Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Iau 28 Mehefin 2001

Thursday 28 June 2001

DechreuoddMet 09:05 · Daeth i benRose 12:36

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Cwestiynau ar Lywodraeth Leol i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a ChymunedauQuestions on Local Government to the Minister for Finance, Local Government and Communities
    1. 3Cysylltiad Rhwng Tai ac Allgáu CymdeithasolConnection between Housing and Social Exclusion
    2. 4Y Rhaglen Ymchwil TaiHousing Research Programme
    3. 6Etholiadau Llywodraeth LeolLocal Government Elections
    4. 7Cynnal a Chadw Tai CyngorMaintaining Council Houses
    5. 8Trosglwyddo Stoc TaiHousing Stock Transfer
    6. 10Moderneiddio mewn Llywodraeth LeolModernisation in Local Government
    7. 11Allgáu Cymdeithasol ymysg Pobl IfancSocial Exclusion among Young People
    8. 13Etholiadau ar gyfer Cynghorau Tref a ChymunedTown and Community Council Elections
    9. 13Strwythurau Amgen Pwyllgorau (Llywodraeth Leol)Enhanced Committee Structures (Local Government)
  2. 14Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr AmgylcheddQuestions to the Minister for Environment
    1. 14Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (Statws Cadwraethol)Sites of Special Scientific Interest (Conservation Status)
    2. 16Lliniaru Sŵn o’r Draffordd yn Ardal Port TalbotAbating Motorway Noise in the Port Talbot Area
    3. 18Dyfodol Safleoedd Tirlenwi yng NghymruFuture of Landfill Sites in Wales
    4. 19Strategaeth Wastraff ar gyfer Cymru GyfanAll-Wales Waste Strategy
    5. 22Annog y Defnydd o Bren o GymruEncouraging the Use of Welsh Timber
    6. 23Cyfoethogi BioamrywiaethEnhancing Biodiversity
  3. 25Datganiad ar Fagloriaeth GymreigStatement on a Welsh Baccalaureate
  4. 41Datganiad ar Ariannu’r Cytundeb PartneriaethStatement on Funding the Partnership Agreement
  5. 63Datganiad gan y LlywyddStatement by the Presiding Officer
  6. 64Datganiad gan y TrefnyddStatement by the Minister for Assembly Business
  7. 65Y Loteri yng NghymruThe Lottery in Wales 6 o bleidleisiau6 votes
  8. 93Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  9. 94Dadl FerShort Debate
    1. 94Yr Amcan Cyntaf–Amcan 1First Objective—Objective 1

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Y Loteri yng NghymruThe Lottery in Wales
Gwelliant 1Amendment 118028GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 27040GwrthodwydRejected
Gwelliant 3Amendment 371129GwrthodwydRejected
Gwelliant 4Amendment 44601DerbyniwydAdopted
Gwelliant 5Amendment 54600DerbyniwydAdopted
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion4700DerbyniwydAdopted
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion4600DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 9.05 a.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 9.05 a.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Cwestiynau ar Lywodraeth Leol i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Questions on Local Government to the Minister for Finance, Local Government and Communities

Cysylltiad Rhwng Tai ac Allgáu Cymdeithasol

Connection between Housing and Social Exclusion

C1 David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Q1 David Lloyd spoken in Welsh p. 3

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cysylltiad rhwng tai ac allgáu cymdeithasol? (OAQ12189)

Will the Minister make a statement on the connection between housing and social exclusion? (OAQ12189)

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 3

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 3

Our consultation paper, ‘Better Homes for People in Wales’, recognises the links between housing and social exclusion and sets out the Assembly’s proposals to combat all elements of multiple deprivation through an integrated and multi-agency approach.

Mae ein papur ymgynghorol, ‘Tai Gwell i Bobl yng Nghymru’, yn cydnabod y cysylltiad rhwng tai ac allgáu cymdeithasol ac yn nodi cynigion y Cynulliad i oresgyn pob elfen o aml-amddifadedd drwy ymagwedd integredig ac aml-asiantaeth.

David Lloyd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

David Lloyd spoken in Welsh p. 3

Datganaf fy muddiant arferol fel meddyg teulu a chynghorydd sir. Pa gynlluniau sydd gennych, fel Gweinidog, i ddeddfu i wella cyflwr tai y sector rhentu preifat, ac felly lleihau’r iechyd gwael sydd yn deillio o gyflwr tai gwael?

I declare my usual interest as a general practitioner and a county councillor. What are your plans, as Minister, to legislate to improve housing conditions in the privately rented sector, thereby reducing the ill-health that stems from poor housing?

Edwina Hart spoken in English p. 3

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 3

It is essential that we tackle poor housing conditions, particularly in the private sector. We must consider licensing houses in multiple occupation, renovation strategies and raising the level of investment. It is worth having a policy of ongoing discussions with various organisations to try to make progress on this matter.

Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â thai mewn cyflwr gwael, yn arbennig yn y sector preifat. Rhaid inni ystyried trwyddedu tai amlbreswyliaeth, strategaethau adnewyddu a chodi lefelau buddsoddi. Mae’n werth cael polisi o drafodaethau parhaus gyda sefydliadau amrywiol i geisio gwneud cynnydd ar y mater hwn.

John Griffiths spoken in English p. 3

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 3

Good quality housing in good repair is vital for quality of life in Wales. Bad housing undermines our policies for better health and education and social inclusion. Given the importance of housing, do you agree that we must try to find substantial additional resources from our budget for housing in Wales?

Mae tai o ansawdd da mewn cyflwr da yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd yng Nghymru. Mae tai gwael yn tanseilio ein polisïau ar gyfer gwell iechyd ac addysg a chynhwysedd cymdeithasol. O gofio pwysigrwydd tai, a gytunwch fod angen inni geisio dod o hyd i adnoddau ychwanegol sylweddol o’n cyllideb ar gyfer tai yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 3

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 3

Capital provision for housing will increase by £40 million over the next three years. However, housing remains a priority and it will be discussed in the Local Government and Housing Committee when it considers its requirements for this budget round.

Bydd darpariaeth cyfalaf ar gyfer tai yn cynyddu £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, mae tai yn parhau’n flaenoriaeth a chaiff y pwnc ei drafod yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai pan ystyria ei anghenion ar gyfer y cylch cyllideb hwn.

William Graham spoken in English p. 4

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 4

What progress is being made towards establishing a register of houses adapted for the disabled in Wales?

Pa gynnydd a wneir tuag at sefydlu cofrestr o dai a addaswyd ar gyfer yr anabl yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 4

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 4

You raise an exceptionally important point. Through such a register we could see what is happening on this issue. Identifying progress, in conjunction with local authorities, is a priority for us, as is identifying the housing associations’ priorities. I will advise the Local Government and Housing Committee of any progress made.

Fe godwch bwynt hynod bwysig. Drwy gofrestr o’r fath, gallem weld beth sydd yn digwydd ar y mater hwn. Mae nodi cynnydd, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol yn flaenoriaeth gennym, yn ogystal â nodi blaenoriaethau’r cymdeithasau tai. Rhoddaf wybod i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am unrhyw gynnydd a wneir.

Eleanor Burnham spoken in English p. 4

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 4

Does the Minister share my concern at the failure of the UK Government to include proposed legislation for the licensing of houses in multiple occupation in the Queen’s Speech? How is she pressing the Government to pursue that issue? What advice can she offer those of my constituents in north Wales who are living in sub-standard, privately rented accommodation?

A yw’r Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn â methiant Llywodraeth y DU i gynnwys y ddeddfwriaeth arfaethedig ar drwyddedu tai amlbreswyliaeth yn Araith y Frenhines? Ym mha fodd y mae hi’n pwyso ar y Llywodraeth i ganlyn y mater hwnnw? Pa gyngor y gall hi ei gynnig i’m hetholwyr yng ngogledd Cymru sydd yn byw mewn llety eilradd, preifat wedi ei rentu?

Edwina Hart spoken in English p. 4

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 4

I think that there is agreement across the Chamber that we would have liked such legislation. I will continue to make the necessary representations to Government Ministers. The Queens’ Speech only applies to this year. We will have the opportunity to table the necessary legislation during the term of Parliament.

Credaf fod cytundeb ar draws y Siambr y byddem wedi dymuno cael deddfwriaeth o’r fath. Byddaf yn parhau i gyflwyno’r sylwadau angenrheidiol i Weinidogion y Llywodraeth. Ar gyfer y flwyddyn hon yn unig y mae Araith y Frenhines yn berthnasol. Cawn gyfle i gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn ystod tymor y Senedd.

Y Rhaglen Ymchwil Tai

Housing Research Programme

C2 Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 4

Q2 Gareth Jones spoken in Welsh p. 4

Beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer rhaglen ymchwil tai Cynulliad Cenedlaethol Cymru? (OAQ12193)

What are the priorities for the National Assembly for Wales’s housing research programme? (OAQ12193)

Edwina Hart spoken in English p. 4

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 4

The main priority is to provide the evidence needed to support the development of the national housing strategy. Each of the research recommendations contained in ‘Better Homes for People in Wales’, our proposal for the national housing strategy, have been considered by a housing research advisory panel. Most projects commissioned to date have been in response to its advice.

Y brif flaenoriaeth yw cyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol i ategu datblygiad y strategaeth dai genedlaethol. Cafodd pob un o’r argymhellion ymchwil a gynhwysir yn ‘Tai Gwell i Bobl yng Nghymru’, ein cynnig ar gyfer y strategaeth dai genedlaethol, eu hystyried gan banel ymgynghori ymchwil tai. Comisiynwyd y rhan fwyaf o’r prosiectau hyd yma mewn ymateb i’w gyngor.

The housing research programme is also used to part-fund local authorities to carry out housing need assessments and condition surveys of their own stock on the basis of the good practice guidance that we have issued.

Defnyddir y rhaglen ymchwil tai hefyd i ran-ariannu awdurdodau lleol i gynnal asesiadau anghenion tai ac arolygon ansawdd o’u stoc eu hunain ar sail y canllawiau arfer da a gyhoeddwyd gennym.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 5

Gareth Jones spoken in Welsh p. 5

Un o argymhellion amlycaf adroddiad tasglu tai gwledig Plaid Cymru oedd yr angen brys am waith ymchwil lleol a chenedlaethol ar yr angen am dai a chyflwr tai. Mae’n anodd cynllunio polisïau tai ar gyfer y dyfodol gyda chyn lleied o wybodaeth am y sefyllfa bresennol yng Nghymru. Ni allwn fynd i’r afael â phroblemau cenedlaethol na lleol heb dystiolaeth ddibynadwy. Rhaid cynnal ymchwil drwy Gymru gyfan fel y gellid cymharu ardaloedd yn deg. A wnaiff y Gweinidog sicrhau y cawn ddarlun cyflawn o’r angen am dai a chyflwr tai Cymru yn fuan?

One of the clearest recommendations of Plaid Cymru’s rural housing taskforce report was the urgent need for local and national research on the need for housing and the condition of housing. It is difficult to plan future housing policies with so little information about the current situation in Wales. We cannot tackle local or national problems without reliable evidence. Research should be conducted across Wales so that areas can be compared fairly. Will the Minister assure us that we will soon have a full picture of the need for housing and the condition of Welsh housing?

Edwina Hart spoken in English p. 5

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 5

I am mindful of your report’s contents. I am hoping to increase the membership of the housing research advisory panel, which has been discussing such issues with other bodies. We can then identify what further housing research the Assembly needs, particularly in light of the ongoing developments in housing.

Yr wyf yn ymwybodol o gynnwys eich adroddiad. Gobeithiaf gynyddu aelodaeth y panel ymgynghori ymchwil tai, a fu’n trafod materion o’r fath â chyrff eraill. Yna, gallwn nodi pa ymchwil tai ychwanegol sydd ei angen ar y Cynulliad, yn arbennig yng ngoleuni’r datblygiadau cynyddol ym maes tai.

David Melding spoken in English p. 5

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 5

Do you agree, Minister, that we must monitor constantly and discover more information about housing stock designed for people who are either frail and elderly or disabled? It shocks me sometimes when I see housing that was built specifically for elderly people only 20 years ago that often does not have a shower and has steps to get into the building and so on.

A gytunwch, Weinidog, fod yn rhaid inni ganfod mwy o wybodaeth am stoc tai a gynlluniwyd ar gyfer pobl sydd naill ai’n fregus ac oedrannus neu’n anabl a bod yn rhaid inni fonitro hyn yn barhaus? Mae’n fy nychryn weithiau pan welaf dai a adeiladwyd yn benodol ar gyfer pobl oedrannus ond 20 mlynedd yn ôl nad oes cawod ynddynt yn aml ac sydd â grisiau i fynd i mewn i’r adeilad ac ati.

Edwina Hart spoken in English p. 5

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 5

That issue concerns the Committee. We have considered homes for life and the fact that such homes can now be built. That is a consideration. I agree, David, that people should consider, at the early stages of planning, what homes are for and what their future use will be. I will continue to monitor that.

Mae’r mater hwnnw yn bryder i’r Pwyllgor. Yr ydym wedi ystyried cartrefi am oes a’r ffaith y gellir adeiladu’r cyfryw gartrefi bellach. Mae hynny yn ystyriaeth. Cytunaf, David, y dylai pobl ystyried, yn ystod camau cyntaf cynllunio, beth yw pwrpas cartrefi a beth fydd eu defnydd yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i fonitro hynny.

Etholiadau Llywodraeth Leol

Local Government Elections

Q3 Lorraine Barrett spoken in English p. 6

C3 Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 6

Will the Minister make a statement on the date for the next local government elections in Wales? (OAQ12203)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y dyddiad ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yng Nghymru? (OAQ12203)

Edwina Hart spoken in English p. 6

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 6

After extensive consultation, I announced in my report to the Local Government and Housing Committee on 2 May my intention to delay the next local elections in Wales for one year to May 2004. That requires an Order to be brought before the Assembly for approval, which is timetabled for discussion on 19 July.

Ar ôl ymgynghori’n eang, cyhoeddais yn fy adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 2 Mai fy mwriad i ohirio’r etholiadau lleol nesaf yng Nghymru am flwyddyn i Fai 2004. Mae angen cyflwyno Gorchymyn i’r Cynulliad ar hynny i’w gymeradwyo, sydd wedi ei amserlennu ar gyfer trafodaeth ar 19 Gorffennaf.

Lorraine Barrett spoken in English p. 6

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 6

In reaching your decision, did you consider the problems faced by returning officers in 1999, in having to deal with local government and Assembly elections on the same day, particularly given the element of proportional representation?

Wrth wneud eich penderfyniad, a ystyrioch y problemau a oedd yn wynebu’r swyddogion canlyniadau yn 1999, wrth orfod ymdrin ag etholiadau llywodraeth leol a’r Cynulliad ar yr un diwrnod, yn arbennig o gofio’r elfen o gynrychiolaeth gyfrannol?

Edwina Hart spoken in English p. 6

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 6

A particular focus of the consultation was the view of returning officers. They made it clear that they did not want to repeat the experience of managing the local authority and Assembly elections simultaneously. That is my reason for making this recommendation to the Assembly on 19 July.

Un ffocws arbennig i’r ymgynghoriad oedd barn y swyddogion canlyniadau. Gwnaethant yn amlwg nad oeddent am ailadrodd y profiad o reoli etholiadau llywodraeth leol a’r Cynulliad ar yr un pryd. Dyna fy rheswm dros wneud yr argymhelliad hwn i’r Cynulliad ar 19 Gorffennaf.

David Davies spoken in English p. 6

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 6

Do you agree that all who partake in local government elections must uphold election law? Will you investigate the legality of the Liberal Democrat document I have here, which was found in the Assembly? On page 2, it suggests that candidates should falsify the dates on election returns and, on page 11, suggests that if election returns are over the legal limit:

A gytunwch y dylai pawb sydd yn cymryd rhan mewn etholiadau llywodraeth leol gadw at y gyfraith etholiadau? A gynhaliwch ymchwiliad i gyfreithlondeb dogfen gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennyf yma, a ddarganfuwyd yn y Cynulliad? Ar dudalen 2, awgryma y dylai ymgeiswyr ffugio dyddiadau ar y ffurflenni etholiad, ac ar dudalen 11, awgryma os yw ffurflenni etholiad dros y rhif cyfreithlon:

‘it might be necessary to find an alternative way of splitting the returns, which is equally reasonable.’

Is that document legal, and should it have been distributed in this fashion?

A yw’r ddogfen honno yn gyfreithlon, ac a ddylai fod wedi ei dosbarthu yn y modd hwn?

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 6

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 6

Order. It is not clear that that question refers to local government.

Trefn. Nid yw’n glir fod y cwestiwn hwnnw yn cyfeirio at lywodraeth leol.

David Davies spoken in English p. 7

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 7

It refers to the standards that I am sure the Llywydd would expect Assembly Members to maintain in local government elections.

Mae’n cyfeirio at y safonau yr wyf yn siŵr y byddai’r Llywydd yn disgwyl i Aelodau’r Cynulliad eu cynnal mewn etholiadau llywodraeth leol.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 7

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 7

I rule that that question does not relate to local government because you are clearly unable to give me an assurance that it does.

Dyfarnaf nad yw’r cwestiwn hwnnw yn cyfeirio at lywodraeth leol gan nad ydych yn amlwg yn gallu fy sicrhau ei fod.

Janet Ryder spoken in English p. 7

Janet Ryder siaradwyd yn Saesneg t. 7

I declare an interest as a member of a town council. Minister, you talked about the date of the next county council elections. Will you confirm the date of the next town and community council elections? There may be uncertainty about whether they will be held with Assembly, European Parliament or county council elections.

Datganaf fuddiant fel aelod o gyngor tref. Weinidog, soniasoch am ddyddiad yr etholiadau cyngor sir nesaf. A gadarnhewch ddyddiad yr etholiadau cyngor tref a chymuned nesaf? Efallai y ceir ansicrwydd ynghylch pa un a’u cynhelir gydag etholiadau’r Cynulliad, Senedd Ewrop ynteu etholiadau cyngor sir.

Edwina Hart spoken in English p. 7

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 7

They will be held with the county council elections.

Fe’u cynhelir gydag etholiadau cyngor sir.

Cynnal a Chadw Tai Cyngor

Maintaining Council Houses

Q4 Owen John Thomas spoken in English p. 7

C4 Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 7

What discussions has the Minister had with Ministers in the Westminster Government regarding measures, other than the private finance initiative, of maintaining council houses? (OAQ12210)

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth San Steffan ynghylch dulliau eraill, ar wahân i’r fenter cyllid preifat, o gynnal a chadw tai cyngor? (OAQ12210)

Edwina Hart spoken in English p. 7

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 7

It is important to say that I have pressed for a change in the rules on the public sector borrowing requirement, and continue to do so, but I am not hopeful of success. I am currently seeking the Treasury’s agreement that borrowing by local authority controlled housing companies in Wales should not count against the Assembly’s budget. When this issue was brought before the Treasury previously, it took a robust line against any change. I continue to seek agreement from the Treasury that Wales be given the same deal as England on funding overhanging debt, which I know is a concern of many local authorities.

Mae’n bwysig dweud fy mod wedi pwyso am newid i’r rheolau ar ofyniad benthyca’r sector cyhoeddus, ac yn parhau i wneud hynny, ond nid wyf yn disgwyl llwyddiant. Yr wyf ar hyn o bryd yn ceisio cael cytundeb y Trysorlys na ddylai benthyciadau gan gwmnïau tai dan reolaeth awdurdodau lleol yng Nghymru gyfrif yn erbyn cyllideb y Cynulliad. Pan gyflwynwyd y mater hwn gerbron y Trysorlys yn flaenorol, yr oedd yn gadarn yn erbyn unrhyw newid. Yr wyf yn parhau i geisio cael cytundeb gan y Trysorlys y caiff Cymru yr un driniaeth â Lloegr ar gyllido dyled fargod, sydd yn bryder i lawer o awdurdodau lleol mi wn.

On a more positive note, I am pleased that the Assembly has been able to suspend the large-scale voluntary transfer levy for Wales for three years. That will benefit those local authorities that wish to explore stock transfer as a means of meeting their outstanding repair responsibilities.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, yr wyf yn falch fod y Cynulliad wedi gallu gohirio’r ardoll trosglwyddo gwirfoddol mawr ar gyfer Cymru am dair blynedd. Bydd hynny o fudd i’r awdurdodau lleol hynny sydd yn dymuno archwilio trosglwyddo stoc fel modd o gwrdd â’r cyfrifoldebau atgyweirio sydd yn weddill ganddynt.

Owen John Thomas spoken in English p. 8

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 8

Given that your discussions with Westminster included trying to get it to change the public sector borrowing requirement to enable local authorities to maintain their housing stock, do you expect that it will agree to do so soon?

O gofio fod eich trafodaethau â San Steffan yn cynnwys ceisio ei gael i newid gofyniad benthyca’r sector cyhoeddus i alluogi awdurdodau lleol i gynnal eu stoc tai, a ddisgwyliwch y cytuna i wneud hynny yn fuan?

Edwina Hart spoken in English p. 8

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 8

I will continue to press the case and have discussions. I will make further decisions regarding this when I outline the housing strategy later this term.

Byddaf yn parhau i bwyso’r achos a chynnal trafodaethau. Gwnaf benderfyniadau pellach ynglŷn â hyn pan amlinellaf y strategaeth dai yn ddiweddarach y tymor hwn.

Alun Cairns spoken in English p. 8

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 8

Does the Minister agree that the private finance initiative is an excellent, innovative initiative in attracting private investment to public services? Will the Government of Wales show the same enthusiasm towards involving the private sector in delivering public services as Westminster seems to show?

A gytuna’r Gweinidog fod y fenter cyllid preifat (PFI) yn fenter arloesol, ardderchog i ddenu buddsoddiad preifat i wasanaethau cyhoeddus? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddangos yr un brwdfrydedd ag yr ymddengys y mae San Steffan yn ei ddangos tuag at gynnwys y sector preifat wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?

Edwina Hart spoken in English p. 8

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 8

I will consider whether PFI is a suitable or useful tool for use in Wales. It is essential that we recognise that we have control over health and education in Wales. Decisions on private capital will be made by Assembly Ministers, according to the right option for Wales at the time.

Ystyriaf a fydd PFI yn arf addas neu ddefnyddiol i Gymru. Mae’n hanfodol inni gydnabod fod gennym reolaeth dros iechyd ac addysg yng Nghymru. Gwneir penderfyniadau ar gyfalaf preifat gan Weinidogion y Cynulliad, yn unol â’r opsiwn cywir ar gyfer Cymru ar y pryd.

Trosglwyddo Stoc Tai

Housing Stock Transfer

Q5 Janice Gregory spoken in English p. 8

C5 Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 8

Will the Minister give a brief update on the issue of housing stock transfer in Wales? (OAQ12240)

A wnaiff y Gweinidog roi’r diweddaraf yn fyr ar fater trosglwyddo’r stoc tai yng Nghymru? (OAQ12240)

Edwina Hart spoken in English p. 8

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 8

I refer you to the formal statement on housing stock transfer, which I made last November to the Local Government and Housing Committee, about our policy on the possible transfer of local authority housing stock to registered social landlords. That clarifies the Assembly’s position that stock transfer is one option available to local authorities in tackling the backlog of repairs and improvements to council houses.

Fe’ch cyfeiriaf at y datganiad ffurfiol ar drosglwyddo stoc tai, a wneuthum fis Tachwedd diwethaf i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ar ein polisi ar y posibilrwydd o drosglwyddo stoc tai llywodraeth leol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae hwnnw yn egluro safbwynt y Cynulliad fod trosglwyddo stoc yn un opsiwn sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ymdrin â’r ôl-groniad o waith atgyweirio a gwelliannau i dai cyngor.

The Local Government and Housing Committee’s report ‘Policy Review of Housing Stock Transfer: Final Report’, was debated in Plenary on 24 May. This report contains 30 recommendations, to which I intend making a formal response after considering the national housing strategy report that will be debated in Plenary on 12 July.

Cynhaliwyd dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ‘Adolygiad Polisi o Drosglwyddo Stoc Tai: Adroddiad Terfynol’, mewn Cyfarfod Llawn ar 24 Mai. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys 30 o argymhellion, y bwriadaf gyflwyno ymateb ffurfiol iddynt ar ôl ystyried adroddiad y strategaeth dai genedlaethol y cynhelir dadl arno mewn Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf.

Janice Gregory spoken in English p. 9

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 9

Have any local authorities indicated that they wish to consider stock transfer?

A ddangosodd unrhyw awdurdod lleol ei fod yn dymuno ystyried trosglwyddo stoc?

Edwina Hart spoken in English p. 9

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 9

Several local authorities are considering stock transfer, including Rhondda Cynon Taff, Denbighshire, Bridgend and Wrexham. I am aware of this from discussions that they have had with my officials. It is an option that some are considering in light of the problems with council house repairs.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn ystyried trosglwyddo stoc, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam. Yr wyf yn ymwybodol o hyn yn sgîl y trafodaethau a gawsant gyda’m swyddogion. Mae’n opsiwn y mae rhai yn ei ystyried yng ngoleuni’r problemau gydag atgyweirio tai cyngor.

Janet Davies spoken in English p. 9

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

Since 1925, various Governments have penny pinched on the provision of council housing, leaving us to deal with structural and other problems. What assurances, if any, can you give that stock transfer will not pass financial problems on to the next generation of Government and that it will give value for money in the long term?

Ers 1925, bu Llywodraethau amrywiol yn gybyddlyd o ran y ddarpariaeth tai cyngor, gan ein gadael ni i ymdrin â phroblemau strwythurol a phroblemau eraill. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, os o gwbl, na fydd trosglwyddo stoc yn trosglwyddo problemau ariannol i’r genhedlaeth nesaf o Lywodraeth ac y bydd yn rhoi gwerth am arian yn yr hirdymor?

Edwina Hart spoken in English p. 9

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 9

Value for money and burdening future generations are some of the essential questions that we must consider in relation to stock transfer. However, there must also be pragmatic realisation that if I cannot do anything about the public sector borrowing requirement rules, local authorities have limited options on this issue. Did you say 1925, Janet? We probably still operated on the gold standard at that time.

Gwerth am arian a rhoi baich ar genedlaethau’r dyfodol yw rhai o’r cwestiynau hanfodol y mae’n rhaid inni eu hystyried mewn perthynas â throsglwyddo stoc. Fodd bynnag, rhaid sylweddoli os na allaf wneud unrhyw beth ynglŷn â rheolau gofyniad benthyca’r sector cyhoeddus, yn ymarferol mae opsiynau awdurdodau lleol yn gyfyngedig iawn ar y mater hwn. A ddywedasoch 1925, Janet? Mae’n debyg ein bod yn dal i weithredu yn ôl y safon aur ar y pryd.

Nick Bourne The Leader of the Welsh Conservatives spoken in English p. 9

Nick Bourne Arweinydd Ceidwadwyr Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

Will you confirm that you are doing all you can to facilitate stock transfer to social landlords for those local authorities that are keen to do that? I am meeting officers from Carmarthenshire local authority this evening, and there has been some doubt about whether you are as Thatcherite as your predecessor, Peter Law, who drew up a Thatcherite policy of stock transfer. Will you confirm whether you are as Thatcherite as he was? [CONSERVATIVE ASSEMBLY MEMBERS: ‘Hear, hear.’]

A wnewch chi gadarnhau eich bod yn gwneud popeth posibl i hwyluso’r broses o drosglwyddo stoc i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer yr awdurdodau lleol sydd yn awyddus i wneud hynny? Yr wyf yn cwrdd â swyddogion awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin heno, a bu ychydig o amheuaeth pa un a ydych mor Thatcheraidd â’ch rhagflaenydd, Peter Law, a luniodd bolisi Thatcheraidd o drosglwyddo stoc. A wnewch chi gadarnhau pa un a ydych mor Thatcheraidd ag yr oedd ef? [AELODAU CEIDWADOL Y CYNULLIAD: ‘Clywch, clywch.’]

Edwina Hart spoken in English p. 10

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 10

I have said that it is an option and my officials are in discussion with local authorities to help them. The Local Government and Housing Committee has discussed major issues about stock transfer, particularly the rights of tenants. We must ensure that everything is fulfilled correctly, so that we can protect individuals when we consider this option.

Dywedais ei fod yn opsiwn ac mae fy swyddogion mewn trafodaethau ag awdurdodau lleol i’w helpu. Trafododd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai brif faterion yn ymwneud â throsglwyddo stoc, yn arbennig hawliau tenantiaid. Rhaid inni sicrhau y cyflawnir popeth yn gywir, fel y gallwn amddiffyn unigolion wrth ystyried yr opsiwn hwn.

Moderneiddio mewn Llywodraeth Leol

Modernisation in Local Government

Q6 David Melding spoken in English p. 10

C6 David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 10

Will the Minister make a statement on the administration’s programme of modernisation in local government? (OAQ12273)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar raglen y weinyddiaeth o foderneiddio mewn llywodraeth leol? (OAQ12273)

Edwina Hart spoken in English p. 10

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 10

I have put in place the key building blocks for the modernisation of local government. They include provision for community strategies to enable local authorities to work with their partners and local communities to improve the economic, social and environmental wellbeing of their areas. Last week, I introduced a package of measures, which will include a requirement for councils to introduce new political management structures, council constitutions and a new ethical framework. These radical root and branch reforms will strengthen local democracy by engaging with our communities, improving openness and accountability and ensuring the highest standards of conduct in local government.

Yr wyf wedi gosod y meini adeiladu allweddol yn eu lle ar gyfer moderneiddio llywodraeth leol. Maent yn cynnwys darpariaeth ar gyfer strategaethau cymunedol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gydweithio â phartneriaid a chymunedau lleol i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd. Yr wythnos diwethaf, cyflwynais becyn o fesurau a fydd yn cynnwys rheidrwydd ar gynghorau i gyflwyno strwythurau rheoli gwleidyddol newydd, cyfansoddiadau cyngor a fframwaith moesegol newydd. Bydd y diwygiadau o’r bôn i’r brig radical hyn yn cryfhau democratiaeth leol drwy gysylltu â’n cymunedau, gwella natur agored ac atebolrwydd a sicrhau’r safonau uchaf o ymddygiad mewn llywodraeth leol.

David Melding spoken in English p. 10

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 10

Do you agree that your administration should be congratulated on the robust way in which standards committees have been set up in local authorities? There is much for us to consider and, perhaps, emulate, including the fact that committee members are being drawn from the community, instead of just from among councillors. Is it not essential, however, that the political parties respect the right of those committee members to act in a non-partisan fashion?

A gytunwch chi y dylid llongyfarch eich gweinyddiaeth ar y ffordd gadarn y sefydlwyd pwyllgorau safonau mewn awdurdodau lleol? Mae llawer inni ei ystyried ac, efallai, efelychu, gan gynnwys y ffaith fod aelodau’r pwyllgor yn cael eu dwyn o’r gymuned, yn hytrach nag o blith cynghorwyr yn unig. Fodd bynnag, onid yw’n hanfodol fod y pleidiau gwleidyddol yn parchu hawl yr aelodau pwyllgor hynny i weithredu mewn modd amhleidiol?

Edwina Hart spoken in English p. 11

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 11

I concur with you, because otherwise the public cannot have confidence in standards committees. The debate on standards committees last week was refreshing. William Graham outlined their success in Newport in advance of the legislation dealing with standards committees, and how we have taken the lead on standards in Welsh local government. It is important that the independence of these people is valued. I concur with that and I hope that the whole Chamber agrees with David’s point.

Cytunaf â chi, neu fel arall ni fyddai gan y cyhoedd hyder mewn pwyllgorau safonau. Roedd y ddadl ar bwyllgorau safonau yr wythnos diwethaf yn chwa o awyr iach. Amlinellodd William Graham eu llwyddiant yng Nghasnewydd cyn y ddeddfwriaeth a ymdrinia â phwyllgorau safonau, a’r modd yr ydym wedi arwain y blaen ar safonau mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n bwysig gwerthfawrogi annibyniaeth y bobl hyn. Cytunaf â hynny a gobeithiaf y bydd y Siambr gyfan yn cytuno â phwynt David.

Pauline Jarman spoken in English p. 11

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 11

The modernisation of local government will place additional responsibilities on some councillors. I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council who does not claim any allowances. When do you expect to announce the outcome of the review on councillors’ allowances?

Bydd moderneiddio llywodraeth leol yn gosod mwy o gyfrifoldebau ar rai cynghorwyr. Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, nad yw’n hawlio unrhyw lwfansau. Pryd yr ydych yn bwriadu cyhoeddi canlyniad yr adolygiad o lwfansau cynghorwyr?

Edwina Hart spoken in English p. 11

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 11

I anticipate that I will have a draft report this week.

Rhagwelaf y bydd gennyf adroddiad drafft yr wythnos hon.

Allgáu Cymdeithasol ymysg Pobl Ifanc

Social Exclusion among Young People

C7 Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Q7 Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 11

A yw’r Gweinidog wedi cael trafodaethau yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig a all effeithio ar allgáu cymdeithasol ymysg pobl ifanc yng Nghymru? (OAQ12185)

Has the Minister had discussions recently with the Secretary of State for Wales on United Kingdom legislation that may have an impact on social exclusion among young people in Wales? (OAQ12185)

Edwina Hart spoken in English p. 11

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 11

I discuss this issue in my regular meetings with the Secretary of State for Wales. Partnership with the UK Government is essential to ensure that programmes, such as the New Deal, to tackle exclusion are also discussed by the administration. However, I am mainly concentrating on the Assembly’s programme to tackle social disadvantage, Communities First.

Trafodaf y mater hwn yn fy nghyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae partneriaeth â Llywodraeth y DU yn hanfodol i sicrhau fod rhaglenni, megis y Fargen Newydd, sydd yn bodoli er mwyn mynd i’r afael ag allgáu hefyd yn cael eu trafod gan y weinyddiaeth. Fodd bynnag, canolbwyntiaf yn bennaf ar raglen y Cynulliad i fynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol, Rhoi Cymunedau’n Gyntaf.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 12

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 12

A dderbyniwch mai un broblem sydd yn wynebu pobl ifanc ac sydd yn achosi allgáu cymdeithasol yw’r anhawster i gael lle addas i fyw? A dderbyniwch hefyd fod y gyfundrefn budd-daliadau tai yn effeithio’n ddrwg ar y sefyllfa oherwydd ei bod yn cyfyngu pobl ifanc i rentu un ystafell sengl? A ydych yn ymwybodol bod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin yn argymell newid y rheol hwn? A ydych wedi cael trafodaethau gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i’r diben hwnnw?

Do you accept that one problem facing young people, which causes social exclusion, is the difficulty of finding a suitable place to live? Do you also accept that the housing benefit system has a detrimental effect on the situation as it restricts young people to renting a single room? Are you aware that the report of the House of Commons Select Committee on Welsh Affairs recommended that this regulation be changed? Have you had discussions with the Secretary of State to that end?

Edwina Hart spoken in English p. 12

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 12

I am aware of the comments made in Parliament about this issue. If the Assembly agrees, I am happy to raise that matter.

Yr wyf yn ymwybodol o’r sylwadau a wnaed yn y Senedd ar y mater hwn. Os cytuna’r Cynulliad, yr wyf yn fodlon codi’r mater.

Alison Halford spoken in English p. 12

Alison Halford siaradwyd yn Saesneg t. 12

Will you comment on the link, which the Welsh Affairs Select Committee highlighted in its recent report, between social exclusion, due to poor housing and health, and drug use? Do you welcome the forthcoming Bill to increase the powers against drug money laundering?

A wnewch sylw ar y cysylltiad, a wnaeth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ei adroddiad diweddar, rhwng allgáu cymdeithasol, oherwydd tai a iechyd gwael, â’r defnydd o gyffuriau? A groesawch y Mesur arfaethedig i gynyddu’r pwerau yn erbyn cael arian anghyfreithlon yn sgil cyffuriau?

Edwina Hart spoken in English p. 12

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 12

I welcome the Bill on drug money laundering. The links to which you referred are self-evident. It is important to focus on the solutions to these issues and draw together all necessary strands of funding to tackle them.

Croesawaf y Mesur ar arian anghyfreithlon yn sgil cyffuriau. Mae’r cysylltiadau y cyfeirioch atynt yn amlwg. Mae’n bwysig canolbwyntio ar yr atebion i’r materion hyn a dwyn ynghyd yr holl elfennau ariannu sydd yn angenrheidiol i fynd i’r afael â hwy.

Jonathan Morgan spoken in English p. 12

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 12

One effective way of combating social exclusion is through our education system. Do you agree that your Government’s record on reducing secondary school class-sizes leaves much to be desired?

Un ffordd effeithiol o orchfygu allgáu cymdeithasol yw drwy ein system addysg. A gytunwch na fu record eich Llywodraeth o ran lleihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd yn un llwyddiannus?

Edwina Hart spoken in English p. 12

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 12

This Government’s record on education is first-class. We are adhering to all our manifesto commitments. We are engaging with the education sector and are driving forward to ensure the highest standards in education. Negative comments do not help the general public. When politicians make them, the public is led to believe that there are problems in our schools. In the schools that I visit in my constituency, our policies and the additional money available are welcomed. People recognise that we have to turn around the legacy of previous administrations in order to correct the situation.

Mae record y Llywodraeth hon yn record o’r radd flaenaf. Yr ydym yn cadw at bob un o ymrwymiadau’n maniffesto. Yr ydym yn trafod â’r sector addysg ac yn gyrru ymlaen i sicrhau’r safonau uchaf mewn addysg. Nid yw sylwadau negyddol yn helpu’r cyhoedd. Pan fo gwleidyddion yn eu gwneud, dechreua’r cyhoedd gredu fod problemau yn ein hysgolion. Yn yr ysgolion yr ymwelaf â hwy yn fy etholaeth, croesewir ein polisïau a’r arian ychwanegol sydd ar gael. Mae pobl yn cydnabod fod angen inni wyrdroi’r etifeddiaeth a dderbyniasom gan y gweinyddiaethau blaenorol er mwyn gwella’r sefyllfa.

Etholiadau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned

Town and Community Council Elections

C8 Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Q8 Cynog Dafis spoken in Welsh p. 13

A yw’r Gweinidog wedi rhoi unrhyw arweiniad i awdurdodau lleol o ran amseriad yr etholiadau nesaf ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru? (OAQ12183)

Has the Minister issued any guidance to local authorities regarding the timing of the next town and community council elections in Wales? (OAQ12183)

Edwina Hart spoken in English p. 13

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 13

I have not issued any guidance at this stage, Cynog. The local authority elections will be discussed in Plenary towards the end of the Assembly term. At that stage, depending on the outcome of the vote, I will issue the necessary guidance.

Ni chyhoeddais unrhyw arweiniad hyd yma, Cynog. Trafodir etholiadau awdurdodau lleol mewn Cyfarfod Llawn tua diwedd tymor y Cynulliad. Yr adeg honno, gan ddibynnu ar ganlyniad y bleidlais, cyhoeddaf yr arweiniad angenrheidiol.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 13

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 13

A gytunwch y dylid gwneud penderfyniad ar ddyddiadau’r etholiadau lleol ar sail egwyddor ac ar sail pwysigrwydd sicrhau bod cyfran uchel o bobl yn pleidleisio? A gytunwch hefyd y dylai gwaith llywodraeth leol fynd rhagddo yn llyfn heb i’r etholidadau dorri ar ei draws yn ddiangenrhaid ac na ddylai unrhyw ystyriaethau o ran lles pleidiol effeithio ar y penderfyniad?

Do you agree that a decision on the date of local elections should be taken on the basis of principle and the importance of ensuring that a high percentage of people vote? Do you also agree that the work of local government should proceed smoothly without the elections interrupting it unnecessarily and that party political considerations should not affect the decision?

Edwina Hart spoken in English p. 13

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 13

I agree that the decision should be based on good, solid principles. I am concerned about participation. That is why I will be recommending that the Assembly election, which I regard as a Welsh general election, be held on a separate date. I hope that that will increase participation.

Cytunaf y dylid seilio’r penderfyniad ar egwyddorion da, cadarn. Yr wyf yn bryderus ynglŷn â chyfranogiad. Dyna pam y byddaf yn argymell y cynhelir etholiad y Cynulliad, yr ystyriaf yn etholiad cyffredinol Cymreig, ar ddyddiad gwahanol. Gobeithiaf y bydd hynny yn cynyddu cyfranogiad.

Strwythurau Amgen Pwyllgorau (Llywodraeth Leol)

Enhanced Committee Structures (Local Government)

Q9 Eleanor Burnham spoken in English p. 13

C9 Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 13

What interest has been shown by councils in Wales in adopting the fourth option of the new local government enhanced committee structures? (OAQ12268) [R]

Pa ddiddordeb a ddangoswyd gan gynghorau yng Nghymru i fabwysiadu pedwerydd opsiwn strwythurau amgen newydd pwyllgorau llywodraeth leol? (OAQ12268) [R]

Edwina Hart spoken in English p. 13

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 13

The Assembly approved the regulations on local government reform, which included the fourth option, on 19 June. Local authorities will need to consult before submitting their preferred option for new political structures by January 2002. It is, therefore, too early to gauge the extent of interest in this option.

Cymeradwyodd y Cynulliad y rheoliadau ar ddiwygio llywodraeth leol, a oedd yn cynnwys y pedwerydd opsiwn, ar 19 Mehefin. Bydd angen i awdurdodau lleol ymgynghori cyn cyflwyno’u hopsiwn dewisol ar gyfer strwythurau gwleidyddol newydd erbyn Ionawr 2002. Felly mae’n rhy fuan i fesur graddau’r diddordeb yn yr opsiwn hwn.

Eleanor Burnham siaradwyd yn Gymraeg t. 14

Eleanor Burnham spoken in Welsh p. 14

Diolch. Nid wyf wedi paratoi cwestiwn atodol.

Thank you. I have not prepared a supplementary question.

William Graham spoken in English p. 14

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 14

Minister, do you agree that the fourth option is not a return to the committee system and that this has caused great dissatisfaction in local government in Wales?

Weinidog, a gytunwch nad yw’r pedwerydd opsiwn yn ddychweliad at y system o bwyllgorau a bod hyn wedi creu anfodlonrwydd mawr mewn llywodraeth leol yng Nghymru?

Edwina Hart spoken in English p. 14

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 14

It is not a return to the committee system. It is simply another option to consider. I know that there was some consternation in local government when we introduced the fourth option. Ironically, some authorities have expressed that that might be appropriate, particularly in rural areas. If it helps in the discussion for a general modernisation agenda, it is useful to have it.

Nid yw’n ddychweliad at y system bwyllgorau. Y cyfan ydyw yw opsiwn arall i’w ystyried. Gwn fod peth dryswch mewn llywodraeth leol pan gyflwynasom y pedwerydd opsiwn. Yn eironig ddigon, mae rhai awdurdodau wedi datgan y gallai hynny fod yn briodol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Os yw’n helpu’r drafodaeth ar yr agenda moderneiddio gyffredinol, mae’n ddefnyddiol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd

Questions to the Minister for Environment

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (Statws Cadwraethol)

Sites of Special Scientific Interest (Conservation Status)

Q1 Helen Mary Jones spoken in English p. 14

C1 Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 14

What steps will the Minister take to ensure that sites of special scientific interest in Wales are in a favourable conservation status? (OAQ12274)

Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Nghymru o fewn statws cadwraethol ffafriol? (OAQ12247)

Sue Essex The Minister for Environment spoken in English p. 14

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd siaradwyd yn Saesneg t. 14

The Countryside and Rights of Way Act 2000 introduced stronger measures for the protection and management of sites of special scientific interest. The Assembly has provided significant additional funds to the Countryside Council for Wales to improve the management and monitoring of SSSIs within the new framework.

Cyflwynodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fesurau cryfach i ddiogelu a rheoli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI). Mae’r Cynulliad wedi darparu arian ychwanegol sylweddol i Gyngor Cefn Gwlad Cymru i wella rheolaeth a monitro SSSIs o fewn y fframwaith newydd.

Helen Mary Jones spoken in English p. 14

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 14

Given the declining state of biodiversity in Wales, will you expand on your plans to ensure that the appropriate agencies, in particular local conservation groups, have sufficient resources to manage effectively sites of special scientific interest, as well as designating more sites to meet the European target?

O ystyried sefyllfa ddirywiol bioamrywiaeth yng Nghymru, a wnewch chi ymhelaethu ar eich cynlluniau i sicrhau fod gan yr asiantaethau priodol, yn arbennig y grwpiau cadwraeth lleol, adnoddau digonol i reoli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn effeithiol, yn ogystal â dynodi mwy o safleoedd i gyrraedd y targed Ewropeaidd?

Sue Essex spoken in English p. 15

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 15

As you are aware, there is pressure to designate more sites because that is what Europe wants. Once designated, they need to be in proper condition. The Countryside Council for Wales received additional money this year. You are on the Environment, Planning and Transport Committee, so you understand that we make that a priority. CCW received £4 million especially for SSSIs and conservation. Some of that money percolates to local action groups where the wildlife trusts take on responsibility for managing SSSIs, but some also goes to landowners for protection work. In addition, we have allocated funding for an officer to support the Wales Biodiversity Group, and to link in with local authorities’ work on local biodiversity action plans.

Fel y gwyddoch, mae pwysau i ddynodi mwy o safleoedd gan mai dyna yw dymuniad Ewrop. Unwaith y cânt eu dynodi, mae angen iddynt fod yn y cyflwr priodol. Derbyniodd Gyngor Cefn Gwlad Cymru arian ychwanegol eleni. Yr ydych ar y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, felly fe ddeallwch ein bod yn blaenoriaethu hynny. Derbyniodd CCGC £4 miliwn yn arbennig ar gyfer SSSIs a chadwraeth. Bydd peth o’r arian hwnnw yn treiddio i grwpiau gweithredu lleol lle mae’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt yn gyfrifol am reoli SSSIs, ond mae ychydig hefyd yn mynd i berchenogion tir ar gyfer gwaith diogelu. Yn ychwanegol, yr ydym wedi dyrannu arian ar gyfer swyddog i gynorthwyo Grŵp Bioamrywiaeth Cymru, ac i gysylltu â gwaith awdurdodau lleol ar gynlluniau gweithredu bioamrywiaeth yn lleol.

Mick Bates spoken in English p. 15

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 15

Will you examine the need to co-ordinate the protection role of the CCW, the Environment Agency Wales and the national parks and the possibility of a single warden service to carry out that protection role?

A wnewch archwilio’r angen i gydlynu rôl diogelu CCGC, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a’r parciau cenedlaethol a’r posibilrwydd o wasanaeth warden unigol i gynnal y swyddogaeth diogelu honno?

Sue Essex spoken in English p. 15

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 15

As you are aware, the agencies and the national parks’ representatives attended last week’s Committee meeting to discuss their plans. We made much reference to co-ordination; the review of the Environment Agency Wales and CCW will bring that about. In one of my first meetings with all three agencies, I suggested that better co-ordination in wardening might be achieved, in terms of access and conservation. I know that the Committee will look for that.

Fel y gwyddoch, mynychodd cynrychiolwyr yr asiantaethau a’r parciau cenedlaethol gyfarfod y Pwyllgor yr wythnos diwethaf i drafod eu cynlluniau. Gwnaethpwyd nifer o gyfeiriadau gennym i gydlynu; bydd yr adolygiad o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a CCGC yn cyflwyno hynny. Yn un o’m cyfarfodydd cyntaf â’r tair asiantaeth, awgrymais y gellid cyflawni gwell cydlyniad o ran wardeniaeth, yn nhermau mynediad a chadwraeth. Gwn y bydd y Pwyllgor yn chwilio am hynny.

Jonathan Morgan spoken in English p. 15

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 15

Do you agree that sites of special scientific interest are a core part of our national heritage? Will you outline the steps you are taking to ensure that such sites are protected from unnecessary development?

A gytunwch fod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn elfen graidd o’n hetifeddiaeth genedlaethol? A amlinellwch y camau a gymerwch i sicrhau y diogelir safleoedd o’r fath rhag datblygiad diangen?

Sue Essex spoken in English p. 15

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 15

Clearly there is a designation process. As I said to Helen Mary, it involves not only designation but also keeping the sites up to what is called ‘a positive standard’. That work is ongoing. It requires management and detailed assessment. In changing the legislation, the Government has moved away from the defensive and negative approach, if you like, of designation and emphasis on not doing things towards issuing positive rewards for positive land management. That will alter the balance so that SSSIs are managed positively rather than being left as the status quo.

Mae’n amlwg fod proses dynodi. Fel y dywedais wrth Helen Mary, nid yn unig y mae’n cwmpasu dynodi, ond hefyd yn cynnal y safleoedd i ‘safon bositif’. Mae’r gwaith hwnnw yn barhaol. Mae’n gofyn am reolaeth ac asesiad manwl. Wrth newid y ddeddfwriaeth, symudodd y Llywodraeth oddi wrth ymagwedd amddiffynnol, negyddol, os dymunwch, o ddynodi a phwyslais ar beidio â gwneud pethau tuag at ddosbarthu enillion positif ar gyfer rheolaeth tir bositif. Bydd hynny yn newid y cydbwysedd fel y rheolir SSSIs yn bositif yn hytrach na’u gadael fel y maent.

Lliniaru Sŵn o’r Draffordd yn Ardal Port Talbot

Abating Motorway Noise in the Port Talbot Area

Q2 Brian Gibbons spoken in English p. 16

C2 Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 16

Does the Minister have any plans to abate motorway noise in the Port Talbot area? (OAQ12195)

A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i liniaru sŵn o’r draffordd yn ardal Port Talbot? (OAQ12195)

Sue Essex spoken in English p. 16

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 16

I am concerned about the effects of traffic noise on residents living adjacent to trunk roads and motorways in Wales. Noise emanating from the M4 at Port Talbot will be investigated as part of the National Assembly’s initiative for mitigating noise on existing roads. The assessment is due to be completed by the end of this financial year. It will determine which, if any, noise mitigation measures are appropriate, and a priority in the £1 million per year programme that we have established.

Yr wyf yn bryderus ynglŷn ag effeithiau sŵn traffig ar drigolion sydd yn byw gerllaw cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru. Ymchwilir i’r sŵn sydd yn tarddu o’r M4 ym Mhort Talbot fel rhan o fenter y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer lliniaru sŵn ar ffyrdd presennol. Y nod yw cwblhau’r asesiad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd yn penderfynu pa fesurau lliniaru sŵn, os o gwbl, sydd yn briodol, a blaenoriaeth yn y rhaglen £1 miliwn y flwyddyn a sefydlwyd gennym.

Brian Gibbons spoken in English p. 16

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 16

Thank you. There is no doubt that the residents of the local M4 motorway area will be pleased to hear that response. Will the study include two worthwhile considerations: first, traffic speed regulation in that area, because high-speed traffic seems to aggravate the noise; secondly, road surfaces and walling around the M4, which seem to create an echo effect that projects the noise into residents’ homes?

Diolch. Nid oes amheuaeth y bydd trigolion ardal traffordd yr M4 yn falch o glywed yr ymateb hwnnw. A fydd yr astudiaeth yn cynnwys dau ystyriaeth buddiol: yn gyntaf, rheoliadau cyflymder traffig yn yr ardal honno, gan yr ymddengys bod traffig cyflymder uchel yn gwaethygu’r sŵn; yn ail, wynebau’r ffyrdd a’r waliau o amgylch yr M4, sydd yn ymddangos fel eu bod yn creu adlais sydd yn cario’r sŵn i gartrefi’r trigolion?

Sue Essex spoken in English p. 16

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 16

The issue of people who live adjacent to busy roads, motorways in particular, is important. We have learned over the years not to do what we would have done in the past in terms of the proximity of roads to buildings. Although double-glazing has compensated somewhat, it does not solve the problem of being close to noisy roads. There have been major improvements as a result of thin surfacing. Ironically, the thin surface reduces considerably noise from those busy roads. That is part of the programme. The issue of speeding, which you mentioned, is also important. We discussed it in the Environment, Planning and Transport Committee yesterday. Keeping to the right speed is not only safe, it also reduces emissions and noise, which we now recognise as a major pollutant.

Mae pobl sydd yn byw gerllaw ffyrdd prysur, traffyrdd yn enwedig, yn fater pwysig. Dysgasom dros y blynyddoedd i beidio â gwneud yr hyn y byddem wedi ei wneud yn y gorffennol o ran adeiladu ffyrdd yn agos i adeiladau. Er bod gwydro dwbl wedi lliniaru rhywfaint, nid yw’n datrys y broblem o fod yn agos at ffyrdd swnllyd. Bu gwelliannau mawr o ganlyniad i wynebau ffyrdd tenau. Yn eironig, mae’r wyneb tenau yn lleihau’r sŵn o’r ffyrdd prysur hynny yn sylweddol. Mae hynny’n rhan o’r rhaglen. Mae’r mater o oyrru, y soniasoch amdano, hefyd yn bwysig. Trafodasom ef yn y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth ddoe. Mae cadw at y cyflymder cywir nid yn unig yn ddiogel, ond mae hefyd yn lleihau gollyngiadau a sŵn, yr ydym bellach yn ei gydnabod fel llygrwr mawr.

Alun Cairns spoken in English p. 17

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 17

Does the Minister agree that the peripheral distributor road will alleviate some of the noise in Port Talbot and will she give a timescale for it?

A gytuna’r Gweinidog y bydd y ffordd ddosbarthu ymylol yn lliniaru rhywfaint o’r sŵn ym Mhort Talbot ac a rydd amserlen ar ei chyfer?

Sue Essex spoken in English p. 17

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 17

The peripheral distributor road will achieve many things in Neath and Port Talbot. That is why we funded its initial stage this year through the transport grant. I have had discussions with Neath Port Talbot County Borough Council on this. I know how important it is to the council. I have also discussed this with Brian Gibbons. We understand that it is one of the roads that will be given priority, but I cannot give you an exact timescale, because it is a staged process.

Dyna pam y bydd y ffordd ddosbarthu ymylol yn cyflawni llawer o bethau yng Nghastell Nedd a Phort Talbot. Dyna pam ein bod wedi ariannu’r cam cychwynnol eleni drwy gyfrwng y grant traffig. Cefais drafodaethau â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot ynglŷn â’r mater. Gwn pa mor bwysig ydyw i’r cyngor. Trafodais hyn hefyd â Brian Gibbons. Deallwn ei bod yn un o’r ffyrdd a gaiff flaenoriaeth, ond ni allaf roi amserlen fanwl ichi, gan mai proses fesul cam ydyw.

Tom Middlehurst spoken in English p. 17

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 17

Do you agree that deteriorating concrete road surfaces create tremendous noise levels that blight the lives of many people, particularly those in the Buckley, Hawarden and Ewloe area living near the A55? Can you assure me that you will urgently consider a programme to reduce those noise levels? Will you also consider introducing speed controls as a temporary measure to assist those people at this stage? In the long term, we need a resurfacing programme.

Oni chytunwch bod y wynebau ffyrdd concrid sydd yn dirywio yn creu lefelau sŵn sylweddol sydd yn tarfu ar fywydau llawer o bobl, yn arbennig y rheini sydd yn byw ger yr A55 yn ardaloedd Bwcle, Penarlâg ac Ewlo? A allwch roi sicrwydd imi y byddwch yn ystyried rhaglen i leihau’r lefelau sŵn hynny ar fyrder? A wnewch chi hefyd ystyried cyflwyno rheoliadau cyflymder fel mesur dros dro er mwyn cynorthwyo’r bobl hynny ar hyn o bryd? Yn yr hirdymor, mae angen rhaglen arnom i roi wyneb newydd ar y ffyrdd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 17

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 17

Order. This question is about Port Talbot. However, I appreciate that there may be similar road surfaces on the A55.

Trefn. Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â Phort Talbot. Fodd bynnag, gwerthfawrogaf y gallai fod wynebau ffyrdd tebyg ar yr A55.

Sue Essex spoken in English p. 17

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 17

I appreciate what Tom said. He has argued vociferously on behalf of his constituents. I am pleased that the tender has been let on the section around Abergele because that will improve the quality of residents’ lives in that area. In many parts of Wales, we have inherited road surfaces and a proximity of roads to properties that are not ideal. That is why this money has been allocated now. The money has been dedicated over five years to match the research programme and make a real contribution. I hope that during the course of the five years, the residents to whom you referred will benefit from it.

Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywedodd Tom. Mae wedi dadlau’n groch ar ran ei etholwyr. Yr wyf yn falch bod y tendr wedi ei ddyfarnu ar yr adran o amgylch Abergele gan y bydd yn gwella ansawdd bywydau trigolion yr ardal honno. Mewn sawl rhan o Gymru, etifeddasom wynebau ffyrdd a ffyrdd sydd yn agos i eiddo nad ydynt yn ddelfrydol. Dyna pam y dyrannwyd yr arian hwn yn awr. Mae’r arian wedi’i ymrwymo dros bum mlynedd er mwyn cyfateb i’r rhaglen ymchwil a gwneud cyfraniad gwirioneddol. Yn ystod y pum mlynedd, gobeithiaf y bydd y trigolion y cyfeiriasoch atynt yn elwa arno.

Dyfodol Safleoedd Tirlenwi yng Nghymru

Future of Landfill Sites in Wales

Q3 Lorraine Barrett spoken in English p. 18

C3 Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 18

Will the Minister make a statement on the future of landfill sites in Wales? (OAQ12201)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol safleoedd claddu gwastraff yng Nghymru? (OAQ12201)

Sue Essex spoken in English p. 18

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 18

I intend to issue a new Wales waste strategy for consultation on 4 July—an auspicious day. It will include policies aimed at reducing our reliance on landfill sites and meeting our obligations under the European Commission landfill directive. There will always be a need for some landfill sites, but our new policies are intended to greatly reduce the amount of waste dumped in landfill sites by minimising the growth in waste and increasing the use of more sustainable methods of waste management, such as recycling and composting.

Bwriadaf gyhoeddi strategaeth wastraff newydd ar gyfer Cymru er mwyn ymgynghori arni ar 4 Gorffennaf—diwrnod o bwys. Bydd yn cynnwys polisïau wedi eu hanelu at leihau ein dibynniaeth ar safleoedd tirlenwi a diwallu ein cyfrifoldebau o dan gyfarwyddeb tirlenwi Ewrop. Bydd galw bob amser am rai safleoedd tirlenwi, ond bwriedir i’n polisïau newydd leihau’r symiau o wastraff a ollyngir mewn safleoedd tirlenwi yn sylweddol drwy leihau’r twf mewn gwastraff a chynyddu’r defnydd o ddulliau mwy cynaliadwy o reoli gwastraff, megis ailgylchu a chompostio.

Lorraine Barrett spoken in English p. 18

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 18

Do you look forward to the possibilities afforded to Cardiff following the recent announcement of a £3.5 million grant to the council to develop a more sustainable waste management strategy, including, as you mentioned, recycling and composting schemes?

A edrychwch ymlaen at y posibiliadau a gynigiwyd i Gaerdydd yn dilyn cyhoeddi grant o £3.5 miliwn yn ddiweddar i’r cyngor er mwyn datblygu strategaeth rheoli gwastraff fwy cynaliadwy gan gynnwys, fel y soniasoch, gynlluniau ailgylchu a chompostio?

Sue Essex spoken in English p. 18

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 18

The £3.5 million grant allocated to Cardiff City and County Council over the next three years is part of a £40 million scheme for the whole of Wales. It has been allocated to local authorities and I hope that every local authority can use that money towards the aim of moving away from landfill sites and putting much more emphasis on recycling and composting. I hope that the £3.5 million will make a big difference in Cardiff’s moves towards that sustainable way forward.

Mae’r grant o £3.5 miliwn a ddyrannwyd i Gyngor Dinas a Sir Caerdydd dros y tair blynedd nesaf yn rhan o gynllun £40 miliwn ar gyfer Cymru gyfan. Fe’i dyrannwyd i awdurdodau lleol a gobeithiaf y gall pob awdurdod lleol ddefnyddio’r arian hwnnw tuag at y nod o symud oddi wrth safleoedd claddu gwastraff a rhoi llawer mwy o bwyslais ar ailgylchu a chompostio. Gobeithiaf y bydd y £3.5 miliwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i nod Caerdydd o gyflawni’r ffordd gynaliadwy honno ymlaen.

Owen John Thomas spoken in English p. 18

Owen John Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 18

I recently supported local residents who were protesting against the threat of animal carcasses infected by foot and mouth disease being buried in the Lamby Way landfill site. One great concern was that there was a possibility of an incinerator being built on the site. Will you give an undertaking to the residents of that part of Cardiff that an incinerator will not be built on or near that site?

Yn ddiweddar cefnogais drigolion lleol a oedd yn protestio yn erbyn y bygythiad o garcasau anifeiliaid a heintwyd gan glwy’r traed a’r genau yn cael eu claddu yn safle tirlenwi Lamby Way. Un pryder mawr oedd bod posibilrwydd y gellid adeiladu llosgydd ar y safle. A roddwch addewid i drigolion y rhan honno o Gaerdydd nad adeiledir llosgydd ar y safle hwnnw neu wrth ei ymyl?

Sue Essex spoken in English p. 19

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 19

I have received many representations on that issue, and have dealt closely with Alun Michael MP and Lorraine Barrett on the matter over several weeks. As regards the incinerator, it is up to local authorities to decide how they deal with their own domestic waste. However, there will be guidance in the waste strategy that will be announced next week. Its emphasis will be on achieving recycling and composting targets. That is what Europe requires of us. As a result, we will move away from using landfill sites. However, there are tricky challenges for all of us to minimise the amount of waste that we produce. The waste strategy is about local authorities working with their communities. It is not only for people living around Lamby Way, but for the whole community to say how it wants to take the minimisation and recycling programme forward. It is up to local authorities to decide on a way forward.

Derbyniais nifer o sylwadau ynglŷn â’r mater hwnnw, a chydweithiais yn agos ag Alun Michael AS a Lorraine Barrett ynglŷn â’r mater dros nifer o wythnosau. O ran y llosgydd, mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu ar y modd y maent yn ymdrin â’u gwastraff domestig eu hunain. Fodd bynnag, cynhwysir canllaw yn y strategaeth gwastraff a gyhoeddir yr wythnos nesaf. Bydd ei bwyslais ar gyflawni targedau ailgylchu a chompostio. Dyna’r hyn a ddisgwylir ohonom gan Ewrop. O ganlyniad, byddwn yn symud oddi wrth ddefnyddio safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, mae sialensau dyrys yn wynebu pob un ohonom i leihau’r gwastraff a gynhyrchwn. Mae’r strategaeth wastraff yn ymwneud ag awdurdodau lleol yn cydweithio â’u cymunedau. Nid yw ar gyfer y bobl sydd yn byw o amgylch Lamby Way yn unig, ond ar gyfer y gymuned gyfan i ddweud sut y mae am ddatblygu’r rhaglen lleihau ac ailgylchu. Mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu ar y ffordd ymlaen.

David Melding spoken in English p. 19

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 19

Is it not about time that we began to emulate best practice on recycling in Europe?

Onid yw’n hen bryd inni ddechrau efelychu arfer gorau Ewrop o ran ailgylchu?

Sue Essex spoken in English p. 19

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 19

There are excellent examples in Europe. I have said before in this Chamber that Switzerland, for example, has had to move forward on recycling because it does not have the holes in the ground in which to put its rubbish. We could adopt European examples of best practice. However, our plan must incorporate a system that suits Wales. We must bear in mind that the population in our rural areas is dispersed and therefore the cost of recycling, in terms of collection and separation, is much higher than in urban areas. We must ensure that our plan is tailored to the needs of Wales.

Ceir enghreifftiau rhagorol yn Ewrop. Dywedais eisoes yn y Siambr hon, bod y Swistir, er enghraifft, wedi gorfod symud ymlaen o ran ailgylchu gan nad oes ganddi dyllau yn y ddaear i roi ei sbwriel. Gallem fabwysiadu enghreifftiau o arfer gorau Ewropeaidd. Fodd bynnag, rhaid i’n cynllun ymgorffori system sydd yn gweddu i Gymru. Rhaid inni gadw mewn cof bod y boblogaeth yn ein hardaloedd gwledig yn wasgaredig ac felly mae costau ailgylchu, o ran casglu a rhannu, yn llawer uwch nag mewn ardaloedd dinesig. Rhaid inni sicrhau bod ein cynllun wedi’i deilwra i anghenion Cymru.

Strategaeth Wastraff ar gyfer Cymru Gyfan

All-Wales Waste Strategy

Q4 Karen Sinclair spoken in English p. 20

C4 Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 20

What progress has been made on the formulation of an all-Wales waste strategy? (OAQ12175)

Pa gamau sydd wedi’u cymryd hyd yma i lunio strategaeth wastraff ar gyfer Cymru gyfan? (OAQ12175)

Sue Essex spoken in English p. 20

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 20

This question is related to Lorraine’s. As I said, the draft waste strategy will be launched on 4 July in Newport, which was chosen as the location because of its Waste Savers scheme. That is a good example of best practice. I hope that all Assembly Members, whether they are Members of the Environment, Planning and Transport Committee or not, will read the draft strategy, take it back to their communities and respond to it.

Mae’r cwestiwn hwn yn perthyn i gwestiwn Lorraine. Fel y dywedais, caiff y strategaeth wastraff ddrafft ei lansio ar 4 Gorffennaf yng Nghasnewydd, a ddewiswyd fel lleoliad oherwydd ei gynllun Waste Savers. Mae hynny’n esiampl dda o arfer gorau. Gobeithiaf y bydd pob Aelod o’r Cynulliad, pa un a ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth ai peidio, yn darllen y strategaeth ddrafft, yn ei chyflwyno i’w cymunedau ac yn ymateb iddi.

Karen Sinclair spoken in English p. 20

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 20

There is a great deal of concern about the use of incineration as a means of waste disposal in the Marchwiel area of Wrexham where, as you know, such a scheme may be implemented. Will you assure me that any recommendations on the use of incineration will include full and balanced debates that will weigh up the environmental impact of incineration versus other means of disposal? That would reassure a rightly concerned public.

Ceir cryn bryder o ran y defnydd o losgi fel modd o waredu gwastraff yn ardal Marchwiel ger Wrecsam, lle y gellid gweithredu cynllun o’r fath, fel y gwyddoch. A wnewch chi fy sicrhau y bydd unrhyw argymhellion ynglŷn â defnyddio llosgi yn cynnwys dadleuon llawn a chytbwys a fydd yn pwyso a mesur effaith amgylcheddol llosgi yn erbyn dulliau gwaredu eraill? Byddai hynny’n tawelu meddyliau’r cyhoedd sydd, yn briodol ddigon, yn bryderus.

Sue Essex spoken in English p. 20

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 20

That balanced view is important. It is fair to say that there are no risk-free solutions to waste, even composting raises some concern. I suggest that local authorities develop their own waste plans in consultation with the community. I know that there are several landfill sites operating in Wrexham already. People living alongside landfill sites whether in Wrexham, Rhondda, Merthyr or wherever, have concerns about landfill. That is why dialogue with the community is so essential. Incineration or energy to waste—there are many different techniques—all have to be vetted by the Environment Agency. Therefore, they have to conform to standards. It is up to local authorities to discuss with their communities how they move forward with a waste strategy and see if they can reach a consensus on the way forward.

Mae’r safbwynt gytbwys honno’n bwysig. Mae’n deg dweud nad oes atebion sydd heb eu peryglon i’r broblem wastraff, mae hyd yn oed compostio yn achosi peth pryder. Awgrymaf bod awdurdodau lleol yn datblygu eu cynlluniau gwastraff eu hunain drwy ymgynghori â’r gymuned. Gwn fod nifer o safleoedd tirlenwi yn gweithredu eisoes yn Wrecsam. Mae gan bobl sydd yn byw gerllaw safleoedd tirlenwi bryderon am dirlenwi, pa un a ydynt yn byw yn Wrecsam, Rhondda, Merthyr neu ble bynnag arall. Dyna pam bod deialog â’r gymuned mor hanfodol. Rhaid i losgi neu ynni i wastraff—ceir nifer o dechnegau gwahanol—oll gael eu harchwilio gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Felly, rhaid iddynt gydymffurfio â safonau. Mater i’r awdurdodau lleol yw trafod â’u cymunedau ynglŷn â sut y maent yn datblygu strategaeth wastraff a gweld a allant gyrraedd consensws ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

Geraint Davies spoken in English p. 20

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 20

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council.

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

The clauses in the Environmental Protection Act 1990 which prevent local authorities from dealing with waste directly, complicate the implementation of any waste strategy. Local authorities must instead go through arm’s length companies. There have been proposals for these clauses to be rescinded. Have you made any representations to your Westminster colleagues to this effect? Can you give an indication of whether this revocation will occur and, if so, when?

Mae’r cymalau yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sydd yn atal awdurdodau lleol rhag ymdrin â gwastraff yn uniongyrchol, yn cymhlethu’r broses o gyflwyno unrhyw strategaeth wastraff. Yn hytrach rhaid i awdurdodau lleol fynd drwy gwmnïau hyd braich. Cafwyd cynigion ar gyfer diddymu’r cymalau hyn. A wnaethoch unrhyw sylwadau i’ch cyd-Aelodau yn San Steffan i’r perwyl hwn? A allwch ddynodi a fydd y diddymiad hwn yn digwydd, ac, os felly, pa bryd?

Sue Essex spoken in English p. 21

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 21

That is an important point. That Act brought in what I call the privatisation of waste. I was deputy leader of Cardiff City and County Council at the time and it led to difficult situations. I would like those pieces of legislation rescinded and the Westminster Government knows that. I understood that the Westminster Government would do that during its first term, but I will find out more information and get back to you on that.

Mae hwnnw’n bwynt pwysig. Cyflwynodd y Ddeddf honno yr hyn a alwaf yn breifateiddio gwastraff. Yr oeddwn yn ddirprwy arweinydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd ar y pryd ac arweiniodd at sefyllfaoedd anodd. Hoffwn ddiddymu’r darnau hynny o ddeddfwriaeth a gŵyr Llywodraeth San Steffan hynny. Deallais y byddai Llywodraeth San Steffan yn gwneud hynny yn ystod ei dymor cyntaf, ond byddaf yn darganfod mwy o wybodaeth a chysylltaf â chi yn ei gylch.

John Griffiths spoken in English p. 21

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 21

I agree with David Melding’s point about considering European best practice in our waste strategy. I am glad that you are launching the waste strategy for Wales at Waste Savers in Newport. Will you join me in welcoming its plans to extend curbside collections from the 30,000 or so households currently covered to the whole of Newport in the next 18 months?

Cytunaf â phwynt David Melding ynglŷn ag ystyried arfer gorau Ewropeaidd o ran ein strategaeth wastraff. Yr wyf yn falch eich bod yn lansio strategaeth wastraff Cymru yn Waste Savers yng Nghasnewydd. A ymunwch â mi i groesawu ei gynlluniau i gynyddu’r casgliadau o ochr y palmant o’r 30,000 o gartrefi a gwmpesir ar hyn o bryd i gasgliadau o Gasnewydd gyfan yn ystod y 18 mis nesaf?

Sue Essex spoken in English p. 21

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 21

That is excellent news. It is good that we have examples in areas such as Newport of local councils working with the voluntary sector to develop an excellent scheme and persuade the population that they are a part of it. That is critical. People need to feel that they are a part of this scheme and that is why we have chosen Newport. Other local authorities are also making efforts, but we have had a good example over the last couple of years of how this scheme is self-sustaining. As you say, it could now be extended to the whole of Newport. That is excellent news.

Mae hynny’n newyddion rhagorol. Mae’n dda bod gennym enghreifftiau mewn ardaloedd megis Casnewydd o gynghorau lleol yn gweithio â’r sector gwirfoddol er mwyn datblygu cynllun rhagorol ac yn darbwyllo’r boblogaeth eu bod yn rhan ohono. Mae hynny’n allweddol. Mae angen i bobl deimlo eu bod yn rhan o’r cynllun hwn a dyna pam y dewiswyd Casnewydd. Mae awdurdodau lleol eraill yn gwneud ymdrech hefyd, ond cawsom enghraifft dda dros y ddwy flynedd ddiwethaf o’r modd y mae’r cynllun hwn yn hunan-gynhaliol. Fel y dywedwch, gellid ei ehangu i Gasnewydd gyfan bellach. Mae hynny’n newyddion rhagorol.

Annog y Defnydd o Bren o Gymru

Encouraging the Use of Welsh Timber

Q5 Peter Rogers spoken in English p. 22

C5 Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 22

What has the Minister done to encourage the use of Welsh timber as part of the Assembly’s commitment to sustainable development? (OAQ12197)

Beth mae’r Gweinidog wedi’i wneud i annog y defnydd o bren o Gymru fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy? (OAQ12197)

Sue Essex spoken in English p. 22

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 22

The Assembly has its own sustainable development action plan, which encourages Assembly sponsored public bodies and others in Wales to integrate and develop policies on sustainability. That also includes the Forestry Commission. As part of the Assembly’s promotion of ‘Rethinking Construction’, which is about how we in the public sector deal with procurement, a construction forum has been set up to give guidance on how we might use more sustainable products. In both of these matters the use of Welsh timber, particularly in construction, will play an important part in delivering a more sustainable Wales.

Mae gan y Cynulliad ei gynllun gweithredu datblygu cynaliadwy ei hun, sydd yn annog cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad ac eraill yng Nghymru i integreiddio a datblygu polisïau ar gynaliadwyedd. Mae hynny’n cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth hefyd. Fel rhan o broses y Cynulliad i hyrwyddo ‘Ailfeddwl am Adeiladu’, sydd yn ymwneud â’r modd yr ydym ni yn y sector cyhoeddus yn ymwneud â chaffael, sefydlwyd fforwm adeiladu er mwyn rhoi arweiniad ar y modd y gallem ddefnyddio mwy o gynnyrch cynaliadwy. O ran y ddau fater hwn bydd gan y defnydd o bren o Gymru, yn enwedig mewn adeiladu, ran bwysig i’w chwarae yn y broses o gyflwyno Cymru fwy cynaliadwy.

The Assembly also supports a range of programmes dedicated to bringing woodland under sustainable management, developing the Welsh timber supply chain and supporting the marketing of Welsh timber projects through agencies such as the WDA and the Forestry Commission.

Mae’r Cynulliad hefyd yn cefnogi amrywiaeth o raglenni sydd yn ymrwymedig i ddod â choetir o dan reolaeth gynaliadwy, datblygu cadwyn gyflenwi pren o Gymru a chynorthwyo’r broses o farchnata prosiectau pren o Gymru drwy gyfrwng asiantaethau megis y WDA a’r Comisiwn Coedwigaeth.

Peter Rogers spoken in English p. 22

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 22

Thank you for your answer, which has removed most of the need to ask my supplementary question. I welcome the procurement policy, particularly in terms of the sponsored bodies, which can make a tremendous mark. This issue does not need to be based on cost alone, we must consider ways of encouraging this. How much provision are we making to ensure that we use Welsh timber in the new Assembly building?

Diolch am eich ateb, sydd wedi dileu’r rhan fwyaf o’r angen i mi ofyn fy nghwestiwn atodol. Croesawaf y polisi caffael, yn arbennig o ran y cyrff a noddir, a all wneud cyfraniad sylweddol. Nid oes rhaid i’r mater hwn fod yn seiliedig ar gost yn unig, rhaid inni ystyried ffyrdd o annog hyn. Faint o ddarpariaeth a wnawn i sicrhau ein bod yn defnyddio pren o Gymru yn adeilad newydd y Cynulliad?

Sue Essex spoken in English p. 22

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 22

Edwina Hart has prioritised that in terms of sustainability and I will ask her to give a direct answer to that question. However, I want to follow up an important point that you made. In the past we thought that the lowest price was best. That is not the case, actually, value for money is best. On using sustainable Welsh timber, we must change our thinking from the lowest price culture of the past and ask what will give the best value for money. What will support the industry, maintain and sustain our woodlands—which, from the environmental perspective, is important—provide jobs and a quality product? I have had discussions with the Welsh Timber Association and I am sympathetic to their aims. That thinking must become mainstream in both public and private sector procurement.

Rhoddodd Edwina Hart flaenoriaeth i hynny o ran cynaliadwyedd a gofynnaf iddi roi ateb uniongyrchol i’r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, hoffwn fynd ar drywydd pwynt pwysig a wnaethoch. Yn y gorffennol, credasom mai’r pris isaf oedd yr elfen orau. Nid dyna’r achos mewn gwirionedd, gwerth am arian yw’r elfen orau. O ran defnyddio pren cynaliadwy o Gymru, rhaid inni newid ein meddylfryd o ddiwylliant pris isaf y gorffennol a gofyn beth a rydd y gwerth gorau am arian. Beth fydd yn cefnogi’r diwydiant, yn cynnal a chadw ein coetiroedd—sydd, o berspectif amgylcheddol, yn bwysig—yn darparu swyddi a chynnyrch o answadd? Cefais drafodaethau â Chymdeithas Coed Cymru a chydymdeimlaf â’i nodau. Rhaid prif-ffrydio’r feddylfryd honno o ran caffael yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 23

Croesawaf yr hyn y mae Sue Essex wedi ei ddweud ynglŷn â chaffael. Pwysaf yn rhagor ar hynny a gofyn iddi a all gynnal trafodaethau gyda’r Gweinidog dros Gyllid, Edwina Hart, ynglŷn â datblygu model newydd o werth gorau a fyddai’n gallu cynnwys lles yr amgylchedd a’r economi leol? Pe gwneid hynny byddai’n creu cylch rhinweddol, a fyddai’n arwain at ddatblygiad economaidd a fyddai’n rhoi lles i’r amgylchedd ac i’r economi leol yr un pryd

I welcome what Sue Essex has said with regard to procurement. I will press that further and ask her if she can hold discussions with the Minister for Finance, Edwina Hart, with regard to developing a new model of best value that could include environmental and local economic benefits? If that were done it would create a virtuous circle, leading to economic development that would deliver environmental and local economic benefits simultaneously.

Sue Essex spoken in English p. 23

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 23

It is implicit in the concept of sustainable development to include those elements. Apart from the obvious environmental benefits, I want to include the issue of design. I have seen examples in the public sector where design has not been high on the agenda. The issue of good design should be included. The Museum of Welsh Life, at St Fagans, is a good example of building for quality and sustainability and the two merge well together. That should be included in the equation. However, I will follow up your idea with Edwina.

Mae cynnwys yr elfennau hynny yn rhan annatod o’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy. Ar wahân i’r manteision amgylcheddol amlwg, hoffwn gynnwys y mater o gynllun. Gwelais esiamplau yn y sector cyhoeddus lle nad oedd y cynllun yn uchel ar yr agenda. Dylid cynnwys y mater o gynllun da. Mae Amgueddfa Werin Cymru, yn Sain Ffagan, yn enghraifft dda o adeiladu ar gyfer ansawdd a chynaliadwyedd ac mae’r ddau yn asio’n dda â’i gilydd. Dylid cynnwys hynny yn yr hafaliad. Fodd bynnag, byddaf yn mynd ar drywydd eich syniad gydag Edwina.

Cyfoethogi Bioamrywiaeth

Enhancing Biodiversity

C6 Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Q6 Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 23

A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer cyfoethogi bioamrywiaeth yng Nghymru? (OAQ12227)

Does the Minister have any plans to put extra resources into enhancing biodiversity in Wales? (OAQ12227)

Sue Essex spoken in English p. 23

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 23

I did not put my earphones on in time, but I assume that that is the same question that is on the agenda.

Ni wisgais fy nghlustffonau mewn pryd, ond cymeraf mai’r un cwestiwn â hwnnw sydd ar yr agenda ydyw.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

I hope it is or he will be out of order.

Gobeithiaf neu bydd allan o drefn.

Sue Essex spoken in English p. 23

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 23

He is a fair and honourable man and I am sure he would not have done anything out of order. The Assembly’s budget for 2001-02 has provided additional funds, as I said to Helen Mary earlier. There are resources for enhancing biodiversity via the Countryside Council for Wales and Tir Gofal—which I did not mention before and is important—and the Welsh biodiversity group.

Mae’n ddyn teg ac anrhydeddus ac yr wyf yn sicr na fyddai wedi gwneud unrhyw beth allan o drefn. Mae cyllideb y Cynulliad ar gyfer 2001-2002 wedi darparu arian ychwanegol, fel y dywedais wrth Helen Mary yn gynharach. Ceir adnoddau ar gyfer cyfoethogi bioamrywiaeth drwy gyfrwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Tir Gofal—na soniais amdanynt o’r blaen ac sydd yn bwysig—a grŵp bioamrywiaeth Cymru.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 24

A yw’r Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, sydd yn digwydd er inni bennu mwy o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol neilltuol a chreu’r cynllun Tir Gofal? Fodd bynnag, nid yw hynny, mewn gwirionedd, yn caniatáu i’r safleodd a’r cynlluniau hynny ddatblygu. A wnaiff y Gweinidog fuddsoddi mwy o adnoddau i sicrhau y cânt eu datblygu’n sylweddol er mwyn inni fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth?

Does the Minister share my concern about the decline in biodiversity in Wales, which is occuring despite the fact that we have designated more sites of special scientific interest and have set up the Tir Gofal scheme? However, that does not, in fact, allow those sites and schemes to develop. Will the Minister invest more resources to ensure that they are developed substantially in order to tackle this decline in biodiversity?

Sue Essex spoken in English p. 24

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 24

We are all concerned about the decline in biodiversity because we all understand that by protecting fauna and flora we are protecting the linkages to the way in which we live our lives, which is important. We have invested substantial amounts of additional funding in the last two years. One of my first actions as Minister for Environment was to give £1.8 million to the Countryside Council for Wales to help with the designation of SSSIs. However, as I said earlier, this is not just about designation; it is about how to protect and enhance those areas. We may have been good at drawing lines on maps, but we have not been quite so good at ensuring that the areas within those lines are of the desired quality.

Yr ydym i gyd yn bryderus am y dirywiad mewn bioamrywiaeth oherwydd wrth ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion deallwn oll ein bod yn diogelu’r cysylltiadau â’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau, sydd yn bwysig. Yr ydym wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Un o’m camau cyntaf fel Gweinidog dros yr Amgylchedd oedd rhoi £1.8 miliwn i Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn helpu gyda phennu SoDdGA. Fodd bynnag, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’n ymwneud â phennu yn unig; mae’n ymwneud â’r modd y diogelir ac ehengir yr ardaloedd hynny. Efallai y buom yn llwyddiannus wrth dynnu llinellau ar fapiau, ond ni fuom cystal wrth sicrhau bod yr ardaloedd o fewn y llinellau hynny o’r ansawdd foddhaol.

Neither is this just about giving money; it is about culture and supporting voluntary groups and individuals that work together. Enthusiastic people who are working hard are leading local authority biodiversity action plans. This is about working with communities on the ground so that they can also contribute. It involves statutory industries, funding and support for local people and communities. That is what the scheme will achieve, and the Wales biodiversity action group has an overarching responsibility to monitor it.

Nid yw’n ymwneud ychwaith â rhoi arian yn unig; mae’n ymwneud â diwylliant a chefnogi grwpiau gwirfoddol ac unigolion sydd yn cydweithio. Mae pobl frwdfrydig sydd yn gweithio’n galed yn arwain cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth yr awdurdodau lleol. Mae hyn yn ymwneud â gweithio â’r cymunedau ar lawr gwlad fel y gallant hwythau hefyd gyfrannu. Mae’n cynnwys diwydiannau statudol, arian a chymorth ar gyfer pobl leol a chymunedau. Dyna’r hyn y bydd y cynllun yn ei gyflawni, ac mae gan grŵp gweithredu bioamrywiaeth Cymru ddyletswydd trosfwaol i’w fonitro.

Datganiad ar Fagloriaeth Gymreig

Statement on a Welsh Baccalaureate

Jane Davidson The Minister for Education and Lifelong Learning spoken in English p. 25

Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes siaradwyd yn Saesneg t. 25

I am pleased to be able to report on progress made towards piloting a Welsh baccalaureate. This is a key commitment of the partnership agreement. We have progressed considerably since I addressed the Education and Lifelong Learning Committee on the approach we would be adopting towards the qualification specification and tendering for the pilot project.

Mae’n bleser gennyf allu nodi’r cynnydd a wnaethpwyd tuag at greu cynllun peilot ar gyfer bagloriaeth Gymreig. Mae hwn yn un o brif ymrwymiadau’r cytundeb partneriaeth. Yr ydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ers imi annerch y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar yr ymagwedd y byddem yn ei mabwysiadu tuag at y fanyleb cymwysterau a thendro ar gyfer y prosiect peilot.

Our aim is that the Welsh baccalaureate will provide a curriculum programme and qualification that will: meet the needs of a wide range of students in Wales; promote access and inclusion; encourage participation in and successful completion of post-16 studies; ensure breadth of study, so that students can better meet the economic and social needs of employers and the wider community; achieve parity to academic and vocational routes; and cover appropriately the distinct and diverse culture and heritage of Wales, as well as the broader international dimension. These aims are similar to those drawn up by the Institute of Welsh Affairs in its rationale for developing a Welsh baccalaureate. I pay tribute to the work it and others have done in making the case for a baccalaureate. It coincided happily with developments in the qualification framework designed to achieve a greater breadth of post-16 study.

Ein nod yw y bydd y fagloriaeth Gymreig yn darparu rhaglen gwricwlwm a chymhwyster a fydd yn: bodloni anghenion ystod eang o fyfyrwyr yng Nghymru; hybu mynediad a chynhwysedd; annog pobl i gyfrannu at astudiaethau ôl-16 a’u cwblhau yn llwyddiannus; sicrhau ehangder astudiaeth, fel y gall myfyrwyr fodloni anghenion economaidd a chymdeithasol cyflogwyr a’r gymuned ehangach yn well; cyflawni cydraddoldeb o ran trywydd academaidd a galwedigaethol; a chwmpasu diwylliant a threftadaeth nodweddiadol ac amrywiol Cymru yn briodol, yn ogystal â’r dimensiwn rhyngwladol ehangach. Mae’r nodau hyn yn debyg i’r rheini a luniwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn ei resymeg dros ddatblygu bagloriaeth Gymreig. Talaf deyrnged i’r gwaith a wnaethpwyd ganddo a chan eraill er mwyn creu’r achos dros fagloriaeth. Cyd-darodd yn ddidrafferth â’r datblygiadau yn y fframwaith cymhwyster a gynlluniwyd i gyflawni astudiaethau ôl-16 mwy eang.

Invitations to tender were sent out to awarding bodies with a specification building on these aims. All of them strike against the sort of narrowness that we must be rid of if our young people are to be fully equipped to meet life’s challenges. The tender evaluation process is complete. It was undertaken by the project steering group, which involved representatives from Estyn, the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales (ACCAC) and ELWa and Assembly officials. The contract has been awarded to the Welsh Joint Education Committee. The WJEC’s tender submission naturally satisfies the requirements of the specification. It proposes an exciting and innovative model. It has been designed by the key Welsh awarding body, specifically for the needs of Wales.

Anfonwyd gwahoddiadau i dendro i gyrff dyfarnu gyda manyleb yn adeiladu ar y nodau hyn. Maent oll yn gwrthwynebu’r math o gulni y mae’n rhaid inni ei ddileu os dymunwn i’n pobl ifanc fod yn hollol gymwys i fynd i’r afael â heriau bywyd. Cwblhawyd y broses werthuso’r tendrau. Fe’i cyflawnwyd gan grŵp llywio’r prosiect, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gwmni Estyn, Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) a swyddogion ELWa a’r Cynulliad. Dyfarnwyd y contract i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. Mae’r tendr a gyflwynwyd gan CBAC yn naturiol yn bodloni gofynion y fanyleb. Mae’n cynnig model cyffrous a dyfeisgar. Fe’i cynlluniwyd gan y prif gorff dyfarnu yng Nghymru, yn arbennig ar gyfer anghenion Cymru.

The WJEC will be involving key partners in taking the pilot forward. Added to the expertise of the WJEC itself, there will be input from Fforwm, which represents further education colleges in Wales, the Department of Education at the University of Bath and the International Baccalaureate Organisation. The WJEC’s development work will also closely involve the schools and colleges participating in the pilot itself. The WJEC already has the names of some 20 schools and colleges that have expressed interest in being involved in the pilot. An early task for the WJEC will be to finalise the list of those schools and colleges that will take part. There will be a strong, representative mix from right across Wales.

Bydd CBAC yn cynnwys prif bartneriaid yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun peilot. Yn ychwanegol at arbenigedd CBAC ei hun, bydd mewnbwn gan Fforwm, sydd yn cynrychioli colegau addysg bellach yng Nghymru, Adran Addysg Prifysgol Caerfaddon a Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol (IBO). Bydd gwaith datblygu CBAC hefyd yn cynnwys ysgolion a cholegau a fydd yn cyfrannu at y cynllun peilot ei hun. Mae gan CBAC eisoes enwau tuag 20 o ysgolion a cholegau a fynegodd ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun peilot. Tasg gynnar ar gyfer CBAC fydd creu rhestr derfynol o’r ysgolion a’r colegau hynny a fydd yn cymryd rhan. Bydd cymysgedd gref, gynrychioliadol o bobl ledled Cymru.

The model builds on the blocks of AS and A-levels, vocational A-levels, general national vocational qualifications, general certificates of secondary education and key skills. Learners will not be guinea pigs; the scope for dual qualification will see to that. The protection of learners’ interests is one of my key concerns and is shared by many others. I am pleased that the WJEC model offers that protection. Initially, the pilot will be for Levels 2 and 3 of the qualification framework. A decision will be taken about whether it should be extended to Level 1 once further research has been carried out and the pilot work has started.

Mae’r model yn adeiladu ar flociau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, Safon Uwch galwedigaethol, cymwysterau galwedigaethol cyffredinol cenedlaethol, tystysgrifau cyffredinol addysg uwchradd a sgiliau allweddol. Ni fydd dysgwyr yn destun arbrawf; bydd y cyfle i ennill cymhwyster deuol yn sicrhau hynny. Diogelu buddiannau dysgwyr yw un o’m prif bryderon a chaiff ei rhannu gan lawer o bobl eraill. Yr wyf yn falch bod model CBAC yn cynnig y diogelwch hwnnw. Yn sylfaenol, bydd y cynllun peilot ar gyfer Lefelau 2 a 3 yn y fframwaith cymhwyster. Gwneir penderfyniad ynglŷn â pha un a ddylid ei ymestyn i Lefel 1 unwaith y cyflawnwyd ymchwil bellach ac y bydd y gwaith peilot wedi cychwyn.

The baccalaureate pilot will test not only the curriculum and qualification programme proposed, but also new and innovative approaches to delivering key aspects of our post-16 agenda. These include: widening participation; increasing retention rates; better partnerships between colleges and schools; achieving greater breadth; lifting the skills base; preparing young people for the world of work; expanding careers guidance; and attaining parity of esteem for vocational and academic qualification. The pilot will include a mandatory core that will interact with each individual student’s optional study to ensure that the programme offers breadth and balance. Equal value will be placed on vocational and academic qualifications within the baccalaureate.

Nid dim ond y cwricwlwm a’r rhaglen gymwysterau a gynigir a gaiff eu profi gan gynllun peilot y fagloriaeth, ond bydd ymagweddau newydd a dyfeisgar tuag at gyflwyno agweddau allweddol ar ein hagenda ôl-16 yn cael eu profi hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys: ehangu cyfranogiad; cynyddu cyfraddau cadw; gwell partneriaethau rhwng colegau ac ysgolion; cyflawni mwy o ehangder; codi’r sylfaen sgiliau; paratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith; ehangu canllaw gyrfaoedd; a chyflawni cydraddoldeb rhwng cymhwyster galwedigaethol ac academaidd. Bydd y cynllun peilot yn cynnwys craidd gorfodol a fydd yn rhyngweithio gydag astudiaeth opsiynol pob myfyriwr unigol er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cynnwys ehangder a chydbwysedd. Rhoddir gwerth cyfartal ar gymwysterau galwedigaethol ac academaidd o fewn y fagloriaeth.

We are now at the beginning of the pilot for the Welsh baccalaureate. The WJEC will undertake a great deal of research and development over the coming months. The research will include an investigation of relative volumes of work among students aged 16 to 19 in other European countries to achieve the right rules of combination and workloads for learners. Research and development will build carefully on lessons learned from the implementation of other qualification reforms in the UK and Europe.

Ar hyn o bryd, yr ydym ar ddechrau’r cynllun peilot ar gyfer y fagloriaeth Gymreig. Bydd CBAC yn cyflawni cryn dipyn o waith ymchwil a datblygu dros y misoedd nesaf. Bydd yr ymchwil yn cynnwys ymchwilio i’r symiau cymharol o waith a wneir gan fyfyrwyr 16 i 19 oed mewn gwledydd Ewropeaidd eraill er mwyn cyflawni’r rheolau cywir o ran y cyfuniad a’r baich gwaith ar gyfer dysgwyr. Bydd gwaith ymchwil a datblygu yn adeiladu’n ofalus ar wersi a ddysgwyd o weithredu newidiadau eraill mewn cymwysterau yn y DU ac yn Ewrop.

The starting point for development work is a core that will embrace a distinctive and innovative curriculum, designed in Wales for Wales. There will be components on personal and social education, preparation for the world of employment, Wales and the world, community participation and European awareness, including language modules. The core programme will also offer learners and teachers the opportunity to contextualise the six key skills: communication; application of number; IT; working with others; problem solving; and improving one’s learning. In this way the core will provide an important and innovative means of delivering key skills effectively and successfully.

Y cam cychwynnol ar gyfer gwaith datblygu yw rhaglen graidd a fydd yn cwmpasu cwricwlwm nodweddiadol a dyfeisgar, a gynlluniwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru. Bydd elfennau ar addysg bersonol a chymdeithasol, paratoi ar gyfer byd gwaith, Cymru a’r byd, cyfranogiad cymunedol ac ymwybyddiaeth Ewropeaidd, yn cynnwys modiwlau iaith. Bydd y rhaglen graidd hefyd yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ac athrawon roi’r chwe sgil allweddol yn eu cyd-destun: cyfathrebu; cymhwyso rhif; TG; gweithio gydag eraill; datrys problemau; a gwella dysgu. Yn y ffordd hon bydd y rhaglen graidd yn darparu dull pwysig a dyfeisgar o gyflwyno sgiliau allweddol yn effeithiol ac yn llwyddiannus.

Wales will be leading the way to develop and broaden the post-16 curriculum. I am convinced that the pilot will be of keen interest to other parts of the UK, particularly in the context of the general attention to qualification change. The key added-value elements of this exciting proposal are: a focus on ensuring breadth of study; the embedding of key skills into a programme that effectively delivers the qualification and wider key skills; the development of generations of students who feel part of the community that is Wales; generations who have the skills necessary to help the Welsh economy to flourish in the twenty-first century and to support its communities; and generations with the knowledge, skills and understanding to enable them to prosper in Europe and the wider world.

Bydd Cymru yn arwain y ffordd i ddatblygu ac ehangu’r cwricwlwm ôl-16. Yr wyf yn argyhoeddedig y bydd y cynllun peilot o gryn ddiddordeb i rannau eraill o’r DU, yn enwedig yng nghyd-destun y sylw cyffredinol a roddir i newid mewn cymwysterau. Y prif elfennau gwerth ychwanegol yn y cynnig cyffrous hwn yw: ffocws ar sicrhau ehangder astudiaeth; gosod sgiliau allweddol i mewn i raglen sydd yn darparu’r cymhwyster a’r sgiliau allweddol ehangach; datblygu cenedlaethau o fyfyrwyr sydd yn teimlo’n rhan o gymuned Cymru; cenedlaethau sydd yn meddu ar y sgiliau sydd yn angenrheidiol er mwyn helpu economi Cymru i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain ac i gefnogi ei chymunedau; a chenedlaethau sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i’w galluogi i ffynnu yn Ewrop ac yn y byd ehangach.

The model will take a holistic approach to learning. It will offer a greater range of opportunities not only for able learners, but also for so-called average ones, underachievers, and disadvantaged and disaffected learners. It will give meaning and direction to post-16 study. Learners will be offered structured guidance throughout their studies through personal tutors and careers guidance as part of the core. The aim is to ensure that students continue with their studies and to bear down on drop-out rates.

Bydd y model yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol tuag at ddysgu. Bydd yn cynnig gwell ystod o gyfleoedd nid yn unig ar gyfer dysgwyr galluog, ond hefyd ar gyfer y rhai hynny a elwir yn ddysgwyr cyffredin, tan-gyflawnwyr, a dysgwyr o dan anfantais neu sydd wedi ymddieithrio. Bydd yn rhoi ystyr a chyfeiriad i astudiaeth ôl-16. Cynigir canllaw strwythurol i ddysgwyr drwy gydol eu hastudiaethau drwy gyfrwng tiwtoriaid personol a chanllaw gyrfaoedd fel rhan o’r rhaglen graidd. Y nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau a cheisio lleihau’r nifer sydd yn gadael heb gwblhau eu cyrsiau.

The Welsh baccalaureate will allow us to advance some of our key priorities for training and education in Wales, including qualifications reform, partnership between schools and colleges, innovative use of ICT, and increased participation in post-16 learning. Partnership between colleges and schools is an important feature of the model. Partnerships, together with innovative use of ICT, will help small and rural sixth forms—and all others—to offer greater breadth and choice for learners. The provision of an effective PSE programme post-16, linked to active community participation, will make the principles of inclusivity irreversible. It will involve all participants in the Welsh baccalaureate, irrespective of socio-economic background, gender, race, or educational achievement.

Bydd y fagloriaeth Gymreig yn ein galluogi i ddatblygu rhai o’n prif flaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant ac addysg yng Nghymru, yn cynnwys diwygio cymwysterau, partneriaeth rhwng ysgolion a cholegau, defnydd dyfeisgar o TGCh, a chynnydd yn nifer y cyfranogwyr mewn astudiaethau ôl-16. Mae partneriaeth rhwng colegau ac ysgolion yn nodwedd bwysig o’r model. Bydd partneriaethau, yn ogystal â defnydd dyfeisgar o TGCh, yn helpu dosbarthiadau chweched dosbarth bach a gwledig—a phob un arall—i gynnig mwy o ehangder a dewis i ddysgwyr. Bydd y ddarpariaeth o raglen ABCh ôl-16 effeithiol, wedi’i chysylltu â chyfranogiad cymunedol gweithredol, yn sicrhau bod egwyddorion cynhwysedd yn ddiwrthdro. Bydd yn cynnwys pawb sydd yn cymryd rhan yn y fagloriaeth Gymreig, beth bynnag fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, cenedl, hil, neu gyflawniad addysgol.

It will advance equality of opportunity, active citizenship and sustainable development.

Bydd yn gwella cyfle cyfartal, dinasyddiaeth weithredol a datblygu cynaliadwy.

The model will encourage schools and colleges to promote social inclusion and equality of opportunity to a far greater extent than at present. It will advance equality of opportunity, active citizenship and sustainable development. These are key Assembly priorities for the years ahead and they are all threaded through the Welsh Joint Education Committee model. The major themes of Wales and the world will cover areas such as Welsh language and bilingualism, Welsh literature, music and the arts and contemporary Welsh issues, including the nature of multi-cultural society. The study of Wales and the world will give our young people knowledge and an understanding about Wales and the richness and diversity of those who live here. It will build confidence and legitimate pride. Preparation for the world of work will include effective careers education and guidance, work-related learning, development of entrepreneurial attitudes and aspects of running a business. Community participation will focus on the role and responsibility of the individual in society and the need for active involvement. Students will participate in selected community activities, including work on sustainable development. The wider key skills of working with others, problem solving and improving one’s own learning will play a significant role in this part of the core programme.

Bydd y model yn annog ysgolion a cholegau i hybu cynhwysedd cymdeithasol a chyfle cyfartal i raddau llawer mwy nag a wneir ar hyn o bryd. Bydd yn gwella cyfle cyfartal, dinasyddiaeth weithredol a datblygu cynaliadwy. Dyma brif flaenoriaethau’r Cynulliad ar gyfer y blynyddoedd nesaf a rhedant oll drwy fodel Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Bydd prif themâu Cymru a’r Byd yn cwmpasu meysydd fel yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, llenyddiaeth Gymraeg, cerddoriaeth a’r celfyddydau a materion Cymreig cyfoes, yn cynnwys natur cymdeithas aml-ddiwylliannol. Bydd yr astudiaeth o Gymru a’r byd yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i’n pobl ifanc am gyfoeth ac amrywiaeth y rheini sydd yn byw yma. Bydd yn ennyn hyder a balchder dilys. Bydd y broses baratoi ar gyfer byd gwaith yn cynnwys addysg a chanllaw gyrfaoedd effeithiol, dysgu yn gysylltiedig â gwaith, datblygu ymagweddau entrepreneuraidd ac agweddau ar redeg busnes. Bydd cyfraniad cymunedol yn canolbwyntio ar rôl a chyfrifoldeb yr unigolyn yn y gymdeithas a’r angen am gyfranogiad gweithredol. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol dethol, yn cynnwys gwaith ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd sgiliau allweddol ehangach sef gweithio gydag eraill, datrys problemau a gwella eich dysgu eich hun yn chwarae rôl allweddol yn y rhan hon o’r rhaglen graidd.

I am convinced that this model can provide the breadth and balance, for which people have been striving, in developing proposals for a Welsh baccalaureate. By involving the International Baccalaureate Organisation, and in particular, Professor Jeff Thompson, who is currently the IBO director for international education and chair of its research committee, the project will benefit, where necessary, from the IBOs experience and expertise. I am pleased that the WJEC and its partners will take the project forward. I know that the high quality work of this awarding body will be vital to make it a success. I hope that everyone with an interest in the Welsh baccalaureate will work constructively to make it so. The time for practical delivery has begun. The model is decided, we have provided £600,000 in the budget this financial year and we will make provisions in the budgets of future years.

Yr wyf yn argyhoeddedig y gall y model hwn ddarparu’r ehangder a’r cydbwysedd wrth ddatblygu cynigion ar gyfer bagloriaeth Gymreig y mae pobl wedi bod yn ymdrechu i’w cyflawni. Drwy gynnwys Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol, ac yn arbennig, yr Athro Jeff Thompson, sef cyfarwyddwr addysg ryngwladol yr IBO a chadeirydd ei bwyllgor ymchwil, bydd y prosiect yn elwa, lle y bo’n briodol, ar brofiad ac arbenigedd yr IBO. Yr wyf yn falch y bydd CBAC a’i bartneriaid yn gweithredu’r prosiect. Gwn y bydd gwaith safonol y corff dyfarnu hwn yn hanfodol er mwyn iddo lwyddo. Gobeithiaf y bydd pawb sydd â diddordeb yn y fagloriaeth Gymreig yn gweithio’n adeiladol er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddiant. Mae’r amser wedi dod ar gyfer darpariaeth ymarferol. Penderfynwyd ar y model, ac yr ydym wedi darparu £600,000 yn y gyllideb yn y flwyddyn ariannol hon a byddwn yn gwneud darpariaethau yng nghyllidebau’r blynyddoedd i ddod.

The opportunity to embed the baccalaureate must be taken positively. That means making a practical, secure and credible start and developing well. The project will do that. The next steps are for the WJEC and partners to get to work on research, analysis and development. One of the biggest tasks will be the development of the core curriculum programme. As well as that, the steering group will be expanded to include representatives from Higher Education Wales, the Universities and Colleges Admissions Service and from the business world.

Rhaid edrych ar y cyfle i sefydlu’r fagloriaeth yn gadarnhaol. Mae hynny’n golygu cychwyn yn ymarferol, yn ddiogel ac yn gredadwy a datblygu’n dda. Bydd y prosiect yn gwneud hynny. Y camau nesaf yw i CBAC a’i bartneriaid ddechrau ar y gwaith ymchwil, dadansoddi a datblygu. Un o’r tasgau mwyaf fydd datblygu rhaglen graidd y cwricwlwm. Yn ogystal â hynny, bydd y grŵp llywio yn cael ei ehangu i gynnwys cynrychiolwyr o Addysg Uwch Cymru, Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau a byd busnes.

I will meet the chair of the Institute of Welsh Affairs to discuss how best to involve it in the development and piloting work. The aims of the IWA are similar to our own. However, no rewarding body came forward with a proposal based on the IWA model. Nonetheless, I hope that arrangements can be made so that the Welsh baccalaureate project can benefit from its perspective over time. I will update the Education and Lifelong Learning Committee as the project progresses. It only remains for me to congratulate the WJEC on its proposals. I wish it and its partners well in the challenging delivery work that now begins. This is one more step in fulfilling the partnership agreement and one more step in ensuring that the Assembly delivers for Wales.

Byddaf yn cwrdd â chadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig i drafod y ffordd orau o’i gynnwys yn y gwaith datblygu a’r peilot. Mae nodau’r IWA yn debyg i’n nodau ein hunain. Fodd bynnag, ni chyflwynodd unrhyw gorff dyfarnu gynnig yn seiliedig ar fodel yr IWA. Er hynny, gobeithiaf y gellir gwneud trefniadau fel y gall prosiect y fagloriaeth Gymreig fanteisio ar ei bersbectif gydag amser. Byddaf yn hysbysu’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes yn rheolaidd wrth i’r prosiect ddatblygu. Yn olaf hoffwn longyfarch CBAC ar ei gynigion. Dymunaf y gorau iddo ef a’i bartneriaid yn y gwaith cyflwyno heriol sydd yn cychwyn yn awr. Mae hyn yn un cam arall tuag at wireddu’r cytundeb partneriaeth ac un cam arall tuag at sicrhau bod y Cynulliad yn cyflawni ei addewid i Gymru.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 30

Gareth Jones spoken in Welsh p. 30

Croesawaf y datganiad a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ymgymryd ag un o brif anghenion ein gwasanaeth addysg ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Mae’n amlwg bellach, ers sefydlu ELWa er enghraifft, fod yn rhaid datblygu rhaglen astudiaethau ôl-16, sydd yn ymateb yn bositif i anghenion Cymru a’n pobl ifanc ni.

I welcome this statement and the Government of Wales’s decision to deal with one of the main needs of our education system at the beginning of the twenty-first century. It is now obvious, since the establishment of ELWa for example, that we must develop a programme of post-16 educational studies that responds positively to the needs of Wales and our young people.

Mae angen newid radical os ydym am sicrhau dyfodol llewyrchus i’n pobl ifanc a’n cenedl. Mae hynny’n holl bwysig y dyddiau hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog eisoes at y byd ehangach a chysylltiad Cymru a’n pobl ifanc ni â’r byd hwnnw. Mae’n bwysig ein bod yn ystyried hynny.

Radical change is needed if we are to secure a prosperous future for our young people and our nation. That is all-important these days. The Minister has already referred to the wider world and how Wales and our young people will fit into that world. It is important that we consider that.

Cafodd yr achos dros y math hwn o gymhwyster ei gyflwyno yn effeithiol gan y Sefydliad Materion Cymreig, ac mae’n dda gennyf glywed, Weinidog, eich cydnabyddiaeth a’ch teyrnged i’r sefydliad am ei waith trylwyr. Mae cynnwys y datganiad yn seiliedig ar y gwaith da hwnnw. Llongyfarchaf Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ar ei lwyddiant, ac fel chwithau, gallaf ymddiried yn y bwrdd hwnnw i sicrhau llwyddiant i’r cynllun peilot hwn.

The case for this kind of qualification was presented effectively by the Institute of Welsh Affairs, and I am pleased to hear, Minister, your acknowledgement and tribute to the institute for its thorough work. The content of the statement is based on that good work. I congratulate the Welsh Joint Education Committee on its success, and like you, I can trust in that board to ensure the success of this pilot project.

Nid yw Plaid Cymru—The Party of Wales, yn anghytuo â’r hyn a glywodd. Fodd bynnag, hoffwn ofyn un neu ddau o gwestiynau. Mae amcanion y datganiad yn glir. Yr oeddwn yn falch o’ch clywed yn cyfeirio at y stamp Cymreig ar y cynllun. Fel plaid, yr ydym wedi pwyso am y math hwn o gymhwyster ers blynyddoedd. Y gofid yw nad aethom i’r afael â’r cynllun hwn o leiaf flwyddyn yn ôl, ond gwell hwyr na hwyrach.

Plaid Cymru—The Party of Wales does not disagree with what it heard. However, I would like to ask a couple of questions. The statement’s objectives are clear. I was pleased to hear you referring to the Welsh stamp on the scheme. As a party, we have pressed for this kind of qualification for years. It is regretable that we did not get to grips with this scheme at least a year ago. However, better late than never.

A all y Gweinidog esbonio pam y penderfynwyd newid yr ymrwymiad yn ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf: Partneriaeth ar gyfer Pobl Cymru’ y byddai myfyrwyr sydd yn rhan o’r cynllun peilot yn gallu sefyll arholiadau’r cymhwyster newydd yn ôl Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol?

Can the Minister explain why it was decided to change the commitment in ‘Putting Wales First: A Partnership for People of Wales’ that students involved in the pilot scheme could sit the new qualification examinations according to the International Baccalaureate Organisation?

A dderbyniwch fod nifer o ddatganiadau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru a oedd ynghlwm wrth y ddogfen dendro, yn anghywir? Beth yw eich ymateb i’r ffaith fod y Sefydliad Materion Cymreig wedi ymwrthod â’r datganiadau hynny am eu bod yn anghywir?

Do you accept that several of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales’s statements, which were attached to the tendering document, were inaccurate? What is your response to the fact that the Institute of Welsh Affairs rejected those statements as inaccurate?

A ydych yn siomedig bod Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol wedi gwrthod tendro am y cynllun peilot ac a dderbyniwch fod ei resymau dros wneud hynny yn ddilys? Pa fath o fewnbwn fydd gan y sefydliad hwnnw i’r cynllun ar ei newydd wedd? Cyfeiriasoch ato—ac yr wyf yn falch ei fod yn dal yn ymwneud â’r cynllun—ond hoffwn wybod yn union pa fath o fewnbwn fydd ganddo, oherwydd y bydd y mewnbwn hwnnw yn rhoi statws arbennig i’r cynllun.

Are you disappointed that the International Baccalaureate Organisation refused to tender for the pilot scheme and do you accept that it has valid reasons for doing so? What kind of input will that organisation have into the revised scheme? You have referred to it—and I am pleased that it is still involved in the scheme—but I would like to know exactly what kind of input it will have, because that input will give the scheme special status.

Pa sicrwydd sydd gan y Gweinidog y bydd yr ysgolion a’r colegau a fynegodd ddiddordeb ar y dechrau yn fodlon cymryd rhan yn y cynllun peilot ar ei newydd wedd? Mae’r dull ymgynghori a’r meini prawf gwreiddiol wedi newid. Mae’r cynllun peilot bellach, hyd y gwelaf, yn seiliedig ar y gyfundrefn bresennol. Credaf fod angen system ymgynghori pellach, ond byddwn yn falch o glywed eich sylwadau ar hynny.

How certain is the Minister have that the schools and colleges that demonstrated an interest at the beginning will be willing to participate in the revised pilot scheme? The original consultation method and criteria have changed. The pilot scheme, as far as I can see, is now based on the current system. I believe that a further consultation process is required, but I would be pleased to hear your comments on that.

Mae’r holl amcanion yn wych. Cytunaf yn ddiffuant â chi a rhannwn yr egwyddorion pwysig y cyfeiriasoch atynt, sef gobaith i’r dyfodol a gwireddu ein dyheadau. Fodd bynnag, ni allaf beidio â meddwl y cafwyd rhyw fath o ad-drefnu yma. Buddsoddwyd yn sylweddol yn yr hen gynllun a chraidd y cynllun newydd fydd y drefn bresennol, sef Safon Uwch, Uwch Gyfrannol ac ati.

All the aims are excellent. I sincerely agree with you and we share the important principles to which you referred, namely hope for the future and realising our aspirations. However, I cannot help thinking that some kind of reorganisation has taken place here. There has been substantial investment into the old scheme and the core of the new scheme will be the current system, namely A-levels, AS Levels and so on.

Sut y byddwch yn newid yr hyn sydd yn bodoli eisoes a’i gyflwyno fel rhywbeth newydd a derbyniol i’n pobl ifanc yng Nghymru ac i’r sefydliadau addysg uwch, cyflogwyr ac ati? Onid ydym yn colli cyfle? Sut yn union yr ydych yn gweld hyn yn gweithio? Hyd y gwelaf, mae’r cymal y cyfeiriasoch ato yn sôn am y system fel ag y mae ac yn awgrymu mai rhyw ad-drefnu fydd yn digwydd.

How will you change what already exists and present it as something new and acceptable to our young people in Wales and to the higher education institutions, employers and so on? Are we not missing an opportunity? How exactly do you see this working? As far as I can see, the clause to which you referred mentions the system as it stands and suggests that this will be some kind of reorganisation.

Jane Davidson spoken in English p. 32

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 32

Thank you for your considered response. You raised key questions.

Diolch am eich ymateb ystyriol. Codasoch gwestiynau allweddol.

This is a defining moment for Wales. This development is radical and fundamental. It is about Wales getting its own qualification. There are baccalaureates in different parts of Europe—France and Switzerland have their own baccalaureates—Scotland has its own higher education system, and Wales is developing its own qualification.

Mae hon yn foment nodedig i Gymru. Mae’r datblygiad hwn yn radical ac yn sylfaenol. Mae’n ymwneud â Chymru yn cael ei chymhwyster ei hun. Ceir bagloriaethau mewn gwahanol rannau o Ewrop—mae gan Ffrainc a’r Swistir eu bagloriaethau eu hunain—mae gan yr Alban ei system addysg uwch ei hun, ac mae Cymru yn datblygu ei chymhwyster ei hun.

We intend to pilot this scheme at two levels, as I said in the statement. Level 2 of the qualification framework is equivalent to A to C grades at GCSE, and level 3 is equivalent to A Levels and to the international baccalaureate. That means that able pupils will be able to participate at level 3. They will be able to participate knowing that they are involved in an exciting core, which I have spelt out in some detail. It is about finding out who they are, where they are in Wales, gaining experience of the world of work, doing community activities—all the essential ingredients of a baccalaureate. They will, therefore, gain a qualification enabling them to go on to higher education.

Bwriadwn arwain y cynllun hwn ar ddwy lefel, fel y dywedais yn y datganiad. Mae Lefel 2 yn y fframwaith cymhwyster yn gyfystyr â graddau A i C ar lefel TGAU, ac mae lefel 3 yn gyfystyr â Safon Uwch a’r fagloriaeth ryngwladol. Mae hynny’n golygu y gall disgyblion galluog gyfranogi ar lefel 3. Byddant yn gallu cyfranogi gan wybod eu bod yn rhan o raglen graidd gyffrous, a amlinellais yn fanwl. Mae’n ymwneud â chanfod pwy ydynt, ymhle y maent yng Nghymru, ennill profiad o fyd gwaith, gwneud gweithgareddau cymunedol—holl elfennau hanfodol bagloriaeth. Byddant, felly, yn ennill cymhwyster a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i addysg uwch.

On the level 2 qualification, this is, in many ways, the more radical, more exciting part. This is aimed at young people, who perhaps gain four to five grades D to E in their GCSE examinations, and who do not know where to go next. At present, they might go on to college or might try to retake their examinations in school. The Welsh baccalaureate offers them a broad curriculum that they can take for the next couple of years so that they too will achieve a level that will enable them to go on to higher education. That is fantastically exciting in terms of widening the agenda.

O ran y cymhwyster lefel 2, hwn, mewn nifer o ffyrdd, yw’r rhan mwy radical, mwy cyffrous. Caiff hwn ei anelu at bobl ifanc, sydd, o bosibl, yn ennill pedwar i bum gradd D i E yn eu harholiadau TGAU, nad ydynt yn gwybod ble i fynd nesaf. Ar hyn o bryd, efallai yr ânt i’r coleg neu efallai y gwnânt aileistedd eu harholiadau yn yr ysgol. Mae’r fagloriaeth Gymreig yn cynnig cwricwlwm eang iddynt y gallant ei astudio am yr ychydig flynyddoedd nesaf fel y gallant hwy hefyd gyflawni lefel a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i addysg uwch. Mae hynny’n hynod o gyffrous o ran ehangu’r agenda.

The WJEC’s proposals are partly so exciting because we have all welcomed, in principle, many of the new things in the qualifying for success agenda. These include key skills issues, which employers want to see, as well as broadening the curriculum, which we all welcomed while acknowledging the first year’s teething problems. Instead of an optional participation in that agenda, the baccalaureate will make those things a requirement. They will be consolidated within the qualification. It is very exciting indeed. Bringing Higher Education Wales, UCAS and business on to the steering group will allow us to work with the grain to ensure that the qualification is fully acceptable across higher education entry and fulfils the issues that business has been talking about for years regarding gaining better key skills. I am particularly excited that further down the line we can consider a credit-based model that will enable us to consider piloting at level 1 so that we pick up those who are currently disenfranchised in the education system.

Mae cynigion CBAC mor gyffrous yn rhannol oherwydd ein bod oll wedi croesawu, mewn egwyddor, nifer o’r pethau newydd yn yr agenda cymhwyso ar gyfer llwyddiant. Mae’r rhain yn cynnwys materion yn ymwneud â sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr am eu gweld, yn ogystal ag ehangu’r cwricwlwm, yr oeddem oll yn ei groesawu o ystyried problemau cychwynnol y flwyddyn gyntaf. Yn hytrach na chyfranogi yn yr agenda honno yn ddewisol, bydd y fagloriaeth yn gwneud y pethau hynny yn orfodol. Byddant yn cael eu hymgorffori yn y cymhwyster. Mae’n hynod o gyffrous. Drwy gynnwys Addysg Uwch Cymru, UCAS a byd busnes yn y grŵp llywio gallwn weithio gyda’r graen i sicrhau bod y cymhwyster yn hollol dderbyniol ar draws gofynion cofrestru addysg uwch a’i fod yn bodloni’r materion y bu busnesau yn eu trafod ers blynyddoedd, sef ennill gwell sgiliau allweddol. Yr wyf yn arbennig o gyffrous ynglŷn â’r ffaith y gallwn, ymhellach ymlaen yn y broses, ystyried model yn seiliedig ar gredydau a fydd yn ein galluogi i ystyried cynnal peilot ar lefel 1 er mwyn inni gynnwys y rheini sydd wedi eu difreinio ar hyn o bryd yn y system addysg.

We have taken an important first step in the biggest change ever to qualifications in Wales. On your specific questions about the Institute of Welsh Affairs, and the fact that the International Baccalaureate Organisation did not tender, we are required by Assembly regulations to comply with the European procurement process. As Minister, therefore, I went for open procurement, and it was open to everybody to tender. Interestingly enough, a recent document from the IWA indicated that the IBO never intended tendering. Furthermore, listening to John Osmond on the radio this morning, the notion was that the IWA was pleased that the WJEC was the examining body and that it had always wanted the WJEC to develop the qualifications in Wales. With support from the IBO, we are delivering that in this model. As I said in my statement, Professor Thompson from the University of Bath, who is IBO Director for International Research, is a key member of the project team working to develop this.

Yr ydym wedi cymryd cam cyntaf pwysig yn y newid mwyaf erioed i gymwysterau yng Nghymru. O ran eich cwestiynau penodol am y Sefydliad Materion Cymreig, a’r ffaith na fu i’r Sefydliad y Fagloriaeth Gymreig dendro, mae angen inni gydymffurfio, o dan reoliadau’r Cynulliad, â’r broses gaffael Ewropeaidd. Fel Gweinidog, felly, dewisais gaffael agored, ac yr oedd yn agored i bawb gynnig tendr. Yn ddiddorol iawn, nododd dogfen ddiweddar gan yr IWA nad oedd yr IBO wedi bwriadu tendro. Ymhellach, wrth wrando ar John Osmond ar y radio y bore yma, awgrymodd fod yr IWA yn falch mai CBAC oedd y corff arholi a’i fod wastad wedi dymuno i CBAC ddatblygu’r cymwysterau yng Nghymru. Gyda chymorth yr IBO, yr ydym yn cyflwyno hynny yn y model hwn. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’r Athro Thompson o Brifysgol Caerfaddon, sydd yn Gyfarwyddwr Ymchwil Rhyngwladol yr IBO, yn aelod allweddol o’r tîm prosiect sydd yn gweithio i ddatblygu hyn.

On ACCAC, we must remember that ACCAC is our curriculum advisory authority in Wales. Therefore, as Minister, I must take anything that ACCAC says seriously. We did not present the information from ACCAC as though it was information from me. That is important. The information from ACCAC was included as information from our curriculum authority. On your question about schools and colleges, the key thing is that all the aims that the schools and colleges signed up to are the same. There are broad aims about delivering the baccalaureate. Gareth Matthewson from Whitchurch High School, which is piloting the International Baccalaureate, was also on the radio this morning saying that he was looking forward to the Welsh baccalaureate widening access and participation. I am sure that you will agree that the model I have outlined today does that.

O ran ACCAC, rhaid inni gofio mai ACCAC yw’n hawdurdod cynghori ar y cwricwlwm yng Nghymru. Felly, fel Gweinidog, rhaid imi gymryd unrhyw beth a ddywed ACCAC o ddifrif. Ni wnaethom gyflwyno’r wybodaeth oddi wrth ACCAC fel pe bai’n wybodaeth gennyf fi. Mae hynny’n bwysig. Cafodd y wybodaeth oddi wrth ACCAC ei chynnwys fel gwybodaeth oddi wrth ein hawdurdod cwricwlwm. Ynglŷn â’ch cwestiwn am ysgolion a cholegau, y prif beth yw’r ffaith mai’r un yw’r nodau yr ymrwymodd yr ysgolion a’r colegau iddynt. Ceir nodau eang ynglŷn â chyflwyno’r fagloriaeth. Dywedodd Gareth Matthewson o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, sydd yn cymryd rhan yng nghynllun peilot y Fagloriaeth Ryngwladol, a oedd hefyd ar y radio y bore yma, ei fod yn edrych ymlaen at weld y fagloriaeth Gymreig yn ehangu mynediad a chyfranogiad. Yr wyf yn siŵr y cytunwch bod y model a amlinellais heddiw yn gwneud hynny.

We have an immense amount to look forward to. I hope that everybody can celebrate the fact that we are now going our own way in Wales. This is entirely topical regarding the issues that are being raised across the border about how we tackle the broadening of the post-16 curriculum. Today, I am announcing a model that addresses the Secretary of State for Education and Skills’ key concerns—vocational qualifications, contributing towards the community, encouraging schools and colleges to work together, and so on. This is exciting and I know that there is interest already from other parts of the UK. They are watching what we do and how we develop it.

Mae gennym gryn dipyn i edrych ymlaen ato. Gobeithiaf y gall pawb ddathlu’r ffaith ein bod yn awr yn mynd ein ffordd ein hunain yng Nghymru. Mae hyn yn hollol amserol o ystyried y materion sydd yn cael eu codi ar draws y ffin ynglŷn â sut yr awn i’r afael ag ehangu’r cwricwlwm ôl-16. Heddiw, yr wyf yn cyhoeddi model sydd yn mynd i’r afael â phrif bryderon yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau—cymwysterau galwedigaethol, cyfrannu tuag at y gymuned, annog ysgolion a cholegau i gydweithio, ac ati. Mae hyn yn gyffrous a gwn fod rhannau eraill o’r DU eisoes yn dangos diddordeb. Maent yn gwylio’r hyn a wnawn a sut yr ydym yn ei ddatblygu.

Delyth Evans spoken in English p. 35

Delyth Evans siaradwyd yn Saesneg t. 35

I warmly welcome your statement today. I commend your personal lead in this exciting and important project. As someone who specialised narrowly in the arts from the age of 16, I would have benefited far more from the broad range of experience and education that this new system will hopefully provide. Will you ensure that the International Baccalaureate Organisation remains a key partner in the process that we are developing? Secondly, how will you ensure that excellence and specialisation in any one area of study will not be lost due to the range that will be covered?

Croesawaf eich datganiad heddiw yn fawr. Cymeradwyaf eich arweiniad personol yn y prosiect cyffrous a phwysig hwn. Fel rhywun a arbenigodd rhywfaint yn y celfyddydau o 16 oed ymlaen, byddwn wedi elwa llawer mwy ar yr ystod eang o brofiad ac arbenigedd y gobeithir y bydd y system newydd hon yn ei ddarparu. A wnewch chi sicrhau bod Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol yn parhau’n brif bartner yn y broses yr ydym yn ei datblygu? Yn ail, sut y byddwch yn sicrhau na chollir rhagoriaeth ac arbenigedd o fewn unrhyw faes astudio o ganlyniad i’r ystod a gwmpesir?

Jane Davidson spoken in English p. 35

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 35

I hope that I have been able to assure people in terms of the role of the International Baccalaureate Organisation, particularly with Professor Thompson as part of the project team.

Gobeithiaf imi lwyddo i sicrhau pobl o ran rôl Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol, yn enwedig gyda’r Athro Thompson fel rhan o dîm y prosiect.

In terms of excellence, clearly there are subjects, disciplines and vocational careers, like medicine, which require a specialist focus. This proposal takes account of that, and that is partly why it is important to build on our existing qualifications framework, and the broad range of portfolios on offer, to ensure that those who want to take degrees that require specific specialisations on intake can benefit from the baccalaureate’s core curriculum, and can also acquire those complete specialisms. However, the core curriculum is the exciting part of this. That will develop people’s confidence. My friends who have been through the international baccalaureate see that as an important difference. A pupil of Whitchurch High School, which is piloting the international baccalaureate, said on the radio this morning that involvement in the community was one of the greatest attributes of the international baccalaureate. That is enshrined here. We accept that, if we want to give Wales and all our young people the best chance, we should endorse a broad approach.

O ran rhagoriaeth, mae’r rhain yn amlwg yn bynciau, disgyblaethau ac yn yrfaoedd galwedigaethol, fel meddygaeth, sydd angen ffocws arbenigol. Mae’r cynnig hwn yn ystyried hynny, a dyna’n rhannol y rheswm ei bod yn bwysig inni adeiladu ar ein fframwaith presennol o gymwysterau, a’r ystod eang o bortffolios a gynigir, er mwyn sicrhau y gall y rheini sydd am astudio graddau sydd yn gofyn am arbenigeddau pan gânt eu derbyn fanteisio ar gwricwlwm craidd y fagloriaeth, ac y gallant hefyd feithrin yr arbenigeddau cyflawn hynny. Fodd bynnag, y cwricwlwm craidd yw’r rhan gyffrous. Bydd hwnnw’n datblygu hyder pobl. Mae fy ffrindiau sydd wedi cwblhau’r fagloriaeth ryngwladol yn gweld hynny fel gwahaniaeth pwysig. Dywedodd disgybl o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, sydd yn cymryd rhan yng nghynllun peilot y fagloriaeth ryngwladol, ar y radio y bore yma mai cymryd rhan yn y gymuned oedd un o briodoleddau mwyaf y fagloriaeth ryngwladol. Caiff hynny ei ymgorffori yma. Derbyniwn, os ydym am roi’r cyfle gorau i Gymru ac i’n pobl ifanc, y dylem fabwysiadu ymagwedd eang.

Jonathan Morgan spoken in English p. 36

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 36

After being an Assembly Member for two years, I have waited in earnest for woolly left-wing twaddle. My God, we have it now. It is clear, Minister, that this is nothing more than the rehashing of the old general studies course and dumbing down to the lowest possible level. You said yourself that it will be a mix of A levels and GCSEs to help those underachieving. We want to help those pupils, but this will do nothing to help our hardworking and able students who want to better themselves to go on to achieve professional qualifications at university and contribute to society. I am astonished by your statement this morning. We are using our children as perpetual guinea pigs. You have not even reviewed the current system of reform, which has not yet been in operation for one academic year. Already you seek to throw the whole system back into the melting pot and design a completely new system.

Ar ôl bod yn Aelod o’r Cynulliad am ddwy flynedd, yr wyf wedi aros yn daer am nonsens aneglur gan yr adain chwith. Yn wir, fe’i cawsom o’r diwedd. Mae’n amlwg, Weinidog, nad yw’n ddim byd mwy nag ailwampiad o’r hen gwrs astudiaethau cyffredinol ac yn gostwng gofynion gallu i’r lefel isaf posibl. Dywedasoch eich hun y bydd yn gymysgedd o arholiadau Safon Uwch a TGAU er mwyn helpu’r rheini sydd yn tangyflawni. Yr ydym am helpu’r disgyblion hynny, ond ni wna hyn unrhyw beth i helpu ein myfyrwyr gweithgar a galluog sydd am wella eu hunain i fynd ymlaen i ennill cymwysterau proffesiynol yn y brifysgol a chyfrannu at y gymdeithas. Yr wyf wedi’m syfrdanu gan eich datganiad y bore yma. Yr ydym yn defnyddio plant fel testunau arbrawf parhaus. Nid ydych hyd yn oed wedi adolygu’r system ddiwygio bresennol, nad yw wedi bod yn gweithredu am un flwyddyn academaidd eto. Yn barod, yr ydych am daflu’r system gyfan yn ôl i mewn i’r pair a chreu system hollol newydd.

I am afraid that when our young people apply from Wales to universities across the border, and within Wales also, they will be regarded as second rate, and that this subject will be an absolute laughing stock. It does not even match the international baccalaureate. Is that not the truth, Minister? That is why the IBO refused to tender for this project, because they recognised that their subject is far superior to this dumbed-down version that you offer us this morning.

Ofnaf, pan fydd ein pobl ifanc yng Nghymru yn gwneud cais i brifysgolion ar draws y ffin, ac o fewn Cymru hefyd, y cânt eu hystyried fel myfyrwyr eilradd, ac y bydd y pwnc hwn yn destun sbort. Nid yw hyd yn oed yn cyfateb i’r fagloriaeth ryngwladol. Onid yw hynny’n wir, Weinidog? Dyna’r rheswm y gwrthododd yr IBO gynnig tendr ar gyfer y prosiect hwn, oherwydd yr oeddent yn cydnabod bod eu pwnc hwy yn llawer gwell na’r fersiwn israddol hon a gynigiwch inni y bore yma.

I agree that we want to nurture our students and ensure that they understand and respect where they live, and that we want them to understand the wider world and Wales’s role in it, but should the baccalaureate include community participation? Are we designing an education system, or offering our students for bob a job week? That is what it seems to me to be. I am absolutely astonished by what you regard as the educational value of this scheme.

Cytunaf eich bod am feithrin ein myfyrwyr a sicrhau eu bod yn deall ac yn parchu lle y maent yn byw, a’n bod am iddynt ddeall y byd ehangach a rôl Cymru o’i fewn, ond a ddylai’r fagloriaeth gynnwys cyfraniad cymunedol? A ydym yn cynllunio system addysg, neu’n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer wythnos bob a job? Dyna sut y mae’n ymddangos i mi. Yr wyf wedi fy syfrdanu’n llwyr gan yr hyn a ystyriwch yn werth addysgol y cynllun hwn.

In terms of the costs, you outlined that £600,000 will be spent this financial year. What will be the total cost of the pilot scheme? How many millions of pounds will the education budget be expected to find over the next three to four years, and beyond, if this scheme is pursued? My second question is will this qualification replace A levels and do you seek eventually to instruct schools that they will not be able to offer A level qualifications and that they will have to offer this botched option? Will schools and pupils have the option to reject this scheme? Can you tell us why the International Baccalaureate Organisation refused to tender for this project? Is it, as I suspect, because they do not regard it with the educational worth that you have been conveying? They regard the project as a dumbed-down model of an educational choice that will not live up to the international baccalaureate scheme. Many students in Wales have benefited from that scheme. You refer to involving higher education institutions and businesses. However, all will see this project for what it is: a waste of time and a waste of the talents of our young people. The Minister ought to spend more time examining the remainder of the Welsh education system. It has not yet benefited from her party holding office.

O ran costau, amlinellasoch y bydd £600,000 yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Beth fydd cyfanswm cost y cynllun peilot? Sawl miliwn y disgwylir i’r gyllideb addysg ddod o hyd iddi dros y tair i’r pedair blynedd nesaf, a thu hwnt i hynny, os dilynir y cynllun hwn? Fy ail gwestiwn yw a fydd y cymhwyster hwn yn disodli arholiadau Safon Uwch ac a fwriadwch yn y pen draw gyfarwyddo ysgolion na allant gynnig cymwysterau Safon Uwch ac y bydd yn rhaid iddynt gynnig yr opsiwn di-drefn hwn? A fydd gan yr ysgolion a’r disgyblion yr opsiwn i wrthod y cynllun hwn? A allwch ddweud wrthym pam y gwrthododd Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol dendro ar gyfer y prosiect hwn? Ai’r rheswm, fel y tybiaf, yw’r ffaith nad ydynt yn ystyried fod ganddo’r gwerth addysgol y buoch yn ei gyfleu? Maent yn ystyried bod y prosiect yn fodel israddol o ddewis addysgol na fydd yn bodloni disgwyliadau cynllun y fagloriaeth ryngwladol. Mae nifer o fyfyrwyr yng Nghymru wedi manteisio ar y cynllun hwnnw. Cyfeiriwch at gynnwys sefydliadau addysg uwch a busnesau. Fodd bynnag, bydd pawb yn gweld y prosiect hwn yn ei wir oleuni: gwastraff amser a gwastraff o ddoniau ein pobl ifanc. Dylai’r Gweinidog dreulio mwy o amser yn archwilio gweddill system addysg Cymru. Nid yw wedi elwa hyd yn hyn ar y ffaith bod ei phlaid hi yn llywodraethu.

Jane Davidson spoken in English p. 37

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 37

I am delighted with your contribution. It vindicates the rest of the Assembly’s commitment to broaden the agenda for young people in Wales and recognises why the Institute for Welsh Affairs’s proposal took so long to develop. In the old Conservative Government, there was clearly no interest in broadening the curriculum.

Yr wyf yn falch o’ch cyfraniad. Mae’n cyfiawnhau ymrwymiad gweddill y Cynulliad i ehangu’r agenda ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru gan gydnabod pam y cymerwyd gymaint o amser i ddatblygu cynnig y Sefydliad Materion Cymreig. Yn yr hen Lywodraeth Geidwadol, yr oedd yn amlwg nad oedd unrhyw ddiddordeb mewn ehangu’r cwricwlwm.

However, you raised one important point, which is whether the Welsh baccalaureate will replace A-Level qualifications. That will depend on the success of the pilot scheme. It will depend on the level to which schools and colleges sign up to it and on whether they feel that it results in a better deal for their students.

Fodd bynnag, codasoch un pwynt pwysig, sef a fydd y fagloriaeth Gymreig yn disodli cymwysterau Safon Uwch. Bydd hynny’n dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot. Bydd yn dibynnu i ba raddau y bydd ysgolion a cholegau yn ei gymeradwyo a pha un a fyddant o’r farn y bydd yn arwain at well trefniant ar gyfer eu myfyrwyr.

I reject absolutely the notion that this scheme is dumbing down education standards. You clearly do not understand this proposal. If you remember, in my statement and in my first response, I made it clear that this scheme operates at two levels. It operates at level 3, which is equivalent to A-Level and the international baccalaureate. It also operates at level 2, which is equivalent to GCSE. Level 2 is designed to raise the standards of those who get weaker GCSEs and give them a further two years of broad study to enable them to play their full part in Wales.

Gwrthwynebaf yn llwyr y syniad bod y cynllun hwn yn gostwng safonau addysgol. Mae’n amlwg nad ydych yn deall y cynnig hwn. Os cofiwch, yn fy natganiad ac yn fy ymateb cyntaf, amlygais y ffaith fod y cynllun hwn yn gweithredu ar ddwy lefel. Mae’n gweithredu ar lefel 3, sydd yn gyfystyr â Safon Uwch a’r fagloriaeth Gymreig. Mae hefyd yn gweithredu ar lefel 2, sydd yn gyfystyr â TGAU. Bwriedir i Lefel 2 godi safonau’r rhai hynny sydd yn cael canlyniadau TGAU gwannach gan roi dwy flynedd ychwanegol o astudio cyffredinol iddynt er mwyn eu galluogi i chwarae eu rhan yn llawn yng Nghymru.

It is an agenda about widening access, not dumbing down. It promotes equal opportunities for all, so that we get excellence throughout Wales and can provide continuing opportunities for learning. The remainder of the Assembly has a lifelong learning agenda in Wales. We want to see the key skills that are so important to businesses embedded in our curriculum, not merely as an add-on.

Mae’n agenda sydd yn ymwneud ag ehangu mynediad, nid gostwng safonau. Mae’n hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, er mwyn inni gael rhagoriaeth ledled Cymru ac fel y gallwn ddarparu cyfleoedd dysgu parhaus. Mae gan weddill y Cynulliad agenda dysgu gydol oes yng Nghymru. Dymunwn weld y sgiliau allweddol sydd mor bwysig i fusnesau yn cael eu hymgorffori yn ein cwricwlwm, ac nid fel rhyw ychwanegiad.

We have an exciting proposal on the table. To ensure that Members can understand it, and since many people can only understand 43 per cent of what they read on the first reading, I will ensure that everybody has a copy of what was included in the proposal. I cannot provide copies of the tender itself, as that is commercially confidential. You will see what an exciting option this is. You will see how it works for a range of students, with or without qualifications, and the new opportunities available to them.

Mae cynnig cyffrous ger ein bron. Er mwyn sicrhau y gall yr Aelodau ei ddeall, ac oherwydd bod llawer o bobl ond yn deall 43 y cant o’r hyn a ddarllenant ar y darlleniad cyntaf, byddaf yn sicrhau bod gan bawb gopi o’r hyn a gynhwyswyd yn y cynnig. Ni allaf ddarparu copïau o’r tendr ei hun, oherwydd bod hwnnw’n fasnachol gyfrinachol. Fe welwch pa mor gyffrous yw’r opsiwn hwn. Fe welwch sut y mae’n gweithio ar gyfer ystod o fyfyrwyr, boed ganddynt gymwysterau ai peidio, a’r cyfleoedd newydd fydd ar gael iddynt.

I clarified earlier that a key issue of this pilot scheme is protecting the students as they follow it. I am confident that a large number of schools and colleges will want to participate in it, as they will see the benefits of our new post-16 agenda and of broadening the opportunities for young people in Wales.

Eglurais yn gynharach mai un o’r prif faterion yn y cynllun peilot hwn yw diogelu’r myfyrwyr wrth iddynt ei ddilyn. Yr wyf yn hyderus y bydd nifer fawr o ysgolion a cholegau am gymryd rhan yn y cynllun, oherwydd y byddant yn gweld manteision ein hagenda ôl-16 newydd a’r cyfleodd ehangach i’r bobl ifanc yng Nghymru.

Jonathan Morgan spoken in English p. 38

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 38

What is the cost?

Faint yw’r gost?

Jane Davidson spoken in English p. 39

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 39

In terms of the cost, the only budgeted amount is the £600,000 for 2001. We will then go into the budget planning round for future years. You can consider that as we debate it. In terms of the absolute costs, Jonathan will understand, as a member of a party that said it was the party of business, that there is commercial tender confidentiality.

O ran y gost, yr unig swm a gyllidebwyd yw’r £600,000 ar gyfer 2001. Yna byddwn yn mynd i gylch cynllunio’r gyllideb ar gyfer y dyfodol. Gallwch ystyried hynny wrth inni ei drafod. O ran y costau diamod, bydd Jonathan yn deall, fel aelod o blaid a ddywedodd ei bod yn blaid fusnes, y ceir cyfrinachedd o ran tendr masnachol.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 39

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 39

Order. The 30 minutes allocated to this statement has long since passed. Regrettably, I have been unable to call all party spokespeople, nor the Chair of the Education and Lifelong Learning Committee. I am in the Assembly’s hands. The statement was rather long, as were the answers. I call Eleanor Burnham to speak briefly.

Trefn. Mae’r 30 munud a ddyrannwyd ar gyfer y datganiad hwn wedi hen ddod i ben. Yn anffodus, nid wyf wedi gallu galw ar bob un o lefarwyr y pleidiau, na Chadeirydd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes. Yr wyf yn nwylo’r Cynulliad. Yr oedd y datganiad yn weddol hir, yn ogystal â’r atebion. Galwaf ar Eleanor Burnham i siarad yn fyr.

Eleanor Burnham spoken in English p. 39

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 39

I welcome the Minister’s statement and appreciate the commitment to ensuring that the Assembly was informed of the development of this pilot as soon as possible. For years, the concepts and principles that underlie this project have been bandied about in academic circles and, until now, have never had the prospect of seeing the light of day.

Croesawaf ddatganiad y Gweinidog a gwerthfawrogaf yr ymrwymiad i sicrhau yr hysbyswyd y Cynulliad o ddatblygiad y cynllun peilot hwn cyn gynted â phosibl. Ers blynyddoedd, cafodd y cysyniadau a’r egwyddorion sydd yn sail i’r prosiect hwn eu taflu o gwmpas mewn cylchoedd academaidd a, hyd yn hyn, ni chawsant gyfle i weld golau dydd.

We must remember that access, inclusion, participation and breadth are the standards by which we will be judged, irrespective of the model’s specifics or the organisations involved. As we are satisfied that what you have outlined today fulfils that overarching purpose, the Welsh Liberal Democrats are pleased to offer our full support.

Rhaid inni gofio mai mynediad, cynhwysedd, cyfranogiad ac ehangder yw’r safonau y byddwn yn cael ein beirniadu yn eu herbyn, waeth beth fo nodweddion y model neu’r sefydliadau sydd yn gysylltiedig ag ef. Gan ein bod yn fodlon bod yr hyn a amlinellasoch heddiw yn gwireddu’r diben trosfwaol hwnnw, mae’n bleser gan y Democratiaid Rhyddfrydol gynnig eu cefnogaeth lawn.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 39

Cynog Dafis spoken in Welsh and English p. 39

Ym mharagraff olaf ond un y datganiad, dywed y Gweinidog

in Welsh In the statement’s penultimate paragraph, the Minister says that

‘No awarding body came forward with a proposal based on the IWA model however.’

yn Saesneg ‘Fodd bynnag, ni chyflwynodd unrhyw gorff dyfarnu gynnig yn seiliedig ar fodel yr IWA.’

A wnaiff hi gadarnhau bod yr IBO wedi ysgrifennu ati i ddweud nad oedd am dendro ar gyfer y contract oherwydd ei fod yn credu bod dogfen ACCAC, a oedd ynghlwm wrth y ddogfen dendro, yn arwain oddi wrth gyfeiriad model yr IWA, yr oedd yr IBO wedi ymddiddori ynddo ac wedi ei gefnogi?

in Welsh Will she confirm that the IBO wrote to her informing her that it did not intend to tender for the contract as it felt that ACCAC’s document, which was attached to the tender document, led away from the direction of the IWA model, in which the IBO had taken an interest and had supported?

Bid a fo am hynny, y dyfodol sydd yn bwysig. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd yr arbenigwyr o’r Sefydliad Materion Cymreig a fu’n dyfeisio’r prosiect o’r cychwyn, sef John David, Eirlys Pritchard Jones a Colin Jenkins, yn cael eu cynnwys ym mharatoadau’r cynllun peilot ac yn aelodau o’r grŵp llywio, ac y bydd datblygu’r fagloriaeth Gymreig yn debyg i fodel y Sefydliad Materion Cymreig yn parhau yn bosibilrwydd agored? Efallai na fydd hynny’n bosibl o ran yr holl fanylion, ond dylai’r model cyffredinol barhau i fod yn ddilys ac yn bosibilrwydd ar gyfer y cynllun peilot.

in Welsh Be that as it may, the future is what is important. Will the Minister give an assurance that the experts at the Institute of Welsh Affairs who devised the project from the outset, namely John David, Eirlys Pritchard Jones and Colin Jenkins, are included in the preparations for the pilot and become members of the steering group, and that the development of a Welsh baccalaureate similar to the Institute of Welsh Affairs’s model will continue to be an open possibility? Perhaps that will not be possible in terms of every detail, but the broad model should continue to be valid and a possibility for the pilot.

Jane Davidson spoken in English p. 40

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 40

As I said in my statement, I will discuss with Geraint Talfan Davies how the IWA experts can be best involved. I will report back on that to the Education and Lifelong Learning Committee. The model that came in for the tender, was the model that I outlined in today’s statement and the one that will be developed. As I have said, the expertise of the International Baccalaureate Organisation, and the IWA’s work over the years in developing the broad model, will be incorporated in the thinking behind the development of our model. The tender was of wonderful quality, because it mentioned encouraging a different approach to the core elements of a curriculum intended to develop young people. Also, we want to ensure that they are protected through the qualifying for success agenda. Those are the two key components of the model that won the tender. I am more than happy to utilise other experience in the development of the model. That is why I will hold discussions with the IWA and why the IBO is heavily involved in the project management.

Fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn trafod gyda Geraint Talfan Davies ynglŷn â’r ffordd orau o gynnwys arbenigwyr yr IWA. Byddaf yn cyflwyno adroddiad ar hynny i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes. Y model a gynigwyd ar gyfer y tendr, oedd y model a amlinellais yn natganiad heddiw a’r un a fydd yn cael ei ddatblygu. Fel y dywedais, caiff arbenigedd Sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol, a gwaith yr IWA dros y blynyddoedd wrth ddatblygu’r model eang, ei ymgorffori yn y meddylfryd sydd yn sail i ddatblygiad ein model. Yr oedd y tendr o ansawdd arbennig, oherwydd ei fod yn crybwyll annog ymagwedd wahanol tuag at elfennau craidd cwricwlwm sydd â’r bwriad o ddatblygu pobl ifanc. Yn ogystal, yr ydym am sicrhau y cânt eu diogelu drwy’r agenda cymhwyso ar gyfer llwyddiant. Dyna ddwy ran allweddol y model a enillodd y tendr. Yr wyf yn fwy na pharod i ddefnyddio profiad arall wrth ddatblygu’r model. Dyna paham y byddaf yn cynnal trafodaethau gyda’r IWA a phaham y mae gan yr IBO ran bwysig yn y gwaith o reoli’r prosiect.

David Melding spoken in English p. 40

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 40

If you deem that the pilot scheme has succeeded, will the baccalaureate replace A-levels or will there always be a choice for students?

Os ystyriwch bod y cynllun peilot wedi llwyddo, a fydd y fagloriaeth yn disodli arholiadau Safon Uwch neu a fydd dewis i fyfyrwyr bob amser?

Jane Davidson spoken in English p. 40

Jane Davidson siaradwyd yn Saesneg t. 40

Students will always have a choice. However, as I have said, it depends on the extent to which schools and students want to take this up. It will also be piloted in colleges, as our big agenda for post-16 education means that learning will not necessarily take place in a traditional classroom in future. The pilot scheme will not commence until 2003 because we need about a year to carry out the development work, which will have to be framed in qualifications terms before the first cohort can commence the pilot scheme. The WJEC proposes that there will be 12 schools and six colleges in the first cohort, to which six schools a year will be added for a further two years.

Bydd dewis gan fyfyrwyr bob amser. Fodd bynnag, fel y dywedais, mae’n dibynnu i ba raddau y bydd ysgolion a cholegau am gymryd rhan yn y cynllun hwn. Cynhelir cynllun peilot ohono mewn colegau hefyd, oherwydd bod ein hagenda fawr ar gyfer addysg ôl-16 yn golygu na fydd pobl yn cael eu dysgu o reidrwydd mewn dosbarth traddodiadol yn y dyfodol. Ni fydd y cynllun peilot yn dechrau tan 2003 oherwydd bod angen tua blwyddyn arnom i gyflawni’r gwaith datblygu, y bydd angen ei lunio yn nhermau cymwysterau cyn y gall y garfan gyntaf ddechrau’r cynllun peilot. Mae CBAC yn cynnig y bydd 12 ysgol a chwe choleg yn y garfan gyntaf, ac ychwanegir chwe ysgol arall ati am ddwy flynedd arall.

This is all dependent on the success of the pilot scheme. I hope that you would agree that we are taking a considered approach towards this. We are not merely announcing that every student will now study for a baccalaureate qualification. What we are saying is that this is the best possible option, which we are now testing in the schools and colleges that will participate in the programme. If that is what they want, then I am sure that we will develop the same system as Scotland, in the sense that all schools will offer the equivalent to Scottish ‘Highers’ and some will continue to offer A-levels. A portfolio of qualifications is available. I expect that portfolio of qualifications to continue to be available in its entirety in Wales.

Mae hyn oll yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot. Gobeithiaf y byddech yn cytuno ein bod yn cymryd ymagwedd ystyriol tuag at hyn. Nid ydym yn datgan yn syml y bydd pob myfyriwr bellach yn astudio am gymhwyster bagloriaeth. Yr hyn a ddywedwn yw mai hwn yw’r opsiwn gorau posibl, yr ydym yn ei brofi yn awr yn yr ysgolion a’r colegau a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen. Os mai dyna a ddymunant, yna yr wyf yn siŵr y byddwn yn datblygu yr un system â’r Alban, yn yr ystyr y bydd pob ysgol yn cynnig yr hyn sydd yn gyfystyr ag arholiadau ‘Uwch’ yr Alban ac y bydd rhai yn parhau i gynnig arholiadau Safon Uwch. Mae portffolio o gymwysterau ar gael. Disgwyliaf y bydd y portffolio hwnnw o gymwysterau yn parhau i fod ar gael yn ei gyfanrwydd yng Nghymru.

Datganiad ar Ariannu’r Cytundeb Partneriaeth

Statement on Funding the Partnership Agreement

Edwina Hart The Minister for Finance, Local Government and Communities spoken in English p. 41

Edwina Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau siaradwyd yn Saesneg t. 41

First, I apologise for the length of my statement.

Yn gyntaf, ymddiheuraf am hyd fy natganiad.

When we launched ‘Putting Wales First: A Partnership for the People of Wales’, last October we knew that it was a bold and ambitious programme of policies that would build on the objectives set out in ‘Betterwales.com’. It is a three-year programme and I want to talk about our progress in reaching the targets set.

Pan lansiwyd ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf: Partneriaeth ar gyfer Pobl Cymru’, gennym fis Hydref diwethaf, gwyddem ei bod yn rhaglen flaengar ac uchelgeisiol o bolisïau a fyddai’n adeiladu ar yr amcanion a nodwyd yn ‘Gwellcymru.com’. Mae’n rhaglen tair blynedd a hoffwn siarad am y cynnydd a wnaethpwyd gennym i gyrraedd y targedau a bennwyd.

I start with education and lifelong learning. For nursery education and early years provision, our commitment is to develop proposals in 2001-02 for full implementation in 2002-03. We are currently undertaking a needs audit across Wales, so that we have a clear understanding of the likely costs to inform our assessment of what can be achieved. Emerging findings suggest that the current baseline will not fully fund the necessary additional costs to provide free part-time early years provision for all three-year-olds in Wales. However, I am not convinced that the profile of expenditure in the budget is right. I intend to address those issues in the budget planning round.

Dechreuaf drwy sôn am addysg a dysgu gydol oes. O ran addysg feithrin a darpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ein hymrwymiad yw datblygu cynigion yn 2001-02 i’w gweithredu’n llawn yn 2002-03. Yr ydym wrthi’n cynnal archwiliad o anghenion ledled Cymru ar hyn o bryd, er mwyn inni gael dealltwriaeth glir o’r costau tebygol i lywio ein hasesiad o’r hyn y gellir ei gyflawni. Awgryma’r canfyddiadau na fydd yr arian sylfaenol presennol yn ddigonol i ariannu’r costau ychwanegol angenrheidiol ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar rhan amser am ddim i blant teirblwydd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig bod proffil y gwariant yn y gyllideb yn gywir. Bwriadaf fynd i’r afael â’r materion hynny yng nghylch cynllunio’r gyllideb.

The second major initiative in this sector is a reduction of junior class sizes to 30 pupils, with a view to securing a reduction to 25 pupils or less in all primary classes during the National Assembly’s second term. In last year’s budget planning round, I provided £20 million to support schools and local education authorities in reducing class sizes and making school improvements. These resources were issued to local authorities this year. The impact of this funding will be assessed in the light of the September 2001 primary class size count. The budget plans provide for a further £25 million next financial year and £32 million the year after. This more than meets our commitment to provide an additional £65 million over the next three years.

Yr ail brif fenter yn y sector hwn yw lleihau nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau iau i 30, gyda’r bwriad o sicrhau gostyngiad i 25 o ddisgyblion neu lai ym mhob dosbarth ysgol gynradd yn ystod ail dymor y Cynulliad Cenedlaethol. Yng nghylch cynllunio cyllideb y llynedd, darparais £20 miliwn i helpu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i leihau maint dosbarthiadau a gwneud gwelliannau i ysgolion. Rhoddwyd yr adnoddau hyn i’r awdurdodau lleol eleni. Caiff effaith yr arian hwn ei asesu yn ôl nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau cynradd ym Medi 2001. Mae cynlluniau’r gyllideb yn darparu ar gyfer £25 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf a £32 miliwn y flwyddyn ganlynol. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad i ddarparu £65 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

General funding is included in the baseline for teacher training incentives. There is also funding in this financial year to meet the commitment to extend the initial teacher training grants to primary teacher trainees taking postgraduate certificates of education with effect from September 2001.

Caiff arian cyffredinol ei gynnwys yn yr arian sylfaenol ar gyfer mentrau hyfforddiant athrawon. Mae arian hefyd ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i gyflawni’r ymrwymiad i ymestyn y grantiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgolion cynradd dan hyfforddiant sydd yn ymgymryd â thystysgrif addysg ôl-raddedig, a fydd yn weithredol o Fedi 2001.

The condition of school buildings is of particular concern to Jane Davidson and myself and the partnership agreement includes a commitment to making £200 million available over three years for this. The budget provision for three years from 2001-02 is £292 million, although this is not all in the form of a school buildings upgrade fund. We believe that £100 million a year is required to bring the condition of school buildings up to acceptable standards after years of neglect. That assessment will need to be reviewed in light of the capital assessment management plans that authorities are expected to have in place by 2002. We will continue to bring pressure to bear on local authorities to spend the resources allocated to them.

Mae cyflwr adeiladau ysgolion o bryder arbennig i Jane Davidson a minnau ac mae’r cytundeb partneriaeth yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod £200 miliwn ar gael dros dair blynedd ar gyfer hynny. Cyfanswm o £292 miliwn yw darpariaeth y gyllideb dros dair blynedd o 2001-02, er nad yw’r arian i gyd ar ffurf cronfa uwchraddio adeiladau ysgolion. Credwn fod angen £100 miliwn y flwyddyn i sicrhau bod adeiladau ysgolion yn cyrraedd safonau derbyniol ar ôl blynyddoedd o gael eu hesgeuluso. Bydd angen adolygu’r asesiad hwnnw yng ngoleuni’r cynlluniau rheoli asesiad cyfalaf y mae disgwyl i awdurdodau eu rhoi ar waith erbyn 2002. Bydd angen inni barhau i bwyso ar awdurdodau lleol i wario’r adnoddau a ddyrannwyd iddynt.

In terms of a rural schools policy, we need to consider expenditure implications in light of the Education and Lifelong Learning Committee’s conclusions on the supply of school places. I will consider proposals for additional resources in the budget planning round.

O ran polisi ar ysgolion gwledig mae angen inni ystyried goblygiadau gwariant yng ngoleuni casgliadau’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â’r cyflenwad o leoedd ysgol. Byddaf yn ystyried cynigion ar gyfer adnoddau ychwanegol yng nghylch cynllunio’r gyllideb.

As you know, teachers’ pay is not a devolved matter, but we look to work with the Department for Education and Skills to provide improved pay and conditions for teachers. Threshold pay provision is provided in the revenue settlement, but it is not known whether these resources are sufficient, because threshold assessment is still underway in Wales. Jane Davidson and I are concerned about how the former Department for Education and Employment announced changes to teachers’ conditions without making it clear where they applied to England only, or consulting us where there could be cost implications. We have made and will continue to make representations to the Secretary of State about this.

Fel y gwyddoch, nid yw cyflogau athrawon yn fater datganoledig, ond disgwyliwn weithio gyda’r Adran Addysg a Sgiliau i roi gwell cyflog ac amodau i athrawon. Darperir ar gyfer taliadau trothwy cyflog yn y setliad refeniw, ond ni wyddys a yw’r adnoddau hyn yn ddigonol, am fod yr asesiad trothwy yn mynd rhagddo o hyd yng Nghymru. Mae Jane Davidson a minnau yn pryderu ynglŷn â’r ffordd y cyhoeddodd y cyn-Adran Addysg a Chyflogaeth newidiadau i amodau athrawon heb egluro lle yr oeddent yn berthnasol i Loegr yn unig, neu ymgynghori â ni lle y gallai fod goblygiadau o ran cost. Gwnaethom sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol am hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

I will not mention the Welsh baccalaureate, as it was the subject of an earlier statement by the Minister for Education and Lifelong Learning. However, the Subject Committee policy study is ongoing and will inform the 10-year strategy for Welsh universities. Until a clear picture emerges as to how this will be taken forward, the initiative remains unfunded.

Ni soniaf am y fagloriaeth Gymreig, gan iddi gael ei thrafod mewn datganiad cynharach gan y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Fodd bynnag, mae astudiaeth bolisi’r Pwyllgor Pwnc yn mynd rhagddi a bydd yn llywio’r strategaeth 10-mlynedd ar gyfer prifysgolion Cymru. Hyd nes y cawn ddarlun clir ynghylch sut y bydd hyn yn datblygu, ni chaiff y fenter ei hariannu.

Training will be provided through a new programme, namely the modern skill diploma for adults, which will only be available in Wales. It aims to improve adults’ vocational skills, acting in a similar way to the modern apprenticeship scheme. The programme became operational on 1 April. A budget of £9.75 million has been allocated for this scheme over the next three years.

Caiff hyfforddiant ei ddarparu drwy raglen newydd, sef diploma sgiliau cyfoes i oedolion, a fydd ond ar gael yng Nghymru. Ei nod yw gwella sgiliau galwedigaethol oedolion, gan weithredu mewn modd tebyg i’r cynllun prentisiaeth fodern. Daeth y rhaglen yn weithredol ar 1 Ebrill. Dyrannwyd cyllideb o £9.75 miliwn i’r cynllun hwn dros y tair blynedd nesaf.

We have made £500,000 available this year to take forward several recommendations of the physical education and sport in schools taskforce, including the development of programmes for the continuing professional development of teachers; the establishment of curriculum development centres to identify, strengthen and develop good practice in physical education and school sport; and the appointment of a national co-ordinator to oversee this work and develop plans for the implementation of other areas of this report. It is unfunded for future years, but I will look closely at this in the forthcoming budget planning round. However, over £48 million of lottery money is available through the New Opportunities Fund to help local authorities refurbish existing facilities and make provision for new sports facilities for school and community use.

Darparwyd £500,000 gennym eleni i’w ddefnyddio i ddatblygu sawl argymhelliad gan y tasglu addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion, gan gynnwys datblygu rhaglenni ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus athrawon; sefydlu canolfannau datblygu cwricwlwm er mwyn nodi arfer da, a’i atgyfnerthu a’i ddatblygu mewn addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion; a phenodi cydlynydd cenedlaethol i oruchwylio’r gwaith hwn a datblygu cynlluniau i roi meysydd eraill o’r adroddiad hwn ar waith. Ni chlustnodir arian ar ei gyfer yn y dyfodol, ond byddaf yn edrych yn fanwl ar hyn yn ystod cylch cynllunio neaf y gyllideb. Fodd bynnag, mae dros £48 miliwn o arian y loteri ar gael drwy’r Gronfa Cyfleoedd Newydd i helpu awdurdodau lleol i adnewyddu cyfleusterau sydd yn bodoli eisoes a darparu cyfleusterau chwaraeon newydd at ddefnydd ysgolion a’r gymuned.

The key initiative in this sector is our commitment to investigating student hardship. We are currently considering the outcome of the study and its cost implications. That matter will be considered in the budget planning round.

Y brif fenter yn y sector hwn yw ein hymrwymiad i ymchwilio i galedi myfyrwyr. Yr ydym ar hyn o bryd yn ystyried canlyniad yr astudiaeth a’i goblygiadau o ran cost. Caiff y mater hwnnw ei ystyried yng nghylch cynllunio’r gyllideb.

I turn to health and social care. A significant start has been made. The Minister for Health and Social Services has launched ‘Improving Health in Wales’, which, in some areas, supersedes commitments in the partnership agreement. We are therefore well placed to drive forward the improvement to the NHS in Wales that we are all clearly striving to achieve. With reference to the partnership agreement, there is funding in the NHS baseline provision to implement the NHS human resource development strategy and waiting times strategy. Extra training places for 190 nurses and 75 professionals allied to medicine have been put in place recurrently until 2004-05. We will increase student numbers by more than 5 per cent each year in addition to the 20 per cent expansion in training numbers announced last year. Due to prudent budget management, additional resources are available this financial year to recruit and retain nurses. With regard to waiting times, we included £35 million in health authority allocations at the start of the financial year. The Minister for Health and Social Services announced earlier this week that £6 million this year will be redirected to reduce waiting times for orthopaedic treatments.

Trof at iechyd a gofal cymdeithasol. Yr ydym wedi dechrau’n dda iawn. Lansiodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’, a fydd, mewn rhai meysydd, yn disodli’r ymrwymiadau yn y cytundeb partneriaeth. Felly yr ydym mewn sefyllfa dda i sicrhau’r gwelliant yn yr NHS yng Nghymru yr ydym oll yn amlwg yn ymdrechu i’w gyflawni. O ran y cytundeb partneriaeth, mae arian ar gael yn narpariaeth sylfaenol yr NHS i weithredu strategaeth datblygu adnoddau dynol yr NHS a strategaeth amseroedd aros. Darparwyd lleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer 190 o nyrsys a 75 o weithwyr proffesiynol sydd yn gysylltiedig â meddygaeth bob blwyddyn tan 2004-05. Byddwn yn cynyddu nifer y myfyrwyr o fwy na 5 y cant bob blwyddyn, yn ychwanegol at y cynnydd o 20 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi a gyhoeddwyd y llynedd. Yn sgîl rheoli cyllidebol doeth, mae adnoddau ychwanegol ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i recriwtio a chadw nyrsys. O ran amseroedd aros, cynhwyswyd £35 miliwn gennym mewn dyraniadau i awdurdodau iechyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y caiff £6 miliwn ei ailgyfeirio eleni i leihau’r amseroedd aros cyn cael triniaeth orthopedig.

The total health budget this financial year exceeded the commitment in the partnership agreement, but funding to address the findings of the service reviews of waiting list specialities is not currently quantifiable. Jane Hutt and I will consider that matter in the budget planning round.

Aeth cyfanswm y gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon y tu hwnt i’r ymrwymiad yn y cytundeb partneriaeth, ond, ar hyn o bryd, nid oes modd meintioli’r arian y bydd ei angen i fynd i’r afael â chanfyddiadau adolygiadau’r gwasanaeth o restrau aros yn ôl arbenigedd. Bydd Jane Hutt a minnau yn ystyried y mater hwnnw yng ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

Spending on capital projects in the NHS is a key issue. Despite the perception that we are turning to the private sector for all new building, the capital for the NHS in Wales amounts to £273 million over three years, starting from the current financial year. That is well above the partnership agreement’s target of £200 million.

Mae gwariant ar brosiectau cyfalaf yn yr NHS yn fater allweddol. Er gwaethaf y canfyddiad ein bod yn troi at y sector preifat ar gyfer pob gwaith adeiladu newydd, rhoddir cyfanswm o £273 miliwn i’r NHS yng Nghymru dros dair blynedd, gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae hynny dipyn yn uwch na tharged y cytundeb partneriaeth o £200 miliwn.

We have set up pilot schemes to look at innovative solutions to delayed discharge. They are funded from within health baselines. At present the quantum of resources required for full implementation is unknown but will be informed in the light of the pilot schemes.

Sefydlwyd cynlluniau peilot gennym i ystyried atebion dyfeisgar i’r oedi cyn rhyddhau cleifion. Fe’u hariennir o fewn arian sylfaenol iechyd. Ar hyn o bryd, ni wyddys faint o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu’n llawn ond caiff ei lywio yng ngoleuni’r cynlluniau peilot.

We have provided £36 million to develop telemedicine, informaton technology and video conferencing. That is a significant step to bring the NHS in Wales up to date to meet the technological challenges of the twenty first century.

Darparwyd £36 miliwn i ddatblygu telefeddygaeth, technoleg gwybodaeth a chynadledda fideo. Mae hynny’n gam pwysig ymlaen i ddiweddaru’r NHS yng Nghymru er mwyn wynebu heriau technolegol yr unfed ganrif ar hugain.

Last year, to help meet winter pressures, there was an increase of 103 newly staffed emergency medical beds and 20 new critical care beds. Some funding for further increases in capacity should be available from the increased health authority allocations. However, we expect further resource implications, which I shall consider in the budget planning round.

Y llynedd, er mwyn helpu ymdopi â phwysau’r gaeaf, bu cynnydd o 103 o welyau meddygol brys newydd eu staffio a 20 o welyau gofal dwys newydd. Dylai peth arian i sicrhau capasiti ymhellach fod ar gael o fewn y dyraniadau mwy i’r awdurdod iechyd. Fodd bynnag, disgwyliwn weld goblygiadau pellach o ran adnoddau a byddaf yn eu hystyried yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

Over this year and the next two years, an additional £25 million has been provided for community support packages for the resettlement of people with learning disabilities from long-stay hospitals. Resources required in future years to complete the resettlement of people at Bryn y Neuadd hospital in Llanfairfechan, will be identified in a comprehensive resettlement plan for residents. In parallel with that, I am seeking to ensure appropriate housing provision through social housing grants.

Yn ystod y flwyddyn hon a’r ddwy flynedd nesaf, darparwyd £25 miliwn ychwanegol ar gyfer pecynnau cymorth cymunedol ar gyfer adleoli pobl ag anableddau dysgu o ysbytai arhosiad hir. Caiff yr adnoddau sydd eu hangen yn y dyfodol i gwblhau’r broses o adleoli pobl o ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan eu nodi mewn cynllun adleoli cynhwysfawr ar gyfer preswylwyr. Ochr yn ochr â hynny, yr wyf yn ceisio sicrhau darpariaeth tai briodol drwy grantiau tai cymdeithasol.

The Children’s Commissioner for Wales has been in office since 1 March and his full powers are scheduled for commencement this year. There is a budget baseline of £800,000 from 2001-02 onwards. The Commissioner has been concentrating to date on developing and finalising his operational structures and is due to start recruiting staff next month. He has recently secured permanent accommodation in Colwyn Bay and Swansea. He has also started consulting children and young people and interested bodies and agencies about his work.

Bu Comisiynydd Plant Cymru yn ei swydd ers 1 Mawrth a daw ei bwerau llawn yn weithredol eleni. Mae cyllideb sylfaenol o £800,000 o 2001-02 ymlaen. Bu’r Comisiynydd yn canolbwyntio hyd yn hyn ar ddatblygu a chwblhau ei strwythurau gweithredol a bydd yn dechrau recriwtio staff fis nesaf. Sicrhaodd swyddfeydd parhaol ym Mae Colwyn ac yn Abertawe yn ddiweddar. Mae hefyd wedi dechrau ymgynghori â phlant a phobl ifanc, ac â chyrff ac asiantaethau â buddiannau o ran ei waith.

I turn to enterprise and economic development. We said that we would ensure available funding to promote the regional technology plan. Its development and implementation is a continuously evolving process. We are now revising and updating the plan and I shall consider further funding requirements in the current budget planning round. The development of a business birth-rate strategy is being taken forward as part of the entrepreneurship implementation plan. Additional funding of £1.5 million above baselines is being directed towards the strategy in the current financial year and, as part of the budget planning process, we are reviewing the level of resourcing for future years.

Trof at fenter a datblygu economaidd. Dywedasom y byddem yn sicrhau bod arian ar gael i hyrwyddo’r cynllun technoleg rhanbarthol. Mae datblygu a gweithredu’r cynllun yn broses sydd yn datblygu’n barhaus. Yr ydym erbyn hyn yn adolygu a diweddaru’r cynllun a byddaf yn ystyried gofynion ariannol pellach yn ystod cylch cynllunio presennol y gyllideb. Mae strategaeth cyfradd geni busnesau yn cael ei datblygu fel rhan o’r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth. Caiff £1.5 miliwn yn ychwanegol at yr arian sylfaenol ei gyfeirio tuag at y strategaeth yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac, fel rhan o broses cynllunio’r gyllideb, yr ydym yn adolygu lefel yr adnoddau ar gyfer y dyfodol.

Funding for a number of projects within the entrepreneurship implementation plan has already been secured from Objective 1, and we anticipate a significant increase in the coming months. We have also provided a start-up budget for the Community Investment Authority, but more work needs to be carried out so that I can give proper consideration to the matter in the budget planning round.

Sicrhawyd arian ar gyfer nifer o brosiectau o fewn y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth gan Amcan 1 eisoes, a rhagwelwn gynnydd sylweddol yn ystod y misoedd nesaf. Yr ydym hefyd wedi darparu cyllideb gychwynnol ar gyfer yr Awdurdod Buddsoddi Cymunedol, ond mae angen gwneud mwy o waith er mwyn imi allu rhoi ystyriaeth briodol i’r mater yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

The commitment to increase funding for the Welsh Development Agency for foreign direct investment and marketing has been met through the provision of an additional £1 million. The money will be used to enhance Wales’ inward investment strategy in order to meet the objectives of ‘Betterwales.com’ and to restore Wales as a premier location for inward investment. That especially the requirement to attract value added investment to Wales, involves considerable investment in marketing and sales resources to meet the needs of a fast changing market.

Cyflawnwyd yr ymrwymiad i roi mwy o arian i Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer buddsoddi a marchnata uniongyrchol dramor drwy ddarparu £1 filiwn yn ychwanegol. Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella strategaeth mewnfuddsoddi Cymru er mwyn cyflawni amcanion ‘Gwellcymru.com’ ac adfer Cymru fel lleoliad o safon i fewnfuddsoddwyr. Bydd hynny, yn enwedig y gofyniad i ddenu rhagor o fuddsoddiad â gwerth ychwanegol i Gymru, yn golygu cryn fuddsoddiad mewn adnoddau marchnata a gwerthu er mwyn diwallu anghenion marchnad sydd yn newid yn gyflym.

Research and evaluation is the single area where further consideration to funding issues is required. We have made additional provision for the costs of the Labour Force Survey and some resources are available in the environment, innovation and evaluation budget for limited research and evaluation studies. I will consider ways to enhance these budgets in budget planning rounds.

Gwaith ymchwil a gwerthuso yw’r unig faes lle y mae angen ystyried materion ariannu ymhellach. Gwnaethom ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer costau’r Arolwg o’r Gweithlu ac mae rhai adnoddau ar gael yng nghyllideb yr amgylchedd, dyfeisgarwch a gwerthuso ar gyfer rhywfaint o astudiaethau ymchwil a gwerthuso. Byddaf yn ystyried sut i sicrhau cyllidebau mwy yn y meysydd hyn yn ystod cylchoedd cynllunio’r gyllideb.

On rural affairs and agriculture, this has been a difficult time for those working in agriculture. However, under the guidance of the Minister for Rural Affairs, we have still been able to make significant headway in achieving the objectives in ‘Putting Wales First’. We have successfully pressed the UK Government to apply for agri-monetary compensation and further discussions are taking place with the UK Government on how the sector can be helped to recover from the impact of the foot and mouth disease outbreak.

O ran materion gwledig ac amaethyddiaeth, bu hwn yn gyfnod anodd i’r rhai sydd yn gweithio mewn amaethyddiaeth. Fodd bynnag, o dan arweiniad y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yr ydym wedi llwyddo i wneud cryn gynnydd o hyd o ran cyflawni amcanion ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf’. Yr ydym wedi llwyddo i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud cais am iawndal amaeth-ariannol a chynhelir trafodaethau pellach ynghylch sut y gellir helpu’r sector i adfer yn sgîl argyfwng clwy’r traed a’r genau.

We have pressed ahead with the Tir Gofal scheme and the organic farming scheme, although this is temporarily at a reduced level due to the difficulties posed by foot and mouth disease in preventing project officers from making farm visits, hence making it substantially more difficult to conclude agreements. We have also taken stock of the Tir Gofal scheme, which is looking to increase its operational efficiencies and at the same time to target the scheme more effectively.

Yr ydym wedi bwrw ymlaen â’r cynllun Tir Gofal a’r cynllun ffermio organig, er bod hwn yn gweithredu ar lefel is dros dro oherwydd yr anawsterau yn sgîl clwy’r traed a’r genau sydd yn atal swyddogion prosiect rhag ymweld â ffermydd, ac felly yn ei gwneud yn llawer anos cwblhau cytundebau. Yr ydym hefyd wedi cloriannu cynllun Tir Gofal. Disgwylir iddo wella ei effeithlonrwydd gweithredol ac ar yr un pryd dargedu’r cynllun yn fwy effeithiol.

Progress is also being made to establish an independent appeals mechanism—a farming ombudsman—to adjudicate in disputes between the Assembly and farmers.

Gwneir cynnydd hefyd ar sefydlu dull apelio annibynnol—ombwdsmon ffermio—i ddyfarnu lle ceir unrhyw anghydfod rhwng y Cynulliad a ffermwyr.

Farming Connect, which includes a free business development plan, a range of improvement and enterprise grants, access to specialist advice, demonstration farms and a network of facilitators, will be generally introduced in the autumn. The launch has been delayed by some months because of foot and mouth disease. We are also introducing, as a priority measure, farm business options reviews for those farmers whose stock has been culled.

Caiff Cyswllt Ffermio, sydd yn cynnwys cynllun datblygu busnes am ddim, ystod o grantiau gwella a menter, cyngor arbenigol, ffermydd arddangos a rhwydwaith o hwyluswyr, ei gyflwyno’n gyffredinol yn yr hydref. Gohiriwyd ei lansio ers rhai misoedd oherwydd clwy’r traed a’r genau. Yr ydym hefyd yn cyflwyno, fel mater o flaenoriaeth, adolygiadau o opsiynau ar gyfer busnesau ffermydd i’r ffermwyr hynny y cafodd eu hanifeiliaid eu dethol a’u difa.

We have continued to investigate the possibilities for providing assistance to young entrants to the farming industry and will consult the Agriculture and Rural Development Committee again on the options.

Yr ydym wedi parhau i ymchwilio i’r posibiliadau o roi cymorth i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant amaethyddol a byddwn yn ymgynghori â’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig unwaith eto ynglŷn â’r opsiynau.

The Minister for Rural Affairs has not yet decided whether the establishment of a specialist unit in the Wales Co-operative Centre to promote the protection of rural services is an appropriate response to the perceived problems. Instead, he is in the process of letting the contract for a three-month scoping study to assess the way forward. The study report is expected during September and we will consider further funding in the light of the outcome.

Nid yw’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wedi penderfynu eto a yw sefydlu uned arbenigol yng Nghanolfan Gydweithredol Cymru i hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu’r gwasanaethau gwledig yn ymateb priodol i’r problemau a ganfyddir. Yn hytrach, mae ar ganol gosod y contract ar gyfer astudiaeth pennu cwmpas a fydd yn parhau am dri mis i asesu’r ffordd ymlaen. Disgwylir i adroddiad yr astudiaeth gael ei gyhoeddi ym mis Medi a byddwn yn ystyried arian pellach yng ngoleuni’r canlyniad.

We have met the commitment on the provision of free school milk for key stage 1 pupils across Wales. Guidance has been issued on the operational detail of the scheme. This National Assembly initiative has been warmly welcomed.

Yr ydym wedi cyflawni’r ymrwymiad i ddarparu llaeth ysgol am ddim i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 ledled Cymru. Cyhoeddwyd canllawiau ar fanylion gweithredol y cynllun. Croesawyd y fenter hon ar ran Cynulliad Cenedlaethol yn frwd iawn.

On small abattoirs, the National Assembly led the way in pressing successfully for action on a UK basis. In this sector, we are continuing to encourage the WDA’s Food Directorate to take a strong lead in marketing Welsh produce. We are also seeking to attract added value processing activity to Wales. To that end the WDA has, on our behalf, re-introduced processing and marketing grants using Objective 1 and rural development plan resources together with the Assembly match funding.

O ran lladd-dai bach, bu’r Cynulliad Cenedlaethol ar flaen y gad gan bwyso’n llwyddiannus am weithredu ar draws y DU. Yn y sector hwn, yr ydym yn parhau i annog Cyfarwyddiaeth Bwyd y WDA i roi arweiniad cryf wrth farchnata cynnyrch o Gymru. Yr ydym hefyd yn ceisio denu gweithgarwch prosesu â gwerth ychwanegol i Gymru. I’r perwyl hwnnw, cyflwynodd y WDA, ar ein rhan, grantiau prosesu a marchnata gan ddefnyddio arian Amcan 1 ac adnoddau’r cynllun datblygu gwledig ynghyd ag arian cyfatebol gan y Cynulliad.

On the environment, planning and transport, in the short term, none of the initiatives in this sector of the partnership agreement have additional financial implications above the current baseline provision. However, with the Minister for Environment, we will be give careful consideration during this budget planning round to the funding needs of key initiatives in future years. The Environment, Planning and Transport Committee, as part of its review of public transport, is considering the establishment of the Welsh passenger transport authority. It will invite comments on a number of options and their cost effectiveness. Its report will be published next month and the Committee will consider responses in the autumn. To establish such a body would require additional funding and primary legislation. Similarly, direct elections to national park authorities would also require primary legislation and implementation might not be possible before 2003-04. The costs involved depend on how the Assembly wishes to proceed.

O ran yr amgylchedd, cynllunio a thrafnidiaeth yn y byrdymor, nid oes i’r un o’r mentrau yn y rhan hon o’r cytundeb partneriaeth unrhyw oblygiadau ariannol sydd yn ychwanegol at y ddarpariaeth sylfaenol. Fodd bynnag, byddwn, ar y cyd â’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn ystyried anghenion ariannu mentrau allweddol yn y dyfodol yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb hon. Mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidaeth, fel rhan o’i adolygiad o drafnidiaeth gyhoeddus, yn ystyried sefydlu awdurdod cludiant teithwyr Cymru. Bydd yn gwahodd sylwadau ar nifer o opsiynau ynghyd â’u cost-effeithiolrwydd. Caiff ei adroddiad ei gyhoeddi fis nesaf a bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion yn yr hydref. Byddai angen arian ychwanegol a deddfwriaeth sylfaenol i sefydlu corff o’r fath. Yn yr un modd, byddai angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer etholiadau uniongyrchol i awdurdodau parciau cenedlaethol hefyd ac ni fyddai modd gweithredu hynny o bosibl cyn 2003-04. Mae’r costau o dan sylw yn dibynnu ar y ffordd yr hoffai’r Cynulliad weithredu.

The budget adopted by the Assembly provided a sound base to meet the commitment to a waste strategy. Sue Essex will consult on a draft waste strategy early next month. We will consider what further progress we can make in this regard during the current budget planning round.

Bu’r gyllideb a fabwysiadwyd gan y Cynulliad yn sylfaen gadarn i gyflawni’r ymrwymiad i strategaeth gwastraff. Bydd Sue Essex yn ymgynghori ar strategaeth gwastraff ddrafft ddechrau fis nesaf. Byddwn yn ystyried sut y gallwn ddatblygu hynny ymhellach yn ystod cylch cynllunio cyfredol y gyllideb.

On local government and housing, we are funding the commission on local government electoral arrangements in Wales. It will begin its work later in the year.

O ran llywodraeth leol a thai, yr ydym yn ariannu’r comisiwn ar drefniadau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn dechrau ar ei waith yn nes ymlaen eleni.

We gave a commitment to help protect post offices, shops and other businesses in rural communities and we will extend mandatory rural rate relief to include public houses, petrol stations, rural pharmacies and childcare facilities. From next year, we will also be reducing the proportion of discretionary rate relief that local authorities have to raise locally through council tax from 25 per cent to 10 per cent. That will enable councils to give more relief to rural businesses and non-profit making sports clubs.

Rhoesom ymrwymiad i helpu i ddiogelu swyddfeydd post, siopau a busnesau eraill mewn cymunedau gwledig a byddwn yn ehangu’r cymorth trethi gwledig gorfodol i gynnwys tafarndai, gorsafoedd petrol, fferyllfeydd a chyfleusterau gofal plant. O’r flwyddyn nesaf, byddwn hefyd yn gostwng canran y cymorth trethi dewisol y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu codi drwy’r dreth gyngor o 25 y cant i 10 y cant. Bydd hynny’n galluogi cynghorau i roi mwy o gymorth i fusnesau gwledig a chlybiau chwaraeon nad ydynt yn gwneud elw.

We said that we would provide sufficient funds for local authorities to maintain service levels and contain council tax increases to an average increase of 3 per cent in 2001-02. We did that, providing an 8 per cent increase in central grant support for local authorities to spend on local services in this financial year. On any sensible estimate of cost inflation this represented 4 to 5 per cent growth. Some authorities chose—as is their democratic right—to increase their budgets by a greater amount, which they raised through council tax, thus pushing the all-Wales average for council tax increase above 3 per cent.

Dywedasom y byddem yn darparu digon o arian i awdurdodau lleol gynnal lefelau gwasanaeth a chyfyngu’r cynnydd yn y dreth gyngor i 3 y cant ar gyfartaledd yn 2001-02. Gwnaethom hynny, gan roi cynnydd o 8 y cant mewn cymorth grant canolog i’r awdurdodau lleol ei wario ar wasanaethau lleol yn y flwyddyn ariannol hon. Yr oedd hyn yn golygu twf o 4 i 5 y cant, yn ôl unrhyw amcangyfrif synhwyrol o chwyddiant o ran costau. Dewisodd rhai awdurdodau—ac mae ganddynt yr hawl ddemocrataidd i wneud hynny—gynyddu eu cyllidebau eto, drwy’r dreth gyngor, a thrwy hynny achosi cynnydd yn uwch na 3 y cant yn y dreth gyngor gyfartalog ar gyfer Cymru gyfan.

The partnership agreement recognised the importance of tackling many of our most pressing housing problems in advance of more detailed work that will result from the development of the national housing strategy for Wales. I have been able to increase by £40 million the capital funding available to local authorities to invest in improving poor quality housing stock in Wales and to meet the growing need for the provision of disabled facilities grants. The Assembly has already agreed and implemented a change in the legislation relating to categories of homeless people recognised to be in need of priority housing and I have made another £6 million available to deal with additional support costs resulting from this decision, which recognises the need to continue to increase funding to tackle homelessness throughout Wales.

Cydnabu’r cytundeb partneriaeth pa mor bwysig yw mynd i’r afael â’n problemau mwyaf difrifol o ran tai cyn cwblhau’r gwaith manylach a fydd yn arwain at ddatblygu strategaeth tai genedlaethol i Gymru. Yr wyf wedi llwyddo i roi £40 miliwn ychwanegol o arian cyfalaf i’r awdurdodau lleol fuddsoddi mewn gwella tai sydd mewn cyflwr gwael yng Nghymru a bodloni’r angen cynyddol i roi grantiau ar gyfer cyfleusterau i’r anabl. Mae’r Cynulliad eisoes wedi cytuno i newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â chategorïau o bobl ddigartref y cydnabuwyd bod angen tai â blaenoriaeth arnynt, ac wedi gweithredu hynny, a darparais £6 miliwn arall i dalu am gostau cymorth ychwanegol o ganlyniad i’r penderfyniad hwn sydd yn cydnabod yr angen i barhau i roi mwy o arian i fynd i’r afael â digartrefedd ledled Cymru.

The partnership agreement also committed the Assembly to consider integrating the home energy efficiency scheme with other grant regimes relating to more efficient use of energy. I am pleased to report that significant progress has been made in negotiations with energy suppliers, to ensure that their activities complement the targeting of the home energy efficiency scheme with the aim of eradicating fuel poverty in Wales.

Drwy’r cytundeb partneriaeth ymrwymodd y Cynulliad hefyd i ystyried integreiddio’r cynllun effeithlonrwydd ynni cartref â’r systemau grant eraill sydd yn ymwneud â defnydd mwy effeithlon o ynni. Yr wyf yn falch o nodi y gwnaethpwyd cryn gynnydd yn y negodiadau gyda’r cyflenwyr ynni er mwyn sicrhau bod eu gweithgareddau yn ategu’r ffordd y caiff y cynllun effeithlonrwydd ynni cartref ei dargedu gyda’r nod o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru.

Turning to arts, culture and sport, the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language has begun to address the outcomes of the Culture Committee’s review of arts and culture. She has provided the Arts Council of Wales with clear guidance on the policies to be prioritised. This will now be properly costed and set out in ACW’s corporate plan. Its current funding is sufficient to make some headway on this, but in order to deal properly with the recommendations made in ‘A Culture in Common’, I will be looking closely at funding requirements in the budget planning round.

Gan droi at y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg wedi dechrau mynd i’r afael â chanlyniadau’r adolygiad o’r celfyddydau a diwylliant a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Diwylliant. Rhoes ganllawiau clir i Gyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â’r polisïau y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Caiff hyn ei gostio’n gywir yn awr a’i amlinellu yng nghynllun corfforaethol y Cyngor. Mae gan y Cyngor ddigon o arian ar hyn o bryd i wneud rhywfaint o gynnydd ar hyn, ond er mwyn ymdrin â’r argymhellion a wnaethpwyd yn ‘Diwylliant Cytûn’ mewn modd priodol, byddaf yn ystyried gofynion ariannu yn fanwl yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

ACW has submitted three options for establishing an arts database, which are currently being considered in more detail to allow for costs to be identified. This will be linked to a new website, to be developed in conjunction with the National Library of Wales. That too will feature in the corporate plan. Costs of delivering the database and website will be considered as part of the budget planning round process.

Cyflwynodd y Cyngor dri opsiwn ar gyfer sefydlu cronfa ddata i’r celfyddydau, sydd yn cael eu hystyried yn fanylach ar hyn o bryd er mwyn caniatáu i gostau gael eu nodi. Caiff hyn ei gysylltu â gwefan newydd, i’w datblygu mewn cysylltiad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd hynny hefyd yn rhan o’r cynllun corfforaethol. Caiff costau darparu cronfa ddata a gwefan eu hystyried yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

We are also making good progress on researching the establishment of a Welsh film fund, in conjunction with the Welsh Development Agency, Sgrin Cymru and Finance Wales. Indeed, Finance Wales has already commissioned consultants to carry out a study of the economic rationale and practicalities of such a fund. The study will report in two stages over the summer. That initiative is currently unfunded, but if the study provides a basis on which to proceed, it is likely that the eventual funding package will include Objective 1 money, private funds and National Assembly funding. It is expected that the study will produce options for intervention, including costs and benefits. I will consider the matter in the context of the budget planning round.

Gwnawn gynnydd da hefyd ar ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu cronfa ffilm i Gymru, mewn cydweithrediad ag Awdurdod Datblygu Cymru, Sgrîn Cymru a Chyllid Cymru. Yn wir, mae Cyllid Cymru eisoes wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth o egwyddorion sylfaenol economaidd ac ymarferoldeb cronfa o’r fath. Bydd yr astudiaeth yn cyflwyno adroddiad mewn dau gam yn ystod yr haf. Nid ariennir y fenter honno ar hyn o bryd, ond os bydd yr astudiaeth yn rhoi sylfaen y gellir adeiladu arni, mae’n debygol y bydd y pecyn ariannol terfynol yn cynnwys arian Amcan 1, arian preifat ac arian y Cynulliad Cenedlaethol. Disgwylir i’r astudiaeth lunio opsiynau ar gyfer ymyrryd, gan gynnwys costau a manteision. Byddaf yn ystyried y mater yng nghyd-destun cylch cynllunio’r gyllideb.

We have a commitment to ensure adequate support for mentrau iaith to promote community usage of the Welsh language. As a consequence, the budget adopted on 29 March provided extra resources to the Welsh Language Board’s baseline. Together with the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language, I will consider whether further support should be made available during the budget planning round.

Yr ydym yn ymrwymedig i sicrhau bod digon o gefnogaeth i fentrau iaith sydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. O ganlyniad, darparwyd adnoddau a oedd yn ychwanegol at arian sylfaenol Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y gyllideb a fabwysiadwyd ar 29 Mawrth. Byddaf, ar y cyd â’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg, yn ystyried a ddylid rhoi rhagor o gefnogaeth yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

In October, when I publish the draft budget for next year, I will draw attention to the resources provided for partnership agreement initiatives. I will take questions on the statement, but if you require detailed information about specific initiatives, you may find it more useful to ask the relevant Minister at a suitable opportunity.

Ym mis Hydref, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, tynnaf sylw at yr adnoddau a ddarperir i fentrau’r cytundeb partneriaeth. Derbyniaf gwestiynau ar y datganiad, ond os oes angen gwybodaeth fanylach am y mentrau penodol arnoch, efallai y byddai’n fwy defnyddiol ichi ofyn i’r Gweinidog perthnasol ar adeg briodol.

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in English p. 52

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Saesneg t. 52

I will make two brief points before dealing with your statement, Edwina. First, would it be possible for opposition spokespeople to have earlier notice of such lengthy statements? Yours was a detailed statement, and I am not sure that our activities are best advanced by the fact that we only received a copy of it this morning. Will you and your Cabinet colleagues discuss ways of ensuring that we have copies of these statements at an earlier date? Secondly, with a statement of this length and complexity—this might be an issue for you to discuss with the Minister for Assembly Business—would it not have been more appropriate for us to hold a debate on the issues raised? That would have given us an opportunity to table amendments and to give the matter a more considered response.

Gwnaf ddau bwynt byr cyn trafod eich datganiad, Edwina. Yn gyntaf, a fyddai’n bosibl i lefarwyr y gwrthbleidiau gael mwy o rybudd o ddatganiadau mor hir? Yr oedd eich datganiad yn un manwl, ac ni chredaf i’r ffaith mai dim ond y bore yma y cawsom gopi ohono fod o fudd i’n gweithgareddau. A wnewch chi a’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet drafod sut y gellir sicrhau y cawn gopïau o’r datganiadau hyn yn gynharach? Yn ail, yn achos datganiad mor hir a chymhleth â hwn—efallai bod hynny’n fater ichi ei drafod gyda’r Trefnydd—oni fyddai wedi bod yn fwy priodol inni gynnal dadl ar y materion a godwyd? Byddai hynny wedi rhoi cyfle inni gyflwyno gwelliannau a rhoi ymateb mwy ystyriol i’r mater.

You have indicated that you are willing to take questions on the statement, but if there are detailed points that I wish to raise on some specific issues, will you pass them on to the relevant Minister? Once they are on the record, it would be useful to receive a response.

Yr ydych wedi nodi eich bod yn fodlon derbyn cwestiynau ar y datganiad, ond os bydd pwyntiau manwl yr hoffwn eu codi ar faterion penodol, a wnewch chi eu trosglwyddo i’r Gweinidog perthnasol? Unwaith y byddant wedi eu cofnodi, byddai’n ddefnyddiol cael ateb.

Turning to the issues you raised under education, health and economic development, one matter that your statement did not mention was the underspend in those budgets. According to reliable sources, there is a total underspend of £167 million in those areas from the previous financial year. When will you be in a position to tell us how that money will be carried forward, and can you give us an assurance that it will be carried forward in the areas where the underspend occurred? If there is underspend in education, for example, it should be carried forward in education. The same should be true for health and economic development.

Gan droi at y materion a godwyd o dan addysg, iechyd a datblygu economaidd, un mater na chyfeiriwyd ato yn eich datganiad oedd y tanwariant yn y cyllidebau hynny. Yn ôl ffynonellau dibynadwy, mae tanwariant o £167 miliwn yn y meysydd hynny o’r flwyddyn ariannol flaenorol. Pryd y byddwch mewn sefyllfa i ddweud wrthym sut y caiff yr arian hwnnw ei gario ymlaen, ac a allwch roi sicrwydd inni y caiff ei gario ymlaen yn y meysydd lle y bu tanwariant? Os oes tanwariant ym maes addysg, er enghraifft, dylid ei gario ymlaen yng nghyllideb addysg. Dylai’r un peth ddigwydd o ran iechyd a datblygu economaidd.

It is also important that you tell us at an early stage how initiatives such as the Corus package, and assistance for areas affected by flooding and foot and mouth disease, are to be financed. Yesterday, you announced an additional £26 million to deal with the flooding crisis in many parts of Wales. You did not tell us from where the money would come, but we assume that it is not additional money from the Treasury. Will you tell us from which budget heading that money will come? We can then assess the impact of your announcements on those issues.

Mae’n bwysig hefyd ichi ddweud wrthym yn gynnar sut y caiff mentrau megis pecyn Corus, a chymorth i ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn sgîl y llifogydd a chlwy’r traed a’r genau, eu hariannu. Ddoe, cyhoeddasoch £26 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael ag argyfwng y llifogydd mewn sawl rhan o Gymru. Ni ddywedasoch wrthym o ble y deuai’r arian, ond cymerwn yn ganiataol nad arian ychwanegol o’r Trysorlys ydyw. A ddywedwch wrthym o dan ba bennawd o’r gyllideb y daw’r arian hwnnw? Yna gallwn asesu effaith eich cyhoeddiadau ar y materion hynny.

On education, I ask a specific question on school buildings. You say that it is a matter of concern. It is a matter of concern to every Member. How will you take the matter forward with local authorities? You have told us that you will put pressure on them. What exactly does that mean in the context of your decision? On the issue of student hardship, you have indicated that you will look at the cost implications. We know that the cost implications could be substantial. Could you give us a ballpark figure on that? That is important for us to recognise whether you will be doing something substantial in relation to student hardship, which will have a substantial impact on next year’s budget.

O ran addysg, gofynnaf gwestiwn penodol ar adeiladau ysgolion. Dywedwch fod hwnnw yn achos pryder. Mae’n achos pryder i bob Aelod. Sut y byddwch yn mynd â’r mater yn ei flaen gyda’r awdurdodau lleol? Dywedasoch wrthym y byddwch yn pwyso arnynt. Beth yn union a olyga hynny yng nghyd-destun eich penderfyniad? O ran caledi myfyrwyr, yr ydych wedi nodi y byddwch yn ystyried y goblygiadau cost. Gwyddom y gallai’r goblygiadau o ran cost fod yn sylweddol. A allech roi rhyw amcan inni o ran hynny? Mae’n bwysig inni gydnabod a fyddwch yn gwneud unrhyw beth sylweddol mewn perthynas â chaledi myfyrwyr, a fydd yn cael effaith sylweddol ar gyllideb y flwyddyn nesaf.

Turning to health, I ask you about nurse training. I acknowledge that nurse training and nurse retention is a major problem and that, according to your figures, there will be 760 new nursing training places over four years and 300 applications for professions allied to medicine over the next few years. Can you give us an assurance that that meets the target set for nurse training? Are you confident that those targets will be met? On nurse retention, you say that more resources will be made available but I am not sure what kind of resources you are talking about, nor what the targets are for nurse retention.

Gan droi at iechyd, fe’ch holaf ynglŷn â hyfforddiant nyrsys. Cydnabyddaf fod hyfforddi a chadw nyrsys yn broblem fawr ac y bydd 760 o leoedd hyfforddi newydd ar gyfer nyrsys dros bedair blynedd a 300 o geisiadau ar gyfer y proffesiynau sydd yn gysylltiedig â meddygaeth yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn ôl eich ffigurau chi. A allwch roi sicrwydd inni fod hynny’n bodloni’r targed a osodwyd ar gyfer hyfforddi nyrsys? A ydych yn ffyddiog y caiff y targedau hynny eu cyflawni? O ran cadw nyrsys, dywedwch y bydd rhagor o adnoddau ar gael ond nid wyf yn siŵr pa fath o adnoddau yr ydych yn sôn amdanynt, na beth yw’r targedau o ran cadw nyrsys.

On the issue of economic development—and I am sure that Edwina will agree—in listening to the various discussions that we have had on Objective 1, it seems that we are living in two different worlds. It may be on two different planets. The First Minister and the Deputy First Minister tell us that everything in the garden is rosy, that all the money is coming through and that the Objective 1 programme in Wales is ahead of those in other areas of the United Kingdom. However, we hear of a different picture on the ground, with people asking why the projects are not coming through quickly and why there is so much confusion and delay. Given that there is substantial under-allocation for the first year of Objective 1, what is your target for the next financial year? How much money will be spent? We are entitled to know.

O ran datblygu economaidd—ac yr wyf yn siŵr y bydd Edwina yn cytuno—wrth wrando ar y gwahanol drafodaethau a gawsom ar Amcan 1, ymddengys ein bod yn byw mewn dau fyd gwahanol. Efallai ar ddwy blaned wahanol. Dywed Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Brif Weinidog wrthym fod popeth yn iawn, y daw’r holl arian a ddisgwylir a bod rhaglen Amcan 1 yng Nghymru ar y blaen i’r rhai mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, cawn ddarlun gwahanol ar lawr gwlad, gyda phobl yn gofyn pam na chyflwynir prosiectau yn gyflym a pham bod cymaint o ddryswch ac oedi. O ystyried bod swm sylweddol o arian heb ei ddyrannu ar gyfer blwyddyn gyntaf Amcan 1, beth yw eich targed ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf? Faint o arian a gaiff ei wario? Mae hawl gennym i gael gwybod.

I turn to rural affairs. The money that has been allocated to rural businesses is only beginning to tackle the problem. Much more must be done for the tourist industry and agriculture. You indicated in your statement that discussions with the UK Government are ongoing. How are those discussions proceeding? Many people in rural Wales are expecting the Assembly and the UK Government to come together to offer a substantial package of help. That must go beyond what is already in the pipeline. There is a massive crisis, which we need to address.

Trof at faterion gwledig. Dim ond megis dechrau mynd i’r afael â’r broblem y mae’r arian a ddyrannwyd. Rhaid gwneud llawer mwy ar gyfer y diwydiant twristiaeth ac amaethyddiaeth. Yr ydych wedi nodi yn eich datganiad bod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn mynd rhagddynt. Sut y mae’r trafodaethau hynny yn datblygu? Mae llawer o bobl yng Nghymru wledig yn disgwyl i’r Cynulliad a Llywodraeth y DU ddod ynghyd a chynnig pecyn cymorth sylweddol. Rhaid i hynny fynd y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes ar y gweill. Mae argyfwng enfawr, y mae angen inni fynd i’r afael ag ef.

I turn briefly to mentrau iaith, to which you referred in the final part of your statement. Can you give an indication of the extra resources that you will provide? The Welsh Language Board, as you know from my discussions with you, has some great ideas. It wants the mentrau iaith to develop further. Can you indicate how far those discussions have proceeded?

Trof yn fyr at fentrau iaith, y cyfeiriasoch atynt yn rhan olaf eich datganiad. A allwch roi rhyw amcan o’r adnoddau ychwanegol y byddwch yn eu darparu? Mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg rai syniadau gwych, fel y gwyddoch o’m trafodaethau gyda chi. Mae am i’r mentrau iaith ddatblygu ymhellach. A allwch nodi pa mor bell y mae’r trafodaethau hynny wedi datblygu?

Edwina Hart spoken in English p. 54

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 54

I apologise for the length of today’s statement. I give a commitment to get these detailed statements to party spokespeople as early as possible in future—as soon as I have decided on their content—because that would help debate within the Chamber. I will take up your points with the Minister for Assembly Business.

Ymddiheuraf am hyd y datganiad heddiw. Rhoddaf ymrwymiad i sicrhau bod llefarwyr y pleidiau yn cael y datganiadau manwl hynny cyn gynted â phosibl yn y dyfodol—cyn gynted ag y byddaf wedi penderfynu ar eu cynnwys—oherwydd y byddai hynny o fudd i’r ddadl o fewn y Siambr. Codaf eich pwyntiau gyda’r Trefnydd.

The purpose of the statement today was to update you about how much money has been involved in the partnership agreement, what has been funded and what remains unfunded. I thought that it was useful to make this statement at this juncture so that Members can have a clear idea of how matters are laid out when they discuss their budgets and other issues during the budget process in Committee.

Diben y datganiad heddiw oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch faint o arian a fu ynghlwm wrth y cytundeb partneriaeth, yr hyn a ariannwyd a’r hyn sydd heb ei ariannu. Credwn y byddai’n ddefnyddiol gwneud y datganiad hwn ar yr adeg hon er mwyn i Aelodau gael syniad clir o’r ffordd y caiff materion eu cyflwyno pan fyddant yn trafod eu cyllidebau a materion eraill yn ystod proses y gyllideb yn y Pwyllgorau.

It is not my intention to pre-empt anything that I will do in the budget process, or what the budget will look like in October, by responding in detail to the issues raised about what allocations I am thinking about. That would not be correct.

Ni fwriadaf achub y blaen ar unrhyw beth a wnaf ym mhroses y gyllideb, na chynnwys y gyllideb ym mis Hydref, drwy ymateb yn fanwl i’r materion a godwyd ynglŷn â’r dyraniadau yr wyf yn eu hystyried. Ni fyddai hynny’n briodol.

With regard to the underspend, which I will report to the National Assembly in the same manner as I did last year, we must recognise what underspend is. The underspend that Jane Hutt reported to the Health and Social Service Committee is about 1.72 per cent of the health service budget. That is negligible for an underspend. When you refer to economic development and examples of underspend on regional selective assistance, you must recognise the nature of predicting regional selective assistance expenditure. There are 550 live RSA projects, nearly 250 of which are still in condition, with grants and so on. As regional selective assistance is demand-led, it is difficult to achieve the accuracy that is required within a budget. We must also recognise that we must consider what money is available in terms of RSA. I will examine where the money is allocated and carried forward in the light of these grant provisions.

O ran y tanwariant, y byddaf yn rhoi adroddiad arno i’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr un modd ag y gwneuthum y llynedd, rhaid inni gydnabod beth yw tanwariant. Mae’r tanwariant a nododd Jane Hutt i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrif am tua 1.72 y cant o gyllideb y gwasanaeth iechyd. Mae hwnnw’n swm bach iawn o safbwynt tanwariant. Pan gyfeiriwch at ddatblygu economaidd ac enghreifftiau o danwariant ar gymorth rhanbarthol dewisol rhaid ichi gydnabod natur rhagweld gwariant ar gymorth rhanbarthol dewisol. Mae 550 o brosiectau byw sydd yn cael cymorth rhanbarthol dewisol, y mae bron i 250 ohonynt o fewn eu hamodau o hyd, o ran grantiau ac ati. Gan fod cymorth rhanbarthol dewisol yn cael ei roi yn ôl y galw, mae’n anodd bod mor fanwl gywir ag sydd ei angen o fewn cyllideb. Rhaid inni gydnabod hefyd bod yn rhaid inni ystyried pa arian sydd ar gael o ran y cymorth rhanbarthol dewisol. Byddaf yn ystyried lle y caiff yr arian ei ddyrannu a’i gario ymlaen yng ngoleuni’r darpariaethau hyn ar gyfer grantiau.

On the packages for Corus and flooding, it is my job to look at the overall budget. It is inevitable, particularly in terms of capital projects, that some money will not be utilised this year. If that is the case, it can be carried forward and used for something else.

O ran pecynnau ar gyfer Corus a’r llifogydd, fy ngwaith i yw ystyried y gyllideb yn gyffredinol. Mae’n anochel, yn enwedig o ran prosiectau cyfalaf, na chaiff rhywfaint o arian ei ddefnyddio eleni. Os digwydd hynny, gellir ei gario ymlaen a’i ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall.

On school buildings, the Minister for Education and Lifelong Learning is keen to emphasise to local authorities the need for this money to go out to schools, so that visible improvements are achieved. I am sure that Jane Davidson will take that up directly.

O ran adeiladau ysgolion, mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn awyddus i bwysleisio i’r awdurdodau lleol fod angen i’r arian hwn gyrraedd ysgolion, er mwyn cyflawni gwelliannau gweladwy. Yr wyf yn siŵr y bydd Jane Davidson yn ymdrin â hynny ar unwaith.

As I understand it, what I outlined on nurse training is correct. The Minister for Health and Social Services, Jane Hutt, will consider the resources available in her budget and the issues that you raised on targets.

Yr wyf ar ddeall bod yr hyn a amlinellais ar hyfforddiant nyrsys yn gywir. Bydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried yr adnoddau sydd ar gael yn ei chyllideb a’r materion a godwyd gennych ynglŷn â thargedau.

On Objective 1, it is obvious that Ieuan and I are living in two different worlds. In my world, I see projects being developed. You cannot see any good in your world. When I look around my constituency and neighbouring constituencies in Swansea, I see first-hand evidence of the benefits of Objective 1. All this talking down of it is futile, as there will always be teething problems with such programmes. It is important for us to recognise that there are successes, although there may not be as many as we would like.

O ran Amcan 1, mae’n amlwg bod Ieuan a minnau yn byw mewn dau fyd gwahanol. Yn fy myd i, gwelaf brosiectau’n cael eu datblygu. Yn eich byd chi ni allwch weld unrhyw beth da. Pan edrychaf ar fy etholaeth a’r etholaethau cyffiniol yn Abertawe, gwelaf dystiolaeth o fanteision Amcan 1. Mae’r holl fusnes hwn o ladd ar Amcan 1 yn ofer. Bydd problemau cychwynnol bob amser o ran rhaglenni o’r fath. Mae’n bwysig inni gydnabod bod llwyddiannau, er nad oes cymaint ag yr hoffem.

On rural affairs, I assure you that I am in constant discussion with the Deputy First Minister and Minister for Economic Development about the tourism industry. We discuss what is emerging from discussions in London and what we need to do. As I have demonstrated in the Chamber, I understand the problems faced by rural Wales and the impact of foot and mouth disease and I will give further consideration to the issue.

O ran materion gwledig, rhoddaf sicrwydd ichi fy mod mewn trafodaethau parhaus â’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd ynglŷn â’r diwydiant twristiaeth. Trafodwn yr hyn sydd yn dod i’r amlwg o drafodaethau yn Llundain a’r hyn sydd angen inni ei wneud. Fel y profais yn y Siambr, deallaf y problemau a wyneba Cymru wledig ac effaith clwy’r traed a’r genau a byddaf yn ystyried y mater ymhellach.

In our discussions with the Welsh Language Board, the Minister for Culture, Sport and the Welsh Language and I accept that there has been much innovation. Bearing in mind the budget priorities set by the Culture Committee, I will be mindful to look favourably at mentrau iaith as a means of promoting the Welsh language.

Yn ystod ein trafodaethau â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg a minnau yn derbyn y bu cryn arloesi. O gofio blaenoriaethau’r gyllideb a bennwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, byddaf yn rhoi ystyriaeth ffafriol i’r mentrau iaith fel modd o hyrwyddo’r Gymraeg.

Lorraine Barrett spoken in English p. 56

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 56

I congratulate the Minister on her statement. She should have had a whisky at her side. However, I am disappointed that a debate was not held on this. This issue deserves more time, and I would have liked to do justice to it. However, so be it.

Llongyfarchaf y Gweinidog ar ei datganiad. Dylai fod gwydraid o chwisgi wrth ei hochr. Fodd bynnag, yr wyf wedi fy siomi na chynhaliwyd dadl ar hyn. Mae’r mater hwn yn haeddu rhagor o amser, a hoffwn fod wedi gwneud cyfiawnder ag ef. Fodd bynnag, felly y boed.

Nursery places for three-year-olds was one of the first issues discussed by the Pre-16 Education, Schools and Early Learning Committee. I worked closely with the then Secretary for Education and Children on this. I am grateful for the Minister’s assurance that she will address any funding problems, as we must deliver on our commitment.

Yr oedd lleoedd meithrinfa i blant tair blwydd oed yn un o’r materion cyntaf a drafodwyd gan y Pwyllgor Addysg cyn 16 oed, Ysgolion ac Addysg Gynnar. Gweithiais yn agos gyda’r Ysgrifennydd dros Addysg a Phlant ar y pryd ar hyn. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei sicrwydd y bydd yn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau o ran arian, am fod yn rhaid inni gyflawni ein hymrwymiad.

I welcome the positive aspects of the statement. There is much of which we can be proud. Although I do not want to cause the Minister grief, I will mention the Commission on Local Government Electoral Arrangements in Wales. How many members will there be on the commission? What kind of person are you looking for to chair the commission? Who will set the commission’s remit? If you have any difficulty in finding the right person to chair the commission, I suggest Peter Law.

Croesawaf yr agweddau cadarnhaol ar y datganiad. Mae llawer y gallwn ymfalchïo ynddo. Er nad wyf am beri gofid i’r Gweinidog, soniaf am y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru. Faint o aelodau fydd ar y comisiwn? Pa fath o berson y byddwch yn chwilio amdano i gadeirio’r comisiwn? Pwy fydd yn pennu cylch gwaith y comisiwn? Os cewch anhawster i ddod o hyd i’r person priodol i gadeirio’r comisiwn, awgrymaf Peter Law.

Edwina Hart spoken in English p. 57

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 57

I think that there was an element of mischief in that contribution. Discussions have already been held on arrangements for the commission. I have asked Professor Eric Sunderland to chair the commission, and the other members have been appointed. A preliminary meeting of the commission was held this week. Although Peter Law did not express an interest in the commission, I am sure that Members from some political parties would have been reassured had he been a member of it.

Credaf fod elfen o ddireidi yn y cyfraniad hwnnw. Cynhaliwyd trafodaethau eisoes ar y trefniadau ar gyfer y comisiwn. Gofynnais i’r Athro Eric Sunderland gadeirio’r comisiwn, ac mae’r aelodau eraill wedi eu penodi. Cynhaliwyd cyfarfod rhagarweiniol o’r comisiwn yr wythnos hon. Er na fynegodd Peter Law unrhyw ddiddordeb yn y comisiwn, yr wyf yn siŵr y byddai Aelodau o rai pleidiau gwleidyddol wedi cael eu sicrhau pe bai wedi bod yn aelod ohono.

Nick Bourne spoken in English p. 57

Nick Bourne siaradwyd yn Saesneg t. 57

I welcome the statement. It is always good to be brought back to earth, particularly after we had ascended to such heights of inflated self-importance during the statement on the Welsh baccalaureate. It is good to engage in real political battle and to discuss issues that matter to the people of Wales. During the previous statement, we ascended to such heights of pomposity that we almost disappeared from view.

Croesawaf y datganiad. Mae bob amser yn beth da i rywun roi traed yn ôl ar y ddaear, yn arbennig ar ôl gorfod ddringo i uchelfannau hunanbwysigrwydd yn ystod y datganiad ar y fagloriaeth Gymreig. Mae’n braf troi at frwydr wleidyddol go iawn a thrafod materion sydd o bwys i bobl Cymru. Yn ystod y datganiad blaenorol, cawsom gymaint o rwysg a rhodres nes inni bron â cholli pob cysylltiad â realiti.

Will the Minister for Finance, Local Government and Communities confirm that extra money was not available as a result of the partnership agreement, and that we are discussing existing resources? I agree with Lorraine Barrett and Ieuan Wyn Jones that it would be appropriate for a debate to be held on this. It is not too late for that. Although we welcome the opportunity to ask questions on the statement, I hope that a full debate will be held on this when all Members have had the opportunity to digest the statement and to consider it at greater length. There are clearly important issues to discuss.

A wnaiff y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau gadarnhau nad oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael o ganlyniad i’r cytundeb partneriaeth, a’n bod yn trafod adnoddau sydd yn bodoli eisoes? Cytunaf â Lorraine Barrett ac Ieuan Wyn Jones y byddai’n briodol cynnal dadl ar hyn. Nid yw’n rhy hwyr i hynny. Er y croesawn y cyfle i ofyn cwestiynau ar y datganiad, gobeithiaf y cynhelir dadl lawn ar hyn ar ôl i bob un o’r Gweinidogion gael cyfle i astudio’r datganiad a’i ystyried yn fanylach. Mae’n amlwg bod materion pwysig i’w trafod.

My first question involves the impact that the expenditure on the education budget is having on class sizes in secondary schools, because they are increasing. What budget resources will the Minister make available to deal with that problem, which is occurring as a result of resources being transferred to other parts of the education budget? By that, I do not mean that money should not be spent on reducing class sizes elsewhere, but that there is a problem in the budget for secondary schools.

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â’r effaith y mae’r gwariant ar y gyllideb addysg yn ei chael ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd, am eu bod yn cynyddu o ran maint. Pa adnoddau o’r gyllideb y bydd y Gweinidog yn eu darparu i ymdrin â’r broblem honno, sydd yn digwydd o ganlyniad i drosglwyddo adnoddau i rannau eraill o’r gyllideb addysg? Drwy wneud hynny, ni olygaf na ddylid bod wedi gwario’r arian hwnnw ar leihau maint dosbarthiadau mewn sectorau eraill, ond bod problem o ran y gyllideb i ysgolion uwchradd.

I will press you further on underspends, which Ieuan Wyn Jones raised. You seemed to side-step that issue and did not give a commitment that the money from underspends on various budgets, for example, education, health and economic development, would be retained within those core areas. The First Minister has left the Chamber, but I raised this issue with him in a question on the schools budget. He accused me of scaremongering—I am not sure that that was the exact word he used, but that was its import—and said that the money would be retained in the education budget. [Interruption.] I see that Brian Gibbons supports my point. I hope that you will be able to give that reassurance.

Pwysaf arnoch ymhellach ynglŷn â’r enghreifftiau o danwariant, mater a godwyd gan Ieuan Wyn Jones. Ymddengys fel petaech wedi osgoi’r mater hwnnw a pheidio â rhoi ymrwymiad y byddai’r arian nas gwariwyd ar wahanol gyllidebau, er enghraifft, addysg, iechyd a datblygu economaidd, yn cael ei gadw o fewn y meysydd craidd hynny. Mae’r Prif Weinidog wedi gadael y Siambr, ond codais y mater hwn gydag ef mewn cwestiwn ar y gyllideb ar gyfer ysgolion. Fe’m cyhuddodd o godi bwganod—nid wyf yn siŵr pa air yn union a ddefnyddiodd, ond dyna oedd ei ystyr—a dywedodd y byddai’r arian yn cael ei gadw yn y gyllideb addysg. [Torri ar draws.] Gwelaf fod Brian Gibbons yn cefnogi fy mhwynt. Gobeithiaf y byddwch yn gallu rhoi’r sicrwydd hwnnw.

I congratulate the Minister on combining civility with truth on the Welsh baccalaureate issue, when she said that the Minister for Education and Lifelong Learning made a statement on that earlier today. That sums it up amply. Despite what Jane Davidson suggested today, this was not a high priority for the Labour Party until it entered into partnership with the Liberal Democrats. Would it not be appropriate to save the money that is to be spent on that? Will you tell us how much money from the Welsh budget is to be spent on the Welsh baccalaureate experiment? We will call it an experiment at this stage. The Minister for Education and Lifelong Learning seemed either not to know or to suggest that it was a commercially sensitive issue.

Llongyfarchaf y Gweinidog ar gyfuno cwrteisi a gwirionedd ynglŷn â’r fagloriaeth Gymreig, pan ddywedodd fod y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi gwneud datganiad ar hynny yn gynharach heddiw. Dyna grynhoad da o’r hyn a gawsom. Er gwaethaf yr hyn a awgrymodd Jane Davidson heddiw, ni fu hyn yn flaenoriaeth uchel i’r Blaid Lafur nes iddi lunio partneriaeth gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol. Oni fyddai’n briodol arbed yr arian a gaiff ei wario ar hynny? A wnewch ddweud wrthym faint o arian o gyllideb Cymru a gaiff ei wario ar arbrawf y fagloriaeth Gymreig? Fe’i galwn yn arbrawf ar hyn o bryd. Ymddengys nad oedd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn gwybod neu ei bod yn awgrymu mai mater masnachol sensitif ydoedd.

We are concerned about the underspend on the health budget. The Welsh waiting list position remains serious, although it is masked by a change in the way in which the figures are calculated. We welcome the money allocated to reduce orthopaedic waiting lists, because the situation is particularly serious in that area. Will the Minister give an assurance on the underspend on that budget? Although I accept that it mainly relates to capital, it would be reassuring for everybody to know that money is not being lost from the all-important health budget. There is a fear that some of that money will go to Objective 1 areas. We would welcome a reassurance, Minister, that the underspend in the two key budgets of health and education will be retained within those budget areas.

Yr ydym yn pryderu ynglŷn â’r tanwariant ar y gyllideb iechyd. Erys y sefyllfa o ran y rhestrau aros yng Nghymru yn un ddifrifol, er iddi gael ei chelu drwy newid yn y ffordd y caiff y ffigurau eu cyfrif. Croesawn yr arian a ddyrannwyd i leihau’r rhestrau aros orthopedig, am fod y sefyllfa yn ddifrifol iawn yn y maes hwnnw. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd ynglŷn â’r tanwariant ar y gyllideb honno? Er imi dderbyn ei bod yn ymwneud yn bennaf â chyfalaf, byddai’n tawelu meddwl pawb i wybod na chollwyd yr arian o’r gyllideb iechyd hollbwysig. Mae pobl yn ofni y bydd rywfaint o’r arian hwnnw yn mynd i ardaloedd Amcan 1. Byddem yn croesawu sicrwydd, Weinidog, y caiff yr arian nas gwariwyd yn y ddwy gyllideb allweddol, sef iechyd ac addysg ei gadw o fewn y cyllidebau hynny.

On local government, I understand that a fresh statement on assistance for tourism businesses will be forthcoming. However, I remind you that your earlier statement on 27 March was made in advance of the period to which it related, namely that from 1 April onwards. The sands of time are running out and local authorities could have spent the money many times over. That is certainly the case in my constituency. This remains a serious issue. Many business are threatened and are in danger of going to the wall. They are wondering what will happen, so will you give us an indication of how much assistance you think that you will be able to announce and when you will be able to announce it? As I said—and I make no apology for repeating myself—this is important throughout Wales. It is important in rural Wales, but all parts of Wales have lost out as a result of the foot and mouth disease crisis. That applies to businesses in Cardiff, Swansea and elsewhere, not only to rural Wales. I hope that you will comment on that.

O ran llywodraeth leol, deallaf y gwneir datganiad newydd ar gymorth i fusnesau twristiaeth. Fodd bynnag, fe’ch atgoffaf ichi wneud eich datganiad cynharach ar 27 Mawrth cyn y cyfnod y cyfeiriodd ato, sef o 1 Ebrill ymlaen. Mae amser yn mynd yn brin a gallai’r awdurdodau lleol fod wedi gwario’r arian sawl gwaith drosodd. Mae hynny yn sicr yn wir am fy etholaeth i. Erys yn fater difrifol. Mae llawer o fusnesau yn y fantol ac maent mewn perygl o fynd i’r wal. Maent yn holi ynghylch beth fydd yn digwydd, felly a roddwch arwydd inni o faint o gymorth y byddwch yn gallu ei gyhoeddi, yn eich barn chi, a phryd y byddwch yn gallu ei gyhoeddi? Fel y dywedodd—ac nid ymddiheuraf am ddweud hyn eto—mae hyn yn bwysig ledled Cymru. Mae’n bwysig yng Nghymru wledig, ond mae pob rhan o Gymru ar ei cholled o ganlyniad i argyfwng clwy’r traed a’r genau. Mae hynny’n berthnasol i fusnesau yng Nghaerdydd, Abertawe ac mewn mannau eraill, nid yn unig i Gymru wledig. Gobeithiaf y byddwch yn rhoi sylwadau ar hynny.

On tuition fees, how much is the Government likely to commit to this—I am not sure that you picked up that point—and when we can expect a statement on it? The Welsh Conservatives would abolish tuition fees in Wales by means of a hardship grant. That would cost £40 million a year. How much will your proposals cost and when will they kick in?

O ran ffioedd hyfforddi, faint o arian y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i ddarparu ar gyfer hyn—nid wyf yn siŵr ichi ymateb i’r pwynt hwnnw—a phryd y gallwn ddisgwyl datganiad arno? Byddai Ceidwadwyr Cymru am ddiddymu ffioedd hyfforddi yng Nghymru drwy grant caledi. Byddai hynny’n costio £40 miliwn y flwyddyn. Faint o arian y bydd eich cynigion yn ei gostio a phryd y byddant yn dod i rym?

On economic development—and this point has been raised previously—is there anything in your budget to allow extra resources for the Wales Tourist Board to promote Wales overseas? We have lost markets this year and we need to recapture them. In the medium to long term, that will be a problem for Wales. We have had some fresh resources but they are not sufficient. Therefore, I press you on that.

O ran datblygu economaidd—a chodwyd y pwynt hwn o’r blaen—a oes unrhyw beth yn eich cyllideb i roi adnoddau ychwanegol i Fwrdd Croeso Cymru er mwyn hyrwyddo Cymru dramor? Collwyd marchnadoedd gennym eleni ac mae angen inni eu hailgipio. Yn y tymor canolig i’r hirdymor, bydd hynny’n broblem i Gymru. Cawsom rai adnoddau newydd ond nid ydynt yn ddigon. Felly, pwyaf arnoch o ran hynny.

On rural affairs, we welcome the support for Tir Gofal, although it could be extended. The young entrants scheme was touched upon. However, what budgetary arrangements are you making for early retirement for farmers? There is little point in having a young entrants scheme unless there is provision for early retirement. That is vital if we are to ensure the future of the family farm, which is the backbone of farming in Wales.

O ran materion gwledig, croesawn y gefnogaeth i gynllun Tir Gofal, er y gellid ei ehangu. Crybwyllwyd y cynllun ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Fodd bynnag, pa drefniadau cyllidebol y byddwch yn eu gwneud ar gyfer ymddeoliad cynnar i ffermwyr? Nid oes fawr o ddiben cael cynllun ar gyfer newydd-ddyfodiaid oni fyddai darpariaeth ar gyfer ymddeol yn gynnar. Mae hynny’n hollbwysig er mwyn inni sicrhau dyfodol ffermydd teuluol, sef asgwrn cefn ffermio yng Nghymru.

I come now to arts, culture and sport. These are always, I am afraid, seen as add-ons, and that should not be the case. I only refer to that last as it was the final point of your statement. They are vital for the social, economic and cultural wellbeing of Wales. We fear that opportunities are being missed here. When will we hear a statement on a national art gallery? Is there provision in the budget for such a gallery? It would not cost a vast amount, but it is vitally needed in Wales.

Trof yn awr at y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Caiff y rhain bob amser eu hystyried yn bethau eilaidd, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Yr unig reswm imi gyfeirio atynt olaf yw mai hwnnw oedd y pwynt olaf yn eich datganiad. Maent yn hollbwysig i les cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Ofnwn fod cyfleoedd yn cael eu colli yma. Pryd y cawn ddatganiad ar oriel genedlaethol i’r celfyddydau? A oes darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer oriel o’r fath? Ni fyddai’n costio llawer ond mae ei hangen yn ddybryd ar Gymru.

We support proposals for the Welsh film fund, but where are those proposals? We are told that progress is being made, but what is the nature of that progress? Similarly, we firmly endorse the support for mentrau iaith. However, we regret that money committed to arts, culture and the language does sometimes seem to be an add-on. Will you please deal with those points? Finally, I reiterate my earlier point, that in the interests of all Members, we need a full debate on the progress on partnership agreement spending.

Cefnogwn gynigion ar gyfer cronfa ffilm Cymru, ond ble y mae’r cynigion hynny? Dywedwyd wrthym fod cynnydd yn cael ei wneud, ond beth yw natur y cynnydd hwnnw? Yn yr un modd, cymeradwywn yn frwd y gefnogaeth i’r mentrau iaith. Fodd bynnag, gresynwn wrth y ffaith yr ymddengys mai rhywbeth eilaidd yw’r arian a ddarparwyd ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a’r Gymraeg weithiau. A wnewch chi ymdrin â’r pwyntiau hynny? I gloi, pwysleisiaf fy mhwynt cynharach bod angen inni, er budd yr holl Aelodau, gynnal dadl lawn ar y cynnydd a wneir ar wariant y cytundeb partneriaeth.

Edwina Hart spoken in English p. 61

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 61

I would obviously like to make policy decisions for my fellow Ministers from time to time, and they sometimes think that I do so. However, even though you expect me to go into some detail, I await submissions from my Cabinet colleagues in terms of priorities for their own portfolios. I preface my remarks with those comments.

Wrth gwrs hoffwn wneud penderfyniadau ar bolisïau dros fy nghyd-Weinidogion o bryd i’w gilydd, ac maent yn credu weithiau fy mod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, er ichi ddisgwyl imi fanylu, yr wyf yn aros am gyflwyniadau gan fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o ran blaenoriaethau yn eu portffolios eu hunain. Dyna’r rhagarweiniad i’m sylwadau.

With regard to secondary school class sizes, Jane Davidson will ensure, if there are requests for additional funding, that I am aware of the situation during the budget planning round. I know that there is a knock-on effect, as we have started this process by reducing class sizes in junior and infant classes.

O ran maint dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd, bydd Jane Davidson yn sicrhau, os bydd ceisiadau am ragor o arian, fy mod yn ymwybodol o’r sefyllfa yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb. Gwn fod sgîl-effaith, gan inni ddechrau’r broses hon drwy leihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion iau ac ysgolion babanod.

You also pressed me on the issue of underspend. I will consider that matter in the round. In terms of education capital funding, we would wish to see any underspend staying within education. However, underspend is sometimes caused by budgets not being properly set initially. That is why I have indicated that when I look at budgets in this planning round I will use a zero-based budget approach to ensure that budgets are spot-on in their core components. I cannot give a commitment that underspend will always remain in the same budgets, because that may not be the case. It might be more useful for money to be moved to other budgets.

Yr oeddech hefyd yn pwyso arnaf o ran tanwariant. Byddaf yn ystyried y mater hwnnw yn ei gyfanrwydd. O ran arian cyfalaf addysg hoffem weld unrhyw arian nas gwariwyd yn aros o fewn addysg. Fodd bynnag, digwydd tanwariant weithiau oherwydd na osodwyd y cyllidebau’n gywir yn y lle cyntaf. Dyna pam imi nodi y byddaf yn defnyddio dull cyllidebu ar sail sero pan fyddaf yn ystyried cyllidebau yn y cylch cynllunio hwn er mwyn sicrhau bod rhannau craidd cyllidebau’n gywir. Ni allaf roi ymrwymiad y caiff arian nas gwariwyd aros yn yr un cyllidebau, oherwydd efallai na fydd hynny’n digwydd. Efallai y byddai’n fwy defnyddiol symud yr arian i gyllidebau eraill.

I assure you that health is one sector where money will not be lost. I have had substantial discussions with Jane Hutt, the Minister for Health and Social Services, to ensure that all health money stays in her budget. That is important.

Rhoddaf sicrwydd ichi mai un sector lle na chollir arian yw iechyd. Cefais drafodaethau manwl gyda Jane Hutt, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i sicrhau bod yr holl arian ar gyfer iechyd yn aros yn ei chyllideb. Mae hynny’n bwysig.

As a result of my statement last week, I have been considering some local government issues surrounding foot and mouth disease. I will update you by way of a note in due course on my discussions with officials and whether I intend making any further announcements.

O ganlyniad i’m datganiad yr wythnos diwethaf, bûm yn ystyried rhai materion o ran llywodraeth leol sydd yn ymwneud â chlwy’r traed a’r genau. Byddaf yn rhoi’r diweddaraf ichi ar fy nhrafodaethau gyda swyddogion a pha un a fwriadaf wneud unrhyw gyhoeddiadau pellach drwy nodyn maes o law.

On the issue of tuition fees, I am currently digesting the report, and I have not yet received any recommendations from the Minister for Education and Lifelong Learning. It is envisaged that during the budget planning round I will formally consider the overall scale of involvement in this matter.

O ran ffioedd hyfforddi, yr wyf ar hyn o bryd yn astudio’r adroddiad, ac nid wyf eto wedi cael unrhyw argymhellion gan y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Rhagwelir y byddaf yn ystyried maint y cyfranogiad yn y mater hwn yn ffurfiol yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

I have had some initial discussions with the Deputy First Minister and Minister for Economic Development regarding the Wales Tourist Board, and what needs to be done to attract tourists back to Wales. This is the subject of ongoing discussions in terms of the complete package for all issues arising from foot and mouth disease.

Cefais rai trafodaethau cychwynnol gyda’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd o ran Bwrdd Croeso Cymru, a’r hyn sydd angen ei wneud i ddenu twristiaid yn ôl i Gymru. Cynhelir trafodaethau parhaus ar hyn o ran y pecyn cyflawn ar gyfer yr holl faterion sydd yn deillio o glwy’r traed a’r genau.

With regard to Tir Gofal, it would be nice to have more money. However, it is a question of balancing resources. The Agriculture and Rural Development Committee has discussed early retirement and new entrant’s schemes, and the Minister for Rural Affairs is aware of these matters. If the Committee makes any proposals for the budget planning round, I will consider them.

O ran Tir Gofal, byddai’n braf cael rhagor o arian. Fodd bynnag, mater o gydbwyso adnoddau ydyw. Mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig wedi trafod cynlluniau ar gyfer ymddeoliad cynnar a chynlluniau ar gyfer newydd-ddyfodiaid ac mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig yn ymwybodol o’r materion hyn. Os gwna’r Pwyllgor unrhyw gynigion ar gyfer cylch cynllunio’r gyllideb, byddaf yn eu hystyried.

An announcement was made on the Welsh baccalaureate today, and no provision was made over and above this year’s funding. The matter will be discussed during the budget planning round.

Gwnaethpwyd cyhoeddiad ar y fagloriaeth Gymreig heddiw, ac ni wnaethpwyd unrhyw ddarpariaeth yn ychwanegol at arian eleni. Caiff y mater ei drafod yn ystod cylch cynllunio’r gyllideb.

Peter Black spoken in English p. 62

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 62

I also welcome the statement. Do you agree with me, Minister, that this illustrates the impact of the Liberal Democrat-Labour partnership Government, in improving the quality of life of people in Wales? It does so by providing clear policy direction and measurable output. [Interruption.]

Croesawaf y datganiad hefyd. A gytunwch â mi, Weinidog, fod hyn yn dangos effaith y Llywodraeth bartneriaeth rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, o ran gwella ansawdd bywyd i bobl Cymru? Gwna hynny drwy roi cyfeiriad polisi clir ac allbwn y gellir ei fesur. [Torri ar draws.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

Order. We are already six minutes over time on this statement, and I would be grateful if we could conclude our discussion.

Trefn. Yr ydym eisoes chwe munud ar ei hôl hi gyda’r datganiad hwn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallem ddirwyn ein trafodaeth i ben.

Peter Black spoken in English p. 63

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 63

If people heckle me, I ask for your protection.

Os bydd pobl yn gweiddi ar fy nhraws, gofynnaf ichi am eich nawdd.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

Order. You have my full protection, Peter. I did refer yesterday to the issue of remarks made from a sedentary position. I explained that there are technical reasons regarding the recording of proceedings why Members should not seek to speak without first pressing the red button to ensure that they are recorded, both for the purposes of the Record of Proceedings and also for translation. The intention is that Members do not make remarks about other Members that cannot be translated or properly heard. Therefore, I ask Members not to indulge in this end of term atmosphere.

Trefn. Yr ydych o dan fy nawdd yn llwyr, Peter. Cyfeiriais ddoe at y mater o Aelodau yn gwneud sylwadau tra ar eu heistedd. Esboniais fod rhesymau technegol o safbwynt cofnodi’r trafodion pam na ddylai’r Aelodau geisio siarad heb bwyso’r botwm coch er mwyn sicrhau y cânt eu cofnodi, at ddibenion Cofnod y Trafodion ac at ddiben y cyfieithwyr hefyd. Y bwriad yw atal yr Aelodau rhag gwneud sylwadau am Aelodau eraill na ellir eu cyfieithu na’u clywed yn gywir. Felly, gofynnaf i’r Aelodau beidio ag ymostwng i awyrgylch diwedd tymor o’r fath.

Peter Black spoken in English p. 63

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 63

I will keep my contribution brief. Do you agree, Minister, that your statement illustrates that the Assembly is able to make a difference despite its limited powers and finances? Do you also agree that the stability provided by the partnership Government has made that possible? Will you illustrate how we measure the success of these initiatives, so that we can learn from them and take further initiatives forward as a result?

Sicrhaf y bydd fy nghyfraniad yn fyr. A gytunwch, Weinidog, fod eich datganiad yn profi bod y Cynulliad yn gallu gwneud gwahaniaeth er gwaethaf ei bwerau a’i gyllid cyfyngedig? A gytunwch hefyd mai’r sefydlogrwydd a ddaeth yn sgîl y Llywodraeth bartneriaeth a wnaeth hynny’n bosibl? A wnewch chi ddangos sut yr ydym yn mesur llwyddiant y mentrau hyn er mwyn inni allu dysgu ohonynt a datblygu mentrau eraill o ganlyniad?

Edwina Hart spoken in English p. 63

Edwina Hart siaradwyd yn Saesneg t. 63

All initiatives must be measured on their outcome and that is what we are trying to do within the policy arena, whether in health, education, transport or economic development. The partnership agreement has given the focus—it has not put any additional money in—but it has refocused on key priorities.

Rhaid mesur pob menter yn ôl ei chanlyniad a dyna beth yr ydym yn anelu ato o fewn y meysydd polisi, boed ym maes iechyd, addysg, trafnidiaeth neu ddatblygu economaidd. Mae’r cytundeb partneriaeth wedi rhoi’r ffocws—nid yw wedi rhoi unrhyw arian ychwanegol—ond mae wedi rhoi ffocws newydd i flaenoriaethau allweddol.

Datganiad gan y Llywydd

Statement by the Presiding Officer

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

Before I call on the Minister for Assembly Business to make a short statement on next week’s business, I endorse what Members of all party groups have said about this morning’s business and the length of statements. My understanding is that the purpose of statements is to announce policy and allow for Government Ministers to be questioned on that policy. I deplore a situation where time is not available for Members in general—and not just the lead spokespeople of the party groups—to comment and to question statements. I would prefer it if lengthy statements, such as this morning’s, were circulated well in advance and followed up by a shorter oral statement. That would allow time for proper questioning. In normal circumstances, I rule that oral statements should not exceed 1,000 words or 10 minutes in delivery. I believed that we had such an agreement. Clearly that agreement did not operate this morning. I regret that and apologise for it.

Cyn imi alw ar y Trefnydd i wneud datganiad byr ar fusnes yr wythnos nesaf, cymeradwyaf yr hyn a ddywedodd Aelodau o bob plaid ynglŷn â busnes y bore yma a hyd y datganiadau. Diben y datganiadau, fel y deallaf, yw cyhoeddi polisi a chaniatáu i Weinidogion y Llywodraeth gael eu holi ar y polisi hwnnw. Mae’n gas gennyf sefyllfa lle nad oes amser ar gael i’r Aelodau yn gyffredinol—ac nid prif lefarwyr y pleidiau yn unig—roi sylwadau a chwestiynu datganiadau. Byddai’n well gennyf pe bai datganiadau hirfaith, fel y cawsom y bore yma, yn cael eu dosbarthu ymhell o flaen llaw a’u dilyn gan ddatganiad byrrach ar lafar. Byddai hynny’n golygu bod amser priodol ar gael i holi. O dan amgylchiadau arferol, dyfarnaf na ddylai datganiadau llafar fod yn fwy na 1,000 o eiriau neu na ddylent gymryd mwy na 10 munud i’w traddodi. Credais fod gennym gytundeb o’r fath. Yn amlwg ni fu’r cytundeb hwnnw yn weithredol y bore yma. Yr wyf yn gresynu wrth hynny ac yn ymddiheuro am hynny.

Datganiad gan y Trefnydd

Statement by the Minister for Assembly Business

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 64

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 64

I will take note of your comments and ensure that future statements comply with your ruling. Regarding next Tuesday’s debate on Business Support, it has been brought to my attention that the Table Office, correctly within Standing Orders, has ruled that as the motion refers to a Committee report, it therefore cannot be amended. That was not our intention. It was a Cabinet response to the Committee report. It is a bizarre situation. We are criticised for not responding to Committee reports. However, when we do table a motion responding to a Committee report, we find that we cannot table a motion that can be amended if it refers to that report. The Business Committee needs to consider changing Standing Orders in terms of this issue. However, in terms of Tuesday’s business, I propose tabling two no-named day motions, one noting the Committee’s report and the second itemising the Cabinet’s response. I hope that will get us around the short-term difficulty in terms of Tuesday’s debate.

Byddaf yn nodi eich sylwadau ac yn sicrhau bod datganiadau yn y dyfodol yn cydymffurfio â’ch dyfarniad. O gofio dadl dydd Mawrth nesaf ar Gymorth i Fusnesau, tynnwyd fy sylw at y ffaith fod y Swyddfa Gyflwyno, yn gywir o fewn y Rheolau Sefydlog, wedi dyfarnu, gan fod y cynnig yn cyfeirio at adroddiad Pwyllgor, na ellir ei ddiwygio. Nid dyna oedd ein bwriad. Ymateb y Cabinet ydoedd i adroddiad y Pwyllgor. Mae’n sefyllfa ryfedd. Cawn ein beirniadu am beidio ag ymateb i adroddiadau’r Pwyllgor. Fodd bynnag, pan fyddwn yn cyflwyno cynnig yn ymateb i adroddiad Pwyllgor, gwelwn na allwn gyflwyno cynnig y gellir ei ddiwygio os yw’n cyfeirio at yr adroddiad hwnnw. Mae angen i’r Pwyllgor Busnes ystyried newid y Rheolau Sefydlog o ran y mater hwn. Fodd bynnag, o ran busnes dydd Mawrth, cynigiaf gyflwyno dau gynnig heb ddyddiad trafod, un yn nodi adroddiad y Pwyllgor a’r llall yn rhestru ymateb y Cabinet. Gobeithiaf y gwnaiff hynny ein helpu i oresgyn yr anhawster byrdymor o ran dadl dydd Mawrth.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 65

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

This refers to Standing Order No. 6.5. I wish to point out that the amendment to Standing Order No. 6.5, which added the phrase,

Mae hyn yn cyfeirio at Reol Sefydlog Rhif 6.5. Hoffwn nodi fod y gwelliant i Reol Sefydlog Rhif 6.5, a ychwanegodd y cymal,

‘motions proposing debates on reports submitted by Subject Committees may not be amended’

was approved by the Assembly. I believe that the amendment was hastily approved, and it is time for us to reconsider and to have a way of amending motions where that is appropriate. Clearly, we can have motions which take note of reports which would perhaps not be amendable. However, the opportunity should be made available through our Standing Orders to amend motions relating to the contents of reports, especially if they are motions that come from the Government in response to a Subject Committee report. I hope that we can have an early review of this particular Standing Order.

wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad. Credaf fod y gwelliant hwnnw wedi ei gymeradwyo ar frys, a’i fod yn bryd inni ailystyried a dod o hyd i ffordd o ddiwygio cynigion lle bo hynny’n briodol. Yn amlwg, gallwn gael cynigion sydd yn ystyried adroddiadau na fyddai, efallai, yn bosibl eu diwygio. Fodd bynnag, dylai’r cyfle fod ar gael drwy ein Rheolau Sefydlog i ddiwygio cynigion sydd yn ymwneud â chynnwys adroddiadau, yn enwedig os ydynt yn gynigion a ddaw oddi wrth y Llywodraeth mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor Pwnc. Gobeithiaf y gallwn gynnal adolygiad cynnar o’r Rheol Sefydlog benodol hon.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 11.09 a.m.

The Deputy Presiding Officer came to the Chair at 11.09 a.m.

Y Loteri yng Nghymru

The Lottery in Wales

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 65

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 65

Before I call the Minister to speak, I note that we have two debates, plus a short debate, which would normally take two and a half hours. It is now 11.10 a.m. I hope that the Government has contingency plans. I have selected amendments 1, 2 and 3 in the name of William Graham, and amendments 4 and 5 in the name of Jocelyn Davies.

Cyn imi alw ar y Gweinidog i siarad, nodaf fod gennym ddwy ddadl, ynghyd â dadl fer, a fyddai fel arfer yn cymryd dwy awr a hanner. Mae’n 11.10 a.m. erbyn hyn. Gobeithiaf fod gan y Llywodraeth gynlluniau wrth gefn. Dewisais welliannau 1, 2 a 3 yn enw William Graham a gwelliannau 4 a 5 yn enw Jocelyn Davies.

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language spoken in English p. 65

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg siaradwyd yn Saesneg t. 65

I propose that

Cynigiaf fod

Jenny Randerson The Minister for Culture, Sport and the Welsh Language (continued) spoken in English p. 66

Jenny Randerson Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 66

I am pleased to be able to open this debate on the lottery in Wales. Whether you approve of the lottery or not, it touches all of our lives. The funding provided by the lottery continues to help those who would otherwise have difficulty in securing funding to carry out worthy projects in fields such as health, education, environment, arts, charities and sports. The UK Government remains committed to the principle of additionality and I am informed that there are no plans to dilute this principle. There is no reason why the lottery should not support activities that go beyond projects currently funded by the taxpayer on health, education and the environment, just as it supplements taxpayers’ support for the arts, heritage and sport. Therefore, I reject William Graham’s amendment 1.

Yr wyf yn falch o allu agor y ddadl hon ar y loteri yng Nghymru. Pa un a gymeradwywch y loteri ai peidio, mae’n cyffwrdd â bywyd bob yr un ohonom. Mae’r arian a ddarperir gan y loteri yn parhau i helpu’r rheini a fyddai fel arfer yn cael anhawster i sicrhau arian i gyflawni prosiectau gwerth chweil mewn meysydd fel iechyd, addysg, yr amgylchedd, y celfyddydau, elusennau a chwaraeon. Erys Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i egwyddor ychwanegedd ac fe’m hysbysir nad oes unrhyw gynlluniau i wanhau’r egwyddor hon. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r loteri gefnogi gweithgareddau sydd yn mynd y tu hwnt i brosiectau a ariennir ar hyn o bryd gan y trethdalwr ar iechyd, addysg a’r amgylchedd, yn union fel yr atega gefnogaeth y trethdalwyr i’r celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon. Felly, gwrthodaf welliant 1 William Graham.

To date, the lottery has allocated over £500 million to Wales. In addition to funding landmark projects, such as the Millennium Stadium and the National Botanic Garden of Wales, a large number of smaller community-based projects have benefited. The demand for major capital grants to fund facilities is diminishing. The pattern of lottery funding is moving towards local community-based projects. I welcome this trend. I have seen the enormous benefits derived from initiatives, such as, for example, the opening up of sporting opportunities in the most deprived areas of the south Wales Valleys; providing funding for after-school child care and learning activities in some of the poorer parts of Cardiff; and providing funding for local arts and theatre groups throughout Wales. There are also many other examples.

Hyd yn hyn, dyrannodd y loteri dros £500 miliwn i Gymru. Yn ogystal ag ariannu prosiectau holl bwysig, fel Stadiwm y Mileniwm a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, elwodd nifer fawr o brosiectau llai yn y gymuned arni hefyd. Mae’r galw am grantiau cyfalaf mawr i ariannu cyfleusterau yn lleihau. Mae patrwm arian y loteri yn symud tuag at brosiectau mewn cymunedau lleol. Croesawaf y duedd hon. Gwelais y manteision aruthrol sydd yn deillio o fentrau fel, er enghraifft, creu cyfleoedd chwaraeon yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymoedd de Cymru; darparu arian ar gyfer gofal plant ar ôl ysgol a gweithgareddau dysgu mewn rhai o ardaloedd tlotaf Caerdydd; a darparu arian ar gyfer grwpiau celfyddyd a theatr lleol ledled Cymru. Mae llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Before moving on, I will discuss amendment 2. The renewal of the National Lottery operator’s licence was a matter for the National Lottery Commission, which is independent of Government. The regrettable problems in awarding the new licence will not significantly impact on the lottery funds available in Wales. I therefore reject amendment 2.

Cyn symud ymlaen, trafodaf welliant 2. Yr oedd adnewyddu trwydded gweithredwr y Loteri Genedlaethol yn fater i Gomisiwn y Loteri Genedlaethol, sydd yn annibynnol ar y Llywodraeth. Ni fydd y problemau anffodus a gododd wrth ddyfarnu’r drwydded newydd yn effeithio’n sylweddol ar yr arian loteri sydd ar gael yng Nghymru. Felly gwrthodaf welliant 2.

I wish to comment on Lord Burns’ recent report, which endorses the view always taken by officials in Wales, namely that lottery income will, at best, remain at its present level, but that it may decline.

Hoffwn roi fy sylwadau ar adroddiad diweddar yr Arglwydd Burns, sydd yn cymeradwyo’r farn a gymerir gan swyddogion yng Nghymru bob amser, sef y bydd incwm y loteri, ar y gorau, yn aros ar ei lefel bresennol, ond yn gostwng efallai.

I will mention some of the work completed since our last debate on the lottery. Progress has been made in improving joint working between the distributors. The application procedures have also been simplified in some areas. New programmes have been developed to tackle specific issues in Wales. Distributors have begun to look at areas with cold spots in Wales. Cold spots are areas with low numbers of applications or awards. The Assembly has begun to work closely with distributors. I commend the distributing bodies in Wales for their continued efforts and I look forward to working with a greater focus with them. Soon after my appointment, I asked the distributors to work closely together, as well as with the Assembly, to ensure that our overall strategic aims are met. These include equality, sustainability, accessibility, simplicity and inclusivity. I will address each of these in turn.

Soniaf am rywfaint o’r gwaith a gwblhawyd ers ein dadl ddiwethaf ar y loteri. Gwnaethpwyd cynnydd wrth wella’r cydweithio rhwng y dosbarthwyr. Symleiddiwyd gweithdrefnau cymhwyso mewn rhai ardaloedd hefyd. Datblygwyd rhaglenni newydd i fynd i’r afael â materion penodol yng Nghymru. Mae dosbarthwyr wedi dechrau edrych ar fannau gwan yng Nghymru lle nad oes llawer o ddiddordeb yn y loteri a lle mae niferoedd isel o geisiadau neu ddyfarniadau. Mae’r Cynulliad wedi dechrau gweithio’n agos gyda dosbarthwyr. Cymeradwyaf y cyrff dosbarthu yng Nghymru am eu hymdrechion parhaus ac edrychaf ymlaen gyda hwy gyda mwy o ffocws. Yn fuan wedi’m penodiad, gofynnais i’r dosbarthwyr weithio’n agos gyda’i gilydd, yn ogystal â chyda’r Cynulliad, i sicrhau y bodlonir ein hamcanion strategol cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys cydraddoldeb, cynaliadwyedd, hygyrchedd a chynwysoldeb. Byddaf yn ymdrin â phob un o’r rhain yn eu tro.

Some of you believe that the distribution of lottery funding across Wales is unequal. Statistics show that there are significant variations across Wales. It is interesting, however, that such variations differ among the distributors and within the programme. I confirm that the lottery distributors are working together to address these cold spots.

Cred rhai ohonoch na ddosberthir arian y loteri yn gyfartal yng Nghymru. Dengys ystadegau fod amrywiadau sylweddol ledled Cymru. Mae’n ddiddorol, fodd bynnag, fod amrywiadau o’r fath yn amrywio ymhlith y dosbarthwyr ac o fewn y rhaglen. Cadarnhaf fod dosbarthwyr y loteri yn gweithio gyda’i gilydd i ymdrin â’r mannau gwan hyn.

Lottery funding is not about providing long-term funding but a short-term injection of funds, either to kick-start a project or to help it expand. However, sustainability is an important consideration for all distributors when deciding on lottery funding. This approach needs lottery money to bring lasting benefits to Wales.

Nid yw arian y loteri yn golygu darparu arian hirdymor ond yn hytrach chwistrelliad byrdymor o arian ydyw, naill ai i roi hwb cychwynnol i brosiect neu i’w helpu i ehangu. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth bwysig i bob dosbarthwr wrth benderfynu ar arian y loteri. Mae angen arian y loteri ar yr ymagwedd hon i greu buddiannau parhaol i Gymru.

All distributors are working to improve accessibility to grants. I would like to mention Awards for All Wales, a scheme that I launched on Tuesday. This scheme, along with others, such as the community chess programme run by the Sports Council for Wales, and the Arts for All programme run by the Arts Council of Wales, is an example of making small grant schemes accessible to more people and groups across Wales. The information is easier to access, the grants are simpler to apply for, and the speed of decisions has improved. People wanting relatively small grants need not follow complicated procedures, and the maximum number of applications is now encouraged. These approaches make it easier for people to apply for, and obtain, lottery funding.

Mae pob dosbarthwr yn gweithio i sicrhau ei bod yn haws i gael grant. Hoffwn sôn am Arian i Bawb Cymru, cynllun a lansiais ddydd Mawrth. Mae’r cynllun hwn, ynghyd ag eraill, fel y rhaglen gwyddbwyll gymunedol a gaiff ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’r rhaglen Celfyddyd i Bawb a gaiff ei rhedeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn enghraifft o sicrhau bod cynlluniau grant bach ar gael i fwy o bobl a mwy o grwpiau ledled Cymru. Mae’n haws cael gafael ar yr wybodaeth, mae’n haws gwneud cais am grant a chaiff y penderfyniadau eu gwneud yn gynt. Nid oes angen i bobl sydd am gael grantiau cymharol fach ddilyn gweithdrefnau cymhleth, ac anogir y nifer uchaf o geisiadau erbyn hyn. Mae’r ymagweddau hyn yn ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am arian y loteri a’i gael.

There are many new and exciting developments. The next allocation from the New Opportunities Fund will provide in excess of £90 million for initiatives, including physical education and school’s sports facilities linked to community usage, activities for young people and initiatives to reduce the burden of coronary heart disease, strokes and cancer, palliative care and childcare. The Sports Council for Wales’s social inclusion in sport fund will ensure that disadvantaged communities are not penalised by the inability to raise match funding. The Heritage Lottery Fund scheme, Your Heritage, also directly addresses accessibility from within disadvantaged communities. It is important that lottery distributors continue to target areas of greatest need, as well as areas of low activity. That is of particular importance in relation to social inclusion and equality. I am sure that Members would agree that a key issue for the future is how the Assembly works with lottery distributors to ensure the maximum benefit to Wales of lottery funding.

Mae llawer o ddatblygiadau newydd a chyffrous. Bydd y dyraniad nesaf o’r Gronfa Cyfleoedd Newydd yn rhoi mwy na £90 miliwn ar gyfer mentrau, gan gynnwys addysg gorfforol a chyfleusterau chwaraeon ysgolion sydd yn gysylltiedig â’u defnyddio yn y gymuned, gweithgareddau i bobl ifanc a mentrau i leihau baich afiechyd y galon, strôc a chanser, gofal lleddfol a gofal plant. Bydd cronfa cynhwysedd cymdeithasol mewn chwaraeon Cyngor Chwaraeon Cymru yn sicrhau na chosbir cymunedau o dan anfantais am na allant godi arian cyfatebol. Mae cynllun Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Eich Treftadaeth, yn ymdrin yn uniongyrchol hefyd â hygyrchedd o fewn cymunedau sydd o dan anfantais. Mae’n bwysig hefyd bod dosbarthwyr y loteri yn parhau i dargedu ardaloedd lle mae’r angen mwyaf, yn ogystal ag ardaloedd lle nad oes llawer o weithgaredd. Mae hynny’n arbennig o bwysig mewn perthynas â chynhwysedd cymdeithasol a chydraddoldeb. Yr wyf yn siŵr y byddai’r Aelodau’n cytuno mai un o’r materion allweddol ar gyfer y dyfodol yw’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithio gyda dosbarthwyr y loteri i sicrhau’r budd gorau i Gymru yn sgîl arian y loteri.

Amendment 3 is factually incorrect. While Government rightly provides lottery distributors with policy and financial directions, which establish the broad themes and mechanics of managing lottery funding, the development of programmes, the criteria, the assessment and the distribution of lottery funding is all undertaken independently of Government. The recent policy directions issued to the New Opportunities Fund resulted from an extensive public consultation exercise and, on those grounds, I will not support the amendment.

Mae gwelliant 3 yn ffeithiol anghywir. Tra bod y Llywodraeth yn gywir yn rhoi cyfarwyddiadau polisi ac ariannol i ddosbarthwyr y loteri, sydd yn sefydlu’r themâu cyffredinol a dulliau rheoli arian y loteri, caiff y gwaith o ddatblygu rhaglenni, y meini prawf, asesiad a dosbarthiad arian y loteri ei wneud yn annibynnol ar y Llywodraeth. Deilliodd y cyfarwyddiadau diweddar ar bolisi a gyflwynwyd i’r Gronfa Cyfleoedd Newydd o ymarfer ymgynghori cyhoeddus helaeth ac, am y rhesymau hynny, ni chefnogaf y gwelliant.

We must ensure that lottery funding is used to best effect in Wales and for Wales. It must be spent on programmes that are relevant to Wales and support the Assembly’s wider aims and objectives. We must look towards developing a more co-ordinated approach to influence policy direction and, perhaps, a lottery strategy for Wales. To that end, I have invited senior personnel from all lottery distributors in Wales to an exploratory meeting to discuss how the Assembly can work more strategically and effectively with them. However, we must not trespass on the independence of distributors. I will also seek to ensure that Wales’s interests are considered fully at a UK level.

Rhaid inni sicrhau y defnyddir arian y loteri yn y ffordd fwyaf effeithiol yng Nghymru ac i Gymru. Rhaid ei wario ar raglenni sydd yn berthnasol i Gymru gan ategu nodau ac amcanion ehangach y Cynulliad. Rhaid inni edrych tuag at ddatblygu ymagwedd fwy cydgysylltiedig tuag at ddylanwadu ar gyfarwyddyd polisi ac, efallai, ar strategaeth loteri i Gymru. I’r perwyl hwnnw, gwahoddais uwch aelodau personél o bob dosbarthwr loteri yng Nghymru i gyfarfod cychwynnol i drafod sut y gall y Cynulliad weithio’n fwy strategol ac effeithiol gyda hwy. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â thresmasu ar annibyniaeth dosbarthwyr. Ceisiaf hefyd sicrhau yr ystyrir buddiannau Cymru yn llawn ar lefel y DU.

Jocelyn Davies’s amendment 4 asks for an assurance that the Culture Committee will be closely involved in monitoring lottery policy. That is important. The Committee has an important role to play in developing the wider strategy, to which I referred earlier. Therefore, I have no difficulty in supporting that amendment.

Mae gwelliant 4 Jocelyn Davies yn gofyn am sicrwydd y bydd y Pwyllgor Diwylliant yn ymwneud yn agos â monitro polisi’r loteri. Mae hynny’n bwysig. Mae gan y Pwyllgor rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu’r strategaeth ehangach, y cyfeiriais ati yn gynharach. Felly, ni chaf unrhyw anhawster i gefnogi’r gwelliant hwnnw.

I am concerned that Wales receives the maximum amount possible of lottery funding. Tom Middlehurst put pressure on the UK Government to review the percentage share for arts and sport in Wales. I am continuing with this work, in conjunction with colleagues from Northern Ireland and Scotland. Tom will realise that this is a complex area, in which there are complications to overcome and difficulties in terms of timing, as we expect the publication shortly of the report of Jack Cunningham’s review of the funding of elite sportsmen and sportswomen.

Yr wyf eisiau sicrhau bod Cymru’n cael y swm uchaf posibl o arian y loteri. Rhoddodd Tom Middlehurst bwysau ar Lywodraeth y DU i arolygu’r gyfran ganrannol ar gyfer y celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru. Yr wyf yn parhau â’r gwaith hwn, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Ogledd Iwerddon a’r Alban. Bydd Tom yn sylweddoli fod hwn yn faes cymhleth, lle y mae cymhlethdodau i’w goresgyn ac anawsterau o ran amseru, gan ein bod yn disgwyl adroddiad yn fuan ar adolygiad Jack Cunningham o ariannu’r mabolgampwyr gorau.

With regard to amendment 5, I too am disappointed at the rate of progress on this issue. We must be clear that the exercise that we are undertaking with colleagues from Scotland and Northern Ireland deals only with the shares for arts and sport. The New Opportunities Fund, the Heritage Lottery Fund and the Community Fund already include a weighting for deprivation. However, if it is taken generally, I would be willing to support the amendment.

O ran gwelliant 5, yr wyf innau hefyd yn siomedig â’r cynnydd a wnaethpwyd ar y mater hwn. Rhaid egluro mai dim ond â’r cyfrannau ar gyfer y celfyddydau a chwaraeon y mae’r ymarfer a wnawn gyda chydweithwyr o’r Alban a Gogledd Iwerddon yn delio. Mae’r Gronfa Cyfleoedd Newydd, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gymunedol yn cynnwys lwfans ar gyfer amddifadedd. Fodd bynnag, os caiff ei hystyried yn gyffredinol, byddwn yn fodlon cefnogi’r gwelliant.

The lottery has already funded a great deal of good work in Wales. It is important that we make the most of our future lottery funding. The Assembly must continue to be involved with lottery distributors to help groups and communities that require funding to succeed. It is not my intention to be drawn into discussions this morning on specific lottery-funded projects. The Assembly is not responsible for those decisions and it would not be an effective use of this debate to get involved in such detailed discussions. However, if people want to raise particular issues, I will respond in conjunction with the lottery distributors through correspondence.

Mae’r loteri eisoes wedi ariannu llawer iawn o waith da yng Nghymru. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’r arian a gawn gan y loteri yn y dyfodol. Rhaid i’r Cynulliad barhau i fod yn gysylltiedig â dosbarthwyr y loteri i helpu grwpiau a chymunedau y mae angen arian arnynt i lwyddo. Nid yw’n fwriad gennyf cael fy nhynnu i mewn i drafodaethau y bore yma ar brosiectau penodol a ariennir gan y loteri. Nid yw’r Cynulliad yn gyfrifol am y penderfyniadau hynny ac ni fyddai’n ddefnydd effeithiol o’r ddadl hon i ymwneud â thrafodaethau manwl o’r fath. Fodd bynnag, os bydd pobl am godi materion penodol, byddaf yn ymateb ar y cyd â dosbarthwyr y loteri drwy lythyru.

Jonathan Morgan spoken in English p. 70

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 70

I propose the following amendments in the name of William Graham. Amendment 1: add a new point 1 and renumber accordingly:

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw William Graham. Gwelliant 1: ychwanegu fel pwynt 1 newydd ac ailrifo’r pwyntiau yn ôl y gofyn:

Jonathan Morgan (continued) spoken in English p. 70

Jonathan Morgan (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 70

I propose amendment 2. Insert a new point 2 and renumber accordingly:

Cynigiaf welliant 2. Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau yn ôl y gofyn:

Jonathan Morgan (continued) spoken in English p. 71

Jonathan Morgan (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 71

I propose amendment 3. Insert as a new point at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 3. Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Jonathan Morgan (continued) spoken in English p. 71

Jonathan Morgan (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 71

We welcome the opportunity to debate this important issue. The National Lottery has had a tremendous impact in Wales and it is right and proper that the National Assembly for Wales debates that impact and the lottery’s future direction. Unlike many of the debates held in the Assembly, this is one that arouses interest—and some concern—particularly among the many organisations throughout Wales that have benefited considerably from the lottery since its establishment by a Conservative Government in 1993. I am sure that we all welcome that achievement.

Croesawn y cyfle i gynnal dadl ar y mater pwysig hwn. Cafodd y Loteri Genedlaethol effaith aruthrol yng Nghymru ac mae’n gywir a phriodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal dadl ar yr effaith honno a chyfeiriad y loteri yn y dyfodol. Yn wahanol i lawer o’r dadleuon a gynhelir yn y Cynulliad, mae hon yn un sydd yn ennyn diddordeb—a pheth pryder—yn arbennig ymhlith y llu o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi elwa’n sylweddol ar y loteri ers i Lywodraeth Geidwadol ei sefydlu yn 1993. Yr wyf yn siŵr bod pob un ohonom yn croesawu’r cyflawniad hwnnw.

Two principles underlie the lottery: additionality and independence. These are two key principles and were outlined as such in 1993 when the National Lottery was announced by the then Prime Minister, John Major. The principle of additionality states that lottery cash should not be spent on core Government functions, such as education and the national health service. Those functions, like many others, are core responsibilities of the Government in spending taxpayers’ money. The Conservative Government resisted what could clearly be a temptation to spend lottery cash on essential tax-funded services such as health, education and other Government functions. The second principle is independence from ministerial diktat. It was decided at an early stage that lottery money should be spent independently by autonomous bodies operating at arm’s length from the pressures of day to day politics and away from the pressures of ministerial interference. The intention was that this would rebut charges of political manipulation.

Mae dwy egwyddor yn sail i’r loteri: ychwanegedd ac annibyniaeth. Mae’r rhain yn ddwy egwyddor allweddol ac fe’u hamlinellwyd felly yn 1993 pan gyhoeddwyd y Loteri Genedlaethol gan y Prif Weinidog ar y pryd, John Major. Mae egwyddor ychwanegedd yn nodi na ddylid gwario arian y loteri ar swyddogaethau craidd y Llywodraeth, fel addysg a’r gwasanaeth iechyd gwladol. Cyfrifoldebau craidd y Llywodraeth wrth wario arian trethdalwyr yw’r swyddogaethau hynny, fel llawer o rai eraill. Ymwrthododd y Llywodraeth Geidwadol â’r hyn a allai yn hawdd fod yn demtasiwn i wario arian y loteri ar wasanaethau hanfodol a ariennir gan drethi fel iechyd, addysg a swyddogaethau eraill y Llywodraeth. Yr ail egwyddor yw annibyniaeth ar ddictad gweinidogol. Penderfynwyd yn gynnar yn y broses y dylai arian y loteri gael ei wario yn annibynnol gan gyrff awtonomaidd yn gweithredu hyd braich oddi wrth bwysau gwleidyddiaeth ddyddiol ac i ffwrdd oddi wrth bwysau ymyrraeth weinidogol. Y bwriad oedd y byddai hyn yn gwrthbrofi cyhuddiadau o gamddefnydd gwleidyddol.

We can all point to the success stories of the National Lottery, particularly here in Wales. We need only look at the Millennium Stadium and the National Botanic Garden of Wales. Hopefully, we will also be able to llok at the Wales Millennium Centre, which will benefit from lottery funding and will prove to be equally, if not more, successful. In mentioning the large projects, we should not forget the myriad of smaller projects that have contributed to community life throughout Wales. Many organisations have benefited from lottery money, which has helped them considerably in their day to day work in their communities. I was pleased to see that, last month, in my constituency of South Wales Central, Urdd Gobaith Cymru received £90,000 to set up a valuable Welsh-medium educational and youth service in west Cardiff. That is a clear example from my own constituency of the achievements of the National Lottery. We welcome its achievements here in South Wales Central and across Wales.

Gall pob un ohonom gyfeirio at storïau llwyddiannus y Loteri Genedlaethol, yn arbennig yma yng Nghymru. Dim ond edrych ar Stadiwm y Mileniwm a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd raid inni. Gobeithio y byddwn hefyd yn gallu edrych ar Ganolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn elwa ar arian y loteri ac yn profi ei bod yr un mor llwyddiannus, os nad yn fwy llwyddiannus. Wrth sôn am y prosiectau mwy o faint, ni ddylem anghofio’r myrdd o brosiectau llai a gyfrannodd at fywyd cymunedol ledled Cymru. Mae llawer o sefydliadau wedi elwa ar arian y loteri, sydd wedi eu helpu’n sylweddol yn eu gwaith o ddydd i ddydd yn eu cymunedau. Y mis diwethaf, yr oeddwn yn falch o weld, yn fy etholaeth i sef Canol De Cymru, bod Urdd Gobaith Cymru wedi cael £90,000 i sefydlu gwasanaeth addysgol a ieuenctid gwerthfawr drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd. Mae honno’n enghraifft glir o’m hetholaeth i fy hun o gyflawniadau’r Loteri Genedlaethol. Croesawn ei chyflawniadau yma yng Nghanol De Cymru a ledled Cymru.

At the other end of the spectrum, in the Cardiff Central constituency, the Roath Park Golden Friendship Club received £900 to help it provide social activities for older people, such as day trips and guest speakers. That is a smaller, yet vital project, which clearly shows the extent of the lottery’s tremendous impact in Wales.

Yn y pegwn arall, yn etholaeth Canol Caerdydd, cafodd y Roath Park Golden Friendship Club £900 i’w helpu i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i bobl hŷn, fel teithiau dydd a siaradwyr gwadd. Mae hwn yn brosiect llai, ac eto yn un pwysig, sydd yn dangos yn glir yr effaith aruthrol y mae’r loteri yn ei chael yng Nghymru.

I say to the Minister that there is a need to spread the distribution of money. Amendment 3 states that we fully believe that the lottery should contribute to the overall aims of reducing social disadvantage across Wales. The lottery should not only be seen as a fund for big arts and sports projects in our cities. It must also have an impact on our poorer communities. That is why support for the amended motion should be clear. Our amendments add value to the motion tabled by the administration and amendment 3 would send a clear message that lottery money should aim to reduce social disadvantage in communities across Wales that are desperately attempting to improve the lifestyles of the people who live in them. We will support both Plaid Cymru amendments.

Dywedaf wrth y Gweinidog fod angen lledaenu’r arian a ddosberthir. Noda gwelliant 3 ein bod yn credu’n llwyr y dylai’r loteri gyfrannu at nodau cyffredinol lleihau anfantais gymdeithasol ledled Cymru. Ni ddylid ystyried y loteri yn gronfa i brosiectau celfyddyd a chwaraeon mawr yn ein dinasoedd yn unig. Rhaid iddi effeithio hefyd ar ein cymunedau tlotach. Dyna pam y dylai’r gefnogaeth i’r cynnig diwygiedig fod yn glir. Mae ein gwelliannau yn ychwanegu gwerth at y cynnig a gyflwynwyd gan y weinyddiaeth a byddai gwelliant 3 yn anfon neges glir y dylai arian y loteri anelu at leihau anfantais gymdeithasol mewn cymunedau ledled Cymru sydd yn ymdrechu’n galed i wella bywydau’r bobl sydd yn byw ynddynt. Byddwn yn cefnogi’r ddau welliant gan Blaid Cymru.

Although the Minister is not pleased with our amendment 2, it does point to the botched licence issuing process. It is right for the Assembly to highlight that. We are disappointed that, four years after the 1997 general election campaign, when Labour stated that it would opt for a non-profit operator for the lottery, Camelot’s licence was reinstated. The whole process resembled an episode of Dad’s Army. The Assembly should recognise that it was a botched process, and register its disapproval of it.

Er nad yw’r Gweinidog yn fodlon ar ein gwelliant 2, mae’n cyfeirio at y broses cyhoeddi trwyddedau y gwnaethpwyd cawl ohoni. Mae’n iawn bod y Cynulliad yn pwysleisio hynny. Mae’n siom inni nodi i drwydded Camelot gael ei hadfer, bedair blynedd ar ôl ymgyrch etholiad cyffredinol 1997, pan nododd Llafur y byddai’n dewis gweithredydd di-elw ar gyfer y loteri. Yr oedd y broses gyfan yn debyg i bennod o Dad’s Army. Dylai’r Cynulliad gydnabod y gwnaethpwyd cawl o’r broses a dangos ei anghymeradwyaeth.

The Welsh Conservatives are deeply concerned that the Labour Government has started to demolish the principle of additionality. The Minister for Public Health, Yvette Cooper, announced recently that lottery money could now be used to fund palliative care. If palliative care is not a core function of the NHS, I do not know what is.

Mae Ceidwadwyr Cymru yn gofidio’n fawr bod y Llywodraeth Lafur wedi dechrau dinistrio egwyddor ychwanegedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd Cyhoeddus, Yvette Cooper, y gallai arian y loteri gael ei ddefnyddio yn awr i ariannu gofal lleddfol. Os nad yw gofal lleddfol yn un o swyddogaethau craidd yr NHS, ni wn beth sydd.

The Welsh Conservatives believe that our amendments are valid, and we urge the Assembly to support them.

Cred Ceidwadwyr Cymru fod ein gwelliannau yn ddilys, ac anogwn y Cynulliad i’w cefnogi.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 73

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 73

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Jocelyn Davies. Gwelliant 4: Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

I propose the following amendments in the name of Jocelyn Davies. Amendment 4: Insert a new point at the end of the motion:

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 73

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 73

Cynigiaf welliant 5. Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

I propose amendment 5. Insert new point at end of motion:

Owen John Thomas (parhad) siaradwyd yn Gymraeg t. 74

Owen John Thomas (continued) spoken in Welsh p. 74

Ar ran Plaid Cymru, croesawaf yr egwyddorion a fynegir ym mhwynt cyntaf cynnig y Llywodraeth. Yr ydym ninnau hefyd yn awyddus i fynd i’r afael â materion megis cynhwysiant cymdeithasol, dosbarthiad teg o adnoddau cyllidol, cyfle cyfartal a symleiddio’r broses o gyflwyno ceisiadau am arian loteri.

On behalf of Plaid Cymru, I welcome the principles expressed in the first point of the Government’s motion. We are also keen to tackle issues such as social inclusion, equitable distribution of financial resources, equal opportunities and simplification of the process of submitting bids for lottery money.

Croesawn unrhyw drefniadau a fydd yn arwain at ddatblygu polisïau sydd yn adlewyrchu anghenion penodol Cymru ac yn cael y dylanwad mwyaf posibl ar ein cymunedau.

We welcome any arrangements that will lead to the development of policies that reflect Wales’s specific needs and have the greatest possible influence on our communities.

O ganlyniad, yr ydym wedi cyflwyno gwelliannau 4 a 5 mewn ysbryd o gydweithrediad. Rhaid inni gadw golwg ar y modd y dosberthir cronfeydd loteri, a sicrhau ein bod yn gwybod i ba raddau y caiff yr amcanion a’r egwyddorion a restrir yn y cynnig eu cyflawni.

As a result, we have tabled amendments 4 and 5 in a spirit of co-operation. We must keep an eye on how lottery funds are distributed, and ensure that we know to what extent the objectives and principles listed in the motion are met.

Yn ddiweddarach yn y ddadl, bydd Gareth Jones a Rhodri Glyn Thomas yn ystyried y cynnig o safbwynt dosbarthiad arian loteri ar draws Cymru ac o safbwynt cyrff elusennol a chynaliadwyedd.

Later in the debate, Gareth Jones and Rhodri Glyn Thomas will consider the motion in terms of the distribution of lottery money across Wales and in terms of charitable organisations and sustainability.

Mae gwelliant 4 yn galw ar i’r Pwyllgor Diwylliant gael cyfrifoldeb dros fonitro’r polisi o ddosbarthu cronfeydd loteri a’r cynnydd a wneir wrth gyflawni ein hamcanion cymdeithasol.

Amendment 4 calls for the Culture Committee to be given responsibility for monitoring the policy of distributing lottery funds and the progress made in meeting our social objectives.

Yn ystod y ddadl ar y Loteri Genedlaethol, a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin y llynedd, mynegodd Jenny Randerson ei phryder am arian loteri, gan ddweud,

During the debate on the National Lottery held in Plenary on 6 June last year, Jenny Randerson expressed concern about lottery money, stating that,

‘Dylai fynd i’r cymunedau tlotach’.

‘It should go to the poorer communities’.

Dywedodd hefyd bod,

She also stated that,

‘angen inni helpu’r grwpiau llai a thlotach i lenwi’r ffurflenni a bod yn fwy rhagweithiol ynghylch eu hannog i ymgeisio am arian.’

‘we need to help the smaller and poorer groups to fill in the forms and take a more proactive attitude to encouraging them to apply for money.’

Ni allai unrhyw un anghytuno â hynny.

No one could disagree with that.

Cryfhawyd yr angen am ymrwymiad gan y Cynulliad i’r broses ac am yr angen i fonitro’r broses mewn gwelliant a gynigiwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod yr un ddadl. Mynnai’r gwelliant,

The need for a commitment by the Assembly to the process and the need to monitor the process was reinforced in an amendment proposed by the Liberal Democrats during the same debate. The amendment insisted that,

‘bydd y Cynulliad yn ceisio sicrhau: 1) bod holl arian y loteri yn ychwanegol at wariant y Llywodraeth, ac nid yn cymryd ei le, 2) bod arian y loteri’n cael ei ddosbarthu’n gyfartal’.

‘the Assembly shall seek to ensure that: 1) All lottery funding is additional to, and not instead of Government expenditure, 2) Lottery funds are distributed equitably’.

Ers hynny, dyrchafwyd Jenny Randerson i swydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg. Yr wyf yn siŵr ei bod yn ysu am weld y materion a oedd yn ei phoeni yn cael y sylw dyledus. Cawn weld am hynny.

Since then, Jenny Randerson has been elevated to the post of Minister for Culture, Sport and the Welsh Language. I am sure that she is longing to see the issues that she was concerned about them given due attention. We will see about that.

Yng ngwelliant 1, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhannu pryder y Gweinidog dros Ddiwylliant y dylai arian loteri fod yn ychwanegol i wariant y Llywodraeth. Oherwydd hynny, bydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant 1.

In amendment 1, the Welsh Conservatives share the Minister for Culture’s concern that lottery funding should be additional to Government expenditure. As a result, Plaid Cymru will support amendment 1.

Er bod pawb yn awyddus i sicrhau y dosberthir arian loteri yn deg, nid oes llawer o dystiolaeth fod clybiau, cyrff a sefydliadau bach yn cael gwell triniaeth yn sgîl sefydlu’r Cynulliad. Nid yw clwb paffio’r Sblot, er enghraifft, wedi sylwi ar unrhyw newid yn y modd y dosberthir arian loteri. Mae’r clwb yn dal i gwrdd mewn hen adeilad prefab lle mae’r gwynt a’r glaw yn ymwelwyr cyson. Prin yw’r ymwelwyr sydd yn cynnig cefnogaeth i’r gwaith campus a wneir yno, yn rhad ac am ddim, i reoli’r clwb a hyfforddi’r aelodau ifanc. Mae nifer o aelodau’r clwb wedi cynrychioli Cymru mewn sawl cwr o’r byd, gan ddod â bri i’n gwlad. Mae’r clwb yn dal i ddisgwyl am werthfawrogiad o’u hymdrechion o ffynonellau loteri.

Although everyone is keen to see lottery funds distributed fairly, there is not much evidence that small clubs, organisations and institutions have received better treatment since the establishment of the Assembly. Splott boxing club, for example, has not noticed any change in the way in which lottery funds are distributed. The club still meets in an old prefabricated building where the wind and the rain are regular visitors. Few visitors offer support to the excellent work done there, free of charge, to manage the club and to train the young members. Several members of the club have represented Wales in all corners of the world, bringing acclaim to our country. The club is still awaiting remuneration for their efforts from lottery sources.

Rhaid inni fod yn fwy rhagweithiol, gan annog sefydliadau llai i wneud ceisiadau am grantiau. Rhaid inni gydnabod bod arian yn mynd, yn bennaf, at y rhai sydd yn deall y drefn. Byddai monitro gofalus a chyson yn gymorth mawr i ddarganfod gwendidau yn y gyfundrefn dosbarthu arian.

We must be more proactive, and encourage smaller organisations to submit bids for grants. We must acknowledge that the funding goes, mainly, to those who understand the system. Careful and regular monitoring would be of great assistance in identifying weaknesses in the system of distributing money.

Cyfeiriaf at welliant 5 Jocelyn Davies, a dibynnaf ar Tom Middlehurst i’m cefnogi. Yn nadl y llynedd ar y pwnc hwn, mynegodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, Tom Middlehurst, ei obeithion a’i bryderon. Dyfynnaf:

I refer to Jocelyn Davies’s amendment 5, and I count on Tom Middlehurst’s support. In last year’s debate on this issue, the former Secretary for Post-16 Education and Training, Tom Middlehurst, expressed his hopes and concerns. I quote:

‘Dymunaf sefydlu sail gyffredin ar gyfer y gyfran o gyllid y mae Cymru’n ei derbyn. Rhaid i’r sail honno roi ystyriaeth i bethau eraill yn ogystal â nifer y boblogaeth.’

‘I want to establish a common basis on which Wales receives its share of funds. That basis must take account of more than population numbers.’

Mae’n rhaid i’r Gweinidog gydnabod amddifadedd cymdeithasol, iechyd gwael ac anghenion amgylcheddol neilltuol Cymru.

The Minister must acknowledge the social deprivation, poor health and particular environmental requirements of Wales.

Yr oedd Tom yn llygad ei le, ac os nad yw wedi cael tröedigaeth, mae’n dal yn iawn, gan nad yw’r sefyllfa wedi newid. Tra bod Cymru yn derbyn 6.5 y cant o gyllid o’r Gronfa Gymunedol, mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n derbyn dim ond 5 y cant ac mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n derbyn 4.5 y cant.

Tom was right, and if he has not had a change of heart he is still correct, because the situation has not changed. While Wales receives 6.5 per cent of funding from the Community Fund, the Arts Council of Wales receives only 5 per cent and the Sports Council for Wales receives 4.5 per cent.

Pe bai’r arian a ddyrennir i Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru’n cael ei benderfynu yn ôl yr angen y byddem yn cael cynnydd sylweddol—

If the money allocated to the Arts Council of Wales and the Sports Council for Wales were determined according to need, we would have a substantial increase—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 76

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 76

Order. Owen, you are half a minute over time. You must conclude.

Trefn. Owen, yr ydych wedi mynd hanner munud dros eich amser. Rhaid ichi ddod i ben.

Owen John Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 76

Owen John Thomas spoken in Welsh p. 76

Mae gennyf ddwy frawddeg arall.

I have two more sentences.

Byddem yn cael cynnydd sylweddol, digon i roi hwb i lawer o gyrff ledled Cymru. Cefnogwch welliant 5 Jocelyn Davies a helpu i wireddu gobeithion Tom a miloedd o ddinasyddion.

We would have a substantial increase, enough to boost many organisations throughout Wales. Please support Jocelyn Davies’s amendment 5 and help to realise the aspirations of Tom and thousands of citizens.

Mae Plaid Cymru’n cefnogi gwelliant 1 Ceidwadwyr Cymru. Fodd bynnag, ni chefnogwn welliannau 2 a 3. Ni chefnogwn gwelliant 2 yn arbennig, gan ei fod yn aneglur ac nad yw wedi’i ysgrifennu’n ysbryd y cynnig gwreiddiol.

Plaid Cymru supports the Welsh Conservatives’ amendment 1. However, we will not support amendments 2 and 3. We will not support amendment 2, in particular, because it is vague and it has not been written in the spirit of the original motion.

Lynne Neagle spoken in English p. 76

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 76

I want to focus on possible changes in the use of lottery funding. There has undoubtedly been a process of moving towards funding smaller, local projects that are based in communities in greatest need. The current Community Fund consultation sets out this process clearly. The consultation on its strategic plan for 2002-07 offers a guide to its long-term thinking, which is based on a new commitment to focus on long-term change, requiring projects to demonstrate what lasting changes it hopes to deliver. This fits in with the Assembly’s commitment through schemes such as Communities First and Objective 1 to deliver long-term, sustainable change. However, the strategic plan also makes it clear that the Community Fund wants to make more of a difference on less money.

Yr wyf am ganolbwyntio ar newidiadau posibl yn y ffordd y defnyddir arian y loteri. Yn ddiau, bu proses o symud tuag at ariannu prosiectau llai, lleol yn y cymunedau sydd â’r angen mwyaf. Noda ymgynghoriad y Gronfa Gymunedol gyfredol y broses hon yn glir. Mae’r ymgynghoriad ar ei chynllun strategol ar gyfer 2002-07 yn cynnig arweiniad ar ei meddylfryd hirdymor, sydd yn seiliedig ar ymrwymiad newydd i ganolbwyntio ar newid hirdymor, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau ddangos pa newidiadau parhaol y mae’n gobeithio eu cyflawni. Mae hyn yn cydweddu ag ymrwymiad y Cynulliad drwy gynlluniau fel Rhoi Cymunedau’n Gyntaf ac Amcan 1 i gyflawni newid hirdymor, cynaliadwy. Fodd bynnag, eglura’r cynllun strategol hefyd fod y Gronfa Gymunedol yn dymuno gwneud mwy o wahaniaeth gyda llai o arian.

We should be clear that we expect those resources to be targeted at the communities in greatest need. An idea that has already been floated, and one that deserves full consideration, is to hold back a set proportion of money spent on lottery tickets in a local authority area for direct use in those communities. A percentage hold back would build a direct link between money spent by a community on lottery tickets and the benefits that they receive. It would guarantee that communities—

Dylem egluro ein bod yn disgwyl i’r adnoddau hynny gael eu targedu tuag at y cymunedau sydd â’r angen mwyaf. Un syniad a gynigiwyd eisoes, ac un sydd yn haeddu ystyriaeth lawn, yw cadw cyfran benodol o arian a werir ar docynnau loteri mewn ardal awdurdod lleol yn ôl er mwyn ei defnyddio’n uniongyrchol yn y cymunedau hynny. Byddai canran a gedwir yn ôl yn creu cyswllt uniongyrchol rhwng yr arian a werir gan gymuned ar docynnau loteri a’r buddiannau a gânt. Byddai’n sicrhau bod cymunedau—

David Davies spoken in English p. 77

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 77

I am trying to be constructive, however, is there not a danger that people spend much more on lottery tickets in some areas, which may not be the areas that are most in need of help?

Yr wyf yn ceisio bod yn adeiladol, fodd bynnag, onid oes perygl y bydd pobl yn gwario llawer mwy ar docynnau loteri mewn rhai ardaloedd, ac efallai nad yr ardaloedd hynny sydd â’r angen mwyaf am help?

Lynne Neagle spoken in English p. 77

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 77

You will find, David, that those who live in the most disadvantaged areas spend the most on lottery tickets, therefore, I would be happy with that solution. It would guarantee that communities receive a fairer share of what they spend. There are currently too many barriers to ensure an equitable distribution of resources.

Fe welwch, David, mai’r rheini sydd yn byw yn yr ardaloedd o dan yr anfantais fwyaf sydd yn gwario’r arian mwyaf ar docynnau loteri, felly, byddwn yn fodlon ar y sefyllfa honno. Byddai’n sicrhau bod cymunedau’n cael cyfran decach o’r hyn a wariant. Ar hyn o bryd mae gormod o rwystrau i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n gyfartal.

When we last debated this issue, it was clear that the communities that spent the most on lottery tickets did not receive anywhere near their fair share of resources in comparison with more prosperous areas. This debate is a clear opportunity to say that we expect those funds to be directed to the areas of greatest need.

Pan drafodasom y mater hwn y tro diwethaf, yr oedd yn glir nad oedd y cymunedau a oedd yn gwario’r arian mwyaf ar docynnau yn cael eu cyfran deg o adnoddau o bell ffordd o’u cymharu ag ardaloedd mwy ffyniannus. Mae’r ddadl hon yn gyfle amlwg i ddweud ein bod yn disgwyl i’r arian hwnnw gael ei gyfeirio i’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf.

Allocating resources on the principle of geographical balance is not acceptable. To adopt anything less than a targeted approach is to markedly reduce the impact that this funding has the potential to achieve. This should be about tackling inequalities and complementing the efforts of this administration and the Labour Government, not about ensuring geographical balance. Fairness for all communities could be ensured by setting aside a proportion of funds to spend directly in communities. However, funds over and above this must be targeted at the communities in most need. They are, after all, the ones that spend the most on the lottery.

Nid yw dyrannu adnoddau ar egwyddor cydbwysedd daearyddol yn dderbyniol. Byddai mabwysiadu unrhyw beth llai nag ymagwedd wedi ei thargedu yn lleihau’n sylweddol yr effaith y mae’n bosibl i’r arian hwn ei chael. Dylai hyn ymwneud â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac ategu ymdrechion y weinyddiaeth hon a’r Llywodraeth Lafur ac ni ddylai ymwneud â sicrhau cydbwysedd daearyddol. Gellid sicrhau tegwch i bob cymuned drwy neilltuo cyfran o’r arian i’w gwario’n uniongyrchol mewn cymunedau. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw swm o arian ychwanegol gael ei dargedu tuag at y cymunedau sydd â’r angen mwyaf. Wedi’r cyfan, dyma’r rhai sydd yn gwario’r arian mwyaf ar y loteri.

It is also worrying that the communities that do not have the capacity to draw down lottery funds are severely disadvantaged. It is unacceptable to simply shrug and blame the poor rate of successful bids on the lack of applications from these communities. It is a serious problem that too few bids are made from deprived communities. It is the responsibility of the lottery’s organisations to be proactive and to work with those communities to ensure that they make successful bids.

Mae’n peri gofid hefyd fod y cymunedau nad yw’r gallu ganddynt i ddefnyddio arian y loteri o dan anfantais ddifrifol. Mae’n annerbyniol i godi’r ysgwyddau a rhoi’r bai am y gyfradd wael o gynigion llwyddiannus ar y prinder ceisiadau gan y cymunedau hyn. Mae’r ffaith nad yw cymunedau difreintiedig yn gwneud digon o gynigion yn broblem ddifrifol. Cyfrifoldeb sefydliadau’r loteri yw bod yn rhagweithiol a gweithio gyda’r cymunedau hynny i sicrhau y gwnânt gynigion llwyddiannus.

The Community Fund’s consultation clearly identified that it has less money. Therefore, targeting its help is essential. This will mean focusing on communities like the south Wales Valleys that have proven their case time and again for extra resources. That is the only way to ensure that the lottery contributes to delivering social justice and tackling inequalities in Wales.

Nododd ymgynghoriad y Gronfa Gymuned yn glir fod ganddi lai o arian. Felly mae targedu ei help yn hanfodol. Bydd hyn yn golygu canolbwyntio ar gymunedau fel Cymoedd de Cymru sydd wedi dadlau dro ar ôl tro am adnoddau ychwanegol. Dyna’r unig ffordd o sicrhau bod y loteri yn cyfrannu at gyflwyno cyfiawnder cymdeithasol ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 78

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 78

Gwnaf ychydig o bwyntiau cryno.

I will make a few brief points.

Mae un neu ddau o bethau yn fy mhoeni am y loteri. Sylweddolwn y cyflawnir gwaith da gyda’r arian a ddaw o’r loteri. Er hynny, cyfyd rhai problemau. Yr wyf yn falch ein bod, fel grŵp, wedi cynnig gwelliant 4 sydd yn galw am fonitro’r hyn sydd yn digwydd. Yr oeddwn yn flin i glywed bod Camelot, a soniodd am ddosbarthu hyd at £15 biliwn dros gyfnod o saith mlynedd yn y cais a wnaethpwyd am y trwydded, bellach yn cydnabod y bydd y swm yn agosach i £10 biliwn. Camarweiniwyd y cyhoedd yn ddybryd gan y cais hwnnw. Gobeithiaf fod modd i’r Llywodraeth edrych yn fanwl ar hynny. Yn fy marn i, ni ddylai’r loteri fod yn nwylo cwmni preifat. Dylai gael ei redeg gan gwmni sydd yn sicrhau bod yr arian yn mynd at y bobl sydd ei angen.

There are a few things about the lottery that concern me. We realise that good work is carried out with the money generated by the lottery. However, some problems arise. I am glad that we, as a group, have proposed amendment 4 which calls for the monitoring of what’s happening. I was sorry to hear that Camelot, which in its application for the licence mentioned distributing up to £15 billion over seven years, now accepts that the figure will be closer to £10 billion. That application flagrantly misled the public. I hope that the Government can look closely at that. My opinion is that the lottery should not be in the hands of a private company. It should be run by a company that ensures that that money goes to the people who need it.

A gawn sicrwydd gan y Gweinidog y byddwn, yng Nghymru, yn monitro’n ofalus sut y dyrennir yr arian? Cyfyd problem o ran cynaliadwyedd, pan roddir arian at brosiectau dros dymor cyfyngedig. Beth sydd yn digwydd i’r cymunedau hynny pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben? Pwy sydd yn sicrhau y bydd y prosiectau hynny’n parhau, a derbyn eu bod yn brosiectau sydd eu hangen yn ddirfawr?

Can we have an assurance from the Minister that we in Wales will carefully monitor how this money is allocated? There is a problem with sustainability, when money is given to a project for a limited period. What happens to those communities when that period comes to an end? Who ensures that those projects will continue, assuming that they are much-needed projects?

Poenaf y dyrennir cymaint o arian y loteri at wasanaethau y dylid eu hariannu gan y Llywodraeth. Dylai arian y loteri fod ar gyfer prosiectau sydd uwchben gwariant sylfaenol ac arferol y Llywodraeth. Mae’n annerbyniol defnyddio’r arian hwn i ariannu prosiectau y dylai’r Llywodraeth fod yn gyfrifol amdanynt. Gobeithiaf yn fawr y cawn ymrwymiad gan y Gweinidog heddiw i sicrhau yr ystyrir cynaliadwyedd wrth wario arian y loteri yng Nghymru ac y targedir yr arian. Rhaid sicrhau ein bod yn monitro’r hyn sydd yn digwydd yn ofalus. Mae’n debyg fy mod ymysg yr ychydig yn y Siambr nad oes rhaid iddynt ddatgan buddiant. Nid wyf erioed wedi prynu tocyn loteri nac yn bwriadu gwneud ychwaith.

I am concerned that so much lottery money is allocated to services that should be funded by the Government. Lottery money should be for projects that are over and above the Government’s basic and usual expenditure. It is unacceptable that this money is used to fund projects for which the Government itself should be responsible. I hope that the Minister will give a firm commitment to ensure that sustainability will be considered in spending lottery money in Wales and that this money will be targeted. We must ensure that we carefully monitor what happens. It seems that I am one of the few people in this room who does not need to declare an interest. I have never bought a ticket and I do not intend to do so.

Peter Law spoken in English p. 79

Peter Law siaradwyd yn Saesneg t. 79

I am grateful for the opportunity to speak in this debate. It is interesting that we read this morning about Camelot’s disappointment over its announcement that good causes could find themselves up to £5 billion short this term. We are certainly disappointed. I regret that announcement. Camelot has a duty to the people of Britain and when its estimates fall short, poor people suffer. The people at the bottom end of the line, those who are deprived and socially excluded, will suffer if this money is not raised. It is important to reflect that Camelot’s directors, even though they need fair remuneration like all directors, have had an orgy of salary increases and bonuses, which have been, at times, obscene in my opinion. When you connect that to their discriminatory arrangements and failure to acknowledge some of their claimants, as we read in some of the media, it does nothing to instil confidence. That is very much the reason why ticket sales are declining. It is a matter of some concern that people in socially deprived areas may suffer because of perceived incompetence on the part of Camelot.

Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Mae’n ddiddorol ein bod yn darllen y bore yma am siomedigaeth Camelot ynglŷn â’i gyhoeddiad y gallai achosion da fod hyd at £5 biliwn yn brin y tymor hwn. Yr ydym yn amlwg yn siomedig. Gresynaf at y cyhoeddiad hwnnw. Mae gan Camelot ddyletswydd i bobl Prydain a phan fydd ei amcangyfrifon yn methu â chyrraedd y nod, y bobl dlawd sydd yn dioddef. Bydd y bobl ar ddiwedd y llinell, y rheini sydd yn ddifreintiedig ac wedi eu hallgáu yn gymdeithasol, yn dioddef os na chodir yr arian hwn. Mae’n bwysig pwysleisio bod cyfarwyddwyr Camelot, er bod angen cydnabyddiaeth deg arnynt fel pob cyfarwyddwr, wedi cael gloddest o gynnydd cyflogau a bonysau, sydd wedi bod, ar adegau, yn anllad yn fy marn i. Pan gysylltwch hynny â’u trefniadau gwahaniaethol a’u methiant i gydnabod rhai o’u hawlwyr, fel y darllenwn yn rhai o’r papurau newydd, nid yw’n gwneud llawer i ennyn hyder. Dyna pam, i raddau helaeth, y mae nifer y tocynnau a werthir yn gostwng. Mae’n achosi pryder bod pobl mewn ardaloedd cymdeithasol-difreintiedig yn dioddef efallai oherwydd anghymwyster canfyddedig ar ran Camelot.

I pay tribute to Tom Middlehurst for his good work on this. I was pleased that the Minister also referred to that and that there has been a greater focus on using these funds in deprived areas, particularly over the last year. If you are poor, you do not have money for match funding. That has always been the case. You are further excluded from what might be available from any lottery bonanza that comes your way. That is why the development of deprived areas using lottery funds is so welcome. The Minister referred to the New Opportunities Fund, from which my community in Blaenau Gwent has gained substantial money for an out-of-school-hours scheme. I am pleased about that. She also referred to the Sports Council’s disadvantaged communities fund, the lottery heritage fund and the Community Fund.

Talaf deyrnged i Tom Middlehurst am ei waith da ar hyn. Yr oeddwn yn falch bod y Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at hynny ac y bu mwy o ganolbwyntio ar ddefnyddio’r arian hwn mewn ardaloedd difreintiedig, yn arbennig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os ydych yn dlawd, nid oes arian gennych ar gyfer arian cyfatebol. Felly y bu erioed. Yr ydych wedi’ch allgáu oddi wrth yr hyn a allai fod ar gael yn sgîl unrhyw loteri lwyddiannus a gaiff ei chynnig yn eich ardal chi. Dyna pam y croesewir y bwriad i ddatblygu ardaloedd difreintiedig gan ddefnyddio arian y loteri. Cyfeiriodd y Gweinidog at y Gronfa Cyfleoedd Newydd, y cafodd fy nghymuned ym Mlaenau Gwent arian sylweddol ohoni ar gyfer cynllun y tu allan i oriau ysgol. Yr wyf yn falch o hynny. Cyfeiriodd hefyd at gronfa cymunedau o dan anfantais y Cyngor Chwaraeon, cronfa dreftadaeth y loteri a’r Gronfa Gymuned.

We must not lose our focus on deprivation, because only through that will people from poorer communities get any opportunities. I welcome the building of the Millennium Stadium and the National Botanic Garden of Wales. Their success is assured and they will make a great contribution to Wales. However, there needs to be continuing support for vital projects among ordinary people that will make a difference and improve their quality of life. That must never escape the Assembly’s attention and it must be the focus of lottery output for the whole of Britain. We are seeing changes and a greater focus on deprivation, which I welcome. I want to ensure that the Minister pursues that on our behalf. This Assembly must be ever vigilant to ensure that while Camelot runs the lottery, it will do its bit to guarantee that funds are raised and that the various community funds mentioned today recognise social deprivation and exclusion and give people a better quality of life in the future.

Rhaid inni beidio ag anghofio canolbwyntio ar amddifadedd oherwydd dyna’r unig ffordd y caiff pobl o gymunedau tlotach unrhyw gyfleoedd. Mae adeiladu Stadiwm y Mileniwm a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i’w groesawu. Mae eu llwyddiant yn sicr a gwnânt gyfraniad mawr i Gymru. Fodd bynnag, mae angen cael cefnogaeth barhaus i brosiectau holl bwysig ymhlith pobl gyffredin a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella eu hansawdd bywyd. Rhaid i’r Cynulliad ganolbwyntio ar hynny bob amser a dylai fod yn ganolbwynt i gynnyrch y loteri ar gyfer Prydain gyfan. Yr ydym yn gweld newidiadau a mwy o ganolbwyntio ar amddifadedd, a chroesawaf hyn. Yr wyf am sicrhau bod y Gweinidog yn ymgymryd â hynny ar ein rhan. Rhaid i’r Cynulliad hwn fod ar ei wyliadwriaeth drwy’r amser i sicrhau, tra bod Camelot yn rhedeg y loteri, ei fod yn chwarae ei ran i sicrhau y codir yr arian a bod y cronfeydd cymuned amrywiol y soniwyd amdanynt heddiw yn cydnabod amddifadedd cymdeithasol ac allgáu ac yn rhoi gwell ansawdd bywyd i bobl yn y dyfodol.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 81

Gareth Jones spoken in Welsh p. 81

Mae’n amlwg bod problemau difrifol yn parhau, er gwaethaf dymuniad y Cynulliad y llynedd i dargedu adnoddau a chronfeydd loteri tuag at ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Mae’n amlwg, o’r ystadegau a welais, fod y dull hwn o ariannu prosiectau yn ein hardaloedd difreintiedig yn loteri yng ngwir ystyr y gair. Mae’r ystadegau’n profi mor anwadal ac annibynadwy yw’r ffynhonnell hon o arian.

It is evident that serious problems still exist, despite the Assembly’s aspiration last year to target lottery funds and resources at deprived areas of Wales. It is obvious, from the statistics that I have seen, that this method of funding projects in our deprived areas is truly a lottery. The statistics prove how fickle and unreliable this funding source can be.

Mae dogfen ymgynghorol y Gronfa Gymunedol ar gyfer 2000-07 yn datgan mai ei phrif nod yw rhoi grantiau i helpu’r rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. Yr ydym oll yn cefnogi’r nod clodwiw hwnnw. Fodd bynnag, mae hefyd yn amcangyfrif y bydd y swm a fydd ar gael i’w ddosbarthu yn gostwng o uchafswm o £450 miliwn yn 1999-2000 i £215 miliwn erbyn 2004. O ran Cymru, bydd y swm o £21.5 miliwn a dderbyniasom y llynedd yn gostwng i £15 miliwn eleni.

The Communities Chest consultation document for 2000-07 states that its main aim is to award grants to help the most deprived people in society and to improve the quality of life in communities. We would all support that commendable aim. However, it also estimates that the sum that will be available for allocation will decrease from a maximum of £450 million in 1999-2000 to £215 million by 2004. With regard to Wales, the £21.5 million that we received last year will be reduced to £15 million this year.

Dylid nodi bod tri o bob pedwar cais am arian loteri yn cael eu gwrthod. Felly, o’r 400 cais a wneir yng Nghymru bob blwyddyn, caiff 300 eu gwrthod. Mae hynny’n dangos pa mor annoeth yw dibynnu ar y dull hwn o ariannu, yn enwedig o’i gymharu â’r rhaglen Rhoi Cymunedau’n Gyntaf a fydd yn darparu £82 miliwn.

It should be noted that three out of every four applications for lottery funding are rejected. Therefore, out of the 400 applications made in Wales annually, 300 are rejected. That shows how unwise it is to depend on this method of funding, particularly when compared with the Communities First programme, which will provide £82 million.

Mae’r system geisiadau yn anhawster gan ei bod yn golygu bod ceisiadau da o ardaloedd sydd heb eu targedu yn cael eu gwrthod. Ar y llaw arall, mae’r ffigurau’n dangos yr amrywiaeth enfawr ar wariant y pen ar draws Cymru. Er enghraifft, yng Ngheredigion mae’r gwariant yn £82.40 y pen, ond dim ond ychydig dros £5 y pen ydyw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae derbyn ceisiadau da gan ardaloedd megis Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a’r Cymoedd yn amlwg yn broblemus a dylid sicrhau cymorth digonol i’r ardaloedd hynny i lenwi ffurflenni cais ac ati. Serch hynny, mae perygl y gall gor-dargedu ardaloedd yn ne Cymru, lle y mae angen cymorth, ynghyd â gostyngiad yn swm yr arian sydd ar gael, achosi anniddigrwydd yn yr ardaloedd hynny na fyddant yn cael y flaenoriaeth. Gwn fod cynllun cymunedol yng Nghraig y Don, sydd yn y fy ardal i yn Llandudno, o dan fygythiad oherwydd hyn. Fodd bynnag, mae ardaloedd difreintiedig yn nhref Llandudno, fel pob tref a ddaw o fewn ardal Amcan 1.

The bidding system is a problem because it means that good bids from untargeted areas are rejected. On the other hand, the figures show the immense diversity in expenditure per capita across Wales. For example, expenditure in Ceredigion is £82.40 per capita, but only a little over £5 per capita in Bridgend. Accepting good bids from areas such as Bridgend, Caerphilly and the Valleys is obviously problematic, and we should ensure adequate assistance for those areas in filling in application forms and so on. However, there is a danger that over-targeting areas in south Wales, where support is needed, along with a reduction in the amount of money available, may cause discontent in areas that will not be given priority. I know that a community scheme in Craig y Don, which is in my area in Llandudno, is under threat as a result of this. However, there are deprived areas in Llandudno, like all towns within the Objective 1 area.

Mae hefyd yn bryder mai dim ond 4.8 y cant o’r holl arian a ddosbarthwyd gan y gronfa dreftadaeth a ddaeth i Gymru ac, ar gyfartaledd, mae grantiau o’r gronfa honno 50 y cant yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.

It is also of concern that only 4.8 per cent of all the money allocated by the heritage fund came to Wales and, on average, grants from that fund are 50 per cent lower in Wales than in the rest of the United Kingdom.

Felly, mae nifer o anghysonderau yn y system bresennol, a dylid chwilio am system mwy effeithiol, dibynadwy a llai gwastraffus na’r loteri. Fe’i gelwir yn loteri am mai loteri ydyw yng ngwir ystyr y gair.

Therefore, there are numerous inconsistencies in the current system, and we should look for a more effective, reliable and economical system than the lottery. It is called the lottery because that is what it truly is.

John Griffiths spoken in English p. 82

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 82

I am one of a relatively small number of people in Wales—I note that Rhodri Glyn Thomas is also one of that number—who has never bought a lottery ticket. In contrast, my constituents buy them to the extent that it makes the people of Newport East the best lottery customers in Wales. However—and I have had considerable correspondence with distributors regarding the point—according to the most recent figures, Newport East is the constituency that receives the least amount of lottery money in Wales. As you can imagine, I have urged distributors to adopt a proactive approach and to set up an outreach facility, as Lynne Neagle and others mentioned, so that they become involved and help communities, where there is a dearth of good projects, to have the capacity to be successful. Therefore, they will not be able to sit back and say that they are sorry but the quality of the projects from Newport East is not what it should be and they cannot help that. Otherwise communities containing the highest number of retired bankers, lawyers and other professionals will benefit most proportionately from the distribution of lottery funds. That is not tenable because it is effectively a regressive tax. If we allow it to operate on the basis to which I have referred, it will continue to be a regressive tax, which will not benefit the disadvantaged communities of Wales. Therefore, I hope that ideas, such as those mentioned by Lynne Neagle, on local authorities retaining a percentage of lottery ticket money in their areas, are properly considered.

Yr wyf yn un o nifer gymharol fach o bobl yng Nghymru—nodaf fod Rhodri Glyn Thomas yn un o’r nifer honno hefyd—sydd heb brynu tocyn loteri erioed. Mewn cyferbyniad, mae fy etholwyr yn eu prynu i’r fath raddau fel mai pobl Dwyrain Casnewydd yw cwsmeriaid gorau’r loteri yng Nghymru. Fodd bynnag—a bûm yn gohebu’n helaeth â dosbarthwyr ynglŷn â hyn—yn ôl y ffigurau diweddaraf, Dwyrain Casnewydd yw’r etholaeth sydd yn cael y swm lleiaf o arian y loteri yng Nghymru. Fel y gallwch ddychmygu, anogais y dosbarthwyr i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol ac i sefydlu cyfleuster allgyrch, fel y soniodd Lynne Neagle ac eraill, fel eu bod yn dod yn gysylltiedig â hwy ac yn helpu cymunedau, lle mae prinder prosiectau da, i fod â’r gallu i fod yn llwyddiannus. Felly, ni fyddant yn gallu llaesu dwylo a dweud ei bod yn ddrwg ganddynt ond nid yw ansawdd y prosiectau o Ddwyrain Casnewydd yr hyn a ddylai fod ac ni allant wneud dim ynghylch hynny. Neu bydd cymunedau sydd â’r nifer uchaf o fancwyr, cyfreithwyr a phobl broffesiynol eraill sydd wedi ymddeol yn elwa fwyaf yn gyfatebol ar ddosbarthiad arian y loteri. Nid yw hynny’n bosibl gan ei bod mewn gwirionedd yn dreth atchweliadol. Os caniatawn iddi weithredu ar y sail y cyfeiriais ati, bydd yn parhau i fod yn dreth atchweliadol, ac ni fydd y cymunedau yng Nghymru sydd o dan anfantais yn elwa arni. Felly, gobeithiaf y rhoddir ystyriaeth deg i syniadau, fel y rhai y soniwyd amdanynt gan Lynne Neagle, am awdurdodau lleol yn cadw canran o arian y tocyn loteri yn eu hardaloedd.

I have received correspondence on these matters. I recognise that some progress has been made, but much more needs to be done. I welcome the new Community Fund, which will deliver awards across Wales. That is as an important step forward, as is the recent announcement by Tessa Jowell, the new Secretary of State for Culture, Media and Sport, on the provision of much greater lottery moneys for communities. However, much more needs to be done.

Derbyniais ohebiaeth ar y materion hyn. Yr wyf yn cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud ond mae angen gwneud llawer mwy. Croesawaf y Gronfa Gymuned newydd, a fydd yn dyfarnu arian ledled Cymru. Mae hwnnw’n gam pwysig ymlaen, yn yr un modd ag y mae’r cyhoeddiad diweddar gan Tessa Jowell, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ar ddarparu llawer mwy o arian y loteri i gymunedau. Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy.

The people of Wales would not support the Conservatives’ amendment 1. It is clear that the people of Wales and Britain as a whole would prefer lottery proceeds to add value to the provision of public services rather than be used to provide leisure facilities for private schools, which happened under the previous Conservative Government. That was fully in line with its priorities and principles, which thankfully were discredited and rejected once again by the people of Wales at the recent General Election. I am confident that if the people of Wales were given a choice, they would prefer a social justice approach to be taken in order to benefit the most disadvantaged communities of Wales. Constituencies like Newport East, which contributes most to lottery funds, would then receive its fair share of the proceeds. I will continue to make that case to the lottery distributors on behalf of my constituents. I hope that Jenny Randerson, as she mentioned in her opening speech, takes these concerns on board and works as closely as possible with the lottery distributors to ensure that the most disadvantaged communities in Wales benefit from the distribution of funds by redressing the regressive nature of the lottery.

Ni fyddai pobl Cymru yn cefnogi gwelliant 1 y Ceidwadwyr. Mae’n amlwg y byddai’n well gan bobl Cymru a Phrydain yn gyffredinol pe bai elw’r loteri yn ychwanegu gwerth at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na’i ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau hamdden i ysgolion preifat, a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Yr oedd hynny’n gyfan gwbl unol â’i blaenoriaethau a’i hegwyddorion, a gafodd eu gwrthbrofi a’u gwrthod unwaith eto gan bobl Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar. Pe bai pobl Cymru yn cael dewis, yr wyf yn hyderus y byddai’n well ganddynt pe bai ymagwedd o gyfiawnder cymdeithasol yn cael ei mabwysiadu er mwyn i’r rhan fwyaf o’r cymunedau o dan anfantais yng Nghymru elwa arnynt. Yna byddai etholaethau fel Dwyrain Casnewydd, sydd yn cyfrannu fwyaf at arian y loteri, yn cael eu cyfran deg o’r elw. Byddaf yn parhau i ddadlau o blaid hynny gyda dosbarthwyr y loteri ar ran fy etholwyr. Gobeithiaf y bydd Jenny Randerson, fel y soniodd yn ei haraith agoriadol, yn ystyried y pryderon hyn ac yn gweithio mor agos â phosibl gyda dosbarthwyr y loteri i sicrhau bod y cymunedau o dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru yn elwa ar yr arian a ddosberthir drwy unioni natur atchweliadol y loteri.

Janice Gregory spoken in English p. 84

Janice Gregory siaradwyd yn Saesneg t. 84

I will mention deprived areas, as colleagues have done, for which I make no apology. Every Wednesday and Saturday in my constituency, a high percentage of people from these deprived areas dream the lottery dream. The amount of money that my constituents put into the lottery is by no means negligible. They not only buy lottery tickets, they join syndicates in the workplace and the pub, buy lottery scratch cards and do everything to try to drag themselves out of poverty and deprivation. It concerns me that these communities have little success in drawing down the available lottery funds to finance local projects that could be of benefit for tackling poverty, social exclusion and deprivation. There is a great need in these communities for facilities to meet these criteria and the Assembly’s priorities on social exclusion. I urge the Minister to do all that she can to provide a strategic lead and an all-Wales perspective on the distribution of awards.

Yr wyf am sôn am ardaloedd difreintiedig, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, ac nid ymddiheuraf am hynny. Bob dydd Mercher a dydd Sadwrn yn fy etholaeth, mae canran uchel o bobl o’r ardaloedd difreintiedig hyn yn breuddwydio breuddwyd y loteri. Nid yw swm yr arian a warir gan fy etholwyr ar y loteri yn ddibwys o bell ffordd. Maent nid yn unig yn prynu tocynnau loteri, ond yn ymuno â syndicetiau yn y gweithle a’r dafarn, yn prynu cardiau crafu ac yn gwneud popeth i geisio llusgo eu hunain o dlodi ac amddifadedd. Mae’n peri pryder imi nad yw’r cymunedau hynny wedi cael llawer o lwyddiant wrth fanteisio ar yr arian sydd ar gael o’r loteri i ariannu prosiectau lleol a allai fod o fudd wrth fynd i’r afael â thlodi, allgáu cymdeithasol ac amddifadedd. Mae angen mawr yn y cymunedau hyn am gyfleusterau i fodloni’r meini prawf hyn a blaenoriaethau’r Cynulliad ar allgáu cymdeithasol. Anogaf y Gweinidog i wneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu arweiniad strategol a phersbectif Cymru gyfan ar ddosbarthu gwobrau.

I thank Gareth Jones for recognising that there is a huge need for this money in south Wales. However, I recognise that there is a need throughout Wales, which is why I ask the Minister to have an all-Wales perspective on the distribution of lottery awards. In particular, I ask the Minister to consider marrying the distribution of lottery funds with the Communities First initiative, which has already been mentioned. Both schemes share many of the same priorities and objectives. If possible, it would be a good idea for us to provide strategic partnership between the two.

Diolchaf i Gareth Jones am gydnabod bod angen mawr am yr arian hwn yn ne Cymru. Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod bod angen ledled Cymru, a dyna pam y gofynnaf i’r Gweinidog am bersbectif Cymru gyfan ar ddosbarthu gwobrau’r loteri. Yn arbennig, gofynnaf i’r Gweinidog ystyried uno dosbarthiad arian y loteri â’r fenter Rhoi Cymunedau’n Gyntaf, y soniwyd amdani eisoes. Mae’r ddau gynllun yn rhannu llawer o’r un blaenoriaethau ac amcanion. Os yw’n bosibl, byddai’n syniad da inni ddarparu partneriaeth strategol rhwng y ddau.

In my Ogmore constituency, five communities will benefit from the Communities First initiative. These communities need that money to tackle structural and social problems, to ensure that future generations never suffer the same deprivation again. However, it is a great shame that those in other communities in that area appear to have enjoyed little success in attracting lottery funds that could be spent on valuable and worthwhile projects.

Yn fy etholaeth yn Aberogwr, bydd pum cymuned yn elwa ar y fenter Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Mae angen yr arian ar y cymunedau hynny i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol a chymdeithasol, er mwyn sicrhau na fydd cenedlaethau i ddod yn dioddef yr un amddifadedd fyth eto. Fodd bynnag, mae’n drueni mawr nad yw’r rheini yn y cymunedau eraill yn yr ardal honno, yn ôl pob tebyg, wedi cael llawer o lwyddiant wrth ddenu arian y loteri y gellid ei wario ar brosiectau gwerthfawr a gwerth chweil.

People in my constituency would benefit from leadership from the Assembly on this issue. That would give them the confidence to put forward ideas and projects to tackle social exclusion and create a better future for their communities.

Byddai pobl yn fy etholaeth yn elwa ar arweinyddiaeth gan y Cynulliad ar y mater hwn. Byddai hynny’n rhoi’r hyder iddynt gyflwyno syniadau a phrosiectau i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a chreu gwell dyfodol i’w cymunedau.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 85

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

Before I call the Minister to reply, I should tell Huw Lewis that there appears to have been some mistake. His name was on my list of people to speak but he was not called. My apologies; there are gremlins somewhere in the system.

Cyn imi alw ar y Gweinidog i ymateb, dylwn ddweud wrth Huw Lewis ei bod yn ymddangos fel pe bai camgymeriad wedi ei wneud. Yr oedd ei enw ar fy rhestr o bobl i siarad ond ni chafodd ei alw. Ymddiheuriadau; mae cythreuliaid bach yn y system.

Jenny Randerson spoken in English p. 85

Jenny Randerson siaradwyd yn Saesneg t. 85

I thank Members for their valuable contributions to today’s debate. I give you my commitment that I have taken all your comments on board. The National Lottery’s importance to Wales is unquestionable and it is right that we have an annual debate on its contribution to Welsh life.

Diolchaf i’r Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr i ddadl heddiw. Addawaf ichi y byddaf yn ystyried eich sylwadau i gyd. Mae pwysigrwydd y Loteri Genedlaethol i Gymru yn ddiamheuol ac mae’n iawn ein bod yn cael dadl flynyddol ar ei chyfraniad i fywyd Cymru.

The lottery tends to get its headlines from its mistakes, rather than its successes, whether they are mistakes in big capital projects, or in smaller areas. However, we must recognise that the overwhelming success of the lottery relies on its contribution to thousands of small community projects.

Mae’r loteri yn tueddu i fod yn y penawdau oherwydd ei chamgymeriadau, yn hytrach na’i llwyddiannau, pa un a ydynt yn gamgymeriadau mewn prosiectau cyfalaf mawr, neu mewn meysydd llai. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod llwyddiant aruthrol y loteri yn dibynnu ar ei chyfraniad i filoedd o brosiectau cymunedol bach.

An important development that we must address is engaging local authorities more proactively in lottery funding. They benefit from the lottery and contribute to it. I am anxious to increase the co-ordination with local authorities on this issue.

Un datblygiad pwysig y mae’n rhaid inni ymdrin ag ef yw cynnwys awdurdodau lleol yn fwy rhagweithiol o ran arian y loteri. Maent yn elwa ar y loteri ac yn cyfrannu ati. Yr wyf yn awyddus i gynyddu’r cydgysylltiad ag awdurdodau lleol ar y mater hwn.

I will deal with the particular issues that Members raised. On the principle of additionality, I regret that Jonathan does not regard money for the arts, sports and heritage as core issues for government. You will not be surprised if I do not agree with you. I point out that a recent Mori survey showed that public support for targeting lottery money at health and education is strong. The concept of the lottery is developing, and it is important that the lottery distributors learn from the lessons of the past. We need to be much more involved at the strategic level in the future.

Byddaf yn delio â’r materion penodol a godwyd gan yr Aelodau. O ran egwyddor ychwanegedd, mae’n ofid imi nad yw Jonathan yn ystyried y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth yn faterion craidd i lywodraeth. Ni fyddwch yn synnu os na chytunaf â chi. Nodaf fod arolwg diweddar gan Mori wedi dangos bod cefnogaeth y cyhoedd i dargedu arian y loteri tuag at iechyd ac addysg yn gryf. Mae cysyniad y loteri yn datblygu, ac mae’n bwysig bod dosbarthwyr y loteri yn dysgu o’r gorffennol. Mae angen inni ymwneud llawer mwy ar y lefel strategol yn y dyfodol.

I will not comment on, or defend, Labour’s 1997 election commitments, nor would you expect me to. It is not my job, nor our job in the Assembly, to comment on lottery distribution and the Camelot issue. However, I will give Owen John Thomas a response on the issue of additionality. You will not be surprised to hear that I value strong, well-funded public services. However, palliative care, for example, is not funded by the health service, so it is now a matter of funding it through additionality. You gave the example of a boxing club. The Sports Council for Wales has such a simple system that it has even done away with the application form, so the best thing to do on that matter is to liaise between the club and the sports council. On the question of a fair percentage, I need to stress that it is only the sports and the arts funds that do not reflect deprivation, the other funds do. I work continually on the issue of increasing the percentage for sports and the arts. I was in Northern Ireland two weeks ago, and I raised the issue with their Minister of Culture, Arts and Leisure, Mr Michael McGimpsey. It is an ongoing issue.

Ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar ymrwymiadau etholiad 1997 Llafur na’u hamddiffyn ychwaith, ac ni fyddech yn disgwyl imi wneud. Nid fy ngwaith i, na’n gwaith ni yn y Cynulliad, yw rhoi sylwadau ar ddosbarthu’r loteri a mater Camelot. Fodd bynnag, rhoddaf ymateb i Owen John Thomas ar fater ychwanegedd. Ni fyddwch yn synnu i glywed bod gwasanaethau cyhoeddus cryf, wedi’u hariannu’n dda yn bwysig imi. Fodd bynnag, nid ariennir gofal lleddfol, er enghraifft, gan y gwasanaeth iechyd, felly rhaid ei ariannu drwy ychwanegedd. Cawsom enghraifft gennych o glwb paffio. Mae gan Gyngor Chwaraeon Cymru system mor syml fel ei fod hyd yn oed wedi cael gwared ar y ffurflen gais, felly y peth gorau i’w wneud ar y mater hwnnw yw cysylltu’r clwb a’r cyngor chwaraeon. O ran mater canran deg, mae angen imi bwysleisio mai’r unig bethau nad ydynt yn adlewyrchu amddifadedd yw’r arian ar gyfer chwaraeon a’r celfyddydau, mae’r arian ar gyfer popeth arall yn adlewyrchu amddifadedd. Gweithiaf yn barhaol i geisio cynyddu’r canran ar gyfer chwaraeon a’r celfyddydau. Bythefnos yn ôl, yr oeddwn yng Ngogledd Iwerddon, a chodais y mater gyda’u Gweinidog dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden, Mr Michael McGimpsey. Mae’n fater cyfredol.

As regards Lynne’s ideas on the holdback of money for tickets, that is an issue for central Government. However, lottery distributors are present today listening to us and I will certainly pass that message on as an outcome of this debate.

O ran syniadau Lynne ar gadw arian a warir ar docynnau yn ôl, mae hwnnw’n fater i’r Llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, mae dosbarthwyr y loteri yn bresennol heddiw i wrando arnom a byddaf yn sicr yn cyfleu’r neges honno o ganlyniad i’r ddadl hon.

I want to give everyone a health warning on the figures per capita, by way of an example. If you have a big Heritage Lottery Fund award, say to the National Library of Wales, it will have a considerable impact on the number of pounds per capita in Ceredigion for the next three to five years. One of the issues that I am considering is taking out the major capital projects and looking at fairness across the small projects. It is the small projects that affect everyday life. There are currently some excellent initiatives by lottery distributors to make this fairer. The theme that has come out of this morning’s discussions is the need to target deprivation and ensure that fairness is seen to be applied.

Yr wyf am roi rhybudd iechyd ar y ffigurau y pen, fel enghraifft. Os dyfernir swm mawr o arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, dyweder, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, caiff effaith sylweddol ar nifer y punnoedd y pen yng Ngheredigion am y tair i’r pum mlynedd nesaf. Un o’r materion yr wyf yn ei ystyried yw cael gwared ar y prosiectau cyfalaf mawr ac edrych ar y tegwch o ran prosiectau bach. Y prosiectau bach sydd yn effeithio ar fywyd bob dydd. Mae rhai mentrau rhagorol ar hyn o bryd gan ddosbarthwyr y loteri i wneud hwn yn decach. Y thema a ddaeth i’r amlwg yn dilyn trafodaethau y bore yma yw’r angen i dargedu amddifadedd a sicrhau y gwelir bod tegwch yn cael ei weithredu.

Targeting—which Gareth raised—is achieved in two ways; at deprived areas and also at specific groups, because not all deprived people live in deprived areas. You must be careful about what you mean by targeting. I point out to Rhodri Glyn Thomas that both Camelot and Richard Branson predicted that they would raise £15 billion. We must be careful because the £5 billion referred to is not a reduction in what we will get. It is a reduction in what they predicted we might get. Lottery income is, by its nature, a bit of a lottery. I am keen that the Committee is fully involved in the monitoring and in the future of lottery strategy. We must not interfere. Monitoring must not be interfering.

Llwyddir i dargedu—sef pwynt a godwyd gan Gareth—mewn dwy ffordd; tuag at ardaloedd difreintiedig a hefyd tuag at grwpiau penodol, gan nad yw’r holl bobl ddifreintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Rhaid ichi fod yn ofalus ynglŷn â’r hyn a olygwch wrth dargedu. Dywedaf wrth Rhodri Glyn Thomas fod Camelot a Richard Branson wedi rhagweld y byddent yn codi £15 biliwn. Rhaid inni fod yn ofalus oherwydd nid yw’r £5 biliwn y cyfeiriwyd ato yn ostyngiad o’r hyn a gawn. Mae’n ostyngiad o’r hyn y maent yn rhagweld y gallem ei gael efallai. Mae incwm y loteri, yn ôl ei hanfod, yn dipyn o loteri. Yr wyf yn awyddus i’r Pwyllgor ymwneud yn llawn â’r gwaith monitro ac â dyfodol y strategaeth loteri. Rhaid inni beidio ag ymyrryd. Ni ddylai’r gwaith monitro ymyrryd.

I assure you that I will take on board the issues here, that I share your concerns about the importance of targeting money to those most in need and to small groups, making it easier for those that have found it difficult to take up money so far to do so. Finally, I apologise to the colleagues whose comments I have not been able to specifically address because of shortage of time.

Rhoddaf sicrwydd ichi y byddaf yn ystyried y materion hyn, fy mod yn rhannu eich pryderon ynglŷn â phwysigrwydd targedu arian at y rheini sydd â’r angen mwyaf ac at grwpiau bach, gan ei wneud yn haws i’r rheini a gafodd anhawster i dderbyn yr arian hyd yn hyn i wneud hynny. Yn olaf, ymddiheuraf i’m cyd-Aelodau am fethu ag ymdrin yn benodol â’u sylwadau oherwydd prinder amser.

Gwelliant 1 Jonathan Morgan t. 87

Amendment 1 Jonathan Morgan p. 87

GwrthodwydRejected O blaidFor 18 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (18)
  • Nick Bourne
  • Cynog Dafis
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 2 Jonathan Morgan t. 88

Amendment 2 Jonathan Morgan p. 88

GwrthodwydRejected O blaidFor 7 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 40

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (7)
  • Nick Bourne
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (40)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Gwelliant 3 Jonathan Morgan t. 88

Amendment 3 Jonathan Morgan p. 88

GwrthodwydRejected O blaidFor 7 YmatalAbstain 11 Yn erbynAgainst 29

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (7)
  • Nick Bourne
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Peter Rogers
YmatalAbstain (11)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (29)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 4 Owen John Thomas t. 89

Amendment 4 Owen John Thomas p. 89

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 1

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (1)
  • Karen Sinclair

Gwelliant 5 Owen John Thomas t. 90

Amendment 5 Owen John Thomas p. 90

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cynnig wedi’i ddiwygio Jenny Randerson t. 92

Amended motion Jenny Randerson p. 92

DerbyniwydAdopted O blaidFor 47 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (47)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 93

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

I propose that

Cynigiaf fod

Andrew Davies The Minister for Assembly Business (continued) spoken in English p. 93

Andrew Davies Y Trefnydd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 93

I propose this motion in view of the time constraint and after consultation with the Chair of the Agriculture and Rural Development Committee. I hope that it will be possible to reschedule the debate before the summer recess.

Cynigiaf y cynnig hwn o gofio’r cyfyngiad o ran am2ser ac ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig. Gobeithiaf y bydd yn bosibl ad-drefnu’r ddadl cyn toriad yr haf.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 93

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Do 10 Members object? I see that they do not. Therefore we will move to a vote.

A oes 10 o’r Aelodau yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes. Felly pleidleisiwn.

Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 93

Procedural motion Andrew Davies p. 93

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Nick Bourne
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Michael German
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Dadl Fer

Short Debate

Yr Amcan Cyntaf–Amcan 1

First Objective—Objective 1

Pauline Jarman spoken in English p. 94

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 94

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council. Christine Chapman has indicated that she wishes to contribute to this debate.

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Christine Chapman wedi nodi yr hoffai gyfrannu i’r ddadl hon.

I chose the subject of this debate because I believe that it has been a long time since Objective 1 was the subject of discussion in the Chamber. We can all sign up to the vision for the future of Wales as set out last year in ‘Betterwales.com’. It sets out an ambitious agenda for Wales to be achieved by 2010, with the three major themes of sustainable economic development, tackling social disadvantage and equality of opportunity. A major element of the strategy is to produce a better, stronger economy that is dynamic and more diverse and where everyone has a chance to prosper.

Dewisais bwnc y ddadl hon oherwydd credaf na fu Amcan 1 yn destun dadl ers tro yn y Siambr. Gallwn oll ymrwymo i’r weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru a nodwyd y llynedd yn ‘Gwellcymru.com’. Mae’n gosod agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru, i’w chyflawni erbyn 2010, gyda thair prif thema sef datblygu economaidd cynaliadwy, mynd i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol a chydraddoldeb cyfle. Un o brif elfennau’r strategaeth hon yw datblygu economi well a chryfach, un sydd yn ddeinamig ac yn fwy amrywiol a lle y caiff pawb gyfle i ffynnu.

To make this work, we must make the most of all the opportunities that we have. The major opportunity at present is the Objective 1 programme for west Wales and the Valleys. It is a unique, one-off opportunity of which we must make the most if we are to succeed in Wales. Success in west Wales and the Valleys is vital to the country as a whole. We are now 18 months into the programme, but only 1.16 per cent of the total budget available has been spent. There is grave concern that the total money spent during the first year of Objective 1 was only £13 million, when approximately £82 million had been allocated in the Assembly budget for 2000-01 for structural fund expenditure and that Europe had allocated £175.5 million.

Er mwyn gwneud i hyn lwyddo, rhaid inni fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym. Y prif gyfle sydd ar gael inni ar hyn o bryd yw rhaglen Amcan 1 ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’n gyfle unigryw y dylem fanteisio i’r eithaf arno os ydym am lwyddo yng Nghymru. Mae llwyddiant yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn hollbwysig i’r wlad gyfan. Mae 18 mis wedi mynd heibio ers dechrau’r rhaglen, ond dim ond 1.16 y cant o gyfanswm y gyllideb sydd ar gael a wariwyd. Mae pryder gwirioneddol mai dim ond cyfanswm o £13 miliwn a wariwyd yn ystod blwyddyn gyntaf Amcan 1, pan neilltuwyd tua £82 miliwn yng nghyllideb y Cynulliad ar gyfer 2000-01 ar gyfer gwariant y gronfa strwythurol a bod Ewrop wedi neilltuo £175.5 miliwn.

In ‘Betterwales.com’, the Objective 1 single programming document and the draft national economic development strategy, we have set ourselves some tough targets for economic growth and community regeneration. If we are to hit these targets, we must not leave anything to chance; we cannot afford to fail. We must remember that we received no additional resources in the comprehensive spending review to match fund the European funds, nor did we have the full amount of money to reflect the total amount of European Union funds that Wales is eligible to receive during the comprehensive spending review’s three-year period. This means that match funding must be found within the Assembly’s existing resources, thus taking it away from other much needed services such as education and health.

Yn ‘Gwellcymru.com’, dogfen raglennu sengl Amcan 1 a’r drafft o’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol, yr ydym wedi gosod targedau anodd i ni ein hunain ar gyfer twf economaidd ac adfywiad cymunedol. Os ydym i gyrraedd y targedau hyn, ni ddylem adael unrhyw beth i ffawd; ni allwn fforddio methu. Rhaid inni gofio na chawsom unrhyw adnoddau ychwanegol yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i gyfateb â’r arian o gronfeydd Ewropeaidd, ac ni chawsom ychwaith y swm llawn o arian i adlewyrchu cyfanswm yr arian o’r Undeb Ewropeaidd y mae Cymru’n gymwys i’w gael yn ystod cyfnod tair blynedd yr adolygiad cynhwysfawr ar wariant. Golyga hyn bod yn rhaid dod o hyd i arian cyfatebol o fewn adnoddau presennol y Cynulliad, gan dynnu arian oddi wrth wasanaethau pwysig eraill fel addysg ac iechyd.

I have some real concerns that we are starting to fall behind in the delivery of the Objective 1 programme. If this continues, it could throw us off course from the word go. We are in danger of not being able to catch up by the end of the programme in 2006 or to achieve the 10-year growth targets. There are already signs that we may be beginning to fail in our drive for economic growth. We heard only last week of Cardiff University’s Welsh economy research unit’s report, which forecast economic growth rates in Wales of less than 2 per cent, way behind the UK growth of around 3 per cent. If this trend continues we will fall even further behind in our efforts to raise our percentage gross domestic product per capita closer to the UK and European averages. That would be a disaster for Wales. Remember, in parts of Wales GDP per capita is already much lower than the Welsh average. In parts of the Valleys and north-west Wales GDP is just 64 per cent of the UK average. If we fail in these areas then the whole of Wales will fail. That is why Objective 1 is so important to these areas, and that is why I am setting out some problems today. We must improve delivery quickly if we are to succeed. I will concentrate on a few issues to illustrate this.

Mae gennyf bryderon gwirioneddol ein bod yn dechrau cael ein gadael ar ôl o ran cyflwyno rhaglen Amcan 1. Os bydd hyn yn parhau, gallai olygu na fyddwn ar y trywydd cywir o’r cychwyn cyntaf. Yr ydym yn wynebu’r perygl na allwn adfer y sefyllfa erbyn y daw’r rhaglen i ben yn 2006 na chyflawni’r targedau twf 10 mlynedd. Ceir arwyddion eisoes y gallwn fod yn dechrau methu yn ein hymgais i sicrhau twf economaidd. Clywsom yr wythnos diwethaf am adroddiad uned ymchwil economaidd Cymru, Prifysgol Caerdydd, sydd yn rhagweld cyfraddau twf economaidd o lai na 2 y cant yng Nghymru, sydd yn llawer is na thwf y DU, sef tua 3 y cant. Os bydd y duedd hon yn parhau bydd ein hymdrechion i godi ein cynnyrch mewnwladol crynswth y pen i fod yn debycach i’r cyfartaledd yn y DU ac Ewrop yn dioddef fwyfwy. Byddai hynny’n drychineb i Gymru. Cofiwch, mae’r CMC y pen eisoes yn llawer is mewn rhannau o Gymru na chyfartaledd Cymru. Mewn ardaloedd o’r Cymoedd a gogledd-orllewin Cymru dim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU yw’r CMC. Os byddwn yn methu yn yr ardaloedd hyn yna bydd Cymru gyfan yn methu. Dyna pam bod Amcan 1 mor bwysig i’r ardaloedd hyn, a dyna pam fy mod yn cyfeirio at rai o’r problemau heddiw. Rhaid inni wella’r broses o gyflwyno hyn yn gyflym os ydym am lwyddo. Canolbwyntiaf ar rai materion er mwyn esbonio hyn.

We all know that the delivery of the programme has been delayed. That has not helped, but, importantly, the implementation system that we now have is still not working in some instances. Large parts of the programme, worth £330 million, are still not available. They are on hold for various reasons, such as the lack of a strategic framework in which to operate. Are not the single programming document and the draft national economic development strategy supposed to provide that? Those parts of the programme include those for delivering strategic infrastructure—including energy, information and communications technology and integrated passenger transport—and for improving learning. Between them, these measures are worth more than £170 million in grants and, more importantly, relate to the kind of activity that should be front-loaded and not delayed. Unless we can implement projects that relate to these activities early in the programme period, other supporting activities, such as the delivery of training, will become less effective. This disjointed delivery of the programme is making it less effective as an integrated economic regeneration tool and is holding up the effective delivery of quality initiatives.

Yr ydym oll yn ymwybodol y cafwyd oedi wrth gyflwyno’r rhaglen. Nid yw hynny wedi helpu ond, yn bwysicach, mae’r system weithredu sydd gennym erbyn hyn yn parhau i fethu mewn rhai achosion. Nid yw rhannau mawr o’r rhaglen, tua £330 miliwn, ar gael o hyd. Maent wedi’u hoedi am amrywiol resymau, fel y diffyg fframwaith strategol ar gyfer eu gweithredu. Oni ddylai’r ddogfen raglennu sengl a’r drafft o’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol ddarparu hynny? Mae’r rhannau hynny o’r rhaglen yn cynnwys y rhai ar gyfer cyflwyno seilwaith strategol—yn cynnwys ynni, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chludiant integredig i deithwyr—ac ar gyfer gwella dysgu. Rhyngddynt, mae’r mesurau hyn yn werth dros £170 miliwn mewn grantiau ac, yn bwysicach, maent yn ymwneud â’r math o weithgaredd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt ac nid eu hoedi. Os na allwn weithredu’r prosiectau sydd yn ymwneud â’r gweithgareddau hyn yn gynnar yn ystod cyfnod y rhaglen, bydd gweithgareddau ategol eraill, fel cyflwyno hyfforddiant, yn dod yn llai effeithiol. Mae’r broses ddi-drefn hon o gyflwyno’r rhaglen yn ei gwneud yn llai effeithiol fel dull integredig o sicrhau adfywiad economaidd ac mae’n atal y broses o gyflwyno mentrau safonol yn effeithiol.

There are many good examples. The South Wales Integrated Fast Transit consortium, which involves private sector providers and local authorities in south Wales, is seen as an example of national good practice. As regional Member for South Wales Central, I am aware that the Rhondda Cynon Taff partnership wants to deliver an integrated support package for the development of lifelong learning, including support for childcare initiatives. I know of a scheme in Newbridge where various sporting organisations have put together a bid that requires support from the Sports Council for Wales and the Arts Council of Wales, but which is unlikely to be approved because of its effect on regional centres outside the Objective 1 area, in Newport and Cardiff. Why should Newbridge not have a centre of excellence?

Ceir sawl enghraifft dda o hynny. Ystyrir bod consortiwm Teithio Cyflym Integredig De Cymru, sydd yn cynnwys darparwyr o’r sector preifat ac awdurdodau lleol yn ne Cymru, yn enghraifft o arferion da cenedlaethol. Fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, yr wyf yn ymwybodol bod partneriaeth Rhondda Cynon Taf yn awyddus i gyflwyno pecyn cymorth integredig er mwyn datblygu dysgu gydol oes, gan gynnwys cymorth ar gyfer mentrau gofal plant. Gwn am gynllun yn Nhrecelyn lle mae sefydliadau chwaraeon amrywiol wedi cyflwyno cais sydd yn gofyn am gymorth gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ond sydd yn annhebygol o gael ei gymeradwyo oherwydd ei effaith ar ganolfannau rhanbarthol y tu allan i ardal Amcan 1, yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Pam na ddylai Trecelyn gael canolfan ragoriaeth?

The system for implementing the programme has evolved over the last 18 months in a way intended to be open and transparent and to satisfy the interests of as many organisations as possible. Unfortunately, that has led to too many layers of bureaucracy and to decisions taking too long. There is a real concern that too many resources go towards propping up bureaucracy and administrating the programme. Many new levels of administration have been introduced, which means that there is now a plethora of committees, sub-committees, partnerships, policy and task and finish groups. That makes it complex for people and organisations that wish to learn more about how to access funds. There have been recent calls by some for the programme to be reviewed at the end of this year, when this system of excessive committees, sub-committees and partnerships should be streamlined if the distribution of funds is too low. Decision-making is slow. Fifteen community-based projects submitted by the Rhondda Cynon Taff partnership last October are still awaiting a decision. The bureaucratic structure works against delivering the joined-up, holistic, partnership-based regeneration projects that the single programming document had in mind. There is an innovative private sector-led initiative to develop product-based training and development training for small and medium sized enterprises. It has had to submit five different applications to different parts of the programme for the same project. That does not make sense.

Mae’r system ar gyfer gweithredu’r rhaglen wedi datblygu dros y 18 mis diwethaf mewn ffordd y bwriadwyd iddi fod yn agored a gonest gan ddiwallu buddiannau cymaint o sefydliadau â phosibl. Yn anffodus, mae hynny wedi arwain at ormod o haenau o fiwrocratiaeth ac ni wneir penderfyniadau yn ddigon cyflym. Ceir pryder gwirioneddol bod gormod o adnoddau’n cael eu defnyddio i gynnal biwrocratiaeth a gweinyddu’r rhaglen. Cyflwynwyd sawl lefel weinyddol newydd, sydd bellach yn golygu bod yna ormodedd o bwyllgorau, is-bwyllgorau, partneriaethau, grwpiau polisi a grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae hynny’n ei gwneud hi’n anodd i bobl a sefydliadau sydd yn dymuno dysgu mwy am sut i gael mynediad i gronfeydd. Galwodd rhai yn ddiweddar am adolygu’r rhaglen ar ddiwedd y flwyddyn hon, pan y dylid symleiddio’r system hon o bwyllgorau, is-bwyllgorau a phartneriaethau gormodol os bydd y dosbarthiad o arian yn rhy isel. Mae’r broses gwneud penderfyniadau’n araf. Mae 15 prosiect cymunedol a gyflwynwyd gan bartneriaeth Rhondda Cynon Taf fis Hydref y llynedd yn dal i aros am benderfyniad. Mae’r strwythur biwrocrataidd yn gweithio’n groes i’r broses o gyflwyno prosiectau adfywio ar sail partneriaeth sydd yn gydlynus a chyfannol yr oedd gan y ddogfen rhaglennu sengl mewn golwg. Ceir menter arloesol dan arweiniad y sector preifat i ddatblygu hyfforddiant gyda chynnyrch a hyfforddiant datblygu i fentrau bach a chanolig eu maint. Bu’n rhaid iddi gyflwyno pum cais gwahanol i wahanol rannau o’r rhaglen ar gyfer yr un prosiect. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr.

There is concern about the Finance Wales projects still to be approved by the European Commission. Approval is not now expected to be forthcoming until the autumn. That could create a problem, as, if approval is not secured before October, there is a real danger of de-commitment. A sum of £21 million has been allocated for this in the Assembly’s budget. What specific, urgent action will the Minister for Economic Development take to ensure that the Finance Wales project secures approval as soon as possible to avoid the possibility of de-commitment?

Mae pryder ynglŷn â’r prosiectau Cyllid Cymru sydd yn dal i aros am gymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ni ddisgwylir cymeradwyaeth bellach tan yr hydref. Gallai hynny greu problem oherwydd, os na cheir cymeradwyaeth erbyn mis Hydref, mae perygl gwirioneddol y caiff yr ymrwymiad ei dorri. Neilltuwyd £21 miliwn ar gyfer hyn yng nghyllideb y Cynulliad. Pa gamau penodol, brys y bwriada’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd prosiect Cyllid Cymru yn cael ei cymeradwyo cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi’r posibilrwydd o dorri’r ymrwymiad?

The use of National Assembly budgets for match funding for Objective 1 is another problem area. Even with budget underspends available, it still causes big problems. It is the end of June, and we still have no guidance on the operation of the local regeneration fund—the major source of match funding for local authorities working in partnership. I understand that a new system of an indicative allocation, linked to a rolling programme in local areas, will be introduced. I welcome that approach. However, we need to know our position now if we are to deliver our priority projects. The local regeneration fund budget as it stands is inadequate, as it must be used across the Objective 1 area. Why not top it up and make some effective use of the Assembly’s budget underspend? Technical assistance funding to support the operation of local and regional partnerships must be released immediately if programme administration and delivery is to improve quickly. Staff who should be supporting the development of good projects are currently being diverted into doing tasks that should be paid for out of technical assistance.

Mae defnyddio cyllidebau’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer arian cyfatebol Amcan 1 yn faes arall sydd yn peri problem. Hyd yn oed pan fydd tanwario ar gyllidebau, mae hyn yn peri problemau mawr o hyd. Mae’n ddiwedd mis Mehefin, ac nid oes gennym unrhyw arweiniad o hyd ar weithredu’r gronfa adfywio leol—y brif ffynhonnell o arian cyfatebol ar gyfer awdurdodau lleol sydd yn gweithio mewn partneriaeth. Deallaf y cyflwynir system newydd o ddyrannu dangosol, sydd yn gysylltiedig â rhaglen dreigl mewn ardaloedd lleol. Croesawaf yr ymagwedd honno. Fodd bynnag, mae angen inni wybod beth yw ein sefyllfa yn awr os ydym am gyflwyno ein prosiectau blaenoriaeth. Mae’r gronfa adfywio leol fel ag y mae yn annigonol, am fod angen ei defnyddio ar draws ardal Amcan 1. Beth am ychwanegu ati a gwneud defnydd effeithiol o danwariant cyllidebol y Cynulliad? Rhaid rhyddhau arian cymorth technegol ar unwaith er mwyn cefnogi gweithredu partneriaethau lleol a rhanbarthol os am wella’r broses o weinyddu a chyflwyno’r rhaglen yn gyflym. Ar hyn o bryd mae’r staff hynny a ddylai fod yn cynorthwyo i ddatblygu prosiectau da yn gorfod ymgymryd â thasgau y dylai’r cymorth technegol dalu amdanynt.

We must learn the lessons of previous experiences in Wales of delivering European structural funding programmes. The target for the number of jobs created by the 1994-99 Objective 2 and 5b programmes was 31,870. Only 3,391 were created up until 1999. It appears that by the end of the 2001 period the number of jobs created will be nowhere near the target. What steps will the Minister for Economic Development take to ensure that the failure to achieve the job target under previous European funding programmes will not happen again with the new programme? What specific measures will he propose to ensure that we learn the lessons from the previous programmes? We all know that the programme has had its difficulties so far. I have outlined only a few of them today. If these continue, we will fail to achieve the rates of economic growth that we need to succeed in our vision for the future of the Welsh economy.

Rhaid inni ddysgu gwersi o brofiadau blaenorol yng Nghymru o gyflwyno rhaglenni arian strwythurol Ewropeaidd. Y targed ar gyfer nifer y swyddi i’w creu gan raglenni Amcan 2 a 5b 1994-99 oedd 31,870. Dim ond 3,391 a grëwyd hyd ddiwedd 1999. Ymddengys na fydd cyfanswm y swyddi a grëwyd erbyn diwedd y cyfnod 2001 unrhyw le yn agos i’r targed. Pa gamau y bydd y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd yn eu cymryd i sicrhau na fydd y methiant i gyflawni’r targed swyddi a welwyd mewn rhaglenni ariannu Ewropeaidd blaenorol yn digwydd eto gyda’r rhaglen newydd? Pa fesurau penodol y bydd yn eu cynnig er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o’r rhaglenni blaenorol? Gwyddom oll fod y rhaglen wedi wynebu anawsterau hyd yma. Amlinellais rai ohonynt heddiw. Os bydd y rhain yn parhau, byddwn yn methu â chyflawni’r cyfraddau twf economaidd sydd eu hangen arnom i lwyddo yn ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol economi Cymru.

It is said that we are ahead of the UK Objective 1 programme areas. Do not let that deceive you. There is not much point being top of the third division. That does not get you into the European Champion’s league. We should judge our performance against how well we meet the targets contained in our own single programming document, which in effect, is our corporate plan. We should also judge our performance against the programme complement, which in effect, is our business plan. We should not compare our performance with that of the other UK regions. We should be mature enough to recognise these problems now and find solutions quickly. It is still not too late. If we do not do it now, I fear that we will fail. The first objective must be to deliver Objective 1. It must be delivered effectively and it must be delivered now.

Dywedir ein bod ar y blaen i ardaloedd rhaglen Amcan 1 y DU. Peidiwch â gadael i hynny eich twyllo. Nid oes pwynt bod ar frig y drydedd adran. Nid yw hynny’n golygu y cewch fynd i gynghrair Pencampwyr Ewrop. Dylem farnu ein perfformiad ar sail pa mor dda y byddwn yn cyrraedd y targedau yn ein dogfen raglennu sengl, sef, ein cynllun corfforaethol i bob pwrpas. Dylem hefyd farnu ein perfformiad yn erbyn dogfen ategol y rhaglen, sef ein cynllun busnes i bob pwrpas. Ni ddylem gymharu ein perfformiad â rhanbarthau eraill o’r DU. Dylem fod yn ddigon aeddfed i gydnabod y problemau hyn yn awr a chanfod atebion yn gyflym. Nid yw’n rhy hwyr. Os na wnawn hynny yn awr ofnaf y byddwn yn methu. Cyflwyno Amcan 1 ddylai fod ein nod yn y lle cyntaf. Rhaid ei chyflwyno’n effeithiol a rhaid ei chyflwyno yn awr.

Christine Chapman spoken in English p. 99

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 99

I thank Pauline for raising this important issue and allowing me the opportunity to speak. I agree that we must not leave anything to chance with regard to Objective 1. However, we must also acknowledge the fact that by this week, the Objective 1 money invested in Wales is more than £400 million, and that includes match funding. That translates into 289 projects. Those projects are creating jobs, building up skills and strengthening communities across west Wales and the Valleys. Those are not just statistics. As Chair of the Programme Monitoring Committee, I have visited some of these projects and I have been pleased to see people working. We know that it takes some time to create these jobs. We will not create jobs overnight, but I have seen many people in jobs as a result of Objective 1 funding. The sum of £12.5 million has been invested in projects in Rhondda Cynon Taff. That does not include the Objective 1 areas where bigger schemes are being developed.

Diolchaf i Pauline am godi’r mater pwysig hwn a rhoi’r cyfle imi siarad. Cytunaf na ddylem adael unrhyw beth i ffawd mewn cysylltiad ag Amcan 1. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd gydnabod y ffaith y bydd cyfanswm arian Amcan 1 a fuddsoddwyd yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon yn fwy na £400 miliwn, ac mae hynny’n cynnwys arian cyfatebol. Mae hynny’n gyfystyr â 289 o brosiectau. Mae’r prosiectau hynny’n creu swyddi, yn meithrin sgiliau ac yn atgyfnerthu cymunedau leled gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Nid dim ond ystadegau yw’r rheini. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, yr wyf wedi ymweld â rhai o’r prosiectau hyn a bu’n bleser gennyf weld pobl yn gweithio. Gwyddom ei bod yn cymryd amser i greu’r swyddi hyn. Ni fyddwn yn creu swyddi dros nos, ond yr wyf wedi gweld llawer o bobl mewn swyddi o ganlyniad i arian Amcan 1. Buddsoddwyd swm o £12.5 miliwn mewn prosiectau yn Rhondda Cynon Taf. Nid yw hynny’n cynnwys ardaloedd Amcan 1 lle y datblygir cynlluniau mwy.

One of the aspects of Objective 1 is partnership. If we want Objective 1 to succeed, we must build up consensus between the public, private and voluntary sector. That will take us beyond the Objective 1 period. This element was picked up by Elisabeth Slavkoff, the European Commission’s Director of Regional Operations for the UK, who attended our programme monitoring committee meeting in Llandudno last week and confirmed that Objective 1 is on target. The amount of spend is low at the moment, but that is a normal feature of Objective 1. Elisabeth Slavkoff was more than happy with what we told her. She is using Wales as an exemplar.

Un agwedd ar Amcan 1 yw partneriaeth. Os ydym am i Amcan 1 lwyddo, rhaid inni sicrhau consensws rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Bydd hyn yn ein tywys y tu hwnt i gyfnod Amcan 1. Amlygwyd yr elfen hon gan Elisabeth Slavkoff, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rhanbarthol ar gyfer y DU i’r Comisiwn Ewropeaidd, a fynychodd gyfarfod ein pwyllgor monitro rhaglenni yn Llandudno yr wythnos diwethaf a chadarnhaodd fod Amcan 1 yn cyrraedd ei nod. Mae swm y gwariant yn isel ar hyn o bryd, ond mae hynny’n un o nodweddion arferol Amcan 1. Yr oedd Elisabeth Slavkoff yn fwy na bodlon ar yr hyn a ddywedasom wrthi. Mae hi’n defnyddio Cymru fel enghraifft.

If partnership is to work, there must be collective responsibility from top to bottom. The best practice that I have seen around Wales is where partners are working together with the communities and with other agencies. They are getting together to think strategically. We have, as you know, set up the strategy partners to work with the Welsh European Funding Office to make these important strategic decisions.

Os yw partneriaeth i lwyddo, rhaid sicrhau cyfrifoldeb cyfunol o’r bon i’r brig. Yr arfer gorau a welais o amgylch Cymru yw lle mae partneriaid yn cydweithio gyda’r cymunedau a chydag asiantaethau eraill. Deuant ynghyd i feddwl yn strategol. Yr ydym, fel y gwyddoch, wedi sefydlu partneriaid strategol i weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru er mwyn gwneud y penderfyniadau strategol pwysig hyn.

Communication is also key. The Objective 1 programme monitoring committee has made some strategic decisions recently as to how we can improve on streamlining the system. I agree that there have been some difficulties but nothing that we cannot overcome because of the newness of the programme.

Mae cyfathrebu’n hollbwysig hefyd. Gwnaeth pwyllgor monitro rhaglenni Amcan 1 benderfyniadau strategol yn ddiweddar ar sut y gallwn wella’r broses o symleiddio’r system. Cytunaf y cafwyd rhywfaint o anawsterau ond credaf y gallwn eu goresgyn oherwydd natur newydd y rhaglen.

Objective 1 is a once-in-a-generation opportunity for us to transform our economy and to breathe life into some of our poorest communities. It is up to all of us with collective responsibility to ensure that we give a clear message to those communities that Objective 1 is delivering change.

Mae Amcan 1 yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni drawsffurfio ein heconomi ac adfywio rhai o’n cymunedau tlotaf. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom sydd â chyfrifoldeb cyfunol i sicrhau y rhoddwn neges glir i’r cymunedau hynny bod Amcan 1 yn cyflwyno newidiadau iddynt.

Michael German The Deputy First Minister and Minister for Economic Development spoken in English p. 100

Michael German Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd siaradwyd yn Saesneg t. 100

Following last week’s ruling on interventions during the short debate, I have agreed to allow John Griffiths to speak for one minute at the end of my contribution.

Yn dilyn y penderfyniad yr wythnos diwethaf ar ymyriadau yn ystod y ddadl fer, yr wyf wedi cytuno y gall John Griffiths siarad am un funud ar ddiwedd fy nghyfraniad.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 101

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 101

Order. I have looked at the rules again and I have last week’s ruling before me. John Griffiths and others may intervene but their contributions must be interventions as opposed to minute long statements. John Griffiths will try my patience if he speaks for a whole minute. He may intervene at your discretion, Minister.

Trefn. Edrychais eto ar y rheolau ac mae dyfarniad yr wythnos diwethaf ger fy mron. Gall John Griffiths ac eraill ymyrryd ond rhaid i’r cyfraniadau fod yn ymyriadau o funud ac nid yn ddatganiadau. Bydd John Griffiths yn trethu fy amynedd os bydd yn siarad am funud cyfan. Gall ymyrryd yn ôl eich disgresiwn, Weinidog.

Michael German spoken in English p. 101

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 101

I give him my discretion. I was told that I had to give that information at the beginning of my speech. Thank you for the clarification.

Rhoddaf fy nisgresiwn iddo. Dywedwyd wrthyf bod yn rhaid imi roi’r wybodaeth honno ar ddechrau fy araith. Diolch am yr eglurhad.

I welcome the opportunity to respond to this debate. I want to put to ground the miserable, woeful tale that Pauline has tried to outline to us that everything is doom and gloom. We should be congratulating the hundreds of people who are working earnestly around Wales, putting into practice the projects outlined in the programme document and ensuring that the Objective 1 programme is a reality, which it is. I have said many times in Committee and in Plenary that approved projects have started and that they are already making a difference in the real world of Wales. We have tangible evidence, in the form of claims for payment which show that already, as a result of Objective 1, 400 jobs have been created.

Croesawaf y cyfle i ymateb i’r ddadl hon. Yr wyf am wrthddweud y stori ddiflas a thrist y ceisiodd Pauline ei hamlinellu bod popeth yn edrych yn ddu iawn. Dylem fod yn llongyfarch y cannoedd o bobl sydd yn gweithio’n ddyfal ledled Cymru, yn rhoi’r prosiectau a amlinellir yn nogfen y rhaglen ar waith a sicrhau y gwireddir rhaglen Amcan, ac mae wedi’i gwireddu. Dywedais droeon yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ac yn y Cyfarfod Llawn bod prosiectau a gymeradwywyd ar waith a’u bod eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn yng Nghymru. Mae gennym dystiolaeth wirioneddol, ar ffurf ceisiadau am daliadau sydd yn dangos bod 400 o swyddi wedi’u creu’n barod, o ganlyniad i Amcan 1.

Brian Gibbons spoken in English p. 101

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 101

That is an important point, because Pauline’s comment about massive tangible benefit is absurd. The Objective 1 programme began in the Republic of Ireland, which is classed as one of the star performers in Objective 1, at the end of the 1980s or early 1990s and the Celtic Tiger did not emerge until five or six years later. We have Plaid Cymru, with its doom and gloom, expecting to achieve in six months what it took the Republic of Ireland six years to achieve. It is absurd.

Mae hynny’n bwynt pwysig, oherwydd mae sylw Pauline am fudd gwirioneddol enfawr yn hurt. Dechreuodd y rhaglen Amcan 1 yng Ngweriniaeth Iwerddon a gydnabyddir fel un o berfformwyr gorau Amcan 1, ar ddiwedd yr 1980au neu ddechrau’r 1990au ac ni ddaeth y Celtic Tiger i’r amlwg am bum neu chwe mlynedd arall. Mae gennym ni Blaid Cymru, gyda’i holl anobaith, yn disgwyl inni gyflawni mewn chwe mis yr hyn a gymerodd chwe mlynedd i Weriniaeth Iwerddon ei gyflawni. Mae’n hurt.

Michael German spoken in English p. 101

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 101

I agree. I explain to Pauline that in Bridgend, for example, the business support network has traded 53 new jobs, the Gwynedd business development package has traded 54 new jobs, Blaenau Gwent local financial support scheme has created 32 jobs and so on. It is a reality. We know that this is a once-in-a-lifetime opportunity to transform our economy. The effective use of Objective 1 money represents an important challenge to the National Assembly and to everybody with a role in economic development in Wales.

Cytunaf. Esboniaf i Pauline y gwelir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, bod y rhwydwaith cymorth busnes wedi creu 53 o swyddi newydd, mae pecyn datblygu busnes Gwynedd wedi creu 54 o swyddi newydd, mae cynllun cymorth ariannol lleol Blaenau Gwent wedi creu 32 o swyddi ac yn y blaen. Mae’n realiti. Gwyddom mai cyfle unwaith mewn bywyd yw hyn i drawsffurfio ein heconomi. Mae defnyddio arian Amcan 1 yn effeithiol yn cyflwyno sialens bwysig i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i bawb sydd a rôl mewn datblygu economaidd yng Nghymru.

Although the programme was not officially approved until October 2000, in excess of £200 million of Objective 1 money has been committed to almost 300 projects. That means that, with match funding, £400 million has been invested in the area.

Er na chymeradwywyd y rhaglen yn swyddogol tan fis Hydref 2000, ymrwymwyd dros £200 miliwn o arian Amcan 1 i bron i 300 o brosiectau. Golyga hynny, gydag arian cyfatebol, y buddsoddwyd £400 miliwn yn yr ardal.

John Griffiths spoken in English p. 102

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 102

I am grateful to you for allowing an intervention, as you indicated. Do you agree, given the facts that you have outlined about these projects coming forward, that we do not want negative publicity undermining future quality projects and that all Assembly Members and all opposition parties have a duty to be responsible? Proper scrutiny and robust political debate—with which we are all familiar—is permitted, but undue negativity is not. We must not portray this programme as a failure when it is evident from your statistics that it is not. It is incumbent upon us to ensure that we do not play politics with these economic matters, which are so important for west Wales and the Valleys. We must behave responsibly and properly as politicians.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am ganiatáu i mi ymyrryd, fel y dywedasoch. A gytunwch, o ystyried y ffeithiau a amlinellwyd gennych am y prosiectau hyn a gyflwynir, nad oes angen cyhoeddusrwydd negyddol arnom a allai danseilio prosiectau safonol yn y dyfodol a bod gan holl Aelodau’r Cynulliad a’r holl wrth-bleidiau ddyletswydd i ymddwyn yn gyfrifol? Caniateir archwiliad priodol a dadl wleidyddol gadarn—ond ni chaniateir ymddygiad negyddol amhriodol. Ni ddylem bortreadu’r rhaglen hon fel methiant pan fo’n amlwg o’ch ystadegau nad yw hynny’n wir. Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau na ddefnyddiwn y materion economaidd hyn, sydd mor bwysig i orllewin Cymru a’r Cymoedd fel gêm wleidyddol. Rhaid inni ymddwyn yn gyfrifol ac yn briodol fel gwleidyddion.

Michael German spoken in English p. 102

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 102

I agree. It is a shame that the hard work of the people involved in these projects is being devalued. I hope that there will be a turn around of opinion in the Assembly to ensure that we support those people.

Cytunaf. Mae’n drueni bod gwaith caled y bobl hynny sydd yn gysylltiedig â’r prosiectau hyn yn cael ei ddibrisio. Gobeithiaf y bydd barn y Cynulliad yn newid fel y gallwn gefnogi’r bobl hynny.

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Michael German spoken in English p. 102

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 102

I will return to you later, David. I have much more to say.

Dychwelaf atoch yn ddiweddarach David. Mae gennyf lawer mwy i’w ddweud.

There is much confusion about spending. It is being portrayed as being an issue, when we are really talking about payment matters. You must remember that people are paid for their work in arrears. If, at the end of the year, you ask how much was spent in the last three months, it will be impossible to tell. People will have developed their spending and it will be impossible to indicate precisely what was spent until they have made their claims. That is a consequence of the way that the programme is run.

Ceir llawer o ddryswch ynglŷn â gwariant. Caiff ei bortreadu fel problem, ond trafod materion talu yr ydym mewn gwirionedd. Rhaid ichi gofio y caiff pobl eu talu am eu gwaith mewn ôl-daliadau. Os gofynnwch, ar ddiwedd y flwyddyn, faint a wariwyd yn y tri mis diwethaf, bydd yn amhosibl dweud. Bydd pobl wedi datblygu eu gwariant a bydd yn amhosibl dweud yn union beth a wariwyd hyd nes y gwnânt eu ceisiadau. Mae hynny’n ganlyniad i’r ffordd y caiff y rhaglen ei rhedeg.

It is absurd to suggest that there is an administrative burden on the structural fund programmes. None of the central costs for administering structural fund programmes are met from Objective 1 resources. All costs come from the National Assembly’s administration budget.

Mae’n hurt awgrymu bod baich gweinyddol ar raglenni’r gronfa strwythurol. Nid yw adnoddau Amcan 1 yn diwallu unrhyw gostau canolog ar gyfer gweinyddu rhaglenni’r gronfa strwythurol. Daw’r holl gostau o gyllideb weinyddu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Technical assistance was another matter that you raised. Why have only eight applications for technical assistance been received from local partnerships? It is the people who have not made applications who are at fault. Those eight applications were approved. The money is on the table for those who want it. It is up to people to come and collect it.

Yr oedd cymorth technegol yn fater arall a godwyd gennych. Pam mai dim ond wyth cais a dderbyniwyd gan bartneriaethau lleol am gymorth technegol? Y bobl hynny na wnaethant geisiadau sydd ar fai. Cymeradwywyd yr wyth cais hynny. Mae’r arian yno ar gyfer y rhai sydd am ei gael. Cyfrifoldeb y bobl yw dod i’w gasglu.

Wales has the largest structural funds programme in the UK and it is important that we measure our progress against that made by the remainder of the UK. Why not? We should celebrate our strength in this. We have the largest programme, yet in absolute terms, we are well ahead of Merseyside, Cornwall and south Yorkshire.

Mae gan Gymru’r rhaglen cronfeydd strwythurol mwyaf yn y DU ac mae’n bwysig y mesurwn ein cynnydd yn erbyn y cynnydd a wneir gan weddill y DU. Pam lai? Dylem ddathlu ein cryfder yn hyn o beth. Mae gennym y rhaglen fwyaf ond, mewn termau absoliwt, yr ydym ymhell ar y blaen i Lannau Merswy, Cernyw a de Swydd Efrog.

Brian Hancock a gododd—

Brian Hancock rose—

Michael German spoken in English p. 103

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 103

I will return to you in a moment. Partnership is the way forward for Objective 1. However, partnerships are not always easy. They include all sectors of our society, working together and devise exciting new projects to deliver much-needed economic growth.

Dychwelaf atoch mewn munud. Partneriaeth yw’r ffordd ymlaen ar gyfer Amcan 1. Fodd bynnag, nid yw partneriaethau bob amser yn hawdd. Maent yn cynnwys pob rhan o’n cymdeithas, yn cydweithio ac yn dyfeisio prosiectau cyffrous newydd er mwyn cyflawni’r twf economaidd y mae dirfawr angen amdano.

Last December, the task and finish group report, which was accepted universally by the Programme Monitoring Committee—including the representative from your own party, Pauline—has ensured that progress has been made. Establishing and clarifying those roles was no small feat. I pay tribute to all the members of the Programme Monitoring Committee, including the Plaid Cymru member. The group’s reforms were put in place, and are beginning to take root. I am grateful to the individuals and to the partnership organisations that have made it a success.

Fis Rhagfyr y llynedd, mae adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, a dderbyniwyd yn gyffredinol gan y Pwyllgor Monitro Rhaglenni—yn cynnwys cynrychiolydd o’ch plaid chi, Pauline—wedi sicrhau y gwnaethpwyd cynnydd. Nid ar chwarae bach y sefydlwyd ac yr eglurwyd y rolau hynny. Hoffwn dalu teyrnged i holl aelodau’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni, yn cynnwys yr aelod o Blaid Cymru. Gweithredwyd diwygiadau’r grŵp, ac maent yn dechrau gwreiddio. Yr wyf yn ddiolchgar i’r unigolion hynny ac i’r sefydliadau partneriaeth sydd wedi sicrhau ei lwyddiant.

I also pay tribute to Christine Chapman, who has put so much effort into making the Programme Monitoring Committee work. Elisabeth Slavkoff, the European Commission’s Director of Regional Operations for the UK, told the Programme Monitoring Committee last Friday how impressed she was with how these partnerships are working in Wales. If we are an exemplar of good practice, then let us celebrate that and not talk it down.

Talaf deyrnged hefyd i Christine Chapman, sydd wedi ymdrechu cymaint er mwyn sicrhau llwyddiant y Pwyllgor Monitro Rhaglenni. Dywedodd Elisabeth Slavkoff, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rhanbarthol ar gyfer y DU i’r Comisiwn Ewropeaidd wrth y Pwyllgor Monitro Rhaglenni ddydd Gwener diwethaf am yr argraff dda a grëodd y partneriaethau hyn sydd yn gweithio yng Nghymru arni. Os ydym yn enghraifft o arfer da, yna gadewch inni ddathlu hynny a pheidio â’i fychanu.

I turn to the voluntary sector, which you raised as an issue. It has a vital part to play in the regeneration of our communities. Along with the fact that a new voluntary sector unit has been established to provide improved cohesion in advice for voluntary sector applicants, project approvals to date will assist over 1,700 community groups in Wales. On 15 March 2001, I announced new advance payment arrangements for the voluntary and private sectors, so that they would not have to wait for the money to be spent before claiming it. Please remember the difference between spending and payments. These new procedures will allow the non-profit making areas of the Objective 1 programme to claim grants three months earlier than at present. Before I turn to the business sector, I will now take an intervention from David.

Trof yn awr at y sector gwirfoddol, a godasoch fel mater. Mae ganddo ran allweddol i’w chwarae wrth adfywio ein cymunedau. Ynghyd â’r ffaith y sefydlwyd uned sector gwirfoddol newydd i ddarparu cyngor cyson gwell i ymgeiswyr o’r sector gwirfoddol, bydd y prosiectau hynny a gymeradwywyd hyd yma yn cynorthwyo dros 1,700 o grwpiau cymunedol yng Nghymru. Ar 15 Mawrth 2001, cyhoeddais drefniadau blaendaliadau newydd ar gyfer y sectorau gwirfoddol a phreifat, fel na fyddai’n rhaid iddynt aros i’r arian gael ei wario cyn gwneud cais amdano. Cofiwch y gwahaniaeth rhwng gwario a thaliadau. Bydd y gweithdrefnau newydd hyn yn golygu y gall ardaloedd Amcan 1 na wnânt elw wneud cais am grantiau dri mis yn gynharach nag ar hyn o bryd. Cyn i mi droi at y sector busnes, derbyniaf ymyrriad gan David.

David Davies spoken in English p. 104

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 104

You are kind to accept my intervention, Minister. Do you agree that when we see things going wrong with Objective 1 proposals, we should have a right to speak out? We should point out to you when all is not rosy in the garden. We should not be expected to do what the Welsh Liberal Democrat Party has done. It has toed the party line and followed Labour’s propaganda unquestioningly, in return for a few baubles.

Diolch ichi am dderbyn fy ymyrriad, Weinidog. A gytunwch y dylai fod gennym hawl i leisio barn pan welwn fod pethau’n mynd o chwith gyda chynigion Amcan 1? Dylem dynnu eich sylw pan na fydd pethau’n mynd yn wych. Ni ddylid disgwyl inni wneud yr hyn a wnaeth Plaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae wedi dilyn safbwynt a phropaganda’r blaid Llafur yn ddigwestiwn, yn gyfnewid am ychydig fanteision.

Michael German spoken in English p. 104

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 104

I am ultimately responsible to the Assembly for the structural funds programmes, and I want to celebrate their success. We have moved forward. There will always be problems and difficulties. However, much progress has been made during the last few months. Much change and development has occurred, and the Objective 1 Programme Monitoring Committee and the partners are working together effectively. We should encourage people to develop projects. After all, it is people on the ground, not us, who will make the change on the behalf of the people of Wales and future generations.

Yr wyf yn atebol yn y pen draw i’r Cynulliad am y rhaglenni cronfeydd strwythurol, a hoffwn ddathlu eu llwyddiant. Yr ydym wedi symud ymlaen. Bydd problemau ac anawsterau’n bodoli bob amser. Fodd bynnag, gwnaethpwyd llawer o gynnydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Gwnaethpwyd llawer o newidiadau a datblygiadau, ac mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni Amcan 1 a’r partneriaid yn cydweithio’n effeithiol. Dylem annog pobl i ddatblygu prosiectau. Wedi’r cyfan, y bobl ar lawr gwlad, nid ni, a fydd yn gwneud y newid ar ran pobl Cymru a chenedlaethau i ddod.

That is why the role of the business sector is important. The whole of priority 1 in the programme is geared towards expanding and investing in the small company base of the private sector. The total investment in this priority alone will be £285 million. Innovation is the main focus of priority 2, in which £183 million will be invested. The projects that have been approved so far will be of direct benefit to 6,000 small companies in Wales. We have recently held a series of roadshows, and two more will be held over the coming weeks. So far, the roadshows have attracted 400 representatives from the private sector. Work is ongoing on that.

Dyna pam bod rôl y sector busnes yn bwysig. Mae’r cyfan o flaenoriaeth 1 yn y rhaglen wedi’i hanelu at ehangu a buddsoddi mewn cwmnïau bach sydd yn y sector preifat. Bydd cyfanswm y buddsoddiad yn y flaenoriaeth hon yn unig yn £285 miliwn. Dyfeisgarwch yw prif ffocws blaenoriaeth 2, lle buddsoddir £183 miliwn. Bydd y prosiectau a gymeradwywyd hyd yma o fudd uniongyrchol i 6,000 o gwmnïau bach yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfres o sioeau teithiol yn ddiweddar, a chynhelir dwy sioe arall yn ystod yr wythnosau nesaf. Hyd yma, mae’r sioeau teithiol wedi denu 400 o gynrychiolwyr o’r sector preifat. Mae’r gwaith ar hynny yn parhau.

The Welsh European Funding Office’s private sector unit has already made 25 presentations to interested organisations. As Members know, I have made money available to the private sector to enable it to participate fully in the programme. I eagerly await its response.

Mae uned sector preifat Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru eisoes wedi gwneud 25 o gyflwyniadau i sefydliadau â diddordeb. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wyf wedi rhyddhau arian i’r sector preifat fel y gall gyfranogi’n llawn yn y rhaglen. Yr wyf yn awyddus i dderbyn ei ymateb.

Brian Hancock spoken in English p. 105

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 105

Mike knows that I have attended nearly all the roadshows on business support and the national economic development strategy. I am desperately concerned about the regeneration of Wales. I have a few brief questions. I hear from businesses that, although you make Finance Wales sound impressive, it is not working well at the grassroots. I have also heard that the local regeneration fund is not working well either. Pauline referred to those initiatives in her speech. Objective 1 is of great importance to Wales. As we have had the opportunity of learning from Ireland’s experiences, should we not have been on the road quicker than we were? Ireland had more than 15 years in which to utilise Objective 1, whereas we only have seven, eight or nine years—

Fe ŵyr Mike fy mod wedi mynychu bron pob un o’r sioeau teithiol ar gymorth busnes a’r strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Yr wyf yn poeni’n fawr iawn am adfywiad Cymru. Mae gennyf rai cwestiynau byr. Clywaf gan fusnesau, er eich bod yn gwneud i Gyllid Cymru swnio’n dda, nad yw’n gweithio’n dda ar lawr gwlad. Clywais hefyd nad yw’r gronfa adfywio leol yn gweithio’n dda ychwaith. Cyfeiriodd Pauline at y mentrau hyn yn ei haraith. Mae Amcan 1 yn bwysig iawn i Gymru. Gan ein bod wedi cael cyfle i ddysgu o brofiadau Iwerddon, oni ddylem fod wedi gweithredu ynghynt nag y gwnaethom? Cafodd Iwerddon dros 15 mlynedd i ddefnyddio Amcan 1, ond dim ond saith, wyth neu naw mlynedd sydd gennym ni—

Brian Gibbons a gododd—

Brian Gibbons rose—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 106

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 106

Order. Two people cannot intervene at the same time. Brian Gibbons, please sit down. Brian Hancock, an intervention should be short, sharp, succinct and, usually, should only contain one question. You have made a number of comments. Please wind up quickly.

Trefn. Ni all dau berson ymyrryd ar yr un pryd. Eisteddwch i lawr Brian Gibbons. Brian Hancock, dylai ymyrriad fod yn fyr, yn dreiddgar, yn gryno ac, fel arfer, dylai ond cynnwys un cwestiwn. Yr ydych chi wedi gwneud sawl sylw. Tynnwch at y terfyn.

Brian Hancock spoken in English p. 106

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 106

It is important that, as we are aware of Ireland’s success, we should consider our own plans and forge ahead. It is what is being done in Wales, not in the UK, that is important for the people of Wales.

Mae’n bwysig, gan ein bod yn ymwybodol o lwyddiant Iwerddon, y dylem ystyried ein cynlluniau ein hunain a bwrw ymlaen â hwy. Yr hyn sydd yn cael ei wneud yng Nghymru, nid yn y DU, sydd yn bwysig i bobl Cymru.

Michael German spoken in English p. 106

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 106

Finance Wales is up and running. As Brian knows, the project is not yet complete, as we are awaiting approval from the European Commission. I am anxious that that moves forward as rapidly as possible. As I explained at yesterday’s meeting of the Economic Development Committee, I will take steps to ensure that progress is made on that.

Mae Cyllid Cymru yn weithredol. Fel y gŵyr Brian, nid yw’r prosiect yn gyflawn eto, am ein bod yn aros am gymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Yr wyf yn awyddus i hyn symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Fel yr esboniais yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd ddoe, byddaf yn cymryd camau i sicrhau y gwneir cynnydd ar hynny.

Brian Gibbons a gododd—

Brian Gibbons rose—

Michael German spoken in English p. 106

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 106

I give way to Brian Gibbons, as he probably knows more about Ireland than many Members do.

Ildiaf i Brian Gibbons am ei fod yn debygol o wybod mwy am Iwerddon na llawer o’r Aelodau.

Brian Gibbons spoken in English p. 106

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 106

Notwithstanding Brian Hancock’s comments, Wales’s progamming document was approved at least six to eight weeks before that of the border, midland and western region of Ireland, which is the Objective 1 area. We are two or three months ahead of the equivalent area in Ireland. We should be proud of that.

Er gwaethaf sylwadau Brian Hancock, cymeradwywyd dogfen raglennu Cymru rhwng chwech ac wyth wythnos o leiaf cyn i ddogfen raglennu rhanbarth gororau, canolbarth a gorllewin Iwerddon gael ei chymeradwyo, sef ardal Amcan 1. Yr ydym ddau neu dri mis ar y blaen i’r ardal gyfatebol yn Iwerddon. Dylem ymfalchïo yn hynny.

Michael German spoken in English p. 106

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 106

I remind Members that guidance is now widely available to all those interested in learning more about the programme. The Welsh European Funding Office website has had a record number of hits—about 96,000 in total. It is encouraging that people are using the website in order to get information. Guidance booklets are also available, including one recently issued by The Western Mail. That booklet generated more enquiries, particularly from the private sector.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau bod canllaw cyffredinol ar gael bellach i bawb sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y rhaglen. Mae’r nifer uchaf erioed wedi ymweld â gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—cyfanswm o tua 96,000. Mae’n galonogol gweld bod pobl yn defnyddio’r wefan er mwyn cael gwybodaeth. Mae llyfrynnau canllaw hefyd ar gael, yn cynnwys un a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan The Western Mail. Ysgogodd y llyfryn hwnnw fwy o ymholiadau, yn arbennig gan y sector preifat.

Last Friday, the Objective 1 Programme Monitoring Committee agreed to provide technical assistance funds to allow the provision of regional co-ordinators to assist the private sector. That is important. The provision of co-ordinators is as a result of consultation between the business and social partners, who felt that people were needed on the ground to help to develop projects and to build networks. These facilitators will come from the private sector and will be employed by WEFO’s business and social partners unit, from which I await a response.

Ddydd Gwener diwethaf, cytunodd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Amcan 1 i ddarparu cronfeydd cymorth technegol er mwyn galluogi darparu cydlynwyr rhanbarthol i gynorthwyo’r sector preifat. Mae hynny’n bwysig. Darparwyd cydlynwyr o ganlyniad i ymgynghoriad rhwng y partneriaid busnes a chymdeithasol, a oedd yn credu bod angen pobl ar lawr gwlad i helpu i ddatblygu prosiectau ac i adeiladu rhwydweithiau. Daw’r hwyluswyr hyn o’r sector preifat ac fe’u cyflogir gan uned partneriaid busnes a chymdeithasol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yr wyf yn aros i gael ymateb ganddynt.

We are doing our utmost to encourage businesses to take advantage of the assistance available, be it funded through Objective 1 or other programmes. Now is a good time for businesses to think about expansion, as more assistance is available in Wales than ever before. With the creation and full implementation of Finance Wales—when it will also be allowed to spend European funds—we will see its potential as the regional development ‘bank’ for Wales. It will be a flagship of which we can be proud.

Gwnawn ein gorau i annog busnesau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, boed hynny wedi’i ariannu drwy Amcan 1 neu raglenni eraill. Mae’n amser da i fusnesau ystyried ehangu, wrth i fwy o gymorth nag erioed fod ar gael yng Nghymru. Yn sgîl creu Cyllid Cymru a’i roi ar waith yn llawn—pan ganiateir iddo hefyd wario arian Ewropeaidd—fe welwn ei botensial fel ‘banc’ datblygu rhanbarthol Cymru. Bydd yn rhaglen flaenllaw y gallwn ymfalchïo ynddi.

I cannot forget the rural economy, and with its difficulties this year it is important that people know that there is help available through European funding. Priority 5 is focused on promoting sustainable rural development through increased production from sustainable resource-based industries, enhancing the region’s environmental assets and promoting a diverse local economy. A total of £131.5 million has been allocated to this fund—

Ni allaf anghofio’r economi wledig, ac o ystyried yr anawsterau a wynebodd eleni mae’n bwysig bod pobl yn gwybod bod help ar gael drwy gronfeydd Ewropeaidd. Mae Blaenoriaeth 5 yn canolbwyntio ar hybu datblygiad gwledig cynaliadwy drwy gynyddu cynhyrchiant o ddiwydiannau cynaliadwy sydd yn seiliedig ar adnoddau, gwella asedau amgylcheddol y rhanbarth a hybu economi leol amrywiol. Neilltuwyd cyfanswm o £131.5 miliwn i’r gronfa hon—

Gareth Jones a gododd—

Gareth Jones rose—

Michael German spoken in English p. 107

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 107

If I get to the end of my speech, Gareth, I will allow you to speak, but I am about to run out of time.

Os cyrhaeddaf ddiwedd fy araith, Gareth, caniatâf ichi siarad, ond mae fy amser ar fin dod i ben.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 108

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 108

Order. You have enough time, because you have taken several interventions.

Trefn. Mae gennych ddigon o amser, am eich bod wedi derbyn sawl ymyrriad.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 108

Gareth Jones spoken in Welsh p. 108

Cyfeiriasoch at Gyllid Cymru, a fydd yn fanc i Gymru. Pwy fydd yn rheoli’r arian hwnnw? A fydd y Cynulliad, a chi fel Gweinidog, neu fanc arall fel NatWest neu HSBC yn gyfrifol amdano?

You referred to Finance Wales, which will be a bank for Wales. Who will manage that money? Will the Assembly, and you as Minister, or another bank such as NatWest or HSBC be responsible for it?

Michael German spoken in English p. 108

Michael German siaradwyd yn Saesneg t. 108

I use the word ‘bank’ in inverted commas for obvious legal reasons. I refer to it colloquially as a bank, because that is what it is. It is currently managed by a board, which has been appointed by the WDA. The board is an offshoot of the Welsh Development Agency, which in turn is responsible to the National Assembly. Therefore, the Assembly is running the operation at arm’s length.

Defnyddiaf y gair ‘banc’ mewn dyfynodau am resymau cyfreithiol amlwg. Cyfeiriaf ato ar lafar fel banc, gan mai dyna ydyw. Fe’i rheolir ar hyn o bryd gan fwrdd, a benodwyd gan y WDA. Mae’r bwrdd yn rhan o Awdurdod Datblygu Cymru, sydd yn ei dro yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Felly, mae’r Cynulliad yn ei redeg ar sail hyd braich.

Finance Wales includes people from the banking sector. It already has many financial products under its wing, including substantial amounts of funding from commercial banks and venture capitalists. Part of the challenge for Finance Wales is to be able to bring those products together and administer them as one front door product for the benefit of Wales.

Mae Cyllid Cymru yn cynnwys pobl o’r sector bancio. Mae sawl cynnyrch ariannol eisoes dan ei adain, yn cynnwys symiau sylweddol o arian gan fanciau masnachol a chyfalafwyr menter. Rhan o’r her i Gyllid Cymru yw gallu dod â’r cynnyrch hyn ynghyd a’u gweinyddu fel un cynnyrch blaenllaw er budd Cymru.

The advertisement for the chief executive’s post has recently been completed and I hope that we will appoint a chief executive as rapidly as possible to take things forward. Brian Howes is chairman of the board. He previously worked for Midland Bank and he comes from north Wales.

Cwblhawyd y broses o hysbysebu swydd y prif weithredwr yn ddiweddar a gobeithiaf y gallwn benodi prif weithredwr cyn gynted â phosibl er mwyn mynd â’r gwaith yn ei flaen. Brian Howes yw cadeirydd y bwrdd. Bu’n gweithio cyn hynny i Fanc Midland ac mae’n hanu o ogledd Cymru.

It is natural that all Assembly Members are hungry for rapid economic and social change. We all share the anger that Wales is one of the poorest regions of the United Kingdom. That is why we won Objective 1 status. However, to ensure prosperity, we must ensure that this money is spent strategically and has the maximum effect. There is much interest in this programme. As I said, there have been over 600,000 hits to date on the WEFO website. We have made a good start, but there is much more to do and no room for complacency. Now is not the time to talk down the programme or to talk down Wales, discouraging sectors whose participation could benefit their futures and the economic and social future of Wales as a whole.

Mae’n naturiol fod holl Aelodau’r Cynulliad yn awchu am newid economaidd a chymdeithasol cyflym. Yr ydym oll yn rhannu’r dicter mai Cymru yw un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod wedi sicrhau statws Amcan 1. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ffyniant, rhaid inni sicrhau y caiff yr arian hwn ei wario yn strategol ac er mwyn sicrhau’r budd mwyaf. Mae llawer o ddiddordeb yn y rhaglen. Fel y dywedais, cafwyd dros 600,000 o ymweliadau â gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru hyd yma. Cafwyd dechrau da, ond mae llawer mwy i’w wneud ac nid oes lle i laesu dwylo. Nid dyma’r amser i ddilorni’r rhaglen a dilorni Cymru, gan ddigaloni sectorau y gallai eu cyfranogiad fod o fudd i’w dyfodol a dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru gyfan.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 109

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 109

That is the end of today’s proceedings.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 12.36 p.m.

The session ended at 12.36 p.m.