fel Cynulliad, wedi rhoi pwysau gwaith trwm ar swyddogion y Pwyllgorau.
I have a few comments to make on the work of the Agriculture and Rural Development Committee, which I am honoured to chair. One of the Assembly’s first decisions was to set up the inquiry. I was aware in those early days that we had, as an Assembly, placed a heavy workload on Committee officials.
Talaf deyrnged bersonol i swyddogion y Pwyllgor: i Marie Knox, Howell Rees ac, ers mis Medi, Adrian Crompton, am eu gwaith caled o safon uchel. Maent yn gweithio’n gyflym a than bwysau ac mae’n iawn inni dalu teyrnged iddynt. Diolchaf hefyd i’r tystion a ymddangosodd o flaen y Pwyllgor: cynrychiolwyr y Pwyllgor Ymgynghorol Enseffalopathi Sbyngffurf, y Prif Swyddog Meddygol, mudiadau ac undebau. Gwnaeth pob un ohonynt gyfraniad pwysig yn y dyddiau cynnar i sicrhau bod y Pwyllgor yn gwneud ei waith yn iawn.
I pay a personal tribute to Committee officials: to Marie Knox, Howell Rees and, since September, Adrian Crompton, for their hard work of a high calibre. They work quickly and under pressure and it is right that we pay tribute to them. I also thank the witnesses who appeared before the Committee: representatives of the Spongiform Encephalopathy Advisory Committee, the Chief Medical Officer, organisations and unions. Each one made an important contribution in the early days in ensuring that the Committee did its work properly.
Talaf deyrnged hefyd i’m cyd-aelodau ar y Pwyllgor, ac i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal â chroesawu Kirsty Williams a Jane Hutt i nifer o’n Pwyllgorau, fe gawsom un cyfarfod ar y cyd gyda’r holl Bwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yr oedd cael y Pwyllgorau i ddod at ei gilydd i drafod yn aeddfed yn broses i’w chroesawu. Mae’n anffodus bod y math o gecru na welsom yn y Pwyllgor wedi arllwys allan yn y Siambr y prynhawn yma. Yr oedd gwahaniaeth barn yn y Pwyllgor, wrth gwrs, ac mae Mick, Glyn a Peter wedi cyfeirio at hynny. Hoffwn ddweud, fodd bynnag, fod y drafodaeth yn aeddfed er y gwahaniaeth barn. Yr oedd gan bobl safbwyntiau gwahanol ond yr oeddent yn parchu safbwyntiau eraill. Dyna sut yr ydym wedi gweithredu fel Pwyllgor, a bu hynny’n gynsail da.
I also pay tribute to my fellow members on the Committee, and to the Health and Social Services Committee. As well as welcoming Kirsty Williams and Jane Hutt to several of our Committees, we had one joint meeting with the whole Health and Social Services Committee. Having the Committees come together for a mature discussion was a process to be welcomed It is a shame that the kind of quarrelling that we did not see in Committee has erupted in the Chamber this afternoon. There was a difference of opinion in Committee, of course, and Mick, Glyn and Peter have referred to that. I would like to say, however, that the discussion was mature despite the difference of opinion. People had different viewpoints but they respected the viewpoints of others. That is how we have worked as a Committee, and it has set a good precedent.
Er ein bod wedi cyhoeddi ein hadroddiad dros dro ym mis Gorffennaf, yr oedd yn amlwg erbyn mis Medi a mis Hydref fod gwahaniaeth barn—a hynny ers mis Gorffennaf—rhwng Prif Swyddog Meddygol Lloegr a Phrif Swyddogion Meddygol Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Although we had published our interim report in July, it was clear by September and October that there was a difference of opinion—and had been since July—between the Chief Medical Officer for England and the Chief Medical Officers for Wales, Scotland and Northern Ireland.
Daeth Dr Ruth Hall i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ym mis Hydref a dweud nad oedd hi wedi newid ei meddwl. O fewn rhai oriau, os nad dyddiau, cyhoeddodd Dr Roy Anderson ddatganiad ar radio a theledu. Nid unrhyw berson mohono ond cadeirydd a phennaeth Grŵp Rhydychen a oedd i gyflwyno i’r Prif Swyddogion Meddygol y dystiolaeth yr oeddent yn disgwyl amdani. Dywedodd ef nad oedd mwy o wybodaeth ac felly fod angen ystyried codi’r gwaharddiad ar unwaith. Dywedodd ei fod ef yn credu y dylid codi’r gwaharddiad. Yr oedd hynny yn ddatblygiad newydd a chawsom lythyr ganddo yn cadarnhau ei farn. Wedi derbyn y llythyr hwnnw, nid oedd gennyf amheuaeth y byddai mwyafrif o fewn y Pwyllgor i godi’r gwaharddiad yn y cyfarfod a oedd i’w gynnal ar 25 Tachwedd.
Dr Ruth Hall came to give evidence to Committee in October and said that she had not changed her mind. Within a few hours, if not days, Dr Roy Anderson made a statement on radio and television. He is not just anyone, but the chair and head of the Oxford Group, which was to present to the Chief Medical Officers the evidence for which they were waiting. He said that there was no more information and therefore lifting the ban needed to be considered immediately. He said that he thought that the ban should be lifted. That was a new development and we received a letter from him confirming his view. Having received that letter, I had no doubt that there would be a Committee majority to lift the ban in the meeting that was to be held on 25 November.
Ar gais y Cabinet, gofynnwyd inni ohirio’r cyfarfod hwnnw hyd i’r Dr Ruth Hall weld y dystiolaeth derfynol. Gwnaethom hynny. Nid oedd dim yn bleidiol ynglŷn â hynny. Cytunodd pob cynrychiolydd o bob plaid i hynny. Cais y Cabinet oedd inni ddisgwyl hyd y deuai Dr Ruth Hall gerbron y Pwyllgor i roi ei datganiad swyddogol ar y dydd Mercher canlynol.
At the request of the Cabinet, we were asked to postpone that meeting until Dr Ruth Hall had seen the final evidence. We did so. There was nothing partisan about that. Every representative from every party agreed to that. The Cabinet’s request was for us to wait until Dr Ruth Hall came before the Committee to give her official statement on the following Wednesday.
Mae’n siom iddi wneud ei datganiad ddiwrnod cyn hynny, ac i waith y Pwyllgor gael ei danseilio i’r graddau hynny. O fewn perthynas pobl neu grwpiau gwahanol rhaid bod yn gwbl agored ynglŷn â materion fel hyn.
It is disappointing that she made her statement a day before, and that the Committee’s work was undermined to that extent. In a relationship between different people or groups there must be complete openness on matters like these.
Mae wedi ei osod ar gof a chadw bellach ein bod yn anhapus ynglŷn â’r diwrnodau olaf hynny. Croesawn y bydd y gwaharddiad yn cael ei godi ac yr ydym eisiau gweld hyn yn digwydd ddydd Gwener. Mae’r broses gynhwysol a aeth ymlaen yn y Pwyllgor yn wers i’r Cynulliad ar sut y dylai weithredu o hyn ymlaen.
By now it has been placed on record that we are unhappy about those last days. We welcome that the ban will be lifted and we want to see that happen on Friday. The inclusive process that took place in the Committee is a lesson to the Assembly on how it should operate from now on.
I thank Ieuan for reaffirming my earlier comment that the Committee did sterling and ground-breaking work. It will provide a model for this Assembly to follow in the years to come. We have much of which to be proud.
Diolchaf i Ieuan am ategu fy sylw yn gynharach fod y Pwyllgor wedi gwneud gwaith rhagorol ac arloesol. Bydd yn cynnig model i’w ddilyn gan y Cynulliad hwn yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennym lawer i fod yn falch ohono.
I will respond briefly to some of the contributions. Peter Rogers is still upset that I announced the joint decision by the four Chief Medical Officers the day before the Agriculture and Rural Development Committee met. The fact that the four CMOs were meeting was in the public domain. It would have been difficult to try to stifle an announcement by them, especially since one of them had already made it clear that he was prepared for the ban to be lifted as long ago as the summer. It would have been difficult and probably improper for our Executive to ask Dr Ruth Hall not to contribute to the joint statement by the four CMOs. I hope that Peter will bear that in mind.
Hoffwn ymateb yn fyr i rai o’r cyfraniadau. Mae Peter Rogers yn dal wedi ei siomi imi gyhoeddi’r penderfyniad ar y cyd rhwng y pedwar Prif Swyddog Meddygol y diwrnod cyn i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblgyu Gwledig gwrdd. Yr oedd y ffaith bod y pedwar Prif Swyddog Meddygol yn cwrdd yn wybodaeth gyhoeddus. Byddai wedi bod yn anodd mygu cyhoeddiad ganddynt, yn enwedig gan fod un ohonynt eisoes wedi ei gwneud yn glir ei fod yn barod i godi’r gwaharddiad cyn belled yn ôl â’r haf. Byddai wedi bod yn anodd ac yn amhriodol mae’n bur debyg i’n Gweithrediaeth ofyn i Dr Ruth Hall beidio â chyfrannu i’r datganiad ar y cyd gan y pedwar Prif Swyddog Meddygol. Gobeithiaf y bydd Peter yn cadw hynny mewn cof.
The important fact was that Dr Ruth Hall’s advice allowed me to lift the ban. That is the most important announcement that was made. My announcements are fairly irrelevant as far as public confidence in that product is concerned. The Chief Medical Officer for Wales’s announcement is paramount.
Y ffaith bwysicaf oedd bod cyngor Dr Ruth Hall yn caniatáu imi godi’r gwaharddiad. Dyna’r cyhoeddiad pwysicaf a wnaethpwyd. Mae fy nghyhoeddiadau i yn weddol amherthnasol cyn belled ag y mae ffydd y cyhoedd yn y cynnyrch yn bod. Mae cyhoeddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru o’r pwys mwyaf.
It was mentioned that Nick Brown made the announcement in Parliament before it was made here. As I said at the time, Nick Brown is empowered to make an announcement about England, and that is what he did. He knew that the will of our Agriculture and Rural Development Committee was that the ban should be lifted as soon as possible. I have always made that clear to him when we have met.
Soniwyd i Nick Brown wneud y cyhoeddiad yn y Senedd cyn iddo gael ei wneud yma. Fel y dywedais ar y pryd, mae gan Nick Brown y grym i wneud cyhoeddiad am Loegr, a dyna a wnaeth. Gwyddai mai ewyllys ein Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig oedd y dylid codi’r gwaharddiad cyn gynted â phosibl. Yr wyf wastad wedi gwneud hynny’n glir iddo wrth inni gyfarfod.
I will not say much about Mick Bates’s contribution, especially his comment about my hair. I might be paraphrasing, but you said that the best eloquence is action. It is my job to make things happen, which is a part of every Assembly Secretary’s job. With the help of this Assembly, I will continue my endeavour to make things happen in rural Wales.
Ni ddywedaf lawer am gyfraniad Mick Bates, yn enwedig ei sylw am fy ngwallt. Efallai fy mod yn aralleirio, ond dywedoch mai’r huodledd gorau yw gweithredu. Fy lle i yw gwneud i bethau ddigwydd, fel sydd yn rhan o swydd pob un o Ysgrifenyddion y Cynulliad. Gyda help y Cynulliad hwn, byddaf yn parhau â’m hymdrechion i wneud i bethau ddigwydd yng nghefn gwlad Cymru.
Rhodri Glyn Thomas was right to say that, had we not had the Chief Medical Officer’s advice, it would have taken a very long time to lift the ban. We would have had to have jumped through several hoops and gone through lots of procedures. As the analysis has not been made, I cannot say whether, without Ruth Hall’s advice, we would have been in a position to lift the ban even now. It is possible that we would not have been.
Yr oedd Rhodri Glyn Thomas yn iawn i ddweud, pe na bae cyngor y Prif Swyddog Meddygol gennym, y byddai wedi cymryd amser maith i godi’r gwaharddiad. Byddem wedi gorfod mynd drwy’r felin a thrwy lawer iawn o weithdrefnau. Gan nad yw’r dadansoddiad wedi ei wneud, ni allaf ddweud a fyddem, heb gyngor Ruth Hall, mewn sefyllfa hyd yn oed yn awr i godi’r gwaharddiad. Mae’n bosibl na fyddem.
Carwyn was right to say that we are trying and will continue to try to do things in the Assembly that are Welsh, bold and legal, to paraphrase Nick Bourne’s mantra.
Yr oedd Carwyn yn iawn i ddweud ein bod yn ceisio, ac y byddwn yn parhau i geisio gwneud pethau yn y Cynulliad sydd yn Gymreig, yn eofn a chyfreithiol, i aralleirio mantra Nick Bourne.
Will you take an intervention?
A wnewch chi ganiatáu imi godi pwynt?
Yes. I was about to say something nice about Kirsty, but I do not mind if you want to speak before that.
Gwnaf. Yr oeddwn ar fin dweud rhywbeth canmoliaethus am Kirsty, ond mae croeso ichi siarad cyn hynny.
Do you acknowledge the role that everyone played in getting the ban lifted? For a moment it seemed as though you and your party were trying to take all the credit. We have pushed the agenda and have raised the same issues as Carwyn. You are now taking all the credit for this. Will you acknowledge the part that the rest of the Agriculture and Rural Development Committee played in this and in other issues?
Ydych chi’n cydnabod y rôl y mae pawb wedi ei chwarae i gael codi’r gwaharddiad? Am funud ymddangosai fel pe baech chi a’ch plaid yn ceisio hawlio’r clod i gyd. Yr ydym wedi gwthio’r agenda ac wedi codi’r un pwyntiau â Carwyn. Erbyn hyn yr ydych chi’n cymryd y clod i gyd am hyn. A wnewch chi gydnabod y rhan a chwaraewyd gan weddill y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn y mater hwn ac mewn materion eraill?
It would have been nice had you listened to a single word that I said when I opened this debate. I paid fulsome tribute to the Committee, of which you are a member, and I have done so in Committee meetings. So please open your ears, Mick, it may do you some good.
Byddai wedi bod yn braf pe baech wedi gwrando ar air a ddywedais wrth imi agor y ddadl hon. Talais deyrnged gynnes i’r Pwyllgor, yr oeddech chi yn aelod ohono, ac yr wyf wedi gwneud hynny mewn cyfarfodydd Pwyllgor. Felly agorwch eich clustiau, Mick, da chi, efallai y byddai o les ichi.
I want to say something nice about Kirsty now. I may not do so again, so please listen, Kirsty. You may be right in saying that the ban might not have been necessary. However, you listened to all the evidence sessions and you and Jane attended our meetings as often as you could, which was welcome. It might have been unnecessary, but we are not in a position to judge that. However, lifting the ban, as you know, was very different from imposing it. We had to pay ultra-cautious attention to the scientific and medical evidence. Kirsty was right to say that she did not have a vote in the Agriculture and Rural Development Committee and that she represented her Committee ably, as did Jane Hutt, on those occasions.
Yn awr yr wyf am ddweud rhywbeth canmoliaethus am Kirsty. Efallai na wnaf i hynny eto, felly gwrandewch os gwelwch yn dda, Kirsty. Efallai eich bod yn iawn i ddweud nad oedd angen y gwaharddiad o bosibl. Fodd bynnag, gwrandawsoch ar yr holl sesiynau tystiolaeth a daethoch chi a Jane i’n cyfarfodydd cyn amled ag y medrech, oedd i’w groesawu. Efallai iddo fod yn ddianghenraid, ond nid ydym mewn sefyllfa i farnu hynny. Fodd bynnag, yr oedd codi’r gwaharddiad, fel y gwyddoch, yn wahanol iawn i’w osod. Yr oedd yn rhaid inni roi sylw cwbl ofalus i’r dystiolaeth wyddonol a meddygol. Yr oedd Kirsty’n iawn i ddweud nad oedd ganddi bleidlais yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ac iddi gynrychioli ei Phwyllgor yn grefftus, fel y gwnaeth Jane Hutt, ar yr achlysuron hynny.
Andrew Davies’s amendment 2 has not been mentioned. I hope that you will support it. It will allow me to make an urgency Order to enable manufacturers who sell food to pubs and other catering establishments to use beef bones in the full knowledge that members of the public will know what they are eating. I will leave the last word to Kirsty, because she made it clear to David Davies that she wanted to get on with it. Let us get on with it; I am glad that we have arrived at this position and I hope that everybody else is as well.
Ni chafwyd sôn am welliant rhif 2 yn enw Andrew Davies. Gobeithiaf y byddwch yn ei gefnogi. Mae’n caniatáu imi wneud Gorchymyn brys i alluogi gwneuthurwyr sydd yn gwerthu bwyd i dafarndai a sefydliadau arlwyo eraill ddefnyddio esgyrn cig eidion gan wybod y bydd aelodau’r cyhoedd yn gwybod beth y maent yn ei fwyta. Gadawaf y gair olaf i Kirsty, gan iddi ei gwneud yn glir i David Davies ei bod am fwrw ymlaen. Gadewch inni fwrw ymlaen; yr wyf yn falch ein bod wedi cyrraedd y fan hon a gobeithiaf fod pawb arall yn teimlo yr un fath.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 66
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 66
Thank you, Christine. The sentiment in your last sentence is one which often occurs to me as I sit here in this chair. We will now vote on amendment 1.
Diolch, Christine. Mae’r ymdeimlad yn eich brawddeg olaf yn un a ddaw i mi yn aml wrth imi eistedd yn y gadair hon. Pleidleisiwn yn awr ar welliant rhif 1.
Gwelliant 1 Peter Rogers t. 66
Amendment 1 Peter Rogers p. 66
GwrthodwydRejected O blaidFor 12 YmatalAbstain 13 Yn erbynAgainst 23
Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment rejected.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (12)
- Mick Bates
- Peter Black
- Alun Cairns
- David Davies
- Glyn Davies
- Michael German
- Christine Humphreys
- David Melding
- Jonathan Morgan
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Kirsty Williams
YmatalAbstain (13)
- Cynog Dafis
- Geraint Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Brian Hancock
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- David Lloyd
- Janet Ryder
- Rhodri Glyn Thomas
- Phil Williams
Yn erbynAgainst (23)
- Lorraine Barrett
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Alun Pugh
- Gwenda Thomas
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 67
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 67
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2.
We will now vote on amendment 2.
Gwelliant 2 Christine Gwyther t. 67
Amendment 2 Christine Gwyther p. 67
DerbyniwydAdopted O blaidFor 49 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (49)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
- Phil Williams
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 68
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 68
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 3.
We will now vote on amendment 3.
Gwelliant 3 Mick Bates t. 68
Amendment 3 Mick Bates p. 68
DerbyniwydAdopted O blaidFor 26 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 23
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (26)
- Mick Bates
- Peter Black
- Alun Cairns
- Cynog Dafis
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Michael German
- Brian Hancock
- Christine Humphreys
- Pauline Jarman
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- David Lloyd
- David Melding
- Jonathan Morgan
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
- Phil Williams
Yn erbynAgainst (23)
- Lorraine Barrett
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Alun Pugh
- Gwenda Thomas
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 69
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 69
We will now vote on the amended motion, that the Assembly
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig wedi’i ddiwygio, bod y Cynulliad
expresses its gratitude to the Agriculture and Rural Development Committee for its thorough investigation of the beef on the bone issue and, in accordance with the recommendation contained in its report (laid in the Table Office on 8 December 1999) instructs the Agriculture Secretary to make the appropriate statutory instrument under the urgency procedure in order to ensure the implementation of the Committee’s recommendation with effect from 17 December;
yn diolch i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig am ei ymchwiliad trylwyr i gig eidion ar yr asgwrn, a’i fod, yn unol â’r argymhelliad yn ei adroddiad (a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 1999), yn cyfarwyddo’r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth i lunio’r offeryn statudol priodol dan y weithdrefn frys er mwyn sicrhau gweithredu argymhelliad y Pwyllgor o 17 Rhagfyr;
however regrets that its Agriculture and Rural Development Committee has been undermined by the decision to announce the lifting of the ban on beef on the bone shortly before the Committee was due to publish its own conclusions on the matter.
fodd bynnag yn gresynu bod ei Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi cael ei danseilio gan y penderfyniad i gyhoeddi codi’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn ychydig cyn roedd y Pwyllgor am gyhoeddi ei gasgliadau ar y mater.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 49 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Amended motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (49)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Cynog Dafis
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Jocelyn Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Helen Mary Jones
- Ieuan Wyn Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Gwenda Thomas
- Rhodri Glyn Thomas
- Kirsty Williams
- Phil Williams
Trosglwyddiadau Ariannol
Financial Transfers
Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 70
Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 70
I propose that
Cynigiaf fod
Edwina Hart The Finance Secretary (continued) spoken in English p. 70
Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 70
Each of these transfers across main expenditure groups are set out in the tables attached to the motion and the accompanying notes. All fund transfers were agreed by the Secretary of State for Wales before 1 July, so this motion is a tidying-up process. I will in due course present to you further transfers across main expenditure groups during this financial year. I will be happy to deal with any questions on them.
Mae pob un o’r trosglwyddiadau hyn ar draws prif grwpiau gwariant wedi’u hamlinellu yn y tablau sydd ynghlwm wrth y cynnig a’r nodiadau sydd gyda hwynt. Cytunwyd pob trosglwyddiad cyllid gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn 1 Gorffennaf, felly proses dacluso yw’r cynnig hwn. Byddaf maes o law yn cyflwyno i chi drosglwyddiadau pellach ar draws prif grwpiau gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn hapus i ddelio ag unrhyw gwestiynau arnynt.
I support this motion briefly on behalf of Plaid Cymru. I will make a longer statement after the statement on winter supplementary estimates. It feels like Christmas. I remember many years ago, I spent a night at your flat, Mr Llywydd. Near the bed there were weighty volumes of political theory, which may have been there to help people to go to sleep. I remember reading an essay on the Marxist concept of ‘mystification’. Nothing illustrates better the concept of mystification than what sometimes appears in government financial documents.
Cefnogaf y cynnig hwn yn fyr ar ran Plaid Cymru. Gwnaf ddatganiad hwy ar ôl y datganiad ar amcangyfrifon atodol y gaeaf. Mae’n teimlo fel Nadolig. Cofiaf flynyddoedd lawer yn ôl imi dreulio noson yn eich fflat, Mr Llywydd. Wrth y gwely yr oedd cyfrolau trymion o ddamcaniaeth wleidyddol, yno efallai er mwyn helpu pobl i gysgu. Cofiaf ddarllen traethawd ar y cysyniad Marcsaidd ‘dirgeledigaeth’. Nid oes dim yn darlunio cysyniad dirgeledigaeth yn well na’r hyn sydd yn ymddangos weithiau yn nogfennau ariannol y llywodraeth.
We have heard of DEL and BEL and PES and EYF and those two formidable ladies MEG and AME, sometimes manageable and sometimes unmanageable. I thank Edwina and her officials for the help they have given to many of us in fumbling our way through the mist. I also congratulate her on presenting the figures clearly. The transfer between main expenditure groups—or MEGs—is a technical and straightforward matter, for example, the transfer of £1 million from economic development to education and training. The transfer of the cost of coastal defence from environment to rural affairs is not as obvious, but we can be certain that the expenditure is justified. Plaid Cymru support the resolution. Thank you, Edwina, for the way you have presented the complicated budgetary issues.
Clywsom am DEL a BEL a PES ac EYF a’r ddwy bendefiges hynny MEG ac AME, weithiau’n hydrin ac weithiau ddim. Hoffwn ddiolch i Edwina a’i swyddogion am y cymorth a roesant i lawer ohonom ganfod ein ffordd drwy’r niwl. Hoffwn ei llongyfarch hefyd ar gyflwyno’r ffigurau’n glir. Mater technegol a syml yw’r trosglwyddiad rhwng grwpiau prif wariant, er enghraifft, trosglwyddo £1 filiwn o ddatblygu economaidd i addysg a hyfforddiant. Nid yw trosglwyddo cost amddiffyn y glannau o’r amgylchedd i faterion gwledig yn beth mor amlwg, ond gallwn fod yn sicr fod cyfiawnhad dros y gwariant. Mae Plaid Cymru’n cefnogi’r penderfyniad. Diolch i chi, Edwina, am y ffordd yr ydych wedi cyflwyno’r materion cyllidebol cymhleth.
I join Phil in thanking the Finance Secretary for her assistance and help. As Phil said, this is basically a technical matter, which no one in their right minds would oppose. The help and assistance that she and her officials have given to Opposition finance spokespeople, both during the budget negotiations and deliberations and subsequently, should be put on record.
Hoffwn ymuno â Phil i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cyllid am ei chymorth a’i help. Fel y dywedodd Phil, mater technegol yw hyn yn y bôn, na fyddai neb yn ei iawn bwyll yn ei wrthwynebu. Dylid cofnodi’r help a’r cymorth a roddodd hi a’i swyddogion i lefarwyr cyllid y gwrthbleidiau, yn ystod trafodaethau’r gyllideb ac wedyn.
I join my colleagues in congratulating the Finance Secretary on the way that the figures have been presented. I have one question for clarification purposes. I was interested to note the £6.5 million increases in the Welsh development line and in the Cardiff Bay Development Corporation line. I have no recollection of this coming before the Economic Development Committee.
Ymunaf a’m cyd-Aelodau i longyfarch yr Ysgrifennydd Cyllid ar y modd y cyflwynwyd y ffigurau. Mae gennyf un cwestiwn at bwrpas eglurhad. Yr oedd yn ddiddorol gennyf nodi’r codiadau o £6.5 miliwn yn llinell datblygu Cymru ac yn llinell Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Nid oes gennyf unrhyw gof bod hyn wedi bod ger bron y Pwyllgor Datblygu Economaidd.
Some £650,000 is moved from regional selective assistance and other business support sub-expenditure groups, including the Welsh Development Agency sub-expenditure group. That covers know-how and innovation counselling services. I assume that is what you refer to. There is no need to worry about regional selective assistance either. It is always able to meet our commitments, and always has been. If there are more detailed questions on the WDA budget, I can go into some detail on them as I have four pages of notes from my officials on it. If Alun wants to raise specific questions on that budget, I will answer them in writing. If there are any queries on this or on my following statement on winter supplementary estimates, I will be happy to take direct questions, and I will make written answers to Members to clarify the position.
Caiff rhyw £650,000 ei symud o gymorth dewisol rhanbarthol a grwpiau is-wariant eraill sydd yn cefnogi busnes, gan gynnwys grŵp is-wariant Awdurdod Datblygu Cymru. Mae hynny’n talu am wybodaeth a gwasanaethau cynghori ar arloesi. Mae’n debyg gennyf i mai at hynny yr ydych yn cyfeirio. Nid oes angen poeni am gymorth dewisol rhanbarthol ychwaith. Mae bob amser yn gallu cyflawni’n hymrwymiadau, a bob amser wedi gallu gwneud hynny. Os oes rhagor o gwestiynau manwl ar gyllideb yr Awdurdod Datblygu, gallaf eu hateb yn eithaf manwl gan fod gennyf bedair tudalen o nodiadau gan fy swyddogion ar y pwnc. Os hoffai Alun godi cwestiynau penodol ar y gyllideb honno, fe’u hatebaf ar bapur. Os oes unrhyw ymholiadau ar hyn neu ar fy natganiad nesaf ar amcangyfrifon atodol y gaeaf, byddaf yn hapus i gymryd cwestiynau uniongyrchol, a rhoddaf atebion ysgrifenedig i Aelodau i egluro’r sefyllfa.
My question related to the increases of £6.5 million on the WDA line and £6.5 million on the CBDC line. It was not £650,000. These are significant sums of money, for which I would like some general guidance before you give me the detailed guidance in private.
Yr oedd a wnelo fy nghwestiwn i â’r codiadau o £6.5 miliwn ar linell ADC a £6.5 miliwn ar linell CDBC. Nid £650,000 oedd y ffigur. Mae’r rhain yn symiau sylweddol o arian, a hoffwn ryw gymaint o arweiniad cyffredinol cyn ichi roi’r arweiniad manwl imi yn breifat.
I think you are referring to the changes in the revised budget rate, which arises from the winter supplementary estimates. The subject of debate is the MEGs transfer.
Yr wyf yn meddwl eich bod yn cyfeirio at y newidiadau yn y gyllideb ddiwygiedig, sydd yn codi o amcangyfrifon atodol y gaeaf. Trosglwyddiad y grwpiau prif wariant yw’r pwnc dan sylw.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 72
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72
There will be an opportunity, thanks to the procedural motion earlier, for you to raise these questions during the statement that follows this debate.
Bydd cyfle, diolch i’r cynnig trefniadol yn gynharach, i chi godi’r cwestiynau hyn yn ystod y datganiad a fydd yn dilyn y ddadl hon.
We will now vote on the motion.
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 40 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig.
Motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (40)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Alun Cairns
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Glyn Davies
- Janet Davies
- Ron Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Jane Hutt
- Pauline Jarman
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Alun Pugh
- Jenny Randerson
- Janet Ryder
- Phil Williams
Datganiad gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar Amcangyfrifon Atodol y Gaeaf
Statement by the Finance Secretary on Winter Supplementary Estimates
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 73
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 73
Following the procedural motion earlier, we call the Finance Secretary to make her consequential statement.
Yn dilyn y cynnig trefniadol yn gynharach, galwn ar yr Ysgrifennydd Cyllid i wneud ei datganiad canlyniadol.
I will make a statement on the winter supplementary estimates and the allocations of additional funds from the 1999-2000 winter supplementary estimate and transfers between the sub-expenditure groups. This is a routine and technical matter which takes place every year. Parliament is expected to vote on the estimate before the Christmas recess. These funds include the take-up of end of year flexibility, transfers to and from Government departments, transfers from the Treasury’s departmental expenditure reserve, increases in the annually managed expenditure and increases in the welfare to work provision.
Gwnaf ddatganiad ar amcangyfrifon atodol y gaeaf a dyraniadau arian ychwanegol o amcangyfrif atodol gaeaf 1999-2000 a throsglwyddiadau rhwng y grwpiau is-wariant. Mater rhigolaidd a thechnegol yw hyn sydd yn digwydd bob blwyddyn. Disgwylir i’r Senedd bleidleisio ar yr amcangyfrif cyn gwyliau’r Nadolig. Mae’r arian yma’n cynnwys manteisio ar hyblygrwydd diwedd blwyddyn, trosglwyddiadau i adrannau’r Llywodraeth ac ohonynt, trosglwyddiadau o gronfa wrth-gefn y Trysorlys ar gyfer gwariant adrannol, codiadau yn y gwariant a reolir yn flynyddol a chodiadau yn y ddarpariaeth ‘o fudd-dal i waith’.
The total sum for the Assembly is around £139 million, which is small in overall terms. It may be helpful to remind Members of how the Assembly receives its financial provision. The United Kingdom Parliament votes the necessary provision for the Office of the Secretary of State for Wales, who then forwards the grant to the Assembly. The winter supplementary estimate provides the first opportunity during this financial year for the Assembly to receive additional provision. This provision is then allocated to the Assembly’s budgets. This year’s supplementary estimate largely deals with decisions prior to the Assembly taking up its functions.
Mae’r cyfanswm ar gyfer y Cynulliad oddeutu £139 miliwn, swm bach yn nhermau’r cyfanrwydd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol atgoffa Aelodau o’r modd y bydd y Cynulliad yn derbyn ei ddarpariaeth ariannol. Bydd Senedd y Deyrnas Unedig yn pleidleisio ar y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fydd wedyn yn anfon y grant ymlaen i’r Cynulliad. Mae amcangyfrif atodol y gaeaf yn rhoi’r cyfle cyntaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon i’r Cynulliad gael darpariaeth ychwanegol. Caiff y ddarpariaeth hon ei dosrannu wedyn i gyllidebau’r Cynulliad. Mae amcangyfrif atodol eleni’n ymwneud yn bennaf â phenderfyniadau a wnaethpwyd cyn i’r Cynulliad ddod i rym.
The spring supplementary estimate will be voted by Parliament in March and represents the next opportunity for the Assembly to receive further provision. Apart from one transfer relating to the education and training main expenditure group, all transfers between sub-expenditure groups were agreed by the former Secretary of State. The relevant Assembly Secretary and I have already approved this remaining transfer and the Committee has been notified in accordance with Standing Orders Nos. 19.8 and 19.9. Some transfers also correct the Welsh Office budget allocation. This is mainly a tidying-up process.
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar amcangyfrif atodol y gwanwyn ym mis Mawrth, a dyna fydd y cyfle nesaf i’r Cynulliad gael darpariaeth bellach. Ar wahân i un trosglwyddiad yn ymwneud â grŵp prif wariant addysg a hyfforddiant, cytunwyd ar bob trosglwyddiad rhwng grwpiau is-wariant gan y cyn-Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r Ysgrifennydd Cynulliad perthnasol a minnau eisoes wedi cymeradwyo’r trosglwyddiad hwn a oedd dros ben, a hysbyswyd y Pwyllgor yn unol â Rheolau Sefydlog Rhifau 19.8 a 19.9. Mae rhai trosglwyddiadau hefyd yn cywiro dyraniad cyllideb y Swyddfa Gymreig. Proses dacluso yw hon yn bennaf.
The total effect of these changes—the transfers across the main expenditure groups, the changes resulting from the winter supplementary estimate and the transfers across the sub-expenditure groups—are shown in the table attached to the statement I circulated earlier today to Members. This table provides the Assembly with a fully updated list of revised budgets and will be shown on the Assembly’s management information system. I will be happy to take any points or questions.
Dangosir cyfanswm effaith y newidiadau hyn—y trosglwyddiadau ar draws y grwpiau prif wariant, y newidiadau yn sgîl amcangyfrif atodol y gaeaf a’r trosglwyddiadau ar draws y grwpiau is-wariant—yn y tabl sydd ynghlwm wrth y datganiad a gylchredais i Aelodau yn gynharach heddiw. Mae’r tabl hwn yn rhoi’r rhestr ddiweddaraf o gyllidebau diwygiedig i’r Cynulliad ac fe’i dangosir ar system wybodaeth reoli’r Cynulliad. Byddaf yn hapus i gymryd unrhyw bwyntiau neu gwestiynau.
The winter supplementary estimates are technical matters. No Government should ever be so certain about the future that it assumes that the final expenditure during a year is exactly as planned in advance. However, the related topic of end of year flexibility is more than just a technical matter. EYF is another way of describing the accumulated under-spend over previous years. It is a welcome innovation in Government financial rules as it allows unspent or delayed budgets to be carried forward from one year to the next.
Materion technegol yw amcangyfrifon atodol y gaeaf. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth fyth fod mor sicr ynglŷn â’r dyfodol nes tybio y bydd y gwariant terfynol mewn blwyddyn yn union fel a gynlluniwyd ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae pwnc hyblygrwydd diwedd blwyddyn yn fwy na mater technegol yn unig. Mae hyblygrwydd diwedd blwyddyn yn ffordd arall o ddisgrifio’r tanwariant sydd wedi cronni dros flynyddoedd blaenorol. Mae’n ychwanegiad gwerthfawr at reolau ariannol y Llywodraeth gan ei fod yn caniatáu i gyllidebau na wariwyd neu a ddaliwyd yn ôl gael eu cario ymlaen o un flwyddyn i’r nesaf.
We all remember the furore when a certain Secretary of State was alleged to have sent back £100 million of Welsh Office money to the Treasury. I have a feeling that at the time, that was fairly standard practice. Now we have end of year flexibility, that does not happen. A good example is the transfer of £21 million of unspent European regional development fund budget and £35 million of unspent normal budget to next year’s ERDF budget. While we celebrate the additional £56 million, we must remember that there was also a transfer of £50 million of unpaid commitments. That emphasises the usefulness and importance of end of year flexibility. It was explained to me that this unspent money is transferred to the following year but, at the end of that year, its spending is kept within the departmental limit. A similar amount is then transferred to the year after. It is thus a kind of reserve account. The EYF at the end of last year was unusually large, at £189 million, partly because of ERDF commitments.
Mae pawb ohonom yn cofio’r helynt pan honnwyd fod Ysgrifennydd Gwladol arbennig wedi anfon £100 miliwn o arian y Swyddfa Gymreig yn ôl i’r Trysorlys. Mae gennyf deimlad fod hynny’n arfer eithaf cyffredin ar y pryd. Gyda hyblygrwydd diwedd blwyddyn, nid yw hynny’n digwydd mwyach. Enghraifft dda yw trosglwyddiad £21 miliwn o gyllideb cronfa ddatblygu rhanbarthol Ewrop nas gwariwyd a £35 miliwn o gyllideb arferol nas gwariwyd i gyllideb cronfa ddatblygu rhanbarthol Ewropeaidd am y flwyddyn nesaf. Wrth inni ddathlu’r £56 miliwn ychwanegol, rhaid inni gofio y trosglwyddwyd £50 miliwn hefyd o ymrwymiadau heb eu talu. Mae hynny’n pwysleisio mor ddefnyddiol a phwysig yw hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Esboniwyd i mi y caiff yr arian hwn sydd heb ei wario ei drosglwyddo i’r flwyddyn ddilynol ond, ar ddiwedd y flwyddyn honno, y cedwir y gwariant o fewn terfynau’r adran. Wedyn trosglwyddir swm tebyg i’r flwyddyn nesaf. Felly mae’n fath o gronfa wrth gefn. Yr oedd yr hyblygrwydd diwedd blwyddyn ar ddiwedd y llynedd yn anarferol o fawr, sef £189 miliwn, yn rhannol oherwydd ymrwymiadau cronfa ddatblygu rhanbarthol Ewrop.
I have lived in Ceredigion long enough to appreciate the importance of having a reserve account of some kind. I understand that it would be foolish to allocate it to normal routine expenditure. If that happened, you would have one good year but then the reserve would disappear and the budget would be cut. Such a reserve is ideal for unusual one off expenditure. For example, we welcome your repeated assurance that no valid claim for regional selective assistance to attract inward investment is ever refused. I understand that this assurance can be given because of end of year flexibility.
Yr wyf wedi byw yng Ngheredigion yn ddigon hir i werthfawrogi pwysigrwydd cael cronfa wrth gefn o ryw fath. Deallaf mai gwirion fyddai ei ddyrannu i wariant rhigolaidd arferol. Pe digwyddai hynny, fe gaech un flwyddyn dda ond wedyn byddai’r gronfa wrth gefn yn diflannu a châi’r gyllideb ei chwtogi. Mae cronfa o’r fath yn ddelfrydol ar gyfer gwariant anarferol unwaith-ac-am-byth. Er enghraifft, croesawn eich sicrwydd na chaiff unrhyw hawliad dilys am gymorth dewisol rhanbarthol i ddenu buddsoddiad oddi allan byth ei wrthod. Deallaf mai oherwydd hyblygrwydd diwedd blwyddyn y gellir rhoi’r sicrwydd hwn.
You will not be surprised to hear that Plaid Cymru believes that there are two unusual one-off expenditures that may have to be faced next year. We certainly will have to face one of them. I ask Edwina whether these could, at least in theory, be covered from end of year flexibility in the same way as regional selective assistance. The first is the money top-sliced from the local government budget to act as a damping mechanism, in anticipation of a fairer way in future of deriving standard spending assessments. This has imposed a sharp and, to some extent, unexpected one-off cut in grants for many councils, which I suggest could be, in theory, covered legitimately and prudently by the transfer of previously unspent budget. Does Edwina agree that it would be within the Assembly’s powers to consider that possibility, at least in theory?
Ni fyddwch yn synnu o glywed fod Plaid Cymru’n credu fod dau wariant anarferol unwaith-ac-am-byth y bydd yn rhaid eu hwynebu o bosibl y flwyddyn nesaf. Yn sicr, bydd yn rhaid inni wynebu un ohonynt. Gofynnaf i Edwina a ellid talu am y rhain, o leiaf mewn egwyddor, o hyblygrwydd diwedd blwyddyn yn yr un modd â chymorth dewisol rhanbarthol. Y cyntaf yw’r arian a frig-dorrwyd oddi ar ben uchaf cyllideb llywodraeth leol i weithredu fel peirianwaith lleddfu, gan ragweld ffordd decach yn y dyfodol o wneud asesiadau gwariant safonol. Mae hyn wedi golygu cwtogi’n llym ac, i ryw raddau, yn annisgwyl ar y grantiau i lawer o gynghorau, tra awgrymaf fi y gellid, mewn theori, ariannu hyn yn gyfreithlon ac yn ddoeth drwy drosglwyddo cyllideb na wariwyd yn flaenorol. A yw Edwina’n cytuno y byddai o fewn gallu’r Cynulliad i ystyried y posibilrwydd hwnnw, o leiaf mewn egwyddor?
The second one-off expenditure will come as no surprise. It is generally agreed that at the moment there is not enough money to cover the full public cost of the Objective 1 programme in the forward-look budget. We will wait until the spending review next year and hope that this will be brought up to the level that we anticipate. Under such circumstances, the existence of what is, in effect, a reserve account could be important. Yesterday I referred to the Objective 1 suspense account of £86 million. That is a 7 per cent advance at the beginning. The division into two parts of 3.5 per cent just reflects the way in which it is proposed to be used in our present plans. A similar sum could be available from next year as a supplementary estimate, if needed. This would not breach the comprehensive spending review because, after all, this is unspent money from our previous Barnett allocation. It need not be included as a main budget line any more than it is included as a main budget line in regional selective assistance. It could be available as a contingency budget.
Ni fydd yr ail wariant unwaith-ac-am-byth yn syndod i neb. Cytunir yn gyffredinol nad oes digon o arian ar hyn o bryd i dalu cost gyhoeddus lawn y rhaglen Amcan 1 yn y gyllideb edrych-ymlaen. Arhoswn tan yr adolygiad gwariant y flwyddyn nesaf gan obeithio y codir hyn i’r lefel a ragwelwn. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai bodolaeth yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn gyfrif wrth-gefn, fod yn bwysig. Ddoe cyfeiriais at gyfrif crog Amcan 1 sef £86 miliwn. Dyna flaendal o 7 y cant ar y dechrau. Mae ei rannu’n ddwy ran o 3.5 y cant dim ond yn adlewyrchiad o’r modd y bwriedir ei ddefnyddio yn ein cynlluniau presennol ni. Gallai swm tebyg fod ar gael o’r flwyddyn nesaf fel amcangyfrif atodol, pe bai angen. Ni fyddai hyn yn groes i’r adolygiad gwario cynhwysfawr oherwydd, wedi’r cyfan, arian heb ei wario yw hwn o’n dyraniad Barnett blaenorol. Nid oes angen ei gynnwys fel prif linell cyllideb ddim mwy nag y caiff ei gynnwys fel prif linell cyllideb mewn cymorth dewisol rhanbarthol. Gallai fod ar gael fel cyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl.
We are told that £25 million next year will be enough to meet all anticipated spending on European regional development funds. If that is the case we will not draw from this contingency budget, but I will be disappointed if that is all the money we need. Does Edwina agree that if, as we all hope, we succeed in stimulating a wide range of excellent proposals for Objective 1 schemes, and require the extra expenditure in 2000-01, this could be treated in the same way as regional selective assistance so that no valid application will be postponed?
Dywedir wrthym y bydd £25 miliwn y flwyddyn nesaf yn ddigon ar gyfer pob gwariant a ragwelir ar gronfeydd datblygu rhanbarthol Ewrop. Os felly ni wnawn dynnu arian o’r gyllideb wrth gefn hon, ond byddaf yn siomedig os mai dyna’r cwbl o arian y byddwn ei angen. A yw Edwina’n cytuno os llwyddwn i ddenu amrediad eang o gynigion gwych ar gyfer cynlluniau Amcan 1, fel y gobeithiwn oll, a’n bod angen y gwariant ychwanegol yn 2000-01, y gellid trin hyn yr un fath â chymorth dewisol rhanbarthol fel na chaiff unrhyw gais dilys ei ohirio?
I will answer your points in order, Phil, and address end of year flexibility and this year’s high amount. The carry over from 1998-99 and to 1999-2000 included the winter supplementary estimate of £97.9 million. There were corresponding figures in 1997-98 and 1998-99 of £39.9 million and £53.6 million. That indicates that this year’s sum is a large amount. On the local government settlement, there are issues about using end of year flexibility. The Assembly could, in principle, provide more grants for local government through end of year flexibility to help keep council tax down. However, that would involve diverting resources from other commitments. That is the honest answer to your point. I would then have to look at other budgets and perhaps juggle regional selective assistance and other items. Your point about structural funds was well made as was your suggestion of the academic way that we could deal with it. We want to ensure that nobody is disadvantaged in the applications they might wish to make.
Atebaf eich pwyntiau yn eu trefn, Phil, a chyfeirio at hyblygrwydd diwedd blwyddyn a swm uchel eleni. Yr oedd y swm a gariwyd drosodd o 1998-99 ac i 1999-2000 yn cynnwys amcangyfrif atodol y gaeaf o £97.9 miliwn. Yr oedd ffigurau cyfatebol ym 1997-98 a 1998-99 o £39.9 miliwn a £53.6 miliwn. Mae hynny’n dangos bod swm eleni’n un fawr. Ar y cytundeb llywodraeth leol, mae cwestiynau ynghylch defnyddio hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Gallai’r Cynulliad, mewn egwyddor, ddarparu mwy o grantiau i lywodraeth leol drwy hyblygrwydd diwedd blwyddyn i helpu i gadw treth cyngor i lawr. Fodd bynnag, byddai hynny’n golygu dargyfeirio adnoddau oddi wrth ymrwymiadau eraill. Dyna’r ateb gonest i’ch pwynt. Wedyn byddai’n rhaid i mi edrych ar gyllidebau eraill ac efallai symud cymorth dewisol rhanbarthol ac eitemau eraill o gwmpas. Yr oedd eich pwynt am arian strwythurol yn un da, fel eich awgrym am y ffordd academaidd y gallem ddelio ag ef. Mae angen inni sicrhau na fydd neb dan anfantais yn y ceisiadau y dymunant eu gwneud.
I congratulate Phil Williams for underlining the point that a former Secretary of State for Wales was merely following standard procedure at that time and that many accusations made against him were unjust. I would also welcome the Finance Secretary’s comments on that, in confirming that that was the case and that he was following standard practice.
Hoffwn longyfarch Phil Williams am danlinellu’r pwynt mai dim ond dilyn trefn safonol yr oedd cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd a bod llawer o’r cyhuddiadau a wnaethpwyd yn ei erbyn yn anghyfiawn. Hoffwn gael sylwadau’r Ysgrifennydd Cyllid ar hynny hefyd, gan gadarnhau mai dyna oedd yr achos a’i fod yn dilyn arfer safonol.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 77
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 77
Order. We are not here to debate former Secretaries of State, however pleasant that might be.
Trefn. Nid ydym yma i drafod cyn-Ysgrifenyddion Gwladol, pa mor bleserus bynnag y bo hynny.
My second point repeats my earlier question about the Welsh Development Agency and the Cardiff Bay Development Corporation budget lines. I was surprised to notice a change of more than £6.5 million in each case. I am surprised that that has not come before the Economic Development Committee. I hope that the Committee has not been sidelined.
Mae fy ail bwynt yn ailadrodd fy nghwestiwn cynharach am linellau cyllideb Awdurdod Datblygu Cymru a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Synnais o weld newid o fwy na £6.5 miliwn ym mhob achos. Yr wyf yn rhyfeddu na ddaeth hyn ger bron y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Gobeithio nad yw’r Pwyllgor wedi cael ei wthio o’r neilltu.
I assure you that the Committee has not been sidelined. I have indicated that the revised budgets will be available and that is a matter for the Committee to discuss. I have honestly answered the questions that I received from Conservative Members regarding the position of former Secretaries of State and the payback of any funds to central Government. It is always my duty as a Minister to answer questions accurately and correctly.
Gallaf eich sicrhau na chafodd y Pwyllgor ei wthio o’r neilltu. Yr wyf wedi dweud y bydd cyllidebau diwygiedig ar gael ac mae hynny’n fater i’r Pwyllgor ei drafod. Yr wyf wedi ateb yn onest y cwestiynau a gefais gan Aelodau Ceidwadol ynglŷn â sefyllfa cyn-Ysgrifenyddion Gwladol a thalu unrhyw arian yn ôl i’r Llywodraeth ganolog. Mae gennyf ddyletswydd bob amser fel Gweinidog i ateb cwestiynau’n gywir.
Rheoliadau Rhestr Ardrethi Canolog (Cymru) 1999
Central Rating List (Wales) Regulations 1999
Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 78
Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 78
I propose that the Assembly
Yr wyf yn cynnig bod y Cynulliad
Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government (continued) spoken in English p. 78
Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78
This should offer some light relief after the previous debate. All business properties in Wales are being revalued as part of the latest five yearly revaluation, which takes place on 1 April 2000. As a consequence of the revaluation, the National Assembly for Wales will have to make a whole raft of subordinate legislation to update and modify existing legislation. Over the next few weeks, I will bring forward for the Assembly’s approval, several statutory instruments that arise directly from, or are closely connected with this revaluation.
Dylai hyn roi ychydig o ysgafnder ar ôl y ddadl flaenorol. Mae pob eiddo busnes yng Nghymru yn cael ei ailbrisio fel rhan o’r ailbrisiad pum-mlynedd diweddaraf, fydd yn digwydd ar 1 Ebrill 2000. O ganlyniad i’r ailbrisio, bydd yn rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr gyfan o is-ddeddfau i ddiweddaru ac addasu deddfwriaeth bresennol. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddaf yn cyflwyno i’w cymeradwyo gan y Cynulliad sawl offeryn statudol sydd yn codi’n uniongyrchol o’r ailbrisio hwn, neu’n gysylltiedig yn agos ag ef.
For administrative convenience, some businesses, mainly those involving pipelines and cables such as Dŵr Cymru and SWALEC, appear on the central rating list and pay their rates directly to the Assembly rather than to councils. That means that there is only one bill for them to pay instead of 22 separate bills. All the rates collected are pooled and the Assembly redistributes them as part of its revenue support for councils and police authorities.
Er cyfleuster gweinyddol, mae rhai busnesau, sef yn bennaf y rheiny y mae a wnelont â phibelli a gwifrau fel Dŵr Cymru a SWALEC, yn ymddangos ar y rhestr ardrethi canolog ac yn talu eu trethi’n uniongyrchol i’r Cynulliad yn hytrach nag i gynghorau. Mae hyn yn golygu mai dim ond un bil sydd yn rhaid iddynt ei dalu yn lle 22 bil ar wahân. Caiff yr holl ardrethi a gesglir eu cronni ynghyd a bydd y Cynulliad yn eu hailddosbarthu fel rhan o’i gymorth refeniw i gynghorau ac awdurdodau heddlu.
The draft regulations tabled for the Assembly’s approval today specify the businesses that will appear on the central rating list for Wales from 1 April 2000 and define the types of property that will be covered. The only difference from the existing regulations is that power stations and properties owned or occupied by the British Railways Board will no longer appear on the central list. These properties are sited at distinct locations within particular local authority areas. They will now appear in local rating lists and have their bills issued by councils.
Mae’r rheoliadau drafft sydd wedi’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan y Cynulliad heddiw yn enwi’r busnesau a fydd yn ymddangos ar y rhestr ardrethi canolog i Gymru o 1 Ebrill 2000 ac yn diffinio’r mathau o eiddo a drethir. Yr unig wahaniaeth i’r rheoliadau presennol yw na fydd gorsafoedd pŵer ac eiddo sydd ym meddiant y Bwrdd Rheilffyrdd Prydeinig yn ymddangos mwyach ar y rhestr ganolog. Mae’r eiddo hyn mewn lleoliadau penodol o fewn ardaloedd awdurdodau lleol neilltuol. Byddant hwy bellach yn ymddangos yn y rhestri ardrethi lleol ac yn cael eu biliau gan y cynghorau.
Most of the companies appearing on the central rating list for Wales will have their new rateable values prescribed by the Assembly. Early in the new year, I will bring forward for the Assembly’s approval a package of five Orders setting new rateable values for gas, electricity and water companies operating in Wales, the major ports and Railtrack’s rail network in Wales. In the meantime, I hope that there will be no controversy and that it will be unanimously supported.
Bydd y rhan fwyaf o’r cwmnïau sydd yn ymddangos ar y rhestr ardrethi canolog i Gymru yn cael eu gwerthoedd trethadwy newydd wedi’u pennu gan y Cynulliad. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, cyflwynaf er cymeradwyaeth y Cynulliad becyn o bum Gorchymyn yn gosod gwerthoedd trethadwy newydd ar gyfer cwmnïau nwy, trydan a dŵr sydd yn gweithredu yng Nghymru, y prif borthladdoedd a rhwydwaith rheilffyrdd Railtrack yng Nghymru. Yn y cyfamser, gobeithio na fydd dim yn ddadleuol yn hyn ac y caiff gefnogaeth unfrydol.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 79
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 79
I cannot see any Members wanting to speak on this motion, not even Peter Black.
Ni allaf weld unrhyw Aelodau sydd eisiau siarad ar y cynnig hwn, dim hyd yn oed Peter Black.
If there is no opposition, I thank Members for the way in which they have approached the passing of this legislation. I ask them to vote for the motion. As this is my last debate of the millennium, I wish the compliments of the season to you, Presiding Officer, and your staff, Members and their staff, the Cabinet and to the army of good people who work for us in Cathays Park.
Os nad oes gwrthwynebiad, hoffwn ddiolch i Aelodau am yr agwedd a gymerasant tuag at basio’r ddeddfwriaeth hon. Gofynnaf iddynt bleidleisio dros y cynnig. Gan mai dyma fy nadl olaf y mileniwm hwn, estynnaf gyfarchion y tymor i chi, Lywydd, a’ch staff, i Aelodau a’u staff, i’r Cabinet ac i’r fyddin o bobl dda sydd yn gweithio drosom ym Mharc Cathays.
Will you give us an assurance that Father Christmas will be able to safely get around Wales?
A wnewch chi roi sicrwydd inni y bydd Siôn Corn yn gallu mynd o gwmpas Cymru’n ddiogel?
I am working on that. I assure Brian that I shall be out with him next week ensuring that the roads are clear.
Yr wyf yn gweithio ar hynny. Gallaf sicrhau Brian y byddaf allan gydag ef yr wythnos nesaf yn sicrhau bod y ffyrdd yn glir.
I finish by wishing everyone nadolig llawen and blwyddyn newydd dda—merry christmas and a happy new year. As someone who was recently likened to one of the Crankies in Wales on Sunday, and I hope it was the taller one, I wish you all a fantabydoesy recess.
I orffen, hoffwn ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb. Fel un a gymharwyd yn ddiweddar i un o’r Crankies yn Wales on Sunday, ac yr wyf yn gobeithio mai’r un talaf ydoedd, dymunaf wyliau fantabydoesy ichi i gyd.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 80
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 80
We will now vote on the motion.
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 35 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig.
Motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (35)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- David Davies
- Geraint Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Melding
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Rhodri Morgan
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Phil Williams
Cynnig Trefniadol
Procedural Motion
Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 81
Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 81
I propose that under Standing Order No. 6.9 we consider the motion on the special grant report on the children and youth partnership fund as a matter of urgent public importance.
Cynigiaf dan Reol Sefydlog Rhif 6.9 ein bod yn ystyried y cynnig ar yr adroddiad grant arbennig ar y gronfa bartneriaeth plant a ieuenctid fel mater brys penodol sydd o bwys cyhoeddus.
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 81
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 81
We will now vote on the procedural motion.
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig trefniadol.
Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 81
Procedural motion Andrew Davies p. 81
DerbyniwydAdopted O blaidFor 30 YmatalAbstain 5 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig trefniadol.
Procedural motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (30)
- Lorraine Barrett
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- David Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Rhodri Morgan
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Phil Williams
YmatalAbstain (5)
- Mick Bates
- Peter Black
- Michael German
- Christine Humphreys
- Jenny Randerson
Adroddiad Grant Arbennig ar y Gronfa Bartneriaeth Plant a Ieuenctid
Special Grant Report on the Children and Youth Partnership Fund
Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 82
Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 82
I propose that
Cynigiaf fod
Andrew Davies The Business Secretary (continued) spoken in English p. 82
Andrew Davies Y Trefnydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 82
As I explained yesterday during my business statement, the special grant report on the children and youth partnership fund, which was approved unanimously in Plenary last Wednesday, was incorrect. I explained that the error was in annex A, which specifies each local authority’s grant entitlement under the fund. Since the Welsh and English versions of the report are of equal standing, the statutory determination made last week was technically ineffective. Given local authorities’ need to confirm during December that they intend to use the grant for the specified purpose this financial year we need to approve the report at the earliest opportunity so that local partnerships have the maximum opportunity to spend the funding this year and to take forward the valuable projects identified in their plans. I therefore ask Members to approve the motion.
Fel yr eglurais ddoe yn ystod fy natganiad busnes, yr oedd yr adroddiad grant arbennig ar y gronfa bartneriaeth plant a ieuenctid, a gymeradwywyd yn unfrydol yng Nghyfarfod Llawn dydd Mercher diwethaf, yn anghywir. Eglurais mai yn atodiad A yr oedd y camgymeriad, lle pennir hawl grant pob awdurdod lleol dan y gronfa. Gan fod i fersiynau Cymraeg a Saesneg yr adroddiad statws cyfartal, yr oedd y penderfyniad statudol a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf yn dechnegol ddi-rym. O gofio bod angen i awdurdodau lleol gadarnhau yn ystod mis Rhagfyr eu bod yn bwriadu defnyddio’r grant i’r pwrpas a fwriadwyd yn y flwyddyn ariannol hon, mae angen inni gymeradwyo’r adroddiad cyn gynted ag y bo modd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bartneriaethau lleol wario’r arian eleni a symud ymlaen â’r prosiectau gwerthfawr a nodir yn eu cynlluniau. Gofynnaf felly i Aelodau gymeradwyo’r cynnig.
DerbyniwydAdopted O blaidFor 36 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0
Derbyniwyd y cynnig.
Motion adopted.
Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (36)
- Lorraine Barrett
- Mick Bates
- Peter Black
- Rosemary Butler
- Christine Chapman
- Andrew Davies
- Richard Edwards
- Sue Essex
- Val Feld
- Michael German
- Brian Gibbons
- William Graham
- Janice Gregory
- John Griffiths
- Christine Gwyther
- Alison Halford
- Brian Hancock
- Edwina Hart
- Christine Humphreys
- Jane Hutt
- Ann Jones
- Carwyn Jones
- Elin Jones
- Gareth Jones
- Peter Law
- Huw Lewis
- David Lloyd
- David Melding
- Alun Michael
- Tom Middlehurst
- Jonathan Morgan
- Rhodri Morgan
- Jenny Randerson
- Peter Rogers
- Janet Ryder
- Phil Williams
Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 83
Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 83
Diolchaf i Aelodau am eu dymuniadau da. Ategaf yr hyn a ddywedodd y Prif Ysgrifennydd a dymuno adferiad buan i’r ddau Aelod absennol. Cyfarchion y tymor hefyd i Aelodau’r Cynulliad ac yn arbennig i’n staff, sydd yn gweithio’n galed er mwyn ein galluogi ni i ddychwelyd ar ddyddiad hwylus. Deuwn yn ôl gan wybod eu bod hwythau hefyd wedi cael gwyliau priodol. Cyfarchion i chi ac i holl ddinasyddion Cymru sydd wedi bod yn ein gwylio. Milflwyddiant gwell inni i gyd.
I thank Members for their best wishes. I support the First Secretary’s comments and wish the two absent Members a swift recovery. Season’s greetings to Assembly Members and especially to our staff, who work hard to enable us to return on a convenient date. We will return knowing that they too have had an appropriate period of holiday. Greetings to you and all to all the citizens of Wales who have been watching us. A better millennium to us all.
Dyna ddiwedd y Cyfarfod ond dyma Siôn Corn ar fy nesg fel anrheg Nadolig fach. Bydd gwasanaeth carolau am chwech o’r gloch y tu allan i adeilad y Pierhead i bawb sydd yn dymuno ymuno. Bydd yn cael ei ddarlledu ar HTV, mae’n debyg, yn ystod y newyddion. Mae hynny’n tueddu i fod yn atyniad i bobl i ddod draw.
This is the end of the session but here is a Father Christmas on my desk as a small Christmas gift. A carol service will take place at six o’clock outside the Pierhead building for anyone wishing to join us. It will apparently be broadcast on HTV during the news. That tends to induce people to turn up.
Daeth y Cyfarfod i ben am 4.50 p.m.
The session ended at 4.50 p.m.