Cymraeg

Cynulliad Cenedlaethol CymruNational Assembly for Wales · Cyfarfod llawnPlenary sitting

Dydd Mawrth 23 Hydref 2001

Tuesday 23 October 2001

DechreuoddMet 14:00 · Daeth i benRose 17:32

Gweld y Cofnod (PDF)View the Record (PDF)

Heb ei wirio â llaw etoNot yet checked by hand

CynnwysContents

  1. 3Ethol Swyddogion i’r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth LeolElection of Officers to the Local Government Partnership Council 1 bleidlais1 vote
  2. 4Cwestiynau i Brif Weinidog CymruQuestions to the First Minister
    1. 4Cydlynu Polisi yn y GogleddCo-ordination of Policy in North Wales
    2. 6Papur Gwyn y Comisiwn Ewropeaidd ar LywodraethuThe European Commission’s White Paper on Governance
    3. 8Prif Amcanion ‘Cynllun i Gymru 2001’Main Objectives of ‘Plan for Wales 2001’
    4. 9Canlyniad y Broses Ymgynghori ar ‘Cynllun ar gyfer Cymru 2001’Outcome of the Consultation Process for ‘Plan for Wales 2001’
    5. 11Effaith Cyflwyno Trethi Busnes AtodolEffect of the Introduction of Supplementary Business Rates
    6. 13Deddfwriaeth Ewropeaidd sy’n Effeithio ar GymruEuropean Legislation Affecting Wales
    7. 15Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Ewrop Conference ofPeripheral Maritime Regions of Europe
    8. 17Ymweliadau â’r GogleddVisits to North Wales
    9. 19Proffil Rhyngwladol CymruInternational Profile of Wales
    10. 20Datblygiadau Diweddar yn y Fenter Partneriaeth â BusnesRecent Developments within the Partnership with Business Initiative
  3. 22Pwyntiau o DrefnPoints of Order
  4. 25Datganiad BusnesBusiness Statement
  5. 27Pwynt o DrefnPoint of Order
  6. 28Cymeradwyo Rheoliadau Hadau (Rhestr Amrywogaethau Genedlaethol) 2001Approval of the Seeds (National List of Varieties) Regulations 2001 1 bleidlais1 vote
  7. 39Newid Aelodaeth y Cyngor Partneriaeth BusnesAmendment of the Membership of the Business Partnership Council 1 bleidlais1 vote
  8. 42Dadl Plaid Leiafrifol (Plaid Cymru): Y Sefyllfa Ryngwladol BresennolMinority Party Debate (Plaid Cymru): The Current International Situation 2 o bleidleisiau2 votes
  9. 71Cynnig TrefniadolProcedural Motion 1 bleidlais1 vote
  10. 72Strategaeth Wastraff CymruWaste Wales Strategy 7 o bleidleisiau7 votes

PleidleisiauVotes

PleidlaisVoteO blaidForYmatalAbstainYn erbynAgainstCanlyniadResult
Ethol Swyddogion i’r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth LeolElection of Officers to the Local Government Partnership Council
Cynnig NDM792Motion NDM7923600DerbyniwydAdopted
Cymeradwyo Rheoliadau Hadau (Rhestr Amrywogaethau Genedlaethol) 2001Approval of the Seeds (National List of Varieties) Regulations 2001
Cynnig NDM793Motion NDM79336014DerbyniwydAdopted
Newid Aelodaeth y Cyngor Partneriaeth BusnesAmendment of the Membership of the Business Partnership Council
Cynnig NDM794Motion NDM7944800DerbyniwydAdopted
Dadl Plaid Leiafrifol (Plaid Cymru): Y Sefyllfa Ryngwladol BresennolMinority Party Debate (Plaid Cymru): The Current International Situation
Gwelliant 1Amendment 137015DerbyniwydAdopted
Cynnig NDM795Motion NDM79537015DerbyniwydAdopted
Cynnig TrefniadolProcedural Motion
Cynnig trefniadolProcedural motion4200DerbyniwydAdopted
Strategaeth Wastraff CymruWaste Wales Strategy
Gwelliant 1Amendment 116629GwrthodwydRejected
Gwelliant 2Amendment 218728GwrthodwydRejected
Gwelliant 3Amendment 317729GwrthodwydRejected
Gwelliant 4Amendment 44670DerbyniwydAdopted
Gwelliant 5Amendment 515731GwrthodwydRejected
Gwelliant 6Amendment 64571DerbyniwydAdopted
Cynnig wedi’i ddiwygioAmended motion37151DerbyniwydAdopted

TrafodionProceedings

Cyfarfu’r Cynulliad am 2 p.m. gyda’r Llywydd yn y Gadair.

The Assembly met at 2 p.m. with the Presiding Officer in the Chair.

Ethol Swyddogion i’r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol

Election of Officers to the Local Government Partnership Council

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 3

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 3

Yn absenoldeb y Trefnydd, galwaf ar Rosemary Butler i gynnig y cynnig.

In the absence of the Minister for Assembly Business, I call on Rosemary Butler to propose the motion.

Rosemary Butler spoken in English p. 3

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 3

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig NDM792 Rosemary Butler t. 3

Motion NDM792 Rosemary Butler p. 3

DerbyniwydAdopted O blaidFor 36 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (36)
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • John Griffiths
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • David Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Questions to the First Minister

Cydlynu Polisi yn y Gogledd

Co-ordination of Policy in North Wales

Q1 Ann Jones spoken in English p. 4

C1 Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 4

Will the First Minister make a statement about the progress that he has made over recent months in enhancing the co-ordination of policy in north Wales? (OAQ12912)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei lwyddiant yn ystod y misoedd diweddar i wella’r ffordd y cydlynir polisi yn y Gogledd? (OAQ12912)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 4

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 4

In my role as policy co-ordinator for north Wales, I am pleased to say that companies in north Wales have received a total of £5.4 million in regional selective assistance since July. North Wales will also benefit from other projects, such as the extension of broadband communications, which is in the ownership of the Assembly, and the cables for which are buried in the A55. It is now available to companies in the area. North Wales will also benefit from the extended running period of the north-south rail service. I hope to discuss these and other matters at the next meeting of the North Wales Regional Committee at Llanrhaeadr-ym-Mochnant on Friday.

Yn fy rôl fel cydlynydd polisi gogledd Cymru, mae’n bleser gennyf nodi bod cwmnïau yn y Gogledd wedi derbyn cyfanswm o £5.4 miliwn o gymorth rhanbarthol dewisol ers Gorffennaf. Bydd gogledd Cymru yn elwa ar brosiectau eraill hefyd, megis y gwaith o ehangu cysylltiadau band llydan, y mae’r Cynulliad yn berchen arno, ac y mae’r ceblau ar ei gyfer wedi’u claddu o dan yr A55. Mae bellach ar gael i gwmnïau yn yr ardal. Bydd gogledd Cymru hefyd yn elwa ar y cyfnod estynedig ar gyfer y gwasanaeth rheilffyrdd rhwng y Gogledd a’r De. Gobeithiaf drafod y materion hyn a materion eraill yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ddydd Gwener.

Ann Jones spoken in English p. 4

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 4

You will be aware that the North Wales Regional Committee and the Trades Union Congress will call, this weekend, for an enhanced partnership between the unions, the Assembly, the Welsh Development Agency and Education and Learning Wales to promote further investment in jobs for north Wales. Do you agree that, given the current international economic uncertainty, in order to continue to progress towards our goal of full employment in north Wales—and I add that unemployment in the Vale of Clwyd continues to fall—

Byddwch yn ymwybodol y bydd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd a Chyngres yr Undebau Llafur yn galw, dros y penwythnos, am bartneriaeth well rhwng yr undebau, y Cynulliad, Awdurdod Datblygu Cymru a Dysgu ac Addysgu Cymru i hyrwyddo buddsoddi pellach mewn swyddi yng ngogledd Cymru. A gytunwch, o ystyried yr ansicrwydd economaidd rhyngwladol presennol, er mwyn parhau i symud tuag at ein nod o gyflogaeth lawn yn y Gogledd—ac ychwanegaf fod diweithdra yn Nyffryn Clwyd yn parhau i ostwng—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 5

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 5

Order. I would be grateful if you did not add anything to your supplementary question.

Trefn. Byddwn yn ddiolchgar pe na byddech yn ychwanegu dim at eich cwestiwn atodol.

Ann Jones spoken in English p. 5

Ann Jones siaradwyd yn Saesneg t. 5

We must ensure that we work together, using the expertise of the Members and the trade unions to create prosperity and opportunities across north Wales.

Rhaid inni sicrhau ein bod yn cydweithio, gan ddefnyddio arbenigedd yr Aelodau a’r undebau llafur i greu ffyniant a chyfleoedd ledled y Gogledd.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 5

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 5

There must be a balance between business start-ups and closures at a difficult time like this. Corning Optical Fibres has announced that it will close its plant in Deeside. That creates a difficult situation. I am meeting the management and unions at the plant to discuss that. However, I also note that 120 additional jobs will be created at St Asaph business park. The park is in a crucial location, as excellent communications provide easy access to the surrounding areas of north Wales. The WDA Objective 1 investment at St Asaph business park will create those jobs, which will be located in the nine additional business units that have been constructed in the park.

Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng nifer y busnesau newydd a nifer y busnesau sy’n cau ar adeg anodd fel hyn. Mae Corning Optical Fibres wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei waith yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hynny’n creu sefyllfa anodd. Yr wyf yn cyfarfod â’r rheolwyr a’r undebau yn y gwaith i drafod hynny. Fodd bynnag, nodaf hefyd y caiff 120 o swyddi ychwanegol eu creu ym mharc busnes Llanelwy. Mae’r parc mewn lleoliad hollbwysig, gan fod cysylltiadau ardderchog yn rhoi mynediad hawdd i ardaloedd cyffiniol y Gogledd. Bydd buddsoddiad Amcan 1 y WDA ym mharc busnes Llanelwy yn creu’r swyddi hynny, a gânt eu lleoli yn y naw uned fusnes ychwanegol a adeiladwyd yn y parc.

Gareth Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 5

Gareth Jones spoken in Welsh p. 5

Wrth i chi gydlynu polisi yn y Gogledd, pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi i rôl Comisiynydd Plant Cymru, sy’n sefydlu swyddfa ym Mae Colwyn? Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi atgoffa’r awdurdod lleol y gall, os dymuna, ddiystyru datganiad diweddar o bryder y comisiynydd plant ynghylch iechyd a diogelwch plant mewn ysgolion a adeiladwyd ar safleoedd heintiedig.

As you co-ordinate policy in north Wales, what consideration will you give to the role of the Children’s Commissioner for Wales, who is setting up an office in Colwyn Bay? The Minister for Health and Social Services has reminded the local authority that it can, if it wishes, disregard the children’s commissioner’s recent statement of concern regarding the health and safety of children in schools built on contaminated sites.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 5

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 5

Mae’n bwysig deall y disgwyliadau a’r sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â phwerau’r comisynydd plant. Llais ar ran plant yw’r comisiynydd, nid rhyw fath o farnwr sy’n uwch nag awdurdodau lleol ac yn gallu dymchwel penderfyniadau cyfreithlon a gweddus. Yr ydym wedi dweud wrth yr awdurdodau lleol, ynglŷn â’r drafodaeth ar ddewis lleoliad yr ysgolion newydd yng Nghonwy a Chasnewydd, i barchu swydd newydd y comisynydd plant ac ailystyried y penderfyniadau a’r ffordd y’u gwnaethpwyd. Fodd bynnag, ni all y comisiynydd plant orchymyn awdurdodau lleol i beidio â gweithredu penderfyniadau sydd yn weddus.

It is important to understand the expectations and the legal position with regard to the powers of the children’s commissioner. The commissioner is a voice for children, not some kind of judge who is superior to local authorities and can overturn legitimate and proper decisions. We have told the local authorities, with regard to the discussions on choosing the locations of the new schools in Conway and Newport, to respect the new post of children’s commissioner and to reconsider the decisions and how they were made. However, the children’s commissioner cannot order local authorities not to enact legitimate decisions.

Papur Gwyn y Comisiwn Ewropeaidd ar Lywodraethu

The European Commission’s White Paper on Governance

Q2 Phil Williams spoken in English p. 6

C2 Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 6

What representations has the First Minister made to the UK Minister for Europe in relation to the European Commission’s White Paper on governance? (OAQ12946)

Pa sylwadau a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog i Weinidog Ewrop y DU mewn perthynas â Phapur Gwyn y Comisiwn Ewropeaidd ar lywodraethu? (OAQ12946)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

I have made no representation as yet because consultation on the White Paper is open until the end of March 2002. As you and I are both members of the Committee on European Affairs, you will recall that the Committee considered this issue last week. There must be a wide discussion on the White Paper, both in the Assembly and throughout Wales, during the coming six months.

Nid wyf wedi gwneud unrhyw sylwadau hyd yma gan fod y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn yn parhau tan ddiwedd Mawrth 2002. Gan eich bod chi a minnau yn aelodau o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd, byddwch yn cofio i’r Pwyllgor ystyried y mater hwn yr wythnos diwethaf. Rhaid cael trafodaeth eang ar y Papur Gwyn, yn y Cynulliad a ledled Cymru, yn ystod y chwe mis nesaf.

Phil Williams spoken in English p. 6

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 6

The White Paper emphasises the need for stronger interaction with regional government and for multi-level partnership. Is not the Joint Ministerial Committee the appropriate body to make a response, so that the opinions of Wales, Scotland and, hopefully, Northern Ireland, could be incorporated alongside the UK Government’s opinions directly and from the beginning? Will you press for this to be considered at the next meeting of the JMC?

Mae’r Papur Gwyn yn pwysleisio’r angen am ryngweithio gwell gyda llywodraeth ranbarthol ac am bartneriaeth aml-lefel. Onid Cydbwyllgor y Gweinidogion yw’r corff priodol i ymateb, fel y gellid ymgorffori barn Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, gobeithio, â barn Llywodraeth y DU yn uniongyrchol ac o’r cychwyn cyntaf? A fyddwch yn pwyso ar Gydbwyllgor y Gweinidogion i ystyried hyn yn ei gyfarfod nesaf?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 6

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 6

I am happy to do so, although I am not certain whether it will be at the next meeting. That is how I envisage this progressing. It is important to keep separate any reference to constitutional changes. That will be done later and should lead to an inter-governmental conference early in 2004. We can try to involve the citizenry in Europe-related decisions now and reduce the sense of distance between the ordinary people of Europe and the institutions at the head of Europe. Romano Prodi’s White Paper on governance tries to achieve that process without any constitutional changes. There is a major function for the regional tier of government, into which we would fit, in that process.

Yr wyf yn fodlon gwneud hynny, er nad wyf yn siŵr a wnaf hynny yn y cyfarfod nesaf. Dyna sut y rhagwelaf y bydd hyn yn datblygu. Mae’n bwysig cadw unrhyw gyfeiriadau at newidiadau cyfansoddiadol ar wahân. Caiff hynny ei wneud yn ddiweddarach a dylai arwain at gynhadledd rhynglywodraethol yn gynnar yn 2004. Gallwn geisio cynnwys dinasyddion mewn penderfyniadau sy’n gysylltiedig ag Ewrop yn awr gan leihau’r ymdeimlad o bellter rhwng pobl gyffredin Ewrop a’r sefydliadau sy’n rheoli Ewrop. Mae Papur Gwyn Romano Prodi ar lywodraethu yn ceisio cyflawni’r broses honno heb unrhyw newidiadau cyfansoddiadol. Bydd gan haen ranbarthol llywodraeth, y byddem yn perthyn iddo, swyddogaeth bwysig yn y broses honno.

David Melding spoken in English p. 7

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 7

It was the Treaty of Nice that urged greater public involvement in the discussion on Europe’s future governance. Could we not help by, at last, launching a debate and study on the likely consequences of the single currency for Wales?

Cytundeb Nice a anogodd y cyhoedd i gymryd mwy o ran yn y trafodaethau ar y broses o lywodraethu Ewrop yn y dyfodol. Oni allem helpu hynny drwy gychwyn, o’r diwedd, ddadl ac astudiaeth ar ganlyniadau tebygol cyflwyno’r arian sengl i Gymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

I would have no objection to that if it could be scheduled in the business. It is fascinating to tour the Royal Mint at Llantrisant and see euros being minted there—though not, of course, for circulation in Britain. That is export trade for the employees at Llantrisant—making Irish euros, blanks for French euros and so on. It is fascinating to see that. The euro coins and notes must be ready for 1 January, when they will become sole tender. Obviously, that does not concern Britain. However, it concerns 11 of the 15 member states. There will undoubtedly be a major impact on Britain once the currency is fully established and people become used to seeing the coins and notes and having them in their pockets, wallets or handbags when they travel abroad. People will not change the currency back in case they visit another member country where the euro is legal tender. The palaver of going back and forth to Thomas Cook or other bureaux de change will then cease.

Ni fyddwn yn gwrthwynebu hynny pe gellid ei amserlennu yn y busnes. Mae’n ddiddorol iawn mynd ar daith o gwmpas y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i weld yr ewros yn cael eu bathu yno—er nad ydynt i’w dosbarthu ym Mhrydain, wrth gwrs. Mae hynny’n fasnach allforio ar gyfer cyflogeion Llantrisant—bathu ewros Gwyddelig, arian gwag ar gyfer ewros Ffrengig ac ati. Mae’n ddiddorol iawn gweld hynny. Rhaid i ddarnau arian ac arian papur ewro fod yn barod ar gyfer 1 Ionawr, pan ddônt yn unig arian cyfreithlon. Nid yw hynny’n berthnasol i Brydain, yn amlwg. Fodd bynnag, mae’n berthnasol i 11 o’r 15 aelod-wladwriaeth. Yn ddiamau, bydd effaith fawr ar Brydain pan fydd yr ewro wedi’i sefydlu’n llawn a phan fydd pobl yn gyfarwydd â gweld y darnau arian a’r arian papur a’u cael yn eu pocedi, eu waledi neu eu bagiau llaw pan fyddant yn teithio dramor. Ni fydd pobl yn cyfnewid yr arian yn ôl rhag ofn iddynt ymweld â gwlad arall lle mae’r ewro yn arian cyfreithlon. Bydd y drafferth o fynd yn ôl ac ymlaen i Thomas Cook neu bureaux de change eraill yn dod i ben wedyn.

Rod Richards spoken in English p. 7

Rod Richards siaradwyd yn Saesneg t. 7

I am fascinated that the First Minister should compliment the Royal Mint on producing euros. Can he explain why, therefore, the Royal Mint is operating at a loss?

Mae’n ddiddorol iawn bod Prif Weinidog Cymru yn canmol y Bathdy Brenhinol am fathu ewros. A all egluro pam, felly, bod y Bathdy Brenhinol yn gweithredu ar golled?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 7

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 7

I find it difficult to do anything other than compliment the Royal Mint for winning export orders. Some countries in Europe have no mint of their own. I believe that that is the case in the Irish Republic, it being a small country. It relies on the Royal Mint, which is situated 10 miles from here. Other countries, such as France, have mints but, cannot produce enough euro coins because the demand is so great. The more work that is created for the Royal Mint in Llanstrisant, the better. I hardly think that even you, Rod, would want to descent from that.

Mae’n anodd gwneud unrhyw beth arall heblaw canmol y Bathdy Brenhinol am ennill archebion allforio. Nid oes gan rai gwledydd yn Ewrop fathdy eu hunain. Credaf fod hynny’n wir yng Ngweriniaeth Iwerddon, gan ei bod yn wlad fach. Mae’n dibynnu ar y Bathdy Brenhinol, sydd 10 milltir oddi yma. Mae bathdai mewn gwledydd eraill, megis Ffrainc, ond ni allant fathu digon o ddarnau ewro gan fod cymaint o alw amdanynt. Gorau po fwyaf o waith a grëir ar gyfer y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Ni allaf gredu y byddech chi, Rod, hyd yn oed, am anghytuno â’r hynny.

Prif Amcanion ‘Cynllun i Gymru 2001’

Main Objectives of ‘Plan for Wales 2001’

C3 Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Q3 Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 8

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y prif amcanion sydd wedi’u hamlinellu yn nhrydedd dogfen strategol y Cynulliad, ‘Cynllun i Gymru 2001’? (OAQ12947)

Will the First Minister make a statement on the main objectives outlined in the Assembly’s third strategic document, ‘Plan for Wales 2001’? (OAQ12947)

Cytunaf yn llwyr â sylwadau diwethaf y Prif Weinidog.

I totally agree with the First Minister’s last comments.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Mae’r Llywodraeth bartneriaeth wedi ymrwymo i gryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol a chreu Cymru fodern a chynaliadwy. Er mwyn cyflawni hynny, credwn y bydd angen i ni gydweithio dros Gymru a sicrhau bod ein polisïau ni’n cyd-dynnu. Bydd ‘Cynllun i Gymru 2001’ yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes ac yn pennu agenda radical ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad hwn. Byddaf yn gwneud datganiad manwl ar ‘Cynllun i Gymru 2001’ yn y Cyfarfod Llawn ddydd Iau.

The partnership Government is committed to strengthening our key public services and creating a modern and sustainable Wales. We believe that, in order to deliver that, we will need to work together for Wales and ensure that our policies are well orchestrated. ‘Plan for Wales 2001’ will build on what has already been achieved and will set out a radical agenda for the remainder of this Assembly term. I will make a detailed statement on ‘Plan for Wales 2001’ in Plenary on Thursday.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 8

Efallai y cawn ateb ddydd Iau i’r cwestiwn yr wyf am ei ofyn yn awr. Ceir rhestrau o dargedi ar gyfer 2003-04 a 2010 yn y ddogfen ond mae’r targed ar gyfer cynnyrch mewnwladol crynswth y pen ar gyfer Cymru ar goll. Yr ydym wedi gweithio tuag at y ffigur hwn yn y gorffennol yn ein targedau ar gyfer tyfiant economaidd. Pam na cheir ffigur yn y ddogfen hon? Ai’r rheswm dros hynny yw fod y ffigurau blaenorol yn anghredadwy?

Perhaps on Thursday we will get an answer to the question that I will ask now. There are lists of targets for 2003-04 and for 2010 in the document, but the target for gross domestic product per capita for Wales is missing. We have been working towards this figure in the past in our targets for economic growth. Why is there not a figure in the document? Is it because the previous figures are implausible?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 8

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 8

Na, dim o gwbl. Mae hynny’n fater i’w gynnwys yn y strategaeth datblygu economaidd genedlaethol. Byddwn yn cyhoeddi’r fersiwn ddrafft ddiweddaraf o’r strategaeth honno yr wythnos hon.

No, not at all. That is a mater to be included in the national economic development strategy. We will publish the latest draft version of that strategy this week.

Alun Pugh spoken in English p. 8

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 8

Economic development is a key feature of this document. Yesterday I took part in a turf cutting ceremony for an Objective 1 project in Ruthin, and the previous week in Abergele. Do you agree that Objective 1 is a success throughout Wales?

Mae datblygu economaidd yn elfen allweddol o’r ddogfen hon. Cymerais ran mewn seremoni i dorri’r dywarchen gyntaf ar gyfer prosiect Amcan 1 yn Rhuthun ddoe, ac mewn seremoni debyg yn Abergele yr wythnos diwethaf. A gytunwch fod Amcan 1 yn llwyddiant ledled Cymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

When deciding how quickly we should get Objective 1 off the ground, we had to balance two things: getting the strategy right and agreed before releasing any money, and ensuring that we spent the money at a fair rate of knots. We ensured that people understood what Objective 1 was about by providing practical examples. When they saw what it was already doing for a community in the next valley or county, they saw what it could do for them. The trickiest aspect of any programme that will run for a minimum of six, seven or probably 10 years—the tail-end expenditure for Objective 1 will run on until 2010—is achieving a balance between not departing from the strategic objectives and spending the money sufficiently quickly. We have got the balance right.

Pan oeddem yn penderfynu pa mor gyflym y dylem gyflwyno Amcan 1, yr oedd yn rhaid inni sicrhau cydbwysedd rhwng dau beth: sicrhau ein bod wedi cytuno ar strategaeth briodol cyn rhyddhau unrhyw arian a sicrhau ein bod yn gwario’r arian yn ddigon cyflym. Gwnaethom yn siŵr fod pobl yn deall Amcan 1 drwy roi enghreifftiau ymarferol. Pan welsant yr hyn yr oedd eisoes yn ei wneud i gymuned yn y cwm neu’r sir gyfagos, gwelsant yr hyn y gallai ei wneud iddynt hwy. Yr agwedd anoddaf ar unrhyw raglen a fydd yn parhau am isafswm o chwech, saith neu 10 mlynedd yn ôl pob tebyg—bydd gwariant cam olaf Amcan 1 yn parhau tan 2010—yw sicrhau cydbwysedd rhwng peidio â gwyro oddi wrth yr amcanion strategol a gwario’r arian yn ddigon cyflym. Yr ydym wedi sicrhau’r cydbwysedd cywir.

Glyn Davies spoken in English p. 9

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 9

Your first statement in ‘Plan for Wales 2001’ sets out your approach to getting things done. I agree that not getting things done and not being clear about objectives is deeply damaging to the Assembly. However, nothing has been more damaging than your indecision on the new building. What do you believe should happen to this project during the period covered by this plan? The people of Wales want to know your opinion—

Mae eich datganiad cyntaf yn ‘Cynllun i Gymru 2001’ yn nodi eich ymagwedd tuag at gyflawni pethau. Cytunaf fod peidio â chyflawni pethau a pheidio â chael amcanion clir yn andwyol iawn i’r Cynulliad. Fodd bynnag, ni fu dim mor andwyol â’r ffaith eich bod wedi methu â gwneud penderfyniad ar yr adeilad newydd. Beth ddylai ddigwydd i’r prosiect hwn yn eich barn chi yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y cynllun hwn? Mae pobl Cymru am wybod eich barn—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 9

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 9

Order. Your question is not relevant to the future of Wales.

Trefn. Nid yw eich cwestiwn yn berthnasol i ddyfodol Cymru.

Canlyniad y Broses Ymgynghori ar ‘Cynllun ar gyfer Cymru 2001’

Outcome of the Consultation Process for ‘Plan for Wales 2001’

Q4 Jonathan Morgan spoken in English p. 9

C4 Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 9

Will the First Minister make a statement on the outcome of the consultation process for the policy document, ‘Plan for Wales 2001’? (OAQ12913)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ganlyniad y broses ymgynghori ar y ddogfen bolisi, ‘Cynllun ar gyfer Cymru 2001’? (OAQ12913)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 9

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 9

From the beginning, the consultation on the plan has made innovative use of information technology and has demonstrated our commitment to open and participative government. The website has received nearly 9,000 hits since it was launched. I will make a statement on ‘Plan for Wales 2001’ on Thursday. However, I understand that 77 responses have been received on the latest version so far and responses continue to flow in.

O’r cychwyn cyntaf, defnyddiwyd technoleg gwybodaeth mewn ffordd arloesol yn y broses ymgynghori ar y cynllun gan ddangos ein hymrwymiad i lywodraeth agored y gall pobl gymryd rhan ynddi. Denodd y wefan bron 9,000 o ymwelwyr ers ei lansio. Gwnaf ddatganiad ar ‘Cynllun i Gymru 2001’ ddydd Iau. Fodd bynnag, deallaf fod 77 o ymatebion wedi’u derbyn hyd yma ar y fersiwn diweddaraf ac mae’r ymatebion yn parhau i lifo i mewn.

Jonathan Morgan spoken in English p. 10

Jonathan Morgan siaradwyd yn Saesneg t. 10

Given the Assembly Government’s failure to fully implement even the initial recommendations of the Education and Lifelong Learning Committee’s report on information technology, what plans do you have to remove barriers to learning and exploit the scope for improved learning through information and communications technology? The administration has failed to deliver the basics that were anticipated by the Committee during its ICT review.

O ystyried bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu â gweithredu hyd yn oed argymhellion cychwynnol adroddiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar dechnoleg gwybodaeth yn llawn, pa gynlluniau sydd gennych i gael gwared ar y rhwystrau i ddysgu ac i ddefnyddio’r posibiliadau i ddysgu’n well drwy dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu? Nid yw’r weinyddiaeth wedi cyflwyno’r argymhellion sylfaenol a ragwelwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei adolygiad o TGCh.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 10

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 10

I am aware of the disputes between schools, local authorities and other experts in Wales on the implementation of ICT in schools and the need for broadband back-up. Andrew Davies and I will make an announcement on a broadband initiative later this week.

Yr wyf yn ymwybodol o’r anghydfodau rhwng ysgolion, awdurdodau lleol ac arbenigwyr eraill yng Nghymru o ran gweithredu TGCh mewn ysgolion a’r angen am dechnoleg band llydan i gefnogi hynny. Bydd Andrew Davies a minnau yn gwneud cyhoeddiad ar fenter band llydan yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ieuan Wyn Jones Arweinydd yr Wrthblaid siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Ieuan Wyn Jones The Leader of the Opposition spoken in Welsh p. 10

Yn y cynllun mae rhestr o gynlluniau ar gyfer datblygu economaidd. A oes modd i chi wireddu’r amcanion hynny pan yr ydych yn gwneud dwy swydd? Yr wythnos diwethaf bu ichi gyhuddo’r wrthblaid o geisio gwneud pwyntiau gwleidyddol ar hyn. A ydych wedi gwrando ar sylwadau Alex Carlisle yn ystod yr wythnos diwethaf? Rhoddodd gyngor i chi y dylech benodi Democrat Rhyddfrydol arall i’r Cabinet. A wnewch chi dderbyn ei gyngor?

In the plan there is a list of schemes for economic development. Can you fulfil those aims when you are doing two jobs? Last week you accused the opposition of trying to score political points on this. Have you listened to Alex Carlisle’s comments during the last week? He advised you that you should appoint another Liberal Democrat to the Cabinet. Will you accept his advice?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 10

Na, ni glywais ei gyngor.

No, I did not hear his advice.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 10

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 10

Rhodri, mae’n bwysig eich bod yn gwylio rhai o’r rhaglenni teledu hyn er mwyn ichi glywed cyngor eich partneriaid yn y glymblaid.

Rhodri, it is important that you watch some of these television programmes so that you may hear the advice of your coalition partners.

Os na fyddwch yn fodlon gwrando ar gyngor Alex Carlisle, a wnewch wrando ar gyngor Tom Middlehurst, o’ch plaid eich hun? Dywedodd Tom Middlehurst os na fydd gweinidog datblygu economaidd yn cael ei benodi, fe fydd y Llywodraeth mewn trafferth. A wnewch chi wrando ar Tom Middlehurst?

If you are not willing to listen to Alex Carlisle’s advice, will you listen to that of Tom Middlehurst, from your own party? Tom Middlehurst said that if an economic development minister is not appointed, the Government will find itself in difficulties. Will you listen to Tom Middlehurst?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 11

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 11

Nid wyf wedi clywed y sylwadau y mae Ieuan Wyn Jones yn cyfeirio atynt. Mae gennyf bethau llawer gwell i’w gwneud na gwrando ar y rhaglenni y mae Ieuan yn cyfeirio atynt. Mae’n amlwg bod y rhaglenni hyn yn dod â llawer o gysur i Arweinydd yr Wrthblaid, ond nid ydynt o ddiddordeb i’r cyhoedd.

I have not heard the comments to which Ieuan Wyn Jones refers. I have much better things to do than to listen to the programmes to which Ieuan refers. It is obvious that these programmes bring much comfort to the Leader of the Opposition, but they are of no interest to the public.

Effaith Cyflwyno Trethi Busnes Atodol

Effect of the Introduction of Supplementary Business Rates

Q5 Alun Cairns spoken in English p. 11

C5 Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 11

What effect will the introduction of supplementary business rates have on the Assembly’s partnership with business? (OAQ12942)

I ba raddau y bydd cyflwyno trethi busnes atodol yn effeithio ar y bartneriaeth rhwng y Cynulliad a busnes? (OAQ12942)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

The Business Partnership Council was set up to facilitate an exchange of views between business and the Assembly on a wide range of issues. The issue of supplementary business rates was raised at its last meeting on 29 June: I think that both you and I were present. The Finance Minister subsequently wrote to Members to advise on the current position. We intend to consult fully with business when there are firm proposals. You could say either that the business world is implacably opposed to supplementary business rates, or that it has not yet been persuaded of the case for them: either of those might describe the situation at present.

Sefydlwyd y Cyngor Partneriaeth Busnes i hwyluso’r broses o gyfnewid barn rhwng busnes a’r Cynulliad ar amrywiaeth eang o faterion. Codwyd y mater o drethi busnes atodol yn ei gyfarfod diwethaf ar 29 Mehefin: credaf eich bod chi a minnau yn bresennol. Ar ôl y cyfarfod, ysgrifennodd y Gweinidog dros Gyllid at yr Aelodau i’w hysbysu am y sefyllfa bresennol. Bwriadwn ymgynghori â busnesau yn llawn pan geir cynigion pendant. Gallech ddweud bod y byd busnes yn gwrthwynebu trethi busnes atodol yn llwyr, neu nad yw wedi’i argyhoeddi hyd yma o’r rheswm dros eu cael: gallai’r naill reswm neu’r llall ddisgrifio’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Alun Cairns spoken in English p. 11

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 11

Now that the First Minister finally accepts that manufacturing industry is in recession, does he think that a new tax will help?

Gan fod y Prif Weinidog yn derbyn o’r diwedd bod dirwasgiad yn y diwydiant gweithgynhyrchu, a yw o’r farn y bydd treth newydd yn helpu’r sefyllfa?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 11

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 11

I have not finally accepted anything. I had to correct you last week, because you obviously do not understand the difference between a sector of the economy being in recession and the economy being in recession. Manufacturing is 28 per cent of the total economy, and it was in recession when I spoke last Tuesday and it is in recession today. The economy as a whole was not in recession last Tuesday, and it is not in recession today. As a member of the Economic Development Committee, I hope that you now understand that.

Nid wyf wedi derbyn unrhyw beth o’r diwedd. Yr oedd yn rhaid imi eich cywiro yr wythnos diwethaf, gan ei bod yn amlwg nad ydych yn deall y gwahaniaeth rhwng dirwasgiad mewn sector o’r economi a dirwasgiad yn yr economi. Mae’r diwydiant gweithgynhyrchu yn cynrychioli 28 y cant o’r economi gyfan, ac yr oedd dirwasgiad yn y sector hwnnw pan siaradais ddydd Mawrth diwethaf ac mae dirwasgiad yn y sector hwnnw heddiw. Nid oedd dirwasgiad yn yr economi gyfan ddydd Mawrth diwethaf, ac nid oes dirwasgiad yn yr economi gyfan heddiw. Fel aelod o’r Pwyllgor Datblygu Economaidd, gobeithiaf eich bod yn deall hynny erbyn hyn.

Peter Black spoken in English p. 12

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 12

Do you agree that the review of local government finance offers an opportunity for helping business through introducing local operating aids, and that we should consider all options to try to encourage businesses around Wales?

A gytunwch fod yr adolygiad o gyllid llywodraeth leol yn rhoi cyfle i helpu busnesau drwy gyflwyno cymhorthion gweithredu lleol, ac y dylem ystyried pob opsiwn i geisio annog busnesau ledled Cymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

Yes. Operating aids and the definition of operating aids that are permissible under the extremely tight control of the so-called competitive level playing field are maintained by the Directorate General IV of the European Commission, which is responsible for competition policy. It is not keen on variation in taxation, which appears to interfere with competition and the level playing field. However, we are still searching—jointly with Her Majesty’s Treasury—for a means of introducing operating aids, which will stimulate small and medium-sized enterprises, especially in those areas of Wales that particularly need it.

Cytunaf. Cynhelir cymhorthion gweithredu a’r diffiniad o gymhorthion gweithredu a ganiateir o dan reolaeth dynn iawn yr hyn a elwir yn sefyllfa gystadlu deg gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol IV y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n gyfrifol am bolisi cystadleuaeth. Nid yw’n hoff o amrywiadau o ran trethi, sydd fel petaent yn tarfu ar gystadleuaeth a chwarae teg. Fodd bynnag, yr ydym yn parhau i chwilio—ar y cyd â Thrysorlys Ei Mawrhydi—am fodd o gyflwyno cymhorthion gweithredu, a fydd yn ysgogi mentrau bach a chanolig eu maint, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd eu hangen yn benodol.

Brian Hancock spoken in English p. 12

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 12

At last week’s Economic Development Committee we learned from a report from Brussels that operating aids were dead in the water. Will you therefore support a complete review of business rates so that local revenue derived from business rates is based on profitability?

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd yr wythnos diwethaf, dysgasom drwy adroddiad o Frwsel fod cymhorthion gweithredu wedi dod i ddiwedd eu hoes. Felly, a gefnogwch adolygiad cyflawn o drethi busnes fel bod refeniw lleol sy’n deilio o’r trethi busnes yn seiliedig ar broffidioldeb?

Dafydd Wigley spoken in English p. 12

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 12

Hear, hear.

Clywch, clywch.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 12

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 12

I think that you will agree with me—in spite of hearing Dafydd Wigley’s support for you—that what was said at that meeting was that not all operating aids are excluded by Brussels. We must find out in which areas we can work, where there is a degree of acceptance in Brussels that they could be worth pursuing, whether in pilot form or in restricted areas such as Objective 1 Wales. The up-to-date position is that we have not given up on operating aids. I think that that is a fair description of last week’s discussion.

Credaf y byddwch yn cytuno â mi—er ichi glywed cefnogaeth Dafydd Wigley i’ch sylwadau—mai’r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod hwnnw oedd nad yw pob un o’r cymhorthion gweithredu yn cael eu heithrio gan Frwsel. Rhaid inni ddarganfod ym mha feysydd y gallwn weithio, lle mae Brwsel yn derbyn i ryw raddau y gallai fod yn werth mynd ar eu trywydd, boed ar ffurf prosiect peilot neu mewn ardaloedd cyfyngedig megis Cymru Amcan 1. Y sefyllfa ddiweddaraf yw nad ydym wedi cefnu ar gymhorthion gweithredu. Credaf fod hynny’n ddisgrifiad teg o’r drafodaeth a gafwyd yr wythnos diwethaf.

The issue is whether business rates and their revenue can be used to stimulate the economy. We would like to be able to see whether there is potential in the purchasing decisions of local and other public authorities in Wales. Also, whether it is possible for us to use the revenues of the Assembly, local government, health authorities and the national health service generally to stimulate more small to medium-sized businesses. The United States of America has a reserve of 5 per cent for small businesses. That has been excluded in Europe on competition grounds, but it would be interesting to try to get such a reserve to stimulate small and medium-sized businesses.

Y mater dan sylw yw a ellir defnyddio trethi busnes a’r refeniw ohonynt i atgyfnerthu’r economi. Hoffem allu gweld a oes potensial o ran penderfyniadau prynu awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Yn ogystal, hoffem weld a yw’n bosibl inni ddefnyddio refeniw’r Cynulliad, llywodraeth leol, awdurdodau iechyd a’r gwasanaeth iechyd gwladol i ysgogi mwy o fusnesau bach a chanolig eu maint. Mae gan Unol Daleithiau’r America gronfa wrth gefn o 5 y cant ar gyfer busnesau bach. Cafodd hynny ei wahardd yn Ewrop ar sail cystadleuaeth, ond byddai’n ddiddorol ceisio cael cronfa wrth gefn o’r fath i ysgogi busnesau bach a chanolig eu maint.

Deddfwriaeth Ewropeaidd sy’n Effeithio ar Gymru

European Legislation Affecting Wales

Q6 Janet Davies spoken in English p. 13

C6 Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

Will the First Minister make a statement on how his Government reports its views on European legislation affecting Wales to the UK Government? (OAQ12921)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ffordd y mae ei Lywodraeth yn cyflwyno’i barn ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n effeithio ar Gymru i Lywodraeth y DU? (OAQ12921)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

We receive notification of impending European legislation from a variety of sources, some are official and others are from the Wales European Centre, our listening post in Brussels. My officials in the policy division responsible consult with colleagues and Ministers, as appropriate, in the lead Whitehall departments on any possible impact for Wales to see if we can head it off at the pass.

Cawn rybudd o ddeddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig gan amrywiaeth o ffynonellau. Mae rhai ohonynt yn ffynonellau swyddogol ac eraill yn dod o Ganolfan Ewropeaidd Cymru, sef ein clust ym Mrwsel. Mae fy swyddogion yn yr is-adran polisi sy’n gyfrifol am hyn yn ymgynghori â chydweithwyr a Gweinidogion, fel y bo’n briodol, ym mhrif adrannau Whitehall ar unrhyw effaith bosibl i Gymru i weld a allwn atal problem rhag codi.

Janet Davies spoken in English p. 13

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 13

As regards European legislation on workers’ safety, will you lobby the UK Government to withdraw its proposals to remove safety screens for front-line benefit staff? I refer particularly to Bridgend, and its satellite offices in the region that I represent.

O ran deddfwriaeth Ewropeaidd ar ddiogelwch gweithwyr, a wnewch chi lobïo Llywodraeth y DU i dynnu yn ôl ei chynigion i gael gwared ar sgriniau diogelwch ar gyfer staff budd-daliadau rheng flaen? Cyfeiriaf yn benodol at Ben-y-bont ar Ogwr a’r is-swyddfeydd yn yr ardal yr wyf yn ei chynrychioli.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 13

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 13

I saw press comment on that, but did not realise that there was relevant European legislation, either pending or existing. Please write to me to clarify that matter, Janet. Benefits Agency staff must occasionally refuse benefits to vulnerable members of society, which sometimes leads to difficulty and, inevitably, threatening behaviour. It does not happen often, but it happens often enough for staff to need protection. If you write to me stating the relevant pending or existing European legislation, I will pursue the matter with the lead Minister who negotiates such matters in Europe.

Gwelais sylwadau yn y wasg ar hynny, ond nid oeddwn yn sylweddoli bod deddfwriaeth Ewropeaidd berthnasol, naill ai’n ddeddfwriaeth arfaethedig neu’n ddeddfwriaeth bresennol. A fyddech cystal ag ysgrifennu ataf i egluro’r mater hwnnw, Janet? Rhaid i staff yr Asiantaeth Budd-daliadau wrthod rhoi budd-daliadau i aelodau diamddiffyn o’r gymdeithas ar adegau, sydd weithiau yn achosi anawsterau ac, yn anochel, ymddygiad bygythiol. Nid yw’n digwydd yn aml, ond mae’n digwydd yn ddigon aml i olygu bod angen diogelwch ar y staff. Os ysgrifennwch ataf gan nodi’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd berthnasol arfaethedig neu bresennol, af ar drywydd y mater gyda’r Gweinidog arweiniol sy’n negodi materion o’r fath yn Ewrop.

John Griffiths spoken in English p. 14

John Griffiths siaradwyd yn Saesneg t. 14

In the wake of the Corus job losses, my constituents are eager for the UK to adopt the European directive on information and consultation with minimum delay. Following last week’s Committee on European Affairs meeting, when these issues were discussed, can you assure me that the Assembly will make its views known at the UK and EU level, as consideration of this directive proceeds?

Yn sgîl y swyddi a gollwyd yn Corus, mae fy etholwyr yn awyddus i’r DU fabwysiadu’r gyfarwyddeb Ewropeaidd ar wybodaeth ac ymgynghori gyda’r oedi lleiaf posibl. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Materion Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, pan drafodwyd y materion hyn, a allwch roi sicrwydd imi y bydd y Cynulliad yn nodi ei farn ar lefel y DU a’r UE, wrth i’r gyfarwyddeb hon gael ei hystyried?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 14

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 14

I give you that assurance. You will recall our discussion on that point in the Committee on European Affairs meeting, at which a fair degree of unity was achieved. I do not think that Alun Cairns was present at that point and it would be interesting to know the Conservative Party’s position on that. I would not like to claim cross-party unity at the Committee or in the Assembly when there was no Conservative representative present. Either you or I should ask Alun about his party’s views on the issue, before I make the Assembly’s views known.

Rhoddaf y sicrwydd hwnnw ichi. Fe gofiwch ein trafodaeth ar y pwynt hwnnw yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Ewropeaidd, lle y cafwyd rhywfaint o undod. Ni chredaf fod Alun Cairns yn bresennol bryd hynny a byddai’n ddiddorol gwybod safbwynt y Blaid Geidwadol ar hynny. Ni hoffwn honni bod undod trawsbleidiol yn y Pwyllgor neu’r Cynulliad pan nad oedd neb yn bresennol i gynrychioli’r Blaid Geidwadol. Dylech chi neu minnau ofyn i Alun am farn ei blaid ar y mater, cyn imi gyhoeddi barn y Cynulliad.

William Graham spoken in English p. 14

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 14

Can you assure us that you will make adequate and early representation on the UK Government’s representation to the European Union, so that matters affecting Wales will be publicised? We could then all comment on them—you in particular. I refer particularly to the sheep-meat premium, which has now been accepted at a doubled rate thanks to Conservative support. I also refer to vibration damage and limiting tractor driving. We have no idea how that will be enforced, and it may be put off yet again. Such issues affect the people of Wales. When can you be certain that you influence those events?

A allwch roi sicrwydd inni y byddwch yn gwneud sylwadau digonol a chynnar ar sylwadau Llywodraeth y DU i’r Undeb Ewropeaidd, fel y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r materion sy’n effeithio ar Gymru? Gallai pob un ohonom wneud sylw arnynt wedyn—yn enwedig chi. Cyfeiriaf yn benodol at y premiwm cig oen, a dderbyniwyd ar gyfradd ddwbl erbyn hyn oherwydd cefnogaeth y Ceidwadwyr. Cyfeiriaf hefyd at niwed yn sgîl dirgryniad a chyfyngu ar yrru tractorau. Nid oes syniad gennym sut y bwriedir gorfodi hynny, ac mae’n bosibl y caiff ei ohirio unwaith eto. Mae materion o’r fath yn effeithio ar bobl Cymru. Pryd y gallwch fod yn siŵr eich bod yn dylanwadu ar y digwyddiadau hynny?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I mentioned earlier that we receive information about potentially controversial areas from a variety of sources. We sometimes hear from Whitehall departments, as they know of existing interests, and sometimes from the Wales European Centre. We place our civil servants at the centre to gain direct access to impending European legislation not yet set in concrete. We also hear from user groups. When Europe consults with user groups it means that tractor drivers, farmer unions and so on, can inform us that certain factors may have a disastrous effect on them. Welsh coal producers such as Tower Colliery, and also Aberthaw power station, drew the implications of the EC’s directive on emissions for large-scale power stations to our attention. It is useful to receive this information from the coalface, either literally as in the case of Aberthaw, or metaphorically, as in some of the examples that you quoted. If you draw the EC directive on vibration damage and limiting tractor driving to my attention, I will be happy to deal with it.

Crybwyllais yn gynharach ein bod yn cael gwybodaeth am feysydd a allai fod yn ddadleuol o amrywiaeth o ffynonellau. Clywn weithiau gan adrannau Whitehall, gan eu bod yn gwybod am ddiddordebau presennol, ac weithiau gan Ganolfan Ewropeaidd Cymru. Â ein gweision sifil i’r ganolfan i gael mynediad uniongyrchol i ddeddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud yn ei chylch. Clywn hefyd gan grwpiau o ddefnyddwyr. Pan fydd Ewrop yn ymgynghori â grwpiau o ddefnyddwyr, golyga y gall gyrwyr tractorau, undebau ffermio ac ati roi gwybod inni y gall rhai ffactorau penodol gael effaith drychinebus arnynt. Tynnwyd goblygiadau cyfarwyddeb y GE ar ollyngiadau ar gyfer gorsafoedd pŵer ar raddfa fawr at ein sylw gan gynhyrchwyr glo Cymru megis Glofa’r Tŵr a hefyd gan orsaf bŵer Aberddawan. Mae’n ddefnyddiol cael yr wybodaeth hon o’r ffas, naill ai’n llythrennol, fel yn achos Aberddawan, neu’n drosiadol, fel mewn rhai o’r enghreifftiau a ddyfynnwyd gennych. Os tynnwch gyfarwyddeb y GE ar niwed yn sgîl dirgryniad a chyfyngu ar yrru tractorau at fy sylw, byddaf yn fodlon delio â hi.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 15

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 15

Tynnwyd cwestiwn 7 (OAQ12915) yn ôl.

Question 7 (OAQ12915) is withdrawn.

Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Ewrop Conference of

Peripheral Maritime Regions of Europe

Q8 Christine Chapman spoken in English p. 15

C8 Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 15

What discussions has the First Minister had with the Conference of Peripheral Maritime Regions of Europe, regarding our recent membership of this organisation? (OAQ12908)

Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog a Chynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Ewrop ynghylch ein haelodaeth ddiweddar o’r corff hwn? (OAQ12908)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 15

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 15

I was represented at official level at the annual conference of the Conference of Peripheral Maritime Regions of Europe in Oporto, Portugal, on 21 and 22 September. My representative gave a report to the Committee on European Affairs meeting on 17 October. I understand that the General Secretary of the CPMR, Xavier Gizard, will be visiting Cardiff in January. I hope that I will meet with him then and he also wishes to meet the other members of the Committee on European Affairs.

Fe’m cynrychiolwyd yn swyddogol yng nghynhadledd flynyddol Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Ewrop yn Oporto, Portiwgal, ar 21 a 22 Medi. Cyflwynodd fy nghynrychiolydd adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ar 17 Hydref. Deallaf y bydd Ysgrifennydd Cyffredinol y gynhadledd, Xavier Gizard, yn ymweld â Chaerdydd fis Ionawr. Gobeithiaf gwrdd ag ef bryd hynny ac mae yntau yn awyddus i gwrdd â’r aelodau eraill o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd.

Christine Chapman spoken in English p. 16

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 16

Do you agree that our membership of this organisation is an important opportunity to strengthen our voice in Europe? We will not only learn from the experiences of other peripheral regions and build links, but it is also an opportunity for Wales to exert an influence and increase its profile in Europe.

A gytunwch fod y ffaith ein bod yn aelod o’r sefydliad hwn yn gyfle pwysig i atgyfnerthu ein llais yn Ewrop? Byddwn nid yn unig yn dysgu o brofiadau’r ardaloedd ymylol eraill ac yn adeiladu cysylltiadau â hwy, ond mae hefyd yn gyfle i Gymru ddylanwadu ar Ewrop a chodi ei phroffil yn Ewrop.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 16

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 16

The relevance of the CPMR to us will increase as the European Union enlarges to the east. It makes the peripheral regions of the west even more peripheral than they are now. The European Union’s centre of gravity will move eastwards when Poland, Hungary and the other countries of the former Warsaw pact join it in three or four years’ time. It means that the need of the western fringe—Ireland, Wales, Scotland and parts of Spain, Portugal and France and so on—for a collective voice will become ever more important. We have made a modest investment by joining the CPMR. However, it will pay off in the coming years as the union’s centre of gravity moves east.

Bydd pa mor berthnasol yw’r gynhadledd inni yn cynyddu wrth i’r Undeb Ewropeaidd ehangu tua’r dwyrain. Mae’n golygu y bydd ardaloedd ymylol y gorllewin hyd yn oed yn fwy ymylol nag y maent ar hyn o bryd. Bydd canolbwynt yr Undeb Ewropeaidd yn symud tua’r dwyrain pan fydd Gwlad Pwyl, Hwngari a gwledydd eraill cyn gytundeb Warsaw yn ymuno â hi ymhen tair neu bedair blynedd. Golyga y bydd angen yr ymylon gorllewinol—Iwerddon, Cymru, yr Alban a rhannau o Sbaen, Portiwgal a Ffrainc ac ati—er mwyn sicrhau un llais yn bwysicach byth. Gwnaethom gryn fuddsoddiad wrth ymuno â’r gynhadledd. Fodd bynnag, bydd yn talu ar ei ganfed yn y blynyddoedd i ddod pan fydd canolbwynt yr undeb yn symud tua’r dwyrain.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 16

O gofio pwysigrwydd Cymru yn lobïo Ewrop, pa gamau sydd wedi’u cymryd i sicrhau bod llais Cymru i’w glywed drwy gyrff lobïo eraill, megis Cynulliad Rhanbarthau Ewrop? Mae hyn yn bwysig i Gymru a Chaerdydd yng nghyd-destun y Papur Gwyn ar lywodraethu Ewrop a’r symudiadau tuag at ganolfannau ariannu rhanbarthol Ewropeaidd.

In view of the importance of Wales lobbying in Europe, what steps have been taken to ensure that Wales’s voice is heard through other lobbying organisations, such as the Assembly of European Regions? This is important to Wales and Cardiff in the context of the White Paper on the governance of Europe and the moves towards European regional financial centres.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 16

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 16

Y mae’r Cynulliad yn aelod o rai o’r cyrff hynny yn rhinwedd y cyfansoddiad. Mae ein haelodaeth o Bwyllgor y Rhanbarthau yr Undeb Ewropeaidd yn awtomatig. Yr ydym yn cymryd rhan. Ailystyrir aelodaeth y Cynulliad o’r pwyllgor ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—oherwydd ei rhan yn y pwyllgor—tua diwedd y flwyddyn pan ddaw ei haelodaeth i ben.

The Assembly is a member of some of those organisations by dint of the constitution. Our membership of the European Union’s Committee of the Regions is automatic. We are participating. The Assembly’s membership of the committee will be jointly considered with the Welsh Local Government Association—because of its role on the committee—at the end of the year when its membership expires.

O ran y cyrff eraill, y mae aelodaeth ohonynt yn wirfoddol, er enghraifft Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Ewrop. Mae gennym ddewis ynghylch faint ohonynt yr ydym am berthyn iddynt, faint o amser yr ydym am glustnodi ar eu cyfer a faint o werth am arian a gawn o’n tanysgrifiad.

As regards our membership of other organisations, membership is voluntary, for example the Conference on Peripheral Maritime Regions of Europe. We have a choice as to how many of them we wish to subscribe, how much time we wish to devote to them and whether our subscription represents value for money.

Ymweliadau â’r Gogledd

Visits to North Wales

Q9 Alun Pugh spoken in English p. 17

C9 Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 17

Will the First Minister give an update on any visits he has undertaken to north Wales during the recess period in his role as policy co-ordinator for north Wales? (OAQ12938)

A wnaiff y Prif Weinidog roi hanes unrhyw ymweliadau â’r Gogledd yn ystod y toriad yn rhinwedd ei rôl fel cydlynydd polisi ar gyfer y Gogledd? (OAQ12938)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

I visited north Wales on two occasions during the recess and carried out 12 official engagements. I met the Institute of Directors; I opened an extension to Denbigh Community College; a new facility at Coleg Menai, Bangor and a new service by the mediation services in Rhyl. During my visit to the Eisteddfod in Denbigh, I was proud to launch MENCAP’s information and support service, which will benefit from an Assembly grant of £180,000 over the next three years.

Ymwelais â’r Gogledd ddwywaith yn ystod y toriad a chadw 12 ymrwymiad swyddogol. Cyfarfûm â Sefydliad y Cyfarwyddwyr; agorais estyniad yng Ngholeg Cymuned Dinbych; cyfleuster newydd yng Ngholeg Menai, Bangor a gwasanaeth newydd gan y gwasanaethau cyfryngu yn y Rhyl. Yn ystod fy ymweliad â’r Eisteddfod yn Ninbych, yr oedd yn bleser gennyf lansio gwasanaeth gwybodaeth a chymorth MENCAP, a fydd yn cael grant o £180,000 gan y Cynulliad dros y tair blynedd nesaf.

Alun Pugh spoken in English p. 17

Alun Pugh siaradwyd yn Saesneg t. 17

You know that some of my constituents’ homes in Ruthin were flooded again last weekend. Will you contact Denbighshire County Council to see whether further assistance in legal support or project management would be helpful in speeding up the building of Assembly-funded flood defences? The sooner the bulldozers move, the better.

Gwyddoch i gartrefi rhai o’m hetholwyr yn Rhuthun ddioddef llifogydd eto y penwythnos diwethaf. A wnewch chi gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych i weld a fyddai cymorth pellach ar ffurf cymorth cyfreithiol neu gymorth i reoli prosiectau yn helpu i sicrhau y caiff yr amddiffynfeydd rhag y llifogydd a ariennir gan y Cynulliad eu hadeiladu’n gyflymach? Gorau po gyntaf y bydd y teirw dur yn dechrau ar y gwaith.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 17

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 17

It was shattering for the residents of Ruthin, particularly those of Mwrog Street, to find their premises flooded for the third time this year. The work carried out so far was not proof against the volume of rainfall that hit the Ruthin area. The tributaries of the river burst through the culvert yet again. We must go back to the drawing board. I will consult with Sue Essex and you, as the local Member, to see what we can do to ensure that, next time, the work is proof against the rainstorms that north Wales is experiencing.

Yr oedd yn ysgytwad i drigolion Rhuthun, yn enwedig trigolion Stryd Mwrog, ddioddef llifogydd am y trydydd tro eleni. Nid oedd y gwaith a wnaethpwyd hyd yma yn ddigon i wrthsefyll y glaw a gafwyd yn ardal Rhuthun. Torrodd yr isafonydd drwy’r geuffos unwaith eto. Rhaid inni ddechrau o’r newydd. Byddaf yn ymgynghori â Sue Essex a chithau, fel yr Aelod lleol, i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod y gwaith yn gwrthsefyll y stormydd glaw a geir yn y Gogledd pan ddigwyddant y tro nesaf.

Dafydd Wigley siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Dafydd Wigley spoken in Welsh p. 18

Gan fod y Prif Weinidog yn gweithredu nid yn unig fel Prif Weinidog, ond fel Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a chydlynydd polisi dros ogledd Cymru, a yw’n ymwybodol bod cynghorau unedol gogledd Cymru yn teimlo nad oes ganddo’r amser i ymweld â hwy? A wnaiff gadarnhau ei fod yn fodlon derbyn gwahoddiadau? Sylwais na restrodd yr un cyngor yn yr ateb a roddodd eiliad yn ôl. A wnaiff ymweld â chynghorau gogledd Cymru fel rhan o’i waith cydlynu?

As the First Minister is acting not only as First Minister, but as Minister for Economic Development and policy co-ordinator for north Wales, is he aware that north Wales’s unitary councils feel that he does not have time to visit them? Will he confirm that he is willing to accept invitations? I noticed that he did not list any councils in the answer that he gave a moment ago. Will he visit the councils in north Wales as part of his work as co-ordinator?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 18

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 18

Nid yw hynny’n broblem. Yr wyf yn derbyn y gwahoddiadau a roddir imi. Os nad yw’r cynghorau, oherwydd eu toriad haf, yn fy ngwahodd, nid wyf yn gorfodi fy mhresenoldeb arnynt. Nid wyf yn meddwl fy mod wedi gwrthod gwahoddiad i gyfarfod gydag unrhyw un o gynghorau gogledd Cymru yn ystod yr haf.

That is not a problem. I accept invitations that are issued to me. If councils, because of their summer break, do not invite me, I do not force my presence upon them. I do not think that I have refused an invitation to a meeting with any of north Wales’s councils during the summer.

Tom Middlehurst spoken in English p. 18

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 18

Rhodri, I welcome your frequent visits to north Wales, in whatever capacity. I particularly welcome your decision to visit Flintshire County Council on Friday to discuss the consequences of the announcement by Corning with trade unions, the local authority and the company’s management. Do you agree that we must do everything possible, this week and beyond, to secure a production facility to underpin the future of that unit?

Rhodri, croesawaf eich ymweliadau rheolaidd â’r Gogledd, yn rhinwedd pa swyddogaeth bynnag. Croesawaf yn benodol eich penderfyniad i ymweld â Chyngor Sir y Fflint ddydd Gwener i drafod canlyniadau cyhoeddiad Corning gyda’r undebau llafur, yr awdurdod lleol a rheolwyr y cwmni. A gytunwch fod yn rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu, yr wythnos hon, ac wedi hynny, i sicrhau cyfleuster cynhyrchu a fydd yn sylfaen i ddyfodol yr uned honno?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 18

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 18

I am grateful for your comments, because this is a serious matter. Apart from the closures at Corus, the closures at Corning is probably the biggest factory closure of the past year in Wales. Potentially, at least 525 jobs will be lost, after an initial indication that 175 redundancies—I think that that was the figure announced about a month ago—would be sufficient to enable the plant to survive the current downturn in the telecom manufacturing industry. Unfortunately, the company then changed its mind. However, at the meeting on Friday, we shall see whether we can do anything to persuade the company to change its mind again. I do not hold out great hope, but we must try everything in our powers and use all possible Assembly facilities to try to salvage what, until now, has been a mainstay of Deeside industrial park’s economy.

Yr wyf yn ddiolchgar am eich sylwadau, gan fod hyn yn fater difrifol. Ar wahân i gau gweithfeydd Corus, mae’n debyg mai Corning fydd y ffatri fwyaf i’w chau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n bosibl y caiff o leiaf 525 o swyddi eu colli, ar ôl cyhoeddiad cychwynnol y byddai 175 o ddiswyddiadau—credaf mai dyna oedd y ffigur a gyhoeddwyd tua mis yn ôl—yn ddigon i alluogi’r gwaith i oroesi’r dirywiad presennol yn y diwydiant gweithgynhyrchu telathrebu. Yn anffodus, newidiodd y cwmni ei feddwl ar ôl hynny. Fodd bynnag, yn y cyfarfod ddydd Gwener, fe welwn pa un ai a allwn wneud rhywbeth i ddarbwyllo’r cwmni i newid ei feddwl eto. Nid wyf yn obeithiol iawn, ond rhaid inni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu a defnyddio pob cyfleuster posibl sydd gan y Cynulliad i geisio achub yr hyn a fu’n un o brif ddiwydiannau economi parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy hyd yma.

Proffil Rhyngwladol Cymru

International Profile of Wales

C10 Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Q10 Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 19

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei lwyddiant i godi proffil rhyngwladol Cymru yn y misoedd diwethaf? (OAQ12945)

Will the First Minister make a statement on his achievements in raising the international profile of Wales in recent months? (OAQ12945)

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 19

Yn dilyn fy ymweliad â De America ym Mehefin, arweiniais deithiau masnach llwyddiannus i Galiffornia a De Affrica yn ystod toriad yr haf. Mae’r teithiau masnach hynny wedi ennill archebion gwerth tua £8 million, er ei bod yn rhy gynnar i ddweud beth fydd y ffigurau terfynol. Yn ystod fy ymweliad â’r Unol Daleithiau, cafwyd llwyddiant mawr gydag wythnos Cymru yng Nghaliffornia, i hyrwyddo diwydiannau a diwylliant Cymru.

Following my visit to South America in June, I led successful trade missions to California and South Africa during the summer recess. Those trade missions have secured orders worth about £8 million, although it is too early to say what the final figures will be. During my visit to the United States, Wales week in California was very successful in promoting Welsh industry and culture.

Yr ydym wedi llwyddo i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnwys Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999, rali Network Q, sydd yn dechrau eto y mis nesaf, a rownd derfynol Cwpan yr FA yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Yn ystod yr haf, penderfynwyd cynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghymru yn 2010. Yr wyf yn siŵr bod pawb yn croesawu’r cyfleoedd gwych y bydd hyn yn eu rhoi inni. Bydd hyn oll yn helpu wrth hyrwyddo Cymru ledled y byd fel lle heb ei ail i ymweld ag ef ac i gynnal busnes ynddo.

We have recently succeeded in attracting major sporting events to Wales. These include the Rugby World Cup in 1999, the Network Q rally, which begins again next month, and the FA Cup final in the Millennium Stadium in Cardiff. During the summer, it was decided that the Ryder Cup competition will be held in Wales in 2010. I am sure that everyone welcomes the excellent opportunities that this will give us. This will all help to promote Wales across the world as an unrivalled centre for tourism and business.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 19

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 19

Croesawn yr holl ddigwyddiadau hynny. Fodd bynnag, a ydych yn croesawu’r datganiad heddiw ar Bowys, sydd yn golygu bod Cymru yn rhydd o glwy’r traed a’r genau, ac yn llawenhau ac yn ymfalchïo yn y ffaith honno? A wnewch chi hefyd gydnabod bod diwydiant twristiaeth Cymru wedi dioddef yn enbyd yn sgîl clwy’r traed a’r genau a bod angen codi proffil Cymru yn uchel os ydym am adennill y farchnad honno? Gŵyr Rhodri fod nifer o fusnesau bron â mynd i’r wal. A wnaiff sicrhau y rhoddir digon o arian a sylw i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru fel y gall ffynnu?

We welcome all those events. However, do you welcome today’s statement on Powys, which means that Wales is free from foot and mouth disease, and are you pleased and proud of that fact? Will you also recognise that Wales’s tourism industry has suffered dreadfully as a result of foot and mouth disease and that Wales’s profile must be raised greatly if we are to regain that market? Rhodri knows that many businesses are on the verge of collapse. Will he ensure that sufficient funding and attention is given to the tourism industry in Wales so that it can prosper?

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 20

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 20

Cytunaf â sylwadau Ieuan. Fe wnaf fy ngorau i sicrhau adfywiad y diwydiant twristiaeth. Byddwn yn ystyried y ffactorau sydd wedi niweidio’r diwydiant—sef clwy’r traed a’r genau ac effeithiau gweithredoedd terfysgol 11 Medi—a cheisio adfywio’r diwydiant ar gyfer y gaeaf a’r flwyddyn nesaf.

I agree with Ieuan’s comments. I will do my best to ensure the regeneration of the tourism industry. We will consider the factors that have harmed the industry—namely foot and mouth disease and the effects of the terrorist attacks on 11 September—and we will try to regenerate the industry for the winter and next year.

Brian Gibbons spoken in English p. 20

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 20

In pursuing the international dimension of Wales, have you considered the United States of America’s proposals on its steel industry, particularly those on imports into the US, and the implications of that for the steel industry in Wales?

Wrth fynd ar drywydd dimensiwn rhyngwladol Cymru, a ydych wedi ystyried cynigion Unol Daleithiau America o ran eu diwydiant dur, yn enwedig y cynigion o ran mewnforion i UDA, a goblygiadau hynny i ddiwydiant dur Cymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

I read with extreme concern the American administration’s response to the crisis in its steel industry, which is as bad or even worse than that in the British steel industry. The Bethlehem Steel Corporation, the second largest steel producer in the US, has filed chapter 11 in order to protect itself from its creditors. That has placed great pressure on the administration to introduce temporary anti-import and anti-dumping duties. Unfortunately, if cheap products are not dumped in the USA, they are likely to be dumped on our shores. We must ensure that the proper World Trade Organisation rules are applied, so that a level playing field exists between the USA, the UK, the rest of the European Union and other countries.

Darllenaf gyda phryder mawr ymateb gweinyddiaeth America i’r argyfwng yn y diwydiant dur, sydd cynddrwg neu hyd yn oed yn waeth na’r argyfwng yn niwydiant dur Prydain. Mae’r Bethlehem Steel Corporation, sef y cwmni cynhyrchu dur mwyaf ond un yn UDA, wedi gweithredu pennod 11 er mwyn diogelu ei hun rhag ei gredydwyr. Mae hynny wedi rhoi cryn bwysau ar y weinyddiaeth i gyflwyno tollau gwrthfewnforio a gwrthddympio dros dro. Yn anffodus, os na chaiff cynnyrch rhad eu dympio yn UDA, maent yn debygol o gael eu dympio ar ein glannau ni. Rhaid inni sicrhau y caiff rheolau priodol Corff Masnachu’r Byd eu cymhwyso, er mwyn cael chwarae teg rhwng UDA, y DU, gweddill yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill.

Datblygiadau Diweddar yn y Fenter Partneriaeth â Busnes

Recent Developments within the Partnership with Business Initiative

Q11 William Graham spoken in English p. 20

C11 William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 20

Will the First Minister make a statement concerning recent developments within the Partnership with Business initiative? (OAQ12911)

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch datblygiadau diweddar yn y fenter Partneriaeth â Busnes? (OAQ12911)

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 20

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 20

Business Wales and the Wales Trades Union Congress have established the Wales Social Partners Unit as a company limited by guarantee. Action to recruit personnel is underway, and it is hoped that the unit will be fully operational by the end of the year. The private sector unit of the Welsh European Funding Office has been working with the social partners to establish a team of private sector facilitators to help businesses, especially small and medium-sized firms, to access European structural fund programmes. Bids for technical assistance are being prepared. The next meeting of the Business Partnership Council will be on 23 November.

Mae Busnes Cymru a Chyngres Undebau Llafur Cymru wedi sefydlu Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru fel cwmni cyfyngedig drwy warant. Mae’r broses o recriwtio staff wedi dechrau, a’r gobaith yw y bydd yr uned yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn. Bu uned sector preifat Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cydweithio â’r partneriaid cymdeithasol i sefydlu tîm o hwyluswyr y sector preifat i helpu busnesau, yn enwedig cwmnïau bach a chanolig eu maint, i wneud cais am raglenni cronfeydd strwythurol Ewrop. Caiff ceisiadau am gymorth technegol eu paratoi. Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Busnes ar 23 Tachwedd.

William Graham spoken in English p. 21

William Graham siaradwyd yn Saesneg t. 21

Will the First Minister outline the partnership procedures being implemented to allow Welsh businesses to respond to international business and economic pressures arising from the terrorist attacks in America?

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r gweithdrefnau partneriaeth a weithredir i alluogi busnesau Cymru i ymateb i’r pwysau busnes ac economaidd rhyngwladol yn sgîl yr ymosodiadau terfysgol yn America?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 21

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 21

Some sectors of industry will be much worse affected and affected much earlier than others. There has been an early reaction world-wide by the aerospace industry, and the aerospace repair industry. It has had to trim back now to ensure that it will still be in existence when the upturn comes. We have seen that in the job losses announced at GE Aircraft Engine Services Limited in Nantgarw. The likely level of orders for civil aircraft and spare parts is being re-evaluated. Although that will have some effect, it is too early to make detailed predictions. Airbus has announced that it is freezing recruitment. Wales will therefore miss out on job growth. I do not think that any redundancies have been announced yet and Airbus has guaranteed that its apprentices can complete their apprenticeships. We are pleased about that. However, we will not get the job growth for which we had hoped from Airbus.

Caiff rhai sectorau o ddiwydiant eu heffeithio’n llawer gwaeth ac yn llawer cynharach na sectorau eraill. Mae’r diwydiant awyrofod a’r diwydiant atgyweirio awyrennau wedi ymateb yn gynnar ym mhob cwr o’r byd. Bu’n rhaid iddo dorri i lawr yn awr i sicrhau y bydd yn dal i fodoli pan fydd y sefyllfa yn gwella. Gwelsom hynny yng nghyhoeddiad GE Aircraft Engine Services Limited yn Nantgarw ynglŷn â’r diswyddiadau. Caiff y lefel debygol o archebion ar gyfer awyrennau sifil a rhannau awyrennau ei hailwerthuso. Er y caiff hynny rhyw fath o effaith, mae’n rhy gynnar rhagfynegi’r sefyllfa yn fanwl. Mae Airbus wedi cyhoeddi na fydd yn recriwtio rhagor o staff ar hyn o bryd. Felly, ni fydd cynnydd yn nifer y swyddi yng Nghymru. Ni chredaf i unrhyw ddiswyddiadau gael eu cyhoeddi eto ac mae Airbus wedi rhoi sicrwydd inni y gall ei brentisiaid gwblhau eu prentisiaethau. Fodd bynnag, ni fydd y cynnydd yn nifer y swyddi yn Airbus yn unol â’r disgwyl.

The effect on the aerospace industry has not bottomed out yet. In Wales, the greatest impact of the attacks has been on the aerospace industry. There has not been a great effect on tourism here, compared to that on the London hotel trade. Similarly, British Airways, which has faced a crisis as regards cabin crew, does not have much of a base in Wales outside of its repair site. I am pleased that no redundancies have been announced at that site to date.

Nid ydym wedi gweld yr effeithiau llawn ar y diwydiant awyrofod eto. Yng Nghymru, ar y diwydiant awyrofod y cafodd yr ymosodiadau yr effaith fwyaf. Ni chafwyd llawer o effaith ar dwristiaeth yma, o gymharu â’r effaith ar westai Llundain. Yn yr un modd, nid oes gan British Airways, sydd wedi wynebu argyfwng o ran criw caban, ganolfan yng Nghymru ar wahân i’w safle atgyweirio. Yr wyf yn falch na chyhoeddwyd diswyddiadau yn y safle hwnnw hyd yma.

Brian Hancock spoken in English p. 21

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 21

Will the First Minister comment on business partnerships in relation to sustainable development and opportunities for environmental businesses, which are concerned about waste disposal in Wales?

A wnaiff y Prif Weinidog sylwadau ar bartneriaethau busnes mewn perthynas â datblygu cynaliadwy a chyfleoedd ar gyfer busnesau amgylcheddol, sy’n ymwneud â gwaredu gwastraff yng Nghymru?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 22

The private sector must initiate this. As European industry either chooses or is obliged by tighter regulations to clean up, there is a great opportunity for those with the best and brightest ideas as regards waste management, waste reduction and the disposal of the residue of reduced waste. It is a matter of better technology, and from where the ideas and funding will come. It involves the public sector and is on the margin between the private and public sectors. If you are aware of opportunities that you think that businesses in the private sector could access in your constituency, Brian, but are being held back from doing so, I would like to hear about them and we will see if we can remove the barriers.

Rhaid i’r sector preifat gychwyn hyn. Gan fod diwydiannau Ewropeaidd yn dewis gwella’r ffordd y mae’n ymdrin â gwastraff neu’n cael ei orfodi i wneud hynny gan reoliadau llymach, ceir cyfle gwych i’r rheini sydd â’r syniadau gorau o ran rheoli gwastraff, lleihau gwastraff a gwaredu gweddillion gwastraff sydd wedi’i leihau. Mae a wnelo â thechnoleg well, ac o ble y daw’r syniadau a’r arian. Mae’n cynnwys y sector cyhoeddus ac mae ar y ffin rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Os ydych yn ymwybodol o gyfleoedd y credwch y gallai busnesau yn y sector preifat gael mynediad iddynt yn eich etholaeth, Brian, ond y cânt eu hatal rhag gwneud hynny, hoffwn glywed amdanynt ac fe welwn a allwn gael gwared â’r rhwystrau.

Pwyntiau o Drefn

Points of Order

Dafydd Wigley spoken in English p. 22

Dafydd Wigley siaradwyd yn Saesneg t. 22

Point of order. I raise this under Standing Order No. 6.30 in regard to a reply by Rhodri Morgan to an earlier question that gave a misleading impression of what was said in the Economic Development Committee meeting last week, when I referred to the comments of Wouter Pieke of the Directorate-General IV on competition, who made clear that the idea of operating aids for part of a member state, as opposed to the whole territory of a member state, was dead in the water. It would be totally unacceptable to DGIV if there were any variation in taxation in part of a member state. It had taken the Basque Country to court over the matter and it would not countenance it in Wales. Given those circumstances, may we have full and straight answers on this issue to ensure that we look for devices that can move our economy forward and do not put our energy into matters on which we are, clearly, wasting our time?

Pwynt o drefn. Codaf hyn o dan Reol Sefydlog Rhif 6.30 ynghylch ateb a roddwyd gan Rhodri Morgan i gwestiwn cynharach a roddodd argraff gamarweiniol o’r hyn a ddywedwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd yr wythnos diwethaf, pan gyfeiriais at sylwadau Wouter Pieke o Gyfarwyddiaeth Gyffredinol IV ar gystadleuaeth, a’i gwnaeth yn glir bod y syniad o gymhorthion gweithredu ar gyfer rhan o aelod-wladwriaeth, yn hytrach na thiriogaeth gyfan aelod-wladwriaeth, mor farw â’r hoel. Byddai’n hollol annerbyniol i DGIV pe câi trethiant ei amrywio o gwbl mewn rhan o aelod-wladwriaeth. Yr oedd wedi mynd â Gwlad y Basg i’r llys dros y mater ac ni fyddai’n caniatáu hynny yng Nghymru. O gofio’r amgylchiadau hynny, a gawn atebion llawn a gonest ar y mater hwn i sicrhau ein bod yn edrych am ddyfeisiau a all ddatblygu ein heconomi ac na wnânt inni roi o’n hegni i faterion sydd, yn amlwg, yn gwastraffu ein hamser?

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 22

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 22

Further to that point of order, although I am not sure it was a point of order—

Ymhellach at y pwynt hwnnw o drefn, er nad wyf yn siŵr mai pwynt o drefn ydoedd—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

No, it was not.

Na, nid dyna ydoedd.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 23

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 23

It was really a replay of a question answered previously. To repeat what I said in the Economic Development Committee meeting, we do not accept the version quoted by Dafydd. It does not eliminate all operating aids. There is not much point in going over this; we can do it three or four times, I do not mind. However, that is an accurate reflection of our exchanges on this matter in the Economic Development Committee. I think that Dafydd will accept that.

Ailofyn cwestiwn a atebwyd yn flaenorol a wnaethpwyd. I ailadrodd yr hyn a ddywedais yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd, ni dderbyniwn y fersiwn a ddyfynnwyd gan Dafydd. Nid yw’n dileu pob cymorth gweithredu. Nid oes llawer o bwynt trafod hyn eto; gallwn wneud hynny dair neu bedair gwaith, nid oes ots gennyf. Fodd bynnag, mae hynny’n adlewyrchiad cywir o’r hyn a drafodwyd ynglŷn â’r mater hwn yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd. Credaf y bydd Dafydd yn derbyn hynny.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 23

Both former parliamentarians who have spoken will know that I take a dim view, as do my equivalents in other Parliaments, of those who seek to extend questions to Ministers by other means. The matter is now on record, in any case. On this point of order, Alun Cairns, a future parliamentarian. [Laughter.]

Bydd y ddau gyn-aelod seneddol sydd wedi siarad yn gwybod nad oes gennyf lawer o amynedd, yn fwy na Llywyddwyr mewn Seneddau eraill, gyda’r rheini sy’n ceisio ymestyn cwestiynau i Weinidogion drwy ffyrdd eraill. Mae’r mater wedi’i gofnodi erbyn hyn, beth bynnag. Ar y pwynt hwn o drefn, Alun Cairns, un o aelodau seneddol y dyfodol. [Chwerthin.]

Alun Cairns spoken in English p. 23

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 23

This matter could well involve a major change in the administration’s policy and I would welcome a statement to the Assembly on it.

Gallai’r mater hwn olygu newid mawr ym mholisi’r weinyddiaeth a byddwn yn croesawu datganiad i’r Cynulliad arno.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh and English p. 23

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 23

That is not an appropriate matter to raise as a point of order. The First Minister has participated in these exchanges and if he wishes to take the matter further, he will do so in the time available to him.

yn Saesneg Nid yw hwnnw’n fater priodol i’w godi fel pwynt o drefn. Mae’r Prif Weinidog wedi cymryd rhan yn y trafodaethau hyn ac os dymuna fynd â’r mater ymhellach, gwnaiff hynny o fewn yr amser sydd ar gael iddo.

Rhodri Glyn, mae gennych bwynt o drefn. A yw’n well na’r un blaenorol?

in Welsh Rhodri Glyn, you have a point of order. Is it better than the previous one?

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 23

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 23

Gobeithio, Lywydd. Mae’n ymwneud ag ateb cwestiynau. Gofynnais gwestiwn i Brif Weinidog Cymru ar Gynulliad Rhanbarthau Ewrop a derbyniais ateb ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Maent yn gyrff hollol wahanol. Nid wyf yn siŵr ai ymgais ddeheuig gan y Prif Weinidog i osgoi y cwestiwn ydoedd, neu na ŵyr y gwahaniaeth. Os wyf yn gofyn cwestiwn ar Gynulliad Rhanbarthau Ewrop, byddwn yn gwerthfawrogi ateb ar hynny, nid ar Bwyllgor y Rhanbarthau.

I hope so, Presiding Officer. It involves answering questions. I asked a question to the First Minister on the Assembly of European Regions and I received a reply on the Committee of the Regions. Those are totally different bodies. I am not sure whether it was a skilful attempt by the First Minister to avoid the question, or whether he does not know the difference. If I ask a question on the Assembly of European Regions, I would appreciate an answer on that, not on the Committee of the Regions.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 24

Y mae hynny’n ymylu ar fod yn bwynt o drefn.

That verges on being a point of order.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 24

Ymddiheuraf os bu imi gamglywed y cwestiwn. Fodd bynnag, atebais y cwestiwn yn yr ystyr fy mod wedi trafod y gwahaniaeth rhwng cyrff gwirfoddol a rhai statudol.

I apologise if I misheard the question. However, I answered the question in that I discussed the difference between voluntary and statutory bodies.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 24

Yr wyf yn sicr y bydd y Prif Weinidog yn ystyried yr ymatebion hyn. Bydd cyfle i anfon e-bost neu lythyru ar y pwynt ymhellach os oes angen.

I am sure that the First Minister will consider these responses. There will be an opportunity to e-mail or correspond further on the point if necessary.

Alun Cairns siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Alun Cairns spoken in Welsh p. 24

Pwynt o drefn. Awgrymodd y Prif Weinidog y dylwn fod wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Gofynnodd am drywydd polisi’r Blaid Geidwadol. Nid wyf yn aelod o’r Pwyllgor hwnnw ac felly nid oedd angen imi fod yno.

Point of order. The First Minister suggested that I should have been present at the Committee on European Affairs meeting last week. He asked about the Conservative Party’s policy direction. I am not a member of that Committee and therefore did not need to attend.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 24

Mae hynny hefyd yn bwynt o drefn, gan ei fod yn ymwneud ag aelodaeth Pwyllgorau.

That is also a point of order, since it refers to the membership of Committees.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 24

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 24

Ymhellach i’r pwynt o drefn hwnnw, efallai bod Alun wedi camglywed yn yr achos hwn, neu efallai imi gamddweud. Cyfeiriais at gyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd, pan adawodd Alun yn gynnar, os cofiaf yn iawn, ac felly nid oedd cynrychiolaeth o’r Blaid Doriaidd yno—efallai mai’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ydoedd. Fodd bynnag, nid oedd aelod o’r Blaid Doriaidd yn bresennol. Dyna oedd y pwynt.

Further to that point of order, perhaps Alun misheard in this case, or perhaps I failed to make myself understood. I referred to the Economic Development Committee meeting, which Alun left early, if I remember correctly, and therefore there was no Tory Party representation there—perhaps it was the Committee on European Affairs. However, there was no member of the Tory Party present. That was the point.

Glyn Davies spoken in English p. 24

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 24

Point of order. This is about the accuracy of the First Minister’s answers. Earlier today, the First Minister implied that the impact of the crisis in America on tourism was limited. Yet, in a reply yesterday to my written question, he stated that it was estimated to be £70 million, which is colossal. I would have thought that information given one day in answer to a written question should be the same as that given to the Chamber the next day.

Pwynt o drefn. Mae hwn yn ymwneud â chywirdeb atebion y Prif Weinidog. Yn gynharach heddiw, awgrymodd y Prif Weinidog fod effaith argyfwng America ar dwristiaeth yn gyfyngedig. Eto i gyd, wrth ateb fy nghwestiwn ysgrifenedig ddoe, nododd fod amcangyfrif yr effaith ar dwristiaeth yn £70 miliwn, sy’n aruthrol. Byddwn wedi meddwl y dylai gwybodaeth a roddir un diwrnod mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig fod yr un fath â’r wybodaeth a roddir i’r Siambr drannoeth.

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 24

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 24

I said nothing of the kind, Glyn. I said that the impact was greater on hotels in London.

Ni ddywedais ddim o’r fath, Glyn. Dywedais fod yr effaith yn fwy ar westai yn Llundain.

Datganiad Busnes

Business Statement

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 25

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 25

Before I turn to the business statement for the next three weeks, I wish to inform Members of changes to this week’s business. As I said last week, I was committed to bring forward, as soon as possible, the debate on the waste Wales strategy, which was deferred from last Tuesday. I have been able to bring it forward earlier than expected and, as Members know, have arranged for it to take place this afternoon. As requested in Business Committee this morning, my colleague, Jane Hutt, has agreed to postpone her statement regarding consultation on the learning disabilities’ advisory group report to allow as much time as possible for this debate.

Cyn imi droi at y datganiad busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf, hoffwn hysbysu’r Aelodau am newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yr oeddwn yn ymrwymedig i gyflwyno, cyn gynted ag y bo modd, y ddadl ar strategaeth wastraff Cymru, a ohiriwyd o ddydd Mawrth diwethaf. Bu’n bosibl imi ei chyflwyno’n gynharach na’r disgwyl ac, fel y gŵyr yr Aelodau, yr wyf wedi trefnu ei chynnal y prynhawn yma. Fel y gofynnwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore yma, mae fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, wedi cytuno i ohirio ei datganiad ynglŷn ag ymgynghori ar adroddiad y grŵp ymgynghorol ar anableddau dysgu er mwyn caniatáu cymaint o amser â phosibl i’r ddadl hon.

On Thursday, I will bring forward all items of business agreed last week, plus a motion to approve the joint Order on the Milk Marketing Board (Residuary Functions) (Amendment) Regulations 2001, details of which have already been tabled.

Ddydd Iau, cyflwynaf bob eitem o fusnes y cytunwyd arnynt yr wythnos diwethaf, ynghyd â chynnig i gymeradwyo’r cyd Orchymyn ar Reoliadau’r Bwrdd Marchnata Llaeth (Swyddogaethau sy’n Weddill) (Diwygio) 2001. Mae ei manylion wedi’u cyflwyno eisoes.

The Business Committee agreed in its meeting this morning, business for the next three weeks as shown on the Chamber web and in supporting documents. Members will also wish to be aware that at this morning’s Business Committee meeting, the Deputy Presiding Officer determined under Standing Order No. 22.5 that the following Orders need not be referred to a Subject Committee. These are the Mandatory Travel Concessions (Reimbursement Arrangements) (Wales) Regulations 2001, the Plant Health (Amendment) (Wales) (No.2) Order 2001, the Farm Waste Grant (Nitrate Vulnerable Zones) (Wales) Scheme 2001, the Education (Schools and Further and Higher Education) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Accounts and Audit (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Parent Governor Representatives and Church Representatives (Wales) Regulations 2001 and the Travel Concessions (Extension of Entitlement) (Wales) Order 2001.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar fusnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn ei gyfarfod y bore yma fel y dangosir ar we’r Siambr ac mewn dogfennau ategol. Mae’n siŵr yr hoffai’r Aelodau hefyd wybod bod y Dirprwy Lywydd wedi penderfynu yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes y bore yma, o dan Reol Sefydlog Rhif 22.5 nad oes angen cyfeirio’r Rheolau canlynol i Bwyllgor Pwnc, sef Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, Cynllun Grantiau Gwastraff Ffermydd (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001, Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 a Gorchymyn Consesiynau Teithio (Estyn yr Hawl i’w Cael) (Cymru) 2001.

In addition, the Deputy Presiding Officer determined under Standing Order No. 22.5 that the following seed marketing regulations: the Oil and Fibre Plant Seeds (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Beet Seeds (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Seed Potatoes (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Vegetable Seeds (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Fodder Plant Seeds (Amendment) (Wales) Regulations 2001 and the Cereal Seeds (Amendment) (Wales) Regulations 2001, should be referred to the Agriculture and Rural Development Committee for consideration as early as possible. It is hoped that the Committee will present its report quickly, so that the Legislation Committee can consider the regulations next Tuesday and the Assembly can consider them in Plenary, as agreed, on 8 November.

Yn ogystal, penderfynodd y Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog Rhif 22.5 y dylid cyfeirio’r rheoliadau marchnata hadau canlynol i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Economaidd i’w hystyried cyn gynted ag y bo modd: Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Hadau Betys (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Hadau Llysiau (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd (Diwygio) (Cymru) 2001. Gobeithir y bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ei adroddiad yn gyflym, fel y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth ystyried y rheoliadau ddydd Mawrth nesaf ac y gall y Cynulliad eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn, fel y cytunwyd, ar 8 Tachwedd.

I will make arrangements to post a copy of this statement to the intranet and internet.

Gwnaf drefniadau i osod copi o’r datganiad hwn ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 26

A oes unrhyw wrthwynebiadau i’r datganiad busnes? Gwelaf nad oes. A oes unrhyw sylwadau?

Are there any objections to the business statement? I see that there are not. Are there any comments?

Elin Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Elin Jones spoken in Welsh p. 26

Byddwch yn ymwybodol o’r galw cynyddol am ymchwiliad cyhoeddus ar argyfwng clwy’r traed a’r genau. Yr oedd rhaglen HTV, Wales This Week, yn codi sawl mater sydd angen ei ymchwilio. Gobeithio y cawsoch chi a Phrif Weinidog Cymru gyfle i weld y rhaglen honno. Mae Llywodraeth Tony Blair yn parhau i ymwrthod â’r galw am ymchwiliad cyhoeddus. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar y pwnc hwn. A ydych yn fodlon caniatáu amser ar gyfer dadl ar yr angen am ymchwiliad cyhoeddus i’r argyfwng clwy’r traed a’r genau?

You will be aware of the increasing demand for a public inquiry into the foot and mouth disease crisis. The HTV programme, Wales This Week, raised several issues that require investigation. I hope that you and the First Minister had an opportunity to see that programme. Tony Blair’s Government continues to reject the call for a public inquiry. The National Assembly has the right to hold a public inquiry on this issue. Are you willing to allocate time for a debate on the need for a public inquiry into the foot and mouth disease crisis?

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 26

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 26

A oes unrhyw sylwadau gan y grwpiau gwleidyddol eraill?

Are there any comments from the other political groups?

Alun Cairns spoken in English p. 26

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 26

The Minister for Assembly Business will be aware that I tabled a no-named day motion (NNDM800) calling on the First Minister to appoint a full time Minister for Economic Development. Will the Minister for Assembly Business advise the Chamber on when he plans to bring this before the Assembly?

Bydd y Trefnydd yn ymwybodol imi gyflwyno cynnig heb ddyddiad trafod (NNDM800) yn galw ar Brif Weinidog Cymru i benodi Gweinidog amser llawn dros Ddatblygu Economaidd. A wnaiff y Trefnydd hysbysu’r Siambr pryd y bwriada ddwyn hyn ger bron y Cynulliad?

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 27

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

The First Minister has adequately responded to Elin’s point in answer to a previous question last week. He said that the UK Government has set up inquiries to consider the foot and mouth disease crisis. If there is any need for the Assembly to examine it in a different context, then we will consider that. However, at this stage, there are no grounds for doing so. To answer Alun Cairns’s question: I do not intend to schedule his no-named day motion.

Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb i bwynt Elin yn ddigonol wrth ateb cwestiwn blaenorol yr wythnos diwethaf. Dywedodd fod Llywodraeth y DU wedi cynnal ymchwiliadau i ystyried argyfwng clwy’r traed a’r genau. Os bydd angen i’r Cynulliad edrych ar y mater mewn cyd-destun gwahanol, yna ystyriwn hynny. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes sail dros wneud hynny. I ateb cwestiwn Alun Cairns: ni fwriadaf amserlennu ei gynnig heb ddyddiad trafod.

Pwynt o Drefn

Point of Order

Peter Rogers spoken in English p. 27

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 27

Point of order. I raise a point of order under Standing Order No. 18.1 relating to the accuracy of the 24-hour record for last Tuesday’s Plenary session. Just before 3 p.m. during the debate on the First Minister’s annual report, the Record shows that Mike German, who is not in the Chamber this afternoon, began a section of his speech by saying:

Pwynt o drefn. Codaf bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog Rhif 18.1 ynglŷn â chywirdeb y cofnod 24 awr ar gyfer Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth diwethaf. Ychydig cyn 3 o’r gloch yn ystod y ddadl ar adroddiad blynyddol Prif Weinidog Cymru, dengys y Cofnod i Mike German, nad yw yn y Siambr y prynhawn yma, ddechrau rhan o’i araith drwy ddweud:

‘I am grateful that Peter Rogers is here this afternoon because as he knows I relish his interventions. The more he says, the more votes I win.’

‘Yr wyf yn ddiolchgar bod Peter Rogers yma y prynhawn yma am fy mod yn gwirioni ar ei ymyriadau, fel y gŵyr. Po fwyaf a ddywed, y mwyaf o bleidleisiau a enillwn.’

The Record goes on to recount how Mike’s party had recently won a council election in my area and that I engaged in knockabout politics. I know that, of all the Labour Members Peter Law is probably closer to the Tories than any, but I think that we should get the record straight. I am sure that the Leader of the Liberal Democrat Group will confirm that he was referring to Peter Law, and I am sure that he will relish my interventions in the same way as he relishes Peter Law’s.

Aiff y Cofnod yn ei flaen i adrodd sut y bu i blaid Mike ennill etholiad cyngor yn fy ardal yn ddiweddar ac imi ymhel â gwleidyddiaeth golbio. Gwn fod Peter Law, o blith yr holl Aelodau Llafur, yn agosach, fwy na thebyg, at y Torïaid na neb, ond credaf y dylem gywiro’r gwall. Yr wyf yn siŵr y cadarnha Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol mai cyfeirio at Peter Law yr oedd, ac yr wyf yn siŵr y caiff flas ar fy ymyriadau i yn yr un modd ag y caiff flas ar ymyriadau Peter Law.

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 27

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 27

I am grateful to you for giving me advance notice of that point of order. I suggest that, if Members perceive any matters in the Record with which they might be legitimately concerned, they approach the Editor of the Record directly, and provided that their query is in order, it will be rectified.

Yr wyf yn ddiolchgar ichi am roi rhagrybudd imi o’r pwynt hwnnw o drefn. Awgrymaf y dylai’r Aelodau, os gwelant faterion yn y Cofnod a allai fod o bryder iddynt, a hynny’n ddilys, fynd at Olygydd y Cofnod yn uniongyrchol, ac ar yr amod bod eu hymholiad yn un teg, caiff ei gywiro.

Cymeradwyo Rheoliadau Hadau (Rhestr Amrywogaethau Genedlaethol) 2001

Approval of the Seeds (National List of Varieties) Regulations 2001

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs spoken in English p. 28

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 28

I propose that

Cynigiaf fod

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs (continued) spoken in English p. 28

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 28

These regulations implement European Council directives 98/95/EC and 98/96/EC, for those who want to look them up, which consolidate the internal market on seeds and introduce for the first time additional regulatory requirements for genetically-modified plant varieties. I introduce them to ensure compliance with the requirements of the European Union regulatory framework. If approved, they will come into force on 1 December.

Mae’r rheoliadau hyn yn gweithredu cyfarwyddebau’r Cyngor Ewropeaidd 98/95/EC a 98/96/EC, i’r rheini sydd am chwilio amdanynt, sy’n cadarnhau’r farchnad fewnol ar hadau ac yn cyflwyno am y tro cyntaf ofyniadau rheoliadol ychwanegol ar gyfer amrywogaethau planhigion sydd wedi’u haddasu’n enetig. Fe’u cyflwynaf i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion fframwaith rheoliadol yr Undeb Ewropeaidd. Os cânt eu cymeradwyo, dônt i rym ar 1 Rhagfyr.

As the regulations are being made jointly with the UK Parliament, they must be approved by it in accordance with our Standing Orders, and I will make a Welsh translation available as and when the regulations are made. European Council directives 70/457 on the common catalogue varieties of agricultural plant species, otherwise knows as the common catalogue directive, consolidates the internal market in seeds and introduces, as I have mentioned, additional legal requirements in safeguards for genetically-modified plant varieties. The deadline for implementation of the directives into the law of member states was 1 February 2000. The UK is therefore in breach of its obligations under the common catalogue directive, as a result of the failure to implement these regulations. Continued failure to comply leaves the Assembly at risk of a significant financial penalty backdated to 1 February 2000. Members will recall that these regulations appeared before the Assembly last year. Since that time, infraction proceedings have been initiated against the UK under article 226. The UK Parliament is not minded to make these regulations on our behalf, the matter therefore is one of discussion between the Assembly and the European Commission. The European Commission indicated that, if matters remain as they are, the Assembly will be liable to pay a fine of up to 500,000 euros per day, backdated to 1 February 2000. That means that the Assembly would be liable to pay around £300 million. That puts a different perspective on the situation that we were in last year.

Gan y gwneir y rheoliadau ar y cyd â Llywodraeth y DU, rhaid iddi eu cymeradwyo yn unol â’n Rheolau Sefydlog, a sicrhaf fod y rheoliadau yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg wrth iddynt gael eu llunio. Mae cyfarwyddebau 70/457 y Cyngor Ewropeaidd ar amrywogaethau catalog cyffredin o blanhigion amaethyddol, a elwir hefyd yn gyfarwyddeb y catalog cyffredin, yn cadarnhau’r farchnad hadau fewnol ac yn cyflwyno, fel yr wyf wedi nodi, ofyniadau cyfreithiol ychwanegol o ran camau i ddiogelu amrywogaethau planhigion sydd wedi’u haddasu’n enetig. Y terfyn amser ar gyfer gweithredu’r cyfarwyddebau i gyfraith yr aelod-wladwriaethau oedd 1 Chwefror 2000. Mae’r DU felly yn torri ei rhwymedigaethau o dan gyfarwyddeb y catalog cyffredin, o ganlyniad i’r ffaith na weithredwyd y rheoliadau hyn. Mae’r ffaith y parhawyd i beidio â chydymffurfio yn rhoi’r Cynulliad mewn perygl o gosb ariannol sylweddol yn ôlddyddio i 1 Chwefror 2000. Bydd yr Aelodau yn cofio i’r rheoliadau hyn ddod gerbron y Cynulliad y llynedd. Ers hynny, dechreuwyd cymryd camau gorfodi deddfwriaeth yn erbyn y DU o dan erthygl 226. Nid yw’n fwriad gan Senedd y DU wneud y rheoliadau hyn ar ein rhan, mater o drafod ydyw felly rhwng y Cynulliad a’r Comisiwn Ewropeaidd. Nododd y Comisiwn Ewropeaidd y gallai’r Cynulliad, os bydd y sefyllfa yn parhau fel ag y mae, orfod talu dirwy o hyd at 500,000 euro y dydd, a ôlddyddir i 1 Chwefror 2000. Golyga hynny y byddai’n rhaid i’r Cynulliad dalu tua £300 miliwn. Rhydd hynny berspectif gwahanol ar y sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd.

The common catalogue directive is not primarily concerned with the regulation of genetically-modified organisms. It establishes an EU-wide common catalogue of plant varieties and requires member states to establish national lists of seeds varieties accepted for marketing and certification in their respective territories.

Nid yw cyfarwyddeb y catalog cyffredin yn ymwneud yn bennaf â’r gwaith o reoleiddio organeddau a addaswyd yn enetig. Mae’n sefydlu catalog cyffredin o amrywogaethau planhigion ar draws yr UE ac yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau sefydlu rhestrau cenedlaethol o amrywogaethau hadau a dderbynnir i’w marchnata a’u hardystio yn eu priod diriogaethau.

The regulations strengthen controls on planting and marketing GM crops, introducing for the first time, additional constraints by requiring GM plant varieties to be approved for marketing under the deliberate release directive 90/22/EEC before being added to the national list. The approval of these regulations does not make it more or less likely that GM crops will be grown in Wales.

Mae’r rheoliadau yn cryfhau’r rheolaeth ar blannu a marchnata cnydau a addaswyd yn enetig, gan gyflwyno cyfyngiadau ychwanegol am y tro cyntaf drwy ei gwneud yn ofynnol i amrywogaethau planhigion a addaswyd yn enetig gael eu cymeradwyo i’w marchnata o dan gyfarwyddeb ryddhau bwriadol 90/22/EEC cyn iddynt gael eu hychwanegu at y rhestr genedlaethol. Ni fydd yn fwy nac yn llai tebygol y bydd cnydau a addaswyd yn enetig yn cael eu tyfu yng Nghymru yn sgîl cymeradwyo’r rheoliadau hyn.

Since last year, there have been advances on various fronts in the Assembly. First, the all-party strategy group on GM issues was established in December 2000. It has met regularly throughout 2001, most recently on 17 October. This directive has been before the strategy group twice. The group has also considered how we take forward our restrictive policy within the existing legal framework and how we can influence future legislation at European level. The Assembly has taken a strong and principled position in opposition to farm-scale evaluations being undertaken in Wales. As part of our consideration of the spring 2001 farm-scale evaluations, I used my powers under the Environmental Protection Act 1990 to introduce statutory separation distances between genetically-modified crops and neighbouring ones, and to safeguard organic production. The Assembly is the only legislature in Europe to have taken that step to challenge the existing marketing consents and part C of the deliberate release directive.

Ers y llynedd, cymerwyd camau ymlaen ar sawl mater yn y Cynulliad. Yn gyntaf, sefydlwyd y grŵp strategol trawsbleidiol ar faterion yn ymwneud ag addasu genetig yn Rhagfyr 2000. Cyfarfu’n rheolaidd drwy gydol 2001, a’r tro diwethaf ar 17 Hydref. Bu’r gyfarwyddeb hon gerbron y grŵp strategol ddwywaith. Ystyriodd y grŵp hefyd sut i ddatblygu ein polisi cyfyngol o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol a sut y gallwn ddylanwadu ar ddeddfwriaeth y dyfodol ar lefel Ewropeaidd. Mae’r Cynulliad wedi cymryd safbwynt cryf ac egwyddorol sy’n gwrthwynebu’r broses o werthuso graddfeydd ffermydd yng Nghymru. Fel rhan o’n hystyriaeth o werthusiadau graddfeydd ffermydd gwanwyn 2001, defnyddiais fy mhwerau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i gyflwyno pellteroedd gwahanu statudol rhwng cnydau a addaswyd yn enetig a chnydau cyfagos, ac i ddiogelu cynnyrch organig. Y Cynulliad yw’r unig gorff deddfwriaethol yn Ewrop i gymryd y cam hwnnw i herio’r caniatâdau marchnata presennol a rhan C o’r gyfarwyddeb ryddhau bwriadol.

As Members will recall, issuing that prohibition notice automatically triggered notification to the European Commission under article 16 of the directive. On 13 July, the UK informed the Commission and other member states of the Assembly’s prohibition and its belief that the unrestricted release of T25 transformed maize would involve a risk to the environment. The article 16 notification provides for a review by the EC and other member states, which is the appropriate forum to raise our principled concerns. By doing so we have raised a matter for the EC that has not been raised before by any other level of Government elsewhere in the EU. Separation distances and the Assembly’s action to protect the organic and conventional farming sector are under active consideration in the community and have been drawn to the attention of member states and the Commission by my officials at recent meetings. They will also be discussed in a seminar on 27 November in Brussels.

Fel y bydd Aelodau yn cofio, hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn awtomatig gan y ffaith bod hysbysiad gwahardd wedi’i gyhoeddi o dan erthygl 16 o’r gyfarwyddeb. Ar 13 Gorffennaf, hysbysodd y DU y Comisiwn a’r aelod-wladwriaethau eraill fod y Cynulliad wedi’i wahardd ac am y ffaith ei fod o’r farn y byddai rhyddhau india-corn T25 a drawsffurfiwyd yn ddigyfyngiad yn peryglu’r amgylchedd. Mae hysbysiad erthygl 16 yn darparu ar gyfer adolygiad gan y CE ac aelod-wladwriaethau eraill, a dyna’r fforwm priodol ar gyfer codi ein pryderon egwyddorol. Drwy wneud hynny codasom fater ar gyfer y CE nas codwyd o’r blaen gan un lefel arall o Lywodraeth yn unman yn yr UE. Caiff pellterau gwahanu a chamau’r Cynulliad i ddiogelu’r sector ffermio organig a chonfensiynol eu hystyried o fewn y gymuned a thynnwyd sylw’r aelod-wladwriaethau a’r Comisiwn atynt gan fy swyddogion mewn cyfarfodydd yn ddiweddar. Cânt eu trafod hefyd mewn seminar ar 27 Tachwedd ym Mrwsel.

However, we are carrying a burden by not approving these regulations. We are, and are seen to be, in breach of community law. Furthermore, we risk the Commission giving less credence to the strength of the arguments being put forward in the article 16 notification. To support the acceptance of the Assembly’s advocation of a restrictive approach to GMOs and to support the article 16 notification in particular, I invite the Assembly to endorse the view taken by many at the all-party strategy group on GMOs by approving the passage of the implementation through the Assembly. This is in accordance with our operating the most restrictive policy possible within the framework of EU legislation. However, the Assembly must give an indication that it seriously considers meeting its EU obligations. Above all, we must bear in mind that the wolves are at the door and that we will end up with infraction proceedings without a defence and with a fine to pay. We cannot tell the people of Wales that we are prepared to do that, especially given the level of the fine. We have taken this as far as possible. Other avenues are being properly pursued on behalf of the Assembly.

Fodd bynnag, cariwn faich drwy beidio â chymeradwyo’r rheoliadau hyn. Yr ydym, a gwelir ein bod, wedi torri cyfraith y gymuned. At hynny, gallai hynny olygu bod y Comisiwn yn rhoi llai o goel ar gryfder y dadleuon a gyflwynir o fewn hysbysiad erthygl 16. Er mwyn cefnogi’r ffaith bod argymhelliad y Cynulliad o blaid ymagwedd gyfyngol tuag at organeddau a addaswyd yn enetig wedi’i dderbyn ac er mwyn cefnogi hysbysiad erthygl 16 yn benodol, estynnaf wahoddiad i’r Cynulliad gefnogi’r farn a goleddwyd gan lawer yn y grŵp strategol trawsbleidiol ar organeddau a addaswyd yn enetig drwy gymeradwyo pasio’r ddeddfwriaeth drwy’r Cynulliad. Mae hyn yn unol â chamau a gymerwn i weithredu’r polisi mwyaf cyfyngol posibl o fewn fframwaith deddfwriaeth yr UE. Fodd bynnag, rhaid i’r Cynulliad ddangos ei fod yn ystyried cyflawni ei rwymedigaethau i’r UE o ddifrif. Yn bennaf oll, rhaid inni gofio bod y bleiddiaid wrth y drws ac efallai y caiff camau gorfodi deddfwriaeth eu cymryd yn ein herbyn a ninnau heb amddiffyniad ac â dirwy i’w thalu. Ni allwn ddweud wrth bobl Cymru ein bod yn barod i wneud hynny, yn arbennig o gofio maint y ddirwy. Cymerwyd hyn mor bell â phosibl gennym. Gwneir ymholiadau priodol i bosibiliadau eraill ar ran y Cynulliad.

Jocelyn Davies spoken in English p. 31

Jocelyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 31

There has been much discussion in this Chamber on GMOs and their release into the environment. Members from all parties have urged caution. There is no point in repeating what has been said, but Plaid Cymru has not changed its view. I am still convinced that the utmost caution should be taken while developing this science in a controlled environment. Some parts of the world are using GMOs commercially and we should consider their impact and whether there are any advantages to Wales using GMOs, weighing them up against the disadvantages before we sign up to them.

Trafodwyd llawer ar organeddau a addaswyd yn enetig yn y Siambr hon ac ar eu rhyddhau i’r amgylchedd. Mae Aelodau o bob plaid wedi pwysleisio y dylid pwyllo. Nid oes pwynt ailadrodd yr hyn a ddywedwyd, ond nid yw Plaid Cymru wedi newid ei barn. Yr wyf yn argyhoeddedig o hyd y dylid bod mor bwyllog â phosibl tra’n datblygu’r wyddor hon mewn amgylchedd a reolir. Mae rhannau o’r byd yn defnyddio organeddau yn fasnachol a dylem ystyried eu heffaith a pha un ai a oes manteision i Gymru o ddefnyddio organeddau a addaswyd yn enetig ai peidio, gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr anfanteision cyn inni ymrwymo iddynt.

I have been looking for current research and found a report in a June edition of the Financial Times, stating that the Dutch centre for agriculture found that the increases in yield from GM soya beans were insignificant or small, while it was impossible to forecast the impact on bio-diversity. According to another Financial Times report in August this year, Canadian researchers in their Government’s farming agency Ag Canada found strong evidence that genetically-modified crops can spread long distances from where they were planted, and spawn what scientists call ‘superweeds’. They also found that different GM strains can interbreed.

Bûm yn chwilio am ymchwil gyfredol a chanfûm adroddiad yn un o rifynnau Mehefin o’r Financial Times, a oedd yn nodi i ganolfan amaethyddiaeth yr Iseldiroedd ganfod bod y cynnydd mewn cnydau ffa soia a addaswyd yn enetig yn ansylweddol neu’n fach, tra’i bod yn amhosibl rhagweld yr effaith ar fioamrywiaeth. Yn ôl adroddiad arall yn y Financial Times ym mis Awst eleni, canfu ymchwilwyr yng Nghanada yn asiantaeth ffermio eu Llywodraeth Ag Canada dystiolaeth gref y gall cnydau a addaswyd yn enetig ymestyn am bellteroedd maith o’r man y’u plannwyd, gan fwrw grawn yr hyn a elwir gan wyddonwyr yn ‘arch-chwyn’. Canfuwyd hefyd y gall rhywogaethau gwahanol a addaswyd yn enetig rhyngfridio.

The superweeds produced are resistant to a wide range of herbicides, and the escaped rapeseed is now Canada’s thirteenth worst weed. Rapeseed has many more wild cousins here than in Canada. However, that research does not prevent biotechnology companies from denying that it is possible.

Gall yr arch-chwyn a gynhyrchir wrthsefyll amrywiaeth eang o chwynladdwyr, a’r had rêp a ddihangodd yw’r trydydd chwyn gwaethaf ar ddeg yng Nghanada bellach. Mae llawer mwy o gefndryd gwyllt had rêp yma nag yng Nghanada. Fodd bynnag, nid yw’r ymchwil honno yn atal cwmnïau biodechnoleg rhag gwadu ei fod yn bosibl.

In August, BBC News Online reported that scientists in Ohio State University proved that GM crop genes can move to their wild relatives and will inevitably spur rapid evolutionary adaptations in weeds that will ultimately be harmful to the crops.

Ym mis Awst, nododd BBC News Online fod gwyddonwyr ym Mhrifysgol Talaith Ohio wedi profi y gall genynnau cnydau a addaswyd yn enetig symud i blith eu perthnasau gwyllt a’i bod yn anochel y byddant yn sbarduno addasiadau esblygol cyflym ymhlith chwyn a fydd yn y pen draw yn niweidiol i’r cnydau.

United Press International also reported in August that United States scientists found that despite biotech companies’ claims that the use of GM crops would reduce the use of insecticides, insecticide usage remained the same or even rose. The US Department of Agriculture’s research service reported that biotech resistance was developing in crop pests, including moths and other insects. Therefore, nature has a way of combating our modifications.

Nododd United Press International hefyd ym mis Awst fod gwyddonwyr yn yr Unol Daleithiau wedi canfod, er gwaethaf honiadau cwmnïau biodechnoleg y byddai defnyddio cnydau a addaswyd yn enetig yn lleihau’r defnydd o bryfleiddiaid, bod y defnydd o bryfleiddiaid yn parhau’r un fath neu’n cynyddu hyd yn oed. Nododd gwasanaeth ymchwil Adran Amaethyddiaeth yr UDA fod plâu cnydau, gan gynnwys gwyfynod a phryfed eraill yn cynyddu eu gwytnwch yn erbyn biodechnoleg. Felly, mae gan natur ffordd o wrthwynebu ein haddasiadau.

GM science offers many promises, and its potential is huge. We must acknowledge that. Theoretically, plants can be developed to withstand drought conditions. UK scientists claim that they are close to producing a GM superfish that will grow three times larger than normal. In Ontario, scientists claim that their GM pig excretes non-polluting manure, while other US scientists are working towards a salt-resistant tomato that will grow in exceptionally poor conditions.

Mae gwyddoniaeth addasu genetig yn cynnig addewidion lu, ac mae ei photensial yn aruthrol. Rhaid inni gydnabod hynny. Mewn theori, gellir datblygu planhigion i wrthsefyll sychder. Mae gwyddonwyr yn y DU yn honni eu bod ar fin creu archbysgodyn a addaswyd yn enetig a fydd yn tyfu deirgwaith yn fwy na’r cyffredin. Yn Ontario, mae gwyddonwyr yn honni bod eu mochyn a addaswyd yn enetig yn ysgarthu gwrtaith nad yw’n llygru, tra bo gwyddonwyr eraill yn yr UDA yn gweithio ar domato a all wrthsefyll halen ac a all dyfu o dan amodau eithriadol wael.

GM science and its application is in its infancy. It could create more problems later.

Mae’n dal yn ddyddiau cynnar ar wyddoniaeth addasu genetig a’i chymhwysiad. Gallai greu mwy o broblemau yn nes ymlaen.

Without doubt, the biotech companies have massive lobbying power and, through the United States, have successfully influenced British and European policy. This regulation is part of that regime. We are given to believe that we cannot resist it. Why vote on it if we cannot reject it?

Yn ddi-os, mae gan gwmnïau biodechnoleg bŵer lobïo aruthrol, a thrwy’r Unol Daleithiau, llwyddasant i ddylanwadu ar bolisi ym Mhrydain ac Ewrop. Mae’r rheoliad hwn yn rhan o’r drefn honno. Dywedir wrthym na allwn ei wrthsefyll. Pam pleidleisio ar y mater oni allwn ei wrthod?

The UK Government—with a few exceptions, such as Michael Meacher—has thrown its weight behind the advancement of genetic engineering. The pressure from the United States has undoubtedly reinforced that support.

Mae Llywodraeth y DU—ac eithrio ambell un, fel Michael Meacher—wedi rhoi ei chefnogaeth i ddatblygu peirianneg enetig. Mae’r pwysau o du’r Unol Daleithiau wedi atgyfnerthu’r gefnogaeth honno yn ddi-os.

In February 2000, The Observer reported that it had used the United States freedom of information legislation to discover that while Britain held the presidency of the European Union, Bill Clinton had urged Tony Blair to take immediate action to ease the approval process of genetically-modified organisms in Europe, as it was costing US exporters hundreds of millions of dollars in lost markets. Britain used its presidency to do that. Britain also blocked France and Greece’s attempt in 1999 to introduce a moratorium on GM crops throughout the EU, and voted to prevent Austria and Luxembourg from banning GM maize.

Ym mis Chwefror 2000, nododd The Observer iddo ddefnyddio deddfwriaeth yr Unol Daleithiau ar ryddid gwybodaeth i ddarganfod fod Bill Clinton, tra’r oedd llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd gan Brydain, wedi annog Tony Blair i weithredu ar unwaith i esmwytho’r broses o gymeradwyo organeddau a addaswyd yn enetig yn Ewrop, gan ei fod yn costio cannoedd o filiynau o ddoleri i allforwyr yr UDA mewn marchnadoedd coll. Defnyddiodd Prydain ei llywyddiaeth i wneud hynny. Rhwystrodd Prydain hefyd ymgais Ffrainc a Groeg ym 1999 i gyflwyno gohiriad ar gnydau a addaswyd yn enetig ledled yr UE, gan bleidleisio i atal Awstria a Lwcsembwrg rhag gwahardd india-corn a addaswyd yn enetig.

Therefore, I am not hopeful that central government is sympathetic to our stance nor our cautious approach to GM crops. We are asked to consider these regulations in light of the danger of infraction proceedings by the European Commission. It has issued a reasoned opinion against the UK for non-compliance, as the Minister outlined. It is also aware of our moves to seek greater separation distances.

Felly, nid wyf yn obeithiol bod llywodraeth ganolog yn cydymdeimlo â’n safbwynt na’n hymagwedd bwyllog tuag at gnydau a addaswyd yn enetig. Gofynnir inni ystyried y rheoliadau hyn yng ngoleuni’r perygl y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau gorfodi deddfwriaeth. Cyhoeddodd farn resymegol yn erbyn y DU am beidio â chydymffurfio, fel yr amlinellodd y Gweinidog. Mae hefyd yn ymwybodol o’n hymgais i geisio pellteroedd gwahanu mwy.

The reasoned opinion failed to find its way to us as it got caught up in the log-jam of other reasoned opinions that Whitehall deals with. We know that there are literally thousands lodged there already. Ours was among 1,012 that one official had on her desk. I remain unconvinced by the Minister, and Plaid Cymru will not vote for these regulations. We considered them carefully last time and, for us, little has changed.

Methodd y farn resymegol â’n cyrraedd gan iddi gael ei dal yn nhagfa y barnau rhesymegol eraill yr ymdrinnir â hwy gan Whitehall. Gwyddom fod miloedd yn llythrennol yno eisoes. Yr oedd ein barn ni ymhlith 1,012 a oedd gan un swyddog ar ei desg. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o hyd gan y Gweinidog, ac ni phleidleisia Plaid Cymru o blaid y rheoliadau hyn. Fe’u hystyriwyd yn ofalus gennym y tro diwethaf ac, i ni, nid oes fawr ddim wedi newid.

Mick Bates spoken in English p. 33

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 33

Yet again, the Assembly leads the way, thanks to the partnership agreement. By passing these regulations, the Assembly is acting responsibly, but can still operate a restrictive policy on GM crops. These regulations will form the basis for future decisions on adding GM seed to the National Listing of Varieties of Agriculture and Vegetable Crops. The Assembly will be able to take a tough stance on these if we choose to do so.

Unwaith eto, mae’r Cynulliad yn arwain y ffordd, diolch i’r cytundeb partneriaeth. Drwy basio’r rheoliadau hyn, mae’r Cynulliad yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol, ond gall weithredu polisi cyfyngol ar gnydau a addaswyd yn enetig o hyd. Y rheoliadau hyn a fydd yn ffurfio’r sail ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol ar ychwanegu had a addaswyd yn enetig at y Rhestrau Amrywogaethau Cenedlaethol o Gnydau Amaethyddiaeth a Llysiau. Bydd y Cynulliad yn gallu arddel safiad cadarn ar y rhain, os ydym yn dewis gwneud hynny.

The seeds regulations contain specific provision regarding the processing of GM varieties under the listing and certification regimes. Under the regulations, the national list of varieties, labels attached to seed lots and sale catalogues would have to show which varieties are genetically modified. Furthermore, persons wanting to trial GM crops with part C consents would have to inform the Assembly. That issue has previously caused us great concern. I believe—

Mae’r rheoliadau hadau yn cynnwys darpariaeth benodol yn ymwneud â phrosesu amrywogaethau a addaswyd yn enetig o dan y trefnau rhestru ac ardystio. O dan y rheoliadau, sef y rhestr amrywogaethau genedlaethol, byddai’n rhaid i’r labeli a atodir i gyfrannau hadau a chatalogau gwerthu ddangos pa amrywogaethau a addaswyd yn enetig. At hynny, byddai’n rhaid i bobl sydd am dreialu cnydau a addaswyd yn enetig â chaniatâd rhan C hysbysu’r Cynulliad. Mae’r mater hwnnw wedi achosi cryn bryder inni yn flaenorol. Credaf—

Dafydd Wigley a gododd—

Dafydd Wigley rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 34

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 34

Will you give way to Dafydd Wigley? I would not, if I were you.

A ildiwch i Dafydd Wigley? Nid adawn iddo, pe bawn i yn eich lle.

Mick Bates spoken in English p. 34

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 34

Thank you for that advice; I will take it.

Diolch am y cyngor hwnnw; fe’i cymeraf.

Finally, to emphasise my first point, the Assembly is genuinely leading the way. As a manifestation of our leadership in Europe, the Assembly is holding a seminar in Brussels to express its concerns to representatives from member states and regions. That is a welcome development, since it was a Liberal Democrat suggestion. It is an opportunity to canvass support for the Assembly’s position and, more importantly, influence EU policy. By voting to approve these seed regulations today, we will enhance our reputation and protect Wales’s image. We will protect not only organic farming, but conventional farming in Wales, so that we can use our status in marketing Welsh goods.

Yn olaf, er mwyn pwysleisio fy mhwynt cyntaf, mae’r Cynulliad yn arwain y ffordd yn wirioneddol. Er mwyn arddangos ein harweinyddiaeth yn Ewrop, mae’r Cynulliad yn cynnal seminar ym Mrwsel i fynegi ei bryderon i gynrychiolwyr aelod-wladwriaethau a rhanbarthau. Croesawaf y datblygiad hwnnw, gan mai’r Democratiaid Rhyddfrydol a’i hawgrymodd. Mae’n gyfle i geisio ennyn cefnogaeth i safbwynt y Cynulliad ac, yn bwysicach, i ddylanwadu ar bolisi’r UE. Drwy bleidleisio i gymeradwyo’r rheoliadau hadau hyn heddiw, byddwn yn hyrwyddo ein henw da ac yn diogelu delwedd Cymru. Diogelwn nid yn unig ffermio organig, ond ffermio traddodiadol yng Nghymru, fel y gallwn ddefnyddio ein statws i farchnata nwyddau Cymru.

Peter Rogers spoken in English p. 34

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 34

The Welsh Conservative group will vote to approve these regulations. In doing so, we want to send a message of support to our organic producers, whose industry we want to develop. However, Members must be conscious of our responsibility under European law, which requires our compliance. Opposing these regulations runs a risk of incurring severe financial penalties for the Assembly. It is important that we choose which battles to fight if we are to win our war. I am not sure that we need to be detained on this fighting field for much longer. It is important that we—

Bydd grŵp Ceidwadwyr Cymru yn pleidleisio o blaid cymeradwyo’r rheoliadau hyn. Drwy wneud hynny, yr ydym am anfon neges o gefnogaeth i’n cynhyrchwyr organig, yr hoffem ddatblygu eu diwydiant. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Aelodau fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb o dan gyfraith Ewrop, sy’n ei gwneud yn ofynnol inni gydymffurfio. Mae gwrthwynebu’r rheoliadau hyn yn rhoi’r Cynulliad mewn perygl o gael ei gosbi’n ddifrifol yn ariannol. Mae’n bwysig ein bod yn dewis pa frwydrau i’w hymladd os ydym am ennill ein rhyfel. Nid wyf yn argyhoeddedig bod angen inni dindroi ar y maes brwydro hwn lawer yn hwy. Mae’n bwysig ein bod—

Glyn Davies a gododd—

Glyn Davies rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 35

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 35

Order. As Members will appreciate, I am trying to get us through this business sensibly because there are two major debates to follow, one of which has already been postponed once. I want that to be accommodated. One Member took my advice and did not give way to an intervention. I would be grateful if other Members would not give way to interventions. I would not have to speak on these matters then.

Trefn. Fel y bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi, ceisiaf fwrw drwy’r busnes hwn yn synhwyrol gan fod dwy ddadl bwysig i ddilyn, y mae un ohonynt eisoes wedi’i gohirio unwaith. Hoffwn roi amser i honno. Cymerodd un Aelod fy nghyngor gan wrthod ildio i ymyriad. Byddwn yn ddiolchgar pe nad ildiai Aelodau eraill i ymyriadau. Ni fyddai’n rhaid imi siarad ar y materion hyn wedyn.

Peter Rogers spoken in English p. 35

Peter Rogers siaradwyd yn Saesneg t. 35

Thank you for your guidance.

Diolch am eich arweiniad.

It is important that we enable the Minister to move forward within our powers in seeking a more restrictive framework on genetic modification. That said, I have a few questions for the Minister. First, will he clarify the situation with regard to separation distances? Is there scope for increasing the statutory distances between conventional and organic producers and GM sites? Will he also clarify what would happen if the owner of a holding neighbouring GM site wanted to turn it organic eventually?

Mae’n bwysig ein bod yn galluogi’r Gweinidog i symud ymlaen o fewn ein pwerau i geisio fframwaith mwy cyfyngol ar addasu genetig. Wedi dweud hynny, mae gennyf ychydig o gwestiynau i’r Gweinidog. Yn gyntaf, a eglura’r sefyllfa o ran pellteroedd gwahanu? A oes lle i gynyddu’r pellteroedd statudol rhwng cynhyrchwyr confensiynol ac organig a safleoedd a addaswyd yn enetig? A eglura hefyd beth a ddigwyddai pe bai perchennog safle cynhaliol cyfagos a addaswyd yn enetig am ei droi’n organig yn y pen draw?

Secondly, will he report on his input into the development of the liability regime and agree that, while we need to ensure full support for organic farmers, liability should rest with the biotechnology companies, rather than the farmer?

Yn ail, a gyflwyna adroddiad ar ei fewnbwn i’r gwaith o ddatblygu’r drefn atebolrwydd a chytuno, tra bod angen inni sicrhau cefnogaeth lwyr i ffermwyr organig, mai’r cwmnïau biodechnoleg ddylai fod yn atebol, yn hytrach na’r ffermwr?

Finally, we support the call for thresholds to be set as low as technically possible, but will the Minister explain why he is not taking action on ensuring full traceability and labelling in general, specifically with regard to foreign meat imports and smuggling?

Yn olaf, cefnogwn yr alwad i osod trothwyon cyn ised ag sy’n dechnegol bosibl, ond a esbonia’r Gweinidog pam nad yw’n cymryd camau i sicrhau olrheiniadwyedd llawn a labelu yn gyffredinol, yn benodol o ystyried smyglo a mewnforio cig tramor?

Has the Minister examined what further scope for regulations there may be for the Assembly under section 16 of the Food Safety Act 1990? Will he also pay close attention to section 16(a), which states that the Minister has powers to prohibit or regulate in food sources the presence of

A ystyriodd y Gweinidog y lle sydd, o bosibl, i’r Cynulliad lunio rheoliadau pellach, o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990? A rydd sylw arbennig hefyd i adran 16(a), sy’n nodi bod gan y Gweinidog bwerau i wahardd neu reoleiddio presenoldeb y canlynol mewn ffynonellau bwyd

‘any specified substance, or any substance of any specified class’.

‘unrhyw sylwedd penodol, neu unrhyw sylwedd o ddosbarth penodol’.

Will he also look at section 16(f), which enables the Minister to prohibit or regulate

A edrycha hefyd ar adran 16(f), sy’n galluogi’r Gweinidog i wahardd neu reoleiddio’r

‘the carrying out of commercial operations…for the purpose of protecting or promoting the interests of consumers’?

‘gweithrediadau masnachol a gyflawnir…at ddiben diogelu neu hyrwyddo buddiannau cwsmeriaid’?

David Davies spoken in English p. 36

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 36

I want to put on record that I, and all other Conservative Members, oppose GM crops as much as any other Assembly Member. We will vote in favour of these regulations because it will cost Wales 500,000 euros a year if we do not. The real hypocrites here are the people who, on the one hand want to subsume even more powers and hand over yet more sovereignty to Brussels, and on the other complain every time Brussels tries to impose unacceptable rules upon us. Wales has said ‘no’ to GM crops, but Brussels has said ‘yes’. Therefore, we must follow Brussels. Let us face it, we seem to have a GM-modified European Commission at present, which is rapidly growing out of control and putting aside all local growth. Carwyn was right when he said that the wolves are at the door. We are handing more powers over to Brussels, so do not complain when it starts using those powers against us. On GM crops, Europe and everything else, we reap what we sow.

Hoffwn gofnodi fy mod i, a phob Aelod Ceidwadol arall, yn gwrthwynebu cnydau a addaswyd yn enetig gymaint ag unrhyw Aelod arall o’r Cynulliad. Pleidleisiwn o blaid y rheoliadau hyn gan y costia 500,000 euro i Gymru oni wnawn hynny. Y rhagrithwyr gwirioneddol yma yw’r sawl sydd, ar y naill law am ogynnwys mwy o bwerau fyth a rhoi mwy o sofraniaeth fyth i Frwsel, ac ar y llall yn cwyno bob tro y ceisia Brwsel orfodi rheolau annerbyniol arnom. Dywedodd Cymru ‘na’ i gnydau a addaswyd yn enetig, ond dywedodd Brwsel ‘ie’. Felly, rhaid inni ddilyn Brwsel. Rhaid inni wynebu’r ffaith bod gennym, i bob golwg, Gomisiwn Ewropeaidd a addaswyd yn enetig ar hyn o bryd, sy’n mynd allan o reolaeth yn gyflym gan roi pob tyfiant lleol i’r naill ochr. Yr oedd Carwyn yn iawn pan ddywedodd fod y bleiddiaid wrth y drws. Traddodwn fwy o bwerau i Frwsel, felly peidiwch â chwyno pan ddechreua ddefnyddio’r pwerau hynny yn ein herbyn. O ran cnydau a addaswyd yn enetig, Ewrop a phopeth arall, medwn yr hyn a heuwn.

Carwyn Jones The Minister for Rural Affairs spoken in English p. 36

Carwyn Jones Y Gweinidog dros Faterion Gwledig siaradwyd yn Saesneg t. 36

We must realise that this is not a fight with anybody. The UK Government has stepped to one side and is not interfering in any way. As far as the European Commission is concerned, its rules are agreed upon by all member states and are not imposed on any member state. Nevertheless, we are members of the club, so we must play by the rules. That is what we are doing in ensuring that we make these regulations—if the Assembly so wishes.

Rhaid inni sylweddoli nad ydym yn brwydro â neb yn hyn o beth. Safodd Llywodraeth y DU yn ôl heb ymyrryd mewn un modd. O ran y Comisiwn Ewropeaidd, cytunodd yr aelod-wladwriaethau i gyd ar ei reolau ac nis gorfodir ar un aelod-wladwriaeth. Serch hynny, yr ydym yn aelodau o’r clwb, felly rhaid inni chwarae yn unol â’r rheolau. Dyna a wnawn wrth sicrhau ein bod yn llunio’r rheoliadau hyn—os dymuna’r Cynulliad wneud hynny.

Peter Rogers raised several points on separation distances and so on. Those matters are for discussion, and a new directive is being considered. The article 16 notification means that the question of how organic and GM crops inter-relate and what their relationship with each other should be is being discussed at present. We are seeking to influence that, in part through the seminar on 27 November.

Cododd Peter Rogers sawl pwynt ar bellteroedd gwahanu ac ati. Mae’r materion hynny i’w trafod, ac mae cyfarwyddeb newydd wrthi’n cael ei hystyried. Mae hysbysiad erthygl 16 yn golygu bod y ffordd y mae cnydau organig a chnydau a addaswyd yn enetig yn cydberthyn a’r hyn a ddylai nodweddu eu cysylltiad â’i gilydd wrthi’n cael ei drafod ar hyn o bryd. Ceisiwn ddylanwadu ar hynny, yn rhannol drwy’r seminar ar 27 Tachwedd.

In terms of liability, the European Commission has said that liability for GM crops will lie primarily with the companies, not the growers. That will mean that, as far as the growers are concerned, they will have redress against, if you like, a body with more money than they have. It clarifies a situation that has been vague for some time. Our initial viewpoint was that the grower would be liable. That is now being clarified. All these matters are being considered.

O ran atebolrwydd, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud mai’r cwmnïau fydd yn bennaf gyfrifol am gnydau a addaswyd yn enetig, nid y tyfwyr. Golyga hynny, o ran y tyfwyr, y cânt iawndal, os hoffwch, yn erbyn corff sydd â mwy o arian na hwy. Eglura sefyllfa a fu’n amwys ers peth amser. Ein safbwynt cychwynnol oedd y byddai’r tyfwr yn gyfrifol. Mae hynny wrthi’n cael ei egluro erbyn hyn. Mae’r materion hyn i gyd wrthi’n cael eu hystyried.

Food safety is also discussed with the European Commissioner and, in the context of GM crops, it will be discussed next year. Members will remember that the Assembly wanted to influence the debate in Europe because that is where it is being fought and can be won. We are doing that, in terms of the article 16 directive and by way of drawing in other levels of government across Europe. Other regional European Governments have shown an interest in the seminar on 27 November. We must put our viewpoint to other European Governments to win their support. As I have said, it is in Europe that the battle is fought and where our influence must be felt.

Mae diogelwch bwyd hefyd yn cael ei drafod gyda Chomisiynydd Ewrop ac, yng nghyd-destun cnydau a addaswyd yn enetig, caiff ei drafod y flwyddyn nesaf. Bydd yr Aelodau yn cofio bod y Cynulliad am ddylanwadu ar y ddadl yn Ewrop gan mai yno y caiff ei brwydro ac y gellir ei hennill. Yr ydym yn gwneud hynny, yn nhermau cyfarwyddeb erthygl 16 a thrwy gynnwys lefelau llywodraeth eraill ar draws Ewrop. Dangosodd Llywodraethau Ewropeaidd rhanbarthol eraill ddiddordeb yn y seminar ar 27 Tachwedd. Rhaid inni gyflwyno ein safbwynt i Lywodraethau Ewropeaidd eraill er mwyn ennill eu cefnogaeth. Fel y dywedais, yn Ewrop y caiff y frwydr ei hymladd ac yno y mae’n rhaid inni fod yn ddylanwadol.

To return to what I said at the start, we must play by the rules of the game. Infraction proceedings have been launched, the consequence of which is a daily fine. We cannot justify that to the people of Wales. We have the most restrictive policy possible and we have a viewpoint that we want to put forward. However, why should we put ourselves in a position whereby the Assembly could be fined, when there are other ways of putting forward that viewpoint? Passing these regulations does not weaken our position in any way and it does not make it more or less likely that GM crops will be grown in Wales. If we do not pass them, we will be fined and the UK Government will not pay. The Assembly will be responsible, which is why the responsible action to take at this stage is to pass these regulations. Other avenues are being pursued. The issue of GM crops is not dead and we will continue to ensure that we seek to influence those in Europe whom we need as allies.

I ddychwelyd at yr hyn a ddywedais ar y dechrau, rhaid inni chwarae yn unol â rheolau’r gêm. Dechreuwyd cymryd camau gorfodi deddfwriaeth, a chawn ein dirwyo’n ddyddiol o ganlyniad i hynny. Ni allwn gyfiawnhau hynny gerbron pobl Cymru. Ni sydd â’r polisi mwyaf cyfyngol posibl ac mae gennym safbwynt yr ydym am ei gyflwyno. Fodd bynnag, pam y dylem ein rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle y gellid dirwyo’r Cynulliad, pan fo ffyrdd eraill o gyflwyno’r safbwynt hwnnw? Nid yw cymeradwyo’r rheoliadau hyn yn gwanhau ein sefyllfa mewn unrhyw ffordd ac nid yw’n ei gwneud yn fwy nac yn llai tebygol y caiff cnydau a addaswyd yn enetig eu tyfu yng Nghymru. Oni chymeradwywn hwy, cawn ein dirwyo ac ni fydd Llywodraeth y DU yn talu. Y Cynulliad fydd yn gyfrifol, a dyna pam mai’r cam cyfrifol i’w gymryd ar hyn o bryd yw cymeradwyo’r rheoliadau hyn. Ymchwilir i bosibiliadau eraill. Nid yw mater cnydau a addaswyd yn enetig ar ben a pharhawn i sicrhau ein bod yn ceisio dylanwadu ar y rheini yn Ewrop y mae angen inni ymgynghreirio â hwy.

Cynnig NDM793 Carwyn Jones t. 38

Motion NDM793 Carwyn Jones p. 38

DerbyniwydAdopted O blaidFor 36 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 14

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (36)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
Yn erbynAgainst (14)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Newid Aelodaeth y Cyngor Partneriaeth Busnes

Amendment of the Membership of the Business Partnership Council

Rhodri Morgan The First Minister spoken in English p. 39

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Saesneg t. 39

I propose that

Cynigiaf fod

Rhodri Morgan The First Minister (continued) spoken in English p. 39

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 39

The Business Partnership Council is an advisory body that promotes co-operation between the Assembly and the business community. It is our main vehicle for testing and developing our policies with the business community and is invaluable for informing our judgments on the health of and prospects for the Welsh economy, and the impact of any rules, regulations or policies that we may make.

Corff ymgynghorol yw’r Cyngor Partneriaeth Busnes sy’n hyrwyddo cydweithredu rhwng y Cynulliad a’r gymuned fusnes. Hwn yw ein prif gyfrwng ar gyfer profi a datblygu ein polisïau â’r gymuned fusnes ac mae’n amhrisiadwy ar gyfer llywio ein barn ar iechyd economi Cymru a’r rhagolygon ar ei chyfer, ynghyd ag effaith rheolau, rheoliadau neu bolisïau a lunnir gennym.

At present, the agreed composition of the council provides for two representatives of the Wales Trades Union Congress, and at least four members from Business Wales. In practice, nine Business Wales organisations are represented at meetings. As a consequence, the representation of business and social partners is out of balance. The Business Wales organisations have not raised any objections to the proposal to increase Wales TUC representation.

Ar hyn o bryd, mae cyfansoddiad y cyngor fel y cytunwyd arno yn cynnwys dau gynrychiolydd o TUC Cymru, a phedwar aelod o leiaf o Fusnes Cymru. Yn ymarferol, cynrychiolir naw o sefydliadau Busnes Cymru yn y cyfarfodydd. O ganlyniad, mae’r partneriaid busnes a’r partneriaid cymdeithasol a gynrychiolir yn anghyfartal. Nid yw sefydliadau Busnes Cymru wedi gwrthwynebu’r cynnig i gynyddu cynrychiolaeth TUC Cymru o gwbl.

The amendment of paragraph 11 of ‘Consultation with Business’ to enable each side to have at least five seats on the council would not only serve the interests of equity, but also give a clear signal of our commitment to balanced dialogue with business and social partners. The amendment also regularises the number of meetings held each year. At present, under the rules set out in ‘Consultation with Business’ the Business Partnership Council meets twice a year. However, in practice we meet three or four times a year, and this amendment regularises that practice by adding the words ‘at least’.

Byddai newid paragraff 11 o’r ‘Ymgynghoriad â Busnes’ er mwyn galluogi’r ddwy ochr i gael pum sedd o leiaf ar y cyngor nid yn unig yn sicrhau tegwch, ond hefyd yn arwydd clir o’n hymrwymiad i ddeialog gytbwys gyda phartneriaid busnes a phartneriaid cymdeithasol. Mae’r newid hefyd yn rheoleiddio nifer y cyfarfodydd a gynhelir bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, o dan y rheolau a nodwyd yn yr ‘Ymgynghoriad â Busnes’ mae’r Cyngor Partneriaeth Busnes yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, yn ymarferol yr ydym yn cyfarfod deirgwaith neu bedair y flwyddyn, ac mae’r newid hwn yn rheoleiddio’r arfer hwnnw drwy ychwanegu’r geiriau ‘o leiaf’.

Phil Williams spoken in English p. 40

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 40

Plaid Cymru supports these changes. The extra representation of the TUC is important, as is the opportunity to meet in what is developing into an important partnership.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r newidiadau hyn. Mae cynrychiolaeth ychwanegol i’r TUC yn bwysig, fel y mae’r cyfle i gyfarfod yn yr hyn sy’n datblygu’n bartneriaeth bwysig.

Christine Chapman spoken in English p. 40

Christine Chapman siaradwyd yn Saesneg t. 40

I welcome this amendment because it sends a clear message that the Assembly needs to work closely with key groups such as the trade unions, the business community and community enterprises. Such moves signal a clear break with the past. Before the establishment of the Assembly, groups may have been consulted, but were not necessarily listened to. This new inclusivity is key to the new model of governance in Wales.

Croesawaf y newid hwn gan ei fod yn anfon neges glir bod angen i’r Cynulliad gydweithio’n agos â grwpiau allweddol fel yr undebau llafur, y gymuned fusnes a mentrau cymunedol. Mae camau o’r fath yn arwydd o doriad clir â’r gorffennol. Cyn sefydlu’r Cynulliad, efallai yr ymgynghorwyd â grwpiau, ond ni wrandawyd arnynt o anghenraid. Mae’r cynwysoldeb newydd hwn yn allweddol i fodel newydd llywodraethu yng Nghymru.

I will pay particular attention to the private sector. We have all been aware of the need to ensure that the business sector plays a key part in policy making in Wales. In the Objective 1 area much progress has been made to ensure that the private sector’s influence is strong. The private sector is part of the decision-making process, which is shown by the fact that it is working with commitment, within the new partnership arrangements taking the Objective 1 programme forward. I pay tribute to the private sector’s excellent work.

Rhoddaf sylw arbennig i’r sector preifat. Buom oll yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod y sector busnes yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio polisïau yng Nghymru. Yn ardal Amcan 1 gwnaethpwyd cryn gynnydd i sicrhau bod dylanwad y sector preifat yn gryf. Mae’r sector preifat yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, a ddangosir gan y ffaith ei fod yn gweithio gydag ymrwymiad, o fewn y trefniadau partneriaeth newydd, gan ddatblygu rhaglen Amcan 1. Talaf deyrnged i waith ardderchog y sector preifat.

We should also remind ourselves that the private sector benefits from Objective 1. I welcome the figures that were given in last week’s Economic Development Committee meeting, which showed that nearly half of the approved European regional development fund projects had either come from the private sector, or supported the private sector. We should remember that we are still only in the first half of the Objective 1 programme.

Dylem hefyd ein hatgoffa ein hunain bod y sector preifat yn elwa o Amcan 1. Croesawaf y ffigurau a roddwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Economaidd yr wythnos diwethaf, a ddangosodd fod bron i hanner prosiectau cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a gymeradwywyd naill ai wedi dod o’r sector preifat, neu’n cefnogi’r sector preifat. Dylem gofio mai dim ond yn hanner cyntaf rhaglen Amcan 1 yr ydym o hyd.

Last week’s news about Finance Wales was excellent. The First Minister announced that £21 million will be drawn down from Europe. That will provide a huge boost to business—to small, indigenous businesses—in particular. That was a key aim of the Assembly. We have a good foundation on which to work. It will be a challenge for all of us to maintain the momentum in engaging effectively with the private sector.

Yr oedd newyddion yr wythnos diwethaf am Gyllid Cymru yn ardderchog. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y daw £21 miliwn o Ewrop. Bydd hynny yn hwb aruthrol i fusnes—i fusnesau cynhenid, bach—yn benodol. Yr oedd hynny yn un o nodau allweddol y Cynulliad. Mae gennym sylfaen dda i weithio arni. Bydd cynnal y momentwm wrth ymdrin yn effeithiol â’r sector preifat yn her inni i gyd.

Alun Cairns spoken in English p. 41

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 41

The Welsh Conservative Party is happy to support this motion but calls on the First Minister to heed the calls of business in terms of the business rates discussed earlier. He should also listen to the concerns of businesses when they are expressed jointly, particularly in co-operation with the Trades Union Congress, as happened recently when the private sector threatened to withdraw from Objective 1 because of its concerns about the bureaucracy involved. We support the amendment and hope that the First Minister will heed the calls.

Mae Plaid Geidwadol Cymru yn hapus i gefnogi’r cynnig hwn ond yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ystyried y galwadau busnes yn nhermau’r ardrethi busnes a drafodwyd yn gynharach. Dylai wrando hefyd ar bryderon busnesau pan gânt eu mynegi ar y cyd, yn benodol mewn cydweithrediad â’r TUC, fel y digwyddodd yn ddiweddar pan fygythiodd y sector preifat dynnu’n ôl o Amcan 1 oherwydd ei bryderon ynghylch y fiwrocratiaeth a oedd ynghlwm â hynny. Cefnogwn y newid a gobeithiwn y bydd Prif Weinidog Cymru yn ystyried y galwadau.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 48 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (48)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Richard Edwards
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Dadl Plaid Leiafrifol (Plaid Cymru): Y Sefyllfa Ryngwladol Bresennol

Minority Party Debate (Plaid Cymru): The Current International Situation

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Gymraeg t. 42

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in Welsh p. 42

Gan fod dros 20 o Aelodau wedi mynegi awydd i siarad yn y ddadl hon, fe gyfyngaf amser y siaradwyr fel a ganlyn: 12 munud ar gyfer yr areithiau agor a chloi, wyth munud i’r Gweinidog sy’n siarad ar ran Llywodraeth Cymru, pum munud i brif siaradwyr y grŵp Ceidwadol a grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, a thri munud yr un i’r gweddill hyd at, o bosibl, 10 o siaradwyr eraill. Defnyddiaf y botwm coch i ddiffodd meicroffonau Aelodau os ânt dros yr amser. Byddaf hefyd yn galw’r siaradwyr am yn ail â’r blaid sydd yn cynnal y ddadl, yn ôl ein harfer.

As over 20 Members have expressed a desire to speak in this debate, I will limit each speaker’s time as follows: 12 minutes for the opening and closing speeches, eight minutes for the Minister speaking on behalf of the Government of Wales, five minutes for the Conservative and Liberal Democrat groups’ main speakers, and three minutes each for up to 10 other speakers. I will use the red button to turn Members’ microphones off if they go over time. Also, I will call the speakers alternately with the party holding the debate, according to our custom.

Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enwau Andrew Davies, Peter Black a William Graham.

I have selected amendment 1 in the names of Andrew Davies, Peter Black and William Graham.

Ieuan Wyn Jones siaradwyd yn Gymraeg t. 42

Ieuan Wyn Jones spoken in Welsh p. 42

Cynigiaf fod

I propose that

Ieuan Wyn Jones (parhad) siaradwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg t. 43

Ieuan Wyn Jones (continued) spoken in Welsh and English p. 43

Siaradaf am oddeutu wyth munud ac, o dan yr amgylchiadau, ni fyddaf yn derbyn ymyriadau, er y teimlaf fod ymyriadau yn rhan bwysig o drafodion y Cynulliad. Fodd bynnag, gan fod cynifer am siarad heddiw teimlaf mai dyna’r ffordd orau o symud ymlaen.

in Welsh I will speak for around eight minutes and, under the circumstances, I shall not accept interventions, though I feel that interventions are an important part of the Assembly’s proceedings. However, since so many wish to speak today I feel that that is the best way to proceed.

Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn cael cyfle i drafod effaith y sefyllfa ryngwladol bresennol ar Gymru. Dyna pam y cawsom ein siomi’n enbyd yr wythnos diwethaf gyda’r penderfyniad i ganiatáu datganiad gan y Prif Weinidog yn hytrach na dadl. Ein bwriad, fel y gŵyr y Cynulliad, oedd cynnal dadl o dan Reol Sefydlog Rhif 6.9. Byddai hynny wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad fynegi barn ar y mater hwn yr wythnos diwethaf. Byddai hynny wedi ymdebygu i ddadl ar ohiriad yn Nhŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, am ryw reswm nad yw’n glir, pleidleisiodd mwyafrif y Cynulliad yn erbyn cynnal dadl bryd hynny. O ganlyniad, cawn gynnig heddiw ar yr union eiriau y byddem wedi eu defnyddio yr wythnos diwethaf. Yr wythnos hon, wrth gwrs, mae tair plaid arall y Cynulliad wedi cyflwyno gwelliant yn gofyn inni gefnogi gweithrediadau a safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Ni allwn wneud hynny fel plaid am resymau a egluraf yn awr. Fodd bynnag, pwysleisiaf nad Plaid Cymru a benderfynodd gyflwyno gwelliant i’r cynnig a fydd yn dangos gwahaniaeth barn yn y Cynulliad.

in Welsh It is important that the Assembly has an opportunity to discuss the effect of the present international situation on Wales. That is why we were so disappointed last week by the decision to allow a statement from the First Minister rather than a debate. Our intention, as the Assembly knows, was to hold a debate under Standing Order No. 6.9. That would have provided an opportunity for Members to voice their opinion on this matter last week. It would have been similar to an adjournment debate in the House of Commons. However, for some unknown reason, the majority of the Assembly voted against holding a debate at that time. Consequently, we have a motion today that is a carbon copy of that which would have been used last week. This week, of course, the three other parties in the Assembly have tabled an amendment requesting that we support the actions and approach of the United Kingdom Government. We cannot do that as a party for reasons that I will explain now. However, I wish to make it clear that an amendment expressing differences within the Assembly was not of Plaid Cymru’s making.

Wythnos wedi datganiad Rhodri Morgan, mae’r sefyllfa ryngwladol wedi gwaethygu yn arw. Mae llawer o’r hyn a ddywedais am yr argyfwng dyngarol a oedd yn wynebu pobl Afghanistan yn fwy gwir heddiw. Mae Oxfam yn amcangyfrif bod oddeutu 7.5 miliwn o bobl Afghanistan yn wynebu anawsterau difrifol. Mae 2.5 miliwn o’r rheini yn wynebu newyn os na ddaw’r bomio i ben cyn y gaeaf. Rhaid caniatáu i dryciau gludo llwythi digonol o fwyd i’r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf.

in Welsh The international situation has worsened considerably since Rhodri Morgan’s statement last week. Much of what I said about the humanitarian crisis facing the people of Afghanistan is even more pertinent today. Oxfam estimates that around 7.5 million Afghans are facing serious difficulties. Two and a half million of those face starvation if the bombing does not cease before winter. Trucks must be allowed to transport sufficient food stocks to the areas where the need is greatest.

Yr oedd yn arwyddocaol bod Oxfam a Chymorth Cristnogol yn galw am roi terfyn ar y bomio yr wythnos diwethaf. Maent yn gwybod yn well na’r rhan fwyaf ohonom am ddifrifoldeb yr argyfwng a’r rhwystr i’w gwaith a achosir gan y bomio.

in Welsh It was significant that Oxfam and Christian Aid called for a cessation of the bombing last week. They understand the gravity of the crisis and have first-hand experience of the disruption caused by the bombing.

Dyma’r tro cyntaf i Oxfam alw ar lywodraeth i roi’r gorau i weithredu milwrol. Yr wyf yn yn siŵr na fyddai wedi gwneud hynny ar chwarae bach. Mae Oxfam a Chymorth Cristnogol yn dweud wrthym mai saib yn y gweithredu milwrol yw’r unig obaith i ddosbarthu bwyd cyn i lawer o ardaloedd Afghanistan gael eu cau i ffwrdd gan eira.

in Welsh This is the first time that Oxfam has called on a government to cease military action. I am sure that it would not have done so lightly. Oxfam and Christian Aid tells us that a pause in the military action is the only hope if food is to be distributed before many areas in Afghanistan are cut off by snow.

Yr ydym, fel plaid, wedi gwneud ein safbwynt yn glir ar y pwnc hwn ers pythefnos bellach. Er mai ni oedd yr unig blaid yn y brif ffrwd wleidyddol i ddadlau yn erbyn y bomio ar y pryd, yr wyf yn falch—ac yr wyf yn siŵr bod Aelodau eraill yn falch hefyd—o weld nifer cynyddol o wleidyddion Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn mynegi’r un farn. Credaf fod llawer mwy yn cytuno â ni yn dawel bach a, dros y dyddiau nesaf, ni fyddwn yn synnu o’u clywed yn lleisio hynny.

in Welsh We, as a party, made our views known on this issue a fortnight ago. Although we were the only mainstream political party to argue against the bombing at the time, I am pleased—and I am sure that other Members are also pleased—to see an increasing number of Labour and Liberal Democrat politicians now expressing the same opinion. I believe that, privately, many more agree with us and, over the next few days, I would not be surprised to hear them say so.

Mae’r ffaith bod yr argyfwng dyngarol wedi dwysáu yn rheswm ynddo’i hun dros ymbwyllo, ond mae rheswm pellach. Mae’r sefyllfa yn y dwyrain canol wedi gwaethygu yn ystod yr wythnos a gwelsom yr hyn sydd wedi digwydd rhwng Israel a Phalestina. Mae sefyllfa beryglus yn gwaethygu. Mae gennym ni hefyd ofnau ynglŷn â’r posibilrwydd o ymosodiadau dialgar ar y gorllewin, gan gynnwys ymosodiadau cemegol neu fiolegol. Nid ydym am ddychryn pobl, ond byddem yn croesawu sylwadau’r Prif Weinidog ar sut y byddai Cymru yn ymateb i unrhyw ymosodiad, pe byddai hynny yn digwydd.

in Welsh The fact that the humanitarian crisis has intensified is, in itself, a reason for us to practise caution, but there is a another reason. The situation in the middle east has worsened during the week and we have seen what has happened between Israel and Palestine. A dangerous situation is worsening. We also fear revenge attacks on the west, including chemical or biological attacks. We do not want to frighten people, but we would welcome the First Minister’s views on how Wales would respond to any attack, were that to happen.

As a result of the current bombing campaign in Afghanistan, the plight of innocent civilians is worsening daily. In Afghanistan, 2.5 million people face death by starvation unless they are provided urgently with food and shelter. Although some food is reaching the world health programme warehouses, albeit less than half the required amount, aid agencies such as Oxfam and Christian Aid tell us that their warehouses are empty. No truck drivers will carry the food from the WHP depots because of the current bombing campaign. Therefore, although some food is getting into Afghanistan, very little, if any, is reaching the people who desperately need it. According to Christian Aid, 600 people have already died from starvation in that country. If we are to avoid the worst humanitarian disaster that the world has seen in modern times, the bombing must stop to allow food and shelter to reach the starving millions.

yn Saesneg O ganlyniad i’r ymgyrch fomio bresennol yn Afghanistan, mae trafferthion dinasyddion diniwed yn gwaethygu’n feunyddiol. Yn Afghanistan, bydd 2.5 miliwn o bobl yn marw o newyn os na chânt fwyd a lloches ar unwaith. Er bod rhywfaint o fwyd yn cyrraedd storfeydd rhaglen iechyd y byd, er mai dim ond hanner y bwyd sydd ei angen yw hynny, mae asiantaethau cymorth fel Oxfam a Chymorth Cristnogol yn dweud wrthym fod eu storfeydd yn wag. Nid yw gyrrwyr lorïau yn fodlon cludo’r bwyd o storfeydd Rhaglen Iechyd y Byd oherwydd yr ymgyrch fomio bresennol. Felly, er bod rhywfaint o fwyd yn cyrraedd Afghanistan, bach iawn, os o gwbl, sy’n cyrraedd y bobl sydd ei angen yn ddybryd. Yn ôl Cymorth Cristnogol, mae 600 o bobl eisoes wedi marw o newyn yn y wlad honno. Os ydym am osgoi’r drychineb ddyngarol waethaf a welodd y byd yn yr oes fodern, rhaid i’r bomio ddod i ben er mwyn galluogi i fwyd a lloches gyrraedd y milynau newynog.

To put the scale of the crisis into context, it is much worse than that in Ethiopia in the 1980s. Unless food and shelter is made available urgently, a number of people equivalent to the population of Wales will starve to death by the end of the winter. People are fleeing the cities and urban centres because of the bombing campaign,. In some cities, 80 per cent of the population have left. Most of them are heading for the hills. Dropping food from aircraft is ineffective and dangerous. Afghanistan is the most heavily mined country on earth. There are land mines everywhere and food parcels are being dropped indiscriminately. Many people displaced by the bombing are desperate for food, and have no idea where the land mines are located. Unfortunately, many people are being killed attempting to collect the food that is meant to keep them alive.

yn Saesneg I roi maint yr argyfwng yn ei gyd-destun, mae’n llawer gwaeth na’r argyfwng a welwyd yn Ethiopia yn yr 1980au. Oni ddarperir bwyd a lloches ar unwaith, bydd yr un nifer o bobl â phoblogaeth Cymru yn marw o newyn erbyn diwedd y gaeaf. Mae pobl yn dianc o’r dinasoedd a’r canolfannau trefol oherwydd yr ymgyrch fomio. Mewn rhai dinasoedd, mae 80 y cant o’r boblogaeth wedi gadael. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn anelu at y mynyddoedd. Nid yw gollwng bwyd o awyrennau yn effeithiol ac mae’n beryglus. Afghanistan yw’r wlad sydd â’r nifer uchaf o ffrwydron tir yn y byd. Mae ffrwydron tir ym mhob man ac mae’r parseli bwyd yn cael eu gollwng ar hap. Mae angen bwyd yn enbyd ar nifer o’r bobl a ddadleolwyd gan y bomio, ac nid oes ganddynt syniad o leoliad y ffrwydron tir. Yn anffodus, mae nifer o bobl yn cael eu lladd wrth iddynt geisio casglu’r bwyd a ddylai fod yn eu cadw’n fyw.

As a columnist in The Guardian admitted yesterday,

yn Saesneg Fel y cyfaddefodd colofnydd yn The Guardian ddoe,

‘Bombing fuel dumps, water systems, aid depots and roads cannot avoid pushing a fragile country like Afghanistan into outright catastrophe and it was absurd to have ever thought that anything else could be true.’

I have already described the extent to which this humanitarian crisis has worsened since last week and how the worsening crisis in the middle east calls for further caution by the international community. Plaid Cymru called for a halt in the bombing almost two weeks ago. The situation is now worse, and it is good to see an increasing number of Labour and Liberal Democrat MPs in Westminster calling for the bombing to be halted. I believe that an even greater number of them, and Assembly Members, share our unease at the scale of the current military conflict.

yn Saesneg Yr wyf eisoes wedi disgrifio i ba raddau y mae’r argyfwng dyngarol hwn wedi gwaethygu ers yr wythnos diwethaf a’r angen am fwy o bwyll gan y gymuned ryngwladol wrth i’r argyfwng yn y dwyrain canol waethygu. Gofynnodd Plaid Cymru iddynt roi’r gorau i fomio bron i bythefnos yn ôl. Mae’r sefyllfa’n waeth erbyn hyn, ac mae’n dda gweld nifer cynyddol o AS y blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn gofyn am atal y bomio. Credaf fod llawer mwy ohonynt, ac Aelodau’r Cynulliad, yn rhannu ein pryder ynglŷn â maint y gwrthdaro milwrol presennol.

Does our opposition to the bombing mean that military action is not justified under any circumstances? Of course not. We defer to no-one in our condemnation of the Al-Quaeda terrorist network and the atrocities perpetrated in the United States. We have accepted that military action may form part of the response to those atrocities. However, military action on the ground must be sanctioned by the United Nations and designed to bring the terrorists to justice and to dismantle the Al-Quaeda network.

yn Saesneg A yw ein gwrthwynebiad i’r bomio’n golygu na ellir cyfiawnhau camau milwrol o dan unrhyw amgylchiadau? Wrth gwrs nad yw. Nid ydym am gelu ein beirniadaeth o rwydwaith terfysgol Al-Quaeda a’r gweithredoedd erchyll a welwyd yn yr Unol Daleithiau rhag neb. Yr ydym wedi derbyn y gallai gweithredu milwrol fod yn rhan o’r ymateb i’r erchyllderau hynny. Fodd bynnag, rhaid i’r Cenhedloedd Unedig gydsynio â gweithredu milwrol ar y ddaear a rhaid cynllunio hynny i gosbi’r terfysgwyr ac i ddatgymalu rhwydwaith Al-Quaeda.

I turn to the amendment. We would have no problem with a broad statement expressing general support, in principle, for the fight against terrorism. When it comes to choosing between the international coalition and the need to destroy terrorism, Osama Bin Laden and the Al-Quaeda network, there is no question of with whom we side. However, amendment 1 goes much further than that. It expresses support for the steps that have already been taken, which include the last two weeks of relentless bombing. If we supported this amendment, it would make our declared opposition to the bombing utterly meaningless. It would also be sheer hypocrisy on our part. We deliberately tabled a non-contentious motion that all Members could feel free to support. It is for the other parties to justify their opposition. We cannot, in all conscience, support this amendment and we call on all Members who share our views to join us to defeat it.

yn Saesneg Trof at y gwelliant. Ni fyddai gennym broblem gyda datganiad cyffredinol sy’n mynegi cefnogaeth gyffredinol, mewn egwyddor, i’r ymgyrch yn erbyn terfysgaeth. O ddewis rhwng y cynghrair ryngwladol a’r angen i ddinistrio terfysgaeth, Osama Bin Laden a rhwydwaith Al-Quaeda, nid oes angen gofyn ar ba ochr yr ydym. Fodd bynnag, mae gwelliant 1 yn mynd ymhellach na hynny. Mae’n mynegi cefnogaeth i’r camau a gymerwyd eisoes, sy’n cynnwys y pythefnos diwethaf o fomio didrugaredd. Pe baem yn cefnogi’r gwelliant hwn, byddai wedi golygu bod ein gwrthwynebiad i’r bomio’n gwbl ddibwrpas. Byddai hefyd yn rhagrith llwyr ar ein rhan. Cyflwynasom gynnig annadleuol yn fwriadol er mwyn i’r holl Aelodau deimlo y gallant ei gefnogi. Mater i’r pleidiau eraill yw cyfiawnhau eu gwrthwynebiad. Ni allwn, yn gydwybodol, gefnogi’r gwelliant hwn a gofynnwn i’r holl Aelodau hynny sydd o’r un farn â ni ymuno â ni i’w drechu.

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru siaradwyd yn Gymraeg t. 46

Rhodri Morgan The First Minister spoken in Welsh p. 46

Cynigiaf welliant 1 yn enwau Andrew Davies, Peter Black a William Graham. Rhodder coma yn lle’r atalnod llawn ac ychwaneger:

I propose amendment 1 in the names of Andrew Davies, Peter Black and William Graham. Replace the full stop with a comma and add:

Rhodri Morgan The First Minister (continued) spoken in English p. 46

Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 46

It is important that the Assembly is conscious of the burden of maturity, responsibility and expectation that falls on all of us. There is an extraordinary degree of interest in this debate, paradoxically in some ways, given that we do not have devolved responsibilities for security, foreign policy or defence matters. Of the matters reserved to central Government, it is crystal clear that those three are reserved and not devolved to the Assembly. Nevertheless, there is a great deal of interest in Wales as a result of the impact of disturbance to community relations that may occur, not only because of the events of 11 September, but also because of possible reprisals and events in the USA since the terrorist attacks. Therefore, it behoves all of us to think consciously of how this will be reported and perceived when the Assembly is contrasted with the House of Commons, which, with its different standing orders, has had four debates on this matter, without voting on a motion or amendments to that motion. As a result, every Member of Parliament can express their views without having to vote. This has happened in the House—with Wales’s 40 MPs representing the views of the people of Wales on this matter—that has responsibility in this regard. The Assembly can consider the side-effects, by assessing what emergency preparations must be made, how to handle security matters and what might be the potential impact on the NHS, the ambulance service and so on. That work has continued apace since 11 September.

Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn ymwybodol o faich yr aeddfedrwydd, y cyfrifoldeb a’r disgwyliad sydd ar ysgwyddau pob un ohonom. Mae cryn ddiddordeb yn y ddadl hon, sy’n baradocsaidd i raddau, o ystyried nad oes gennym gyfrifoldebau datganoledig dros faterion diogelwch, polisi tramor nac amddiffyn. O’r materion hynny y mae’r Llywodraeth ganolog yn gyfrifol amdanynt, mae’n gwbl amlwg bod y tri hynny yn rhai nad ydynt wedi’u datganoli i’r Cynulliad. Serch hynny, ceir cryn ddiddorddeb yng Nghymru o ganlyniad i effaith amharu ar gysylltiadau cymunedol a allai ddigwydd, nid dim ond oherwydd digwyddiadau 11 Medi, ond hefyd oherwydd y dialedd posibl a’r digwyddiadau yn UDA ers yr ymosiadau terfysgol. Felly, mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ystyried sut y cofnodir ac yr ystyrir hyn pan gyferbynnir y Cynulliad gyda Thŷ’r Cyffredin, sydd, gyda’i reolau sefydlog gwahanol, wedi cynnal pedair dadl ar y mater hwn, heb bleidleisio ar gynnig neu welliannau i’r cynnig hwnnw. O ganlyniad, gall pob Aelod Seneddol fynegi eu safbwyntiau heb orfod pleidleisio. Digwyddodd hynny yn y Tŷ—gyda’r 40 AS o Gymru yn cynrychioli safbwyntiau pobl Cymru ar y mater hwnnw—sydd â’r cyfrifoldeb yn hyn o beth. Gall y Cynulliad ystyried y sgîl-effeithiau drwy asesu pa baratoadau brys sydd eu hangen, sut i ddelio â materion diogelwch a beth y gallai’r effaith fod ar yr NHS, y gwasanaeth ambiwlans ac ati. Mae’r gwaith hwn wedi parhau’n ddiymdroi ers 11 Medi.

No party should point a finger at any other party this afternoon. We are discussing an event of huge international significance, namely the atrocities on 11 September and the reaction of the alliance against terrorism. The USA and the UK are at the core of the alliance, with other countries signing up to different degrees. It is fair to say that, in the way that the amendment has been framed, it includes all three aspects of the world’s response to the terrorist atrocities. It is military, humanitarian and diplomatic and political.

Ni ddylai unrhyw blaid bwyntio bys at unrhyw blaid arall y prynhawn yma. Yr ydym yn trafod digwyddiad ag arwyddocâd rhyngwladol enfawr, sef yr erchyllterau ar 11 Medi ac adwaith y gynghrair yn erbyn terfysgaeth. Yr UDA a’r DU yw craidd y gynghrair, gyda gwledydd eraill yn ymrwymo eu hunain i wahanol raddau. Mae’n deg dweud, o ystyried y ffordd y cyflwynwyd y gwelliant, ei fod yn cynnwys y tair agwedd ar ymateb y byd i’r erchyllterau terfysgol. Mae’n filwrol, yn ddyngarol a diplomataidd ac yn wleidyddol.

The latter aspect means thinking about what kind of society can be reconstructed in Afghanistan after what we assume will be the collapse of the Taleban regime. We do not know how or when that will occur. Everybody has given a great deal of thought to a post-Taleban Afghanistan without a residue of bitterness that will form the recruits of another generation of terrorists.

Mae’r agwedd olaf yn ymwneud â meddwl am y math o gymdeithas y gellir ei hailadeiladu yn Afghanistan ar ôl yr hyn y tybiwn fydd yn arwain at gwymp cyfundrefn y Taleban. Ni wyddom sut na phryd y bydd hynny’n digwydd. Mae pawb wedi rhoi llawer o feddwl i Afghanistan wedi’r Taleban heb arlliw o’r chwerwder a fydd yn llunio cenhedlaeth arall o derfysgwyr.

As regards the humanitarian aspect, I do not think that any one party, within or outside the Assembly, has a monopoly on concern about the window in the weather and attempts made to ensure that supplies reach Afghanistan and the refugee camps on the country’s borders with Iran, Pakistan and the countries of the former Union of Soviet Socialist Republics. There will be a huge humanitarian crisis. There was one already and it will worsen. There is a particular problem, given the inclement weather that will afflict that part of the world before too long. We must ensure that the aid is deliverable inside and outside Afghanistan’s borders. That is a huge concern for everybody in this Assembly and in Wales for the reasons that Ieuan Wyn Jones mentioned. We share those concerns about ensuring that aid is delivered. Clare Short, the Secretary of State for International Development returned today from Islamabad. She went there to carry out an on-the-spot investigation of the food delivery mechanisms and to talk to the representatives of the non-governmental and governmental organisations that are ensuring the delivery of food to refugee camps.

O ran yr agwedd ddyngarol, ni chredaf fod y pryder ynglŷn â thywydd anffafriol a’r ymdrechion a wnaethpwyd i sicrhau bod y cyflenwadau yn cyrraedd Afghanistan a gwersylloedd y ffoaduriaid ar ffiniau’r wlad ag Iran, Pacistan a gwledydd hen Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd yn fater i unrhyw blaid unigol, o fewn y Cynulliad neu’r tu allan iddo. Bydd argyfwng dyngarol enfawr. Yr oedd un bodoli eisoes a bydd yn gwaethygu yn awr. Mae problem benodol, o ystyried y tywydd garw a fydd yn taro’r rhan hon o’r byd cyn hir. Rhaid inni sicrhau y dosberthir y cymorth y tu mewn a thu allan i ffiniau Afghanistan. Mae hynny’n peri pryder mawr i bawb yn y Cynulliad hwn ac yng Nghymru am y rhesymau y soniodd Ieuan Wyn Jones amdanynt. Yr ydym yn rhannu’r pryderon hynny ynglŷn â sicrhau y caiff y cymorth ei ddosbarthu. Dychwelodd Clare Short, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhynglwadol o Islamabad heddiw. Aeth yno i gynnal archwiliad uniongyrchol o’r dulliau dosbarthu bwyd ac i siarad â chynrychiolwyr sefydliadau anllywodraethol a llywodraethol sy’n sicrhau bod bwyd yn cael ei ddosbarthu i wersylloedd y ffoaduriaid.

We, therefore, want to see a balanced approach in response to the events of 11 September. Individuals in this Assembly in all four parties will place different degrees of emphasis on the humanitarian or military side as well as concern about the political redevelopment and reconstruction of Afghanistan. We must all respect each other’s views. We have been looking for the right vehicle by which everybody can express their wide variety of views, as they have done in the House of Commons. If we must change our Standing Orders to make that easier in future, I am sure that there will be general cross-party support for that. We have faced an obstacle that the public will find difficult to understand. The House of Commons can debate more freely without agonising as we have done. We must try to put that right.

Felly, yr ydym am weld ymagwedd gytbwys yn yr ymateb i ddigwyddiadau 11 Medi. Bydd unigolion ym mhedair plaid y Cynulliad hwn yn rhoi pwyslais gwahanol ar yr agwedd ddyngarol neu’r agwedd filwrol yn ogystal â’r pryder am y gwaith o ailddatblygu ac ailadeiladu Afghanistan yn wleidyddol. Rhaid inni barchu safbwyntiau ein gilydd. Yr ydym wedi bod yn chwilio am y cyfrwng cywir er mwyn galluogi pawb i fynegi eu hamrywiaeth eang o safbwyntiau, fel y gwnaethant yn Nhŷ’r Cyffredin. Os bydd yn rhaid inni newid ein Rheolau Sefydlog er mwyn gwneud hyn yn haws yn y dyfodol, yr wyf yn siŵr y bydd cefnogaeth drawsbleidiol gyffredinol i hynny. Yr ydym wedi wynebu rhwystr y bydd y cyhoedd yn ei gael yn anodd i’w ddeall. Gall Tŷ’r Cyffredin ddadlau’n fwy rhydd heb y poen meddwl a gawsom ni. Rhaid inni geisio unioni hynny.

On behalf of the Labour Party, I say that we are preparing for the impact of this crisis on us. We have tried to work on a cross-party basis. Ieuan, Nick and Mike will confirm that I have consulted and involved them in all the initiatives that we have taken, for example, in setting up better lines of communication with the Muslim communities and other religious and ethnic minority communities in Wales. The pressure of social exclusion is bound to arise during periods of heightened tension. It is important that all four parties are involved in the effort to reach out to people to ensure that they do not feel excluded or not fully part of Welsh society, and so that none of those ideas gain currency. We must ensure that that does not occur.

Ar ran y Blaid Lafur, dywedaf ein bod yn paratoi ar gyfer effaith yr argyfwng hwn arnom. Yr ydym wedi ceisio gweithio yn drawsbleidiol. Bydd Ieuan, Nick a Mike yn cadarnhau imi ymgynghori â hwy a’u cynnwys yn yr holl fentrau a gyflwynwyd gennym, er enghraifft, sefydlu dulliau cyfathrebu gwell gyda’r cymunedau Moslemaidd a chymunedau crefyddol a lleiafrifoedd ethnig eraill yng Nghymru. Mae pwysau allgáu cymdeithasol yn sicr o godi yn ystod cyfnodau o dyndra cynyddol. Mae’n bwysig bod y pedair blaid yn cyfrannu i’r ymdrech i gysylltu â phobl er mwyn sicrhau nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu neu nad ydynt yn rhan o gymdeithas yng Nghymru, er mwyn atal y syniadau hyn rhag gwreiddio. Rhaid inni sicrhau na fydd hynny’n digwydd.

We expect to see some sort of response, leading to Osama Bin Laden being brought to justice and the Al-Quaeda network being eradicated, so that horrendous events such as those of 11 September never happen again. Any terrorist incident that has ever occurred anywhere in the world must be multiplied by about 1,000 to reach the horror that occurred on that dreadful day. The idea that there would be no response to that is clearly out of the question. Ieuan has confirmed that Plaid Cymru also agrees with that. I do not want any differences of opinion in this Assembly this afternoon. Our procedures have forced us into this position. However, we want Members to express their views, because there is no point in having a democratic Assembly, if people cannot do that.

Yr ydym yn disgwyl rhyw fath o ymateb, a fydd yn arwain at gosbi Osama Bin Laden a diddymu rhwydwaith Al-Quaeda, er mwyn sicrhau na fydd digwyddiadau erchyll fel y rhai a welwyd ar 11 Medi fyth yn digwydd eto. Rhaid lluosogi pob digwyddiad terfysgol sydd erioed wedi digwydd unrhyw le yn y byd gyda thua 1,000 er mwyn adlewyrchu erchylltra’r diwrnod ofnadwy hwnnw. Rhaid diystyru’r syniad o beidio ag ymateb i hynny. Cadarnhaodd Ieuan fod Plaid Cymru hefyd yn cytuno â hynny. Nid wyf am weld unrhyw wahaniaeth barn yn y Cynulliad hwn y prynhawn yma. Mae ein gweithdrefnau wedi gorfodi’r sefyllfa hon arnom. Fodd bynnag, yr ydym am i Aelodau fynegi eu barn, oherwydd nid oes pwynt cael Cynulliad democrataidd os na all pobl wneud hynny.

Everybody in this Assembly believes that it is important to get the balance right between the humanitarian, diplomatic and military aspects of this and this is being sensibly discussed. There will be times when we think that an individual politician, whether American, British or some other nationality, has gone over the top in some aspect or has not put enough emphasis on another aspect with which we are concerned. That is fair enough. That is democracy at work. However, people realise that any successful attempt to bring this to a conclusion over the next few months must have regard for achieving that balance between the three different aspects. We tabled the amendment and agreed it with the other two parties to express that balance between humanitarian, diplomatic and military efforts to bring this crisis to an end.

Mae pawb yn y Cynulliad hwn o’r farn ei bod yn bwysig sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng yr agweddau dyngarol, diplomataidd a milwrol ac mae hyn yn cael ei drafod yn synhwyrol. Bydd adegau pan fyddwn yn credu bod gwleidydd unigol, boed yn Americanwr, Prydeiniwr neu unrhyw genedl arall, wedi mynd dros ben llestri gyda rhyw agwedd neu nad yw wedi rhoi digon o bwyslais ar agwedd arall sy’n destun pryder inni. Mae hynny’n ddigon teg. Dyna yw democratiaeth ar waith. Fodd bynnag, mae pobl yn sylweddoli y bydd yn rhaid i unrhyw ymgais i ddod â’r mater hwn i ben yn llwyddiannus yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf ystyried sicrhau’r cydbwysedd hwnnw rhwng y tair agwedd wahanol. Yr ydym wedi cyflwyno’r gwelliant ac wedi cytuno arno gyda’r ddwy blaid arall er mwyn sicrhau’r cydbwysedd hwnnw rhwng yr ymdrechion dyngarol, diplomataidd a milwrol er mwyn dod â’r argyfwng hwn i ben.

Janet Davies spoken in English p. 50

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 50

We all agree that the world is facing escalating violence of a sort unknown before. Wales and the rest of the world face it. We all agree that the attacks on the World Trade Center’s twin towers and the Pentagon were horrifying; they stand condemned by most of the world. Our hearts went out to the families who saw their relatives killed so brutally. There must be justice.

Yr ydym oll yn cytuno bod y byd yn wynebu lefelau cynyddol o drais nas gwelwyd ei fath o’r blaen. Mae Cymru a gweddill y byd yn wynebu hyn. Yr ydym oll yn cytuno bod yr ymosodiadau ar dyrrau Canolfan Masnach y Byd a’r Pentagon wedi bod yn erchyll; mae’r rhan fwyaf o’r byd yn eu condemnio. Yr oedd ein calonnau’n gwaedu dros y teuluoedd a welodd eu perthnasau’n cael eu lladd mewn ffordd mor greulon. Rhaid sicrhau cyfiawnder.

Most Assembly Members do not have the information available to the US and UK Governments. Lacking that, we cannot analyse the validity of those actions as rigorously as we would like. However, we have principles on which we can base our comments. For example, the doctrine of a just war has been established for centuries. If violent action prevents more harm than it causes, it is justified. We must ask whether that is the case in the war with the Taleban in Afghanistan. What should we try to achieve? Should we try to bring Osama Bin Laden and his followers to justice? Should we try to examine why he had the support and capability to carry out these attacks, and cut that support?

Nid oes gan y rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad yr wybodaeth sydd ar gael i Lywodraethau’r UD a’r DU. Yn sgîl hynny, ni allwn ddadansoddi dilysrwydd y camau hynny mor drylwyr ag yr hoffem. Fodd bynnag, mae gennym egwyddorion y gallwn seilio ein sylwadau arnynt. Er enghraifft, mae dysgeidiaeth rhyfel cyfiawn wedi bodoli ers canrifoedd. Os bydd gweithrediadau treisgar yn atal mwy o niwed na’r hyn y mae’n ei achosi, gellir cyfiawnhau hynny. Rhaid inni ofyn ai dyma yw’r sefyllfa gyda’r rhyfel yn erbyn y Taleban yn Afghanistan. Beth ddylem geisio ei gyflawni? A ddylem geisio sicrhau y caiff Osama Bin Laden a’i ddilynwyr eu cosbi? A ddylem geisio archwilio pam bod ganddo’r gefnogaeth a’r gallu i gylfawni ymosodiadau o’r fath, a dileu’r gefnogaeth honno?

It was the US Government that originally armed the Taleban to take over from the previous communist government now represented by the Northern Alliance, which was rightly seen as an authoritarian government. Supplying arms and military training to such groups comes back to haunt the US and UK repeatedly.

Yn wreiddiol, Llywodraeth yr UD a roddodd arfau i’r Taleban oresgyn y llywodraeth gomiwnyddol flaenorol a gynrychiolir bellach gan Gynghrair y Gogledd, a ystyriwyd fel llywodraeth awdurdodaidd, a hynny’n haeddiannol. Mae cyflenwi arfau a hyfforddiant milwrol i grwpiau o’r fath yn dychwelyd i boenydio’r UD a’r DU dro ar ôl tro.

Plaid Cymru—The Party of Wales supported the initial bombing strike to take out the strategic objectives. We do not support continued bombing that causes collateral damage, which entails civilian deaths and injury. Considering the just war doctrine, I am sure that nobody in the Chamber would agree that it takes many civilian Afghan deaths to obtain justice for one death in the US. The First Minister spoke of humanitarian aid going to Afghanistan and that we all support that, but Ieuan made the point that although it is entering Afghanistan, it is not reaching those who need it.

Yr oedd Plaid Cymru—The Party of Wales yn cefnogi’r bomio cychwynnol er mwyn diddymu’r amcanion strategol. Nid ydym yn cefnogi’r bomio parhaus sy’n achosi difrod ystlysol, sy’n golygu marwolaethau ac anafiadau sifil. O ystyried dysgeidiaeth rhyfel gyfiawn, yr wyf yn sicr na fyddai neb yn y Siambr yn cytuno bod angen i nifer o bobl gyffredin farw yn Afghanistan i sicrhau cyfiawnder am un farwolaeth yn yr UD. Soniodd y Prif Weinidog am ddarparu cymorth dyngarol i Afghanistan a’n bod oll yn cefnogi hynny, ond fel y soniodd Ieuan, er bod y cymorth hwnnw yn cyrraedd Afghanistan, nid yw’n cyrraedd y rhai sydd ei angen.

The problem of continued bombing is that it hardens attitudes against the west, and builds stronger, wider support for Bin Laden. There is a danger that it weakens moderate Islamic regimes that could be replaced by Bin Laden lookalikes. Our Muslim communities in Wales must be in a state of fear and uncertainty. They need our support, but we cannot give it unreservedly while we continue to support the present bombing campaign of people of their religion in Afghanistan. For a new, more democratic government in Afghanistan, the support and efforts of the Islamic world are vital to work with the United Nations.

Y broblem gyda bomio parhaus yw ei fod yn dwysáu’r ymagweddau yn erbyn y gorllewin, ac yn cryfhau ac yn ehangu’r gefnogaeth i Bin Laden. Mae perygl y gallai cyfundrefnau Islamaidd cymedrol gael eu disodli gan bobl debyg i Bin Laden. Rhaid bod ein cymunedau Moslemaidd yng Nghymru yn byw mewn ofn ac ansicrwydd. Mae angen ein cymorth arnynt, ond ni allwn ei roi yn ddiamod tra byddwn yn parhau i gefnogi’r ymgyrch fomio bresennol yn erbyn pobl o’r un crefydd â hwy yn Afghanistan. Er mwyn sicrhau llywodraeth newydd a mwy democrataidd yn Afghanistan, mae cymorth ac ymdrechion y byd Islamaidd yn hollbwysig i’r gwaith gyda’r Cenhedloedd Unedig.

Richard Edwards spoken in English p. 51

Richard Edwards siaradwyd yn Saesneg t. 51

We must seriously question whether a military onslaught by the richest country on the planet on almost the poorest will rid the world of terrorism. Do you end terror by unleashing it on impoverished Afghan civilians? Oxfam estimates that 2.5 million people may starve if the bombing does not stop. We risk creating far greater injustice and stoking up more grievances for whole battalions of would-be Bin Ladens to exploit.

Rhaid inni ofyn o ddifrif a fydd yr ymsodiad milwrol gan y wlad gyfoethocaf ar y blaned ar un o’r gwledydd tlotaf yn cael gwared ar derfysgaeth yn y byd. A ydych yn dod â’r arswyd i ben drwy ei ollwng ar ddinasyddion tlawd Afghanistan? Mae Oxfam yn rhagweld y gallai 2.5 miliwn o bobl farw o newyn os na ddaw’r bomio i ben. Yr ydym yn wynebu’r perygl o greu llawer mwy o anghyfiawnder ac ysgogi mwy o gyhuddiadau y gallai byddinoedd cyfan o ddarpar Bin Ladens fanteisio arnynt.

If we want to make the world a safer place, then we must make it a fairer place. Why can the west not cancel all third world debt, as well as iniquitous capital investment schemes such as the construction of the Ilisu dam on the upper Tigris? Why can we not mobilise the world’s financial institutions into narrowing the gap between the richest and poorest countries, instead of widening it ever more? That would require a revolution in relations between the west and the third world, which our leaders, for all their self-righteous rhetoric, have not begun to address. Nor will they, as so many are in the pockets of—this is certainly true of the US President, who is practically owned by them—multinational corporations, which profit from third world exploitation.

Os ydym am wneud y byd yn lle mwy diogel, rhaid inni ei wneud yn lle tecach. Pam na all y gorllewin ddiddymu dyled y trydydd byd, yn ogystal â chynlluniau buddsoddi cyfalaf anghyfiawn fel y gwaith o adeiladu argae Ilisu ar ran uchaf afon Tigris? Pam na allwn ysgogi sefydliadau ariannol y byd i leihau’r bwlch rhwng y gwledydd cyfoethocaf a’r rhai tlotaf, yn hytrach na’i ehangu ymhellach? Byddai hynny’n gofyn am chwyldro yn y cysylltiadau rhwng y gorllewin a’r trydydd byd, nad yw ein harweinwyr, oherwydd eu rhethreg hunan-gyfiawn, wedi dechrau ei drafod eto. Ac ni wnânt hynny, am fod cymaint ohonynt ym mhocedi corfforaethau amlwladol—mae hyn yn arbennig o wir am Arlywydd yr UD, sy’n cael ei reoli ganddynt bron—sy’n elwa ar ecsbloetio’r trydydd byd.

A former US President once famously said that we are the target of terrorists because we practise freedom, democracy and human rights. The unpalatable truth is that we are targeted by terrorists because our governments deny freedom, democracy and human rights to people in the third world, whose resources are coveted by our multinational corporations, and where poverty, injustice and repression provide fertile ground for hatred and fanaticism.

Gan gofio dyfyniad enwog un o gyn-Arlywyddion yr UD, a ddywedodd ein bod yn darged i derfysgwyr am ein bod yn arfer rhyddid, democratiaeth a hawliau dynol. Y gwirionedd annymunol yw y cawn ein targedu gan derfysgwyr am fod ein llywodraethau’n gwadu rhyddid, democratiaeth a hawliau dynol i bobl y trydydd byd, am fod eu hadnoddau’n cael eu chwenychu gan ein corfforaethau amlwladol, a lle mae tlodi, anghyfiawnder a gormes yn ysgogi casineb ac eithafiaeth.

It is time to acknowledge that, in much of the world, we stand for dictatorship, bondage and human exploitation. US Government agents have deposed popularly elected leaders, who, not unreasonably, wanted the riches of their land to be shared by the people who worked it, and replaced them with murderous tyrants, willing to sell their own people to multinational corporations.

Mae’n amser inni gydnabod ein bod, yn y rhan fwyaf o’r byd, yn sefyll dros unbenniaeth, caethiwed ac ecsbloetio dynoliaeth. Mae asiantau Llywodraeth yr UD wedi disodli arweinwyr etholedig poblogaidd a oedd yn dymuno, a hynny’n rhesymol, i gyfoeth eu tir gael ei rannu ymhlith y bobl sy’n gweithio arno, a phenodi gormeswyr llofruddiol yn eu lle, rhai sy’n barod i werthu eu pobl eu hunain i gwmnïau corfforaethol amlwladol.

Classicists will tell you that ancient Athens gave the world democracy. They sometimes forget to add that it was underpinned by endemic slavery. If we are honest, it is time that we woke up to the fact that modern western democracy is buttressed by a rotten clientele of despots and oligarchies, who fleece and brutalise their people for the benefit of western multinationals such as the oil companies.

Byddai Clasurwyr yn dweud wrthych mai’r hen Athens a gyflwynodd ddemocratiaeth i weddill y byd. Maent weithiau’n anghofio ychwanegu mai caethwasiaeth endemig oedd wrth ei wraidd. Pe byddem yn onest, mae’n bryd inni wynebu’r ffaith bod democratiaeth fodern y gorllewin yn cael ei chynnal gan griw llygredig o unbeniaid ac oligarchiaethau, sy’n ysbeilio a cham-drin eu pobl er budd cwmnïau amlwladol y gorllewin fel y cwmnïau olew.

However understandable the thirst for vengeance following the savagery of 11 September may be, retaliation will not rid us of world terrorism. If retaliation worked, the Israelis would be the world’s most secure people. A massive military retaliation causing multiple deaths will only guarantee an endless supply of fresh terrorists for decades to come. Let us not pretend that revenge will deliver security.

Pa mor ddealladwy bynnag fo’r awch am ddialedd yn sgîl digwyddiadau creulon 11 Medi, ni fydd dialedd yn cael gwared ar derfysgaeth yn y byd. Petai dialedd yn gweithio, pobl Israel fyddai’r bobl fwyaf diogel yn y byd. Yr unig beth y bydd dialedd milwrol ar raddfa fawr sy’n lladd llawer o bobl yn ei sicrhau fydd cyflenwad newydd dibendraw o derfysgwyr am ddegawdau i ddod. Ni ddylem gymryd arnom y bydd dialedd yn dod â diogelwch yn ei sgîl.

How can the US and UK credibly claim the moral leadership in making the world a safer place, when they are the world’s two leading arms exporters? If you want to make the world a safer place, end this obscene trade in death and destruction. [Applause.]

Sut y gall yr UD a’r DU honni mewn difrif mai hwy sydd â’r arweinyddiaeth foesol i wneud y byd yn lle mwy diogel, pan mai hwy yw prif allforwyr arfau y byd? Os ydych am wneud y byd yn lle mwy diogel, dylech ddiddymu’r fasnachu warthus hon o farwolaeth ac dinistr. [Cymeradwyaeth.]

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 53

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 53

Order. I am afraid that you have run out of time, Richard.

Trefn. Yn anffodus, mae eich amser wedi dod i ben, Richard.

Pauline Jarman spoken in English p. 53

Pauline Jarman siaradwyd yn Saesneg t. 53

I remind Members that thousands of roses were planted in communities throughout the UK and Ireland last year, as part of an international planting link-up for world peace. The star of the event was a hybrid tea rose named World Peace 2000, which has beautiful, large, gold-yellow blooms and a strong scent, giving it a peaceful, yet uplifting quality. Over 10,000 roses were planted and the project organisers, Flight of the Phoenix World Peace 2000, were delighted with the response from participants.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau i filoedd o rosynnau gael eu plannu mewn cymunedau ledled y DU ac Iwerddon y llynedd, fel rhan o’r fenter cyswllt plannu rhyngwladol er mwyn cael heddwch yn y byd. Seren y digwyddiad oedd rhosyn te croesriw o’r enw World Peace 2000, sydd â blodau aur-felyn mawr a hardd ag arogl cryf, sy’n rhoi ansawdd heddychlon ond ysbrydoledig i’r blodyn. Plannwyd dros 10,000 o rosynnau ac yr oedd trefnwyr y prosiect, Flight of the Phoenix World Peace 2000, yn fodlon iawn â’r ymateb gan gyfranogwyr.

This year there will be a second link-up on 6 November, involving more communities nation-wide. Members of the participating communities will gather at their World Peace Rosebed and hold a minute’s silence for world peace. Specially prepared World Peace 2000 rose petals will be thrown over the newly-planted beds to celebrate the link-up.

Eleni ceir ail fenter gyswllt ar 6 Tachwedd, yn cynnwys mwy o gymunedau ledled Prydain. Bydd aelodau o’r cymunedau sy’n cymryd rhan yn ymgynnull wrth eu Gwely Rhosod Heddwch y Byd ac yn cynnal munud o dawelwch er budd heddwch yn y byd. Caiff 2000 o betalau rhosynnau Heddwch y Byd a fydd wedi’u paratoi’n arbennig eu gwasgaru dros y gwelyau â phlanhigion newydd i ddathlu’r fenter gyswllt.

Rhondda Cynon Taff County Borough Council will hold a planting ceremony at the rosebed at Ynysangharad Park in Pontypridd on 6 November, where 130 rosebushes will be planted. Given current world-wide events, this year’s event is even more significant than last year’s. The gesture of planting a rose in the name of world peace is a token, a wish and a desire. However, we must recognise that the aftermath of 11 September is real and has affected all our communities in many ways. Among those affected are children. Many of them are experiencing images of war for the first time. In the wake of the attacks on the US, and the subsequent air strikes against Afghanistan, headteachers report that children have been upset by images of conflict. Children as young as five are asking whether they will die.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnal seremoni blannu wrth y gwely rhosynnau ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ar 6 Tachwedd, lle caiff 130 o lwynni rhosynnau eu plannu. O ystyried y digwyddiadau presennol yn y byd, bydd mwy o arwyddocâd i’r digwyddiad eleni o’i gymharu â’r llynedd. Mae plannu rhosyn yn enw heddwch y byd yn symbol, yn ddymuniad ac yn ddyhead. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod canlyniadau 11 Medi yn rhai gwirioneddol ac yn rhai sydd wedi effeithio ar bob un o’n cymunedau mewn gwahanol ffyrdd. Ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt mae plant. Mae llawer ohonynt yn profi delweddau rhyfel am y tro cyntaf. Yn sgîl yr ymosodiadau ar yr UD, a’r ymosodiadau awyr dilynol yn erbyn Afghanistan, mae penaethiaid yn sôn bod plant wedi’u cynhyrfu gan ddelweddau’r gwrthdaro. Mae plant mor ifanc â phump oed yn gofyn a fyddant farw.

I am pleased that my local authority has introduced a round-the-clock helpline, because it recognises that children and adults may suffer unusual symptoms of distress following last month’s terrorist attack in America. These are unusual circumstances, and Rhondda Cynon Taff recognised that by increasing its ability to respond to people’s wider needs out of working hours. It is important that this burden in Wales is not left exclusively for the local authorities to bear.

Yr wyf yn falch bod fy awdurdod lleol wedi cyflwyno llinell gymorth 24 awr, am ei fod yn cydnabod y gallai plant ac oedolion ddioddef symptomau gofid yn dilyn yr ymosodiad terfysgol y mis diwethaf yn America. Mae’r rhain yn amgylchiadau anarferol, ac mae Rhondda Cynon Taf yn cydnabod hynny drwy gynyddu ei allu i ymateb i anghenion ehangach pobl y tu allan i oriau gwaith. Mae’n bwysig na adewir i’r awdurdodau lleol yn unig ysgwyddo’r baich hwn yng Nghymru.

In England, teachers are advised to try to ensure that strongly partisan stances are avoided. If extremist groups stir up local tensions, the advice for schools is clear: special steps should be taken in cases of threatening behaviour, vandalism or graffiti. They include patrolling the main routes to schools and supervising entrances and exits. I understand that the Minister for Education and Lifelong Learning is about to make a similar announcement giving guidance on the effects of the situation on the children of Wales. I appeal to the Assembly—

Yn Lloegr, cynghorir athrawon i geisio osgoi agweddau pleidiol cryf. Os bydd grwpiau eithafol yn ysgogi tyndra lleol, mae’r cyngor i ysgolion yn glir: dylid cymryd camau arbennig mewn achosion o ymddygiad bygythiol, fandaliaeth neu graffiti. Mae’r rhain yn cynnwys goruchwylio’r prif lwybrau i ysgolion a’r mynedfeydd a’r allanfeydd. Deallaf fod y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes ar fin gwneud cyhoeddiad tebyg gan roi arweiniad ar effeithiau’r sefyllfa ar blant Cymru. Apeliaf ar y Cynulliad—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 54

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 54

I am sorry, you have run out of time.

Mae’n ddrwg gennyf, mae eich amser wedi dod i ben.

David Melding spoken in English p. 54

David Melding siaradwyd yn Saesneg t. 54

We all agree that terrorism on the vast scale that occurred on 11 September requires a condign response. We do not necessarily all agree on how to respond, but we cannot pretend that this was not an event of major international consequence, and a terribly bitter event for the victims and their families. Some of those victims were Welsh, many were British. I have stood on top of the World Trade Center. I am appalled and sickened, thinking about the events now. I am astonished that such an act was possible and was executed.

Yr ydym oll yn cytuno bod angen ymateb teilwng i’r digwyddiadau terfysgol mawr a welwyd ar 11 Medi. Nid ydym oll o reidrwydd yn cytuno ar sut i ymateb, ond ni allwn gymryd arnom nad oedd hwn yn ddigwyddiad o bwys rhyngwladol, ac yn ddigwyddiad erchyll iawn i’r dioddefwyr a’u teuluoedd. Yr oedd rhai o’r dioddefwyr hynny yn Gymry, yr oedd nifer ohonynt o Brydain. Yr wyf wedi sefyll ar ben Canolfan Masnach y Byd. Mae meddwl am y digwyddiadau hynny yn awr yn fy mrawychu. Yr wyf wedi’m synnu bod gweithred o’r fath yn bosibl ac iddi gael ei chyflawni.

The action that the international community is taking already includes Welsh servicemen. If ground forces are used more extensively, more servicemen are likely to see action in Afghanistan. We need to send a message of support to those servicemen and women who will be involved in this response. We must also acknowledge that we face future threats. The terrorist action was undertaken using aeroplanes as massive weapons full of aviation fuel. They were used in destructive and murderous ways. If such people were to get hold of weapons of mass destruction, God only knows what could happen to those of us living in the western world, or to countries that are seen to be allied to us.

Mae’r camau a gymerwyd eisoes gan y gymuned ryngwladol yn cynnwys milwyr o Gymru. Os gwneir mwy o ddefnydd o filwyr ar y ddaear, yna mae mwy o filwyr yn debygol o frwydro yn Afghanistan. Mae angen anfon neges o gefnogaeth i’r milwyr hynny a fydd yn cymryd rhan yn yr ymateb hwn. Rhaid inni hefyd gydnabod ein bod yn wynebu bygythiadau yn y dyfodol. Defnyddiwyd awyrennau fel arfau enfawr yn llawn tanwydd hedfan i gyflawni’r gweithrediadau terfysgol. Cawsant eu defnyddio mewn ffordd ddinistriol a llofruddiol. Petai pobl o’r fath yn cael gafael ar arfau dinistr torfol, Duw a ŵyr beth fyddai’n digwydd i’r rhai ohonom sy’n byw yn y gorllewin, neu i wledydd sy’n ymddangos eu bod ymgynghreirio â ni.

I believe that the people of Wales support the Government’s actions to date and it is appropriate that we echo that support here today. However, dissent has to be accorded proper respect. We have done that so far in this Chamber. We have listened quietly to what those who disagree with the current action have said. However, I still think that we need to send a clear message and the consensus view here will be that that message should be one of support for the UK’s actions and for the Prime Minister’s leadership.

Credaf fod pobl Cymru wedi cefnogi gweithrediadau’r Llywodraeth hyd yma ac mae’n briodol ein bod yn adleisio’r cymorth hwnnw yma heddiw. Fodd bynnag, rhaid rhoi parch priodol i anghydffurfiaeth. Yr ydym wedi gwneud hynny hyd yma yn y Siambr hon. Yr ydym wedi gwrando’n dawel ar yr hyn a ddywedodd y rhai sy’n anghytuno â’r camau presennol. Fodd bynnag, yr wyf yn dal o’r farn bod angen inni anfon neges glir a’r farn gyffredinol yma yw y dylai’r neges honno gefnogi gweithrediadau’r DU ac arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

The Muslim community also deserves a clear expression of our support. Any retaliation against Muslims in Britain and Wales would be a random, vicious and unacceptable response and action. Military action is sometimes a sad necessity, and those are not mealy-mouthed words, because if you accept that military action is sometimes required, you must inevitably accept unintended consequences in terms of some civilian casualties. To justify such action, you must ensure that those losses would be less than those suffered if that military action were not taken. We must keep civilian casualties to a minimum. That inevitably will require our response, in terms of military action, to be specially targeted and to avoid certain actions completely. Clausewitz said that:

Mae’r gymuned Foslemaidd hefyd yn haeddu datganiad clir o’n cefnogaeth. Byddai unrhyw ddialedd yn erbyn Moslemiaid yng Nghymru a Phrydain yn ymateb a gweithred ar hap, yn greulon ac yn annerbyniol. Mae gweithredu milwrol yn angenrhaid trist weithiau, ac nid geiriau mursennaidd yw’r rheini, oherwydd os derbyniwch fod angen gweithredu milwrol weithiau, mae’n rhaid ichi yn anochel dderbyn canlyniadau anfwriadol o ran pobl ddiniwed yn cael eu lladd. Er mwyn cyfiawnhau gweithrediadau o’r fath, rhaid ichi sicrhau y byddai’r colledion hynny yn llai na’r colledion fyddai’n digwydd pe na byddai’r camau milwrol hynny’n cael eu cymryd. Rhaid sicrhau y caiff cyn lleied â phosibl o bobl ddiniwed eu lladd neu eu hanafu. Mae’n anochel y bydd hynny, yn nhermau gweithredu milwrol, yn galw am ymateb gennym wedi’i dargedu’n benodol ac i osgoi rhai gweithrediadau’n llwyr. Dywedodd Clausewitz bod:

‘war is the continuation of politics by other means.’

‘rhyfel yn barhad o wleidyddiaeth drwy ddulliau eraill.’

That means that after military action, we have to re-enter the political process and be clear about our political objectives, which are to defeat terrorism and to establish and support stable states. Many of the problems in the middle east, the developing world, and certainly Afghanistan arise because such areas have not enjoyed stable states and have suffered as a consequence. The Afghan people have certainly suffered over the last 20 years. They deserve support and compassion. Even those caught up in some of these actions deserve to have mercy shown to them, because they have been led badly and do not necessarily agree with what some of their leaders are now saying. Humanitarian relief is essential. The United Nations must be involved in that extensively. I believe that the present military action, which is aiming at securing the plains and the lowland areas, is probably necessary to allow the effective provision of humanitarian relief and to drive the Taleban and its leaders, and those connected with terrorism, into the mountains. That seems to be the clear aim at the moment, as far as we can judge.

Mae hyn yn golygu, ar ôl i’r camau milwrol ddod i ben, y bydd yn rhaid inni ailymuno â’r broses wleidyddol a nodi ein hamcanion gwleidyddol yn glir, sef trechu terfysgaeth a sefydlu a chefnogi gwladwriaethau sefydlog. Mae llawer o’r problemau yn y dwyrain canol, y byd sy’n datblygu, ac Afghanistan yn sicr yn codi am nad yw ardaloedd o’r fath wedi cael gwladwriaethau sefydlog ac wedi dioddef yn sgîl hynny. Mae pobl Afghanistan yn sicr wedi dioddef dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Maent yn haeddu cymorth a thosturi. Mae hyd yn oed y rhai sy’n gysylltiedig â rhai o’r gweithrediadau hyn yn haeddu trugaredd am eu bod wedi cael eu harwain yn wael ac nad ydynt o reidrwydd yn cytuno â’r hyn a ddywed rhai o’u harweinwyr bellach. Mae cymorth dyngarol yn hanfodol. Rhaid i’r Cenhedloedd Unedig gyfrannu’n helaeth at hynny. Credaf fod y gweithredu milwrol presennol, sy’n anelu at ddiogelu’r gwastadeddau a’r iseldiroedd, yn angenrheidiol o bosibl er mwyn galluogi’r cymorth dyngarol i gael ei ddarparu’n effeithiol ac i erlid y Taleban a’i arweinwyr, a’r rhai sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, i’r mynyddoedd. Ymddengys mai dyna’r nod amlwg ar hyn o bryd, hyd y gwelwn ni.

Finally, we are losing the propaganda war in the Arab world. Popular Arab opinion is firmly against the action that we are taking, and what we are saying is causing a great deal of bitterness among them. Until a Palestinian state is established, we will never convince people in the Arab world that western democracy—

Yn olaf, yr ydym yn colli’r rhyfel propaganda yn y gwledydd Arabaidd. Mae barn boblogaidd yr Arabiaid yn gadarn yn erbyn y camau yr ydym yn eu cymryd, ac mae’r hyn a ddywedwn yn achosi llawer o gasineb yn eu plith. Hyd nes y sefydlir gwladwriaeth Balesteinaidd, ni fyddwn byth yn argyhoeddi pobl yn y gwledydd Arabaidd bod democratiaeth y gorllewin—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 56

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 56

Order. I must stop you there, David.

Trefn. Rhaid imi eich atal, David.

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 56

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 56

Codwyd nifer o bwyntiau pwysig eisoes yn ystod y ddadl hon. Fodd bynnag, y mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at rai materion sylfaenol. Rhaid gofyn beth sydd yn bwysicach: parhau â’r ymgyrch filwrol neu sicrhau bod y cymorth dyngarol yn cyrraedd y bobl hynny y mae eu bywydau yn dibynnu arno? Y realiti yw os yw’r ymgyrch filwrol yn parhau, nid oes modd sicrhau bod y cymorth dyngarol hwnnw yn cyrraedd y bobl. Rhaid inni ddewis. Nid oes modd gwneud y ddau beth—nid yw’n ymarferol bosibl ac mae’n rhaid i bobl yn y Cynulliad a ledled Prydain ddod i—

Many important points have already been raised during this debate. However, it is important that we focus on some fundamental issues. We must ask what is most important: continuing with the military campaign or ensuring that humanitarian aid reaches those people whose lives depend on it? The reality is that if the military campaign continues, it will not be possible to ensure that humanitarian relief reaches the people. We must choose. We cannot do both—it is not practically possible and people in the Assembly and throughout Britain must come to—

Huw Lewis a gododd—

Huw Lewis rose—

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Gymraeg t. 57

Rhodri Glyn Thomas spoken in Welsh p. 57

Nid oes amser gennyf i ildio, mae’n ddrwg gennyf. Rhaid imi gadw at dri munud.

I have no time to take interventions, I am sorry. I must keep to three minutes.

Mae’n rhaid i Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd benderfynu beth sydd am ddigwydd yn y sefyllfa hon. A ddylid parhau â’r ymgyrch filwrol neu a ddylid sicrhau bod 400,000 o bobl—sef y ffigur presennol—yn derbyn y ddarpariaeth y maent yn ddibynnol arni? O fewn pythefnos, bydd 0.5 miliwn o bobl yn ddibynnol ar y ddarpariaeth er mwyn osgoi marwolaeth. Bydd y ffigur hwnnw yn codi o 1.5 miliwn dros y gaeaf. A fyddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth ddyngarol yn cyrraedd y bobl hynny? Os nad ydym yn barod i wneud hynny, beth a ddywed hynny am y gwerth a roddwn ar fywyd?

Assembly Members and the public must decide what is to happen in this situation. Should the military campaign continue or should we ensure that 400,000 people—which is the present figure—receive the supplies on which their lives depend? Within a fortnight, 0.5 million lives will depend on these supplies to avoid death. That figure will rise by 1.5 million over the winter. Will we ensure that the humanitarian supplies reach those people? If we are not prepared to do that, what does that tell us about the value that we attach to life?

Mae’r Cynulliad yn gytûn bod yn rhaid inni sicrhau parch at y gymuned Foslemaidd yn y wlad hon. Fodd bynnag, os nad oes gwahaniaeth gennym a yw 2.4 miliwn o bobl yn Afghanistan yn byw neu’n marw, beth mae hynny’n ei ddweud am ein parch at fywyd? Sut y gallwn ddweud wrth y gymuned Foslemaidd yng Nghymru ein bod yn parchu eu bywydau os ydym yn caniatáu i bobl farw ar y fath raddfa yn Afghanistan?

The Assembly is agreed that we must ensure respect towards the Muslim community in this country. However, if we do not care whether 2.4 million people in Afghanistan live or die, what does that say about our respect for life? How can we tell the Muslim community in Wales that we respect their lives if we allow people to die on such a scale in Afghanistan?

Ynglŷn â’r hyn a ddywedwyd am ryfel cyfiawn, gadewch inni gofio bod y cysyniad hwnnw wedi ei ddatblygu mewn cyfnod pan oedd rhyfel wedi ei gyfyngu i faes y gad a phan oedd milwyr yn ymladd â’i gilydd. Yn y cyd-destun hwnnw, gellid cyfiawnhau ymateb yn filwrol i ymosodiad milwrol, pe bai hynny yn osgoi cyflafan bellach. Nid yw hynny’n berthnasol yng nghyd-destun brwydrau modern, lle caiff pobl ddiniwed eu lladd. Dyna’r realiti yr ydym yn ei wynebu. Mae pobl ddiniwed yn dioddef o ganlyniad i’r bomio yn Afghanistan a bydd y cymorth y mae 2.4 miliwn o bobl yn ddibynnol arno yn cael ei atal os na roddir terfyn ar y bomio.

On the comments made about a just war, let us remember that that concept was developed at a time when war was restricted to the battlefield and when soldiers fought against each other. In that context, it was possible to justify a military response to a military attack, if that averted a greater tragedy. That is not relevant in the context of modern battles, where innocent people are killed. That is the reality that we face. Innocent people are suffering as a result of the bombing in Afghanistan and the aid on which 2.4 million people are dependent will be stopped unless the bombing is halted.

Gadewch i’r Cynulliad ddatgan bod bywydau’r bobl hynny yn bwysig ac nad ydym yn mynd i ganiatáu iddynt farw. Yr ydym am i’r ddarpariaeth eu cyrraedd mor brydlon â phosibl.

Let the Assembly make a statement that the lives of those people are important and that we will not allow them to die. We want the supplies to reach them as promptly as possible.

Ron Davies spoken in English p. 58

Ron Davies siaradwyd yn Saesneg t. 58

I deeply regret that the Assembly’s internal procedures have set party against party today, rather than allowing us to speak freely as individuals about this dreadful threat to our way of life. There is so much that unites all parties: for example, our sympathy and solidarity with the United States, and our understanding that the Al-Quaeda network is a threat to every citizen of the world and that no race, colour, nationality or creed affords immunity from sudden death at the hands of bigoted and obsessed religious fanatics. We all realise that, however unpalatable it may be and while military action alone will be insufficient to deal with this threat, there must be military action against Bin Laden and his cohorts and, in the case of Afghanistan, against a Government that offers him moral and logistical support. There is a commitment to a long-haul struggle, involving economic, diplomatic and political initiatives, as well as a military resolve. We also agree that, in order to secure long-term success, we must build a new sense of international solidarity. We should unite on these issues, not divide ourselves between motion and amendment.

Gresynnaf yn fawr bod gweithdrefnau mewnol y Cynulliad wedi troi un blaid yn erbyn plaid arall heddiw, yn hytrach na’n galluogi i siarad yn rhydd fel unigolion am y bygythiad erchyll hwn i’n ffordd o fyw. Mae cymaint sy’n uno’r holl bleidiau: er enghraifft, ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth i’r Unol Daleithiau, a’n dealltwriaeth bod rhwydwaith Al-Quaeda yn fygythiad i holl ddinasyddion y byd ac nad yw hil, lliw, cenedligrwydd na chredo yn golygu diogelwch rhag marwolaeth ddisymwth dan ddwylo eithafwyr crefyddol rhagfarnllyd â chanddynt obsesiwn. Yr ydym oll yn sylweddoli, waeth pa mor annymunol ydyw ac er na fydd gweithredu milwrol yn unig yn ddigon i ddelio â’r bygythiad hwn, bod yn rhaid wrth weithredu milwrol yn erbyn Bin Laden a’i garfanau ac, yn achos Afghanistan, yn erbyn Llywodraeth sy’n cynnig cymorth moesegol a logistaidd iddo. Ceir ymrwymiad i ymdrech hir a fydd yn cynnwys mentrau economaidd, diplomataidd a gwleidyddol, yn ogystal â dyfalbarhad milwrol. Cytunwn hefyd, er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor, fod yn rhaid inni greu ymdeimlad newydd o gydgefnogaeth rhyngwladol. Dylem uno ar y materion hyn, nid ymrannu rhwng cynnig a gwelliant.

I will support the amendment out of my own choice. To do otherwise would send out a signal that I do not want to send. We are being offered a take-it-or-leave-it option, to support the Government or oppose it—black or white, right or wrong, for or against. However, life is not like that. The judgments that we must make, particularly after 11 September, are complex and they call on our own experiences and beliefs.

Cefnogaf y gwelliant o ddewis personol. Byddai gweithredu’n groes i hyn yn cyfleu neges nad wyf am ei chyfleu. Cynigir opsiwn inni o dderbyn neu wrthod, cefnogi neu wrthwynebu’r Llywodraeth—du neu wyn, cywir neu anghywir, o blaid neu yn erbyn. Fodd bynnag, nid yw bywyd fel hyn. Mae’r penderfyniadau y mae’n rhaid inni eu gwneud, yn arbennig ar ôl 11 Medi, yn gymhleth ac maent yn galw ar ein profiadau a’n credoau ein hunain.

I support the military action, but—and I believe that there are ‘buts’ in the minds of people everywhere—there are other considerations. My support for military action is not unconditional. Principal among those conditions is the need to ensure that the civilian population is, as far as possible, protected, and that the international community’s humanitarian objective is properly discharged. If 100,000 children die, as the United Nations Children’s Fund suggests might happen, from hunger, disease and neglect during the coming winter and that that could have been avoided by a more sympathetic strategy, recognising safe havens, protected route ways or bombing cessations, are we still fighting a just war?

Cefnogaf y gweithredu milwrol, ond—a chredaf fod ‘ond’ ym meddyliau pobl ym mhob man—mae ystyriaethau eraill. Nid yw fy nghefnogaeth i weithredu milwrol yn ddiamod. Yr hyn sydd flaenaf ymhlith yr amodau hynny yw’r angen i sicrhau y caiff y boblogaeth ddiniwed, cyn belled ag y bo’n bosibl, ei diogelu, ac y cyflawnir amcan dyngarol y gymuned ryngwladol yn briodol. Os bydd 100,000 o blant yn marw o newyn, afiechyd ac esgeulustod yn ystod y gaeaf hwn, a allai ddigwydd yn ôl Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig, ac y gellid osgoi hynny drwy strategaeth fwy cydymdeimladol, sy’n cydnabod noddfeydd diogel, llwybrau wedi’u diogelu neu derfynu’r bomio, a ydym yn dal i ymladd rhyfel cyfiawn?

If support is not unconditional, neither should it be time unlimited. We are invited to support the Government today, but who can tell what tomorrow will bring? The last five weeks have changed the international landscape. Global relationships have been built and some have been destroyed. Many questions will arise about the future of Afghanistan. What happens if Pakistan is destabilised? What about the peace process in the middle east and, most soberly, what if the war against terror is extended to other states, such as Iraq? Do we still give our unconditional, time-unlimited support? I cannot. How will we react to such situations? The amendment commits us to supporting whatever actions the international coalition takes. I emphatically cannot endorse that. We must return to this subject.

Os nad yw’r gefnogaeth yn ddiamod, ni ddylai fod heb derfyn amser penodol ychwaith. Cawsom wahoddiad i gefnogi’r Llywodraeth heddiw, ond pwy a wŷr beth a ddaw yfory? Mae’r pum wythnos diwethaf wedi newid y tirwedd rhyngwladol. Mae perthynasau rhyngwladol wedi’u llunio ac mae rhai wedi’u dinistrio. Bydd nifer o gwestiynau yn codi ynglŷn â dyfodol Afghanistan. Beth sy’n digwydd os bydd Pacistan yn cael ei hansefydlogi? Beth am y broses heddwch yn y dwyrain canol ac, yn fwy difrifol, beth os caiff y rhyfel yn erbyn terfysgaeth ei hymestyn i wledydd eraill, fel Irac? A fyddwn yn parhau i gynnig ein cymorth diamod, heb gyfyngiad amser? Ni allaf i wneud hynny. Sut byddwn yn ymateb i sefyllfaoedd o’r fath? Mae’r gwelliant yn ein hymrwymo i gefnogi pa bynnag gamau a gymerir gan y gynghrair ryngwladol. Ni allaf gymeradwyo hynny o gwbl. Rhaid inni ddychwelyd at y pwnc hwn.

Helen Mary Jones spoken in English p. 59

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 59

I fully support what has been said about the terrible crimes committed in the USA on 11 September. It is hard to comprehend the scale of such a tragedy and there can only be a few people who were not deeply touched by what happened. The question is whether the democratic western nations should respond to the tragedy of 11 September by creating another tragedy on the same scale in Afghanistan. Others have spoken eloquently about this.

Cefnogaf yn llwyr yr hyn a ddywedwyd am y troseddau erchyll a gyflawnwyd yn UDA ar 11 Medi. Mae’n anodd amgyffred maint trychineb o’r fath ac nid oes llawer o bobl nas effeithiwyd yn fawr arnynt gan yr hyn a ddigwyddodd. Y cwestiwn yw a ddylai gwledydd democrataidd y gorllewin ymateb i drychineb 11 Medi drwy greu trychineb arall ar yr un raddfa yn Afghanistan. Mae pobl eraill wedi siarad yn huawdl ar hyn.

I will concentrate on the effects of the current crisis on our Muslim fellow citizens in Wales. The effects are serious and many in the Muslim community perceive them as worsening. We have all been shocked to hear of the dramatic increase in racist attacks against Muslim citizens and their property or against anyone who looks as if they may be a Muslim. Under the cover of anger about the crimes of 11 September, Welsh racists have daubed hateful messages on mosques, shops and homes. They have insulted and humiliated women and children in our streets. They have physically assaulted Muslim citizens. This has happened despite the fact that the Muslim community has persistently condemned the crimes of 11 September.

Yr wyf am ganolbwyntio ar effeithiau’r argyfwng presennol ar ein cyd-ddinasyddion Moslemaidd yng Nghymru. Mae’r effeithiau yn ddifrifol ac mae llawer o bobl yn y gymuned Foslemaidd o’r farn eu bod yn gwaethygu. Cawsom oll ein brawychu o glywed am y cynnydd dramatig yn nifer yr ymosodiadau hiliol ar ddinasyddion Moslemaidd a’u heiddo neu unrhyw un sy’n edrych fel y gallent fod yn Foslem. Gan gelu y tu ôl i’r dicter ynglŷn â throseddau 11 Medi, mae hilyddion Cymru wedi paentio negeseuon atgas ar fosgiau, siopau a chartrefi. Maent wedi sarhau a bychanu merched a phlant ar ein strydoedd. Maent wedi ymosod yn gorfforol ar ddinasyddion Moslemaidd. Digwyddodd hyn er gwaethaf y ffaith bod y gymuned Foslemaidd wedi condemnio troseddau 11 Medi yn gyson.

As I represent a constituency and am a member of the Committee on Equality of Opportunity, many individual cases have been brought to my attention. The saddest aspect of those cases is the fact that none of the victims have been prepared to speak out publicly, such is the depth of fear in some sections of the Muslim community. Another disturbing aspect is the number of cases which members of the majority community witnessed but in which they did not intervene. The First Minister is right when he speaks of a tiny, ignorant minority which perpetrates these acts. However what about those who stand by and watch?

Gan fy mod yn cynrychioli etholaeth ac yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal, tynnwyd fy sylw at sawl achos unigol. Y peth tristaf am yr achosion hyn yw’r ffaith nad yw’r un o’r dioddefwyr wedi bod yn barod i siarad yn gyhoeddus, oherwydd dwyster yr ofn sy’n bodoli mewn rhai rhannau o’r gymuned Foslemaidd. Agwedd arall sy’n peri pryder yw nifer yr achosion lle mae aelodau o’r gymuned fwyafrifol wedi bod yn dyst i hyn ond heb ymyrryd. Mae’r hyn a ddywedodd Prif Weinidog Cymru mai lleiafrif bach, anwybodus sy’n cyflawni’r gweithredoedd hyn yn wir. Fodd bynnag, beth am y rhai sy’n sefyll ac yn gwylio?

David Davies a gododd—

David Davies rose—

Helen Mary Jones spoken in English p. 60

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 60

I am afraid that I have no time to give way, David. We must send a clear message from this Assembly today to all our Muslim fellow citizens: the persecution that some of them are being subjected to is unacceptable. We must encourage our fellow white Welsh citizens to speak out when they witness these events, as they would in more normal times. We must encourage Muslim citizens to make formal complaints if they are attacked and ensure their safety if they do so.

Yn anffodus nid oes amser gennyf i ildio, David. Rhaid inni anfon neges glir o’r Cynulliad hwn heddiw i’n holl gyd-ddinasyddion Moslemaidd: mae’r erlidigaeth y mae rhai ohonynt yn ei phrofi yn annerbyniol. Rhaid inni annog ein cyd-ddinasyddion croenwyn yng Nghymru i godi eu lleisiau pan fônt yn dyst i’r digwyddiadau hyn, fel y byddent wedi gwneud mewn cyfnodau mwy arferol. Rhaid inni annog dinasyddion Moslemaidd i gwyno’n ffurfiol os ymosodir arnynt a sicrhau eu diogelwch os gwnânt hynny.

The Government of Wales must take a lead and I welcome the steps that have already been taken. However, action must continue. In the midst of this crisis, we have an opportunity to support our fellow Muslim citizens in their time of need and build bridges that will last beyond these troubled times. In Wales we must seize this opportunity, not only because it is right, but because we risk endangering community harmony if we do not. As well as fear, anger is growing in our Muslim community, especially among younger men. It is vital that we build bridges.

Rhaid i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad a chroesawaf y camau a gymerwyd eisoes. Fodd bynnag, rhaid parhau â’r gweithrediadau hyn. Yng nghanol yr argyfwng hwn, mae gennym gyfle i gefnogi ein cyd-ddinasyddion Moslemaidd pan fo’i angen fwyaf arnynt ac adeiladu pontydd a fydd yn para y tu hwnt i’r amserodd cythryblus hyn. Yng Nghymru, rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn, nid dim ond am fod yr amser yn iawn, ond am ein bod yn peryglu cytgord cymunedol os na wnawn hynny. Yn ogystal ag ofn, mae dicter yn tyfu yn ein cymuned Foslemaidd, yn arbennig ymhlith dynion ifanc. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu pontydd.

Mick Bates spoken in English p. 61

Mick Bates siaradwyd yn Saesneg t. 61

This debate brings home the heavy responsibility of making decisions when other people’s lives are at stake. The Liberal Democrats share the Government’s resolve to destroy terrorism. We continue to support a robust and effective response to the atrocities on 11 September, including the use of military force. We regret that this crisis could not have been resolved peacefully. However, given the obstinacy of the Taleban Government, there was no other option. The Taleban regime harbours Bin Laden in defiance of world opinion, and he fosters terrorism in the face of global decency. That is why the actions taken so far are both just and proportionate.

Mae’r ddadl hon yn amlygu’r cyfrifoldeb mawr o wneud penderfyniadau pan fo bywydau pobl eraill mewn perygl. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu ymrwymiad y Llywodraeth i ddinistrio terfysgaeth. Yr ydym yn parhau i gefnogi ymateb cadarn ac effeithiol i erchyllterau 11 Medi, yn cynnwys defnyddio grym milwrol. Gresynnwn na fu’n bosibl datrys yr argyfwng hwn yn heddychlon. Fodd bynnag, o ystyried ystyfnigrwydd Llywodraeth y Taleban, nid oedd dewis arall. Mae llywodraeth y Taleban yn llochesu Bin Laden gan herio barn gweddill y byd, ac mae’n annog terfysgaeth yng ngwyneb gwedduster byd-eang. Dyna pam fod y camau a gymerwyd hyd yma yn gyfiawn ac yn gymesur.

However, the moral authority of military action will be severely undermined unless we take every possible step to maximise humanitarian relief. Hundreds of thousands of Afghans will perish if aid does not reach them before winter sets in. We understand the calls for a pause in the bombing. However, the international community must explore every possibility consistent with the present military and political objectives to get aid into Afghanistan, including the possibility of safe corridors under United Nations supervision. At Prime Minister’s question time on Wednesday, 17 October 2001, Charles Kennedy pressed the Prime Minister to ensure that military action would not jeopardise the humanitarian effort. We welcome the Prime Minister’s confirmation that the Government is now investigating the use of safe corridors into Afghanistan to help with the distribution of aid to hundreds of thousands of starving people.

Fodd bynnag, caiff awdurdod moesol y gweithredu milwrol ei danseilio’n ddifrifol oni chymerwn pob cam posibl i sicrhau cymaint o gymorth dyngarol â phosibl. Bydd cannoedd ar filoedd o bobl Afghanistan yn marw os na fydd y cymorth yn eu cyrraedd cyn dechrau’r gaeaf. Deallwn y galw am oedi’r bomio. Fodd bynnag, rhaid i’r gymuned ryngwladol archwilio pob posibilrwydd sy’n gyson â’r amcanion milwrol a gwleidyddol presennol er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd Afghanistan, yn cynnwys y posibilrwydd o lwybrau diogel o dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig. Yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mercher, 17 Hydref 2001, gofynnodd Charles Kennedy i’r Prif Weinidog sicrhau na fyddai gweithredu milwrol yn peryglu’r ymdrech ddyngarol. Croesawn gadarnhad y Prif Weinidog fod y Llywodraeth bellach yn ymchwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llwybrau diogel i mewn i Afghanistan er mwyn helpu i ddosbarthu cymorth i’r cannoedd ar filoedd o bobl sy’n newynu.

Civilian casualties in Afghanistan do not change the fact that the events of 11 September were a deliberate atrocity, conceived and planned in cold blood and executed regardless of the consequences. The violence was designed to maximise civilian casualties. That was a distinct aim. By contrast, minimising civilian casualties in Afghanistan is a specific, operational requirement. Such casualties run counter to the wider, strategic aims of our military actions: to maintain a coalition against terrorism and shut down terrorist networks. The acts of 11 September and the current campaign in Afghanistan are not morally equivalent. However, we must accept that any military action, however proportionate and targeted, runs the risk of civilian casualties.

Nid yw dioddefwyr dinesig yn Afghanistan yn newid y ffaith bod y digwyddiadau a welwyd ar 11 Medi yn erchylltra bwriadol, a luniwyd ac a gynlluniwyd mewn gwaed oer ac a weithredwyd gan ddiystyru’r canlyniadau. Cynlluniwyd y trais i sicrhau y lladdwyd y nifer fwyaf posibl o bobl ddiniwed. Dyna oedd y prif nod. I’r gwrthwyneb, mae lleihau nifer y dioddefwyr dinesig yn Afghanistan yn ofyniad gweithredol, penodol. Mae dioddefwyr o’r fath yn groes i nodau strategol ehangach ein gweithredu milwrol: cynnal cynghrair yn erbyn terfysgaeth a diddymu rhwydweithiau terfysgol. Nid yw gweithredoedd 11 Medi a’r ymgyrch bresennol yn Afghanistan yn gyfartal yn foesol. Fodd bynnag, rhaid inni dderbyn y bydd unrhyw weithredu milwrol, pa mor gymesur bynnag y bo a pha mor ofalus y’i targedir, yn creu’r posibilrwydd y bydd pobl ddiniwed yn dioddef.

I remind Ieuan Wyn Jones that I have read comments by a member of his party that accused him of being naïve and loosing touch. Every party is subject to those differences of opinion. However, our knowledge and experience of the Taleban regime does not lead us to support Plaid Cymru’s belief that the objectives of peace will be met by stopping the bombing. We tried negotiating with Hitler, but it did not work. Can we afford to allow a regime to believe that it can continue to shelter and support people who are prepared to carry out such horrific acts without fear of reprisal? By doing so we might store up more problems for the future and run the risk of acts even more horrific than those we saw on 11 September being carried out.

Hoffwn atgoffa Ieuan Wyn Jones fy mod wedi darllen sylwadau gan aelod o’i blaid a oedd yn ei gyhuddo o fod yn naïf a’i fod yn colli gafael ar bethau. Mae gwahaniaeth barn o’r fath ym mhob plaid. Fodd bynnag, nid yw ein gwybodaeth a’n profiad o lywodraeth y Taleban yn golygu ein bod yn cefnogi cred Plaid Cymru y bodlonir amcanion heddwch drwy ddod â’r bomio i ben. Ceisiwyd negodi gyda Hitler, ond ni weithiodd hynny. A allwn fforddio gadael i lywodraeth o’r fath gredu y gall barhau i roi lloches a chefnogi pobl sy’n barod i gyflawni gweithredoedd erchyll o’r fath heb ofni dialedd? Drwy wneud hynny gallem greu mwy o broblemau ar gyfer y dyfodol a wynebu’r perygl o weld gweithredoedd a allai fod yn fwy erchyll na’r rhai a welwyd ar 11 Medi yn cael eu cyflawni.

We must remember that, however hard we try to aim at military targets, innocent people will almost inevitably suffer. We must also ensure that we respect our fellow citizens at home. I am deeply concerned that our differences in the Assembly will encourage differences in our communities. We must all guard against that.

Rhaid inni gofio, pa mor galed bynnag y ceisiwn anelu at y targedau milwrol, bydd yn anochel y bydd pobl ddiniwed yn dioddef. Rhaid inni sicrhau hefyd ein bod yn parchu ein cyd-ddinasyddion gartref. Mae ein gwahaniaeth barn yma yn y Cynulliad yn peri pryder mawr imi y bydd yn annog gwahaniaeth barn yn ein cymunedau. Rhaid ceisio osgoi hynny.

I have supported peace movements in the past. This situation is a moral dilemma, but I have found an answer to it.

Yr wyf wedi cefnogi mudiadau heddwch yn y gorffennol. Mae’r sefyllfa hon yn ddilema foesol, ond yr wyf wedi canfod ateb iddi.

Phil Williams spoken in English p. 62

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 62

At home I have a medal that was won by my father when he served in Afghanistan during the first world war. My father was not a warrior; he served in the army stores. Yesterday, my brother phoned to say that he had just found a photograph that my father had sent home to Tirphil. It shows a team of camels and donkeys and, on the back, my father had explained that the country was impenetrable; there were no railways and transporting stores was a big problem. That photograph is a poignant reminder of how difficult it is to deliver food across the inhospitable terrain of Afghanistan. Little has changed.

Adref, mae gennyf fedal a roddwyd i’m tad pan fu’n gwasanaethu yn Afghanistan yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Nid milwr oedd fy nhad; yr oedd yn gwasanaethu yn storfeydd y fyddin. Ddoe, cefais alwad ffôn gan fy mrawd yn dweud ei fod newydd ganfod ffotograff a anfonwyd gartref gan fy nhad i Tirphil. Dengys gamelod ac asynnod ac, ar y cefn, esboniodd fy nhad fod y wlad yn anhreiddiadwy; nid oedd rheilffyrdd ac yr oedd cludo cyflenwadau yn broblem fawr. Mae’r ffotograff hwnnw yn ein hatgoffa pa mor anodd ydyw i ddosbarthu bwyd ar draws dir anghroesawgar Afghanistan. Nid fu lawer tro ar fyd.

The key issue of conscience involves whether the bombing is seriously affecting the delivery of food to areas affected by famine. There is strong evidence to suggest that there is an effect and that the war is impeding the full delivery of emergency food. The Government reports that food is entering Afghanistan, but there is strong evidence to suggest that the volume is inadequate and that the food is not being distributed widely. Many of the figures quoted in this context, by both sides, are contradictory and unreliable. No-one here can know the full situation. However, even under the most favourable conditions, the distribution of emergency food before winter is certain to be inadequate. Under war conditions, the situation will be far worse. All human life is sacred; nothing could possibly justify the attacks on New York and Washington, but by the same measure, how do we justify any direct or indirect killing—[Interruption.]

Y prif fater o gydbwybod yw a yw’r bomio’n effeithio’n ddifrifol ar y broses o ddosbarthu bwyd i ardaloedd sy’n dioddef o newyn. Ceir tystiolaeth gref sy’n awgrymu bod hyn yn cael effaith a bod y rhyfel yn amharu ar y broses o ddosbarthu bwyd mewn argyfwng. Yn ôl y Llywodraeth mae bwyd yn cyrraedd Afghanistan, ond ceir tystiolaeth gref sy’n awgrymu nad yw’r swm yn ddigonol ac nad yw’r bwyd yn cael ei ddosbarthu’n eang. Mae llawer o’r ffigurau a ddyfynwyd yn y cyd-destun hwn, gan y naill ochr a’r llall, yn gwrthddweud ei gilydd ac yn annibynadwy. Ni ŵyr neb yma beth yw’r sefyllfa mewn gwirionedd. Fodd bynnag, hyd yn oed o dan yr amodau mwyaf ffafriol, mae’r broses o ddosbarthu bwyd mewn argyfwng cyn y gaeaf yn sicr o fod yn annigonol. O dan amodau rhyfel, bydd y sefyllfa’n waeth o lawer. Mae pob bywyd dynol yn sanctaidd; ni all dim byd gyfiawnhau’r ymosodiadau ar Efrog Newydd a Washington, ond yn yr un modd, sut y gallwn gyfiawnhau unrhyw lofruddio uniongyrchol neu anuniongyrchol—[Torri ar draws.]

Huw Lewis a gododd—

Huw Lewis rose—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 63

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 63

Order. Phil Williams is not giving way.

Trefn. Nid yw Phil Williams yn ildio.

Phil Williams spoken in English p. 63

Phil Williams siaradwyd yn Saesneg t. 63

That is why we oppose the bombing. It would be a tragic irony if, in the hope of eliminating terrorism, we create a continuing sense of bitterness and injustice that will breed the next generation of terrorists. We may not have statutory authority in this Assembly, but let us express our moral authority.

Dyna pam yr ydym yn gwrthwynebu’r bomio. Byddai’n eironi trasig pe byddem, wrth geisio diddymu terfysgaeth, yn creu ymdeimlad o chwerwder ac anghyfiawnder parhaus a fydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o derfysgwyr. Hwyrach nad oes gennym awdurdod statudol yn y Cynulliad hwn, ond gadewch inni fynegi ein hawdurdod moesol.

Glyn Davies spoken in English p. 63

Glyn Davies siaradwyd yn Saesneg t. 63

I am grateful to Plaid Cymru for choosing this topic for its minority party debate and for giving the Assembly the opportunity to debate the international terrorism crisis today. The shattering events of 11 September have changed many things in our world. All of us know better the threat that terrorism brings to our security and the freedoms that we all take for granted. I thought that we should have been recalled during recess to say so publicly. However, not everybody agreed. I was asked by a local newspaper what value recalling the Assembly would have, given that there was nothing that it could do about the crisis. The Assembly is more than just a mechanism to deal with those issues that have been devolved to us. If it is to be a truly national institution of Government, it must concern itself with the wider issues that affect Wales. Others have said that the issue is above party politics. Again, I disagree. The more important an issue, the more relevant party politics are. I do not agree with some of my fellow AMs. I disagree with Richard Edwards’s contribution, but I respect the opinions of other Members. Freedom of speech is one of those freedoms that justifies war. On such an important issue, we should all say what we believe. We should forget about the spin that so disfigures modern politics, let our different opinions be placed before the public, and let the voters decide for once on the real issues.

Yr wyf yn ddiolchgar i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn ar gyfer y ddadl plaid leiafrifol ac am roi’r cyfle i’r Cynulliad drafod yr argyfwng terfysgol rhyngwladol heddiw. Mae digwyddiadau ysgytwol 11 Medi wedi newid llawer o bethau yn ein byd. Mae pob un ohonom yn fwy ymwybodol o fygythiad terfysgaeth i’n diogelwch a’r rhyddid yr ydym oll yn ei gymryd yn ganiataol. Credaf y dylem fod wedi cael ein galw yn ôl yn ystod y toriad i ddatgan hynny’n gyhoeddus. Fodd bynnag, nid oedd pawb o’r un farn. Gofynnodd papur newydd imi beth fyddai gwerth galw’r Cynulliad yn ôl, o ystyried nad oedd dim byd y gallai ei wneud am yr argyfwng. Mae’r Cynulliad yn fwy na dull o ddelio â’r materion hynny a ddatganolwyd inni. Os yw am fod yn sefydliad llywodraethol cenedlaethol gwirioneddol, rhaid iddo ymwneud â’r materion ehangach sy’n effeithio ar Gymru. Mae eraill wedi dweud bod y mater uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol. Unwaith eto, anghytunaf â hynny. Po bwysicaf y mater, mwyaf pwysig yw gwleidyddiaeth bleidiol. Ni chytunaf â rhai o’m cyd-Aelodau. Anghytunaf â chyfraniad Richard Edwards, ond parchaf farn Aelodau eraill. Mae rhyddid barn yn un o’r materion hynny sy’n cyfiawnhau rhyfel. Wrth drafod mater mor bwysig, dylem oll ddweud yr hyn yr ydym yn ei gredu. Dylem anghofio am y sbin sy’n anffurfio gwleidyddiaeth gyfoes, gadael i’r cyhoedd weld ein gwahaniaeth barn, a gadael i bleidleiswyr benderfynu ar y materion gwirioneddol am unwaith.

Terrorism was not invented on 11 September, but it was that day, and the sheer drama of watching the magnificent twin towers fall, that led the western world to realise that terrorism had to be confronted. We are not dealing with a terrorist group that is pursuing a political agenda through some twisted, Clausewitz logic—we are facing religious fundamentalism. President Bush was right to declare war on the world’s terrorists, and on those Governments that harbour terrorism. The Prime Minister of Britain was right to support the US President.

Ni ddyfeisiwyd terfysgaeth ar 11 Medi, ond y diwrnod hwnnw, gyda’r ddrama o wylio’r ddau dŵr godidog yn disgyn, a ysgogodd y gorllewin i sylweddoli bod yn rhaid mynd i’r afael â therfysgaeth. Nid ydym yn delio â grŵp terfysgol sydd ag agenda wleidyddol i’w bodloni drwy ryw resymeg Clausewitz wyrdroedig—yr ydym yn wynebu ffwndamentaliaeth grefyddol. Yr oedd yn briodol i Arlywydd Bush ddatgan rhyfel ar derfysgwyr y byd, ac ar y Llywodraethau hynny sy’n rhoi lloches i derfysgaeth. Yr oedd yn briodol i Brif Weinidog Prydain gefnogi Arlywydd yr UD.

I do not care for Tony Blair. I think that he is shallow and unprincipled, but when the chips were down on 11 September, he did what I would have expected a British Prime Minister to do. He looked down the barrel of a gun and stood firm. Over the next few months, he will look down the barrel of a few more guns, and I will support him every time he stands firm. It is right for the US and Britain to pursue the perpetrators of terrorism, wherever they are, to bring them to justice or destroy them, and do what is necessary to achieve it. I want every young Welsh person who may become involved in this conflict to know exactly where this Assembly Member stands, which is shoulder to shoulder with them in their commitment and dedication.

Ni waeth gen i am Tony Blair. Credaf ei fod yn arwynebol ac yn ddiegwyddor, ond pan oedd pethau’n edrych yn ddu ar 11 Medi, gwnaeth yr hyn y byddwn wedi disgwyl i Brif Weinidog Prydain ei wneud. Edrychodd ar faril y gwn a bu’n bendant. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn edrych ar farilau mwy o ynnau, a byddaf yn ei gefnogi pob tro y bydd yn ddi-ildio. Mae’n briodol i’r UD a Phrydain fynd ar drywydd troseddwyr terfysgol, pwy bynnag y bônt, a’u cosbi neu eu dinistrio a gwneud popeth sydd ei angen i sicrhau hynny. Yr wyf am i bob un o’r Cymry ifanc a allai gymryd rhan yn y gwrthdaro hwn wybod beth yw safbwynt yr Aelod hwn o’r Cynulliad, sef ochr yn ochr â hwy yn eu hymrwymiad a’u hymroddiad.

Lynne Neagle spoken in English p. 65

Lynne Neagle siaradwyd yn Saesneg t. 65

This debate is important, not because we control any armed forces—we do not; not because we have an independent foreign policy—we do not, and not because we can direct a foreign aid programme—we cannot, but because it is being watched by the people of Wales who expect us to represent their democratic will and by those who serve our country in the armed forces. They face danger on our behalf and are entitled to expect that we, who sit comfortably in this Chamber, will respect them for doing so. We are also being watched by the murderers and men of hate who will look to us to undermine democracy and freedom and offer them comfort. The Assembly has yet to earn the full trust of the people of Wales. If we vote today to distance ourselves from the fight against terrorism or to avoid responsibility for taking firm action against the murderers, we will do this body lasting damage. Our armed forces are engaged in a just campaign. They have a right to my support, and they have it. They should expect the same from this Assembly as a whole. I am proud of my party’s record in being prepared to stand up to oppressors with military force; it is right that we do.

Mae’r ddadl hon yn bwysig, nid am ein bod yn rheoli unrhyw luoedd arfog—ni wnawn hynny; nid am fod gennym bolisi tramor annibynnol—nid oes gennym un, ac nid am y gallwn gyfarwyddo rhaglen cymorth tramor—ni allwn wneud hynny, ond oherwydd bod pobl Cymru’n ein gwylio ac yn disgwyl inni gynrychioli eu hewyllys democrataidd a’r rhai sy’n gwasanaethu ein gwlad yn y lluoedd arfog. Maent yn wynebu perygl ar ein rhan ac mae hawl ganddynt i ddisgwyl i ni, sy’n eistedd yn gyfforddus yn y Siambr hon, eu parchu am wneud hynny. Mae llofruddwyr a dynion llawn casineb hefyd yn ein gwylio a fydd yn disgwyl inni danseilio democratiaeth a rhyddiad a chynnig cysur iddynt. Nid yw’r Cynulliad wedi sicrhau ymddiriedaeth lwyr pobl Cymru eto. Os byddwn yn pleidleisio heddiw i ymbellhau o’r frwydr yn erbyn terfysgaeth neu i osgoi’r cyfrifoldeb dros gymryd camau cadarn yn erbyn y llofruddwyr, gwnawn ddifrod parhaol i’r corff hwn. Mae ein lluoedd arfog yn gweithredu mewn ymgyrch gyfiawn. Mae ganddynt hawl i’m cefnogaeth i, ac yr wyf yn eu cefnogi. Dylent ddisgwyl yr un peth gan y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd. Ymfalchiaf yn record fy mhlaid o ran bod yn barod i wrthsefyll gormeswyr gyda grym milwrol; mae’n briodol ein bod yn gwneud hynny.

Osama Bin Laden has shown that he is prepared to kill again. Failing to address that threat puts the lives of innocent people throughout the world at risk. We must also fight this battle on other fronts. That is why the Government is leading the international humanitarian effort for the Afghan people. However, it is not a choice between military or humanitarian action; both must happen if we are to address the terrorist threat. The humanitarian crisis was not created by the military response to the events of 11 September. It is the result of long-standing conflict and drought in Afghanistan and the actions of the Taleban regime itself. A halt or a pause in the bombing will not solve the humanitarian crisis. The Taleban will continue to seize aid meant for the refugee population whether the action continues or not. To argue for an end to the military campaign will not solve the poverty of the Afghan people.

Mae Osama Bin Laden wedi dangos ei fod yn barod i ladd eto. Mae peidio â mynd i’r afael â’r bygythiad hwnnw yn peryglu bywydau pobl ddiniwed drwy’r byd. Rhaid inni ymladd y frwydr hon mewn ffyrdd eraill hefyd. Dyna pam mae’r Llywodraeth yn arwain yr ymdrech ddyngarol ryngwladol ar gyfer pobl Afghanistan. Fodd bynnag, nid dewis rhwng gweithredu milwrol neu weithredu dyngarol ydyw; rhaid i’r ddau ddigwydd os ydym am fynd i’r afael â’r bygythiad terfysgol. Ni chrëwyd yr argyfwng dyngarol gan yr ymateb milwrol i ddigwyddiadau 11 Medi. Canlyniad ymladd hirdymor a chyfnod o sychder yn Afghanistan ydyw a gweithrediadau’r Taleban ei hun. Ni fydd oedi’r bomio neu ddod ag ef i ben yn datrys yr argyfwng dyngarol. Bydd y Taleban yn parhau i ddwyn y cymorth a anelwyd at y boblogaeth o ffoaduriaid p’un a fydd y gweithrediadau’n parhau ai peidio. Ni fydd dadlau dros ddod â’r ymgyrch fomio i ben yn datrys tlodi pobl Afghanistan.

Military and humanitarian action is essential, as is the international effort to guarantee a prosperous future for the developing world. We have a role to play in this. We should declare that we are in favour of opening up free trade to the developing world. We should declare that we are in favour of overhauling the system of subsidy and tariff barriers that prevent farmers in the developing world from accessing our markets. To do so would declare that this Assembly is in favour of letting the rest of the world eat at the European table of plenty. I wish that, for once, those who come to the Assembly and demand more humanitarian aid and less firm action would also examine what we can do closer to home.

Mae camau milwrol a dyngarol yn holl bwysig, yn ogystal â’r ymdrech ryngwladol i warantu dyfodol ffyniannus i’r gwledydd sy’n datblygu. Mae gennym rôl i’w chwarae yn hyn o beth. Dylem ddatgan ein bod o blaid agor masnach rydd i’r gwledydd sy’n datblygu. Dylem ddatgan ein bod o blaid newid y system cymorthdaliadau a ffiniau tariff sy’n rhwystro ffermwyr yn y gwledydd sy’n datblygu rhag cael mynediad i’n marchnadoedd. Byddai gwneud hynny’n datgan bod y Cynulliad hwn o blaid gadael i weddill y byd fwyta wrth fwrdd toreithiog Ewrop. Am unwaith, hoffwn i’r rhai sy’n dod i’r Cynulliad gan fynnu mwy o gymorth dyngarol a llai o weithredu cadarn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn agosach at adref hefyd.

The people of Wales are watching us today and expect the Assembly to face up to its responsibilities. The choice before us is not easy, but it is clear. We either defend democracy, the only way available to us, or we shirk that duty and condemn our children to live in a darker world.

Mae pobl Cymru yn ein gwylio heddiw ac yn disgwyl i’r Cynulliad wynebu ei gyfrifoldebau. Nid yw’r dewis o’n blaenau yn hawdd, ond mae’n glir. Yr ydym naill ai’n amddiffyn democratiaeth, yr unig ffordd sydd ar gael inni, neu’n osgoi’r ddyletswydd honno a chondemnio ein plant i fyw mewn byd tywyllach.

Christine Gwyther spoken in English p. 66

Christine Gwyther siaradwyd yn Saesneg t. 66

The world has changed since 11 September. The perpetrators of the atrocities in the United States have upped the ante exponentially. Most of us are still recoiling from that horror and trying to come to terms with the fact that we will be fighting terrorism for the rest of our adult lives. That is a hard, cruel and real fact.

Mae’r byd wedi newid ers 11 Medi. Mae’r rhai a gyflawnodd yr erchyllterau yn yr Unol Daleithiau wedi dwysáu’r sefyllfa yn sylweddol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn dal i geisio ymdopi â’r erchylltra hwn ac yn ceisio dod i delerau â’r ffaith y byddwn yn ymladd terfysgaeth am weddill ein hoes fel oedolion. Mae hon yn ffaith galed, greulon a gwirioneddol.

I will talk about the merits or otherwise of a suspension in military action in Afghanistan and the possible shape and form of the future governance of that country. Some non-governmental organisations and Plaid Cymru are calling for a suspension in the military action. The crux of the matter is whether or not that action is hampering food getting through to the people who need it. We heard the First Minister tell us that with the help of safe routes and safe havens the people who need food and shelter will continue to receive them. Clare Short, the Secretary of State for International Development, has backed that and given her commitment that that will happen. The ‘do nothing’ option is not an option, because Osama Bin Laden, the Al-Quaeda network and the Taleban are so inextricably linked. We must face up to that, unpalatable as it is.

Soniaf am rinweddau, os o gwbl, oedi’r camau milwrol yn Afghanistan a siâp a ffurf bosibl llywodraeth y wlad honno yn y dyfodol. Mae rhai sefydliadau anllywodraethol a Phlaid Cymru’n galw am atal y gweithredu milwrol. Hanfod y broblem yw a yw’r camau hyn yn llesteirio’r broses o sicrhau bod bwyd yn cyrraedd y bobl sydd ei angen. Clywsom y Prif Weinidog yn dweud wrthym y bydd y bobl sydd angen bwyd a lloches yn parhau i’w cael gyda chymorth llwybrau diogel a noddfeydd diogel. Mae Clare Short, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol, wedi cefnogi hynny ac wedi rhoi ei hymrwymiad y bydd hyn yn digwydd. Nid yw’r opsiwn ‘o wneud dim’ yn opsiwn, am fod Osama Bin Laden, rhwydwaith Al-Quaeda a’r Taleban yn gwbl gysylltiedig. Rhaid inni wynebu hynny, ni waeth pa mor annymunol ydyw.

The present plight of the people of Afghanistan, especially Afghan women, is worse than our worst nightmares. In strategic terms, if we are to have any hope or influence in the facilitation of an interim government for Afghanistan, it is vital that we keep faith with the people we are seeking to help. That must mean that we do not allow them to starve. It does not mean putting in a puppet ruler. It most certainly does not mean handing over government to the Northern Alliance. We must hope that the United States is not actively considering a closer relationship with this group, which has such a shameful record of atrocity that many people in Afghanistan fear it even more than they fear the Taleban.

Mae cyflwr truenus presennol pobl Afghanistan, yn arbennig merched Afghanistan, yn waeth na’n hunllefau gwaethaf. Yn strategol, os ydym am sicrhau unrhyw obaith neu ddylanwad ar y broses o hwyluso llywodraeth dros dro i Afghanistan, mae’n hanfodol ein bod yn cadw ffydd â’r bobl yr ydym yn ceisio eu helpu. Rhaid i hynny olygu nad ydym yn eu gadael i newynu. Nid yw’n golygu sefydlu arweinydd pyped. Ac yn sicr nid yw’n golygu trosglwyddo’r llywodraeth i Gynghrair y Gogledd. Rhaid inni obeithio nad yw’r Unol Daleithiau yn ystyried perthynas agosach â’r grŵp hwn, sydd â record cywilyddus o erchylltra sy’n golygu bod llawer o bobl yn Afghanistan yn ei ofni’n fwy na’r Taleban.

The future of Afghanistan lies with democracy and diplomacy—

Democratiaeth a diplomyddiaeth sydd wrth wraidd dyfodol Afghanistan—

Dafydd Elis-Thomas The Presiding Officer spoken in English p. 67

Dafydd Elis-Thomas Y Llywydd siaradwyd yn Saesneg t. 67

Order. I am sorry, Christine, but I must now call Cynog Dafis to reply to this debate.

Trefn. Mae’n ddrwg gennyf Christine, ond rhaid imi alw ar Cynog Dafis yn awr i ymateb i’r ddadl hon.

Cynog Dafis siaradwyd yn Gymraeg t. 67

Cynog Dafis spoken in Welsh p. 67

Yr wyf yn llongyfarch pawb sydd wedi siarad. Yr ydym wedi cael cyfraniadau sylweddol a chyfrifol gan bawb, er bod eu barnau yn wahanol. Yr wyf yn cadarnhau ein bod yn derbyn yr hyn a ddywedodd David Melding, sef bod gweithredoedd 11 Medi yn wirioneddol arswydus ac yn mynd ag arswydau i lefel hollol newydd. Byddai’n briodol i ddefnyddio grym milwrol i ymateb i hynny o dan amgylchiadau arbennig. Fodd bynnag, ni allwn fyth dderbyn bod caniatáu i ddwy wlad gyfoethacaf y byd fomio un o’r rhai tlotaf yn shindrins, gan achosi argyfwng dyngarol ar raddfa aruthrol, yn ymateb priodol. I ddyfynnu ffigur arall, yn ôl UNICEF bydd 100,000 o blant yn marw yn ystod y gaeaf o ganlyniad i’r rhyfel yn unig.

I congratulate everyone who has spoken. We have had substantial and responsible contributions from everyone, although their views differ. I confirm that we accept what David Melding said, namely that the actions of 11 September were truly horrific and took such horrors to new depths. It would be appropriate to use military force to respond to that under some circumstances. However, we can never accept that allowing the two wealthiest countries in the world to bomb one of the poorest to smithereens, causing a humanitarian crisis on a terrifying scale, is an appropriate response. To quote another figure, according to UNICEF 100,000 children will die during the winter simply as a result of the war.

Hoffwn droi at enghraifft benodol sydd yn dangos beth sy’n digwydd, sef Kandahar, lle y mae 80 y cant o’r boblogaeth wedi ymadael. Nid ffoi rhag y Taleban y mae’r mwyafrif llethol, ond ffoi rhag y bomio, yr anhrefn a’r anarchiaeth ofnadwy a ddatblygodd yn yr ardal honno o ganlyniad i chwalfa cymdeithas a threfn. Gwaethygodd hynny gyda’r bomio. Mae hefyd yn un o effeithiau 15 mlynedd a mwy o ryfela, rhyfela a achoswyd, i raddau helaeth, gan ymyrraeth pwerau allanol, gan gynnwys yr Undeb Sofietaidd ac Unol Daleithiau America. Mae’r ddwy wlad yn amlwg yn y coalisiwn yn erbyn terfysgaeth, fel y galwant hwy ef. Bu elfennau o’r byd Arabaidd hefyd yn rhan o’r broses honno.

I turn to a specific example to illustrate what is happening, namely Kandahar, where 80 per cent of the population has fled. The vast majority has not fled the Taleban, but the bombing, the chaos and the terrible anarchy that has developed in the area as a result of the collapse of society and order. That worsened with the bombing campaign. It is also one of the effects of 15 years of war, war that was caused, to a great extent, by the interference of external powers, including the Soviet Union and the United States of America. Those countries are prominent in the coalition against terrorism, as they call it. Elements of the Arab world have also played a part in that process.

Mae miloedd o bobl Kandahar wedi cyrraedd y ffin, ond nid allant ei chroesi, fel y gwelsom ar y teledu neithiwr. Mae Pakistan wedi derbyn 2 filiwn o ffoaduriaid eisoes. Mae’r rheini hefyd yn ganlyniad rhyfela’r gorffennol a chwalfa’r gymdeithas. Lleiafrif yw’r rhai sydd wedi cyrraedd y ffin. Mae mwyafrif pobl Kandahar wedi ffoi i bentrefi gwledig. Nid oes bwyd iddynt yno, a bydd yn anos o lawer anfon bwyd atynt tra bônt wedi’u gwasgaru ym mhentrefi’r mynyddoedd.

Thousands people from Kandahar have reached the border, but they cannot cross it, as we saw on television last night. Pakistan has already taken 2 million refugees, who are also a result of past wars and the collapse of society. Those who have reached the border are a minority. Most of Kandahar’s people have fled to rural villages. There is no food there for them, and it will be much harder to send food to them while they are scattered in mountain villages.

Fel y pwysleiswyd, mae’r gaeaf ar ddod, ac mae trychineb dyngarol anferth yn debygol oni bai y dirwyna’r rhyfel i ben yn fuan. Faint o obaith sydd o hynny? Nid oes llawer o arwydd o hynny, y mae arnaf ofn. Gobeithiaf y gwnaiff, ond nid yw’r arwyddion yn awgrymu hynny ar hyn o bryd. Ceir sôn am barhau’r rhyfel drwy’r gaeaf, y gwanwyn a hyd yn oed tan yr haf y flwyddyn nesaf.

It has been emphasised that winter is coming and a massive humanitarian disaster is likely unless the war ends soon. How much hope is there of that? I am afraid that there is little sign of it. I hope that it will, but the signs do not indicate that at present. There is talk of the war continuing throughout the winter, the spring, and even into next summer.

Dywedodd Colin Powell ei fod yn gobeithio y deuai’r rhyfel i ben, gan y byddai hynny’n gyfleus i’r cynghreiriaid. Byddai’n gyfleus eithriadol i bobl druan Afghanistan.

Colin Powell said that he hoped that the war would end, as that would be convenient for the allies. It would be exceptionally convenient for the poor people of Afghanistan.

Y mae hynny yn ddigon erchyll, ond beth am y darlun ehangach? Tybed a welodd rhai ohonoch raglen Panorama echnos? Beth yw effeithiau’r hyn oll ar ganfyddiad y byd Islamaidd o’r Unol Daleithiau, Prydain a’r byd gorllewinol? Yr oedd dau banel ar Panorama; un yn Efrog Newydd ac un yn Islamabad. Dyma arwydd clir o gyfeiriad pethau. Nid oedd neb ar y panel Islamaidd yn cefnogi safbwynt ei Lywodraeth ei hunan, heb sôn am gefnogi gweithredoedd y gorllewin.

That is horrific enough, but what about the broader picture? Did anyone see the Panorama programme on Sunday night? What impact is this having on the Islamic world’s perception of the United States, Britain and the western world? There were two panels on Panorama; one in New York and one in Islamabad. That is a clear indication of the way that things are proceeding. Nobody on the Islamic panel supported their own Government’s standpoint, let alone the actions of the west.

Gwelaf fod angen imi ddirwyn i ben. Ym marn Plaid Cymru, mae atal y bomio nid yn unig yn bosibl ond yn angenrheidiol. Nid oes modd mynd i’r afael â’r cwestiwn dyngarol oni bai bod hynny’n digwydd. Dylai barn oleuedig fod yn pwyso’n galed am hynny ar hyn o bryd. Oni bai bod newid cyfeiriad, ofnaf y gallai’r canlyniadau fod yn enbyd inni i gyd.

I see that I must conclude. Plaid Cymru believes that ending the bombing campaign is not only possible but essential. It is impossible to tackle the humanitarian issue unless that happens. Enlightened opinion should press hard for that now. Unless there is a change of direction, I am afraid that the consequences could be dire for us all.

DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 15

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
Yn erbynAgainst (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cynnig NDM795 Ieuan Wyn Jones t. 70

Motion NDM795 Ieuan Wyn Jones p. 70

DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 15

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
Yn erbynAgainst (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams

Cynnig Trefniadol

Procedural Motion

Andrew Davies The Minister for Assembly Business spoken in English p. 71

Andrew Davies Y Trefnydd siaradwyd yn Saesneg t. 71

I propose that

Cynigiaf fod

Cynnig trefniadol Andrew Davies t. 71

Procedural motion Andrew Davies p. 71

DerbyniwydAdopted O blaidFor 42 YmatalAbstain 0 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (42)
  • Lorraine Barrett
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Andrew Davies
  • David Davies
  • Geraint Davies
  • Glyn Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Karen Sinclair
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 4.24 p.m.

The Deputy Presiding Officer took the Chair at 4.24 p.m.

Strategaeth Wastraff Cymru

Waste Wales Strategy

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 72

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 72

I have selected amendments 1, 2, 3, 4, 5 and 6 in the name of Jocelyn Davies.

Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Jocelyn Davies.

Sue Essex The Minister for Environment spoken in English p. 72

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd siaradwyd yn Saesneg t. 72

I propose that

Cynigiaf fod

Sue Essex The Minister for Environment (continued) spoken in English p. 72

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 72

I am pleased that we have found time to hold this debate today. It is important, not only to Members but to many others throughout Wales. Setting a new direction for waste is one of our most difficult challenges. In my portfolio, which includes many difficult challenges, waste is at the top of the list. I hope that this will be a good debate, but this is only the starting point.

Mae’n bleser gennyf nodi ein bod wedi llwyddo i neilltuo amser i gynnal y ddadl hon heddiw. Mae’n bwysig, nid yn unig i’r Aelodau ond i lawer o bobl eraill ledled Cymru. Mae newid cyfeiriad o ran gwastraff yn un o’n heriau anosaf. Yn fy mhortffolio i, sydd â llawer o heriau anodd, mae gwastraff ar frig y rhestr. Gobeithiaf y bydd hon yn ddadl dda, ond man cychwyn yn unig ydyw.

It was because of the degree of difficulty and the great need for change that I was determined to draw up a strategy that would respond responsibly to the challenges and be complemented by planning and waste guidance. The process started some time ago with a major conference, which some Assembly Members attended. A waste policy unit was established, including representatives from the Environment Agency and local government. A waste forum was also established to support the development of the strategy. It includes key stakeholders and major players from Wales and outside.

Oherwydd yr anawsterau sylweddol a’r angen dirfawr am newid, yr oeddwn yn benderfynol o lunio strategaeth a fyddai’n ymateb yn gyfrifol i’r heriau, wedi’i hategu gan ganllawiau cynllunio a gwastraff. Dechreuodd y broses beth amser yn ôl drwy gynnal cynhadledd bwysig, a fynychwyd gan rai Aelodau’r Cynulliad. Sefydlwyd uned polisi gwastraff, sy’n cynnwys cynrychiolwyr Asiantaeth yr Amgylchedd a llywodraeth leol. Sefydlwyd fforwm gwastraff hefyd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth. Mae’n cynnwys rhan-ddeiliaid allweddol ac unigolion pwysig o Gymru a’r tu allan.

The draft report was presented to the Environment, Planning and Transport Committee before being issued for consultation. Over 100 responses have been received, and they are still being considered. It is a lengthy strategy—if Members have not had time to read it, there is an abridged version. It is based on much information and data. However, essentially it is about sustainability in Wales and how we should respond to the current strong European legislation and regulation.

Cyflwynwyd yr adroddiad drafft i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth cyn ymgymryd â’r broses ymgynghori. Cafwyd dros 100 o atebion, ac maent wrthi’n cael eu hystyried. Mae’n strategaeth hirfaith—os nad yw’r Aelodau wedi cael amser i’w darllen, mae fersiwn cryno ar gael. Mae wedi’i seilio ar lawer o wybodaeth a data. Fodd bynnag, yn y bôn mae a wnelo â chynaliadwyedd yng Nghymru a sut y dylem ymateb i’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau llym presennol Ewrop.

The most important concept in the strategy is the waste hierarchy, in which waste minimisation has been placed at the top. As mentioned during the last debate, we are a wasteful society. As we have become more affluent, we have become more wasteful. In less affluent areas of the world, waste is reused or recategorised. Below waste minimisation on the hierarchy are categories of reuse such as recycling and composting. At the bottom is landfill—the method traditionally relied on in Wales. I stated in Plenary last Thursday, in response to a question by Brian Gibbons, that 94 per cent of our municipal waste goes into landfill sites. That figure is imprinted on my brain. It has been too easy for us in the past. We put our waste in black plastic bags—out of sight, out of mind—and it was placed into landfill.

Y cysyniad pwysicaf yn y strategaeth yw’r hierarchaeth wastraff, ac ar y brig y mae lleihau gwastraff i’r eithaf. Fel y nodwyd yn y ddadl ddiwethaf, yr ydym yn gymdeithas wastrafflyd. Wrth ddod yn well ein byd yr ydym wedi dod yn fwy gwastrafflyd. Mewn rhannau llai cyfoethog o’r byd caiff gwastraff ei ailddefnyddio neu ei ailgategoreiddio. Islaw categori lleihau gwastraff i’r eithaf yn yr hierarchaeth y mae categorïau ailddefnyddio megis ailgylchu a gwneud gwrtaith. Ar y gwaelod mae tirlenwi—y dull traddodiadol a ddefnyddid yng Nghymru. Nodais yn y Cyfarfod Llawn ddydd Iau diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn Brian Gibbons, fod 94 y cant o’n gwastraff bwrdeistrefol yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r ffigur hwnnw wedi ei serio yn fy nghof. Bu’n rhy hawdd inni yn y gorffennol. Byddem yn rhoi ein gwastraff mewn sachau plastig du—pell o’r golwg, pell o’r cof—ac fe’i gwaredid mewn safleoedd tirlenwi.

For many reasons, that is not the way forward, especially now that Europe states that we must reform our practices. The draft strategy outlines the way forward in a series of steps. The key components are to set targets for municipal waste—40 per cent of municipal waste to be recycled and composted by 2010—and to consider new processes in industry and agriculture. I was pleased to attend the environment and business awards a few weeks ago. In Wales, we have many new businesses that are redefining waste. Dow Corning, which won the overall prize, has done much work on this and has reduced the element of waste over many years. We must also consider new opportunities. We have invested in the waste resources action programme, which will consider how we deal with recycling, for which there has been an unsustainable and unpredictable market in the past. That is important.

Am sawl rheswm, nid dyna’r ffordd ymlaen, yn enwedig gan fod Ewrop yn nodi bellach bod yn rhaid inni newid ein harferion. Mae’r strategaeth ddrafft yn nodi’r ffordd ymlaen mewn nifer o gamau. Yr elfennau allweddol yw pennu targedau ar gyfer gwastraff bwrdeistrefol—dylid ailgylchu a chompostio 40 y cant o wastraff bwrdeistrefol erbyn 2010—ac ystyried prosesau newydd ym myd diwydiant ac amaethyddiaeth. Yr oedd yn bleser gennyf fynychu achlysur gwobrwyo yr amgylchedd a busnes ychydig wythnosau yn ôl. Yng Nghymru, mae llawer o fusnesau newydd sy’n ailddiffinio gwastraff. Mae Dow Corning, a gafodd y brif wobr, wedi gwneud llawer o waith ar hyn ac wedi lleihau gwastraff dros flynyddoedd lawer. Rhaid inni ystyried cyfleoedd newydd hefyd. Yr ydym wedi buddsoddi yn y rhaglen weithredu adnoddau gwastraff, a fydd yn ystyried sut yr ydym yn ymdrin ag ailgylchu, y bu iddo farchnad anghynaliadwy ac anwadal yn y gorffennol. Mae hynny’n bwysig.

I am pleased that, for the first time, £35 million has been allocated for this over three years. There was also extra money in Edwina’s draft budget, which was debated last week, to support local government and the voluntary sector in the major cultural and practical change that must take place. This is a substantial sum of money. For example, over three years, Rhondda Cynon Taff County Borough Council will receive £2.5 million, not including the extra money. Cardiff City and County Council will receive £3 million. We have recognised that local authorities need financial support for this.

Mae’n dda gennyf fod, am y tro cyntaf, £35 miliwn wedi ei ddyrannu yn y maes hwn dros dair blynedd. Yr oedd arian ychwanegol hefyd yng nghyllideb ddrafft Edwina, y cynhaliwyd dadl arni yr wythnos diwethaf, i helpu llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol yn y newid diwylliannol ac ymarferol enfawr y mae’n rhaid ei wneud. Mae hwn yn swm sylweddol o arian. Er enghraifft, dros dair blynedd, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cael £2.5 miliwn, heb gynnwys yr arian ychwanegol. Caiff Cyngor Dinas a Sir Caerdydd £3 miliwn. Yr ydym wedi cydnabod bod angen cymorth ariannol ar awdurdodau lleol yn y maes hwn.

We would be wrong if we failed to recognise the need for a huge cultural change. Those Members present at last week’s meeting of the Environment, Planning and Transport Committee heard that Richard Edwards, as Chair of the Committee, and I, visited Sweden to learn about its experiences. The importance of information and education was emphasised to us, by a country that already has high standards of environmental achievement. Cultural change and working with people to accept that change is important. However, it would be foolish of me not to say that, in the need to strive for waste minimisation, reuse, recycling and to move away from landfill, we may have to consider some energy-from-waste options. Obtaining energy from waste is often associated with incineration, which I know is unpalatable to some. My own experiences of incineration meant that I was opposed to that as a process. However, in Sweden I saw waste incineration plants operating alongside communities with relatively few complaints, or so it appeared. If we learn from the experience of Sweden—

Byddem ar fai pe na baem yn cydnabod bod angen newid diwylliannol enfawr. Clywodd yr Aelodau hynny a oedd yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf fod Richard Edwards, fel Cadeirydd y Pwyllgor, a minnau, wedi ymweld â Sweden i ddysgu am brofiadau’r wlad honno. Pwysleisiwyd inni pa mor bwysig yw gwybodaeth ac addysg, a hynny gan wlad sydd eisoes wedi cyflawni cryn dipyn o ran yr amgylchedd. Mae newid diwylliannol a gweithio gyda phobl i’w darbwyllo i dderbyn y newid hwnnw yn bwysig. Fodd bynnag byddwn yn ffôl pe na bawn yn dweud y bydd yn rhaid inni o bosibl ystyried rhai opsiynau ynni-o-wastraff yn ein hymgyrch i leihau gwastraff, ei ailddefnyddio a’i ailgylchu ac i osgoi tirlenwi. Yn aml cysylltir cynhyrchu ynni o wastraff â llosgi gwastraff, sy’n annerbyniol i rai pobl, mi wn. Oherwydd fy mhrofiad fy hun o weithfeydd llosgi gwastraff, yr oeddwn yn gwrthwynebu’r broses honno. Fodd bynnag, yn Sweden, gwelais weithfeydd llosgi yn gweithredu wrth ymyl cymunedau heb fawr o gwynion, neu dyna sut yr ymddangosodd. Os dysgwn o brofiad Sweden—

Rhodri Glyn Thomas a gododd—

Rhodri Glyn Thomas rose—

Sue Essex spoken in English p. 75

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 75

I will take an intervention as long as it does not affect the time I have to speak. I know that the Deputy Presiding Officer can be quite strict.

Derbyniaf ymyriad ar yr amod na fydd yn cwtogi ar yr amser sydd gennyf i annerch yr Aelodau. Gwn fod y Dirprwy Lywydd yn gallu bod yn eithaf llym.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 75

John Marek Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 75

You have 15 minutes for your opening and closing speeches. You may have time out of a minute or two to take interventions.

Bydd gennych 15 munud i agor y ddadl ac i gloi. Cewch funud neu ddwy i dderbyn ymyriadau.

Rhodri Glyn Thomas spoken in English p. 75

Rhodri Glyn Thomas siaradwyd yn Saesneg t. 75

In terms of incineration, there are two major issues. First, most of the materials that are incinerated could be recycled, which would be preferable in terms of sustainable development. Secondly, there is a major problem with the dioxins released in the ashes of incinerated materials. Do you accept those points?

O ran gweithfeydd llosgi, cyfyd dau brif fater. Yn gyntaf, gellid ailgylchu’r rhan fwyaf o ddefnyddiau a losgir, a fyddai’n ddewisach o ran datblygu cynaliadwy. Yn ail, cyfyd problem fawr ynglŷn â’r deuocsinau a ryddheir yn lludw defnyddiau a losgwyd. A dderbyniwch y pwyntiau hynny?

Sue Essex spoken in English p. 75

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 75

Absolutely and fundamentally. That is why incineration, particularly mass incineration, is not our favoured way forward. It is only slightly preferable to the landfill option. We are encouraging the recycling, minimisation and composting of waste. However, I am trying to be responsible and realistic. If we have residual waste and want to move away quickly from past landfill practices, we must consider another way forward. I suggest that the Committee continues to work on this and considers other options, such as gasification and pyrolysis. All those processes have associated risks. When the final report is produced, I hope that it will be as knowledgeable and experienced a guide as possible to aid the progress of local authorities.

Heb os. Dyna pam nad llosgi, yn arbennig llosgi ar raddfa fawr, yw’r ffordd ymlaen a ffafrir gennym. Nid yw ond rhywfaint yn well na thirlenwi. Yr ydym yn hyrwyddo ailgylchu gwastraff, ei gompostio a’i leihau i’r eithaf. Fodd bynnag, yr wyf yn ceisio bod yn gyfrifol ac yn realistig. Os oes gennym wastraff sy’n weddill ac os ydym am symud yn gyflym oddi wrth arferion tirlenwi y gorffennol, rhaid inni ystyried ffordd arall ymlaen. Awgrymaf fod y Pwyllgor yn parhau i weithio ar hyn ac yn ystyried opsiynau eraill, megis nwyeiddio a phyrolysis. Mae i bob un o’r prosesau hynny risgiau cysylltiedig. Pan fydd yr adroddiad terfynol wedi’i gynhyrchu, gobeithiaf y bydd yn ganllaw sy’n cynnwys cymaint o wybodaeth a phrofiad â phosibl, i helpu awdurdodau lleol i wneud cynnydd.

Ultimately, it will be up to local authorities to decide on the way forward, and it is up to the Assembly to support them with resources and advice. From speaking to people across Wales, I know that public confidence in incineration and some other processes is an issue. We would be wise to accept that. I will return to that point when I discuss the amendments.

Yn y pen draw, yr awdurdodau lleol fydd yn penderfynu ar y ffordd ymlaen, a gwaith y Cynulliad yw rhoi cymorth iddynt ar ffurf adnoddau a chyngor. Ar ôl siarad â phobl ledled Cymru, gwn fod problem ynglŷn â hyder y cyhoedd mewn gweithfeydd llosgi a rhai phrosesau eraill. Doeth fyddai inni dderbyn hynny. Dychwelaf at y pwynt hwnnw wrth drafod y gwelliannau.

More work needs to be done on waste processes, and we must support local government in how they progress. It will be up to local government, working with local communities, to produce municipal waste plans and decide on the way forward. That will vary across Wales due to the varying degrees of dependence. It would be wonderful if some local authorities could achieve more than the 40 per cent target. The policy agreements are in place as a back-up. The challenge is the recycling market. Unless we find a positive way forward on that, we will always face the difficulty of what will happen to the recyclates. We do not want people to put a lot of effort into producing recyclates only to find that they will have to go into landfill.

Mae angen gwneud rhagor o waith ar brosesau gwastraff, a rhaid inni helpu llywodraeth leol i’w datblygu. Llywodraeth leol, ar y cyd â chymunedau lleol, fydd yn gyfrifol am lunio cynlluniau gwastraff bwrdeistrefol a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Bydd hynny’n amrywio ar draws Cymru am fod gwahanol raddau o ddibyniaeth. Byddai’n wych pe gallai rhai awdurdodau lleol ragori ar y targed o 40 y cant. Mae’r cytundebau polisi ar waith fel cynlluniau wrth gefn. Y farchnad ailgylchu yw’r her. Oni ddeuwn o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen o ran hynny, cawn anawsterau o hyd ynghylch beth fydd yn digwydd i’r deunyddiau a ailgychwyd. Nid ydym am weld pobl yn gwneud ymdrech fawr i gynhyrchu deunyddiau i’w hailgylchu ond i’w gweld yn cael eu gwaredu mewn safleoedd tirlenwi.

We must meet our European targets or face infraction procedures. They require local authorities to identify sites for waste management facilities and waste plans to be included in unitary development plans. That is why the planning guidance will be issued shortly. It addresses the importance of regional groupings, which is being supported by funding.

Rhaid inni gyrraedd ein targedau Ewropeaidd neu wynebu camau gorfodi deddfwriaeth. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff a chynnwys cynlluniau gwastraff mewn cynlluniau datblygu unedol. Dyna pam y caiff y canllawiau cynllunio eu cyhoeddi yn fuan. Byddant yn trafod pwysigrwydd grwpiau rhanbarthol, sydd yn derbyn cymorth ariannol.

I cannot support amendments 1 and 2 on the grounds that they pre-empt our consideration of the consultation. It is damaging to start a consultation process and then, through a forum such as this, for amendments to be agreed without the consultation being considered.

Ni allaf gefnogi gwelliannau 1 a 2 am eu bod yn achub y blaen ar y broses o ystyried yr ymgynghoriad. Nid yw’n beth doeth dechrau proses ymgynghori ac yna, mewn fforwm megis hwn, cytuno ar welliannau heb ystyried yr ymgynghoriad.

Amendment 3 is technically wrong. There is no planning permission for an incinerator at Wrexham. There is an existing permission at Crumlyn Burrows, which, as I said, I have considered carefully and discussed with the campaign groups. I do not have the planning powers to revoke that permission. However, I take all the campaigners’ points seriously, particularly those on authorisation and the worries about health and emissions. Rhodri Glyn raised the point about dioxins. I will meet Baroness Young in the near future and will raise the local campaigners’ points with her. I assure them that I take those points seriously; it is our duty to do so.

Mae gwelliant 3 yn dechnegol anghywir. Ni roddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer llosgydd yn Wrecsam. Ceir caniatâd ar gyfer Crumlyn Burrows, yr wyf, fel y dywedais, wedi ei ystyried yn ofalus a’i drafod â’r grwpiau ymgyrchu. Nid oes gennyf y pwerau cynllunio i ddiddymu’r caniatâd hwnnw. Fodd bynnag, cymeraf bob un o bwyntiau’r ymgyrchwyr o ddifrif, yn arbennig y pwyntiau ynglŷn ag awdurdodaeth a’r pryderon ynglŷn ag iechyd a gollyngiadau. Cododd Rhodri Glyn bwynt ynglŷn â deuocsinau. Byddaf yn cyfarfod â’r Farwnes Young yn y dyfodol agos ac yn codi pwyntiau’r ymgyrchwyr lleol â hi. Hoffwn eu sicrhau fy mod yn cymryd y pwyntiau hynny o ddifrif; mae dyletswydd arnom i wneud hynny.

Amendment 5 is open-ended, so I cannot support it in its current form. However, to reassure the Plaid Cymru group, I have taken or will take up many of the points contained in the amendment, particularly that of landfill tax. As you know, I have argued for landfill tax to be hypothecated for a long time. In the spirit of co-operation, I will support amendments 4 and 6, though I hope that Plaid Cymru will, in turn, accept that we have backed this waste strategy with considerable financial resources.

Mae gwelliant 5 yn benagored, felly ni allaf ei gefnogi ar ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, er mwyn tawelu meddyliau grŵp Plaid Cymru, yr wyf wedi mynd ar drywydd llawer o’r pwyntiau yn y gwelliant, neu byddaf yn gwneud hynny, yn enwedig y pwynt ynglŷn â’r dreth tirlenwi. Fel y gwyddoch, yr wyf wedi dadlau o blaid pridiannu’r dreth tirlenwi ers tro. Mewn ysbryd cydweithredol, cefnogaf welliannau 4 a 6, er y gobeithiaf y bydd Plaid Cymru, yn ei thro, yn derbyn ein bod wedi neilltuo cryn dipyn o adnoddau ariannol i’r strategaeth wastraff hon.

In conclusion, this is a huge challenge. It requires a major cultural change by industry, agriculture and all of us. Particular effort is needed on waste minimisation, on which I hope the Assembly will lead. We must also respond to Europe, as regulations are likely to become tighter over the years. We must be guarded about the direction we take in the future, as there could be changes in regulations. We must learn from the experience and results of the Nantygwyddon investigation, the report on which will be published soon. We must also mainstream some of our experience in Wales, particularly on industrial processes, where exciting work is being done by companies in Wales in reusing what was previously considered to be waste material.

I gloi, mae hon yn her enfawr. Mae’n gofyn am gryn newid diwylliannol gan ddiwydiant, amaethyddiaeth a chan bob un ohonom. Mae angen ymdrech arbennig i leihau gwastraff i’r eithaf, a gobeithiaf y bydd y Cynulliad ar y blaen yn hynny o beth. Rhaid inni hefyd ymateb i Ewrop, gan y bydd rheoliadau yn mynd yn llymach dros y blynyddoedd yn ôl pob tebyg. Rhaid inni fod yn bwyllog ynglŷn â’n cyfeiriad yn y dyfodol, oherwydd y gallai rheoliadau newid. Rhaid inni ddysgu o brofiadau a chanlyniadau ymchwiliad Nantygwyddon, y caiff yr adroddiad arno ei gyhoeddi cyn bo hir. Rhaid inni hefyd brif ffrydio rhai o’n profiadau yng Nghymru, yn arbennig o ran prosesau diwydiannol, sydd yn faes lle y mae cwmnïau yng Nghymru yn gwneud gwaith cyffrous ar ailddefnyddio yr hyn a ystyrid yn ddeunydd gwastraff.

Above all, we need to work together. The Assembly cannot deliver this alone. Make no mistake: we need local authorities, industry, agriculture and a whole range of people to be part of this major cultural change. It is not just a question of producing a report, leaving it at that and expecting change to happen. We must all work together, but we must manage the short-term challenge while maintaining the long-term vision for the whole of Wales. It is important that this vision is delivered throughout Wales. It will take time, determination and mutual support if we are to make this change. I am keen to listen to the points that will be raised in this discussion.

Yn anad dim, mae angen inni weithio gyda’n gilydd. Ni all y Cynulliad gyflawni hyn ar ei ben ei hun. Peidied neb â chamgymryd: mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol, diwydiant, amaethyddiaeth ac ystod eang o bobl yn rhan o’r newid diwylliannol sylweddol hwn. Nid mater o lunio adroddiad a’i roi o’r neilltu gan ddisgwyl i’r sefyllfa newid ohoni’i hun ydyw. Rhaid inni oll gydweithio, ond rhaid inni reoli’r her yn y byrdymor, tra’n cadw’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n bwysig ein bod yn gwireddu’r weledigaeth hon ledled Cymru. Bydd yn cymryd amser, ac yn galw am benderfyniad ac i bawb gefnogi ei gilydd er mwyn inni newid yn y fath fodd. Yr wyf yn awyddus i wrando ar y pwyntiau a gaiff eu codi yn y drafodaeth hon.

Helen Mary Jones spoken in English p. 78

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose the following amendments in the name of Jocelyn Davies. Amendment 1: add as a new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf y gwelliannau canlynol yn enw Jocelyn Davies. Gwelliant 1: ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 78

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose amendment 2. Add as a new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 2. Ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 78

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose amendment 3. Add as a new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 3. Ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 78

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose amendment 4. Add as a new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 4. Ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 78

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 78

I propose amendment 5. Add as a new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 5. Ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 79

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 79

I propose amendment 6. Add as new paragraph at the end of the motion:

Cynigiaf welliant 6. Ychwanegu paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig:

Helen Mary Jones (continued) spoken in English p. 79

Helen Mary Jones (parhad) siaradwyd yn Saesneg t. 79

I begin by commenting on the shameful and shambolic way in which the scheduling of this debate has been handled. First, the debate was pulled last week at the last minute, despite an agreement in principle to sit until 6 p.m. if necessary. It was pulled without consultation and despite the fact that members of the public had travelled from Swansea, from Wrexham and, I understand, from Poland to hear the debate. The debate was then re-tabled by stealth at the last minute yesterday afternoon, presumably in the hope that those members of the public with an interest would not be able to attend. I am at a loss to understand why this has happened and can only assume that certain elements in the Government of Wales are concerned to keep the debate on the waste strategy as low key as possible for short-term, cynical and, possibly, constituency reasons. I stress that I exonerate the Minister for Environment in that respect. I would hate to disappoint those who want to restrict the profile given to this debate, but I understand that the concerned citizens from Swansea, if not from Wrexham, are back today.

Hoffwn ddechrau drwy nodi’r ffordd warthus, anhrefnus y cafodd y ddadl hon ei threfnu. Yn gyntaf, tynnwyd y ddadl yn ôl yr wythnos diwethaf yn hwyr iawn, er gwaethaf cytundeb mewn egwyddor y byddai’r Siambr yn parhau i eistedd tan 6 o’r gloch, os oedd angen. Fe’i tynnwyd yn ôl heb ymgynghori ac er gwaethaf y ffaith bod aelodau o’r cyhoedd wedi teithio o Abertawe, o Wrecsam ac, fe ddeallaf, o wlad Pŵyl i wrando ar y ddadl. Yna ailgyflwynwyd y ddadl yn annisgwyl yn hwyr brynhawn ddoe, yn y gobaith, yr wyf yn cymryd, na allai’r aelodau hynny o’r cyhoedd â diddordeb yn y ddadl fod yn bresennol. Ni allaf yn fy myw ddeall pam bod hyn wedi digwydd. Ni allaf ond dyfalu bod rhai elfennau o Lywodraeth Cymru yn awyddus i gynnal dadl ar strategaeth wastraff drwy ddwyn cyn lleied o sylw â phosibl ati am resymau byrdymor, sinigaidd, neu o bosibl am resymau etholaethol. Pwysleisiaf nad wyf yn cyhuddo’r Gweinidog dros yr Amgylchedd o gwbl yn hynny o beth. Byddai’n gas gennyf siomi’r rhai sydd am gyfyngu ar y sylw a gaiff y ddadl hon, ond deallaf fod y dinasyddion hynny o Abertawe, er nad y rhai o Wrecsam o bosibl sy’n pryderu, wedi dod yn ôl heddiw.

Alison Halford a Brian Gibbons a gododd—

Alison Halford and Brian Gibbons rose—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 80

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 80

Order. Helen Mary is not giving way.

Trefn. Nid yw Helen Mary yn ildio.

Helen Mary Jones spoken in English p. 80

Helen Mary Jones siaradwyd yn Saesneg t. 80

I am unable to take interventions because of time. I understand that the concerned citizens of Swansea are back today and that what we have to say will be noted and scrutinised.

Ni allaf dderbyn ymyriadau oherwydd prinder amser. Deallaf fod y dinasyddion pryderus hynny o Abertawe wedi dod yn ôl heddiw ac y byddant yn nodi ac yn craffu ar yr hyn a ddywedwn.

I am grateful to the Minister for supporting amendments 4 and 6 and I am pleased to move all the amendments. Amendment 1 is self-explanatory. It is ambitious and idealistic. Ultimately, our goal must be zero landfill. That is a highly-challenging, long-term target but the Assembly should be ready to set it. I continue to ask for support for this amendment today because we do not know whether the full strategy will come back before the National Assembly. If we had that assurance, I would withdraw the amendment in the light of the Minister’s comments. Since we cannot have that assurance, we must press it to a vote.

Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am gefnogi gwelliannau 4 a 6 ac mae’n bleser gennyf gyflwyno pob un o’r gwelliannau. Mae gwelliant 1 yn hunanesboniadol. Mae’n uchelgeisiol ac yn idealistig. Yn y pen draw, rhaid wrth nod o gael gwared â thirlenwi yn gyfan gwbl. Mae hwnnw yn darged hirdymor, ymestynnol iawn ond dylai’r Cynulliad fod yn barod i’w osod. Parhaf i ofyn am gefnogaeth i’r gwelliant hwn heddiw am na wyddom a gaiff y strategaeth lawn ei chyflwyno eto gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Pe baem wedi cael y sicrwydd hwnnw, byddwn yn tynnu’r gwelliant yn ôl yng ngoleuni sylwadau’r Gweinidog. Gan na allwn gael y sicrwydd hwnnw, rhaid inni alw am bleidlais arno.

On amendments 2 and 3, Janet Davies will speak about incineration in more detail. It is increasingly obvious that communities across Wales, particularly in Crumlyn Burrows and Wrexham, are deeply concerned about incineration. It is untenable that the Assembly should not debate this and take a view on it. Members will note that amendment 2 does not seek to rule out all incineration forever, but to reinforce its role close to the bottom of the waste hierarchy. I look forward to hearing the comments of our new colleague, Val Lloyd, on this, and to her support for amendments 2 and 3. The residents of Swansea East who recently supported her will expect her to support them, in line with the frequent, strong and welcome anti-incineration statements that she made during the election campaign. If Ms Lloyd is not in a position to do so, perhaps the Minister will tell us when she sums up what representations she has received from Ms Lloyd on this matter on her constituents’ behalf.

O ran gwelliannau 2 a 3, bydd Janet Davies yn trafod llosgi yn fanylach. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod cymunedau ar draws Cymru, yn arbennig yn Crumlyn Burrows a Wrecsam, yn pryderu’n fawr ynglŷn â llosgi. Ni ellir cyfiawnhau peidio â rho cyfle i’r Cynulliad gynnal dadl a llunio barn ar hyn. Noda’r Aelodau nad yw gwelliant 2 yn ceisio gwahardd llosgi am byth. Yn hytrach mae’n ceisio atgyfnerthu ei rôl yn agos at waelod yr hierarchaeth wastraff. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau ein cyd-Aelod newydd, Val Lloyd, ar hyn, ynghyd â’i chefnogaeth i welliannau 2 a 3. Bydd trigolion Dwyrain Abertawe a wnaeth ei chefnogi yn ddiweddar yn disgwyl iddi hi eu cefnogi hwythau, yn gyson â’r datganiadau cryf, mynych a derbyniol iawn a wnaeth yn erbyn llosgyddion yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Os nad yw Ms Lloyd mewn sefyllfa i wneud hynny, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym, wrth iddi gloi’r ddadl, am unrhyw sylwadau a gafodd gan Ms Lloyd ar y mater hwn ar ran ei hetholwyr.

It must be possible for the Minister and her colleagues in the Government of Wales, accepting everything that she has said in Committee and this afternoon, to put political pressure on Neath Port Talbot and Wrexham County Borough Councils to put the developments on hold. The Minister said that our knowledge about incineration is far from perfect. There may be unknown and unintended consequences. We will, no doubt, hear accusations during this debate that those opposing incineration in their communities are being irrational. In my experience, people are often called irrational and emotional when they present alternative evidence that makes life difficult for vested interests and the powers that be. I trust that the Minister will bear this in mind when finalising the strategy.

Rhaid bod modd i’r Gweinidog a’i chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, gan dderbyn popeth a ddywedodd yn y Pwyllgor a’r prynhawn yma, roi pwysau gwleidyddol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ohirio’r datblygiadau dros dro. Dywedodd y Gweinidog nad ydym yn gwybod popeth am losgyddion o bell ffordd. Gallai fod canlyniadau anhysbys, anfwriadol. Byddwn, mae’n siŵr, yn clywed cyhuddiadau yn ystod y ddadl hon bod y rhai sy’n gwrthwynebu llosgyddion yn eu cymunedau yn bod yn afresymol. Yn fy mhrofiad i, caiff pobl eu galw’n afresymol ac yn emosiynol yn aml wrth gyflwyno tystiolaeth amgen sy’n gwneud pethau’n anodd i’r rhai â buddiant ac i’r awdurdodau. Hyderaf y bydd y Gweinidog yn cofio hyn wrth roi’r strategaeth ar ei gwedd derfynol.

Amendment 4 highlights the huge scale of the problem and the shift of resources necessary to solve it. I am grateful to the Minister for giving her support to the amendment.

Noda gwelliant 4 pa mor enfawr yw’r broblem a’r newid y bydd ei angen o ran adnoddau i’w datrys. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am gefnogi’r gwelliant.

Amendment 5 does not address the strategy’s content, but the actions needed to make its implementation possible. It is unarguable that more resources will be needed in the long term. It is clear that current primary legislation is a complex and expensive mess. As the Minister said today, we are not alone in believing that the Assembly should be responsible for landfill tax receipts and that they should be used to fund sustainable waste disposal.

Nid yw gwelliant 5 yn ymdrin â chynnwys y strategaeth. Yn hytrach mae’n ymdrin â’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod modd ei rhoi ar waith. Yn ddiau bydd angen mwy o adnoddau yn yr hirdymor. Mae’n amlwg bod y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol yn ddryswch cymhleth a chostus. Fel y dywedodd y Gweinidog heddiw, nid ni yw’r unig rai sy’n credu mai’r Cynulliad ddylai fod yn gyfrifol am y trethi tirlenwi sy’n dod i law ac y dylent gael eu defnyddio i ariannu’r gwaith o waredu gwastraff cynaliadwy.

Amendment 6 seeks to ensure the full integration of the waste strategy with all other Government of Wales strategies and plans. The Minister’s intention on this is clear, and she repeated that today. However, there is a perception outside the Assembly that Wales is being strategied to death, and that there is little co-ordination. A clear Assembly resolution on this matter may assist in putting those concerns to rest. Again, I am grateful for the Minister’s support for this amendment.

Mae gwelliant 6 yn ceisio sicrhau y caiff y strategaeth wastraff ei hintegreiddio’n llawn â phob un o strategaethau a chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru. Mae bwriad y Gweinidog o ran hynny yn eglur, ac ailadroddodd hynny heddiw. Fodd bynnag, mae pobl y tu allan i’r Cynulliad o’r farn bod Cymru yn cael ei strategeiddio hyd at syrffed, ac nad oes fawr o gydlynu. Gallai penderfyniad eglur gan y Cynulliad ar y mater hwn fod yn fodd i dawelu’r pryderon hynny. Unwaith eto, yr wyf yn ddiolchgar am gefnogaeth y Gweinidog i’r gwelliant hwn.

Rosemary Butler spoken in English p. 82

Rosemary Butler siaradwyd yn Saesneg t. 82

I congratulate the Minister on presenting this report. It takes a holistic approach to waste and recycling in Wales. It addresses some thorny issues head-on, including incineration. I am particularly pleased to see that fly-tipping is addressed. That practice despoils our countryside. Tourism is a major industry in Wales and it worries me when I visit outlying parts of my constituency and see beautiful areas being despoiled. The use of the practice in urban areas also worries me.

Llongyfarchaf y Gweinidog ar gyflwyno’r adroddiad hwn. Mae iddo ymagwedd gyfannol tuag at wastraff ac ailgylchu yng Nghymru. Mae’n mynd i’r afael â rhai materion anodd iawn, gan gynnwys llosgyddion. Yr wyf yn falch iawn o weld ei fod yn trafod gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon. Mae’r arfer hwnnw yn difwyno cefn gwlad. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig i Gymru ac mae’n achos pryder imi pan ymwelaf â rhannau anghysbell fy etholaeth a gweld ardaloedd hardd yn cael eu difwyno. Mae’r arfer hwn mewn ardaloedd trefol hefyd yn achos pryder imi.

I draw Members’ attention to example 2 on page 12 of the summary of the strategy, which shows that Newport County Borough Council leads the way in kerb-side collection of recyclable materials. The service is available to 30,000 residents, and in the next two years it will be available to another 20,000. It aims to serve 55,000 residents in Newport. The council is also positively considering composting and using the landfill tax credit scheme to its fullest extent.

Tynnaf sylw’r Aelodau at enghraifft 2 ar dudalen 12 o grynodeb y strategaeth, sy’n dangos bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd ar y blaen o ran casglu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’r tu allan i gartrefi. Mae’r gwasanaeth ar gael i 30,000 o drigolion, ac, yn y ddwy flynedd nesaf, bydd ar gael i 20,00 o drigolion ychwanegol. Mae’n anelu at wasanaethu 55,000 o drigolion Casnewydd. Mae’r cyngor hefyd yn ystyried compostio a defnyddio’r cynllun credyd treth tirlenwi i’r eithaf.

Given the £35 million that has been allocated for this strategy, as well as the additional amount that Edwina Hart announced last week, is there any means of finding additional resources for places such as Newport to introduce a recycling scheme for schools? An exceptional pilot scheme is currently running in Cardiff. Is there any way that the Minister could allow additional funding for that? I would not want any of the schemes already in place to be abandoned to introduce this scheme. I compliment you on this report. You said that over 100 representations were received on the strategy. I look forward to reading the views of the public in Wales on the strategy.

O gofio bod £35 miliwn wedi’i ddyrannu i’r strategaeth hon, ar ben y swm ychwanegol a gyhoeddwyd gan Edwina Hart yr wythnos diwethaf, a oes modd dod o hyd i adnoddau ychwanegol er mwyn i leoedd megis Casnewydd gael cyflwyno cynllun ailgylchu mewn ysgolion? Cynhelir cynllun peilot eithriadol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. A oes modd i’r Gweinidog roi arian ychwanegol ar gyfer hynny? Nid wyf am i unrhyw un o’r cynlluniau sydd ar waith eisoes gael ei ddiddymu er mwyn cyflwyno’r cynllun hwn. Fe’ch canmolaf am yr adroddiad hwn. Dywedasoch ichi gael dros 100 o sylwadau ar y strategaeth. Edrychaf ymlaen at ddarllen barn pobl Cymru ar y strategaeth.

David Davies spoken in English p. 82

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 82

Mentioning an interest in waste disposal strategy elicits from most people a similar response to mentioning an interest in train-spotting. It can be anything from a wry smile to a slight concern for one’s mental wellbeing. We put our bins out on a given evening and the following morning they have vanished. Seldom do we consider where they go or how they are dealt with.

Mae sôn am ddiddordeb mewn strategaeth gwaredu gwastraff yn ennyn ymateb ymhlith y rhan fwyaf o bobl sydd yn debyg i’r ymateb a geir wrth sôn am ddiddordeb mewn gwylio trenau. Gall yr ymateb amrywio o ryw fingamu i bryder a ydych yn eich iawn bwyll. Rhown ein biniau ar y palmant ar noson benodol ac erbyn y bore canlynol maent wedi diflannu. Anfynych yr ystyriwn i ble y maent yn mynd neu sut yr ymdrinnir â hwy.

I must admit that that was my attitude before becoming a member of the Environment, Planning and Transport Committee. I suspect that I am typical. It has become increasingly apparent that we have a huge problem. Year after year, we produce more waste—a product of our growing economy, as the Minister mentioned—but our methods of dealing with waste have not kept pace with our ability to produce it. It is high time that we address that. The consultation document is a tentative step towards finding solutions for a serious problem.

Rhaid imi gyfaddef mai felly yr oeddwn innau’n meddwl cyn dod yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth. Credaf nad wyf yn eithriad yn hynny o beth. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod gennym broblem enfawr. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, yr ydym yn cynhyrchu mwy o wastraff—ffrwyth ein heconomi gynyddol, fel y soniodd y Gweinidog—ond nid yw ein dulliau o ymdrin â gwastraff wedi datblygu yr un mor gyflym â’n gallu i’w gynhyrchu. Mae’n hen bryd inni fynd i’r afael â hynny. Mae’r ddogfen ymgynghorol yn gam bach tuag at ddod o hyd i atebion i broblem ddifrifol.

Over the past month, and with good reason, we have seen political parties willing to work more closely with each other on matters where there is common cause. The day after the tragedy in America, I flew to Vienna to discover how Austria has managed to achieve one of the highest percentages of waste recycling in the world. Perhaps because of the timing, I returned with the view that less point scoring and more co-operation is needed on this issue.

Yn ystod y mis diwethaf, yr ydym wedi gweld parodrwydd pleidiau gwleidyddol i gydweithio’n agosach ar faterion sydd o bwys i bawb, ac nid yw hynny’n syndod. Y diwrnod ar ôl y drychineb yn America, hedfanais i Fienna i gael gwybod sut y mae Awstria wedi llwyddo i fod yn un o’r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd ym maes ailgylchu gwastraff. Oherwydd yr amseriad o bosibl, dychwelais gan feddwl bod angen llai o gecru a mwy o gydweithredu ar y mater hwn.

The Minister came to see all the party spokesmen and asked each of us not to amend the motion, as we are facing legal sanctions from the European Union. I have already mentioned my views on that. The motion is uncontroversial, so I was happy to agree not to amend it.

Cysylltodd y Gweinidog â phob un o lefarwyr y pleidiau gan ofyn inni beidio â diwygio’r cynnig, gan ein bod yn wynebu sancsiynau’r Undeb Ewropeaidd. Yr wyf eisoes wedi nodi fy marn i ar hynny. Nid yw’r cynnig yn un dadleuol, felly yr oeddwn yn fwy na pharod i gytuno i beidio â’i ddiwygio.

Time does not permit me to deal with each amendment, but the first four amendments bring me back to the point I made about adopting a responsible approach. Amendments 1 to 4 seem to convey the message that we should have no landfill or incineration. I understand the concerns about both—I hear members of Plaid Cymru agreeing with that—and if I read an amendment stating, or if I heard Helen Mary saying, ‘we urge the Cabinet to abandon landfill and incineration and adopt X as a means of disposing of waste instead’, I would be happy to consider it, as would everybody else. The trouble is that there is no X, because no country in the world has created a system of waste disposal that does not include some reliance on landfill or incineration, or both.

Nid oes digon o amser imi drafod pob gwelliant, ond mae’r pedwar gwelliant cyntaf yn cysylltu â’r pwynt a wneuthum ynglŷn ag ymddwyn yn gyfrifol. Ymddengys fod gwelliannu 1 i 4 yn cyfleu’r neges na ddylem byth dirlenwi neu losgi gwastraff. Deallaf y pryderon ynghylch y ddau ddull hwn—clywaf aelodau Plaid Cymru yn cyd-fynd â hynny—a phe bawn yn darllen gwelliant sy’n nodi, neu pe bawn yn clywed Helen Mary yn dweud, ‘anogwn y Cynulliad i roi’r gorau i dirlenwi a llosgi ac i fabwysiadu X fel ffordd o waredu gwastraff yn lle’r rhain, byddwn yn fwy na pharod i’w ystyried, fel pawb arall. Y broblem yw nad yw X yn bodoli, am nad yw’r un wlad yn y byd wedi creu system o waredu gwastraff nad yw’n cynnwys rhywfaint o dirlenwi neu losgi, neu’r ddau.

We can seek solutions such as recycling vegetable waste or composting food and fruit peel as they do on the Isle of Wight. We can recycle paper, metal, glass and some types of plastic. However, there are problems with all of these, such as the rapidly varying price structures of glass and paper, and the practical problems of sorting plastics and glass. Three types of plastic can be recycled and few people can distinguish between them. There is much more that we can do, and I thought that Rosemary Butler’s suggestion was positive, and one that we should consider.

Gallwn geisio atebion megis ailgylchu gwastraff llysieuol neu gompostio bwyd a chroen ffrwythau fel y maent ar Ynys Wyth. Gallwn ailgylchu papur, metel, gwydr a rhai mathau o blastig. Fodd bynnag, mae problemau yn gysylltiedig â phob un o’r rhain, megis strwythurau prisio gwydr a phapur sy’n amrywio’n fawr a’r problemau ymarferol o ddidoli plastigion a gwydr. Mae’n bosibl ailgylchu tri math o blastig ond nid oes llawer o bobl yn gallu gwahaniaethu rhyngddynt. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud, a theimlais fod awgrym Rosemary Butler yn un cadarnhaol, ac yn un y dylem ei ystyried.

Whatever we do, there will be a huge surplus left to deal with, as there is in every other country in the world, and it is no use pretending otherwise. Unless we face up to the need for incineration or landfill, we are misleading the public.

Beth bynnag a wnelom, bydd cyfran enfawr o wastraff ar ôl, fel y digwydd ymhob gwlad arall yn y byd, ac nid oes diben cymryd arnom fel arall. Oni dderbyniwn fod angen llosgi neu dirlenwi, byddwn yn camarwain y cyhoedd.

The Nantygwyddon landfill inquiry has made it clear that filling the earth with rubbish and forgetting about it is a bad idea. Of course, there are understandable concerns about incineration, so how do we solve this conundrum? I have visited two incineration plants in the last year. I have no doubt that Plaid Cymru Members, who were speaking against incineration, have visited many more to enlighten themselves. I visited one on the Isle of Wight and one in Vienna. I visited the plant in Vienna with an open mind, albeit feeling sceptical about incineration. The plant was supported by every shade of political opinion, from a pony-tailed, sandal-wearing hippie who ran a recycling centre elsewhere, to Conservative politicians. Everybody was happy with the plant in Vienna. It is in the centre of the city and outside is a liquid crystal display, which shows exactly second by second how much is emitted. There are fewer emissions from that plant than those by traffic on a busy road. The energy is used to create electricity and steam, which heats municipal buildings across the city.

Mae’n amlwg, yn sgîl yr ymchwiliad i safle tirlenwi Nantygwyddon, nad yw llenwi’r ddaear â sbwriel ac yna anghofio amdano yn syniad da. Wrth gwrs, mae pryderon dealladwy ynglŷn â llosgi, felly sut y gallwn datrys y broblem hon? Ymwelais â dau waith llosgi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n siŵr gennyf fod yr Aelodau o Blaid Cymru, a oedd yn siarad yn erbyn gweithfeydd llosgi, wedi ymweld â llawer mwy er mwyn dysgu amdanynt. Ymwelais â gwaith ar Ynys Wyth ac un yn Fienna. Ymwelais â gwaith yn Fienna â meddwl agored, er bod amheuon gennyf ynglŷn â llosgyddion. Cefnogwyd y gwaith hwnnw gan yr holl ystod wleidyddol, o’r hipi hirwallt, sandalog a redai ganolfan ailgylchu mewn lle arall, i wleidyddion Ceidwadol. Yr oedd pawb yn fodlon ar y gwaith llosgi yn Fienna. Fe’i lleolir yng nghanol y ddinas a’r tu allan iddo mae arddangosfa crisial hylifol sy’n dangos fesul eiliad faint a ollyngir. Mae’r gwaith hwnnw yn gollwng llai o nwyon nag y mae trafnidiaeth ar ffordd brysur. Defnyddir yr ynni i greu trydan ac ager, sy’n gwresogi adeiladau dinesig ar draws y ddinas.

I am not here to argue in favour of incineration. There are, of course, potential health risks and they must be eliminated. However, if incineration is carried out properly then it could form part of the solution. We cannot afford to rule it out. What I say—

Nid dadlau o blaid llosgi yw fy mwriad. Mae iddo, wrth reswm, risgiau posibl i iechyd a rhaid eu dileu. Fodd bynnag, os caiff gwastraff ei losgi’n briodol yna gellid bod yn rhan o’r ateb. Ni allwn fforddio ei ddiystyru. Yr hyn a ddywedaf—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 85

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 85

Order. You may continue for two sentences, but I will follow the excellent example set by the Presiding Officer earlier this afternoon and cut Members off after five minutes, without giving any warning. I have warned you.

Trefn. Cewch barhau am ddwy frawddeg arall, ond dilynaf esiampl ragorol y Llywydd yn gynharach y prynhawn yma a rhoi taw ar Aelodau ar ôl pum munud, heb rybudd. Fe’ch rhybuddiwyd.

David Davies spoken in English p. 85

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 85

We have a responsibility to our constituents not to increase their concerns, without carefully considering the issues. It should not be a matter of dogma. We are faced with a problem and we must find a solution to it. We should all be prepared to put aside our political differences and work together to achieve that.

Mae cyfrifoldeb arnom i’n hetholwyr i beidio â rhoi mwy o ofid iddynt, heb ystyried y materion yn fanwl. Ni ddylai fod yn fater o ddogma. Mae gennym broblem a rhaid inni ddod o hyd i’r ateb. Dylem oll fod yn barod i roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a chydweithio i gyflawni hynny.

Andrew Davies spoken in English p. 85

Andrew Davies siaradwyd yn Saesneg t. 85

I want to respond to what I regard as a personal attack on me by Helen Mary Jones regarding the handling of business. I want to make Members aware of the situation. The debate on the waste strategy was scheduled to take place in last Tuesday’s Plenary session. However, we had a statement from the First Minister on the international situation and, as the Presiding Officer pointed out, 25 minutes of Plenary time was taken up with points of order and procedural wrangles. That meant that we effectively lost half an hour of business. At 5.05 p.m. last Tuesday, I discussed with my colleague, Sue Essex, whether there was sufficient time to have an adequate debate, given that there were other items of business. We did not feel that there was sufficient time to give this important issue the time it merited. I therefore postponed the debate and promised to reschedule it at the earliest possible opportunity. I said that it would probably take place in this Thursday’s Plenary session. However, there was time today and that is why I have rescheduled it for this afternoon.

Hoffwn ymateb i’r hyn a ystyriaf yn ymosodiad personol arnaf gan Helen Mary Jones ynghylch y ffordd imi ymdrin â’r busnes. Hoffwn egluro’r sefyllfa i’r Aelodau. Bwriadwyd cynnal y ddadl ar y strategaeth wastraff yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth diwethaf. Fodd bynnag, gwnaeth Prif Weinidog Cymru ddatganiad ar y sefyllfa ryngwladol ac, fel y nododd y Llywydd, treuliwyd 25 munud o’r Cyfarfod Llawn ar bwyntiau o drefn a chweryla ynglŷn â’r gweithdrefnau. Golygai hynny inni golli hanner awr o fusnes. Am 5.05 o’r gloch ddydd Mawrth, trafodais â’m cyd-Aelod, Sue Essex, a oedd digon o amser i gynnal dadl ddigonol o ystyried bod eitemau eraill o fusnes i’w trafod. Nid oeddem o’r farn bod digon o amser i roi’r amser yr oedd y mater pwysig hwn yn ei haeddu iddo. Felly gohiriais y ddadl gan addo ei threfnu eto ar y cyfle cynharaf posibl. Dywedais y byddai’n digwydd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Iau yr wythnos hon fwy na thebyg. Fodd bynnag, yr oedd amser heddiw, a dyna pam fy mod wedi ei haildrefnu ar gyfer y prynhawn yma.

I take exception to opportunistic attacks from Plaid Cymru. My colleagues in the Business Committee are also fed up with opportunistic attacks from that party, which always seeks to make political capital out of business. It wastes time in Plenary, thus putting pressure on business, and often makes it necessary to reschedule items. I always give a commitment to reschedule business when it has been necessary to postpone an item. We postponed a statement by my colleague, Jane Hutt, this afternoon to allow more time for this debate, as requested in Business Committee this morning. I stand by my word, Deputy Presiding Officer.

Mae ymosodiadau oportiwnistaidd Plaid Cymru yn fy nigio. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Pwyllgor Busnes hefyd wedi diflasu ar ymosodiadau oportiwnistaidd gan y blaid honno, sydd bob amser yn defnyddio’r busnes i geisio bachu ar fantais wleidyddol. Mae’n gwastraffu amser mewn Cyfarfodydd Llawn, a thrwy hynny yn rhoi pwysau ar amserlen y busnes, ac yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i eitemau gael eu haildrefnu. Ymrwymaf bob amser i aildrefnu busnes pan fo raid gohirio eitem. Gohiriwyd datganiad gan fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, y prynhawn yma, er mwyn rhoi mwy o amser i’r ddadl hon, ar gais y Pwyllgor Busnes y bore yma. Cadwaf at fy ngair, Ddirprwy Lywydd.

Geraint Davies spoken in English p. 86

Geraint Davies siaradwyd yn Saesneg t. 86

I declare an interest as a member of Rhondda Cynon Taff County Borough Council.

Datganaf fuddiant fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Waste management and, in particular, the hazards of landfill waste disposal have long been on the agenda in my constituency, Rhondda. It is an issue that arouses strong emotion. However, Plaid Cymru’s argument today is not based on emotion, but on fact about our present waste management programme and the reality of landfill in Wales.

Bu rheoli gwastraff ac, yn arbennig, peryglon gwaredu gwastraff drwy dirlenwi, yn bwnc trafod yn fy etholaeth sef Rhondda, ers tro. Mae’n bwnc sy’n cyffroi teimladau cryf. Fodd bynnag, nid yw dadl Plaid Cymru heddiw wedi’i seilio ar emosiwn, ond y ffeithiau moel ynglŷn â’n rhaglen rheoli gwastraff bresennol a realiti tirlenwi yng Nghymru.

We presently have a 95 per cent rate of landfill disposal in Wales, with only 5 per cent of waste being recycled. Therefore, my colleagues and I welcome the adoption of this strategy as a positive way of building a cleaner and healthier Wales. However, we need to go further. We need to turn the present situation on its head. We need to set our goal: a commitment to achieve zero landfill. The social, economic, environmental and health problems associated with landfill are well-documented and numerous. For example, all sites produce methane and contribute to the greenhouse effect. The combination of chemical and biodegradable materials decomposes and produces a corrosive leachate that eats through any linings that may be present, leading to contamination of surrounding soil and groundwater.

Ar hyn o bryd gwaredir 95 y cant o’n gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yng Nghymru, a dim ond 5 y cant a ailgylchir. Felly, mae fy nghyd-Aelodau a minnau’n croesawu’r strategaeth hon fel ffordd gadarnhaol o greu Cymru lanach, iachach. Fodd bynnag, mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen inni wyrdroi’r sefyllfa bresennol. Mae angen inni bennu ein nod: ymrwymo i roi’r gorau i dirlenwi yn gyfan gwbl. Mae’r problemau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a phroblemau iechyd sy’n gysylltiedig â thirlenwi yn niferus ac mae cryn dipyn o dystiolaeth yn eu cylch ar glawr. Er enghraifft, mae pob safle yn cynhyrchu methan ac yn cyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae’r cyfuniad o ddeunyddiau cemegol a phydradwy yn pydru ac yn cynhyrchu trwytholch cyrydol sy’n cyrydu unrhyw leininau a all fod yn bresennol, gan arwain at halogi’r pridd a’r dŵr daear.

The Nantygwyddon landfill site releases hydrogen sulphide, which is a toxic gas. It is estimated that that gas will continue to be emitted for 1,000 years. Landfill is also expensive. The cost for the lifetime care of a single tonne of waste has been estimated at over £120. As around 100,000 tonnes of waste are produced every year in Rhondda Cynon Taff alone, Members can work out the figures involved.

Mae safle tirlenwi Nantygwyddon yn rhyddhau sylffad hydrogen, sy’n nwy gwenwynig. Amcangyfrifir y bydd y nwy yn parhau i ollwng am 1,000 o flynyddoedd. Mae tirlenwi yn gostus hefyd. Amcangyfrifir ei bod yn costio dros £120 i ofalu am un dunnell fetrig o wastraff dros ei hoes. Gan fod Rhondda Cynon Taf ei hun yn cynhyrchu tua 100,000 o dunelli metrig o wastraff bob blwyddyn, gall yr Aelodau gyfrifo’r symiau sydd dan sylw.

Landfill is also a high-cost waste disposal method in terms of health. The data submitted to the investigation into the Nantygwyddon landfill site showed an increase in prescribing by general practitioners in the vicinity of the tip. Health problems range from comparatively minor yet significant problems, such as eye and throat infections and anxiety-related complaints, to more serious incidents of congenital malformations, such as gastroschisis.

Mae tirlenwi hefyd yn ddull gwaredu gwastraff costus o ran iechyd. Dangosodd y data a gyflwynwyd i’r ymchwiliad i safle tirlenwi Nantygwyddon fod rhagnodi gan feddygon teulu wedi cynyddu yng nghyffiniau’r domen. Mae problemau iechyd yn amrywio o fân anhwylderau—ond nid anhwylderau dibwys—megis haint i’r llygad neu’r gwddf a salwch sy’n ymwneud â gofid, i achosion mwy difrifol o gamffurfiad cynhwynol, megis gastroschisis.

Rhondda Cynon Taff County Borough Council has now adopted an innovative waste management strategy. We have set ambitious targets for recycling and composting and, so far, the figures speak for themselves. After only a few months, we have an above average recycling rate of 6.6 per cent, and we have set a challenging target of 15 per cent for 2003-04. There are also knock-on economic benefits. This initiative, when fully operational, could result in up to 50 additional jobs. Rhondda Cynon Taff’s strategy is based on working in partnership with the community. The only way to ensure a change is by getting everybody on board and by educating people to change their attitudes, so that waste is perceived as a resource, not a problem. Our aim in Rhondda Cynon Taff is to rid ourselves of the Nantygwyddon tip. The long-term environmental, economic and health costs of not doing so are too great.

Erbyn hyn mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi mabwysiadu strategaeth arloesol ar gyfer rheoli gwastraff. Yr ydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer ailgylchu a chompostio a, hyd yma, mae’r ffigurau yn addawol. Ar ôl ychydig o fisoedd yn unig, yr ydym yn ailgylchu 6.6 y cant o wastraff, sy’n uwch na’r cyffredin, ac yr ydym wedi gosod targed o 15 y cant ar gyfer 2003-04. Daw manteision economaidd yn sgîl hyn hefyd. Gallai’r fenter hon, pan fydd yn llawn weithredol, greu hyd at 50 o swyddi ychwanegol. Mae strategaeth Rhondda Cynon Taf wedi’i seilio ar weithio mewn partneriaeth â’r gymuned. Yr unig ffordd i sicrhau newid yw cynnwys pawb ac addysgu pobl i newid eu ffordd o feddwl, fel y bo gwastraff yn cael ei ystyried yn adnodd, yn hytrach na phroblem. Ein nod yn Rhondda Cynon Taf yw cael gwared â thomen Nantygwyddon. Mae’r costau o ran yr amgylchedd, yr economi a iechyd yn yr hirdymor o beidio â gwneud hynny yn rhy uchel.

The same overwhelming arguments apply to the principle of making the whole of Wales a landfill-free zone. I ask Members to support amendment 1, thus committing the Assembly to support this principle and set a target of zero landfill for Wales.

Mae’r un dadleuon digamsyniol yn berthnasol i’r egwyddor o roi’r gorau i dirlenwi ymhob rhan o Gymru. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi gwelliant 1, a thrwy hynny ymrwymo’r Cynulliad i gefnogi’r egwyddor hon a gosod targed o roi’r gorau i dirlenwi yng Nghymru yn gyfan gwbl.

Val Lloyd spoken in English p. 88

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 88

I welcome the overarching principles outlined in the waste strategy. All reasonable, rational and genuinely concerned people can accept the thrust of the principles. The resultant policy aims are also welcome, as they promote sustainable development. I am pleased with the two-pronged approach of encouragement for business to consider the economic advantages and an emphasis on individuals taking responsibility for their actions as regards waste management.

Croesawaf yr egwyddorion cyffredinol a amlinellwyd yn y strategaeth wastraff. Byddai unrhyw un rhesymol, call a chanddo wir bryder yn derbyn byrdwn yr egwyddorion. Rhaid croesawu nodau’r polisi sy’n deillio o hynny hefyd, gan eu bod yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae’n dda gweld yr ymagwedd ddau ben sef annog y byd busnes i ystyried y manteision economaidd a phwyslais ar unigolion i fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd o ran rheoli gwastraff.

I have learnt much from my constituents, who have engaged themselves in the local proposals for incineration, or disposal by burning, as it is referred to in the strategy. The residents are concerned about their environment and that of the next generation.

Yr wyf wedi dysgu llawer gan fy etholwyr, sydd wedi ymddiddori yn y cynigion lleol ar gyfer llosgi, neu waredu drwy losgi, fel y cyfeiriwyd ato yn y strategaeth. Mae’r trigolion yn pryderu am eu hamgylchedd ac amgylchedd y genhedlaeth nesaf.

I have gained several important points from my discussions with my constituents. First, the need for sound and independent regulatory practices. Secondly, the potential health effects must be fully investigated, both overall and with regard to individual sites.

Mae sawl pwynt pwysig wedi dod i’r amlwg yn fy nhrafodaethau â’m hetholwyr. Yn gyntaf, yr angen am arferion rheoliadol cadarn ac annibynnol. Yn ail, bod rhaid ymchwilio i’r effeithiau posibl ar iechyd yn llawn, a hynny’n gyffredinol ac o ran safleoedd unigol.

David Lloyd a gododd—

David Lloyd rose—

Val Lloyd spoken in English p. 88

Val Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 88

I will not take an intervention as I have important points to make. Thirdly, all environmental risk and health assessments should be included in the consultation process. With those three caveats, which should apply to all disposal methods and all resultant by-products, I support the strategy.

Ni dderbyniaf ymyriad gan fod gennyf bwyntiau pwysig i’w gwneud. Yn drydydd, dylid cynnwys pob risg amgylcheddol ac asesiad iechyd yn y broses ymgynghorol. Gan nodi’r tri amod hwnnw y dylid eu cymhwyso i bob dull gwaredu a’r holl isgynnyrch, cefnogaf y strategaeth.

I must respond to a previous speaker, who imputed my motives. I state publicly, as I have always done, that, during the recent election campaign, I focused on the need for environmental and health safeguards. I have reiterated that need today.

Rhaid imi ymateb i siaradwr blaenorol, a fwriodd amheuaeth ar fy nghymhellion. Nodaf yn gyhoeddus, fel y gwneuthum erioed, imi ganolbwyntio ar yr angen am gamau diogelu o ran iechyd a’r amgylchedd yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar. Pwysleisiwyd yr angen am hynny gennyf heddiw.

Alun Cairns spoken in English p. 89

Alun Cairns siaradwyd yn Saesneg t. 89

It is only on rare occasions that I find myself allied to Plaid Cymru. Members may have heard me shouting support for Helen Mary Jones’s contribution. I support several issues raised by Plaid Cymru. First, the timing of the debate. Andrew Davies’s brief contribution to the debate sought to justify the arrangements behind the timing. No-one can deny the underhand way in which the debate was scheduled for today at the last minute. It did not give those people from Wrexham who wanted to hear this debate the opportunity to travel to the Assembly. It only gave limited opportunity for the people from Swansea who also wanted to witness the debate to travel here and make representations about their concerns to Members beforehand. This process is a scandal.

Yn anaml iawn y byddaf yn cefnogi Plaid Cymru. Efallai bod yr Aelodau wedi’m clywed yn gweiddi fy nghefnogaeth i gyfraniad Helen Mary Jones. Cefnogaf sawl mater a godwyd gan Blaid Cymru. Yn gyntaf, amseriad y ddadl. Ceisiodd Andrew Davies yn ei gyfraniad byr gyfiawnhau’r trefniadau y tu ôl i’r amseriad. Ni all neb wadu i’r ddadl gael ei threfnu ar gyfer heddiw yn hwyr iawn ac mewn ffordd lechwraidd. O’r herwydd ni chafodd y bobl hynny o Wrecsam a oedd yn dymuno gwrando ar y ddadl hon gyfle i deithio i’r Cynulliad. O’r braidd yr oedd modd i’r bobl o Abertawe a oedd hefyd yn dymuno gwrando ar y ddadl deithio yma a gwneud sylwadau a chodi eu pryderon gyda’r Aelodau ymlaen llaw. Mae’r broses hon yn warthus.

The issue of the Crumlyn Burrows incinerator is also a scandal. This is a far cry from the Swansea East by-election, when Andrew Davies, Val Lloyd, myself and others found ourselves on the picket line opposing the establishment of an incinerator. I never thought that I would stand on a picket line, let alone stand on a picket line next to a member of the Cabinet. However, it reflected the strength of feeling against the incinerator and the process to date. I will be paying close attention to how Andrew Davies and Val Lloyd vote, particularly on amendments 2 and 3. The Assembly by-election campaign asked them to put their money where their mouths are.

Mae mater y llosgydd yn Crumlyn Burrows hefyd yn warth. Mae hon yn sefyllfa dipyn yn wahanol i isetholiad Dwyrain Abertawe, pan oedd Andrew Davies, Val Lloyd, minnau a phobl eraill yn sefyll ar y llinell biced yn gwrthwynebu’r penderfyniad i sefydlu llosgydd. Ni feddyliais erioed y byddwn yn sefyll ar linell biced, heb sôn am linell biced y drws nesaf i aelod o’r Cabinet. Fodd bynnag, adlewyrchai hynny y teimladau cryf yn erbyn y llosgydd a’r broses hyd yma. Cadwaf lygad barcud ar sut y mae Andrew Davies a Val Lloyd yn pleidleisio, yn arbennig ar welliannau 2 a 3. Gofynnodd ymgyrch isetholiad y Cynulliad iddynt roi eu harian ar eu gair.

My opposition to siting the plant at Crumlyn Burrows is based on two issues: first, the locality in which it is to be sited and, secondly, the health risks. At a meeting of the Institute of Welsh Affairs last night, Swansea’s image was a key issue. One person mentioned the fact that, as you drive into Swansea, you will pass a refinery and then Tesco and Sainsbury’s stores. That is no different from any other city in the United Kingdom. However, Swansea will be different if the Minister has her way and this strategy is passed today, because it will be the only city with an incinerator at its gateway. Driving into the second city in Wales you will be welcomed by an ex-refinery on one side and an incinerator on the other. What sort of message does that send to a potential inward investor who is considering spending money to generate opportunities and create wealth in Swansea?

Yr wyf yn gwrthwynebu’r cynnig i sefydlu gwaith ar safle Crumlyn Burrows am ddau reswm: yn gyntaf, yr ardal lle y bwriedir sefydlu’r gwaith ac, yn ail, y risgiau i iechyd. Yng nghyfarfod y Sefydliad Materion Cymreig neithiwr, crybwyllwyd delwedd Abertawe, fel mater allweddol. Cyfeiriodd un person at y ffaith eich bod, wrth yrru i mewn i Abertawe yn mynd heibio i burfa ac yna siopau Tesco a Sainsbury. Nid yw hynny’n wahanol i unrhyw ddinas arall yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, fe fydd Abertawe yn wahanol os bydd y Gweinidog yn llwyddo ac os caiff y strategaeth hon ei chymeradwyo heddiw, am mai Abertawe fydd yr unig ddinas â llosgydd wrth ddod i mewn iddi. Wrth yrru i mewn i ail ddinas Cymru, byddwch yn gweld hen burfa ar y naill ochr a llosgydd ar y llall. Pa fath o neges fydd honno i ddarpar fewnfuddsoddwr sy’n ystyried gwario arian i greu cyfleoedd a chyfoeth yn Abertawe?

Secondly, the health risks. Incinerators have certain design specifications and requirements. However, it is rare to see an incinerator performing to those specifications. When more frequent tests were carried out on incinerators across Europe, results often showed that they performed 30 to 50 per cent over the allowed limit. There is a long history of industrial pollution around the Crumlyn Burrows site, and the dioxin levels in the area are already above the national average. These factors must be taken into consideration. Dioxins are not the only emissions. Ultra fine particles must also be considered, as some people believe that they pose greater risks than PM10s. However, there is no requirement in the existing proposals to monitor ultra fine particles.

Yn ail, y risgiau i iechyd. Mae gan losgyddion fanylebau a gofynion penodol o ran cynllun. Fodd bynnag, go brin y mae llosgydd yn cyflawni’r gofynion hynny. Pan gynhaliwyd profion ar losgyddion yn fwy mynych ar draws Ewrop, yn aml dangosodd y canlyniadau eu bod yn perfformio 30 i 50 y cant yn uwch na’r terfyn a ganiateir. Bu cryn halogi diwydiannol o amgylch safle Crumlyn Burrows, ac mae’r lefelau o ddeuocsin yn yr ardal eisoes yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Rhaid ystyried y ffactorau hyn. Nid deuocsinau yw’r unig beth a ollyngir. Rhaid ystyried gronynnau mân iawn hefyd, gan fod rhai o’r farn eu bod yn dwyn mwy o risg na PM10. Fodd bynnag, o dan y cynigion presennol ni fydd yn ofynnol monitro’r gronynnau mân iawn.

In closing, I will refer briefly to the process. Neath Port Talbot County Borough Council has decided to pursue the Crumlyn Burrows proposal, which is sited on the local authority’s border. Bridgend County Borough Council supports the proposal and, no doubt, the City and County of Swansea will also play a part in the incineration of waste at this plant in years to come. Swansea council is opposing the proposal at present, but, mark my words, it will use the incinerator in future.

I gloi, cyfeiriaf yn fyr at y broses. Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ddatblygu’r cynnig ar gyfer Crumlyn Burrows, sydd ar ffin yr awdurdod lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r cynnig ac, yn ddiau, bydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe hefyd yn chwarae rhan yn y broses o losgi gwastraff yn y gwaith hwn yn y dyfodol. Mae cyngor Abertawe hefyd yn gwrthwynebu’r cynnig ar hyn o bryd, ond, cofiwch chi, bydd yn defnyddio’r llosgydd yn y dyfodol.

The whole purpose of devolution is to bring decision making closer to the people. The Assembly should reflect the demands and needs of people from all localities. However, when the Minister was challenged—

Diben datganoli yw sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yn nes at y bobl. Dylai’r Cynulliad adlewyrchu gofynion ac anghenion pobl o bob ardal. Fodd bynnag, pan heriwyd y Gweinidog—

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 90

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 90

Order. Your time has come to an end, Alun, and your microphone has been switched off. No-one can hear what you are saying and it will not be recorded as it is an abuse of proceedings.

Trefn. Mae eich amser wedi dod i ben, Alun, ac yr wyf wedi diffodd eich meicroffon. Ni all neb eich clywed ac ni chaiff eich geiriau eu cofnodi gan eich bod wedi mynd yn groes i’r trafodion.

Karen Sinclair spoken in English p. 90

Karen Sinclair siaradwyd yn Saesneg t. 90

I welcome the consultation on this document. It gives everyone in Wales the opportunity to participate fully in the debate. The debate is particularly vigorous in my constituency at present, as there are landfill sites in the area. The local authority is presently exploring alternatives to those sites, as it must do. Incineration is part of that discussion.

Croesawaf yr ymgynghoriad ar y ddogfen hon. Rhydd gyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan lawn yn y ddadl. Mae’r ddadl yn arbennig o frwd yn fy etholaeth i ar hyn o bryd gan fod safleoedd tirlenwi yn yr ardal. Mae’r awdurdod lleol yn ymchwilio i safleoedd amgen ar hyn o bryd, fel sy’n ofynnol. Mae llosgi yn rhan o’r drafodaeth honno.

The health and environmental effects of all forms of disposal must be fully explored. Since we are nowhere near achieving the ideal of zero waste, we must accept that there is no risk-free method of waste disposal. I agree with the principle of a waste hierarchy, whereby waste management techniques are prioritised in order of their environmental impact. It is obvious that we should do our utmost to prevent waste production. When that is not possible, we should reduce waste production to the absolute minimum. Recycling and reuse of raw materials is essential. However, none of these goals can be achieved overnight. Increased recycling is imperative. I am sure that most of you remember collecting pop bottles. We did that for the money. We must make recycling pay, whether we use a carrot or a stick.

Rhaid ymchwilio i’r holl effeithiau o ran iechyd a’r amgylchedd yn llawn. Gan ein bod ymhell o gyrraedd y sefyllfa ddelfrydol o ddim gwastraff, rhaid inni dderbyn nad oes unrhyw ddull o waredu gwastraff heb risgiau. Cytunaf ag egwyddor hierarchaeth wastraff lle y rhoddir blaenoriaeth i ddulliau rheoli gwastraff yn ôl yr effaith a gânt ar yr amgylchedd. Mae’n amlwg y dylem wneud ein gorau glas i atal gwastraff rhag cael ei gynhyrchu. Lle nad oes modd gwneud hynny, dylem leihau’r gwastraff a gynhyrchir i’r eithaf. Mae ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau crai yn hanfodol. Fodd bynnag, ni ellir cyflawni unrhyw un o’r nodau hyn dros nos. Mae’n hanfodol ein bod yn ailgylchu mwy. Yr wyf yn siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch yn cofio casglu boteli pop. Gwnaethom hynny er mwyn ennill arian. Rhaid inni sicrhau bod ailgylchu yn talu, pa un a ydym yn ei ddefnyddio fel abwyd ynteu gosb.

It is imperative that we encourage reduced packaging. Sadly, our regression over the years to a packaging-obsessed society, where our meals are wrapped in an advert and food is treated and sealed to lengthen its shelf-life, is viewed as progress. This so-called progress has come at a price. Between 1996 and 1999, waste production in Wales increased by about 6 per cent a year. In 1999, Wales produced 1.56 million tonnes of waste. It is shameful that 95 per cent of this waste is landfilled, leaving only 5 per cent to be recycled. We cannot continue to landfill at the current rate. If we do not seriously reduce landfill in Wales, we will face a drastic shortage in capacity within the next 10 years. Landfill also has far more serious implications than running out of space.

Mae’n hanfodol inni annog llai o becynnu. Yn anffodus, ystyrir ein tuedd dros y blynyddoedd i droi’n gymdeithas lle y caiff popeth ei becynnu, lle y caiff ein prydau bwyd eu lapio mewn hysbysebion a lle y caiff bwyd ei drin a’i selio er mwyn iddo gadw am fwy o amser, yn gynnydd. Mae pris i’w dalu am y cynnydd honedig yma. Rhwng 1996 a 1999, cynyddodd y gwastraff a gynhyrchir bob blwyddyn yng Nghymru tua 6 y cant. Ym 1999, cynhyrchodd Cymru 1.56 miliwn o dunelli metrig o wastraff. Mae’n warth ein bod yn gwaredu 95 y cant o’r gwastraff hwn drwy dirlenwi, a dim ond yn ailgylchu 5 y cant. Ni allwn barhau i dirlenwi yn ôl y graddau presennol. Os nad ydym yn lleihau tirlenwi yn sylweddol yng Nghymru, byddwn yn wynebu prinder mawr o fewn y 10 mlynedd nesaf o ran lle. Mae i dirlenwi hefyd oblygiadau llawer mwy difrifol na phrinder lle.

However, when we have minimised, reduced and recycled as much as we can, there will always be a certain amount of waste left. The debate will be on what we do with it. We need a rational debate based on facts rather than fear, and for people to be able to participate in the debate. The consequences of each waste disposal method must be available. Impartial information must be available in an understandable and digestible format, because we are not all rocket scientists. Only then can we make important decisions on how to sustainably dispose of our decreasing amounts of waste in the long term.

Fodd bynnag, ar ôl inni leihau’r gwastraff a gynhyrchir, ei gywasgu a’i ailgylchu cymaint ag y gallwn, fe fydd rhywfaint o wastraff ar ôl bob amser. Y ddadl fydd sut y dylem ymdrin â’r gwastraff hwnnw. Mae angen dadl gall arnom wedi’i seilio ar ffeithiau yn hytrach nac ofnau, ac i bobl gael cymryd rhan yn y ddadl. Rhaid cyhoeddi canlyniadau pob dull o waredu gwastraff. Rhaid i wybodaeth ddiduedd fod ar gael ar ffurf sy’n hawdd ei deall, gan nad yw pob un ohonynt yn arbenigwyr gwyddonol. Dim ond ar ôl inni wneud hynny y gallwn wneud penderfyniadau pwysig ar sut y gellir gwaredu’r symiau llai o wastraff a gynhyrchir gennym mewn modd cynaliadwy yn yr hirdymor.

Janet Davies spoken in English p. 92

Janet Davies siaradwyd yn Saesneg t. 92

The consultation paper, ‘Managing Waste Sustainably’, outlines a vision for the future. However, the fiscal proposals oppose the preferred hierarchy of waste policy. Such proposals should work towards reuse and recycling. They are currently working towards incineration. The number of incinerators proposed in the document is high. They will be established under 25-year contracts and authorities will have to feed those incinerators for that length of time. The proposed incinerator for Crumlyn Burrows is hoping to take waste from Bridgend and other areas. Legal problems may arise from the way that the tender was advertised originally, but that is something that Bridgend County Borough Council will have to deal with.

Noda’r papur ymgynghorol, ‘Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy’, weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r cynigion ariannol yn mynd yn groes i ddewis hierarchaeth y polisi gwastraff. Dylai cynigion o’r fath hybu ailddefnyddio ac ailgylchu. Ar hyn o bryd maent yn hybu llosgi. Cynigir nifer uchel o losgyddion yn y ddogfen. Cânt eu sefydlu o dan gontractau 25 mlynedd a bydd yn rhaid i’r awdurdodau fwydo’r llosgyddion dros y cyfnod hwnnw. Y bwriad o ran y llosgydd a gynigir ar gyfer Crumlyn Burrows yw y bydd yn mynd â gwastraff o Ben-y-bont ar Ogwr ac ardaloedd eraill. Gall problemau cyfreithiol godi oherwydd y ffordd yr hysbysebwyd y tendr yn wreiddiol, ond mae hwnnw’n fater y bydd yn rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymdrin ag ef.

An eventual switch to recycling will require waste imports to feed the incinerators. There are, rightly, fears in Crumlyn Burrows and Wrexham that such a situation will occur. That is in addition to concerns about health implications. It is therefore timely to withdraw from such a strategy. The most stringent controls, adequately financed for enforcement, are vital if incinerator plants proceed. They should not proceed. They are a continuation of the reprehensible past of taking the easy options for waste disposal, whereas we need a dynamic approach for change.

Os bydd newid i ailgylchu yn y pen draw bydd angen gwastraff a fewnforir i fwydo’r llosgyddion. Mae pobl yn Crumlyn Burrows a Wrecsam yn ofni, a hynny’n gwbl ddilys y gall sefyllfa o’r fath godi. Yn ogystal mae pryderon ynghylch y goblygiadau o ran iechyd. Felly mae’n amserol tynnu yn ôl o strategaeth o’r fath. Rhaid wrth y rheolaethau llymaf, wedi’u hariannu’n ddigonol at ddiben gorfodi, os bydd y gweithfeydd llosgi yn mynd rhagddynt. Ni ddylent fynd rhagddynt. Ni fyddant ond yn parhau â’r arfer gresynus yn y gorffennol o ddewis yr opsiynau hawdd ar gyfer gwaredu gwastraff, tra bod angen ymagwedd ddeinamig arnom er mwyn newid.

In other countries, such as the United States, the number of incinerators is decreasing. Here, our strategy on waste management proposes their development. Incinerators contribute to global warming and have a negative impact on air quality. Mixed waste incinerators are inefficient. Only 20 per cent of the energy produced is usually captured and municipal waste has a low calorific value. As municipal waste incinerators are used for mixed waste, it is difficult to control hazardous elements. If they are prevented from escaping up chimneys, they end up in the fly ash. State-of-the-art technology does not have a solution to controlling and disposing of toxic waste ash. Incinerators also require minimum tonnage guarantees, which tend to prevent recycling.

Mewn gwledydd eraill, megis yr Unol Daleithiau, mae nifer y llosgyddion yn lleihau. Yma, mae ein strategaeth rheoli gwastraff yn cynnig y dylid eu datblygu. Mae llosgyddion yn cyfrannu tuag at gynhesu byd-eang ac yn cael effaith negyddol ar ansawdd yr aer. Mae llosgyddion gwastraff cymysg yn aneffeithlon. Dim ond 20 y cant o’r ynni a gynhyrchir sy’n cael ei ddal ac mae i wastraff bwrdeistrefol werth caloriffig isel. Gan mai gwastraff cymysg a ddefnyddir gan losgyddion gwastraff bwrdeistrefol, mae’n anodd rheoli’r elfennau peryglus. Os y’u hatelir rhag dianc drwy simneiau, cânt eu troi’n lludw yn y pen draw. Nid yw’r dechnoleg ddiweddaraf yn cynnig ffordd o reoli a gwaredu lludw gwastraff gwenwynig. Mae llosgyddion hefyd yn gofyn am sicrwydd lleiafswm tunelli, sy’n tueddu i atal ailgylchu.

Finally, landfill is subject to tax. Why, when it is only slightly better than landfill, is incineration not liable to tax? I appreciate the difficulties caused by the EU landfill directive, the scale of the problem facing society and the changes that must be made. However, that must not lead to an easy acceptance of the reassurances of industry, which will profit from this, nor ignoring the growing evidence of possible dangers and the public’s growing concerns.

Yn olaf, codir treth ar dirlenwi. Pam na chodir treth ar weithfeydd llosgi, o ystyried nad ydynt ond ychydig yn well na thirlenwi? Gwerthfawrogaf yr anawsterau a barodd cyfarwyddeb dirlenwi yr UE, maint y broblem a wyneba cymdeithas a’r newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud. Fodd bynnag, ni ddylai hynny beri inni dderbyn sicrwydd y diwydiant, a fydd yn elwa ar hyn, yn ddi-gwestiwn, na diystyru’r dystiolaeth gynyddol o beryglon posibl a phryderon cynyddol y cyhoedd.

Lorraine Barrett spoken in English p. 93

Lorraine Barrett siaradwyd yn Saesneg t. 93

Point of order. This relates to behaviour in the public gallery. Far be it for me to stifle democratic opinions, but comments were shouted from the gallery when the Minister for Assembly Business was speaking. That sets a dangerous precedent.

Pwynt o drefn. Mae hyn yn ymwneud ag ymddygiad yn yr oriel gyhoeddus. Nid wyf am atal pobl rhag lleisio barn yn ddemocrataidd o bell ffordd, ond gwaeddwyd sylwadau o’r oriel pan oedd y Trefnydd yn siarad. Mae hynny’n gosod cynsail beryglus.

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 93

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 93

Thank you, Lorraine. Members must be heard.

Diolch, Lorraine. Rhaid i’r Aelodau gael eu clywed.

Eleanor Burnham spoken in English p. 93

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 93

The Liberal Democrats broadly welcome this strategy, which was born out of the partnership agreement. We are pleased to see this pledge being delivered. We welcome any minimisation of waste and the rise in recycling targets to 40 per cent. Ideally, we would like a target of 60 per cent, to bring Wales in line with countries such as Germany and Australia and to make up for the appalling recycling record under the Conservative administration between 1979 and 1997.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesawu’r strategaeth hon ar y cyfan, strategaeth sydd wedi deillio o’r cytundeb partneriaeth. Mae’n dda gennym weld bod yr addewid hon yn cael ei chyflawni. Croesawn unrhyw ymgais i leihau gwastraff ynghyd â’r codiad mewn targedau ailgylchu i 40 y cant. Yn ddelfrydol, hoffem weld targed o 60 y cant, er mwyn i Gymru fod yn gyson â gwledydd megis yr Almaen ac Awstralia ac i wneud yn iawn am y record warthus o ran ailgylchu o dan yr weinyddiaeth Geidwadol rhwng 1979 a 1997.

Having taken on the environment, planning and transport brief only last week, I am conscious that north Wales has many contentious sites and difficult decisions to make about landfill and incineration. Devolution has given Wales the chance to go it alone on environmental matters. That is extremely important, as it gives us a chance to make up for the deficit under the previous Conservative administration.

A minnau ond wedi ymgymryd â’r portffolio dros yr amgylchedd, cynllunio a thrafnidiaeth ers yr wythnos diwethaf, yr wyf yn ymwybodol bod llawer o safleoedd dadleuol yn y gogledd a bod angen gwneud penderfyniadau anodd yno ynglŷn â thirlenwi a llosgi. Mae datganoli wedi rhoi cyfle i Gymru fynd ar ei thrywydd ei hun o ran materion amgylcheddol. Mae hynny’n hynod bwysig, gan ei bod yn rhoi cyfle inni wneud iawn am ddiffyg y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol.

The Wales waste strategy is a big step forward. The Welsh Liberal Democrats welcome the increase in recycling targets to 40 per cent. It is an improvement that will, at last, allow us to move away from landfill and incineration as a means of waste disposal. However, we would have preferred a more ambitious and realistic 10-year target of 60 per cent. That would have sent out a more definite signal of Wales’s environmental intentions.

Mae strategaeth wastraff Cymru yn gam mawr ymlaen. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu’r codiad mewn targedau ailgylchu i 40 y cant. Mae’n welliant a fydd, o’r diwedd, yn ein galluogi i symud o dirlenwi a llosgi fel dulliau o waredu gwastraff. Fodd bynnag, byddai’n well gennym pe bai targed 10 mlynedd mwy uchelgeisiol a realistig wedi’i osod sef 60 y cant. Byddai hynny wedi rhoi arwydd mwy pendant o fwriadau amgylcheddol Cymru.

David Davies spoken in English p. 94

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 94

Will you give way?

A ildiwch?

Eleanor Burnham spoken in English p. 94

Eleanor Burnham siaradwyd yn Saesneg t. 94

No. This strategy is a big step forward, and it rightly calls for a move away from a throw-away society. However, without support for education at grass-roots level, we might experience difficulties. Education is one of the biggest challenges. [Interruption.] Educating David Davies on how to switch off his mobile phone might be another.

Na wnaf. Mae’r strategaeth hon yn gam mawr ymlaen, ac yn galw am symud oddi wrth gymdeithas wastrafflyd a hynny’n gwbl briodol. Fodd bynnag, oni chefnogwn addysg ar lawr gwlad, efallai y cawn broblemau. Mae addysg yn un o’r heriau mwyaf. [Torri ar draws.] Un o’r heriau eraill o bosibl yw dysgu David Davies sut i ddiffodd ei ffôn symudol.

We endorse the strategy. We want to maximise waste prevention, recycling and composting, and minimise incineration and landfill.

Cymeradwywn y strategaeth. Yr ydym am sicrhau ein bod yn atal cymaint o wastraff â phosibl rhag cael ei gynhyrchu ac yn ailgylchu ac yn compostio cymaint â phosibl, gan leihau llosgi a thirlenwi i’r eithaf.

Tom Middlehurst spoken in English p. 94

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 94

I feel discomfort in agreeing with David Davies this afternoon. Nonetheless, I was in even more discomfort during the last contribution, when the Liberal Democrats—the junior partner in the Government of Wales—claimed some credit for this policy. That credit goes entirely to the Minister, who has driven this waste strategy forward. I am delighted to endorse the consultation document today—

Bu’n deimlad annifyr imi gytuno â David Davies y prynhawn yma. Eto i gyd, teimlais yn fwy annifyr byth yn ystod y cyfraniad diwethaf, pan hawliodd y Democratiaid Rhyddfrydol—y partner iau o fewn Llywodraeth Cymru—rywfaint o glod am y polisi hwn. I’r Gweinidog yn unig y mae’r clod. Hi sydd wedi datblygu’r strategaeth wastraff hon. Mae’n bleser gennyf gymeradwyo’r ddogfen ymgynghorol heddiw—

Peter Black spoken in English p. 95

Peter Black siaradwyd yn Saesneg t. 95

Will you give way?

A wnewch chi ildio?

Tom Middlehurst spoken in English p. 95

Tom Middlehurst siaradwyd yn Saesneg t. 95

No, I will not. I am delighted that this is a consultation document. It will allow us the fullest opportunity to examine the range of options available for dealing with the growing mountain of waste with which authorities must deal ever week. We must encourage the widest possible debate to inform the decisions that we will have to take. However, it would be irresponsible of us to indulge in over-simplistic analysis of the means that are available to us in dealing with the waste that society increasingly produces. We can, and must, have a rational and informed debate. When we use the word ‘rational’, it does not necessarily mean that others are being irrational, as Helen Mary suggested.

Na wnaf. Mae’n dda gennyf nodi mai dogfen ymgynghorol yw hon. Bydd yn rhoi’r cyfle gorau posibl inni i archwilio’r ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer ymdrin â’r pentwr cynyddol o wastraff y mae’n rhaid i’r awdurdodau ymdrin ag ef bob wythnos. Rhaid inni ysgogi dadl mor eang â phosibl er mwyn llywio’r penderfyniadau y bydd yn rhaid inni eu gwneud. Fodd bynnag, byddai’n anghyfrifol inni ildio i fympwy a gorsymleiddio’r dulliau sydd ar gael inni i ymdrin â’r gwastraff cynyddol a gynhyrcha cymdeithas. Gallwn, a rhaid inni, gael dadl gall a hyddysg. Pan ddefnyddiwn y gair ‘call’ ni olyga o reidrwydd nad yw pobl eraill yn ymddwyn yn gall, fel yr awgrymodd Helen Mary.

We cannot rule out means of disposal that are technically possible, environmentally acceptable and sound and deal effectively with some of the more problematic categories of waste. We all acknowledge that landfill cannot offer a long-term solution, and that a more aggressive approach to effective recycling must be our top priority. We must do more, and we must do it vigorously and soon.

Ni allwn ddiystyru dulliau gwaredu sy’n bosibl yn dechnegol, yn dderbyniol ac yn ddiogel yn amgylcheddol ac yn ymdrin yn effeithiol â’r categorïau o wastraff sy’n achosi’r problemau mwyaf. Yr ydym i gyd yn cydnabod nad tirlenwi yw’r ateb yn yr hirdymor, a bod rhaid wrth ymagwedd fwy egnïol tuag at ailgylchu fel un o’r blaenoriaethau pennaf. Rhaid inni wneud mwy, a rhaid inni wneud hynny mewn ffordd egnïol ac yn ddi-oed.

However, while holes in the ground from previous industrial activity exist, limited landfill can be beneficial for reclamation and subsequent restoration. I speak from experience in that regard. Many clay holes in the Buckley area of my constituency have been reclaimed and the land put to beneficial use. The downside is that the people of Buckley have long suffered, as a consequence, the continuing use of landfill as the only means of disposal. Few alternatives have been on offer. I am pleased to say that Flintshire County Council is now engaged in a radical policy review. I look forward to a decision consistent with the Assembly’s strategy to encourage waste recycling, composting and other means of disposal.

Fodd bynnag, tra bod tyllau yn y ddaear wedi eu creu gan weithgaredd diwydiannol yn y gorffennol yn bodoli, gall rhywfaint o dirlenwi fod o fudd o ran adennill tir a’i adfer. Siaradaf o brofiad yn hynny o beth. Adenillwyd llawer o dyllai clai yn ardal Bwcle yn fy etholaeth i gan ddefnyddio’r tir at ddibenion buddiol. Yr anfantais yw bod pobl Bwcle, o ganlyniad, wedi gorfod dioddef y defnydd parhaus o dirlenwi fel yr unig ddull gwaredu. Nid oes fawr o ddulliau amgen ar gael. Mae’n dda gennyf nodi bod Cyngor Sir y Fflint erbyn hyn wrthi’n cynnal adolygiad radical o’i bolisïau. Edrychaf ymlaen at weld penderfyniad sy’n gyson â strategaeth y Cynulliad i hyrwyddo ailgylchu gwastraff, ei gompostio a’i waredu mewn dulliau eraill.

Most controversial is incineration. I understand the great concern that exists but, if we can, we must reassure people that waste disposal by that means is technically possible in an environmentally acceptable manner. We must hold that debate, which must be informed and consequent to our consultation on the strategy.

Y dull mwyaf dadleuol yw llosgi. Deallaf y pryder mawr sydd gan bobl ond rhaid inni roi sicrwydd iddynt, os gallwn, ei bod yn bosibl yn dechnegol gwaredu gwastraff drwy losgi mewn ffordd sy’n dechnegol dderbyniol o ran yr amgylchedd. Rhaid inni gynnal y ddadl honno, a rhaid iddi fod yn hyddysg ac yn dilyn ein hymgynghoriad ar y strategaeth.

Having listened to today’s debate, I am confident that consultation with the Welsh people will produce more beneficial comments than some of those made in the Chamber. We must take account of the responses to the consultation and garner the best available evidence from other countries with a more successful record of dealing with household and industrial waste.

Ar ôl gwrando ar y ddadl heddiw, yr wyf yn hyderus y bydd yr ymgynghoriad â phobl Cymru yn ysgogi sylwadau llawer mwy buddiol na rhai o’r sylwadau a wnaethpwyd yn y Siambr. Rhaid inni ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a dod o hyd i’r dystiolaeth orau bosibl sydd ar gael gan wledydd eraill sydd â record fwy llwyddiannus o ymdrin â gwastraff cartref a gwastraff diwydiannol.

Brian Gibbons spoken in English p. 96

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 96

First, it is outrageous that Helen Mary Jones gave such a grandstanding performance on next to no evidence. I was one of those who asked Andrew Davies last week to defer the debate—simply because there would have been insufficient time to discuss the issue. I reject the accusation that there was an attempt to curtail debate. We need this debate; it is important for us in Wales because, as others have said, more than 95 per cent of our waste material goes to landfill. There is no doubt but that landfill is the most environmentally unacceptable way to manage waste. From recent publications, we know that it holds potential dangers, although it is worth pointing out that the report on Nantygwyddon stated that many of the congenital abnormalities in the area predated the landfill site.

Yn gyntaf, yr oedd perfformiad Helen Mary Jones yn chwarae i’r oriel heb bron ddim tystiolaeth yn warthus. Yr oeddwn ymhlith y bobl hynny a ofynnodd i Andrew Davies ohirio’r ddadl yr wythnos diwethaf—a hynny am nad oedd digon o amser i drafod y mater. Gwrthodaf y cyhuddiad bod ymgais i gwtogi’r ddadl. Mae angen y ddadl hon arnom; mae’n bwysig inni yng Nghymru oherwydd, fel y dywedodd Aelodau eraill, mae mwy na 95 y cant o’n deunydd gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Yn ddiamau tirlenwi yw’r ffordd fwyaf annerbyniol o reoli gwastraff o ran yr amgylchedd. O gyhoeddiadau diweddar, gwyddom fod peryglon posibl yn gysylltiedig ag ef, er ei bod yn werth pwysleisio i’r adroddiad ar Nantygwyddon nodi bod nifer o achosion o namau cynhwynol wedi digwydd cyn sefydlu’r safle tirlenwi.

We need the strategy to reduce the amount of material that goes to landfill, to increase reuse, recycling and composting and to change our consumer habits and expectations. David Davies’s challenge is real, and I want people to answer it; if we cannot put goods into landfill and do not have the option of incineration, how, in the name of heaven, are we even to approach the desirable targets set out in the strategy? If people cannot answer that question, they are whistling past the landfill site. Several Members have referred to Neath Port Talbot County Borough Council and Crumlyn Burrows. It is worth pointing out that Neath Port Talbot already has three separation-at-source sites, available to 18 of its wards. The civic amenities are centrally located to allow access. There are experiments with kerb-side collection to ensure that waste is separated before it reaches the recycling plant. A recycling and incineration plant is also proposed. That means that Neath Port Talbot is probably one of the few local authorities in Wales that can confidently expect that, within about five years, it will be able to achieve the targets outlined in the strategy.

Mae arnom angen y strategaeth i leihau maint y deunydd a waredir mewn safleoedd tirlenwi, i sicrhau ein bod yn ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff yn fwy ac i newid ein harferion a’n disgwyliadau fel defnyddwyr. Mae her David Davies yn un wirioneddol, ac yr wyf am i bobl ei hateb; os na allwn waredu nwyddau mewn safleoedd tirlenwi ac os nad oes modd eu llosgi, sut ar y ddaear y gallwn gyrraedd y targedau dymunol a nodwyd yn y strategaeth? Os na all pobl ateb y cwestiwn hwnnw, cerddant heibio’r safle gan chwibanu Cyfeiriodd sawl Aelod at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Crumlyn Burrows. Mae’n werth nodi bod Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi sefydlu tri safle didoli wrth gasglu, sydd ar gael mewn 18 o’i wardiau. Lleolir yr amwynderau dinesig yn ganolog er mwyn iddynt fod yn hygyrch. Mae’r Cyngor yn arbrofi â chasglu o’r tu allan i gartrefi i sicrhau y caiff gwastraff ei ddidoli cyn iddo gyrraedd y gwaith ailgylchu. Cynigir hefyd adeiladu gwaith ailgylchu a llosgi. Golyga hynny fod Castell-nedd Port Talbot fwy na thebyg yn un o’r ychydig ymhlith yr awdurdodau lleol yng Nghymru a all ragweld yn hyderus y gall gyflawni’r targedau a nodwyd yn y strategaeth o fewn pum mlynedd.

There is no doubt that, wherever one decides to place a recycling and incineration plant, the location will be unpopular. It is therefore vital that these plants are managed properly and operate within the most stringent criteria. The strategy, once again, deals with that point. To move to the specifics of the plant proposed for Neath Port Talbot—

Yn ddi-os, pa le bynnag y penderfynir lleoli gwaith ailgylchu a llosgi, bydd y lleoliad yn amhoblogaidd. Felly mae’n hanfodol bod y gweithfeydd hyn yn cael eu rheoli’n briodol ac yn gweithredu yn unol â’r meini prawf llymaf posibl. Unwaith eto mae’r strategaeth hon yn ymdrin â’r pwynt hwnnw. Gan symud ymlaen at y gwaith a gynigir ar gyfer Castell-nedd Port Talbot—

Brian Hancock spoken in English p. 97

Brian Hancock siaradwyd yn Saesneg t. 97

If it is such a good idea to have a waste strategy, why has it taken nearly 30 years for the Labour Party to come up with the idea of one when, between 1974 and 1979, it could have supported the National Association of Waste Disposal Contractors and all those involved in bona fide, highly efficient waste disposal by setting up such a scheme?

Os yw strategaeth wastraff yn syniad mor wych, pam ei bod wedi cymryd bron 30 mlynedd i’r Blaid Lafur benderfynu llunio strategaeth o’r fath, pryd y gallai, rhwng 1974 a 1979, fod wedi cefnogi Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Gwaredu Gwastraff a’r bobl hynny a oedd yn ymwneud â gwaredu gwastraff mewn ffordd ddilys, effeithlon dros ben drwy sefydlu cynllun o’r fath?

Brian Gibbons spoken in English p. 97

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 97

The proposal plans for the Crumlyn Burrows plant conform to the existing criteria, which, we should remember, have caused the closure of virtually all the mass incineration plants in the United Kingdom. Much of the information on incineration to which people refer is derived from these mass incineration plants. Under the existing strategies, those plants have been forced to close because of safety requirements. The proposed plant will also operate under the new waste incinerator directive, which introduces stricter requirements. The level dioxin in Crumlyn Burrows will be 0.7g per year, one seventy-fifth of a spoonful. When people speak about this incinerator—I have seen this on placards—belching out dioxins, that is alarmist and erroneous. It creates panic among those who may live near the incinerator. The micro-particles will be monitored continuously. The level of micro-particles will increase by 0.3g per cubic metre.

Mae’r cynlluniau a gynigir ar gyfer gwaith Crumlyn Burrows yn cydymffurfio â’r meini prawf presennol, sydd wedi arwain at gau bron pob un o’r gweithfeydd llosgi mawr yn y Deyrnas Unedig, a dylem gofio hynny. Mae llawer o’r wybodaeth ar losgi y cyfeiria pobl ati yn deillio o’r gweithfeydd llosgi mawr. O dan y strategaethau presennol, bu’n rhaid i’r gweithfeydd hynny gau oherwydd gofynion diogelwch. Bydd y gwaith a gynigir hefyd yn gweithredu o dan y gyfarwyddeb llosgyddion gwastraff newydd, sy’n cyflwyno gofynion llymach. Bydd lefel y deuocsidau yn Crumlyn Burrows yn 0.7g y flwyddyn, pymthegfed a thrigain rhan o lwyaid. Pan fydd pobl yn sôn am y llosgydd hwn—yr wyf wedi gweld hynny ar blacardiau—yn gollwng deuocsinau, mae hynny’n codi bwganod ac mae’n gyfeiliornus. Mae’n codi braw ar y bobl sy’n byw wrth ymyl y llosgydd. Caiff y microronynnau eu monitro’n barhaus. Bydd lefel y microronynnau yn cynyddu 0.3g fesul metr ciwbig.

David Lloyd spoken in English p. 98

David Lloyd siaradwyd yn Saesneg t. 98

Will you give way?

A ildiwch?

Brian Gibbons spoken in English p. 98

Brian Gibbons siaradwyd yn Saesneg t. 98

I do not have time, David. The increase in micro-particles will be approximately 1 to 5 per cent. Again, that is below the recommended levels. There is no doubt that this is an important debate. I am pleased that people have had time to make contributions and I hope that, as a result, we will be able to move forward towards a more productive and informed discussion and deal with the problems outlined in the waste strategy. [Interruption.]

Nid oes amser gennyf, David. Bydd y microronynnau yn cynyddu tua 1 i 5 y cant. Unwaith eto, mae hynny yn is na’r lefelau a argymhellir. Yn ddiau mae hon yn ddadl bwysig. Yr wyf yn falch o nodi i bobl gael amser i gyfrannu a gobeithiaf y byddwn, o ganlyniad, yn gallu symud ymlaen tuag at drafodaeth fwy cynhyrchiol a hyddysg ac ymdrin â’r problemau a amlinellwyd yn y strategaeth wastraff. [Torri ar draws.]

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 98

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 98

Order. If there is any further interruption from the public gallery, it will be cleared.

Trefn. Os bydd unrhyw un yn yr oriel gyhoeddus yn torri ar draws eto, caiff ei gwacáu.

Sue Essex The Minister for Environment spoken in English p. 98

Sue Essex Y Gweinidog dros yr Amgylchedd siaradwyd yn Saesneg t. 98

This is an important debate and I understand that people feel strongly about these issues. The only reason—[Interruption.]

Mae hon yn ddadl bwysig a deallaf fod pobl yn teimlo’n gryf ynglŷn â’r materion hyn. Yr unig reswm—[Torri ar draws.]

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 98

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 98

Order. My apologies for the interruption, Minister.

Trefn. Ymddiheuraf am dorri ar eich traws, Weinidog.

Sue Essex spoken in English p. 98

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 98

To pick up the point about amending the motion, I wanted to ensure that we did not pre-empt the comments from the consultation. I am happy for this to go back to the Environment, Planning and Transport Committee and I have discussed that with Helen Mary. We will have a second chance to discuss this.

I godi’r pwynt ynglŷn â diwygio’r cynnig, yr oeddwn am sicrhau nad ydym yn achub y blaen ar y sylwadau a gawn o’r ymgynghoriad. Yr wyf yn fodlon i’r strategaeth fynd yn ôl i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth ac yr wyf wedi trafod hynny â Helen Mary. Cawn gyfle arall i drafod hyn.

David Lloyd a gododd—

David Lloyd rose—

Sue Essex spoken in English p. 98

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 98

I will not give way, as I only have three minutes in which to speak and many points were raised. I thank David Davies for his mature—I would never have thought I would say that—contribution to the debate.

Nid ildiaf, am mai dim ond tair munud sydd ar ôl gennyf a chodwyd nifer o bwyntiau. Diolchaf i David Davies am ei gyfraniad aeddfed i’r ddadl—er na feddyliais erioed y byddwn yn dweud hynny.

David Davies spoken in English p. 99

David Davies siaradwyd yn Saesneg t. 99

It is the glasses.

Y sbectol sy’n gyfrifol.

Sue Essex spoken in English p. 99

Sue Essex siaradwyd yn Saesneg t. 99

Yes, it is the glasses. New Labour, new man, new David Davies. I thank him for his comments, because I know he feels strongly about the issue. I understand that residents feel strongly about the issue. I have talked to many of the Crumlyn Burrows residents and know that they are worried about their children’s future. All I can say is that responsibility for the authorisation rests with the Environment Agency. It is no good people shaking their heads, because that is what the law says. I have told the protestors and campaigners that I will meet the Environment Agency and go through the points that they raised. It is important—and Jane is nodding—that those people feel that the Environment Agency takes their points seriously and that it is accountable. It is a matter of ensuring that all the points raised, including Brian’s, are gone through. We need rational debate on the facts. I do not want people such as Mike Ryan—I have had many discussions with him—to feel that his children are under threat. I hope that my commitment is understood.

Ie, y sbectol ydyw. Llafur newydd, dyn newydd, David Davies newydd. Diolchaf iddo am ei sylwadau. Fe wn ei fod yn teimlo’n gryf ynglŷn â’r mater. Deallaf fod y trigolion yn teimlo’n gryf ynglŷn â’r mater. Yr wyf wedi siarad â llawer o drigolion Crumlyn Burrows a gwn eu bod yn pryderu am ddyfodol eu plant. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw mai Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am ei awdurdodi. Ni waeth i bobl siglo eu pennau. Dyna’r gyfraith. Dywedais wrth y protestwyr a’r ymgyrchwyr y byddaf yn cyfarfod ag Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn trafod y pwyntiau a godwyd ganddynt. Mae’n bwysig—ac mae Jane yn amlwg yn cytuno—bod y bobl hynny yn teimlo bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymryd eu pwyntiau o ddifrif a’i bod yn atebol. Mater o sicrhau y caiff pob pwynt a godwyd, gan gynnwys pwyntiau Brian, eu trafod ydyw. Mae angen dadl gall arnom sy’n seiliedig ar y ffeithiau. Nid wyf am i bobl megis Mike Ryan—y cefais nifer o drafodaethau ag ef—deimlo bod ei blant o dan fygythiad. Gobeithiaf fod fy ymrwymiad yn eglur.

We need a huge cultural change. Rosemary mentioned education; hers was an excellent idea and where we need to begin. There are wonderful ideas in Wales. I visited the Centre for Alternative Technology yesterday. If we have the time and ability, there is huge potential for progress. The real problem is the timescale, which has been alluded to today. We have to move away from using landfill and the speed with which we need to do that is not necessarily compatible with our need to establish the recycling market and cultural change. That is the big conundrum. We must establish measures, working with local communities, which allow that cultural change to happen.

Mae angen newid diwylliannol enfawr arnom. Soniodd Rosemary am addysg: yr oedd ei syniad yn un ardderchog ac yn cynnig man cychwyn inni. Ceir syniadau gwych yng Nghymru. Ymwelais â’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ddoe. Os bydd gennym yr amser a’r gallu, mae posibiliadau enfawr ar gyfer gwneud cynnydd. Yr amserlen yw’r broblem sylfaenol. Cyfeiriwyd at hynny heddiw. Rhaid inni symud o ddefnyddio safleoedd tirlenwi ond nid yw’r amserlen y mae’n rhaid inni gydymffurfio â hi yn y maes hwn yn gydnaws o reidrwydd â’n hangen i sefydlu’r farchnad ailgylchu a sicrhau’r newid diwylliannol. Mae honno’n broblem enfawr. Rhaid inni sefydlu mesurau, gan gydweithio â chymunedau lleol, a fydd yn fodd i’r newid diwylliannol hwnnw ddigwydd.

I thank all those who took part in this debate. I want to pick up on what Geraint said. I do not necessarily agree with a policy of zero landfill. It is a glib term. It is okay to put some kinds of waste in landfill. However, I agree that the answer lies with communities in Wales. I feel strongly about that. If we can root this strategy in communities and change the definition of waste, then in time we will make the necessary change in Wales.

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon. Hoffwn wneud sylwadau ar yr hyn a ddywedodd Geraint. Nid wyf o reidrwydd yn cytuno â pholisi o roi’r gorau i dirlenwi yn gyfan gwbl. Mae’n ateb rhy rwydd. Mae’n briodol gwaredu rhai mathau o wastraff mewn safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, cytunaf â’r syniad mai yn nwylo’r cymunedau yng Nghymru y mae’r ateb. Os gallwn wreiddio’r strategaeth hon yn y cymunedau a newid y ffordd y diffinnir gwastraff, yna yn nhreigl amser fe wnawn y newidiadau sydd eu hangen yng Nghymru.

Gwelliant 1 Helen Mary Jones t. 100

Amendment 1 Helen Mary Jones p. 100

GwrthodwydRejected O blaidFor 16 YmatalAbstain 6 Yn erbynAgainst 29

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (16)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Sue Essex
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Edwina Hart
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (6)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (29)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 2 Helen Mary Jones t. 100

Amendment 2 Helen Mary Jones p. 100

GwrthodwydRejected O blaidFor 18 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 28

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (18)
  • Peter Black
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Gibbons
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (28)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 3 Helen Mary Jones t. 101

Amendment 3 Helen Mary Jones p. 101

GwrthodwydRejected O blaidFor 17 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 29

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (17)
  • Peter Black
  • Alun Cairns
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (29)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 4 Helen Mary Jones t. 102

Amendment 4 Helen Mary Jones p. 102

DerbyniwydAdopted O blaidFor 46 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 0

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (46)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers

Gwelliant 5 Helen Mary Jones t. 103

Amendment 5 Helen Mary Jones p. 103

GwrthodwydRejected O blaidFor 15 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 31

Gwrthodwyd y gwelliant.

Amendment defeated.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (31)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas

Gwelliant 6 Helen Mary Jones t. 104

Amendment 6 Helen Mary Jones p. 104

DerbyniwydAdopted O blaidFor 45 YmatalAbstain 7 Yn erbynAgainst 1

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (45)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Alun Cairns
  • Christine Chapman
  • Cynog Dafis
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Brian Hancock
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Pauline Jarman
  • Ann Jones
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • David Lloyd
  • Val Lloyd
  • Tom Middlehurst
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
YmatalAbstain (7)
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • William Graham
  • David Melding
  • Jonathan Morgan
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
Yn erbynAgainst (1)
  • Carwyn Jones

DerbyniwydAdopted O blaidFor 37 YmatalAbstain 15 Yn erbynAgainst 1

Derbyniwyd y cynnig.

Motion carried.

Sut y pleidleisiodd yr AelodauHow Members voted
O blaidFor (37)
  • Lorraine Barrett
  • Mick Bates
  • Peter Black
  • Eleanor Burnham
  • Rosemary Butler
  • Christine Chapman
  • David Davies
  • Glyn Davies
  • Jane Davidson
  • Andrew Davies
  • Ron Davies
  • Sue Essex
  • Delyth Evans
  • Brian Gibbons
  • William Graham
  • Janice Gregory
  • John Griffiths
  • Christine Gwyther
  • Alison Halford
  • Edwina Hart
  • Jane Hutt
  • Ann Jones
  • Carwyn Jones
  • Peter Law
  • Huw Lewis
  • Val Lloyd
  • David Melding
  • Tom Middlehurst
  • Jonathan Morgan
  • Rhodri Morgan
  • Lynne Neagle
  • Alun Pugh
  • Jenny Randerson
  • Rod Richards
  • Peter Rogers
  • Karen Sinclair
  • Gwenda Thomas
YmatalAbstain (15)
  • Cynog Dafis
  • Geraint Davies
  • Janet Davies
  • Jocelyn Davies
  • Brian Hancock
  • Pauline Jarman
  • Elin Jones
  • Gareth Jones
  • Helen Mary Jones
  • Ieuan Wyn Jones
  • David Lloyd
  • Owen John Thomas
  • Rhodri Glyn Thomas
  • Dafydd Wigley
  • Phil Williams
Yn erbynAgainst (1)
  • Alun Cairns

John Marek The Deputy Presiding Officer spoken in English p. 106

John Marek Y Dirprwy Lywydd siaradwyd yn Saesneg t. 106

That is the end of today’s proceedings.

Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.32 p.m.

The session ended at 5.32 p.m.