Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 25 Ionawr 2000

Tuesday 25 January 2000

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:30

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Datganiad gan y LlywyddStatement by the Presiding Officer
  2. 3Cwestiynau i’r Prif YsgrifennyddQuestions to the First Secretary
    1. 3Y Cynulliad a Senedd y Deyrnas UnedigThe Assembly and United Kingdom Parliament
    2. 4Delwedd CymruImage of Wales
    3. 7Datblygu PolisiPolicy Development
    4. 11Cronfeydd Strwythurol EwropeaiddEuropean Structural Funds
    5. 14Y Gronfa Cyfleoedd NewyddThe New Opportunities Fund
    6. 16Arolwg Cynhwysfawr o Wariant (Trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru)Comprehensive Spending Review (Discussions with the Secretary of State for Wales)
  3. 17Cwestiwn BrysUrgent Question
    1. 17Y Gwaharddiad ar Gig Eidion ar yr AsgwrnThe Beef on the Bone Ban
  4. 20Datganiad ar Chwilen y MileniwmStatement on the Millennium Bug
  5. 25Datganiad BusnesBusiness Statement
  6. 28Adroddiad y Prif Swyddog MeddygolThe Chief Medical Officer’s Report 6 o bleidleisiau6 votes
  7. 81Trydydd Gorchymyn Trosglwyddo SwyddogaethauThird Transfer of Functions Order 1 bleidlais1 vote
  8. 85Dadl FerShort Debate
    1. 85Lwfansau Cynghorwyr yng NghymruCouncillors Allowances in Wales

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Adroddiad y Prif Swyddog MeddygolThe Chief Medical Officer’s Report
Gwelliant 1Amendment 15200DerbyniwydAdopted
Gwelliant 2Amendment 24660DerbyniwydAdopted
Gwelliant 3Amendment 35200DerbyniwydAdopted
Gwelliant 4Amendment 420032GwrthodwydRejected
Gwelliant 5Amendment 55200DerbyniwydAdopted
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion5200DerbyniwydAdopted
Trydydd Gorchymyn Trosglwyddo SwyddogaethauThird Transfer of Functions Order
CynnigMotion4700DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd

Statement by the Presiding Officer

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Atgoffaf Aelodau fod y bleidlais o dan Reol Sefydlog Rhif 22.7 ynglŷn â chynigion a wneir gan Aelodau o’r Cynulliad ar gyfer is-ddeddfwriaeth i’w chynnal ddydd Iau, 27 Ionawr. Tynnaf eich sylw at yr angen i Aelodau gyflwyno eu henwau. Y mae’n bleidlais gyfrinachol, ac y mae angen i’r Aelodau ddangos pa destunau y byddant yn dymuno eu trafod yn ogystal â’u henwau er mwyn i’r bleidlais ddirgel ddigwydd ddydd Iau nesaf. Hwn yw’r tro cyntaf inni gael pleidlais ar gyfer is-ddeddfwriaeth a awgrymwyd gan Aelodau o’r Cynulliad ac y mae’n bwysig ein bod yn gwneud defnydd llawn o’r Rheol Sefydlog hon. Rhyddhawyd cyfarwyddyd ar hyn cyn y Nadolig a gosodwyd copi ar y fewnrwyd.

I remind Members that the ballot under Standing Order No. 22.7 on motions put forward by Assembly Members for subordinate legislation will be held on Thursday, 27 January. I draw your attention to the need for Members to submit their names. It is a secret ballot, and Members need to indicate which topics they wish to discuss in addition to their names so that the secret ballot can take place next Thursday. This will be our first ballot for subordinate legislation suggested by Assembly Members and it is important that we make full use of this Standing Order. Guidance on this was released before Christmas and a copy was placed on the intranet.

Cwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd

Questions to the First Secretary

Y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig

The Assembly and United Kingdom Parliament

Q1 Michael German spoken in English p. 3

C1 Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 3

In light of the Assembly’s resolution of 8 December 1999, what steps have been taken to establish a mechanism for continuing dialogue between the Assembly and the UK Parliament during the drafting of new legislation? (OAQ2961)

Yng ngoleuni penderfyniad y Cynulliad ar 8 Rhagfyr 1999, pa gamau a gymerwyd i greu mecanwaith ar gyfer parhau â’r ddeialog rhwng y Cynulliad a Senedd y DU wrth ddrafftio deddfwriaeth newydd? (OAQ2961)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 3

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 3

As I explained in our debate on the Queen’s Speech, Parliament does not draft legislation. There are two ways to develop or influence primary legislation. One is to make proposals to the Cabinet of the UK Government and seek a legislative vehicle. I am committed to developing ways in which the Assembly and its Committees can be involved in that process in response to the Assembly’s resolution to which Mike referred. The second way is by either adapting proposed legislation or by obtaining agreement to specific Welsh clauses in UK legislation, as with the new service for youth in Wales, on which I reported here last week.

Fel yr eglurais yn ein dadl ar Araith y Frenhines, nid yw’r Senedd yn drafftio deddfwriaeth. Mae dwy ffordd o ddatblygu neu ddylanwadu ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Un ohonynt yw cyflwyno cynigion i Gabinet Llywodraeth y DU a chwilio am gyfrwng deddfwriaethol. Yr wyf wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau i’r Cynulliad a’i Bwyllgorau gael cymryd rhan yn y broses honno mewn ymateb i’r penderfyniad gan y Cynulliad y cyfeiriodd Mike ato. Yr ail ffordd yw naill ai addasu deddfwriaeth arfaethedig neu gael cytundeb ar gymalau Cymreig penodol yn neddfwriaeth y DU, fel yn achos y gwasanaeth newydd i ieuenctid yng Nghymru, y rhoddais adroddiad arno yma yr wythnos diwethaf.

Michael German spoken in English p. 4

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 4

Given that amendments are put forward on the floor of the House of Commons, in the House of Lords and at committee stage, how can this Assembly best influence the discussions and decisions of those Members who are responsible for them? The Chair of the Welsh Affairs Select Committee has written to all of us, suggesting that it may be a vehicle. What arrangements can and should we put in place as a matter of urgency, given that legislation, particularly on local government, is proceeding apace in the House of Lords?

O dderbyn bod gwelliannau’n cael eu cynnig ar lawr Tŷ’r Cyffredin, yn Nhŷ’r Arglwyddi ac yng ngham y pwyllgor, sut y gall y Cynulliad hwn ddylanwadu orau ar drafodaethau a phenderfyniadau’r Aelodau hynny sydd yn gyfrifol amdanynt? Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig at bob un ohonom, gan awgrymu y gallai fod yn gyfrwng. Pa drefniadau y gallwn ac y dylem eu sefydlu fel mater o frys, o dderbyn bod deddfwriaeth, yn enwedig ar lywodraeth leol, yn mynd rhagddi’n gyflym yn Nhŷ’r Arglwyddi?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

There are a number of different ways we can influence the way in which amendments are put forward. During the years of opposition in Westminster, I spent a lot of time drafting excellent amendments, which rarely found their way into legislation. However, when Ministers in charge of legislation were persuaded that amendments were improvements and constructive, they found their way into that legislation. During some of the debates on the criminal justice Bills, I was able to persuade the Minister responsible, David Maclean, usually in advance of debates in Committee or the House, that certain amendments were constructive contributions. We influence by arguing our case, and by agreeing across party lines wherever possible. That is why discussion in Committees and in Plenary is an important way of ensuring that we put the case forward.

Mae sawl ffordd wahanol inni allu dylanwadu ar y modd y cyflwynir gwelliannau. Yn ystod y blynyddoedd o fod yn yr wrthblaid yn San Steffan, treuliais lawer o amser yn drafftio gwelliannau rhagorol, na ddaethant ond yn anaml yn rhan o ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, pan berswadiwyd y Gweinidogion a chanddynt ofal am y ddeddfwriaeth fod gwelliannau’n welliant ac yn adeiladol, aethant yn rhan o’r ddeddfwriaeth honno. Yn ystod rhai o’r dadleuon ar y Mesurau cyfiawnder troseddol, gallais berswadio’r Gweinidog a oedd yn gyfrifol, David Maclean, cyn y dadleuon yn y Pwyllgor neu yn y Tŷ fel arfer, fod rhai gwelliannau’n gyfraniadau adeiladol. Yr ydym yn dylanwadu drwy ddadlau ein hachos, a thrwy gytuno ar draws ffiniau pleidiau lle bynnag y bo modd. Dyna pam y mae trafodaeth yn y Pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn yn ffordd bwysig o sicrhau y cyflwynwn yr achos.

Delwedd Cymru

Image of Wales

Q2 John Griffiths spoken in English p. 4

C2 John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 4

What progress is being made in enhancing and building the image of Wales in Europe and the wider world? (OAQ2957)

Beth yw hynt yr ymdrechion i wella a meithrin delwedd Cymru yn Ewrop a’r byd y tu hwnt? (OAQ2957)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 4

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 4

Arrangements are in hand to convene the image of Wales conference, which I promised in the Plenary debate on 15 December. It will involve the key agencies and a wide range of parties interested in promoting Wales. It will provide us with a platform to work together to develop and project the new image of Wales in the twenty-first century to the rest of the world.

Mae trefniadau mewn llaw i gynnull cynhadledd delwedd Cymru, a addewais yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Rhagfyr. Bydd yn cynnwys yr asiantaethau allweddol ac amrediad eang o bartïon sydd â diddordeb mewn hybu Cymru. Bydd yn rhoi llwyfan inni gydweithio i ddatblygu a chyflwyno’r ddelwedd newydd o Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain i weddill y byd.

John Griffiths spoken in English p. 5

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 5

I believe that Wales is relatively enthusiastic about Europe, and Objective 1 moneys should increase that view. There is an important role for the Assembly within the European Union, and I hope that the enthusiasm in Wales will help secure a yes vote in any referendum on British membership of the single currency. That is a personal view. Do you see the Assembly playing a role, in the run up to any referendum, in debating the benefits to Wales of membership of the single currency?

Credaf fod Cymru’n gymharol frwd ynghylch Ewrop, a dylai arian Amcan 1 gryfhau’r farn honno. Mae rôl bwysig i’r Cynulliad oddi mewn i’r Undeb Ewropeaidd, a gobeithiaf y bydd y brwdfrydedd yng Nghymru yn gymorth i sicrhau pleidlais o blaid mewn unrhyw refferendwm ar aelodaeth Brydeinig o’r arian sengl. Barn bersonol yw honno. A ragwelwch y Cynulliad yn chwarae rôl, yn y cyfnod cyn unrhyw refferendwm, wrth drafod y manteision i Gymru o aelodaeth o’r arian sengl?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 5

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

We must first understand the euro and its impact. Its existence means that it has an impact on the retail trade, tourism and so on, even if we are not part of the euro region. People in the retail industry some four or five years ago started to prepare the way, irrespective of any decision by the UK. We can therefore play a part in ensuring a better understanding of Europe and the issues surrounding the euro. There have been many misunderstandings about European issues generally, and about the euro. That is irrespective of the actual decision, on which Members might want to take a view in due course.

Yn gyntaf, rhaid inni ddeall yr ewro a’i effaith. Mae ei fodolaeth yn golygu y caiff effaith ar y fasnach adwerthu, twristiaeth ac yn y blaen, hyd yn oed os nad ydym yn rhan o ranbarth yr ewro. Tua phedair neu bum mlynedd yn ôl dechreuodd rhai yn y diwydiant adwerthu baratoi’r ffordd, heb ystyried unrhyw benderfyniad gan y DU. Felly gallwn chwarae rhan wrth sicrhau gwell dealltwriaeth o Ewrop a’r materion sydd yn gysylltiedig â’r ewro. Bu llawer o gamddealltwriaethau am faterion Ewropeaidd yn gyffredinol, ac am yr ewro. Mae hynny ar wahân i’r penderfyniad ei hun, y bydd yr Aelodau efallai am ystyried eu barn arno yn ei dro.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 5

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 5

Ategaf yr hyn a ddywedodd John am yr ewro. Y peth gorau y gallai unrhyw un sydd am hyrwyddo’r diwydiant amaethyddol ei wneud fyddai hyrwyddo aelodaeth o’r ewro. Efallai fod gan un blaid yn y lle hwn rywbeth i’w ddysgu ynglŷn â hynny. Yr wyf yn credu ein bod i gyd am weld delwedd Cymru yn cael ei hyrwyddo yn Ewrop a ledled y byd. Soniodd adroddiad Rowntree yn ddiweddar fod manteision economaidd i hyrwyddo’r ddelwedd honno. Pam, felly, nad oes sôn yn y ddogfen ‘Gwell Cymru’ am y manteision economaidd a allai ddod o hyrwyddo delwedd Cymru? Y mae brawddeg yn y ddogfen sydd yn dweud y byddai gwybodaeth a gwerthfawrogiad rhyngwladol o gerddoriaeth, ffilm, celfyddyd, drama a chwaraeon Cymru yn cael eu dyblu. Nid wyf yn siŵr sut mae rhywun yn cyfrif y gwerth hwnnw cyn mynd ati i’w ddyblu. Clywaf sôn am lywodraeth syml, ond efallai fod hyn yn llywodraeth or-syml.

I endorse what John said about the euro. The best thing anybody who wished to promote the agriculture industry could do would be to promote membership of the euro. Perhaps one party in this place has something to learn about that. I believe that we all want to see the image of Wales promoted in Europe and throughout the world. The Rowntree report recently referred to the economic benefits of promoting that image. Why, therefore, is there no mention in the document ‘A Better Wales’ of the economic benefits that could result from promoting the image of Wales? There is a sentence in the document that states that international appreciation of Welsh film, music, art, drama and sport would be doubled. I am not sure how one quantifies that value before doubling it. I hear mention of simple government, but perhaps this is over-simplified government.

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 6

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 6

Mae’n bosibl gor-symleiddio pethau. Mae hynny’n digwydd yn y Siambr hon ac mewn lleoedd eraill. Gallwn edrych ar yr hyn sydd yn y ddogfen ‘Gwell Cymru’ a gweld a oes modd ei chryfhau. Dyna’r math o sylwadau yr ydym yn gofyn i bobl eu cyflwyno i wella’r ddogfen. Mae’r ddogfen yn gam pwysig ymlaen, ond nid ydym yn dweud ein bod wedi gorffen y dasg. Fe edrychwn ar y ddogfen ac fe ystyriwn y sylwadau hynny fel rhan o’r ffordd ymlaen. Byddwn yn ystyried pwysigrwydd yr ewro ynglŷn â’r sefydlogrwydd y mae’n ei roi i bethau fel amaethyddiaeth, a hefyd y ffigur ynglŷn ag Amcan 1. Mae’n amlwg bod ochr bositif i’r peth, ond byddai’n rhy hir i fynd i mewn i’r holl ddadl mewn ateb i un cwestiwn.

It is possible to over-simplify matters. That happens in this Chamber and in other places. We can look at the contents of the document ‘A Better Wales’ and see whether it is possible to strengthen it. Those are the kinds of comments we ask people to make to improve the document. The document is an important step forward, but we are not saying that we have finished the task. We will look at the document and consider those comments as part of the way forward. We will consider the importance of the euro as regards giving stability to things such as agriculture and also the figure on Objective 1. There is obviously a positive side to this, but it would be too lengthy to go into the whole argument in answer to one question.

William Graham spoken in English p. 6

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 6

Regarding the welcome return of the little lion on fresh eggs, does the First Secretary intend to take forward the suggestion made in December last year, that we develop, create and publicise an all-Wales mark to help identify Welsh products?

Mewn perthynas â dychweliad derbyniol y llew bach ar wyau ffres, a yw’r Prif Ysgrifennydd yn bwriadu bwrw ymlaen â’r awgrym a wnaethpwyd yn Rhagfyr y llynedd, y dylem ddatblygu, greu a rhoi cyhoeddusrwydd i nod Cymru gyfan er mwyn helpu i ddynodi cynhyrchion o Gymru?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 6

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

I thought that William was going to suggest a little dragon on Welsh eggs. Perhaps that might stimulate thought. Branding, and the question of whether to have a single brand or a family of brands, forms part of the discussion that we need to have on the image of Wales. It is important to ensure that we have, in the tradition of the best Welsh choirs, a chorus whose voice is powerful, rather than all of us singing the same note. It is the harmony that is important. We want to build on the Branding Wales group’s work in drawing together all relevant organisations to try to take this forward. The idea of branding and, where appropriate, a single brand, is a powerful one.

Credais fod William yn mynd i awgrymu draig fach ar wyau o Gymru. Efallai y bydd hynny’n ysgogi’r meddwl. Mae brandio, a’r cwestiwn a ddylid cael un brand neu deulu o frandiau, yn rhan o’r drafodaeth y bydd yn rhaid inni wrthi ar ddelwedd Cymru. Mae’n bwysig sicrhau bod gennym gorws â llais cryf, yn ôl traddodiad corau gorau Cymru, yn hytrach na bod pawb ohonom yn canu’r un nodyn. Y cytgord sydd yn bwysig. Yr ydym am adeiladu ar waith grŵp Brandio Cymru wrth ddod â’r holl gyrff perthnasol at ei gilydd i geisio datblygu hyn. Mae’r syniad o frandio a, lle y bo’n briodol, un brand, yn un pwerus.

Mick Bates spoken in English p. 6

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 6

There is much positivity about the euro and particularly Branding Wales. However, how does the First Secretary think that the image of Wales and export promotion can be enhanced by taking power away from the Welsh Development Agency for developing overseas trade?

Mae llawer o feddwl cadarnhaol ynghylch yr ewro ac yn enwedig Brandio Cymru. Fodd bynnag, ym marn y Prif Ysgrifennydd, sut y bydd delwedd Cymru a hybu allforion yn cael eu hyrwyddo drwy fynd â phŵer dros ddatblygu masnachu tramor oddi ar Awdurdod Datblygu Cymru?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

There is no question of taking power away from the WDA. In terms of overseas trade development, we are focusing on the work that is being carried out in economic development, in which Rhodri Morgan has been given an important role. On overseas missions, for instance, it has always been the tradition that there is close working between Ministers, the WDA and the Welsh Office, now the Assembly. We can all play a part in that. We are looking to focus the work on international contacts to make it more powerful and effective.

Ni chymerir pŵer oddi ar Awdurdod Datblygu Cymru ar unrhyw gyfrif. O ran datblygu’r fasnach dramor, yr ydym yn canolbwyntio’r gwaith a gyflawnir mewn datblygu economaidd, y rhoddwyd rôl bwysig ynddo i Rhodri Morgan. Ar deithiau masnach tramor, er enghraifft, bu’n draddodiad erioed cael cydweithio agos rhwng Gweinidogion, Awdurdod Datblygu Cymru a’r Swyddfa Gymreig, y Cynulliad bellach. Gallwn oll chwarae rhan yn hynny. Yr ydym am geisio canolbwyntio’r gwaith ar gysylltiadau rhyngwladol er mwyn ei wneud yn fwy pwerus ac effeithiol.

Datblygu Polisi

Policy Development

Q3 Huw Lewis spoken in English p. 7

C3 Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 7

What steps will the First Secretary take to ensure that young people from all parts of Wales will have the fullest possible opportunity to become involved in the policy development of the Assembly? (OAQ2939)

Pa gamau y bydd y Prif Ysgrifennydd yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru’n cael pob cyfle posibl i gyfrannu at ddatblygu polisïau’r Cynulliad? (OAQ2939)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 7

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

We have just launched Young Voice/Llais Ifanc, which will provide a real opportunity. It will develop a process for engaging and interacting with children and young people in a real, effective, dynamic and sustainable way. It is intended to enable young people to experiment and to find long-term ways of getting involved in the work of the Assembly. Using internet and e-mail, it will involve dialogue through a virtual Assembly and allow young people to talk to other young people in different parts of Wales. I look forward to the report that we will have in due course from the taskforce, which includes many young people and is led by the Wales Youth Agency.

Yr ydym newydd lansio Young Voice/Llais Ifanc, a fydd yn darparu cyfle gwirioneddol. Bydd yn datblygu proses i gysylltu a rhyngweithio â phlant a phobl ifanc mewn modd real, effeithiol, dynamig a chynaliadwy. Bwriedir iddo alluogi pobl ifanc i arbrofi a chanfod dulliau tymor hir o ymgysylltu â gwaith y Cynulliad. Drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost, bydd yn golygu deialog drwy Gynulliad rhithwir ac yn caniatáu i bobl ifanc siarad â phobl ifanc eraill mewn gwahanol rannau o Gymru. Edrychaf ymlaen at yr adroddiad y byddwn yn ei gael maes o law gan y tasglu, sydd yn cynnwys llawer o bobl ifanc ac sydd dan arweiniad Asiantaeth Ieuenctid Cymru.

Huw Lewis spoken in English p. 7

Huw Lewis siaradwyd yn Saesneg t. 7

This is a powerful initiative and I will refer school pupils to Young Voice/Llais Ifanc in preparation for their visits to the Assembly. I am delighted to hear of this. How do our plans for youth involvement relate to the document, ‘A Better Wales’, which was launched yesterday?

Mae hon yn fenter bwerus a byddaf yn cyfeirio disgyblion ysgol at Young Voice/Llais Ifanc er mwyn eu paratoi ar gyfer eu hymweliadau â’r Cynulliad. Yr wyf wrth fy modd o glywed am hyn. Beth yw’r berthynas rhwng ein cynlluniau ar gyfer y rhan i ieuenctid a’r ddogfen ‘Gwell Cymru’, a lansiwyd ddoe?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 8

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

There is an opportunity for young people to comment on ‘A Better Wales’, as there is for adults and organisations. Yesterday, when I visited Y Pant Comprehensive School, I was pleased that young people were looking at ‘A Better Wales’ and the Assembly’s web site. On the front page, the symbol for Young Voice/Llais Ifanc makes it clear that they are welcome to contribute. I hope that we can engage young people in a way that would have been impossible before the development of the internet. That engagement will not simply be about their comments to the Assembly—although they are invited to comment on the return form, which is part of the document—but about them talking to each other and talking to different youth bodies, schools and colleges across Wales. That will release a lot of energy, which could make a major contribution to our development as an Assembly.

Mae cyfle i bobl ifanc wneud sylw ar ‘Gwell Cymru’, fel y mae i oedolion a mudiadau. Ddoe, pan ymwelais ag Ysgol Gyfun y Pant, yr oeddwn yn falch bod y bobl ifanc yn edrych ar ‘Gwell Cymru’ ac ar wefan y Cynulliad. Ar y tudalen blaen, mae symbol Young Voice/Llais Ifanc yn rhoi ar ddeall bod croeso iddynt gyfrannu. Gobeithiaf y gallwn gysylltu â phobl ifanc mewn modd a fuasai’n amhosibl cyn datblygu’r rhyngrwyd. Ni fydd y cysylltiad hwnnw’n ymwneud â’u sylwadau i’r Cynulliad yn unig—er bod gwahoddiad iddynt wneud sylw ar y ffurflen ddychwelyd, sydd yn rhan o’r ddogfen—ond â hwy yn siarad â’i gilydd a siarad â gwahanol fudiadau ieuenctid, ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd hynny’n rhyddhau llawer o egni a allai fod yn gyfraniad o bwys i’n datblygiad fel Cynulliad.

Helen Mary Jones spoken in English p. 8

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 8

While Young Voice/Llais Ifanc has an important role in involving young people in the Assembly’s work, does the First Secretary agree that there is a risk that relying too much on it could further exclude some of the most socially excluded and economically deprived young people, notably from places like Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent and Llanelli, who are not likely to have access to the internet? How closely is the Government in contact with the young people’s assembly group which was formed by Welsh children, and is a group of young people who are asking us for perhaps a more challenging partnership than that which can be delivered electronically?

Er bod rôl bwysig i Young Voice/Llais Ifanc o ran cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad, a yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno bod perygl y gallai gorddibynnu arno allgáu ymhellach rai o’r bobl ifanc fwyaf cymdeithasol ddieithriedig ac economaidd ddifreintiedig, yn enwedig mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Llanelli, nad yw’r rhyngrwyd yn debygol o fod ar gael iddynt? Pa mor agos yw cysylltiad y Llywodraeth â grŵp cynulliad y bobl ifanc a ffurfiwyd gan blant yng Nghymru, ac sydd yn grŵp o bobl ifanc sydd efallai’n gofyn inni am bartneriaeth fwy ymestynnol na’r hyn y gellir ei gyflenwi’n electronaidd?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 8

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 8

The partnership that can be delivered electronically is more challenging than any of the rather facile youth parliaments that have existed in the past, which have merely aped the activity of adults. The young people who are part of the Young Voice/Llais Ifanc group have been drawn from the young people’s assembly group to which you refer. So they are being involved in helping us move forward and I acknowledge their work. We are trying to build on that, not to do something different and as an alternative. Young Voice/Llais Ifanc is meant to be accessible for all young people. A while ago, I found it quite challenging to be part of the management group for the computer workshop in Coleg Glan Hafren in Rumney, where youngsters with learning difficulties coped magnificently with computers although their expression in other ways was more difficult for them. I hope that in places like Merthyr Tydfil, where Huw has said he will be promoting this, and in Llanelli, where I am sure that all of us who share a responsibility for Llanelli would wish to do so, we can encourage youngsters who may come across this as an opportunity in a youth club. We need to open up access. I accept entirely the implicit question, how do we make it more accessible to all young people? That is the challenge and I hope that all of us in the Assembly will look at ways to do that in our constituencies.

Mae’r bartneriaeth y gellir ei chyflenwi’n electronaidd yn fwy ymestynnol nag unrhyw un o’r seneddau ieuenctid arwynebol braidd a fu yn y gorffennol nad ydynt ond wedi dynwared gweithgaredd oedolion. Mae’r bobl ifanc sydd yn rhan o grŵp Young Voice/Llais Ifanc wedi eu denu o grŵp cynulliad y bobl ifanc y cyfeiriwch ato. Felly mae ganddynt ran yn ein helpu i symud ymlaen a chydnabyddaf eu gwaith. Yr ydym yn ceisio adeiladu ar hynny, nid er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol ond fel dewis arall. Bwriedir i Young Voice/Llais Ifanc fod o fewn cyrraedd yr holl bobl ifanc. Dro’n ôl, fe’i cefais yn eithaf her i fod yn rhan o’r grŵp rheoli ar gyfer y gweithdy cyfrifiaduron yng Ngholeg Glan Hafren yn Nhredelerch, lle’r oedd pobl ifanc ag anawsterau dysgu’n ymdopi’n ardderchog â chyfrifiaduron er eu bod yn ei chael yn anodd mynegi drwy ddulliau eraill. Gobeithiaf, mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, lle y dywedodd Huw y bydd yn hyrwyddo hyn, a Llanelli, lle’r wyf yn sicr y bydd pawb ohonom sydd yn rhannu cyfrifoldeb dros Lanelli yn dymuno gwneud hynny, y gallwn annog pobl ifanc a fydd efallai’n dod ar draws hyn fel cyfle mewn clwb ieuenctid. Rhaid inni sicrhau ei fod ar gael yn ehangach. Yr wyf yn llwyr dderbyn y cwestiwn goblygedig, sef sut y byddwn yn sicrhau ei fod o fewn cyrraedd yr holl bobl ifanc? Dyna’r her a gobeithiaf y bydd pawb ohonom yn y Cynulliad yn ystyried dulliau i wneud hynny yn ein hetholaethau.

Jonathan Morgan spoken in English p. 9

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 9

I fully recognise the commitment shown by the First Secretary to the involvement of young people, but is it not the case that apathy exists among young people because of the lack of strategic direction in the Assembly, and, frankly, as one member of your own party put it, the limping on from day to day?

Cydnabyddaf yn llwyr yr ymrwymiad a amlygwyd gan y Prif Ysgrifennydd i’r cysylltiad â phobl ifanc, ond onid yw’n wir bod difrawder ymysg pobl ifanc oherwydd y diffyg cyfeiriad strategol yn y Cynulliad, ac, a siarad yn blwmp ac yn blaen, fel y dywedodd un aelod o’ch plaid eich hun, yr hercio ymlaen o ddydd i ddydd?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 9

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

I see less apathy among young people than among some of their elders and betters some of whom are involved in political activity. Jonathan, you have to look at yourself as an older person now. On the school and youth club visits that I make from time to time around Wales I do not see apathy. I see youngsters in sometimes difficult circumstances, sometimes disadvantaged youngsters in the disadvantaged communities that Helen Mary was asking about, with a positive enthusiasm for making a difference in their local community and in Wales as a whole. No, Jonathan, you and all of us can learn from young people.

Gwelaf lai o ddifrawder ymysg pobl ifanc nag ymysg rhai hŷn a doethach y mae rhai ohonynt yn ymwneud â gweithgaredd gwleidyddol. Jonathan, rhaid ichi eich ystyried eich hun yn rhywun hŷn yn awr. Ar fy ymweliadau achlysurol ag ysgolion a chlybiau ieuenctid o amgylch Cymru ni welaf ddifrawder. Gwelaf bobl ifanc sydd weithiau mewn amgylchiadau anodd, weithiau pobl ifanc ddifreintiedig yn y cymunedau difreintiedig y gofynnodd Helen Mary amdanynt, sydd â brwdfrydedd cadarnhaol dros wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol ac yng Nghymru gyfan. Na, Jonathan, gallwch chi a phawb ohonom ddysgu oddi wrth bobl ifanc.

Jenny Randerson spoken in English p. 9

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 9

I was disappointed to hear you say that you regard youth parliaments as facile. Maybe the word ‘parliament’ is the problem, rather than the concept itself.

Yr oeddwn yn siomedig o’ch clywed yn dweud eich bod yn ystyried seneddau ieuenctid yn arwynebol. Efallai mai’r gair ‘senedd’ yw’r broblem, yn hytrach na’r cysyniad ei hun.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

Absolutely.

Yn hollol.

Jenny Randerson spoken in English p. 10

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 10

A properly elected youth assembly, drawn from all types of communities in Wales, to represent all strands of Welsh society, would be a useful sounding board. It would not just be a rehearsal on one afternoon of how the Assembly works. It would be an ongoing opportunity for young people to put their views forward and, in between meetings, to go back into their communities and take soundings from other young people.

Byddai cynulliad ieuenctid a etholwyd yn iawn, wedi ei dynnu o bob math o gymunedau yng Nghymru, i gynrychioli’r holl elfennau mewn cymdeithas yng Nghymru, yn seinfwrdd defnyddiol. Byddai’n amgenach nag ymarferiad ar un prynhawn o’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithio. Byddai’n gyfle parhaus i bobl ifanc gyflwyno eu barn a, rhwng cyfarfodydd, mynd yn ôl i’w cymunedau a cheisio barn pobl ifanc eraill.

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 10

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 10

There is much in that argument. I was referring to the sort of youth parliament, where people sit in a chamber, which apes the House of Commons and, at one step’s remove, the Oxford Union, and hone their ability for repartee and disagreement and dissent, perhaps with an element of wit thrown in, but with little of the reality of constructive debate and looking at positive outcomes. Far too often it is something which I regard as the unreality of a youth parliament.

Mae llawer yn y ddadl honno. Yr oeddwn yn cyfeirio at y math o senedd ieuenctid, lle y mae pobl yn eistedd mewn siambr, sydd yn dynwared Tŷ’r Cyffredin ac, ar un cam oddi wrtho, Undeb Rhydychen, ac yn rhoi min ar eu gallu i ffraethinebu ac anghytuno ac anghydweld, gan gynnwys rhywfaint o ffraethineb efallai, ond heb fawr ddim o realiti dadl adeiladol ac ystyried canlyniadau cadarnhaol. Yn rhy aml o lawer y mae’n rhywbeth a ystyriaf fi yn afrealiti senedd ieuenctid.

There have been far better youth council events, which is the phrase I would use for what you are talking about. I took part in a two-day conference in Westminster Hall, three or four years ago, where much preparation had been done and there were many workshops and a bringing together of ideas. It was long enough for young people to engage in debate and then come forward with recommendations, which they addressed to all the political parties before the last General Election. Those events are positive but the opportunity of using the internet means that youngsters in every part of Wales can be part of a dialogue. The culmination of the first phase of Young Voice/Llais Ifanc will be a conference in July to bring young people together. It is not just about the internet; it will be as inclusive as possible so that virtually anybody can take part. That is what is exciting about this concept. It certainly does not close off the sort of model to which you referred.

Bu digwyddiadau cyngor ieuenctid llawer gwell, a dyna’r ymadrodd a ddefnyddiwn am yr hyn y siaradwch amdano. Cymerais ran mewn cynhadledd ddeuddydd yn Neuadd San Steffan, dair neu bedair blynedd yn ôl, lle y bu llawer o baratoi a lle’r oedd llawer o weithdai ac o ddod â syniadau at ei gilydd. Yr oedd yn ddigon hir i bobl ifanc gymryd rhan mewn dadl ac yna gyflwyno argymhellion, a gyfeiriasant i’r holl bleidiau gwleidyddol cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf. Mae’r digwyddiadau hynny’n gadarnhaol ond mae’r cyfle i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn golygu y gall pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru fod yn rhan o ddeialog. Uchafbwynt cyfnod cyntaf Young Voice/Llais Ifanc fydd cynhadledd yng Ngorffennaf i ddod â phobl ifanc at ei gilydd. Mae a wnelo â mwy na’r rhyngrwyd yn unig; bydd mor gynhwysol ag y bo modd fel y gall bron pawb gymryd rhan. Dyna’r hyn sydd yn gyffrous am y cysyniad hwn. Yn sicr, nid yw’n diystyru’r math o fodel y cyfeiriasoch ato.

Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd

European Structural Funds

Q4 Alun Cairns spoken in English p. 11

C4 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 11

What are the latest developments in the First Secretary’s negotiations with the Secretary of State for Wales and the Treasury in obtaining new money, over and above the Barnett block grant for use as match funding for European structural funds? (OAQ2947)

Beth yw’r datblygiadau diweddaraf yn nhrafodaethau’r Prif Ysgrifennydd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Trysorlys i gael arian newydd, sydd yn ychwanegol at grant bloc Barnett i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd strwythurol Ewropeaidd? (OAQ2947)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

That is a muddled question, but I confirm that I am committed to obtaining the necessary agreement with the Treasury to enable us to use, to the full, the cash available to us over the coming years through Objective 1. The Secretary of State for Wales is equally committed and we discuss these matters frequently. [ASSEMBLY MEMBERS: ‘Not enough’.]

Mae hwnnw’n gwestiwn dryslyd, ond cadarnhaf fy mod wedi ymrwymo i gael y cytundeb angenrheidiol â’r Trysorlys fel y gallwn ddefnyddio, yn llawn, yr arian sydd ar gael i ni dros y blynyddoedd sydd i ddod drwy Amcan 1. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymrwymo i’r un graddau a thrafodwn y materion hyn yn aml. [AELODAU O’R CYNULLIAD: ‘Dim digon’.]

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

Behave yourselves. You would say ‘not enough’ whatever I say.

Bihafiwch. Dywedech ‘dim digon’ ni waeth beth a ddywedwn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 11

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

Order. Behaviour in the Chamber is a matter for the Presiding Officer, Alun.

Trefn. Mae ymddygiad yn y Siambr yn fater i’r Llywydd, Alun.

Alun Cairns spoken in English p. 11

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 11

Thank you for that answer, First Secretary. Do you accept that if west Wales and the Valleys—the poorest parts of Wales—are to fully exploit this one-off opportunity, full match funding over and above the Barnett block grant is needed for the whole of the Objective 1 programme? Do you accept that there is a strong case for an above average quota in the early years in order to kick start the programme and to ensure that we do not end up with a failure similar to that that other parts of the United Kingdom have experienced in the past? Do you acknowledge the seriousness with which the Welsh electorate, Welsh business, and above all and for your own sake, Assembly Members take this issue?

Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Ysgrifennydd. A ydych yn derbyn, os yw gorllewin Cymru a’r Cymoedd—y rhannau tlotaf o Gymru—i ddefnyddio’r cyfle unigryw hwn yn llawn, fod angen arian cyfatebol llawn yn ychwanegol at yr hyn sydd yng ngrant bloc Barnett ar gyfer y cwbl o’r rhaglen Amcan 1? A ydych yn derbyn bod dadl gref dros gwota uwchlaw’r cyfartaledd yn y blynyddoedd cynnar er mwyn rhoi cychwyn i’r rhaglen a sicrhau na adewir ni â methiant sydd yn debyg i’r hyn a brofodd rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn y gorffennol? A ydych yn derbyn difrifoldeb etholwyr Cymru, busnes yng Nghymru, ac uwchlaw popeth ac er eich mwyn eich hun, Aelodau’r Cynulliad ynghylch y mater hwn?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 11

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 11

That is a series of questions. I am delighted that business in particular is taking this seriously, as are people in local government and voluntary sector. In addition, some excellent work is going on to develop plans and partnerships and come up with proposals that will transform the economy. Our big challenge is to get those schemes forward so that we can use the money and the opportunity to transform the economy. The talking down of this opportunity is not helping in that regard. You referred to the finances in the initial years. We need to be ambitious about the commitment from the first year. However, it would be a mistake to confuse commitment with expenditure, which is what is being done in some quarters.

Cyfres o gwestiynau yw honno. Yr wyf wrth fy modd bod busnes yn arbennig yn cymryd hyn o ddifrif, fel y mae rhai mewn llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol. Yn ogystal â hynny, mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo i ddatblygu cynlluniau a phartneriaethau a llunio cynigion a fydd yn trawsffurfio’r economi. Yr her fawr i ni yw dod â’r cynlluniau hynny ymlaen fel y gallwn ddefnyddio’r arian a’r cyfle i drawsffurfio’r economi. Nid yw bychanu’r cyfle hwn yn gymorth yn hynny o beth. Cyfeiriasoch at y cyllid yn y blynyddoedd cynnar. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol ynghylch yr ymrwymiad o’r flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, camgymeriad fyddai cymysgu rhwng ymrwymiad a gwariant, sef yr hyn a wneir mewn rhai cylchoedd.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 12

Gwrandewais ar yr ateb hwnnw â chryn ddiddordeb. A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ddweud wrthym, uwchben fformwla Barnett, faint o arian o Ewrop ar gyfer Amcan 1 sydd yn y gyllideb ar gyfer 2000-01?

I listened to that answer with great interest. Will the First Secretary tell us, above the Barnett formula, how much money from Europe for Objective 1, is included in the budget for 2000-01?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 12

Yn 2000-01, credwn fod digon o arian i sicrhau y gallwn wneud popeth posibl yn y flwyddyn gyntaf o ran gwario. Y gwariant yw’r hyn sydd yn bwysig. Rhaid inni ddefnyddio fformwla Barnett. Serch hynny, rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru yn deall effaith hyn ar yr arian y mae’n rhaid inni ei wario yn y blynyddoedd ar ôl 2000-01. Ni fydd hynny yn ddigonol os gweithredwn yn y modd y mae fformwla Barnett wedi gweithio hyd yn hyn.

In 2000-01, we believe that there is sufficient money to ensure that we can do everything possible in the first year in terms of expenditure. The expenditure is what is important. We must use the Barnett formula. However, we must ensure that people in Wales understand the effect of this on the money that we must spend in the years after 2000-01. That will not be sufficient if we operate in the way in which the Barnett formula has worked to date.

William Graham spoken in English p. 12

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 12

Will the First Secretary outline what are the latest developments in appointing the chief executive of the Wales European Programme Partnership following reports of significant delays? Is this not symptomatic of continuing tardiness by this administration because of their inability to secure match funding?

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd amlinellu beth yw’r datblygiadau diweddaraf wrth benodi prif weithredwr Partneriaeth Rhaglen Ewropeaidd Cymru ar ôl adroddiadau am gryn oedi? Onid yw’n nodweddiadol o hwyrfrydedd parhaus ar ran y weinyddiaeth hon oherwydd eu hanallu i sicrhau arian cyfatebol?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 12

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 12

Absolutely not. I am unsure how that question was constructed and whether it comes from rumour or whether it is intended to create a rumour. The business of appointing a chief executive is proceeding apace. The shortlist stage of appointment is to be reached as quickly as possible. Rhodri Morgan and myself have stressed that that is crucial to get things ready for the point following the negotiation stage, which runs until April, as everybody knows. Once we have the clearance from Europe—which I am confident we will receive—we would then be in a position to move as quickly as possible in getting approval for the scheme so that we can get on with the job.

Dim o gwbl. Nid wyf yn sicr sut y lluniwyd y cwestiwn hwnnw ac a yw’n deillio o si neu a ydyw i fod i greu si. Mae’r busnes o benodi prif weithredwr yn mynd rhagddo’n gyflym. Cyrhaeddir cyfnod rhestr fer y penodiad cyn gynted ag y bo modd. Mae Rhodri Morgan a minnau wedi pwysleisio bod hyn yn holl bwysig er mwyn paratoi ar gyfer y pwynt ar ôl y cyfnod trafod, sydd yn rhedeg hyd Ebrill, fel y gŵyr pawb. Wedi inni gael rhwydd hynt gan Ewrop—ac yr wyf yn ffyddiog y’i cawn—byddem wedyn mewn sefyllfa i symud cyn gynted ag y bo modd i gael cymeradwyaeth i’r cynllun fel y gallwn fynd ymlaen â’r gwaith.

Val Feld spoken in English p. 13

Val Feld siaradwyd yn Saesneg t. 13

Given our previous experience of European funding and that of other Objective 1 regions, what will be the impact on our programme if we were required not just to commit expenditure, but to make payments on projects that used up an additional £85 million in match funds in the first year? Would it not mean a predominance of public sector projects taken off the shelf by local authorities, and the exclusion of the private and voluntary sector because of the work that would have to go on to access such a pot of money?

O dderbyn ein profiad blaenorol o arian Ewropeaidd a phrofiad rhanbarthau Amcan 1 eraill, beth fydd yr effaith ar ein rhaglen pe bai’n ofynnol inni nid yn unig ymrwymo gwariant, ond i wneud taliadau ar brosiectau a ddefnyddiai £85 miliwn ychwanegol o arian cyfatebol yn y flwyddyn gyntaf? Oni olygai tra-arglwyddiaeth prosiectau sector cyhoeddus parod gan awdurdodau lleol, gan gau allan y sectorau preifat a gwirfoddol oherwydd y gwaith y byddai’n rhaid ei gyflawni er mwyn cael mynediad at bot arian o’r fath?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

That is absolutely right. It should also be stressed that the expectations from Europe have been shifting over recent years in the direction of developing capacity, skills and long-term sustainability in the economy, rather than just seeing money poured into major structural projects. There are major capital projects that could assist with that process. We made that point clearly in the submission to Europe and it is an element in the negotiations. It is important that we ensure that the money is targeted at the most important areas, namely, those that will do most to develop the economy of Wales rather than those areas that will spend the money most quickly.

Mae hynny’n gwbl gywir. Dylid hefyd bwysleisio bod y disgwyliadau o Ewrop wedi bod yn symud dros y blynyddoedd diweddar tuag at ddatblygu gallu, medrau a chynaliadwyedd tymor hir yn yr economi, yn hytrach na gweld arllwys arian i brosiectau strwythurol mawr yn unig. Mae prosiectau cyfalaf mawr a allai gynorthwyo yn y broses honno. Gwnaethom y pwynt hwnnw’n eglur yn y cyflwyniad i Ewrop ac mae’n elfen yn y trafodaethau. Mae’n bwysig inni sicrhau y caiff yr arian ei dargedu at yr ardaloedd pwysicaf, sef y rhai a fydd yn gwneud y mwyaf i ddatblygu economi Cymru yn hytrach na’r ardaloedd hynny a fydd yn gwario’r arian gyflymaf.

Peter Black spoken in English p. 13

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 13

Will the First Secretary say why Gordon Brown and Tony Blair will not publicly support Wales’s bid for Objective 1 by offering match funding before 2001?

A wnaiff y Prif Ysgrifennydd ddweud pam nad yw Gordon Brown a Tony Blair yn fodlon rhoi cefnogaeth gyhoeddus i gais Cymru am Amcan 1 drwy gynnig arian cyfatebol cyn 2001?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 13

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 13

It is sometimes unfortunate that people’s sense of history is limited. Against the predictions of people—including some in this Chamber—that a Labour Government would not achieve Objective 1 status for Wales, Gordon Brown and Tony Blair went to Berlin and won us Objective 1 status and confounded the doubters. They have already demonstrated their commitment, Peter, and I am certain that that commitment will remain with us so that we can deliver the outcomes of Objective 1 for Wales and use to the full the finances available to us through European funding.

Mae’n anffodus weithiau fod ymdeimlad pobl o hanes yn gyfyngedig. Yn groes i broffwydoliaethau rhai—gan gynnwys rhai yn y Siambr hon—na fyddai Llywodraeth Lafur yn sicrhau statws Amcan 1 i Gymru, aeth Gordon Brown a Tony Blair i Ferlin ac ennill statws Amcan 1 inni a synnu’r amheuwyr. Maent eisoes wedi dangos eu hymrwymiad, Peter, ac yr wyf yn sicr y bydd yr ymrwymiad hwnnw gyda ni o hyd fel y gallwn gyflawni canlyniadau Amcan 1 ar gyfer Cymru a defnyddio i’r eithaf yr arian sydd ar gael i ni drwy arian Ewropeaidd.

Y Gronfa Cyfleoedd Newydd

The New Opportunities Fund

Q5 Jane Davidson spoken in English p. 14

C5 Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 14

What plans has the First Secretary for developing a relationship between the Assembly and the funding initiatives available through the new opportunities fund in Wales? (OAQ2958)

Pa fwriad sydd gan y Prif Ysgrifennydd i feithrin perthynas rhwng y Cynulliad a’r mentrau ariannu sydd ar gael drwy’r gronfa cyfleoedd newydd yng Nghymru? (OAQ2958)

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I will shortly be meeting with Chris Smith, the Secretary of State for Culture, Media and Sport, and Paul Murphy, the Secretary of State for Wales. Our intention is to discuss how the funding initiatives can best be developed to achieve the maximum advantage for Wales. We are already in close contact with the new opportunities fund on the six initiatives operated by the fund in Wales.

Byddaf yn cyfarfod cyn hir â Chris Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a Paul Murphy, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ein bwriad yw trafod sut y gellir datblygu’r mentrau ariannu orau er mwyn sicrhau’r fantais fwyaf posibl i Gymru. Yr ydym eisoes mewn cysylltiad agos â’r gronfa cyfleoedd newydd ynghylch y chwe menter a weithredir gan y gronfa yng Nghymru.

Jane Davidson spoken in English p. 14

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 14

When you meet Chris Smith, I would be grateful if you would raise a concern that I have about the distribution of money from the out of school learning programme. In the guidance document on the programme, one of the key objectives of the new opportunities fund is to address the needs of those who are most disadvantaged in society. This is welcome and so is the £13.3 million coming to Wales. However, Rhondda Cynon Taff County Borough Council, one of the most disadvantaged authorities in Wales, put in a bid of £1.5 million, and despite the fact that free school meals was one of the determinants of how the bid should be assessed, the authority was invited to revise the bid on the basis that secondary schools across Wales should have £43,000 and primary schools should have £11,000. Do you share my concern that in an area like Rhondda Cynon Taff, we need to make maximum use of such funding and that goalposts should not be moved in the middle of the bidding process?

Pan gyfarfyddwch â Chris Smith, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn codi mater sydd yn peri pryder imi ynghylch dosbarthu arian o’r rhaglen dysgu y tu allan i’r ysgol. Yn y ddogfen arweiniad ar y rhaglen, un o amcanion allweddol y gronfa cyfleoedd newydd yw ymdrin ag anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn y gymdeithas. Mae hynny i’w groesawu fel y mae’r £13.3 miliwn sydd yn dod i Gymru. Fodd bynnag, cyflwynwyd cais am £1.5 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, un o’r awdurdodau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac er gwaethaf y ffaith mai prydau ysgol am ddim oedd un o’r penderfynyddion ar y modd y dylid ymdrin â’r cais, gwahoddwyd yr awdurdod i adolygu’r cais ar y sail y dylai ysgolion uwchradd ledled Cymru gael £43,000 ac y dylai ysgolion cynradd gael £11,000. A ydych yn rhannu fy mhryder bod angen inni ddefnyddio arian o’r fath i’r eithaf mewn ardal fel Rhondda Cynon Taf ac na ddylid symud pyst y gôl ar ganol y broses ymgeisio?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 14

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 14

I entirely agree that it is unhelpful to have goalposts moved and I also agree that Rhondda Cynon Taff is an area that must be prioritised for such funds. I am not sure of its timing, but the target was to allocate 50 per cent of the funds to the 15 most deprived primary schools and the 25 most deprived secondary schools. So far, there have been eight applications and one award, as most of the applications are still being assessed. I also understand that an indicative average of £43,000 for secondary schools and £11,000 for primary schools has been given. That was given in additional guidance. That may be what you mean by moving the goalposts. I would be happy to look at any further information and at whether we could assist with representations on this if it has caused a specific problem.

Cytunaf yn llwyr nad yw o gymorth pan symudir pyst y gôl a chytunaf hefyd fod Rhondda Cynon Taf yn ardal y mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth iddi ar gyfer cronfeydd o’r fath. Nid wyf yn sicr ynghylch ei amseru, ond y targed oedd dyrannu 50 y cant o’r arian i’r 15 ysgol gynradd fwyaf difreintiedig a’r 25 ysgol uwchradd fwyaf difreintiedig. Hyd yn hyn, bu wyth cais ac un dyfarniad, gan fod y rhan fwyaf o’r ceisiadau’n cael eu hasesu o hyd. Deallaf hefyd fod cyfartaledd enghreifftiol o £43,000 ar gyfer ysgolion uwchradd a £11,000 ar gyfer ysgolion cynradd wedi ei roi. Rhoddwyd hynny mewn arweiniad ychwanegol. Efallai mai hynny sydd gennych dan sylw wrth sôn am symud pyst y gôl. Byddwn yn falch o edrych ar unrhyw wybodaeth bellach ac ystyried a allem gynorthwyo drwy gyflwyno sylwadau ar hyn os yw wedi peri problem benodol.

Dafydd Wigley spoken in English p. 15

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 15

Does the First Secretary agree that severely disabled children and their parents or carers are one of the most disadvantaged groups? Would he join me in congratulating Tŷ Hafan on its first birthday today and on its tremendous achievement and contribution to help this group? Against this background, would he agree that there should be public funding for at least part of the £1 million a year that it costs to run Tŷ Hafan and Tŷ Gobaith, which serves part of the north Wales community? Although I welcome the £250,000 that Tŷ Hafan has received this year, there is not a penny in the budget to help it next year. Will you look again at the possibility of finding resources to help Tŷ Hafan regularly so that it has some assurance of funding towards the £1 million a year which it is raising voluntarily at present?

A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno mai plant ag anabledd difrifol a’u rhieni neu eu gofalwyr yw un o’r grwpiau mwyaf difreintiedig? A yw’n fodlon ymuno â mi wrth longyfarch Tŷ Hafan ar ei ben-blwydd cyntaf heddiw ac ar ei gamp aruthrol a’i gyfraniad at gynorthwyo’r grŵp hwn? A hynny’n gefndir, a fyddai’n cytuno y dylid cael arian cyhoeddus ar gyfer o leiaf rhan o’r £1 miliwn y flwyddyn y mae’n costio i redeg Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, sydd yn gwasanaethu rhan o gymuned gogledd Cymru? Er fy mod yn croesawu’r £250,000 a dderbyniodd Tŷ Hafan eleni, nid oes ceiniog yn y gyllideb i’w helpu’r flwyddyn nesaf. A fyddwch yn ailedrych ar y posibiliad o ganfod adnoddau i helpu Tŷ Hafan yn rheolaidd fel bod ganddo rywfaint o sicrwydd o arian tuag at y £1 miliwn y flwyddyn y mae’n ei godi’n wirfoddol ar hyn o bryd?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 15

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 15

This is a complex issue because when the money for services of this sort is put into the budget, it goes to health authorities and there is also an element of interest from social services departments. If we were to top-slice that money for such services, we would also be criticised. Last year, agreement had not been reached between Tŷ Hafan and the three health authorities which constitute the catchment area for children who go to Tŷ Hafan. So, as Secretary of State, to help Tŷ Hafan raise funds, I offered it money provided that it could match that money. We, as an Assembly, fulfilled that commitment.

Mae hyn yn fater cymhleth oherwydd pan roddir yr arian ar gyfer gwasanaethau o’r math hwn yn y gyllideb, mae’n mynd i awdurdodau iechyd ac mae elfen o ddiddordeb hefyd oddi wrth adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Pe baem yn brig-dorri’r arian hwnnw ar gyfer gwasanaethau o’r fath, byddem yn cael ein beirniadu hefyd. Y llynedd, ni chafwyd cytundeb rhwng Tŷ Hafan a’r tri awdurdod iechyd sydd yn ffurfio’r dalgylch ar gyfer plant sydd yn mynd i Dŷ Hafan. Felly, fel Ysgrifennydd Gwladol, er mwyn helpu Tŷ Hafan i godi arian, cynigiais arian iddo ar yr amod y gallai sicrhau arian cyfatebol. Yr ydym ni, fel Cynulliad, wedi cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

I understand that there is a meeting with the health authorities in a couple of weeks, in which Jane Hutt has taken an interest. She has stressed the importance of giving them certainty for the future and not leaving matters to run on from month to month. That is not acceptable. A formula of some sort must be found. We cannot spend money twice, but we have pressed on them the need to find a way of giving certainty within the responsibilities of the health authorities and any other bodies that are involved. I am concerned that an arrangement has not been reached despite the 12 months that was ‘bought’ by our contribution with the intention of seeing a degree of certainty. I hope that we see that certainty in future.

Deallaf fod cyfarfod i’w gynnal â’r awdurdodau iechyd ymhen ychydig wythnosau, y mae Jane Hutt wedi ymddiddori ynddo. Mae hi wedi pwysleisio pwysigrwydd rhoi sicrwydd iddynt ar gyfer y dyfodol a pheidio â gadael i faterion redeg ymlaen o fis i fis. Nid yw hynny’n dderbyniol. Rhaid canfod fformwla o ryw fath. Ni allwn wario arian ddwywaith, ond yr ydym wedi pwysleisio wrthynt yr angen i ganfod ffordd o roi sicrwydd oddi mewn i gyfrifoldebau’r awdurdodau iechyd ac unrhyw gyrff eraill sydd yn gysylltiedig. Testun pryder i mi yw na ddaethpwyd i drefniant er gwaethaf y 12 mis a ‘brynwyd’ drwy ein cyfraniad gyda’r bwriad o weld rhywfaint o sicrwydd. Gobeithiaf y byddwn yn gweld y sicrwydd hwnnw yn y dyfodol.

Arolwg Cynhwysfawr o Wariant (Trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru)

Comprehensive Spending Review (Discussions with the Secretary of State for Wales)

C6 David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Q6 David Lloyd spoken in Welsh p. 16

Pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch yr arolwg cynhwysfawr o wariant? (OAQ2967)

What discussions have been held with the Secretary of State for Wales regarding the comprehensive spending review? (OAQ2967)

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 16

Yr ydym yn cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos ac fe drafodir yr arolwg gwariant yn ein cyfarfodydd yn weddol aml.

We meet at least once a week and the spending review is discussed in our meetings fairly regularly.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 16

David Lloyd spoken in Welsh p. 16

Yn dilyn o hynny, faint o arian ychwanegol yr ydych chi wedi gofyn amdano gogyfer ag iechyd yn y trafodaethau hyn er mwyn ceisio gwireddu rhai o amcanion ‘Gwell Cymru’?

Following on from that, how much additional money have you requested for health in these discussions to try to achieve some of the recommendations of ‘A Better Wales’?

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Alun Michael The First Secretary spoken in Welsh p. 16

Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yn y trafodaethau. Nid yw’n briodol cyhoeddi ffigurau. Mae rhai yn defnyddio datganiadau i’r wasg i ofyn am arian, ond yr ydym ni’n gweithredu mewn ffordd wahanol. Byddwn yn darparu gwybodaeth am broblemau gwasanaeth iechyd Cymru, yn arbennig pan fônt yn wahanol i broblemau Lloegr neu Brydain yn gyffredinol. Yr ydym wrth gwrs am weld y swm gorau posibl yn dod i mewn i gyllid iechyd Cymru yn y dyfodol.

We have not reached that point in the discussions. It is not appropriate to give figures. Some use press releases to ask for money, but we operate in a different way. We will provide information about the problems of Wales’s health service, especially when they are different to the problems of England or Britain as a whole. We want of course to see the best possible amount coming in to Wales’s health budget in the future.

David Melding spoken in English p. 16

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 16

Will you tell us whether the Prime Minister’s commitment to increasing health resources to the average European level will be part of your discussions on the comprehensive spending review?

A wnewch ddweud wrthym a fydd ymrwymiad y Prif Weinidog i gynyddu adnoddau iechyd i’r lefel Ewropeaidd gyfartalog yn rhan o’ch trafodaethau ar yr arolwg cynhwysfawr o wariant?

Alun Michael The First Secretary spoken in English p. 17

Alun Michael Y Prif Ysgrifennydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Yes, it will.

Bydd.

Cwestiwn Brys

Urgent Question

Y Gwaharddiad ar Gig Eidion ar yr Asgwrn

The Beef on the Bone Ban

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 17

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

I have decided to allow a question under Standing Order No. 6.31 on an urgent matter of public importance.

Yr wyf wedi penderfynu caniatáu cwestiwn o dan Reol Sefydlog Rhif 6.31 ar fater o bwys cyhoeddus brys.

Peter Rogers spoken in English p. 17

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the Secretary for Agriculture and Rural Development make a statement on the document leaked to the media last Thursday that implied that the beef on the bone ban could be reinstated? (EAQ3376)

A wnaiff yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ddatganiad ar y ddogfen gyfrinachol a ddatgelwyd i’r cyfryngau ddydd Iau diwethaf a awgrymodd y gellid ailosod y gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn? (EAQ3376)

Christine Gwyther The Secretary for Agriculture and Rural Development spoken in English p. 17

Christine Gwyther Yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 17

Last Thursday an internal e-mail message was accidentally released by the Assembly Press Office to the press and other media. The note reported informally on a meeting held in London earlier in the week. I regret that it has caused concern among farmers in Wales. I have apologised for that and I do so again today.

Ddydd Iau diwethaf rhyddhawyd neges e-bost fewnol ar ddamwain gan Swyddfa’r Wasg yn y Cynulliad i’r wasg ac i gyfryngau eraill. Yr oedd y nodyn yn adrodd yn anffurfiol ar gyfarfod a gynhaliwyd yn Llundain yn gynharach yn yr wythnos. Mae’n ofid imi ei fod wedi achosi pryder ymysg ffermwyr yng Nghymru. Ymddiheurais am hynny a gwnaf hynny eto heddiw.

Appropriate action is being taken by the Permanent Secretary to ensure that this does not happen again. He has held a meeting with senior colleagues to determine what went wrong and where changes are required to systems to prevent a recurrence. A message has been sent to all Assembly staff today reminding them of the correct way to operate the e-mail system and of the need to ensure that sensitive documents are handled securely. [Laughter.] It was not funny this time. The Permanent Secretary has called for a report to be submitted to him on Friday this week recommending the other detailed changes in systems and procedures that are required. He will ensure that this is made available to all those Assembly Members who wish to see it.

Cymerir camau priodol gan yr Ysgrifennydd Parhaol i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Cynhaliodd gyfarfod â’i gydweithwyr uwch i benderfynu ar yr hyn a aeth o’i le ac ym mha le y mae angen newidiadau mewn systemau i’w atal rhag digwydd eto. Anfonwyd neges at holl staff y Cynulliad heddiw i’w hatgoffa am y dull cywir o weithredu’r system e-bost a’r angen i sicrhau y caiff dogfennau sensitif eu trin yn ddiogel. [Chwerthin.] Nid oedd yn ddoniol y tro hwn. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi galw am adroddiad i’w gyflwyno iddo ddydd Gwener yr wythnos hon i argymell y newidiadau manwl eraill mewn systemau a gweithdrefnau sydd yn ofynnol. Bydd yn sicrhau bod hwn ar gael i’r holl Aelodau Cynulliad hynny sydd yn dymuno ei weld.

Peter Rogers spoken in English p. 18

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 18

Myself and other parties’ agricultural spokesmen had a frank meeting this morning with you, Christine, Jon Shortridge, the Permanent Secretary, Huw Brodie, the Director of the Agriculture Department and the press officer. I accept that this was a misrouted e-mail, not a leak, and that everyone involved is mortified by this mistake. I hope that it will not happen again. The whole matter could have been killed stone dead on Thursday evening. After speaking to the farming unions today and to limit further unfair, damaging publicity, I will not ask a supplementary question. We must continue with the positive news of the first export of Welsh beef and build on that.

Cefais i a llefaryddion amaethyddiaeth y pleidiau eraill gyfarfod didwyll y bore yma â chi, Christine, Jon Shortridge, yr Ysgrifennydd Parhaol, Huw Brodie, Cyfarwyddwr yr Adran Amaethyddiaeth a swyddog y wasg. Derbyniaf fod hon yn neges e-bost a gamgyfeiriwyd, ac nid yn ddatgeliad, a bod pawb sydd yn gysylltiedig yn ofidus oherwydd y camgymeriad hwn. Gobeithiaf na fydd yn digwydd eto. Buasai modd taro’r holl fater ar ei dalcen nos Iau. Ar ôl siarad â’r undebau ffermio heddiw ac i gyfyngu ar gyhoeddusrwydd annheg, niweidiol pellach, ni fyddaf yn gofyn cwestiwn atodol. Rhaid inni barhau â’r newyddion cadarnhaol am yr allforion cyntaf o gig eidion o Gymru ac adeiladu ar hynny.

Christine Gwyther spoken in English p. 18

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 18

Thank you for your response, Peter. I take this opportunity to remind Members and the public of the brilliant work that has been done by Welsh Lamb and Beef Promotions Limited to secure the first export of Welsh beef to the continent—to the Netherlands—this year. It is worth between £2.5 and £3 million and we hope that it will be a recurring order and will lead to other things. Much good, solid work has been done and I am pleased that the Assembly recognises that and wishes to limit the damage caused by this unfortunate misrouted document.

Diolch am eich ymateb, Peter. Cymeraf y cyfle hwn i atgoffa’r Aelodau a’r cyhoedd am y gwaith gwych a wnaethpwyd gan Hybu Cig Oen ac Eidion Cymru Cyfyngedig i sicrhau’r allforion cyntaf o gig eidion o Gymru i’r cyfandir—i’r Iseldiroedd—eleni. Mae’n werth rhwng £2.5 a £3 miliwn a gobeithiwn y bydd yn archeb reolaidd ac yn arwain at bethau eraill. Gwnaethpwyd llawer o waith da, cadarn ac yr wyf yn falch bod y Cynulliad yn cydnabod hynny ac yn dymuno cyfyngu ar y difrod a achoswyd gan y ddogfen anffodus hon a gamgyfeiriwyd.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 18

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh and English p. 18

Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod y sefyllfa ddifrifol hon wedi codi oherwydd bod yr ohebiaeth wedi mynd ar goll: ni ryddhawyd y wybodaeth i’r wasg, ond fe’i cam-gyfeiriwyd i’r wasg. Dogfen fewnol oedd hon yn sôn am y sefyllfa waethaf bosibl a allai ddatblygu. Yr wyf yn falch fod y Weinyddiaeth yn cymryd y mater hwn o ddifrif, y bydd adolygiad llawn, ac y byddwn, gobeithio, yn dysgu gwers ac yn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

in Welsh It is important that we recognise that this serious situation arose because this correspondence went astray: the information was not released to the press, but was misaddressed to it. This was an internal document discussing the worst possible case scenario. I am pleased that the Executive takes this matter seriously, that there will be a full review and hopefully we will learn a lesson and ensure that it does not happen again.

Rhaid cofio ein bod yn sefydliad ifanc. Yr ydym yn dal i ddysgu a thyfu ac mae’n bwysig ein bod yn dysgu gwersi o’r sefyllfa hon.

in Welsh We must remember that we are a young institution. We are still learning and growing and it is important that we learn lessons from this situation.

Mae’n eithriadol o bwysig pwysleisio, yn y cyd-destun hwn, nad oedd unrhyw beth newydd yn y ddogfen. Yr oedd y wybodaeth yn hysbys inni ers rhai misoedd ac mae’r drafodaeth wedi bod yn mynd yn ei blaen yn Ewrop ers tair blynedd. Mae Peter yn gywir i ddweud nad dyma’r adeg i ledaenu newyddion drwg am y diwydiant amaethyddol. Mae’n hawdd cael sylw drwy wneud hynny ond dylem hyrwyddo’r newyddion da sydd ar gael am y diwydiant amaethyddol, yn enwedig y cytundeb â’r Iseldiroedd. Mae’r wlad honno wedi gofyn yn benodol am gig coch o Gymru oherwydd bod ei phobl yn sylweddoli bod y cig coch a fegir yma o’r ansawdd uchaf a’r mwyaf diogel sydd ar gael.

in Welsh It is extremely important to emphasise, in this context, that there was nothing new in the document. The information had been known to us for some months and the discussion has been ongoing in Europe for three years. Peter is correct in saying that this is not the time to spread bad news about the agriculture industry. It is easy to draw attention by doing that but we should promote any available good news about the agriculture industry, especially the agreement with the Netherlands. That country has specifically asked for red meat from Wales because its people realise that the red meat reared here is of the highest standard and is the safest available.

Let us ensure that we spread the good news about agriculture in Wales. The export deal with the Netherlands is important because that country has acknowledged that the industry here is rigorously regulated and that Welsh meat is of the highest quality and is the safest in Europe. That country specifically asked for Welsh meat and this is our opportunity to market and promote Welsh products.

yn Saesneg Gadewch inni sicrhau ein bod yn lledaenu’r newyddion da am amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r fargen â’r Iseldiroedd yn bwysig ohewydd mae’r wlad honno wedi cydnabod bod y diwydiant yma wedi ei reoleiddio’n drwyadl a bod cig Cymru o’r ansawdd gorau ac mai ef yw’r diogelaf yn Ewrop. Gofynnodd y wlad honno am gig o Gymru’n benodol a dyma’n cyfle i farchnata a hybu cynhyrchion o Gymru.

Christine Gwyther spoken in English p. 19

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 19

Rhodri is acting Chair of the Agriculture and Rural Development Committee and has grown nicely into his role.

Rhodri yw Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ac mae wedi llenwi’r rôl yn braf.

Mick Bates spoken in English p. 19

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 19

On behalf of the Liberal Democrats, I thank you for your apology. Although I am concerned about the process of this leak—or should I say misplaced information—I am reassured by the speed at which people have moved to investigate how this occurred and to ensure that it does not happen again. I am also concerned about some of the responses. As an industry, we must consider our responses, particularly in light of Peter and Rhodri’s words, when we are faced with difficult situations. I agree entirely that we must look for positive news and particularly promote the whole raft of good things that are happening to relieve the pressure on our agricultural industry. I hope that the report will be circulated and that we can be certain that there will be a filter system so that sensitive issues of this nature are not allowed into the hands of junior press people.

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, diolchaf am eich ymddiheuriad. Er fy mod yn bryderus ynghylch proses y datgeliad hwn—neu a ddylwn ddweud gwybodaeth a roddwyd yn y lle anghywir—teimlaf yn dawelach fy meddwl oherwydd y camau cyflym a gymerwyd i ymchwilio i’r modd y digwyddodd hyn ac i sicrhau na fydd yn digwydd eto. Pryderaf hefyd ynghylch rhai o’r ymatebion. Fel diwydiant, rhaid inni ystyried ein hymatebion, yn enwedig yng ngoleuni geiriau Peter a Rhodri, pan ydym yn wynebu sefyllfaoedd anodd. Cytunaf yn llwyr fod yn rhaid inni chwilio am newyddion cadarnhaol a hybu’n arbennig y llu o bethau da sydd yn digwydd i leihau’r pwysau ar ein diwydiant amaethyddol. Gobeithiaf y caiff yr adroddiad ei gylchredeg ac y gallwn fod yn sicr y bydd system hidlo fel na chaniateir i faterion sensitif o’r natur hon fynd i ddwylo swyddogion y wasg is.

Richard Edwards spoken in English p. 20

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 20

This is an unfortunate incident that has caused great alarm among Welsh farmers. However, the last thing we need to do now is fan the flames at the expense of Welsh farming and beef. In the spirit of cross-party co-operation, I commend the opposition parties for their reasonable and rational response to this unfortunate incident.

Mae hwn yn ddigwyddiad anffodus a achosodd fraw mawr ymysg ffermwyr Cymru. Fodd bynnag, y peth olaf y dylem ei wneud yn awr yw megino’r tân ar draul ffermio a chig eidion Cymru. Yn ysbryd cydweithrediad trawsbleidiol, canmolaf bleidiau’r wrthblaid am eu hymateb rhesymol a rhesymegol i’r digwyddiad anffodus hwn.

Datganiad ar Chwilen y Mileniwm

Statement on the Millennium Bug

Edwina Hart The Finance Secretary spoken in English p. 20

Edwina Hart Yr Ysgrifennydd Cyllid siaradwyd yn Saesneg t. 20

In my December statement, I promised to report to the Assembly on the impact of the millennium date change across Wales. In all sectors of the Assembly, local government, health organisations and the infrastructure, my objective and yours that the millennium date change should pass without disruption was met. No significant adverse events happened on the night or subsequently and the integrity of the Assembly’s critical systems remained intact. It was a busy night for the emergency and health services and I think that we all would like to pay tribute to the staff of those services who worked so hard to ensure that all the people of Wales were able to enjoy the millennium holiday.

Yn fy natganiad ym mis Rhagfyr, addewais roi adroddiad i’r Cynulliad ar effaith newid dyddiad y mileniwm ledled Cymru. Yn holl sectorau’r Cynulliad, llywodraeth leol, cyrff iechyd a’r isadeiledd, cyflawnwyd y nod a oedd gennyf fi a chithau y dylai newid dyddiad y mileniwm fynd heibio heb amhariad. Ni fu unrhyw ddigwyddiadau niweidiol sylweddol ar y noson nac wedyn ac yr oedd systemau allweddol y Cynulliad wedi aros yn gyfan. Yr oedd yn noson brysur i’r gwasanaethau brys ac iechyd a chredaf y byddem oll yn dymuno talu teyrnged i staff y gwasanaethau hynny a weithiodd mor galed i sicrhau y gallai holl bobl Cymru fwynhau gwyliau’r mileniwm.

The Assembly operations room ran from 31 December to 7 January, receiving information from our partners across Wales, particularly the emergency services, local government, health organisations and the major utilities. Over the millennium date change period, 193 reports were received in a 24-hour period, all indicating that it was business as usual. Although it was an uneventful night, I am pleased to report that arrangements to keep Members informed worked well. All sectors in Wales justified their Action 2000 blue rating and continued to provide the public with a normal service. Emergency calls to the police and the fire brigades across Wales increased by 13 per cent over the previous new year and by 50 per cent over a normal Friday night.

Yr oedd ystafell reoli’r Cynulliad ar waith o 31 Rhagfyr i 7 Ionawr, gan dderbyn gwybodaeth oddi wrth ein partneriaid ledled Cymru, yn enwedig y gwasanaethau brys, llywodraeth leol, cyrff iechyd a’r cyfleustodau mawr. Dros gyfnod newid dyddiad y mileniwm, derbyniwyd 193 o adroddiadau mewn cyfnod o 24 awr, a phob un yn nodi ei fod yn fusnes fel arfer. Er ei bod yn noson ddiddigwydd, yr wyf yn falch o adrodd bod y trefniadau i hysbysu’r Aelodau wedi gweithio’n dda. Yr oedd pob sector yng Nghymru’n cyfiawnhau ei statws glas o dan Action 2000 gan barhau i ddarparu gwasanaeth arferol i’r cyhoedd. Bu cynnydd o 13 y cant yn nifer y galwadau brys i’r heddlu a’r brigadau tân o’i gymharu â’r flwyddyn newydd gynt ac yr oeddent 50 y cant yn uwch nag ar nos Wener arferol.

In the national health service, the greatest pressures were in intensive therapy units, whose staff, I am pleased to say, responded admirably. Accident and emergency departments and the Welsh Ambulance Services NHS Trust also reported increased workloads compared with normal new years’ activity, but thanks to arrangements put in place in advance, staff managed to cope with the extra pressure.

Yn y gwasanaeth iechyd gwladol, yr oedd y pwysau mwyaf ar yr unedau therapi dwys, yr oedd eu staff, yr wyf yn falch o ddweud, wedi ymateb yn rhyfeddol. Yr oedd yr adrannau damweiniau ac achosion brys ac Ymddiriedolaeth NHS Ambiwlans Cymru hefyd wedi adrodd am lwythi gwaith mwy o’u cymharu â gweithgaredd arferol y flwyddyn newydd, ond diolch i drefniadau a sefydlwyd ymlaen llaw, llwyddodd y staff i ddygymod â’r pwysau ychwanegol.

While it is too early to draw any conclusions about the millennium’s impact on small and medium sized enterprises, the initial indications are promising. In line with my expectations, the majority of companies have not reported any significant problems, although a small number, around 6.5 per cent in the UK as a whole, have had millennium-related issues. In Wales, our regionally-based millennium advisers report that few requests for help were received by Business Connect during the period. The majority of these were resolved over the telephone. I have always said that any problems in companies that were inadequately prepared may not manifest themselves immediately, and we need to be aware that there are 14 other critical millennium dates in 2000 that we need to watch, particularly 29 February.

Er ei bod yn rhy fuan i ddod i unrhyw gasgliadau ynghylch effaith y mileniwm ar fusnesau bach a chanolig eu maint, mae’r arwyddion cyntaf yn addawol. Yn unol â’m disgwyliadau, nid yw’r rhan fwyaf o gwmnïau wedi adrodd am unrhyw broblemau o bwys, er bod nifer fechan, tua 6.5 y cant yn y DU gyfan, wedi profi materion sydd yn gysylltiedig â’r mileniwm. Yng Nghymru, mae ein hymgynghorwyr yn y rhanbarthau wedi adrodd mai ychydig o geisiadau am gymorth a dderbyniwyd gan Cyswllt Busnes yn ystod y cyfnod. Datryswyd y rhan fwyaf o’r rhain dros y ffôn. Dywedais erioed ei bod yn bosibl bod unrhyw broblemau mewn cwmnïau a oedd heb baratoi’n ddigonol yn rhai na fyddent yn dod i’r amlwg ar unwaith, ac mae angen inni fod yn ymwybodol bod 14 dyddiad mileniwm critigol arall yn 2000 y mae’n rhaid inni eu gwylio, yn enwedig 29 Chwefror.

I have previously reported the enormous amount of work carried out across Wales to prepare for the millennium, which has successfully ensured that there were no material disruptions to essential services. The cost to the Assembly is estimated at £480,000. That funding had already been agreed in budgets. That compares with a UK Government expenditure of £396 million. Roughly half of our expenditure was incurred in ensuring that our computer systems and buildings infrastructure was compliant; 26 per cent funded independent assessments of the infrastructure in health, agriculture and local government; 21 per cent funded remedial work in roads network management and 6 per cent funded publicity material for farmers.

Adroddais o’r blaen ar y swm aruthrol o waith a gyflawnwyd ledled Cymru i baratoi ar gyfer y mileniwm, sydd wedi llwyddo i sicrhau nad oedd unrhyw amhariadau o bwys ar wasanaethau hanfodol. Amcangyfrifir mai’r gost i’r Cynulliad yw £480,000. Cytunwyd ar yr arian hwnnw eisoes mewn cyllidebau. Mae hynny’n cymharu â gwariant Llywodraeth y DU o £396 miliwn. Achoswyd tua hanner ein gwariant wrth sicrhau bod ein systemau cyfrifiadur a seilwaith ein hadeiladau’n cydymffurfio; aeth 26 y cant i ariannu asesiadau annibynnol o’r seilwaith mewn iechyd, amaethyddiaeth a llywodraeth leol; aeth 21 y cant i ariannu gwaith adfer yn rheolaeth y rhwydwaith ffyrdd ac aeth 6 y cant i ariannu deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer ffermwyr.

Business Connect has spent a further £1.8 million to provide support to almost 4,500 Welsh SMEs over the past 18 months, furthering the initiative launched by the then Welsh Office administration in July 1998. This money has been devoted to the following main support activities: eight dedicated millennium advisers, the Bug Buster skills training courses, business health checks and subsidised consultancy support. The costs to the wider public sector and the Assembly sponsored public bodies are still being quantified. If I receive these figures, I will make them available to the Assembly as it is important that you have a clear picture of the costs and expenditures incurred.

Gwariodd Cyswllt Busnes £1.8 miliwn pellach i ddarparu cefnogaeth i bron 4,500 o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf, gan ymestyn y fenter a lansiwyd gan weinyddiaeth y Swyddfa Gymreig, fel yr oedd bryd hynny, yng Ngorffennaf 1998. Neilltuwyd yr arian hwn i’r prif weithgareddau cefnogaeth canlynol: wyth ymgynghorydd mileniwm un pwrpas, cyrsiau hyfforddiant medrau Bug Buster, archwiliadau iechyd busnes a chefnogaeth ymgynghorol gymorthdaledig. Mae’r costau i’r sector cyhoeddus ehangach ac i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yn cael eu mesur o hyd. Os derbyniaf y ffigurau hyn, byddaf yn sicrhau eu bod ar gael i’r Cynulliad gan ei bod yn bwysig ichi gael darlun eglur o’r costau a’r gwariannau a achoswyd.

I would also like to draw the Assembly’s attention to the early lessons that we learned during the millennium preparations. The high level group on millennium compliance activities in Wales, which has its final meeting tomorrow, proved an invaluable method of sharing ideas and concerns and of building consensus with key groups across Wales. After tomorrow’s meeting, if there are any useful issues raised by any of our partners, I will draw them to the Assembly’s attention. Working with the media, and involving them closely from the outset in our preparations, created a spirit of co-operation, with a shared understanding of our respective roles. Members will appreciate that the key issue associated with the millennium date change was not only one of the computer bug, but of public order and the pressure on public services. The media are to be congratulated on the responsible way they reported on the issue.

Hoffwn dynnu sylw’r Cynulliad hefyd at y gwersi cynnar a ddysgasom yn ystod paratoadau’r mileniwm. Profodd y grŵp lefel uchel ar weithgareddau cydymffurfio â’r mileniwm yng Nghymru, a fydd yn cyfarfod am y tro olaf yfory, yn ddull amhrisiadwy o rannu syniadau a phryderon ac o greu consensws gyda grwpiau allweddol ledled Cymru. Ar ôl y cyfarfod yfory, os codir unrhyw faterion defnyddiol gan unrhyw un o’n partneriaid, fe’u tynnaf i sylw’r Cynulliad. Yr oedd gweithio gyda’r cyfryngau, a chadw cysylltiad agos â hwy o’r dechrau yn ein paratoadau, wedi creu ysbryd cydweithredol, gyda chyd-ddealltwriaeth o rolau ein gilydd. Bydd yr Aelodau’n gwerthfawrogi nad y chwilen gyfrifiadurol oedd yr unig fater allweddol a oedd yn gysylltiedig â newid dyddiad y mileniwm, ond trefn gyhoeddus a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus hefyd. Dylid llongyfarch y cyfryngau ar y modd cyfrifol y rhoesant sylw i’r mater.

In conclusion, I pay tribute to the large number of people in Wales who worked very hard in the lead-up to, and over, the millennium. We face further challenges in 2000, but we can be confident that, if they are tackled in the same professional manner, they will pass by smoothly.

I derfynu, talaf deyrnged i’r nifer fawr o bobl yng Nghymru a weithiodd yn galed iawn yn y cyfnod cyn, ac yn ystod, y mileniwm. Wynebwn heriau pellach yn 2000, ond gallwn fod yn ffyddiog, os ymdrinnir â hwy yn yr un modd proffesiynol, y byddant yn mynd heibio’n ddidrafferth.

Brian Hancock spoken in English p. 22

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 22

I have spoken before about millennium bugs; I will not do so again. I congratulate you and thank you for the statement. Perhaps it was because you were on call during that period that it was not the disaster that many people predicted. I do not want to talk about bugs because I have a problem with viruses, as everyone knows, in my constituency at the moment. However, that is for another time. The problem period is not over. If we have a problem with 14 dates, particularly the leap year date in February, disbanding the high-level steering group on millennium compliance so soon may be questionable. Is that not a valid point? Also, we have heard about how much help has been given to small businesses, but I know that many of them have not received any help and thus have not benefited. Therefore, I must ask, could we learn from that?

Yr wyf wedi siarad o’r blaen am chwilod y mileniwm; ni wnaf hynny eto. Fe’ch llongyfarchaf a diolchaf i chi am y datganiad. Efallai mai’r ffaith eich bod ar alwad yn ystod y cyfnod hwnnw oedd y rheswm nad oedd yn drychineb fel y proffwydodd llawer. Nid wyf am siarad am chwilod oherwydd mae gennyf broblem â firysau, fel y gŵyr pawb, yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mater i adeg arall yw hynny. Nid yw cyfnod y broblem drosodd. Os oes problem mewn cysylltiad â 14 dyddiad, yn enwedig dyddiad y flwyddyn naid yn Chwefror, gellid dadlau na ddylid gwasgaru’r grŵp llywio lefel uchel ar gydymffurfio â’r mileniwm mor fuan. Onid yw hynny’n bwynt dilys? Hefyd, clywsom faint o gymorth a roddwyd i fusnesau bychain, ond gwn fod llawer ohonynt heb dderbyn unrhyw gymorth ac nad ydynt felly wedi elwa. Felly, rhaid imi ofyn, a allem ddysgu oddi wrth hynny?

I am also concerned that many people are not being helped in domestic situations, particularly old-aged pensioners who have video players, microwaves and so on. Perhaps we should consider carrying out a publicity campaign to enlighten them on the safe use of these appliances.

Yr wyf hefyd yn bryderus bod llawer o bobl nad ydynt yn derbyn cymorth mewn sefyllfaoedd domestig, yn enwedig hen bensiynwyr sydd â chwaraewyr fideo, ffyrnau micro-don ac yn y blaen. Efallai y dylem ystyried cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd i’w goleuo ynghylch defnyddio’r offer hyn yn ddiogel.

Edwina Hart spoken in English p. 23

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 23

Thank you for those comments. I accept what you said about the high level group. Tomorrow, I will discuss with the co-ordinating committee whether it would be useful for it to continue to meet, perhaps at quarterly intervals, during the next 12 months, to deal with any issues that arise. That might well be useful in the light of those dates. The date that poses the greatest concern is 10/10/2000, because that is the first eight-digit date in the year. I will deal with your suggestion and report back to the Assembly if that is helpful.

Diolch i chi am y sylwadau hynny. Derbyniaf yr hyn a ddywedsoch am y grŵp lefel uchel. Yfory, trafodaf â’r pwyllgor cydlynol a fyddai’n ddefnyddiol iddo barhau i gyfarfod, efallai’n chwarterol, yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn ymdrin ag unrhyw faterion sydd yn codi. Mae’n bosibl iawn y byddai hynny’n ddefnyddiol yng ngoleuni’r dyddiadau hynny. Y dyddiad sydd yn peri’r pryder mwyaf yw 10/10/2000, am mai hwnnw yw dyddiad wyth-digid cyntaf y flwyddyn. Byddaf yn rhoi sylw i’ch awgrym ac yn adrodd yn ôl i’r Cynulliad os yw hynny o gymorth.

On small businesses, I too have been concerned that we have been unable to reach them all and I am not sure how we will do so, as the original publicity campaign was widespread. I will speak to Business Connect, the training and enterprise councils that have been involved and the organisations that will be present tomorrow, to establish whether we could give further support and assistance to small businesses.

Ynghylch busnesau bychain, bu’n fater o bryder i minnau na fu modd inni eu cyrraedd i gyd ac nid wyf yn sicr sut y byddwn yn gwneud hynny, gan fod yr ymgyrch gyhoeddusrwydd wreiddiol yn un eang. Byddaf yn siarad â Cyswllt Busnes, y cynghorau hyfforddi a menter a fu’n gysylltiedig a’r cyrff a fydd yn bresennol yfory, i ganfod a allem roi cefnogaeth a chymorth pellach i fusnesau bychain.

On the issue of domestic appliances, those that have not worked will not work now. We may be able to give more general publicity on that issue. In light of your helpful comments, it may be useful if I provide a summing up statement on the intranet, perhaps next month, indicating my response to some of these issues and that of the high level steering group. Your point is well made. It may be useful for that group to have quarterly meetings during the next 12 months, not necessarily chaired by myself, but with officials to progress any relevant issues.

Ar fater offer domestig, ni fydd y rhai na weithiasant yn gweithio yn awr. Efallai y gallwn roi mwy o gyhoeddusrwydd cyffredinol ar y mater hwnnw. Yng ngoleuni’ch sylwadau cymwynasgar, gallai fod yn ddefnyddiol imi ddarparu datganiad crynhoi ar y fewnrwyd, y mis nesaf efallai, gan nodi fy ymateb i rai o’r materion hyn ac ymateb y grŵp llywio lefel uchel. Gwnaethoch bwynt da. Gallai fod yn ddefnyddiol i’r grŵp hwnnw gyfarfod yn chwarterol yn ystod y 12 mis nesaf, nid o reidrwydd o dan fy nghadeiryddiaeth i, ond gyda swyddogion er mwyn bwrw ymlaen ag unrhyw faterion perthnasol.

Alun Cairns spoken in English p. 24

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 24

I congratulate the public and private sectors for all their work in ensuring that the millennium eve went smoothly and that there was no need to call on any particular services. I express our gratitude to you for being on-call that evening, maybe we should be grateful, most of all for not having to call on those services, but the thought was there.

Llongyfarchaf y sectorau cyhoeddus a phreifat am eu gwaith er mwyn sicrhau bod noson y mileniwm yn mynd yn hwylus ac nad oedd angen galw ar unrhyw wasanaethau penodol. Mynegaf fy niolch i chi am fod ar alwad y noson honno. Efallai y dylem fod yn ddiolchgar, yn fwyaf oll, am beidio â gorfod galw ar y gwasanaethau hynny, ond yr oedd y meddwl yna.

Edwina Hart spoken in English p. 24

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 24

Thank you, Alun. We were also grateful that we did not have to call on those services. However, your point is well made. We tend to forget, as even I did when I was at home, about the valuable work that is going on. Assembly civil servants were present throughout the duration, taking calls and relaying messages. It is important that we record our thanks to them and I thank you for giving me that opportunity.

Diolch, Alun. Yr oeddem ninnau’n ddiolchgar nad oedd yn rhaid inni alw ar y gwasanaethau hynny. Fodd bynnag, gwnaethoch bwynt da. Tueddwn i anghofio, fel y gwneuthum innau hyd yn oed pan oeddwn gartref, am y gwaith gwerthfawr sydd yn mynd ymlaen. Yr oedd gweision sifil y Cynulliad yn bresennol gydol yr amser, yn derbyn galwadau ac yn anfon negeseuon. Mae’n bwysig inni gofnodi ein diolch iddynt a diolchaf i chi am roi imi’r cyfle hwnnw.

Peter Black spoken in English p. 24

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 24

We spent quite a lot of money to put right a shortcut that was taken by computer programmers. I hope they do not have any more shortcuts in store for us. I join the Finance Secretary in thanking our staff and, in particular, the emergency services who worked so hard to make the millennium eve a success. If the millennium was next year, is there anything that you would do differently?

Gwariasom gryn swm o arian i gywiro’r torri corneli ar ran rhaglenwyr cyfrifiaduron. Gobeithiaf nad oes ganddynt fwy o dorri corneli yn ein disgwyl. Ymunaf â’r Ysgrifennydd Cyllid wrth ddiolch i’n staff ac, yn arbennig, i’r gwasanaethau brys a weithiodd mor galed i wneud noson y mileniwm yn llwyddiant. Pe bai’r mileniwm y flwyddyn nesaf, a oes rhywbeth a wnaech yn wahanol?

Edwina Hart spoken in English p. 24

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 24

I will consider whether there are any issues that we might have tackled differently tomorrow with the steering group. We inherited a Westminster programme for dealing with some of the issues. It is only since the Assembly has existed that we have had a Welsh perspective on this. However, there are useful lessons to learn and I give a commitment that I will report back on my discussions. If the spokespeople from the other parties whom I dealt with on the millennium date change issue want to contribute to the discussions, or any ongoing arrangements, please let me know.

Byddaf yn ystyried a oes unrhyw faterion y gallasem fod wedi ymdrin â hwy’n wahanol gyda’r grŵp llywio yfory. Etifeddasom raglen o San Steffan ar gyfer ymdrin â rhai o’r materion. Dim ond ers sefydlu’r Cynulliad y cawsom safbwynt Cymreig ar hyn. Fodd bynnag, mae gwersi defnyddiol i’w dysgu a rhoddaf ymrwymiad y byddaf yn adrodd yn ôl ar fy nhrafodaethau. Os yw’r llefaryddion o’r pleidiau eraill yr ymdriniais â hwy ar fater newid dyddiad y mileniwm yn dymuno cyfrannu i’r trafodaethau, neu unrhyw drefniadau parhaol, byddwch cystal â rhoi gwybod i mi.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 25

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

I apologise that my business statement is not on the Chamberweb. Due to technical problems, I could not publish it on the intranet on time, but my officials have distributed hard copies to all Members, so you should all have one in front of you. I have attempted to make the statement more user-friendly by giving a fuller explanation of the purpose of business and I hope that Members find that useful.

Ymddiheuraf nad yw fy natganiad busnes ar we’r Siambr. Oherwydd problemau technegol, ni allwn ei gyhoeddi ar y fewnrwyd mewn pryd, ond mae fy swyddogion wedi dosbarthu copïau caled i’r holl Aelodau, felly dylai fod gennych un o’ch blaen. Ceisiais wneud y datganiad yn fwy hwylus drwy roi eglurhad llawnach o bwrpas y busnes a gobeithiaf fod yr Aelodau’n cael hynny’n ddefnyddiol.

Business on Tuesday, 1 February will be as I reported last week. In addition to the administration’s response to the Westminster Government’s programme of legislation on Wednesday, 2 February, there will be three motions to approve subordinate legislation: the Revenue Support Grant (Specified Bodies) (Wales) Regulations 2000; the National Park Authorities (Levies) (Wales) (Amendment) Regulations 2000; and the Community Health Councils Amendment (Wales) Regulations 2000.

Bydd y busnes ddydd Mawrth, 1 Chwefror fel yr adroddais yr wythnos diwethaf. Yn ogystal ag ymateb y weinyddiaeth i raglen ddeddfwriaeth Llywodraeth San Steffan, ddydd Mercher 2 Chwefror, bydd tri chynnig i gymeradwyo is-ddeddfwriaeth: Rheoliadau’r Grant Cynnal Refeniw (Cyrff a Ddynodwyd) (Cymru) 2000; Rheoliadau Awdurdodau Parc Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) (Diwygiad) 2000; a Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymdeithas (Cymru) 2000.

Business on Tuesday, 8 February will be as I reported last week. On Wednesday 9 February, as well as the debate on Transport, there will be a motion asking the Assembly to approve the Milk Development Council (Amendment) Regulations 2000.

Bydd y busnes ddydd Mawrth, 8 Chwefror fel yr adroddais yr wythnos diwethaf. Ddydd Mercher 9 Chwefror, yn ogystal â’r ddadl ar Drafnidiaeth, bydd cynnig yn gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo Rheoliadau’r Cyngor Datblygu Llaeth (Diwygiad) 2000.

Business on Tuesday, 15 February will include a report from the Environment and Local Government Committee on its activities thus far. This is in line with Standing Order No. 9.9. On Wednesday 16 February there will be two minority party debates on issues put forward by Plaid Cymru—

Bydd y busnes ddydd Mawrth, 15 Chwefror yn cynnwys adroddiad oddi wrth Bwyllgor yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol ar ei weithgareddau hyd yn hyn. Mae hyn yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 9.9. Ddydd Mercher 16 Chwefror bydd dwy ddadl plaid leiafrifol ar faterion a gyflwynwyd gan Blaid Cymru—

Jocelyn Davies a gododd—

Jocelyn Davies rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

Order. I am afraid that I cannot take interventions during the business statement.

Trefn. Mae arnaf ofn nad allaf dderbyn ymyriadau yn ystod y datganiad busnes.

Andrew Davies spoken in English p. 26

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

On Wednesday, 16 February there will be two minority party debates on issues put forward by Plaid Cymru and the Conservative Party. Following the Business Committee this morning, the Deputy Presiding Officer has determined, in accordance with Standing Order No. 22.5, that the following draft Orders should not be considered by a Subject Committee. These are the Local Government (Best Value) (Exemption) (Wales) Order 2000, the Local Government (Best Value) (Reviews and Performance Plans) (Wales) Order 2000 and the Local Authorities (Capital Finance) Rate of Discount for 2000-01 (Wales) Regulations 2000. After representations from members of the Business Committee, I will arrange to table a debate on the Nantygwyddon landfill site. I will include it in my business statement next week and schedule a debate in Plenary on that issue.

Ddydd Mercher, 16 Chwefror bydd dwy ddadl plaid leiafrifol ar faterion a gyflwynwyd gan Blaid Cymru a’r Blaid Geidwadol. Ar ôl y Pwyllgor Busnes y bore yma, mae’r Dirprwy Lywydd wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 22.5, na ddylid ystyried y Gorchmynion drafft canlynol gan Bwyllgor Pwnc. Y rhain yw’r Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Rhyddhad) (Cymru) 2000, y Gorchmyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000, a’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) Cyfradd Ostyngiad am 2000-01 (Cymru) 2000. Ar ôl derbyn sylwadau gan aelodau o’r Pwyllgor Busnes, byddaf yn trefnu i gyflwyno dadl ar safle tirlenwi Nantygwyddon. Byddaf yn ei chynnwys yn fy natganiad busnes yr wythnos nesaf ac yn amserlennu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater hwnnw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

Are there any formal objections to the business statement?

A oes unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol i’r datganiad busnes?

Jocelyn Davies spoken in English p. 26

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

I wanted to object earlier.

Yr oeddwn am wrthwynebu’n gynharach.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

I take that not to be a formal objection. I now call for comments on the business statement.

Cymeraf nad yw hynny’n wrthwynebiad ffurfiol. Galwaf yn awr am sylwadau ar y datganiad busnes.

Jocelyn Davies spoken in English p. 26

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

I hope that you understand that my objection could have been avoided had you allowed me to ask Andrew a question.

Gobeithiaf eich bod yn deall y gallesid bod wedi osgoi fy ngwrthwynebiad pe baech wedi caniatáu imi ofyn cwestiwn i Andrew.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 26

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 26

Order. I cannot allow interventions during statements, otherwise everything would turn into speeches. That is my problem. I allow questions after the statement has been made.

Trefn. Ni allaf ganiatáu ymyriadau yn ystod datganiadau, neu fel arall byddai popeth yn troi’n araith. Dyna’r broblem sydd gennyf. Caniatâf gwestiynau ar ôl y datganiad

Jocelyn Davies spoken in English p. 26

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 26

I will try not to make a speech. I will make a comment. However, I hope that Andrew understands how disappointed we are that the people of the Rhondda still do not have a date for the debate on holding a public inquiry into the Nantygwyddon tip. Members tabled a motion many months ago requesting that debate. Many Members also supported the statement of opinion which called for a public inquiry. The movement towards that debate, and perhaps on to an inquiry, has halted at the First Secretary. His reasons for not wanting to hold that public inquiry could be put to the Assembly. He has so far been unable to offer a compromise that pleases the people of the Rhondda. A closed-door inquiry is out of the question. You have given undertakings here and in the Business Committee that this debate will be scheduled if no compromise can be found. A compromise has not been found and our patience is depleted, as I am sure is the patience of the other opposition groups. Unless we receive a categoric assurance that the date of that debate will be named in the next business statement, we will object to it.

Ceisiaf beidio â rhoi araith. Yr wyf am wneud sylw. Fodd bynnag, gobeithiaf fod Andrew yn deall mor siomedig yr ydym nad yw pobl y Rhondda byth wedi cael dyddiad ar gyfer y ddadl ar gynnal ymchwiliad cyhoeddus i domen Nantygwyddon. Cyflwynwyd cynnig gan rai Aelodau fisoedd lawer yn ôl yn gofyn am y ddadl honno. Bu i lawer o Aelodau hefyd gefnogi’r datganiad o farn a alwai am ymchwiliad cyhoeddus. Mae’r symudiad at y ddadl honno, ac ymlaen efallai at ymchwiliad, wedi stopio wrth y Prif Ysgrifennydd. Gellid rhoi ei resymau dros beidio â dymuno cynnal yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw i’r Cynulliad. Hyd yn hyn nid yw wedi gallu cynnig cyfaddawd sydd yn bodloni pobl y Rhondda. Mae ymchwiliad y tu ôl i ddrysau caeëdig yn annerbyniol. Rhoesoch addewidion yma ac yn y Pwyllgor Busnes y caiff y ddadl hon ei hamserlennu os na ellir canfod cyfaddawd. Ni chafwyd cyfaddawd ac mae’n hamynedd yn brin, fel y mae amynedd grwpiau eraill yr wrthblaid, yr wyf yn siŵr. Oni dderbyniwn addewid bendant yr enwir dyddiad y ddadl honno yn y datganiad busnes nesaf, byddwn yn ei wrthwynebu.

Rod Richards spoken in English p. 27

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 27

From the details that you disclosed in this business statement, may we take it that the publication of the Waterhouse report will be after 16 February?

O’r manylion a ddatgelwyd gennych yn y datganiad busnes hwn, a allwn gymryd mai ar ôl 16 Chwefror y bydd adroddiad Waterhouse yn cael ei gyhoeddi?

Jenny Randerson spoken in English p. 27

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 27

I reiterate Jocelyn’s comments. It is well beyond the time that we should have had a firm date for a debate on this issue. I remember issuing a press release before we were elected, so it is an extremely long-standing issue. For the sake of the people of the area in question, it is time that it was resolved.

Ailadroddaf sylwadau Jocelyn. Mae’n hen bryd inni gael dyddiad pendant ar gyfer dadl ar y mater hwn. Cofiaf ryddhau datganiad i’r wasg cyn inni gael ein hethol, felly mae’n fater hen iawn. Er mwyn pobl yr ardal dan sylw, mae’n bryd ei ddatrys.

Andrew Davies spoken in English p. 27

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 27

On Rod Richards’s points about the Waterhouse inquiry, I will table a debate on this as soon as possible. I am not in a position to offer a firm date, but it is a crucial issue and one that we want to debate as soon as we can after considering the report.

Ar bwyntiau Rod Richards am ymchwiliad Waterhouse, byddaf yn cyflwyno dadl ar hynny cyn gynted ag y bo modd. Nid wyf mewn sefyllfa i gynnig dyddiad pendant, ond mae’n fater holl bwysig ac yn un yr ydym am ei drafod cyn gynted ag y gallwn ar ôl ystyried yr adroddiad.

On Jocelyn Davies’s point, I did not know that I could be more categorical in my business statement than to say that I would table a date on the Nantygwyddon issue. I am sorry that she is disappointed. Perhaps she did not understand what I said. However, I wish to refute the allegation that the First Secretary and this Administration have sought to duck this issue. That is erroneous. There has been a determined attempt to resolve it, by the Administration, the Cabinet and the First Secretary on one hand and Rhondda Cynon Taff County Borough Council on the other. There have been numerous negotiations and discussions and I understand that they are still ongoing. There is an offer on the table, despite what Jocelyn might claim. Nevertheless, representations have been made to me by Jocelyn and other members of the Business Committee and I have agreed to their request for a debate. That will be tabled and included in my business statement next week.

Ar bwynt Jocelyn Davies, ni wyddwn y gallwn fod yn fwy pendant yn fy natganiad busnes na dweud y byddwn yn cyflwyno dyddiad ar fater Nantygwyddon. Mae’n ddrwg gennyf os yw’n siomedig. Efallai na ddeallodd yr hyn a ddywedais. Fodd bynnag, dymunaf wrthbrofi’r cyhuddiad bod y Prif Ysgrifennydd a’r Weinyddiaeth hon wedi ceisio osgoi’r mater hwn. Mae hynny’n anghywir. Cafwyd ymdrech benderfynol i’w ddatrys, gan y Weinyddiaeth, y Cabinet a’r Prif Ysgrifennydd ar un llaw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar y llaw arall. Cafwyd negodi a thrafodaethau niferus a deallaf eu bod yn mynd ymlaen o hyd. Mae cynnig ar y bwrdd, er gwaethaf honiad Jocelyn. Er hynny, cyflwynwyd sylwadau i mi gan Jocelyn ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Busnes a chytunais i’w cais am ddadl. Cyflwynir hynny a’i gynnwys yn fy natganiad busnes yr wythnos nesaf.

Derbyniwyd y Datganiad Busnes.

Business Statement adopted.

Adroddiad y Prif Swyddog Meddygol

The Chief Medical Officer’s Report

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services spoken in English p. 28

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol siaradwyd yn Saesneg t. 28

I propose that

Cynigiaf fod

Jane Hutt The Secretary for Health and Social Services (continued) spoken in English p. 28

Jane Hutt Yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 28

The Chief Medical Officer for Wales’s annual report for 1998, ‘Welsh Health’, was published last year and presents the latest complete data on the health of the people of Wales. The report is not a statutory requirement, but I hope that all Members will welcome, as I do, its sharp professional focus on health issues. It is appropriate that we debate this today, after the launch yesterday of ‘A Better Wales’, which will herald a healthier, wealthier Wales.

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru am 1998, ‘Iechyd Cymru’, y llynedd ac mae’n cyflwyno’r data cyflawn diweddaraf ar iechyd pobl Cymru. Nid yw’r ddogfen yn ofyniad statudol, ond gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau’n croesawu, fel yr wyf finnau, y sylw proffesiynol manwl sydd ynddo ar faterion iechyd. Mae’n briodol ein bod yn trafod hyn heddiw, drannoeth lansio ‘Gwell Cymru’, fydd yn dod â Chymru iachach a chyfoethocaf i fod.

Dr Ruth Hall’s report adds to the body of information on the distribution of disease in the Welsh population. It shows the trends and identifies some of the factors associated with disease. The 1998 report provides a context for the Better Health, Better Wales strategic framework and the NHS White Paper published the same year, both of which address the health needs of the people of Wales. The report highlights issues of policy for attention by health care agencies, the health profession, the public, the Government, and for the first time the Assembly. We are slowly and steadily making improvements and changes that will, in the long term, improve the health and wellbeing of us all, especially those with the worst health.

Mae adroddiad Dr Ruth Hall yn ychwanegu at y corff o wybodaeth ar ddosbarthiad afiechydon ym mhoblogaeth Cymru. Dengys y tueddiadau a dynoda rai o’r ffactorau sydd yn gysylltiedig ag afiechyd. Mae’r adroddiad am 1998 yn darparu cyd-destun ar gyfer fframwaith strategol Gwell Iechyd, Gwell Cymru a’r Papur Gwyn ar yr NHS a gyhoeddwyd yr un flwyddyn, y ddau ohonynt yn ymdrin ag anghenion iechyd pobl Cymru. Mae’r adroddiad yn tynnu materion polisi i sylw asiantaethau gofal iechyd, y proffesiwn iechyd, y cyhoedd, y Llywodraeth, ac am y tro cyntaf y Cynulliad. Yr ydym yn cyflawni gwelliannau a newidiadau’n araf ac yn gyson a fydd, yn y tymor hir, yn gwella iechyd a lles pawb ohonom, yn enwedig y rhai gwaethaf eu hiechyd.

Reported progress in 1998 against health gain targets was uneven. There was satisfactory progress against targets for mortality from coronary heart disease and several cancers. However, the report shows little change against other diseases, and shows deterioration against targets for low birth weight, back pain, arthritis, adult smoking, alcohol consumption and dental decay in young people. Some of these—adult smoking is a good example—relate to lifestyle choices. Others point to inequalities in health and the need to tackle them.

Anwastad oedd y cynnydd a adroddwyd yn 1998 yn erbyn y targedau cynnydd mewn iechyd. Yr oedd cynnydd boddhaol yn erbyn y targedau ar gyfer marwolaeth o afiechyd coronaidd y galon a sawl canser. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dangos ond ychydig o newid yn erbyn afiechydon eraill, ac yn dangos dirywiad yn erbyn targedau ar gyfer pwysau geni isel, poen cefn, arthritis, ysmygu ymysg oedolion, yfed alcohol a phydredd dannedd ymysg pobl ifanc. Mae rhai o’r rhain—mae ysmygu ymysg oedolion yn enghraifft dda—yn ymwneud â dewisiadau ffordd o fyw. Mae eraill yn dangos cysylltiad ag anghydraddoldebau mewn iechyd a’r angen i fynd i’r afael â hwy.

David Melding’s amendment 1 refers to the areas where we have inherited a position of uneven progress. I accept that amendment. I will say more later about the innovative methods that we are using, in partnership with others, to achieve measurable improvement.

Mae gwelliant 1 David Melding yn cyfeirio at y meysydd lle’r ydym wedi etifeddu sefyllfa o gynnydd anwastad. Derbyniaf y gwelliant hwnnw. Byddaf yn dweud rhagor am y dulliau arloesol yr ydym yn eu defnyddio, mewn partneriaeth ag eraill, i gyflawni gwelliant mesuradwy.

The Chief Medical Officer’s report shows clearly that improvement is needed. The health of people in Wales is among the worst in Europe. There are marked inequalities within Wales itself. In general, there is worse health in areas with higher levels of socio-economic deprivation. The evidence shows that life expectancy at birth is about three years less than in European countries with the best rates, and some six months less than in England. Within Wales, those in the least deprived electoral wards live about five years longer than those in the most deprived wards. The Assembly has inherited a major challenge.

Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn dangos yn eglur bod angen gwella. Mae iechyd pobl Cymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Mae anghydraddoldebau pendant oddi mewn i Gymru ei hun. Yn gyffredinol mae iechyd gwaeth mewn ardaloedd sydd â lefel uchel o amddifadedd cymdeithasol-economaidd. Dengys y dystiolaeth fod y disgwyliad einioes ar enedigaeth tua thair blynedd yn llai nag mewn gwledydd Ewopeaidd sydd â’r cyfraddau gorau, a rhyw chwe mis yn llai nag yn Lloegr. Oddi mewn i Gymru, mae’r rhai yn y wardiau etholiadol lleiaf difreintiedig yn byw tua phum mlynedd yn hwy na’r rhai yn y wardiau mwyaf difreintiedig. Mae’r Cynulliad wedi etifeddu her fawr.

We must be mindful of the needs of particular groups of people such as those living in rural communities, ethnic minorities, the young and the old. Dai Lloyd’s amendment 2 outlines some of this in greater detail and I am inclined to accept what he says. I will respond later to his call for health action zones. With sustained effort across all policy boundaries and in partnership with the people of Wales, we can transform our inheritance over time. ‘Better Health, Better Wales’ provides the key elements of a strategy on which this Assembly can base its efforts. As the Chief Medical Officer’s report notes, a range of work has already begun. Much of it involves innovative ways of working, often in partnership with other agencies, but crucially in partnership with the people of Wales. That framework includes the establishment of local health alliances, which are led by local authorities. I launched guidance for the partners at local level at a conference in Cardiff last July. We introduced the initiative with roll-out seminars in north, south and west Wales. The initiative is being taken up with enthusiasm. The national network for health, which aims to link these alliances, has held its first meeting. It will gather the information on what is happening on the ground. That has also been greeted with enthusiasm.

Rhaid inni fod yn ymwybodol o anghenion grwpiau penodol o bobl fel y rhai sydd yn byw mewn cymunedau gwledig, lleiafrifoedd ethnig, yr ifanc a’r hen. Mae gwelliant 2 Dai Lloyd yn amlinellu rhywfaint o hynny’n fanylach ac yr wyf yn dueddol o dderbyn yr hyn a ddywed. Byddaf yn ymateb yn ddiweddarach i’w alwad am barthau gweithredu iechyd. Gydag ymdrech barhaus ar draws yr holl ffiniau polisi ac mewn partneriaeth â phobl Cymru, gallwn drawsffurfio’r hyn a etifeddwyd gennym dros amser. Mae ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’ yn darparu elfennau allweddol ar gyfer strategaeth y gall y Cynulliad seilio ei ymdrechion arni. Fel y nodir yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol, mae amrediad o waith wedi dechrau eisoes. Mae llawer ohono’n ymwneud â dulliau gwaith arloesol, mewn partneriaeth yn aml ag asiantaethau eraill, ond, yn holl bwysig, mewn partneriaeth â phobl Cymru. Mae’r fframwaith hwnnw’n cynnwys sefydlu cynghreiriau iechyd lleol, a arweinir gan awdurdodau lleol. Lansiais arweiniad ar gyfer y partneriaid ar lefel leol mewn cynhadledd yng Nghaerdydd Orffennaf diwethaf. Cyflwynasom y fenter gyda seminarau estynnol yng ngogledd, de a gorllewin Cymru. Mae derbyniad brwd i’r fenter. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer iechyd, sydd yn ceisio cysylltu’r cynghreiriau hyn, wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf. Bydd yn casglu’r wybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad. Cafwyd croeso brwd i hwnnw hefyd.

Dai Lloyd’s amendment 2 calls for a debate in the Health and Social Services Committee to discuss health action zones. I accept the amendment, including that call. It would be useful for us to discuss how we should address the areas of greatest difficulty, building on our debate last week on social inclusion. It would be useful for the Health and Social Services Committee to begin that debate. We all want the structures for improving the health status of Wales which best fit our circumstances. We have the opportunity in the Assembly to tackle poor health in new and radical ways, putting into place locally based action which embraces economic, social and education policies and issues as well as health policies. Our action will target the most deprived rural and urban communities.

Mae gwelliant 2 Dai Lloyd yn galw am ddadl yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i drafod parthau gweithredu iechyd. Derbyniaf y gwelliant, gan gynnwys yr alwad honno. Byddai’n ddefnyddiol inni drafod sut y dylem ymdrin â’r meysydd sydd yn peri’r anhawster mwyaf, gan adeiladu ar ein dadl yr wythnos diwethaf ar gynhwysiant cymdeithasol. Byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddechrau’r ddadl honno. Mae pob un ohonom am gael y strwythurau ar gyfer gwella statws iechyd Cymru sydd yn gweddu orau i’n hamgylchiadau. Mae gennym gyfle yn y Cynulliad i ymdrin ag iechyd gwael drwy ddulliau newydd a radicalaidd, gan gymryd camau’n lleol sydd yn cwmpasu polisïau a materion economaidd, cymdeithasol ac addysg yn ogystal â pholisïau iechyd. Bydd y camau a gymerwn yn targedu’r cymunedau gwledig a threfol mwyaf difreintiedig.

We are working with officials to identify how resources can be pooled and targeted at our poorest communities. We will take forward the motion carried in last week’s social inclusion debate. The motion called for targeted and concerted action as well as additional resources to tackle social exclusion, which is directly linked to ill-health. We have started some of those radical solutions. We can pursue a new approach to recognise that many of the determinants of ill-health lie beyond the bounds of traditional health policy and to tackle the problem across the whole spread of the Assembly’s responsibilities.

Yr ydym yn gweithio gyda swyddogion i ddynodi sut y gellir cronni adnoddau a’u targedu ar ein cymunedau tlotaf. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r cynnig a dderbyniwyd yn y ddadl ar gynhwysiant cymdeithasol yr wythnos diwethaf. Galwodd y cynnig am weithredu integredig wedi ei dargedu yn ogystal ag adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, sydd yn uniongyrchol gysylltiedig ag iechyd gwael. Dechreusom ar rai o’r atebion radicalaidd hynny. Gallwn ddilyn dull gweithredu newydd er mwyn cydnabod bod llawer o benderfynyddion iechyd gwael y tu hwnt i gwmpas polisi iechyd traddodiadol ac i fynd i’r afael â’r broblem ar draws holl amrediad cyfrifoldebau’r Cynulliad.

It is vital that we tackle the high levels of economic inactivity rates—which are due to ill-health—in some of our most deprived communities, with solutions that are bottom-up and that link to the local European partnerships and their project developments. This policy formulation will be taken further in discussions on our Better Health, Better Wales strategy. This is a corporate approach across all the Subject Committees and is worthy of consideration so as to achieve a joined-up approach in tackling these issues. Last November I announced that, as we said in ‘Better Health, Better Wales’, we would set up a Wales centre for health with funding of £100,000 for next year, as a powerhouse for improving health. This centre is unique to Wales. Many of the initiatives that I have described in ‘Better Health, Better Wales’ are unique to Wales.

Mae’n holl bwysig inni fynd i’r afael â lefelau uchel y cyfraddau anweithgaredd economaidd—sydd yn ganlyniad i iechyd gwael—mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig, gydag atebion a ddaw o’r gwaelod i fyny ac sydd yn ymgysylltu â’r partneriaethau Ewropeaidd lleol a’r prosiectau a ddatblygir ganddynt. Datblygir y gwaith llunio polisi hwn ymhellach mewn trafodaethau ar ein strategaeth Gwell Iechyd, Gwell Cymru. Dull gweithredu corfforaethol yw hwn ar draws yr holl Bwyllgorau Pwnc ac mae’n haeddu ei ystyried fel y gellir sicrhau ymagwedd gydgysylltiol wrth ymdrin â’r materion hyn. Fis Tachwedd diwethaf cyhoeddais y byddwn, fel y dywedasom yn ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’, yn sefydlu canolfan iechyd i Gymru gyda chyllid o £100,000 ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel pwerdy i wella iechyd. Mae’r ganolfan hon yn unigryw i Gymru. Mae llawer o’r mentrau a ddisgrifiais yn ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’ yn unigryw i Gymru.

The Wales centre for health will be a major resource for public health initiatives across Wales. Among the resources available to the centre is the sustainable health action research programme, or SHARP, which will receive £500,000 next year. The purpose of the programme is to support research projects that will provide new tools and innovative solutions on which local health improvement efforts can draw. In order to improve services and, subsequently, health, we need the sort of intelligence systems that can identify, at ward level, those in greatest need and with the poorest health. This work is in progress as part of the Health of Wales Information System, or HOWIS project. We need further impetus to efforts to establish local alliances to improve community health. I am pleased that the Welsh Local Government Association and the health authorities have joined forces in setting up a task and finish group to address better health and wellbeing. That will come under the local government partnership council. The group, which the WLGA has asked me to chair, will look at community health development and how we can facilitate it by involving all contributions at that level.

Bydd y ganolfan iechyd i Gymru yn adnodd o bwys ar gyfer mentrau iechyd cyhoeddus ledled Cymru. Ymysg yr adnoddau sydd ar gael i’r ganolfan y mae’r rhaglen ymchwil gweithredu iechyd, neu SHARP, a fydd yn derbyn £500,000 y flwyddyn nesaf. Diben y rhaglen yw cefnogi prosiectau ymchwil a fydd yn darparu arfau newydd ac atebion arloesol y gall ymdrechion gwella iechyd lleol fanteisio arnynt. Er mwyn gwella gwasanaethau ac, wedi hynny, iechyd, mae arnom angen y math o systemau gwybodaeth a all ddynodi, ar lefel wardiau, y rhai mwyaf anghenus a gwaethaf eu hiechyd. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo fel rhan o brosiect System Gwybodaeth Iechyd Cymru, neu HOWIS. Mae arnom angen ysgogiad pellach i ymdrechion i sefydlu cynghreiriau lleol i wella iechyd cymunedol. Yr wyf yn falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau iechyd wedi dod at ei gilydd wrth sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ymdrin â gwell iechyd a lles. Bydd hynny o dan y cyngor partneriaeth llywodraeth leol. Bydd y grŵp, y gofynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru imi fod yn gadeirydd arno, yn ystyried datblygu iechyd cymunedol a’r modd y gallwn ei hwyluso drwy gynnwys yr holl gyfraniadau ar y lefel honno.

At the end of last year, I launched an important new document setting out plans for the use of health impact assessments. Again, this is unique to Wales and is another of the priorities in the Better Health, Better Wales strategy, which is endorsed by all my colleagues in the Cabinet. Donald Acheson came to Cardiff and talked about the importance of health inequalities impact assessments. That is targeted in this report.

Ddiwedd y llynedd, lansiais ddogfen newydd bwysig a oedd yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer defnyddio asesiadau effaith iechyd. Unwaith eto, mae hyn yn unigryw i Gymru ac yn un arall o’r blaenoriaethau yn strategaeth Gwell Iechyd, Gwell Cymru, a gadarnhawyd gan bob un o’m cydweithwyr yn y Cabinet. Daeth Donald Acheson i Gaerdydd a soniodd am bwysigrwydd asesiadau ar effaith anghydraddoldebau iechyd. Mae hynny wedi ei dargedu yn yr adroddiad hwn.

The health of people in Wales affects and is affected by actions far beyond the reach of health policy alone. We need this cross-cutting approach to ensure improvement in the health of our people and to reduce the inequalities experienced by people across Wales. Innovative thinking is needed to take health care in Wales towards a better future. New ideas are emerging, for example, in the context of the NHS Wales acute services review. The review group is exploring clinical networks. That would mean that specialists would work across Wales and that services would not be centralised in particular locations. That could improve access for patients, wherever they live, while maintaining the benefits of a critical mass of staff with specialist expertise.

Mae iechyd pobl yng Nghymru yn effeithio ar weithredoedd ymhell y tu hwnt i gyrraedd polisi iechyd yn unig a hefyd yn cael ei effeithio ganddynt. Mae arnom angen y dull trawsbynciol hwn er mwyn sicrhau iechyd gwell ymysg ein pobl ac i leihau’r anghydraddoldebau a brofir gan bobl ledled Cymru. Mae angen syniadau arloesol er mwyn mynd â gofal iechyd yng Nghymru yn ei flaen tuag at well dyfodol. Mae syniadau newydd yn dod i’r golwg, er enghraifft, yng nghyd-destun yr adolygiad ar wasanaethau arhosiad byr NHS Cymru. Mae’r grŵp adolygu’n ymchwilio i rwydweithiau clinigol. Golygai hynny y byddai arbenigwyr yn gweithio ledled Cymru ac na fyddai gwasanaethau wedi eu canoli mewn lleoliadau penodol. Gallai hynny wella mynediad i gleifion, lle bynnag y maent yn byw, gan gadw manteision màs critigol o staff a chanddynt fedrusrwydd arbenigol.

Dai Lloyd’s amendment 3 seeks to emphasise the role of the NHS as service provider. Through HOWIS and other means, we are improving the information we have on capacity across the whole care spectrum, from hospital-based acute services to community and primary care. Some of the most useful progress can be achieved through improvements in primary care, for instance, in mental health care outside hospitals. I have always endorsed the proposition that equity of access is important. The most basic task is to ensure that appropriate clinical care is provided effectively. That is how I understand the amendment and I accept it on that basis.

Mae gwelliant 3 Dai Lloyd yn ceisio pwysleisio rôl yr NHS fel darparwr gwasanaethau. Drwy System Gwybodaeth Iechyd Cymru a chyfryngau eraill, yr ydym yn gwella’r wybodaeth sydd gennym ynghylch cynhwysedd ar draws yr holl sbectrwm gofal, o wasanaethau arhosiad byr mewn ysbytai i ofal cymunedol a sylfaenol. Gellir cyflawni rhai o’r datblygiadau mwyaf defnyddiol drwy welliannau mewn gofal sylfaenol, er enghraifft, mewn gofal iechyd meddwl y tu allan i ysbytai. Yr wyf yn cefnogi erioed y gosodiad bod tegwch mynediad yn bwysig. Y dasg fwyaf sylfaenol yw sicrhau y caiff gofal clinigol priodol ei ddarparu’n effeithiol. Felly yr wyf yn deall y gwelliant ac fe’i derbyniaf ar y sail honno.

I return to lifestyle choices. The Chief Medical Officer’s report refers to the relatively low level of physical activity of three-quarters of adults and children in Wales. Those people are at increased risk of developing a variety of disorders. We aim to promote active lifestyles in Wales. Tom Middlehurst announced that the Sports Council for Wales is setting up a working group to develop an action plan. Further initiatives will follow. Last September, I launched the Welsh Network of Healthy Schools Schemes. These schemes are developing across Wales, carrying messages about active lifestyle and diet. Walking to school is a major issue. The purpose of the schemes is to help our teachers and pupils to make positive life choices. The sexual health strategy, on which consultation is under way, seeks to address the high incidence of teenage pregnancy in Wales and improve access to services for the most vulnerable groups in Wales.

Dychwelaf at ddewisiadau ffordd o fyw. Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn cyfeirio at y lefel gymharol isel o weithgaredd corfforol ymysg tri chwarter yr oedolion a phlant yng Nghymru. Mae mwy o berygl i’r bobl hynny ddatblygu amryw o anhwylderau. Yr ydym yn ceisio hybu ffyrdd o fyw gweithgar yng Nghymru. Cyhoeddodd Tom Middlehurst fod Cyngor Chwaraeon Cymru’n sefydlu gweithgor i ddatblygu cynllun gweithredu. Bydd mentrau pellach yn dilyn. Fis Medi diwethaf, lansiais Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach. Mae’r cynlluniau hyn yn datblygu ledled Cymru, ac yn cynnwys negeseuon ynghylch ffyrdd o fyw gweithgar a deiet. Mae cerdded i’r ysgol yn fater o bwys. Pwrpas y cynlluniau hyn yw helpu ein hathrawon a’n disgyblion i wneud dewisiadau cadarnhaol ynghylch eu bywydau. Mae’r strategaeth iechyd rhywiol, y ceir ymgynghori arni ar hyn o bryd, yn ceisio ymdrin â’r nifer fawr o achosion o feichiogrwydd ymysg rhai yn eu harddegau yng Nghymru a gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

We have discussed and debated other issues in this Chamber, including tobacco control. The NHS Smoking Cessation Initiative will shortly be launched in each of the health authorities in Wales, supported by a free helpline and an advertising campaign. The All-Wales Quit and Win Challenge 2000 will follow in the autumn. We have to take this message to our children so that they do not start smoking. There is great potential here to improve the health of the people of Wales. We must keep up that pressure, but there is still much to do to improve our health. There are no quick fixes. It takes time to change attitudes and structures, particularly structures that embed inequalities. However, this comprehensive strategy gives us opportunities, and implementation of the strategy is underway.

Yr ydym wedi trafod a dadlau ynghylch materion eraill yn y Siambr hon, gan gynnwys rheolaeth ar dybaco. Cyn hir bydd Menter Peidio ag Ysmygu’r NHS yn cael ei lansio ym mhob un o’r awdurdodau iechyd yng Nghymru, wedi ei hategu gan linell gymorth am ddim ac ymgyrch hysbysebu. Bydd Her Gorffen ac Ennill Cymru Gyfan 2000 yn dilyn yn yr hydref. Rhaid inni fynd â’r neges hon i’n plant fel na fyddant yn dechrau ysmygu. Mae potensial mawr yma i wella iechyd pobl Cymru. Rhaid inni ddal i bwyso felly, ond mae llawer i’w wneud o hyd i wella ein hiechyd. Nid oes atebion sydyn. Cymer amser i newid agweddau a strwythurau, yn enwedig strwythurau sydd yn cadarnhau anghydraddoldebau. Fodd bynnag, mae’r strategaeth gynhwysfawr hon yn rhoi cyfleoedd i ni, ac mae’r strategaeth yn cael ei gweithredu.

Although I sympathise with the issues raised by Kirsty in amendment 5, which I accept, in my remarks last week on social inclusion, I stated that rural issues cut across all our responsibilities and that the rural dimension must be embodied in our social inclusion action plan. The rural dimension is also incorporated in our health improvement programme guidance, which asks local authorities to consider issues like rurality and cultural appropriateness in planning for health improvements and health services. I was pleased to pursue these issues recently when I visited the Institute of Rural Health with Mick Bates. Christine Gwyther and I will be meeting with the Institute to discuss health in rural development.

Er fy mod yn cydymdeimlo â’r materion a godir gan Kirsty yng ngwelliant 5, a dderbyniaf, yn fy sylwadau yr wythnos diwethaf ar gynhwysiant cymdeithasol, dywedais fod materion gwledig yn torri ar draws ein cyfrifoldebau a bod rhaid cynnwys y dimensiwn gwledig yn ein cynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol. Mae’r dimensiwn gwledig wedi ei gynnwys hefyd yn ein harweiniad ar y rhaglen gwella iechyd, sydd yn gofyn i awdurdodau lleol ystyried materion fel gwledigrwydd a phriodoldeb diwylliannol wrth gynllunio ar gyfer gwelliannau mewn iechyd a gwasanaethau iechyd. Yr oeddwn yn falch o ddilyn y materion hyn yn ddiweddar pan ymwelais â’r Sefydliad Iechyd Gwledig gyda Mick Bates. Bydd Christine Gwyther a minnau’n cyfarfod â’r sefydliad er mwyn trafod iechyd mewn datblygu gwledig.

On Kirsty’s amendment 4, we know there is more to be done and that some changes will take time. I accept that the NHS needs additional resources and I fully recognise that it is under acute pressure. The Prime Minister has made clear his commitment to increasing resources available to the NHS, which I fully endorse. Such issues will feature largely in the forthcoming comprehensive spending review. Obviously, any extra provision for health in England will feed through to the Assembly, which will need to determine its own spending priorities. The future of health in Wales will involve change in the way services are delivered and we are making appropriate investments to facilitate that change. The quality and value for money of our health services can be improved in view of the Government’s recognition of the difficulties. Against that background, Kirsty’s reference to additional UK taxation is, at this stage, premature and inappropriate. Therefore, on this occasion, I cannot accept her amendment.

Ynghylch gwelliant 4 Kirsty, gwyddom fod mwy i’w wneud ac y bydd rhai newidiadau’n cymryd amser. Derbyniaf fod ar yr NHS angen adnoddau ychwanegol a llwyr dderbyniaf ei fod o dan bwysau enbyd. Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi ar ddeall ei ymrwymiad i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i’r NHS, a chefnogaf hynny’n llwyr. Bydd materion o’r fath yn amlwg yn yr arolwg cynhwysfawr o wariant sydd i ddod. Wrth gwrs, bydd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer iechyd yn Lloegr yn dod drwodd i’r Cynulliad, a fydd yn gorfod penderfynu ei flaenoriaethau gwario ei hun. Bydd dyfodol iechyd yng Nghymru yn golygu newid yn y modd y cyflenwir gwasanaethau ac yr ydym yn gwneud buddsoddiadau priodol er mwyn hwyluso’r newid hwnnw. Gellir gwella ansawdd a gwerth am arian ein gwasanaethau iechyd yng ngolwg cydnabyddiaeth y Llywodraeth o’r anawsterau. Ar y cefndir hwnnw, mae cyfeiriad Kirsty at drethiant ychwanegol yn y DU yn gynamserol ac yn amhriodol ar hyn o bryd. Felly, y tro hwn, ni allaf dderbyn ei gwelliant.

The Chief Medical Officer’s report is a valuable addition to our knowledge and I commend it and the motion to the Assembly.

Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn ychwanegiad gwerthfawr at ein gwybodaeth ac fe’i cymeradwyaf a’r cynnig i’r Cynulliad.

David Melding spoken in English p. 35

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 35

I propose amendment 1. As a second paragraph insert

Cynigiaf welliant 1. Ychwaneger y canlynol fel ail baragraff

David Melding (continued) spoken in English p. 35

David Melding (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 35

I will outline how the Conservative Group will vote on the other amendments. We will abstain on amendment 2. We will join the debate on health action zones, conceded by Jane Hutt, and we have an open mind on this, but present procedures allow us to set targets relevant to the areas outlined in the Plaid Cymru motion and resources could also follow those priorities. However, when the matter is discussed at committee, we will seriously consider it.

Yr wyf am amlinellu sut y bydd y Grŵp Ceidwadol yn pleidleisio ar y gwelliannau eraill. Byddwn yn ymatal ar welliant 2. Byddwn yn ymuno yn y ddadl ar barthau gweithredu iechyd, a ganiatawyd gan Jane Hutt, a bydd gennym feddwl agored ar hynny, ond mae’r gweithdrefnau presennol yn caniatáu inni osod targedau sydd yn berthnasol i’r meysydd a amlinelir yng nghynnig Plaid Cymru a gallai adnoddau hefyd ddilyn y blaenoriaethau hynny. Fodd bynnag, pan drafodir y mater yn y pwyllgor, byddwn yn ei ystyried o ddifrif.

We will support amendment 3, and we welcome the reference to local community health facilities. On amendment 4, the grand alliance will be reasserted no doubt, and we will oppose it because the reference to under-funding does not acknowledge the increase in spending that has occurred in the NHS over many years, mostly under a Conservative Government. There is another argument about future priorities and the future size of the NHS, and I think all the political parties agree that we must ask serious questions about where we are on health spending as a nation compared with the European average. I am sure that all parties will enter that debate in the spirit of goodwill. At present, that amendment is not acceptable to us.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 3, a chroesawn y cyfeiriad at gyfleusterau iechyd cymunedol lleol. Ynghylch gwelliant 4, mae’n sicr yr ailddatgenir y gynghrair fawr, a byddwn yn ei wrthwynebu oherwydd nid yw’r cyfeiriad at danariannu yn cydnabod y cynnydd mewn gwariant a ddigwyddodd yn yr NHS dros flynyddoedd lawer, o dan Lywodraeth Geidwadol gan mwyaf. Mae dadl arall ynghylch blaenoriaethau yn y dyfodol a maint yr NHS yn y dyfodol, a chredaf fod yr holl bleidiau gwleidyddol yn cytuno bod rhaid inni ofyn cwestiynau difrifol am ein sefyllfa ynghylch gwariant ar iechyd fel cenedl o’i chymharu â’r cyfartaledd Ewropeaidd. Yr wyf yn sicr y bydd yr holl bleidiau’n dod i’r ddadl honno ag ewyllys da. Ar hyn o bryd, nid yw’r gwelliant hwnnw’n dderbyniol i ni.

We welcome amendment 5 and its reference to rural areas and community facilities responsive to the language needs of minority groups.

Croesawn welliant 5 a’i gyfeiriad at ardaloedd gwledig a chyfleusterau cymunedol sydd yn ymatebol i anghenion iaith grwpiau lleiafrifol.

I join Jane in commending the Chief Medical Officer on the lucidity and clarity of her report. In drawing up amendment 1, it was not my intention to produce a long dismal list. I highlighted those conditions because in health we must concentrate on matters that cause concern. I will not go through the entire list, but I will highlight some issues.

Ymunaf â Jane wrth ganmol y Prif Swyddog Meddygol ar gallineb ac eglurder ei hadroddiad. Wrth lunio gwelliant 1, nid oedd yn fwriad gennyf greu rhestr hir ddigalon. Tynnais sylw at y cyflyrau hynny oherwydd mewn iechyd rhaid inni ganolbwyntio ar faterion sydd yn peri pryder. Nid wyf am fynd drwy’r rhestr gyfan, ond yr wyf am dynnu sylw at rai materion.

Stroke mortality is important because the occurrence of stroke in the population is a major cause of disability and it has an enormous effect on people’s quality of life including that of carers and family members. If we reduce the level of stroke, there is an enormous health gain potential. To date, there has been no progress on the mortality rate of under-65s and there has only been a small reduction in the mortality rate of over-65s. This needs more attention.

Mae marwolaeth yn sgil strôc yn bwysig am fod y digwyddiadau o strôc yn y boblogaeth yn achosi llawer o anabledd a chaiff effaith aruthrol ar ansawdd bywyd pobl gan gynnwys gofalwyr ac aelodau o’r teulu. Os byddwn yn gostwng y lefel strôc, mae potensial aruthrol o ran cynnydd mewn iechyd. Hyd yn hyn, ni fu cynnydd ynghylch cyfradd marwolaethau’r rhai dan 65 ac ni fu ond gostyngiad bychan yng nghyfradd marwolaethau’r rhai dros 65. Mae angen rhoi mwy o sylw i hyn.

On lung cancer in women, there has been a considerable decline in the rate for men but not for women. The rate was much higher in men. It is disappointing that the mortality rate amongst women is yet to show any real decline. We must focus on the target we have set, as it is unlikely to be met.

Ynghylch canser yr ysgyfaint ymysg menywod, bu gostyngiad sylweddol yn y gyfradd ar gyfer dynion ond nid ar gyfer menywod. Yr oedd y gyfradd yn llawer uwch ymysg dynion. Mae’n siomedig nad yw’r gyfradd marwolaethau ymysg menywod wedi amlygu unrhyw ostyngiad gwirioneddol eto. Rhaid inni ganolbwyntio ar y targed a osodwyd gennym, oherwydd mae’n annhebygol y cyrhaeddir ef.

Reducing smoking levels in the community still has the biggest health gain potential. Half of smokers will die of a smoking-related illness. As the population’s lifespan increases, more and more people will have smoking-related diseases in old age, marring that period of life that could bring great happiness to them because they will live to see more generations of families than they would have in the past. It is a great pity that we are storing up disease in old age because it could be stopped by reducing the level of smoking. Many people die of lung cancer in middle or early middle age at a time when they have young families, causing devastation to them and the families they leave behind. We must communicate that message clearly. During the 1980s and early 1990s, there was a great reduction in the level of smoking, which has now levelled off. This is not a political matter because there are more general factors at play here. However, the target we have set is unlikely to be met—in the guarded language of the report—and we must revisit it.

Lleihau lefelau ysmygu yn y gymuned sydd â’r potensial mwyaf o hyd o ran cynnydd mewn iechyd. Bydd hanner yr ysmygwyr yn marw o salwch sydd yn gysylltiedig ag ysmygu. Wrth i hyd einioes y boblogaeth ymestyn, bydd mwy a mwy o bobl yn cael afiechydon sydd yn gysylltiedig ag ysmygu yn eu henaint, gan andwyo’r cyfnod hwnnw yn eu bywyd a allai ddod â hapusrwydd mawr iddynt oherwydd byddant yn byw i weld mwy o genedlaethau o deuluoedd nag a welent yn y gorffennol. Mae’n drueni mawr ein bod yn cronni afiechydon mewn henaint oherwydd gellid atal hynny drwy leihau’r lefel ysmygu. Mae llawer o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint yn ganol oed neu mewn oedran canol oed cynnar ar adeg pan fo ganddynt deuluoedd ifanc, gan beri distryw iddynt hwy a’r teuluoedd a adawant ar eu hôl. Rhaid inni gyfleu’r neges yn eglur. Yn ystod y 1980au a’r 1990au cynnar, bu gostyngiad mawr yn y lefel ysmygu, sydd bellach wedi lefelu. Nid mater gwleidyddol mo hwn oherwydd mae ffactorau mwy cyffredinol ar waith yma. Fodd bynnag, nid yw’n debygol y cyrhaeddir y targed a osodwyd gennym—yn iaith ofalus yr adroddiad—a rhaid inni ei ailystyried.

Smoking amongst school children is increasing. We have debated marketing and advertising tobacco at length. However, I reiterate my own belief that we must have the most effective and hard policies to reduce the level of smoking in the community and the way cigarettes are marketed. It is not a natural activity and we must re-emphasise our commitment to reducing levels dramatically.

Mae ysmygu ymysg plant ysgol ar gynnydd. Cawsom ddadl faith ar farchnata a hysbysebu tybaco. Fodd bynnag, ailadroddaf fy marn fod yn rhaid inni wrth y polisïau mwyaf effeithiol a chaled er mwyn lleihau lefel ysmygu yn y gymuned a’r modd y caiff sigarennau eu marchnata. Nid yw’n weithgaredd naturiol a rhaid inni ailbwysleisio ein hymrwymiad i leihau’r lefelau’n drawiadol.

The level of accidents in the community is often overlooked and yet it is the major cause of death amongst children and young adults. The fact that there is no progress on this is a matter of real anxiety. Most deaths in this category are caused by road accidents and by falls amongst the elderly. We need to look at this general policy area, as it affects transport policy, community care and the support given to elderly people and those with disabilities.

Anwybyddir lefel y damweiniau yn y gymuned yn aml ac eto hynny yw prif achos marwolaethau ymysg plant ac oedolion ifanc. Mae’r ffaith nad oes cynnydd ar hyn yn fater sydd yn peri pryder gwirioneddol. Achosir y rhan fwyaf o’r marwolaethau yn y dosbarth hwn gan ddamweiniau ar y ffyrdd a chodymau ymysg yr oedrannus. Rhaid inni edrych ar y maes polisi cyffredinol hwn, gan ei fod yn effeithio ar bolisi trafnidiaeth, gofal cymunedol a’r cymorth a roddir i bobl oedrannus a’r rhai ag anableddau.

On mental health, there are strategies before the Health and Social Services Committee at the moment looking at adult and child and adolescent services. However, this issue requires the detailed attention of policy makers and I am pleased that it is getting that level of priority. The number of suicides and undetermined deaths has not decreased; there are around 350 per year. Furthermore, around 10 per cent of schizophrenics will eventually die from suicide and there is a similar rate for those affected by severe depression. This is just an example. Obviously, there is a range of mental health services we could discuss but the report outlines the lack of progress on this issue to date.

Ynghylch iechyd meddwl, mae strategaethau gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd sydd yn rhoi sylw i wasanaethau i oedolion a phlant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae’r mater hwn yn galw am sylw manwl gan lunwyr polisi ac yr wyf yn falch ei fod yn cael blaenoriaeth o’r fath. Ni fu gostyngiad yn nifer yr hunanladdiadau a’r marwolaethau annatrys; mae tua 350 ohonynt yn flynyddol. At hynny, bydd tua 10 y cant o sgitsoffreniaid yn marw yn y pen draw o hunanladdiad a cheir cyfradd debyg ar gyfer y rhai sydd o dan effaith iselder difrifol. Nid yw hyn ond yn un enghraifft. Wrth gwrs, mae amrediad o wasanaethau iechyd meddwl y gallem eu trafod ond mae’r adroddiad yn amlinellu’r diffyg cynnydd ar y mater hwn hyd yn hyn.

In conclusion, I will make similar remarks to those made by Jane Hutt. The Chief Medical Officer’s report is firmly placed in the current policy context and the decisions taken by the Assembly are crucial for improving health and wellbeing. So, when we consider documents like ‘A Better Wales’, which was launched yesterday, we must pay particular attention to the chapter relating to health. I want to be positive, and I welcome in a guarded, restrained sense, some of the statements in that report. The emphasis on waiting times is welcome. However, if we were to perhaps be harsh, it is the present administration that has failed to reduce waiting lists and keep the promise given in a rather simplistic fashion in the run up to a general election. However, if policy makers now turn their attention to waiting times, it will benefit the people of Wales. As we all know, the angels are particularly welcoming to repentant sinners, so I am pleased to say that I will give the Government credit if it follows this through and develops appropriate waiting time targets.

I derfynu, yr wyf am wneud sylwadau tebyg i’r rhai a wnaethpwyd gan Jane Hutt. Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol wedi ei osod yn bendant yn y cyd-destun polisi cyfredol ac mae’r penderfyniadau a wneir gan y Cynulliad yn holl bwysig er mwyn gwella iechyd a lles. Felly, pan ystyriwn ddogfennau fel ‘Gwell Cymru’, a lansiwyd ddoe, rhaid inni roi sylw arbennig i’r bennod sydd yn ymwneud ag iechyd. Yr wyf am fod yn gadarnhaol, a chroesawaf, yn ofalus a gochelgar, rai o’r datganiadau yn yr adroddiad hwnnw. Mae’r pwyslais ar amseroedd aros i’w groesawu. Fodd bynnag, pe baem, efallai, yn llawdrwm, y weinyddiaeth bresennol sydd wedi methu â lleihau rhestrau aros a gwireddu’r addewid a roddwyd mewn modd gor-syml braidd yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, os yw llunwyr polisi bellach yn troi eu sylw at amseroedd aros, bydd hynny o les i bobl Cymru. Fel y gwyddom oll, mae’r angylion yn arbennig o groesawus wrth bechaduriaid edifeiriol, felly yr wyf yn falch o ddweud y byddaf yn rhoi clod i’r Llywodraeth os bydd yn canlyn hyn i’r pen ac yn datblygu targedau priodol ar gyfer amseroedd aros.

The commitment to a financial recovery programme is a response to the deficit we have had in health authority and trust spending. It needs to be sorted out and it is having an adverse effect on morale. I welcome the commitment but we will have to hold the Government to it and ensure that measured progress is made. I also welcome the commitment to reinstate a capital building programme. The biggest failure of this Government was the massive signal it sent when it cut hospital building and I am glad that this will now be redressed. There will be a certain amount of repackaging of existing commitments and there is a heavy emphasis on selling off redundant land and buildings in the NHS estate. If that is done responsibly and the money used for new hospital building, then the Government will have the support of the Conservative group both in Plenary and Committee.

Mae’r ymrwymiad i raglen adfer ariannol yn ymateb i’r diffyg a fu gennym yng ngwariant awdurdodau iechyd ac ymddiriedolaethau. Mae angen ei ddatrys ac mae’n andwyo morâl. Croesawaf yr ymrwymiad ond bydd yn rhaid inni ddal y Llywodraeth ato a sicrhau y ceir cynnydd pwyllog. Croesawaf hefyd yr ymrwymiad i adfer rhaglen adeiladu gyfalaf. Methiant mwyaf y Llywodraeth hon yw’r clamp o neges a anfonodd pan dorrodd ar adeiladu ysbytai ac yr wyf yn falch y gwneir iawn am hynny’n awr. Bydd rhywfaint o ailbecynnu ar yr ymrwymiadau presennol ac mae pwyslais cryf ar werthu tir ac adeiladau segur yn stad yr NHS. Os gwneir hyn yn gyfrifol ac os defnyddir yr arian ar gyfer adeiladu ysbytai newydd, bydd y Llywodraeth yn derbyn cefnogaeth y grŵp Ceidwadol yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor.

The Prime Minister has given the people of Britain a commitment to increase the spending level in our country to European averages, and again we need to have the debate. It is one the Conservative group will enter and support. If the Government honours all these promises there is more hope of meeting the targets that are outlined in the Chief Medical Officer’s report. I too am happy to commend the report to you. It is an excellent document, it honestly and clearly addresses the health situation in Wales in a manner that will be of great help to those making decisions on future priorities.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi ymrwymiad i bobl Prydain y bydd yn cynyddu’r lefel gwariant yn ein gwlad i’r cyfartaleddau Ewropeaidd, ac unwaith eto mae angen inni gael y ddadl. Mae’n un y bydd y grŵp Ceidwadol yn dod iddi ac yn ei chefnogi. Os bydd y Llywodraeth yn cadw’r holl addewidion hyn mae mwy o obaith o gyrraedd y targedau a amlinellir yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Yr wyf finnau’n falch o gymeradwyo’r adroddiad i chi. Mae’n ddogfen ragorol, mae’n ymdrin yn onest ac yn eglur â’r sefyllfa iechyd yng Nghymru mewn modd a fydd o gymorth mawr i’r rhai sydd yn penderfynu ar flaenoriaethau yn y dyfodol.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 39

David Lloyd spoken in Welsh p. 39

Cynigiaf welliant 2. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig

I propose amendment 2. At the end of the motion, add

David Lloyd (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 40

David Lloyd (continued) spoken in Welsh p. 40

Cynigiaf hefyd welliant 3. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig

I also propose amendment 3. Insert at the end of the motion

David Lloyd (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 41

David Lloyd (continued) spoken in Welsh and English p. 41

Diolch i Dr Ruth Hall am ei gwaith arbennig yn paratoi’r adroddiad hwn. Byddwn ni fel plaid yn cefnogi pob gwelliant yn wir ysbryd cynhwysol y Cynulliad.

in Welsh Thanks to Dr Ruth Hall for her exceptional work in preparing this report. We as a party will support every amendment in the true inclusive spirit of the Assembly.

Y mae’r cynnig yn gofyn inni nodi rhai o’r ystadegau iechyd gwaethaf sydd yn Ewrop gyfan. Fel plaid yr ydym yn credu nad yw nodi’r ystadegau gwaethaf yn mynd yn ddigon pell. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno’r ddau welliant hyn sydd yn pwysleisio’r angen am weithredu yn dilyn y wybodaeth a gawsom oddi wrth Dr Ruth Hall.

in Welsh The motion asks us to note some of the worst health statistics in the whole of Europe. As a party we believe that noting the worst statistics does not go far enough. That is why we have tabled these two amendments which emphasise the need to take action following the information we received from Dr Ruth Hall.

Mae angen gweithredu yn nhermau gwariant ar iechyd, ar ragor o welyau, ac yn enwedig ar ysbytai cymunedol a gytunwyd ers blynyddoedd. Yr oeddwn ym Mhorthmadog y Sadwrn cyn y Nadolig. Cytunwyd ar eu hysbyty cymunedol newydd ers blynyddoedd maith, ond does dim sôn am ei adeiladu. Pan ddywedwn nad oes digon o welyau a bod eisiau pwyslais cymunedol, edrychwn ar leoedd fel Porthmadog i gael eu hysbyty newydd. Mae angen gweithredu ar lefel staffio, nyrsys a meddygon, a dyna pam y cefnogwn ail ysgol feddygol.

in Welsh We need to take action in terms of expenditure on health, on more beds and particularly on community hospitals that have been agreed for years. I was in Porthmadog the Saturday before Christmas. Their new community hospital has been agreed upon for many years, but there is no sign of building it. When we say that there are insufficient beds and we want community emphasis, we look to places like Porthmadog to get their new hospital. There is a need to take action on staffing levels, nurses and doctors, and that is why we support a second medical school.

This motion asks us to note some of the worst health statistics in Europe. Health inequalities reflect social inequalities. Health divide equals the social divide. The worst health is in the areas with worst poverty, added to the behavioural symptoms in those poor areas of increased smoking and poor diet. The worst health is in our most poor, deprived areas, as we see from all the elaborate graphs that Dr Hall has prepared. We must target resources at those areas most in need, at our most deprived electoral ward areas. We need a sensitive solution. All these areas fall within the Objective 1 area and match funding for Objective 1 is a debate for another day, but that issue is behind all this. To redress health inequalities we need community health action zones. Attacking smoking is done through health action zones in England, and community safety highlighted by Dr Ruth Hall in this report is also highlighted elsewhere through health action zones. I believe in health action zones, particularly community health action zones at deprived ward level, because although partnerships between different sectors such as housing, education and health on various health improvement programmes are all very well, they will not work unless somebody’s head is on the block, if they fail—

yn Saesneg Mae’r cynnig hwn yn gofyn inni nodi rhai o’r ystadegau iechyd gwaethaf yn Ewrop. Mae anghydraddoldebau iechyd yn adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol. Mae’r gagendor iechyd yn hafal i’r gagendor cymdeithasol. Mae’r iechyd gwaethaf yn yr ardaloedd sydd â’r tlodi gwaethaf, ar ben y symptomau ymddygiadol yn yr ardaloedd tlawd hynny o ysmygu cynyddol a deiet gwael. Mae’r iechyd gwaethaf yn ein hardaloedd tlotaf, mwyaf difreintiedig, fel y gwelwn o’r holl graffiau cymhleth y mae Dr Hall wedi eu paratoi. Rhaid inni dargedu adnoddau ar yr ardaloedd hynny sydd â’r angen mwyaf, ar ardaloedd ein wardiau etholiadol mwyaf difreintiedig. Mae arnom angen ateb sensitif. Daw’r holl ardaloedd hyn o fewn yr ardal Amcan 1 ac mae arian cyfatebol ar gyfer Amcan 1 yn ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond mae’r mater hwnnw y tu ôl i hyn i gyd. Er mwyn gwneud iawn am anghydraddoldebau iechyd mae arnom angen parthau gweithredu iechyd. Mae’r ymosodiad ar ysmygu yn digwydd drwy barthau gweithredu iechyd yn Lloegr, ac mae diogelwch cymunedol y tynnwyd sylw ato gan Dr Ruth Hall yn yr adroddiad hwn hefyd yn derbyn sylw mewn mannau eraill drwy barthau gweithredu iechyd. Credaf mewn parthau gweithredu iechyd, yn enwedig parthau gweithredu iechyd cymunedol ar lefel wardiau difreintiedig, oherwydd er bod partneriaethau rhwng gwahanol sectorau fel tai, addysg a iechyd ar wahanol raglenni gwella iechyd yn ddigon derbyniol, ni fyddant yn gweithio oni bai fod pen rhywun dan y fwyell, os methant—

Brian Gibbons spoken in English p. 42

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 42

Is this a way of cutting the surgical waiting list?

Ai ffordd o dorri’r rhestr aros am lawdriniaeth yw hyn?

David Lloyd spoken in English p. 42

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 42

One possible way, Brian. I will have to think about that.

Un ffordd bosibl, Brian. Bydd yn rhaid imi feddwl am hynny.

In the interest of keeping people’s heads on blocks, health action zones could guarantee some movement on the worst health statistics. These statistics are not just news for the 1998 annual report. They have been the news in the reports for 1997, 1996, 1995 and every year since 1992, when we first began to have annual CMO reports. The statistics are not getting any better, hence amendment 2. I welcome Jane’s assurance of a debate and a possible conversion to health action zones sooner or later. We need somebody with responsibility for ensuring that these partnerships and all the fine talk work.

Er mwyn cadw pennau pobl dan y fwyell, gallai parthau gweithredu iechyd sicrhau rhywfaint o symud ynghylch yr ystadegau iechyd gwaethaf. Nid yw’r ystadegau hyn yn newyddion yn yr adroddiad blynyddol am 1998 yn unig. Buont yn newyddion yn yr adroddiadau am 1997, 1996, 1995 a phob blwyddyn ers 1992, pan ddechreusom gael adroddiadau blynyddol gan y Prif Swyddog Meddygol. Nid yw’r ystadegau’n gwella dim, a dyna’r rheswm am welliant 2. Croesawaf y sicrwydd a roddodd Jane y bydd dadl a’r posibiliad o drawsnewid i barthau gweithredu iechyd yn hwyr neu’n hwyrach. Mae arnom angen rhywun sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y partneriaethau a’r holl eiriau teg yn gweithio.

On amendment 3, the inequity of access to health care is the other aspect of poor health. Poor health is not only about determinants—living in poor deprived areas, smoking and so on—but about the fact that usually the people who most need care are the least likely to receive it. Dr Julian Tudor Hart produced a seminal paper on this in 1971 entitled ‘The Inverse Care Law’. It is as true today as it has always been. There is inequity of access to the health service in different parts of Wales, which contributes to the health divide. You cannot get the treatment you deserve. We see that in cardiac services. In the Health and Social Services Committee, Brian raised the issue of people with heart disease in the Valleys being those least able to get hold of medical treatment.

Ynghylch gwelliant 3, annhegwch y mynediad at ofal iechyd yw’r agwedd arall ar iechyd gwael. Nid yw iechyd gwael yn ymwneud â phenderfynyddion yn unig—byw mewn ardaloedd difreintiedig tlawd, ysmygu ac yn y blaen—ond hefyd â’r ffaith mai’r bobl sydd â’r angen mwyaf am ofal yw’r rhai lleiaf tebygol o’i dderbyn fel arfer. Cynhyrchodd Dr Julian Tudor Hart bapur arloesol ar hyn yn 1971 o’r enw ‘The Inverse Care Law’. Mae cyn wired heddiw ag y bu erioed. Mae annhegwch o ran mynediad i’r gwasanaeth iechyd mewn gwahanol rannau o Gymru, sydd yn cyfrannu at y gagendor iechyd. Ni allwch gael y driniaeth a haeddwch. Gwelwn hynny yng ngwasanaethau’r galon. Yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cododd Brian y mater mai pobl â chlefyd y galon yn y Cymoedd sydd â’r lleiaf o allu i gael triniaeth feddygol.

Our NHS should reflect the community bias in treatment. Ninety per cent of patients are treated in the community, in GPs’ surgeries and community hospitals. That bias should be reflected in services and a renewed emphasis should be placed on community hospitals, in rural areas in particular, which always find themselves under threat. I can think of a rural electorate not too far from here whose community hospitals have been under threat. We have seen problems with accessing health care during the recent winter crisis. It comes down to resources. We need Tony Blair’s pledge that UK health spending will reach average European health spending. That would do nicely. We need more beds, and where we have agreed to build hospitals, for example in Porthmadog, we should get on with building them.

Dylai’r NHS adlewyrchu’r gogwydd cymunedol mewn triniaeth. Trinnir 90 y cant o gleifion yn y gymuned, ym meddygfeydd meddygon teulu ac ysbytai cymunedol. Dylid adlewyrchu’r gogwydd hwnnw mewn gwasanaethau a dylid rhoi pwyslais o’r newydd ar ysbytai cymunedol, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, sydd yn aml o dan fygythiad. Gallaf feddwl am etholaeth wledig nid nepell oddi yma y bu ei hysbytai cymunedol dan fygythiad. Gwelsom broblemau o ran cael mynediad i ofal iechyd yn ystod argyfwng y gaeaf yn ddiweddar. Mater o adnoddau yw hyn yn y diwedd. Mae arnom angen addewid Tony Blair y bydd y gwariant ar iechyd yn y DU yn cyrraedd y gwariant Ewropeaidd cyfartalog ar iechyd. Tyciai hynny i’r dim. Mae arnom angen mwy o welyau, a lle y cytunasom i godi ysbytai, ym Mhorthmadog er enghraifft, dylem fynd ymlaen i’w codi.

This motion asks us to note some of the worst health statistics in Europe. Amendments 2 and 3 ask for action on resources, beds, community hospitals and workforce planning. Otherwise we will be back next year, noting some of the worst health statistics in Europe once again.

Mae’r cynnig hwn yn gofyn inni nodi rhai o’r ystadegau iechyd gwaethaf yn Ewrop. Mae gwelliannau 2 a 3 yn gofyn am weithredu ynghylch adnoddau, gwelyau, ysbytai cymunedol a chynllunio’r gweithlu. Fel arall byddwn yma eto’r flwyddyn nesaf, yn nodi rhai o’r ystadegau iechyd gwaethaf yn Ewrop unwaith eto.

Kirsty Williams spoken in English p. 43

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 43

I propose amendment 4. Add at the end of the motion

Cynigiaf welliant 4. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig

Kirsty Williams (continued) spoken in English p. 44

Kirsty Williams (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 44

I also propose amendment 5. Add at the end of the motion

Cynigiaf hefyd welliant 5. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig

Kirsty Williams (continued) spoken in English p. 44

Kirsty Williams (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 44

I thank Dr Ruth Hall for a comprehensive report. The most telling statement that the Chief Medical Officer makes in the document appears on the very first page:

Diolchaf i Dr Ruth Hall am adroddiad cynhwysfawr. Mae’r datganiad mwyaf trawiadol gan y Prif Swyddog Meddygol yn y ddogfen i’w weld ar y tudalen cyntaf un:

‘…there has been…no real change in overall levels of health and wellbeing.’

‘…ni chafwyd unrhyw wir newid yn lefelau cyffredinol iechyd a lles.’

I find it depressing that despite policy after policy and initiative after initiative, especially on alcohol and tobacco use, we are failing to make progress on many issues, some of which are highlighted in David Melding’s amendment, which the Liberal Democrat group will support.

Yr wyf yn ei chael yn ddigalon ein bod, er gwaethaf polisi ar ôl polisi a menter ar ôl menter, yn enwedig ar y defnydd o alcohol a thybaco, yn methu â sicrhau cynnydd ar lawer o faterion, y tynnir sylw at rai ohonynt yng ngwelliant David Melding, y bydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gefnogi.

The report also indicates that there are vast differences in health levels and in access to treatment throughout Wales. In supporting Dai Lloyd’s amendments, the Liberal Democrats agree that we need to focus on the communities that are in most need, and that community health facilities are vital in allowing us to do that. However, this cannot be achieved without an increase in resources. I will turn therefore to the Liberal Democrat amendments. There has been a long-term under-funding of the NHS, David. Perhaps it was your party’s inability to acknowledge that fact that led to your crushing defeat at the 1997 election.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gwahaniaethau aruthrol mewn lefelau iechyd ac yn y mynediad at driniaeth ledled Cymru. Wrth gefnogi gwelliannau Dai Lloyd, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno bod angen inni ganolbwyntio ar y cymunedau mwyaf anghenus, a bod cyfleusterau iechyd cymunedol yn holl bwysig wrth adael inni wneud hynny. Fodd bynnag, ni ellir cyflawni hyn heb gynnydd mewn adnoddau. Trof felly at welliannau’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’r NHS wedi ei danariannu dros dymor hir, David. Efallai mai anallu’ch plaid i gydnabod y ffaith honno a arweiniodd at y gurfa lethol a gawsoch yn etholiad 1997.

David Melding spoken in English p. 44

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 44

I am deeply grateful to you for identifying the single factor that led to our comprehensive defeat in 1997. Obviously, we should have thought about it more extensively before that election. However, are you denying that there was a large increase in health spending during the 1980s and throughout the 1990s?

Yr wyf yn ddiolchgar dros ben i chi am ddynodi’r un ffactor a arweiniodd at ein trechu’n llwyr yn 1997. Mae’n amlwg y dylem fod wedi ei ystyried yn fwy trwyadl cyn yr etholiad hwnnw. Fodd bynnag, a ydych yn gwadu bod cynnydd yn y gwariant ar iechyd yn ystod y 1980au a drwy gydol y 1990au?

Kirsty Williams spoken in English p. 45

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 45

I could go on to list many reasons for your crushing defeat in 1997, but we are here to discuss the Chief Medical Officer’s report. While I acknowledge that in playing with figures perhaps on paper it looked like your Government increased expenditure on the health service, that does not account for the devastation in the number of hospital beds that were available at the start of your Government and at the end of it. We lost something in the region of 6,000 beds.

Gallwn fynd ymlaen i restru llawer o resymau am y gurfa lethol a gawsoch yn 1997, ond yr ydym yma i drafod adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Er fy mod yn cydnabod ei bod yn ymddangos ar bapur, drwy chwarae â ffigurau, fod eich Llywodraeth efallai wedi cynyddu gwariant ar y gwasanaeth iechyd, nid yw hynny’n egluro’r distryw yn nifer y gwelyau ysbyty oedd ar gael ar ddechrau eich Llywodraeth ac ar ei diwedd. Collasom rywbeth tebyg i 6,000 o welyau.

The long-term under-funding of the NHS has led to record waiting times. Last week, I visited the chronic pain unit at the University of Wales Hospital in Cardiff. The waiting time for an outpatient appointment—the first appointment a patient has to see a consultant—is a staggering 53 weeks. Over 70 per cent of the unit’s caseload contains people with back pain. Given that these patients must wait so long for initial outpatient appointments, is it any surprise that the Chief Medical Officer’s report highlights a deterioration in the health gain targets for the treatment of back pain? Situations like this and the pictures we have seen from our hospitals throughout the last month, will only be addressed by a significant increase in resources.

Mae’r tanariannu tymor hir yn yr NHS wedi arwain at yr amseroedd aros hwyaf erioed. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â’r uned poen hirfaith yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd. Yr amser aros am apwyntiad claf allanol—yr apwyntiad cyntaf a gaiff claf er mwyn gweld ymgynghorydd—yw 53 wythnos, sydd yn syfrdanol. Mae dros 70 y cant o lwyth achosion yr uned yn cynnwys pobl â phoen cefn. O dderbyn bod y cleifion hyn yn gorfod aros cyn hwyed am apwyntiadau claf allanol dechreuol, a yw’n syndod o gwbl fod adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn tynnu sylw at ddirywiad yn y targedau cynnydd mewn iechyd ar gyfer trin poen cefn? Nid ymdrinnir â sefyllfaoedd fel hyn a’r hyn a welsom yn ein hysbytai gydol y mis diwethaf heblaw drwy gynnydd sylweddol mewn adnoddau.

I therefore ask the Labour Members in this Chamber to support the Liberal Democrats’ calls for the Labour Government in Westminster to scrap their plans for a 1p cut in income tax in April and to plough that money back into our hospitals instead. With that money we could begin to address the situation that I found in Bronglais hospital in Aberystwyth only yesterday. The hospital has an intensive care unit of five beds, but only two of them are staffed and open. The other three beds remain empty because the resources are not available to pay for the staff to man them, nor to treat the patients who would potentially fill them. The hospital has a maternity unit that has not been overhauled or refurbished since the midwife who works there gave birth to her own child 21 years ago. I believe that the Labour Party misjudge the people of that community and other communities throughout Wales in thinking that they would rather have 1p cut in taxes than a decent, well-funded health service for all.

Felly gofynnaf i’r Aelodau Llafur yn y Siambr hon gefnogi galwadau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan roi heibio ei bwriad i dorri 1c oddi ar dreth incwm yn Ebrill ac ailfuddsoddi’r arian yn ein hysbytai yn lle hynny. Gyda’r arian hwnnw gallem ddechrau mynd i’r afael â’r sefyllfa a welais yn ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ddoe. Mae gan yr ysbyty uned gofal dwys ac ynddi bum gwely, ond dim ond dau ohonynt sydd wedi eu staffio ac yn agored. Mae’r tri gwely arall yn aros yn wag am nad yw’r adnoddau ar gael i dalu am y staff i’w cynnal, nac i drin y cleifion a allai ddod iddynt. Mae gan yr ysbyty uned mamolaeth nad yw wedi ei hatgyweirio na’i hadnewyddu ers i’r fydwraig sydd yn gweithio yno eni ei phlentyn ei hun 21 mlynedd yn ôl. Credaf fod y Blaid Lafur yn camfarnu pobl y gymuned honno a chymunedau eraill ledled Cymru wrth feddwl y byddai’n well ganddynt gael gostyngiad o 1c yn eu treth na gwasanaeth iechyd gweddus â digon o adnoddau i bawb.

In turning to amendment 5, I acknowledge that the report cannot include everything, and the Health and Social Services Committee in its discussions with Dr Hall has considered various topics that Dr Hall could perhaps examine in subsequent reports. However, the Liberal Democrats regret that more attention was not paid to the issues of rural health and services that take account of individual cultural needs and language preferences. While we welcome the brief reference to rural home renewal and transport, there is no separate section on rural health. That is necessary; we must look at issues concerning health in rural communities. Less than a quarter of the population of Powys live within 30 minutes of an accident and emergency department compared to 100 per cent in Cardiff and eight other unitary authorities.

Wrth droi at welliant 5, cydnabyddaf nad oes modd i’r adroddiad gynnwys pob dim, ac mae’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei drafodaethau â Dr Hall wedi ystyried gwahanol bynciau y gallai Dr Hall edrych arnynt efallai mewn adroddiadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n ofid i’r Democratiaid Rhyddfrydol na roddwyd mwy o sylw i faterion iechyd gwledig a gwasanaethau sydd yn cymryd i ystyriaeth anghenion diwylliannol unigol a’r dewis o iaith. Er ein bod yn croesawu’r cyfeiriad byr at adnewyddu cartrefi gwledig a thrafnidiaeth, nid oes adran ar wahân ar iechyd gwledig. Mae angen hynny; rhaid inni ystyried materion sydd yn gysylltiedig â iechyd mewn cymunedau gwledig. Mae llai na chwarter poblogaeth Powys yn byw o fewn 30 munud i adran ddamweiniau ac achosion brys o’i gymharu â 100 y cant yng Nghaerdydd ac wyth awdurdod unedol arall.

By definition, people in rural areas live further away from each other and from those who can provide services and support. We must explore the possibility of mobile units and the technological advances of telemedicine. This ignoring of rural health in the Chief Medical Officer’s report comes at a time when every community hospital in my constituency—Brecon and Radnorshire—faces bed losses: seven in Ystradgynlais, 10 in Brecon and six in Llandrindod Wells. Each of my community hospitals is looking at how it can save £5 million. The answer must be to cut beds right across the board.

Drwy ddiffiniad, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn byw ymhellach oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth y rhai sydd yn gallu darparu gwasanaethau a chymorth. Rhaid inni ymchwilio’r posibiliad o gael unedau symudol a’r datblygiadau technolegol a geir drwy delefeddygaeth. Mae anwybyddu iechyd gwledig fel hyn yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn digwydd ar adeg pan yw pob ysbyty cymunedol yn fy etholaeth—Brycheiniog a Maesyfed—yn wynebu colli gwelyau: saith yn Ystradgynlais, 10 yn Aberhonddu a chwech yn Llandrindod. Mae pob un o’r ysbytai cymunedol sydd gennyf yn ystyried sut y gall arbed £5 miliwn. Rhaid mai’r ateb yw torri nifer y gwelyau yn gyffredinol.

Only 1.4 per cent of the Welsh population is from an ethnic minority. Despite that, I believe that everyone in Wales is entitled to a health service that reflects their individual needs. Different ethnic groups have different susceptibilities, and different cultures have different ideas of how they would like to be treated within the national health service. In 1998, the NHS equality unit made many recommendations in a report for improving the provision of health care for ethnic minorities. It will be interesting to see how far we have gone in meeting those recommendations and what progress we have made in providing services for black and ethnic minority communities in Wales.

Dim ond 1.4 y cant o boblogaeth Cymru sydd yn hanu o leiafrif ethnig. Er hynny, credaf fod gan bawb yng Nghymru hawl i dderbyn gwasanaeth iechyd sydd yn adlewyrchu eu hanghenion unigol. Mae gan wahanol grwpiau ethnig eu teimladau eu hunain, ac mae gan wahanol ddiwylliannau eu syniadau eu hunain ynghylch sut yr hoffent gael eu trin oddi mewn i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Yn 1998, gwnaeth uned cydraddoldeb yr NHS lawer o argymhellion mewn adroddiad er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ofal iechyd i leiafrifoedd ethnig. Bydd yn ddiddorol gweld i ba raddau yr ydym wedi cyflawni’r argymhellion hynny a pha gynnydd a wnaethom wrth ddarparu gwasanaethau i gymunedau lleiafrifol du ac ethnig yng Nghymru.

The Welsh Consumer Council is about to release a report on the treatment of vulnerable Welsh speakers in the NHS, in particular elderly people and children. Many Welsh speakers prefer to access services through their first language, especially in times of stress. It has been proven, for instance, that many elderly people who suffer a stroke find it impossible to use English—their second language—after such a traumatic episode. We must consider how we can develop services in areas where that is appropriate, to ensure that people’s language preferences can be met.

Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru ar fin cyhoeddi adroddiad ar y driniaeth i siaradwyr Cymraeg sydd yn agored i niwed yn yr NHS, yn enwedig pobl oedrannus a phlant. Mae’n well gan lawer o siaradwyr Cymraeg gael mynediad i wasanaethau drwy eu hiaith gyntaf, yn enwedig ar adegau o straen. Profwyd, er enghraifft, fod llawer o bobl oedrannus sydd yn dioddef strôc yn ei chael yn amhosibl defnyddio’r Saesneg—eu hail iaith—ar ôl episod mor drawmatig. Rhaid inni ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau mewn meysydd lle y mae hynny’n briodol, er mwyn sicrhau y gellir diwallu dewisiadau iaith.

David Davies spoken in English p. 47

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 47

I thank Kirsty for giving way and for confirming that spending on the health service rose year on year under the last Conservative government. On Kirsty’s last point, although members of the Conservative Party have always been big supporters of the Welsh language, as you know from our previous administration—and we certainly want to continue that and support the essence of what you are saying—will you confirm that you are not suggesting that non-Welsh speaking health professionals should be discriminated against because of their inability to speak Welsh? Would you also confirm that any moves towards promoting the use of Welsh within the health service would be within existing resources?

Diolchaf i Kirsty am ildio ac am gadarnhau bod y gwariant ar y gwasanaeth iechyd wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Ynghylch pwynt diwethaf Kirsty, er bod aelodau’r Blaid Geidwadol yn gefnogwyr mawr i’r iaith Gymraeg erioed, fel y gwyddoch o’n gweinyddiaeth flaenorol—a byddwn yn sicr am barhau â hynny a chefnogi hanfod yr hyn a ddywedwch—a ydych yn fodlon cadarnhau nad ydych yn awgrymu y dylid gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr iechyd proffesiynol di-Gymraeg oherwydd eu hanallu i siarad y Gymraeg? A fyddech gystal â chadarnhau hefyd y byddai unrhyw gamau i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd o fewn yr adnoddau presennol?

Kirsty Williams spoken in English p. 47

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 47

Certainly, David. I do not intend that this amendment should cause individuals in the NHS to worry that they will be prohibited from pursuing their career because of an inability to speak a language. We are merely looking at ways in which we can enhance opportunities for people who wish to use Welsh, as their first language, to access services in a way that is appropriate to them. We are not only talking about the Welsh language. For instance, statistics on female Chinese and Bangladeshi populations in Wales, in the 30 to approximately 65 age group, show that only a minority of women from those ethnic communities can speak fluent English. We must ensure that the service can respond to the cultural and language needs of all the communities in Wales even though they may be small.

Yn sicr, David. Nid wyf yn bwriadu i’r gwelliant hwn achosi i unigolion yn yr NHS boeni y byddant yn cael eu gwahardd rhag dilyn eu gyrfa oherwydd anallu i siarad iaith. Nid ydym ond yn ystyried dulliau y gallwn eu defnyddio i hybu cyfleoedd i bobl sydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, fel eu hiaith gyntaf, er mwyn cael mynediad at wasanaethau mewn modd sydd yn briodol iddynt. Nid ydym yn sôn am yr iaith Gymraeg yn unig. Er enghraifft, dengys ystadegau ar boblogaethau benywaidd Tsieineaidd a Bangladeshi yng Nghymru, yn y grŵp oedran rhwng 30 a thua 65, mai ond lleiafrif o’r benywod o’r cymunedau ethnig hynny a all siarad Saesneg yn rhugl. Rhaid inni sicrhau y gall y gwasanaeth ymateb i anghenion diwylliannol a ieithyddol yr holl gymunedau yng Nghymru er eu bod yn fach.

I reiterate that the Liberal Democrats will support all amendments before you today and I urge those who are doubtful to look again at the Liberal Democrat amendments and support them.

Dywedaf eto y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r holl welliannau sydd ger eich bron heddiw a phwysaf ar y rhai sydd yn amheus i ailedrych ar welliannau’r Democratiaid Rhyddfrydol a’u cefnogi.

Brian Gibbons spoken in English p. 48

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 48

We have discussed health many times in the Assembly and have focused on the social and economic determinants of ill-health. The report graphically illustrates the fundamental importance of those determinants, but I will not rehearse that argument today. However, I draw people’s attention to page 46 of the report, where the Chief Medical Officer states that over the last two decades in the UK we have seen health inequality widen in line with income inequality, and that a range of policies to reduce income inequality is likely to be effective in improving the health of the nation. That cogent sentence must be fundamental to the approach that we adopt in trying to respond to the health challenge in Wales. We cannot say that too often, particularly when the Labour Government comes under attack from other parties, about the minimum wage, working families tax credit and so on.

Yr ydym wedi trafod iechyd lawer gwaith yn y Cynulliad ac wedi canolbwyntio ar benderfynyddion cymdeithasol ac economaidd iechyd gwael. Mae’r adroddiad yn dangos yn fanwl bwysigrwydd sylfaenol y penderfynyddion hynny, ond nid af drwy’r ddadl honno heddiw. Fodd bynnag, tynnaf sylw at dudalen 46 yn yr adroddiad, lle y dywed y Prif Swyddog Meddygol ein bod wedi gweld ehangu mewn anghydraddoldeb iechyd dros y ddau ddegawd diwethaf yn y DU yn unol â’r anghydraddoldeb incwm, a bod amrediad o bolisïau i leihau anghydraddoldeb incwm yn debygol o fod yn effeithiol wrth wella iechyd y genedl. Rhaid i’r frawddeg effeithiol honno fod yn sylfaen i’r dull gweithredu a fabwysiadwn wrth geisio ymateb i’r her iechyd yng Nghymru. Ni allwn ddweud hynny’n rhy aml, yn enwedig pan fo’r Llywodraeth Lafur dan fygythiad oddi wrth bleidiau eraill, ynghylch yr isafswm cyflog, credyd treth i deuluoedd sydd yn gweithio ac yn y blaen.

However, when most people think of health services, they think of the national health service. Today, I want to talk about clinical services. On page 64 of the Chief Medical Officer’s report is one of its most interesting aspects. It states that almost 50 per cent of health gain in terms of life expectancy is due to the medical interventions that we deliver through the NHS, as is the two-third reduction in heart disease. Therefore, even though social and economic determinants are important, the ability of the health service is also important to improve the health of the nation. In view of the effectiveness of health interventions, the points that people have made about access to services become even more important. In particular, people who have the greatest burden of disease must be allowed appropriate access to these most effective services.

Fodd bynnag, pan y mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am wasanaethau iechyd, maent yn meddwl am y gwasanaeth iechyd gwladol. Heddiw, yr wyf am sôn am wasanaethau clinigol. Ar dudalen 64 o adroddiad y Prif Swyddog Meddygol y ceir un o’i agweddau mwyaf diddorol. Dywed fod bron 50 y cant o’r cynnydd mewn iechyd o ran disgwyliad einioes yn ganlyniad i ymyriadau meddygol a gyflawnwn drwy’r NHS, yn yr un modd â’r gostyngiad o ddwy ran o dair mewn clefyd y galon. Felly, er bod penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd yn bwysig, mae gallu’r gwasanaeth iechyd hefyd yn bwysig er mwyn gwella iechyd y genedl. Yng ngolwg effeithiolrwydd ymyriadau iechyd, mae’r pwyntiau a wnaethpwyd gan rai am fynediad i wasanaethau yn dod yn bwysicach fyth. Yn benodol, rhaid caniatáu mynediad priodol i’r rhai sydd o dan y baich mwyaf o afiechyd i’r gwasanaethau mwyaf effeithiol.

The Chief Medical Officer’s report and amendment 3 make specific reference to cardiac services and the need to target them to the area of greatest need. That is true, but that phrase hides a rather complex situation, particularly if we consider Dr Gillian Todd’s recent report on specialist cardiac services. In that report, she stated that the areas that have the highest access to cardiac services also have the highest waiting lists and the areas that have the lowest access have the lowest waiting lists. The waiting list is lower partly because people are not being referred in the first instance. However, this complicated picture means that simplistic solutions do not come readily to hand. Dr Gillian Todd’s report also highlighted the situation in north Wales, which is not, in relative terms, an area that has major heart disease in Wales. However, the level of provision in north Wales is relatively abysmal compared with the rest of Wales. On David Lloyd’s amendment 3, we must take cognisance of the fact that some areas, which happen to have a high prevalence of heart disease are also very poorly served by the rate of their specialist heart services.

Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol a gwelliant 3 yn cyfeirio’n benodol at wasanaethau’r galon a’r angen i’w targedu ar yr ardal fwyaf anghenus. Mae hynny’n wir, ond mae’r ymadrodd hwnnw’n cuddio sefyllfa sydd braidd yn gymhleth, yn enwedig os ystyriwn adroddiad diweddar Dr Gillian Todd ar wasanaethau calon arbenigol. Yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd mai’r ardaloedd â’r mynediad ehangaf at wasanaethau’r galon yw’r rhai sydd â’r rhestrau aros hwyaf hefyd ac mai’r ardaloedd sydd â’r mynediad mwyaf cyfyng sydd â’r rhestrau aros byrraf. Mae’r rhestr aros yn fyrrach yn rhannol am na chyfeirir pobl yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae’r darlun cymhleth hwn yn golygu nad oes atebion gor-syml i’w cael yn rhwydd. Tynnwyd sylw yn adroddiad Dr Gillian Todd hefyd at y sefyllfa yng ngogledd Cymru, nad ydyw, yn gymharol, yn ardal sydd â llawer o glefyd y galon yng Nghymru. Fodd bynnag, mae lefel y ddarpariaeth yng ngogledd Cymru yn drychinebus o’i chymharu â gweddill Cymru. Ar welliant 3 David Lloyd, rhaid inni gofio’r ffaith fod rhai ardaloedd, lle y mae clefyd y galon yn digwydd bod yn gyffredin, hefyd yn derbyn gwasanaeth gwael o ran maint eu gwasanaethau calon arbenigol.

It is not just a case of getting access to—

Mae’n fwy na mater o gael mynediad at—

Dafydd Wigley spoken in English p. 49

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 49

I am sure that Brian did not intend his comments about the service in north Wales to be a reflection on those carrying it out. I can speak from personal experience of recent weeks, of the outstanding service that is given to north Wales by the Royal Infirmary in Manchester, which is greatly appreciated.

Yr wyf yn sicr nad oedd Brian yn bwriadu i’w sylwadau am y gwasanaeth yng ngogledd Cymru adlewyrchu ar y rhai sydd yn ei redeg. Gallaf siarad o brofiad personol yn yr wythnosau diwethaf, am y gwasanaeth rhagorol a roddir i ogledd Cymru gan y Royal Infirmary ym Manceinion, a dra werthfawrogir.

Brian Gibbons spoken in English p. 50

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 50

Dafydd probably anticipates my next point, which may not be as complimentary as we might like. Research has recently been undertaken to look at what happens once people get on the waiting list for access to cardiac services. The evidence shows that, once people from areas of greater social needs—socially deprived populations—get on the waiting list, they have to wait longer on that waiting list for their services. Equally, people from socially deprived areas are less likely to be classified as acute cases needing emergency heart surgery, despite the fact that one would expect that they would be more likely to have more severe diseases. Not only are there access problems, but there is a social gradient in terms of getting the operation, and not only that, but there is also a gender gradient. People who are less likely to get rapid access to cardiac services in terms of referral and getting the surgery, are women from socially deprived backgrounds. Therefore, it is not just a case of getting on to the waiting list, we must look at the whole process of cardiac services from referral through to final rehabilitation. That is an important point.

Mae’n fwy na thebyg bod Dafydd yn rhagweld y pwynt nesaf sydd gennyf, nad yw efallai mor ganmoliaethus ag yr hoffem iddo fod. Cyflawnwyd ymchwil yn ddiweddar i edrych ar yr hyn sydd yn digwydd wedi i bobl gael eu rhoi ar y rhestr aros ar gyfer mynediad i wasanaethau’r galon. Dengys y dystiolaeth fod pobl â’r anghenion cymdeithasol mwyaf—poblogaethau cymdeithasol ddifreintiedig —ar ôl cael eu rhoi ar restr aros yn gorfod aros yn hwy ar y rhestr aros honno am eu gwasanaethau. Yn yr un modd, mae pobl o ardaloedd cymdeithasol ddifreintiedig yn llai tebygol o gael eu dosbarthu’n achosion arhosiad byr ag arnynt angen llawdriniaeth frys ar y galon, er gwaethaf y ffaith y byddai rhywun yn disgwyl iddynt fod yn fwy tebygol o gael clefydau mwy difrifol. Nid yn unig y ceir problemau mynediad, ond mae graddiant cymdeithasol o ran cael y llawdriniaeth, ac yn ogystal â hynny, mae graddiant yn ôl rhyw hefyd. Y rhai sydd yn lleiaf tebygol o gael mynediad cyflym i wasanaethau’r galon o ran cyfeirio a derbyn llawdriniaeth, yw benywod o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig. Felly, mae’n fwy na mater o gael lle ar y rhestr aros. Rhaid inni edrych ar holl broses gwasanaethau’r galon o gyfeirio hyd at yr ailsefydlu terfynol. Mae hynny’n bwynt pwysig.

Another issue mentioned in Dai’s amendment 3 is the importance of extra beds in dealing with cardiac services. That is true. However, it is not simply a case of extra beds. We know of the Socialist Workers Party chant: what do we want? We want beds. When do we want them? Now.

Mater arall a grybwyllir yng ngwelliant 3 o’r eiddo Dai yw pwysigrwydd cael gwelyau ychwanegol wrth ymwneud â gwasanaethau’r galon. Mae hynny’n wir. Fodd bynnag, nid yw ond yn fater o welyau ychwanegol. Gwyddom am siant Plaid Sosialaidd y Gweithwyr: beth yr ydym am ei gael? Yr ydym am gael gwelyau. Pa bryd yr ydym am eu cael? Yn awr.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 50

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 50

You have been there.

Buoch yno.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 50

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 50

Order. We have all been somewhere.

Trefn. Buom oll yn rhywle.

Brian Gibbons spoken in English p. 50

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 50

It is like the access issue, where it is said that getting onto the waiting list solves the problem. Equally, just saying ‘more beds now’ does not fully answer the challenge that we are facing. We are looking at high dependency unit beds, intensive therapy unit beds, conventional beds, rehabilitation beds and day-case beds to allow the angiography and so forth to take place. If people have a simplistic solution such as more beds, the complexity of the situation is overlooked. This returns to what was said last week, and it is one of the reasons why I was so disappointed that the other parties were not willing to take up the offer from the Secretary for Health and Social Services to participate on the winter bed pressure working party. That working party impinges on the complex issue of bed mix within the health service. We need a fully inclusive approach to deal with this issue. I genuinely appeal to the parties, particularly as they have proposed amendments on these themes today, to reconsider their positions on taking part in that working party, so that we can all work together to address this highly complex and specific issue.

Mae fel y mater mynediad, lle y dywedir bod cael lle ar y rhestr aros yn datrys y broblem. Yn yr un modd, nid yw dweud ‘mwy o welyau yn awr’ yn llwyr ateb yr her a wynebwn. Yr ydym yn sôn am welyau mewn unedau dibyniaeth uchel, gwelyau mewn unedau therapi dwys, gwelyau confensiynol, gwelyau ailsefydlu a gwelyau achosion dydd fel y gellir cyflawni’r angiograffi ac yn y blaen. Os yw pobl yn cynnig ateb gor-syml fel mwy o welyau, anwybyddir cymhlethdod y sefyllfa. Mae hyn yn mynd yn ôl at yr hyn a ddywedwyd yr wythnos diwethaf, ac mae’n un o’r rhesymau pam yr oeddwn mor siomedig nad oedd y pleidiau eraill yn barod i dderbyn cynnig yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gymryd rhan yn y gweithgor ar bwysau ar welyau yn y gaeaf. Mae’r gweithgor hwnnw’n cyffwrdd â mater cymhleth y cymysgedd o welyau o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae arnom angen dull gweithredu cwbl gynhwysol er mwyn ymdrin â’r mater hwn. Erfyniaf yn ddidwyll ar y pleidiau eraill, yn enwedig gan eu bod wedi cynnig gwelliannau ar y themâu hyn heddiw, i ailystyried eu safbwyntiau ar gymryd rhan yn y gweithgor hwnnw, fel y gallwn oll gydweithio i ymdrin â’r mater penodol a thra chymhleth hwn.

John Griffiths spoken in English p. 51

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 51

One of the starkest points that has been made today is the five-year gap between life expectancy in some communities in Wales compared to others. That brings home to me with what we have to deal and the size of the task with which we are faced. Healthy lifestyles are relevant to this debate, Llywydd. However, there is a range of other factors—economic, social, industrial legacy and so on—that have a large bearing on people’s health.

Un o’r pwyntiau mwyaf trawiadol a wnaethpwyd heddiw yw’r bwlch o bum mlynedd rhwng y disgwyliad einioes mewn rhai cymunedau yng Nghymru o’u cymharu ag eraill. Mae hynny’n dangos i mi’r hyn y mae’n rhaid inni ymdrin ag ef a maint y dasg a wynebwn. Mae ffyrdd o fyw iach yn berthnasol i’r ddadl hon, Lywydd. Fodd bynnag, mae amrediad o ffactorau eraill—economaidd, cymdeithasol, etifeddiaeth ddiwydiannol ac yn y blaen—sydd yn dylanwadu’n helaeth ar iechyd pobl.

Housing is one obvious area where we could make long-term investments which would pay great dividends in terms of health. We must have a short-term and long-term strategy, as with everything else. Our long-term strategy could see resources diverted to housing to a large extent. That would reap great benefits for health in Wales.

Mae tai yn un maes amlwg lle y gallem wneud buddsoddiadau tymor hir a fyddai’n talu ar eu canfed o ran iechyd. Rhaid inni gael strategaeth dymor byr a thymor hir, fel ym mhopeth arall. Yn ein strategaeth dymor hir gallem weld ailgyfeirio adnoddau i dai i raddau helaeth. Byddai hynny’n dod ag enillion mawr i iechyd yng Nghymru.

I will refer specifically to healthy living. Healthy lifestyle is a significant part of the equation, notwithstanding the other factors that I have mentioned. Eating healthily, sensible drinking, exercise habits and not smoking are a big part of that. Some people would refer to such considerations as playing to what they might call the ‘nanny state agenda’, but I have no reluctance at all in urging healthy lifestyles on the people of Wales.

Yr wyf am gyfeirio’n benodol at fyw’n iach. Mae ffordd o fyw iach yn rhan bwysig o’r hafaliad, er gwaethaf y ffactorau eraill a grybwyllais. Mae bwyta’n iach, yfed yn bwyllog, arferion ymarfer a pheidio ag ysmygu’n rhan fawr o hynny. Byddai rhai’n cyfeirio at ystyriaethau o’r fath fel rhai sydd yn dilyn yr hyn a alwent efallai’n ‘agenda gwladwriaeth y nani’, ond ni phetrusaf o gwbl rhag annog pobl Cymru i ddilyn ffyrdd o fyw iach.

I will deal in particular with smoking. This is a topical matter to which I have referred in the past. It is significant that we see this report referring to some of the health problems that are highly correlated with smoking and show no gains or improvements. Among those matters are adult and teenage smoking rates and lung cancer in women. It is important that we try to stop young people taking up the smoking habit in the first place as we know that it is highly addictive and difficult to give up. Scientists say that nicotine is more addictive than heroin. That makes you stop and think.

Ymdriniaf yn arbennig ag ysmygu. Mae hwn yn bwnc amserol y cyfeiriais ato yn y gorffennol. Mae’n arwyddocaol ein bod yn gweld cyfeirio yn yr adroddiad hwn at rai o’r problemau iechyd sydd â chydberthynas uchel ag ysmygu na chafwyd unrhyw gynnydd neu welliannau ynddynt. Ymysg y materion hynny y mae cyfraddau ysmygu ymysg oedolion a rhai yn eu harddegau a chanser yr ysgyfaint ymysg benywod. Mae’n bwysig inni geisio atal pobl ifanc rhag dechrau’r arfer o ysmygu yn y lle cyntaf oherwydd gwyddom ei fod yn gaethiwus iawn ac yn anodd rhoi’r gorau iddo. Dywed y gwyddonwyr fod nicotin yn fwy caethiwus na heroin. Mae hynny’n peri ichi aros a meddwl.

Another major part of the equation is encouraging people to give up smoking and facilitating that. An important part of that is the messages that are sent in terms of public policy on smoking. I would like to see a ban on smoking in all public places. This is a controversial issue and many would disagree with a ban on the grounds of civil liberties. I support a ban and, as a step towards it, I would like to see us encourage businesses across Wales, particularly restaurants, cafés and bars to sign up to a voluntary non-smoking code and to introduce no smoking areas and blanket no smoking policies. We all know that it is impossible to section off a part of a restaurant and expect the smoke not to spread to other parts.

Rhan bwysig arall o’r hafaliad yw annog pobl i roi’r gorau i ysmygu a hwyluso hynny. Rhan bwysig o hynny yw’r negeseuon a gyfleir o ran polisi cyhoeddus ar ysmygu. Hoffwn weld gwahardd ysmygu ym mhob man cyhoeddus. Mae hyn yn fater dadleuol a byddai llawer yn anghytuno â gwaharddiad ar dir hawliau sifil. Cefnogaf waharddiad ac, fel cam tuag at hynny, hoffwn ein gweld yn annog busnesau ledled Cymru, yn enwedig bwytai, caffis a thafarnau i gytuno ar god dim ysmygu gwirfoddol ac i sefydlu mannau dim ysmygu a pholisïau dim ysmygu cyffredinol. Gwyddom mai amhosibl yw gwahanu rhan o fwyty a disgwyl i’r mwg beidio ag ymledu i fannau eraill.

Many people feel strongly that such policies send the right messages and encourage people to give up smoking because they make it clear that smoking is not socially acceptable and that it affects other people’s health, not least the health of waiters and staff in restaurants, cafés and bars who breathe in smoke over a prolonged period of time. The example of Roy Castle illustrates the dangers and consequences of working in that sort of atmosphere. A number of local authorities, including most recently Blaenau Gwent, as Peter Law will be aware, have a progressive policy and are about to implement a voluntary no smoking code. They are keen to expand it. I would like to see that spread across Wales. The Assembly has a key role in pushing for and establishing such a voluntary code in Wales.

Mae llawer o bobl yn teimlo’n gryf bod polisïau o’r fath yn anfon y negeseuon cywir ac yn annog pobl i roi’r gorau i ysmygu am eu bod yn rhoi ar ddeall nad yw ysmygu’n gymdeithasol dderbyniol a’i fod yn effeithio ar iechyd pobl eraill, nid lleiaf iechyd gweinyddion a staff mewn bwytai, caffis a thafarnau sydd yn anadlu mwg dros gyfnod maith. Mae enghraifft Roy Castle yn dangos peryglon a chanlyniadau gweithio mewn awyrgylch o’r fath. Mae polisi blaengar gan nifer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Blaenau Gwent yn fwyaf diweddar, fel y gŵyr Peter Law, ac maent ar fin sefydlu cod dim ysmygu gwirfoddol. Maent yn awyddus i’w ehangu. Hoffwn weld ei ehangu ledled Cymru. Mae gan y Cynulliad rôl allweddol wrth bwyso am a sefydlu cod gwirfoddol o’r fath yng Nghymru.

David Davies spoken in English p. 53

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

Before coming to this debate, I took the trouble to refresh my memory on what this administration had promised us it would do for the health service before the elections in 1997 and 1999. The long list of promises combined with some slanderous attacks on the previous administration left me breathless with amazement.

Cyn dod i’r ddadl hon, euthum i’r drafferth i’m hatgoffa fy hun am yr hyn yr addawodd y weinyddiaeth hon ei wneud dros y gwasanaeth iechyd cyn yr etholiadau yn 1997 ac yn 1999. Yr oedd y rhestr hir o addewidion, ynghyd â rhai ymosodiadau enllibus ar y weinyddiaeth flaenorol, yn fy mhensyfrdanu.

The 1997 manifesto for Wales made a commitment to end mixed sex hospital wards. Labour never had any intention of doing this, as I discovered when I asked Jane Hutt whether it was her policy to end mixed sex wards. The answer was ‘no’. There was also a paragraph on smoking in the manifesto, which has been mentioned by John Griffiths and several other speakers this afternoon. That paragraph describes smoking as the greatest single cause of preventable illness and premature death in the United Kingdom. There was a commitment made to end tobacco advertising. We all know about that, do we not?

Yr oedd ymrwymiad ym maniffesto 1997 ar gyfer Cymru i ddiweddu wardiau ysbyty i’r ddau ryw. Nid oedd gan Lafur erioed fwriad i wneud hynny, fel y darfanfûm pan ofynnais i Jane Hutt a oedd yn bolisi ganddi ddiweddu wardiau i’r ddau ryw. Yr ateb oedd ‘na’. Yr oedd hefyd baragraff ar ysmygu yn y maniffesto, a grybwyllwyd gan John Griffiths a sawl siaradwr arall y prynhawn yma. Mae’r paragraff hwnnw yn disgrifio ysmygu fel yr achos unigol mwyaf o salwch ataliadwy a marwolaeth gynamserol yn y Deyrnas Unedig. Yr oedd ymrwymiad i ddiweddu hysbysebu tybaco. Gwyddom oll am hynny, oni wyddom?

John Griffiths spoken in English p. 53

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 53

If you think back to the Conservative Government’s record on tobacco advertising and sponsorship, I think you should hang your head in shame.

Os cofiwch record y Llywodraeth Geidwadol ar hysbysebu tybaco a nawdd, credaf y dylech ostwng eich pen gan gywilydd.

David Davies spoken in English p. 53

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 53

I will not thank John Griffiths for that and I will not hang my head in shame. I am here as a member of the opposition to put the Labour administration under scrutiny, and we get precious little opportunity to do that in the Assembly. I am holding you accountable for the promises that you made when you were elected. We all know about your promises on smoking. We all know that when New Labour is given a choice between keeping a manifesto commitment and preventing what it calls the greatest cause of premature death in the United Kingdom, or having £1 million bunged into its slush funds, there is no contest. The empty words of New Labour’s manifesto slide into insignificance when compared with the greatest lie of all, that Labour would reduce hospital waiting lists. In the 1997 Welsh manifesto it went even further and said that, as a start, the first £100 million saved on bureaucracy would be used to treat an extra 100,000 patients and to end waiting for cancer surgery.

Nid wyf am ddiolch i John Griffiths am hynny ac ni ostyngaf fy mhen gan gywilydd. Yr wyf yma fel aelod o’r wrthblaid i archwilio’r weinyddiaeth Lafur, a phrin iawn yw’r cyfle a gawn i wneud hynny yn y Cynulliad. Yr wyf yn eich galw i gyfrif am yr addewidion a roesoch pan etholwyd chi. Gwyddom oll am eich addewidion ynghylch ysmygu. Gwyddom oll, pan roddir dewis i Lafur Newydd rhwng cadw ymrwymiad maniffesto ac atal yr hyn a eilw’n achos mwyaf marwolaeth gynamserol yn y Deyrnas Unedig, a gweld taflu £1 miliwn i’w gronfa gil-dwrn, nad oes amau pa un a ennill. Mae geiriau gwag maniffesto Llafur Newydd yn pylu’n ddim wrth ymyl y celwydd mwyaf oll, sef y byddai Llafur yn lleihau rhestrau aros yr ysbytai. Ym maniffesto 1997 ar gyfer Cymru aeth yn bellach byth a dweud, fel man cychwyn, y byddai’r £100 miliwn cyntaf a arbedid ar fiwrocratiaeth yn cael ei ddefnyddio i drin 100,000 o gleifion ychwanegol ac i roi terfyn ar yr aros am lawdriniaethau canser.

Once again the reality is different. Since Labour got its hands on the NHS, waiting lists have soared. They are at a much higher level than they ever were under the Conservatives. Cancer patients who voted for Labour thinking that they would be treated more urgently have been cruelly let down and deceived. All other waiting lists have soared under Labour and this crisis will get worse, as I discovered when I visited Nevill Hall recently. As in so many other hospitals throughout Wales, this administration failed to see what we could have told them: during the winter more people need hospital treatment. As a result, beds that should have been set aside for people having routine operations were filled with people needing urgent medical treatment, which means that the waiting list figures will set to rise inexorably over the coming months. New figures are out tomorrow and I cannot help thinking—because I am getting rather cynical these days—that if it was good news, we would not be having this debate today. Operations have been cancelled and put back even further.

Unwaith eto mae’r realiti’n wahanol. Ers i Lafur gael gafael ar yr NHS, mae’r rhestrau aros wedi codi i’r entrychion. Maent yn uwch o lawer yn awr nag y buont erioed o dan y Ceidwadwyr. Mae cleifion canser a bleidleisiodd dros Lafur gan feddwl y caent eu trin yn gynt wedi eu siomi a’u twyllo’n greulon. Mae’r holl restrau aros eraill wedi codi i’r entrychion o dan Lafur a bydd yr argyfwng hwn yn gwaethygu, fel y darganfûm pan ymwelais â Nevill Hall yn ddiweddar. Fel mewn cynifer o ysbytai eraill ledled Cymru, methodd y weinyddiaeth hon â gweld yr hyn y gallasem fod wedi ei ddweud wrthynt: yn ystod misoedd y gaeaf mae ar fwy o bobl angen triniaeth mewn ysbyty. O ganlyniad, yr oedd gwelyau a ddylasai fod wedi eu neilltuo ar gyfer pobl a oedd yn derbyn llawdriniaethau arferol wedi eu llenwi â phobl ag arnynt angen triniaeth feddygol frys, sydd yn golygu y bydd ffigurau’r rhestrau aros yn codi’n ddidrugaredd dros y misoedd nesaf. Bydd ffigurau newydd allan yfory ac ni allaf beidio â meddwl—oherwydd yr wyf yn troi’n eithaf sinigaidd y dyddiau hyn—pe bai’n newyddion da, na fyddem yn cael y ddadl hon heddiw. Mae llawdriniaethau wedi eu diddymu a’u bwrw’n ôl ymhellach byth.

The NHS is going from crisis to crisis. Instead of an apology to all those who have been misled, an admission that mistakes have been made, and that New Labour does not always know what is best for us, all we have been offered is a taskforce. A group of people, who will go to a lot of meetings and make some worthy suggestions about how things might be improved. If, by chance, the news gets better, we know what will happen: New Labour will take all the credit. If, as is far more likely, the news gets a lot worse, the taskforce will get the blame. That is why the Conservative Group will have no part in this taskforce.

Mae’r NHS yn mynd o argyfwng i argyfwng. Yn lle ymddiheuriad i bawb a gamarweiniwyd, cyfaddediad bod camgymeriadau wedi digwydd, ac nad yw Llafur Newydd bob amser yn gwybod beth sydd orau i ni, y cwbl a gynigiwyd i ni yw tasglu. Grŵp o bobl a fydd yn mynd i gyfarfodydd lu ac yn gwneud rhai awgrymiadau teilwng am y modd y gellid gwella pethau. Os bydd y newyddion yn gwella, drwy ryw hap, gwyddom beth fydd yn digwydd: bydd Llafur Newydd yn cymryd y clod i gyd. Os â’r newyddion yn llawer gwaeth, a hynny sydd yn fwy tebygol, y tasglu fydd yn cael y bai. Dyna pam na fydd y Grŵp Ceidwadol yn cymryd unrhyw ran yn y tasglu hwn.

Before I conclude, I request that the Secretary for Health and Social Services answers four simple questions. First, will she ever honour the New Labour manifesto commitment to end mixed sex wards? Yes or no? Second, if and when she will honour the Labour Assembly manifesto commitment to end waiting lists for cataract operations? Third, when does she expect hospital waiting lists to fall below their level at under the last Conservative administration? Fourth, will she apologise to everyone who voted Labour in 1997 and 1999 expecting to see improvements in the health service but have had to put up with longer waiting lists, fewer staff, mixed sex wards and a string of other broken promises?

Cyn imi orffen, gofynnaf i’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ateb pedwar cwestiwn syml. Yn gyntaf, a fydd yn cyflawni’r ymrwymiad ym maniffesto Llafur Newydd i ddod â wardiau dau ryw i ben byth? Bydd neu na fydd? Yn ail, pa bryd, os o gwbl, y bydd yn cyflawni’r ymrwymiad ym maniffesto Cynulliad Llafur i derfynu rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau i godi pilennau? Yn drydydd, pa bryd y mae’n disgwyl y bydd rhestrau aros yr ysbytai’n disgyn yn is na’u lefel o dan y weinyddiaeth Geidwadol ddiwethaf? Yn bedwerydd, a wnaiff ymddiheuro i bawb a bleidleisiodd dros Lafur yn 1997 ac yn 1999 gan ddisgwyl gweld gwelliannau yn y gwasanaeth iechyd ond sydd wedi gorfod goddef rhestrau aros hwy, llai o staff, wardiau i’r ddau ryw a rhes o dor-addewidion eraill?

Christine Chapman spoken in English p. 55

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 55

I will concentrate on one aspect of the report and one aspect of health care in Wales, which is mental health care provision in Wales. More specifically, in the Valleys. I welcome the fact that the CMO’s report mentions mental health in several places. Worryingly, we realise that there has been no change against health gain targets on mental health. As such, I will agree with David Melding’s amendment 1 and note concern that some health gain targets are not progressing satisfactorily, one of which is mental health.

Byddaf yn canolbwyntio ar un agwedd ar yr adroddiad ac un agwedd ar ofal iechyd yng Nghymru, sef y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Yn fwy penodol, yn y Cymoedd. Croesawaf y ffaith fod adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn sôn am iechyd meddwl mewn sawl lle. Sylweddolwn gyda gofid na fu newid yn erbyn y targedau cynnydd mewn iechyd ar iechyd meddwl. Yn hynny o beth, cytunaf â gwelliant 1 David Melding gan nodi pryder na fu cynnydd boddhaol ar rai targedau cynnydd mewn iechyd, ac un o’r rhain yw iechyd meddwl.

Annually, there are around 250 deaths in Wales from suicide, but an extra 100 deaths are undetermined at inquest, whether accidentally or purposefully inflicted and David has already mentioned those. Not all suicides are committed by people suffering from mental illness but it increases the risk. Around 10 per cent of schizophrenics eventually commit suicide and the figure may be equally high for people with severe depression. We have heard a lot in this Chamber recently about the tragic cases of suicide in the agricultural community. A recent report from Swansea University highlighted that. I also want to emphasise the mental health problems faced by the socially excluded in the Valley communities. Statistics show that, sadly, no overall downward trend has been established. In 1998, there were 364 deaths from suicide in Wales. In Valley areas, like Merthyr Tydfil, the report indicates that the figure is worse than the Welsh target. I appreciate that the problems are much worse throughout rural mid-Wales than in industrial south Wales but that does not mean that the problems are exclusively rural.

Bob blwyddyn, mae tua 250 o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad, ond mae 100 o farwolaethau ar ben hynny na chânt eu penderfynu mewn cwêst, boed yn ddamweiniol neu’n fwriadol, ac mae David wedi crybwyll y rhain eisoes. Ni chyflawnir pob hunanladdiad gan rywun sydd yn dioddef o salwch meddwl ond mae’n cynyddu’r perygl. Mae tua 10 y cant o sgitsoffreniaid yn cyflawni hunanladdiad yn y pen draw a gallai’r ffigur fod cyn uched â hynny ar gyfer rhai ag iselder difrifol. Clywsom lawer yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr achosion trist o hunanladdiad yn y gymuned amaethyddol. Tynnwyd sylw at hynny mewn adroddiad diweddar gan Brifysgol Abertawe. Yr wyf hefyd am bwysleisio’r problemau iechyd meddwl a wynebir gan y rhai a allgaewyd yn gymdeithasol yng nghymunedau’r Cymoedd. Dengys yr ystadegau na sefydlwyd tuedd disgynnol yn gyffredinol, yn anffodus. Yn 1998, yr oedd 364 o farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru. Yn ardaloedd y Cymoedd, fel Merthyr Tudful, dengys yr adroddiad fod y ffigur yn waeth na’r targed ar gyfer Cymru. Gwerthfawrogaf fod y problemau’n waeth o lawer ledled cefn gwlad canolbarth Cymru nag yn ne Cymru ddiwydiannol ond ni olyga hynny fod y problemau’n rhai gwledig yn gyfan gwbl.

Hospital treatment of people with mental illness has continued to decline. The psychiatric census shows a fall from just under 3,000 inpatients in 1992 to just over 2,200 in 1998. In February 1997, the Primary and Community Health Division of the Welsh Office commissioned the Value for Money Unit to undertake a project to identify whether the Welsh mental illness strategy, which was launched in 1989, was working. I will not go into the raft of statistical detail produced by the survey, but I emphasise how poorly areas like Bro Taf Health Authority compare to the rest of Wales especially as I know that within Bro Taf, the Cynon Valley—my constituency—loses out even further. The Value for Money Unit report mentions this in its discussion of the services offered by the North Glamorgan NHS Trust, which covers Merthyr and the Cynon Valley. We know that there are inequalities in health in the North Glamorgan Trust area. Huw Lewis and myself have brought this to the attention of Bro Taf and Jane Hutt, who, I am pleased to say, has visited the area twice since the Assembly’s establishment.

Parhaodd y dirywiad yn y driniaeth mewn ysbytai i bobl â salwch meddwl. Mae’r cyfrifiad seiciatryddol yn dangos gostyngiad o ychydig o dan 3,000 o gleifion mewnol yn 1992 i ychydig dros 2,200 yn 1998. Yn Chwefror 1997, comisiynwyd yr Uned Gwerth am Arian gan Adran Iechyd Sylfaenol a Chymunedol y Swyddfa Gymreig i ymgymryd â phrosiect i ganfod a oedd y strategaeth salwch meddwl i Gymru, a lansiwyd yn 1989, yn gweithio. Nid af i’r pentwr o fanylion ystadegol a gynhyrchwyd gan yr arolwg, ond pwysleisiaf cyn waethed yw ardaloedd fel Awdurdod Iechyd Bro Taf o’u cymharu â gweddill Cymru yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod Cwm Cynon—fy etholaeth i—o fewn Bro Taf, yn waeth byth. Mae adroddiad yr Uned Gwerth am Arian yn sôn am hyn yn ei thrafodaeth ar y gwasanaethau a gynigir gan Ymddiriedolaeth NHS Gogledd Morgannwg, sydd yn cynnwys Merthyr a Chwm Cynon. Gwyddom fod anghydraddoldebau iechyd yn ardal Ymddiriedolaeth Gogledd Morgannwg. Mae Huw Lewis a minnau wedi tynnu hyn i sylw Bro Taf a Jane Hutt sydd, yr wyf yn falch o ddweud, wedi ymweld â’r ardal ddwywaith ers sefydlu’r Cynulliad.

Returning to the Chief Medical Officer’s report and another health gain target, we know that we need to increase the overall mental health status of the population. However, we have some way to go. It is clear that since the publication of the All-Wales Mental Health Strategy in 1989, there have been several changes in the pattern of provision throughout Wales, with the establishment of a network of community mental health teams. A review of the Adult Mental Health Strategy has already begun. However, the CMO’s report states that we need to go further in reviewing the provision of mental health services for children and adolescents. When I questioned the First Secretary about this, he assured me that a strategy is being developed.

Gan ddod yn ôl at adroddiad y Prif Swyddog Meddygol a tharged cynnydd iechyd arall, gwyddom fod angen inni godi statws iechyd meddwl cyffredinol y boblogaeth. Fodd bynnag, mae gennym gryn ffordd o’n blaen. Mae’n amlwg, ers cyhoeddi Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn 1989, fod sawl newid wedi bod ym mhatrwm y ddarpariaeth ledled Cymru, gyda sefydlu rhwydwaith o dimau iechyd meddwl cymunedol. Dechreuwyd eisoes ar adolygiad o’r Strategaeth Iechyd Meddwl i Oedolion. Fodd bynnag, dywed adroddiad y Prif Swyddog Meddygol fod angen inni fynd ymhellach wrth adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan ofynnais i’r Prif Ysgrifennydd am hynny, rhoddodd sicrwydd imi fod strategaeth yn cael ei datblygu.

A report in the British Medical Journal in December 1999, stated that in a survey of the mental health of children in England, Scotland and Wales, 10 per cent of five to 15-year-olds have some kind of mental disorder. I find those statistics shocking. One of the most striking findings of the report was the strong association between family income or social class and the mental health of a child. The survey reports that children from families in social class 5—the unskilled occupations—were three times more likely to have mental health problems than those from social class 1; that is, professionals. That is a further example of the social exclusion issues that we face in Wales and it is a problem we need to consider in the light of that.

Nodwyd mewn adroddiad yn y British Medical Journal yn Rhagfyr 1999 fod arolwg o iechyd meddwl plant yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi dangos bod gan 10 y cant o rai pump i 15 mlwydd oed ryw fath o anhwylder meddwl. Mae’r ystadegau hynny’n peri braw imi. Un o ganfyddiadau mwyaf trawiadol yr adroddiad oedd y cysylltiad cryf rhwng incwm teuluol neu ddosbarth cymdeithasol a iechyd meddwl y plentyn. Dywed yr adroddiad fod plant o deuluoedd yn nosbarth cymdeithasol 5—y galwedigaethau di-grefft—dair gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl na’r rhai o ddosbarth cymdeithasol 1; hynny yw, gweithwyr proffesiynol. Mae hynny’n enghraifft bellach o’r materion allgáu cymdeithasol a wynebwn yng Nghymru ac mae’n broblem y dylem ei hystyried yng ngoleuni hynny.

The report tells us that children from families where the parents have never worked had a 20 per cent rate of mental disorder. These children are at risk from drug abuse, suicide, unemployment and adult mental health problems. They are, therefore, caught in a cycle of disadvantage. This reinforces the fact that the Assembly needs to take a holistic approach to health. That must be the way forward. Also, given that we have an increasingly ageing population, we must take care to cater for all age groups when delivering mental health care. This week’s Nursing Times states that mental health service provision for older people is patchy and that many primary care practitioners are ill-equipped to identify and refer vulnerable patients. The social exclusion action plan should therefore address the social exclusion issues faced by those with mental health problems. This was impressed upon me forcefully when I attended the Cynon Valley Mental Health Resource yesterday. The resource, which is run by volunteers, provides a marvellous service for those with mental health problems—an illness that has a stigma attached to it. People will visit you with sweets and flowers when you have a broken leg, but ignorance about mental health problems leads to sufferers often facing depression alone and simply being told to pull themselves together. The article also makes several recommendations, one of which I believe that we are pioneering in Wales, namely that there should be better co-ordination between health and social care agencies, with integrated teams who have ready access to a range of flexible services. We are not yet perfect; we need to build on the start we have made on this holistic framework.

Dywed yr adroddiad wrthym fod gan blant o deuluoedd lle nad yw’r rhieni erioed wedi gweithio gyfradd anhwylder meddwl o 20 y cant. Mae’r plant hyn mewn perygl o gamddefnyddio cyffuriau, hunanladdiad, diweithdra a phroblemau iechyd meddwl oedolion. Fe’u daliwyd, felly, mewn cylch o anfantais. Mae hyn yn cadarnhau’r ffaith fod angen i’r Cynulliad fabwysiadu ymagwedd gyfannol at iechyd. Honno yw’r ffordd ymlaen. Hefyd, o dderbyn bod gennym boblogaeth sydd yn fwyfwy oedrannus, rhaid inni ofalu darparu ar gyfer pob grŵp oedran wrth gyflenwi gofal iechyd meddwl. Mae’r Nursing Times yr wythnos hon yn dweud bod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl hŷn yn anghyson a bod llawer o ymarferwyr gofal sylfaenol yn anghymwys i ddynodi a chyfeirio cleifion sydd yn agored i niwed. Felly dylai’r cynllun gweithredu allgáu cymdeithasol ymdrin â’r materion allgáu cymdeithasol a wynebir gan y rhai â phroblemau iechyd meddwl. Cefais argraff gryf o hynny pan ymwelais ag Adnodd Iechyd Meddwl Cwm Cynon ddoe. Mae’r adnodd, a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr, yn darparu gwasanaeth ardderchog i’r rhai â phroblemau iechyd meddwl—salwch sydd yn dwyn gwarthnod. Mae pobl yn arfer dod i’ch gweld â melysion a blodau pan ydych wedi torri’ch coes, ond o ganlyniad i anwybodaeth am broblemau iechyd meddwl mae’r rhai sydd yn dioddef yn aml yn wynebu iselder ar eu pennau eu hunain ac yn cael eu siarsio i ddod at eu coed. Ceir sawl argymhelliad yn yr erthygl hefyd, a chredaf ein bod yn arloesi un ohonynt yng Nghymru, sef y dylid cael gwell cydlyniad rhwng asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda thimau integredig sydd â mynediad rhwydd at amrediad o wasanaethau hyblyg. Nid ydym yn berffaith eto; rhaid inni adeiladu ar sail ein cychwyniad ar y fframwaith cyfannol hwn.

Mental health services need a new vision, one about inclusion not exclusion, and we need a dynamic approach—and I quote Jane Hutt here, who mentioned ‘an innovative, holistic approach from all agencies’.

Mae angen gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, un sydd yn ymwneud â chynhwysiant ac nid allgáu, ac mae arnom angen dull gweithredu dynamig—a dyfynnaf eiriau Jane Hutt yma, a soniodd am ‘ddull gweithredu arloesol, cyfannol gan yr holl asiantaethau’.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 58

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 58

I intend to call Jane Hutt to respond at 4.30 p.m., and five other Members have indicated that they wish to speak. I therefore ask you to be succinct. I call Christine Humphreys.

Bwriadaf alw ar Jane Hutt am 4.30 p.m., ac mae pum Aelod arall wedi nodi eu bod yn dymuno siarad. Felly gofynnaf ichi fod yn gryno. Galwaf ar Christine Humphreys.

Christine Humphreys spoken in English p. 58

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 58

I welcome Jane Hutt’s comments on the need to ensure equity of NHS provision in Wales. I have already raised the issue of prescription by postcode. Some of you may remember the short debate which I led on the prescribing of Aricept and the fact that the North Wales Health Authority did not allow the prescription of it on the NHS. I welcome the news last week, which—if my contacts are correct—means that after a meeting of the North Wales Health Authority, the prescription of Aricept will now be allowed in north Wales. This is a relief for sufferers who can be helped by Aricept and for their families. However, there are other drugs that suffer from prescription by postcode. Taxol, the expensive treatment for breast cancer, is not prescribed in all areas of Wales, neither is Beta-interferon for multiple sclerosis sufferers.

Croesawaf sylwadau Jane Hutt ar yr angen i sicrhau tegwch o ran darpariaeth yr NHS yng Nghymru. Yr wyf eisoes wedi codi mater rhagnodi yn ôl cod post. Efallai bod rhai ohonoch yn cofio’r ddadl fer a arweiniais ar ragnodi Aricept a’r ffaith nad oedd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru’n caniatáu ei ragnodi ar yr NHS. Croesawaf y newyddion yr wythnos diwethaf, sydd—os yw fy nghysylltiadau’n gywir—yn golygu, ar ôl cyfarfod o Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, y caniateir rhagnodi Aricept bellach yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn rhyddhad i ddioddefwyr y gellir eu helpu ag Aricept ac i’w teuluoedd. Fodd bynnag, mae cyffuriau eraill sydd yn dioddef drwy ragnodi yn ôl cod post. Ni ragnodir Taxol, y driniaeth ddrud am ganser y fron, ym mhob rhan o Gymru, na Beta-interferon ychwaith ar gyfer dioddefwyr sglerosis ymledol.

I now raise the issue of in vitro fertilization, the treatment for infertile couples. This is another prescription by postcode issue. Infertility in Wales is, in general, considered to be a problem. In some areas it is acknowledged as the medical condition it really is. However, because some health authorities consider it to be just a problem, it is given a low priority for treatment. North Wales Health Authority closed their lists for IVF treatment two years ago. Couples now have to pay privately at an average cost of £2,500 to £3,000 per cycle of treatment. If in infertile couple lives in Caernarfon or Wrexham they have to pay for treatment. If a similar infertile couple lives in Cardiff or Swansea, they receive two cycles of IVF treatment free on the NHS. CHILD, the National Infertility Support Network, asks one simple question: why does the Assembly allow individual health authorities to operate different systems? Surely each health authority in Wales should aim for an European-wide average system? France and Germany offer four IVF cycles free, Belgium offers three, and Australian couples are lucky in that they can have six IVF cycles free.

Codaf yn awr fater ffrwythloni in vitro, y driniaeth ar gyfer parau anffrwythlon. Mae hyn yn fater arall o ragnodi yn ôl cod post. At ei gilydd, yng Nghymru, ystyrir anffrwythlondeb yn broblem. Mewn rhai ardaloedd fe’i cydnabyddir am yr hyn ydyw, sef cyflwr meddygol. Fodd bynnag, am fod rhai awdurdodau iechyd o’r farn nad yw’n ddim ond problem, rhoddir blaenoriaeth isel iddo ar gyfer triniaeth. Caeodd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru ei restrau ar gyfer triniaeth ffrwythloni in vitro ddwy flynedd yn ôl. Bellach rhaid i barau dalu’n breifat ar gost gyfartalog o rhwng £2,500 a £3,000 am bob cylch o driniaeth. Os yw pâr anffrwythlon yn byw yng Nghaernarfon neu yn Wrecsam rhaid iddynt dalu am driniaeth. Os yw pâr anffrwythlon tebyg yn byw yng Nghaerdydd neu yn Abertawe, maent yn derbyn dau gylch o driniaeth ffrwythloni in vitro am ddim ar yr NHS. Mae CHILD, y Rhwydwaith Cefnogaeth Anffrwythlondeb Cenedlaethol, yn gofyn un cwestiwn syml: pam y mae’r Cynulliad yn caniatáu i awdurdodau iechyd unigol weithredu systemau gwahanol? Siawns na ddylai pob awdurdod iechyd yng Nghymru anelu at system gyfartalog ledled Ewrop? Mae Ffrainc a’r Almaen yn cynnig pedwar cylch ffrwythloni in vitro am ddim, mae Gwlad Belg yn cynnig tri, ac mae parau yn Awstralia yn ffodus gan eu bod yn gallu derbyn chwe chylch ffrwythloni in vitro am ddim.

I turn briefly to staffing in the NHS. One problem that we have in the NHS is that we fail to attract our young people into medicine. In the light of this situation, I take the opportunity to welcome the news from Scotland today, that as from September tuition fees will be abolished. In Scotland, they have reintroduced bursaries of up to £8,000 to cover student living costs. That would not have been achieved without some Liberal Democrat input.

Trof yn fyr at staffio yn yr NHS. Un broblem sydd gennym yn yr NHS yw ein bod yn methu â denu pobl ifanc i feddygaeth. Yn wyneb y sefyllfa hon, cymeraf y cyfle i groesawu’r newyddion o’r Alban heddiw, y diddymir ffïoedd hyfforddi o fis Medi. Yn yr Alban, maent wedi ailgyflwyno ysgoloriaethau o hyd at £8,000 i gynnwys costau byw myfyrwyr. Ni fuasai hynny wedi ei gyflawni heb rywfaint o fewnbwn gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

We must value the contribution our young people can make to the health service. Perhaps it is now appropriate for the Assembly to consider tuition fees and to voice our opinion on the matter. Christine Chapman has already raised the problems of mental health. I ask Jane, again, to intervene in what has become a serious issue for us in north Wales. Gareth Jones raised the issue of the Abbey Road centre in Bangor, which deals with people who have mental health problems.

Rhaid inni werthfawrogi’r cyfraniad y gall ein pobl ifanc ei roi i’r gwasanaeth iechyd. Efallai ei bod bellach yn briodol i’r Cynulliad ystyried ffïoedd hyfforddi a lleisio’n barn ar y mater. Mae Christine Chapman wedi codi problemau iechyd meddwl eisoes. Gofynnaf eto i Jane ymyrryd yn yr hyn a ddaeth yn fater difrifol i ni yng ngogledd Cymru. Cododd Gareth Jones fater canolfan Lôn Abaty ym Mangor, sydd yn ymwneud â phobl â phroblemau iechyd meddwl.

It is because of a decision by the Welsh Office, now the Assembly, that the Abbey Road centre has to be sold off. I would welcome Jane’s comments on the situation and how she envisages that—

Oherwydd penderfyniad gan y Swyddfa Gymreig, y Cynulliad yn awr, rhaid gwerthu canolfan Lôn Abaty. Hoffwn glywed sylwadau Jane ar y sefyllfa a sut y mae’n rhagweld—

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 60

Gareth Jones spoken in Welsh p. 60

Mae darn o newydd da gennyf ynghylch y ganolfan hon. Yr wyf wedi derbyn neges. Oherwydd yr apêl a wnaethoch chi a minnau yr wythnos diwethaf, mae aelod o staff y Cynulliad wedi ymyrryd ac ni fydd y ganolfan yn cael ei rhoi ar y farchnad nes bod y mater wedi’i setlo. Yr wyf yn falch y gallaf adrodd hynny. Mae’n debyg bod rhywun o fewn y Cynulliad wedi gwrando ac wedi ymyrryd a gobeithiaf y caiff y broblem ddiflas ac anodd hon ei datrys.

I have a piece of good news about this centre. I have received a message. Following the appeal that you and I made last week, a member of Assembly staff has intervened and the centre will not be put on the market until the matter has been settled. I am pleased to be able to report that. Obviously, someone within the Assembly has listened and has intervened and I hope that this tiresome and difficult problem will be solved.

Christine Humphreys spoken in English p. 60

Christine Humphreys siaradwyd yn Saesneg t. 60

I will make a final comment, as I had more or less finished. That is evidence of the Assembly’s power. We have achieved something with Aricept and Abbey Road.

Gwnaf un sylw olaf, gan fy mod wedi gorffen fwy neu lai. Mae hynny’n dystiolaeth o bŵer y Cynulliad. Cyflawnasom rywbeth gydag Aricept a Lôn Abaty.

Carwyn Jones spoken in English p. 60

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 60

Some sensible and well made comments have been made today. Christine’s point about IVF is correct. There is a wide discrepancy of treatment across the whole of Wales. We must look at this.

Gwnaethpwyd rhai sylwadau synhwyrol a da heddiw. Mae pwynt Christine am ffrwythloni in vitro yn gywir. Mae anghysondeb mawr o ran triniaeth ledled Cymru. Rhaid inni edrych ar hynny.

We must remember that the culture that has existed in the NHS for some time, has been one of efficiency savings. For example, of cutting the number of beds where, it is perceived, those beds are not required. That has been going on for some years—since the 1980s. The time has come to appreciate that there must be some slack in the system and that efficiency can lead to a lack of provision in unusual situations.

Rhaid inni gofio mai’r diwylliant a fu yn yr NHS ers cryn amser yw un sydd yn ymwneud ag arbedion drwy effeithlonrwydd. Er enghraifft, torri nifer y gwelyau lle yr ystyrir nad oes angen y gwelyau hynny. Mae hynny’n mynd ymlaen ers rhai blynyddoedd—ers y 1980au. Daeth yn bryd deall bellach fod rhaid cael rhywfaint o slac yn y system a bod effeithlonrwydd yn gallu arwain ar ddiffyg darpariaeth mewn sefyllfaoedd anarferol.

I am surprised by some of the Welsh Conservatives’ comments about the nirvana that existed before 1997. I will pick on just two of the many examples. In the late 1980s, workers who cleaned the wards of a hospital not far from here were privatised and contracted out. As a result, their pay was cut by half, they were asked to clean three times the floor area and their holiday entitlement was taken away from them. Is that the kind of NHS that we want in the future? The answer to that must be no. At one time, that was encouraged in the NHS.

Synnais at rai o sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am y nefoedd a fu cyn 1997. Ni ddewisaf ond dwy o’r llu o enghreifftiau. Yn y 1980au hwyr, yr oedd y gweithwyr a lanheuai wardiau ysbyty nid nepell oddi yma wedi eu preifateiddio a’u contractio allan. O ganlyniad, hanerwyd eu tâl, gofynnwyd iddynt lanhau tair gwaith yr arwynebedd llawr a chymerwyd eu hawl i wyliau oddi arnynt. Ai dyna’r math o NHS yr ydym am ei gael yn y dyfodol? Yr ateb anorfod i hynny yw nage. Ar un adeg, yr oedd cefnogaeth i hynny yn yr NHS.

The second point is care in the community, which was a very good policy. There was nothing wrong with it. Taking people out of institutions and integrating them into society was an excellent idea. No one can dispute that. However, the resources did not follow in 1990 when the Act was introduced. People left places where they had lived—sheltered environments—for years and years. They were given doctor appointments and their drugs and told to come back next week. Many of these people had conditions that meant that they were unable to come back next week. As a result of that, they were lost to the system, there were not enough resources to follow up the people who were lost and they ended up in prison.

Yr ail bwynt yw gofal yn y gymuned, a oedd yn bolisi da iawn. Nid oedd dim o’i le arno. Yr oedd mynd â phobl o sefydliadau a’u hintegreiddio mewn cymdeithas yn syniad rhagorol. Ni all neb wadu hynny. Fodd bynnag, ni ddilynodd yr adnoddau yn 1990 pan gyflwynwyd y Ddeddf. Ymadawodd pobl â’r lleoedd lle y buont yn byw—amgylcheddau dan warchod—am flynyddoedd lawer. Trefnwyd apwyntiadau â’r meddyg iddynt a rhoddwyd eu cyffuriau iddynt a gofynnwyd iddynt ddod yn ôl yr wythnos wedyn. Yr oedd gan lawer o’r bobl hyn gyflyrau a olygai na allent ddod yn ôl yr wythnos wedyn. O ganlyniad i hynny, fe’u collwyd o’r system, nid oedd digon o adnoddau i fynd ar ôl y bobl a gollwyd a gorffenasant yn y carchar.

In the early 1990s, the legal profession saw many people coming into the system and going into prison because there was nowhere else for them to go. In the previous few years they had been in institutions—large mental hospitals—but they were thrown into the world with no support whatsoever.

Yn y 1990au cynnar, gwelodd cyfreithwyr lawer o bobl yn dod i’r system ac yn mynd i garchar am nad oedd unlle arall y gallent fynd iddo. Yn yr ychydig flynyddoedd cyn hynny buont mewn sefydliadau—ysbytai meddwl mawr—ond fe’u taflwyd i’r byd heb unrhyw gefnogaeth o gwbl.

David Melding spoken in English p. 61

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 61

This utter parody does great disservice to those who are now improving public policy. We are looking at resettlement, as it happens, of many people who have severe learning disabilities. The Community Care Act became effective in 1993. There was a three-year lead-in and the whole assessment procedure in social services was reviewed to make it more effective. To say that there was no support is an absolute disgrace. There was extensive support. There were also shortcomings, which were revealed by experience.

Mae’r parodi llwyr hwn yn gwneud cam mawr â’r rhai sydd bellach yn gwella polisi cyhoeddus. Yr ydym yn ystyried, fel y mae’n digwydd, ailsefydlu llawer o bobl sydd ag anawsterau dysgu difrifol. Daeth y Ddeddf Gofal Cymunedol i rym yn 1993. Yr oedd cyfnod paratoi o dair blynedd ac adolygwyd y cwbl o’r weithdrefn asesu i’w gwneud yn fwy effeithiol. Mae dweud nad oedd unrhyw gefnogaeth yn warth llwyr. Yr oedd cefnogaeth helaeth. Yr oedd diffygion hefyd, a amlygwyd drwy brofiad.

Carwyn Jones spoken in English p. 61

Carwyn Jones siaradwyd yn Saesneg t. 61

There has been a £95 million cumulative shortfall on community care since 1993. It was not properly funded. We saw, on many occasions, people coming into the prison system. It was ridiculous. There was nowhere else for them to go. They were taken out of an inappropriate situation and given no help at all when they went out into the world. They then found themselves in an even more inappropriate situation in prison. The situation has improved tremendously since more money was allocated to community care following the election of the Labour Government in 1997. Things are improving and I am glad that you accept that as well, David. However, there is no doubt among professionals involved in the field that community care, when it was first implemented, was grossly under-funded. I saw that when I worked in the courts.

Bu diffyg cynyddol o £95 miliwn mewn gofal cymunedol ers 1993. Ni chafodd ei ariannu’n iawn. Gwelsom, ar lawer achlysur, bobl yn dod i’r system garcharau. Yr oedd yn chwerthinllyd. Nid oedd unlle arall y gallent fynd iddo. Fe’u cymerwyd o sefyllfa amhriodol ac ni roddwyd unrhyw gymorth iddynt pan aethant allan i’r byd. Cawsant eu hunain wedyn mewn sefyllfa fwy amhriodol fyth. Mae’r sefyllfa wedi gwella’n aruthrol ers dyrannu mwy o arian i ofal cymunedol ar ôl ethol y Llywodraeth Lafur yn 1997. Mae pethau’n gwella ac yr wyf yn falch eich bod yn derbyn hynny hefyd, David. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth ymysg y gweithwyr proffesiynol sydd yn gysylltiedig â’r maes bod gofal cymunedol, pan weithredwyd ef gyntaf, wedi ei danariannu’n ddifrifol. Gwelais hynny pan oeddwn yn gweithio yn y llysoedd.

We must also look at the way in which the health service is organised. I do not accept that simply pumping money into the service is the panacea for all ills. We must also examine where the money goes. The slightest adjustment can make a tremendous difference. For example, there are people who are waiting for cataract operations. They go to their opticians, who diagnose most cataract problems. At present, patients tend to be referred immediately to consultants. People then go back and forth to consultants until they are ready to have a cataract operation. The operations could be performed by the opticians. Consultants’ time is clogged up when people have to go back and forth to hospital, only to be told that they are not ready for their operations. If those people were taken out of the hospital system and kept within a system where they were seen by their opticians, who can cope with the work, the waiting lists could be cut significantly. I understand that this is being considered as a pilot project in Bro Taf. It is a slight adjustment but it can make a difference. This does not necessarily mean throwing money at the service. I ask the Assembly to note that.

Rhaid inni hefyd edrych ar y modd y trefnir y gwasanaeth iechyd. Ni dderbyniaf mai pwmpio arian i’r gwasanaeth yw’r ateb i bob drwg. Rhaid inni hefyd ystyried i ble y mae’r arian yn mynd. Gall y newid lleiaf wneud gwahaniaeth aruthrol. Er enghraifft, mae pobl yn disgwyl am lawdriniaeth i dynnu pilennau. Ânt at eu hoptegwyr, sydd yn diagnosio’r rhan fwyaf o broblemau â philennau. Ar hyn o bryd, mae tuedd i gyfeirio cleifion i ymgynghorwyr ar unwaith. Wedyn maent yn mynd yn ôl ac ymlaen i ymgynghorwyr nes y maent yn barod i gael y llawdriniaeth ar y bilen. Byddai modd i’r llawdriniaethau gael eu cyflawni gan yr optegwyr. Caiff amser yr ymgynhorwyr ei lyncu pan mae’n rhaid i bobl fynd yn ôl ac ymlaen i ysbyty, ond i gael gwybod nad ydynt yn barod i gael llawdriniaeth. Pe cymerid y bobl hynny o’r system ysbytai a’u cadw o fewn system lle y caent eu gweld gan eu hoptegwyr, sydd yn gallu ymdopi â’r gwaith, gellid torri’r rhestrau aros yn sylweddol. Deallaf fod hyn yn cael ei ystyried fel prosiect peilot ym Mro Taf. Nid yw ond yn newid bach ond gall wneud gwahaniaeth. Nid yw hyn yn golygu taflu arian at y gwasanaeth o reidrwydd. Gofynnaf i’r Cynulliad nodi hyn.

There is a problem in the NHS and there has been for many years. At last, however, we have an administration that is honest enough to admit that there are difficulties and is proactive enough to understand that there is work to be done. Jane Hutt, through the taskforce, is at last beginning to address those problems. For that, this administration deserves great credit.

Mae problem yn yr NHS ac mae yno ers blynyddoedd lawer. O’r diwedd, fodd bynnag, mae gennym weinyddiaeth sydd yn ddigon gonest i gyfaddef bod anawsterau ac yn ddigon rhagweithiol i ddeall bod gwaith i’w wneud. Mae Jane Hutt, drwy’r tasglu, yn dechrau ymdrin â’r problemau hynny o’r diwedd. Mae’r weinyddiaeth hon yn haeddu clod mawr am hynny.

Alun Pugh spoken in English p. 62

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 62

This report is a thorough and professional assessment of the state of public health in Wales. I am sorry to see that it has some depressing things to say about progress on public health targets towards reducing the annual death toll in Wales caused by smoking. We are losing the war against smoking on the adult and teenage fronts. I was pleased to see a target in ‘A Better Wales’ this week for reducing the proportion of the adult smoking population from a third to a quarter. That is a 0.7 reduction and it will be difficult and demanding to achieve. I welcome Jane’s comments this afternoon and, although I do not always agree with David Melding, his comments about smoking were correct.

Mae’r adroddiad hwn yn asesiad trwyadl a phroffesiynol o gyflwr iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n ddrwg gennyf weld bod ganddo rai pethau digalon i’w dweud am gynnydd ar dargedau iechyd cyhoeddus tuag at leihau’r nifer fawr o farwolaethau a achosir yng Nghymru bob blwyddyn gan ysmygu. Yr ydym yn colli’r frwydr yn erbyn ysmygu mewn perthynas ag oedolion a rhai yn eu harddegau. Yr oeddwn yn falch o weld targed yn ‘Gwell Cymru’ yr wythnos hon ar gyfer lleihau’r gyfran o’r oedolion yn y boblogaeth sydd yn ysmygu o un rhan o dair i chwarter. Mae hynny’n ostyngiad o 0.7 a bydd ei gyrraedd yn waith anodd ac ymestynnol. Croesawaf sylwadau Jane y prynhawn yma ac, er nad wyf bob amser yn cytuno â David Melding, yr oedd ei sylwadau am ysmygu’n gywir.

I find it difficult to reconcile the smoking reduction targets announced in the document ‘A Better Wales’ with the decision last week to set aside a room in this building for smokers. This Assembly is currently a smoke-free building. Last week, however, the House Committee decided to create a facility where Members and staff can light up. I recognise that smoking is a highly addictive activity but a model employer should offer counselling and patches, not a smoking room. The Assembly must give a clear lead to Wales, not set a bad example. All the public buildings of our nation—schools, colleges and hospitals and, I hope, the new Assembly building and the new Millennium centre—should be smoke-free areas. There should be no ifs and certainly no butts. [Laughter.] Smoking is the number one public health issue in Wales. It kills 7,000 people every year. That is the equivalent to the entire population of Abergele. We should lead by example and continue to provide a smoke-free building. Otherwise, we run the risk of giving out mixed messages on smoking. I hope that this badly-drafted decision will be reconsidered.

Fe’i caf yn anodd cysoni’r targedau lleihau ysmygu a gyhoeddwyd yn y ddogfen ‘Gwell Cymru’ â’r penderfyniad yr wythnos diwethaf i neilltuo ystafell yn yr adeilad hwn ar gyfer ysmygwyr. Mae’r Cynulliad hwn yn adeilad sydd yn rhydd oddi wrth ysmygu ar hyn o bryd. Yr wythnos diwethaf, fodd bynnag, penderfynodd Pwyllgor y Tŷ greu cyfleuster lle y gall yr Aelodau a’r staff ysmygu. Derbyniaf fod ysmygu’n weithgaredd caethiwus iawn ond dylai cyflogwr delfrydol gynnig cynghori a chlytiau, nid ystafell ysmygu. Rhaid i’r Cynulliad roi arweiniad pendant yng Nghymru, nid gosod esiampl wael. Dylai holl adeiladau cyhoeddus ein gwlad—ysgolion, colegau ac ysbytai a, gobeithiaf, adeilad newydd y Cynulliad a chanolfan newydd y Mileniwm—fod yn lleoedd sydd yn rhydd oddi wrth ysmygu. Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ac, yn sicr, dim stympiau. [Chwerthin.] Ysmygu yw’r prif fater iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n lladd 7,000 o bobl bob blwyddyn. Mae hynny’n cyfateb i holl boblogaeth Abergele. Dylem arwain drwy esiampl a pharhau i ddarparu adeilad sydd yn rhydd oddi wrth ysmygu. Fel arall, mae perygl inni anfon negeseuon cymysglyd ynghylch ysmygu. Gobeithiaf yr ailystyrir y penderfyniad hwn a ddrafftiwyd yn wael.

Jane Davidson spoken in English p. 63

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 63

I also congratulate Dr Ruth Hall for another excellent report. One important aspect of the Chief Medical Officer’s work is to bring issues of health inequalities to our attention. In addition, she brings to our attention ways in which we can focus not just on NHS services— as we have debated this afternoon—but on tackling health inequalities.

Yr wyf finnau’n llongyfarch Dr Ruth Hall ar adroddiad rhagorol arall. Un agwedd bwysig ar waith y Prif Swyddog Meddygol yw dod â materion anghydraddoldeb iechyd i’n sylw. Yn ogystal â hynny, mae’n tynnu ein sylw at ddulliau inni allu canolbwyntio nid yn unig ar wasanaethau’r NHS—sef yr hyn y buom yn ei drafod y prynhawn yma—ond i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

I commend Members to read chapter 3, investing in health, which addresses some complex issues. It is directed especially at those who are interested in the difficult questions facing decision-makers in Wales on the best ways to invest in improved health and reduce health inequalities. Interested readers who wish to contribute to this are invited to write to the Chief Medical Officer with their views. That is the kind of chapter that should be on our Assembly website. We should encourage people to write in with their views. We will never be able to tackle health inequalities in Wales unless those who are experiencing health inequalities have a chance to influence the debate about how best to tackle them.

Cymeradwyaf bennod 3 i’r Aelodau ei darllen, sef buddsoddi mewn iechyd, sydd yn ymdrin â rhai materion cymhleth. Fe’i cyfeirir yn arbennig at y rhai sydd yn ymddiddori yn y cwestiynau anodd sydd yn wynebu llunwyr penderfyniadau yng Nghymru ynghylch y dulliau gorau i fuddsoddi mewn gwell iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Gwahoddir y darllenwyr a chanddynt ddiddordeb sydd yn dymuno cyfrannu at hyn i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i roi eu barn. Dyna’r math o bennod a ddylai fod ar wefan y Cynulliad. Dylem annog pobl i ysgrifennu i ddweud eu barn. Ni fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru oni chaiff y rhai sydd yn profi anghydraddoldebau iechyd gyfle i ddylanwadu ar y ddadl ynghylch sut i ymdrin â hwy orau.

I welcome the new chapter in this report on community safety. There are links between drugs and poor health. Importantly, we know that crime is often related to the use of drugs. If we are to start tackling these issues, it is crucial that the police work with local government and health services, as proposed under the Crime and Disorder Act 1998. However, all too often we end up with the kind of news headline that is in front of every person in the Chamber today: BBC Radio Wales, at 7.00 a.m this morning, announced parents of a Welsh student, who died after apparently taking ecstasy, appealing to other youngsters not to take drugs.

Croesawaf y bennod newydd yn yr adroddiad hwn ar ddiogelwch cymunedol. Mae cysylltiadau rhwng cyffuriau a iechyd gwael. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod bod troseddu’n gysylltiedig yn aml â’r defnydd o gyffuriau. Os ydym i ddechrau mynd i’r afael â’r materion hyn, mae’n holl bwysig bod yr heddlu’n gweithio gyda llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd, fel yr awgrymir yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, yr hyn a gawn yw’r math o bennawd newyddion sydd o flaen pawb yn y Siambr heddiw: cyhoeddodd BBC Radio Wales, am 7.00 a.m. y bore yma, fod rhieni myfyriwr o Gymru, a fu farw ar ôl cymryd ecstasy, i bob golwg, yn erfyn ar bobl ifanc eraill i beidio â chymryd cyffuriau.

In 1998, this report identifies that 42 per cent of young people interviewed in a sample survey had taken drugs. In my constituency, Pontypridd, Taff Ely Drugs Support, known locally as TEDS, had 1,192 clients in the last financial year. Those were the people who felt that they had a serious enough drug problem to ask to get it addressed. We look forward to an Assembly substance misuse strategy coming forward soon. I hope that in her response Jane Hutt can give us some indication of the date. However, we still have not found the most effective ways that the police, the Assembly and local government can work together to tackle this issue. When this report was produced, it was still not possible to get statistics from the Welsh police forces on the use of drugs. Those statistics were made available from October last year. However, when I went out with the Pontypridd police last Friday night and was presented with the local crime figures at midnight, there was nothing on the list of commander areas comparisons between police forces in England and Wales that indicated drug-related offences.

Yn 1998, mae’r adroddiad hwn yn nodi bod 42 y cant o’r bobl ifanc a gyfwelwyd mewn arolwg sampl wedi cymryd cyffuriau. Yn fy etholaeth i, Pontypridd, yr oedd gan Gefnogaeth Cyffuriau Taf Elái, a elwir yn lleol yn TEDS, 1,192 o gleientiaid yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Y bobl hynny oedd y rhai a deimlai fod ganddynt broblem gyffuriau a oedd yn ddigon difrifol iddynt ofyn am gael sylw iddi. Edrychwn ymlaen at weld strategaeth camddefnyddio sylweddau gan y Cynulliad yn dod ymlaen cyn hir. Gobeithiaf y bydd Jane yn ei hymateb yn gallu rhoi rhyw arwydd o’r dyddiad. Fodd bynnag, nid ydym eto wedi canfod y dulliau mwyaf effeithiol i’r heddlu, y Cynulliad a llywodraeth leol allu cydweithio i ymdrin â’r mater hwn. Pan gynhyrchwyd yr adroddiad hwn, yr oedd yn dal yn amhosibl cael ystadegau oddi wrth yr heddluoedd yng Nghymru ar ddefnyddio cyffuriau. Yr oedd yr ystadegau hynny ar gael oddi ar fis Hydref y llynedd. Fodd bynnag, pan euthum allan gyda heddlu Pontypridd nos Wener ddiwethaf a chael y ffigurau troseddu lleol am hanner nos, nid oedd unrhyw beth ar y rhestr o gymariaethau ardaloedd prif swyddogion rhwng heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn dangos troseddau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau.

It is important that we use the opportunity of the development of the Better Health, Better Wales agenda to pick up this important issue. As I said in the debate on social inclusion on 18 January, it is also important, if we are to tackle these issues, that we put new requirements into the performance management framework of the health authorities for the delivery of targets related to health inequalities. Without those targets the NHS will always be bogged down in the issues of waiting lists, the number of beds and all the terribly important issues of health services. However, this is not a debate about health services alone; it is about how we improve the health of people in Wales. I use that small, warning example from Pontypridd, of the number of people who are having to seek expert help for drug problems, to ensure that we examine these issues carefully in our own constituencies and support a new drugs strategy coming forward as soon as possible.

Mae’n bwysig inni ddefnyddio’r cyfle a geir wrth ddatblygu agenda Gwell Iechyd, Gwell Cymru i ddilyn y mater pwysig hwn. Fel y dywedais yn y ddadl ar gynhwysiant cymdeithasol ar 18 Ionawr, mae hefyd yn bwysig, os ydym i fynd i’r afael â’r materion hyn, ein bod yn cynnwys gofynion newydd yn fframwaith rheoli perfformiad yr awdurdodau iechyd i gyflenwi targedau sydd yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd. Heb y targedau hynny bydd yr NHS bob amser yn sownd ym materion rhestrau aros, y nifer o welyau a holl faterion pwysig ofnadwy y gwasanaethau iechyd. Fodd bynnag, nid yw hon yn ddadl am wasanaethau iechyd yn unig; mae am y modd yr ydym yn gwella iechyd pobl yng Nghymru. Defnyddiaf yr enghraifft fach, rybuddiol o Bontypridd, am nifer y bobl sydd yn gorfod ceisio cymorth arbenigol ar gyfer problem cyffuriau, i sicrhau ein bod yn edrych ar y materion hyn yn ofalus yn ein hetholaethau ac yn cefnogi ymddangosiad strategaeth gyffuriau newydd cyn gynted ag y bo modd.

Lorraine Barrett spoken in English p. 65

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 65

I will focus on two issues in the document. One is dental caries in children, which means an adult population with poor teeth in the future. While it is important that children visit their dentist, we must not forget the importance of the dental hygienist who, by teaching our children how to care for their teeth, can make such a difference to future generations. Prevention is as important as cure and less painful as well.

Canolbwyntiaf ar ddau fater yn y ddogfen. Un ohonynt yw pydredd dannedd ymysg plant, sydd yn golygu poblogaeth o oedolion â dannedd gwael yn y dyfodol. Er ei bod yn bwysig i blant fynd at y deintydd, ni ddylem anghofio pwysigrwydd y glanweithydd deintyddol sydd, drwy ddysgu ein plant sut i ofalu am eu dannedd, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yng nghenedlaethau’r dyfodol. Mae atal gyn bwysiced â gwella ac yn llai poenus hefyd.

Accidents and injuries are also highlighted in the document. We can make a difference here by taking positive and preventative action without resorting to a huge injection of money. I highlight the work of Child Safe Wales based at Llandough hospital, led by a group of paediatricians and other health workers. They work with the voluntary sector and local authorities to identify areas where simple advice and education can make a huge difference to children’s lives by making homes and play areas safer. They set up campaigns that identify issues such as installing smoke alarms, safer play surfaces in play grounds and the use of window locks—particularly on upper floors. Small things can make a big difference. Jane has a high regard for Child Safe Wales and I hope that we continue to work with them in the future.

Tynnir sylw at ddamweiniau ac anafiadau yn y ddogfen hefyd. Gallwn wneud gwahaniaeth yma drwy gymryd camau cadarnhaol ac ataliol heb ddefnyddio chwistrelliad mawr o arian. Tynnaf sylw at waith Diogelu Plant Cymru sydd â’i ganolfan yn ysbyty Llandochau, a arweinir gan grŵp o bediatregwyr a gweithwyr iechyd eraill. Gweithiant gyda’r sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol er mwyn dynodi meysydd lle y gall cyngor syml ac addysg wneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau plant drwy wneud cartrefi a mannau chwarae’n ddiogelach. Maent yn sefydlu ymgyrchoedd sydd yn dynodi materion fel gosod larymau mwg, arwynebau chwarae diogelach mewn caeau chwarae a defnyddio cloeon ffenestr—yn enwedig ar loriau uwch. Gall pethau bychain wneud gwahaniaeth mawr. Mae gan Jane feddwl mawr o Diogelu Plant Cymru a gobeithiaf y byddwn yn parhau i weithio gyda hwy yn y dyfodol.

Jane Hutt spoken in English p. 66

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 66

This has been a positive debate. I welcome the widespread support for Dr Ruth Hall’s challenging report. I said in my opening remarks that addressing the health inheritance of Wales, relative to other countries and the inequalities within our country, was a long-term task. I do not think that there will be enormous changes by this time next year, but we must understand how to tackle the challenges in this report, and how we can make progress on health gain targets. This is a long-term strategy that will take decades. We need to understand the problems and implement strategies to deal with them that go beyond health boundaries.

Bu hon yn ddadl gadarnhaol. Croesawaf y gefnogaeth eang i adroddiad Dr Ruth Hall sydd yn llawn her. Dywedais yn fy sylwadau agoriadol fod ymdrin ag etifeddiaeth iechyd Cymru, o’i chymharu â gwledydd eraill a’r anghydraddoldebau oddi mewn i’n gwlad, yn dasg dymor hir. Ni chredaf y bydd newidiadau aruthrol erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, ond rhaid inni ddeall sut i fynd i’r afael â’r heriau yn yr adroddiad hwn, a sut y gallwn symud ymlaen ynghylch y targedau cynnydd mewn iechyd. Mae hon yn strategaeth dymor hir a gymer ddegawdau. Mae angen inni ddeall y problemau a gweithredu strategaethau i ymdrin â hwy sydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau iechyd.

I thank David Melding for his positive comments and his widespread support for this report. I am glad that you want to get involved in the debate about targeting resources. Thank you also for supporting making links to Better Wales, which was launched yesterday. All this is based on the aspirations of Better Wales—a healthier and wealthier Wales, for which we are looking. It is about tackling the big issues head on and that is why this debate is so important.

Diolchaf i David Melding am ei sylwadau cadarnhaol a’i gefnogaeth gyffredinol i’r adroddiad hwn. Yr wyf yn falch eich bod am gymryd rhan yn y ddadl am dargedu adnoddau. Diolch i chi hefyd am gefnogi gwneud cysylltiadau â Gwell Cymru, a lansiwyd ddoe. Mae hyn oll yn seiliedig ar ddyheadau Gwell Cymru—y Gymru iachach a chyfoethocach yr ydym yn ei cheisio. Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â’r materion mawr wyneb yn wyneb a dyna pam y mae’r ddadl hon mor bwysig.

We must recognise that the Health and Social Services Committee has had an influence on supporting the work on waiting times and clinical priorities. We have people with the expertise, in the service, working on this and reporting back to Committee. That is an important development. David, you spoke of targets and recognised the difficulties in meeting some of them. That is what we should be looking at when addressing these reports—can our services deliver, and are they appropriately structured and resourced to do so?

Rhaid inni gydnabod bod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dylanwadu ar gefnogi’r gwaith ar amseroedd aros a blaenoriaethau clinigol. Mae gennym bobl a chanddynt arbenigedd, yn y gwasanaeth, yn gweithio ar hyn ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Mae hynny’n ddatblygiad pwysig. David, soniasoch am dargedau a chydnabod yr anawsterau wrth gyrraedd rhai ohonynt. Dyna’r hyn y dylem ei ystyried wrth ymdrin â’r adroddiadau hyn—a oes modd i’n gwasanaethau eu cyflawni, ac a yw’r strwythur a’r adnoddau priodol ganddynt i wneud hynny?

We must consider the issues that have been raised today about smoking, in particular, and about child safety. In response to Lorraine, I am glad that we will be giving a grant to Child Safe Wales for the pioneering work that it does. It will influence local health groups on child safety issues. We must move things forward by getting the health improvement plans and programmes to develop the right guidelines on how we spend our money.

Rhaid inni ystyried y materion a godwyd heddiw ynghylch ysmygu, yn enwedig, ac ynghylch diogelwch plant. Mewn ymateb i Lorraine, yr wyf yn falch y byddwn yn rhoi grant i Diogelu Plant Cymru am y gwaith arloesol y mae’n ei wneud. Bydd yn dylanwadu ar grwpiau iechyd lleol ar faterion diogelwch plant. Rhaid inni symud pethau ymlaen drwy gael y cynlluniau a’r rhaglenni gwella iechyd i ddatblygu’r canllawiau iawn ynghylch y modd y gwariwn ein harian.

On smoking, half of all smokers will die of smoking related disease and respiratory disease in Wales. That has been a critical factor over the past weeks in relation to flu related diseases when smokers have been particularly at risk with respiratory disease. I sympathise with Alun’s comments about the smoking arrangements in the Assembly. I am disappointed that we have a smoking room, but that is a result of discussion with Assembly staff. We need to encourage and support our staff and Members to quit and to join the smoking cessation campaign for the Assembly, which we are promoting today. That is also the way forward for young people and for our schools. It is critical that we address the issue of smoking related diseases. John Griffiths also referred to this.

Ynghylch ysmygu, bydd hanner yr holl ysmygwyr yng Nghymru yn marw o glefyd sydd yn gysylltiedig ag ysmygu a chlefyd anadliadol. Yr oedd hwnnw’n ffactor allweddol dros yr wythnosau diwethaf mewn perthynas â chlefydau sydd yn gysylltiedig â’r ffliw pan oedd ysmygwyr mewn perygl arbennig oherwydd clefyd anadliadol. Cydymdeimlaf â sylwadau Alun am y trefniadau ysmygu yn y Cynulliad. Yr wyf yn siomedig bod gennym ystafell ysmygu, ond mae hynny’n ganlyniad i drafodaeth â staff y Cynulliad. Mae angen inni annog a chefnogi ein staff a’r Aelodau i roi’r gorau iddo ac ymuno yn yr ymgyrch peidio ag ysmygu ar gyfer y Cynulliad, yr ydym yn ei hybu heddiw. Dyna’r ffordd ymlaen hefyd i bobl ifanc ac i’n hysgolion. Mae’n holl bwysig ein bod yn ymdrin â mater clefydau sydd yn gysylltiedig ag ysmygu. Cyfeiriodd John Griffiths at hyn hefyd.

At least 50 million working days are lost to British industry every year from smoking-related sick leave. That is an estimated cost of £285 billion, that could be spent on improving our health service and easing the pressures on our health services throughout the year. We will encourage our staff and Members to participate in the smoking cessation activities.

Collir o leiaf 50 miliwn o ddiwrnodau gwaith mewn diwydiant ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd seibiant salwch sydd yn gysylltiedig ag ysmygu. Mae hynny’n gost amcangyfrifedig o £285 biliwn, y gellid ei wario ar wella ein gwasanaeth iechyd a lliniaru’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd drwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn annog ein staff a’r Aelodau i gymryd rhan yn y gweithgareddau peidio ag ysmygu.

I am glad, Dai, that you welcome the report and I am pleased about the spirit in which you address the health action zones. The whole of Wales is a health action zone. In the Health and Social Services Committee, we need to look at what has happened in England. We have a better chance of achieving different and more radical results, building on some of the positive lessons learned from the experience of health action zones in England. I understand that the approach in England was competitive with some communities benefiting while neighbouring communities did not.

Mae’n dda gennyf, Dai, eich bod yn croesawu’r adroddiad ac yr wyf yn falch o’r modd yr ydych yn ymdrin â’r parthau gweithredu iechyd. Mae Cymru gyfan yn barth gweithredu iechyd. Yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae angen inni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr. Mae gennym well cyfle i sicrhau canlyniadau gwahanol a mwy radicalaidd, gan adeiladu ar rai o’r gwersi cadarnhaol a ddysgwyd o brofiad y parthau gweithredu iechyd yn Lloegr. Deallaf fod y dull gweithredu hwnnw yn Lloegr yn un cystadleuol gyda rhai cymunedau’n ennill tra nad oedd cymunedau cyfagos.

We must take a radical look at how to target our resources across the divide of economic, health, education and social need. I hope that those are examples of ways that we can develop the debate; starting in the Health and Social Services Committee and moving on to other Committees. We can do it better in Wales. Let us not just copy what they do in England, but learn from there as we do from other countries. We need to target and pool our resources so that the poorest communities can have sustainable improvement.

Rhaid inni gymryd golwg radicalaidd ar y modd y targedwn ein hadnoddau ar draws y rhaniad o angen economaidd, iechyd, addysgol a chymdeithasol. Gobeithiaf fod y rheini’n enghreifftiau o ffyrdd inni allu datblygu’r ddadl; dechrau yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a symud ymlaen i Bwyllgorau eraill. Gallwn ei wneud yn well yng Nghymru. Gadewch inni beidio â dynwared yr hyn a wnânt yn Lloegr yn unig, a dysgu oddi wrthynt fel y gwnawn o wledydd eraill. Mae angen inni dargedu a chronni’n hadnoddau fel y gellir cael gwelliant cynaliadwy yn y cymunedau tlotaf.

David and Dai have mentioned the capital programme and that we are committed to renewing it, with additional funding allocated in the draft budget for next year. They are difficult priorities for consideration as are workforce planning and staffing, which are part of our new human resource strategy. Workforce planning is critical, particularly in relation to our supply of nurses and doctors, which cannot be changed overnight. It takes three years to train a nurse and seven years to train a doctor. The Assembly is grappling with this issue. We have never had such a public debate in Wales about health, health improvement and health care as we have in the last 10 months. We should learn from our debates over the past few months.

Soniodd David a Dai am y rhaglen gyfalaf ac yr ydym wedi ymrwymo i’w hadnewyddu, gan ddyrannu arian ychwanegol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Maent yn flaenoriaethau anodd i’w hystyried fel y mae cynllunio’r gweithlu a staffio, sydd yn rhan o’n strategaeth adnoddau dynol newydd. Mae cynllunio’r gweithlu’n holl bwysig, yn enwedig mewn perthynas â’n cyflenwad o nyrsys a meddygon, nad ellir ei newid dros nos. Cymer dair blynedd i hyfforddi nyrs a saith mlynedd i hyfforddi meddyg. Mae’r Cynulliad yn ymgodymu â’r mater hwn. Ni chawsom erioed ddadl mor gyhoeddus yng Nghymru am iechyd, gwella iechyd a gofal iechyd ag a gawsom yn y 10 mis diwethaf. Dylem ddysgu o’n dadleuon dros y misoedd diwethaf hyn.

I want to assure Jane Davidson that we will implement a performance management framework from 1 April that will establish ways of measuring health authority progress against improving health and reducing health inequalities. That is all about the Assembly’s strategic influence on how we spend our valuable health resources in Wales. As you say, Jane, it is not just about how we spend our money and our health resources, it is about how we improve the health and wellbeing of our people.

Yr wyf am roi sicrwydd i Jane Davidson y byddwn yn gweithredu fframwaith rheoli perfformiad o 1 Ebrill a fydd yn sefydlu dulliau o fesur cynnydd awdurdodau iechyd wrth wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae hynny oll yn ymwneud â dylanwad strategol y Cynulliad ar y modd y gwariwn ein hadnoddau iechyd gwerthfawr yng Nghymru. Fel y dywedwch, Jane, nid y modd y gwariwn ein harian a’n hadnoddau iechyd yw’r unig beth dan sylw; yr ydym yn sôn am y modd yr ydym yn gwella iechyd a lles ein pobl.

I agree with Dai that inequity of access to health care is an important issue. I am concerned that some people in the poorest communities of Wales have low expectations. They often have the poorest health care because they have the quietest voices and do not have the strength to fight for the resources that people in other communities in Wales have. We must remember this in order to renew and rebuild our communities’ confidence. It will be more challenging when people stand up and fight for better mental health services.

Cytunaf â Dai fod anghydraddoldeb mynediad i ofal iechyd yn fater pwysig. Pryderaf fod disgwyliadau isel ymysg rhai pobl yng nghymunedau tlotaf Cymru. Ganddynt hwy yn aml y mae’r gofal iechyd gwaethaf am mai ganddynt hwy y mae’r lleisiau distawaf ac am nad oes ganddynt mo’r nerth i ymladd am yr adnoddau sydd gan bobl mewn cymunedau eraill yng Nghymru. Rhaid inni gofio hynny er mwyn adnewyddu ac adfer hyder ein cymunedau. Ceir mwy o her pan fydd pobl yn sefyll ac yn ymladd dros wasanaethau iechyd meddwl gwell.

People who have mental health needs are the quietest and the most excluded people in Wales. Recently, I have spent more time talking to users of mental health services. They are people who have been disregarded and excluded because they do not have a strong voice. One of the interesting issues that we will discuss on Thursday in the Health and Social Services Committee is the fact that people feel that the Assembly is interested in mental health. Let us take mental health concerns seriously. I am pleased that the issue has been raised across the board.

Pobl ag anghenion iechyd meddwl yw’r rhai distawaf a mwyaf dieithriedig yng Nghymru. Yn ddiweddar, treuliais fwy o amser yn siarad â defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl. Maent yn bobl a gafodd eu diystyru a’u hallgáu am nad oes ganddynt lais cryf. Un o’r materion diddorol y byddwn yn ei drafod ddydd Iau yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r ffaith fod pobl yn teimlo bod gan y Cynulliad ddiddordeb mewn iechyd meddwl. Gadewch inni fod o ddifrif ynghylch pryderon am iechyd meddwl. Yr wyf yn falch bod y mater wedi ei godi’n gyffredinol.

Christine Chapman’s points about the Cynon Valley and the situation in north Glamorgan is important and is reflected in other parts of Wales.

Mae pwyntiau Christine Chapman am Gwm Cynon a’r sefyllfa yng ngogledd Morgannwg yn bwysig ac fe’u hadlewyrchir mewn rhannau eraill o Gymru.

Brian made important points about the Specialised Health Services Commission, which has identified issues of inequality of access to our cardiac services. We are making an additional £1.5 million available from April to help ease the severest pressure. Ruth Hall’s report provides us with the intelligence and ammunition to make the right decisions about how we spend our money and how we look at inequities. I hope that people will pay great attention to the detail in her report. The inverse care law often stands out in our inequalities. Julian Tudor Hart, our Welsh expert on this issue, produced that theory which is so true in Wales. Looking at that social and gender gradient, the quietest voices are the women who have suffered silently as carers, often at the bottom of every expectation.

Gwnaeth Brian bwyntiau pwysig am y Comisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol, a ddynododd faterion anghydraddoldeb mynediad i wasanaethau’r galon. Yr ydym yn darparu £1.5 miliwn ychwanegol o Ebrill i helpu i leddfu’r pwysau gwaethaf. Mae adroddiad Ruth Hall yn rhoi inni’r wybodaeth a’r arfau i wneud y penderfyniadau iawn ynghylch sut y gwariwn ein harian a sut yr edrychwn ar anghydraddoldebau. Gobeithiaf y bydd pobl yn rhoi mwy o sylw i’r manylion yn ei hadroddiad. Mae’r ddeddf gofal gwrthdro yn amlwg yn aml yn ein hanghydraddoldebau. Julian Tudor Hart, yr arbenigwr yng Nghymru ar y mater hwn, a luniodd y ddamcaniaeth honno sydd mor wir yng Nghymru. Gan edrych ar y graddiant cymdeithasol a rhyw hwnnw, y lleisiau distawaf yw rhai’r benywod a ddioddefodd yn dawel fel gofalwyr, a’r disgwyliadau isaf un ganddynt.

This is not only about heart operations, but also rehabilitation and what happens next. I visited a wonderfully inspiring project in Pontypool, in Lynn Neagle’s constituency, where men and women were recovering from heart attacks and heart operations by doing keep fit exercises and receiving nutrition advice. They were not wealthy, middle-class people. They were people who were coming along to a class run by the local leisure services in a community hospital. That is what we should be looking at.

Nid llawdriniaethau ar y galon sydd dan sylw yn unig yma, ond ailsefydlu hefyd a’r hyn sydd yn digwydd nesaf. Ymwelais â phrosiect rhyfeddol o galonogol ym Mhont-y-pŵl, yn etholaeth Lynn Neagle, lle’r oedd dynion a benywod yn ymadfer ar ôl trawiadau ar y galon a llawdriniaethau ar y galon drwy wneud ymarferion cadw’n heini a derbyn cyngor ynghylch maethiad. Nid pobl gyfoethog, ddosbarth-canol mohonynt. Yr oeddent yn bobl a oedd yn dod i ddosbarth a gynhaliwyd gan y gwasanaethau hamdden lleol mewn ysbyty cymunedol. Dyna’r hyn y dylem edrych arno.

I am glad to receive Kirsty’s support. Powys Patients’ Panel has been one of the most innovative examples of people in Powys deciding what they should do about their services, within a restricted financial climate. It has been a question of looking at how they want to move forward in Powys. I know that you signed up to the way that they did this in Powys, Kirsty, and that it will result in innovative health and social care. This takes us back to the point about the ‘more beds now’ breed of politics. That was wonderful, Brian. It is not only about the loss of one type of bed; it is about reprovision of services.

Yr wyf yn falch o dderbyn cefnogaeth Kirsty. Panel Cleifion Powys fu un o’r enghreifftiau mwyaf arloesol o bobl ym Mhowys yn penderfynu beth y dylent ei wneud ynghylch eu gwasanaethau, o fewn hinsawdd ariannol gyfyngedig. Bu’n fater o edrych ar y modd yr oeddent am symud ymlaen ym Mhowys. Gwn eich bod wedi cefnogi’r modd y gwnaethant hynny ym Mhowys, Kirsty, ac y bydd yn arwain at ofal iechyd a chymdeithasol arloesol. Mae hyn yn mynd â ni’n ôl i’r pwynt am y math o wleidyddiaeth ‘mwy o welyau yn awr’. Yr oedd hynny’n wych, Brian. Nid yw ond yn fater o golli un math o wely; mae’n ymwneud ag ailddarparu gwasanaethau.

Kirsty Williams spoken in English p. 70

Kirsty Williams siaradwyd yn Saesneg t. 70

The people of Powys are not demanding more beds. They would just like to keep the beds they have already, Jane.

Nid yw pobl Powys yn galw am fwy o welyau. Eu hunig ddymuniad yw cadw’r gwelyau sydd ganddynt eisoes, Jane.

Jane Hutt spoken in English p. 71

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 71

I accept that you were part of the Patients’ Panel discussions where they talked about the ways in which they could keep their community hospitals. They are keeping their community hospitals, but they are looking at the kind of needs in those community hospitals, including social as well as hospital care. We will see some interesting developments in Powys, and I know that you have been involved in those developments. That will happen throughout Wales. We must be innovative.

Derbyniaf eich bod yn rhan o drafodaethau’r Panel Cleifion pan drafodasant sut y gallent gadw eu hysbytai cymunedol. Maent yn cadw eu hysbytai cymunedol, ond maent yn ystyried y math o anghenion yn yr ysbytai cymunedol hynny, gan gynnwys gofal cymdeithasol yn ogystal â gofal ysbyty. Byddwn yn gweld rhai datblygiadau diddorol ym Mhowys, a gwn eich bod wedi cymryd rhan yn y datblygiadau hynny. Bydd hynny’n digwydd ledled Cymru. Rhaid inni arloesi.

Many positive things have happened in the last 10 months in funding and resources. I was there, David. On your foghorn school of politics, shouting louder is not an effective form of scrutiny. Your health spokesperson behind you quietly and diplomatically scrutinises policy. The foghorn version of scrutiny does not appeal to me.

Digwyddodd llawer o bethau cadarnhaol yn y 10 mis diwethaf o ran arian ac adnoddau. Yr oeddwn yno, David. Ynghylch eich dull gwleidydda â llais tarw, nid yw gweiddi’n uwch yn ffurf archwilio effeithiol. Mae’ch llefarydd iechyd y tu ôl i chi yn archwilio polisi’n dawel ac yn ddiplomataidd. Nid yw’r fersiwn llais tarw o archwilio at fy nant.

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 71

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 71

Order. Before anyone gets excited—and I know that there may be reasons for that—we have the Transfer of Functions Order to follow. I must protect the time of today’s short debate, which will start at 5 p.m. Are you giving way to David Davies, Jane?

Trefn. Cyn i neb gynhyrfu—a gwn fod rhesymau am hynny efallai—mae’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau gennym i ddilyn. Rhaid imi warchod amser y ddadl fer heddiw a fydd yn dechrau am 5 p.m. A ydych yn ildio i David Davies, Jane?

Jane Hutt spoken in English p. 71

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 71

Yes, quickly.

Ydwyf, yn gyflym.

David Davies spoken in English p. 71

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 71

If I say ‘pretty please’ and smile nicely, will you answer the four questions that I asked earlier?

Os dywedaf ‘os gwelwch yn dda’ a gwenu, a wnewch ateb y pedwar cwestiwn a ofynnais yn gynharach?

Jane Hutt spoken in English p. 71

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 71

I wanted to say, quietly, that I was pleased to visit David’s constituency and formally open a new day surgery unit at Nevill Hall Hospital. The hospital was wonderful, and carried on performing operations through the difficult past few weeks. Its new unit is tremendous, and I know that you are proud of it, David. I was proud to visit Baglan and Neath to announce that we will have a new hospital for Neath and Port Talbot. I was also pleased to visit the Royal Glamorgan Hospital on the day that patients moved into their wonderful new hospital. These developments have taken place in the past 10 months.

Yr oeddwn am ddweud, yn dawel, ei bod yn dda gennyf ymweld ag etholaeth David ac agor yn ffurfiol uned lawdriniaeth ddydd newydd yn Ysbyty Nevill Hall. Yr oedd yr ysbyty’n rhyfeddol, a pharhaodd i roi llawdriniaethau drwy’r wythnosau anodd diwethaf hyn. Mae ei uned newydd yn rhyfeddol, a gwn eich bod yn falch ohoni, David. Yr oeddwn yn falch o ymweld â Baglan a Chastell-nedd i gyhoeddi y bydd gennym ysbyty newydd ar gyfer Castell-nedd a Phort Talbot. Yr oeddwn hefyd yn falch o ymweld ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y diwrnod pan symudodd y cleifion i’w hysbyty gwych newydd. Digwyddodd y datblygiadau hyn yn y 10 mis diwethaf.

I was also pleased to visit the Institute of Rural Health and see the enthusiasm for telemedicine. I agree entirely, Kirsty, about the rural health issues. Telemedicine and what is now called e-health is vital to the future of the health service, not only in rural areas but in other communities. I visited the Cardiff Eye Centre where people would not need to queue to see consultants because of technology. A GP could get in touch with a consultant through telemedicine and get the results. We must be innovative in this Assembly. If Wales cannot lead the way in e-health and telemedicine, we are failing. The Assembly has a duty to take these things forward. We have a duty to ensure this for other people who have been excluded, such as black and ethnic minority communities. They have set up an association and have worked out and produced a document on ‘Better Health, Better Wealth’. We support the document in the Assembly. They also have a voice in terms of addressing those issues, to which Kirsty rightly drew attention.

Yr oeddwn yn falch hefyd o ymweld â’r Sefydliad Iechyd Gwledig a gweld y brwdfrydedd dros delefeddygaeth. Cytunaf yn llwyr, Kirsty, ynghylch y materion iechyd gwledig. Mae telefeddygaeth a’r hyn a elwir bellach yn e-iechyd yn holl bwysig i ddyfodol y gwasanaeth iechyd, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig ond mewn cymunedau eraill. Ymwelais â Chanolfan y Llygad Caerdydd lle na fyddai’n rhaid i neb giwio i weld ymgynghorwyr oherwydd technoleg. Gallai meddyg teulu gysylltu ag ymgynghorydd drwy delefeddygaeth a chael y canlyniadau. Rhaid inni arloesi yn y Cynulliad hwn. Os na all Cymru arwain mewn e-iechyd a thelefeddygaeth, yr ydym yn methu. Mae dyletswydd ar y Cynulliad i fwrw ymlaen â’r pethau hyn. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau hynny er mwyn pobl eraill a allgaewyd, fel cymunedau lleiafrifol du ac ethnig. Maent wedi sefydlu cymdeithas ac wedi llunio a chynhyrchu dogfen ar ‘Gwell Iechyd, Gwell Cyfoeth’. Cefnogwn y ddogfen yn y Cynulliad. Mae ganddynt lais hefyd o ran ymdrin â’r materion hynny, y tynnodd Kirsty sylw atynt yn briodol.

As Christine said, it is important that we address the issue of postcode prescribing. We have the developing work of the National Institute for Clinical Excellence, which came to Cardiff recently. It will be promoting consistent, high quality standards and fairness of access. I welcomed the Assembly’s response when their recommendations on relenza came through last year. I am glad to hear about Aricept, and I will look at the new guidelines about fertility services, Christine. There are new guidelines coming through. I can say to Gareth and Christine that I intervened in the issue of Abbey Road months ago. Now that officials are going to Abbey Road, I am confident that those concerns will be addressed because it is again about people with quieter voices.

Fel y dywedodd Christine, mae’n bwysig inni ymdrin â mater rhagnodi yn ôl cod post. Mae gennym waith datblygol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol, a ddaeth i Gaerdydd yn ddiweddar. Bydd yn hybu safonau cyson o ansawdd uchel a thegwch o ran mynediad. Croesewais ymateb y Cynulliad pan ddaeth eu hargymhellion ar Relenza i law y llynedd. Yr wyf yn falch o glywed am Aricept, a byddaf yn edrych ar y canllawiau newydd am wasanaethau ffrwythloni, Christine. Mae canllawiau newydd yn dod drwodd. Gallaf ddweud wrth Gareth a Christine fy mod wedi ymyrryd ym mater Lôn Abaty fisoedd yn ôl. Gan fod swyddogion yn mynd i Lôn Abaty bellach, yr wyf yn ffyddiog y rhoddir sylw i’r pryderon hynny oherwydd mae hyn eto’n ymwneud â phobl â lleisiau distawach.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 72

Gareth Jones spoken in Welsh p. 72

Hoffwn ddweud gair am y frwydr. Yr wyf yn ddiolchgar am yr hyn a wnaethoch, Jane, i ymyrryd yn y sefyllfa hon. Serch hynny, mae’n fy mhoeni pan dderbyniaf lythyr gan Gadeirydd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru yn dweud mai’r rheswm fod yr eiddo ar y farchnad oedd ei fod wedi ei orchymyn gan y Cynulliad i gael gwared ag unrhyw adeilad neu eiddo nad oedd yn cael ei ddefnyddio at bwrpas iechyd. Yr oedd yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio at bwrpas iechyd meddwl. Mae rhywbeth o’i le yma. A yw iechyd meddwl yn rhan o iechyd yn gyffredinol neu beidio?

I would like to say a word about the battle. I am grateful for what you have done, Jane, to intervene in this situation. However, it worries me when I receive a letter from the Chair of the North Wales Health Authority saying that the reason that the property was on the market was that it had been ordered by the Assembly to get rid of any building or property that was not used for health purposes. This building was used for mental health purposes. There is something wrong here. Is mental health a part of health in general or not?

Jane Hutt spoken in English p. 73

Jane Hutt siaradwyd yn Saesneg t. 73

This goes back to a former Welsh Office guideline, which was quite understandable, that if a building was not in direct use by the health service for health authority services, the authority had to consider its future use. I will not go into that now because there is a question about this tomorrow. Voluntary organisations are using the buildings—one is in use by Gwynedd County Council and another by the health authority. That is why we are looking at this now. However, the voluntary mental health sector was involved in the usage of Abbey Road. It is important that we have this scrutiny and accountability where the Assembly can discuss and consider the issues. We may do so case by case but there have to be guidelines, protocols and terms of the disposal of property. We have to look at those if they are inappropriate. Thank you for that point. I hope that I have clarified it.

Mae hyn yn mynd yn ôl i ganllaw blaenorol gan y Swyddfa Gymreig, a oedd yn eithaf dealladwy, sef os nad oedd adeilad yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol gan y gwasanaeth iechyd ar gyfer gwasanaethau awdurdod iechyd, bod rhaid i’r awdurdod ystyried y defnydd ohono yn y dyfodol. Ni fanylaf ar hynny yn awr oherwydd mae cwestiwn am hyn yfory. Mae mudiadau gwirfoddol yn defnyddio’r adeiladau—defnyddir un gan Gyngor Gwynedd ac un arall gan yr awdurdod iechyd. Dyna pam yr ydym yn edrych ar hyn yn awr. Fodd bynnag, yr oedd y sector iechyd meddwl gwirfoddol yn gysylltiedig â defnyddio Lôn Abaty. Mae’n bwysig inni gael yr archwilio a’r atebolrwydd hwn lle y gall y Cynulliad drafod ac ystyried y materion. Gallem wneud hynny fesul achos ond rhaid cael canllawiau, protocolau ac amodau ar gyfer gwerthu eiddo. Rhaid inni edrych ar y rheini os ydynt yn anaddas. Diolch i chi am y pwynt hwnnw. Gobeithiaf fy mod wedi ei egluro.

Finally, I thank Carwyn for reminding us of the need for value for money for innovation. We have a prescribing group which Dai Lloyd and the rest of the Health and Social Services Committee supported. Dai, in particular, introduced this with backing from Brian, our other GP on the Committee. In Wales we spend £20 million more on prescriptions than in England. We have to ask if we are prescribing in the right way. I am glad that the group, chaired by Dr Norman Mills, is getting on with its work.

Yn olaf, diolchaf i Carwyn am ein hatgoffa am yr angen am werth am arian er mwyn arloesi. Mae gennym grŵp rhagnodi a gefnogwyd gan Dai Lloyd a gweddill y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dai, yn benodol, a gyflwynodd hyn gyda chefnogaeth gan Brian, y meddyg teulu arall ar y Pwyllgor. Yng Nghymru yr ydym yn gwario £20 miliwn yn fwy ar bresgripsiynau nag yn Lloegr. Rhaid inni ofyn a ydym yn rhagnodi yn y modd cywir. Yr wyf yn falch bod y grŵp, dan gadeiryddiaeth Dr Norman Mills, yn bwrw ymlaen â’i waith.

I urge Members to remember that it is up to us. We have a real opportunity in the Assembly to act to improve the health status of the people of Wales. We cannot do everything at once, but we must remember the broad approach that comes through Better Health, Better Wales. We also have to learn how to use our resources to the greatest effect. We must be patient. It will not happen overnight but it will happen if we are united, as we are today, and if we recognise and understand that this is not only about how we provide our health services. We must be clear about that. It is also about how we improve our economy, secure jobs, good training and childcare and how we recognise that the most excluded and poorest people in Wales are those who have lost out in the past. They will not lose out in the future.

Anogaf yr Aelodau i gofio mai ein cyfrifoldeb ni ydyw. Mae gennym gyfle gwirioneddol yn y Cynulliad i weithredu er mwyn gwella statws iechyd pobl Cymru. Ni allwn wneud popeth ar unwaith, ond rhaid inni gofio’r dull gweithredu eang a ddaw drwy Gwell Iechyd, Gwell Cymru. Rhaid inni ddysgu hefyd sut i ddefnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol. Rhaid inni fod yn amyneddgar. Ni fydd yn digwydd dros nos ond bydd yn digwydd os ydym yn gytûn, fel yr ydym heddiw, ac os ydym yn cydnabod ac yn deall bod hyn yn ymwneud â mwy na sut y darparwn ein gwasanaethau iechyd. Rhaid inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae’n ymwneud â’r modd yr ydym yn gwella ein heconomi, swyddi diogel, hyfforddiant da a gofal plant a sut y cydnabyddwn mai’r rhai tlotaf a’r rhai sydd wedi’u hallgáu fwyaf yng Nghymru yw’r rhai a fu ar eu colled yn y gorffennol. Ni fyddant ar eu colled yn y dyfodol.

Gwelliant 1 David Melding t. 74

Amendment 1 David Melding p. 74

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 2 David Lloyd t. 75

Amendment 2 David Lloyd p. 75

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 6 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
YmatalAbstain (6)
  • Alun Cairns
  • David Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers

Gwelliant 3 David Lloyd t. 76

Amendment 3 David Lloyd p. 76

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Gwelliant 4 Kirsty Williams t. 77

Amendment 4 Kirsty Williams p. 77

GwrthodwydRejected O blaidFor 20 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 32

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment rejected.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (20)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Michael German
  • Brian Hancock
  • Christine Humphreys
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Jenny Randerson
  • Janet Ryder
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (32)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 5 Kirsty Williams t. 77

Amendment 5 Kirsty Williams p. 77

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

DerbyniwydAdopted O blaidFor 52 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Amended motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (52)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Christine Humphreys
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Trydydd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau

Third Transfer of Functions Order

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 81

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 81

Oherwydd diffyg amser, nid oes modd imi ganiatáu areithiau ar y cynnig nesaf. Bydd yn rhaid imi alw ar i’r cynnig gael ei drin yn fyr ac yn ffurfiol.

Because of time constraints, I cannot allow speeches on the next motion. I will have to ask for the motion to be treated briefly and formally.

Andrew Davies The Business Secretary spoken in English p. 82

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 82

I propose that

Cynigiaf fod

Andrew Davies The Business Secretary (continued) spoken in English p. 82

Andrew Davies Y Trefnydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 82

I expect that there is full party support for this third Transfer of Functions Order, so I will be brief. I had hoped to give some examples of what the transfer Order contains, but I will not be able to do that because of the time constraints. However, it is important that we place this debate in proportion. The draft Order before us is a largely technical and amending measure. It is needed only to correct a number of deficiencies in the first transfer Order made in March last year. In doing so, it maintains the basic principle that the Assembly should have the functions that were previously the responsibility of the Secretary of State for Wales.

Disgwyliaf fod cefnogaeth gan yr holl bleidiau i’r trydydd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau hwn, felly byddaf yn fyr. Yr oeddwn wedi gobeithio rhoi rhai enghreifftiau o gynnwys y Gorchymyn trosglwyddo, ond ni fyddaf yn gallu gwneud hynny oherwydd prinder amser. Fodd bynnag, mae’n bwysig inni nodi pwysigrwydd cymharol y ddadl hon. Mae’r Gorchymyn drafft sydd ger ein bron yn fesur technegol a diwygiol gan fwyaf. Nid oes ei angen ond i gywiro nifer o ddiffygion yn y Gorchymyn trosglwyddo cyntaf a wnaethpwyd ym Mawrth y llynedd. Wrth wneud hynny, mae’n cadw at yr egwyddor sylfaenol y dylai’r Cynulliad gael y swyddogaethau a oedd gynt yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

The Order does not do anything else. Members might be forgiven for hearing the words transfer Order and expecting a further substantial transfer of power from Whitehall to this place, or vice versa. They will be disappointed. The Order is not Assembly subordinate legislation but the responsibility of the UK Government. Nonetheless, Section 22(4)(b) of the Government of Wales Act 1998, requires the Assembly to approve it before it can be made. If the Assembly does so, the Order will next be considered by both Houses of Parliament prior to being made by the Privy Council on 8 February. I will then bring forward a motion to delegate the functions in this Order in the usual way.

Dyna’r cwbl a wna’r Gorchymyn. Gellid maddau i’r Aelodau o glywed y geiriau Gorchymyn trosglwyddo am ddisgwyl trosglwyddo pŵer sylweddol pellach o Whitehall i’r lle hwn, neu fel arall. Byddant wedi eu siomi. Nid is-ddeddfwriaeth y Cynulliad mo’r Gorchymyn ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Er hynny, mae Adran 22(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn mynnu bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo cyn y gellir ei wneud. Oni wna’r Cynulliad hynny, bydd y Gorchymyn yn cael ei ystyried nesaf gan ddau Dŷ’r Senedd cyn cael ei wneud gan y Cyfrin Gyngor ar 8 Chwefror. Byddaf wedyn yn cyflwyno cynnig i ddirprwyo’r swyddogaethau yn y Gorchymyn hwn yn y modd arferol.

It is regrettable that the first transfer Order has been shown to contain a number of errors. However, such shortcomings are not unexpected, given the unprecedented size and scope of the first Order. At a rough estimate, it covers around a third of the entire statute book, including hundreds of Acts and thousands of functions. Identifying functions of the Secretary of State for Wales for transfer was a painstaking task involving virtually every UK Department for over 18 months. Having given that explanation—

Mae’n destun gofid bod nifer o wallau wedi eu canfod yn y Gorchymyn trosglwyddo cyntaf. Fodd bynnag, nid yw diffygion o’r fath yn annisgwyl, o dderbyn maint a chwmpas digyffelyb y Gorchymyn cyntaf. Ar amcangyfrif bras, mae’n cynnwys tua un rhan o dair o’r llyfr statud cyfan, gan gynnwys cannoedd o Ddeddfau a miloedd o swyddogaethau. Yr oedd dynodi swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar gyfer eu trosglwyddo yn dasg fanwl a oedd yn cynnwys bron bob un o Adrannau’r DU am dros 18 mis. Wedi rhoi’r eglurhad hwnnw—

John Marek a gododd—

John Marek rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

I am afraid that we have very little time. We have only two minutes for the whole process.

Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o amser sydd gennym. Nid oes gennym ond dau funud ar gyfer yr holl broses.

John Marek spoken in English p. 83

John Marek siaradwyd yn Saesneg t. 83

Will you confirm that no powers will be withdrawn from those which we held previously, as a result of this transfer Order?

A wnewch chi gadarnhau na thynnir unrhyw bwerau yn ôl o blith y rhai oedd gennym cynt, o ganlyniad i’r Gorchymyn trosglwyddo hwn?

Andrew Davies spoken in English p. 83

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 83

There are some, but in most cases it involves the transfer from Westminster to us and not vice versa. There are some powers—and I am in a difficult position because I was going to give chapter and verse in my introduction—but, for example, under the Mental Health Act 1983 there is one clause that should have remained with the Home Office but had been transferred to us.

Mae rhai, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae’n golygu trosglwyddo o San Steffan i ni ac nid fel arall. Mae rhai pwerau—ac yr wyf mewn sefyllfa anodd oherwydd yr oeddwn am roi’r bennod a’r adnod yn fy rhagarweiniad—ond, er enghraifft, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mae un cymal a ddylai fod wedi aros gyda’r Swyddfa Gartref ond a oedd wedi ei drosglwyddo i ni.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

Order. I must protect the time of the short debate. Jocelyn Davies and Michael German wished to speak, but I am afraid we have no time.

Trefn. Rhaid imi warchod amser y ddadl fer. Yr oedd Jocelyn Davies a Michael German yn dymuno siarad, ond mae arnaf ofn nad oes gennym amser.

Michael German spoken in English p. 83

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 83

This matter is important. We ought to be able to have at least a few moments extra to discuss this matter.

Mae’r mater hwn yn un pwysig. Dylai fod modd inni gael o leiaf ychydig eiliadau’n ychwanegol i drafod y mater hwn.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

No, I am afraid not.

Na chewch, mae arnaf ofn.

Michael German spoken in English p. 83

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 83

Can I propose a procedural motion, under Standing Order No. 6.18, which would give us an extra 10 minutes to add to the end of the debate time, or could we finish the debate tomorrow?

A gaf gynnig cynnig trefniadol, o dan Reol Sefydlog Rhif 6.18, a fyddai’n rhoi inni 10 munud ychwanegol i’w hychwanegu ar ddiwedd amser y ddadl, neu a gawn orffen y ddadl yfory?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 83

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 83

I am unwilling to do that. It clearly points to the difficulty of placing Orders and order equivalents at this stage of our proceedings, because of the time limits. If you wish to move the procedural motion you may do so, but we are already out of time.

Yr wyf yn amharod i wneud hynny. Mae’n dangos yn glir yr anhawster a geir wrth osod Gorchmynion a’r hyn sydd yn cyfateb iddynt ar yr adeg hon yn ein trafodion, oherwydd y cyfyngiadau ar amser. Os dymunwch gynnig y cynnig trefniadol cewch wneud hynny, ond mae ein hamser eisoes ar ben.

Jocelyn Davies spoken in English p. 84

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 84

The Plaid Cymru group had comments on the third Transfer of Functions Order, but intended to support it, so we are happy to move straight on to the short debate.

Yr oedd gan grŵp Plaid Cymru sylwadau ar y trydydd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau, ond yr oedd yn bwriadu ei gymeradwyo, felly yr ydym yn fodlon symud ymlaen yn syth i’r ddadl fer.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 84

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 84

Are Members happy to do that? I see that you are. Then I call for the vote.

A yw’r Aelodau’n fodlon gwneud hynny? Gwelaf eich bod. Galwaf felly am y bleidlais.

Cynnig Andrew Davies t. 84

Motion Andrew Davies p. 84

DerbyniwydAdopted O blaidFor 47 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion adopted.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (47)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Jocelyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Val Feld
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • John Marek
  • David Melding
  • Alun Michael
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Janet Ryder
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Kirsty Williams
  • Phil Williams

Dadl Fer

Short Debate

Lwfansau Cynghorwyr yng Nghymru

Councillors Allowances in Wales

Jonathan Morgan spoken in English p. 85

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 85

It gives me great pleasure to introduce this debate this afternoon. The short debate I have chosen is a matter of constituency interest, but also one that has wider ramifications for Wales as a whole. First, in line with the informal protocols that have been established thus far, I have agreed to allow Jenny Randerson, Janet Ryder, Sue Essex and David Melding time to contribute after I have finished.

Pleser mawr i mi yw cyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. Mae’r ddadl fer a ddewisais yn fater o ddiddordeb yn fy etholaeth, ond yn un sydd hefyd ag oblygiadau ehangach i Gymru gyfan. Yn gyntaf, yn unol â’r protocolau anffurfiol a sefydlwyd hyd yn hyn, yr wyf wedi cytuno i ganiatáu amser i Jenny Randerson, Janet Ryder, Sue Essex a David Melding gyfrannu ar ôl imi orffen.

You would have had to have been out of the country, or perhaps suffering from a bad dose of flu, to have missed the public outrage over the announcement of the new allowances for senior councillors in Cardiff City and County Council. Judging from the extent of my post bag, and, from talking to constituents, this is a decision that has caused much anger within and, indeed, outside the capital city. However, my purpose today is not only to consider the goings-on in Cardiff Council, but to look at the wider question of councillors’ allowances in Wales.

Buasai’n rhaid ichi fod dramor, neu’n dioddef yn ddrwg o’r ffliw efallai, i fethu’r dicter cyhoeddus ynghylch y cyhoeddiad am y lwfansau newydd i gynghorwyr uwch yng Nghyngor Dinas a Sir Caerdydd. A barnu o faint fy mag post, ac, o siarad â’m hetholwyr, mae’r penderfyniad hwn yn un sydd wedi peri llawer o ddicter oddi mewn ac, yn wir, y tu allan i’r brifddinas. Fodd bynnag, fy mwriad heddiw yw nid yn unig ystyried yr helyntion yng Nghyngor Caerdydd, ond edrych ar fater ehangach lwfansau cynghorwyr yng Nghymru.

This issue is one which the Assembly will have to consider soon enough. As Members will be aware the Local Government Bill has reached the Committee stage in the House of Lords and is expected to gain royal assent in June. The Bill, as drafted, would give the National Assembly for Wales powers to determine councillors’ allowances across Wales. The Assembly Library has confirmed that we already have the power to pass regulations and cap allowances under existing legislation. This is not an issue that we can duck out of tackling.

Mae’r mater hwn yn un y bydd yn rhaid i’r Cynulliad ei ystyried yn ddigon buan. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Mesur Llywodraeth Leol wedi cyrraedd cam y Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi a disgwylir iddo gael Cydsyniad Brenhinol ym Mehefin. Byddai’r Mesur, fel y’i drafftiwyd, yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu lwfansau cynghorwyr ledled Cymru. Mae Llyfrgell y Cynulliad wedi cadarnhau bod gennym bŵer eisoes i basio rheoliadau a chapio lwfansau o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Nid yw hwn yn fater y gallwn osgoi ymdrin ag ef.

Two reports on councillors’ allowances were published during the past month. One was commissioned by the Secretary of State for Wales last year and the other by Cardiff City and County Council after the May elections. Both committees were notionally independent and had distinguished members. Many people have asked subsequently how two reports on the same issue can come up with diametrically different recommendations. The Assembly’s all-Wales report, chaired by Professor Boyne from Cardiff University, recommended that a council leader should not receive more than £18,000 per annum and that a directly elected mayor should not receive more than £28,000 per annum. Yet Cardiff Council’s Parkinson report recommended paying nearly £60,000 for the same position. How on earth do these two commissions come up with radically different conclusions?

Cyhoeddwyd dau adroddiad ar lwfansau cynghorwyr yn ystod y mis diwethaf. Comisiynwyd un gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru y llynedd a’r llall gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd ar ôl yr etholiadau ym Mai. Yr oedd y ddau bwyllgor yn annibynnol mewn egwyddor ac yr oedd ganddynt aelodau nodedig. Mae llawer wedi gofyn ers hynny sut y gallai dau adroddiad ar yr un pwnc gynnig argymhellion cwbl groes. Yr oedd adroddiad y Cynulliad ar gyfer Cymru gyfan, dan gadeiryddiaeth yr Athro Boyne o Brifysgol Caerdydd, wedi argymell na ddylai arweinydd cyngor dderbyn mwy na £18,000 y flwyddyn ac na ddylai maer a etholwyd yn uniongyrchol dderbyn mwy na £28,000 y flwyddyn. Eto yr oedd adroddiad Parkinson i Gyngor Caerdydd yn argymell talu bron £60,000 am yr un swydd. Sut ar y ddaear y mae’r ddau gomisiwn hyn yn taro ar gasgliadau sylfaenol wahanol?

A closer inspection of both reports reveals a simple difference between them. The two commissions were given totally different terms of reference under which to work. You do not have to be a genius to realise that if you ask a group of experts the right question, you are likely to get the answer that you wish. As anybody who has read both reports will see, two very different questions were posed and, correspondingly, two very different answers were given.

O edrych yn fanylach ar y ddau adroddiad gwelir gwahaniaeth syml rhyngddynt. Rhoddwyd cylchoedd gwaith cwbl wahanol i’w dilyn gan y ddau gomisiwn. Nid oes rhaid ichi fod yn athrylith i sylweddoli eich bod, wrth ofyn y cwestiwn iawn i grŵp o arbenigwyr, yn fwy tebygol o gael yr ateb yr oeddech yn ei ddymuno. Fel y gwêl rhywun a ddarllenodd y ddau adroddiad, gofynnwyd dau gwestiwn gwahanol iawn ac, yn yr un modd, rhoddwyd dau ateb gwahanol iawn.

The terms of reference for the Assembly report asked the group to look into ‘compensation for lost earnings’ and expenses for councillors. The title of the report, ‘Rewarding Community Service’ also indicates the fundamental attitude of the all-Wales report in this context. Throughout the report, the commissioners speak of councillors working, and I quote,

Yr oedd cylch gwaith adroddiad y Cynulliad yn gofyn i’r grŵp ystyried ‘iawn am enillion a gollwyd’ a threuliau ar gyfer cynghorwyr. Mae teitl yr adroddiad ‘Rewarding Community Service’ hefyd yn dangos agwedd sylfaenol yr adroddiad i Gymru gyfan yn y cyd-destun hwn. Drwy’r adroddiad, mae’r comisiynwyr yn sôn am gynghorwyr yn gweithio, a dyfynnaf,

‘on behalf of the community, on a voluntary basis.’

‘ar ran y gymuned, ar sail gwirfoddol.’

In stark contrast, the Parkinson committee, set up by our self-appointed lord mayor, Councillor Goodway, was asked to bring councillor allowances into line with payments for professional posts in the public sector. That is where the crux of the issue lies. Should we treat councillors as well-paid professionals or community volunteers who should be compensated for lost earnings? It is clear that Councillor Goodway and his cabinet skewed the remit of the commission to get the answer that they wanted. The inevitable result of these terms of reference was that the political posts in the council were compared directly with chairs of quangos and NHS trusts.

Yn gwbl groes i hynny, gofynnwyd i bwyllgor Parrkinson, a sefydlwyd gan ein harglwydd faer hunanbenodedig, y Cynghorydd Goodway, gysoni lwfansau cynghorwyr â thaliadau ar gyfer swyddi proffesiynol yn y sector cyhoeddus. Dyna graidd y mater. A ddylem drin cynghorwyr fel gweithwyr proffesiynol â thâl da neu fel gwirfoddolwyr cymunedol y dylid talu iawn iddynt am enillion a gollir? Mae’n amlwg bod y Cynghorydd Goodway a’i gabinet wedi camystumio cylch gwaith y comisiwn er mwyn cael yr ateb a ddymunent. Canlyniad anorfod y cylch gwaith hwn oedd cymharu swyddi gwleidyddol yn y cyngor yn uniongyrchol â chadeiryddion cwangos ac ymddiriedolaethau’r NHS.

The findings of the Parkinson report completely missed the central point of the Assembly report, which was that councillors do their work ‘on behalf of the community and on a voluntary basis’. Hence the recommendation that the lord mayor of the city of Cardiff should be paid £58,500 per year for a notional three-day working week. Incidentally, that salary was back-dated seven months, giving our lord mayor £30,000 as a Christmas bonus. This means that, on a full-time pro rata basis, the lord mayor of Cardiff would have an allowance of nearly £100,000. That is more than the First Secretary is paid, as far as I am aware. It is close to what the Prime Minister of the United Kingdom is paid. Councillor Goodway is the highest-paid councillor in the United Kingdom.

Methodd canfyddiadau adroddiad Parkinson bwynt adroddiad y Cynulliad yn llwyr, sef bod cynghorwyr yn gweithio ‘ar ran y gymuned ac yn wirfoddol’. Oherwydd hynny y ceir yr argymhelliad y dylid talu £58,500 y flwyddyn i arglwydd faer dinas Caerdydd am wythnos waith dybiannol o dri diwrnod. Fel y mae’n digwydd, ôl-ddyddiwyd y cyflog hwnnw saith mis, gan roi £30,000 i’n harglwydd faer fel bonws Nadolig. Mae hynny’n golygu, pe bai’n gweithio’n llawn-amser ar y gyfradd hon, y byddai arglwydd faer Caerdydd yn cael lwfans o bron £100,000. Mae hynny’n fwy na’r tâl i’r Prif Ysgrifennydd, hyd y gwn i. Mae’n agos i’r hyn a delir i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Y Cynghorydd Goodway yw’r cynghorydd uchaf ei dâl yn y Deyrnas Unedig.

It is important to view the comparison between the city of Cardiff and the special responsibility allowances for council leaders in Wales in this context. The Boyne report shows a range of allowances for 1998-99 of between nothing in Newport—they have a different system in Newport—and £10,000 in the Vale of Glamorgan. There are wide disparities across Wales, which we will need to address. The new cabinet system in local government will mean a greater role for senior councillors. I do not have a problem with such councillors receiving better allowances, but they must be reasonable ones, which can be justified to council taxpayers. It is vital that the Assembly’s Environment and Local Government Committee considers the issues surrounding these payments carefully. We must have a coherent policy across Wales to ensure that there are no glaring disparities between local authorities.

Mae’n bwysig edrych ar y gymhariaeth rhwng dinas Caerdydd a’r lwfansau cyfrifoldeb arbennig i arweinyddion cyngor yng Nghymru yn y cyd-destun hwn. Mae adroddiad Boyne yn dangos amrediad o lwfansau ar gyfer 1998-99 sydd rhwng dim yng Nghasnewydd—mae ganddynt system wahanol yng Nghasnewydd—a £10,000 ym Mro Morgannwg. Mae gwahaniaethau mawr ledled Cymru, y bydd angen inni roi sylw iddynt. Bydd y system cabinet newydd mewn llywodraeth leol yn golygu rôl ehangach i gynghorwyr uwch. Nid oes gennyf wrthwynebiad i gynghorwyr o’r fath dderbyn gwell lwfansau, ond rhaid iddynt fod yn rhai rhesymol, y gellir eu cyfiawnhau i drethdalwyr y cyngor. Mae’n holl bwysig bod Pwyllgor Amgylchedd a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r materion sydd yn gysylltiedig â’r taliadau hyn. Rhaid inni gael polisi cydlynol ledled Cymru er mwyn sicrhau nad oes gwahaniaethau amlwg rhwng awdurdodau lleol.

My grandfather serves as a city councillor in Cardiff and in 1993 he had the great pleasure of being deputy lord mayor of the city. Sue Essex, who was one of our city councillors at that time, supported his nomination. My grandfather and a host of others who have occupied these positions have done so out of public duty, fulfilling tasks expected of them by the city and council. At that time, deputy lord mayors and lord mayors were not paid between £36,000—the current deputy lord mayor of this city’s salary—and £58,500, the current lord mayor’s salary. We must try to re-establish the concept of public service and duty in local government.

Mae fy nhaid yn gwasanaethu fel cynghorydd dinesig yng Nghaerdydd ac yn 1993 cafodd y boddhad mawr o fod yn ddirprwy arglwydd faer y ddinas. Cefnogwyd ei enwebiad gan Sue Essex, a oedd yn un o’n cynghorwyr dinesig bryd hynny. Mae fy nhaid a llu o rai eraill a ddaliodd y swyddi hyn wedi gwneud hynny oherwydd ymdeimlad o ddyletswydd gyhoeddus, gan gyflawni tasgau a ddisgwylid oddi wrthynt gan y ddinas a’r cyngor. Bryd hynny, nid oedd dirprwy arglwydd feiri ac arglwydd feiri’n derbyn tâl rhwng £36,000—cyflog dirprwy arglwydd faer presennol y ddinas hon—a £58,000, sef cyflog yr arglwydd faer presennol. Rhaid inni geisio ailsefydlu’r syniad o wasanaeth a dyletswydd gyhoeddus mewn llywodraeth leol.

Throughout this debate we should remember that every penny of taxpayers’ money that is spent rewarding councillors is one less penny that could be spent on schools and services. This pay rise was not put to the council for approval or for amendment. There has not been a single opportunity for councillors to discuss this rise. There are already highly paid professional officers working for local authorities: people who are impartial, qualified and have a difficult task in administering the councils. In Cardiff City and County Council there are seven corporate managers who are paid more than Assembly Secretaries, and the Chief Executive of the Council is paid about the same wage as our First Secretary. One may conclude that top officers who manage a £1 billion-a-year institution should be paid large salaries, but these officers are full time, professional individuals who work for the council. If the leader of Cardiff City and County Council had been more concerned with propriety and less concerned with pulling a fast one, he would have waited until the all-Wales report had been published before he set up his own commission. He could also have given his commission a remit that was consistent with that of the all-Wales report.

Drwy gydol y ddadl hon dylem gofio bod pob ceiniog o arian y trethdalwyr a werir i wobrwyo cynghorwyr geiniog yn llai o’r hyn y gellid ei wario ar ysgolion a gwasanaethau. Ni roddwyd y codiad cyflog hwn gerbron y cyngor i’w gymeradwyo neu ei newid. Ni chafwyd yr un cyfle i gynghorwyr drafod y codiad. Mae swyddogion proffesiynol â chyflogau uchel yn gweithio i awdurdodau lleol eisoes: pobl amhleidiol, cymwysedig sydd â’r dasg anodd o weinyddu’r cynghorau. Yng Nghyngor Dinas a Sir Caerdydd mae saith rheolwr corfforaethol sydd yn derbyn mwy o dâl nag Ysgrifenyddion Cynulliad, a Phrif Weithredwr y Cyngor sydd yn derbyn cyflog tebyg i un y Prif Ysgrifennydd. Gallai rhywun ddod i’r casgliad y dylai prif swyddogion sydd yn rheoli sefydliad £1 biliwn y flwyddyn dderbyn cyflogau mawr, ond mae’r swyddogion hyn yn rhai llawn-amser, proffesiynol sydd yn gweithio i’r cyngor. Pe buasai gan arweinydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd fwy o ofal am wedduster a llai o ofal am wneud pobl o dan eu trwynau, byddai wedi aros tan gyhoeddi’r adroddiad i Gymru gyfan cyn sefydlu ei gomisiwn ei hun. Gallasai hefyd roi cylch gwaith i’w gomisiwn a oedd yn gyson ag un yr adroddiad i Gymru gyfan.

Many commentators have said that our distinguished lord mayor is a budding Rudolph Jiuliani, the mayor of New York. Mr Jiuliani is the full-time, professional mayor of a city that has a greater population than Wales; he is popular and effective and has cut crime and cleaned up the streets. Accordingly, he is paid very well. In contrast, the current lord mayor of Cardiff is not directly elected, is not popular, is not full time and is the leader of only the seventeenth largest city in the United Kingdom. Crime is up in Cardiff, and as a Cardiffian I know that the streets are not clean. To paraphrase Lloyd Bentsen: Councillor Goodway, you are no Rudolph Jiuliani.

Mae llawer o sylwebyddion wedi dweud bod ein harglwydd faer nodedig yn gyw Rudolph Jiuliani, maer Efrog Newydd. Mae Mr Jiuliani yn faer llawn-amser, proffesiynol ar ddinas y mae eu phoblogaeth yn fwy nag un Cymru; mae’n boblogaidd ac yn effeithiol ac wedi lleihau troseddu a glanhau’r strydoedd. Yn unol â hynny, fe’i telir yn dda iawn. Ar y llaw arall, nid yw arglwydd faer presennol Caerdydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, nid yw’n boblogaidd, nid yw’n llawn-amser ac mae’n arweinydd ar yr hyn sydd ond yr ail ddinas ar bymtheg o ran maint yn y Deyrnas Unedig. Mae troseddu ar i fyny yng Nghaerdydd, ac fel un o Gaerdydd gwn nad yw’r strydoedd yn lân. Ac aralleirio Lloyd Bentsen: Gynghorydd Goodway, nid Rudolph Jiuliani mohonoch.

Some of us, having witnessed this fiasco, were a little surprised at the councillor’s extraordinary explanation for accepting the full pay increase. The reply floored even the hardened hacks in the press gallery. He said that it would be deeply immoral and unethical not to take every penny of the pay hike. He believed that such a decision might bind his successors and that that would be unjust. I can say on behalf of the Conservative group, and I suspect the majority of the Assembly, that we admire the selflessness and altruism of Councillor Goodway.

Yr oedd rhai ohonom, ar ôl gweld y ffiasgo hwn, yn synnu braidd at eglurhad rhyfeddol y cynghorydd dros dderbyn y codiad cyflog llawn. Yr oedd yr ateb wedi llorio’r haciaid profiadol yn oriel y wasg hyd yn oed. Dywedodd y byddai’n anfoesol ac yn anfoesegol iawn i beidio a chymryd pob ceiniog o’r codiad cyflog. Credai y gallai penderfyniad o’r fath rwymo ei olynwyr ac y byddai hynny’n anghyfiawn. Gallaf ddweud ar ran y grŵp Ceidwadol, ac ar ran y mwyafrif yn y Cynulliad gallwn feddwl, ein bod yn edmygu anhunanoldeb ac allgarwch y Cynghorydd Goodway.

Councillor Goodway neglected to mention that there is a strong precedent in his own party of politicians who do not take up their full entitlement. The First Secretary takes less than that to which he is entitled. I do not hear Cabinet Members squealing about precedent setting because Westminster Cabinet Members do not take their full entitlement. This is an important point, as the council is going through a tough round of belt tightening. Staff have been laid off, recruitment has been frozen and employees have to cope with difficult workloads with no extra salary. One would have thought that, at such a time of sacrifice, the council leader would have shown his solidarity by not taking his entire allowance. The leader of Cardiff City and County Council does not lead by example.

Anghofiodd y Cynghorydd Goodway sôn bod cynsail cryf yn ei blaid ei hun o wleidyddion nad ydynt yn cymryd y cwbl y mae ganddynt hawl iddo. Mae’r Prif Ysgrifennydd yn cymryd llai na’r hyn y mae ganddo hawl iddo. Ni chlywaf Aelodau’r Cabinet yn cwyno am osod cynsail am nad yw Aelodau Cabinet San Steffan yn cymryd y cwbl y mae ganddynt hawl iddo. Mae hyn yn bwynt pwysig, gan fod y cyngor yn mynd drwy rownd anodd o dynhau gwregysau. Mae staff wedi eu diswyddo, mae recriwtio wedi ei rewi ac mae gweithwyr yn gorfod dygymod â llwythi gwaith anodd heb gyflog ychwanegol. Byddai rhywun yn meddwl, mewn cyfnod o aberth fel hyn, y byddai arweinydd y cyngor wedi dangos ei gefnogaeth drwy beidio â chymryd ei lwfans cyfan. Nid yw arweinydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn arwain drwy esiampl.

We can no longer shrug our shoulders and say that it is nothing to do with us. We have to act now if we are to prevent the Cabinet of Cardiff City and County Council from bringing local government into disrepute. Unfortunately, that does not seem to be the view of the Assembly’s Executive and of the First Secretary. In another display of visionary approach to leadership in Wales, the First Secretary told the South Wales Echo last week that this issue was a matter for the county council. ‘It’s their responsibility,’ he said. This week he failed to join other Labour Members of Parliament who represent Cardiff in condemning the increase. Unlike the Members of Parliament for Cardiff North and Cardiff Central, the First Secretary is not facing re-election to the House of Commons, so I can understand the unease of the Members for Cardiff North and Cardiff Central.

Bellach ni allwn godi gwar a dweud nad oes a wnelo hyn ddim â ni. Rhaid inni weithredu yn awr os ydym i atal Cabinet Cyngor Dinas a Sir Caerdydd rhag dwyn anfri ar lywodraeth leol. Gwaetha’r modd, nid ymddengys mai hyn yw barn Gweithrediaeth y Cynulliad na’r Prif Ysgrifennydd. Mewn amlygiad arall o’i agwedd weledigaethol at arweinyddiaeth yng Nghymru, dywedodd y Prif Ysgrifennydd wrth y South Wales Echo yr wythnos diwethaf fod y mater hwn yn un i’r cyngor sir. ‘Eu cyfrifoldeb hwy ydyw,’ meddai. Yr wythnos hon methodd ymuno ag Aelodau Seneddol Llafur eraill sydd yn cynrychioli Caerdydd wrth gondemnio’r codiad. Yn wahanol i’r Aelodau Seneddol dros Ogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd, nid yw’r Prif Ysgrifennydd yn wynebu ei ailethol i Dŷ’r Cyffredin, felly gallaf ddeall anesmwythyd yr Aelodau dros Ogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd.

I say to the Executive, particularly to the Secretary for the Environment and Local Government and the First Secretary, that the good standing of local government is our responsibility, especially when we can do something about it. I feel that the Assembly Cabinet is standing idly by while one of the Labour councils is running roughshod, not only over the Assembly report’s recommendations, but also over local opinion. People thought that the Assembly could and should take an interest in these matters. They thought that the Assembly was established to deal with such contentious issues and that it could provide leadership and enforce best practice. I urge the Secretary for the Environment and Local Government to provide that leadership today. I hope that he will confirm that he has at least taken councillor Goodway to one side and told him that he has overstepped the mark on this one. In his response, I hope the Assembly Secretary will tell us if he has done this, and if not, when he will do so.

Dywedaf wrth y Weithrediaeth, yn enwedig Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol a’r Prif Ysgrifennydd, fod enw da llywodraeth leol yn gyfrifoldeb i ni, yn enwedig pan allwn wneud rhywbeth yn ei gylch. Teimlaf fod Cabinet y Cynulliad yn sefyll yn ddidaro tra bo un o’r cynghorau Llafur yn sarnu, nid yn unig ar argymhellion adroddiad y Cynulliad, ond ar y farn leol. Credai pobl y gallai ac y dylai’r Cynulliad ymddiddori yn y materion hyn. Credent fod y Cynulliad wedi ei sefydlu er mwyn ymdrin â materion dadleuol o’r fath ac y gallai roi arweiniad a gorfodi ymarfer da. Pwysaf ar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol i roi’r arweiniad hwnnw heddiw. Gobeithiaf y bydd yn cadarnhau ei fod o leiaf wedi mynd â’r Cynghorydd Goodway o’r neilltu ac wedi dweud wrtho ei fod wedi mynd yn rhy bell y tro hwn. Yn ei ymateb, gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Cynulliad yn dweud wrthym ei fod wedi gwneud hynny, ac os nad ydyw, pa bryd y bydd yn gwneud.

If Councillor Goodway does not back down voluntarily, I hope the Assembly Secretary will hold out the prospect of an Assembly Order to regulate the worst excesses of this shabby opportunism. Alas, I am not overly optimistic about the resolution of the Executive to tackle this head on. The City and County of Cardiff Labour Party had a meeting a couple of weeks ago that was billed as a ‘showdown’ with the lord mayor. In the event, the meeting fully endorsed and commended the pay rises. So much, Llywydd, for the party of the many and not the few.

Os nad yw’r Cynghorydd Goodway yn ildio’n wirfoddol, gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Cynulliad yn cynnig yr addewid o Orchymyn Cynulliad i reoleiddio eithafion gwaethaf y cyflegarwch salw hwn. Yn anffodus, nid wyf yn rhy obeithiol ynghylch penderfyniad y Weithrediaeth i fynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol. Cynhaliodd Plaid Lafur Cyngor Dinas a Sir Caerdydd gyfarfod ychydig wythnosau’n ôl a alwyd yn ‘wrthdrawiad’ â’r arglwydd faer. Fel y digwyddodd, bu i’r cyfarfod gadarnhau a chymeradwyo’r codiadau cyflog yn llwyr. Naw wfft, Lywydd, i blaid y lliaws ac nid yr ychydig.

I understand that we have a draw for private Member’s Orders on Friday. If I, or my fellow Member for South Wales Central, David Melding, were to win this draw, we would wish to sponsor an Order that would cap allowances for top councillors in Wales.

Deallaf y bydd tocynnau’n cael eu tynnu ar gyfer Gorchmynion Aelodau preifat ddydd Gwener. Pe bawn i, neu fy nghyd-Aelod dros Ganol De Cymru, David Melding, yn ennill wrth dynnu tocyn, dymunem noddi Gorchymyn a fyddai’n capio lwfansau i gynghorwyr uwch yng Nghymru.

As Members will appreciate, this is about the credibility of local government in Wales. It is about promoting responsible behaviour in local government. It is regrettable that the issues surrounding this farce have not been allowed to be discussed and resolved by Cardiff councillors hitherto. If it were not for the behaviour of a small clique of councillors, we would have had no need to intervene in this matter. Now that that has happened, I call on the Assembly Secretary to address this situation head to head with councillor Goodway before we are forced to take action ourselves. If the Assembly Secretary is not willing to lead, the Conservative group will offer that leadership instead.

Fel y gwerthfawroga’r Aelodau, mae hyn yn ymwneud â hygrededd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n ymwneud â hybu ymddygiad cyfrifol mewn llywodraeth leol. Mae’n destun gofid na chaniatawyd i’r materion sydd yn gysylltiedig â’r ffars hon gael eu trafod a’u datrys gan gynghorwyr Caerdydd cyn hyn. Oni bai am ymddygiad clic bach o gynghorwyr, ni fyddai’n rhaid inni ymyrryd yn y mater hwn. Gan fod hynny wedi digwydd, galwaf ar yr Ysgrifennydd Cynulliad i ymdrin â’r sefyllfa hon wyneb yn wyneb â’r Cynghorydd Goodway cyn inni orfod gweithredu ein hunain. Os nad yw’r Ysgrifennydd Cynulliad yn fodlon arwain, bydd y grŵp Ceidwadol yn cynnig yr arweiniad hwnnw yn ei le.

Janet Ryder spoken in English p. 91

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 91

We agree with much of what Jonathan has said, but not all of it. It is strange that two reports on councillors’ allowances with widely different recommendations have been published at the same time. I draw Members’ attention to today’s headline in The Western Mail, ‘You’ve gone too far, MPs tell Goodway’ and the sub-headline ‘Something must be done’. Of the four Cardiff MPs, three have written to Russell Goodway and requested that he and his fellow Cardiff councillors accept the letter in the spirit of the ‘Rewarding Community Service’ document. This document was jointly commissioned by the Welsh Local Government Association and the former Welsh Office and will set Welsh guidelines for councillors’ allowances. Why is it that the Labour Party has chosen to act only when it is clear that the issue is doing it damage? Why has it not reacted publicly previously?

Cytunwn â llawer o’r hyn a ddywedodd Jonathan, ond nid y cwbl. Mae’n rhyfedd bod dau adroddiad ar lwfansau cynghorwyr ag argymhellion gwahanol iawn wedi eu cyhoeddi yr un pryd. Tynnaf sylw’r Aelodau at bennawd heddiw yn The Western Mail, ‘You’ve gone too far, MPs tell Goodway’ a’r is-bennawd ‘Something must be done’. O blith pedwar Aelod Seneddol Caerdydd, mae tri wedi ysgrifennu at Russell Goodway a gofyn iddo ef a’i gyd-gynghorwyr yng Nghaerdydd dderbyn y llythyr yn yr un ysbryd â’r ddogfen ‘Rewarding Community Service’. Cydgomisiynwyd y ddogfen hon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Swyddfa Gymreig gynt a bydd yn gosod canllawiau ar gyfer lwfansau cynghorwyr. Pam nad yw’r Blaid Lafur ddim ond wedi dewis gweithredu pan fo’n eglur bod y mater yn gwneud niwed iddi? Pam nad ymatebodd yn gyhoeddus cyn hynny?

Like many people, I am concerned that a councillor and a cabinet are taking such high allowances whilst sacking people and yet the councillor’s party seems to be sitting back. We join Jonathan in calling on the Assembly, led by the First Secretary, whose name does not appear on this letter because he did not feel it appropriate—but Plaid Cymru—the Party of Wales feels that it is very appropriate—to firmly tell councillor Goodway that he is doing local government no good by accepting this, and to agree with the WLGA report.

Fel llawer o bobl, pryderaf fod cynghorydd a chabinet yn cymryd lwfansau mor uchel tra y maent yn diswyddo pobl ac ymddengys er hynny fod plaid y cynghorydd yn llaesu dwylo. Ymunwn â Jonathan wrth alw ar y Cynulliad, dan arweiniad y Prif Ysgrifennydd, nad yw ei enw’n ymddangos ar y llythyr am na theimlai mai priodol—ond mae Plaid Cymru—the Party of Wales yn teimlo ei bod yn briodol iawn—yw dweud yn bendant wrth y Cynghorydd Goodway nad yw’n gwneud lles i lywodraeth leol drwy dderbyn hyn, ac y dylai gytuno ag adroddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Jenny Randerson spoken in English p. 92

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 92

I have an interest in this, as I am a Cardiff councillor. I welcome the WLGA/Assembly all-Wales report on allowances. It is time that we had a bit of sanity in Cardiff about the role and pay of senior councillors and the new all-Wales report provides a sensible bench mark for Wales, which would allow Cardiff, for example, to take into account its additional size and responsibilities as a capital city. We are all over the place on the issue of councillors’ allowances and it is time that we had a national debate. I am grateful therefore, to Russell Goodway for provoking that debate. The allowances must be brought into some kind of coherent line. Four or five years ago, Sue Essex, as leader of the old City Council claimed less than £2,000. I do not believe that Russell Goodway works 29 times harder than Sue Essex did. The terms of reference of the two commissions were totally different and we need to bring back into play the sense that councillors are doing a public service. Otherwise, we will never restore local government’s reputation.

Mae gennyf fudd yn y mater hwn, gan fy mod yn un o gynghorwyr Caerdydd. Croesawaf adroddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/y Cynulliad ar gyfer Cymru gyfan ar lwfansau. Mae’n hen bryd inni gael rhywfaint o gallineb yng Nghaerdydd ynghylch rôl a thâl cynghorwyr uwch ac mae’r adroddiad newydd i Gymru gyfan yn darparu meincnod synhwyrol i Gymru, a fyddai’n caniatáu i Gaerdydd, er enghraifft, gymryd i ystyriaeth ei maint a’i chyfrifoldebau fel prifddinas. Nid oes trefn o gwbl ar fater lwfansau cynghorwyr ac mae’n bryd inni gael dadl genedlaethol. Yr wyf yn ddiolchgar, felly, i Russell Goodway am godi’r ddadl hon. Rhaid cael rhyw fath o gysondeb yn y lwfansau. Bedair neu bum mlynedd yn ôl, hawliodd Sue Essex, fel arweinydd hen Gyngor y Ddinas, lai na £2,000. Ni chredaf fod Russell Goodway yn gweithio 29 gwaith yn galetach nag a wnaeth Sue Essex. Yr oedd cylchoedd gwaith y ddau gomisiwn yn gwbl wahanol ac mae angen inni ailennyn y teimlad bod cynghorwyr yn cyflawni gwasanaeth cyhoeddus. Fel arall, ni fyddwn byth yn adfer enw da llywodraeth leol.

David Melding spoken in English p. 92

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 92

I concur with everything that Jonathan Morgan has said this afternoon. Cardiff is the capital of Wales and it must set an example to be followed by councils across Wales. If we get it wrong here, people will become cynical about the Assembly’s role in not being able to give advice and, if that advice is not followed, in not being able to take the appropriate enforcement action.

Cytunaf â phopeth a ddywedodd Jonathan Morgan y prynhawn yma. Caerdydd yw prifddinas Cymru a rhaid iddi roi esiampl i’w dilyn gan gynghorau ledled Cymru. Os methwn yma, bydd pobl yn dechrau teimlo’n sinigaidd ynghylch rôl y Cynulliad wrth fethu â rhoi cyngor ac, os na ddilynir y cyngor hwnnw, wrth fethu â chymryd y camau gorfodi priodol.

I agree with the argument for elected executive mayors. If the people of a particular authority vote for that and for a financial package that rewards someone with an executive salary, it is another matter. However, this mayor has been appointed by his colleagues, not by the people of Cardiff. The system is inadequate in that the council has come up with a report that flies in the face of the one that the Assembly produced and recommends these excessive increases—£40,000 more than is recommended in our report. We must take action.

Cytunaf â’r ddadl o blaid meiri gweithredol etholedig. Os yw’r bobl mewn awdurdod penodol yn pleidleisio dros hynny a dros becyn ariannol sydd yn gwobrwyo rhywun â chyflog gweithredwr, mater arall yw hynny. Fodd bynnag, penodwyd y maer hwn gan ei gydweithwyr, nid gan bobl Caerdydd. Mae’r system yn annigonol i’r graddau bod y cyngor wedi cynhyrchu adroddiad sydd yn mynd yn groes i un a gynhyrchwyd gan y Cynulliad ac yn argymell y codiadau gormodol hyn—£40,000 yn fwy na’r hyn a argymhellir yn ein hadroddiad ni. Rhaid inni weithredu.

Sue Essex spoken in English p. 93

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 93

I want to clarify some facts. First, we did have an England and Wales code on local government allowances. The last Tory Government disbanded it, which has led to this issue of differential allowances. Secondly, I point out to both my Tory and Liberal colleagues that there was all-party support in Cardiff Council for the report to be accepted without further discussion. Let us get some facts right. Thirdly, the Labour county party in Cardiff did not take a vote to endorse the allowances as Jonathan said. There were views on both sides.

Yr wyf am egluro rhai ffeithiau. Yn gyntaf, yr oedd gennym god ar lwfansau llywodraeth leol ar gyfer Cymru a Lloegr. Diddymwyd hwnnw gan y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf, ac mae hynny wedi arwain at fater lwfansau gwahaniaethol. Yn ail, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau Torïaidd a Rhyddfrydol fod cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghyngor Caerdydd i dderbyn yr adroddiad heb drafodaeth bellach. Gadewch inni gael rhai ffeithiau cywir. Yn drydydd, ni phleidleisiodd plaid sirol Llafur i gadarnhau’r lwfansau fel y dywedodd Jonathan. Yr oedd safbwyntiau ar y ddwy ochr.

Jenny Randerson a gododd—

Jenny Randerson rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 93

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order. We do not have any time for interventions.

Trefn. Nid oes gennym amser i dderbyn ymyriadau.

Jenny Randerson spoken in English p. 93

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 93

There is a factual innaccuracy.

Mae anghywirdeb ffeithiol.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 93

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order. That is an intervention on what is already an intervention.

Trefn. Mae hynny’n ymyriad yn yr hyn sydd eisoes yn ymyriad.

Jenny Randerson spoken in English p. 93

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 93

We opposed it.

Gwrthwynebasom ef.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 93

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order.

Trefn.

Sue Essex spoken in English p. 93

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 93

If Jenny wants to have that discussion afterwards I will, by all means, meet her. It was my understanding that there was an all-party agreement that the report should not come back for discussion, if that is what she is concerned about.

Os yw Jenny’n dymuno cael y drafodaeth honno wedyn yr wyf yn fodlon cyfarfod â hi, ar bob cyfrif. Yr hyn a ddeellais i oedd bod cytundeb trawsbleidiol na ddylai’r adroddiad ddod yn ôl i’w drafod, os mai hynny sydd ganddi dan sylw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 93

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Order. I need to call the Assembly Secretary to reply to the debate.

Trefn. Rhaid imi alw ar yr Ysgrifennydd Cynulliad i ymateb i’r ddadl.

Sue Essex spoken in English p. 94

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 94

I am on record as supporting the George Boyne report. That is the way forward in Wales. It has the endorsement of the Welsh Local Government Association and all parties could agree that that is the guidance which we would like to see accepted.

Cofnodwyd fy mod yn cefnogi adroddiad George Boyne. Dyna’r ffordd ymlaen yng Nghymru. Fe’i cadarnhawyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gallai’r holl bleidiau gytuno mai hwn yw’r arweiniad yr hoffem weld ei dderbyn.

Peter Law The Secretary for the Environment and Local Government spoken in English p. 94

Peter Law Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol siaradwyd yn Saesneg t. 94

I am grateful for the opportunity to reply to this debate on councillors’ allowances. It is an important subject. I am concerned about 22 local authorities in Wales, and not just picking on one. We need to be positive about that. From what I understand of the situation in Cardiff, the council was without dissent. Therefore, they all, including Liberal Democrat and Conservative councillors, agreed to accept the recommendations of the independent commission in full. That is the information that I have been given.

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar lwfansau cynghorwyr. Mae’n bwnc pwysig. Ymddiddoraf yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, heb ddewis un yn unig. Rhaid inni fod yn gadarnhaol ynghylch hynny. O’r hyn a ddeallaf am y sefyllfa yng Nghaerdydd, nid oedd anghytuno yn y cyngor. Felly, cytunasant oll, gan gynnwys y cynghorwyr Democrataidd Rhyddfrydol a Cheidwadol, i dderbyn argymhellion y comisiwn annibynnol yn llawn. Dyna’r wybodaeth a roddwyd i mi.

Jenny Randerson a gododd—

Jenny Randerson rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 94

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 94

Are you giving way to Jenny?

A ydych yn ildio i Jenny?

Peter Law spoken in English p. 94

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 94

I do not think that I should, as my time is running out, Llywydd. It is important that we talk about councillors’ allowances. I pay tribute to the 270 councillors in Wales who play such a valuable role in representing the interests of local communities as advisers, confidants and social workers. The range of issues about which councillors are approached by their constituents stretch beyond the councils’ responsibilities. They include issues such as benefit payments, medical matters and writing letters for constituents. A councillor’s role is a time consuming one. At the more senior levels it involves considerable responsibility for the allocation of resources.

Ni chredaf y dylwn, gan fod fy amser yn dirwyn i ben, Lywydd. Mae’n bwysig inni sôn am lwfansau cynghorwyr. Talaf deyrnged i’r 270 o gynghorwyr yng Nghymru sydd yn chwarae rhan mor werthfawr wrth gynrychioli buddiannau cymunedau lleol fel ymgynghorwyr, cyfrinachwyr a gweithwyr cymdeithasol. Mae’r amrediad o faterion y cysylltir â chynghorwyr yn eu cylch gan eu hetholwyr yn mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau’r cynghorau. Yn eu plith mae materion fel taliadau budd-dal, materion meddygol ac ysgrifennu llythyrau ar ran etholwyr. Mae rôl y cynghorydd yn un sydd yn cymryd amser. Ar lefelau uwch mae’n cynnwys cryn gyfrifoldeb dros ddyrannu adnoddau.

It can also be a frustrating job, especially as needs, however they are defined, are always greater than the available resources. Choices have to be made and these can be difficult. However, being a councillor is worthwhile, particularly when one achieves something of benefit to a constituent, a ward or to the local authority in general. I am disappointed that some of the public do not value their councillors more highly. If one listened outside, as one will to today’s debate, people could get the wrong picture about just how invaluable local government is in our day-to-day life in Wales. It is not the fault of councillors. It is more a reflection of the public’s comparative lack of interest in politics and how the media report politics. People never hear of the thousands of councillors, from all political parties, who serve and have faithfully served their communities for many years.

Gall fod yn swydd sydd yn peri rhwystredigaeth hefyd, yn enwedig am fod anghenion, sut bynnag y’u diffinnir, bob amser yn fwy na’r adnoddau sydd ar gael. Rhaid gwneud dewisiadau a gallant fod yn anodd. Fodd bynnag, mae bod yn gynghorydd yn werth yr ymdrech, yn enwedig os bydd rhywun yn cyflawni rhywbeth er budd etholwr, ward neu’r awdurdod lleol yn gyffredinol. Yr wyf yn siomedig nad yw rhai aelodau o’r cyhoedd yn gwerthfawrogi eu cynghorwyr yn fwy. Pe bai rhywun yn gwrando o’r tu allan, fel y bydd rhai, ar y ddadl heddiw, câi’r darlun anghywir o werth gwirioneddol llywodraeth leol i’n bywydau bob dydd yng Nghymru. Nid bai’r cynghorwyr ydyw. Mae’n adlewyrchiad, yn hytrach, o ddiffyg diddordeb cymharol y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth a’r modd y mae’r cyfryngau’n adrodd am wleidyddiaeth. Nid yw pobl byth yn clywed am y miloedd o gynghorwyr, o bob plaid wleidyddol, sydd yn gwasanaethu ac a wasanaethodd eu cymunedau’n ffyddlon am flynyddoedd lawer.

The subject of today’s debate is councillors’ allowances. We are all over the place on the issue, as Jenny Randerson said. Today gives us a chance to have a uniform approach. That is the positive side of this. Setting allowances is a difficult issue that satisfies nobody. Whatever the level of allowances elected council members are paid, it will be too much for some people, and given the time commitment involved, too low for others. Councillors’ allowances are meant to compensate them for the time they devote to council duties and any expenses incurred in undertaking those duties. They were originally intended to ensure that councils could draw their members from the widest possible selection of the public, attracting and retaining people of the highest calibre. Successive reviews of council members’ allowances have been based on two principles. First that there is a distinction between councillors and local authority officers. The role of councillors is to set the broad policy direction of councils and represent their communities’ interests, not to manage councils. That is the role of officers. For this reason there has been no link between councillors’ allowances and officers’ salaries. Second, councillors are presumed to be part-time. One effect of the Government’s proposals for introducing new political management arrangements may be that members of councils’ executives will have to devote more time to council business. I envisage that in Wales these roles will continue to be part-time, but this is something that councils and the Assembly must keep under review.

Pwnc y ddadl heddiw yw lwfansau cynghorwyr. Nid oes trefn o gwbl ar y mater hwn, fel y dywedodd Jenny Randerson. Heddiw yr ydym yn cael cyfle i gael dull gweithredu unffurf. Dyna’r ochr gadarnhaol i hyn. Mae pennu lwfansau’n fater anodd nad yw’n rhoi boddhad i neb. Pa bynnag lefel o lwfansau a delir i aelodau cyngor etholedig, bydd yn ormod yng ngolwg rhai pobl, ac yn wyneb yr ymrwymiad amser sydd yn gysylltiedig, yn rhy isel ym marn eraill. Pwrpas lwfansau cynghorwyr yw eu digolledu am yr amser a roddant i ddyletswyddau’r cyngor ac unrhyw dreuliau a wynebir wrth ymgymryd â’r dyletswyddau hynny. Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddent yn sicrhau bod modd i gynghorau ddenu aelodau o’r dewis ehangaf posibl o’r cyhoedd, gan ddenu a chadw pobl o’r radd flaenaf. Mae adolygiadau olynol o lwfansau aelodau cyngor yn seiliedig ar ddwy egwyddor. Yn gyntaf, bod gwahaniaeth rhwng cynghorwyr a swyddogion llywodraeth leol. Rôl cynghorwyr yw pennu cyfeiriad polisi cyffredinol y cynghorau a chynrychioli buddiannau eu cymunedau, nid rheoli cynghorau. Dyna rôl y swyddogion. Oherwydd hynny ni fu cysylltiad rhwng lwfansau cynghorwyr a chyflogau swyddogion. Yn ail, rhagdybir bod cynghorwyr yn rhan-amser. Mae’n bosibl mai un o effeithiau cynigion y Llywodraeth i gyflwyno trefniadau rheoli gwleidyddol newydd fydd y rheidrwydd i aelodau adrannau gweithredol y cynghorau roi mwy o amser i fusnes y cyngor. Rhagwelaf y bydd y rolau hyn yn parhau’n rhai rhan-amser yng Nghymru, ond mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i’r cynghorau a’r Cynulliad ei adolygu o hyd.

Since 1995, as Sue Essex mentioned, when the Conservative Government amended the regulations on local authorities’ members’ allowances, it has been for individual councils to set their own allowances. Previous councils were required to have regard to limits determined by central Government. It is right that councils should be allowed to set their allowances and to ensure that what they pay is affordable, reflects the time commitment expected of councillors, and is considered fair by their electorate. The payment of allowances should be subject to local debate. It is important in this respect that councils are mature enough to reflect the public’s views of their proposals.

Ers 1995, fel y soniodd Sue Essex, pan newidiodd y Llywodraeth Geidwadol y rheoliadau ar lwfansau aelodau awdurdodau lleol, mater i gynghorau unigol yw pennu eu lwfansau eu hunain. Yr oedd yn ofynnol i gynghorau blaenorol roi sylw i derfynau a bennwyd gan y Llywodraeth ganol. Mae’n iawn caniatáu i gynghorau bennu eu lwfansau a sicrhau bod yr hyn a dalant yn fforddiadwy, yn adlewyrchu’r ymrwymiad amser a ddisgwylir oddi wrth gynghorwyr, ac yn cael ei ystyried yn deg gan eu hetholwyr. Dylid cael dadl leol ar dalu lwfansau. Mae’n bwysig yn hyn o beth fod cynghorau’n ddigon aeddfed i adlewyrchu barn y cyhoedd ar eu cynigion.

There has been disparity, and since 1995 many councils have arranged for independent reviews of their council members’ allowances. The difficulty they found approving even independent reviews was the reason why individual councils and the Welsh Local Government Association lobbied the Welsh Office for an independent review of council members’ allowances at an all-Wales level. It was commendable for them to have done so. It was always anticipated that it would be left to individual councils to set their own allowances and the recently published report by the working group on members’ allowances has reflected this principle. I must underline that, because that is something on which all authorities answer to their electorates. That is the point and it is reflected in this report.

Bu anghydraddoldeb, ac ers 1995 mae llawer o gynghorau wedi trefnu adolygiadau annibynnol o lwfansau eu haelodau cyngor. Yr anhawster a gawsant wrth gymeradwyo adolygiadau annibynnol hyd yn oed oedd y rheswm pam yr oedd cynghorau unigol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi lobïo’r Swyddfa Gymreig er mwyn cael adolygiad annibynnol o lwfansau aelodau cyngor ar lefel Cymru gyfan. Yr oedd yn beth canmoladwy iddynt wneud hynny. Rhagwelwyd erioed y byddid yn gadael i gynghorau unigol bennu eu lwfansau eu hunain ac yr oedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y gweithgor ar lwfansau aelodau yn adlewyrchu’r egwyddor hon. Rhaid imi bwysleisio hynny, oherwydd mae hynny’n rhywbeth y mae’r holl awdurdodau’n atebol i’w hetholwyr amdano. Dyna’r pwynt ac fe’i hadlewyrchir yn yr adroddiad hwn.

A report was published last Thursday and it sets out a transparent framework by which councillors should set their allowances. It also sets benchmark levels for allowances against which councils and the public can judge the reasonableness or otherwise of the rates that councils set. The report recommends that the basis for calculating councillors’ allowances in Wales should be the average hourly wage rate. This emphasises the link that exists between councillors and the wellbeing of their communities. The report also proposes that rates based on the Welsh average wage should be reduced by one third to reflect the voluntary nature of a councillor’s work. Furthermore the report proposes a limit on the number of councillors receiving special responsibility allowances.

Cyhoeddwyd adroddiad ddydd Iau diwethaf ac mae’n cyflwyno fframwaith tryloyw y dylai cynghorwyr ei ddilyn wrth bennu eu lwfansau. Mae hefyd yn meincnodi lefelau lwfansau y gall cynghorau a’r cyhoedd eu defnyddio i farnu a yw’r cyfraddau a bennir gan gynghorau yn rhesymol. Mae’r adroddiad yn argymell y dylid seilio cyfrif lwfansau cynghorwyr yng Nghymru ar gyfradd awr y cyflog cyfartalog. Mae hynny’n pwysleisio’r cysylltiad sydd rhwng cynghorwyr a lles eu cymunedau. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid lleihau’r cyfraddau a seilir ar y cyflog cyfartalog yng Nghymru o un rhan o dair er mwyn adlewyrchu natur wirfoddol gwaith y cynghorydd. At hynny, mae’r adroddiad yn awgrymu gosod terfyn ar nifer y cynghorwyr sydd yn derbyn lwfansau cyfrifoldeb arbennig.

I emphasise that councils must pay from their existing resources if they choose to implement the report’s recommendations. There will be no new money, so councils must consider this carefully as any increases in the allowances will have to be considered in the context of the authority’s overall budget. However, it should be remembered that councillors’ allowances make up a tiny proportion of a local government’s total budget.

Pwysleisiaf fod rhaid i gynghorau dalu o’u hadnoddau presennol os dewisant weithredu argymhellion yr adroddiad. Ni fydd arian newydd, felly rhaid i’r cynghorau ystyried hyn yn ofalus gan y bydd yn rhaid ystyried unrhyw gynnydd yn y lwfansau yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol yr awdurdod. Fodd bynnag, dylid cofio nad yw lwfansau cynghorwyr ond yn gyfran fach iawn o gyllideb gyfan llywodraeth leol.

I do not intend to go through the report’s recommendations in detail. Copies of the working group’s report are available for inspection in the Assembly’s Library and I will provide them to any member on request. The report is clear, comprehensive, and highlights the issues that all local authorities should address when setting and administering their allowances. I am grateful to Professor George Boyne of Cardiff Business School, who chaired the working group, and to the other group members for what is a landmark study that will be of great benefit to local government and to Wales. I hope councils will use the report and its recommendations as a guide. It is a key document for modernising local government and in terms of good governance. I am sure that the public will expect all councils to have considered its recommendations carefully.

Ni fwriadaf fynd drwy argymhellion yr adroddiad yn fanwl. Mae copïau o adroddiad y gweithgor ar gael i’w harchwilio yn Llyfrgell y Cynulliad ac fe’u darparaf i unrhyw Aelod ar ei gais. Mae’r adroddiad yn eglur, yn gynhwysfawr, ac yn tynnu sylw at y materion y dylai pob awdurdod lleol ymdrin â hwy wrth bennu a gweinyddu eu lwfansau. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Athro George Boyne o Ysgol Fusnes Caerdydd, oedd yn gadeirydd ar y gweithgor, ac i aelodau eraill y grŵp am yr hyn sydd yn astudiaeth o bwys a fydd o fudd mawr i lywodraeth leol ac i Gymru. Gobeithiaf y bydd y cynghorau’n defnyddio’r adroddiad a’i argymhellion fel arweiniad. Mae’n ddogfen allweddol er mwyn moderneiddio llywodraeth leol ac o ran trefn llywodraeth dda. Yr wyf yn sicr y bydd y cyhoedd yn disgwyl i’r holl gynghorau ystyried ei argymhellion yn ofalus.

Dafydd Elis-Thomas Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 97

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 97

Dyna ddiwedd y cyfarfod heddiw. Diolchaf i’r Aelodau am eu cydweithrediad.

That is the end of today’s session. I thank Members for their co-operation.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.30 p.m.

The session ended at 5.30 p.m.